|
|
|
|
(delwedd 1480a) (clawr)
|
|
|
|
|
|

(delwedd 1480b) (clawr)
|
Gyda Dymuniadau Gorau
15 / 6 / 17
Dad
|
|
|
|
|

(delwedd 1480c) (tudalen weili)
|
Dafydd Dafis, sef Hunangofiant Ymgeisydd
Seneddol.
Awdur: Beriah Gwynfe Evans, 1898
|
|
|
|
|

(delwedd 1481) (tudalen ii)
|
DAFYDD DAFIS
|
|
|
|
|

(delwedd 1482) (tudalen iii)
|
DAFYDD DAFIS,
SEF
HUNANGOFIANT YMGEISYDD SENEDDOL;
GAN BERIAH GWYNFE EVANS
Awdwr "John Jones, Junior,” “Owen Hughes," "
Bronwen." &c., &c.),
GYDA DARLUNIAU
E. T. REED (PUNCH);
F. C. GOULD (WESTMINSTER GAZETTE);
AB CALEDFRYN ;
T. H. THOMAS (ARLUNYDD PENYGARN);
DYER DAVIES,
Ac ARTHUR E. ELIAS,
YN ARDDANGOS
PRIF DDYNION CYHOEDDUS CYMRU MEWN GWAHANOL GYMERIADAU.
CYHOEDDWYR:
HUGHES A'I FAB GWRECSAM.
1898.
|
|
|
|
|

(delwedd 1483) (tudalen v)
|
GAIR O EGLURHAD AT Y SAWL Y PERTHYN IDDYNT WYBOD.
Gyda chryn betrusder y cydsyniais â nifer lluosog o geisiadau o wahanol
gyfeiriadau i roi ffurf mwy parhaol i Adgofion Dafydd Dafis nag oedd yn
ddichonadwy yn ngholofnau papur newydd. Gwir ddarfod imi gael llu o brofion
pan ymddangosodd yr erthyglau gyntaf, fod Dafydd a Claudia yn bersonau tra
phoblogaidd yn mhob rhan o’r Dywysogaeth, ac yn mhlith pob dosbarth o
gymdeithas; eithr priodolwn y poblogrwydd hwnw i raddau helaeth i ddyddordeb
amserol y materion a drinid gan y Llaethwr a’i Briod, ac ofnwn nas gellid
disgwyl i’r poblogrwydd barhau wedi i ddyddordeb uniongyrchol yr amgylchiadau
a ddesgrifid basio. Eithr sicrheid fi yn wahanol, a bod i Dafydd a Claudia
swyddogaeth uwch a mwy parhaol na difyru darllenwyr papur newydd dros enyd
awr.
Ysgrifenwyd yr erthyglau gwreiddiol yn aml yn frysiog yn nghanol prysurdeb
galwedigaethol; llawer o honynt pan oeddwn dan gystudd trwm; rhai o honynt
pan nas gallwn eistedd i ysgrifenu, ae y gorfodid fi felly i’w traddodi i law
arall eu hysgrifennu yn ymyl fy nghlaf wely. Nodir y ffeithiau hyn yn awr yn
benaf am y priodolid y pryd hwnw - ac eto - ran o leiaf o’r awduraeth i
Aelodau Seneddol neillduol. Dymuna’r awdwr hysbysu mai efe, ac efe yn unig,
oedd yn euog o’u cyhoeddi fel yr ymddangosasant gyntaf, ac na “ysbryddolwyd”
hwynt gan neb arall. Eto gyda phob gwyleidd-dra
|
|
|
|
|

(delwedd 1484) (tudalen vi)
|
(vi)
tudalen
weili ymfalchia yn y ffaith ddarfod iddo dan y cyfryw amgylchiadau, lwyddo i
roddi portreadau mor gywir o’r hyn a gymerai le o’r tu ol i’r lleni fel y
tybiai hyd yn nod y chwareuwyr mai rhai o’u cwmni hwy eu hunain a wnaethai eu
brad!
Wrth barotoi yr ysgrifau hyny i ymddangos Yn eu ffurf bresenol ceisiais adael
allan bob peth a ymddangosai imi fel wedi colli ei ddyddordeb i’r cyhoedd. Yr
amcan oedd cyflwyno’r Adgofion yn awr fel pe yr ysgrifenasid hwynt yn 1898, ac nid yn 1893-95.
Ceisiwyd gwneud i’r Adgofion adrodd eu stori eu hun am un o’r cyfnodau
pwysicaf yn hanes dadblygiad gwleidyddiaeth a chenedlaetholdeb Cymru. A
lwyddwyd i wneud hyny barned y darllenydd.
Fel cynorthwy pwysig at
gadw i fyny ddyddordeb y cyhoedd, anturiais ddwyn newydd-beth i fewn i
lenyddiaeth Gymreig – sef y Cartoons sy’n addurno’r gyfrol bresenol. Gan nad
pa cyhyd y pery dyddordeb y cyhoedd yn “Dafydd Dafis” fel cynyrch llenyddol,
teimla’r awdwr yn falch i feddwl ei fod wedi llwyddo i ddangos i’r byd fod
Cymru yn gallu cynyrchu talent arlunyddol o’r radd flaenaf, bod i’r dalent
hono faes cyfreithlawn yn llenyddiaeth gartrefol y genedl, ac y medr
Cyhoeddwyr Cymru wneud cyfiawnder â chynyrch Celf Cymru. O’r saith arlunydd y
ceir eu gwaith yn y gyfrol hon, mae chwech yn dal cysylltiad agos â Chymru, a
phump yn Gymry yn mron mor Gymreig a Dafydd Dafis ei hun!Yn y cysylltiad hwn
gweddus cydnabod caredigrwydd Mr. Marchant Williams yn caniatau adgynyrchu
rhai o ddarluniau Will Morgan o’r “Welsh Members of Parliament;” ar Meistri
Bradbury, Agnew a’u Cyf., Perchenogion “Punch,” am gyffelyb ganiatad caredig
i adgyhoeddi rhai o’u Gwawd Ddarluniau hwy - caniatad a werthfawrogir yn fwy
am na roddwyd ef o’r blaen erioed i unrhyw waith Cymreig, ac hyd wyf yn wybod
i ond yn unig un cyhoeddwr Seisnig erioed. Gweddus cydnabod rhwymedigaeth
bersonol i’r Cartoonist galluog, Mr. E. T. Reed, am y cymorth gwerthfawr a
roddodd efe yn y mater, ac am rai darluniau gwreiddiol o’i eiddo nad
ymddangosasant o’r blaen.
|
|
|
|
|

(delwedd 1485) (tudalen vii)
|
(vii)
Gan nas gallwn, heb chwyddo’r gwaith i faintioli direswm, fanylu
cymaint ar ddigwyddiadau eleni a llynedd ag ar flynyddoedd cyntaf yr hanes,
ceisiais wneud i fyny am y diffyg drwy gymhwyso y rhan fwyaf o’r Cartoons
gwreiddiol at amgylchiadan y ddwy flynedd olaf.
Prin mae eisieu ychwanegu nad oes na gwenwyn na malais wedi symbylu ysgrifbin
yr awdwr na phwyntil yr arlunwr. Ceisiodd y naill fel y llall roi y wedd
ddifyr ar ddigwyddiadau bywyd cyhoeddus dynion cyhoeddus y genedl. Eithr
gwnaed hyny mewn perffaith natur dda – ac nid gormod yw dweyd mai cyfeillion
personol agosaf yr awdwr yw rhai o’r rhai a ymddangosant amlycaf yn y rhanau
mwyaf difyr o’r gwaith. Eto, credaf fod gwersi buddiol i Gymru, i’w
gweleidyddiaeth, ei chrefydd, a’i harferion cymdeithasol, yn gorwedd o dan yr
holl ddifyrwch. Llawenychaf wrth weled fod y farn gyhoeddus, fel y’i
cynrychiolir gan y Wasg Seisnig a Chymraeg, yn cymeryd yn ymarferol yr un
olwg ar genhadaeth “Dafydd Dafis” ag a gymerir gan
Eich ufydd was,
YR AWDWR.
Mehefin, 1896
|
|
|
|
|

(delwedd 1486) (tudalen viii)
|
CYNWYSIAD.
Pennod I. – Dechreu’r Helynt. :: x1
- Y wraig
a minau ::
- Eisio imi fynd yn A.S. ::
- Dagrau a llawenydd ::
- Y wraig yw pen y gw^r ::
- Ysgrifenu at Tom Ellis ::
::
Pennod II. – Y Garej and Pêr.
:: x6
- Llythyr Tom Ellis ::
- Y lle
lle gwneis i gamsyniad ::
- Ffordd Claudia ::
- A’i salwch ::
- Y Gwd Ffêri - ::
- Y ddreif
gynta tu nol i’r ddau geffyl glâs ::
::
Pennod III. – Y Ddau Geffyl Glas Cynta. :: x13
- Practeisio yn y garej ::
- Adgofion ::
- Yr hogyn
tlawd a’r gw^r cyfoethog ::
- Achub bywyd Claudia ::
::
Pennod IV.- Yn Yr Hows of Comons. :: x20
- Dreifio i’r Ty^. ::
- Brenin Begeriald Cymru ::
- Tom Ellis a Lloyd George ::
- Difishyn Bel ::
- Y Cariadon Seneddol ::
- Gwd bei ::
- Dinbach! ::
- Iyng Wêls yn achub einioes Gladstone.. ::
::
Pennod V. - Gyda’r Merched. :: x29
- Sut i wynebu Claudia ::
- Cofio’r tric â mam ::
- Ffoi i’r gwely ::
- Pryder Claudia ac athrod Sarah ::
- Tranoeth ::
- “Y
gnwy^r” yn erbyn y byd ::
- Cynddylan, y Gymdeithasfa, a’r Aelodau ::
- Humphreys Owen a’r Esgob ::
- S. T. Evans a’r Briodas Frenhinol ::
::
Pennod VI. - Methodist ynte Cymro. :: x38
- Barn f’ewyrth am Claudia ::
- “Gwraig a Gw^r” ::
- Y ffeit hefo Claudia ::
- Pam **’rwy’n Fethodist ::
- Abel Thomas a Sir Gaerfyrddin ::
- Cwestiwn y Dadgysylltiad ::
- Lady Henry Somerset ::
- Gwaith imi eto ::
|
|
|
|
|

(delwedd 1487) (tudalen ix)
|
(ix) ::
Pennod VII. - Gyda’r Aelodau. :: x47
- Ble mae’r Chwip? ::
- Beth ydi gwaith Chwip? ::
- Beth ydi “pario”? ::
- Mr. Majority Banks ::
- Herbert Lewis ::
- Mabon a Richard Morris ::
- Tân y Western Mail ::
- Mr. Counsilor Beavan a’r botal ::
- Yr Aelodau Cymreig a Gladstone ::
::
Pennod VIII. - Y Cymru a Mr.
Gladstone. :: x56
- Yr
ohebiaeth a’r hen w^r ::
- Sut y cefais i o ::
- Y tair plaid Gymreig ::
- Y llythyr at Mr. Gladstone ::
- Pwy a’i harwyddodd ::
- Pwy beidiodd ::
- Yr atebiad iddo ::
- Dehonglwr meddwl Mr. Gladstone ::
- Yr Aelod newydd dros Abertawe ::
- Samuel Smith yn **’maflyd yn ngholer Rathbone ::
- Bryn Roberts mewn cwmni drwg ::
- Bowen Rowlands a’i sedd ::
- “Tobit” yn ceisio gwlad well ::
::
Pennod IX. - Cweryl a Claudia. :: x67
-
Uchelgais Claudia ::
- Callineb y Papurau Cymraeg ::
- Am i mi fod yn “Syr Dafydd” ::
- Sut i mi gael bod yn “Syr” ::
- “Syr” John Piwlston ::
- Anwybyddu Cyniru ::
- Tywysogion anghofus ::
- Cost y Briodas ::
- Colli fy nhymer ::
- Côt of Arms Dafydd Dafis ::
::
Pennod X.
- Dalen o f’hanes boreuol. :: x76
-Y Frenhines a Claudia ::
- Profedigaeth Mr. Rathbone ::
- Clos Y Gogledd, a Chlos y De, a Chlos Nein ::
- Y Carpenter a’r Watchmaker ::
- Y Jacs-in-the-bocs Gwyddelig ::
- Pobl Arfon a Mr. Rathbone ::
::
Pennod XI. - Cyffesiad Bryn Roberts.
:: x86
- Tê Parti yn ein ty^ ni ::
- Bryn Roberts a D. A. Thomas ::
- Cyffelybiaeth Farddonol ::
- Y
Ddeiseb ynghylch y Brifysgol ::
- A oes Plaid Gymreig? ::
- Dameg Bryn Roberts ::
- Aralleiriad D. A Thomas ::
- Beth fydd nesa? ::
::
Pennod XII. - Donibrwc Ffer. :: x93
- Row yn y Ty^ ::
- Stop-tap siarad ofer ::
- Herod a Judas ::
- Logan a
Carson ::
- Golygfa ryfedd ::
- Ffri ffeit ::
- Dafydd Dafis a John.Burns ::
- Dafydd Dafis a’r Swyddog ::
- Urddas Gladstone ::
|
|
|
|
|

(delwedd 1488) (tudalen x)
|
(x) ::
Pennod XIII. - Cyfarfod Dirgel arall. :: x101
- Pwysigrwydd Dafydd Dafis ::
- Cwrdd Eglwys ar ei achos ::
- Ceisio cau i geg o ::
- Mr. Rathbone fel Thomas yn anghredadyn ::
- Sail ffydd Bryn Roberts ::
- Y Major yn amddiffyn hawliau’r Wasg ::
- Llythyr Mr. Gladstone ::
- Cenadwri Stiwart Rendel ::
- I’ch
Pebyll, Israel! ::
- Y Chapel Sites eto.. ::
::
Pennod XIV. - Yn y **’Steddfod. :: x111
- Eisio
teitl ::
- Ble i’w gael o ::
- Sut i gael teitl mewn **’Steddfod ::
- Mynd i Bontypridd ::
- Gael fy ngodro yno ::
- Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ::
- Llyfr yr Orgraff ::
- Cymdeithas Addysg Merched ::
- Yr Orsedd ::
- Ogof Macphelah’r Beirdd ::
- Adres Dafydd Dafis ::
::
Pennod XV. - Hogi’r Arfau. :: x124
- Cyfarfod arall o’r Blaid Gymreig ::
- Complit
Letar Reitar y Blaid ::
- Rathbone a Sam Evans yn gwrthwynebu ::
- Salwch Bryn Roberts ::
- Y Ffeiting Mejor ::
- Stiwart Rendel i’r ffrynt ::
- Cân Alfred Thomas ::
- Syr Edward Reed a’r Mejor ::
- Penau’r Bregeth a’r Casgliadau ::
::
Pennod
XVI. - Yr Ogof Gymreig. :: x129
- Beth yw Ogof Seneddol? ::
- Ogofau Chamberlain a Rathbone ::
- Ogof Adulam y Cyfieithiad Diwygiedig
::
- Y pedwar ogofwr ::
- Pam na bai Ellis a Lloyd George yn joinio ::
- Esboniad Dafydd Dafis ::
- Y Plans a’r Spesifficeshyns ::
- Yr Arcitect a’r Contractor ::
::
Pennod XVII. - Rhostio’r Aelod. ::
x136
- Claudia yn darllen llythyr Bryn Roberts ::
- Digter Claudia ::
- Mynd i Ginio ::
- Mr. a Mrs. Wynford Philipps ::
- Claudia’n swyno Bryn ::
- A’i rostio ef ::
::
Pennod XVIII. - Triciau Loyd George.
:: x148
- Amryw ddoniau Lloyd George ::
- Ei wendid o ::
-
Claudia’n cael y gora arno fo, wrth gwrs
::
- Gwraig Shon Robaits yn ceisio efelychu Claudia ::
- Ac, wrth gwrs, yn methu ::
- Bedi’r dwymyn werdd? ::
|
|
|
|
|

(delwedd 1489) (tudalen xi)
|
(x0x) ::
Pennod XIX. - Ffarwelio a’r Ty am
Dymor. :: x155
- Gyda’r Aelodau Cymreig eto ::
- Bygwth mynd ar streic ::
- A
pheidio ::
- Y Colera yn y Ty ::
- Claudia’n dychryn ::
- Minau’n cael gorphwys ::
- A mynd i Ffrainc ::
::
Pennod XX.
- Dechreu’r Otym Seshyn. :: x162
- Wedi dod’nol! ::
- Tair wsnos yn Ffrainc ::
- Dechreu’r Otym Seshyn ::
- Ellis, Lord Cynlas ::
- Stiwart Rendel a’r dyfodol ::
- Depiwteshyn at Dafydd Dafis
::
::
Pennod XXI. - Helynt Y Teigar. :: x170
- Dafydd a Dic Whittington ::
- Claudia am fy ngwneud yn awdwr ::
- Cais hynod Claudia ::
- Dafydd fel Herod wedi gaddo gormod ::
- Chwilio am deigar ::
- Helynt y teigar ::
::
Pennod XXII. - Profedigaeth Sir Fon.
:: x179
- Tredmil Aelod Seneddol ::
- Be **’di pario ::
- Stori Tom Ells ::
- Welsh Nashynalists Seisnig ::
- Mynwy a Brycheiniog ::
- Depiwteshyn Sir Fon ::
- Ai fi ydi Dafydd Dafis ::
::
Pennod XXIII. - Temtiad Dafydd Dafis. :: x195
- Depiwteshyn arall ::
- Oddiwrth Lord Solsbri ::
- Ar y ffordd i Gaerdydd ::
- Ei gariad at Gymru ::
- Hen Wlad fy Nhadau mewn gwisg newydd ::
- Baner Solsbri, a Baner dafydd Dafis ::
- Syr Stafford Northcote a Dr. Treharne – ::
- Temtio Dafydd Dafis ::
::
Pennod XXIV. - Dafydd Yn mblith y
Doctoriaid. :: x214
- Codi yn
y Coleg ::
- Eidea Claudia ::
- Y Jyj a’r Eglwys ::
- Mynd at Mr. Acland ::
- Ddi Dafydd Dafis Scolarship ::
- Begars o Gymru ::
::
Pennod XXV. - Yr HenWas – a’r Newydd.
:: x220
- Claudia’n teyrnasu, fel arfer ::
- “Dreif on John!” ::
- Ciniawa
gyda Gladstone yn Biarritz ::
- Newid y gweision ::
- Barn Gladstone
am Dafydd ::
- Program Rosebery ::
|
|
|
|
|

(delwedd 1490) (tudalen xii)
|
(x0xii) ::
Pennod XXVI. - Dechreu’r Gwrthryfel
:: x231
- Seiet ola Stiwart Rendel ::
- Son am neud Dafydd yn Veicownt ::
- Syr William Harcourt yn insyltio Syr George ::
- Y cyfarfod dirgel yn 963 Park Lane ::
- Trefnu’r Gwrthryfel .. ::
::
Pennod XXVII. - Claudia a Syr William
Harcourt. :: x238
- Mynd at Syr William ::
- Ffordd Claudia hefo fo ::
- Amddiffyn Anrhydedd Cymru ::
- Ei farn o am yr Aelodau Cymreig ::
- Achos diolch Syr William, ::
- a Dafydd ::
::
Pennod XXVIII. - Gyda Meibion y Prophwydi. :: x246
- “Is leiff wyrth lifing?” ::
- Ecstraordinari Honorarl Membar ::
- Gwerth digrï ::
- Dafydd Jesse, Mus. Doc. ::
- Iwnifersiti Bethel ::
- Gwarogaeth Meibion y Prophwydi ::
::
Pennod XXIX. - Carcharu Dafydd gan y Gwyddelod. :: x253
- Hanesydd
y dyfodol ::
- Ddi grê senseshyn ::
- Pam nad ysgrifenwyd hanes y Rifolt ::
- Diflaniad anesboniadwy Dafydd Dafis ::
- Y Cidnappers Gwyddelig ::
- Teligram drud ond rhad ::
- Claudia’n Scotland Yard ::
::
Pennod XXX. - Ddi Lo of Compenseshyn.
:: x266
- Demonstreshyn y teligrams ::
- Llougyfarchiadau’r byd ar (sic) Betws ::
- Enw Cymraeg Claudia ::
- Ceisio gosod trefn ar bethau eto ::
- Y sgwrs
hefo’r pedwar gwrthryfelwr ::
::
Pennod XXXI. - Ofeshyn yn Nhy’r
Cyffredin :: x276
- Fisit eto i Dy^’r Cyffredin
::
- Offrwm Cymod y Werddon ::
- Bryn a Claudia’n ffrindia ::
- Y Demonstreshyn
yn y Ty^ ::
- Barn y Spicar ::
::
Pennod XXXII. - Sut y gwnaed John Owen yn Esgob. :: x288
- Lynsh gyda Alfted ::
- Esgob
Llanelwy yn cael ei ddiarddel ::
- Yr Esgob eisio help Dafydd Dafis ::
- Ymweliad a Solsbri ::
- Gorchfygu Satan eto ::
::
Pennod XXXIII. - Dagrau a llawenydd.
:: x302
- Ydi
Claudia wedi digio? ::
- Agor ein calonau ::
- Teithwyr a Phererinion.. ::
|
|
|
|
|

(delwedd 1491) (tudalen xiii)
|
(x0xii) ::
Pennod XXXIV. - Dafydd fel Bardd Cwsg. :: x307
- Gwilym ap Harddgot ::
- Chamberlain y Showman ::
- Yr Asyn Anufydd ::
- Swyddfa’r Brifysgol ::
- Streic y Penrhyn ::
- Brwydr Cynhadledd Caerdydd ::
- Gwedd Meirch Seneddol Cymru ::
- Gwahanol Olygfeydd ::
- Rhyddfreiniad y Ddynes ::
::
Pennod XXXV. - Caru, Priodi, a Byw.
:: x314
- Dyddiau carwriaeth ::
- Y ddau offiser yn y thiatr ::
- I’w myst asc mei ffadder! ::
- Gofyn i dad Claudia ::
- Synu Claudia a’i modryb ::
- Y Laethwraig newydd ::
- Claudia’n fy synu ina ::
::
Pennod XXXVI. - Dafydd a’r Frenhines. :: x322
- Y Droing Rwm ::
- Ofni am synwyr Claudia ::
- Bedi Cort Dress ::
- Bedi Inffra Dig ::
- Yn y Queen’s Droing Rwm ::
- Dychryn ::
- Claudia
::
- Iarll Tre’r Llaethwr ::
- Y diwedd ::
::
Anerch Ffarwel gan gynyrchwyr “Dafydd
Dafis” :: x336
.....
|
|
|
|
|

(delwedd 1492) (tudalen xiv)
|
RHESTR
DARLUNIAU.
:: RHIF Y LLUN :: ::
:: TUDALEN
:: d1 :: CARTRE DAFYDD — (T. H.
Thomas) :: (Dafydd Dafis o Claudia ger 963 Park Lane) :: Gwyneblun
:: d2 :: GWEDD MEIRCH SENEDDOL CYMRU — (Dyer
Davies) :: (Aelodau Rhyddfrydol Cymru) :: 1
:: d3 :: PEDWAR ESGOB CYMRU — (Ab
Caledfryn) :: :: 8
:: d4 :: GWILYM AB HARDDGOT — (E. T.
Reed) :: (Syr William Harcourt fel Bardd Cymreig) :: 16
:: d5 :: EIN HEN BENDEFIGION (F. G.
Gould) :: (Arglwydd Penrhyn a'r Anrhydeddus Douglas Pennant) :: 24
:: d6 :: RHYDDFREINIAD Y DDYNES — (Ab
Caledfryn) :: (Prif Arweinyddesau
Mudiad y Merched) :: 32
:: d7 :: Y FFORDD DDYLASAI RODIO — (Dyer
Davies) :: (Mr. Abel Thomas; Parch. W.
Davies, Llandilo; Parch. Towyn Jones) :: 40
:: d8 :: GLO, AUR, AC ALCAN CYMRU — (Will
Morgan) :: (Mabon, Pritchard Morgan, a D. Randell) :: 48
:: d9 :: GWELL DAU NA THRI — WEITHIAU — (F.
C. Gould) :: (Mr. Chamberlain, Argl. Salisbury, Arglwyddes Londonderry)
:: 64
:: d10 :: YR HOGYN DRWG — (Dyer Davies)
:: (Alfred Thomas, D. A. Thomas, T. Ellis, Lloyd George, Rosebery, Harcourt,
a Balfour) :: 72
|
|
|
|
|

(delwedd 1493) (tudalen xv)
|
:: d11 :: ARWEINYDD NEWYDD Y BLAID GYMREIG — (E. T. Reed) :: (Alfred Thomas a’r Ddraig Goch) :: 80
:: d12 :: MAES
PENFRO — (Ab Caledfryn) :: (Mr. a Mrs. Wyford Philipps; Iarll Cawdor; Argl. Emlyn; W. Jones,
A.S.; Syr Charles Phillips; Parch. L. James, Brynbank, Parch.. W. Jones,
Trewyddel) :: 88
:: d13
:: dONIBRWC FFER YN NHY'R CYFFREDIN — (E.
T. Reed) :: (Aelodau Ty'r
Cyffredin yn cwffio) :: 96
:: d14 :: PWY YDI DAFYDD DAFIS ? — (Will
Morgan) :: (Major Jones, Lloyd George, Syr Edward Reed, Mr. Rathbone) ::
104
:: d15 :: GORSEDD Y BEIRDD A'R ARCHDDERWYDDIAETH — (Ab Caledfryn) :: (Prif Feirdd Cymru) :: 112
:: d16 :: PEDWAR MATH O AELOD CYMREIG — (F.
C. Gould) :: (Syr William
Harcourt, Mr. Maclean, Mr. Alfred Thomas, Mr. D. A. Thomas) :: 120
:: d17 :: (PWY YDI PWY — (E. T. Reed)
:: (Syr Charles Dilke and Mr. McKenna) :: 128
:: d18 :: Y TRI BRAWD — (Ab Caledfryn)
:: (Mr. Gladstone, Mr. T. Gee, Mr. Carr) :: 136
:: d19 :: RHOSTIO'R AELODAU — (Dyer
Davie) :: (Claudia a'i chyfeillesau yn pluo a rhostio Aelodau Seneddol)
:: 144
:: d20 :: Y MEISTR NEWYDD A'R HEN SGOLARS — ( Will Morgan) :: (Alfred Thomas, Bryn Roberts, a D. A. Thomas)
:: 160
:: d21 :: FFASIYNAU NEWYDD — (F. C.
Gould) :: (Salisbury a Chamberlain
ag Etholiadau Cymru) :: 176
:: d22 :: NID MÔN YW'R LLEIAF — (E. T.
Reed) :: (Mr. Ellis Jones
Griffith) :: 184
|
|
|
|
|

(delwedd 1494) (tudalen xvi)
|
:: d23 :: TORIAETH GYMREIG — A FU, AR SYDD, AC A DDAW — (Dyer Davies) :: (Aelodau
Toriaidd Cymru) :: 192
:: d24 :: SWYDDFEYDD PRIF YSGOL GYMRU — (Ab
Caledfryn) :: (Prif Swyddogion Llys Prif Ysgol Cymru) :: 208
:: d25 :: BRWYDR CYNHADLEDD CAERDYDD — (Dyer
Davies) :: (Y prif bersonau yn y ddadl
dros siarad Cymraeg) :: 224
:: d26 :: CONTRACTIO
ALLAN — (E. T. Reed) :: (Mri. Chamberlain, Maclean, a Jemmy Lowther) :: 240
:: d27 :: GWELEDIGAETH STREIC Y PENRHYN — (Arthur
E. Elias) :: (Argl. Penrhyn, Mr. Young, Mr. Carter, Mr. W. J. Williams,
Mr. D. R. Daniel, Mr. Ritchie, a Dirprwyaeth Gweithwyr Bethesda) :: 256
:: d28 :: Y FANGL
ESGOBOL — (Dyer Davies) :: (Archesgob Caergaint, Esgob Llanelwy,
Arglwydd Salisbury, Mri. T. Ellis; Humphreys Owen, a W. Lumley) :: 272
:: d29 :: CROESAW ADRE — (Ab Caledfryn)
:: (Talent merched Cymru'n croesawu
Claudia a Dafydd) :: 288
:: d30 :: GORCHWYL ANHAWDD — (E. T. Reed) :: (Mr. Maclean a Syr
William Hart-Dyke) :: 320
:: d31 :: ANERCH FFARWEL — (Ab
Caledfryn) :: (Awdwr, Arlunwyr, a Chyhoeddwr “Dafydd Dafis”) :: 336
______________________________________________________
|
|
|
|
|

(delwedd 1495) (LLUN))
|
DONIBRWC FFER YN NHY’R CYFFREDIN
|
|
|
|
|

(delwedd 1496) (tudalen 01)
|
DAFYDD
DAFIS.
PENNOD 1.
DECHREU’R HELYNT.
- Y wraig a minau - Eisio imi fynd yn A.S. - Dagrau a llawenydd - Y wraig
yw pen y gw^r - Ysgrifenu at Tom Ellis
“David,” ebe’r wraig yn sydyn, “Ei want iw tw get intw ddi hows!”
(Bernais yn ddoeth, wrth olygu yr Adgofion hyn i’w cyhoeddi, i ddilyn orgraff
wreiddiol Dafydd Dafis ei hun. Eithr ni fydd nemawr anhawsder i’r Cymro
ddarllen Saesneg yr awdwr, gan fod Dafydd yn sillebu ei Saesneg yn Gymraeg ac
nid yn. Saesneg. Darllener felly ei Saesneg fel petai Gymraeg, a daw’r sain
yn gywir, a’r synwyr, wrth gwrs, yn canlyn.
- GOL. YR HUNANGOFIANT.)
Codais fy llygaid mewn syndod a phenbleth.
Gael i chwi gael deall, **’rwan, sut roedd pethau yn bod, mi roeddan ni’n
dau, y wraig a minau, y prydnawn Llun Sulgwyn hwnw,
(Gwel y darllenydd oddiwrth gynwys penodau canlynol mai at ddigwyddiadau’r
flwyddyn 1893, hyny yw ail dymor Seneddol Gweinyddiaeth olaf Mr. Gladstone, y
cyfeiria Dafydd Dafis yn nechreu ei adgofion gwleidyddol, a dug hwynt i lawr
hyd yr amser presenol (1898). – GOL.)
yn eistedd un bob tu i’r aelwyd fel byddan ni’n arfer a gwneud. **’Roedd
Claudia’n pondro uwch ben rhywbeth **’roedd hi’n galw Mac Rami arno fo, - er nas gwn i pwy ar wymad daear oedd yr hen
greadur
|
|
|
|
|

(delwedd 1497) (tudalen 02)
|
(x2) DAFYDD DAFIS. hwnw chwaith,
rhagor na mai Scotshman oedd o wrth ei enw. A thra **’roedd Claudia’n poeni,
ei hun, hefo gwaith Mac Rami, mi roeddwn inau’n darllen Y Genedl, fel
byddwn i’n arfer a gwneud yr adeg hono ar brydnawn os na fyddai’r Beibl, neu
Draethodau Llenvddol Dr. Lewis Edwards genyf wrth law.
Fel **‘rydach chi’n gwybod, mae “busines llaeth” fel y byddwn ni’n ei alw fo
**’rwan, neu “werthu llefrith,” fel yr arferwn ei alw ys talwm, wedi talu ei
ffordd i lawar un yn Llundan yma, - ac mi rydw inau’n un o’r rheiny. Mi rof
fy hanes i chwi ryw dro, ac mi ddalia i, nad yn aml y cewch chi well nofel na
f’hanes i o’r dydd y deuthym i’r ddinas fawr yma, yn hogyn o’r wlad, heb
geiniog goch yn fy mhocad, hyd **’rwan, pan y medrwn, tae fater am hyny,
brynu holl stad y sgweiar yn Llanidris lle ces fy magu. Ond daw hyny yn ei
dro cyn bydda i wedi gorphen ysgrifenu’r adgofion yma.
“Ies, David, diar,” ebe’r wraig eilwaith, “Ei wont tw get iw intw
ddi hows!”
“Be andros,” ebe fi wrthyf fy hun, “sy ar Claudia **‘rwan ?”
Mi rodd y peth yn fy mlino am ddau reswm; yn un peth, fydd Claudia byth yn fy
ngalw i yn “David diar,” os na fydd hi am gael rhyw gais mwy na’r
cyffredin gin i, - Mr. Davies fydd hi fel rheol gan Claudia; ac yn yr ail le,
mi roeddem, fel y deidais i eisys, ein dau yn y ty^ ar y pryd.
“Hwot dw iw min **’y nghalon i?” meddwn. “Ei am in ddi hows now,
mei diar!”
“Ei dw wish iw wd toc sensibli
David,” ebe hithau, gan guro blaen ei throed ar y ffwtstwl sidan - arwydd
sicr nad oedd hi yn meddwl cymeryd dim lol. “Now dw pwt ddat horid peper
owt of iwar hand ffor a minit, and lisn.”
|
|
|
|
|

(delwedd 1498) (tudalen 03)
|
(x3) Hard leins ar Y Genedl oedd ei alw fo’n “horid
peper”, hefyd, ond gan fod y droed yn parhau i guro, bernais mai doethach
gwneyd, a chadd Y Genedl fynd o’r neilldu er mwyn Claudia, - fel y
cafodd llawer peth gwell nag o lawer pryd.
“Now, David, hwot Ei min is Ei wont
iw tw go intw ddi Hows of Comons.”
Wel, **’toedd dim o hyn yn gwella rhyw lawar ar bethau; mi rodd Ty^’r
Cyffredin yn nghau, a’r aelodau gyd ffwrdd dros Wyliau’r Sulgwyn. Mentrais
inau ddeyd hyny, a dyma’r droed yn curo yn nghynt o’r haner.
“How stiwpid iw can bi tw hi siwar!” medde hi. “Hwot Ei min is ddat
iw myst gif yp bisnes and go intw ddi Hows.”
Wel, a deyd y gwir yn onast wrtha chi rwan, **‘toeddwn i ddim rhyw lawar iawn
callach eto. Pa eisio rhoid y fusnes i fyny oedd er mynd am dro i Dy^’r
Cyffredin? Er na **’toeddwn i wedi bod yno erioed, ran hyny, mi rown i’n
gybyddus a Tom Ellis, ac mi rodd wedi deyd wrtha i y noson hono y buodd o’n
gadeirydd y’n te parti ni hefo’r Ysgol Sul ar’s dwy flynedd yn ol, ebe fo:
“Mr. Dafis os bydd arnoch chi neu Mrs. Davies eisio rhyw dro weled Ty^ y
Cyffredin, rhowch wybod, a mi ofala i am wneyd pob peth yn stre’t acw i chi. Rimembar
Mrs. Davies, Ei shal hi at iwar syrfis at ôl teims.”
Felly, **’toedd dim trafferth i fod am gael mynd i mewn, a lol wirion oedd
son am roid y fusnes i fyny, - er nad oedd Claudia ddim wedi godro buwch er’s
deuddeng mlynedd, nac wedi bod yn edrych ar y dynion yn llanw’r tiniau er’s
tros ddeg, a **’doeddwn ina ddim ond yn mynd am dro hwyr a bora er’s dwy neu
dair blynedd bellach.
Dichon eich bod chi’n synu fod rhwfun fel Claudia wedi
|
|
|
|
|

(delwedd 1499) (tudalen 04)
|
(x4) bod yn trafod llaeth (ond amser tê) erioed, heb son am
odro buchod. Mi rydw i wedi synu ganwaith f’hun, a phan ddeyda i’r stori i
gyd wrtha chi, pa sut y daeth hi i’r fusnes llaeth, ac o ble doeth hi, fel y
deyda i wrtha chi yn y man, mi synwch chitha fwy fyth. Mi fedra dyn dall
weled mai nid yn myd y buchod y ganed Claudia - ond mi ddeyda i’r cwbwl wrtha
chi yn y man.
‘“Tw pwt it plenli,” ebra hi, pan welodd na **’toeddwn i’n dallt yn
iawn be oedd ganddi, “Ei wont iw tw get a sit in Parlament. Ei thinc
iw haf as mytsh reit tw bi a Membar of Parlament as meni of ddos hw ar
dder.”
Wel, mi doris i allan i chwerthin dros y
lle. Fedrwn i yn fy myw beidio. Mi roedd y syniad yn rhy chwerthinllyd i mi
beidio. Fi, oedd wedi fy magu ar y fferm fynyddig Cwmyronen, yn Llanidris, yn
meddwl am wneyd yr hyn oedd y sgweiar wedi methu gneyd, er iddo gynyg dair
gwaith, a gwario’r byd o arian wrth geisio a methu; fi, oedd wedi d’od i
Lundain heb geiniog tu cefn i mi chwarter canrif cynt, yn meddwl am fynd i’r
Senedd gyda’r gwyr mawr, os gwelwch yn dda; fi, nad oeddwn yn gwybod dim
Saesneg ond yr hyn oedd Claudia wedi ddysgu i mi; fi yn meddwl myned i’r fan
lle **’roedd siaradwyr goreu’r deyrnas yn ymgynull! Mi roedd y syniad mor
hynod, mor “owtrejys,” ys deydai Claudia, nes, fel y deydais, i mi
chwerthin dros yr holl le. Fedrwn i yn fy myw beidio.
Ond mi fasa’n well imi beidio hefyd, fel gallaswn i fod yn gwybod yn reit dda
petawn i wedi meddwl am hanar mynud be oeddwn i’n wneyd. Dichon, pytawn i heb
chwerthin pan wneis i, na fasa dim llawar wedi dod o’r peth, ac y cawswn ina
lonydd fel cynt i fwynhau fy hun adre yn nghwmni Claudia yn lle troi cefn ar
aelwyd
|
|
|
|
|

(delwedd 1500) (tudalen 05)
|
(x5) dawel, a rhuthro, fel gwneis i, ar fy mhen i ganol dwndwr
a ffwdan gwleidyddiaeth.
Eithr nid eiddo gw^r ei ffordd **’nenwedig os bydd o’n briod, a’i wraig yn
fyw, a hono rywbeth tebyg i Claudia!
Nid cynt y daru mi chwerthin, na dyma Claudia yn cochi fel tân, a’i llygada’n
fflachio fel dwy seren, ac yna’n perlio gan ddagrau, a’r hancas poced lês yn
dod allan - ac, mewn gair, mi welis fy mod i wedi rhoid fy nhroed ynddi. A
dyna fi fel ffwl gwirion at ei hymyl, ac yn taflu **’mraich am dani, fel yr
arferwn wneyd er’s talwm byd bellach, ac yn deyd:
“Fforgif mi, galon; iw no Ei didnt min it. Eil dw hwotefer
iw leic, Claudia bach!”
Mi ellwch chi chwerthin am y mhen i, os leiciwch chi - fydda i ddim llawar
gwaeth o hyny. Ond, fel na fedrwn i yn y myw beidio chwerthin pan soniodd
Claudia am i mi fynd yn Em Pi, felly fedrwn i yn y myw beidio mynd ati a
sychu ei dagrau pan weles y mod i wedi rhoid poen iddi wrth chwerthin.
A chyda mod i’n deyd dyma hithau yn codi’i phen, a gwelwn y dagrau wedi
boddi’r tân, ond wedi gadael goleuni arall ar ei hol, goleuni oeddwn wedi
weled ganwaith yn ei llygaid hi er’s tro byd; a dyma’r fraich wen am fy
ngwddw, a’m pen yn cael ei dynu i lawr ati, a wel, ddeyda i ddim chwaneg.
Ond diwedd y stori ydi hyn. Mi foddlonis i gymeryd y mater i ystyriaeth, ac
ymgynghori â Tom Ellis, ac edrych be welwn i ac a glywn i am y ffordd ora i
fynd o’i chwmpas hi i gael A.S. ar ol fy enw.
Mi ddaru’n setlo i mi sgwenu at Tom Ellis am gael tocyn i weld y Ty^’n
ddechreu’r wsnos wedyn, a threulio noswaith yn y Ty^ er gwelad sut rodd
petha’n mynd yno, a chlwad popeth oedd i’w glwad am dro.
|
|
|
|
|

(delwedd 1501) (tudalen 06)
|
(x6) Pennod II. – Y GAREJ AND PÊR.
- Llythyr Tom Ellis
- Y lle lle gwneis i gamsyniad
- Ffordd Claudia
- A’i salwch
- Y Gwd Ffêri -
- Y ddreif gynta tu nol i’r ddau geffyl glâs
Wel, mi sgwenis i at Tom Ellis, ac mi ges atab yn ol yn deyd wrtha i am fod
yn y lobi am bump o’r gloch ddydd Mawrth, ac y gofala fo am dana i wedyn. Mi
roeddwn i’n synu braidd i fod o’n ceisio gin i aros yn y lobi - wrth gwrs
lobi Ty^’r Cyffredin oedd o’n feddwl. Chymwn i ddim llawar am ddeyd wrth ddyn
diarth chwaethach cyfaill am aros yn y lobi; mi fydd y forwyn yma bob amsar
yn ceisio gan ddyn diarth i ddod i fiawn i’r hôl os nad i’r morning rwm pan
fydd yn galw i ngwelad i. **’Toeddwn i rywsut ddim yn hidio rhw lawar fod Tom
Ellis yn son am i mi aros yn y lobi.
“Be mae’r dyn yn feddwl ydw i, tybad?” ebra fi rhwng dau damad, wedi darllan
y llythyr i mi f’ hun wrth y bwrdd amser brecwast.
“Hwot is ddi matar, David?” gofynai Claudia. “Iwar corispondant
sîms tw haf pwt iw owt.”
“Allwn feddwl hyny wir!” atebis ina. “Lwcus mai ata i ac nid atach di Claudia
mae o wedi sgwenu.”
“Byt hw is it ffrom, and hwot is it abowt ?”
“Ond orwth Ellis mae o a – “
“And cant he get iw a pas? Ddi eidia!”
|
|
|
|
|

(delwedd 1502) (tudalen 07)
|
(x7) “Ydi, ydi, mae'r pas
yn ol reit deicyn i," atebis.
“Wel, hwot in ddi nêm of gwdnes is ddi
trybl?
“Wel, deyd mae o am i mi weitied iddo fo yn y lobi, fel taswn i ryw ffwtman
iddo fo! Aed Ellis a'i Hows of Comons i'w
grogi cyn rhosa i iddo fo yn y lobi! Fasa fawr gyn i iddo gael lle imi yn y wêtingrwm gan nad sut. Lobi'n wir! Mi ro
i lobi iddo fo!” a theflais ei lythyr ar y bwrdd.
Ar hyn dyma Claudia'n
chwerthin allan.
“Oh David! David!” ebe hi, "iwf
got a dîl tw lyrn! Eim affred Ei
myst cym widd iw ddi ffyrst teim affter ôl!”
Ond **'toeddwn i ddim yn leicio hyn chwaith, ae mi fuo Claudia, fel y bydd
hi, yn ddigon craff i weld hyny hefyd; a chan ofni y baswn i'n **'cau mynd
wedi'r cwbl, mi eglurodd i mi mai "y lobi" y gelwid **'stafell fawr
yn nghanol y Ty^, lle bydd byddigions yn aros i weitied am rai o'r aelodau, a
deudodd sut y bu arni hi ryw dro y bu yno.
“Oh, olreit os felly mae hi, neu mi roeddwn i am ddeyd y drefn yn ofnatsan
wrth Ellis os oedd o'n mynd i ngosod i yn y lobi fel rhyw dramp," ebe
fi.
Felly mi yris bostcard at Ellis i ddeyd y baswn i hefo fo dydd Mawrth yn ol y
trefniant. Ond mi gefis i cyn hyny brofi'n chwerw beth oedd cysylltiad â
Thy^'r Cyffredin yn debyg o gostio imi.
Gyda mod i wedi postio'r atab at Tom Ellis dyma Claudia yn troi ata i ac yn
deyd: -
"How dw iw propos going, David ?”
"Waeth gyn i," ebia finau. "Naill ai lawr trwy'r Green Park
neu rhyd Piccadilly a Trafalgar
Square."
“No, no!” atebai Claudia. "Not ddi wê byt ddi manar.”
|
|
|
|
|

(delwedd 1503) (tudalen 08)
|
(x8) "Oh," meddwn
ina, gan ddechra gweld be oedd gyny hi. "Waeth gyn i. Os bydd hi'n
ddiwrnod braf, mi fedra i gerddad. Dichon dowch chi hefo mi trwy Green Park am dro. Neu os bydd hi'n dywydd
mawr mi fydd bus yn pasio fforma ac mi a i yn hwnw."
Mi spiodd Claudia arna i'n wirion.
"Hwot dw iw mîn, David?" ebra
hi. "Going down tw ddi Howsis of
Parlament bei apointment tw mît a Membar of Hyr Majesti's Gyfyrment, and
tecing a comon bus! Ei am syrpreisd
at iw Ei myst se!"
A dyma hi'n taflu'r shwgartongs i
ganol y ddysgl cig mocb, ac yn gosod y teblspwn
yn y basn shwgwr.
Fydd Claudia byth yn anghofio'i hun felly os na fydd rhywbath fwy nag arfar
wedi ei chynhyrfu, ac mi dybis inau mai gora po cynta oedd imi offrymu aberth
dros bechod.
"Wel," ebra fi, "mae bus yn ddigon da i undyn, chwaethach i
werthwr llaeth fel fi. Ond os yda chi'n barnu'n wahanol Claudia bach, a i
ddim i gicio row yn i gylch o. Mi gyma i gab, neno dyn, os bydd hyny'n y'ch
plesio chi'n well."
Mi gnodd ei gwefus, ond prun ai i beidio chwerthin ai i beidio deyd gair oedd
ar flaen ei thafod, twn i ddim.
"Iwar coffi is cweit cold; let mi
gif iw sym hot;" ebra hi gan maflyd yn y nghwpan i a tholltio beth
oedd yno fo i'r slopbesn. "Jyst a litl bit mor bêcn David? Hiars a biwtiffwl litl bit," âc
heb weitied imi ddeyd baswn i na baswn i ddim, dyma hi yn rhoid darn ar y
mhlat i.
**'Toeddwn i ddim yn hanar leicio byny
chwaith — nid y bêcn ydw i'n feddwl, ond fod Claudia'n talu cymint o sylw i
fan gysuron bywyd imi ar frecwast fel hyn. Mi wyddwn fod rhywbath i ganlyn
roi y petha hyny. Gyda mod i'n
|
|
|
|
|

(delwedd 1504) (LLUN))
|
|
|
|
|
|

(delwedd 1505) (tudalen 09)
|
(x9) dechra cael blas ar
y coffi cynes a'r darn dewisol cig moch, dyma Claudia'n deyd:—
"Dont iw thinc, David, ddat ffor a
man in iwar posishyn, iw ot tw dw ddis thing handsymli?"
"Be da chi'n feddwl?" ebra fi. "Os ydy well gyno chi mi gewch
yru i nol preifat hansom imi, er y gwnai cab cyffredin yr un tro imi."
"Ies," atebai hithau, ond
yn amheus felly. "Ond tybad **'rwan, David, na ddylasa chi fynd yn eich
cerbyd eich hun?"
"Be da chi'n feddwl?" gofynis mewn syndod, gan rhoid y gyllell a'r
fforc ar y plat. **'Toedd gyn i run cerbyd, welwch chi, ond y ceir llaeth, mi
roedd gyn i gryn haner cant o'r rhei hyny. "Ond os yda chi Claudia am i
mi wneud, mi rydw i'n ddigon bodlon o'm rhan fy hun —— "
Ond cyn imi fedru gorffan dyma hi'n taflu ei theblnapcin ar y bwrdd, ac yn rhuthro ata i a thaflu ei dwy
fraich am y ngwddw i, ac yn deyd:
"Iw ar a diar old David afffer ôl!
Ei was olmost affrêd tw syjest it, and
hiar iw jymp at ddi proposal jyst tw plîs mi."
"Ie, ie," ebra finau, "ond ddylis i rioed basa peth felly'n
eich plesio chi Claudia, chwaith. Tyda chi ddim bodlon imi wneud hyny yn ymyl
y fferm chwaethach ar hyd Piccadilly."
“Gwneud peth, David,"ebra hitha gan spio'n wyllt yn fy llygid.
“Wel, gwneud rhyn yda chi'n geisio gyn i **'rwan i wneud, dreifio yn y car
llaeth tua'r Hows of Cornons."
“Oh! Gwd Hefns!" ebra hi, a
dyma hi'n rhoid sgrech, ac oni bai imi ei dal hi mi fasa wedi syrthio yn wysg
ei chefn i'r llawr.
|
|
|
|
|

(delwedd 1506) (tudalen 10)
|
(x10) Amball dro bydd
Claudia'n cael y ffitia sterics yma. Welis i ddim o honi yn eu cael nhw ond
dwy waith o'r blaen - un tro pan ruthrodd Sarah'r forwyn i fiawn ati i ddeyd
mod i wedi cael fy lladd ar y stryd o flaen y ty^, pan **'toeddwn i ddim, ond
ryw tshap arall, pwr ffelo, oedd wedi syrthio o dan y wagen; a'r tro arall
pan oedd hi wedi gwanio'n fawr ar ol hir salwch ac y digwyddodd i ryw beth tu
hwnt i’r cyffredin ei siomi hi'n arw. Mi fuodd am dridiau'r tro dweutha hyny
yn sal ofnatsan, a'r doctor yn dod yno deirgwaith bob dydd, a phan holis i o
am y peth, a sut roedd hi'n dod mlaen, mi ddeydodd:-
“Owar peshent ricweiars feri cerffwl
trîtment, feri cerffwl trîtment. Shi
posesis a heili stryng temperament, feri heili stryng, indid."
A mi dybis i wrth hyny ei bod hi mewn cyflwr reit beryglus. Mi gefis ofn yn
fy nghalon ei bod hi'n mynd i gael un o'r ffitia rheiny'r tro yma. Ond wedi
imi ei chario hi at y soffa, a'i rhoid hi ar wastad ei chefn fan hono, a
meddwl rhedeg i ganu'r gloch am help, mi roedd ei llaw hi'n dal am fy ngwddw,
a dyma hi'n agor i llygid ac yn deyd gydag ochenaid
"Sê it wos a jôc, David diar !”
Wel ie’n tad, jôc oedd o, be arall?" ebra fina, er mod i'n reit
ddifrifol yn y peth y deydis i hefyd. Mi fasa cyn gystlad gyn i ddreifio i
lawr at yr Hows of Comons mewn car
llaeth ag mewn cab o ran hyny.
"Byt i'w shwdnt, David! Iw gef mi
sytsh a shoc."
" **'Toeddwn i ddim yn styried basa ti’n i gymyd o felly, Claudia
bach," ebra finau, gan roid cusan ar ei thalcen gwyn llydan hi.
"Wna i ddim eto."
“Dys ddat miu ddat Ei am tw sî abowt it
meiselff ?” gofynai, gan wenu fel angyles arna i.
|
|
|
|
|

(delwedd 1507) (tudalen 11)
|
(x11)
“Ie, ie, wrth gwrs hyny,” ebra
finau, er na wyddwn i
ar wynab daear be oedd hyny chwaith.
“And Ei no ddi feri thing tw siwt iw,”
meddai hithau.
”Wil iw cym ffor a dreif ddis affternwn.”
“Do i, os gofalwch chi fod cerbyd yn barod,” atebis ina.
“Of cors it wil hi redi,” ebra
hitha. “Hafnt iw told mi tw sî abowt
it? Shal wi sé thri ocloc?”
Ac am dri o’r gloch dyma Claudia i fewn i fy ystafell
wedi gwusgo’r peth delia welsoch chi rioed.
“Hwot dw iw thinc of mei dreifing
costiwm?”
”Hyn,” meddwn i gan maflyd yny hi a rhoid clamp o
gusan mawr iddi.
“Dont, iw ffwlis boi!“ llefai hi. “Iwl spoil mei dres! Byt rili now dw iw
thinc it bicyms mi?“ a dyma hi’n troi
o gwmpas gael imi gael golwg lawn arni hi.
“Piti na fasa gyn i garej i dy siwtio di, Claudia bach;” ebra fina. “Toes yr
un ledi yn Llundain fasa’n edrych yn
well mewn carej ffyrst clas **‘rwan na’ch di.”
“Ffalsio yda chi **‘rwan, David, rwyn siwr o hyny,” ebe
hitha, gan spio fyny ata i o dan ei hamrantau duon
mawrion.
“Naci’n reit siwr ichi, mi rydw i’n deyd calon y gwir.
Be leiciwn i fasa broam ffyrst clas, **‘rwan, a dau geffyl glas mawr yno fo,
a chitha’n dreifio trwy’r parc heddyw’r prynawn yno fo tu nol iddyn nhw.”
“Dw iw mîn it rili?” ebra
hitha, gan droi i spio’n fy
llygid i. “Dden cym and sî hwot iwar
gwd ffêri has dun
tw mît iwar wishis!” A chan fachu’i llaw yn y mraich i
arweiniodd fi lawr i’r grisia, ac allan drwy’r ffrynt. “Ddêr!
Hwot dw iw thinc of ddat!”
Ac fel rwy yn y fan yma, dyna lle roedd o flaen y ty^ y
|
|
|
|
|

(delwedd 1508) (tudalen 12)
|
(X12) garej fwya swel, a'r ddau geffyl glas fwya biwtiffwl welodd
llygad dyn erioed!
Mi wn i rwbath am geffyla fel gwyddoch chi, ac mi welwn ar hanar
amrantiad fod y rhai hyn, fel Claudia ei hun, o waed uchel, ac mae'n rhaid
imi gydnabod imi yn y fan dori, neu meddwl mod i'n tori, y degfed gorchymyn
drwy chwenych eiddo fy nghymydog.
"Pwy pia nhw, Claudia?" ebra fi.
"Hwot a ffwlis cwestion! Ddê âr owars of côrs! Didnt iw tel mi
ddis morning tw sî abowt it meiselff? And Ei flatar meiselff iw ewdnt haf don
it mytsh betar. Byt Ei am glad iw âr plisd! Ar iw redi?"
Ac mewn breuddwyd arweiniodd fi i lawr hyd grisia ffrynt y tŷ ac
at y fan lle roedd y cerbyd yn ein haros, a'r côtshman yn codi ei benelin
ini, a'r ffwtman yn twtshad i het, ac yn agor drws y garej, a Claudia'n mynd
fiawn, a minau ar ei hol, a ffwr a ni, ac yn dreifio megys mewn breuddwyd o
hyd drwy Hyde Park, a hwn a'r llall yn bowio neu godi het i Claudia, a
Claudia'n bowio a minau'n codi f'het i atab.
Ond nid breuddwyd oedd hi pan dynis i'r cheque allan i dalu am y
teganau hyn rol mynd adra. Mi roedd yn ddigon a ngwneud i'n sal am
bythefnos-ond 'toedd wiw imi ddangos hyny i Claudia. Ond griddfan yn yr
ysbryd ddaru mi'r noson hono yn fy ngwely wrth feddwl fod dechreu'r daith
tua'r Hows of Comons yn costio mor ddrud a hyn. "Ac os ydy'r dechra'n
costio cymint, beth fydd cyn y diwedd, tybad?" gofynis imi fy hun.
Ond 'toedd gyn i ddim dychymyg y pryd hwnw pa faint oedd i gostio imi
i deithio rhyd y llwybr sy'n rhaid i Ymgeisydd Seneddol, druan, ei dramwy, os
am gael myned- iad i drigfanau dedwydd Tŷ'r Cyffredin !
|
|
|
|
|

(delwedd
1509) (tudalen 13)
|
(x13) PENNOD III.
Y DDAU GEFFYL GLAS CYNTA.
Practeisio yn y garej-Adgofion-Yr hogyn tlawd a'r gŵr cyfoethog-
Achub bywyd Claudia.
Wel, mi ddaeth y dydd oeddwn i wedi gytuno hefo Tom Ellis y baswn i'n
mynd lawr tua Tŷ'r Cyffredin i'w welad o. "Bei apointment tw sî a
Membar of ddi Ministri, mei diar," ebra Claudia'r prynawn cynt ar dê
wrth un o'i ffrindia, gan yru hono adre'n sal gan wenwyn a methu dallt be
oedd yn bod fod gyn Dafydd Dafis apointment "widd a Membar of ddi
Ministri."
Mi roedd Claudia wedi mynd a fi allan am ddreif yn y garej a'r ddau
geffyl glas bob dydd ar ol ei prynu nhw. "Won rieweiars tw bicym
acystomd tw ddis sort of thing iw no," ebra hi pan yn fy nghymhell i
fynd hefo hi. "And Ei dw ditest going bei meiselff."
Ond mi wyddwn i well pethau. Nid er ei mwyn ei hun, eithr er fy mwyn i
'roedd Claudia am i mi fynd allan hefo hi yn y garej. "Toedd dim gwaith
dysgu arni hi sut i bihafio mewn carej na droingrwm nag unlle. Hefo pethau
felly 'roedd hi wedi arfer erioed tan iddi briodi hefo mi. Ond am dana i, mi
roeddwn i'n dra gwahanol. Wyddwn i ddim beth oedd reidio mewn dim ond trol,
ond fel rown i'n gwelad pobol erill.
Hwot dw ddîs horsis rimeind iw of, David?" gofynai Claudia 'rail
dro yr aethom allan yn y garej newydd. "Dw iw yndyrstand hwei Ei tshos a
pêr of greis ?"
|
|
|
|
|
(delwedd K0473) (tudalen 014)
|
(x14) A dyma'i llaw fach gynas hi yn llithro i'm llaw galad ina o dan
gysgod y ryg, a chyda bod y mysedd i'n cau am ei bysedd hithau, mi gododd
golygfa tra gwahanol yn fyw ger bron fy llygaid.
Mi rydw i wedi deyd wrtha chi o'r blaen mai hogyn tlawd o'r wlad, heb
geiniog ar fy elw oeddwn i pan ddois i gynta i Lundain. Mi ddeyda i chi ryw
dro am f' hanas i radag hono, be gefis i i dioi cefn ar Llanidris, a gwynebu
ar Lundain fawr heb ond coron yn fy mhocad, dim gair o Sasnag ar fy nhafod, a
dim ar fy nghefn ond y dillad oeddwn i'n sefyll fyny ynddynt ar y daith. Mi
ddeyda i hyny i gyd wrtha chi yn ei le priodol, ond fy ngwaith i 'rwan ydy
deyd am yr olygfa gododd o flaen llygid fy meddwl pan deimlis law Claudia yn
fy llaw i o dan y ryg.
Mhen chydig amsar wedi imi gyrhaedd Llundain 'roedd y peth wedi
digwydd. "Toedd fy nillad i'r pryd hwnw ddim wedi mynd yn garpiau fel
raethon nhw wedi hyny nes mynd yn rhy ddrwg i wneud bwgan brain o honyn nhw.
Ond er na 'toeddan nhw ddim yn garpiau, mi roeddan yn rhai digon garw, a thra
gwahanol i'r hyn a wisgid yn Llundain. Mi roedd y trowsus cord, a'r got a
gwasgod o frethyn cartre ymddangosent yn iawn yn Llan- idris, yn rhai allan o
le ar strydoedd Llundain, fel cefis i deimlo ganwaith y ddau ddiwrnod cynta
dreulis i yno 'rioed; canys er na wyddwn i ddim digon o Sasnag i ddeall be
oedd pobol yn ddeyd, mi wyddwn ddigon o iaith y llygaid i wybod be oeddan
nhw'n ei feddwl.
Mi roeddwn wedi bod am ddiwrnodiau heb ddim byd i'w wneyd, ac heb enill
ond un chwech ers pan ddois i i Lundain, ac am ddal pen ceffyl rhyw ŵr
bonheddig y cefis
|
|
|
|
|
(delwedd K0474) (tudalen 015)
|
i hono. A'r bora hwnw y cefis i'r chwech, pan na 'toedd dim tamad wedi
bod rhwng fy nannedd am bedair awr ar hugain, na dim dimai rhwng fy mysedd
medrwn i brynu tamad.
Mi gofia i byth mor felus oedd y bara sych brynis i am ddwy geiniog
o'r chwech rheiny, a'r cypanad coffi du cynes gefis i hefo fo am geiniog
arall, rhyw awr neu well cyn i'r peth ddigwydd y cyfeiriai Claudia ato fo
wrth ofyn y cwestiwn imi.
Mi rydw i wedi diolch i'r nefoedd fil o weithia am y chwech hono, ac
am y tamad bara a'r cypanad coffi brynis i a'i haner hi y bora hwnw. Oni bai
am hyny fasa gyn i ddim nerth na gallu i wneyd yr hyn trwy drugaredd a wneis
i'r diwrnod hwnw.
Mi roeddwn ar ol cael y pryd bwyd hwnw wedi mynd fyny heibio Hyde Park
Corner i Park Lane heb feddwl fawr baswn i byth yn dod i'r ffasiwn le a hyny
i fyw f' hun. Mi rydw'n cofio, fel tase hi ddoe 'rwan, am danaf yn sefyll ac
yn sbio ar y crysh ofnatsan yn Hyde Park Corner lle mae'r afonydd o feirch a
cherbydau a dynion yn dylifo at eu gilydd, ac yn ceisio dyfalu imi fy hun o
ble medran nhw i gyd fod yn dod; ac yn synu fel hogyn o'r wlad, sut 'roedd
hi'n bosibl i bobol ddianc rhag niwed yn y fath ruthr dibaid o gerbydau a
meirch yn cael eu gyru'n chwyrn.
O drobwll Hyde Park Corner eis gyda'r lli i fyny Park Lane, gan sylwi
ar y llinell bron diddiwedd oedd yn mynd a dod ar hyd hono i ac o gyfeiriad
Oxford Street a Paddington. Sefais enyd wrth enau un o'r heolydd sy'n troi ar
y dde o Park Lane, gan gydmaru tawelwch hono a ffrwd ddidor ffordd fawr Park
Lane.
Ond yn sydyn deffrowyd fi o'm haner cysgadrwydd gan
|
|
|
|
|
(delwedd K0475) (tudalen 016)
|
olygfa a yrodd fy ngwaed i ruthro'n orwyllt drwy'm gwythienau.
Yr oedd cerbyd gwych yn troi o ffrwd fawr Park Lane i fyny'r stryd
dawel lle y safwn. Sylwais gydag ed- mygedd ar y ddau farch glas porthianus
fel y tuthient heibio imi. Yn y cerbyd eisteddai geneth ieuanc rhyw
un-ar-bymtheg mlwydd oed, yr hon feddyliwn oedd y dlysaf a welodd fy llygaid
erioed. Dilynai fy llygaid y cerbyd a'r eneth tra y safai fy nhraed yn yr
unfan. Wedi mynd rhyw ganllath ar hyd y stryd, gwelwn y cerbyd yn troi yn ei
ol. Sut y digwyddodd y peth nis gallaswn ganfod, ond gyda bod y cerbyd wedi
troi, gwelwn y gyrwr yn syrthio megys ar gefnau'r ddau farch; a'r fynud nesaf
carlament yn wallgof tuag ataf, a'r awenau yn llusgo'r llawr ar eu hol.
Gwelwn y gyrwr yn gorwedd yn ei hyd ar lawr; gwelwn y ferch ieuanc yn neidio
ar ei thraed yn y cerbyd, ac yna yn syrthio yn ei hol ar y sedd-a chyda hyny
gwelwn fel yn ngoleuni fflachiad mellten ei pherygl. Pe rhuthrai'r ceffylau,
fel yr ymddangosent yn debyg o wneud, i ganol ffrwd trafnidiaeth Park Lane,
nis gallai dim llai na gwyrth gadw einioes yr eneth ieuanc, gan y dryllid y
cerbyd yn ddarnau yn nghanol carnau meirch dychrynedig eraill.
Anghofiais bobpeth ond perygl ofnadwy yr eneth ieuanc. Diolchais i'r nefoedd
yn fy nghalon y fynud hono mai hogyn o'r wlad, a hogyn gyru'r wêdd, oeddwn;
canys gwyddwn beth i'w wneud a sut i'w wneud o. Yn lle rhuthro i ganol y
ffordd i geisio atal y ceffylau, a'u dychrynu'n fwy fyth efallai drwy wneud
hyny, arhosais nes oeddent yn mron yn fy ymyl, ac yna rhedais i'r un
cyfeiriad a hwynt nes iddynt fy nal; yna, gydag un llam, neidiais gan maflyd
yn ffrwyn yr un agosaf ataf, a thynhau yn raddol nes o'r
|
|
|
|
|
(delwedd K0475b) (tudalen
016b)
|
("By the kind permission of Messrs. Bradbury, Agnew & Co.,
the Proprietors of Punch.'")
SYR WILLIAM (yn canu gyda'r delyn, yn parotoi erbyn Eisteddfod
Genedlaethol Casnewydd
Nid hen Wlad fy Nhadau, ond anwyl i mi,
Gwlad Beirdd a Phregethwyr Rhyddfrydwyr o fri;
Ei gwrol Ddirwestwyr roes i'm groesaw i'w gwlad,
Pan yn Derby y collais fy ngwaed!
Gwlad! gwlad! pleidiol wyf i'r Wlad
A roes i'm sedd o fewn i'w bro,
Pan o Derby gyrodd Drage fi ar ffo!
(::::Gwel yr Hanes gan Dafydd Dafis)
|
|
|
|
|
(delwedd K0476) (tudalen 017)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0477) (tudalen 018)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0478) (tudalen 019)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0479) (tudalen 020)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0480) (tudalen 021)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0481) (tudalen 022)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0482) (tudalen 023)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0483) (tudalen 024)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0484) (tudalen 025)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0485) (tudalen 026)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0486) (tudalen 027)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0487) (tudalen 028)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0488) (tudalen 029)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0489) (tudalen 030)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0490) (tudalen 031)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0491) (tudalen 032)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0492) (tudalen 033)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0493) (tudalen 034)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0494) (tudalen 035)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0495) (tudalen 036)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0496) (tudalen 037)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0497) (tudalen 038)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0498) (tudalen 039)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0499) (tudalen 040)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0500) (tudalen 041)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0501) (tudalen 042)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0502) (tudalen 043)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0503) (tudalen 044)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0504) (tudalen 045)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0505) (tudalen 046)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0506) (tudalen 047)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0507) (tudalen 048)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0508) (tudalen 049)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0509) (tudalen 050)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0510) (tudalen 051)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0511) (tudalen 052)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0512) (tudalen 053)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0513) (tudalen 054)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0514) (tudalen 055)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0515) (tudalen 056)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0516) (tudalen 057)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0517) (tudalen 058)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0518) (tudalen 059)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0519) (tudalen 060)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0520) (tudalen 061)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0521) (tudalen 062)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0522) (tudalen 063)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0523) (tudalen 064)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0524) (tudalen 065)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0525) (tudalen 066)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0526) (tudalen 067)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0527) (tudalen 068)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0528) (tudalen 069)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0529) (tudalen 070)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0530) (tudalen 071)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0531) (tudalen 072)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0532) (tudalen 073)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0533) (tudalen 074)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0534) (tudalen 075)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0535) (tudalen 076)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0536) (tudalen 077)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0537) (tudalen 078)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0538) (tudalen 079)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0539) (tudalen 080)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0540) (tudalen 081)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0541) (tudalen 082)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0542) (tudalen 083)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0543) (tudalen 084)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0544) (tudalen 085)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0545) (tudalen 086)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0546) (tudalen 087)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0547) (tudalen 088)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0548) (tudalen 089)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0549) (tudalen 090)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0550) (tudalen 091)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0551) (tudalen 092)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0552) (tudalen 093)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0553) (tudalen 094)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0554) (tudalen 095)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0555) (tudalen 096)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0556) (tudalen 097)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0557) (tudalen 098)
|
|
|
|
|
|
(delwedd K0558) (tudalen 099)
|
|