0990ke Gwefan Cymru-Catalonia..The Welsh in America, 1896, 1897 - some news items from the ‘Teulu’ magazine, taken from the American Welsh newspaper ‘Y Drych’. In Glouster, Athens Co., Ohio, the death has taken place of Mr. Thomas James, around 74 years old. He was born in Merthyr Tydfil. He married Betsi, the daughter of Evan William, Pen yr Heol farm, Merthyr, around 47 years ago

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_026_tros_y_tonnau_0990ke.htm

0001z Y Tudalen Blaen / The Home Page

..........1864e Y Porth Saesneg / Gateway to the Website in English

....................0010e Y Gwegynllun / Siteplan in English

..............................0977e Y Gyfeirdalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) / Welsh texts on this website - contents page

........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..



0860k
y llyfr ymwelwyr
/ visitors’ book

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les

Dyma ran o Adran 11 yn y wefan hon, sef
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

TROS Y TONNAU - newyddion am Gymry América, 1896, 1897

OVER THE SEA - news of the Welsh in America, 1896, 1897

 


Adolygiadau diweddaraf - latest updates
19 06 2000

 

  0950k Cymraeg yn unig



(Y Teulu - Rhagfyr 12 1896)
TROS Y TONAU (O’R DRYCH)

The Family [name of the magazine] - December 12 1896
OVER THE WAVES (FROM Y DRYCH) - i.e. a section with news taken from the American Welsh paper, ‘Y Drych’ = ‘the mirror’

_______________________________

Mae y Parch. D. Baran Jones wedu dychwelyd gartref i Thurman, O., ar ôl treulio deng wythnos yn ardal Rhyd-y-fro, Pontardawe

The Rev. D. Baran Jones has returned home to Thurman, O., after spending ten weeks in the Rhyd-y-fro area, Pontardawe

_______________________________


(Y Teulu - Rhagfyr 12 1896)
TROS Y TONAU (O’R DRYCH)
Mae Pwyllgor y "Cymreigyddion" yn Utica i drefnu program Eisteddfod y Calan wedi cwblhau eu gwaith. Yn ôl y rhagolygon presennol bydd gwell cystadleuaeth gerddorol nag a gafwyd er’s blynyddau.

The "Cymreigyddion" Committee in Utica (set up) to arrange the New Year Eisteddfod has completed its work. To go by present forecasts there’ll be better competition in the musical events than there has been for years

_______________________________


(Y Teulu - Rhagfyr 12 1896)
TROS Y TONAU (O’R DRYCH)
Ergyd drom i Mrs. Apmadoc, Chicago, oedd derbyn bryseb o Gymru yn hysbysu am farwolaeth ei thad, Morris Jones, Ebenezer, Arfon. Yr oedd hi a’i merch Olwen i gychwyn yno yn y "Majestic".

It was a heavy blow for Mrs. Apmadoc, Chicago to receive a telegram from Wales informing her of the death of her father, Morris Jones, Ebenezer, Arfon. She and her daughter Olwen were to set out there in the "Majestic".

_______________________________


(Y Teulu - Rhagfyr 12 1896)
TROS Y TONAU (O’R DRYCH)
Yn Columbus, bu farw Mr. O. Edward Jones, yn 75 oed. Ganwyd ef yn Llangollen, Sir Ddinbych. Ychydig cyn gadael Cymru yn 1848 ymunodd mewn priodas â Miss Catherine Davies, yr hon a fu yn ymgeledd gymhwys iddo yn holl ystyr y gair. Treuliodd 48 o flynyddoedd yn Columbus, a dilynai yr alwedigaeth o blastrwr. Yr oedd yn gwmnïwr diddan. Ymhyfrydai mewn llenyddiaeth Gymreig.


In Columbus the death took place of Mr. O. Edward Jones, at the age of 75. He was born in Llangollen, Sir Ddinbych (Denbighshire). Shortly before leaving Wales in 1848 he married Miss Catherine Davies, who was a helpmate for him in the true sense of the word. He spent 48 years in Columbus, and followed the trade of plasterer. He was pleasant company. He was very fond of Welsh literature

_______________________________
.

(Y Teulu - Rhagfyr 12 1896)
TROS Y TONAU (O’R DRYCH)
Da iawn fydd gan gannoedd cyfeillion Mr. David Rosser, gynt o Aberdâr a Phontypridd, ddeall ei fod wedi ei ddewis allan o liaws o ymgeiswyr yn arweinydd côr eglwys Immanual, ar heol Michigan, yn agos i 24th Street, Chicago.
Rhifa y côr dros gant o bobl yr eglwys. Gwyddai y rhai sydd yn adwaen Mr. David Rosser am ei allu corawl arweiniol. Pan yr ymaflodd Dafydd yn yr awenau cafodd y côr adgyfodiad cerddorol, ac y mae newydd wedd y canu yn dra boddhaol i’r eglwys a’r gynnulleidfa {sic}

The hundreds of friends o Mr. David Rosser, formerly of Aberdâr and Pont-ty-pridd, will be pleased to know that he has been chosen out of a great number of candidates as the leader of the choir of the Immanual church, on Michigan Road, near 24th Street, Chicago. There are over a hundred church members in the choir. Those who know Mr. David Rosser know of his ability in conducting choirs.. When Dafydd took over the reins the choir had a musical revival and the new style of singing is very satisfactory for the church and the audience.

_______________________________


(Y Teulu - Rhagfyr 12 1896)
TROS Y TONAU (O’R DRYCH)
Mae ysgrifenydd yn y Drych yn dweyd fel hyn: Gallaf ddyweyd yn ddibetrus y gall dynion da wneud bywoliaeth gysurus yn California ond iddynt gadw o ddyled. Anfona amryw i ymofyn am ddeuheudir California. Atebaf y rhai hyn - fel yr ysgrifenais o’r blaen - fod y tiroedd yn rhatach yng nghanolbarth California, a bod y ffrwythau yn tyfu yn well yno. Yr unig ffrwythau a hawlir genym yn fwy rhagorol ydyw yr oranges a’r lemons.
Ond tybia llawer yn awr y gellir tyfu y ffrwythau yn gystal yn y San Joaquin a’r Sacramento Valleys ag a ellir yma.

A writer in "Y Drych" says: I can say without hesitation that people can make a comfortable living in California provided they keep out of debt. Many people have wriiten to ask about southern California. I tell them as I’ve written before - that the land is cheaper in central California, and that fruit grows better there. The only fruit which we claim are of better quality are oranges and lemons. But now many think that the fruits can be grown just as well in the San Joaquin and Sacramento Valleys as they can here

_______________________________
.

(Y Teulu - Rhagfyr 12 1896)
TROS Y TONAU (O’R DRYCH)
Yn Glouster, Athens Co., Ohio, bu farw Mr. Thomas James, tua 74 mlwydd oed. Ganwyd ef yn Merthyr Tydfil. Priododd Betsi, merch Evan William, fferm Pen yr Heol, Merthyr, tua 47 mlynedd yn ôl. Bu yn daniwr yn y Werfa, Aberdar, am lawer o flynyddoedd; wedi hyny yn Sgubor Wen, Aberdar, a thrachefn yn Blaenllechau, Rhondda Fach. Yr oedd yn daniwr yno yn ystod y ddwy danchwa anffodus, pryd y collodd ddau fachgen. Dangosodd lawr iawn o wroldeb yn y danchwa gyntaf, am yr hyn yr anrhegodd y gweithwyr ef âg oriawr a chadwen aur, a rhoddodd Mr. Davies, Blaengwawr, hefyd bumpunt iddo. Symudodd i Gwmaman, Aberdar, tua 1870, lle y collodd ei briod trwy farwolaeth yn fuan wedi symud yno. Aeth i Clydach Vale tua 1885, lle bu yn arolygydd. Daeth i’r wlad hon dair blynedd yn ôl, gan ymsefydlu yn Zaleski, Vinton Co., Ohio, gyda’i blant a’i fab yn nhgyfraith, sef Wm. H. Williams, priod ei ferch henaf, yr hon fu farw tua blwyddyn cyn dyfodiad ei thad i’r wlad hon. Daeth i Glouster tua dwy flynedd yn ôl.

In Glouster, Athens Co., Ohio, the death has taken place of Mr. Thomas James, around 74 years old. He was born in Merthyr Tydfil. He married Betsi, the daughter of Evan William, Pen yr Heol farm, Merthyr, around 47 years ago. He was a fireman in Y Werfa [colliery] (= shady place), Aberdar, for many years in Sgubor Wen [colliery] (= white barn), Aberdar, and again in Blaenllechau [colliery], Rhondda Fach. He was fireman there during the two unfortunate explosions, when he lost two sons. He showed great bravery in the first explosion, for which the workers awarded him with a gold watch and chain, and Mr. Davies, Blaengwawr, also gave him five pounds. He moved to Cwmaman, Aberdar, around 1870, where his wife died shortly afterwards. He went to Clydach Vale around 1885, where he was supervisor. He came to his country thre years ago, and settled in Zaleski, Vinton Co., Ohio, with his children and his son-in-law, Wm. H. Williams, the husband of his eldest daughter, who died about a year before her father came to this country. He came to Glouster about two years ago

_______________________________
.

(Y Teulu - Ionawr 30 1897)
TROS Y TONAU (O’R DRYCH)
Bu farw yr Hybarch John R. Williams, Scranton, Pa., mewn canlyniad i gael ergyd o’r parlys ychydig yn ôl. Gwnaeth laer o waith da yn ei dydd. Yr oedd yn frawd i’r Parch. S. Williams (Gwentydd Fardd).

The death has taken place of the Very Rev. John R. Williams, Scranton, Pa., following a stroke of paralysis recently. He did a lot of good work in his day. He was the brother of the Rev. S. Williams (Gwentydd Fardd).

_______________________________


(Y Teulu - Ionawr 30 1897)
TROS Y TONAU (O’R DRYCH)
Mae eglwys y Bedyddwyr yn Youngstown, O., yn parhau i lwyddo dan weinidogaeth y Parch. R. C. Morgan. Derbyniwyd 15 o aelodau ar y 15fed o Ragfyr, a daeth 12 i’r gyfeillach ar ol hyny, oll yn Gymry "glân gloew."
Mae y capel hardd yn orlawn bob nos Sul.

The Baptist church in Youngstown, O., continues to flourish under the ministership of the Rev. R. C. Morgan. !5 members were received on the 15th of December, and 12 came to the meeting after this, all of them true Welsh people. The beautiful chapel is full to overflowing every Sunday night.

_______________________________


(Y Teulu - Ionawr 30 1897)
TROS Y TONAU (O’R DRYCH)
Bu farw yn Reading, Cal., Mr. Edward W. Jones, o San Francisco, yn 66 oed. Genedigol oedd o Dreffynnon. Ymfudodd ef a’i deulu o Llundain {sic 23 mlynedd {sic yn ol. Gadawodd briod, Mrs. Jemima Jones, a thri o blant, Mrs. T. Longworth, Robert W. Jones, a J. Price Jones, ar ol i hiraethu am dano, oll o San Francisco.

Mr. Edward W. Jones, of San Francisco, has died in Reading, Cal., at the age of 66. He was originally from Treffynnon {‘Holywell’. He emigrated with his wife and his family from London 23 years ago. He leaves a wife, Mrs. Jemima Jones, and three children, Mrs. T. Longworth, Robert W. Jones, and J. Price Jones, to mourn his loss (‘to long for him’), all from San Francisco.

_______________________________


(Y Teulu - Ionawr 30 1897)
TROS Y TONAU (O’R DRYCH)
Yn St. Mary’s Chapel, East Boston, y cafwyd y bregeth Gymraeg ddiweddaraf. Daeth cynulliad da o’r Cymry ynghyd, a phregethodd Mr. J. Chris Williams yn effeithiol fel arferol. Mae yn hyfrydwch gweled yr Ysgol Sul Gymreig yn parhau i ddal ei thir yn East Boston, o dan arolygaeth y brawd Mr. Hugh Jones, Cottage Street.

In St. Mary’s Chapel, East Boston, the latest Welsh sermon was given. A good audience of Welsh people came together, and Mr. J. Chris Williams gave an effective sermon as usual. It’s wonderful to see the Welsh Sunday School still holding its ground in East Boston, under the direction of our brother Mr. Hugh Jones, Cottage Street.

_______________________________


(Y Teulu - Ionawr 30 1897)
TROS Y TONAU (O’R DRYCH)
Dau feddyg Cymreig sydd yn dringo i enwogrwydd yn eu gwaith yn Chicago ydyw Dr. T. J. Watkins, un o Watkinsiaid Steuben, N.Y., a’r Dr. J. T. Lave, neu Levi - cefnder y Parch. Thomas Levi, Aberystwyth. Mae y blaenaf yn un o law-feddygon pwysicaf rhai o’r hospitals; a’r olaf yn enwog gyda rhyfeddodau darganfyddol yr X Rays. Edrycha yn aml trwy ddynion; ond nid yw efe wedi darganfod pechod-fan yr un o honynt.

DaTwo Welsh doctors who are climbing to fame in their work in Chicago are Dr. T. J. Watkins, one of the Watkins’s of Steuben, N.Y., and Dr. J. T. Lave, or Levi - cousin of the Rev. Thomas Levi, Aberystwyth. The former is one of the most important surgeons in some of the hospitals; and the latter is famous with the discovering wonders of X Rays. He often looks through people; but he hasn’t discoverd the source of sin (‘a sin-place’) in any of them

_______________________________


(Y Teulu - Ionawr 30 1897)
TROS Y TONAU (O’R DRYCH)
Bu y canwr nodedig, Mr. B. Ffrancgon Davies, yn ninas St. Louis Dydd Diolchgarwch, a rhoddai y newyddiaduron glod uchel iddo. Gydag ef yr oedd Miss Helen Buckley yn canu nes "tynu y ty^ i lawr." Y darn a ddatgenid oedd yr "Elijah," dan nawdd y Choral Symphony Society. Nos Sadwrn drachefn canodd Mr. Davies yn y "Messiah." Mae Cymraes o’r enw Miss Sarah J. Jones, merch Mr. E. C. Jones, yn aleod o’r Gymdeithas, ac fe allai ragor o Gymry. Yr arweinydd yw Mr. Alfred Ernst. Bydd Mr. Ben Davies yma yn Ebrill, a Mr. H. Evan Williams yn Chwefror.

The noted singer, Mr. B. Ffrancgon Davies, has been in St. Louis on Thanksgiving Day, and the journalists praised him highly. With him sang Miss Helen Buckley until "they brought the house down". The piece they performed was the "Elijah," with the support of the Choral Symphony Society. Mr. Davies sang again on Saturday night in the "Messiah." A Welshwoman called Miss Sarah J. Jones, the daughter of Mr. E. C. Jones, is a member of the Society, and possibly other Welsh people. The conductor was Mr. Alfred Ernst. Mr. Ben Davies will be here in April, and Mr. H. Evan Williams in February.

_______________________________


(Y Teulu - Ionawr 30 1897)
TROS Y TONAU (O’R DRYCH)
Bu farw yn Spanish Forks, Utah, y cerddor galluog Mr. William H. Davies, yr hwn a anwyd yn Merthyr Tydfil, Gorph. 4, 1842; ac yr oedd ei angladd yn un anrhydeddus iawn, llawer wedi dyfod o bellder mawr. Yr oedd Mr. Davies yn ddyn gonest, ac yn zelog dros bob peth da. Gwnaeth wasanaeth mawr fel athraw, mewn dysgu corau a seindyrf, a theimlir colled ar ei ol. Pan oedd Apmadoc yma bu y ddau yn cydganu, ac nis gellir gor-brisio ei wasanaeth gyda cherddoriaeth. Ennillodd fuddugoliaeth mewn Eisteddfod fu yma, a bydd ei ddylanwad yn hir ar gantorion. Bu am flwyddyn yn gofnodydd i’r Young Men’s Co-operative Store yma, ac mewn masnachdai eraill yn yr ardal; ac yr oedd iddo air uchel gan ei holl gwsmeriaid. Ond methodd ei iechyd, a bu yn gweithio fel saer celfydd. Efe oedd un a gododd y pafilion yma, sef ty i’r bobl gynnal eu cyfarfodydd, yr hwn gostiodd o $3000 i $4000 ac efe oedd cofnodydd y Cambrian Society. Pregethwyd yn ei angladd ar y 27ain gan yr enwog W. Crier, cyfreithiwr, a John Moore; ac yn Gymraeg gan yr enwog W. B. Jones, gynt o Scranton, Pa. Hefyd canodd y côr mawr yr oedd yr ymadawedig yn aelod o hono o dan arweiniad W. T: James, yr hwn a gollodd lawer o ddagrau ar ôl ei anwyl frawd, yr hwn adawodd ar ei ôl weddw a merch gariadus, yn gystal a brodyr a chwiorydd.

The talented musician Mr. William H. Davies has died in Spanish Forks, Utah. He was born in Merthyr Tydfil, July 4, 1842. His funeral was a very honarable one, may had come a great distance. Mr. Davies was an honest man, and zealous for everythin that was good. He rendered great service as a teacher, teaching choirs and orchestras, and he will be sorely missed (‘there will be a loss after him’). When Apmadoc was here both sang together, and his service to music cannot be overestimated. He gained victory in an Eisteddfod that was here, and his influnece on singers will last a long time. For a year he was the clerk of the Young Men’s Co-operative Store here, and in other shops in the area; and all his customers spoke highly of him. But his health failed, and he worked as a skilled woodworker. He was one of the people who built the pavilion here, the place for people to hold their meetings, which cost from $3000 to $4000 and he was the secretary of the Cambrian Society. The sermons at his funeral on the 27th were given by the renowned W. Crier, lawyer, and John Moore; and in Welsh by the eminent W. B. Jones, formerly of Scranton, Pa. The great choir of which the departed was a member also sang, under W. T. James, who shed many tears after his dear brother, who leaves a widow and a loving daughter, as well as brothers and sisters.

_______________________________

 

DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN / LINKS TO THE REST OF THIS WEBSITE




DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN / LINKS TO THE REST OF THE WEBSITE

1050e

Gogledd América

North America
 
····

0043c
Yr iaith Gymraeg

The Welsh Language
·····
0005k
Mynegai yn nhrefn y wyddor i’r hyn a geir yn y gwefan; o’r tudalen hwn gellir hefyd
chwilio’r gwefan hwn â’r archwiliwr mewnol

Index of contents of the website
·····
1051e
Testunau Cymraeg â throsiad Saesneg yn y gwefan hwn

Welsh texts with English translations
 

 

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ 
 

Ble’r wyf i?
Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats