At y Werin Weithyddawl Gymreig. Emyr Llydaw.
Erthygl o Seren Gomer, 1845
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_001_at_y_werin_1059k.htm
0001
Y Tudalen Blaen Google: kimkat0001
..........2657k Y Porth Cymraeg
Google: kimkat2657k
....................0009k Y Barthlen
Google: kimkat0009k
..............................0960k Y
Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) Google:
kimkat096k
|
|
Gwefan Cymru-Catalonia At y Werin Weithyddawl Gymreig Diweddariad diwethaf: 2005-02-19 |
(delwedd 7015) Y llyfr ymwelwyr: 0860k,
Google kimkat0860k |
(ANGHYFLAWN -
2005-02-19) AR Y GWEILL GENNYM
Dim ond y
tudalennau mewn coch wedi eu hychwanegu hyd yma.
107 107 108 108
109a109b 110 330a
330b 331a 331b 332
44 45a 45b 46
232a
232b 233a 233b
297a
297b 298a 298b
____________________________________________________________
1) Rhif y tudalen gwreiddiol felly: (x107)
2) Rhif yr adrannau felly (r1)
3) Ein sylwadau ni mewn oren (sic; = a)
3) Geiriau ansicr mewn gwyrdd
(mae ein ffotgopi yn aneglur mewn ambell le) llas (?)
r1 Llythyr 1 Gymry,
dyma effeithiau dysgu y Saesonaeg idd eich plant o flaen y Gymraeg; eu gwneyd
yn anwybodusion... (x107)
r2 Llythyr 2 (heb ei gynnwys yn
y tudalen hwn)
r3 Llythyr
r4 Llythyr 4 Parhad o’r gofyniad, A ynt Gwerin Weithyddol Cymru yn
fwy anwybodus ac anwaraidd na Gwerin Weithyddol Lloegr yn bresennol? (x44)
r5 Llythyr 5
r6 Llythyr 6
r7 Llythyr 7
____________________________________________________________
(x107)
AT Y
WERIN WEITHYDDAWL GYMREIG
EMYR
LLYDAW
r1 Llythyr 1
Seren Gomer Ebrill
1845
Os ymchwiliwn pwy
ydynt elynion mwyaf yr iaith Gymraeg yn Nghymru, yn yr oes hon, a phaham ei difodir,
ymddengys i ni mai y Cymry eu hunain ydynt yn gweithredu yn benaf yn erbyn ei
llwyddiant, a'r ymarferiad o honi. Nid ydym am ymwrthod â dysgu ieithoedd
heblaw y Gymraeg; ond nid allwn lai na chollfarnu yr arferiad gwrthun ag sydd
wedi cael ei fabwysiadu gan werin weithyddol y Cymry, sef, dysgu y Saesonaeg
idd eu plant yn hyttrach nâ'u hiaith eu hunain. Pa mor atgas yw clywed Cymro a
Chymraes, y rhai fyddant wedi dysgu o gylch hanner cant neu driugain o eiriau
cyffredin Saesonaeg, gair yma a thraw, gan un ac arall, a braidd yn deall, pan
ofynir iddynt y ffordd o un ty i'r llall gan y Sais uniaith, pa un a ddylent
ateb - yes neu no; nac mewn un wedd yn medru rhoddi unrhyw ddesgrifiad, hyd yn nod
o'r caeau, yr heol, y gamfa, neu'r glwyd, yn dysgu eu plant o'u mebyd i siarad
Saesonaeg, meddynt hwy. Dyma athrawon a chyfoeth o wybodaeth ganddynt i addysgu
eu planr i fod yn ddoethion ar ychydig o eiriau anneall iddynt eu hunain! Beth?
Ceisio dysgu eu plant i ddeall ac ymarfer iaith ag y mae eu geiriau mor anwybodus
ag y byddai y Chinaeg! Onid mwy rhesymol fyddai i chwi, deuluoedd Cymreig,
ddysgu idd eich plant yr iaith ag y cawsoch eich haddysgu ynddi gyntaf? Mor
amlwg ydyw, mai hono ydyw yr iaith hawddaf i chwi ei llefaru, a phA fainT gwell
y deallech hi na rhyw lol fratiog, na
wyddoch chi ddim yn y byd am dani? Nid yw hanner y werin Gymroaidd yn gwybod pa
ydynt ystyron hanner y Saesonaeg a faldorddant wrth eu plant, o un wythnos i'r
llall; pan, ar yr un pryd, y deallent yn drylwyr eu hen iaith hynaws a chynhenid
gyda phob rhwyddineb. Yr ystorfa fechan yma o wybodaeth Seisonig a drosir i
feddiant rhan ehelaeth o blant y Cymry, sydd yn eu gwneud yn ddyliaid yn
ngwyneb gweddeidd-dra Cymruaidd. Nid ydynt yn gwybod y Gymraeg, a geill pob dyn
a'u clyw, ac sydd yn meddu gwybodaeth o'r Saesonaeg, ganfod, nad ydynt yn
gwybod dim ar yr aeg hono, oblegid nid oeddynt eu rhieni yn gwybod ond yn
fynych, mal y nodwyd, lai na thriugain o eiriau, a'r canlyniad naturiol yw, pa
wybodaeth a ddichon fod gan eu plant; pan, ar yr un pryd, pe cawant eu codi
fyny, gan ddysgu iddynt iaith gynhenid eu rhieini, a allasaent fod yn enwogion
mewn gwybodaeth erbyn cyrhaeddyd eu deunaw mlwydd oed, ond wrth geisio eu dwyn
i fyny yn Saeson, beth yw y canlyniadau? Wel, eu gwneud yn amddifad o'r hyn a'u
gwnaethai yn ddefnyddiol yn mysg eu cydwladwyr - eu gwneyd yn anwybodus am
genedlgarwch eu hynafiaid - lladd yr ysbryd teilwng o gyfeillgarwch a hanfodai
yn mysg eu cenedl, eu hestroneiddio, a'u gyru i feusydd na ddeuant yn eu hoes
yn adnabyddus ynddynt n'au cynnyrch - gosod mur rhyngddynt a dyfod i feddiant o
wybodaeth am geinion awenyddawl gwlad eu genedigaeth - eu gormeiliaw ag iaith
na fedrant arni, a'u hamddifadu o wybodaeth a fuasai o wir lesiant iddynt -
cauad eu llygaid ar gynnyrchion yr argraffwasg Gymreig; ac ni chant wybodaeth
mwy am hanesyddiaeth eu gwlad a'u cenedl, eu defion a'u harferion, a cheuir eu
clustiau am byth rhag cael y fraint o ddeall y Bardd pan yn traddoid ei gân
arwrol, ei gainc fugeil-gerdd, ei englynion a'i gywyddau ar amryfrith destunau.
Hefyd, gwthiwyd hwynt o gysegr-leoedd eu henafiaid, trwy annoethineb eu teidiau
a'u mamau, i wrando yr hyn na ddeallant, pan y mae eraill o'u cydwladwyr ym
meddu eu breinniau cynhenid, eu hiaith yn eiddo eu teuluoedd, a phregethiad efengyl
hedd yn seinio yn eu clustiau o gleinfeydd eu gwlad, a'i pharchedigion yn gwenu
yn siriol arnynt, ac yn ei hanerch â'r newyddion
da o lawenydd mawr, yn eu clywedigaeth, pan mae'r Cymry Seisonig wedi eu
hamddifadu o deimladau dynol tuag at eu hiaith, o herwydd mal y dengys yr hen
ddiareb “rhwng dwy gadair wedi syrthio idd y llawr, heb ddal yr un,” nebu neb i
drugarhau wrthynt; a hyny o achos ynfydrwydd, dallbleidiaeth, a balchder
anwybodus ein rhieni. “C,” meddai ambell goegyn hunanfalch, “onid oes digon i
weinyddu mwy o fendithion iddynt nag sydd ar fwrdd llëenyddawl, yn ngwahanol
ieithoedd Cyfandir Ewrop, yn y pedwerydd canrif ar bymtheg?” Efallai mai gwir
hynya; ond i ba ddyben y gwrandawa y Cymro Seisonig, yr hwn a fydd wedi dysgu
siarad y “twang” hir wrthun, ac ymarferawl, a daenir ar hyd y wlad; ac wrth
lynu wrth hwna, a cholli y Gymraeg? ïe, pa fudd a geiff wrth wrandaw ar
areithydd hyawdl a medrus yn traddodi darlith neu bregeth Seisnig weddol
gyffredin? Byddai mor amddifad o'i deall â phe y gwrandawai ar Gymro yn llefaru
y Gymraeg. Gymry, dyma effeithiau dysgu y Saesonaeg idd eich plant o flaen y
Gymraeg; eu gwneyd yn anwybodusion, ac yn sathrwyr llëenyddiaeth eu gwlad
enedigol yn gyffredinol. Nid oes un weithred yn ymddangos yn fwy annynol na gweled
dynion na allant ddal i siarad pum mynyd yn Saesonaeg ag un dyn, pan, ar yr un
pryd, y mae ganddynt eu haiaith eu hunain yn berffeithiach nag un iaith arall -
yn wybodus o arferion eu gwlad, ac am ystwythder y Gymraeg,a 'i lliosogrwydd o
eiriau, etto, dan rith a mwgwd yn ymarfer â iaith na wyddant ddim am dani, - yn
amcanu dwyn eu plant i fyny yn Saeson, er mwyn iddynt fod yn fwy boneddigaidd (x107) (meddant) nag y dichon fod, ac ymddangos,
mewn gwe Gymroaidd. Pe y gofynem i lawer ag ydynt am alltudio eu haiaith o'r
byd, rhag bod yn gyfrwng i drosglwyddo gwybodaeth deuluaidd yn y Dywysogaeth, a
wyddant pa rai ynt ystyron y geiriau Seisnig cyffredin a ganlýn, y rhai a
arferir eu clywed mor gyflawn gan blantos yr ysgolion: Noun, Adjective, Pronoun, Verb, Adverb, Article, Conjunction,
Preposition, Interjection; hefyd, Addition,
Multiplication, Reduction, &c.; ïe, nag am un o reolau rhifyddiaeth, a
channoedd o eiriau cyffredin ac ymarferol gan y sawl a wyddant y ffordd i
siarad y Saesonaeg yn weddaidd, pan nad allai y rhan fwyaf o'r werin wladaidd,
a ddysgant y Saesonaeg i'w plant, roddi atebion na dychymygu pa beth i ddywedyd
ydyw eu hystyron, a chan eu bod mor anhyddysg mewn geiriau mor gyffredin, pa
faint eu hanaddasrwydd i ddwyn eu plant i wybodaeth o'r aeg Saesonig? Myn
llawer o Gymry, na allant lunio gorchymyn idd eu plant mewn geiriau Saesonaeg,
i anfon y gawrtheg o'r erfin, y ceffylau o'r maes, y defaid o'r egin, y moch
o'r twmpath cloron, y ieir o'r gwenith, y gwyddau o'r cae ceirch, 'r hwyaid o'r
ty, i ni gredu eu bod yn deall Saesneg yn ddigon da i addysgu eu plant i fod yn
Saeson! Pa ryfedd fod ein cymmdogion yn chwerthin am ben y cyfryw! Nid yw y
cyfan a ddysgant ond ffuantrwydd, oherwydd gwel pob dyn ag sydd wybodus, nad
ynt yn addas at un gorchwyl, mwy nâ phe buasent heb ddysgu gair o un iaith o'r
byd ond y Gymraeg. Y mae cyflawn gymmaint, os nad mwy, o drafferth i ddwyn y
plant a ddygir ui fyny gan rieni hanner-Saesonaidd i adnabyddiaeth gywir a
chymmedrol o'r aeg hono, a phe buasent wedi eu dwyn i fyny yn GYmry trwyadl, am
hyny, Cymraeg a weddai i bawb o genedl y Cymry.
Beth sydd yn fwy
annynawl na gorfod gwrando ar ŵr a gwraig. na wyddant ddim am un iaith ond
y Gymraeg, a phob peth o'u hachosion am y ffair, y farchnad, &c., yn trefnu
eu gweithrediadau, a phob gair a siaredir ganddynt a rhyngddynt â'u gilydd n y
ty; ac yn y maes, a fydd oll yn Gymraeg; a phan anerchant eu plant, rhyfedd y
cyfnewidiad! pob gair fydd mewn rhywlun o Saesnonaeg, yr hyn sydd yn peri i ni
feddwl am hen Gymro, o Flaenafon, yn myned â buwch a llo i ffair y Fenni, er ys
llawer o flyneddau. Wedi myned â hwynt yno, Daeth rhyw ddyn at Shon, a gofynai
bris y fuwch a'r llo, yn Saesonaeg; a chan na wyddai Shon ddim Saesonaeg,
rhedai ymaith i edrych am un o’i gymmydogion,sef, Harry o'r Coety; cafodd afael
ynddo, gan ei anerch, “Harry, dere gyda fi, i gael gwybod a wyt yn adnabod
Saesonaeg.” Wedi myned yn ol at y fuwch a'r llo, gofynai y boneddig, “What is
the price of the cow and the calf?” “Ïe, (ebai Harry wrth Shon,) Saesonaeg yw
ef,” gan eu gadael yno, heb roddi ychwaneg o esboniad nâ hyny, ond yn unig
annog y
Gwladwyr hynawsion,
peidiwch a chymmeryd eich twyllo gan y cyfrai a'ch annogant i beidio a dysgu
eich hen iaith idd eich plant. Ymarferwch, bob amser, yn eich teuluoedd, yr
iaith Gymraeg; darllenwch yr Ysgrythyr, a phob llyfr daionus ereill, yn eich
iaith; ymarferwch hi yn y ffair a'r farchnad, bawb ag sydd yn wybodus ohoni;
dysgwch eich plant i ddarllen eich iaith, mal y gwelont ei gwerth hyd oni fydd
Porthmyn Lloegr yn gorfod dysgu y Gymraeg, mal yr ydych chwi wedi cael eich
gorfodi i ddysgu eu Saesonaeg; ac na ofalwch am sarhad y gwy^r hyny, pan yn
cablu eich “Welsh gibbrage”; oblegid yr ydym yn gwybod fod y rhan amlaf o
naddynt hwy yn amddifad o wybodaeth yn, ac am, yr unig “gibbrage” ag y ceisiant
osod allan eu meddyliau yn ddealladwy i ereill. Na thwyller chwi, fy nghenedl,
nid ydych yn anwybodus o herwydd mai y Gymraeg ydyw eich iaith; nid ydych yn
anwariaid o herwydd mai Cymry ydych; nid ydych yn wyr llyfriion am mai y
Gymraeg yw eich mynegfys at wybodaeth. Na, na; meddant eich cyfeillion, y rhai
ynt wedi sylwi ar ddullwedd gwerin-bobl Lloegr, a gwerin-bobl Cymru, ddyfod i'r
maes yn dystion fod y Cymry wedi cadw eu hiaith yn llawer mwy moesgar dynion (sic) nâ y Lloegrwys; yn fwy gwybodus yn fwy
gwybodus ac aiddgar dros lesoldeb, yn hawddach eu trin, ac yn tra-rhagori
arnynt mewn rhinweddau crefyddol. Nid yw yr arferiad annuwiol ac {NODYN: ??adgas - ddim yn eglur} o gablu enw Duw,
tyngu a rhegu, gyda phob giar a draethir, yn mysg y werin wladol Gymreig, mal y
ffyna ar hyd a lled swyddi Lloegr; ac, ysywaeth, y mae y Cymry ag ydynt wedi
colli eu Cymraeg, mal yn ymhyfrydu yn yr arferiad; ond y mae y Weinidogaeth
Efengylaidd wedi cael effaith gref ar eich meddylion, trwy offeryngarwch
Cenadon hedd; ac y mae rhyw rymusder wedi, ac yn parhau i gydfyned â phregethiad
y Gair yn y Gymraeg, yn mysg y genedl. Deliwch eich iaith; y mae yn deilwng o'i
chadw, ei meithrin, a'i choleddu, tra y parhao enw Prudeiniaid i gael ei
Gydnabod yn mysg gwahanol genedlaethau y byd, pa na fuasai un gymmeradwyaeth
arall yn galw am eich parch ati. Rhaid fod rhyw ddylni, un angheredigrwydd
mawr, wedi dal y Cymry, pan y gallant adael heibio eu hiaith orlawn o eiriau -
iaith mor beraidd ac ystwyth ei (x109)
chystrawen - iaith mor bêr ei chaniadau, mor felys ei pheroriaeth, mor
gyfoethog o ddiarebion ein henafiaid medrusgall, eu trioedd, teilwng o'u cerfio
ar fynor gwerthfawrocaf y byd; a channoedd o enwau mor naturiol ar gael, er
enwi meibion merched y Cymry. Peth arall ag sydd wedi dod i arferiad yn mysg y
Cymry, ag sydd yn gyfeuliornus, yw enwi eu plant ag enwau ysgrythyrol. Nid
ydym, yn y mesur lleiaf, am ddiraddio enwau dynion yn yr ysgrythyr, - pell
oddiwrthym yw hyny; ond pa gyssondeb sydd yn yr arferiad gwrthun o roddi yr
enwau canlynol ar blant y Cymry; ë, na phlant y Saeson ychwaith, sef Adda, Abel, Noah, Lot, Abraham,
Isaac, Jacob, Esau, Moses, Aaron, Josua, Elieser, Jephthah, Esaiah, Jeremiah,
Ezeciel, Daniel, Hosea, Habaccuc, Joel, Zecharaiah, Malachi, Uriah, Nathaniel,
Solomon, Gad, Manassaeh, Benjamin, Joseph, Eliseus, Elias, Mesaleel, Matthew,
Marc, Luc, Ioan, Paul, Pedr, Timotheus, Iago, a channoedd ereill
a allem nodi. Pe y gwybyddech ystyron yr enwau uchod, gwridiech yn ngwyneb eich
anwybodaeth. Nid oes un odd eich plant yn teilyngu yr enwau uchod, nag yn ateb
idd yr ystyron a gyflëant; a pheth pe y cyfieithid y cyfryw enwau idd y
Gymraeg, ac eich rhwymid idd eu hanerch felly, byddech yn rhwym o ganfod eich
dylni. Etto, canfyddir yr un gwrthuni yn eich mympwyau yn rhoddi enwau merched,
mal Efa, Sarah, Rebecca,
Rachel, Naomi, Esther, Abigail, Elizabeth, Selina, Martha, Sophia, Eunice,
Priscilla, Kesia, Jemimah, Lydia, &c.; a
chynddryced eilwaith ynt y rhai canlynol: - Penelope, Charlotte, Eleanor, Frances, Leah,
&c., ac ugeiniau o enwau anhyall i chwi eich hunain, y rhai ynt yn swnio
mor amhuraidd yn nghlustiau y rhai a wyddant eu hiawn ystyr. Beth, fy
nhydwladwyr, a ydych chwi wedi meddwi ar afresymoldeb? A ydych chi wedi
penderfynu gwneyd pob peth yn groes i anianawd eich hynafiaid, yn mysg pa rai,
hyd y canrifau diweddaf, a gadwasant eu hen enwau cywir, addas, a phriodol, ar
eu plant heb eu llygru, trwy ystod eu darostyngiad dan iau y Rhufeiniaid, eu
gormesiaid gan y Saxoniaid, câd-ruthriadau y Daniaid, ac yspeiliadau a
thraws-oresgyniad y Normaniaid? Etto, eu henwau a gadwyd mewn ymarferiad hyd
oes y Diwygiad, gan y gwrth-ddiwygiwyd yn hyn, er anghlod i genedl y Cymry, gan
roddi heibio yr hen enwau, ac y dygwyd i arferiad enwau ammhriodol idd eu
rhoddi ar eu meibion ac ar eu merched. Oni byddai rhai o'r enwau canlynol yn
fwy priodol i'w rhoddi ar blant y Cymry, nâ'r rhai ynt mewn bodoliaeth yn
bresennol:- Aneurin,
Taliesin, Llywarch, Meugan, Brân, Llyr, Myrddin, Emrys, Einion, Eidiol, Cenau,
Coel, Caswallon, Maelgwn, Tudur, Catwg, Gwinlliw, Glywys, Dewi, Goronwy, Rhys,
Cynhaiarn, Hu, Ifor, Iolo, Cawrdaf,
ynghyd â lluoedd reill a ellid eu henwi, ond digon hyn. Y cyfrai ddylent fod
enwau plant y Cymry, ac nid rhai dyeithr, mal George, Charles, Edward, Thomas, Richard, Benjamin,
James, Francis, Joseph, Henry, Philip, William, Walter, Albert, Alfred, Robert,
Lewis, Horatio, Nelson, Edmund, Frederick, Ralph, &c., enwau nad
ydynt berthynol idd y Cymry. Darfydded y cyfrai ymarferion gwrthun, a bydded i
ni y Cymry adferyd llawer o'r hen enwau gynt, trwy eu gosod ar ein meibion ac
ar ein merched. Beth am enwau ein merched yn y dyddiau presennol? Y rhai a
roddir arnynt ynt mor ammhriodol ag y dichon i hyny fod, oblegid y maent yn
cael enwau mor rhyfedd gan y Cymry, fel y mae arnom gywilydd idd eu crybwyll,
heblaw yr enwau ysgrythyrol, mal Charlotte, Caroline, Jane, Prudence; a
digrif yw clywed y canlynolion, Mary,
Ann, Betto, Shwgi, Emma, Peggi, Flora, Harrieta, Paulina, Margareta, Luoisa,
Pamela, ac ugeiniau ereill o enwau anaddas ar ferched y Cymry.
Nid yndym yn gweled un anghyssondeb yn yr enwau uchod i fod ar ferched y
Saeson, ar Gyfandir y rhai y mae eu hustyron yn adnabyddus iddynt; ac nid ar
ferched y Dywysogaeth, iaith pa ryw yw y Gymraeg, ac yn ol yr hyn sydd resymol
dylent gael enwau Cymreig. Onid oes enwau mwy Cymruaidd ar gael? Oes; ond y mae
rhyw falchder wedi meddiannu y werin Gymröaidd,a lle bynag y byddo balchder yn
cael groesawiad, mor sic â hyny y bydd anwybodaeth yn ei ganlyn; ac felly maent
y Cymry, fel na fynant fod unrhyw beth yn iawn, oni fydd yn toncian mewn rhyw
swn Seisonig. Oni byddai yr enwau canlynol yn llawer gwell a mwy priodol: - Gwawr, Goleuddydd, Angharad, Gwladus, Nest, Elen, Mair,
Tegwedd, Arianrod, Ceinwen, Morfydd, Dyddgu, Cenedlon, Eleri, Tywynwedd,
Arddun, Dolgar, Non, Gwenfaen, Tegiwg, Madrun, Derwela, Maches, Gwenafwy,
Peillan, Peithien, Cain, Cwyllog, Llechid, Gwenhwyfar, Gwenonwy, Bronwen,
Mechell, Arianwen, Tanglwst, Nefedd, Gwrgon, Lleian, Rheingar, Gwenddydd,
Tydfil, Elened, Gwen, Cymhorth, Clydai, Mwynen, Gwenau, Canna, Sanna,
Melangell, Gwenlliw, Dwynwen, Enfail, Tybie, Ystrafael, Ethni, Tonwy, ac ugeiniau ereill, rhy
aml idd eu crybwyll yma. Pe byddai idd y Cymry enwi eu plant, deuai hyny â mwy
o ysbryd ymchwil idd eu mysg, a rhaid cydnabod pa mor fawr y siomiant y mae
llawer estronddyn wedi ei gyfarfod, pan wedi dyfod gannoedd o filltiroedd o’i
wlad, yn unig er cael gweled trigolion Cymry, clywed eu hiaith, ac hen enwau y
preswelwyr; ond ow! nid oes yn swnio yn ei glyw enwau yr hen Gymry, ond digon o
Dwmiaid, Johniaid, Dickiaid, Jamesiaid, Georgiaid, Charliaid, a Harriaid.
Cymry, oni ddiwygiwch, ac ymdrechu mwy dros gadwedigaeth eich iaith, eich hen
enwau, eich breinniau, a’ch defodau, buan y cleddir y cyfan o’ch eiddo mewn môr
o anghof tragwyddol canys, os sylwn, dyma yw amcan y Senedd Saesonaidd yn
barhaus; ac os edrychir yn ol ar weithrediadau Seneddol Prydain o gyfnod llas (?) y
Tywysog Llywelyn gan y barbarydd gwaedlyd a annynol Edward y cyntaf hyd yr oes
hon, amlwg i bob dyn yw fod eu hergydion yn barhaus er difreiniaw y Yry o’u
hiaith eu llenyddiaeth a’u cenedlgarwch gan hyny, ymwrolwn, a dangoswn fod ein
hiaith a’n llenyddiath mor anwyl genym ag yw ein bywydau. Deuluoedd Cymröaidd y
Dywysogaeth, dysgwch y Gymraeg idd eich plant o flaen un iaith arall o’r byd;
rhoddwch enwau Cymreig ar eich meibion ac ar eich merched. Ysgolion Sabbathol y
Dywysogaeth, dysgwch y Gymraeg yn yr eglwysi a’r addoldai yn flaenaf o un aeg
arall; onite pa fodd y gwirir geiriau y Derwydd Taliesin? “Eu Nêr a (x110) a folant, eu hiaith a gadwant.” At eich dyledswyddau Pa
chwi, holl offeiriai a phregethwyr, o bob enwad yng Nghymru: onite bydd rhaid
eich claddu cyn eich amser, i barchedigion Saesonig i ddod i bregethu eu haeg
yn eich areithfanau. O! fy nghenedl, diwygiwch yn hyn; deuwch mal un gwr i
weithredu, ac yna ni bydd achos galaru mewn oesoedd dyfodol o gladdu yn
Gymraeg, mal y cwynant llawer o wyr Cernyw heddyw, am ynfydrwydd eu henafiaid
yn colli y Gymraeg.
Rhag i neb feddwl mai rhyw fympwy sydd genym am alareb y Cernywiaid ar ol eu
hen iaith, gosodwn yma yr eglurhad a ganlyn: -Arferai Thomas Tregorah,
Cernywiad, ymholi â ni, a mynych ofyn ystyron ugeiniau o enwau Cymreig ar
lefydd yng Nghernyw, a mynych y llwyddem i ddesgrifiaw pa fath oedd yr ardal,
neu y cylchon, mal y synai ein bod yn alluog i ddangos ansawdd a golygiad y
llefydd, ac heb fod erioed o fewn yr wlad; ac y mae yn rhaid fod yr aiith
Gymraeg yn gynnwysfawr cyn y gellid arddangos llefydd mor eglur. Dywedai yn
aml, “fod y Cernywiaid wedi cadw eu breinniau a’u hiawnderau gwladol a
dinasyddol, ond collasant eu hiaith, pan y collodd y Cymry ei breinniau, ond
cadwasant eu hiaith, a’u llenoriaeth.” “Yr oedd,” meddai, “cadwedigaeth
breinniau gwladol yn brawf o wroldeb, a llygad manwl; ond yr oedd yn rhaid fod
y llygad arall yn dywyll, cyn y goddefasant golli eu haiaith; oblegid gwell yn
y pen draw y golled gyntaf nâ’r ail.” “O!” meddai, “na fyddwn alluog ac yn
wybodus yn y Gymraeg; mi a awn adref er adferyd eu cyniaith i fy nghydwladwyr;
a gwn na fyddai fy ngwasanaeth yn annerbyniol.” Yn mhellach, dywedai, gyda galar,
“Y mae yr enwau Prydeinig ar gael a chadw ar y llefydd, mal yr wyf yn aml yn
gorfod ochain wrthyf fy hun, a dywedyd, yr enwau Cymröaidd hyn ydynt bob tro eu
crybwyllir, mal yn dannod idd ein henafiaid am ei hynfydrwydd, ac, mewn ystyr,
yn cyhoeddi, Yr ydym ni yn dàl y Gymraeg i fyny, er na feddwn dafodau i lefaru,
na gallu i synied, tra yr oedd gan henafion yr oes hon bob un o’r ddau, er
gweithredu i gadw eu hiaith heb ei difodi, cofiwch mai yr un cwyniad fydd gan
rai o’ch chil ar eich hol chwithau, os goddefwch idd y Gymraeg gael ei chladdu.
Os collwch eich iaith, cofiwch y collir eich enwau o lechres gwahanol
genedlaethau y ddaear, ac ni bydd sôn am Gymry, Cymro, a Chymraeg, gan eich
gorfodegwyr byth mwy. EIN HIAITH! EIN HIAITH! fy nghenedl; na adewch iddi gael
darfod, oblegid na chewch chwi na neb o’ch olion ddiolch gan estroniaid am ei
rhoddi heibio, ond eich gwarthruddo. Gwiriwn ddymuniad melysber y bardd, -
“Cymraeg ymdaeno, ac enw Cymro a baro tra bo byd.”
EMYR LLYDAW..
________________________________________________________
r2 Llythyr 2 ( ?? ddim yn y ffotogopi
sydd gennyf)
________________________________________________________
(x330)
Seren Gomer 1845
A yw Gwerin Weithyddawl Cymru yn fwy anwybodus na Gwerin Weithyddawl Lloegr
yn bresennol?
OLYGYDD
HYNAWS,- Fod y Cymry yn fwy anwybodus ac anwaraidd nâ’r Lloegriaid, sydd yn
ddiareb gan lawer o gorcymiaid
(? heb fod yn eglur
yn fy nghopi i) Cymreig, y rhai ydynt wedi dysgu ychydig o iaith yr
olaf, a disytyru eu heiddo cynhenid eu hunain, er boddio eu mwympwyon
gan-dybiawl. Efallai nad yw hyny wedi ei brofi, na digon o sylw wedi ei dalu gan bawb
hyd yma ag ydynt yn adnabyddus â theithi a chyfiawnder yr anwybodaeth a hanfoda
rhwng y ddwy genedl, ond fod haeriadau yn cael eu derbyn o flaen profion, a’r
werin Gymreig yn gadael i hyny gymeryd lle heb un gwrthbrawf Gan fy mod wedi
cael cyfle i sylwi ar anwybodaeth y ddwy genedl, yn neillduol yn ardaloedd y
gweithiau haiarn, yn Lloegr a Chymru, anturiaf i wneyd rhai nodiadau, er cael
gweled pa un a ydyw yr haeriadau uchod am fy nghenedl yn rhai a ddaliant yn
wyneb anwybodaeth ac anwareidd-deb y Cymry a’r Lloegriaid. Cyn yr awn at ein
prif ddyben, iawn yw myned i ganfod beth sydd ar gael ar faesydd hanesyddiaeth
am y ddwy genedl. Ymddengys fod y Prydeiniaid yn genedl gref, medrus, a
rhyfelgar, dan wahanol benaethiaid, tywysogion a breninoedd, yn mhell cyn i
Rufain godi idd ei mawredd, a chyn idd ei llywodraethwyr, trwy eu rhwysg,
gwareidd-dra, a nerth arfau, ddyfod yn feddianwyr a phenaethiaid y byd
adnabyddus, er ys mwy na dwy fil o flynyddau yn ol, pan nad oeddynt yr hen
Gothiaid ond agos yn anhysbys a dienw am ddàl rhan o awenau a llywodraeth y byd
yn mysg gwahanol genedloedd y ddaear y pryd hyny; ac am oesau canlynol, ni
feddiannai eu hiliogaeth enw nac adnabyddiaeth amgenach nag yspeilwyr morawl; a
thra y bu awdurdod Rhufain ar ynys Prydain, nid hawdd oedd iddynt wneyd llawer
o ddrygau idd y Prydeiniaid. Wedi ymadawiad y Rhufeiniaid, gorfu ar y Cymry
ymosod er trefnu gwleidyddiaeth,a hyny, mae’n debyg, gyda llawer o ddiwygiad at
yr hyn oedd ganddynt yn flaenorol, wedi derbyn o honynt wareidd-deb Rhnfeinig,
dros y tymmor hirfaith o 400 mlynedd, — cyfreithiau Dyfnwal Moel Mud, ac ereill
o’i rag-flaenoriaid, yn cael eu dwyn ar adfer, yn gymmysgedig ag eiddo y rhai
Rhufeinig, a Christionogaeth yn ymledaenu yn eu mysg. Ond o herwydd ymosodiadau
gwahanol genedloedd arnynt yn barhaus, a’u hawydd am gael meddiant o’u gwlad,
a’r holl ynys wedi ei difodi o’r ieuenctyd, y rhai a allent ddwyn arian i faes
y gwaed, gan yr awdurdodau Rhufeinig cyn iddynt dynnu eu hiau oddiar yddfau y
Cymry, mal y gorfu ar ein henafiaid alw lluoedd estronawl cyflogedig idd eu
cynnorthwyo, er amddiffyn eu gwlad, pa rai a gymmerasant yr arfod o wendid ar
eu cymmwynaswyr, gan droi eu gelynion penaf yn hytrach na bod yn weision
ffyddlawn. Ymddengys fod y cyfrai y pryd hyny yn isel mewn sefyylfa o
anwareidd-deb, ac fod eu plant yn cael eu gwerthu mal anifeiliaid yn Rhufain,
tra yr oedd y Cymry yn dàl i fyny wladyddiaeth yr ynys, ac mor wareiddgar,
gwybodus a chrefyddol ag y gellid dysgwyl idd yr oesau hyny fod. Prawf, mewn
oesau canlynol, o anwareidd-deb olion yr hen Gothiaid, trwy yr afoddlonrwydd a
ddangosent y Prydeiniaid i addysgu y Sacsoniaid, a phregethu iddynt yr efengyl,
yn unol â gorchymyn y Pen Cristionogol yn Rhufain, ac anfoniad Awstin Fynach i
bregethu iddynt. Y creulonderau mawrion a orfu ein henafiaid eu derbyn – y
tywallt gwaed a gymmerodd le rhyngddynt, ac yn y diwedd eu difeddianu o’u
gwlad, a cholli breisdiroedd Lloegr, gan ỳru eu gweddillion i gonglau
diffrwyth yr ynys, a ddengys afresymoldeb, anwybodaeth, angharedigrwydd, ac
anwareidd-deb y cyfrai a allasent weithredu mor fradychaidd. Wedi iddynt
feddiannu Lloegr, a gwneud y saith deyrn ynny yn un, a sefydlu eu gwroniaid yn
deyrnolion ar wahanol ranau o’r wlad, nid oedd eu gwybodaethau yn cynnyddu ond
ychydig, mal y dengys fod y penaethiaid hyny yn ryfela ca yn mynych dynu y
tyrch â’u gilydd , yn y gystadleuaeth am uno maes wrth faes, tra yr oeddynt y
Prydeiniaid wedi gorfod ffoi, mal y nodwyd, a gadael eu heglwysi a’u
sefydliadau llenyddawl, a llawer o’u cynnyrchyn ysglyfaeth i gynddaredd a
llidiogrwydd eu gelynion i sathru arnynt, a hyn oll tra yr oedd y Cymry yn, ac
wedi, adeiladu abad-dai, esgobaethau, a gwybodaeth Gristionogol yn llwyddo yn
eu plith, oddiyno i wared hyd goroniad Arthur “Ymerawdyr”, yn
Nghaerlleon-ar-wysg, yr hyn a wnaed â chymmaint ddeheurwydd Cristionogol ag y
coronwyd Buddug, brenines Prydain, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mal yr
ymddengys yn ol yr hanes, fod yr ymgynnulliad hwnw yn hynod, a Dyfrig yn gosod
y goron ar ben Arthur, a Gwenhwyfar, — ei gynghorion pwysig, ei araeth hyawdl,
ei enwogrwydd , a’i brysurdeb ar yr achlysur. Yr ydym yn canfod cymmaint o
olion ac arferiadau y dyddiau hyny ar ddull presennol coroniad. Penaduriaid
Prydain, yr hyn sydd yn dangos nad yw cyn-ddull ein hynafiaid wedi ei ebargofi;
er fod ein hiaith wedi ei chau o’r llys, etto, mor amlygwel y syniadau uchod,
pan nad. oes dullwedd ac arferion Sacsonaidd y dyddiau hyny yn hanfodi mae yn
wybodus yn bresennol, er yr holl anweddeidd-dra, yr anwybodaeth, a’r tywyllwch,
yr ymdröant y Cymry ynddynt yn awr. O’r dyddiau hyny hyd amser Alfred Fawr, ni
feddianent trigolion Lloegr ar wybodaeth na gwareidd-dra, tra yr oeddynt y
Cymry yn genedl wrteithiedig niewn gwybodaeth, a chanddynt enwogion mewn dysg,
ac athrofeydd llenyddol. Prawf eglur nad oedd ond ychydig wybodaeth yn hanfodi
yn mysg y werin na (x331) bonedd y Lloegrwys
y pryd hyny, a’u bod yn anwaraidd trwyadl, ac nad oedd ond nifer bychan (os
dim) o’u hathrawon yn medru ar lythrenau ac o ganlyniad yn analluog i weinyddu
yn nghygfraniad cyfryngau gwybodaeth eglwysig; pan yr oeddynt offeiriaid a
swyddogion yr eglwys yn Nghymrn wedi cadw dysgeidiaeth yn eu gafaelion, mal yr
ymddengys eu bod yn oraf eu gwybodau am ddull, trefn, a dygiad yn mlaen
achosion y grefydd Gristionogol. A pha ryfedd idd yr eglwys gan y Cymry gael ei
chadw yn fwy pur na chan y Lloegrwys, er yr holl gri ym mharth anwybodaeth y
Cymry?
Ni ellir gwadu nad oedd ganddynt eu sefydliadau Cristionogol, wedi eu dechreu
yn gynnar ar ol dychweliad Brân ab Llyr o Rufain â chenadon i bregrethu yr
efengyl idd y Cymry. Oddiyno hyd amser Lles ap Coel (Lleufer Mawr), ni ellir
barnu idd y cynnydd fod yn fawr; er i Dyfan, Ffagan, ac Arwystli Hen (od yn
pregethu yn ddiwyd, etto, y cyfryw oedd glyniad y Prydeiniaid wrth yr hen
grefydd Dderwyddol, mal yr aeth 150 o flynyddoedd heibio cyn i un o freninoedd,
tywysogion, na phenaeth o enwogrwydd, dderbyn a phroffesu yn gyhoeddus y
grefydd Gristionogol. Y mae lle i feddwl fod tiriogaethau Brân a’i ganlyddion
yn Morganwg a Gwent, ac o barch at y cyfrai yr adeiladwyd yr eglwys henaf yn
Mhrydain, sef Llandaf, o’r cyfnod yna. Ymddengys idd y cynnydd gymmeryd lle
wedi i Lleufer dderbyn y grefydd Gristionogol, a myned yn mlaen yn hwylus; ac,
er mai Derwyddon oeddynt y pryd hyny, yn fwyaf lliosog, etto, pan sylwom, ni a
ganfyddwn fod Derwyddiaeth yn lleihau, a Christionogaeth, yn ymhelaethau ei
therfynau, ac erbyn diwedd y bedwaredd ganrif, a dechre y bummed, yr oedd plant
ac ŵyren Brychan Bn-chsiniog wedi cael eu dwyn i fyny oll “yn y wybodaeth
o’r ffydd sydd yn Nghrist,” ac ni bu un teulu yn fwy rhagorol, gwareiddgar. a
duwiol nag oeddynt, yn eu hoes; a’r rhan fwyaf o honynt a oddefasant ferthyrdod
o dan ddwylaw Paganaidd, anwaraidd, ac anwybodus y Sacsoniaid. Onid oedd cryn
wahaniaeth rhwng y ddwy genedl yn y cyfnod o dan sylw’? Ai gan y Lloegrwys y
mae yr anrhydedd o feddiant ar “Dri theulu Santaidd Ynys Prydain?” Na; genom
ni, y Cymry, y mae yr anrhydedd hwn. Erbyn hyn, yr oedd Caerlleon-ar-wysg wedi
dyfod i anrhydedd ac enw mawr, - y drydedd ddinas o ran urddas yn Mhrydain; ei
hesgobaeth yr un modd - yr oedd Dyfrig a Dewi Sant yn hynod am eu gwybodaethau,
eu diwydrwydd, a’u duwioldeb. Ond nid felly yr oeddynt y Lloegrwys y pryd hyny,
ond yr oeddynt fil o flynyddau ar ôl y dysgedigion Cymreig yn y cyfnod a
nodwyd.Yr oedd hyd yn od yn y Deheubarth leoedd enwog am feitthrin
dysgeidiaeth, mal Llanfeithin, a Llanilltyd. Yn yr olaf y codwyd Padarn
(Patrig), apostol Cristionogol yn Iwerddon; ac yn y blaenaf yr oedd Catwg
Ddoeth, yn athraw ar wybodau yno; ac yn ei nawdd ef y buont Aneurin, Taliesin
Benbeirdd, Llywarch Hen, &c., yn cael eu noddi, pan yr oedd eu tiriogaethau
yn Llwyfau Argoed, a’r Gogledd wedi eu dwyn oddiarnynt gan farbariaid, y rhai
nad oedd ond tywallt gwaed a’u boddlonai.
Y
cyfryw oedd ansawdd a sefyllfa y ddwy genedl yn y cyfnod uchod, - un yn llwyr
anwaraidd, a’r llall yn feddiannol ar wybodau, a dysedigion o enwogrwydd yn eu
blaenori, - cyfreithiau gwladwriaethol, cynnal gwleidyddiaeth, a gwareidd-dra
yn ysgrifenedig are eu gweithrediadau; ac, ar yr un pryd, yn gorfod rhuthro i
faes y gwaed er amddiffyn a chadw meddiant o’u gwlad. Amlwg yw fod gwybodaeth a
gwareidd-deb yn anwybodus i drigolion Lloegr yn amser y dyngarwr rhagorol
Alfred, a llênyddiaeth yn ahnyall iddynt; canys dywedir iddo orfod cael rhai o
ddysgedigion y Cymry er ei gynnorthwyo i
drefnu cyfreithiau a sefydlu gwladyddiaeth yn mysg ei genedl, mal Asser o
Dy-ddewi, yr hwn oedd y cyntaf a ddechreuodd ddysgu yr ieuenctyd yn
Rhydychain.Os mae fel yna yr oedd pethau yn bod, ymddengys fod y Cymry ym mhell
o flaen y Lloegrwys mewn gwareidd-deb.
Pan y syllom
ar hen gyfreithiau ein cenedl o’r cyfnod boreuaf ag sydd ar gael mewn
hanesyddiaeth i waered jyd amser Hywel Dda, canfyddir, pan aeth Hywel ynghyd
â gosod trefn a chyfiawnder i weithredu
yn mysg ei gydwladwyr, mai nid ffurfio a chynllunio cyfreithiau newyddion o’i
wneuthuriad ei hun a wnaeth, ond casglu ynghyd hen gyfreithiau ei genedl oedd y
gorchwyl, er gwneyd Cymru a’i thrigolion yn well, a byw yn garedig a chyfiawn,
tra nad oedd yn holl Loegr ond yr anhrefnusrwydd, cigweinio a thywallt gwaed,
a’r hyn a derfynodd yn eu darostyngiad o dan iau a gormes y Daniaid a’u brenin;
a gwaeth fyth oedd yn rhaid fod eu cyflwr pan orfnasant ymostwng o dan faner
Gwilym o Normandi, yr hwn a estynodd allan ei deyrnwialen i lywodraethu Lloegr
a’i thrigolion anwybodus, anwaraidd, ac anwrtheithiawl. Ymddengys fod y Cymry
wedi parhau i gadw y flaenoriaeth mewn gwybodaeth ar drigolion Lloegr; oblegid
nid oes un darn ar gael o lênyddraeth y genedl hono idd ei gymharu ag eiddo y
Cymry, mal gweithiau y ddau Fyrddin, Aneurin,Taliesin, a Llywarch Hen, a brofiant
hyny, heblaw y Trioedd, y Diarebion, &c; a phe y cadwresid yr oll o’u
heiddo mal cenedl, tebyg y buasem heddyw yn alluog i gystadlu â’r goreuon o
lwythau Ewrop mewn hanesyddaieth, am eu holl orthrymderau a’r anghyfiawnder a
dderbyniasant oddiar ddwylaw eu gelynion, hyd amser a therfyniad eu
hanymddibyniaeth gan Edward y cyntaf, a’r cyfnod y gwelir fod y Cymry ymhell o
flaen trigolion Lloegr mewn gwareidd-dra a gwybodaeth.
O’r amser y collasant y Prydeiniaid
Loegr, a thra y dalient i fyny eu hurddasder tywysogawl yn Nghymru, gwnaed
llawer o gyfreithiau gormeilus yn eu herbyn, er amcanu eu difodi oddi ar y
ddaear; mal, llosgi eu llyfrau, anhreithio eu hathrofëydd, eu heglwysi, a’u
Mynachlogydd, a dileu gwybodaeth o’u
mysg, a’u gwneyd yn anwariaid a chaethion yn eu gwlad eu hunain, hefyd
gwahardd iddynt brynu tiroedd, a’u hattal i fod yn galfyddydwyr, na
chynnal gwladyddiaetb, — gwahardd iddynt
gadw eu beirdd – eu cau y tu arall i glawdd Offa — marwolaeth yn dynged idd y
sawl a osodai droed y tu allan iddo, a sefydlu statutiau Rhuddlan, &c., ac
na chaent ryddid ond mal serfs
anwrteithiawg i gynddaredd barbariaid. Colledion llênyddawl y Cymry, pwy
a’u rifant? Coelcerth yr anfad-ddyn Yscolan, pwy a ddarlunia y golled? Y
dinystr ar weithiau y beirdd, wrth (x332)
orchymyn yr anwariad Edward y cyntaf, cynyrchion toreithiawg eu
habad-dai, &c., gan Harri yr wythfed, —
pwy a w^yr y golled o’u difodiad? ac oddiyno i waered at goelcerth
llyfrfa Rhaglan, yn Ngwent, gan greuloniaid Cromwell, - pwy a ddarlunia y gyflafan
a wnaed o oes i oes ar lênyddiaeth y Cymry? Ni soniwn yma am goelcerthi, a’r
dinystr a wnaed ar lyfyau llênyddawl yn
yr Iwerddon; etto trwy ystod oesau barbaraidd amryw o freninoedd Lloegr,
parhausant y Cymry i gadw y flaenoriaeth mewn gwybodaeth ar drigolion Lloegr,
canys nid oedd ym mryd y rhai hyny ond rhyfela. Amlwg yw fod y Cymry yn dàl i
fyny ei beirdd a’u llênyddiaeth hyd oes yr olaf o’u tywysogion, cyfansoddiadau
y rhai a dra ragorent ar eiddo y Lloegrwys, i waered hyd oes Glyndwr, a’i fardd
Iolo Goch, a Dafydd ap Gwilym yn llys Ifor Hael, cyfansoddiadau pa rai ydynt mor dwymfryd a dealladwy heddyw, hyd y nod ymysg y werin weithyddawl Gymreig, â’r
dyddiau a hanfodai y beirdd, tra nad oes enw bardd o’u medrusrwydd am rai oesau
i ganlyn, a’i enw ar gael, yn mysg y Lloegrwys, yr hyn a ddengys wareidd-deb ac
anianawd llênyddawl ein cenedl, tra yr oeddynt y Lloegrwys yn ordöadwy gan
anwybodaeth anwareiddiwch.
O’r cyfnod y blodeuai Glyndwr a’i wrolion hyd ddydd genedigaeth yr
argraffwasg, nid oedd mwy o wybodaeth gan y Lloegrwys nag oedd gan y Cymy; ac
oddiyno hyd amser Charles yr ail, gellir ystyried y ddwy genedl ar yr un
grisiau; ond gydag arferiad pa un y dechreuodd masgnach gynyddu yn mysg y
Lloegrwys, ac ar rymusder, anturiaethau mawrion o ryfel, meddiannu y ddwy
India, a llawer o wledydd eraill, tywallt gwaed brodorion duon yno, a pheri
afonydd o’u gwaed i lifo dros diroedd cynhenid eu hynafiaid, dwyn en gwledydd
a’u meddiannau gwerthfawr er cyfoethogieu hunain, sefydlu trafnidaeth, agoryd y
Gyfnewidfa (Exchange), adeiladu
llongau, aredig tònau mawrion gwahanol foroedd y byd, a throsi celfau i ymarferiad, a ddygasant y Lloegrwys i fwy
o wybodaeth nâ chenedl y Cymry yn y canrifoedd diweddaf; hyny yw, daethant yn fwy adnabyddus â thrafnidiaeth
y byd, - eu manteision a’u diwydrwydd
diweddar a’u dygodd i sylw rhan helaeth o’i breswylwyr, tra yr oedd y rhan
fwyaf o’r Cymry ya syrthio i
ddifaterwch am drafnidaeth, a dim ond amaethyddiaeth mewn bri ganddynt; ond y mae etto idd ei brofi, neu nad yw,
os ynt y Cymry yn fwy anwaraidd ac
anwybodus na’r Lloegrwys yn bresennol.
................................................................................EMYR
LLYDAW
(x44)
r4 Llythyr 4
Seren Gomer 1846
Parhad o’r gofyniad, A ynt Gwerin Weithyddol Cymru yn fwy anwybodus ac
anwaraidd na Gwerin Weithyddol Lloegr yn bresennol?
__________
Wedi ohonom sylwi ar ansawdd ac anianawd y Cymry a’r Lloegrwys dros wahanol
oesoedd a aethant heibio, a dangos ychydig o lawer o’r caddugwch dudew a
orchuddiodd y ddwy genedl hyd yn bresennol, deuwn yn awr i edrych arnynt, er
cael gweld pa un a ydyw yn haeriad yn wirionedd, ac wedi ei seiliaw ar brofion
anwadadwy, fod Cenedl y Cymry yn bresennol yn fwy anwaraidd ac anwybodus na
gwerin isel-radd lloegr. Cenedl y Cymry yn bresennol ydynt yn sefyll o dan
anfanteision mwy na’r Lloegriaid, gyda golwg ar drafnidiaeth a chelfyddydau, er
fod amryw o honynt gyda blaenoriaid meib y celfyddydau yn Lloegr. Gwir fod y
Cymry yn cael eu cyfrif yn genedl grefyddawl, a’u cymmeryd yn gyffredinol, ac y
maent yn ddynion sydd yn talu parch a sylw i bethau crefyddol, a hyny yn fynych
gyda mwy o aidd nag o wybodaeth am gredoau gwahanol sectau, cyn y cymmerant
amser i ymchwiliaw a barnu; ac, o ganlyniad, yn anhaeddiannol o’r cymmeriad a roddir
iddynt; sef, “anwariaid ac anwybodusion.” Os gofynwn pa le y cynlluniwyd mesurau a phob drygnaws er gwrthwynebu y
sefydliadau gwladwriaethol, y gwrteithiwyd
cynhyrfion, y codwyd arfau er dymchwelyd cyfreithiau Seneddawl Prydain
Fawr, yn ysdawd y tri chan mlynedd ddiweddaf a aethant heibio? Gellir
ateb yn gadarnhaol, taw nid gan y Cymry. Nid Cymro oedd yr adyn Guy Fawkes, yr
hwn a roddodd ei fryd, ei lafur, a’i ymdrech, yn nghyd a’i ganlynwyr, ar chwythu i fyny y
Senedd ddiwygiadol a phrotestannaidd, a’i holl aelodau ar darawiad amrant i fyd
yr ysbrydoedd. Rhag myned o afael y werin weithyddawl, nid aroswn i sylwi ar
amryw ereill a allem eu crybwyll; ond deuwn o fewn cylch cofion yr oes hon, er
dangos nad ydynt fy nghenedl yn teilyngu y cyfenwad a roddir iddynt gan rai o
blant rhyfyg, diystyrwch, ac anwybodaeth. Nid Cymro oedd Thomas Pain, ei “Oes
Reswm,” a’i Sathr Lithiau, ai Arnodian ar y gyfrol gyssegredig. Nid Cymry
oeddynt Thistlewood, a’i gydfradwyr, pa rai a gyd-gyssylltiasant er dinistriaw
eu gwlad, an ba un eu crogwyd. Nid yn Nghymru, na chan Gymro ychwaith, y
cynlluniwyd Breinlen Siartiaeth, yr hon a gynhyrfodd yr anwybodus a drigolion
gweithyddawl gogledd Lloegr, nes meddwl mae hwy a’u Breinlen oedd ben y byd; ac
yn nghanol y rhyfyg ynfydwyllt hwnw, rhai ohonynt a laddwyd, ereill a
alltudiwyd, a channoedd a garcharwyd, er boddiaw mympwy carwyr arian ar gefn
anwybodaeth. Nid Cymro oedd Lovet, na’r hen dylluan annoeth a chynhyrfus Fergus
O’ Connor, trwy ba rai y twyllwyd John
Frost, Williams, a’r ynfyd-ddyn Jones, i fyned ag anwybodusion gweithiau
haiarn Mynwy i ryfel y
Casnewydd-ar-wysg; na, gwyr cynhenllyd gweithfeydd gogledd Lloegr sydd wedi
cynlluniaw pob tynged anffodus yn y dyddiau diweddaf arnynt eu hunain, ac am
bob ymgegfa wrthryfelgar ag sydd wedi bod yn mysg y Cymry yn y bedwaredd ganrif
ar bymtheg. Gan y rhai hyn y codwyd muriau
o gasineb rhwng trigolion Cymru a’u meistriaid, pa rai ni ddilenir am
dymmor hir. Gan y gwyr hyn y cynlluniwyd pob twyll a hoced er dwyn y werin
weithyddol i gyssylltiad ag arfau y llywodraeth.
Pwy a gafodd yr elw oddiwrth pob
undeb a sefydlasant? Peth hyfryd iawn gan wyr fel hyna yw cynhyrfu y bobl o
dwyll a chelwydd, gan sefydlu trysorfeydd, meddant, er dwyn achosion eu hiawnderau
i ateb dybenion gogoneddus rhyddid! Dwy neu dair ceiniog yn wythnosol oddiwrth
bob aelod a gysylltid â’r hymbugiaeth, ac o chwe cheiniog i dri swllt a chwe
cheiniog am y daflen freiniedig er eu gwneyd yn ddreliaid, a’r cri mawr yn cael
eu hau yn mysg y bobl; ac o herwydd eu hanwybodaeth y gwelir y miloedd o
anwariaid yn [?YSTODYRU – aneglur] idd eu
hunebau, er eu diogelwch rhag trais, mal y deallant; ac wedi y gyront y [?SATURIAID – aneglur] a nodwyd, y werin
wirion-ffol i dòri cyfreithiau eu gwlad, a bod yn agored i nerth a gallu y
pylor a’r plwm, y bidog a’r magnal, y maent hwy yn cymmeryd gofal i fod yn (x45) ddiogel; ac yn y cyfryw amser, y mae holl
arian y werin anwybodus yn cael eu dwyn ymaith, a’u cadw yn meddiant y cyfrai
ffieiddiaid twyllodrus. Ai llesiant eu cydwladwyr oedd yn ngolwg Fergus
O’Connor, &c., pan yn ymbleidiaw â Siartiaeth? Nage, ond cadw i fyny y
cynhyrfiad oedd y nod, am y gwelasant fod y werin weithyddawl wedi eu meddwi ar
gyffeiriau breinlen rhyddid, a’u llygai yn nghau, a’u meddyliau yn rhy gaethion
am fynydyn i feirniadau rhwng yr hyn oedd dda a’r hyn oedd ddrwg; a lle da
iddynt i werthu eu blagardiaeth yn y Northern Star, eu Traethodau cynhyrfgar, eu hareithiau celwyddog a
thwyllodrus, mal eiddo Vincent, &c., yn nghyd â’u cardiau dimai y dwsin am
dri a chwech yr un, a’r lleiaf a naddynt am chwe cheiniog.
Dyma y gwir sydd wedi tyna anair ar y Cyrmry am fod mor ynfydaidd a’u gwrandaw,
ac ymuno â hwynt. Nid Cymro oedd Twist, cynhyrfydd a sylfaenydd yr undeb hwnw a fu yn achos
o dywallt gwaed yn Merthyr Tydfil gynt, yr hwn a gasglodd yn nghyd drysorfa
fawr o arian er gwrthwynebu perchenogion y gweithia haiarn mawrion yn
Neheubarth Cymru, a galluogi (meddai ef) y gweithiwr i fod yn gyfartal â’i
feistr, a’i rwymo i roddi y prisoedd a welai y gweithiwr yn addas am ei
weithiau, yr hon drefn, pe daethai i ben, a wnaethai y gweithiwr yn feistr, a’r
meistr yn gaeth; ac wedi diysbyddi holl drigolion y gweithiau, o Bontypwl i
Abertawy, o’u harian, y rhai oeddynt mor anwyliadwrus, efe a gododd ei gw^d, ac
ymaith yr aeth, gan adael ei gyfrifon yn anneallus, a blychau yr arian yn
weigion! Dyna fel y gwaaeth yr adyn hwnw â’r Cymry.
Y werin weithyddawl, na fydded i chwi wrando ar y cyfrai
ddhyhirod, - nac ymrafaelwch â boneddigion y gweithiau; ond ymdrechwch â’ch
holl egni i gadw heddwch â phawb, gan gymeryd rheswm yn reol, ac nid afreolaeth
a drygnwydau. Ewch law yn llaw â’r rhai y gwasanaethwch iddynt,- hon yw y
ffordd i iawn weithredu, a dyfod i feddiant o barch a nodde. Cofiwch mae hil y
genedl ddewr ydych, ac na fydded i chwi fyned yn nod i saethau gelynion, er
sarhâd eich hunain, ac anair ar eich iaith. Rhyfedd y rhedeg a fu am ychydig
amser ar ol y dylni a nodwyd, a mawr y cyfar- fodydd a gadwyd — yr areithio a
fu — y depots a
seilwyd — y trampo a fu
gan luoedd o scamps — y
bara a chaws a fwytawyd - y cwrw a yfwyd — y cenadon a etholwyd - y coacho a’r ysbardyno a f u gan blant yr
hymbygiaith.
Fy
ngenedl, goddefwch i mi wneyd y syniad canlynol; — Pe buasech yn gosod yr holl
arian a dalasoch o bryd i bryd i undebau cyngyrfgar gwyr Gogledd Lloegr, yn un
drysorfa er cynnull yn nghyd lyfrgell, a chyhoeddi gweithiau awduron a
llenorion Cymtu, gallasech heddyw ymffrostiaw mewn defnyddiau gwybodaeth, gydag
amryw o gymdeithasau gwyddorawl, mal y Mechanic Institute, &c.; ond yn lle
hyny, nid oes genych ond achos galaru am bob undeb o natur lywiadol ag y buont
eich dwylaw yn nglyn â hwynt. O hyn allan, byddwch yn wyliadwrus; cefnogwch
addysg, coleddwch eich iaith, dygwch i fyny eich plant i fod yn gampus ac yn
garyddion llenyddiaeth eu gwlad, yn flaenaf ar bob gwybodau; ac ewyllyswyr da
eu cenedl, eu hiaith, a’u defion. Hefyd, nid ydych mor bell yn ol mewn
gwybodaeth ag yr haerant eich gelynion. Nid yn Nghymru, na chan ei thrigolion,
y cofleidiwyd daliadau Joanah Southcot, y cafodd dderbyniad idd ei thwyll a’i
rhagrith; na, hon a hudodd ei phleidwyr Lloegraidd i ganlyn ei hudoliaeth, neu
eu gyru i wallgofrwydd a dylni, pan y gallasent gofleidio y cyfrai dybiau, a
seiliaw eu serchiadau ar wegi, a’r hyn nad allasai byth ddyfod i hanfodiaeth,
tra yr oeddynt preswylyddion y Dywyspgaeth, er eu holl anwareidd-deb, yn
diystyru y y fath hygoeledd, ac yn
chwerthin am benau lloerigion anwybodus Lloegr yn
caniatau idd yr ellylles i wneyd ynfydion o honynt, yr hyn a ddengys eu
hanwybodaeth, a’r sefyllfa o anwareidd-dra, yn mha un yr oeddynt yn ymdroi
ynddi, gan y ffug dduwies hudolawg hòno. Nid Cymro, na brodor o Gymru ychwaith,
oedd yr anffyddiwr Carlile, yr hwn a lygad-dynodd gannoedd o breswylwyr Lloegr
i ganlyn ei ol, a derbyn ei ffuantaeth. Nid Cymro oedd y dyhiryn John Thom, yr
hwn a gyfenwai ei hun yn Syr W. Courtenay, yn ngymmydogaeth Caergrawnt, yr hwn
a dynodd idd ei ganlyn lawer o breswylwyr yr ardal hono, tra na fuasai un o
feibion Cyrmu mor wallgof a rhoddi coel iddo am eiliad. Hwn a gafodd ganlynwyr
iddo mewn gwlad y dywedir fod ei thrigolion yn wybodus a gwareiddgar. Hwn a
gymerai arno mai efe oedd y Messaia addewedig! Dyma yr ynfyd-ddyn y dylinwyd el
ol, y derbyniwyd ei gredo, y codwyd arfau rhyfel yn erbyn y llywodraeth er ei
amddiffyn, am eu haeriadau celwyddog ac afresymawl. Heresi hwn a gofleidiwyd
gan ddynion a gyfenwent eu hunain yn bobl wareiddgar; ac yn yr ymgyrch idd ei
ddàl y collodd y Cadben Benett ei fywyd, am yr hyn ynfydrwydd y dedfrydwyd un i
farw, amryw a alltudiwyd, a lliaws a garcharwyd. Cenedl y Cymry, pwy a welodd
argraffedig ar dudalenau hanesyddiaeth ein gwlad hudoliaethau mor ffuantus a
gweithrediadau mor anghydweddol ag anianawd rhwsymeg, am neb o honnoch chwi?
Anwybodus! ïe, meddai rhai: ond pwy, oddiwrth yr amodion gan anwasiaid, a
ddichon eich cyhuddaw o ddim cyffyelyb idd yr hyn a grybyllwyd? Neb. Ai gyda ni
yn Nghymru, a chan ei brodorion, y cafodd athrawiaeth halogedig Sosialaidd
Robert Owen dderbyniad? Ai yr anwariaid Cymroaidd a fuont yr ynfydion hyny a
roddasant goel idd y cyfrai afresymoldeb? Y Cymry, credwch fy ngeiriau, yr
ydych wedi dangos a phrofi fod genych fwy o wybodaeth, wedi cael amgen
gwareiddiad, ac yn fwy cedyrn ac anhawdd
idd eich cyfnewid, a derbyn cyfeiliornadau, na y werin weithyddawl yn
Lloegr; inal y canfyddir yn amlwg nad
oes un hudoliaeth, pa mor afiresymol y dichon iddi fod, na cheir dynion yn
barod idd ei derbynyn llawen yn mysg y Lloergriaid; a a pha fwyaf y twyll,
lliosocaf y canlynwyr, pan y gyrid y cyfryw allan o Gymru â nerth rhesymeg. Nid
Cymro oedd yr anghenfil melldithiawl Joe Smith, prophwyd haerllug Mormoniaeth,
a thad Seintiau cythreulig y “dyddiau diwethaf,” yr hwn a sefydlodd ei dwyll, a
gadwodd i fyny ei hud yn America , a drosodd ei freuddwydion gw^ylliawg i
Frydain, y rhai a gawsant y rhai a gawsant dderbyniad groesawus gan y
Lloegriaid, ac ar rai o gyffiniau y Dywysogaeth , yn neillduol yn y lleoedd nad
yw y Gymraeg yn wybodus; neu lle y mae’r Cymry wedi colli eu hiaith. Athrawiaeth y
twyllwr hwnw a dderbyniwyd ac a gofleidiwyd yn fawr gan rai o drigolion yr
Alban, a pharha mewn parch a bri yno hyd yn bresennol, pan yr ydych chwi, y
Cymry, yn ac wedi ymwrthod â’r cyfryw sothach
yn hytrach na derbyn niwl pob awel , yr hyn a wiria ein syniadau euch
bod yn fwy gwybodus a gwareiddgar nac ydynt hanner y werin weithyddawl yn
Lloegr. Gan hyny, deliwch eich iaith; hon ydyw yr un sydd wedi dangos i chwi
synion amgenach nag ymddyried i bobl gwegi a thwyll - sefydlwch ysgolddai, a
dysgwch eich plant i ddarllen y Gymraeg.
Cablir llawer ar y Cymry, ac ar eu hiaith, a rhoddi iddynt y cyfenwad o
"anweiriaid anwybodus," onite nad arferent eu hiaith, pa pa un,
meddir sydd mor anhawdd ei dysgu a’i deall. Ai gwir hyny? Ni ddywedir felly gan
y Lloegriaid ag ydynt wedi dysgu darllen
a deall y Gymraeg, oblegid y mae genyf gyfaddefiad amryw a naddynt ag y bûm yn
ychydig gynnorthwy idd eu dysgu, a’r rhyfeddod mwyaf ganddynt yw, wedi y
dysgasent lythyrenau yr egwyddor, y gallant gyda rhwyddineb sillebu a darllen
gyda y fath gywirdeb. Dywedai un boneddig, "Rhaid fod y dyn nad allai
ddysgu yr iaith Gymraeg yn llwyr amddifad o archwaeth, teimlad, ac amgyffred; oblegid (meddai) pa iaith o’r byd yn bresennol sydd yn cadw
sain a gallu ei llythyrenanu mor rhagorol, mal nad oes un o honynt yn gorwedd
yn fudion i dafod y llefarydd i
gamu trostynt, mal y mae miloedd o eiriau yn yr iaith Saesonaeg, y Ffrancaeg,
yr Yspaenaeg, &c.
“Digoned y rhai canlynol y waith hon, — rough,
laugh, though, thoughts, &c.
Dywedai
un arall nad oedd yn canfod ond dwy o lythyrenau y Gymraeg ag oeddynt o
ymddangosiad mal un yn dwyn lle y llall, sef, y a’r u, pan oedd y fath
gymmysgedd afreolaidd yn hanfodi o amrywiaeth seiniau yn perthyn idd yr un
llythyrenau yn y Saesonaeg, ac fod seiniau yn cael en harferyd ynddi nad oedd
llun na llythyrenau am danynt, ac mae da idd y Lloegriaid fod yr iaith Gymraeg
a’i llythyrenau yn hanfodi. Er engraifft, (meddai,) pa le yn yr iaith Saesonaeg
y ceir y seiniau canlynol: — England,
anguish, hanging, angling, &c; sef, yr ng, th, ac dd? Pa le yn nhaflen yr egwyddor Saesonaeg
y ceir sain th? etto, gwelir y
llythyren hon a’i sain Gymreig yn y geiriau canlynol - fel think, thin, through, thought, think, thorough, &c. Hefyd, fal
yr dd Gymraeg yn y geiriau (x46) canlynol, - this, that, than, they,
there, then, &c. Y llythyren c, druan, a gyfnewidir yn rhyfedd,
mal â sain s yn cement, circumsise [sic = circumcise],
circumflex, ceremonies, &c.; a phrydiau ereill yn sain k, neu
c Gymreig, mal comment, commit, commotion, concile, cunning, calling,
conqueror, comfort, concordance, curious, chemistry, &c., yn nghyd â
channoedd o enghreiftiau a allem nodi, pan nad oes y cyfryw ddyryswch ac
anghyssondeb yn hanfodi yn yr iaith Gymraeg?
Yn olaf, dywedai un arall ei fod yn medru darllen yr iaith Gymraeg mor
rhwydd a’r aeg Saesonig, a’r unig ddyryswch a gyfarfyddodd oedd, fod yr f a’r m yn cymmeryd swydd y b,
mal bara, ei fara, fy marn, &c.; ond mor fuan ag y gwelais a gallu synied
pa fodd yr oedd hyn yn bodoli, adnabum fy nghamsynied am ystwythder y Gymraeg,
a barwyf y geill gystadlu ag un o gyn-ieithoedd y byd am ei llyfndra,
mwyneidd-dra, ac ystwythder; a pha faint mwy y rhagora yn Hyn ar neb o
ieithoedd cymmysglyd diweddar Ewrop? Y Gymraeg i Gymry, fy nghenedl, - parch a
bri iddi tra byd.
.................................................EMYR LLYDAW.
(x232)
Seren Gomer 1846
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
yr G Gymraeg yn
give gone gun guilt gold guess grove griff grass green goose garden gower
governor, &c
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
sef, Essex,
Caerloyw, Hants, Henffordd, Hertford, Huntingdon, Kent, Middlesex, Leicester, a
Lincoln. Os yr amrywion yma ynt harddwch yr iaith Saesonaeg, wfft! y cruglwyth
pentyrawl o ebychion ansoniarus yn cael eu hymarfer mewn iaith y dywedir nad
oes ei chyfartal yn mysg teulu dyn!
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
(x232) gaddug o anwybodaeth sydd yn döadwy uwch benau gwerin
weithyddawl Lloegr. Rhyfedd y sarhad a wneir ar y Cymry
...............................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
.......................................................................
.”Throo Barinsla, Ganber, t’Owd Taan Doddath, an uther plaices, can be
convay’d ta lanes an uther foaks’ cluises; az can allso weyvers spare weft tut
warehouses, we greater dispatch then onny either line.” (x233) Fy nghenedl y
Cymry
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
.......................................................................
(x297)
Seren Gomer 1846
GYDWLADWYR HYNAWSION, - Gan i mi, yn fy llythyrau
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
nid oes un dyn a ddichon gyfrif y gwrhydri y mae pawb
wedi ei wneyd,a phob un yn seiniaw ei gorn buganu ei hun; pawb yn siarad ar
unwaith, a neb yn gwrandaw; y gyrdd, y mandrelau, y pigau, y llafnau, y
rhawiau, y teryd, y geingion, y rammers, y rables, y troliau, yr olwynion, yr ermigau, a’r peiriannau,
mewn cyffro gwyllt. Ned y Cottrel, Harry’r Lispin, Jack y Wheel, Dic y Saim, Phill y pwynt, Wat y Catris, Matho’r Bwli, Mocyn yr Hunan,
Shams y Coedwr, Dai’r Jigwr, Lelo y Stepwr, Gitto’r Plockyn, Shoni’r Bys Pwt,
Will y ci Brith, Shanco’r hen Ganwyll, a Nick y Celwydd, oll at unwaith yn
brablan am eu henwogrwydd eu hunain – pethau na fuont, gwrhydri na fodola, a
gorchestion nad allent yn eu hoes eu cyflawni. Rhyfedd y swn mawr a glywir yn
mysg y glowyr – glo teg, garw, brau, a chaled – rhai yn trin corpws y Gaffer, ereill yn rhegi y pwyswr, “dramaid neat a lenwais i, dim
ond tunell y {sic; = a} bwysws; mi wn ei bod
yn siwr o fod yn dunell a chwech cant, pe cawsai gyfiawnder;” a chyda hynny
dyma yr halier yn
cael ei feio – y dram yn cael ei chythreuleiddio, y Machine
yn cael ei yru i fflamiau y Vesuvius, a’r pwyswr yn
derbyn y ddedfryd o’i grogi - a’i enaid, druan, yn cael ei offrymu i ufel yr Etna! Yn nghanol y ffwdan hyn, neidiai
Ianto’r Plisgyn i fyny, gan haeru mai efe ydyw y gweithiwr goreu yn y lle, “a
thorais (meddai) hyn a hyn o dunelli o lo y mis o’r blaen.” “Hawdd y gallaset
(meddai Belcher Bach), talcen neat oedd genyt, wasi, ïe, a scip hefyd hanner y mis.” Dyn
anwyl, y fath banu sydd ar y gwythieni mwn a glô am ysbaid y criws a’r ffetching
– yr holo, y cyttio, y saethu, y
llanw, a’r hela sydd yn bod. Ben o’r Bannau, Rosser y Cribwr, Shanco’r Carn,
Will Wyllt, Dai’r Neidiwr, Twm yr hen Venter, Shon y Trwyn, Harry’r {¿?Bacana –
anodd i’w ddarllen}, Will y Trwmp, Shoni Pegi, Dai Lawen, Lewsyn y Gybildi, Twm
y Bwlch, Dic o’r Scybor, Hwlcyn yr En, Sam y Swrn, Nedws y Galchen, Wat y
Biben, a Rawli’r hen Heliwr, oll mewn ffwdan yn gwaeddi nerth eu cegau am gael
gosteg, i glywed Cân Cwn Llanbradach gan Ianto’r Forge.
.......................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
.......................................................................
(x298) bonglerwyr anfedrus?
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
.......................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
.......................................................................
Pego’r Scwint, Leah Las Fach, Shini Shone, Fyr, Yr hen ‘Sten, Yr hen
Facsi, Yr hen Gwta, Yr hen Floneg, Yr hen Wydd, Yr hen Lyswen, Luci’r Gengel,
Yr hen Lili, Yr hen Hwyad, Shygi’r Bais Fèr, Neli’r Gwn brith, Ffani’r trwyn
flat, &c., &c.
Feibion a merched Cymru, trowch eich gwynebau oddiwrth arferion mor llygredig
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
.......................................................................
pan yn gwrando arnoch chwi, y Werin Weithyddol, yn
clebran disynwyrdeb pan wedi meddwi; un yn siarad am bethau crefyddol, arall yn
syfrdanu am ei waith, y nesaf yn canmawl rhyw hen ganiad mwyaf lolaidd a fu
erioed, crygyn arall yn gwrandaw ar hanes brwydrau y cwn, y ceiliogod, a
daear-foch. Ereill mewn gyffro rhyfeddawl
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
.......................................................................
Terfynaf y waith hon; a buan y byddaf etto ger eich
bron, os caniatâ y Golygydd i mi gyfran o’r SEREN.
EMYR LLYDAW
Llythyr 7
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
........................................................................
{diwedd y gyfres hon o lythyrau}
·····
1059k
Gwefan Cymru-Catalonia. Testunau yn Gymraeg. Erthyglau o'r bedwerydd ganrif ar ddeg
gan amlaf. Enghreifftiau: (1) “At y Werin Weithyddawl Gymreig”, Seren Gomer
Ebrill 1845. Dolennau ar gyfer trosiadau Saesneg a Chataloneg mewn rhannau
eraill o'n gwefan.
Ffynhonnell: Nodlyr Rhif N90. Ffeil werin090503. Sumbolau arbennig: ŷŵ
Adolygiad
diweddaraf 2009-12-02, 08 11 2002
Sumbolau
arbennig: ŷ ŵ ə
Fformat 100 chwith, 200 de
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un
o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weə(r) äm ai? Yüu äa(r) vízïting ə peij fröm dhə
“CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the
“CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu
les estadístiques / View My Stats