1358k Dyffryn Cynon. Jenkin Howell 1900. Cychwyna Dyffryn Cynon gerllaw
pentref Pontprenllwyd, yn Mhlwyf Penderyn, Sir Frycheiniog, a therfyna yn
Abercynon, lle yr abera yr Afon Cynon i’r Tâf; rhyw bedair milltir yn uwch na’r
Pontprenllwyd, i le a elwir Blaencadlan.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_048_dyffryn_cynon_1900_1358k.htm
Cysylltwch
â ni trwy’r llyfr ymwelwyr: YMWELFA
0001z Y Tudalen Blaen
..........1863c Y Porth Cymraeg
....................0009k Y Barthlen
..............................0960k Y
Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)
........................................y tudalen hwn / aquesta pŕgina
|
|
Gwefan Cymru-Catalonia
|
(delwedd
4666) |
(1) Geninen 1900 tudalennau
210, 211, 212, 213, 214; 250, 265, 266, 267, 268, 269, 270
(2) Geninen 1901 tudalennau 48, 49, 50, 51, 52; 270, 271, 272
(3) Geninen 1902 tudalennau 270, 271; 174, 175, 176;
(4) Geninen 1903 tudalennau 141, 142; 286, 287
(5) Geninen 1904 tudalen 252
MYNEGAI: (Ein penawdau ninnau yw’r rheiny rhwng cromfachau – nid oes i’r
adrannau hyn benawdau yn y testun gwreiddiol) e.e. (ENWOGION CWM CADLAN)
I f˙nd at bennod neilltuol, defnyddiwch y ‘Lleoliadur’ gan deipio :: ac wedyn
rhif y pennod – e.e. ::21.
I fynd at dudalen neilltuol, rhowch x o flaen y rhif y tudalen. Yr ydym
wedi eu marcio felly: (x141)
|
|
ADRAN |
TEITL |
|
|
::1 |
(RHAN UCHAF DYFFRYN CYNON) |
|
|
::2 |
(ENWOGION CWM CADLAN) |
|
|
::3 |
(HIRWAUN) |
|
|
::4 |
BRWYDR
HIRWAUN WRGAN
|
|
|
::5 |
RHAS TWM EMWNT |
|
|
::6 |
“Y BROCKS” |
|
|
::7 |
MORGAN
RHYS MEURIG A’R YSBRYD! |
|
|
::8 |
TEISENAU HIRWAUN |
|
|
::9 |
CREFYDD AR HIRWAUN |
|
|
::10 |
ENWOGION HIRWAUN |
|
|
::11 |
MANION A
CHASGLIADAU
|
|
|
::12 |
ABERDAR
|
|
|
::13 |
SEFYLLFA
GREFYDDOL Y DYFFRYN
|
|
|
::14 |
TOMOS Y CRYDD A’R SABBOTH |
|
|
::15 |
HELYNT GWLEIDYDDOL Y DYFFRYN |
|
|
::16 |
GWEITHIAU HAIARN Y DYFFRYN |
|
|
::17 |
GWEITHIAU GLO Y DYFFRYN
|
|
|
::18 |
PRIF AFON Y DYFFRYN |
|
|
::19 |
AFON
CYNON (ENGLYNION GAN DAFYDD MORGANWG) |
|
|
::20 |
NEILLDUON IEITHYDDOL ABERDAR |
|
|
::21 |
“BYRDÂR” A’I “NEISHAD BOC”. |
|
|
::22 |
DARLLENFA GYHOEDDUS ABERDAR! |
|
|
::23 |
CYMERIADAU HYNOD |
|
|
::24 |
Y “WELSH RABBIT” (RAREBIT) |
|
|
::25 |
Y
“SNAKES”, A “SWEET BYRDAR”! |
|
|
::26 |
“SWEET BYRDAR”! |
|
|
::27 |
Y TAPLASWR |
|
|
::28 |
HOI! SHONI, HOI! |
|
|
::29 |
MOCH GWYLLTION Y DYFFRYN |
|
|
::30 |
Y CYMHWYSDER I GLADDU Y MARW |
|
|
::31 |
Y
“SNAKES” A’R “NOTE OF HAND” |
(x210)
DYFFRYN CYNON
Jenkin Howell
::1 (RHAN UCHAF DYFFRYN CYNON)
Cychwyna Dyffryn Cynon gerllaw pentref Pontprenllwyd, yn Mhlwyf Penderyn, Sir
Frycheiniog, a therfyna yn Abercynon, lle yr abera yr Afon Cynon i’r Tâf; rhyw
bedair milltir yn uwch na’r Pontprenllwyd, i le a elwir Blaencadlan, er, fel y
gwelir, dan enw gwahanol, dechreuaf fy sylwadau yno.
Mae Cwm Cadlan yn cychwyn rhwng mynyddau y Cadlan a’r Glôg, yn Sir Frycheiniog,
a hyny yng ngolwg rhanau uchaf y Tâf, braidd dan gysgod Bannau Brycheiniog; a
cherllaw y mae un o “Gadeiriau Arthur,” a’r llynnoedd dwfr aruthrol ydynt yn
cynnorthwyo i olchi tref Caerdydd, y tu fewn a’r tu allan, yn ddynion a
phobpeth arall ag y gellir eu golchi felly.
Cribin o fynydd lled uchel yw y “Gadair” hono, lle y “briga” y calchfaen, a’r
lle y buwyd am oesau amryw yn llosgi calch at wasanaeth tyddynwyr Brycheiniog a
lleoedd ereill. Tardda rhai ffynnonau o’r “Gadair” hefyd; ac y mae eu dyfroedd
yn rhyfeddol o oer, hyd yn od yn nghanol hâf. Gerllaw hefyd, ar y tu
gorllewinol, y mae darn o fynydd a elwir Pantywern, ar yr hwn y megir llawer o
ferlynod mynydd a elwir y “Real Pantywern breed”; ac y maent yn
ddosparth o greaduriaid bychain tra bywiog a chelyd. Gwerthir hwy yn ffeiriau
Aberhonddu am o chwech i wyth punt yr un, a gyrir hwy i Ogledd Lloegr a manau
ereill i weithio yn y pyllau glô, lle ni fedr ceffylau o faintioli mwy fyned. Ail-werthir
hwy hefyd yn ffeiriau Lloegr, i foneddigion i lusgo cerbydau bychain, a
gwasanaethant hefyd yn nysgeidiaeth plant i farchogaeth. Wedi eu trwsio a’u
tewychu ymddangosant yn dra phrydferth.
Gelwir y cwm yn Gwm Cadlan o barch i ryw hen ryfelwr o’r enw fu yn byw ynddo,
pan na fuasai “arffordd rhyfel,” yn lladd y Sacsoniaid. Ar ei enw hefyd y gelwir y nant fechan red trwy y
cwm o bant y Twlc i Lygad Cynon. Hen ryfelwr oedd Cynon hefyd. Yr oedd
traddodiad yn mysg plant Plwyf Penderyn, pan oedd yr ysgrifenydd yn blentyn – y
tro cyntaf! – fod Cynon wedi ei ladd ychydig islaw pentref Pontprenllwyd, ac
wedi ei gladdu yn y fan lle mae y tarddiant rhyfeddol a elwir Llygad Cynon, a
bod y tarddiant hwnw yn parhau i ddyfod allan o’i lygad byth oddiar hyny. Yr oedd felly, er yn farw, yn medru
wylo i bwrpas. Yr oed dyn y lle, mae yn debyg, dri rhyfelwr enwog, sef Cynon,
Cadlew, a Chadlan; ond nid oes yno na “llygad,” mynydd, na nant ar enw Cadlew.
Dywedir, ac y mae hyny yn debygol, mai y ffrwd fechan a ä i fewn i’r Ogof Fawr,
ryw dair milltir yn uwch i fyny ar Fynydd y Glôg, wedi ychwanegu nerth ar ei
hymdaith danddaearol – trwy y calch-fynydd hwnw – yw y dwfr a dardda yn Llygad
Cynon. Beth bynag, o’r tarddiant hwnw allan gelwir yr afon yn Afon Cynon.
Gerllaw Llygad Cynon y mae twmpath uchel ac eang, megis wedi codi o’r gweundir
yn y gymdogaeth, a eilw y trigolion yn “Tip Shindrys” (cinder tip); a dywedir
yn Hanes Morganwg, gan Dafydd Morganwg, fod yno ffwrnes fechan i doddi
haiarn wedi ei chychwyn yn y flwyddyn 1666. Dyma yr oll a geir gan Dafydd ar y
mater: -
“Nid ymddengys fod yno [Hirwaun] dŷ annedd o gwbl yn 1666, pan yr
adeiladodd un o’r enw Mayber ffwrnes fechan ger Llyga Cynon, yn Mhlwyf
Penderyn. Golosgoed arferid y pryd hwnnw i doddi haiarn, wrth gwrs; a rhaid
oedd cludo y mŵn o Forganwg at y ffwrnes, am nad oedd dim o hono i’w gael
yn Mhlwyf Penderyn yn y parth hwnw. Ymddengys i’r ffwrnes hono fod yn gweithio
am gryn dymhor. Tua thunnell yr wythnos o haiarn wnaed ynddi; a dygid hwnw dros
y mynyddau i Aberhonddu i’w orphen.”
Cyfeiria Theophilus Jones, yn hanes Brycheiniog, at deulu perchenog ffwrnes
Penderyn a Hirwaun, wedi hyny, fel y canlyn: -
“This family, who now write their name Maybery, settled first at Pipton, in the
latter end of the seventeenth or the beginning of the eighteenth century; they
were then, and afterwards until the present generation, in the iron trade. From
Pipton, when the iron works ceased, the elder branch came to Brecon, and
continued in the same business.”
Bu un o honynt, y Parch. Charles Maybery, M.A., yn Offeiriad Penderyn am
oddeutu hanner can mlynedd.
(x211) Mae rhai o ddoethorion y lle - “dynon
d’od” - am ein gosod i gredu fod y bardd o Forganwg yn ffiloregu yn ei hanes am
Ffwrnes Llygad Cynon, gan nad oes “shindrys fel shindrys Hirwaun” yn y “tip” yn
bresennol, heb gofio na gwybod, o bosibl, mai â golosgoed (charcoal) y
toddid haiarn y pryd hwnw, fel y noda y bardd.
::2 (ENWOGION CWM CADLAN)
Mae amryw enwogion wedi eu geni, ac
ereill wedi dyfod i “flodeuo,” yn Nyffryn Cynon. Nodaf rai a enwogion y rhanau uchaf yn y fan hon.
Yn uchel yn Nghadlan, mewn ffermdy bychan iawn a dinod, y ganwyd yr enwog
“Jenkin Thomas Cheltenham.” Pan yn lled ieuanc ymunodd âg eglwys y Bedyddwyr yn
Ynysyfelin, Cwmtaf; ac yn fuan iawn argyhoeddwyd ei frodyr yno ei fod yn meddu
“dawn pregethwr.” Cymhellwyd ef i arfer y dawn hwnw; ac yn mhen rhyw amser wedi
hyny cafodd dderbyniad i Athrofa y Bedyddwyr yn y Fenni. Ychydig iawn o Saesneg
fedrai pan aeth yno; ond yr oedd yn meddu gallu rhyfeddol i gnoi tybaco. Daeth
yr hen Athraw penderfynol a swrth, y Parch. Micah Thomas, i wybod hyny; a
galwodd y gwladwr i sefyll ei brawf yn y ddarllenfa. Ebe’r Athraw: “Young man, I am told you are a
great smoker!” “ No, sir,” ebe yntau, “me not smoking, me shew (chew).”
“I do not care whether you are a Jew or a Gentile,” ebe’r Athraw, “you must not
use tobacco in this house.” Cafodd y watwariaeth a’r banfa annymunol hono y
fath ddylanwad ar ei feddwl, fel y gwnaeth, yn ol yr hyn glywais gan rai o’i
gyfoedion, yn y lle benderfynu dysgu Geiriadur Johnson ar ei gôf! Beth bynag am
hyny, nid oes amheuaeth i fod na ddaeth efe yn un o’r siaradwyr a’r ysgrifenwyr
Saesneg goreu yn ei ddydd. Cafodd alwad gan eglwys y Bedyddwyr yn
Yn y tyddyn nesaf at y Tŷ Fry,
lle y ganwyd Jenkin Thomas, y ganwyd yr hen fardd Gwilym Harri Benderyn: enw
hwnw yw y Garw Dylan {sic}: dau fwthyn diaddurn iawn gynt, ar ael mynydd pur
uchel: erbyn heddyw gwisga Garw Dylan well agwedd. Yr oedd Gwilym Harri yn ŵyr
i’r hen fardd Sion Llewelyn, o Gefn Coed y Cymmer, awdwr y gân adnabyddus yn y
parthau hyn gynt a elwid “Y Ddafad lâs a’i hoen.” Gwehydd oedd Gwilym, fel
ereill o’i hynafiaid a’i ddisgynyddion; ac er na chafodd ond ychydig, os dim, o
fanteision addysg, cyfansoddodd lawer o farddoniaeth, caeth a rhydd, o nodwedd
dra derbyniol. Ebe fe:
“O fewn i’r Garw Dyla’
Rhoes i'r anadliad cynta';
Y chwythai'r un ddiwetha’.”
Yr oedd yn un o’r ymgeiswyr, yn hen Eisteddfod Aberhonddu, ar Gywydd y Môr Coch
ac Englyn yr Enfys. Cyhoeddwyd dau lyfr o’i waith - Yr Awen Resymol,
a Nodd Awen. Claddwyd ef yn Mynwent Penderyn, yn flwyddyn 1844; ac y mae
ar garreg ei fedd yr englyn canlynol: -
“Dyma'r fan mewn oer annedd, - O! gwelwch,
.....Mae Gwilym yn gorwedd;
Enaid iaith a chynghanedd
Yn fud yn eigion ei fedd.”
Undodwr o ran barn greyfyddol oedd Gwilym ; a bu “gwaidd, adwaidd, a gwaidd
uwch adwaidd,” pan osodwyd y garreg fedd i fyny, gan i ryw ffwlcyn neu wag
daeru fod yr englyn yn dweud fod enaid yr hen fardd wedi ei osod yn y bedd
gyda’i gorff! Yr oedd Iolo Morganwg ac yntau yn gyfeillion mawr; a gall y
darllenydd ddychmygu y fath ddifyrwch gawsai y naill o honynt yn nghyfeillach y
llall pan ddywedaf i Iolo alw yn nhŷ Gwilym pan yn dychwelyd o Eisteddfod
Aberhonddu; a phroffesai ei fod mewn brys mawr i fyned adref. Gwrthodai eistedd
am amryw funudau; ond wedi hir “gipian,” daeth yn foddlon “eistedd am fynud neu
ddau.” Y diwedd fu gweled Iolo a’i wallet ar ei gefn yn gadael y lle yn
mhen tri niwrnod!
Yn yr un cwm – Cwm Cadlan – y ganwyd gŵr tra enwog arall, ond o enwogrwydd
hollol wahanol i eiddo y ddau a nodais ynbrod; ac yr wyf yn teimlo ei bod yn
llawn bryd rhoddi cyfiawnder hanesiol i hwnw hefyd. Ysgwaethyroedd, dyna y cwbl
ellir roddi iddo mwy. Yr wyf yn cyfeirio at Lewys Jenkyn Lewys (“Lewys yr
Hčlwr” – Lewis the Haulier), un o ddau brif arweinyddion “Riots Merthyr,”
1831. Efe a Richard Morgan (“Dic Benderyn”), yr hwn, wedi wedi hyny, grogwyd yn
Nghaerdydd, - “ar gam yn (x212) ddiamheu”
- oeddynt yr “ysprydion llywyddol” yn yn ymgyrch ofidus hono. Yr oeddynt yn
ddau fachgen gwrol, ac yn siaradwyr cynhyrfus rhyfeddol. Nid oedd glowyr, mŵnwyr,
a gweithwyr haiarn Merthyr, yr adeg hono, yn ennill ond o 7s. 6ch. i 12s. yr
wythnos yn y man pellaf. Cigydd oedd tad Lewys; a thra yn Mhenderyn cawsai yr
Hčliwr ddigon o gig; ond wedi myned i Ferthyr i yru, cadw gwraig a theulu,
methai gael digon o fara. Pa ryfedd i Lewys fynu gosod ar faner y strikers y
frawddeg a wnaeth, yn anffortunus, gryn lawer o ddrwg i’w hachos – “Bara neu
Waed?” Gwaed y gafwyd y pryd hwnw; ond hanodd “Dic a Lewsyn,” fel y gelwid gan
eu gelynion, hâd a ddygodd fwy a gwell bara i weithwyr Morganwg a Mynwy byth
wedi hyny! Trueni oedd crogi Richard ac alltudio Lewys am ei oes. Gelwir Lewys
gan Wilkins, yn Hanes Merthyr, yn Lewys yr Heliwr - Lewis the
Huntsman: camsyniad yw hyny.
A fyddai yn ormod gofyn i Mabon, Dafydd Morgan, a’r gweddill o arweinwyr
Cymreig y gweithwyr yn y Deheubarth, y dyddiau presenol, godi hanes eu brodyr
hyn “o’r pridd tew a’r clai tomlyd,” a’u gosod gerbron y byd yn eu dysgleirdeb
priodol? Feallai y gwna rhywun neu rywrai “dalu y pwyth” iddynt wedi eu myned
ac na b’ont mwy. Er nad wyf wedi gallu edrych “lygad yn llygad” â’r arweinwyr
presenol bob amser; eto, teimlaf y gallaf annghofio pob cernod gefais ganddynt,
er mwyn eu cynnorthwyo i roddi cyfiawnder i goffadwriaeth “Lewsyn Sianco Lewys,
a Dic Benderyn.” Feallai y maddeuir am ddweyd y medrwn roddi cryn lawer o
gynorthwy i bwy bynag a welo yn dda i ymgymeryd â’r gorchwyl. Nid oedd Richard
a Lewsyn heb eu diffygion, fel y goreu o honom; ond rhaid edrych arnynt fel
bechgyn “blaen llif” y diwygiadau gweithfaol. Aberthasant bobpeth, hyd gorn
gwddf, er mantais eu cydweithwyr. Pa le mae y “cydweithwyr”? Ni chododd neb o
honynt, can belled ag y gwn, wawch dros gyfiawnder yr achos a attegai “Lewsyn a
Dic!”
William Felice. Teulu William
Felice oedd yr unig deulu welais erioed yn meddu dau fab o’r un enw. Yr oedd y
William adnabum i yn byw yn Mlaen Cadlan, a chanddo frawd o’r un enw yn byw yn
Nghlwyd y Fagwyr, ger
“Wil Felis, wrth ddau bolyn,
A ddaeth yn mlaen gan achwyn,
I ganmol araeth Robyn
Dros y dwr
Yn groew d---l fe grďai: -
Mae’r gout yn mhen fy nghliniau,
Ond sefyll a wnaf finau
Dros y dwr;”
Ond ni fedrai y “poor dab” sefyll heb ddwy ffon, na chael rhyw lawer o
ddim i’w yfed ond dwr!
Rhaid peidio anghofio yr hen ysgolfeistr enwog o Streatham, Reynallt Davies.
Ganwyd a magwyd ef mewn tyddyn – y tyddyn eangaf, o bosibl, yn Mhlwyf Penderyn,
a elwir gan y trigolion yn Bodicced; ond bernir mai Bod-y-Gâd oedd ffurf
wreiddiol yr enw. Y mae Theophilus Jones, yn ei Hanes, yn dweyd fod
Davies ac yntau yn gyd-ysgolheigion. Wedi pasio yn anrhydeddus “trwy
Rydychain,” aeth i gadw ysgol uwchraddol i Streatham, lle y llwyddodd i gasglu
llawer o arian, â’r rhai y prynodd ystad Arglwydd
Gwr enwog arall a anwyd, nid yn mhell o Lygad Cynon, oedd y cerddor galluog
William Morgan (Bili Sion Morgan) o Rymni, ac wedi hyny o Aberdâr. Y mae tôn
o’i waith yn Nghaniadau Seion, gan R. Mills. Efe oedd arweinydd hen Gor
Undebol Rhymni; yr hwn ennillodd y wobr gyntaf ennillwyd am ganu corawl mewn
eisteddfod yn Nghymru, sef oedd hyny, yn un o eisteddfodau cyntaf y Fenni. Efe
hefyd oedd arweinydd cyntaf Côr Undebol Aberdâr; cor wedi hyny gyrhaeddodd y
fath enwogrwydd dan arweiniad Caradog, o annwyl goffadwriaeth. Cododd y cor wyddfa ar ei fedd ar eu trael
eu hunain. Meddai ddawn anarferol iawn i wneyd i ereill ganu. Yr oedd efe hefyd
yn gryn lawer o fardd. Gwelais gân o'i waith i'w le genedigol ag na ddylasai
fod cywilydd ar awdwr "Ysgoldy Llanrwst” - Ieuan Glan Geirionydd – weled
ei enw wrthi. Gwenllian Morgan, o’r Baili Helyg, sydd hefyd yn un o
enwogion Cwm Cadlan. Yn Hydref 1886, aeth allan wys a gwahawdd at holl
dyddyn-ferched y byd benbaladr i ddyfod i “Eisteddfod Gorddi” a gwneyd ymenyn,
yn yr Agricultural Hall, Llundain. Gelwid yr eisteddfod hono yn "International
Butter-making Contest." Cyfieithiodd rhyw Gymro y geiriau hyn yn
“gystadleuaeth ymenyn-wneuthuriaeth rhyngwladwriaethol;” ac yr oedd “John
Jones” y Gweithiur Cymreig yn cynghori y Llywodraeth i dynu ei weithdy i
lawr ar unwaith, fel na fuasai perygl iddo bechu yn y cyfeiriad hwnw byth mwy! Yr
oedd deunaw o foneddigesau wedi anfon i mewn en henwau; yr eisteddfod nid oedd
ond pedair ar ddeg yn foddlon dangos eu dawn a’u gallu. Rhoddwyd ugain pwys o
hufen i bob boneddiges, ac yr oedd yr ugain pwys i bob boneddiges, ac yr oedd
yr ugain pwys tua dau alwyn o fesur; a gosodai pob boneddiges ei dogn yn ei
byddeu ei hun. “Byddeu droi” oedd gan bob un o honynt, wrth gwrs, yn poeni Huw
ac Edward Morus gynt pan wnaethant yr englynion -
·········································· “Trwst â gordd, trystio dugell;”
a
·········································· “Dip-dap, lip-lap, gip-gap gwpan,”
&c.
Y fath gyfnewidiadau rhyfeddol ydynt wedi eu dwyn i fewn i’r triniaethau
amaethyddol er adeg hono! peirianau i wneyd pobpeth braidd!
Mae yn debyg fod rhai o’r llaeth-ferched rhagsonedig yn Llundain yn troi eu
byddeuau yn chwyrn rhyfeddol ac ereill yn gwneyd hyny yn bur araf. Mae yn
bossibl fod cynhyrfiad y foment yn gwneyd i rai ohonynt ymwylltio. Ni ddywed
hanesiaeth pa fodd y gwnai Gwenllian; ond tybiaf, oddiwrth adnabyddiaeth
bersonol o honi, na fedrai amgylchiadau cyffredin ei chynhyrfu – meddai
wynebwedd yr arwres. Gwnaeth y lasbryf wylltaf o honynt ei hymenyn mewn deunaw
mynud, a’r hen ysgyfarnog fwyaf araf ei heiddo hithau mewn awr a dau fynaf ar
bymtheg. Y swm mwyaf o ymenyn a wnawd o’r ugain pwys hufen oedd 7Ľ pwys; a’r
swm lleiaf oedd 6˝ pwys. Y diwedd fu, i’r beirniaid ddyfarnu y wobr i Gwenllian
Morgan, merch hynaf Jenkin Morgan, o’r Beili Helyg, Penderyn, a hyny am
“ragoroldeb cyffredinol.” Cafodd Saesnes o’r enw Mrs. Holmes, o Bromley, yr ail
wobr, a Gwyddeles o’r enw Mary Conelly, y drydedd. Y dydd Gwener canlynol
ceisiwyd gan Gwen fyned ger bron Arglwydd Faer Llundain i wneud ymenyn, yr yn a
wnaeth i berffaith fodlonrwydd. Ni ddywedir iddi ddysgu y gelfyddyd i’r Maer;
ond cyn iddi ymadael â’r Brif Ddinas cafodd amryw geisiadau am ei gwasanaeth. Cafodd
gais neillduol o Ynys Jersey, i fyned yno i ddysgu merched yr ynys i wneyd
ymenyn; a bu yno yn fawr ei pharch a’i gwobr. Daeth yn ol i wlad ei
genedigaeth; priododd (â Sais, fel y clywais), ac aeth ymaith i America, lle y
mae hi a’i phriod yn amaethu eu tyddyn eu hunain.
(x214)
“O sweet Gweny Morgan, y “Ferch o
Benderyn,”
··········Brenhines blith-ferched teleidwyn y byd;
O Lundain hi ddygodd ogoniant ac elw, -
··········Bydd ar gof a chadw ei henw o hyd;
Cynnullwyd i’r gad freninesau y Saeson,
··········A wyddent ddirgelion celfyddyd y llaeth,
A rhai Gwyddelesau o allu gawd allan,
··········Ond sweet Gweny Morgan dros Gymru a ddaeth.
“A Gweny, sweet Gweny, yn wylaidd a thawel,
··········I’r ornest a ddaeth fel angyles ddifrad;
Ond yn gwylio gerllaw yn ei rwysg amddiffynol
··········Y gwelid dewr angel gwarcheidiol ei gwlad:
Rho’dd duwies or-hael Buddugoliaeth ei choron
··········O flodau teleidion ar aeliau teg Gwen;
Prif ynad y ddinas a’r byd yn ddiderfyn
··········Gyhoeddent y ‘Ferch a Benderyn’ yn ben.”
Ychydig yn uwch na phentref Pontprenllwyd, ar du dwyreiniol yr afon, y ganwyd
Thomas Drew (Y Dryw), awdwr yr englyn buddugol i “Gynghor” yn Eisteddfod
Genedlaethol Pontypridd, a llawer englyn buddugol heblaw hwnw. Mae efe yn
enghraifft ddyddorol o’r hyn fedr penderfyniad a dyfalbarhad wneyd. Mi a
ddymunwn iddo bob llwydd. Medda allu i ymddysgleirio; ond y mae yr orfodaeth i
enill bywiolaeth iddo ei hun a theulu lluosog yn mherfeddion daiar yn ddigon i
yru yr awen fwyaf ystwyth a chariadus i gardotta o ddrws i ddrws.
Rhyw filltir is-law Llygad Cynon deuir hyd ranau isaf Nantyderyn, yr hon a
ffurfia ran o’r ffin rhwng Brycheiniog a Morganwg; y ffin hono hefyd ffurfia
ran o derfyn gogleddol Esgobaeth Llandaf yn y parthau hyn. Ceir desgrifiad
manwl iawn o’r ffin yn Llyfr Llandaf; ond cyfeirir yno at leoedd na ŵyr
y preswylwyr presennol yn y byd pa le y maent; megys “Nant Gofanog,” “Deri
Emrys,” “Cefen Clusti,” &c. Gerllaw y lle y llyncir Nantyderyn gan yr Afon
Cynon, y mae tyddyn y Gelli Benuchel, lle y codwyd teulu o ddynion talentog a
blaenllaw iawn yn y wlad. Yno y ganwyd ac y magwyd tad yr “Ustus Dall o’r
Llwydcoed.” Caf
achlysur i son am dano eto pan ddeuwn i Aberdar. Cafodd Llewelyn, ail fab y
Gelli Benuchel, ei gyflogi i fyned i Ddeheudir
Yn ffinio â thyddyn y Gelli Benuchel yr oedd tyddyn y Cefndon, yr hwn, meddir,
oedd gynt y tyddyn eangaf yn y plwyf: yr oedd felly yn ddiddadl pan breswylid
ef gan Morgan Prys William yn y flwyddyn 1674. Yr oedd efe, a’i ddisgynyddion,
hyd tua diwedd y ganrif o’r blaen, yn gauafu “oddeutu cant o dda corniog” yno.
Pan gychwynwyd “Ffwrnes Hirwaun” gan Mr. Mayber, ac, wedi hyny, gan Anthony
Bacon, yn 1763, &c., &c., cymerwyd rhan helaeth iawn o dyddyn y Cefndon
at ddybenion y gwaith. Cymmerwyd hefyd dyddyn Maesyrhydiau yn gyfangwbl i’r un
dyben. Ar un o gaeau y tyddyn hwnw y gwelodd Henry Crawshay ei wraig y tro
cyntaf, a hi yn ferch ifanc landeg, newydd ddod o Frycheiniog yn forwyn dlawd
i’r lle!
Ryw ddwy filltir o Lygad Cynon i gyfeiriad Merthyr Tydfil mae y rhan hono o’r
dyffryn a elwir “Naint” (hen Gymraeg am nentydd), lle mae Dwfrweithiau Aberdâr;
ac y maent yn eang a rhagorol. Pe bai Aberdâr yn gymaint arall o faint, cawsai
ddigonedd o ddwfr pur, llaith, a thra derbyniol o’r “Naint.”
Yn wynebu i’r Naint y mae tyddyn a elwir Llwynmoch, lle, yn niwedd y canrif o’r
blaen, ac hyd, o leiaf 1832, y trigai dau gerddor nodedig – “Thomas a Shôn
Llwynmoch.” Dysgent dônau trwy ffugyrau, 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8. Y cyweirnod
oedd y
(x265)
::3 (HIRWAUN)
Yn y llythyr cyntaf gorphenais â rhanau uchaf Dyffryn
Cynon. Rhaid, yn awr, ddyfod i Hirwaun. Mae pentref, neu, os mynner, dref
Hirwaun, wedi cael ei hadeiladu – un rhan ar diroedd Maesyrhydiau a’r Cefndon,
yn Mhlwyf Penderyn, a’r rhan arall ar ddarn o Hirwaun Wrgan. Gwrgan oedd dad “y
brenin drwg Iestyn ab Gwrgan,” ys dywedai Iolo Morganwg. Dyma ni yn awr yn
Mhlwyf Aberdâr.
Fel y gwelir, oddiwrth y Waun Hir,
ar ran o’r hon yr adeiladwyd hi, y cafodd y dref ei henw, er fod y gwaith
haiarn i gyd yn ochr Penderyn o’r dref, ac erbyn hyn lawer iawn o annedd-dai;
ac yn yr ochr hono y mae Gorsaf Rheilffordd y Great Western. Dyma geir
yn Hanes Morganwg yn nghylch y lle: -
“Anthony Bacon, Ysw., agorodd ychydig gwaith haiarn yno yn
1763, neu ychydig yn ddiweddarach. Wedi i Mr. Bacon ymneillduo oddiwrth fywyd
masnachol yn 1784, daeth ffwrnes Hirwaun yn eiddo Mr. Overton, tad George
Overton, Ysw., Trengholydd Merthyr. O’r flwyddyn 1818 hyd 1858, bu Gwaith
Hirwaun yn eiddo W. Crawshay, Ysw., Castell y Gyfarthfa, a’i blant; ac yn eu
hamser hwy y bu y llewyrch goreu ar Hirwaun. Yn 1858 safodd y gwaith a gwywodd
y lle. Yn 1830 y daeth agerdd-beiriant symmudol gyntaf i’r lle, o waith Gurney:
ei bwysau oedd 1˝ tunnell. Tua’r flwyddyn 1848 adeiladodd Francis Crawshay,
Ysw., Dŵr Castellog ar lechwedd y mynydd, tua milltir a hanner i’r
de-orllewin o Hirwaun, yr hwn sydd yn hollol hirgrwn, 30 troedfedd o uchder,12
troedfedd o dryfesur y tu fewn, a 58 o amgylchedd y tu allan... Pan safodd y
gwaith yn 1858 gadawyd y Tŵr heb breswylydd, cymmerwyd y defnyddiau mewnol
ymaith, fel nad oes yn aros ond y muriau yn unig.”
Gwnaed llawer cynyg i gychwyn Gwaith
Haiarn Hirwaun, wedi i’r Crawshays adael yn 1858; ond ni fu rhyw lawer o
lwyddiant yno. Cyflogir oddeutu 40 o weithwyr yno yn bresenol gan Mr. Snape a’i
Gyfeillion.
Ymddybyna y lle yn fwyaf neillduol ar y gweithiau glô; ac y mae glô lawer dan
holl fynyddau a dyffrynoedd plwyf Aberdâr. Pan gychwynwyd gweithio y glô hwnw
yr oedd yma ryw 20 o wythienau o wahanol drwch yn y ddaear, y rhai, pe gosodid
hwy y naill ar ben y llall, heb ddim tir na chraig rhyngddynt, a wnelent fynydd
du gwastad ac aruthrol o yn agos 100 troedfedd o uchder, 71 milltir o hyd wrth
6 milltir o led! Mae erwi, gannoedd o honynt, wedi eu codi o'r dyfnder du, ac
wedi eu gyru ymaith i yn agos bob parth o’r byd; ond ni chodir y cwbl o honynt
byth, gan na foddlona yr elw geir drwy eu gweithio y perchenog na'r gweithwyr,
a bod llawer o ddarnau mawrion wedi eu cuddio yn y ddaear fel cocos yn y
traeth.
Wrth son am Hirwaun, yn ychwanegol at yr hyn a ddyfynwyd yn barod, dywed Dafydd
Morganwg: - “Bu y waun hon yn gomin rhydd am oesoedd wedi y Goresgyniad
Normanaidd; ond bob yn ychydig honwyd hawl iddi gan ieirll Penfro, arglwydd
Morganwg; ac fel disgynydd o’r cyfryw honir hi gan Arglwydd Bute. Y cyfnod
cyntaf a welais o barthed yr hawl yw hanes cyfarfod barwnol a gynnaliwyd yn
mhentref Aberdâr, Mehefin 26, 1638, dros y Gwir Anrhydeddus Phillip, pedwerydd
Iarll Penfro ac Arglwydd Morganwg, yr hwn oedd yn honi hawl i 4,000 o erwau o’r
Waun Hir yn Nghantref Meisgun. Yr oedd yn bresennol yn y cyfarfod hwnw William
Herbert, Caerdydd; Thomas Mathews a William Herbert, o'r Cogau; David Evans a
Thomas Lewis, Ysweiniad, y rhai oeddynt ddirprwywyr i’r Iarll. Dyben cyfarfod
oedd cymmeryd i ystyriaeth waith Thoimas Mathews, Ysw., yn cau i fewn tua chan’
erw o’r Waun Hir, ger Aberaman, gan wneyd fferm o’r tir, yr hyn a ganiatawyd
iddo gan dad yr Iarll Phillip a enwyd.
“Canlynwyd esiampl T. Mathews gan
ereill, gyda golwg ar gau i fewn y comin, fel yr oedd 35 o ffermydd wedi eu cau
i fewn erbyn y flwyddyn 1735. Yr oedd Ardalydd cyntaf Bute tua 18 oed y pryd
hwnw, a’i dad, John, Iarll Bute, yn honi hawl i'r Waun, gan ei fod yn briod a a
Charlotte Jane, merch Herbert, Is-Iarll Windsor, Arglwydd Morganwg. Yn 1788,
daeth Ardalydd cyntaf Bute i'w oed, a distrywiwyd y rhan fwyaf o’r 35 ffarm a
nodwyd.
(Mae yn amlwg fod rhagflaenoriaid yr Ardalydd wedi rhoddi prydles i
berchenogion y 35 tyddyn, o herwydd mi adnabűm hen wraig anwyd yn un o’r cyfryw
dyddyndai, yr hon oedd yn cael coron yr wythnos oddiwrth yr Ardalydd cyhyd ag y
bu fyw, fel iawn am y golled a gafodd ei rheni. Dywedai mai y tyddynwyr
cylchynol a dynodd i lawr y ffermdai; a'r rheswm am hyny oedd, fod eidion wedi
crwydro o dir Llwynmoch, yr ochr arall i'r Dyffryn, i un o’r 35 tyddyn, ac i
fechgyn y tyddyn hwnw ei wyngalchu! yna gyrasant ef adref; ond by hyny yn achos
i ddwyn ei fywyd, yr hyn gynhyrfodd ddigofaint y gymydogaeth. Y canlyniad fu
difrodi y tyddynod, ac wedi hyny y gyfraith yn Henffordd.)
Parodd hyn i’r Mri. Samuel Rees o’r Werfa, a Rees Phillip o'r Cwm, fyned i
gyfraith â’r Ardalydd, ar ran y plwyfolion, yn ngylch hawl i’r Waun. Dygwyd y
gyfraith yn mlaen yn Henffordd yn
Dyna derfyn bythol ar Hirwaun fel comin; a da hyny mewn rhyw ystyr; ond amheua
llawer gyfiawnder y dyfarniad o roddi y cwbl ond y Cemetery a’r Park
i rydd-dalwyr (freeholders) y plwyf. Rhoddodd y Gwrgan y Waun yn dir
::4 BRWYDR HIRWAUN WRGAN
Fod brwydr wedi bod rhwng Iestyn ab Gwrgan, yn cael ei
gynorthwyo gan fyddin o Normaniaid, a Rhys ab Tewdwr, ar Hirwaun, sydd, fel y
tybiaf, yn dra thebyg; ond y mae cynnifer o amgylchiadau dychmygol yn cael eu
gosod i fyny fel ffeithiau, nes y teimla y darllenydd ystyriol gryn lawer o
amheuaeth am y cwbl. Gosodir byddin Iestyn i drigo yn y Gadlys Isaf, a byddin
Rhys yn y Gadlys Uchaf, heb gofio nad oedd yn y plwyf ar y pryd ond y Gadlys
Isaf yn unig. Creadigaeth ddiweddarach yw y Gadlys Uchaf. Cychwynant y frwydr
ar “Gae Maesydref”: eir i fyny drwy y dyffryn yn mhell uwchlaw Hirwaun:
cyfnewidir “Gwaun Rhiw-fan” yn “Gwaun Rhwyfus,” – “Gwaun Gwingo,” &c.: daw
“Cwm-Nant-yr-Hwch” yn “Cwm-Nant-yr-Och!” “Nant-yr-Ychain” yn “Nant-yr-Ochain;”
“Bryn Gwyn” yn “Bryn y Banerau-Gwynion.” Pan ganfu Rhys ei fod yn colli’r dydd;
yn lle ceisio rhedeg yn ol i’w gartref yn Sir Gaerfyrddin, try ei gefn ar y
Dinefwyr, a rhed i fynyddau y “Gloven,” lle y daliwyd ef ac y torodd gwyr
Iestyn ymaith ei ben. Gelwir y lle byth wedi hyny yn “Ben-Rhys.” Adeiladwyd yno
fonachlog; a thyma lle y bu hyd nes y dinystriwyd hi trwy orchymyn Harri’r
Gwragedd – yr Wythfed.
(Wedi brwydr Hirwaun, ac, yn mhen ychydig, brwydr y Mynydd Bychan, daeth
Morganwg oll yn feddiant Robert Fitzhamon, ei ddeuddeg marchog, plant Iestyn ab
Gwgant, ac Einion ab Collwyn. Yn awr, a ydyw yn debyg y buasai un o’r rhai
hyny, y rhai oeddynt â llaw uniongyrchol yn nghorchfygiad Rhys ab Tewdwr, yn
adeiladu, neu yn caniatau i rywun arall adeiladu, mynachlog ar Fynydd Penrhys,
er cof parchus am ddienyddiad eu hen elyn, a hyny ganddynt hwy eu hunain?
Ymosodwr beiddgar oedd Rhys yn Nyfed ac yn Morganwg; ac
Ond yr hyn sydd yn tynu cryn lawer o’r dysgleirdeb oddiar yr hanes yw, fod un
o’r “Brutiau” yn dweud Mai “Ffreincwys Senni a laddodd Rys ab Tewdwr, ger
Aberhonddu!” Beth bynag, mae “Llyfr Aberpergwm” yn dweyd mai ar “Ben Rhys” y
gwnawd ef yn fyrach o’i ben. Er difyrwch i’r darllenydd, rhoddwn yma yr hanes
fel ei ceir yn y llyfr hwnw:
“Ynghylch yr un amser (1088) y bu farw Cadifor ab Collwyn, Arglwydd Dyfed; a’i
feibion ef, sef Llewelyn ac Einion, a’i frawd Einion ab Collwyn, a anogasant
Ruffydd ab Meredydd i ddodi cad ar faes yn erbyn Rhys ab Tewdwr. A dyfod a’u
lluoedd yn nghyd a wnaethant, a brwydr dost a fu; eithr gorfu Rhys ab Tewdwr
Llandudoch; a dalwyd Gruffydd ab Meredydd, ac a fyrhawyd o ben; a lladdwyd
Llewelyn ac Einion, meibion Cadifor. Ac Einion ab Collwyn, brawd Cadifor a
ffoes Iestyn ab Gwrgan, Tywysog Morganwg a Gwent, yr hwn oedd yn rhyfela yn
erbyn Rhys, ac adrawdd ei ansawdd iddaw. Einion a fuasai yn ŵr swydd yn
rhyfela gyda brenin Lloegr a’i farchogion yn Ffrainc, a gwledydd ereill, a
charedig mawr rhyngddo a’r brenin a’i farchogion. Ac Iestyn wedi gwybod hyny, a
addunedwys i Einion ei ferch yn briodwraig, os efe a ddygai iddaw o Loegr yn
erbyn Rhys ab Tewdwr, a chyda y ferch hono yn gyfoeth Arglwyddiaeth Meisgun.
“Myned i Lundain a orug Einion, ac
ammodi â Robert fab Amon, tywysawg y Corbwyl yn Ffrainc, a chefnderw y Brenin
Coch, i ddyfod yn gyfnerth i Iestyn yn Morganwg. A Robert a weithiawdd ar
ddeudddeg o Farchogion ereill o urddas ddeiamheu nes ei hynill o’i blaid yn un
ansawdd ag yntau. Dyfod a wnaethynt i Forganwg ar frys ac unaw lluoedd ag
Iestyn, a myned i wledydd Rhys ab Tewdwr (x267) a lladd a llosgi cyfled â’r tir
a gerddynt. A phan glybu Rhys hyny, myned yn eu herbyn, a chyfarfod y ddau lű
gerllaw Brecheiniawc, yn y lle a elwir Hirwaun Wrgan, a brwydr waedlyd fawr a
fu rhyngddynt lle gorfu ar Rys ffoi. A’i ymlid a wnaeth Iestyn a’i ddal yn
Nglyn Rhodneu, a lladd ei ben. Ac enwyd y lle y bu hyny Pen Rhys.
”Gwedi hyny ymlid ei wyr a’u lladd yn greulon, a dal Gronwy mab Rhys, a lladd
ei ben yntau. A mab arall oedd i Rhys o’i ordderch a elwyd Cynan, yn ŵr dewr
a thrachalonog; ac efe ymchwelyd tuag Ystrad Tywi wedi lladd ei dad a’i wŷr,
ymlidiwyd ef mor galed a thost oni orfu arnaw amcanu dianc drwy lynn a elwir
Cremlyn (ger Abertawy) lle y boddes ef a llawer o’i wŷr; ac am hyny Pwll
Cynan y gelwir y lle fyth wedi hyny. Mab arall i Rys a elwid Gruffydd, ac nid
oedd ond plentyn pan las ei dad.”
”Gwedi hyny ymgynnull a wnaeth gwyr Robert ab Amon a’i farchogion a’u gwyr ar
Dwyn Colwyn, lle y talawdd Iestyn iddynt yn aur coeth, ac o hyny hyd heddyw
gelwir y lle yn “Filltir Aur.”
Nid yw hanes Caradawc o Lancarfan mor fanwl ag eiddo
“Llyfr Aberpergwm.” Nid yw yn enwi Hirwaun o gwbl; a phe buasai ereill yn
gadael allan rai o’r manylion dychymygol o’u hysgrifau, buasai llai o fantais i
ddynion ydynt yn amheu ein holl hanesion hongian rhesymau gwrthwynebol ar yr
helynt. Y mae rhai wedi myned mor bell a dweud fod byddin Robert Fitzhamon a
Iestyn yn 6000, tra nad oedd eiddo Rhys ond 300! Yr oedd Rhys yn hen ŵr,
dros 90 mlwydd oed, mae yn wir; ond nid yw yn debyg ei fod mor ffol ag y myn y
bobl i ni gredu ei fod. Yn mysg “gwyr y tri chant” y mae Taliesin ab Iolo
Morganwg; ac y mae yn anhawdd deall pa fodd y gallasai ysgolor mor addfed ac
hynafieithydd mor ddiamheuol alluog ag efe annog dynion i gredu y fath ffwlbri.
Yr oedd yno, fel y dywedai Dafydd Gam wrth frenin Lloegr, ddigon o Normaniaid a
Chymry yn nyddiau Iestyn, “i’w lladd, digon i’w gwneyd yn garchararion, a digon
i redeg ymaith:” ond nas gallasai
Y mae un peth arall anesponiadwy i mi yn
nghlŷn â’r helynt; sef, os lladdwyd Rhys ac y gorchfygwyd ei fyddin mor
llw˙r ag y mynir i ni gredu, paham na chymerodd y Normaniaid feddiant o’i
arglwyddiaeth yn Ninefwr, fel ag y gwnaethant âg eiddo Iestyn ab Gwrgan yn mhen
ychydig fisoedd wedi hyny yn Morganwg?
Fel rheol, gesyd haneswyr yr holl fai am
ddyfodiad y Normaniaid i Forganwg ar ysgwyddau Iestyn; a chydymdeimlir yn fawr
i Rhys: ond nid yw yn hawdd, fel y tybiaf, benderfynu pa un a’i ar Rhys, Einion
ab Collwyn, ai ynte ar Iestyn, yr oedd y bai. Teimlaf fi mai Rhys oedd y
pechadur mwyaf. Ymosododd Rhys ar dreftadaeth Einion yn Nyfed, a lladdodd ei
ddau nai yn mrwydr Llandudoch, fel y nodwyd yn barod. Dyna fu achos i Einion
ffoi at Iestyn. Dylanwad Einion, fel hen “ŵr swydd” yn myddin y brenin,
ddygodd y Normaniaid i Forganwg, a ffolineb Iestyn fu yr esgus iddynt aros.
(Y ffolineb hwnw oedd gwrthod rhoddi Nest
ei ferch yn wraig i Einion, yn
ol y cytundeb; ond pan orchfygwyd ef gan y Normaniaid cafodd Einion Nest, a
chyda hi Arglwyddiaeth Meisgun yn waddol.)
Cofier mai Rhys oedd yr ymosodydd!
Rhyfedd fel y diflanodd hiliogaeth Robert
Fitzhamon a’i ddeuddeg Marchog o Ddeheudir Cymru. Yn y flwyddyn 1572 y
ysgrifenai Syr Edward Stradling fel y canlyn:
“Of the heirs male of the aforesaid
twelve knights that came with Sir Robert Fitzhamon to the winning of Glamorgan,
the lordship aforesaid. there is at this day but the Stradling alive that
dwelleth in Wales, and enjoyeth the portion given in reward to his ancestors.”
Ni fu y Stradling yn hir cyn dylyn y gweddill. Dywedai ei
fod ef wedi priodi Saesnes o Sussex, ond nad oedd hi etto wedi ychwanegu dim at
yr hiliogaeth! Ni fu hyny yn golled i neb; a phe buaisai efe yn defnyddio y
gair “stealing” yn lle “winning” buasai yn agosach i’w le.
::5 RHAS TWM EMWNT
Ni fyddai hanes “Comin Hirwaun” yn werth dim yn
ngolwg hen drigolion y lle a’r cyffiniau pe na chynnwysai hanes Twm Emwnt a’i
râs. Oni redodd ac oni ennillodd Tomos râs o dair milltir ar Gomin Hirwaun mewn
amser byr iawn? ac oni sonir am y râs hona hyd y dydd hwn, gan i lwyddiant
(x268) Tom fod yn achos i wyr Dyffryn Tâf ennill rhai dwsinau o foch, merlynod
mynydd, ac ugeiniau o bunnau, oddiar wyr Dyffryn Cynon?
Os bydd dyn yn rhyw dipyn o fardd rhaid iddo
fynu ffugenw i ateb ei farn ei hun; bryd arall, ceir holl ddawn yr “Orsedd” i
wneyd hyny drosto; ac os na fydd ofalus ca hyd coes rhacca o hono, megys
“Negesydd o’r Ynys Werdd,” neu “ Fardd Coch Bach Cwmynysmintan!” Os cerddor
fydd, rhaid i “Hwrdd” neu yn “Eos” (“Ram” or “Nightingale”); ond
os rhedegwr, neu ryw wylltfilyn felly fydd, rhaid cael llysenw – “Sharkey,”
“Bendigo,” neu “Coffee Cooler!” Dyna fu tynghed Thomas Edmunds,
druan. Rhaid ei alw “Twm Emwnt;” ac ni adnabyddir ef ond wrth y enw. Cafodd ei
eni o deulu parchus o dyddynwyr yn rhanau uchaf Tâf, ger Merthyr Tydfil, yn y
flwyddyn 1751; a bu farw yng Nghefn Coed y Cymmer, yn y flwyddyn 1751. Yr oedd
tadcű (taid) yr ysgrifenydd yn ei gofio yn dda. Cafodd gorff ardderchog
iawn;.ond trwy ei ymdrechion rhyfeddol fel rhedegwr anmharodd ef, a bu farw,
fel y gwelir, yn 34 mlwydd oed. Pan ennillai, cenid ei glod trwy yr holl
gymdogaeth; ond pan gollai, caffai ei drin yn arw iawn. “Cilbwt” oedd hi pan gollai! Nis gwn pa un a
arferir y gair in y Gogledd ai peidio. Ei ystyr yw fod rhedegwr yn gwerthu ei
hawl, yn ddirgel, i ennill y râs i blaid ei wrthwynebydd, a thrwy hyny yn
bradychu ei blaid ei hun.
(Mae yn debyg mai o’r Ffrancaeg y deillia
yr enw, a bod ei ystyr yn y ddwy iaith yn gyffelyb.)
Ychydig, os dim, o yrfaoedd yr hen ffasiwn a geir
yn y parthau hyn yn awr; ac nid wyf yn credu fod hyny yn golled i neb. Bu Tomos
yn aelod o hen eglwys Arminaidd yr Ynysgau, Merthyr, am rai blynyddau cyn ei
farwolaeth; a gellir meddwl nad oedd yr hen eglwys hono yn rhyw ofalus iawn am
ymarferion a barnau ei haelodau, gan ei bod yn caniatau i Tom redeg gyrfaoedd
tra yr oedd yn aelod; ond mynai rhai ei ddiaelodi am eu bod yn credu ei fod yn
parhau i redeg ambell “Râs Gilbwt”!
“Mae cynulleidfa’r Ynysgau,
Credwch chwi neu beidiwch!
Yn cwnsela bob yn ddau, -
Credwch chwi neu beidiwch!
Fe dorir Twm ’mhen mis i ma’s
Am wneyd “cilbwt” yn mhob rhyw râs, -
Mae hyn yn groes i lwybr grâs,
Credwch chwi neu beidiwch!”
(Vaynor Handbook, gan W. Morgan, Ysw., Y Pant.)
Hefyd, yr oedd yn
caniatau i amryw Galfiniaid proffesedig ymaelodi ynddi a gwyddis iddi droi yn
Galfinaidd hollol dan weinidogaeth y Parch. T. B. Evans. Cyn ei ddyddiau ef,
Arminiaid oedd y nifer luosocaf o’i gweinidogion.
Rhyfedd fel y mae hanes y pencampwyr o
ddosparth Twm Emwnt, a “Gutto Nyth Bran,” rhedegwr mawr Llanwynno, yn byw yn
mysg y werin. Tra nad oes ond rhyw un yma ac acw yn gwybod am Dafydd Cadwgan,
bardd rhagorol Llanwynno, a Sion Llewelyn, Cefn Coed, mae y rhan luosocaf o
honynt yn dra hyddysg yn hanes y ddau redegwr!
Prif gampwyr y bęl droed fydd y gwroniaid
o hyn allan. Rhyfedd fel y mae y drafodaeth arw ac aflednais hono wedi
dylanwadu ar feddyliau ein gwyr ieuainc. Lle na cheir ond dyrnaid o bobl yn aml
i wrandaw cyngherdd neu ddarlith uwchraddol, ceir miloedd i edrych ar y
ffoliaid hyn yn cilgwthio, ysgrabin, cicio a thori esgeiriau eu gilydd!
Gwrthodir ei ganiatäu yn hollol mewn rhai o wledydd Ewrop, a thrinir y Saeson
yn arw am geisio ei ddwyn i’w mysg. Mae yn llawn bryd i ninau geisio ei dwyn
“dan drefn a dosparth” hefyd; os amgen, deuir i edrych arnom, nid fel cenedl o
foesolion a Christionogion goleuedig, ond yn genedl o gicwyr peryglus ac
anwybodus! yn dysgu ein plant i fyny o’r cryd i fod yn Spartiaid ysgythrog a
mileinig, y rhai na feddant fwy o barch i esgeiriau dyn nag o gregin gocos!
::6 Y “BROCKS”
Am lawer iawn o oesau megid ar “Gomin Hirwaun”
ddosparth o ferlynod mynydd a elwid “Brocks Hirwaun.” Rhyw gymysgedd oedd eu
gwisg, agos cyfartal o wyn a du. Yr oeddynt yn fwy eu maint na merlynod “Cadair
Arthur” neu “Bantywern,” y soniais am danynt yn fy llythyr cyntaf; ac yr
oeddynt yn fwy o werth “ar ben ffair” o fwy nâ phunt yr un. Nid wyf wedi gweled
un o honynt ers blynyddau, ac nis gwn a ydynt yn cael eu magu yn y gymdogaeth
ai peidio. Yr oeddynt hwy hefyd yn greaduriaid bywiog a “chelyd.”
Gallesid eu dwyn, trwy ofal a thynerwch, yn greaduriaid defnyddiol iawn. Gelwid
y trigolion weithiau yn “Brocks Hirwaun:” (x269) ac os buasai llygad du ar
rywun hanner can’ mlynedd yn ol, nid oedd raid iddo ond myned i un o dafarndai
Hirwaun ar “Nos Sadwrn Pay”; a galw “Brock” ar un o’r gwreiddiolion, er
ei gael! Fel y canlyn y canai rhywun wedi gwneyd y prawf: -
“Ce’s lygad dű a daiar
Ar Hirwaun yn ddiweddar;
Fe ddylid gyru’r oll o’r Brocks
I’r Rocks of Gibralter.
A diolch am y ddaiar,
Ac am ryw gyfaill hawddgar
R’odd imi shawns i gilo ma’s
Rhag ofn y gwas ymladdgar.
Mi wn fod dwrn y “Brocyn”
Fel darn o faen y felin,
Pan gwrddodd â fy llygad - wel!
Mi syrthais fel ’scadenyn!”
::7 MORGAN RHYS MEURIG A’R YSBRYD!
Yr oedd Morgan yn hoff iawn o redeg gyrfaoedd. Nid oedd rhâs byth yn cael
pasio, ac yr oedd llawer o honynt yn pasio, yr adeg hono, na fuasai Morgan yn y
dystiolaeth; a threuliai lawer iawn o’i amser a’i arian yn y tafarndai
cylchynol. Cafwyd ef un boreu ar ol un o ffeiriau Aberdâr, ar Gomin Hirwaun,
wedi rhynu i farwolaeth, yn agos “porcyn,” a’i ddillad yn gryno ar
ochr yr heol oddeutu can’ llath yn is i lawr. Dywedai y bobl yr adeg hono ei
fod wedi cyfarfod âg ysbryd a bod hwnw wedi ei herio i redeg gyrfa. Tynodd
ymaith ei ddillad, a rhedodd oddeutu can’ llath; yna gorweddodd a syrthiodd i
gysgu, yn yr hwn gwsg y bu farw, gan ei bod yn noson oer iawn. Oes yr
ysbrydion, y cyhyraeth a’r ganwyll gorff oedd hono, er mai yn ugain mlynedd y
canrif hwn y dygwyddodd. Ac er nad oedd hawl gan y cyhyraeth a’r cannwyll corff
– yn ol y chwedl – i fyned o Esgobaeth Llandaf i Esgobaeth Ty Ddewi – o blwyf
Aberdar i blwyf Penderyn, y ddau yn Nyffryn Cynon – credai y trigolion
ofergoelus fod y rheol yn cael ei thori yn aml! Clywodd yr ysgrifenydd hwn
gigydd o’r lle yn dweyd ei fod ef yn dyst byw
o droseddau felly. Dywedai ei fod wedi dilyn cyhyraeth o hirbell, bîd sicr,
“gan fod ei wallt,” (gwallt y cigydd), “yn sefyll ar ei ben, o un plwyf i’r
llall!” A gyrodd y modd aethus yn yr hwn yr adroddai y chwedl, wallt ieuanc yr
ysgrifenydd i “sefyll ar ei ben,” fel y tybiai y pryd hwnw, hefyd!
::8 TEISENAU HIRWAUN
Yn nyddiau gogoniant Gwaith Hirwaun, yr oedd yn lle enwog iawn am “deisienau
brau!” Y rhai enwocaf, 55 mlynedd yn ol, am wneyd y teisienau hyny, - yr oedd
yr ysgrifenydd yn eu hadnabod yn dda, - oedd “Mari Gi Tân,” “Mam Dai Dew,”
“Beti Crafn” (Craven), a “Mari Dwm Rhys.” Y deisien fwyaf boblogaidd i ddathlu
pen blwydd neu wyl briodasol ar Hirwaun, oedd un wedi ei gwlychu mewn hufen
llaeth. Yr oedd hono yn un gostus, gan fod yn rhaid talu crogbris i’r tyddynwyr
cyfagos am yr hufen. “Mam
Dai Dew” oedd “meistres y band” am wneyd “teisien wyliau.” Tri chwarter
pwys o lard mewn unpwys o a flawd oedd rheol yr hen wraig hono! currants,
raisins, a chroen lemon, &c., i ateb archwaeth; ac yr oedd
archwaeth yr hen awdures yn uchel iawn, fynuychaf. Yr oedd “Mari Gi Tân” yn dra
enwog ei dawn i wneyd “ffrois” (pancakes). Ryw dro yr oedd Mari wedi gwahodd y
tair hen chwaer arall i dreulio prydnawn “Gwyl y Ffrois” gyda hi. Er dangos ei
dawn a’i gallu gwlychodd y blawd mewn hufen a rum. Gosododd ddefnydd un
yn y “ffrimpan” ar y tân; a rhywfodd neu neu gilydd, cydiodd y tân yn y
“ffroisen,” ac, “O!’r mynyddoedd o blwm!” aeth yn ffluwch i fyny trwy y simdde!
::9 CREFYDD AR HIRWAUN
(“Ar” Hirwaun ddywedir pan yn son am rywbeth yn pentref.)
Bu yr Eglwys Sefydledig yn esgeulus
iawn o sefyllfa grefyddol gwyr Hirwaun o ail-gychwyniad y gwaith haiarn yn y
lle yn 1763, hyd y flwyddyn neu o gylch y flwyddyn, 1869, pan oedd gogoniant y
lle fel gwaith haiarn wedi ymadael. Yr eglwysi agosaf i Hirwaun oeddynt
Penderyn, yn agos dair milltir o bellder; ac Aberdâr, yn llawn tair milltir.
Gadewid achos eneidiol y trigolion yn hollol dan ofal y “pedwar enwad breiniol”
– y Methodistiaid, yr Annibynwyr, y Bedyddwyr, a’r Wesleyaid; a da oedd fod yr
enwadau hyny mewn bodolaeth yno, onite buasai sefyllfa foesol y lle yn druenus
iawn. Rhydd hanes crefyddol Hirwaun enghraifft deg, a rheswm cyflawn, dros
lwyddiant yr enwadau crefyddol, ac aflwyddiant yr Eglwys Sefydledig, ar
fynyddau Gwent a Morganwg, yn nhair rhan gyntaf y ganrif hwn {sic, = hon}.
(x270) Ceisiodd
Mr. Overton, perchenog y Gwaith yn niwedd y canrif o’r blaen, uno y pedwar
enwad! ac i’r perwyl hyny unodd ddau dŷ gweithiwr; gwnaeth gapel bychan o
honynt, a cheisiai gan y bobl gadw eu cyfarfodydd oll yno. Buont yn cydaddoli
felly am flynyddau; ond methiant fu yr ymgais; ac yn 1823, adeiladwyd capeli
gan y Methodistiaid a’r Annibynwyr; y Wesleyaid a wnaethont yr un modd y 1824,
a’r Bedyddwyr yn 1825. Erbyn
hyn y mae y capeli wedi eu hail, a rhai o honynt wedu eu trydydd, adeiladau.
Mae gan yr Annibynwyr ddau gapel Cymreig yno, ac un Seisnig; y Bedyddwyr yn
achos Cymreig, ac achos Seisnig newydd gychwyn. Mae amryw weinidogion galluog
ac enwog wedi bod yn gwasanaethu ar Hirwaun; ac y mae y lle wedi bod yn enwog
er cyn cof yr ysgrifenydd am ei ysgolion Sabbethol trefnus a uwchraddol. Dengys
hyny fod egwyddorion y grefydd Gristionogol, gan nad pa beth fydd enw neu
sefyllfa y gŵr neu yr enwad a’u dysgant, yn alluog i ddwyn trefn ar
y byd, o’u dysgu yn briodol. Bu pentref (pentref gweithfaol, yn cynnwys, fel y
buasai sefyllfa y fasnach ar y pryd, i o ychydig i bum mil bobl, heb ond un
cwnstabl (Hywel Bryncarnau) ac wedi hyny un heddgweidwad, ac heb gymaint ag un
Eglwys Sefydledig o fewn tair milltir) yn gallu dangos pedair cynnulleidfa lawn
o addolwyr defosiynol a phedair o Ysgolion Sabbothol mwyaf dysglaer a dysgedig
yn Ngair y Bywyd ag a fedrid ddangos mewn unrhyw rhan o’r Deyrnas. Nid oes ynof
yr awydd leaf i siarad yn anngharedig am yr Eglwys Sefydledig a’i gweinidogion
parchus; ond honi yr wyf, yn ngwyneb eu haeriadau hwy, nad yw dwylaw esgob na
braint-lythyr Llywodraeth yn angenrheidiol er gwneyd dyn nac enwad gymhwys i
ddysgu egwyddorion y Testament Newydd. Wedi i’r Crawshays brynu y gwaith yn
1818, daeth llewyrch gwell ar y lle mewn ystyr fasnachol; ond gadawyd y
materion crefyddol yn hollol yn nwylaw y gweithwyr a’r ychydig fasnachwyr
drigent yno. Er mai ychydig iawn wnaeth neb o’r Crawshays dros grefydd yn
nghmydogaeth eu gweithiau eang yn Hirwaun, Merthyr, a’r Forest of Dean, rhaid
dweyd, er eu clod, can belled ag y gwn i, na wnaethant ddim rhwystr i’r achos
da fyned yn y blaen. Ychydig wyddai y cwbl a adnabűm o honynt am grefydd:
pentyru cyfoeth a mwynhau y byd hwn yn y dull y tybient hwy y dylid ei fwynhau,
oedd eu prif bwnc. Yr
oedd taid perchenogion presennol Gweithiau Merthyr yn byw yn Caversham Park,
ger Reading. Llosgodd ei balas yno i’r llawr, amryw flynyddau yn ol; ac aeth ei
oruchwiliwr i Lundain ar unwaith i hyspysu ei feistr o’r anffawd. “Paid
gofidio,” ebe’r meistr, “mi a adeiladaf dŷ na fedr un gallu mewn
bodolaeth ei losgi; gwnaf ef o haiarn” (ac felly y gwnaeth). “Ond fe ddaw
amser, meistr,” ebe’r goruchwyliwr, “pan fydd y defnyddiau gan wir wres yn
toddi.” “Taw ffwl,” ebe’r meistr, “ni fydd ei eisiau arnat ti na minau y pryd
hwnw!”
Dichon y dylid nodi fod capel arall wedi bod gan yr Annibynwyr ar Hirwaun,
gerllaw Heolyfelin, yn mhlwyf Penderyn. “Capel Split” oedd hwnw, adeiladwyd gan
y diweddar Joseph Harrison, yr hwn hefyd a adeiladold Salem, Aberdâr. Ni fu
rhyw lawer o lwyddiant ar “split” Hirwaun, ac nid yw yn gapel mwy. Bu Henry
Price, o Benderyn, yn cadw ysgol ynddo am dymhor; a thyna lle dysgodd yr
ysgrifenydd ei “A, b-ab!” Yr oedd amryw feddau o gylch yr hen gapel hwnw. Nid
ydynt i’w gweled heddyw.
(x48)
::10 ENWOGION HIRWAUN
Nid rhyw lawer o enwogion gyfodwyd ar Hirwaun. Nodaf rai o honynt. Er na
chafodd ei ddwyn i fyny yn y lle, treuliodd yr enwog Thomas Gabriel Jones
lawer o’i amser boreuol ymsa. Bu yn cadw ysgol yn y lle am flynyddau, ac yma y
cyfnewidiodd ei farn, ac y trodd oddiwrth yr Annibynwyr at y Bedyddwyr. Bu yn
teithio, bob pythefnos, dros y mynydd o Hirwaun i Benyrenglyn, Cwm Rhondda, i
wasanaethu y praidd bychan a gyfarfyddent yno. Yr oedd yn ysgolor gwych, a bu
wedi hyny am flynyddau yn Athraw Clasurol Coleg y Bedyddwyr yn Hwlffordd. Efe
gymerodd ran y Bedyddwyr yn y ddadl ffol hono ar Fedydd yn Rhymni, ac a elwir
byth oddiar hyny yn “Ffair Fedydd Rhymni.” Yr oedd yn ŵr o argyhoeddiadau
dyfnion; ond nid oedd yn rhyw gymhwys iawn at y gorchwyl yr ymgymerodd âg ef yn
Rhymni.
Bu yr enwog Ddoctor Stirling un gwasanaethu fel meddyg ar Hirwaun; ac y mae yn
rhyfedd can lleied o wŷr y lle sydd yn gwybod dim am ei fodolaeth. Yn y Medical
Directory am y flwyddyn 1899 ceir, yn mysg ereill, y manylion canlynol: -
“James Hutchison Stirling, 4, Lavernock Bank Road, Edinburgh, Ll. D.
Edin. 1867; F.R.C.S. Edin. 1860; L. 1842 (Univ. Glas.): First Gifford Lecturer,
1888-90: formerly Surgeon, Hirwain Iron and Coal Works, S. Wales. Author of Secrets
of Hegel; As regards Protoplasm; Text Book of Kant; Darwinism; Workmen and Work,
&c., &c.”
Rhaid ei fod erbyn hyn yn rhywle o’r 80 i’r 100 oed; ac yr wyf yn synu fod y
fath dalent ddysglaer wedi cael ei goddef i fyned trwy y lle mor ddisylw.
Bu Mrs. John (“Eliza, Carmarthen”), y brydyddes Saesneg enwog, yn byw ar
Hirwaun, tra yr oedd hi yn wraig i’r Parch. Thomas John, offeiriad y
lle. Dywed Mr. D. M. Richards: - “Ystyrid hi yn un o’r barddonesau Seisnig
goreu yn Nghymru, Hefyd, yr oedd yn hynod alluog fel cerddores ac arlunyddes.
Mae marwnad Seisnig dlos iawn o’i gwaith yn Cerddi Cystudd, ar ol yr
awdwr, John Oliver.”
Cododd Mr. Davis, o’r London Warehouse, Hirwaun, ddau fab a ddaethant yn dra
enwog fel masnachwyr a gwleidyddwyr yn Neheudir Cymru; sef David Davis,
o Faesyffynon, Aberdar, a Lewis Davis, Ferndale. Trwy ddylanwad y cyntaf
o’r ddau y cyrhaeddodd y diweddar Henry Richard sedd Senedd Prydain Fawr. Gwr
talentog, diymhongar iawn, oedd “Dafis o Faesyffynnon.” Yr oedd efe hefyd yn
hynod annibynol o ran barn. Wesleyaid selog iawn oedd y teulu, a bu yntau yn
aelod o’r un cyfundeb am flynyddau; ond yr oedd yr enwad yn rhy unffurfiol, os
nad ceidwadol, eu trefniadau i foddloni meddwl rhyddfrydig Mr. Davis am
allanolion crefydd. Yr oedd yn un o’r rhai cyntaf yn Nghymru i goleddu syniadau
y “Diwygwyr Wesleyaidd; “ ac o’r diwedd ymunodd â’r Annibynnwyr, gyda’r rhai y
treuliodd weddill ei oes. Trwy ei benderfynolrwydd di-ildio i amddiffyn yr hyn
gredai oedd yn iawn, daeth ei weithwyr yn y glofeydd ac yntau, rai troion, i
wrthdarawiad anhapus; ond gwae y sawl feiddiai osod ei ben rhyngddynt yn y
diwedd. Erys ei enw yn barchus yn Neheudir Cymru am lawer oes. Ni chymmerodd ei
frawd, Lewis, ran mor gyhoeddus fel gwleidyddwr â David; ond yr oedd yntau yn
ddyn rhagorol iawn.
Bechgyn enwog ereill anwyd ac a
fagwyd yma yw ThomasWilliams, Ysw., Y.H., Gwaelodygarth, Merthyr, a’i
ddau frawd, John a William. Nid oes gŵr lleyg yn perthyn i’r
Annibynwyr mwy adnabyddus na mwy defnyddiol nâ Thomas Williams. Mae ei enw yn
air teuluaidd yn y wlad hon ac yn mhob gwlad lle mae bechgyn Cymru yn
preswylio. Mewn llawer yotyr, dyn cenedl yw yr ynad o Ferthyr; a chydbnebydd
pawb a’i hadwaen y bydd ein cenedl yn dlotach pan elwir arno oddiwrth ei waith
at ei wobr. Chwareuodd ei frawd John “lawer rhan,” ac yr oedd yn aelod o holl
fyrddau cyhoeddus Aberdar pan fu farw. Mae William yn ynad heddwch dros Sir
Frycheiniog, ac yn aelod defnyddiol o Gynghor Sirol gwlad Brychan. Gŵr
hirben, ac yn meddu ar farn ddiwyro, yw efe.
Ar Hirwaun y ganwyd y Parch. Evan
Bryant, un o genadon yr Annibynwyr yn China. Yr oedd efe pan yn ieuanc yn
ganwr perlais, a bu yn un o aelodau Côr Undebol Caradog pan drigai yn Aberdar. Can
belled ag yr wyf yn cofio, efe yw yr unig genadwr godwyd yn y dyffryn.
Yma y ganwyd ac y magwyd y diweddar Barch. John Thomas, gweinidog y
Bedyddwyr yn Nghaerfyrddin. Can belled ag yr aeth fy sylw, ni chlywais neb o
fechgyn Cymru yn siarad, wedi cyrhaedd safle uwch uwch yn y gelfyddyd (x49)
araethyddol nâ John Thomas. Yr oedd, er yn fachgen, yn adroddwr campus iawn; ac
oedd yn hawdd i’r sylwedydd craffus weled olion amlwg yr addysg adroddiadol
gafodd dan ofal ei dad yn ei araethyddiaeth ragorol yn y pulpud. Ni fedraf,
trwy wybodaeth, feio y cynorthwyon ga gwyr ieuainc Cymru yn ein colegau; ond yr
wyf wedi teimlo lawer gwaith y buasai ychydig fisoedd “wrth draed” Henry
Irving, neu rywun cyffelyb, rhwng y dydd diweddaf yn y coleg a’r dydd cyntaf yn
y Weinidogaeth, yn fantais fawr iddynt.
Er na anwyd D. E. Williams, Ysw., Y.H., ar Hirwaun, y mae wedi treulio y
rhan fwyaf o’i oes yma. Yn Aberhonddu y ganwyd ef; ac nid oedd ond gŵr
ieuanc iawn pan adawodd ei dref enedigol; ond y mae wedi llwyddo i godi ei hun
o ris i ris, nes y mae heddyw yn un o brif ddynion yr ardal. Y mae wedi cymeryd
ran flaenllaw iawn yn holl symudiadau gwladyddol a chrefyddol y lle am o leiaf
hanner can’ mlynedd. Y mae wedi siarad ac ysgrifenu llawer dros Royalties.
Mi a obeithiaf fod etto ddyddiau lawer o’i einioes heb eu treulio, ac y bydd
iddo barhau hyd y diwedd yn ngwasanaeth ei genedl.
Rhaid peidio annghofio y diweddar Barch. William Williams, Nebo; y Dr. R
Evans, wedi hyny o Heolyfelin a Chastellnedd; y diweddar Barch. J. R.
Williams, awdwr Llawlyfr yr Athraw, a’r gweinidogion presennol, y
rhai ydynt oll yn addas ddadleuwyr dirgelion Trefn y Cadw.
Can belled ag yr wyf yn cofio, Dafydd Morganwg yw yr unig fardd o nod a
safle a fu yn byw ar Hirwaun erioed. Iddo ef hefyd y perthyn yr hanes o gadw yr
argraffdy cyntaf, a diweddaf, hyd yn hyn, yn y lle. Un o wyr Merthyr Tydfil yw
efe; ond bu yn byw yn Aberdar a Hirwaun cyn symud o hono i Gaerdydd.
Ar Hirwaun y cychwynodd Mr. J. E. George, awdwr y Peleni enwog, ei yrfa
fasnachol, ac yno y bu yntau yn byw hyd nes y symudodd i Gaerdydd, ychydig
flynyddoedd yn ol.
Yr oedd Hirwaun yn enwog un amser am herwhelwyr; na boed ond eu crybwyll; ac
nid atebid un amcan da wrth eu henwi. Clywais un o honynt yn dweyd na laddodd
efe erioed unrhyw greadur ag y gallasai neb ei hawlio yn deg fel ei eiddo. Lladdodd
gannoedd o ysgyfarnogod, cwningod, adar gwylltion, a physgod; ond na ladodd pheasant
erioed, gan fod y cyfryw adar yn costio yn ddrud i’w perchnogion.
“Dyna,” ebe fe, “ddylai fod hyd coes y Game Law.”
::11 MANION A CHASGLIADAU
Yr oedd y Royal mail
coach yn rhedeg o Gastellnedd i Ferthyr trwy Hirwaun, a newidid y ceffylau
yn y Cardiff Arms, yr hwn dŷ a gadwyd am flynyddau gan Mr. Moor a’i wraig.
Ysgottyn oedd efe; ond Cymraes enedigol o’r lle oedd hi, ac ystyrid hi y wraig
harddaf a serchusaf yn y lle. Bu farw’n gyfoethog.
Yr oedd cadw shop grocer neu dafarndy ar Hirwaun, gynt, yn golygu ffortiwn. Mae
amryw o honynt wedi eu gwueyd yno. - Gonest, mi a obeithiaf!
Mae Peleni Meddygol (Pills) Hirwaun, wedi “anfon eu lleferydd hyd
derfynau eithaf y ddaear!”
Ar Hirwaun y cafodd David Tudor Evans, ysgrifenydd Eisteddfod
Genedlaethol Caerdydd, yr hon gynnaliwyd, ys dywedai Clwydfardd, yn “Hosan”
Cwmpeini Dyffryn Tâf, ei wraig.
“Pound Mawr” Hirwaun oedd gynt y llyn dwfr mwyaf yn Morganwg. Mae cronfeydd
Caerdydd bellach wedi eu gyru i’r cysgod.
Boneddwr wedi ei eni a’i fagu mewn tafarndy yw y dirwestwr mwyaf penderfynol ar
Hirwaum.
Yn nyddiau gogoniant Hirwaun dan y Crawshays, cedwid yno ddwy ysgol, un i blant
y glowyr a’u cysylltiadau a’r llall i blant y “Gwyr Tân” (Puddlers) a’u
cysylltiadau hwythau. Paham y cedwid dwy, ni ddeallais erioed; ond yr oedd un
amser elynaieth, megys gelynaieth Iuddewon a Philistiaid, rhwng plant y ddwy
ysgol. Yr wyf yn cofio rhai rhyfeloedd o’r herwydd; ac nid yw yn debyg yr ä y
rhyfeloedd hyny o gof yr ychydig sydd yn fyw o’r rhyfelwyr!
::12 ABERDAR
Wedi dweyd y cwbl deimlwn ag sydd yn angenrheidiol am Hirwaun, deuwn yn awr i brif
dref y dyffryn, Aberdâr. Y mae gwahanol farnau am ystyr (x50) yr enw. Yr wyf fi
wedi dweyd fy marn ar y mater hwn mewn rhifyn blaenorol o’r GENINEN, sef yw
hyny, yn fyr, Aberdwrderwen . Y ffurf unigol ar deri yw dar, ac
unigol derw yw derwen. Cymharer Derwent Water, Gogledd Lloegr. Dwr Derwen, onide? Felly
Aberdar.
“Na’r ddâr, hono yw’r dderwen.” L{ewis} Glyn
Cothi.
Yr oedd llawer iawn o’r plwyf gynt yn orchuddiedig â deri. Y mae chwedl yn y
lle y gallasai gwiwer gerdded dros frigau deri - un ochr i’r cwm - o odreu i
ben uchaf y plwyf, heb unwaith osod ei throed ar dir. Yr oedd Cwmdâr yn
neillduol felly.
Y cyfeiriad argraffedig cyntaf welais i at Aberdâr a geir yn Ngweithiau Lewys
Glyn Cothi:
“Yn goetgae gwnaeth yr holl ddaear,
O wengaer Dwnster hyd Aber Dar.”
Yn ei nodiad ar y llinellau dywed Gwallter Mechain: -
“Aber Dâr, a village in Glamorganshire. Ieuan Ddu ab Dafydd ab Owain, an
eminent poet, was a native of Aber Dâr.”
Y gwr a wnaeth y gwrhydri hyny o Dwnster i Aberdâr oedd Syr William Herbert,
mab y “Marchog Glâs o Went;” a’i fam oedd ferch Syr Dafydd Gam o Agincourt. Syr
William oedd Iarll cyntaf Penfro, o’r enw Herbert. Yr oedd yn byw yn Rhaglan,
Mynwy; ac yr oedd ei fab yn briod â chwaer brenines Edward IV. Cafodd efe a
Richard ei frawd – Richard Herbert Hir, eu dienyddio ar ol brwydr Danes Moor.
“Y gwart ragora’ o gred
Ond o wall a lwyr golled.”
Fel y noda Gwallter Mechain, nid oedd Aberdâr, yn 1837, pan gyhoeddwyd
Gweithiau Lewys Glyn Cothi, ond “ pentref,” neu, yn hytrach, nifer o bentrefi
bychain; ond, erbyn heddyw, y mae y plwyf yn cynwys o leiaf 40,000 o drigolion;
ac ystyrir hi y dref lanaf ac harddaf o holl drefi gweithfäol Gwent a Morganwg.
Byddai ein Gweryd (Cemetery), ein Park, a’n Coleg - St. Michael’s - hen
balasdy y Fothergills, yn addurn i unrhyw dref yn Nghymru; ac am ei heolydd,
nis gellir eu gwell. Gan mai yr un enw fedd y plwyf a’r dref, bydd yn rhaid i
mi yn aml gymeryd yr holl blwyf dan gesail yr enw, - bryd arall, y dref yn
unig; a rhaid i’r darllenydd arfer ei farn. - Pa fodd bynag, ni ddaw Hirwaun i
fewn ond yn anaml o hyn allan.
::13 SEFYLLFA GREFYDDOL Y DYFFRYN
Yr wyf eisioes wedi crybwyll am
sefyllfa grefyddol Hirwaun a Phenderyn, fel na wnaf ond nodi fod o Benderyn i
Abercynon fwy na 120 o eglwysi a chapelau o wahanol faintioli, a bod yn eu mysg
achosion gan oddeutu tri-ar-ddeg o wahanol enwadau; ond, fel y gellir barnu, y
mae yn mysg y tri-ar-ddeg hyny fwy na thri-ar-ddeg-a-chant o wahanol nodweddion
proffes! Ceir yma yr “Uchel,” yr “Hen” a’r “Newydd,” y “Caeth” a’r ”Rhydd”, a’r
“ Rhyddfrydwr,” &c., &c.; a gellir ychwanegu hanner dwsin o “&c.”
etto; fel nad oes perygl na chai y gwr â’r farn grefyddol ryfeddaf yn y byd,
rywun tebyg iddo ar lanau y Cynon. Mae yma filoedd yn proffesu proffes eu
tadau, am yr unig reswm fod eu tadau wedi ei phroffesu, heb ymholi dim er mwyn
eu cydwybodau eu hunain. Fel y dywedodd rhywun, pe buasent wedi eu geni yn
Nghanolbarth Affrica, buasent yn ganibaliaid ffyddlon a defnyddiol iawn!
Ond y syndod mawr i mi yw, fod y rhan fwyaf o honom yn proffesu sylfaenu ein
cred ar addysgiadau y Testament Newydd! (Ai nid yr Esponiwr yw tad yr
amryfusedd?)
Dywed Dafydd Morganwg yn ei Hanes, -
“Sefydliad Pabyddol oedd yr hynaf y mae genym hanes am dano yn y plwyf hwn
[Aberdâr]. Math o fynachdy bychan oedd hwnw, dan ofal Abad Mynachlog Penrhys,
Ystrad-dyfodwg. Safai ar randir Cefnpennar, ger y Ty Draw, yn ymyl y ffordd
sydd yn arwain o Aberdar i’r Cwmbach. Yr oedd peth o’r adfeilion yn weledig yn
1800; ond saif planigfa yn bresennol lle bu’r addoldy gynt. Yr oedd ffordd gan
y mynachod o’r addoldy hwnw, dros y mynyddau i Fynachlog Penrhys; ac y mae rhan
helaeth o honi i’w gweled yn awr; a gelwir hi Rhiw’r Mynach. * * * * Yr oedd
Mynachlog Penrhys yn ei bri yn 1400; a digon tebyg mai tua’r amser hwnw y bu
llewyrch ar y sefydliad yn Aberdâr.”
Wedi dadsefydliad y mynachlogydd gan “Harri’r Gwragedd,” ac yn eu mysg
Fynachlog Penrhys, ac y llosgwyd ei hen ddelw - “Y Wyry Fair o Benrhys,” yn
Smithfield, Llundain, y cafodd Mynachdy Bach y Tŷ Draw, Aberdâr, ei
esgeuluso, ac yr adeiladwyd yr hen eglwys blwyfol bresennol. Dyddiad ei chloch
yw 1633; ond y mae yn bosibl ei bod wedi ei hadeiladu rai blynyddau cyn hyny; a
“chapel anwes” i Lantrisant y bu am oesau.
(x51) Yr achos Ymneillduol cyntaf a
gychwynwyd yn y dyffryn oedd eiddo yr Undodiaid: ac y mae ganddynt hwy gapel
yma er y flwyddyn 1751.
Dechreuodd yr Annibynwyr, y Bedyddwyr, a’r Methodistiaid, achosion yma yn
niwedd y ganrif o’r blaen; ond ar ol yr Undodiaid, i’r Methodistiaid y perthyn
yr hanes o adeiladu y capel cyntaf; ac, yn mhen ychydig dylynwyd hwy gan y ddau
enwad arall. Adeiladwyd capel cyntaf y Methodistiaid yn 1806, a chapeli cyntaf
y ddau enwad arall yn 1811. Erbyn heddyw, yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr yw y ddau
enwad lluosocaf yn y dyffryn o gryn lawer. Daeth yr achosion ereill, fel
hwythau, i fodolaeth fel yr oedd barn grefyddol y preswylwyr yn hawlio. Yn
mlynyddau canol y ganrif bu yn y plwyf lawer o Formoniaid; ond nid wyf yn credu
fod yma nemawr o honynt heddyw. Mae y Salvation Army yn parhau i
ysgrechian ar hyd yr heolydd, er eu bodlonrwydd eu hunain yn ddiau; a dywedir
eu bod yn gwneyd llawer iawn o ddaioni; mae yn eithaf possibl eu bod; ond mi a
wn eu bod yn gwneyd llawer o ddrwg mewn ystyr gerddorol i blant y lle, gan eu
bod hwy â’u cyrn bob amser yn canu “allan o diwn”, a bod y plant yn dysgu eu
halawon yn y seiniau oerllyd ac arswydus hyny! Nid oes ynof y duedd leiaf i
geisio eu rhwystro i wneyd yr hyn a alwant hwy yn “bregethu” ar hyd yr heolydd;
ond y mae yn rhaid i mi wrthdystio yn erbyn cael fy ngorfodi wrando ar yr hyn a
alwant yn “ganu,” ddwy a thair gwaith yr wythnos, o fewn ergyd careg i’r lle y
trigaf.
Mae eglwys Seisnig canol y dref, yr hon a adeiladwyd yn 1851, yn adeilad eang a
phrydferth. Dywedir y deil tua mil o wrandawyr. Mae iddi dŵr pigfain, yn
cyrhaedd rhyw 189 o droedfeddi i entrych nen: ac y mae ynddo awrlais rhagorol,
ac wyth o’r clychau pereiddiaf yn y Deheubarth beth bynag. Dyma yr unig adeilad
gwerth yr enw, pe cawsai Ruskin ddweyd ei farn am danynt, yn y plwyf. Yr oedd
yr eglwysi haiarn yn ei boeni ef yn dost! Mae adeiladwyr capelau yr
Anghydffurfwyr yn y plwyf, er eu bod yn codi tâl parchus am eu gwaith,
fel pe buasent wedi ymdynghedu i wneyd agwedd allanol eu castelli mor
annghelfydd a salw yr olwg ag y mae yn bosibl, hyd yn nod i ddynion cyfarwydd
mewn lledchwithdod felly wneyd! Mae “careg enwol” y capel wyf fi wedi fynychu
am yn agos hanner can’ mlynedd, ryw chwe modfedd o’r fan y dylai fod, nes y
mae, bob amser y gwelaf hi, yn fy mhoeni yn fawr.
Mae unffurfiaeth trefn addoli yr Anghydffurfwyr yn cadw cannoedd
o’r gwasaneath Sabbothol ac wythnosol. Ar y Sul mae “ysgol am naw, cyfarfod
pregethu am unarddeg.” Yn hwnnw, cenir, darllenir, cenir, gweddďir, pregethir,
a rhenir y testyn i “yn gyntaf, yn ail, yn drydydd,” ac, weithiau, “yn
bedwerydd ac yn bumed.” Gweddďir, cenir, ac eir i giniaw. Felly hefyd y
prydnawn pan bregethir, a’r nos! ac yna eir i swper! Dyna, yn ddiau, pa beth yw
unffurfiaeth Anghydffurfiol! Pa le mae’r Diwygiwr? “Deffro! y mae yn
ddydd!”
::14 “TOMOS Y CRYDD” A’R SABBOTH
Pe bai “fater o faw am hyny,” nid Tomos oedd ei enw; ond gan fod rhai o’i
wyrion yn byw yn Aberdâr heddyw, pe rhoddwn ei enw priodol dichon y doluriwn eu
teimladau; felly, Tomos y gelwir ef. Cofnodir y chwedl er mwyn dangos amryfal
farnau crefyddol ar y pwnc, ac nid er diystyrwch i goffadwriaeth y gŵr da
a enwir. Yr oedd yn ŵr neillduol o grefyddol; ond ai i bellafoedd daear a
nefoedd hefyd, ar y pwnc, am a wn i, ar rai pynciau o athrawiaeth. Yr oedd
ganddo wrthwynebiad llwyrdduwiol i’r brodyr dâ a alwai Brutus yn “Jacks,” er
fod ganddo frawd yn ol y cnawd yn hollol deilwng o’r enw; ond yn ei gysylltiad
â hwnw medrai “faddeu pechodau!” Ryw foreu “Dydd Sul,” yr oedd ei weinidog yn
pregethu ar y “Sabbath Iuddewig.” Fel arfer, bu y gŵr parchedig yn “hir”
iawn; a chan ei bod yn dra oer, methodd Tom wrthod y demtasiwn, a llyncodd y
Sabbath Iuddewig yn ei grynswth, heb saws, halen, na dim o’r cyfryw. Aeth adref
yn feichiog o’r “Hen Sabbath,” a gwrthododd fwyta ciniaw, am fod ei wraig wedi
ei “chwcan” (coginio) ar y Sabbath! Rhoddodd orchymyn “at wanst” nad oedd dim
gwaith i gael ei gyflawni yn y tŷ hwnw ar y Sabboth o hyny allan! Yr oed
dyn rhaid darparu y ciniaw y dydd blaenorol. “Ond beth am danu y gwelyau?”
gofynai y wraig. “O,” ebe Tom, “rhaid i bawb gysgu yn eu gwelyau fel y
gadawsant hwy yn y boreu!” “Eithaf da,” ebe’r wraig, “ysgafnha hyny waith Mari
a minau.” Daliai Tom ran o werth cant punt yn Nwfr-weithiau cyntaf
Aberdâr, er y cychwyniad, cyn i’r Bwrdd Iechyd eu prynu. Cawsai lôg da arnynt,
a theimlai gryn ddiddordeb yn hanes y Dwfrweithiau. (x52) Yr adeg y soniwn am
dani cafwyd gauaf oer a rhew trwchus. Cyn y gallasai Tom ganu gyda Huw Morus,
“Ar ol y gauaf garw,
A’r rhew yn hollti’r derw,
Mi welais ddail ar fedw
Yn arwydd hoew haf,”
drylliodd ei bibell ddwfr ger drws ei gegin, a hyny pan oedd y teulu yn paratoi
i fyned i’r cyfarfod chwech nos Sul. Rhuthrai y dwfr allan gyda’r
penderfynolrwydd mwyaf digywilydd! ar draws y celfi a phopeth arall feiddiai
ddyfod o “hyd cyrraedd iddo!” Galwyd yn nghyd “gynghor rhyfel;” a gofynwyd i
“Dafydd y Tŷ nesaf” gynorthwyo. Pan ddaeth Dafydd, gwelodd sefyllfa pethau
ar unwaith, dychwelodd i’w dŷ, a dygodd forthwyl i’r “cynghor,” â’r hwn y
dofodd ffyrnigrwydd y dyfroedd mewn ychydig eiliadau.
Yr oedd Tom a Dafydd wedi dadleu llawer iawn ar “bwnc y Sabboth;” ond o hyny
allan nid oedd eisiau i Dafydd ond son am ei forthwyl er mwyn cael taw ar Tom!
“Asyn neu ych,” &c. Dywedir, ond nid wyf yn sicr fod hyny yn wir, mai ofn i
lyn dwfr y Dwfr-weithiau redeg allan drwy ei dŷ ef, ac y buasai yn colli
llôg y cant pant y flwyddyn hono, berodd iddo ganiatau i Dafydd ddefnyddio ei
forthwyl! Ond dyn y morthwyl oedd meistr y sefyllfa o hyny allan.
(x270)
::15 HELYNT GWLEIDYDDOL Y DYFFRYN
Yn y flwyddyn 1832
– blwyddyn y Diwygiad - y crewyd Bwrdeisdref Merthyr; ac er y flwyddyn hono y
mae Aberdâr wedi bod rhan o honi. Yr aelod seneddol cyntaf dros y fwrdeisdref
hono oedd Mr. (wedi hyny Syr) J. J. Guest, prif berchenog Gweithiau
Dowlais . Bu “Meurig y Cyfreithiwr,” ys dywedai gwyr Merthyr, o’r
haerllugrwydd i ddweyd y buasai yn ceisio dwyn y sedd oddiar Mr. Guest yn 1835;
ond, am y tro cyntaf yn ei oes, daeth Mr. Meurig i wybod barn yr etholwyr am
dano; a bu yn falch o gael cyfleusdra i ymneillduo o’r ornest, ac, yn mhen
ychydig, i farw! Nid oedd efe yn ŵr parchus gan y bobl. Yn y flwyddyn 1837
daeth yr hen Bruce Pryce, tad y sedd oddiar Mr. Guest. Ni phleidleisiodd
ond 443 yn yr etholiad hwnnw, a chafodd Mr. Guest 308 o honynt. Yn niwedd 1852
bu farw Syr John Guest; ac etholwyd Mr. Bruce, wedi hyny Arglwydd Aberdâr, i
lanw ei le. Cadwodd efe i sedd hyd 1868, pan y collodd hi. Meddai ar farn hynod
annybynol, yr hyn yn y diwedd fu yn achos iddo gael ei wrthod gan yr etholwyr.
Aelod dros Henry Austin Bruce (efe ei hun) oedd efe, ac nid dros y
fwrdeisdref. Daeth ei ddiystyrwch o farn yr etholwyr yn annyoddefol iddynt hwy,
a dewisasant ŵr dinod fel gwleidyddwr yn ei le, sef Mr. R. Fothergill.
Yr adeg hono y rhoddwyd aelod ychwanegol i’r fwrdeisdref; a thyna yr adeg yr
etholwyd y diweddar Henry Richard fel aelod seneddol y tro cyntaf.
Cafodd eia 11,683 o bleidleisiau; Mr. Fothergill, 7,430; a Mr. Bruce, 5,776. yn
y flwyddyn 1874 cafwyd etholiad cyffredinol arall; a daeth Thomas Halliday,
un o brif arweinwyr y glowyr yn y parthau hyn y pryd hwnw, i geisio dwyn un o’r
seddau; a phe buasai y gweithwyr yn weddol unol gallasent ei rhoddi i’w blaenor
yn ddidrafferth iawn. Yn 1880 galwyd arnom i ethol un yn lle Mr. R. Fothergill.
Daeth yr hen aelod, Mr. Richard; Charles W. Thomas, cyfreithiwr, o
Ferthyr; a Syr W. Thomas Lewis, Aberdâr, allan; a chipiodd Mr. Richard
a’r twrnai y seddau. Yn y flwyddyn 1888 rhoddodd Mr. James i fyny ei
sedd; ac, yn ddiwrthwynebiad, etholwyd Mr. D. A. Thomas, yr aelod
“hynaf” presennol, yn ei le.
Yn Awst yr un flwyddyn -1888 - bu farw ein hen aelod parchus a bydenwog Henry
Richard, ar ol rhoddi i ni wasanaeth ardderchog a difwlch am y tymhor maith o
ugain mlynedd. Anerchai ei etholwyr yn eu hieithoedd eu hunain – Cymraeg a Saesneg;
a phob amser gofalent hwythau ei osod ar ben yr etholres. Daeth dau ŵr
dyeithr yn y fwrdeisdref i geisio ei sedd, sef R. Foulkes-Griffiths,
bar-gyfreithiwr o Lundain, ond yn wreiddiol a ardal Llangollen, a
chyn-bregethwr gyda’r Bedyddwyr; a W. P. Morgan, “aur-frenin Sir Feirionydd.”
Daeth yr “enwadau” i wybod mai Bedyddiwr oedd Griffiths; ac er nad oedd y ddau
yn meddu unrhyw liw gwleidyddol na chrefyddol y pryd hwnw, dewiswyd ef! Yr wyf
yn credu fod y rhan luosocaf o etholwyr y fwrdeisdref yn proffesi rhyw fath o
grefydd; a dyma y canlyniad! Bydd yn rhaid i “enwadaeth” y dyffryn ateb am
lawer o ysgelerderau cymdeithasol heblaw hyn. Pe edrychem yn ol dros hanes ein
byrddau cyhoeddus yn y dyffryn o’u cychwyniad hyd heddyw, y mae “enwadaeth” yno
bob amser yn rampant! Y mae wedi cadw y Beibl yn llwyr o addysg ein
hysgolion byrddol am lawer o flynyddau; ac y mae miloedd o blant “wedi mynd
trwy ein hysgolion yn llwyddiannus,” na wyddant y peth nesaf i ddim am y Beibl!
“Yn yr Eglwys ac yn yr Ysgol Sul y mae dysgu y Beibl a chrefydd i’r bobl,” ebe
y gwrthwynebydd. Ië, fy nghyfaill; ond cofia fod yn “rhaid dal yr ysgyfarnog
cyn cyn dechreu coginio!” Mae y rhanau o’r Beibl a ddysgais i yn yr ychydig
ysgol ddyddiol gefais, ar fy nhof yn fwy perffaith heddyw na dim ddysgais wedi
hyny. “Dogma,” yn wir; ni chlywais i son am dogma yno o gwbl. Y
pwnc mawr genym oedd darllen a dysgu yn gywir y rhanau ofynid i ni; ac nid oedd
son am “esponio”. Daeth yr “esponio” i fy mhoeni i yn mhen blynyddau wedi hyny.
Pe dysgid i blant yn eu diniweidrwydd cynhenid, cyn i’r “penny horribles”
ddyfod i’w dwylaw, yr hanesion dihysbydd eu prydferthwch a geir yn yr
Ysgrythyr, byddai llai o inffideliaid yn y byd; a byddai y byd yn sicr o fod yn
well o hyny. Nis gellir profi fod yr anffyddiwr wedi ychwanegu y mymryn lleiaf
at ddedwyddwch yr hil ddynol.
Yr etholiad nesaf gawsom oedd yn Ngorphenaf, 1892, pan ddaeth B. F. Williams, y bar-gyfreithiwr
enwog, allan i geisio dwyn un o’r seddau. Arddangosfa wael iawn wnaeth efe yn
yr ymdrech. Cafodd D. A. Thomas
(x271) 11,948 o bleidleisiau; a dyna y nifer fwyaf gafodd unrhyw ymgeisydd yn y
fwrdeisdref erioed. Cafodd W. P. Morgan
Yn y flwyddyn 1895 y cafwyd yr etholiad nesaf. Daeth pedwar ymgeisydd allan y
tro hwn, sef y ddau hen aelod, a H. C.
Lewid, Ysw., mab hynaf Syr W. T.
Lewis; ac Allen Upward, y
Ffughanesydd; ac er i Mr. Lewis gael 6,525 o bleidleisiau cadwyd eu seddau gan
y ddau hen aelod – Thomas gyda 9,250 o bleidleisiau, a Morgan gyda 8,854. Ni
chafodd y ffughanesydd ond 659!
Yr etholiad diweddaf gawsom oedd ar yr ail dydd o Hydref, 1900, pan y
llwyddodd Ysgottyn a’i enw James Keir
Hardie i gipio yr ail sedd, ac y taflwyd pleidleisiau fel y canlyn: - D. A. Thomas, 8,595; J. Keir Hardie, 5,745; W. P. Morgan, 4,004: Wele! llwyddodd y
Llafurwyr yn y fwrdeisdref o’r diwedd i gael dyn o’u dewisiad eu hunain. Mae y
ffaith ei bod wedi ei ddychwelyd yn hollol ddybynol ar eu pleidleisiau eu
hunain, yn eglur ddangos fod cyfnod newydd wedi gwawrio arnynt. Dylasai fod wedi
gwawrio flynyddau yn gynt; a syna llawer heddyw pa fodd y llwyddodd yr hwn a
daflwyd allan, i ddal y sedd am gynnifer o flynyddoedd. Nid oes genyf fi ddim
i’w ddweyd am yr aelod newydd, ond ei fod yn ymddangos dipyn yn “gornelog.”
Hefyd, dichon na wnaf un drwg wrth alw sylw y cyfeillion at y ffaith fod genym
ni yn neheubarth y Dywysogaeth ddynion ag y mae darpar eu haddysg yn amlwg ar
gyfer y Senedd: arweinyddion y gweithwyr ydynt, ac y maent, gan mwyaf oll, yn
gneyd hyny i fodlonrwydd. Na chaffed yr hen ragfarn a gynnwysa y frawddeg,
“Onid hwn yw mab y saer,” ddallu y gweithwyr pan geir yr etholiad cyffredinol
nesaf. Mae o leiaf “seithwyr da eu gair” at ein gwasanaeth yn Mynwy a
Morgannwg.
::16 GWEITHIAU HAIARN Y DYFFRYN
Mae o leiaf
un-ar-ddeg o weithiau haiarn wedi bod yn Nyffryn Cynon, sef, “Ffwrnes y Gam,”
“Ffwrnes Cae Luce,” hen weithiau Cwmdâr, Cwmaman, y Dyffryn, a. Llygad Cynon.
Hen weithiau bloomaidd oedd y rhai hyn; a thoddid yr haiarn â golosgoed.
Yn ngweithiau Hirwaun, Llwydcoed, Abernant, Gadlys, ac Aberaman, toddid ef â
glo a cheryg calch. Nis gwyddys pa bryd y cychwynwyd nac y terfynwyd nemawr o’r
hen ffwrneisi bloomaidd; ond y mae gweddillion y cwbl o honynt wedi bod
yn amlwg, mewn rhyw fodd neu arall, hyd yn ddiweddar. Bu y pump gwaith diweddaf
a enwyd yn cyflogi rhyngddynt, filoedd o weithwyr am flynyddau lawer; ac y mae
genyf yr awdurdod uchelaf dros ddweyd y buasai Gwaith Haiarn Abernant wedi ei
droi yn waith dŵr, ac yn cyflogi miloedd o weithwyr, heddyw, oni buasai strike
ffol yr haiarnweithwyr, ugain mlynedd yn ol! Heddyw, nid oes bwys o haiarn
na dűr yn cael ei wneyd o fewn y plwyf. Ceir pennod ddyddorol ar Haiarnfaoedd
Aberdâr, gan Dafydd Morgannwg, yn ei
Hanes o’r sir. Tybiaf ei bod bellach yn llawn bryd gofyn i’r bardd am roddi i
ni ail-argraffiad o’i lyfr, gan nad oes modd cael copi o’r argraffiad cyntaf
“am gariad nac arian.” Pa beth ddywed y cyfaill am hyny?
::17 GWEITHIAU GLO Y DYFFRYN
Dywed Dafydd Morganwg: - “Nid yw yn hyspys pa
bryd na chan bwy y dechreuwyd cloddio am lo yn y plwyf hwn; ond ceir hanes fod
yma rai leflau tua’r flwyddyn 1750. Gallwn nodi pedair:
1. Lefel Penrhiwllech, yr hon sydd ger amaethdy Penrhiwllwch, yn Nghwm Dar; ac
y mae ei genau i’w weled yn bresennol.
2. Lefel y Bryn Gwyn, neu ‘Lefel y Bechgyn,’ yr hon sydd ar lechwedd y mynydd
rhwng y Lluesttai Llwydion a Hirwaen. Mae genau hono wedi cau yn bresennol.
3. Lefel y Garn, heb fod yn mhell oddiwrth Ffwrnes y Garn, yn Rhandir Llwydcoed
(Nodyn gan Jenkin Howell: Y “Dyllas” y
gelwir yr hen lefel, yr hyn, fel y tybiaf, yw yr enw Cymraeg am lefel.)
4. Lefel Penar, yn Rhandir
Penar, ar lechwedd y mynydd uwchben y Cwmbach.”
Erbyn heddiw y mae yn y plwyf 30 o byllau glo mawrion, trwy y rhai y codir
miloedd lawer o dunelli o’r trysor du bob blwyddyn; a gyrir ef i bob rhan o’r
byd gwareiddiedig; ac y mae o leiaf dair rhan o bedair o’r deugain mil
trigolion breswyliant y plwyf yn byw yn uniongyrchol arno! Anfonir y dunnell
ddiweddaf o lo oddiyma rywbryd; ac os na ddaw rhyw ffordd newydd i wneyd
cyfoeth yn yr hen dref anwyl,
“Drych o dristwch fydd edrych drosti!”
::18 PRIF AFON Y DYFFRYN
Fel y nodwyd yn barod, o
Benderyn hyd ei huniad ag Afon Tâf, Cynon yw ei henw; a llwnc hithau ar
ei thaith amryw nentydd, a dwy afon, sef (x272)
Nant Cadlan, Nant y Deryn, Nant y Deri, Nant Hir, Nant yr Hwch, Nant y
Wenallt, Nant y Groes, Nant Penar; Afon Dâr ac Afon Aman. Ebe Michael Drayton: -
“That Rhymney, when she saw these gallant nymphs of Gwent
On this appointed match were all so hotly bent,
Where she of old had parted as a mound
The Monmouthian fields and Glamorgan ground
Intreats the Taff along as gray as any glass
With whom clear Cynon comes a lusty Cambian glass,
A “lusty (gwyneb-ddysglaer) Cambrian lass” oedd hi hyd nes
llychwinwyd ei gwyneb glân gan lwyd-ddwr masnach y dyffryn. O’i cymharu â rhai
o afonydd ereill y Deheubarth, nid yw ond bechan; ond yr oedd gynt yn dra enwog
am ei brithyllod; a dywedir fod eogiaid yn dyfod i fyny i “gladdu” ynddi. Gyda
y gyfundrefn ardderchog o ddyfr-ffosydd feddwn dylai fod felly yn awr. Paham na
orfodai ein hawdurdodau trefol a phlwyfol ein glo-berchnogion ac ereill i anfon
ei drewddwr i’r dyfrffosydd, sydd anesponiadwy i mi. Nis gall dim harddach
basio trwy ddyffryn nag – afon glir, ddofn a gloew.
Rhaid i mi ddiolch yn galonog i fy hen gyfaill barddol a beirniadol Dafydd
Morgannwg am yr englynion canlynol, y rhai a roddant ddarlun rhyfeddol gywir
o’r hen afon: -
::19 AFON CYNON (ENGLYNION GAN DAFYDD MORGANWG)
I Afon Cynon canaf – a’i hylif
Grisialog ddilynaf
O’i glân ffynonell bellaf,
Nes rhed hi’n hoenus i’r Taf
O’r Sychbant, yn nant fain hir, - i’w Hogof
Greigiog, â ddwy filltir;
A’i “Llygad” alluogir
I groni hardd ddeifryn ir.
Cadlan ewyna’n heinif – i eigion
Y “Llygad” yn grychlif;
Hynod o lân una’u dau lif
Yn eu hoff redle’n un ffrydlif.
O’r “Llygad” treigla, trwy eglur - weini
Ar wyneb hoff Natur;
Ac iesin, er ein cysur,
Hi lifa’n bert elfen bur.
O’i bro iachus yn ngwlad Brychan – yn siongc
Nesâ i wlad Forgan;
Ar hyn, halogir anian
Ei bywiog, wlyb wyneb glân.
Trwy Hirwaun try i waered – ar ei hynt,
Llyfa’r gro wrth fyned;
Ac wele, dros lwybr caled,
I’w Haber hoff heibio rhed.
Afon Dâr a ŷf yn deg – a’r Aman
Rymus ŷf yn chwaneg;
I grych hon egyr ei cheg –
Y Ffrwd a gaiff ar redeg.
Yna rhed yn llon a rhydd – yn ei chafn,
Drwy’i chwm. rhwmg dau fynydd
Banog, gan frysio beunydd
I fynwes y Dâf nos a dydd.
Rhydd gân fwyn, Wanwyn a Haf, - rhaiadra
Yr Hydref a’r Gauaf;
Ond taw ei halaw olaf
O fewn twrdd hen Afon Taf.
(x270)
::20 NEILLDUON IEITHYDDOL ABERDAR
Y mae rhai pethau
rhyfedd yn perthyn i dafodiaith trigolion gwreiddiol Aberdâr ag ydynt, fel y
tybiaf, yn werth sylw. Rhoddant sain lled anhawdd ei darlunio i’r a.
Rhywbeth rhwng y sain arferol ag ea ydyw; ond rhaid eu clywed hwy eu
hunain yn ei seinio cyn y gellir ffurfio meddylddrych cywir amdani. Ni seinir y
llythyren hono bob amser felly, chwaith. Clywir hi mewn geiriau unsill, megys
tân, mam, tad, cân, &c.; ac yn sill ddiweddaf rhai geiriau lluossill yn
unig, megys Aberdâr, santeiddhâd, mwynhâd, &c. Rhoddir
ei sain arferol i’r a gyntaf yn Aberdâr; ond seinir yr ail fel y nodais.
Terfynir agos yr holl eiriau a derfynir âg e yn Sir Gaerfyrddin, âg a
yn Aberdâr; gan yr hen drigolion, fel y nodais yn barod, wrth gwrs. Ceir y
terfyniad ws yn ei holl ogoniant yma; a dywedir mai i wraig o Aberdâr a
gurasai ei gŵr y cyfansoddwyd yr englyn adnabyddus-
······························“Yn awr y cwnws i’r nen - ei phastwn
········································A ffustws ei gefen;
······························Cnocws, tolcws ei dalcen, -
······························Pan waeddws, baeddws ei ben.”
Nid yw yr englyn wedi cael ei fwriadau i ddynwared dim ond yr olddodyn ws,
gan y seinir cefen yn “gefan”, a thalcen yn “dalcan,”
yma.
Seinir y cydseiniaid yn galed iawn: “tepig,” “atarn bach,” “catw,” “pwtu,”
“cyscu,” “doti,” “tryplu,” &c. Seinir y terfyniad ion yn on,
fynychaf: - “dynon,” “llwyton,” “polon,” “gwynon.”
Ni seinir yr dd yn cerdda, cerdded: “cera” (imperative, go, - dos),
“cerad” (to walk).
Ni seinir yr w ar ôl yr ch yn y geiriau chwi, chwithau;
“chi,” “chithau,” ydynt bob amser.
Yn anaml iawn y seinir ch ar ddechrau geiriau, megys chwant, chwerthin,
chwareu, chwerw, chwaer, &c.
Troir y chw yn wh; a “wherthin,” “whara,” “wherw,” “whant,”
“whâr,” fyddant felly. “Mari’n whâr” fydd Mari fy chwaer. “Wheigen” yw
chweigen.
Maent yn hoff o arfer w ar derfyn eu brawddegau: “Own i’n cretu dy fod
ti yn well bachan, w!”. Tua chymdogaeth Brynaman a Chwmtwrch, “w`r” fydd; ond
“w” yn Aberdâr.
Yma hefyd y ceir y gair “shaw” gyntaf yn rhanau uchaf y sir. Ei ystyr yma
yw llawer.
Yr wyf wedi sylwi fod llawer o wyr ieuainc y lle yn troi i yn y mewn
rhai geiriau, megis minau yn “myna,” tithau yn “tytha!” Yn
ddiweddar y daeth y clefyd hwn i’r lle; a genedigol yw o rannau gorllewinol y
sir, ac o Sir Gaerfyrddin. Un o berthynasau “Ië’n y wir yne” Dyffryn
Tawy ydyw.
Try “bachgen” Dyffryn Tawy, “bachgan” Glynnedd, yn “bachan”
yn Aberdâr.
Mae yr Aberdâriaid yn hoff o arfer yr h mewn lleoedd na ddylent yn aml.
Dyma frawddeg glywais yn yn dylifo dros wefusau un o’r gwreiddiolion, dro yn
ol: -
“Mae’n hanawdd iawn pido hufad y petha meddwol yma, os byddwch
wedi harfar llawar a fa!”
Seiniant “ar ucha” yn “acha”: -
“Fi welas i ddyn yn myn’d i lan sha Byrdâr acha ceffyl y bora
‘ma!”
“Ma’n nhr’od i’n dost; w’ i wedi damshal acha h’arn po’th!”
Mae gan ieuenctyd y lle ffordd ryfedd iawn i ofyn cwestiynau yn naill i’r llall.
Pan ddysgwyliant ateb cadarnhaol, gofynant - “Nace fa chi nath hwna,
Dafydd?” “Ia, ďa;” ond pan ddysgwyliant ateb nacaol, gofynant, “Nace fa
chi gnath a, ond nace fa, Dafydd?” “Nâce.” Dywedir fod ffordd gyffelyb i ofyn
cwestiynau o’r fath gan yr hen Roegiaid.
Ant “i műwn i’r ty;” “i’r lan i’r mynydd;” “catw shop a chatw mwstwr;” “rhâs
gyffyla a rhâs mwlsod.”
“Shwd y’ch chi heddu?” yw y cyfarchiad yma.
“Stwro a mwstro” (to stir and to muster) sydd ddau air a arferir yn aml yma.
Arferant yr sh Seisnig, megys ag y gwneir bob amser yn y Deheubarth,
mewn geiriau megys shilling. “Shon a Shani Shincyn,” a chwarddant wrth
glywed rhai Gogleddwyr yn methu ei seinio. “Dishgyn,” “plyshgyn,”
“dishgloff,” “dewishwn,” &c.
Ond un o’r llygriadau geiriol rhyfeddaf wn i am dano yw jofadd (dyoddef),
a glywir yn Aberdâr a rhanau ereill o Forganwg.
Nid yw trigolion y lle hwn yn alluog ond yn anfynych i wahanaiethu rhwng oll
ac holl. Ceir ganddynt “y dynion holl,” a’r “oll wlad!”
Gair sathredig a glywir yn aml iawn yn Aberdâr, a rhanau ereill o Forganwg, yw “shimpil”
(simple), ond a olyga yma gwael (mean).
“Dyn shimpil iawn yw a” - (he is a very mean man).
“’Does gen i gynnyg i ddyn shimpil, bachan: mae yn well gen’ i drafod clawd o’r
hannar.”
Dyna air rhyfedd arall - “clawd,” am tlawd!
(x271)
::21 “BYRDÂR” A’I “NEISHAD BOC”.
Aeth un o wyr Byrdâr i Eisteddfod Genedlaethol ddiweddaf Caernarfon, a chollodd
ei facin llogell, ei facin boced, ei gadach llogell, ei neisied boced, ei
neisied boc, ei gadach trwyn, ei hancishar boced, &c., &c. Penderfynodd
fyned i un o fasnachdai y dref i “speculatio,” ac yno aeth at y brydferthaf o’r
gweinyddesau. O, ďe; mae llygad a fedr fawrygu y y prydferth gan Byrdâr – “No
wine from a grim-looking menial,” ys dywedai Mendelsohn, iddo ef! A bu yr ymgom
ganlynol rhyngddynt: -
Byrdâr – “Isha nisha boc.”
Y Weinyddes – “Be ddeydsoch chi?”
Byrdâr - “Isha nisha boc.” (dipyn yn chwerw).
Y Weinyddes – “Dachi’u deall Sasnag?”
Byrdâr – “Otw bűsűwr:” (yn chwerwach!)
Y Weinyddes – “Gyfynwch yn Sasnag.”
Byrdâr – “I wans a pocad hankishar?” (yn chwerwch fyth!)
Ni ddeuai hyny â’r mater “i lawn deg oleuni dydd;” ond dygwyddai Hwntw arall
fod yn bresenol, yr hwn sydd yn “deall gwybodaeth,” a’r hwn hefyd fedr rai o
ddirgelion ieithyddol y ddwywlad. Trwy dewdra anarferol ei ddysg ef tynodd y
weinyddes garedig a “Byrdâr” allan o’u trybini! cafodd Byrdâr ei “nisha boc,” a
Mary Jane ei hanner coron! Mae “rhai angelion gwarcheidiol” felly yn “croppo
fyny” bron yn yr adeg y golygwyd iddyt ymddangos yn y byd! Bendith!
(x174)
::22 DARLLENFA GYHOEDDUS ABERDAR!
Bydd yn naturiol i’r darllenydd sydd
yn gwybod rhywbeth am y dref, chwerthin pan ddarllena y penawd, gan nad oes yma
yn bresenol ddarllenfa gyhoeddus o gwbl. Mae yma dri chlwb ag ynddynt amryw
lyfrau; ond dim cyhoeddus ar lun darllenfa. Pan agorwyd y Neuadd Ddirwestol -
rhyw dair neu bedair blynedd a deugain yn ol, mwy neu lai - ardrethwyd ynddi
ystafell gyfleus yn y cornel de-orllewinol, ac agorwyd ynddi ddarllenfa.
Teimlai prif foneddigion yr ardal ddyddordeb yn y mudiad. Yr oedd genym foneddigion
yn Aberdar y dwthwn hwnw; ond, ys gwaeth yr oedd, mae y limited
liability companies wedi gyru y boneddigion o Aberdar. Mae perchenogion ein
gweithiau glo ni yn awr yn byw braidd yn mhob rhan o’r deyrnas. Heblaw Arglwydd
Aberdar a Syr W. T. Lewis, nid oes genym neb a fedr hňni hawl i’r enw. Anfonodd
y boneddigion crybwylledig bob un ei ddogn o lyfrau i’r ddarllenfa newydd, ac
un o honynt argraffiad cyflawn o’r “Encyclopcedia Britannica”. Telerau aelodaeth
yn y ddarllenfa hono oedd hanner coron y chwarter. Telais fy hanner coron, a
chefais y pleser mawr, i mi y pryd hwnw, o weled holl gyfrolau y gwaith
rhyfeddaf yn yr oes ei hargraffwyd, y tro cyntaf. Codais ddarllenfa newydd
Aberdar yn un o’m “castelli awyrol”, a phenderfynais fwyta (yn ystyr y
Datguddiad) bob llyfr yn yr adeilad. Darllenais yno holl draethodau Arglwydd
Bacon, “The wit and wisdom of Queen Elizabeth”, a rhai o nofelau Syr W.
Scott a Charles Dickens; ond yn hollol annysgwyliadwy i mi, beth bynag,
diflanodd y ddarllenfa fel cicaion Jonah, a “lle ni chafwyd iddi yn Aberdar
byth mwy.” Mae yn rhaid fod y ddaear wedi ei llyncu! “Ond pa ddrwg?” Wn i ddim!
Pa beth ddaeth o’r llyfrau? Wn i o hyny, ychwaith!
Gwnawd ymgais yn mhen blynyddau i
osod Cyfraith y Darllenfeydd Rhyddion mewn grym ac ymarferiad yma; ond methwyd!
Mae tref Aberdar, fel math neillduol o’r octopus (octupus vulgaris),
yr hwn sydd yn meddu breichiau nerthol rhyfeddol iawn: unwaith y llwydda, i
osod ei frechiau o amgylch unrhyw greadur byw, gall y creadur hwnw ffarwelio
a’i anadl einioes. Felly Aberdar! “Breichiau” Aberdar ydynt Hirwaun, Llwydcoed,
Cwmdar, Heolyfelin, Cwmbach, Abercwmboy, Aberaman, a Chwmaman; ac y mae digon o
nerth (pleidleisiol) yn y breichiau hyny i ladd holl amcanion y dref. Dyna glod
i’r breichiau yw cadw Aberdar heb ddarllenfa! Mor wahanol yr ymddyga trigolion
Caerdydd! Wrth bob ymddangosiad, bydd y dref fywiog a blaenllaw hono yn fuan yn
alluog i ddangos un o’r darllenfeydd mwyaf ardderchog yn y deyrnas; ac y mae
casglu llyfrau Cymreig, hen a diweddar, yn un o brif amcanion awdurdodau
Caerdydd. Mae yno eisoes rai ysgrifau a chyfrolau na cheir mo’nynt mewn unrhyw
le arall ar “wyneb tňn daear.” Pe buasai Aberdar wedi dal yn y blaen o “ddydd
pethau bychain” ddeugain mlynedd ol, gallasai fod yn y cyfeiriad hwn heddyw “yn
enwog yn mysg y llwythau:” yn lle hyny, dim!
::23 CYMERIADAU HYNOD
Ceid, a cheir, yn Nyffryan Cynon, fel yn mhob lle arall o gyffelyb
faintioli ac o rifedi trigolion, amryw ddynion o iaith ac ymddygiadau rhyfedd.
Yr wyf yn cofio un, - druan o hono, - oedd yn eillio ei farf bob dydd, am fod
hyny yr unig feddyginiaeth ag y gwyddai efe am dani i gadw draw y “rhiwmatics”
(rheumatism)!
(1) Y mae chwedlau rhyfedd yn cael eu dweyd am William Bruce Pryce, taid
Arglwydd Aberdar. Nis gellir cofnodi amryw a honynt, megys stori’r tarw,
stori’r wraig fygythiai fyned i foddi ym mhwll ei fuarth, &c., &c., a’r
ffordd y triniai efe droseddwyr oedd yn adnabod. “Blagard” oedd pob dyn
wisgai “gap a siacced round melfed, ac a gadwai gorgi i’w ddylyn:” ac os
buasai yn cyflawni trosedd bychan iawn, gallasai ddysgwyl pedwar diwrnod ar
ddeg yn Ngharchar Caerdydd. Ffraeodd dau fachgen unwaith; a chafodd y ddau
ddyfod gerbron Mr.Bruce. Cyhuddai un o honynt y llall o fod wedi cnoi ei fys.
“Ho!” ebe’r ynad (Mr. Bruce) – “Wyt ti’n meddwl myn’d i byw ’nawr wrth byta
dynon, ďa fa? Hela i di lawr i Cardydd i byta skilly, a deui di i bido
byta dynon!”
Credai, a dywedai efe a’i fab ar ei ol, fel y clywais, mai ei dad blanodd y
gerdinen - pren criafol y Gogledd – cyntaf dyfodd yn Nghymru erioed! Dygodd hi
(ie, hi yw cerdinen y South!) o Ysgotland; a hi oedd y gerdinen
roddodd yr enw i Mountain Ash! heb gofio (x175) fod tyddyn yn Mhlwyf Aberdar, er
ys mwy na thri chan mlynedd, a elwir “Pant y Gerdinen!”
Y mae genym delynwr dall cyfrwys ryfeddol yn y lle. Bu yn Llundain yn
ddiweddar, yn y Welsh Industrial Exhibition, yn chwareu ei delyn. Aeth
yno, a dychwelodd, heb neb yn ei arwain. Efe yw telynwr teulu enwog Cefn Mabli,
ger Caerdydd; ac â yno a dychwela oddiyno, heb ond ychydig gynnorthwy mwy nag a
roddir i drafaelwyr yn gyffredin. Dyn cywir yn ei holl drafodaeth yw Thomas
Lewis.
Yr oedd yma, ddeugain mlynedd yn ol, hen ysgolfeistr a elwid Deiws Dafydd
Llewelyn, a feddai lawysgrifen gampus iawn, yr hwn a ddyfyrai ei hun yn ei
oriau hamddenol i chwareu y chwibanogl ac efelychu nodau pum’- punt Ariandy
Lloegr. Pe cawsai y papyr
priodol, gallasai dwyllo y llygad cyffredin yn bur hawdd. Ni wnai hyny gydag
amcan i dwyllo, ond er dyfyrwch iddo ef ei hun a’i gyfeillion. Bu yn cadw ysgol
yn Mhentis yr Eglwys! a dyna ysgol bwysicaf y lle yr adeg hono!
Morgan y Gwehydd oedd gymeriad hynod iawn. Cafodd ei eni a’i fagu yn un
o hen dai “to cawn” y dref: yno hefyd y bu efe byw hyd o fewn ychydig amser i’w
farwolaeth. Daeth, trwy “quiet possession” o flynyddau lawer, i feddiant o’r
hen dŷ, yr hwn oedd yn achos i gulhau yr heol yn y rhan hono o’r dref, ac
yn hynod beryglus i yrwyr cerbydau. Rhoddodd y Bwrdd Iechyd rybudd y buasent yn
ei dynu i lawr; ond heriodd Morgan hwy i gyffwrdd â’i “gastell” am amryw
flynyddau. Yr oedd Morgan a’i “gastell” yn cael eu hystyried yn ddau o hynodion
y dref. Buont yn amddiffyn y naill y llall hyd nes y syrthiodd y rhan fwyaf o’r
to ar ben Morgan; a dyna y “most unkindest cut” gafodd efe erioed; ac am
hvny gadawodd i “Wyr y Bwrdd” ddadgymalu ei hen amddiffynydd.
Twmi Parri oedd hen gymeriad rhyfedd arall. Nid oes yr amheuaeth leiaf yn
fy meddwl nad oedd efe yn un o “weision y Duw Goruchaf.” Cerddor a gof o’r hen ffasiwn oedd;
a dysgodd filoedd o blant i ganu. Yn gorfforol, nid oedd, er yn ieuanc, ond
anmherffaith iawn - yn gloff, yn unllygeidiog; a gwisgai gorn mawr, fel corn un
o “hyrddod Nebaioth,” yn ei glust bob amser, gan fod ei glyw yn ddrwg; ond bu
yn ŵr tra defnyddiol - yn ei gylch - yn ei ddydd. “Blodeuodd” yn nghanol y ganrif ; ac “Aberdariad
geni” oedd, dybygaf.
Gorchuddiwyd ef gan hin ystormus
Yn hir cyn cyrhaedd glyn marwolaeth
Ac ymbalfalu bu’n ofidus
Mewn d’ryswch blin, yn ddilywodraeth.
Yn iach, fy nghyfaill, - darfu’r ymdaith, -
Fe drodd y storm yn haf tragwyddol;
Di weli’n glir, di glywi’n berffaith,
A’th gân fydd mwy mewn nwyfiant
nefol.
Yn hanner cyntaf y ganrif yr oedd hen feddwr Gwyddel-ddigrif iawn yn
Aberdar. Efe, gydag ereill, fuasai yn tori beddau yn mynwent y plwyf. Un tro,
yr oedd plentyn un o fasnachwyr y dref wedi marw; a dymunai y tad benderfynu
lle beddrod y teulu. Dewisodd le ger mur gorllewinol y fynwent. “Peidiwch bod
yn ffol,” ebe’r beddwr, “nid oes ond y mur rhyngddo â railway y Gadlys,
lle y mae cymaint o dwrw bob dydd: mae yn un o’r lleoedd mwyaf annghyffwrddus
i fynu bedd yn y fynwent!”
Wil Forris. – Gogleddwr oedd William; ond treuliodd, o
leiaf, “oes ceffyl,” mewn mwy nag un ystyr, yn y Deheubarth. Proffesai mai efe
oedd y “meddyg Twymyn Goch” (“Brech Goch” Morganwg) goreu yn y deyrnas; ac ni
fuasai yu hir mewn unrhyw gyfeillach heb gyfeirio at ei allu rhyfeddol fel y
cyfryw. Buasai yn aml yn ceisio darbwyllo rhieni fod eu plant yn dyoddef
oddiwrth y “dolur coch,” pan na fuasent, er mwyn cael yr anrhydedd o geisia eu
gwella. Nid oedd am guddio cyfrwng ei lwyddiant rhag neb. Yr unig beth hawliai
oedd gallu rhagorach na phawb i ddarparu y feddyginiaeth hono. Nid oodd Peleni Holloway, Beecham,
&c., &c., ond megys dim at ei beleni ef. Nid oedd yr eiddo ef, chwaith,
mor ddrud. Yr oedd yn rhaid cael chwart o “laeth llefrith” (“llaeth dan ei
fam”) Morganwg, ac oddeutu tri chant o’r pethau tebycaf eu hymddangosiad a’u gwerth
meddygol i’r peleni poblogaidd, mewn bodolaeth. Ceir hwy ar y tir lle y cedwir
defaid! Berwai y rhai hyny yn y chwart “llaeth llefrith,” hyd nes gellid gosod
y llaeth mewn pint; yna rhoddai i’r dyoddefydd oddeutu llonaid gwydr
gwin bob pedair awr. “That’s me,” ebai William!
Er rhyfedded oedd cyffair William, ceir ugeiniau o rai ffolach fyth yn yr hen
lyfrau meddygol; megys, “Llyfr Meddygon Myddfai,” &c.: a cheir
(x176) mwy a ddynion yn y byd a lawer yn barod i wrandaw ar y “cwac” anhyddysg
nag ar y meddyg gwybodus a phrofedig. Mae y cyfansoddiad dynol yn rhy ddyryslyd
ei wneuthuriad a rhy lednais ei ddefnydd i'w ymddiried i ofal anwybodusion
haerllug felly. Telir ugeiniau a filoedd o bunnau am gyffeiriau mwy diwerth nag
hyd y nod eiddo Wil Forris. Mae yn wir fod y cyfreithiau yn y cyfeiriad hwn
wedi eu cyfyngu yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf; ond y mae etto gryn lawer o
le i'w diwygio. Rhys Lewis, ond a elwid fynychaf yn Rhys Lodwick, oedd
un o hen gymeriadau rhyfeddaf Aberdar yn ei ddydd. Ganwyd ef yn 1762; a bu farw
yn 1842. Ceir ei hanes yn lled gyflawn yn Ngardd Aberdar. Yr oedd yn ŵr
ffraeth ac hynod barod ei ateb. Ceir yn yr Ardd lawer iawn o chwedlau difyrus
am dano. Tiler, neu dowr cerryg
llwydion, oedd; ac yr oedd efe a’i fab unwaith yn adgyweirio to hen “ysgubor
ddegwm” y plwyf. Yn ddamweiniol symudodd yr ysgol, a syrthiodd Rhys a hithau yn
“garlibws” i’r llawr: ond llwyddodd y mab i sefyll ar y to.
“Nhad,” ebe fe, “ffordd deuaf fi i lawr?”
“Wn i ddim, ond paid a dod yn y ffordd y daethum i; onide, ti gei dd—l {= diawl} o gwymp!”
“Morgans Bach y Pills.” Un o wyr Ystradfellte, Brycheiniog, oedd
Morgans. Yr oedd ganddo frawd yn fferyllydd yn Merthyr; a bu yntau yn
gynnorthwydd i hwnw am flynyddau, lle y dysgodd y ffordd i wneyd pills.
Am ugain mlynedd olaf ei fywyd bu yn gyfrifydd yn swyddfeydd Abernant, Aberdar.
O’r adeg y gadawai y swyddfeydd yn echwydd hyd noswylio, ai o gylch yr heolydd
i werthu y peleni. Yr oeddynt, yn ol ei dystiolaeth ef, yn cynnwys holl ddawn
meddygol yr oesau. Pe rhoddid chwareu teg iddynt; hyny yw, pe cymerai y claf
nifer digonol a honynt - rhyw ddwsin o flychau - yr oeddynt yn alluog i
wrthsefyll pob clefyd, ac nid oedd dim ond “pladur angau” yn alluog i'w trechu!
Hňnai fod graddfa marwolaeth Aberdar yn is nag unrhyw dref yn Nghymru, am y
rheswm fod cynnifer o’i beleni ef yn cael eu llyncu yma. Pan fu efe farw,
collwyd y ffordd i’w gwneyd; ac erbyn heddyw yr ydym yn marw fel pobl ereill!!
William Dafydd. “Un a wyr y clybiau” oedd William; a bu yn offerynol i
gychwyn, o leiaf, ddau ddwsin o gyfrinfaoedd i'r Odyddion a’r Alffrediaid yn
Aberdar. Yn hollol anfwriadol, yn ddiau, y gwnaeth efe lawer iawn o niwed felly
i'r urddau cymdeithasol hyny. Agorwyd llawer gormod o honynt, nes yr oeddynt,
ac y maent hyd heddiw, fel “cathod Cilceni,” y naill yn bwyta y llall. Gŵr
lled anllythyrenog oedd; ond yr oedd yn feddiannol ar gryn lawer o dalent. Yr
oedd un ochr i'w gefn yn anffurfiol; a gwnai ddifyrwch i'w gyfeillion weithiau
wrth gyfeirio at ei anffawd. Flynyddau yn ol yr oedd rhyw ŵr ffraeth yn
areithio yn y dref ar “Ryfeddodau Natur a Chelfyddyd”; ac aeth William i'w
wrandaw. Dywedodd yr areithiwr fod Natur, os cawsai chwareu teg, yn cyflawni ei
gweithredoedd yn berffaith. Wedi gorphen yr araeth aeth William i fyny at yr areithiwr,
ac, ebe fe,
“Yr oeddit yn dweyd fod Natur yn cyflawni ei gweithredoedd yn berffaith?”
“Oeddwn, siwr,” ebe'r areithiwr.
“Wel,” ebe William, gan godi ei grwmpyn dair modfedd yn uwch nag arfer, “beth
am danaf fi?”
“O!” ebe'r areithiwr, “o grwmpyn, yr wyt yn berffaith grwmpyn!”
Codwyd y chwedl i un o
bapyrau Llundain, ac y mae wedi ymddangos yn y rhan fwyaf o gyfnodolion y byd!
(x141)
::24 Y WELSH RABBIT (RAREBIT)
Yr oedd yma dafarnwr parchus iawn,
amryw flynyddau yn ol, wedi penderfynu, gydag adfywiad neillduol yn masnach y
lle, troi ei dafarndy yn fwy cydweddol â thrafnidiaeth yr oes. Felly,
cyfnewidiodd ef fel ag i gael commercial room yn y front, a
mynodd linell yn arwyddo hyny ar y ffenestr. Gan ei fod mewn sefyllfa gyfleus
yn y rhan hono o’r plwyf, aeth trafaeliwr i aros yno ryw noswaith; a chyn myned
i orphwys dywedodd wrth y forwyn y carasai gael “Welsh rabbit” i frecwast. Aeth
y forwyn at ei meistres a datguddiodd neillduolion archwaeth y “gwr dyeithr.”
“Welsh rabbit! Welsh rabbit! yn
wir! Dafydd, dere yma. Dyma hi yn deidi o’r diwedd! Mae’r trafaelwr yn ’mofyn
‘Welsh rabbit’ i frecwast! Mi ddywedais i ddigon wrthyt am yr hen drafaelwyr
yma. ’Does dim ond gofid gyda nhw. Welsh rabbit yn wir! Byddai tipyn o
‘gig moch Cymru,’ caws Caerffili, ’menyn y Werfa, a’r bara cŕn rhagorol sy
genym ni, yn ddigon da i’r humbug! Ië, humbug, yn wir! Fe daena
hwn y son yn mhob man na chaiff e’ ddim cymaint â chwningen yma; a dyna garitor
i’r tŷ! Mae yn rhaid i ti gyfrwyo’r gaseg gyda, phip y dydd boreu fory a
myn’d i’r pentre i ’mofyn cwningen: mae yn rhy hwyr i wneyd dim heno.”
“Mari, cera i ofyn iddo ffordd mae
e’ yn ei ’mofyn hi, - wedi berwi, wedi rhostio, wedi stewo, neu wedi
gwneyd pastai o honi?”
“Mae e’ wedi myn’d i’r gwely, meistres,”
ebe Mari.
Bu cwestiwn “pa fodd” yn poeni Mrs.
Dafydd trwy gydol y nos.
“Bydd yn ddigon da i’r humbug wedi
ei berwi; ond beth am garitor y tŷ?” ebe hi.
“Before Aurora tipp’d the morn,” ys
dywedai’r Gwyddel, yr oedd Dafydd ar gefn ei gaseg yn gyru tua’r tua’r
“pentref” (Aberdar) i chwilio am gwningen. Ar y ffordd cyfarfu âg amryw o lowyr
yr ardal yn myned at eu gwaith; ac wrth ei weled yn gyru mor ddidrugaredd,
gofynai rhai o honynt iddo pa beth oedd y “matter?” Yr unig ateb geid oedd, “Urgent!”
ac ymaith yr ai! Cafwyd y gwningen: a chyn wyth o’r gloch y boreu yr oedd yn
ffwrn, yr hon oedd, fel ffwrn Babilon, am y tro, wedi “ei phoethi yn saith
poethach nag arferol!”
Cododd y trafaeliwr - achosydd yr
holl drafferthion, - aeth i’r commercial room -, “canodd y gloch,” a
gofynodd am y “Welsh rabbit.” Aeth Mari â’r gofyniad at ei meistres.
“Dos â’r Amserau iddo i’w
ddarllen, a dywed wrtho y caiff e’ ei foreufwyd yn union.”
“Sais yw e’, meistres; all e’ ddim
darllen yr Amserau.”
“Dos a’r “Enquire Within” a “Spelling
Book” Dai bach iddo. ‘Welsh rabbit,’ yn wir!”
Nid oedd y trafaeliwr wedi darllen
rhyw lawer o’r “Enquire Within”, na “Spelling Book” Dai bach, pan
ddaeth Mari â’r gwningen ar ddysgl yn gorwedd ar ei thňr, fel pe buasai yn “gorphwys
oddiwrth ei llafur,” tafell neu ddwy o gig bras “moch Cymru” ar ei chefn, a
dysglaid o bytato yn anweddu fel Mynydd Etna, wedi gwewyr, i’r bwrdd! Gwelodd y
trafaeliwr yn awr fod ei joke yn debyg o gostio’n ddrud iddo; a chafodd
Mrs. Dafydd, wedi dadleniad y dirgelwch, y boddlonrwydd o ddeall ei bod wedi “servo
yr hen Sais yn ei ddwrn!”
::25 Y “SNAKES”, A “SWEET BYRDAR”!
“Gwyr y Mera,” ddaw
o Gastellnedd; “Hen Blwyfolion,” o Langynwyd, “One wanting,’ o Lanilltyd
Fawr; “Gwyr y Gloren,” o Ystrad Rhondda; “Brocks,” o Hirwaun; a “Snakes,
o Aberdar!” Gellir rhoddi yr eglurhad poblogaidd am godiad y pump llysenw
cyntaf yn y rhestr; ond ni chefais eglurhad am gychwyniad llysenw Aberdar
erioed. Darn o dir yn nhref Castellnedd, lle y trigai trigolion mwyaf anofalus
y dref gynt, yw y “Mera.” Stonecutter twp (gafodd orchymyn i roddi yr
oedran y bu gŵr ieuanc farw, sef 28 mlwydd oed, ar gareg ei fedd) dybiai y
gwnai pedwar 7 y tro i ddynodi yr oed, gan fod pedwar 7 yn gwneyd 28, nes yr
ymddangosodd yn “7777;” ac efe a roddodd yr enw “Hen Blwyf” i Langynwyd, ebe’r
chwedl! Aeth deuddeg o fechgyn Llanilltyd Fawr i Ffair y Bontfaen. a rhoddodd
eu rhieni ofal y cwbl i’r henaf o honynt. Wedi treulio oriau yn y ffair,
galwodd hwnw ei ddeadell at eu gilydd er mwyn eu parotoi i gychwyn adref, a
rhifodd hwynt; ond ni fedrai rifo ond un ar ddeg. “There’s one wanting,” ebe
fe. Annghofiodd rifo ei hun! Dyna. mae yn debyg, roddodd y llysenw i wŷr
Llanilltyd! Eglurir tarddiad (x142) llysenw gwŷr y “Gloren” mewn amryw
ffyrdd: un o’r cyfryw, a’r un fwyaf ddiamharch, yw hon: - Yr oedd tri ohonynt
yn myned fyny i un o fryniau serth y cwm wrth gynffon (cloren) ceffyl: y
blaenaf yn cydio y yn y gloren; yr ail wrth gynffon cot y blaenaf; a’r trydydd
wrth gynffo cot yr ail. “Aroswch,” ebe’r cyntaf, “aros, geffyl! Gadewch i mi
boeri ar fy nwylaw ac ail gymeryd gafael.” Tra yr oedd efe yn gwneuthur hyny
syrthiasant ill tri i lawr dros ochr serth y mynydd; ac aeth y ceffyl yn ei
flaen! Mae chwedl y tori clorenau yn rhy annhebyg i fod wedi dygwydd yn yr
Ystrad. Ceir ystyr y “Brocks” yn yr erthygl ar Hirwaun.
Beth bynag fu achos codiad y llysenw, “Snakes” a elwir ar hen drigolion
plwyf Aberdar. Brawddeg arall a arferir yn aml, yn enwedig gan wŷr Aberdar
eu hunain, pan font wedi gwneyd rhywbeth gwerth canmoliaeth, neu yn un o
orsafau’r rheilffyrdd, pan yn dychwelyd o daith o ychydig bellder, yw,
::26 “SWEET BYRDAR”!
Mae rhai
“Doethorion dyfod,” “Moch Sir Benfro,” “Shirgars,” “Cardies” a “Northmyn” am
ein dysgu i ddweyd “Sweet ’Berdar;” ond, waeth iddynt hwy heb! “Byrdar” yw yr
enw! Mi a glywais Sais genedigol o Gasnewydd-ar-Wysg yn dweyd ei fod yn
Ngogledd Lloegr ryw dro, ac ar ryw brydnawn gwelai dorf o ddynion mewn cae
cyfagos, a dau wr ieuanc yn eu canol yn ymladd. Aeth i’w mysg; a chanfu ei bod
yn ymdrechfa galed - y bechgyn agos yn gyfartal mewn ffyrnigrwydd. O’r diwedd
tarawodd y lleiaf o honynt y mwyaf nes oedd yn rhondyn diymadferth ar y
glaswellt, ac yna gwaeddodd nerth cęg, “Sweet Byrdar, myn d—l!” {= diawl}. Wrth hyny deallodd y gŵr o
Gasnewydd mai Cymro oedd; a chydag ychydig gynghorion dwys iddo adael y ffyrdd
celyd hyny, rhoddodd iddo ychydig sylltau er mwyn ei gynnorthwyo i ddychwelyd i
wlad ei enedigaeth.
(x286)
::27 Y TAPLASWR
TAPLAS; a gambol, a dance, ebe’r geiriadur; ond yr oedd iddo ystyr
eangach o lawer yn Aberdar. Yr oedd y “taplaswr iawn” yn golygu y gŵr
fuasai yn alluog i gymmeryd rhan flaenllaw yn chwareuon y fynwent ar y Sul a
phrydnawniau hirddydd haf; yn “Nhaplas-Haf Tonglwyd Fawr;” mabsantau Penderyn
ac Ystradyfellte, &c. Golygai hyny chwareu pęl dô, a phęl dalcen tŷ;
pęl droed yr hen ddull; neidio – “stone catch,” a “herc-a-cham-a-naid;”
“bull drag”; “clwttyn twymn{sic};” “pric yn nh—n {= nhin} iolyn!” dawnsio a chanu tribanau gyda’r delyn, canu
caneuon serch, caneuon cŵn hela, ymladd ceiliogod, ymladd cŵn,
&c. “taplaswr iawn” oedd hwnw. Mae rhai yn fyw yn y dref heddyw yn cofio y
ffeiriau yu cael eu cynnal yn y fynwent, a’r bęl yn cael ei chwareu yno ar y
Sul. Gellid gweled yma, o fewn y deugain mlynedd diweddaf, greithiau gafwyd yn
rhyfeloedd y fynwent. Yr oedd y “giwdawd ormes” â’r “pastwn poced” heb wneyd eu
hymddangosiad yn y byd y pryd hwnw. Yr wyf wedi gweled rhai gweithredoedd
ysgeler yn cael eu cyflawni ganddynt hwy yn y lle. Gwelais hwynt yn dyrladd
nifer o addolwyr a ddeuent allan o un o gapelau y dref ar nos etholiad, am fod
hen fabi o ddyn a’u llywyddai wedi gorchymyn iddynt glirio yr heolydd. Ni
welais i erioed y fath gigydd-dra; etto, ni chododd neb o ddylanwad wawch yn eu
herbyn. Gofynwyd i’r twrnai, gafodd ei wneyd yn aelod seneddol y diwrnod hwnw,
ei gymmeryd i fyny; ond gwrthododd wneyd dim!
::28 HOI! SHONI, HOI!
O bob ymddygiad ffol o
eiddo bechgyn y tri dyffryn hyn – Merthyr, Aberdar, a’r Rhondda - gwaeddi y
“Shoni, Hoi,” ar heolydd Caerdydd ac Abertawy, yw yr un mwyaf stupid, ac
a arwydda y dygiad i fyny mwyaf esgeulus. Ant gyda y gwahanol excursions yn
yr haf i’r trefi rhagsoniedig; ac os dygwydd un cyfaill o honynt golli y llall,
dyweder ar heol St. Mair, Caerdydd, neu Heol Fawr, Abertawy; ac os gwęl y naill
fab colledig y llall yn rhywle o fewn 500 llathen iddo, gwaedda nerth ceg, - ac
y mae cegau campus gan y rhan fwyaf o honynt – “Hoi! Shoni, Hoi !” neu, “Hoi!
Dai, Hoi!” fel bo’r enw; ac etyb yr asyn cyfrgolledig arall. os medra, ddau neu
dri nodyn yn uwch, “Hoi! bachan, Wil, dyma fi, w!” Yr oeddwn, ychydig amser yn
ol, yn un o’r heolydd a enwais, pan ddygwyddodd tro felly. Sefais;. a dywedais
wrth yr ysgrechgi am dewi. Pan orphenais, daeth boneddiges dra pharchus yr olwg
yn mlaen, a gofynodd, yn garedig a theimladwy iawn, yn Saesneg, “Pa beth yw’r
matter ar y truan tlawd? a fedraf i wneyd rhywbeth i’w gynnorthwyo?” “Medrwch, madam,” ebe finau, “rhowch
swllt i’r cerbydwr acw am ei yru i ben uchaf y stryd at ei gyfaill.” Credodd
“Wil” ei fod i gael ei yru i’r “lock up,” a rhedodd ymaith fel milgi!
::29 MOCH GWYLLTION Y DYFFRYN
Yr oedd y Dyffryn, fel y nodais yn barod, yn un coediog iawn yn y dyddiau gynt;
a gwneid i fyny y coedwigoedd hyny, gan mwyaf, o goed deri. Yn ochr ogleddol y
dyffryn ac ar ei wastadedd yr oeddynt. Nid oedd ond ychydig ar yr ochr
ddeheuol, gan fod y Waun Hir yn cyrhaedd yn agos o un pen i’r llall i’r plwyf.
Rhaid eithrio Cwmdar, bid sicr, gan fod hwnw yn gwm bychan coediog - llawn deri
ar ei hyd, yn croesi y Waun. Yr oedd y gwastadedd, o bentref Aberdar i’r
Dyffryn, preswylfod Arglwydd Aberdar, y rhan fwyaf, yn orchuddiedig gan goed,
ac yn cynnwys llawer iawn o foch gwylltion. Mi a glywais hen frodor yn dweyd
fod ei daid yn cofio cynnorthwyo i ddal y moch: -
“Dywedai’r hen wr llwyd o’r cornel:
-
Gan fy nhaid mi glywais chwedel,
Gan ei daid y clywodd yntau,
Ac ar ei ol mi gofiais inau.”
Arosid am rai wythnosau wedi amser
syrthiad y męs oddiar y deri, er mwyn rhoddi cyfleusdra i’r moch ymdewychu cyn
ymosod arnynt: yna, yn y boreu, gyda thoriad gwawr, aent i fyny i ochrau y
bryniau cyfagos er mwyn cael gweled yr anwedd yn cyfodi o orweddleoedd y moch.
Wedi hvny tynent “lwybr llygad” at y fan lle y gwelent fwyaf o’r anwedd yn
cyfodi, gan y gwyddent, wrth gwrs, mai yno yr oedd y nifer luosocaf o “blant
Hob y Deri”. Pan ddeuent i’r lle ffurfient gylch oddiamgylch y
(x287) “ddâr” (the lair) -
ac, wrth gwrs, ceisient ladd y moch ieuainc. Gwaith peryglus iawn oedd, gan y
buasai yr hen foch yn ymladd yn ffyrnig dros eu “plant.” Gorfodid y bobl i ladd
yr hen foch yn aml, yr hyn, yn y diwedd, fu yn achos i lwyr ddifa y moch
gwylltion o’r dyffryn. Yr oedd yn golled fawr i’r tlodion eu colli. Mae rhai
enwau yn y dyffryn yn eglur gofnodi y dyddiau hyny, megys Gwaun Deri, Penderi,
Nantyderi, Llwyn Moch, y Dderi Hir, Cwm Nant yr Hwch, Cwmdar, Aberdar, Fforest
Llwydcoed, &c. Digoedwyd a digaregwyd y dyffryn o Heolyfelin i Mountain
Ash, ac o odreu Mynydd yr Ystrad i odreu Mynydd Merthyr, nes y daeth yn un o’r
dyffrynoedd harddaf a gwastattaf yn y wlad. Erbyn hyn y mae llawer o hono wedi
cael ei anharddu gan olwynion masnach. Yr ydys wedi dwyn llawer iawn o’r glo
o’i grombil, a’r arwynebedd, mewn manau, wedi suddo islaw gwely’r afon, nes y
mae erwau o hono yn cael eu gorchuddio gan ddwfr yn y gauaf. Dylid gorfodi y
perchenogion i ddyfnhau gwely’r afon, gan eu bod yn derbyn y fath olud oddiwrth
y glo, yr hwn, mewn gwirionedd, ddylai fyned i goffrau y Llywodraeth; a hyny yw
barn y rhan luosocaf o ddiwygwyr yr oes bresennol.
(x252)
::30 Y CYMHWYSDER I GLADDU Y MARW
Un o offeiriaid Aberdâr, tua dechreu
y ganrif o’r blaen, oedd hen frawd pur hoff o’r ddiod; a threuliai gryn lawer
o’i amser, ar ol y gwasanaeth yn yr Eglwys ar y Sul, yn y Black Lion; yn
yr hwn dŷ gynt, fel yn y dyddiau presennol, oedd yn un o’r prif westtai yn
y lle. Ryw dro, yr oedd angladd wedi dyfod i Aberdâr o Gefncoedycymmer, yn
Nyffryn Tâf. Annghofiodd yr offeiriad ei ddyletswyddau o berthynas i’r angladd;
a gorfu i’r clochydd fyned i’w gyrchu. Pan ddaeth, yr oedd yn ymddangos yn lled
ansefydlog ei gamrau; a theimlodd un o “wŷr yr angladd” ei bod yn
ddyledswydd arbenig arno ef, fel dyn pwysig o “blwyf arall,” i alw sylw y gwr
parchus parchedig at ei ddiffygion.
“Y dyn!” ebe fe, “nid ydych yn fit
i gladdu’r marw!”
“Nad w’ i?
“Nad ydych!”
“Pa’m, a glywaist ti fod rhywun a
gleddais i wedi pallu aros yn y bedd?”
Terfynodd hymy y ddadl ar unwaith,
gan nad oedd y cyhuddwr yn barod i ddwyn y prawf a hawliai yr offeiriad! Ni fu
rhyw lawer iawn o lewyrch ar yr Eglwys Sefydledig yn Aberdâr hyd ddyfodiad y
Parch. John Griffith (wedi hyny o Ferthyr) i’r lle. Dechreuodd hyny gyfnod
newydd hollol yn hanes yr Eglwys yn Nyffryn Cynon: ac er ei ddydd ef y mae wedi
ac yn parhau i ennill tir yma gyda chyflymdra neillduol iawn. Bellach, gellir
ei hystyried yn un o’r prif “enwadau” yn y lle.
::31 Y “SNAKES” A’R “NOTE OF HAND”
Yr oedd hen drigolion Abedâr, gynt,
yn debyg i drigolion cymmoedd ereill y Dywysogaeth, yn ddiau; ond myn “Byrdar”
eich gwneyd i gredu eu bod, fel rheol, yn onestach na phreswylwyr y ddau
ddyffryn cyfagos – Merthyr a’r Rhondda! Clywais lawer o honynt, hanner can’
mlynedd yn ol, yn dweyd mai peth cymharol newydd yn y lle oedd y “Note of
Hand.” Ebe hen ŵr pedwar ugain oed wrthyf, y pryd hwnw, “Dyfais ar gyfer
lladron yw y Note of Hand. Yr wyf yn cofio,” ebe fe, “fod fy
nhead yn bring o ddeg punt i dalu’r rhent, ac ebe fe wrthyf,
‘Cera’n gros i dŷ Twmi Dafydd,
Abernantygros, a gwęd wrtho fa ffor y mae.’
Fi etho, a cheso’r arian i ddod yn
ol.
‘Gwed wrth dy dead,’ ebe Twmi, ‘y
celsa fa ucian punt, tysa’u hisha nhw arno fa,’
a hyny heb yr I.O.U. a’r Note
of Hand, sy nawr. ’Rol gwerthu’r nifal cynta ’rol hyny, ’rodd yr arian yn
cial eu hela nol, weldi.”
Yr oedd y rhan fwyaf o’r tyddynwyr
yn rhydd-ddalwyr y pryd hwnw, ac felly yn weddol esmwyth eu byd. Er fod Malkin
yn siarad yn anmharchus am danynt, tybiaf yn sicr mai credu yn yr hen
ddiareb “Sais yw, syn” fu yr achos iddynt droi yr “ysgwydd oer” tuag ato, a
rhoddi iddo fara haidd i’w fwytta; o herwydd mae y grynau - grynau gwenith –
welir ar lethrau mynyddoedd y Dyffryn, y dydd heddyw, yn profi fod y grawn hwnw
yn cael ei godi yma er ys rhai cannoedd o flynyddau. Gŵyr pawb fod y Sais
bob amser yn orlwythog o hunanoldeb a rhagfarn pan yn son am unrhyw genedl
heblaw ei gymysgbeth o genedl ei hun. Mae y Boeriaid wedi llwyddo i dynu cryn
lawer o’r chwydd gwyn hwn o hono; a bydd helynt Affrica yn ysmotyn du oesol ar
ein cyfundrefn filwrol ac ar ein swyddogion. Esgus tlawd iawn yw dweyd iddynt
gael eu twyllo yn nghyfrwystra a gallu y Boer! Nid oedd busnes ganddynt i
gymeryd eu twyllo, na myned yno o gwbl.
A’u cymmeryd yn y crynswth, deil hen
breswylwyr y plwyf archwiliaeth fanwl; a deuant o’r driniaeth yn dra
llwyddiannus. O ran barn grefyddol, Undodiaid ac Eglwyswyr ydynt, gan mwyaf.
“Dynion dod” yw corff mawr preswylwyr presennol y plwyf; a hwy hefyd yw corff
mawr yr enwadau ereill. Pan brioda un o’r “dynion dod” un o’r gwreiddiolion,
bydd nerth cymmeriad cymharol y partďon unedig yn amlwg yn eu hanes crefyddol
yn y dyfodol: bydd plant y teulu yn fynychwyr cysylltiadau crefyddol y blaid
gryfaf o ran cymmeriad!
Aberdâr. JENKIN HOWELL
DIWEDD
|
DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN |
·····
Sumbolau arbennig: ŷ ŵ
Dyffr˙n Cynon (cyfres o erthyglau yn y
‘Geninen’ 1900-1904) / Jenkin Howell
Adolygiadau diweddaraf: 10 07 2002, 01 11 2002, 29 11 2002, 2005-09-03
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pŕgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weř(r) ŕm ai? Yůu ŕa(r) vízďting ř peij frňm dhř “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katřlóuniř) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the
“CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
Edrychwch
ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats