signakimkat3841 HEN BOBOL TABOR. Daniel Thomas. Ysgrifau (13)
yn y Lladmerydd 1895-1897.
11-08-2025
|
|
Gwefan Cymru-Catalonia Hen
Bobol Tabor. Gan y Parch. Daniel Thomas, diweddar o Ffynon Taf. (Tair
Ysgrif ar Ddeg, 1895-1897) |
(delwedd J8162) |
……

(delwedd
K0328c)
·····
Ar ffurf tudalen FDG = FFORMAT DOGFEN GLUDADWY
/ PORTABLE DOCUMENT FORMAT = PDF:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_421_hen-bobol-tabor_1895-1897_fdg-pdf_3842k.pdf
98 o dudalennau
…..
RHANNAU 1-13 yng nghylchgrawn y “Lladmerydd”.
1/ Cyfrol
xi. Gorphenaf 1895. Rhif 127.
Tudalennau 198-203. (“Dafydd William” yw
teitl yr ysgrif gyntaf).
..............
2/ Cyfrol xi. Awst 1895. Rhif 128.
Tudalennau 229-235.
Gan fod yr ysgrifau hyn yn ymwneyd â nifer
o "hen bobol" eraill, dewiswyd y penawd uchod (“Hen Bobol Tabor”) yn
lle “Dafydd William”.
..............
3/ Cyfrol xi. Hydref 1895. Rhif 130.
Tudalennau 295-301
..............
4/ Cyfrol xii. Chwefror 1895. Rhif 134.
Tudalennau 42-49
..............
5/ Cyfrol xii. Mawrth 1896. Rhif 135.
Tudalennau 76-79
..............
6/ Cyfrol xii. Mai 1896. Rhif 137.
Tudalennau 132-141
..............
7/ Cyfrol xii. Gorphenaf 1896. Rhif 139.
Tudalennau 196-203
.............
8/ Cyfrol xii. Hydref 1896. Rhif 142.
Tudalennau 299-305
..............
9/ Cyfrol xiii. Chwefror 1897. Rhif 146.
Tudalennau 41-49
..............
10/ Cyfrol xiii. MaI 1897. Rhif 149.
Tudalennau 140-147
..............
11/ Cyfrol xiii. Medi 1897. Rhif 153.
Tudalennau 268-276
..............
12/ Cyfrol xiii. Tachwedd 1897. Rhif 155.
Tudalennau 328-336
..............
13/ Cyfrol xiii. Rhagfyr 1897. Rhif 156.
Tudalennau 359-364
Llythyron
duon: y testun wedi’i gywiro.
Llythyron cochion: y testun heb ei gywiro.
·····
Gan yr
un awdur (y Parch. Daniel Thomas):
Dafydd Terry. (Wedi ei gyhoeddi cyn “Hen Bobol Tabor”)
Y
Lladmerydd: Cylchgrawn yr Ysgol Sabbothol. 1893-1895.
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_420_dafydd-terry_1893-1895_3843k.htm
·····
|
|
|
|
|
1/ Cyf. xi. Gorphenaf 1895. Rhif 127. Tudalennau
198-203. (“Dafydd William” yw teitl yr ysgrif gyntaf). Y Lladmerydd – Cylchgrawn yr Ysgol Sabbothol. Dan Olygaeth y Parchn. J. M. Jones, Caerdydd, Evan
Davies, Trefriw, a D. Jenkins, Ysw., Mus. Bac. (Cantab) Cyf. xi. Gorphenaf 1895. Rhif 127. ….. Dafydd William. Gan y Parch. Daniel Thomas. Tudalennau 198-203. |
|
|
|
|
(*1) |
198 DAFYDD WILLIAM. DAFYDD WILLIAM. GAN Y PARCH. DANIEL THOMAS, FFYNON TAF. Pe gofynid i bobl Ffynon Taf pwy oedd Dafydd
William, dywedent ar unwaith mai hen flaen or gyda'r Methodistiaid ydoedd,
neu yn hytrach mai blaenor yn Tabor ydoedd. Y mae Tabor a Methodistiaeth yn
gyfystyr yn y lle. A dyna oedd Dafydd William, — blaenor; blaenor hen
ffasiwn, yn credu a'i holl enaid yn y swydd, ac yn gwneyd ei oreu, yn ei
ffordd ef, i'w pharchu, a chadw i fyny ei hurddas. Hen flaen or oedd Dafydd William, heb ddim yn
ddiweddar yn ei gylch, yn ei syniadau na'i arddull; ac yn credu ond ychydig
mewn trefniadau newyddion, a llai fyth rnewn "pobl newydd." Pe
byddai bosibl olrhain gweithrediadau meddwl Dafydd William, ceid fod y
llinell ddosranol yn rhedeg drwyddynt, a'i lle a'i chyfeiriad yn cael eu
penderfynu yn llawn cymaint gan amser, os nad mwy na chan un ystyriaeth
arall. Mae'n wir fod Dafydd William yn gwahaniaethu rhwng y drwg a'r da, a
rhwng y rhagorol a'r gwael, ond nid ydym yn sicr mai y rhai hyn oedd yn
penderfynu pa un a'i parch a'i anmharch; a pha fesur o'r naiil neu'r llall o
honynt a estynid i unrhyw wrthddrych. Yr ystyriaeth fawr, y rhan amlaf yn
anymwybodol i'r hen wr ei hun, fel y mae dylanwadau cryfaf ein bywyd fel
rheol yn bod, oedd oedran pethau. Ehedai y linell yn groes i'r blynyddoedd yn
fwy nag ar draws teilyngdod, a chymerai pob gwrthddrych ei le y tu yma, neu y
tudraw i'r linell hon; a chai ychydig neu lawer o barch yn ol fel y byddai
ieuanc neu hen. Nid oedd y [l]linell hon wedi ei sefydlu yn
arbenigol, cofier chwaith. Symudai hithau fel ei pherchenog yn y blaen
flwyddyn wrth flwyddyn, gan gymeryd gwrthddrychau i fewn o dir di-brofiad
ieuenctid, a chai y rhai hyny lawer mwy o barch y foment y croesent hi. Yn
wir, yr oedd y cam oedd yn croesi'r llinell hon, yn gam i deimladau da, ac
ystyriaethau da yr hen dad. Ffaith nid dibwys i bregethwr Methodist, pan y
cofiem mai Dafydd William oedd "yn catw'r c'oeddiata, ac yn talu'r
pregethwr." Deuai hyn i'r golwg yn oedran pulpud Tabor. Yr oedd yn
“ganol oed" a dweyd y lleiaf. Nid oes eisiau dweyd mai at y pregethwr y
cyfeirir. Canol oed oedd pulpud Tabor, ac yn nes i "hen oedran" ar
y rhandir hwnw, nac i diroedd gwyrdd ieuenctid. |
|
|
|
|
(*2) |
DAFYDD WILLIAM. 199 Yn yr hen Dabor, tymor yr hen oruchwyliaeth yno,
cyn i'r dylanwadau a'r trefniadau newyddion a diweddar yma gael eu geni,
chwaithach rhedeg oddiamgylch a gwthio eu hunain i bobman, ar waethaf pawb,
ac yn aml ymladd eu ffordd yno, nid ydym yn cofio braidd yr un pregethwr
ieuanc. Byddai y pregethwyr yn cario crug barchus o flynyddau ar eu gwarau; a
pha fwyaf, goreu oll. Nid ydym yn sicr a oedd hyn yn gwneyd gwahaniaeth yn y
"degwm." Yr ydym yn sicr nad oedd yn myned yn llai, a lled debyg
yw, ei fod yn awr ac eilwaith yn tyfu swllt neu ddau o dan ddylanwad gwlithog
y ffaith hon. Ac am y Dyddiadur, yr oedd blynyddau y llythyr cymeradwyaeth
goreu iddo ef; agorai ei ddudalenau yn ewyllysgar, er mor grymedig a phen
Ilwyd. Yr oedd yn rhagorol o garedig i'r "hen bregethwr." Fel y
tlodion, yr oedd ef yn wastad gyda ni. A phe digwyddai fod y pregethwr yn apelio at Dafydd
ambell dro, ar ganol ei bregeth, tyfai pethau i'r hapusrwydd melusaf. Yn hyn
y rhagorai, yn Ilawer iawn mwy na neb, yr hen dad, yr Hybarch Wm. Jones,
Cendl, fel yr adnabyddem ni ef. Byddai Mr. Jones yn consultio Dafydd William
yn aml ar ganol ei bregeth; ac er na ddisgwylid i Dafydd ddweyd dim, ond
"ïe," neu “na," yn ol yn y fan hono, nac mewn un man arall,
ychwaith, eto yr oedd y gydnabyddiaeth gyhoeddus hyn o'r "set
fawr," waeth blaenor oedd Dafydd Williams, cofier, yn disgyn fel cynar
wlaw, ar deimladau yr hen dad. Nid oedd eisiau ond i Mr. Jones ddweyd
"onite, Dafydd?" i dynu yr "ïe" mwyaf swynol oddiwrth
Dafydd, a pheri iddo symud o amgylch ar ei sedd yn gynhauaf o gymeradwyaeth. A
byddai y Dyddiadur yn dangos ei weithfawrogiad o'r gymwynas drwy wahodd Mr.
Jones i ddyfod i dreulio y Sabbath fynai ar ei dudalenau. Deuai pregethwr ieuanc heibio ar ei hynt, yn awr ac
eilwaith; ond canlyniad digwyddiad, ac nid effaith trefniant, fyddai ei
ymweliad ef, fel rhaol. Nid oedd Dafydd William yn gâs iddo, yr oedd yn swrth
dipyn; ond yr oedd yn swrth wrth bawb. Dyna oedd ei ffordd ef; a'r unig
anmharch wnai a phregethwr ieuanc oedd, peri iddo fyw ar y parch cyffredin,
eistedd megys wrth yr un bwrdd a phawb eraill. Ni fyddai ganddo damaid
neillduol i'r gwr ieuanc, ac ni fyddai y llian bwrdd yn lanach nac arfer. Yn ol teimladau Dafydd William ar y pwnc, buasai yn
dda pe y gallesid trefnu ffordd i neillduo pregethwyr ieuainc, a'u cadw draw
yn rhywle o'r golwg, hyd nes iddynt gyraedd "oedran gwyr," ac yna
eu dwyn i'r amlwg, a'u cydnabod fel pregethwyr. Ond nid oedd trefniadau fel
hyn yn bosibl, felly yr oedd yn rhaid dodi i fyny gyda nhw, ac edrych arnynt
drwy fath o gyfiawnhad tra yn aros i sancteiddhad oedran a phrofiad eu gwisgo
â theilyngdod. Ychydig iawn o son, mewn canlyniad, am Trefecca
fyddai yn Tabor yr adeg hono, a Ilai o ddefnydd a wneid o'r sefydliad. Byddai y "bylchau" yn cael eu llanw i
fyny gan bobl ieuainc o ysgol Mr. Price, Llandaf, yr adeg hono, a Porthcawl
ar ol hyny. Ac ar adegau eraill, cynhelid cyfarfod gweddi. Yr oedd Dafydd
Wiliiam yn ffrynd mawr i Mr. Price, a than nawdd y cyfeillgarwch hwn, cafodd
y dynion |
|
|
|
|
(*3) |
200 DAFYDD WILLIAM. ieuainc "lawer i Sabbath," a chryn dipyn
o gysgod. Byddai Dafydd William yn aml yn parchu Mr. Price drwy y dynion
ieuainc. A phan yn cyhoeddi gwr ieuanc, cysylltai yr hen flaen or enw Mr.
Price ag ef. Wedi yr enw, deuai "gwr ifanc o ysgol Mr.Price." Yr
oedd y gogoniant i gyd yn dyfod o'r enw olaf. Ond er y parch deimlai Dafydd i Mr. Price, eto cai
ei amynedd a'i deimladau henafol ei briwio gryn dipyn yn awr ac eilwaith.
Mae'n wir fod ambell i frawd ieuanc o bregethwr yn d'od i'r lle, a gwedd
henafol arno, yn wylaidd ac ofnus ei ffordd, yn wladaidd ei ymddangosiad, ei
lais yn arw, a'i ysgogiad yn drwsgl, ac yn coroni y cwbl, cariai farf aflafar
fel perth ddi gadwraeth, o gylch ei wyneb, a barai iddo edrych ddeng mlynedd
yn hy^n nag ydoedd. Gallai Dafydd William wrando ar hwn yn weddol. Ond bryd
arall, deuai pregethwr ieuanc yno oedd yn ffasiwn i gyd, heb flewyn o farf, a
thrwy hyny yn edrych yn iau nac ydoedd; a'i wallt wedi ei helaeth eneinio ag
olew, ac yn ben ar bethau byddai ganddo dop pee; yr oedd yr addurn
diweddaf hyn yn bechod anfaddeuol gan yr hen frodyr i gyd. Ac i ychwanegu
drwg at ddrwg, rhoddai rif y penill allan yn Saesneg, er nad oedd y gradd
leiaf o angen am hyny. Ac ar dro neu ddau, rhoddodd dyn ieuanc ei destyn
allan yn Saesneg. Yr oedd yr olaf hwn yn dibenu pethau. Yr oedd yn ddigon caled
i orfod edrych i fyny ar dop pee, a gwrando ar rif emyn o waith
Pantycelyn, yn cael ei roddi allan yn Saesneg. Ond yr oedd gwrando ar destyn
Saesneg yn mhulpud Tabor y tuhwnt i eiriau; ac edrychai Dafydd William ar ei
gyfer, drwy y ffenestr, allan ar y fynwent a'r British School, drwy y
bregeth, heb ocheneidio hyd yn nod. Yn ngwyneb pethau fel hyn, nid oedd ryfedd fod
Dafydd William yn edryoh yn ddrwgdybus i gyfeiriad Trefecca. Nid yw yn debyg
iod yr hen flaen or wedi ffurfio syniad penodol a chlir iawn am y coleg, ond
yn hytrach gorweddai y syniad yn rhywle yn ei feddwl mewn mesur o aneglurder,
fel mynydd yn nghrwybr y boreu, — yr oedd yn amlwg ei fod yno, ond beth oedd
ei ffurf nid oedd mor wybyddus. Yr oedd ystyriaethau amlochrog yn cyfansoddi
y syniad, ac yn nheimlad Dafydd William, gwrthwynebol hefyd. Yr oedd i ddechreu
yn goleg Methodistaidd. Yr oedd y Cwrdd Misol yn ffafriol iddo, a'r Gymanfa y
tucefn iddo, — ystyriaethau prynedigol y rhai hyn bob un o honynt. Ond yr
oedd yn ychwanegol at hyn, yn lle i ddysgu pregethu, tra yr oedd
Dafydd William wedi arfer meddwl mai un wedi ei alw oedd y pregethwr, — yn
dyfod i'r byd, yn feddianol ar bob cymhwysder a chyfaddasder at ei waith. Yr
oeddynt yn ymwneyd hefyd â phethau yr oedd eu perthynas a chrefydd yn gorwedd
mewn tywyllwch Aifftaidd i Dafydd William. Yr oeddynt yn dysgu Lladin a
Groeg, Saesneg a Euclid, — yr olaf o ba rai fu bron dinystrio Thomas
John, Cilgerran, fel pregethwr — ac yr oeddynt, mae'n debyg hefyd, yn ymwneyd
a sums yno, — pethau slat a phensal,- a ble oedd y
cysylltiad rhwng y rhai hyn a thawelwch cwrdd gweddi, a difrifoldeb seiat
brofiad? Yr oedd "Mathews wedi gatal y colegyn gwmws wedi iddo fyn'd
yno, dyna ffordd odd a shwd bregethwr." Yr oedd Sanders, mae'n wir, wedi
bod yno, ac wedi troi allan yn bregethwr mawr. Ond yr oedd hyn i'w |
|
|
|
|
(*4) |
DAFYDD WILLIAM. 201 briodoli i Ragluniaeth y nef yn gofalu am dano, ac
yn ei gadw er gwaethaf elfenau dinystriol addysg, ac nid effaith unrhyw
eneiniad dywalltwyd arno gan yr athrofa. Yr oedd syniadau Dafydd William fel
hyn am Drefecca, yn bentwr o ystyriaethau anghymodol. Edrychai yr hen dad ar
y sefydliad fel math o addurn i'r Cyfundeb, i'w osod ar y mantle-piece yn y
parlwr, i dynu'r llwch oddiarno yn awr ac eilwaith, ond i'w adael yn llonydd.
Nid oedd yn offeryn gras i berffeithio y pregeihu. Ai dwylaw Dafydd Wiliiam i
fyny uwchben y meddwl hwn, pan fyddai wrtho ei hun, a chofiai am William
Ifan, o Donyrefail. Er hyny, danfonid i Drefecca unwaith "mewn shawns”
am bregethwr, ond o'r braidd y gellid dwyn y meddwl i'w gydnabod fel
pregethwr, yn hytrach synid am dano fel ysgolor yn traethu yn ddysgedig ar
adnod o'r Beibl. Ond llawer iawn mwy cydweddol a theimladau'r hen bobl fuasai
cwrdd gweddi, ac Emwnt Etwart i gwpla'r cwrdd. Yn ychwanegol at yr haen denau
hyn o ragfarn at bobl ieuainc, — a thenau oedd yr haen, — yr oedd teimladau
da yn gallu yn hawdd wthio ei ffordd drwyddi. Yr oedd darllen hymnau, yn
enwedig ar gyrddau'r wythnos, mewn tipyn o anfri. Yn yr hen arnser, cyn i
ddyfodiaid diweddarach. sefydlu yn y lle, pan oedd yr eglwys a'r gynulleidfa
yn gynwysedig o frodorion Ffynon Taf, a phawb yn galw “ti” a “tithau" ar
eu gilydd, a phob gweddi yn ymddyrchafu i fyny mewn gwisg o Forganwg bur, nid
oedd yr un Ilyfr hymnau yn cael ei arfer. Yr oedd yno fel ymhob capel
Methodistaidd arall, ddwy gyfrol o hono, — un i'r pulpud ac un i'r set fawr.
Yr oedd llyfr hymnau y set fawr yn wael iawn ei wedd, — y dail yn rhyddion,
lawer o honynt, ac allan o'u lle, a rhyw ddwsin o rai afradlon iawn wedi ei
casglu ynghyd ar ddiwedd y llyfr, fel disgyblion drwg ar waelod y dosbarth, a
byddai felly yn orchwyl yn gofyn amser yn aml, i dd'od o hyd i benill. Wedi
methu a'i ddarganfod yn ei le, eid at ddiwedd y llyfr, at y dail afradlon, i
weled a oedd yno. Yr oedd llyfr hymnau y set fawr wedi gweled gwell amser,
serch hyny. Yr oedd wedi bod yn y pulpud yn urddasol ei olwg, a'i ddail yn
ateb yn barod i alwadau bysedd duwiol yr "hen bregethwyr." Ond
collodd ei ran, ac felly, fel llawer i wisg ddydd Sul, wedi gorfod d'od i
wneyd gwasanaeth ar yr wythnos. a thrwy hyny, wedi ei hamddifadu o bob llewyrch,
syrthiodd yntau i'r set fawr, a chafodd deimlo nad oedd bysedd y sêt fawr mor
dyner, nac mor lan a byseddy pulpud. Yr oedd ystad ddadfeiliol y liyfr,
felly, yn anghymellol i wneyd defnydd o hono. Ond nid oedd y rhwystr hwn yn
anorfod. Gallesid, pe buasai pethau wedi myn'd i'r eithaf, syrthio ar y
penill cyntaf ddelid ar ei draws, ar uno'r mesurau cyfarwydd. Y rhwystr mawr
ar ffordd defnyddio llyfr hymnau oedd rhagfarn yr hen bobl yn ei erbyn, a
hwnw yn codi yn benaf, oddiar arferiad. Yn wir, yr oedd yn dipyn o edliwiad
ar allu meddyliol dyn hefyd. Faint o gof oedd eisiau i ddal tamaid o benill,
yn enwedig ar y mesur byr, neu mesur Salm? Ac onid oedd Dafydd William ac
Emwnt Etwart, neu Twmi Lewis, yn bresenol i roddi help llaw, pe buasid yn
diffygio ar y daith. Yr oedd Emwnt Etwart yn aml yn cael cymorth i fyned dros
“Bywyd y meirw tyr'd i'n plith," a 'doedd neb yn fwy parod na fe i dalu
ei ddyled yn ol, a chyda llaw buasid hefyd yn cyflawni ychydig o'r Ysgrythyr,
drwy ddwyn beichiau eu gilydd. Ac |
|
|
|
|
(*5) |
202 DAFYDD WlLLIAM, hefyd 'doedd dim yn ddiraddol mewn tori i lawr ar
ganol penill, nid oedd fei adrodd penod, — yr oedd anghofio hono yn arwydd o
ddiffyg llafur, ac yr oedd yn weddaidd i'r diffygiol yn y gwaith hwn i blygu
ei ben ychydig, a gofalu peidio ymgynyg eto nes ei fod “wedi dysgu." Ond
penill. Yr oedd pawb yn gwybod penill, a llawer o honynt, ac yr oedd myned ar
draws y berth, ar feusydd Ann Griffiths, neu Williams o Bantycelyn, yn arwŷdd,
nid o esgeulusdod, ond o deimlad. Ac yr oedd teimlo cymaint nes i'r cof
dywallt ei gynwys allan, hyd yn nod hen emynau duwiol fyddai yn wastad yn
gorwedd ar ei waelod, pan fyddai pobpeth arall wedi myn'd, megis ar wely
cystudd, yn arwydd bur dda, ac yn rheswrn dros lawer o ddiolch i'r Arglwydd
am ei bresenoldeb. Ac hefyd yr oeddis yn sylwi, pan fuasid yn anghofio'r
penill, fod y gwlith yn dechreu disgyn, a beth oedd yn fwy bendithiol na hyny
yn y sychder mawr. Er hyn i gyd, yr oedd y llyfr hymnau yno ar fwrdd y
set fawr, er na ddisgwylid i neb wneyd defnydd o hono. Buasai ei alltudio yn
an-Fethodistaidd, ac hefyd yn arwydd o dlodi neu esgeulusdod. Yr oedd yn
weddus, felly, ei fod yn bresenol. Ac eto nid oedd y rheol hon heb ei
eithriadau. Yr oedd yr eithriadau hyn yn dri, — y cyntaf yn bersonol, yr ail
yn achlysurol, a'r trydydd yn gymdeithasol. Gwnawn fyned drostynt. Y cyntaf oedd bersonol, ac yn hongian am wddf
Dafydd Shon. Nid oedd Dafydd Shon yn gallu darllen. "Collad Fawr,"
fel y dywedai ef, ar lawer adeg, “waith ma dyn yn gorfod byw ar yr un bwyd o
hyd, wel'd di. Ma hwnw yn dda, wrth gwrs, ond fe fysa penill newydd neu adnod
newydd yn getyn o newid, bachgen." Tri phenill oedd gan Dafydd Shon, —
“Marchog Iesu yn llwyddianus,” “Yn y dyfroedd mawr a'r tonau," a “Mae
dydd y farn yn d'od ar frys," ac nid oedd ganddo i'w wneyd ond trefnu eu
newid mor fedrus ag y gallai. A byddai Dafydd Shon yn gwneyd hyny gyda chryn
dipyn o lwyddiant. Cadwai “Mae dydd y farn yn d'od ar frys." i ddechreu
yr ysgol ar y Sabbath. Cyfynga “Marchog Iesu yn llwyddianus," i gyfarfod
gweddi “dydd Sul" a “Yn y dyfroedd mawr a'r tonau," oedd i wneyd
gwaith yn yr wythnos. Ond yr oedd Dafydd Shon yn teimlo fod ei stock
yn bur gul, a sut i ychwanegu ati? Nid oedd yn gallu darllen, er ei fod yn
athraw yn yr Ysgol Sul, — yn dysgu yr A.B.C., ac yn dweyd, “wi'n gwiliad hwnw
gystal a neb, ta beth." Ond yr oedd gallu darllen yn gofyn meistrolaeth
o fwy nag A. B. C, — meistrolaeth ag oedd tuhwnt i gyraedd Dafydd Shon. Ond
ryw ddiwrnod daeth goleu ar draws Dafydd Shon, a ffordd i gyfoeth emynoi yn
ei gol. “Fi gyfansodda beniil," meddai wrtho ei hun, “gna'n wir, a fi
rho fa i mas, a nhw gan i ganu fa i gyd." Ac aeth yr hen frawd ynglyn a
hi. “Ar yr un mesur a * Yn y dyfro'dd mawr a'r tona,'" meddai wrtho ei
hun. Sylwid fod Dafydd Shon yn ddistaw iawn yn y gwaith yr wythnos hono, ac
aeth i'r cwrdd yn gynar nos Fawrth, — cwrdd gweddi, — ac ysgydwodd law yn
gynes iawn â Dafydd William pan ddaeth i fewn, er syndod i Dafydd William. Yr
oedd Dafydd Shon yn tywallt toraeth lled dda o “Amenau” hefyd ar hyd weddiau
y brodyr, ac i bob ymddangosiad, mewn ysbryd addolgar |
|
|
|
|
(*6) |
DAFYDD WILLIAM. 203 iawn. Ac yn sicr ddigon i "ddibenu" y cwrdd,
dyma Dafydd William yn gwaeddi, “Dafydd Shon, rhowch air i mas, a cherwch i
weddi." Nid oedd eisiau cipian ar Dafydd Shon y noswaith hono. Yr oedd
ar ei draed mewn eiliad. Ond yn lle “Yn y
dyfroedd mawr a'r tonau," fel arfer, synwyd y frawdoliaeth i gyd â rhyw
benill dieithr nad oedd neb wedi ciywed ei gyffelyb erioed. Gododd yr hen
famau eu gwynebau i fyny i edrych, a gofynodd Mary Rosser, yr hon oedd drwm
ei chlywed, i Mary Lewis, “Beth sy' matar?" Yr oedd Isaac y crydd,
blaenor y gân, a golwg ddychrynedig arno, ond wedi i'r ddwy linell gyntaf
gael eu rhoddi allan, tarawodd Isaac y dôn, gan obeithio cyraedd hafan yn
rhywle, ond cyn iddo fyn'd i maes o'r porthladd, aeth yn llongddrylliad arno,
a gofynodd i Dafydd Shon “rhoi i mas y ddwy line gynta yto." Gwnaeth
Dafydd Shon felly, a gwnaeth Isaac y crydd ail gynyg arni, ond i ddim pwrpas.
“Rhowch benill arall i mas, dyn," meddai Dafydd William, yn bur
awdurdodol, a chan fwmian i gyfeiriad Emwnt Etwart, “Beth yn enw'r arswd sydd
gento fa." Ond, yn ddiddisgwyl ddigon, dyma Dafydd Shon ei hun yn
“taro'r dôn," a cheisiodd y dyrnaid pobl oedd yno ymuno ag ef, ond yn
ddilwyddiant, — gorfu iddynt aros ar ol i gyd, ond Dafydd William, aeth ef ar
yr yrfa gerddorol gyda Dafydd Shon, o'r dechreu i'r diwedd. Yn wir, yr oedd
Dafydd William yn gallu canu pob tôn, beth bynag fuasai, a hyny oblegid fod
pob tôn yr un peth, a hwnw yn gynwysedig o un nodyn, bass dwfn, i ba un
byddai raid i bob penill ddisgyn a cherdded ar hyd ei waelod dwfn, hyd y
diwedd. Daeth y ddau hen dad ailan o'r goedwig gerddorol ymhen amser, ond nid
heb lawer i dro dyryslyd, ac aeth Dafydd Shon i weddi. Wedi codi oddiar y
gliniau, gofynodd Isaac, y crydd, i Dafydd Sbon, “B'le cesoch chi'r penill
yna?” “Y fi i gnath a," meddai Dafydd Shon yn ol. “O," atebodd
Isaac, “'rown ni'a meddwl yn wir nad do'dd hwna ddim yn un o blant yr hen
Bantycelyn.” “Beth i chi yn peidio dysgu darllin dyn," torai Dafydd
William i fewn yn bur sharp, "pwy all ganu shwd ffrecal
yna; dysgwch ddarllin." Beth bynag, cyfansoddodd Dafydd Shon benill
arall ymhen tymor ar ol hyn, “yn fwy tebyg I ‘ Yn y dyfroedd mawr a'r
tonau,'” a rhoddodd ef allan mewn cwrdd gweddi penodol, gyda'r un canlyniadau
yn union ag oedd yn cydfyned a chanu y penill blaenaf. Ond collodd Dafydd
William ei amynedd yn hollol y tro hwn, “Rhaid i chi beidio do'd a shwd
ffwlbri yna yma i'r cwrdd gweddi," meddai. “P'am? Beth sydd arno?”
meddai Dafydd Shon. “Beth sydd arno, yn wir," meddai Dafydd William,
“'dos na phen na chwt iddo, dyn; fe fydda'n well i chi o lawar i uso'r llyfr
hymns, na adrodd shwd ffrecal yna." Dan amgylchiadau o'r natur hyn,
yr oedd yn well, yn nhyb yr hen frodyr, i ddefnyddio "y llyfr hymns”
ac i'r perwyl hyn, cynghorwyd Dafydd Shon i ddarllen, a rhoddodd i fyny
gyfansoddi, aeth yn ol, felly, at ei hen ffrynd, “Yn y dyfroedd mawr a'r
tonau," fel o'r blaen. (I’w barhau.) |
|
|
|
|
|
2/ Cyf. xi. Awst 1895. Rhif 128. Tudalennau
229-235. Gan fod yr ysgrifau hyn yn ymwneyd â nifer o
"hen bobol" eraill, dewiswyd y penawd uchod (“Hen Bobol Tabor”) yn
lle “Dafydd William”. Y Lladmerydd: Cylchgrawn yr Ysgol
Sabbothol. Dan Olygaeth y Parchn. J. M. Jones,
Caerdydd, Evan Davies, Trefriw, a D. Jenkins, Ysw., Mus. Bac. (Cantab) Cyf. xi. Awst 1895. Rhif 128. ….. Hen Bobol Tabor. Gan y Parch. Daniel Thomas. Tudalennau 229-235. |
|
|
|
|
(*7) |
HEN BOBOL TABOR. 229 "HEN BOBOL TABOR" * GAN Y PARCH. DANIEL THOMAS, FFYNON TAF. Yr oedd y methiant ar gamu’r penillyn ergyd drom i
nwyfiant a gorfoledd Dafydd Shon. Yn fwy felly, oblegid, er mwyn cadarnhau ei
argraffiadau ei hun mewn perthynas i deilyngdod y cynyrch barddonol, yr oedd
wedi apelio at farn brawd arall; ac wedi derbyn cymaint o gysur oddiwrth hwnw
a allai gario. 'Doedd dim i'w wneyd, bellach, ond rhoddi y penill "i
mas;" a gwylio ei ysgogiadau ysgafn, megis oddiar y Ian, ar deimladau
cymeradwyol y cwrdd gweddi. Morgan Ryan oedd enw y brawd yr apeliodd Dafydd
Shon ato. Dyn parchus oedd Morgan Evan; yn cynrychioli, efe a'i deulu,
elfenau goreu *Gan fod yr ysgrifau hyn yn ymwneyd â nifer o
"hen bobol" eraill, dewiswyd y penawd uchod (“Hen Bobol Tabor”) yn
lle “Dafydd William”. |
|
|
|
|
(*8) |
230 HEN BOBOL TABOR. y pentref, Nid oedd Morgan yr adeg hyny yn aelod crefyddol
yn Tabor, ond yr oedd yn bobpeth hyd at aelod mewn enw, ac yn un o'r bobl
hyny sydd yn peri i ni i synu pan y dywedir wrthym nad ydynt yn grefyddol.
'Doedd neb yn fwy ffyddlon yn y cwrdd gweddi na Morgan Ëvan, na neb yn fwy yn
ei frwdfrydedd ynglyn â'r Ysgol Sul; ac er nad oedd yn hawlio meddiant o
wybodaeth dduwinyddol eang, eto, anaml y byddai Morgan yn cael ei yru i
gornel yn nosbarth y sêt fawr — ysmotyn ag sydd wedi gwasgu llawer i damaid o
wybodaeth i'r dim. Yr oedd yn meddu ar natur hynod o siriol; yr oedd
ei wyneb, heb ddim o lwch y lofa yn ei bylu, yn ddangoseg o hyn. Grân yr
awelon a thywyniadau yr haul oedd arno, yn hytrach; ac yr oedd yr aweion hyn
a'r tywyniadau wedi treiddio drwy ei wyneb, megis, ac wedi harddu a newyddu
ei ysbryd yn yr un modd. Yr oedd Morgan Evan yn wastad yn serchus. Yn ychwanegol at y sirioldeb hwn, yr oedd haen o
ddigrifwch — humour — hapus iawn, oedd yn cuddio ei hun ond i'r liygad
mwyaf craff, yn rhedeg drwy ei natur, fel nad oedd yn hawdd yn wastad gwybod
pa un ai digrifwch ai ynte sirioldeb fyddai tucefn i'r wên oedd ar ei wyneb;
ac yn aml, yr oedd y ddau yno, yn ffurfio math o dad a mam iddi. Effaith y cyd-gyfarfyddiad o'r elfenau hyn oedd
dengarwch. Yr oedd pawb yn ffrynd i Morgan, ac yn hoffi ei gwmni; a fynychaf,
clywid chwerthin mor iachus a seiniau'r goedwig yn tori allan o'r cylch y
byddai ef yn ganolbwynt iddo. Ar y line
yr oedd Morgan yn gwasanaethu, yn signalman, neu fel yr arferem ni ddweyd
er's llawer dydd yn Ffynon Taf — yn y Lodge. Byddai cystal rhoddi gair o
eglurhad mewn perthynas i'r lodge hyn. Rhaid i ni rybuddio ein darllenwyr
rhag ei wisgo â'r ystyr Seisnig i'r gair. Defnyddir ef mewn dau gysylltiad
ganddynt hwy. Yn gyntaf, wrth lodge, golyga'r Sais y bwthyn sydd wrth
borth parc y boneddwr, llety y gwr sydd yn agor y glwyd pan fyddo'r squire
yn gyru i fewn ac allan o'i balas. Yr ystyr arall yw hono sydd wedi cael ei
dyfeisio gan falchder a thlodi gyda eu gilydd. Defnyddir ef am dŷ,
digon llwyd ei wedd yn aml, fydd yn cael ei drigianu gan ryw un o urddas, ond
heb ddigon o gyfoeth i borthi a diwallu dymuniadau a gofynion yr urddas hwnw.
Wedi methu cyraedd y palas, y peth nesaf yw dianc yn ddigon pell oddiwrth y
dosbarth cymdeithasol nesaf atynt, pobl y villas;
ac er mwyn gwneyd yr iachawdwriaeth bon yn ddigon sicr, eir ris neu ddwy yn
is i lawr yn nheyrnas y trigfanau, i dŷ sydd rhyw haner y ffordd rhwng y bwthyn
a'r ffernady, a gelwir ef yn lodge, ac weithiau yn cottage, ond
byth yn villa. Nid dyma ystyr y gair lodge yn Ffynon Taf,
dealler; nid oedd yr un palas o fewn milldiroedd i Tabor, yr un yn cadw
lodge, beth bynag. Ac nid oedd, yr adeg hyny, yr un villa yno
ychwaith. Y mae rhai wedi d'od yno wedi hyny, yr ydym yn deall, fel nad oedd
perygl i'r un boneddwr o waed, pe buasai Rhagluniaeth wedi dyferu un o'r rhyw
hyn yn ein plith i gael ei gamgymeryd am fasnachwr neu arianwr diglod. Yr oedd cysylltiadau lodge Ffynon Taf yn dlawd
yn hytrach na chyfoethog; gafaelyd yn Ilawes y bwthyn, ac nid y palas y
byddai. Yr oedd yr aneddle nesaf at y bwthyn oddi isod — tŷ ar
haner y ffordd o gartref |
|
|
|
|
(*9) |
HEN BOBOL TABOR. 231 Yn ddiweddarach, eangwyd ystyr y gair i
le arall; agorwyd ei ddrws i dderbyn signal box y line. Pan
ddaeth y gledrffordd drwy y dyffryn, ac y codwyd math o babell fechan yma a
thraw ar ei glan, rhaid oedd cael enw iddi; a chan ei bod yn rhy dda i fod yn
llety anifail, ac yn rhy wael i fod yn llety dyn, galwyd hi yn lodge —
rhywbeth rhwug y ddau. Yn un o'r lodges hyn y
gwasanaethai Morgan Evan ar y nos ac ar y dydd, bob yn ail wythnos. Ar
“wythnos y nos," byddai llawer iawn o gyrchu at Morgan; gwelid aml i Fethodist
gyda brig yr hwyr, yn enwedig yn y gauaf, yn croesi'r bont dros yr afon i
fyned tua'r lodge, er cael ymgom, ac, hefyd, rhywbeth mwy cysurus — mygu.
A dweyd y gwir, yr oedd y lodge hon yn dy capel. Triniwyd
llawer i bwnc duwinyddol yno; taflwyd goleuni ar lawer i adnod, ac yr oedd y
lle yn arogli tipyn — i Fethodist — o Gyffes Ffydd a'r Hyfforddwr.
Yr oedd un diffyg mawr yno, serch hyny; nid oedd yno bregethwyr yn mynychu, a
rhaid yw cyfaddef fod tŷ capel heb bregethwr yn lle pur
amddifad, fel cartref heb fam; ond tŷ
capel a phregethwr neu ddau — y
mae yr olaf hyn yn “fyn'd i'r môr” — a'r rhai hyny yn fygwyr teilwng o
Galfiniaeth! Wel — pwy
all ddisgwyl mwy? Yr oedd un diffyg arall, hefyd, yn difwyno yr aneddle hwn,
haner credadyn ydoedd; yr oedd un droed iddo yn y capel a'r llall yn y
gledrffordd. Bob yn ail wythnos yr oedd yn dy capel; a rhaid yw i aneddle,
fel ei berchenog, er mwyn gwneuthur ei alwedigaeth yn sicr, beth bynag fydd
hono, fod yn gyson wrthi. I'r fan hyn yr ymlwybrodd Dafydd Shon un noson, a'i
benill i gasglu cadarnhad i'w syniad ei hun am ei werth. Wedi “gnythur” y penill, bu Dafydd Shon am ddau neu
dri diwrnod yn ei addoli. Safai, sef y penill, allan yn wybren ei feddwl, fel
seren, unig, dlos, a'i goleu fel pelydryn o orsedd cariad, yn gynes ac yn
brydferth. Adroddodd ef ganoedd o weithiau wrtho ei hun, ac nid yn anfynych
torai allan, gan daro ei droed, mewn llais fuasai yn synu rhywun “yr ochr
arall i'r berth,” “Ma fa yn fendigetig.” “Campus.” “Splendid? Ac yna gwenai
mewn distawrwydd am funydau a'i lygaid tua'r ddaear. Wedi cael gafael yn y “darn arian” gwerthfawr hwn,
yr oedd yn rhaid galw rhywun i fewn i gyd-lawenhau gydag ef. A phwy allasai
alw? Pwy? Morgan Evan. “Ia, dyna fe i'r dim," meddai Dafydd Shon, “a fi
a ato fa rhyw noswith." A “rhyw noswith,” clywodd Morgan Evan swn llaw yn
codi latch y drws, ac yn union ar ol hyny, gwelodd ben yn haner, ac yn ofnus
wthio i fewn. Dafydd Shon oedd yno. “Dafydd Shon," meddai Morgan,
"y chi sydd yna, dyn?”“Ia bachgan," atebai Dafydd Shon, “y fi sydd
yma.” “Dewch i miwn, dewch i miwn," cymhellai Morgan. Aeth Dafydd Shon i
fewn. Safodd yn syn ar ganol llawr y lodge gan edrych o amgylch ar y levers
oedd yno i droi y signals a'r “pwynts," a nodwydd y pellebyr yn
curo ei phen yn anesmwyth o'r naill ochr i'r llall, ac ar y lampau oeddent
fel llygaid mawrion awdurdodol yn taflu eu goleu I wahanol gyfeiriadau, ac yn
datguddio pob peth. Yr oedd yr |
|
|
|
|
(*10) |
232 HEN BOBOL TABOR. un ddieithr iawn i Dafydd Shon; a chydag anhawsder
y gallodd gadw mewn gafael ei dipyn ymwybyddiaeth. Yr oedd
hwn y cysylltiad cyntaf iddo â
gwyddoniaeth. “Bachgan," meddai ymhen ychydig, “dyma'r tro
cynta 'riod i fi fod yma.” “la ynta," meddai Morgan yn ol. “Ffordd wyt
ti yn gallu manigo y rhai hyn i gyd," meddai Datydd Shon, yn ceisio
eglurhad. “O, ma hyny yn ddigon hawdd, — gofal
yw'r peth mwyaf," oedd atebiad Morgan. “Fydda fawr o use doti rhywun ishta fi mewn
shwd le a hyn," aeth Dafydd yn ei flaen, yn parhau i ryfeddu o hyd, a
Morgan Evan yn myn'd i'r lan i rywle yn ei edmygedd, y levers, y
pellebyr, a'r lampau yn cyfansoddi yr ysgol. Yr oedd y lle yn edrych yn
gysurus iawn hefyd; yr oedd pobpeth mor lân, a thân cynes ar yr aelwyd yn
taenu yn ddistaw yn y fan hono, doraeth o deimladau da. Yr oedd yn anmhosibl
i Dafydd Shon, drwy rym cyferbyniad, i beidio meddwl am ei ran ef ei hun, — y
gwaith glo, yr awyr ddrwg, y lle gwlyb yr haner orweddai ynddo drwy y dydd;
a'r ganwyll mewn canhwyllbren clai a'i goleu digalon, ac ocheneidiai, “Dyna
le cysurus sydd genyt ti yma." "Ia ynta," meddai Morgan yn ol
mewn tôn o lais mwy boddlongar, “Ia'n wir bachgan, Ia'n wir, .........Ma Fe
yn dda iawn wrtho ti" meddai Dafydd Shon, yn edrych yn bur ymchwilgar i
lygaid Morgan, ac yn gosod y fath bwyslais ar y ti olaf, fel ag i
gyfleu, nid yn unig fod Rhagluniaeth yn dda iawn wrth Morgan, ond y gallasai,
hefyd, fod wedi gosod clustog yn ychwaneg o dan ben Dafydd Shon, — y diweddaf
hyn yn anymwybodol i Dafydd Shon, wrth gwrs. “A thitha heb i arddal E,"
meddai Dafydd eto. “Arddel E, Morgan, arddel E."........." Gwel di
mor dda rnae E' i ti.” “Odi, mae Fe yn dda i fi," meddai Morgan yn ol,
yn edrych ar ei gyfer â haen o sobrwydd ar ei wyneb. Wedi edrych yn mhellach ar y gwrthddrychau cywrain
o'i amgylch, a chysur y lle erbyn hyn yn gwthio i fewn i galon Dafydd Shon,
ac yn ei llefeinio â'i naws, daeth meddwl am y penill yn ol iddo; a chan droi
ei wefn ar y tân, ac edrych yn hynod o garedig tua chyfeiriad Morgan, meddai,
“Morgan, Morgan, y machgan i, lica ti glywad penill?” “Penill?" meddai
Morgan, ac awel o syndod yn ysgwyd dail ei deimladau, “liciwn ni, gadewch i
fi gâl i glywad a," dan feddwl fod Dafydd Shon yn myn'd i ddilyn ar ei
argymelliadau crefyddol. “Saf ynta," meddai Dafydd, yn plygu ei ben
tua'r llawr, ac yn cau ei lygaid am enyd “i gofio.” “Saf ynta," meddai
wed'yn; ac yna, yn codi ei ben i fyny, ac yn estyn allan ei fraich, a'i fys
yn cyfeirio yn syth o'i flaen , aeth yn ei flaen i adrodd “y penill," a
throsglwyddodd ef i Morgan yn orlwythedig o bwyslais, pwyslais braich, llais,
a phen, — yn wir, yr oedd Dafydd Shon i gyd ar ei wàr, a gorpbenodd. “A dyna fe ta," meddai Morgan, wedi moment o
seibiant. “Dyna fe," meddai Dafydd Shon gyda arafwch un oedd wedi rhoddi
bodolaeth i fyd. Deallodd Morgan Evan yn union wrth osgo Dafydd Shon
ei fod wedi newid ei dir, ac nad oedd, bellach, a'i amcan i'w ddifrifoli a'i
grefyddoli ef; ond ei fod, yn hytrach, am bysgota cyfran o gymeradwyaeth i'w
gynyrch barddonol. A chyda yr un rhwyddineb, newidiodd teimladau Morgan
ystafell difrifwch am ystafell digrifwch. |
|
|
|
|
(*11) |
HEN BOBOL TABOR. 233 “Beth wyt ti yn feddwl am dano?” meddai Dafydd
Shon, yn tori ar y distawrwydd, “Piwr iawn dyn, ia'n wir, piwr iawn,"
oedd atebiad Morgan. Ond yr oedd Dafydd Shon yn disgwyl rhywbeth gwell na
“phiwr iawn," ac aeth yn ei flaen i'w geisio. “Pwy wyt ti yn feddwl yw i
awdwr a?” gofynodd drachefn. "Williams o Bantycelyn," atebodd
Morgan. Yr oedd hyn y tuhwnt i ddisgwyliadau mwyaf beiddgar
Dafydd Shon; ac heb ddweyd yr un gair, trodd o amgylch a'i wyneb at y tân, ac
mewn distawrwydd a barhaodd beth amser, daliodd i edrych iddo. Yr oedd cwpan
ei fwynhad yn rhy lawn; a phan drodd yr hen dad yn ei ol drachefn i wynebu
Morgan, yr oedd dau ddyferyn o hono yn gwlitho ei lygaid. “Lled dda,
bachgan," meddai, yn gwneyd ymdrech i sefydlu ei lais. “Lled dda, ond dwyt ti ddim yn right, tria
yto.” “Ann Griffiths," meddai Morgan, yn gwneyd ail gynyg. Ond gyda
chrybwylliad o'r enw hwn, daeth cwmwl dros wyneb Dafydd Shon, a meddai, “Pwy
wetas ti?” Ann Griffiths," ail adroddodd Morgan. Syrthiodd gwyneb Dafydd
Shon i lawr tua'r ddaear; gwasgarodd siomedigaeth ei dywyllwch drosto, ac
aeth mor ddistaw a maen. Nid oedd Dafydd Shon erioed wedi clywed am “Ann
Griffiths." Yr oedd dwy neu dair o ferched ar “hewl y Bwnsi," yn
“adrodd" yn yr eisteddfodau, a thybiodd Dafydd Shon eu bod hefyd wedi
ymgymeryd â barddoni, ac mai un o honynt hwy oedd mewn golwg gan Morgan yn
“Ann Griffiths," ac yr oedd caei ei gymharu i un o'r rhai hyn yn faich
digon trwm i wasgu i'r ddaear unrhyw fardd. “Ann Griffiths wetas ti," meddai Dafydd Shon,
pan gododd ei ben drachefn. “la, beth sydd arni?" gofynodd Morgan,
"gwddoch chi i bod hi yn un o emynwyr penaf Cymru." "Gad a
wali, bachgan," meddai Dafydd Shon. “Odi yn wir," meddai Morgan. “Wel, yn awr," a sirioldeb yn tori yn oleuni
esmwyth dros ei ysbryd, meddai Dafydd Shon, "gad i fi gâl gwed wrtho ti
pwy yw yr awdwr," a chan gasglu holl elfenau ei fodolaeth ynghyd,
meddai, “Yfi."' Heb ddweyd yr un gair, aeth Morgan Evan yn ei flaen
at Dafydd Shon, a chyda'i law, curodd y gwron hwn ar ei wàr — yn bur drwm,
tra y murmurai yr hen dad o dan y gawod fendithiol, “Ia, y fi." Ysgydwyd llaw yn fuan ar ol hyn, a dywedwyd “Nos
da. Ond gwaeddodd Dafydd Shon drachefn oddiar y line i fewn i'r lodge,
“Fi ffindia'r ffordd o'r gora, Morgan, noswith dda ti machgan i." Nid oedd gan Morgan Evan y radd leiaf o dybiaeth
fod Dafydd Shon yn bwriadu myned a'r penill i'r cwrdd gweddi, ac yr oedd
Dafydd dan ddylanwad drachtiadau mor ddwfn o orfoledd, wedi anghofio hysbysu
hyny i Morgan. Ond yr oedd Dafydd Shon a bwriad gwreiddiol I wneyd hyn; ac
wedi ei gyfrinach â Morgan Evan, yr oedd y bwriad hwn wedi casglu yn
anferthol mewn nerth. Yr oedd Dafydd Shon wedi syrthio i'r fath gariad â'i
benill, fel yr oedd yn anmhosibl iddo ddychmygu y gallasai ei rinweddau
ddiflanu o flaen llygaid eraill — fei y gwnaethant. Yr oedd ei siomedigaeth
felly wrth ddarganfod hyn yn hynod chwerw. Ac un o'r pethau cyntaf deimlodd
ar ol y cwrdd gweddi oedd, awydd am gydymdeimlad — awel dyner o gysur i oeri
ei enaid. A phwy oedd mor naturiol i gyd-ymddwyn âg ef a Morgan Evan? |
|
|
|
|
(*12) |
234 HEN BOBOL TABOR. Croesodd Dafydd y bont unwaith yn rhagor, felly, a chafodd
dderbyniad cynes gan Morgan. "Shwd i chi wedi yrridopi oddiar pan welas
I chi o'r blân?” oedd gofyniad preswylydd y lodge. “Gweddol,"
meddai Dafydd yn ol. “Gweddol.........Ffaelws i nhw ganú'r penill.” “Tewch
son," meddai Morgan. “Do'n wir," meddai Dafydd, “ond ni canson a
ryw shwt;" aeth yn ei flaen mhen ychydig, "ond gorfod i fi i ledio
fo'm hunan, a siwr fe helpws Dafydd William fi." Wedi ychydig o
seibiant, aeth Dafydd yn ei flaen drachefn, “Gwet ti fynot ti, cantwr tlawd
yw Isaac y Crydd, gan edrych ar Morgan. Cera di mas o'r hen drack dicyn
a dyw a werth dim, dim.........Fe dorws i lawr y peth crylona ar y
mhenill i.........Dir i helpo fa, welas i beth mwy dishift yrioed.........
Bachgan, rodd a'n etrych fel dyn wedi hurto, yn cecran yn y fan hyny y peth
mwya dishâp welas i riod.........Fe all roi i fyny canu pryd y myn a, pryd
y myn a. Dyw dynon ddim yn myn'd i fyw am byth ar hen benillion."
Siaradodd Dafydd Shon y geiriau hyn dan deimlad ac argyhoeddiad o'u
gwirionedd. “Trueni iddi nhw ffaelu i ganu fa hefyd,"
meddai Morgan ymhen tipyn. “Bachgan, thriws a ddim," meddai Dafydd Shon
yn wresog. “Thriws a ddim, fe stopws ar y line gynta, tysa fa yn gatal
hono, gwed, os dodd a ffaelu, a myn'd ymlan at yr ail; fyswn ni yn gwed dim,
tysa fa yn trio, bachgan, ond yn lle hyny fe stopws glap, fel mecyn
mas o wynt." Bu pethau yn ddistaw ar hyn am ychydig, ond
dechreuodd Dafydd drachefn — “Cantwr afnadw yw a, ia'n wir. Ma'r dyn yn
disgwyl i benill newydd ffito fel hen benill weldi. Bachgan, ma fa mas
o'i gof,..... ...Ble gwelast ti beth newydd yn ffito ar
unwith........Ah?.........Ah? .........Morgan?”' "Ddim yn amal,"
meddai Morgan. "Na, wrth gwrs," meddai Dafydd, yn Ilawer arafach yn
awr, "dyw dillad newydd ddim yn ffitio ar y cynta, ac hefyd, a gwed y
gwir, dodd yr hen wraig ges, Charlat, a fina ddim yn i tharo hi ar y cynta
weldi; wn i ffordd y bu hi rhyngot ti a Shenat, ond, cret di fi, fe fu
Charlat a fina yn cecrach cetyn ar y cynta weldi, ond yn awr — i ni fel doi bunch."
Bu distawrwydd ar hyn eto; ond cyn hir, dyma droed Dafydd Shon yn caei e'i
hestyn allan, gan ei pherchenog, a meddai, "Gweld di'r esgyd yna,
Morgan?” “Gwela," meddai Morgan, “chreti di ddim faint binchws
hona arno i, ar y cynta, chreti di ddim; ond yn awr, mae hi fel y fanag. Hi ddath
trwy arfer weldi.........Nawr, fysa sense i fi i thowli hi ar y
cynta, Morgan?” “Na fysa," oedd atebiad Morgan. “Pwy sense yw
towli penill da, oblegid i fod a yn pincho trod rhyw hen dôn dicyn ar
y cynta ?”meddai Dafydd ar darawiad yn dilyn y rhesymeg, “Bachgan,"
meddai eto, ac mewn llais barnol iawn, “fe ddota Isaac y Crydd ben ar
Wiliiams o Bantycelyn.” “Beth i wetws Dafydd William?” gofynodd Morgan
ymhen ychydig. “Fe'i galws o yn ffrecal,” meddai Dafydd yn ol, yn
taflu ei ddwylaw i fyny. “Ffrecal, judga di, ffrecal!! Dyna gysur i
ddyn yn gnythur hymns ynta?.........Dw i yn ama dim nad oedd rhai o'r lines
dicyn yn hir, ond fi tora nhw yn fyrach y tro nesaf." Ychydig nosweithiau ar ol hyn, galwodd Isaac y
Crydd yn y lodge. Tr' oedd gormod o lif yn yr afon “i'r bad
groesi." Ac yna, deuwyd dros y |
|
|
|
|
(*13) |
HEN BOBOL TAB0R. 235 bont, a galwyd yn y lodge. Yr oedd Isaac,
hefyd, mewn tywydd garw, a hyny oherwydd barddoniaeth Dafydd Shon — ond nid
am yr un rheswm ag y trafferthai yr hen wr. “Mae e," meddai Isaac, heb gymaint o
dafodiaith Mórganwg ag eraill, “yn son am dd'od a phenill i'r Ysgol Sul yn
awr, yn lle “Mae dydd y farn yn d'od ar frys." Chwarddodd Morgan. “Yn wir, nid mater chwerthin yw
e," meddai Isaac, "wn i beth yn y byd sydd i wneyd ag e, waith fe
ddaw a phenill i gwrdd gweddi nos Sul un o'r dyddiau nesa yma, ti gai weled,
a fe hel y bobl i chwerthin i gyd.” “Ac hi fydd yn anodd i berswatio fa i
bido barddoni," meddai Morgan. “Anodd?" meddai Isaac, “gad i whim
fyn'd iddi ben a ddaw hi ddim allan yn fuan.” “Pa'm na wnewch chi fel o'r
blaen?” gofynodd Morgan “Beth?" Tori i lawr.” “Ië, ond beth os byddwn ni
yn gallu canu i benill e?” gofynodd Isaac. “Gallu neu bido, torwch i
lawr," meddai Morgan. “Yn wir, mae rhywbeth yn y peth wyt ti yn
weyd," meddai Isaac, “oes yn wir, o'r gora ynta, ni dorwn i lawr. Diolch
yn fawr i ti, nos da." Ymhen peth amser wedi hyn, gyrodd llif yn yr afon
Isaac dros y bont eto, ac felly heibio i'r lodge. "Shwd gwrdd
gweddi gesoch chi," gofynodd Morgan. “Da iawn," meddai Isaac, “a ni
geson benill.” “Tewch son.” “Do yn wir.” “Wel, ffordd bu hi?" gofynodd
Morgan. “O, tori i lawr machgan i, tori i lawr, dyna yr oruchwyliaeth yn awr."
Yr oedd Morgan yn disgwyl ymweliad oddiwrth Dafydd
Shon yn fuan ar ol hyn, ac ni fu raid iddo ddisgwyl yn hir; oblegid rhyw
noson, fe ddaeth. Yr oedd wedi bod yn dywydd garw iawn — y gwynt a'r gwlaw
fel pe wedi colli pob llywodraeth arnynt eu hunain. Ond yn yr hwyr, yr oedd
pethau wedi gostegu, a chroesodd Dafydd y bont. Pan gyrhaeddodd y lodge,
yr oedd wedi colli llawer ar ei obaith barddonol. “Dyw a ddim use,"
meddai, “gnythur hymns iddi towlu naill ochor o hyd......... a wna i
ddim rhacor nes bo gwell cantwr yn Tabor na Isaac y Crydd." Ac yr oedd
wedi chwerwi hyd yn nod at “Yn y dyfroedd mawr a'r tonau." Ond o dan ddylanwad sirioldeb Morgan, collodd
ysbryd Dafydd beth o'i chwerwder a'i sychder, ac ymddangosodd yn wyrddach
cyn ymadael. Wedi dweyd "nos da," a phan ar y linc,
gwaeddodd yr hen dad yn ol eto, “Morgan, Morgan, fi gyfansodda benill i'r lodge
a titha erbyn y tro nesa, — fydd dim isha canu hwnw." Pan ar ganol y bont yn dychwelyd — yr afon odditano
wedi chwyddo a meddwi gan lif dyfroedd, ac yn rhuthro fel arthes ddall ar ei
gyrfa ddu, gan ruo nes dychrynu'r creigiau, a'r nos ddwfn uwchben heb seren
ar ei gwaelod na thon ar ei gwyneb — gosododd braw ei law oer ar
ysgwydd Dafydd Shon, a rhedodd yr hen wr am nodded -- ac at benill, ond nid
yr eiddo ei hun, ond at ei hen ffrynd, “Yn y dyfroedd mawr a'r tonau,"
ac yn y fan hono, aeth yn gyfamod rhyngddynt i beidio 'madael mwy. (I'w
barhau.) |
|
|
|
|
|
3/ Cyf. xi. Hydref 1895. Rhif 130. Tudalennau
295-301 Y Lladmerydd – Cylchgrawn yr Ysgol Sabbothol. Dan Olygaeth y Parchn. J. M. Jones, Caerdydd, Evan
Davies, Trefriw, a D. Jenkins, Ysw., Mus. Bac. (Cantab) ….. Hen Bobol Tabor. Gan y Parch. Daniel Thomas, Ffynon
Taf. |
|
|
|
|
(*14) |
295 "HEN BOBOL TABOR." GAN Y PARCH. DANIEL THOMAS, FFYNON TAF. Rhaid i ni dd'od yn ol yn awr oddiwrth Dafydd Shon
— er fod genym ychwaneg i ddweyd am yr hen dad — at y llyfr hymnau yn y set
fawr. Nodasom yn yr ysgrif gyntaf dri o eithriadau i'r rheol, neu yn hytrach
ddeddf, o beidio defnyddio llyfr hymnau yn y sêt fawr. Yr oedd y cyntaf
ynglyn â Dafydd Shon. Yr oedd yr ail yn achlysurol; a'r trydydd yn
gymdeithasol. Gwnawn fyn'd dros y ddau olaf hyn yn fyr. Y mae yr un achlysurol yn rhanu ei hun i dri
amgylchiad. Ac un o'r tri oedd yr Ysgol Sul. Ni fuasid yn synu gweled brawd
yn ymaflyd yn y llyfr hymnau ar ddechreu yr ysgol. Yr oedd y teimlad o
gyfaddasder — sense of fitness — yn gryf iawn yn Tabor. Yr oedd
teimlad yn y lle y dylasai rhyw gyfeiriad fod yn y penill at yr Ysgol Sul a'i
gwaith. Pe buasai'n bosibl cael penill a'r gair “plant," neu
“addysg," neu'r geiriau “Ysgrythyr lân” ynddo, yr oeddis yn teimlo fod pethau
yn gorwedd yn hapus iawn. Penill ag oedd yn cael ei ganu yn aml iawn yn y lle
oedd, “Plant ydym eto dan ein hoed” — i ddechreu yr ysgol, cofier. Nid oedd
dim yn yr hen benill yn dal cysylltiad uniongyrchol â gwaith yr Ysgol Sul,
ond yr oedd y gair “plant" ynddo, ac yr oedd plant yn yr ysgol,
cyd-gyfarfyddiad dymunol iawn. A chaffai y penill ei ganu gyda llawer iawn o
hwyl mewn canlyniad. Ystyr arall wisgai y teimlad hwn o gyfaddasder
oedd, fod rhaid i'r penill fod yn fyr, — dim hwy na phedair llinell. Yr oedd
“wyth llinell” allan o'r cwestiwn. Yr oedd “wyth saith a phedwar” yn rhy hir
hefyd. Pedair llinell oedd y mesur, a phedair llinell fer hefyd, cofier. Nid
“degau." Yr oedd “Cyfamod hedd," &c, yn rhy hir. Mesur Salm neu
Mesur Cyffredin oedd oreu o ddigon, a 'doedd dim gwahaniaeth pa un o'r ddau
hyn ddewisid. Oherwydd y ddau reswm uchod, yr oedd trysorfa emynol Tabor yn cael
ei threthu — ond yn mherson Emwnt Etwart. Yr oedd “Bywyd y meirw tyr'd i'n
plith," ei benill ef, yn gwneyd y tro yn rhagorol ar bob amgylchiad a
phob adeg. Pa un a'i mewn cyfarfod gweddi wythnosol, neu i ddechreu yr ysgol
ar y Sul, neu ynte ar adeg cwrdd diolchgarwch, neu hyd yn nod mewn cyfarfod
gwylnos, teimlai pawb wrth wrando ar yr hen dad yn rhoddi allan “Bywyd y
meirw tyr'd i'n plith," fod yr hen air yn gweddu i'r dim, ond yr oedd
hyn yn benaf oherwydd mai Emwnt Etwart oedd yn ei rhoddi allan. Yn Emwnt
Etwart yr oedd y cyfaddasder. Ynglyn âg eraill yr oedd fel arall. Rhaid oedd i'r
penill fod a rhyw gyfeiriad at yr amgylchiad ynddo. Nid oedd digon o
bersonoliaeth grefyddol, beth bynag, yn neb arali yno i draws-newid agwedd
achlysurol penill wrth ei roddi allan, ond yn Emwnt Etwart. Rhaid oedd iddynt
felly ddibynu ar gyfryngau tuallan iddynt eu hunain i gyraedd hyn, ac ystyrid
y cyfwng hwn yn gyfiawnhad i ddefnyddio y llyfr hymnau. Eto, fel y nodasom, yr oedd yn rhaid i'r penill fod
yn fyr, er peidio myn'd a gormod o amser yr ysgol, waeth fel y dywedai
Dafydd William ar adegau, “Nid d'od yma i ganu nac i weddio i ni, ond i ddarllin." |
|
|
|
|
(*15) |
296 HEN BOBOL TABOR. Ond er fod gwerth mawr fel hyn yn cael ei roddi ar
amser, tua dechreu yr ysgol, eto, nid anfynych y treuliai brawd ddau neu dri
munyd uwchben y llyfr hymnau, yn troi ei ddail yn ol a blaen, yn methu
darganfod penill, ac yn y diwedd, cauai y llyfr gan roddi allan benill o'i
gof. Ond ni ddywedai Dafydd William air yn erbyn hyn. Yr oedd yr un drwg yn y
ddwy agwedd hon arno, yn ymddangos yn wahanol iawn i Dafydd William. Yr ail amgylchiad dan yr eithriad achlysurol hwn
oedd, cyfarfod gweddi nos Lun cyntaf yn y mis, pan y gweddïid ar ran y
Genhadaeth Dramor. Byddai Dafydd Shon yn dyfod a'i benill “dydd Sul” allan ar
yr adeg hon — “Marchog Iesu yn llwyddianus." Yr oedd yn taro yn llawer
gwell na “Yn y dyfroedd mawr a'r tonau." Ond byddai clywed Dafydd Shon
yn rhoddi y penill hwn allan yn peri i ni deimlo mai y dydd Sabbath ydoedd. Yr
oedd digon o benillion cyffredin ac adnabyddus ar gael, a digon o gysylltiad
rhyngddynt â'r achlysur, ond nid oedd yr hen bobl yn siwr o honynt ond pan yn
eu canu. Yr oeddynt yn siwr ddigon o honynt y pryd hwnw; ac yna, eid at y
llyfr hymnau. Adeg arall y cyfreithlonid defnyddio y “llifir
hymns” oedd, diwrnod y “cwrdd diolchgarwch." Yr oedd yr ymdeimlad o
briodoldeb pethau yn gryf iawn y diwrnod hwnw. Yr oedd yn rhaid cael penodau,
gweddiau, ac emynau cyfaddas. Byddai yno liaws o bobl o'r “enwata erill” yn
bresenol, ac felly, rhaid oedd gosod trefn weddaidd ar bethau, a chadw i fyny
urddas Methodistiaeth. Caffai “O Arglwydd Dduw rhagluniaeth” ei ganu ymhob un
o'r tri chwrdd, — yn y boreu, yn y prydnhawn, ac yn yr hwyr. — Ac yn aml iawn
gorphenid cwrdd yr hwyr drachefn drwy ei ganu. Dafydd William fyddai yn
wastad yn “rhoi penill i mas i gwplo." A chan fod ei benill ef, ei
benill arferol, filldiroedd oddiwrth gysylltiadau yr amgylchiad, rhoddai
Dafydd William “O Arglwydd Dduw rhagluniaeth” allan, a cheid canu gwresog
iawn ar yr hen benill wedi cael tair rehearsal arno yn ystod y dydd. Nid oes genym, bellach, ond nodi yr eithriad gymdeithasol
yn y cysylltiad hwn. Ac estynid y rhyddid hwn i bregethwyr, pobl o
amgylchiadau dipyn yn uwch na'r cyffredin, a phobl ddieithr, os buasent wedi
gwisgo yn drwsiadus; os na, disgwylid iddynt wneyd defnydd o'u cof.
Ond am bregethwr, yr oedd rhyddid iddo ef wneyd fel y mynai, braidd. Ac yn
wir, nid yn unig caniateid iddo ddefnyddio y llyfr emynau, ond disgwylid iddo
wneyd hyny. Gwnai ddefnydd o'r llyfr yn y pulpud, a disgwylid iddo wneyd yr
un fath pan yn y sêt fawr. Yr oedd ei bresenoldeb yn y sêt fawr yn anrhydedd
iddi, ac yr oedd arfer dull y pulpud yn y sêt fawr yn tywallt urddas arni. A
gellid gweled Dafydd William yn barchus wthio y “llyfr hymns” i gyfeiriad y
pregethwr pan fyddai yno. Wrth gwrs, os dewisai y pregethwr roddi penill
allan o'i gof, yr oedd yn metha pethau, nid am fod dim yn wrthun i bregethwr
i ddarllen — wel, darllen pobpeth ond ei bregethau, — darllen pob emyn, ond
yr oedd ei waith yn rhoi penill o'i gof yn dibrisio ei hun, yn d'od i lawr i
safle gymdeithasol Dafydd William, a chreaduriaid tlawd oedd yn methu
darllen, neu yn gweled i ddarllen, spectols wedi myn'd rhy ieuanc, a
neb yn d’od a spectols |
|
|
|
|
(*16) |
HEN BOBOL TABOR. 297 at y drws i werthu. Yr oedd hyn yn rhinweddol iawn
— rhinwedd Tabor. Mae llawer o rinweddau yn bod heblaw rhinweddau
moesol. Bu bron i Griffiths, yr Alltwen, anfarwoli ei hun
acw ar agoriad Tabor, y Tabor presenol. Annibynwr oedd Griffiths — Ai Dafydd
Griffiths ydoedd? Ac yr oedd yn "anodd” iawn anghofio hyny wrth ei
wrando yn pregethu, ffaith andwyol iawn i bregethwr yn Tabor. Ond wrth
ddringo steiriau y pulpud newydd i fyny, rhoddodd yr hen bererin emyn allan,
"Cofia Arglwydd dy ddyweddi, llama ati fel yr yr hydd." Edrychodd
Dafydd William i fyny. Yr oedd yn teimlo ei bod yn gynar i roddi allan y
penill; ond yn sicr ddigon “o'r cof” yr oedd; ie, “o'r cof." Buasai yn
iechyd i unrhyw un i glywed “felly" Dafydd William y foment hono, a'i
weled yn edrych i wyneb Emwnt Etwart, gan chwerthin dros ei wyneb i gyd; ac
Emwnt Etwart yn mwmian. “Ia'n wir y machgan bach I” yn ol a'i lygaid yn haner
cau, fel y byddai ef yn wastad yn yr addoliad, fel pe bai y goleuni ysbrydol
yn rhy danbaid iddynt, ac nid ydym yn sicr nad oedd felly. “Ha," meddai
Dafydd William wed'yn. Gallasai Griffiths bregethu beth a fynai ar ol hyn. Estynid tipyn o'r rhyddid hwn hefyd i bobl
ddigwyddai fod a'u hamgylchiadau yn helaethach na'r cyffrediu. Yr oedd y
syniad a'r cysylltiad o helaethrwydd oedd yn nodweddu rhan dymhorol y bobl
hyn yn cael ei hestyn iddynt mewn pethau ysbrydol. Ac felly y mae eto, ac yn
fwy felly yn awr nac ydoedd yn yr hen amser. Pa sawl aelod parchus gyda'r
Methodistiaid heddyw sydd yn gyfoethog, pe digwyddai iddo ddyfod yn dlawd a
gai deimlo, a hyny yn fuan, fod llwybrau disgyblaeth wedi culhau latheni o'i
amgylch, a bod y perthi drainog wedi d'od yn bur agos ato? Nid yw y rhyddid
hwn yn cael ei estyn oddiar ddiffyg sel dros yr hen ffyrdd cul, ond oddiar
ymdeimlad ei bod yn awr fel cynt yn anhawdd i oludog i fyned i mewn i deyrnas
nefoedd. Estynid y rhyddid hwn i'r bobl hyn yn yr hen amser yn Tabor, ond ni
wisgai yr adeg hono ar ddull cymdeithasol, ond trefniadau ac arferion y
cysegr. Goddefid iddynt i absenoli eu hunain o gyfarfodydd yr wythnos, ac ni
elwid arnynt i weddi mor aml, a gweddi fach, ddistaw, ddi-hwyl, i waelod y
set yn y fau hono ddisgwylid oddiwrthynt, a chaent hefyd berffaith ryddid i
ddefnyddio y “llyfr hymns" Yr oedd yno deimlad yn y lle fod y
bobl hyn yn bobl y byd hwn yn ogystal ac yn bobl y “byd a ddaw," ac
ymdrinid a hwy fel y cyfryw. Ond am y tlawd, pobl oedd yn gweithio bob
dydd, yr oedd yn rhaid iddynt hwy nid yn unig i fod yn grefyddol ond yn
dduwiol, a bod yn Fethodistiaid hefyd, yr hyn oedd anhawddaf oll. Yr oedd yn
rhaid byw nid yn unig yn ol “deddfau'r Gair," ond deddfau Tabor,
ysgrifenedig ac anysgrifenedig. Yr oeddis yn gofalu fod y bobl hyn yn cadw
“eu Ile" — ac ysmotyn rhyfedd oedd hwnw weithiau — gan nad beth fuasai'r
gost. Cai dieithriaid hefyd, os wedi gwisgo yn drwsiadus, fynediad i'r
rhyddid hwn, ond os buasai eu gwisg yn gyffredin, disgwylid iddynt dalu
teyrnged i ddeddfau Tabor, a chaent nwythau yn gydnabyddiaeth am hyny
dderbyniad cynes i deimladau da y frawdoliaeth. Yr oedd hyn yn dyfod i'r
amlwg mewn mesur helaeth ynglyn ag ymwelwyr â'r Ffynon. Cynwysai yr ymwelwyr
hyn wahanol raddau cymdeithas, hyny yw, o'r masnachwr at y gweithiwr. Deuai
yno |
|
|
|
|
(*17) |
298 HEN BOBOL TABOR. ambell un yn wych iawn ei wedd. Byddai ei ddillad
yn y ffasiwn, a chariai gadwen felen ar ei wasgod, a byddai ganddo ffon, nid
ffon cymorth ond ffon addurn. Ni chai hwn lawer o roesaw na llawer o sylw,
ond gadewid ef yn llonydd. Edrychid ac hyd yn nod syllid cryn dipyn arno ar y
cyntaf, troai y naill ar ol y llall ei ben yn ol i weled y “dyn diarth,"
tra y daliai Dafydd William i syllu arno yn hir. Wedi gwneyd hyn am ryw ddeng
munyd, troai at Emwnt Etwart gan ofyn "O b'le dâth hwnco?” “Yn wir wn i
ddim yn ngwas i," fyddai atebiad Emwnt Etwart. Ni elwid ar y “gwr
diarth” i weddi, ac wrth fyned allan ni ysgydwid llaw ag ef, na dweyd dim
wrtho, ond edrychai y naill ar ol y llall arno wrth fyned heibio. Ond pe
digwyddai fod y gwr gwych hwn yn aros am dymor yn y lle, deuai i gael ei
adnabod; a chaffai gynyg cymeryd rhan yn y gwasanaeth; ac ystyrid hi yn
hollol weddaidd i hwn wneyd defnydd o'r llyfr hymns. Ond pan ddeuai
creadur cyffredin ei olwg i'r Ile, fel y byddai yr ymwelwyr fynychaf, ac yn
enwedig os byddai ar “ffyn bacla," a thalu ymweliad a Tabor, cai
dderbyniad o natur hollol wahanol. Pe digwyddai i Dafydd William ei basio ar
y ffordd i'r capel, cai “Shwd i chi heno” ganddo, a “Gwnewch chi 'ch hunan yn
ewn;” ac ni chai y gwr dieithr hwn eistedd yn hir yn nghymydogaeth y drws
ychwaith cyn y byddai i Dafydd William droi ei fys arno a gwaeddi, “Dewch
ymlaen yma, i ni gâl ych gwel'd chi." Ni ofynid i'r gwr dieithr ddyfod i fewn i'r set
fawr. Yr oedd hyny yn gario pethau i eithafion; ac hefyd yn myned yn rhy
debyg i'r Annibynwyr. Yr oeddynt hwy yn gwahodd pawb i'r set fawr, ac yn
cymysgu pethau yn afresymol, fel yr oedd yn anhawdd dweyd weithiau pwy oedd
flaenor a phwy nad oedd. Nid oedd Dafydd William ac Isaac y crydd yn goddef
pethau i ddadblygu i'r cyflwr hwn yn Tabor. Nid oeddynt hwy yn myn'd i lanw'r
nefoedd â chrug o ser gwibiog, a thrwy hyny gladdu yr hen ser sefydlog o'r
golwg. Gofalent yn hytrach am ddigon o le i amlygu eu hawdurdod; tair neu
bedair seren fyddai yno, a'r ffurfafen i gyd yn back ground iddynt,
Pan ddynesai y gwr “diarth” felly at y set fawr, ar ei waith yn symud yn y
blaen, pwyntiai Dafydd William â'i fys at y set nesaf at y set fawr, a
dywedai “Eisteddwch man yna." A “man yna” yr eisteddai y gwr dieithr. Pe
digwyddai fod rhyw frawd arall yn eistedd yno yn barod, troai hwnw at y gwr
dieithr i ysgwyd llaw yn garedig ag ef, ac hefyd os byddai y cwrdd heb
ddechreu, gofynai "Buoch chi yn y Ffynon a'r blân?" Ni ofynid i'r
gwr dieithr i ddechreu y cwrdd, ac ni chedwid ef i ddiweddu y cwrdd ychwaith.
Nid oedd ei ddoniau gweddio yn wybyddus, ac nid oedd wiw gosod rhywun dinod i
"ddibenu." Cai ei alw, felly, yn ail neu yn drydydd. Yn awr, pe
rhoddai y gwr dieithr benill allan o'r fan lle yr ydoedd, cyn myned i fewn
i'r set fawr, yr oedd drwy hyny yn rhoddi llam i deimladau goreu, a pharch
uchaf Tabor. Byddai Dafydd Wiliiam yn gollwng allan "felly “parhaus ar y
canu a'r weddi, fel adar swynol i ehedeg o gylch yr ymwelydd. A phe byddai
i'r gwr dieithr fyned yn ol drachefn o'r set fawr ar derfyn ei weddi, yr oedd
y rhwystr diweddaf i barch a chariad Dafydd William yn cael ei symud drwy
hyny, a rhedai y teimladau hyn o galon yr hen flaenor yn afon lonydd, gyson,
at y gwr dieithr. Byddai ysgwyd |
|
|
|
|
(*18) |
HEN BOBOL TABOR. 299 llaw cyffredinol âg ef wed'yn ar ddiwedd y cwrdd, fel
pe buasai hen gyfaill wedi dychwelyd o wlad bell, ac ar ol blynyddoedd o
absenoldeb, ac nid gwr hollol ddieithr. Byddai llawer o gwestiyno yn bod yn
awr hefyd, — o b'le yr oedd yn d'od, faint oedd yn myn'd i aros, a oedd y
Ffynon yn gwneyd lles iddo, a pha sawl gwaith yn y dydd yr oedd yn myned
iddi, ac yn y blaen. Jimmy'r Wernddu oedd favonrite visitor
Tabor. Y mae y Wernddu yn agos i Gaerphili, ac yr oedd Jimmy yn aelod gyda'r
Methodistiaid yn y lle olaf hwn. Un rhyfedd oedd Jimmy. Yr oedd yn fwy tebyg
i goedwig nac i ddyn, nid oedd llawer o dduwinyddiaeth ynddo, ond yr oedd yn
llawn o natur. Yr oedd yn engraifft eithafol o nodwedd pobl Morganwg. Yr oedd
yn gyfuniad o grefydd a natur. Ceir mwy o dduwinyddiaeth yn siroedd eraill
Cymru, ac y mae rhai o honynt yn llawer mwy duwinyddol na naturiol, a bydd y
bywyd yn gyfuniad o dduwinyddiaeth a chrefydd. Fel arall y mae yn Morganwg; y
mae yma dduwinyddiaeth hefyd, ond mwy o naturioldeb. Crefydd a natur yw ffurf
bywyd Morganwg. Yr oedd Jimmy yn hynod felly. Natur a duwioldeb oedd Jimmy i
gyd; ond nid natur yn ei sirioldeb a'i thynerwrch, nid y ddol yn Mai, nid y
nant a thorf o redyn a blodau yn gwrando ar ei murmur hi; ond yn hytrach
derwen unig, i fyny fry ar ysgwyddau'r creigiau, a'r gwynt wedi chwythu ei
gwallt i ffwrdd i gyd, ac yn camu dan warod y dymhestl; neu ynfce y goedwig
ganol nos wedi ei boddi mewn tywyllwch ac unigrwydd. — dyna oedd Jimmy. Yr
oedd yn wyllt ac yn dduwiol. Ymwelai Jimmy â Tabor bron bob haf, ac yr oedd yn
dda gan bawb ei weled; y plant oherwydd ei fod mor odd, a'r Hen Bobol
oherwydd ei fod mor wresog a thanllyd ei ysbryd. Ni fynychai Jimmy y set
fawr. Yn wir nid ydym yn sicr a gafodd gynyg gan Dafydd William; ond yr oedd
mor agos ati ag y gallai fyned heb fyned i fewn iddi. Eisteddai yn gyffredin
yn union y tuallan iddi, — pan fyddai yn eistedd; fynychaf byddai Jimmy ar ei
draed, ac yn plygu dros gefn y set fawr i fewn iddi. Yn wir yr oedd mwy o
Jimmy yn aml yn y set fawr nag oedd y tuallan iddi. Ac yno y byddai, a'i
wyneb yn myned trwy bob trawsnewidiad dichonadwy ac annichonadwy hefyd.
Rhuthrai dylanwadau'r efengyl fel corwynt dros Jimmy, a berwai ei enaid
danynt, gan daflu cawodydd o orfoledd i fyny fel ewyn gwyn. Ac yn awr ac
eilwaith bwriai i fyny "Ddiolch iddo“ ag oedd yn gwlychu y graig bellaf
oddiwrth y mor. Byddai Dafydd William ar hyn yn chwerthin dros y capel, ac yn
troi o amgylch i edrych i'r cyfeiriad hwn ac i'r cyfeiriad acw, ac yn taflu allan
"felly" wrth y dwsin; ac Emwnt Etwart, a'i Iygaid yn nghau yn awr,
yn ysgwyd yn ol ac ymlaen yn araf, fel Ilong wrth ei hangor, ac yn murmur mwy
iddo ei hun nac i neb arall "I-a'n wi-ir. I-a'n wi-ir." Aeth Jimmy dros y Ilestri yn rhyfedd un nos
Sabbath. Yr oedd wedi ei gynhyrfu yn eithafol ac yn gwaeddi dros y lle
"Ben-di-getig, ben-di-getig," pan y trodd o amgylch yn sydyn i
wynebu y gynulleidfa. Yr oedd yno setaid o bobl ieuainc y tu ol yno heb fod
yn aelodau eglwysig. Yr oedd Jimmy yn teimlo ei bod hi yn bryd i'r rhai hyn i
ddechreu canmol, ac yn y fan hyny gwaeddodd arnynt, “Gweiddwch Amen |
|
|
|
|
(*19) |
300 HEN BOBOL TABOR. fechgyn, gweiddwch Amen, fechgyn," a
chadarnhaodd Dafydd William yr apei gyda "Ia gydei siwr." Mae enw
Jimmy'r Wernddu eto yn fyw yn Tabor. Terfynwn yr ysgrif hon yn awr, gydag adrodd hanes
ymweliad brawd parchus ag adnabyddus iawn ymhlith y Methodistiaid. Yr ydym yn
cyfeirio at Mr. Lloyd, Pentre, gynt, a Barry yn bresenol. Bydd Mr. Lloyd yn
ddigon boddlon i ni adrodd hanes yr ymweliad hwn o safle Tabor. Yr oedd Mr.
Lloyd wedi colli y trên yn Ffynon Taf, i fyned i fyny i'r rhondda, a phan yn
aros am un arall, crwydrodd i fewn i'r seiat yn Tabor. Ac yn awr awn i fewn i
Tabor i dderbyn y gwr dieithr hwn. Yr oedd y seiat ar ei chanol, ac yn cael ei
chynal dan y gallery, ar y llaw dde i'r pulpud, yn ymyl y sêt fawr, a
dim ond dau o oleuadau'r gas wedi ei goleuo, “i gael bod yngynil." Yr
oeddis wedi bod yr ochr chwith i'r pulpud, ond wedi hyny ymfudwyd i'r ochr
dde. Yr oedd Dafydd William ar ganol gofyn profiad "hen wraig y
gwaelod," hen fam nodedig am ei duwioldeb, pan y torwyd arnynt gan swn
cerddediad dyn mawr, tal, yn dyfod i fewn drwy y drws chwith. Yr oedd bron yn
rhy dywyll i'w weled. Yr oedd hwn yn ddigwyddiad rhyfedd iawn yn Tabor, a
chododd pawb eu penau i weled beth oedd yno. Yr oedd y gwr dieithr yn araf
gerdded i lawr tua'r sêt fawr. “Yr arswd anwl," meddai Dafydd William,
yn taeri i'r tywyllwch, "beth sydd yma?” “Wn ni ddim yn wir beth sydd
yma y ngwas i," meddai Emwnt Etwart, “os nad taw dyn," ac wedi
syllu am ychydig, ychwanegodd, “Ia dyn yw a.” “Dyn," meddai
Dafydd William, “Beth ma fa yn mofyn yma ynta?" Ond ar hyn torodd y gŵr
dieithr i fewn, yr oedd erbyn hyn wedi d'od i lawr at y sêt fawr, a meddai “Beth i chi yn wneyd
yn y tywyllwch yma? Beth i chi yn peidio cynhei goleu? .........I chwi wedi
camsynied yr efengyl." Aeth y gwr dieithr yn ei flaen , “nid tywyllwch
yw hi, ond goleu, a dyna chi yn y fan hyn heb ddigon o oleu i weled
eich gilydd yn dda..... Cynhwch y rhai hyn," meddai wedin, gan bwyntio
at burners y pulpud, "Cynhwch y rhai hyn, beth i chwi yn wneyd yn
y tywyllwch fel hyn." Pe buasai'r meirw wedi codi o'u beddau yn y
fynwent, ac yn edrych â'u llygaid oer i fewn i'r capel drwy y ffenestri, ni
fuasai mwy o syndod wedi disgyn ar y dyrnaid pobl oedd yno. “Cato'n
pawb," meddai Dafydd William. “Cato'n pawb ...... Beth ma fa yn wed?”
“Gwed wrtho ni am gynu'r gas," meddai Emwnt Etwart. “Wi ar ym ffordd i lan i'r Rhondda," aeth y
gwr dieithr yn ei flaen , “ond mi gollais y tren, a mi dro's i fewn yraa.
Rown i'n gweled rhywfaint o oleu yma, a mi feddyliais y gallasai fod cwrdd
yma. Ond beth i chi yn peidio cynheua goleu," meddai wedyn , yn d'od yn
oi at y cwestiwn hwn, “rhowch waith i'r rhai hyn," yn pwyntio at y burners
eto, “a dysgwch fod yn siriol." Ar hyn croesodd y capel i fyned i'r set
fawr ac aeth Dafydd William yn ol i'r sêt fawr mewn gormod o syndod i feddwl.
“Myfi yw goleuni'r byd," meddai'r gwr dieithr, “Myfi yw goleuni'r byd”
........ "Wyddoch chi pwy ddywedodd y geiriau yna Dafydd William."
Daeth y nodiad hwn o enw Dafydd William a thipyn o ymddiriedaeth iddo. Yr
oedd y gwr dieithr erbyn hyn hefyd wedi d'od i'r goleu, a gwelwyd ei fod yn
ddyn lluniaidd a pharchus ei olwg, a theimlodd pawb |
|
|
|
|
(*20) |
YR YSGUL SABBOTHOL. 301 ar unwaith ei fod yn “ddyn crefyddol," ac
atebodd Dafydd William, “otw wi'n gretu." Cymerodd Mr. Lloyd y seiat yn
ei law yn awr, a chadwodd hi i'r diwedd. Dywedodd ymhlith pethau eraill ei
fod yn Fethodist, ond nid oedd yno lawer yn credu hyn. Wedi gorphen y cwrdd, safodd yr “hen bobol" o
flaen y capel er siarad ynghylch y “gwr diarth."......" Wel,"
meddai Dafydd William, yn taflu ei law i fyny, ond yn dweyd dim...... “Baptist
yw e," meddai Isaac y Crydd, “ond gwetws a i fod a yn Fethodist,”
meddai Dafydd William, "Fe all fod yn awr," meddai Isaac,
“Ond Baptist yw e, gyda nhw y cas e'i gwni." Ar hyn dywedwyd “nos
da." |
|
|
|
|
|
Y Lladmerydd – Cylchgrawn yr Ysgol Sabbothol. Dan Olygaeth y Parchn. J. M. Jones, Caerdydd, Evan
Davies, Trefriw, a D. Jenkins, Ysw., Mus. Bac. (Cantab) Cyf. xii. Chwefror 1896. Rhif 134. Hen Bobol Tabor. Gan y Parch. Daniel Thomas, Ffynon
Taf. Tudalennau 42-49. ….. Gan y Parch. Daniel Thomas, diweddar o
Ffynon Taf |
|
|
|
|
(*21) |
4/ Cyf. xii. Chwefror 1895. Rhif 134. Tudalennau
42-49 42 HEN BOBOL TABOR. "HEN BOBOL TABOR." GAN Y PARCH. DANIEL
THOMAS, DIWEDDAR O FFYNON TAF. Yr ydym yn ysgrifenu yr adgofion hyn o Hen Bobol
Tabor heb gyfeiriad neillduol at drefn nac amser. Pan yn cychwyn nis gwyddem
yn iawn pa le i ddechreu. Meddyliasom am fyned yn ol at amser yr hen gapel a
thymor yr hen oruchwyliaeth yn y lle, ac yna araf weithio ein ffordd yn y
blaen drwy y blynyddau, a'r dyddiau diweddarach nes cyrhaedd |
|
|
|
|
(*22) |
HEN BOBOL TABOR. 43 meusydd y dyddiau presenol, y rhai sydd yn rhy
anaddfed i gryman y croniclwr. Ond cymerodd yr ysgrifbin arno i arwain y
ffordd, gan adael i ni ganlyn, ac er galw arno i aros a bygwth ambell dro i
droi yn ol os na fyddai iddo arafu ei gamrau, eto ar y blaen y mae, “ac yn
troi ei big” fel y dywedai Mary Rossar, “i bob cwtch ac yn d'od a
phlifyn o bob man." Wedi yr eglurhad uchod bydd y darllenydd yn gwybod
pa le i osod y bai am bob annhrefn yn y nodiadau. Ac yn awr rhaid i ni frysio i ddal Emwnt Etwart a
Dafydd William. Tyraor terfysglyd — nid cwerylgar, sylwer — yn Tabor oedd
adeg dyfodiad pobl Aberdar i'r gymydogaeth, neu fel y gelwid hwynt yn Ffynon
Taf, “Gwyr Aberdar," a “Gwyr y Mynydda." Yr oedd llawer iawn o
deimlad cymdeithasol — class feeling —
yn yr ardal; ac nid oedd rhaid ond enwi ambell le i deimlo hyn ar unwaith, a
chael engraifft groew ddigon yn y pwyslais rhoddid ar yr enw, o'r diraddiad y
safai y lle ynddo, o'i gymharu à Tabor yn neillduol, a Ffynon Taf yn
gyffredinol. Byddem ni yn Ffynon Taf yn yr hen amser yn meddwl yn dda iawn o
honom ein hunain. Ystyriem ein hunain gystal ag unrhyw bobl arall ar yr holl
ddaear, ac hefyd ychydig yn weli. A gorchwyl nid hawdd fuasai i ni ddyfod o
hyd i deilyngdod a osodai yn y cysgod yr eiddom ni ein liunain. Ffynon Taf!
yr oedd yr enw yn swynol, ac yn sefyll am gasgliad o ragoriaethau. Ac am
Tabor! — yr oedd Methodistiaeth ar ei goreu yno, ac yr oedd hyn yn dweyd
pobpeth. Edrychem i lawr ar bob lle o fewn cylch eang o'n hamgylch, a thu
allan i'r cylch hwn nid oedd yr un man a digon o deilyngdod ynddo i anfon ei
enw i fewn i'r gystadleuaeth. Edrychem i lawr ar Ferthyr, edrychem i lawr ar
Aberdar, ac ar Gwm y Rhondda o'r top i'r gwaelod. Edrychem i lawr ar Gaerdydd
hefyd. “Parsal o Saeson” oed'd yno, ac yr oedd diystyru y rhai hyn yn
weithred o ras. Tu allan i'r “llefydd” hyn gorweddai niwl dieithrwch ar bob
tre a “phentra," ac ni wyddem lawer am danynt; ond cymerem yn ganiataol
nad oeddynt well os cystal a Merthyr ac Aberdar, ac estynid cadair neu yn
hytrach gosodid mainc iddynt — waeth yr oedd cynifer o honynt wrth y drws
megis, — iddynt gael eistedd yno yn gryno gyda eu gilydd. Ac am y pentrefi cylchynol, megis “y Ton,"
Pentyrch, Trefforest, a Chaerphili, — wel, byddai yn anhawdd i ni wrth feddwl
am danynt beidio diolch i'r Arglwydd nad oeddem fel hwynt. Deuai y diystyrwch
hwn i'r golwg yn amlwg iawn pan elai rhyw frawd i weithio i rai o'r lleoedd
uchod. Byddai cydymdeimlad cyffredinol ag ef yn yr ardal; yn rhanol, wrth
gwrs, oblegid ei fod yn gadael ei gartref a'i deulu, a myn'd i lodgio, ond yn
benaf oherwydd ei fod yn gorfod myned i “shwd hen le.” “Dir i helpo fa,"
fyddai y nodiad glywid ar bob llaw, a hyny yn aml “Dir i helpo fa.” “Trueni
na elai y gwaith yma iddo dd'od yn ol, busnas fidir yw gorfod byw mwn shwd le
yna." A phan ddeuai y pererin crwydredig adref ar nos Sadwrn "am
dro" ac ymddangos yn Tabor foreu Sabbath, byddai yno gymaint o gyffio a
phe buasai wedi d'od yn ol o ganolbarth Africa, oddiwrth bobl dduon.
Llongyferchid ef ei fod yn edrych cystal a chysytro, ond cynghorid ef
yn ddyfal i “chwilio am dwll bach i ga'i d'od yn ol," a gorphenai
Dafydd William ei ymddiddan ag ef fynychaf gyda — “Tyn Shag yn ol gyna gellid
di, paid |
|
|
|
|
(*23) |
44 HEN BOBOL TABOR. ag aros yn hir m'wn shwd le yna." Cydunai Emwnt
a'r cyngor trwy ddweyd, "Ia, ia, ngwas bach i," a'i lygaid yn haner
cau wrth droi i ffwrdd. Peth peryglus, yn ol syniad yr hen bobl, oedd aros yn
rhy hir o Ffynon Taf. Datganai Mary Rossar ei bara a'i theimlad am
breswylwyr y rhanbarthau hyn, yn cynwys pawb ar y llinell o Brynmawr i
Treherbert, ac am ysbaid o ffordd ar bob tu i'r llinell hefyd drwy eu galw yn
“Grybildi'r mynydda." Beth oedd y syniad yn meddwl a chalon Mary Rossar
y tu cefn i'r term hwn nid oedd eglur iawn, ac ni fuasai yn debyg o wella yn
ei barch wrth dd'od i'r amlwg. Ond yr oedd yn eglur ddigon ei fod yn
gyfansoddedig o elfenau cymysglyd iawn, megis glo, tân, gweithfeydd,
anifeiliaid, heolydd lluwchog, a bodau dynol o amrywiaeth eang, wedi eu
cymysgu, neu yn hytrach wedi eu berwi yn y crochan cymdeithasol ac yn
cynyrchu yn y diwedd, wedi y drofnidiaeth i gyd crybildi Mary Rossar. Yr oedd hyn cyn i Gwm y Rhoridda agor a dadblygu
llawer. Pan oedd grym y gweithfeydd yn Nyffrynoedd Merthyr ac Aberdar, a
chorff mawr y boblogaeth yno. Ond wedi i'r Rhondda agor, a'r werin ddylifo
yno a'r lleoedd eraill a nodwyd, bu i'r trefydd hyn wella yn eu cymeriadau.
Aeth y grybildi oddi yno i fesur mawr gan adael ar oi fodau dynol llai
cymysglyd a mwy goddefol, a daeth enwau Merthyr ac Aberdar, mewn caniyniad,
yn wynach. Ond am y Rhondda, byddai llawer o godi dwylaw uwch ei ben yn
Ffynon Taf, ac sydd yn parhau eto, am hyny; a'r unig farn a ddatgenid am y
lle fyddai “Yr arswd anwil” a “Dear me." Wedi i ffos gaei ei hagor o'r trefydd hyn i Rhondda
— yn ol Ffynon Taf, cofier, — ac i Iygredigaeth y lleoedd hyn lifo i'r olaf,
cymerodd y syniad am danynt, fei y nodwyd, wedd ianach yn meddwl hen bobl
Tabor, a byddai ambell i flodeuyn o barch yn dechreu ei harddu, yn enwedig
Aberdar. Yr oedd Ieuan Gwyllt yno “Shar Canu,'" a Saunders yn Bethania,
yn ffurfio elfenau iachusol. Yr oedd barn Tabor am y lle hwn ac yn neillduol
Bethania — waeth beth fuasai Aberdar nac un aber arail heb Fethodistiaid ynddo
— yn weddol garedig, a digon o rinwedd ynddo i gymeryd ei !e yn nosbarth “Fe
wna'r tro." Ond yr oedd yn rhaid i'r farn hon er parhad mewn iechyd a
nerth i Bethania ac Aberdar yn gryno aros lle yr oeddynt a pheidio dyfod i
Ffynon Taf ac ymaelodi yn Tabor. Methodd Bethania yn hyn rhaid yw cyfaddef, a
syrthiodd barn garedig Tabor am ei chwaer eglwys i fesyr o nychdod mewn
canlyniad. Er mwyn gwneyd y stori yn gryno, rhaid i ni ofyn
i'r darllenydd gydymddwyn a ni tra yn rhoddi haes symudiad y cyfeillion hyn
i'r lle. Yr hyn achlysurodd y symudiad dan sylw oedd pryniad tamaid o waith
glo a meini yn yr ardal, gan gyfeillion Aberdar. Bryncoch yw enw y
"gwaith." Y mae yn fyw eto, ac yn anadlu pan yn cofio. Nid oes yno
ddigon o hono i ffurfio ffon bara i'r ardal, ond y mae yn gawod o fanna
werthfawr, sydd yn disgyn yn gyson drwy y blynyddau wrth ddrysau tai y
preswylwyr. Amrywiol iawn yw gyrfa Bryncoch wedi bod o'r
dechreuad — ac y mae y dechreuad hwnw gryn ffordd yh ol — hyd yr awr
bresenol. Y mae wedi myned trwy Iawer llaw, ac wedi cael profiad
eangach nag sydd yn |
|
|
|
|
(*24) |
HEN BOBOL TABOR. 45 syrthio i ran pob gwaith glo a gwaith meini, o'r
natur ddynol. Ar y ifordd i lawr daeth i ddwyiaw cyfeillion Aberdar, ynghyd
ac eraill. Yr oedd dau o'r tri oedd yn ffurfio y cwmpni yn
Fethodistiaid. Eglwyswr o Bentyrch oedd y llall, a rhoddem ef i ofal ffeiriad
y lle hwnw. Ond am y ddau eraill, sef Mr. Morgan, "y Bardd," a
Thos. Williams, East Moors, Caerdydd yn awr. Methodistiaid cryf
oeddynt. Yr oedd Tomos Tomos fel y galwem ni ef, sydd yn flaen or yn Pembroke
Terrace yn Caerdydd yn bresenol, y clerc yn Fethodist wrth gwrs, ond
am Dafydd Dafydd y pwyswr, baptist oedd ef, a baptist selog
hefyd, a'r dwr yn llawn mor felus i'w enaid ag ydoedd i'w gorff, os nad
ychydig yn fwy, ond baptist synwyrol iawn oedd Dafydd Dafydd. Gadawai
y dwr ar oi gartref gyda Mary y wraig fynychaf. Ni ddeuai ag ef i'r gwaith.
Byddai mor sych yno yn yr ystyr hwn ac Annibynwr neu Fethodist, a byddai
trwch da o lwch doethineb fydol ar ei dafod, oedd yn awgrymu pellderoedd
maith oddiwrth unrhyw “wlybaniaeth." Pan ofynai y Bardd iddo ambell dro
“Beth am y dwr yn awr, Dafydg?" Osgöai Dafydd y mater ar unwaith gan
nesu at rhywbeth arall llawer sychach, ond pe digwyddai fod y Bardd allan o'r
gymydogaeth, a'r “Methodists erill” heb fod ar glawr, cai Bryncoch wybod yn
bur fuan fod Dafydd Dafydd yn Fabtist drwy ei fod yn gwasgaru mynych
phioiaid o ddwfr o’i gwmpas, ac yn coffa drwy y dydd Dafydd Evan,
Ffynonhendry, a Shon Shencyn o Hengoed. Yr oedd Bryncoch, fel hyn, yn iach iawn yn y ffydd,
ac yn rhagoroi o Galfinaidd, yn gystal i'r Hen Gorff mewn gwirionedd ac achos
arall yn y iie. Yr oedd swyddfa Mr. Morgan nwchlaw y gamlas bron wedi d'od yn
sêt fawr; yr oedd yn fwy o le adnodau a phrofiadau crefyddol na lle glo a
meini, ac yn fwy o lety i ben benillion Cymreig — adenydd y saint i fyned
adref — nac i "gownts gwaith," a chownts enaid oedd y
cownts drafodid yno fwyaf. Ac hefyd nid yn unig yr oedd y perchenogion a'r
goruchwylwyr yn Fethodistiaid, ond byddai corph mawr y gweithwyr hefyd yn
perthyn i'r un enwad parchus, a thrwy hyn yn "rhoddi arwydd a phrawf o
ddoethineb gref a gras mawr," meddar'r Bardd. Tabor wrth gwrs oedd cyrchfan grefyddo! y bobl hyn —
capel Dafydd William ac Isaac y Crydd, Emwnt, Etwart a Mary Rossar. Ond
cymaint oedd rhwysg a rhuthriad y dyfroedd newyddion hyn fel y bu bron iddynt
ysgubo Dafydd William ac Emwnt Etwart oddiar eu traed a Mary Rossar hefyd
gyda hwy, a'u boddi ar y gwaelod heb obaith adgyfodiad buan. Gydag ymdrech
mawr y daethpwyd i'r wyneb drachefn, a chydag egni nofio mawr y cadwyd yno;
ond llwyddwyd yn hyn, trwy drugaredd; ac wedi liawer o nofio cyrhaeddodd
Dafydd William y llyn unwaith yn rhagor; ac er mwyn sicrhau meddiant o hono
mwyach, gwnaeth fel y gwna morwyr mewn tywydd garw, rhwymodd ei hun am y
llyw; ac wedi hyn nid oedd llawer o berygl i'r un don ei olchi ymaith o'i
awdurdod. Ac yn wir byddai hyd yn nod breichiau Mary Rossar, Isaac y crydd,
ac Emwnt Etwart yn estynedig megis at raff, ar ol hyn, er diogelwch rhag yr
un perygl. Yr oedd hyn yn yr hen Dabor, cyn i lawer i
amgylchiad pwysig yn hanes y lle, sydd erbyn heddyw yn “ben beth” ddigwydd.
Gwanaidd |
|
|
|
|
(*25) |
46 HEN BOBOL TABOR. awn yw goleu adgof ar y tir hwn; aneglur yw gwynebau
rhai hen gyfeillion, distaw yw swn ei lleisiau, a'u troediad mor ysgafn a phe
buasent yn cerdded dros freuddwydion; a rhaid yw yn aml chwythu llwch y
blynyddoedd oddiar wyneb y digwyddiadau er gweled fath oeddynt. Yr adgof cyntaf sydd genym àm ddyfodiad cyfeillion
Aberdar i'r ardal, yw cyfarfod adrodd a chanu yn yr hen gapel. Rhaid mai hwn
oedd y cyntaf gynhaliwyd yno, ac y mae y "cwrdd" hwn yn edryc
hallan atom o'r blynyddoedd tywyll, a gwywedig hyn, fel seren gynta'r nos
sydd wedi codi awr neu ddwy o flaen ei chwiorydd, ac yn rhoddi tro, wrthi ei
hun, ar feusydd diderfyn y tywyllwch, ac yn eu cynhesu a'i sirioldeb. Yr oedd y capel yn orlawn, a'r hen Dabor yn methu
deall, yn ddiddadl, pe buasai yn gallu teimlo, beth oedd yn bod. Yr oedd
Dafydd William yno, ac Isaac y crydd, Emwnt Etwart a Mary Rossar, a lliaws o
hen bobl Tabor, a'r elfen newydd yno hefyd, yn gryf. Yr oedd Mr Morgan, — y
Bardd yn taenu cymaint o oleuni o'i gwmpas, drwy ei sirioldeb diatal, â'r
ychydig ganwyllau oedd yno. A'i lais mawr cartrefol, heb ronyn o ddieithrwch
ynddo, nac eofndra chwaith, ond yn llwythog o'r tir dymunol sydd rhwng y ddau
hyn, brawdgarwch yn llanw'r lle, ac yn synu enaid Dafydd WiIIiam â math o
agosrwydd caredig. “Wel Dafydd," fyddai ei gyfarchiad i'r hen flaenor yn
awr ac eilwaith, a “Wel" fyddai atebiad Dafydd WiIIiam yn ol, heb fod yn
sicr pa esboniad i roddi ar gyfarchiad o'r fath. “Sut i chi yn awr?” ddelai
oddiwrth y Bardd eto, ac elai “Pyw'r" oddiwrth Dafydd William yn ol, ond
atebai yr hen flaen or fel pe buasai yn meddwl am rywbath arall; ac yr oedd
yn meddwl am rywbeth arail hefyd, a'r rhywbeth hwnw yn ddyfodol Tabor. Beth
fuasai gwedd yr achos a'r celfi newyddion hyn y ty? Neu fel yr oedd Mary
Prossar bron yn barod i'w galw y nos hon “y grybildi newydd." Yr oedd y capel yn llawn fel y nodasom, ac esgynlawr
o flaen y pulpud, a'r cadeirydd yn y lle olaf hwn. Yr oedd yn anhawdd gwybod
pwy oedd yn bresenol heb ei fod yn dyfod a'i wyneb i gymydogaeth canwyll: yr
oedd y goleu mor eiddil, a chyn lleied o hono yno. Yr oedd yn “oleu haul” ar
yr esgynlawr, a byddai gwynebau y rhai oedd yn eistedd yno yn tywynu yn
ddisglaer iawn. Byddai yn wawrddydd ar ganol y capel hefyd, yr oedd cylch o
ganwyllau yn llosgi yno, a disgynai peth o'r llewyrch ar benau y gwrandawyr fyddai
odditanynt. Tu allan i'r cylch hwn yr oedd yn dywyll, i fyny hyd at y muriau.
Yr oedd canwyll yma a thraw wedi ei sefydlu ar y “wal," ond byddai y
fath faich o "snwffyn” arni nes y byddai y goleu, y rhan fwyaf o hono,
yn cael ei droi yn fwg, ac nid oedd neb fawr gwell o'i phresenoldeb. Ond er y tlodi goleuni, yr oedd pethau yn gysurus
iawn yno, yn enwedig i'r plant, ac yr oeddynt hwy yn llawn brwdfrydedd. Pe
buasai llu o angyiion ac adenydd gwyn a glas ganddynt wedi dyfod i'r lle, i
dori a'u presenolder ysgafn ar drymder cyfarfod gweddi a seiat ni fuasent fwy
wrth eu bodd. Y canu oedd y peth mwyaf swynol yno o ddigon, yn enwedig
rhangan gan wyth a Mr. Prosser (Eos Gwlais) yn arwain. Yr ydym wedi clywed
canu godidog oddiar hyn, gan gorau goreu Cymru, ond nid oedd gyffelyb i'r
canu hwn yn yr hen Dabor, yn disgyn am y tro |
|
|
|
|
(*26) |
HFN BOBÜL TABOR. 47 cyntaf ar glust plentyn ag oedd heb brofi dim
amgenadi na chanu Isaac y crydd ar y Sabbath. Yr oedd y diachtiad cyntaf o
ddwfr oer grisialaidd i'r crwydryn lluddedig; y pelydryn cyntaf i lygaid y
dall; anadliad cyntaf y wawr i natur, a moinent gyntaf yr orphwysdra fry — yr
oll o honynt yn un. A phe buasai ffenestri y drydedd nef wedi eu hagor, a
cherddoriaeth gyfoethog y lle sanctaidd yn disgyn yn gawodydd ieuainc arnom,
ni fuasai y niwynhad yn fwy byw. Yr oedd pawb i bob ymddangosiad wedi mwynhau
eu hunain dios ben. — ondyrhen:,obI, nid oedd eu llawenydd hwy yn ddigymysg,
a byddai cystal i ni roddi eu hymgom hwy ar y mater fan hyn. Pan ofynwyd i
Mary Rossar “Shwd y licws hi y cwrdd?" Atebodd “Netho'i na'i lico fo
na'i ddis-iico fo waith chlywes i ddim o ge. Y peth gyrhaeddws y nglilysta i
odd mwstwr.........Wn ni odi chi yn galw hwnw yn ganu ne bido. Os odi chi,
wel wetin fi glywas ganu yn lled debyg." Yr oedd Mary yn drwm iawn ei
chlywed, ac yn Dorïaidd ofnadwy. “Wn ni beth i chi yn i feddwl wrth ganu” aeth yn ei
blaen wedyn, “Os taw rhyw jig drot, a by^s y ledar yn wado'r awyr i
lan ac i lawr, wel ni geson ganu, dôs dim doubt a sopyn o'
ge." Mhen tipyn aeth Mary Rossar yn y blaen drachefn “a beth odd y tamad
fforc yno odd gento," ........." Un o wŷr Aberdar odd hona, welas i
hona yriod o'r blaen." "Na, na, mam fach” meddai Isaac y crydd, waith
efe oedd gyda Mary Rossar ar y pryd, "'dych chi ddim yn diall, dyna y ffordd
newydd o ganu."........." Ho, yn dyn i, y ffordd newydd o ganu Ia
fa." Meddai Mary Rossar yn ol a dyrnaid dda o watwaredd Morganwg ar y
frawddeg. — “Beth sydd ar yr hen?” “Mam fach” meddai Isaac eto, “ond gwyddoch chi fod
dull y byd hwn yn myned heibio, ' We!e gwnaethpwyd pobpeth o'r newydd i
meddai'r gair onte?” “Ma'r gair yn itha righf" meddai Mary
Rossar, “Ma'r gair yn itha right, ma'r byd yn mynd hibo, yn rhewydd
hefyd i rhwla, a tysa fa yn mynd a'r genhedlaeth hyna gydag e yn lle i towli
nhw i lawr yma wrth yn drws ni fysa dim llawar o gollad.........Ond gwed
wrtho'i Isaac, Beth yw'r fforc yna bachgan?"......... "A hona mae
nhw'n cymeryd swn mam fach " meddai Isaac eto yn nghlust Mary
Rossar a chan ychwanegu "gwelwch chi gymaint i chi ar
ol,"........."Cymeryd swn wetas ti" meddai Mary Rossar heb fod
yn siwr o'r gair, “Swn?...... am bachgan beth yw canu ond swn?
ha.........Cymeryd swn o ble ma nhw? "O'r fforc” meddai Isaacyn ol. Bu Mary Rossar
yn fud ar hyn am ychydig funudau yn ceisio goresgyn craig rhwystr llawer mwy
na'r cyffredin yn ei hanes yr oedd yn amlwg. Ond torodd allan eto a meddai,
“Dw i yn diall dim o ti ta beth, wyt ti yn jocan Isaac? Ha!” “nag w i
yn wir mam fach" meddai Isaac "yn jocan dim a chi.” “Wel
beth wyt ti yn feddwl ta?” meddai Mary Rossar “gwed yn uwch.".........
“Dyna fe i chi fel y ceso inna fa” meddai Isaac," dalla'i wed dim
rhagor." "O wel” meddai Mary Rossar mhen ychydig
"ti gai weld i bod nhw wedi dod ar tamid fforc yna gyda nhw bob cam i
dowli i'n llygid ni...... Dara, dara," meddai Mary Rossar i orphen fel
pe buasai yn bryd newid y pwnc am rhywbeth mwy sylweddol. |
|
|
|
|
(*27) |
48 HEN B0B0L TABOR. Wedi cerdded ychydig latheni yn y blaen torodd yr
hen wraig allan eto. “A ma dull y byd hwn yn mynad hibo? wetas ti, a'r fforc
sydd “ddod ar i ol a Ia fa?"........."Dyna'r ffasiwn newydd mam
fach i meddai Isaac eto. “Ho, yn dyn i, y dull newydd Ia fa? ho, na, gwed di
wrthi nhw mai dull Aberdar yw hono, a'i bod hi i fynd hibo o flaen dull y byd
yma o getyn, a gora pa gyntaf.........Ffasiwn newydd yn wir, Ffasiwn Aberdar
yw hi, Ffasiwn Aberdar, ngwas i a ma nhw yn meddwl i stwffo hi i Iawr
i'n llynca ni pu'n a licwn ni hi ne bido ti gai weld." Yr oedd Mary Rosser ac Isaac yn cerdded gan bwyll
fach i fyny yr heol wrth o!eu y lantern. Gallesid yn wastad yn y nos adnabod
yr hen wraig wrth y darn goleu fyddai yn araf symud o flaen ei thraed hi. “Grynda Isaac," meddai Mary Rossar eto,
“Grynda arno i, nhw'ch scwta'n chi i gyd naill ochr ti gaid weld, dyna
i plan nhw r'odd o yn barod yn Aberdar wasi, wi'n gweld i ceme
nhw, odw yn dyn i. Dyw Mary Rossar ddim wedi byw ôs yn y byd yma heb sharpo'i
llycid. Nhw'ch scwtan chi i mas, ti, Dafydd William a Emwnt Etwart, a
ma'r Mawradd yn gwpod fe ga inna fynd gyda chi. Fydd nep o ni o un count."
Dywedodd Mary Rossar y frawddeg olaf i'el pe buasai ei diraddiad personol hi
yn ben ar bethau. “A nawr “aeth yn ei blaen drachefn os ôs sense pys
yn ych pena chi scwtwch yn ol. Trowch ych cefna a scwtwch. Bachgan chi
fyddwch yn softach na chenin i droi o ffordd y rhai'na." Erbyn hyn yr oeddent wedi dal Emwnt Etwart a Dafydd
William a dechreuodd Mary Rossar arni eto, “wTi wedi bod yn gwed wrth Isaac
yma am scwto'n ol" medd&i Mary i gyfeiriad Emwnt Ecwart yn fwyaf
neillduol........." Scwto'n ol" meddai yr hen dad hwnw yn ol mor
ddiniwed a phlentyn bach.” “Scwto peth y merch i?" meddai Emwnt Etwart
eto, “Scwto gwyr Aberdar” meddai Mary Rossar. "Dara" meddai Emwnt Etwart wedi seibiant
o rhyw haner munud. “Dara” dw i ddim yn dy ddiall di, Pwy isha i scwto
nhw sydd?” “yn dyn i” meddai Mary Rossar wrthi ei hunan ac yn bur sharp
wrth Emwnt Etwart, “ond di nhw yn ych scwto chi."........."
nag un yn wir," meddai Emwnt Etwart eto, "yn scwto dim
arno i, chwara teg iddi nhw Mary, chwara teg, wi yn i gweld nhw yn ddynion
bach free iawn, scwtson fi yriod.” “Dyw a yn gweld dim” meddai Mary Rossar wrth y ddau
flaen or arall, a doedd Emwnt Etwart yn gweld pethau fel yna chwaith. “Wn ni ddim" meddai Dafydd William yn taflu ei
ben yn ol yn bur awgrymiadol, “wn ni'ddim."........."Ma arno i ofan
taw gwyr y blan i nhw ac ma upset i fydd hi." Gobeithio chwna'n nhw ddim llawar o luwch os taw ar
y blan y mynan nhw fod" meddai Mary Rossar. “Un cas yw lluwch"
meddai Isaac y crydd, “Ia i'r sawl sydd ar ol," meddai yr hen fam eto. “Y mhlant bach anwyl i" meddai Emwnt Etwart yn
tori i fewn ar yr ymddiddan, "i chi yn anghoflo i fod E yn abl catw'r
gwynt yn i ddwrn, i chi yn i anghofio Fe.........Ac os gall E ofalu am y
storom fawr a'i chatw hi yn i lle odi chi yn meddwl na all E ofalu am Tabor
fach? a chatw y bobol fach ddiarth yma yn i lle os bydd isha?" |
|
|
|
|
(*28) |
HEN BOBOL TABOR. 49 “Yn dyn i wn ni ddim” meddai Mary Rossar. “Ma llawar
o'r epil hyn yn fwy annodd iddi manigo na'r gwynt, getyn, nhw slippan
i mas o'i law a, rhwng i fysidd a, heb iddo rhoi gwasgad iddi nhw, nhw
fyddan yn llonydd wetin." Yr oedd yn amlwg fod yr ben bobl mewn trafferth, yr
oedd ofn i Tabor gael ei droi yn Bethania arnynt, nid ofn colii y llywodraeth
yn gymaint oedd arnynt ond ofn colli yr hen ffordd o drefnu pethau ynglyn ar
achos. “Un odd yw'r dyn naill fraich yna" meddai
Dafydd William yn dyfod yn ol at y pwnc eto. “Fe ofynws i fi heno ar ganol y
cwrdd shwd own ni, ' shwd i chi' medda fa." Gwenodd Isaac y crydd ar hyn
a dyferodd Emwnt Etwart "felly." "Wn i ddim" meddai Dafydd William drachefn
“wn i ddim."......... ma nhw yn serchus iawn hefyd.........Wn ni ddim.” “Gnewch chi beth w i yn i wed” meddai Mary Rossar, “scwtwch
yn ol, ych tri. Fe fydd isha dim scwto allwch chi gasglu arno
chi." Ar hyn daeth Mr. Morgan y Bardd yn ei flaen
ar eu traws a chyfarchodd hwynt mewn llais a'i lond o natur eang, dda, gyda
“Wel blant y ffydd," a chan daro ei law ar ysgwydd Mary Rossar meddai,
“Beth i chi yn peidio mynd tua thre mam, yn lle aros allan fel hyn i gael
anwyd?” “O" meddai yr hen wraig yn ol mae digon o ganwll genyf fi."
Rhaid yw dweyd fan hyn, mai pwnc mawr Mary Rossar yn y nos oedd gofalu fod
canwyll yn y lantern, a phan fuasai yn fyr, rhaid oedd carlamu
gartref, ond os byddai yno ddigon, nid yn unig byddai Mary Rossar yn
hamddenoJ, ond haner dybiai ei bod yn ddyledswydd arni aros allan. A hyn oedd
yr amgylchiad y nos hon, “Wel” meddai Mr. Morgan yn ol “os oes rhaid llosgi'r
ganwyll, llosgwch hi yn y tŷ, i gael arbed yr ben babell yma dipyn," yn taro ei law ar
ysgwydd Mary Rossar eto. “Oni te nhad” meddai drachefn wrth Dafydd William
"Am ia gydei siwr," meddai Dafydd William yn ol, ac yn gyflym
ddyfod allan o'i ddieithrwch. “A beth i chi yn ddweyd nhad Emwnt Etwart,"
meddai Mr. Morgan yn cyfarch Emwnt Etwart ac heb aros am atebiad meddai gan
droi at Isaac y crydd, a phwy sydd fan hyn? — “Isaac William, brawd
nid tad onite!" "Nawr mam” meddai'r bardd eto yn troi at Mary
Rossar rhowch y lantern i fi a'ch braich hefyd — mae eisiau braich arall
arnaf." "O, fi gera o'r gora” medda Mary Rossar, “gwnewch mi wn”
meddai'r Bardd ond chi gerwch y well gyda fi, a hefyd r'wy yn mofyn ych cwmni
chi."... ......"Nhad Emwnt Etwart odi chi yn dod? a, nos da Tad
Dafydd William a brawd Isaac." Ar y ffordd adref cafodd Mary Rossar well gwedd a
thecach golwg nac a ddisgwyliodd ar wyr Aberdar. A phan ofynodd Nanny Morgan
y drws nesaf iddi. Pwy dy lusgws di sha thre nithwr?” Atebodd Mary Rossar yn
barchus iawn, “Mr. Morgan, Aberdar." |
|
|
|
|
|
5/ Cyf. xii. Mawrth 1896. Rhif 135. Tudalennau
76-79 Y Lladmerydd – Cylchgrawn yr Ysgol Sabbothol. Dan Olygaeth y Parchn. J. M. Jones, Caerdydd, Evan
Davies, Trefriw, a D. Jenkins, Ysw., Mus. Bac. (Cantab) ….. Hen Bobol Tabor. Gan y Parch. Daniel Thomas, diweddar o Ffynon Taf |
|
|
|
|
(*29) |
76 "HEN BOBOL TABOR," GAN Y PARCH. DANIEL THOMAS, DIWEDDAR O FFYNON TAF. "Ma ticyn o sepon wedi tynu y drain i gyd o dy
dafod titha fi wela," meddai Nanni Morgan — haner chwaer yr ydym yn
dybied i Mary Rosser — wrth yr hen fam hono, ddiwrnod neu ddau wedi i'r olaf
gael ei hebrwng gartref dan fraich y Bardd, neu fel yr adnabyddai Mary Rosser
ef yn awr, Mr. Morgan, Aberdar, a breichied dda o barch yn cael ei osod ar
bob un o'r ddau enw hyn. Yr oedd Nanni yn hoff iawn o boeni, a chellwair â
Mary Rosser, ac nid anfynych dadblygai y drafodaeth hon i ddadl gyffrous oedd
ambell dro yn sawru yn gryf o ffrae; oblegid yr oedd tafod y naill o honynt
mor bigog ag eiddo y llall, ac er fod Nanni, fel rheol, yn dechreu mewn
ysbryd digrifol, eto, drwy frathiadau Mary Rosser yn ol, neu fel y galwai
Nanni hi, Mary ni — ni yn gynwysedig o Nanni yn unig — dybenai yr
helynt mewn tymher nad oedd yn wastad yn rhy garedig. Ond waeth yn y byd er haner ffraeo fel hyn yr oedd
yn rhaid i Nanni fod wrth Mary Rosser, ac yr oedd felly yn feunyddiol
edrych allan am gyfleusdra i oglais teimladau Mary, ac hefyd rhoddi ambell i
bigad iddynt yn achlysurol, yr olaf hwn wrth gwrs yn cymeryd agwedd anffawd.
Hyn oedd yr amgylchiad y boreu dan sylw. “Drain? — Beth i wetas ti?” meddai Mary Rosser yn
ol, yr hon oedd yn drwm iawn ei chlywed. Gwaeddodd Nanni yr ymadrodd eilwaith
tua chyfeiriad ei haner chwaer, oddi ar gareg y drws ac heb fyned gam yn nes
ati, fel y gallasai y gymydogaeth yn hawdd glywed beth oedd yn myned yn y
blaen. Ac yn wir fynychaf prysurai crug o benau allan drwy ddrysau a
ffenestri y tai cylchyno! pan dorrai llais Nanni ar draws clustiau y pentref
wrth gyfarch Mary. Yr oedd y ddwy hen farn yn byw yn y ddau dŷ
nesaf at eu gilydd, fel nad oedd ar y mwyaf bellder mawr rhyngddynt. "Beth yw dy feddwl di? Beth sydd genti
heddi?" gwaeddodd Mary Rosser mewn atebiad. “Garw fei yr wyt ti wedi newid dy gloch sha gwyr
'berdar," meddai Nanni, yn cyfarch y gymydogaeth lawn gymaint a Mary
Rosser. Yr wthnos ddiwedda”
aeth Nanni yn ei blaen, "yr o'n nhw yn grybildi'r mynydd, a wn
i ddim beth, ganti, ond yn awr os mynwch chi, ma nhw wedi dod yn Fystir
Morgan, a Mystir Morgan, Aberdar ys gwythurod." Cododd Mary Rosser ei phen a thaflodd edrychiad pur
sefydlog i gyfeiriad Nanni a meddai, “Glanha di o fla'n dy ddrws dy hunan,
gnai di, a gad y maili i yn llonydd, ma genti doman lled dda o waith
dy hunan iddi symud, wi'n greti, heb fynd i gasglu afiechyd cymdocath yn
nghyd ato fa.” “Gwed wrtho i” meddai Nanni heb gymeryd gronyn o
sylw o'r atebiad, “Gwed wrthdo i, fe gitchws yn dy fraich di ond do fa; a fe
gariws dy damid lantarn di," Ond nid atebodd Mary Rosser, “Ond do
fa," meddai Nanni drachefn, yn gosod pinched ychwanegol o halen
ar y |
|
|
|
|
(*30) |
HEN BOBOL TABOR 77 cwestiwn......... "Yn dyn i," meddai Mary
Rosser ar hyn, "a beth os do fa, ........beth os do fa .....odi'r
ddicadd arnot ti?........ “Dim at all," meddai Nanni, "dim at
all, cheso'i i'r clefyd yna yriod."......... "O, yn dyn i"
oedd atebiad Mary Rosser, “ta ti yn gweld dy hunan fel ma erill yn dy welt
di, falla creta ti dy fod ti wedi i gal a, a 'chanmolad arall tydi.' Gwddat
ti pu'n ai miwn ne mas o'r Beibl ma'r gira yna?” Cymerodd Nanni ei hanadi ar hyn ac yn sicr ddigon
cafodd Mary Rosser dipyn o seibiant, ond nid cynt y cafodd Nanni ei gwynt nag
y dechreuodd drachefn. “Os wyt ti yn mynd i droi gyda'r gwyr mawr, fel
hyn, fe fydd rhaid i ti dowli dy lantarn naill ochor, wel di.........Do's nep
o nhw yn cario lantarn gorn, ta beth, a hwnw yn wer i gyd.........Fe
f'ydd yn well i ti i rhoi hi i fi." Gorphwysodd Nanni. “Yr gora ta," meddai Mary Rosser yn ol, mewn
atebiad. “Yr gora ta, yn dyn i ti cai hi, wnela ticyn rhacor o ola ddrwg yn y
byd i ti, ti cai hi, ond cofia” meddai Mary Rosser yn rhoddi brathiad melus
iawn yn ol i Nanni, “Cofia lanha'r gwêr, fe fydd isha'r gola i gyd arnat
ti." Bu Nanni yn ddistaw ar hyn, ac yn ddiwyd wrth ei
hosan, a gallesid meddwl fod yr ymgom wedi terfynu, pan y cododd y brawddegau
i fyny i wefusau Nanni drachefn. “Gwed wrtho'i ferch," yn troi ei gwyneb
i gyfeiriad Mary Rosser. “Gwed wrtho i; Hen Gorff yw a?” “Pam” meddai Mary
Rosser. “Wyt ti yn gwel'd cewc Disentar arno fa?” Yr oedd Nanni yn
Annibynwraig selog iawn. “Wel, wi yn ffaelu setlo'r cwestiwn," meddai
Nanni. “Dw' i ddim yn siwr fod dicon o dro yn i war a i fod yn Fethodist. A
dw i ddim yn siwr nad os yna ormod i fod yn Ddisentar. Beth yw a
ferch?”..... "Methodist" meddai Mary Rosser, yn fuddugoliaethus:
“Methodist glân gloew,......... a diolch am hyny, waeth ma dicon o'r sort arall
yma yn barod." "Ffordd i chi'r Methodists yn camu fel yna
ferch f' gofynodd Nanni 'mhen tymor eto, ond wedi ysbaid o amser hwy nac
arfer; “Odi ch'i ddim yn cario'ch pecyn yn y lle wrong? .........
Ta fa ar ych pena ch'i fe fydda rhaid i ch'i i sefyll yn gwmws, ond te fe
dwmla lawr. A ta ch'i yn i gario fa ar ych cefna, chi allach sefyll yn
sythach, ond rhwffordd, i ch'i wedi i lodo fa ar ych gwara, a ma fa
bron a'ch dyplu ch'i yn ddoi.” “Wel," meddai Mary Rosser yn ol, a'i meddwl yn
cymeryd agwedd fwy difrifol nac eiddo Nanni. “Falla'n bod ni yn i gario fa yn
y lle wrong, synwn ni ddim os di ni, ond y ma fa yn getyn o job iddi
gario fa o gwbwl, wi'n greti.......... Ac hefyd, os bydd ticyn o faint ynddo,
dallu di ddim dewis i le fa lawar, rhaid i ti fod yn folon iddi gario fa
rhwffordd ac yn rhywla.......... “Ond gwed wrthdo i" meddai yr hen
wraig, yn troi at Nanni, “b'le i ch'i y Disentars yn cario ych pecyn
ch'i? — oh!" "Oh" meddai Nanni, yn casglu ychydig o
gynrychiolaeth enwadol i'w ateb. “I ni yn i gario fa o'r golwg.......... Di
ni ddim yn gnythur cymint o show a ch'i, weld di." ...... .....
“Ho, yn dyn i," meddai Mary Rosser, yn gafaelyd yn yr atebiad yn union.
“Ho, ag i ch'i yn i gario fa o'r golwg odi ch'i ......... Ho, a dyw a ddim
gormod o size i fyn'd o'r golwg, odi fa, Ho......... Ti gwetast hi yn
awr" meddai Mary |
|
|
|
|
(*31) |
78 HEN BOBOL TABOR. Rosser, yn dilyn arni hi. “Ti gwetast hi. A ma'ch
pecyn ch'i yn ddigon bach i fyn'd o'r golwg, ta? ......... Yn dyn i ti
gwetast hi yn awr. ......... Gwed wrtho i, Nanni, ble ich'i yn i gario fa? —
o dan ych cesal? — Oh!” “Stopa, stopa” meddai Nanni, a'r ysbryd crugwrus
wedi ffoi bron yn gyfangwbl. Yn awr yr oedd Mary Rosser yn ei gwasgu yn erbyn
y mur. “Paid a bod yn rhy siwr, a phaid a chwni dy gloch gymint, ac os yw'n
pecyn ni yn llai, fe all fod yn drymach na'ch pecyn ch'i o getyn."
.........."Likely iawn, ferch, Likely iawn" meddai
Mary Rosser," ti gwetast hi yto....... Os dos pwysa ynddo ffordd i ch'i
yn gallu cerad mor ddidaro? — oh i......... Ac os yw'n pecynni yn ysgon,
ffordd i ni yn camu dano? Gwelast ti ddynon yn camu dau wellt? “Yn wir, wn ni ddim llai, ta na sopyn o ge, na
chama dyn o dan hwnw. Ond i chi'r Methodists, shwd epil i luo a
seboni'ch gilydd" meddai Nanni, yn ymysgwyd at ei gorchwyl. “Toppars i
chi —” “Toppars?" meddai Mary Rosser, yn ceisio rhwystro y cenllif, ond
yn y blaen yr oedd Nanni yn mynd, ac yn d'od a chynffon y frawddeg allan drwy
wrthdystiad ei haner chwaer — "at hyny. Dyma y rhai hyn sydd wedi d'od
yma yn awr o 'berdar; pan ddath y son gynta i bod nhw yn d'od, dodd neb yn
uwch i chloch na ti yn i erbyn nhw. 'Beth ma nhw yn mofyn yma ' medda ti. '
Beth ma nhw yn mofyn yma,' ar dop dy lais, ' i upseto’r lle,' a tysa
craig yr allt yn twmlo ar dy shimla di, fysa ti ddim yn fwy dy fuss
....... A dyna odd dy gan di, bob dydd, ond ys gwythurod, t'e wanws un o
nhw'i fraich i dy fraich di un noswith, a fe ddath a ti a dy lantarn sha
thre, a ma fa wedi d'od yn fystir ar unwaith, yn fystir. A fe
ellid meddwl wrtho ti fod 'berdar yn ardd Etan yn lle otin o feddwon........
Shigia di dy ffon fynot ti," prysurodd Nanni, “wi'n gwed y gwir a'r i
ti, a dyrna ffordd wi'n gwel'd chi y Methodist i gyd. Ag i chi'n myn'd yn heist
— taw son, uwchben bob toman o ddrwg, os bydd hi o flan Methodist." "Wyt ti wedi cwpla nawr," oedd geiriau
cyntaf syndod Mary Rosser uwchben y tywalltiad hyn. “Wyt ti wedi cwpla,"
a gwrid cynhyrfus yn dringo i'w gwyneb, a'r ffon ddu yn taflu bygythion
tywyll i gyfeiriad Nanni. "Grynda di, wyt ti yn meddwl beth wyt ti yn i
wed? — a phwy sydd yn i wed a? ......... Pwy sydd yn galw Nywrth ar hen ddyn
Ynysgai drwy yr ardal i gyd, oh?” “Oh dy helpo di." meddai Nanni, alwas
i Nywrth arno yriod.” “Yn dyn i wn ni ddim," meddai Mary Rosser. “Wn ni
ddim, ond os nad wyt ti yn galw Nywrth arno, i chi yn galw Nywrth arno fel
enwad: Nywrth, Nywrth, yw hi, a'r hen ddyn sydd yn tyngu a rhecu fel powyn.
Ma Momilwr, o Shan Gilhael i lawr, yn galw Nywrth arno, a Gwaelod-y-garth i
gyd. Waith Disentars sydd yno, gwaetha'r lwc, ond Isaac y crydd, a
Liza, a Rachal Morgan, a hen wraig y siop, — i ch'i i gyd yn galw Nywrth
arno, ac i beth, gwed wrthai; i gael i arian a; ia, arian, arian. A
chi sydd yn wlia am sepon sydd yn lathro hen ddyn o'r top i'r gwaelod
er mwyn cal i geinog arian a! Yn lle'n trin ni, fe fydda yn rhetach gwaith i
ti i dynu'r sepon o ddwylo dynon dy hunan." Yr oedd Mary Rosser yn troi
i fyned i'r ty yn awr, ond daeth brawddeg arall i'w thafod, a throdd yn ei
hol, a meddai, |
|
|
|
|
(*32) |
HEN BOBOL TABOR. 79 “I ch'i fel enwad yn aros am scitcha un hen ddyn,
fel ta dicon o letar yn y rhainy i guddio'ch trad ch'i i gyd.......... Sepon
yn wir," meddai Mary Rosser, yn cael ail flas arni. “Sepon." Yr
oedd Nanni yn teimlo mai'r peth goreu yn awr, gan fod ei haner chwaer wedi
“ei thynu i mas," oedd ymddianc, ac felly aeth i'w thy. “Ia, cera i'r
ty” meddai Mary Rosser, gan ddilyn Nanni can' belled a'i ffenestr, a thywallt
ei geiriau y fan hono. “Yr Hen Gorff yn seboni, ia, fa sydd wedi deffro Cymru
pan odd hi yn rhewi mewn annuwioldeb.......... Pwy rhows John Elias i ni?
..... Pwy, Jones o Dalysarn? ac o ble y dath Eben Richards, a Thwmi i frawd?
A beth i chi wedi i rhoi i'r hen wlad?” ........."Hiraethog” gwaeddodd
Nanni. “Beth i wetost ti yn awr, Hiraethog?” meddai Mary Rosser, yn cymeryd
yr atebiad i fyny. “Wel, Wel, dyma ti wedi myn'd tuhwnt yn awr. Am ferch eto,
hen Fethodist yw Hiraethog, gyda ni y cas o'i gwni. Tamad oddiar yn bord ni
yn hunin yw a. Wel, wel wyt ti tuhwnt yn awr," meddai Mary Rosser eto, a
chan ychwanegu, “a ma pob torth sydd yn ych pulput ch'i o fara glan a iachus
— bara a support ynddo — wedi cal i chwni gyda ni y Methodist. Dallwch
chi'r Disentars gwni dim ond tishenod bach, petha i fyta gyda
thê." Gan nad oedd Nanni yn ateb, darfyddodd y ddadl, ac
aeth Mary Rosser yn ol i'w chartref, ond cyn terfyn yr ymgyrch, yr oedd
Dafydd Shon, oedd yn byw y pen arall i'r rhester dai wedi dyfod tua thre o'r
gwaith, a chyn myned i'r tŷ hyd
yn nod crwydrodd i gymydogaeth y ddadl ac yfodd yn helaeth yn y fan hyny o
ysbryd Mary Rosser, a chyda fod yr hen wraig yn troi i fyned i'r tŷ ail
ddechreuodd Dafydd Shon yr ymosodiad. “Di chi ddim wedi gwedi enwi i haner
nhw," meddai, “dyna Mathews a Saunders, a Henry Rees, ac Owen
Thomas," ond gan nad oedd Nanni
yn dyfod allan gwanodd Dafydd Shon ei ben i fewn i'r drws a meddai, “Beth wyt
ti yn feddwl am Mathews?" Ar hyn tarawodd Nanni i ganu, “Mae dydd y farn
yn dod ar frys." Yr oedd Dafydd Shon a'i ben yn y drws o hyd a rneddai
eto, “Beth wyt ti yn feddwl am Saunders?" ond canu wnaeth Nanni yn y fan
hono ar ei heistedd gan edrych i lygaid Dafydd Shon ond heb ddweyd gair yn
ol, wedi aros yn y fan hyny am beth amser trodd Dafydd Shon i fyned tua thre,
a chan fwmian. “Canu yw'r peth gora all Disentar nythur, does dim llawar i
wed gento." Gyda fod Dafydd Shon wedi myn'd i ffwrdd, prysurodd
Nanni i dy Mary Rosser, a meddai, “Beth yw hi o'r gloch wrtha ti?" Wedi
gweled hyn, a phan yn troi i fyned yn ei hol, gofynodd i Mary Rosser, “Os
sychad arnat ti?” “Synwn ni nad dos a," meddai Mary Rosser yn ol.
“Wel," meddai Nanni, “Ma 'co ddysglid o de ar y tepot, fresh" a
ffwrdd a hi. Cyn pen pum' munyd ar ol hyn, tywyllwyd drws Nanni gan
bresenoldeb Mary Rosser, a mwynhaodd y ddwy hen fam eu tê, ond ni soniwyd
gair am Fethodistiaeth nac Annibyniaeth. |
|
|
|
|
|
6/ Cyf. xii. Mai 1896. Rhif 137. Tudalennau 132-141 Y Lladmerydd – Cylchgrawn yr Ysgol Sabbothol. Dan Olygaeth y Parchn. J. M. Jones, Caerdydd, Evan
Davies, Trefriw, a D. Jenkins, Ysw., Mus. Bac. (Cantab) ….. Hen Bobol Tabor. Gan y Parch. Daniel Thomas, diweddar o Ffynon Taf |
|
|
|
|
(*33) |
6/ Cyf. xii. Mai 1896. Rhif 137. Tudalennau 132-141 132 HEN BOBOL TABOR. "HEN BOBOL TABOR." GAN Y PARCH. DANIEL THOMAS, DIWEDDAR O FFYNON TAF. VI. Gan ein bod yn yr ysgrif ddiweddaf wedi cyraedd hyd
at Mary Rosser, a Nanni; a chan fod genym ychwaneg i ddweyd am y ddwy hen
fam, yn eu perthynas â'u gilydd; a chyda eu gilydd mewn perthynas i bobl a
phethau eraill, gwnawn aros ychydig yn hwy yn eu cwmni. Bydd hyn yn fwy
trefnus; ac hefyd yn arbediad ar amser a llafur, drwy osgoi cerdded yn ol a
blaen o'r naill amgylchiad ac o'r naill berson i'r llall. Fel y crybwyllwyd yn yr ysgrif olaf ond un, os ydym
yn cofio yn dda, nid gwaith hawdd yw cael pethau i'w lle, heb fod rhyw fesur
o ragdrefniant blaenorot wedi bod yn eu cylch, — rhagdrefniant ag sydd yn
absenol yn y nodiadau hyn. Y mae rhai o'r celfi wedi ffeindio crutch,
mae'n wir. Crutch cymharol gyfaddas, tra y mae eraill eto yn chwilio
am dano. Yr ydys, felly, yn |
|
|
|
|
(*34) |
HEN BOBOL TABOR. 133 gorfod myned drwy fath o ddetholiad lleol, ynglyn
a'r amgylchiadau, y digwyddiadau, a'r personau, yn yr ymdrafodaeth: a'u troi
drosodd a throsodd; eu treio fan hyn, ac yna fan acw; sefyll i ffwrdd dipyn i
weled sut y maent yn edrych. Eu newid eilwaith, a gosod rhywbeth arall yno;
ac edrych ar hwnw drachefn, o'r un fan, ac felly yn y blaen, nes yn y pen
draw, gyraedd trefniant ac sydd mor agos at weddeidd-dra ag sydd bosibl i ni.
Yr ydym wedi bod yn troi yr amgylchiad hwn sydd i
ddilyn, fwy o gwmpas nag ydym wedi ei wneyd â'r gweddill. Yn un peth oblegid
ei fod yn wahanol iawn yn ei nodwedd i bethau eraill, fydd genym i ddweyd yn
ol llaw, am Mary Rosser. Yn beth arall, nid yw yn dal unrhyw berthynas
neillduol â neb, nac â dim ond â Mary Rosser; ac felly yn gwrthod syrthio i
fewnynol cynghor trefniant a chysylltiadau pethau. Ond wedi bwrw o gwmpas yr
ydym yn penderfynu ei osod yma, yn y crutch hyn, gan obeithio y byth
iddo leicio ei le, yn neillduol gan y bydd yn rhaid iddo aros ynddo. Story’r Clock yw yr amgylchiad dan sylw. Bu genym Story’r Clock o'r blaen
ynglyn a Terry a Shenad, yn y Ddinas. Ac y mae genym Story’r Clock
ynglyn a Mary Rosser yn Ffynon Taf. Nid yr un yw y ddwy Story. Nid cyffelyb
yw yr amgylchiadau; yn wir nid oes yr un berthynas rhyngddynt, ond eu bod yn
dwyn yr un enw. Y mae y naiil fel y llall o honynt yn Story'r Clock, a
dyna'i gyd. Bydd rhaid i ni yn mhellach, ac yn ychwanegol at y
nodiadau rhagarweiniol uchod, ddweyd rhywbeth ar ac am sefyllfa
gymdeithasol y Clock yn Ffynon Taf. Yr oedd y sefyllfa hon yn amrywiol
iawn, ac eto, yn meddu ar elfenau sefydlog. Mewn ystyr gyffredinol yr oedd yn
gwahaniaethu, ond mewn ystyr gyfyngach a mwy lleol, yr oedd yn dyfod yn
sefydlog. Yr oedd ambell i glock yn yr ardal yn ddigon
da ei gymeriad i eistedd yn esmwyth yn y set fawr, tra yr oedd yno eraill heb
ddigon o barch ganddynt i fod yn gysurus ar y gallery. Yr oedd cymaint
o wahaniaeth rhyngddynt ag sydd yn bodoli rhwng yr eglwys a'r byd. Ac
yn wir, byddai y llinell sydd yn rhanu y ddwy dalaeth hyn oddiwrth eu gilydd
yn didoli gyda mesur hapus o gywirdeb yr efrau oddiwrth y gwenith yn myd yr
awrleisiau. Gyfranogai y clock, fel rheol, o sefyllfa
gymdeithasol y teulu, a phan oedd hwnw yn gyffredin a diwerth, yr oedd yn
anhawdd i'r awrlais i godi ei ben i fyny gydag un mesur o hyder. Yr oedd ei
wedd allanol, yn gyffredin, yn milwrio yn ei erbyn yn mhob ystyr. Ni chaffai
ei gadw yn lan, byddai ei wyneb yn dew o lwch, a'i lygaid yn aneglur mewn
canlyniad. Ac yn wir ni byddai rhaid ond edrych ar ei ben, ac o gylch ei
gernau, i ddarganfod yr un cyflwr digadwraeth. Byddai y pwysau, drachefn,
yn ddirâen, yn lluwchog, ac yn rhydlyd. A dioddefai oddiwrth esgeulusdod oedd
yn bresenol yn ei holl gyfansoddiad, y tu fewn, a thu fâs. Effaith hyn oll oedd dirywiad, a dirywiad mawr.
Byddai yn colli pob amcan wrth daro. A'i mor bell weithiau a dweyd ei bod yn
saith yn yr hwyr, ac yn bryd myn'd tua'r cwrdd, tra y datganai yr haul yn
entrych. |
|
|
|
|
(*35) |
134 HEN BOBOL TABOR. y ffurfafen ei bod yn ganol dydd, ac yn bryd cinio.
Gwnai yr un camsyniad â'i fysedd wrth gyfeirio at yr oriau ar munydau. Ac yn
ol Twm Fflint am giock un teulu o Saeson digadwraeth yn yr ardal, yr
oedd saith wythnos o'i le, a "wedi hyrto yn lan." Ac yn ol
yr un Twm am glock teulu arall o'r un nodwedd, yr oedd yn teilyngu
cosb o'r natur lymaf. “Lwc iddo fe," meddai Twm, “na fydd rhaid iddo roi
count, waith ma fo wedi gwed digon o gelwydd i----------." Yr
oedd y dynged yn ddifrifol iawn. Byddai awrleisiau teuluoedd o natur ragorach yn dwyn
cymeriadau amgenach; caent eu cadw yn lanach. Weindid hwynt yn fwy
cyson, a thelid mwy o sylw i gyfartaledd eu hamser a datganiadau yr haul ar y
mater. Gallesid ymddiried peth i'r rhai hyn, ond nid oeddent uwchlaw
drwgdybiaeth. Moesol oeddent, a dim ond hyny, ar haner y ffordd rhwng y drwg
a'r da, a dim mwy. Ond yr oedd awrleisiau yn yr ardal oedd a'u cywirdeb
yn gyfryw ag a fuasai yn gofyn toraeth o feiddgarwch i'w amheu. Y rhai hyn
oeddent glochiau hen bobl dduwiol y pentref — clock Twmi Lewis, clock
Dafydd William, clock Isaac y crydd, ac Emwnt Etwart, ac yn neillduol clock
Mary Hosser. Y rhai hyn oll oeddent uwchlaw amheuaeth. Byddent yn cael eu
cadw yn ddilwch a glanwedd, a hyny o ddechreu y flwyddyn i'w diwedd; yn cael
eu cyweirio fel y buasent wedi enill neu golli ychydig bob wythnos, ar
brydnawn dydd Sadwrn — erbyn dydd Sul, ac yn cael eu weindio bob nos
wrth fyn'd i'r gwely. Yr oedd gair y rhai hyn yn safadwy, ac felly i'w
barchu. Yr unig glock anghrefyddol yn yr ardal oedd
yn dyfod i fyny â'r rhai hyn oedd clock Twm Ffiint. Crydd yn rhan
uchaf y pentref oedd Twm, fel yr oedd Isaac yn Gwaelod-y-garth. Ac yr oedd yn
grydd da iawn, ond yn anffortunus ei fod yn hoff o'r ddiod, ac yn fynych o
dan ei dylanwad. Ond er hyn i gyd yr oedd yn meddu ar synwyr cyffredin mor
dda, ac ar ragoriaethau oedd mor lliosog a dymunol, fel yr oedd yn uchel ei
barch er gwaethaf y ddiod. Yr oedd Twm yn chwareu rhan bwysig yn mywyd Ffynon
Taf. Yr oedd yn hoff iawn o ddigrifwch, ac yn cael llawer o hono ar draul
rhai o'i gydnabod. Yr oedd hefyd, pan yn sobr, yn gyson ar y gallery
yn Tabor, ac yn “lico'r brecath” yn wastad, — agwedd rinweddol iawn. Yr oedd Twm yn hawJio fod ei glock ef yn
berffaith. “Dyw a wedi na cholli na gaino munad y riod," meddai
Twm, uwchben ei awrlais, "a slipws a ergyd yriod, wrth daro,"
meddai Twm eto, "ddim un waith." Ac i gyffwrdd y perffeithrwydd hwn
â'r bluen ysgafnaf, meddai Twm i orphen, “A ma fa wedi cerad am ddeg mlynedd
ar ucian, heb stopo. A ma'i wynt a cystal heddy a phan startws
a." Hyn oedd swm pregeth Twm mewn perthynas i'r clock, ac yr oedd
wedi ei phregethu o amgylch dros gynifer o flynyddoedd, fel nad oedd llawer
neb ei chredu, yn yr ardal. Fel hyn, yr oedd rhagor rhwng awrlais ac awrlais, yn
ffurfafen parch Ffynon Taf, a siarad yn gyffredinol. Ond wrth neillduoli y
teimlad hwn a'i ddilyn i'r ty, megis, yr oedd yn tyfu yn anferthol mewn
angerddoldeb. Buasai yr un man i rhyw un i gwestiyno y deg gorchymyn, a
thaflu edliw- |
|
|
|
|
(*36) |
HEN BOBOL TABOR. 135 iad ar clock Dafydd William. Nid yw yn debyg
y buasai gan Dafydd William ateb i gwestiwn o'r fath natur. Yr oedd y syniad
y fath bellderoedd oddiwrth gyffiniau pellaf priodoldeb, fel na fuasai gan
Dafydd William ddim i'w wneyd ond edrych yn ol, â'r edrychiad hwnw
sydd yn corffori meddwl a theimlad sydd yn codi o ddyfnderoedd, nad oes swn gair
wedi tori ar ei ddistawrwydd erioed. Yr oedd pob un o'r hen bobol yn credu yn ei glock,
ac yn dal wrtho, ac yn glynu wrtho hefyd, drwy bob tywydd. “Love me, love
my dog" meddai'r Saeson, ond er cyfieithu y dywediad hwn a'r syniad
sydd ynddo yn briodol i deimlad Ffynon Taf ar y berthynas hyn, buasai yn
rhaid dweyd “Love me, love my clock." Yr oedd y clock yn
cael mynediad i dynerach lle yn nghalonau yr hen bobol, nag a gafodd yr un
creadur afresymol erioed. Yr oedd Etwart Thomas, yr hwn nad oedd yn dweyd ond
ychydig ar ddim yn gyhoeddus, ac yn credu llai na'r cyffredin o ddynion mewn
canmol hunan, neu eiddo y gwrthddrych hwnw, yn methu gwthio y rhinwedd
gwylaidd hwn i diriogaeth y clock. “Fi yriod well ynghlock bach i," meddai
Etwart uwch ben y trysor hwnw. Yr oedd yr hen glock wedi tynu ei draed
ato, ac wedi marw; ond nid oedd wedi ei gladdu, oblegid yr ydym yn ei gofio
am flynyddau, yn hongian yn ddistaw ar y wal. Ond yr
oedd clock arall wedi dyfod i'w le, — clock bach, a mawr
ganmolai Etwart ar y clock bach. “Fe eliid meddwl," meddai Liza,
gwraig Etwart, “wrth eich clywed chi yn canmol y clock, ei fod yn
berffaith.” “Ma fa hefyd mewn amsar," meddai Etwart. "Wel,"
meddai Liza, “fe fyddai cystal i chi i fyn'd i fyw iddo ynte, er dianc rhag
pechod.".................." Beth sydd a fyn clock â
phechod?" meddai Etwart, heb leicio yr un awgrymiad yn erbyn y clock
a'i rinweddau i gyd. “Drain a mieri ddwg hi i ti," oedd ateb Liza. “Beth
i chwi yn wneyd a hona?" Nid oedd Etwart byth yn caru croesi llwybr
adnod, ac felly gadawodd i'r mater ddarfod, ond nid oedd ei ffydd yn y clock
bach ronyn yn llai oblegid hyn. Yr oedd Mary Rosser yn credu yn ei chlock gyda
chadernid craig. Yr oedd yn hen iawn, ac oherwydd hyny yn llawer iawn mwy
teilwng yn nhyb Mary Rosser: “Dw i yn gnythur fawr o gount o'r clocks
newydd yma," meddai. “Ma'u tics nhw yn rhy wan, ac yn rhy amal
hefyd...... Y cam hir sydd yn para. Dos geni fawr o glip ar glock
sydd a'i drod ar y llawr o hyd." Yr oedd clock Mary Rossar yn
hollol ddifai yn yr ystyr hyn. Yr oedd ei gam yn ddigon hir, a'i droed yn cyffwrdd
â'r llawr mor anaml, fel nad oeddem yn sicr, yn wastad, a oedd yn cerdded o
gwbl. Tic araf oedd tic clock Mary Rosser. Tic hen,
ac yn fwy tebyg i adsain nag i swn; ac yn disgyn i'r distawrwydd oedd yn ei
dderbyn, fel pe buasai yn ddarn o hono — fel dyferyn o ddwfr i fôr. Ac yn
awr, er casglu y story ynghyd, rhaid yw i ni symud i gwr arall o'r maes; a
bydd yn dda genym gael presenoldeb y darllenydd gyda ni. Yr oedd yn arferiad gan y bobl ieuainc yn y pentref
i gwrdd a'u gilydd yn nhy Mary Rosser yn yr hwyr. Ni wnawn ond cyffwrdd â'r
ffaith hon yn bresenol. Ac yr oedd yn arferiad gau yr hen wraig hefyd,
oherwydd trymder ei chlyw, ac oherwydd prysurdeb llesgedd henaint drosti, |
|
|
|
|
(*37) |
136 HEN BOBOL TABOR. i gael geneth ieuanc i gysgu gyda hi yn y nos. Nid
yr un eneth oedd gyda hi yn wastad. Am rhyw reswm neu gilydd byddai yr hen
wraig yn eu newid yn bur fynych. Ond faint bynag newidid arnynt, a pha mor
ansicr bynag oedd daliad y swydd, yr oedd cyflawnder o ymgeiswyr yn wastad yn
curo wrth ddrws y lle. Yr oedd y merched ieuainc yn hoffi cysgu yn nhy Mary
Rosser. Yr oedd mwy o at-dyniadau yno nag oedd gartref. Yr oedd pobl ieuainc
yr ardal yn cyd-gyfarfod yno, ac hefyd, yr oedd yn newydd — y rheswm cryfaf,
fe ddichon, dros chwenychu y swydd. Daeth y rhôd ar ei thro o gylch ag un o'r enw Liza
Niclas i fod yn gymar tywyllwch i Mary Rosser. Mawr yr ymdrechiadau oedd Liza
wedi ei wneyd er cyraedd y swydd; ac yn y diwedd, ond nid heb lawer o ymgais
a dyfalbarbad yr oedd yn y meddiant o honi. Ac yr oedd yn hawdd gweled ei bod
yn gwerthfawrogi'r trysor yn fawr iawn. Yr oedd Liza yn llawn nwyf a bywyd, ac yn wres, os
nad goleuni hefyd, y lle yno, yn yr hwyr. Yr oedd y lle wrth fodd Liza, a
Liza wrth ei bodd yn y lle; a'i chwerthiniadau iachus yn troi y nos yn ddydd,
braidd, a'r hwyr yn fore; ond yr oedd un diffyg pwysig yn y trefniadau, serch
hyny, neu fel y galwai Liza ef draw back. Ac nis gwyddai ar y ddaear
sut i'w symud. Yr oedd Liza yn gorfod codi am saith yn y boreu. Dyna y
gorthrymder, ac yr oedd Liza yn ei deimlo i'r byw — yn y boreu. A gwaethaf
oll nid oedd Mary Rosser yn cydymddwyn dim â hi mewn gwendidau o'r fath.
Waeth os na fuasai Liza ar ei thraed yn union am saith, byddai Mary
Rosser yn gwaeddi, “Cwn nawr, cwn, dara oddna. Paid a doti dy hunan i gysgu
yto; dar di odd yna, cwn." A chwni oedd raid. Bu Liza yn bwrw o gwmpas am ffordd allan o'r
cyfyngder hwn, ond i ddim pwrpas. Yr oedd “cwn” Mary Rosser fel
gorchymyn Pharaoh, am saith yn y boreu, ac nid oedd olwg am ymwared o hono, —
hyd noson benodol, pan y crwydrodd llygaid Liza yn ddamweiniol at y clock,
ac y gorphwysasant ar y gwrthddrych hwnw am yspaid hir o amser; ac yn yr
edrychiad hyn daeth llais ei chyfyngder yn gryf i'w chalon, a'i iaith oedd,
“Oh, am gael cysgu hyd wyth." Tro'r clock yn ol ta," meddai'r diafol
ar hyn. “Tro fa yn ol. Tro fa yn ol awr, a phaid a gwed dim." Bu
bron i Liza neidio oddiar y gadair yn grwn gan orfoledd. Nid oedd câs i'r clock
na glass ar ei wyneb, Yr oedd yn bosibl felly, a hyny yn hawdd, osod
yr awgrymiad mewn gweithrediad, a gwneyd saith yn wyth. “Oh
nghorff bach anwl i," meddai Liza. “Oh nghorff bach i, cymar gysur, ti
gai orphwys yn beautiful bora fory; cai yn wir, cymar gysur." Y peth diweddaf oedd Mary Rosser yn wneyd cyn myn'd
ar ei gliniau wrth fyned i'r gwely, oedd weindio y clock, ac
edrych arno am enyd; ac yna diffoddai y ganwyll, dywedai ei phader, ac a'i i
orphwys dros y nos. Ond wedi diffoddi y ganwyll y noson hon, a phan oedd Mary
Rosser ar ei gliniau, prysurodd Liza at wyneb y clock; ac mewn eiliad
yr oedd deg wedi d'od yn naw. Yr oedd trymder clyw Mary Rosser
yn ffafriol i'r gorchwyl. Boreu dranoeth, codwyd am saith, fel o'r
blaen; ac yr oedd pethau fel |
|
|
|
|
(*38) |
HEN BOBOL TABOR. 137. arfer, gyda'r eithriad fod Mary Rosser wedi deffro
cyn “pryd cwni" y dydd hwn; ac hefyd yr oedd yn fwy parod i'w brecwast
nag arfer — yr olaf hyn yn arwydd o iechyd, ac felly yn gyflwr oedd yn cario
rheswm o ddiolchgarwch drosto, yn ei gôl. Bwytaodd Mary Rosser ei chinio y
diwrnod hwn fel ar bob dydd arall am un. Yfodd ei thê am bump, ac aeth drwy
ei thamaid swper am naw — fel arfer, Ond y nos hon yr oedd cwsg wedi
ymweled, yn llwythog âg amrantau yr hen wraig, yn gynt na'r awr benodol. A
meddai wrth y bobl ieuainc oedd yno, “Nawr, off a chi, odi chi yn
myn'd? Off a chi ta. Ma isha myn'd i'r gwely ar Mary Rosser; mae'n
ddydd Satwrn yfory." Ac yn fuan yr oedd y bwthyn heb ymwelwyr ynddo; ac
aeth Liza a Mary Rosser i'r gwely "yn gynt nag arfar." Ond cyn saith boreu dranoeth — yn ol clock
Mary Rosser, synwyd hwy gan guriadau taranllyd iawn wrth y drws, ac yn cael
eu canlyn gan lais Nanni, yn dweyd, “Cwn oddna nai di, cwn. Pwy lorchan yn y
gwely wyt ti y pryd hyn o'r dydd, cwn." Ni bu Mary Rosser fawr o dro cyn “cwni," a llai
na hyny, cyn myn'd i dy Nanni. A meddai yn bur sarug wrth hono, “Pwy bouncan
y drws wyt ti y pryd hyn o'r bora?” “Pryd hyn o'r bora?'' Meddai Nanni.
"Odi'r Cwrdd Misol wedi hela orders i chi gysgu trwy'r dydd yn
gystal a thrwy'r nos?.........Pwy amsar wyt ti yn gretu yw
hi?"........."Saith," meddai Mary Rosser. “Saith”
meddai Nanni. Cera i etrych yto nai di." Aeth Mary Hosser yn ei hôl, a
dychwelodd drachefm, ond yn iachach yn y ffydd nag o'r blaen. “Ia, saith,"
meddai “Pwy bouncan wyt ti?” “Oh, Wel," meddai Nanni ar hyn, “ma'r ticyn sense
odd yn dy glock di wedi myn'd, fi wela." Aeth dwylaw Mary Rosser
i fyny uwchben y fath syniad. "Wel," meddai Nanni eto, "mae'n
wyth o'r gloch cofia." Buasai yr un man i Nanni geisio dadwreiddio ffydd
Mary Rosser yn y Cyffes Ffydd, a cheisio ei siglo yn y clock.
Aeth Mary Rosser yn y blaen drwy y dydd heb dalu gronyn o sylw i haeriadau
Nanni. Tua dau o'r gloch yn y prydnawn, pan oedd train y
Taff yn myned i fyny, rhedodd Nanni i dy Mary Rosser, a gwaeddodd arni i
ddyfod i'r drws yn union. "Dyna, cretu di nawr?" meddai Nanni, yn
dangos y train. "Cretu di yn awr?" meddai Nanni yn fuddugoliaethus
eto. “Cretu di nawr," meddai Mary Rosser yn ddiystyrllyd, yn cymeryd y
frawddeg i fyny. “Wyt ti yn meddwl fy mod i yn myned i gymeryd yn nhroi gen
damid o drain------yn dyn i wyt ti'n iawnda?" Ac yn mhen tipyn,
ychwanegodd, “O'dd y nghlock i yn cerad cyn i rhaina ddistyrbo'r
hen gwm yma yriod, a falla y bydd o yn cerad wedi iddi nhw gwpla, hefyd.” “Wel," meddai Nanni, yn troi i ffwrdd, “Cret di
beth fynid di, ond y ma hi yn ddoi cofia." Ar hyn tarawodd clock
Mary Rosser un — yn groew; ac wrth wrando arno, meddai Mary Rosser,
"Doi yn wir!" Aeth Nanni i ffwrdd yn awr, ond yn cysuro ei hun
trwy ddweyd wrthi ei hun, “Fe fydd rhaid i ti gretu fory" y fory
hyn yn ddydd Sul, Yr oedd y sôn am gwymp clock Mary Rosser drwy
yr holl ardal, erbyn hyn; a llawer o siarad am y ffaith. “A fyn hi ddim cretu
fod dim ar yr hen gIock," meddai'r cymydogion. “Mae hi heb ifad
tê yto," meddai un o honynt. “A hithau just yn wech a'r
gloch," meddai'r nesaf. “Gad- |
|
|
|
|
(*39) |
138 HEN BOBOL TABOR. ewch hi yn llonydd," meddai Nanni. “Hi ddaw
iddi senses yfory, waeth hi aiff iddi mofyn nhw i mas o'r cwrdd."
Boreu Sabbath ddaeth, a pharotodd Mary Rosser i
fyned tua'r cwrdd. Yn awr, pe buasai yr hen wraig yn myned ar gyfer yr odfa
ddeg yn unig buasai rhaid i'r anffawd broffwydodd Nanni am dano, dd'od i ben.
Ond fel yr oedd pethau, yr oedd Mary Rosser yn arfer myn'd i'r cwrdd gweddi naw
bob boreu Sabbath. Ac yn y ffaith hyn yr oedd ei hiachawdwriaeth. Yr oedd yn
cyraedd y capel erbyn tua ugain munyd wedi naw. Cychwynodd wrth y clock
y boreu hwn fel arfer, ond ni bu yn hir cyn gorfod teimlo fod rhywbeth o le.
“Ffordd ma'r dynon yn myn'd i'r cwrdd y pryd hyn?" meddai Mary Rosser
wrthi ei hun. “Ma rhwpath o'i le Mary Rosser," meddai yr hen wraig yn
cyfarch ei hunan fel y byddai yn hoff o wneyd, Erbyn cyraedd y capel, yn lle dyrnaid o bobl yn y
sêt fawr yn cynal cwrdd gweddi, fei yr oedd Mary Rosser yn ddisgwyl oedd yno,
yr oedd y pregethwr ar weddi. Syrthiodd gwyneb ac ysbryd Mary Rosser i
lawr, wrth yr olygfa hyn, tra y mwmianai wrthi ei hun, "Os, ma fa; os,
ma fa.” “Ot ti yn ddiweddar yn d'od i'r cwrdd heddy,"
meddai Emwnt Etwart, wrthi, wrth ddyfod allan o'r capel. “Ble buot ti?"
Nid atebodd Mary Rosser ddim iddo, ond brysiodd gartref: ac â'i ffon yn ei
llaw, a'i bonet ar ei phen, i bresenoldeb y clock. Unarddeg
oedd hwnw yn ddweyd ydoedd. “Unarddeg," meddai Mary Rosser wrth
yr hen awrlais, ac yn edrych arno. “Beth wyt ti yn nythur âg unarddeg yn
awr?........Ble wyt ti wedi bod? A beth sydd arnot ti?"......... “Unarddeg"
meddai Mary Rosser, wrth y clock eto; “Ond dyw hi yn ddiddag.” “Ti gretu yn awr ta?" meddai Nanni, yn dyfod yn
llon iawn ar hyn i fewn drwy drws. “A di gretu o'r diwadd?" Yr oedd Mary
Rosser a'i golwg ar y clock o hyd. ond yn edrych yn wywedig iawn yn
awr. “Fi shwd beth hyn yriod o'r blan yma,' meddai Mary
Rosser mhen tipyn. “Dyma'r tro cynta i shwd beth hyn fod yn y ty
yriod."......... “Oh dy helpo di," meddai Nanni. “Ma fa yr un peth
a'r rest o chi'r Methodist, i chi yn cwmpo i gyd yn gynt ne
hwyrach."........."Dara," meddai Nanni, yn deimladol iawn.
“Dod o wrth y nghlock i, clock Disentar, rho lift iddo i
ddiddag." Gwnawd felly, ond yr oedd Mary Rosser yn teimlo yn gymysglyd
iawn drwy y dydd. Yr oedd ei ffydd yn y clock wedi ei siglo.
Ond, trwy drugaredd, cadwodd ei le drwy y diwrnod hwnw; ac aeth Mary Rosser
i'r gwely ychydig yn fwy cysurus. Deffrodd boreu dranoeth am saith eto, fel arfer; a
bwytaodd ei boreufwyd am wyth. Ond pan ar ganol y pryd hwn, daeth Nanni i'r
ty, ac heb ddweyd gair wrth Mary Rosser, aeth heibio iddi at y clock.
A chyda fod ei llygaid arno, dyma ei dwylaw i fyny. “Beth," meddai Mary
Rosser, wrth weled hyn, "Odi fa ar ol heddy ytof'........"Ti alli i
dynu fa i lawr pryd y mynid di yn awr," meddai Nanni. “Ti alli i dynu fa
i lawr pryd y mynid di; dyw a ddim ond lymbar." Yr oedd geiriau o'r natur hyn yn cael eu defnyddio
am y clock yn galed iawn i gig a gwaed Mary Rosser i'w dwyn. Cododd
oddiwrth y bwrdd, ar hyn, ac aeth i edrych ar y clock. “Faint yw hi
ta?" meddai wrth |
|
|
|
|
(*40) |
HEN BOBOL TABOR. 139 Nanni. "Naw," oedd yr ateb. “Awr ar ol
heddy yto ta," meddai Mary Rosser.........."Dod a wrth y nghlock
i os myn'd di," meddai Nanni. “Ond fi tynwn ni a i lawr, a fi stwffwn a
o'r golwg — o dan y gwely, ne rhywla o'r ffordd." Yr oedd Nanni yn cael
awr fuddugoliaethus; ond wrth fyned allan, a chyfarfod â Dafydd Shon, oedd ar
ei ffordd i dŷ Mary Rosser, meddai wrth hwnw, “Ma rhwpath ar yr hen glock
hefyd." Yr oedd Dafydd Shon, fel pawb eraill, wedi hen
glywed am anhwyldeb y clock, ac yr oedd y prydnawn hwn — prydnawn dydd
Llun — wedi dyfod adref o'r gwaith yn gynarach nag arfer yn myn'd i gynyg ei
wasanaeth i Mary Rosser ar y clock; ond, yn anffodus, nid oedd gan
Mary Rosser ffydd yn Dafydd Shon at orchwyl o'r fath. Yr oedd wedi clywed
Sharlat, gwraig Dafydd, yn dweyd rhyw dro am Dafydd, “Ma fa wedi potchan cymint
sha'r clock nes i fratu fa." Ac nid oedd Mary Rosser wedi
anghofio y dywediad. Derbyniad gauafaidd gafodd Dafydd Shon y dydd hwn gan
Mary Rosser mewn canlyniad. “Beth sydd ar y clock?" meddai Dafydd,
yn pwyso yn erbyn ochr y drws. Edrychodd Mary Rosser arno yn bur waharddedig,
ac heb ddweyd dim. “Odi fa yn taro yn right?" Gofynodd
Dafydd Shon eto. “Ma fa yn taro llawn dicon i mhleso i,"
oedd atebiad sychlyd yr hen wraig. Bu Dafydd Shon yn fud yn y fan hono am
ychydig; ond cyn hir, meddai eto, "Fi wn ni beth sydd arno...... - ..a
fi allwn ni i ddoti fa yn right hefyd." Ond ni chafodd gymhelliad
i ddyfod i mewn gan Mary Rosser. Bu Dafydd Shon am beth amser yn y fan hono, yn pwyso
yn erbyn y drws o hyd, ond wedi aros yn y fan hono am ychydig yn hwy, daeth
symbyliad iddo o rywle, ac o dano prysurodd Dafydd Shon i fyned i'r ty, ac yn
dweyd ar yr un pryd, “Beth taw ni yn i drio fa." Ar hyn, trodd yr hen
wraig ato, a meddai mewn llais llym, “Catw i mas.......Catw i mas. Dwyt ti
ddim i botchan y nghlock i.........Dw i yn amha dim ar dy
grefydd di." Prysurodd Mary Rosser, “ond dyw crefydd fawr o help sha chlock,
Catw mas." Twm Fflint oedd yn casglu ffydd yr ardal fwyaf iddo
ei hun mewn perthynas â'r clockiau. Yr oedd Twm yn wastad yn barod; yn
hoff o'r gwaith, ac yn fynych yn ymwneyd âg ef. Ac ni fu Twm yn hir iawn cyn
dyfod ar ei dro ar draws Mary Rosser a'i thrallod. Ac yr oedd y derbyniad
gafodd yn amgenach na'r hwn estynwyd i Dafydd Shon......... “Ma fa yn odd
iawn," meddai Twm, “i fod a yn colli awr bob nos, a dim ond awr."
Yr oedd yn awr yn ddydd Iau, ac er ei symud yn mlaen i'w le, yr oedd y clock
yn colli awr bob nos ar y ffordd yn rhywle. “Fi shwd beth
hyn arno'i yriod ar blan," meddai Mary Rosser. "Fi yma shwd beth
yriod o'r blan."..... “Cynwch ganwyll i ni gai i examino
fa," meddai Twm. Prysurodd Twm i examino’r clock. Yr oedd Mary
Rosser a'r ganwyll un ochr i'r awrlais, a Twm yr ochr arall, yn edrych drwy y
clock, ac yn gorchymyn i Mary Rosser symud y ganwyll yn awr i'r fan
hyn, ac ebrwydd i le arall, a'r ll heb ddweyd gair. Yr oedd Mary Rosser yn
awr ac eilwaith yn gofyn, “Wyt ti yn gwel'd rhwpath." Ond yr oedd Twm
mor fud a'r bedd, hyd iddo ddyfod i lawr oddiar y gadair, pan y dywedodd
“Lluwch sydd yn i gloggo fa, a ma rhaid i gal o oddna." Yn awr rhaid yw dweyd fod gan Twm un feddyginiaeth
fawr at glock- |
|
|
|
|
(*41) |
140 HEN BOBOL TABOR. iau; meddyginiaeth
gyffredinol, a rneddyginiaeth anffaeledig. Y feddyginiaeth hon oedd y fegin.
Yr oedd Twm yn credu mewn “hwthu'r” clock; ac meddai felly,
wrth Mary Rosser y dydd hwn, "Os mecin yma?” “Mecin," meddai Mary
Rosser. “Beth wyt ti yn fofyn a mecin?” "I rhoi blow
iddo," oedd atebiad Twm.........."Falla di chi ddim yn gwpod,"
aeth Twm rhagblaen. “Ond y peth gora yn y byd i glock yw rhoi blow
dda iddo yn awr ac yn y man..........Wi'n rhoi blow i nghlock i
unwaith bob mis ta beth," prysurodd Twm. "Ma fa yn cal clear out
dda pryd hyny, dos dim yn aros ar ol, a ma'r clock yn cerad yn splendid
yn wastad, ar ol rhoi blow iddo fa." Aeth Twm yn i flaen i
orphen, “Ta druon yn gwpod gwerth y fecin, fydda fawr o waith i Glockmakers."
Wedi do'd o hyd i'r fegin, aeth Twm i ben cadair, a
dechreuodd arni a'i holl egni. Bu yno yn chwythu a chwythu nes ei bod yn
syndod fod dim o'r clock yn aros ar ol; a Mary Rosser yn edrych yn y
blaen, yn y fan hono, ac yn teimlo fod gormod o Sinai o lawer iawn yn yr
oruchwyliaeth. “Dyna," meddai Twm yn disgyn i'r llawr,
“Cholliff a ddim rhacor; fe fydd i saith awr gento fa, bora fory am saith chi
gewch wel'd. Fe ddaw a nhw i gyd gydag e yn awr.........Ma'i dic a yn
glirach yn barod," meddai Twm yn galonog iawn i orphen. Diolchodd Mary
Rosser i Twm am ei waith, a datganodd obaith y buasai y clock yn well.
“Fi ga wel'd yn y bora," oedd hyd ei ffydd hi er hyny. Ond y noson hono, wrth fyned i'r gwely, digwyddodd i
Mary Rosser fyned ar ei gliniau i ddweyd ei phader, cyn diffodd y
ganwyll. A rhywsut; pa un ai effaith teimlad o rywbeth yn symud o'i hamgylch,
neu ddamwain ydoedd, ond cododd Mary Rosser ei phen i fyny ar ganol ei
phader, ac agorodd ei llygaid hefyd; a beth a welodd hi — ond Liza, yn araf,
ddistaw bach, a thyner, a rhyfeddol o dyner hefyd yn symud bysedd y clock
yn ol awr. Gorphenodd Mary Rosser ei phader, a chauodd ei
llygaid i wneyd hyny; ac yna cododd ar ei thraed, a chan gymeryd y ganwyll yn
ei llaw, symudodd i gyfeiriad y clock........."Naw," meddai
Mary Rosser. “Naw." Ac yna yn edrych i gyfeiriad Liza, oedd yn
ceisio gwasgu ei hun i faint llygoden erbyn hyn. “A'r funad yma fe daraw-ws ddeg"
meddai Mary Rosser; a chan symud y ganwyll yn ol at wyneb y clock eto,
prysurodd; "ond yn awr y mae hi yn naw,......naw,"
meddai Mary Rosser wedi'n "naw." Symudodd y clock yn
ei flaen awr, ac aeth i orphwys dros y nos, heb ddweyd dim wrth Liza, ac er
syndod i hono, waeth, yn awr ei bod wedi ei dal, nid oedd yn disgwyl llai nag
ymweliadau trymion oddiwrth y ffon ddu, ond ni edrychodd Mary Rosser y nos
hono, i gyfeiriad y ffon. A buasai unrhyw un a gwybodaeth arwynebol o Mary
Rosser yn meddwl mai felly y buasai hefyd; ond yr oedd rheswm da dros i
bethau fod fel arall. Yr oedd yr hen wraig a chymaint o olwg ar y clock;
ac wedi bod a chymaint o ffydd ynddo, fel yr oedd darganfod y drwg, a'r drwg
hwnw y tu allan i'r hen awrlais, yn donau o orfoledd yn ei chalon; a'i
theimlad yn awr oedd i lawenhau — ei bod wedi cael yr awr golledig. Yr |
|
|
|
|
(*42) |
HEN BOBOL TABOR. 141 oedd ei digllocrwydd at Liza yn cael ei ysgubo gan
hwn, fel ûs o flaen gwynt. Boreu dranoeth, wedi codi am saith, brysiodd Mary
Rosser i dŷ Nanni, ac wedi gweled mai saith ydoedd yno hefyd, rhuthrodd yn ei hol
gydag ysgafnder mwynhad mawr, ac aeth i fyny at yr hen glock, yn gwenu
dros ei gwyneb ato yn awr, ac yn murmur i'w wyneb, “A fina yn dy gymenu
di, a fina yn dy gymenu di,.........a titha yn ffyddlon fel arfer." Yr oedd boreufwyd gwell nag arferol yn aros Liza y
boreu hwn; ond yr oedd Mary Rosser wedi penderfynu ei bod hi i fyn'd, ac yr
oedd gair Mary Rosser yn wastad yn sefyll. “Wyt ti wedi bod yn ferch
ddrwg," meddai yr hen wraig wrth Liza ar haner eu brecwest. “A ma
rhaid i fi ddysgu lesson i ti.........dw i ddim yn dy ddislico di, ond
yr wyt ti yn wyllt iawn.........A nawr," meddai, mewn llais mil mwy
toddedig, na sarug, “grynda beth sydd gan Mary Rosser i wed wrthat
ti......Darllin dy Feibl,.........Darllin a, nes bo ôl dy fysedd di ar i
ddail a,........Ma arno'i ofan," aeth Mary Rosser yn ei blaen, “fod ych
Beibla chi yn rhy lân o lawer, y mhlant bach i," ac yna yn estyn
am ei hen Feibl mawr ei hun, yr hwn oedd ddu drwy ei ddefnyddio, trodd
ef at Liza gan ddweyd, "gwna fel yna â dy Feibl. Dua fa, Dua
fa y mherch i..........Fe fysa Mary Rosser yn llawar duach nag yw hi oni ba
fod i Beibl hi yn ddu.... ......Dua dy Feibl Liza." Anaml
iawn yr oedd Mary Rosser yn wylo dagrau; ond cawsant ddyfodiad allan y boreu
hwn. Dagrau mawrion; dagrau gorfoledd, sydd yn fawrion yn wastad. Dagrau
tristwch a gofid sydd yn fychain, ac y mae yr olaf o'r rhai hyn yn syrthio
i'r Iorddonen ddu; ond am y dagrau oedd yn disgyn ar Feibl Mary Rosser y
boreu hwn, — y Royal drops hyn — bydd y rhai hyn yn y nefoedd. Mae
angylion yn wylo y rhai hyn; a bydd gruddiau yr “Hapus dyrfa" yn perlu
gan y rhai hyn. Dyma “ffrydiau gorfoledd." Nis gwyddom a dduodd Liza ei Beibl a'i peidio;
gobeifchio iddi| wneyd. Ond llonodd ysbryd Mary Rosser yn fawr ar ol
darganfod "ffaeledd" y clock. Aeth yn fwy o ffrynd
iddo, ac i osod mwy o ffydd ynddo nag erioed o'r blaen. Ac am beth amser ar
ol hyn, byddai yn dweyd ambell dro, “A fina yn dy gymenu di." |
|
|
|
|
|
7/ Cyf. xii. Gorphenaf 1896. Rhif 139. Tudalennau
196-203 Y Lladmerydd – Cylchgrawn yr Ysgol Sabbothol. Dan Olygaeth y Parchn. J. M. Jones, Caerdydd, Evan
Davies, Trefriw, a D. Jenkins, Ysw., Mus. Bac. (Cantab) ….. Hen Bobol Tabor. Gan y Parch. Daniel Thomas, Diweddar o Ffynon Taf |
|
|
|
|
(*43) |
196 HEN BOBOL TABOR. HEN BOBOL TABOR. GAN Y PARCH. DANIEL THOMAS,
DIWEDDAR O FFYNON TAF. Arhoswn yn y benod hon, eto, gyda Mary Rosser a
Nanni, a Dafydd Shon hefyd, waeth yr oeddent yn byw yn
yr un “restar;" a chan fod hono yn gynwysedig o ddim ond pedwar o
dai, yr oedd y pellaf o'r cymydogion hyn yn agos ddigon at eu gilydd. Yr oedd
Mary Rosser yn un pen i'r “restar," a Dafydd Shon yn y
pen arall iddi, a Nanni yn y canol rhyngddynt, yn rhyw
fath o gadeirydd pentrefol. Teulu digrefydd oedd yn byw yn y tŷ
arall ac felly yn ddinôd. Hen bobl dduwiol yr ardal oedd pobl bwysig y lle;
ffaith ragorol i grefyddolder Cymru.
Wrth droi ein llygaid yn ol yn awr, a'u taenu dros yr hen amser, a'i
ddigwyddiadau, a'i bobl, ysgwyddau a phenau hen |
|
|
|
|
(*44) |
HEN BOBOL TABOR. 197 "ddynion duwiol" y Ile sydd yn dyfod
gyntaf i'r golwg ac yn codi fwyaf i'r amlwg. Nid oedd pobl enwog Ffynon Taf i
gyd yn dduwiol ys "gwaetha'r modd," fel yr arferai Mary Rosser
ddweyd. Yr oedd y “rhai erill" yno hefyd, gryn nifer o honynt. Ond yr
oedd teimlad yn y lle mai rhanol a phlwyfol iawn oedd eu hanfarwoldeb hwy. Gallem nodi
enwau helwyr nodedig iawn yn yr ardal, ac mewn cylch penodol yr oedd y
bobl hyn yn bur enwog. Eraill fyddant yn fedrus a'r bel ac yn cael y
clod dyledus i'w rhagoriaeth. Ond rywsut yr oedd culni neillduol ynglŷn â'r enwogrwydd
hyn. Yr oedd blas y cadno ar un yr hela, a blas neu lun y
bel ar un y gwrthddrych hwnw. Yr oedd pob un o honynt
yn methu a chodi ei ben yn uchel iawn. Ac yn wir nid oedd yn ymgais llawer at hyny, oddi eithr fe ddichon yn y dafarn
neu ymhlith bechgynos. Yr oedd pelydryn o amlygrwydd cyffredinol cymdeithas y
lle yn disgyn ar ei gopa yn peri iddo wrido rhywbeth tebyg i euogrwydd; a
deuai ymdeimlad i'w fynwes — os oedd un ganddo — mai brigyn gwael iawn i glod
i sefyll arno oedd ef. Felly, ni chodai ei ben yn uchel iawn. Yr oedd yn
ofnus hefyd; yr oedd golwg ar Emwnt Etwart yn ddigon i beri iddo neidio dros
y berth “i'r ca” yn union, i guddio ei hun, tra yr elai yr hen dad a'i ysbryd
gweddigar heibio. Nid oedd yr enwogrwydd hyn yn "para," ac
nid oedd iddo barch helaeth yn un galon, ac mewn lliaws o honynt yr oedd iddo
le rhy gyfyng i droi. “Tacla” fyddai Mary Rosser yn gaw y bobl hyn.
Adnabyddai Nanni hwynt wrth “gwyr y mwstwr." A'i Dafydd Shôn yn mhellaçh yn ei
wrthdystiad o honynt; galwai hwynt yn wastadyn “wyr y trueni." Pobl bwysig yr ardal, y bobl yr oedd eu henwogrwydd
yn tynu cawod o gymeradwyaeth o'r cwmwl mwyaf cuddiedig, oedd hen bobl
dduwiol y lle. A'r rhai hyn sydd yn awr yn cyraedd uchaf i oleuni côf. Yr
oedd dosraniadau arferol cymdeithas yn Ffynon Taf, i fesur bychan, a thelid
gwarogaeth o ryw fath iddynt. Caffai gwr o berchen tŷ gwell na'r cyffredin fwy o
"barch hewl" na rhyw frawd o dŷ tlotach. Ond "parch hewl" ydoedd, ac nid parch calon. Ca'i
cyfoeth hefyd, sylw nad oedd tlodi yn ei gael, ond sylw ymwybodol iawn oedd
hwn eto, ac yr oedd yn dda ganddo roddi lle i ddatganiadau anymwybodol y galon.
“Allanolion" oedd yr elfenan cymdeithasol hyn i gyd. "Cenhedloedd”
oeddent heb ddafn o waed Abraham yn eu gwythienau. Safon grefyddol oedd safon gymdeithasol yr ardal.
Crefydd a duwioldeb oedd yn penderfynu natur ac eangder pob dylanwad
gydnabyddid yn y lle. Ac ond unwaith groesi y llinell oedd yn rhanu Ffynon
Taf oddiwrth y dylanwadau bydol ceid teimlo hyn ar unwaith. Syniadau y
Testament Newyddoedd yn ffynu, ac nid syniadau yn hanu o gyfoeth neu safle
gymdeithasol. Y caniyniad o hyn oedd mesur o anghyfartaledd yn y gwrthddrychau a'r
amgylchiadau brisid neu ddi-brisid yn y ddau fyd hyn. Yr oedd syniad y lle am gyfóeth ond ei ddilyn i'w
waelodion heb fod yn ffafriol iawn, oblegid edrychid arno yn ei agwedd ar y “byd
a ddaw.” “Pan daw hi yn bincho” meddai Emwnt
Etwart, ac yr oedd y pincho hyn i gymeryd lle ar ol gadaei
y fuchedd hon,' “hi fydd yn biwr iawn bod heb Iawar o lymbar.......Dir i helpo nhw,"
sef gwyr y cyfoeth, äi yr hen dad yn ei |
|
|
|
|
(*45) |
198 HEN BOBOL TABOR. flaen “mawr fydd rhaid gwasgu ar rai o nhw, iddi
passo nhw trw'r Ile cyfyng." Adnabyddai Mary Rosser hwynt wrth
"copy'r ginog," a Nanni wrth "cit y bocad," a Twm Fflint
wrth "yr easy going." 'ermau pob un o honynt yn datgan
agwedd ysbrydol anffafriol. O'r tu arall, gwisgai sefyllfaoedd eraill
amgylchiadol, oedd, yn llygaid y byd yn ddiraddiol ddigon, agwedd ddymunol a
pharchus iawn, os digwyddai fod eu gwrthddrych yn “ofni'r Arglwydd," ond
os na fyddai yn feddianol ar y grâs hwn syrthiai dan fan y byd. Yr amgylchiad sydd genym mewn golwg ar hyn o bryd
ywy "plwyf.” Gwyr y darllenydd beth feddylir wrth y term uchod yn ddigon
da. Gair amddifad iawn o glod a pharch yw y gair plwyf. A phan ar wahan i
grefydd a theilyngdod, edrych yn ddiolwg iawn, ond pan yn cysgodi un o
deulu'r ffydd bydd yn gwella yn ei ran, ac yn dod i swnio mor dderbyniol a
rhyw air arall. Yr oedd yn bleser ei weled yn cysgodi Mary Rosser.
Uwch ben crefydd yr hen wraig, yr oedd yn barchus a diofn ei wedd, ac mor
eofn a'r gair etif eddiaeth; a rywsut wrth feddwl am Mary Rosser, fel am
eraill o dlodion duwiol, diflanai pob cysylltiad o ddibyniaeth a thlodi oddi-
wrth y gair, a deuai i ddatgan “ffordd i fyw” oedd mor naturiol a diesgus a
ffrwyth chwys y wyneb. A'r peth diweddaf allasai daro meddwl Mary Rosser
oedd ei fod yn ddiraddiad arni i “fyw ar y plwyf." Buasai yn iechyd i
ysbryd unrhyw goegyn balch weled gwyneb yr hen fam at edliwiad o'r fath, a
chawsai ei glustiau don o athrawiaeth foesol mor iachus ag a adfywiodd
ysbryd angel erioed, pe byddai iddo wneyd felly. “Yr arian" fyddai Mary Rosser yn galw cardod y
plwyf, ac haner coron oedd “yr arian” hyn yn gynwys, a gallesid tybied wrth y
pwyslais ddodai Mary Rosser ar y geiriau eu bod yn cynwys toraeth eang o
gyfoeth. Mawr soniai yr,hen wraig am "yr arian." Ar ddydd Gwener y
deuent, tuag un ar ddeg o'r gloch yn y boreu, a byddai Mary Rosser, fel
rheol, heb ei bod yn wlyb iawn, neu yn oer, yn disgwyl y “living officar"
wrth y “gymad," i dderbyn yr arian. A byddai eu heisieu hefyd yn bur
debyg ar yr hen wraig, oblegid erbyn taenu haner coron dros wythnos gyfan,
nis gallasai y gyfran olaf fod yn drwchus iawn, ac nid ydym yn sicr nad oedd
ambell dro, fwlch bychan rhwng y ddwy wythnos — bwlch ag y mae newyn
ac eisieu yn gwneyd eu hymddangosiad ynddo — heb yr un hatling yn ei guddio. “Ma fa yn dod” fyddai Mary Rosser yn ddweyd pan yn
dal yr olwg gyntaf ar y swyddog plwyfol, “Ma fa yn dod," ac mor deced
fyddai golwg y gwrthddrych di-drugaredd hwnw i Mary Rosser a llawer eraill o
dlodion anghenog. Wedi cael "yr arian" o ddwylaw y “living
officar” prysurai Mary Rosser i'r ty^, a'r haner coron gyda hi, ac am beth amser yn y fan hono, yn eistedd
o flaen y tân, byddai yn “cysytro ac yn plano" beth "i gal"
a pha faint o bethau. Haner coron am wythnos, ychydig dros bedair ceiniog
y dydd. Hyn tô uwch ben, glô rhwng y barrau, bara
ac ymenyn, "ticyn o lard I nythir tishan, te I “nythir cwpanaid,”
“swcir," “sebon I loywi’r crôn dicyn,” a “chanwl I ddarllin ambell atnod
yn y nos," heblaw "pipyr a |
|
|
|
|
(*46) |
halen," ac yn olaf ond nid lleiaf dillad.
Yr oedd yn rhaid caei gwn “unwaith mewn shawns,” “a altro’r fonat," a "ffrill" i
ddodi ynddi, — hon yn tynu ychiydig flwyddi i ffwrdd o wyneb y fonet
ac felly yn bwysig iawn, — a Chap erbyn y cwrdd pregethu. Buasai yn hawddach
myned heb fara, na mynd heb Gap. Diwrnod pwysig iawn oedd diwrnod prynu'r Cap. Elai Mary Rosser i'r
shop yn y boreu ar y diwrnod hwn, "waith fydd dim llawar yno, a fi ga
fwy o amsar iddi drio fa," ymresymai Mary Rosser. A mawr o dreio fyddai ar y Cap, mawr o edrych
yn y drych, a mawr o ofyn, “shwd ma fa yn etrych yn awr?” Parhai yr oruchwyliaeth wedi myned gartref,
dan lygaid Nanni. Byddai edrych difrifoi ar y Cap yno yn y glass,
glass bach, yn llai na'r Cap mewn gwirionedd. “Odi fa yn y ngweddi
i wyt ti yn greti?" fyddai apel Mary Rosser i Nanni. Nanni yn dweyd dim,
ond yn edrych yn gythryblus dros ben, “wyt ti yn i lico fa?” ddeuai oddiwrth
Mary Rosser eto. Yr oedd Nanni yn rhy ddrwg ar yr adegau hyn, waeth
wedi cadw ei chwaer yn aros yn hir, yr unig deyrnged dalai, fyddai, "Ma
fa yn ormod o Fethodist.........wyt ti yn etrych fel afal mwn nyth ynddo”
Cywiriai ei hun yn bur fuan serch hyny drwy ddweyd, "ond ma fa yn well
nag un y flwyddyn ddiwetha." Yr oedd Twm Fflint yn llawer iawn mwy rhesymol. “Rhagorol dyn” waeddai Twm pan
yn cael yr olwg gyntaf ar y Cap, dros wal yr ardd, a byddai Dafydd
Shon ar y ffordd gartref o gwrdd y boreu, yn edrych i wyneb Mary Rosser, ac
yn dweyd “splendid" a byddai Mary Rosser ar hyn yn dechreu canmol y
bregeth, a rhaid yw cyfaddef fod gwirioneddau mawr yr efengyl yn cael
heIaethach derbyniad i galon Mary Rosser, o dan ddyianwad Cap pert.
Y Cap oedd ysmotyn balchder Mary Rosser, a'r
oll o'r hen famau am hyny, waeth beth bynag fuasai yn eisiau, rhaid oedd cael
Cap; y Cap oedd yn tynu llygaid yr hen famau y naill at y
llall, a'r Cap oedd eisteddle gweddeidd-dra. Dim ond cael hwnw yn
dderbyniol yr oedd pob peth yn dda. Yr oedd y Cap feiiy yn rhan o
drefniant Mary Rosser o'f haner coron; rhaid oedd ei gael, faint bynag oedd
raid wasgu ar yr haner coron i'w gynyrchu. Bychan oedd cynhaliaeth Mary Rosser. Yr oedd
rhagluniaeth wedi dyfod yn bur gul yn y fan hyn, ond yr oedd yr hen fam yn
cerdded yn driigon sefydlog ac uniawn i gadw ar y llwybr heb fyned ar draws y
perthi, yn hawdd hawdd, a hyn oedd teimlad Mary Rosser ar y mater, waeth pan
ofynid iddi. “Shwd i chi yn byw?" Ateb diffael Mary Rosser oedd,
"Wi'n byw a'r gora. Pam lai? Wi'n cal haner coron yr wythnos yn gyson." Nid oedd y plwyf chwaith, yn darostwng dim ar ysbryd
Mary Rosser, nac yn creu y rhith leiaf o hunan-ddibrisdod ynddi. Yn wir, nid
oedd neb yn dyfynu yn fwy mynych ac yn fwy iachus, “yr hwn na weithied na fwytaed chwaith," na
Mary Rosser, ac nid oedd neb yn gallu taflu mwy o awdurdod a dylanwad i'r geiriau hyn na'r hen
wraig, a hyn oedd teimlad yr ardal ar y mater. Yr oedd yr hen fam felly yn
cerdded drwy ei bywyd, ac er ar y plwyf, a’i phen i fyny; ac a'i hysbryd yn ysgafn, er |
|
|
|
|
(*47) |
200 HEN BOBOL TABOR. syndod i neb oddieithr, fe ddichon, i'r swyddog
plwyfol. Nid ydym yn siwr nad oedd ef yn teimlo eisiau haenen o'r
gwaseidd-dra sydd yn codi o dlodi, ac oedd yn ei gyfarch ymhob man arall
hefyd, o flaen drws Mary Rosser. Derbyniai y tlodion eu cardod o law y “Iiving officar" gyda llawer iawn o ddychryn yn aml, a cha'i yntau yn gyfnewid
fesur helaeth o ymostyngiad iddo gan y bobl hyn. Hyn oedd yr arferiad. Dyma y
teimlad oedd yn ei gyfarfod ymhob man, lle bynag yr äi, gyda phawb ond Mary
Rosser. Nid oedd arni hi ronyn o arswyd nac unrhyw gyffelyb deimlad yn ei
bresenoldeb, ond yn hytrach galwai ef yn ti a tithau, a phan
fuasai wedi bod dipyn yn hwy nag arferol ar y ffordd, cyfarchai Mary Rosser
ef â “Ble wyt ti wedi bod? Yn y Swan?...... Ma arno'i ofan dy fod yn llyncu
gormod." Yn lle ei Syro ac edrych i fyny ato, cae y living
Officer deimlo fod llygaid yr hen wraig yn disgyn, ac nid yn
esgyn ato. “Shwd ma'r hen ddynon, yco?" ofynai yn aml, “dy dad a dy fam.
Gwed fod Mary Rosser yn gofyn i hynt nhw." Ac ambell dro pan yn troi ei
gefiyl i fyned ffwrdd, gwaeddai Mary Rosser ar ei ol. “Dyna cera hipo'r Dynefar
heddy nai di. Paid a myn'd i'r pwllyn bob dydd, cera hipo witha."
Byddai hyn yn cael ei waeddi ar draws yr holl ardal,
a deffroai yr ymadrodd chwerthin iachus ar draul y “living officar"
yr hyn nad oedd yn plesio y Swyddog plwyfol lawer. “Wyt ti yn rhy hir dy big" meddai Nanni “mewn
perthynas i'r Iiving officar."........."Dod
dicyn o wellt am dy dafod...........l.Beth ta fa yn dy gropo di.” “Y nghropo i" meddai Mary Rosser. “Beth sydd i
fyno fe a fi? a beth sydd i fy n Mary Rosser a fe?............
Na," meddai yr hen wraig, “Dall e ddim o nghropo i, heb iddo gal ordars
oddi yco" ac aeth llygaid Mary Rosser i fyny. Ac ymhen peth amser
meddai drachefn, “A dw i ddim yn meddwl i fod e yn debyg o gal ordars
oddi yco yn erbyn Mary Rosser.” “Falla na” meddai Nanni. “Ond ta fa yn cael ordars
o'r lle arall, ag iddo fyn'd a phishyn o dy hanar coron di off,
ti fyddat yn yr un twll .....Catw'n dawal nai di.........A chofia dy fod yn Fethodist,",
meddai Nanni yn ddifrifol iawn. Nid oedd Nanni ymhell iawn o'i lle yn ei
hawgrymiadau i'w chwaer, oblegid y tro nesaf y daeth y “living officar"
heibio, synoda Mary Rosser trwy ddweyd pan yn estyn yr haner coron iddi,
"Dyna, gnewch chi yn fawr o ge, dyna'r diwaetha gewch chi.......doi
swllt gewch chi yr wthnos nesa."........"Beth i wetas ti” meddai
Mary Rosser, “wyt ti yn mynd i stwffo dy law i bocad hen wraig dlawd?........
Beth i wetas ti?” “Ma gormod o chi yr hen fynywod o'r hanar ar hyd y
wÍad," meddai'r swyddog. “Dir dyshefo ni, mae'n bryd y’ch gwaretu
chI....Beth i chi yn pido marw?............Pwy lusco ar hyd y pentrefi yma i
chi?......i chi just gwasgu y trethdalwyr i'r dim..........Etrychwch
arni nhw, mae golwg nhw yn ofnadwy.........Ma nhw mor dena a
brwyn.........Beth i chi yn pido marw?..........Mae yco ddwy hen fenyw ar
hewl y bwnsi. |
|
|
|
|
(*48) |
HEN BOBOL TABOR. 201 Nhw fyddan yma hyd ddiwedd y byd, chi gewch weld,
dos dim marw ynddi nhw..........Ma nhw wedi bwyta ffortiwn yn barod.........A
dyma lle ma nhw o hyd.........a dyma lle y bydda nhw.........Beth i chi yn
pido marw — rhai o chi? Yr oedd y swyddog o dan ddylanwad diod i ryw
fesur mae'n debyg, ac aeth yn ei flaen eto yn hwylus iawn. “Fydd yma ddim ratepayers yn y plwyf os
dalwch chi ymlan lawar yn hirach.........Dyna Jenkins y Ddraenan Wen, wedi
marw yr wythnos ddiwetha — y rates âth ag e; a mis yn ol yr aeth Emwnt
o'r Ton, taxes aeth a fynta.........Ma nhw yn myn'd, yn myn'd yn
rhwydd, a chi cwplwch nhw i gyd, fydd yma yr un ratepayer yn y plwyf.
Fydd yma ddim ond parsal o hen fynywod tena ar hyd ylle........Beth i chi yn
pido marw?” “A wyt ti yn myned a'm wech chinog i ta?”
meddai Mary Rosser yn ol. “Odw” meddai'r swyddog, "ac os grwmblwch chi
lawar fi ä a rhacor." "Ai di?" meddai Mary Rosser, "ai
di? Arafa dy gamra was i, a dysg i siarad yn fwy parchus am dlodion
Duw.........A dyw'r tlodion ddim yn marw yn ddicon rhwydd wrth dy fodd di
ta?......... Amynedd, y ngwas i, amynedd dicyn bach yn rhacor, ni ewn; Fydd
dim isha dy haner coron di yn hir iawn ar Mary Rosser, ddim yn hir iawn
......hi aiff, hi aiff......a, ti ai ditha hefyd — ai"
meddai'r hen wraig” ai. — Ni ewn i gyd, a ni gwrddwn yto, ti a
fina......ond nid fel heddy. Fydd Mary Rosser ddim yn mofyn lwans plwyf yco,
hi gaiff lwans gen yr O'n. Stock yr arfath, gwddat ti rhwpath am yr
arfath?" gofynodd Mary Rosser iddo. “Doi swllt yn lle haner coron," meddai yr hen
wraig iddi ei hun. "Doi swllt,.....a ma hi yn dight ddicon yn
awr."........." Dir i chi yn cal" meddai'r swyddog.
“Odw wi yn cal," meddai Mary Rosser, “a hyny sydd dda i fi,"
"Doi swllt" meddai yr hen wraig eto, “hi fydd yn bincho," ac
yna wrth y swyddog, “un calad wyt ti ma arno'i ofan, un calad wyt
ti......"Llwyr fwyta tai, tai gwracadd gweddwon," aeth Mary Rosser
. yn ei blaen. “Llwyr fwyta tai gwracadd gweddwon. — Ma dy dylwth titha yn
hen" meddai yr hen wraig yn edrych i fyny at y swyddog, “i chi wedi bod
getyn o amser yn y byd, — a ta chitha yn marw dicyn yn well, fyddai ddim
collad i Mary Rosser a'i sort."......... "Nawr," meddai yr hen
wraig yn edrych i lygaid y swyddog, "Grynda ar Mary Rosser......wyt ti
yn mynd i dori Mary Rosser i lawr i ddoi swllt, o'r gora, os gallu di
gwna fa, gwna fa.........Dw i yn mynd i ddadla dim a ti, dim, dim gair,"
ac ar hyn dyma yr hen ffon ddu i fyny yn syth uwchben, a braich grynedig ei
phedwar ugain oed yn ei dal. “Ond ma gen Mary Rosser Dduw yco,"
meddai yr hen wraig yn edrych i fyny. “O's Duw da, Duw ffyddlon. Tair blynedd
ar ddeg yn ol, fi gollas Twmi, Twmi ffyddlon, fi yriod i well a, a wyddwn ni
ble i droi y mhen y pryd hyny.........'Ond ffyddlon yw Efe yn ei holl
ffyrdd,' ma Fa wedi watchio dros Mary Rosser bob cam ar ffordd oddiar
hyny, bob cam, heb symud i lycid off unwaith..... Ma gen Mary Rosser Dduw.
Wyt ti'n clywad?" Meddai yr hen wraig yn dal wrthi, "Duw."
"A nawr grynda, Fe fydd rhaid i ti settlo bysnas yr haner
coron sha Fe. Dw i yn mynd'i ddadla dim sha ti, dim gair, ond fe ro'r matar yn y |
|
|
|
|
(*49) |
202 HEN BOBOL TABOR. Llys Mawr y funad-yma," meddai yr hen wraig. “Y
funad yma," a throdd ar ei sawdl i brysuro i'r ty. Aeth y Swyddog
plwyfol ar ei ffordd yntau i lawr yr heol. “Y cythral dideimlad” meddai Nanni pan ddeallodd
beth oedd yn bod, "y cythral."........."Ia, a gwafh na
chythral," meddai Dafydd Shon, oblegid yr oedd ef yno, “gwath na
chythral, scelphin” gwaeddai Dafydd, “scelphin......bob modfedd o
ge."........." Pidwch hito," meddai Dafydd Shon yn gwaeddi i
ddrws Mary Rosser, "Pidwch hito, fe gaiff Sharlat ddoti catar arall
wrth yn bord ni, a disgil a sawcar hefyd,......a ...a phlat,......y
scelphin” aeth Dafydd Shon yn ei flaen . Yr oedd Mary Rosser erbyn hyn yn y tŷ yn “taenu'r matar.” “Fe
fydd rhaid pincho” meddai ar ei thraed yn cerdded yn ol a blaen, “Fe
fydd yn rhaid pincho, ond wn i ddim yn ble. Fe fydd rhaid i fi
gal y ticyn bara wi'n fyta, a dall y menyn ddim bod yn denïach......cig...... dw i yn
prynu dim o hwnw, ond wyt ti yn hela llawer tamid o ge? Mary Rosser, drwy y
cymdocion, wyt ti yn gind iawn......Diolch......... Tan? wi bron sythu
yn amal yn awr." Yr oedd Mary Rosser yn ceisio gweled a oedd yn bosibl
myned yn y blaen heb y chwech cheiniog, “wi'n ffaelu gweled ffordd y gallai
ymdopi," meddai yr hen wraig. Ond ar amrantiad fei pe buasai pelydryn
dwyfol wedi ymweled â'i henaid meddai mewn llais uchel, “Mary Rosser, Mary
Rosser, gwddat ti beth wyt ti yn nythur? Stopa di, stopa di?
ac ar dy lina rhag cywilydd. — Gwddat ti beth wyt ti yn
nythur?"...... “Madda i fi" meddai Mary Rosser, "Madda i Mary
Rosser, Fi dy drysta Di, oh, gna, Fi dy drysta Di...... a fel
bo Ti'n lico yn awr, fel bo Ti yn lico." Pan oedd yr ymdrech hyn yn myned yn y blaen yn y tŷ rhwng Mary Rosser a'i Duw,
yr oedd cynwrf o nodwedd arall yn myned yn y blaen y tuallan. Yr oedd y
Swyddog plwyfol wedi dychwelyd, ac yr oedd Nanni, Dafydd Shon, a Twm Fflint
yn y fan hyny yn ei rostio yn ddoniol dros ben. Yr oedd Dafydd Shon yn gwaeddi yn ffyrnig iawn.
“Scelphin di-ras .........Scelphin di-ras wyt ti yn robo hen fenyw
dduwiol......yn dysgib y tamid bara oddiar i bord hi i lanw cwpwrdds y
tafarnwyr ......y scelphin di-ras.........pen pin na thynwn ni di lawr oddiar
dy geffyl...... Fe all Dafydd Shon nythur hyny........gall...” "Gad dy glepar "meddai Nanni yn araf iawn.
“Gad dy glepar...... welas i'ch sort chi'r Methodists yriod.” “Gad dy
glepar.........Shwd wyt ti heddy?" meddai Nanni yn cyfarch y Swyddog
plwyfol. “Shwd wyt ti heddy?.........Wyt ti yn mofyn wech arall
oddiwrth Mary ni?...... “Bachgan," meddai Nanni, yn parhau yn ei
hamddenolrwydd, "do'dd gen i ddim noshwn fod cecas mor sych genit ti,
nag odd yn wir......Fi wyddwn dy fod ti yn dampo llawar arni, fi
wyddwn hyny, ond do'dd gen i yr un noshwn i bod hi mor sych.........Dy helpo
di yn bryd," meddai Nanni, “Dy helpo di yn bryd........Y drafferth ma
rhai yn gal.....Ond dyna” meddai Nanni, yn d'od yn dynerach, “yn y byd
gorthrymder a gewch” medda'r gair, “ag wyt ti yn darllen hwnw, ond
dwyt ti?” “"Gair," meddai Dafydd Shon, yn tori allan eto. “Gair".....
Ond |
|
|
|
|
(*50) |
GWERSI UNDEB YR YSGOLION SABBOTHOL. 203 taw, Dinas yw a, a Mary Rosser yn Lazarus.
Gair” meddai Dafydd Shon, “gair" ac yn chwerthin dros yr holl le i gyd,
ac yna yn troi at y Swyddog plwyfol. “Ia, a hi fydd hi yn newid yco, y
ti fydd raid cerad yco, ac heb scitcha hefyd was i, ac ar lawr
twymn, a Mary Rosser fyddar i cheffyl yco, a hi gaiffrido am byth.........am
byth........” “Dyshefo ni'n bryd” meddai Twm Ffiint, wedi gadael
ei sedd dan ddylanwad y cynwrf hwn. "Beth i chi yn nghafal a'r
dyn.....Shwd wyt ti heddy?" meddai Twm yn serchog iawn. “Dyma ddiwrnod fine
onta, tewch son," aeth Twm yn ei flaen , “taw ni mor siwr a fe i ble ni
yn myn'd ar ol myn'd odd yma, fi wedwn yr un peth ag ef i'r dim......... Pwy sense
yw pincho mwn doi fyd.........rhai odd yw yr hen ddynon yma”
meddai Twra, yn naturiol, ond yr oedd rhywbeth yn ei lais ac yn ei edrychiad
ag oedd yn cario toraeth o derfysg enaid ynddynt i galon y relieving
officer. Yr oedd hwnw yn sefyll fel delw yn y fan hono, yn gweled ei hun
fel yr oedd mewn gwirionedd, a thrwy drugaredd, yn agwedd cymydogion Mary
Rosser ato. Yr oedd wedi dychwelyd yn ei ol er siarad â Mary
Rosser yn mhellach, ac wedi galw am dani, ond yr oedd terfysg Dafydd Shon a
siarad Nanni wedi atal hyny. Daeth Mary Rosser allan yn y diwedd, ac aeth at
y swyddog, oedd erbyn hyn yn wlanen foesol, a meddai wrth yr hen wraig pan
oedd o hyd cyraedd, “Fe fydd yr hanar coron fel arfer yr wythnos
nesaf.........Pidwch a — a thrafferthu am dano." Y trafferthu
hyn, oedd y gweddio, y bygythiodd Mary Rosser ef âg ef. “Grynda di,"
meddai Mary Rosser, “grynda di, ' wyt ti bron wedi tynu Duw'r nefoedd am dy
ben.....a ta ti yn i dynu Fe am dy ben, ffordd sefat ti y soflyn tlawd."
Brysiodd y swyddog i ffordd, ond nid heb deimlo y
buasai yn well iddo geisio cadw ar well telerau a Duw Mary Rosser. Aeth yr
hen fam i'w bwthyn ac yn murmur wrth fyned i fewn drwy y drws, “Fyddlon yw
Efe yn ei holl ffyrdd." |
|
|
|
|
|
8/ Cyf. xii. Hydref 1896. Rhif 142. Tudalennau
299-305 Y Lladmerydd – Cylchgrawn yr Ysgol Sabbothol. Dan Olygaeth y Parchn. J. M. Jones, Caerdydd, Evan
Davies, Trefriw, a D. Jenkins, Ysw., Mus. Bac. (Cantab) ….. Hen Bobol Tabor. Gan y Parch. Daniel Thomas, Diweddar o Ffynon Taf |
|
|
|
|
(*51) |
8/ Cyf. xii. Hydref 1896. Rhif 142. Tudalennau
299-305
HEN BOBOL TABOR. GAN Y PARCH. DANIEL THOMAS, DIWEDDAR O FFYNON TAF. Trosglwyddiad Bryncoch o ddwylaw hen frodorion y
lle, i eiddo pobl Aberdare, oedd yn ffurfio pwnc ymddiddan a meddwl trigolion
Ffynon Taf ar yr adeg dan sylw. Edrychent ar y mater o wahanol gyfeiriadau.
Ystyrient ef yn ei wahanol agweddau; caffai ei ddadleu ar ddrysau y tai gan y
menywod, weithiau cyn brecwast, ac yn aml ar ol swper; dilynai hwynt i
gysgodion y nos, a ffurfiai, yr ydym yn sicr, ddefnyddiau breuddwydion y lle
am gryn yspaid. Byddai yr ychydig “ddynon” fyddai yn crwydro ar hyd yr heol,
ac yn sefyll yn dyrau dibwrpas yma a thraw, yn siarad am Bryncoch; a gallesid
wrth gerdded yn ddistaw glywed yr hen bobl ar eu ffordd yn ol a blaen tua'r
capel yn siarad am yr un mater. Yr oedd cynwrf yn yr awyr. Yr oedd cyfnewidiadau
mawrion i gymeryd lle — mawrion i Ffynon Taf, — a beth yw ystyr y gair mawr
yn y cysylltiadau hyn ond perthynas pethau a ni? Beth oedd tynged
Bryncoch i rhyw un yn Ffynon Taf, hyd yn nod oedd uwchben ei ddigon? Dim. Beth oedd i ben teulu o wraig a
phump neu chwech “o rai bach” yn ymofyn dillad ac aelwyd gynes, ac yn dibynu
ar "waith" i gael y trugareddau hyn? Pobpeth. Cysylltiadau
yw amgylchiadau, ac y mae yr amgylchiadau hyn yn fawrion neu yn fychain i ni
yn ol fel y byddant yn dal perthynas a ni, neu beidio. Bydd cofio hyn yn help
i ni ddeail y pwys oedd Bryncoch i Ffynon Taf. Yr oedd y ddwy hen olwyn faen fawr, rhydlyd, oedd yn
matu'r clai “i fyn'd," i roddi ffordd fashins, ac yr oedd
“pobpeth i fod dan dô." Yr oedd yr hen olwynion wedi treulio eu hoes
allan yn y tywydd, heb na thô na chysgod drostynt, ac yn edrych ond ychydig
yn waeth o hyny. Nid oedd drws braidd yn un man ar y “gwaith;" estynid
yr un rhyddid i bobl y lle i fyned o gylch y gwaith ag a estynid i'r gwynt.
Ond yr oedd si mawr wedi ymwasgaru drwy yr ardal — si yn gynwysedig, fel
arfer o ronyn bychan o ffaith, neu rhywbeth yn debyg iddi, waeth pa un, a
chrug o chwedl, fod gorthrymder yn dechreu dangos ei wyneb o gylch Bryncoch. “Dos dim cymint o fenyn ar fara gwyr 'berdâr wyt
ti'n feddwl ferch," meddai Nanni wrth ei chwaer un boreu. “Pam?” meddai Mary Rosser yn ol, yr hon oherwydd
trymder ei |
|
|
|
|
(*52) |
300 HEN BOBOL TABOR. chlyw oedd yn gorfod byw ar lawer llai o
"newyddion" na Nanni. “Beth sydd gent ti heddy?” “Fe fydd rhaid i ni gal par o glysta i ti dos
dim doubt," meddai Nanni, “onte ti ai di mas a'r byd altogether,
wyt ti ddim wedi clywad?" ac yn myned rhag ei blaen heb aros i Mary
Rosser. “Ond dyna, dyw a ddim llawar o syndod, siwr, waith i chi'r Methodists,
yn gweld a chlywad llai na neb arall.” “Dara," meddai Mary Rosser, a'i genau yn agor
ychydig a'i haeliau yn yn myned i fyny ychydig o flaen rhyw fesur o syndod.
“Beth sy'n bod yn awr? Paid a throi o bothdi. Beth sydd gent ti?” “I chi gwyr Tabor yn byw mewn twbyn, dos dim
doubt" meddai Nanni, yn cymeryd pinched arall o hamdden, “i chi yn cauad
ych clysta, ac yn cauad ych llycid, ag yn shiglo yn ol a blan fel ta'r byd i
gyd yn gwrdd gweddi......... Gofyn i Twm," meddai Nanni i orphen. Twm Fflint oedd y Twm hyn, yr oedd yn dyfod yn y
blaen dros y beili. Yr oedd yn clywed yr ymddiddan, a chan daro i fewn
iddo, meddai, “Odi, odi, ma fa yn itha gwir, lock and key
yw hi i fod yn awr." Yr oedd lock and key yn swnio yn loesaidd ar
glustiau Mary Rosser. Yr oedd arogl llywodraeth arnynt, a deuai delw
heddgeidwad i'w meddwl wrth eu gwrando. “Ia," meddai Twm, yn ail ddechreu, “lock and
key yw hi i fod yn Ffynon Taf yn awr. Fe fydd pobpeth dan allwath,
ma nhw yn mynd i gloi pobpeth” “Cloi pobpeth?" meddai Mary Rosser, yn methu
llyncu y fath syniad afresymol, ac yn teimlo gwrthuni yr oruchwyliaeth, “Am
bachgen," meddai “Pwy sense yw cloi pobpeth?.........Pwy sense yw
cloi clau? .........Chlywes i am neb yriod yn spilo clau.” “Mae hi fei w'i yn gwed," meddai Twm yn
araelaidd iawn. “Fe fydd pobpeth dan glo — clau, glo, engins, bwylars,
bricks. Fel w'i yn gwed, ma hi i fod yn lock and key all round.
“Ffydd wyt ti'n weld," meddai Nanni, yn
troi at ei chwaer, “dos neb fel y chi'r Methodists i weithretu
ffydd." Yr oedd y syniad o gloi yn annaturiol iawn i
bobl Ffynon Taf. Nid oedd cloi yn bod yn yr ardal ond drysau y tai yn y nos,
“rhag y gallasa rhyw dramp o hen Sais dd'od hipo." Yn ystod y
dydd cauid y drws, gan ddweyd wrth gymydoges y drws nesaf, “Wi'n myn'd
shar pentra, fyddai ddim yn hir, wi'n gatal yr allwath yn y drws." Ac os
cloid o gwbl, gadewid yr allwedd yn y drws. Dyna fel yr arferai yr hen bobol
wneyd yn Ffynon Taf. Erbyn heddyw, rhaid yw cloi yn y dydd yn gystal ag yn y
nos. Yr oedd y syniad o gloi felly yn anesmwyth
i'w teimladau. Yr oedd yr hen bobl yn arfer llawer iawn o ryddid, o rhyw
fath. Caent fyned ar hyd a thraws y wlad i bobman, a chasglu “côl o gôd"
ar y ffordd wrth dd'od yn ol. A chan fod ffyrno bob wythnos, yr oedd
yn rhaid cael "côl o gôd" yr un mor aml, ac felly, rhaid oedd myn'd
“am dro” yn wythnosol. Nid i “fofyn coed," wrth gwrs, ond “am dro,"
ond rhywsut deuid ar draws coed, a chofid am y ffyrno. Yr oedd rhyw
fath o deimJad fod y deg gorchymyn yn cael ei ddifwyno ar yr adegau hyn, ond |
|
|
|
|
(*53) |
HEN BOBOL TABOR. 301 anfynych iawn y teflid llygad at y deg gorchymyn i
weled a oedd eisiau ei frwshio ai peidio. Ein barn ni ar y mater yw
nad oedd. Byddai'r pŷs
a'r kidney beans yn tyfu ar ddechreu yr haf hefyd, a byddai rhaid wrth
goed i'w dal i fyny. A deuid ar draws y rhai hyn hefyd yn yr un modd, ac mor
hen oedd yr arferiad o gyrchu y trugareddau hyn, fel nad oeddis ar y pryd yn
cysylltu deddf o gwbl âg
ef, ac wrth gwrs, gwyddem mai "lle nad oes deddf, nid oes bechod." Caffent gasglu glo ar y tip hefyd yn rhydd,
a hyny o hono a syrthiai o gylch y "gwaith." Yr oedd cloi felly yn
bygwth y rhyddid hwn, teimlent fod gwaharddiad iddynt i gasclu glo ar hyd y
"gwaith" a hêl ambell i gôl o goed, a'u bod i'w dwyn i lawr i
delerau tre — i orfod “talu am pobpith," yr hyn oedd feichus
iawn, Yr oedd rhywfaint o gloi i fod ar Bryncoch nad oedd
wedi bod o'r blaen, ond yr oedd i amddiffyn yr offerynau a'r peirianau, ac
nid i gau allan a gwahardd yr hen bobl o'u harferion cyntefig. Ond nid hyn
oedd yr esboniad osodid ar bethau, ond un arall, ac annhebyg iawn i'r un
gwirioneddol. Paham yr oedd yr hen bobl yn cymeryd yr esboniad tywyllaf?
Paham mae y natur ddynol fynychaf yn gwneyd felly os nad trefn neu reddf yn
ein natur yw yn gofalu yn y dewisiad, os bydd yn rhaid ei newid o gwbl, fod
yn well newid o waeth i well, ac nid o well i waeth, ac felly yn dewis y
gwaethaf, ac amddiffyn a'r syniad ein teimladau rhag siomedigaeth. Nid
yw ein culni bob arnser yn codi oddiar angharedigrwydd, hyny yw, nid ydym
weithiau mor ddrwg ag y tybiwn. Yr oedd y cyfnewidiadau hyn, modd bynag, yn creu
terfysg mawr yn meddyliau yr hen bobl. Nid oeddent yn hoffi pethau newyddion,
gwell oedd ganddynt, fel y gweddill o'r byd, gadw yr hen ddodrefn, gan nad pa
mor ddirywiol bynag ydoedd. Yr oeddent yn gafaelyd yn yr hen drefniadau am eu
bod yn gorfforiad o'u syniadau, a'r rheswm y mae y byd bob amser, ac ymhob
cylch wedi gwrthwynebu pob cyfnewidiad, yw ei fod yn ymyryd â'i syniadau. Pob
peth rydd y byd am ei syniadau, y rhai hyn yw ei fywyd cymdeithasol,
a'r peth diweddaf y mae yn ymadael âg ef. A chawn yn fynych y syniadau hyn
yn goroesi, flynyddoedd lawer, yr ymarferiad o honynt, a'u coleddwyr yn byw
yn y byd newydd, megis yn Babilon, o'u cartref wlad. Yn credu o hyd yn yr
“hen amser, pan odd petha fel arall." Nid oes rhaid i ni fyned yn bell yn ol o'r amser
dan sylw i gyraedd yr adeg cyn geni y rheilffordd pan oedd rhaid myned i
Fryste dros y mor, y mor hwnw y Bristol Channel. Y mae rhai eto yn fyw yn
cofio y ffarwelio gwlyb a Shon Thomas, y Crydd, Nantgarw, ar ei ymadawiad am
Bryste i brynu lledr. Taith tair awr ydyw yn bresenol ar dir neu for, ond y
pryd hyny faint? Nis gwyddom, ond gwyddom ei fod mor bell, ac mor bwysig, fel
yr oedd yr holl bentref yn casglu ynghyd i ddweyd ffarwel. Byddai llawer iawn
o golli dagrau wrth wneyd hyny, a llawer o addaw gweddio drosto. Pegi Dafydd
Adam yn addaw yn neillduol felly. “Fi dy gofia di nos a bora," meddai
Pegi, “wrth yr orsedd," a chan ychwanegu “llawar ddichon târ weddi'r
cyfiawn” yn talu compliment anymwybodol iddi ei hun. “A fe gaiff
Dafydd weddio drosto ti hefyd," meddai Pegi. Yr oedd Dafydd yn weddiwr
mawr, yn |
|
|
|
|
(*54) |
302 HEN BOBOL TABOR. gweddio yn y coed ganol dydd a'i lais clochaidd a'i
ysbryd berwedig nes yr adseiniai y dyffryn drwyddo a'i weddi. “Caiff"
meddai Pegi. “Fe gaiff Dafydd dy gofio di hefyd." Yr oedd hyn yn safe
passage, oblegid nid oedd bosibl synio am neb yn myned i lawr i fedd o
ddwfr drwy weddio Dafydd Adams, yn cael ei gynorthwyo gan Pegi. Dyma yr hen amser, a dyma yr hen syniadau am bethau
ag yr oedd toriad trefniadau ac arferiadau newyddion i fewn arnynt yn arllwys
anghysur i'r enaid. “Dir yn helpo ni," meddai Dafydd Shon un
noswaith, “nhw'n tro'n ni wynab waerad, ma pobpeth i fynd, yr hen engine
fach, yr hen wheels malu — pobpeth. Ma'r bwylar ar y ffordd
shar gwaith y peth mwya welas i yriod. Ma fa bron yn ddicon i lanw y cwm
yma.” “W'i wedi clywad am dano," meddai Twm Ffiint.
“Ma nhw yn gwed fod digon o bwar ynddo i symud cnwbyn o fynydd tysa yn bosib
doti chain am dano.” “Yn wir," meddai Nanni, “wi'n cretu fod yn well
doti chain am Tabor a rhoi pwl iddo fe," a chan droi at
Mary Rosser, “i chi yn achwn dicon fod yr achos yn ishal.” “Ia” meddai Twm eto. “Lock and key fydd hi,
ni gewn yn drifo o bob man, o'r coed, oddiar y bryna, a'r graig. Chewn ni
ddim ticyn o rhetyn i ddoti dan y moch, na sclifyn o bren i dwymo'r ffwrn, na
thamad o lo oddiar y dip. Lock and key fydd hi.........Fe fysa
yr un man i ni fyw yn Nghaerdydd, ni gewn dalu am bobpeth." Nid oedd Twm yn siwr ei hun pa un a oedd yn credu
hyn ai peidio. Ond nid oes, pau fo'r newydd yn ddrwg, ond eisiau i ni ei
haner gredu i gael eraill i'w iyncu yn gyfan. Yr oedd Mary Rosser, Nanni a
Dafydd Shon ac eraill wedi d'od i gredu taw diwrnod gwael oedd y diwrnod
ddaeth a gwyr Aberdare i dori ar gwsg heddychol Ffynon Taf. Ymhen ychydig ddiwrnodau ar ol hyn, synwyd Mary
Rosser drwy swn llwyth o lo yn caei ei arllwys gerllaw ei drws.
"Bachgan," meddai Mary Rosser, yn brysio i'r drws ar hyn.
“"Beth wyt ti yn nythyr a hwna yma? Dw' i wedi ordro dim glo. Beth wyt
ti yn i dipo fa yma?” “Dyma lle ma fa i dd'od," meddai'r bachgen yn
ol mewn atebiad. "Mr. Morgan, Bryncoch, sydd yn i hela fa. Fe wetws
wrtho i am fyn'd ag e i un o deulu'r ffydd o'r enw Mary Rosser, a chi yw
hono, ia fa ddim?” “Synwn ni ddim," meddai Mary Rosser. “Ond beth
am dalu, rhaid talu am fusnes fel hyn wyt ti yn gwel'd.” “Darllenwch Matthaw xxv. 40, dyna ddywed a wrtho i
am y tal," meddai y bachgen. Aeth Mary Rosser i'r ty, gwyddai yn burion
beth oedd yr adnod, ond darllenodd hi serch hyny. "Yn gymaint a'i
wneuthur o honoch i un o'r rhai lleiaf hyn fy mrodyr, i mi y
gwnaethoch." Darllenodd Mary Rosser yr adnod unwaith neu ddwy drosodd,
ac aeth allan i edrych ar y llwyth glo, daeth yn ol at yr adnod drachefn, ac
aeth allan at y llwyth gio drachefn. Yn dweyd dim. Ond yn sydyn tarawodd i dy Nanni, a meddai wrth hono
mewn llais oedd yn tueddu at chwerwder. "Rhaid i ti atal gwyr Bryncoch
yn llonydd." Gwelodd Nanni fel yr oedd pethau. Deallodd delerau y llwyth
glo, a gwelodd ei effaith ar Mary Rosser. “Wel," meddai Nanni, |
|
|
|
|
(*55) |
HEN BOBOL TABOR. 303 “Ma nhw yn biwr iawn," yn rhagflaenu eglurhad
ei chwaer, ond paid a rhifo dy gwyn yn rhy gynar r'un shwt. Gad i fi gal gwed
wrthot ti, wi'n cofio hen ddyn Ynysgai"------"Nysgai yn wir”
— meddai Mary Rosser, yn tori i fewn yn ddiystyrllyd. “Ia” meddai Nanni yn
ol. "Cymar di bwyll, gad i fi gal cwpla.............Wel," meddai
Nanni, "Fe helws o, ba ddiwrnod, dynall o lo — i Shan Gilail —
hanar tunall gesot ti yn ta?" — meddai Nanni, ac yn aros am atebiad.
"A do'dd dim i dalu am y glo," aeth Nanni yn ei blaen. "W'i yn
i rhoi a," meddai yr hen ddyn, ac yn i widdi a dros y lle, fel yr oedd
e........." Wi yn i rhoi a."........."Ond os wyt ti yn y fan
yna," meddai Nanni, yn edrych i lygaid Mary Rosser, “Mewn wech mis ar ol
hyn, dyma fill yn d'od am y doman lo. Ro'dd Shan wedi gwed rhwpath
iddi ddicio fa, a hi gas dalu pob cinog wetin, fi welas yr arian.”
“Wel!" meddai Mary Rosser. "Dyna i gyd," meddai Nanni mewn
atebiad yn ofalus iawn. "Beth sydd a fyn hyna a fi?" meddai Mary
Rosser eto. “D'w i yn gwed dim” meddai Nanni yn ol, yr un mor wyliadwrus a
difater ag o'r blaen. Aeth Mary Rosser allan ac i'w thŷ ei
hun. Yr oedd Nanni wedi taflu pethau i'w meddwl ac wedi tori ar ei dawelwch.
“A beth ta bill yn dod i titha mwn wech mis, ffordd ymdopa ti Mary
Rosser?" meddai yr hen wraig wrthi ei hun. Penderfynodd fyned i fyny i dy Mr.
Morgan i gael esboniad ar y weithred hon o drugaredd. Yr oedd y Bardd allan
wrth y glwyd yn pwyso arni pan welodd Mary Rosser yn dyfod, ond nid oedd yn
meddwl ei bod yn dyfod ato ef, hyd iddi droi. “Wel Mam," meddai'r Bardd
yn serchog yn troi at yr hen wraig, “i chi wedi dod i'r dim mwn pryd i
de........dowch i fewn," ac yn mynd a'r hen wraig gydag ef. “Mae Mary
Rosser wedi dod i dê mam," meddai wrth Mrs Morgan, a chafodd Mary Rosser
yr un croesaw ganddi hithau. Nid oedd Mary Rosser wedi bod yn y fath le crand
erioed o'r blaen; edrychai o gwmpas ar y cadeiriau esmwyth, teimlai y carpet
ar y llawr a'i throed, a chafiai deimlo wrth bobpeth yn y lle fod cyflawnder
yno. Yr oeddent wrth y ford cyn hir. A oedd Mary Rosser
yn ofnus? Nac oedd, yr oedd yn anmnosibl iddi fod yn wasaidd, ac
ymyrai y teimlad hwn weithiau a'i moesgarwch. Eisteddai yn syth wrth y bwrdd
yn edrych dipyn yn fwy stern nag arfer, yn bwyta ei bwyd fel yr
arferai ei fwyta gartref heb feddwl am efelychu neb. “W'i wedi dod i wlïa am
y glô yco," meddai Mary Rosser yn edrych at Mr. Morgan. “Beth am y bill?”
“Does dim bill," meddai'r Bardd. “Ia, ond falla daw a yto,"
meddai Mary Rosser yn cofio am Shan Gilail a'i thynall. “Na
ddaw," meddai'r Bardd. “Ddanfonais i ddim glô i chi" meddai'r
Bardd, ac yn synu Mary Rosser. “Fe ddanfonais lwyth i Iesu Grist i'w losgi ar
aelwyd Mary Rosser," meddai'r Bardd. Ymuniawnodd Mary Rosser drwyddi.
“Cwpanaid o dê arall i Mary Rosser mam," meddai'r Bardd, yn estyn cwpan
yr hen wraig, “a thamaid o'r deisen yma mam Mary Rosser," yn estyn peth
i'r hen wraig. “Ma'ch tishan chi ishta nishan i i'r blewyn," meddai Mary
Rosser wrth Mrs. Morgan, yn talu compliment iddi wrth gwrs. “A ma'ch tê
chi yn biwr hefyd," meddai Mary Rosser eto yn arllwys peth o hono i'r sawsar.
“Dysglid o dê biwr ddigynyg dyn," meddai eto wrth Mrs. Morgan, ac yna yn
troi at Mr. Morgan, a |
|
|
|
|
(*56) |
304 HEN BOBOL TABOR. chan edrych yn ei lygaid meddai wrtho, "Wi'n
ych lico chi"........."Aie?” meddai'r Bardd yn ol mhen tipyn yn
synu a gwenu ar yr un pryd. “Odw” meddai Mary Rosser, ac yn troi at Mrs.
Morgan, meddai “Wi'n lico i wynab a." "Odw inau hefyd” meddai Mrs.
Morgan. “Ma fa ishtar bora," meddai yr hen wraig ac yn troi i edrych i
lygaid y Bardd yn gorphen y frawddeg,----------"yn glir.” “A w'i yn iico 'i lais a hefyd," aeth
Mary Rosser yn ei blaen. “Dos dim drwg ynddo, wi'n napod y dyn drwg wrth ei
lais." Prysurai yr hen wraig. "Dyna Billy'r Bryna, oti chi yn i
napod e?" gofynodd Mary Rosser i Mrs. Morgan. Atebodd hithau nad oedd.
“Wel," meddai yr hen farn, “ma fa wedi tyngu a rhecu cymaint nes bo fa
wedi myn'd iddi lais a. ----------Dos dim pechod yn i lais e," yn
pwyntio at y bardd, ac yna yn troi ato, ac yn dweyd mewn llais uchel, fel pe
buasai Mr. Morgan heb glywed yr ymddiddan â'i wraig, “Dos dim llais dyn drwg
genych chi. Llais dyn duwiol yw a. Ia yn dyn i," meddai Mary Rosser. “Da
iawn," meddai'r bardd," gobeithio fod calon dyn duwiol
geni." Prysurodd Mary Roser i fyned gartref yn fuan ar ol
hyn. Y bardd yn ei hebrwng drwy y glwyd i'r heol; ac wrth fyned, yn tori
rhosyn hardd iddi o'r ardd. “Rhaid i fi bido dangos hwn i Nanni ni,"
meddai Mary Rosser, "onte chai glywad y diwetha o ge byth." Ar y
ffordd tua thre, fe rodd Mary Rosser y rhosyn yn ei “phocad.” “Dos dim isha
iddi nhw wel'd pobpath." Y nhw hyn yw pobl y pentref. Yr oedd
Mary Rosser yn ormod o Galfin i gario blodeuyn yn ei llaw drwy y pentref. Ac
yn ormod o Galfin hefyd i'w ddodi mewn glass ar y bwrdd, ac hefyd,
dichon fod y Galfiniaeth yn cael ei thymheru â thipyn o arswyd tafod Nanni.
Dododd Mary Rosser y rhosyn felly, mewn “cwpan," a hwnw yn y cwpwrdd o'r
golwg, ond byddai yn aml yn ystod y dydd yn myned i arogli y rhosyn, ac wrth
wneyd yn dweyd “dyn da yw a," bob tro. Ni bu Mary Rosser yn hir cyn myned i mewn at Nanni,
a dweyd wrthi mewn ysbryd awdurdodol, "Na, ddaw bill byth i fi am
y glo, w'i wedi bod i'r lan............a ma rhaid i ti ddala dy dafod am wyr
Bryncoch ............wyt ti'n clywad?" meddai Mary Rosser yn codi ei
llais. Yr oedd Nanni yn edrych yn syn, nid oedd yn meddwl y buasai ei chwaer
yn prysuro i dy Mr. Morgan ynghylch y mater. “Gofala di beth w'i yn wed wrtho
ti," meddai Mary Rosser eto, ac ar hyn, ffwrdd a hi. "I ni wedi
cwni i chrwmpyn hi," meddai Nanni wedi i'w chwaer fyned. Aeth Mary Rosser o dy Nanni ar ei hunion i dy Twm
Fflint, a chyda ei bod ar y drws, meddai wrth hwnw, “Faint rhacor o gelwdd
wyt ti yn myn'd i wed am wyr Bryncoch, Twm?" Edrychodd Twm i fyny mewn
syndod. Yr oedd yn adnabod Mary Rosser yn dda, a gwyddai os deffroid y storom
nad oedd yn myned i lawr yn union........." Ia," meddai Mary
Rosser, “w'i wedi bod i'r lan gyda'r dyn, a ma'r petha wyt ti a Nanni a'r
grybiidi eriil yn wed yn gelwdd i gyd.” “Ma hyny yn gam," meddai Twm, yn dofi yn
hynod, “ma hyny yn gam," meddai Twm eto, yn teimlo yn bur anesmwyth o
dan lygaid cynhyrfus Mary Rosser........."Rhaid i fi wed," meddai
Twm ymhen tipyn, ' fod y noubts geni o hyd am y petha odd dynon yn
wed," yn ceisio edrych i wyneb Mary Rosser. “Doubts," meddai
Mary Rosser dros y lle i gyd, |
|
|
|
|
(*57) |
GWERSI UNDEB YB YSGOLION SABBOTHOL. 305 “wi'n cretu fod isha tynall o ddoubts
ar ych tafota chi, ti a Nanni ni,.........Grynda di Twm," meddai yr hen
wraig a'r cynwrf yn codi, "os clywa i di yn gwed gair am dani nhw yto,
fi a am scitcha i Joida......... dyna fi wedi i wed a," meddai Mary
Rosser. Yr oedd pethau yn gwisgo gwedd rhy ddifrifol, yr
oedd Twm yn edrych yn ddigysur iawn yn y fan hono o dan lygaid Mary Rosser,
ac yn troi o gylch yn anesmwyth ddigon. Yr oedd y rhagolwg o golli esgidiau
Mary Rosser yn beth “cas." Nid am y buasai hyny yn un golled i Twm,
oblegid nid oedd yn “cwni” dim byth am ei “cwiro". Nid am nad oedd Mary
Rosser yn gymaint os nad mwy am dalu na neb, ond ni chymerai Twm ddim.
“Dotwch yr arian yn ol yn ych pocad” fyddai Twm yn ddweyd bob amser wrth gael
cynyg yr "arian.” “Fi ddywa i fofyn rhwpath o'r ardd — cabichan
na datan," meddai Twm. Ond nid oedd Twm byth yn myn'd i fofyn y
rhai hyny; a phan fuasai Mary Rosser yn ei adgofio o'r trugareddau hyn,
atebai Twm trwy ddweyd “dallai ddim myn'd a nhw yn awr, mae yco beth yn bratu
yn y ty geni." Nid oedd Twm byth yn cymeryd ei dalu, ac eto buasai
yn well gan Twm golli scitcha pawb yn yr ardal, braidd, na scitcha
Mary Rosser, ac meddai yn ol wrth Mary Rosser, “Dos dim isha i chi fynd ach scitcha
i Joida, crydd ofnadw yw Joida dyn," meddai Twm yn gyfrinachol. “Dyw a
yn cal gwaith gen neb ond parsal o Saeson, a heltar sceltars y lle.
Crydd dychrynllyd yw a," meddai Twm ac yn myned ei flaen , “Ac am wyr
Bryncoch, os di nhw yn cai cam fel i chi yn gwed, ma fa yn warthus."
.........Ac o hyn i mas” meddai Twra yn awgrymiadoi iawn “fi fydda i yn doti stop
ar y fysnes."........." Wel” meddai Mary Rosser, “Cofia di ta, onte
at Joida w'i yn mynd ta fa yn wath crydd." Cadwodd Twm ei addewid am gryn dymor a chafodd
yntau gadw scitcha Mary Rosser. |
|
|
|
|
|
9/ Cyf. xiii. Chwefror 1897. Rhif 146. Tudalennau
41-49 Y Lladmerydd – Cylchgrawn yr Ysgol Sabbothol. Dan Olygaeth y Parchn. J. M. Jones, Caerdydd, Evan
Davies, Trefriw, a D. Jenkins, Ysw., Mus. Bac. (Cantab) ….. Hen Bobol Tabor. Gan y Parch. Daniel Thomas, diweddar o Ffynon Taf |
|
|
|
|
(*58) |
9/ Cyf. xiii. Chwefror 1897. Rhif 146. Tudalennau
41-49 HEN BOBOL TABOR. GAN Y PARCH. DANIEL THOMAS,
DIWEDDAR O FFYNON TAF. Y llythyr cymeradwyaeth goreu i ddieithriaid yn
Tabor oedd eu bod yn weddiwyr da. Y cwrdd gweddi oedd yn penderfynu eu safle
gymdeithasol yn y cylch crefyddol yn y lle; ac, hyd y ceid y prawf hwn oedid
ffurfio barn a syniad gorpheno! am danynt. Os digwyddent fod yn ddilewyrch ar eu gliniau
edrychid i gyfeiriad arall am ragoriaethau. Nid oedd neb yn y lle yn caru
diraddio unrhyw ddieithrddyn ar ei ymddangosiad cyntaf yn yr ardal, ac yn
neillduol yn y capel. Edrychid ar ddieithriaid gyda llygaid parch; disgwylid
eu bod yn dda, ac yn feddianol ar rinweddau ffafriol, os nad lliosog hefyd. Y mae bywyd gwladol, yn yr ystyr hyn, yn dwyn ynddo
rai o elfenau bywyd y plentyn. Edrych am y rhagorol a'r perffaith yn mhobman
y mae y plentyn, a siomiant iddo ef yw gorfod gwybod nad yw pob ysmotyn yn
baradwys a phob dyn yn angel. Bydd y diniweidrwydd hyfryd hwn yn hynodi
cylchoedd distaw a dinod ein pentrefi, ac yn neillduol yn yr amser yr
ysgrifenwn am dano: nId oedd yr hen bobol yn meddwl drwg am neb, nac yn
chwilio am dano. Mae'n wir eu bod yn gyfarwydd ddigon ag ef. Yr oedd
annuwioldeb yn Ffynon Taf fel ymhob pentref arall; yr oedd yno dafarnau a
meddwon, a datganiadau eraill o deyrnas y tywyllwch. Ónd rhywsut, nid oedd yr
hen bobl yn cysylltu y rhai hyn â neb dieithr ddeuai i'r ardal; heb, drwy
brawf i'r gwrthwyneb, eu bod yn gorfod |
|
|
|
|
(*59) |
42 HEN BOBOL TABOR. gwneyd hyny. Cymerent yn ganiataol eu bod yn dyfod
o wlad y Brenin, a bod arogl yr orsedd ar eu dillad. Y pwnc i'w benderfynu, felly, ar ddyfodiad gwr
dieithr i'r ardal oedd, “i ble yr oedd yn mynd — i Glandwr ne Tabor, at y
Disentars ne'r Methodist?" Yr oedd y Bedyddwyr gryn bellder o ffordd i ffwrdd
— yn y Ton, sef milldir yn is i lawr yn y cwm, neu yn ngwaelod-y-garth, y tu
arall i'r afon — ymhob ystyr. Byddai deall fod y gwr dieithr yn Faptis’ yn
ben ar bob dyddordeb ynddo. Teimlid fod pellder maith rhwng y Methodistiaid
a'r Bedyddwyr, — o Gyffes y Ffydd i'r afon, — pellder crefyddol yn ogystal a
phellder daearyddol, yn Ffynon Taf. Byddai hyd yn nod Emwnt Etwart yn dweyd
uwch eu penau hwy weithiau, “Mawr yw i mwstwr nhw sha'r dwr." Yr oedd Glandwr yn nes, — o lawer yn ddaearyddol,
ac o gryn fesur yn grefyddol hefyd; ond rhaid yw dweyd fod y capel yn nes
na'r enwad. Byddai gradd o foddlonrwydd wrth glywed fod y gwr dieithr yn
“mynd sha Glandwr." Yr oedd yn bosibl myned i waeth lle o lawer; ond yr
oedd yn drueni, serch hyny, na wnai ei alwedigaeth a'i etholedigaeth yn sicr
drwy ddyfod i Tabor. — Hon oedd y Royal Road. Diffyg mawr gwyr Glandwr yn ol Hen Bobol Tabor oedd
eu bod yn orawyddus am ddieithriaid. “Nid llanw'r nefoedd yw i pwnc
nhw," meddai Isaac y crŷdd
un noson,” “nid llanw'r nefoedd, ond llanw'r capal. Glandwr, Glandwr yw
pobpeth . . . Casglu cyrff, nid eneidiau yw i bryd nhw, dim ond cal y
corff, y presenoldab i'r capel, mae hi yn alright.
Chlywa'i son am achub." Yr oedd Dafydd William yn gryf iawn yn erbyn
“llysco a scwto," fel yr adnabyddai ef yr oruchwyliaeth hon. “Wn ni
ddim, wn ni ddim," meddai yn aml, “bysnas dlawd w'i yn i gweld hi i fynd
i lysco pawb i miwn wrth i cerna.....Bysnas dlawd w'i yn i gweled hi." Ac un nos Sabbath pan ar y ffordd tua'r capel
cyfarfyddodd â Mr. Pritchard, gweinidog yr Annibynwyr, ar ei ffordd tua
Glandwr, a gwr dieithr o dan ei fraich. Bu hyn bron a spwylo
odfa y noson hono i Dafydd William. Wedi i Mr. Pritchard a'r gwr dieithr
fyned heibio safodd Dafydd William ac edrychodd yn ei ol. Yr oedd Edmwnt
Etwart gydag ef, a'i ymwybyddiaeth yn llawn o Galfiniaeth ar y pryd. "Dyshefno
ni'n bryd," meddai, “dyshefno ni’n bryd."* Ac ychydig yn nes yn y blaen meddai i glust Edmwnt
Etwart, “Ma'r defid yn cerad i miwn . . . gifir sydd rhaid i llysco
nhw i miwn; a mas, nid i miwn ma lle gafar." Byddai Mary Rosser a Nanni yn cael llawer i ymgyrch
ynglyn a'r agwedd hon ar eu perthynas enwadol “I ni gymint yn smartach na chi, wyt ti'n
weld," meddai Nanni, “i chi yn judgo ac yn i sniffo nhw
gymint o amsar, ond i ni yn i clappo nhw miwn gynta, ag yn i
examino nhw wetin .... Bysnas ffol yw judgo pyscotyn cyn i ddala
fa. Dal a gynta, ac os nad yw a werth, ti allu i dowli fa nol.” “Beth wyt ti well o lanw'r yscupor o us,"
meddai Mary Rosser yn ol “ah? . . . Beth wyt ti'n well o hyny? . . . Smartach"
meddai yr ·
Yn bryd = ymhryd. Mewn pryd, mewn
da bryd, ar yr adeg gyfaddas neu briodol: ·
in (good) time,
at the right or proper time. |
|
|
|
|
(*60) |
HEN BOBOL TABOR. 43 hen wraig eto, haner wrthi ei hun, “smartach,
. . . Efe a ddidola y defaid oddi wrth y geifr," ... ac yna yn codi i
edrych ar Nanni dan ofyn, “Ble ma'ch didoli chi?" . . . "Dala
pyscotyn cyn i judgo fa," meddai Mary Rosser, yn dwyn i glawr
eiriau Nanni, "gwyddot ti taw tu fas, ac nid tu-fiwn i'r gorlan ma'r
didoli yn cymeryd lle? . . . gwyddot ti?” Yr oedd Mary Rosser eto wedi troi
ei phen i ffwrdd ac yn siarad megis mewn breuddwyd yn y fan hono, fel pe na
buasai Nanni yn bresenol. “Ac nid oedd ganddynt wisg y briodas, a chauwyd y
drws . . . a chauwyd y drws." Ond trodd yn sydyn at Nanni a meddai, a'i
hysbryd yn berwi, “Ond ys gwthurod i chi yn gillwng y growd i fewn neb etrych
ar y ddress . . . a'u gatal nhw i ishta wrth y ford, ac wetini, os na
fydda nhw'n gnythur y tro, i llusco nhw mas by force, a thumblo'r
minca, ac ypseto'r lle i gyd . . . fel yna ia fa?” meddai Mary Rosser. “Fel
yna ia fa? . . . A dyna wyt ti yn alw yn dowli'r pysgotyn yn ol? . . . yn dyn
i ferch. . . . Na," meddai Mary Rosser, a theimlad duwinyddol iawn yn
dyfod i'w llais, “Na . . . wi'n cretu fod yn well i inspecto nhw dicyn
yn gynta, a'u sniffo nhw hefyd." Nid oedd yr hen bobol yn credu gormod mewn cymell
pobl at grefydd. Yr oeddent yn Galfiniaid eithafol, a'u hagwedd at y byd yn
caei ei benderfynu gan eu duwinyddiaeth. Ac eto yr oeddent yn cymell, ond
cymhelliad duwinyddol ydoedd, ac nid effaith symbyliad eu natur
ddynol. Yr oedd ofn ymyraeth â gwaith yr Ysbryd yn barhaus yn eu
hymwybyddiaeth. Yr oedd penarglwyddiaeth Duw, ac etholedigaeth grâs, yn eu
hymddygiad yn ogystal ag yn eu ffydd. Nis gallesid dweyd yr adeg hono mai
gwahaniaeth mewn enw yn unig oedd yn rhanu yr Hen Gorff oddiwrth yr enwadau
eraill; yr oedd yn wahaniaeth sylweddol — yn wahaniaeth athrawiaethol, a'r
athrawiaeth fawr oedd yn gwahanu Methodistiaid oddiwrth yr enwadau eraill
oedd penarglwyddiaeth Duw fel yr ymddangosai yn y gangen athrawiaeth o
Etholedigaeth Grâs. “Os dyw a wedi i ethol fe ddaw," fyddai y dyfyniad
parhaus glywid. Duw oedd i ymwneyd â chalonau dynion; Efe oedd i benderfynu
yr adeg oeddynt i adael eu pechodau a dychwelyd — os oeddynt i wneyd hyny o
gwbl. Ac hyd y deuai yr archeb ddwyfol 'doedd wiw galw. Hyn oedd y teimlad;
hon oedd y dduwinyddiaeth; ac nid oedd y difaterwch a'r oerfelgarwch fyddai
weithiau yn ymddygiad yr hen bobol at y byd yn ddim amgeu nag Etholedigaeth
Grâs yn brigo allan yn eu hymarweddiad. A dyma y rheswm sydd y tucefn i'r difaterwch sydd
eto yn hynodi yr Hen Gorff, o'i gydmaru ac enwadau eraill. Dyma paham y mae
yn llai poblogaidd gyda'r werin anystyriol; a dyma y rheswm y mae yn gwrthod
cyfaddasu ei hun i ddenu y bobl; ond yn dal o hyd yn ngwyneb pob awel at ei
hen ffyrdd difrifol, cadarn, ac yn fynych oer. “Beth i ni well o lanw'r
scupor ag us” oedd cwestiwn Mary Rosser, “Ma'n well i ni i chatw hi yn wag — o
iawar . . . ta gwenithin yn dod, fe fydda geni ni le iddo fa, a ni allan
ni napod a wetini." Hyn oedd teimlad yr hen bobol i gyd ar y mater. Yr
oedd ofn casglu us arnynt, ac yr oedd yn llawn cymaint o amcan ganddynt i
gadw allan yr us ag ydoedd i gasglu y gwenith i fewn. Yr effaith o hyn oedd fod pob elfen boblogaidd, fel
y cyfrye, i fyned |
|
|
|
|
(*61) |
44 HEN BOBOL TABOR. allan. Nid oedd yr hen bobl i fyned yn rhy serchog,
yn neillduol y blaenoriaid; a gofalent gymaint am hyn, nes drwy hyny, fyned
yn sûr o dan eu dwylaw; ond nid surni ydoedd, serch hyny, ond etholedigaeth.
Nid oedd y pregethu i fod yn boblogaidd chwaith. Yr
oedd pob elfen ysgafn a dyddorol, oedd yno er ei mwyn ei hun, i ddianc o'r
neilldu, a chadarn drysorau'r Gair i gymeryd eu lle. Wrth gwrs, yr
oedd yr hen athrawiaethau mawrion hyn yn myned ar dân ambell dro, — a'r fath
dân! Yr oedd yn ddigon ei wres i losgi llond gwlad o bechodau, a chynesu
llond gwlad o seintiau. Yr oedd yn werth aros am fisoedd, ac hyd yn nod am
flynyddoedd, am hwn. Ac aros wnaent, yn ddistaw a disgwylgar, hyd y deuai y Royal
Fire, fel y galwai Dafydd Shon ef; neu fel y galwai Etwart Tomos ef,
“Etholedigaeth grâs ac iawn Calfaria yn wenfflam." Yr oedd bywiogrwydd a dyddordeb pregethu yr
Annibynwyr a'r Bedyddwyr yn faen tramgwydd i'r hen bobol; nid digio eu natur
ddynol ydoedd, ac nid eiddigedd ydoedd, chwaith; ond tramgwydd ydoedd i'w
duwinyddiaeth. “Wn ni ble ma'i hetholedigaeth nhw yn y byd," meddai
Dafydd William un noson ar y ffordd tua thre o gyfarfod pregethu
Glandwr, wrth Emwnt Etwart. “On nhw yn gwed yn biwr, hefyd," meddai yr
hen dad hwnw yn ol. “Piwr," meddai Dafydd William, “welas i i sort nhw
yriod i gasglu shavins a gnythur flachad . . . ond nid cynhesu'r
aelwyd y ma nhw, ond düo'r shimla . . . ma nhw yn gnythur mwy o uddig getyn
ca gwres.” “Ma arno'i ofan witha i bod nhw yn acor gormod ar y
clwytu," meddai Emwnt Etwart. “Ma nhw yn helaethu'r agorfa ormod. Cul
yw'r ffordd," meddai yr hen dad eto, er ei bod yn anhawdd i'w ysbryd
hynaws ef i godi hyd yn nod ei dafod yn erbyn neb, ond yr oedd llais
etholedigaeth grâs yn gwaeddi am ychwaneg o le yn ei deimladau ef ar y funyd
hon. “Ia," meddai drachefn, “cul yw 'r ffordd, — entrance
dafad yw hi, un fach yw dafad, a ma perigl i'r bwystfil mawr i ruthro fewn
wrth acor gormod ar y glwyd.” “Acor y glwyd!” meddai Dafydd William yn awr fod
Emwnt Etwart yn teimlo y diffyg, “acor y glwyd! . . . ma nhw'n wado'r perthu
i lawr, a ta ni i gyd fel y nhw, fydda ddrainan yn aros, na fydda ddrainan,
i rhanu'r byd oddi wrth yr eclws, . . . wn i ddim . . . wn i ddim." Ond yr oedd cymell yn Tabor er hyny, taer,
ar un dosbarth o ddynion. Pobl annuwiol, oeddent bell o gyrau pellaf y
cysegr, a'u heisteddle yn y dafarn; oeddent a'u cartref mewn annuwioldeb, a
gaent eu cymell yn ddifrifol. Nid oedd perygl digio etholedigaeth nac unrhyw
athrawiaeth arall wrth wahodd y rhai hyn allan o'u ffauau drygionus. Byddai
Twmi Lewis, yr hwn nad ydym ni yn ei gofio lawer iawn, ond oedd yn gymeriad
difrifol hynod, ac yn taenu llawer o'i arswyd ar fechgyn gwyllt a diystyr yr
ardal, yn aml yn swrth a bygythiol wrth y cyfryw. Taranu byddai Twmi fel
rheol, ond ar adegau toddai i lawr i ymresymu galarus, ag oedd yn effeithiol
iawn, ac hefyd yn doddedig. "Dara," ddywedai Twmi wrth fachgen
anystyriol, "Dara, wyt ti yn meddwl i bod hi yn talu, bachgan? Faint wyt
ti yn meddwl gerad yto ar y ffordd lytan? .... Wyt ti yn tawlu dy lycid yn y
blan at y wobor witha? . . . . Gwyddot ti beth yw hi? . . . . Beth ta ti yn |
|
|
|
|
(*62) |
HEN BOBOL TABOR. 45 dod sha'r cwrdd witha? Pwy wyr, pwy w yr na
ddisgyna'r sath? . . . . Ma dy dad wedi gweddio llawar drosto ti, a dy fam
hefyd. Faint sydd oddi ar y claddwd nhw? . . . . Naw mlynadd . . . dear me.
Tysa nhw yn fyw yn awr ti wnelsat ofid iddi nhw. Hi fysa yn hallt arni nhw,
ond trugarog yw yr Arglwydd, fe'i tynws nhw o'r dagra ato'i Hun. . . . Ma
gweddio mawr wedi bod drosto ti, a dw i ddim yn meddwl y byddan nhw yn ofar i
gyd, .... Dy fam, un ryfadd odd hi. Wyt ti wedi anghofio yr atnota ddyscws hi
i ti? Ddim i gyd. Ma'n dda geni glywad hyny . . . . Rhai annodd iddi anghofio
yw atnota. Wyt ti yn cofio atrodd y darn o Gyffes y Ffydd yn seiat y
plant? Wyt. Gallat ti i atrodd a yn awr? Synwn ni na allat ti ta ti yn trio.
. , . Am yr arfath, a'r farn a fydd, ti gwetast nhw lawar tro." Byddai yr yspryd mwyaf dofgar wedi disgyn ar Twmi
a'r bachgen erbyn hyn. A'i yr hen dad yn ei flaen eto, “A dyna smile
odd ar wynab yr hen fenyw dy fam wrth dy glywat ti . . . . a'r hen ddyn dy
dad — i helpo fa — odd a yn symud ar draws y set ac yn wena dros i wynab i
gyd wrth dy ryndo di.” “Naw mlynadd! dear me. Ma nhw wedi bod spell
yn y priddella bachgan, odin yn wir, .... Wi yn amal yn meddwl am dani nhw
wrth edrych ar yr hen set lle o'n nhw yn ishta yn y capal. A fi allwn feddwi
witha pan bo nhw yn galw llifir y sets ar ben y cwartar, mod i yn clywad
llais dy fam yn atab, Dunaw. Gallwn yn wir. Dyna ofalus odd hi I
dalu.” “Mawr i lysgws hi arnat ti sha'r cwrdd, bachgan, yn
yr wthnos, trw'r glaw a'r cyfan, ac yn y tywyllwch yn y gaua. Ot ti ar i
chefan hi, wyt ti yn cofio? yn nysgu'n sopyn hanar dy amsar. O't ti yn
blentyn trwm hefyd, ond ro'dd hi yn dy wrappo di yn iawnda kind
yn yr hen shawl, — a d'odd hi ddim yn gryf hefyd dir help.” “Own ni witha yn i phrofoco hi" meddai Twmi
eto ar ol moment o seibiant. “Beth i chi yn dod a'r plentyn i gal anwd ar
shwd dywydd a hyn, myddwn ni dipyn yn sharp wrthi." 'O' mydda hitha yn
ol, 'Ma fe wedi dysgu adnod, a rhaid i mi ddod ag e i gael dweyd hono,' . . .
dyna fyddai yn wed yn wastad. Dwyt ti ddim yn cofio yna? Nag wyt, a tysa ti
yn cofio, o't ti yn cysgu, ar i chefan hi.” “Pan bo fi yn meddwl am yr hen amsar hyn” meddai
Twmi, ac yn tyfu yn fwy difrifol, "a dy welt ti yn y dafarn yn awr w'i
bron a dyrysu, odw'n wir." "Ffordd ethot ti i'r dafarn? Ffordd
gallast ti ddringo dros shwd dwrin o weddïa?" Byddai llaw Twmi Lewis ar
ysgwydd y bachgen drwg erbyn hyn, a byddai gwlith yn ei lygaid, a gwlith yn
ei lais, a gwlith yn y llaw hefyd oedd ar ysgwydd y bachgen, tra y dywedai yn
mhellach, “Lica ti ddim dod yn ol? Ma'r hen lwybra yn yr un man, bachgan,
odin yn wir, a ni dangoswn nhw i ti.....Ffyrdd Sïon, ma nhw yn yr un man, lle
on nhw yn cerad.....Gwddot ti, wi'n cretu y cwnat ti i clona nhw yn y
nefoedd ta ti'n dod. . . . Dos dim doubt. O'n nhw yn meddwl cymint
o ti..... A ma llawenydd ger bron angelion Duw am un pechadur a
edifarhao.....Wi'n cretu y gwidda yr hen ddyn dy dad well Hosanna, a'r
hen wraig dy fam hefyd — |
|
|
|
|
(*63) |
46 HEN BOBOL TABOR. yco'" meddai Twmi a'i law yn syth i'r lan,
"yco, ta ti yn dod. . . . Wi yn cretu hyny." "Dara nol ato ni, machgan anwl i," ac yr
oedd tynerwch fel yr afon yn yspryd Twmi Lewis yn awr, “Dara nol, dara o dir
y fflama; o wlad y mwg, o sawyr damnadigath. Dara nol, John. Dara nos Sul
nesa. Dara i'r hen set lle on nhw yn ishta, dos neb ynddi yn awr —
ma'r hen stol fach odd dan drod dy fam yco o hyd." Ond wrth droi oddiwrth y dosbarth uchod at
ddosbarth arall oedd a'u bywyd yn foesol, ac a adnabyddid fel gwrandawyr,
ceid fod y cymell yn tyfu yn eiddilach, a'r taerineb bron yn diflanu. Yr oedd
y rhai hyn a'u hymarweddiad yn gymeradwy. Yr oedd y bywyd allanol yn ddigon
da, a barnu y gweithredoedd yn unig, ar wahan i'r yspryd oedd y tu cefn ,
iddynt, i'w gydmaru â bywyd pobl grefyddol. Ac yn y fan hyn yr oedd y perygl;
oblegid nid bywyd yn unig, nac o lawer iawn, oedd iachawdwrwriaeth.
Nid perthynas dyn â chymdeithas oedd crefydd, er fod agwedd ddymunol
ar hono, wrth gwrs, yn anhebgorol, ond perthynas dyn â Duw. Nid a
ydoedd yn credu y Deg Gorchymyn yn yr ystyr fwynaf arnynt oedd y pwnc, ond a
oedd wedi ei ail eni, a oedd wedi ei gyfiawnhau trwy ffydd, a oedd
wedi ei ethol. Dyna oedd y pwnc. Ac nid oedd neb yn fwy ymwybodol na'r
hen bobl o'r ffaith fod yn bosibl bod ar delerau da iawn â dynion, ac ar yr
un pryd bod ar delerau gwael iawn â Duw'r nefoedd. Byddai yr hen bobl yn cofio yn barhaus fod yn
bosibl cael rhith duwioldeb, ac eto bod heb ei grym hi; yr
oeddynt felly yn ddyfal yn chwilio arwyddion am ei grym, sef dwysder yspryd,
galar enaid, teimlad annhraethol ddu o anheilyngdod personoJ. Ac yn
absenolddeb y rhai hyn — y marks fel y galwai Twmi Lewis hwynt, ac nid
oedd neb yn eu dwyn yn fwy toreithiog nag ef — edrychent gyda mesur o
ddrwgdybiaeth ar fywyd dichlynaidd. “Ma fa rhŷ
iach o lawar” fyddai eu nodiadau uwchben rhai o'r cyfryw. “Ma fa rhŷ
iach, truenu na ddela'r awal iddi dyneri fa dicyn, a'r gawod i wlychu
i yspryd a." Byddent ar eu gwyliadwriaeth felly rhag gwneyd eu
hunain yn offerynau i ddwyn pobl ar sail bywyd yn unig i'r gorlan. Ni
chymhellent hwynt yn daer i ddyfod i'r odfaon. Boddlonent ar daflu brawddegau
ewyllysgar allan, megys, "Ma co bregethwr da heno." .... “Ma'n dda
geni dy welt ti yn dod i'r Ysgol," .... “Dal i gerad yn y rhodfëydd” . .
. . “Ma'r gwynt yn chwythu lle y myno . . . falla y daw a ar dy draws ditha
rhyw ddiwrnod, stica gyda ni." Hyn oedd natur y cymhellion; nid am nad
oedd syched enaid yn yr hen bobl am weled pawb ar gael, ond beth oedd
bwriadau Duw? Ble yr oedd llwybrau'r arfaeth? ac a oedd etholedigaeth wedi
gosod ei bŷs
arnynt? Tiroedd tywyll oedd y rhai hyn i'r hen bobl. Ffyrdd yn y mor oeddent,
ymhell tu draw i edrychiadau eiddil eu llygaid hwy, ac yn eu presenoldeb
rhaid oedd bod yn fud, yn ddistaw ac yn amyneddgar. Gweddient dros bawb, ond
ni chymhellent bawb. Ac yn awr, i gael d'od yn ein hol at gyfeillion
Aberdar oedd wedi dyfod i'r ardal, ac i'r eglwys, wedi tipyn o grwydro i
ddangos cysylltiadau pethau yn yr ystyr hyn yn Ffynon Taf. Y mae yn dda genym |
|
|
|
|
(*64) |
HEN BOBOL TABOR. 47 ddweyd fod pob pryder o'r natur uchod - yn absenol
mewn perthynas â'r dyfodiaid newyddion hyn, oblegid yr oeddent, y rhan fwyaf
o honynt, yn grefyddol. Y pwnc nesaf i'w benderfynu yn eu cylch oedd,
beth oeddent ar eu gliniau? “Shwd weddiwyr i nhw, wn ni?" ofynid yn aml.
Yr oedd dull pobl Aberdar ar eu gliniau, y mae yn ddrwg genym orfod dweyd, yn
siomedig i Ffynon Taf. O safle Tabor, gweddiwyr gwael oeddent. Cawn ddangos
hyn yn y benod nesaf, ynghyd â'r ymdrechiadau a wnawd i'w gwella fel
gweddiwyr. Yn bresenol, gorphenwn y benod hon, drwy gymeryd
cwpanaid o dê gyda Mary Rosser a Mary Lewis, yn nhŷ y
flaenaf o honynt. “Gwraig" Twmi Lewis oedd Mary Lewis. Yr oedd
yn hen fam dduwiol a chadarn yn y ffydd. Safai mewn cysylltiad cymdeithasol
gwahanol i'r gweddill o'r gwragedd, yn gymaint a'i bod yn gweini cymaint ar y
cleifion.
Yr oedd Mary Lewis yn anhebgorol, ac nid yn anfynych yn fwy effeithiol na'r doctor.
Yr oedd. Mary Lewis yn fynych yn nghwmni y doctor, ac wedi llyncu
llawer iawn o'i awdurdod a'i rwysg i'w chyfansoddiad. Yn un peth, felly, yr
oedd yn wastad mewn brys, mewn amser ac allan o amser. "Dyshefno ni'n bryd," meddai Mary Rosser
un prydnawn, pan y tywyllwyd ei drws gan Mary Lewis “Dyshefno ni'n
bryd." Ni ddywedodd Mary Lewis ddim. “ “Dara," meddai Mary, “Dara, tyn dy bethach.” “Dallai aros dim," meddai Mary Lewis, “dallai
aros dim, dw'i i ddim ond gwâu.” “Dim i gal dysglid o dê?" meddai Mary Rosser. “Ffordd ma'r tecel ta?" oedd gofyniad Mary
Lewis. “Ma fa yn berwi” meddai Mary Rosser, “ma'r clawr yn
anesmwth." Ar hyn, gwthiodd Nanni ei phen i'r drws, ac nid
cynt y daliodd ei chwaer Mary olwg arno nac y gwaeddodd, “Off a ti, off
a ti. Ma isha wlia arno ni.” “Paid a hwsu," meddai Nanni, “'down ni ddim yn
meddwl dod i miwn, mae hi yn drywydd i gwala ar dy bwys di, a tawn ni
yn dod at ddwy Fethodist fi gyscwn ar y nhrod." "Nawr," meddai Mary Rosser wrth Mary
Lewis, “Tyn dy betha.” “Oh, dalla i ddim aros," meddai Mary Lewis yn ol,
"ond fi slaca nhw." Ar hyn dadgylymodd linynau ei bonet, a
thaflodd hwynt yn ol dros ei hysgwyddau, a gorphwysodd y fonet ar ei
gwegil. Tynodd y pin allan o'r shawl, a syrthiodd hono yn ol ar ei gwàr. Yr oedd y tê yn barod, a'r gwpanaid gyntaf yn cael
ei harllwys allan, pan y daeth y box snuff allan o gyfeiriad Mary
Lewis. Cyfranogwyd o hono. Yr oedd y snuff yn high dry, ond ni fu
tisian ar ei ol, neu fel y dywedem ni yn Ffynon Taf, “Taro entro." Aeth box
Mary Rosser allan yn nesaf. Cyfranogwyd yn helaeth o hwnw drachefn, a hyny
eto heb “daro entro." Yr oedd y tê yn myned yn y blaen yn hwylus yn awr,
pan ofynodd Mary Rosser i Mary Lewis, “Beth wyt ti'n feddwl am y gwyr newydd
yma, ferch?" Nid oedd atebiad i'w ddisgwyl i'r cwestiwn, — yr
oedd yn gwestiwn |
|
|
|
|
(*65) |
48 HEN BOBOL TABOR. oedd yn gofyn amser i "fryweri."
Ac ni chymerodd Mary Lewis sylw o hono. Yr oedd pethau eraill yn galw am sylw mwy
uniongyrchol, sef canmol y tê a'r trugareddau, ac awd at hyny. Ond nid
defnyddio iaith canmol fyddai arferiad Ffynon Taf ar y mater hwn, ond gwneid
hyny megis mewn dameg. Y ffordd y byddai Mary Lewis a Mary Rosser yn myned
drwy y gorchwyl hwn oedd gofyn cwestiynau ynghylch y trugareddau. $ “Ble wyt ti yn cal dy flawd, ferch?” gofynai Mary
Lewis. Nid oedd Mary Rosser yn breuddwydio am ateb, oblegid nid oedd neb yn
gwybod hyn yn well na Mary Lewis. Yr oeddynt yn delo yn yr un shop.
Ond yr oedd y blawd yn cael ei ganmol. “Ble wyt ti yn cal dy dê?” ddeuai oddiwrth Mary
Lewis eto, ac aeth y cwestiwn heibio i glustiau Mary Rosser fel aderyn. Ond
canmolwyd y tê. “Ma dy depot ti cystal ag yriod,"
raeddai Mary Lewis eto. “Odi," meddai Mary Rosser ar hyn. Yr oedd
cymaint o olwg gan Mary Rosser ar y “tepot bach," fel ei gelwid, fel yr
oedd yn colli pob teimlad o wyleidd-dra wrth siarad am dano. “Beth yw i oedran a ferch?" oedd cwestiwn
nesaf Mary Lewis. “Tair blynedd ar ddeg. Fi prynas a yr wthnos y
claddwd Twmi," oedd atebiad Mary Rosser, ac aeth yn ei blaen i roddi
ychydig o helynt y tepot.
“Pum' mlynedd yn ol, fi rhôs gnepyn iddo yn erbyn y pentan, a fe gollws i
wefus; un wefus sydd gento, ond ma fa yn pouro cystal a tysa gento
hanar dwsin o nhw.” “Sawl un yw hon?" gofynodd Mary Lewis i Mary
Rosser pan oedd hono yn arllwys cwpanaid arall o dê iddi. “Pump," meddai
Mary Rosser, "Dara, cwpla dy hanar dwsan, falla wela'i ddim o ti yto am
wech mis." Yr oedd yn bryd yn awr ddyfod yn ol at wŷr
Aberdar. “Beth w'i yn i feddwl am dani nhw?” meddai Mary
Lewis, fel pe bae y cwestiwn newydd gael ei ofyn. "Wn ni beth sydd i
feddwl am dani nhw.....a ma rhaid meddwl rhwpath hefyd.” “Dyna w'i yn i wed," meddai Mary Rosser,
“rhaid yw meddwl rhwpath — a beth? “Rhai tost i nhw ar i penlina, ferch, ma nhw'n
gweddio ishta diffodd canwll.....Ma nhw yn rhŷ hir,
ferch, a rhy fain, dw i yn cal tamad o afal ynddi nhw," meddai Mary
Lewis. “Am i bod nhw mor hir y ma nhw mor fain," meddai Mary Rosser. “Ma nhw'n stretchio 'u
gweddïa ormod. Fe fi'r dyn mawr tew yna bum munad wrth y clock, nos
Fawrth ddiwetha, yn trio cwplo, ag odd a yn ffaelu'n deg . . . Tysa'r dyn
ffol yn stwffo Amen i mewn yn rhwla a darfod, ond yn lle hyny, odd a
am nythur lle bach nice iddo, a dyna lle y bu a, yn troi round yn
dawshal y dail i lawr, a fi fuo just gwiddi arno, Gadewch i'ch Amen
orwadd, dyn." Bu tipyn o seibiant ar hyn, a'r tê yn parhau i
fyned yn hwylus, pan y torodd Mary Rosser allan eto yn dra disymwyth,
“Gwyddot ti beth i netho i a ngobenydd?" ac aeth yn ei blaen i egluro
heb aros am atebiad oddiwrth Mary Lewis, "Odd a wedi mynd yn fain,
ferch, a hir; odd y |
|
|
|
|
(*66) |
GWERSI UNDEB YR YSGOLION SABBOTHOL. 49 plŷf
wedi gwasgu i mas o ge, ond rhyw fora fi shiglas
a i lawr, a fi
glymas i wddwg a yn fyrach. Dyw a ddim cŷd,
ond ma fa yn well i mhen i.” “Fi netho yr un peth a ti i'r blewyn,"
meddai Mary Lewis, “odd ym un inna wedi mynd yn fain, ond fi ddotas i rhacor
o blŷf yn ym un i." Yr oedd y tê drosodd yn awr, a'r ddwy hen fam yn
sefyll ar y drws, ac wedi gofalu fod Nanni yn ddigon pell, meddai Mary
Rosser, — “Wi'n
cretu taw'r peth gora alla'r gwyr diarth yma nythur a'u gweddia yw i shiglo nhw i lawr, a chlymu i
gwddyca nhw yn fyrach.” “Ia," meddai Mary Lewis i glust Mary Rosser,
“Ia, ne ddoti rhacor o blŷf
ynddi nhw.” “Dywetidd da ti yn awr.” “Dywetidd da titha." |
|
|
|
|
|
10/ Cyf. xiii. MaI 1897. Rhif 149. Tudalennau
140-147 Y Lladmerydd – Cylchgrawn yr Ysgol Sabbothol. Dan Olygaeth y Parchn. J. M. Jones, Caerdydd, Evan
Davies, Trefriw, a D. Jenkins, Ysw., Mus. Bac. (Cantab) ….. Hen Bobol Tabor. Gan y Parch. Daniel Thomas, diweddar o Ffynon Taf |
|
|
|
|
(*67) |
10/ Cyf. xiii. MaI 1897. Rhif 149. Tudalennau
140-147 Hen Bobol Tabor. Gan y Parch. Daniel Thomas, diweddar o Ffynon Taf Gwnawn aros y tro hwn gydag Emwnt Etwart. Y mae yr
hen dad wedi gwneyd ei ymddangosiad, yn achlysurol, ar ddalenau bron bob un
o'r ysgrifau hyn. Nid yw wedi cael llawer o le genym, mae'n wir. Paham, nis
gwyddom, os nad am fod gwyleidd-dra ei ysbryd yn effeithio yn anymwybodol
arnom, fel yr oedd arno ef ei hun. Yr oedd Emwnt Etwart yn llanw lle pwysig
yn Tabor: mewn rhyw ystyr 'doedd neb yn llanw pwysicach lle; ond nid lle
swyddogol ydoedd, na lle yn cael ei wneyd gan alluoedd meddyliol cryf, ond
lle cymeriad o'r duwiolaf, — cylch yr efengyl yn ei addfedrwydd symi a
swynol. Yr ydym wrth gydio yn y pin ysgrifenu yn awr yn
cael yr hen dad yn d'od allan megis o'r bedd i'n golwg, mewn gwahanol
agweddau arno, ac mewn gwahanol fanau, fel nas gwyddom yn iawn pa le i'w
gyfarch gyntaf. Dacw ef ar y "gwaith" — Bryncoch, wrth gwrs — yn
"llewis ei grys," wrthi yn galed; a phwy bynag sydd ddiofal a
difater, y mae Emwnt Etwart yn ddiwyd ddigon. Bydd yn yngan gair o emyn neu
adnod yn bur debyg wrth wneyd hyny; a bydd syndod yn ei wyneb, ac ond myn'd |
|
|
|
|
(*68) |
HEN BOBOL TABOR. 341 yn ddigon agos ato ceir ei weled — y mae ei aeliau yn ymdorchi i fyny, a'i lygaid yn fwy eu maint nag
arferol. Beth y mae Emwnt Etwart yn ei weled? Neu, dyma ef yn dyfod gartref ar hyd yr “Hewl
fach." Y mae wedi blino. Yr oedd Emwnt Etwart yn wastad “wedi blino” ar
derfyn y dydd, er ei fod yn ddyn o gorff cadarn. Y mae y neised goch sydd o
gylch ei wddf wedi colli pwynt y cwmpas, ac wedi troi nes y mae y “clwm” y tu
ol. Y mae rhychau chwys ar ei wyneb, yn sych ddigon yn awr, fel nentydd haf.
Bydd y box a'r jack, yn ei law — yn yr un llaw — a thamaid o
grystyn "gwarcod," fynychaf, yn curo ei ben yn drwsgl ddigon ar
draws muriau y box. Y mae y cerddediad yn feichus, a'r holl gorff yn
Ilesg, a'r ysbryd hefyd; ond bydd y llais yn glochaidd a serchog yn dweyd,
“Shwd wyt ti heno, y machgan i," neu, "Wel, y merch fach i,"
wrth rhyw un gyfarfyddai. A diflanai peth o'r lludded o'i wyneb pan ddeuai ar
draws plant. Yr oedd yn rhaid sylwi arnynt hwy, oblegid gadawent hyd yn nod
eu chwareuon am enyd i ddweyd “Emwnt Etwart, Emwnt Etwart." A
gwthient eu penau noethion i gymydogaeth ei liniau er bod o hyd cyraedd y
llaw fawr, lydan, fyddai yn disgyn arnynt bob nos. Ni fu erioed gryfach ffydd
mewn “gosodiad dwylaw” nag oedd yn y plant mewn perthynas âg Emwnt Etwart.
"Y mechgyn mawr i” fyddai yr hen dad yn
ei ddweyd ar yr achlysuron hyn. “Y mechgyn mawr i......o's adnod yn barod
erbyn y seiat heno?" I'r hyn y deuai cydgan o “o's," — mwy i
foddhau Emwnt Etwart, y mae arnom ofn, nag i barchu'r gwir. Eid yn ol at y
marbles ar hyn, yn teimlo yn union fel pe buasent newydd dd'od allan o
seiat. Neu, a gawn ni edrych i fewn drwy y drws “i'r ty?”
Y mae yn eistedd yn y gadair yn y cornel, wedi bwyta ei brydnawn-fwyd, a'i
draed yn estynedig o'i flaen ar yr aelwyd, na fu ei gloewach mewn un pentref.
Y mae y “scitchia” yn glai i gyd, ond nid ydynt yn digio llygaid yr hen wraig
— “Ann ni” — na diflasu ei hysbryd. Dacw'r “weshban” fach yn dyfod, ac yn
cymeryd ei lle rhwng gliniau Emwnt Etwart, a dwfr “twym” ynddi; ac wedi myned
drwy yr oruchwyliaeth o ymolchi a "sychu," bydd Ann yn nesu ato,
gan edrych i wyneb ei phriod i weled “os odda wedi d'od oddna i gyd"
ac fel arfer yn darganfod fod "peth ar 'ol." A chan gymeryd y
“wlanen” yn ei llaw, a'i thrwytho â digon o sebon, ca Emwnt Etwart
“olchfa" arall, well na'r un gyntaf, a'i “sychu" hefyd. Nid yw
Emwnt Etwart yn dweyd yr un gair ar yr adeg, nac Ann chwaith. Wedi gorphen, a
Emwnt Edwart i'r glass, — yr unig amser y bydd yn sefyll o flaen y
gwrthddrych hwnw, “waith y mae hi yn nos cwrdd." A phan yn edrych ar ei
wyneb graenus yn hwnw dywed, “Yn dyn i, ferch, wyt ti wedi gnythur job net
arno i, wyt yn wir, job net...... Fydd yco neb a glanach gwynab na fi
heno; wyt ti wedi gnythur job net arno i." Neu, a gawn ni sylwi arno yn “myn'd sha'r
cwrdd," ac Ann gydag ef, yn taflu "shwd i ch'i heno" ar y llaw
hon a'r llaw acw i'r ambell gymydog fyddai yn hongian ar hyd y ffordd fel yr
äi yn ei flaen ? A'r fath "shwd i ch'i heno!" — mor llawn o barch a
moesgarwch, ie, a |
|
|
|
|
(*69) |
142 HEN BOBOL TABOR. chrefydd. Nid yr un oslef oedd i'r cyfarchiad
hwn ag oedd i'r un ddeuai oddiwrtho ar ei ffordd adref o'r “gwaith”;
Dynoliaeth oedd yn hwnw — natur; yr oedd Craig-yr-allt ac afon Taf a'r
caeau ynddo, — "Shwd i ch'i heno" natur, — y fath un fuasai aderyn
yn ei ddweyd. Ond ar y ffordd tua'r “cwrdd," nid natur oedd yn hwn, ond
duwioldeb; nid y dyn, ond y Cristion addfed oedd yn ei ddweyd. Nid oedd na
Chraig-yr-allt nac afon na meusydd yn hwn, ond yr oedd yn llawn o emynau
Pantycelyn, adnodau Ioan, a Salmau; yr oedd y fath gyfarchiad fuasai angel yn
ei estyn. Yr oedd “shwd i ch'i heno" Emwnt Etwart yn dweyd ei fod ar y
ffordd tua'r cysegr. Y mae yn anhawdd rhoddi syniad o'r cylch lenwid gan
Emwnt Etwart yn Tabor. Yr oedd yn flaen or, a'i enw ef ddyfynid yn nesaf i
enw Dafydd William wrth fyned dros y blaenoriaid. Edrychid arno fel addurn
i'r flaen oriaeth, ac yn un oedd yn gosod rhagor rhwng y “set fawr” a'r
setiau eraill. Ac eto nid oedd Emwnt Etwart yn blaenori mewn dim, — yr ydym am osod pwyslais ar
y gair dim. Yr oedd yn cytuno â phawb ar y rhan fwyaf o bethau, ar
bobpeth, yn wir, nad oedd fater o egwyddor, — ar hwnw yr oedd Emwnt Etwart yn
graig ansyfledig. Ond nid egwyddorion, yn gyffredin, sydd yn tori ar
dawelwch ein heglwysi, ond “pethau" — pethau bychain; fynychaf mympwyon,
neu awydd cryf am ein ffyrdd ein hunain. Nid oedd mympwy yn Emwnt Etwart —
dim un; ac am ei ffordd ei hun, nid oedd un ganddo. Ei unig ffordd ef oedd
ffordd Iesu Grist; a thra y perchid hono, nid oedd Ilawer yn tori ar lonyddwch Emwnt Etwart. Yn
nghanol terfysgoedd felly ynglyn ag amgylchiadau'r achos, yn y seiat neu yn y
cwrdd athrawon, pan fyddai cymaint o syniadau ar glawr ag oedd o bersonau yn
bresenol, eisteddai yr hen dad yn dawel yn nghornel y set fawr, heb ddweyd yr
un gair. Edrychai ar y clock, mae'n wir, yn fynych; a'r teimlad uchaf
yn ei fynwes, yn ddiamheu, oedd fod amser gwerthfawr yn cael ei golli. “Emwnt Etwart. beth i ch'i yn 'i wed? Dewch, i ch'i
yn ishta fan yna yn y cornal yn gwed dim. Beth yw'ch barn
ch'i?......Dewch," fyddai yr apel deflid ato yn fynych gan y ddwy
blaid, oblegid yr oedd pawb, rywsut, yn meddwl fod Emwnt Etwart o'u plaid.
"Beth yw'ch barn ch'i?......Iä, ïa," fyddai tri neu bedwar yn ei
ddweyd ar yr un pryd. "Dewch." Edrychai Emwnt Etwart ar y clock dan barhau
yn ddistaw. “Dewch," ddeuai ato eto. Ond ni ddywedai ef air yn y byd hyd
nes y teflid tri neu bedwar “dewch” arall ar ei draws; ac yna ymysgydwai. “Wn i," meddai, "a o's barn arno gen i ne
bido, — na wn i wir....... Fi fydda yn timlo taw peth bach yw a, peth bach."
Ac edrychai i wyneb y cynulliad a'i wyneb diniwed, diddrwg, fel plentyn yn
synu at ffolineb yn ei dad. Gadewid llonydd i Emwnt Etwart ar ol hyn, ac nid
nifer fechan oedd y rhai fyddai wedi d'od i deimlo fel efe mai peth bach
ydoedd hefyd. Bu “peth bach” Emwnt Etwart yn angau i lawer i ymryson yn y
lle. Nid oedd Emwnt Etwart o gyrhaeddiadau meddyliol
disglaer. Nid oedd fawr yn yr ystyr hon. Nid oedd wedi cael ysgol ddyddiol
erioed, yr ydym yn sicr, os oedd un o gwbl yn Ffynon Taf ar yr adeg. Yr oedd
yn darllen Cymraeg mewn Testament o brint
mawr, a glasses mawrion i |
|
|
|
|
(*70) |
HEN BOBOL TABOR, 143 gydweddu yn gymharus â'r print, a'r ddau
gydag Emwnt Etwart ei hun yn awgrymu pwyll ac arafwch anarferol, oedd bron yn
toddi i bwysigrwydd. Nid ydym yn siwr, hefyd, nad oedd yn gorfod gosod ei law
ar y Hyth'renau i helpu ei droed dros yr adnodau. Nid oedd ei orchwyl dyddiol chwaith yn gyfryw ag
oedd yn deffro ac yn meithrin ysbryd meddylgar. Llanw clai a'i ddadlanw fu
Emwnt Etwart yn ei wneyd ar hyd ysbaid hwyaf ei oes, “gwaith” nad yw yn gofyn
llawer o feddylgarwch i'w gyflawni. Ac hefyd, ar wahan i hyn, nid oedd
pwyslais natur yr hen dad ar ei rhan ddeallgar. Nis gwyddom a oedd ef ei hun
yn ymwybodol o hyn ai peidio. Tebyg na, oblegid ni chlywsom ef erioed yn
yngan gair am ei faintiolaeth i'r naill gyfeiriad na'r llall. Nid oedd ynddo gymhwysder i fod yn arolygwr yr
Ysgol Sul, nac hyd yn nod i fod yn athraw ar ddosbarth. Nid oedd yn
hyfforddus yn arwain seiat, ac yr oedd ei ymneillduad o'r cylchoedd hyn yn
llawn o brydferthwch gwylaidd a gweddaidd. Caffai ei gymell iddynt yn awr ac
eilwaith; ond cyfarfyddai Emwnt Etwart y cais â, “B'le ma'r brotyr bach erill
yma, — y brotyr bach cwmws? Dotwch nhw ...... Ma nhw yma lawar o nhw." A
chylchai y capel a'i lygaid gonest wrth ddweyd hyn. A'r "brotyr bach
cwmws yma, y rhai erill," benodid. A buasai yr un fan gosod Craig-yr-Allt ar
gommittee a gosod Emwnt Etwart. Ond er hyny, gwneid ef yn aelod o
bwyllgor ambell dro, a byddai yntau yn mynychu eisteddiadau y committee
gyda'r cysondeb a'r cydwybodolrwydd manylaf. Ond sleeping partner oedd
Emwnt Etwart, serch hyny, yn llythyrenol weithiau, yn ogystal a swyddogol.
Eisteddai yn y fan hono — cornel y sêt fawr yn wastad, — heb ddweyd dim, fel
arfer. A phan fyddai aelodau eraill y pwyllgor yn haner ferwi drwy ddadleu
a'u gilydd, eisteddai yr hen dad yn eu hymyl mor llonydd a digyffro a mynydd
yn esmwythder y nos. A phan y gofynid ei farn ar rhyw fater poeth,
cyfarfyddai Emwnt Etwart y cwestiwn a'r feddyginiaeth arferol. “Dw i yn gweld
ond ots bach rhyngoch chi, ots bach yw a .........bach."
Neu os byddent mewn cydgordiad a'u gilydd, ac Emwnt Etwart yn cael ymgynghori
ag ef ar y diwedd yn lan, ac feallai nad oeddis wedi cofio gofyn cwestiwn
iddo cyn hyny. Ond ei atebiad boddlongar ef fyddai, — “Yn wir i chi wedi
trefnu yn rhagorol, rhagorol...... job net i chi wedi i nythur, job net," ac Emwnt
Etwart oedd yn llawenhau fwyaf dros y "job net" oedden nhw
wedi ei wneyd. Fel y dywedasom, nid oedd ynddo
gymhwysder helaeth i arwain seiat, chwaith. Gallesid disgwyl oddiwrth ei
ysbryd duwiol ac iraidd y buasai yn rhagori yn y cylch hyn. Ond wrth ofyn
profiad anghofiai Emwnt Etwart aros i gael atebiad, ai yn y blaen i siarad ei
hun. Anhawdd oedd ei gael i fyned at
neb o gwbl. Byddai rhaid i Dafydd William ddweyd "Dewch Emwnt,
dewch" lawer tro, cyn y symudai Emwnt Etwart. A phan yr ufuddhai,
dechreuai drwy daflu cwestiynau dros ei ysgwydd o'r set fawr, i ba rai nid
oedd ateb, neu atebiad mor eiddil fel nad oedd neb yn ei glywed. Byddai hyn yn aflonyddu ar
amynedd Dafydd William. "Cerwch at y wraig dyn " meddai ef, "
Cerwch ati….. Pwy ishta fan hyn i chi?" "Ma nhw yn y nghlywad i odi
nhw ddim," meddai Emwnt Etwart yn |
|
|
|
|
(*71) |
144 HEN BOBOL TABOR. ol. Ond gadawai y set fawr ar hyn. Nid ydoedd yn
hawdd iddo symad. Yr oedd blinder o lafur y dydd yn gorphwys yn drwm arno yn
awr, ac fel yr äi ymlaen mewn dyddiau, byddai “yr aelota yn pallu.” “Yr hen
glynna yma," fel y galwai ef hwynt. Byddai rhaid felly, wrth gymorth y
ffon, a gwasgu yn ddirfawr arni, er codi y corph llwythog o ludded a henaint
ar ei draed. Wedi cyrhaedd hyd at rhyw hen fam ar lawr y capel,
gofynai ei phrofiad iddi. “Wel, y merch fach i, shwd mae gyda chi? Shwd ola
sydd yn yr enaid yna?........a'r galon; y galon ddrwg.......beth am
hono?.........wi'n cal trafferth fawr sha'm un I” äi Emwnt Etwart yn ei flaen
i ddweyd profiad ei hun, er fod yr hen fam yn gwneyd ymdrech galed i osod
gair neu ddau i fewn ei hunan. “Odw” meddai Emwnt Etwart, "odw, odw,
draffarth fawr hefyd..............a wi'n colli calon witha.........Ffaelu
gwel'd ym hunan yn d'od i'r lan fel y dylswn i...... fel y dylswn i. Yn y
pwllyn o hyd y bydda i yn cal ym hunan, yn y pwllyn........a'r trad yn y clai
tomlyd ar i waelod a.........a fi fydda yn colli calon wrth weld y scitchia
mor frwnt." Ond ar amrantiad dyma ei lais i fyny, dan ddylanwad
ei ysbryd berwedig. Yr oedd yn gwresogi yn llawer cyflymach wrth ddweyd ei
brofiad na phan ar weddi. “Ond hen slaf yw a” meddai Emwnt Etwart yn bur
chwerw. “Ia, hen slaf." Y "gwr drwg" — yr enw fyddai gan Emwnt
Etwart i'r person hwnw — oedd ganddo mewn golwg. Nid oes genym le yn yr
ysgrif hon i roddi desgrifiad ac engraifft o weddio Emwnt Etwart. Ceir gweled
pan y gwnawn hyny fod Emwnt Etwart a'r “gwr drwg” yn byw ar delerau cwerylgar
iawn a'u gilydd, Yn wir, yr oeddynt fel y byddai ef yn dweyd, yn “ffraeo bob
dydd." Pa un ai yn dweyd ei brofiad, neu ar ei liniau, felly, ni byddai
Emwnt Etwart yn hir cyn dyfod ar draws ei hen elyn. “Ia” meddai eto, “hen
slaf yw a..........dyw o ddim yn ymladd yn deg; ma fa yn taro yn y cefan ac
yn y tywyllwch, — liw nos fel liw dydd, hen slaf yw a.........'ymladd yn
deg' fi fydda yn gwed wrtho witha 'ymladd yn deg.’ “ Gostyngai ei lais wedyn, a throai yn ei ol at yr
hen fam, oblegid yr oedd wedi troi oddi wrthi hi dan effaith y cynhyrfiad. A
byddai ei lais wedi d'od mor ymddiddangar yn awr a phe buasai neb ond efe a'r
hen fam yn y capel. “A dyw a yn rhoi dim notice" ai yn ei
flaen , "pan fo fa yn d'od. O, nag yw, ddim — ddim.........Gwr di
notice yw E.........Yn ddisto fach y bydd a yn d'od.........Yn gosnoth,
fi fydda yn meddwl, witha.........Ac i mewn i'r galon ag e.........O, ia, un sly
iawn yw a, — sly iawn......... W'i yn i ffindo fa yn y nghalon yn aml
heb yn wipod i fi.........Wn i ffordd yr ath a i fewn yn y byd.........heb i
fi i glywad a.........waith w'i ar yn watch o ge, wi'n cisio catw'm
llycad arno. Ond dyna lle y bydd a, yn dwtyn.........Y ti sydd yna? ia
fa, myddwn i wrtho. Y ti sydd yna? .........Ai dioddna?.........Ai di i
mas?.........Beth yw dy fysnas di yna?" A'i lais a'i ysbryd yn disgyn i oslef gwynfangar ag
oedd ddigon i doddi calon o gareg, meddai yr hen dad eto, "Ond ma fa yn
pallu myn'd arno i, odi, ma fa yn pallu myn'd arno i.........a dim ond i fi
ddangos y nwrn |
|
|
|
|
(*72) |
HEN BOBOL TABOR. 145 iddo, ma fa yn cwni i wrych ac yn dangos i “ddanadd
du." Yr oedd Emwnt Etwart yn rhoddi cryn bwys ar y “danedd du” — i
awgrymu yn ddiamheu nad oes dim yn wyn o'i gylch e. “Ond ma ffordd geni arno, ru'n shwt," meddai
Emwnt Etwart, a'i ysbryd yn berwi eto. "O's, ma geni ffordd arno fe.........Aros
di dicyn bach, fi fydda yn i wed wrtho, aros di dicyn bach, Fi alwa Bachgan
Bethlam ato ti.........aros di dicyn bach." Byddai y seiat yn frwd erbyn hyn, a Dafydd William
yn symnd o gylch y sêt fawr yn fywiog iawn, ac yn tywallt cawod o “felly” ar
hyd y lle. Yr oedd llais Emwnt Etwart, hefyd, wedi do'd fel cloch, beraidd,
fuddugoliaethus, tra yr äi yn ei flaen. "Ia, dyna fydda i yn i nythur,
fi fydda yn bwcwth Bachgan Bethlam arno.........BACHGAN BETHLAM...... Mai
ofan E arno, os yn dyn i, mai ofan E arno, waith dim ond i fi
son am i enw E, ma'r “gwr drwg” yn dangos i sotla yn gwmws —yn
gwmws. .........Hen slaf yw a," meddai Emwnt Etwart eto yn dyfod yn
ol i gyhuddo y diafol. “Ia, hen slaf, yn dala ar bryfid gwal fel y ni.
Bachgan Bethlam yw i fatch e.” “Hi fu yn frwydr boeth iawn un prydnhawn," äi
Emwnt Etwart yn ei flaen , yn haner canu, fel ar weddi, erbyn hyn. “O, do,
poeth, poeth, poeth ........ond fe gariws y cryfach na'r 'cryf arfog' y
dydd.........Fe'i maeddws a, do. Fe'i maeddws a. Fe rhows shwd olchfa i'r
'gwr drwg' ar ben Caifaria un prydnhawn nad dyw a ddim wedi i anghofio hi.
Nag yw... ......Nag yw." Yr oedd yr hen dad yn nofio erbyn hyn. “Nag
yw," waeddai eto. “Y battle mawr," meddai Emwnt Etwart yn
methu tewi. “Y battle mawr.........dyw a ddim wedi anghofio hwnw.........a
dos dim want un arall arno." Darfyddai Emwnt Etwart ar hyn, a chan droi at yr
hen fam wrth ymadael, meddai, “Ia, merch fach i, dyna fydda i yn i nythur âg e,
fi fydda yn bwcwth Bachgan Bethlam arno." Ai Emwnt Etwart yn ol i'r sêt fawr yn awr, a
dywedai wrth Dafydd William wrth fyned i fewn iddi, “Ma nhw yn gwed yn biwr
digynyg," ac ni wyddai Emwnt Etwart, ar y pryd lai, nad felly yr oedd.
Ond byddai Dafydd William, bob amser, yn myned i gasglu y profiad fyddai
Emwnt Etwart wedi ei adael ar ol. Dyma y rheswm mawr nad oedd Emwnt Etwart yn
arweinydd seiat da. Yr oedd yn rhy orlawn ei hun o fendithion gras, — ac yr
oedd cysylltiad a phrofiad rhyw un arall, hyd yn nod mewn ffordd o gwestiwn
yn codi'r llifddorau, nes gollwng allan ddyfroedd mawrion teimladau Emwnt
Etwart, ag oedd yn ysgubo pob peth o'u blaen. Hwn yw y rheswm, hefyd, nad
oedd yn gallu cymeryd dyddordeb yn y pethau drinid ar lawr y seiat neu y
cyfarfod athrawon, yn neillduol, os digwyddent fod yn “drefniadau," yn
“benderfyniadau," ac agweddau eraill ar amgylchiadau'r achos. Wrth gwrs,
yr oedd yn rhaid trin y rhai hyn, ac nid oedd neb yn gwybod a theimlo hyny yn
well nag Emwnt Etwart. Ond yn Tabor, fel mewn lleoedd eraill, nid yn wastad y
byddai ysbryd mawr, llydan, a synwyrol y deyrnas yn gorwedd ar yr
ymdrafodaeth; ondun. arall, byrach a chulach fil filoedd o weithiau — "peth
bach,” fel y galwai efe ef. Nid oedd Emwnt Etwart yn gallu gwahanu rhwng
yr ysbryd |
|
|
|
|
(*73) |
146 HEN BOBOL TABOR. peth. A
thrwy hyny, cymerai y naill yn lle'r llall. Mesurai'r peth, wrth yr ysbryd
ymha un ei trinid, yr hwn, weithiau, oedd fach ei wala. Ac yr oedd y
bychander hwn yn taro yn wrthwyneb ar deimladau Emwnt Etwart. Ac yr oedd yn
colli pob dyddordeb yn yr ymdriniaeth. A hyn sydd i gyfrif, lawer tro, am ddiffyg chwaeth
rhai hen bobl dduwiol iawn, at drefniadau yr achos, nid diffyg cymwysder ydyw
mor gyffredin ag y meddyliwn, ond mawredd. Nid mawredd meddyliol ond mawredd
ysbrydol — sydd odidocach na'r llall. Ac y mae mawredd o unrhyw natur yn
galluogi ei berchenog ar unwaith i adnabod, a hyny yn bur fyw hefyd, — y peth
mawr oddiwrth y peth bach, — y pwysig oddiwrth y dibwys. Nid oedd neb yn
adwaen peth bach, yn Tabor, yn well nac Emwnt Etwart. Feallai na fyddid yn gwneyd mwy o gamsyniad am
ddylanwad neb ar ar achos yn y lle, nag am eiddo yr hen dad. O'r braidd yr
ystyrid fod ganddo ddylanwad o gwbl; oblegid y dadleu a'r ymresymu oedd safon
y farn. Ac ar hyn yr oeddem yn iawn. Nid oedd gan Emwnt Etwart lawer o
ddylanwad. Ni fyddai yn cymeryd rhan yn y dadleuon hyn. Ond os nad oedd yn
effeithio ar yr ymgynghori mewn ystyr ddeallgar, yr oedd yn taflu tonau o
ddylanwadau ysbrydol ar eneidiau y rhai fyddai yn cymeryd rhan flaen llaw
iawn yn nhrafodaeth y materion hyn. Byddai yn effeithio arnynt hwy, a thrwyddynt
hwy ar y “petha." Llawer tro y gwelsom ddadl yn troi ar ei sawdl, ac yn
cymeryd tecach llwybr yn unig am i Emwnt Etwart ddyferu “peth bach” ar ei
phen. Llwyddai, drwy ambell air, i godi y dadleuwyr i uwch tir, a chyda nhw
yr ymdrafodaeth. Effeithio ar ddynion y byddai Emwnt Etwart, ac nid
ar bethau — dylanwad yr efengyl; oblegid hyn wna hi. Nid yw hithau yn
ymwneyd ond yn anuniongyrchol ag amgylchiadau. Personol, ac nid amgylchiadol
yw ei gwaith hi; ac y mae wedi cymeryd y fath afael ar rai o'i deiliaid — ac
yn eu plith Emwnt Etwart — fel na fedrant ddylanwadu ar y byd ond yn yr un
modd. Yr ydym yn ysgrifenu yr adroddiad hwn, nid i ddal i
fyny a chefnogi ymddidoliad oddiwrth drefniadau'r achos, ond i ddangos fod yn
bosibl gwneyd ychydig iawn â nhw, ac eto, weithredu dylanwad o'r natur
eangaf. Ond er nad oedd yr hen dad yn dweyd ond ychydig,
fel hyn, yn y capel; peidied neb meddwl ei fod ymhob man yn ddidafod. Ar y
“gwaith," He yr oedd bechgyn anystyriol ac annuwiol, a ymarferent iaith
anweddus, yr oedd llais Emwnt Etwart i'w glywed — yn groew, hefyd. Ni fuasai
yn dioddef rhegi a chablu. Yr oedd ei holl natur yn chwerwi drwyddi wrth
glywed iaith annuwiol. Llariaidd ei ysbryd oedd Emwnt Etwart yn gyffredin, ac
yn wastad, ond yn mhresenoldeb drygioni. Yr oedd heddwch fel y ffurfafen yn
toi ei holl fywyd; ac uwch ei ben, b'le bynag y byddai. Ac yr oedd yn
ddiniwed i eithafion. Ni fynai ladd dim. Wrth geibio'r tir cai yr
abwydyn amser i fyned oddiar y ffordd ganddo. Ac os na fuasai yn myned yn
gyflym, byddai Emwnt Etwart yn ei frysio â “Dara, ngwas i, gna hast." Yr
oedd yn dirion dros ben wrth y cilion yn yr haf. Disgynent ar Emwnt
Etwart fel ar eraill, gan bigo y cyfiawn fel yr anghyfiawn, ac weithiau ar ei
ben moel. Ond, |
|
|
|
|
(*74) |
HEN BOBOL TABOR. 147 faint bynag fyddent yn ei boeni, ni fyddai Emwnt
Etwart yn ceisio eu dal na'u lladd. Codai ei law i fyny — yn araf — i'r
gilionen gael rhybudd, gan ddweyd, “Cera oddna'r peth bach." Dyna i gyd.
Yr oedd y ceffylau ar y “gwaith” i gyd yn adnabod Emwnt
Etwart ac yn ffryndiau anarferol iddo. Pan dorai ei lais dros y lle, troent
eu penau i gyfeiriad y gerddoriaeth; oblegid yr oedd yr un melusder yn ei
lais yn mhobman. A byddent yn dofi drostynt wrth ddyfod yn agos at yr hen
flaenor. A phe digwyddai y troliau fod wedi myned oddiar y ffordd, a'r ceffyl
drwy ei guro wedi myned yn ystyfnig, ac yn pallu tynu, Emwnt Etwart oedd yr
ymwared. “Y ngwas mawr i," meddai wrth y ceffyl, pan yn agoshau, “Y
ngwas mawr i," gan ganmol y ceffyl. “Ma nhw yn dy fiwso di —
odi'n siwr, odi'n siwr, ma nhw yn dy fiwso di." Ac ar hyn, hyd yn nod
heb ei gymell, dyma'r ceffyl yn ymroddi ati, ac yn llusgo yv ddidaro y llwyth
troliau. A phan droai Emwnt Etwart i fyned i ffwrdd, troai y ceffyl ei ben ar
ei ol; dilynai ef â'i lygaid hyd yr äi o'r golwg, a'i glustiau wedi eu lledu
yn y blaen i gasglu pob briwsonyn o swn traed Emwnt Etwart. Ond os oedd Emwnt Etwart yn llariaidd tuag at y
diniwed a'r da, yr oedd yn chwerw wrth y diystyr a'r drwg, ac nid oedd dim yn
ei gynhyrfu fel rhegi a chablu. Pan ddeuai rheg i'w glustiau yn groes i'r
tomenau clai, codai ei ben yn syth a digllawn, yn union; ac ar dop ei lais,
gwaeddai, “Hoi na, Hoi na, gadewi di dy dyngu? Gweli di hwn? Gweli di
a was i?” gan ddal coes hir morthwyl oedd yn ei ddefnyddio ar y gwaith.
"Pen pin na rhown ni ddelltad i ti, ar ia hefyd.........Gat ti i fi dy
glywad ti yto, dyna i gyd" Ni regai y bachgen fwy y prydnhawn hwnw yn
nghlyw Emwnt Etwart, beth bynag, ac ni ddywedai ddim yn ol. Cyn hir, anghofiai rhyw un arall ei hun eto — un
gwael iawn i gofio yw pechod — a chablai. Mewn eiliad, yr oedd
pen Emwnt Etwart i'r golwg y tu arall i'r domen glai, a'i dafod yn gwaeddi,
"Gadewi di dy fwstwr was i. Clywch hawyr o.........Beth wyt ti y mwytyn
i gymeryd i enw E yn ofar? Gweli di hwn?" Yr oedd coes y morthwyl
yn chwifio yn fygythiol iawn yn yr awyr eto; ac nid bygwth yn unig byddai yr
hen dad, — nid ydym yn gwybod a fu iddo ddefnyddio coes y morthwyl ar gefn
unrhyw un ai peidio; ond tir peryglus oedd tir rhegi a chablu yn
nghymydogaeth Emwnt Etwart. Fel hyn, os na alltudiodd iaith annuwiol o'r
gwaith, alltudiodd hi o'i glyw ei hun. Ond ni arhosai Emwnt Etwart gyda bygwth yn unig.
Byddai yn cynghori hefyd, wrth fwyta “brecwast a chinio” yn y Lodge
fach wrth y bwylar “i gal twymo'r te." Byddai yr hen dad yn
cynghori y bechgyn. "Dim tyngu heddy y mechgyn mawr i. Dim tyngu
heddy.........na chablu," meddai, "Ma fo'n dda wrtho ni i
gyd.........hyd yn hyn......... hyd yn hyn. Duw da yw E.
Da.........Hir iawn i drugaredd......... ond ma'n bosib i ddicio Fe.........odi
ma fa. Ma'n bosib i ddicio Fe...... a dyna fisfortiwn y mechgyn
bach i......dyna fisfortiwn!......Peth ofnadwy yw syrthio i ddwylaw y
Duw byw." Yr oedd wedi myn'd yn anhawdd rhegi yn Bryncoch. |
|
|
|
|
|
11/ Cyf. xiii. Medi 1897. Rhif 153. Tudalennau
268-276 Y Lladmerydd – Cylchgrawn yr Ysgol Sabbothol. Dan Olygaeth y Parchn. J. M. Jones, Caerdydd, Evan
Davies, Trefriw, a D. Jenkins, Ysw., Mus. Bac. (Cantab) ….. Hen Bobol Tabor. Gan y Parch. Daniel Thomas, diweddar o Ffynon Taf |
|
|
|
|
(*75) |
11/ Cyf. xiii. Medi 1897. Rhif 153. Tudalennau
268-276 268 HEN BOBOL TABOR. GAN Y PARCH. DANIEL THOMAS, DIWEDDAR O FFYNON TAF. "Wi'n cretu i bod hi yn bryd dod a photelid o oil
sha'r cwrdd — sha'r cwrdd gweddi ta beth," rneddai Mary Rosser wrth
Dafydd Shon ar y ffordd tua'r capel un noson. Yr achlysur mewn golwg gan yr
hen fam oedd y ffaith fod y "gwyr diarth" yn gweddio, y rhan fwyaf
o honynt ar eu traed. “Oil” meddai Dafydd Shon, heb fedru treiddio i
ddirgelion myfyrdodau Mary Rosser. “Oil, Beth i chi'n nythur ag oil?"
"I stwytho ticyn ar benlina'r gwyr diarth yma," meddai Mary Rosser.
“Yn dyn i ferch ma nhw yn stiff ddicon” meddai
Dafydd Shon. “Stiff w'i yn i gwel'd nhw all round......... Stiff yn i
clyna, stiff yn i teimlata a ma'i gyddyca nhw yn myn'd yn stiff. Odi chi wedi
sylwi fel ma nhw yn i stretchio nhw wrth weddio?” “Odw ddicon," meddai Mary Rosser. “O'n i'n
ffaelu pido meddwl am y Pharisead wrth etrych ar y Jones yna pwy noswaith
yma. Beth ma nhw yn pido plycu a myn'd ar i penlina. Ta nhw yn gwpod, nhw
fyddan yn nes i'r nefoedd “Wi'n ffaelu diall beth sydd ar y dynon. Dyna Twmi
Morgan a Etwart Thomas, ma nhw yn gweddio iddi dyrna, ac yn i cauad nhw ar y
gira...... Dw' i yn clywad dim o nhw ta beth, nes bo nhw'n twymo ac yn cwni i
pena a'u llisha i'r lan......... A dyma y rhai hyn" meddai Mary
Rosser, yn pwyntio a'i ffon ar ei chyfer, fel pe bae y “rhai hyn” yno, “di
nhw yn plycu na phenlino, ond yn sefyll yn syth ar i trad ac yn twli i pena
yn ol ar i gwara, a rhai o nhw a'u llycid yn agorad, yn etrych sha'r ceiling
— fi ddalas y dyn mawr tew yna wrthi y cwrdd diwetha, odd i lycid a led y
pen. Ond siwr fe'i cauws nhw pan y gwelws a fi yn etrych, ond pwy weddio yw
shwd beth yna?” “Ma fa yn cauad i lycid wrth wed i brofiad” meddai
Dafydd Shon yn ol. “Fi gwelas a'm hunan.” “Ma arno i ofan taw tywyll i nhw” meddai Mary
Rosser. “Ma'r plant yn gwpod manners y ty. Ma nhw'n hyddysg yn yr
arferion. Ma arno i ofan 'dyw y rhai hyn ddim wedi bod yn wastad ar yr
aelwyd. ......... A ma hi yn cymeryd amsar i ddysgu'r manners.........Etrych
ar hen ddyn 'Nysgoi. Ma dicon o arian gento, a ma fa wedi doti carpat ar i
loria, ond yn y leval lô y cas a'i gwni, a manners y leval
sydd gento o hyd. Mai drad o yn fwy cyfarwdd a llawr ceryg o getyn na charpats.”
“Ma gwyr Aberdar yn cal i counto yn ola ddicon
hefyd," mediai Dafydd Shon. “Cantwrs splendid i nhw, a ma nhw'n
cal pregerhu first class. Ma Saunders yn Bethania, a Etwart Morgan,
Dyffryn yn y cwrdd pregethu bob spring. Nhw ddylan wpod.” “Nid o Aberdar ma nhw'n dod i gyd” meddai Mary
Rosser. “Fi glywas wed fod y Jones yna yn dod o Sir Drefaldwyn, a r pwlffyn
dyn yna, beth yw i enw fa, Rees onta? — yn dod o rhwla gerllaw Hereford, ond
i bod nhw wedi stoppo ar y ffordd yma, am dymor yn Aberdar." ’Nys-gou = Ynys-gau |
|
|
|
|
(*76) |
HEN BOBOL TABOR. 269 Yr oedd y Bardd gan Mary Rosser yn ei
hymwybyddiaeth wrth siarad a meddwl am Aberdar, ac yn ei pharch a'i serch
tuag ato ef yr oedd yn anhawdd ganddi yngan gair diraddiol am ei hen gartref
cyntefig, ac ni fu hyn yn hir cyn dod i'r golwg. “Nawr” meddai Mary Rosser
eto, “ma cetyn o wahaniaeth rhwng y rhai yna a Mr. Morgan, ag un o wyr
Aberdar yriod yw e.” “Shwd le yw Trefaldwn?” gofynodd Dafydd Shon. Nid
oedd gan Mary Rosser y syniad lleiaf am natur y darn hwn o Gymru ond yr oedd
ymddiriedaeth mor hollol Dafydd Shon yn Mary Rosser ar y foment hon y fath,
fel heb yn wybod iddi ei hun, cafodd ei hunan yn desgrifio y sir uchod yn
unig i foddio Dafydd Shon. “Shwd le yw a?” meddai. “Lle tywyll, mynyddog, a'r
dynon yn ffermi i gyd, ac yn byw mor bell oddiwrth i gilydd fel nad di nhw
byth yn gweld i gilydd ond ar y ffira, a rhyw amball waith fydda'n nhw'n mynd
sha'r capal.........Ffermi defid ma nhw fwya," meddai Mary Rosser, yn
gadael i'w syniad am Drefaldwyn y fath ag oedd, yn seiliedig ar natur neu swn
yr enw yn benaf, redeg allan, “ac yn bigilo ar lethra'r criga, fylldirodd o'r
dyffrynodd, ac yn trilo hanar i hôs i ishta dan wal sych y mynydd." Y diffyg yn ngweddio y bobl ddieithr yn ol safon
Ffynnon Taf, oedd absenoldeb llais, nid oedd yr un o honynt yn “gwiddi
ticyn." Yr oedd yr 'hwyl' yn ddof a gwelw iawn. Yr unig arwydd a
dangoseg o wres oedd ychydig ychwanegiad yn ngrym y swn, ond heb godi dim ar
y llais. Parhai hwnw yn yr un sain o'r dechreu i'r diwedd. Cydnabyddent fod y
gweddio yn gall iawn, yn llawn o “synwr," ond nid oedd Tabor yn
gosod llawer o stôr ar u “synwr" mewn gweddi. Y pulpud oedd lle hwnw. Yr
oeddent yn hoffi ei weled yn pori ar feusydd eang Epistolau Paul, neu yn
cartrefu ar feddyliau dwfn Efengyl Ioan, ond wrth yr orsedd, yr oedd allan
o'i le. Yr oedd gweled rheswm ar ei “benlina” yn taenu ei ystyriaethau yn
agored o flaen llygaid yr Hollwybodol yn taro yn wrthun ar deimladau a
syniadau Hen Bobl Tabor ar y mater. Cyfaddef pechod, eiriol am faddeuant,
canmol yr Aberth, diolch a llond capel o lais am angeu'r groes oedd
defnyddiau ac agweddau gweddi i fod yn eu tyb hwy. Gwneyd i'r creigiau waeddi
"Diolch." Peri i furiau'r capel orfoleddu, ac i'r seti ddawnsio gan
deimladau dros y waredigaeth fawr! Hyn oedd gweddio. A hyn oedd nodwedd gweddio yn yr ardal, ac yn wir,
yr ardaloedd. Yr oedd yr un gwres yn rhedeg drwy bob enwad a phob capel — yr
oll ond Eglwys Loegr. Yr oedd hi y tuallan i'r hinsawdd ac o'r byd yn fydol,
a'r tan byth yn disgyn ar ei llwyni; ond ymhlith yr “enwata” y “plifin”
gwynaf mewn gweddi oedd gwres. Gwres ysbryd i ddechreu, ac ar ol hyny, a
thrwy hyny yn y llais. Yr oedd cynefino ag ymddiddan tawel enaid a'i Brynwr,
heb swn na chyffro, yn cael ei ysbrydoli ar un difrifoldeb fe ddichon a'r un
taerineb hefyd, ond yn hollol amddifad o swn a berw, yn orchwyl anhawdd
iddynt, ag oedd yn gofyn amser i'w gyflawni. Ymhen amser ar ol hyn daeth y sefyllfa hyn
oamgylch. Daethpwyd i werthfawrogi gweddiau Joshua Jones ac Isaac Rees, ac
ysbryd duwiol |
|
|
|
|
(*77) |
270 HEN BOBOL TABOR. blaenaf a bywyd dichlynaidd yr olaf; ond ar y pryd
yr ysgrifenwn am dano yr oedd fel arall. Nid oeddent yn gyfarwydd a'r wedd
dawel hon ar grefydd, ac felly methent osod llawer o bris arni. Y mae a fynom ni, yn bresenol, felly a'r amser hwn,
amser anghynefindra ac anwybodaeth o'r "bobol ddiarth." Cyrhaeddodd Mary Rosser a Dafydd Shon y capel mewn
pryd. Aeth y cwrdd drosodd fel arfer, — pedwar ar weddi. Yr oedd Dafydd
William wedi bod yn "trysplantu" fel y galwai ef y drafodaeth, y
"gwyr diarth" yma a thraw ar hyd y cyfarfodydd. Yr oedd Mary Rosser
a Mary Lewis wedi bod yn sisial i'w glustiau y buasai yn dda "i tenuo
nhw dicyn," ac Isaac y crydd wedi nodi y buasai yn dda gosod tipyn o ddistons
rhyngddynt, a fel hyn yr oedd wedi bod. Ond yr oedd teimlad o anweddeidd-dra
y mesurau hyn yn dechreu disgyn ar Dafydd William, ac hefyd yr oedd
absenoldeb pobl arferol Tabor ar nosweithiau yr wythnos yn ei gwneyd yn
anhawdd i gario allan y bwriadau hyn. Y noson dan sylw yr oedd wedi bod
felly. Mae yn wir fod digon o'r hen frodorion yn bresenol i gario y cyfarfod
yn y blaen; a'u galw heb ystyriaeth o'u safle grefyddol, y naill ar ol y
liall. Ond ni wnai hyn y tro. Yr oedd ei le i bob un o honynt, ac yr
oedd perygl aflonyddu ar gynghanedd pethau drwy eu galw i weddi rhywle a
rhywbryd. Pobl gorphen neu ddechreu y cwrdd oedd Dafydd William ac Isaac y
crydd. Ni feddylid am alw Emwnt Etwart ond i "gwplo'r cwrdd." Careg
lanw oedd Dafydd Shon ar y pryd hwn, a'i le yn mynwes y mur. Y rhai hyn oedd
safleoedd yr hen bobl dan sylw yn y cyfarfod gweddi. Ac er parchu y safleoedd
hyn a chadw pob un yn urddas ei le rhaid oedd gaiw y "gwyr diarth"
i waith, a gorfu galw gwasanaeth tri o honynt, y naill ar ol y llall. Tri o'r “gwyr diarth” y naill ar ol y llall. Yr oll
o honynt yn gweddio yn dawel a siaradgar, yn ddistaw ac yn faith, ac heb un
floedd gan un o honynt o'r dechreu i'r diwedd! Nid oedd eisiau edrych o
gwmpas lawer i ddarllen arwyddion o ddiflasdod ar wynebau yr hen bobl. Ac
wedi dyfod allan o'r cwrdd cafodd yr anfoddlonrwydd hwn fynegiant mewn ymgais
at eu gwella. “Down ni ddim yn eich clywad chi'n dda” meddai
Emwnt Etwart yn troi at y "gwyr diarth.” “Di ch'i ddim wedi arfar
cwni'ch llisha" meddai yr hen dad eto, “Ma'r gweddio yn synwyrol iawn”
aeth yn ei flaen , “ac yn cal i offrwm wrth yr orsadd, ond i ni wedi arfer
yma ag ysbryd dicyn bach yn daranllyd, a thicyn o lais. Wi'n lico ticyn o
lais” meddai Emwnt Etwarfc yn yr ysbryd mwyaf tyner; yn dechreu rhoddi gwersi
i'r brodyr dieithr mewn gweddio, ac ar yr un pryd nid oedd neb yn mhellach o
feddwl a bwriadu hyn na Emwnt Etwart. “O'ch chi ddim yn nabod Etwart, Bwlch, yn i fûn o'ch
chi?” gofynodd Emwnt Etwart i Joshua Jones ac Isaac Rees. “Nag o'ch wrth
gwrs, ffordd gallsach chi? Gweddiwr rhyfedd odd Etwart. Sha'r Grôs yna odd a.
O nhw lot o nhw yn giamstars ar i penlina, a llisha fel clycha genti nhw i
gyd, ac ysbryd yn berwi fel brig y don......... Gweddiwyr noted oe'n
nhw. Noted iawn. Wi'n cofio otfaon grymus a nerthol iawn dani nhw. Own
ni'n ifanc y pryd hyny, a thicyn yn wyllt. |
|
|
|
|
(*78) |
HEN BOBOL TABOR. 271 Ond rown ni'n ffaelu catw draw; o'n ni'n lico'u
clywad nhw'n gweddio, er i bod nhw yn ym arswydo i.” “Dyw gwiddi dicyn ddim yn ddrwg” meddai Dafydd
Shon, “ond pido gnythur gormod, fel yr Annibynwyr, a ma'r Baptist yn wath
wetin.” “Fe ddyla fod dicon o lais i ni glywad, onte wath
gweddio na phido” meddai Dafydd William dipyn yn sharp. “Trisoch chi shout fach yriod?" meddai
Dafydd Shon, yn apelio at y ddau wr dieithr. “Trisoch chi rhoi blo'dd
rhwpryd?” “Na ddo yn wir” meddai pob un o honynt yn gwenu ar y pryd. "Ta
chi yn cal start chi elach wetin” meddai Dafydd Shon eto. “Ia” meddai Emwnt Etwart, “starto yw'r gamp.
Dir, wi'n cofio'' aeth yn ei flaen “wi'n cofio pan y dychrias i wrthi, fel
rodd y gwr drwg yn fy mhoeni i. Weddiï di byth, medda fa, wnai di weddïwr
byth. Ddeui di ddim o fewn milldir i Etward Bwlch yn i fûn. Na naid; na naid,
medda fa............A wir fi fio bron a'i gretu fa. Dyna dymar fuo'i cyn cal
ym adenydd. Odd ym ysbryd i yn y chains Chwant hedfan arno'i ac yto yn
ffaelu, odd y llais i lawr, a dodd dim shwd beth a'i gwni fa. Dim shwd beth.
Ond un noswaith fi doras y magla” meddai Emwnt Etwart ac yn dechreu poethi
ati. “Do fi doras y magla, Fi rhos ffarwel i'r chains. A dyna ryddid! Dyna
orfoladd! Odd cymint fwy o le i'r galon arllws i chynws. Odd hi yn waniath
mawr...... A 'nawr” meddai Emwnt Etwart yn troi at y gwyr dieithr, “fallai
fod a wedi bod yn gwed yr un peth wrthach chitha. Dos geni fawr o drist iddo
fa. Odi a wedi bod yn gwed rhwpath o'r sort wrtho chi?” gofynodd Emwnt
Etwart. Daeth "Nac ydyw yn wir" oddiwrthynt eto. Yr oedd Dafydd William, yn sefyll yn y fan hyny yn
dweyd dim, ond yr oedd Emwnt Etwart a Dafydd Shon wedi dechreu dod i deimlo
fod yn bosibl eu gwella ychydig fel gweddiwyr. “Truenu na chelach chi start hefyd," meddai
Dafydd Shon, “ta chi yn gallu cwni un notyn.” “Ia mechgyn bach i," meddai Emwnt Etwart yn
nesu atynt, “ta chi'n dechra gidag un fach, blo'dd fach — i ddechra.
Ta chi'n tori'r crwstyn unwath falla dela chi. Triwch unfach." Chwarddodd Joshua Jones, ac Isaac Rees ar hyn. “Dos dim isha i chi i ddechra yn y cwrdd,"
meddai Dafydd Shon, “ar y graig y dychrias i a mawr i widdas i yno cyn mentro
yn y capal. Tysach chi'n gweld y defid yn etrych? a rhai o nhw yn cilo.
'Pidwch a bod ag ofan' myddwn ni wrthi nhw. ' Dafydd Shon sydd yma yn dysgu
gweddio.'“ “Ne, ta chi yn mynd i'r lan i'r llofft yn y ty a
dechra yno” meddai Emwnt Etwart. "Dos dim isha i chi gatw mwstwr bidir.”
“Bobol anwyl” meddai Joshua, “Be wnai waeddi fan
hyn yn nghanol y tai mi dynwn yr holl ardal ynghyd." Yr oedd Dafydd William yn teimlo ei bod yn bryd
gosod gwedd fwy ddifrifol ar bethau. "Ai dyna shwd grefydd sydd geni
chi?” meddai yn troi yn sydyn atynt, "crefydd ac ofan dynon yn fagl
iddi!......... Odi chi yn gweddio yn y dirgal?” meddai wedyn yn union ac yn
torchi ati. “Yn gweddio yn y dirgel?” meddai Joshua. “Ia” meddai Dafydd |
|
|
|
|
(*79) |
272 HEN BOBOL TABOR. William yn ol. “Byddaf Dafydd William, mi fyddaf yn
gwneyd hyny," meddai Joshua. “Pam na fydda chi yn cal y'ch talu yn yr amlwg t?”
meddai Dafydd William yn ol fel ergyd o fagnel. Dygodd hyn y gwrid i wynebau y ddau wr dieithr, a
meddai Isaac Rees, “Mi fydda i yn meddwl ein bod ni yn cael ein talu
yn yr amlwg, Dafydd William.” “Twsh” meddai Dafydd William ar hyn, a throdd ei
gefn ar y cyfeillion i edrych ar y “gwaith" y tu draw i'r afon, gan
ddweyd 'mhen ychydig, “Ma'r gola yn ddisclar iawn yco heno." Prysurodd y cyfeillion i fyned gartref ar hyn.
Crwydrodd yr hen bobl o gylch dipyn dan adael i'r “rhai erill” fyned o'r
blaen. Yr oedd Emwnt Etwart, Dafydd William, Isaac y Crydd a Dafydd Shon,
felly yn cyd-gerdded i fyny yr heol. Yr oedd ganddynt lawer i siarad o'i
gylch, ac nid oedd un cyfle i wneyd hyny yn well nag ar y ffordd gartref o'r
cyfarfodydd “Ma lletiath y North gen Joshua Jones yna,"
meddai Dafydd Shon. “Ma fa yn ddyn nice iawn hefyd. A'r Isaac Rees
yna, dyn pywr yw hwna hefyd. Ma nhw'n ddynon pywr digynyg, ond
wfft iddi nhw ar weddi." Esgeulusdod bora ôs” meddai Isaac y Crydd. Efe oedd
yr oracl. Yn ol tyb yr hen bobl yr oedd gwybodaeth Isaac yn enwedig o bethau
bydol ac amgylchiadol yn ddihysbydd. “Esgeulusdod bora ôs" meddai Isaac
eto. Ai'r un yw'r North a'r Gogladd?" gofynodd
Emwnt Etwart i Isaac. “Ia" meddai Isaac “i fesur, ond o'r ddoi ma'r
Gogladd yn uwch i'r lan.” “Ble ma Trefaldwn" gofynodd Emwnt Etwart eto.
“Ma Joshua yna oddiyno ma'n depyg." Bu Isaac yn “cysytro” tipyn uwchben y cwestiwn, yn
casglu conglau ei ddaearyddiaeth ynghyd. “Ma hi i'r lan sha'r top yna” meddai
mhen tipyn. "Dewch wel'd," ar hyn cauodd Isaac ei lygad yn dýn a
safodd ar ganol yr heol. Safodd y pedwar. "Ma hi yn bordro ar Shir Fôn.
Ma hi rhwng Shir Fôn a Liverpool." Agorodd Isaac ei lygaid ar hyn a
phrysurodd y pedwar i gerdded eto. “Gwet ditha hyny” meddai Emwnt Etwart mhen
tipyn wedi llyncu y ffaith ddaearyddol hyn. “Gwet ditha hyny." Llyncodd
Dafydd William y ffaith mewn distawrwydd. Gwnaeth Dafydd Shon hyny yn yr un
modd. “Sir Fôn” meddai Dafydd William 'mhen ychydig, “Sir
Fôn. Peth odd na fysa dylanwad John Elias arni nhw, a nhwnta mor acos.” “Dôs dim hanas i fod a wedi bod fawr yn Nhrefaldwn”
meddai Isaac. “Tynu shag i lawr yma o'dd e' fwya." "O Newtown ma'r dyn arall yna — y Rees
yna, yn ta?" meddai Dafydd Shôn, ac yn troi at Isaac. “Ble ma'r lle
hyny?” “Yn Hereford” meddai Isaac, heb gau ei
lygaid y tro hwn. “Hereford” meddai Emwnt Etwart. “Lle rhyfadd
am Sidir yw hwna yn ta?” “Fi allwn feddwl taw a” meddai Dafydd William ar
hyn. “Ma'r dynon i gyd yn bwlffod mawr ac yn ifad cymaint o ge nes bo nhw yn
hwyddo dros y lle." 'Dyw y dyn hyn ddim yn ifad sidir” meddai Emwnt
Etwart. “Nag |
|
|
|
|
(*80) |
HEN BOBOL TABOR 273 yw o. Nag yw” meddai Isaac, “ond do's dim isha 'i
ifad a iddi gymeryd a. Ma fa yn yr awyr. Ma nhw yn tyfu fala ar hyd yr holl
wlad i gyd, ac yn i troi nhw yn sidir. Sidir sydd ymhob man. Ma'r awyr yn
llawn o ge. A ma nhw yn i anadlu fa, a ma fa yn myn'd i mewn trw dylla'r wys.
Dyna ffordd ma'r dynon mor bwfflyd” meddai Isaac i orphen. “Gwet ditha hyny" meddai Emwnt Etwart. “Peth
odd fod i Gymrag gento” nteddai Dafydd William “a fynta yn Lloegar. “Nag yw ddim mor odd” meddai Isaac. “Sha'r
gymdocath yna ma Clawdd Offa, a ma'r dynon yn nido drosto nol a blan, cryn
getyn — y Saeson yn nido i Gymru, a'r Cymry yn nido i Loegar. Ma'r Saeson yn
wlïa Cymrag a'r Cymry yn wlïa Sysnag, nes mai hi yn anhawdd gwybod yn wastad
p'un yw p'un.” “Gwet ditha
hyny” meddai Emwnt Etwart. Gorphenwn y benod hon drwy roddi ymddiddan Mary
Rosser a'r Bardd. Yr oedd yr olaf yn hoffi troi i fewn i gael gair gyda'r hen
wraig. Yr oedd ei ffraethineb a iechyd ei hysbryd a'i thafod yn wledd i'r
Bardd. Pan y galwodd y dydd hwn yr oedd Mary Rosser yn yr
ardd. "Shwd i chi Syr," meddai pan y daliodd olwg ar Mr. Morgan.
“Shwd i chi Syr,"......... “Odi chi'n d'od i gal gair a Mary Rosser
heddy." Atebodd y Bardd trwy groesi'r "gwmad" a phrysuro tuag
ati. “Gweithio yn yr ardd i chi, mam” meddai'r Bardd. Ychydig oedd ef yn ei
siarad ar yr adegau hyn. Yr oedd am glywed tafod Mary Rosser. “Ia Syr," meddai yr hen wraig. “W'i wedi i
doti hi y tair blynadd- ar-ddeg diwetha yma. W'i wedi planu pob pytatan sydd
wedi tyfu ynddi a phob cabichan; yr erfin a'r winwns, ffa, panas, mwstart
byta a phobpath; y fi sydd wedi i planu a'u doti nhw i gyd.” “A beth am y cnwd? Ydi hwnw yn dda?" meddai'r
Bardd. “Da?" meddai Mary Rosser. "Chi synach. Ma nhatan i yn tyfu
gwell gwriscan na thatan neb yn y lle yma wi'n meddwl. A ma ngabichan i a'i
chalon hi mor gletad a chaws Carfyrddin. A gwddoch chi ffordd w'i yn cyfrif
am hyn?" gofynodd yr hen wraig. “Efe sydd yn helpu Mary Rosser, Efe
yw'r gardnar." Aeth Mary Rosser yn ei blaen eto. “Ma'r cymdocon
yma yn y nghamol i, ond di nhw ddim yn gwpod druin." Prysurodd y Bardd i fyned at Mary Rosser ar yr
ardd, ond gwaharddodd yr hen fam ef a "Pidwch d'od yma, chi drochwch ych
scitchia, a ta chi yn gnythur hyny fydda Mrs. Morgan ddim yn folon i chi
dd'od i ngwel'd i. Shwd ma hi yco," gofynodd Mary Rosser." Yn dyn i
menyw bywr digynyg ywhi. Gwetwch fod Mary Rosser yn gofyn i hynt hi.” “Ma'm scitcha i" meddai eto “o bwrpas at yr
ardd” a disgynodd ei llygaid arnynt. “Hen scitcha Twmi ni. Ma rhai hyn wedi
bod yn y leval lô. Dyma'i bar gwaith a — y par diwetha, wi'n cofio'r
noswith y prynas i nhw...nos Satwrn oedd hi......... Ma nhw yn glymsi i
gwala” meddai yr hen wraig yn edrych ar yr esgidia' o hyd. “O'n nhw yn rhy
drwm iddo. Ond heddy," meddai, ac yn codi ei llygaid i wyneb y Bardd,
“ond heddy, ma fa yn cerad ar y palmanta melyn, a scitcha wedi i shino gen
angylion ar i drad a." "Ië, meddai'r bardd, Ië......... Da iawn
mam. Ac i chi yn credu fod yr angylion i drwsio esgidiau'r plant?” |
|
|
|
|
(*81) |
274 HEN BOBOL TABOR. “Cretu hyny!” meddai Mary Rosser. "Odw yn dyn
i. Beth arall sydd genti nhw nythur odd tendo'r plant. Clywsoch chi ddim o
Islwyn yn gwed yr un peth pw ddydd Sul yma......... A wi'n cofio Billy Iefan,
Twyrefil, yn gwed yr un peth flynydda'n ol ar ga'r Llan." Ac meddai Mary
Rosser eto, “Os yw E, y Bachgan Hena wedi marw dros y plant, dw i ddim yn i
gwel'd hi yn ormod o orchwl i'r angylion i frwsho ticyn ar i scitcha nhw.” “Dw' i yn meddwl y gwna yr athrawiaeth yna y tro,
mam," meddai'r Bardd. “Ma hi yn ym suito i ar gora ta beth"
meddai Mary Rosser. “Ma'r hen fysidd hyn wedi brwshio'i gwala yn yr hen fyd
hyn," meddai yr hen wraig yn edrych arnynt. “Ma nhw mor galad a
chyrn...... Ond fe fydd llaw wen dynar gen Mary Rosser yco, yco. Yr
angylion fydd rhaid brwshio yco, nid Mary Rosser.” “Ië” meddai'r Bardd eto, yn mwynhau ymadrodd Mary
Rosser, ac nid oedd neb yn gallu gosod hwnw yn y fath gywair a'r Bardd.
“Ië," fe fydd rhaid i mi gael ysgwyd y law wen hono pan groeswn draw.”
“Yn dyn i chi gewch” meddai yr hen fam. “Cewch yn dyn i" ac aeth llygaid
yr hen wraig at ochr ddifraich y Bardd, ond ni ddywedodd ddim. Disgynodd
llygaid y Bardd ei hun ar yr ysgwydd amddifad, a buont yno yn hir hefyd yn
edrych yn ddistaw, ond ni ddywedodd yntau air. "Ië” meddai'r Bardd eto. “Ië, ' wedi cefnu ar
bob rhyw stormydd, a'r gofidiau gyd ar ar ol.' Fel yna ynte, mam, aie?”
“Ia" meddai Mary Rosser. “Wel" meddai'r bardd, yn dyfod at wrthddrychau
agosach. “Sut i ch'i yn d'od yn y blaen gyda'r cyfeillion dieithr yma?” “Pywr ddicon, siwr, pywr ddicon, fel dynon"
meddai Mary Rosser, “ond di-afal i nhw ar weddi. Ma Emwnt Etwart fi glywas
wedi bod yn cisho rhoi lesson iddi nhw, a Dafydd William yn i cymall
nhw i weddio mwy yn y dirgal i gal ticyn mwy o dâl yn yr amlwg. Un trwsgwl yw
Dafydd. Ond nhw wetson, ma'n debyg i bod nhw yn cal u ta!u. “Licwn ni" meddai yr hen wraig "ddim gwed
nad i nhw yn cal rhwpath hefyd. Ond cretwch chi fi, pay bach yw hi,
ia'n wir. Pay bach yw hi......... Ma Emwnt Etwart yn cal mwy mwn un cwrdd na
ma nhw yn i gal mwn wech mis. Pay bach yw hi," meddai Mary Rosser
eto. “Pay bach yw hi, ia yn dyn i. “Diffyg llais sydd arni nhw fwya, a diffyg ysbryd
hefyd, dicyn. Dw i ddim yn cretu gormod mwn gwiddi, cofiwch, ond w'i wedi
sylwi" meddai Mary Rosser, "fod yr ysbryd yn gofyn llais.
Edrychwch ar yr hen bregethwyr! Dynon a llisha o nhw i gyd, a do nhw yn gallu
gnythur fawr o hi nes cal gafal ar y llais. O'dd un flodd gen Jones,
Talsarn yn deffro'r holl ddaear. A cretwch chi fi, do'dd e ddim count mawr
heb i lais. “I ni wedi arfar cal llais, yn y part hyn o'r wlad,
o'dd gweddiwyr noted iawn sha'r Grôs yna. Do'ch chi ddim yn napod
Netty Bwlch yn i fun o chi?" meddai Mary Rosser. “Un rhyfadd odd Netty,
a fe ddychrino fel clwtyn hefyd. Fe ath o dan y ford i gwato, os
mynwch chi, ar un nos cwrdd gweddi, a ma nhw'n gwed i Hughes i dynu fa mas |
|
|
|
|
(*82) |
HEN BOBOL TABOR. 275 wrth i gôs, ond wsh beth am hyny, ma dynon yn gwed
cymint, ond ta beth, fe ath Netty ar i lyna ac os do fa, fe dynws yr Yspryd
yn foddfa ar ben y lle. Fe gwnws yr hen ddaear uwch y cymyla. Fe'i towlws hi
yn erbyn y ser. Fi shwd beth yriod yn y Grôs." Yr oedd y Bardd yn gwrando wrth ei fodd ar Mary
Rosser, yn y fan hyny, o hyd, heb dori ar y ffrwd ond ag ambell i
"Ie" a "da iawn mam." Tynodd ei oriawr allan ar hyn, gan
ddweyd ei bod yn bryd myned gartref i gael tê. “Yn dyn i" meddai Mary
Rosser, “tysa geni damid o dishan fi ofynswn i chi ifad dysglid gyda fi.” “Mi yfa i gwpanaid o de gyda chi heb deisen"
meddai’r Bardd. "Gwnewch chi'n wir?” meddai Mary Rosser. “Gwnaf"
meddai'r Bardd. “Yn dyn i ch'i cewch hi ta, ch'i cewch hi yn dyn i"
meddai yr hen wraig. “Dewch i miwn." Brysiodd Mary Rosser i fyned i mewn yn awr, yn cael
ei chanlyn gan y Bardd. "Dewch ch'i mlan yn ewn," meddai Mary
Rosser. “Ishteddwch yn y gatar yna, fi ddwa atoch chi nawr." Aeth y
Bardd i fewn ac eisteddodd yn nghader Mary Rosser. Yr oedd yr hen fam wedi
myned heibio i'w drws ei hun i dy Nanni, a meddai wrth hono, “Os tamid o
dishan genti?" "Nag os" meddai Nanni. “Dim ond tishan
Annibynol, a 'dyw hono ddim yn y'ch suito ch'i'r Methodist, mai hi'n trilo yn
rhy handy.” “Gad dy nonsanse” meddai Mary Rosser. “Gwed,
os tishan genti?” "Beth wyt ti yn nythur a thishan heddy?" meddai
Nanni. “Ma Mr. Morgan gyda fi ar de," meddai Mary
Rosser. Yr oedd yn werth cryn dipyn gweled gwyneb Nanni ar
ddatganiad y ffaith hon. Agorodd ei llygaid, agorodd ei genau. Ceisiodd wedyn
chwiban, a thorodd i waeddi "Ho ho!” “Ho, ho.” “Gad dy nonsanse nai di. Paid a gnythur dy
hunan yn scipall. Os tishan genti?" meddai Mary Rosser eto, yn dechreu
colli ei hamynedd. Yr oedd Nanni yn y gader erbyn hyn yn eistedd a'i
llygaid ar y llawr, fel pe buasai yn cael gwaith anadlu dan y fath faich o
syndod. “Dara oddna nai di," meddai Mary Rosser, yn codi ei llais.
“Gwed, os tishan genti!" "Aros dicyn bach” meddai Nanni ar hyn mewn
llais gwanaidd. “Rho amser i fi, fi ddwa round yn awr......... Rho lymid o
ddwr i fi ......... Os” meddai Nanni, mewn llais hynod o eiddil, “Os, ma yna
dishan fala ar ford garag y pantri. Cera a hi” meddai Nanni, “a gwed y mod i
yn diolch i'r Methodist am i byta hi." Yr oedd Mary Rosser a'r deisen yn y ty yn fuan, ac
yn siarad a'r Bardd, “Ma geni ddoi depot” meddai Mary Rosser. Un glas, ac un
bach; un dydd Sul ag un bob dydd. Ch'i gewch ddysgiid yn yr un glas,"
meddai Mary Rosser. “Pu'n o nhw sydd yn gwneyd y cwpanaid te
goreu?" gofynodd y Bardd. “Oh yr un bach," meddai Mary Rosser. “Well, dewch ag e’ ” meddai'r Bardd. “Ma fa yn ddiolwg," meddai Mary Rosser. “Ma fa
yn dair blwydd- ar-ddeg ôd, a phum' mlynadd yn ol fi rhos gnepyn iddo yn
erbyn y |
|
|
|
|
(delwedd J9582b) (rhif 153) (Medi 1897) (tudalen
276) (*83) |
276 GWERSI UNDEB YR YSGOLION SABBOTJdOL. pentan, a fe gollws i wefus," meddai Mary
Rosser, yn myned rhag blaen. “Un wefus sydd gento, ond siwr ma fa yn powro
cystal a tysa gento hanar dwsan o nhw.” “O'r gore, Mam. Ni gauwn ein liygaid ar ddiffygion
y tebot, a ni ganmolwn y tê," meddai'r Bardd. "Ma arno'i gywilydd y'ch gwel'd ch'i mwn shwd
damad o le a hwn," meddai Mary Rosser, pan oeddynt yn eistedd wrth y
bwrdd. Edrychodd y Bardd ar yr hen wraig, a meddai, “Pe
digwyddai fod y Ceidwad ar y ddaear yn awr, ac yn y gymydogaeth hon, 'dw'i'n
siwr mai yr aelwyd y buasai fwyaf wrth ei fodd arni, fuasai aelwyd Mary
Rosser." |
|
|
|
|
|
12/ Cyf. xiii. Tachwedd 1897. Rhif 155. Tudalennau
328-336 Y Lladmerydd – Cylchgrawn yr Ysgol Sabbothol. Dan Olygaeth y Parchn. J. M. Jones, Caerdydd, Evan
Davies, Trefriw, a D. Jenkins, Ysw., Mus. Bac. (Cantab) ….. Hen Bobol Tabor. Gan y Parch. Daniel Thomas, Ffynon Taf |
|
|
|
|
(*84) |
12/ Cyf. xiii. Tachwedd 1897. Rhif 155. Tudalennau
328-336 328 HEN BOBOL TABOR. HEN BOBOL TABOR. GAN Y PARCH. DANIEL THOMAS, FFYNON TAF. “Ddaw a ddim ti gai wel'd," meddai Mary Rosser
wrth Mary Lewis. "Ddaw a ddim." "Falla fod a'n dost," meddai Mary Lewis
yn ol. Yr "a" mewn golwg oedd Matthews; neu, fel
y galwai Mary Rosser ef, Martha'r ’Weni. Yr oedd Mr. Matthews wedi
cael ei gyhoeddi I bregethu, y Sul cyn hyny. A chan ei fod mor agos, nid oedd
yn dyfod cyn boreu Sabbath. Nid oedd Matthews yn aml yn tori ei gyhoeddiad.
Yr oedd fynychaf yn dyfod i Tabor. Yr oedd yn agos i'w gartref, fel nad oedd
yn rhaid iddo gychwyn I’w daith ar nos Sadwrn. "Lle bach" oedd
Tabor y pryd hwn, and Ile bach "gerllaw." — Ystyriaeth ffafriol I
bregethwr mawr i fyned i'w gyhoeddiad mewn lle bychan.. |
|
|
|
|
(*85) |
HEN BOBOL TABOR 329 Boreu Sabbath teg ydoedd, ac wybren dyner, gynes,
yn edrych i lawr ar gaeau a gerddi Mehefin. Yr oedd y gynulleidfa wedi
ymgynull ynghyd fel arfer, ond ei bod yn lliosocach, ac yn eistedd yn y capel
— yn aros. Yr oedd y blaenoriaid yn y sêt fawr i gyd, a'r cyfeillion
eraill oedd wedi eu hanrhydeddu â "lle" yn y man urddasol hwnw, ac
oeddent yn cario gyda hwy lawer iawn o barch a ffafr y flaen oriaeth, ond heb
ei hawdurdod. Yr oedd y teuluoedd — a'r rhai hyny yn hen frodorion yn Ffynon
Taf y rhan fwyaf o honynt, yn eistedd yn eu lleoedd dewisedig; y tad a'r fam
a'r plant, oll, yn y sêt, ac yn cyfansoddi golygfa mor hardd ag ellid
ddymuno. Yr oedd yn ddeng munyd wedi deg, a Matthews heb dd'ód. Yr oedd
Dafydd William yn edrych ar y clock ac allan drwy, y ffenestr i
gyfeiriad yr heol bob yn ail. A throai llygaid pawb at y drws ar ddyfodiad
rhywun i fewn, gan ddisgwyl mai y pregethwr ydoedd, ac i gael eu siomi drwy
ddarganfod mai rhyw ddafad ddiweddar ydoedd wedi'r cwbl. Yr oedd Emwnt Etwart
yn dyferu ambell i "hym" oddi- wrtho, a'i lygaid yn haner cau. Yr
oedd Isaac y Crydd yn edrych ar ford y sêt fawr, heb godi ei lygaid oddiarni, ac yn
ymddangos fel pe buasai ond ei gorff yn unig yn y capel. Ac yr oedd Dafydd
Shon yn edrych i bobman. Yr oedd yn chwarter wedi deg a Matthews eto heb
dd'od. Buasai rhoddi gair o hymn allan i "ddechra'r cwrdd" yn
gydnabod eu bod wedi darfod disgwyl am y pregethwr. Peth hawdd iawn i'w wneyd
gyda llawer un, ond gyda Matthews — yr oedd y syniad yn oeri'r galon. Felly
delid i ddisgwyl hyd y munyd diweddaf. Ugain munyd wedi deg, a'r un Matthews yn y golwg.
Yr oedd y capel erbyn hyn wedi ei orlenwi â distawrwydd; ac yn wir, gallasem
dybied fod peth o hono y tuallan wrth y drws, yn methu gwthio i fewn. Yr oedd
yno fôr o hono. Ymhen tipyn, dyma lais Dafydd William yn neidio, megis allan
o hono, ac yn dweyd, “Isaac William, rhowch air i mas i ganu, falla daw hyny
a ge." Dechreuodd Isaac y cwrdd, ond ni ddaeth yr emyn
na'r darllen, na'r gweddio a'r pregethwr. Dafydd Shon oedd yr ail i weddio,
ond nid cynt yr oedd Dafydd Shon ar ei Iiniau, ac yn dechreu tori geiriau nag
yr agorodd y drws, ac y daeth rhywun i fewn. Matthews ydoedd. Clywodd Dafydd
Shon y drws yn agor, ac yr oedd y demtasiwn yn ormod iddo. Agorodd ei lygatd.
Ac wedi gweled mai Matthews ydoedd, ni fu Dafydd Shon yn hir cyn tynu ei
weddi i ben. Nid oedd Dafydd yn weddïwr maith iawn; ond yr oedd yn gweddio
hyd nes y deuai yr hwyl, ac os digwyddai hono fod yn ddyfal ar y ffordd, yn
"tori o bothdi," parhaai yr hen dad dipyn o amser ar ei liniau. Yr
oedd yn rhaid cael rhyw gymaint o hwyl. 'Doedd gweddi hebddi yn un weddi o
gwbl. Ond, fynychaf, yr oedd hwyl Dafydd Shon yn gwneyd ei hymddangosiad yn
fuan, a Dafydd mewn canlyniad yn blino neb a gorfeithder. Ond y boreu hwn, er syndod i'r frawdoliaeth,
gorphenodd Dafydd heb aros am yr hwyl. Yn wir, nid oedd ei weddi yn hwy nag
ambell i fendith. A phan ddywedodd Emwnt Etwart wrtho ar y ffordd gartref o'r
odfa, “Lwc i ti fod mor fyr, gan i fod a wedi d'od," yr hyn a ddy- |
|
|
|
|
(*86) |
330 HEN BOBOL TABOR. wedodd Dafydd Shon yn ol oedd, “Own ni yn meddwl
taw fe odd a." Ni soniodd air am agor ei lygaid. Yr oedd Matthews,
yn y cyfamser, wedi dyfod i fewn i'r sêt fawr, ac yn pwyso ei ben yn erbyn
gwyneb y pulpud. A chyda fod gweddi Dafydd Shon yn dirwyn ei phen ati, aeth y
pregethwr i fyny i'r pulpud, heb ddweyd gair wrth neb, ac heb edrych ar
unrhyw un, hyd yn nod Dafydd William: ac wedi canu a rhoddi allan ei destyn,
meddai, “Fi geso'n nhwyllo'r bora yma gen ddyn yn y Frô yco., Nithwr,
wedi tê, fe addawws geffyl i fi, i fyrchoga shag yma y bora yma. Dyna'r
addewid. Dyna'r trefniant nithwr. A finau ymddirietas ynddo; ond erbyn heddy,
'dodd na cheffyl na dyn ar glawr. Bu fy ffydd yn ofar, a gorfod i fi gerad
bob cam o'r ffordd. A dyna ffordd w'i yn ddiweddar. Ymddiriad mewn cig a
gwaed i netho'i; yr hyn, fel y gwelwch, sydd yn peri blindar yn y byd
hyn, fel y nesa." Yr oedd yn hawdd gweled wrth y
pregethwr ei fod wedi cerdded. Yr oedd ei ddillad yn wyn o Iwch, a'i wyneb yn
wlyb o chwys, a'i wallt mor afler ag y gallasai Matthews ddymuno iddo fod. Ei
destyn oedd, “Cydlawenhewch â mi, canys cefais fy nafad a gollasid."
Testyn yn “ateb” Matthews i'r dim. Ac nid oedd wedi bod wrthi am bum munyd
cyn fod y gynulleidfa yn glustiau i gyd. Siaradai y pregethwr am ddefaid, fel pe
na buasem wedi eu gweled na chlywed dim am danynt erioed. Dywedai bethau
cyfarwydd i bawb — cyfarwydd iawn; ac eto, yr oeddynt mor newydd a'r gwanwyn,
a newydd-deb gwanwyn ydoedd, yr hwn sydd yn gynwysedig, nid mewn dwyn ger ein
bron wrthddrychau newyddion, ond mewn taenu bywyd dros yr hyn sydd gyfarwydd
i ni. Un o'r pethau cyntaf i'w wneyd oedd
darganfod absenoldeb y ddafad. Ac
felly, rhaid oedd eu cyfrif. Matthews oedd y bugail, ac yr oedd yn fugail;
fel yr oedd yn anhawdd iawn i ni gredu ein llygaid oedd yn dweyd wrthym mai
pregethwr Methodist oedd o'n blaen, ac nid “ffermwr” yn rhifo ei
ddeadell. “O'dd geni gant yn cychwyn,"
meddai Matthews. “O'n nhw'n gant llawn, fi rhifas nhw, fi rhifas nhw
deirgwaith i fod yn siwr. O'n, o'n o'n, o'n nhw'n gant. Ond yn awr —
ond gadewch i fi wel'd, rhag y gall hi fod yma hefyd," meddai.
"Waith un sy'n isha, un, dim ond un, a fe ellir
nythur camsynad am un." "Gallir siwr," meddai Dafydd
Wiiam. “Gallir siwr, Dafydd," meddai Matthews ar ei ol. “Fe fydda cystal
i rhifo nhw yto ta, falla." Aethpwyd at gyfrif y defaid. Yr oedd bys
Matthews yn myned dros y defaid, ellid meddwl, oedd o'i flaen . Nid oedd yn
dweyd dim braidd ar y pryd, ond yr oedd yn anmhosibl i'w lygad fod yn fwy
craff a gwyliadwrus. “Pedwar-ucian-a-deunaw,
Pedwar-ucian-a-phetar-ar-bymthag," meddai y pregethwr yn hyglyw maes o
law, a’r bobl yn ei ddilyn i weled a oedd dafad yn eisiau ai peidio, waith
'doedd neb yn sicr o hyny erbyn hyn. Safodd y pregethwr yn syn yn awr, a'i
lygaid yn chwilio y capel am y ddafad. Edrychai o'i flaen hyd at y wal yn y
pen draw. Chwiliai ar y dde, ac wed'yn ar yr aswy.
“Pedwar-ucian-a-phetar-ar-bymtheg i wela i," |
|
|
|
|
(*87) |
HEN BOBOL TABOR. 331 meddai Matthews. “Ia. dyna sydd yma 'nawr, — ma' un
ar goll, welwch ch'i, o's yn siwr. 'Dyw yw hi ddim yma. “B'le coll'soch ch'i hi?" meddai y pregethwr,
yn holi ei hun. “Beth wn ni b'le aeth hi," meddai Matthews. “Dyna
yw'r gofid, tyswn ni yn i gwel'd hi yn myn'd fi elswn ar i hol hi y pryd
hyny, waith ma defid yn amal yn troi oddiar y ffordd; ond wrth i
gwel’d nhw'n myn'd, fe ellir i dwyn nhw yn ol. Dyna yw'r gofid,”
meddai'r pregethwr, “welas i ddim o hi yn myn'd, — damid yn y byd, —
own ni'n meddwl fod cant llawn gen i o'm mlan o hyd. "Oh, wel," meddai'r pregethwr eto.
"Dewch, dewch. Dafad yw hi, dafad, a 'dyw dafad
ddim rhyw gownt mawr. Dewch, dewch. Thor y golled hon ddim o ch'i.” “Na, na, na," meddai Matthews. “Na, na, na.
Thor hi ddim o fL Na, na. ' Dyw'r gollad, fel i chi'n gwed, hwnt nag
yma. Nag yw, nag yw. Hi all'sa fod yn wath yn yr ystyr yna o ddicon. 'Dyw'r gollad
ddim rhyw beth trwm iawn. Nag yw, nag yw." Yr oedd y pregethwr yn dechreu cynhesu tipyn yn
awr. “Ond nid matar o gollad yw hi, welwch
chi," meddai, “waith ydyw hwnw, fel i chi'n wed, ddim yn drwm iawn. Un
yw hi, ag un mewn cant. Na, na, na, nid matar o gollad yw hi.
Wel, beth yw hi ta? Hyn,” meddài Matthews. “Hyn. 'Dyw bugail
byth yn lico colli dafad. Colli! colli! Peth cas yw colli.
Ma'n well geni roi na cholli, meddai'r dyn. “Odi, odi, odi. Colli!
Peth cas yw a." “Fe aliwn feddwl taw a," meddai Dafydd Shon.” “Ac heblaw hyn — ny," aeth y pregethwr
yn ei flaen . “Ma'r bugail yn myn'd yn dipyn o ffrynd i'r defid. Odi
siwr. Wrth i gwilio a'u porthi nhw, ma fa'n myn'd idd i lico nhw. Odi
siwr. “Y ddafad fach, — un ddiniwad iawn yw hi. 'Dos na
chyfrwysdra, na challineb ynddi. Y peth mwya' di-shifft yn y
greadigaeth yw hi, ia siwr, welwch chi. 'Dos synwyryn yn i phen hi, ag
i ni wed y gwir. Hurt a diniwad, ia siwr, dyna yw hi; ac heb y
bugaii, wyddis beth ddaw o hi — beth yn y byd. Rhaid yw i'r bugail i'w
har-wain, ei hamddiffyn hi, ei phorthi hi — o hyd.
Rhaid siwr. Y peth bach mwya' di-shifft yw hi.” “Ond wath i chi," meddai Matthews, "wath
beth i chi, er y gwilio, a’R amddiffyn, a'r porthi, ac falla trwyddynt
ac o'u herwydd, ma fa'n myn'd yn ffrynd iddi, odi siwr, yn ffrynd
iddi. A 'dyw a ddim yn lico'i cholli hi." "Diolch iddo," meddai Dafydd William.
"Felly" oedd Dafydd William yn ei ddweyd yn wastad braidd;
ond yr oedl "felly” y boreu hwn yn rhy fach. “Diolch iddo," meddai
yr hen flaenor, gan hyny, eto. Ac yna yn troi at Emwnt "Diolch iddo," meddai Dafydd William.
"Felly" oedd Dafydd William yn ei ddweyd yn wastad braidd;
ond yr oedl "felly” y boreu hwn yn rhy fach. “Diolch iddo," meddai
yr hen flaenor, gan hyny, eto. Ac yna yn troi at Emwnt Etwart, ac ar yr un
anadl yn dweyd, "Dir dyshefo ni'n bryd." Rhaid oedd myned i chwilio am y ddafad yn awr. Yr
oedd yn rhaid gadael y cant namyn un yn y fan hono, ar yr heol, er myned ar
ol a dyfod o hyd, os oedd hyny yn bosibl, i'r ddafad golledig. Yr oedd hyn yn
anturiaeth ac yn risk, oblegid yn y cyfamser gallasai rhai o'r defaid.
yn y ddeadell adawedig fyned hefyd ar ddisperod. Ac ni fu y gwrthddadleuydd
fawr o dro cyn dwyn hyn dan sylw y bugail. |
|
|
|
|
(*88) |
332 HEN BOBOL TABOR. “Am clywch y dyn yto," meddai, “odi chi'n
myn'd i adael y cant namin un yma, i fyn'd ar oi un ddafad? Odi chi'n
myn'd i risco y rhai hyn i gyd er mwyn un llwdwn? Am
elywch y dyn yto.” “Risco," meddai Matthews. “Beth dal siarad am risco,
ond taw risco yw hi i gyd. Risco, — fi risca bobpeth er i mwyn
hi. Fi risca mywyd. Fi risca ngogoniant. Fi risca DRAGWYDDOLDEB. Risco!!
Dyna, dyna, dyna," ac yr oedd ei lygaid yn ymrolio yn ei ben. Yr oedd Dafydd Shon wedi codi erbyn hyn oddiwrth y
lle tân, y fan yr arferai ef eistedd yr adeg hon, ac wedi dyfod at gornel y
set fawr, yn edrych dros ysgwydd Isaac William, ac yn chwerthin am draws ei
ben. “Ond b'le ath hi?" meddai'r pregethwr eto.
“Wi'n ffaelu diall b'le collas i hi. 'Dos geni noshwn yn y byd am y
fan." Yr oedd yn chwilio o'i gylch ar hyn er d'od o hyd i fan tebyg. “Rhaid myn'd ar i hol i," meddai eto, “waith
ddaw hi yn ol i hunan byth.” “Myn'd yn mhellach naiff hi,” meddai Dafydd Shon,
ac yn edrych dros y capel, ac yna i glust Isaac, ac mewn llais llawer is, “Y
teclyn hurta yn y byd yw dafad.” “Synwn ni nad ath hi yco," meddai
Matthews, ac yn edrych i gyfeiriad y ffenestr. “Tynu sha'r anialwch wnaeth
hi." Y mae y bugail ar ei ffordd yn awr i geisio'r ddafad, a ninau gydag
ef, ac yn chwilio am dani bron gymaint a'r pregethwr. Yr ydym yn croesi
perthi, ac yn myned dros gaeau; rhai o honynt sydd "borfa," ac
eraill yn bridd, a hwnw yn wlyb a “thomlid." Yr ydym yn gwrando
am ei llais hi ambell dro, ond nid ydym yn ei glywed." Cyn hir y mae y ffordd yn myned yn rhy arw i ni i
ganlyn, a rhaid yw i ni aros ar ol, a sylwi ar yr ymchwiliad o'r pellder. Ond
yn y blaen y mae y bugail yn myn'd. 'Dyw gerwindeb y ffordd yn digaloni dim
arno. Yn wir, nid yw yn meddwl llawer am y ffordd, o'r hyn lleiaf, nid yw yn
siarad ond y peth nesaf i ddim am dani. Y ddafad sydd ganddo yn ei feddwl a'i
galon, ac os dywed air, “Mi a gollais fy nafad” ydyw. Y mae yn awr yn y coed, ac yn rhanu y rhai hyny, —
yn ysgaru y colfenau oddiwrth eu gilydd er myned yn y blaen. Y mae tamaid o
lwybr fan hyn. “Wn ni aeth y ddafad drosto." Nid oes hol ei throed i'w
weled; ond dyna, — "cerdded yn ysgon iawn y ma dafad." Y mae y
tffordd yn myned yn fwy anial. Mae'r llwybr yn ddall gan ddrain erbyn
hyn; ac y mae y bugail yn rhanu y rhai hyn a'i ddwylaw, ac yn eu briwio
wrth wneyd hyny. Mae gwaed yn llifo dros un law. “Ond gadewch wel'd," roeddai, “fe fydda gwlan
ar y drain tysi hi wedi myn'd fel hyn. 'Dellir dim myn'd trwy anialwch o
ddrain heb golli rhyw ran o honom. Strippo ma'r anialwch — strippo;
dim ond para dicon hir ynddo, fe'n strippiff ni o bobpeth. Fe'n tyn
ni'n noth lymin. Ond 'dos yma ddim gwlan, — dim defin. 'Dath hi
ddim ffordd hyn." Y mae y bugail yn awr yn cymeryd llwybr arall. Y
mae yn "tori drwy'r côd;" ac wedi teithio peth ffordd y mae yn
dyfod i ysmotyn agored. Draw, gryn bellder oddiyno, y
mae gwr yn aredig mewn cae, ac y mae y bugail yn ei gyfarch, |
|
|
|
|
(*89) |
HEN BOBOL TABOR. 333 “Hoi yna, dyn. Hoi yna. Gwelsoch chi ddafad yn
myn'd ffordd hyn?” “Naddo," oedd yn ateb. "Naddo.” “Tro 'nol," meddai'm gwrthddadleuydd. “Tro
'nol. Pwy sense yw plwnjo i waelod anialwch ar ol tamid o lwdwn dafad?
Tro 'nol.” “Troi yn ol!” meddai'r bugail. “Troi yn ol,"
a'i wyneb yn taflu creigiau o ddiystyrwch at ei demtiwr. "Na throf byth,
byth. 'Y cwpan a roddes y Tad i mi, onid yfaf ef — ONID YFA — A — A — AF EF?'
Dos yn fy ol i, Satan. Cera o'r ffordd — YMAITH." Ac yn wir, pe buasai y
temtiwr mewn gwedd gorfforol yno ar y pryd, mae'n bur debyg y buasai wedi
cael ei daflu i lawr dros steiriau y pulpud, yn bur drwsgl hefyd. Y mae Dafydd William wedi darfod gwaeddi
"felly" yn awr, ac y mae Dafydd Shon yn sobr ei wala hefyd. Y mae
pob gwyneb yn y capel wedi ei rewi gan sobrwydd. Y mae y bugail yn myned yn ei flaen i chwilio am y
ddafad; a chyn hir y mae yn dyfod ar draws creigiau. Y mae yn sefyll ar eu
gwaelod, ac yn edrych i fyny drostynt. “'Dallsa'r peth bach ddim dringo fel
hyn, 'dos bosib; ac yto ma yma rhyw olion; dyma gareg wedi myn'd o'r
fan hyn. Ma'r mark yn fresh. Fe alla dafad fod wedi myn'd
ffordd hyn." Y mae y bugail yn dechreu dringo. Peryglus yw'r
gwaith; garw ac anhawdd. Y mae yn awr yn hongian “ar ddanadd” y
creigiau. Dyfnder o dano; uchder ar ei ben. “Cymerwch ofal," meddai'r pregethwr wrth y
bugau, oblegid y maent wedi newid lle erbyn hyn. “Cymerwch ofal, ta chi'n
colli liaw, ta chi'n colli trôd, — cymerwch ofal. “Dear me,"
meddai'r pregethwr eto. “Daliwch y'ch gafal — y — y- — ia, dyna fa wedi myn'd
dros y man mwya' peryglus." Ond dyma ddyferyn o rywbeth yn disgyn wrth droed y
graig; ac un arall, ac un arall eto. “Beth yw y rhai hyn?" meddai'r
pregethwr. "Beth yw y rhai hyn? Gwaed." Mae'r dyferynau yn
disgyn yn gyflymach, — y maent yn gawod. “O b'le mae hwn yn d'od? Gwaed!
gwaed! O b'Je mae a'n d'od? O ddwylo'r bugail. O DDWYLO'R BUGAIL. 'Fe
gollodd ef ei waed yn lli’ — YN
LLI'.' Ond dyna, dyna. Ma fa ar ben y graig yn awr." Y mae y bugail, wedi cyraedd pen y graig, yn
cerdded rhag ei flaen. Y mae yn llawer mwy calonog hefyd, oblegid y mae yn
haner gredu ei fod bellach ar Iwybr y ddafad. Y mae yn gwrando eto, ond nid
oes lais dafad i'w glywed. Ond yn lle hyny y mae yn clywed llais dyn draw.
Bugail ydyw, ac y mae yn tynu tuag ato. Ac wedi dyfod o fewn cyraedd y mae yn
gwaeddi arno, “Hoi yna. Hoi yna. Welsoch chi ddafad
yn myn'd fel hyn?” “Naddo," meddai'r dyn, “welas i ddim o
hi, ond fi glywas ddafad yn brefu draẅ yn
yr anialwch yco ychydig ddyddiau'n ol.” “CYDLAWENHEWCH A MI," meddai'r bugail. A
Matthews oedd hwnw erbyn hyn eto. Yr oedd wedi trawsnewid yn ei ol.
“CYDLAWENHEWCH A MI; ond dyna, dyna," meddai, “mai dicyn yn gynar hefyd.
Fe fydda'n well cal gafal arni. Bydda, bydda: ac yna — ia siwr — ac yna
nyni a lawenychwn; ia siwr, fe fydda'n well cal
gafal ynddi." Pe buasai gwyneb y pregethwr wedi neidio o ganol
gauaf i ganol haf |
|
|
|
|
(*90) |
334 HEN BOBOL TABOR. ni fuasai y cyfnewidiad yn fwy. Gallesid gweled
megis anobaith, petrusder diwaelod, a thrallod o'r fath dduaf, oedd mor dew
fel y roedd pob pelydryn o gysur oedd yn ceisio tori drwyddo yn marw ar y
ffordd, — gallesid eu gweled yn symud o'i wyneb, fel cymylau dialgar
yn myned yn ol i'w llochesau, a haul gorfoledd yn obaith ieuanc yn diolch
megis am gael d'od i'r amlwg unwaith yn rhagor. Nid yr un Matthews ydoedd. Yr
oedd y llew gofidus wedi myn'd, ac oen bach wedi dyfod i'w le, a hwnw yn
cerdded ar lygaid y dydd. Ar hyn dyma y gwlaw yn disgyn ar wynebau y
gynulleidfa. Yr oedd y sychder crasboeth wedi bron a'u llethu, ac oni b'ai am
y gwlaw nis gwyddom sut y buasai. Yr oedd Etwart Thomas bron wedi myn'd yn
ddarnau oddiwrth ei gilydd gan gyffro ei deimladau, ac yr oedd llawer eraill
bron yn yr un cyflwr; ond fe ddaeth y gwlaw, a diolch am hyny. Daeth “felly”
Dafydd Wiliiam ar ei draed unwaith eto, a daeth llygaid Dafydd Shon i symud
ar draws y capel fel plant anhywaeth fel arfer, tra-- y chwareuai mwynhad ar
ei wyneb fel ŵyn
ar ddolydd. “Ia, ia," meddai'r bugail, "fe fydda'n
well cal gafal arni — gynta."
Aeth y bugaii yn ei flaen . Y mae yn sefyll i wrando. Y mae yn symud yn ei
flaen . Mae yn gwrando, ac yna yn symud eto. Y mae yn gwrando a cherdded bob
yn ail. Beth yw'r wên yna sydd ar wyneb y pregethwr? Nid
yw yn dweyd dim am eiliad, ond y mae y wên yn tyfu dros ei wyneb i gyd. Beth
ydyw? “Ma fa wedi ,ffindo hi, ti gai wel'd," meddai
Dafydd Shon i glust Isaac y Crydd. Yr oedd y gwlaw yn disgyn yn drymach yn
bresenol hefyd. “Dacw hi," meddai'r bugail. "Dacw hi. Hi
llais hi yw hwna, ia, ia. Mai hi draw yco yn yr anialwch. Hi llais hi yw a.
Fi fydda gyda ti'n awr. Bydda, bydda.......Ia, ia, hi llais hi yw a, w'i yn i
napod a yn dda. Fi fydda gyda ti'n awr." Yr oedd y gynulleidfa yn fyw yn bresenol, a thon o
foddlonrwydd yn tori dros y lle fod y ddafad wedi ei ffieindio. Yr oedd y
bobl yn taflu awgrymiadau at eu gilydd, — yn datgan i'r naill y llall eu
llawenydd, a Dafydd Shon yn dweyd yn ddigon uchel i bawb yn y lle ei glywed, “Fi widdiwn y bysa fa yn i ffindo hi. Fi widdiwn."
Mae y bugail yn yr anialwch yn awr, ac y mae llais
y ddafad yn ddigon agos i bawb ei glywed erbyn hyn. A'r fath lais! Llais
calon wedi ei thori. Llais a'r gobaith diweddaf iddo wedi troi ei gefn. Yn y “drain a'r drysni" y mae hi, ar ei chefn,
a'r gwlan ar hyd yr holl le, a hwnw yn “wâd i gyd;" a'r "drysni”
wedi plethu am dani fel na fedr hi symud na “phen na thrôd." Ond
y mae y bugail yn gwneyd gwaith byr ar y rhai hyny. Y mae yn eu tori a’u
tynu ymaith, nes cael y ddafad, druan, yn rhydd. A dyma hi ynte wrth draed y bugail unwaith eto.
“Wel, hi geryff yn awr, myddwch chi. Cerad! cato ni'n bryd. Cerad.
'Dos gwrymin ynddi. Nagos, wrymin. Dara ar y nghefan i,"
meddai'r bugail. “Wi'n iawnda boddlon dy gario di; w'i wedi cario llawar
arnat ti pan o't ti'n ôn bach. Dara ar y nghefan i" |
|
|
|
|
(*91) |
HEN BOBOL TABOR. 335 Ac yna mae'r pregethwr yn taflu y Beibl ar ei war,
neu yn hytrach yn ei osod yn dyner, dyner yno. – Glywch chi'r gwlaw yn disgyn. Y mae llifddorau pob
calon wedi eu hagor. Y mae y bugail o'n blaen, a'r ddafad ar ei ysgwyddau.
Mae gorfoledd yn ymchwyddo yn ei wyneb. A 'nawr ynte am y llawenhau; a
llawenhau yw hi i fod hefyd. Dyma'r floedd o'r diwedd. Bloedd Matthews. Nid un
glir a soniarus, ond un groch, ofnadwy. Y mae yn peri i ni feddwl am odfaon
annaearol, am fynwentau, am dragwyddoldeb. “Ml A GEFAIS FY NAFA--A--AD. Ml A GEFAIS FY
NAFA---A-AD A GOLLASID. CYD-LAWENHEW--W--WCH A MI. CYD-LAWENHEW-W-W-CH.” “Amen," meddai'r bobl. “Amen," meddai
pawb yr ydym yn meddwl. Yr oedd "amen" y bobl yn disgyn ar lais y
pregethwr fel ton ar draeth anghyson, yn furmur parhaol a nefolaidd. Yr oedd
Dafydd Wiiliam ar ei draed, yn methu d'od o hyd i'w neised goch, ac felly yn
gorfod sychu y dagrau a'i ddwylaw, ac yr oedd y rhai hyny mor wlyb a'i
lygaid. Yr oedd Etwart Thomas ar ei draed hefyd, ac yn edrych tua'r drws, a
dwy nant yn rhedeg dros ei wyneb a'i fynwes, — a da oedd hyny. A Mary Rosser.
Ië, yr oedd hithau wedi gorfod codi, a'r ffon yn ei llaw yn sefyll ar y set,
a'i Ilygaid mor gymylog fel nad oedd yn gallu gwel'd y pulpud. Nid oedd neb yn edrych ar eu gilydd erbyn hyn. Yr
un gwrthddrych oedd i bob llygad, a hwnw y pregethwr, neu yn hytrach y bugail
a'r ddafad. Mae y bugail yn prysuro yn ei ol, a'r ddafad o hyd
ar ei gefn, yn parhau i lawenhau. Ac ar y ffordd y mae yn dyfod yn groes i'r
ddau wŷr
ymholodd â
hwynt am y ddafad. Ac y mae yn rhaid dweyd y newydd da wrthynt hwy hefyd. “Hoi yna, hoi yna," meddai y pregethwr eto.
“Mi a gefais fy NAFA-A-AD, MI A GEFAI-I-I-IS FY NAFAD. CYDLAWENHEWCH A MI." Yna y mae y Beibl yn cael ei osod i lawr; ond nid
yw y pregethwr wedi gorphen, nac yn debyg o wneyd hyny am dymor chwaith. Dyma floedd eto. Clywch hi. Y mae, nid fel llais
gwr, ond fel llais tyrfa. “Nid ymhoffa-a-AF, — Nid YMHOFFA-A-AF yn marwolaeth yr
annwwiol." Ac y mae yn parhau i dywallt allan adnodau sydd yn rhwygo
teimladau'r bobl, nes y mae y gwlaw yn genllysg, ac "amenau" a
"felly" ac ucheneidiau yn llanw'r capel, a swn fel cerddediad lli'.
Ond y mae diwedd i'r gorfoledd mawr. Mae y bloeddio
yn d'od i ben, ac y mae llais y pregethwr yn disgyn megis i ddyfroedd swynol.
Gallem feddwl ein bod yn cerdded dros gaeau Mai, a blodau ar bob llaw, a
pherthi ieuainc heb fod ymhell. I fyny mae Ilais y pregethwr eto; ond nefoedd
dyner iawn sydd uwch ei ben bellach. Mae y llais fel llais y ddurtur yn dyfod
i lawr atom oddiar frigyn uchaf y pren, ond drwy gwmwl o ddail cysgodol, ac
yn ein cyraedd yn gawod o addfwynder. Y mae mor hyfryd i ni a gwên mam yn disgyn
i lygaid ei baban. * * * * * * * Mae y cyfarfod drosodd; a beth yw pwnc yr
ymddiddan? Y bregeth?Nage ddim. Mae calon orlawn a chalon wag yn yr un
profiad — heb |
|
|
|
|
(*92) |
336 HEN BOBOL TABOR. ddim i'w ddweyd. Gwaith anhawdd oedd siarad am y
bregeth, ac am yr odfa. Yr oedd y llygaid yn rhy laith, a'r lleisiau yn rhy
wlyb eto i siarad am y pregethu. Ond yr oedd yn hawdd siarad am gerdded y
pregethwr oherwydd cael ei siomi am y ceffyl; a hyn fu hi. “Beth odd y dyn yna dorws i addewid i chi?
Methodist?” meddai Mary Rosser. “Nage, drwy drugaredd," meddai Matthews.
“Diolch am hyny," meddai yr hen wraig yn ol. “Fe ddylsa gal i ddisgyblu
ta beth yw a. A 'nawr," meddai Mary Rosser eto, “gryndwch chi arno i.
Tro nesa b'och chi yn benthyca ceffyl, cerwch at Fethodist, cerwch at
Fethodist.” “Fe fydd raid gwneyd rhywbeth o'r fath yn ddiama,"* meddai
Matthews yn ol. Yr oedd y bobl yn lobby y capel yn siarad am
yr un mater. “Ond odd bai arno fe hefyd," meddai Mary Rosser wrth fyn'd
dTwyddynt. “Fe ddylsa fyn'd at Fethodist i fofyn ceffyl — at Fethodist."
Yr oedd y pregethu wedi ei gwneyd yn enwadol iawn. Yr ydym yn cofio odfaon neillduol eraill o dan
Saunders, ac Islwyn, a'r hybarch dad o Donyrefail. Digwyddodd i Saunders
unwaith bregethu yr un bregeth ddwywaith yn Tabor. Ac wedi iddo ddeall hyny,
mawr yr oedd yn drafferthu. Ond cafodd Mary Rosser afael arno, a gwnaeth
waith byr o'i drafferthu. “Trafferthu i chi, ia fa," meddai. "'Yn
dyn i," meddai yr hen wraig, “chi gewch i phregethu hi y tro nesa y
dewch chi yto. Am clywch y dyn yto, gwddoch," meddai Mary Rosser, “fi
allwn ryndo ar y brecath yna gant gwaith heb flino arni. Trafferthu i chi, ia
fa, yn dyn i," meddai yr hen wraig. Ar dro arall torodd allan i orfoleddu o dan Islwyn
a'r hen dad o Donyrefail. Odfa ryfedd oedd hono. Ac ar ddiwedd y cwrdd, yr
oedd Mary Rosser fel arfer yn siarad a'r pregethwyr. A chan droi at Islwyn
gyntaf, meddai, "Un rhyfadd i chi — rhyfadd. Mynaifwr (nofiwr) i chi,
mynaifwr yn y môr, ac i chi yn cal gwaith catw'ch pen uwchlaw'r dw'r witha;
odi chi ddim? Ond am hwn," meddai, yn troi at yr hen wr, Billy Iefan,
fel y galwai hi ef, — "ond am hwn, saethwr yw a, a saethwr heb i
fath.” “Saethu sydd isha, ia fa ddim; saethu sydd
isha," meddai yr hen wr yn ol, a'r nodiad yn cael ei ddilyn a'r “hym,
hym, hym, hym," arferol. Cadw'r gwin goreu yn olaf yw trefn arferol yr
efengyi. Nis gwyddom a fydd felly gyda'r pregethu ai peidio. Os bydd, rhaid
i'r pregethu fod yn neillduol, a bron tuhwnt i'n dychymyg, nid yn unig i fod
yn well, ond i fod cystal a'r hyn ydym wedi ei gael eisoes. |
|
|
|
|
|
13/ Cyf. xiii. Rhagfyr 1897. Rhif 156. Tudalennau
359-364 Y Lladmerydd – Cylchgrawn yr Ysgol Sabbothol. Dan Olygaeth y Parchn. J. M. Jones, Caerdydd, Evan
Davies, Trefriw, a D. Jenkins, Ysw., Mus. Bac. (Cantab) ….. Hen Bobol Tabor. Gan y Parch. Daniel Thomas, Ffynon Taf |
|
|
|
|
(*93) |
13/ Cyf. xiii. Rhagfyr 1897. Rhif 156. Tudalennau
359-364 359 HEN BOBOL TABOR. GAN Y PARCH. DANIEL THOMAS, FFYNON TAF. Wele ni wedi dyfod at y benod ddiweddaf ar yr
"Hen Boboi." Rhaid yw i ni bellach estyn llaw i Dafydd William,
Isaac y Crydd, Emwnt Etwart, Dafydd Shon, a Mary Rosser a'r Bardd, a
"Nanni Ni" hefyd; a gwasgu ffarwel gynes iddynt. Yr ydym wedi cael
llawer o fwynhad wrth ysgrifenu am danynt, a gobeithiwn nad ydym wedi blino
darllenwyr y Lladmerydd, chwaith, wrth wneyd hyny. Nid oes arnom ofn cyfarfod
â'r Hen Bobol yn y dyfodol. Nid ydym wedi dweyd dim angharedig am danynt. Y
maent hwy, yn bur debyg, os ydyw llygaid ysprydol yn gallu treiddio drwy y
niwl i'r byd hwn a gweled yr hyn sydd yn myned yn y blaen yma, yn synu gweled
eu hunain ar dudalenau y Lladmerydd; ac ni synem, os mai felly y mae, na fydd
i Mary Rosser godi y ffon ddu, os bydd hono ganddi, atom, a dweyd. “Grynda
di." Ond nid ydym yn meddwl y bydd yn chwerw iawn. Yr ydym wedi dweyd llawer o bethau na ddaethant i'n
bryd pan yn cychwyn ysgrifenu. Ac hefyd, wedi gadael allan bethau eraill oedd
yn ein bwriad i'w cofnodi; ond fel y dywedasom, dilyn yr ysgrifbin yw hi wedi
bod, yr hwn i fesur helaeth iawn sydd wedi cymeryd ei Iwybr ei hun, heb
gymaint a "gofyn" i ni. Ond dyma'r terfyn wedi ei gyrhaedd, a rhaid
fydd i'r ysgrifbin, bellach, a hyny yn erbyn ei ewyllys y mae arnom ofn —
waeth y ni sydd yn gomedd cerdded yn y blaen — orphwys oddiwrth y
llafur hwn, a chyfyngu ei hun i'w hen Iwybrau, sef ysgrifenu ambell i
bregeth, ac ateb ambell i lythyr. Nid oes genym, bellach, ond casglu y briwfwyd, ac
nid oes genym ddeuddeg basgedaid o hwnw. Yn wir 'does fawr o hono, yr ydys
wedi bwyta yn weddol Iwyr, ond y mae rhywbeth ar ol serch hyny, a pheth o
hono cystal a'r hyn sydd wedi cael ei osod ar y bwrdd yn barod. Buasai yn dda genym allu rhoddi hanes cyflawn o'r
amgylchiad, a barodd bryder, os byr, chwerw, cyhyd ag y parhaodd, pan yr
arhosodd Twmi Domos, Twmi Lewis, a Shon Ropart hyd ddeg o'r gloch y nos yn yr
Hen leval i ddadleu darn o'r Hyfforddwr, yn lle dyfod gartref ar
derfyn eu diwrnod gwaith. Yr oedd eu perthynasau a'u cyfeillion yn teimlo i
sicrwydd fod rhyw "anhap" wedi digwydd iddynt, ond er llawenydd
oedd yn ormod i gysgu arno y noson hono daethant allan yn iach, ac yn
cyrhaedd goleu ser y nos y tu allan, o hyd yn dadieu. A phan ofynwyd
iddynt pa le yr oeddent wedi bod, ac y dywedwyd wrthynt ei bod yn ddeg y
nos. Ateb Twmi Domos oedd, “Wel, wel, un rhyfadd i ladd amsar yw'r
Hyfforddwr.” “A do'dd dim cwymp ar y ffordd ynta," ddywedwyd
wed'yn. “O'dd, o'dd," meddai Twmi Domos yn ol. “Cwymp gaidd Eden, a ma
fa heb i glirio eto.” “Eitha gwir," meddai Twmi Lewis, yntau ar hyn.
“Ond ma ffordd wedi i hacor ar Galfaria, i ddod i mas" |
|
|
|
|
(*94) |
360 HEN BOBOL TABOR. Bu yn ymryson hefyd yn Tabor rhwng yr hen a'r
newydd pan y ceisiodd yr olaf dori i lawr gyfarfod gweddi naw boreu Sul, gan
roddi yn rheswm dros hyny y byddai yn weIl i’r penau teuluol aros gartref i
gynal dyledswydd foreuol a gofalu am y plant. Bu Mary Rosser yn cynghori Dafydd William ac Isaac
y Crydd i “scwto’n ol" yn erbyn hyn, a scwto'n ol fu hi
hefyd, a hyny i bwrpas. Y mae rhai engreifftiau o lymdra disgyblaethol
Dafydd William yn dyfod i'n cof, hefyd. Yr ydym yn cofio un achlysur
neillduol o hyn. Yr oedd gwr ieuanc deniadol iawn, nad oedd yn aelod
eglwysig, wedi gosod ei fryd ar gael geneth ieuanc hynod o rinweddol, oedd yn
aelod yn Tabor, i fod yn gydmar bywyd iddo. Nid oedd ond un rhwystr ar y
ffordd iddo sylweddoli y dymuniad hwn. Y rhwystr hwnw oedd Dafydd William. Ni
fynai yr hen flaen or “Ieuo'n anghymarus” Yr oedd yn llym iawn ar y mater, ac
yn eithafoi yn erbyn y fath beth. Gwyddai y gwr ieuanc hyn yn dda. Ond ryw
noson — pa un oedd a fynai symud y rhwystr â hyn ai peidio nis gwyddom — pwy
ddaeth i'r seiat ond y gwr ieuanc. Lloffodd llygaid Dafydd William ei
bresenoldeb i fyny, yn union. Ac wedi cael yr adnodau clywid llais Dafydd
William yn gwaeddi dros y capel. “Evan, wyt ti yma heno?" Addefodd y gwr
ieuanc ei fod. “Wyt, fi dy wela di” meddai Dafydd William yn ol. “Beth wyt
ti'n fofyn yma — gwraig ne iachawdwriaeth?......Ha? Os taw
gwraig, dyna'r drws i ti. Ond os mai iachawdwriaeth, aros yma." Dywedodd y gwr ieuanc mai iachawdwriaeth
oedd yn geisio, ond teg yw dweyd iddo hefyd gael gwraig. Gallem hefyd roddi engreifftiau o anfoddlonrwydd yr
hen flaen or at anufudd-dod y brodyr i gymeryd rhan yn y cyfarfodydd gweddio.
"Wn ni beth sydd ar y dynon," fyddai yn
aml yn ddweyd wrth Emwnt Etwart. "Fe fydda yn well cwplo'r cwrdd, a mynd
sha thre," ac yna gan droi yn ddisymwth at ryw frawd anewyllysgar,
gofynai iddo yn arw, "Odi chi wedi cwplo gweddio?...... Beth i chi yn
nythur yma?" Ac un nos Sul, vr ydym yn cofio yr amgylchiad yn
dda, torodd amynedd Dafydd William dros y Ilestri. Aeth ar ei liniau heb
roddi allan benili rhagarweiniol, a bu yn erfyn yn daer iawn ar i'r Arglwydd
"fadda i'r dynon yma.” “Madda iddi nhw, O Arglwydd mawr. Madda iddi nhw,
onite fe aiff y cythraul a nhw cyn i bod nhw dre...... Rho râs yn ei clona
nhw; dysg nhw fod yn ufudd; rho hoffdar i'r gwaith iddi nhw ...... Di nhw dda
i ddim, O Arglwydd, fel y ma nhw. Weddia nhw na dim arall. Madda iddi nhw,
madda iddi nhw, O Arglwydd grasol." Yr oedd yspryd yr hen dad yn
Ilarieiddio tipyn bach wrth gyrhaedd y brawddegau olaf. Noson ryfedd oedd
hon. Ond pa un ai yn ganlyniad i ychwaneg o râs yn eu calonau, neu ynte o ofn
Dafydd William daeth tòn o “barodrwydd” dros y brodyr yn y cwrdd gweddi, yr
hyn ychwanegodd nid ychydig at dangnefedd yspryd Dafydd WiIIiam. Bydd yn syndod i ddarllenwyr y LLADMERYDD glywed i
Dafydd Shon ar un adeg ymadael o Tabor am dymor, a mynd yn aelod i
Dongwynlais. Methu cytuno a rhyw un yr oedd. Cododd ar ganol y seiat un
noson, pan yn cael ymddiddan âg ef, gan gymeryd ei het yn ei law, a cherddodd |
|
|
|
|
(*95) |
HEN BOBOL TABOR. 361 allan. Ond wrth y drws safodd, a gwaeddodd ar y
frawdoliaeth, “Good bye, good bye, welwch chi Dafydd Shon byth yto. Good
bye." Ac yna adroddodd benill, penill wedi ei wneyd “o bwrpas.” “Fi
towlas a oddi wrth y drws," meddai Dafydd Shon ar ol hyn, "am draws
i pena nhw, ac odd a yn i cnoco nhw i gyd." Daeth Dafydd Shon yn ol, beth bynag, ar ol hyn, ond
nid heb ei fod wedi treulio blwyddyn i ffwrdd, ac yn cyfaddef i'r holl seiat
mai “lodgings” oedd hi yn y Ton. Yr oedd penill ganddo ar ei
ddychweliad fel ar ei ymadawiad, penill “o bwrpas" oedd hwn eto — penill
heddwch; ac yr oedd Morgan Evan yn barnu ei fod yn rhagori ar benill yr
ymadawiad, yn ol Dafydd Shon ei hun wrth Emwnt Etwart ar y ffordd adref o'r
seiat. “Ac yn wir," meddai Emwnt Etwart yn ol, “own ni yn i lico fa lawn
cystal ym hunan ...... odd genti well testyn, un rhagorol yw heddwch."
Un briwsionyn sydd genym eto, a hwnw yn hanes Mary
Rosser yn ei pherthynas a chyfranu at yr achos. Ffyddlawn iawn oedd yr hen wraig, ffyddlawn yn
mynychu y cyfarfodydd ar Sul ac wythnos. Yr oedd Mary Rosser yn bresenol yn
wastad gan nad beth fyddai y “tywydd.” “Dos gen i fawr o glip ar wŷr y
tywydd sych yma," meddai yn aml, “sydd a'u llycid yn wastad sha'r
cymyla. Cwrdd yw cwrdd, gwlaw ne bido; a chrefydd wan yw'r un sy'n cal i
harswydo gen hewlydd gwlyb." Ffyddlawn oedd Mary Rosser yn ei chyfraniadau at yr
achos, hefyd. Nid oedd y swm yn fawr iawn, a'i farnu yn ddaearol — dim ond chwech cheiniog y mis; ond
chwech cheiniog o haner coron yr wythnos ydoedd. Ac yr oedd colofn ddifwlch
ar gyfer enw Mary Rosser ar y llyfr. “Rhoddwr cyson," meddai yr hen wraig ar y
mater hwn eto, “sydd ora. 'Dyw hi ddim yn arwdd dda clywad dynon yn gofyn yn
wastad, ‘Sawl tro sydd arno i? Ta nhw'n talu'n gyson nhw fyddan yn
gwpod ......dw'i ddim yn prisio gormod am wŷr y
'sawl tro' yma." Chwech cheiniog y mis oedd Mary Rosser yn gyfranu,
ond yr oedd mor ofalus am hono fel yr oedd yn ei chymeryd allan o'r haner
coron cyntaf ddeuai ar ol nos galw'r llyfr, gan ei gosod o dan y canwyllbren
pres oedd ar y "shelf uwchben y tân" — yn barod. Yr oedd
chwech cheiniog yn wastad o dan y canwyllbren pres; ac nid oedd dim i
aflonyddu arni. Yr oedd hon, beth bynag, yn neillduedig i'r Arglwydd, ac ni
oddefid i ddim dori ar yr urddiad. A phan y gofynai Nanni am fenthyg
"chwech," fel y gwnai weithiau, ac un heb fod gan Mary Rpsser, fel
yr oedd yn aml, codai Nanni y canwyllbren pres i gael golwg ar y chwech
cheiniog oedd yno. Ond ni ofynai am dani, a disgynai y canwyllbren yn
ol i'w le i amddiffyn y chwech cheiniog Yr oedd y plant a'r cymydogion i gyd
yn gwybod am hon; a Twm Flint oedd yn aml ar dori am gael rhywbeth i wario ar
y ddiod, a fuasai yn “dwcid” gyda llond calon o longyfarchiad iddo ei hun
unrhyw chwech cheiniog arall, yn gwybod yn dda am hon, ond nid oedd modd
meddwl am ei chymeryd, er fod y drws yn aml yn agored, a Mary Rosser allan. Ond y treiai caletaf i ffydd Mary Rosser, o bosibl
oedd adeg ail adeiladu y capel. Yr oeddis yn casglu addewidion ar nos seiat
benodol at y |
|
|
|
|
(*96) |
362 HEN BOBOL TABOR. gorchwyl uchod. Yr oeddis yn myned dros enwau y
bobl y naill ar ol y llall, gan alw enwau y cedyrn mewn amgylchiadau gyntaf,
ac yna, rhai eiddilach. Aethpwyd dros yr enwau oll ond un. Nis gallodd yr
ysgrifenydd feddwl am alw hwnw. Deallodd Mary Rosser fod ei henw hi wedi cael
ei adael allan, a meddai mewn llais dipyn yn stern “Rhowch hanar coron
i lawr ar gyfar ym enw i.” “Hanar coron” meddai un o'r blaenoriaid mhen enyd,
“Odi chi ddim yn myn'd dicyn dros y mark?” “Gwnewch chi fel w'i yn i wed,,' meddai yr hen
wraig, yn gosod pen ar bethau. “Hanar Coron." — ac felly y bu. “Yn dyn i," meddai Emwnt Etwart, ddiwrnod neu
ddau ar ol hyn, o'et ti'n mentro ticyn hefyd Ma hanar coron yn dicyn o swm.
Faint wyt ti yn gal yr wthnos yn awr?” “Hanar coron," meddai Mary Rosser
yn ol. “Ond ma hi yn hanar coron gyson wel'd di, ac yna ymhen ychydig yn
dyfod yn ol at gyfeiriad yr hen dad at faint y swm," meddai, “Nag own yn
mentro damid ormod ...... Di ni ddim yn mentro banar dicon.” “O ble ma hi i ddod wyt ti'n gretu?" meddai
Emwnt Etwart eto. “Beth sydd a fyno i a hyny?” atebodd Mary Rosser. “Y
ngwaith i yw addo a thrysto. Efe sydd i ffindo'r hanar coron.” “Ac wyt ti yn meddwl y daw E ag e," meddai
Emwnt Etwart eilwaith. Cododd yr hen wraig ei phen ar hyn at yr hen flaen or,
a meddai mewn llais pur awgrymiadol — “Emwnt
Etwart!” “'Down ni'n meddwl dIm drwg. 'Down ni'n meddwl yr un
drwg," meddai Emwnt Etwart yn ol yn union, yn teimlo nerth ffydd Mary
Rosser. “Y ti sy'n right wedi'r cwbwl. Ia, ia, merch i." Nid o haner coron y plwyf yr oedd yr haner coron
hwn i ddyfod, sylwer, ond o drysorfa arall, llai daearol, ac hefyd llai
cysylltiedig a phrinder a thlodi. Yr oedd yr amser yn treulio heibio gan
bwyll, a'r haner coron ddim yn gwneyd ei ymddangosiad. Ac ambell un oherwydd
hyn yn gofyn i Mary Rosser, “Dath a?" Yr “a” mewn golwg oedd yr haner
coron. “Ddim yto” oedd ateb Mary Rosser. “Ddim yto,”
a'r pwyslais i gyd ar yr yto. Fu "yto” erioed yn cario y
fath faich o ffydd. Galwodd y Bardd un diwrnod i siarad yn nghylch yr
haner coron, waith yr oedd haner coron Mary Rosser wedi dyfod yn fater
cyhoeddus erbyn hyn. "Tae e ddim yn dod, beth wnaech chi mam?"
meddai'r Bardd. “Beth a wnelwn i?" meddai Mary Rosser. “Ie,"
ebai'r Bardd. “Ond fe ddaw, meddai Mary Rosser yn oi yn
fuddugoliaethus, "Fe ddaw." “Ie," meddai'r Bardd yn ol, "Ie, yn siwr,
mam, mae eich ffydd chwi mewn iechyd rhagorol. Ie." "Am clywch y dyn .yto," meddai Mary
Rosser, wi'n trysto plwyf Eclws llan yma am hanar coron yr wthnos ...... shwd
damid o beth a hwn," meddai eilwaith, yn cyfeirio at y plwyf, “a dos
bosib na allai drysto'r nefodd am rhyw goron mwn shawns." “Gwelwch yma," meddai yr hen wraig mhen enyd
eto, “ma Mary Rosser yn hen feggar yco, ...... a ma nhw yn i napod hi
o'r gora yco, |
|
|
|
|
(*97) |
HEN BOBOL TABOE. 363 Cretwch chi fi ...... falla y bydd rhaid i fi aros
ticyn am y nhro; ond fe ddaw.” “Ie," ebe'r Bardd. “Ie, ' llawer ddichon taer
weddi'r cyfiawn.'" Ond yn y blaen yr oedd yr amser yn myned, a'r capel
yn mron a'i orphen, a'r haner coron eto heb ddod, nac argoel am dani. “Ddaeth e?" gofynodd y Bardd drachefn pan yn
cyfarfod a Mary Rosser, yn cyfeirio wrth gwrs at yr haner coron. “Ddim
yto," meddai Mary Rosser, a'r yto mor drwm o ffydd ag erioed, ac yna
iddi ei hun meddai, “Beth sydd ar y dynon!” Gorphenwyd y capel, a daeth yr wythnos cyn yr
agoriad o gylch, a'r haner coron eto heb ddyfod. Y Sabbath nesaf oedd Sabbath
yr agoriad i fod, pan oedd yr holl addewidion i gael eu casglu i fewn — ac yn
eu plith yr haner coron dan sylw. Gwyddai Mary Rosser hyn yn burion, ac er fod yr
haner coron heb ddod, 'doedd ei ffydd yn gwanychu dim. Dydd Gwener a ddaeth,
ac arno daeth ymweiiad oddiwrth y Bardd, a meddai, fel arfer yn awr yn wir ar
y mater hwn, “Ddaeth e ddim?"...... “Ddim yto," meddai Mary Rosser,
“Ddim yto," ond yr oedd rhywbeth yn ei llais oedd yn dangos ychydig
anfoddlonrwydd i'r traffethu hyn am yr “hanar coron." “Wel, yn awr, mam," meddai y Bardd y diwrnod
hwn, "feallai mai drwyddo i y mae yr haner coron i ddod, y mae yn well i
chi dderbyn yr haner coron hwn," gan ddal y darn arian yn ostyngedig at
Mary Rosser.* Fi wn i nad taw a," meddai Mary Rosser
yn ol ar darawiad. “Ma Fe dicyn yn ddyfal, fi gydnabydda, ond fe ddaw yr
hanar coron, syr. Fe ddaw....... 'Dyw E wedi nisappointo i
erioed. A naiff E ddim yn fach o fi yn awr yn y'ch gwydd chi i gyd. Naiff E
ddim o hyny dyn, o Mary Rosser." "Wel," meddai'r Bardd, yn ofni y gallasai
i'r haner coron ddyfod dipyn yn hwyr, a ffydd yr hen wraig eiddilo rhyw faint
drwy hyny. “Cymerwch fenthyg yr haner coron hwn; yr ydym yn cael ein cymhell
i rhoddi benthyg i'r Arglwydd. Cymerwch hwn, mam, a phan ddaw yr haner coron
cymeraf hi yn ol.” “Diolch yn fawr i chi, syr," meddai yr hen
wraig. *' Diolch yn fawr i chi, i chi yn gind iawn. Ond dw i ddim yn
cretu y lica Fe hyny. A rhaid gwed y gwir. Ticyn yn shabby fyddai
i fi droi atoch chi a'i hanar coron E bron cyrhadd y nrws i. Fyddai ddim yn
deg ag E. ...... A hefyd," meddai Mary Rosser eto, "Sawl gwaith w'i
wedi gwed ar y nghlyna ar yr hen garrag yna," — yn pwyntio at hono —
"fi dy drysda di i'r itha', gna, i'r itha'......'Dyw hi
ddim use, hi fydda yn shabby yno'i. ...... Dewch, dewch,"
meddai yr hen wraig, yn bywiogi yn yr yspryd dipyn, "rhaid i ni bido
colli calon ......" ac yna yn haner digrifol, ond digrifwch a deigryn yn
ei lais ydoedd, “ma Fe yn catw Mary Rosser i aros ticyn witha, welwch chi.
Odi, odi, .....ac ar y cynta own ni'n tryplu am hyny, fel own i ffola, ond
'down i ddim yn i napod E cystal y pryd hyny a nawr....... Odi, odi,"
meddai'r hen wraig mhen enyd eto, “ma Fe'n catw Mary Rosser i waita
ticyn witha. ...... Falla taw ar y ffordd i'r capal yfory y daw yr
hanar coron. Synwn ni damid." |
|
|
|
|
(*98) |
364 HEN BOBOL TABOR. Gosododd y Bardd yr haner coron yn ol yn ei logell
ar hyn, a chododd i fyned. Gwasgodd law Mary Rosser yn gynhesach y diwrnod
hwnw nag arferol, ond ni ddywedodd "Dydd da, mam," y diwrnod hwn ar
ei ffordd allan. Yr oedd hyn ddydd Gwener. Prydnawn dranoeth — dydd
Sadwrn — “Odi chi yma, mam?" ofynodd Shon Shencyn, gan agor y drws,
"w'i wedi bod yn Nghaerphilly," meddai, yn myned i fewn, “a fi
welas Mrs. Jones, y Factory, ag odd hi yn gofyn am danoch chi, ac wrth fy mod
i yn dod i mas hi ddotws hanar pound o de yn ym llaw i ac hanar coron, a
meddai yn y nghlust i, ' i Mary Rosser,' a dyma nhw," meddai Shon, yn
gosod yr arian a'r te ar y bwrdd. Ni newidiodd Mary Rosser ei lliw na'i thymer,
sobrodd ychydig bychan, ac yna meddai, “Ha, ...... ha," a chan droi ei
llygaid a'i gwyneb i fyny, ar ol i Shon fynd, meddai eto, “Ffyddlon i Mary
Rosser yn dy holl ffyrdd — yn dy holl ffyrdd." Bu Mary Rosser yn cerdded o gylch y ty am dipyn ac
yn meddwl yn brysur am amgylchiadau'r haner coron, a disgynai ambell i
frawddeg oddiwrthi, fel briwsion oddiar fwrdd anweledig. “Ia siwr,"
meddai, “ia siwr ...... on nhw mor dâr ...... fi fyswn yn iawnda simpil yn
awr...... Diolch i ti am gatw ffydd Mary Rosser." Yn union ar ol hyn yr oedd yr hen wraig yn nhy
Etwart Lewis, mab i Twmi Lewis, a blaenor parchus yn Tabor yn bresenol, a
chan ddal yr haner coron rhwng ei bysedd, meddai “Dyma fe, dyma fe, chi
gretwch i gyd yn awr...... O'dd Mary Rosser yn cretu o'r blan” “A nawr," meddai Mary Rosser yr hwyr hwnw wrth
eneth ieuanc oedd yn y ty gyda hi, “Ma isha i ti dori'm enw i ar yr enfilop
yma," ac envelope
llythyr oedd gan Mary Rosser. Yr oedd wedi taflu yr envelope casglu
o'r neilldu gan ei alw yn “damid.” “Ysgrifena yn fras y peth w' i yn i wed
wrtho ti" meddai. — MARY ROSSAR, HANAR CORON." Cododd yr hen wraig
yr envelope i fyny wedi yr ysgrifenu gan edrych ar yr ysgrifen fras
arno, er nad oedd yn gallu ei darllen. "Dyna nawr," meddai,
"nhw welan i fod a wedi dod." Daeth dydd angladd Mary Rosser, a rhoddwyd ei
gweddillion i orwedd yn mynwent Tabor. Ac ymhen ychydig ddiwrnodau ar ol
hyny, symudwyd yr ychydig “gelfi” i ffwrdd, a daethpwyd ar draws y
canwyllbren pres, a phan godwyd ef i fyny gweiwyd fod chwech cheiniog o dano
— chwech cheiniog at y "llifir." Nid oedd Mary Rosser yno, bellach,
i fyned ag ef i Tabor, ond cyrhaeddodd y seiat serch hyny; ac wedi galw y
llyfr y “nos nesaf" a myned drwy yr enwau i gyd, meddai y Bardd neu
Edward Lewis, nid ydym yn cofio pa un yn bresenol, “Mae yna
un enw eto i'w alw." "Pa un?" gofynodd yr ysgrifenydd. “Mary
Rosser." Galwyd yr enw yna fel o'r blaen, ac atebwyd, “Wech chinog — o'r
nefodd." |
|
|
|
…..
Y
mae gwybodaeth am y capel yma: https://coflein.gov.uk/en/site/9409/
.
Dyma
lun ohono https://www.eintreftadaethrhct.com/view-item?i=25570&WINID=1755000714631
ar wefan Rhondda Cynon Taf – Ein Treftadaeth, lle y dywedir (yn Saesneg) Adeiladwyd
ym 1843. Dymchwelwyd tua 1988 er bod ganddo statws adeilad rhestredig. Mae'r
fynwent yno hyd heddiw (2008) ond yn llawn chwyn wedi tyfu’n wyllt.
---------------------------------------
Sumbolau:
a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱,
(w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː
B5237ː ![]()
BREF GWRTHDRO ISODː i̯,
u̯
CROMFACHAUː ⟨ ⟩ deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː ∀, ә, ɐ
(u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG: ɛ̄ ǣ æ
ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː ɪ /
ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː ʊ /
ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ / [ә
gæ:r]
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / y Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ ɔʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː A̋ a̋
U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ
g
yn
aith δ δ £ g
yn
aith δ δ £ U+2020 †
« »
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org
httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ
Hwngarwmlawtː A̋ a̋
g
yn
aith δ δ
…..
…..
ʌ
ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́
|
Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute |
…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_421_hen-bobol-tabor_1895-1897_3841k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 23-05-2024
Adolygiad diweddaraf: 23-05-2024
Delweddau:
Ffynhonell:
archive.org
---------------------------------------
|
Freefind. |
Ble'r
wyf i? Yr ych chi'n ymweld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pagina de la Web CYMRU-CATALONIA
(= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You
are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yuu äa-r viziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlóuniə) Websait
Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres
Estadistiques / View Our Stats (Y Wenhwyseg / el dialecte gwentià / Gwentian)