1061 'Ni'n Doi'. ('We Two') Extract from a book written in 1918 by Glynfab, with humourous accounts of the adventures of two colliers Dai and Shoni. They were written in what was the majority dialect of Wales at the beginning of the century (Gwenhwÿseg / South-eastern Welsh), nowadays all but gone after the south-easterners abandoned their forefathers' language en masse in the twenties and thirties of the last century, and failed to pass it on to their children. "Pishÿn o waith Mynyddog, w-i'n gretu oodd y pishÿn ganas-i nawr. Ma-fa'n iitha pert, a yn atab y mwwfmants yn well na allwn-i ddishgrifio. Os ÿw y pishÿn yn goparplêt, a jail 'i fod am 'i brinto-fa yn y papra..."

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_017_nindoi_saesneg_06_1061ke.htm

Yr Hafan / Home Page

..........
1864e Y Fynedfa yn  Gatalaneg / Gateway in English to this website

....................0010e Y Barthlen yn Saesneg / Siteplan in English


...........................................0977e Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) / Welsh texts on this website - contents page

............................................................y tudalen hwn / this page



..






Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya

Cywaith Siôn Prys (Casgliad o Destunau yn Gymraeg)
El projecte Siôn Prys (Col·lecció de textos en gal·lès)


Ni’n Dou (= we two)
Glynfab. 1918

Extract from a book written in 1918 in what was the majority dialect of Wales at the beginning of the century (South-eastern Welsh). It is today all but gone as a result of the communities in this part of Wales having yielded to the imposition of the English language especially from 1920 onwards - in affect, having committed mass linguistic suicide by abandoning the language that had been spoken there for some over two and a half thousand years (British / Welsh), and raising the young in an alien language.
·····
'Ni'n Doi', sef Hanes Ysmala Dai a Shoni yn y Rhyfel. Llÿfr Mwÿaf Difyrus yr Iaith.
Gan Glynfab.
Diccyn o Anas Dai a Finna a'r Ryfal.
"I gatw'r ên Dafottiath yn fÿw".
= 'We Two", being the comical story of Dai and Shoni in the war: The funniest book in the (Welsh) language. By Glynfab.
A bit of the history of Dai and myself and the war. "To keep the old dialect alive":
·····
Publisher: W M Evans a'i Fab (W.M. Evans and (his) son)
Place: Swÿddfa "Seren Cymru", Caerfyrddin (office of the 'Seren Cymru' magazine - the star of Wales - town of Caerfyrddin)
Year: 1918
·····
Glynfab ="velley son”, son of the (Rhondda) valley; glÿn = valley; + soft mutation [m] > [v]; mab = son.



 

 


0926e Features of the Gwentian dialect - explains how the Gwentian dialect differs from standard Welsh: "cadair" (= chair), Gwentian "catar", etc

(The version is in our experimental revised spelling for the south-eastern dialect.
It differs from the original in that
i) for long vowels which are diphthongs in the standard language, we use double vowels
standard Welsh 'oedd' = was, original text 'odd', our version 'oodd'
standard Welsh 'maen' = stone, original text 'mân', our version 'mään' (since southern 'aa' resembles a long open 'e' in the South-east). The advantage of this spelling is that it shows that the vowel is long and that it is has replaced an original diphthong.

ii) In the South-east the 'h' is generally lost, except when a word with 'h' or 'rh' is given very strong emphasis. We represent the lost h by a superscript hanas = hanes (history), rhaid = rhaid (necessity).
iii) A hyphen is placed before the tag pronouns : myntwn-i = I said
The page is divided into two parts. Firstly:
1 Version in Welsh in dialect spelling
and secondly:
2 Version in standard spelling
 
···· Original spelling
···· A standardised spelling of south-eastern Welsh
···· Standard Welsh
···· English translation

(1) Y Wechfad Shwrna - Mÿnd i Setlo Sgwârs â Wil

(2) Fersiwn mewn Cymraeg safonol llenyddol (ar wahân i rai nodweddion sÿdd yn llai llenyddol, megis (i) y rhagenwau ôl, (ii) y negyddÿn ddim, (iii) y terfyniad -iff)

(1) Y Wechfad Shwrna - Mÿnd i Setlo Sgwârs â Wil
Y Wechfad Shwrna - Mÿnd i Setlo Sgwârs â Wil
Y chweched siwrnai - mÿnd i setlo sgwârs â Wil
The sixth truckload - going to settle accounts with Wil
__________________________________________________

I ddath y bora, bora’r “Kick off” odd Dai yn i alw fa.
(H)i-ddaath y bora, bora’r “Kick-off” oodd Dai yn ‘i alw-fa.
Fe ddaeth y bore, bore’r “Kick-off” yr oedd Dai yn ei alw ef.
The morning came,  the morning of the ‘kick-off’ Dai called it.
__________________________________________________

Odd yr officars yn brasgamu nol a blân, a’r showdwrs yn bisnessan fel sa chi’n acos i gwch gwenyn.
Oodd yr óffisars yn brasgamu nôl a blaan, a’r showdwrs yn busnesan fel sa-chi’n acos i gwch gwenÿn.
Yr oedd yr ‘óffisers’ yn brasgamu yn ôl a blaen, a’r ‘sowdiwrs’ (milwÿr) yn busnesan fel pe buasech chi yn agos i gwch gwenÿn.
The officers were striding back and forth, and the soldiers were  busying about as if you were close to a beehive
__________________________________________________

W i’n siwr bod bona clusta Will o Berlin yn ddiccon pôth i chi bopi blotars o’u blân nw.
W-i’n siwr fod bona clusta Wil o Berlin yn ddicon pooth i chi bopi bloaters o’u blaan-nw.
Yr wÿf fi yn sicr fod bonau clustiau Wil o Berlin yn ddigon poeth i chi bobi ‘bloaters’ o’u blaen hwÿ.
I’m sure that Wil from Berlin’s ears were warm enough for you to cook bloaters on them (from the belief that people’s ears become warm if somebody somewhere is talking about them)
__________________________________________________

O ni’n cal amall i bip ar Lifftenant Ted, on wrth gwrs odd a yn y’n napod ni, a dim yn y’n napod ni ar y pryd.
Oo-ni’n caal amall i bip ar Lifftenant Tèd, on’ wrth gwrs oodd-a yn yn napod-ni, a dim yn yn napod-ni ar y prÿd.
Yr oeddem ni yn cael ambell bip (ambell gipolwg) ar Lifftenant Tèd, ond wrth gwrs yr oedd ef yn ein hadnabod ni, a dim yn ein hadnabod ni ar y prÿd
I had an occasional peep at Lieutenant Tes, but of course he knew me, and didn’t know me at the same time
__________________________________________________

Ryw weyd bach od yw wnna, ontefa? On i chi’n diall beth w i yn wilia o bothdi fa.
Rÿw weud bach òd ÿw (h)wnna, on tefa? On’ i chi’n diall //”deall”// beth w-i yn wilia o bothdi-fa.
Rhÿw ddweud bach òd ÿw hwnna, onid e? Ond yr ÿch chi yn deall beth (yr hÿn) yr wÿf yn chwedleua (siarad) o’i beutu ef (amdano ef).
That’s an odd thing to say, isn’t it? ([it-is] ’some odd saying that-is that, isn’t it?) But you know what I’m talking about
__________________________________________________

Fel officar odd a ddim yn y’n napod ni - yn gorffod catw dishtans, on fel partnar odd a’n tywli amall i winc pan yn cwrlo’i fystash.
Fel óffisar oodd-a ddim yn yn napod-ni - yn gorffod catw dishtans, on’ fel partnar oodd-a’n tywlu amall i winc pan yn cwrlo’i fystásh.
Fel ‘óffiser’ nid oedd e ddim yn ein hadnabod ni - yn gorfod cadw ‘distans’, ond fel partner (cyfaill) yr oedd ef yn taflu ambell winc pan yn cyrlio ei fwstásh
As an officer he didn’t know us - (he was) obliged to keep a distance, but as a mate / friend he gave (‘he threw’) an occasional wink as he twiddled his moustache
__________________________________________________

On i’n falch i weld a fel y gwetws bachan o fardd “Yn gneud cest fel brest brān.”
Oon-i’n falch **‘i weld-a fel y gwetws bachan o fardd
“Yn gneud cest fel
brest brân.”
Yr oeddwn i yn falch i’w weld ef fel y dywedodd bachan o fardd (rhÿw fardd)
“Yn gwneud cest fel
brest brân.”
I was proud to see him as some poet fellow said, puffing out his chest like a crow (“making a chest like a crow’s chest”) __________________________________________________

Ma ni off yn nrecsiwn y stashion.
**’Ma ni off yn nrecshwn y stashon.
Dyma ni ymáith yng nghyfeiriad yr orsaf.

Off we went in the direction of the station

 
“Cw^n ddou dickat i
Berlin,” mynta Dai, yn cellwar diccyn, “a taligraffta at Wil, a gwed – ‘Meet me by moonlight alone.’”

“Cwnn ddou dicat i Berlin,” mynta Dai, yn cellwar dicÿn, “a taligraffta at Wil, a gwèd - “Meet me by moonlight alone.”
Cwnn (cwÿd) ddau docÿn i
Berlin, “ meddai Dai, yn cellwair dipÿn, a téligraffa at Wil, a dweud“Meet me by moonlight alone.”
Buy (“raise”) two tickets to Berlin, said Dai, having a bit of a joke (“joking a bit”), and telegraph Will, and tell him (“and say”)  “Meet me by moonlight alone.”


“Gwell peedo bachan,” myntwn i yn sbortan diccyn.
“Gwell piido bachan,” myntwn-i yn sbortan dicÿn.

“Gwell peidio bachan,” meddwn i yn sbortan (gwamalu) dipÿn

“Best not to, mun (“better ceasing”), I said joking a bit

 

“Na, gwell peedo, ar mencos i, i fydd ynny yn i ddoti fa ar y watch.

“Na, gwell piido, ar mencos i, (h)i fydd (h)ynny yn i ddoti fa ar y watsh.

“Na, gwell peidio, ar mencos i, fe fydd hynny yn ei ddodi / ei roi  ar ei wyliadwriaeth.

 

“Na, Dai, i goleri fa eb yn wpod daliff y ffordd”.

“Na, Dai, ‘i goleri-fa (h)èb yn wpod daliff y ffordd”.
“Na, Dai, ei goleri ef heb yn wÿbod a daliff y ffordd

 
“Daliff y ffordd, Shoni? Gnaiff walla. Os cwrddiff Wil a fi, i dwlla ffordd âr trw’r boi, a fydd dim eesha spyin’-glass i bippo ar y sers a’r planeta wettyny. 
“Daliff y ffordd, Shoni? Gnaiff walla. Os cwrddiff Wil â fi,  (h)i-dwlla ffordd aar trw’r boi, a fÿdd dim iisha spyin’-glass
i bipo ar y sêrs a’r planeta weti ‘nÿ.
A daliff y ffordd, Shoni? Gwnaiff efallai. Os cwrddiff Wil â mi, fe dyllaf ffordd aer trwÿ’r boi, ac ni fÿdd dim eisiau ‘spying glass’ i bipo (edrÿch) ar y sêr a’r planedau wedi hynnÿ

(x38) Miwn i’r train a ni.
Miwn i’r train â ni.
I mewn i’r trên â ni

“Ergyd a phwff, a miwn annar wiff
Hwlti, heltar, skilt a skeltar.
Ffwrdd a ni fel rai ar baddella
Ne rês o diccella
Link lonk wrth gynffon ci.”

“Ergÿd a phwff, a miwn (h)annar wìff
Hwlti, heltar, sgilt a sgeltar.
Ffordd â ni fel r(h)ai ar badella
Yn r(h)es o dicella
Linc-lonc wrth gynffon ci”
“Ergÿd a phwff, a mewn hanner chwìff
Hwlti, helter, sgilt a sgelter.
I ffwrdd â ni fel rhai ar badellau
Yn rhes o degellau
Linc-lonc wrth gynffon ci”

Pishin o waith Mynyddog, w i’n gretu odd y pishin ganas i nawr. Ma fa’n eetha pert, a yn attab y movemants yn well na allwn i ddishgrifo
Pishÿn o waith Mynyddog, w-i’n gretu oodd y pishÿn ganas-i nawr. Ma-fa’n iitha pert, a yn atab y muufmants yn well na allwn-i ddishgrifio.
Pishÿn o waith Mynyddog, yr wÿf yn credu yr oedd y pishÿn (darn) a ganais i nawr. Mae ef yn eithaf pert, ac yn ateb y muufmants yn well na gallwn i disgrifio.

Os yw y pishin yn “gopparplate,” a jail i fod am i brinto yn y pappra, os dim i neyd on jofadd diccyn o bunishmant. I na i wech mish yn rwydd ar ol croppo mystash y Kaisar.
Os ÿw y pishÿn yn goparplêt, a jail i fod am ‘i brinto-fa yn y papra, oos dim i neud on jofadd dicÿn o bynishmant. (H)i-na-i wech mish yn r(h)wÿdd ar ôl cropo mystásh y Kaisar.
Os ÿw y pishÿn (darn) yn goperplêt, a jail (carchar) i fod am ei brintio ef yn y papurua, nid oes dim i’w wneud ond dioddef dipÿn o gocb. Fe wnaf fi chwe mis yn rhwÿdd (hawdd) ar ôl cropio (torri) mwstásh y Kaiser.

Ma Southampton o’r diwadd! Yr arcol na sight! Llonga a llonga, a mastis wrth y milodd, fel sa chi’n gweld gallt fawr o gôd cinna-banes.
**‘Ma Southampton o’r diwadd! Yr arcol **‘na sait (=sight)! Llonga, llonga, a mastus wrth y milo’dd, fel sa-chi’n gweld gallt fawr o good cina-bêns.
Dyma Southampton o’r diwedd! Yr argoel dyna olygfa! Llongau, llongau, a mastiau wrth y miloedd, fel pe busaech chi yn gweld gallt fawr (coed mawr) o goed cidna-bêns.

Bâta bach wrth y cannodd, stemars wrth y milodd, a showdwrs fel crowd o forgrug, ne’r jack-i-jwmpars i chi’n weld yn y câ amsar lladd gwair.
Baata bach wrth y canno’dd, stêmars wrth y milo’dd, a showdwrs fel crowd o forgrug, ne’r jaci-jwmpars ÿ-chi’n weld yn y caa amsar lladd gwair.
Badau bach wrth y cannoedd, stêmars wrth y miloedd, a sowdiwrs (milwÿr) fel crowd (haid) o forgrug, neu’r jaci-jwmpars (ceiliogod y rhedÿn) yr ÿch chi yn eu gweld yn y cae amser lladd gwair

Chlappas i ddim o’n llicced ar gymant o boppath ar yr un pryd ariod.
Chlapas-i ddim o’n lliced ar gymant o bopath ar yr un prÿd arióod.
Chlapais (Ni osodais) i ddim o’m llygiad ar gymaint o bopeth ar yr un prÿd erióed.

“Shoni,” mynta Dai, “Bachan, ma rwpath yn depyg i sgyrshon Pwll y Winsor i Ilfrancwn. Bachan ma soppyn o boppath.”
“Shoni,” mynta Dai, “Bachan, ma rhwpath yn depÿg i sgyrshon Pwll y Winsor i Ilffrancwn. Bachan **‘ma sopÿn o bopath.”
“Shoni,” meddai Dai, “Bachan, mae rhÿwbeth yn debÿg i ‘sgyrshon’ (gwibdaith) Pwll y Windsor i Ilfracombe. Bachan, dyma sopÿn (llawer) o bopeth.”

“Os,” wetas i, a men yn acor allsach stwffo magna bona i miwn iddo. “Os wir Dai. Ma beth yw golyccfa ar mencos i.”
 “Oos,” wetas-i, a m(h)en yn acor allsach stwffo magna bona (??) i miwn iddo. “Oos wir Dai. **‘Ma beth ÿw golycfa ar mencos-i.”
“Oes,” fe wedais i, ac fy mhen yn agor fe allsech stwffo ‘magna bona’ (??) i mewn iddo. “Oes yn wir Dai. Dyma beth ÿw golygfa, ar fy einoes i.”

Mas a ni i’r platform a golwg ffyrs
arno ni, yn barod i waith.
Maas aa ni i’r platfform a golwg ffirs arno-ni, yn barod i waith.
I maes â ni i’r platfform a golwg ffirs (gwÿllt)
arno ni, yn barod i waith.

“Fall in!” mynta’r officars. I ddishgwilws Dai arno i.
“Fall in!” mynta’r óffisars. (H)i-ddishgwÿlws Dai arno-i.
“Fall in!”
meddai’r óffisars. Fe ddisgwÿlodd (edrychodd) Dai
arno i.


“Fall in!” mynta fa. “I ble bachan diarth? I’r docs a’r dw^r ôr? Dim o di ‘Fall in’, di my boy.”
“Fall in.”

“Fall in!”
mynta-fa. “I ble bachan diarth? I’r docs a’r dw^r oor? Dim o di ‘Fall in’, my boy.”
“Fall in!”
“Fall in!”
meddai ef. “I ble bachan dieithr? I’r dociau a’r dw^r oer? Dim o dy ‘Fall in’, my boy.”
“Fall in!”



Ma Ted yn dod a yn wispran. “All right boys”
 
Ma Tèd yn dod a yn (h)wispran.
“All right boys”
Mae Tèd yn dod ac yn whispran (sibrwd).

“Ffamws,” myntwn i.
“Wel, ‘Fall in’, ready to go eu board the troopship” mynta Ted.
“Ffamws,” myntwn-i.
“Wel, ‘Fall in’, ready to go on board the troopship” mynta Tèd.
“All right boys”
“Ardderchog,” meddwn i.
“Wel, ‘Fall in’, ready to go on board the troopship,” meddai Tèd.

“Aros dicyn bach, Ted,” mynta Dai. “Os rwy sense fod eesha mofiad i’r llong, a dicon o fâta yn secur yn y docs?”
“Aros dicÿn bach, Tèd,” mynta Dai. “Oos r(h)wÿ sens fod iisha mofiad i’r llong, a dicon o faata yn secur yn y docs?”
“Aros dipÿn bach, Tèd,” meddai Dai. “Oes rhwÿ sens (synnwÿr) fod eisiau nofio i’r llong, a digon o badau yn secur yn y dociau?”

“Cer ‘mlaan, Dai,” mynta Tèd, “gad di joocs, Dai. Cofia di fod ti a Shoni yn r(h)ÿw short o óffisars, a bod iisha i chi garco dicÿn ar y showdwrs cyffretin.”

“Cer ** ‘mlaan, Dai,” mynta Ted, “gad di jôcs, Dai. Cofia di fod ti a Shoni yn ryw short o officars, a bod eesha i chi garco dicyn ar y showdwrs cyffretin.”
“Cer ymlaen, Dai,” meddai Tèd, “gad di jocs, Dai. Cofia di dy fod di a Shoni yn rhÿw sort (math) o óffisars, a bod eisiau i chi garco (ofalu) dipÿn ar y sowdiwrs cyffredin.”

“Bachan,” myntwn i, “o ni weti angofio y mod i’n gorporal.”
“Bachan,” myntwn-i, “oon-i weti ang(h)ofio ‘y mod-i’n górporal.”   
“Bachan,” meddwn i, “yr oeddwn i wedi anghofio fy mod i yn górporal.”


Same ere,” mynta Dai.
Left - Right.
 
Same (h)ere,” mynta Dai.
Left - Right.
Same here,” meddai Dai.
Left - Right.

Ma ni off yn grôs i’r pro-mened-i, y drylla a’r baginets, a bwndal ar y’n cefna ni, fel Dai Pen-rhiw yn newid i lodgins. 
**
‘Ma ni off yn groos i’r promenedi, y drylla a’r báginets, a bwndal ar yn cefna-ni, fel Dai Pen-rhiw yn newid i lojins.
Dyma ni off (ymaith) yn groes i’r promenadau, y dryllau a’r bidogau, a bwndel (baich) ar ein cefnau ni, fel Dai Pen-rhiw yn newid ei lojins

Mark time!
“Sdim shalc da fi,” mynta Dai.
“I beth?” wetas i.
Mark time!
“Sdim shalc ‘da fi,” mynta Dai.
“I beth?” wetas-i.
Mark time!
“Sdim sialc gennÿf fi,” meddai Dai.
“I beth?” fe dywedais i.

“I mark time,” mynta Dai. Ma rhwpath fel (h)ÿn yn (h)ela (h)ira’th arno-i wrth feddwl am farco drams ym Mwll y Winsor. W-i’n cretu sa well gyta fi i ripo top a thorri pwcins na r(h)ÿw (h)wara plant fel (h)ÿn.”
“I mark time,” meddai Dai. Mae rhÿwbeth fel hÿn yn hela hiraeth arnaf fi wrth feddwl am farcio drams ym Mwll y Windsor. Yr wÿf fi yn cretu y buasai yn well gennÿf fi i ripio top a thorri pwcins na rhÿw chwarae plant fel hÿn.”
“I mark time,” mynta Dai. Ma rwpath fel **’yn yn ela ira’th
arno i wrth feddwl am farco drams ym Mwll y Winsor. W i’n cretu sa well gytta fi i rippo top a thorri pwccins na ryw wara plant fel **’yn.”


I greiddson y dec o’r diwadd, mor appus a dou ganary bach miwn crâge. Na randiboo! Odd i’n wath na Ffair Llwnpia.
(40x) “All **’ands on deck!
(H)i-greiddson y dec o’r diwadd, mor (h)apus a dou ganeri bach miwn craaj. ‘Na randibw^! Oodd-(h)i’n waath na Ffair Llwnpia.
All ‘ands on deck!
Fe gyraeddasom y dec o’r diwedd, mor hapus a dau ganeri bach mewn caetsh. Dyna randibw^! Yr oedd hi yn waeth na Ffair Llwÿnypia.
All ‘ands on deck!

W i’n diolch fod Ted ar y’n pwys ni pan glywws Dai y command - ‘All **’ands on deck!’ Ma fa’n dychra recu!
W-i’n diolch fod Tèd ar yn pwÿs-ni pan glÿw-ws Dai y cománd
All ‘ands on deck!’ ‘ma fa’n dychra r(h)ecu!
Yr wÿf fi yn diolch fod Tèd ar ein pwÿs ni pan glÿwodd Dai y cománd
All ‘ands on deck!’ dyma fe yn dechrau rhegu!

“Wel Shoni,” mynta fa, “This is the last straw that breaks the camomile’s back. All **’ands eu deck! No fears my boy, ma’n well gen i ‘down tools’ na doti’n neelo ar y deck. Beth sy’ i stoppo’r bois â’r trâd nôth  na i ddamshal ar y neelo i? On strike, mynyffrydi.”
“Well Shoni,” mynta-fa, “This is the last straw that breaks the camomile’s back. All ‘ands on deck! No fears my boy, ma’n well gen-i “down tools” na doti nulo ar y dec. Beth sÿ i stopo’r bois â’r traad nooth ‘na i ddamshal ar ‘y nulo-i? On strike, myn (h)yfrÿd-i.”
“Well Shoni,” meddai ef, “This is the last straw that breaks the camomile’s back. All ‘ands on deck! No fears my boy, mae yn well gennÿf fi “down tools” na dodi fy nwÿlo ar y dec. Beth sÿdd i stopio’r bois â’r traed noeth yna i ddamsang ar fy nwÿlo i? On strike, myn hyfrÿd i.”

Best joke of the war,” mynta Tèd. “Dewch chi boys ma’r llong yn starto sha Ffrainc.”
 
Best joke of the war,” mynta Tèd. “Dewch-chi bois ‘ma’r llong yn starto sha Ffrainc.”
Best joke of the war,” meddai Tèd. “Dewch chi bois dyma’r llong yn starto (hwÿlio) tua Ffrainc.”

I sobrws Dai, a i wyrthinws pan ddiallws a ma galw’r sailors
at i jobs odd yshtyr ‘All **’ands on deck!

(H)i-sobrws Dai, a (h)i-wyrthinws pan ddiallws-a ma galw’r sailors
at ‘u jòbs oodd yshtÿr ‘All ‘ands on deck!
Fe sobrodd Dai, ac fe chwerthinodd pan ddeallodd ef mai galw’r sailors
at eu jòbs yr oedd ystÿr ‘All ‘ands on deck!

Gen-u-ine,” mynta Dai. “‘Ma beth yw trip!”
 Gen-u-ine,” mynta Dai. “‘Ma beth ÿw trip!”
Gen-u ine,” meddai Dai. “Dyma beth ÿw trip!”

I fuon yn  walko diccyn ar **’yd y deck i gâl pip ar y môr, on  cympohir  i âth gwynab Dai fel y shalk.
(H)i-fuon yn
walco dicÿn ar (h)ÿd y dec i gaal pip ar y môr, on’ cÿm-po-(h)ir = {cÿn bo hir} (h)i-aath gwÿnab Dai fel y shalc.

Fe fuom yn
cerdded dipÿn ar hÿd y dec i gael pip (golwg) ar y môr, ond cÿn bo hir fe aeth wÿneb Dai fel y sialc.

“Shwd ti’n teemlo Dai?” myntwn i

“Shwd ti’n tiimlo Dai?” myntwn-i
“Sut wÿt ti yn teimlo Dai?” meddwn i

“Teemlo?” mynta fa. “Teemlo rwpath tepyg i’r whale ar ol iddo lyncu Jona - something like a ‘revolvar’ inside.

“Tiimlo?” mynta-fa. “Tiimlo rhwpath tepÿg i’r weil = {whale}
ar ôl iddo lyncu Jona - something like a ‘revolvar’ inside.
“Teimlo?” meddai ef. “Teimlo rhÿwbeth tebÿg i’r morfil
ar ôl iddo lyncu Jona - something like a ‘revolvar’ inside.

I ffeelws weud racor. Os gen inna ddim gwell na doti dots,
rwpath fel yn..........................................................

(H)i-ffiilws weud racor. Oos gen-inna ddim gwell na doti dots,
rhwpath fel (h)ÿn..........................................................
Fe ffaelodd â ddweud rhagor. Nid oes gennÿf innau ddim gwell na dodi dots, rhÿwbeth fel hÿn..........................................................


I fydd y dots yn ddicon o iaith i ddangos shwd o Ni’n Dou yn teemlo ar ddychra y shwrna sha Ffrainc, wath o ni’n gwpod fawr o ddim am beth odd yn mynd mlan.
(H)i-fÿdd y dots yn ddicon o iaith i ddangos shwd oo-ni’n dou yn tiimlo ar ddychra y shwrna sha Ffrainc, wàth oo-ni’n gwpod fawr o ddim am beth oodd yn mÿnd ‘mlaan.
Fe fÿdd y dots yn ddigon o iaith i ddangos sut yr oeddwn ni ein dau yn teimlo ar ddechrau y siwrnai tua Ffrainc, o waith (oherwÿdd) yr oeddwn ni yn gwÿbod fawr o ddim am beth oedd yn mÿnd ymlaen.

Sa Wil o
Berlin yn câl dose “extra superfine” (fel ma nw’n weyd (x41) ar y cwta cân,) o glefyd y môr fyssa ddim want arno starto ryfal am i  ôs. On, erbyn y bora o ni’n dou fel crics.
Sa Wil o Berlin yn caal dos “extra superfine” o glefÿd y môr fysa ddim (h)want
‘ma starto r(h)yfal am ‘i oos. Oon, erbÿn y bora oo-ni’n dou fel crics.
Pe buasai Wil o
Berlin yn cael dos “extra superfine o glefÿd y môr ni fuasai ddim chwant yma starto (cychwÿn) rhyfel am ‘i oes. Oeddem, erbÿn y bora yr oedden ni ein dau fel crics.

“Shoni,” mynta Dai, “dim racor o glefyd y môr i’r bachan ma:  ma’n well da fi gerad sha Ffrainc, sa ni’n gorffod i thrafeulu ddi yn drotnoth. Bachan, odd y’n inside i fel sa rasus moto-cars yn cymryd lle no.”
“Shoni,” mynta Dai, “dim racor o glefÿd y môr i’r bachan ‘ma - ma’n well da fi gerad sha Ffrainc, sa-ni’n gorffod i thrafeulu-ddi yn drotnoth. Bachan, oodd yn inside-i fel sa rasus motor cars yn cymrÿd lle ‘no.
“Shoni,” meddai Dai, “dim rhagor o glefÿd y môr i’r bachan yma - mae yn well gennÿf fi gerdded tua Ffrainc, pe buasem ni yn gorfod ei thrafeulu hi yn droednoeth. Bachan, yr oedd fy nghyllau i fel pe buasai rasus ‘motor cars’ (ceir modur) yn cymrÿd lle yno.

Same **’ere,” myntwn i. “Odd y men i fel sa sâr pen pwll yn drilo twlla yndo i neyd gwacar i ridlo glo mân.”
Same ’ere,” myntwn-i. “Oodd ‘y m(h)en-i fel sa saar pen pwll yn drilo twlla yndo i neud gwacar i ridlo glo maan.”
Same ’ere,” meddwn i. “Yr oedd fy mhen i fel pe buasai saer pen pwll yn drilio tyllau ynddo i wneud gogr i ridlo glo maen.”

“Shwd ti’n teemlo nawr?” mynta Dai.
“Shwd ti’n tiimlo nawr?” mynta Dai.
“Sut wÿt ti yn teimlo yn awr?” meddai Dai.

“Fel y boy,” myntwn i. “Yn eetha parod i frecwas. I alla weud fel conductor y tramcar - plenty o room inside.”
“Fel y boi,” myntwn-i. “Yn iitha parod i frecwas’. (H)i-alla weud fel conductor y tramcar - plenty o’ room inside.”
“Fel y boi,” meddwn i. “Yn eithaf parod i frecwast. Fe allaf ddweud fel conductor y tramcar - plenty o’ room inside.”

“W inna yn shapo rwpath yn depyg,” mynta Dai. “A os na ddaw feed cympohir ma gen i set o ddannadd alla i  i  roi yn y pawnshop.”

**‘Ma gloch yn tinklan.
 
**‘Ma gloch yn tinclan.
Dyma gloch yn tinclan.


“W-inna yn shapo rhwpath yn depÿg,” mynta Dai. “A os na ddaw ffid cÿm-po-(h)ir ma gen-i set o ddannadd alla-i ‘i roi yn y pônshop {= pawnshop}.”
“Yr wÿf innau yn siapo rhÿwbeth yn debÿg,” meddai Dai. “A os na ddaw ffid cÿm-po-hir mae gen i set o ddannadd alla i ‘i roi yn y pônshop {= pawnshop}.”

“Beth yw’r gloch na, Dai?” myntwn i.

“W i ddim yn gwpod os nace bachan yn gwyrthi oil sy na, ma fa’r un swn a cloch y bachan sy’n gwyrthu paraffin yn Dinas.”
“Beth ÿw’r gloch ‘na, Dai?” myntwn-i.
“W-i ddim yn gwpod os nace bachan yn gwyrthu oil sÿ ‘na, ma-fa’r un sw^n â cloch y bachan sÿ’n gwyrthu páraffin yn Dinas.”
“Beth ÿw’r gloch yna, Dai?” meddwn i.
“W i ddim yn gwÿbod os nace bachan yn gwyrthu oil sÿ yna, ma ef’r un sw^n â cloch y bachan sÿ yn gwyrthu páraffin yn Dinas.”

I geson wpod miwn crack; i ddâth Ted mlan.

Wake up, boys, file on to brecwas’.”

Off a Tèd, a i symutso ninna gytta’r crowd.
(H)i-geson wpod miwn crac - (h)i-ddaath Tèd **‘mlaan.
Wake up, boys, file on to brecwas’.”
Off â Tèd, a (h)i-symutso-ninna gyta’r crowd.
fe geson wÿbod miwn crac - fe ddaeth Tèd ymlaen.
Wake up, boys, file on to brecwas’.”
Off â Tèd, a fe symutso ninna gyta’r crowd.

Arno i ofan, Shoni,” mynta Dai, “ma diccyn o fwyd eetha tough sy yn y’n weetan ni, cyn bo eesha file idd i dacla fa. I dreia i gillath bock i starto.” “Arno-i ofan, Shoni,” mynta Dai, “ma dicÿn o fwÿd iitha tyff sÿ yn yn wiitan-ni, cÿn bo iisha ffail idd i dacla-fa. (H)i-dreia-i gillath boc i starto.”
Arno i ofan, Shoni,” meddai Dai, “mae dicÿn o fwÿd eithaf tyff sÿ yn yn weitan ni, cÿn bo eisiau ffail idd i dacla ef. fe dreia i gillath boc i starto.”

I wyrthinas i, a i wetas ma yshtyr ‘file’ odd mynd mlan, rwpath tepyg i - gwt, gwt wrth  y ngwt i.
(H)i-wyrthinas-i, a (h)i-wetas ‘ma yshtÿr ‘ffail’ oodd mÿnd ‘mlaan, rhwpath tepÿg i gwt, gwt wrth ‘y ng(h)wt-i.
Fe chwerthinais i, ac fe ddywedais mai ystÿr ‘ffail’ a oedd mÿnd ymlaen, rhÿwbeth tebÿg i gwt, gwt wrth fy nghwt i.

I grampws Dai yr idea, a miwn â ni i’r (x42) rwm. Y chi wedi clywad **’aid o wydda yn cacklan wrth fytta sôg; wel, na amcan i chi o’r row yn y rwm pan ô ni i gyd yn bytta. On wara teg, on tefa, llanw drams gwâg o ni.
(H)i-grampws Dai yr aidïy {= idea}, a miwn â ni i’r rwm. Ÿ-chi wedi clywad (h)aid o wÿdda yn caclan wrth fÿta soog; wel, ‘na amcan i chi o’r row yn y rwm pan oo-ni i gÿd yn bÿta. On’ wara teg, óntefa, llanw drams gwag oo-ni.
Fe grampodd (ddeallodd) Dai y syniad ac i mewn â ni i’r rwm. Yr ÿch chi wedi clywed haid o wÿddau yn caclan wrth fwÿta soeg; wel, dyna amcan i chi o’r row yn y rwm pan yr oeddwn ni i gÿd yn bwÿta. Ond chwarae teg, onid e, llenwi drams gwag yr oeddem¡ ni.

Odd Ted weti bod yn drwmpyn unwath ytto, a weti catw bord fach roun’ i Dai a fi. Coffee, a bara a **’am odd i frecwas. Dicon? O odd wara teg. Ar genol y ford odd dishgil fach yn llawn o fwstart, a llwy yn i chenol i.
Oodd Ted weti bod yn drwmpÿn unwath yto, a weti catw bord fach rown’ i Dai a fi. Coffi, a bara a (h)am oodd i frecwas’. Dicon? O, oodd, wara teg. Ar genol y ford oodd dishgil fach yn llawn o fwstart, a llwÿ yn ‘i chenol-i.
Yr oedd Ted wedi bod yn drwmpÿn (yn gyfaill da) unwaith eto, a wedi cadw bwrdd bach crwn i Dai a fi. Coffi, a bara a ham yr oedd i frecwast. Digon? O, yr oedd, chwarae teg. Ar ganol y bwrdd yr oedd dÿsgl fach yn llawn o fwstard, a llwÿ yn ei chanol hi.

Arfadd Mrs Jones, gwraig y lodgins, odd doti mwstart ar yn plâts ni, na pam odd Dai yn synnu wrth weld y llwy.
Arfadd Mrs Jones, gwraig y lojins, oodd doti mwstart ar yn plâts-ni, ‘na pam oodd Dai yn synnu wrth weld y llwÿ.
Arfer Mrs Jones, gwraig y lojins, oedd dodi mwstard ar ein platiau ni, dyna pam yr oedd Dai yn synnu wrth weld y llwÿ.


“Allu di fentro, Shoni,” mynta Dai, “ma style  newydd o fytta mwstart sy ma. Bobo lond llwy ar y tro. I should like to **’ave an ‘exclamation’ from our friend, Ted.

“Wel,” myntwn i, “ma let go ar lwyad Dai.”
 
“Alli-di fentro, Shoni,” mynta Dai, “ma’ stail newÿdd o fwÿta mwstart sÿ ‘ma. Bobo lond llwÿ ar y tro. I should like to ‘ave an exclamation from our friend, Ted.
“Wel,” myntwn i, “ma let-go ar lwÿad Dai.”
“Fe elli di fentro, Shoni,” meddai Dai, “mai steil newÿdd o fwÿta mwstardt sÿdd yma. Bobo lond llwÿ ar y tro. I should like to ‘ave an exclamation from our friend, Ted.
“Wel,” meddwn i, “ma let-go ar lwÿaid Dai.”

I fytas lond llwy, i dasgws y dwr o’n lliced i.

“Beth di’n llefan Shoni?” mynta Dai.
(H)i-fÿtas lond llwÿ, (h)i-dasgws y dw^r o’n lliced-i.
“Beth di’n llefan Shoni?” mynta Dai.
Fe fwÿtais lond llwÿ, fe dasgodd y dw^rr o’n llygaid i.
“I beth yr wÿt ti yn llefain, Shoni?” meddai Dai.

Cofio yn syttan netho i am **’en wr y nacci gâs i groci am dwccid defed,” myntwn i. “Treia lwyad, Dai. Ma fa’n first-class.”
Cofio yn sytan netho-i am (h)en wr y naci gas i groci am dwcid defed,” myntwn-i. “Treia lwÿad, Dai. Ma-fa’n first-class.”
Cofio yn sydÿn a wneuthum am hen wr fy nhad-cu a gaeth ei grogi am ddwÿn defaid,” meddwn i. “Treia (rho gynnig ar) lwÿaid, Dai. Mae ef yn first-class.”

I dreiws Dai lwyad, a ma’r dwr yn tasgu mas o’i liced a.

“Beth di’n llefan, Dai,” myntwn i, jest ollti eesha wyrthin.
 (H)i-dreiws Dai lwÿad, a ‘ma’r dw^r yn tasgu maas o’i liced-a.
“Beth di’n llefan, Dai,” myntwn-i, jest (h)ollti iisha wyrthin {= chwerthin}.
Fe dreiodd Dai lwÿaid, a dyma’r dw^r yn i maes o’i lygaid ef.
“I beth yr wÿt ti yn llefain, Dai,” meddwn i, jest hollti o eisiau chwerthin

“Llefan achos na cheso ti di groci gytta di dacci.”

Wyrthin fuo ni’n doi am amsar, a mlân a’r frecwas.

“Myn yffridi, Shoni, sa ni eb gâl brecwas fysa raid i fi lyncu pâr o brops i ddal ochra’n stwmog i’r lan,” mynta Dai.
“Llefan achos na cheso ti groci dyta di da-cu. Wyrthin fuo-ni’n dou am amsar, a **‘mlaan aa’r brecwas’. “Myn (h)yffrid-i, Shoni, sa-ni (h)eb gaal brecwas’ fysa r(h)aid i fi lyncu pâr o brops i ddal ochra’n stwmog i’r lan,” mynta Dai.
“Llefain y buom ni ein dau am amser, ac ymlaen â’r brecwast. “Myn hyfrÿd i, Shoni, pe buasem ni heb gael brecwast fe fuasai rhaid i mi lyncu pâr o brops i ddal ochrau fy stumog i lan,” meddai Dai.

I ddibenson, a ma’r cornat yn kicko row. Off (x43) a ni, a’n anal yn y’n dyrna., a miwn wincad odd pob un yn sefyll ar y deck i gal i expecto.
(H)i-ddibenson, a ‘ma’r cornat yn cico row. Off â ni, a’n (h)anal yn yn dyrna., a miwn wincad oodd pob un yn sefÿll ar y dec i gal **‘i ecspecto.
fe ddibenson, a ‘ma’r cornat yn cico row. Off â ni, a yn hanal yn yn dyrna., a miwn wincad Yr oedd pob un yn sefÿll ar y dec i gal **‘i ecspecto.

“Passa di neeshad book ma,” mynta Dai, “ma’r mwstart yn briweddu o **’yd, i di dâla di nol yn droring-rwm My Nabs yn
Berlin.
“Pasa di niishad bwc ‘na,” mynta Dai, “ma’r mwstart yn briweddu o (h)ÿd, i di dâla-di nôl yn droring-rwm My Nabs yn Berlin.
“Pasa di’r neisiad boc yna,” meddai Dai, “mae’r mwstard yn briweddu o hÿd, i’th dâla di yn ôl yn ‘drawing room’My Nabs yn
Berlin.

Odd Dai yn fachan o natur dda, odd ddim diccio yn  i anas a, a o ni’n gwbod yd a lled ‘i fwcwth a. I ddath yr “expection” i ben,  a i geson rwpath fel ‘free an’ easy’.

Oodd Dai yn fachan o natur dda, oodd ddim dicio yn ‘i anas-a, a oo-ni’n gwbod (h)ÿd a lled ‘i fwcwth-a. (H)i-ddaath yr ‘ecspecsiwn’ i ben, a (h)i-geson rhwpath fel ‘free an’ easy’.
Yr oedd Dai yn fachan o natur dda. Yr oedd ddim digio yn ei hanes e, ac yr oeddem ni yn gwÿbod hÿd a lled ei fygwth e. Fe ddaeth yr ‘ecspecsiwn’ i ben, ac fe gawsom rÿwbeth fel ‘free an’ easy’.

Rai yn pippo ar y môr, rai yn lorchan ar y deck, rai yn cerad nôl a blân. Y môr yn wyrdd, a mor smooth a billiard table y Queen’s. Amall i stemar yn dod i’n cwrdd ni; a llong **’hwylia (sic = **wylia) wettyny yn tacan nol a blân, yn depyg i Will Mab Ann yn  i thrackan i sha thre o’r clwb ar nos Satwrn pai. Man-o-War ar ôl **’ny.
R(h)ai yn pipo ar y môr, r(h)ai yn lortshan ar y dec, r(h)ai yn cerad nôl a ‘mlaan. Y môr yn wÿrdd, a mor smwdd a billiard table y Queen’s. Amall i stemar yn dod i’n cwrdd-ni; a llong hwÿlia wetynÿ yn tacan nôl a blaan, yn depÿg i Wil Mab Ann yn ‘i thracan-i sha thre o’r clwb ar nos Satwrn pai. Man o’ War ar ôl ‘nÿ.
Rhai yn pipo (edrÿch) ar y môr, rhai yn lortshan ar y dec, rhai yn cerdded yn ôl ac ymlaen. Y môr yn wÿrdd, a mor smwdd (llÿfn) â billiard table y Queen’s. Ambell stemar yn dod i’n cwrdd ni; a llong hwÿliau wedi hynnÿ yn tacan (tacio) yn ôl a blaen, yn debÿg i Wil Mab Ann yn ei thracan hi tua thref o’r clwb ar nos Sadwrn pae. Man o’ War ar ôl hynnÿ.


“Dishgwl Dai,” myntwn i. “‘Co long gnociff dwll yn gweelottion llonga’r Kaisar.”
“Ia, myn yffrydi,” mynta Dai.
“Dishgwl Dai,” myntwn i. “‘Co long gnociff dwll yn gwiilotion llonga’r Kaisar.”
“Ia, myn (h)yffrÿd-i,” mynta Dai.
“Disgwÿl (Edrÿch) Dai,” meddwn i. “‘Dacw long gnociff dwll yn gwaelodion llongau’r Kaiser.”
“Ie, myn hyfrÿd i,” meddai Dai.

Chollson ni ddim golwg ar dir Lloegar yn **’ir cyn i fachan miwn cot a ribbana weiddi mas trw dromboon -

Land Ahoy!
Chollson-ni ddim golwg ar dir Lloegar yn (h)ir cÿn i fachan miwn cot a r(h)ubana weiddi maas trw dromboon -
Land ahoy!
Chollsom ni ddim golwg ar dir Lloegr yn hir cÿn i fachan mewn cot a rhubanau weiddi i maes trwÿ drombôn -
Land ahoy!


  
“Bachan o ble yw wnnw, Shoni?” mynte Dai.
“Pwy?” myntwn i, “y bachan a’r tromboon?”

“Bachan o ble ÿw (h)wnnw, Shoni?” mynte Dai.
“Pwÿ?” myntwn-i, “y bachan â’r trombôn?”
“Bachan o ble ÿw hwnnw, Shoni?” mynte Dai.
“Pwÿ?” meddwn i, “y bachan â’r trombôn?”

“Nace, y bachan ma fa’n i alw yn Landa. W i weti clywad Dai Oi a Shoni Oi, on’ chlywas i ddim fod bachan o’r enw Landa wedi joino’r Welsh Ridgemant”.”
 
“Nace, y bachan ma-fa’n **‘i alw yn “Landa”. W-i weti clywad Dai (H)oi a Shoni (H)oi, on’ chlywas i ddim fod bachan o’r enw “Landa” wedi joino’r “Welsh Ríjymant”.”
“Nage, y bachan y mae ef yn ei alw yn “Landa”. Yr wÿf fi wedi clywed Dai hoi a Shoni hoi, ond chlywais i ddim fod bachan o’r enw “Landa” wedi joino’r (ymuno â’r) “Welsh Ríjymant”.”

“Bachan, Dai,” myntwn i, “Gweud fod y tir yn acos ma fa.”

“O, i ni jest cyrradd Bo-loug-ne ta?”
“Bachan, Dai,” myntwn-i, “gweud fod y tir yn acos ma-fa.”
“O, ÿ-ni jest cyrradd Bo-loig-ne **’‘ta?”
“Bachan, Dai,” meddwn i, “dweud fod y tir yn agos y mae ef.”
“O, yr ÿm ni jest â chyrraedd Boulogne ynteu?”

(x44) “Ottin, ottin, bachan, co’r docks yn y golwg,” myntwn i.
“Ia wir ddyn, wy ti’n eetha rait, Shoni.  Co nw.”
“Otÿn, otÿn, bachan, **‘co’r docs yn y golwg,” myntwn-i.
“Ia wir ddÿn, wÿ-ti’n iitha rait, Shoni. ‘Co nw.”
“Ydÿn, ydÿn, bachan, dacw’r docs yn y golwg,” meddwn i.
“Ie yn wir ddÿn, yr wÿt ti yn eithaf rait, Shoni. Dacw nw.”

Ma’r bugles yn canu, yr officars yn rytag, y showdwrs yn mwstro, a chyn po Dai a finna yn câll amsar i acor y’n lliced ma’r troop-ship yn stoppo.  Mlan to dicyn bach, a wiw a ni i ochor y landin’ stage.
Ma’r biwglz yn canu, yr óffisars yn rytag, y showdwrs yn mwstro, a chÿn po Dai a finna yn caal amsar i acor yn lliced ma’r troopship yn stopo. ‘Mlaan ‘to dicÿn bach, a wiw â ni i ochor y landin’ stage.
Ma’r biwglz yn canu, yr óffisers yn rhedeg, y sowdiwrs yn mwstro, a chÿn bo Dai a minnau yn cael amser i agor ein llygaid dyma’r troopship yn stopio. Ymlaen eto dipÿn bach, a chwiw â ni i ochr y ‘landing stage’

Sôn am waith arn Dwlash! Y wistlan, y stêm, an’ so on, odd gwaith arn Dwlash on  rwpath fel côr plant wrth ochor Côr Caradog os slawar dydd.
Sôn am waith (h)arn Dwlash! Y wistlan, y stêm, an’ so on, oodd gwaith (h)arn Dwlash on’ rhwpath fel côr plant wrth ochor Côr Caradog os slawar dÿdd.
Sôn am waith haearn Dowlais! Y whistlan, y stêm, an’ so on, Yr oedd gwaith haearn Dowlais ond rhÿwbeth fel côr plant wrth ochr Côr Caradog ers llawer dÿdd.

Myn amsar o ni’n sefyll ar y landin’ stage, showdar tw showdar, fel sa Wil meiswn sych weti bod yn gneyd wal o ono ni.
Myn amsar oo-ni’n sefÿll ar y landin’ stage, “showdar tw showdar”, fel sa Wil meiswn sÿch weti bod yn gneud wal o (h)ono-ni.
Ymhén amser yr oeddem ni yn sefÿll ar y ‘landing stage’, “showdar tw showdar”, fel y buasai Wil meiswn sÿch (saer maen) wedi bod yn gwneud wal ohonom ni.

Ma Ffrench Officars” yn passo i gal pip gytta’n officars ni, a dicon awdd darllan wrth i  gwynepa nw  i bod nw weti cal  i pleso.

Form fours. - Left wheel -  March!
Ma “Ffrensh Óffisars” yn paso i gaal pip gyta’n óffisars-ni, a dicon (h)awdd darllan wrth ‘u gwynepa-nw ‘i bod-nw weti caal ‘u pleso.
Form fours. Left wheel. March!
Mae “Ffrensh Óffisars” yn pasio i gael pip gyda (i gael golwg ar) ein óffisers ni, a digon hawdd darllen wrth eu wynebau hwÿ ei bod hwÿ wedi cael eu plesio.
Form fours. Left wheel. March!

Off a ni sha’r Barricks yn Bolougne, yn canu, fel y Royal Male Voice, y don ‘Tipperary’, yn Gwmrâg a Sysnag, yn betwar part, a ar bwla yn annar dwsan o barts fel bysa’r **’wyl -
“O mae’n bell iawn i Gwm-y-Rhondda...”
Off â ni sha’r barics yn Bolougne, yn canu, fel y Royal Male Voice, y dôn ‘Tipperary’, yn Gwmraag a Sysnag, yn betwar part, a ar bwla yn (h)annar dwsan o barts fel bysa’r wÿl -
“O mae’n bell iawn i Gwm y Rhondda...”
Ymáith â ni tua’r barics yn Bolougne, yn canu, fel y Royal Male Voice, y dôn ‘Tipperary’, yn Gymraeg a Saesneg, yn bedwar part, ac ar bylau yn hanner dwsen o barts fel buasai’r wÿl -
“O mae yn bell iawn i Gwm y Rhondda...”

Mishtir Ni’n Dou nâth y geira, a ma’n worth i chi gâl i clywad  nw. Watshwch y Shwrna nesa.
Mishtir Ni’n Dou naath y geira, a ma’n wyrth i chi gaal ‘u clywad-nw. Watshwch y shwrna nesa.
Meistr Ni Ein Dau a wnaeth y geiriau, a mae yn wyrth (mae yn werth) i chi gael eu clywed hwÿ. Watshwch (Gwÿliwch) y siwrnai nesaf.

 
1004e Cyfeirddalen y Wenhwyseg / Gwentian index page
·····
Gweler hefyd / See also
1314ke
Isaac Lewis y Crwÿdrÿn Digri
[EI-zak LEU-is ø KRUI-drin DI-gri]
'Isaac Lewis the amusing tramp'
  


DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN / LINKS TO THE REST OF THE WEBSITE

1004e

Y Wenhwyseg

The Gwentian dialect
 
····

0043c
Yr iaith Gymraeg

The Welsh Language
·····
0005k
Mynegai yn nhrefn y wyddor i’r hyn a geir yn y gwefan; o’r tudalen hwn gellir hefyd
chwilio’r gwefan hwn â’r archwiliwr mewnol

Index of contents of the website
·····
1051e
Testunau Cymraeg â throsiad Saesneg yn y gwefan hwn

Welsh texts with English translations
 

 

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ 

Diweddariad diwethaf 27 12 2000

Ble’r wyf i?
Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

DIWEDD / FI / END 
 

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats