“Y GYMYDOGAETH GYMREIG YN TENNESSEE.” Gorphenaf 1856. Y mae ar hyd y Pine Creek gannoedd o gyfeiriau o'r Pines harddaf dros gan' troedfedd o uchder. Y mae'r coedwigoedd yn gyffredin yn rhai pur agored. Gallai dyn mewn llawer man glirio cyfair mewn deuddydd. 1759k Gwefan Cymru-Catalonia.

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_064_tennessee_1856_1759k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Barthlen

..............................0960k Y Cyfeirdalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
Dyma ran o Adran 11 yn y wefan hon, sef

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

Y GYMYDOGAETH GYMREIG YN TENNESSEE

William Bebb.

Y Cronicl Cyfrol 14, Rhif 159. Blwÿddÿn 1856.

 

 

 

Y Cronicl

Cyfrol 14, Rhif 159

“Y GYMYDOGAETH GYMREIG YN TENNESSEE.”

 

Rhoddwn ger bron gynnwysiad llythyr ydys newydd dderbyn oddiwrth Mr. Bebb mewn perthynas i’r tir yn Tennessee, ag yr ydys yn ddiweddar wedi siarad ac ysgrifenu cymaint yn ei gylch.

 

Anwyl Gefnder, - Er pan ysgrifenais o Knoxville, yr wyf wedi cael cyfle da i edrych yn lled fanwl dros y rhan fwyaf o’r tir. Mae y tracts sydd genym yn Morgan County yn dir ffrwythlawn o gefnau a glynoedd, yn cael eu gwisgo â choedwigoedd mawrion o Dderw, Walnut, Poplar, &c. Y mae yno gyflawnder o’r glo a’r haiarn goreu yn Tennessee. Y mae yno borfeydd da; ond y mae arwyneb y tir yn bur anwastad, ac felly nid yw mor fanteisiol i’w amaethu a’r tir sydd gennym yn Scott County; ac oblegid hyny, yr ydym wedi dewis y lle i gychwyn ein cymydogaeth yn Scott County; ac y mae yn dda gennyf allu sicrhau i chwi, ei fod yn lle hyfryd iawn. Y mae yn gorwedd ychydig i’r gogledd o Huntsville, pentref newydd y sir; ac y mae yn ymylu ar South Fork y Cumberland River. Y mae mor hyfryd ei orweddiad ag ydyw rolling Prairies Illinois, neu ddyffryn canol Kentucky. Y mae arno gyflawnder o ffynhonau, ac y mae ei ffrydiau yn llifo, nid drwy gymoedd dyfnion, ond ar hyd eu gwelyau breision ar wyneb y tir. Y mae yno y coedydd goreu at ddefnyddioldeb ar a welais erioed, heb fod yn rhy fawr i allu eu trin. Amryw fathau o Dderw ac o Pines. Y mae yno hefyd Chestnuts, Poplars, &c. Y mae ar hyd y Pine Creek gannoedd o gyfeiriau o’r Pines harddaf dros gan’ troedfedd o uchder. Y mae’r coedwigoedd yn gyffredin yn rhai pur agored. Gallai dyn mewn llawer man glirio cyfair mewn deuddydd. Ni bydd yno ddim eisieu “drainio.” Y mae yno gyflawnder o wellt yn awr i wartheg a defaid. Yr oedd yno ddigonedd o hono drwy y gauaf; a bu deadelloeodd lluosog fyw arno drwy y gauaf, er fod y gauaf diweddaf yr un oeraf mewn cof neb yma. Ni welais erioed lle gwell at fagu defaid a gwartheg a cheffylau; digon o wellt, ac o ddfr ac o gysgod. Mae’r hinsawdd yn hyfryd dros ben yno. Bum yma dros ddyddiau poethaf yr haf. Yr oedd yn llawer oerach ac iachach yno nag yn Cincinnati. Nid oedd yno ddim mosquitoes. Nid oedd y gwenith ddim mor aeddfed yno ag y buasawn yn dysgwyl. Yr oedd yn dechreu melynu; ond yr oedd yn lawn aeddfed oddeutu Lexington yn Kentucky. Gan nad oedd genym ni ddim ond deng mil o gyfeiriau yn y fan hyfryd yma, darfu i Mr. E. B. Jones a minnau gymeryd llain helaeth i’r ochr ddeheuol iddynt, yn ymylu am lawer o filldiroedd â’r “South Fork” ac yr ydym yn gobeithio y gall agerdd-fadau fynd i lawr ar hyd hòno. Y mae dynion yn ei chwilio yn awr. Os gellir cael agerdd-fadau ar hyd-ddi - ac yr wyf yn credu y gellir - bydd yn hawdd i ni anfon glo a choed a phethau eraill i lawr i farchnadoedd Nashville, prif dref y Dalaeth. Yr wyf wedi prynu mewn melin lif yn ymyl yma ddefnyddiau i adeiladu y tai erbyn y daw ein pobl yma, ac yr wyf yn gadael Mr. E. B. J. i arolygu adeiladiad y tai. Prysuraf finnau yn ol yn ddioed i New York i brynu pymtheg mil o gyfeiriau a gynnigiwyd i mi gan Mr. G. Byddant yn union oddiar Huntsville ac yn gysylltiedig â’r tir sydd genym yma. Y mae y cysgod mwyaf dymunol rhag tes a gwlaw i anifeiliaid dan ochrau y sand-stone cliffs gyda glàn yr afon, a bydd yn hawdd i ni gau oddeutu miloedd o gyfieiriau, am fod genym ddigon o ddefnyddiau at rails, a bod yr afon yn derfyn diogel i ni yn yr ochr bellaf.

 

 

Y mae yma eleni gnwd da iawn o ffrwythau - afalau, peaches, grapes, &c. Nid oes dim eisiau i chwi na minnau ysgrifennu i ganmol y tir yma. Daeth y Drych a’r Herald allan i’n herbyn dipyn yn rhy frysiog. Daw gwerth ein tir yn hysbys er eu gwaethaf. Ym wir, gellwch fod yn eithaf tawel fod yma”beautiful land - excellent water - a delicious climate - fine timber - abundance of coal - all near the river. Land easily cleared and fenced.” Nid wyf yn gwybod pa le y gallasem gael man hyfrydach yn yr Unol Daleithiau. Y mae tiroedd brasach yn Paddy’s Run a Putnam, ac amryw fanau; ond nis gwn pa le yn America y gallasem gael cymaint o dir - mor radlawn, yn meddu cynnifer o gyfleusderau, ac mewn hinsawdd mor iach a hyfryd.

 

Dichon mae y ffordd oreu etto i ddyfod yma ydyw drwy Cincinnati. Gellir dyfod am gan’ milldir gyda’r Railway o Cincinnati i Lexington ac am gan’ milldir eilwaith gyda’r Coach dyddiol o Lexington i Somerset, ac am 85 milldir ar hyd ffordd Waggon dda o Somerset i’r fan.

 

Cefias gyfle da pan yn Knoxville i ymddyddan ag Engineers y Railffordd o Ohio i Knoxville. Y mae Dinas Cincinnati a Thalaeth Kentucky wedi ymrwymo i’w chario ymlaen o Lexington i linell terfyn (+ gair annarllenadwy) Kentucky; ac yr ydys wedi cael bron ddigon o addewidion yn Tennessee i wneud y triugain milldir sydd oddiyno drwy Wheeler’s Gap, a heibio i “Jacksboro.” Ie, heibio i “Jacksboro” a thrwy swydd Anderson, a thros y Clinch wrth dref Clinton, i lawr i Knoxville. Ychwanega y rheilffordd hòno, pan ei gorphenir, nid ychydig at werth ein tir yn Anderson County.

 

Yr wyf am frysio yn awr tua New York, mewn gobaith i gyrhaedd yno i dderbyn ein cyfeillion o’r “John Bright” i’r lan.

Mehefin 21, 1856....................................................WILLIAM BEBB


·····

DIWEDD / END

 



DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN

1796k
Yr iaith Gymraeg
·····
0005k
Mynegai yn nhrefn y wyddor i’r hyn a geir yn y gwefan; o’r tudalen hwn gellir hefyd
chwilio’r gwefan hwn â’r archwiliwr mewnol
·····
1051e
testunau Cymraeg â throsiad Saesneg yn y gwefan hwn

º

 

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ 

Adolygiadau diweddaraf:  2004-02-06

Ble’r wyf i?
Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA
 
  

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats