1342k Gwefan
Cymru-Catalonia / la Web de Gal·les i Catalunya - Wales-Catalonia Website.
Califfornia, 1851. “Gan fod cymaint o ymfudo i bob parth y dyddiau hyn, a
llawer yn myned i wlad yr aur, tybiasom na buasai yn annyddorol cael erthygl
helaeth am unwaith ar y daith ddyeithr trwy gyfandir America...”
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_039_califfornia_traethodydd_1851_1342k.htm
0001 Y Tudalen Blaen Google: kimkat0001
..........2657k Y Porth Cymraeg
Google: kimkat2657k
....................0009k Y Barthlen
Google: kimkat0009k
..............................0960k Y Gyfeirddalen
i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) Google: kimkat096k
..........................................y
tudalen hwn
|
|
Gwefan
Cymru-Catalonia |
|
...

(delw 6520)
________________________________
(delw 6521) (tudalen 343)
[What I saw in
[Yr hyn a
welais yn California, sef Dyddlyfr Taith, ar hyd Lwybr yr Ymfudwr a Bwlch
Deheuol y Mynyddoedd Creigiog, ar draws Cyfandir Gogledd America, Canol yr
Anialwch Mawr, a thrwy California, yn y blynyddau 1846, 1847. Gan EDWIN BRYANT, gynt Maer San Francisco]
Note of a Military Reconnoisance, from
[Nodau o Chwildaith Filwraidd, o Gaer Lavenworth, yn
Missouri, i San Diego, yn California, yn cynnwys rhan o’r Arkansas, Del Norte,
ac Afonydd Gila. Gan
Is-Gad. W. H. EMORY, Peiriannwr Darlunleol].
Y llyfrau hyn ydynt ddau waith a gyhoeddwyd yn
ddiweddar yn
________________________________

(delw 6522) (tudalen 344)
y lle hwn yn fangre preswylfod, lle y gallant fwynhau eu crefydd, er ei
gorphwylled, heb eu haflonyddu. Y mae llanerch eu dewisiad oddeutu dau gant a
deg ar hugain o filltiroeddo’r Bwlch Deheuol, ac mewn sefyllfa gyfleus – ar y
brif-ffordd o
“Fel y dywedais o’r blaen, yr oeddwn wedi disgyn oddiar fy mul, a chan ei droi
i mewn gyda’r caballada, oeddwn y cerdded amryw rydau o flaen y
cwmpeini, i’w harwain yn union at nôd ein cyrchfa. Ar oleddf (diagonally)
o’n blaen, ar y llaw ddeheu, a ninnau y cyfeirio i’r gorllewin, gwelem gysgodau
rhifedi o ddynion a cheffylau - tua phymtheg neu ugain. Yr oedd rhai o’r lluniau
yn ymddangos fel yn marchogaeth, ac eraill fel pe buasent yn cydgerdded fel
milwyr traed. Yr oedd eu gwynebau a phenau eu ceffylau wedi eu troi tuag atom,
ac ar y cyntaf ymddangosent fel pe buasent am redeg i lawr ar ein traws. Yr oedd eu pellder ymddangosiadol, a barnu yn ol y
terfyngylch, o dair i bum milltir. Ond nid oedd eu maint yn cyfateb i ni, canys
ymddangosent mor fawr â’n cyrff ni ein hunain, ac o ganlyniad yn gawri o
gorffolaeth. Ar yr olwg gyntaf, mi a dybiais mai cwmni bychan o Indiaid oeddynt
(yr Utahiaid, fe allai) yn cydgerdded o’r ochr arall i’r gwastadedd. Ond o’r
braidd yr ymddangosai hyn i mi yn bosibl, gan nad oedd yn debyg y cymerid y
llwybr hwnw gan helwyr na rhyfelwyr. Mi a elwais ar rai o’n pobl ni ag oedd
nesaf ataf i frysio ymlaen, gan fod pobl o’n blaen yn dyfod tuag atom. Yn fuan
iawn cynyddodd y pymtheg neu ugain i lun neu gysgod tri neu bedwar cant, ac yn
ymddangos eu bod yn cydgerdded tuag atom yn eithaf cyflym. Ar hyn mi a dybiais
y gallai mai Col. Fremont a’i gwmni oeddynt, gydag eraill, o California, yn
dychwelyd yn ol i’r Unol Daleithiau ar hyd y llwybr hwn, er yr ymddangosent i
ni yn rhy luosog i fod y rhai hyny. Mi a siaredais â Brown, yr hwn oedd agosaf
ataf, ac a ofynais a oedd efe wedi sylwi ar y lluniau dynion a cheffylau oedd
o’n blaen? Efe a atebodd ei fod, a’i fod ef wedi sylwi ar yr un fath
ymddangosiad lawer gwaith o’r blaen, ond iddynt ddiflanu, a’i fod ef yn credu
mai twyll y llygaid oeddynt, tebyg i’r twyll-olwg (mirage). Dyna y pryd,
am y tro cyntaf, gan mor berffaith oedd y twyll, y darfu i mi ddyfalu y gallai
mai lluniau ein cysgod ein hunain yn adlewyrchu gan yr awyr oeddynt, yr hon a
lenwid â mân ronynau grisialaidd. Arweiniodd hyn i wneyd sylwadau manylach ar y
rhyfeddod hwn, fel y gallem sicrhau y twyll os hyny ydoedd. Mi a sylwais ar un
llun yn ymddangos beth ymlaen ar y lleill, ac mi a synais wrth ei debygoliaeth
i mi fy hun. Yr oedd ei symudiad hefyd, mi a dybiaswn, yr un a’r eiddo fy hun. I
roi prawf o’r dybiaeth hon uwch law ammheuaeth, mi a droais yn sydyn o gwmpas,
ac ar yr un amser estynais fy mreichiau ar led ar eu llawn hyd, a chan droi fy
wyneb dros fy ysgwydd i weled symudiad y llun, gwelwn ei fod yn gwneyd yr un
fath symudiad yn gymhwys. Yna mi a gerddais yn araf, a chyda camrau hirion:
gwnaeth y llun yr un fath. I roddi prawf perffeithiach, mi a wneuthum yr un
modd drachefn, gyda’r un canlyniad. Yr oedd y peth erbyn hyn yn eithaf clir.
________________________________

(delw 6523) (tudalen 345)
Ond gwireddwyd ef yn fwy fyth, canys darfu i’r holl welediad o’r llu cysgodol
ym mhen awr, ddarfod ac ymadael o gwbl, ac nid oedd mwy o hono i’w weled. Cawsom
eglurhad boddhaol ar y rhyfeddod hwn. Y lluniau oedd ein cysgod ni ein hunain
yn llewyrchu ac yn adlewyrchu gan gyfansoddiad tebyg i ddrych, a gymysgir â’r
gwagle ffurfafenol, oddiar y gwastadedd tywodlyd. Nis gallaf well egluro y pwnc
hwn yn well.”
Wedi iddynt deithio ymlaen nes cyrhaeddasant afon Mair,
yr hon a eilw Fremont yn afon Humboldt, hwy a ddilynasant droadau ei glyn, lle
y cawsant wellt i’w hanifeiliaid, a digon o helyg a choed cotwm i wneyd tân. Daethant
yn nesaf i le a elwir Sink afon Mair, yna yr oedd ganddynt o’u blaen daith
arall i’w gwneyd, o bum milltir a deugain, heb ddwfr na glaswellt, nes eu dyfod
i ddyfroedd y Fruakee, neu afon y Salmon-frithyll, sy’n ymarllwys i lyn
Pyramid. Y mae y ffrwd hon yn cyfodi yn y Sierra (mynyddoedd) Nevada, gerllaw
bwlch yr ymfudwyr, yr hwn a adwaenir wrth yr enw, Bwlch y Salmon-frithyll, yn
yr hwn le mae y teithiwr yn dyfiod allan o basin y diffeithwch mawr. Nid
oes yn un màn ar y cyfandir olygfa ddaeryddol mor hynod ag yw basin mawr
canolbarth California. Y mae yn cael ei derfynu i’r dwyrain gan gadwen fawr y
Mynyddoedd Creigiog: i’r gorllewin gan y Sierra Nevada; ac i’r gogledd ac i’r
deheu gan drumau y rhedeg yn groes i’r ddwy gadwen fawr hyn. Y mae felly fel pe
byddai wedi ei gauad oddiwrth y rhan arall o’r byd, fâ chanddo ei fynyddoedd,
ei lynoedd, a’i afonydd ei hun - afonydd nad ydynt yn ymarllwys i’r Werydd na’r
Tawel-fôr. Ei ffrwd fwyaf yw afon yr Arth, yr hon, wedi cymeryd cylchdro o ddau
can’ milltir, sy’n ymarllwys ei dyfroedd i’r Llyn Halen Mawr, ar y cwr
dwyreiniol i’r llyn hwnw. Heblaw hon, y mae llawer eraill, y rhai sydd, bob un
o honynt, yn ymdywallt i’r un llyn, neu yn colli yn nhywod y diffeithwch. Y mae
y tir gan mwyaf yn llwm, oddieithr ar hyd ymylau yr afonydd, ac ochrau y
mynyddoedd. Y mae yr ysmotiau ffrwythlawn hyn yn gwneyd math o Eden hyfryd yn
nghanol y “diffeithwch gwag erchyll,” lle y gall anifeiliaid yr ymfudwr
blinderus gael gwellt a dwfr i’w cynnal ar eu taith ddychrynllyd. Y mae cylch y
difeithwch hwn agos i bum can’ milltir: er fod yn rhaid dyweyd na wyddom ni
ddim am ran fawr o hono. Y mae yn codi o bedair i bum mil o droedfeddi yn uwch
na gwastad y môr. Gellid casglu oddiwrth hyn fod yr hinsawdd yn annyoddefol
oer; ond nid felly y mae, er y gwelodd Mr. Bryant rew yn mis Gorphenaf, ond yr
oedd yn beth anghyffredin; canys dywed Fremont nad oedd ardymheredd yr hinsawdd
am bythefnos yn Hydref ond 40º ar godiad haul, 70º y prydnawn, a 50º ar
fachludiad haul, ardymheredd cwbl mor dyner ag yw 40º yn ogleddol; neu ar lànau
y Werydd. Y mae y wlad fawr hon yn cael ei thrigianu yn deneu iawn gan ychydig
lwythau o Indiaid truenus, y rhai sydd yn ymddibynu am gynnaliaeth ar
wreiddiau, llysiau, pysg, ac ysgyfarnogod, pa rai sy’n cael lloches yn yr artemisia
pygddu - yr unig lwyn sy’n tyfu yn y diffeithwch. Ychydig o adar sydd i’w
cael yma, heblaw math o soflieir bychain, nac o filod, heblaw yr antelope llwfr,
yr hwn sydd yma yn cael digon o olygfa i weled dynesiad ei elynion. Gall fod y
felldith o anffrwythlondeb â pha un yr ymwelodd natur, os goddefir y fath
ymadrodd, â’r lle hwn, wedi cael ei had-dalu yn nghyfoethogrwydd ei thrysorau
mwnawl; ond nid yw yr ymchwil a wnaed eto wedi taflu nemawr oleu ar y pwnc hwn
________________________________

(delw 6524) (tudalen 346)
Y mae i fwlch Sierra Neyada fwy o godiad na bwlch y Mynyddoedd Creigiog; yn wir
y mae holl drum y blaenaf yn fwy cribog na’r olaf. Wedi disgyn llethr y Sierra,
nid oes dim neillduol ar y ffordd, nac anhawsder o ddim pwys i ddyfod
drwyddynt. Y pellder o Lyn y Mynydd sydd yn darddle y Salmon-frithyll, neu afon
Truckee, ar y tu gorllewin i’r Sierra Nevada, neu Gaer Sutter, ar gainc
Americanaidd y Sacramento, yw cant a chwech a deugain o filltiroedd, ac oddiyno
i dref San Francisco y mae dau gan milltir. Yr holl bellder, yn ol Bryant, o
Independence i San Francisco, yw dwy fil dau cant a deng milltir a phedwar
ugain (2290); a chymerwyd i’w deithio, y dyddiau oeddynt o’r 5ed o Fai i’r 1af
o Fedi. Fel y dywedwyd o’r blaen, teithiwyd yn agos i saith can’ milltir gydag
ychain, a’r gweddill gyda mulod. Tybiaeth ofer yw y gellir gwneyd y daith gyda
mulod mewn tri mis, tra y cymer bump i’w gwneyd gydag ychain. Cafodd ein
teithwyr, pan ddaethant i Gaer Sutter, eu gwledda â chig eidion newydd ei ladd,
melons, wynwyn, a tomatoes; seigiau dyeithr iddynt er’s llawer o
amser, ac am yr hyn ni chymerasai eu croesawydd haelionus ddim ad-daliad. Bu y
daith yn llwyddiannus, ac y mae ein hawdur yn lloni ei hun ar ei therfyniad
ffodus fel hyn:-
”Gyda diolchgarwch geirwir a defosionol y gorweddais ar fy ngwely caled, i
gysgu unwaith eto o fewn terfynaau gwareiddiad. Ni chyfarfyddod neb o honom â
dim damwain na thrallod anghysurus er pan adawsom ein cartrefleoedd. Gyda
rhifedi bychan o naw dyn yn unig, ni a deithiasom o Gaer (Fort) Laramie
i Gaer Sutter, pellder o agos i ddau cant ar bymtheg (1700) o fillitroedd, dros
ddiffeithwch dilwybr a diffrwyth, a mynyddoedd oedd brin yn anhygyrch; trwy
lwythau o Indiaid anwaraidd, gan fyned, o anghenrehidrwydd, trwy lawer o
anhawsderau, a dyoddef caledi a phrinder mawr; a dyma lle yr ydym oll mewn
iechyd da, heb golli dim o newmar werth a berthynai i ni, oodieithr un anifel,
yr hwn a fethodd gan flinder, ac a adäwyd ar y ffordd. Ni fu dim ymrafael
rhyngom ni a’r Indiaid, i’n gorfodi i gymeryd ymaith fywyd mewn
hunan-amddiffyniad anghenrheidiol; ond yn y gwrthwyneb, pa bryd bynnag y
cyfarfuem â hwynt ar ein taith, trwy ein hymddygiad tuag atynt, enillwyd eu
caredigrwydd heddychol, neu tynerwyd a dïarfogwyd eu gelyniaeth, heb daraw
unwaith. Yr oeddem yn gofalu yn wastad am barchu eu teimladau a’u hawhau, a
hwythau a’n parchent ninnau. Anfynych y ceid achos i gofnodi canlyniadau mor
fafriol dan y fath amgylchiadau ag yr oeddym ni yn teithio.”
Darfu i lawer o ymfudwyr y flwyddyn hono fyned ffordd
wahanol i’r llwybr arferol, a hwy a gollwyd yn y diffeithwch, neu a
ymddyrysasant yn y mynyddoedd, gan ddyoddef caledi ag y mae adrodd am dano yn
ddigon i wneyd dyn yn glaf. Ond nid yw ein bwriad i adrodd llawer o’r hanesion
gofidus hyn - ni a awn heibio rhag bod yn rhy faith.
Tiroedd Calfornia, y rhai sydd ar dueddau y môr - y rhan hyny ag sydd rhwng
Sierra Nevada a’r Môr Tawelog, yw yr unig barth ag sydd yn awr o fawr werth. Y
mae y diriogaeth hon yn cyrhaedd yn llinell o 42º ogleddol i ben Llynclyn (gulf)
California, neu Fôr Cortes, pellder o agos i saith gaut (700) o filltiroedd, a
rhwng cant a dau gant o filltiroedd o led, yn gwneyd gwlad o fwy na chan’ mil
(100,000) o filltiroedd ysgwar. Y mae dwy afon fawr fordwyol yn llifeirio trwy
y diriogaeth hon - y Sacramento o’r gogledd, a San Joaquin o’r deheu. Y mae y
ddwy afon hyn yn cyfarfod, ac yn ymarllwys i fôrgilfach San Francisco. Y mae y
dyffryn, trwy yr hwn y maent yn llifeirio, yn ffrwythlawn, ac yn cael ei
ddyfrhau yn dda, ac yn alluog i gynnal poblogaeth fawr. Y mae yn llawn o
________________________________

(delw 6525) (tudalen 347)
helwriaeth, megys eirth, hyddod, ceirw, a miliynau anifeiriol o adar dwfr. Y
mae glaswellt a cheirch gwyllt yn tyfu yn helaeth, yr hyn sy’n rhoi eithaf
digon o gynnaliaeth i yroedd mawrion o wartheg a cheffylau; y rhai
cyntaf-gwartheg - yw yr hyn sydd eto yn cyfansoddi cyfoeth y wlad. Y mae yr
hinsawdd yn nodedig o ddymunol - llawn cystal a’r Eidal yr ymfrostir cymaint am
ei hiachusrwydd. Gellir cynnyrchu ffrwythau y gwledydd poethion, ffigys, oranges,
lemons, ac olewydd, yn llwyddiannus; yr olewydd yn arbenigol, gan y
mynegir am danynt eu bod yn agorach na’r rhai ar dueddau Môr y Canoldir. Y mae
y parthau gogleddol yn hynod o gyfaddas i dyfiant ŷd, gan ei fod yn
cynnyrchu mwy o’r erw na’r parthau ar y Werydd o’r cyfandir bwnw. Bu y wlad hon
am agos i gan’ mlynedd yn meddiant yr Yspaeniaid Americaidd, gan mai y
Jesuitiaid a gymerodd afael arni gyntaf, y rhai a sefydlasant genadiaethau o
San Diego i i San Francisco. Darfu i’r offeiriaid cyfrwys ac anturiaethus hyny
roddi eu dylanwad ar yr Indiaid brodorol, a’u defnyddio i drin y tir, neu i
ofalu am y lluoedd gwartheg, crwyn a gwêr y rhai oedd eu prif fasnach, a’r
llongau a ymwelai yn achlysurol â’r porthladdoedd hyny. Yr oedd holl gorff y
wlad, o’r naill genadiaeth i’r llall, yn cael ei hawl-hòni gan y tadau, y rhai
a yrent ymaith bob anturiaethwyr eraill. Pan wrthryfelodd Mecsico yn erbyn
Ysbaen, syrthiodd y Jesuitiaid dan anfoddlonrwydd y llywodraeth wancus, yr hon
oedd yn awyddus am gael rhyw esgus dros drawsfeddiannu y tiroedd breision, a’rr
diadelloedd afrifed oedd yn perthyn i’r cenadiaethau. Y mae y sefydliadau hyn,
a fuont unwaith or ardderchog, yn awr yn falurion, gan fod y brodorion
Californiaidd yn rhy ddioglyd i weithio eu hunain, ac yn rhy analluog i gynnal
y dylanwad a arferai y padres neu y tadau hyny ar y cyndrigolion. Llawer
o anturiaethwyr gwrol – yn cael eu denu gan hinsawdd dymherus, a thir
ffrwythlawn y wlad, a ymsefydlasant o bryd i bryd yn Nghalifornia, gan gymeryd
gafael yn y fantais na welid neu a ddiystyrid gan y brodorion. Casglasant
gyfoeth mawr trwy agor planigfeydd, a magu gwartheg a cheffylau. Trwy eu
cyfrwysdra a’u gwroldeb amyneddgar, yn yr hyn yr oeddynt yn tra rhagori ar
drigolion anwybodus ac oriog y wlad, darfu iddynt gadw gafael yn eu meddiannau
trwy yr holl gythrwfl a’r chwyldroadau ag oedd yn cyson gynhyrfu y llywodraeth
Fecsicoaidd. Nid oes dadl na buasai California yn mhen ychydig o flyneddau -
heb ymyriad yr Unol Daleithiau – wedi peidio a bod yn rhad o weriniaeth
Mecsico.
Ond nid cyfleusderau amaethyddol California yw yr hyn sydd yn rhoddi gwerth
mawr arni. Y peth a fu yn ymchwil mawr, er pan ddarganfüwyd y byd gorllewinol,
yw cael llwybr byrach i Asia na’r fordaith hir dymhestlog heibio i Benrhyn
Gobaith Da. Wrth chwilio am y fynedfa hon, olrheiniodd mordeithwyr y moroedd
rhewog yn ofer, a rhoddwyd yr ymgais i fyny fel peth bron anobeithiol. Yn awr,
ymddengys fod yr eisieu mawr hwn yn cael ei wneyd i fyny gan weriniaeth yr Unol
Daleithiau. Y mae yn dra thebygol y bydd i ffordd haiarn, rywbryd, ac nid
rywbryd pell chwaith, wneyd cyfandir America yn brif-ffordd masnach rhwng Asia
ac Ewrop. Hyd yn hyn nid oedd yr un lle ar gyffiniau y Môr Tawelog yn briodol i
fod yn derfyniad y ffordd. Yr oedd Oregon yn ormod i’r gogledd, ac heb
longborth cyfleus a diogel. Yn awr y mae gan America feddiant mewn hydred
briodol, ll y mae un o’r angorfdäau ardderchocaf yn y byd.
Wedi ein harwain fel hyn, ni byddai o bosibl yn anmhriodol gynnyg
________________________________

(delw 6526) (tudalen 348)
rhai sylwadau ar gyfleusderau masnachol y parth hwn. Y mae gan longborth
Cymerodd Isgadben Emory lwybr arall i California, gahanol i’r un a gymerodd Mr.
Bryant. O Gaer Lavenworth, yn nghymydogaeth Independence, efe a ddilynodd lwybr
arferol masnachwyr Santa Fé, yr hwn sydd fwy i’r deheu na’r Bwlch Deheuol, er
nad yw yn gwahaniaethu llawer oddiwrtho wrth edrych ar wyneb y wlad. Wedi
gadael hen ddinas enwog Santa Fé, aeth y cwmpeini i lawr ar hyd y Rio Bravo del
Nord am tua dau cant o filltiroedd, ac yna ar draws y grib sy’n gwahanu
rhyngddi a’r Gila, yr hon sy’n ymarllwys i’r Colarado, yr hon wed’yn sy’n
ymarllwys i lynclyn California. Ar ben uchaf afonydd Rio Bravo a’r Gila, y mae
y mynyddoedd sy’n gwynebu taleithiau Meesico Newydd, Chihuahua, a Sonora. Y
mynyddoedd hyn yw cartrefydd y Navajas a’r Apaches, y rhai sy’n crwydro i lawr
i’r dyffrynoedd ar gwastadedd islaw fel rhuthriadau dinystriol, gan ddwyn
ymaith yroedd, diadelloedd, menywod a phlant y Mecsicoiaid dychrynedig. Y mae y
barbariaid creulawn hyn wedi bod er’s oesoedd yn cario eu difrod, heb gais i’w
hattal. Ond yn awr y mae eu dydd hwythau a’r ddyfod, a chânt dalu yn ddrud am
ddysgu, trwy brofiad gofidus, fod y Seison a’r Americaniaid yn bobl wahanol
iawn i’r llwfriaid y buont hwy yn eu hyspeilio cyhyd. Y mae y llwythau hyn, yn
enwedig y Navajas, yn gwahaniaethu mewn llawer o bethau oddiwrth yr Indiaid
sy’n preswylio y gwastadoedd ymhellach i’r gogledd a’r dwyrain. Adnabyddir
hwynt wrth yr enw Montezuma; ac y maent yn elynol iawn i’r Ysbaeniaid er
buddygoliaeth y Cortes. Y mae yn anhawdd iawn penderfynu hiliogaeth pwy ydynt
hwy; ond y maent yn fwy gwaraidd na’r llwythau cymydogaethol, er eu bod yn
hynod o ryfelgar.
Y mae y tiriogaethau sy’n cael eu dyfrhau gan y Gila, hyd yn hyn i raddau mawr
yn anadnabyddus. Nid oes genym ond y darluniadau anghywir a’r mynegiadau ansicr
a roir gan fasnachwyr anturiaethus, y rhai a feddant yr hyfdra a’r gwroldeb o
wthio eu ffordd trwy wlad beryglus y Navajas, er mwyn yr afanc sydd yn trigfanu
eu dyfroedd, neu y trysorau mwnawl
________________________________

(delw 6527) (tudalen 349)
a ddywedir fod yn eu mynyddoedd a’u ffrydiau. Taenwyd llawer chwedl ddigrif, o
bryd i bryd, am y wlad sy’n cael ei dyfrhau gan yr afonig hon. Dywedir ei bod
yn cael ei phreswylio gan bobl mor wareiddiedig a’r rhai sy’n preswylio dyffryn
rhagorol Tenochtitlan. Dywedid bod gro ei ffrydiau yn llawn o aur. Y mae Isgad.
Emory yn rhoi darluniad o furddynod a welodd ar y llwybr hwn, y rhai, fe allai,
oeddynt waith pobl ragorach mewn gwybodaeth na meddiannwyr bresennol y wlad. Y
mae yn bresennol ddau lwyth o Indiaid yn preswylio y parthau sy’n cael eu
dyfrhau gan y Gila, na wyddir ond ychydig am danynt gan bobl w`ynion, y rhai
ydynt bobl tra chyfeillgar a gwybodus. Gelwir hwynt y Pimas a’r Coco Maricopas.
Y maent yn byw ar amaethyddiaeth, gan nad oes ganddynt duedd at ryfela; nid
oblegid diffyg dewrder a dyais anghenrheidiol, canys y maent yn hyny yn fwy na
chyfartal i’r Apaches, y rhai weithiau a grwydrant i’w gwlad i ddwyn ymaith eu
gwartheg, eu ceffylau, a’u mulod. Y maent mewn enw yn ddarostyngedig i
awdurdodau Mecsico, ond mewn effaith y maent yn annibynol. Yn eu gwlad hwy y
mae y murddynod a enwyd o’r blaen, am adeiladaeth y rhai nid oes genym ddim
hanes boddhaol i’w roddi. Gall y teithydd ymddifyru â phob math o
debygoliaethau a thraddodiadau tywyll; ond nis gall hysbysiad roi dim
dadguddiad ar ddirgelwch sydd wedi amdöi hanes y genedl a fu gynt yn preswylio
y dyffryn amgauedig a hynod hwn. Ychydig a rydd y murddynod hyn o foddlonrwydd
i’r teithydd beth oedd gradd cyflwr gwareiddiedig y bobl a’u trigianent. Carneddi
o falurion priddlestri - gweddillion cyflwr cyntaf gwareiddiad cenedl yw - yr
unig olion a geir yn awr yn y murddynod hyn.
Dywedid gynt fod y ffrydiau sy’n ymarllwys i’r Gila yn gyfoethog o aur, a bod
digonedd o bres ac arian yn y mynyddoedd cymydogaethol. Y mae Isgad. Emory yn
rhoddi cryn goel ar y mynegiadau hyn. Gwelodd ef esiamplau o’r ddau fan hyny, a
chafodd hysbysiad awdurdodedig fod aur yng ngrô y Prierte – ffrwd sy’n
ymarllwys i’r Gila.
Y mae cyfaddasrwydd amaethyddol y parth hwn yn wael iawn. Y mae y tir yn llwm a
noeth, yr hwn na rydd ddim tâl i’r llafurwr. Ychydig iawn yw y llysiau, dim ond
acaciaa mezquite, y rhan fwyaf yn gymysgedig âg amrywiaeth
diddiwedd o’r cactus, yr hwn sydd fel pe byddai yn ei elfen, ac yn
cyrhaedd perffeithrwydd yma. Nid oes dim helyddiaeth yma, oddieithr ychydig o soflieier
a geifr y mynydd: mewn gair, oddieithr y bydd i’r hybysiadau am gyfoeth mwnawl
y wlad droi allan yn dda, trwy ymchwiliad manylach eto, y mae tebygoliaeth y
bydd i’r Navajas, Apaches, Pimas, a’r Coco Maricopos, gael eu gadael byth mewn
meddiant dirwystr o’r parthau hyn. Eglurir hyn yn well gan y dyfyniad canlynol
o fynegiad Isgad. Emory, ac a rydd beth goleuni hefyd ar yr hyn sy’n hynod o
ddyddorol i’r Americaniaid, os nad rhyw rai eraill yn gystadl a hwythau, er nad
yn yr un ystyr:- “Y mae y wlad, o Arkansas i’r pwynt hwn - cydorfiliad (sic,
= cydorlifiad) y Colorado a’r Gila – yn ei chyfaddasiad i amaethyddiaith,
yn meddu neillduolion a ddirwasgant eu hunain byth ar y boblogaeth a’i
preswylia. Y mae holl Ogledd Mecsico, Chihuahua, Sonora, a’r ddwy California,
mor bell i’r gogledd a’r Sacramento, can belled ag y ceir yr hysbysiadau goraf,
yr un fath yn natur gwyneb ei thir, ac yn gwahaniaethu ond ychydig yn ei
hinsawdd a’i chynnyrch. [Nid yw hyn yn gywir o berthynas i California, yn ol
Mr. Bryant a ‘Fremont’s Geographical Memoir.’] Ni ellir ymddibynu am
wlaw, mewn nemawr gyflawnder, mewn unrhyw ran o’r
________________________________

(delw 6528) (tudalen 350)
tir mawr hwn, er cynnyrch y ddaear. Y mae y wlad yn ddigoed, ac mewn rhan fawr,
o bob math o lysiau hefyd.
Y mae ychydig o ffrydiau bychain yn llifeirio i wahanol gyfeiriad oddiwrth y
mynyddoedd mawrion sy’n drumau ar draws y wlad hon mewn llawer o fanau. Y mae y
ffrydiau hyn yn cael eu gwahanu, weithiau gan wastadedd, ac weithiau gan
fynyddoedd, heb ddwfr ac heb dyfiant; a gellir eu galw yn ddiffeithleoedd o ran
dim sydd sydd ynddynt i gynnal bywyd anifeilaidd. Gan hyny y mae triniad y
ddaear yn gyfyngedig i’r lleiniau culion o dir ag sydd yn gydwastad â dyfroedd
y ffrydiau; a pha le bynag y mae yn cael ei arfer i nemawr helaethder
llwyddianus gan gymygogaeth, y mae ar draul ymddarostyngiad hollol ac ufudd-dod
i benaeth, a hyny yn groes i arferion pobl eraill. Rhaid ufuddhau i’r penaeth a
fyddo yn trefnu o berthynas i’r amser a maint y dyfrhâd gwerthfawr gan yr holl
gymydogaeth. Gallai ymadawaid oddiwrth y rheolau hyn, trwy wastraffu y dwfr,
neu fod yn rhy hael arno, nes esgeuluso cadw y dyfrglawdd, beryglu moddion
cynnaliaeth llawer o bobl. Rhaid iddo, gan hyny, fod wedi ei arfogi â gallu i
gosbi yn rhwydd ac ebrwydd.
Y mae elw llafur yn rhy annigonol caethwasanaeth Negroaidd. Nid yw
caethwasanaeth, fel y mae yn cael ei arfer gan y Mecsicoiaid - dan y ffurf o peonage, yr hyn sydd yn galluogi eu meistr
i gael gwasanaeth rhai mewn oed yn mhrif dymor eu bywyd, heb fod o dan yr
anghenrheidrwydd o’u magu mewn babandod, eu cynnal mewn henaint, na chynnal eu
teuluoedd - yn rhoi dim prawfiadau er cyfrif elw caethwasanaeth fel y mae yn
bodoli yn yr Unol Daleithiau.
Nid oes neb a ymwelodd â’r wlad hon, ac sydd yn adnabyddus â chymeriad a gwerth
llafur caethwasaidd yn yr Unol Daleithiau, a feddyliai fyth am ddwyn ei
gaethion ei hun yma gyda golwg ar wneyd elw o honynt; llai o lawer y prynai ei
gaethion i’r fath bwrpas. Ni wnai ei lafur yma, pe gellid eu cynnal fel
caethion, ymhlith pyons agos o’r un
lliw a hwynt eu hunain, fyth dalu y draul o’u halltudiad, a llai o lawer arian
eu pryniad.”
Y mae yr adroddiad yna, o eiddo Isgad. Emory, yn dysgu i ni, mai pa faint bynag
a ennill yr Unol Daleithiau o diriogaethau ati ei hun o’r parthau yna, na bydd
yn nemawr neu ddim chwanegiad i gryfder taleithiau y gaethwasanaeth. Y mae
hefyd yn rhoddi hysbysiad am barthau ag yr oedd y gwybodaeth am danynt yn dra
anmherffaith; ond y mae wedi ei ysgrifenu yn lled anofalus, ac yn ddiffygiol
o’r manylrwydd hyny ag a fuasai yn ddymunol mewn llawer o amgylchiadau. Ond
rhaid cyfaddef, mai ar hynt filwraidd y gwnaed yr holl sylwadau, yr hyn oedd yn
gwneyd y cyfleusdra yn brin i chwilio a threiddio i fanylwch.
Yr oedd bodolaeth aur yn y Sacramento a’i ffrydiau n anadnabyddus pan ymwelodd
Mr. Bryant ar Isgad. Emory â’r lle, er y dywedir i ni gan Mr. Bryant iddo
oddiweddyd hen gloddiwr mynyddig, yr hwn a dystiodd y gwyddai ef am leoedd
mwnau yr aur ar arian byw, a mynydd o sulphur
pur. Y mae darganfyddiad diweddar y mŵn aur wedi newid agwedd ar
amgylchiadau California yn hollol. Y mae tuedd yr ymfudiad ag oedd o’r blaen yn
edrych tuag Oregon o’r Unol Daleithiau, yn awr yn llifeirio o bob lle i
California; a chan fod cymaint o son am, ac o fyned yno, y mae yn ddymunol
rhoddi cymaint o hysbysiad ag a fyddo yn bosibl am dano. Y mae yn anhawdd
gwneyd hyn hefyd heb, ar y naill law, gael ein twyllo gan fynegiadau rhy
ffafriol, neu, ar y llaw arall, anghredu gormod, a thaflu heibio fynegiadau
gwerthfawr, o dan y dybiaeth eu bod yn dywedyd gormod.
Darganfyddwyd yr aur gyntaf yn y flwyddyn l848. Gwnaed y darganfyddiad yn
ddamweiniol, wrth gloddio lle i ffrwd melin; a chadwyd ef am beth amser yn
ddirgelwch, ond er hyny, allan yr aeth y son yn anwrthwynebol. Y mae yr
hysbysiadau diweddaraf yn dyweyd fod y mŵn gwerthfawr
________________________________

(delw 6529) (tudalen 351)
yn yr holl ffrydiau sy’n ymarllwys i’r Sacramento a San Joaquin. Y mae
tiriogaeth yr aur yn cyrhaedd 37½ º i 40º gogleddol; ac o Sierra Nevada i’r
môr. Y brif gloddfa sydd ar Afon y Bluen, a’r Rio de las Americanas, ffrydiau
sy’n llifeirio i’r Sacramento o’r dwyrain. Yr oedd Col. Mason yn cyfrif y
cloddwyr, yn Awst, 1848, yn bedair mil, rhwng Indiaid a Chalifforniaid, a
chynnyrch eu llafur o ddeugain i hanner cant o ddolars bob dydd. Er y pryd hyny y mae miloedd wedi cyrchu yno o’r
Unol Daleithiau, Mecsico, Deheudir America, o China hefyd. Y mae miloedd lawer
o bunnau wedi dyfod i’r Unol Daleithiau eisoes, ac ymddengys nad oes brinder
eto. Y mae darganfyddiad y trysorau hyn wedi chwyldroi yn hollol fasnach a
threfn y wlad hòno. Yr oedd y milwyr yn gadael eu barracks, morwyr yn dianc oddiar eu llongau, ysgrifenwyr,
marsiandwyr, crefftwyr, boneddigion, gweision, &c. - pawb yn cymeryd eu
traed tua glanau y Pactolus hon: neb yn peidio myned a allent fyned. Yr oedd yr
offerynau a arferid i gloddio am aur yn gyffredin ac anhylaw iawn; ac mae yn
debyg nad oeddid yn casglu hanner y mŵn o’r tir, o eisieu offerynau cyfaddas.
Y caffael, at ei gilydd, a gyfrifid o wns i ddwy y dydd i bob dyn.
Yr oedd cymaint cyfoeth mor ddisyfyd yn hollol bendroni y rhan fwyaf o’r
anturiaethwyr, ac yn egluro yn gryf iawn wirionedd yr hen ddiareb gartrefol
hòno, “Y ffwl a’i arian a ymadawant â’u gilydd yn fuan.” Yr Indiad, yr hwn oedd
o’r blaen yn noeth, a welid yn chwyfio y moethwisgoedd iddo ef o gotwm
lliwiedig dysglaer, neu arwisg o ysgarlad, tra y byddai y rhan fawr eraill yn
gwastraffu eu hennill mewn yfed neu gampchwareuon. Yr oedd y cwbl yn myned
ymlaen am beth amser yn esmwyth ddigon. Pan oedd digon o le i bawb, a neb wedi
pentyru rhyw swm mawr o drysor, ychydig oedd y demtasiwm i anonestrwydd neu
drais; ond nis gallasai y sefyllfa hon ar bethau barhau yn hir. Llawer, wedi bod
yn aflwyddiannus eu hunain, a ddechreuasant genfigenu wrth ffawd dda eu
cymydogion; ac yr oedd sefyllfa ansefydlog y wlad, ynghyd â braidd yr
anmhosiblrwydd o gael cyfiawnder cyfreithiol, yn rhoi temtasiwn i rai o
dueddiad drygionus i bob drygau anonest. Yr oedd fod y boblogaeth mor gymysg yn
tueddu yn fawr i greu anghydfod; a’r canlyniad ydoedd, fod lladrad a
llofruddiaeth wedi myned yn bethau mor gyffredin fel nad oeddynt yn creu dim
syndod. Ymddengys mai dyna duedd naturiol pethau yn y cloddfäau aur. Ar ddyfodiad
y gauaf, y mae y rhan fwyaf o’r mŵnwyr yn gadael y lle os gallant, y rhai
a fuont ddiwyd a doeth i werthu eu hennill yn y modd goreu, ac eraill i’w daflu
ymaith mewn afradlonedd a champchwareuaeth. Nid oes dim ammheuaeth na fu
golygfeydd mor erchyll yn San Francisco y gauafau diweddaf, ag a welwyd erioed
gan yr Yspaeniaid pan ddarganfuwyd America gyntaf.
Ni byddai yn anmhriodol yma, i ni gynnyg rhoddi awgrymiadau ar hanes naturiol y
mŵn hwn, a’r anhawsder o’i gael. Mewn dau fath o le y ceir yr aur bob
amser, naill ai mewn ffurf o wythïenau, fel metteloedd eraill, neu mewn
tomenydd gro a gwelyau afonydd. Y creigiau yn mha rai eu ceir a elwir y primary a’r volcanic formations; y mettel eu hun yn gyffredin yn ymlyng wrth quartz; y gwythïenau yn gyffredin yn
hynod fychain ac afreolaidd. Hawdd deall fod y mŵn, o leoedd fel hyn, yn
llai o werth, a bod y gwaith gydag ef i’w gael yn llai ennillfawr. Y mae y
creigiau gwreiddiol a llosgfaol yn galed anghyffredin; ac i wahanu yr aur
oddiwrth y gareg, y mae rhaid pylori y graig yn mha un y byddo yr aur. Pan
ystyriom mai
________________________________

(delw 6530) (tudalen 352)
y nesaf peth mewn caledwch i’r adamant yw callestr, y mae yn hawdd dyfalu fod y
draul yn fynych yn fwy na r elw. Drachefn, “ Nid aur yw pob peth dysglaer.” Un
o’r mwnau mwyaf cyffredin a geir lle y byddoi aur yw sulphurate of iron, neu iron
pyrites. Y mae y mŵn hwn, yn ei ymddangosiad allanol, mor debyg i’r
mettel gwerthfawr fel y gall y mwyaf cyfarwydd gamgymeryd. Y mae pob dyn
celfyddydol yn agored i gael galw arno gan ddynion anwybodus yn ei gymydogaeth
i ddosranu y siampl y byddont hwy yn hyderus a raid fod yn aur o’r fath buraf; ac ni foddlonir mohonynt eu bod yn camgymeryd
nes gweled y mŵn gwerthfawr yn eu golwg yn diflanu yn y tawddlestr, neu dan
y chwithbib, gan adael dim ond tewion llwyd o rŵd haiarn, ac yn arogli yn
gryf fel brwmstan. Y mae amgylchiad fel yna mor gyffredin fel y cafodd y mŵn
hwn yr enwad mwy priodol na chyfrifol o “aur ffyliaid”.
O berthynas i wreiddiolaeth aur yn ngro afonydd, neu mewn tomenydd tywod, y mae
hawer o ddadleu. Taera rhai mai pydriad creigiau ag oedd yn cynnwys aur ydyw,
trwy gydweithrediad awyr a gwlybaniaeth; - yr aur yn dyfod i lawr gyda’r gro ar
lifeiriant o’r mynyddoedd, ond yn ei adael yn ngwaelod yr afonydd. Y mae hyny
yn dra thebygol, ond y mae dadl yn ei erbyn. Y mae y cyfryw yn gyfyngol i ryw
leoedd neillduol, yr hyn y gellid tybio na allasai fod pe buasai y mettel yn
dyfod i lawr gyda’r llifogydd. Ar y dyb yna, pa nesaf i lygad y ffynnon yr
elid, mwyaf yn y byd a geid o’r aur. Ond y mae prawfiadau wedi eu cael mae nid dyma fel y mae yn gyffredin.
Gellir cael aur ar hyd gwely afon, o fewn rhyw derfynau penodol, tra yn
ddisymwth, ychydig yn uwch i fyny, neu yn is i lawr, na cheid dim. Y mae y
Mecsicoiaid yn galw y leoedd hyn yn placers,
gair yn tarddu yn wreiddiol, tybiem, o’r Lladin placeo; a dyma y lleoedd y gellir tirio am aur i fantais. Ond y mae
anhawsderau i’w cyfarfod hyd yn nod yn y lleoedd hyn. Y mae llawer o
siomedigaethau tebyg i’r hyn a ddarluniwyd uchod, ac y mae y gwaith o olchi aur
yn flinwaith i’r eithaf; yn llafur anhyfryd, afiach, ac anghysurus. Pan
chwanegom at hyn, gymeriad moesol isel iawn llawer o’r anturiaethwyr i’r
gloddfa aur, y rhai y byddai yn well ganddynt gael aur trwy dori gyddfau dynion
na’r ffordd araf o olchi grô, gwelir nad yw bywyd cloddiwr aur i genfigenu
wrtho na’i ddymuno.
Y mae yn briodol sylwi, fod yr hanes am gyfoeth a gafwyd yn y cloddfeydd aur, y
rhan fynychaf, pa un ai yn fwriadol neu beidio, yn gyffredin yn rhy helaeth.
Dylid cofio nad yw y rhai a anfonant hanesion anghyffredin o dda adref, ond
rhan fychan o boblogrwydd yr ardaloedd mwnawl hyny. Mae y dyn deallus a diwyd
yn myned rhag ei flaen i’r placers, a
chyda pheth deheurwydd yn ei waith, gall, fe allai, yn fuan wneyd ei hun i
fyny. Y mae yn ebrwydd yn ysgrifenu adref ddarluniad llawn o’i lwyddiant, ac
felly yn cynhyrfu awydd cannoedd eraill, wedi clywed am ei ffawd dda ef, ond
heb ddysgu yr achos neu yr achlysur o’r ffawd hòno. Ar y llaw arall, y mae dyn
o wybodaeth fach, yr hwn nad yw yn adnabod aur pan welo ef, yn aflwyddiannus yn
ei gais, a theifl ei arfau gweithio lawr mewn digllonedd, ac yn barod i
felldithio pawb a phob peth o’i gwmpas, tra mai ar ei anwybodaeth ei hun y
dylasai ei anathemau ddisgyn, ar ei anfeddylgarwch yn ymgymeryd â gwaith nad
oedd ganddo gydaddasrwydd iddo. Wrth reswm, nid yw efe yn ysgrifenu llythyrau
adref; a’r dosbarth hwn yw y llïosocaf o lawer.
________________________________

(delw 6531) (tudalen 353)
O berthynas i’r llawnder o aur a ddaeth yn ddisymwth o California, darfu i
lawer anturio, ar y canlyniad, ar amgylchiadau masnachol ac arianol y byd. Taerodd
rhai mai yr effaith a fyddai, tyng i lawr werth aur ac arian, fel ag i weithio
hollol chwyldroad mewn masnach, nes cynhyrfu’r holl fyd. Addefwn nad oes genym
ni y fath bryder ofnus. Y mae San Francisco yn debyg o fod yr ystorfa fasnachol
fwyaf yn y byd. Nid yw masnach y Môr Tawelog ond yn ei mabandod eto; ac nid all
yr oes hon ddyfalu beth a fydd ryw amser dyfodol. Bydd yr ymdrafod masnachol
mawr hwn yn gofyn swm mawr o aur fel cynnrychiolydd symudol eiddo o fath arall;
ac y mae rhagluniaeth Duw, yr hwn sydd yn cyfaddasu moddion amgylchiadau
dynion, yn rhoddi trysorau, yn ol trefn pethau, yn gyffredin yn y lleoedd y
byddo y rhan fwyaf o honynt yn anghenrheidiol. Treulir llawer o filiynau o
honynt i adeiladu dinasoedd gwychion, y rhai a addurnant lanau y Môr Tawelog.
Bydd eisieu adeiladu llawer Tyrus enwog yn y pen hwnw o’r byd. Rhaid cael aur i gyfnewid am nwyddau gwerthfawr India
a China. Bydd eisieu agor cysylltiad mordwyawl rhwng y Werydd ar Môr Tawelog.
Bydd eisieu llawer o reilffyrdd ar hyd a thraws America, o ben bwygilydd. Rhaid
i ni gofio hefyd am gynnydd anturiaethau, yr hyn a rydd ddigon o le i lyncu
holl gyfoeth cloddfëydd California, pe byddent yn gan’ miliwn o bunnau bob
blwyddyn. Y fath gyfnewidiad sydd wedi cymeryd lle yn y byd yn ein cof ni, er
nad ydym eto yn oedranus. Dyma America a Lloegr wedi dyfod yn gymydogion trwy
gyflymder yr ager-longau; a thrwy gwefryddiaeth rhyfeddol, gall y naill ddinas,
a’r naill deyrnas, tu yma a tu draw i fôr, gyfeillachu â’u gilydd bob awr o’r
dydd. Nid yw yr amser ymhell pan y bydd pobl China yn gymydogion i’r
Americaniaid ac i ninnau. Beth fydd canlyniaf y cyfnewidiadau mawrion hyn -
gwahanol genedloedd, oeddynt mor ddyeithr i’w gilydd, yn dyfod i fyw megys i
ddrysau eu gilydd? Cyfranogant naill ai o rinweddau neu ddrygau eu gilydd. Bydd
y cadwynau hyn o amgylchiadau a’n dygant at ein gilydd, yn offerynol naill ai i
ddiraddio neu i godi y natur ddynol. Y mae y canlyniad yn ymddibynu ar yr hyn a
wna eglwys Crist - y dylanwad a all hi daflu ar amgylchiadau y byd. Os daw y
byd yn ddoethach, heb ddyfod yn well - os cynnydda cenedloedd mewn cyfoeth, heb
gynnyddu mewn rhinwedd yn gyfatebol - y mae pob rheswm a phrofiad yn dysgu i ni
yn llawer gwaeth o’r cynnydd cyfoeth a gwybodaeth. Gellir galw Gwyddoniaeth yn
ferch ieuangaf crefydd, a chyfoeth, yn ei ystyr helaethaf, yn blentyn
gwyddoniaeth; a chysylltiad y tri a gyfansodda elfennau dedwyddwch y teulu
dynol. Tlawd yw y trysor heb wybodaeth, a melldith yw gwybodaeth heb rinwedd. Y
mae genym obaith cryf y gall, ac y bydd y cynnydd mawr y mae gwyddoniaeth a
chyfoeth yn ei wneyd, o dan gyfarwyddyd yn eglwys Crist, yn foddion i ledanu
sancteiddrwydd ysgrythyrol dros yr holl wledydd sy’n awr yn gorwedd mewn
tywyllwch a chysgod angeu. Gwelir yr hwyl-long, yr agerlong, a chludai yr
ymfudwyr, yn llwythog, nid yn unig o offer gweithio y mwnwr, ond hefyd o
weinidogion Crist, a’r Ysgyrythau sanctaidd. Y “llong ardderchog” a nofia dros
dònau y Môr Tawelog, a ddwg yn ei mynwes, nid yn unig gyfoeth dysglaer y mŵngloddiau,
ond hefyd drysorau amhrisadwy gwirionedd ac iachawdwriaeth. O! na ddeffroai yr
eglwys i ystyriaeth o’i chyfrifoldeb mawr a chynnyddol, ac i gyflawniad zelog
o’r gwaith mawr sydd wedi cael ei benodi iddi.
Er i ni ddywedyd o’r blaen nad oes genym bryder y bydd i gyfoeth
________________________________

(delw 6532) (tudalen 354)
California ddyrysu amgylchiadau y byd, yr ydym yn ofni ei effeithiau mewn
ffordd arall. Nid yw y gwaith o chwilio trysorau yn gweddu i anrhydedd y
Brytaniaid. Nis gall yr Americaniaid lai na gweled y neillduedd cyfansoddol
moesol sy’n gwahaniaethu y tair cenedl Ewropëaidd, y rhai a boblogant y
cyfandir a ddarganfyddwyd gan y morwr Genoesaidd. Yr oedd yr Yspaeniad
breuddwydiol a dychymygol yn gweled yn y byd y newydd wiredd ei ddychymygion am
ei Dorado. Tybiai yn flaenorol am hinsawdd mwy tymherus nag anwyl Andalusia ei
wlad ei hun, cyfoeth tu hwnt drysorau Grenada, gwasanaethwyr mor ufudd a
chaethweision gorthrymwr dwyreiniol, a benywod hawddgarach o bryd, a mwy swynol
na rhai paradwys Mahomet. Yn y fath ddarluniau yr oedd dychmygion yr Yspaeniad
yn nofio yn ddiattal; ac, i wireddu ei freuddwydion, efe a anturiai, gyda
gwroldeb di-droi yn ol, i beryglon y cefnfo^r, ac i afiechyd heintus y goedwig
boeth, gan ymladd ei ffordd â’r barbariaid oedd yn heidio ar ei lwybr, a
dringo, gydag ymdrech diflin, y mynyddoedd oedd â’u cribau yn iâ, wrth waelod y
rhai y gorweddai y dyffrynoedd a gynnwysent y trysorau ag oeddynt i wobrwyo ei
ymdrechiadau, a’r ffynnon risialaidd ag ydoedd i adnewyddu ei nerth diffygiol.
Y Ffrencyn, ar y llaw arall, a chwiliai am olygfëydd, lle y gallai, heb gael ei
luddias gan gyfreithiau, na’i lwytho gan gofalon teuluaidd, dreulio ei fywyd
mewn gorwychder a digrifwch - ei glustiau yn cael eu cyfarch gan frefiadau
praidd, dwndwr y rhaiadr, a sŵn soniarus ei anwyl grŵth. Ond hollol
wahanol oedd ymgais a theimladau y Brython. Ail beth gydag ef oedd cyfoeth, ac
yr oedd yn diystyru moethder dïoglyd, a gwag ddifyrwch. Ceisio noddfa rhag
gorthrymder cyfreithiau yr oedd ef - cartref, lle y gallai fwynhau hawliau
gwladol a chrefyddol, yr hyn a ommeddid iddo yn ei wlad ei hun. Nid ceisio
rhyddid oddiwrth gyfraith yr oedd ef, ond oddiwrth orthrymder. Efe a ddygodd
sefydliadau ei wlad trosodd gydag ef, gan fod yn awyddus i’w diwygio - nid i’w
dinystrio. Yr oedd yn caru gwlad ei dadau yn wresog a diragrith; yr oedd cofio
am ei bryniau a’i dyffrynoedd yn felus ganddo; ac ni ddymunasai fyth gael ei
wahanu oddiwrth ei hen wlad, oni buasai i orthrymder ei yru ymaith. Yr oedd ef
yn ymostwng yn siriol i’r farnedigaeth o weithio, ac nid oedd yn dymuno cael ei
eithrio oddiwrth lafur a roddai iddo wobr cyfartal, gan ymfoddloni ar ennill
araf a chodiad graddol. Y mae yn ymddangos i ni, mai i’r ardymher foesol a
gynnwysa y neullduolion yna, y mae y Brytaniaid yn ddyledus i raddau mawr, am
eu rhagoriaeth ar bob cenedl arall ar wyneb yr holl ddaear. Er eu bod yn
trigiannu gwlad tra anfanteisiol yn naturiol, gyda hinsawdd ddïarebol o
anhyfryd ac ansefydlog, darfu i’r bobl wych a deallus hyn estyn eu terfynau i
bob cw’r, a phlanu eu sefydliadau ym mhob chwarter o’r byd. Goresgynodd yr
Yspaeniaid daleithiau cyfoethog canolbarthig a deheuol America, a chan
ddiystyru y cynnyrch tyfol â’r hwn yr oedd natur wedi gwastraffu ei haelioni yn
helaeth tros yr holl diriogaethau teg hyny, hwy a ymroisaiat yn unig i chwilio
am y trysorau mŵnawl oedd yn guddieddig yn mherfeddion y ddaear, ac yn
ngrô yr afonydd. Y Brython, yntau, wedi hwylio gyda y glànau, a gymerodd feddiant
o’r tiriogaethau a ddiystyrwyd gan yr aur-heliwr, ac efe a wastadaedd y
goedwig, a hauodd ŷd, a wnaeth y rhaiadr rhuadol yn wasanaethgar i’w
law-weithfëydd, ac a sefydlodd longwriaeth, gan w`ynu pob porthfa â’i hwyliau;
ac heblaw amgylchynu ei hun â phob cysur a gysylltid â’r meddwl am gartref,
anfonodd
________________________________

(delw 6533) (tudalen 355)
hefyd ei gynnyrchion ar led, gan ddwyn yn ol, mewn cyfnewid, yr aur am yr hwn y
treuliodd yr Yspaeniad ei fywyd yn afonydd a mynyddoedd y deheu.
Boed i ni, am ychydig fynydau eto, ystyried beth a fu canlyniad naturiol yr
ymchwilio hwn? - beth a fu yr effaith ar y cenedloedd a ymfeddwasant mewn
dychymyg am ymgyfoethogi ar unwaith? Cymerwn Yspaen yn esiampl. Tua’r pryd y
darganfyddwyd yr America, ac am beth amser wedi hyny, yr oedd y wlad hòno yn
nghanol-ddydd ei gallu a’i henwogrwydd. Yr oedd teyrnasiad cyfrwys Ferdinand ac
Isabella wedi ei gwneyd gartref yr ardderchocaf o deyrnasoedd Ewrop, tra yr
oedd ei threfedigaethau tramor yn cynnwys y parthau cyfoethocaf o’r ddaear.
Ond, yn annedwydd iddi hi, bu ei chyfoeth yn offeryn ei dinystr. Yr oedd pob
llestr fasnachol a ddeuai adref, yn llwythog o drysorau Mecsico a Periw, yn
felldith i’r fam-wlad. Dacw drigolion Cadiz yn diystyru gwaelder celfyddydau
diwydrwydd, pan welsant y llwch aur yn dyfod iddynt o’r byd newydd; y crefftwr
gonest yn anfoddloni ar ei lafur a’i ennill bychan, pan oedd dysgleirdeb y
mettel gwerthfawr yn tywyng ar ei olygon; y masnachwr cyffredin yn diystyru ei
faelfa fechan, wedi bod yn rhoi tro i lawr i’r porthladd, a gweled y llong
Indiaidd ardderchog yn taflu ei hangor i lawr, ac yn chwydu cyfoeth o’i
choluddion, nes oedd ei ddychymyg yn ymddyrysu; a’r llafurwr isel, yr hwn oedd
o’r blaen yn foddlawn ar drin y tir fel ei deidiau o’i flaen, a aeth i ddechreu
melldithio yr hen dir diffrwyth, ac i chwennych croesi y cefnfor oedd yn
cyfyngu rhyngddo a gwlad, yr hon yr oedd ei mynyddoedd yn arian, a’i ffrydiau
yn rhedeg dros raian o aur coeth, a cheryg ei hafonydd yn werthfawrocach na
pherlau Golconda. Ni cheir yr eglwyswr yn breuddwydio am ddim ond Ophir, a
dyddiau auraidd Solomon; ac y mae y gŵr boneddig o ddysg a moes yn goddef
i’w ddychymyg redeg yn orwyllt ar ol y cnu aur, ac afalau Hesperides. Yr afradlawn
ofer, yr hwn a dreuliodd ei etifeddiaeth mewn bywyd moethus; yr uchelwr o waed,
yr hwn yr oedd ei falchder, er heb ganddo ddim ar ei helw, yn ei rwystro i
ymwneyd âg unrhyw anturiaeth lafurus gartref; y milwr cyffredin, yr hwn a fu
fyw fel pe buasai yn derbyn cyflog cadben, ac a drowyd ymaith i weithio,
lladrata, neu newynu - maent oll yn ymwthio i’r ei Dorado newydd - yn
penderfynu gwneyd un ymdrech i ail feddiannu yr hyn a gollasant, a dychwelyd yn
ol gyda digon o gyfoeth i herio Ardalydd Cadiz, Deu Ddue Madeira. Gellir yn
hawdd weled canlyniad y fath sefyllfa. Darfu i amaethyddiaeth,
gweithfäyddiaeth, a’r crefftau - yr elfenau mawrion hyny o gyfoeth gwladol -
ddiflanu, trwy gael eu hesgeuluso. Cafodd moesau eu gwaethygu, masnach ei
lladd, a’r deyrnas ei handwyo, fel hyn, gan gyfoeth ag oedd yn ymdywallt arni;
collodd y safon uchel ag oedd yn ei feddu ymhlith galluoedd Ewrop, a syrthiodd
yn raddol i fod yn eithaf disylw a diddylanwad.
Draw, ar lanau y Môr Tawelog, ar y tu deheu i linell y canol-ddydd, yr oedd
pobl ddysyml a dedwydd yn byw, o dan deyrnasiad tadol “plant yr haul.” Y mae
teithwyr, eto, yn edrych gyda syndod ar weddillion mawrion gwareiddiad yn
Periw; ac y mae hanesion lawer yn darlunio gogoniant ac ardderchogrwydd yr hen
Cuzco. Yr oedd deiliaid dirodres yr Incas yn byw mewn tangnefedd a dedwyddwch,
gan drin eu meusydd, neu yn gwylio eu praidd llamas ar lethrau yr Andes.
Ond Och! yr oedd aur yn ngrô eu hafonydd, ac arian i’w gael yn Potosi; a daeth
allan o’r sefydliad
________________________________

(delw 6534) (tudalen 356)
Yspaenaidd, yn Panama, haid o anturiaethwyr i ddifrodi gwlad deg y deheu. O
holl weithredoedd creulondeb a ddygodd ddianrhydedd ar ddynoliaeth erioed, ar y
Periwiaid, druain, y cyflawnwyd y cyflafanau duaf. Lladdwyd y trigolion diniwed
fel anifeiliaid i’r farchnad; rhoddwyd yr Inca cysegredig i farwolaeth greulawn
a gwarthus; a thrwy bob dychymyg drygioni y daeth Pizarro a’i gymdeithion i
feddiant o’r trysorau gwerthfawr oedd yn addurno teml yr haul. Ond dilynodd y
felldith hwy. Wedi cael yr yspail, aethant, fel bwystfilod creulawn, i
ymrafaelio, hyd at farwolaeth, wrth ei ddosbarthu. Llofruddiwyd Francisco
Pizarro, ganol dydd, yn ei balas, yn nghanol ei gyfoeth annheilwng, gan
ddilynwyr y gwych Almagro, un o’r rhai goreu o’r gorchfygwyr, yr hwn yr oedd ef
wedi ei ysbeilio, ac wed’yn ei ladd. Bu Fernando Pizarro yn ymboeni am yr ugain
mlynedd goraf o’i fywyd yn ngheudwll y Castile; a phan ddaeth allan, yr oedd
wedi ei andwyo, ac yn ddiysbryd. Darfu Gonzalo Bizarro, a’i gydymaith gwaedlyd
Carbajal, gymeryd arfau yn erbyn eu brenin, a chawsant ddiwedd gwarthus
bradwyr. A hwythau, y bobl mwy cyffredin, a gollasant eu trysorau a’u gwaed
mewn ymrafaelion creulawn â’u penaethiad, neu a arweiniasant fywyd afradus ac
annedwydd, yr hwn, yn fynych, oedd yn terfynu mewn angeu gwarthus. Hyd yn nod y
rhai hyny a fuont mor ddoeth, neu ffodus, ag i allu gadael y byd newydd, gyda
bwriad o dreulio gweddill eu dyddiau yn eu gwlad enedigol, oeddynt yn
annedwydd, wrth feddwl am ddychrynfëydd y fordaith, rhag i’w trysorau fyned yn
anrhaith i’r môr-ladron gwaedlyd oedd yn heigio y Môr Caribbëaidd ar Llynclyn.
Yn awr, y mae gofyniad yn cyfodi in sylw yma - sef, pa un a effeithiasai yr
ymdrafod hwn â’r aur yr un fath ar ryw genedl arall a fuasai yn amgylchiadau yr
Yspaeniaid? Yr ydym yn tueddu i roddi ateb cadarnhaol i’r gofyniad. Y mae yn
wir fod gan grefydd Eglwys Rhufain ei dylanwad, i ryw raddau, ar ddybenion a
gweithredoedd yr Yspaeniaid; ond gellir rhoddi cyfrif boddhaol am ganlyniadau
eu hymddygiadau ar wahan i’w crefydd. Nid yw trachwant, fel y mae y gwaethaf,
yn gyfyngedig i ryw genedl neillduol. Pan gaffo oruchafiaeth ar feddwl dyn, y
mae yn dadguddio ei hun yr un fath ar y Sais ag yn yr Yspaeniad. Os darfu i’r
Cortes rostio ymherawdwr yr Azteciaid, darfu i Warren Hastings arteithio
eunuchiaid y Munny Regum. Os lladdodd Pizarro y Periwiaid, am y rheswm, medd
efe, o fod eu Inca yn dirmygu y Bibl, darfu i’r llonglywydd Brutanaidd ryfela
â’r Chinëaid oblegid i’w hymherawdwr nacäu caniatäu i opium ddyfod i’r
wlad. Yr oedd yr egwyddor yr un yn y ddau achos; a’r egwyddor hòno, beth bynag
a addefid, oedd syched am elw. Gobeithiwn, gan hyny, na bydd i ni, Frytaniaid
Lloegr nac America fyned fel yr Yspaen, i gymeryd ein llywodraethu gan chwant
golud, rhga i ninnau gyfarfod â’r un gosb gyfiawn. Y mae yr un fath achosion yn
cynnyrchu yr un fath effeithiau. Gwyliwn rhag i’r cyfoeth a all lifeirio i ni o
California, a gwledydd eraill, lygru ein moesau, dyrysu ein masnach, attal ein
gweithfaoedd, a dystrywio ein hamaethyddiaeth.
Wrth daflu golwg ar sefyllfa bresennol pethau, y mae yn ddymunol iawn gwybod y
llwybr goraf i California. Y mae
amryw ffyrdd wedi eu cymeryd, a dadleuir dros bob un o honynt. Y prif lwybrau a
ddilynwyd eto, yw y rhai hyn: -
1. Yr hen ffordd, trwy y Bwlch Deheuol a Chaer Hall, ar y tu deheuol i’r Llyn
Halen.
2. Yr hen lwybr Yspaenaidd, trwy Santa Fé ac Abiquin.
3. Y llwybr a gymerwyd gan Is-gad. Emory.
4. Y ffordd trwy
________________________________

(delw 6535) (tudalen 357)
Sonora.
5. O Corpus Christi, trwy Saltillo.
6. Trwy Mecsico i Mazatlan.
7. Heibio i Cape Horn.
8. Panama.
Tybir mai y gyntaf o’r ffyrdd hyn fydd y fwyaf dewisedig am ryw hyd o amser gan
deuluoedd mewn pedrolfenau. Hi yw yr un a adnabyddir oreu, gan ei bod wedi ei
darlunio yn dda gan y rhai a’i teithiodd. 0 Independence i Gaer Laramie - yr
hyn sydd gryn lawer yn fwy nag un ran o bedair o’r daith - y mae y ffordd yn
myned trwy y gwastadedd mawr, lle y mae digon o fwyd i anifeiliaid, a choed a
dwfr ddigon i anghenrheidiau yr ymfudwyr. Y mae yn wir fod y ffordd yn arw iawn
o’r Bwlch Deheuol, ond nid yn anhygyrch i bedrolfenau. Deallwn fod y
llywodraeth ar sefydlu gorsaf filwraidd yn Nghaer Laramie, ac yn nghymydogaeth
Caer Hall, heblaw y gaer sydd eisoes yn Ynys Grand, ar yr afon Platte. Gwna hyn
y ffordd yn ddiogelach rhag anrheithiadau yr Indiaid, a cheir nodded i rai
anghenus ac afiach, ac yn ngwyneb colli anifeiliaid, neu unrhyw anghenrhaid
arall. Dymunir argymhell i sylw y rhai a ddewisant fyned trwy Santa Fé, y
llwybr a gymerodd un Mr. Gregg, ac a ddarlunir mewn llyfr o’i eiddo, a elwir, “Commerce
of the Prairies.” Dilynodd
ef fforch ddeheuol yr afon Canadian, can belled i fyny a’r Angosteiras. Gall y
rhai a fynant gymeryd y llwybr yna, gychwyn yn Nghaer Smith, ar yr Arkensas,
tua’r dydd cyntaf o Ebrill; canys, tua’r amser hwnw, bydd y tyfiant yn yr
hydred hwnw can belled ymlaen ag y bydd yn Independence fis yn ddiweddarach.
Gall ymfudwyr felly gyrhaedd Santa Fé mewn pryd manteisiol. Gallant gael amser
i ddadebru eu hanifeiliaid blinedig, neu eu cyfnewid am eraill i deithio
llethrau geirwon a gwastadoedd diffrwyth y Gila. Rhaid cofio fod y llwybr hwn
yn anhygyrch i bedrolfenau; ond i gwmni o wŷr ar geffyllau (sic), fyddo yn
meddu iechyd da a chyfansoddiad cryf, y mae yn cyflwyno llawer o fanteision. Ar
hyd y ffordd hon, bydd raid i’r teithydd, yn wir, fyned trwy wlad y Comanches
a’r Navajas; ond, fe allai na bydd iddo fwy o berygl oddiwrthynt hwy nag
oddiwrth y Pawnees a’r Sioux, ar y llwybr gogleddol. Y mae llawer yn siarad yn
fwy ffafriol am y ffordd trwy y Bwlch Deheuol, neu Gila, na’r un o’r ffyrdd
trwy Mecsico, o barth i gynnildeb a dïogelwch. Y mae teithio yn Mecsico yn
ddrudfawr iawn, ar ffyrdd yn ddiarebol o beryglus. Os bydd y cwmpeini yn ddigon
o rifedi i amddiffyn eu hunain rhag y ladrones, hyny yw, y lladron, y
mae yn berygl cynhyrfu eiddigedd awdurdodau gwladol y lleoedd, a gall y
teithwyr fod yn agored i lawer o fân flinderau. Heblaw hyny, bydd y rhai a ânt
ar hyd ffordd Mazatlan, neu San Blas, gan ymddibynu ar fyned yno ar hyd y môr,
yn peryglu cael eu cadw yn hir mewn lle costus ac afiach. Tybir mai ychydig
iawn a ddewisant y fordaith heibio i Benrhyn Horn. Ymddengys fod hòno yn fwy
anghysurus a pheryglus nag un o’r lleill, oddieithr y gellid ei gwneyd âg
agerlong. Yn bresennol, y mae y llwybr ar draws culdir Panama yn eithaf
anghysurus: ond, am fyrdra y ffordd a’r amser a dreulir yn y daith, y mae yn
llawer mwy manteisiol nag un arall.
Er hyny, ni ddylid cadw o’r golwg y bydd i deithwyr i California gyfarfod â
llawer o galedi, pa un bynag a gymerir o’r ffyrdd a enwyd. Caiff y rhai a ânt
ar hyd y tir eu blino, fwy neu lai, gan ymosodiadau lladronllyd yr Indiaid, neu
golli eu hanifeiliaid trwy grwydro neu flino. Ac yn sicr, anghysurus iawn gael
eu gadael ar hanner y ffordd, rhwng Caer Laramie ac Independence, gyda
phedrolfen ddrylliog, ac heb ganddynt
________________________________

(delw 6536) (tudalen 358)
nac ychain na mulod. Dïau na ddylid gadael neb mewn anghen tra fyddo y cwmpeini
ar y ffordd; eto, dylai pob dyn ofalu drosto ei hun, canys byddai llawer o
oediad yn anghyflëus iawn i’r holl gymdeithion. Rhaid cofio hefyd, fod taith
hir, flinderus, yn dadguddio teimladau gwaethaf y natur ddynol, yn gymysgedig â
llawer o’i theimladau goreu, fel y gall pawb feddwl. Y mae hefyd lawer o drais
a chreulonderau yn cael eu cyflawni yn flyneddol ymhlith yr ymfudwyr ar y
gwastadoedd. Nid ydym wrth ddyweyd hyn yn golygu attal neb a glywo ar ei galon
wneyd yr anturiaeth, ond rhoddi hysbysiad ffyddlawn o’r anhawsderau sydd i’w dysgwyl
gan yr ymfudwr. Y mae ysgrifenwyr yn rhy dueddol i dangos yr ochr oreu i’r
datlun, ac felly yn hudo llawer i gynnyg yr anturiaeth nad oes ganddynt
alluoedd cyfartal i’r fath orchwyl.
Wedi i ni ddilyn ein hawduron mor belled a hyn, byddai yn anmhriodol i ni
derfynu yr erthygl euraidd hon heb daflu golwg ar y cyfnewidiadau sydd wedi
cymeryd lle yn California. Y mae yno “genedl” - ïe, genedloedd – “wedi eu geni”
megys “mewn un dydd.” Y mae pob llythyr-long yn dwyn newyddion na chlywyd eu
bath. Y mae chwedlau dychymygol yr Arabiaid yn ddichwaeth i’w cyferbynu â’r
mynegiadau gwirioneddol sydd yn ein cyrhaedd o California; - tywod a grô y
Sacramento yn cael eu hysgwyd mewn cwpan bren, a dinasoedd a phentrefi yn codi
i fyny mewn “ un-dydd un-nos.” Ar y cyntaf, llwch ydoedd, yna grô; cynnyddodd y
grô yn wnsau, a’r wnsau yn bwysau; ac ni ryfeddem na fydd y pwysau yn dunelli
cyn hir! Nid oes dim llai na chan’ myrdd o ddolerau wedi eu casglu eisoes, a
dïau fod tua dwy ran o dair o’r swm anferth uchod wedi ei wasgaru tros y
moroedd oddiyno i wledydd, a chan genedloedd eraill, heblaw yr Americaniaid. Y
mae y creigiau heb eu chwilio eto i wybod yn gywir beth sydd ynddynt.
Bydd sefyllfa y rhai a ânt yno o hyn allan yn llawer mwy cysurus nag y bu hyd
yn hyn. Y mae cyfansoddiad llywodraethol gwladol wedi ei ffurfio a’i
fabwysiadu, a’r dalaeth newydd wedi ei derbyn i’r Undeb, a chaethwasanaeth a
masnach ddynol wedi ei gwahardd byth. Y mae poblogaeth San Francisco tua deng
mil a deugain, a’i llongborth yn llawn o longau o bob parth o’r byd. Y mae deg
o agerlongau yn mordwyo yn gyson rhwng Oregon a California, a thair ar y
Sacramento a San Joaquin, a bwriedir sefydlu eraill i China, heibio i Ynysoedd
Sandwich. Y peth anhawsaf eto i’w sicrhau yn California yw teitl i dir. Y mae
amaethyddiaeth yn awr yn dyfod yn ennillfawr, a llawer a aethant yno i gloddio
aur a droisant i drin tir.
Fel y gellid tybio, y mae safon moesau yn isel iawn yn California, a
throseddiadau dychrynllyd yn cael eu cyflawni, ac yn dïanc yn ddigosb. Y mae
yno le i eglwys Crist weithio, i ledanu ei goleuni ysgrythyrol. Ac y mae yn dda
genym allu dangos na bu yn segur chwaith. Dyry y “New York Commercial
Advertiser” y mynegiad hwn allan o’r “California Watchman,” yr hwn
sydd yn cael ei gyhoeddi yn San Francisco, o olygiaeth y Parch. Mr. Williams,
gweinidog yr Eglwys Henaduriaethol gyntaf. Y mae yn llen fechan dlws, ac yn
dyfod allan unwaith yn y mis hyd yn hyn; ond fel pob peth arall, yn California,
yn anferth o ddrud - 50 cents, neu hanner dolar y rhifyn. Y mae y
tudalen cyntaf o’r rhifyn cyntaf yn rhoddi rhestr o’r amrywiol eglwysi neu
gynnulleidfaoedd yn San Francisco, a’u gweinidogion, fel y canlyn: -
________________________________

(delw 6537) (tudalen 359)
Eglwys gyntaf y Bedyddwyr, Parch. O. C. Wheeler.
Eglwys y Drindod, Parch. F. S. Mines.
Eglwys Gynnulleidfaol gyntaf, Parch. T. B. Hunt.
Eglwys Fethodistaidd (Wesleyaidd) Esgobawl, Parch. W. Taylor.
Eglwys Gatholig Rufeinig (Pabyddion). --
Capel Gras, Parch. P. L. Ver Mehr.
Eglwys Henadurol gyntaf, Parch. A. Williams.
Y mae gwasanaeth yn yr Eglwys Gatholic Rufeinig yn Yspaenaeg, Ffrancaeg, a
Seisoneg. Y mae addoliad yn yr holl eglwysi eraill ar Suliau am un-ar-ddeg y
boreu, a phedwar, a hanner awr wedi saith y prydnawn.”
Yr ydym yn cael hefyd hysbysiadau am y sefydliadau canlynol: Cymdeithas
Fiblaidd San Francisco, Cymdeithas Traethodau y Môr Tawelog, LIyfrfa Fasnachol
Fethodistaidd (Wesleyaidd), Cymdeithas Biblau California (Bedyddwyr), Ysgol
Rydd, Cymdeithas Cyfaill Dyeithriaid.
O dan y pen “Eglwysi Protestanaidd yn California,” y mae yr hysbysiad canlynol,
yn ychwanegol at y rhai yn San Francisco:-
“Yn Benicia, Eglwys Henadurol gyntaf, y Parch. S. Woodbridge.
Yn Montery, Eglwys Henadurol, yn cael ei gwasatiaethu
gan y Parch. S. H. Willey, capelwr y wylfa filwraidd.
Yn San Jose, Eglwys Henadurol, Parch. J. W. Douglass;
Eglwys Fedyddwyr, Parch. J. D. Briarly; Eglwys Fethodistaidd Esgobawl, yn cael
ei gwasanaethu gan bregethwyr cynnorthwyol.
Yn Sacramento, Eglwys Esgobawl Fethodistaidd, Parch.
Mr. Owen; Eglwys Gynulleidfaol, Parch. J. A. Benton; Eglwys Bedyddwyr, Parch.
J. Cook.
Yn Stockton, Eglwys Henadurol, Parch. J. Wods;
Methodistiaid Esgobawl, yn cael eu gwasanaethu gan bregethwyr cynnorthwyol.”
Mewn chwanegiad i’r mynegiadau uchod, y mae genym gyfle i roddi yr hysbysiad a
ganlyn:- Mae Mr. Sarber, o Gynnadledd Fethodistaidd Esgobawl (Wesleyaidd)
Pittsburgh, wedi ymuno â chenadiaeth California, a llawer o bregethwyr
cynnorthwyol yn llafurio, mwy neu lai, yn ngwaith y weinidogaeth, a bendith yn
dilyn eu llafur i fesur helaeth. Y mae
yr holl achos o dan arolygiaeth y Parch. W. Roberts, arolygwr llafurus Cynnadledd Oregon, a
Chenadiaeth California. Y mae yr achos wedi cynnyddu yn rhif ei lafurwyr o fewn
cylch y gynnadledd, trwy anfon allan bump o genadau, tri o honynt yn meddu
teuluoedd. O’r rhai hyn, amfonwyd y Parch. F. S. Hoyt i Oregon, fel prifathraw
Egwyddorfa Ddysgeidiol Oregon, yn ninas Salem; Parch. Edward Bannister i
California, i sefydlu Egwyddorfa yn y dalaeth hono; a’r Parchedigion S.
Simonds, J. Flinn, a M. G. Briggs, i ymuno â’r Gynnadledd Genadol, ac i fyned
i’r gwaith rheolaidd fel gweinidogion. Bydd i’r gweinidogion hyn chwanegu y
llafurwyr, o fewn Cynnadledd Oregon a Chenadiaeth California, i ddeunaw o
nifer, heblaw nifer o bregethwyr cynnorthwyol. Y mae Bwrdd y Trafnidwyr wedi
annog arolygwr Cenadiaeth Dramor yr Eglwys i benodi tri chenadwr arall i lànau
y Môr Tawelog mor gynted ag y gellir. Oddiwrth hyny y gwelwn, nad yw
Methodistiaid Esgobawl, neu Wesleyaid America, yn “segur na diffrwyth.” Buasai
yn ddymunol genym pe buasem yn meddu mynegiadau am weithrediadau cangenau
eraill o’r Eglwys Gristionogol yn y wlad bell hono, y rhai, credwn, yn ol a
welsom uchod, sydd hefyd yn weithgar ar y maes.
Cyn y rhoddem ein hysgrif heibio, goddefer i ni roddi yma lythyr a ddaeth yn
ddiweddar iawn odduyno; a chan ei fod oddiwrth ddyn o ddysg, y mae yn werth
sylw. Y mae oddiwrth y Proffeswr Forrest Shepherd, o
________________________________

(delw 6538) (tudalen 360)
Goleg yr Adgadwraeth (Reserve) Orllewinol, yn awr yn California. “Ni a’i
cymerasom,” meddai y “New York Observer,” “o’r ‘Ohio Observer.’
Ymddengys ei fod wedi cael ei anfon at gyfaill cyfrinachol. Yr ydym yn adnabod
Proffeswr Shepherd yn bersonol, ac arferem ei ystyried yn un o’r dyngarwyr
goreu a adwaenem. Pa faint bynag o gyfoeth a all ef gael yn ngwlad yr aur ar
anturiaeth, y mae genym hyder y ceir ef yn onest, ac y defnyddir ef yn
haelionus.”
“DINAS SACRAMENTO, Mawrth 25ain, 1850.
“Y mae blwyddyn wedi dïanc fel niwl, ac yr wyf finnau eto ar dir California, yr
hwn y mae ei dlysni a’i degwch y tymmor hwn y fath na all celfyddyd ei
ddesgrifio. Y mae gwyneb amrywiol y wlad yn annarluniadwy. Y mae rhai coed a
llwyni yn eu blodau, tra y mae holl wyneb y tir wedi ei orchuddio â gwyrddlesni
prydferth, yn gymysgedig âg erwau ar erwau o flodau cochi gwynion, a melynion.
Ymhell draw y mae y mynyddoedd mawreddig o eira tragywyddol yn dyrchafu eu
cribau.
Y mae golwg arall ar California nad yw mor hyfryd. Y dyoddefiadau a’r
trallodion a welir yn feunyddiol - yr afiachus, ac heb neb i weini iddynt – y
meirw, ac heb neb i’w claddu; drygau o bob math yn ymsymud, gan gludo gyda hwy
drueni fel â grym corwynt. Os âf i’r mŵnglawdd i gloddio, bydd cannoedd,
os nad miloedd, yn fy amgylchynu mewn ychydig dyddiau, fel y rhaid ymryson hyd
yn nod am y tir y safwyf arno. Os enciliaf ymaith yn ddirgel, ac wrthyf fy hun,
byddaf yn fuan wedi fy amgylchynu gan yr Indiaid; a chydag anhawsder y dïengais
unwaith neu ddwy. Yn ystod y rhyfel Indiaidd, y flwyddyn ddiweddaf, pan nad
oedd yn ddïogel i yr un dyn gwyn fod wrtho ei hun, a phan oedd ceffylau a mulod
yn cael eu lladrata yn ddiwahaniaeth, mi a brynais wedd o bedwar ych ieuainc,
am y swm gwylaidd o 1,130 o ddolerau, a theithiais drwy y tir aur gyda’m gwely
a’m hymborth, a chenyf weithiau ymfudwr i’w amddifyn, a llwyth i fasnachu. Mi a
ennillais ddigon i dalu am fy ngwedd, a phrynu amrai ddosranau yn y ddinas hon,
y rhai, yn ol y prisiau presennol, a gyfrifir, o leiaf, yn werth pymtheg neu
ugain mil o ddolerau. A beidia y ddinas fod fel cicaion Jonah, sydd i’w weled
eto.
Arferai masnachwyr yn Boston bob amser ryfeddu fod Proffeswr Shepherd yn
ymostwng i waith mor isel a gyru gwedd! Y cwbl sydd genyf fi i’w ddyweyd yw,
fod y dengwriad (corporal) â’i fenyg am ei ddwylaw yn amser y chwyldroad
Americanaidd, yn rhyfeddu yr un cymaint ddarfod i’r Cadfridog Washington ddyfod
oddiar ei geffyl, a chynnorthwyo i droi coeden i fyny i wneyd caer. Wrth roddi
yr esiampl hwn o hunanymdrech a diwydrwydd, taflodd cannoedd o ddynnion ieuainc
eu balchder ymaith, gan ymosod ar waith defnyddiol, llawer o ba rai heb hyny a
ddigalonasent.
Wedi cyrhaedd gwybodaeth am diroedd yr aur, haiarn, ar arian byw, mi ardrethais
fy ngwedd allan ar gyfranau i’r naill ddyn ieuanc ar ol y llall; ac yn y ffordd
hòno mi a gychwynais lawer masnachwr glew yn ninas Sacramento. Yn Gorphenaf,
daeth lluoedd o ddynion ieuainc i mewn, llawer o ba rai a safent fel colofn
halen, heb wybod pa beth i’w wneyd. Ymddangosai eu bod oll yn fy ystyried i fel
eu cyfaill, a chan hyny deuent ataf fi am waith. Mi a roddais rai i drin gwair,
eraill i borthi, rhai i adeiladu, eraill i bympio, puro, a gwerthu dwfr, rhai i
adeiladu melin lifio, ac eraill i wneyd ffyrdd a phorthgludo. Ac fel hyn, mewn
amryw ffyrdd, mi a roddais waith i agos ddwy fil o ddynion na wyddent pa beth
i’w wneyd. Mi a adeiladais yr ysgoldy cyntaf yn nyffryn Sacremento, ac felly
roi gwaith i raddoliaid Coleg Yale fel athrawon. Cynnaliwyd llawer cyfarfod
gweddi gwerthfawr yn yr ysgoldy hwn, corfforwyd llawer eglwys a’r Ysgol
Sabbothol gyntaf, a’r unig un (a gasglwyd genyf fi fy hun) yn y parth hwn o
California. Y mae genyf yn awr bump o ieuenctyd Chinëaidd o dan fy ngofal, yn
dysgu Seisneg yn gyflym, a’r rhai a fyddant cyn bo hir yn barod i fyned adref,
a thaenu yr efengyl ymhlith eu cydwladwyr. Hwy a gloddiant ddigon o aur i
gynnal eu hunain, a thalu ychydig i minnau hefyd. Nid wyf yn nyled neb
________________________________

(delw 6539) (tudalen 361)
yn California, ac yr wyf mewn llawer o drafferth i gasglu yr arian a echwynais.
Yn wir, pe gallwn eu casglu, gallwn ar unwaith anfon mil o ddolerau neu fwy i
chwi. Mi a gyfrenais meddyginiaeth i’r claf am ddim, a gwneuthum fy ysgoldŷ
gwledig yn elusendŷ hefyd, hyd nes wyf heb le fy hun i roddi fy mhen i
lawr. Heblaw yr ysgoldŷ, mi a adeiladais bobtŷ, a dau ystordŷ, y
rhai yr wyf yn eu gosod am fil o ddolerau bob un yn y flwyddyn; ond yn nhymmor
y gauaf y mae y llifogydd yn dyfod dros y dre, dair neu bedair troedfedd at eu
gilydd. Wrth reswm, y mae hyny yn rhoddi attalfa i fasnach ac ardreth. Pan
oeddwn i yn adeiladu yr oedd hen goed yn saith gant a deg a deugain (750) o
ddolerau am fil o droedfeddi; yn awr can’ dolar ydynt. Ni chymerwyd y fath
anturiaeth ofnadwy mewn unrhyw wlad o’r blaen. Nid yw yn beth rhyfedd weled y
coeliwr yn dilyn y dyledwr gyda nodyn yn un llaw, a chŵyn cyfraith ar y
llaw arall.
Mi a ddarganfuais wely o gareg galch ger dinas Sacremento. Yr oedd yr holl
galch cyn hyn yn cael ei gyrchu o Ynysoedd Sandwich, a Thalaeth Maine, am
ddeunaw neu bump ar hugain dolar y barilad. Mi a gefais hefyd orweddfa
gyfoethog o fŵn chrome, yr hwn a fydd yn werthfawr i’w anfon i
Lundain, hefyd ffynnonau mŵnawl, &c. Fel yna mi a roddais i chwi hanes
o’m hamser a’m gwaith ar hyd y flwyddyn. Aeth fy nghostau tua thri dolar y dydd
at eu gilydd, heblaw golchi, yr hyn yw dim llai na chwe’ dolar y dwsin. Y mae y
diriogaeth aur hon yn arlun o’r holl diriogaethau aur eraill, gyda hyn o
wahaniaeth – fod llifogydd y mynyddoedd wedi gwneyd gwaith myrddiynau o
ddynion, trwy dori nentydd, rhai ddwy fil o droedfeddi o ddyfnder, a chasglu yr
aur i waelod y pyllau a’r rhigolydd dwr. Y mae y gwythïenau yn berffaith
reolaidd, a gellir eu dilyn yn eithaf cywir ar draws y nentydd. Yn gymwysedig
â’r aur mi a gefais platinum, ac alloy of osmium brodorol, ac irridium,
yr hwn sydd mor werthfawr i flaenllymu ysgrifbinau aur. Y mae y nesaf mewn
caledwch i’r dïamwnd, ac fe allai y ceir dïamwnd.
Wrth ddybenu, mi a ddymunwn ddyweyd ychydig eiriau o berthynas i ymdrechiadau
Cristionogol, a sefydliadau dysgeidiol a chrefyddol yn California. Nid yn unig
y mae y corff mawr o baganiaid yn ddwy fil ar bymtheg (17,000) o filltiroedd yn
nes atom nag o’r blaen, ond y mae cannoedd o honynt yn dyfod yma o eithaf y
ddaear, ac felly yn uniongyrchol tan ddylanwad Americanaidd. Bydd y ffaith fawr
hon yn werth miloedd i fasnach America. Y mae yn wlad rhyddid, lle y câ y caethwas nodded, a lle y mae cystal a’i
feistr. Ni welais i wlad
erioed mor wirioneddol gydraddol. Rhaid i bob dyn, gw’yn a du, gymeryd ei dro
yn y llythyr-swyddfa, er gwaethaf ei urddas a’i sefyllfa. Y mae yn wir y daw
rhigolion y teulu dynol yma, guda syched anniwall am aur, ond bydd iddynt yn
fuan gilio o’r ffordd, fel y darfu iddynt yn Botany Bay, a gadael y lle
yn rhydd i ymdrechiadau a dylanwad y Gymdeithas Genadol Gartrefol. Y mae yma yn
sicr ddrws agored, na ddylai y gymdeithas uchod, na Chymdeithas y Traethodau
Americanaidd golli golwg arno. Dylent dywallt eu cyd-ddylanwad i California, ac
Americeiddio a Christoneiddio, os yw yn bosibl, y lluoedd o baganiaid sydd yn
dyfod yma. Y mae y Chinëaid yn casäu y Seison, ond yn caru yr Americaniaid, ac
yn ewyllysgar i gael eu dysgu ganddynt. Mi a adawaf y pwnc i chwi i’w roddi ger
bron bwrdd cenadol cartrefol, ac wyf,
Yr eiddoch yn barchusaf a diffuant,
FORREST SHEPHERD.”
Fel yna y darfu i ni daflu golwg frysiog ar y pethau pwysicaf cysylltiedig â
Chalifornia. Buasai manylwch llawn yn ein gyru tros y terfynau bwriadol ymhell.
Yr ydys, gan hyny, yn terfyngu, mewn gobaith y bydd i’r dernyn hwn dueddu, i
fesur, i greu yn mynwesau ein darllenwyr ddyddordeb yn yr hyn sydd debyg o fod
yn un o’r amgylchiadau hynotaf yn hanes y byd a’r eglwys, masnach a
Christionogaeth, cyn pen nemawr o amser.
DIWEDD _______________________________
DOLENNAU
AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN
0043c
Yr iaith Gymraeg
·····
0005k
Mynegai yn nhrefn y wyddor i’r hyn a geir yn y gwefan
·····
1051e
testunau Cymraeg â throsiad Saesneg yn y gwefan hwn
.....
1343k
Y Cymry yn América
Adolygiadau diweddaraf: 02 07 2000
Sumbolau arbennig ŷ ŵ
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan
“CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the
“CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
Edrychwch
ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats