1347k Deg O Ddadleuon Buddugol. - Y Goreu Allan o Naw o Gystadleuwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caerfyrddin, 1912. i naw ysgrifenu, bob un ei ddeg ddadl, siomedigaethus ei ffrwyth ywr gystadleuaeth hon. Rhyw chwareu dadlu au cysgodion eu hunain y mae y rhan fwyaf o lawer or cystadleuwyr...

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_043_dadleuon_buddugol_1911_1347k.htm

Yr Hafan

..........
1863k Y Fynedfa yn Gymraeg

....................0009k Y Barthlen

..............................0960k Cywaith Sin Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai

........................................y tudalen hwn


..






Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Galles i Catalunya

Cywaith Sin Prys (Casgliad o Destunau yn Gymraeg)
El projecte Sin Prys (Collecci de textos en galls)

Deg o Ddadleuon Buddugol at Wasanaeth Cyfarfodydd Llenyddol, &c.
BUDDUGOL YN EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CAERFYRDDIN 1911.


(delwedd 4666)




(CLAWR)

BUDDUGOL YN EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CAERFYRDDIN.
Dadleuon Buddugol
Yn Cynnwys
DEG O DDADLEUON BUDDUGOL AT WASANAETH CYFARFODYDD LLENYDDOL, &c.

Gan Llygad y Dydd

Y GOREU ALLAN O NAW O GYSTADLEUWYR
YN EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU,
CAERFYRDDIN, 1911.

CAERFYRDDIN:
W. M. EVANS AI FAB, SWYDDFA SEREN CYMRU.
PRIS NAW CEINIOG


(x1) gwag

(x2) gwag

(x3) Y GOREU ALLAN O NAW O GYSTADLEUWYR
YN EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU,
CAERFYRDDIN, 1911.

Dadleuon Buddugol
Yn Cynnwys
DEG O DDADLEUON BUDDUGOL.

Gan Llygad y Dydd

CAERFYRDDIN:
W. M. EVANS AI FAB, SWYDDFA SEREN CYMRU.
1912.

(x4) gwag

(x5) gwag

Cynwysiad

(1) Y Ffasiwn (Dadl i Ddwy Ferch) x9
(2) Y Rhosyn ar Friallen (Dadl i Ddau) x13
(3) Bai o Bobtu (Dadl i Dri) x16
(4) Blodau. (Dadl i Bedair) x20
(5) Yr Achos Dirwestol (Dadl i Ddau) x23
(6) Dauwynebog (Dadl i Dair) x27
(7) Yr Ysgol Sabbothol (Dadl i Ddau) x32
(8) Breuddwydion (Dadl i Ddau) x36
(9) Ofergoelion (Dadl i Ddwy) x40
(10) Serch (Dadl i Ddau) x44

(x6) gwag

(x7) Beirniadaeth ar y Dadleuon Byrion, heb fod dros bum can gair yr un.
(BEIRNIAD - IFANO JONES, YSW., CAERDYDD.)

Er i naw ysgrifenu, bob un ei ddeg ddadl, siomedigaethus ei ffrwyth ywr gystadleuaeth hon. Rhyw chwareu dadlu au cysgodion eu hunain y mae y rhan fwyaf o lawer or cystadleuwyr. Nid cymeriadau cig a gwaed a ddadguddia i ddarllenydd y dadleuon hyn eu gwir au nod, ond meddyliau a barnaur cystadleuwyr hyny eu hunain wrth benderfynu rhwng dwy ochr pwnc neu agwedd egwyddor. Nid egluro egwyddorion, na dadrus pynciau, na dysgu athrawiaethau, na phregethu dyledswyddau, na chynorthwyo plant a phobl ieuainc i gofio a charu ffeithiau gwyddor, oedd eisieu yn y dadleuon byrion y cynygid cymaint gwobr am y deg goreu. Nid traethawd neu araeth, neu bregeth ar ffurfiau holwyddoreg a phwnc ysgol ac ymddiddan, a ddylai dadl adrodd fod, ond ymgom gelfydd, fyw, gynnil-ei-gair a hael-ei-meddwl, rhwng dau neu fwy o gymeriadau a gwahan ryngynt yn berson, meddwl, a mynegiant; ac (x8) ymgom a chymeriadau a fo gydar gilydd yn ddarlun bychan o ryw wedd ar fywyd byd neu eglwys. Rhwng y darlun wedyn a dysgu neu bregethu! Mewn gair, rhaid i ddadl adrodd fod yn ddramodog; ac yn adran y ddrama y ceir y testyn yn rhaglen yr eisteddfod.

Or naw cystadleuydd Llygad y Dydd ywr cliriaf ei ddirnadaeth o nd angen dadl adrodd; ac er nad yw gystal llenor a Dafydd ap Tomos, y mae gryn lawer yn well fel dramodydd nag ef. Rhaid canmol Llygad y Dydd, ragor y lleill or cystadleuwyr, am gynnyg yn well at dori tir newydd mewn testynau. ac am lwyddon well mewn dialog. Nid anghofiodd wrhewcri a ffraethineb ymgom cyfeillion. Fe saif amryw oi gymeriadau hefyd ar eu pedion en hunain, a gwna iddynt lefaru o helaethrwydd eu calonau eu hunain, ac nid or eiddo ef. Maen wir nad ywr cymeriadau yn gryfed ag y dymunid iddynt fod; ond y maent, o leiaf, yn rhai gwahan. Bid a fo, y mae ganddo yntau amryw ddadleuon hen ffashwn, yn gynllun ac ymddiddan.
Ar air a chydwybod,
IFANO JONES.

(x9) Dadleuon Buddugol.

(1) Y FFASIWN.
DADL I DDWY FERCH.
(Emily a Dora yn cyfarfod ar yr Heol).
Emily. - Good evening, Dora, How are you? Roeddwn yn mynd draw nawr i gael eich barn ar fy het newydd.
Dora. - Gan eich bod yn gofyn fy marn, a dweyd y lleia am dani, maen llawer rhy fawr i chi.
Emily. - Beth bynag am hynny, dyma y latest.
Dora. - Feallai, ond nid ydi y latest yn gweddu bob amser i chi Emily, mwy nag i minnau.
Emily. - Gweddu neu beidio, maen rhaid i mi ei gwisgo neu fod allan or ffasiwn. A mi fydd mam yn dweyd waeth i chwi fod allan or byd mwy nag allan or ffasiwn.
Dora. - Rwyf yn cydnabod fod dilyn y (x10) ffasiwn o hirbell yn tueddu i wneyd un i edrych yn od, ac nid wyf yn cymeradwyo hynny, ond buaswn yn dewis hynny yn hytrach na mynd yn gaeth i ffasiynau.
Emily. - Rydych yn wahanol i mi, rwyf yn credu mewn dilyn y ffasiwn mor fanwl ag y gallaf, a mi fusech chithe Dora yn edrych llawer gwell ta chin newid y dull o wneyd eich gwallt a thalu mwy, o sylw ir fashion books.
Dora. - Maen well genyf edrych fel hyn na gwneyd fy ngwallt yn bricsiwn wrth geisio dynwared dulliau y papurau Seisnig.
Emily. - Waeth be ddwedwch chi Dora, does dim tebyg i fod yn up to date. Mi wyr pobl hyd yn oed wrth i chi ysgwyd llaw pa un a fyddwch chin studio etiquette ai peidio.
Dora. - Ni raid studio etiquette i wybod sut i ysgwyd llaw. Maer llaw syn cael ei hestyn megis or galon, yn siwr o wybod sut i wneyd ei gwaith. Pa reswm sydd mewn codi eich llaw yn uchel fel pe baech yn mynd i chware Pont y Seiri am fod rhyw dywysog o Ffrainc wedi dechreu gwneyd hynny oherwydd rhyw friw oedd ar ei fys?
Emily. - Dwn i ddim sut y dechreuodd yr arferiad, ond mi wn ei fod yn ffordd graceful iawn.
Dora. - Mae arnaf ofn eich bod yn mynd yn fwy ffasiynol o hyd.
Emily. - O, gobeithio fy mod.
Dora. - Nagen wir. Byddain resyn i chi ufuddhau i ffasiwn o flaen synwyr cyffredin.
Emily. - Nid wyf yn meddwl gwneyd hynny, ond gwyddoch mai peth gwrthun yw bod yn ddifanners.
Dora. - I, ac eto mae bod yn rhy fanesol yn rhywbeth digon anymunol. Roeddwn gyda nifer o ferched ieuainc y dydd or blaen, ac roeddwn wedi hen ddiflasa ar Excuse me, Pardon, Im sorry, &c.
Emily. - Ond maen rhaid i chi eu defnyddio, neu ymddangos yn vulgar.
Dora. - Ni raid i chwi eu defnyddio bob yn ail frawddeg.
Emily. - Maen amlwg na wnawn ni ddim cydweld ar y pwnc yma. Rydych chin ngweld i yn rhy ffasiynol, rydw inne yn eich gweld chithe yn rhy hen ffasiwn. Fydde ddim yn well i ni drio cyfarfod ein gilydd ar y mater?
Dora. - Or goreu, beth hoffech i mi wneyd?
Emily. - I ddechre, gwneyd ych gwallt yn llawer mwy llac, gwisgo het dipyn mwy ffasiynol, a thalu mwy o sylw ir ffasiwn pan yn cael costume newydd.
(x12) Dora. - Os gwnaf, wnewch chwithe wneyd i ffwrdd ar rhai or rolls sydd ar eich pen, gwisgo skirt y medrwch chi gamu ynddi, ac nid garchar dafad fel hona, a thrio cael het ychwanegu at eich prydferthwch, yn lle tynnu oddiwrtho.
Emily. - Gwnaf, ar tro nesaf y cyfarfyddwn byddaf yn disgwyl eich gweled chwithe hefyd wedi cadwch gair.
Dora. Rwyf yn siwr o wneyd, ac os byddaf byw ac iach dof ich gweld wythnos i heddyw. Maen rhaid i mi fynd nawr, mae arnaf eisiau cyfarfod y trn. Prydnawn da.
Emily. - Ta, ta.

(x13) (2) Y RHOSYN AR FRIALLEN.
DADL I DDAU.
Rhosyn.
- Ai tydi sydd yna Friallen fach? bu agos i mi ag edrych dros dy ben, a cholli golwg arnat.
Briallen.
- I, Rosyn hardd, ac nid oes lawer o berygl i mi edrych dros dy ben di, oblegid yr wyf ers meityn yn dotio at degwch dy wyneb.
Rhosyn.
- Diolch i ti am dy eiriau caredig. Buasai ambell i flodeuyn, feallai, yn ymchwyddo wrth dy sylw pert, ond yr wyf fi wedi cynefino a dywediadau cyffelyb.
Briallen.
- Mi gredaf dy fod, a gwn nad ydynt yn effeithio er niwed i ti, neu ni fuasai dy liw a dy arogl mor hyfryd.
Rhosyn.
- Dwd i mi Friallen fach, oni fyddi dithau weithiau yn dymuno cael bod yn Rhosyn?
Briallen.
- I ba beth y dymunwn hyny fy ffrynd?
Rhosyn.
- Er mwyn ennill sylw ac edmygedd a harddu yr ardd y byddi yn tyfu ynddi, pa un bynag ai gardd y bwthyn ai gardd y palas fyddo.
Briallen.
- Na, pe buasain bosibl i mi beidio a bod yn friallen, ac ymagor yn rhosyn, ni fuaswn yn dewis hynny.
Rhosyn.
- Paham? Ni allaf dy ameu, oblegid (x14) ag edrych ym myw dy lygad, ni welaf ond purdeb yn perlio arnaf.
Briallen.
- Briallen wyf wedi fy nghreu, ac yr wyf yn llawenychu yn fy ngwaith yn y byd.
Rhosyn.
- Mae genyf finnau hefyd fy ngwaith. Beth sydd yn fwy dymunol na chael sirioli y teithwyr fydd yn myned heibio, neu gael fy arogli gan y foneddiges am pia, a fy edmygu gan ei chyfeillion. Na yn wir, Friallen fach, byddet yn llawer gwell allan pe byddet yn rhosyn fel y fi. Mae dy gartref hefyd yn ychwanegu at dy ddinodedd. Ni fuaswn byth yn hoffi byw fel yr wyt ti, yn nghanol y gwellt ar ochr y bryn yna, yn gyfleus i bob troed anystyriol fy sathru.
Briallen.
- Yr wyt yn camgymeryd yn awr, fy ffrind. Nid yw fy nghartref yn fy ngwneyd yn fwy dinod, yr wyf fi am cartref wedi ein cyfaddasu in gilydd, a gofynaf fel tithau, Beth sydd yn fwy dymunol na byw yn nghanol y gwelltglas islaw gwrych, a gwrando ar y ffrwd sydd yn myned heibio yn sisial ei anobeithion wrth frysio tuar mr. Uwch fy mhen mae dau aderyn bychan wedi gwneyd eu nyth, a llanwant yr awyr om cwmpas miwsig fydd yn swyno fy nghalon. Weithiau daw plant bychain heibio i mi, plant rhy fychain i gyraedd atat ti, gan (x15) ond wenu arnaf au gwn bur, ddifalais, ac au dwylaw tyner casglant luaws om teulu, a pheth mwy allaf ddymuno na chael bod yn addurn ac yn bleser i blant bychain.
Rhosyn.
Mae yn rhaid i mi addef fy mod wedi camgymeryd Friallen fach, yr wyt yn hollol yn dy le. Y maen amlwg dy fod wedi dysgu y wers sydd yn rhy anhawdd i ambell un, sef bod yn foddlon ar yr hyn sydd genyt, a gwneyd dy oreu yn y byd ar hyn sydd yn dy allu.

(3) BAI O BOBTU.
DADL I DRI.
Tomos.
- Wel wir, dyma hi eto, neb yn y ty^, dim tn, a dim bwyd yn barod i greadur wedi gweithion galed drwy y dydd. Mi fasa yn o smala gan mam yn gweld i yn dwad on gwaith a dim yn barod i nisgwyl i. Mae Meri yn mynd yn fwy diofal bob dydd, ond mi geiff y tro yma fod yn wers iddi. Mi stedda fan hyn, wna i ddim tn, ferwa i mor teccell, a chymra i ddim tamed o fwyd pe buasai hi heb ddwad yma tan bymtheg.
(Ymestyna at bapur newydd a dechreu ei ddarllen.)
Meri.
- (Yn dod ir ty^ ac yn gofyn,) - Beth ych chin gneyd hen dro mor sal?
Tomos. - Pwy sydd wedi gwneyd tro sal?
Meri.
- Y chi.
Tomos.
- Beth ydw i wedi wneyd ys gwn i?
Meri.
- Peidio dwad i dy^ modryb i nol i, fel yr addawsoch yn y bore.
Tom. - Y fi addo, addewais i ddim fath beth.
Meri.
- Dier anwyl Tomos, beth ywr mater arnoch chi. Rych chin debyg iawn fel be bae chi wedi bod adre am dro.
(x16) Tom. - Maen edifar iawn gen i ddwad oddno. Es i rioed adre oddiwrth y ngwaith na fyddair bwyd yn barod i nisgwyl i.
Meri.
- Ddaethoch chi rioed ir ty^ yma or blaen chwaith na fyddwn i yma yn ych disgwyl chi. Pe bae chi wedi priodi gwraig Benjamin Jones, does na chyfarfod na scyrsion, nac ocsiwn na circus, nad ydi honno yno.
Tom.
Dwy i ddim wedi phriodi hi, ac am hynny does arna i ddim eisieu clywed son am dani.
Meri.
- A dyma finne druan a mhen wrth y post o ddechre yr wythnos hyd i diwedd hi, ac am i mi ddigwydd mynd heddyw, rhaid i chi gael mynd ich sulcs a chodich cloch.
Tomos.
Dwy i ddim wedi mynd in sulcs, y cwbl ydw in ddweyd, ac mi ddwedaf ef eto, na ddyle chi ddim bod yn nhy^ ych modryb a gwybod mod i wedi dwad on ngwaith.
Meri.
- Oni ddwedais wrthoch chi mod i am fynd, ac am i chithe ddwad i nol i.
Tomos.
- Ddwedsoch chi ddim or fath beth.
Meri.
- Wel wir, chlywais i rioed shwt beth. Well i chi ddweyd Tomos na chododd yr haid ddim.
Tomos.
Does arna i ddim eisieu dweyd anwiredd. (Mrs. Huws, cymydoges, yn dod i fewn ac yn gofyn), -
Mrs. Huws.
- Beth ydir siarad uchel yma, ydw in glywed, dych chi ddim yn ffraeo, does bosib.
Meri.
Ydym Mrs. Huws, mae Tomos yn mynd yn fwy anodd iw drin bob dydd, a waeth i chi drio darbwyllo y pentan yna mvy nag ynte wedi iddo gymryd rhywbeth yn i ben.
Tomos.
- Ditto, dwedwch Meri.
Mrs. Huws.
- Twt, twt, wneiff hyn mor tro.
Tomos.
- Sut y bysech chi yn leicio Mrs. Huws, ddwad ir ty^ och gwaith, wedi bod yn gweithion galed drwy y dydd, a chael y ty^ yn wg, a dim tewyn o dn yn y grt, na thamed o fwyd yn ych disgwyl chi.
Meri.
- Or gore os ychin dweyd ych ochor mi ddywedaf finne fochor hefyd. Pan oedd en cychwyn y bore, dyma fin dweyd, Tomos, medde fi, os na fydda i yma heno pan ddowch chi och gwaith, wedi mynd i dy^ modryb y bydda i, a mi fydd ych bwyd chi yn y pobty^. Dowch chithe i nol i wedi bwyta a molchi. Or goreu, medde fe, ond lle roedd i feddwl e, dwn i ddim.
Tomos.
- Chlywais i mono chin dweyd dim, ond, bod chin mynd i dy^ch modryb. Ond (x19) cofiwch tydw i ddim yn ych ameu chi, achos ron i ar frys i ddal y trn.
Meri.
- Rydw in ddigon siwr mod i wedi dweyd Tomos. Fynswn i er dim i chi ddwad och gwaith heb ddarpar ar ych cyfer chi.
Erbyn cysidro, dwn i ddim ar bun o hono nin dau y mae y bai.
Mrs. Huws.
- Bai o bob tu sy yma.
Meri.
Dowch acw i gael tamaid o fwyd, mae gen i dn ar teccell yn berwi.
Meri. - Diolch i chi Mrs. Hughes. Dowch Tomos.

(x20) (4) BLODAU.
DADL I BEDAIR.
Olwen.
- Gan ein bod yn son am flodau, gadwch i mi gael gwybod pa un or blodau yr ydych yn garu fwyaf. Ceridwen, wnewch chwi ddechreu ddweyd wrthym fel pa flodyn hoffech fod.
Ceridwen.
- Pe cawn i fy newis dewiswn i fod yn Lili.
Olwen.
- Paham?
Ceridwen.
- Am ei bod mor ln ac mor bur.
Olwen.
- Pa un yw eich blodyn chwi Dilys?
Dilys.
- Fy newis i ydyw Blodyn yr Eira.
Olwen.
- Paham?
Dilys.
- Am ei fod yn blodeuo yn nhymor garwaf y flwyddyn.
Olwen.
- Pegi, pa un yw eich blodyn chwi?
Pegi.
- Fy mlodyn i ydyw Llygad y Dydd.
Ceridwen.
- O flodyn disylw!
Dilys.
- I, yn wir, a chyffredin hefyd.
Pegi.
- Dyna paham yr wyf yn ei ddewis, am ei fod yr un mor barod i sirioli ochr y ffordd ag ydyw i ychwanegu at brydferthwch yr ardd fwyaf ysblenydd.
(x21) Dilys. - Gellwch ddweyd yr un peth am fy mlodyn innau. Gwna Blodyn yr Eira ei gartref mewn doldiroedd a pherllanau ac ym mn y gwrychoedd yn gystal ag mewn gerddi.
Pegi.
I, ond cofiwch mor fyr yw ei dymor. Ond am fy mlodyn i y mae yn barod i ddangos ei wyneb ac i wenu drwy bedwar tymor y flwyddyn, nes ennill gan un or beirdd yr enw Plentyn y Flwyddyn.
Dilys.
- Mae y beirdd yn cymeryd sylw o fy mlodyn innau hefyd, ac y mae un o honynt wedi dweyd,
Plentyn cyntaf Gwanwyn yw,
Yn yr awel oer Maen byw.
Ceridwen.
- Maen rhaid i chwi gydnabod Pegi, nad ydyw LIygad y Dydd hanner mor brydferth a Blodyn yr Eira.
Pegi.
- Nid am ei brydferthwch y darfu i mi ei ddewis, ond am ei fod yn flodyn mor hawdd ei drin. Ni ellwch chwi ddweyd hyn am y Lili, maen rhaid iddi wrth ofal neillduol cyn y ffyno.
Dilys.
- Er hyny, ffolineb ydyw cymharu y Lili hardd ar blodeuyn bychan, dind, Llygad y Dydd.
Olwen.
- O na, Dilys, fe ddeil y ddau iw cymharu, oblegid mae y naill fel y llall yn rhagori mewn rhyw bethau ar eu gilydd
Ceridwen.
- Nid wyf yn deall sut y gall Llygad y Dydd ragori ar y Lili.
Olwen.
Mae Pegi wedi dangos un ffordd i chwi drwy ddweyd fod Llygad y Dydd yn blodeuo drwy y flwyddyn.
Pegi.
I, a rhagora mewn ffordd arall drwy fod mor gyffredin. Buasai aml i blentyn bach yn bur amddifad o flodau oni bai am Lygad y Dydd.
Ceridwen.
- Mae yn amlwg fod gan Pegi ddigon i ddweyd dros ei blodyn, ond yn hytrach na dadleu, oni fyddain well i ni geisio efelychu y peth goreu yn mhob un or blodau?
Olwen.
- Byddai Ceridwen, yn llawer gwell. Beth fyddain fwy dymunol i nin pedair na chael purdeb y Lili yn ein cymeriadau; parodrwydd i fod ar ein goreu hyd yn oed mewn tywydd garw, fel Blodyn yr Eira, a gostyngeiddrwydd Llygad y Dydd.
Pegi. Mi hoffwn gael bod fel y Lili.
Dilys.
- A Llygad y Dydd yr un pryd.
Ceridwen.
- Rhowch atynt Flodeuyn yr Eira.
Olwen.
- A byddwn yn werthfawr ir byd.

(5) YR ACHOS DIRWESTOL
DADL I DDAU.
(Ellis Price yn sefyll ar yr heol, ai gyfaill John Huws yn dod ato ac yn dweyd, - )
John Huws.
Rwyf newydd fod draw yn chwilio am danoch. Roedd y wraig yn dweyd y deuwn o hyd i chwi rywle ffordd hyn.
Ellis Price.
- Mi wn beth yw eich neges, Huws.
John Huws.
- Gwyddoch maen debyg. Rydych yn cofio i chi y noson or blaen hanner addo dod gyda mi ir gymdeithas ddirwestol.
Ellis Price. Rwyf wedi ail-feddwl er hynny ac yn tynnur hanner addewid yn ol.
John Huws.
- Os caf addewid gyfan yn ei lle goreu oll.
Ellis Price.
- Na, nid wyf am ddod o gwbl.
John Huws.
- Paham rydych wedi dod ir penderfyniad yna?
Ellis Price.
Rwyf yn ei weld yn beth plentynaidd iawn, i ddyn dorri ei enw ar bapur fel sicrwydd y bydd o hynny allan yn ddirwestwr, a myned at nifer o bobl a alwch yn ddirwestwyr bob wythnos, fel pe iw reportio ei
hunan ei fod yn cadw ei air. Mi wna hynny y tro i ryw benboethiaid fel y chi.
(x24) John Huws. - Does arna i ddim cwilydd cydnabod fy mod yn benboeth, os ydyw hynny yn cynwys fy mod, yn gweithio am holl egni yn erbyn drwg claiarineb sydd yn andwyol gydar achos dirwestol fel gyda pob rhan ar grefydd.
Ellis Price.
- Rych chi y dirwestwyr yma yn hoff iawn o son am grefydd wrth son am ddirwest.
John Huws.
- Does dim yn fwy naturiol achos mae perthynas mor agos rhyngddynt ag sydd rhwng goleuni a haul.
Ellis Price.
- A chymeryd yn ganiattaol eich bod yn gywir, ydw i ddim cystal a phobol y seiat a gwell nai naill hanner nhw?
John Huws.
- Nag ydych, ddim cystal ar salaf sydd yno.
Ellis Price.
- Sut felly?
John Huws.
- Am eich bod yn diystyru y moddion sydd i ddwyn y byd i foliant Duw, ac felly rydych yn rhwystr ir eglwys wneyd ei gwaith.
Ellis Price.
Dwy in dweyd dim yn erbyn gwaith yr eglwys yn y byd.
John Huws.
- Os nad ydych yn dweyd mewn geiriau, rydych yn dweyd mewn esiampl. Pe buasai pob dyn fel y chi, ni fuasai yr un eglwys ar y ddaear na gwaith yn cael ei gyflawni er ennill y byd i Grist.

(x25) Ellis Price. - Felly maen amhosibl gwneyd daioni heb fod yn aelod eglwysig?
John Huws.
- Gwyddoch beth maer Apostol Paul yn ddweyd, Pe rhoddwn fy nghorph im llosgi, ac heb fod genyf gariad nid yw ddim llesad i mi, a sut y gellwch ddweyd fod y cariad genych ac yn gwrthod ymuno ag eglwys Crist?
Ellis Price.
- Ydych chin sicr fod pobol y capel yn eglwys Crist? Mi wn i am lawer o honoch yr aech chi ar tamed dwetha o enau y naill ar llall, ac wedyn mi ddwedech yn ddigon digwilydd wedi i ddyn fynd i lawr, Y creadur piti drosto fe.
John Huws.
Rwyf yn cydnabod fod yna lawer o ddwylaw annheilwng yn trin pethau y cysegr, ac i wir grefyddwyr mae hyn yn groes drom, ond ei chodi y maent er hynny, ac nid cefnu ar yr achos fel llwfriaid.
Ellis Price.
- Mae rhywbeth yn hynna yn siwr.
John Huws.
- Mae llawer ynddo, Price.
Oes anffyddloniaid a bradwyr
Yn llechu ym myddin fy Nuw,
Ai cilio a ddylwn or rhengau
A gadael ir gelyn gael byw?
(x26) Na, na, mi ymladdaf yn wrol,
Er gwaethaf pob rhwystr a brad,
Maer Cadben syn arwain y lluoedd,
Yn deilwng, om help yn y gad.
Ellis Price.
- Dyna olwg newydd i mi, deuaf ich canlyn.

(x27)
(6) DAUWYNEBOG.
DADL I DAIR.
(Mrs. Jones yn agor drws y ty, a chyn cyrraedd y gegin yn gofyn,)
Mrs. Jones.
- Oes yma bobol?
Mrs. Pari (Gwraig y ty^). - Oes, dowch i mewn. Y chi sydd yna Mrs. Jones? Dowch yn ych blaen, steddwch.
Mrs. Jones.
- Wna i ddim ymdroi ond mod in dod fewn am funyd i edrych oeddech chi wedi clywed am golled Mrs. Howells.
Mrs. Pari.
- Colled Mrs. Howells, beth mae hi wedi golli? Chlywais i run gair. Neswch at y tn, Mrs. Jones.
Mrs. Jones.
- Wedi colli pum sofren.
Mrs. Pari.
- Wel, sut y collodd i nhw?
Mrs. Jones.
- Wrth ddwad or farchnad, medde hi.
Mrs. Pari.
- Roedd hin lwcus iawn fod ganddi bum sofren. Mi fuasain dda gen i allu mynd ir farchnad ag un.
Mrs. Jones.
- Mi fuasain dda gen inne hefyd. (x28) A rhyngoch chi a finne, maen anodd gen i gredu fod yna bum sofren yn i phwrs hithau chwaith.
Mrs. Pari.
Rydw in cydweld a chin hollol. O ble cafodd hi nhw tybed?
Mrs. Jones.
- Y rhent oedden nhw, meddai hi.
Mrs. Pari.
- O mi wela, ac felly wiw i neb ddisgwyl y rhent y chwarter yma?
Mrs. Jones.
- Dyna chi. Os na bydd gryf bydd gyfrwys.
Mrs. Pari.
- Mewn difri, chlywsoch chi rioed shwt beth, ond ran hynny fel yna y mae rhai pobol yn cael dillad newydd a mynd i fan fyno nhw.
Mrs. Jones.
- Rych chin dweyd y gwir. Fedrai i yn y myw gael dim heb son am gostiwm newydd pump a chwech y llath.
Mrs. Pari.
- Roddodd hi hynny am y siwt oedd ganddi y Sul dwetha?
Mrs. Jones.
- Do, bob dime.
Mrs. Pari.
- Wel, yn wir, mi welais i well am bymtheg.
Mrs. Jones.
- Wisgodd hi rioed beth isel bris.
Mrs. Pari.
- Felly wir.
Mrs. Jones.
- Roedd hin dweyd bod hi wedi cerdded siopau y dre i gyd er mwyn cael y shade oedd hi wedi feddwl am dano.
(x29) Mrs. Pari. - Wrth gwrs, dyw e ddim o musnes i, ond mi fuasain llawer gwell iddi feddwl am fyw na phorthii balchder.
Mrs. Jones.
- Tewch a son. Wedi cael y costiwm, roedd yn rhaid cael tc o Lunden iw matshio.
Mrs. Pari.
- Ond dyw hin benuchel.
Mrs. Jones.
- Yn ddiarhebol felly. Mi fydda in edrych arni yn y bore, wedi molchi a gwneyd i gwallt yn smart, dwn i ddim sut mae hin glanhau y ty^.
Mrs. Pari.
- Os ydi hin gneud.
Mrs. Jones.
- I, ran hynny, achos fum i rioed yno.
Mrs. Pari. - Sut y medrwch chi fynd i dy^ dynes sydd yn gneyd i gore ich cadw chi hyd braich. (Curo yn y drws.)
Mrs. Pari.
- Dowch i mewn.
Mrs. Howells.
- Y fi sydd yma
Mrs. Pari.
Sut ych chi Mrs. Jones? Peidiwch a symud.
Mrs. Pari.
- Dowch at y tn Mrs. Howells fach.
Mrs. Jones.
Dyna i chi gadair, Mrs. Howells, rydw i ar gychwyn.
Mrs. Pari.
Steddwch yn eno diar Mrs. Jones, fuo lwc i chi ddwad.
(x30) Mrs. Howells. - Maen debyg bod chi wedi clywed am yngholled i?
(Mrs. Parry a Mrs. Jones). - Pa golled?
Mrs. Howells.
- Colli mhwrs a phum sofren ynddo.
Mrs. Pari.
- Peidiwch a dweyd!
Mrs. Jones.
- Dyn ach helpo.
Mrs. Howells.
- In wir, ron in mynd i dalu y rhent a mi droiais ir farchnad, ac maen rhaid mai yno y collais i nhw. Wnaiff eich mab holi yn eu cylch wrth fynd heibio y farchnad foru Mrs. Pari?
Mrs. Pari.
- Gwnaiff a chroeso.
Mrs. Howells.
- Ond dyna beth sydd wedi nghlwyfo i, clywed mai dyfeisio y stori wnes i wrth nad oedd y rhent ddim gen i.
Mrs. Pari.
- Ond dyw pobol yn ddrwg mewn difri.
Mrs. Jones.
Y drwg i hun a dybia arall.
Mrs. Howells.
- Reit wir. Feddyliais i rioed am y fath beth. (Yn codi i fyned.) Os gwnewch chi ofyn ich mab, mi fyddain ddiolchgar i chi, Mrs. Pari.
Mrs. Pari.
- Peidiwch a mynd, nawr Mrs. Howells, steddwch dipyn. Mrs. Hmmlis. - Rhaid i mi fynd, rydw i wedi gadael y drws yn gored.

(x31) Mrs. Jones. - Rydw innen mynd hefyd. Roedd y teccell ar tn pan on in cychwyn.
Mrs. Pari.
- Brysiwch yma etoch dwy a peidiwch gadael i straeon pobol ich poeni chi, Mrs. Howells.
Mrs. Jones.
- I wir, gadwch nhw i fewn drwy un glust ac allan drwyr llall.
Mrs. Howells.
- Dyna y ffordd oreu yn te. Nos da Mrs. Pari.
Mrs. Pari.
- Noswaith dda i chich dwy.

(7) YR YSGOL SABBOTHOL
DADL I DDAU.
John Jones.
- Roeddwn ar fy ffordd acw William Lloyd i ofyn i chi ddod yn aelod or Ysgol Sul.
William Lloyd.
- Dwy in hidio fawr am eich neges chi, John Jones.
John Jones.
- Peidiwch a dweyd peth fel na, rydw in mynd i ymweled dau neu dri eraill ar yr un neges.
William Lloyd.
- Cymrwch gyngor gen i a pheidiwch mynd. Does dim yn cythruddo dyn yn fwy na gweld rhai yn ymyryd ai fusnes.
John Jones.
- Peidiwch camgymeryd nawr. Un peth ydi meindio busnes dyn, peth arall ydi gwneyd yn ol yr ysgrythyr, annog ein gilydd i weithredoedd da.
William Lloyd.
- Ydych chin meddwl fod cymell dyn i ddod ir Ysgol Sul yn weithred dda?
John Jones.
Dynan union ydw in gredu.
William Lloyd. Maen rhaid i mi ddweyd felly mod in anghyttuno chi. I mi maer Ysgol (x33) Sul yn lle ardderchog i blant. Dyna marn i ond falle mod i ychydig o flaen fy oes yn hyn o beth.
John Jones.
- Rych chin credu mewn dilyn siampl y Saeson.
William Lloyd.
- I, rhowch e fel yna os mynwch chi. Mi fum i mewn Ysgol Sul Seisnig, ac ron in teimlo y gallem ni y Cymry fod ar ein mantais yn ddirfawr pe bae ni yn eu hefelychu.
John Jones.
- Mi fum innau hefyd yn aelod o Ysgol Sul Seisnig, ac fel arall yn hollol ron in teimlo. Er ei holl ddiffygion mae Ysgol Sul y Cymry yn llawer nes iw lle, ac mae cam nesaf y Saeson Pleasant Sunday Afternoon yn cadarnhau hynna.
William Lloyd.
- Mae y Pleasant Sunday Afternoon yn gwneyd gwaith da, does dim amheuaeth.
John Jones.
- Maer Ysgol Sul yn gwneyd gwaith anhraethol well.
William Lloyd.
- Wrth gwrs, fel y dwedais or blaen, maen ardderchog i ieuenctid.
John Jones.
- Maer un mor ardderchogi i bobol mewn oed. Dowch yn ol iddi, a pheidiwch rhoi siampl ddrwg ich plant.
William Lloyd.
- Mi fydda in rhoi siars bob amser ar y plant i fynd iddi.

(x34) John Jones. - Tydi hynny ddim yn ddigon. Mewn esiampl mae grym ac nid mewn geiriau. Mae ir plant weled eu rhieni yn aelodau o honni ac yn astudior un pethau a hwythau yn codi safon yr ysgol yn eu golwg ac yn profi iddynt fod yr addysg gyfrenir ynddi yn wahanol i bob addysg arall.
William Lloyd.
- Gwaith yr athraw ydi dangos hynna ir plant.
John Jones.
- I, ond byddai yn amhosibl ir athraw wneyd hynny, pe bae yr holl rieni yn cadw draw fel y chi. A pheth arall mae aelod cyson a diwyd or Ysgol Sabbothol yn well dyn ym mhob cyfeiriad. Mae nid yn unig yn well duwinydd ond yn well gwleidyddwr hefyd.
William Lloyd.
- Sut felly?
John Jones.
- Am ei fod wrth ei arfer ei
hunan i ddeall athrawiaethau y Beibl yn rhoi min ar ei feddwl a grym yn ei farn. Dyna i chi John Williams y Ddol, chafodd o fawr o addysg ond addysg yr Ysgol Sul, ac mae o fel y gwyddoch chi y dyn mwya gwerthfawr ar y cyngorau yma i gyd.
William Lloyd.
- Odi chin bychanu addysg fydol nawr?
John Jones.
- Dim o gwbl. Rhwydd hynt iddi. Ond pam rych chin diystyrru yr addysg oreu?
(x35) William Lloyd. - Pell oddiwrthyf fyddo gwneyd hynny. A dweyd y gwir i chi, y rheswm i mi ddechreu cadw draw oedd athraw diog yn dwad ir dosbarth heb barottoi.
John Jones.
- Trueni am hynny. Dowch yn ol, maen hawdd gwastadhau peth fel yna. Rydw in mynd nawr, wnewch chi addo dod?
William Lloyd.
- Mi addawaf roi ystyriaeth ir ir mater. Galwch acw prydnawn Sul.
John Jones.
- Mi wnaf yn siwr.
Nos da.
William Lloyd.
- Nos da.

(x36) (8) BREUDDWYDION.
DADL I DDAU.
(John yn darllen llyfr wrth y bwrdd. Curo yn y drws.)
John. - Dowch ir ty^. (Harri yn agor ac yn dod i mewn.)
John.
Ti sydd yna
Harri.
Dere mlaen. Stedda. Wyddost ti be fachgen, ron in breuddwydio am danat neithiwr.
Harri.
- Beth oeddet tin freuddwydio?
John.
- Dy weld tin cychwyn ir Merica, ac yn wylo dagraun hidl fod yn rhaid i ti fynd.
Harri.
- Croes ydi breuddwyd.
John.
- Oes gen ti lyfr breuddwydion Harri, i ni gael gweled beth ydi ystyr breuddwyd fel na?
Harri.
- Nac oes, a pheth arall dwy i ddim yn credu mewn breuddwydion.
John.
Rwyt tin wahanol iawn i mi. Mi fydda in rhoi cryn goel ar y mreuddwyd bob amser.
Harri.
Does ryfedd dy fod tin greadur mor felancolaidd. Mi fuaswn inne mewn melancoli (x37) parhaus pe bawn in disgwyl i bob breuddwyd ddwad i ben.
John.
- Elli di siarad fel yna. Ond rydw i wedi gweld peth yn dwad o mreuddwyd i fwy nag unwaith. Ac os leici di mi rf enghraipht neu ddwy i ti.
Harri.
- Na wir, paid. Wyddost ti be, maen gas gan y nghalon i freuddwydion er pan fuo modryb Doli acw. Mi fydde honno yn eistedd bob boreu wrth i brecwast gyda ochenaid, a phawb yn crynu rhag ofn clywed i breuddwyd hi. Un noson roedd hi wedi gweld ei chwaer hyna yn priodi, ar noson wedyn wedi gweld ei chwaer arall yn waed oi choryn iw sawdl, a chyn pen wthnos, roedd hi wedi gweld y llall nadroedd yn clymmu am dani. Wyddost ti be, cyn iddi fod acw dair wthnos, roedd hi wedin gwneyd ni reit ddigalon. Ond pan ddth hi i lawr ryw fore wedi ngweld innen grach i gyd, dechreuais gwyno wrth mam. Rhaid ir hen fenyw yna beidio breuddwydio am dana i, medda fi.
John.
Doedd gan y greadures ddim help bod hin breuddwydio.
Harri.
- Dyna ddwedodd hin ddigon pigog, pan gafodd hi hint gan mam, ond mi ddwedodd mam (x38) wrthi yn bur handi, Mae gynoch chi help bod chin dweyd nhw, a mi roddodd hynny dipyn o daw arni.
John.
- Fedra i ddweyd dim am hynna, ond maen rhaid i ti gofio fod son am freuddwydion yn y Beibl.
Harri.
- Oes, ond mi fydda in meddwl mai gweledigaethau yw breuddwydion y Bibl. Sylwa di mor daclus mae nhw, ond am dy freuddwydion, di a minne fydd pen na chynffon arnyn nhw. A pheth arall maer Beibl yn dweyd, Byddwch lawen yn wastadol, a sut medri di fod a rhyw skeleton o freuddwyd wrth dochr di ar hyd y dydd. Coelia fi mae nhw yn rhwystr i ti wneyd dy ore yn y byd yma.
John. - Mi fusen dda gen i allu gweld run fath a thi, ond maen rhaid i mi ddweyd pryd bynag y breuddwydia i am blentyn bach rydw in siwr o drwbl. A sut rwyt tin sponion bod nin medru cysgu ambell noson heb freuddwydio o gwbl?
Harri.
- Mi ddwedaf i ti. Rwyt tin mynd i dy wely ambell noson wedi bwyta gormod o swper. Canlyniad: breuddwyd. Rwyt tin mynd i dy wely noson arall wedi bwyta rhywbeth mheuthyn, canlyniad: ditto. Rwyt tin mynd (x39) i dy wely noson arall, heb fod yn iach iawn. Canlyniad: breuddwydion heb fod yn iach ar hyd y nos. Ac wrth son am Ar hyd y nos, ddoi di i dy^ Wmphra i fynd dros rai or hen alawon?
John.
- Or gore, oes gen ti gopi?
Harri.
- Oes, ddau.

(x40) OFERGOELION.
DADL i DDWY.
(Meri a Neli yn cyfarfod ar yr heol, Meri yn edrych i fyny pan ar gyrraedd Neli ac yn dweyd,)
Meri.
- Dwy fran ddu, lwc dda i mi.
Neli. Does bosib bod chin coelio rhyw lol fel na?
Meri.
- Ydw.
Neli.
- Pa lwc all dwy frn ddwad i chi?
Meri.
- Dwn i ddim. Ond mi fydd gweld un yn fraw i mi.
Neli.
- Drychwch, dacw ddwy wennol. All y rhai acw ddwad a lwc i chi?
(Meri yn edrych i fyny ac yna yn taro ei dwylaw yn sydyn ar ei hwyneb.)
Neli.
- Beth ydir mater?
Meri.
- Dim ond y deru i mi weld y lleuad newydd am y tro cynta trwy gwmwl.
Neli.
- Beth fuasain digwydd pe buasech wedi ei gweled?
Meri.
- Mi fuaswn yn anlwcus am y mis.
Neli.
- Ydych chin credu hynna mewn difri?
(x41) Meri. - Ydw siwr, achos mi gwelais hi drwy gwmwl mis dwetha, a mi gollais y mhwrs.
Neli.
Ond mi cawsoch e wedyn?
Meri.
- Do.
Neli.
Rwyn synnu atoch chi Meri fod mor ofergoelus.
Meri.
Dwy i ddim hanner mor ofergoelus a rhai pobol. Dyna i chi Katie, mi fydd yn rhaid iddi hi gael troi round unwaith neu ddwy, cyn edrych ar y lleuad newydd. A chymera Mrs. Huws ty^ nesa mor byd ai gweld hi drwyr ffenest.
Neli.
- Dier mi, maen syndod meddwl fod neb yn yr oes hon oleu yma mor ffol.
Meri.
- Y chi syn ffol, wnewch chi ddim credu ffortiwn cwpan t na dim.
Neli.
Na wnaf yn siwr. Pa reswm sydd mewn credu y gall deilen d ddweyd wrthych beth sydd i ddigwydd yn y dyfodol?
Meri.
- Mi wn i am bobol grefyddol iawn syn credu mewn ffortiwn cwpan t.
Neli.
- Rwyf yn methu gweld sut y gallent fod yn grefyddol, a mynd yn groes i un o orchmynion yr Ysgrythyr: Na ofelwch dros drannoeth.
Meri.
- Mae ffortiwn cwpan t weithiau, reit ddiniwed, pe i ddim ond cael tipyn o sport.

(x42) Neli. - Dyna ller ydych yn camgymeryd. Maen llawn perygl. Fel y gwelais sylw yn rhywle am y pechod o feddwdod, Rhaid lladd y neidr yn yr wy, felly gellir dweyd hefyd am y pechod yma.
Meri.
- Rydych yn cymeryd golwg rhy lym
arno.
Neli.
- Nac ydwyf, oblegid pechod arswydus ydyw fel y dadblyga. Fe ddwedir am y Ffrancod eu bod wedi ymroi i ymofyn g oraclau ac i arfer dewiniaeth. Does ryfedd eu bod yn dirywio ac yn darfod. Mae eilunaddoliaeth wedi lladd cenedloedd cryfach cyn hyn.
Meri.
- I, ond mae digon o wahaniaeth rhwng ffortiwn cwpan t a hynna, beth bynag, Neli.
Neli.
- Cymaint o wahaniaeth ag sydd rhwng y neidr yn yr wy, ar neidr yn ddwy lath o hyd. Wrth feithrin y naill yr ydych yn cynyrchu y llall. A pheth arall Meri, welais i rioed lewyrch ar y merched hynny sydd au bryd ar gael eu ffortiwn.
Meri.
- Na finne chwaith ran hynny, er na ddaru mi rioed edrych
arno fel pechod or blaen.
Neli.
- Y rheswm am hynny maen debyg ydyw, am na ddaru chi rioed feddwl uwch ben y mater, ac wrth feddwl oes genych chi rhywbeth i ddweyd i gyfreithloni ofergoeliaeth?
(x43) Meri. - Nac oes, ddim.
Neli.
- Or gore. Wnewch chi benderfynu dweyd yn erbyn oforgoelion bob cyfle gewch chi. Mi fydd mam yn dweyd fod i ni bobol y capel fod yn ddifater gyda phethau fel hyn yn rhoi lle ir gelyn gablu.
Meri.
- Maech mam yn bur agos iw lle bob amser. Ydi hin ty^? roedd arnaf eisieu ei gweld.
Neli. - Odi, dowch draw nawr gyda mi.

 

(x44) (10) SERCH

DADL I DDAU.
Bob.
- Lle rwyt tin troi Die?
Dic.
- Ddim ond am dro bach.
Bob.
- Mae gen ti dei smart iawn.
Dic.
- Tei priodas Rhys ynghefnder ydi hon.
Bob.
- Ydi Rhys wedi priodi?
Dic.
- Ydi, wyddet ti ddim?
Bob. - Na wyddwn i, pwy gafodd e?
Dic.
- Un o Sir Fffint ydi hi. Roedd hin hollol ddierth iddo flwyddyn yn ol.
Bob.
- Taw fachgen, gobeithio na fu o ddim yn rhy frysiog.
Dic.
Dwy i ddim yn meddwl, mae nhw yn edrych yn hapus iawn.
Bob.
- Dywed ti fynost ti, peth rhyfedd ydi y priodi yma. Meddwl di nawr am Rhys yn mentro ei rwymoi hunan am i oes a dynes gymharol ddierth. Fase ddim yn well ac yn fwy (x45) rhesymol, iddo briodi un or merched o gwmpas i gartre?
Dic.
- Tria gofio mai dewis gwraig roedd e ac nid howsgipar.
Bob.
- Oes eisieu bod yn afresymol wrth ddewis gwraig.
Dic.
- Ddim o gwbl.
Ond mi wyddost na wna rheswm i hunan mor tro wrth ddewis gwraig. Rhaid i serch gael rhan yn y gwaith, a rhan helaeth hefyd.
Bob.
- Serch ddywedaist ti? Odi bachgen call fel ti, rioed yn cario rhyw syniad hen ffasiwn fel na?
Dic.
- Hen ffasiwn. Mi fydd serch yn y byd hyd ddiwedd amser. Ond gyda llaw, beth ydi dy syniad di am serch?
Bob.
- Wel, rhywbeth gei di mewn nofelau. Rhywbeth yn bodoli mewn dychymyg yn unig.
Dic.
- Felly wir. Sut rwyt tin rhoi cyfri am wraig Rhys er enghraipht, yn gadael i theulu ac yn dewis mynd gyda Rhys ir Merica i dreulioi hoes.
Bob.
- Wedi codi arni am wr maen rhaid.
Dic.
- Dim or fath beth. Roedd hin cael faint fynir o gynygion.

(x46) Bob. - Wel, a chaniattau fod y fath beth a serch yn bod, un o fil o ferched syn cymryd i harwain ganddo. Mae nhwn rhoi llawer mwy o bris ar dy gyflog a dy safle di.
Dic.
- Falle fod ambell un fel yna, ond serch gariar dydd gydar mwyafrif.
Bob.
- Sut rwyt tin sbonio bechgyn a merched yn canlyn eu gilydd ac yn meddwl bod nhwn carun angerddol, yn ffraeo, wedyn, canlyn rhai eraill ac yn caru rheiny yr un mor angerddol?
Dic.
- Dwn i ddim os nad ydynt yn camgymeryd rhyw nwyd arall am serch.
Bob.
- Wel dynar nwyd syn mynd heddyw.
Dic.
- Os felly, pam na wnai di dy gynyg dy hun i Miss Lloyd y Wig?

Bob. - Be ydi dy feddwl di dwed? Fedrwn i ddim byw am awr gyda hi.
Dic.
- Pam?

Bob. - Does dim fyno i a hi.
Dic.
- Wyt tin meddwi fod merched yn wahanol, ac yn gallu caru rhyw un os bydd yr amgylchiadaun llewyrchus?
Bob.
- Maen nhw yn ddigon ffroenuchel wrthyf fi, beth bynag.

(x47) Dic. - Mi wn i am un syn dy leicio di.
Bob.
- Pwy yw hi?
Dic.
- Neli Watkins.
Bob.
- Sut gwyddost ti?
Dic.
- Mae hi wedi dweyd rhywbeth wrtho i syn dangos ffordd maer gwynt yn chwythu. Does dim ynddi hi chwaith, ond nac oes Bob?
Bob.
- Oes wir, mae hin anwyl iawn weldi.
Dic.
- Mae nhwn dweyd na chaiff hi run ddime ar ol i thadcu.
Bob.
- Twt, be ydi arian, cael y sawl rwyt tin leicio ydi y peth. Be ddwedodd hi am dana i, Dic?
Dic.
- Tyrd draw am dro, mi gei wybod.

 

DIWEDD


DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN

0043c
Yr iaith Gymraeg

0005k
Mynegai yn nhrefn y wyddor ir hyn a geir yn y gwefan

1051e
testunau Cymraeg throsiad Saesneg yn y gwefan hwn

 

Sumbolau arbennig: ŷŵ

 

Cywiriadau: x17? x18? 22? 23? 24? 32?

 

Diweddariad diwethaf 03 08 2002 :: 2004-02-05

Bler wyf i? Yr ych chin ymwld ag un o dudalennaur Gwefan CYMRU-CATALONIA
On sc? Esteu visitant una pgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Galles-Catalunya)
We(r) m ai? Yu a(r) vzting peij frm dh CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katluni) Wb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

(o ymwelwyr i Adran Cywaith Sin Prs - testunau Cymraeg arlein - ers 1 Medi 2005)
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadstiques / View My Stats