kimkat3593k Y Darian. 28 Medi 1916. At fy Nghydwladwyr. Anwyl Gymro Difater,— Y mae eich difaterwch ynglyn a'r Hen laith yn blino llawer ar Gymry twymgalon, canys os ydych chwi yn ddifater, beth allwn ddisgwyl ar ran y Saeson sydd yn ein plith?

14-02-2021

● kimkat0001 Yr Hafan
www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ●  kimkat3593k Y tudalen hwn....


 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
 (delwedd 0003j)



Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Y Darian. 28 Medi 1916.

At fy Nghydwladwyr.


Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:
http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/

a-7000_kimkat1356k
Beth sy’n newydd yn y wefan hon?

---

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404

(delwedd 6665)

.....

Cyfieithiad Saesneg isod / English translation below

Cyfieithiad Catalaneg isod / Traducció catalana avall

 

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd J4242a) (28 Medi 1916)

Y Darian. 28 Medi 1916.

At fy Nghydwladwyr.

 

Anwyl Gymro Difater,— Y mae eich difaterwch ynglyn a'r

 

Hen laith

 

yn blino llawer ar Gymry twymgalon, canys os ydych chwi yn ddifater, beth allwn ddisgwyl ar ran y Saeson sydd yn ein plith? Y mae eich bath ymhob rhan o'r tir; yn y trefydd mawrion, lle y mae masnach wedi cymeryd gafael ym meddyliau pobl i raddau poenus, yn y rhannau dwyieithog, lle y teimlir anhawster i gadw'r plant yn Gymry, ac yn y rhannau gwledig lle y bydd Cymry yn ddigon ffol i gredu y dylni ddywedir am ein hiaith gan dirfeddianwyr penwag o Saeson.

 

Nid wyf yn dweyd am foment eich bod yn Ddic-Shon-Dafydd, ond yr ydych wedi gwneud eich meddwl i fyny mai

 

Marw a Wna'r laith,

 

ac yn derbyn y gred yn hollol ddifater! Dengys hynny nad yw eich cariad yn fawr iawn tuag at yr hen iaith. Pe bai eich plentyn anwylaf ar fin marw, fe fyddech yn ymdrechu eich goreu i ymladd am ei fywyd, ac yr wyf yn dra sicr pe baech yn sylweddoli y golled anhraethol a ddaw i'n gwlad os daw terfyn ar yr iaith fe fyddech lawer yn llai difater ac yn barotach i ymladd dros ei chadwraeth.

 

Nid wyf yn sicr eich bod wedi sylweddoli fod bodolaeth ein cenedl fel cenedl yn dibynnu ar gadw o honom ein hiaith. Y mae meddyliau goreu Cymru'r gorffennol yn ein llenyddiaeth, ac os cymer llenyddiaeth Lloegr le ein llenyddiaeth ni, Seisnig fydd dylanwadau ffurfiol y dyfodol ac nid y Gymraeg. O dipyn i beth collwn ein harbenigrwydd, ac ni fyddwn amgen  

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J4242a) (28 Medi 1916)

 

Saeson Cyffredin.

 

Pe baem yn byw ym mhell o Loegr fe allem o bosibl gadw i raddau ein nodweddion hyd yn oed pe collem ein hiaith, ond yr ydym yn rhy agos i Loegr I  wneud hynny yn awr, ac y mae gormod o ddylanwadau Seisnig yn barod yma i ni fod yn ddifater.

 

Os collwn ein nodweddion neilltuol collwn un o'r dylanwadau mwyaf sydd yn gwneud am undeb ein cenedl. Ychydig sydd yn clymu dyn a dyn fel cyffelybrwydd nodweddion ac iaith. Y mae gormod o ddylanwadau yn tueddi ein rhwygo fel cenedl yn awr i ni allu fforddio colli dylanwad fel hwn. Dylanwad cryf arall at greu undeb yw erledigaeth, ac fe fu erledigaeth y Sais arnom yn y gorffennol yn elfen gref yn ein gyrru yn nes at ein gilydd. Ond y mae hwnnw yn diflannu yn gyflym, a phwysigrwydd cadw'r iaith felly fel elfen ein hundeb yn fwy nag erioed. Os collwn ein hiaith, collwn hefyd i raddau mawr ein

 

Cyflymdra Meddwl.

 

Nid oes dim yn well na dysgu dwy iaith i ddatblygu meddwl, ac i greu awydd am astudiaeth. Dywedodd Mr Stanley Leathes, C.B. (un o awdurdodau mwyaf y deyrnas ar ddysgu ieithoedd, ac a benodwyd yn ddiweddar yn gadeirydd pwyllgor y Llywodraeth ar y mater): “I always think that bilinguals like the Welsh get more out of their schools than a country like England, where only one language is used." Dyma i chwi farn Sais ar bwysigrwydd cadw'r iaith fel mater o ddatblygiad feddwl. Y mae medru cymharu dwy iaith a chyfieithu o un i'r llall a mynegi meddwl yn y ddwy yn dangos diwylliant mwy nag sydd yn bosibl i ddyn unieithog. Y mae Ilawer Cymro wedi ffurfio arferiad o astudiaeth drwy gymeryd diddordeb yn y Gymraeg ac yn ei  chymharu a'r Saesneg. Ac nid oes dadl fod astudio y Gymraeg a'i llen yn fantais amhrisiadwy fel

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J4242a) (28 Medi 1916)

Disgyblaeth Feddyliol.

 

Dywedir wrthym gan feirniaid diogel fod gwerin Cymru yn darllen mwy o lyfrau ac yn cymeryd mwy o ddiddordeb mewn llenyddiaeth nag ydyw gwerin bobl unrhyw wIad ar wyneb y ddaear. Os bydd marw'r iaith marw hefyd fydd y diddordeb yma, fel y gwelir yn awr yn ddigon amlwg mewn rhannau Seisnigeidd o'n gwlad. Un o'r pethau goreu i ddatblygu meddwl cenedl yw ymdrech i ddatblygu iaith. Y mae eisieu datblygu'r Gymraeg mewn llawer ffordd — dyna waith i Gymru'r dyfodol, a ddatblygai eu meddyliau yn well nag unrhyw astudiaeth o ieithoedd ereill.

 

Yn ychwanegol at ein bywyd meddylol y mae ein bywyd moesol yn gorffwys i raddau helaeth ar fywyd yr iaith. Y mae i genedl roi ffordd i genedl arall mewn mater o iaith yn ddigon ynddo ei hun  I achosi dirywiad cenedl am genedlaethau. Pwysig iawn hefyd yw'r ffaith fod

 

Llenyddiaeth y Gymraeg

 

ymhlith y glanaf os nad y glanaf yn y byd. Dywedir yn “A Nation and Its Books" (llyfr swllt hynod werthfawr a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Fwrdd Addysg Cymru, a ddylai fod yn llaw pob Cymro), “No bad book has ever succeeded in Wales, and no coarse or foul book has ever tried to do so. Not one of the great Welsh classics need to

 

 

 

 

Text

Description automatically generated(delwedd J4242d) (28 Medi 1916)

 

be expurgated." O bosibl na ddarfu chwi a'ch bath sylweddoli y ffaith bwysig yna o'r blaen, neu ni fuasai un o honoch yn siarad mor ffol ag y gwnaeth un yn ddiweddar pan ddywedodd fod yn well gan rai glywed pobl ieuainc yn “siarad Cymraeg ar y ffordd i uffern na'u clywed yn siarad Saesneg ar y ffordd i'r nefoedd." Oni wyddoch chwi mai un o'r rhesymau cryfaf sydd gan lawer o wyr goreu Cymru dros  geisio

 

Ennyn Diddordeb y Cymro Bach

 

yn llenyddiaeth ei wlad ei hun yw ei gadw oddiwrth y llu llyfrau a phapurau afiach a gyhoeddir yn yr iaith Saesneg. Yn wir dibynna ein bywyd crefyddol i raddau helaeth ar fywyd ein hiaith. Ni ddatblygwyd iaith erioed gymaint yn ei llyfrau diwinyddol. Os collir yr iaith collir dylanwad oesoedd o feddyliau goreu y wlad, ac yn waeth na hynny os llyfrau a phapurau Lloegr fydd ein llyfrau a'n papurau awn yn gyflym iawn i edrych ar y byd gyda

 

Llygad Materol

 

ac anianol y Sais, ac fe gollwn ein hysbrydolrwydd a chyda hynny neges ein bodolaeth. Gwir y dywedodd un yng nghyfarfodydd Undeb un o'r enwadau yn ddiweddar, “Os collir y Gymraeg o'n gwlad, fe gollwn ein Cristionogaeth i raddau helaeth iawn yr un pryd. Colli ein iaith fyddai un o'r ergydion mwyaf y gallai Cristnogaeth ei gael… ‘Wales is the last bulwark of Christianity.'… Os concrir ni gan iaith, llenyddiaeth ac arferion mwy materol y Sais a chenhedloedd eraill bydd y byd i gyd ar ei golled."

 

Gwelwch felly sut y mae ein bywyd fel cenedl yn feddyliol, yn foesol, a chrefyddol, ein harbennigrwydd a'n hundeb yn gorffwys i raddau helaeth iawn ar fywyd yr iaith. Da chwi felly taflwch eich difaterwch i ffwrdd ac ymunwch a'r llu sydd eisoes wedi penderfynnu ymladd hyd at ddiwedd einioes am fywyd yr hen iaith annwyl. —

Yr eiddoch, ATWEBYD.

xxxxx

 

 

 

Y Darian. 28 Medi 1916.

At fy Nghydwladwyr.

 

Anwyl Gymro Difater,— Y mae eich difaterwch ynglyn a'r

 

Hen laith

 

yn blino llawer ar Gymry twymgalon, canys os ydych chwi yn ddifater, beth allwn ddisgwyl ar ran y Saeson sydd yn ein plith? Y mae eich bath ymhob rhan o'r tir; yn y trefydd mawrion, lle y mae masnach wedi cymeryd gafael ym meddyliau pobl i raddau poenus, yn y rhannau dwyieithog, lle y teimlir anhawster i gadw'r plant yn Gymry, ac yn y rhannau gwledig lle y bydd Cymry yn ddigon ffol i gredu y dylni ddywedir am ein hiaith gan dirfeddianwyr penwag o Saeson.

 

Nid wyf yn dweyd am foment eich bod yn Ddic-Shon-Dafydd, ond yr ydych wedi gwneud eich meddwl i fyny mai

 

Marw a Wna'r laith,

 

ac yn derbyn y gred yn hollol ddifater! Dengys hynny nad yw eich cariad yn fawr iawn tuag at yr hen iaith. Pe bai eich plentyn anwylaf ar fin marw, fe fyddech yn ymdrechu eich goreu i ymladd am ei fywyd, ac yr wyf yn dra sicr pe baech yn sylweddoli y golled anhraethol a ddaw i'n gwlad os daw terfyn ar yr iaith fe fyddech lawer yn llai difater ac yn barotach i ymladd dros ei chadwraeth.

 

Nid wyf yn sicr eich bod wedi sylweddoli fod bodolaeth ein cenedl fel cenedl yn dibynnu ar gadw o honom ein hiaith. Y mae meddyliau goreu Cymru'r gorffennol yn ein llenyddiaeth, ac os cymer llenyddiaeth Lloegr le ein llenyddiaeth ni, Seisnig fydd dylanwadau ffurfiol y dyfodol ac nid y Gymraeg. O dipyn i beth collwn ein harbenigrwydd, ac ni fyddwn amgen  

Y Darian (“the shield”). 28 September 1916.

To my compatriots.

 

Dear Apathetic Welshman, - Your apathy about the

 

Welsh Language (“the old language”)

 

is very bothersome to the good-hearted Welsh, for if you are apathetic, what can we expect from the the English [living] among us? There are people like you all over the land; in the large towns, where commerce has taken hold of people's minds to a painful degree, in the bilingual zones, where it is difficult to keep the children Welsh, and in the rural areas where the Welsh are foolish enough to believe the nonsense that the empty-headed English landowners say about our language.

 

 

I am not saying for a moment that you are a Dic Siôn Dafydd (= a Welshman who despises his mother tongue and refuses to speak it), but you have made up your mind that

 

the Language will Die,

 

and you accept this idea with complete indifference! That shows that your love for the Welsh language (“the old language “) is not very great. If your dearest child were to die, you would strive all you could to fight for his life, and I am quite sure that if you realized the tremendous loss our country would suffer if the language were to die, you would much less apathetic and more willing to fight for its retention.

 

I am not sure that you have realised that the existence of our nation as a nation depends on us keeping our language. The best minds of Wales in the past are in our literature, and if English literature replaces our literature, the formal influences of the future will be English and not the Welsh language. We shall gradually lose our distinctiveness, and we shall be nothing more than

 

 

 

 

 

Saeson Cyffredin.

 

Pe baem yn byw ym mhell o Loegr fe allem o bosibl gadw i raddau ein nodweddion hyd yn oed pe collem ein hiaith, ond yr ydym yn rhy agos i Loegr I  wneud hynny yn awr, ac y mae gormod o ddylanwadau Seisnig yn barod yma i ni fod yn ddifater.

 

Os collwn ein nodweddion neilltuol collwn un o'r dylanwadau mwyaf sydd yn gwneud am undeb ein cenedl. Ychydig sydd yn clymu dyn a dyn fel cyffelybrwydd nodweddion ac iaith. Y mae gormod o ddylanwadau yn tueddi ein rhwygo fel cenedl yn awr i ni allu fforddio colli dylanwad fel hwn. Dylanwad cryf arall at greu undeb yw erledigaeth, ac fe fu erledigaeth y Sais arnom yn y gorffennol yn elfen gref yn ein gyrru yn nes at ein gilydd. Ond y mae hwnnw yn diflannu yn gyflym, a phwysigrwydd cadw'r iaith felly fel elfen ein hundeb yn fwy nag erioed. Os collwn ein hiaith, collwn hefyd i raddau mawr ein

 

Cyflymdra Meddwl.

 

Nid oes dim yn well na dysgu dwy iaith i ddatblygu meddwl, ac i greu awydd am astudiaeth. Dywedodd Mr Stanley Leathes, C.B. (un o awdurdodau mwyaf y deyrnas ar ddysgu ieithoedd, ac a benodwyd yn ddiweddar yn gadeirydd pwyllgor y Llywodraeth ar y mater): “I always think that bilinguals like the Welsh get more out of their schools than a country like England, where only one language is used." Dyma i chwi farn Sais ar bwysigrwydd cadw'r iaith fel mater o ddatblygiad feddwl. Y mae medru cymharu dwy iaith a chyfieithu o un i'r llall a mynegi meddwl yn y ddwy yn dangos diwylliant mwy nag sydd yn bosibl i ddyn unieithog. Y mae Ilawer Cymro wedi ffurfio arferiad o astudiaeth drwy gymeryd diddordeb yn y Gymraeg ac yn ei  chymharu a'r Saesneg. Ac nid oes dadl fod astudio y Gymraeg a'i llen yn fantais amhrisiadwy fel

 

English people.

 

If we lived far away from England we could possibly retain our characteristics even if we lost our language, but we are too close to England to do so now, and there are already too many English influences here for us to be indifferent.

 

If we lose our distinctive characteristics we lose one of the greatest influences on the unity of our nation. Few things bind people together like the similarity of traits and a language. Too many influences are tending to rip us apart as a nation now so we cannot afford to lose an influence like this. Persecution is another strong influence in the creation of unity, and the persecution against us by the English in the past has been a strong force in driving us closer together. But that is fast disappearing, and the importance of preserving the language as an element of our unity is greater than ever. If we lose our language, we also lose to a great extent our

 

Mental Agility (“Speed ​​of Thinking”).

 

There is nothing better than learning two languages ​​to develop thought, and to create a desire for study. Mr. Stanley Leathes, C.B. (one of the UK's greatest authorities on language learning, who was  recently appointed chairman of the Government's committee on the issue), said, “I always think that bilinguals like the Welsh get more out of their schools than a country like England, where only one language is used."  Here you have the opinion of an Englishman on the importance of preserving the language as a matter of mental development. Being able to compare two languages ​​and translate from one to the other and express thinking in both shows a culture which is greater than is possible for a monolingual person. Many a Welshman has s adopted a method of learning by taking an interest in the Welsh language and comparing it with English. And there is no disputing the fact that studying Welsh and its literature is an invaluable advantage as a

 

 

 

Disgyblaeth Feddyliol.

 

Dywedir wrthym gan feirniaid diogel fod gwerin Cymru yn darllen mwy o lyfrau ac yn cymeryd mwy o ddiddordeb mewn llenyddiaeth nag ydyw gwerin bobl unrhyw wIad ar wyneb y ddaear. Os bydd marw'r iaith marw hefyd fydd y diddordeb yma, fel y gwelir yn awr yn ddigon amlwg mewn rhannau Seisnigeidd o'n gwlad. Un o'r pethau goreu i ddatblygu meddwl cenedl yw ymdrech i ddatblygu iaith. Y mae eisieu datblygu'r Gymraeg mewn llawer ffordd — dyna waith i Gymru'r dyfodol, a ddatblygai eu meddyliau yn well nag unrhyw astudiaeth o ieithoedd ereill.

 

Yn ychwanegol at ein bywyd meddylol y mae ein bywyd moesol yn gorffwys i raddau helaeth ar fywyd yr iaith. Y mae i genedl roi ffordd i genedl arall mewn mater o iaith yn ddigon ynddo ei hun  I achosi dirywiad cenedl am genedlaethau. Pwysig iawn hefyd yw'r ffaith fod

 

Llenyddiaeth y Gymraeg

 

ymhlith y glanaf os nad y glanaf yn y byd. Dywedir yn “A Nation and Its Books" (llyfr swllt hynod werthfawr a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Fwrdd Addysg Cymru, a ddylai fod yn llaw pob Cymro), “No bad book has ever succeeded in Wales, and no coarse or foul book has ever tried to do so. Not one of the great Welsh classics need to

 

 

Mental Discipline.

 

We are told on good authority by sound authorities (“told by reliable critics”) that the commonfolk of Wales read more books and take more interest in literature than the ordinary people of any country on the face of the earth. If the language dies this interest die too, as is now evident enough in anglicised parts of our country. One of the best things to develop a nation's thought is an effort to develop language. There are many ways in which the development of the Welsh language is needed - that is the work of a future Wales, that would develop their minds better than through learning any other languages.

 

In addition to our intellectual existence (“mental life”), our morality (“moral life”) depends (“rests”)  largely on the language. For a nation to give way to another nation in the matter of language is enough in itself to cause the decline of a nation for generations. Another important fact is (“also very important is the fact”) that

 

Welsh Literature

 

is among the most wholesome (“cleanest”) if not the most wholesome in the world. In "A Nation and Its Books" (an extremely valuable book costing a shilling recently published by the Welsh Education Board, which should be in the hands of every Welshman) says, “No bad book has ever succeeded in Wales, and no coarse or foul book has ever tried to do so. Not one of the great Welsh classics need to

 

 

 

 

 

 

 

 

be expurgated." O bosibl na ddarfu chwi a'ch bath sylweddoli y ffaith bwysig yna o'r blaen, neu ni fuasai un o honoch yn siarad mor ffol ag y gwnaeth un yn ddiweddar pan ddywedodd fod yn well gan rai glywed pobl ieuainc yn “siarad Cymraeg ar y ffordd i uffern na'u clywed yn siarad Saesneg ar y ffordd i'r nefoedd." Oni wyddoch chwi mai un o'r rhesymau cryfaf sydd gan lawer o wyr goreu Cymru dros  geisio

 

Ennyn Diddordeb y Cymro Bach

 

yn llenyddiaeth ei wlad ei hun yw ei gadw oddiwrth y llu llyfrau a phapurau afiach a gyhoeddir yn yr iaith Saesneg. Yn wir dibynna ein bywyd crefyddol i raddau helaeth ar fywyd ein hiaith. Ni ddatblygwyd iaith erioed gymaint yn ei llyfrau diwinyddol. Os collir yr iaith collir dylanwad oesoedd o feddyliau goreu y wlad, ac yn waeth na hynny os llyfrau a phapurau Lloegr fydd ein llyfrau a'n papurau awn yn gyflym iawn i edrych ar y byd gyda

 

Llygad Materol

 

ac anianol y Sais, ac fe gollwn ein hysbrydolrwydd a chyda hynny neges ein bodolaeth. Gwir y dywedodd un yng nghyfarfodydd Undeb un o'r enwadau yn ddiweddar, “Os collir y Gymraeg o'n gwlad, fe gollwn ein Cristionogaeth i raddau helaeth iawn yr un pryd. Colli ein iaith fyddai un o'r ergydion mwyaf y gallai Cristnogaeth ei gael… ‘Wales is the last bulwark of Christianity.'… Os concrir ni gan iaith, llenyddiaeth ac arferion mwy materol y Sais a chenhedloedd eraill bydd y byd i gyd ar ei golled."

 

Gwelwch felly sut y mae ein bywyd fel cenedl yn feddyliol, yn foesol, a chrefyddol, ein harbennigrwydd a'n hundeb yn gorffwys i raddau helaeth iawn ar fywyd yr iaith. Da chwi felly taflwch eich difaterwch i ffwrdd ac ymunwch a'r llu sydd eisoes wedi penderfynnu ymladd hyd at ddiwedd einioes am fywyd yr hen iaith annwyl. —

Yr eiddoch, ATWEBYD.

be expurgated." You and people like you may not have realised this important fact before, otherwise one of you would not have spoken as foolishly as one did recently when he said that some people prefer to hear young people “speak Welsh on the way to hell than hear them speak English on the way to heaven." Do you not know that one of the strongest reasons for many of Wales' best people in trying to

 

Spark the Interest of Young Welsh People (“of the little Welshman”) 

 

in the literature of his own country is to keep him away from the many unwholesome books and papers published in the English language. Indeed our religious life depends to a large extent on the existence (“life”) of our language. No language was ever developed so much through its theological books. If the language is lost the influence of centuries of the best minds in the country will be lost, and worse if English books and papers will be our books and papers we will go very quickly to look on the world through  

 

English Eyes

 

(“with the material and natural eye of the Englishman”), and we shall lose our spirituality and with that the purpose of our existence. What was said in one of the meetings of the association of a religious denomination recently is true - "If our country loses the Welsh language (“if the Welsh language is lost from our country”), we will lose our Christianity very much at the same time. Losing our language would be one of the biggest blows that Christianity could suffer ... 'Wales is the last bulwark of Christianity.'… If we are conquered by the more material language, literature and practices of the English and other nations it will be a loss for the whole world (“the whole world will be on its loss").

 

So you see how our life as a nation intellectually, morally, and religiously, our distinctiveness and unity rest very much on the life of the language. For goodness sake then cast aside (“throw”) your apathy and join the many who have already decided to fight to the last (“fight until the end of life”) for the life of the beloved Welsh language (“beloved old language.”)

 

Yours, (a pen name meaning “[the question] was answered”)

xxxxx

 

 

 

Y Darian. 28 Medi 1916.

At fy Nghydwladwyr.

 

Anwyl Gymro Difater,— Y mae eich difaterwch ynglyn a'r

 

Hen laith

 

yn blino llawer ar Gymry twymgalon, canys os ydych chwi yn ddifater, beth allwn ddisgwyl ar ran y Saeson sydd yn ein plith? Y mae eich bath ymhob rhan o'r tir; yn y trefydd mawrion, lle y mae masnach wedi cymeryd gafael ym meddyliau pobl i raddau poenus, yn y rhannau dwyieithog, lle y teimlir anhawster i gadw'r plant yn Gymry, ac yn y rhannau gwledig lle y bydd Cymry yn ddigon ffol i gredu y dylni ddywedir am ein hiaith gan dirfeddianwyr penwag o Saeson.

 

Nid wyf yn dweyd am foment eich bod yn Ddic-Shon-Dafydd, ond yr ydych wedi gwneud eich meddwl i fyny mai

 

Marw a Wna'r laith,

 

ac yn derbyn y gred yn hollol ddifater! Dengys hynny nad yw eich cariad yn fawr iawn tuag at yr hen iaith. Pe bai eich plentyn anwylaf ar fin marw, fe fyddech yn ymdrechu eich goreu i ymladd am ei fywyd, ac yr wyf yn dra sicr pe baech yn sylweddoli y golled anhraethol a ddaw i'n gwlad os daw terfyn ar yr iaith fe fyddech lawer yn llai difater ac yn barotach i ymladd dros ei chadwraeth.

 

Nid wyf yn sicr eich bod wedi sylweddoli fod bodolaeth ein cenedl fel cenedl yn dibynnu ar gadw o honom ein hiaith. Y mae meddyliau goreu Cymru'r gorffennol yn ein llenyddiaeth, ac os cymer llenyddiaeth Lloegr le ein llenyddiaeth ni, Seisnig fydd dylanwadau ffurfiol y dyfodol ac nid y Gymraeg. O dipyn i beth collwn ein harbenigrwydd, ac ni fyddwn amgen  

Darian ("l'escut"). 28 de setembre de 1916.

 

Als meus compatriotes.

 

Benvolgut gal·lès apàtic, - La vostra apatia per a

 

l’Idioma gal·lès ("la llengua antiga")

 

és molt molest per als gal·lesos de bon cor, perquè si sou apàtics, què podem esperar dels anglesos que viuen entre nosaltres? Hi ha gent com tu a tota la terra; a les grans ciutats, on el comerç s’ha apoderat de les ments de la gent fins a un grau dolorós, a les zones bilingües, on és difícil fer que els nens siguin gal·lesoparlants, i a les zones rurals on els gal·lesos són prou insensats per creure el despropòsit que els terratinyents anglesos capbuits diuen sobre la nostra llengua.

 

 

No dic per un moment que sou un Dic Siôn Dafydd (= un gal·lès que menysprea la seva llengua materna i es nega a parlar-la), però heu decidit que

 

la llengua morirà,

 

i accepteu aquesta idea amb total indiferència! Això demostra que el vostre amor per la llengua gal·lesa ("la llengua antiga") no és molt gran. Si el vostre fill més estimat morís, us esforçarieu tot el possible per lluitar per la seva vida, i estic segur que si us adonéssiu de la pèrdua tremenda que patiria el nostre país si la llengua moria, serieu molt menys apàtic i més disposat a lluitar per la seva retenció.

 

No estic segur que us hàgiu adonat que l'existència de la nostra nació com a nació depèn de que mantinguem la nostra llengua. Les millors ments de Gal·les en el passat es troben en la nostra literatura i, si la literatura anglesa substitueix la nostra literatura, les influències formals del futur seran angleses i no la llengua gal·lesa. Anirem perdent la nostra peculiaritat i no serem res més que

 

 

 

 

 

 

 

Saeson Cyffredin.

 

Pe baem yn byw ym mhell o Loegr fe allem o bosibl gadw i raddau ein nodweddion hyd yn oed pe collem ein hiaith, ond yr ydym yn rhy agos i Loegr I  wneud hynny yn awr, ac y mae gormod o ddylanwadau Seisnig yn barod yma i ni fod yn ddifater.

 

Os collwn ein nodweddion neilltuol collwn un o'r dylanwadau mwyaf sydd yn gwneud am undeb ein cenedl. Ychydig sydd yn clymu dyn a dyn fel cyffelybrwydd nodweddion ac iaith. Y mae gormod o ddylanwadau yn tueddi ein rhwygo fel cenedl yn awr i ni allu fforddio colli dylanwad fel hwn. Dylanwad cryf arall at greu undeb yw erledigaeth, ac fe fu erledigaeth y Sais arnom yn y gorffennol yn elfen gref yn ein gyrru yn nes at ein gilydd. Ond y mae hwnnw yn diflannu yn gyflym, a phwysigrwydd cadw'r iaith felly fel elfen ein hundeb yn fwy nag erioed. Os collwn ein hiaith, collwn hefyd i raddau mawr ein

 

Cyflymdra Meddwl.

 

Nid oes dim yn well na dysgu dwy iaith i ddatblygu meddwl, ac i greu awydd am astudiaeth. Dywedodd Mr Stanley Leathes, C.B. (un o awdurdodau mwyaf y deyrnas ar ddysgu ieithoedd, ac a benodwyd yn ddiweddar yn gadeirydd pwyllgor y Llywodraeth ar y mater): “I always think that bilinguals like the Welsh get more out of their schools than a country like England, where only one language is used." Dyma i chwi farn Sais ar bwysigrwydd cadw'r iaith fel mater o ddatblygiad feddwl. Y mae medru cymharu dwy iaith a chyfieithu o un i'r llall a mynegi meddwl yn y ddwy yn dangos diwylliant mwy nag sydd yn bosibl i ddyn unieithog. Y mae Ilawer Cymro wedi ffurfio arferiad o astudiaeth drwy gymeryd diddordeb yn y Gymraeg ac yn ei  chymharu a'r Saesneg. Ac nid oes dadl fod astudio y Gymraeg a'i llen yn fantais amhrisiadwy fel

 

Gent anglesa.

 

Si visquéssim lluny d’Anglaterra, podríem conservar les nostres característiques fins i tot si perdéssim la nostra llengua, però estem massa a prop d’Anglaterra per fer-ho ara, i aquí ja hi ha massa influències angleses perquè siguem indiferents.

 

Si perdem les nostres característiques distintives, perdem una de les majors influències en la unitat de la nostra nació. Poques coses uneixen la gent com la semblança de trets i un llenguatge. Massa influències tendeixen a separar-nos com a nació ara, de manera que no ens podem permetre el luxe de perdre una influència com aquesta. La persecució és una altra forta influència en la creació de la unitat, i la persecució contra nosaltres per part dels anglesos en el passat ha estat una força important per apropar-nos. Però això està desapareixent ràpidament i la importància de preservar la llengua com a element de la nostra unitat és més gran que mai. Si perdem la nostra llengua, també la perdem en gran mesura

 

l'Agilitat mental ("Velocitat de pensar").

 

No hi ha res millor que aprendre dues llengües per desenvolupar el pensament i crear un desig d’estudi. Stanley Leathes, CB (una de les autoritats més grans del Regne Unit en matèria d'aprenentatge d'idiomes, que va ser nomenat recentment president del comitè del govern sobre la qüestió), va dir: "Sempre crec que els bilingües com els gal·lesos treuen més profit de les seves escoles que un país com Anglaterra, on només s’utilitza un idioma." Aquí teniu l'opinió d'un anglès sobre la importància de preservar l'idioma com a qüestió de desenvolupament mental. Ser capaç de comparar dues llengües i traduir d'un a l'altre i expressar el pensament en totes dues mostra una cultura més gran que sigui possible per a una persona monolingüe. Molts gal·lesos han adoptat un mètode d’aprenentatge interessant-se en la llengua gal·lesa i comparant-lo amb l’anglès. I no es pot discutir el fet que estudiar gal·lès i la seva literatura és un avantatge inestimable com a

 

 

 

 

 

Disgyblaeth Feddyliol.

 

Dywedir wrthym gan feirniaid diogel fod gwerin Cymru yn darllen mwy o lyfrau ac yn cymeryd mwy o ddiddordeb mewn llenyddiaeth nag ydyw gwerin bobl unrhyw wIad ar wyneb y ddaear. Os bydd marw'r iaith marw hefyd fydd y diddordeb yma, fel y gwelir yn awr yn ddigon amlwg mewn rhannau Seisnigeidd o'n gwlad. Un o'r pethau goreu i ddatblygu meddwl cenedl yw ymdrech i ddatblygu iaith. Y mae eisieu datblygu'r Gymraeg mewn llawer ffordd — dyna waith i Gymru'r dyfodol, a ddatblygai eu meddyliau yn well nag unrhyw astudiaeth o ieithoedd ereill.

 

Yn ychwanegol at ein bywyd meddylol y mae ein bywyd moesol yn gorffwys i raddau helaeth ar fywyd yr iaith. Y mae i genedl roi ffordd i genedl arall mewn mater o iaith yn ddigon ynddo ei hun  I achosi dirywiad cenedl am genedlaethau. Pwysig iawn hefyd yw'r ffaith fod

 

Llenyddiaeth y Gymraeg

 

ymhlith y glanaf os nad y glanaf yn y byd. Dywedir yn “A Nation and Its Books" (llyfr swllt hynod werthfawr a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Fwrdd Addysg Cymru, a ddylai fod yn llaw pob Cymro), “No bad book has ever succeeded in Wales, and no coarse or foul book has ever tried to do so. Not one of the great Welsh classics need to

 

 

Disciplina mental.

 

Ens diuen, amb bona autoritat (“explicades per crítics fiables”), que la gent de Gal·les llegeix més llibres i s’interessa més per la literatura que la gent comuna de qualsevol país de la terra. Si la llengua es mor, aquest interès també mor, com ara és prou evident a les zones anglitzades del nostre país. Una de les millors coses per desenvolupar el pensament d’una nació és un esforç per desenvolupar la llengua. Hi ha moltes maneres en què es necessita el desenvolupament de la llengua gal·lesa: aquesta és la tasca d’un futur País de Gal·les, que desenvoluparia les seves ments millor que aprenent qualsevol altra llengua.

 

A més de la nostra existència intel·lectual ("vida mental"), la nostra moralitat ("vida moral") depèn ("descansa") en gran part del llenguatge. Perquè una nació doni lloc a una altra nació en matèria de llengua, és suficient per si mateixa per provocar el declivi d’una nació durant generacions. Un altre fet important és que ("també és molt important el fet") que

 

la Literatura gal·lesa

 

és un dels més edificants ("més nets") si no el més edificant del món. A "Una nació i els seus llibres" (un llibre extremadament valuós que costa un xíling, publicat recentment per la Comissió d’Ensneyament de Gal·les, que hauria d'estar en mans de tots els gal·lesos), es diu: "Cap llibre dolent no ha tingut èxit a Gal·les ni cap llibre groller o indecent mai ho ha intentat. Cap dels grans clàssics gal·lesos no necessita

 

 

 

 

 

be expurgated." O bosibl na ddarfu chwi a'ch bath sylweddoli y ffaith bwysig yna o'r blaen, neu ni fuasai un o honoch yn siarad mor ffol ag y gwnaeth un yn ddiweddar pan ddywedodd fod yn well gan rai glywed pobl ieuainc yn “siarad Cymraeg ar y ffordd i uffern na'u clywed yn siarad Saesneg ar y ffordd i'r nefoedd." Oni wyddoch chwi mai un o'r rhesymau cryfaf sydd gan lawer o wyr goreu Cymru dros  geisio

 

Ennyn Diddordeb y Cymro Bach

 

 

yn llenyddiaeth ei wlad ei hun yw ei gadw oddiwrth y llu llyfrau a phapurau afiach a gyhoeddir yn yr iaith Saesneg. Yn wir dibynna ein bywyd crefyddol i raddau helaeth ar fywyd ein hiaith. Ni ddatblygwyd iaith erioed gymaint yn ei llyfrau diwinyddol. Os collir yr iaith collir dylanwad oesoedd o feddyliau goreu y wlad, ac yn waeth na hynny os llyfrau a phapurau Lloegr fydd ein llyfrau a'n papurau awn yn gyflym iawn i edrych ar y byd gyda

 

Llygad Materol

 

ac anianol y Sais, ac fe gollwn ein hysbrydolrwydd a chyda hynny neges ein bodolaeth. Gwir y dywedodd un yng nghyfarfodydd Undeb un o'r enwadau yn ddiweddar, “Os collir y Gymraeg o'n gwlad, fe gollwn ein Cristionogaeth i raddau helaeth iawn yr un pryd. Colli ein iaith fyddai un o'r ergydion mwyaf y gallai Cristnogaeth ei gael… ‘Wales is the last bulwark of Christianity.'… Os concrir ni gan iaith, llenyddiaeth ac arferion mwy materol y Sais a chenhedloedd eraill bydd y byd i gyd ar ei golled."

 

Gwelwch felly sut y mae ein bywyd fel cenedl yn feddyliol, yn foesol, a chrefyddol, ein harbennigrwydd a'n hundeb yn gorffwys i raddau helaeth iawn ar fywyd yr iaith. Da chwi felly taflwch eich difaterwch i ffwrdd ac ymunwch a'r llu sydd eisoes wedi penderfynnu ymladd hyd at ddiwedd einioes am fywyd yr hen iaith annwyl. —

Yr eiddoch, ATWEBYD.

 

ser expurgat. "És possible que vosaltres i persones com vosaltres no us hàgiu adonat d'aquest fet important, en cas contrari, un de vosaltres no hauria parlat tan estúpidament com fa poc quan va dir que algunes persones prefereixen escoltar els joves parlant gal·lès diables que escoltar-los parlar anglès camí del cel ". No sabeu que una de les raons més fortes de moltes de les millors persones de Gal·les d’intentar

 

Despertar l’interès dels joves gal·lesos (“del petit gal·lès”)

 

en la literatura del seu propi país, és mantenir-lo allunyat dels molts llibres i articles poc edificants publicats en llengua anglesa. De fet, la nostra vida religiosa depèn en gran mesura de l'existència ("vida") de la nostra llengua. Mai cap llenguatge es va desenvolupar tant a través dels seus llibres teològics. Si la llengua es perd, la influència de segles de les millors ments del país es perdrà, i pitjor que això si els llibres i papers anglesos seran els nostres llibres i papers;  anirem molt ràpidament a mirar el món a través d’

 

ulls anglesos

 

("Amb l'ull material i natural de l'anglès"), i perdrem la nostra espiritualitat i amb això el propòsit de la nostra existència. El que es va dir recentment en una de les reunions de l’associació d’una confessió religiosa és cert: "Si el nostre país perd la llengua gal·lesa ("si la llengua gal·lesa es perd del nostre país"), perdrem molt el nostre cristianisme. La pèrdua de la nostra llengua seria un dels cops més grans que podria patir el cristianisme ... "Gal·les és l'últim baluard del cristianisme." ... Si ens conquereix el llenguatge, la literatura i les pràctiques més materials dels anglesos i d'altres nacions, serà una pèrdua per al món sencer ("el món sencer estarà en la seva pèrdua").

 

Així veieu com la nostra vida com a nació intel·lectualment, moralment i religiosament, la nostra peculiaritat i unitat descansen molt en la vida de la llengua. Pel bé de tots, deixeu de banda ("llançar") la vostra apatia i uniu-vos a les moltes persones que ja han decidit lluitar fins a l'últim ("lluitar fins al final de la vida") per la vida de l'estimada llengua gal·lesa ("estimada llengua antiga. ”)

 

Sincerament, (un nom de ploma que significa "[la pregunta] ha estat contestada")

 

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā
Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /


ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
wikipedia, scriptsource. org

Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.[] kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_313_at-fy-nghydwladwyr_1916_3593k.htm


Ffynhonnell / Font / Source: archive.org
Creuwyd / Creada / Created: 25-01-2021
Adolygiadau diweddaraf /
Darreres actualitzacions / Latest updates: 25-01-2021
Delweddau / Imatges / Images:



Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait


Statistics for Welsh Texts Section / Ystadegau’r Adran Destunau Cymraeg
hit counter script
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats


DIWEDD