0852k Gwefan Cymru-Catalonia. Anaml y clywid
gair o Gymraeg ar yr heol ym Merthyr Tudful. Sylwadau gan "Llywelyn"
yn "Nharian y Gweithiwr" (24 12 1908). Wythnos neu ddwy yn ôl,
gwelais nodyn o eiddo Cynog yn cwyno oherwydd y diystyrwch y mae y Gymraeg ynddo
yn Merthyr. Hyderaf y daw yr ywmared a ddymuna o rywle...
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_037_y_gymraeg_ym_merthyr_tudful_1908_0852k.htm
0001z Y Tudalen
Blaen
..........1863c Y Porth Cymraeg
....................0009k Barthlen
..............................0960k Y
Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)
........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina
|
0860k y llyfr
ymwelwyr |
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
(delwedd
7277) |
0853ke Click her
for an English translation (with a version in updated Welsh orthography)
- “Welsh is only heard infrequently on the street in Merthyrtudful” (year 1908)
Tarian Y
Gweithiwr 24 12 1908
Hwnt ac Yma
Wythnos
neu ddwy yn ôl, gwelais nodyn o eiddo Cynog yn cwyno oherwydd y diystyrwch y
mae y Gymraeg ynddo yn Merthyr. Hyderaf y daw yr ywmared a ddymuna o rywle, ac
y gwelir yr hen iaith eto mewn bri. Bum yn y dref yn ddiweddar, a theimlwn inau
fod ei heinioes mewn perygl; anaml y clywid gair o Gymraeg ar yr heol yno.
Nid felly yr oedd Merthyr bum mlynedd ar hugain yn ôl. Gwyddelod a Saeson oedd
yr adeg hono yn gorfod dysgu Cymraeg, ac adwaenwn lawer o honynt, a siaradent
Gymraeg cystal a minau. Oddiar hyny y mae tuedd rhieni i siarad Saesneg â'u
plant wedi cynyddu, a rhyw wendid wedi codi i benau llawer o bobl ieuainc, a
pheri iddynt feddwl bod rhywbeth diraddiol mewn siarad Cymraeg. Y mae llawer o starch
a Saesneg rywsut yn tynu at eu gilydd.
Oddiar brofiad a chyda gofid y dywedaf am lawer o weinidogion yr Efengyl, mai
hwy yw y gelynion creulonaf a welodd ein hiaith erioed. Llawer o honynt
ddywedais, cofier - nid yr oll o honynt. Y mae Dic Shon Dafyddiaeth rhai o
honynt yn anesboniadwy ac yn ffiaidd i mi.
Meddylier am wladwr cyffredin o Gymro wedi myned i'r weinidogaeth Gymreig, yn
codi ei blant mewn anwybodaeth hollol o'r iaith y pregetha efe ei hun ynddi ar
hyd ei fywyd. Neu, os nad ydynt yn anwybodus o honi, y maent yn rhy falch a
ffroenuchel i'w harfer.
Bum yn aros yn nhai y rhai hyn, a methais gael gair o Gymraeg o'u geneuau tra
fum yno. Gwn y meddylient hwy yn uchel o'u Seisnigeiddiwch hyll, ond
Gallai y gweinidog Cymreig fod yn ffynonell o ddylanwad ac o nerth i'r iaith;
ac felly mae mewn rhai amgylchiadau; and mewn amgylchiadau ereill y mae yn
angau i'n hiaith ac i bopeth sydd yn hardd o ran hyny. Meddylia ambell un fwy o
lawer am allu siarad tipyn o Saesneg bratiog nag am achub eneidiau.
Nid wyf ond dyn tlawd, ond o gariad at fy ngwlad a'm hiaith, yr wyf yn barod i
roddi pymtheg swllt o wobr am y ddrama neu y stori fer oreu, a lanwai golofn a
haner neu ddwy golofn o'r Darian, yn gosod allan ynfydrwydd 'Y gweinidog
Dic-Shon-Dafyddol'. Yr unig amodau a roddaf yw fod y buddugol, a rhai ereill a
fernir yn briodol - gyda chaniatad y Golygydd - i'w gyhoeddi yn y Darian.
Anfoner hwy i fewn erbyn Chwefror y 1af, i ofal Golygydd y Darian.
Efallai, erbyn hyny, y bydd y wobr wedi ychwanegu, neu ail wobr i'w rhoddi.
Nid y pethau wedi mynd mor bell eto, hyd yn od yn Merthyr a threfydd tebyg
iddi, na ellid gydag ymdrech adenill i'n hiaith safle o anrhydedd a dylanwad.
Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol i'r pwrpas hwn ydyw i'w charedigion ei siarad ym
mhob lle, a rhoddi'r cynyg cyntaf iddi gyda phawb. Gwn am enghreifftiau o iaith
yr aelwyd wedi newid o'r Saesneg i'r Gymraeg drwy ddyfodiad Cymro nad oedd
Gallai llyfrwerthwyr a newyddiadurwyr hefyd wneud llawer. Y mae rhai o honynt
yn gwneud llawer. Gresyn yw gweled ereill yn hollol esgeleusus o honi. Dipyn yn
annyoddefol i Gymro gwladgar yw gweled yn aml, mewn lle hollol Gymreig,
hysbysleni am bob math o bapyrau Seisneig, glan ac aflan, yn cael eu
harddangos, tra nad oes na newyddiadur na llyfryn Cymreig o'r tufewn i'r siop.
Yn nghyd a'r dosbarthiadau a'r gwahanol gymdeithasau a gefnogant y Gymraeg,
dylasai fod genym gymdeithas i gefnogi newyddiaduron a llenyddiaeth Gymraeg ym
mhob ffurf, ac i ddyfeisio pob moddion posibl i'w dwyn i sylw. Tybed na thalai
y ffordd i ni gael llyfrau ceiniog bychain, yn cynwys detholion o weithiau ein
beirdd a llenorion goreu. Rhoddai ceiniogwerth o Ceiriog neu Daniel Owen flas i
filoedd ar Lenyddiaeth Gymreig nas gwyddant efallai am eu henwau yn bresenol, a
cheid to newydd o ddarllenwyr yn mhlith rhai na wariasant efallai geinog ar
lyfr o'r blaen.
·····
Gweler hefyd 0851k
Diarhebion Lleol (Merthyrtudful, 1895)
·····
http://news2.thls.bbc.co.uk/hi/english/newyddion/
Y newyddion dyddiol yn Gymraeg gyda'r BBC!
Mae BBC Cymru Arlein yn darparu gwasanaeth cyflawn o newyddion Cymraeg dros y
rhyngrwyd
Darllen y newyddion yn Gymraeg (papur newydd arlein y BBC)
Gwrando ar y newyddion yn Gymraeg (ffeiliau sain)
Edrych ar y newyddion yn Gymraeg (ffeiliau fideo o'r teledu yn Gymraeg - S4C)
ffeil:
merth01.doc
Adolygiadau
diweddaraf: 30 03 2000
·····
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n
ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (=
Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
Edrychwch
ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats