1205 An English and Welsh Pronouncing Dictionary: In Which The Pronunciation Is Given In Welsh Letters. Geiriadur Cynaniadol Saesneg a Chymraeg: yn yr hwn y Silliadir y Geiriau Saesneg a Llythrenau Cymraeg: Hefyd, Cyfres o Enwau Priod yr Ysgrythyr, wedi eu Silliadu yn Gymraeg.Gan Robert Ioan Prys. Dinbych: Cyhoeddwyd Gan Thomas Gee. MDCCCLVII (1857) .

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_011_geiriadur_robert_ioan_prys_1857_1205k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Sin Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................y tudalen hwn / aquesta pgina


..







0860k
y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Galles

Cywaith Sin Prys - Testunau Cymraeg ar y We

Geiriadur Cynaniadol Saesneg a Chymraeg (1857)



(delwedd 6655)

Adolygiadau diweddaraf:
22 09 2001 : 2004-02-06

 

{Ceir isod y Rhagymadroddiad ar tudalen cyntaf. Diddorol yw sylwi yn y geiriadur bach hwn ar y dewis rhyfedd o eiriau Saesneg; ar geiriau Cymraeg a arferir iw hesbonio maent ar adegau yr un mor astrus. Ond yn anad dim maen chwithig gweld cymysgu addysg gwneud Saeson or werin Gymraeg. Dylair dwyllresymeg hon syfrdanu pob un call, ond gwaethar modd maer meddylfryd afiach mai Seisnig a Saesneg yw popeth o werth wedi hen wreiddio ynom erbyn hyn. Mynna awdur y Rhagymadrodd bod pawb or farn nid yn unig ei bod yn ddymunol i bob Cymro ddysgu Saesneg, ond hefyd yn anhebgorol angenrheidiol. Wel, gellir gweld heddiw ffrwthaur amcan clodwiw hynny, chwedl yntau, i droi pob Cymro uniaith yn Sais!)

 

AN ENGLISH AND WELSH PRONOUNCING DICTIONARY:

IN WHICH THE PRONUNCIATION IS GIVEN IN WELSH LETTERS.

 

GEIRIADUR CYNANIADOL SAESNEG A CHYMRAEG:

YN YR HWN Y SILLIADIR Y GEIRIAU SAESNEG A LLYTHRENAU CYMRAEG:

 

HEFYD, CYFRES O ENWAU PRIOD YR YSGRYTHYR,

WEDI EU SILLIADU YN GYMRAEG,

 

GAN ROBERT IOAN PRYS.

 

DINBYCH: CYHOEDDWYD GAN THOMAS GEE.

MDCCCLVII.

 

 

(1) RHAGYMADRODD

 

Y MAE'N anhawdd gosod allan amcan y cyhoeddwr yn dwyn [y] gwaith yma allan yn fwy cryno nag yn ei eiriau ef ei hun ar amleni y rhifynau cyataf; sef, Rhoddi Geiriadur o'r iaith Saesneg (yn yr hwn y silliadir pob gair Saesneg llythyrenau Cymraeg, ac yr eglurir ef yn helaeth geiriau Cymraeg cyfystyr) yng ghyrhaedd pob teulu a phob person yn y Dywysogaeth y fath Eiriadur ag a gynnorthwyor Cymro uniaith [i] ddysgu yr iaith Saesneg, heb un cyfarwydd arall, ac un cymhwys, hefyd, o ran maint, a phris, a chyflawnder, i fod yn LLYFR YSGOL. Y mae'n gwbl ddiangenrhaid dyweyd dim am deilyngdod y cyfryw amcan, pan y mae pawb, gwladgar ac anwladgar, yn cydnabod, nid yn unig fod {sic} yn ddymunol, ond yn anhebgorol angenrheidiol, i bob Cymro ddysgu Saesneg a fyno fod yn gyfarwydd chyfreithiau a masnach ei wlad, ac chelfyddydau a llenoriaeth y byd. Tuag at gyrhaedd yr amcan clodwiw yma yn effeithiol, yr oedd gan y cyhoeddwr ar ysgrifennydd amryw ddyledswyddau iw cyflawni. Am y blaenaf, y mae yn amlwg ar unwaith ddarfod iddo ragori ar bawb a fu oi flaen, trwy roddi crefftwriaeth o'r fath oreu ar y llyfr, a rhoddi yn agos gymmaint ddwy waith am arian ag a roddir gan y Cymry yn gyffredin, o Eiriaduron.

 

Am yr ysgrifenydd, y mae yntau wedi gwneyd ei oreu ym mhob modd ar a allai. Tuag at ir gwaith fod yn gyfarwyddyd addas i Gymro uniaith i ddysgu Saesneg, yr oedd yn rhaid i'r holl eiriau arweiniol sydd yn y llyfr gael eu cynanu, neu eu silliadu, llythrenau Cymraeg; a dyma brif nodwedd y gwaith. Daeth y cynllun o silliadu Saesneg llythrenau Cymraeg i feddwl yr ysgrifenydd yn ddamweiniol, o gylch deg neu ddeuddeng mlynedd ar hugain yn ol, pan yn y drafferth o ddysgu Saesneg heb gynnorthwy athraw; ac mor awyddus ydoedd ar i bawb oi gyd-genedl a ddymunent ddysgu Saesneg, ar nad allent gael ysgol fwynhau buddioldeb y cynllun, fel yr anturiodd, yn y flwyddyn 1834, gychwyn gwaith a alwodd Geiriadur Cynanawl Seisnig-Cymreig ac eglurydd yr iaith Seisoneg, yn Seisoneg a Chymraeg; yn yr hwn y dangosir gwraidd y geiriau Seisoneg yn ol awdurdod y Dr. Johnson, gyda chynaniad Mr. Walker, wedi ei gymhwyso i'r Gymraeg, ac egluro eu hamryw ystyron yn y ddwy iaith efo ymadroddion a geiriau cyfystyr. Ar amlen y rhifyn cyntaf (yr unig un a gyhoeddwyd) o'r gwaith hwnw, dywedai yr ysgrifenydd, mewn anerch At y Cymry, fel hyn: Yn awr dyma gyfleustra i Gymro uniaith gael Athraw cyfarwydd a chywir iw arwain ar ei aelwyd ei hun, heb gymhorth neb, i ddeall yr iaith Seisoneg, ai phronownsio yn groewdeg yn ol fel y gwna y Sais mwyaf dysgedig. Diammheu y dylai pob Cymro sydd yn arferol, neu yn ewyllysio dysgu (addysgu) yr iaith Seisoneg wrtho ei hun, feddianu y llyfr hwn; canys nis gellir cael ei well er gwybod iawn gynaniad geiriau yn gyffredinol megys yr ysgrifena Sais eiriau fel hyn accompt, borough, colonel, island, rule, &c. ac nid hawdd y gall Cymro wybod y modd i seinio y rhai yna, heb gymhorth yr athraw neu y Geiriadur hwn, fel yma, accompt, ac-cwnt, cyfrif; borough, byr-o, bwrdeisdref; colonel, cyr-nel, milwriad; island, i-land, ynys; rule, rw^l, rheol, &c. Nid oes genyf yn bresennol ond ei gyflwyno i sylw y cyffredin, gan hyderu y gwel pob un mewn pryd yr angenrheidrwydd o hono, a thrwy hyny roddi cefnogaeth ddyladwy, fel na luddier cynnygiad mor fuddiol i'n cenedl, yw dymuniad eu gwasanaethydd - R. I. P.. Pa mor ddiwegi bynag oedd yr appeliad yna At y Cymry, a pha mor briodol bynag oedd y cynllun i hyfforddi yr unieithog yn swn, ac ystyr geiriau Saesneg, rhwng hwyrfrydigrwydd i genedl i gefnogi pob anturiaethau llenyddol, yn enwedig yr eiddo awdwyr ieuaingc anghyhoedd, a diffyg profiad a medr yr ysgrifenydd mewn llyfrwerthyddiaeth, sefyll a wnaeth y gwaith ar ol cyhoeddi y rhifyn cyntaf, ac achosir fath golled ir ysgrifennydd fel y penderfynodd na chyhoeddi ddim byd mwyach ar ei draul ei hun o leiaf, heb gael sicrwydd boddhaol o gefnogaeth ddigonol. O gylch y flwyddyn 1847, daeth cyhoeddwr y gyfrol hon ir maes i gynyg gwobr deilwng "Am y Cyfarwydd goreu i Gymro i ddysgu yr iaith Seisonig; a gwaith yr ysgrifenydd a farnwyd yn teilyngu yr arobryn. Yn fuan ar ol cyhoeddiad y Treithawd Arobryn, proffwydodd y gwladgar Ieuan Gwynedd, yn yr Adolygydd, nad oedd yr amser yn mhell, pan y mynair Cymro eto gael Geiriadur Cynanawl Seisnig-Cymraeg R. I. Prys; a chyn pen dwy flynedd ar ol marwolaeth ein talentog Ieuan, cytunodd y cyhoeddwr r ysgrifennydd i baratoi y Geiriadur Cynaniadol hwn, sy weithian wedi ei orphen; o'r hwn y mae talfyriad cryno yn barod i'r wasg, ac a gyhoeddir yn ddioed, dan yr enw Geiriadur Cynaniadol Seisoneg a Chymraeg ir Miloedd: - y ddau ar gynllun cynaniadol cyntefig hen Eiriadur .Cynanawl yr ysgrifenydd, a gynnygiwyd i'r Cymry yn y flwyddyn 1834.

 

Y mae rhai seiniau yn Saesneg nad ydynt yn Gymraeg; megys a yn all, o yn no, ch yn church, j yn John, sh yn shaal, zh = s yn vision, a z yn zeal. Yn yr amgylchiadau hyn, defnyddiwyd y llythyrenau sydd yn yr Arweiniad i'r Cynaniad Seisoneg, sydd yn dilyn y Rhagymadrodd hwn, ac sydd hefyd ar odre'r tudalenau trwy gorff y gwaith, fel y rhai symlaf a ellid meddwl am danynt ar y pryd. Defnyddiwyd llythyrenau Italaidd hefyd i ddynodi sain hir y gwahanol lafariaid.

 

Y geiriadurwyr y dilynwyd eu cynaniad, yn benaf, yw Gilbert a Smart; ond ymgynghorwyd yn fynych a Walker, Jones, Birkin, Reid, Worcester, Ogilvie, a Spurrell. Yr un awduron hefyd, yng nghyda Johnson, Todd, Richardson, Webster, a D. Silvan Evans, a gymmerwyd yn arweinwyr i lythyrenu y geiriau Saesneg.

 

Am yr eglurhd, ymgynghorwyd yn achlysurol 'r holl Eiriaduron Saesneg a Chymraeg sy wedi eu cyhoeddi, o'r eiddo W. Evans, yn 1771, hyd un D. Silvan Evans, yn 1852, &c.; a chafwyd cynnorthwy arbenig, rai prydiau, yng Ngeiriadur Lladin a Chymraeg y Meddyg T. Wiliams, sy mewn cyssylltiad Geiriadur Cymraeg a Lladin y Dr. Dafis o Fallwyd. Cymmerwyd gofal arbenig i beidio gadael un gair Saesneg arweiniol, heb ryw air neu eiriau cyfystyr yn yr eglurhhd Cymraeg.

 

Fe ddywed Mr. Walker am yr hwn a fo ymwybodol o'i deilyngdod i gael sylw'r cyffredin (ac os na bydd un yn ymwybodol o hyny, ni ddylai ysgrifenu o gwbl), y rhaid y bydd efe, nid yn unig yn awyddus am gael ei gymharu 'i ragflaenoriaid, ond hefyd y gwna hyrwyddo'r fath gymhariad, trwy hysbysu ei ddarllenwyr o'r hyn a wnaeth ereill; ac ar ba beth y seilia efe ei hniadau i'r flaenoriaeth: "ac os gwneir hyn yn deg a dihoced," eb efe, "nis gall fod yn fwy anghysson gweddusder, nag ydyw thegwch a gonestrwydd."

 

Fel Geiriadur yn silliadu geiriau Saesneg llythurenau Cymraeg.- nid oes i'r llyfr hwn unrhyw ragflaenydd; ond y mae iddo un cydymyeisydd, a ymddangosodd ym mhen encyd o amser ar ol iddo gychwyn, o waith Thomas Edwards (Caerfallwch)," a D. Hughes, B. A., Tredegar." Ni pherthyn i ni ddywedyd dim am hwnw, ond barned ein cydwladwyr rhyngddynt, a defnyddiont yr un a farnont oreu er eu lles i ddysgu'r Saesneg a'r Gymraeg.

 

Am Eiriadur Cynaniaethol Saesneg a Chymraeg Mr. Spurrell, nid ydyw efe ar yr un cjnllun a'r Geiriadur Cynaniadol.

 

O barth y Gyfres o enwau priodol, ni chaniatai lle i roi dim ond yr enwau Ysgrythyrol i mewn yn unig, heb chwanegu pris y Geiriadur.

Llanrhyddlad, Tachwedd, 1857

 

 

(2) ARWEINIAD I'R CYNANIAD SAESNEG.

 

Y LLAFARIAID=THE VOWELS.

 

1. - a, fel a yn tad, cr; neu Saesneg yn father (#88-90), far, army(#91-93.)

SYLW.-Cyfeiria y rhifnodau rhwng ymsangau ir adranau yn y Cyfarwyddyd i Gymro i ddysgu yr Iaith Seisnig, lle yr eglurir y seiniau Saesneg dan sylw yn helaeth.

 

2. - a, fel. a yn cam, lloffa, aberthu; neu a Saesoneg yn fat, banish (#100-104),

abound (# 105).

SYLW.-Y mae yr a Saesneg flaenddodol, megys yn abound, among, papa, yn nes i sain a Gymraeg nag i y Gymraeg; am hyny defnyddir a yn wastad yn y cynaniad i ddynodi y sain flaenddodol yma. Gwel y sylw ar ol y yn y tudalen hwn.

 

3. - e, fel e yn hen, lle; neu a Saesneg yn fate, paper (#82-85).

SYLW.-Yr e Italaidd yma a ddefnyddir hefyd, yn fynych, yn y cynaniad, i ddynodi y sain hir anacenol; megys a yn arietta, ay yn gateway, ar eyffelyb.

 

4. - e, fel e yn pen, heddwch; neu e Saesneg yn net, ebbing (#119-121), aspen, hyphen (#132)

 

5. - i, fel i yn llid, cri; nen yr e ar ee Saesneg yn me, feet, era, succeed (#113-116).

SYLW.-Yr i Italaidd a ddefnyddir hefyd i ddynodi y sain hir anacenol, yn fynych ; megys e yn aries, ea yn aspen-tree, ar cyffelyb.

 

6. - i, fel i yn dim, difrif, difenwi; neu e Saesneg yn devout (#126), neu i a y

yn vanity (#154, 225).

7. - o, fel o yn tor - ond y sain yn hwy - neu o yn hon, ton, ond yn fwy gyddfol (# 94) ; neu a Saesneg yn all, talk, palling, always (#96), quart, warlike (#98), neu o yn nor, torment (#165, 166)

SYLW.-Defnyddir yr o Italaidd yn fynych, hefyd, yn y cynaniad, mewm sillau anacenol; megys already, jackdaw, ordination, ar cyffelyb.

 

8. - o, fel o yn llon, calon; neu o Saesneg yn not, pomposity, moral (#167-169).

9.-, fel o yn llo, curo ; neu o Saesnag yn no, note, obey, steam-boat (#160-162, 181).

 

10. - u, fel u yn dull cymun; neu i Saesneg yn pin, coalpit, native (#144).

SYLW. Yr u Gymraeg a ddefnyddir yn wastad, yn y cynaniad, yn lle yr i attaledig Saesneg (#20), pan yn rhagflaenu b, d, dd, f, l, m, n, p, r, s, t, th, a z; ond pan ragflaenir yr i yn y cynaniad gan c, , g, j, sh, neu zh, i a ddefnyddir yn y cynaniad yn wastad, yn lle yr u Gymraeg o flaen c, , ff, g, ng, j, sh, a zh.

 

11. - w, fel w yn swn, llw; neu oo Saesneg yn pool (# 259), neu o yn prove, movement (#172-174), neu u yn rule (#199).

12. - w, fel w yn pwn, carbwl; neu oo Saesneg yn foot, good (#259, Eithr), neu u yn bull, puss, pulpit) (#197, 198).

 

13. - y, fel yn yr, dyddyfnu; neu u Saesneg yn hut (#195), neu fur, urge (#193);

neu e yn her, verb (#122-125); neu yn bird, virtue (#148); neu a yn real, William (#107); neu e yn pertain, tolerable, butter (#138); neu yn extripation. nadir (#157); neu o yn come (#176-178); author (#183-185); neu y yn myrtle (#2247), satyr (#225).

SYLW.-Y mae yr a Saesneg derfynol, megys yn attendance, clerical, firman {sic,}, &c. (#107), yn nes at sain yr y Gymraeg nag at sain yr a Gymraeg; am hyny, defnyddir y yn y cynaniad i ddynodi y sain derfynol hon, cystal ar gwahanol awndance seiniau terfynol ereill a nodir uchod.

 

Y CYDSEINIAID=THE CONSONANTS

1. . fel tsh==ch Saesneg yn church=tshyrtsh (#326, 329).

2. j, fel dzh=j Saesneg yn John=dzhon (#14, 349).

3. - sh, fel yr s Gymraeg yn eisiau, neu sh Saesneg yn arall (#383).

4. - z, fel yn y gair Ysgrythyrol zl, neu y z Saesneg yn zone (#15, 398, 399).

5. - sh, fel z Saesneg yn glazier, azure (#400, 402).

SYLW. Y mae yr holl seiniau ereill a ddefnyddir yn y cynaniad yn seiniau Cymraeg diledryw, ac yn cael eu hamlygu r llyhyrenau Cymraeg arferedig

 

 

TALFYRIADAU=ABBREV.IATIONS.

 

a.

adjective

ansoddair.

ad.

adverb

adferf = gorair.

ar.

article

bannod.

c.

conjunction

cyssylltiad.

col.

colloquial

ymddyddanol.

dim.

diminutive

bychanig.

in.

interjection

ebychiad = cyfryngiad.

m.

masculine

gwrywol

p.

participle

cyfraniad

p.a.

participle adjective

ansodair cyfraniadol

pl.

plural

lluosog

p.p.

past participle

cyfraniad gorphenol

pr.

pronoun

rhagenw

prf.

prefix

rhagddod

prp.

preposition

arddodiad

p. t.

past tense

amser gorphenol

s.

substantive

sylweddair

sc.

scriptural

ysgrythyrol

sing.

singular

unig. unigol

v.

verb (active and neuter)

berf (wneuthurol a chanolig)

v.a.

verb active

berf weithredol

v.n.

verb neuter

berf ganolig

=

synoymous with, equivalent to

cyfystyr ; yr un

 

 

AN ENGLISH-WELSH PRONOUNCING DICTIONARY:

 

D.S. {= Dalier Sylw} Yn y cynaniad, defnyddir llythyrenau Italaidd i ddangos sain hir y llafariad Saesneg, a llyhtyrenau Rhufenaidd i ddangos eu sain fer. Seinir yr a Italaidd fel yr a Gymraeg yn tad, neu yr a Saesneg yn far; a Rufeinaidd, fel yr a Gymraeg yn cam, neu yr a Saesneg yn fat; e Italaidd, fel yr e Gymraeg yn hen, neu yr a Saesneg yn fate; e Rufeinaidd, fel yr e Gymraeg yn pen, neu yr e Saesneg yn met; i Italaidd, fel yr i Gymraeg yn llid, neu yr ee Saesneg yn

feet; i Rufenaidd, fel yr i Gymraeg yn dim, neu yr e Saesneg yn defy; o Italaidd, fel yr o Gymraeg yn tor, ond y sain yn hwy; neu yr a Saesneg yn all; o Rufeinaidd, fel yr o Gymraeg yn llon, neu yr o Saesneg yn not; , fel yr o Gymraeg yn llo, neu yr o Saesneg yn no; u, fel yr u Gymraeg yn dull, neu yr u Saesneg yn pin; w Italaidd, fel yr w Gymraeg yn swn, neu yr oo Saesneg yn pool; w Rufeinaidd, fel yr w Gymraeg yn pwn, neu yr oo Saesneg yn foot, y fel yr y Gymraeg yn yr, neu yr u Saesneg yn hut neu fur; , fel tsh, neu fel y ch Saesneg yn church=tshyrtsh; j, fel J, yn John=dzhon; sh fel yr s Gymraeg yn eisiau, neu yr sh Saesneg yn shall; z, fel yn y gair Ysgrythyrol zl, neu y z Saesneg yn zone.

 

A, e, s. enw y llythyren gyntaf or egwyddor.

A, a=y, ind. art. un: dyma yr ystyr sydd i a o flaen enwau Saesneg unigol; megys a man=dyn;

a horse= march; a union= undeb. Hefyd, arferir yr a fel hyn: - a few men=ychydig o ddynion; a great many apples=llawer iawn o afalau; he is gone a hunting=aeth i hela. Y mae a weithiau yn datgan gradd, mesur, neu gyfartaledd, fel y mae y neu yr yn y Gymraeg; megys, a shilling a pound=swllt y pwys; a hundred a week=cant yr wythnos. Seinir a, pan yn bwysleisiol, fel e Gymraeg; megys I never want a (e) word, but Pitt never wants the word=Ni fydd arnaf fi byth eisiau gair, ond ni fydd ar Pitt byth eisiau y gair. Nid oes gair cyfystyr ir a yma yn y rhif lluosog.

Aaronic, e-ron-ic, a. Aaronawl, perthynol i swydd Aaron.

Aaronical, e-ron-i-cyl, , a. Aaronawl, perthynol i swydd Aaron.

Abacist, ab-a-sust, s. cyfrifiwr, cyfrifydd, cyfrifiadur.

Aback, a-bac, ad. yn ol, trach y cefn, yn wysg y cefn, yn y gwrthol.

Abacot, ab-a-cot, s. hotan; teyrn-gap.

Abactor, a-bac-tyr, s. gyrleidr, lleidr gwartheg.

Abacus, ab-a-cys, s. bwrdd cyfrif, cyfriflech; coplech.

Abaft, a-bafft, ad. yn ol, tuag yn ol, wrth y llyw.

Abaisance, a-be-syns, s. ymostyngiad, ymgrymiad, moesblygiad.

Abaised, a-be-sed, a. llipa, llibin.

Abalienate, a-bel-ien-et, v. a. trosi, trosglwyddo, arallu; estroni, estronoli.

Abalienation, a-bel-ien-e-shyn, s. trosglwyddiad, aralliad, newidiad, meddinat; estronoliad.

Abandon, a-ban-dyn v. a gadael, gado, gadu; gwrthod, rhoi i fyny; ymadael . ymwrthod , bwrw ymaith.

Abandoned, a-ban-dynd a. gadawedig; anfad, dryglawn, ysgeler.

Abandonee, a-ban-dyn-i s. gadawai=un a gadir peth iddo.

Abandoner, a-ban-dyn-yr s. gadydd; ymwrthodwr.

Abandoning, a-ban-dyn-ing s. gadawiad, ymwadiad, rhoddiad i fyny.

Abandonment, a-ban-dyn-ment s. gadawiad, ymwadiad, rhoddiad i fyny.

Abandum , a-ban-dym, s. diodfrydbeth, camlwrw, peth wedi ei fforffedu.

Abannition, ab-an-ish-yn, s. byralldudiad.

Abare, a-beyr, v. a. noethi, dynoethi.

Abarticulation, ab-ar-tic-iw-le-shyn s. hygymmaliad, rhwyddgymmaliad.

Abase, a-bes, v. a. darostwng, gostwng; iselu, iselhau; diraddio; taflu i lawr

AC YN Y BLAEN HYD ZYMOLOGY AR DUDALEN 687!!

 

ar waelod pob dwy ddalen:

a, fel a yn tad; a, cam; e, hen; i, Llid, i, nid; o, tor, ond ei sain yn hwy; o, llon; , llo; u, dull; w, swn; w, pwn; y, yr; , fel tsh; j, John; sh, fel s yn eisieu; z, zl

 

 

DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN

0043c
Yr iaith Gymraeg

0005k
Mynegai yn nhrefn y wyddor ir hyn a geir yn y gwefan

1051e
testunau Cymraeg throsiad Saesneg yn y gwefan hwn



Bler wyf i? Yr ych chin ymwld ag un o dudalennaur Gwefan CYMRU-CATALONIA
On sc?
Esteu visitant una pgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Galles-Catalunya)
We(r) m ai? Yu a(r) vzting peij frm dh CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katluni) Wb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

 

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadstiques / View My Stats