Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Galles i Catalunya : Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysger-Ln (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bblia en galls de lany 1620. Text electrnic. Dh Bibl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition. 1338k

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys _003_beibl_daniel_27_1338k.htm

0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001

..........2657k Y Fynedfa yn Gymraeg
neu trwy Google: #kimkat2657k

....................
0009k Y Gwegynllun
neu trwy Google: #kimkat0009k

..............................
0960k Cywaith Sin Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
neu trwy Google: #kimkat0960k

........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620
neu trwy Google: #kimkat1281k

.............................................................y tudalen hwn


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Galles

Y Beibl Cysegr-ln (1620):

(27) Daniel



(delw 6540)

 

 

1339ke This page with an English translation English (Daniel: 1620 Welsh Bible / 1611 English Authorized Version)

 


PENNOD 1


1:1 Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Jehoiacim brenin Jwda, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon i Jerwsalem, ac a warchaeodd arni.

1:2 Ar ARGLWYDD a roddes iw law Jehoiacim brenin Jwda, a rhan o lestri tŷ DDUW; yntau au dug hwynt i wlad Sinar, i dŷ ei dduw ef; ac i drysordy ei dduw y dug efe y llestri.

1:3 A dywedodd y brenin wrth Aspenas ei ben-ystafellydd, am ddwyn o feibion Israel, ac or had brenhinol, or tywysogion,

1:4 Fechgyn y rhai ni byddai ynddynt ddim gwrthuni, eithr yn dda yr olwg, a deallgar ym mhob doethineb, ac yn y gwybod gwybodaeth, ac yn deall cyfarwyddyd, ar rhai y byddai grym ynddynt i sefyll yn llys y brenin, iw dysgu ar lyfr ac yn iaith y Caldeaid.

1:5 Ar brenin a ddognodd iddynt ran beunydd o fwyd y brenin, ac or gwin a yfai efe; felly iw maethu hwynt dair blynedd, fel y safent ar l hynny gerbron y brenin.

1:6 Ac yr ydoedd yn eu plith hwynt feibion Jwda, Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia:

1:7 Ar pen-ystafellydd a osododd arnynt enwau: canys ar Daniel y gosododd efe Beltesassar; ac ar Hananeia, Sadrach; ac ar Misael, Mesach; ac ar Asareia, Abednego.

1:8 Daniel a roddes ei fryd nad ymhalogai efe trwy ran o fwyd y brenin, na thrwy y gwin a yfai efe: am hynny efe a ddymunodd ar y pen-ystafellydd, na byddai raid iddo ymhalogi.

1:9 A DUW a roddes Daniel mewn ffafra thiriondeb gydar pen-ystafellydd.

1:10 Ar pen-ystafellydd a ddywedod wrth Daniel, Ofni yr ydwyf fi fy arglwydd y brenin, yr hwn a osododd eich bwyd chwi ach diod chwi: oherwydd paham y gwelai efe eich wynebau yn gulach nar bechgyn sydd fel chwithau? felly y parech fy mhen yn ddyledus ir brenin.

1:11 Yna y dywedodd Daniel wrth Melsar, yr hwn a osodasai y pen-ystafellydd ar Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia,

1:12 Prawf, atolwg, dy weision ddeg diwrnod, a rhoddant i ni ffa iw bwyta, a dwfr iw yfed.

1:13 Yna edrycher ger dy fron di ein gwedd ni, a gwedd y bechgyn sydd yn bwyta rhan o fwyd y brenin: ac fel y gwelych, gwna th weision.

1:14 Ac efe a wrandawodd arnynt yn y peth hyn, ac au profodd.hwynt ddeg o ddyddiau.

1:15 Ac ymhen y deng niwrnod y gwelid eu gwedd hwynt yn decach, ac yn dewach o gnawd, nar holl fechgyn oedd yn bwyta rhan o fwyd y brenin

1:16 Felly Melsar a gymerodd ymaith ran eu bwyd hwynt, ar gwin a yfent; ac a roddes iddynt ffa.

1:17 Ar bechgyn hynny ill pedwar, DUW a roddes iddynt wybodaeth a deall ym mhob dysg a doethineb: a Daniel a hyfforddiodd efe ym mhob gweledigaeth a breuddwydion.

1:18 Ac ymhen y dyddiau y dywedasai y brenin am eu dwyn hwynt i mewn, yna y pen-ystafellydd au dug hwynt gerbron Nebuchodonosor.

1:19 Ar brenin a chwedleuodd hwynt; ac ni chafwyd ohonynt oll un fel Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia: am hynny y safasant hwy gerbron y brenin.

1:20 Ac ym mhob rhyw ddoethineb a deall ar a ofynnai y brenin iddynt, efe au cafodd hwynt yn ddeg gwell nar holl ddewiniaid ar astronomyddion oedd o fewn ei holl frenhiniaeth ef.

1:21 A bu Daniel hyd y flwyddyn gyntaf ir brenin Cyrus.


PENNOD 2

2:1 Ac yn yr ail flwyddyn o deyrnasiad Nebuchodonosor, y breuddwydiodd Nebuchodonosor
freuddwydion, a thrallodwyd ei ysbryd ef, ai gwsg a dorrodd oddi wrtho.

2:2
Ar brenin a archodd alw am y dewiniaid, ac am yr astronomyddion, ac am yr hudolion, ac am y Caldeaid, i fynegi ir brenin ei freuddwydion: a hwy a ddaethant ac a safasant gerbron y brenin.

2:3
Ar brenin a ddywedodd wrthynt, Breuddwydiais freuddwyd, a thrallodwyd fy ysbryd am wybod y breuddwyd.

2:4 Yna y Caldeaid a lefarasant wrth y brenin yn Syriaeg, O frenin, bydd fyw yn dragywydd: adrodd dy freuddwyd ith weision, a mynegwn y dehongliad.

2:5 Atebodd y brenin a dywedodd wrth y Caldeaid, Aeth y peth oddi wrthyf: oni fynegwch y breuddwyd i mi, ai ddehongliad, gwneir chwi yn ddrylliau, ach tai a osodir yn domen.

2:6 Ond os y breuddwyd ai ddehongliad a ddangoswch, cewch roddion, a gwobrau, ac anrhydedd mawr om blaen i: am hynny dangoswch y breuddwyd, ai ddehongliad.

2:7 Atebasant eilwaith a dywedasant, Dyweded y brenin y breuddwyd iw weision, ac ni a ddangoswn ei ddehongliad ef.

2:8 Atebodd y brenin a dywedodd, Mi a wn yn hysbys mai oedi yr amser yr ydych chwi; canys gwelwch fyned y peth oddi wrthyf.

2:9 Ond oni wnewch i mi wybod y breuddwyd, un gyfraith fydd i chwi: canys gair celwyddog a llygredig a ddarparasoch ei ddywedyd om blaen, nes newid yr amser: am hynny dywedwch i mi y breuddwyd, a mi a gaf wybod y medrwch ddangos i mi ei ddehongliad ef.

2:10 Y Caldeaid a atebasant o flaen y brenin, ac a ddywedasant, Nid oes dyn ar y ddaear a ddichon ddangos yr hyn y mae y brenin yn ei ofyn; ac ni cheisiodd un brenin, na phennaeth, na llywydd, y fath beth hwn gan un dewin, nac astronomydd, na Chaldead.

2:11 Canys dieithr yw y peth a gais y brenin, ac nid oes neb arall a fedr ei ddangos o flaen y brenin, ond y duwiau, y rhai nid yw eu trigfa gyda chnawd.

2:12 O achos hyn y digiodd y brenin ac y creulonodd yn ddirfawr, ac a orchmynnodd ddifetha holl ddoethion Babilon.

2:13
Yna yr aeth y gyfraith allan am ladd y doethion; ceisiasant hefyd Daniel ai gyfeirion iw lladd.

2:14 Yna yr atebodd Daniel trwv gyngor a doethineb i Arioch, pen-distain y brenin, yr hwn a aethai allan, i ladd doethion Babilon:

2:15 Efe a lefarodd ac a ddywedodd wrth Arioch, distain y brenin, Paham y mae y gyfraith yn myned ar y fath frys oddi wrth y brenin? Yna Arioch a fynegodd y peth i Daniel.

2:16 Yna Daniel a aeth i mewn, ac ymbiliodd r brenin am roddi iddo amser, ac y dangosai efe y dehongliad ir brenin.

2:17 Yna yr aeth Daniel iw dŷ, ac a fynegodd y peth iw gyfeillion, Hananeia, Misael, ac Asareia;

2:18 Fel y ceisient drugareddau gan DDUW y nefoedd yn achos y dirgelwch hwn; fel na ddifethid Daniel ai gyfeillion gydar rhan arall o ddoethion Babilon.

2:19
Yna y datguddiwyd y dirgelwch i Daniel mewn gweledigaeth nos: yna Daniel a fendithiodd DDUW y nefoedd.

2:20 Atebodd Daniel a dywedodd, Bendigedig fyddo enw Duw o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb: canys doethineb a nerth ydynt eiddo ef:

2:21 Ac efe sydd yn newid amserau, a thymhorau: efe sydd yn symud brenhinoedd, ac yn gosod brenhinoedd: efe sydd yn rhoddi doethineb ir doethion, a gwybodaeth ir rhai a fedrant ddeall:

2:22 Efe sydd yn datguddio y pethau dyfnion a chuddiedig: efe a ŵyr beth sydd yn y tywyllwch, a chydag ef y mae y goleuni yn trigo.

2:23 Tydi DDUW fy nhadau yr ydwyf fi yn diolch iddo, ac yn ei foliannu, oherwydd rhoddi ohonot ddoethineb a nerth i mi, a pheri i mi wybod yn awr yr hyn a geisiasom gennyt: canys gwnaethost i ni wybod it hyn a ofynnodd y brenin.

2:24 Oherwydd hyn yr aeth Daniel a Arioch, yr hwn a osodasai y brenin i ddifetha doethion Babilon: efe a aeth, ac a ddywedodd wrtho fel hyn; Na ddifetha ddoethion Babilon; dwg fi o flaen y brenin a mi a ddangosaf ir brenin dehongliad.

2:25 Yna y dug Arioch Daniel o flaen y brenin ar frys, ac a ddywedodd wrtho fel hyn; Cefais ŵr o blant caethiwed Jwda, yr hwn a fynega ir brenin y dehongliad.

2:26 Atebodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, yr hwn yr oedd ei enw Beltesassar, A elli di fynegi i mi y breuddwyd a welais, ai ddehongliad?

2:27 Atebodd Daniel o flaen y brenin, a dywedodd, Ni all doethion, astronomyddion, dewiniaid, na brudwyr, ddangos ir brenin y dirgelwch y mae y brenin yn ei ofyn:

2:28 Ond y mae Duw yn y nefoedd yn datguddio dirgeledigaethau, ac a fynegodd ir brenin Nebuchodonosor beth a fydd yn y dyddiau diwethaf. Dy freuddwyd a gweledigaethau dy ben yn dy wely ydoedd hyn yma:

2:29 Ti frenin, dy feddyliau a godasant yn dy ben ar dy wely, beth oedd i ddyfod ar l hyn: ar hwn sydd yn datguddio dirgeledigaethau, a fynegodd i ti beth a fydd.

2:30 Minnau hefyd, nid oherwydd y doethineb sydd ynof fi yn fwy na neb byw, y datguddiwyd i mi y dirgelwch hwn: ond ou hachos hwynt y rhai a fynegant y dehongliad ir brenin, ac fel y gwybyddit feddyliau dy galon.

2:31 Ti, frenin, oeddit yn gweled, ac wele ryw ddelw fawr hon, yr oedd ei disgleirdeb yn rhagorol, oedd yn sefyll gyferbyn thi; ar olwg oedd arni ydoedd ofnadwy.

2:32 Pen y delw hon ydoedd o aur da, ei dwyfron ai breichiau o arian, ei bol ai morddwyd o bres,

2:33 Ei choesau o haearn, ei thraed oedd beth ohonynt o haearn, a pheth ohonynt o bridd.

2:34 Edrych yr oeddit hyd oni thorrwyd allan garreg, nid trwy waith dwylo, a hi a drawodd y ddelw at ei thraed o haearn a phridd, ac au maluriodd hwynt.

2:35 Yna yr haearn, y pridd, y pres, yr arian, ar aur, a gydfaluriasant, ac oeddynt fel mn us yn dyfod or lloriau dyrnu haf; ar gwynt au dug hwynt ymaith, ac ni chaed lle iddynt; ar garreg yr hon a drawodd y ddelw a aeth yn fynydd mawr, fel ac a lanwodd yr holl ddaear.

2:36 Dyma y breuddwyd: dywedwn hefyd ei ddehongliad o flaen y brenin.

2:37
Ti, frenin, wyt frenin brenhinoedd: canys Duw y nefoedd a roddodd i ti frenhiniaeth, gallu, a nerth, a gogoniant.

2:38 A pha le bynnag y preswylia plant dynion, efe a roddes dan dy law fwystfilod y maes, ac ehediaid y nefoedd, ac ath osododd di yn arglwydd arnynt oll: ti yw y pen aur hwnnw.

2:39
Ac ar dy l di y cyfyd brenhiniaeth arall is na thi, a thrydedd frenhiniaeth arall o bres, yr hon a lywodraetha ar yr holl ddaear.

2:40 Bydd hefyd y bedwaredd frenhin iaeth yn gref fel haearn: canys yr haearn a ddryllia, ac a ddofa bob peth: ac fel haearn, yr hwn a ddryllia bob peth, y maluria ac y dryllia hi.

2:41 A lle y gwelaist y traed ar bysedd, peth ohonynt o bridd crochenydd, a pheth ohonynt o haearn, brenhiniaeth ranedig fydd; a bydd ynddi beth o gryfder haearn, oherwydd gweled ohonot haearn wedi ei gymysgu phridd cleilyd.

2:42 Ac fel yr ydoedd bysedd y traed, peth o haearn, a pheth o bridd; felly y bydd y frenhiniaeth, o ran yn gref, ac o ran yn frau.

2:43 A lle y gwelaist haearn wedi ei oedd gymysgu phridd cleilyd, ymgymysgant had dyn; ond ni lynant y naill wrth y llall, megis nad ymgymysga haearn phridd.

2:44 Ac yn nyddiau y brenhinoedd hyn, y cyfyd Duw y nefoedd frenhiniaeth, yr hon ni ddistrywir byth: ar frenhiniaeth ni adewir i bobl eraill; ond hi a faluria ac a dreulia yr holl freniniaethau hyn, a hi a saif yn dragwydd.

2:45 Lle y gwelaist dorri carreg or mynydd, yr hon ni thorrwyd llaw, a malurio ohoni yr haearn, y pres, y pridd, yr arian, ar aur; hysbysodd y DUW mawr ir brenin beth a fydd wedi hyn: felly y breuddwyd sydd wir, ai ddehongliad yn ffyddlon.

2:46 Yna y syrthiodd, Nebuchodonosor y brenin ar ei wyneb, ac a addolodd Daniel; gorchmynnodd hefyd am offrymu iddo offrwm ac arogl-darth.

2:47 Atebodd y brenin a dywedodd wrth Daniel, Mewn gwirionedd y gwn mai eich DUWchwi yw DUW y duwiau, ac Arglwydd y brenhinoedd, a datguddydd dirgeledigaethau, oherwydd medru ohonot ddatguddio y dirgelwch hwn.

2:48 Yna y brenin a fawrygodd Daniel, ac a roddes iddo roddion mawrion lawer; ac efe ai gwnaeth ef yn bennaeth ar holl dalaith Babilon, ac yn ben ir swyddogion ar holl ddoethion Babilon.

2:49 Yna Daniel a ymbiliodd r brenin, ac yntau a osododd Sadrach, Mesach, ac Abednego ar lywodraeth talaith Babilon, ond Daniel a eisteddodd ym mhorth y brenin.


PENNOD 3


3:1 Nebuchodonosor y brenin a wnaeth ddelw aur, ei huchder oedd yn drigain cufydd, ei lled yn chwe chufydd; ac efe ai gosododd hi i fyny yng ngwastadedd Dura, o fewn talaith Babilon.

3:2 Yna Nebuchodonosor y brenin a anfonodd i gasglu ynghyd y tywysogion, dugiaid, a phendefigioin, y rhaglawiaid, y trysorwyr, y cyfreithwyr, y trethwyr, a holl lywodraethwyr y taleithiau, i ddyfod wrth gysegru y ddelw a gyfodasai Nebuchodonosor y brenin.

3:3 Yna y tywysogion, dugiaid, a phendefigion, rhaglawiaid, y trysorwyr, y cyfreithwyr, y trethwyr, a holl lywodraethwyr y taleithiau, a ymgasglasant ynghyd wrth gysegru y ddelw a gyfodasai Nebuchodonosor y brenin: a hwy a safasant o flaen y ddelw a gyfodasai Nebuchodonosor.

3:4
A chyhoeddwr a lefodd yn groch, Wrthych chwi, bobloedd, genhedloedd, a ieithoedd, y dywedir.

3:5 Pan glywoch sŵn y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulsimer, y saltring, y symffon, a phob rhyw gerdd, y syrthiwch ac yr addolwch y ddelw aur a gyfododd Nebuchodonosor y brenin.

3:6
Ar hwn ni syrthio ac ni addolo, yr awr honno a fwrir i ganol ffwrn o dn poeth.

3:7 Am hynny yr amser hwnnw, pan glywodd yr holl bobloedd sain y cornet, y chwibanogl, y delyn, y
dulsimer, y saltring, a phob rhyw gerdd, y bobloedd, y cenhedloedd, ar ieithoedd oll, a syrthiasant, ac a addolasant y ddelw aur a gyfodasai Nebuchodonosor y brenin.

3:8 O ran hynny yr amser hwnnw y daeth gŵr o Caldea, ac a gyhuddasant yr Iddewon.

3:9
Adroddasant a dywedasant wrth Nebuchodonosor y brenin, Bydd fyw, frenin, yn dragywydd.

3:10 Ti, frenin, a osodaist orchymyn, ar i bwy bynnag a glywai sain y cornet, y chwibanogl, y delyn, y
dulsimer, y saltring, ar symffon, a phob rhyw gerdd, syrthio ac ymgryrnu ir ddelw aur:

3:11 A phwy byanag ni syrthiai ac nid ymgrymai, y teflid ef i ganol ffwrn o dn poeth.

3:12 Y mae gwŷr o Iddewon a osodaist ti ar oruchwyliaeth talaith Babilon, Sadrach, Mesach, ac Abednego; y gwŷr hyn, O frenin, ni wnaethant gyfrif ohonot ti; dy dduwiau nid addolant, ac nid ymgrymant ir ddelw aur a gyfodaist.

3:13 Yna Nebuchodonosor mewn llidiowgrwydd a dicter a ddywedodd am gyrchu Sadrach, Mesach, ac Abednego.
Yna y ducpwyd y gwŷr hyn o flaen y brenin.

3:14 Adroddodd Nebuchodonosor a dywedodd wrthynt, Ai gwir hyn, Sadrach, Mesach, ac Abednego? oni addolwch chwi fy nuwiau i, ac oni ymgrymwch ir ddelw aur a gyfodais i?

3:15 Yr awr hon wele, os byddwch chwi barod pan glywoch sain y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulsimer, y saltring, y symffon, a phob rhyw gerdd, i syrthio ac i ymgrymu ir ddelw a wneuthum, da: ac onid ymgrymwch, yr awr honno y bwrir chwi i ganol ffwrn o dn poeth; a pha DDUW yw efe ach gwared chwi om dwylo i?

3:16 Sadrach, Mesach, ae Abednego a atebasant ac a ddywedasant wrth y brenin, Nebuchodonosor, nid ydym ni yn gofalu am ateb i ti yn y peth hyn.

3:17 Wele, y mae ein DUW ni, yr hwn yr ydym ni yn ei addoli yn abl in gwared ni allan or ffwrn danllyd boeth, ac efe an gwared ni oth law di, O frenin.

3:18 Ac onid e, bydded hysbys i ti, frenin, na addolwn dy dduwiau, ac nad ymgrymwn ith ddelw aur a gyfodaist.

3:19 Yna y llanwyd Nebuchodonosor o llidiowgrwydd, a gwedd, ei wyneb ef a newidiodd yn erbyn Sadrach, Mesach, ac Abednego; am hynny y llefarodd ac y dywedodd am dwymo y ffwrn seithwaith mwy nag y byddid arfer oi thwymo hi.

3:20 Ac efe a ddywedodd wrth wŷr cryfion nerthol, y rhai oedd yn ei lu ef, am rwymo Sadrach, Mesach, ac Abednego, iw bwrw ir ffwrn o dn poeth.

3:21 Yna y rhwymwyd y gwŷr hynny yn eu peisiau, eu llodrau, au cwcyllau, au dillad eraill, ac au bwriwyd i ganol y ffwrn o dn poeth.

3:22 Gan hynny, o achos bod gorchymyn y brenin yn gaeth, ar ffwrn yn boeth ragorol, fflam y tn a laddodd y gwŷr hynny a fwriasant i fyny Sadrach, Mesach, ac Abednego.

3:23 Ar triwyr hyn, Sadrach, Mesach, ac Abednego, a syrthiasant yng nghanol y ffwrn o dn poeth yn rhwym.

3:24 Yna y synnodd ar Nebuchodonosor, a cy cyfododd ar frys, atebodd hefyd a dywedodd wrth ei gynghoriaid, Onid triwyr a fwriasom ni i ganol y ffwrn yn rhwym? Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrth y brenin, Gwir, O frenin.

3:25 Atebodd a dywedodd yntau, Wele fi yn gweled pedwar o wŷr rhyddion yn rhodio yng nghanol y tn, ac nid oes
niwed arnynt; a dull y pedwerydd sydd debyg i Fab DUW.

3:26 Yna y nesaodd Nebuchodonosor at enau y ffwrn o dn poeth, ac a lefarodd ac a ddywedodd, O Sadrach, Mesach, ac Abednego, gwasanaethwyr y Duw goruchaf, deuwch allan, a deuwch yma. Yna Sadrach, Mesach, ac Abednego a ddaethant allan o ganol y tn.

3:27 Ar tywysogion, dugiaid, a phendefigion, a chynghoriaid y brenin, a ymgasglasant ynghyd, ac a welsant y gwŷr hyn, y rhai ni finiasai y tn ar eu cyrff, ac ni ddeifiasai flewyn ou pen, ni newidiasai eu peisiau chwaith, ac nid aethai sawr y tn arnynt.

3:28 Atebodd Nebuchodonosor a dywedodd, Bendigedig yw Duw Sadrach, Mesach, ac Abednego, yr hwn a anfonodd ei angel ac a waredodd ei weision a ymddiriedasant ynddo, ac a dorasant orchymyn y brenin, ac a roddasant eu cyrff, rhag gwasanaethu nac ymgrymu ohonynt i un duw, ond iw DUW eu hun

3:29 Am hynny y gosodir gorchymyn gennyf fi, Pob pobl, cenedl, a iaith, yr hon a ddywedo ddim ar fai yn erbyri DUW Sadrach, Mesach ac Abednego, a wneir yn ddrylliau, au tai a wneir yn domen: oherwydd nad oes duw arall a ddichon wared fel hyn.

3:30 Yna y mawrhaodd y brenin Sadrach, Mesach, ac Abednego, o fewn talaith Babilon.


PENNOD 4


4:1 Nebuchodonosor frenin at yr holl bobloedd, cenhedloedd, a ieithoedd, y rhai a drigant yn yr holl ddaear; Aml fyddo heddwch i chwi.

4:2 Mi a welais yn dda fynegi yr arwyddion ar rhyfeddodau a wnaeth y goruchaf DDUW mi.

4:3 Mor fawr yw ei arwyddion ef! ac mor gedyrn yw ei ryfeddodau! ei deyrnas ef sydd deyrnas dragwyddol, ai lywodraeth ef sydd o genhedlaeth i genhedlaeth.

4:4 Myfi Nebuchodonosor oeddwn esmwyth arnaf yn fy nhŷ, ac yn hoyw yn fy llys.

4:5 Gwelais freuddwyd yr hwn am hofnodd; meddyliau hefyd yn fy ngwely, a gweledigaethau fy mhen, am dychrynasant.

4:6 Am hynny y gosodwyd gorchymyn gennyf fl, ar ddwyn ger fy mron holl ddoethion Babilon, fel yr hysbysent i mi ddehongliad y breuddwyd.

4:7 Yna y dewiniaid, yr astronomyddion, y Caldeaid, ar brudwyr, a ddaethant: a mi a ddywedais y breuddwyd ou blaen hwynt; ond ei ddehongliad nid hysbysasant i mi.

4:8 Ond or diwedd daeth Daniel om blaen i, (yr hwn yw ei enw Beltesassar, yn l enw fy nuw i, yr hwn hefyd y mae ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo,) am breuddwyd a draethais oi flaen ef, gan ddywedyd,

4:9 Beltesassar, pennaeth y dewiniaid, oherwydd i mi wybod fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti, ac nad oes un dirgelwch yn anodd i ti, dywed weledigaethau fy mreuddwyd yr hwn a welais, ai ddehongliad.

4:10 A dyma weledigaethau fy mhen ar fy ngwely; Edrych yr oeddwn, ac wele bren yng nghanol y ddaear, ai uchder yn fawr.

4:11 Mawr oedd y pren a chadam, ai uchder a gyrhaeddai hyd y nefoedd; yr ydoedd hefyd iw weled hyd yn eithaf yr holl ddaear.

4:12 Ei ganghennau oedd deg, ai ffrwyth yn aml, ac ymborth arno i bob peth: dano yr ymgysgodai bwystfilod y maes, ac adar y nefoedd a drigent yn ei ganghennau ef, a phob cnawd a fwyti ohono.

4:13 Edrych yr oeddwn yng ngweledigaethau fy mhen ar fy ngwely, ac wele wyliedydd a sanct yn disgyn or nefoedd,

4:14 Yn llefain yn groch, ac yn dywedyd fel hyn, Torrwch y pren, ac ysgythrwch ei wrysg ef, ysgydwch ei ddail ef, a gwasgerwch ei ffrwyth: cilied y bwystfil oddi tano, ar adar oi ganghennau.

4:15 Er hynny gadewch foncyff ei wraidd ef yn y ddaear, mewn rhwym o haearn a phres, ymhlith gwellt y maes; gwlycher ef hefyd gwlith y nefoedd, a bydded ei ran gydar bwystfilod yng ngwellt y ddaear.

4:16
Newidier ei galon ef o fod yn galon dyn, a rhodder iddo galon bwystfil: a chyfnewidier saith amser arno.

4:17 O ordinhad y gwyliedyddion y mae y peth hyn, ar dymuniad wrth ymadrodd y rhai sanctaidd; fel y gwypo y rhai byw mai y Goruchaf a lywodraetha ym mrenhiniaeth dynion, ac ai rhydd ir neb y mynno efe, ac a esyd arni y, gwaelaf o ddynion.

4:18 Dyma y breuddwyd a welais Nebuchodonosor y brenin. Tithau, Beltesassar, dywed ei ddehongliad ef oherwydd nas gall holl ddoethion fy nheyrnas hysbysu y dehongliad i mi: eithr ti a elli; am fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti.

4:19 Yna Daniel, yr hwn ydoedd ei enw Beltesassar, a synnodd dros un awr, ai feddyliau ai dychrynasant ef. Atebodd y brenin, a dywedodd, Beltesassar, na ddychryned y breuddwyd di, nai ddehongliad. Atebodd Beltesassar, a dywedodd, Fy arglwydd, deued y breuddwyd ith gaseion, ai ddehongliad ith elynion.

4:20 Y pren a welaist, yr hwn a dyfasai, ac a gryfhasai, ac a gyraeddasai ei uchder hyd y nefoedd, ac oedd iw weled ar hyd yr holl ddaear;

4:21 Ai ddail yn deg, ai ffrwyth yn aml, ac ymborth i bob peth ynddo; tan yr hwn y trigai bwystfilod y maes, ac y preswyliai adar y nefoedd yn ei ganghennau:

4:22 Ti, frenin, yw efe; tydi a dyfaist, ac a gryfheaist: canys dy fawredd a gynyddodd, ac a gyrhaeddodd hyd y nefoedd, ath lywodraeth hyd eithaf y ddaear.

4:23 A lle y gwelodd y brenin wyliedydd a sanct yn disgyn or nefoedd, ac yn dywedyd, Torrwch y pren, a dinistriwch ef, er hynny gadewch foncyff ei wraidd ef yn y ddaear, mewn rhwym o haearn a phres, ymhlith gwellt y maes, a gwlycher ef gwlith y nefoedd, a bydded ei ran gyda bwystfil y maes, hyd oni chyfnewidio saith amser arno ef:

4:24 Dyma y dehongliad, O frenin, a dyma ordinhad y Goruchaf, yr hwn sydd yn dyfod ar fy arglwydd frenin.

4:25 Canys gyrrant di oddi wrth ddynion, a chyda bwystfil y maes y bydd dy drigfa, gwellt hefyd yth borthant fel eidionau, ac ath wlychant gwlith y nefoedd, a saith amser a gyfnewidia arnat ti, hyd oni wypech mai y Goruchaf sydd yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion, ac yn ei rhoddi ir neb a fynno

4:26 A lle y dywedasant am adael boncyff gwraidd y pren; dy frenhiniaeth fydd sicr i ti, wedi i ti wybod mai y nefoedd sydd yn llywodraethu.

4:27 Am hynny, frenin, bydded fodlon gennyt fy nghyngor, a thor ymaith dy bechodau trwy gyfiawnder, ath anwireddau trwy drugarhau wrth drueiniaid, i edrych a fydd estyniad ar dy heddwch.

4:28 Daeth hyn oll ar Nebuchodonosor y brenin.

4:29 Ymhen deuddeng mis yr oedd efe rhodio yn llys brenhiniaeth Babilon.

4:30 Llefarodd y brenin, a dywedodd, Onid hon yw Babilon fawr, yr hon a adeiledais i yn frenhindy yng nghryfder fy nerth, ac er gogoniant fy mawrhydi?

4:31 Ar gair eto yng ngenau y brenin, syrthiodd llef or nefoedd, yn dywedyd,
Wrthyt ti, frenin Nebuchodonosor, y dywedir, Aeth y frenhiniaeth oddi wrthyt.

4:32 A thi a yrrir oddi wrth ddynion, ath drigfa fydd gyda bwystfilod y maes; gwellt yth borthant fel eidionau; a chyfnewidir saith amser arnat; hyd oni wypech mai y Goruchaf sydd yn llywodraethu ym mhrenhiniaeth dynion, ac yn ei rhoddi ir neb y mynno.

4:33 Yr awr honno y cyflawnwyd y gair ar Nebuchodonosor, ac y gyrrwyd ef oddi wrth ddynion, ac y porodd wellt fel eidionau, ac y gwlychwyd ei gorff ef gan wlith y nefoedd, hyd oni thyfodd ei flew ef fel plu eryrod, ai ewinedd fel ewinedd adar.

4:34 Ac yn niwedd y dyddiau, myfi Nebuchodonosor a ddyrchefais fy llygaid tuar nefoedd, am gwybodaeth a ddychwelodd ataf, a bendithiais y Goruchaf, a moliennais a gogoneddais yr hwn sydd yn byw byth, am fod ei lywodraeth ef yn llywodraeth dragwyddol,
ai frenhiniaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.

4:35 A holl drigolion y ddaear a gyfrifir megis yn ddiddim: ac yn l ei ewyllys, ei hun y mae yn gwneuthur llu y nefoedd, ac thrigolion y ddaear; ac nid oes a atalio el law ef, neu a ddywedo wrtho, Beth yr wyt yn ei wneuthur?

4:36 Yn yr amser hwnnw y dychwelodd fy synnwyr ataf fi, a deuthum i ogoniant fy mrenhiniaeth, fy harddwch am hoywder a ddychwelodd ataf fi, am cynghoriaid am tywysogion am ceisiasant; felly ym sicrhawyd yn fy nheyrnas, a chwanegwyd i mi fawredd rhagorol.

4:37 Yr awr hon myfi Nebuchodonosor ydwyf yn moliannu, ac yn mawrygu, ac yn gogoneddu Brenin y nefoedd, yr hwn y mae ei holl weithredoedd yn wirionedd, ai lwybrau yn farn, ac a ddichon ddarostwng y rhai a rodiant mewn balchder.


PENNOD 5


5:1 Belsassar y brenin a wnaeth wledd fawr i fil oi dywysogion, ac a yfodd win yng ngŵydd y mil.

5:2 Wrth flas y gwin y dywedodd Belsassar am ddwyn y llestri aur ac arian, a ddygasai Nebuchodonosor ei dad ef or deml yr hon oedd yn Jerwsalem, fel yr yfai y brenin ai dywysogion, ei wragedd ai ordderchadon, ynddynt.

5:3 Yna y dygwyd y llestri aur a ddygasid o deml tŷ DDUW, yr hwn oedd yn Jerwsalem: ar brenin ai dywysogion, ei wragedd ai ordderchadon, a yfasant ynddynt.

5:4
Yfasant win, a molianasant y duwiau o aur, ac o arian, o bres, o haearn, o goed, ac o faen.

5:5 Yr awr honno bysedd llaw dyn a ddaethant allan, ac a ysgrifenasant ar gyfer y canhwyllbren ar galchiad pared llys y brenin; a gwelodd y brenin ddarn y llaw a ysgrifennodd.

5:6 Yna y newidiodd lliw y brenin, ai feddyliau ai cyffroesant ef, fel y datododd rhwymau ei lwynau ef, ac y curodd ei liniau ef y naill wrth y llall.

5:7 Gwaeddodd y brenin yn groch am ddwyn i mewn yr astronomyddion, y Caldeaid, ar brudwyr: a llefarodd y brenin, a dywedodd wrth ddoethion Babilon, Pa ddyn bynnag a ddarlleno yr ysgrifen hon, ac a ddangoso i mi ei dehongliad, efe a wisgir phorffor, ac a gaiff gadwyn aur am ei wddf, a chaiff lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas.

5:8
Yna holl ddoethion y brenin a ddaethant i mewn; ond ni fedrent ddarllen yr ysgrifen, na mynegi ir brenin ei dehongliad.

5:9 Yna y mawr gyffrdd y brenin Belsassar, ai wedd a ymnewidiodd ynddo, ai dywysogion a synasant.

5:10 Y frenhines, oherwydd y geiriau; y brenin ai dywysogion, a ddaeth i dŷ y wledd, a llefarodd y frenhines, a dywedodd, Bydd fyw byth, :frenin; na chyffroed dy feddyliau di, ac na newidied dy wedd.

5:11 Y mae gŵr yn dy deyrnas, yr hwn y mae ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo; ac yn nyddiau dy dad y caed ynddo ef oleuni, a deall, a doethineb fel doethineb y duwiau: ar brenin Nebuchodonosor dy dad ai gosododd ef yn bennaeth y dewiniaid, astronomyddion, Caldeaid, a brudwyr, sef y brenin dy dad di.

5:12 Oherwydd cael yn y Daniel hwnnw, yr hwn y rhoddes y brenin iddo enw Beltesassar, ysbryd rhagorol, a gwybodaeth a deall, deongl breuddwydion, ac egluro damhegion, a datod clymau: galwer Daniel yr awron, ac efe a ddengys y dehongliad.

5:13 Yna y ducpwyd Daniel o flaen y brenin: a llefarodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, Ai tydi yw Daniel, yr hwn wyt o feibion caethglud Jwda, y rhai a ddug y brenin fy nhad i o Jwda?

5:14
Myfi a glywais sn amdanat, fod ysbryd y duwiau ynot, a chael ynot ti oleuni, a deall, a doethineb rhagorol.

5:15 Ac yr awr hon dygwyd y doethion, yr astronomyddion, om blaen, i ddarllen yr ysgrifen hon, ac i fynegi i mi ei dehongliad: ond ni fedrent ddangos dehongliad y peth.

5:16 Ac mi a glywais amdanatti, y rnedri ddeongl deongliadau, a datod clymau: yr awr hon os medri ddarllen yr ysgrifen, a hysbysu i mi ei dehongliad, tydi a wisgir phorffor, ac a gei gadwyn aur am dy wddf, ac a gei lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas.

5:17 Yna yr atebodd Daniel, ac y dywedodd o flaen y brenin, Bydded dy roddion i ti, a dod dy anrhegion i arall; er hynny yr ysgrifen a ddarllenaf ir brenin, ar dehongliad a hysbysaf iddo.

5:18
O frenin, y DUW goruchaf a roddes i Nebuchbdonosor dy dad di frenhiniaeth, a mawredd, a gogoniant, ac anrhydedd.

5:19 Ac oherwydd y mawredd a roddasai efe iddo, y bobloedd, y cenhedloedd, ar ieithoedd oll, oedd yn crynu ac yn ofni rhagddo ef: yr hwn a fynnai a laddai, ar hwn a fynnai a gadwai yn fyw; hefyd y neb a fynnai a gyfodai, ar neb a fynnai a ostyngai.

5:20 Eithr pan ymgododd ei galon ef, a chaledu oi ysbryd ef mewn balchder, efe a ddisgynnwyd o orseddfa ei frenhiniaeth, ai ogoniant a dynasant oddi wrtho:

5:21 Gyrrwyd ef hefyd oddi wrth feibion dynion, a gwnaethpwyd ei galon fel bwystfil, a chydar asynnod gwylltion yr oedd ei drigfa: gwellt y porthasant ef fel eidion, ai gorff a wlychwyd gan wlith y nefoedd, hyd oni wybu mai y DUW goruchaf oedd . yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion, ac yn gosod arni y neb a fynno.

5:22 A thithau, Belsassar ei fab ef, ni ddarostyngaist dy galon, er gwybod ohonot hyn oll;

5:23 Eithr ymddyrchefaist yn erbyn Arglwydd y nefoedd, a llestri ei dŷ ef a ddygasant ger dy fron di, a thithau ath dywysogion, dy wragedd ath ordderchadon, a yfasoch win ynddynt; a thi a foliennaist dduwiau o arian, ac o aur, o bres, haearn, pren, a maen, y rhai ni welant, ac ni chlywant, ac ni wyddant ddim: ac nid anrhydeddaist y DUW y mae dy anadl di yn ei law, ath holl ffyrdd yn eiddo.

5:24 Yna yr anfonwyd darn y llaw oddi ger ei fron ef, ac yr ysgrifennwyd yr ysgrifen hon.

5:25 A dyma yr ysgrifen a ysgrifennwyd: MENE, MENE, TECEL, UFFARSIN.

5:26
Dyma ddehongliad y peth: MENE; DUW a rifodd dy frenhiniaeth, ac ai gorffennodd.

5:27
TECEL; Ti a bwyswyd yn y cloriannau, ac ath gaed yn brin.

5:28
PERES: Rhannwyd dy frenhiniaeth a rhoddwyd hi ir Mediaid ar Persiaid.

5:29 Yna y gorchmynnodd Belsassar, a hwy a wisgasant Daniel phorffor, ac chadwyn aur am ei wddf; a chyhoeddwyd amdano, y byddai efe yn drydydd yn llywodraethu yn y frenhiniaeth.

5:30 Y noson honno y lladdwyd Belsassar brenin y Caldeaid.

5:31 A Dareius y Mediad a gymerodd y frenhiniaeth, ac efe yn ddwy flwydd a thrigain oed.


PENNOD 6


6:1 Gwelodd Dareius yn dda osod ar y deyrnas chwe ugain o dywysogion, i fod ar yr holl deyrnas;

6:2 Ac arnynt hwy yr oedd tri rhaglaw, y rhai yr oedd Daniel yn bennaf ohonynt, ir rhai y rhoddai y tywysogion gyfrif, fel na byddai y brenin mewn colled.

6:3 Yna y Daniel hwn oedd yn rhagori ar y rhaglawiaid ar tywysogion, oherwydd bod ysbryd rhagorol ynddo ef: ar brenin a feddyliodd ei osod ef ar yr holl deyrnas.

6:4 Yna y rhaglawiaid ar tywysogion oedd yn ceisio cael achlysur yn erbyn Daniel o ran y frenhiniaeth: ond ni fedrent gael un achos na bai; oherwydd ffyddlon oedd efe, fel na chaed ynddo nac amryfusedd na bai.

6:5 Yna y dywedodd y gwŷr hyn, Ni chawn yn erbyn y Daniel hwn ddim achlysur, oni chawn beth o ran cyfraith ei DDUW yn ei erbyn ef.

6:6 Yna y rhaglawiaid ar tywysogion hyn a aethant at y brenin, ac a ddywedasant wrtho fel hyn; Dareius frenin, bydd fyw byth.

6:7 Holl raglawiaid y deyrnas, y swyddogion, ar tywysogion, y cynghoriaid, ar dugiaid, a ymgyngorasant am osod deddf frenhinol, a chadarnhau gorchymyn, fod bwrw i ffau y llewod pwy bynnag a archai arch gan un DUW na dyn dros ddeng niwrnod ar hugain, ond gennyt ti, O frenin.

6:8 Yr awr hon, O frenin, sicrha y gorchymyn, a selia yr ysgrifen, fel na newidier yn l cyfraith y Mediaid ar Persiaid, yr hon ni newidir.

6:9 Oherwydd hynny y seliodd y brenin Dareius yr ysgrifen ar gorchymyn.

6:10 Yna Daniel, pan wybu selio yr ysgrifen, a aeth iw dŷ, ai ffenestri yn agored yn ei ystafell tua Jerwsalem; tair gwaith yn y dydd y gostyngai efe ar ei liniau, ac y gweddai, ac y cyffesai o flaen ei DDUW, megis y gwni efe cyn hynny.

6:11 Yna y gwŷr hyn a ddaethant ynghyd, ac a gawsant Daniel yn gweddo ac yn ymbil o flaen ei DDUW.

6:12 Yna y nesasant, ac y dywedasant o flaen y brenin am orchymyn y brenin; Oni seliaist ti orchymyn, mai i ffau y llewod y bwrid pa ddyn bynnag a ofynnai gan un DUW na dyn ddim dros ddeng niwrnod ar hugain, ond gennyt ti, O frenin? Atebodd y brenin, a dywedodd, Y mae peth yn wir, yn 1 cyfraith y Mediaid ar Persiaid, yr hon ni newidir.

6:13 Yna yr atebasant ac y dywedasant o flaen y brenin, Y Daniel, yr hwn sydd o feibion caethglud Jwda, ni wnaeth gyfrif ohonot ti, frenin, nac or gorchymyn a seliaist, eithr tair gwaith. yn. y dydd y mae yn gweddo ei weddi.

6:14 Yna y brenin, pan glybu y gair hwn, a aeth yn ddrwg iawn ganddo, ac a roes ei fryd gyda Daniel ar ei waredu ef: ac a fu hyd fachludiad haul yn ceisio ei achub ef.

6:15 Yna y gwŷr hynny a ddaethant ynghyd at y brenin, ac a ddywedasant wrth y brenin, Gwybydd, frenin, mai cyfraith y Mediaid ar Persiaid yw, na newidier un gorchymyn na deddf a osodo y brenin.

6:16
Yna yr archodd y brenin, a hwy a ddygysant Daniel ac ai bwriasant i ffau y llewod. Yna y brenin a lefarodd ac a ddywedodd wrth Daniel, Dy DDUW, yr hwn yr ydwyt yn ei wasanaethu yn wastad, efe ath achub di.

6:17 A dygwyd carreg ac ai gosodwyd ar enau y ffau; ar brenin ai seliodd hi i sl ei hun, ac sl ei dywysogion, fel na newidid yr ewyllys am Daniel.

6:18 Yna yr aeth y brenin iw lys, ac a fu y noson honno heb fwyd: ac ni adawodd ddwyn difyrrwch oi flaen; ei gwsg hefyd a giliodd oddi wrtho.

6:19
Yna y cododd y brenin yn fore iawn at y wawrddydd, ac a aeth ar frys at ffau y llewod.

6:20
A phan nesaodd efe at y ffau, efe a lefodd ar Daniel llais trist. Llefarodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, Daniel, gwasanaethwr y Duw byw, a all dy DDUW di, yr hwn yr wyt yn ei wasanaethu yn wastad, dy gadw di rhag y llewod?

6:21
Yna y dywedodd Daniel wrth y brenin, O frenin, bydd fyw byth.

6:22 Fy Nuw a anfonodd ei angel, ac a gaeodd safnau y llewod, fel na wnaethant i mi niwed: oherwydd puredd a gaed ynof ger ei fron ef; a hefyd ni wneuthum niwed oth flaen dithau, frenin.

6:23 Yna y brenin fu dda iawn ganddo oi achos ef, ac a archodd gyfodi Daniel allan or ffau. Yna y codwyd Daniel or ffau; ac ni chaed niwed arno, oherwydd credu ohono yn ei DDUW.

6:24 Yna y gorchmynnodd y brenin, a hwy a ddygasant y gwŷr hynny a gyhuddasent Daniel, ac au bwriasant i ffau y llewod, hwy, au plant, au gwragedd; ac ni ddaethant i waelod y ffau hyd oni orchfygodd y llewod hwynt, a dryllio eu holl esgyrn.

6:25 Yna yr ysgrifennodd y brenin Dareius at y bobloedd, at y cenhedloedd, ar ieithoedd oll, y rhai oedd yn trigo yn yr holl ddaear; Heddwch a amlhaer i chwi.

6:26 Gennyf fi y gosodwyd cyfraith, ar fod trwy holl lywodraeth fy nheyrnas, i bawb grynu ac ofni rhag DUW Daniel: oherwydd efe sydd DDUW byw, ac yn parhau byth; ai frenhiniaeth ef yw yr hon ni ddifethir, ai lywodraeth fydd hyd y diwedd.

6:27 Y mae yn gwaredu ac yn achub, ac yn gwneuthur arwyddion a rhyfeddodau yn y nefoedd ac ar y ddaear; yr hwn a waredodd Daniel o feddiant y llewod.

6:28 Ar Daniel hwn a lwyddodd yn nheyrnasiad Dareius, ac yn nheyrnasiad Cyrus y Persiad.


PENNOD 7


7:1 Yn y flwyddyn gyntaf i Belsassar brenin Babilon, y gwelodd Daniel freuddwyd, a gweledigaethau ei ben ar ei wely. Yna efe a ysgrifennodd y breuddywyd, ac a draethodd swm y geiriau.

7:2
Llefarodd Daniel, a dywedodd, Mi a welwn yn fy ngweledigaeth y nos, ac wele bedwar gwynt y nefoedd yn ymryson ar y mr mawr.

7:3
A phedwar bwystfil mawr a ddaethant y i fyny or mr, yn amryw y naill oddi wrth y llall.

7:4 Y cyntaf oedd fel llew, ac iddo adenydd eryr: edrychais hyd oni thynnwyd ei adenydd, ai gyfodi oddi wrth y ddaear, a sefyll ohono ar ei draed fel dyn, a rhoddi iddo galon dyn.

7:5 Ac wele anifail arall, yr ail, yn debyg i arth; ac efe a ymgyfododd ar y naill ystlys, ac yr oedd tair asen yn ei safn ef rhwng ei ddannedd: ac fel hyn y dywedent wrtho, Cyfod, bwyta gig lawer.

7:6 Wedi hyn yr edrychais, ac wele un a arall megis llewpard, ac iddo bedair adain aderyn ar ei gefn: a phedwar pen oedd ir bwystfil; a rhoddwyd llywodraeth iddo.

7:7 Wedi hyn y gwelwn mewn gweledigaethau nos, ac wele bedwerydd bwystfil, ofnadwy, ac erchyll, a chryf ragorol; ac iddo yr oedd dannedd mawrion o haearn: yr oedd yn bwyta, ac yn dryllio, ac yn sathru y gweddill dan ei draed: hefyd yr ydoedd efe yn amryw oddi wrth Y bwystfilod oll y rhai a fuasai oi flaen ef; ac yr oedd iddo ddeg o gyrn.

7:8 Yr oeddwn yn ystyried y cyrn; ac wele, cyfododd corn bychan arall yn eu mysg hwy, a thynnwyd or gwraidd dri or cyrn cyntaf oi flaen ef: ac wele lygaid fel llygaid dyn yn y corn hwnnw, a genau yn traethu mawrhydri.

7:9 Edrychais hyd oni fwriwyd i lawr y gorseddfeydd, ar Hen ddihenydd a eisteddodd: ei wisg oedd cyn wynned r eira, a gwallt ei ben fel gwln pur; ei orseddfa yn fflam dn, ai olwynion yn dn poeth.

7:10 Afon danllyd oedd yn rhedeg ac yn dyfod allan oddi ger ei fron ef: mil o filoedd ai gwasanaethent, a myrdd fyrddiwn a safent ger ei fron: y fam a eisteddodd, ac agorwyd y llyfrau.

7:11 Edrychais yna, o achos llais y geiriau mawrion a draethodd y corn; ie, edrychais hyd oni laddwyd y bwystfil, a difetha ei gorff ef, ai roddi iw losgi yn tn.

7:12 Ar rhan arall or bwystfilod, eu llywodraeth a dducpwyd ymaith; a rhoddwyd iddynt einioes dros ysbaid ac amser.

7:13 Mi a welwn mewn gweledigaethau nos, ac wele, megis Mab y dyn oedd yn dyfod gyda chymylau y nefoedd; ac at yr hen ddihenydd y daeth, a hwy ai dygasant ger ei fron ef.

7:14 Ac efe a roddes iddo lywodraeth, a gogoniant, a brenhiniaeth, fel y byddai ir holl bobloedd, cenhedloedd, a ieithoedd ei wasanaethu ef: ei lywodraeth sydd lywodraeth dragwyddol, yr hon nid ymaith, ai frenhiniaeth ni ddifethir.

7:15 Myfi Daniel a ymofidiais yn fy ysbryd yng nghanol fy nghorff, a gweledigaethau fy mhen am dychrynasant.

7:16
Neseais at un or rhai a safent gerllaw, a cheisiais ganddo y gwirionedd am hyn oll. Ac efe a ddywedodd i mi, ac a wnaeth i mi wybod dehongliad y pethau.

7:17 Y bwystfilod mawrion hyn, y rhai sydd bedwar, ydynt bedwar brenin, y rhai a gyfodant or ddaear.

7:18
Eithr sant y Goruchaf a dderbyniant y frenhiniaeth, ac a feddiannant y frenhiniaeth hyd byth, a hyd byth bythoedd.

7:19 Yna yr ewyllysiais wybod y gwirionedd am y pedwerydd bwystfil, yr hwn oedd yn amrywio oddi wrthynt oll, yn yn ofnadwy iawn, ai ddannedd o haearn, ai ewinedd o bres; yn bwyta, ac yn dryllio, ac yn sathru y gweddill i draed:

7:20 Ac am y deg corn oedd ar ei ben ef, ar llall yr hwn a gyfodasai, ac y syrthiasai tri oi flaen; sef y corn yr oedd llygaid iddo, a genau yn traethu mawrhydri, ar olwg arno oedd yn arwach nai gyfeillion.

7:21 Edrychais, ar corn hwn a wnaeth ryfel ar y saint, ac a fu drech na hwynt;

7:22 Hyd oni ddaeth yr Hen ddihenydd, a rhoddi barn i saint y Goruchaf, a dyfod or amser y meddiannai y saint y frenhiniaeth.

7:23 Fel hyn y dywedodd efe; Y pedwerydd bwystfil fydd y bedwaredd frenhiniaeth at y ddaear, yr hon a fydd amryw oddi wrth yr holl freniniaethau, ac a ddifa yr holl ddaear, ac ai sathr hi, ac ai dryllia.

7:24 Ar deg corn or frenhiniaeth hon fydd deg brenin, y rhai a gyfodant: ac un arall a gyfyd at eu hl hwynt, ac efe a amrywia oddi wrth y rhai cyntaf, ac a ddarostwng dri brenin.

7:25 Ac efe a draetha eiriau yn erbyn y Goruchaf, ac a ddifa saint y Goruchaf, ac a feddwl newidio amseroedd a chyfreithau: a hwy a roddit yn ei law ef, hyd amser ac amseroedd a rhan amser.

7:26 Yna yr eistedd y farn, ai lywodraeth a ddygant, iw difetha ac iw distrywio hyd y diwedd.

7:27 At frenhiniaeth ar llywodraeth, a mawredd y frenhiniaeth dan yr holl nefoedd, a roddir i bobl saint y Goruchaf, yr hwn y mae ei frenhiniaeth yn frenhiniaeth dragwyddol, a phob llywodraeth a wasanaethant ac a ufuddhant iddo.

7:28 Hyd yma y mae diwedd y peth. Fy meddyliau i Daniel am dychrynodd yn ddirfawr, am gwedd a newidiodd ynof; eithr mi a gedwais y peth yn fy nghalon.


PENNOD 8


8:1 Yn y drydedd flwyddyn o deyrnas Belsassar y brenin, yr ymddangosodd i mi weledigaeth, sef i myfi Daniel, wedi yr hon a ymddangosasai i mi ar y cyntaf.

8:2 Gwelais hefyd mewn gweledigaeth, (a bu pan welais, mai yn Susan y brenhinllys, yr hwn sydd o fewn talaith Elam, yr oeddwn i,) ie, gwelais mewn gweledigaeth, ac yr oeddwn i wrth afon Ulai.

8:3 Yna y cyfodais fy llygaid, ac a welais, ac wele ryw hwrdd yn sefyll wrth yr afon, a deugorn iddo; ar ddau gorn oedd uchel, ac un yn uwch nar llall; ar uchaf a gyfodasai yn olaf.

8:4 Gwelwn yr hwrdd yn cornio tuar gorllewin, tuar gogledd, a thuar deau, fel na safai un bwystfil oi flaen ef; ac nid oedd a achubai oi law ef; ond efe a wnaeth yn 1 ei ewyllys ei hun, ac a aeth yn fawr.

8:5 Ac fel yr oeddwn yn ystyried, wele hefyd fwch geifr yn dyfod or gorllewin, ar hyd wyneb yr holl ddaear, ac heb gyffwrdd r ddaear; ac ir bwch yr oedd corn hynod rhwng ei lygaid.

8:6
Ac efe a ddaeth hyd at yr hwrdd deugorn a welswn i yni sefyll wrth yr afon, ac efe a redodd ato ef yn angerdd ei nerth.

8:7 Gwelais ef hefyd yn dyfod hyd at yr hwrdd, ac efe a fu chwerw wrtho, ac a drawodd yr hwrdd, ac a dorrodd ei ddau gorn ef, ac nid oedd nerth yn yr hwrdd i sefyll oi flaen ef, eithr efe ai bwriodd ef i lawr, ac ai sathrodd ef; ac nid oedd a allai achub yr hwrdd oi law ef.

8:8 Am hynny,y bwch geifr a aeth yn fawr iawn; ac wedi ei gryfhau, torrodd y corn mawr: a chododd pedwar o rai hynod yn ei le ef, tua phedwar gwynt y nefoedd.

8:9
Ac o un ohonynt y daeth allan gorn bychan, ac a dyfodd yn rhagorol, tuar deau, a thuar dwyrain, a thuar hyfryd wlad.

8:10 Aeth yn fawr hefyd hyd lu y nefoedd, a bwriodd i lawr rai or llu, ac or ser, ac au sathrodd hwynt.

8:11 Ymfawrygodd hefyd hyd at dywysog y llu, a dygwyd ymaith yr offrwm gwastodol oddi arno ef, a bwriwyd ymaith le ei gysegr ef.

8:12 A rhoddwyd iddo lu yn erbyn yr offrwm beunyddiol oherwydd camwedd, ac efe a fwriodd y gwirionedd i lawr; felly y gwnaeth, ac y llwyddodd.

8:13 Yna y clywais ryw sant yn llefaru, a dywedodd rhyw sant arall wrth y rhyw sant hwnnw oedd yn llefaru, Pa hyd y bydd y weledigaeth am yr offrwm gwastadol, a chamwedd anrhaith i roddi y cysegr ar llu yn sathrfa?

8:14 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Hyd ddwy fil a thri chant o ddiwrnodiau: yna y purir y cysegr.

8:15 A phan welais i Daniel y weledigaeth, a cheisio ohonof y deall, yna wele, safodd ger fy mron megis rhith gŵr.

8:16 A chlywais lais dyn rhwng glannau Ulai, ac efe a lefodd ac a ddywedodd, Gabriel, gwna i hwn ddeall y weledigaeth.

8:17 Ac efe a ddaeth yn agos ir lle y safwn; a phan ddaeth, mi a ddychrynais, ac a syrthiais ar fy wyneb: ac efe a ddywedodd wrthyf, Deall, fab dyn; oherwydd y weledigaeth fydd yn amser y diwedd.

8:18 A thra yr oedd efe yn llefaru wrthyf, syrthiais mewn trymgwsg i lawr ar fy wyneb: ac efe a gyffyrddodd mi, ac am cyfododd yn fy sefyll.

8:19 Dywedodd hefyd, Wele fi yn hysbysu i ti yr hyn a fydd yn niwedd y dicter; canys, ar yr amser gosodedig y bydd y diwedd

8:20 Yr hwrdd deugorn a welaist, yw brenhinoedd Media a Phersia.

8:21 Ar bwch blewog yw brenin Groeg; ar corn mawr, yr hwn sydd rhwng ei lygaid ef, dyna y brenin cyntaf.

8:22 Lle y torrwyd ef, ac y cyfododd pedwar yn ei le, pedair brenhiniaeth a gyfodant or un genedl, ond nid un nerth ag ef.

8:23 A thua diwedd eu brenhiniaeth hwynt, pan gyflawner y troseddwyr, y cyfyd brenin wyneb-greulon, ac yn deall damhegion.

8:24 Ai nerth ef a gryfha, ond nid trwy ei nerth ei hun; ac efe a ddinistria yn rhyfedd, ac a lwydda, ac a wna, ac a ddinistria y cedyrn, ar bobl sanctaidd.

8:25 A thrwy ei gyfrwystra y ffynna ganddo dwyllo; ac efe a ymfawryga yn ei galon, a thrwy heddwch y dinistria efe lawer: ac efe a saif yn erbyn tywysog y tywysogion; ond efe a ddryllir heb law.

8:26 A gweledigaeth yr hwyr ar bore yr hon a draethwyd, sydd wirionedd: selia dithau y weledigaeth, oherwydd dros ddyddiau lawer y bydd.

8:27 Minnau Daniel a euthum yn llesg, ac a fm glaf ennyd o ddyddiau yna y cyfodais, ac y gwneuthum orchwyl y brenin, ac a synnais oherwydd y weledigaeth, ond nid oedd neb yn ei deall.


PENNOD 9


9:1 Yn y flwyddyn gyntaf i Dareius mab Ahasferus o had y Mediaid, yr hwn a wnaethid yn frenin ar deyrnas y Caldeaid,

9:2 Yn y flwyddyn gyntaf oi deyrnasiad ef, myfi Daniel a ddeellais wrth lyfrau rifedi y blynyddoedd, am y rhai y daethai gair yr ARGLWYDD at Jeremeia y proffwyd, y cyflawnai efe ddeng mlynedd a thrigain yn anghyfanhedd-dra Jerwsalem.

9:3 Yna y troais fy wyneb at yr Arglwydd DDUW, i geisio trwy weddi ac Ymbil ynghyd ag ympryd, a sachliain, a lludw.

9:4 A gweddais ar yr ARGLWYDD fy NUW, a chyffesais, a dywedais, Atolwg, Arglwydd DDUW mawr ac ofnadwy, ceidwad cyfamod a thrugaredd ir rhai ai carant, ac ir rhai a gadwant ei orchmynion;

9:5 Pechasom, a gwnaethom gamwedd, a buom anwir, gwrthryfelasom hefyd, sef trwy gilio oddi wrth dy orchmynion, ac oddi wrth dy farnedigaethau.

9:6 Ni wrandawasom chwaith ar y proffwydi dy weision, y rhai a lefarasant yn dy enw di wrth ein brenhinoedd, ein tywysogion, ein tadau, ac wrth holl bobl y tir.

9:7 I ti, ARGLWYDD, y perthyn cyfiawnder, ond i ni gywilydd wynebau, megis heddiw; i wŷr Jwda, ac i drigolion Jerwsalem, ac i holl Israel, yn agos ac ymhell, trwy yr holl wledydd lle y gyrraist hwynt, am. eu camwedd a wnaethant ith erbyn.

9:8 ARGLWYDD, y mae cywilydd wynebau i ni, in brenhinoedd, in tywysogion, ac in todau, oherwydd i ni bechu ith erbyn.

9:9 Gan yr ARGLWYDD ein DUW y mae trugareddau a maddeuant, er gwrthryfelu ohonom iw erbyn.

9:10 Ni wrandawsom chwaith ar lais yr ARGLWYDD ein Duw, i rodio yn ei gyfreithiau ef, y rhai a roddodd efe on y blaen ni trwy law ei weision y proffwydi.

9:11 Ie, holl Israel a droseddasant dy gyfraith di, sef trwy gilio rhag gwrando ar dy lais di: am hynny y tywalltwyd arnom ni y felltith ar llw a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses gwasanaethwr DUW, am bechu ohonom yn ei erbyn ef.

9:12 Ac efe a gyflawnodd ei eiriau y rhai a lefarodd efe yn ein herbyn ni, ac yn erbyn ein bamwyr y rhai an barnent, gan ddwyn arnom ni ddialedd mawr; canys ni wnaethpwyd dan yr holl nefoedd megis y gwnaethpwyd ar Jerusalem.

9:13 Megis y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith Moses y daeth yr holl ddrygfyd hyn arnom ni: eto nid ymbiliasom o flaen yr ARGLWYDD ein Duw, gan droi oddi wrth ein hanwiredd, a chan ddeall dy wirionedd di.

9:14 Am hynny y gwyliodd yr ARGLWYDD ar y dialedd, ac ai dug arnom ni; oherwydd cyfiawn yw yr ARGLWYDD ein Duw yn ei holl weithredoedd y mae yn eu gwneuthur: canys ni wrandawsom ni ar ei lais ef.

9:15 Eto yr awr hon, O ARGLWYDD ein DUW, yr hwn a ddygaist dy bobl allan o wlad yr Aifft llaw gref, ac a wnaethost i ti enw megis heddiw, nyni a bechasom, ni a wnaethom anwiredd.

9:16 O ARGLWYDD, yn l dy holl gyfiawnderau, atolwg, troer dy lidiowgrwydd ath ddicter oddi wrth dy ddinas Jerusalem, dy fynydd sanctaidd; oherwydd am ein pechodau, ac am anwireddau ein tadau, y mae Jerusalem ath bobl yn waradwydd i bawb on hamgylch.

9:17 Ond yr awr hon gwrando, O ein DUW ni, ar weddi dy was, ac ar ei ddeisyfiadau, a llewyrcha dy wyneb ar dy gysegr anrheithiedig, er mwyn yr ARGLWYDD.

9:18 Gostwng dy glust, O fy NUW, a chlyw; agor dy lygaid, a gwl ein hanrhaith ni, ar ddinas y gelwir dy enw di arni: oblegid nid oherwydd ein cyfiawnderau ein hun yr ydym ni yn tywallt ein gweddau ger dy fron, eithr oherwydd dy aml drugareddau di.

9:19 Clyw, ARGLWYDD; arbed, ARGLWYDD; ystyr, O ARGLWYDD, a gwna; nac oeda, er dy fwyn dy hun, O fy Nuw: oherwydd dy enw di a alwyd ar y ddinas hon, ac ar dy bobl.

9:20 A mi eto yn llefaru, ac yn gweddo, ac yn cyffesu fy mhechod, a phechod fy mhobl Israel, ac yn tywallt fy ngweddi gerbron yr ARGLWYDD fy Nuw dros fynydd sanctaidd fy Nuw;

9:21 Ie, a mi eto yn llefaru mewn gweddi, yna y gŵr Gabriel, yr hwn a welswn mewn gweledigaeth yn y dechreuad, gan ehedeg yn fuan, a goddodd mi ynghylch pryd yr offrwm prynhawnol.

9:22
Ac efe a barodd i mi ddeall , ac a ymddiddanodd mi, ac a ddywedodd, Daniel, deuthum yn awr allan i beri i ti fedru deall.

9:23 Yn nechrau dy weddau yr aeth y gorchymyn allan, ac mi a ddeuthum iw fynegi i ti: canys annwyl ydwyt ti: ystyr dithau y peth, a deall y weledigaeth.

9:24 Deng wythnos a thrigain a derfynwyd ar dy bobl, ac ar dy ddinas sanctaidd i ddibennu camwedd, ac i selio pechodau, ac i wneuthur cymod dros anwiredd, ac i ddwyn cyfiawnder tragwyddol, ac i selio y weledigaeth ar broffwydoliaeth, ac i eneinio y sancteiddiolaf.

9:25 Gwybydd gan hynny a deall, y bydd o fynediad y gorchymyn allan am adferu ac am adeiladu Jerwsalem, hyd y blaenor Meseia, saith wythnos, a dwy wythnos a thrigain: yr heol a adeiledir drachefn, ar mur, sef mewn amseroedd blinion.

9:26 Ac wedi dwy wythnos a thrigain y lleddir y Meseia, ond nid oi achos ei hun: a phobl y tywysog yr hwn a ddaw a ddinistria y ddinas ar cysegr; ai ddiwedd fydd trwy lifeiriant, a hyd diwedd y rhyfel y bydd dinistr anrheithiol.

9:27 Ac efe a sicrha y cyfamod llawer dros un wythnos: ac yn hanner yr wythnos y gwna efe ir aberth ar bwyd-offrwm beidio; a thrwy luoedd ffiaidd yr anrheithia efe hi, hyd oni thywallter y diben terfynedig ar yr anrheithiedig.


PENNOD 10


10:1 Yn y drydedd flwyddyn i Cyrus brenin Persia, y datguddiwyd peth i Daniel, yr hwn y gelwid ei enw Beltesassar; ar peth oedd wir, ond yr amser nodedig oedd hir; ac efe a ddeallodd y peth, ac a gafodd wybod y weledigaeth.

10:2 Yn y dyddiau hynny y galerais i Daniel dair wythnos o ddyddiau.

10:3 Ni fwyteais fara blasus, ac ni ddaeth cig na gwin yn fy ngenau; gan ymiro hefyd nid ymirais, nes cyflawni tair wythnos o ddyddiau.

10:4 Ac yn y pedwerydd dydd ar hugain or mis cyntaf, fel yr oeddwn i wrth yml yr afon fawr, honno yw Hidecel;

10:5 Yna y cyfodais fy llygaid, ac yr edrychais, ac wele ryw ŵr wedi ei wisgo lliain, ai lwynau wedi eu gwregysu ag aur coeth o Uffas:

10:6 Ai gorff oedd fel maen beryl, ai wyneb fel gwelediad mellten, ai lygaid fel lampau tn, ai freichiau ai draed fel lliw pres gloyw, a sain ei eiriau fel tyrfa.

10:7 A mi Daniel yn unig a welais y weledigaeth; canys y dynion y rhai oedd gyda mi ni welsant y weledigaeth; eithr syrthiodd arnynt ddychryn mawr, fel y ffoesant i ymguddio.

10:8 A mi a adawyd fy hunan, ac a welais y weledigaeth fawr hon, ac ni thrigodd nerth ynof: canys fy ngwedd a drodd ynof yn llygredigaeth, ac nid ateliais nerth.

10:9 Eto mi a glywais sain ei eiriau ef: a phan glywais sain ei eiriau ef, yna yr oeddwn mewn trymgwsg at fy wyneb am hwyneb tuar ddaear.

10:10 Ac wele, llaw a gyffyrddodd mi, ac am gosododd ar fy ngliniau, ac ar gledr fy nwylo.

10:11 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Daniel, ŵr annwyl, deall y geiriau a lefaraf wrthyt, a saf yn dy sefyll: canys atat ti ym hanfonwyd yr awr hon.
Ac wedi iddo ddywedyd y gair hwn, sefais gan grynu.

10:12 Yna efe a ddywedodd wrthyf, Nac ofna, Daniel: oherwydd er y dydd cynt y rhoddaist dy galon i ddeall, ac i ymgystuddio gerbron dy DDUW, y gwrandawyd dy eiriau; ac oherwydd dy eiriau di y deuthum i.

10:13 Ond tywysog teyrnas Persia a safodd yn fy erbyn un diwrnod ar hugain: ond wele Michael, un or tywysogion pennaf a ddaeth im cynorthwyo; a mi a arhosais yno gyda brenhinoedd Persia.

10:14 A mi a ddeuthuin i beri i ti ddeall yr hyn a ddigwydd ith bobl yn y dyddiau diwethaf: oherwydd y mae y weledigaeth eto dros ddyddiau lawer.

10:15 Ac wedi iddo lefaru wrthyf y geiriau hyn, gosodais fy wyneb tuar ddaear, ac a euthum yn fud.

10:16 Ac wele, tebyg i ddyn a gyffyrddodd m gwefusau: yna yr agorais fy safn, ac y lleferais, ac y dywedais wrth yr hwn oedd yn sefyll ar fy nghyfer, O fy arglwydd, fy ngofidiau a droesant arnaf gan weledigaeth, ac nid ateliais nerth.

10:17 A pha fodd y dichon gwasanaethwr fy arglwydd yma lefaru wrth fy arglwydd yma? a minnau yna ni safodd nerth ynof, ac nid arhodd ffun ynof.

10:18 Yna y cyffyrddodd eilwaith mi fel dull dyn, ac am cryfhaodd i,

10:19 Ac a ddywedodd, Nac ofna, ŵr annwyl; heddwch i ti, ymnertha, ie, ymnertha. A phan lefarasai efe wrthyf, ymnerthais, a dywedais, Llefared fy arglwydd; oherwydd cryfheaist fi.

10:20 Ac efe a ddywedodd, a wyddost ti paham y deuthum atat? ac yn awr dychwelaf i ryfela thywysog Persia: ac wedi i mi fyned allan, wele, tywysog tir Groeg a ddaw.

10:21 Eithr mynegaf i ti yr hyn a hysbyswyd yn ysgrythur y gwirionedd; ac nid oes un yn ymegno gyda mi yn hyn, ond Michael eich tywysog chwi.


PENNOD 11


11:1 Ac yn y flwyddyn gyntaf i Dareius y Mediad, y sefais i iw gryfhau ac iw nerthu ef.

11:2 Ac yr awr hon y gwirionedd a fynegaf i ti; Wele, tri brenin eto a safant o fewn Persia, ar pedwerydd a fydd gyfoethocach na hwynt oll: ac fel yr ymgadarnhao efe yn ei gyfoeth, y cyfyd efe bawb yn erbyn teyrnas Groeg.

11:3 A brenin cadarn a gyfyd, ac a lywodraetha llywodraeth fawr, ac a wna fel y mynno.

11:4 A phan safo efe, dryllir ei deyrnas, ac ai rhennir tua phedwar gwynt y nefoedd; ac nid iw hiliogaeth ef, nac fel ei lywodraeth a lywodraethodd efe: oherwydd ei frenhiniaeth ef a ddiwreiddir i eraill heblaw y rhai hynny.

11:5 Yna y cryfha brenin y deau, ac un oi dywysogion: ac efe a gryfha uwch ei law ef, ac a lywodraetha: llywodraeth fawr fydd ei lywodraeth ef.

11:6 Ac yn niwedd blynyddoedd yr ymgysylltant; canys merch brenin y deau a ddaw at frenin y gogledd i wneuthur cymod; ond ni cheidw hi nerth y braich; ac ni saif yntau, nai fraich: eithr rhoddir hi i fyny, ar rhai ai dygasant hi, ar hwn ai cenhedlodd hi, ai chymhorthwr, yn yr amseroedd hyn.

11:7 Eithr yn ei le ef y saif un allan o flaguryn ei gwraidd hi, yr hwn a ddaw llu, ac a i amddiffynfa brenin y gogledd, ac a wna yn eu herbyn hwy, ac a orchfyga;

11:8 Ac a ddwg hefyd i gaethiwed ir Aifft, eu duwiau hwynt, au tywysogion, au dodrefn annwyl o arian ac aur; ac efe a bery fwy o flynyddoedd na brenin y gogledd.

11:9 A brenin y deau a ddaw iw deyrnas, ac a ddychwel iw dir ei hun.

11:10 Ai feibion a gyffroir, ac a gasglant dyrfa o luoedd mawrion: a chan ddyfod y daw un, ac a lifeiria, ac a trosodd: yna efe a ddychwel, ac a gyffroir hyd ei amddiffynfa ef.

11:11 Yna y cyffry brenin y deau, ac yr allan, ac a ymladd ag ef, sef brenin y gogledd: ac efe a gyfyd dyrfa fawr; ond y dyrfa a roddir iw law ef.

11:12 Pan gymerer ymaith y dyrfa, yr ymddyrchafa ei galon, ac efe a gwympa fyrddiwn; er hynny ni bydd efe gryf.

11:13 Canys brenin y gogledd a ddychwel, ac a gyfyd dyrfa fwy nar gyntaf, ac ymhen ennyd o flynyddoedd, gan ddyfod y daw llu mawr, ac chyfoeth mawr.

11:14 Ac yn yr amseroedd hynny llawer a safant yn erbyn brenin y deau; ar ysbeilwyr oth bobl a ymddyrchafant i sicrhau y weledigaeth; ond hwy a syrthiant.

11:15 Yna y daw brenin y gogledd, ac a fwrw glawdd, ac a ennill y dinasoedd caerog, ond breichiau y deau ni wrthsafant, nai bobl ddewisol ef; ac ni bydd nerth i sefyll.

11:16 Ar hwn a ddaw yn ei erbyn ef a wna fel y mynno, ac ni bydd a safo oi flaen; ac efe a saif yn y wlad hyfryd, a thrwy ei law ef y difethir hi.

11:17 Ac efe a esyd ei wyncb ar fyned chryfder, ei holl deyrnas, a rhai uniawn gydag ef; fel hyn y gwna: ac efe a rydd iddo ferch gwragedd, gan ei llygru hi; ond ni saif hi ar ei du ef, ac ni bydd hi gydag ef.

11:18 Yna y try efe ei wyneb at yr ynysoedd, ac a ennill lawer; ond pennaeth a bair iw warth ef beidio, er ei fwyn ei hun, heb warth iddo ei hun: efe ai detry arno ef.

11:19 Ac efe a dry ei wyneb at amddiffynfeydd ei dir ei hun: ond efe a dramgwdda, ac a syrth, ac nis ceir ef.

11:20 Ac yn ei le ef y saif un a gyfyd drethau yng ngogoniant y deyrnas; ond o fewn ychydig ddyddiau y distrywir ef; ac nid mewn dig, nac mewn rhyfel.

11:21 Ac yn ei le yntau y saif un dirmygus, ac ni roddant iddo ogoniant y deyrnas: eithr efe a ddaw i mewn yn heddychol, ac a ymeifl yn y frenhiniaeth trwy weniaith.

11:22 Ac breichiau llifeiriant y llifir trostynt oi flaen ef, ac y dryllir hwynt, a thywysog y cyfamod hefyd.

11:23 Ac wedi ymgyfeillach ag ef, y gwna efe dwyll: canys efe a ddaw i fyny, ac a ymgryfha ag ychydig bobl.

11:24 Ir dalaith heddychol a bras y daw efe, ac a wna yr hyn ni wnaeth ei dadau, na thadau ei dadau: ysglyfaeth, ac ysbail, a golud, a daena efe yn eu mysg: ac ar gestyll y bwriada efe ei fwriadau, sef dros amser.

11:25 Ac efe a gyfyd ei nerth ai erbyn brenin y deau llu mawr: a brenin y deau a ymesyd i ryfel llu mawr a chryf iawn; ond ni saif efe: canys bwriadant fwriadau yn ei erbyn ef.

11:26 Y rhai a fwytnt oi fwyd ef ai difethant ef, ai lu ef a lifeiria; a llawer a syrth yn lladdedig.

11:27 A chalon y ddau frenin hyn fydd ar wneuthur drwg, ac ar un bwrdd y traethant gelwydd; ond ni thycia: canys eto y bydd y diwedd ar yr amser nodedig.

11:28 Ac efe a ddychwel iw dir ei hun chyfoeth mawr; ai galon fydd yn erbyn y cyfamod sanctaidd: felly y gwna efe, ac y dychwel iw wlad.

11:29 Ar amser nodedig y dychwel, ac y daw tuar deau; ac ni bydd fel y daith gyntaf, neu fel yr olaf.

11:30 Canys llongau Chittim a ddeuant yn ei erbyn: ef ; am hynny yr ymofidia, ac y dychwel, ac y digia yn erbyn y cyfamod sanctaidd: felly y gwna efe, ac y dychwel; ac efe a ymgynghora r rhai a adawant y cyfamod saictaidd.

11:31 Breichiau hefyd a safant ar ei du ef, ac a halogant gysegr yr amddiffynfa, ac a ddygant ymaith y gwastadol aberth, ac a osodant yno y ffieidd-dra anrheithiol.

11:32
A throseddwyr y cyfamod a lygra efe trwy weniaith: eithr y bobl a adwaenant eu DUW, a fyddant gryfion, ac a ffynnant.

11:33 Ar rhai synhwyrol ymysg y bobl a ddysgant lawer; eto syrthiant trwy y cleddyf, a thrwy dn, trwy gaethiwed, a thrwy ysbail, ddyddiau lawer.

11:34
A phan syrthiant, chymorth bychan y cymhorthir hwynt: eithr llawer a lŷn wrthynt hwy trwy weniaith.

11:35 A rhai or deallgar a syrthiant iw puro, ac iw glanhau, ac iw cannu, hyd amser y diwedd: canys y mae eto dros amser nodedig.

11:36 Ar brenin a wna wrth ei ewyllys ei hun, ac a ymddyrcha, ac a ymfawryga uwchlaw pob duw; ac yn erbyn Duw y duwiau y traetha efe bethau rhyfedd, ac a lwydda nes diweddu y dicter; canys yr hyn a ordeiniwyd, a fydd.

11:37 Nid ystyria efe Dduw ei dadau, na serch ar wragedd, ie, nid ystyria un duw: canys goruwch pawb yr ymfawryga.

11:38 Ac efe a anrhydedda DDUW y nerthoedd yn ei le ef: ie, duw yr hwn nid adwaenai ei dadau a ogonedda efe ag aur ac ag arian, ac meini gwerthfawr, ac phethau dymunol.

11:39 Fel hyn y gwna efe yn yr amddiffynfeydd cryfaf gyda duw dieithr, yr hwu a gydnebydd efe, ac a chwanega ei ogoniant: ac a wna iddynt lywodraethu ar lawer, ac a ranna y tir am werth.

11:40 Ac yn amser y diwedd yr ymgornia brenin y deau ag ef, a brenin y gogledd a ddaw fel corwynt yn ei erbyn ef, cherbydau, ac marchogion, ac llongau lawer; ac efe a ddaw ir tiroedd, ac a lifa, ac a trosodd.

11:41
Ac efe a ddaw ir hyfryd wlad, a llawer o wledydd a syrthiant: ond y rhai hyn a ddihangant oi law ef, Edom, a Moab, a phennaf meibion Animon.

11:42 Ac efe a estyn ei law ar y gwledydd; a gwlad yr Aifft ni bydd dihangol.

11:43 Eithr efe a lywodraetha ar drysorau aur ac arian, ac ar holl annwyl bethau yr Aifft: y Libyaid hefyd ar Ethiopiaid fyddant ar ei l ef.

11:44 Eithr chwedlau or dwyrain ac or glgledd ai trallodant ef: ac efe a allan mewn llid mawr i ddifetha, ac i ddifrodi llawer.

11:45 Ac efe a esyd bebyll ei lys rhwng Y y moroedd ar yr hyfryd fynydd sanctaidd: eto efe a ddaw hyd ei derfyn, ac ni bydd cynorthwywr iddo.


PENNOD 12


12:1 Ac yn yr amser hwnnw y saif Michael y twysog mawr, yr hwn sydd yn sefyll dros feibion dy bobl: yna y bydd amser blinder, y cyfryw ni bu er pan yw cenedl hyd yr amser hwnnw: ac yn yr amser hwnnw y gwaredir dy holl bobl, y rhai a gaffer yn ysgrifenedig yn y llyfr.

12:2
A llawer or rhai sydd yn cysgu yn llwch y ddaear a ddeffroant, rhai i fywyd tragwyddol, a rhai i warth a dirmyg tragwyddol.

12:3
Ar doethion a ddisgleiriant fel disgleirdeb y ffurfafen; ar rhai a droant lawer i gyfiawnder, a fyddant fel y sr byth yn dragywydd.

12:4
Tithau, Daniel, cae ar y geiriau, a selia y llyfr hyd amser y diwedd: ac a a gynweiriant, a gwybodaeth a amlheir.

12:5 Yna myfi Daniel a edrychais, ac wele ddau eraill yn sefyll, un or tu yma ar fin yr afon, ac un arall or tu arall ar fin yr afon.

12:6 Ac un a ddywedodd wrth yr wisgasid lliain, yr hwn ydoedd ar ddyfroedd yr afon, Pa hyd fydd hyd diwedd y rhyfeddodau hyn?

12:7 Clywais hefyd y gŵr, a wisgasid lliain, yr hwn ydoedd ar ddyfroedd yr afon, pan ddyrchafodd efe ei law ddeau ai aswy tuar nefoedd, ac y tyngodd ir hwn sydd yn byw yn dragywydd, y bydd dros amser, amserau, a hanner: ac wedi darfod gwasgaru nerth y bobl sanctaidd, y gorffennir hyn oll.

12:8 Yna y clywais, ond ni ddeellais: eithr dywedais, O fy arglwydd, beth fydd diwedd y pethau hyn?

12:9 Ac efe a ddywedodd, Dos, Daniel: canys caewyd a seliwyd y geiriau hyd amser y diwedd.

12:10 Llawer a burir, ac a gennir, ac a brofir; eithr y rhai drygionus a wnnt ddrygioni: ac ni ddeall yr un or rhai drygionus; ond y rhai doethion a ddeallant.

12:11 Ac or amser y tynner ymaith y gwastadol: aberth, ac y gosoder i fyny y ffieidd-dra anrheithiol, y bydd mil dau cant a deg a phedwar ugain o ddyddiau.

12:12 Gwyn ei fyd a ddisgwylio, ac a ddl hyd y mil tri chant a phymtheg ar hugain o ddyddiau.

12:13 Dos dithau hyd y diwedd: canys gorffwysi, a sefi yn dy ran yn niwedd y dyddiau.

DIWEDD

 

DOLENNAU AR GYFER TUDALENNAU ERAILL YN Y GWEFAN HWN

0043c
yr iaith Gymreg

0005k
mynegai yn nhrefn y wddor i'r hn a geir yn y wefan hon

 

______________________________________________________________


------------------------------------------


1338k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Galles i Catalunya : Wales-Catalonia Website.
Y Beibl Cysger-Ln (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bblia en galls de lany 1620. Text electrnic. Dhə Bibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition. Sumbolau arbennig: ŷŵ

Adolygiadau diweddaraf: 15 06 2002 2005-02-19

 

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sc? Esteu visitant una pgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Galles-Catalunya)
Weə(r) m ai? Yu a(r) vzting ə peij frm dhə "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəluniə) Wb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website

 

CYMRU-CATALONIA

Edrychwych ar fy ystadegau