1582k Gwefan Cymru-Catalonia. Clywais ef yn dweyd wrth Thomas Hughes mai hen iaith vulgar oedd yr iaith Gymraeg, ac nad oedd yn ffit i'w harfer mewn genteel society, a'i fod yn penderfynu na byddai iddo degradio ei hun trwy ei dysgu.

 

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_058_llyfr_dadleuon_1_1582k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Barthlen

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

 

LLYFR DADLEUON.
Awdur?
Blwyddyn?

Wrecsam. Argraffwyd gan Hughes a’i Fab.



 


(delw 6514)

 

 

  

 

Ein sylwadau mewn teip oren.

Tudalennau gwreiddiol y llÿfr fellÿ: x89 (â llythyren x o flaen y rhif)

 

AR Y GWEILL GENNYM.

TUDALENNAU x21-x128 HEB EU GWNEUD ETO

 

MYNEGAI

 

·····

(=1) Prawf Dic Shon Dafydd

 (I naw o fechgyn, a deuddeg o reithwyr)  (x7)
·····
(=2) Pethau Bychain

(I ddwy ferch)  (x17)
·····
(=3) Y Ceffyl, y Drol, a’r Baril

(I dri)  (x21)
·····
(=4) Y Neidr yn y Nyth

(I bedwar)  (x26)
·····
(=5) Pwy yw y Gŵr Boneddig? (I ddyn ieuangc a brawd a chwaer)  (x30)
·····
(=6) Had Da yr Efengyl

(I bedwar meibion neu ferched)  (x33)
·····
(=7) Heddwch a Rhyfel

(I dri o fechgyn)  (x40)
·····
(=8) Y Creadur Symudliw

(I ddau - meibion neu ferched)  (x45)
·····
(=9) Sgweiar y Berw

(I'w adrodd gan un)  (x49)
·····
(=10) Y Clarc Gonest (I ddau) (x52)
·····
(=11) Rhannu’r Deisen (I ddwy ferch ac un bachgen) (x54)
·····
(=12) Balchder a Gaiff Gwymp (I dri o fechgyn a dwy ferch) (x57)
·····
(=13) Y Môr a'r Afonig

(I ddau)  (x69)
·····
(=14) Gofalu am "Number One” (I ddau fachgen)  (x72)
·····
(=15) Y Ddwy fam

(I bedwar o bersonau)  (x75)
·····
(=16) Efa Dafydd

(Adroddiad i un)  (x80)
·····
(=17) Drws Trugaredd

(I ddau}  (x83)
·····
(=18) Y Bugail Da

(I ddau fachgen)  (x86)
·····
(=19) Y Ddinas Brydferth

(I dair o ferched)  (x92)
·····
(=20) Llawen a Phrudd

(I dair o ferched)  (x96)
·····
(=21) Ffydd, Gobaith, a Chariad (I dair o ferched, a phump o gymmeriadau ereill)  (x100)
·····
(=22) y Berth yn Llosgi

(I dri) (x104)
·····
(=23) Athrawon ac Ysoleigion

(I fab a merch) (x112)
·····
(=24) Y Gwrthryfelwr Carcharedig

(I dair o ferched) (x116)
·····
(=25) Beth yw Bywyd?

 (I un) (x119)
·····
(=26) Iawn Ymddygiad yn Moddion Gras (I ddwy ferch neu ddau fab) (x126)
·····
(=2
7) Y ffordd i Wneud Cyfeillion

(I’w adrodd gan athrawes ac un o’i hysgoleigion)  (x124)
·····
(=28) Y Beibl

(I’w adrodd gan fachgen neu eneth)  (x126)
·····
(=29) Y Byd yr ydym yn byw ynddo

(I’w adrodd gan un – mab neu ferch) (x127)

 

xxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxx

 

(x6)

AT Y DARLLENYDD.

Y mae y llyfryn hwn yn ymgais i gyflenwi y diffyg cynyddol a deimlir gan y rhai yr ymddiriedir y gwaith o chwilio am ddefnyddiau gogyfer a Chyfarfodydd Llenyddol, Ysgolion, a Dirwestol. Gobeithir y ceir y Dadleuon, Cydymddiddanion, a'r Adroddiadau, ag sydd wedi eu parotoi yn neillduol gogyfer a'r gwaith hwn, yn hawdd, dyddorol, a buddiol i'r darllenwyr a'r gwrandawyr.

Y CYHOEDDWYR.

 

Am gyfarwyddiadau i Ddarllen, Adrodd, a Siarad yn Gyhoedddus, gwel

“COLEG Y DARLLENYDD,” l/-

“GRAMADEG ARAETHYDDIAETH.” 1/-

 

(x7)
LLYFR DADLEUON.

_________________________________________________

(=1) Prawf Dic Shon Dafydd.

_________________________________________________


 
Y CYMERIADAU A GYNRYCHIOLIR.
DIC SHON DAFYDD: y Carcharor,
BARWN DEDDFOL: y Barnwr.
MR. LLYGADGRAFF: Dadleuwr dros yr Erlyniad.
MR. TAFODRYDD: Dadleuwr dros y Carcharor.

DEUDDEG O REITHWYR.

 

TYSTION
MR. JONES, Athraw yn yr Ysgol Sul.
MR. THOMAS HUGHES

MR. WILLIAMS, Llundain

MR. THOMAS, Argraffydd a Llyfrwerthydd

DAFYDD, tad y Carcharor:

Cynllun o'r Llys.

 

R
H
E
I
T
H
W
Y
R


BARNWR


T
Y
S
T
I
O
N



 DADLEUWYR

 CARCHAROR

 


Barnwr. - Garcharor! cyhuddir chwi o flaen y llys hwn o fod yn anwybodus o iaith eich mam - yr hen Gymraeg wen - ac o esgeuluso a diystyru y cyfryngau a ddarparwyd ar eich cyfer i gyraedd gwybodaeth o honi. Pa beth a ddywedwch : Euog a'i Dieuog?


Carcharor. - Is me dont understand Welsh.

Barnwr. -
Gallwn feddwl nad yw y carcharor yn deall Cymraeg na Seisonig, na moesau da ychwaith. Are you guilty or not guilty?


Carcharor. - Is me no guilty me lard.

(x8)

Llygadgraff. - Fy Arglwydd a boneddigion y Rheithwyr, yr ydwyf wedi fy nghyfarwyddo i erlyn y carcharor sydd o'ch blaen am wadu a diystyru iaith ei fam - iaith ag y dylasai fel Cymro ei dysgu, yn ol y Weithrod Seneddol a basiwyd yn senedd Llais y Wlad. Yn ol yr act hon, gosodir rhwymau ar bob Cymro i ddysgu iaith ei wlad ei hun yn flaenaf oll, ac wedi hyny i ymgydnabyddu a'r Saesoneg neu unrhyw iaith arall a fyno. Mae y carcharor wedi cyraedd yr oedran o ugain mlwydd oed, ac y mae heb gydsynio a gofynion y ddeddf. Gallaf dangos i chwi trwy dystion credadwy, fod pob moddion wedi eu harfer i geisio cael gan y carcharor i gyflawni ei ddyledswydd, ond ei fod wedi esgeuluso yr oll. A bydd i'r tystion hyn eich hysbysu fod y carcharor, nid yn unig wedi gwrthod cydsynio â'r ddeddf, ond ei fod bob cyfle a gaffo yn taflu diystyrwch ar yr hen Omeraeg ogoneddus, ac yn siarad yn erbyn y gyfraith. Os bydd i mi brofi fy achos, foneddigion, fel yr wyf yn teimlo yn sicr y gwnaf, er eich boddlonrwydd, yr wyf yn galw arnoch i roddi y fath ddeddfryd ag a orfoda y carcharor i dalu manwl sylw i'r gyfraith, neu i gael ei alltudio o'r wlad hyd nes yr edifarhao am ei bechod.

Tafodrydd.
- Fy Arglwydd, yr wyf yn synu fod y fath achos wedi ei ddwyn o flaen y llys o gwbl. Yn ol fy marn i, y mae yn gywilydd fod y fath gyfraith anghyfiawn yn cael aros ar ddeddflyfrau ein gwlad. Mae fy ngwaed yn berwi wrth feddwl fod rhyw fodau dallbleidiol a hunanol wedi cymeryd mantais ar hen ddeddf o'r fath i lusgo y carcharor o flaen y llys. Byddai yn fendith i'r byd pe buasai y fath gyfraith, a’r iaith Gymraeg i'w chanlyn, wedi eu hysgubo gyda'u gilydd i - .


Barnwr. - Mr. Tafodrydd, y mae yn rhaid i mi eich atal. Yr ydym yma, nid i newid y gyfraith, ond i'w gweinyddu; felly, os ydych am anerch y llys hwn, rhaid i chwi siarad ar yr achos sydd o'i flaen.

Tafodrydd.
- Os diangodd rhyw ymadroddion dros fy ngwefusau ag a anghymeradwyir genych chwi, fy Arglwydd, yr wyf yn gofyn eich pardwn. Pe cawswn lonydd i fyn'd yn mlaen yr oeddwn yn meddwl dod at y gyfraith ei hun, a gwnaf hyny yn awr. Yr hyn a ofyna y gyfraith yw fod pob person o fewn y Dywysogaeth yn cael cyfleusderau i ddysgu yr iaith; ond os dewisant beidio

(x9)
gwneyd defnydd o honynt, iddynt hwy y bydd y golled, a rhaid iddynt ddyoddef y canlyniadau. Felly, yr wyf yn dadleu nad oes gan y llys hwn hawl i gospi y carcharor. Llygadgraff. - Yr wyf yn synu clywed y fath sylwadau gan ddadleuydd dysgedig yr ochr arall. Ni ddywedaf ei fod yn anwybodus o'r gyfraith; ond mi a ddywedaf na thalodd sylw manwl i'r gyfraith, neu ni buasai yn codi y fath wrthddadl. Yr wyf yn penderfynu myn'd yn mlaen a'r achos; ac os dewisa Mr. Tafodrydd gall ei godi wedy'n i lys uwch.

Barnwr. -
Wrth gwrs, rhaid i'r achos fyn'd yn ei flaen.


Llygadgraff. - Af yn mlaen yn awr i alw fy nhystion. Mr. Jones!

(Mr. Jones yn dyfod yn mlaen}.

Yn awr Mr. Jones edrychwch ar y carcharor. Oni fu ef yn eich dosbarth yn yr Ysgol Sul?


Jones. - Do.

Llygadgraff. - Faint a ddysgodd pan dan eich gofal?


Jones. - Dim.

Llygadgraff. - A ddarfu i chwi arfer pob moddion i gael ganddo ddysgu?


Jones. - Do; cafodd bob mantais, ond yr oedd fel yn diystyru y cwbl.


Llygadgraff. - Pa beth a feddyliwch wrth ddweyd ei fod yn diystyru y cwbl. Eglurwch y mater i'r llys.


Jones. - Clywais ef yn dweyd wrth Thomas Hughes mai hen iaith vulgar oedd yr iaith Gymraeg, ac nad oedd yn ffit i'w harfer mewn genteel society, a'i fod yn penderfynu na byddai iddo degradio ei hun trwy ei dysgu.

Barnwr. -
A yw Thomas Hughes yn y llys?

 

Llygadgraff. - Ydyw, fy Arglwydd.

 

Barnwr. - Gelwch arno i sefyll i fynu.

Llygadgraff. - Eisteddwch i lawr Mr. Jones, er mwyn i'r llys gael clywed tystiolaeth Thomas Hughes.

(Thomas Hughes yn sefyll i fynu}.

Llygadgraff. - A ydych chwi, Thomas Hughes, yn adnabod y carcharor?


Hughes. - Ydwyf.

(x10)

Llygadgraff. - A fuoch chwi yn siarad â'r carcharor.


Hughes. - Yr oeddem yn gyfeillion mawr â'n gilydd. Yr oedd ef a -.

Llygadgraff. - Na hidiwch am eich cyfeillgarwch ag ef.
Atebwch fy ngwestiwn. A fuoch chwi yn siarad â'r carcharor?

Hughes. - Do lawer gwaith.

Llygadgraff. - Beth oedd testun cyffredin eich ymddiddanion.


Hughes. - Y pwys o fod pob Cymro yn meddu gwybodaeth o iaith ei wlad ei hun.

Llygadgraff. - A wnaeth y carcharor ddefnydd o'r ymadroddion y cyfeiriwyd atynt gan y tyst Mr. Jones?

 

Hughes. - Do lawer gwaith.

Tafodrydd.
- Caniatewch i mi i groesholi y tyst hwn. Cofiwch eich bod ar eich llw. A ydych yn cofio fod y carcharor wedi gwneyd defnydd o'r ymadraddion vulgar, ac felly yn y blaen am yr iaith Gymraeg.


Hughes. - Ydwyf lawer gwaith.

Tafodrydd.
- Ond a ydych yn cofio am rhyw dro neillduol.

Hughes. - Ydwyf.

Tafodrydd.
- Pa bryd.

Hughes. - Wrth ddychwelyd o Ffair Awst ddiweddaf.

Tafodrydd.
- Wrth ddychwelyd o'r ffair ai ê? Efallai eich bod wedi yfed gormod y pryd hyny, ac felly yn agored i wneyd camgymeriadau. Yr ydwyf yn gofyn i chwi a oeddech yn sobr y pryd hyny?


Hughes. - Yr oeddwn mor sobr a judge.

(Chwerthin yn y llys, yn yr hwn, yr ymunodd y Barnwr}.

Tafodrydd.
- Rhaid i chwi beidio cellwair a'r llys. Adroddwch yr ymddiddan fu rhyngoch ar y ffordd o'r ffair, a chofiwch eich bod i ddweyd y gwir - yr holl wir - a dim ond y gwir.

Hughes. - Pan yr oedd Dic y carcharor, a Jack Parry a minau yn dychwelyd adref, fe drodd y siarad at yr iaith Gymraeg. Yr oedd Jack a minau yn barnu y dylai pob

(x11)
Cymro ddysgu y ddwy iaith - Cymraeg a Seisoneg. Fod Cymro heb fedru Oymraeg yn wrthddrych dirmyg a gwawd, a bod Cymro heb fedru Seisonig o dan anfantais fawr; ond fod meddu gwybodaeth o'r ddwy yn ei gyfaddasu i lenwi unrhyw swydd yn anrhydeddus mewn unrhyw ran o'r deyrnas. Ar hyny aeth y carcharor i dymer ddrwg, a dechreuodd ddywedyd mai hen iaith vulgar ac isel oedd y Gymraeg, ac nad oedd yn cael ei harfer mewn genteel society, ac fod pwy bynag a'i dysgai yn degradio ei hun, a therfynodd trwy ddweyd nad oedd young ladies nice byth yn siarad Cymraeg, am fod hyny yn rhwystr iddynt i siarad Saesonig yn correct.

Tafodrydd.
- Gellwch eistedd i lawr. A yw Jack Parry yn y llys. Hoffwn gael ei holi o berthynas i gywirdeb tystiolaeth y tyst diweddaf.

Llygadgraff. - Nid yw ef yma.

Barnwr. -
Dylasai fod yn bresenol ar bob cyfrif. A oes genych ryw reswm i'w roddi dros ei absenoldeb?

Llygadgraff. - Oes, fy arglwydd, y mae genyf ddeg ar hugain o resymau dros ei absenoldeb. Yn gyntaf oll, y mae wedi marw, yn ail --.

Barnwr. –
Stop - dyna ddigon - ewch yn mlaen.


Tafodrydd. - (Wrth y Rheithwyr). - Yr ydych yn gweled foneddigion, fod y carcharor yn ddyn o feddwl anibynol - yn barnu drosto ei hun - ac uwchlaw cymeryd ei arwain gan rhyw benboethiaid ynfyd. Heblaw hyny fe'm cyfarwyddir i sylfaenu fy nadl dros ryddhad y carcharor ar y ffaith fod dysgu yr iaith Gymraeg yn rhwystr i ddysgu Seisoneg, ac yn atalfa ar ffordd llwyddiant pobl ieuaingc.

Barnwr. -
Mae'n debyg fod genych dystion i'w dwyn yn mlaen i brofi yr haeriad yna.

Tafodrydd. - Nag oes, fy arglwydd, ond --.

Barnwr. -
Ni wna haeriadau y tro. Rhaid cael tystiolaeth tystion credadwy o bob gosodiad a ddygir o flaen y llys hwn.
Rhaid i mi alw ar yr erlynydd i fyn'd yn mlaen i holi ei dystion.

Llygadgraff. - Yr wyf yn synu fod y dadleuydd dysgedig wedi ceisio dallu y Rheithwyr trwy ei haeriadau noeth, heb fod ganddo rith o brawf drostynt. Ond y mae genyf

(x12)
dystion credadwy, y rhai a alwaf ger eich bron, a siomir fi yn fawr os na fyddi'w tystiolaethau chwalu y fath haeriadau gyda phedwar gwynt y nefoedd. A wnaiff Mr. Williams, Llundain, sefyll i fynu.

(Mr. Williams yn dyfod yn mlaen).

Yn awr Mr. Williams, yn mha le yr ydych yn byw?


Williams. - Yn Llundain.

Llygadgraff. - Er's pa faint o amser yr ydych yn byw yno?


Williams. - Er's dros ugain mlynodd.

 

Llygadgraff. - Pa beth ydych yn wneyd yno?

 

Williams. - Cadw siop.

Llygadgraff. - A fedrwch chwi siarad Cymreig.

 

Williams. - Medraf yn gampus.


Llygadgraff. - Ai yn Gymraeg yr ydych yn cario eich masnach yn mlaen?


Williams. - Nag ê, ond yn Saesoneg.


Llygadgraff. - Oni yn y Gymraeg yn rhwystr i chwi i gael gwybodaeth o'r iaith Seisonig.


Williams. - Naddo, ond yn hytrach fel arall.

Llygadgraff. - Beth feddyliwch chwi wrth arfer y geiriau "yn hytrach fel arall”?

 

Williams. - Fod gwybodaeth o'r Gymraeg yn gynorthwy i allu acenu yr iaith Seisoneg yn gywir. Gall Cymro fo wedi dysgu iaith ei fam yn dda, siarad Seisonig yn gywirach na'r un cockney a lyngcodd laeth erioed.


Llygadgraff. - Ond onid oedd perygl i chwi anghofio yr iaith Gymraeg wrth droi am gynifer o flynyddoedd yn mhlith y Saeson?


Williams. - Perygl! dim o'r fath beth. Yr wyf yn adnabod ugeiniau o Gymru yn Llundain yn llenwi sefyllfaoedd parchus mewn sefydliadau Seisonig - rhai o honynt yno o fy mlaen i - ond y mae eu Cymraeg yn para mor bur a dilwgr ag erioed.

Llygadgraff. - A yw pob Cymro sydd yn dyfod i Llundain yn gallu cadw ei Gymraeg.


Williams. - Fe all pob un. Ond rhaid i mi gyfaddef

(x13)
fod ambell i fachgen a geneth o Gymru yn colli eu Cymraeg cyn dysgu Seisoneg. Ond trwy drugaredd eithriadau yw y fath Ffops mursenaidd.

Llygadgraff. - Gellwch eistedd i lawr. A wnaiff Mr. Thomas ddyfod yn mlaen.

(Mr. Thomas yn dyfod yn mlaen}.

Pa fasnach ydych yn gario yn mlaen?

Thomas. - Argraffu a gwerthu llyfrau.

Llygadgraff. - A fu y carcharor yn eich gwasanaeth?

Thomas. - Do; ond methais wneyd dim o hono.

Llygadgraff. - Mae'n debyg eich bod yn gwybod am dano cyn ei gymeryd i'ch gwasanaeth?

Thomas. - Yr oeddwn yn ei adnabod yn dda. Ond cymerais ef o barch i'w dad, yr hwn a feddyliai y buasai y fasnach a gariaf yn mlaen yn ei dynu i ddysgu y ddwy iaith.

Llygadgraff. - A wnaeth y carcharor unrhyw gynydd tra gyda chwi.

Thomas. - Fe wnaeth gynydd mawr mewn dwlni, ond nid mewn dim arall.
Yr oedd o hyd yn gwerthu y naill lyfr yn lle y llall. Os gofynai cwsmer am Ganiadau Mynyddog, yr oedd yn sicr o estyn iddo y Llythyr Ysgrifydd neu Daith y Pererin. Ac os anfonwn ef allan gyda parcel, nis gallasai ddarllen enw y lle os byddai ch neu ll yn y gair.

Llygadgraff. - A oedd yn gallu darllen Seisonig?

Thomas. - Ychydig iawn; ddim haner cystal a'r bachgen ddaeth yn ei le, yr hwn sydd yn gyfarwydd a'r ddwy iaith, ac yn dod yn mlaen yn rhagorol.

Llygadgraff. - Felly, anfonasoch ef ymaith gyda brys.

 

Thomas. - Do; oblegid nid oedd yn werth dim i mi.


Tafodrydd (wrth  y Tyst). - Yn awr edrychwch arnaf fi, a rhoddwch atebion uniongyrchol i'm cwestiynau.
Yr oeddych yn barnu y gwnelai y carcharor y tro i chwi?

Thomas. - Nag oeddwn.


Tafodrydd.
- Paham y cymerasoch ef ynte?

Thomas. - Yr wyf yn barod wedi dweyd y rheswm paham.

Tafodrydd.
- Rhaid i chwi ei ddweyd eto ynte. Peidiwch a meddwl y cewch ddiangc o'm gafael.

(x14)

Thomas. - Gwn fod genych dafod rhydd iawn a garw iawn.

(Llygadgraff yn chwerthin).

Tafodrydd.
- Dowch, yr wyf yn gofyn eto, paham y cymerasoch y carcharor i'ch gwasanaeth?

Thomas. - I foddhau ei dad.

Tafodrydd.
- Dowch, yn awr, oni ddarfu i chwi ei gymeryd am fod ei dad yn ei gynyg i chwi heb ddim cyflog, ac yn foddlon rhoddi arian i chwi os gallech wneyd rhywbeth o hono?

Thomas. - Yr wyf yn gwadu hyny yn bendant.

Tafodrydd.
- Pa beth ydych yn feddwl wrthwadu hyny yn bendant.

Thomas. – ’Rwyf yn meddwl yr hyn a ddywedais.

Tafodrydd.
- Dowch, os bydd i chwi gellwair â mi yn y ffordd yna, bydd i mi ofyn am i chwi gael eich traddodi am ddiystyru y llys.

Llygadraff. – (wrth y Barnwr}. - Yr wyf yn apelio at eich urddas, ac yn gofyn a yw fy nhystion i gael eu bwlio yn y dull hwn?

Tafodrydd.
(wrth Llygadgraff). - Nid wyf yn bwlio, Syr; yr wyf yn taflu y fath sen yn ol gyda gwawd a dirmyg! Peidiwch a meddwl y gellwch atal fy nhafod.


Barnwr. -
Dowch, foneddigion, os aiff pethau yn mlaen fel hyn rhaid i mi atal yr achos. Ewch yn mlaen a'ch gwaith o groesholi.


Tafodrydd. - (wrth y Tyst). - Eisteddwch i lawr, Mr. Thomas. Os byth y deuwch o fewn cyraedd fy nhafod eto, gwae chwi! (Chwerthin.)


Barnwr. - Distawrwydd!

Tafodrydd. – (wrth y Rheithwyr}. - Yr ydych yn gweled, Foneddigion, y fath achos dibwys yw hwn a ddygwyd ger eich bron. Yr wyf yn ystyried mai gwastraff ar amser ydyw, ac yr wyf yn sicr y byddwch yn gwasanaethu eich gwlad trwy ddychwelyd rheithfarn o ddieuog ar unwaith. Pa fodd bynag, gan eich bod yn edrych fel mewn petrusder, bydd cystal i mi ddwyn yn mlaen yr unig dyst sydd genyf, sef tad y carcharor. Dafydd dowch yn mlaen!

(Dafydd yn dyfod yn mlaen)

Yn awr, Dafydd, hwn yw eich mab onid e?

(x15)
 
Dafydd. - Wel, fy arglw'dd - .

Tafodrydd.
- Na hidiwch am fy lordio i. Ai eich. mab yw y carcharor?

Dafydd. - Ie, Syr, dyna fel ma nhw yn deyd. Onid ydach chi yn i wel'd o'n debyg i mi?

Tafodrydd. - O ydi, yr un ffunud. Mae'n debyg eich bod yn falch o hono?

Dafydd. - Wel, 'roeddwn i yn falch o hono unwaith; ond ma fo wedi cymryd rhwbath yn i ben yn erbyn y Gymrag, a byth er hyny rydw i yn methu yn glir a gneyd dim o hono.

Tafodrydd.
- A gafodd ef bob chwareu teg genych.


Dafydd. - Do yn wir, fy ar- Syr. Mae'r plant erill yn medru Oymrag a Sasnag, ond y mae Dic, sef y carcharor, heb fedru na Chymrag na Sasnag. Wn i ddim beth ddaw o hono yn wir.

Tafodrydd.
- A ydych yn meddwl fod ei alluoedd meddyliol yn gyflawn.


Dafydd. - Be ydi hyny, Syr. Tydw i ddim wedi'ch deall yn iawn.


Tafodrydd. - A ydych yn meddwl fod rhyw analluedd yn ei ddadblygiad meddyliol?


Dafydd. - Tydw i ddim yn ych dyall chi yn wir. Ches i fawr o ysgol wyddoch chi. Fasa'n dda gin i taech chi yn siarad yn blaenach.

Tafodrydd.
- Wel, gofynaf y cwestiwn mewn ffordd arall. A ydych yn meddwl ei fod ef yn llawn llathen.


Dafydd. - Dyna chi 'nawr. Rydw yn ych dyall chi i'r dim. Wel, rydw i yn meddwl fod o'n un-owns-ar-bymtheg, ond i fod o wedi gwrando ar rhyw fachgen dwl fu'n Lerpwl am dri mis, ac a ddaeth adref yn llawn at i ddau ymyl o wynt, ac yn cymryd
arno i fod o wedi colli i Gymrag. Ond rydw i yn gobeithio fyddigions, y byddwch yn drugarog wrtho fo, achos ma i hen fam o yn drallodus iawn yn i gylch o.

Llygadgraff. - Yr wyf yn sicr y gwnant ymddwyn yn dyner tuag atoch Dafydd. Gellwch eistedd i lawr.

(Dafydd yn eistedd i lawr}.

Y awr, foneddigion, yr ydych

(x16)   
wedi clywed yr achos o'ch blaen, ac anmhosibl cael achos mwy eglur. Yr wyf yn galw arnoch, er mwyn gogoniant eich gwlad ac anrhydedd eich cenedl, i wneyd eich dyledswydd yn ol deddfau cyfiawn Cymru Wen.


Barnwr. - Garcharor, a oes genych rhywbeth i'w ddweyd wrth y rheithwyr?


Carcharor. - Fy arglwydd a boneddigion. Yr wyf wedi gweled fy ffolineb, a drwg genyf am yr hyn a wnaethum; ac os maddeuwch i mi, yr wyf yn addaw diwygio o'r foment hon allan.


Barnwr. - Foneddigion y rheithwyr, yr ydych wedi clywed y tystiolaethau a ddygwyd o'ch blaen yn yr achos hwn - tystiolaeth o'r fath fwyaf clir a diamwys. Nid wyf, er pan yn eistedd ar y faingc anrhydeddus hon, wedi cael achos mwy clir o'm blaen. Rhaid i chwi beidio goddef i'ch teimladau i orbwyso eich syniad o gyfiawnder. Gwir fod mam y carcharor mewn trallod; ond rhaid ufuddhau i ddeddfau y wlad; ac ni ddylid dwyn unrhyw deimlad personol rhwng y carcharor a chyfiawnder. Os bydd i'r carcharor gael ei ollwng yn rhydd bydd iddo fod yn hollol ddiwerth iddo ei hun - i'w deulu - ac i'w wlad. Dyledswydd - ie, a braint - pob Cymro yw deall iaith ei wlad ei hun yn ogystal a'r iaith Seisoneg, ac y mae esgeuluso hyny yn drosedd amlwg o ddeddf natur yn ogystal a deddf y wlad. Mae y mater o'ch blaen foneddigion; ac nid oes ond i chwi yn awr i ymneillduo i ystyried eich dedfryd.


[Rheithwyr yn myn'd o'r neilldu am funud].

Barnwr. -
Yn awr, foneddigion, a ydych yn cael y carcharor yn euog ynte dieuog?


Un o'r rheithwyr. - Euog, fy arglwydd; ond yr ydym yn ei gyflwyno i drugaredd, ac yn gobeithio y caniateir iddo fod ar brawf eto am un flwyddyn.

Barnwr. -
Foneddigion, telir sylw i'r hyn a ddywedasoch

(Wrth y Garcharor).

Garcharor, yr ydych wedi eich cael yn euog o'r cyhuddiad pwysig a ddygwyd yn eich erbyn; a dylech ddiolch i'r boneddigion hyn nad yw y ddedfryd yn cael ei chyhoeddi ar unwaith. Rhaid eich rhwymo i ddod yma mewn deuddeg mis; ac os na fyddwch y pryd hyny wedi dysgu iaith eich gwlad; ac wedi cael gwared o'r lediaith ffol yna, bydd i chwi gael eich anfon allan i'r byd a cherdyn ar eich cefn, yn nod estyn

(x17)


bys a gwawd pob dyn call. Gollyngir chwi yn rhydd yn awr; a gobeithio y gwnewch y defnydd goreu o'r amser sydd wedi ei estyn i chwi.

Carcharor. - Diolch i chwi, fy arglwydd,

Barnwr. -
Gohirir y llys yn awr.

 

__________________________________

(=2) Pethau Bychain.
Ymddiddan, rhwng Maria a Sarah.

__________________________________


Maria. - Fy anwyl Sarah, yr wyf yn gobeithio yr esgusodwch fi, ond yr wyf yn teimlo tuedd i'ch cyhuddo o fai bychan heddyw.

Sarah. - Yn wir! Hoffwn gael gwybod pa beth a wnaethum o'i le?

Maria. - Fel yr oeddwn yn pasio heibio eich tŷ y dydd o'r blaen, clywais chwi yn siarad mewn llais uchel fel pe buasoch wedi colli eich tymer, a phenderfynais siarad â chwi yn nghylch y peth mor fuan ag y cyfarfyddwn a chwi.


Sarah. - Wel, yr ydwyf yn cyfaddef ei fod yn fuïes [sic] (?feius) ynof i fyned i'r fath dymer ddrwg, ond yn wir yr oedd fy mam wedi bod yn fy nwrdio yn arw, ac nid wyf yn hoffi cael fy nwrdio am beth mor fach.

Maria. - Ond dichon nad oedd eich mam yn ystyried y peth, yn fach a dibwys.

Sarah. - Nid wyf yn gallu gweled fod taflu careg at gardotyn bach yn beth pwysig, achos dyna'r cwbl a wnes. Yr wyf yn synu fod pobl yn gwneyd y fath dwrw yn nghylch pethau mor fychain.

Maria. - Yr ydych yn fy synu os ydych mewn gwirionedd yn ystyried hyny yn beth bach. ’Rwyf yn ofni nad ydych yn ystyriol o bwysigrwydd pethau bychain.

Sarah. - Peth bach ydi peth bach, ac yr wyf yn methu deall paham y rhaid i neb wneyd llawer o dwrw yn eu cylch.

Maria. - Ond rhaid i chwi gofio fod digwyddiadau pwysig (x18)            yn tarddu o achosion bychain, ac fod pethau mawr yn cael eu gwneud i fynu o lawer o bethau bychain.

Sarah. - Ië, ond pe buaswn wedi cyflawni rhyw drosedd mawr, buaswn yn foddlon i gymeryd fy nwrdio.

Maria. - Dywedasoch na ddarfu ichwi ond taflu careg fechan at fachgenyn. Onid ydych yn gwybod y gallasai y fath gareg fechan beri marwolaeth y plentyn pe buasai yn ei daro ar ranau neillduol ar ei gorff.


Sarah. - Yn sicr ni feddylials am hyny.

Maria. - Mae pobl yn aml yn arfer esgusodi eu beiau a'n pechodau, trwy ddweyd nad ydynt ond pethau bychain. Ond pan yr ystyriwn bethau mewn cysylltiad a'u galluoedd neu eu dylanwad, prin y gellir ystyried dim yn fychan. Peth bach yw y gwlithyn, eto o ddiferion felly y gwneir y moroedd mawr.

Sarah. - Efallai fod rhai pethau bychain ag sydd yn achosi canlyniadau mawrion - ond ychydig ydynt.

Maria. - Efallai fod eu rhif yn lluosocach nag yr ydych wedi meddwl. Peth bach iawn yw pluen eira, a gall yr awel ei chwythu yn ol ac yn mlaen; ond edrychwch arni pan wedi bod yn disgyn am ddyddiau, llanwa y dyfrynoedd, cuddia bobpeth, a cheir ei gweled mewn rhai gwledydd yn rhuthro i lawr lethrau y mynyddoedd ac yn goddiweddyd pentrefydd a threfydd a dinystr disymwth.

Sarah. - Mae hyny yn eithaf gwir am y gwledydd hyny lle y disgyna trwch mawr o eira, ond er hyny ni wna un bluen fach o eira lawer o niwaid.

Maria. - Gwir; ond pe na buasai y bluen gyntaf yn disgyn, ni fyddai yna eira o gwbl. Rhaid i ni edrych ar bethau yn eu cydgasgliad a'u canlyniadau. Pethau bychain yw y pigau ar y ddraenen, eto os â un o honynt i'ch llaw neu ran arall o'ch corff, achosa enyniad a phoenau llymion, ac efallai farwolaeth. Nid oes dim yn llai na gronynau o lwch, ond o lawer o honynt y ffurfir y bydoedd gogoneddus. Pethau bychain mewn cydmariaeth yw ceryg, ond o honynt hwy yr adeiladwyd hen gastelli mawreddog Cymru. Nid yw ffynhonau ond pethau bychain, ond o honynt hwy y tardda afonydd mawreddog ein gwlad. Peth bach yw gair, ond eto peth mor nerthol ydyw: mae wedi dadymchwelyd teyrnasoedd a phenderfynu tynged gwledydd;

(x19)
i filoedd y mae wedi bod yn llewyrch gobalth mewn cyfyngder, ac yn gloch angladd miliwnau o obeithion disglaer.

Sarah. - Yn sicr yr ydych yn dweyd y gwir. Yr wyf yn gwybod fod un gair wedi dinystrio cyfeillgarwch oes, ac wedi llanw llawer calon â thristwch.

Maria. - Ac O! peth mor fach yw moment! ac eto yn y foment fach yna gall pethau ddigwyd ag a gyfnewidia hanes dyfodol y hyd, gall llongau gael eu dryllio, gall troseddwyr gael eu hyrddio i fyd arall, a gall llawer o galonau ofidio wrth welyau anwyliaid yn marw. Yn wir, gall un foment fod yn drobwynt marwolaeth neu fywyd.


Sarah. - Ie, fel yr ydym yn canu weithiau: -

.........”O Dduw, ar ba fath edau frau
..........Mae bythol bethau'n hongian!

........Tragwyddol stâd pob marwol ddyn
..........Ar linyn egwan bywyd."

Maria. - Mae yn dda genyf eich bod yn dechreu gweld fod yna bwysigrwydd mewn pethau bychain.

Sarah. - Yr ydych mewn gwirionedd wedi cyfnewid fy meddwl yn hollol, trwy eich sylwadau tarawgar a gwirioneddol. Yr oeddwn yn wastad yn meddwl nad oedd dim pwys mewn pethau bychain, ond yr wyf yn gweld yn wahanol yn awr.

Maria. - Ond y mae yna rai pethau bychain eraill y dymunwn eich argyhoeddi o'u pwysigrwydd.

Sarah. - Bydd yn dda iawn genyf eu clywed.

Maria. - Y lleiaf o'r holl hadau yw yr hedyn mwstard, ond o hono y tyfa pren mor fawr ag y gall adar y nefoedd nythu yn ei gangau. Peth bach yw llyw y llong, ond arweinia y llestr fwyaf ar hyd ei chwrs ar y mor garwaf.

Sarah. - A pheth mor fach yw gwreichionen o dân!

Maria. - Ie, ond gall y wreichionen yna gyneu tân ag a ddinystra ddinasoedd cyfain. Y fath ddinystr ar fywydau ac eiddo a achoswyd erioed gan un wreichionen fach.

Sarah. - Yr wyf wedi bod yn meddwl weithiau y fath beth bach oedd i'n rhieni cyntaf fwyta o ffrwyth y pren gwaharddedig.

Maria. - Eto yr ydych yn gweled y fath ddylif o drallod a

(x20)
gwae a ddeilliodd o'r weithred fach hono. Ar bethau bach y dibyna pethau mawr. Yn wir, y mae bron pob digwyddiad o bwys wedi ei achosi gan beth bach. Mae un weithred wedi achosi marwolaeth miloedd. Mae cwymp careg fach wedi newid tynged ymherodraethau. Ni ddarfu i'r llofrudd mwyaf ddechreu ei gwrs trwy gyflawni llofruddiaeth, ond trwy wneyd pechodau bychain, ac oddiwrthynt hwy at rai mwy.

Sarah. - Peth bach yw gronyn gwenith, eto cynyrcha ddefnydd ein bara beunyddiol.

Maria. - Dechreua y lleidr ei gwrs trwy ladrata peth bach, ac yna i ladrata peth mwy, nes o'r diwedd bydd yn lleidr beiddgar a gwynebgaled.


Sarah. - Ac yr wyf wedi clywed rhai yn dweyd mai peth bach yw dweyd anwiredd.

Maria. - Ac eto fe ddechreuodd yr anudonwr mwyaf trwy ddweyd celwydd bychan, a gall un anwiredd ddwyn tristwch a marwolaeth i filoedd o bersonau diniwed. Gall bachgen neu ferch ieuanc yn rhwydd esgeuluso yr ysgol Sabbothol am unwaith, ond gall yr unwaith yna arwain i esgeulusdra parhaus, a diweddu mewn bywyd o dori'r Sabboth.

Sarah. - Yr wyf wedi clywed am lawer o bethau bychain a achosant farwolaeth os bydd i ni eu bwyta.

Maria. - Yn wir, y mae y byd yn llawn o bethau bychain pwysig; ond o ran hyny, a siarad yn gywir, prin y gallwn alw dim yn fychain a dibwys. Gall fod yna rwygiad bach yn y wisg, ond os esgeulusir ef daw yn fuan yn rhwyg mawr. Gwneir y wyddor o lythyrenau bychain, er hyny y llythrenau hyny sy'n gwneyd geiriau a brawddegau, a brawddegau a wnant lyfrau, a goleuir miliwnau trwy gyfrwng llyfrau.

Sarah. - Gobeithiaf na fydd i mi byth mwy fod mor ddrwg a cheisio esgusodi fy meiau, trwy ddweyd nad ydynt ond pethau bychain.

Sarah. - Gobeithiaf yn wir na wnewch. Oblegid ni ellwch ddychmygu faint o ddrwg ac o drallod a allasai y gareg fechan a daflasoch wneyd, nid yn unig i eraill ond i chwithau hefyd. Un gair sarug a gynyrcha un arall, a'r ddau achosi ereill, nes peri i gyfeillion gweryla, arweinia

(x21)
hyny yn aml i ymladdau, ac efallai y terfyna mewn llofruddiaeth a marwolaeth. Bydded i ni osgoi pechodau bychain, cyflawni addewidion bychain, gwneyd y defnydd goreu o funudau bychain, talu sylw i rybuddion bychain, rhedeg oddiwrth demtasiynau bychain, bod yn ofalus o eiriau bychain, ac os bydd i ni fod yn ofalus o'r pethau bychain, anaml y goddiweddir ni gan drallodau mawrion.

Sarah. - Yr wyf yn hollol o'r un farn a chwi, ac
nis gallaf fod yn ddigon diolchgar am yr ymddiddan a gawsom. Gobeithiaf na bydd i mi byth ei anghofio, ac y bydd yr ychydig eiriau hyn fod yn foddion i'm gwaredu rhag pechodau bychain, a dwyn i mi swm mawr o fuddiant.

Maria. - Gobeithiaf yn fawr mai felly y bydd. Os gallaf rywbryd eto fod o rhyw wasanaeth i chwi, gellwch deimlo yn hyderus y rhydd hyny lawer o bleser i mi.

Sarah. - Gallaf eich sicrhau fy mod yn gwerthfawrogi eich caredigrwydd a cheisiaf eich ad-dalu trwy dalu manwl sylw i bwysigrwydd pethau bychain.

Maria. - Os gwnewch hyny ad-delir fi yn llawn am unrhyw gymwynas allaf wneyd i chwi. Nid ydym ond pethau bychain, yn byw mewn byd bychan, ag nid oes genym ond ychydig amser i fyw; ond yr ydym wedi ein bwriadu i gymeryd rhan mewn digwyddiadau mawrion, ac yr ydym yn myned yn mlaen tua'r tragywyddol fyd. Bydded i ni wneyd defnydd da o'n momentau fel y cyflymant heibio, ac felly i wneyd y goraf o'n hoes fér, fel y byddo i ni gael dedwydd diddarfod oes yn y maith dragywyddol fyd. Rhaid i mi ffarwelio a chwi yn awr.


-Sarah. - Ffarwel!

 

__________________________________________

(=3) Y Ceffyl, y Drol, a’r Baril

(I'w adrodd gan dri)

___________________________________________


Y Ceffyl. Beth, heno eto? Onid wyf fi eisoes wedi bod yn dy dynu i un daith bell, er pan godais boreu heddyw? Pa ryw ysfa sydd yn dy olwynion - pa bleser sydd genyt i'm poenydio?


Y Drol. Paid cyfeiliorni, Geffyl: “rhoddi yr aradr o flaen yr ych” yw peth fel yna. Nid myfi sydd yn galw am danat. Yn wir yr oeddwn yn meddwl mai tydi oedd yn galw am danaf fi.

(x22)

Y Ceffyl. Ti bendew olwynawg, gwrando air gan dy ragorach. Pa un ai cymhorth ynte rhwystr i mi deithio ydyw i ti fod yn rhwym wrthyf? Gallwn, fy
hunan, fyned i ben y daith hon ac yn ol yma tra fyddi di yn gwneyd dy hun yn barod.


Y Baril. Helo, beth yw y row! Byddwn ddistaw a heddychol, ffrindiau. Paham yr edrychi mor sarug, Drol?


Y Drol. Nid am unrhyw ddrwg o'r eiddof fy hun; ond o herwydd clywed Ceffyl yn fy nghablu â geiriau mawrion a chelyd.

Y Ceffyl. Onid oeddit yn eu haeddu, am fod mor dafod-ddrwg a dweyd mai fi yw yr achos o'r daith galed sydd o'n blaen?

Y Drol. Ni wnaethum hyny cyn i ti yn gyntaf fy nghyhuddo i o fod yr achos, gan ychwanegu fy mod yn cymeryd pleser yn dy boenydio.

Y Ceffyl. Digon gwir hefyd, Madam. Oblegid oni buasai eisieu dy dynu di, fe fuasai genyf fi well gwaith na chludo cwrw.


Y Drol. O yn wir! Ni fyddai dy flewyn mor ddisglaer na'th asenau mor gnawdol, mewn unrhyw wasanaeth arall.
Ac ni cheit gyfle mor fynych i ddangos dy hun, yn uchder dy ffroen a dy falchder mawr.

Y Ceffyl. Gresyn meddwl mai o dy herwydd di y mae fy holl bechodau yn dyfod i'r golwg mor wrthun.

Y Drol. Anwiredd, Syr! anwiredd i gyd. Pa na buasai am y Baril ni fuasai raid am danaf finau yn y gwaith annymunol hwn.

Y Baril. Geffyl a Throl, goddefwch i minau wneyd sylw neu, ddau. Yr oeddwn er ys meityn yn awyddus i siarad, er yn dewis peidio ymyraeth yn eich cweryl hwn. Eithr yn awr, wedi clywed fy enw i yn cael ei arfer, a'i arfer, mi feiddiaf ddweyd, dipyn yn annheg, teimlaia fod yn llawn bryd i minau lefaru.

Y Ceffyl. Gallai un feddwl o wrando dy araeth nad yfaist ddafn o wirod erioed!

Y Drol. Pan mewn gwirionedd mai efe yw yr achos o'r holl ddrwg.

(x23)
C. Ie; oblegid os yw y Drol yn achos o'r drwg ynot fi, a thi yn achos o hono yn y Drol, yn ol Rhesymeg Synwyr Cyffredin rhaid mai ti, Faril, yw yr achos o'r holl ddrwg o'r dechreu i'r diwedd.

Y Drol. Ie, a chyn hyny, os nad ar ei ol hefyd!

Y Ceffyl. Yn hollol felly: fel yna y dylaswn ddweyd.

Y Baril. Y mae yn dda genyf eich bod ill dau wedi medru cydweled, er mai yn y gwaith o fy ngwawdio i yr ydych wedi cytuno. Ond yr wyf yn gorfod tystio yn y modd mwyaf difloesgni yn erbyn eich cyhuddiad mai myfi yw yr achos o'r drwg ag y teimlwch eich bod yn ei afael. Pe na buasai am y cwrw a fwrir i mewn ynof ni byddai raid am danaf finau yn y gwaith hwn. Gwn y byddai yn bleser genych ill dau fy nghludo i pe rhoddid imi y dwfr glân neu y llaeth maethlon i'w gadw. Felly gan hyny nid myfi, mwy nag uu o honoch chwithau, yw yr achos o'r drwg, er i chwi gyduno i fy nghamliwio a'm difrio mewn dull mor angharedig,

Y Drol. Ond i ddal cwrw y gwnaed di ar y cyntaf; tra yr wyf fi yn gymhwys i alwedigaethau ereill.

Y Baril.
Er mai i'r dyben hwnw y'm gwnaed, yr wyf yn llawn mor addas at alwedigaethau ereill ag ydwyt tithau. Ond, yn wir, ti a'th gyhuddaist dy hun, yn gymaint ag mai i fy nghludo i y gwnaethpwyd di yn arbenigol; pe amgen, ni fuasai y ffurff yna arnat.

Y Ceffyl.
Ond pa help oedd ganddi hi iddi gael ei gwneuthur yn y ffurf yna. A ydwyt mor ddwl a thybied mai y Drol oedd y Saer a'i gwnaeth hi ei hun?

Y Baril.
Diolch iti am dy ddadl, yr hon sydd yr un mor rymus yn fy mhlaid i ag yw yn mhlaid y Drol. A ydyw “Rhesymeg Synwyr Cyffredin” yn dy ddysgu i ryddhau y Drol oddiwrth bob cyfrifoldeb am yr hyn ydyw hi, ond â'r un anadl i fy nal i yn gyfrifol am yr hyn ydwyf fi?


Y Ceffyl. Yr wyf fi o darddiad uwch na thydi a'r Drol.

Y Baril.
Yn hyn nac ymffrostia; canys nid tydi a wnaeth ragoriaeth rhyngot ag arall.

Y Drol. Y mae genyf un gair arall i'w ddweyd. Yr ydym, bellach wedi taflu y drwg oddiar ein hysgwyddau ein hunain a'i roddi oll ar ysgwydd y cwrw.

(x24)
 

Y Ceffyl. Wel, ai nid efe yw gwreiddyn yr holl ddrwg?

Y Drol a’r Baril.
Nage ddim.

Y Drol. Ewch yn mlaen, Faril; arosaf hyd oni orphenwch.

Y Baril. Na, chwi soniodd am y cwrw. Ar eich ol chwi, Madam.

Y Ceffyl. (o'r neilldu). Mor fuan yr ä tebyg at ei debyg - hyd yn nod pe byddent gorfforiad byw o ragrith!

Y Drol.
Yn awr ai cyfiawn y cyhuddiad yr hwn a ddygasom yn erbyn cwrw? Nage, meddaf; eithr, yn hytrach, y mae efe yn diangc yn yr un modd a ninau. Canys nis
gall yntau ei wneuthur ei hunan; ac felly yr wyf yn awgrymu mai y Darllawydd sydd yn gytrifol ac nid y Cwrw.

Y Baril.
Da y dywedaist, Drol. Y mae cwrw, o ran hyny, yr un mor ddieuog a ninau.

Y Ceffyl.
Nid wyf yn gweled y gellwch, er pob dyfais, osod y bai yn unig ar ysgwydd y Darllawydd. Oblegid pe na buasai pobl yn meddwi ni fuasai efe yn cael elw o ddarllaw, ac, felly, ni fuasai efe yn darllaw o gwbl.


Y Baril.
Gwir, cyn belled ag y mae yn cyrhaedd. Ond yr wyf fi yn gwybod fod rhywbeth heblaw meddwi yn cynnal i fyny y fasnach. Y mae miloedd, er peidio meddwi, yn yfed mwy o gwrw, nag y mae miloedd ereill er meddwi.


Y Drol.
Bid a fyno, yr ydym o'r un meddwi cyn belled â hyn, mai dynion ac nid nyni sy'n gyfrifol am y drwg.

 

Y Ceffyl a’r Baril. Yn hollol felly.


Y Baril.
Nid yn unig dynion sy'n gyfrifol am y gwaith sydd genym ni ac am ein bod ni yn y gwaith hwnw, ond hwynt hwy a wnant y gwaith yn ofynol. Oni bai fod dyn yn yfed y diodydd meddwol ni fuasai y fath fasnach yn y hyd.


Y Ceffyl. Da iawn. Ond gellir myned radd yn mhellach, ac y mae hyn yn galw i fy nghof hanesyn a glywais hen feistr i mi yn ei adrodd, pan oeddwn ebol bach.
Yn debyg i hyn yr adroddai efe: -
Y mae rhyw ymlusgiad yn ngwlad yr India Ddwyreiniol ag sydd yn un anhawdd iawn ei ladd. Yn gyffredin methu ei ladd y bydd pawb, ond y brodorion y maent

(x25)
hwy yn gwybod y ffordd. Er ei guro a'i dryllio byw fydd efe. Er tynu allan ei goluddion a'i dori yn ei ganol, byw fydd efe wedi'n. Ie, er tori ei ben hefyd a'i wneuthur yn ddarnau lawer bydd y creadur rhyfedd hwn yn fyw drachefn.


Y Drol.
Y mae hyny yn beth rhyfedd iawn.


Y Baril.
Efallai mai byw yn unig hyd fachludiad haul fydd efe?


Y Ceffyl.
Ni soniodd meistr ddim am “fachludiad haul.”


Y Drol.
Efallai nad oedd modd ei ladd, ac mai marw o hono ei hun wnai yr hen frawd.


Y Baril.
Wel, atolwg, Geffyl, beth oedd y dirgelwch?


Y Ceffyl.
Yr unig ffordd i'w ladd oedd torri dori blaen ei gynffon: o wneyd hyny byddai farw yn ddisyfyd, heb gynwrdd a'i goluddion nag ai ben.


Y Drol a’r Baril.
Dear mi!


Y Ceffyl.
Ond at hyn yr oeddwn yn cyfeirio: Y mae y Fasnach Feddwol yn debyg iawn i'r Ymlusgiad Indiaidd yna - yn un tra anhawdd ei lladd. Nid trwy guro mewn traethodau, ac nid trwy ddryllio mewn areithiau y mae rhoddi terfyn ar ei heinioes; nid trwy dyuu coluddion meddwdod allan o honi y bydd hi marw, chwaith; ac ni leddir hi er tori ei phen a chau y Darllawdy a'r Tafarndy. Pa fodd ynte y lleddir yr ymlusgiad meddwol?


Y Drol.
Trwy beidio –


Y Baril. (yn gorphen brawddeg y Drol}.
Yfed dim o'r cwrw.

Y Ceffyl. Ie, dyna'r dirgelwch, tori y gynffon; gwneyd ymaith â'r haner peint, ac â'r un glasiad, - yna bvdd i'r Fasnach ag yr ydym ni yn gaethion iddi, a'r Fasnach sv'n bygwth boddi y byd a diluw dinystr, - bydd i hon felly drengi yn ddisyfyd.


Y Drol.
Gwyn fyd na threngai hi heddyw!

 

Y Baril. Amen!

 

Y Ceffyl. Ac Amen!
(x26)
_______________­­­­­­­­­­­­_______________­­­­­­­­­­­­__

(=4) Y Neidr yn y Nyth
(I’w adrodd gan bedwar).

_______________­­­­­­­­­­­­_______________­­­­­­­­­­­­__

Cadeirydd.
Mae coeden lwyfan yn yr ardd,

Ag iddew am ei bôn yn hardd:
Hon leda'i gwraidd mewn daiar fras,

A'i changau yn y nefbedd las.

O foreu wawr hyd fin yr hwyr

Bydd melus gân o'i brigau gw^yr,

Gan adar mân - gantorion mawr –

Yn moli “Llywydd nef a llawr.”

Yr ucha' i gân o gôr y wig

Oedd bronfraith ar yr uchaf frig;
Caed nyth y fronfraith bêr ei llef

Yn môn y goeden lwyfan gref.

Bachgenyn oedd a gawsai'r nyth,

A nyth oedd hwn i'w gofio byth.

Ond John ei hun, a’i frodyr dri,

Gant ddweyd yr hanes wrthym ni

 

John.
Ddiwrnod Gwanwyn heulog,
.....Wrth dramwy trwy yr ardd,

Daeth arnaf awydd blysiog

.....Am gael ryw bethau hardd;
Meddyliais ar y fynyd
.....Gael wyau adar cun, -

Er fod y gwaith yn ynfyd
.....Yn ngolwg pobol hy^n.

James.
Nid ydwyf fi yn tybied,
.....A dweyd y gwir i ti,

Os tynir nyth aderyn
.....Gan blantos fel nyni --

William.
O “thybi” di yn amgen,
.....Hawdd peidio dwedyd dim,

Gan roi i John bob hamdden,
....Nes y gorpheno, Jim.

(x27) Cadeirydd.
Efelly fyddai oreu.

Robert (yn ddystaw}.
Siaradwn un ar unwaith,

.....Yn drefnus yn ei dro.

(Wrth y Cadeirydd }.
Na ddigiwch, Syr, wrth Jimmy, --
.....Ein i'engaf frawd yw o.

 

John.
I fyny yr un goeden,
.....Dau nyth a welwn i:
Y naill ar uchel gangen,
....Ry^ wan i'w dringo hi;
A'r llall yn môn y llwyfan,
.....Yn hawdda 'i gael erioed,

Yn dal tri wyau arian,
.....Gan addaw un i dd'od.

Yn ol y dreth arferol,
.....Thyn bachgen yr un w^y,

Os bydd y nyth yn weddoi
.....Ddiogel rhagddynt “hwy,”

Hyd nes bydd wyau bedwar
.....Yn gryno yn y nyth.

Ai tybed fod yr adar
.....I'w twyllo felly byth?

 

James.
Gadeirydd - Syr, boed imi --

Robert (yn ddystaw).
Taw, taw am dipyn bach.

 

William (yn uwch).
Bydd lonydd wnei di, Jimmy,

.....Neu rhoddaf di mewn sach!


John.

Mi welaf, Syr, fod awydd

.....I siarad arnynt hwy:
Eisteddaf i yn llonydd,
.....Heb ddwedyd mymryn mwy.

James.

Pan aethum I i weled
.....Y nyth a gawsai John,

Nis gellwch byth amgyffred

.....Y braw a ges i'm bron;
(x28) Disgwyliwn wei'd yr wyau
.....Yn dwt o fewn y nyth;
Ond neidyr amryw liwiau
.....Oedd yno 'n llygad-ruth!


Och! Syr, y dychryn gefais
.....Wrth estyn yno 'm llaw,

A theimlo rhywbeth oeraidd,
.....A chlywed chwyth di-daw!

Mi redais am fy hoedl
.....I'r fy yn union-syth,

Gan dori yno 'r ddadl
.....Am wyau yn y nyth.

William.

“Wel, Syr, mi aethum inau
.....I'r ardd i wei'd y nyth,

Ar ol i John a Jimmy
.....Am dano ddweyd eu trûth

Ac erbyn hyny wyau
.....Oedd yno'n ddigon siwr,

Cyn sicred â bod dagrau
.....Mewn ffynon lawn o ddw^r.


Ond nid yr wyau welwyd
.....Gan John, Syr, oeddynt hwy;
Eithr wyau'r neidyr enbyd,
..... (Eu 'n yfed y tri w^y

A welsai John i ddechreu)
.....Adaw'sai hi'n y nyth;
A churais hwynt yn dipiau,
.....Fel na welir mo'nynt byth.

Ond Syr, mae ofn y neidyr
.....Yn arw arnom ni!

A diolchem, fi a'm mrodyr,
.....Pe lladdai rywun hi.

Dych'mygaf wel'd oi cholyn,

.....A chlywod yma'i chwyth –

Wch! gweled y fath elyn
.....A neidyr yn y nyth.

Cadeirydd.

Wel; dyna'r hanes, Ond beth sydd

Yn addysgiadol er ein budd

Yn gorwedd yn yr hanes prudd?

(x29) John:

Meddyliwn i yn ddirgel,
.....Mae 'deryn, call oedd ef,

A wnaeth ei nyth yn uchel, -
.....Mor uchel tua'r nef:
Ni feiddiai'r neidr ddringo
.....Mor bell o'i lloches ddu;
Ac felly cafodd hwnw
.....Lonyddwch yn ei dy^.


Ond beth pe syrthiau'r cywion
.....O'r fath uchelder mawr?

Hwy fyddent oll yn feirwon
.....Ysgyrion ar y llawr!

William.

Gwir iawn; ond dylid cofio
.....Na fyddant hwy mor hyf

.....A mentro oddiyno

Cyn iddynt fagu plyf!

Robert.

Nid ydwyf fi ond diddysg,
.....Mewn pethau o'r fath hyn:
Ond tybiwn i fod addysg

.....Fel hon i'r neb a'i mhyn:-
Dinystria ordd y lleidr,
.....Sy gyngor goreu 'rioed;
Ond lloches braf i'r neidr
.....Yw iddew am y coed.


Cadeirydd.

Da iawn: mae'r naill a'r llall yn dda.

Mae dyn yn nghancl byd o bla;
Po nesaf gwnelo'i nyth i'r nef,

Diogelaf oll yr erys ef.

O anial daiar myrdd a ddaw

O gas elynion ar bob llaw;
Ac yn y cnawd mae chwantau fyrdd

Y dylem dori lawr eu ffyrdd.

Ar bechod yr esgorant hwy, -

Ehaid “lladd y neidyr yn yr wy.”

Hen neidyr fawr ein dyddiau ni

Yw 'r ddiod feddwol fawr ei bri:
Hon gerdd i dai prydfertha'n gwlad,

Yspeilia'n plant a'i marwol frad;
Hi ddring i'r aelwyd, - ddiddos nyth, -

A gedy yno'i gwenwyn byth.

A dyma 'n gwaith, a'n gwaith o hyd,

Sef, ymlid medd'dod maes o'r hyd!

 

(x30)

_______________­­­­­­­­­­­­_______________­­­­­­­­­­­­_______________­­­­­­­­­­­­

(=5) Pwy yw y Gw^r Boneddig?
(I’w adrodd gan ddyn ieuangc.}

_______________­­­­­­­­­­­­_______________­­­­­­­­­­­­_______________­­­­­­­­­­­­


Ar noson mor braf ag ydoedd hon, nid rhyfedd bod plant y pentref yn fawr eu stw^r yn chwareu â'u gilydd. Ac nid rhyfedd ychwaith os oedd ymhlith cynifer o blant, rai a wnaent yn anweddus ac angharedig â rhyw greadur o anifail, pe digwyddai un ddyfod heibio gan fyned ar ddisberod; neu, yn wir, a chreadur o ddyn os yn un drwg ei lun; ac yn enwedigol os yn ddrwg ei lun o herwydd yfed gormod o ddiod feddwol. Un felly, dyn - dyn yn feddw oedd yn destun gwawd i'r plant y noswaith hon. Ebai y bechgyn, y naill ar ol y llall, “Hoi, gwyliwch! mae draenog yn y clawdd yna, - hei, hai!” Yno yr oedd y dyn yn druenus ei gyflwr, a'i gefn ar y clawdd, yn rhy feddw i gerdded. Cyn hir mae y plant yn dechreu canu gwawd yn ei wyneb, ac wedi i'r blaenoriaid fyned tros y byrdwn rai troion, y maent un ac oll yn ymuno yn y gân, nes mae adsain eu lleisiau yn diaspedain uwch yr holl bentref.


Yr oedd aml i fam erbyn hyn wedi ei dwyn i ddrws y ty^, i weled beth oedd y mater; ond cyn i'r un fam ddyfod i wneyd ymchwiliad a oedd ei phlant hi yn cymeryd rhan yn y fath bleser gwaradwyddus, yr oedd geneth 15eg oed wedi rhedeg yn ddistaw bach i ganol y twr plant i geisio enill ei brawd oddi yno. “Edwin,” ebai hi wrtho, “paid, taw rhag cywilydd i ti! oni wyddost fod hwn'a yn w^r boneddig!” Nid atebodd Edwin iddi un gair, ond - clod iddo - fe aeth ymaith gyda hi yn ddirwgnach. Ond ar y ffbrdd, ymhen enyd fechan, yr oedd efo yn mwmian “’Gw^r boneddig’ wir! gw^r boneddig iawn!” Ac wedi myned o'r ddau i'r ty^, a chael yr aelwyd yn wâg, aeth yn ddadl rhyngddynt o barthed gw^r boneddig.

Gwnaiff Ifan a Catrin adrodd y ddadl oreu gallont.


Ifan. - Nid wyf yn medru gwoled, Catrin, pa hawl sy' gan ddyn fel y fo i'r teitl gw^r boneddig.

Catrin. - Wel, Ifan, mae o yn fab i Lord Lydan, ac felly rhaid bod ganddo ryw deitl.


Ifan. - Pa deitl sy' ganddo fe, dywed?

(x31) Catrin. - Fedra' i ddim dweyd yr enw, ond y mae ganddo ryw deitl hir.


Ifan.
- Wel, d'wedwn fod ganddo deitl: ond peth arall eto ydyw dweyd ei fod ef yn w^r boneddig. Fedrwn i yn fy myw ddeall sut mae neb yn w^r boneddig am fod ei dad yn foneddwr. Dyna Hugh Dafydd y teiliwr; teiliwr oedd efe a theiliwr ydyw efe yn awr; ond mae ganddo fab yn Berson, a dd'wedi di ddim fod y Person yn deiliwr am mai dyna yw ei dad?


Catrin. - Ië, ond nid yw hyny yr un fath â bod yn w^r boneddig. ’Does neb yn cael ei eni yn deiliwr --.


Ifan.
- Dyna fo, a dyna --.

Catrin. - Aros di, Ifan, i mi orphen, rhag i mi anghofio beth oedd genyf i'w ddweyd.

Ifan. - Wel, gorphen dithau.

Catrin.
- Ië, wel, ïe – wel yn wir yr wyf wedi anghofio - p'am na fuaset ti yn gadael i mi orphen!


Ifan.
- Dyna oeddit yn geisio ddweyd, “Na chafodd Hugh Dafydd mo'i eni yn deiliwr.”

Catrin.
- O, ïe. Nage! nage ddim, ond dweyd ‘nad oes neb yn cael ei eni yn deiliwr.'
Ond o ran hyny mae y ddau agos yr un peth. D'wedwn ynte fel yr wyt ti yn dweyd, - “Na chafodd Hugh Dafydd mo'i eni yn deiliwr.”


Ifan. - Wel, beth am hyny?

Catrin.
- Felly ni anwyd ei fab ’chwaith yn deiliwr!


Ifan.
- Aros di, Catrin, nid yw hyn'a yn sound.


Catrin.
- A dyna paham y mae ei fab ef yn Berson!


Ifan.
- Ha-ha-ha! tybed, Catrin?


Catrin. - Ti elli chwerthin, Ifan; nid wyf yn medru deall mater y teiliwr yma, ond fe gafodd y dyn yna ei eni yn foneddwr, wedi'n rhaid ei fod ef yn w^r boneddig; a pheth anweddaidd iawn oedd i ti a'r plant eraill wneyd sport o hono.


Ifan.
- Yr wyf wedi cyfaddef nad oeddwn yn fy lle wrth wneyd hyny; ond ni fuasem yn gwneyd fel yna â gw^r boneddig, Catrin, er gwaethed ydym.


C. - Dyaa hi eto! onid wyf yn dweyd o hyd mai gw^r
(x32) boneddig ydyw y dyn yr oeddit ti a'r plant yn ei amharchu?


Ifan.
- Onid wyf finnau yn dweyd o hyd mai nid gw^r boneddig ydyw? Nid oes genyt un rheswm yn y byd dros ddweyd ei fod yn foneddwr ond ei fod yn fab i foneddwr; ac nid yw hyny ond yr un peth â dweyd dy fod ti dy hun yn llongwr am mai llongwr yw 'nhad.

Catrin. - Pa fodd hyny ac yntau wedi ei eni yn w^r boneddig?


Ifan.
- Dyna lle 'rwyt ti yn dyrysu: nis ganwyd mo hono yn w^r boneddig, na neb arall mwy nag yntau.

Catrin.
- Yr wyt yn fy synu yn fawr. Yr oeddwn i yn meddwl yn siwr fod mab Lord Lydan yn foneddwr mawr. Ond a pheidio son am dano ef, dywed sut un ydyw y gw^r boneddig, a pha fodd mae myn'd yn foneddwr.


Ifan.
- Mi dd'wedaf i ti fel y bydd Dafydd Edward yn ein dysgu ni yn nghylch hyn yn y class ddydd Sul: -


Y mae gw^r boneddig bob amser, medd efe, yn un â'i air. Os rhydd ei air am rywbeth fe a'i cwblhâ. A wnaiff boneddwr ddim yn anheg nag yn wael â neb, - y mae yn rhy anrhydeddus i wneyd dim felly.

Catrin.
- Mi glywais Mam yn dweyd fod ’Nain wedi cael ei throi o Fferam Wen am fod ’fewyrth Ifan wedi fotio, neu wneyd rywbeth, yn erbyn y Meistr tir; a, medda mam, 'Pe base Mistar yn w^r boneddig fe fase dy Nain yn Fferam Wen heddyw.'

Ifan. - Dyna'r peth. Yr oedd mam yn gweled fod troi ’Nain allan o'r ffarm yn dro gwaol a brwnt; ac yr oedd Mam yn deall na wnaiff gw^r boneddig ddim tro gwael â neb; ac felly yr oedd hi yn penderfynu nad oodd ei Meistr yn foneddwr.

Catrin.
- Yr wyf erbyn hyn yn deall tipyn both sy'n gwneyd dyn yn foneddwr.


Ifan. – Fe fyddai Dafydd Edward yn sôn am both arall hefyd, ag yr oedd yn rhaid i ni ei goflo os oeddym am fod yn foneddigion. Ni wnaiff gw^r boneddig, medd ef, byth friwio teimlad neb yn fwriadol; y mae mor addfwyn a llednais, ac mor barchus o bawb; ac nid yw gyflym i ddigio a hwyrfrydig i faddeu. Pethau fel yna, mewn dyn sy'n ei ddangos yn w^r boneddig, Catrin; a thi wyddost dy hun nad yw y rhagoriaethau yna yn dyfod o waedoliaeth.

(x33) Mae y dyn cyffredin, os yw yn meddu ar y rhai'n, yn foneddwr cystal â'r dyn cyfoethog a theitlog, ac nid yw y dyn cyfoethog mwy na'r tlawd, os yn amddifad o'r nodweddau hyn a'u cyffelyb, yn w^r boneddig o gwbl.

Catrin. - Ond yr oeddwn i yn tybied fod eisieu bod yn ddysgedig hefyd tuag at fod yn foneddwr.

Ifan. – Yr oeddit yn meddwl yn lled gywir. Y mae addysg dda yn un o'r manteision goreu; a bod yr enaid heb wybodaeth nid yw dda; a'r doeth a ddeall hyn ac a chwanega addysg.


Ond mae yn bryd i ni fyn'd at ein gwersi; daw mam i'r ty^ yn ebrwydd a ninau heb ddechreu arnynt.

Catrin.
- Ydyw yn wir, Ifan bach; ac fe fydd Meistar yn flin os awn i'r Ysgol heb wneyd ein tasgiau. Paham na wnaiff efe, dywed, ein dysgu am w^r boneddig a phethau fel
yna?

Ifan. Tyr'd, Catrin anwyl; mae o yn gwneyd ei oreu wel'di. Wel edrych! Mae'r tân bob tamaid wedi diangc i'r ty nesaf!

 

(=6) Had Da yr Efengyl

Cydymddiddan rhwng pedwar - meibion neu ferched.

(Mat. 4. 26-30)

Jemima. - Testun ein hymddiddan yn bresenol, yr wyf yn credu, ydyw Dameg ein Harglwydd yn nghylch hau hâd Teyrnas nefoedd.

David. -
Ië, dyna'r pwngc yr ydym wedi cyfarfod i siarad yn ei gylch, a phwngc dyddorol iawn ydyw.

Mary. -
Ydyw y mae yn bwngc hynod ddyddorol, ac yr ydym yn sicr o gael llawer o bleser a boddhad wrth ei drafod.

Jemima. - A fyddwch gystal a darllen y ddameg, Jemima?

Jemima. -
Gwnaf hyny gyda phleser. “Ac efe a ddywedodd, Felly y mae teyrnas Dduw, fel pe bwriai ddyn hâd i'r ddaear, a chysgu, a chodi nos a dydd, a'r hâd yn hâd
(x34) egino ac yn tyfu, y modd nis gw^yr efe. Canys y ddaear a ddwg ffrwyth o honi ei hun; yn gyntaf yr eginyn, ar ôl hyny y dywysen, yna yr y^d yn llawn yn y dywysen. A phan ymddangoso y ffrwyth, yn ebrwydd y rhydd efe y cryman ynddo, am ddyfod y cynauaf.” Y mae yr holl amgylchiadau o dan ba rai y llefarwyd y ddameg hon yn llawn dyddordeb. Llefarwyd hi yn agos i ddechreuad gweinidogaeth gyhoeddus ein Harglwydd, pan yr oedd y bobi, yn rhyfeddu wrth ei athrawiaeth, yn ymdyru o'i amgyloh, ac yn dweyd mewn syndod – “Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn.”

David. -
Ac yr ydym yn darllen fod y dorf mor lluosog ar yr amgylchiad hwn, fel y bu gorfod iddo fyned i'r llong ar fur Galilea, a sefyll i fyny yno i siarad a'r gynulleidfa fawr oedd yn ymgasgledig ar y làn.

Mary. -
Gallwn feddwl wrth natur y damegion a lefarodd y pryd hyny, ei bod yr adog yr oedd yr amaethwyr wrth y gwaith o barotoi eu tiroedd ac yn hau eu hâd ar gyfer y cynhauaf dyfodol.

John. -
Yr wyf yn meddwl fod hyny yn wirionedd, oblegid yr oedd gan Grist ddull hapus o gymeryd i fyny bethau a gymerant le ar y pryd, a'u defnyddio i egluro ei wersi ysprydol. Gallaf ddychmygu ei weled yn sefyll ar fwrdd y llong, a thra yn taflu ei olwg ar y wlad eang a orweddai o'i flaen, iddo ganfod dyn yn taflu hâd i'r ddaear; a chan gyfeirio a'i fys at y dyn, a thra yr oedd llygaid y dorf yn edrych i'r un cyfeiriad, a ddywedodd, ”Welo hauwr a aeth allan i hau.”

Jemima. -
Pan y byddaf yn darllen y damegion prydferth hyn, byddaf yn ceisio darlunio i mi fy hun y fan y cawsant eu llefaru ynddo, a'r amgylchiadau cysylltiol a hwy. Ac wrth ddarllen y bedwarydd benod o Marc, byddaf yn dychmygu fy mod yn gweled y llong fach ar y llyn, Arglwydd y Bywyd ac Arglwydd y Gogoniant yn sefyll ar ei bwrdd, tra y mae y bobl wrth y canoedd, ïe y miloedd, wedi ymdyru ar y làn, a phob un o honynt yn awyddus i glywed geiriau yr hwn na lafurodd neb erioed yn debyg iddo; ac yr wyf yn dychmygu fod yr haul mawr yn taflu ei belydrau ar y dorf fawr, a pheri i donau chwarëus y môr ymddangos fel aur toddedig, tra yr oedd holl natur o gwmpas yn gwenu mewn prydferthwch, ceinder, a gogoniant.


(x35) David. - Y fath bleser sydd i'w gael wrth ddarllen am olygfeydd fel yna, a gwybod fod y gwirioneddau a lefarwyd y pryd hyny gan ein Harglwydd wedi cael eu trosglwyddo i ni yn Ngair y Gwirionedd er ein haddysg a'n hiachawdwriaeth.

Mary. -
Y mae dameg hâd da yr Efengyl yn meddu cyfeiriad at bethau yr ydym yn ddigon cyfarwydd a hwy.
Yr ydym wedi ymarfer a holl oruchwyliaethau ffermwriaeth - aredig y tir, hau yr hâd, a thori a chasglu y ffrwyth, amser cynhauaf.

John. -
Ac yr ydym wedi gweled yr holl gyfnewidiadau naturiol y sonia Grist am danynt; yr ydym wedi canfod yr eginyn yn tori allan trwy'r ddaear; yna yr ydym wedi gwylio tyfiant y gwelltyn wrth dyfu tuag i fyny ac ymgryfhau, ac yr ydym wedi gweled yr haf yn ei ogoniant, pan yr oedd y maesydd wedi eu llenwi a'r llafuriau gwerthfawr, a'r medelwyr yn brysur a'u crymanau yn tori i lawr werthfawr ffrwyth y ddaear.

Jemima. -
Ië, trwy bethau cyffredin fel hyn y galwai ein Harglwydd sylw y bobi; ac oddiwrth natur arweiniai hwy o ran eu meddyliau at Dduw natur, ac at y pethau hyny a berthynent i'w tragwyddol heddwch. Am hyny y dywedodd, - ”Felly y mae teyrnas Dduw, fel pe bwriai ddyn hâd i'r ddaear; a chysgu, a chodi nos a dydd, a'r hâd yn egino ac yn tyfu, y modd
nis gw^yr efe; canys y ddaear a ddwg ffrwyth o honi ei hun.”

David. -
Y mae genym yma, felly, gydmariaefh rhwng hâd a'r Efengyl, ac yr wyf yn cynyg ein bod yn awr i geisio gweithio allan y gydmariaeth, ac edrych pa debygolrwydd sydd i'w ganfod yn eu natur, gweithrediadau, a'u heffeithiau. Yn y bennod hon fe gydmerir yr Efengyl i ddau fath o hâd, hâd mwstard a hâd gwenith, ac y mae pob un o'r ddau yn hynod yn eu natur a'u gweithrediadau.

Mary. -
Y fath beth rhyfeddol ydyw hedyn! Byddaf weithiau yn meddwl am ei ddechreuad; ac i gael hyny allan, rhaid i ni fyned yn ol at greadigaeth y hyd, pryd y planodd yr Arglwydd “ardd yn
Eden o du y dwyrain.” Yn yr unfed adnod ar ddeg o'r bennod gyntaf o lyfr Genesis, yr ydym yn darllen, - ”Duw a ddywedodd, Egined y ddaear egin, sef llysiau yn hadu hâd, a phrenau ffrwythlawn yn dwyn ffrwyth, wrth eu rhywogaeth, y rhai y mae eu hâd ynddynt ar y ddaear: ac felly y bu.”

 

(x36)
John. -
Felly Duw a greodd yr hedyn cyntaf; a byddai i holl ddyfais unedig dyn fethu pe ceisient wneyd y fath beth. Yn yr ystyr yma y mae yn debyg i'r Efengyl, oblegid nid dyfais ddynol ydyw, ond efengyl fendigedig y bendigedig Dduw.

Jemima. -
Fel hâd, y mae yr Efengyl wedi ei hau yn nghalonau a chydwybodau dynion. Ac i'r dyben o wneyd hyn, fe aeth lesu Grist oddi amgylch i wneuthur daioni, a phregethu y newyddion da; no i'r dyben hyny yr anfonodd ef ei weinidogion i'r holl fyd i bregethu yr efengyl i bob creadur.

David. -
Ond fe hauir yr hâd da hwn trwy lawer o foddhau heblaw pregethu yr Efengyl. Hauir ef mewn llyfrau da, mewn traethodau crefyddol, cynghorion a cheryddon.

Mary. -
Y mae yna amserau a thymhorau priodol ag y dylid hau hadau, mewn trefn iddynt dyfu a chynyrchu ffrwyth; ac y mae yn ddyledswydd ac yn fanteisiol i'r amaethwr i wneyd ei hun yn wybyddus o'r amserau a'r tymhorau priodol i roddi ei hâd yn y ddaear.

John. -
Ac fel hyn y mae gyda hâd yr Efengyl. Ieuengctyd yw yr adeg fwyaf manteisiol i dderbyn hâd gwirionedd yr Efengyl, ac i'r dyben hyny y sefydlwyd ein Hysgolion Sabbothol, a thrwy y sefydliad gogoneddus hwn y mae miloedd wedi derbyn yr hâd, ac wedi dwyn ffrwyth ar ei ganfed.

Jemima. -
Y mae o'r pwys mwyaf ein bod yn defnyddio pob cyfleusdra i wasgar hâd da yr Efengyl; oblegid y mae Duw wedi dweyd, “Y bore haua dy hâd, a phrydnawn nac atal dy law.” Defnyddir llawer o ymadroddion yn yr Ysgrythyrau i osod allan Air Duw - megis dail, goleuni i'r tywyll, bara i'r newynog, a dwfr fel y rheda allan o'r graig i ddisychedu y gwefusau sychedig - ond nid oes yr un yn gosod allan Air y Gwirionedd mor briodol a hedyn. Er ei fod yn edrych yn sych a marw, y mae bywyd yn yr hedyn, fel y mae yna fywyd tragwyddol yn yr Efengyl.

David. -
Bydded i hedyn gael ei blanu wrth ochr y perl disgleiriaf yn y ddaear frasaf, a thra y bydd i un aros yn gareg o hyd, bydd i'r llall ddeffroi, rhwygo ei blisgyn, cyfodi trwy'r tir i addurno y ddaear a phrydferthwch, perarogli yr awyr a pherarogl, a chyfoethogi dynion a'i ffrwyth.

 

(x37)
Mary. -
Yr wyf wedi darllen iddynt gael gronyn gwenith wrth agor hen fedd Aiphtaidd yn ddiweddar, a chredid ei fod wedi bod yno am dair mil o flynyddoedd. Er yn gladdedig yr holl flynyddau hyn, yr oedd bywyd yu aros o hyd yn y gronyn hwnw; oblegid pan y planwyd ef yn y ddaear dygodd ffrwyth toreithiog.

John. -
Y mae yna y fath fywyd hefyd yn yr Efengyl. Bydd fyw pan y byddwn ni feirw - fel y dywedodd y Merthyr wrth farw, pan wedi ei rwymo wrth yr ystanc - “gellwch fy lladd i -
nis gellwch ladd y gwirionedd.” Ni bydd y gwirionedd byth farw. Gall cenhedloedd gael eu difetha - ymerodraethau eu dadymchwelyd, a theyrnasoedd eu difodi; ïe, gall yr haul syrthio, y lloer gael ei throi yn waed, a'r ddaear ei hun fyned heibio gyda thwrf, ond saif y gwirionedd byth heb 'sgoi - blagura niewn ieuenc-tyd tragwyddol, mor wyrdd a llawn o fywyd a'r gwanwyn, ac mor bur a'r eira yn salmon.

Jemima. -
Yn gladdedig yn y ddaear, nid yw yr hedyn yn aros yn ddifywyd. Gwthia ei ffordd yn mlaen, a chyda rhyw nerth rhyfeddol gwthia o'r neilldu bob rhwystr fo ar ei ffordd, ac ymddengys trwy'r tir yn eginyn prydferth a gwanaidd,

David. -
Gall y foson fochan gael ei ch irio gan y gwynt neu ei gollwng i agcn y graig gan aderyn, a thyf y fesen yna yn ddistaw nes y bo yn dderwen; a pharha i dyfu iies y galluogir hi o'r diwe.dd i godi y gareg o'i lle a dryllio y graig yn ddarnau.

Mary. -
Yn yr ystyr yna y mae yn arwyddlun priodol o Air Duw, yr hwn, ar ol iddo gael lle yn meddwl y pechadur, a'i faethu gan gawodau o'r nefoedd, a dyr y galon galetaf yn ddrylliau. “Onid yw fy ngair i megys tân? medd yr Arglwydd; ac fel gordd yn dryllio y graig?”

John. -
Mae'r gwirionedd yn allu ag nas gall dim ei wrthsefyll; caria o'i flaen bob rhwystr fo ar ei ffordd, a buddugoliaetha ar gynddaradd y gwynt a'r ystorm. Ymosodwyd arno gan ddynion drwg yn mhob oes, ond parha i fyw, tra y maent hwy yn pydru yn eu beddau. “Gwirionedd sydd allu, a llwydda.”

Jemima. -
Y fath beth bychan yw hwnw! (Dalia ronyn gwenith yn ei llaw). Ac eto byddai i'r un groyn hwn, pe heuid cynyrch pob tymor eilwaith, ymledu o faes i faes,
(x38) o wlad i wlad, o gyfandir i gyfandir, nes y byddai iddo mewn ychydig flynyddau orchuddio gwyneb yr holl ddaear a'i ffrwyth - gan roddi gwaith i bob cryman, llenwi pob ysgubor, a phorthi holl drigolion y ddaear!

David. -
Ni chymer y fath ddigwyddiad byth le mewn natur, ond gyda'r Efengyl bydd felly mewn gwirionedd. Bydd i bob gwlad gael ei hau a hâd yr Efengyl, a phob teyrnas ddwyn ffrwyth mawr er gogoniant i Dduw.

Mary. -
Ië, bydd i'r hedyn a darddodd allan yn Bethlehem ymledu dros rewllyd-leoedd ac anialdiroedd y byd; ac fel y mae pob diferyn o waed sy'n llifo yn ngwythïenau plant dynion yn brawf eu bod oll yn perthyn i'r un teulu, felly fe ddaw yr amser pan y bydd i drigolion pob gwlad a hinsawdd dderbyn yr un wir ffydd, ac ymddiried yn yr un Ceidwad.

 

John. - Am yr hau a'r medi yma y soniai y proffwyd pan yr ysgrifenai, “wrth edrych yn mlaen i'r dyfodol,- “Bydd dyrnaid o y^d ar y ddaear yn mhen y mynyddoedd: ei ffrwyth a ysgwyd fel Libanus.”

Jemima. -
Dysgir ni hefyd yn y dameg hon mai dyledswydd dyn ydyw paratoi y tir, hau yr hâd, a chasglu y ffrwyth; ond gallu Duw yn unig sy'n peri i'r hâd i dyfu;
nis gallai dyn beri iddo dyfu wrth sefyll uwch ei ben, ond rhaid iddo ymddiried mewn gallu uwch na'r eiddo ef. Gall ef gysgu a chodi nos a dydd, a thyf yr hâd i fynu ond nis gw^yr efe pa fodd.

David. -
Ar ol holl ymchwiliadau athronwyr,
nis gallant ddweyd pa fodd y mae yr hâd yn tyfu. Gallant sylwi ar y naill ffaith ar ol y llall; gallant weled y cyfnewidiadau, teimlo yr angen am haul a gwlaw; gofal a chysgod; ond tuhwnt i hyny nis gallant fyned.

Mary. -
Fel yr ydym yn gweled yr y^d yn tyfu, yn gyntaf yr eginyn, ar ol hyny y dywysen, yna yr y^d yn llawn yn y dywysen; felly y mae gyda crefydd; yr ydym yn sylwi ar y cyfnewidiad mewn dynion o un radd i radd arall - o un bywyd i fywyd arall - ond nis gallwn wybod pa fodd y mae yr effaith yn cael ei gynyrchu. “Nid trwy lu, ac nid trwy nerth, ond trwy fy yspryd, medd yr Arglwydd.”

John. -
Fel y mae mewn natur felly hefyd y mae mewn crefydd. Rhaid i ddyn hau yr had a gofalu yn dyner am y
(x39) planhigyn gwanaidd; ond fel y mae Duw anweledig yn gwnpyd I'r gwellt dyfu, felly y mae Duw anweledig yn maethu yr enaid, a blaendardda a thyfa planhigion crefydd, a blodeuant a ffrwythant mewn harddwch. Ac fel y mae un cnwd o wenith yn cynyrchu yr hâd i un arall, felly y mae yr Efengyl yn ffynu o genhedlaeth i genhedlaeth, ac y mae pob pechadur dychweledig yn dyfod yn foddion i wasgar yr hâd da i galonau eraill, y rhai yn eu tro a ddygant ffrwyth arall, ac felly y mae gair yr Arglwydd yn rhedeg ac yn cael gogonedd.

Jemima. -
Wrth ddiweddu, yr ydym yn cael ein dysgu ein bod yn ein holl ymdrechion i ddibynu ar Dduw, oblegid hebddo ef y mae dyn yn wanach na'r gorsen ysig; ond trwy ei fendith ni bydd ein hymdrechion yn ofer, ond dug ffrwyth lawer. “Bwrw dy fara ar wyneb y dyfroedd; canys ti a'i cei ar ol llawer o ddyddiau.” “Canys fel y disgyn y gwlaw a'r eira o'r nefoedd, ac ni ddychwel yno, eithr dyfrha y ddaear, ac a wna iddi darddu a thyfu, fel y rhoddo hâd i'r hauwr a bara i'r bwytawr: felly y bydd fy ngair, yr hwn a ddaw o'm genau! ni ddychwel ataf yn wag; eithr efe a wna yr hyn a fynnwyf, ac a lwydda yn y peth yr anfonais ef o'i blegid.” Isaiah 55. 10, 11.

David. -
Yr wyf yn meddwl na allwn derfynu yn well na thrwy ganu fy hoff Hymn; ac efallai y gwna yr holl gynulleidfa uno a mi.

 

.....................“O agor fy llygaid i weled

.......................Gogoniant dy arfaeth a'th air;

.....................Mae'n well i mi gyfraith dy enau

.......................Na miloedd o arian ac aur:

.....................A'r ddaear ar dan a'i thrysorau,

.......................Ond geiriau fy Nuw saif yr un;

.....................Y bywyd tragwyddol yw 'nabod

.......................Fy Mhrynwr yn Dduw ac yn ddyn.

 

(x40)

(=7) Heddwch a Rhyfel

I DRI O FECHGYN.
[Arthur a Dafydd yn dyfod yn mlaen.]


Arthur. - Wel, Dafydd, a welsoch chwi y review ar y milwyr ddoe?

Dafydd. - Na welais Arthur. Nid oes genyf lawer o flas at bethau felly.

Arthur. - Gallaf eich sicrhau fod yr olygfa yn un ogoneddus! Nid oes dim yn fy moddhau yn fwy na gweled y soldiers yn myn'd trwy eu hexercises. Gobeithio nad ydych chwi ddim yn anghymeradwyo pethau felly.

Dafydd. - I ddweyd fy meddwl yn blaen wrthych, y mae genyf wrthwynebiad cryf i bobpeth o'r fath yna. Nid wyf yn gweled angenrheidrwydd am y fath rodres a balchder; nid yw yn tueddu at ddim ond i gamarwain pobl ieuangc, a magu cariad at ryfel.

Arthur. - Wel yn wir! ac yn wir hefyd, 'rwyf yn gobeithio nad ydych yn un o'r creaduriaid digalon ac ofnus hyny a alwant eu hunain yn garwyr heddwch.

Dafydd. - Gelwch chwi hwynt y peth a fynoch, yr wyf yn union o'r un farn a hwy. Ni welais erioed eto fuddioldeb rhyfel, ond yr wyf wedi gweled y dinystr arswydus a wnaeth.

Arthur. - Mae'n debyg eich bod wedi cael gafael ar rai o hen resymau gwanwan ac ynfyd Cymdeithas Heddwch. Pe byddai i ni gario allan eu hegwyddorion hwy, fe fyddai genym fyd hynod mewn ychydig amser!


Dafydd. - Y mae hyny yn aros i gael ei brofi: mae genym brofion poenus o erchylldra rhyfel, ac nid yw ond teg i egwyddorion heddwch gael eu profi cyn eu condemnio.

Arthur. - Wel, mi fuasai yn dda genyf gael gwybod pa fodd y buasai y deyrnas hon yn codi i'w bri a'i mawredd presenol heb gymhorth ei byddin gref a'i llynges anorchfygol?

 

Dafydd. - Nid yw Prydain Fawr yn ddyledus am ei safle (x41) uchel i greulonderau rhyfel, ond i ryddid ei sefydliadau, a diwydrwydd ac anturiaeth fasnachol ei phlant; ac nid yw ein Brenhines yn cael ei chynal ar ei gorsedd trwy rym cleddyfau a bidogau, ond trwy deyrngarwch a pharch ei deiliaid.

Arthur. - Ond, ar ol y cwbl, y mae yna ogoniant mewn rhyfel; ac y mae enwau milwyr enwog wedi eu cario i lawr i ni gyda pharch, ac wedi bod yn destynau caniadau beirdd pob oes; ac y mae cofgolofnau wedi eu codi i fytholi eu henwogrwydd.

Dafydd. - Ac eto, gyda'u holl ogoniant a'u bri, nifer fach o honynt a fuont feirw o farwolaeth naturiol. Torwyd pen Cyrus gan wraig. Llofruddiwyd Philip o
Macedonia. Bu farw Alexander Fawr trwy wenwyn. Gwenwynodd Hannibal ei hun. Llofruddiwyd Pompey. O'r deuddeg Caesar, bu farw naw trwy drais. A bu Napoleon Fawr farw mewn alltudiaeth.

Arthur. - Ond edrychwch ar Duc Wellington yn ymddyrchafu mewn parch, yn byw i oedran teg, yn marw yn nghanol dagrau a galar ei wlad, ac yn cael ei gladdu mewn bri a gogoniant mawr.

Dafydd. - Nid yw hynyna ond eithriad i'r rheol gyffredin. Ond yn lle gadael i'ch dychymyg i aros uwchben yr hyn a alwch yn ogoniant rhyfel, ewchi faes y frwydr yn y nos, ac edrychwch ar y miloedd trueiniaid archolledig yn gymysg a chyrff meirwon eu cymdeithion, yn wasgaredig ar y ddaear laith a gwaedlyd. Y mae yna ryw swn heblaw seiniau peraidd cerddoriaeth: - yna fe glywch ocheneidiau y rhai fo'n marw a gwaedd dorcalonus y gweddwon a'r amddifaid.


Arthur. - Mae hyny yn wir; ond
nis gellir osgoi y pethau yna. Maent yn ganlyniadau naturiol rhyfel.

Dafydd. - Ond symudwch yr achos, a bydd i'r effaith beidio. Ystyriwch fel y llosgir ac yr yspeilir dinasoedd a threfydd, y dinystr a wneir ar ffrwythau y ddaear, y golled ar eiddo, a'r modd yr aberthir miloedd o fywydau diniwaid. A ydych yn meddwl fod enill tiriogaeth neu ogoniant rhyfel yn ddigon i ad-dalu am y pethau hyn?


Arthur. - Nid wyf yn dweyd eu bod. Ond os bydd i bobloedd a chenhedloedd wrthryfela ac ymosod, rhaid eu cospi.

Dafydd. - Rhoddwch iddynt ryddid gwladol a chrefyddol, a
(x42) bydd gwrthryfel yn anadnabyddus. Gellid atal y pethau hyn am lawer llai o arian nag a werir mewn rhyfel. Dywedodd un athronydd unwaith, “Gadewch i mi gael yr arian a wariwyd mewn rhyfel, a phrynaf bob troedfedd o dir ar y blaned ddaearol i gyd. Gwisgaf bob dyn, gwraig, a phlentyn, mewn dillad teilwng o frenhinoedd a brenhinesau. Adeiladaf ysgoldy ar lethr pob bryn,ac yn mhob pentref trwy'r byd. Adeiladaf golegdy yn mhob tref, a gwaddolaf ef; athrofa yn mhob sir, a'i llenwi ag athrawon cymwys. Coronaf bob bryn a lle addoliad; a chynaliaf yn mhob pwlpud bregethwr galluog; ac ar bob boreu Sabboth bydd i sw^n addoliad ateb sw^n addoliad o gylch y byd; a bydd i lais gweddi fel sw^n taranau lawer esgyn fry i'r nef yn aberth moliant y bydysawd.”

Arthur. - Yn wir, fy nghyfaill Dafydd, yr ydych yn myn'd yn ddoniol iawn; ond pa ddyben sôn am beth nad oes gobaith y cyflawnir ef byth. Y mae rhyfel wedi arfer bod o'r dechreuad, a rhyfel a rhyfeloedd a gawn hefyd tra bo'r byd yn fyd.

Dafydd. - Peidiwch myn'd yn rhy gyflym Arthur. Hyderaf nad ydych yn gwadu gwirionedd y Beibl. Oblegid os credwn y llyfr hwnw, rhaid i ni gredu mewn amser heddwch, pan y bydd i bob dyn ganfod yn ei gyd-ddyn gyfaill a brawd; rhyfel, gyda'i afonydd gwaed, ni bydd mwyach; pan y dysgir march ffroenuchel rhyfel i gyflawni gwell gwaith na sathru dynion i'r ddaear; pan y bydd y môr mawr llydan yn brif-ffordd y cenhedloedd i dramwyo ar hyd-ddi a chyfnewid cynyrchion eu diwydrwydd; a phan y troir y cleddyfau yn sychau, a'r gwaewffyn yn bladuriau.

Arthur. - A ydych am i ni anfon ein milwyr i'w cartrefleoedd a thynu i lawr ein hamddiffynfeydd?

Dafydd. - O nag ydwyf. Nid oes genyf wrthwynebiad i ryfel amddiffynol. Mae yn ddyledswydd ar bob gwlad i fod yn alluog i amddiffyn ei hun rhag gelynion estronol. Gwrthwynebu rhyfel ymosodol yr ydwyf. Dinystria fasnach, coda brisiau angenrheidiau bywyd, gosoda drethoedd trymion, a thloda yr holl boblogaeth.


[Frank yn dyfod yn mlaen.]

 
Arthur. - O! dyma Frank. Pa fodd yr ydych heno?

 

Frank. - Yr wyf yn iach, diolch i chwi. Y mae arnaf ofn fy mod yn eich rhwystro yn eich ymddiddan.

(x43) Dafydd. - O nag ydych mewn modd yn y byd. Y mae Arthur a finau mewn tipyn o ddadl, ac efallai y cydsyniwch i'n cynorthwyo i ddyfod i rhyw benderfyniad.


Frank. – ’Rwyf yn eithaf boddlon. Pa beth yw testun eich dadl?

Arthur. - Y mae Dafydd wedi bod yn siarad yn hyawdl yn erbyn rhyfel, ac yn ceisio fy mherswadio fod amser i ddyfod pan y bydd heddwch yn gyffredinol.


Frank. – Yn yr ystyr yna, y mae yn hollol gywir. Os credwn y Beibl rhaid i ni gredu hyny. Y mae'r amser yn sicr o ddyfod pan y cyhoeddir newyddion da yr iachawdwriaeth yn mhob gwlad; pan y dadblygir baner y groes ar bob bryn, ac y dylifa y bobloedd ati; pan y coronir pob bryn a theml i Dduw, ac yr una pob gwlad i ddathlu cân i'r Gwaredwr cu; pan na bydd i genedl godi cleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach.

Dafydd. - Gobeithiaf eich bod yn sefyll dros gael heddwch yn yr oes hon.

Frank. – Yr wyf yn credu mewn heddwch a rhyfel.

 

Arthur. - Sut felly.


Frank. – Yr wyf yn dadleu dros heddwch rhwng dyn a Duw, a rhwng dyn a dyn; ond ar y llaw arall yr wyf yn dadleu dros ryfel; mewn gair, yr wyf yn filwr fy hun.

Dafydd. - Yn wir! y chwi yn filwr ac yn dadleu dros heddwch!
Nis gallaf weled llawer o gysondeb yn hyny, yn sicr i chwi.


Frank. – Credaf y cyfnewidiwch eich barn cyn y bydd i ni derfynu ein hymddiddan.

Arthur. - I ba fintai y perthynwch?


F. - Mintai gyntaf y Gwirfoddolwyr, y fintai ardderchocaf a safodd erioed ar faes y frwydr.

Dafydd. - Rhaid eich bod yn camgymeryd. Ni chlywais erioed am y fath fintai.

Arthur. - Na finau chwaith. Pwy yw eich cadben?


Frank. – Y Cadfridog mwyaf gwrol a arweiniodd fyddin erioed. Nid yw eto wedi colli yr un frwydr. Mae buddugoliaeth yn sicr i'r rhai a ymladdant o dan ei faner.

Dafydd. - Mae arnaf ofn eich bod yn gysylltiol a rhyw gydfradwriaeth ddirgel.

(x44)  Frank. – Nag ydwyf yn wir. Yr ydym yn awyddus am gael yr holl fyd atom ond iddynt ’listio a ni. Yr wyf newydd dderbyn comisiwn i restru milwyr, a chan eich bod yn ddau ddyn ieuaingc cyfaddasol, byddai yn dda genyf eich ’listio chwi. Dewch yn awr, gadewch i mi roddi i chwi y bounty!

Arthur. - Rhaid i mi wybod mwy am y peth yn nghyntaf.

Dafydd. - Ni fynwn er dim ddiraddio fy hun trwy gefnogi y fath symudiad.

Frank. – Sicrhaf chwi fod y gwasanaeth y mwyaf anrhydeddus yn yr holl fyd.

Arthur. - Wel, dangoswch i ni eich comisiwn ynte.

 

Frank. – [Yn rhoddi iddo ddarn o bapur]. Dyma fe.

Arthur. - [Yn darllen] - “Ewch i'r holl fyd a phregethwch yr Efengyl i bob creadur.”

Dafydd. - Ond adnod o'r Beibi yw hona.


Frank. – Ie, dyna ydyw. Y Beibl yw ein deddf-lyfr. Iesu Grist yw ein cadben. Mae ein harfogaeth yn gyflawn a pherffaith. Mae y gyflog yn dda; a'r gwasanaeth yn anrhydeddus. Brawdoliaeth heddwch ydyw, ond mewn rhyfel a satan, acyn ymladd yn erbyn drygioni, eilun-addoliaeth, cyfeiliornad, ofergoeledd, caethiwed, a phobpeth ag sydd yn darostwng a dinystrio dynion. Yr ydym yn amcanu at goncro y byd. Ein harwyddair yw, “Y byd i Grist.” Ac er y gall y rhyfel fod yn faith ac yn boeth, y mae y fuddugoliaeth yn sicr; oblegid fe ddaw teyrnasoedd y byd yn eiddo ein Harglwydd ni, a'i Grist ef; ac efe a deyrnasa yn oes oesoedd.

Dafydd. - Gan fod eich amcanion mor glodwiw a heddychol, yr wyf yn dymuno i chwi bob llwyddiant.

Arthur. - Pwy a ddywedasoch oedd eich cadfridog?


Frank. – Tywysog heddwch, Brenin y brenhinoedd, ac Arglwydd yr arglwyddi. Darfu iddo Ef ei hun goncro lluoedd uffern, ac yn awr Efe yw Cadben y fyddin Gristnogol. Mae yn rhoddi bounty; a gwobr ogoneddus ar ddiwedd yr ymdrech. Dowch, unwch â ni.

Dafydd. - Beth ydych chwi yn ddweyd, Arthur.


Arthur. - Unaf a'm holl galon!

(x45) Dafydd. - Yna bydd i ni anghofio ein anghydwelediad o berthynas i ryfeloedd teyrnasoedd, a thaflu ein hunain o lwyrfryd calon i achos mawr lledaeniad trais, gormes, a thwyll.


Frank. - Dyna ddewisiad ardderchog! Rhaid i chwi ddyfod at y Cadfridog, a rhoddi am danoch arfogaeth y fyddin, a pharotoi i ymladd yn wrol frwydrau yr Arglwydd.
A gadewch i ni ganu cyn ymadael un o'n caneuon dewisol.


....................“Mae'r Brenin yn y blaen,

.......................’Rym ninau oll yn hy;
....................Ni saif na dw^r na thân

.......................O flaen fath arfog lu:
...............Ni 'awn, ni 'awn dan ganu i'r lan,

...............Cawn wel'd ein concwest yn y man.”

 

(=8) Y Creadur Symudliw
(Evan ac Owen yn cyfarfod.)

Evan. - Prydnawn da i chwi, Owen Jones.


Owen. - Felly i chwithau, Evan Morgan.

Evan. -
Yr ydych wedi bod yn rhodio, debygwyf.

Owen. -
Ydwyf; ac yn sicr i chwi, nid yn aml yr wyf wedi mwynhau fy
hunan gystal.

Evan. -
Wel, yr un modd finau hefyd. Mae y tywydd mor hyfryd, fel mae’n anhawdd peidio bod wrth ein bodd, onid yw hi?

Owen. -
Eithaf gwir, fy nghyfaill. Ond pa le y buoch chwi yn rhodio, gyda’ch cenad? A fuoch chwi ar lan yr afon yn ddiweddar?

Evan. -
Dyma y cyfeiriad gymerais i heddyw.

Owen. -
I lawr tua’r bont?

Evan. -
Ië; ac yna drwy y coed.

Owen. -
Beth! yr ydym eill dau wedi bod yn yr un cyfeiriad, y mae’n debyg.

Evan. -
Ac yna i lawr tua’r llyn.

(x46) Owen. - Ië. Ond a ddarfu i chwi sylwi ar yr hen goeden yn agos i’r llwybr?

Evan. -
Yr un bron a syrthio?

Owen. -
Ië. Mi welais ryw greadur rhyfedd ar un o’r ceingciau; creadur na welais erioed ei fath o’r blaen.

Evan. -
Wel, dyma hi! bum inau yn sylwi
arno. Yr oedd iddo gorff gweddol o hir.

Owen. -
Ië, hir a main, yn debyg iawn i fadfall.

Evan. -
Pen yn debyg i eiddo pysgodyn, onide?

Owen. -
Gwir. A thafod fel tafod neidr.

Evan. -
Dyna chwi yn iawn i’r dim. Troed a thair ewyn.

Owen. -
A chynffon hir anghyffredin i greadur mor hynod o fach.

Evan. -
Yr un yn gywir! ac yn symud yn araf iawn, os darfu i chwi sylwi.

Owen. -
Yr ydych yn berffaith iawn. A’i liw yn lâs, glâs goleu, onide?


Evan. – Ha! dyna gamgymeriad yn awr, fy anwyl gyfaill. Gwyrdd oedd ei liw, gyda’ch cenad.

Owen. - Ond fy anwyl gyfaill, gallaf sicrhau i chwi mai glâs oedd lliw y creadur.

Evan. -
Glâs yn wir! fy nghyfaill anwyl i, paham na fuasech yn sylwi yn fanylach fel y darfu i mi? cymerwch fy ngair i mai gwyrdd oedd e’n sicr i chwi.

Owen. -
Gwyrdd! gwyrdd, yn wir! mi wn Evan beth yw gwyrdd, ac mi a wn beth yw glâs, a gallaf ddweyd yn ddibetrus mai glâs oedd ei liw, a dyna i chwi!

Evan. -
Beth sydd ar y dyn, dywedwch?


Owen. -
Dyn, yn wir! cystal dyn a chwithau!

Evan. -
Nid yn hyn o bwngc, beth bynag, canys yr wyf yn ddigon o ddyn i sicrhau mai gwyrdd oedd y creadur, yn ngwyneb unrhyw greadur, a dyna i chwi.

Owen. -
Creadur! wel, galwch fi yr hyn a fynoch; yr wyf yn dal i haeru mai glâs oedd efe.


Evan. -
Nage, gwyrdd.

Owen. - Nage, glâs!

(x47) (Morgan yn dyfod i fewn.)


Morgan. - Beth sy’n bod, gyfeillion, beth sy’n bod? beth yw’r holl ddadlu yma sydd rhyngoch?


Owen. -
Glâs! mi fynaf mai glâs oedd e.


Morgan. -
Beth oedd yn lâs?

Evan. -
Gwyrdd! yr wyf yn d’wedyd gwyrdd!


Morgan. -
Ië; ond beth oedd yn wyrdd?


Owen. -
Gwyrdd, yn wir! yr ydych wedi ynfydu.

Morgan. -
Dewch, dewch; dyweded un o honoch am beth yr ydych yn dadlu.

Evan. -
Ynfydu neu beidio, gwyrdd oedd e.


Morgan. - Beth oedd efe? dewch; peidiwch bod yn chwerw fel yna, ond dywedwch beth sydd genych chwi mewn dadl, yn awr?

Owen. -
Beth! ond y creadur lawr yna.

Morgan. -
Ar yr hen goeden?


Y ddau. - Ië, dyna fo.

Morgan. - Yn debyg i fadfall.


Y ddau. - Ië.


Morgan. – Beth! yn awr y bum yn sylwi
arno.


Evan. - Dywedwch y gwir yn awr, onid gwyrdd oedd ei liw ê?

Morgan. -
Gwelais ef yn wyrdd, mae’n wir.

Evan. -
Dyna Owen Jones; ble’r mae’r glâs genych yn awr, dywedwch?

Owen. -
Aroswch fy nghyfaill anwyl i; onid glâs oedd efe? gadewch i ni gael y gwirionedd yn awr.

Morgan. -
Mi a’i gwelais hi yn lâs hefyd.


Y ddau. - Ho! ho! dyna wawd yn awr.

Morgan. -
Dim mewn modd yn y byd, gyfeillion,


Y ddau. - Eglurwch, ynte.

Morgan. -
Yr ydych yn iawn eich dau.

Owen. -
Pa fodd mae hyny yn bosibl?

Morgan. -
Goddefwch i mi egluro i chwi.

(x48) Y ddau. - O’r goreu.

Morgan. -
Chameleon yw y creadur a welsoch chwi.

Owen. -
Wel, beth am hyny?

Morgan. -
Ac yn alluog i newid ei liw.

Evan. –
Ho!

Owen. -
Ha!

Morgan. -
Yn awr y mae yn wyrdd, yna yn lâs, ac yna yn ddu, yn ol lliw y goeden y byddo arni.

Evan. -
Wel, mor ffol!

Owen. -
Pwy sydd yn ffol?

Morgan. -
Y naill fel y llall, fy nghyfeillion i.

Evan. -
Dyna yr oeddwn yn myned i ddweyd.

Morgan. -
Felly gyfeillion, chwi welwch yr angenrheidrwydd o fod yn ofalus iawn cyn syrthio i ddadl. Pan glywoch ddynion yn ymgecru a’u gilydd mewn dadl, gellwch benderfynu fod un os nid y ddau, heb ddeall yn lawn yr hyn ag sydd ganddynt mewn llaw.

Owen. -
Yn gywir fel Evan a finau.

Morgan. -
Wel, mae’n dda genyf eich bod mor barod i wel’d y cymwysiad.

Evan. -
Mae hyny yn rhwydd iawn mi welaf.

Morgan. -
Da iawn. Ond prydnawn da i chwi eich dau mae yn rhaid i mi eich gadael.

Owen. -
Aroswch; yr wyf yn d’od gyda chwi.

Evan. -
Peidiwch myn’d cyn ysgwyd dwylaw.

Owen. -
Gyda phleser. Prydnawn da i chwi.

Evan. -
Prydnawn da Owen, ac i chwithau Morgan.

 

(x49)

(=9) Sgweiar y Berw

(Dipyn yn llafar Mon.)


HUGH LLWYD oedd ei enw yn iawn,

A llwyd o’r braidd oedd ei gymeriad,

A llwyd mewn gwirionedd ei wedd,

Ond tipyn yn goch oedd ei lygad;
Ei ddiod ef hefyd oedd goch,
A’r un lliw ydoedd ei wyneb,
‘N enwedig ei drwyn a’i ddwy foch,
Yn union yn ol y ddiareb.

Adwaenid e’n dda gan y plant,

A galwent e’n “Sgweiar y Berw:”

Yn Sgweiar, am iddo gael stâd

Ryw fodryb ar ol iddi farw;
A Sgweiar y Berw, bid siwr,

O herwydd ei fod ef yn bwyta

Gwerth dimai o ferw y dw^r,

‘Rol codi o’i wely’r peth cynta’.


“Hen lanc” canol oed ydoedd ef,
A’i hon alwedigaeth oedd “Porthmon;”
“Hen ferch” oedd yn cadw ei dy^,
“Hen lencyn” oedd hefyd ei “ hwsmon;”
Yn fferam ei stâd ‘r oedd yn byw,-
A fferam dda iawn yw hi hefyd;
Ond collodd y Sgweiar ei stâd,

A dyma oedd dechreu ei adfyd.


Ond y fel ei stâd, ebai nhw,

Ei hyfed wnaeth Sgweiar y Berw,

Yn mharlwr ty^ tafarn “Y Blaidd”

Ei hyfed mewn licar a chwrw:
Bob nos fel y delai yr hwyr.

Fan hòno y gwelid ef wrthi

Yn gwagio ei boced yn llwyr,

I dalu am ddwyn arno dlodi.


(x50) Pan oedd efe’r porthmon, Hugh Llwyd,

Ef elai i’r Eglwys ar brydiau;
Ond wedi cael meddiant o’r stâd,

Fe dorodd ei grefydd yn dipiau:
Ar foreu y Sul byddai’n awr

Yn aros yn hwyr yn ei wely;
Ond byddai, mae’n wir, yn bur hwyr

Nos Sadwrn yn myned i gysgu.


Nos Sul wedi myned o’r bobl

I Eglwys y Plwyf a’r Capeli,

Ymdeithia’r Ysgweiar yn nobl

I ganol y casgiau a’r poteli:
Pan mae ei gym’dogion yn myn’d

I chwilio am ddyfroedd i’r enaid,

Yn mharlwr “Y Blaidd” mae y ffrynd

Yn yfed wrth ford y gwatwariaid.


Bu’n byw yn ei ffarm yn o hir

Fel tenant, ar ol iddo ‘i gwerthu;
Ond haner ei phris oedd am fîr

Er’s tro yn ddyledus i’w dalu:
Ni chafodd ond haner yr aur,

Bu hyny yn ormod i’w gadw;
A chwim yr ehedodd pob darn

O ddwylaw Ysgweiar y Berw.

Nid yfed y cwbl wnaeth ef,

Oblegid, pan fyddai mewn cwrw,

Fe ranai ef ddiod mór gref,

A thalai, heb ofyn na thwrw;
A rhoddi i’r Sgweiar y gwir,

Ni byddai ef dranoeth yn holi

I b’le byddai’r aur wedi ffoi, -

A chaffai am hyny ei foli.


Daeth ar ei wir ffryndiau ef ofn

Mai gwario ei stock wnai yn fuan,

A rhedeg i ddyled ry ddofn

I godi o honi, y truan;
Dechreuodd yn wir ar y gwaith,

A gwerthodd rai o’r anifeiliaid:
Ysywaeth, y gwlanog o’r da,

Ar adeg cyfebriad y defaid.

(x51) Yn awr mae yn debyg ei lun

I ddafad yn myned i’r lladdfa;
Ond myned mae’r Sgweiar ei hun,

O’i wirfodd, i lawr y lithrigfa;
Y ddiod galedodd ei wàr,
Y ddiod a’i rhoddodd mewn rhwydau,
Y ddiod a’i rhwymodd yn dyn
Yn rhaffau anwiredd ei nwydau.

Bu llawer o geisio ei gael

I lawnodi’r ardystiad Dirwestol;
A byddai yn addaw yn hael

Dan effaith y ddiod sy’ feddwol;
Ond dranoeth, er addaw mor deg,

I’r dafarn äi e’n ol ei arfer,

A’r gobaith am dano, fel niwl,

Ddiflanai gan fyned yn ofer.


Nid ofer er hyny a fu

Ymdrechion a chymhell diderfyn:
Meddyliau am dano oedd fry,

I’w gipio o’r tân fel pentewyn;
Cyndynrwydd ei galon fel iâ,

A doddodd yn ffrwd edifeiriol,

Mae heddyw yn ddewr Demlydd Da

A milwr dan arfau Dirwestol.

Ei ydlan sy gyflawn o y^d,

A’i faesydd o iach anifeiliaid;
Yn awr ni chymerai mo’r byd

Am yfed mewn licar ei ddefaid;
Er colli ei feddiant o’r stâd
A gwario ei gwerth o aur melyn,
Adferwyd ei barch yn ei wlad
A llwyddiant y byd sy’n ei ddilyn.

Ond, mwy na mawr werth India bell,

A mwy na’r holl fyd yn ei gyfoefh,

Enillodd hen aur y wlad well,

Sy’n prynu doethineb i’r annoeth:
Nid ydyw yn yfed yn hwy,

Gan foddi ei enaid a chwrw, -

Cenhadwr Dirwestol ei Blwy’

Yn awr ydyw Sgweiar y Berw.

(x52) Mae’n rhoddi y Sabboth i’r Hwn

A’i rhoddodd yn fendith i ddynion;
Mae wedi cael “lle yn ei dy^,”

Gan brofi o’i rad addewidion;
Ei grefydd sydd iddo yn awr

Yn gyflawn o’r puraf gysuron,

A’i obaith a’i hyder yn fawr

Am gwbl adferiad ei galon.

Mae’n awr wedi dyfod yn w^r

Ac wedi ei deitio o newydd:
Ei deitl yw “Sgweiar y Dw^r
Ac ynddo mae’n hynod o ddedwydd.
Anghofier y llwybrau oedd gynt,
Anghofier y licar a’r cwrw,
A rhodder o’r galon rwydd hynt,
I’r proselyt Sgweiar y Berw.

 

(=10) Y Clarc Gonest

[PERSONAU: - Shopwr a'i Glarc. Y Shopwr yn sefyll, ac yn agor llythyrau. Y Clarc yn eistedd wrth y bwrdd.]


Shopiwr. - [Wedi darllen y llythyr.] Mae masnach yn hwylus anghyffredin. Digon o holi am goods, a digon o goods i gyfarfod a phob holiad. [Darllen llythyr arall.] Halo! dyma dro lled chwithig yn awr. Dyma dipyn o ddyryswch yn wir! mae John Thomas o'r Fron yn holi am y goods a ordrwyd er's wythnosau yn ol, a finau heb eu danfon. Un go dyn yw John Thomas, ac mae'n rhaid i mi edrych ato, onide, fe fyn e’ y ffyrling eithaf. ’Does dim i wneyd ond ei ateb, a haeru fod y goods ar y ffordd. William! [Yn troi at y Clarc,] mae John o'r Fron wedi ysgrifenu ataf, ac yn dweyd fod y goods a ordrwyd ganddo heb eu derbyn eto. Atebwch ef ar unwaith, a d'wedwch eu bod ar y ffordd cyn derbyn ei lythyr.


William. - A fyddai hi yn iawn i ddweyd hyny, Meistr?

 

Shopwr. - Yn iawn? pa'm ych chwi'n gofyn y fath beth?

(x53) WILLIAM. - Wel, Syr, -

Shopiwr. - Peidiwch fy syrio i, Syr. Gwnewch beth yr wyf yn ei dd'wedyd wrthych.
 
William. - ’Dalla i ddim, yn wir, Syr.

Shopiwr. - ’Dallwch chwi ddim, Syr! Pwy yw'r meistr, gyda'ch cenad?

William. - Chwi, Syr.


Shopiwr. - Ië; fi yw'r meistr, a gwnewch yn ol fy nghais i yn y fan, onide -

William. - Maddeuwch i fi, Syr, mae'n well gen i gymeryd y canlyniad na'i wneyd e'.

Shopiwr. - A ydyw yn well genych golli eich lle nac ufuddhau imi?

William. - Mae'n well genyf golli fy lle na dweyd anwiredd.

 

Shopiwr. - Pa anwiredd?

William. - Dweyd fod y goods wedi myn'd, a'r goods yn yr yard ar yr un pryd.

Shopiwr. – [Yn troi at y bobl.] A glywodd rhywun y fath siarad o'r blaen, tybed? os ä ein clarcod mor dyner eu cydwybodau a hyn, fe aiff masnach i'r domen cyn bo hir. [Yn troi at William.] William, chwi gewch bum munud i ystyried y peth. Gwnewch eich meddwl i fyny yn awr, canys yr wyf fi yn benderfynol o fod yn feistr ar fy nglarcod. [Yn myned allan.]

William. - Wel, beth ddywed mam yn awr, tybed? byddaf yn sicr o golli fy lle. Nid wyf yn hidio am fy hunan gymaint, ond mae mam yn sicr o wel'd eisiau fy nghyflog i. Dyna sy'n myn'd at fy nghalon i. Fy mam yn dyoddef eisieu! ond ’rwyf yn sicr y bydd mam yn fwy boddlon i mi golli fy lle na cholli fy nghymeriad. Hi sydd wedi fy nysgu i ddweyd y gwir. Mi fentraf, doed a ddelo. Mi af oddiyma a'r galon yn dawel, beth bynag; ac mi gredaf, fel mae mam wedi wedi dweyd yn aml, fod yna un a saif o blaid y gwan.


Shopiwr. - [Yn dyfod i mewn] - Wel, William, a wnaethoch chwi eich meddwl i fynu?

 

William. - Do, Syr.

 

Shopiwr. - Wel, a ydych yn barod i ufuddhau?

(x54)
William. - Ydwyf, Syr, fel y gwyddoch fy mod i yn wastad.


Shopiwr. - O'r goreu, William, atebwch y llythyr yna yn union fel y gorchymynais i chwi.


William. - Rhaid i mi ddweyd “Na wnaf” i hynyna, yn wir Syr.

Shopiwr. - Beth! ond yn awr yr oeddych chwi yn dweyd y buasech yn ufuddhau i mi.

William. - Gwnaf hyny, Syr, yn mhob peth ond dweyd anwiredd.

Shopiwr. - Wel, William, rhaid i mi gyfaddef mai chwi sydd yn iawn, a thra y byddoch chwi yn glynu i ddweyd y gwir, nid oes achos i chwi ofni colli eich lle.

[Yn troi at y bobl.] Nid yn aml y ceir bachgen yn foddlon i golli ei le yn hytrach na dweyd anwiredd, ac wedi cael y fath un, mae'n well codi yn ei gyflog na'i golli. Mae'n dda genyf fod un yn fy ngwasanaeth y gallaf ymddiried ynddo. [Yn mynd allan.]


William. - Dyma wers fy mam yn talu ei ffordd yn rhagorol. Mi a af ati yn awr i ddiolch iddi, canys hi sydd yn haeddu y clod i gyd.


(=11) Rhannu’r Deisen

(I ddwy ferch ac un bachgen.]


Frances. - A wyddoch chwi beth, Mary? mae dime gen i, fy merch i.


Mary. - Ac mae gen inau ddime hefyd.

Frances. - Beth brynwn ni, dywedwch?

Mary. -
Wel, gadewch i ni eu rhoi at eu gilydd, a phrynwn teisen [sic] geiniog. Bydd hyny yn well na phrynu pob o deisen ddime; a gallwn ei rhanu rhyngom  wed'in.

Frances. - O'r goreu; yr wyf fi yn foddlon.

Mary. -
Dewch wel'd eich dime; mi redaf i brynu un yn awr. [Mary yn myned a1lan.]

Frances. - Yn awr, pa fodd i ranu'r deisen, dyna'r peth. (x55)  Buasai yn well i ni gael pob o deisen ddime o lawer. Ond mi fynaf fi fy rhan.
[Mary yn dyfod.]

Mary. -
Dyma hi,
Frances; dyma un hyfryd onide? ac yn awr am ei rhanu hi.

Frances. - Gadewch wel’d, faint ydych chwi yn roddi i mi.

Mary. - Ond yr haner, sicr iawn.

Frances. - Ië; ond faint yw'r haner?

Mary. - Dyma fo, onide?

Frances. - O na wnaf fi, yn siwr. ’Dyw hyna mo'i haner o lawer, Mary, yn sicr i chwi.

Mary. -
Wel, faint yw'r haner, Frances.


Frances. - Dyma fe; mae hyna yn eithaf têg.

Mary. -
O nag yw, yn siwr i chwi; yr ydych am gael mwy na'ch rhan o lawer iawn.

Frances. - Dim tamaid, Mary. Dewch, dewch; rhaid i mi ei gael e, a dyna i chwi.

Mary. -
Na chewch, yn sicr; chewch chwi ddim cymaint ag a ddarfu i chwi ddangos yn awr.

Frances. - Mi fynaf fy rhan, onide mi -

Mary. -
Chwi beth! dywedwch beth wnewch chwi!

Frances. - Yn awr, a ydwyf fi yn cael neu beidio?

Mary. -
Cewch, ond i chwi foddloni ar yr haner.

Frances. - Yr wyf yn foddlon, ond i mi gael ei rhanu hi.

Mary. - Beth sydd ar y ferch?

[Lewis yn dyfod.]

 

Lewis. - Beth sy'n bod ferched? Beth sy'n bod?

Mary. -
Ond Frances sydd am gael mwy na'i rhan o'r deisen yma!

Frances. - Nage'n siwr, Lewis, hi sy'n pallu rhanu'n iawn. Arni hi mae'r bai, ac nid –


Lewis.- Pa fodd yr ydych am ei rhanu hi?


Mary. –
Haner i bob un, siwr iawn.

 

Lewis.- A gaf fi ei rhanu hi drosoch chwi?

(x56) Mary. - Cewch, os ydyw Frances yn foddlon.

 

Frances. - Ydwyf fi, yn ddigon boddlon, os myn efe.


Lewis.- Rhowch wel’d y deisen yn awr ynte, mi wnaf fy ngoreu i'w rhanu. - [Yn ei thori yn ddwy.] Hawyr! yr ydwyf wedi methu, yr wyf yn ofni. Mae hwn yn fwy na hwn; ond aroswch chwi; mi wn beth i'w wneyd. [Yn bwyta peth o'r tamaid mwyaf.]

Frances. - Lewis! Beth sydd ar y bachgen?


Lewis.- Wel,
nis gwn i ddim, yn siwr. Mae yn rhaid bod rhywbeth hefyd, canys mae hwn yn fwy yn awr. Gadewch i mi dreio eto. – [Bwyta.]

Mary. -
O'r anwyl! chwi ewch a fy rhan I i gyd!

Frances. - A fy rhan inau hefyd. Yn awr Lewis!

Lewis.- Gan bwyll, fy merch i; gan bwyll. Mae hwn ar y mwyaf yn awr. - [Bwyta.]

Mary. -
Dyna, dyna! yr wyf yn foddlon i gymeryd fy rhan i fel y mae ê, os caf fi, Lewis.

Frances. - A finau. hefyd. Dewch yn awr, yn siwr.


Lewis.- Rhaid bod yn gyfiawn, fy merched bach i. Hwn sydd fwyaf yn awr. - [Bwyta.]

Mary. -
Beth! mae fy rhan i bron wedi myn'd yn llwyr!
Ffei! ohonoch, yr un câs!

Frances. –
Ië, yr un câs yn siwr!
Pwy sy'n myn'd i fwyta ar eich ol chwi, yr un brwnt!


Lewis.- Ai dyna'r diolch yr wyf yn ei gael genych?

Mary. -
Beth allwch chwi ddisgwyl ar ol chwareu y fath gast a ni? Diolch yn wir!


Lewis.- Felly yn siwr! Mi welaf fod yn rhaid i mi edrych ataf fy hun. - [Yn bwyta'r gweddill.] Dyna; gan nad oes dim gobaith eich boddloni, ’does dim i'w wneyd ond i mi geisio boddloni fy
hunan. Gall hyn fod yn wers fach i chwi eill dwy. Boreu da i chwi, fy merched i. [Yn myned allan.]

Mary. -
Wel yn wir! dyna dro onide? A welsoch chwi erioed y fath beth?

Frances. - Naddo yn siwr; na dim tebyg iddo.

Mary. -
Wel! mae'n gywir fel cyfreithio.

(x57) Frances. - Ydyw'n gywir; a Lewis yw'r cyfreithiwr, yn myn'd a'r cyfan i gyd!

Mary. -
A ninau y ffyliaid yn ei ddwylaw, yn colli'r cyfan. Wel, mi gofiaf y tro am tipyn.

Frances. - Cofio yn wir! ac mi fyddaf ychydig yn gallach gyda hyny, y tro nesaf, mi gew'ch weld.

Mary. -
Felly finau. A chyda hyny,
Frances, os byth mwy y bydd arnom eisieu rhanu rhyngom, mae'n well i ni gytuno i wneyd hyny ein hunain, ac arbed Lewis a’i fath i gael difyrwch am ein pen.

Frances. - Ië, ac arbed y deisen yn y fargen.


Mary. -
Ië wir. Rhaid myn'd, boreu da.


Frances. - Boreu da.


(=12) Balchder a Gaiff Gwymp

Y CYMERIADAU A GYNRYCHIOLIR:-

MR. CRISPIN - Crydd.

MRS. CRISPIN - Ei wraig.

HARRI JONES - Ei gyfaill.

JOHN PARRY - Gwerthwr cyfranau (shares)

ANNIE CRISPIN - Merch Crispin.

[Mr. at Mrs. Crispin yn dyfod yn mlaen.]


Mr. Crispin. - Wel, fy anwylyd, dyma gyfnewidiad er gwell mewn gwirionedd - dyma rhywbeth gwerth llawenychu o'i blegid.

Mrs. Crispin. -
I , yn wir! Beth a ddywed y Jonesiaid yn awr pan y gwelont ni yn tori tipyn o ffigiwr yn y byd.

Mr. Crispin. -
Mi synant dipyn mi gwaranta nhw. A phwy fuasai yn meddwl y buasai hen ewythr Bryngoleu ag oedd mor ddiystyrllyd o honom tra yn fyw, yn gadael ei holl arian i ni ar ei ol.

Mrs. Crispin. -
Na ofalwch pa beth a wnaeth pan yn fyw; digon i ni ydi gwybod fod ei bum mil punau yn eiddo ini.

Mr. Crispin. -
Wel lwc yn iawn oedd yn wir!

 

Mrs. Crispin. - Ië, achos gallwn fyn'd i fyw i dy^ mawr -

(x58) Mr. Crispin. - A chadw gwas a morwyn -

Mrs. Crispin. - Cael y dillad a fynom! -

Mr. Crispin. - Canu yn iach i'r lapstone a'r cwyr -

Mrs. Crispin.- Anghofio ein hen ffrindiau -

Mr. Crispin. - Ie, a byw mewn style!

Mrs. Crispin. -
Debyg iawn! gadewch i mi wel’d. Dyna deulu Williams; maent yn od o vulgar: teulu Harris; maent mor dlawd a llygod eglwys! a dyna Harri Jones, mae yn siarad yn rhy blaen i'm boddhau i.

Mr. Crispin. -
Ond fy merch anwyl i, y mae Harry yn hen gyfaill. Rhaid i ni beidio troi ein cefnau
arno ef.


Mrs. Crispin. - Yr wyf yn dweyd fod yn rhaid i ni ei adael a gwnawn hyny hefyd!

Mr. Crispin. -
Wrth gwrs os ydych yn dweyd hyny mae'r peth wedi ei setlio.

Mrs. Crispin. - Ac yn awr dowch yn mlaen. Mae arnaf eisieu rhoddi ychydig wersi i chwi pa fodd i ymddwyn yn eich cylch newydd.

Mr. Crispin. - Or goreu. Gwnaf fy ngoreu i ddysgu.
[Yn myned o'r neilldu, a Harri Jones y dyfod yn mlaen.]

Harri.
- Pa beth sydd wedi dyfod dros fy hen gyfaill Crispin? Cyfarfyddais ag ef ychydig funudau yn ol, ac yr oedd yn edrych fel pe buasai y hyd yn lle rhy fach i'w gynwys. ’Roedd ei ben i fyny a'i lygaid tua'r sêr, yn wir yr oedd arnaf ofn iddo fyn'd yn erbyn rhywbeth a syrthio i'r baw. Beth all fod yr achos, tybed? efallai ei fod wedi bod yn mesur cryn nifer o draed am esgidiau newyddion, ac fod y fath lwyddiant masnachol sydyn wedi effeithio ar ei ben; ni ryfeddwn ddim, achos ni chafodd erioed ei boeni gan ormod o ymenydd. Holo! pwy sydd yn dyfod? John Parry, fel ’rwy’ byw! Both sydd ganddo yn awr tybed? Mi waranta mai rhyw dric i hudo arian oddiar yr anwybodus a'r diniwed!


[John Parry yn dyfod yn mlaen.]

Parry.
- (Yn cerdded yn gyflym ac ymffrostgar.j Ah! fy anwyl Harry - fy anwyl a hoff hen gyfaill, pa fodd yr ydych - mae yn dda genyf yn fy nghalon eich gweled yn edrych gystal.

(x59) Harri. - Felly yn wir. Yr wyf yn eitha iach, diolch i chwi.

Parry.
- Pa fodd y mae eich gwraig dda a'ch plant bach hoffus? Gwelais hwy y Sul ’dwaetha, ac yr oeddynt yn edrych mor brydferth ag angylion bychain. Eitha gwir Syr. Ah, Syr, dylech fod yn falch o honynt.


Harri. - Wel, yr wyf yn falch o honynt.

Parry.
- ’Rwyf yn gwybod eich bod. Y fath beth dymunol yw teimlo y cyfrifoldeb o ddarpar ar gyfer y pethau bach anwyl!

Harri.
- Efallai pe buasech yn dad y cawsech allan nad yw y cyfrifoldeb mor llawn o farddoniaeth ag y gallech feddwl.

Parry.
- Yn hollol felly. Yr ydych yn gywir, fy anwyl Syr; mewn gair yr ydych yn hollol gywir. Nid barddoniaeth ydyw gofalu am lon'd ty^ o blant; ond ambell waith mae ffyrdd a moddau trwy ba rai y gellir gwneyd y peth yn bleser - yn bleser. Mae hyn yn ffaith, Syr!

Harri.
- Efallai hyny; ond digon i mi ydyw gwybod fy mod yn cael cynaliaeth onest i'm teulu trwy ddilyn celfyddyd onest.

Parry.
- Yn hollol felly. Ond yr wyf yn apelio atoch fel dyn o farn. Onid ydych yn meddwl yn awr mewn gwirionedd pe bae'ch yn cymeryd ychydig shares  -

Harri.
- Ychydig beth?

Parry.
- Ychydig shares mewn anturiaeth ardderchog -

Harri.
- Nid wyf yn gwybod am yr un.

Parry.
- Yn gywir! ond gan fy mod yn gyfaill, yn gyfaill calon i chwi -

Harri.
- Ewch yn mlaen.

Parry.
- Mae genyf fel gyfaill i chwi i ddwyn ger eich bron raghysbyslen cwmni newydd - cwmni newydd, Syr -

Harri.
- Ewch yn mlaen. Yr wyf yn gwrando.

Parry.
- Esgusodwch fi. Y mae meddwl am fawredd ac aruthroledd y peth, a'r anmhosibolrwydd o'i ddarlunio mewn iaith briodol, yn fy nyrysu yn deg.

Harri.
- Mae hyny yn fy synu yn wir.

(x60) Parry. - Pa fodd bynag dyma raghysbysiad (prospectus) Cwmni Cocosaidd Cyffredinol. Capital £500,000,000 mewn pum can' miliwn o shares punt yr un. Amcan: cyflenwi yr holl fyd a'r planedau a chocos byd-enwog Traeth Lafan.

Harri.
- Amcan gogoneddus yn wir!

Parry.
- Yn hollol felly, Syr. Gwelaf eich bod yn w^r o farn.

Harri.
- Wrth gwrs fe fydd pawb yn prynu shares.


Parry.
- Dim cysgod o amheuaeth am hyny, Syr.

Harri.
- Ond pwy sydd yn rhoddi sicrwydd am ddiogelwch yr arian a llwyddiant yr anturiaeth?

Parry.
- Dyma eu henwau, Syr. [Yn darllen o bapyr.] “Cyfarwyddwyr: Arglwydd Gwagsïol, Iarll Penfeddal, Henry Tafodlyfn, Yswain, A.S., a Duc Fiddle-de-de.” Yr ydych yn gweled fod genym ddynion ardderchog ar y bwrdd.

Harri.
- Ac y maent wedi addaw bod yn gyfarwyddwyr y cwmni?

Parry.
– Wel - hyny ydi - nid ydw i yn meddwl y gwrthodant - mae hyny gystal a phe buasent wedi addaw.

Harri. - Cynllun ardderchog!

Parry.
- Yr oeddwn yn meddwl mai dyna fuasech yn ddweyd.

Harri.
- Yn sicr o dalu yn dda!

Parry.
- Dim dadi am hyny. Ac yn awr, Syr, gadewch i mi gynyg i chwi ychydig shares yn yr anturiaeth ogoneddus yma.

Harri.
- Na, ni chymeraf yr un.

Parry.
- Beth ddywedsoch? chymerwch chwi yr un share? yr ydych yn fy synu!

Harri.
- A ydwyf fi? yr oeddwn yn arfer meddwl fod hyny yn anmhosibl.

Parry.
- Mewn gwirionedd, pa beth ydych yn feddwl?


Harri.
- Yr wyf yn meddwl hyn: gall dynion gonest efallai edrych ar yswigen yn ymddryllio, ond ni charant fod ynddi pan yr ymdora!

Parry.
- Syr! goddefwch i mi ddweyd--

(x61) Harri. - Parry, yr wyf wedi goddef i chwi ddweyd digon a gormod hefyd. Ewch i geisio twyllo rhywun gwirionach na Harri Jones! yr wyf yn gweled trwyddoch o'r goreu.

Parry.
- Gwnaf i chwi edifarhau arfer y fath iaith -

Harri.
- Yn awr, peidiwch a bod yn asyn yn ogystal a ffwl.

 

Parry.- [Yn cipio ei het yn sydyn.] O'r goreu, Syr. Cewch glywed oddiwrthyf eto.

Harri.
- Yr hyn a hoffwn glywed am danoch fyddai eich bod wedi gweled cyfeiliornad eich ffordd, ac wedi rhoddi i fyny i fyw ar ffolineb eich cyd-ddynion.

Parry.
- Mae hyn yn anyoddefol.


Harri.
- O'r goreu, dyna'r drws!

Parry.
- Wel, fe gawn gyfarfod eto. Cofiwch hyny. Mi a'ch cospaf hyd eithaf y gyfraith.


[Parry yn myned o'r allan.]

Harri.
- Pan y cyfarfyddwn, hyderaf mai fel cyfaill a chyfaill y bydd hyny, ac nid fel y pryf copyn a'r pryfyn. Dechreuodd trwy ddweyd mai myfi oedd ei gyfaill - ei anwyl gyfaill - ond diwedda - Wel, waeth sut y diweddodd, oblegid ar ol y cwbl nid yw ond yn profi yr hen air fod amgylchiadau yn cyfnewid pethau. Ond dyma Annie fach yn dyfod. Efallai y caf wybod ganddi hi beth yw y mater ar ei thad.

[Annie Crispin yn dyfod yn mlaen wedi ei gwisgo yn goegfalch.]

Annie.
- Ah! Mr. Jones, pa fodd yr ydych?

Harri.
- Yr wyf yn iach diolch i chwi. Ond beth yw y mater arnoch chwi. Nid yw eich gwyneb trist yn ateb yn dda i'ch gwisg smart.

Annie.
- Nid wyf yn gofalu dim am fy ngwisg smart: byddai yn dda genyf ei thaflu ymaith, a ninau mor dlawd ag oeddym o'r blaen.

Harri.
- Tlawd! ni chlywais eich bod wedi myned yn gyfoethog o gwbl!

Annie.
- Oni chlywsoch fod rhywun wedi gadael swm mawr o arian i nhad? Ac - ac - [Yn wylo.]

(x62)Harri. - Dowch  Annie. Siaradwch. Gadewch i mi wybod eich helynt.

Annie.
- Wel, byddai nhad yn arferol o fy nghymeryd ar ei lin, a fy ngharu, a fy nghusanu; ond yn awr -

Harri.
- Mae'n debyg ei fod yn eich caru yn fwy nag erioed?

Annie.
- Nag ydi yn wir! yr wyf yn cashau yr hen arian yna, oblegid maent wedi peri i nhad a mam feddwl mwy o lawer am wisgoedd a phethau felly nag am danaf fi.

Harri.
- Ond onid ydych yn hoff o wisgoedd a phethau prydferth?

Annie.
- ’Rwyf yn ddigon hoff o wisgoodd prydferth, mae'n wir; ond gwell genyf gael fy ngham gan fy nhad a'm mam na holl wisgoedd y hyd. Oh! mi fyddai yn dda genyf pe bae rhywun yn cymeryd yr arian yma, ac yn ein gadael mor dlawd ag o'r blaen.

Harri.
- Mae arnaf ofn eich bod yn gallach na'ch rhieni, Annie. Ac o ran hyny, efallai y cewch eich dymuniad gyda golwg ar yr arian yna. A ddymunech hyny mewn gwirionedd?

Annie.
- O dymunwn yn wir! yr wyf wedi bod yn gweddïo ar i Dduw gymeryd ymaith yr arian, a'm gwneyd yn ddedwyd eto.


Harri. - Rhaid i chwi fod yn amyneddgar, Annie, a cheisio aros ei amser Ef. Ond edrychwch, dyma eich tad a John Parry yn dyfod. Gwell i ni symud o'r neilldu;
ac os dowch gartref gyda mi, mi allwch chwareu gyda Polly a Jane. Bydd iddynt hwy eich caru o galonau cywir, yr wyf yn gwybod.


[Annie a Harri yn gilio o'r neilldu, Crispin a Parry yn dyfod yn mlaen.]

Parry.
- Fel yr oeddwn yn sylwi, Mr. Crispin, neu yn fwy cywir, fy anwyl Mr.

 Crispin, mae'r anturiaeth yn sicr o dalu; a chyda'ch talent a'ch dylanwad - 

 

Mr. Crispin. - Yr ydych yn w^r o graffder, Mr. Parry,


Parry.
- Diolch i chwi, Syr, am eich opiniwn uchel am danaf. Gyda'ch talent a'ch dylanwad, gallwn wneyd rhyfeddodau. Tra yn eich llongyfarch oherwydd y ffawd dda sydd wedi disgyn i'ch rhan, rhaid eich bod yn gwel’d

(x63) pe gellid ddyblu a threblu yr arian yna, y gallech ymgyraedd am bethau mwy.


Mr. Crispin. - Yn ddiamheuol! megis, er engraifft, cael -

Parry.
- Eich ethol yn Aelod Seneddol. A goddefwch i mi eich sicrhau fy anwyl Mr. Crispin, fy mod yn llwyr argyhoeddedig eich bod yn meddu ar bob cymhwysder i'r swydd.


Mr. Crispin. – ’Rwyf yn meddwl y gallwn wneyd rhywbeth yn y cyfeiriad yna.

Parry. - Yn ddiddadl Syr! Y foment y gwelais chwi, dywedais wrthyf fy hun, dyma'r A. S. i ni.


Mr. Crispin. - Yr ydych yn w^r o graffder neillduol.


Parry.
- Dim o'r fath beth, Syr! Gwas y cyhoedd ydwyf fi, fy anwyl Syr; a bydd y rhan yr wyf fi yn gymeryd yn y “Cwmni Cocosaidd Cyffredinol” brofi i'r byd fy anhunanolrwydd!


Mr. Crispin. - O! fe dala yr anturiaeth yn dda! Dim amheuaeth am hyny!

Parry.
- Dim cysgod amheuaeth, fy anwyl Syr.


Mr. Crispin. - ’Rwyf yn hollol gredu hyny; mewn gair, Parry, yr wyf yn ddiolchgar iawn i chwi am wneyd y peth yn hysbys i mi. Mae genyf bum mil o bunau yn gorwedd yn segur, wyddoch, yn y Banc, ac nid oes genyf wrthwynebiad i gymeryd cryn nifer o shares yn y cwmni.

Parry.
- Wel, bydd yn anhawdd eu cael! Er hyny y mae genyf y fath barch i chwi, fy anwyl Mr. Crispin, fel y gwnaf fy ngoreu. A phan y byddoch yn Aelod Seneddol dros ein dinas fawr hyderaf y rhowch eich dylanwad o'm plaid mewn rhyw ffordd neu gilydd.


Crispin. - Gwnaf! ’Rwyf yn rhoddi fy addewid.

Parry.
- Diolch i chwi, diolch i chwi! (o'r neilldu) Gwell i mi guro yr haiarn tra byddo yn boeth!


Mr. Crispin. - Beth oeddych yn ddweyd, Mr. Parry.

Parry.
- Dim ond myn'd dros rhyw gyfrifon. Ië, o ran hyny, gallaf gael shares i'w arglwyddiaeth o fan arall. Pa nifer hoffech gael Mr. Crispin? mae genyf rhyw nifer yn fy mhoced, y rhai a allaf adael i chwi eu cael fel ffafr neillduol!

(x64) Mr. Crispin. - Wel, diolch yn fawr i chwi. Ni bydd i mi anghofio eich caredigrwydd, Mr.  Parry. Gadewch i mi wel’d; ond pa beth ddywed Mrs. Crispin? ond beth waeth am dani - nid oes angen am  iddi wybod am  y peth. Cymeraf bedair mil o shares!!

Parry.
- Mae hyny yn profi eich bod yn foneddwr o graffder anarferol, fy anwyl Syr. [Yn cymeryd papyrau allan.] Dyma y nifer, Syr. [O'r neilldu.] Dyma'r helfa oreu a gefais eto.

Mr. Crispin. - [Yn cymeryd allan archeb ar y Banc ac yn ysgrifenu.] Dyna, Syr, yw y cheque am y swm. Caniatewch i mi ddiolch i chwi, Syr, am ganiatau i mi nifer mor fawr o shares yn y fath anturiaeth ogoneddus.

Parry.
- Peidiwch a son gair, anwyl Syr. Bydd yn bleser genyf gael eich gwasanaethu unrhyw amser.


Mr. Crispin. –
Nis anghofiaf byth eich caredigrwydd, Syr!

Parry.
- Diolch, Syr. Ond yn awr, gan fy mod yn gweled eich gyfaill Henry Jones yn dyfod, rhaid i mi fyn'd. Boreu da, fy anwyl Syr. Boreu da. [Parry yn myn'd o'r neilldu.]


Mr. Crispin. -
Nis gall Henry Jones fod yn gyfaill i mi mwy, mae Mrs. Crispin wedi dweyd hyny, a rhaid i mi ufuddhau iddi. Prin yr wyf yn meddwl fod hyny yn iawn hefyd; ond er mor boenus yw troi cefn ar hen gyfaill, rhaid i mi wneyd neu ni chaf heddwch yn fy nhy^.


[Harri Jones yn dyfod yn mlaen.]

Harri.
- Wel, Crispin, fy hen gyfaill, beth yw y mater yn awr?


Mr. Crispin. - [Yn ei lygadu o'i ben i'w draed.]
Ho! ha! ddaru chwi siarad a fi, ddyn?

Harri. - “Siarad a chi ddyn!” pa beth a feddyliwch?


Mr. Crispin. - Yr wyf o'r farn eich bod wedi gwneyd camgymeriad.

Harri.
- Yn wir? credaf fod mwy nag un o honom wedi gwneyd camgymeriad.

Mr. Crispin. - At beth yr ydych yn cyfeirio? Eglurwch eich hun.

Harri.
- Wel, yr oeddwn unwaith yn eich ystyried yn

(x65) weithiwr diwyd a gonest, yn feddianol ar synwyr cyffredin; dyna un camgymeriad a wnaethym. Yr oeddwn hefyd yn credu eich bod yn dad caruaidd, na buasai eich serch at eich deulu yn cyfnewid o dan yr un amgylchiad. Dyna gamgymeriad arall. A gaf fi fyn'd yn mlaen?


Mr. Crispin. - Beth ydych yn feddwl ddyn? Pwy ydych?

Harri.
- Pwy ydwyf? Fe wyddoch o'r goreu! ond mi a'ch adgofiaf. Harri Jones ydwyf fi, yr hwn unwaith a achubodd eich bywyd rhag boddi - yr hwn fu yn yr ysgol gyda chwi, ac a'ch diogelodd rhag llawer curfa dda; a'r hwn hefyd a roddodd fenthyg arian i chwi i ddodrefnu eich ty^ pan oedd eich arian yn fwy prin nag ydynt yn bresenol. A wnaiff hynyna y tro, tybed?


Mr. Crispin. - Beth sydd ar y dyn, tybed? nid wyf yn eich adnabod!

Harri.
- Ond yr wyf fi yn eich adnabod chwi. Simon Crispin, boneddwr ag oedd yn ddiweddar yn pwytho esgidiau.


Mr. Crispin. - Nid wyf yn gwybod dim am bwytho, nac esgidiau, ddyn!

Harri.
- Wel, yn siwr, mae'r dyn wedi gwirioni! ond credaf y bydd i'ch trafodaeth a John Parry eich dwyn i'ch synwyrau eto. Mi fentraf ddweyd eich bod wedi bod yn ddigon dwi i gymeryd eich perswadio ganddo i gymeryd shares yn ei anturiaeth dwyllodrus, oblegid gwelais ef yn awr yn dyfod o'r banc, a thebygol fod ganddo swm da o'ch arian yn ei logell.


Mr. Crispin. - Fy musnes i yw hyny, ddyn, ac ni pherthyn ddim i chwi. [Yn cymeryd ei het, ac yn myned o'r neilldu mewn dull mawreddog a bombastaidd.]

Harri.
- Fel y mae arian yn gwneyd ynfydyn o ddyn heb synwyr i ddefnyddio bendithion y nefoedd, a'u derbyn mewn yspryd priodol! Heddwch anwyl! dyma Mrs. Crispin yn dyfod; a thrwy fod Crispin yn ymddwyn yn ol ei chyfarwyddyd rhaid i mi ddisgwyl mesur llawn o'i diystyrwch.


[Mrs. Crispin yn dyfod yn mlaen, wedi ei gwisgo yn ffasiynol ac yn rhodio yn fawreddog.]

Mrs. Crispin. -
Yn mha le y mae Crispin tybed? Dywed Annie iddi ei wel’d gyda John Parry. Dyn drwg yw


(x66)           hwnw, yr wyf yn sicr! Mae arnaf eisiau arian, ac mae'r cheque-book gan Crispin. Sut y bum mor ffol a gadael iddo ei gario, nis gwn. Yn wir, dyma Harri Jones! Buasai yn well genyf beidio ei gyfarfod ef, yn anad neb. Ond ni chymeraf arnaf ei adnabod! Ni ellir disgwyl i bobl yn ein sefyllfa ni i arddel eu hen gydnabyddion vulgar ac anwybodus.

Harri.
- Wel, Mrs. Crispin, ymddengys eich bod mewn myfyrdod dwys yn nghylch rhywbeth. Maddeuwch i mi am ofyn pa fodd yr ydych?

Mrs. Crispin. -
Hoffwn gael gwybod pa hawl sydd genych i'm hanerch i?

Harri.
- Hawl hen gyfaill yr hwn a wnaeth lawer o gymwynasau i chwi a'ch priod yn yr amser a aeth heibio.


Mrs. Crispin. - Ni ddisgwylir i ni gofio man ffafrau am  byth! Heblaw hyny, Mr. Jones, i fod yn blaen, y mae amgylchiadau wedi cyfnewid pethau gyda ni -

Harri.
- Er gwaeth, gellwch fod yn sicr, Mrs. Crispin.

Mrs. Crispin. -
Nage, Syr, ond er gwell. Yr ydym yn awr yn anibynol ar y byd, a gallwn fforddio diystyru yr hen gyfeillachau a ffurfiwyd genym pan oedd pethau yn dra gwahanol i'r hyn ydynt yn bresenol.

Harri.
- Tebygol fy mod i ystyried eich hen gyfeillach a mi yn y dosbarth yna?

Mrs. Crispin. -
Yn hollol felly, Syr! Ac yr wyf yn gobeithio y bydd yr eglurhad yma yn ddigon, ac y bydd i chwi yn y dyfodol gadw eich lle eich hun, a pheidio ceisio ymwthio at rai sy'n troi mewn cylch uwch.


Harri. - Gofalaf am wneyd hyny, Mrs. Crispin. Pan y byddaf fi yn galw personau yn gyfeillion, byddaf yn disgwyl iddynt fod yn gyfryw yn ystyr fanylaf y gair. Pan y byddont yn anghofio eu hunain, byddaf finau yn eu hanghofio hwythau.

Mrs. Crispin. -
Diolch i chwi. Bydd i hynyna fy moddhau yn hollol. A gaf fi ofyn i chwi a welsoch chwi Mr. Crispin?

Harri.
- O! do! Mae newydd fod yn prynu shares gan John Pairy. Pa fodd bynag nid yw hyny yn perthyn yn awr i Harri, gan ei fod ef a chwithau yn dymuno fy anghofio. Dymunaf i chwi fore da, Mrs. Crispin.

(x67) [Crispin yn dyfod i mewn yn frysiog.]
Mr. Crispin. - Aroswch Harri - hyny yw - a ydi Mrs. Crispin yna - beth a wnaf - a wnaf -

Mrs. Crispin. -
Wel, Mr. Crispin, beth yw y mater. Yr ydych yn edrych gan wyllted a phe buasech wedi colli pob dimai o'ch ffortiwn.


Mr. Crispin. – Wel – na - hyny ydi –


Mrs. Crispin. - Beth ydych yn feddwl mewn gwirionedd?

Mr. Crispin. – O! dim yn y byd - dim yn y byd.


Mrs. Crispin. - Yr ydych yn edrych yn rhy benisel a gostyngedig i ddyn o ffortiwn fel chwi.


Mr. Crispin. - [Yn ceisio edrych yn fawreddog a balch ond yn methu.] - A ydwyf? - Wel, wnaf fi y tro yn awr?

Mrs. Crispin. -
Gwnewch; wel, ac yn awr -

Harri.
- Yr wyf am eich gadael. Nid wyf byth yn hoffi stwffio fy hun yn mlaen pan fyddo materion teuluaidd yn cael eu trafod.


Mr. Crispin. - Peidiwch a myn'd yn wir - aroswch fy hen gyfaill - aroswch er mwyn pobpeth.

Harri.
- Beth? Beth? Ychydig amser yn ol yr oeddych –

 

Mr. Crispin. - Ië, yr wyf yn gwybod – ond -

Mrs. Crispin. -
Mr. Crispin! a ydych yn cofio beth a ddywedais wrthych ychydig amser yn ol, ynte a ydych wedi anghofio fy nghyfarwyddiadau? Atebwch fi, Syr!

Mr. Crispin. - Wel, na - ond - ond - ond

Mrs. Crispin. -
Na feindiwch efo'ch “ond, ond,” yr ydym wedi cael llawn ormod o'r nonsense yna, gadewch i ni ddyfod at y pwynt. Mae arnaf eisiau pum cant o bunau.


Mr. Crispin. - Ond y ddoe – ddoe - y cawsoch bum cant!

Mrs. Crispin. -
Ond oni wyddoch peth mor gostus yw ffitio ty^ newydd i fynu. Yr ydym yn awr mewn dyled am bob dimau o'r pum cant sydd arnaf eisieu. Ond i ba ddyben dadleu y pwnc. Lle mae'r cheque-book.


Mr. Crispin. – [Yn cymeryd
arno anghofio.] Y chequebook?

(x68)          

Mrs. Crispin. -
Onid ydych yn clywed? Y cheque-book! Yr ydych wedi gwirioni y boreu yma.


Mr. Crispin. – [Yn grynedig] - Dyma fo.

Mrs. Crispin. –
[Yn edrych ar y llyfr.] Beth yw hyn, ai ê? O'r anwyl! wnaiff rhywun fy nàl? ’Rwyf yn siwr o gael ffit!


Mr. Crispin. - Gadewch iddi Harri.
Os peidiwch cymeryd sylw o honi ’toes dim perygl. ’Rydw i yn gwybod am ei ffordd hi.

Mrs. Crispin. -
Beth ddywedasoch, yr adyn? Pedair mil a phum cant wedi myn'd, ac yr ydym mewn dyled am y pum cant arall;


Mr. Crispin. – ’Roeddwn yn meddwl fod y cwmni yn siwr o dalu yn ardderchog. O! y creadur drwg ydi Parry yna!

Mrs. Crispin. -
Wel, ai twyll oedd y cwbl?


Mr. Crispin. – Wel – wel - ie; ac y mae Parry wedi codi y pedair mil punau, ac wedi myned nas gwyr neb i ba le.

Harri.
- A beth am y cwmpeini?


Mr. Crispin. - Ni fodolodd erioed ond yn ymenydd y creadur yna, Parry! O'r anwyl! O'r anwyl! Mae yn waeth arnom nag y bu erioed o lawer.

Mrs. Crispin. -
[Yn wylo] - Y fath ffyliaid wnaethom o honom ein hunain! Pa beth a ddywed pobl?

Mr. Crispin. - Nid wyf yn gwybod yn wir! Pe na buasech wedi fy ngorfodi i droi cefn ar fy hen gyfeillion ni fuasai mor ddrwg ag ydyw!

Harri.
- Yr ydych wedi gwneyd camgymeriad ill dau.


Mr. Crispin. - Wnewch chwi faddeu i mi Harri.

Harri.
- O gwnaf a'm holl galon.

Mrs. Crispin. -
Mae arnaf ofn gofyn i chwi Harri.


Harri. – Raid  i chwi ddim. Maddeuaf ac anghofiaf bobpeth a aeth heibio.

[Annie yn rhedeg i mewn.]


Annie. – ’Rwyf wedi bod yn chwilio am danoch yn mhob man.


Harri. - Mae'r nefoedd wedi gwrando eich gweddi, Annie.

(x69)

Annie.
- [Yn curo ef dwylaw]- Beth! A yw yr arian wedi myn'd mewn gwirionedd?  ’Rwyf mor falch! A bydd i chwi fy ngharu yn awr fel yr arferech wneyd nhad?


Mr. Crispin. - Gwnaf fy merch - ac mi a'ch caraf yn fwy nag erioed.


Harri. - Gadewch i ni oll ddysgu gwers oddiwrth hyn, sef, peidio ymddyrchafu ac ymfalchio os gwena Rhagluniaeth arnom. Peidio hedfan yn rhy uchel; yna bydd genym lai o gwymp os digwydda aflwyddiant ein goddiweddyd. Os bydd i uchelgais a balchder ein codi i fyny i'r cymylau, bydd i ni gael allan yn fuan neu yn ddiweddar fod “UCHDEB YSPRYD O FLAEN CWYMP.”


(=13) Y Môr a'r Afonig
(=14) Gofalu am "Number One”
(=15) Y Ddwy fam
(=16) Efa Dafydd
(=17) Drws Trugaredd
(=18) Y Bugail Da
(=19) Y Ddinas Brydferth
(=20) Llawen a Phrudd
(=21) Ffydd, Gobaith, a Chariad
(=22) y Berth yn Llosgi
(=23) Athrawon ac Ysoleigion
(=24) Y Gwrthryfelwr Carcharedig
(=25) Beth yw Bywyd?
(=26) Iawn Ymddygiad yn Moddion Gras
(=
27) Y ffordd i Wneud Cyfeillion
(=28) Y Beibl
(=29) Y Byd yr ydym yn byw ynddo


 

 



 



DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN

1796k
Yr iaith Gymraeg
·····
0005k
Mynegai yn nhrefn y wyddor i’r hyn a geir yn y gwefan; o’r tudalen hwn gellir hefyd
chwilio’r gwefan hwn â’r archwiliwr mewnol
·····
1051e
testunau Cymraeg â throsiad Saesneg yn y gwefan hwn


 

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ  

Enw’r parth: kimkat (kimrío + katalúnaj lándoj)

Adolygiad diweddaraf :: 18 02 2003

Ble’r wyf i?
Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

 

 

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats