|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 106. Hydref 1893. Clawr) (delwedd K0329)
|
1/
Cyf. x. Hydref 1893. Rhif 106.
Tudalennau 295-300
Y Lladmerydd – Cylchgrawn yr Ysgol Sabbothol.
Dan Olygaeth y Parchn. J. M. Jones, Caerdydd, Evan Davies, Trefriw, a D.
Jenkins, Ysw., Mus. Bac. (Cantab)
…..
Dafydd Terry. Gan y Parch. Daniel Thomas, Ffynon Taf
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 106. Hydref 1893. Tudalen 295) (delwedd K0330)
(*01)
|
DAFYDD
TERRY. 295
DAFYDD TERRY.
GAN Y PARCH. DANIEL THOMAS, FFYNON TAF.
Pe digwyddai fod y nodiadau hyn wedi cael eu hysgrifenu ugain mlynedd yn ol,
ni buasai angen dweyd pwy a feddylid wrth yr enw uchod, na pha beth ydoedd ei
wrthddrych, a pha le yr oedd yn byw. Ar yr adeg hono, yr oedd Terry, fel ei
gelwid, yn adnabyddus yn nghylch Methodistaidd y sir, ac mewn cylch cyfyngach
yn adnabyddus i'r enwadau eraill hefyd. Neu pe buasai Sir Forganwg fel Sir
Aberteifi neu Sir Gaer, yn lle gwledig, heb yr un cyfnewidiad yn cymeryd lle
yn y boblogaeth, ond y cyfnewidiadau y mae troion arferol Natur a
Rhagluniaeth yn ei gymeryd, sef gosod y meibion yn lle'r tadau, a'r merched yn lle'r mamau, ni buasai yn rhaid yn y
dyddiau hyn hysbysu pwy oedd Dafydd Terry; buasai ei goffadwriaeth yn cerdded
i lawr ar hyd llechweddau'r oesau am genhedlaethau lawcr i ddod, ac yn cario
ei hysbysrwydd ynddo ei hun. Ond yn Sir Forganwg yr oedd Terr\ yn byw — sir y
gweithfeydd; sir y tyru a'r ymgasglu o bob cŵr o'r wlad bron; sir lle mae'r hen frodorion cyntefig, ynghyd â'u
neillduolion, eu traddodiadau, a'u personau wedi mwy neu lai ymgolli yn y
llanw mawr poblogawl sydd wedi goresgyn y wlad yn ddiweddar. Felly rhaid yw
dweyd pwy yw neu pwy oedd Dafy'dd Tern', a hyny braidd yn ei gartref ei hun.
Nid ydym am wneyd unrhyw fath o esgusawd am godi ei enw, megis o'r bedd, a'i
ddal i fyny i olwg y tô presenol; ni buasai ef ei hun yn rhoddi briwsionyn o
ddiolch i ni am wneyd felly. Fu neb erioed yn fwy diystyr o ŵg neu wên y
byd na Terry. Na, trugaredd a'n hunain yr ydym yn ei wneyd wrth gyfeirio ein
golwg at gj^meriad yr hen batriarch. Mae yn drueni colli hanes hen bobl fel
hyn o'r tir — rhai
oedd mor rhyfedd ag oeddynt o dda, ac mor dda ag oeddynt o iyfedd; ond felly
y bydd oni wna y rhai sydd wedi bod méwn cysylltiad â hwy, ac wedi eu
hadnabod, drosglw} ddo eu gwybodaeth a'u hargraffiadau o honynt i'r wasg.
Ystyriaethau fel hyn } nglyn
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 106. Hydref 1893. Tudalen 296) (delwedd K0331)
(*02)
|
296 DAFYDD TERRY.
â thaer geisiadau rhai cyfeillion, sydd i gyfrif am ein bod yn ysgrifenu yr
ychydig nodiadau yma. Nid ydym yn bresenol yn meddwl rhoddi bywgraffiad o
Dafÿdd Terry; nid ydym yn bwriadu myned yn ol at y cawell a'r ysgol, nac
olrhain ei achau. Y mae ein cyfaill William James, Dinas, wedi gwneyd hyny i
fesur yn barod yn y llyfryn dyddorol a ysgrifenodd ar Terry. Darllenasom hwnw
gyda blâs, a charasem pe buasai yno fwy o hono. Yn wir, dyna yr unig fai oedd
ar y llyfr. Byddai yn dda genym hefyd pe buasai Mr. James wedi cael ei dueddu
i gofnodi llawer amgylchiad dyddorol yr oedd wedi bod yn dyst o hono ynglyn à
Terry. Pe
gwnaethai hyny, ni buasai galw am yr ysgrifau hyn; ond gan na wnaeth, yr ydym
am gyflenwi tipyn ar y diffyg, ac hyd y medrwn, roddi view neu ddwy
o'r hen batriarch, ac hefyd, i fesur, o'r hen flaenoriaeth.
Fel y dywedasom, nid ydym yn bwriadu myned yn ol at ei febyd, a chasglu
oddiyno ragfynegiad o'r dyfodol. Dyna fel yr arferir gwneyd. Bydd y pregethwr
mawr wedi bod yn pregethu yn blentyn, ac wedi cael odfaon grymus, mae'n
debyg, yr adeg hono. Yr oedd y plentyn wedi bod yn dad i'r dyn, ac wedi bod
yn ddangoseg o hono — ffaith amlwg i bawb, wrth gwrs. Eto, cadwodd y
bobl hyn y ffaith yn ddistaw hyd nes i'r dadblygiad dd'od; er eu bod yn
gwybod o'r dechreuad, ni fynegasant hyd y diwedd, yr hyn sydd dipyn yn
rhyfedd. Yn ol y ffydd hon, gallasem ddisgwyl
rhagfynegiad o'r blaenor yn y plentyn yn Terry, a dichon fod hyny wedi
cymeryd lle — ei fod yn cadw seiat ymhlith y plant — yn tynu profiad rhydd
oddiwrthynt, ac yn eu ceryddu a'u cynghori bob yn ail fel y byddai galw; ond
nis gwyddom, ac.fclly ni allwn ddweyd. Y cwbl amcanwn yma yw rhoddi ychydig
o'r argraffiadau a wnaed arnom. Yr ydym am ddweyd yr hyn a welsom, ac ychydig
ond hyny.
Blaenor gyda'r Methodistiaid yn Dinas, Cwm Rhondda, oedd Dafydd Terry, ac
wedi ymadael â'r fuchedd hon ond er's ychydig o flynyddau yn ol. Nid ydym yn
sicr yn awr o'r flwyddyn. Dyna yn fyr allwn ddweyd fel deffmiad cyffredinol o
hono. Ónd nid yw hynyna yn ddarnodiad helaeth o hono; nac yn dod a llawer o
adnoddau ei gymeriad i'r golwg. Rhaid yw tori drwy gylch y cyffredin er
gwneyd hyny. Nid oedd eisiau ond edrych ar Dafydd Terry i ddarganfod ei fod
yn ddyn rhyfedd. Yn wir, a chymeryd ei olwg allanol, yn neillduol ei wisg, yn
ddangoseg o'i ffydd — gallasem feddwl mai Anmbynwr, ac nid Methodist ydoedd —
ei fod yn perthyn i gorff o bobl oedd yn galw eu hunain yn Drefnyddion oedd y
peth diweddaf fuasai yn taro ar ein meddwl. Nis gwelsom ond ychydig mor
annhrefnus a Terry. Yr hyn oedd yn ein taro oedd ei afìerwch; nid oedd yn
talu y warogaeth leiaf i weddusrwydd corfforol o un math. Os oedd yn
Fethodìst, sef un yn bywwrth method, neu yn Gymraeg trefn, mewn pethau
ysbrydol, yr oedd yn hollol amddifad o'r elfen hon yn ei berthynas â'r byd
hwn, yn enwedig yn ei ymddangosiad corfforol. Gallesid meddwl ei fod yn herio
pob deddf, llywodraeth ac arferiad gymdeithasol, ac yn ymorfoleddu mewn rhyw
fath o aflerwch ac annibyniaeth personol. Nid Terry oedd yr unig un oedd yn
euog o hyn. Yn wir, byddai yr hen bobl yn gyfíredin yn annhrefnus, a byddent
yn fynych yn ei ystyried,
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 106. Hydref 1893. Tudalen 297) (delwedd K0332)
(*03)
|
DAFYDD TERRY. 297
yn rhinwedd ynddynt i fod felly. Ceisio osgoi balchder yr oeddynt; ond wrth
ddianc rhag hwnw, syrthient, nid yn anfynych i ddiffyg arall, sef aflerwch a
diofalwch, a buasai yn dda pe buasent wedi bod yn fwy o drefnyddion yn yr
ystyr hyn. Nid da gor-drwsio, mae'n wir, ond nid da hefyd bod yn ddichwaeth
ac afler. Nid oedd Terry yn bwriadu herio y byd â'i dremiadau; nid oedd, mewn
gwirionedd, yn meddwl unrhy w beth am dano; nid oedd iddo ef yn bod ond fel
noson o gwsg — rhywbeth i fyned drwyddo. Yr oedd ei aflerwch yn arwydd, nid o
ddiffyg chwaeth, yn gymaint a diffyg dylanwad y byd hwn a'i 'drefniadau arno.
Yr argraff roddai Terry arnom oedd ei bod yn faich arno i wisgo, ac y buasai
yn dda ganddo, ac hefyd yn rhyddhad iddo, pe buasai rhagluniaeth wedi ei
guddio neu ei wisgo a chnwd o wlân, neu a “chrop" o blyf, fel na buasai
byth eisiau botymu na dadfotymu. Dyna'r argraff wnai Dafydd arnom, — dyna'r
argraff gyntaf, dyna'r argraff olaf. Ac os nad yw wedi cyfnewid llawer erbyn
hyn yn y nefoedd, bydd yn rhaid i ryw angel fod gerllaw i ofalu am y botymau.
Byddai Dafydd yn ymddangos yr un fath yn wastad, ond ei fod dipyn yn llai
annhrefnus ar y Sabbath, ac hefyd yn y Cwrdd Misol. Gwelsom ef yn trwsio
tipyn ar gyfer hwnw nnwaith. Gwasgarodd y drefnyddiaeth ei hysbryd i'r corff
yn ogystal ag i'w grefydd; ond nid hir y parhaodd y dylanwad yno er hyny,
gyda ei fod yn ol yn y ty ymgiliodd y drefnyddiaeth o'r corff gan lochesu fel
arfer yn yr enaid.
Dillad llwyd fyddai ganddo fel rheol. A'r rhai hyny yn ddigon mawr iddo pe
buasaiTerry haner cymaint arall ag ydoedd. Y gôt yn hongian
ar ei ysgwyddau, a'r wasgod yn wastad yn agored. Yr oedd botymau arni, ond
byddent yn cael holiday oddigerth un neu ddau, ac ar ddydd Sul dri neu
bedwar. Dyna un gwahaniaeth fyddai Terry yn ei
wneyd rhwng y Sabbath a'r wythnos, yr oedd }• wasgod yn cau yn uwch i'r lan
ar y Sul. Byddai'r crys yn agored wed'yn y tu cefn i'r wasgod, a mynwes
Dafydd yn y golwg.
Hynodrwydd arall yn yr allanolion yma yn perthyn i Terry oedd ei getyn
pibell. Yr oedd yn ysmociwr mawr, ond nid aml y gwelsom ef a long piỳc nac a phib bren yn ei
enau. Cetyn o glai fyddai ganddo, a'i goes ryw fodfedd neu ddwy o hyd, ac mor
ddu a chryfaphechadur. Byddai hwn fel rheol yn ngenau Dafydd, a phan oedd ei
law yn rhydd byddai yn ei ddal i fyny, ond pan na fyddai ei law yn rhydd cai
drafferth fawr gyda'r bibÌ Fel y gwyr rhai o'ch darllenwyr, y mae danedd
ysmocio yn bod yn ogystal a danedd llygaid a danedd doethineb, hyny yw,
danedd sydd yn dal y bib. Ar yr ochr chwith y bydd y rhai hyn fel rheol, ac
ar yr ochr hyn yr oedd rhai Terry. A phan oeddynt ganddo yr oedd ei bibell ef
yn gallu dal ei phen i'r lan yn ogystal ag unrhyw bibell arall. Ond mewn
amser collodd Dafydd' ei d'danedd smocio, a hyn oedd yn galw am g}-morth y
llaw pan fyddai yn mygu; ond nid yn wastad y gallai un aelod gynorthwyo'r
llall fel hyn, byddai raid i'r llaw wneyd rhywbeth arall, ac ar yr adegau hyn
byddai yn waith helbulus iawn i ysmocio. Troai y bibell ei phen i waered fel
pe buasai wedi syrthio i warth neu
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 106. Hydref 1893. Tudalen 298) (delwedd K0333)
(*04)
|
298 DAFYDD TERRY.
mai cryn orchwyl oedd ei chadw i fyny o gwbl ar yr adegau hyn. Gwasgai ei
wefusau ynghyd, deuai ei ên allan dany pressure, agallasai rhywun nad oedd yn
ei adnabod gasglu ei fod newydd gael ei daro à phoen dirdynol, ond dal y
bibell 'roedd Terry. Yr oeddym yn sylwi ar yr adegau hyn hefyd nad oedd yn
alluog i siarad llawer; ond dyna, yr oedd un gorchwyl yn ddigon ar y tro.
Gobeithio nad ydym trwy y nodiadau uchod wedi arwain neb i gasglu fod Terry
yn meddu ar gorff yn ogystal a gwisg ddilun ac afler, oblegid nid felly yr
oedd. Yn wir pe buasai Dafydd wedi bod mor ofalus o wisg y corff ag ydoedd
natur wedi bod o wisg yr enaid, buasai golwg foneddigaidd iawn arno, — ni
fuasai yr un botwm heb ei gau. Safai yn agos i chwe' troedfedd mewn hyd, —
nid oedd yn hollol hyny, ond yr oedd yn y gymydogaeth, a golwg greigiog a
nerthol arno. Nid oedd y talcen yn tynu llawer o'n sylw; oblegid nid yn
wastad y gallesid ei weled gan y cnwd gwallt fyddai yn hongian yn ddioglyd ar
hyd ei lechweddau. Ond yr oedd ei aeliau yn tynu ein sylw ar unwaith. Yr
oeddynt yn llawn o gadernid, a'i lygaid oddidanynt yn llochesu yn dawel megis
mewn cysgod craig fawr. Yr oedd y trwyn drachefn "yn nerthol, yn hynod
felly, a gwae pwy bynag a äi ar ei draws. Nid oedd yr arwyd'd leiaf o wendid
yn yr ên, ond cyd-dystiai â'r rhanau eraill o'r wyneb i allu penderfynol ei
pherchenog. Yr oedd yn ddigon cryf i “gracio “y gneuen galetaf, a chraciodd
lawer o rai celyd ddigon hefyd yn ystod ei hoes. Dyn nerthol oedd Terry. Yr
oedd y Creawdwr wedi ei naddu o graig cadernid, rhywbeth i'r perwyl hyn oedd
barn yr hen batriarch o Donyrefail am dano. Wrth son am nodweddion rhai o hen
flaenoriaid y ddinas dywedai ar ryw adeg, “Dyn bach tidy yw Tomos, ma' fo mor
didy a botwm; ond am Terry, llestar mawr yw e', ac yn gofyn lle i droi";
a gallasai ychwanegu hefyd amser. Yr oedd Terry yn gofyn tipyn o'r ddau. Dyna
i ryw fesur ddesgníìad o allanolion gwrthddrych ein nodiadau. Yr oedd yn
hynod ac yr oedd yn gadarn. Yn ychwanegol at hyn yr oedd Methodistiaeth wedi
gosod ei delw arno, a hyny braidd yn eithafol. Yr ydym yn synu peth at hyn
hefyd, oblegid y dyn cryfaf yw yr anhawddaf i wneyd argraff arno. Ac fel
rheol bydd y dylanwadau cymdeithasol yn is-raddol i'w ddylanwad ac arddull
personol ef ei hun. Teimlir ei fod yn ddyn yn gyntaf oll, ac yna yn rhywbeth
arall ychwanegol. Y dyn bychan yw yr hawddaf i i wneyd argraff arno, a bydd y
dylanwadau israddol sycíd yn ei gychwyn yn cymeryd meddiant hollol o hono. Ei
ddynoliaeth yw y peth diweddaf sydd yn dyfod i'r golwg. Teimlir ar unwaith ei
fod yn Gymro neu yn Sais, yn Eglwyswr neu yn Ymneillduwr, yn amaethwr neu yn
forwr, ac yn rhif o beth eraill, ond yn ddyn, — byth braidd. Y mae yn byw yn
myd y dylanwadau bach, ac yn ddangoseg o'r olaf o honynt. Y mae hwn yn cael
ei eni o'r newydd yn wastadol, bydd pob dylanwad yn ei adwneyd, ac yn y
diwedd bydd yn anmhosibl gwneyd unrhyw argraff ddofn arno, a hyny oherwydd ei
feddalwch. Y
mae mor feddal fel y mae pob dylanwad yn gosod ei ddelw arno; ond bydd yr
argraffiadau yn dinystrio eu gilydd fel nad oes dim yn aros. Y mae y truan
hwn yn wastad yn cael ei eni, ond byth yn tyfu. Yn wyneb gosodiad fel hyn,
nid ydym yn gwybod yn iawn b'le i osod Terry. Yr
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 106. Hydref 1893. Tudalen 299) (delwedd K0334)
(*05)
|
DAFYDD TERRY. 299 oedd yn ddyn cadarn iawn, ac eto yr oedd ei Fethodistiaeth
yn cuddio ei ddynoliaeth. Y peth goreu allwn ddweyd yw fod ei ddynoliaeth
wedi cymeryd ffurf Fethodistaidd, fel mewn ystyr uwch y mae y dyn yn ymgòlli
yn y Cristion. Ac yr ydym wedi sylwi pan gymer natur gadarn wisg unrhyw
ddylanwad, y mae yn myned yn ymgorfforiad hollol ac hyd yn nod eithafol o
hono. Felly yr oedd gyda Terry. Yr oedd yn Fethodist bob gronyn o hono. Nis
gallwn synio am dano fel un wedi d'od yn Fethodist, ac yn alluog eto i fyn'd
yn rhywbeth arall, ond un oedd wedi ei chreu yn Drefnydd Methodistiaeth oedd
dynoliaeth Terry. Yr oedd golwg arno yn peri i ni feddwl am Hyfforddwr
Charles a'r Gyffes Ffydd. Siaradai fel Methodist, meddyliai fel Methodist,
teimlai fel Methodist, cerddai fel Methodist, ac hyd yn nod eisteddai i lawr
fel aelod o'r Hen Gorff.
Yn ychwanegol eto at y ddelw yr oedd Methodistiaeth fel corff o ddylanwad
wedi ei gosod arno, yr oedd y flaenoriaeth hefyd wedi gadael ôl ei llaw yn
drwm ar Terry. Dichon nad oedd hyn yn amlwg i rai y tu allan i gylch yr Hen
Gorff, ond i'r rhai tu fewn iddo yr. oedd yn amlwg ddigon. Yr oedd pob
Methodist yn darganfod ac yn teimlo hyny ar unwaith. Gallesid meddwl wrth
edrych ar Terry, mai y sêt fawr oedd yn cerdded o amgylch. Yr oedd ei dehv hi
arno, ac yr oedd yntau yn ymgorphoriad o'i holl nodweddion, sef arafwch, rhyw
fesur o drymder, absenoldeb meddwl, a theimlad o bwysigrwydd ac awdurdod,
elfenau oedd, fel rheol, yn nodweddu yr hen flaenoriaid. Ac yr oedd Terry yn
ddadblygiad cyflawn o honynt, yr oedd yn araf iawn fel y cawn weied eto, ac
yr oedd yr arafwch hwn yn ei suìtio i'r dim. Yn wir dim ond unwaith y gwelsom
ef yn brysio, yr oeddem yn myned i ddal y tren, a gorfu i Terry redeg yr adeg
hono, ond nis gwelsom ddim yn fwy gwrthun erioed; yr oeddem yn teimlo ei bod
yn hollol anaddas i flaenor beth bynag i redeg yn ol ein tyb ar yr adeg hono,
cerdded oedd yr unig agwedd ar rodio ddylai gael ei mabwysiadu gan y
flaenoriaeth. Ond chwareu teg i Terry, nis gwelsom ef yn rhedeg ond y tro
hwnw, ac felly ddioddefodd arafwch y sêt fawr ddim llawer ar ei law. Yr oedd
hefyd yn drymaidd, nid am ei fod yn amddifaid o elfenau sirioldeb, ond am eu
bod yn methu tori drwy y niwl difrifwch fyddai yn barhaus yn ei amgylchu. Yr
oeddem yn teimlo fod haul yno, a'i fod yn ceisio taflu ei edrychiad serchus
atom drwy y cwmwl tew, ac yn llwyddo, ond i fesur bychan yn hyny. Ac am
absenoldeb meddwl, Wel, teimlem mae darn o'r gorphenol ydoedd Terry. Yr oedd
yn hawddach i ni synio am dano fel cydoeswi a Job, nag a'r genhedlaeth
bresenol. Yr oedd fel darn o'r hen oesau wedi d'od am dro i fröydd y dyddiau
diweddaf hyn, a rhywbeth pell yn ei gylch. Felly y teimlem ni tuag ato ef. Ac
felly, hefyd, o'r hyn leiafdyna'r argraff wnaed arnom, y teimlai' ef tuag
atom ninau. Edrychem amo fel pererin o wlad arall, ac yn dwyn ei nodweddion,
siaradai yntau fel un a'i gartrefle draw.
Yr oedd teimlad o bwysigrwydd ac awdurdod felly yn codi yn naturiol o'r
elfenau hyn. Nis galìasai neb fyned yn or-hyf amo, yr oedd yn rhaid i bawb ei
barchu ac ymddwyn yn weddaidd tuag ato, yr oedd yn
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 106. Hydref 1893. Tudalen 300) (delwedd K0335)
(*06)
|
300
CERBYD Y BRENIN SOLOMON.
yr ystyr eangaf yn un o'r hen flaenoriaid. Ac nid oedd neb yn fwy ymdeimladol
o'r pwysigrwydd hwn na Terry ei hunan. Nid ydym am ddweyd ei fod yn ymwybodol
o’r teimlad, yr ydym yn credu nad oedd, ac nad yw ymwybyddiaeth wedi'r
cwbl yn cuddio ond rhan gymharol fechan o weithrediadau yr enaid. Ac yr ydym yn meddwl ei fod yn cuddio rhan lai na'r
cyffredin yn ngweithrediadau yr eiddo Terry. Yn wir, diffyg ymwybyddiaeth
oedd un o'i hynodion penaf. Er hyny, 'doedd gweithrediadau dylanwadau ar ei
fywyd ddim yn llai effeithiol; os rhywbeth, yr oeddynt yn fwy. ^Yr oedd Terry
yn byw o dan deimlad o bwysigrwydd ac awdurdod, ac yn ei ddangos ble bynag y
byddai cyfie. Nid ymgynygiai fyned i un man wrth gwrs yn ei gartref ond i'r
sêt fawr, ac hefyd, pan ar ymweliad a chapelau eraill ar achlysuron
cyfarfodydd pregethu, a'i Terry yr un fath i'r sêt fawr. Nis gwelsom ef yn
cynyg eistedd mewn sêt fach yn nghanol y capel, yn wir buasai yn drais ar ein
teimladaui'w weledyno; fely mae weithiau i weled ambellun yny sêt fawr, sydd a'i
le yn y sêt fach; ond am Terry, yn y sêt fawr yr oedd ei lc ef, ac yno yr a'i
yn union; pe buasai yn llond i'w hymylon yn barod, a'i ef ymlaenyr un fel;
ceid digon i godi i roddi eulle iddo fel rheol, a derbyniai Terry y warogaeth
fel y peth mwynf naturiol yn y byd. Nid porthi hunanoídeb fyddai wrth wneyd
hyn, ond cadw i fyny'urddas y íîacnoriaeth.
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 106. Chwefror 1894. Clawr) (delwedd K0336)
|
2/
Cyf. x. Chwefror 1894. Rhif 110.
Tudalennau 38-42
Y Lladmerydd – Cylchgrawn yr Ysgol Sabbothol.
Dan Olygaeth y Parchn. J. M. Jones, Caerdydd, Evan Davies, Trefriw, a D.
Jenkins, Ysw., Mus. Bac. (Cantab)
…..
Dafydd Terry. Gan y Parch. Daniel Thomas, Ffynon Taf
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 110. Chwefror 1894. Tudalen 38) (delwedd K0337)
(*07)
|
38
DAFYDD TERRY.
DAFYDD TERRY.
GAN Y PARCH. DANIEL THOMAS, FFYNON TAF.
II.
Yr ydym yn ddyledus i Mr Daniel Davies, Ton Ystrad, am hanes troedigaeth
Terry. Byddai yn arfer cyrchu tua'r Ton, ac ardaloedd eraill, ar adegau
cyfarfod pregethu, yn neillduol os byddai rhai o'r cewri diweddar yno. Hefyd yr oedd rheswm arall yn mlynyddau olaf yr hen
batriarch dros y pererindodau hyn, sef casglu tipyn o arian tuag at ddyled
capel newydd y Ddinas. Nid oedd Terry yn frwd iawn dros gael capel newydd,
oherwydd y ddyled. Meddyliai y byddai y frawdoliaeth yn amddifad ac analluog
ar ei ol ef. “'Rwy'n myn'd yn hen," meddai lawer tro pan fyddai siarad
am gael capel newydd yn y Ddinas; “fyddai ddim yn hir gyda chi, a ffordd
talwch chi'r ddyled?" “Rhaid i ni fyn'd ymlaen mewn ffydd, Terry,"
atebai brawd brwdfrydig. “Ia, ia," meddai Terry, “ond âg arian y mae
talu, ag o ble mae rhaini i dd'od V Ond fe awd ymlaen â'r gwaith gyda llawer
o ffydd ac ychydig o arian. Yn wir, gellir dweyd am y rhan f wynf o'r
capelau, “Trwy ffydd yr adeiladwyd hwynt oll."
Pan welodd Terry fod y frawdoliaeth yn benderfynol o adeiladu, er syndod i'r
rhan fwynf o honom, yn lle teri a chwyno, a pheidio gwneyd dim, taflodd ei
holl enaid i'r gwaith, a chasglodd ei oreu, nid yn unig tra yr oedd y capel
yn cael ei adeiladu, ond wedy'n, tra fu ef byw. A dyma'r rheswm “arall"
dros y pererindodau. Yr oedd dull Terry wrth gasglu, fel mewn pobpeth arall,
yn wahanol i'r eiddo eraill. Yn lie gofyn ewyllys da neb, gosodai ef y swm i
lawr fyddai yn ddisgwyl. Ac nid gofyn am unwaith fyddai, ond am rodd
flynyddol; yr oedd yr ystyriaeth hon yn penderfynu maint y swm a geisiai, yr
hyn sydd i gyfrif fod y swm hwnw yn fynych mor gymedrol. Yr oedd Terry yn
credu mewn ychydig ac yn aml. Fel hyn y byddai yn casglu. “Rwi'n mofyn punt
genych chi at y capel ycco, a fì ddwa i mofyn hi y flwyddyn nesa eto.'' Ac
felly y byddai. Wrth arall dywedai, “Rw'in mofyn chweigen genych chi at y
capel bach ycco, a fe fyddai i yn d'od iddi mofyn hi bob blwyddyn/cofiwch,
cyd ag y dal y llestar wrth ei gilydd." Fel hyn, byddai gan Terry res o
gyfranwyr blynyddol at ddyled y capel, a byddai yn gofalu casglu hefyd. Ac ar
ddiwedd un o gyfarfodydd pob gwyl flynyddol yn y Ddínas, cyhyd ag y bu byw,
deuai Terry at y bwrdd lle y cyfrifid arian y casgliad, a chan dynu cwdyn
arian allan — cwdyn hir, dwfn, a du iawn ei liw, cwdyn
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 110. Chwefror 1894. Tudalen 39) (delwedd K0338)
(*08)
|
DAFYDD TERRY. 39
blaenor, wedi ei rwymo â llatheni o linyn, a chan ei agor, tywalltai ei
gynwys ar y bwrdd gyda dweyd, "Ma gen i dipyn bach yma. Rw'i wedi bod
gyda'r cyfeillion." Ar yr adeg yr adroddodd hanes ei droedigaeth, yr
oedd ganddo ddwy neges, sef mofyn chweigen Mr. Davies, Ton. Dyna'r swm oedd
Terry wedi ei osod. Pe buasai wedi adnabod Mr. Davies, buasai wedi gofyn
ychwaneg. Byddai yn myn'd a Shenad, yr hen wraig, gydag ef weithiau, i'w
casglu. Y neges arall oedd, gwrando y Parch. Owen
Thomas yn pregethu. Ar ol y bregeth, cyfarfyddodd â'r pregethwr yn nhŷ Mr. Davies, a thynodd y
Doctor dipyn o hanes Terry oddiwrtho. Cyfaddefodd ei fod wedi bod yn was
diwyd yn nheyrnas y tywyllwch. Yr oedd yn nodedig fel pechadur; fel ar ol
hyny, yn flaenor; yn wir, nid aelod cyffredin ydoedd Terry yn ngwasanaeth y
diafol, ond “blaenor." Yr oedd yn y “set fawr “yno. Ond pan tua deunaw
oed, daeth "y wys oddiuchod." Yr oedd yn gwrando pregeth ar ran o
weddi Jonah, a daliwyd Terry.
Ar ol i'r hen flaenor adrodd ei hanes, dywedodd Dr. Thomas, “Onid yw yn
rhyfedd na fuasai mwy o bregethu ar weddi Jonah f' Ac yn y fan, lluniodd
gynllun pregeth, a rhoddodd outìine lawn o honi, ac addawodd y Doctor
draddodi y bregeth hono yn y Ddinas y tro nesaf y deuai i'r Ystrad. Ond cyn
i'r tro hwnw dd'od, yr oedd Terry wedi myn'd gartref, ac ni phregethwyd y
bregeth yn y Ddinas. Ond ni synem os yw y Doctor wedi ei phregethu i Terry yn
y nefoedd, cyn hyn. Ymhlith pethau eraill a ddywedodd Terry ar yr adeg hon,
oedd, ei fod wedi bod unwaith yn ymladdwr mawr. Hawdd genym allu credu hyn,
oblegid cawsom brofion amlwg mewn ystyr arall fod y gallu yno. Mae'n debyg
fod Terry wedi cael tipyn o brofedigaeth yn y cyfeiriad hwn ar ol ei
argyhoeddiad; ac yn wir, tipyn o gamp yw ffrwyno nerth, dioddef, a bod yn
fud, pan yn feddianol ar allu i ddistewi a darostwng y gelyn. Ac mae'n debyg
i amynedd Terry redeg allan ar un achlysur. Yr oedd yn gweithio o dan y
ddaear y pryd hwn, 311 tori glô, a phan yn dilyn bywyd annuwiol, ac yn
amddiffyn ei hun, nid oedd neb yn cael gwell chwareu teg nag ef; ond wedi
iddo fyn'd at grefydd, a rhoddi heibio ymladd, meddyliodd ei hen gyfoedion y
gallasent gymeryd unrhyw ryddid gydag ef yn y gwaith, ac aethant yn hyf, ac
hyd yn nod i speilio ei ddrams. Yr oedd hyn, hyd yn nod, yn ddwyn bara a
chaws oddiarno. Yr oedd yr oruchwyliaeth yn chwerw iawn i Terry, oblegid
gallasai yn hawdd, pe dewisai, amddiffyn ei ddrams, ond gobeithiai y deuai
pethau yn well; meddyliai am droi y rudd arall, — a throdd hi hefyd lawer
tro, — ond yn lle d'od yn well, myned yn waeth yr oedd pethau, drams Terry yn
cael eu dwyn 0 hyd. Yn y diwedd, aeth yn rhy galed arno, a gwaeddodd ar ei
orthrymwr, “Os odw i wedi gadaèl y grefft, dw i ddim wedi towli'r twls,"
a rhoddodd faethgen iawn ic(do. Clywsom na chollodd Terry yr un ddram ar ol
hyny. Nis gwyddom beth i ddweyd am yr ymddygiad hwn o safie dduwinyddol. Y
mae ein natur ddynol yn gwaeddi “Well done Terry" ond nis gwyddom yn
iawn beth y mae ein duwinyddiacth yn ddweyd. Nid ydym yn credu mewn syrthiad
oddiwrth ras, a beth oedd hyn? Clywsom am ryw ẃr duwiol pan mewn profedigaeth a waeddodd, “O for five minutes
of unconverted life." Nid ydym yn gwybod a gymerodd y gŵr
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 110. Chwefror 1894. Tudalen 40) (delwedd K0339)
(*09)
|
40 DAFYDD TERRY.
hwnw y pum' munyd gwaharddedig ai peidio, ond gwnaeth Terry. Cymerodd unwaith
“five minutes of unconverted life," a gwnaeth y fath ddefnydd o hono,
fel na bu galw am un arall. Maddeuodd Duw iddo, a rhoddodd Terry y twls
heibio byth wed'yn i rydu.
Yr adgofion eyntaf sydd genym am Terry yw, ar foreu Sabbath, yn sefyll o
fìaen y capel, yn syllu ar y fynwent — roynwent y Storws, fel ei gelwid hi
a'r hen gapel. Yr oedd hyn cyn adeiladu y cape! newydd, na meddwl am dano. Yr
oedd yr hen fynwent yn rhan o'r capel; nis gallem feddwl am danynt ar wahan.
Yr oedd y ceryg beddau mor gysylltiedig, yn ein meddwl, a'r addoldy, ag oedd
y seddau. Felly y byddai gyda'r hen gapelau, byddai mynwent bob amser, — lle
i addoli, a lle i gysgu yr híìn fawr. A rhyfedd mor gartrefol y teimlai'r
fynwent; gorweddai'r meirw yn ymyl y cysegr, ac er mewn bedd, eto yn swn
gweddíau yr hen bobl, a hymnau Wiliiams o Bantycelyn. Ö! Ie swynol! Nid oedd
y beddau hyn yn oer, yr oedd awelon dwyfol yn eu cynhesu; tyfai blodau arnynt,
blodau'r bwthyn, ac yr oeddynt yn gwneyd y bedd mor anwyl a'r bwthyn, a bron
mor fyw. Byddai plant yr Ysgol Sul yn crwydro o'u hamgylch, ac yn llechwraidd
yn lladrata blodeuyn, os na fyddai yr arolygwr yn y golwg, ac yr oedd y
blodeuyn hwn mor gysegredig a phe buasid wedi ei dderbyn o law yr angel.
Y mae ein hadgofion yn myned yn ol heno i Ffynon Taf, at yr hen amser, sydd
yn ymddangos yn awr mor bell, mor ddistaw ac mor dduwiol. Yr unig swn glywn
yw, swn moliant yr hen dadau; yr unig lecyn welwn, yw y capel, a'r fynwent
sydd yn wyrdd o hyd; ni wywa glaswellt hon, 'does yr un Hydref wedi bod arni,
fydd ef byth. Yr ydym yn cofio yn dda yr adeg pan oedd y fynwent ond haner
llawn, a'r rhan arall yn dir glas, ac os byddai gan rhyw aclod geffyl, cai y
fraint o bori arno tra y parhai y cwrdd. Marchogasom lawer tro y pryd hwnw ar
geffyl ffrynd i ni, y plant, i'r cwrdd gweddi a'r seiat, a rhyfedd mor
dduwiol oedd y ride yn ein gwneyd. Nid oeddym yn colli cyfarfod byth, a
byddai genym bob amser adnod newydd yn barod erbyn y seiat, ac os oedd y
gweddiau yn hir i ni, a'r profiadau yn feithion, mae'n bur debyg fod yr hen
geffyl yn gorfoleddu ynddynt; yr oedd ef yn cae! amser i borthi ar frasder y
fynwent.
Nid oedd llawer o harddwch bíodeuol yn perthyn i fynwent y Ddinas, ac nid
oedd yno dir heb ei feddianu. Er eu bod yn claddu yn awr ac eilwaith yno eto,
b'le yr oedd y torwr beddau yn cael tir oedd ddirgelwch i ni. Y mae llawer
o'r hen fynwentydd, fel y blawd yn y celwrn, wedi eu cynysgaeddu â gallu
rhyfedd i barhau; er eu defnyddio nid ydynt yn myned yn llai. Yr oedd yr hen
bobl yn y Ddinas oll am gael eu claddu yn y fynwent. Gwthient yno i blith eu
gilydd, er fod y fynwent yn llawn er's biynyddau. Yr oedd yn dda eu bod yn
cysgu yn Ilonydd, onide riis gwyddem sut y byddai arnynt. Yr oedd y fynwent
yn llawn o geryg beddau, rhai yn syth, eraill yn gam, yn plygu eu hwynebau
tua'r ddaear fel pe wedi blino ar eu gorchwyl, ac megisyn gofyn, “Prydcawn
nifyn'd i orphwys “Yr oedd railings haiarn yn gwarchae y fynwent o flaen y
capel, a golwg adfeiìiol a rhydlyd arnynt, fel pe buasai yr adnod hono wedi
ei chyhoeddi uwch eu pen, "Yr hwn sydd frwnt, bydded frwnt eto."
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 110. Chwefror 1894. Tudalen 41) (delwedd K0340)
(*10)
|
DAFYDD TERRY 41
Yn gorphwys ar y rhai hyn, ac yn syllu ar wyneb drylliedig careg fedd, yr
oedd Terry, pan y gwelsom ef gyntaf. Yr oedd yn foreu teg, hafaidd, ond teced
oedd, yr oedd yn methu trawsnewid nodwedd yr olygfa; mwy cydweddol a'r hen
feddau, y railings haiarn, a Terry, fuasai boreu niwlog, tywyll, di-obaith.
Wedi sefyllach o amgylch, a dweyd “Shwd i chi heddi?" ychydig weithiau,
eid i mewn i'r capel. Yr oedd hwn eto yn hen a dadfeiliol, Nid oedd yn frwnt,
ond yr oedd yn ddu, yr oedd yn ngwlad y glô. Yn wir y mae pobpeth yn ddu yn
Nghwm y Rhondda. Y mae hyd yn nod llwydod y tô yn dduach yno nac yn y wlad,
fel pe buasent lowyr asgellog; ac y mae y blodeu bach yn methu cadw eu
hwynebau yn wyn, ond ar oly gwlaw. Yr oedd gwyneb yr ben gapel yn llwydaidd
ddigon hefyd. Ai Terry i mewn i'r set fawr, eisteddai ar y llaw chwith i'r
pulpud yn wastad. Os na fyddai y pregethwr wedi dyfod i fewn, gofynai Terry,
“Ddaeth y pregethwr V Beth bynag fyddai'r ateb, yr oedd Terry yn ddigyffro,
ac hefyd, a dweyd y gwir, yr oedd yr hen bobl yn caru cael cwrdd gweddi yn
awr ac yn y nian ar y Sabbath, i arfer eu dawn. Yr oeddynt yn cael gweddio yn
yr wythnos mae'n wir, ond y mae ihagor rhwng cwrdd gweddi a chwrdd gweddi,
fel rhwng seren a seren. Y mae gweddio ar ddydd Sul yn llawer niwy 1
espectabìe na gweddio ar yr wythnos. Ond os byddai y piegethwr yno, acyr oedd
fel rheo', ob'egid, mai, — yn ddistaw bach cofiwch, — pregethwyr pur fychain
fyddai yn d'od yno yn aml, a 'dyw rheini byth yn tori eu cyhoeddiadau, y
pregethwyr mawr sydd yn gwneyd hyny. Eisteddai yn nghornel y set fawr, yn
disgwyl am yr arwydd i fyned i'r pulpud. Yr ydym o dan yr argraff fod
pregethwyr yn y dyddiau hyny yn fwy gwylaidd nac yn y dyddiau presenol. Nid
ydym yn cofio gweled yr un yn esgyn grisiau yr areithfa heb archiad Terry.
Byddem oll yn fud yno am ryw bum' neu ddeg munyd cyn dechreu, yn edrych ar
ein gilydd. Taflai Terry edrychiadau yn awr ac eilwaith at y cloc, ac yna
syllai ar y pregethwr heb ddweyd gair wrtho, edrychai hwnw yn ol ar Terry mor
ddigyffro a delw. Teyrnasai distawrwydd dwfn ynu, distawrwydd Sabbath,
distawrwydd hen gapel Methodistaidd, cyn dechreu yr odfa, ond nid oedd yn
llethol; yn wir, yr oedd yn rhan o'r gwasanaeth, a buasai yn rhyfedd hebddo.
Ymhen tipyn wedi sylliad hir ar y pregethwr, dywedai Terry, “Mae'n well
dechra;" ac a'i y pregethwr i fyny. Rhyfedd mor araf fyddai pethau ar y
cychwyn; byddai'r canu heb ysbryd, ac hefyd heb lawrer o ddeall — y mae y
ddau hyn pan ar eu goreu gyda'u gilydd. Yr oedd yn ddyddorol sylwi ar Terry
yn ceisio canu ar ddechreu yr odfa. Nis gallai ond rhoddi ambell i ruad, yr
oedd fel aderyn yn ceisiocanu heb ddigon o wawr, ond rhoddai Terry yr ymdrech
i fyny, a boddlonai ar ddweyd, “Ia'n wir, hym, ha, ha," a churo'r JJawr
â'i fîön. Ond os byddai y pregethwr yn fiasus, ac ysbryd Terry wedi cynhyrfu
tipyn, canai yn iawn. Yr oedd ganddo lais godidog, a bloeddiai Terry ef
allan. Os oedd yn ddyddorol sylwi arno yn methu canu, yr oedd yr olwg arno yn
medru molianu yn foddhaol iawn. Pan fyddai'r gwynt yn llanw ei hwyliau,
cyfeiriai ei ysbryd allan fel Ilong ardderchog i foroedd mawl. Torai httn
emynau a thonau Cymreig ar
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 110. Chwefror 1894. Tudalen 42) (delwedd K0341)
(*11)
|
42 Y beibl a'r dargasfyddiadau dwyreiniol. draws ei ysbryd fel tònau dwyfol,
a dawnsiai enaid Terry arnynt, a nofiai drwyddynt i'r eangdiroedd draw. Ond
cofier, canai Terry, fel casglu, ar ei ben ei hun, — ni ddechreuai, na
diweddu gyda'r gynulleidfa. Pan fyddent hwy yn dechreu llinell, byddai ef yn
mwmian, “Diolch iddo, O, diolch iddo, ha, ha," ac yna tarawai i fewn ar
dop ei lais, a charlamai dros y llinell, fel ar wyllt, nes diweddu wed'yn o
flaen y bobl, a byddai yn eu disgwyl â “Ia'n wir, ha." Ai y gynulleidfa
yn y blaen â llinell arall, byddai Terry yn fud, a'i lygaid yn syllu ar nen y
capel, a golwg wylofus arno, fel pe wedi anghofio pobpeth, ond cyn y
cyrhaeddai y bobl ddiwedd y llinell, torai Terry i fewn drachefn fel taran
ardderchog, ai heibio fel cerbyd tanllyd, a byddai ar y diwedd yn aros a
“Mawl iddo, mawl iddo-o-o." Felly y canai Terry. Yr oedd ei ddull yn
ymddangos yn wrthun i ddieithriaid, ond i ni oedd yn ei adnabod, yr oedd y
peth mwynf naturiol. Yr oedd mor naturiol a'r storm, a'r anial gwylJt
cyfoethog. Yr unig amser y cyd-ddechreuai a'r gynulleidfa oedd pan fyddai yn
repeaiio. Byddai yn rhaid iddo wneyd yr adeg hono, oblegid efe fuasai yn ail
gychwyn. Yr oedd yr olwg arno yn gwneyd hyny yn ddoniol dros ben. Nis gwyddai
yn iawn lle i ddechreu, a rhoddai floedd aí random. Gwyddai y bobl beth
ydoedd yn ymofyn, a dechreuent y rhan olaf o'r dôn. Wedi cael y bobl i ail
ganu, ataliai Terry i gael gwaeddi, — nid yn uchel iawn, — "Diolch
iddo-o-o, Geidwad bendigedig," ac yna rhuthrai ar ol y gynulleidfa, a
daliai ac a'i heibio iddi hefyd, a repeatiai wed'yn. A chymerai hyn le,
sylwer, pan nad oedd neb mewn hwyl ond Terry ei hun. Byddai rhywbeth wedi
cyffwrdd â'i galon ef, nas gwyddai neb beth, os gwyddai ef ei hun, ond byddai
raid iddo gael dadblygiad, ac yna llusgai'r gynulleidfa gydag ef, weithiau
o'i hanfodd, bryd arall dan wenu yn ddigrifol; ond anfoddog neu ddiystyr,
rhaid oedd iddi dd'od, a chyn terfynu symudaify bobl gydag ef i hinsawdd cân
a mawl, nes y byddent mor anfoddlon i roddi i fyny a Terry ei hunan. Ar yr
adegau hyn byddai y neised goch a'r ffon o gryn wasanaeth, curai y ffon ar y
llawr ac ymddangosai hithau mewn cymaint hwyl a'i pherchenog.
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 110. Mawrth 1894. Clawr) (delwedd K0342)
|
3/
Cyf. x. Mawrth 1894. Rhif 110.
Tudalennau 77-81
Y Lladmerydd – Cylchgrawn yr Ysgol Sabbothol.
Dan Olygaeth y Parchn. J. M. Jones, Caerdydd, Evan Davies, Trefriw, a D.
Jenkins, Ysw., Mus. Bac. (Cantab)
…..
Dafydd Terry. Gan y Parch. Daniel Thomas, Ffynon Taf
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 111. Mawrth 1894. Tudalen 77) (delwedd K0343)
(*12)
|
77 DAFYDD TERRY.
GAN Y PARCH. DANIEL THOMAS, FFYNON TAF.
III.
Yr oedd Terry yn canu yn dda, neu yn canu yn wael; yn gorfoleddu, neu duchan.
Yr oedd yn byw yn myd yr eithafion, nis gallasai ganu yn gymedrol, yr oedd yn
rhaid iddo gyffwrdd y terfynau yn rhywle. Byddai . ei ymddygiad, felly, bob
amser, yn un amlwg, ac yn tynu sylw; weithiau oherwydd ei ragoriaeth, bryd
arall oherwydd ei ffaeleddau.
Ychydig mewn cymhariaeth yw y bobl hyn. Bydd corff mawr y ddynoliaeth yn
synhwwol, fel y dywedir; yn gwneyd yr hyn a ddisgwylir iddynt wneyd, a bydd y
disgwyliad hwnw yn un bach, addfwyn, a rhesymol iawn. Nid ydynt yn synu neb,
hyd yn nod eu hunain. Ant drwy y byd yn ddi-ryfeddu, yn dawel, a chryno, yn
wastad yn gwneyd yr hyn ddisgiuylir iddynt. Byddant bob amser yn weddaidd. Os
yn canu<, bydd hyny yn weddaidd, nid yn rhy uchel nac yn rhy isel. Os yu
gweddio, gwnant hyny yn hynod gryno, nid rnewn llawer o hwyl, nac ychwaith yn
fflat iawn. Chwareu teg iddynt. Y maent yn gwneyd y tro yn rhagorol ar bob
adeg, ond i ddiweddu cyfarfod gweddi. Y maent yn rhy ddibwys i'wneyd hyny. Yr
ydym yn caru clywed rhywun sydd yn gweled, os nad yn cyffwrdd a'r terfynau,
yn goiphen y cwrdd. Gyda'r eithriad hwn, y maent yn ddefnyddiol iawn. Gwnant
y tro i ddechreu odfa, neu i weddio yn y canol, neu i ddiweddu seiat. Y maent
yn hynod gyfaddas at y gorchwyl diweddaf hwn. Pan yn gwrando, y maent yn dwyn
yr un nodwedd. Edrychant yn wastad ar y pregethwr, — ni chysgant byth. Eto,
nid yw y pregethwr yn cael ei godi i fyny, na'i daflu i lawr drwy yr
edrychiad. Ac os byddant yn y pulpud, byddant yn rhyfedd gryno yno. Ni
phregethant yn rhagorol, nac ychwaith yn sal iawn. Yn wir, y mae yn rhaid
cael pregethwr a thipyn o faint ynddo i bregethu yn wael ìawn. Mae digon o
bregethwyr yn rhy fach i bregethu yn wael. Ni ddywedodd neb erioed am danynt
eu bod wedi pregethu yn dda, na neb eu bod wedi pregethu yn dlawd. Yr hyn
ddywedir yw eu bod yn gryno ac yn ftasus, neu, fel y dywedai Terry am danynt,
uyn iiìce" Llawer boreu Sabbath yr ydym yn ei gofio yn dweyd, wrth dd'od
i dy'r capel ar ol yr odfa, a'r ffon gydag ef, ac yr oedd hithau hefyd o'r un
farn, “'Rodd o yn gwneyd yn mce iawn, yn brysur ddigon.". Wrth nice,
meddyliai Terry yr hyn nad oedd yn dda nac yn ddrwg, — nad oedd flasus na
diflas, — peth heb neillduolrwydd mewn gwirionedd. Ni pherthynai ef i'r
dosbarth hwn, un o deulu'r terfynau, — un o drigolion yr eithafion oedd ef.
Byddai yn uchel neu yn isel, yn rhagorol neu yn hynod sal. Yr oedd yn
anmhosibl iddo fod yn gyffredin. Yr oedd hyn yn syndod mawr i Shenad yr hen
wraig: “'Dwi yn ffaelu deall," meddai, “na alla Dafydd ni fod fel dynion
erill. Ma fe'n wastad yn gwaeddi neu yn mwmian." Byddai hyn yn nghlyw
Terry, ac edryjhai yr hen wraig arno pan yn siarad, i weled a oedd y cerydd
yn cael effaith. Yr unig effaith gai ar Terry oedd peri iddo ddweyd
“Ha," a thynu ochenaid. Na, nid oedd bosibl i Dafydd fod fel
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 111. Mawrth 1894. Tudalen 78) (delwedd K0344)
(*13)
|
78 DAFYDD TERRY.
dynion eraill. Gwnai bobpeth yn anghyffredin, ar y naill du neu'r llall,
ynglyn a ch&nu, a siarad, a gweddio, ac hyd yn nod gwrando. Byddai yn
wastad yn eithafol. Yr oedd hyn yn d'od i'r golwg f wy yn ei ddull o wrando,
nac raewn unrhyw gylch neu orchwyl. Efe oedd y gwrandawr goreu a'r gwaethaf
welsom erioed. Llewyrchai sirioldeb dwyfol yn ei wyneb ambell dro, a diferai
geiriau na ddifwynent wefusau angel, o'i enau. Bryd arall, byddai ei wyneb
fel cors wlyb, ddigalon, a chwys oer yn crwydro ar hyd ei aeliau digysur, —
yn ol fel y teimlai yn union, hyny yw dweyd, fel y byddai y pregethwr. Os
boddlonid Terry, gwrandawai yn rhagorol, os anfoddlonid ef, gwrandawai yn
warthus. A'r' eglurhad o hyn yw ei fod yn gwneyd fei y teimlai. Nid oedd yn
meddwl am weddeidd-dra, ac arferion cymdeithas; digon iddo ef oedd ei fod yn
iêìmlo i gyfeiriad neillduol, a gweithredai felly. Drwy hyn, gwnai bethau
anweddaidd ac anarferol inwn weithiau; bryd arall, cyrhaeddai y bryniau
uchel, nes ein synu oll a'u gogoniant.
Wedi canu, safai Terry ar ei draed i wrando ar y testyn, nid am ei fod yn
fyddar, ond dyna fel y gwnai efe. Edrychai yn cldifrifol i wyneb y pregethwr,
rhoddai y ffon donc neu ddau ar y llawr. Yr oedd hithau ar ddechreu yr odfa
yn ddihwyl, ac felly yn dawel. Wedi clywed y testyn, disgynai edrychiad Terry
i lawr y set fawr; byddai ar ei draed o hyd, ond a'i wyneb tua'r ddaear, yn
meddwl am y testyn, ac fel pe yn dweyd, Fe wna y testyn y tro. Yna, ymhen
ychydig, troai i wynebu y gynulleidfa, ar ei draed o hyd. Syllai arnom, ond
nid oedd yn ein gweled ni, gwrando yr ydoedd ef yn ddigyffro, ac edrychiad
beirniadol yn ei wyneb, am ychydig funydau, fel pe buasai yn methu gwneyd ei
feddwl i fyny, pa un a'i da a'i gwael oedd y bregeth i fod. Yr oedd hyn pan
fyddai pregethwr cymharol ddieithr yno. Ond cyn hir, gwyddai Terry beth i
ddisgwyl, — deallai natur y bregeth cyn gwrando, ond ar ychydig o honi. A
darllenem ninau ei farn am dani yn natganiad ei wyneb. Os byddai y bregeth vn
wael, ciliai yr astudrwydd o'i wyneb, a dilynid ef gan ddigalondid; toddai
hwnw drachefn i, a chymysgai â, thosturi. Yr oedd gwyneb Terry yn awr fel
dydd heb ddisgleirdeb haul arno. Disgynai cornelau ei enau; parhai ar ei
draed, a pharhai i edrych ar y gynulleidfa; äi y ffbn dipyn yn fwy anesmwyth,
nid oedd hithau yn caru y bregeth, ac edrychai mor ddigalon a'i pherchenog.
Mewn enyd, symudai ei law tua chymydogaeth poced ei gôt, ac ymbalfalai yn
ddyfal am rywbeth, — chwilio am y neised goch ydoedd, ac ymhen tipyn deuai o
hyd iddi.
Rhaid i ni alw sylw at y neised goch. Yr oedd hon, fel y ffon, yn wastad gyda
Terry, ac yn llanw cylch amlwg iawn. Wedi cael gafael arni, yr hyn nid oedd
hawdd yn wastad, gwelsom ef yn llusgo cwt ei gôt o'i flaen, èr chwilio am
dani. Wedi d'od o hyd iddi, crynboai hi yn ei ddwrn, ac edrychai yn ddifrifol
arni. Newidiai gwedd ei wyneb, a gallesid meddwl ei fod wedi taro ar ffynon o
gysur yn y neised goch. Daliai ei ddwrn i fyny o'i flaen, a'r neised ynddo, a
syîlai arni fel pe buasai yn edrych am seren newydd yn y ffurfafen. Bryd
arall, edrychai gyda syndod, fel pe buasai newydd gael cipdrem ar yr Wyddfa
ar foreu teg. Bryd arall, edrychai mor dyner fel pe byddai brefiad oen bach
wedi
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 111. Mawrth 1894. Tudalen 79) (delwedd K0345)
(*14)
|
DAFYDD TERRY. 79
tori ar ei glustiau am y tro cyntaf yn y Gwanwyn, — y cwbl o'r neised goch;
rhyfedd ei gallu i wedd-newid. Byddai y pregethwr yn pwyo ei ffordd yn y
blaen, druan, a Terry a'i gefn arno yn edrych ar y neised yn ei ddwrn. Ar ol
goruchwyliaeth y dwrn, deuai un arall, sef lledu y neised, — agorai hi o
flaen y gynulleidfa ar led. Yr oedd hyn yn brofedigaethus iawn i Shenad yn
aml, oblegid wyddid yn y byd pa neised oedd gan Terry. Weithiau deuai a hen
un, yn dyllau i gyd; lledai Terry hono yn ddigywilydd, a dangosai y tyllau i
bawb — ffaeleddau Shenad. Bryd arall, byddai wedi d'od o hydi uu frwnt. Cai
hyny ei wneyd yn amlwg, fel pe buasai rinwedd. Druan o Shenad ar yr adegau
hyn. Yr oedd ymron methu cadw ei set, symudai yn anesmwyth oddeutu, edrychai
yn ofnadwy o finiog ar Terry, a cheisiai dynu ei sylw, ond i ddim pwrpas;
lledai Dafydd y neised a'i holl ddifíygion, fel pe buasai yn rhoddi allan
emyn. Wedi gorphen a'r neised, troai i edrych ar y pregethwr. Edrychai yn
wylofus, dechreuai gwyno, — gallesid meddwl fod pwysau'r byd ar ei war. Yr
oedd yn dda fod y pregethwr yn camgymeryd Terry. Meddyliai hwnw, druan, mai
cael ei ddwys-bigo gan y bregeth oedd, a chymerai galon wrth weled fod ei
weinidogaeth yn dwyn ffrwyth mor amlwg. Ond cwyno oherwydd y bregeth oedd Terry.
“Ha," meddai, ac “Ha" galarus iawn ydoedd. “0 dear me," meddai
wed'yn. Ac os byddai y bregeth yn wael iawn, gwaeddai, “O'm helpo'n y byd,
o'm helpo'i." Tosturiai Terry fel y mab afradlon, wrtho ei hun, ac ar yr
adegau hyn, pe buasai yn llefaru iaith ei galon, buasai yn dweyd, — “Pa sawl
gwas cyflog o'r eiddo fy nhad sydd yn cael eu gwala a'u gweddill o fara, a
minau yn marw o newyn." Nid oedd Terry yn leicio cibau.
Ond nid oedd Terry yn myned i aberthu ei hun drwy y gwasanaeth. Fel y mab
afradlon, codai, ac ai o'r set fawr, beth bynag. Yn y gauaf, pan yn yr hen
gapel, ai at y stove, agorai ddrws hono, ymaflai yn y procer, a stwriai y
tân. Sibrydai wrth yr hen wragedd fyddai yno, ac yr oeddynt liaws, ei bod hi
yn oer, fel pe buasai wedi myn'd allan o'r odfa. Dywedai wrth y plant oedd
yno, ac yr oedd yno grug o'r rhai hyny, am beidio llosgi. Ac yno yn yr odfa
fach wrth y tân, yn nghanol yr hen wragedd a'r plant, y treuliai Terry y
gweddill o'r cyfarfod. Byddai hyn yn y gauaf. Yn yr hâf amrywiai yprogramme
dipyn. Nid oedd bwrpas fyned at y siove yr adeg hyny, — nid oedd yno dân, na
hen wragedd a phlant; ond yr oedd yn ddeniadol y tuallan, — yr haul yn
disgleirio, yr awel yn adfywiol, yr hen ddaear yn ei gwisg siriolaf, ac nid
oedd yno bregeth annioddefol o wael yn cael ei thraddodi. Felly, yn Ile
gwneyd am y tân, cyfeiriai Terry ei gamrau tua'r drws; safai ar drothwy hwnw
am dipyn, yn gwledda ar yr olygfa, sef mynydd Pen Rhys. Ac hefyd clustfeiniai
ar y bregeth, — gael gweled a oedd hi ddim yn gwella rhyw faint, wrth fyn'd
yn y blaen. Oyn hir gadawai'r drws, a gwelid ef yn y fynwent, yn rhodio yn
freuddwydiol rhwng y ceryg beddau, heb ddim ar ei ben; dilynai y llythyrenau
arnynt a'i fŷs, llythyrenau enwau hen
gyfoedion oedd wedi bod yn cyd-weddio ag ef, oedd wedi dweyd eu profiadau
wrtho, ond yn awr oll yn ddistaw. Clywem ni ef oddifewn yn peswch ac yn
ocheneidio, ac yn siarad rhywbeth wrth y beddau, neu fel
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 111. Mawrth 1894. Tudalen 80) (delwedd K0346)
(*15)
|
80 DAFYDD TERRY.
y galwai efe hwynt, “Y meirw bach." Byddai gwychiad rhydlyd y glwyd, yn
ein hysbysu ei fod yn gadael y fynwent, ac weithiau deuai yn ol i'r capel ar
ei union oddiyno. Bryd arall, gwthiai ei ben i fewn i'r drws dipyn, i fod yn
siwr fod pobpeth yn myned yn y blaen yn iawn, ac yna cerddai yn gyflym i lawr
ar hyd alley y capel, efe a'r ffon, — byddai hi yn gwneyd mwy o stwr nag ef,
— a'i neised goch yn ei ddwrn, ac heb ddim ar ei ben, ac äi am dro, weithiau
am gryn dipyn o ffordd. Yr ydyni yn cofio yn dda un tro ei weled ar lan yr
afon, — yr oeddym ar y gallery, — rhyw haner can' llath oddiwrth y capel, yn
edrych o bobpeth yn y byd fel proffwyd — a phroffwyd gwyllt hefyd. Deuai yn
ol yn y diwedd. Clywem donc y ffon ar y ceryg, a chyn hir ar ol hyny swn
troed Terry; a gwnai ei ymddangosiad yn y drws mor ddi-seremoni, ac mor onest
a hamddenol, a phe buasai wedi gwneyd yr hyn ddylai pawb wneyd o dan bregeth
wael. Ai i fewn i'r set fawr; yr oedd hono wrth y drws, yn yr hen gapel; ni
edrychai ar neb, a safai o flaen y pregethwr, ac edrychai arno yn syn; deuai
y wedd wylofus yn ol i'w wyneb eto; dechreuai gwyno, a chlywid ef yn dweyd,
“O'm helpo'n y byd, o'm helpio." Wedi yrodroi ychydig oddiamgylch,
eisteddai i lawr, lledai ei neised goch dros ei ben.a chysgai yn drwm hyd
ddiwedd yr odfa. Ar dywydd gwlyb yr oedd dipyn yn fwy caethiwus arno. Nis
gallai fyned yn mhellach na'r drws, tynai hwnw ar ei ol, nes bod yn
gil-agored, a safai Terry yno, a'i draed yn y gwlaw, a phan ddeuai i fewn,
byddai ei wallt a'i farf yn wlyb. Yr oedd golwg fygythiol ar Shenad yr adegau
hyn, ac hyd yn nod yn y capel, cafodd lawer i ddarlith gan yr hen wraig.
“Gwelsoch chi Dafydd ni," meddai, ar ei ffordd tuag ato, “Gwelsoch chi e
yn sefyll yn y gwlaw 1 Welais i ei sort e erioed." Ac yna wrth Terry,
“Beth o chi yn aros yn y drws i wlychu, y------." Ymataliai, cofiai ei
bod yn y capel. Dyna fel y gwrandawai Terry pan fyddai pregethwr gwaei yn y
Ddinas. Yr oeddtyn ddyledus arno felly wrando yn rhagorol pan fyddai yn cael
ei foddloni, ac felly y gwnai. Mae'n wir nad oedd pawb oedd yn d'od i'r
Ddinas yn perthyn i'r ddau ddosbarth o bregethwyr, sef mawr a bach. Yr oedd y
mwynfrif oedd yn cyrchu yno rywle rhwng y ddau, — rhy fawr i fod yn fach, a
rhy fach i fod yn fawr, — ac felly yn byw ar haner y ffordd rhwng y ddau radd
hyn. Ond fel y byddai y pregethwr yn gyffredin, byddai ytnarweddiad Terry,
fel gwrandawr, yn cymedroli. Ni edrychai mor wylofus; ai at y stove, mae'n
wir, ond ni arhosai yno drwy yr odfa, deuai yn ol i'r set fawr, a phan yn
inyned allan yn yr hâf, deuai yn ol yn llawer cynt; ac yn lle cwyno, dywedai
Ho, a fía, nad oedd yn meddwl dim: ac yn lle dweyd '• Ò'm helpo,"
dywedai “Felly, ia yn wir," a byddai'r ffon yn holíol lonydd, a'r neised
goch heb ddim i wneyd.
Ond o dan bregethwr teilwng o'r enw, yr oedd yn werth ei weled yn gwrando.
Goleuài ei wyneb dan dywyniad mwynhad mawr, a byddai ei lygaid a bywiogrwydd
boreu oes ynddynt; byddai ei deimladau yn fawreddog ac hamddenol, fel tonau
na sydd byth yn tori ond yn nofio yn eu cyfanrwydd dros wely yr eangder, ac
yn cario nerth anorchfygol ynddynt. Nid oedd Terry byth yn colli ei hunan, —
yr oedd yn anghofio ei hun yn aml, ond byth yn ei golli. Yr oedd ei deimladau
yn ddwfn a
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 111. Mawrth 1894. Tudalen 81) (delwedd K0347)
(*16)
|
DAFYDD TERRY. 81
llydan, a digon o le iddynt i droi a symud heb dori dros y llestr. Felly yr
oedd mor araf pan yn canmol a phan yn cysgu. Edrychai ar y pregethwr fel
arferol i wrando ar y testyn, a hyny ar ei draed, Ond nid oedd yno betrusder
yn ei wyneb yn awr, ond gwen gysurus, fel un yn sicr o newydd da ar fyr i
dd'od. Ni ai at y stove, nac allan ychwaith, ond arhosai yn y set fawr. Ar
ddechreu y bregeth, gwenai mor sirio), mor gariadus, ac edrychni i wyneb y
pregethwr, fel tad hoff i lygaid ei hoff fachgen. Fel yr äi y pregethwr yu y
blaen, a chynesu tipyn, torai Terry i ryw haner chwerthin, “Ha, ha,"
meddai. Troai at y gynulleidfa, ond nid edrychai arni; byddai ei lygaid i
fyny, a'r ffon yn rhyfedd o anesmwyth. Un hynod oedd ffon Terry. Yr ydym yn
credu ei bod ar y cyfan yn dduwiol, ond nid oedd yr hen Adda wedi marw o gryn
dipyn ynddi. Pan fyddai yno bregethwr cyffredin, cysgai ni symudai. Pan
fyddai yno bregethwr gwael iawn, yr oedd inewn tymer ddrwg; curai y hawr yn
gâs ddigon. Ond chwareu teg iddi, pan gaííai bregeth dda, yr oedd yn mwynhau
ei hun tuhwnt; curai y llawr y pryd hwn, ond curai yn garuaidd, ac ysgydwai
ei phen o amgylch lawer. O dan bregeth wael neidiai i'r lan ac i lawr yn
syth; ond o dan bregeth dda, ymroliai oddeutu, wedi ei meddianu gan
deimladau. Byddai'r ffon yn ddangoseg o deimladau Terry. Ysgydwai hi ei phen
fel y codent hwy. Fel y codai y llanw, ciliai y sinoldeb o'i wyneb; ai yn fwy
difrifol, .ac ambell i fflachiad o syndod dwyfol yn pasio drosto. Clywid ef
yn awr yn dweyd, “Felly, O rhyfedd." Troai yn ol ac ymlaen bob yn ail at
y pregethwr a'r gynulleidfa. Erbyn hyn, byddai y difrifwch yn araf fachlud
o'i wynebpryd, a gwawr hedd yn egwan dori ar ei ol. Deuai y neised goch allan
hefyd o'i logell, a dringai i fyny ei ruddiau i sychu deigryn newydd ei eni.
Ysgydwai y ffon ei phen yn llawer llai, ond neidiai lawer yn uwch erbyn hyn.
Mewn eiliad dyma floedd, hyfryd, swynol, “Geidwad Bendigedig, O! ryfedd ras.
Diolch iddo." Nid oedd yn uchel nac aflafar, ac yr oedd yn cydseinio i'r
dim â llais y pregethwr. Teimlem fel pe byddai drws y nef wedi ei agor a'r
awelon, yn rhuihro i fewn.
Dylanwadai teimladau Terry ar y pregethwr; taflent ef i fyny fel tonau
ewyllysgar, a dylanwadaì yntau yn ol ar Terry drachefn nes y byddai ef yn
dweyd lawn cymaint a'r pregethwr. Weithiau edrychai ar y gynulleidfa,
gwaeddai, ond heb rwystro y pregethwr, “Yr iachawdwriaeth fawr. Yr
iachawdwriaeth faw-w-wr." “Mae fe yn harddach na mil miloedd."
Byddai'r ffon yn dweyd Amen yn ddigon croew ar y llawr. Yna troai at y
pregethwr a dywedai, “Eitha' gwir, was anwyl; eitha' gwir. 'Rwyt ti'n gweid
yn rhagorol. Dal yn mlân, dal yn mlân." Byddai'r neised goch yn ddiwyd
iawn yn awr yn gofalu am y dagrau.
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 112. Ebrill 1894. Clawr) (delwedd K0348)
|
4/
Cyf. x. Ebrill 1894. Rhif 112.
Tudalennau 104-110
Y Lladmerydd – Cylchgrawn yr Ysgol Sabbothol.
Dan Olygaeth y Parchn. J. M. Jones, Caerdydd, Evan Davies, Trefriw, a D.
Jenkins, Ysw., Mus. Bac. (Cantab)
…..
Dafydd Terry. Gan y Parch. Daniel Thomas, Ffynon Taf
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 112. Ebrill 1894. Tudalen 104) (delwedd K0349)
(*17)
|
104 DAFYDD TERRY.
GAN Y PARCH. DANIEL THOMAS, FFYNON TAF.
IV.
Er fod Terry pan yn y capel yn dangos yn egîur ddigon ei ddibrisdod o
bregethu gwael, a'i werthfawrogrwydd o bregethu da; eto, pan ddeuai i dŷ'r capel, diflanai yr
amrywiaeth teimlad hwn, yn ei ymddangosiad beth bynag, nes y gallesid tybied
fod yn llawn cystal ganddo bregeth wael a phregeth alluog. Ni ddiraddiai yr
eiddil, ac ni or-ganmolai y werthfawr. Llawer boreu Sabbath, ar ol yr odfa,
pan fyddai y pregethu wedi bod yn hynod sâl, a'r brodyr yn tynu'r
llinyn dipyn yn dỳn
dros y bregeth, fel bai yn rhy fyr i fesur ei ffaeleddau — yn absenoldeb y
pregethwr wrth gwrs, ac yr oedd yn dda nad oedd yno druan yn clywed, — y cwbl
ddywedai Terry oedd, “Llestar ysgon, llestar ysgon," ac yna dilynai â
“Ond dyna, falla' i fod o yn g'neyd ei ora', a ma' rhaid i ni gofio i fod o
yn was. Ma' fo yn y winllan." Rhoddai hyn derfyn, fel rheol, ar y mesur.
Yna elai Terry i room y front at y pregethwr, a chyfarchai ef gyda “Shwd i
oh'i heddy', frawd bach;" a mygai fwgyn cyfeillgarwch gydag ef, fel pe
buasai y pregethwr yn Elias o Fôn.
Yr oedd Terry, fel y Testament Newydd, yn gwneyd gwahaniaeth rhwng y pechod
a'r pechadur, a thra yn annioddefol wrth y naill, yr oedd ganddo drugaredd
tuag at y llall. Nis gallasai oddef pregeth wael, ond jr oedd yn aml yn
ffrynd tirion i'r pregethwr di-nod. O'r ochr arall, nid oedd ar ei liniau yn
barhaus o flaen y pregethwr mawr, yn cynyg yr addoliad mwynf gwasaidd iddo,
ac yn gofyn cael datod carai ei esgidiau fel cârdod o anrhydedd. Bydd llawer
yn gwneyd hyny; casglant y tipyn j>arch a'r serchogrwydd sydd ganddynt oll
i un ochr o hono, yr ochr gryfaf a'r un anrhydeddus. Taflant hwynt wrth draed
ÿr enwog a'r galluog. Önd am y gwael a'r di-nod, y creaduriaid tlawd,
di-allu, sydd yn aml, os nad fynychaf, fel y dywedai Terry, “yn g'neyd i
gora," sangant arnynt hẁy. Yr oedd Terry, beth bynag, yn gallach na hyn; rhanai ef y
parch a'r serçhogrwydd, a chaffai y di-nod dipyn o honynt. Yn wir, byddai yn
aml yn fwy hallt wrth y pregethwr mawr. Yr ydym yn cofio un ẃyl flynyddol y cawsom
engraifft ddigamsynied ddigon o hyn. Yr oedd y Parchn. WiIIiam Prydderch,
Goppa, a Robert Jones, Treherbert (yr adeg hono), yn pregethu, ac yr oedd
disgwyliad mawr wedi bod am danynt; ond odfa ddi-lewyrch ddigon oedd y
gyntaf, át foreu Sabbath. Cysgodd Terry drwy ran helaeth o'r gwasanaeth, — y
ffordd esmwythaf, yn ddiddadl, i fyned drwy gwrdd diflas. Wedi i'r odfa
ddarfod, a myned i'r tŷ, — tŷ
Terry, yr oedd y ddau bregethwr yn aros gydag ef, — ac eistedd lawr, trodd
Terry atynt, ac wedi syllu arnynt dipyn, dywedodd, “Wel." “Wel"
awgrymiadol iaẅn
hefyd, yr oedd rhÿwbeth yn d'od. Ond yr oedd yn rhaid i Terry gael amser i'w
ddweyd. Yna cymerodd seibiant, fel pe bai gan y “Wel" dipyn o waith i'w
wneyd, ac fel pe b'ai am iddo gael digon o amser at ei orchwyl, Tynodd Terry
y
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 112. Ebrill 1894. Tudalen 104) (delwedd K0350)
(*18)
|
D£FYDD TEBEY. 105 bibell allan o'i logell, aç wedi ei llanw, edrychodd o'i
gwmpas am rywbeth i'w thanio. Yr oedd Shenad yn gomedd matches iddo;
“Waith," fel y dywedai, “fe losgai lon'd ca' o fatches tai o yn cael
gafa'l arnyn' nhw." A 'doedd raid i Terry druan ond eärych i gyfeiriad y
shelfi dynu oddiwrth Shenad, a hyny gyda Ilymder mellten, “'Nawr, Dafydd,
uswch bapyr." Ac felly y byddai yn rhaid gwneyd. Ond gan nad oedd hwnw
wrth law bob amser, byddai raid aros tipyn am dano, a gorfu i Mr. Prydderch a
Mr. Jones y boreu hwn aros cryn amser ar ol y “Wel,r ragarweiniol. Ond
hysbysai y cymylau mŵg oedd yn duo'r lle, fod Terry yn barod, a chan droi at y ddau
bregethwr, aeth yn ei flaen: “Fe ddisgwyliais betha' mawr heddy'. 'Roedd yma
son wedi d'od, son am fawredd, ond fe geso'in siomi, welais i ddim o fe,
ddim." Yna mygai a'i holl egni. Ceisiodd y ddau bregethwr esgusodi eu
hunain âg
esgusodion. Mwmianodd un o honynt nad oedd ef yn honi hawl i fawredd.
Ceisiodd y llall egluro fod “arddeliad “yn yr odfa yn dibynu ar y presenoldeb
dwyfol; awgrymodd fod yr Ysbryd, am ryw reswm neu gilydd, wedi peidio d'od
i'r cwrdd y boreu hwnw, ac mai dyna y rheswm fod yr odfa mor ddi-lewyrch. Ond
heb gymeryd sylw yn y byd o honynt, ychwanegodd Terry, “Rhaid i ch'i wella,
wnaiff hi mo'r tro, rhaid i ch'i stico a stico cetyn hefyd y'ch doi."
Rhoddodd bwyslais neillduol ar y "doi" fel y dywedai ef, er
argraffu arnynt fod y naill fel y llall o honynt wedi pregethu yn rhyfeddol
wael.
Ni chlywsom Terry yn dweyd cymaint a hynyna wrth yr un pregethwr cyffredin, a
chwareu teg iddo, wrth i'r pregethu wella y dydd hwnw, a gwella wnaeth nes yr
oedd yn cario dylanwad mawr yn odfa'r hwyr, newidiodd Terry ei dôn; ac ar
ddiwedd y dydd, wedi dychwelyd i'r tŷ, cyn tanio ei bibell hyd yn nod, nieddai, “De'wch yn y bla'n frodyr
bach, eisteddwch i lawr, ch'i wnaethoch brogras heno, ch'i well'soch. Fe
geso'n gipdrem ar y mawredd, mawredd gwell na mawredd dyn, y mawredd mawr ei
Hunan;" a chan droi at Shenad, haner waeddai, “Shenad, ma' nhw wedi
enill swpar ond di nhw? “" Odin ddwsin o nhw," oedd atebiad yr hen
wraig. Ond cyn swpera, collwyd golwg ar Terry a'r ddau bregethwr mewn cymylau
o fŵg.
Feallai yn y fan hyn, y byddai cystal dweyd gair am Shenad, ac hefyd am Pegi
oedd yn cadw tŷ'r
capel. Yr oedd gan Shenad dafod pica, fel y dywedwn. Nid oedd yn dafod drwg,
nac yn dafod enllibgar na maleisus, ond yr oedd yn finiog, ac yr oedd Shenad
yn gwneyd defnydd helaeth o hono. Er hyn i gyd, nid oedd yn gwneyd gelynion.
Fel arall yw hanes pobl y tafodau miniog yn gyffredin, a mawr yw'r gŵg mae ambell i dafod yn
dynu ar ei berchenog; eto ceir yma a thraw rai yn ddigon ffodus i ddianc rhag
dialedd troseddau'r tafod, ac yr oedd Shenad yn un o'r cyfryw. A'r rheswm am
hyn fe ddichon oedd ei bod hi yn well na'i thafod. Ac hefyd, ond i ni sylwi,
cawn fod pobl y tafodau miniog yn bobl pur dda ar y cyfan, ond eu liadnabod.
Rhaid yw tori trwy lawer. o (îrawster geiriau yn aml er d'od o hyd i'r wybodaeth hon, ac y
mae llawer yn digaloni ar haner y ffordd, ac yn byw o ganlyniad mewn digter;
ond os gellir dyfalbarhau a myned trwodd, çeir fod y drain bron i gyd y
tuallan, ac os rhaid cael drain o gwbl, mae yn well eu bod yno. Yn
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 112. Ebrill 1894. Tudalen 106) (delwedd K0351)
(*19)
|
106 DAFYDD TERRY. ychwanegol at hyn, yr oedd rheswm arall dros y rhyddid
lleferydd a arferai Shenad ynghylch trefniadau'r capel, yr oedd yn wraig i
Terry,, ac yr oedd Terry yn flaenor, ac fel y mae brenin yn gwneyd ei gymar
yn frenhines, felly mae blaenor yn trawsnewid ei gymar yntau hefyd i ryw
gymaint o flaenores. Yn y dyddiau presenol, cymer gwraig y bugail y prif le.
Nid oes raid i ni edrych yn bell iawn yn ol i ganfod amser pan nad oedd yr un
bugail na'i wraig — os oedd un ganddo — yn y golwg; byddai pregethwyr a
gweinidogion yn gwasanaethu ar y Sabbath, ac yn byw fel aelodau eraill yn y
capelau yma a thraw ar hyd y wlad. Ond yr oedd gofal yr eglwysi yn gorwedd ar
ysgwyddau llwydaidd a chadarn yr hen fìaenoriaid; hwy oedd yn trefna, a hwy
oedd yn llywodraethu, ac y mae y wedd lewyrchus sydd ar braidd Methodistiaeth
yn dangos eu bod wedi bugeilio yn bur dda. Disgynai ychydig o belydrau
anrhydedd y set. fawr ar wraig y blaenor, a theimlid gan ei chwiorydd fod
rhinwedd y swydd yn ei gwisgo â thipyn o ragoriaeth, ac ar achlysuron, deuai
hyn i'r golwg.
Nid oedd Shenad yn eithriad i wragedd eraill yn yr un sefyllfa; elai i fewn
ac allan yn ddirodres ddigon, fel rheol, gan gadw gwraig y blaenor o'r golwg,
a datguddio yn unig wraig Terry. Ond yr oedd gwraig y blaenor yn Shenad serch
hyny, ac yn awr ac eilwaith gwnelai ei hymddangosiad. Yr adegau hyn oeddynt
ei hymweliadau â Pegi'r Ty'r Capel.
Yr oedd Pegi a Shenad yn bartners mawr, yr oeddynt yn tywallt eu beichiau y
naill i arffed y lla.ll. Byddai Shenad yno yn aml yn achwyn ar Dafydd yn
neillduol, a'r blaenoriaid yn gyffredinol, — nid am ei bod yn gas ganddi neb
o honynt, ond yr oedd yn rhaid gwneyd rhywbeth, ac hefyd i Shenad drin
rhywun, ac yn benaf y rhai a garai fwynf. Byddai Pegi, yn ei tnro, hithau yn
tywallt llwyth o flinderau glanhau y capel, ac ymddangosai y rhai hyny yn
casglu yn gynt nag y gallasai Pegi eu gwaredu. Hen gymeriad hynod oedd Pegi;
yr oedd yn meddu ar neillduolion personol cryf; yr oedd o alluoedd eang; yr
oedd yn gadarn iawn yn yr Ysgrythyrau, ac yn anadlu awyr y flydd iachusaf.
Nid oedd mor finiog a Shenad, ond yr oedd yn cario tipyn o bwysau. Trafferth
fawr Pegi oedd y capel. Yr oedd yn hobby ei bywyd i gadw'r capel yn lân, yn
wir nid capel ydoedd iddi hi ond Ty Dduw, ac yr oedd presenoldeb y tipyn
lleiaf o laid ynddo, yn ei golwg hi, yn difwyno ei sancteiddrwydd, ac yn pylu
tanbeidrwydd ei ogoniant. Achwynai felly yn fawr fod y plant yn “trochi"
cymaint arno, a'r “creaduriaid gwyllt pen hewl" yn gwneyd y fath le yn y
cysegr. Scrwbíai lawer ar y capel, ac yr oedd o ganlyniad yn myned drwy gryn
dipyn o sebon a brushes. A chan fod y blaenoriaid dipyn yn ddiofal weithiau
ynghylch y trugareddau hyn, byddai Pegi yr un mor fynych yn dioddef prinder o
honynt, ac i glûst Shenad y tywalltai ei chwynion. Yr oedd Shenad ar ei rhan
hithau yn troi y glust dyneraf, os oedd un glust yn dynerach na'r llall, i
gwynion Pegii ac yn aml yn rhagori ar Pegi yn ei chondemniad o'r blaenoriaid.
“Waith “fel y dywedai Shenad, '" 'w i yn byw gyda nhw, ac yn i nabod nhw
yn well."
Ar foreu neillduol, aeth Shenad y tuhwnt iddi ei hunan yn y cyfeiriad hwn, er
fod yn rhaid iddi fyned gryn bellder i wneyd hyny. Yr oedd
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 112. Ebrill 1894. Tudalen 107) (delwedd K0352)
(*20)
|
DAFYDD TERRY. 107
Pegi yn dioddef yn fawr o newyn brushes a sebon. “Edrychwch yma," meddai
wrth Shenad, gan ddangos brush nad oedd mae'n wir yn addurn i'w hiliogaeth,
“hwn sydd geni i scrwbio'r capel, ma fe wedi treulio yn bren; ac hefyd y ddau
dro diweddaf 'wi wedi gorfod usio sebon fy hunan i olchi y capel, a ddaw y
blaenoriaid a dim i fi." Gwasanaethodd y brush llwm fel cadach goch i
Shenad, a chan sefydlu ei llygaid arno, a chodi ei llais a'i dwylaw, meddai,
“Y gwarchod auwyl! gwddoch chi, Pegi, mae'n gwestiwn gen i a oes gras yn i
c'lona' nhw. Y nhw sy'n siarad am godi'r grôs, a ddwan nhw ddim a brush grôt
at y capel. Gwddoch chi, Pegi, blaenoriaid yw'r dynon rhyfedda r'wi wedi
gwrdd eriod, a r'wi wedi cwrdd a llawer sort hefyd, ond weles i sort nhw
eriod, eriod. Dyna Dafydd ni, r'wi wedi bod oddiar i ni yn briod, — a gweyd y
gwir 'rown i wedi dechreu cyn hyny — yn ceisio pwnio tipyn o sense idd i ben
e, sense byd r'wi feddwl, mai digon o sense cre/ydd gento fe, a gormod
weithia. Ond i chi yn credu y mod i wedi llwyddo a dodi tipyn fwy yn i ben e
1 Nag w fawr. Does dim shwd beth a'i gael e i wnythyr dim. Chretwch chi y
drafferth geso' i ys lawer dydd i gael gento i dori coed tân bora i fi. A
rhyw noswith yn lle poeni ag e', fi gymras y fwynll yn ym llaw a fi etho
ima's i'r beifì, a fi ddechreuas i tori nhw fy hunan, cnd ys gwelwch chi yn
dda pan welws e hyny, dyma/è yn dod, ac yn tynu y fwynll o'm llaw i ac yn i
tori nhw i hunan, ac os i chi yn y man yna, ma fe wedi i tori nhw byth oddiar
hyny, ond y noswaith oedd eo^yny Cwrdd Misol. Rhai rhyfedd yw blaenoriaid, ac
os bydd eisia rhywbeth arno i yn awr, dw i yn rhoi dim llonydd iddo, r'wi yn
i boeni o nes bo fi yn i gâl o."
“Ië," meddai Pegi, “ond dalla i ddim bod mor rhydd a chi."
“Yn wir," atebodd Shenad, “rhaid i chi fod yn iawnda onte chewch chi
ddim. ' Rhai sy'n ceisio sydd yn cael,' meddai' Scrythyr chi wddoch. Gwddoch
chi, nhw adawan i chi fyn'd am flwyddyn heb betha, iddi nhw gâl sefyll yr
arian; rhai ofnadwy am arian yw blaenoriaid. dyna ffordd i ni yn casglu
cymaint." “Beth mae Dafydd yn weyd pan bo chi yn i boeni fe?"
gofynai Pegi. “O," meddai Shenad, “towli adnod ato i, adnoda ma fe'n
wastad yn i dowli, a dyw rheini ddim yn gnythur llawer o les, chi wddoch;
'Caffed amynedd ei pherffaith waith,'a geiriau fel yna. Yn wir r'wi'n meddwl
fod amynedd wedi cael digon o waith yn barod. Fe wn i hyn, — thorws amynedd
goed tân boreu i fi erioed; ddaeth atnynedd a dilledyn o'r shof> i fi
erioed, na dodi pryd o f wyd ar fy mord i. Amynedd yn wir! “Aeth Shenad yn ei
blaen, “Pwy amynedd all olchi llawr capel a brush wedi colii i ddanedd i
gyd?” “Dalla i ddim yn wir," ochneidiai Pegi. “Gwddoch chi,"
ymhelaethai Shenad, “r'win ffaelu deall beth sydd ar y blaenoriaid. Dynion
tiäy, oedd yn eithaf sensible cyi> iddi nhw fyn'd i'r set fawr, ond wedi
iddi nhw fyn'd yno, ma nhw yn altro i gyd. Di nhw ddim yn eistedd yr un peth,
a ma nhw'n peswch ac yn clirio'i gyddyca fel ta'r quinsy arni nhw; ac yn
stretchio'i brycha ar gefan y set. Y gwarchod ni! wn i ddim beth sydd arni
nhw." “A ma nhw mor stiff, dyn," prysurai Shenad, “fel ta'r flaenoriaeth
yn rhyw lecyn ar i pena nhw, ac ofan symud arni nhw rhag iddo dwmlo
lawr." “Peidiwch chi a bod a'u hofan nhw," ài Shenad yn y blaen,
“Fi wn beth i weda nhw wrtho chi, nhw weda'n am gymeryd pwyll. Pwyli
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 112. Ebrill 1894. Tudalen 108) (delwedd K0353)
(*21)
|
108 DAFYDD TERRY.
beth fe leiciwn glywad. Pwyll beth? Gwddoch chi 1 '■ gofynai i Pegi. “Na wn i yn wir," meddai hono. “Dyna 'wi
yn ofyn i Dafydd ni, waith ma fo yn wastad yn wl'ia am bwyll,"
ychwanegai Shenad. “Mae rhaid cymeryd amser weitha wrth gwrs, ond y ma cetyn
o wahaniaeth rhwng amser a phwyll; ond ma haner y blaenoriaid wddo nhw ddim
gwahaniaeth rhwng amser a phwyll. Poenwch chi nhw, ac os bydda nhw yn cymeni,
gwnewch fel y fi, gadewch iddo fyn'd i mas trwy y glust arali cyn bo fo i
mewn yn y glust gyntaf."
Traddododd Shenad yr araeth hon yn fwy dan deimlad o gydymdeimlad a Pegi, nag
o ddigter at y blaenoriaid, oblegid nid oedd un gwaith yr oedd yn fwy hoff o
hono nac arllwys tê blasus i gwpan blaenor ar adeg Cwrdd y Dosbarth.
Pan aeth Shenad tua thre' y prydnhawn hwnw, mae'n debyg iddi roddi ail
adroddiad o'i phregeth yn Nhy'r Capel, i Dafydd, gyda thipyn o fwstard a
phypyr tafodol yn cael ei daflu i fewn. Yr oedd yn amlwg fod ystorm yn
ymgasglu o gylch pen Terry o gyfeiriad Pegi a Shenad; ac ar ben Terry yr oedd
yr ystorm i dori, waeth efe yn nhyb y ddwy hen chwaer oedd y blaenor, — rhyw
fath o gynorthwywyr iddo ef oedd y blaenoriaid eraill. Terry oedd y blaenor,
ac ni fu raid iddo aros yn hir am brawf o'i gyfrifoldeb.
Yr oedd Pegi yn disgwyl am ymweliad oddiwrtho i Dy'r Capel, i gael dechreu
“poeni," fel y cynghorai Shenad, ac ymhen diwrnod neu ddau, dyma Terry
yn d'od, y ffon ac yntau, ac yn taflu “Shwd i chi heddy'? “o'i flaen cyn ei
fod haner y ffordd i lawr y passage, ac yn araf ddyfod ei hunan ar ol y
cyfarchiad. Mwmianodd Pegi yn ol ei bod yn “weddol a chysidro," a chyda
ei fod yn y golwg, dechreuodd arno — “Mae'n bryd i chi dd'od, Terry,"
meddai. “Fu Shenad yn gweyd wrtho chi am y irushes?” “Wn i beth fi hi yn
wêd," atebodd Terry. “Ki chi y blaenoriaid yn warth i'r achos, ffordd
gallwch chi erfyn llwyddiant na bendith ar yr achos, a shwd jrush gen i i
lanhau'r capel 1 “Chi gewch ei wel'd e yn awr," meddai Pegi, ac aeth i
gyrchu yr offeryn di-ras hwnw, ond erbyn iddi dd'od yn ol, a'r brush afradlon
yn ei llaw, doedd yno yr un Terry. Agorodd Pegi ei llygaid mewn syndod, ac
wedi edrych o gwmpas a sefyll yn syn am eiliad neu ddau, rhuthrodd i'r drws,
ac oddiyno gwelodd Terry ŷn myn'd ar garlam i fyny yr heol. Yr oedd wedi dianc.
“Wel," meddai Pegi dan gwmwl o siomedigaeth, “ma Shenad yn eitha right;
blaenoriaid yw'r creaduriaid rhyfedda yn y greadigaeth, mae nhw yn cilio a
phobpeth; does dim na wnan' nhw, ond fe gaiff i wel'd e' ac edrych arno hef
yd," — sef
y brush.
Bu Terry ddau neu dri diwrnod cyn galw yn Nhy'r Capel ar ol hyn; ond cyn iddo
gael amser y tro hwn i ddweyd “Shwd i chi heddy'," aeth Pegi ynglyn ag
ef; yr oedd arni ofn iddo ddianc eto, a phenderfynodd felly i brynu'r amser.
Hefyd, teg yw dweyd, yr oedd dipyn yn ddrwg ei hwyl y boreu hwn. Meddai,
“Cerwch i'r capel Dafydd; edrychwch ar y llaid sydd yna oddiwrth draed
dynion. Cerwch i fewn, i chi i gael i wel'd e'. Wi wedi gofyn gant o weithiau
auafat i ddodi wrth y drws, a di chi yn gweyd dim mwy o sylw na thawn i bren.
A beth oe'ch chi yn cilio y dydd o'r blân? Oedd ofan y brush arnoch chi
î" — y cwbl bron ar
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 112. Ebrill 1894. Tudalen 109) (delwedd K0354)
(*22)
|
DAFYDD
TERRY. 109
un anadl. “Peidiwch a mhoeni i Pegi," meddai Terry yn y diwedd mewn
llais llym, yr oedd yn dechreu chwerwi. “Pwy boenai te, beth mae blaenoriaid
da?” gwaeddai Pegi yn ol. “Poenwch y blaenoriaid eraiil os ydych chi yn
penderfynu poeni," rhuai Terry. “Ffordd galla i," meddai Pegi, yn
dechreu lleddfu, “a'r dynion wrth eu gwaith?” — awgrym i Terry nad oedd ef yn
gwneyd dim. “Dyw pawb ddim yn segura Dafydd bach," meddai yr hen wraig y
bigog, a chan gasglu nerth, aeth yn y blaen, “Chi wddoch chi Dafydd
—"ond cyn iddi orphen, trodd Terry ar ei sawdl, a ffwrdd ag ef.
“Dafydd," gwaeddai Pegi, “ble chi'n myn'd, peidiwch cilo heddy' eto,
Dafydd, sefwch eich tir ddyn, sefwch eich tir." Ond yr oedd Terry
wedi penderfynu mai gwell oedd peidio sefyll tir. “Wel, wel," meddai
Pegi wrth ddychwelyd i'r tŷ, wedi ei maeddu
yn làn gan branciau Terry, a chan
dywallt ei dwylaw ar led, “Blaenoriaid!! b!aenoriaid!! mae nhw'n warth i'r
ddaear."
Bu Terry gryn amser ar ol hyn cyn galw yn Nhy'r Capel, a phan fyddai
yn myned heibio, i fyny ac i lawr yr heol, cadwai yr ochr bellaf, a byddai'r ffon ac yntau yn brysio'u cerddediad. Ondymhen
tymor, fe ddaeth drachefn. Yr oedd Ty'r Capel bron yn gymaiut o gartref iddo
ef ag oedd ei artref ei hun, ac nis gallai gadw draw. Ehoddodd y ffon ei
throed ar gareg y drws ryw foreu eto, a Terry ei droed yntau ar ei hol; yr
oeddent i'll dau dipyn yn ofnus, — heb wybod fath dywydd oedd yn eu haros, ac
hefyd yn gymodlawn, yn d'od ag offrwm heddwch gyda hwy. Daeth Terry i'r tŷ ac eisteddodd i lawr yn y
gadair freichiau, fel arfer, ond heb ddwedyd “shwd i chi heddy' “y boreu hwn.
Ni chymerodd Pegi arni ei bod yn ei weled, a symudai yn drwstfawr iawn o
amgylch y tŷ. Teimlodd Terry ar unwaith
fod y farn yn aros. Ond yr oedd am gael siarad â Pegi, a thaflodd i
ddechreu, beblen o “hym," ar ia distawrwydd i dreio ei drwch; ond
llithrodd hono ar hyd ei wyneb heb wneyd yr argraff leiaf. Tynodd ei bibell
allan, llanwodd hi yn araf, a dechreuodd fygu mewn distawrwydd ag oedd dipyn
yn lethol. Ymhen tipyn, gwnaeth ymdrech i dori'r ia. Meddai, “Dyna wynt wnath
hi neithiwr." Ond ni chymerodd Pegi ronyn o sylw o hono. Wedi disgwyl yn
ofer am atebiad, dyferodd "hym" arall oddiwrth Terry, ac ar ol cryn
ddistawrwydd, gwnaeth ymgais arall, “Chwythws hi lawer yma?" Dim ateb.
Ond gallesid meddwl fod daeargryn yn y lle, gan y swn wnai Pegi â'r dodrefn.
“O'm helpoi'n byd “murmurai Terry ar hyn, a chan droi at yr hen wraig, cododd
ei lais, ac mewn tôn gymodlawn, dywedodd, "Pegi, beth wn i am
fricshes" "Pwy wyr te?" meddai Pegi yn ol y tro hwn, ond yn
ddigon cwta. “Hym," meddai Terry, ac mewn eiliad arall, “Ble mae i cael
nhw?" “Yn y shop," atebai Pegi. “Shop pwy f' Gofynai Terrÿ. “Shop
Dafydd Hwal," meddai Pegi eto. “'Down ni'n meddwl
taw blawd oedd Dafydd yn werthu," ychwanegai Terry. “Blawd," meddai
Pegi. “Blawd?” “Ble gwelsoch chi Shop grocer
yn gwerthu dim ond blawd? Ond 'di nhw yn gwerthu caws a menyn, halen a
mwstard, a blacking a matches, a chant o bethau." "A
brwshus?" dodai Terry i fewn. “Wrth gwrs," atebai Pegi y tro hwn yn
llawer mwy llariaidd, gan fod Terry wedi nodi y brwshus. Yr oedd yr ia wedi
ei dori, a'r cwlwm rhew yn datod, a hinsawdd dyner cymwynasgarwch,
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 112. Ebrill 1894. Tudalen 110) (delwedd K0355)
(*23)
|
110 Y BEIBL A’R DARGANFYDDIADAU DWYREINIOL.
yn taenu gwanwyn adfywiol dros gyfeillgarwch Pegi a Terry unwaith eto, “O'r
gora, Pegi fach, o'r gora, Pegi fach," meddai Terry, gan fygu yn llawer
mwy hamddenol yn awr, “ni mynwn nhw." Erbyn hyn, yr oedd Pegi, hithau,
wedi arafu yn rhyfedd yn ei symudiadau, a distawodd y dodrefn hefyd, ac
aethant yn fud oll, ond yr hen gloc; dechreuodd ef lefaru eto, oblegid
collodd, neu ynte collwyd ei lais yn y dwndwr.
Y nos Lun ganlynol, ar ddiwedd y cwrdd gweddi, galwodd Terry ar y “brodyr i
aros ar ol," ac yno penderfynwyd fod Pegi i gael pobpeth oedd
angenrheidiol. Daeth y brwshus a heddwch i Terry. Mynycha Dy'r Capel fel o'r
blaen, gan daflu “shwd i chi heddy'” cyfeillgar i'r hen wraig o gareg y drws,
i ddangos ei fod yn d'od, a byddai Pegi a'r gadair freichiau bob amser yn
barod iddo. Dydd Mercher canlynol, galwodd Shenad, a phan ddeallodd fod Pegi
wedi cael yr hyn yr oedd yn geisio, datganodd foddlonrwydd mawr, ond
ychwanegodd, “Gwddoch chi, does un ffordd ar flaenoriaid, ond i poeni
nhw."
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 114. Mehefin 1894. Clawr) (delwedd K0356)
|
5/
Cyf. x. Mehefin 1894. Rhif 114.
Tudalennau 169-174
Y Lladmerydd – Cylchgrawn yr Ysgol Sabbothol.
Dan Olygaeth y Parchn. J. M. Jones, Caerdydd, Evan Davies, Trefriw, a D.
Jenkins, Ysw., Mus. Bac. (Cantab)
…..
Dafydd Terry. Gan y Parch. Daniel Thomas, Ffynon Taf.
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 114. Mehefin 1894.
Tudalen 169) (delwedd K0357)
(*24)
|
169
DAFYDD TERRY.
GAN Y PARCH. DANIEL THOMAS, FFYNON TAF.
V.
Y man y teimlai Terry fwynf cartrefol ynddo oedd cyfarfod yr wythnos, Careg
aelwyd ei enaid oedd y cwrdd gweddi a'r seiat; a theimlid ar unwaith wrth ei
osgo a'r hamddenolrwydd mynwesol fyddai yn ei nodi yno, ei fod bellach
gartref yn ei le ei hun. Y mae gan bob un o honom ei le, onid oes? Rhyw
ysmotyn sydd yn cydweddu yn well â'n teimladau a'n tueddiadau nag unrhyw fan
arall, a lle y gallwn ymagor ac ymryddhau o rwymau dieithrwch, a bod ein
hunain, ac nid rhyw beiriant cymdeithasol, yn cael ei yru a'i ormesu gan rym
disgyblaeth. A hapus awr yw i'r enaid pan yr anadla ei native air.
Amrywia y cartrefolrwydd hwn. Nid yr un yw yn mhawb. Y mae y rhaniadau mawr
di-gymod moesol yn amlwg ddigon i ni, sef duwioldeb ac annuwioldeb, y rhai, y
naill neu y lla.ll o honynt, sydd yn taenu daear cartref dan draed pob aelod
o'r hil ddynol. Y mae pawb a'u cartref mewn daioni neu mewn drygioni. Ond,
fel yn ddaearol a chorfforol, nid ydym bob amser yn aros gartref; byddwn yn
myned am dro i leoedd eraill. Ond byddwu wrth droi dros y drws, yn gwisgo côt
dieithrwch am danom, a bydd y defnydd weithiau yn drwchus iawn, fel côt
gauaf, bryd arall bydd yn deneu, fel gwisg haf; ond tew neu deneu, bydd yno.
Ond ar ein dychweliad, ymddiosgwn o'r dilledyn annaturiol hwn, a daw gwisg
rydd, esmwyth, y gwir hunan, i'r golwg.
Y prawf goreu, yn wir yr unig brawf, o'r cartrefolrwydd hwn, yw
perthynas ein teimladau â'r cylch y byddwn ynddo. Y cylch y detyd ein
teimladau ryddaf ynddo, y bydd yr ysbryd yn cynhesu a'r enaid yn sirioli, yw
ein cartref ni, beth bynag a fo. Ac nis gall y cylch sydd megis yn
tarfu ein teimladau, ac yn peri i'r ysbryd ymddianc a chysgodi ei hun y
tucefn i seremoniau ac arferion, fod yn ddim ond dieithr le i ni, beth bynag
fyddo yntau hefyd. Dyma y prawf, ac y mae yn brawf sicr. Dichon y byddwn yn gadael y cartref hwn yn fynych, ond
nid yw yn llai o gartref oblegid hyny; ac felly y bydd. Bydd yr annuwiol
weithiau yn mynychu tŷ'r Arglwydd, ond nid dyna ei gartref ef; gwr dieithr ydyw yno.
Weithiau clywir y bydol yn siarad am bethau crefydd, ond teimlir ar unwaith
ei fod mewn tŷ
estron, a bydd yn eistedd yn anesmwyth ddigon ar un o hen gadeiriau cedyrn
gwirioneddau ysbrydol: nis gẃyr beth i ddweyd, na sut i ymddwyn. Druan o hono, ymwelydd
ydyw. Tröer at y byd hwn, — at arian, at fasnach a'i helw, — a dyna
weddnewidiad ddaw drosto! Diflana yr estron le fel tarth y boreu o flaen
edrychiad clir yr haul, a daw aelwyd lan, gynes, hawddgar, yn ei le. Siriola
ei deimladau, ystwytha ei ysfcryd a'i dafod, cwyd ei galon ei phen i fyny,
fel egin eiddil gwanwyn dan gawod o wlaw Ebrill. Dyna ei gartref ef: fan yna
y mae ef yn byw.
Gwelsom engreifftiau o'r tu arall, o un o blant y deyrnas yn crwydro o'i le
ei hun; a thybiodd, druan, oherwydd hyny, nad oedd ei enw ar lyfr
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 114. Mehefin 1894.
Tudalen 170) (delwedd K0358)
(*25)
|
170 DAFYDD TERRY.
y bywyd. Pechodd; do. Aeth i le anghyfanedd; do. Ond sut y teimlodd yno? A
oedd yn hawdd iddo wneyd felly? A oedd gartref yno? Nac oedd. Rhewodd ei
deimladau i fyny yno; ac os aeth i fewn i dŷ pechod, ni aeth ymhell iawn yn y blaen. Eisteddodd wrth y
drws yn yr oerfel, ac yr oedd yn dda ganddo fyned oddiyno. A phan ddaeth yn
ei ol at yr hen beihau, O! 'r sirioldeb y torodd ei enaid iddo. Tynodd ei
ysbryd y gadair yn y blaen at y tân, megis, adfywiodd hyd at ddagrau, dan
gofleidio yr hen furiau. Dyna ei gartref ef. Cwyd dy ben, bererin trallodas,
yr wyt yn un o'r defaid, er myned ar ddisberod: y gorlan yw dy le di.
Rhaid i ni beidio mynM i bregethu hefyd, ond d'od yn ol at Terry. Deuwn ato
yn union. Gwneyd tipyn o blatform yr ydym i Terry gael sefyll arno, a chaiff
ei esgyn yn union; ond i ni osod ystyllen neu ddwy i orphen. Ceir y pwyslais
moesol hwn mewn cylch cyfyngach; ceir amrywiaeth yn y man ddewisir i fwthyn
bach nodwedd, o fewn eangach tir, cyflwr, a thuedd. Y mae pob duwiol o'r un
duedd, ond nid o'r un nodwedd. Neu, i newid y ffigiwr ychydig, bydd ein manau
penodol genym i eistedd, er bod yn yr un cartref. Bydd pob un a'i gadair, a'r
gadair yw'r nodwedd, tra'r cartref yw'r cyflwr a'r duedti. Yr oedd felly gyda
Terry a Shenad yn eu bwthyn hwy. Yr oedd ganddynt bob un ei gornel, ac ni
feddianai y naill byth fangre'r llall. Cadwai Terry at ei gornel ef, a Shenad
at ei chornel hithau. Y mae ein cornelau genym yn gymdeithasol ac ysbrydol
hefyd. Bydd pob un a'i gornel, ac nid ydynt i gyd i fod ar yr un ochr i'r
aeíwyd. Yn aml, yn lle bod ochr wrth ochr, gwynebant eu gilydd. Byddant yn
gyferbyniol; ond dylem gofìo pa ochr bynag fyddant, eu bod ar yr aelwyd. Y
mae yr amrywiaeth hwn yn naturiol ac angenrheidiol, ac ni ddylem feio y naill
y llall o'u herwydd.
Cartref Terry oedd crefydd. Ynddi hi yr oedd yn trigianu. Yr oedd yn byw yn
un o heolydd y ddinas fry; a'i gornel yn y cartref hwnw oedd y seiat a'r
cwrdd gweddi, yn dweyd ei brofiad ac yn gweddio. Yr oedd brodyr eraill yn yr
eglwys o nodweddion gwahanol, yn dda iawn; rhai at y peth hwn, ac eraill at y
peth acw. Felly y mae ymhob eglwys. Cornel ambell i frawd yw y box casghi.
Dyna ei nodwedd grefyddol, ac ni feddylir ei alw i weddi ond ar adeg cwrdd
diolchgarwch, pan fyddis drwy amlder y cyfarfodydd, wedi difa y ffyddloniaid
i gyd. Cornel brawd arall yw cyneu y goleu; disgyn cais unfrydol yr eglwys
ato at y gorchwyl hwn, fel aderyn at ffrwyth addfed. Bydd eraill yn hynod
ddeheuig i ofalu am amgylchiadau'r achos mewn ystyr eangach, ac eraill yn
gymwys i gario yn y blaen yr addoliad. Bydd pob un a'i gornel, a'r pwnc mawr
yw ei ffeindio.
Pe buasai amgylchiadau yr achos yn llaw Terry, y mae arnom ofn na fuasent yn
rhyw gryno iawn. Afler oedd ef yn ei wisg bersonol, ac afler fuas^i hefyd
gyda gwisg yr addoliad, sef yr amgylchiadau. Ond dan dywysiad gogwydd ei
natur, a'i Terry heibio i'r pethau hyn, gan eu gadael i eraill oedd a'r
ddawn. Rheuir pregethwyr yn Nghymru i ddau ddosbarth, sef pregethwyr a
bugeìliaid; a bydd y naill ddosbarth yn ddiffygiol o elfenau'r llall.
“Pregethwr da," meddir, “ond bugail gwael iawn." Am arall dywedir,
“Mae e' yn fugail rhagorol, ond nid yw fawr
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 114. Mehefin 1894.
Tudalen 171) (delwedd K0359)
(*26)
|
DAFYDD TERRY. 171
o bregethwr." A chymaint mae'r ddau rinwedd hyn wedi ac yn byw ar wahan,
nes braidd yn awr y disgwylir eu gweled ynghyd; a chymerir yn ganiataol fod
pregethwr da yn fugail gwael, a bugail da yn bregethwr cyffredin. Yn yr hen
amser, ac i ryw fesur, yn y dyddiau hyn, gwelir yr un gwahaniaeth yn y set
fawr. Bydd y blaenor sydd a dawn gweddio a dweyd profiad, yn aml yn ddi-sut
iawn gyda'r amgylchiadau; a'r blaenor sydd yn dda i gyfrif yr arian, a
threfnu darlith, yn wael iawn ar ei liniau. hyny yw, yn nghlust y ddaear, ac
yn waelach fyth ar ei draed yn ceisio dweyd ei brofiad. Ac mor gyfíredinol
ydyw'r ystad hon ar bethau, fel yr ydym yn aml wedi meddwl y buasai yn dda
cael dwy urdd o flaenoriaid, sef blaenoriaid amgylchiadau, a blaenoriaid
profiad a gweddio; ac i'r naill adael ei diriogaeth i'r lla.ll, — i'r brodyr
doniol adael y trefniadau i'r brodyr ymarferol; ac am y rhai diweddaf hyn,
nid oes eisiau eu gochel rhag ymyryd yn y siarad, oblegid pe gallent, ni
weddient na dweyd profiad byth.
Ond i ni gael dyfod at Terry. Blaenor profiad a gweddio oedd ef. Yr
oedd Shenad yn cydnabod ei gyfaddasder yn hyn. Meddai wrth Pegi Ty'rcapel,
“Wi'n beio llawar ar Dafydd ni, ch'i wddoch ch'i hyny, a ma llawar erill yn
'i wibod o, a wi yn 'i wibod u 'mhunan; waith wi'n gwed gormod weithia. Nid
am fy mod i yn trin Dafydd, cofiwch, waith 'dos geni gynyg i fenywod yn trin
'i gwyr. A thrinwn ni ddim o Dafydd ni am y byd;
ond wrth gwrs, wi'n gwed y marn am dano, a ma geni right i hyny, ch'i
wddoch." “Wrrh gwrs," meddai Pegi. A phrysurai Shenad, “Ond fi weta
hyn am Dafydd ni, welas i neb erioed yn llenwi'r set fawr fel y fe; ma fo yn
'i le yn y cwrdd gweddi a'r seiat, yn 'i le i'r dim; fi rho i ddue iddo, a
wi'n amal yn gwed wrtho y dyla fo ga'l 'i frecwast a'i ginio yn y set fawr,
a'i dê hefyd os lica fo, waith 'dyw o fawr o werth yn unlle arall." Hyn
oedd barn Shenad am Terry, ac nid oes eisiau tystiolaeth arall; oblegid yn
lle bod yn or-ffafriol yn ei datganiad o'i rinweddau, yr oecld yn rhaid
iddynt fod yn bur amlwg i dynu cymeradwyneth o gwbl oddiwrthi. Nid am nad
oedd yn ymfalchi'o yn Terry, ond nid canmol oedd gwaith Shenad.
Byddai Terry yn wastad yn y cyfarfod gweddi a'r seiat, a Shenad hefyd
ran hyny; ond ni fyddant byth yn dyfod gyda'u gilydd; deuai Terry yn gyntaf,
a Shenad ar ei ol, ymhen ychydig amser. Hefyd, os na symudai Terry i fyn'd
tua chwarter i saith, c'ai orders gan yr hen wraig, “Nawr
Dafydd," meddai, “off a
ch'i i gael dodi glo ar y tân a chloi y drws, onte fi fydda ar ol. Ch'i
nghatsoch i yn ddiweddar pwy noswaith yma." Ac ni ddechreuai Shenad osod
glo ar y tân na chloi y drws, nes y byddai Terry haner y flfordd yn y capel,
fel pe buasai yn anmhosibl gwneyd y goruchwylion hyn os byddai ef rywle yn y
gymydogaeth. Felly byddai Terry yn y capel dipyn cyn pryd, a Shenad dipyn ar
ol pryd; ond byddent yno yn wastad, yn neillduol Terry. Yn wir, nid ydym yn
eofio un adeg y bu yn absenol. Mor gyson ydoedd yno, fel braidd y gáìlem
synied am y lle hebddo. A phe ymwelem a'r Ddinas heno, edrychem fel arfer am
yr hen bresenoldeb llwyd, breuddwydiol, yn y gadair dan y pulpud.
Fel ar y Sabbath, felly ar yr wythnos, byddai pethau yn araf neillduol
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 114. Mehefin 1894.
Tudalen 172) (delwedd K0360)
(*27)
|
172 DAFYDD TERRY.
ar y dechreu. Eisteddem yn yr hen gapel yn nifer bychan, gwasgaredig ynia a
thraw. Hen deidiau a mamau yn plygu eu penau mewn sobrwydd duwiol, yr hen
famau yn haner claddu eu penau yn eu mynwesau. Byddai canol oed yno, hefyd, y
brodyr a diwrnod o ludded ar eu gwynebau, ond yr oeddynt wedi d'od i'r seiat.
Y gwragedd, a blinder teuluol yn eglur ddigon arnynt. Byddai yno bobl
ieuainc, hefyd, yn lluddedig, hwythau wedi treulio diwrnod yn nhywyllwch y
lofa; ond yr oeddynt yn ieuainc, a byddai gobaith a bywiogrwydd yn tori drwy
blisgyn blinder ar eu hwynebau hwy. A'r plant bach, yr oeddynt hwythau yno
hefyd, wedi d'od pob un a'i adnod, ac yn eistedd yma a thraw yn ymyl eu
rhieni, ac mor ddistaw a blodau, gan edrych yn awr ac eilwaith i lygaid eu
mam; a.byddai hithau, yn y gauaf, yn estyn ei braich garuaidd a'i shawl
gysgodol am danynt, ac yn eu gwasgu ati i'w cynhesu, a chai drafferth fawr yn
aml i'w deffro i ddweyd eu hadnod. Pa sawl mam yn Ngbymru sydd wedi gwneyd
hyn? Pa sawl tro y bu yr hen shawl yn eu cynhesu yn y seiat? Dylai rhai o'r
hen shawlau hyn gael eu cludo i'r nefoedd, a gwneyd bauerau o honynt, ac
argraffu arnynt, ,; Iddo Ef."
Ond i fyn'd yn y blaen, mor ddistaw ydoedd, mor araf, mor ddifrifol. Byddai
ysbryd annaearol yn y lle. Haner deimlem ein bod yn y tragwyddol draw, a'r
Iorddonen wedi ei chroesi, marw wedi myn'd heibio, a'r byd hwn yn awr yn
ymddangos mor fach, ac mor ddibwys, ymhell, bell ar ol, pan y deffroid ni gan
rediad cerbyd ar yr heol, a'n hadgofid mai yn y Ddinas, Cwm Rhondda, yr
oeddem wedi y cwbl, a'r Iorddonen eto i'w chroesi, a marw eto o'n blaen, a'r
hen fyd hwn, nid mor fach, fel nad oedd yn faich trwm ar ysgwyddau miloedd.
Caem arwydd arall hefyd ein bod yn y byd daearol hwn, sef llais Terry yn
dweyd adnod. Y cyntaf i dori ar y distawrwydd oedd ffon Terry. Anesmwythai ei
thraed dipyn i ddechreu, yna rhoddai donc, tonc. a alwai ein sylw, ein
meddyliau, a'n hymwybyddiaeth, o ba le bynag y byddent, yn ol i'r seiat; ac
yna, codai llais, llais cryglyd, haner effro, a thipyn yn annaearol, fel pe
bai yn cáel anhawsder i dreiddio drwy gymylau amser, a dywedai, “Am hyny, am
hyny — y — y — y, os cyd-gyfodasoch gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd
uchod, lle mae Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw." Dilynid yr adnod gyda
chymeradwyneth y ffon. Wedi i'r brodyr yn y sêt fawr ddweyd eu hadnodau
hwythau, dechreuai yr hen famau ar lawr y capel dywallt eu trysorau.
"Eithr am ysbrydol ddoniau, frodyr, ni fynwn i chwi fod heb wybod,"
meddai Pegi Ty'rcapel, mor ddifrifol a pharchus a phe buasai yn estyn arch y
cyfamod i'r sêt fawr. Yna deuai Shenad yn ddiseremoni iawn yn wir, a "Yr
Arglwydd yw fy mugail, ni bydd eisiau arnaf," fel pe buasai yn ei
gollwng o'i dwylaw i waelod y sêt. Ar hyn, sylwid fod tipyn o gyffro yn y sêt
tucefn i Shenad, mam oedd yno yn ceisio deffro ei bachgen bach pump oed i
ddweyd ei adnod. Dechreuid gyda llawer o ysgwyd, codid ef ar ei draed, a
chlywid y brawddégau hyn yn cael eu sibrwd, “'Nawr, nghariad i, gwêd dy
adnod, saf ar dy draed, dara 'nawr, gwêd yn uchal," “Cofiwch,"
meddai'r fam, “cofiwch" meddai y gwefusau bach, cysglyd, “Da, cera'n
mlan," meddai'r fam, “Cera'n mlan" meddai'r gwefusau bach,
"Nage, nage," meddai'r fam, “gwêd dy adnod." “Cofiwch wraig —
cofiwch wraig — Lot — £ol."
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 114. Mehefin 1894.
Tudalen 173) (delwedd K0361)
(*28)
|
DAFYDD
TERRY. 173
Yna, dywedai y fam ei hadnod hithau mewn llais cryf, croew, fel pe buasai
hono i roddi help llaw i "Cofiwch wraig Lot" i gyraedd y sêt fawr.
Wedi cael yr adnodau, codai Terry ar ei draed, safai lle y codai, yn ymyl y
gadair, am dipyn, heb gyffro, ond byddai y ffon yn dangos ychydig arwydd o
fywyd, a dangosai'r ochenaid ddiangai oddiwrth Terry, nad oedd yntau yn
hollol farw hefyd. Tröai i chwilio am y neised
goch; ac wedi d'od o hyd iddi, edrychai arni, a than effaith y weledigaeth,
ymddangosai ei ysbryd fel yn ystwytho, a dechreuai teimlad a meddwl redeg yn
ffrwd fechan, eiddil iawn ar y cyntaf, rhy eiddil yn wir, a siarad yn gywir,
i redeg, oblegid ni wnai ond dyferu dros y tafod, a'r dyferyn cyntaf oedd,
“la." Byddai rhaid i'r ail gael tipyn o amser i gasglu; ond ymhen enyd,
dyma hwnw hefyd yn syrthio, “Felly." Fel y cynyddai'r ffrwd, deuai'r
geiriau yn amlach, wrth i Terry gynhesu y meddyliau. Nis gallai feddwl heb
deimlo, ac yn wir pwy all? Önd er fod y ffrwd yn awr yn rhedeg, main iawn
ydoedd, mor fain fel mai braidd y gallem glywed swn y dŵr yn disgyn; ond pan
glywem, dyma ddywedai, “Ri ni wedi cael yr adnodau — petha gwerthfawr iawn yw
adnoda — gwerthfawr
iawn — iawn.
O's rhai o nhw yn well na'u gilydd? O's yna ragoriaeth yn rhai o nhw? Wu i
ddim — plant
y Beibl i nhw gyd, a ma nhw yr un mor agos, a wi yn rneddwl hyn. Ta chi'n
tynu un o nhw ffwrdd, fe deimlid diffyg ar aelwyd yr Ysgrythyr, fe fydda yno
le gwâg,
rhyw benod heb i phlentyn." Yna seibiant, fel pe buasai y ffrwd wedi
cilio yn ol i brinder dyferu eto, ac yna dilynai yn araf iawn, “Mae eisia nhw
i gyd, eisia nbw i gyd." Ac nid yn unig byddem wedi d'od i brinder
dyferu, ond byddai y dyferynau yn araf iawn yn canlyn eu gilydd. Cai y naill
amser i sychu cyn y dilynai y llall. Hyn deimlai Shenad, ond nid oedd yno neb
arall yn ei deimlo ond y hi. Yn wir, naturiol iawn ar ein clust ni oedd
tipiad achlysurol yr hylif meddyliol hwn; ond yr oedd Shenad am i'w llestr
lanw yn gynt, a meddyliai, os na chynyddai grym y dŵr, y byddai rhaid aros wrth y pistyll drwy y dydd. Anesmwythai
yn rhyfedd, a chlywid hi yn gofyn i Betty William, oedd bob amser yn eistedd
yn yr un sêt a Shenad, “Òdi chi yn clywad rhywbeth?” “Dim llawer," oedd
atebBetty. Yna, gwrandawai am eiliad, ond byddai Terry yn parhau i fwmian yr
un fel, “Dw i yn diall dim o ge," meddai Shenad eto, “wn ni beth i ni
well o dd'od i'r cwrdd." Parhai y swn undonog, heb gysgod cyfnewidiad i
dd'od o'r sêt fawr. “Dw i yn diall yr un gair;" äi Shenad yn y blaen, ac
yna torai dros y capel mewn llais gorchymynol, “Gwetwch yn uwch, Dafydd,
gwetwch yn uwch." Ond aeth Terry yn ei flaen fel o'r blaen, heb gymeryd
un sylw. “Dyw o ddim yn treio," meddai Shenad eto wrth Betty. Yna byddai
yn ddistaw am ychydig, ond treuliai ei hamynedd eilwaith, a dyma ei llais eto
yn taflu gorchymyn i Terry, “Gwetwch yn uwch ddyn, beth i ni yn well o dd'od
i'r cwrdd, 'does yma neb yn eich clywad chi." “Gad fi'n llonydd,
Shenad," meddai Terry yn ol y tro hwn, “Wi yn gwed y ngora."
"Yng ngora yn wir," mwmianai Shenad wrth Betty, “ma fo yn gallu
gwaeddi digon yn y tŷ." Ond
cynyddai grym y dẃr gan bwyll, deuai y dyferynau yn
lliosocach, gan ddilyn eu gilydd yn amlach, dadblygent i ffrwd fach deneu,
wan, a chasglai hono nerth, tyfai yn gryfach bob munyd yn awr, rhedai yn
gyson a didòr, ac yr oedd yn
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 114. Mehefin 1894.
Tudalen 174) (delwedd K0362)
(*29)
|
174 DAFYDD TERRY.
bleser ei gweled yn cynyddu. Ar hyn, clywid Shenad yn sibrwd yn nglust Betty,
“Paham na alla fe siarad fel yna ar y dechreu." Mae y llais yn ddigon
eglur ac uchel yn awr, a bydd yr hen chwiorydd a'r rhai byddar yn ystwytho eu
cefn erbyn hyn — gallant glywed yn ddigon hawdd heb blygu.
Siarad am gariad y mae Terry — ei hoff bwnc. A byddai cystal i ni wrando beth
mae yn ei ddweyd. “Cariad, cariad, cariad, ha, ha, cariad. Un rhyfedd iawn yw
cariad. Mae rhai yn dweyd fod cariad yn gwneyd pobpeth yn hawdd; ond dw i
ddim yn i credu nhw, ond ma fe yn gwneyd mwy na hyny. Mwy na hyny. Wel, beth
ma fe yn i wneyd? Beth ma fe yn i wneyd? Mae fe yn gwneyd i fi wneuthur
pethan anhawdd. Dyna ma cariad yn i wneyd." Ai yn ei flaen. "' Yn y
byd gorthrymder a gewch.' Ia, ia, ond fe ỳr cariad fi trwyddi nhw. Cariad yn gwneyd pethau yn hawdd? Nag
yw ddim. ' Os yw bosibl aed y cwpan hwn heibio.' Paham y dywedodd Ef hyn? •
Fy Nuw, fy Nuw, paham y'm gadewaist?' Paham y llefodd Ef ar ol gwyneb ei Dad?
Oedd cariad wedi gwneyd pethau yn hawdd? Na, ddododd cariad ronyn o felusder
yn y cwpan chwerw. Phalmantodd cariad y ffordd erioed â gwinwydd; na thaenu
ei dillad ar y ffordd. Beth wnaeth e ta? Fe wnaeth iddo fod yn ufudd. Fe
wnaeth iddo fyned drwy y dioddefiadau i gyd. Fe'i gorfododd ef i fyn'd drwy
yr anhawdd. Dyna wnaeth cariad."
Ar hyn, dyma lais crynedig yn tori i fewn àr Terry; llais Betty Dafydd
ydoedd, a meddai, “Mae Terry yndweyd calon y gwir. Fi wn trwy brofiad fod
cariad yn gwneyd i fi i wneyd pethau anhawdd. Yn wir, fyswn ni ddim yma heno
oni buasai cariad. Chi wddoch i gyd mod i yn byw dipyn oddiwrth y capel, a
mae yn aelota i yn ffailu, a roedd hi yn felus iawn i eistedd wrth y tân yn y
tŷ, a wyddwn ni fawr shwd
oedd cerdded. Ond dyma lle 'rwyf fi, fi geso ngyru, a chariad ngyrodd i —
wi'n caru'r seiat." Yn nesaf, cododd Shon, Waun Adda, ar ei draed, a
meddai Shon, “Wi o'r un farn a Terry a Betty Dafydd. Wi'n credu eu bod nhw
ych doi wedi taro yr hôl ar i chlopa i'r dini. Wi yn siwr fod cariad yn drino
llawer arno i, wi yn siwr o hyny. Wina fel Betty a ffordd gâs geni i dd'od
i'r capel. Mae yr hen drip yna yn serth iawn, a llawer o geryg arno. a dwy
ddim yn gwel'd yn dda, a mae hi yn dywyll iawn wedi'r nos yn awr; ond tai yn
dywyllach a mwy o geryg ar yr hewl, fe fydda raid i fi dd'od. Gwdioch chwi
wi'n credu y iwmla cariad fi mâs o'r gadar taw ni yn cynyg aros yn y tŷ ar nos cwrdd. Ma cariad yn
y nrẁo i, a diolch am
hyny." Felly, codent y naill ar ol y llall, nes y byddai yn anhawdd
gorphen mewn amser.
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 115. Gorphenaf 1894. Clawr) (delwedd K0363)
|
6/
Cyf. x. Gorphenaf 1894. Rhif 115.
Tudalennau 199-206
Y Lladmerydd – Cylchgrawn yr Ysgol Sabbothol.
Dan Olygaeth y Parchn. J. M. Jones, Caerdydd, Evan Davies, Trefriw, a D.
Jenkins, Ysw., Mus. Bac. (Cantab)
…..
Dafydd Terry. Gan y Parch. Daniel Thomas, Ffynon Taf
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 115. Gorphenaf 1894.
Tudalen 199) (delwedd K0364)
(*30)
|
DAFYDD TERRY. 199
DAFYDD TERRY.
GAN Y PARCH. DANIEL THOMAS, FFYNON TAF.
VI.
Araf iawn, fel y crybwyllwyd, oedd y seiat ar y cychwyn; araf o ddiffyg
teimlad ac o ddiffyg meddwl; ond cyn y diwedd, fel rheoIr byddáí yno ddigon
o'r ddau, a byddai yn anhawrdd iawn dwyn y cyfarfod i derfyn.
Beïr weithiau, yn y dyddiau hyn, yr arafwch hwn. Dywedir wrthym fod y byd yn
myned rhag ei flaen. Ei fod yn symud i rywle sydd amlwg ddigon, ond pa un ai
yn y blaen, ai ynte i ryw gyfeiriad arall, sydd hèb fod yn eglur iawn, hynny
yw, yn foesol ac ysbrydol. Rhaid i ni gyfáddef fod arafwch y seiat a'r cwrdd
gweddi Cymraeg yn gorwedd yn esmwyth iáwn ar ein natur ni.
Yr ydym yn cofio yn ddâ ddau ddiffyg y teimlasom lawer o'u herwydd pan aethom
gyntaf i Loegr i efrydu yn Ngholeg Cheshunt. Y cyntaf oedd y mynyddoedd.
Gorfu i ni adael y rhai hyn ar ol, a chyda hwy y dyffrynoedd, a mawr oedd yr
amddifadrwydd o honynt a deimlasom. Ni wyddem am ysbaid o amser
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 115. Gorphenaf 1894.
Tudalen 200) (delwedd K0365)
(*31)
|
200 DAFYDD TERRY.
beth ydoedd y diftyg, oblegid yr oedd yn gymysgedig â theimladau eraill,
megis hiraeth ar ol tad a mam, a meusydd mangre ein genedigaeth, a'r hen
iaith hefyd — yr oedd genym uchenaid os nad deigryn iddi hi. Ond gallasem
siarad hono yn awr ac eilwaith, serch hyny, weithiau wrthym ein hunain, er
cadw y delyn mewn cywair; ac hefyd, byddai y Saeson yn hoff o glywed darn o
honi. “Say something in Welsh," meddent. Adroddem ninau un o bcnillion
Williams, o Bantycelyn, iddynt, neu weddi'r Arglwydd. Wedi ei glywed,
dadganent ef yn barbarous, ac eto, ychwanegent, “It sounds soft." Ỳr oedd yn wrthddadl rhwng
eu barn a'u rhagfarn — teimlent swyn yr hen Gymraeg. Oud y mae yn erthygl
ffydd gan y Sais i watwar beth bynag nag sydd Saesneg; a chan fod y Gymraeg y
tuallan i'r pyrth, yr oedd yn rhaid iddi ddygymod a'r edliw barbarous. Ond yr
oedd y farbariaeth yn eu clustiau hwy, ac nid yn acenion yr hen iaith. Fel
hyn, yr oeddem yn gallu ysgwyd llaw â'r Gymraeg, a dweyd ambell i air wrthi,
er mewn gwlad esti'onol. Deuai llythyr yn aml o gartref, hefyd, gan gario
briwsicnyn o'r hiraeth am dano. Ond am y mynyddoedd, nid oedd yr un genad yn
dyfod oddiwrthynt hwy. Edrychem o amgylch am wrthddrych a íÿddai yn
orphwys-fan i'n llygaid, ond nid oedd yno ddim ond perthi a choedwigoedd; i
Gymro, gwrthddrychau gwael i foddloni ei lygaid a diwallu ei edrychiad
arnynt. Hiraethem felly am rywbeth i lanw y gwagder llethol rhwug nefoedd a
daear. Ond ar ein dychweliad ar ol y tymor cyntaf, tua thre', a gweled mynydd
o'r trên, llamodd ein calon o'n mewn, a theimlasom ar unwaith mai dyna y
diffyg, — mynydd.
Y
diffyg arall oedd yr arafwch Cymreig; ac wrth hwn y meddyliwn arafwch yr
addoliad Cymreig. Syrthiasom mewn cariad mawr â'r tonau Saesneg ar y cyntaf;
ac yn wir, parhaodd y ffit am beth blynyddau; yr
oeddynt mor dlws ac yn cerdded mor ysgafn ac mor dwt, hefyd, fel yr aethant
a'n bryd yn lân, a chollodd y tonau Cymreig eu gafael arnom. Ond cymerodd
cyfuewidiad le; aeth y tonau Seisnig yn rhy dlws. Tlws, tlws, tlws,
tragwyddoí oeddent, nes yr aeth braidd yn atgas genym dìysni. Daeth y tonau
C} mreig yn raddol i fri eto, fflachiai ambell i straen alarus yn groes i'n
teimladau, a alwai fil-mil o adgofion a myfyrdodau i'r golwg, — gwynebau hen
flaenoriaid, llais ambell i hen fam, yn y bedd, bellach, a gwnaent ni yn
bruddglwyfus iawn; ond daeth gogoniant yr hen donau i'r golwg, a nhw yw y
ífryndiau mwynch.
Ni aeth prysurdeb y Sais a'u hedmygedd gymaint; yr oedd yn ddefnyddiol iawn
at rai pethau, megis arbedamser, ac hefyd i fyi?ed trwy lawer o waith o ryw
fath; ond ry wfodd, disgynai ar ein teimladau Celtaidd ni yn anghartrefol os
nad yn annaturiol. Synid ni yn ddirfawr gan yni y pregethwr ar ddechreu y
bregeth; rhoddai ei destyn allan fel tai pawb yn y lle yn fyddar; ac yna.
prysurai
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 115. Gorphenaf 1894.
Tudalen 201) (delwedd K0366)
(*32)
|
DAFYDD TERRY. 201
gyda'i bregeth ardopei lais, weithiau, nes — hyd i ni gyfarwyddoâ phethau — y
meddyliem, os oedd yn dilyn y rheol Gymreig, sef codi ac ymddyrchafu a phoethi,
hefyd, fel yr äi yn ei flaen, y byddai cyn y diwedd wedi myned yn deilchion
oddiwrth ei gilydd, a'i lais wedi myned yn ysgrech rhy fain i'w chlywed. Ond
er cysur i ni, cadwodd y pregethwr wrth ei gilydd, a'r llais yn glywadwy
hefyd: yn lle myn'd i'r lan, daeth y brawd i lawr, — i lawr mewn yni, i lawr
mewn llais, ac i lawr raewn mater hefyd, a gorphenodd — wel, ar y llawr. Yr
effaith arnom oedd siomedigaeth hollol; siomedigaeth, a phaham? Beth oedd y
diffyg? A dweyd y gwir, nid oedd yn Gymreig. Dyna y bai. Yn ol ein teimlad
ni, a mater o deimlad ydoedd, ac nid tyb, dylasai fod wniredd o be-nvch yn y
bregeth, yn neillduol ar y dechreu, a chlirio gwddf; buasai neised goch yn
dda hefyd, fel yr eiddo Terry, a dylasai y llais fod yn isel ac oíhus, a dylai
trwch o arafwch gael ei ddyhidlo drosti. Pan ddaethom yn ol i Gymru drachefn
i ddistawrwydd ac arafwch y seiat a'r cwrdd gweddi, i glywed yr hen bobl yn
peswch, a'u gwel'd yn disgwyl y naill wrth y lla.ll am y pum' munyd ar y tro,
O! mor gartrefol y teimlem. “Hwn yw addoliad wedi'r cwbl," meddem wrthym
ein hunain, “hwn, ac nid y llall. Dyma y man goreu, y tawelwch hamddenol hwn,
i'r golomen nefol ddisgyn iddo."
Y mae y gwahaniaeth rhwng Sais a Chymro yn gweddio yn darawiadol iawn. Rhydd
y cyntaf yr argrafF i ni fod y Brenin Mawr yn brin iawn o amser; a chan hyny,
íod rhaid dweyd y neges yn gyfìym ac mewn ychydig eiriau. Felly, rhuthra drwy
ei weddi fel ambell i gardotyn yn rhedeg drwy ei stori ar un anadl, rhag i'w
gymwynaswr roddi taw arno, a'i yru i ífwrdd. Gellid hefyd casglu fod lliaws
eraill yn aros eu tro wrth byrth trugaredd, a Gwrandawr gweddi yn analluog i
ymwneyd ond ag un ar y tro. Dyna'r argraffwneir arnom. Ynglyn â'r Cymro, o'r
tu arall, bydd yr ystyriaethau a'r teimladau hyn yn hollol absenol. Yn wir,
rhydd ef yr argraff fod digon o amser wrth orsedd gras", beth bynag, ac
nad oes raid brysio; bydd yn ymdroi felly o amgylch gryn dipyn weithiau, fel
pe bai yn methu dweyd ei neges, fel ambell i blentyn fydd yn ceisio rhyw
gymwynas gan ei fam, ond yn methu magu digon o wyneb i ofyn; tr}>- o
amgylch, driuga i fyny ochr y gadair, daw ei freichiau am wddf ei fam o'r tu
ol iddi, a bydd raid iddi hi ofyn bcth mae yn ei geisio yn y diwedd cyn y
dywed. Gwelsom lawer i Gristion Cymreig yn ymddwyn rhywbeth yn debyg ar ei
liniau. Tröai yntau lawer o gylch yr orsedd, dringai i fyny ei hochr, a bu
raid i'w Dad Nefol sibrwd tipyn o gefnogaeth iddo cyn y gallodd siarad ei
erfyniad. Na ddiystyred neb y gweddiwyr hyn sydd yn ymdroi ar y dechreu, y
maent yn aml yn myned i lawr i'w tai wedi eu helaeth gyfiawnhau.
"Wel, wel," meddai'r darllenydd, “b'Ie mae Terry yn awr?" Y
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 115. Gorphenaf 1894.
Tudalen 202) (delwedd K0367)
(*33)
|
202
DAFYDD TERRY.
mae yn yr ymyl. Yr oedd ef yn un o'r hen dadau fyddai yn ymdroi llawer o
amgylch yr orsedd; ac wrth eu desgrifio hwy, yr ydym, hefyd, wedi ei
ddarlunio yntau. Wedi cael yr adnodau yn y seiat, ac wedi i Terry ei hagor,
eisteddai i lawr gan adael i'r brodyr eraill gario y cyfarfod yn y blaen and
na thybied neb fod Terry yn ddi-orchwyl ar yr adeg hon, oddieithr, mae'n wir,
ar ambell i noson fwrn yn yr haf, pan y cysgai dipyn. Ond byddai hyn yn anaml
iawn yn y cyfarfodydd gweddi a'r seiat — hynod o anaml. Cyfyngai Terry y
cysgu i'r pregethu gwael ar y Sabbath, ac ar yr wythnos hefyd, pe digwyddai
fod rhyw frawd di-enaid wedi d'od heibio. Na, yr
oedd Terry yn ddiwyd; safai fynychaf ar ei draed yn ymyl y bwrdd yn y set
fawr, yn trafod a'i ddwylaw y pethau fyddai yn digwydd bod arni. Ymaflai mewn
llyfr hymnau, edrychai arno fel pe buasai heb weled dim byd tebyg erioed o'r
blaen.; trUai ef yn of a blaen yn ei law, edrychai arno y tufewn, ac edrychai
arno y tuallan. Codai ef i fyny at ei lygaid, a syllai yno, gollyngai ei
fraich i lawr wed'yn, a syllai ar y llyfr yn y vender. Byddai y ffon ar yr
adegau hyn wedi ei gosod i orphwys yn groes i'r gadair fyddai y to of i
Terry, a'r neised goch yn ffurfio to i ben ei pherchenog. Wedi ymdrin a'r
llyfr yn allanol am ychydig, prysurai Terry i olrhain ei
ddirgeledigaethau—materol, nid ysbrydol. Gwthiai ei f'Srs rhwng y llyfr a'r
rhwyrnyn, byddai hyn yn anhawdd weithiau, yn enwedig gyda llyfr newydd. Ond
dyfalbarhiii Terry, hyd nes y 11 wyddai i haner ranu y llyfr a'r rhwymyn
oddiwrth eu gilydd, ac wedi gwneyd hyny, yrnaflai yn ei ffon, tynai y neised
goch yn sypyn i'w ddwrn; a chan droi at y bobl, dywedai gyda diniweidrwydd
oen, "Ia'n wir frodyr bach." Ond ni. chyfyngai Terry ei sylw at y
llyfrau hymnau yn unig. Pe digwyddai fod rhyw frawd wedi d'od o pharcel a'i
osod ar y bwrdd, byddai raid i Terry ei agor i weled Beth oedd ynddo. Yr
ydyrn yn cofio yn dda y daeth braved a pharcel felly i'r cwrdd tin noson, gan
Lei osod ar fwrdd y set fawr; yr oedd wedi ei gylymu yn d5rn chortyn cryf.
Pan ddaeth yr adeg briodol, trodd Terry ato, a cheisiodd ddatod y cwlwm, er
cael cipdrem ar gynwys y parcel. Ond yr oedd gorchwyl mwy anhawdd nag arferol
o'r natur hyn o flaen Terry y noson y hono. Bu bron haner y seiat wrthi yn tuchan
ac yn chwythu, gan fwmian wrtho ei hun ei "fod wedi ei gylymu yn dyn
iawn." Ond llwyddodd yn y diwedd, a thynodd gynwys y parcel ar led ar y
bwrdd i bwy bynag ewyllysiai gael ei weled, ac yno y gadawodd Terry ef
rhyngddo a'i berchenog. Ond, wrth gwrs, nid oedd yno Marcel yn wastad; a chan
ei fod wedi Liner ddinystrio y llyfrau hymnau oedd yno, nid oedd iddo laver o
waith yn y cyfeiriad hwn, a cheid ei sylw yn gynt at bethau'r seiat. Nid oedd
wiw galw Terry i wneyd dim. Mae'n wir fod y brodyr yn cyrnell tipyn arno i
ddweyd rhywbeth pan fyddai rhod
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 115. Gorphenaf 1894.
Tudalen 203) (delwedd K0368)
(*34)
|
DAFYDD TERRY. 203
siarad wedi sefyll; ond os na fyddai yr hwyl ar Terry, ni chymerai sylw o
honynt, ond äi yn ei flaen a'r gorchwyl fyddai ganddo mewn llaw, sef ymdroi
yn y gadair, syllu ar y neised goch, neu bwyso ei ên ar ben y ffon, ac megis
jrn taeru i wagder di-ben-draw. Yr arwydd gyntaf ei fod yn dechreu adfyẃio fyddai ei waith yn gadaeî
y sêt fawr. Nid oedd yn myned o'r capel ar noson waith, heblaw fod crwydryn o
bregethwr gwael yno, äi am dro y pryd hyny, ac arhosai allan yn hir neu yn
fyr, yn ol graddau diflasdod y bregeth; ond ni dd.iángai o'r cwrdd gweddi a'r
seiat. Cyfyngai ei hun i'r alley rhwng y seddau ar lawr y capel, cerddai yn
ol a blaen ar hyd y llwybr hwn, heb ddweyd gair wrth neb — y ffon ac yntau
a'r neised goch. Distawai y brodyr eraill ar hyn, os byddai rhai o honynt yn
digwydd bod ar eu traed yn siarad ar y pryd — waeth rhaid i ni ddweyd, pan
ddeuai y cynhyrfiad ar Terry, codai i ymaflyd yn y gwaith heb dalu gronyn o
sylw i'r fTaith fod rhywun aráll wrthi yn barod. Cydnabyddid hyn ymhlith;
brodyr, a thynai rhyw frawd fyddai yn siarad ar y pryd ei nodiadau i ben yn
fuan, a gadewid y seiat yn llaw Terry eto; a chan y byddai yntau yn fud am
dymor, dychwelai y distawrwydd cyntefig yn ei ol; deuai tic y cloc yn gryfach
i'n clyw, dychrynid ein clustiau gan swn peiriant gwaith glo y Ddinas oedd
gerllaw, a gallesid meddwl fod y trên yn rhedeg ar hyd lawr y capel, gan mor
eglur y clywem ef, tra y cerddai Terry yn ol a blaen yn parhau yn hollol
ddistaw o hyd, ac heb gymeryd sylw ó neb o'i gwmpas.
Ond deuai y tymor hwn i ben fel pob tymor arall: arhosai ymhen ysbaid uwchben
rhyw frawd fyddai yn eistedd yn nghornel set, fel pe buasai am ofyn profiad
iddo. Coclai hwnwei ben i fyny ac ymuniawnai yn barod i siarad, os byddai yr
awydd hyny ynddor neu ynte — a hyn fyddai y drcfn fynychaf, oblegid nid peth
ysgafn oedd siarad â Terry — gwasgai yn nes i waelod y set, gan dynu ei ben i
fewn i'w gragen. Safai Terrj- uwch ei ben am ychydig funydau weithiau. heb
ddweyd yr un gair, ac yna äi yn ei flaen at y nesaf. Arhosai uwchben hwnw
eilwaith, yn hollol fud o hyd, a byddai hwnw fel y cyntaf yn disgwyl cwestiwn
oddiwrth Terry, ond er rhyddid neu siomedigaeth iddo, troai Terry oddiwrtho
yntau heb ddweyd yr un gair, a dychwelai yn ei ol at y brawd cyntaf; syllai
ar hwn drachefn, yn hir ac yn ddistaw, a theimlai hwnw bwysau llygaid Terry
arno, y rhai nid oeddynt ysgafn. 0! mor ddistaw fyddai pethau ar yr adeg hyn;
dyma yr eiliadau mwynf difrifol yn yr holl seiat. Ÿr ydym yn aml yn son am
siarad da a phrofiad da yn y gyfeillach, ond y mae y fath beth yn bod a
distawrwydd da, a phrofasom ef droion yn nghysgod Terry yn y Ddinas. Y mae
Terry yn parhau i syllu ar y brawd cyntaf, ac ambell i £l Wel" yn disgyn
oddiwrtho yn awr; ac mae'r ffon yn dechreu anesmwytho hefyd. Ond dacw ef' i
ffwrdd eto heb ddweyd
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 115. Gorphenaf 1894.
Tudalen 204) (delwedd K0369)
(*35)
|
204 DAFYDD TERRY.
yr un gair. P'le yr ä yn awr? Y mae wedi aros ar gyfer hen wraig drallodus ei
rhan yn y byd hwn; gadewch i ni nesu atynt. Y mae Terry yn sefyll yn syth o'i
blaen, a'i lygaid yn sefydlog arni. Y mae y ffon hefyd yn symud ei throed
dipyn yn anesmwyth ar y llawr. Nid yw yr hen
wraig wedi bod yn y seiat er's wythnosau lawer, a gwyr Terry hyny; ond nid yw
yn gwybod achos yr absenoldeb. Tybia ef mai esgeulusdod ydyw; ond bachgen
drwg, ofer, fel y dy wedir, sydd wedi cadw ei hen fam o'r moddion.
“Ann," meddai Terry yn y diwedd, “Wel," meddai yr hen wraig yn ol,
gan edrych tua gwaelod y set, a llwyth o helbul yn gwasgu arni, “Wyt ti yma
heno?" “Odw siwr," atebai yr hen wraig; “Odw siwr, odw siwr,"
murmurai Terry. Yr oedd yn arferiad ganddo i ail adrodd yr atebiad a roddasid
iddo. “Pryd buost ti yma o'r bla'n?" aeth yn ei flaen i ofyn; ni atebodd
Ann ddim iddo, “Mae dy le di wedi bod yn hir iawn yn wâg," ymhelaethai
Terry, a chan nesu ati, a'i lais yn casglu nerth a difrifoldeb a thipyn o
lymder hefyd, gofynodd," Oes tipyn ogrefydd genyt tiyn y ty Ann."
“Gobeithio ei fod e," meddai yr hen wraig. “W'inau yn gobeithio hyny
hefyd," meddai Terry; yna distawai am eiliad, gan barhau i edrych yn
sobr, ac yr oedd pawb yno yn bur sobr erbyn hyn, oblegid gwyddent fod
fflangellu i fod. Dyma donc oddiwrth y ffon, ac un arall, fel mellt
rhagarweiniol, ac mewn amrantiad, dyma'r daran yn tori ar ben yr hen fam. “Os
nad yw dy grefydd di yn wTell yn y ty nag yw hi yn y capel, un Iwyd iawn yw
hi." Disgynodd y ddyrnod yn drwm. Ond yn lle dychrynu a lladd yr hen
wraig, cynhyrfodd y storm hi, cododd ei phen i fyny mewn eiliad, edrychodd yn
myw llygad Terry mor ddigyffro a mur o gyfiawnder, fflachiodd ei llygaid
oleuni, a meddai, “Tai hi yn llwydach, werthwn ni ddim o honi." Ar hyn,
taenodd uchenaid o gymeradwyneth dros y capel i gyd, a daeth “ha “o
gydymdeimlad o galon pawb yno. Yr oedd ateb yr hen í'am mor llawn o gydwybod,
ac mor lawn o flinder hefyd, fynai dd'od i'r golwg er ymdrechion Ann i'w
guddio. Ond cyn i ni ymuniawni braidd, dyma “ha, ha “oddiwrth Terry, ac un
arall ar ei ol, “ha, ha," a haner ddawnsìai'r ffon; a chan droi at y
brodyr a'r chwiorydd, a'i lais wedi codi ac yn llawn o gydymdeimlad a
thynerwch hyfryd yn awr, oblegid 'doedd ond ychydig yn gallu dirnad dirgelion
y natur ddynol yn well na Terry. Teimlodd ar unwaith ei fod wedi
gwneyd cam a'r hen chwaer. A rhedodd ei deimladau yn lanw cryf i'r cyfeiriad
cyferbyniol, yn gryfach nag arfer, er gwneyd rhyw fath o adaliad iddi, a
meddai, “Glywsoch ch'i frodyr bach; glywsoch ch'i frodyr bach. Tai hi'n llwydach
werthwn ni ddim o honi, tai hi'n llwydach werthwn i ddim o honi, ha, ha, ha,
ha, ha." A chan droi yn ei ol at yr hen wraig, a thiriondeb fel gwlith
arianaidd yn ei lygaid, a'i lais i fyny o hyd, meddai, a'r ffon yn cyd-siarad
ag ef, “Ann, Ann, Ann. Fe wnetho gamsyniad, does dim llwydni ar dy grefydd
di, un iraidd yw hi, ira-a-aidd. Mae'r gwyrddlesni tragwyddo-o-o-ol yn ei
harddu hi. Dal dy afael ynddi Ann
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 115. Gorphenaf 1894.
Tudalen 205) (delwedd K0370)
(*36)
|
DAFYDD
TERRY. 205
fach,
dal dy afael ynddi." Ag yna dychwelai i'r set fawr gau fwmian ar y
ffordd. “Tai'n llwydach, werthwn ni ddim o honi. Tai'n llwydach werthwn ni
ddim o honi, ha, ha." Wedi aros yn y set fawr am enyd, dyma Terry i
ffwrdd eto; ac mewn gwirionedd y mae yn myned at Shenad i ofyn ei phrofiad
iddi. Ac y mae Shenad yn casglu ei hunan ynghyd
ar gyfer yr amgylchiad. Terry oedd yn gofyn profiad Shenad yn wastad, ac nid
oedd byth yn gadael i'w deimladau a'i gysylltiadau fei priod ymyraeth dim a'i
waith fel blaenor. Ac hefyd yr oedd yn well gan Shenad gael ei holi a'i
chwestiyno gan Dafydd na neb arall; waith, fel y dywedai hi, “mae mwy ynddi
nhw," sef y cwestiynau. Yr oedd dwy berthynas yn bodoli rhwng Terry a
Shenad, sef yr un briodasol, a'r un eglwysig. Yn y gyntaf, yr oedd Shenad
c'uwch ysgwydd a Terry, ac ond odid yn uwch. Ond yn yr ail, yr un eglwysig,
yr oedd yn cydnabod uwchaflaeth Terry. Os oedd yn rheoli ar Terry fel priod,
yr oedd yn ostyngedig ddigon iddo fel blaenor. Ac ar adeg dweyd ei phrofiad,
y deuai yr ymostyngiad hwn egluraf i'r amlwg.
Pan neshai Terry at Shenad yn y seiat, deuai trwch o wyleidd-dra
drosti. Collai ei hysbryd awdurdodol, ac elai ei llais hyd yn nod yn egwan;
mewn gair, yr oedd wrth draed Terry. Teimlai
Terry ar ei du yntau fod eu perthynas wedi trawsnewid tipyn. Oblegid siaradai
yn llawer cadarnach, a mwy difloesgni. Yn y ty, fei priod, byddai raid iddo
astudio tôn ei lais, rhaid oedd bod yn gymodlawn ac hefyd yn wylaidd; ond
diflanai'r gwendidau hyn pan yn holi profiad yr hen wraig. Teimlai Terry fod
daear awdurdod o dan ei draed, a chydnabyddai Shenad hyny yn rhwydd.
“Shenad," meddai Terry. Y mae yn ei hymyl yn awr; yr oedd Shenad yn fud,
yn edrych tua'r llawr, a'i bysedd yn ddiwyd iawn wrth gornel y shaiui. “Beth
sydd wedi d'od a ti yma heno." Bu dipyn cyn ateb, ond ymhen eiliad neu
ddau, sibrydodd fod “chwant d'od “arni. “fíym," meddai Terry. “Chwant
beth sydd arnat ti." Yr oedd gwyneb Shenad yn bur welw erbyn hyn, a'i
bysedd yn fwy diwyd nag erioed ynglyn a'r shawl; ac wedi seibiant arall,
dywedodd mewn llais a thipyn mwy o ymdrech ynddo, "Chwant bywyd."
"Chwant bywyd," meddai Terry. “Ia," meddai Shenad, “wyt ti yn
meddwl fod rhywbeth genyt ti? “" Gobeithio'i fod e," meddai Shenad
yn fwy rhydd yn awr. “Ac eto wi yn ofni weithia, wi wedi meddwl am bregeth
William Prydderch — yr hen ddyn," — meddai Shenad, “nid y mab, pan oedd
e yn son am godi'r grôs, ro'dd e yn gwed fod rhai yn i Husgo hi, leicwn i
ddim llusgo'r grôs er i bod hi yu drwm iawn idd i chario." “Ia,"
meddai Terry, "rhai trymion yw'r croesau, wyt ti'n siwr fod croes genyt
ti?" "Gobeithio i fod e," sibrydodd Shenad. Aeth Terry yn ei
flaen i siarad am y croesau, a'r posibilrwydd i fod heb un wedi'r cwbl — yn
feddianol ond ar "gordyn proffesiwn heb yr yr un groes wrtho." A
thafiodd Shenad ac eraill i ysbryd hunan-ymchwiliad.
Ymhen diwrnod neu ddau, dyma Shenad i dy'r capel. “Odi ch'i yn
fisi?" meddai wrth Pegi wrth gyraedd y gegin. “Beth o ch'i yn feddwl o'r
seiat nos Iau?" “Seiat dda iawn," meddai Pegi. "Ia," meddai
Shenad, ac ychwanegodd, "gwyddoch ch'i, un llym ofnadwy yw Dafydd
ni." “Ia," meddai Pegi, ond ma' eisiau bod yn llym." “O's,
o's, wrth
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 115. Gorphenaf 1894.
Tudalen 206) (delwedd K0371)
(*37)
|
206
DAFYDD TERRY.
gwrs," meddai Shenad, rhag i Pegi feddwl ei bod yn achwyn ar Terry fel
blaenor yr adeg hono beth bynag. Mewn gwirionedd, wedi d'od i ganmol Terry
oedd Shenad, a meddai, “Wi'n amal yn meddwl beth ddela o'r lle yma ta Dafydd
ni yn myn'd." “Myn'd i b'le," gofynai Pegi. “Marw wi'n
feddwl," meddai Shenad. “Fe fyddai yma
fwlch," meddai Pegi yn ol." “Bwlch," atebai Shenad, fel tai y
gair hwnw yn rhy wan i gyfleu y diffyg. “Bydda gydei siwr, fe fyddai yma
fwlch, a mwy na bwlch wi'n greti." Pan fyddai Terry newydd fod yn gofyh
profiad Shenad, sylwem ei bod yn teimlo yn llawer mwy ewyllysgar ac hynaws
tuag ato, ac äi i fyny raddau lawer yn ei syniad am dano fel blaenor; ond os
byddai wedi cael ei hir esgeuluso, gwnai teimladau o nodwedd arall eu
hymddangosiad, a chlywid hi yn yngan, “Wn i beth i ni yn well o dd'od i'r
cwrdd yn y byd. Di nhw yn gofyn gair i ddyn byth, ond clebran i hunain mae
nhw round abouí." Ond y boreu hwn, yr oedd mewn tymer dda tuag at Terry,
am y rheswm a nodasom, ac aeth yn ei blaen i syrnbylu Pegi am ei theimlad o
bwysigrwydd Dafydd. “Wi'n ffaelu gwel'd llawar o glem ar y blaenoriaid eraill
yma, dyn," meddai Shenad eto. "O, nliw ddwan," atebai Pegi.
“Gobeithio hyny," meddai Shenad, dipyn yn anffyddiog. “Ma nliw yn ddynon
pywr ddicon hefyd," ychwanegai, "ond nid gwyr y set fawr i nhw, a
gwetwch ch'i fynoch ch'i, wn i beth ddaw o'r achos yma wedi i Dafydd ni
fyn'd: wi yn ffaelu peidio meddwl am y pethau hyn." Gobeithiai Shenad
wrth y geiriau hyn ei bod wedi llwyddo i ddeffro Pegi i sylweddoliad mwy o
dywyllwch y dyfodol.
"O!" meddai Pegi wedi ysbaid o seibiant, “fe aiff yr achos
yn y blaen, fe fydd Pen Mawr yr eglwys yma. 'Jioedd e' yma cyn i Dafydd
dd'od, a fe fydd yma ar ol i ni gyd fyn'd, fe aiff yr achos yn ei flaen. Efe
yw Alpha ac Omega." Yr oedd Pegi yn casglu gwres erbyn hyn "Y cyntaf
a'r diweddaf, a mae e' yr un ddoe a heddyw ac yn dragywydd." “Wel, ia,
wrth gwrs," meddai Shenad wedi munyd o ddistawrwydd, a haenen deneu o euogrwydd
yn d'od drosti ei bod wedi ei anghofio Ef hefyd. “A mae yn dda ei fod
e'," ychwanegai yn lled awgrymiadol. “Fe ä yr achos yn y blaen Shenad
fach," meddai Pegi eto, yn gwneyd ymgais arall i gadarnhau ffydd Shenad,
“fe fydd y Ilywodraeth ar ei ysgwydd Ef, cymerwch galon." Amcan Pegi
oedd cysuro ei hen ffrynd, ond wrth roddi pwyslais ar y Presenoldeb Dwyfol,
yr oedd wedi braidd ddiddymu yr angenrheidrwydd am bresenoldeb Terry; ffaith
ag oedd yn disgyn yn oer iawn ar deimladau Shenad, ac yr oedd y siomedigaeth
hwn y teimlad uchaf yn ei mynwes ar y pryd. Yr oedd Shenad gymaint a Pegi yn
credu yn y Cysgod Dwyfol, ac am roddi y gogoniant iddo; ond nid oedd am i
Dafydd fyn'd yn ddibwys, a meddai, “Wel, ia, wrth gwrs, fe aiff yr achos yn y
blaen, dôs dim doubt am hyny; ond fi weta hyn 'run shwt, a chretwch
chi ne beidio. Fe fydd raid i Ben Mawr yr eglwys roddi mwy o'i bresenoldeb
yma wedi i Dafydd ni fyn'd, onte fydd yma fawr o shap ar betha." Ac
ychwanegodd gan wylltu, fel pe bai wedi amddiffyn Terry yn erbyn y
Presenoldeb Dwyfol ei hun, “Wel, wel, rhaid i fi fyn'd, mae'r allwadd genyf
fi, a Dafydd i mas. Bora da i ch'i nawr, bora da."
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 115. Medi 1894. Clawr) (delwedd K0372)
|
7/
Cyf. x. Medi 1894. Rhif 117.
Tudalennau 269-275
Y Lladmerydd – Cylchgrawn yr Ysgol Sabbothol.
Dan Olygaeth y Parchn. J. M. Jones, Caerdydd, Evan Davies, Trefriw, a D.
Jenkins, Ysw., Mus. Bac. (Cantab)
…..
Dafydd Terry. Gan y Parch. Daniel Thomas, Ffynon Taf
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 117. Medi 1894.
Tudalen 269) (delwedd K0373)
(*38)
|
DAFYDD
TERRY. 269
DAFYDD TERRY.
GAN Y PARCH. DANIEL THOMAS, FFYNON TAF.
VII.
Yr ydym yn cofio adegau eraill y cafwyd amlygiad o lymdra Terry. Y mae un o'r
cyfryw yn bur fyw o flaen ein meddwl y funyd hon. Yr oedd brawd o'r eglwys,
sydd wedi ymadael o'r Ddinas er's rhai blynyddau bellach, wedi absenoli ei
hun am gryn dymor o'r moddion wythnosol, ac yn mynychu odfaon y Sabbath hefyd
ond yn fylchog a llechwraidd. Tynodd ei ymddygiad
sylw y blaenoriaid, a p'ienodwyd ar frawd i fyned i siarad agef. Aeth y brawd
hwnw, a gwnaeth ei orchwyl, a dygodd ei report i'r seiat. Cynwys hwnw oedd
fod gwrthddrych ei ymweliad, oherwydd tlodi amgylchiadau, yn roethu cyfranu
at yr achos, ac, oblegid hyny, yn methu gwynebu y box casglu, a llyfr yr
eglwys. Teimlai nad oedd hawl gan yr hwn oedd yn peidio cyfranu, beth bynag
ddigwyddai fod y rheswm, i fwyta ychwaith, yn ysbrydol, fel yn dymhorol. Yr
oedd y brawd yno ar y pryd, yn eistedd yn y set nesaf at y set fawr, i gael
siarad ag ef, tra yr oedd y blaenor yn adrodd ei ymgom ag ef. Tynodd sylwadau
y blaenor gydymdeimlad mawr a'r cyfaill crwydredig. Gwyddai y rhan fwynf, yn
bersonol, ei bod yn gyfyng ddigon arno, ac nid oedd rhaid ond edrych ar ei
wedd lwyd, a dillad prin a chlytiog y plant bach, i gasglu ar unwaith mai cul
oedd y ffordd, a chyfyng oedd y porth oedd yn ei arwain ef a'i deulu i
feddiant tipyn o ddillad. Cafodd gydymdeimiad rhydd a chyflawn yr eglwys
felly, ac anogwyd ef i fynychu y moddion fel arfer, a pheidio gadael i dlodi
ei atngylchiadau i'w gadw i ffwrdd. Dywedwyd wrtho, yr ydym yn cofio, nad
oedd rhaid iddo, oblegid tlodi tymhorol, newynu ei hun yn ysbrydol hefyd.
Rhedodd ffrwd siarad a theimlad yr eglwys, fel hyn, ar hyd gwely o
garedigrwydd a thosturi; a gorphenwyd y mater, fel y tybiwyd ar y pryd, yn
heddychol
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 117. Medi 1894.
Tudalen 270) (delwedd K0374)
(*39)
|
270
DAFYDD TERRY.
a hapus iawn. Nid oedd Terry wedi siarad gair; ond wedi gorphen â'r mater,
fel y meddylid, cododd ar ei draed, a gallesid gweled wrth ei wedd nad oedd
pethau yn hollol wrth ei fodd, ac nad oedd y cwbl wedi ei fynegu ychwaith. Bu am fuoyd yn ymsythu yn ymyl y gadair, gosododd y
neised goch yn ei logell, — yr oedd hi, fel rheol, pan fuasai ei pherchenog
yn sarug, yn gorfod myned o'r neilldu, fel hwyl pan fydd llong ar wynebu
ystorm, yn gorfod cymeryd ei gwasgu ynghyd, a myned i le bach. Tywydd teg
oedd ei show diìjs hi, — deuai allan yr adeg bono, pan fyddai dagrau yn
perlio ar ruddiau ei pherchenog, a mwynhad yn tori yn donau eang ac hamddenol
o wenau dros ei wyneb. Ond nid oedd felly yr adeg hon, a gorfu iddi, o
ganlyniad, neillduo i'w chartref. Ond, ara y ffon, yr oedd hi yn wahanol i'r
neised, — gallasai hi fod yn gas yn ogystal a charedig. Gwgai lawn mor
effeithiol a gwenu; felly, yn rhinwedd y gallu dygymodol hwn, arhosai bob
amser gyda'i pherchenog, yn cyd-deimlo ymhob dim ag ef. Wedi ysbaid byr o
amser, neshaodd Terry a'r ffun at wrthddrych yr ymddiddan. Safai yn syth o'i
íiaen, gan edrych i lawr arno, heb ddweÿd dim, heb ocheneidio hyd yn nod, yn
fygythiol a chadarn iawn ei wedd. Trodd ei wyneb i fyny 'mhen enyd, gan edrych
megis ar front y gallery, a dyma ei lais yn tori allan, os oedd yn llais
hefyd, — yn wir, yr oedd yn fwy tebyg i nâd, — a meddai, fel pe bai yn
absenol ei feddwl, ac fel pe byddai yn gofyn y cwestiwn i rywun draw, draw
ymhell, "Odw i yn rhoddi cymaint i íesu Grist ag w' i'n rhoi am facco ì
Odw i yn rhoi cymaint i Iesu Grist ag w' i'n rhoi am gwrw-w-w-w?" A chan
sefydlu ei lygaid ar y cyfaill oedd o'i flaen, a rhoddi tonc ofnadwy â'r
ffon, — tonc ag oedd yn ddigon i ddychrynu distawrwydd allan o'r byd, — ychwanegodd,
“Mae arna'i ofan fod rhywbeth heblaw tlodi wedi dy gadw di oddiyma."
Dyna'r cwbl. Aeth yn ei ol i'r gadair, eisteddodd i lawr fel o'r blaen, gan
adael y tair brawddeg hyn yn ngenau'r seiat, i'w Jlyncu oreu y gallai.
Gwelwodd y dyn, aeth y gwaed allan o'i wyneb, a chafodd ei galon hefyd,
druan, waith cadw i guro. Darfyddodd y mater gyda hyn, ni bu mwy o siarad
arno, ond diwygiodd y brawd crwydredig, a mynychodd y cwrdd gweddi a'r seiat
yn gyson ar ol hyn; pa un ai dan effaith caredigrwydd y brodyr erail), ai
ynte cerydd llym Terry, nid ydym yn gwybod, feallai pob un o'r ddau.
Fe ddichon mai fan hyn y byddai oreu i ni roddi hanes yr hyn a adnabyddid yn
y Ddinas fel “ffìae y c/oc/í." Digwyddodd fel y canlyn: — Yt oeddis
ynglyn ag adeiladu y capel newydd. Yr oedd yr hen gapel, fel y crybwyllwyd yn
yr ysgrifau blaenorol, wedi cyraedd ystad mor ddadfeiliol, fel ag yr oedd yn
anhebgorol angenrheidioí naill ai ei glytio ef, neu ynte adeiladu un newydd
hollol. Bu llawer iawn o ystyried ar y mater; ond yn y diwedd, deuwyd i'r
penderfyniad fod yr hen gapel yn rhy hen i'w adnewyddu, ac felly mae y peth
doethaf o lawer oedd codi un newydd, a hyny ar site newydd, gan adael i'r hen
gapel barhau ar ei draed i farw gan bwyll, a chyda llaw i estyn rhyw dipyn o
wasanaeth a fyddai yn bosibl i'w henaint. Gyda bwriad i gario allan y
trefniadau hyn, penodwyd pwyllgor, neu, fel y gelwid ef, commutee, — a'r gair
Saesneg oedd yr un ddefnyddid yn wastad. Mawr oedd y siarad am y capel
newydd, a mawr oedd y brwdfrydedd ynglyn ag ef hefyd, yn
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 117. Medi 1894.
Tudalen 271) (delwedd K0375)
(*40)
|
DAFYDD TERRY. 271
neillduol ymysg y bobl ieuainc. Ac, yn wir, yr oedd yr holl eglwys yn cryn
falchío ynddo, fel plentyn fydd wedi cael gwisg newydd. Edrychera lawer arno,
ac edmygem ef yn fawr; gwyliem y muriau yn raddol godi eu hysgwyddau i'r lan,
a chanmolem y seti newyddion oedd yn cael eu gosod rhyngddynt; a disgynai
awydd cryf arnom i eistedd ynddynt. gan dybio y buasai yn ddigon hawdd
gwrando, bellach, heb yr un demtasiwn byth rawy i gysgu, pa dloted bynag
fyddai y bregeth. A datgauem ef hefyd y capel perta yn y Cwm, ac yr oedd hyny
yn gyfystyr â dweyd ei fod y capel barddaf yn yr holl fyd. Yr oedd Shenad yn
falch o'r capel newydd, fel eraill o honom, ond ni chydnabyddai hyny bob
amser, nac yn rhwydd iawn ar unrhyw adeg, ac, yn benaf, oherwydd ei fod yn
newydd. “Dw i ddim yn licio y petha newydd yna," dywedai yn aml, “Ma'n
weli geni hen betha; rhowch chi hen bregethwr i fi, a hen fynwant, 'does geni
gynyg i'r cemeìers yma, fel ma nhw yn eu galw nhw, lle mae nhw yn claddu pob
scaliwm. Yr arswyd anwyl! dallwn ni ddim gorphws yn i mysg nhw, dyn. A ma'n
well geni hen gapel hefyd; 'dos geni fawr o olwg ar y capelau newydd crand
yma, sydd yn baint i gyd. Dw i ddim yn i lico nhw," gorphenai Shenad.
Ond, er hyny, yr oedd Shenad yn hoffi y capel newydd: ond teimlai yr elai yn
an-Fethodistaidd wrth gydnabod hyny. Yn nhy'r capel y cai yr ystyriaethau hyn
eu tywaut, i glust Pegi, ac yr oedd clust Pegi yn ddiolchgar iawn am danynt.
Mawr y criticìso ar drefniadau y capel newydd gymerai le gan Shenad a Pegi yn
nhy'r capel. “Beth sydd yma heno T gofynai Shenad i Pegi. “Committe»."
atebai Pegi. “Ho! fi ofynas i Dafydd ni," meddai Shenad, “ond fe fysa yr
un peth i fi ofyn i'r wal; y cwbl wi yn gael gento yw i fod e yn rayn'd i'r
capel; a fe fysa yr un man iddo wed i fod e yn myn'd i fian y Cwra, o rhan wn
ni beth ma fo yn i nythir." “Beth yw committee, dyn V gofynai Shenad yn
ychwanegol. “Yn wir, wn ni ddim," meddai Pegi, “os nad rhywbeth yn nglyn
a chodi capel yw e, waith chlywais i'r gair eriod o'r blaen." “Na fina
hefyd," raeddai Shenad, “ond ma fo'n od iawn fod rhaid iddi nhw fyn'd
i'r Sysnag ara air; beth ma nhw yn pido wli'a Cymrag?" “'FalIa do's dim
gair Cymrag," atebodd Pegi. “Dim gair Cyrarag!" meddai Shenad, “Am
clywch y dyn yto, beth i chi yn feddwl 1 Odi ch'i yn meddwl dallwn ni ddim
buiìdo capel heb droi i'r Sysnag?" Arhosodd Shenad am enyd am atebiad,
er, mewn gwirionedd, nid oedd yn ei ddisgwyl, a chan nad oedd yr un yn d'od,
aeth yn ei blaen: “Sysnag yn wir! a sopyn o Sysnag ma nhw yn wbod. Dyna
Dafydd ni, faint o Sysnag i chi yn feddwl sydd gento fe? Ma'n gwestiwn geni a
wŷr e beth yw cath yn
Sysnag." “A ma nhw yn son rhwbeth am gâl odfa Sysnag yn y cwrdd
pregethu nesaf, am ddau," meddai Pegi. “Fi glywas rhwbeth hefyd,
dyn," meddai Shenad, “ond dos geni ddim llawer o grynotab o ge, waith
wed Dafydd ni ddim. Beth i glywsoch chi 1 — i chi yma yn nhy'r capel yn
i clywad nhw yn clebran? “Wn ni ddylswn ni wed, hefyd," meddai Pegi.
"Agora i ddim o ngena am dano, wi mor sound a'r rock" gosododd
Shenad i fewn. “Wel," ychwanegai Pegi, “Evan Richard a William James
oedd yn gweyd pwy noswaith yma y dylai odfa Sysnag fod yn y prydnawn Sabbath,
er mwyn y Saeson sydd yn y capel ar ochr yr hewl, — y Primi Methodist
yna."
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 117. Medi 1894.
Tudalen 272) (delwedd K0376)
(*41)
|
272 DAFYDD TERRY.
"Primiti Methodist," cywirai Shenad. “Primiti wedsoch
chi," gofynai Pegi. “Ia," meddai Shenad, a thipyn bach o
uwchaflaeth yn ei llais ei bod yn gallu bod yn athrawes i Pegi, er ìnewn
gradd fychan. “Wel, yn wir," aeth Shenad yn ei blaen i nodi, “wn ni beth
sydd i feddwl am betha, fod rhaid i ni dalu am weinidogaeth i B/ imiti
Methodisfs. Pwy bryd raa nhw yn meddwl cael yr odfa, ar agoriad y
capel?" “Ia, am wn ni," atebodd Pegi. “Wel, fe fydd rhaid i ni gâl
pregethwr Sysnag ynte, a phwy sydd yn myn'd i dalu am dano T' gofynodd
Shenad. "Oh," meddai Pegi, "fe ddaw y Saeson i'r cwrdd, a nhw
rho'n yn y casgliad." “Rhd n" meddai Shenad, “Ble gwelsoch chi
Saeson yn rhoi rhwbryd ì Ma nhw yn gwario'i arian i gyd am gig, dyn. Tacla
dychrynllyd i fyta i nhw. Y Saeson, y nhw yn rhoi! Na, wnan fawr. Ond wn ni
betìi sydd i feddwl am y blaenoriaid yma. Beth i wetsa John Elias yn bod ni
yn talu am weinidogaeth y Brimifi Methodists? Gwddoch ch'i," meddai
Shenad, “ma'n warth yu bod ni yn cymysgu â chenedlaeth shwd yna, — y ni, y
Methodisf, — heb son am dalu am bregethwyr iddi nhw. A wi yn gobeithio
hefyd," meddai Shenad eto, “nad a nhw ddim i ddresàr capel â lot
offolal. Sobrwydd syddyn gweddu i dy'r Arglwydd."
Yr
oedd yn amlwg nad oedd gan Shenad fawr o ymddiried yn y committee. Ac
ni bu raid aros yn hir cyn cael prawf mwy ymarferol o hyn nag a gyfleid mewn
geiriau. Yr oedd y committee yn cyfarfod yn aml, ac yn cario eu
trefniadau yn y blaen. Yr oedd Terry, fel aelodau eraill o'r pwyllgor, yn
wastad yn bresenol yn cymeryd rhan yn y gwaith, ac yn cydymffurfio yn rhwydd
iawn â'r holl benderfyniadau. Eto, yn awr ac eilwaith, ceid arwyddion, ac hyd
nod brofion, nad oedd ef yn ystyried trefniadau y commiltee fel cyfraith y
Mediaid a'r Persiaid, yn anghyfnewidiol. Cydymffurfiai
Terry â'r commutee pan mewn cyngor gyda hwy; ond yn ol llaw, os gwelai ryw
gyfnewidiad y carai ei wneyd mewn rhyw fân bethau, cymerai arno ei hun i'w
orchymyn heb ymgynghori â neb, heb gonsultio hyd yn nod yr architccl. Yr oedd
Terry yn credu mewn blaenoriaeth eang iawn. A llawer tro y synwyd y
cyfeillion mewn canlyniad i hyn, gan alterutions Terry.
Ond y penaf, yr un sydd yn cael ei gofio ymysg llawer eraill sydd wedi eu
íianghofio, a'r un hefyd a dynodd y frawdoliaeth yn ei ben, fel cacwn, ys y
dywedai Shenad, oedd cyfnewidiad y cloch. Yr oedd y committee, ymhlith pethau
eraill, wedi dewis cloch — cloch newydd — i gydweddu â'r capel; ac wedi bod
yn bresenol pan oedd yn cael ei ddodi i fyny, rai o honynt, beth bynag. A
mawr y boddhad oedd yr awrlais newydd yn ei roddi i Tírry, fel eraill, yn
ymddangosiadol. Yr oedd Shenad wedi clywed am y cìoch, ond teimlai ei fod yn
cael ei ganmol ormod. "Dw i ddim yn licio y petha yna sydd yn
cael i gorganmol," meddai wrth Terry. “Pam na wnelsa clocli yr hen gapel
y tro?" ychwanegai, “Ma fa yn cadw amser nêt." Diweddwyd yr
ymddiddan trwy i Shenad fyn'd gyda Dafydd i wel'd y clock. Ac fel y
gallesid disgwyl, deffrodd yr olwg gyntaf arno ragfarn Shenad yn ei erbyn.
"Ym helpoi'n byd!" meddai, gan syllu ar y clock o lawr y
capel. “Ydi chi i mas o'ch cofa?” “Pwy?” meddai Terry. “Y ch'i y committee,"
atebai Shenad. “Pa'm?” meddai Terry. “Pa'm?” meddai Shenad. “Pa'm? odi ch’i
yn meddwl gadal
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 117. Medi 1894. Tudalen
273) (delwedd K0377)
(*42)
|
DAFYDD TERRY. 273
shwd doy ag yna ar y wal? Òdi ch'i yn galw shwd beth yna yn glock
capel? I ch'i i mas o'ch cofa i gyd, dos dim doubt." “Beth sydd
arno?" meddai Terry. “Beth sydd arno? Beth na sydd arno V gofynai Shenad
yn ol. “Welas i shwd beth erioed," meddai Shenad, ac ychwanegodd, “Ma fa
o'r gora yn glock parlwr, ond i ddoti e' mewn capal! chlywais i shwd
beth eriod. Ond dyna, beth ellsid ddisgwyl oddi wrthach ch'i y gwyr a
gweision ì Beth o'ch ch'i yn peidio gofyn i ni y menywod i bico c/ockì"
“Ond taw'r brodyr i picws a," meddai Terry. "Wel," meddai
Shenad, “rhaid i ch'i i newid e', onde ch'i fyddwch yn sport i'r holl wlad,
dir dyshefo m'n bryd." Ac felly y bu, aeth Shenad a Terry at y clockmaker,
a dygasant ef gyda hwy i ddiarddel y c!ock newydd; tynwyd ef i lawr, a
chariwyd ef yn ol; dewiswyd clock arall yn ei le — clock mawr
ysgwar. “Clock capal, cloch yn dicyn o Fethodisi" meddai Shenad; a
llongyfarchai yr hen dad a'r hen fam eu hunain eu bod wedi gwneyd tro da i'r
achos, os nad i'r committee hefyd.
Ond yn y seiat ganlynol, cawsant brofion i'r gwrthwyneb. Aeth y si ar led cyn
hir fod Terry a Shenad wedi newid y c!ock, — tipyn o newydd a barodd beth
syndod, a mwy o ddigiifwch. Ac yr oedd tipyn o gywreinrwydd yn bod i weled y clock
newydd diweddaf. Nos Iau ddaeth, nos y seiat, dechreuwyd y cwrdd fel arferol,
gwrandawyd yr adnodau, a disgwylid i Terry agor y seiat fel arfer, ond
eadwodd ei sedd, gan ddweyd, “Dewch, dechreuwch rhai o ch'i." Mae'n
debyg fod Terry erbyn hyn yn teimlo ei fod wedi gor-gyraedd ei hawliau wrth
newid y clock. Cododd Gwynoro Davies, fel'y galwem ni ef yn y Ddinas, ar
ei draed — nid oes eisiau i ni ddweyd mai yr un yw ag sydd yn bugeilio eglwys
liosog Bermo yn awr — a dechreuodd siarad dipyn yn gyffredinol ar y cyntaf,
ac yn fwy neillduol fel yr aeth yn ei flaen, nes iddo weithio ei ffordd at y
committee; ac yno arhosodd dipyn yn sylwi mewn natur dda, ac haner digrifol,
y dylai pob aelod o'r committee, er mwyn heddwch a chydgordiad, sefyll wrth
benderfyniadau y committee, a pheidio myn'd ar draws pethau drwy wneyd
cyfnewidiadau ar ei gyfrifoldeb ei hun.
Yr oedd Terry yn gwrando yn astud, yn pwyso a'i ên ar y ffon, ac yn deall yn
ddigon da fod y cyfeiriad ato ef, ynglyn â'r c/ock. Ac wedi i'n cyfaill
Gwynoro orphen, tafiodd Terry gwestiwn allan, er mwyn sicrhau ei hun. “Pwy
sydd wedi pechu?" meddai. Nid oedd yr un ateb, ond taenodd gwên dros y
seiat. Ymhen enyd, gofynodd Terry drachefn, “Pwy sydd wedi pechu f' “Dafydd
Terry sydd wedi pechu," meddai Gwynoro, gan wenu yn serchus ar Terry. Yn
awr, y peth diweddaf fuasai yn dyfod i feddwl unrhyw un yn biesenol oedd, y
cymerai yr ymdriniaeth ddigrifol hon wedd anliapus. Ond felly y gwnaeth. Ac
eto, â llygad craff, gallesid gweled mai felly y buasai, a hyny am y rheswm
mai dyma y tro cyntaf i Terry erioed fod o dan y fflangell, a chwip frwynen
oedd hefyd, a dweyd y mwynf; ond yr oedd yn chwip. Ac nid oedd Terry yn ei
leicio, nac yn meddwl dioddef llawer o honi chwaith. Gwelwyd gwedd Terry yn
cyfnewid, a dechreuodd fwmian, “Ma Terry wedi pechu, ma Terry wedi pechu.''
“Odi siwr," meddai brawd arall, “beth oedd ych busBas ch'i i newid y
cloch?" Tarawyd yr boel ar ei chlopa, ac ergyd bur sharp hefyd. Cododd
Terry ei ben i fyny fel alarch balch, gan edrych
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 117. Medi 1894. Tudalen 274) (delwedd K0378)
(*43)
|
274 DAFYDD TERRY.
gyda dirmyg i wyneb ei gyhuddwyr, a meddai yn chwerw, “I ch'i am y nghâl i i
lawr odi ch'i V “Nag i ni," meddai y brawd arall, “ond beth oedd eich
bysnas ch'i i newid y cìoch, hwna i ni am glwad V
Yr oedd Terry yn erbyn y wal. Nid oedd ganddo yr un ateb i'w roddi heb roddi
y bai ar Shenad, ac wrth gwrs nid oedd hyny yn ddynol iawn. Aeth y brawd
arall yn ei flaen. “Beth mae commìttec da os na pherehir 'i drefniada fe
%" “Beth oedd ar y cloch cyntaf fod yn rhaid 'i newid e?" Daeth
awel o wendid dros Terry, a gwnaeth fel ein tad cyntaf yn y cyfryw
amgylchiad. Meddai, “Shenad oedd ddim yn 'i leico fe." Yr oedd y gath
allan o'r cwd. Trodd gwynebau y cyfeillion ar hyn i gyfeiriad Shenad. Yr oedd
Shenad yn edrych fel heb obaith yn y byd, ac yn claddu ei gwyneb yn ei
mynwes, ac yn dymuno i'r bedd hwnw fod yn llawer dyfnach nag yr oedd.
"Shenad," taniodd y brawd arall i fewn, “Shenad? Beth yw Shenad i
ni ì Dewis cloch, i'r capel oe'n ni ac nid rShenad." Yr oedd pethauyn culhau
ar Terry: ac yr oedd yn rhaid iddo syrthio ar ei fai, neu ynte ymladd.
Dewisodd Terry yr olaf.
Edrychodd eto i wyneb y blaenoriaid, yn ffyrnig iawn hefyd yn wir, ac meddai
yn bur uchel ei lais, “Wi yn eich gwel'd ch'i, wi yn eich gwel'd ch'i; i ch'i
am y nghael i i lawr. Wi yn hen ddyn, a mae eisiau y nghael i dan draed, oes
e;" a chan daro llawr y sêt â'r ffon, rhuai, “Chewch ch'i ddim o fi i
íawr, chewch ch'i ddim o fi i lawr." Disgynodd y geiriau hyn fel eirwlaw
oer, diflas. ar deimladau pawb oedd yn bresenol, a theyrnasodd distawrwydd
llethol yn y lle. Ar hyn, daelh teimladau tynerach dros yr hen dad, a
chwynfanai yn y gadair, “Ma Terry wedi pechu, ma Terry pechu: O'm helpo
i." “'Does yma neb am eich cael ch'i i lawr," meddai y brawd arall
eto, “i ni i gyd am eich parchu ch'i; ond beth oedd eich busnas ch'i i newid
y clock ì “
Dygodd y cwestiwn poenus hwn chwerwder Terry i'r wyneb eto, a dyma ef ar ei
draed, yn edrych fel cefnfor ffyrnig, a rhuai, “Beth sydd arni nhw % beth
sydd arni nhw ì Odi o ddim yn ddigon mod i yn myn'd yn hen, os rhaid y'm
sarni i dan drad 1 Wi wedi bod yma cyn geni y rhan fwynf o ch'i, yn
gwasanaethu yr achos; a dyma'r wobor, ie fe, y'ch traed brwnt, trymion ch'i?
Cha i ddim class yn yr Ysgol Sul genych ch'i. Ond chewch ch'i ddim o fi i
lawr, fi safa ar y nhrad er y'ch gwaetha ch'i." Eisteddodd Terry i lawr
ar hyn, a chododd trydydd brawd i fyny i ddatgan parch yr eglwys i Terry, a'i
gwerthfawrogrwydd o hono, ac i egluro mai parch iddo oedd y rheswm eu bod yn
ei ryddhau o waith yr Ysgol Sul. Gyda hyn, disgynodd gwlith tyner ar ysbryd
Terry eto, a chlywid ef yn cwynfan, a'i ên ar y ffon a'r neised goch yn
hongian dros ei wyneb, "MaTerry wedi pechu, ma Terry \*edi pechu; wedi
pechu, O'm helpo i; ma Terry wedi pechu, wedi pechu-u-u." Ar hyn
neidiodd y diweddar Barch. W. E. Williams, oedd yn aelod yn y Dinas yr adeg
hono, ar ei draed, a gwaeddodd fel mellten ar Terry, “Wel, dos ynte, ac na
phecha mwynch." Aeth y saeth i galon Terry, ond yn lle ciwyfo,
gwellhaodd ef. Cododd ei ben i fyny, a'r hen sirioldeb yn tywynu ar ei wyneb,
a meddai, "Ha, ha, ba, ha, ia'n wir, frawd bach, dos ac na phecha
mwynch, ha, ha." Cododd ar ei draed, gan neshau at front y sêt fawr, ac
meddai yn haner cwynfanus, haner edifeiriol, a haner folianus, "Mae'r
plant yn ffraeo yn
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 117. Medi 1894. Tudalen 275) (delwedd K0379)
(*44)
|
CYFRYNGWRIAETH CRIST. 275
amal iawn, yn amal iawn; ond dyna, plant i nhw, yn byw yn yr un tŷ, ar
yr un ford, yn cael eu cysgodi gan yr un tô,
a'u cadw gan yr un Tad; plant i nhw, plant.
Gadewch i bobpeth ddarfod yn y tŷ; peidiwch dweyd
wrth bobol y drws nesaf." A gorphenodd trwy weddio yn fendigedig.
Felly darfyddodd ffrae y clock mewn heddwch hollol; ond cafodd clock
Shenad a Dafydd fyn'd yn ei ol, a dychwelwyd y clock cyntaf, er
siomiant mawr i Shenad, waith fel y dywedai, “Fe fysa yr un man fod watch ar
y wal," ac na fuasai hi byth yn edrych arno.
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 119. Tachwedd 1894. Clawr) (delwedd K0380)
|
7/
Cyf. x. Tachwedd 1894. Rhif 119.
Tudalennau 326-333
Y Lladmerydd – Cylchgrawn yr Ysgol Sabbothol.
Dan Olygaeth y Parchn. J. M. Jones, Caerdydd, Evan Davies, Trefriw, a D.
Jenkins, Ysw., Mus. Bac. (Cantab)
…..
Dafydd Terry. Gan y Parch. Daniel Thomas, Ffynon Taf
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 119. Tachwedd 1894. Tudalen 326) (delwedd K0381)
(*45)
|
326 DAFYDD TERRY.
DAFYDD TERRY.
GAN Y PARCH. DANIEL THOMAS, FFYNON TAF.
VIII.
“Ble'r 'rych chi," gwaeddai Shenad, i mewn i Dy'rcapel oddiar gareg y
drws, y boreu canlynol i ffrae y clock. Yr oedd yn glanhau ei thraed
ar y tamaid mat oedd yno cyn myned i fewn, — arferiad cyson gan
Shenad;
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 119. Tachwedd 1894. Tudalen 327) (delwedd K0382)
(*46)
|
DAFYDD
TERRY. 327
a mawr y drafferth oedd yn gael i dywys Dafydd i'r un arferiad, a llawer tro
y cafodd ei yru yn ol i sancteiddio ei draed cyn eu sefydlu ar gareg yr
aelwyd. Yr oedd Shenad ar y foment hon yn ymarfer yr hyn yr oedd mor barhaus
yn ei bregethu. Gan nad oedd Pegi wedi ei chlywed, ail adroddodd yr
ymofyniad, "Ple i chi yma r" “Hylo, pwy sydd yna," meddai
Pegi, ar hyn, oddiar y lloft. "Y fi, Shenad." "O," meddai
Pegi, "Cerwch i fewn i'r gegin, fi fydda lawr yn awr, sturwch y tân, a
gwnewch eich hunan yn gyffwrddus." Ufuddhaodd Shenad, aeth i fewn,
tynodd y gader yn y blaen, a phrociodd y tân.
Bu yno yn eistedd wrthi ei hun am enyd, tra yr oedd Pegi yn gorphen ei
gorchwyl ar y lloft. Ond cyn hir daeth Pegi yn araf iawn i lawr y steiriau,
yr oeddynt yn bur serth, ac felly yr oedd yn rhaid i droediad hen wraig fod
yn gynil. “I chi yn shnv iawn yn d'od i lawr," meddar Shenad, “ocli'r
rheumatic arno chi T “Rheumatic yn wir," atebodd Pegi, “odi chi ddim
wedi sylwi ar yr hen staer yna, mae hi bron ar ei thalcen, ini yn gorfod bod
yn ofalus iawn. Beth tawn ni yn cwmpo T “Fydda dim eisia rhagor arno
chi," meddai Shenad yn ol. "Beth o'n nhw yn. gwneyd y staer mor
serth T gofynodd wedyn. “0, wn i ddim," meddai Pegi." “Beth oedd y
blaenoriaid yn peidio gofalu am betha fel yna," meddai Shenad, “i gwaith
nhw ywe; fi gynta ta chi yn cwmpo a thori' aelod, fydda dim hast ami nhw i
dalu i'ch cynal chi." Erbyn hyn yr oedd Pegi wedi eistedd gyferbyn a
Shenad, ar yr ochr arall i'r aelwyd, ac wedi sefydlu ei hun i dipyn o
ymddiddan dyddorus a hamddenol. Tynodd Shenad y box s/iuffa\\an, ac wedi agor
y cla\u-, a rhoddi cnoc bach sharp ar dalcen y fev, i dynu y snuff crwydredig
i'r canol, estynodd ef at Pegi gyda dweyd, “mynwch chi binch T Atebodd Pegi
drwy estyn ei llaw, a chymeryd pinch. Yna ymwelodd dau fys Shenad â'r blwch,
adaethant achryn dipyn o'i gynwys rhyngddynt i fyny. Yr oedd Shenad yn
dechreu brawddeg pan y torwyd arni gan disiadau Pegi a'r nodiad ei fod yn
gryf iawn, "Odi, mae tipyn o substance ynddo," meddai
Shenad. "Snuff nèt yw e, fì geso snuff yr wythnos
ddiwedda, ym helpo i'n byd, fysa llon'd
dwrn o ge ddim yn gwythur plentyn blwydd i daro entro, ond ma tipyn o
gryfder yn hwn." Cymerodd Shenad binch arall heb disian na rhoddi
arwydd o unrhyw anghysur.
Wedi gorphen â'r snuff darparodd Shenad ei hun ar gyfer ei neges. Yr
oedd wedi d'od i fyny dipyn yn gynharach nag arfer i gael ymdrin à seiat y
nos o'r blaen. Yr oedd ganddi bethau pwysig i'w dweyd, a dechreuodd arnynt.
Yn rhagarweiniol i hyny, plygodd yn y blaen tuag at Pegi, a meddai, mewn tôn
oedd yn gynwysedig o wawd, syndod, a haner o ofn,. “Gwelsoch chi shwd glwbyn
yrioed a Dafydd ni?" Parhaodd Shenad i edrych ar Pegi am ychydig amser
wedi gofyn y cwestiwn, fel pe na buasai yn disgwyl atebiad yn union, ac fel
pe bai yn apelio at deimlad ac argraíriad yn mynwes Pegi nad oedd yn caru eu
harddel a'u cydnabod. “Beth i chi yn feddwl," meddai Pegi, yn teimlo y
buasai tipyn o oleuni ar y mater yn gymeradwy. “Yn gwaeddi neithiwr yn y
seiat i fod ewedi pechu T meddai Shenad, yn dal o hyd i edrych ar Pegi.
“Wel," nieddai Pegi, ar ol tipyn o betrusder “fallai í'od e yn teimlo
felly "------ “Tcimlo felly yn wir," tarodd Shenad i fewn, “pwy
eisiau iddo deimlo
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 119. Tachwedd 1894. Tudalen 328) (delwedd K0383)
(*47)
|
328
DAFYDD TERRY.
flynyoedd mwy na'r rest o ni, theimlodd neb arall hyny ond efe yn y seiat
neithiwr, a tysa fe heb fod shwd glwbyn, theimlasa fynta ddim o hyny
chwaith."
Teimlodd Pegi ei hun yn sefyll ar dir i fesur yn anghysurus. Nid •oedd aai
ddadleu cyfreithîondeb busnes y cìock a Shenad, oblegid nid oedd yn sicr ei
bod, a barnu y mater ar ei deilyngdod ei hun, yn cytuno â Shenaci yn ei
gylch. Mewn gwirionedd, ar y foment hono, nid oedd am •deimlo dim o gwbl ar y
pwnc, a llai fyth i gydnabod y teimlad hwnw, yr hwn yr oedd arni ofn, oedd yn
groes i'r eiddo Shenad, yn ngoleuni ymwybyddiaeth. Yr oedd am barchu teimlad
Shenad, ac hefyd am barchu •ei theimlad ei hun, a chan fod y ddau yn groes,
nid oedd bosibl gwneyd hyny; rhaid oedd felly iddi guddio yr eiddo ei hun, a
rhoddi y fath •dderbyniad i deimladau Shenad, na fuasai yn ei digio hi, ac
eto i beidio rhoddi yr argraff iddi ei bod yn ei gor-fynwesu. Gorchwyl nid
anmhosibl, ond pur anhawdd.
" Bi ni i gyd yn pechu Shenad fach," meddai Pegi, gan geisio symud
yr ymddiddan o'r neillduol i'r cyffredinol, gan obeithio, er fe ddichon nid
yn ymwybodol, y buasai Shenad yn crwydro ddigon pell i diroedd eang a
•dyryslyd y cyffredinol, os nad i anghofio, o'r hyn leiaf i fethu ffeindio ei
ffordd yn ol at y neillduol, sef busnes y clock, ond camsyniodd yn
hyn; nid oedd Shenad yn myn'd i symud. “Eitha gwir," meddai Shenad,
•" Eitha gwir, yr i ni i gyd yn pechu yn eibyn Duw, bob un o honom, a dw
i yn gwadi dim o hyny. Fe wnaeth y Mab Afradlon hyny. 1 Pechais yn erbyn y
nef,' medda fo, ynte % A ni allwn i gyd wed hyny, a dw i yn gwed gair yn
erbyn cyfaddef pechod fel yna; ond ma pechod na sydd yn erbyn y nef."
Yna cymerodd Shenad seibiant, gan ddal i .edrydi ar Pegi, ond gan nad oedd hi
yn cymeryd i fyny linyn yr ymddiddan, aeth Shenad yn ei blaen. “Üdi chi yn
meddwl fod Dafydd a fina wedi pechu yn erbyn y nef, wrth dynu y tamad clock
yna i lawr, a dewis un arall Ihnccr mwy cyfaddes i'r cysegr sanctaidd yn ei
le fa V a chan gasglu gwres, aeth Shenad yu y blaen wed'yn. “Odi chi yn
meddwl y bydd y Brenin mawr yn gofyn i Dafydd a fioa yn y farn, feì o'n nhw
yn gofyn yn y seiat neithiwr, ' Beth o'ch chi yn newid y clockV “
Teimlodd Pegi radd o syndod boddhaol yn tori drosti dan yr ymadroddion
diweddaf hyn o'r eiddo Shenad. Yr oedd Pegi am gydymdeiralo à Shenad, ac
oblegid hyny am gydymffurfio hefyd â hi, ac er rhyddhad iddi, teimlodd y
gorrhwyl hwn yn d'od, os nad yn bosibl, o'r hyn lleiaf, yn llawer hawddach.
Yr oedd Shenad wedi llwyddo yn y wedd ddiweddaf osododd ar bethau, i dynu yr
elfen foesol, yn yr ystyr bwysicaf, allan ar drafnidiaeth. Nis gallasai yn
wir lai na theimlo a chydnabod os oedd newid y clock yn bechod yn
erbyn y nef, ei fod yn lled ddibwys. Ond yn lle ateb cwestiwn Shenad yn
uniongyrchol, trodd Pegi ef yn ei ol gydag un o'r eiddo ei hun, a meddai,
“Wel, pechod yn erbyn pwyyw e?" “Pechod yn erbyn y blaenoriaid,"
meddai Shenad, gan ychwanegu, “a dw i ddim yn meddwl fod eisia i neb ofidio,
nac ofni cwrdd na barn na dim arall, oherwydd pechu yn i erbyn nhw."
Chwarddodd Pegi ar hyn, a chan ysgwyd ei phen yn awgrymiadol, dywedodd, “Yn
wir, llaw rhyfedd i chi Shenad." Boddhaodd ystum a
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 119. Tachwedd 1894. Tudalen 329) (delwedd K0384)
(*48)
|
DAFYDD TERRY. 329
geiriau Pegi Shenad, a thynasanfc rhyngddynt y box snuff allan eto; yr oedd
Shenad yn anadlu awyr buddugoliaeth. Yr oedd yn amlwg ei bod wedi Ilwyddo i
lusgo cydymdeimlad â chydsyniad Pegi oddiwrth y blaenoriaid a'u trosglwyddo i
fan ag oedd yn gyfleus iawn i'w safle ei hun. Aeth y box snuffallan unwaith
yn rhagor i gyfeiriad Pegi, a gwên fynwesol yn goleuo ei llwybr, a chyngor yn
ei hebrwng. “Dewch, cymerwch binch arall, fe wnaiff les i chi," gwnaeth
Pegi felly, gan dattu gwên yn ol i freichiau gwên Shenad.
Yr oedd cwrs pethau wedi cymeryd tro sydyn. Yr oedd Shenad wedi bwriadu —
bwriad teimlad, nid bwriad rheswm — dweyd ci meddwl ar drafnidiaeth y nos o'r
blaen, a gwyddom nad otdd hwnw yn ffaí'riol iawn. Ond yr oedd gwaith Pegi yn
symud ei theimladau a'i barn am natur pechod newid y cloch yn nes i dir
Shenad, wedi lleddfu ei ho!I ysbryd, a gallesid meddwl ei bod wedi maddeu i'r
blaenoriaid i gyd, ond nid feiìy yr oedd yn holiol, ond yn hytrach effaith
cydgyfarfyddiad drwy ffrwd o deimlad ydoedd. Yr oedd ei llawenydd dros ei
buddugoliaeth ar Pegi wedi rhedeg i gyfarfod â'i chwerwder at y blaenoriaid,
ac am ysbaid wedi atal cwrs ei yrfa. Ond yr oedd yno serch hyny: a chyn hir,
dechreuodd symud yn araf yn ei flaen eto, ond nid mor gyflym. Yr oedd Shenad
a phinch o snuff rhwng ei bysedd, ac yn ei ddal yno pan yr ail gychwynodd.
“Fi weta chi ble wi yn digio wrtli y blaenoriaid yma," meddai Sheuad.
"Di nhw ddim yn nabod i Ile, ac os na fydd dyn yn nabod i le, wn ni beth
ma fa yn i nabod." "Di nhw yn nabod dim fel y dylan nhw,"
meddai Peg:.. “Na, na," atebodd Shenad. “Dyna w'i yn wed, os na fydd
dynion yn nabod i Ile, ffordd galla nhw fynd iddo? ac os na fyddan nhw yn i
Ile cu hunain, ma nhw yn boiauì o fod yn Ile rhyw un arall; a does gan hwnw
druan ddim digon o le i droi, a chweti ni mae'n myn'd yn lletwith."
“Wrth gwrs,'" dodai Pegi i fewn. “Ma nhw yn mynd ar draws i gilydd
wedi'n." Aeth Shenad yn ei blaen, “Dyna ffordd yr aeth hi mor lletwith
yn y seiat neithiwr. Fe aeth Evan Pichard, William James, aGwynoro Davies o'u
lle, a gwelwch shwd gymysgfa oedd hi. Pwy ryfedd eu bod nhw yn damshal ar
draed i gilydd." Gweithio ei ffordd yr oedd Shenad gan bwyll at y
blaenoriaid. Yr cedd am gario cydyiìide.im'ad Pegi gyda hi, ac hefyd ddweyd
ei meddwl yn gryf am y frawdoliaeth, ond nid oedd yn sicr pa mor belled y
deuai Pegi gyda hi, felly yr oedd yn rhaid bod yn ofalus a chynil. Plygodd
ymlaen at Pegi eto, a meddai mewn llais ise!, haner sibrwd, fel pe bai
gwendid y llais yn tynu i ffwrdd lynidra ei geiriau a'i syniadau. “Odi chi
ddim yn credi fod Gwynoro Davies yna yn rhy hir i big — dicyn?" “O, mae
e yn ieuanc," meddai Pegi yn ol, “Odi, odi," wrth gwrs, atebai
Shenad, “ond dyna sydd yn ym synu i, i fod a mor fonroni, ac ynta mor ifanc.
Crotyn yw e dyn, ac yn gallu gwed wrth Dafydd ni neithiwr i fod e wedi pechu.
Betli tysa fa fyw yn amser John Elias?" Dywedodd Shenad hyn mewn ton
oedd yn cyfleu y dylasai Gwynoro fod yn ddiolchgar iawn i Ragluniaeth nad
uedd wedi cael ei eni haner can'mlynedd yn gynt. “Mae e yn weithgar iawn,"
meddai Pegi. “0, odi," rneddai Shenad, “h' yriod ei ffyddlonach e am
hyny, ond gwyddoch chi, rhai dangcrus yw'r dynon gweithgar yma. Mae
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 119. Tachwedd 1894. Tudalen 330) (delwedd K0385)
(*49)
|
330
DAFYDD TERRY.
nhw a'u bysedd yn mhob peth, ac yn cymeryd gormod arni nhw getyn. Beth odd i
fysnas e i wed wrth Dafydd ni neithiwr i fod e wedi pechu?"
Bu tipyn o ddistawrwydd ar hyn. Yr oedd Shenad yn
teimlo nad oedd cydymdeimlad Pegi yn canlyn yn ewyllysgar iawn yn awr, ac
felly gadawodd Gwynoro yn llonydd i droi at y lleill, a meddai, mewn tôn isel
eto, fel pe buasai yn dadlenu rhyw ddirgelwch mawr, “Odi chi ddim yn gwel'd
Evan Richard a William James yn dechra chwyddo V “Synwn ni nad •di nhw dipyn
bach," meddai Pegi. “Dyna'r camsynad o nythur blaenoriaid newydd,"
meddai Shenad. “'R'odd y ddoi ddyn yn biwr ddicon cyn mynd i'r set fawr. Wi
'n ffaelu deall beth sydd ar ddynon sha gwythur blaenoriaid. Pwy eisia eu
gwythur nhw odd?" “Wel," meddai Pegi, “mae rhaid i arfer nhw, a'u
dysgu nhw, onte beth ddaw o'r lle ar ol i Dafydd fynd?" “Twt, dysgu yn
wir," mäddai Shenad, “di nhw ddim yn trio dysgu, tyswn ni yn gwel'd rhyw
arwydd o hyny ynddi nhw, fyswn ni yn gwed dim. Ma nhw'n credi i bod nhw yn
gwybod pobpeth, a wddon nhw ddim — dim ar ddim am betha crefydd; ond
dyna," meddai Shenad, yn cydnabod presenoldeb yr anmhosibl, “rhaid i ni
ddoti i fyny gyda nhw yn awr wi'n sposo, waith fe fydd rhaid myn'd â'r mater
i'r Cwrdd Misol i altro petha, a bysnas drafferthus fysa hyny."
Cydsyniodd Pegi a Shenad mai gwell oedd gadael pethau fel yr oeddynt, yn
hytrach na thori ar heddwch y Cwrdd Misol drwy geisio eu newid. Ond nid
oeddynt wedi gorphen â'r blaenoriaid eto. Tro Pegi oedd yr adeg hon. “Mae'n
odd iawn," meddai “i bod nhw yn dodi y .clock ar y wal, y tu
cefan i'r pregethwr; yn front y gallery yr oedd clock yr hen gapal,
i'r pregethwr gael ei weld e." “O'm helpo'i," meddai Shenad, “Ma
nhw yn gwythur cymaint o bethau odd yn awr, fel nad dw i yn synu at ddim,
synwn ni ddim ta nhw yn i ddoti e i mas ar front y capal i'r byd gâl gwel'd
beth o'r gloch yw hi, ac yn wir clock /;jv/yw e, nid clock i
bobl a'u bryd ar betha ysbrydol; ma mwy o'r byd nag o grefydd ynddo
getyn." “Beth wnaiff y pregethwyr yn awr i wybod yr amser?" meddai
Pegi. “O," meddai Shenad, “fe fydd rhaid i'r Cwrdd Misol brynu wa/chcs
iddi nhw, waith nhw gwmpan i lawr os tro nhw yn ol i edrych ar y clock;
a dyna fel y bydd hi chi gewch wel'd. Nhw fyddan a'u watchcs i gyd, a'u
guards ar hyd y lle, yn i trafod nhw â'u bysedd, ac yn tynu sylw dyn oddiwrth
y bregath. O'm belpo'i," ocheneidiau rShenad. "Gwddoch chi beth
Pegi," aeth Shenad yn ei blaen, "wi'n amal yn diolch fod y ngyrfa i
bron ar ben. Dyna lwc yn bod ni wedi'n geni pryd y ceso ni, beth ta ni yn câl
yn geni yn awr i blith shwd .drimmings a hyn." “Mae arnai ofan yn
wir," meddai Pegi, “nad yw petha ddim yn myn'd ar i gwell."
“Gzue//" meddai Shenad, “os taw .gwe/lyv; hwn, fe fydda'n well i ni gâl
gwath." *l Hi fydd yn lletwith iawn i'r pregethwr yn awr, os na fydd
watch gento," meddai Pegi. “Ma arna'i ofan taw lletwith i ni fydd
hi," meddai Shenad yn ol. “Ma llawar o nhw yn ddigon hir i gwynt yn
barod, a châl c/ock o'u blaen, chi gewch weld, chwplan nhw byth yn awr i fod
e wedi i dynu oddiyno." “Dewch i gael dysglaid o dê Shenad," meddai
Pegi, ac yno y gadawn hwynt yn ibresenol i ni gael myn'd at Terry.
Nid oes eisiau i ni ddweyd i ddiflasdod y clock ddarfod ar ran Terry,
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 119. Tachwedd 1894. Tudalen 331) (delwedd K0386)
(*50)
|
DAFYDD TERRY. 331
yn y seiat noson y ffrae. Ni ddywedodd ef air byth wrth “bobl y drws
nesaf," na mynwesu llid at bobl ei dy ei lmn. DarfyddodJ pob peth yn
ystyr Iwyraf y gair y noson hono, a chwareu teg i Shenad hefyd, yr oedd y
digter yn trigo fwy yn nghymydogaeth y tafod, gyda hi, nac yn unrhyw fan
arall; ac er ei llymdra yn nhy'r capel, yr oedd mor serchog i Gwynoro Davies
er fod “ei big yn hir," a Evan Kichards a WilJiam James, er eu bod
hwythau yn "chwyddo," a phe buasent dri o wyr hollol berffaith, ac
o'r iawn faintioli. Awn ymlaen, gan hyny, i ddangos agwedd. Terry at
bregethwyr ieuainc, pregethwyr ieuainc yn dechreu yn y Ddinas, ac yn hyn, yn
fwy na dira, daeth cariad cynes Terry at eglwys y Ddinas i'r golwg, ac hefyd
y pwysigrwydd yn ei oìwg ef o gael pobl gyfaddas i'r sêt fawr, hyd yn nod
weithiau ar draul y pulpud.
Y cyntaf i ddechreu pregethu yno oedd, y Parch. J. Gwynoro Davies Yr oedd Mr.
Davies yn ysgolfeistr yn y Ddinas ar y pryd, ac yn aelod ffyddlawn a
gweithgar iawn yn yr eglwys yno. Yr oedd yn arwain y canu ar y Sabbath, ac
hefyd yn arweinydd Band o/ Hopc lliosog, ac ymhob cylch yn gwneyd ei hun yn
hynod o wasanaethgar.
Yr oedd Terry a'i "lygad arno," ac yn meddwl llawer iawn o hono, ac
yn taer obeithio y buasai yn sefydlu i lawr yn y Ddinas, os naddros byth,.
dros ystod ei bererindod ef ar y ddaear, beth bynag, ac y deuai yn y dyfodol
i estyn cymorth ei ysgwydd i'r achos yn y lle, pan íuasai ysgwydd Terry a'r
hon a'r eiddo eraill, wedi eu thynu i ffwrdd. Yr oedd Mr. Davies, a phob dyn
ieuanc gweithgar, felly, yn cael pob cefnogaeth a phob cyfleusdra, a hyny yn
serchog, i arfer eu dawn. Eglwys ragorol i bobl ieuainc oedd eglwys y Ddinas.
Yr oedd ei hinsawdd ysbrydol a chymdeithasol, y tyneraf a'r cynhesaf. Nid
oedd yn rhewi byth yn y Ddinas, nac yn oer iawn ychwaith. Tywynai
haulcaredigrwydd a theimladau da,. bob dydd yno, ac yr oedd yr wybren, fel
rheol, yn glir. Lle rhagorol i fywyd ieuanc i ddadblygu, ac yr oedd yn syn
gweled yr effaith o hyn ar ddyfodiaid i'r lle; rhai o honynt a adwaenem ni
cyn hyny wedi bod yn aelodau mewn eglwysi eraill, ond heb ddwyn ffrwyth lawer
yno, yn taflu ond ychydig ddail allan, a'r rhai hyny ddim yn rhy fns/i, ac
ambell i ffrwythyn bychan, di-olwg a difías, megis, bob yn ail flwyddyn, gyda
Jlaw, — dyna i gyd. Ond wedi d'od i'r Ddinas, gwelid arwyddion o í'ywyd yn
d'od i'r golwg; mynychant y moddion yn amlach, gweddiant yn well, teimlid
cynhesrwydd newydd yn eu profiadau, eangai cylch eu gwasanaeth;. a chyn hir,
safent yn y winllan, fel prenau yn doreithiog o ffrwyth — a'r cwbl drwy
hinsawddyí;/c hen gapel y Ddinas.
Ond ynglyn a phobl ieuainc y teimlid y dylanwad hwn yn fwynf byw, ac y gweud
ei effaith fwynf tarawiadol. Synid hwy gan yr awyrgylch gymhelliadol oedd yn
y lle. Ac ni byddent yn hir cyn ateb i'w ddylanwad a dadblygu i
wasanaethgarwch a diwydrwydd. Troai'r di-ystyr felly yn ystyriol; a'r
di-feddwl yn feddyJgar; ac nid anaml y daeth yr anllythrenog. yn ddaruengar a
myfyriol. Yr oedd yn rhaid i bawb, os oedd y gronyn
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 119. Tachwedd 1894. Tudalen 332) (delwedd K0387)
(*51)
|
332
DAFYDD TERRY.
craff yn chwilio am flaenoriaid, a thaflai ei rwyd o'r set fawr gan wneyd ei
oreu i'w dal.
Chwilio am flaenoriaid, ac nid am bregethwyr yr oedd Terry, a chan hyny,
cyfranai yn rhydd a chalonog at y stad bono ar
bethau fyddan' fwynf ffafriol i'w dadblygiad. Ond yr oedd yn anghofîo un
peth, a bwnw yn beth pwysig — ac mae'n rhyfedd iddo ddianc sylw Terry, befyd
— sef fod y moddion i ddadblygu blaenor a'i ddarganfod, yn foddion i
ddadblygu a darganfod pregethwr hefyd. Ond ni welodd Terry hyn hyd nes î'r
gwr ieuanc fyned beibio, neu yn bytrach dncy y set fawr, a gwneyd ei ffordd
i'r palpud, pan yr agorodd Terry ei lygaid, ac y brysiodd at steiriau y
pulpud i'w rwystro i fyned i fyny, gan geisio ei droi yn oi i'r «et fawr, i
fod yn flaenor. Hyn deimlodd Mr. Gwynoro Davies. Cyn iddo feddwl am ddechreu
pregethu, nid oedd neb yn fwy cefnogol iddo na Terry. Agorai ddrws pob maes
llafur yn rbydd iddo, gan roddi bendith ewyllysgar ar ei ben ar ei fynediad
iddo. Ac ynganai yn barhaus ei fod yn “useful iawn;" ond pan aeth
Gwynoro i ddechreu pregethu, trodd cefnogaeth Terry yn wrthwynebiad, ac aeth
yn graig rhwystr bur gadarn ar ei ffordd. “Beth yw eich gwrthwynebiad ch'i i
Mr. Davies fyn'd i bregethu,' gofynodd un o'r blaenoriaid iddo, “odi ch'i yn
meddwl i fod e yn angbymwys i'r pulpud V “Dim yn y mesur lleiaf," oedd
atebiad Terry. "Dim yn y mesur lleiaf, y mae yna gymbwysder at y
gwaith." “Wel, pa'm i ch'i yn gwrthwynebu ynte." “Wel," meddai
Terry, “does geni ddim gwrthwynebiad iddo i fyn'd i bregethu, ond hyn, y
tlodir y set fawr drwy hyn. Wi'n gwel'd perygl yn y cyfeiriad yna," aeth
Terry yn ei flaen, "maegormod o ruthro i'r pulpud. Gan gynted ag y daw
bachgen bach yn ddefnyddiol yn ein eglwysi ni, gan gynted ag y daw e' o use,
dyna fe yn troi ei ìygaid ar y pulpud, ac yn rhuthio yno ar ei union, ac
mae'r set fawr yn cael i thlodi drwy hyny. A mae eisiau blaenoriaid. cofiwch,
yn gystál a phregethwyr; d'yw pulput da ar drael y set fawr ddim yn enill
digymysg cofiwch," meddai Terry, ac aeth yn ei flaen i ychwanegu,
"A mae yna beth araJJ, fydd raid i ni gadw mewn golwg hefyd, — Ddal y
pulpud ddim mwy na'i lond, ddim mwy na'i lond, a mae e'n llanw'n gyfìym; ac
os pâr petha fel y maent yn hir, fe aiff yn rhy lawn, fydd yna ddim Jle iddi
nbw. Fe fydd raid iddi nhw wedi'n aros am 'sgidiau eu gilydd — i hyna y daw
hi." A phe buasai Terry wedi credu unwaith y buasai Gwynoro yn parhau i
fyw yn y Ddinas, nid yw yn debyg y byddai i Terry symud ei wrthwynebiad iddo
i fyned i bregethu. Yr oedd Terry wedi gósod ei fryd ar iddo fod yn flaenor
yn y Ddinas, ac nid oedd Terry yn un i ddweyd good-bye yn rbwydd iawn wrth ei
obeithiòn a'i benderfyniadau. Yr oedd cymaint o olwg ganddo ar yr hen achos
yn y lle, fel yr oedd am wneyd ei oreu drosto, nid yn unig tra y byddai byw,
ond yroedd hefyd am wneyd darpariadau ar gyfer y dyfodol. A'r ddarpariaeth
werthfawrocaf, a'r ddoethaf yn ei dyb ef, oedd llenwi y set fawr “â phobl
gyfaddas." Ac ond cael hyny, gallasai wed'yn ddweyd yn ga'onog a diofal
“Yn awr y gollyngi dy was mewn tangnefedd." Ond druan o Terry, yn lle
aros yn y set fawr, a syrthio i fewn â'i fwriadau ef, gwelodd fod y gwyr
ieuainc mwynf athrylithgar, y rhai yr oedd ef wedi
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 119. Tachwedd 1894. Tudalen 333) (delwedd K0388)
(*52)
|
UCHFEIRNIADAETH. 333
bod yn eu hyfforddi a'u maethu, yn dianc o'i afael, ac yn rhoddi ffarwel am
byth i eglwys y Ddinas.
Gofìd mawr i Terry oedd hyn, a buasai wedi ceisio newid cwrs pethau ynglyn a
Gwynoro fel ag eraill, oni bai i'r blaenoriaid eraill argraffu arno
y ffaith os na chai Ml'. Davies fyn'd i'r pulpud, y buasai yn debyg o fyn'd
i rywle arall o'r gymydogaeth. Ar hyn, meddyliodd Terry, os a'i i
ffwrdd o gwbl o'r Ddinas, y byddai yr un man iddo ar unwaith fyn'd i'r
pulpud, ac mewn canlyniad, tynodd yn ol ei wrthwynebiad: ond nid heb ddweyd
“O'm helpo i," a “Beth ddaw o'r achos bach."
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 121. Ionawr 1895. Clawr) (delwedd K0389)
|
7/
Cyf. xi. Ionawr 1894. Rhif 121.
Tudalennau 12-19
Y Lladmerydd – Cylchgrawn yr Ysgol Sabbothol.
Dan Olygaeth y Parchn. J. M. Jones, Caerdydd, Evan Davies, Trefriw, a D.
Jenkins, Ysw., Mus. Bac. (Cantab)
…..
Dafydd Terry. Gan y Parch. Daniel Thomas, Ffynon Taf
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 121. Ionawr 1895. Tudalen 12) (delwedd K0390)
(*53)
|
12
DAFYDD TERRY.
GAN Y PARCH. DANIEL THOMAS, FFYNON TAF.
IX.
Wedi i Terry weled ei bod yn ofer ceisio cadw y Parch. T. Gwynoro Davies yn y
Ddinas, ac y byddai ei rwystro i bregethu yn ddi-bwrpas i gyraedd amcan Terry
mewn perthynas i'r sêt fawr, newidiodd ei safìe
yn union, ac yn lle bod yn wrthwynebwr i Mr. Davies, daeth i fod yn gefnogwr,
— os yn gymedrol, eto yn hynod ffyddlawn iddo. Byddai yn ei gydnabod fwy ar y
cyrddau yn yr wythnos, acyn ffafriol iddo ddechreu yr odfa o flaen y
pregethwr ar nos Sabbath, ac mewn gwahanol ffyrdd yn peri i Mr. Davies deimlo
ei fod bellach ar y ffordd i ddyfod yn bregethwr. Oud ary ffordd yr oedd, a
thra y byddai yno, yr oedd Terry yn gofalu ei fod yn cadw rhwng y perthi. Nid
oedd a fynai a thori rheolau, — “Petha idd eu parchu yw rheolau," meddai
Terry ambell dro, pan welai duedd yn rhywun i grwydro, ac eto yr oedd ef ei
hun yn tori, yn ddiseremoni ddigon, reolau o ryw fath, pan fyddai hyny yn
gyfieus iddo. Ond, feallai, fod hyn yn un rheswm ei fod mor selog dros i eraill
eu cadw. Un peth yw pechu ein hunain, peth arall yw dioddef eraill i bechu.
Yr oedd Terry yn penderfynu y cai Mr. Davies gerdded rhwng y fíiniau, a chadw
mor agos ag oedd bosibl i ganol yr heol. Tra yr oedd Mr. Davies yn gyfyngedig
i'r Dosbarth, rhaid oedd iddo gadw yno, yn ol Terry. Mae'n wir fod Mr. Davies
yn myn'd y tuallan i'r Dosbarth weithiau, ac, yn wir, pwy na sydd ì Y mae'r
tamaid yn y cae nesaf yn wastad yn hynod o felus, — dyna pa'm y dringir dros
y berth, ond nid oedd Terry yn leicio hyn, — ni 'wedai lawer, ond yr oedd yn
edrych yn bur waharddedig. Ac am roddi rhyddid i droseddu ei hun, yr oedd
allan o'r cwestiwn. Y mae un engraifft yn ddigon i ddangos hyn. Un prydnhawn
Sabbath, daeth blaenor o eglwys bwysig yn rhan uchaf' y Cwm i ofyn am Gwynoro
Davies. Yr oeddynt heb yr un pregethwr yno ar y Sul hwnw, ac yn ymofyn rhywun
erbyn yr hwyr. Meddyliasant am Mr. Davies, a daethant i'w gyrchu, — rhaid
dweyd mai ar brawf yr oedd Mr. Davies yr adeg hyny, heb ryddid y Dosbarth hyd
yn nod. Daeth y gwr dieithr at ddrws Terry, — nid oedd yn gwybod lle yr oedd
Mr. Davies yn byw, — “Odi Mr. Gwynoro Davies gartref heddyw?" gofynodd y
blaenor i Terry, oddiar y drws, — yr oedd Terry yn ysmocio yn fyfyriol yn y
cornel ar y pryd. Trodd yn sydyn at y dyn, a meddai, “Odi, beth i chi yn
fofyn ag ef?" “Wel," meddai'r dyn, “eisiau pregethwr sydd arnom
erbyn heno, ac yr i ni am gael Mr. Davies, 'does yr un pregethwr geno ni
heddyw, gallwch chi ddweyd wrtho i ble mae Mr. Davies yn byw yma?" “Ma fo
i'r lan-------------" meddai Shenad, yn dechreu hysbysu, pan y torodd
Terry i fewn â “Taw son Shenad," ac aeth ymlaen i siarad ei hunan â'r
blaenor. “Galla, ond dw i ddim yn myn'd i weyd wrthoch chi." Yr oedd
Terry erbyn hyn wedi syrthio yn ol ar ei gefn yn y gadair, yn edrych tua
chymydogaeth y tân, ac yn creu cymylau modrwyog o fwg. Agorodd y blaenor ei
lygaid, a meddai, yn
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 121. Ionawr 1895. Tudalen 13) (delwedd K0391)
(*54)
|
DAFYDD TERRY. 13
ol, “Fam f “Achos dyw e ddim i dd'od," meddai Terry, ac aeth yn ei
flaen, “Does gan y bachgen ddim hawl i bregethu yn y Dosbarth, ond ar brawf,
a beth yw ych bysnas chi i dd'od yma i beri iddo dori y rheola, a myn'd ar
draws y Cwrdd Misol? Cerwch chi yn ol, a chynaliwch gwrdd gweddi. Dw i ddim
yn myn'd i adael i'r bachgen dori'r rheolau." Ac felly y bu, gorfu i'r
blaenor fyn'd yn ei ol heb bregethwr. Cadwodd Terry Gwynoro gartref i barchu
y rheolau.
Peidied
neb a meddwl wrth hyn, fod Terry yn byw ar dir nacaol a gwaharddedig, yn cadw
y rhaff yn ei law, ac yn ei thynu i fewn bob cyfle gai, yn ei berthynas â
phregethwyr ieuainc. I'r gwrthwyneb; pan fuasai
taro, 'doedd neb mor barod a Terry i sefyll wrth law, a rhoddi pob cymorth
allai. Lles y pregethwr ieuanc fyddai yn y golwg yn ddieithriad gan Terry, a
chaffai ei agwedd ato ei ffurfio a'i hamrywio yn ol yn union fel y teimlai Terry
fod galw. Os meddyliai fod eisiau bod dipyn yn sfrict, a thynu y cortyn i
fewn ychydig, gwnai Terry hyny, mor gysurus a mygu. Ond os teimlai fod angen
cydymdeimlad a symbyliad, gwnai ûy°y yr un mor barod. Yr oedd yn gweithredu
yn hollol oddiar egwyddor yn y mater hwn; yr oedd achos yr amrywiaeth yn ei
ymddygiadau feJly y tuallan i'w deimladau ei hun.
“Yn ol fel y byddai galw." Brawddeg hoff gan Terry oedd hon, yr oedd yn
aml ar ei wefusau, a bob amser, braidd, wrth wraidd ei weithredoedd. Cawn
weled hyn yn amlwg ond cymeryd engraifft arall o hanes Mr. Davies, yn ei
berthynas â Terry. Aeth Mr. Davies drwy y Dosbarth yn rheolaidd ar y cyfan,
ac yn afreolaidd yn achlysurol, — fel pawb o honom, — a chyrhaeddodd ysmotyn
bach dymunol iawn yn ngyrfa pregethwr ieuanc, sef pen blwyddyn brawf y Cwrdd
Misol, ar ddiwedd pa un gwneir yr ymgeisydd yn aelod o'r sefydliad hwnw. Hyn
ddigwyddodd yn hanes Mr. Gwynoro Davies. Wrth gael ei dderbyn yn aelod o'r
Cwrdd Misol, yr oedd yn rhaid i Mr. Davies, fel eraill, roddi ychydig o'i
brofiad, yn arbenig ynglyn â gwaith mawr y weinidogaeth. Bydd pawb yn anadlu
pryder ar yr adeg hyn, ac yn llefaru geiriau sydd yn anfoddlon i fyn'd dros
drothwy'r tafod, ond yr oedd Mr. Davies yn teimlo yn hynod o lesg, ac wedi
cael ei ddal gan gwmwl o anobaith, — oedd ar ei ffordd heibio yn ddiamheu, —
ondy funyd hon oedd yn union uwch ei ben. Yr oedd Mr. Davies felly yn ateb yn
gloff iawn, — nid oedd yn siwr a ai ymlaen a gwaith y weinidogaeth; nid oedd
yn sicr fod Duw yn bwriadu iddo fyn'd yn y blaen, ac yr oedd yn haner edifar
ganddo ei fod wedi cychwyn. Hyn oedd profiad Gwynoro, — nid oedd yn un cysurus
iawn, fel y gwelir, a hyn deimlodd y pregethwr oedd yn ei holi, — rhaid i ni
ddweyd wrth fyned heibio nad oedd y brawd hwnw yn adnabod y natur ddynol yn
dda. Dechreuodd gwynfan a thuchan, ac yn nes yn y blaen achwyn fod y brawd
ieuanc wedi ei siomi ef. A sylwodd y dylai fod yn llawn hyder flỳdd, a brwdfrydedd, a rhyw
un neu ddau gymhwysder arall yr ydym wedi eu anghofio ar hyn o bryd, ac
awgrymodd y byddaicystal i Gwynoro sefyll i lawr am dipyn, os nad myn'd yn ol
yn gyfangwbl, pan y cododd Terry ar ei draed. Trodd llygaid y Cwrdd Misol ato
yn union, — hen flaenor llwydaidd, cadarn, oedd yno, — a meddai Terry, — yr
oedd y ffon
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 121. Ionawr 1895. Tudalen 14) (delwedd K0392)
(*55)
|
14 DAFYDD TERRY.
gydag ef a'r neised goch, — yr oeddynt yn wastad yn myned i'r Cwrdd Misol
gyda'u perchenog, — “Wi'n cofio William Ieuan, Tonyrefail, yn dweyd acha tro,
' Fi wnetho dair priodas, — fi briodas wraig, a thyfaras i yrioed, yrioed\ fi
briodas eglwys Dduw, merch yr Amoriaid, a thyfaras i yrioed o hyny,
yrioed,>-;-ẃ^;
ac yn ddiweddaf oll, fì briodas y weinidogaeth, a chretwch chi fi, wi wedi
thyfaru ganwaith, odw'n wir, ganwaith, ac oni ba fod rhyw nerth, rhjjw allu,
y tu cefan i fi, yn ol y byswn ni wedi myn'd.' uyna fel y teimlai William
Ieuan." Prysurodd Terry, ac ymhelaethodd, “Chwi welwch nad yw teimladau
a phrofiad y bachgan bach yn y mater hwn ddim yn ddieithr i rai o enwogion y
ffydd. A hyn sydd genyf fi i wed wrthoch chi yma, — Gofalwch, — yna rhodiodd
y ffon donc, — gofahvck, — tonc arall, — gofalwch rhag i chwi gael eich
hunain wedi dodi ceryg ar ffordd un o neillduolion yr Arglwydd, — peth
ofnadwy yw hyny," ac eisteddodd i lawr.
Wedi d'od a'r “bachgan bach “mor belled, nid oedd Terry yn myned i'w golli yn
awr. Trodd y Cwrdd Misol gydag ef, a chydunodd pawb â Terry — yr ymholydd yn
eu plith — i osod eu dwylaw ar ysgwyddau Gwynoro, a'i wthio drwy y Cwrdd
Misol, ac felly y gwnaed. A gallwn ddweyd yn ddibetrus heddyw nad yw'r Cwrdd
Misol wedi teimlo yn edifar o'r tro hwnw.
Wedi
i'r Parch. J. Gwynoro Davies ymadael a'r Ddinas, cymerodd gwr ieuanc arall
oedd yno ei le, ac aeth i esgidiau Mr. Davies. Mae'n wir nad oedd yn eu
llanw, ond fe ddeil pobpeth lai na'i lon'd, ac yn eu plith, esgidiau Gwynoro.
Yr oedd y gwr ieuanc bwn yn gwneyd yr hyn all'sai
yntau ynglyn â'r achos, — yn arwain y Band of Hope, yn cychwyn y canu ar y
Sabbath, ac mewn ystyron eraill, yn ddefnyddiol. Ac yr oedd llygad Terry yn
dechreu syrthio arno; a haner deimlai'r hen dad ei fod yn gweled yn yr ail wr
ieuanc hwn rhyw damaid o offrwm yn cael ei estyn iddo gan ragluniaeth i'w
gymodi am ei golled o'r cyntaf. Clywid Terry yn yngan yr un geiriau uwchben
hwn eto, ei fod yn fachgen bach ìiseful iawn, ac yn "gwneyd i ora,"
ac yn y blaen, a theimlai nad oedd mewn un perygl yn y byd o golli hwn. Felly
gadawodd i'w serchiadau a'i gynlluniau redeg yn rhydd arno; a daeth yn hoff o
hono, ac yn hynod garedig tuag ato. Ond er syndod i Terry, gorff ac enaid,
dyma hwn eto yn son am fyned i bregethu. “Beth sydd arni nhw? Beth sydd arni
nhw i gyd 'sha pregethu ì “meddai Terry. “Chawn ni gadw neb gyda i,"
cwynai, a gosododd Terry ei gefn yn erbyn hwn eto i fyned i'r pulpud, am yr
un rheswm ag y gwrthwynebodd Gwynoro. Ond i wneyd ystori hir yn fyr, rhoddodd
Terry ffordd. Dechreuodd y gwr ieuanc bregethu.
Yr amgylchiad barodd i linyn diweddaf gwrthwynebiad Terry dori oedd gwaith y
gwr ieuanc yn hebrwng Terry i lawr i'r Porth ar seiat ymweliad. Yr oedd yn
oer ac yn dywyll, tua dechreu y fiwyddyn; yn dywyll iawn i hen wr fyn'd wrtho
ei hun, a phenderfynodd y gwr ieuanc fyned gydag ef. “Wn i ffordd ewch ch'i
yn y byd," meddai Shenad noswaith neu ddwy yn flaenorol, “Waeth i ch'i
yn hurt ych gwala wedi'r dydd, wn i ble ewch ch'i wedi'r nos." “Ma'r
bachgan yn d'od gyda fi," meddai Terry. “O wel ta," meddai Shenad
yn foddhaol, “fe fydda well iddo dd'od yma i gâl dysglad o de ynta iddi dwymo
fe cyn starto."
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 121. Ionawr 1895. Tudalen 15) (delwedd K0393)
(*56)
|
DAFYDD TERRY. 15
Mewn canlyniad cafodd wahoddiad i de gan Sheaad. Aeth y gwr ieuanc i dŷ Shenad — a
thŷ Shenad oedd sylwer. Terry oedd
bia'r sedd fawr, ond Shenad oedd perchen yr aelwyd — erbyn tua chwech o'r gloch
yn yr hwyr i gael te. Yr oedd Terry, fel arfer, yn eistedd yn y gadair
freichiau wrth y tan, yn canu ei grwth ac yn mygu, ac un droed ar y fender.
Yr oedd yr aelwyd yn hynod o lân; y tân — llon'd y barau o hono, yn fywyd i gyd, ac yn dangos ei ddanedd
coch wrth chwerthin mor serchus. Y tecell ar y pentan fel darn o'r hen
oruchwyliaeth, yn mwniian hen dôn oedd yn hynach nag ef ei hun lawer; a'r
teapoi ar y toster mor raenus a bywiog a phlentyn; y bwrdd crwn ar ganol y
parth, a llian mor wyn yn ei guddio, fel y buasai yn anhawdd darganfod pluen
o eira newydd ddisgyn arno; a Shenad yn llywodraethu dros bobpeth fel
brenhines yr aelwyd.
Yr oedd Shenad a Terry wedi yfed te, yr oedd yn rhy hir iddynt aros. Yr oedd
y gwr ieuanc felly i gael te wrtho ei hun. Yr oedd bara ac ymenyn wedi ei
dori yn hynod o denau, a dau blatiad o deisen ar y bwrdd; cwpanaid o de fel y
breci yn ei aros, a sirioldeb Shenad, yn sefyll wrth y bwrdd yn bendithio y
cyfan. “'Nawr byt lon'd dy fola," meddai Shenad. “Ia, Ia," meddai
Terry o gymydogaeth y tân. “Mwfwch ych trâd dyn," oedd y peth nesaf
glywyd. Yr oedd Shenad amgael dw'r o'r tecell, a chan droi at y gwr ieuanc,
meddai, “Ma fa ishta cath, fwfyff e ddirn oddiwrth y tân."
“'JNTawr," meddai Shenad eto, a chan godi y deisen yu ddarnau llwythog i
blat y gwr ieuanc, “byt, waith i ti wi wedi gwythur y dishan, ac mae'n rhaid
i ti i byta hi i gyd." “Ia, la, byt di," meddai Terry eto.
“Ia," meddai Shenad yn taro i fewn, ac yn arllwys cwpanaid o de rhagorol
i'r gwr ieuanc ar yr un pryd. A rhwng cromfachau yn sisial i'w glust,
"dyna, ŷf hwna, tra fydd e'n dwymn,
fe cynhesiff di." Ac yna yn cymeryd ei atebiad i Terry i fyny, ac mewn
llais llawer uwch, “Ia, byt di, waith os bydd rhywbeth ar ol, Dafydd i byt
e," fel tai hyny yr anffawd mwynf, “un ofnadwy am deisen yw e," aeth
Shenad yn ei blaen. “Clyw di arni," meddai Terry o'r gornel. “Wi'n gwêd
y gwir," meddai Shenad, “Fe ela odd'yma i flaen y Cwm i gâl tishan neu
bregath." “Rhai rhyfadd yw'r mynywod yma bachgan," meddai Terry.
“Ün rhyfadd yw ynta hefyd," meddai Shenad yn haner distaw wrth y gwr
ieuanc — “Am dishan ta beth." “Beth, dim rhacor?” meddai Shenad wrth y
gwr ieuanc, ei fod yn gomedd ychwaneg. “Bachgan, cwpla un plat, waith Dafydd
fyt y cwbl fydd ar ol. “" Ia, Ia, byt di y cwbl," meddai Terry,
“waith fi alla i gâl rhagor." “Gall, gall," meddai Shenad, rhag
hefyd fod tosturi wrth hoffder Terry o deisen yn debyg o gwtogi y cyfiawnder
oedd y gwr ieuanc yn alluog i wneyd â'r trugareddau, oud yr oedd yn anmhosibl
bwyta ychwaneg; yr oedd y gwr ieuanc wedi ei helaeth ddiwallu. Parotowyd felly
i gychwyn. Gwisgodd Terry wmredd o fwfflers a chotiau o'i gylch; rhwymodd
Shenad y gwr ieuanc mewn ychwaneg o'r pethau hyn nag oedd am dano. Cymerwyd y
y /aniern, a chychwynwyd, Terry a'r gwr ieuanc, fraich yn mraich tua'r Porth,
tra y safai Shenad ar y drws a'r ganwyll yn ei llaw i sicrhau eu bod yn
cymeryd y cyfeiriad iawn.
Wedi
cerdded am ysbaid o ffordd yn fud, heb ddim i dori ar y distaw-
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 121. Ionawr 1895. Tudalen 16) (delwedd K0394)
(*57)
|
16 DAFYDD TERRY.
rwydd ond swn traed y pererinion, ae ambell i duchaniad oddiwrth Terry yn ei
ymdrech i fygu, ac wedi myned allan o gymydogaeth y Ddinas, dechreuodd yr hen
dad siarad, — “'Does gen i ddim yn dy erbyn di i fyn'd i bregethu, cofia, ond
ofan dy golli di o'r lle." Yna distawrwydd _am ychydig. “Mae Gwynoro
wedi myn'd. Rown ni'n meddwl yn siwr idd ei gadw fe; fe fuasai yn help mawr
i'r achos. 'Roedd e'n ddyn cyflawn iawn, ond dyna fe wedi myn'd; a ddaw e
ddim yn ol. A 'nawr dyma titha'n myn'd. Rown ni'n meddwl siwr dy gadw di, ond
dyma titha'n myn'd; a ddoui dithau ddim yn ol. A beth mae'r achos bach yn
myn'd i wneyd." Yna cwynfanai Terry dipyn, a murmurai rhyw eiriau wrtho
ei hun, nad oedd neb yn eu clywed. Ac ymdrechai yn ofnadwy i ail gyneu ei
bibell, yr hon oedd bron wedi myned yn niffodd yn yr amser gymerodd Terry i
siarad. Dechreuodd lefaru eto. “Mae dynion yn cael eu hachub am ddau reswm,
rhesymau daearol wel'd di. Y mae corff mawr y ddynoliaeth yn cael eu hachub
er eu mwyn eu hunain, dyna sydd gan y Bod mawr mewn golwg wrth i cadw nhw, a
siarad yn ddaearol." Yradrech i ail gyneu y tân yn y bibell. “Hyn wi yn
feddwl, di nhw o fawr werth gyda'r achos; pob! llawr y capel i nhw, di nhw o
un use yn y sêt fawr. Dallan nhw wneyd dim dros yr achos. Ac ma nhw yn câl i
hachub er eu mwyn eu hunain." Ymdrech arall i ddeffro'r tân yn y bibell,
yr hwn oedd bron wedi myn'd i gysgu, ac aeth yn ei flaen. “Mae yna ddosbarth
arall yn cael eu hachub yn mlaenaf er eu mwyn eu hunain, fe ddichon, ac hefyd
oblegid y gwasanaeth allan nhw wneyd. Ma'r bobol hyn yn cael eu hachub er
mwyn yr efengyl yn gystal ag er mwyn eu hunain. Pobol o gynheddfa i nhw, a ma
eisiau cynheddfa ar yr efengyl. 'Dall hi ddim bodoli ar wagedd."
Seibiant eto. “Fi fyddai'n meddwl weithia taw dyma'r rheswm y cafodd yr
apostol Paul ei achub, oherwydd i gynheddfa. Dw i ddim yn siwr na theimlodd
yr Athraw mawr wedi iddo fyn'd yn ol i'r gogoniant ei fod wedi gadael rhy
fach o gynheddfa ar ol, 'doedd dim ond dau o nhw a gallu ynddi nhw. Pedr a
Ioan; pobol fach ddigon cyffredin oedd y gweddill — ac iddo alw Paul iddi
helpu nhw, oherwydd y gwasanaeth allsa fe roddi; a dyna ddywed ef ei hun, ei
fod yn llestr etholedig i ddwyn yr efengyl i'r Cenhedloedd. Dyn er mwyn yr
efengyl oedd Paul; a dynion er mwyn yr efengyl oedd hen bregethwyr Cymru
hefyd. — John Elias, John Jones, Talsarn, Henry Rees; ac yn ein hamser ni,
William Ieuan o Donyrefail, Owen Thomas, Edward Mathews, a Saunders addfwyn.
Ma'r bobol hyn wedi cael eu hachub nid er eu mwyn eu hunain yn unig, ond
hefyd er mwyn yr efengyl." Seibiant eto, ac yna, — “Wi'n cadw'm llygad
ar betha yn y Ddinas, fel y gweli, a wi'n chwilio am rywun all fod o
wasanaeth i'r efengyl, yn y lle, a dw i yn gwel'd fawr o nhw, ond Gwynoro a
ti. Rown i yn gwel'd tipyn o leshad i'r efengyl ynoch ch'i, ond yn awr dyma
ch'i ych doi yn myn'd, a does neb ar oî, ueb er mwyn yr efengyl."
Cariad at eglwys y Ddinas, fel y gwelir, oedd yn llywodraethu ymddygiad Terry
at y pregethwyr ieuainc, ond nid oedd yn ei adael i ddadblygu i ystyfnigrwydd
a llid; wedi i'r shoclc gyntaf fyned drosodd, deuai teimladau goreu ei galon
i'r wyneb eto, a chaffent berffaith ayddid i chwareu. Yr amgylchiad
ddaugosodd hyn fwynf amlwg, oedd
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 121. Ionawr 1895. Tudalen 17) (delwedd K0395)
(*58)
|
DAFYDD TERRY.. 17
adeg arholiad y gwr ieuanc dan sylw, gan genhadon y Cwrdi Misol. Adeg
ddifrifol yw hon i'r pregethwr ieuanc. Fel y gwyr pob ymgeisydd am y
weinidogaeth gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, mai rhyw swn dyehrynadwy yw y
geiriau cenhadon y Cwrdd Misol, mae awyrgylch y cenhadon hyn yn farnol, a
theimlir fod moroedd o awdurdod y tucefn iddynt; ac weithiau bydd hyd yn nod
y cenhadon eu hunain yn ymwybodol o'r awdurdod hon, amgylchiad sydd yn ei
gwneyd yn bur ddifrifoi i'r tamaid ymgeisydd.
Safant hwy, y cenhadon, o'i flaen yn golofnau o nerth, heb fymryn o wendid yn
perthyn iddynt, yn ol ei dyb ef. Nis gali synied am danynt yn ddarostyngedig
i wendidau'r cnawd. Nis gall gysylltu â hwynt flinder a lludded, newyn a
syched, a'r Ilesgedd hwnw sydd yn gorddiwes ac yn gorlethu eneidiau dynol.
Darnau o greigiau ydynt iddo ef. O'r tu arall, eistedd yntau — y pregethwr
ieuanc, yn ddeilen grynedig o'u blaen, yn disw o wendid, anallu ac
anwybodaeth, tra y mae ei hunanwybyddiaeth yn taflu ei oleu creulawn ar yr
oll o'i gwmpas ac o'i fewn. Hyn oedd teimlad y gwr ieuanc dan sylw ar noson
yr arholiad yn y seiat. Y ddau genhadwr oeddynt y Parch. John WilHams,
Cwmparc, yr adeg hono, a Mr. David Morgan Jones, Treherbert, y dyddiau hyny;
dau ddyn digon cartrefoi a charedig, a gwnaethant eu goreu i ddileu pob
dychryn yn nghalon y pregethwr ieuanc. Wedi dechreu y seiat, a chael yr
adnodau, cododd Mr. Williams ar ei draed. Yr oedd Terry yn eistedd yn y
gadair fawr dan y pulpud yr ochr arall i'r sêt fawr, tra yr eisteddai'r
ymgeisydd o flaen Mr. Williams. Duwinyddiaeth oedd maes Mr. Williams, ac yr
oedd dalen o bapyr yn ei law er sicrhau trefn yn ngofyniad y cwestiynau.
Ehoddodd air o anogaeth i'r gwr ieuanc ar y cychwyn yn garedig iawn, i beidio
ofni, ond bod yn rhydd, ond buasai yr un man iddo ddweyd wrth y nos am gilio.
Y cwestiwn cyntaf a ddaeth, a disgynodd fel estron annaearol ar y gwr ieuanc,
ond wedi moment o seibiant, rhoddodd atebiad iddc. “Da iawn," meddai
Terry o'r fan draw, yr oedd yntau yn gwrando yn astud. Cwestiwn arall eCo
ddaeth, a dychwelwyd ateb iddo, a daeth “da iawn “ar ei ol drachefn oddiwrth
Terry. Wrth fyned yn y blaen, aeth y cwestiynau yn galetach, nid oeddynt yn
rhy galed, ond yr oeddynt yn ddigon caled, — rhaid yw gwneyd cyfìawnder â'r
Cwrdd Misol yn ogystal a thrugaredd â'r ymgeisydd — o ganlyniad daeth atebion
y gwr ieuanc yn fwy araf ac ansicr, ond dyma gwestiwn ymhen tipyn a darawodd
yr ymgeisydd i lawr, ac er ymbalfalu yn nghelloedd pur wâg a niwliog ystafell
ei wybodaeth, methodd a d'od o hyd i'r un ateb. Eisteddai fan hyny yn fud o
âaen yr arholydd, a safai hwnw yn fud o flaen yr ymgeisydd yn disgwyl am ateb
ac yn dweyd “dewch chwi." Parhaodd y mudandod hwn ychydig eiliadau, ond
torwyd arno gan swn Terry yn codi ar ei draed ac yn cerdded yn groes i'r sêt
fawr, gan eistedd yn ymyl y pregethwr ieuanc, a gosod ei law ar ei glun ef.
Ac er syndod i bawb, gwelwyd ei fod yn sibrwd atebiad i'r cwestiwn yn nghlust
y pregethwr bach, yr hwn drosglwyddodd yr atebiad yn gryno i Mr. Williams.
Terry yn coroni'r busnes i gyd a “da iawn." Edrychodd yr
holydd ar Terry, ac edrychodd Terry yn ol yn ddiofn ddigon. Cwestiwn arali
ddaeth, a
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 121. Ionawr 1895. Tudalen 18) (delwedd K0396)
(*59)
|
18 DAFYDD TERRY.
chyn rhoddi amser i'r dyn ieuanc ateb, dyma Terry a'i wefusau yn ei glust eto
yn tywaut tipyn o wybodaeth iddo, trosglwyddodd y gwr ieuanc yr atebiad, a
dywedodd Terry "da iawn." Edrychodd Mr. Williams yn bur awgrymiadol
ar Terry y tro hwn, ond edrychodd Terry yn ol yn hynod o gysurns. Cwestiwn
arall ddaeth, ac atebiad arall — oddiwrth Terry, drwy y dyn ieuanc, a “da
iawn “yn ei ganlyn ef. Ar hyn, tynodd Mr. Williams ei hun ynghyd a gofynodd,
“Wel, pa un o honoch chwi sydd yn myn'd i bregethu % “" Ond taw, helpu'r
bachgen bach w' i," haner floeddiai Terry. Wedi ysbaid byr o amser, aeth
Mr. Wjlliams yn y blaen gan deimlo ei fod wedi rhoddi taw ar Terry yn awr,
gofynodd gwestiwn wed'yn, ond aeth Terry yn y blaen i ateb fel cynt. “Terry,"
meddai Mr. Williams unwaith yn ychwaneg, “byddwch chi yn llonydd," “Ond
taw, helpu'r bachgen bach w' i," meddai Terry eto, a helpu'r bachgen
bach wnaeth Terry hyd y diwedd.
Wedi i Mr. Williams orphen, cododd Mr David Morgan Jones, y blaenor yr adeg
hyny, ar ei draed, i holi ar Wybodaeth Gyffredino].
Yn awr rhaid dweyd fod mwy o ofn blaenor ar ymgeisydd ieuanc, fel rheol, na
phregethwr. Lledneisrwydd sydd yn nodweddu'r pulpud, ond awdurdod sydd yn
hynodi'r sêt fawr. Gan flaenor y mae llyfr y cyhoeddiadau. Pwy wyr gynwys y
ffaith yna, a beth yw ei gallu 1 Y blaenor sydd yn rheoli, yn trefnu, ac yn
penderfynu tynged pob pregethwr yn ei berthynas â'r eglwys. Gwaith pregethwr,
ar y llaw aralì, yw erfyn ar bechaduriaid dros Dduw% a derbyn yn ddiolchgar
hyny o gyhoeddiadau a ga, a'r tipyn degwm.
Yr hwn lanwodd uchaf ein drychfeddwl am bregethwr oedd Doctor Saunders. Nid
oedd neb fel efe. Yr oedd genym edmygedd diderfyn o gewri eraill y pulpud,
ond Saunders oedd y tywysog, efe oedd y brenin. Teimlem bob amser, pan yn ei
wrando ef, ein bod ar Fynydd yr Olewydd, a'r gwynfydau yn esmwyth ddisgyn fel
plu gwyn, distaw, ysgafn, ar ein calonau, ac fel dyn hefyd, disgleiriai ei
ragoriaethau gyda'r un tanbeidrwydd. Teimlai pawb yn ei bresenoldeb ef, eu
bod yn ymyl calon lnnod o eang, hynod o fawr, yn plygu yu drugarog dros yr
helbulus a'r pechadurus, fel nefoedd gymwynasgar, hsb ddim i dori ar wres ei
chariad ond ambell i gwmwl o dosturi gwyn.
Saunders oedd y pregethwr, a Terry oedd y blaenor, heb neb yn corffori
neillduolion y sêt fawr fel efe. Oherwydd y gwahaniaeth hyn, yr oedd ar y
pregethwr ieuanc fwy o ofn Mr. Jones na Mr. Williams, hyd nes i Mr. Jones
godi ar ei draed, ac i'r dyn ieuanc ei weled. Nid oedd yn ei ofni mwy;
teimlodd fod blaenor rhyfedd o'i flaen — blaenor wedi ei eni yn y pulpud, ac
wedi ei fagu megis yn nghawell Saunders. Yr oedd Mr. Jones yn annhraethol fwy
tebyg i Saunders nag i Terry, a chyn hir ar ol hyn, aeth i'w le ei hun, — y
pulpud.
Gwnaeth ysbryd caruaidd Mr. Jones i'r pregethwr ieuanc deimlo yn gartrefol
cyn hir. Yr oedd y cwestiynau heb fod yn galed, yn atebadwy bron i gyd, ac yr
oedd pethau yn myned yn y blaen yn llon a hapus dros ben. Parhaodd Terry i
eistedd yn ymyl y gwr ieuanc hyd y diwedd, rhag y gallasai/orf iaro, ond yr
oedd yn hynod ddistaw. A dweyd y gwir, nid oedd Terry yn gwybod cymaint am y
byd hwn, ag am y nesaf
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 121. Ionawr 1895. Tudalen 19) (delwedd K0397)
(*60)
|
YMGYSEGEIAD. 19
— maes duwinyddiaeth. Ond yn nghauol yr heddwch i gyd, ac yn groes i
ddisgwyliad pawb, dyma gwestiwn oddiwrth yr hynaws Mr. Jones, a darawodd yr
ymgeisydd i lawr. “Pwy sydd wedi gwadu awduraeth Pum' Llyfr Moses ì" Ni
wyddai'r dyn ieuanc. Gwelodd Mr. Jones hyn, ac yr oedd Terry yn dawel iawn
hefyd. Ond nid oedd Mr. Jones yn myn'd i'w arbed. “Terry," meddai,
“Allwch ch'i ddweyd wrtho ni, dewch, chwi gewch chwi ateb faint fynoch chi yn
awr." Ac ail adroddodd Mr. Jones y cwestiwn i Terry, ond yr oedd yn
dywyllwch Aifftaidd ar Terry; mwmianai yn y fan hono, “Pum' Llyfr Moses, Pum'
Llyfr Moses." “Ië," meddai Mr. Jones, “wyddoch chi pwy sydd wedi
gwadu eu hawduraeth nhw 1 Atebwch ch'i yn eof n," meddai Mr. Jones yn
ddrwg. “Pum' Llyfr Moses, Pum' Llyfr Moses," meddai Terry. “O'm
helpo'i." Nid oedd Terry erioed wedi clywed arn Colenso, na'r gwr
ieuanc, felly gorphenodd yr hen dad a'r “bachgen bach “yr arholiad, er eu
holl ymdrech yn erbyn y clawdd.
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 123. Mawrth 1895. Clawr) (delwedd K0398)
|
7/
Cyf. xi.Mawrth 1895. Rhif 123.
Tudalennau 76-83
Y Lladmerydd – Cylchgrawn yr Ysgol Sabbothol.
Dan Olygaeth y Parchn. J. M. Jones, Caerdydd, Evan Davies, Trefriw, a D.
Jenkins, Ysw., Mus. Bac. (Cantab)
…..
Dafydd Terry. Gan y Parch. Dl. Thomas, Ffynon Taf
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 123. Mawrth 1895. Tudalen 76) (delwedd K0399)
(*61)
|
76 DAFYDD TERRY.
GAN Y PARCH. DANIEL THOMAS, FFYNON TAF.
X.
Wel, dyma ni wedi d'od o'r diwedd at yr ysgrif olaf ar Terry. Nid oeddem yn
meddwl ar y cychwyn y buasem eyhyd gydag ef. Anhawdd iawn oedd dyfod oddiwrth
Terry pan oedd yma ar y ddaear yn ein plith. Pan ddeckreuid siarad ag ef yn
nhŷ'r capel, neu yn ei gartref
ei hun, cadwai yn ddidrafferth ac hefyd yn ddifwnad, ei gyfeillion i wrando
ar ei ymadroddion dyddorus hyd awr hwyr yn y nos, er cael ei ddwrdio lawer
gan Shenad am wneyd hyny. “Waith," fel y dywedai hi, “pwy sense yw clebran
yn mlân fel ta dim cloc yn bod." Y mae yr un swyn yn perthyn i Terry er
yn ei fedd, nid oes eisiau ond dechreu siarad neu ysgrifenu am dano i aros
gydag ef, ac aros yn hir hefyd. Ond er mor flasus y gymdeithas, rhaid dweyd
fel yr arferai Terry ei hun ddweyd ar gyffelyb amgylchiad, “Mae'n myn'd yn
hwyr, rhaid myn'd, frodyr bach, nos da, nos da." Rhaid i ninau yn awr
ddweyd nos da wrth yr hen dad, a thynu i ben. Ond ar y ffordd tua'r drws,
dywedwn air neu ddau yn ychwaneg am dano.
Yr ydym wedi cyfyngu ein hunain yn hollol yn yr ysgrifau blaenorol at ein
profiad o Terry yn ei gysylltiadau crefyddol. Nid ydym wedi dweyd gair am
dano yn ei berthynas a chymdeithas ar wahan i grefydd; yn un peth oblegid yn
ein hamser ni yr oedd wedi darfod a'r byd a'i gymdeithas ond fel yr oedd yn
cyffwrdd a'r ysbrydol. Yr oedd Terry wedi gorphen gweithio, a Shenad ac yntau
yn byw yn gysurus. ond yn gynil, ar y tipyn llôg ddeuai iddynt oddiwrth rent
yr ychydig dai feddent, ac hefyd drwy fwyta gan bwylí bach — bob yn
friwsionyn — rhyw geiniog o arian fyddai ganddynt yn y ty. Yr oedd Terry wedi
bwrw ei arfau i lawr, ac wedi troi o'r neilldu, efe a Shenad, i aros yn
hamddenol yr alwad; ac ymroi felly yn gyfangwbl i “bethau enaid." Ond bu
tymor yn hanes Terry pan y cymerai ran flaenllaw iawn mewn pethau
cymdeithasol, yn neillduol yn y drafnidiaeth rhwng y gweithwyr a'u meistri,
fel y cawn weled yn nes yn y blaen. Ac hefyd mae'n debyg ei fod ar un adeg
wedi bod yn ddiwyd a brwd iawn gyda dirwest. Yr oedd blynyddoedd cyntaf Terry
yn flynyddoedd terfysglyd iawn yn hanes crefydd Cymru. Blynyddau y dadieuon
oeddynt, dadleuon ar ddirwest, ar fedydd, ac ar bynciau o athrawiaeth, a
gynhyrfent y wlad drwyddi. Yn wir, dyma yr hen ffordd o wyntyllu pethau. Yn
ein dyddiau ni y mae y papyrau newydd wedi cymeryd lie y dadieuon hyn, ac
wedi rhoddi pen arnynt. Yn awr ysgrifenir pobpeth, a lledaenir ef o dŷ i dŷ, a gall pawb wrth sipian
eu cwpanaid tê yn y boreu, weled beth y mae pawb eraill wedi ei ddweyd ar
bob pwnc. Ond nid oes eisiau i ni gamu dros lawer o flynyddoedd i gyraedd
adeg nad oedd yr un papyr newydd dyddiol yn y dywysogaeth, na ilawer o rai
wythnosol. Y ffordd fwynf effeithiol felly, ac hefyd uniongyrchol, oedd
trefnu dadl gyhoeddus, a siarad y pwnc o'r ddau du, a gadael y byd i farnu
rhwng y ddwy blaid. Y mae rhai o'r
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 123. Mawrth 1895. Tudalen 77) (delwedd K0400)
(*62)
|
DAFYDD TERRY. 77
brwydrau tafod hyn a'u clod eto yn fyw. Er engraifft, ni anghofir yn fuan
ddadl fawr Rhymni ar Fedydd, pan y rhoddodd Jones, Llangollen, fel y dywedai
cyfaill wrthym dro yn ol, “y fath olchfa i'r Baptists na chodson nhw ddim o'u
pena hyd i Broffeswr Hugh Williams ddarllen i bapyr pwy ddydd yma."
Tua'r un adeg, cymerodd dadl fawr ar ddirwest le, yn Llantrisant, — man
genedigol Terry, ac y mae yn bur debyg ei fod ef yno ar yr adeg hyn — rhwng
Jones, Llangollen a Ieuan Myfyr oBontypridd. Mr. David Evans, Docks,
ddywedodd yr hanes wrthym yn ddiweddar, a rhaid i'r darllenydd facldeu i ni
am aros munyd uwchben hon i ddweyd gair am dani. Y mae yn ddangosiadol o'r
amseroedd yr arweiniodd llwybr Terry ef drwyddynt. Mae'n debyg nad oedd y
blaid. wrth-ddirwestol yn erbyn dirwest ar bob tir. Cydnabyddent ei fod ar
dir rheswm yn dda, ac i'w gymeradwyo, ond ei fod yn anysgrythyrol. Yr oedd y
cwestiwn yn troi felly o gylch perthynas y Beibl â dirwest. Penderfynu hwn
oedd yn gosod terfyn ar y ddadl y naill ffordd neu'r llall.
Argument gryfaf y gwrth-ddirwestwyr oedd troad y dwfr yn win gan yr
Iachawdwr yn Cana Galilea. Dadleuent nad oedd y fath beth yn bod a gwin
anfeddwol, ac yr oedd y ffaith hon yn ddigon, yn ol eu tyb hwy, i roddi taw
ar holl ddirwestwyr y byd. Ac yn wir yr oedd y blaid ddirwestol yn cerdded yn
ysgafn iawn dros yr engraifft hon, ac yn teimlo yn ddrwg ganddynt i'r gwin
redeg yn fyr yn y briodas, fel ag i alw am wyrth oedd yn rhoddi benthyg ei
hun mor rhwydd i'r gelyn. Ond nid oedd dim i'w wneyd ond pasio heibio i'r
ffaith hon, ac aros y tucefn i rai eraill oedd yn fwy ffafriol.
Pe byddai ond posibl cael gwin anfeddwol!! Ië, ond yr oedd y fath fendith yn
rhy dda i freuddwydio am dani. Dyma fan gwan y dirwestwyr, a mawr siaradent
am dano. Ond er syndod nid ychydig iddynt, a toddhad mwy, daeth gair o rywle
gyda'r gwynt, yn hysbysu fod gwin anfeddwol yn òod, a'i fod yn Aberystwyth,
ac y gellid ei gael ond myn'd yno. Nid oedd yr un trên yr adeg hyu, cofier,
rhaid oedd cerdded. Aberystwyth — Aberystwyth! Ië. "Faint o ffordd
sydd?" "Dros gan' milldir." Trueni ei fod mor bell. Ond byddai
preseuoldeb y gwin anfeddwol yn y ddadl yn fagnel a chwythai gorwynt o
ddinystr ar y gwrth-ddirwestwyr. “Y fi a i iddi fofyn o," meddai un
Dafydd Davies, melinydd, “cha'n nhw ddim o'n wado ni, taw ni'n gorod cerad
bob cam." Well done Dafydd Davies. Bu cystal a'i air, cerddodd i
Aberystwyth, — a cerdded ddarfu iddo, — a cherddodd yn ei ol a dwy neu dair
potelaid o win anfeddwol ar ei gefn, i fod yn bresenol ar y ddadl. Rhoddodd
hyn galondid anfesuradwy i'r dirwestwyr, a phrofodd hefyd yn andwyol i'r
blaid wrthwynebol. Aeth y gair ar led yn eu mysg cyn hir fod y gwin
anfeddwolyn bod, a'i fod yn awr yn Llantrisant, ac y byddai yn bresenol yn y
ddadl i brofi ei fodolaeth, pe byddai chwant ar rywun i wadu hyny. Ac yn siwr
ddigon yr oedd yn bresenol wrth draed y stage, dan Iygaid y dadleuwyr, mewn
basged ar fraich Dafydd Davies; gyda'r canlyniad i Ieuan Myfyr, a phob
gwrth-ddirwestwr arall, gadw yn ddigon pell draw o Cana Galilea y diwrnod
hwnw.
Yn y farchnadfa y cymerodd y ddadl le, a chanoedd, os nad miloedd o
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 123. Mawrth 1895. Tudalen 78) (delwedd K0401)
(*63)
|
78 DAFYDD TERRY.
bobl yn bresenol. Dechreuai y cyfarfod cyntaf am ddeg yn y boreu, a pharhau
hyd ddau, a byddai cyfarfod arall drachefn, yn yr hwyr. Yr oedd yn amser
prysur, — y dirwestwyr yn cael y goreu o honi, yn amlwg Yr oedd Jones,
Llangollen, yn guofio Hebraeg a Groeg, — ergydion ofnadwy oedd y rhai hyn,
nes synu pawb; ac yn dadleu fod yr adnod yn y gwreiddiol, yn llawer mwy eglur
o du dirwest nag ydoedd yn y Gymraeg. “Ia," meddai rhywun, “ond ffordd
gwddon ni ych bod chi yn quoto yn right? Os Bibl Hybrag yma?" Na, nid
oedd un, na neb o'r gwrth-ddirwestwyr yn “cofio “yr adnod yn y gwreiddiol.
Ond yr oedd “Ffirad Tomos," Pentyrch, yn bresenol, — gwrth-ddirwestwr
mawr. Meddyliodd Ffirad Tomos y buasai yn dda fod Bibl Hybrag wrth law, i fod
yn check ar Mr. Jones. Mewn eiliad, gwelwyd y Ffìrad yn prysuro tua'r ystabl,
ac yn cyfrwyo y ceffyl, ar funyd nesaf ar ei ffordd, yn myned ar garlam
hefyd, tua Llandaf, at yr esgob, i fofyn Beibl Hebraeg, ac ni fu fawr o
drocyn d'odyn ei ol ychwaith, a'r Beibl Hebraeg gydag ef, yr hwn gafodd yn
ewyllysgar gan yr esgob at bwrpas mor fendithiol. Wedi cyraedd y stage,
estynodd y Ffirad y Beibl i Mr. Jones i “ddarllen “yr adnod yn Hebraeg, oedd
dipyn cyn hyny wedi ei adrodd. Agorodd Mr. Jones y llyfr, ond erbyn edrych, hen
Feibl ydoedd, heb ei ranu a'i ddosranu i beaodau ac adnodau. Yr oedd Mr.
Jones felly yn methu d'od o hyd i'r adnod; meddyJiodd y gwrth-ddirwestwyr ar
hyn, na fuasai yn ei ddarganfod o gwbl, a'i fod yn y ddalfa. Yr oedd Ffirad
Tomos, yn y rhagolwg o hyn, yn gwenu yn gysurus, a Ieuan Myfyr yn edrych yn
hapus dros ben, tra difyrai eu canlynwyr eu hunain mewn tafíu brawddegau
cellwerus a direidus at Mr. Joces. “Mynwch chi ganwyll," meddai un.
"Ystyn dy spectals iddo Twm," meddai arall. “Falla i bod hi wedi
cilo," — sef yr adnod, — gwaeddai y trydydd. “Edrychwch i mas ar y
clawr," ac yn y blaen. Yr oedd y dirwestwyr yn cadw yn bur ddistaw y
munydau hyn. Ond dyma law y dadleuydd i fyny. Distawrwydd! Y mae y benod wedi
ei ffeindio, a'r adnod hefyd; yn awr ynte. Darllenodd Mr. Jones yr adnod
allan yn groew, a meddai, “Dyna hi."
“Yr oedd pawb yn ddistaw ar hyn, yn neillduol Ffirad Tomos, a Ieuan Myfyr.
"Ia," meddai rhywun o'r dyrfa cyn hir, “ond ffordd gwddon ni ych
bod chi yn ei darlîen hi yn iawn. Beth i wddon ni am Hybrag? Rhowch y Bibl i
Ieuan Myfyr." “Ia, ia," cydunai eraill, “darllenwch hi,
leuan." Estynwyd y Beibl i Ieuan Myfyr. Ond, druan o hono, gorfu iddo
gyfaddef yn ddafadaidd ddigon, nad oedd ef yn deall Hebraeg o gwbl, ac
estynodd y Beibl yn ol. “Dyw a ddim yn gallu darllen Hybrag," murmurai'r
dorf, ac ambell i bwff o chwerthin yn tori allan yma a thraw. Ond ymhen enyd,
dyma lais o'r tu ol yn gwaeddi, “Ffirad Tomos, darllenwch chi hi." ' Ia,
ia," meddai llu, “darllenwch chi hi Ffirad." Estynwyd y Beibl
Hebraeg i Ffirad Tomos, a derbyniodd yntau ef, fel pe bai yn derbyn planed
nad oedd yr un gwydr wedi ei gweled o'r blaen. Agorodd y gyfrol sanctaidd,
edrychodd iddi, ond nid oedd Ffirad Tomos yn gweled trem drwy yr Hybraeg, ac
yn fuan estynodd y gyfrol yn ei hol, gyda mwmian rhywbeth ei fod yntau wedi
“anghofio “Hebraeg.
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 123. Mawrth 1895. Tudalen 79) (delwedd K0402)
(*64)
|
DAFYDD TERRY. 79
Pan welodd y blaid ddirwestol byn, torasant dros y ceulanau, raewn gorfoledd
a digrifwch, “Ha, Ha, Fa," meddent, “ma'r Ffirad yn ffaelu darllin, a
fynta wedi mofyn y llifir. Ho, Ho, Ho, y Ffirad yn ffaelu darllin, a fynta
wedi byrchga i Landaf, i fofyn y Beibl, Ho, Ho, Ho."
Ar yr un adeg yr oedd y blaid wrth-ddirwestol yn cnoi eu tafodau, ac yn
chwythu allan doraeth o ddirmyg ar eu cynrychiolwyr. “Twt, baw, beth yw shwd
Ffirad yna," meddai rhywun, “Hela a ifad cwrw ma hwna o hyd, wsi," atebai
rhywun arall. “Dos dim un o nhw yn werth. tatan i ddadla," meddai
trydydd. "Bachgen," gwaeddai pedwerydd, “o'n ni'n meddwl îodffirad
yn gallu darllin popeth."
Daeth y ddadl i ben. Profodd potelau Dafydd Davies, a'r adnod Hebraeg, yn rhy
galed i'r gelyn. Cariodd y dirwestwyr y dydd felly, o ddigon. Dychwelodd
Ieuan Myfyr a Ffirad Tomos, a'u canlynwyr, — wel, i'r dafarn, mae'n lled
debyg, i foddi eu siomedigaeth mewn diod.
Yn arweiniol, ac yn ganlynol i'r ddadl yn Llantrisant, cynhaliwyd lliaws o gyfarfodydd
dirwestol mewn amryw leoedd, Ilawer o ba rai a flaenorid gan orymdaith.
Dywedai Mr. Evans, Docks, wrthym am un o'r cyfryw, yr oedd ef yn brif
siaradwr ynddo, a Terry yn gadeirydd. Yr oedd y cyfarfod yn cael ei gynal yn
y maes agored, ar gae Hendre- cafan, gerllaw i'r Ddinas. Doctor Davies, — tad
Doctor Davies, Cymer, y dyddiau hyn, — oedd yn byw yn y ty yr adeg hyny. Nid
ydym yn gwybod a oedd yr Hybarch Ddoctor yn ddirwestwr ai peidio, tebyg na,
Ychydig o ddoctoriaid sydd yn llwyr-ymwrthodwyr yn y dyddiau iiyn, a llai
lawer yn yr amser yr ysgrifenir am dano. Ond os oedd y doctor yn credu mewn
gwirod, yr oedd hefyd yn credu mewn chwareu teg; ac; felly nid yn unig
rhoddodd ryddid i'r dirwestwyr i wneyd defnydd o'r cae o flaen y ty, ond
hefyd cododd dipyn o platfomi iddynt, a rhoddodd fenthyg cadair, — cadair
freichiau, — i Terry i eistedd ynddi. Yr oedd gorymdaith. hefyd yn rhagarwain
i'r cyfarfod hwn. Yr oedd dirwest yn cario ei phen yn uchel y dyddiau hyn,
a'i gwallt banerog yn chwifio yn yr awelon. Yr oedd banerau ardderchog, mae'n
debyg, gan gymdeithas y Ddinas, ac yr oeddynt wedi cael rhyddid y diwrnod
hwnw, i dafiu heriadau i'r gelyn, ar eu ffordd tua Hendrecafan.
Cychwynai'r orymdaith o'r Ddinas, yn cael ei blaenori gan Terry. Cerddai
Terry wrtho ei hun, — a oedd y ffon a'r neised goch gydag ef yr adeg hyn, ai
ynte cyfeillion diweddarach oeddynt, nis gwyddom. Cyrhaeddwyd cae
Hendrecafan, erbyn yr awr benodol, a chafwyd cyfarfod rhagorol. Gofynasom i
Mr. Evans os oedd y Doctor yn y cwrdd. “JNag oedd," oedd yr ateb, “ond
yr odd a yn gryndo o'r ty."
Ond er cymaint wasanaethodd Terry ar ddirwest, cofir ei ymdrechion o blaid y
gweithwyr yr amser hyn, ac am flynyddau ar ol hyn, gyda chof llawer iawn mwy
byw. 'Doedd gyffelyb i Terry i ddwyn cwerylon i ben. Torai anghydfod allan yr
adegau hyn fel yn y dyddiau presenol, rhwng meistr a gweithiwr, ac ymhlith
lîeoedd eraill yn y Ddinas, rhwng y gweithwyr yno a Mr. Coffin — y meistr, a
byddai yn aml yn orchwyl caled ei ddwyn i derfyniad. Ar ddechreu y frwydr ni
thrafferthid llawer am wneuthur cymod. Yr oedd y meistr, wrth gwrs, am
gario'r dydd, a gwyddai yn ddigon da nad oedd ond rhaid iddo ddal allan yn
ddigon
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 123. Mawrth 1895. Tudalen 80) (delwedd K0403)
(*65)
|
80 DAFYDD TERR.
hir i sicrhau Iiyn; oblegid byddai raid i gypyrddau'r gweithwyr fyn'd yn
weigîon yn fuan; ac nid oedd y siopwyr druain, oedd yn eù cyflenwi â nwyddau,
yn rhagluniaeth ddihysbydd. O'r tu arall, byddai gan y gweithwyr ychydig
ymborth yn y tŷ ar
y cychwyn, ynghyd a thipyn o lô a dillad wrfch law, yn y meddiant o ba rai teimlent ysbryd
annibyniaeth ac ysbryd ymladd hefyd yn bresenol yn eu mynwesau. Mae'n wir,
ond iddynt edrych yn y blaen ychydig, y gallent weled nad oedd y dydd drwg
ymhell oddiwrthynt, ond ni fynent wneyd hyny; fel y gwna natur ddynol mewn
cyfryw amgylchiadau, lledent rhyw bythefnos o gysur rhyngddynt a misoedd o
dlodi ac eisiau, dan feddwl eu bod wedi eu difodi drwy eu cuddio. Ond deuai
tlodi yn nes atynt, gam wrth gam, gan wthio drwy eu tipyn cysur, nes, cyn
hir, sefydlu ei hun i lawr ar yr aelwyd yn eu canol, i dduo pobpefch, a'i
oeri, â'i bresenoldeb.
Erbyn hyn byddai y gweithwyr wedi do'd yn ddôf eu gwala, ac yn foddlon plygu
i rywle — ond cael bwyd. Annibyniaeth! Hunanbarch! Iawnderau! Yr ydym wedi
gweled tynelli o'r rhai hyn yn cael eu hestyn yn ewyllysgar am darnaid o
fara. Un rhyfedd yw tlodi i ystwytho. Ehodder ychydig o'r olew hwn ar ddorau
rhydlyd balchder, ac agorant heb wychiad.
Ai cenad ar ol cenad oddiwrth y gweithwyr at Mr. Coffin i geisio heddychu,
ond yr oedd yr hen foneddwr erbyn hyn wedi myn'd yn ystyfnig, ac yn dangos yr
un awydd i wastadhau pethau. Beth i wneyd 1 Yr oedd yn rhaid wrth fara o
rhywle. Bara, bara, — yr oedd yn rhaid ei gael. “Terry, cerwch ch'i i eiriol
drosom." Adacw Terry yn myn'd. Ymhen rhyw awr yn ddiweddarach, y mae
gwas Mr. Coffln yn ei hysbysu fod rhyw wr tal wrth y drws, yn gofyn am ei
weled, — gweithiwr o ran ei olwg, yn denau ei wyneb, a llwyd ei ddillad.
“Dangoswch ef i fewn," oedd ateb Mr. Coffin.
Terry! Ië, Terry oedd yno. “Terry y ch'i sydd yna % “heb ofyn iddo i eistedd
i lawr, er nad oedd yn ddrwg gan yr hen foneddwr i weled Terry, “Y chi sydd
yna?” “Ia mishdir bach, y fi sydd yma." “Beth i chi yn fofyn Terry?”
“Bara," meddai Terry. “Bara, bara mishdir bach, baia............ Ma'r
plant bach yn llefain am fara, a dos dim iddi gal, dim "bara, mishdir
bach, dim òara." Ac edrychodd Terry yn myw llygaid yr hen Goffin, ac
edrychodd Mr. Coffin yn ol yn syn ddigon, gan cfdweyd dan ei ddanedd. “Dir dy
shefo ni yn bryd."............ Aeth Terry yn ei flaen wedi moment o
seibiant. “Ma'r aelwyd yn oer hefyd. ............ Chi allwch gydio yn y
barau, losga nhw ddim."............ “Dir dy shefo ni," medda, yr
hen Goffin eto, gan edrych tipyn bach yn frawychus, oblegid yr oedd gwedd a
llais ofnadwy o sobr Terry yn siarad llawer iawn mwy na'i eiriau. “A ma'r
hewlydd yn fud," prysurodd Terry. “Ma swn chwara wedi darfod yn y
lle............ Dos dim calon yn y rhai bach heb fara, mishdir bach.........
Gwddoch chi," meddai Terry, gan sefydlu ei lygaid ar Mr. Coffin a
chymeryd moment o seibiant. “Gwddoch chi, ma'r ardal yn ddisto gan
newyn."............ “Oir dy shefo ni," meddai yr hen foneddwr heb
yn wybod iddo, "Dir dy shefo ni," a'r dagrau erbyn hyn yn treiglo i
lawr dros ei ruddiau, a meddai
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 123. Mawrth 1895. Tudalen 81) (delwedd K0404)
(*66)
|
DAFYDD TEERY. 81
"Terry, gwetwch wrth y clynion am fynd yn ol at eu gwaith, ar unwaith,
Terry, ar unwaith, Dir dy shefo ni."
Fflachiai y newydd da fod yr “hen Goffin “wedi “llefìn “wrth Terry, a'i fod
wedi gorchymyn i'r gweithwyr fyned yn ol at eu gwaith, fel mellten, — meliten
nad oedd neb yn ei hofni drwy yr ardal; ac yrnhen haner awr, teimlid hinsawdd
arall yn y lle. Eisteddai gwên foddiongar ar wynebau gwasgedig y
“dynion." Deuai murmur cân, — ambelí i nodyn eiddil — allan o'r
bythynod; a dechreuai y mamau gymeni y plant — arwydd lled dda o gysur yn
dychwelyd, ac fealîai o rywbeth arall, hefyd, heb fod yn or-gysurus ar ambell
i bryd, ond ar ddiweäd strike, arwydd o fwynhad a llawenydd, yn wastad, yw
dwrdio'r fam. Bywhai yr heolydd, hefyd, collent eu distawrwydd, yradyrai'r
plant ar hyd-ddynt eto, a chylffau braf o fara a chaws yn eu dwylaw bach,
digalon, hyd yn ddiweddar, — a'r oll drwy wasanaeth Terry.
Ac yn wir mor llwyddianus fyddai ymdrechion Terry ar yr achlysuron hyn, fei y
daeth yn arferiad di-eithriad yn y Ddinas, pan dorai anghydfo-1 allan rhwng y
gweithwyr a Mr. Coffin, — ac un o'r meistri goreu ar y ddaear ydoedd hefyd,
chwareu teg iddo, — i anfon Terry ato cyn nemawr ddyddiau i geisio agor
llwybr heddwch. Y pwnc mawr oedd cael yr “hen Goffin i lefin." A doedd
neb allsai dori ar gwsg y dagrau fel Terry. Ond pan fyddai y sírike ddim ond
ychydig o ddyddiau o oed, nid oedd wiw son am eisiau bara, ac aelwyd oer, a
heolydd distaw. ac nid oedd Terry yn gwneyd hyny. Yr oedd yn adnabod y natur
ddynol yn rhy dda o lawer i wneyd y fath gamsyniad. ìsi ddadleuai Terry
safle'r farchnad na sefyllfa'r prisoedd ychwaith; triniai ef ei fusnes yn
hollol ar dir moesoldeb neu ddynoliaeth, — os oesgwahaniaeth rhwng y cldau.
"
“Wel,
Terry, beth i chi yn fofyn heddy?" meddai Mr. Coffin wrth Terry ar dro
arall yr ymwelid ag ef gan Terry yn ei swydd gyfryngol. "Beth i chi yn
fofyn heddy?"............ “Dod i dowli'm
hunan ar ych honor chi mishdir w i," oedd atebiad Terry yn ol.
"Nawr, nawr, Terry, wnaiff yna ddim o'r tro," meddai yr hen Goffin,
yn ceisio ymddwyn dipyn yn stem, “Wnaiff yna ddim o'r tro,
Terry............Bysnas yw bysnas, Terry, rhaid mynd wrth y farchnad
a---------" “Eifcha gwir mishdir bach, meddai Terry, yn tori i fewn, ac
yn teimlo nad oedd fawr o gysur na gobaith i'w ddisgwyl o ddadleu safie'r
farchnad, “dw i yn ama dim nad dyw y farchnad yn y'n herbyn ni; ond dod i wed
wrtho chi w'i yn bod ni yn towli'n hunin ar ych honor chi."
"Dir dy shefo ni," meddai Mr. Coffin wedi moment o ddistawrwydd.
“Dyn od i chi, Terry, ia'n wir. Ond bysnas yw bysnas, Terry, rbaid i chi
gofio taw pwnc bysnas ac nid pwnc /wnorjw pris glo."
"Dw i yn ama dim, mishdir bach," meddai Terry, yn symud ei bwysau
o'r naill glun i'r llall. "Dw i
yn ama dim, i chi yn eitha right. Ond ta beth am y farchnad, yr u'n ni wedi
penderfynu towli'n hunen ar y'ch honor chi ........... Fe fi yco fiting geni
ni, a fe gyniciws yco un y'n bod ni yn towli'n hunen ar honor mishdir; fe
eiliws un arall o, a phan ddotwd y cyniciad i lan; fe gwnws pob llaw drosto,
pob llaw, mishdir, a dyna mhẁrpas i yma gyda chi heddy, yw gwed hyn wrtho chi."
“Ho," meddai hen Gofnn heb wybod yn iawn beth i ddweyd, “Dir dy shefo
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 123. Mawrth 1895. Tudalen 82) (delwedd K0405)
(*67)
|
82 DAFYDD TERRY.
ni." Yr oedd yr hen foneddwr yn edrych ar y ddesg, heb ddim yn y byd i
ddweyd, yn sefyll yn fud yn y fan hyny, a Terry yn sefyll yn ddi-swn ddigon
ar ei ran yntau, ond wedi aros peth amser, meddai Terry eto, “odi chi yn
fo'lon?” “Bo'ion i beth?” gofynodd Mr. Coffin yn ol. “I ni dowli'n hunin ar
ych honor chi." Pwy gig a gwaed allasai wrthsefyll cwestiwn fel hyn.
Gwelwyd y dagrau yn dod i lygaid yr hen foneddwr tra y murmurai rhyw fath o
“wrth gwrs," ac mewn eiliad neu ddwy meddai, “Terry, dyn ofnadw i chi.
Ia'n wir, dyn ofnadw i chi. Gwetwch wrth y dynon am fyn'd yn ol at eu gwaith.
Dir dy shefo ni." Aeth y newydd ar led, cyn nemawr funydau, fod “Yr hen
Goffin wedi llefin," a bod gweithio i fod dranoeth, — ffaith a ddilynid,
fel arfer, gan dôn o orfoledd.
Un rhagorol oedd Terry i ladd s/ríkes, yr oedd cystal, os nad gwell, na'r
sliding scale at y gorchwyl hwnw.
Rhaid i ni dd'od yn ol yn awr oddiwrth y dyddiau boreuol hyn, dyddiau anterth
nerth, a'r dyddiau deimlodd fwynf ymhob ystyr, rym dylanwad Terry, at ei oriau
olaf ef a Shenad. Fel y crybwyllwyd, y mae y gweithio a'r cyfryngu, bellach,
wedi myned heibio, a blynyddoedd llwyd a gwywedig henaint wedi codi eu penau
oerion i'r golwg. Y cwbl y mae Terry yn ei wneyd yn awr yw “mynd sha'r cwrdd
a thori cwpwl o gôd tân bora," a'r oll mae SheDad yn ei wneyd yw
"glanha ticyn ar y tŷ, a gnythir tamad o fwyd i'r hen ddyn a fina." Dyna i
gyd. Cerdded i lawr i'r gwaered y maent eill dau yn bresenol, ochr wrth ochr,
a llaw yn llaw, heb wybod pa un o honynt deri gyntaf ei droed yn yr afon. Fel
hyn y bu am beth blynyddoedd. ond cafwyd argoelion, wrth fyned yn y blaen,
fod Shenad yn neshau at y glyn yn gyflymach na Terry. Casglai crwybr llesgedd
a chystudd yn brysur o'i chwmpas hi. A rhyw ddiwrnod, tarawodd ei throed yr
Iorddonen ddu, ac aeth drosodd i'r ochr draw — nid yw y dyddiad genym yn bresenol
— gan adael Terry ar ol, yn sefyll yn syn yr ochr hyn.
Yr oedd Terry heb Shenad, a dyna fwmianai wrtho ei hun,......"heb
Shenad"......"heb Shenad yn awr."
Teimlodd ei cholled i'r byw. Ychydig feddyliai llawer o'r cyfeillion oedd yn
edrych yn y blaen at y cysylltiad — swrth o du Shenad, a diystyr o du Terry —
oedd yn bodoli rhwng yr hen bobl hyn, ei fod mor agos ac mor dyn. Symudai
Terry o amgylch fel un mewn haner breuddwyd, heb ddatguddio yr un arwydd o
alar ond ei fod yn fwy distaw, a'i wyneb yn fwy sobr, ac yn awr ac eilwaith
disgynai oddiwrtho — “heb Shenad."
Aeth y dyddiau y bu Shenad “o dan ei gola” heibio, un wrth un, mor wylaidd a
threigliad dagrau, fel pe bai arnynt ofn i neb glywed swn eu traed, a daeth
diwrnod y cynhebrwng.
Yr oedd yna dorf wedi d'od ynghyd, o weinidogion
a chyfeillion, heblaw y perthynasau, i dalu y gymwynas olaf i'r “hen
wraig." Yr oedd y trefniadau i gyd wedi eu gwneyd. — Pwy oedd i ddarllen
a gweddio yn y ty, pwy i roddi allan y penill i godi yr angladd, a phwy i
bregethu a dweyd ar lan y bedd.
Wedi darllen a gweddio yn y ty, cariwyd yr arch allan, a gosodwyd hi ar yr
elor oedd yn sefyll ar y bailo o flaen y drws, a pharotowyd i roddi
penill allan i “godi." Ond yn ddi-ddisgwyl dyma Terry yn ymwthio yn
|
|
|
|
|

(Y Lladmerydd. Rhif 123. Mawrth 1895. Tudalen 83) (delwedd K0406)
(*68)
|
DAFYDD
TERRY. 83
araf ond yn benderfynol, allan drwy y drws, ac o gam i gam yn gwneyd ei
ffordd at ymyl yr elor, a than dynu ei het oddiar ei ben, a'i ddal yn ei law
gyda'r neised goch, a'r ffon yn y Ilaw arall, — hithau yn dawel ddigon y
diwrnod hwn, dechreuodd Terry siarad a Shenad fel tai hi yn clywed cystal ac
erioed. "Ffarwela, Shenad fach, Ffarwela............Wyt ti wedi mynd o'm
mlân i............ Wyt, wyt........... ond fydda ina ddim yn hir ar dy ol
di.........Ni ger'son lawar cam ynghyd, do, do...... ti a fina......ond dyma
ti wedi cwplo, wedi cwplo......dos genyf fina ond cam neu ddoi ar dy ol
di------fyddai ddim yn hir, ddim yn hir, cofìa...... Ffarwela, Shenad,
ffarwela." A chan droi at y dorf, a'i ben gwyn yn yr awyr, a'r dagrau o
un i un yn disgyn ar ei fynwes, meddai "Ni ganwn." Ac yna mewn
llais mor orfoleddus ac ydoedd o alarus, rhoddodd y penill hwn allan: —
"Ffarwel gyfeillion anwyl iawn,
Dros enyd fechan ni 'madawn, “&c.
ac nid ydym yn sicr na chanodd Terry mor orfoleddus a neb yno.
Ar lan y bedd, cyn ymadael, dyferodd Terry y geiriau hyn i Shenad "Fydda
i ddim yn hir, cofia, ddim yn hir......Ffarwela." Ac yn wir ni bu yn
hir, oblegid ar Rhagfyr 19, 1881, croesodd yntau drosodd at ei Geidwad a
Shenad, ar ol cystudd byr ond llym. Cafodd Terry, hefyd, gladdedigaeth
dywysogaidd. Yr oedd pawb — ac yr oedd y "pawb" hwn yn un pur
liosog — wedi d'od i angladd Terry. Gosodwyd ei gorff i orphwys yn y fynwent
yn ymyl y "capal bach" — yr ysmotyn anwylaf ar y ddaear hon, gan yr
hen dad.
Aeth Terry drwy ei gystudd olaf i lawr i'r Iorddonen, fel yr aeth i gyfarfod
â phob anhawsder arall, — a'i wyneb ato. Ni chymylwyd ei ffydd am funyd, ni
oerodd ei gariad, parhaodd gobaith ei enaid i sirioli yn ei Iygaid hyd y
diwedd; a gorfu i angau deimlo ei fod yn cludo drosodd, pan yn cludo Terry,
un nad oedd yn gaethwas, wedi tori ei galon, a'i ben i lawr; ond un o blant y
brenin ar ei ffordd tua "Royal Palace." Ac nid ydym yn sicr nad
oedd "livery" angau yn fwy trwsiadus nag arfer y diwrnod hwnw.
Ond druan o'r Ddinas — "y capal bach," — llawer tro y gofynodd
Terry, “Beth i wnan nhw?” Wel, teimlwyd ei golled yn fawr: y mae y gadair o
dan y pulpud, lle yr eisteddai ef, eto yn wâg. Ond y mae pobl dda yn aros yn
y Ddinas, sydd yn ewyllysgar yn cario yr achos yn y blaen, a mwy na hwy, y
mae y Brenin ei hunan yno.
Os cawn fyn'd i'r nefoedd, disgwyliwn weled Terry. A adnebydd ef ni y dydd
hwnw wrth yr hen enw, — "y bachgan bach?" A beth fydd gwedd yr
"hen flaenor?” Sut yr ymddengys! Ai mewn gwisg glaerwen, oleu, wedi ei
golchi a'i chanu yn ngwaed yr Oen? A siarad iaith ein calon, nage, nage. Ond
eto yn yr hen got Iwyd, a'r wasgod, a dim ond botwm neu ddau yn ei dal
ynghyd, a'r rhai hyny ddau neu dri twll o'u lle, a'r ffon a'r neised goch o
hyd yn ei law; ac hyd yn nod yn y gwynfyd yn murmur ambell dro, “O'm
helpo'i."
|