kimkat3772k YR IAITH GYMRAEG. 1785, 1885, 1985! NEU, TAIR MILIWN O GYMRY DWY-IEITHAWG MEWN CAN MLYNEDD. Cyfres o Lythyrau GAN D. ISAAC DAVIES, B. Sc. GYDA HANES SEFYDLIAD CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG, &c., &c., &c. O “BANER AC AMSERAU CYMRU.” DINBYCH: CYHOEDDWYD GAN T. GEE A'I FAB. 1886. Pris 6ch. / THE WELSH LANGUAGE. LA LLENGUA GAL·LESA. 1785, 1885, 1985! O, TRES MILIONS DE GAL·LES BILINGÜES EN CENT ANYS. Una sèrie de cartes DE D. ISAAC DAVIES, B. Sc. AMB LA HISTÒRIA DE LA INSTITUCIÓ DE L'ASSOCIACIÓ DE LA LLENGUA GAL·LESA, etc., etc., etc.  De "LA BANDERA I ELS TEMPS DE GALLES".  DENBIGH: PUBLICAT PER T. GEE I EL SEU FILL. 1886. Preu 6 penics. 1785, 1885, 1985! OR, THREE MILLION BILINGUAL WELSH PEOPLE IN ONE HUNDRED YEARS. A Series of Letters BY D. ISAAC DAVIES, B. Sc. WITH THE HISTORY OF THE INSTITUTION OF THE WELSH LANGUAGE ASSOCIATION, &c., &c., &c.  From "THE FLAG AND TIMES OF WALES."  DENBIGH: PUBLISHED BY T. GEE AND HIS SON. 1886. Price 6d.

06-12-2022 





   

 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
 (delwedd 0003)

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

YR IAITH GYMRAEG. 1785, 1885, 1985! NEU, TAIR MILIWN O GYMRY DWY-IEITHAWG MEWN CAN MLYNEDD.

D. ISAAC DAVIES, B. Sc.

1886.

Y testun gwreiddiol / El text original / The original text


Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:

http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/


a-7000_kimkat1356k Beth sy’n newydd yn y wefan hon?

6665_map_cymru_catalonia_llanffynhonwen_chirbury_070404

(delwedd 4665)

 

 

 

 

Text

Description automatically generated with medium confidence

(tudalen 00a) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6640)

 

YR IAITH GYMRAEG.

1785, 1885, 1985
!

 

NEU, TAIR MILIWN O GYMRY DWY-IEITHAWG MEWN CAN MLYNEDD.

 

Cyfres o Lythyrau GAN D. ISAAC DAVIES, B. Sc.

 

GYDA HANES SEFYDLIAD CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG, &c., &c., &c.

 


O “BANER AC AMSERAU CYMRU.”

 

DINBYCH: CYHOEDDWYD GAN T. GEE A'I FAB.

1886.

Pris 6ch.

 

 



 

 

 

Letter

Description automatically generated with medium confidence (tudalen 00b) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6641)

 

 

HARVARD COLLEGE LIBRARY FROM THE FUND GIVEN IN MEMORY OF

GEORGE SILSBEE HALE

AND

ELLEN SEVER HALE

 

 

 

 

 

A picture containing table

Description automatically generated (tudalen 00c) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6642)

 

 

YR IAITH GYMRAEG.

1785, 1885, 1985
!

 

NEU, TAIR MILIWN O GYMRY DWY-IEITHAWG MEWN CAN MLYNEDD.

 

CYFRES O LYTHYRAU GAN D. ISAAC DAVIES, B. Sc.

 

GYDA HANES SEFYDLIAD CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG, &c., &c., &c.

 


O “BANER AC AMSERAU CYMRU.”

 

DINBYCH: CYHOEDDWYD GAN T. GEE A'I FAB.

1886.




 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated (tudalen 01) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6643)

 

AT FY NGHYDGENEDL.

 

 

Dau beth yr ydwyf yn gobeithio am danynt eleni: —

1. Ffurfiad Cymdeithas, er mwyn trefnu moddion i wneyd y fath ddefnydd rhesymol o’r Gymraeg yn ein hysgolion o bob gradd ag a duedda i'n codi i safle uwch yn mhlith cenhedloedd
eraill.

2. Penderfyniad yn yr etholwyr newydd i beidio anfon unrhyw aelod i’r senedd heb roddi gwybodaeth iddo am f
furfiad y fath Gymdeithas, a bwriad diysgog y genedl Gymreig i sicrhau llwyddiant i’r mudiad cenedlaethol hwn.

A ydych am i ni bleidleisio dros Gymry yn unig?' medd rhywun. Dim o’r fath beth. Policy gwahanol a lwydda oreu. Pan y bydd Sais, Ysgotyn, neu Wyddel, yn ymsefydlu yn Nghymru, ein hamcan a ddylai fod, i'w ddenu i'n hochr ni. Ein gofyniad a ddylai fod — nid A ydych chwi yn medru Cymraeg?’ ond 'A wnewch chwi ofalu fod eich plant, eich ŵyrion, a'ch gorŵyrion yn cael cyfleusderau i ddysgu Cymraeg?'

Yn ol pob tebyg, bydd mwy na thair miliwn o bobl yn Nghymru yn 1985. A fyddant hwy oll o deimlad Cymraeg, a lliaws o honynt yn medru Cymraeg?

Dyna'r nôd y carwn i ni, fel cenedl, i ymg
yrrhaedd ato.

Yr eiddoch yn gywir,

D. ISAA
C DAVIES.

Llan
gwyddfan, Llandybie, Awst 19eg, 1885.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

A picture containing text, newspaper, receipt

Description automatically generated (tudalen 02) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6644)

 

AT Y CYMRY YN MHOB MAN.

 

Y MAE y ddau beth pwysig y cyfeiriais atynt yn anerchiad Awst diweddaf yn awr yn ffeithiau.

Y mae
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg' wedi ei ffurfio, a phob aelod seneddol dros Cymru a Mynwy yn gwybod am awydd y Cymry i wneyd defnydd synhwyrol o'u hen iaith yn Ysgolion Dyddiol eu gwlad.

Gosodir dau nôd amlwg ger ein bron gan y flwyddyn newydd. Gyda bod 1886 yn agor ei llygaid, syrthiant ar
The Royal Commission on Elimentary Education in England and Wales' — Y Ddirprwyaeth Freiniol ar Addysg Elfenol yn Lloegr a Chymru.’ Yn mysg yr un aelod ar hugain, gwelaf arweinydd y Blaid Gymreig — y Cymro profiadol a thwymngalon, Henry Richard, Ysw., A.S. dros Merthyr Tydfil. Y mae efe bob amser yn barod i wasanaethu ei gydgenedl. Wrth ddrws y Cymry eu hunain y bydd y bai, os na ddangosir yn amlwg, drwy gyfrwng Cynnrychiolydd Cymru, ddiffygion y cynllun presennol o addysg, a'r modd i'w gyfaddasu i wir anghenion Gwlad y Bryniau.' Da fod 'Cymdeithas yr laith. Gymraeg' yn barod i arwain y genedl yn y cyfeiriad yma.

Ein gorchwyl pwysig arall yn 1886 ydyw pro
fi fod gallu yn y Cymry i ddyfal-barhau — i weithio gyda chyssondeb, i sylweddoli bwriad dymunadwy, yn ogystal a'i amgyffred gyda brwdfrydedd teimlad ar dân pan y byddo o hir bell, cynnyddu nifer aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg,' dal i fyny ddwylaw ei swyddogion medrus, lledaenu gwybodaeth am ei hamcanion yn mhob cymmydogaeth, a chwanegu at ei nerth yn mhob rhyw ddull a modd. Dyna y gwaith arall a ddylid ei wneyd o ddechreu i ddiwedd y flwyddyn sydd newydd ddechreu.

Y mae y Gwyddelod yn anfon cynnorthwy i
’w mudiad cenedlaethol o Brydain Fawr, America, Awstralia, a phob cr o’r byd. Ai yn ofer y disgwylir am gynnorthwy y Cymry gwasgaredig yn mhob gwlad dan haul i’r gymdeithas hon?

Mewn gobaith am bethau gwell nag oe
rni a difaterwch cenedlaethol, arosaf,

Yr eiddoch yn wladgarol,

D. ISAA
C DAVIES.

Caerdydd, lon
awr, 1886.

 

 

 

 

A screenshot of a computer

Description automatically generated with medium confidence (tudalen 03) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6645)

 

 

Y LLYTHYR CYNTAF.

 

FONEDDIGION,

Gyda'ch caniatâd, bwriadaf anerch fy nghydwladwyr ar Gymru yn 1785, yn 1885, ac yn 1985, mewn chwech o lythyrau — da
u lythyr ar bob cyfnod.

Nid oes genyf, O Gymro
! unrhyw hawl i wrandawiad o herwydd fy mod wedi ennill enw fel llenor Gymreig. Nis gallaf gofio i mi geisio ysgrifenu erthygl Gymreig hyd yr wythnos olaf o fis Mai y flwyddyn hon — yr hon a ymddengys yn ‘Y Geninenam fis Gorphenaf. Ychydig iawn a ysgrifenais i'r wasg Saesnig. At Fesuroniaeth a Gwyddoniaeth y mae fy nhuedd wedi bod yn cyfeirio — ac nid at lenyddiaeth. Bydd amyneddgar, gan hyny, gyfaill, a bydded i ti oddef iaith gyffredin er mwyn y pwngc yr ydwyf yn myned i ymdrin âg ef.

Nid bardd, na llenor, nac eisteddfodwr o’r hen ysgol, sydd yn dy anerch; ond un sydd wrth fodd ei galon pan yn ceisio argraph
u yn feunyddiol ar feddyliau plant y Cymry, a chyfeillion addysg yn ein gwlad, y pwys o ddysgu Saesneg, a Chelf, a Gwyddor. Y mae fy mywyd wedi ei gyssegru i ledaeniad yr anhebgorion hyn. Troi allan o fy llwybr arferol yr ydwyf eleni, o herwydd dwysder argyhoeddiad a phwysigrwydd y cyfnod hwn yn ein hanes fel cenedl, i ddyweyd gair fel addysgwr; o herwydd nad oes neb, sydd wedi mwynhau yr un cyfleusderau, yn barod i anerch y Cymry ar y mater sydd yn fy nghyffroi i hyn o weithred; sef, Ai ni ddylai gwybodaeth o ddwy iaith — y Saesneg a'r Gymraeg — fod yn fanteisiol iawn i’r Cymro?'

Y mae yn well i mi gyfaddef y tri pheth canlynol cyn myned gam yn
mhellach: —

1. Er nad ydwyf, mewn unrhyw ystyr, wedi bod yn un o deulu
Dic-Sion-Dafydd,' fe'm meddiannwyd gynt am dymmor maith â'r syniad sydd i'w gael yn lled gyffredin; sef, y byddai difodiad yr Iaith Gymraeg yn fanteisiol ar y cyfan i’r Cymro.

2. Nid wyf yn awr yn credu yn gada
rn yn Oes y byd i’r laith Gymraeg;' o herwydd, fel y ceisiaf ddangos yn mhellach yn mlaen, fod ymddygiadau llawer o’r Cymry tuag ati yn dangos eu bod yn hollol ddifater o honi, os nad yn wrthwynebol i'w chadwraeth.

3. Er hyn oll, nid wyf wedi llwyr golli gobaith chwaith, gan fod y

 

 

 

A black and white photo of a document

Description automatically generated with low confidence

(tudalen 04) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6645b)

 

4

 

Gymraeg fel pe byddai yn chwanegu nerth a dylanwad y dyddiau hyn, er gwaethaf esgeulusdra a gwrthwynebiad y rhai a ddylent ei hamddiffyn a'i phleidio. Eisiau gwasgaru gwybodaeth sydd am y bendithion sydd wedi deilliaw i ni fel pobl drwy'r hen iaith, ac am y possiblrwydd o gael llawer o bethau da eraill drwyddi yn yr amser a ddaw.

Dychymygaf fod un o honoch yn gofyn - 'Paham, gyfaill, yr ydwyt yn dewis y flwyddyn hon i ddwyn achos y Gymraeg ger ein bron?' Gofyniad teg ydyw hwn, ac un sydd yn teilyngu attebiad.

Yn y lle cyntaf, eleni y mae is-bwyllgor Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion yn Llundain wedi ei ddewis i ddwyn y cwestiwn a godwyd i'r gwynt gan ddau Gymmrodor, sef y Parch. D. J. DAVIES a'r Proffeswr POWEL, ger bron athrawon dyddiol y Dywysogaeth.

Yn ail, ac yn fwyaf neillduol, o herwydd mai eleni y cynnelir Cyfarfodydd Canmlwyddol Ysgolion Sabbothol Cymru.

Y mae'n hysbys i ddarllenwyr y ‘Cymmrodor,' fod pobl yr Iwerddon wedi ffurfio 'Cymdeithas er cadwraeth yr Iaith Wyddelig.' Ac y mae un peth yn ein gwlad wedi tynu sylw neillduol ein brodyr Gwyddelig. Gwelant fod y Gymraeg yn llawer mwy byw yn awr na'r Wyddelaeg, er eu bod yn ystyried fod y ddiweddaf wedi bod yn fwy llewyrchus na hi ar un adeg. Paham y mae cymmaint o wythnosolion, misolion, a chwarterolion yn y Gymraeg, ac mor lleied yn y Wyddelaeg? Paham y cyhoeddir mwy o lyfrau Cymreig, y pregethir mwy o Gymraeg, ac y cenir mwy o Gymraeg, nag a gyhoeddir, a bregethir, ac a genir yn iaith yr Ynys Werdd? Gofyniadau gwerth sylw yw y rhai hyn, onid ê?

Gwnaed ymchwiliad am attebion i'r cwestiynau hyn, a gwelir ffrwyth yr ymgais yn yr unfed rhifyn ar bymtheg o'r 'Gaelic Journal,' am ba un yr ydwyf yn ddyledus i'r Proffeswr Powel. Cyhoeddir y misolyn hwn gan y Gaelic Union, 19, Kildare street, Dublin. Ac ynddo gwneir dyfyniadau helaeth o'r ohebiaeth a fu rhwng y diweddar Barch. THOMAS CHARLES, o'r Bala, a CHRISTOPHER ANDERSON yn y flwyddyn 1811.

Gan ein bod, fel cenedl, ya myned i ddwyn enw a gwaith y Cymro enwog a nodwyd i sylw neillduol y mis hwn, yr wyf yn hyderu na bydd neb yn cyfodi i fyny i'w fawrygu heb drwytho ei feddwl mewn un gwirionedd neillduol sydd wedi taraw meddwl yr ymchwilwyr Gwyddelig. Yr oedd yn amlwg iddynt hwy mai cuddiad cryfder dylanwad a llwyddiant CHARLES o'r Bala fel addysgwr oedd, ei fod wedi bod yn ddigon llygadgraff i ddefnyddio y Gymraeg - iaith y werin - fel cyfrwng i gyfranu gwybodaeth i'r bobl. Ond gadawn i'r Gwyddelod siarad eu syniadau eu hunain:

 

 

A picture containing text, newspaper, screenshot

Description automatically generated

(tudalen 05) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6645c)

 

5

'Common sense prevailed in Wales. The people saw by experience that the only rational way to instruction was through the language understood by the learners. They got up Sunday Schools to carry on this system; and these schools, as was seen, stamped out the ignorance and stupor that was general throughout the Principality. These Sunday Schools are at full work, and with the same beneficial results.

'Had the system of trying to teach the Welsh children through the medium of the English been persevered in during the last 150 years (as in the 100 years preceding the time of GRIFFITH JONES of Llanddowror) the people of the Principality would now have been as low - at least in respect of education - as the people of Donegal and Connemara. But they were saved from this fate by the exertions of two good clergymen: -men without either money or influence, except what they obtained by their piety and unselfishness. These men showed the Welsh people how to educate themselves - first in their own language, and afterwards in English.

'Some persons, commenting on this fact, have asked, Why have not the people of Ireland educated themselves in the same way, and at their own expense, like the people of Wales? Well (1.) there was neither a GRIFFITH JONES nor a THOMAS CHARLES in Ireland.'

Y mae y dyfyniadau uchod yn Gymraeg yn debyg i hyn:

'Yr oedd synwyr cyffredin yn ffynu yn Nghymru. Yr oedd y bobl wedi dyfod i weled trwy brofiad mai yr unig ffordd resymol i addysgu ydoedd, trwy yr iaith a ddeallid gan y rhai a ddysgid. Yr oeddynt wedi codi Ysgolion Sul i ddwyn y trefniant hwn yn mlaen; a darfu i'r ysgolion hyn, fel yr ydys wedi gweled, ddileu yr anwybodaeth a'r marweidd-dra oedd yn gyffredinol trwy y Dywysogaeth. Y mae yr Ysgolion Sabbothol hyn mewn llawn gwaith yn awr, a'u canlyniadau yr un mor fendithiol.

Pe buasai y cynllun o geisio dysgu plant y Cymry trwy gyfrwng yr iaith Saesnig wedi cael ei barhau ar hyd yr 150 blynyddoedd diweddaf (fel yn y 100 mlynedd blaenorol i amser GRIFFITH JONES, Llanddowror), buasai trigolion y Dywysogaeth yn awr mor isel - o'r hyn lleiaf gyda golwg ar eu haddysg - ag ydyw pobl Donegal a Connemara. Ond gwaredwyd hwy rhag y dynged hon trwy ymdrechion dau glerigwr rhagorol - dynion heb nac arian na dylanwad, oddi eithr yr hyn a ennillasant trwy eu duwioldeb a'u hymaberthiad. Dangosodd y gwŷr hyn i'r Cymry pa fodd i'w haddysgu eu hunain — yn gyntaf yn eu hiaith eu hunain, ac wedi hyny yn yr iaith Saesnig.

Wrth sylwi ar y ffaith hon, gofynodd rhai pobl, paham na buasai pobl yr Iwerddon yn addysgu eu hunain yn yr un modd, ac ar eu traul eu hunain? Wel (1), nid oedd yr un GRIFFITH JONES na THOMAS CHARLES yn yr Iwerddon.'

Yna y mae yr ysgrifenydd yn myned rhagddo i ddangos mai tlodi y bobl, a'r gwaharddiad gan gyfraith y wlad o bob addysg yn

 

 

 

A black and white document

Description automatically generated with low confidence (tudalen 06) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6646)

6

 

tarddu o ffynonellan Catholig Rhufeinig, oedd y ddau achos arall o'r gwahaniaeth sydd yn bodoli yn awr rhwng Cymru Gymreig a'r Iwerddon Wyddelig; hyny ydyw, rhwng Cymru Orllewinol a'r Iwerddon Orllewinol. Ac fel hyn y dywedant: —

‘Put out the light of leaming in a country or district, and it is almost as hard to rekindle it as to restore the vital spark. All through the poor congested sea-board of Ireland, where the sparks of knowledge were trampled out, what could even a Griffith Jones do then?’

Yn Gymraeg, y mae y llinel
lau uchod fel y canlyn: —

'Dif
fodder goleuni dysgeidiaeth mewn gwlad neu ddosbarth, a bydd yn mron mor anhawdd ei ail gynneu ag adferu y wreichionen fywydol. Ar hyd arfodir tlawd a gorboblog yr Iwerddon, lle y mathrwyd gwreichion gwybodaeth allan, pa beth a allai hyd yn oed Griffith Jones ei wneyd?

Yn y llythyr nesaf, ceisiwn ddangos, yn ngeiriau Griffith Jones a Charles o’r Bala, paham y darf
u i'r apostolion hyn ddyfod i'r penderfyniad, mai trosedd yn erbyn deddfau Rhagluniaeth fuasai esgeuluso iaith y werin mewn cyfundrefn addysgol,

yr hon oedd â lles y werin mewn golwg. Ymdrechwn wasgu ar feddŷliau blaenoriaid presennol ein cenedl, ac hefyd ar bawb sydd yn bwriadu cymmryd rhan yn y Cyfarfodydd Canmlwyddol, y pwys o ystyried yn ddifrifol y cwestiwn a wasgodd ei hun ar feddwl Griffith Jones a Charles o'r Bala yn y ganrif ddiweddaf — ac a gafodd barch yn eu golwg.

Os gellir dangos — a chredwn y gellir — fod y Gymraeg yn fwy byw a bywiog
yn awr, ar ol tua deugain mlynedd o addysg dyddiol Saesnig lled gyffredinol, nag yr ymddangosai yn bossibl iddi fod, i mi ac eraill, ddeng mlynedd ar hugain yn ol, ai nid gwell ydyw i ni gyfaddef y gwirionedd, ymgrymu ger bron y ffeithiau, a rhoddi lle parchus i'r ‘Hen Iaith yn ein cyfundrefn o addysg? Yr ydym yn credu mai ein dyledswydd arbenig ydyw gwneuthur hyn — a'i wneyd yn galonog hefyd.

A chyn cyrhaedd diwedd y gyfres hon o lythyrau, ymdrechwn ddangos y gellir, os ydyw y genedl Gymreig am hyny, defnyddio y Gymraeg yn y fath fodd ag i fod, mewn gwirionedd, yn fantais fydol i'r Cymry.

Ni a adawn i eraill bwysleisio ar y bendithion moesol a chrefyddol sydd yn ein meddiant — am ba rai yr ydym i fesur helaeth i ddiolch i'r
Iaith Gymraeg. Ond ein hamcan ni fydd ceisio perswadio y Cymry — yr hyn fydd o bossibl yn waith anhawdd mewn llawer cylch — y gellir chwanegu eu llwyddiant bydol, pe y rhoddid chwareu teg i'r Gymraeg! Pa faint o Gymry sydd yn barod i roddi eu harian, a'u hamser; ac i gymmeryd poen i gyrhaedd amcan o fath hwn?

 

 

A screenshot of a computer

Description automatically generated with medium confidence (tudalen 07) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6647)

7

 

Fe allai y gofyna yr ymdrech bump, ddeg, pymtheg, neu ugain mlynedd, cyn y gellir llwyddo. Bydd llawer o waith parotoi yn
ddía
u; a bydd yn anhawdd argyhoeddi llawer o rïeni, ac ysgolfeistri, a dynion cyhoeddus, o bwysigrwydd yr amcan sydd mewn golwg; ac nis gellir gwneyd hyn heb argyhoeddiad dwfn o'i werth i'r genedl yn gyffredinol.


Wrth derfynu y llythyr hwn, goddefer i mi ofyn, A ydyw
plant ysbrydol Charles o’r Bala yn y dyddiau hyn, ac yn y mater dan
sylw, yn feddiannol ar ddwysder teimlad y gwron ei hun — yr hwn y proffesant gymmaint o barch i'w goffiadwriaeth?

Yr eiddoch yn gywir,

D. Is
aac Davies. Caerdydd, Mehefin 6ed, 1885.

 

 

LLYTHYR II.

FONEDDIGION,

Yn fy llythyr cyntaf, addewais alw sylw fy ng
hydwladwyr at eiriau yr enwogion Cymreig, Griffith Jones, o Landdowror, a Thomas Charles, o’r Bala, eu hunain, fel y ceir hwynt yn argraphedig mewn cyhoeddiad Gwyddelig. Cofiwch, gan hyny, ddarllenwyr, mai dyfyniadau fydd y rhan fwyaf o'r llythyr presennol.

Gwrandewch, yn ngyntaf, ar lais y gwroniaid Cymreig. I CHARLES o'r Bala, yr ydym yn ddyledus am yr ychydig eiriau a osodir yn ngenau ei flaenorydd: —

'More than 150 years ago, in Wales, the whole country was in a most deplorable state with regard to the acquisition of religious knowledge. For a long time previous, fashionable people had been trying to stamp out the language of the country, and to have the children taught altogether in English. Against these people, and against this state of universal ignorance, the Rev. GRIFFITH JONES, of Llanddowror, was raised up. He asked:- 'Should all our Welsh books, and our excellent version of the Bible, our Welsh preaching, and the stated worship of God in our language, be taken away, to bring us to a disuse of our tongue?' So they are in a manner in some places - the more our misery; and yet the people are not better scholars, any more than they are better Christians, for it. Welsh is still the vulgar tongue - and not English. The English charity schools, which have been tried, produced no better effect in country places. All that the children could do in three, four, or five winters-for they could only attend at that period of the year

 

 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 08) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6648)


amounted commonly to no more than to learn imperfectly to read some easy parts of the Bible, without knowing the Welsh of it. Nor this should be thought strange, considering that they were learning to read an unknown language, and had none to speak it but the master, and he too obliged to talk to them often in Welsh; insomuch that those, who had been so long in English schools could not edify themselves by reading, till many of them lately learned to read their own language in the Welsh charity schools. Sure I am, the Welsh charity schools do no way hinder to learn English, but do very much contribute towards it; and perhaps you will allow, Sir, that learning our own language first is the most expeditious way to come to the knowledge of another; else why are not your youths in England, designed for scholars, set to Latin and Greek before they are taught English?...
Experience now proves beyond dispute, that if it ever be attempted to bring all the Welsh people to understand English, we cannot better pave the way for it than by teaching them to read their own language first. This method will conduce, more than any other I can think of, to assist whatever attempts may be made to spread the general knowledge of the English tongue in this country." -(Quoted by CHRISTOPHER ANDERSON, in his 'Historical Sketches of the Native Irish.' Edinburgh: OLIVER & BOYD, 1830.)

 

Yn Gymraeg, yn debyg i hyn: —

'Mwy na 150 o flynyddoedd yn ol, yn Nghymru, yr oedd yr holl wlad yn y cyflwr mwyaf adfydus gyda golwg ar gyrhaedd addysg grefyddol. Am amser maith yn flaenorol, yr oedd pobl 'ffasiynol' wedi bod yn ceisio mathru yr iaith allan o'r wlad, a dysgu y plant yn unig yn Saesneg. Yn erbyn y bobl hyn, ac yn erbyn y cyflwr hwn o anwybodaeth cyffredinol, cyfodwyd y Parch. GRIFFITH JONES, o Landdowror. Gofynai efe: - 'A ddylai ein holl lyfrau Cymraeg, a'n cyfieithiad rhagorol o'r Beibl, ein pregethu Cymraeg, a'r addoli cysson ar Dduw yn ein hiaith, gael eu cymmeryd ymaith, er mwyn ein dwyn i beidio defnyddio ein hiaith? Felly y maent i fesur, mewn rhai lleoedd - fel y mae fwyaf ein trueni; ac etto; nid ydyw y bobl yn well ysgolheigion, mwy nag y maent yn well Cristionogion, o'r herwydd. Y Gymraeg ydyw yr iaith gyffredin o hyd - ac nid y Saesneg. Ni ddarfu i'r ysgolion elusenol Saesnig, ar ba rai y rhoddwyd prawf, gynnyrchu unrhyw effeithiau gwell yn y rhanau gwledig. Nid oedd yr oll y gallai y plant ei wneyd mewn tri, pedwar, neu bum gauaf - canys nis gallent fod yn bresennol ond ar y tymmor hwnw o'r flwyddyn — yn cyrhaedd yn y cyffredin i fwy na dysgu yn anmherffaith ddarllen rhanau hawdd o'r Beibl, heb ei ddeall yn Gymraeg; ac ni ddylid edrych ar hyn fel peth dyeithr, pan yr ystyriwn eu bod yn dysgu darllen iaith

 anadnabyddus iddynt, ac heb fod ganddynt neb i'w siarad ond yr athraw; ac yntau hefyd dan orfod i siarad â hwy yn fynych yn Gymraeg; yn gymmaint felly, fel nas gallai y rhai a fuasent am gyhyd o amser mewn ysgolion Saesnig gael adeiladaeth iddynt eu

 

 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 09) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6649)

hunain trwy ddarllen, hyd nes y dysgodd llawer o honynt yn ddiweddarach ddarllen eu hiath eu himain yn yr ysgolion elusenol Cymreig. Sicr wyf nad ydyw yr ysgolion elusenol Cymreig mewn un modd yn rhwystr i ddysgu Saesneg; ond yn hytrach, y maent yn rhan fawr tuag at wneyd hyny. Sicr wyf nad ydyw yr ysgolion elusenol Cymreig mewn un modd yn rhwystr i ddysgu Saesneg; ond yn hytrach, y maent yn rhan fawr tuag at wneyd hyny. Ac fe allai y caniatewch, Syr, mai dysgu ein hiaith ein hunain yn ngyntaf ydyw y ffordd rwyddaf i ennill gwybodaeth o iaith arall: onid ê, pa ham na byddai eich ieuengctyd chwi, yn Lloegr, y rhai yr arfaethir gwneuthur ysgolheigion o honynt, yn cael eu gosod i ddysgu Lladin a Groeg, cyn dysgu Saesneg iddynt? Dysgir ni yn awr, yn ddiammheuol, gan brofiad, os byth y ceisir dwyn pawb o bobl Cymru i ddeall Saesneg, nas gallwn balmantu y ffordd i hyny yn well na thrwy eu dysgu i ddarllen eu hiaith eu hunain yn ngyntaf. Tuedda y dull hwn yn fwy nag un arall y gwn i am dano er cynnorthwyo pa ymdrechion bynag a wneir i ledaenu gwybodaeth gyffredinol o'r iaith Saesnig yn y wlad hon.'

 

Rhoddwn, yn y fan yma, gyfleusdra arall i'r Gwyddelod i draethu eu barn am bethau Cymreig; a dychwelwn, ar ol hyny, i wrandaw drachefn ar wron y flwyddyn-yr enwog CHARLES o'r Bala:


'In Wales, in 1730, the teachers occasionally made use of the Welsh language to explain English words; but the Rev. GRIFFITH JONES saw the insufficiency of this proceeding, and insisted that the children should be taught in their own language first. This good man lived till 1761- always working for the old language of his country, in order to use it as an instrument in the education of his poor countrymen. By his untiring exertions he was enabled to get up circulating schools throughout a good deal of the Principality. These schools amounted to 220 before he died. Some years after his death, the movement fell away for nearly thirty years, until it was revived by the Rev. THOMAS CHARLES, of Bala. This gentleman, in 1811, explained in a letter to Mr. CHRISTOPHER ANDERSON, how the movement had begun, and how it was revived. This letter shows how, by means of the Welsh tongue, the people of Wales were saved from being as illiterate as the peasantry of the sea-coast of Donegal are at this day. . . Thus, a poor clergyman, about a hundred years ago, in a mountainous district of Wales, found the people sunk in ignorance. He composed books, trained teachers, established schools; and during his life, he saw the Sunday Schools so spring up under his fostering care, that, without any assistance from the Government, the language of the Principality has not only lived and flourished, but has been made an instrument to educate the people properly: - whereas we have a Board of National Education, having a yearly grant of hundreds of thousands of pounds; and with all this, in half a century, they could not get a single book composed, or a teacher trained, to instruct the hundreds of thousands of children in the Irish-speaking districts of Ireland, who have grown up in ignorance as complete as that of the Welsh children, when Mr.

 

 

 

A screenshot of a computer

Description automatically generated with low confidence (tudalen 10) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6650)

10

 

Jones began his work of charity... The parents in Wales were as much opposed to the teaching of the Welsh language as the Irish parents have been to the teaching of Irish; but they gave up the conceit at the persuasion of the Rev. Thomas Charles, as he himself tells us in continuation: —

 

'At first the strong prejudice, which universally prevailed against teaching them to read Welsh first, and the idea assumed that they could not learn English so well if previously instructed in the Welsh language, proved a great stumbling-bIock in the way of parents to send their children to the Welsh schools; together with another conceit they had, that, if they could read English, they would soon learn of themselves to read Welsh. But now, these idle and groundless conceits are universally scouted. This change has been produced, not so much by disputing, as by the evident salutary effects of the schools, the great delight with which children attend them, and the great progress they make in the acquisition of knowledge. . . .

 

'As to the expediency of teaching young children in the first instance to read the language they generally speak and best understand, it needs no proof, for it is self-evident. However, I beg your attention for a few moments to the following particulars: —

 

'1. The time necessary to teach them to read the Bible in their vernacular is short-not exceeding six months in general. Teaching them English requires two or three years' time - during which time they are concerned only about dry terms, without receiving an idea for their improvement.

 

2. Welsh words convey ideas to their infant minds as soon as they can read them — which is not the case when they are taught to read a language they do not understand.

 

3. Previous instruction in their native tongue helps them to learn English much sooner — instead of proving, in any degree, an inconvenience. This I have had repeated proofs of, and can confidently vouch for the truth of it. I took this method of instructing my own children, with the view of convincing the country of a fallacy of the general notion which prevailed to the contrary; and I have persuaded others to follow my plans, which, without one exception, has proved the truth of what I conceived to be really the case.'

 

Y mae y dyfyniadau uchod yn Gymraeg yn debyg fel y canlyn:

 

'Yn Nghymru, yn 1730, gwnai yr athrawon, yn achlysurol, ddefnydd o'r iaith Gymraeg i egluro geiriau Saesnig; ond gwelodd y Parch. GRIFFITH JONES annigonolrwydd y dull hwn, a mynodd i'r plant gael eu dysgu yn eu hiaith eu hunain i ddechreu. Bu y gŵr da hwn fyw hyd 1761, gan weithio bob amser dros yr hen iaith yn ei wlad, er mwyn ei defnyddio yn offeryn yn addysgiad ei gydwladwyr tlodion. Trwy ei ymdrechion egniol, fe'i galluogwyd i sefydlu ysgolion ar gylch

 

 

 

A black and white document

Description automatically generated with low confidence (tudalen 11) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6651)

11

trwy ran helaeth o’r Dywysogaeth. Rhifai yr ysgolion hyn 220 cyn iddo farw. Yn mhen rhai blynyddoedd wedi ei farwolaeth, llaesodd y symmudiad am yn agos i ddeng mlynedd ar hugain, hyd nes yr ail gychwynwyd ef gan y Parch. Thomas Charles, o'r Bala. Mewn llythyr a anfonwyd ganddo yn 1811 at Mr. Christopher Anderson, eglurai y boneddwr hwn pa fodd y cychwynwyd y symmudiad, a pha fodd y rhoddwyd ail fywyd ynddo. Dengys y llythyr hwn, pa fodd, trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, yr achubwyd pobl Cymru rhag myned mor anllythyrenog ag y mae gwerinos arfordir Donegal yn y dyddiau hyn... Yn y modd hwn y cafodd clerigwr tlawd, tua chan mlynedd yn ol, mewn rhanbarth mynyddig o Gymru, y bobl wedi suddo mewn anwybodaeth. Cyfansoddodd lyfrau, dysgyblodd athrawon, sefydlodd ysgolion; ac yn ystod ei fywyd, gwelodd yr ysgolion wedi cyfodi i'r fath raddau o dan ei ofal meithrinawl, fel, heb y cymmhorth lleiaf gan y llywodraeth, y mae iaith y Dywysogaeth, nid yn unig wedi byw a blodeuo, ond wedi ei gwneyd yn offeryn i addysgu y bobl briodol:yn tra y mae genym ni Fwrdd Addysg Cenedlaethol, yn derbyn rhoddion blynyddol o gannoedd o filoedd o bunnau; a chyda hyn oll, mewn hanner canrif, nis gallent gael cymmaint a llyfr wedi ei gyfansoddi, nac athraw ei ddysgyblu, i ddysgu y cannoedd o filoedd o blant yn y rhanau o'r Iwerddon y siaredir y Wyddelaeg ynddynt; y rhai sydd wedi tyfu i fyny mewn anwybodaeth mor drylwyr ag yr oedd y plant Cymreig ynddo pan y dechreuodd Mr. JONES ar ei lafur cariad... Yr oedd y rhïeni yn Nghymru yn teimlo llawn cymmaint o wrthwynebiad i ddysgu yr iaith Gymraeg ag a deimlai y rhieni yn yr Iwerddon i ddysgu y Wyddelaeg; ond taflasant eu mympwyon heibio drwy annogaethau y Parch. THOMAS CHARLES, fel y dywed efe wrthym yn mhellach yn y geiriau canlynol: -

 

'Ar y cyntaf, yr oedd y rhagfarn cryf a ffynai yn gyffredinol yn erbyn eu dysgu i ddarllen Cymraeg yn gyntaf, a'r syniad a gymmerwyd yn ganiataol nad allent ddysgu Saesneg cystal, os wedi eu haddysgu yn flaenorol yn yr iaith Gymraeg, yn graig rhwystr fawr yn ffordd y rhïeni i anfon eu plant i'r ysgolion Cymreig, ynghyd â thŷb ffol arall oedd wedi eu meddiannu; sef, os gallent ddarllen Saesneg y gallent yn fuan, o honynt eu hunain, ddysgu darllen Cymraeg. Ond erbyn hyn, ymwrthodir yn gyffredinol â'r rhagfarnau ofer a disail hyn. Cynnyrchwyd y cyfnewidiad hwn, nid yn gymmaint trwy ddadleu, a thrwy effeithiau daionus amlwg yr ysgolion, yr hyfrydwch mawr a ddangosir gan y plant wrth ddyfod iddynt, a'r cynnydd mawr a wneir ganddynt yn nghaffaeliad gwybodaeth. Gyda golwg ar y priodoldeb o ddysgu plant ieuaingc, yn y lle cyntaf, i ddysgu darllen yr iaith a leferir yn gyffredin ac a ddeallir oreu ganddynt, nid oes angen am ei brofi; canys y mae yn eglur ynddo ei hun. Modd bynag, erfyniaf eich sylw am ychydig eiliadau at y manylion canlynol:

 

'1. Nid yw yr amser sydd angenrheidiol i'w dysgu i ddarllen y Beibl yn eu mam-iaith ond byr - heb fod dros chwe mis, fel rheol. Tuag

 

 

A picture containing text, newspaper, screenshot

Description automatically generated (tudalen 12) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6652)

12

 

at ddysgu Saesneg iddynt, rhaid cael dwy neu dair blynedd o amser. Yn ystod yr adeg hwn, byddant yn ymdrafferthu ynghylch termau sychion - heb dderbyn un syniad tuag at eu diwylliant.

2. Gan eiriau Cymraeg, trosglwyddir syniadau i'w meddyliau ieuaingc mor gynted ag y gallant eu darllen - yr hyn nad ydyw yn bod pan y dysgir iddynt iaith nad ydynt yn ei deall.

3. Bydd addysgiad blaenorol yn eu hiaith enedigol yn gymhorth iddynt i ddysgu Saesneg yn nghynt o lawer - yn lle profi yn un math o anghyfleusdra. O hyn yr wyf wedi cael prawfion ar ol prawfion, a gallaf yn y modd mwyaf hyderus sicrhau ei wirionedd. Cymmerais y dull hwn i ddysgu fy mhlant fy hun, er mwyn argyhoeddi y wlad o eudeb y syniad cyffredin a ffynai i'r gwrthwyneb; ac yr wyf wedi darbwyllo eraill i ddilyn fy nghynllun, yr hwn, heb gymmaint ag un eithriad, sydd wedi profi gwirionedd yr hyn yr oeddwn yn credu yn flaenorol oedd yn bod.'


Wele dystiolaeth CHARLES o'r Bala, ger eich bron, O Gymry! Nis gallwn gyttuno yn hollol â phob rhan o honi yn ngoleuni yr ail ran o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg Er hyny, nid ydyw yn rhyfeddod fod CHARLES, o'r Bala, wedi cael y fath lwyddiant fel addysgwr pan yr ystyrir y pethau canlynol:

laf, Yr oedd yn barod i roddi heibio bob rhagfarn anghysson â'r ffeithiau a'i amgylchynai. Er fod dysgu Saesneg yn gyntaf yn ol y ffasiwn, dilynodd, yn hytrach, yr hyn a ymddangosai iddo ef fel y llwybr naturiol a chywir, er ei fod yn un anmhoblogaidd.

2il, Cymmerodd drafferth nid bychan i ddangos i rieni fod eu syniadau yn gyfeiliornus, ac ennillodd hwynt i'w farn ei hun.

3ydd, Parotodd lyfrau cymmhwys at y gwaith a gymmerodd mewn llaw.

4ydd, Cododd athrawon pwrpasol at yr amcan mewn golwg.

Pan ddaeth Dirprwywyr y Llywodraeth i'n gwlad, tua deugain mlynedd yn ol, yr oedd yn amlwg iddynt fod y bobl gyffredin wedi derbyn addysg grefyddol dda a sylweddol yn yr iaith Gymraeg. Llwyddodd cynllun CHARLES yn yr hyn a osododd ger ei fron fel y prif amcan. Y gwall ynddo oedd absennoldeb darpariaeth ar gyfer cyfranu gwybodaeth fydol i'r un graddau a gwybodaeth Ysgrythyrol. Ond yn awr, y mae y wlad, yn ol arfer gyffredin, wedi rhedeg o un eithafnod i'r llall.
Ysgolion Saesnig yn unig,' hyd yn oed yn y manau mwyaf Cymreigaidd: - dyma fu'r arwyddair am y deugain mlynedd diweddaf. Mudiad naturiol iawn ydoedd hwn, yn unol â deddfau ein meddwl; ond cariwyd ef yn rhy bell. Ond symmud i'r cyfeiriad arall ydyw tuedd y genedl yn ein dyddiau ni. Ni lyngcwyd neb yn fwy gan yr ysbryd Saesnigaidd' nag ysgrifenydd y llinellau hyn. Nid oes ganddo gareg i'w thaflu at unrhyw

 

 

A screenshot of a computer

Description automatically generated with medium confidence (tudalen 13) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6653)

13

frawd o Gymro sydd yn byw mewn cyffelyb 'd
ŷ o wydr.' Ond gwroldeb a'n tuedda i gyfaddef ein bod wedi camsynied, gan fod pethau yn ymddangos i ni yn awr yn dra gwahanol mewn goleuni mwy eglur. Gofynaf, gan hyny, ai nid ydym wedi myned yn rhy bell yn y cyfeiriad gwrthgyferbyniol i gyfeiriad CHARLES o'r Bala? Ac onid ydyw ei esampl ef yn dysgu i ni y gwersi canlynol yn mlwyddyn ei Goffadwriaeth Ganmlwyddol?

1. Oni ddylem, fel efe, osod o'r neilldu ein rhagfarnau yn erbyn y Gymraeg yn ein hysgolion dyddiol?

2. Oni ddylem, fel efe, ymdrechu i berswadio rhieni Cymreig i fabwysiadu syniadau lletach a doethach yn y mater hwn nag y maent yn eu coleddu yn awr?

3. Oni ddylem barotoi llyfrau cyfaddas i anghenion diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fel y gwnaeth efe i lanw angen diwedd y ddeunawfed ganrif?

4. Oni ddylem alw i mewn athrawon dyddiol ein gwlad i gynnorthwyo yn y mater hwn, fel y gwnaeth CHARLES o'r Bala, yn ei amser ef; a chyfnewid ychydig, os bydd eisieu, ar y dull o'u dethol, a'u parotoi i fod yn ddefnyddiol yn Nghymru?

Galw sylw at y pethau hyn ydyw ein hamcan. Awgrymu sydd yn perthyn i ni. Rhagorfraint y genedl ydyw penderfynu. Fel y dywedasom wrth y Cymmrodorion yn Llundain, yn mis Ebrill diweddaf, ein dymuniad ydyw cyffroi dynion cyhoeddus Cymru
- gwŷr nerthol y wasg, yr esgynlawr, a'r pulpud, a phob un sydd yn meddu dylanwad yn mhob cylch i wneyd ymchwiliad manwl i arwyddion yr amserau, ac i ystyried ai nid ydynt yn galw arnom i newid ychydig ar gyfeiriad ein llong genedlaethol er mwyn cyrhaedd yr hafan ddymunol y mae'r dyfodol megys yn ei hagor o'n blaen?

Yn fy llythyr nesaf, dechreuaf draethu ar Gymru Dair
-ochrog y Presennol yn ei hagweddau Saesnigaidd, Dwyieithawg, a Chymreigaidd.

Yr eiddoch yn gywir,
CAERDYDD, Mehefin 11eg, 1885.
D. ISAAC DAVIES.

---

LLYTHYR III.

FONEDDIGION,

Y mae yn anhawdd crynhoi i ddeugain o linellau gynniter o osodiadau disail ag a ysgrifenwyd fel cynffon i erthygl arweiniol

 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 14) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6654)

14

 

ar y Mesur Addysg Canolraddol Cymreig, gan y prif olygydd ei hun, yn y Western Mail am ddydd Gwener diweddaf. Caniatewch i mi, gan hyny, i geisio rhoddi ychydig o wybodaeth i anwybodusion ein gwlad - yn mhlith pa rai, fel y mae gwaetha'r modd, y bydd raid cyfrif, yn y mater hwn, brif olygydd un o newyddiaduron dyddiol Caerdydd - newyddiadur sydd wedi bod, mewn llawer ystyr, yn garedig i'n cenedl ni.

Yr ydwyf wedi ymdrin yn helaeth yn barod â'r flwyddyn 1885 mewn erthygl a elwir 'Cymru Ddwyieithawg' sydd ar ymddangos yn ‘Y Geninen' am y mis nesaf. O herwydd hyny, teimlaf yn fwy ëofn i droi at agwedd arall o'r un pwngc, yr hwn sydd yn galw am sylw arbenig yr wythnos hon.

Dywed erthygl y Western Mail: - 'It is only those who have money and leisure who can afford to learn two languages.' — Nid oes ond y rhai y mae ganddynt arian ac amser segur a allant fforddio dysgu dwy iaith.

Y mae'r gosodiad hwn yn myned o dan wraidd pob gobaith am gael
'Cymru Ddwyieithawg' - os ydyw yn wir.

A ydyw yn wir yn Nghymru y dydd heddyw? Onid oes miloedd - ie, degau o filoedd, y mae'n dda genyf wybod - yn medru Cymraeg a Saesneg, er nad oes ganddynt fawr o ‘arian,' nac ond ychydig o ‘amser segur?'

Yr wyf yn gwybod y gallwn alw torf o dystion o bob c
ŵr o Gymru i wrthbrofi yr haeriad hwn. Ond nid oes yn fy mwriad i fyned tu allan i swyddfa y Western Mail i hun. Yno, cyhoeddir misolyn a elwir The Red Dragon ' 'Y Ddraig Goch.' Yn y rhifyn am Chwefror diweddaf, gwelir erthygl ddyddorol ar 'Cydweli, a'i hamgylchoedd.' Tua'i diwedd, ceir y darn a ganlyn:

'Welsh is principally spoken throughout the district I have just sketched. There are only two exclusively English places of worship in the whole of the best part of three parishes. In two of the churches, English and Welsh Services are held; two churches and ten chapels have Welsh exclusively. The inhabitants, however, are pretty well acquainted with English, and many are equally at home in both. The knowledge of English has certainly increased during the last twenty years, but at the same time the knowledge of Welsh cannot be said to have decreased.' - W. HOWELL, Llanelly.

Yn Gymraeg, fel y canlyn:

'Cymraeg a siaredir yn benaf yn yr oll o'r dosbarth yr wyf newydd ei ddarlunio. Nid oes ond dau le o addoliad yn yr iaith Saesnig yn unig yn yr oll o'r rhan oreu o'r tri phlwyf. Mewn dwy o'r eglwysi, cynnelir gwasanaeth Saesneg a Chymraeg; mewn dwy eglwys, a deg o gapeli, Cymraeg yn unig a arferir. Y mae y trigolion, pa fodd bynag,

 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 15) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6655)

15

yn lled gyfarwydd â'r Saesneg; a lliaws yn llawn mor gartrefol yn y ddwy iaith. Mae'n sicr fod gwybodaeth o'r Saesneg wedi cynnyddu o fewn yr ugain mlynedd diweddaf; ond ar yr un pryd, nis gellir dyweyd fod gwybodaeth o'r Gymraeg wedi lleihau.'

 

Onid ydyw yn amlwg, yn ol tystiolaeth swyddfa y Western Mail ei hun, fod llawer yn Nghymru, na feddant 'nac arian nac amser segur, wedi dysgu dwy iaith?'

Yn mha le y gellir cael gafael ar Gymro na chlywodd sôn am Mr. Mundella? Efe ydyw prif awdwr y mesur cynnwysfawr o Addysg Ganolraddol i Gymru - mesur, yn fy marn ostyngedig i, a gyflwynai fanteision fyrdd i'n gwlad. Yn mis Tachwedd diweddaf, traddododd Mr. MUNDELLA araeth alluog a phwrpasol iawn yn Sheffield. Wele un dyfyniad o honi. Fe allai y cawn gyfleusdra etto i gyfeirio at ran arall o'r araeth hon:

'The story I was going to tell you was this: - I was in Switzerland, in the Engadine. At the door of the hotel was a shop, where all kinds
of souvenirs, for people to carry away with them, were sold - whether they were Swiss carving, or some French, German, or English articles. There was a bright clever young woman selling all kinds of souvenirs for people to carry away with them, when they went home. A gentleman, very well known to English people, was staying at the same hotel with me, and he said: - 'That's a very bright girl that keeps that shop. I recommend you to go and buy something.' So I made a pretext to buy some trifle, and she addressed me in perfect idiomatic English. I asked her where she learned English; and she replied, 'At Lucerne.' 'You speak excellently,' I said, 'and of course you speak French and German, for they are your native languages?' 'Of course I do,' she answered. 'Anything else?' I asked. 'Oh, yes: Italian and Dutch:' and she afterwards confessed she also knew a little Spanish, and was studying it. I found, on making further enquiry, that this girl was taught at Lucerne, and that it cost a franc a year - that is, only tenpence - which was spent on paper and pencils.... The Director of Schools in that canton told me: - All our schools are free - all our children attend school - every child, however poor, masters two languages, French and German; and those who go to the Secondary School must learn at least one other.' I said, 'Who pays for these things?' 'The commune city.' 'But don't they grumble?' 'No: they know it is the safety of the rich, and the best inheritance of the poor.'

Mi a roddaf yr uchod yn Gymraeg, fel hyn:

'Yr ystori yr oeddwn yn myned i'w dyweyd oedd hon: - Yr oeddwn yn Switzerland, yn yr Engadine. Yn ymyl y gwestty yr oedd maelfa, yn yr hon y gwerthid llawer o fân bethau prydferth, i bobl eu cymmeryd ymaith gyda hwynt - gan nad pa un a fyddent ai o gerfiad Swissaidd, neu nwyddau Ffrengig, Germanaidd, neu Saesnig. Yr oedd yno

 

 

A picture containing text, newspaper, screenshot

Description automatically generated (tudalen 16) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6656)

16

 

un ferch ieuange brydweddol, ddeallus, yn gwerthu pob math o honynt i bobl eu cymmeryd gyda hwynt adref. Yr oedd boneddwr tra adnabyddus i Saeson yn aros gyda mi yn yr un gwestty, yr hwn a ddywedodd: - 'Geneth ddeallus iawn ydyw hon yna sydd yn cadw y siop acw. Yr wyf yn eich cynghori i fyned ati a phrynu rhywbeth ganddi.' Felly mi a wnaethum esgus i brynu treiffl ganddi, a chyfarchodd hithau fi mewn Saesneg cwbl Saesnigaidd. Gofynais iddi yn mha le y dysgodd hi Saesneg - pryd yr attebodd, 'Yn Lucerne.' 'Yr ydych yn siarad yn rhagorol,' meddwn; 'ac, wrth gwrs, yr ydych yn deall Ffrangcaeg a Germanaeg, canys hwy yw eich ieithoedd genedigol?' 'Wrth gwrs,' attebai hithau. Rhyw iaith arall?' gofynais. O gwn: yr Italaeg a'r Ellmynaeg:' ac wedi hyny, cyfaddefodd ei bod yn medru ychydig o Yspaenaeg, a'i bod yn ei hefrydu. Wedi gwneyd ymchwiliadau, cefais mai yn Lucerne y dysgwyd y ferch hon, ac mai ffranc yn y flwyddyn oedd ei haddysg yn ei gostio - hyny ydyw, dim ond deg ceiniog - a bod y rhai hyny yn myned am bapyr a phensilau... Dywedodd Cyfarwyddwr yr Ysgolion yn y cwmmwd hwnw wrthyf: - 'Y mae ein holl ysgolion ni yn rhai rhyddion, a'n holl blant yn mynychu yr ysgolion - pob plentyn, pa mor dlawd bynag, yn meistroli dwy iaith, y Ffrangcaeg a'r Germanaeg; a bydd raid i'r rhai a änt i'r Ysgolion Ailraddol ddysgu o leiaf un arall.' Dywedais innau, Pwy sydd yn talu am hyn oll?' 'Dinas y Cwmmwd.' 'Onid ydyw y trethdalwyr yn grwgnach?' 'Nac ydynt. Y maent yn gwybod mai dyma ddiogelwch y cyfoethogion, ac etifeddiaeth oreu y tlodion.'

Onid ydyw yn eglur, yn ol tystiolaeth`un o'r awdurdodau goreu ar addysg fydol, ymarferol, ddefnyddiol, fod llawer yn Switzerland, 'na feddant nac arian nac amser segur, yn dysgu dwy iaith?'

Ni a adawn wlad yr iâ oesol ar fynyddoedd cribog, a dilynwn un o'i dyffrynoedd tlws, lle y gorwedd aml i lyn swynol, hyd nes y cyrhaeddwn ei phrif afon - y Rhine fawreddog. Wele ni yn awr yn teithio tua'r gogledd drwy yr Almaen. Aroswn am ychydig yn Strasburg, prifddinas Alsace, ar yr ochr orllewinol i'r afon. Rhan o Germany oedd y wlad hon hyd yr eilfed ganrif ar bymtheg. Bu yn perthyn i Ffraingc am tua dau gant o flynyddoedd; ond ail feddiannwyd hi gan y Germaniaid, fel y mae pawb yn gwybod, bymtheng mlynedd yn ol. Ysbryd canoli yr holl awdurdod yn Paris sydd wedi bod yn un o neillduolion llywodraeth Ffraingc er's canrifoedd. Y mae y duedd yma wedi bod yn fwy cref er Chwyldröad Mawr y ganrif ddiweddaf nag yr oedd cyn hyny. Naturiol felly ydoedd dwyn holl ddylanwad y llywodraeth i ladd yr iaith Germanaidd yn Alsace. Dywedir wrthym, weithiau, yn Nghymru nad ydyw yn bossibl i wlad fod yn ddwyieithawg am fwy na dwy genhedlaeth. Ond yn Alsace, pan ennillwyd hi eilwaith gan y Germaniaid, ar ol dwy ganrif o ysgariad, yr oedd hen iaith y wlad, nid

 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 17) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6657)

17


yn unig yn fyw, ond yn hoew a gwisgi. Ac erbyn hyn, yr oedd gan y bobl iaith arall yn chwanegol. Gwelais yn ddiweddar, mewn papyr dyddiol Ffrengig, sydd yn dyfod i fy llaw yn feunyddiol o Paris, os ydwyf yn cofio yn iawn, fod chwanegiad wedi cael ei wneuthur yn ddiweddar at nifer yr oriau a roddir yn wythnosol i ddysgu iaith y Ffrangcod yn ysgolion dyddiol 'Elsass,' fel y gelwir y wlad gan ei meddianwyr presennol. Dyma yr hen enw wedi dyfod yn gyffredin o'r newydd. Gofalant, fel y gellir meddwl, am chwareu teg i'r iaith Germanaidd ar yr un pryd.

Onid ydyw yn eglur fod llawer yn Germany nad oes ganddynt 'nac arian nac amser segur' yn dysgu dwy iaith?

Dilynwn yr afon o hyd tua'r gogledd: ond cyn i'r Rhine gyrhaedd y môr, bydded i ni droi ychydig i'r gorllewin, er mwyn cael gweled pa beth a wneir yn ysgolion dyddiol Belgium. Tebyg ddigon fod llawer o'n darllenwyr wedi sylwi gyda dyddordeb, yn yr Health Exhibition y llynedd, ar y mûr
-leni, a'r llyfrau mewn dwy iaith, yn y dosran Belgiaidd. Y mae ganddynt fapiau mawr Fflemingaidd i'w defnyddio yn eu hysgolion, sydd mor drwsiadus yn mhob ystyr a'r mapiau Ffrengig. Pwy a feiddiodd erioed obeithio am gael mapiau mawr Cymreig?

Anfonodd Undeb Cenedlaethol Athrawon Elfenol Lloegr a Chymru dri o ddirprwywyr i Gymmanfa neu Wyl flynyddol athrawon Belgium, yr hon a gynnaliwyd yn Verviers yr hydref diweddaf. Ceir hanes gyflawn a dyddorol o'r ymweliad yn 'The Schoolmaster' am y
1af o Dachwedd, 1884. Ni ddyfynwn ond y sylwadau sydd yn dal cyssylltiad uniongyrchol â'r pwngc sydd dan ein hystyrriae[t]h:

'The next morning, the Conference met for serious business, is usual, in two sections - the French
-speaking teachers in the grand saloon of the Société Royale d'Emulation, and the Flemish-speaking teachers in the hall of the Franchmontoise - half a mile away.

The subjects for discussion were the same in each section, so that a résumé of the meeting of one will serve for both. Four subjects were inscribed on the order of the day. The second was, 'On what principle, and how, should the second language be taught?' - that is, the French language in the Flemish
-speaking districts, and the Flemish language in the French-speaking districts. The principal points of difference seemed to be, whether the second language should be commenced at the beginning of the pupil's school course, and in the lowest classes; or whether it should be deferred until the pupil possesses a more or less complete knowledge of the mother tongue. Both methods were ably argued.'

Ni a gyfieithwn y dyfyniad uchod fel hyn:

'Boreu dranoeth, ymgyfarfyddodd y gynnadledd i drafod ei gwaith o

 

 

A picture containing text, newspaper, screenshot

Description automatically generated (tudalen 18) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6658)

 18

 

ddifrif, yn ol yr arfer, mewn dwy adran: - yr athrawon a siaradent Ffrangcaeg yn ystafell fawr y Société Royale d'Emulation; a'r athrawon a siaradent y Fflemingaeg yn neuadd y Franchmontoise, hanner milldir o'r lle arall.

Yr un materion oedd yn cael eu trafod yn y ddwy adran, fel y gwna crynodeb o un cyfarfod y tro am y ddau. Yr oedd pedwar o byngciau wedi eu dewis am y diwrnod. Yr ail ydoedd: - 'Ar ba egwyddor, a pha fodd, y dylai yr ail iaith gael ei dysgu?' - hyny ydyw, y Ffrangcaeg yn y dosbarthiadau Fflemingaidd, a'r Fflemingaeg yn y dosbarthiadau Ffrengig. Y prif bwyntiau ar ba rai y gwahaniaethid oedd, pa un a ddylid dechreu dysgu yr ail iaith yn nechreu cwrs addysgawl yr ysgolor, ac yn y dosbarthiadau isaf? neu ynte, a ddylid ei hoedi hyd nes y byddai yr ysgolor wedi meddu gwybodaeth i raddau mwy neu lai cyflawn o iaith ei fam. Dadleuwyd yn alluog dros y ddau gwrs.'

Onid ydyw yn eglur fod llawer yn Belgium nad oes ganddynt 'nac arian nac amser segur' yn dysgu dwy iaith?

Dywedwch wrthym, anwyl ddarllenwyr, a ydych chwi yn tosturio wrth y bobl hyny - druain o honynt! - ag y mae prif olygydd y Western Mail yn tosturio wrthynt? Cyfaddefa fod eu bwriad yn dda; ond mai eu doethineb yn unig sydd ar goll. Cyfeiria atynt fel 'cyfeillion i Gymru'
ond gyda'r un anadl gwna gyfeiriad arall at 'gyfeillion gwirioneddol a hunan-ymwadol Cymru.' A ydych chwi yn ystyried fod ganddo hawl i'n cau ni, ac eraill sydd o'r un ysbryd a ni, allan o'r dosbarth olaf? Gwell genym farn gwlad o lawer na barn prif olygydd y Western Mail ar fater fel hyn.

Cyn terfynu y tro hwn, carwn alw eich sylw at fath o debygolrwydd sydd rhwng Belgium a Chymru.

Cymmerais y dyfyniad canlynol allan o 'Motley's Rise of the Dutch Republic;' sef, 'Hanes Codiad Gwerin
-lywodraeth yr Iseldiroedd,' gan un o haneswyr mwyaf galluog yr Unol Dalaethau:

'The Belga were, in many respects, a superior race to most of their blood allies. They were, according to CÆSAR's testimony, the bravest of the Celts. This may, in part, be attributed to the presence of several German tribes; who, at this period, had already forced their way across the Rhine, mingled their qualities with the Belgic material, and lent an additional mettle to the Celtic blood. The heart of the country was thus inhabitated by a Gallic race, but the frontiers had been taken possession of by Teutonic tribes.'

Yn Gymraeg, fel y canlyn: —

"Yr oedd y Belgiaid, ar amryw gyfrifon, yn amgenach cenedl na'u cynghreiriaid o'r un gwaed a hwy. Yn ol tystiolaeth CÆSAR, hwy oedd y dewraf o'r Celtiaid. Gellir priodoli hyn, mewn rhan, i bresennoldeb amryw lwythau Germanaidd; pa rai, yn y cyfnod hwn, oeddynt wedi ymwthio dros y Rhein, ac wedi gymmysgu eu hansoddau â'r

 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 19) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6659)

 

19

 

sylwedd Belgiaidd, a rhoddi metel chwanegol yn y gwaed Celtaidd. Yn y modd hwn, poblogid calon y wlad gan genedl Gaeleg; ond perchenogasid y ffindiroedd gan lwythau Teutonig.'

Onid ydyw y disgrifiad hwn yn darawiadol o Gymru yn ein dyddiau ni? Oni welir ein cyfeillion Teutonaidd o Loegr Ddwyreiniol — nid wyf yn credu fod y Saeson yn y rhan fwyaf o'u gwlad mor Deutonaidd ag y mynant gredu eu bod yn ymsefydlu ar ein gororau, ac yn enwedig yn y deheu a'r dwyrain? Oni chanfyddwn yr elfen Geltaidd yn cael chwanegiadau pwysig o'r Iwerddon ac o droed Lloegr: sef, o Wlad yr Haf hyd Bentir Cernyw? Onid ydym yn derbyn cyfraniadau parhaus at y ddwy elfen o Ogledd Lloegr ac o Ysgotland, lle y mae y gwaed yn fwy cymmysg, er yn tueddu at fod yn fwy Celtaidd na dim arall? Onid ydyw pob gwlad ar y Cyfandir yn anfon cynnrychiolwyr eu gallu neillduol eu hunain i wneyd eu trigfan arhosol yn ein Tywysogaeth?

Ai teg ymresymu oddi wrth alluoedd Cymru yn y gorphenol, wrth geisio cael allan yr hyn y mae hi yn debyg o fod yn y dyfodol? Y mae pethau wedi cyfnewid yn fawr yn y deugain mlynedd diweddaf. Y mae y cynnydd sydd wedi cymmeryd lle yn yr elfen Gymreig, er gwaethaf ymfudiaeth helaeth, a 'Dic
-Shôn-Dafyddiaeth ffasiynol,' yn arwyddo y gallai y Cymry yn raddol, ond yn sicr, lyngcu i fyny yr holl elfenau newydd, allanol, a gwerthfawr hyn; a thrwy hyny godi eu hunain yn ngraddfa diwylliad? Gellir gwneuthur hyn os ydym yn genedl. Ond a ydym yn genedl? Dyna'r cwestiwn. Os ydym, ni a gymmerwn fantais ar y cyfleusderau sydd ar ddyfod i'n rhan.

Yn mhlith pethau eraill, ni a ystyriwn yn fanwl pa un a ydyw yn bossibl cyfnewid ychydig ar ein cynllun o addysg genedlaethol - nid er mwyn cadw'r iaith yn fyw, ond er mwyn dyrchafu y Cymro. Os cawn mai niweidiol i ni ydyw y Gymraeg, ymaith â hi; hyny yw, os gallwn wneyd i ffwrdd á hi. Y mae hi wedi trechu llawer gelyn arfog, a goroesi llawer o ddylanwadau a ystyriwyd ar y pryd yn gryfach na hi. Ond os gallwn ei defnyddio fel gris i ddringo yn uwch mewn llwyddiant masnachol, heb sôn am y manteision y gallwn eu derbyn oddi wrthi gyda phethau llawer mwy pwysig, chwanegir at ddylanwad y swyn oesol a berthyn iddi, argyhoeddiad dwfn o'i gwerth fel cangen o addysg fydol, ac o'i defnyddioldeb dyddiol a pharhaus.

Y mae yn rhy anhawdd troi oddi wrth Belgium - gwlad fechan, ond blaenllaw gyda symmudiadau pwysig yr oes - heb gyfeirio at gyssylltiad neillduol sydd rhyngddi â Hen Wlad y Bryniau yn ein dyddiau ni.

Yn Y Genedl am Ionawr diweddaf, y mae erthygl ddoniol gan


 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 20) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6660)

20

yr athrylithgar a'r Parchedig J. R. KILSBY JONES. Terfyna fel y canlyn:

'Dysgwch eich plant i fwrw 'y pedwar mesur ar hugain' i'r wâdd a'r ystlumod. Aent i'w crogi: ac yn dân coch, i wresogi migyrnau a chrimogau hen bobl, yr elo cadeiriau y beirdd: ac yn lle ciconia byrhoedlog o enwogrwydd, efelyched eich meibion HENRY M. STANLEY, neu, yn ol ei enw Cymraeg, JOHN ROWLAND - Cymro glân gloew. Cymro? Ië, bid sicr! Ond, os ydych yn ammheu, ymwelwch â'i fam sydd yn cadw y Cross
-foxes, y tu cefn i barc Bodelwyddan, ac o fewn llai na thair milldir i Lanelwy. Dyma y Cymro mwyaf byd-enwog a aned erioed o Gymraes. Dyma Gymro sydd yn gydymaith i frenhinoedd, tywysogion, penaethiaid, darganfyddwyr, a gwleidyddwyr y byd gwareiddiedig.”

Gwir bob gair! Fechgyn Cymry! efelychwch y gwron Affricanaidd yma, yr hwn oedd yn Gymro dwyieithawg cyn iddo allu dyfod yn ddarganfyddwr amlieithawg. Y mae yn bossibl defnyddio y Gymraeg fel moddion dyrchafiad, heb wastraffu gormod o amser arni. Er yn fachgenyn, teimlwn fod 'safonau gau' yn cadw yn ol fechgyn ein gwlad. Dyna paham na bûm i erioed yn eisteddfodwr o'r hen ysgol. Ond fe ddysgwyd i mi gan Nefydd, a Gohebydd, a Syr Hugh Owen yn neillduol, y gellid defnyddio yr hen sefydliad heb ei gamddefnyddio, ac mai doethineb i wlad oedd gweithio allan yr hyn oedd yn dda yn ei hen sefydliadau. Ond y mae y Gymraeg yn hynach sefydliad na'r Eisteddfod! Ac os gellir diwygio un, a'i gyfaddasu at anghenion yr oes bresennol, paham nad ellir gwneyd defnydd pwrpasol o'r llall?

Dealled y wlad yn dda mai nid 'y pedwar mesur ar hugain yr ydym am ddwyn i mewn i'r ysgolion dyddiol wrth ddwyn yr hen iaith iddynt. Y mae i gynghanedd ei lle priodol; ond nid y lle yr addysgir plant ydyw y lle hwnw. Cymraeg rwydd, ymarferol, ddefnyddiol, yr hon a arweinia y Cymro i feddiant o ieithoedd eraill - dyna'r Gymraeg sydd genym ni mewn golwg.

Dychwelwn am funyd at y Cymro amlieithog sydd yn ceisio sefydlu gwlad newydd - y Congo Free State, yn nghanolbarth Affrica. Pa wlad a estynodd law o gymmhorth swyddol iddo yn ei ymdrech canmoladwy? Ai ei wlad enedigol? neu ei wlad fabwysiedig y tu hwnt i'r Werydd? Ai Ffraingc, neu'r Eidal, neu'r Almaen? Na, na! Ond yr ydym yn canfod gwlad fechan, debyg i Gymru o ran maint, ond yn fwy poblog, â'i thrigolion o'r un gwaed a nyni
- gwlad sydd yn addysgu dwy iaith yn ei hysgolion dyddiol yn mhob dinas, a thref, a phentref - yn dyfod allan yn ngŵydd y byd, ac 'yn ngwyneb haul a llygad goleuni,' i gefnogi yr arwr Cymraeg Americanaidd!

Gan nad ydwyf wedi cadw, yn llythyrenol felly, at yr addewid


 

 

A screenshot of a computer

Description automatically generated with medium confidence (tudalen 21) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6661)

21

 

a roddais ar ddiwedd yr ail lythyr, gwell peidio gwneyd addewid o gwbl y tro hwn.

Yr eiddoch yn gywir,

CAERDYDD, Mehefin 16eg, 1885.

LLYTHYR IV.

D. ISAAC DAVIES.

FONEDDIGION,

Pan yr ysgrifenir hanes ein gwlad gyda'r manylwch gofynol, credaf y dangosir fod y Saesneg wedi colli tir weithiau ar ol ei ennill, a bod y Gymraeg wedi adennill tir ar ol ei golli.

Yn y Deheudir, gwelwn adfeilion llawer o hen gastelli yn ymestyn o'r Wy i'r Werydd; megys, Caerphili, Coity, Casllwchwr, Cydweli, &c. Arwyddant fod y Normaniaid wedi meddiannu llain o dir ffrwythlawn rhwng y bryniau a'r môr, ar ol gyru y trigolion, y dewraf o honynt beth bynag, i'r mynydd
-dir. Ceir yn Mro Morganwg enwau Normanaidd, megys TURBERVILLE, wedi eu Cymreigio: - dyna 'Siemsyn Twrbil' y bardd, fel esampl. Wele un arwydd o'r llifeiriant Cymraeg, yr hwn a ddaeth i lawr drachefn dros yr holl iseldir, gyda dau eithriad - sef, Browyr yn Morganwg, a Lloegr Fach yn Mhenfro.

Y mae y symmudiadau hyn, mewn ystyr, yn guddiedig yn nghaddug y canol
-oesoedd, neu yn anamlwg mewn pellder hanesyddol. Ond y mae mudiadau cyffelyb yn agos atom, ïe, hyd yn oed wrth ein drysau, yn y dyddiau diweddaf hyn. Y mae'r Gymraeg yn colli tir - yn encilio tua'r gorllewin:' - dyna'r syniad cyffredin. Yr ydym yn hollol gyfarwydd âg ef. Ond pa faint o Gymry sydd wedi sylwi fod y Gymraeg yn ennill tir ar brydiau — yn symmud tua'r dwyrain ar droion? Cymmerwn un esampl o'r Gogledd, a'r llall o'r Deheu.

Dywedodd y Parch. R. ROWLANDS, Aberaman, wrthym, fod GWILYM HIRAETHOG wedi dyweyd wrtho ef, fod y Gymraeg wedi adennill rhan fawr a phoblogaidd o sir Fflint o fewn ei gôf ef. Nid ydym yn ddigon cyfarwydd yn llëyddiaeth a hanesiaeth cymmydogaeth yr Wyddgrug i allu rhoddi manylion o'r mudiad gwrth
-Saesnigaidd hwn. Ond y mae pob Gogleddwr, cydnabyddus â'r cylch, y cawsom gyfleusdra i ymholi âg ef, yn cyfaddef fod y ffaith tu hwnt i bob ammheuaeth.

Yn y Deheudir, o fewn fy ngh
ôf i, y mae y mudiad Cymraeg wedi bod yn cyfeirio ei hun yn gysson o Gaerfyrddin, Ceredigion,


 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 22) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6662)

22

 

a Gogledd Penfro yn y gorllewin, tuag at Gwent a Morganwg yn y dwyrain. Yr oedd y Cymry hyn yn wasgaredig mewn manau gwledig. Ond yn awr, y maent wedi eu casglu ynghyd yn eglwysi cryfion mewn cymmydogaethau poblog. Y maent hwy, a'u plant, yn ffurfio y mwyafrif Cymreig yn sir Forganwg. Rhoddir iddynt, tua diwedd y flwyddyn yma, yr etholfraint am y tro cyntaf. Chwech o aelodau sydd yn awr gan Forganwg; ond bydd ganddi ddeg yn fuan. Rhoddir y pedwar aelod newydd i ranau Cymreig y sir. Hyny ydyw, y mae senedd Prydain Fawr yn gweled fod cynnydd anferthol y rhanau Cymreig o sir Forganwg mor amlwg a'r dydd. Cofier hefyd fod aelod yn cael ei dynu oddi ar un o drefydd bychain Lloegr, ac yn cael ei roddi i sir Fynwy. Plwyfydd Beddwellty ac Aberystruth sydd yn ei gael; neu, mewn geiriau eraill, y rhanau mwyaf Cymreig o Went; megys, Rhymni, a Thredegar, &c.

Y mae yn werth sylwi hefyd, mai nid i Saeson Caerdydd, a'r trefydd Saesnigaidd, y mae y bleidlais newydd yn myned. Rhoddwyd y fraint iddynt hwy yn 1867. Ond chwanegiad ydyw at rym yr etholwyr Cymreig sydd yn wasgaredig ar hyd ac ar led siroedd Cymru y gweithwyr ar y tir, a'r mwnwyr yn ein pyllau glô. Hwy sydd i feddiannu yr etholfraint am y tro cyntaf y flwyddyn hon.

Yn yr erthygl yn
'Y Geninen' am y mis nesaf (Gorphenaf), dangosir fod y Saeson, y Gwyddelod, a'r Ysgotiaid, wrth y miloedd yn dysgu Cymraeg. Anhawdd ydyw dyweyd pa un a ydyw y tueddiad 'Dic-Siôn-Dafyddol' yn fwy cryf na thueddiad y dyfodiaid Saesnig i fyned yn Gymreig. Gormod o waith i neb llai na'r llywodraeth ei hun ydyw penderfynu hyn o bwngc. Ni chawn gyfleusdra i wneyd hyn cyn cyfrifiad deng-mlwyddol 1891. Beth feddyliech chwi am y priodoldeb o gyflwyno y gofyniadau canlynol i sylw y trigolion yn y census nesaf?

1. A ydych yn gallu siarad Cymraeg?

2. Os nad ellwch siarad Cymraeg, a ellwch chwi ddeall Cymraeg pan y bydd eraill yn ei siarad?

3. A ydych yn gallu siarad Saesneg?

4. Os nad ellwch siarad Saesneg, a ellwch chwi ddeall Saesneg pan y bydd eraill yn ei siarad?

5. A ydych yn hollol anwybodus o'r Gymraeg?

6. A ydych yn hollol anwybodus o'r Saesneg?

Y mae llawer o Gymry yn ein dyddiau ni â chywilydd arnynt arddel eu bod yn deall Cymraeg! Ac fe allai fod y gwragedd a'r merched ieuaingc mor dueddol, os nad yn fwy tueddol, i'r camsyniad hwn na'r gw
ŷr a'r dynion ieuaingc. Ond camsyniad ydyw,


 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 23) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6663)

23

 

sydd yn rhwystr ar ffordd llwyddiant y Cymro. Y mae yr Ysgotyn yn falch o'i wlad; a barn dda sydd ganddo am dano ei hun fel un o blant ei wlad. Ond am y Cymro, druan o hono! y mae efe am guddio ei lediaith, ac mewn perygl i'w ddirmygu ei hun, o herwydd ei fod yn tueddu i ddirmygu ei wlad, a'i iaith. Y mae efe heb feddu asgwrn cefn yr Ysgotyn a'r Gwyddel - sef, eu balchder gwladgarol; ac o ganlyniad, y mae yn methu sefyll yn eu herbyn, er fod ganddo gymmaint neu fwy o allu nag sydd ganddynt hwy. Ni charwn weled rhifo y Cymry Cymreig nes y cynnhyrfir ychydig ar y wlad, ac y dysgir y bobl mai achos o falchder ydyw y meddiant o ddwy iaith - ac nid peth y dylid cywilyddio o'i herwydd.

Yr ydwyf cyn hyn wedi bod yn gofyn y cwestiwn canlynol i ddosbarth o ferched: - Pa nifer o honoch sydd yn gallu siarad Cymraeg?' Yr oedd yno un ferch yn meddu digon o wroldeb i gyfaddef ei bod hi yn gallu. Mewn ychydig amser, wedi i mi ganmawl yr un oedd yn ddigon o ysgolheiges i ddeall dwy iaith, rhoddais ofyniad nad oedd un yn y dosbarth yn gallu ei atteb. Cyn cymmeryd yn ganiataol nas gallent ei atteb, rhoddais gyfleusdra iddynt ei atteb yn Gymraeg. Ac wele beth hynod! Yr oedd un Gymraes erbyn hyn wedi myned yn llawer! Llai o gywilydd sydd yn eisieu arnom! — y mae mwy o Gymraeg nag y mae llawer yn meddwl.

A ydyw hi ddim yn bossibl i wneuthur y Gymraeg yn fwy 'ffasiynol?"

Yr ydwyf yn cofio yn dda. i mi, un diwrnod, pan yn byw yn Cheltenham, fyned i arholi ysgol mewn cwm yn Mryniau y Cotswold am y tro cyntaf. Yr oedd y squire yn cymmeryd dyddordeb neillduol yn yr ysgol. Ar derfyn yr arholiad, gofynodd i mi fyned i'w dy
^. Yno, cefais fod ei ferch yn gallu siarad Cymraeg. Gellwch ddychymygu fy syndod! Dywedodd wrthyf paham yr oedd hi wedi dysgu ein iaith. Prynodd ei thad dir yn Ngheredigion. Pan yr aeth hi yno i fyw, hi a welodd nas gallai fod yn ddefnyddiol yn y plwyf a'i hamgylchynai heb ddysgu Cymraeg. Yna penderfynodd wneyd hyny - a llwyddodd yn ei hamcan. Dyna yr hanes yn fyr. Ai nid oes yma esampl deilwng o'i ddilyn i wŷr mawr Cymru? Paham y mae eu dylanwad mor fychan, o'i gymmharu â'r hyn y gallai fod? Un rheswm dros hyn ydyw, eu hesgeulusdra o iaith y werin.

Ni bydd unrhyw gynllun o addysg i Gymru yn gyflawn os na rydd gyfleusderau i blant y rhai sydd wedi esgeuluso y Gymraeg i'w dysgu. Yn y modd hwn, gellir drachefn ymglymu ein penaethiaid â phobl y wlad; a rhwystro y dosbarthiadau canol o'r boblogaeth i golli eu dylanwad ar y werin - yr hwn ydyw un o beryglon mawr ein dyddiau gwerinol ni. Yr wyf yn adnabod boneddwr


 

 

A black and white document

Description automatically generated with low confidence (tudalen 24) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6664)

24

 

ieuangc yn Morganwg, mab i ustus heddwch dylanwadol, ac ŵyr i un o'n haelodau seneddol mwyaf parchus a defnyddiol, sydd yn cael gwersi yn y Gymraeg gan glerigwr mewn plwyf cyfagos. Y mae gwaith yr athraw hwn yn fwy anhawdd, o herwydd na chafodd y boneddwr ieuangc unrhyw gyfleusdra i ddysgu yr iaith mewn ysgol ddyddiol. Ond gofyna rhywun, Paham y mae efe yn dysgu Cymraeg? Dyma y rheswm: - O herwydd fod y teulu wedi dyfod i ddeall y bydd yr hen iaith yn ddefnyddiol iawn iddo mewn swydd y mae efe yn bwriadu ei llenwi yn y dyfodol.

Arweinir ein meddwl yn y fan yma at y plwyfydd lliosog yn Nghymru, yn mha rai y mae'r swyddogion yn anwybodus o iaith anwyl y bobl. Pa faint o honom ni sydd wedi mesur dyfnder yr annhegwch o osod swyddogion un
-ieithawg mewn awdurdod swyddol yn Nghymru? Er mwyn egluro y pwynt, ni a gymmerwn blwyf yn Mro Morganwg. Y mae'n ymddangos yn blwyf Saesnigaidd. Ond anfonodd Esgob Llandâf ddirprwywyr iddo i gael allan pa un ai plwyf Saesneg, ynte plwyf Cymraeg, y dylai gael ei ystyried. Gwnaed yr ymchwiliad - gwrandawyd ar dystiolaethau. Yr oedd yn hawdd dyfod i benderfyniad ar fater mor syml. Plwyf Saesneg ydoedd yn ddiau. Yna penderfynwyd rhoddi y fywoliaeth i Sais - a hyny a wnaed. Rhagorol, onid ê? Wedi i ddeng mlynedd fyned heibio, mewn awr gyfrinachol, yr oedd y clerigwr a bennodwyd - y Sais crybwylledig - yn adrodd ei brofiad wrth glerigwr arall o Gymro, yr hwn a ail adroddodd yr hanes wrthym ni: — 'Camsynied mawr (meddai) a wnaeth dirprwywyr yr esgob. Nid oes alwad yn fy mhlwyf am ddarllen, a gweddïo, a chynghori yn ystafell y claf yn y Saesneg. Pan y gelwir fi i ymweled â'r cystuddiedig, y dymuniad a glywir bob amser yw - am gael darllen, gweddïo, a gair o gysur yn y Gymraeg.'

Y mae yn arwydd dda fod yr Eglwys Sefydledig yn gweled ei chamsynied, ac yn newid ei dull o ymddwyn at yr iaith Gymraeg. Y mae chwareu teg wedi cael ei ddangos tuag ati yn Nghroesoswallt, gan Esgob Llanelwy; yn Mhontfaen, gan Esgob Llandâf; ac yn Llangatwg, yn Mrycheiniog, gan Esgob T
ŷ Ddewi. Clywais fod cynnulleidfa Gymreig yn awr yn un o eglwysi Croesoswallt. Y mae gwasanaeth Cymraeg wythnosol yn awr yn Llangatwg. Nis gwn pa beth sydd wedi ei wneyd dros y Gymraeg yn Mhontfaen. Ond nid er mwyn y gwasanaeth cyhoeddus yn unig y mae eisieu Cymry yn glerigwyr, ac yn weinidogion yn ein gwlad; ond er mwyn chwanegu dylanwad eu hymweliadau â'u haelodau, a'u defnyddioldeb yn ystafelloedd y cleifion a'r oedranus.

Ychydig fisoedd yn ol, darllenais bapyr ar 'Gymru Dwy-ieithawg'
i Gymdeithas y Dynion Ieuaingc oedd mewn cyssylltiad âg


 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 25) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6665)

25

 

Eglwys Gynnulleidfaol Saesnig Charles street, Caerdydd. Ar ol i mi eistedd i lawr, cyfododd y cadeirydd, yr hwn sydd yn dal swydd gyfrifol yn y dref o dan y Bwrdd Masnach (Board of Trade), ac anerchodd y cyfarfod yn debyg i hyn:

'Y mae y papyr wedi dwyn adgofion am fy nhad yn fyw ger bron fy meddwl. Ganwyd ef yn mhlwyf Llangyfelach, ger Abertawe. Symmudodd i Lundain; priododd Saesnes; a throdd mewn cylchoedd hollol Saesnigaidd am flynyddoedd meithion. Nid oedd ei wraig, na'i blant, na'i feddyg, yn deall Cymraeg. Ond yn ei gystudd, ni fynai siarad ond Cymraeg. Nid oedd na gwraig, na phlant, na meddyg, o unrhyw werth mewn cyfwng o'r fath. A bu raid i ni chwilio am weinidog Cymraeg. Ar ol cael gafael mewn un, mawr oedd dedwyddwch fy nhad. Darllen, gweddïo, canu, a siarad yr hen iaith a roddasant iddo foddlonrwydd annisgrifiadwy! Y mae y papyr wedi rhoddi i mi bleser mawr, er ei fod wedi fy synu yn rhyfeddol. Bob amser er pan ddaethum i Gymru, clywed yr oeddwn yn barhaus am drangcedigaeth agos yr hen iaith. Ond y mae yn dda genyf ddeall fod iaith calon a chrefydd fy nhad yn debyg o fyw yn y tir.'

Yn sir Fynwy, a manau eraill yn y Deheudir, achwynir fod yr hen bobl Gymreig yn dioddef yn dost o herwydd esgeulusdra y rhai sydd mewn awdurdod. Nid ydynt yn gofalu am ddewis meddygon dwy-ieithawg i ofalu am y tlodion a'r gweithwyr Cymreig; er fod y gweithwyr yn talu rhan o'u cyflog, a bod hawl gan y blaenaf i gael meddyg yn deall Cymraeg, yn ol rheol Bwrdd y Llywodraeth Lleol (Local Government Board), mewn perthynas i blwyfi dwy-ieithawg. Dylem, fel gwlad, ddeall a chofio fod dynion yn tueddu, pan mewn gwendid neu henaint, i syrthio yn ol bob amser ar ddyddiau eu hieuengetid. Gall dyn fod wedi arfer siarad Saesneg yn barhaus am ugain neu ddeugain mlynedd; ac etto, gall ddymuno gweled clerigwr, neu weinidog, neu feddyg Cymreig, pan wedi syrthio i afiechyd, neu wedi myned yn hen.

Yr ydwyf wedi cael fy argyhoeddi fod llawer iawn mwy o Gymry ac o Gymraeg yn sir Fynwy y dydd heddyw nag a feddylir gan y rhai sydd mewn awdurdod mewn gwlad ac eglwys - dylwn ddyweyd eglwysi; o herwydd y mae y duedd i fychanu nerth yr elfen Gymreig fel pe byddai ar gymmeryd meddiant o'r enwadau Ymneillduol hefyd!

Y mae i mi gyfaill sydd yn un o swyddogion y Cyllid Tufewnol yn sir Fynwy. Dywedodd wrthyf fod ganddynt gyfarfodydd blynyddol i gasglu arian y llywodraeth, pan y bydd amryw swyddogion yn cyfarfod yn yr un man, er mwyn gwneyd llawer o waith mewn ychydig oriau. Digwyddodd iddo, un tro, sylwi fod Cymro yn ceisio egluro ei feddwl iddo gyda pheth anhawsder. Siaradodd


 

 

A screenshot of a computer

Description automatically generated with low confidence (tudalen 26) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6666)

26

 

Gymraeg åg ef. Aeth y sĩ allan, Y mae yma Gymro!' a byth er hyny y mae y Cymry yn ymdyru at y swyddog sydd yn gallu siarad Cymraeg - tra y mae y swyddogion eraill yn cael llai o waith nag a ddylai syrthio i'w rhan.

Y dydd cyn i mi ymweled â Llundain i ddwyn y pwngc hwn ger bron Cymdeithas y Cymmrodorion, yr oeddwn yn arholi ysgol yn Mro Morganwg, yn agos i Lanilltyd Fawr. Dywedais wrth yr ysgolfeistres:

"Yr ydwyf yn deall fod y Gymraeg wedi darfod yn y gymmydogaeth
hon.'

'Dim o'r fath beth (meddai). Yr wyf yn ofalus iawn i siarad dim ond Saesneg â'r plant, er eu diddyfnu oddi wrth y Gymraeg. Y mae gwasanaeth Cymraeg yn yr eglwys bob nos Sul; a'r gynnulleidfa yn fawr, pan yr ystyriwn fod y pentref mor fychan.'

'Yr ydwyf yn synu yn fawr (meddwn innau). Chwedl wahanol sydd yn rhedeg drwy y wlad y dyddiau hyn.'

'Fe'm synwyd i lawer mwy y G
ŵyliau diweddaf yn Mhont -y-pool (meddai yr ysgolfeistres). Y mae genyf ewythr yno, brawd fy mam, yn cadw siop. Y mae ganddo ddau fab yn cadw siopau hefyd. Pan yn talu ymweliad â theulu fy ewythr, rhyfeddod annisgwyliadwy i mi oedd clywed pedair-ar-bymtheg o bob ugain o'r gwragedd oedd yn mynychu y siop yn gofyn am nwyddau yn Gymraeg! Cefais gyfleusdra i ddyweyd wrth ei feibion - fy nau gefnder - fy mod yn synu clywed cymmaint o Gymraeg mewn lle a gyfrifir yn gyffredin fel yn hollol Saesnig. Eu hatteb oedd: - 'Os dewch i'n siopau ni, chwi a welwch ac a glywch yr un arwyddion o ddylanwad arosol y Gymraeg yn nghymmydogaeth Pont-y-pool.''

Y mae yn ddigon tebyg fod yr hanesyn uchod yn ddisgrifiad rhy gryf o ddylanwad y Gymraeg yn Mhont
-y-pool, fel y mae y sylwadau cyffredin yn ei fychanu yn ormodol. A chofier fod Pont-y-pool, yn ol Deddf y Seddau Seneddol, yn perthyn i'r rhan ddwyreiniol o Fynwy.

Y mae Mynyddislwyn, a'r Bedwas, a phlwyfi Cymreig eraill yn y rhan ddeheuol. Gan hyny, y mae elfen Gymreig bwysig yn mhlith etholwyr pob dosran o sir Fynwy. Nid ydyw dylanwad y Cymry yn gyfyngedig, gan hyny, i'r deg aelod ar hugain a berthynant i ddeuddeg sir Cymru.

Dywedodd y Parch. R. TEMPLE, arolygwr ei Mawrhydi dros ysgolion swydd Drefaldwyn, wrthyf y Pasc diweddaf, fod mwy o Gymry yn swydd Amwythig yn awr nag sydd wedi bod ynddi am gant a hanner o flynyddoedd. Bydd lliosogiad aelodau seneddol Liverpool yn cynnyddu dylanwad y Cymry, os gwnant ddefnydd o'u gallu etholiadol. Ac nid i Gymry Liverpool yn unig y mae


 

 

A screenshot of a computer

Description automatically generated with medium confidence (tudalen 27) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6667)

27

 

cyfleusderau chwanegol i wneyd lles i'w gwlad, ond i'r Cymry yn mhob rhan o'r Deyrnas Gyfunol. Ac mi obeithiaf y gwnant ddefnydd priodol o'u dylanwad, fel y câf sylwi etto.

Yr ydwyf yn galw sylw yn y modd hwn at gynnydd y dylanwad Cymreig; o herwydd, er's amser y mae tuedd wedi cael ei arddangos i fychanu nerth a dylanwad yr elfen Gymreig o'n poblogaeth.

Dychwelwn at sir Fynwy. Arhosodd gweithfeydd pwysig yn y sir yma; megys, Nant
-y-glô, Blaenau, &c. Gwasgarwyd y Cymry, a llanwyd eu lle gan Saeson, o Wlad yr Haf yn fwyaf neillduol; y rhai oeddynt yn barod i dderbyn llai o gyflog na'r Cymry. Ond Cymry ydyw y Cymry, er y gwasgariad hwn: ac aeth rhai o honynt i Gwm Rhondda, eraill i Ogledd Lloegr, a llawer i'r America. Y mae yr elfen Saesnig wedi cynnyddu yn fawr yn sir Fynwy; ond ni charwn ymrwymo i brofi, er hyny, fod llai o Gymry yn gallu siarad Cymraeg yn Ngwent yn awr nag oedd ddeugain mlynedd yn ol, er eu bod yn llai o nifer mewn cymmhariaeth â'r holl boblogaeth. Ac y maent yn awr yn rhy liosog yn y rhanau poblog o'r sir i'w hesgeuluso pan ddewisir clerigwyr, meddygon, a phob math o swyddogion.

Ac os dylid cael swyddogion sydd yn gallu siarad y ddwy iaith yn nhair sir ar ddeg Cymru, ai ni ddylai holl blant y wlad, beth bynag fydd iaith eu rhieni, gael mantais i'w cymmhwyso eu hunain i fod yn swyddogion yn Nghymru, os tueddir hwynt i wasanaethu eu gwlad yn y cyfeiriad hwn?

Yr eiddoch yn gywir,
D. ISAAC DAVIES.
CAERDYDD, Mehefin 18fed, 1885.


LLYTHYR V.

FONEDDIGION,

Carwn yn fawr, er mwyn eich darllenwyr, pe byddai llai o alwadau swyddol ar fy amser, fel y gallwn osod fy meddwl yn fwy cryno ger eu bron. Ond er fy mod yn eu harwain yma a thraw, hyderaf y gwelwch cyn y diwedd nad ydwyf yn adrodd unrhyw hanesyn o herwydd ei fod yn hanesyn; ond am ei fod yn dal cyssylltiad â'r pwng
c yr ydym yn ymdrin âg ef.

Yr ydwyf newydd ddychwelyd o sir Frycheiniog, lle yr arosais am agos i bythefnos. 'Oh! (meddai un wrthyf), yr ydych wedi bod


 

 

A black and white document

Description automatically generated with low confidence (tudalen 28) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6668)

28

 

yn Ffynnonau Llanwrtyd, neu yn Llangammarch.' 'Dim o'r fath siawns, gyfaill. Yn Nghrughywel y bûm yn cyfodi fy mhabell am ychydig ddyddiau - nid i ymbleseru, ond i weithio.'

Yn y gymmydogaeth hono y mae yn byw foneddwr adnabyddus iawn yn Nghymru — Mr. ANDREW DOYLE, yr hwn a fu yn Arolygydd y Tlottai dros ei Mawrhydi y Frenhines am flynyddau lawer. Yr wyf wedi cael cyfleusderau, o dro i dro, i wybod barn boneddigion galluog o'r fath am y pwys o chwanegu gwybodaeth o'r Gymraeg at y cymmhwysderau eraill sydd yn anhebgorol mewn swyddogion yn y Dywysogaeth. Fel rheol, y mae y dynion sydd o waedoliaeth Gymreig, y rhai a fyddent yn taraw oreu at waith fel hwn, yn cael eu dwyn i fyny yn anwybodus o'r iaith gyffredin! Pa hyd y mae camsyniad o'r fath i gario dylanwad ar rïeni Cymreig?

Pan yn trigiannu yn Ngogledd Cymru, yr oedd Mr. DOYLE yn adnabod dyn ieuange o Germany, yr hwn oedd yn addysgu plant boneddwr arall yn yr un gymmydogaeth. Nid oedd y dyn dyeithr yma yn byw yn y palas - ond yn y pentref cyfagos. Bu lawer tro yn nh
ŷ Mr. DOYLE, canys cydymaith dyddorol ydoedd; ac yr oedd croesaw iddo yno bob amser. Un diwrnod, yr oedd Mr. DoYLE yn gorfod myned i blwyf mynyddig i wneuthur ymchwiliad o ryw natur neu gilydd dros y Poor Law Board. Meddyliodd y buasai ei gyfaill ieuangc o'r Cyfandir yn caru myned gydag ef, er mwyn gweled y wlad, a chasglu gwybodaeth am bobl y mynyddoedd, a'u harferion. Nid cynt y gofynodd nag y derbyniywd y gwahoddiad gyda boddhâd; ac ni a ddilynwn y ddau i'r plwyf mynyddig.

Er dychryn i Mr. DOYLE, deallodd, pan gyrhaeddodd y lle, nad oedd neb yn yr ystafell yn deall Saesneg. Ysgrifenodd ychydig linellau ar frys, a throdd at ei gyfaill gan ddywedyd, 'A fyddwch chwi gystal a myned i chwilio am glerigwr y plwyf? Pan y cewch afael ynddo, rhoddwch y nodyn yma yn ei law, a thaer erfyniwch am ei bresennoldeb yn ystafell y plwyf. Y mae yn rhaid i mi gael rhywun yma a all gyfieithu i mi yr hyn a ddywedir yn Gymraeg gan y plwyfolion, ac i egluro iddynt hwy yr hyn a ddywedir yn Saesneg genyf finnau.' Yn lle prysuro i gychwyn ymaith, gofynodd y German - 'A fynwch chwi fy nghynnorthwy i?' 'A fedrwch chwi Gymraeg?' 'Er fy nyfodiad i'r pentref (meddai), yr ydwyf wedi bod yn ymdrechu ei dysgu. Gyda'ch caniatàd, dyma gyfle i mi gael gweled gyda pha faint o lwyddiant.' Dechreuwyd ar yr ymchwiliad heb chwaneg o oediad, ac aethpwyd drwy y gwaith yn hynod gysurus, ac ystyried yr amgylchiadau. Ond o'r dydd hwnw hyd y dydd heddyw, nid ydyw Mr. DOYLE wedi llwyddo i ddarbwyllo gw
ŷr y mynydd nad Cymro oedd ei gydymaith, gan fod cystal Cymraeg ganddo


 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 29) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6669)

29

 

Pa faint o Gymry a ddysgant wers oddi wrth yr hanesyn hwn, i berswadio eu cyfeillion Saesnig i ymdrechu dysgu y Gymraeg?

Wele hanesyn arall, sydd yn dal cyssylltiad â sir Frycheiniog, yr hwn a adroddwyd wrthyf gan Mr. JOHN WILLIAMS, Newton Nottage - enw adnabyddus i eisteddfodwyr fel ennillwr rhai o wobrau pwysig eisteddfodau diweddar Caerdydd a Liverpool. Cyhoeddwr y Silurian yn nhref Aberhonddu oedd tad Mr. WILLIAMS.

Tua'r flwyddyn 1826, dychwelodd y 23rd Royal Welsh Fusiliers i Aberhonddu, ar ol crwydro amser maith mewn gwahanol fanau yn yr India, a'r Iwerddon, &c. Nid oedd fawr o Gymry, os oedd yno un, yn mhlith y milwyr; a Chadben ENOCH, genedigol o sir Aberteifi, oedd yr unig swyddog o Gymro. Un diwrnod, wele y Cadben ENOCH yn myned i mewn i swyddfa'r Silurian, â boneddwr arall gydag ef. Ar ol cyfarch Mr. WILLIAMS, dywedodd: - 'Y mae fy nghyfaill, y Cadben CROSBIE, am ddysgu Cymraeg. Nis gwn am neb sydd yn fwy galluog i'w gyfarwyddo i brynu y llyfrau gofynol na chwi, Mr. WILLIAMS. A fyddwch chwi mor garedig a gwneuthur cymmwynas i mi drwy gynnorthwyo fy nghyfaill?' 'Gyda'r pleser mwyaf,' oedd atteb Mr. WILLIAMS. Prynwyd y llyfrau, ac ymroddodd y Cadben CROSBIE ar ei waith hunan - osodedig.
O fewn mis i'r diwrnod, gellid gweled y Cadben CROSBIE yn croesi trothwy tŷ Mr. WILLIAMS am yr ail waith. 'Maddeuwch i mi am gymmeryd i fyny eich amser; ond yr wyf naill ai yn camddeall y Grammadeg Cymraeg, neu ynte y mae gwall yn y llyfr!' Gyda hyny, cyfeiriodd ei fŷs at fan neillduol ar y tudalen. Ar ol edrych ar y frawddeg, dywedodd Mr. WILLIAMS wrtho - 'Nid eich grammadeg chwi sydd allan o le. Camsyniad sydd yn y llyfr.' Yn mhen wythnos - hyny ydyw, yn mhen pum wythnos o'r dechreu - yr oedd y Cadben CROSBIE yn ffair Talgarth, yn ceisio perswadio y Cymry mewn Cymraeg croew i fyned yn filwyr.

Dywedir nad oes eisieu Cymraeg yn awr yn ffair Talgarth. Ai gwir hyn, nis gwn. Ond os felly, a ydyw y clod yn gymmaint i w
ŷr Brycheiniog am eu bod yn anghofio y Gymraeg yn rhwydd, ac yn cywilyddio ei harddel, ag ydyw i'r Sais a enwyd am ei dysgu mewn pum wythnos?

Paham y dysgodd hi mor fuan? O herwydd ei fod wedi dysgu llawer iaith o'i blaen hi. Pan yn India, yr oedd wedi ei gwneyd yn rheol bob amser i ddysgu iaith y bobl yn mysg pa rai y digwyddai fod yn byw. Dyma ysbryd rhagorol, onid ê? Oni ddylem ninnau geisio denu yr estroniaid sydd yn ein gwlad i ymddwyn yn debyg iddo? Ond nis gellir byth ei wneyd os parhawn ni i gywilyddio arddel y Gymraeg pan yr esgynwr ychydig ar risiau cymdeithas. Y mae yn rhaid cael cyfnewidiad ar hyn os ydym i ennill dyeithr
-


 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 30) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6670)

30

 

iaid sydd yn cartrefu yn ein plith i'n hochr yn fwy cyffredinol. Ni bu eu parch i'r Gymraeg yn unrhyw rwystr ar ffordd dyrchafiad y Cadbeniaid ENOCH a CROSBIE. Cododd y blaenaf i swydd bwysig yn yr Horse Guards; a Syr WILLIAM CROSBIE oedd y llall cyn ei farw.

Yr ydych yn ein harwain yn rhy bell yn ol (meddai rhywun). Y mae trigain mlynedd oddiar pan y digwyddodd y pethau hyn.' Deuwch gyda mi, gan hyny, y flwyddyn bresennol, i dref Saesnigaidd Caerdydd. Fel y gwyddoch, y mae yma goleg newydd. Y mae gan efrydwyr y coleg gymdeithas ddadleuol. Yn Saesneg y cynnelir y cyfarfodydd yn gyffredin; ond rhoddir un noswaith bob hanner blwyddyn i'r Gymraeg. Testyn y ddadl Gymreig am y cyfnod hanner-blynyddol diweddaf oedd, 'A ddylem addysgu y Gymraeg yn ein hysgolion dyddiol?' Ni siaradodd neb yn hollol yn erbyn y mudiad, er fod llawer wedi 'deyd gair;' a chariwyd penderfyniad ffafriol bron yn unfrydol. Yr oedd y gwahaniaeth barn yn troi ar 'pa faint?' a 'pha fodd?' a 'pha bryd?' Yn mhlith y dadleuwyr doniol Cymreig, cododd un dyn ieuangc - Sais o genedl - HOLMES wrth ei enw - sydd wedi dysgu Cymraeg yn nosbarth y Proffeswr POWEL er cychwyniad y coleg yn Hydref, 1883; ac eglurodd ei feddwl mewn modd galluog yn ei iaith newydd ef - ein 'hen iaith' ni. Ystyriai y dylai Gwyddoniaeth gael ei dysgu drwy y Saesneg. Yr oedd yn cyttuno â llais cyffredin yr aelodau, gyda hyn o eithriad.

A fydd esampl y Sais llygad
-graff hwn, yr hwn a all fod o bossibl, ryw ddiwrnod, yn llanw swydd Gymreig a wrthodir i feibion rhieni esgeulus Cymry, yn debyg o agor llygad rhai o'ch darllenwyr, neu rai o'u cydnabyddion, sydd yn dwyn eu plant i fyny yn anwybodus o'r Gymraeg? Yr wyf yn ceisio newid fy arferiad fy hun yn y cyfeiriad yma.

Yn swydd Frycheiniog y cychwynasom y tro hwn, a thua gwlad yr Wysg a'r Wy, bydd yn rhaid i ni ddychwelyd i wrandaw etto ar Mr. ANDREW DOYLE.

'Yr oeddwn yn teithio unwaith yn yr Yspaen (meddai), rhwng Cadiz a Seville. Tynwyd fy sylw at gyd
-deithiwr a fedrai siarad yr Yspaenaeg yn rhagorol. Mentrais ymddiddan ychydig âg ef yn ei iaith. Ar ol peth amser, digwyddais lithro i iaith fwy cyfarwydd i mi - y Ffrangcaeg. Dilynodd fy nghydymaith fi gyda'r hawsder mwyaf yr oedd yn berffaith feistr ar iaith y Ffrangcod. Tröais yn ddamweiniol i'r Saesneg: - a dyma efe ar fy ol yn union. Ni chlywais Sais erioed yn siarad Saesneg yn well na'r estron hwn. Erbyn hyn, yr oeddwn yn ceisio dyfalu o ba genedl y gallai fod; ac meddwn wrtho, 'Ai gŵr o'r Eidal ydych chwi?' 'Nage.' 'O


 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 31) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6671)

31

 

Switzerland?' 'Nage.' 'O Awstria?' 'Nage.' 'O Germany?' 'Nage.' 'O Hungary?' 'Nage.' 'O Poland?' 'Nage.' '0 Rwssia?' 'Nage.' 'O Holland, Denmark, Norway, Sweden?' 'Nage,' bedair gwaith. Pan y gwelodd fy mod yn rhoddi yr ymgais i fyny, gofynodd i mi yn Gymraeg, ar ol iddo gael allan yn mha le yr oeddwn yn byw, mewn modd a arwyddai ei ddifyrwch - 'Dim Cymraeg?' Cymro oedd y gŵr. Swydd Dinbych oedd ei fro enedigol. LLOYD oedd ei enw. Aeth o Gymru i'r India Orllewinol, lle y dysgodd yr Yspaenaeg,' &c. A'i brofiad oedd, fod ei iaith gyntaf, y Gymraeg, ei llafariaid a'i chydseiniaid, wedi ei gynnorthwyo bob cam o'r ffordd yn ei ymdaith trwy borfeydd breision gwledydd ac ieithoedd estronol. Yr oedd yn dysgu y tafodau dyeithr yn gynt na Sais o'r un gallu naturiol, ac yn eu seinio yn fwy perffaith. Yr oedd y dull bywiog Cymreig o siarad yn fwy tebyg i ddull y gwledydd tramorol, ac yn sicrhau mwy o lwyddiant yn yr ymdrech i siarad fel y brodorion eu hunain. Y mae'r Cymry yn myned yn fwyfwy bob blwyddyn i wledydd tu hwnt i'r môr; a phan yn ddwy-ieithawg cyn cychwyn, dysgant yr ieithoedd gofynol i'w llwyddiant gyda rhwyddineb. Nid ydyw yn deg, gan hyny, i ddyweyd nad ydyw y Gymraeg o unrhyw ddefnydd y tu allan i Gymru.

Ymadawn yn awr âg ardal swynol Crughywel, a theithiwn tua gogledd Brycheiniog. Bydd yn dda gan luoedd ddeall fod mwy o Gymraeg yn sir Frycheiniog nag a dybir gan lawer. Yn y papyr a ddarllenais yn Llundain, yr oeddwn yn barod i'w chyfrif gyda Maesyfed fel rhan o ysglyfaeth y Saesneg; ond y mae y Gymraeg ynddi yn mhell o fod ar ddarfod am dani. Dibrisir yr hen iaith gan lawer o rïeni Brycheiniog, gan eu bod yn meddwl fod meddiant o honi yn anfantais i'w plant. Mae'n bwysig, gan hyny, i osod yr ochr arall i'r ddalen yn eglur ger eu bron. A oes yn mhlith meibion a merched Brycheiniog ychydig o ffyddloniaid, yn barod i ymgymmeryd â hyn o waith, os penderfynir yn Eisteddfod Aberdâr fod yr awr wedi taraw i wneyd ymgais cenedlaethol i gael defnyddio y Gymraeg fel ail iaith yn ein hysgolion dyddiol, gan roddi y blaen i'r Saesneg - prif iaith fasnachol y byd?

Ar y daith o Grughywel i Dalgarth, trwy Gwmdû a Phengeu
[ff]ordd, Cymreig ydyw y wlad ar y ddeheu, ac ar yr aswy. Gwlad ddwy-ieithawg hefyd ydyw. Y mae yn agos yr un personau yn y gwasanaeth Cymreig yn Eglwys Cwmdû ag sydd yn y gwasanaeth Saesneg. O Dalgarth i Lanfairmuallt, y mae'r dylanwad Saesneg, a chywilydd o'r Gymraeg, yn cryfhau! Y mae llawer, mae'n lled debyg, wedi sylwi fod yr afonydd sydd yn llifo o Gymru i Loegr, nid yn unig wedi bod yn fanteisiol i Iorwerth y cyntaf a'i fyddin


 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 32) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6672)

32

 

oedd, ond hefyd wedi bod yn ddrysau agored i groesawu y Saesneg i Wlad y Bryniau. Yr Wysg, yr Wy, afonydd Maesyfed ar eu taith tua'r Hafren, a'r Hafren fawreddog ei hunan - tua'r dwyrain y maent yn cyrchu; ac, ar hyd eu dyffrynoedd, a thua'r gorllewin, y mae'r llifeiriant Saesneg wedi bod yn gwneyd ei ffordd yn araf — ond yn araf iawn. Dywedodd Mr. KILSBY JONES wrthyf fod Saesneg yn swydd Faesyfed yn amser JOHN PENRY, o dan deyrnasiad y frenhines ELIZABETH; ond nid ydyw wedi goresgyn y sir yn llwyr hyd y dydd heddyw. Y mae yn fyw yn awr mewn dau blwyf. Ein hawdurdod yw Mr. KILSBY JONES, yn un o'i erthyglau blasus yn Y Geninen.' Dywedodd Mr. JOHN WILLIAMS, Newton Nottage, wrthyf, fod Mr. FOWKE, goruchwyliwr ar etifeddiaethau helaeth yn swyddi Henffordd Maesyfed, a brawd i'r Cadben FOWKE a gynlluniodd arddangosfa Llundain yn 1862, wedi sylwi nad oedd y Gymraeg wedi colli, a'r Saesneg wedi ennill, mwy na phedair milldir mewn oes hir - sef, ei oes ef ei hun. Ond os ydyw y symmudiad wedi bod yn araf, yn y blaen yn gysson y mae wedi bod yn myned. Y mae un anfantais fawr yn gyssylltiedig â'r mudiad Saesnigaidd hwn y tu allan i ysgolion y wlad. Saesneg wael, lygredig, sydd yn cymmeryd meddiant o'r bobl gyffredin yn Mrycheiniog a Maesyfed. Y mae llawer gwell Saesneg, fel rheol, yn y cymmydogaethau lle y mae'r ddwy iaith yn cael eu siarad. Dyma yr hyn a ddywed y Parch. R. TEMPLE, M. A., Arolygwr Ysgolion Trefaldwyn, yn Llyfr Glas y Llywodraeth am 1881:

"The reading in my district is better than in any part of England that I know. Most of my children are the descendants of Welshmen who learned English as a foreign tongue, and whose descendants have lost the Welsh accent, and have not yet learned a vicious English dialect. This last virtue will, probably, soon disappear before the example of teachers who come from English counties, where the traditions of Danish and Saxon pronunciation still prevail.'

Yn y Gymraeg, yn debyg i hyn: —

'Y mae y darllen yn fy nosbarth i yn well nag mewn un rhan o Loegr adnabyddus i mi. Disgynyddion ydyw y rhan fwyaf o'm plant i o Gymry a ddysgasant Saesneg fel iaith estronol, a disgynyddion pa rai ydynt wedi colli yr acen Gymreig, ac heb etto ddysgu llediaith Saesnig lygredig. Bydd y rhinwedd diweddaf hwn, yn ol pob tebyg, yn diflanu yn fuan o dan ddylanwad esampl athrawon o siroedd Lloegr, yn mha rai y mae traddodiadau y cynaniad Daenaidd a Sacsonaidd yn parhau i ffynu.'

Yn y dyfyniad yma ceir, nid yn unig reswm dros gadwraeth y Gymraeg ochr yn ochr â'r Saesneg, ond, gyda llaw, gymmhelliad cryf i chwanegu at rifedi athrawon ac athrawesau Cymreig, fel na




 

 

 

A screenshot of a computer

Description automatically generated with low confidence (tudalen 33) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6673)

33

 

byddo gorfod arnom, fel y mae yn bresennol, i wahodd swyddogion o'r fath o Loegr.

Ar ein taith i Lanfairmuallt, o herwydd dyna y fan yr ydym am ei gyrhaedd, yr ydym wedi bod yn meddwl mwy am ddyfodol y Cymry a'r Gymraeg nag am olygfeydd rhamantus dyffryn godidog yr Wy.

Cofier mai tref Saesnigaidd ydyw Llanfair yn awr. Nid oes un gwasanaeth Cymraeg yn cael ei gynnal mewn nac eglwys na chapel ynddi; neu os oes, yn yr haf yn unig y gwneir hyny, er mwyn yr ymwelwyr Cymreig. Dyma fan lle y gallem feddwl, ar ol ystyriaeth arwynebol, nad oes angenrheidrwydd am swyddogion Cymreig. Ond chwiliwn yn fwy manwl i bethau. Er mwyn gwneuthur hyny, awn i Ariandy y National Provincial. Boneddwr o'r Gogledd, a Chymro gwladgarol, sydd yn oruchwyliwr medrus a phoblogaidd arno. Pan yr aeth efe yno gyntaf, gallesid clywed y sî yn myned allan — 'Wele beth newydd yn Llanfair! Cymro yn brif swyddog ariandy!' Dywedodd Mr. JONES wrthyf fod pymtheg cant yn flynyddol o gwsmeriaid yr ariandy yn Llanfairmuallt y mae yn well ganddynt wneyd masnach yn Gymraeg nag yn Saesneg. G
ŵr anhawdd ei drafod ydyw y Cymro unieithawg pan yn gwneyd masnach yn Saesneg. Teimla fod gan yr ochr arall fantais arno. Nid ydyw am gael ei dwyllo. I rwystro hyn, y mae yn ammheus ac yn or-ofalus - tymmher lled annymunol. O dan y fath amgylchiadau, nid ochrau goreu y dyn a welir, ond ei ddrwgdybiaeth. Ond gwneler masnach yn Gymraeg â'r un dyn - y fath wahaniaeth a welir ar unwaith! 'Cy'wch cŵd a ffetan,' ydyw hi yn awr. Y mae efe cystal gŵr a'r llall. Ni chanfyddir ammheuaeth mwyach. Y mae efe ar dir cyfartal, lle y gall ofalu am dano ei hun, heb ymddangos yn ddrwgdybus diraid o'i gyfaill masnachol.

Nid fy sylwadau i ydyw y rhai hyn; ond ffrwyth profiad Mr. LUTHER JONES, ac eraill. Gan eu bod yn seiliedig ar sylw gofalus, onid ydynt yn gwasgu adref at gydwybod y Cymry hyn o wirionedd? Ein bod wedi bod yn ddiofal, yn esgeulus, yn euog dros ben, pan yn gadael cynnifer o swyddogion yn Nghymru sydd yn anwybodus o iaith y bobl. Nid ar y swyddogion y mae y bai; ond ar flaenoriaid y wlad, am fod yn ddall i'r anghyfiawnder a wneid, ac yn ddiystyr o'r pwys o gael cyfnewidiad a roddai fwy o chwareu teg i bobl gyffredin y wlad - y rhai oeddynt, megys, heb neb i dosturio wrthynt.

A ysgrifenais i neb? Do: ac wrth wneyd hyny, gwnaed cam â choffadwriaeth llawer Cymro ffyddlawn a thosturiol wrth ei gydwladwyr. Pan yn sefyll yn Llanfairmuallt, nid oes ond yr Wy rhyngom a sir Faesyfed. O'r sir hono, aeth Cymro i Lundain


 

 

A picture containing text, newspaper, screenshot

Description automatically generated (tudalen 34) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6674)

34

 

THOMAS PHILLIPS wrth ei enw. Ar ol casglu cyfoeth, penderfynodd wneyd lles yn Nghymru. Yr oedd yn ei fryd i sylfaenu ysgol ddyddiol - yr hon a roddai, ar yr un pryd, addysg Gymreig, ac addysg uwchraddol yn y dull cyffredin. Sefydlwyd yr ysgol yn Llanymddyfri - fy nhref enedigol. Yr wyf yn cofio ei dechreuad, er na bûm erioed yn ddysgybl ynddi. Yr wyf yn cofio ei phrif athraw cyntaf yr Archddiacon JOHN WILLIAMS - a'r athraw Cymraeg cyntaf. Pan ddechreuodd efe ar ei waith, nid oedd un grammadeg mewn bod oedd yn addas i'w ddefnyddio. I un o fechgyn Maesyfed - un o Gymry Llundain - yr ydym yn ddyledus am ddwyn Cymraeg i mewn i ysgol ddyddiol, ac am yr anhawsder a orfododd Parch. THOMAS ROWLANDS i barotoi ei Rammadeg - yr hwn sydd wedi bod yn gynnorthwy i luoedd tu allan i'r cylchoedd Cymreig i ddysgu Cymraeg.

Gyda'r esampl amlwg hwn o'r manteision a allant ddeilliaw o dalu anrhydedd dyledus i'r Gymraeg, terfynaf y tro hwn, Yr eiddoch yn gywir,

D. ISAAC DAVIES.
CAERDYDD, Gorphenaf laf, 1885.

O.Y. - Anghofiais osod i mewn yn nghorph y llythyr yr esampl canlynol o'r Saesneg sydd yn lledaenu yn swydd Frycheiniog trwy ddylanwad iaith bobl gyffredin swyddi agos i Loegr. Gellir gweled y geiriau ar gareg fedd yn Eglwys Llanfihangel, Cwmdû:

'So! in your youthful Blooming Years,
We are Called from hence you see;
In vain dear Parents are your tears
For all must die like we;
Death will not spar at twenty
-four
Nor yet at ninety
-three,
For when he call's no one can live,
And so he send for me.'

Credaf nad ydwyf wedi chwanegu un coll at y rhai sydd ar y gareg, er fy mod wedi copio y llinellau mewn cawod drom o wlaw. - D. I. D.


LLYTHYR VI.

FONEDDIGION,

Tipyn o bobpeth fydd y llythyr hwn, a phob tipyn yn dwyn cyssylltiad âg un peth; sef, y cwestiwn y ceisiwn ei wasgu ar feddwl ac ar galon pob Cymro yn y llythyrau canlynol: - Os ydym wedi



 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 35) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6675)

35

 

bod yn genedl am oesoedd - yn parhau yn genedl y dydd heddyw — ac yn bwriadu aros yn genedl, wrth bob argoelion - pa fodd y dylem ymddwyn yn 1885, fel y bydd ein dyrchafiad cenedlaethol o 1885 i 1985 yn fwy na'n dyrchafiad cenedlaethol amlwg o 1785 i 1885?

Y mae genyf gynnwysiad cyfrol o fater ar y testyn, ac y mae pob diwrnod yn chwanegu at y cyfanswm. Ofer fydd disgwyl dyhysbyddu pwng
c mor eang yn y llythyrau hyn. Dechreuais mewn gobaith i allu cwblhau y gwaith mewn chwech o lythyrau. Gyda'ch caredigrwydd arferol, yr ydych wedi caniatau i mi fyned dros y terfyn appwyntiedig. Fy mwriad yn awr ydyw dirwyn i ben, fel y bydd yn bossibl cyhoeddi y llythyrau fel llyfryn yn mis Awst. Dymunol fydd gwasgaru y llyfryn cyn Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr, fel y caffo gwŷr y Gogledd, a gwŷr y Deheu, a'r Cymry gwasgaredig yn Lloegr, gyfle i wybod natur y cynllun cenedlaethol pwysig a ddygir dan sylw ynɔ. Y mae llawer yn gwybod fod Eisteddfod Liverpool wedi gohirio dyfod i benderfyniad ar y cwestiwn o ddysgu y Gymraeg yn ein hysgolion dyddiol, fel y gallai îs-bwyllgor y Cymmrodorion, dan lywyddiaeth Dr. ISAMBARD OWEN, gael blwyddyn arall i wneyd ymchwiliad mwy manwl i'r pwngc. Bydd adroddiad yr îs-bwyllgor yn dyfod o dan sylw yn naturiol, ac o angenrheidrwydd; ac y mae yn mwriad rhai gwladgarwyr i wneyd cynnygiad, natur yr hwn yr ymdrechwn ei egluro cyn cyrhaedd diwedd ein llithiau.

Yn Llanymddyfri, fy nhref enedigol, y terfynais y tro diweddaf. Ac yn fy sir enedigol, swydd Gaerfyrddin, ac yn mhlwyf genedigol fy nhad - Llandybïe - yr wyf am ddechreu y tro hwn. Cyrhaeddasom yno, fy ngwraig a minnau, tua chanol dydd y Sadwrn diweddaf. Ar ein taith o Lanelli i gymmydogaeth brydferth y Gwenlais, a'r Morlais, lle y gwelir yn y pellder barc Llandilo, yn nghanol Dyffryn Tywi, a Chastell Caregcenen rhyngom a'r Mynydd Du, amlwg iawn oedd y profion fod y wlad yn ddwy-ieithawg. Clywsom bersonau o bob oedran, ac o'r ddau ryw, yn siarad Cymraeg a Saesneg yn rhwydd a naturiol yn ol angen y funyd. Onid ydyw y cyflwr ieithyddol hwn yn un tra dymunol? Oni ddylem ofyn am brofion eglur i'r gwrthwyneb cyn y cymmerwn yn ganiataol nas gall fod yn gyflwr arhosol? Nid ydyw dyweyd fod ieithoedd eraill wedi meirw ond cydnabyddiaeth fod rhyw fywyd rhyfedd yn y Gymraeg. Ac nid ydyw dyweyd fod Celtiaid eraill wedi rhoddi i fyny eu hieithoedd ond cyfaddefiad fod y Cymry yn fwy ffyddlawn i'w gorphenol nag eraill sydd o'r un gwaed a hwy.

Yn mhentref Llandybïe, ac yn y wlad o'i amgylch, yr oedd yr arwyddion yn ddïymwad yn cyfiawnhau barn y Parch. SHADRACH PRYCE, M.A., arholwr ysgolion dros ei Mawrhydi, yn ei adroddiad




 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 36) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6676)

36

 

yn y Llyfr Glás swyddogol am 1882 - 3. Adroddiad gwerth ei ddarllen ydyw hwn. Yr wyf yn galw sylw neillduol ato, gan nad ydyw barn ei awdwr yn cydgordio â barn y Parchn. J. R. KILSBY JONES ac OWEN THOMAS, a'r Mri. BERIAH G. EVANS, H. T. EVANS, ac eraill, yn nghylch y priodoldeb a'r pwysigrwydd o ddysgu Saesneg drwy'r Gymraeg yn Nghymru Gymreig. Cymro twymngalon a gwladgarol ydyw Mr. PRYCE, sydd wedi newid ei farn ar y mater yma; ac y mae yn rhoddi ei resymau dros y cyfnewidiad. Nis gallaf roddi heddyw, o adroddiad Mr. PRYCE, ond rhai o'r disgrifiadau ar ochr y ddalen: - 'A knowledge of Welsh is not decreasing in Carmarthenshire. The people at the same time advancing in their knowledge of English.' - 'Nid ydyw gwybodaeth o'r Gymraeg yn lleihau yn sir Gaerfyrddin. Ar yr un pryd, y mae'r bobl yn ennill tir yn eu gwybodaeth o'r Saesneg.'

Y mae deng mlynedd wedi myned heibio oddi ar fy ymweliad diweddaf â Llandybïe. Yn 1875, yr oeddwn yn byw yn Cheltenham. Cyssegrais fy ng
ŵyliau y flwyddyn hono i ymdeithio, ar fy nhraul fy hun, drwy siroedd Caerfyrddin a Phenfro, er mwyn cynnorthwyo Syr HUGH OWEN, a phwyllgor Coleg Aberystwyth, yn eu hymdrechion i wneyd y casgliad cyffredinol llwyddiannus a argyhoeddodd lawer fod cenedl y Cymry wedi gwneyd ei meddwl i fyny i gael cyfundrefn addysgol mwy perffaith na'r hon oedd ganddi. Cynnaliwyd cyfarfod yn Llandybïe, yn mhlith llawer o fanau eraill. Y fath dir yr ydym wedi ei ennill mewn deng mlynedd! Un coleg oedd genym y pryd hyny! Ond yn awr, y mae genym un i'r Gogledd, un i'r Canolbarth, ac un i'r Deheu - a Choleg Sant Dewi yn Llanbedr, wedi ei symbylu, ei gryfhau, a'i berffeithio i raddau nas gallem ond eu dymuno ddeng mlynedd yn ol!

A chyda'r cynnydd yn moddion addysg, gyda bod bechgyn Cymru yn myned i Rydychain a Chaergrawnt, a'r prifysgolion eraill, ac yn fwy hyddysg yn y Saesneg na'u cyn
-fyfyrwyr o'r Dywysogaeth, wele y teimlad Cymraeg yn cryfhau ac yn mwyhau, y gallu i ysgrifenu yr hen iaith yn lledaenu, ac adnoddau newydd a gwerthfawr at alwad llenyddiaeth Gymreig o lawer cyfeiriad! Cymmerwn galon! Y mae i ni achos i wneyd hyny.

Ar y daith yn ol o Landybïe i Lanelli, gan ein bod wedi dysgu yn y boreu nad gwiw siarad cyfrinach yn y Saesneg, troisom at iaith enedigol fy ngwraig - y Ffrangcaeg. Cyn bo hir, meddai gwraig o Lanelli wrthym, yr hon oedd yn dychwelyd o farchnad Llandilo:

 - Nid yn fynych yr ydym yn clywed yr iaith yna yn cael ei siarad ar y line hyn.' 'A ydych yn gwybod pa iaith yr ydym yn ei siarad?' 'Ydwyf, yn eithaf da. Y mae fy ng
ŵr, yr hwn sydd yu drimmer glô yn Nociau Llanelli, yn clywed cymmaint o French


 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 37) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6677)

37

 

ag o Saesneg, ac wedi dysgu llawer o honi; a mi wn i ddigon i'w hadnabod yn rhwydd pan y bydd yn cael ei defnyddio. Dyma esampl o Gymro a Chymraes yn siarad rhyw gymmaint o French, heb law y ddwy iaith sydd yn naturiol iddynt.

Rhoddodd yr un wraig ychydig o'i phrofiad gyda'r Gymraeg a'r Saesneg. Bu yn gwasanaethu yn ferch ieuangc yn y Mumbles, ger Abertawe - rhan o'r Browyr, lle nad oes Cymraeg. Pan y symmudodd i'r Sceti, yn nes at Abertawe, i le mwy Cymreigaidd, cafodd gyfleusderau i ddefnyddio yr hen iaith; ond yr oedd hi yn cael fod y Saesneg, o herwydd ei hymarferiad diweddarach o honi, yn gwthio ei hun yn mlaen yn fynych, megys, i ganol brawddeg Gymreig. Ond am dymmor y bu hyn; ac er's blynyddau lawer, y mae hi yn gallu siarad y naill gyda'r un rhwyddineb a'r llall.

Cynnhyrfodd yr adroddiad hwn o'i phrofiad un wraig arall i ddyweyd gair gwerth ei gofnodi. Gwyddai am ddyn a ddychwelodd i Langennech, ar ol bod yn aros yn Ngogledd Lloegr am bymtheng mlynedd - lle nad oedd cyfleusderau i ddefnyddio y Gymraeg. Nis gallai, ar y cyntaf, ei siarad; ond dywedodd, er hyny, wrth ei gyfeillion — 'Peidiwch a meddwl mai un o blant 'Dic
-Siôn-Dafydd ' ydwyf. Yr wyf yn teimlo fy mod yn gwybod Cymraeg; ac un o'r dyddiau nesaf, gobeithiaf y gallaf ei siarad hi fel yn y dyddiau gynt.' Ac felly y bu. Mewn pedwar diwrnod, ennillodd yn ol y gallu hwn, a ymddangosai fel wedi ei golli; ac ymddiddanai gyda rhwyddineb yn iaith ei fam.

'Beth yw'r amcan o gofnodi geiriau gwragedd gweithwyr fel hyn?' medd rhywun. Un amcan ydyw dangos mai cwestiwn y bobl ydyw y cwestiwn yma; a bod yn rhaid gwneyd ymchwiliad dyfal i farn y werin ar y mater. Amcan arall ydyw dangos nad ydyw yn bossibl i fyned i unrhyw g
ŵr o Gymru, nac i siarad âg unrhyw Gymro neu Gymraes, heb gael allan, ond edrych am danynt, arwyddion o fywyd yr hen Gymraeg! Ymddangosai fel ar goll yn y Cymro o Ogledd Lloegr, ond bywhaodd - a bywiog oedd ei hymddygiadau, ar ol cael tridiau o amser i ddihuno o'i chwsg. Gofynwch i blant Gwent a Morganwg yn y 5ed standard, pa iaith a fedrant hwy oreu - y Gymraeg, ynte'r Saesneg? Yr attebiad a ellwch ddisgwyl ydyw — 'Y Saesneg.' Maent wedi bod yn ymarfer cymmaint â hi yn yr ysgolion dyddiol am flynyddau, fel y mae'r plant a'u hathrawon yn meddwl fod eu Cymraeg wedi marw. Ond gadewch i ddwy flynedd fyned heibio. Cyfarfyddwch â'r bechgyn hyn drachefn yn bymtheg oed. Gofynwch iddynt, 'Pa iaith yr ydych yn ei hoffi yn awr?' 'Cymraeg!' ydyw'r atteb.

Dywedir wrthym fod yr un rhai, yn ddeunaw neu ugain oed - yn enwedig os am ennill serch Saesnes, neu Gymraes Ddic
-Sion


 

 

A black and white document

Description automatically generated with low confidence (tudalen 38) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6678)

38

 

Dafyddol,' neu am foddio rhyw oruchwyliw[r] Saesneg neu Saesnigaidd, neu am ennill enw da mewn arholiad yn y Saesneg — yn hoff iawn o'r iaithfain' drachefn. Ond yn bump ar hugain, byddant wedi ymsefydlu yn y byd, yn magu teulu, yn aelodau mewn eglwysi Cymreig, yn athrawon neu yn ddysgyblion mewn dosbarthiadau Cymreig yn yr Ysgolion Sabbothol. Y mae'r dwymyn weithiau yn Gymreig, bryd arall yn Saesnig - ond Cymro fydd y dyn, yn fwyaf cyffredin, yn y pen draw.

Gellir disgwyl gyda sicrwydd am gyfnodau cyffelyb yn mhob gwlad ddwy-ieithawg. Tueddir rhai i fabwysiadu un o'r ddwy iaith fel eu prif iaith - ac eraill i ddewis y llall. Gwelir, gan hyny, fod yn rhaid cael gwasanaeth crefyddol a llenyddiaeth yn y ddwy iaith. Ar brydiau, y mae yn angenrheidiol i hoffwyr un o'r ieithoedd gyfarfod â hoffwyr yr iaith arall ar dir canol. Onid ydyw yn ddymunol, o dan y fath amgylchiadau, fod y siaradwyr yn gallu teimlo eu hunain yn rhydd i ddefnyddio yr iaith y byddant wedi ei meistroli? Pa fodd y mae hi yn Nghymru yn fynych yn awr? Dyma dri chant o bobl ynghyd - a dim ond deg, ugain, neu hanner cant, yn ol natur y cyfarfod, neu gyflwr ieithyddol y cylch, yn anwybodus o'r Gymraeg. Y mae yn rhaid i'r dau cant a naw deg roddi y ffordd i'r deg, ac i'r gwaith fyned yn mlaen yn y Saesneg! 'Oni ddylai y deg ddysgu Cymraeg, rhag cywilydd?' meddech chwi. 'Onid syniad digrifol ydyw meddwl am gynnifer o bersonau yn syrthio i lawr i fod yn droedfaingc i draed y lleiafrif bychan?' Digrif iawn, os dewiswch edrych arno o'r safle chwerthinllyd hwn. Ond try y digriiwch i atgasrwydd pan yr ystyriom gymmaint o wendid i'n cenedl ydyw yr ysbryd gwasaidd sydd yn ymhyfrydu mewn cyfundrein addysgol nad ydyw yn rhoddi cyfleusderau teg i'r deg, a'u plant, i ddysgu Cymraeg; fel y byddo modd i ddefnyddio un o'r ddwy iaith, yn ol chwaeth y siaradwr, heb achos ofni fod rhai heb allu deall yr anerchiadau. Hyd nes y caffo y lleiafrif gyfle i ddysgu Cymraeg, teg, wedi y cyfan, ydyw gwneyd y gwaith yn eu hiaith hwy, gan eu bod hwy yn gofalu am ddarparu digon o gyfleusderau i'r Cymry i ddysgu Saesneg. Y Cymro sydd yn cau drws ei iaith yn eu herbyn hwy, a rhaid iddo dderbyn y canlyniad. Y mae yma achos ac effaith. Yr achos ydyw dirmyg amlwg neu guddiedig y Cymro o'i iaith; yr effaith ydyw dirmyg amlwg neu guddiedig rhai o'n dyfodiaid, a'n 'Dic
-Siôn-Dafyddiaid,' o iaith y Cymro: - neu, mewn geiriau eraill, ymostyngiad diangenrhaid y Gymraeg ger bron y Saesneg! Y mae siarad y Saesneg o ddewisiad yn beth hollol wahanol i'w siarad o orfod, o herwydd na fn y Saeson ddysgu Cymraeg, neu am fod y Cymry yn esgeuluso rhoddi iddynt gyfleusderau i'w dysgu.


 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 39) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6679)

39

 

Rhwng Llanelli a Chaerdydd, bûm yn ymddiddan â phedwar o bersonau oedd yn yr un dosran o'r gerbydres a nyni - dau Gymro, a dwy Saesnes. Gweinidogion oedd y Cymry - un yn ffafriol i addysgu y Gymraeg, a'r llall yn tueddu i fod yn wrthwynebol. Yr oedd y ddau am gryfhau asgwrn cefn y Cymro - am greu teimlad o wir falchder yn ei wlad a'i genedl ynddo, ac am ysgubo i ffordd y cywilydd diangenrhaid sydd yn tueddu meibion Gwalia i guddio eu llediaith, neu eu hacen. Ond meddyliai un, gan fod pobl Ysgotland a'r Iwerddon yn feddiannol ar wroldeb gwladgarol, heb feddu iaith wahaniaethol, mai eu hefelychu hwy fyddai oreu i'r Cymro.

Carwn gael cyfleusdra i ddangos fod iaith yn debyg i'n hiaith ni yn fyw yn Ysgotland, ac yn yr Iwerddon, yn ein dyddiau ni, a bod llywodraeth Prydain Fawr yn cyfranu at y draul o'u haddysgu. Yn bresennol, digon, fe allai, fydd galw sylw at y ffaith fod cyfraith wahanol yn Ysgotland; ac enwau neillduol ar farnwyr, bargyfreithwyr, a chyfreithwyr y wlad. Y mae ganddynt hwy amryw sefydliadau cenedlaethol, ac nid oes unrhyw arwyddion i'w gweled chwaith fod yn eu bwriad eu rhoddi i fyny.

Am danom ni, y Cymry, nid oes genym fel sefydliadau cenedlaethol ond Eglwys, Eisteddfod, ac Iaith. Yn yr Eglwys yn unig y mae gan ein hiaith hawl gyfreithiol i gynnorthwy y wladwriaeth, ac i'r diweddar Arglwydd LLANOVER, pan yr oedd efe yn Mr. BENJAMIN HALL, y mae i ni ddiolch am hyn: - a'r un modd i'w Arglwyddes GWENYNEN GWENT, yr hon sydd yn haeddu y parch mwyaf oddi wrth y Cymry. Gofalodd fod yn rhaid dysgu Cymraeg mewn un ysgol ddyddiol yn Nghymru - sef y Welsh Collegiate Institution, yn Llanymddyfri. Yr wyf yn cofio yn dda am ymweliad ei Harglwyddes â'r lle cyn i'r ysgol gael ei chychwyn. Yr oedd esgob diweddar T
ŷ Ddewi, esgob presennol Llanelwy, Mr. WILLIAM REES o'r Tòn, a'r Barnwr JOHNES, yn mhlith y gwladgarwyr llygad-graff a fu yn cynnorthwyo yn yr amcan clodwiw.

Myn rhai fod ein holl sefydliadau cenedlaethol mewn perygl. 'Y mae'r elfen Saesnig,' meddant, 'yn debyg iawn o dagu yr elfen Gymreig yn yr eisteddfod
.’ Ergydir ar yr Eglwys o'r tu allan, ac ergydir ar y Gymraeg y tu fewn i'r Eglwys, yn gystal a thu allan iddi. Dywedodd Eglwyswr wrthyf, ychydig o fisoedd yn ol, ei fod yn credu y byddai yn ddoeth i'r Eglwys daflu y Gymraeg dros fwrdd ei llong. Tybiai y llwyddai yr Eglwys yn fwy ar ol cael ymwared o'r JONAH hwn. Y mae llawer o Eglwyswyr yn anghyttuno â fy nghyfaill; ond pa sicrwydd sydd genym fel cenedl y trecha yr elfen Gymreig yn yr Eglwys yr elfen wrth-Gymreigaidd? Y mae'r esgobion presennol yn gofalu yn well am y plwyfydd dwy-ieithawg. Y mae yr S. P. C. K., neu y Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth


 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 40) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6680)

40

 

Gristionogol, yn rhoddi swm da o arian yn flynyddol i gefnogi llenyddiaeth Gymreig Eglwysig. Y mae'r Llan a'r Gwalia yn cael eu gwerthu, a’u prynu, a'u darllen bob wythnos yn Llandybie, a manau cyffelyb. Y mae’r Gymraeg yn cael mwy o sylw yn ngwasanaeth cyhoeddus yr Eglwys yn y plwyf a enwyd na'r Saesneg. Y mae yr Ysgol Sabbothol yn cael ei chynnal yno yn Gymraeg. Dywedodd mab i gefnder i mi wrthyf, fod yr athraw sydd yn rhoddi gwersi Saesneg iddo yn yr wythnos yn athraw Cymraeg iddo ar y Sabbath. Rhaid cydnabod fod y pethau hyn yn arwyddion o duedd yr Eglwys i fyned o ddydd i ddydd yn fwy Cymreig — yn fwy cenedlaethol — mewn rhai ardaloedd. A ydynt yn gyffredinol? A barhânt hwy felly? Pa sicrwydd o'u parhâd sydd genym? Pa wystl a rydd yr Eglwys i'r genedl o'i phenderfyniad i fod yn ffyddlawn o hyn allan yn mhob plwyf yn y pedair esgobaeth i'r iaith Gymraeg? Dyma ofyniad y Cymro, fel Cymro, i'r Eglwys Sefydledig yn Nghymru.

Ar ol i mi ysgrifenu y cyfeiriadau blaenorol at y W
elsh Collegiate Institution, gwelais heddyw yn y Westem Mail hysbysiad o dan y penawd uchod. A yn mlaen i hysbysu fod 'Vacancy of office of Head Master, or Warden.’ Un o'r cymmhwysderau anhebgorol a ofynir a ddisgrifir yn y geiriau canlynol — ei fod yn ‘thoroughly conversant with the Welsh language in its colloquial and literary use' — Rhaid i'r prif-athraw fod yn hollol gyfarwydd â'r iaith Gymraeg fel y defnyddir hi yn sathredig ac yn llenyddol.' Yr ydym yn cymmhell ein bechgyn a'n merched i gymmeryd mantais o'r ysgolion uwchraddol Cymreig. Beth pe byddai pob Cymro a Chymraes, mor bell ag y mae cylch eu dylanwad yn myned, yn gwneyd dros fechgyn Cymru yr hyn a wnaeth Thomas Phillips, a'i gynghorwyr, drostynt yn Ysgol Llanymddyfri? Y fath gyfnewidiad a welid yn ein gwlad, ac yn ysbryd ein cenedl, yn mhell cyn 1985!

Pa beth yw y teimlad o ofn sydd yn rhedeg drwy y wlad y dyddiau hyn
? Beth yw y syndod sydd yn meddiannu y werin pan y clywant eu hoff a'u parchus flaenoriaid yn siarad am agosrwydd y dydd pan y bydd eisieu y capeli mawrion ar y Saeson, ac y bydd digon o le yn y capeli bychain i'r Cymry? A oes dallineb wedi syrthio ar wŷr a ystyrid yn llygad-graff hyd yn hyn? Beth yw'r sï newydd yn Nghymru a glywir, ond gwrandaw yn graffus y dyddiau hyn? "A ydyw barn ein gweinidogion yn iawn? Ai nid ydynt yn camsynied ynghylch anghenion pregethwyr sydd am barotoi ar gyfer corph y genedl Gymreig, gan osod y cymmhwysderau gofynol i Loegr yn eu lle?" Gall fod peth yn dda - ïe, yn rhagorol dda - i bregethwr ieuangc uchelgeisiol, heb ei fod yn dda o gwbl i'r werin Gymreig. A bydded hysbys fod ammheuaeth yn y dyddiau hyn.




 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 41) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6681)

41

 

yn meddwl y wlad mewn perthynas i darddiad gwirioneddol yr ysbryd gor-Saesnigaidd sydd yn meddiannu cynnifer o'n dynion cyhoeddus; a charant gael gwybod ai nid ellir gosod y Gymraeg lle y bydd hi allan o'r peryglon sydd yn ei hamgylchu yn awr. Os bydd un enwad yn codi achos Saesneg gwir angenrheidiol mewn ardal, wele y lleill yn dilyn - yn unig o ysbryd sectaidd, heb reswm digonol; o herwydd un achos Saesneg yn unig fydd eisieu. Nid dau, neu dri, neu bedwar! Ond dywedir fod yn rhaid gofalu am ein henwad ni! Yna gwesgir ar Gymry i fyned oddi wrth y gwasanaeth Cymraeg, yr hwn a hoffant ac a ddeallant oreu, i gynnal yr achosion Saesnig di-alw-am-danynt! Nid chwareu teg â'r genedl, nac â chrefydd, nac â'r Gymraeg chwaith ydyw hyn! Ac y mae y wlad yn ddistaw bach yn dechreu gofyn y cwestiwn - Ai tybed mai lles eneidiau ydyw yr unig, neu y prif achos cynnhyrfiol mewn mudiadau o'r fath? Y mae awydd cyffredin yn codi yn mynwesau llawer i achub y Gymraeg o ddwylaw yr holl sectau - yr Eglwys Sefydledig, a'r cwbl - er ei gosod mewn man diogel.

Tra y bûm yn Lloegr, cyfododd mudiad yn Nghymru a ymddangosai fel pe yn arwyddo fod y Cymry am gael, chwareudai cenedlaethol. A ydyw y rhai sydd yn gwthio y Gymraeg o'r llan a'r capel wedi meddwl pa beth a all fod y canlyniad? Yn y gwledydd Catholig Rhufeinig, fel y gwyddoch, y Lladin ydyw prif iaith y gwasanaeth crefyddol. Y mae iaith y werin yn y gwledydd hyny yn ymddibynu mwy ar y theatre nag ar yr eglwys. Y mae llawer yn Nghymru y dyddiau hyn yn deall Cymraeg, ac yn hoffi Cymraeg, nad ydynt yn mynychu nac eglwys na chapel Cymraeg; a byddai yn dd
a ganddynt gael cyfleusderau i weled plays Cymreig. A dyweyd y gwir, y mae anghyssondeb mawr yn ymddygiadau rhai o honom. Cynnorthwyant gydag egni bob mudiad sydd yn tueddu i Saesnigeiddio y wlad; a thrwy hyny, chwanegant at nifer y personau sydd yn dyfod o dan ddylanwad a hudoliaeth y theatre Saesneg. Ond colled annhraethol i foesoldeb a chrefydd fydd gosod Cymru dan orfodaeth i fyw ar gynnyrchion y Saesneg yn unig, tra y mae ganddi lenyddiaeth lawer purach yn y Gymraeg.

Ond rhodder lle i'r hen iaith yn yr ysgolion dyddiol a hwyrol. Yno, bydd allan o afael ymrafaelion y pleidiau crefyddol a gwleidyddol. Os caiff hi osod ei throed i lawr yno, fe erys yn yr Ysgolion Sabbothol hefyd; a chynnydda mewn dylanwad. Bydd llai o ddosbarthiadau Saesnig i'w gweled yn yr ysgolion Cymreig, a mwy o ddosbarthiadau Cymreig yn yr ysgolion Saesnig. Mewn gwlad ddwy-ieithawg, dyna fel y dylai pethau fod. Rhoddi chwareu teg i'r ddwy iaith a ddylai fod yn rheol. Mewn cymmydogaeth lle y bydd un o honynt yn wan, dylai hono gael sylw neillduol.

 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 42) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6682)

42


Yn y cyfwng cenedlaethol yr ydym ynddo yn awr, dymunol fyddai cael gwybod a ydyw y pleidiau gwleidyddol yn debyg o ofalu rhag llaw am y Gymraeg? A ydyw yn eu bwriad i fynu sefydlu y Gymraeg yn y gyfundrefn addysgol Gymreig - o'r ysgol ddyddio i'r brifysgol - ac o wasgu y cwestiwn ar yr ymgeiswyr yn yr etholiad cyffredinol nesaf. Os nad ydynt, na fydded yn rhyfeddod iddynt fod llawer Cymro yn gosod egwyddorion gwladol o'r naill du, ac yn rhoddi ei bleidlais yn yr etholiad nesaf dros y Gymraeg. Brysied blaenoriaid y pleidiau, gan hyny, i wneyd yn eglur i'r wlad fod y Gymraeg i gael yr un chwareu teg yn yr ysgolion dyddiol a'r Wyddelaeg yn yr Iwerddon.

Yr ydym yn sefyll ar dir canolog - yn barod i dderbyn pethau da i'r iaith Gymraeg, ac i genedl y Cymry, o'r ddau gyfeiriad. Yr ydym yn disgwyl gyda hyder, a chymmerwn gysur y dyddiau yma, pan yn meddwl fod adnoddau y wasg, yr esgynlawr, a'r ysgoldy Cymraeg yn mhell o gyrhaedd eu digonedd eithaf, a charwyr yr hen iaith yn llawer mwy lliosog na'r cyfrifiad cyffredin mewn llawer
cylch.

Yr ydym wedi myned yn mhell oddi wrth y cwmpeini yn y gerbydres a deithiai yn gyflym rhwng Llanelli a Chaerdydd y Sadwrn diweddaf. Dychwelwn i ffarwelio â'r ddau weinidog. Ar ol iddynt ymadael, deallais fod y ddwy wraig a arosasant yn fud hyd yn hyn yn Saeson, er eu bod yn byw yn Narberth. Digwyddodd i un o'r gweinidogion ddyweyd fod dylanwad y Gymraeg wedi darfod yn y dref hono. Ond tystiolaeth wahanol oedd tystiolaeth y gwragedd. Dywedent eu bod yn ystyried eu hanwybodaeth o'r Gymraeg yn anfantais fasnachol bwysig iddynt yn nhref Narberth.

Nid dyma'r tro cyntaf, na'r ugeinfed tro, i ni sylwi fod barn y Saeson ar y cwestiwn yn fwy seiliedig ar y ffeithiau, mor bell ag y mae ein hymchwiliadau yn ein galluogi i farnu. Y mae llawer o gam wedi cael ei wneyd, ac yn cael ei wneyd, trwy droi un ochr i'r gwydr tuag at yr elfen Saesnig er ei mwyhau, a'r ochr arall at yr elfen Gymreig er ei gwneyd yn llai. Yr oedd yn amlwg fod y gweinidog yn llwyr argyhoeddedig o gywirdeb ei dystiolaeth; ac etto, yr oedd dwy Saesnes oedd yn ei wrandaw wedi cael golwg arall ar yr un pethau. Tebyg iawn mai rhan o'r gwirionedd oedd gan bob ochr; ac y rhoddai y ddau gyda'u gilydd i ni syniad tecach na phob un ar wahân.

Pan gyrhaeddasom y t
ŷ, cefais yno y llythyr canlynol oddi wrth Gymro sydd wedi ennill iddo ei hun enw uchel yn y Deheudir. Nis gallasai lanw swydd y mae wedi ei dal o dan gwmpeini Ffrengig am un-mlynedd-ar-bymtheg oni buasai ei fod yn deall Cymraeg. Y mae hefyd wedi astudio pwngc pwysig i fywydau y glöwyr, ac i


 

 

A screenshot of a computer

Description automatically generated with low confidence (tudalen 43) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6683)

43

 

bocedau y meistri; sef, y top o wàr y glô. Dylai y rhai hyny sydd yn meddwl fod y Gymraeg yn marw yn sir Fynwy gofio, fod pyllau glo Mynwy o fewn cylch ymweliadau chwe - misol ein cyfaill: -

MORGANWG HOUSE, LLANTWIT - STREET, CAERDYDD,

Gorphenaf 3ydd, 1885.

 

HOFF SYR, - O barthed y pwngc o siarad Cymraeg yn y glofeydd, yr wyf, yn rhinwedd fy swydd, yn ymweled â'r rhan fwyaf o lofeydd 'glô ager' Deheudir Cymru bob chwe mis; ac yr wyf yn sicr nad wyf yn dangos gormodedd o ogwydd Cymraeg, nac yn gŵyro dim oddi wrth y gwirionedd, wrth ddyweyd fod tua deunaw o bob ugain o löwyr Deheudir Cymru yn siarad Cymraeg yn y gwaith. Hyhi ydyw iaith y glofeydd.

 

Yr eiddoch yn barchus,

 

DAFYDD MORGANWG.

 

Wele derfyn llythyr maith sydd yn debyg o ymddangos yn y FANER wythnos yn ddiweddarach na'm disgwyliad, o herwydd fod pethau eraill, am y tro, yn galw yn arbenig am le.

Yr eiddoch yn gywir,

D. ISAAC DAVIES.
CAERDYDD, Gorphenaf 8fed, 1885.
-----


LLYTHYR VII.

FONEDDIGION,

Gyda'ch caniatâd, awn yma a thraw, hwnt ac acw, y tro hwn etto. Yn y ddau lythyr a ganlynant hwn, ymdrechwn osod rhywbeth ymarferol ger bron y Cymry hyny sydd am weithredu yn 1885, fel y byddo cynnydd dylanwad a hunan - barch ein gwlad yn fwy amlwg yn 1985, na'r cynnydd a gydnabyddir fel yn ganfyddadwy ar ddiwedd canrif o Ysgolion Sabbothol.

Yn nghyfarfod y Cymmrodorion, yn Eisteddfod Liverpool, siaradwyd yn briodol iawn ar y cwestiwn o ddysgu y Gymraeg yn yr ysgolion dyddiol, gan amryw w
ŷr galluog a dylanwadol; ac yn eu mysg gan Gymry oedd wedi dwyn anrhydedd i'w gwlad, ac iddynt eu hunain, yn Rhydychain a Chaergrawnt. At wŷr ieuaingc dysgedig, galluog, o'r fath, y mae Young Wales' - 'Y Cymry Newydd' - yn edrych am arweinwyr. Y mae rhai o  wýr mawr' Cymru, yn yr ystyr uchaf, fel pe baent wedi tori eu calonau yn eu hymdrechion clodfawr a llwyddiannus dros y Gymraeg. Y mae'r iaith ar ddarfod!' 'Gwell rhoddi i fyny!' Dyna yw sŵn eu hwylofain. Clywyd ochenaid un o'r cadfridogion hyn yn Ngogledd America yn ddiw-


 

 

A black and white document

Description automatically generated with low confidence (tudalen 44) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6684)

44

 

eddar, ac ail gyrhaeddodd Ogledd Cymru, i gael ei adseinio drachefn gan 'Gwyliedydd y Western Mail yn Nghaerdydd. Ond llais arall, llawn o galondid, yn galw am egni, ffyddlondeb, arfau newyddion, brwydr boeth a buddugoliaeth - dyna y mae'r wlad yn hiraethu am dano. Cofiwch, nid ydym yn dyweyd 'capel' nac 'eglwys' - ond gwlad!

Ennillwyd ein sylw neillduol yn nghyfarfod Liverpool at anerchiad gan foneddiges - Saesnes o ran cenedl, ond yn byw yn Arfon — sef, Mrs. THOMAS, gwraig ficer Eglwys St. Ann, ger Bangor. Dywedodd ei bod wedi defnyddio y Gymraeg i egluro idioms yn y Roeg, y Ffrangcaeg, &c., nas gallesid eu hegluro o gwbl o'r Saesneg; a rhoddodd enghreifftiau o honynt.

Yn y cyfarfod hwn, prynais gan Mr. LEWIS JONES,
o Lanedeyrn, ger Caerdydd, lyfr yn cynnwys y traethodau a ennillasant wobr y Mil. KEMEYS TYNTE yn Eisteddfod Caerdydd - yr un cyn y ddiweddaf. Nis gallaf roddi fy llaw y funyd yma ar y llyfryn, fel y mae gwaethaf y modd. Hoffwn yn fawr wneyd dyfyniadau o draethawd buddugol Mrs. THOMAS, lle y mae hi yn galw sylw at lwyddiant masnachol, gwyddonol, celfyddydol, cerddorol, a gwleidyddol yr Iuddewon gwasgaredig yn mhlith y cenhedloedd eraill. Pobl ydynt hwy sydd wedi bod yn ddwy-ieithawg er's canrifoedd lawer. A ydyw eu gwrhydri yn mhob cylch o fywyd i'w briodoli, i raddaumwy neu lai, i'r ffaith fod gwybod dwy iaith am genhedlaeth ar ol cenhedlaeth drwy yr oesau wedi cryfhau ac awchu eu cynneddfau naturiol? Os ydyw hyn yn wir am yr Iuddewon, onid allai fod yr un mor wirioneddol am genedl y Cymry, pe y penderfynent ymlynu wrth y Gymraeg, pan y mae cyfleusderau i ddysgu Saesneg hefyd wrth ddrws pob Cymro?

Deuwch gyda ni i'r brifddinas: — ond nid i blith palasau, a moethau, a chyfoeth. Y mae rhai Cymry yn siarad, weithiau, fel pe bae rhoddi i fyny y Gymraeg yn gyfystyr a rhoddi i fyny dlodi; a bod mabwysiadu y Saesneg yn ei lle yr un peth a chymmeryd meddiant o lawnder a digonedd! A oes tlodion yn y byd crwn mor dlawd, yn dymmorol ac yn ysbrydol, a thlodion ein teyrnas ni
y rhai na fedrant ond y Saesneg? Y mae bys gwawdlyd gwledydd y Cyfandir yn dangos yn eglur pa beth ydyw eu barn hwy. Y mae miloedd yn Nghymru y dyddiau yma i'w cael nad ydynt wedi ennill dim mewn unrhyw ystyr - yn fydol, yn foesol, nac yn grefyddol - drwy gyfnewid y Gymraeg am y Saesneg. I ranau tlawd a Saesnigaidd yr East End o Lundain yr ydym am fyned. Y mae yno ysgol fawr yn perthyn i'r Iuddewon. Fe allai y cawn fod ganddi wersi i ni - y Cymry.

Yn
The Schoolmaster,' am Ionawr 17eg, 1885, y gwelsom ei


 

 

A screenshot of a computer

Description automatically generated with low confidence (tudalen 45) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6685)

45

 

hanes, a Dr. MAURICE DAVIS, meddyg Iuddewig, a ysgrifenodd yr erthygl o'r hon y gwnawn ddyfyniadau. Carwn yn fawr i bob Cymro ddarllen yr ysgrif i gyd. Rhoddwn syniad ammherffaith o honi, fel arferol, yn y ddwy iaith: —

'The Jews' Free School, Bell Lane, Spitalfields, educates over 3,200 children. The working hours are those of School Boards, except that work is continued from 9 to 1, instead of from 9 to 12, in order that there may be time for an additional subject - Hebrew. Ninety per cent of the children are foreigners - who, brought up to speak the language of their parents, find English altogether strange to them. Yet they have to work in the language of the country without any special instruction in English, which they pick up as well as they can; and in twenty
-two weeks they are presented, according to regulations, transformed into British boys and girls, to pass their examination in the first standard. The seventh standard children of the Jews' Free School are exactly thirteen times more numerous, in proportion, than those of the general schools of the country.'

Y mae yr uchod yn debyg i hyn yn y Gymraeg:

'Addysgir uwch law 3,200 o blant yn Ysgol Rydd yr Iuddewon, yn Lôn y Gloch (Bell Lan
e), Spitalfields. Yr un yw yr oriau gweithio ag yn ysgolion y byrddau, oddi eithr fod y gwaith yn cael ei barhau o 9 hyd 1, yn lle o 9 hyd 12, er mwyn cael amser i gymmeryd un pwngc chwanegol; sef, Hebraeg. Tramorwyr yw naw deg o bob cant o'r plant; y rhai, am eu bod wedi eu dwyn i fyny i ddysgu siarad iaith eu rhieni, ydynt yn cael fod y Saesneg yn hollol ddyeithr iddynt. Etto y maent yn gorfod gweithio yn iaith y wlad, heb unrhyw addysg arbenig yn y Saesneg, yr hon a bigir i fyny ganddynt oreu y gallant; ac mewn dwy ̧wythnos ar hugain, fe'u cyflwynir, yn ol y rheolau, wedi eu trawsffurfio yn fechgyn a genethod Prydeinig, i basio eu harholiad yn y safon cyntaf. Y mae plant y seithfed safon yn Ysgol Rydd yr Iuddewon yn union dair gwaith ar ddeg yn fwy lliosog, mewn cyfartaledd, nag eiddo ysgolion cyffredin y wlad.'

Dyma yr hyn a ddywed Mr. MUNDELLA am yr ysgolion Iuddewig:

'I find that last year the average percentage of attendance and number on the register in England and Wales was 73 per cent, the average in the London Board Schools was 79 per cent, and the average at Bell Lane was 89 per cent; and I understand, that at the present moment the average daily attendance is 95 per cent. I take the average days in England and Wales, and I find them 82 per cent, in the London Board Schools 88, and in Bell Lane 98 per cent. The average earnings in the shape of grants last year in England and Wales was 16s. 1
¼d.; in the London Board Schools, 17s. 2½d.; in the Jews' Free School, 18s. 7¼d. But that applies to 1883. In 1884, the grant of the Jews' Free School



 

 

A screenshot of a computer

Description automatically generated with medium confidence (tudalen 46) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6686)

#46
 

was £1 0s. 5d. per head-the largest ever attained. It is marvellous that the Jews' Free School should have accomplished so much with the materials it is supplied with, as compared with other schools.'

Gellir Cymreigio geiriau Mr. MUNDELLA fel y canlyn:

"Yr wyf yn cael fod cyfartaledd y presennoldeb a'r nifer ar y llyfrau yn Lloegr a Chymru yn 73 y cant, y cyfartaledd yn Ysgolion y Bwrdd yn Llundain yn 79 y cant; a chyfartaledd yr ysgol yn Lôn y Gloch yn 89 y cant; ac yr wyf yn deall fod cyfartaledd y presennoldeb dyddiol ynddi ar hyn o bryd yn 95 y cant. Yr wyf yn cymmeryd cyfartaledd y dyddiau yn Lloegr a Chymru, ac yn cael eu bod yn 82 y cant; yn Ysgolion Byrddol Llundain, 88; ac yn Lôn y Gloch, 98 y cant. Cyfartaledd yr ennillion, yn y ffurf o roddion y llywodraeth, y flwyddyn ddiweddaf yn Lloegr a Chymru ydoedd
16s. 1¼c.; yn Ysgolion y Bwrdd yn Llundain, 17s. 2½c.; ac yn Ysgol Rydd yr Iuddewon, yn 18s. 7¼c. Ond y mae hyn i'w gymmhwyso at 1883. Yn 1884, yr oedd y rhodd i'r Ysgol Rydd Iuddewig yn 1p. 0s. 5c. ar gyfer pob plentyn - y swm uchaf a gyrhaeddwyd erioed. Y mae hi yn ffaith hynod fod Ysgol Rydd yr Iuddewon yn gallu cyflawni cymmaint gyda'r defnyddiau sydd ganddi, o'i chymmharu âg ysgolion eraill.'

Heb law dysgu yr Hebraeg am awr bob dydd, o ddeuddeg i un o'r gloch, y mae llawer o blant yr ysgolion hyn yn cael addysg grefyddol yn ddyddiol hefyd yn eu hiaith gyssegredig:

'The cheder is a room, in which dozens of boys assemble to study
the 'Talmud,' and other works... A large per-centage of the whole school attend the chederim... Some boys went at 6 a.m. until school time, and again in the evening till 10. Others, of tender age, spent from half an hour to three hours in the evening at these
crowded places.'

Yn y Gymraeg yn debyg i hyn:

'Ystafell ydyw y cheder, yn yr hon yr ymgynnulla dwsinau o blant i efrydu y
'Talmud,' a gweithiau eraill. Y mae cyfartaledd mawr o'r holl ysgol yn mynychu y chederim. Yr oedd rhai plant yn myned yno 6 o'r gloch yn y boreu hyd amser yr ysgol; a thrachefn yn myned yno yn yr hwyr hyd 10 o'r gloch. Yr oedd eraill, o oedran tynerach, yn treulio o hanner awr i dair awr yn y prydnawn yn y lleoedd gorlawnion hyn.'

Ond yr hyn oll, y mae iechyd y plant Iuddewig yn well nag iechyd cyffredin plant ysgolion dyddiol Llundain. Tua diwedd yr erthygl, cawn y llinellau canlynol:

"The majority of these children came from Russian Poland, where their parents have been subjected to oppression and violence; prohibited from following high class trades, and abused for adopting those which


 

 

A picture containing text, newspaper, screenshot

Description automatically generated (tudalen 47) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6687)

47

 

are open to them; treated with contumely for neglecting intellectual pursuits; and robbed and murdered, as we have recently seen, because their mental superiority casts into shadow that of their neighbours, and because their thrift, industry, and temperance enable them to distance them. Does this struggle, instead of blunting and fatiguing with terror their ever watchful brains, sharpen it into permanent energy and strength, in devising means for evading the fangs of the destroyer? For, however hot the pursuit, they still cultivate learning - not always of the hard mother country, but the long-prized lore of their fathers.

Has this mental striving during centuries created a power to transmit a special cerebral activity to the progeny? Or, is it due to inherited qualities of race?'

Yr ydym yn cyfieithu y geiriau hyawdl uchod i'r Gymraeg fel y canlyn:

'Y mae y mwyafrif o'r plant hyn yn dyfod o Poland Rwssiaidd, lle y darostyngid eu rhieni i ormes a thrais; y gwaherddid hwynt rhag dilyn crefftau uwchraddol; ac y camdrinid hwynt am ddilyn y rhai oedd yn agored iddynt. Ymddygid tuag atynt gyda diystyrwch am esgeuluso ymchwiliadau deallol, ac ysbeilid a llofruddid hwynt, fel y gwelsom yn ddiweddar, o herwydd fod eu huchafiaeth meddyliol yn taflu eiddo eu cymmydogion i'r cysgod; ac o blegid fod eu cynnildeb, eu diwydrwydd, a'u cymmedroldeb, yn eu galluogi i'w gadael yn mhell ar ol. A ydyw yr ymdrechfa hon, yn lle pylu a lluddedu gyda dychryn eu hymenydd. iau byth-wyliadwrus, yn eu hawchlymu i yni a nerth parhaol, mewn dyfeisio moddion i osgoi crafangau y dinystrydd? O herwydd, pa mor boeth bynag y bydd yr erledigaeth, parhau i amaethu dysgeidiaeth
- nid bob amser eiddo eu mam-wlad galed, ond golud llenyddiaeth maith-brisiedig eu tadau... A ydyw yr egni meddyliol hwn ar hyd y canrifoedd wedi creu gallu i drosglwyddo bywiogrwydd ymenyddol neillduol i'r hiliogaeth? Neu, a ydyw i'w briodoli i ragoriaethau etifeddol y genedl?'

Cyn penderfynu pa un a ddylem fel cenedl roddi y Gymraeg i fyny, oblegid fod ychydig o drafferth yngl
ŷn â'r arferiad cyffredin o ddwy iaith, onid ydyw yn bwysig i ni wneyd ymchwiliad manwl i'r achos paham y mae yr Iuddewon ar y blaen i genhedloedd eraill yn mhob cyfeiriad? Y maent yn trechu hyd yn oed y Saeson mewn masnach. Fe allai y cawn mai yr Iuddew, ac nid y Sais, y dylem ni ei efelychu fel Cymry; a bod yr anhawsder dwy-ieithawg yn fantais fawr i ni, pe y gwnaem iawn ddefnydd o hono. Fe allai y gallem ddringo yn uchel iawn pe yr efelychem yr Iuddewon yn eu cynnildeb, eu diwydrwydd, a'u cymmedroldeb, yn gystal ag yn eu hymroddiad i feddiannu gwybodaeth. Nid wrth redeg ymaith oddi wrth anhawsderau eu hiseldiroedd - ac yr oeddynt yn fyrdd - y mae'r Dutch wedi ennill enw iddynt eu hunain yn mhlith


 

 

A black and white document

Description automatically generated with low confidence (tudalen 48) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6688)

48

 

cenhedloedd y ddaear. Nid wrth ymgadw yn mhell oddi wrth y môr cynddeiriog y mae pobl Prydain Fawr wedi dyfod yn fawr. Na: y mae gwrthwynebiadau ac anhawsderau yn dadblygu gallu, ac yn cynnyddu nerth. Y mae ein hinsawdd oer a chaled yn un achos o'n hyni a'n llwyddiant fel Prydeinwyr. Ond a geir dywedyd am y Cymry — ' Y maent am efelychu y Saeson hyd yn oed yn eu gwendidau mwyaf amlwg? Y mae yn ormod o drafferth ganddynt weithio allan eu dadblygiad naturiol eu hunain, fel pobl sydd wedi cael cyfleusdra arbenig yn y dyddiau diweddaf hyn i gymmeryd safle barchus yn mhlith y bobloedd?

Gwrandawn am funyd ar un o brif feddygon ein gwlad
- Syr W. GULL, Bar., M.D., F.R.S. — yn siarad wrth weithwyr Llundain yn mis Ionawr diweddaf, yn y Working Men's College, Great Ormond street::

'He had heard of Englishmen delighting in their ignorance, and by this they deprived themselves of their birthright. There were some men in one of the manufacturing towns, who were actually replaced by Germans, because they refused to learn French, which their less fastidious successors consented to do. Those were Englishmen delighting in their ignorance; and there were many like them, who would not learn French for anything.'

Wele y dystiolaeth uchod mewn gwisg Gymreig:

'Yr oedd efe wedi clywed am Saeson oedd yn ymhyfrydu yn eu hanwybodaeth, a thrwy hyny yr oeddynt yn eu hamddifadu eu hunain o'u genedigaeth-fraint. Yr oedd rhai dynion, yn un o'r trefydd llaw
-weithfaol, y rhai y symmudwyd hwynt i wneyd lle i Almaenwyr, o herwydd iddynt wrthod dysgu y Ffrangcaeg - yr hyn yr ymfoddlonodd eu holynwyr llai mursenaidd wneyd. Saeson yn ymhyfrydu yn eu hanwybodaeth oedd y rhai hyny; ac yr oedd llawer tebyg iddynt i'w cael, y rhai na ddysgent y Ffrangcaeg am unrhyw beth.'

Ai pobl fel y Saeson hyn yr ydym ni am fod? Perygl y Cymry yn ein dyddiau ni ydyw
- nid gwrthod addysgu Saesneg, ond gwrthod addysgu Cymraeg i'w plant! Pa beth, attolwg, fydd y canlyniad o blygu i'r duedd Dic-Siôn-Dafyddol' hon mewn rhai cenedlaethau? Fe gyll y Cymry, drwy hyny, eu gallu i ddysgu ieithoedd; a syrthiant i gyflwr llawer o Saeson sydd heb ddymuniad i wybod iaith arall heb law y Saesneg! Pan y daw y Saeson cyffredin i Gymru yn awr, lleddir eu rhagfarn gwrth-ieithyddol, a dysgant Gymraeg. Dengys hyn fod awyrgylch gymdeithasol Cymru yn ffafriol iawn i'r dadblygiad o allu ieithyddol. Ond os parhawn i ddirmygu y Gymraeg, bydd i'r gogoniant hwn ymadael oddi wrthym. Collwn y fantais ieithyddol hon; ac nid nyni yn unig, ond bydd i'r Saeson, a'r dyfodiaid eraill a ymsefydlant yn ein plith, ei cholli hefyd.


 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 49) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6689)

49

 

Clywais Sais mewn cyfarfod dadleuol yn ceisio cyfiawnhau arferiad rhy gyffredin ei genedl, trwy ddyweyd — 'Wrth wrthod siarad ieithoedd pobl eraill, gorfodwn hwynt i ddysgu Saesneg!' Ar y Cyfandir, gŵyr pawb fod llogell drom gan 'John Bull.' Parotoant westtai iddo, lle y siaredir Saesneg. Gwneir pob peth yn ei ddull cenedlaethol ef; a thrwm y mae yn rhaid i'r Sais dalu am y warogaeth hon a delir iddo; canys parch i'w boced ydyw, ac nid i 'John Bull' ei hun. Y maent yn adnabod ei wendidau yn dda - yn byw yn frâs ar ei gefn - yn chwerthin am ei ben ar ol iddo droi gartref — ac yn dirmygu ei gulni un-ieithawg. Efe a ddychwel i'w wlad yn ysgafnach o'i aur, ond nid yn drwm-lwythog o wybodaeth am deithi neillduol gwledydd a phobloedd Ewrop. Ychydig iawn a welodd efe o'r hyn sydd yn neillduol yn arferion y Cyfandir, yr ymwelodd efe âg ef mewn enw. Bu mewn Lloegr fach' yn Paris - ac felly yn y blaen, o ddinas i ddinas - ond heb ddyfod i gydnabyddiaeth wirioneddol â Ffraingc, nac â'r Eidal, nac â'r Almaen chwaith.

Nid fy nisgrifiad i ydyw hwn, ond fe ellir ei weled o bryd i bryd yn newyddiaduron a chylchgronau Lloegr; canys nid oes neb yn ffieiddio y tueddiad ffol, hunanol, yma yn y Sais yn fwy na'r Sais sydd wedi agor ei lygaid i weled fod yn rhaid deall iaith gwlad cyn y gellir adnabod y wlad a'i thrigolion yn iawn. Y mae Saeson o'r fath yn Nghymru, a llawer mwy o honynt nag y mae y
'Dic-Sion-Dafyddion' yn ei feddwl. Y mae yn atgas ganddynt y gŵr a gywilyddia arddel y wlad a'i magodd. Ond parchus yn eu golwg ydyw y Cymro sydd yn ffyddlawn i Gymru a'r Gymraeg.

 

Glywais am un Sais - tirfeddiannwr helaeth - yn myned at Gymro sydd yn adnabyddus i'w genedl yn mhob cwr o'r byd, ac yn sefyll yn uchel yn mharch pob gwladgarwr Cymreig, gan ei gyfarch yn debyg i hyn, ond fod yr ymddiddan yn Saesneg: - 'Carwn yn fawr pe y gallwn siarad Cymraeg fel y medrwch chwi. Os ymgymmerwch â rhoddi addysg i mi yn eich iaith, talaf i chwi bum cant o bunnau pan y medraf Gymraeg cystal ag y gellwch chwi!' 'Nis gallaf,' oedd yr atteb; 'y mae gorchwylion eraill yn cymmeryd fy holl amser - a chymmerent fwy pe byddwn yn feddiannol arno.' 'Y mae yn ddrwg dros ben genyf hyny,' meddai yntau. Y mae fy rhieni (meddai, dan deimlad gofidus) wedi gwneyd camsyniad mawr gyda fy addysg foreuol? Talasant gannoedd lawer, os nad miloedd, o bunnau i fy mherffeithio mewn Groeg a Lladin — ieithoedd na bu achos i mi eu defnyddio erioed - ond esgeulusasant yn hollol iaith y bobl yn mhlith pa rai y gwyddent y byddai raid i mi dreulio fy mywyd. Y fath ffolineb ynddynt oedd hyny!' Y Cymro a wrthododd y pum cant punnau yw fy awdurdod dros


 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 50) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6690)

50

 

yr hanesyn hwn. Y mae yn dda genyf allu dywedyd y gall ei gyfaill, yr hwn sydd o waedoliaeth Saesneg, ond yn meddu teimlad Cymreig, siarad ein hen iaith yn lled dda erbyn heddyw - er y camgymmeriad a wnaed gan ei rieni gyda'i addysg foreuol.

Y mae teimlad y boneddwr gwladgarol hwn yn fwy cyffredin nag a ddychymygodd y Cymry erioed
- yn enwedig yn mhlith y Saeson sydd wedi byw ddeng mlynedd ar hugain yn Nghymru; wedi cael digon o amser i'w galluogi i ddarganfod hirhoedledd y Gymraeg drostynt eu hunain, ac i ddeall mai gau-brophwydoliaeth ydyw hono sydd yn ei thynghedu i farw yn fuan.

Yr wyf yn gwybod hefyd am feibion i weinidogion Cymreig hyawdl, a roddent arian mawr pe y gallent feddiannu yr iaith a gadwyd oddi wrthynt yn fwy trwy esgeulusdra neu gamsyniad tad a mam na thrwy unrhyw deimlad gelyniaethol at y Gymraeg. Yr oedd bwriad eu rhieni yn dda
- ac addefant hyny. Eu craffder oedd ar goll. Ni ddeallasant ac ni ddarllenasant arwyddion yr amseroedd yn iawn. Ond y cwestiwn yw, A ddysg rhieni presennol Cymru wers oddi wrth eu camsyniad hwy? A ydyw yn ddiystyr ganddynt pa un a fydd eu plant yn tyfu i fyny i ganmawl eu synwyr cyffredin, neu i'w collfarnu, am esgeuluso iaith y werin?

Yr oeddwn yn bwriadu myned i Finland, gan dynu tua'r Pegwn Gogleddol, ac oddi yno i Sydney yn Neheudir Cymru Newydd, ac yn nesach fyth at y Pegwn Deheuol, i Auckland, yn Zealand Newydd, cyn terfynu y llythyr hwn. Ond y mae y llythyr yn ddigon maith heb yr ymgyrchiadau hyn; a rhaid gadael allan y gwersi sydd gan ran o Rwssia i'w rhoddi i Gymru, ynghyd â disgrifiad o'r manteision sydd yn deilliaw i'r Cymro drwy y Gymraeg yn ngwledydd y gwrthdraedolion.

Diweddwn y tro hwn gyda dyfyniadau o areithiau pwysig Mr. MUNDELLA yn Sheffield a Bradford, tua diwedd 1884.

Yn Sheffield, dywedodd:

'I am glad to see that you are doing a little in the teaching of languages. I am afraid it is not much. English boys do not like to speak a foreign language
- nor do English girls. They are willing to learn it. They are content to read it. May I show you something of the advantage of speaking foreign languages? You know we hear constantly that the trade follows the flag - and I agree. Wherever the British flag is planted upon a territory, there British trade follows it, because British colonists go to it. They carry with them British wants, and the British colonist is always the best customer in the world to the British manufacturer. But there is another thing to bear in mind; we have paid a pretty heavy toll in England, and we did it for people who don't trade under our flag, but simply have the advantage of speaking foreign languages better than we do.'

 


 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 51) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6691)

#51
 

Yn Gymraeg yn debyg i hyn:

'Y mae yn dda genyf weled eich bod yn gwneyd ychydig mewn dysgu ieithoedd. Yr wyf yn ofni mai nid llawer. Nid ydyw plant Saesnig yn hoffi siarad iaith estronol, na genethod Saesnig chwaith. Y maent yn ewyllysgar i'w dysgu. Y maent yn foddlawn ar ei darllen. A ganiateir i mi dda gos i chwi ryw gymmaint o'r fantais sydd yngl
ŷn â siarad ieithoedd tramor? Yr ydych yn gwybod ein bod yn arfer dywedyd fod y fasnach yn dilyn y faner, ac yr wyf finnau yn cyttuno â hyny. Pa le bynag y plenir y faner Brydeinig ar diriogaeth, dilynir hi yno gan fasnach Prydain, am fod ymsefydlwyr Prydeinig yn myned ar ei hol. Dygant gyda hwynt yno eu hanghenion Prydeinig; a'r ymsefydlwr Prydeinig bob amser ydyw y cwsmer goreu yn y byd i'r llawweithiwr Prydeinig. Ond y mae un peth arall i'w gadw mewn golwg: - yr ydym wedi talu toll led drom yn Lloegr, ac yr ydym wedi gwneyd hyny dros bobl nad ydynt yn masnachu dan ein baner ni - ond yn unig am eu bod yn meddu y fantais o allu siarad ieithoedd tramor yn well na ni.'

Yn Bradford, gwnaeth Mr. MUNDELLA y sylwadau canlynol:

"The teaching of languages was a most important branch of technical training for those engaged in commerce. Language was to the technical training of the merchant what drawing was to the artisan, to the de signer, or to the mechanic. He had no doubt that in their time they had paid a pretty heavy toll to men, who could speak other languages than their own. He had been associated for many years with another town
- he had spent thirty years in the town of Nottingham - and he could say that the mercantile business of that town was mainly carried on by foreigners-all honour to them. We were greatly indebted to them, for they had great advantages over the merchants and manufacturers of our towns, simply because they had the key to the languages of the markets in which English manufacturers transacted their business. If they wished to make their sons successful merchants, they must teach them foreign languages.'

Mewn dullwedd Gymreig, wele eiriau Mr. MUNDELLA: —

'Y mae dysgu ieithoedd yn gangen o'r pwysigrwydd mwyaf o ddysgyblaeth alwedigaethol i'r rhai sydd yn dilyn masnach. Y mae iaith i barotoad masnachydd ar gyfer ei alwedigaeth yr hyn ydyw arluniaeth i'r crefftwr, y cynllunydd, neu y peiriannydd. Nid oedd efe yn ammheu nad oeddyut yn eu dydd wedi talu toll led drom i ddynion a allent siarad ieithoedd eraill heb law yr eiddynt eu hunain. Yr oedd efe wedi bod am lawer o flynyddoedd mewn cyssylltiad â thref arall — treuliodd ddeng mlynedd ar hugain yn nhref Nottingham — a gallai ddyweyd fod gorchwylion masnachol y dref hono, gan mwyaf, yn cael eu dwyn yn mlaen gan dramorwyr
- pob anrhydedd iddynt. Yr oeddym dan ddyled drom iddynt; o blegid yr oeddynt yn meddu ar fanteision mawrion rhagor marsiandwyr a gwneuthurwyr nwyddau ein trefydd,


 

 

A black and white document

Description automatically generated with low confidence (tudalen 52) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6692)

#52

yn unig am eu bod yn meddu ar allwedd ieithoedd y marchnadoedd yn mha rai y mae gwneuthurwyr nwyddau Saesnig yn cario eu masnach yn mlaen. Os oeddynt am wneyd eu meibion yn fasnachwyr llwyddiannus, yr oedd yn rhaid iddynt ddysgu ieithoedd tramor iddynt.'

Yn Morganwg, y dyddiau hyn, y mae ffordd rwydd i rieni, ond iddynt gael ychydig gynnorthwy gan yr ysgolion dyddiol, i ddwyn eu plant i fyny yn alluog i ddarllen ac ysgrifenu y Saesneg a'r Gymraeg. Os gwelant fod ganddynt dalent fasnachol, caffed esampl Mr. THOMAS MORGAN, o'r Groeswen, ger Caerphili, ei hargraph ddyladwy arnynt. Dyma weithiwr o Gymro yn myned i Gaerdydd i berffeithio ei Saesneg. Aeth oddi yno i Nantes, ar yr afon Loire, yn Ffraingc, lle y dysgodd y Ffrangcaeg yn dda. Yna cawn ef yn Hamburg, yn yr Almaen, yn dysgu German. Y mae yn awr yn un o farsiandwyr mwyaf prif borthladd y Cyfandir-sef y ddinas a enwyd, ar yr afon Elbe. Pan y talodd ymweliad â'r Groeswen, yr oedd yn hyfryd gan ei hen gyfeillion glywed ei wraig Almaenaidd yn canu hen bennillion Cymreig. Y mae codiad y Cymro ymroddgar a galluog yma wedi dylanwadu yn barod yn ddaionus ar ymgais ei berthynasau, ac eraill. Y mae y byd yn agored i'r Cymro, yn gystal ag i'r Sais; a chyda dwy iaith, y mae gwell mantais iddo ei feddiannu, os bydd yn gyfartal â'r Sais mewn gallu naturiol a dadblygiad addysgawl.

Nid ydwyf yn credu yn y dull cyffredin o addysgu ieithoedd y Cyfandir yn Lloegr. Gadewch i ni, yn Nghymru, gael cynllun gwell. Gofalwn am ddwy iaith i'r bachgen a'r ferch - y Saesneg a'r Gymraeg, y rhai y gallwn eu haddysgu yn rhad iddynt. Yna danfonwn hwynt yn llawn gwroldeb, ac yn feddiannol ar allu ieithyddol ddysgybledig i ddysgu y tafodiaethau chwanegol yn y gwledydd lle y defnyddir hwynt. Yn y modd hwn, cawn, nid yn unig fasnachwyr a masnach-wragedd, ond hefyd athrawon ac athrawesau a allant egluro i'r Cymry dwy-ieithawg - fel y gwnaeth Mrs. THOMAS, o Landegai, i fechgyn Arfon - tebygolrwydd y Gymraeg a'i dullweddau i ieithoedd y Cyfandir, yn gystal a'u cyssylltiadau â'r Saesneg. Pa bryd y daw yr amser pan yr edrychir ar allu i ddefnyddio y Gymraeg, yn gystal a'r Saesneg, yn gymmhwysder pwysig i egluro y Groeg a'r Lladin, yn y rhai a'u haddysgant, o gadeiriau ein prif golegau?

Anghofiais ddyweyd, yn y man priodol, wrth Gymry Liverpool, fod Mr. C. T. WHITMELL, M.A., arolygwr ei Mawrhydi dros ysgolion Caerdydd, wedi fy hysbysu fod Hebraeg yn cael ei haddysgu i Iuddewon y dref hono mewn ysgol sydd yn derbyn tâl oddi wrth y Llywodraeth. O'r hyn lleiaf, gwnaethid hyny yn 1883, pan yr oedd efe yn ymweled âg ysgolion Liverpool. Nid diffyg parch i'r

 

 

A screenshot of a computer

Description automatically generated with medium confidence (tudalen 53) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6693)

53
Gymraeg, yn ddiau, ydyw yr achos fod Cymry Liverpool ar ol yr Iuddewon yn y peth hwn. Onid anystyriaeth yn unig sydd yn gyfrifol am hyn?

Yr eiddoch yn gywir,

CAERDYDD, Gorphenaf 21ain, 1885.

D. ISAAC DAVIES.

LLYTHYR VIII.

FONEDDIGION,

Yr ydym yn tynu tuag at y terfyn, a rhaid ymdrin â'r cwestiwn mewn llaw yn ymarferol.

Y mae Local Option, neu Ddewisiad Lleol, yn eiriau adnabyddus i ni erbyn hyn. Ar ryddid lleol y mae ein cynllun o addysg wedi cael ei sylfaenu. Y mae y Llywodraeth yn Llundain yn talu rhan fawr o gostau pob ysgol elfenol; ond nid ydyw yn gorfodi unrhyw ysgol i addysgu y plant ond i ddarllen, i ysgrifenu, i sillebu, i rifo, a'r merched i wnïo. Y mae pob peth arall yn wirfoddol. Os bydd y plant yn canu yn yr ysgol ddyddiol, y maent yn canu, nid am fod yn rhaid iddynt ganu, ond am fod y pwyllgor lleol yn dewis iddynt ganu. Os bydd Grammadeg, Daearyddiaeth, Darlunio, Gwyddoniaeth Elfenol, Hanesyddiaeth, Lladin, Ffrangcaeg, Coginiaeth Ymarferol, &c., yn cael eu haddysgu, addysgir hwynt, neu rai o honynt (canys nis gellir mabwysiadu mwy na nifer pennodol o honynt) o herwydd fod y Bwrdd Lleol, neu Bwyllgor yr ysgol, yn unol â chyfarwyddyd yr athraw, neu'r athrawes, yn dewis eu haddysgu.

Felly gwelir, mewn cynllun o ryddid lleol o'r fath yma, nad ydyw yn bossibl i wthio y Gymraeg i ysgol, nac ar ardal, yn erbyn ei hewyllys. Y cyfan y mae y Llywodraeth yn ei wneyd ydyw, talu chwaneg lle yr addysgir mwy o bethau, os addysgir hwynt yn dda, ac heb niweidio yr addysg yn yr anhebgorolion a enwyd yn barod. Ond ni thelir cymmaint a ‘dimai goch' yn bresennol am ‘Y Gymraeg.' Fe delir am addysgu y Wyddelaeg yn yr Iwerddon, ac am addysgu y Gaelaeg yn yr Ysgotland, ond ni roddir ffyrling tuag at addysgu y Gymraeg yn Nghymru.

Bai pwy ydyw hyn? Nid bai y Llywodraeth. Y maent wedi bod yn parchu y Gymraeg yn y cynllun addysgol. Deng mlynedd ar hugain yn ol, yr oedd papyr Cymraeg yn cael ei roddi i bob

 

 

 (tudalen 54) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6694)

54
athraw neu athrawes Gymreig fyddai yn ymgeisydd am un o drwyddedau y Llywodraeth. A thelid swm o arian yn flynyddol iddynt, os yn cadw ysgol yn Nghymru, ar ol llwyddiant unwaith yn yr arholiad Cymraeg. Pan oso wyd terfyn ar hyn, o herwydd fod y Cymry yn diystyru y fraint, nid ynganwyd cymmaint a gair yn erbyn y cyfnewidiad gwrth-Gymreigaidd hwn! Ni chlywyd llais o gondemniad yn cyfodi o unrhyw g
ŵr o Gymru!

Yn awr, pan y bydd bechgyn a merched Cymru yn ymgeisio, ar derfyn eu gyrfa fel dysgybl-athrawon (pupil-teachers), am Ysgoloriaethau y Frenhines, rhoddir iddynt gyfle i gael marciau (marks) am y Lladin, y Ffrancaeg, neu'r Almaenaeg-yn chwanegol at y rhai a geir am wersi mwy cyffredin. Y mae y marciau hyn yn cynnorthwyo yr ymgeiswyr, nid yn unig i basio, ond i gyrhaedd lle anrhydeddus ar y rhestr. Gosodir yr enwau yn nhrefn y nifer o farciau a ennillir. Nid oes gyfle yn cael ei roddi i'r Cymro, neu y Gymraes, i sicrhau addysg râd yn y dyfodol, a chlod ar yr un pryd, drwy ddangos eu gwybodaeth o'u hail iaith hwynt. Ond a ddylid goddef i hyn barhau? Paham na roddir cwestiynau ar y Gymraeg ochr yn ochr â'r ieithoedd eraill er mantais i blant y Cymry? Oni ddylem gael cyfnewidiad buan yn y cyfeiriad hwn?

Yn Mhrifysgol y Deheudir, sef yn Ngholeg Caerdydd, y mae y Gymraeg yn cynnorthwyo y Cymro a'r Gymraes i ennill ysgoloriaethau gwerthfawr, fel y mae hi yn gwneyd yn Aberystwyth, a Bangor, a Llanbedr. Paham na cheir yr un fraint yn Ngholegau yr Athrawon yn Mangor, Caerfyrddin, a Chaernarfon, ac yn Ngholeg yr Athrawesau yn Abertawe? A phaham nad addysgir y Gymraeg i efrydwyr y colegau hyn? Rhoddir papyrau yn y Lladin, y Roeg (er mwyn Ysgotland), y Ffrangcaeg, a'r Almaenaeg, ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf o'u hefrydiaeth, a thrachefn ar ddiwedd yr ail flwyddyn; sef, yr olaf o'u harosiad yn y coleg. Paham na roddir yr un chwareu teg i'r Gymraeg?

Y mae llawer o feibion a merched Cymru yn ennill tyst-ysgrifau (certificates) heb fyned i'r colegau, ar ol gwasanaethu gyda llwyddiant fel athrawon ac athrawesau cynnorthwyol am dymmhor. Byddai yn rhwyddach i'r rhai hyn, mewn llawer man, i gael addysg effeithiol yn y Gymraeg nag yn y Lladin, y Ffrangcaeg, neu'r Almaenaeg. Paham na roddir y cyfle iddynt i ddringo yn uwch drwy y Gymraeg nag y mae yn bossibl iddynt gyrhaedd iddo o dan y drefn bresennol? Gallent wneyd eu llwyddiant yn fwy sicr, neu eu lle yn y rhestr yn fwy anrhydeddus, pe y caffent bapyr ar y Gymraeg i'w atteb. Ond, dealler, nid bai y Llywodraeth ydyw y sefyllfa anfoddhaol bresennol ar bethau. Ni ofynodd y Cymry erioed am fraint o'r fath!

 

 

A black and white document

Description automatically generated with low confidence (tudalen 55) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6695)

55

 


'A ydych am addysgu y Gymraeg yn y rhanau Saesnig o Gymru?’ meddai un o'r brodyr ammheus.' Nid ydym am addysgu y Gymraeg mewn unrhyw fan, os na bydd teimlad y lle o blaid hyny. Ond gan eich bod wedi cyfeirio at ein Cymru Saesnig,’ ceisiwn ddangos y gellid yn rhwydd ddysgu rhyw gymmaint o Gymraeg yno, er mantais i bawb yn ddiwahaniaeth.

Onid ydych wedi cael eich poeni wrth weled L
lantrissant yn lle Llantrisant, Ynishir yn lle Ynyshir, Gorseinon yn lle Corseinon, Waunarlwydd yn lle Gwaunarlwydd, Landore yn lle Gland ŵr, Troedyrhiew yn lle Troed-y-rhiw, &c.? Ai hyfryd genych glywed Cleidak yn lle Clydach, Langennek yn lle Llangennech, Nuwad yn lle Neuadd, &c.? Dywedodd y Proffeswr Powel wrthyf y gellid clywed dyn, un tro, yn gofyn yn ngorsaf Llanymddyfri am y ffordd i Silicum. Nid oedd neb yn adnabod y lle. Gofynwyd iddo ysgrifenu yr enw. Gwyddai pawb am Cil-y-cwm! Gofynodd boneddwr unwaith i gyfaill i mi a elai efe gydag ef i Cadle - gan seinio enw y lle fel cradle. Methodd y Cymro yn lân ag adnabod y gair hyd nes yr ysgrifenwyd ef. Nid oes esgus yn y byd y gellir ei roddi am gamsyniadau o'r fath, ond ein hesgeulusdra ein hunain fel Cymry. Y mae mor hawdd i'r Sais ddyweyd Cadle ag ydyw i'r Cymro; ond ni chafodd efe gyfle i ddysgu sŵn y llythyrenau Cymreig yn yr ysgolion dyddiol. Gellid yn rhwydd addysgu y plant yn mhob ysgol yn Nghymru i seinio geiriau Cymreig yn briodol, ac yn y modd hyn roddi terfyn ar yr anafu a'r mwrddro sydd yn myned yn mlaen yn awr. Dyna'r gair Eisteddfod - rhydd drafferth anghyffredin i'r Saeson. Rhwydd fyddai dangos fod eis yn atteb i'r gair Saesneg am iâ, sef ice; fod tedd fel teth yn tether; mai v ydyw f yn fod, a bod yr acen yn syrthio ar yr ail sill. Yn y modd hwn, dysgid y Sais yn rhwydd i seinio y gair Eisteddfod gystal a'r Cymro.

Rhwydd hefyd fyddai canu geiriau Cymreig yn yr ysgolion dyddiol, a thrwy hyny ddysgu y plant yn gyffredinol i s
ŵnio yr ch a'r ll, ac unrhyw seiniau eraill sydd yn briodol i'r Gymraeg. Nid ydyw y Mundella Code yn dyweyd fod yn rhaid canu bob amser yn Saesneg. Yr ydwyf lawer gwaith, er fy nychweliad o Loegr, wedi cael yr hyfrydwch o wrandaw alawon a geiriau Cymreig, hen a diweddar, yn cael eu canu yn ein hysgolion dyddiol. Er dwyn hyn oddi amgylch, nid oes un angenrheidrwydd am gael gwared o'r athrawon a'r athrawesau Saesnig. Yn ysgol fawr Dowlais, y mae y brif athrawes yn Saesnes, a'r ail athrawes yn Gymraes. Dysgir y merched i ganu yn swynol yn y ddwy iaith. Y mae yn anhawdd dyweyd pa un ai yr arolygwyr (managers), yr athrawesau, y merched, neu yr arholwyr, oedd yn mwynhau y canu dwy-ieithawg

 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 56) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6696)

56


fwyaf y troion yr ymwelais â'r ysgol liosog a llwyddiannus hono. Nid i fy nylanwad i y mae yr arferiad a enwais i'w briodoli. Dechreuodd pan yr oeddwn tu draw i Glawdd Offa

a dechreuad dedwydd ydoedd hefyd! Yn ddiweddar, clywais blant bach ysgol y babanod yn Ferndale, Cwm Rhondda Fach, yn canu action songs yn y Gymraeg, yn gystal ag yn y Saesneg. Dylai y Cymry yn gyffredinol weled mwynhâd eu plant pan y byddant yn canu geiriau y medrant eu deall. Ychydig iawn y mae gwladgarwyr, cerddorion, a beirdd Cymru wedi ei feddwl am blant ein hysgolion dyddiol. Dyma wythïen newydd, gyfoethog, iddynt, a dâl am ei gweithio. Dyma gyfle iddynt wneyd gwaith gwladgarol, ac ar ddangos eu galluoedd a'u hathrylith ar yr un pryd.

Nid ydyw yr hyn yr ydym wedi ei awgrymu hyd yma yn gofyn am unrhyw gyfnewidiad yn y gyfraith, nac yn nghynllun y Pwyll gor Addysg, er ei ddwyn oddi amgylch. Y mae y rhyddid i wneyd y pethau hyn yn awr yn nwylaw y rhai sydd yn rheoli Ysgolion Cymru! Ac nid ydym etto wedi dyhysbyddu ein ymchwiliad i eangder yr awdurdod leol sydd ganddynt.

Gwyddys yn dda fod yr Ysgolion Gwirfoddol, sef y rhai nad ydynt dan y Byrddau, yn gosod pwys mawr ar yr addysg grefyddol a gyfrenir ynddynt. Nid ydyw y Llywodraeth yn talu dim at yr addysg grefyddol hon. Y cwbl sydd gan Arolygwr ei Mawrhydi i'w wneyd ydyw, gofalu fod rhybudd amlwg i rieni yn cael ei osod i fyny yn mhob ysgoldy, er eu hysbysu pa bryd y cyfrenir yr addysg grefyddol - naill ai ar ddechreu yr ysgol, neu ar ddiwedd yr ysgol, neu mewn rhan ar y dechreu, a'r gweddill ar y diwedd. Rhaid fod dwy awr glir o addysg fydol; a gall rhieni, os mynant, roddi gorchymyn nad ydyw eu plant hwy i gyfranogi o'r addysg grefyddol. Nid ydyw y Llywodraeth yn dyweyd fod yn rhaid fod addysg grefyddol o gwbl. Os rhoddir addysg grefyddol ynddynt, nid ydyw y Llywodraeth yn dyweyd beth ydyw i fod, na pha fodd y dylid ei roddi Nid ydyw y Llywodraeth yn ymholi chwaith i'w effeithioldeb. Dengys hyn fod yr addysg grefyddol yn llwyr yn nwylaw pwyllgor yr ysgol, ac nad ydyw yn rhaid ei roddi yn y Saesneg mewn ardal Gymreig.

Y mae yn ddigon tebyg fod llawer o glerigwyr Cymru heb sylwi erioed fod y rhyddid hwn yn eu meddiant hwythau. Ond felly y mae. A chan fod JONES o Landdowror, a CHARLES o'r Bala, wedi dangos cymmaint mwy effeithiol ydyw addysg grefyddol yn y Gymraeg mewn plwyfydd Cymreig, y mae yn ddigon possibl y gwelir cyfnewidiad er gwell cyn bo hir yn y cyfeiriad hwn. Os ydyw rheolau y gwahanol esgobaethau yn gwahardd addysg grefyddol yn y Gymraeg, nid bai y Llywodraeth ydyw hyny. Ac nid


 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 57) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6697)

57

ces eisieu caniatâd y Pwyllgor Addysg er ei newid. Ar yr esgobion Cymreig, eu cynghorwyr, a'u clerigwyr, y gorphwys y cyfrifoldeb am hyn o beth yn ysgolion yr Eglwys. A ydynt yn barod i roddi prawfion o'u ffyddlondeb i'r Gymraeg fel y cyfrwng goreu i gyfranu addysg grefyddol i blant y Cymry?

Ond nid yr Ysgolion Gwirfoddol yn unig sydd yn meddu y rhyddid y cyfeiriwyd ato. Perthyna yn yr un modd i Ysgolion y Byrddau. Cyfrenir addysg grefyddol, a darllenir y Beibl, mewn llawer o Ysgolion Byrddol. Nid oes raid iddynt hwy chwaith i agor eu drysau i'r Beibl Saesneg, a'u cau yn erbyn y Beibl Cymraeg. Y mae yn rhydd iddynt hwythau roddi addysg grefyddol yn y Gymraeg, os barnant hyny yn ddoeth. Dewisiad Byrddau Ysgol Cymru eu hunain ydyw rhoddi addysg grefyddol aneffeithiol yn y Saesneg i'r plant, yn lle rhoddi addysg grefyddol effeithiol iddynt yn y Gymraeg.

Yr ydwyf wedi manylu ar y mater hwn, o herwydd fy mod am ddangos yn eglur mai o blith y Cymry eu hunain y mae'n rhaid i waredigaeth ddyfod oddi wrth yr iau Saesnigol drom yr ydym â'n dwylaw ein hunain wedi ei gosod oddi amgylch ein gyddfau.

Ceisiaf egluro fy meddwl mewn dull arall. Pa le y mae y Cymro nad ydyw wedi sylwi fod ffyrdd haiarn ein gwlad yn ddylanwad Saesnigaidd o'r radd flaenaf
- yn ddylanwad sydd yn fynych yn tueddu at fod yn annhêg? Ond nid ydyw yn fy nghalon i feio y Saeson yn gymmaint a'r Cymry. Cymmerwch y prif linellau - y cwmnïau mawr; sef, y Great Western, y London and North Western, y Midland, a'r Taff Vale. Y mae canolbwynt awdurdod y rhai hyn yn Llundain, neu Derby, neu Bryste, neu rhyw ran arall o Loegr. Nid ydyw y prif swyddogion yn gwybod fawr yn uniongyrchol am ein gwlad, ein anghenion, na'n teimladau cenedlaethol. Un ddalen yn unig o'r llyfr y maent yn edrych arno — y ddalen fasnachol. A ydym wedi ceisio ganddynt ddarllen y dalenau eraill? A ydym wedi anfon penderfyniad, neu ddeiseb, o unrhyw Eisteddfod Genedlaethol, neu Leol, yn gofyn am iddynt ddewis swyddogion dwy-ieithawg i lanw bylchau, pan y meddiennir y cymmhwysderau angenrheidiol eraill gan eu gweision sydd yn medru Cymraeg a Saesneg?

Y mae y Meistri TALBOT & DILLWYN wedi bod yn aelodau seneddol, ac yn gyfarwyddwyr y Great Western Railway er's blynyddoedd lawer. A ofynwyd iddynt erioed gan unrhyw eth
olwr i arfer eu dylanwad o blaid appwyntio swyddogion dwy-ieithawg? Yr wyf yn ofni na wnaed hyn; a dywedaf wrthych paham. Y mae yn rhaid i'r Cymry, o Geredigion, o Ogledd Penfro, ac o Gaerfyrddin, sydd am fyned i Maesteg, Cwmogwr, neu Gwmgarw, newid y trên

 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 58) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6698)

68

yn Mhen-y-bont-ar-Ogwy. Dywedwyd wrthyf gan Mr. Llewel
yn, sydd yn ein gyru o'r orsaf hon i'r ysgolion cylchynol, ei fod wedi cael ei alw i mewn lawer tro i gyfarwyddo rhyw Gymro nen Gymraes un-ieithawg pa fodd i newid i'r cerbyd iawn, o herwydd nad oedd neb o swyddogion y Great Western Railway yn y lle yn deall Cymraeg! Nis gallaf gredu fod y Meistri Dillwyn a Talbot wedi gwrthod defnyddio eu dylanwad er uuioni cam o'r fath, os dangoswyd ef iddynt. Y gwir yw hyn: — y mae'r Cymry sydd yn gallu siarad yn Saesneg wedi peidio gwneyd eu dyledswydd dros eu brodyr a'u chwiorydd un-ieithawg oedd yn dioddef caledi heb yn wybod i'r Saeson. 'O! (meddai rhywun), y mae y cwmpeini yna yn rhy gryf, yn rhy alluog, ac yn rhy fawr i dalu sylw i Gymro!' Yr wyf fi yn oredu eu bod yn ceisio ymddwyn yn deg tuag atom; ac mai mewn anwybodaeth, neu o ddiffyg ystyriaeth, y mae'r cam yr ydym yn achwyn o'i herwydd yn cael ei wneuthur. Ond, pe byddai iddynt ddal at y camwri, ar ol iddo gael ei ddangos iddynt mewn ffordd foneddigaidd, camsyniad hollol ydyw meddwl eu bod tu hwnt i gyrhaedd gallu gwlad o bobl, sydd yn awr ar ddyfod i feddiant o'r bleidlais seneddol.

Nid ydwyf yn ymyraeth â gwleidyddiaeth bleidiol yn y llythyra
u hyn. Nid â Rhyddfrydwyr, nac â Cheidwadwyr, yr wyf yn ymwneyd — ond â Chymu. Pe byddai holl aelodau seneddol Cymru yn deall eu gilydd ar y mater hwn, yn deall fod teimlad dwys yn y wlad mewn perthynas iddo, a'i fod yn ein bryd i ail unioni y cam a wneir yn awr, yn anfwriadol, â llawer Cymro un-ieithawg, nid oes un cwmpeini yn Nghymru tu hwnt i ddylanwad Plaid Gymreig unedig. Cofier, fod yn rhaid i gwmniau y ffyrdd haiarn fyned, o bryd i bryd, i geisio cyfreithiau newyddion, a chyfnewidiadau yn yr hen rai. Ar adegau o'r fath, y mae eu cyfarwyddwyr yn barod i wrandaw ar reswm, ac i roddi gorchymynion i'w swyddogion i ofalu am ymddwyn yn y fath fodd fel y gallant barhau i sicrhau cydymdeimlad y wlad.

Y mae yn ddrwg genyf fod yn rhaid terfynu y llythyr hwn heb fwy na chrybwylliad am gynnygiad Mr. Beriah Gwynfe Evans, fel y dadblygwyd ef yn y
Gweithiwr Cymreig, yn Nghyfaill yr Aelwyd am y mis hwn, ac yn y South Wales Daily News, Nid ydyw efe yn ystyried fod cynllun y Cymmrodorion i ddwyn y Gymraeg i mewn i'r Cynllun Addysgol fel Cangen Neillduol (Specific Subject) yn myned yn ddigon pell i gyfarfod anghenion Cymru Gymreig. Creda efe y gellir dysgu darllen Cymraeg a Saesneg ochr yn ochr gyda rhwyddineb; ac y dylai y class-subject — English gael ei drawsffurfio, er mwyn ei wneyd yn gymmhwys i'r ysgolion Cymreig; gyda rhyddid, bydded hyn yn ddealladwy, i barnau gyda'r

 

 

A screenshot of a computer

Description automatically generated with medium confidence (tudalen 59) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6699)

59 cynllun presennol, os bydd unrhyw ysgol yn ystyried ei fod yn atteb i'w hamgylchiadau yn well. Taflwyd allan y syniad am gyfaddasu Saesneg (English) i ysgolion Cymru yn gyntaf gan Mr. E. ROBERTS, M. A., Is-arolygwr Ysgolion dros ei Mawrhydi yn Môn ac Arfon.

Y mae y Gogledd, y Canolbarth, a'r Deheudir, yn teimlo un ac oll fod eisieu cyfaddasu ein Cyfundrefn o Addysg, yn ei holl fanylion, at gyflwr arbenig ein gwlad.

Yr eiddoch yn gywir,

LLANDYBIE, Awst 12fed, 1885.


LLYTHYR IX.

D. ISAAC DAVIES.

FONEDDIGION,

Hwn fydd fy llythyr diweddaf; a dechreuaf ar unwaith i ymdrin â'r cynnygiad ymarferol a ddygir i sylw y genedl yn yr ymgynnulliad cenedlaethol yr wythnos ddiweddaf o'r mis hwn. Os cymmeradwyir y cynllun yn Aberdâr, ceir blynyddau o amser, a lluoedd o gyfleusderau, i astudio manylion y cyfnewidiadau yr ydym yn dymuno eu gweled. Nid barn un dyn sydd yn bwysig mewn peth o'r fath; ond trefnu moddion i gael yr hyn y mae meddygon ein gwlad yn ei alw yn Collective Investigation Committee
- Pwyllgor Ymchwiliadol Undebol.

I ysgolfeistriaid Cymru o bob gradd y perthyn y lle blaenaf yn yr ymchwiliad hwn, os ydynt yn ddigon gwladgarol i gymmeryd trafferth i egluro y pwngc i'r genedl. Credwn yn ddiysgog eu bod yn hoffwyr eu gwlad a'u hiaith, ac na adawant eraill i ymdrechu yn y mater hwn heb eu cydweithrediad egnïol hwy. O'r
tu arall, gan fod awenau yr awdurdod mewn trefniadau gwladol wedi syrthio o'r diwedd i ddwylaw y Cymry Cymreig eu hunain, yn y rhan fwyaf o'r tair sir ar ddeg sydd yn gwneyd i fyny y Dosbarth Cymreig (Welsh Division), credwn na adawant i athrawon ysgolion Cymru ddioddef lawer yn hwy oddi wrth yr anfanteision trymion sydd ynglŷn â chynllun o addysg sydd wedi ei barotoi gan Saeson ar gyfer Lloegr, a'r hwn nid ydyw o herwydd hyny yn gymmhwys yn mhob ystyr i Gymry Cymru.

Y mae Cymru yn ddyledus dros ben i Isbwyllgor y Cymmrodorion yn Llundain; sef, i'r Meistri W. E. DAVIES, DAVID LEWIS, I
SAMBARD OWEN, John Owens, T. W. RHYS DAVIDS, a T. MARCHANT WILLIAMS. Esampl ac annogaethau yr olaf a enwyd a fuont yn




 

 

A picture containing text, newspaper, screenshot

Description automatically generated (tudalen 60) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6700)

60

 

foddion i gyfeirio fy sylw gyda mwy o graffder at nerth parhaus a chynnyddol y Gymraeg yn Nghymru. Efe, a'r Meistri STEPHEN EVANS, ac E. VINCENT EVANS, ar ol fy ngwrandaw, pan ymwelsant â Phwyllgor Eisteddfod Aberdâr yn Ionawr diweddaf, a ddangosasant i mi fod rhywbeth genyf i'w ddyweyd eleni fyddai yn dderbyniol gan y genedl; a chymmhellasant fi i ddarllen papyr yn un o gyfarfodydd y Cymmrodorion.

Cadeirydd y cyfarfod hwnw oedd Dr. ISAMBARD OWEN. Dyfnhawyd y farn ffafriol iawn a ffurfiais am dano pan y gwrandewais ef gy
ntaf yn Eisteddfod Liverpool, y llynedd. Nid ydwyf wedi cymmery i cam, o'r dydd hwnw hyd heddyw, yn y mater dan sylw, heb ymgynghori âg ef. O Geredigion, oddi wrth un o ustusiaid heddwch sir Aberteifi, y daeth yr awgrymiad cyntaf am y pwys o ffurfio Cymdeithas Genedlaethol i hyrwyddo y mudiad. Ysgrifenodd Mr. HENRY T. EVANS, o  Neuadd, Llanarth, yn union ar ol ymddangosiad talfyriad fy mhapyr yn y South Wales Daily News, i ddiolch i mi am a wneuthum, ac i ddyweyd fod awr symmudiad o'r fath ar daraw. Yn Ngogledd Cymru, ceisiais gyfarwyddiadau gan Mr. W. CADWALADR DAVIES, yn mhlith eraill; ond ar farn ac ar gynnorthwy calonog ac anhebgorol Mr. THOMAS GEE yr ydwyf wedi bod yn ymddibynu yn fwyaf neillduol. Hyderaf, yn y peth hwn, y gwelir pob rhan o'r wlad yn cydweithio. O'r Canolbarth y daeth y meddylddrych am dano, cymmeradwywyd ef yn Llundain, a gwasgarwyd ef gan newyddiaduron a chyhoeddiadau y Gogledd a'r Deheu.

Derbynie
d yr ysgrifenwyr galluog a lliosog sydd wedi bod yn curo ar yr hoel a darewais yn Llundain yn mis Ebrill diweddaf, ac yn ei gyru adref, a hyny yn y cyhoeddiadau a'r newyddiaduron Saesnig, fel yn y rhai Cymreig, fy niolchgarwch gwresocaf am cydweithrediad. Fel y dywedais ar y dechreu, nid wyf yn meddu ar y gallu llenyddol ac areithyddol sydd yn angenrheidiol i wasgu y pwngc yn deilwng ar feddwl y genedl. Fy amcan ydyw cyffroi eraill, sydd yn fwy deniadol fel ysgrifenwyr, yn fwy hyawdl fel areithwyr, ac yn fwy dylanwadol fel dynion cyhoeddus, i ymaflyd yn y gwaith. Os ceir llwyddiant yn y cyfeiriadau hyn, a chymdeithas i drefnu a rheoleiddio eu gweithrediadau, mi a ddychwelaf yn fy ol yn hapus, i weithio yn ddistaw, ond yn gysson, dros ddyrchafiad plant y Cymry. Yr ydwyf hefyd yn rhwymedig iawn i fy uwch-swyddog, Mr. WILLIAM EDWARDS, a'm cyd-weithwyr, y Mri. JOHN REES a GOMER JONES, am gymmeryd rhan y llew o'm gwaith swyddogol am y chwe mis diweddaf, fel y gallwn wneyd mwy o chwareu teg â'r achos gwladgarol y teimlwn ein pedwar ddyddordeb neillduol ynddo.




 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 61) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6701)

61

 

Y pwngc mawr ydyw cael profion sicr fod yn mryd y Cymry i edrych yn mlaen at 1985 fel nôd uchel i gyrchu ato mewn ystyr cenedlaethol.

Nid oes neb sydd wedi gwneuthur ymchwiliad manwl i gyflwr presennol y Gymraeg yn debyg o goleddu y syniad y bydd hi wedi darfod o'r tir erbyn can mlynedd i heddyw. Etto, cred rhai y bydd hi erbyn hyny wedi myned yn ddiwerth yn ngolwg y mwyaf rif. Dywedir mai i regu y defnyddiwyd y Gernywaeg ddiweddaf. Clywais fod y Parch. W. HOWELLS, llywydd Coleg Trefecca, yn dyweyd mewn pregeth, mai ar ei gliniau ar ben un o fynyddoedd Hen Wlad y Bryniau y rhoddai y Gymraeg i fyny yr ysbryd! Pa fodd y gall hyny ddigwydd, gan fod dosbarth dylanwadol yn ein gwlad yn gwasgu yn barhaus ar ddynion blaenaf pob enwad crefyddol i fyned i gynnorthwyo eu hoff achosion Saesnig? Na, na! Os na chyfnewidir tueddiad a chynlluniau y cyfundebau crefyddol, yn y dafarn, ar esgynlawr y chwareudy, neu mewn llwon a rhegfeydd, o dan y ddaear, yn y pyllau glô, y derfydd y Gymraeg!!! Pa beth a all ei hachub o'r fath dynged? Ein Hysgolion Sabbothol, ein Hysgolion Dyddiol, y Pulpud Cymraeg, y Wasg, a'r Eisteddfod! Gwrandewch ar eiria
u  Deon Llandâf - y Dr. VAUGHAN, Master of the Temple. Y mae efe yn ystyried fod marwolaeth y Gymraeg o fewn terfynau possiblrwydd; ond ymddengys nad ydyw efe yn meddwl fod ei difodiad fel iaith y werin yn agos, nac yn ddymunol -os cedwir hi fel ail iaith. Pa beth ydyw ei gynghor ef? Gellir ei weled yn ei gyflawnder hyawdl yn 'The Transactions of the Royal National Eisteddfod of Wales, held at Cardiff, August 6th, 7th, 8th, and 9th, 1883. Dedicated by special permission to Her Majesty the Queen. Edited by David Tudor Evans.' Dyma gyfrol hardd, gwerth deg swllt, a gwerth ei gosod yn mhob llyfrgell yn Nghymru. Gwnelai lawer iawn i argyhoeddi y Cymry o'r angenrheidrwydd am y gymdeithas y cyfeiriwyd ati uchod pe y darllenid anerchiadau Ardalydd BUTE, a'r Deon VAUGHAN, heb sôn am y gweddill o'i chynnwysiad gwerthfawr. Wele ddyfyniad o anerchiad Deon Llandâf:

'No nation ought to part willingly with her distinctive speech. She ought to cling to it with all fondness. Is she to fling away the speech which was her differentia among the nations? Only treachery and cowardice would counsel it.. She has a patriotic and a religious duty still towards the tongue in which she was born. the perfecting of its language, and the enlarging
of its literature.'

 
Y mae y dyfyniad uchod yn Gymraeg fel y canlyn:

'Ni ddylai unrhyw genedl roddi ei hiaith ei hun i fyny o'i bodd.

 

 

A screenshot of a computer

Description automatically generated with medium confidence (tudalen 62) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6702)

62

 

Dylai lynu wrthi gyda'r anwyldeb mwyaf. A ydyw hi i fwrw ymaith yr iaith oedd yn nôd gwahaniaeth arni yn mysg y cenhedloedd? Ni chynghorid hyny ond gan fradwriaeth a llwfrdra yn unig... Y mae ganddi ddyledswydd wladgarol a chrefyddol o hyd tuag at y dafodiaith y ganwyd hi ynddi i berffeithio ei hiaith, a chyfoethogi ei llenyddiaeth.'

O safle Dr. VAUGHAN, dylem ofalu fod y Gymraeg, pan na siaredir hi mwy, yn cael lle yn y prifysgolion, ochr yn ochr â'r Roeg a'r Lladin. A all y Cymry 'o ychydig ffydd,' sydd yn hoffi gwneyd cyfeiriadau tyner at drangcedigaeth y Gymraeg yn eu pregethau a'u hanerchiadau, wrthod ymuno â'r gymdeithas newydd? Y mae yn anhawdd meddwl eu bod yn caru marwolaeth yr 'hen iaith.' Ond os oes rhai o honynt mor anffyddlawn iddi, gallant, drwy y gymdeithas hon, o leiaf sicrhau marwolaeth anrhydeddus iddi!

Yn yr un eisteddfod, siaradodd Ardalydd BUTE mewn tôn galonogol. Y mae ei anerchiad ef, fel eiddo Deon Llandâf, yn werth sylw ac astudiaeth pob Cymro. A chofied fy narllenwyr fod yr Ardalydd wedi dysgu Cymraeg. Dyma ddyfyniad o hono:


'I would urge you to
cling to the language of your fathers, and to seek through it the developement of literary power and intellectual culture. But let me urge you to seek it in culture. For a man to speak Welsh, and willingly not to be able to read and write it, is to confess himself a boor.'

"Yr wyf yn eich cynghori chwi i lynu wrth iaith eich cyndadau, a thrwyddi i geisio y dadblygiad o allu llenyddol a diwylliant meddyliol. Ond caniatewch i mi eich cymmhell i'w geisio mewn diwylliant. Canys nid ydyw fod dyn yn gallu siarad Cymraeg, ac etto yn wirfoddol yn aros heb fod yn alluog i'w darllen a'i hysgrifenu, yn ddim amgen na hunan-gyffesiad mai lleban ydyw.'

Nid oeddwn yn byw yn Nghaerdydd yn amser yr eisteddfod, ac nid oeddwn yn bresennol chwaith. Pan ddarllenais y frawddeg olaf o'r dyfyniad uchod, teimlais fel pe buasai tân wedi syrthio ar
fy nghroen. Yr oeddwn yn gwybod fod miloedd lawer o Gymry -ï e, cannoedd o filoedd, fel y mae gwaethaf y modd-yn siarad Cymraeg, heb erioed geisio ei hysgrifenu. Plygwn ein penau fel cenedl! I'n cywilydd ni y dywedir hyn; o herwydd y mae calon o wirionedd yn ngeiriau yr Ardalydd. Gofynais i mi fy hun - Ai 'llebanod' ydyw cannoedd o filoedd hyn oll? Wrth feddwl am y mater, gwelais yn eglur mai ar ein cynllun o addysg yr oedd y bai; ac nid ar y dynion, mewn llawer o enghreifftiau. I'r Ysgolion Sabbothol yn mron yn gwbl y mae y genedl yn ddyledus am y gwersi mewn sillebiaeth Gymreig a gawsaut. Ond ychydig iawn




 

 

A black and white document

Description automatically generated with low confidence (tudalen 63) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6703)

63

 

ydyw y manteision a dderbyniwyd yn yr Ysgolion Dyddiol, yr Ysgolion Nos, a'r Cyfarfodydd Llenyddol. Yr wyf wedi bod yn ymddiddan yn ddiweddar âg un o'r Cymry mwyaf anturiaethus a llwyddiannus yn masnach lô Deheudir Cymru. Y mae efe yn hoffi siarad Cymraeg, a gall ei wraig ymddiddan yn Gymraeg âg ef. Y mae rhai, beth bynag, o'u plant hefyd yn medru Cymraeg. Er hyny, ni feiddiodd efe erioed ei hysgrifenu. Y mae ofn gwneyd gwallau mewn sillebiaeth wedi ei rwystro - fel y mae yn rhwystro llawer i Gymro arall. Ond mor rwydd y gellid symmud y rhwystr hwn oddi ar y ffordd! Cynted y cynnyddai yr awydd i ddarllen a gwellhau llenyddiaeth Gymreig! Uched yr elai ein parch at y Gymraeg! Cryfed y byddem o ganlyniad mewn hunanbarch a gwroldeb cenedlaethol!

Er mwyn cynnorthwyo plant y Cymry un-ieithawg i ddysgu Saesneg yn gynt, ac yn well
- er mwyn rhoddi cyfle i blant ein cymmydogion, a'r dyfodiaid i'n gwlad, i ddysgu iaith eu gwlad fabwysiedig er mwyn cynnorthwyo ein masnachwyr dyfodol i eangu eu masnach drwy gynnyddu eu gallu ieithyddol — er mwyn y dadblygiad meddyliol sydd yn cydfyned â'r gallu ieithyddol a dardda o'r arferiad cyffredinol o ddwy iaith — er mwyn cryfhau y teimlad cynnyddol, fod tegwch tuag at y tlawd, yr egwan, a'r hen, yn galw am fwy o swyddogion dwy-ieithawg o ddydd i ddydd — er mwyn, yn y modd hyn, barotoi swyddau i'r plant Cymreig, y rhai a gymmhellwn yn daer i fynychu ein hysgolion o bob gradd, ac er mwyn eu cymmhwyso i lenwi y fath swyddau - er mwyn cryfhau ein hasgwrn cefn cenedlaethol-ac er mwyn sicrhau safle fwy parchus i'n cenedl yn mhlith cenedloedd eraill bydded i ni ffurfio cymdeithas a hyrwydda y gwaith o iawn ddefnyddio y Gymraeg fel ail iaith yn ein Hysgolion Dyddiol o bob gradd!

Pwy bynag na all fod yn bresennol yn Aberdâr, ysgrifened at y cadeirydd, Dr. ISAMBARD OWEN, neu ataf fi, air a'n calo
noga, ac a'n cynnorthwya.

Gan ddiolch yn fawr i chwi, Foneddigion, am ganiatau i mi gymmaint o'ch gofod,

Yr eiddoch yn gywir,

LLANDYBIE, Awst 19eg, 1885
D. ISAAC DAVIES.

 




 

 

A screenshot of a computer

Description automatically generated with medium confidence (tudalen 64) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6704)

64

 

CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG.

[CYSSYLLTIEDIG A CHYMDEITHAS ANRHYDEDDUS Y CYMMRODORION.]

CYNNALIWYD cyfarfod yn Adran y Cymmrodorion o'r Eisteddfod Genedlaethol yn Aberdâr, Awst 27ain, i ystyried y priodoldeb o ddwyn yr iaith Gymraeg i mewn i'r gyfundrefn o Addysg Elfenol ac Uwchraddol yn y rhanau Cymreig o Gymru. Yr oedd y cyfarfod yn un tra lliosog — yn cynnwys nifer fawr o aelodau byrddau ysgol, athrawon, ac eraill cyssylltiedig âg addysg. Ar ol ystyriaeth o'r cwestiwn, ac ymddiddan arno, pasiwyd y penderfyniad canlynol yn unfrydol:

'Ei
bod yn ddymunol i ffurfio cymdeithas i hyrwyddo defnyddiad yr Iaith Gymraeg yn nghyfundrefn addysg Cymru.'

Mewn canlyniad i'r penderfyniad uchod, cynnaliwyd cyfarfod rhagbarotoawl o gyfeillion y mudiad y dydd canlynol, pan y penderfynwyd ffurfio y cyfryw gymdeithas yn ddioed. Rhoddodd pawb oedd yn bresennol eu henwau fel aelodau; a phennodwyd Mr. BERIAH GWYNFE EVANS, Llangadog, yn ysgrifenydd.

Dealler, nad amcan y gymdeithas ydyw rhwystro lledaeniad yr iaith Saesnig, na chwaith neillduo nac unigoli y genedl Gymreig. I'r gwrthwyneb
- un o amcanion pendant a phwysicaf y gymdeithas yw sicrhau gwybodaeth mwy deallol a synwyrol o'r iaith Saesnig yn ein hysgolion trwy ddefnyddio y Gymraeg fel cyfrwng addysgol.

Mewn gair, amcan y gymdeithas hon ydyw sefydlu cyfundrefn o addysg ddwy-ieithawg, tebyg i'r hyn a geir yn awr yn Switzerland, yn rhanau Ffleminaidd Belgium, ac mewn amryw o ranbarthau o ymherodraeth Awstria. Tybia sefydlwyr y gymdeithas y byddai i'r cyfryw gyfundrefn o addysg gynnorthwyo gwrteithiad galluoedd deallawl y plant, a hyrwyddo y gwaith o ddysgu yr ail iaith yn drwyadl; ac y gellid ei sefydlu yn y rhanau hyny o Gymru lle y siaredir y Gymraeg yn gyffredin, heb ond ychydig, os dim, chwanegiad at y llafur a ofynir yn awr i ddysgu Saesneg i'r plant dan y gyfundrefn bresennol.

Ni fwriedir dwyn gorfodaeth i mewn o gwbl. Dymunir dwyn yr egwyddor newydd i mewn yn raddol, ac yn arbrawfiadol; a'i

 



 

 

A screenshot of a computer

Description automatically generated with medium confidence (tudalen 65) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6705)

65


gadael at ddewisiad awdurdodau ac athrawon pob ysgol i dderbyn neu wrthod y cynllun newydd.

Rhoddir yma ddyfyniadau o'r sylwadau gwerthfawr a wnaed gan Arglwydd ABERDAR a Dr. ISAMBARD OWEN, yn yr ymddiddan a gymmerodd le yn y cyfarfod yn y ddwy iaith.

 

From Lord ABERDARE's Address as Fresident of the National Eisteddfod, on Thursday, August 27th, 1885.

'A good deal has been said about the decay of the Welsh language, and the question has been raised as to the increase or decrease of the Welsh-speaking population. I have no doubt that, if you look to Wales generally, you will find along the Eastern border-the part nearest to England — a decided advance of the English language. Territorially, therefore, I think the country inhabited by the Welsh-speaking population is shrinking, but the population of these border parishes is small. When we come to the great centres of population, I don't feel sure that, although English is making progress, the Welsh is decreasing. I have said, and I repeat it now, that in my belief there are more people speaking Welsh now than ever spoke Welsh at any previous period of our history. In connection with this subject, there is another occupying much attention at this moment; that is, the question of mak ng the teaching of Welsh a part of the education at our Elementary Schools. The Cymmrodorion Society, which, side by side with our Eisteddfod, is doing such good work, has published an admirable paper on the subject; which contains, I think, all that can be said for or against it. There is nothing to prevent the trial of the experiment to teach Welsh at our Schools, but that experiment must be tried under two conditions. One is, that the large majority of the children at these schools shall be Welsh-speaking children; and the other is, that the teachers shall not only be Welsh-speaking, but shall be capable of teaching Welsh grammatically. I have no doubt that in many parts of Wales the first of these conditions can be fulfilled, and that you can find a decided majority of Welsh-speaking children. But the difficulty of getting masters and mistresses to teach the Welsh language grammatically, although not insurmountable, is one which strikes me strongly at the present moment. These are difficulties to be overcome
- but difficulties are generally made to be overcome, and I should like myself to have the experiment tried. I think we have reason and authority for teaching the language in the more Welsh-speaking parts of Wales. My own belief is, that the children who are systematically taught Welsh would learn English and other subjects fully as fast, if not faster, than if they were not taught Welsh. When I was Vice-president of the Committee of Council on Eduaction, I took great pains to inquire whether the Welsh suffered from the individual examination of children at seven years of age. And



 

 

A picture containing text, newspaper, screenshot

Description automatically generated (tudalen 66) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6706)

66
I found that it was not so; but that they learned fully as much, and passed as good an examination, as exclusively English-speaking children. I think that argument fortifies the opinion of those who think that the acquisition of the second language has great effect in sharpening the intellect, and enabling the child to apply itself with a better prospect of success to other subjects'

Y mae y sylwadau uchod o Anerchiad Arglwydd ABERDAR fel Llywydd yr Eisteddfod Genedlaethol, ddydd Iau, Awst 27ain, 1885, fel y canlyn yn Gymraeg:

'Y mae llawer iawn wedi ei ddyweyd ynghylch darfodedigaeth yr iaith Gymraeg; ac y mae y cwestiwn wedi ei godi
- pa un ai cynnyddu, ynte lleihau, y mae nifer y boblogaeth sydd yn siarad Cymraeg. Os edrychwch ar Gymru yn gyffredinol, nid wyf yn ammheu na chewch, ar hyd y terfyn dwyreiniol --  y rhan agosaf at Loegr - fod yr iaith Saesnig wedi gwneyd cynnydd diammheuol. Wrth edrych ar y terfynau, gan byny, yr wyf yn meddwl fod y wlad a breswylir gan y boblogaeth sydd yn siarad Cymraeg â'i therfynau yn lleihau; ond bychan ydyw poblog. aeth y plwyfi hyny sydd ar y terfyndir. Pan y deuwn i'r rhanau o'r wlad lle y mae y boblogaeth yn fawr, nid wyf yn teimlo mor sicr fod y Gymraeg yn lleihau, er y cynnydd a wneir gan y Saesneg. Dywedais ar achlysur blaenorol, ac yr wyf yn ei ail ddyweyd yn awr, mai fy nghred i ydyw, fod mwy o bobl yn siarad Cymraeg yn awr nag a fu yn ei siarad mewn unrhyw gyfnod erioed yn ein hanes. Mewn cyssylltiad â'r cwestiwn hwn, y mae un arall yn tynu cryn sylw ar yr adeg bresennol; sef, y cwestiwn ynghylch dysgu Cymraeg fel rhan o'r addysg a gyfrenir yn ein Hysgolion Elfenol. Cyhoeddodd Cymdeithas y Cymmrodorion, yr hon sydd yn gwneyd cymmaint o waith da ochr yn ochr â'r Eisteddfod, bapyr rhagorol ar y pwngc; yr hwn a gynnwys, yn ol fy marn i, y cwbl sydd i'w ddywedyd o'i blaid, ac yn ei erbyn. Nid oes dim yn erbyn rhoddi prawf ar ddysgu Cymraeg yn ein hysgolion; ond bydd raid gwneyd y prawf hwnw dan ddau ammod. Un ydyw, fod y mwyafrif o'r plant yn yr ysgolion hyny yn blant sydd yn arfer siarad Cymraeg; a'r llall yw, fod yr athrawon, nid yn unig yn gallu siarad Cymraeg, ond hefyd yn alluog i ddysgu Cymraeg yn rammadegol. Nid wyf yn ammheu nad ellid cael y cyntaf o'r ammodau hyn mewn llawer o fanau yn Nghymru ac y gellir cael mwyafrif diammheuol o blant fydd yn siarad Cymraeg. Ond y mae yr anhawsder i gael athrawon ac athrawesau i ddysgu yr iaith Gymraeg yn rammadegol, er nad ydyw yn un nas gellir ei orchfygu, yn fy nharo i yn gryf ar y foment hon. Anhawsderau sydd i'w gorchfygu ydyw y rhai hyn — ond y mae anhawsderau wedi eu gwneyd i'w gorchfygu; ac o'm rhan fy hun, byddai yn dda genyf weled prawf yn cael ei wneyd ar hyn. Yr wyf yn meddwl fod genym resum ac awdurdod dros ddysgu yr iaith yn y rhanau o Gymru y siaredir y Gymraeg ynddynt. Fy nghred bersonol ydyw, am y plant y dysgid



 

 

A picture containing text, newspaper, screenshot

Description automatically generated (tudalen 67) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6707)

67
Cymraeg yn rheolaidd iddynt, y dysgent Saesneg, a phethau eraill hefyd, yn llawn mor gyflym, os nad yn gyflymach, na phe na ddysgid Cymraeg iddynt. Pan yr oeddwn i yn Is-lywydd y Cynghor Addysg, cymmerais gryn drafferth i ymholi, a oedd plant y Cymry yn dioddef yn yr arholiadau personol a wneid ar blant pan yn saith mlwydd oed. A chefais nad oedd hi yn bod felly; ond eu bod yn dysgu llawn cymmaint, ac yn myned yn llawn cystal drwy yr arholiadau, a'r plant oedd yn siarad Saesneg yn unig. Yr wyf yn meddwl fod y ddadl yna yn cadarnhau barn y rhai sydd yn credu fod y gallu i siarad ail iaith, yn meddu dylanwad cryf er awchlymu y deall, a galluogi y plentyn i ymroddi gyda gwell gobaith am lwyddiant i ddysgu pethau eraill,'


From Dr. ISAMBARD OWEN's Address as Chairman of the Cymmrodorion Section of the above Eisteddfod.

'There is one other aspect of the question on which I would willingly say a few words. Many of our correspondents have observed that the object for which children are sent to their schools is, that they may be able ‘to fight the battle of life.' With this view I am quite in accord; but let us stop to think what are the weapons with which this battle must be fought? Will knowledge alone avail — a knowledge of English, or French, or any other language or subject — alone? These things will be of little service in the stress and competition of modern life without character:-a character comprising courage, steadfastness, perseverance, integrity, self-reliance — a character, in short, whose roots are grounded in self-confidence and self-respect.

'Let me, then, ask you this question-Is it calculated to conduce to the formation of habits of self-confidence and self-respect in the children of Wales, that the first lesson impressed upon them when they enter school should be this — that their own native language is a thing to be straightway forgotten and despised; that the language learned at their mother's knee, the language in which the associations of their homes are bound up, the language in which the truths of religion have been imparted to them, the language which is to them the badge of their country and nationality, is a thing to feel ashamed of, and to be got rid of as soon as possible? Children are impressionable, and little given to drawing fine distinctions. Is there, then, no danger
  -I ask the question - lest the lesson should be transferred in the child's mind from the language itself to its associations; and become, in effect, a lesson of contempt and distrust for his parentage, his home, his religion, his nationality, and himself?

Personally, I believe that the teaching of Welsh in the school would aid, and not hinder, the acquisition of English; but even were it not
so - even if the introduction of the new subject did, as some fear, bring a little extra burden of work on the school, would not the game, from a





 

 

A picture containing text, newspaper, screenshot

Description automatically generated (tudalen 68) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6708)

68
practical point of view, be worth the candle?
- if, at the same time, the frank recognition of the children's language removed an obstacle to the formation of that self-confidence and self-respect, without which success in life is hardly in these days to be attained.'

Y mae y dyfyniad uchod yn Gymraeg fel hyn
- o Anerchiad Dr. ISAMBARD OWEN, fel Cadeirydd Adran y Cymmrodorion yn yr Eisteddfod a enwyd.

'Y mae un wedd arall ar y pwngc y dymunwn ddyweyd ychydig o eiriau arno. Sylwa llawer o'n gohebwyr mai yr amcan i'r hwn yr anfonir plant i'n hysgolion ydyw, er mwyn eu gwneyd yn alluog i 'ymladd brwydr bywyd.' A'r golygiad hwn yr wyf yn cydsynio yn hollol:
- ond gadawer i ni aros i ystyried pa rai ydyw yr arfau â pha rai y mae yn rhaid i ni ymladd y frwydr hon. A wna gwybodaeth yn unig y trogwybodaeth o'r Saesneg, neu y Ffrangcaeg, neu unrhyw iaith neu bwngc arall yn unig? Ni bydd y pethau hyn ond o ychydig wasanaeth yn ymdrechfa a chystadleuaeth bywyd y dyddiau hyn heb gymmeriad: — cymmeriad yn cynnwys gwroldeb, diysgogrwydd, dyfal-barhâd, cywir deb, hunan-ddibyniad-cymmeriad, mewn gair, yr hwn sydd â'i wraidd mewn hunan-ymddiried a hunan-barch.

Caniatewch i mi, gan hyny, ofyn y cwestiwn hwn i chwi:
- A oes tuedd i hyrwyddo ffurfiad arferion o hunan-ymddiried a hunan-barch yn mhlant Cymru yn y ffaith mai y wers gyntaf a argrephir ar eu meddyliau, pan y dechreuant ar eu hysgol, ydyw hon - fod eu hiaith enedigol hwy eu hunain yn beth sydd i'w anghofio a'i ddirmygu ar unwaithfod yr iaith a ddysgant wrth liniau eu mamau, yr iaith y mae amgylchiadau eu cartrefi wedi eu rhwymo i fyny ynddi, yr iaith yn yr hon y cyflwynwyd gwirioneddau crefydd iddynt, yr iaith sydd iddynt hwy yn arwydd-nôd o'u gwlad a'u cenedlaetholdeb - fod hon yn rhywbeth i deimlo cywilydd o'i herwydd, ac i fynu ymwared o honi mor fuan ag y bydd hyny yn bossibl? Y mae plant yn gyfryw fel y gellir gwneyd argraph yn rhwydd arnynt; ac ychydig o duedd sydd ynddynt i dynu gwahaniaethau manwl. A oes, gan hyny, ddim perygl -- yr wyf yn gofyn y cwestiwn — rhag i'r wers gael ei throsglwyddo yn meddwl y plentyn oddi wrth yr iaith ei hun at ei chyssylltiadau - a dyfod, mewn effaith, yn wers o ddirmyg ac o anymddiried yn ei rieni, ei gartref, ei grefydd, ei genedlaetholdeb, ac ynddo ef ei hun?

Yn bersonol, yr wyf fi yn credu y byddai dysgu Cymraeg yn yr ysgol yn gymmhorth, ac nid yn rhwystr, i ddysgu Saesneg. Ond hyd yn oed pe na byddai felly — ïe, pe byddai dwyn y Gymraeg i mewn yn peri, fel yr ofna rhai, ychydig o faich chwanegol ar waith yr ysgol, oni byddai y chwareu, ac edrych ar y mater yn ymarferol, yn werth y ganwyll? — os, ar yr un pryd, y byddai y gydnabyddiaeth rydd o iaith y plentyn yn symmud ymaith rwystr oddi ar ffordd ffurfiad yr hunan-ymddiried a'r hunan-barch hwnw, heb yr hwn y mae llwyddiant mewn bywyd yn y dyddiau hyn yn mron yn ammhossibl i'w gyrhaedd.'



 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 69) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6709)

69


From 'THE GLOBE,' of August 29th, 1885.·

'Lord ABERDARE, who ought to know, believes that there are now more Welsh-speaking people in Wales than there have ever been before. If he is right, as in all probability he is, it is mere affectation on the part of the Saxon to turn the Welshman's attachment to his ancient language into ridicule. It is far easier to make fun of Taffy's love for what ignorant people imagine to be consonants, than it is to seriously find fault with any man's preference for the tongue to which he has been born and nurtured. Of course, the practical importance of the matter lies in its connection with education; and Lord ABERDARE struck an exceedingly suggestive point in pronouncing that a thorough and grammatical instruction in Welsh is better than the loose education that most of us have received in English. English has this fatal defect, from an educational point of view
- that it is a congeries of vague idioms and superfine distinctions, while a Celtic language can be learned with almost as good a mental result as Greek or Latin. Moreover, a bilingual person, as a genuine Welshman is bound to be, has a distinct intellectual advantage at starting over one who is nursed into the belief that there is only one language in the world, and that all other modes of speech are foreign jargons. Then, to the advantage of Welsh over Erse or Gaelic, it has a real and living literature - and a literary language is hard to kill. We consider that it is not a mere matter of sentiment that Welshmen should be ambitious of learning English without prejudice to Welsh-indeed, to be disloyal to one's mother tongue is well-nigh equivalent to being false to one's father-land. The narrower the spirit, the more intense; and we cannot afford in these days to lose much more of that local enthusiasm in which vapid cosmopolitanism find its best and most natural corrective.'

Y mae yr hyn a ganlyn yn gyfieithiad o'r uchod, yr hwn a ymddangosodd yn y newyddiadur dyddiol a elwir y Globe, am Awst 29ain, 1885, ac a gyhoeddir yn Llundain:

'Y mae Arglwydd ABERDAR, g
ŵr a ddylai fod yn gwybod, yn credu fod yn awr fwy o bobl yn siarad Cymraeg nag a fu erioed o'r blaen. Os ydyw efe yn gywir, fel yn ol pob tebyg y mae, mursendod o du y Sais ydyw gwawdio ymlyniad y Cymro wrth ei hen iaith. Y mae'n llawer mwy hawdd gwawdio cariad Taffi at yr hyn y tybia pobl anwybodus nad ydynt ond cydseiniaid, na gallu condemnio gyda difrifwch waith unrhyw ddyn yn dangos hoffder mwy tuag at yr iaith yn yr hon y ganwyd ac y meithrinwyd ef nag at iaith arall. Wrth gwrs, y mae pwysigrwydd ymarferol y pwngc hwn yn ei gyssylltiad âg addysg; a tharawodd Argl. ABERDAR dant tra awgrymiadol pan y dadganodd ei farn fod addysg drwyadl a grammadegol mewn Cymraeg yn well na'r addysg ammherffaith a dderbyniodd y rhan fwyaf o honom yn Saesneg. Ynglŷn â'r Saesneg y mae y diffyg angeuol hwn, o'i hystyried o safle addysgol sef,



 

 

A screenshot of a computer

Description automatically generated with medium confidence (tudalen 70) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6710)

70


nad ydyw hi ond cydgasgliad o briod-ddulliau ammwys, a gwahaniaethau gorfa
wl, tra y gellir dysgu iaith Geltig gyda chymmaint o'r bron o fantais i'r meddwl a Groeg neu Ladin. Heb law hyny, y mae person a all siarad dwy iaith, fel y mae Cymro diledryw yn rhwym o fod, yn meddu mantais feddyliol bendant wrth gychwyn, rhagor dyn sydd yn cael ei ddwyn i fyny i'r grediniaeth nad oes ond un iaith o fewn y byd, ac mai baldorddau estronol ydyw pob dulliau eraill o ymadroddi. Heb law hyny, er mantais y Gymraeg ar yr Ersaeg a'r Gaelaeg, y mae ganddi hi lenyddiaeth fyw a gwirioneddol - a gwaith anhawdd ydyw lladd iaith sydd yn meddu llenyddiaeth. Yr ydym ni yn ystyried mai nid mater o deimlad yn unig ydyw fod y Cymry yn awyddus am ddysgu Saesneg beb fod hyny yn niweidiol i'r Gymraeg — yn wir, y mae bod yn anffyddlawn i iaith ein mam yn mron yr un peth a bod yn annheyrngarol i wlad ein tadau. Po cyfyngaf fo yr ysbryd, mwyaf angerddol fydd; ac yn y dyddiau hyn, nis gallwn fforddio colli llawer mwy o'r brwdfrydedd lleol hwnw, yn yr hwn y ceir y moddion goreu a mwyaf naturiol i gywiro ysbryd masw y byd-ddinesydd.’


Sylwedd Papyr a ddarllenwyd yn Nghyfarfod y Cymmrodorion yn yr Eisteddfod a enwyd uchod.

GAN BERIAH GWYNFE EVANS.

Y MAE y testyn mor enfawr, ei wahanol agweddion mor liosog, a phob un o honynt yn agor maes ymchwiliad mor eang a phwysig, fel nas gallaf obeithio gwneyd dim ond cyffwrdd â rhai o'r pyng
ciau arweiniol ynddo.

Un o'r prif wrthwynebiadau wyf wedi glywed i'r mudiad yma yw, fod yr iaith Gymraeg yn cyflym farw. I hyn attebaf
- hyd yn oed pe bae hyn yn wir, na buasai hyny yn un rheswm dros beidio ei defnyddio tra y mae hi etto yn fyw. Hyd yn oed pe gwyddem y trengai yfory, ni buasai hyny yn un rheswm i ni beidio gwneyd defnydd o honi heddyw. Os gellir dangos ei fod yn bossibl gwneyd defnydd da o'r iaith Gymraeg, ni bydd ei thrangcedigaeth agoshaol yn un rheswm dros beidio ei defnyddio tra y mae hi etto yn aros.

Ond y mae profion digonol, nid yn unig fod yr hen iaith etto yn fyw, ond fod dydd ei marwolaeth yn llawer pellach nag yr ymddangosai yn debyg er's rhai blynyddau yn ol. Pan yn sefyll ar lan y mòr, os gwelwn fod y trai yn myned yn llai, fod y dyfroedd yn cilio yn eu hol yn fwy a mwy araf, argyhoeddir ni fod y pwynt hwnw ar gael ei gyrhaedd pan y terfyna y trai yn hollol. Felly, pe gellid dangos fod y boblogaeth Gymreig (hyny yw, y boblogaeth a fedr siarad Cymraeg) yn llai heddyw mewn cyfartaledd i



 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 71) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6711)

71
gynnydd cyfanswm y boblogaeth nag ydoedd er's deg neu ugain mlynedd yn ol, buasai y ffaith hono ynddi ei hun yn ddigon i brofi fod, trwy weithrediad deddfau naturiol, nid yn unig y trai isaf o fewn pellder mesuradwy, ond y rhaid i'r llanw ganlyn, a rhifedi parhaus chwanegol o drigolion yn siarad Cymraeg hawlio ystyriaeth. Prin yr wyf yn credu y byddai gwrthwynebwyr mwyaf rhagfarnllyd y mudiad yma er defnyddio yr iaith Gymraeg
- hyny yw, os yn feddiannol ar wybodaeth brofiadol o Gymru — yn barod i ddyweyd fod cyfartaledd lleihâd y boblogaeth Gymreig i gyfanswm cynnydd y boblogaeth yn fwy heddyw nag ydoedd er's rhai blynyddoedd yn ol. Pan yr edrychwn o'n hamgylch, pa beth a welwn? Cawn fod mwy o rifedi o gyfnodolion Cymreig — yn gylchgronau a newyddiaduron - yn awr yn cael eu cyhoeddi nag ar unrhyw adeg flaenorol yn hanes y Dywysogaeth. Cawn nifer cynnyddol o gorphoraethau cyhoeddus, megys Byrddau Gwarcheidwaid, Byrddau Ysgol, &c., yn cario yn mlaen yr oll, neu y rhan fwyaf o'u gweithrediadau yn Gymraeg. Cawn swyddogion cyhoeddus - yn feddygon, cyfreithwyr, gweinidogion, goruchwylwyr ariandai, prif athrawon ysgolion cyhoeddus, a'r cyffelyb - yn dyfod i deimlo yn fwy-fwy o flwyddyn i flwyddyn yr angenrheidrwydd am, o leiaf, wybodaeth ymddiddanol o'r Gymraeg, fel ammod llwyddiant yn eu galwedigaethau. Cawn ddyfodiaid o dafodiaith estronol yn gorfod dysgu iaith gartrefol y bobl, ac yn cael eu llyngcu i fyny yn araf, ond yn sicr, i gorph mawr y boblogaeth Gymreig. Wrth ystyried y pethau hyn, nid ydym yn synu wrth gael fod poblogaeth y rhanau Cymreig yn cynnyddu yn flynyddol o ddau i bedwar y cant yn fwy na phoblogaeth y rhanau Saesnig; a thra y mae poblogaeth Saesnig Maesyfed yn lleihau yn gyflym, fod poblogaeth Gymreig y Rhondda a’i changhenau estynedig, Abertawe a'i phentrefi cynnyddol, chwareli Gogledd Cymru a'u cyssylltiadau, oll yn cynnyddu gyda chyflymder mawr. Y mae yr hyn sydd yn wir am y rhai hyn yn wir hefyd am ganol-bwyntiau poblogaeth eraill ein gwlad. Dywed DAFYDD MORGANWG - ac nid oes neb â gwell mantais i wybod - fod naw o bob deg o'r gweithwyr glô yn Gymry, ac mai Cymraeg o angenrheidrwydd yw iaith y lofa. Yr hyn a ddywed efe am y glofeydd, gallaf finnau ei ddywedyd am yr ardaloedd amaethyddol. Os ydyw yn wir mai Cymraeg yw iaith y pwll glô, felly y mae yn wir am y meusydd agored, am yr heolydd gwledig, am efail y gôf, ac i raddau mwy fyth am chwareli Gogledd Cymru. I'r rhai sydd wedi astudio effeithiau y cyfreithiau newyddion o‘Estyniad yr Etholfraint,' ac 'Ad-drefniad yr Eisteddleoedd,' nid oes angen dangos fod rhan y llew' o allu politicaidd y dyfodol yn Nghymru wedi syrthio i ran y boblogaeth Gymreig.



 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 72) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6712)

72


Cawn felly y boblogaeth Gymreig yn cynnyddu mewn rhif trwy offerynoliaeth deddfau naturiol, yn cynnyddu mewn gwybodaeth trwy offerynoliaeth y wasg Gymreig, ac yn cynnyddu yn aruthrol mewn gallu politicaidd trwy offerynoliaeth deddf yr 'Etholfraint,' a mwy fyth trwy offerynoliaeth deddf 'Ad-drefniad yr Eisteddleoedd.' Yn eu rhifedi, arddangosant allu y mae yn rhaid ei ystyried
- yn eu gallu politicaidd chwanegol, arddangosant ystyriaeth newydd na feiddia un gwleidyddwr yn hir ei dibrisio - ac yn eu hiaith, arddangosant offeryn addysgol nad oes gan un dysgawdwr teilwng o'r enw hawl i'w anwybyddu.

Y mae rhai yn dadleu, yn gymmaint a bod y gyfundrefn bresennol o addysg yn gweithio yn ddigon da, fod y plant yn dysgu Saesneg rhywsut, a bod nifer cynnyddol o bobl yn gallu siarad Saesneg, na buasai yn ddoeth i ymyraeth â'r gyfundrefn bresennol o addysg o gwbl: — mewn gair, y dylid gadael pob peth fel ag y mae. Yn awr, nid wyf yn sefyll o'ch blaen chwi heddyw i ddadleu am gyfnewidiad er mwyn teimlad dychymygol yn unig. Yn yr oes ymarferol hon, ac ar y cwestiwn hwn fe allai uwch law pob cwestiwn arall, y mae'n rhaid gwneyd y teimlad yn îs-wasanaethgar i ddefnyddioldeb. Felly, pe y gellid profi yn foddhaol fod y gyfundrefn bresennol wedi cyflawni ein disgwyliadau rhesymol, a bod ein plant, drwy y gyfundrefn yma, yn cael eu dodrefnu yn addas erbyn brwydr fawr bywyd, ac y buasai dygiad y Gymraeg i mewn i gyfundrefn addysg yn tueddu i rwystro yn hytrach nag i gynnorthwyo eu gyrfa; yna, er yn caru fy iaith mor wresog a neb o honoch, buaswn yn barod, gyda chydwybod rydd, er nad heb boen, i'w rhoddi i fyny, a'i gweled yn marw, yn hytrach na chodi fy llais i sicrhau ei pharhâd ar y draul o beryglu llwyddiant dyfodol ein plant.

Ond a ydyw y gyfundrefn wedi gweithio yn dda? A yw hi wedi cyflawni ein disgwyliadau? Gan wybod mai Saesneg ydyw iaith cyfraith a mas
nach, celf a gwyddor, llwyddiant a dyrchafiad bydol, yr wyf yn rhoddi i'r Saesneg y lle blaenaf. Gan gydnabod mai gwybodaeth ymarferol a deallol o'r iaith Saesnig ydyw angen cyntaf ein plant, yr wyf yn cymmeryd y cyrhaeddiad o'r wybodaeth ymarferol a deallol hono fel safon wrth yr hon i farnu a ydyw ein plant yn cael y budd y dylasent ei gael oddi wrth y gyfundrefn bresennol o addysg. Y mae hi wedi cael prawf teg. Y mae plant y rhai a ddechreuasant eu gyrfa ysgolheigol fel babanod pan sefyd wyd y gyfundrefn hon, er's 35ain neu 36ain mlynedd yn ol, erbyn hyn, naill ai wedi gorphen, neu ar orphen eu gyrfa yn yr un ysgolion, a than yr un gyfundrefn, ag y cafodd eu rhieni eu haddysg foreuol. Yn awr, a ydyw y plant hyn yn meddu ar wybodaeth



 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 73) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6713)

73
ymarferol a deallol o'r iaith Saesnig? Cymmerer hwynt mewn dwy neu dair blynedd ar ol gadael yr ysgol
-  a ydynt y pryd hwnw yn alluog i ddarllen gyda dyddordeb o bapyr Saesneg, neu i ysgrifenu yn ddealladwy a grammadegol yn yr iaith hono? Yr wyf yn siarad oddi ar brofiad o yn agos i ugain mlynedd fel athraw ysgol elfenol mewn ardal hollol Gymreig; ac yr wyf yn dyweyd fy mod yn aml wedi teimlo yn fwy na digalon - yr wyf wedi teimlo cywilydd wrth orfod cydnabod i mi fy hun fod fy nysgyblion yn mhell o gyrhaedd y nôd y tybiais y dylent ei gyrhaedd - nad oedd y wybodaeth a ddangosent o'u gwersi ddim ond gwybodaeth o eiriau ac arwyddnodau; ac nid, fel y dylai fod, yn wybodaeth o syniadau. Ond a ydwyf fi yn hyn, yn fy ngalwedigaeth fy hun, yn fwy o fethiant nag eraill? Dywed Mr. WILLIAMS, Prif Arolygwr Ysgolion Cymru, yn ei Adroddiad Swyddol am y flwyddyn yn diweddu Awst, 1884, mai yr adran o'r gwaith a ddengys y canlyniadau lleiaf boddhaol ydyw cyfansoddi yn Saesneg; a hyny am y rheswm fod gwybodaeth y plant o eiriau Saesnig, a'u hystyr, mor gyfyngedig. Yn awr, ar bwy y dylai y bai a'r cywilydd am y canlyniadau anfoddhaol hyn orphwys? Ai ar yr athraw, neu ynte ar y gyfundrefn annaturiol dan yr hon y maent wedi gweithio?

Gallwn ail gychwyn yn y fan yma. Mewn rhanau helaeth o Gymru, y mae y plant yn clywed Cymraeg, a dim ond Cymraeg
yn y cartref, y siop, y farchnad, ac ar yr heol, a'r chwareu-dir. Deuant i'r ysgol heb wybodaeth o'r Saesneg ond yn feddiannol ar wybodaeth ymarferol o'r Gymraeg.

Ond gwneir y gallu byw yma a feddiennir gan y mwyafrif o blant Cymru, mewn effaith, yn llythyren farw yn nghyfundrefn addysg. Anwybyddir yr iaith
- gwaherddir hi. Pan ddelo plentyn Cymraeg yn syth o'i gartref Cymraeg, ac heb erioed deimlo, ac heb fod yn debyg byth o deimlo dim ond dylanwadau Cymreig tu allan i'r ysgoldy, unwaith dros y trothwy, caiff ei hun ar gefnfor dyeithr iddo; ac er fod ganddo, yn ei wybodaeth ymarferol o'r Gymraeg, gwmpawd cywir i'w arwain a'i gynnorthwyo, ni chaniateir iddo wneyd un defnydd o hono. Y mae fel pe byddai plentyn sydd yn feddiannol ar holl alluoedd llafar a chlyw yn cael ei osod mewn ysgol ï'r mud a'r byddar - ac yno i gael ei addysgu a'i arholi fel pe na byddai ganddo na chlust na thafod. A chaniatau y gellir dysgu plentyn mud a byddar i ddarllen, ysgrifenu, a rhifyddu, a ydym i dybied nad ydyw plentyn a all siarad a chlywed yn dysgu y pethau hyn yn well trwy ddefnyddio y galluoedd naturiol sydd eisoes yn ei feddiant? Os ydyw hi yn egwyddor addysgol iawn a chywir i wneyd defnydd o'r hyn yr ydym yn ei wybod er dysgu yr hyn nad ydym yn ei wybod, a ydyw hi yn egwyddor anghywir i



 

 

A black and white document

Description automatically generated with low confidence (tudalen 74) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6714)

74


ddefnyddio y Gymraeg adnabyddus i ddysgu y Saesneg anadnabyddus? Os ydyw hon yn egwyddor anghywir, ai nid ydyw yn canlyn hefyd mai ar egwyddor gyfartal anghywir y seilir yr holl wers-lyfrau mewn ieithoedd eraill i fyfyrwyr Saesnig? Os ystyrir hi yn angenrheidiol i fyfyrwyr sydd eisoes yn feddiannol ar alluoedd meddyliol dysgybledig i gael y rhanau eglurhaol o'u Gramadeg Lladin, neu Ffrangcaeg, wedi eu rhoddi iddynt yn y Saesneg gynnefin, pa faint mwy angenrheidiol ydyw hyny i'r plentyn Cymraeg-
u nig feddiant yr hwn ydyw yr iaith Gymraeg, a'r syniadau y mae wedi eu cael drwyddi-i gael ei wersi yntau wedi eu gwneyd yn rhwydd iddo trwy gyfrwng yr unig iaith y mae efe yn gyfarwydd â hi? A chaniatau yr ennillid gwybodaeth fwy ymarferol, dyweder o'r iaith Ffrangcaeg, trwy fyw am chwe mis yn nghanol Ffrangcod nag y gellid drwy ddwy flynedd o astudiaeth mewn llyfrau, nid ydyw yn canlyn o gwbl y byddai yn ddoeth i anwybyddu y Saesneg fel cymmhorth i ddysgu y Ffrangcaeg, pan, gydag eithrio pum awr yn y dydd am bum niwrnod yr wythnos, y byddai holl gyssylltiadau amgylchoedd y myfyriwr yn Saesnig. Nid ydyw yn canlyn chwaith fod y plentyn Cymraeg yn cael ei drin gyda chyfiawnder na synwyr, pan yr anwybyddir neu y gwaherddir iddo ddefnyddio y wybodaeth sydd ganddo o'r Gymraeg fel cymmhorth i gyrhaedd gwybodaeth o'r Saesneg.

Gosodaf i lawr fel arwiredd (axiom) hunan-eglur, y gellir dysgyblu deall plentyn Cymraeg un-ieithawg yn gynt ac yn well trwy gyfrwng y Gymraeg ddealledig na thrwy gyfrwng y Saesneg ddyeithr; a chan mai dysgyblu a gwrteithio y deall ydyw y rhan bwysicaf o addysg, y dylid defnyddio y moddion mwyaf syml ac effeithiol i wneyd hyny. O ganlyniad, yr Iaith Gymraeg a ddylai fod y cyfrwng addysgol pwysicaf yn mlynyddau cyntaf gyrfa ysgolheigol y plentyn Cymraeg.

Fel llafurwr yn ngwaith y priddfeini addysgol, y mae genyf i ofalu fod y swm gofynol o briddfeini yn cael eu darparu genyf bob blwyddyn. O'm hamgylch, o bob tu, gwelaf yn ngwybodaeth ymarferol y plant o'r Gymraeg gyflawnder o wellt a allaswn ei ddefnyddio yn y gwaith. Pe cawn ddefnyddio y gwellt yma, gallwn wneyd mwy o briddfeini, ac o well ansawdd, nag sydd yn bossibl yn awr. Ond gwaherddir fi i'w ddefnyddio. A ydyw hyn yn iawn? A ydyw hyn yn deg? A fydd i'r cyfarfod hwn ein cynnorthwyo i gael caniatâd arferiad a deddf i ddefnyddio y gwellt yma yn ngwneuthuriad ein priddfeini addysgol?

Y mae y gwaith o ddysgu darllen Cymraeg, o herwydd natur seinyddol cyfansoddiad yr iaith, yn orchwyl cymmharol rwydd; a gellir dysgu plentyn i ddarllen Cymraeg yn well mewn chwe mis



 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 75) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6715)

75


nag y gellir ei ddysgu dan yr amgylchiadau presennol i ddarllen Saesneg mewn tair blynedd. Ni buasai dysgu darllen Cymraeg felly, a siarad yn gymmhariaethol, yn un chwanegiad at y baich yn yr ysgol. Trwy iawn raddoli y llyfrau darllen, a gofal priodol i ddosbarthu y seiniau Saesnig i gyfatteb i'r Wyddor Gymreig, gellid impio o leiaf rhyw gyfran o rwyddineb y darlleniad Cymraeg i risiau cyntaf y darlleniad Saesneg.

Etto: nid yn unig y mae y gwaith o ddysgu darllen Saesneg yn llawer mwy i'r plentyn Cymraeg nag ydyw i'r Sais; ond nid ydyw y canlyniadau, pan orchfygir yr anhawsderau celfyddydol, yn cyfatteb o gwbl yn y ddau amgylchiad. I'r plentyn Saesneg, egyr iddo fyd newydd o feddyliau a syniadau byw:
- i'r plentyn Cymraeg, nid yw yn gwneyd mwy na rhoddi iddo gasgliad o arwydd-nodau sych annyddorol, gyda dim ond ambell air yma a thraw y gall ei ddealltwriaeth mewnol ei amgyffred. Yr hyn sydd i'r plentyn Saesneg yn faes prydferth wedi ei fritho â blodau, ac yn llawn o fywyd, nid ydyw i'r plentyn Cymraeg yn ddim gwell nag anialwch blin, gydag ambell lecyn gwyrddlas yma ac acw. Hyd yn oed pe y costiai i'r plentyn rhyw gymmaint mewn rhwyddineb yn y rhan gelfyddydol, ai ni fuasai yn talu yn dda i wrteithio y rhan ddeallol o'i ddarlleniad? A pha fodd y gellid gwneyd hyn yn well na thrwy gyflwyno pob gair o'i ddarlleniad Saesneg ger bron llygad ei feddwl yn ngwisg adnabyddus y Gymraeg? Y casgliad naturiol oddi wrth hyn ydyw, y dylai ei lyfrau darllen cyntaf fod yn Gymraeg a Saesneg, mewn colofnau cyfochrog ar yr un tudalen, a phob un o'r ddau wedi eu graddoli yn iawn.

Nid ydyw anhawsderau y bachgen Cymraeg yn terfynu pan y gedy efe yr Ysgol Elfenol, ac yr ä i'r Ysgol Rammadegol, neu i'r Coleg
- ond yn hytrach, chwanegir atynt. Gan fod yr egluriadau, y rheolau, a'r cyfarwyddiadau yn ei wers-lyfr oll yn Saesneg, a chan fod ei wybodaeth ef o'r iaith hono yn gyfyngedig ac arwynebol iawn, nid ydyw yn gallu ymaflyd yn eu hystyr gyda'r un rhwyddineb ag y gall y Sais. Am yr un rheswm, y mae yr addysg a roddir iddo gan ei athraw, gan mai ar lafar, ac yn Saesneg, y rhoddir hi, yn fwy anhawdd fyth iddo ei meistroli. Felly, ar y cychwyniad cyntaf, rhwystrir ef - a chyll yntau y rhedegfa addysgol. Pa sawl bachgen ieuangc addawol sydd wedi methu cyrhaedd y nôd am ysgoloriaethau, &c., o herwydd yr un diffyg hwn? Pwy all ddyweyd? Y mae aml i ddyn, yn ei anobaith a'i lid wrth weled y fath ganlyniadau, wedi llefain - ‘Ymaith â'r Iaith Gymraeg yma! Y mae hi yn cadw ein plant yn ol ddwy neu dair blynedd ar ol plant y Saeson!' Bellach, cyfyd y cwestiwn, A ddylem ni wneyd hyn? Cyn yr attebaf ef, caniatäer i mi ddefnyddio un eglurhâd syml a chyff-



 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated (tudalen 76) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6716)

76
redin. Pan yn myned i gyfarfod trên y dydd o'r blaen, pasiais ar yr heol gyfaill o amaethwr oedd yn arwain merlyn mynydd (Welsh mountain pony) bywiog — bywiogrwydd anesmwyth yr hwn a rwystrai fy nghyfaill yn fawr.
Gollyngwch y pony yn rhydd, John,' ebe fi; 'chwi a deithiwch yn gynt o lawer hebddo!' 'Na! na!' attebai John, 'gallaf wneyd yn well na hyny.' Yna llamodd ar gefn yr anifail; yr hwn, ar ol gwneyd gwrthdystiad neu ddau drwy gicio a nagu, a ymroddodd yn fuan i'w waith; ac ymaith â John ar gefn ei ferlyn, gan fy ngadael i, druan! yn mhell ar ol. Yn awr,' ebe fi, 'dyma'r hen Iaith Gymraeg drafferthus yma — y mae hi yn rhwystro gyrfa ysgolheigol ein plant. A gawn ni ei thaflu ymaith?' Mewn geiriau eraill, fy nghyfeillion, A gawn ni arwain y pony, neu a gawn ni ei farchogaeth? Ië, gan fod yr iaith hon yn fyw, a chan ei bod yn gwrthod marw gan nad pa beth a wneir iddi, bydded i ni ei defnyddio yn synwyrol fel cymmhorth, yn lle ei llusgo ar ein hol fel rhwystr. Yna, nid yn unig ni a arbedwn y ddwy neu dair blynedd a gollir yn awr, ond o bossibl ni a ennillwn flwyddyn arall atynt!

Y mae y nodiadau uchod yn gyfeiriedig yn benaf, wrth gwrs, i'r rhanau Cymreig o'r wlad. Ond hyd yn oed am ranau Saesnig, neu o leiaf ddwy-ieithawg, y mae manteision amlwg i'w cael o ddefnyddio y Gymraeg yn briodol. Ar wahân oddi wrth y fantais uniongyrchol a geir oddi wrth wybodaeth ymarferol o'r ddwy iaith mewn gwlad fel Cymru, y mae genym y fantais anuniongyrchol o'r cymmhorth a roddir gan y wybodaeth yma i ennill gwybodaeth bellach. Cydnabyddir ei bod yn rhwyddach i ddyn sydd yn gwybod ac yn arfer dwy iaith yn dda, i ddysgu arfer trydedd iaith, nag ydyw i ddyn na
ŵyr ond un i ddysgu ail iaith. Profiad llawer myfyriwr Cymraeg ydyw, fod ei wybodaeth ymarferol o'r Gymraeg gyda'r Saesneg yn help mawr iddo i astudio ieithoedd eraill. Ymddengys, yn chwanegol at y rheswm a nodwyd uchod, fod orgraph, priod-ddull, a seinyddiaeth y Gymraeg yn dal perthynas agosach âg ieithoedd y Cyfandir, ac ieithoedd clasurol, nag a fedd y Saesneg. Felly, i Gymry dwy-ieithawg, fel i Gymry un-ieithawg, y mae iawn ddefnyddiad y Gymraeg yn cynnyg manteision arbenig.

Yr wyf yn credu fy mod wedi dangos ei bod yn bossibl, ei bod yn ddoeth, a'i bod yn angenrheidiol, i ddefnyddio Iaith Gartrefol y Dywysogaeth fel cyfrwng addysgol gwerthfawr. Pa fodd i wneyd hyn sydd gwestiwn arall, na pherthyn i mi ei ystyried yn awr. Os gelwir arnaf unrhyw amser, byddaf barod i roddi fy marn ar pa fodd y gellir trefnu cynllun a all gyfarfod â'n hangenion presennol. Yr hyn yr wyf am ei wasgu yn awr at ystyriaeth pawb ydyw, y dylid gofalu, pan yn penderfynu ar gynllun, ei fod yn gyfryw ag



 

 

 (tudalen 77) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6717)

77

 

1af, a wna y Gymraeg yn help i ddysgu Saesneg; 2il, a rydd yr help hwnw yn benaf lle y mae mwyaf o'i angen, sef yn y dosbarthiadau isaf yn ein Hysgolion Elfenol; ac yn 3ydd, y bydd, pan y cymmhwysir ef at y dosbarthiadau uchaf, yn gymmhorth gwirioneddol i sicrhau gwybodaeth ymarferol a deallol o'r Saesneg - ac o ieithoedd eraill, os bydd galw am hyny.

Gallaswn fyned yn mhellach, a dangos yr anfanteision y mae ein dysgybl-athrawon (pupil teachers) danynt yn yr Arholiadau Blynyddol am Ysgoloriaethau y Colegau, am na chaniateir iddynt wneyd defnydd rhesymol o'u gwybodaeth o'r Gymraeg yn yr arholiadau hyny. Gallesid dangos y budd a'r fantais fyddai i'r myfyrwyr yn Mhrifysgolion Cymru pe y graddolid yr addysg Gymreig o'r safonau isaf yn yr Ysgolion Elfenol i fyny. Ond y mae digon wedi ei ddyweyd i ddangos fod lle pwysig i'r Gymraeg yn nghyfundrefn addysg Cymru.

Wrth derfynu, gallaswn appelio at wladgarwch y Cymry, a deisyf am eu cymmhorth i ffurfio cymdeithas sydd raid fod iddi ddylanwad aruthrol yn y dyfodol ar ein bodolaeth genedlaethol. Gallaswn appelio at deimladau crefyddol fy nghydwladwyr, a deisyf arnynt, er mwyn hen 'hwyl' nefolaidd ein pulpudau Cymreig, a dylanwadau anweledig ein cyfarfodydd gweddi Cymreig, i gadw yn fyw yr iaith sydd wedi gwneyd cymmaint dros grefydd Cymru. Ond fy nhestyn yw, nid cadwraeth, ond defnyddiad y Gymraeg; ac felly, yn enw ysgolfeistri sydd yn llafurio dan anhawsderau di-raid
 - ac uwch law y cwbl, yn enw plant Cymreig, llwybr dyrchafiad pa rai a wneir yn ddi-raid mor anhawdd — yr wyf yn appelio at bawb sydd â dyfodol plant Cymru yn agos at eu calonau am roddi help llaw yn awr i gefnogwyr addysg yn Nghymru i ymaflyd yn yr arf effeithiol sydd yn barod wrth law yn ngwybodaeth ymarferol y plant o'r Gymraeg, fel yr ymaflodd Dafydd yn nghledd Goliath gynt, gan ddywedyd — 'Nid oes o fath hwnw! Dyro ef i mi!'


MEWN canlyniad, yn benaf, i ymdrechion diflino a hunan-aberthol Mr. D. ISAAC Davies, awdwr y llythyrau blaenorol, y mae 'CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG' bellach yn ffaith sylweddol. Yn yr ail gyfarfod rhagbarotoawl a gynnaliwyd yn Aberdâr, Medi 19eg, 1885, pan yr oedd yn bresennol gynnrychiolaeth deg o bleidwyr addysg yn Nghymru, cyttunwyd ar y pethau canlynol:

AMCANION Y GYMDEITHAS.

1. Ei hamcan penaf:
- Defnyddio yr Iaith Gymraeg fel cyfrwng addysg yn Nghymru, a sir Fynwy.



 

 

Text, letter

Description automatically generated (tudalen 78) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6718)

78
2. Ei hamcanion uniongyrchol

1af, Uno, a threfnu at waith, y swm mawr o deimlad cyhoeddus sydd eisoes yn bodoli o blaid y cyfryw ddefnyddiad.

2il, Hyrwyddo cynnydd y teimlad cyhoeddus hwn, trwy gynnal cyfarfodydd cyhoeddus, a chyhoeddi darlithiau, papyrau, a llythyrau ar y pwngc trwy wahanol gyfryngau.

3ydd, Gwneuthur y cyfryw ymchwiliadau, a chasglu y cyfryw adroddiadau ystadegol, neu gyffredinol, ag a fernir yn angenrheidiol er gosod y cwestiwn o flaen y wlad mewn goleuni priodol.

4ydd, Gwneyd defnyddiad yr iaith mewn addysg yn gyrhaeddadwy, trwy sicrhau y cyfansoddiad, a'r cyhoeddiad am brisiau isel, o gyfres o wers-lyfrau cyfaddas, wedi eu parotoi gan ysgolheigion o allu ac enwogrwydd.

5ed, Ffurfio cynlluniau pennodol o addysg.

6ed, Gwneuthur trefniadau at gyflwyno a chefnogi y cyfryw gynlluniau ger bron yr awdurdodau.

TANYSGRIFIAD AELODAU.

Bod y tanysgrifiad blynyddol i fod yn hanner coron, ac uchod. Chwanegwyd at hyn nodiad i'r perwyl, fod y tanysgrifiad yn cael ei osod yn ddigon isel i fod o fewn cyrhaedd pawb, tra y gobeithid y byddai y rhai a allent roddi mwy yn gwneyd hyny, gan y disgwylid i dreuliau y gymdeithas fod yn fawr.

Cynnaliwyd cyfarfod cyffredinol cyntaf y gymdeithas yn y Neuadd Drefol, Caerdydd, Hydref 22ain, 1885, dan lywyddiaeth yr Hybarch Archddiacon GRIFFITHS, pan y cyttunwyd ar reolau y gymdeithas.

CRYNODEB O'R RHEOLAU.

Y mae yr amcanion a'r tanysgrifiadau fel y nodir uchod:
- Y tanysgrifiadau i'w hystyried yn ddyledus ar y dydd cyntaf o Hydref yn mhob blwyddyn, ac i'w talu yn mlaen llaw. Ni bydd hawl gan aelod i bleidleisio mewn unrhyw gyfarfod cyn talu ei danysgrifiad am y flwyddyn yn yr hon y cynnelir y cyfarfod.

Y mae cyfarfod cyffredinol y gymdeithas i'w gynnal yn y Gwanwyn a'r Hydref bob blwyddyn, a rhybudd o gynnaliad y cyfryw i'w hysbysu yn y newyddiaduron. Yn y cyfarfod cyffredinol yn yr Hydref, yr hwn a ystyrir fel cyfarfod blynyddol y gymdeithas, etholir cynghor llywodraethol o ugain o bersonau; i'r rhai, gyda deg eraill a bennodir gan Gymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion, a deg a ddewisir gan y deg ar hugain uchod, yr ymddiriedir holl reolaeth amgylchiadau y gymdeithas yn y cyfnodau rhwng cynnaliad y cyfarfodydd cyffredinol.

Bydd etholiad y cynghor trwy y tugel; ond gall personau fyddont yn analluog i fod yn bresennol yn y cyfarfod ddanfon papyrau



 

 

A picture containing text, newspaper, screenshot

Description automatically generated (tudalen 79) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6719)

79

 

pleidleisio, wedi eu harwyddo a’u sêlio, i lywydd y cyfarfod cyffredinol, i'w cyfrif yno.

Gall unrhyw aelod gynnyg penderfyniad mewn cyfarfod cyffredinol, trwy roddi deunaw niwrnod o rybudd mewn ysgrifen i’r ysgrifenydd; a rhaid i’r ysgrifenydd roddi rhybudd o’r cyfryw benderfyniadau mewn ail hysbysiad cyn y cyfarfod. Ni bydd angen y cyfryw rybudd at weithrediadau arferol y cyfarfodydd.
Rhaid i bob penderfyniad yn dal cyssylltiad â chyfansoddiad a rheolau y gymdeithas gael ei gario gan fwyafrif o ddwy ran o dair o’r aelodau yn y cyfarfod, cyn y gellir ei gadarnhau. Bydd mwyafrif syml yn ddigon ar bob penderfyniad arall.

Yn mhlith swyddogion y gymdeithas, bydd cadeirydd y cynghor, yr hwn fydd yr awdurdod llywodraethol uchaf yn y gymdeithas — trysorydd mygedol, trwy ddwylaw yr hwn y telir pob gofynion ar y gymdeithas — ac ysgrifenydd cyflogedig,
yr. hwn a garia yn mlaen holl ohebiaethau a gweithrediadau ysgrifenedig y gymdeithas dan reolaeth cadeirydd y cynghor.

Fel eglurhâd pellach, gellir dyweyd ei bod yn ddealladwy y cynnelir cyfarfod blynyddol y gymdeithas eleni yn Nghae
rnarfon, ar adeg yr Eisteddfod Genedlaethol, a'i bod yn debygol y cymmerir mantais o’r ŵyl genedlaethol i’r un dyben yn y dyfodol. Ymdrechir hefyd i gynnal, o leiaf, un cyfarfod o’r cynghor bob blwyddyn naill ai yn Ngogledd Cymru, neu yn rhyw dref ar y cyffiniau fydd yn gyfleus i’r Gogleddwyr a'r Deheuwyr. Yr amcan, fel y gwelir, yw gwneyd y gymdeithas yn un genedlaethol yn ngwir ystyr y gair — ac nid yn un leol.

Ymdrechir at yr un peth yn aelodaeth y gymdeithas, ac yn nghyfansoddiad y cynghor; fel y bydd pob un o'r ddau yn cynnwys cynnrychiolwyr o bob gradd o gymdeithas, ac o bob rhan o Gymru; ac, os yn bossibl, o bob cymdeithas neu ardal Gymreig drwy yr holl fyd.

Yn unol â'r rheolau uchod, etholwyd cynghor llywodraethol — cyfansoddiad yr hwn ar y dyddiad presennol sydd fel y canlyn:
CADEIRYDD, A THRYSORYDD MYGEDOL.

Yr Hybarch Archddiacon GRIFFITHS, Castellnedd.

Y CYNGHOR ETHOLEDIG.
DAVIES, Parch. AARON, cadeirydd Bwrdd Ysgol Gelligaer.
DAVIES, Parch. GETHIN, prifathraw Coleg Llangollen.
DAVIES, Mr. W. CADWALADR, ysgrifenydd Prifysgol Gogledd Cymru,
Bangor.
GEE, Mr. THOMAS, Dinbych.
JOHNSON, Parch. F. SONLEY, golygydd y South Wales Daily News, Caerdydd.



 

 

A black and white document

Description automatically generated with low confidence (tudalen 80) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6720)

80
JONES, Ei Anrhydedd y Barnwr BRYNMOR, Darren.
JONES, Mr. C. W., ysgrifenydd Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmro. dorion, Llundain.
JONES, Parch. J. MORGAN, Caerdydd.
JONES, Prifathraw J. VIRIAMU, M.A., Prifysgol Deheudir Cymru, Caerdydd.
MORGANWG, DAFYDD, Caerdydd.
OWEN, Mr. ISAMBARD, M.A., M.D., Llundain.
POWEL, Proffeswr THOMAS, M.A., Prifysgol Deheudir Cymru, Caerdydd.
REICHEL, Prifathraw HENRY R., Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.
ROBERTS, Parch. Dr. E., Pont-y-pridd.
ROBERTS, Proffeswr T. F., B.A., Prifysgol Deheudir Cymru, Caerdydd
ROWLANDS, Parch. Proffeswr D., (Dewi Môn), Aberhonddu.
THOMAS, Mr. ALFRED, A.S., Caerdydd.
WILLIAMS, Ei Anrhydedd y Barnwr GWILYM, Miskin Manor.
WILLIAMS, Mr. THOMAS, U.H., Gwaelod-y-garth.
WILLIAMS, Mr. T. MARCHANT, B.A., Llundain.

YSGRIFENYDD.

Mr. BERIAH GWYNFE EVANS.

Yn chwanegol at yr uchod, y mae y boneddwyr canlynol wedi eu hethol ar y Cynghor gan Gymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion:

DAVIES, Mr. WILLIAM E., Llundain.
GRIFFITHS, Mr. JOHN RICHARD, Ysgol y Bwrdd, Aberteifi.
JAMES, Mr. IFOR, Ysgrifenydd Prifysgol Deheudir Cymru, Caerdydd.

LEWIS, Mr. DAVID, Llundain.
OWENS, Mr. JOHN, Llundain.
PHILLIMORE, Mr. EGERTON G. B., M.A., Llanymddyfri.
RHYS-DAVIDS, Proffeswr T. W., M.A, Llundain.
ROWLANDS, Mr. R., Penrhyn-deudraeth.
THOMAS, Mr. DANIEL, Rhymni.
THOMAS, Mr. HOWEL, Llundain.

Fel y gwelir oddi wrth y rheolau, y mae deg eraill etto i'w hethol ar y cynghor gan y cynghor ei hun. Y mae'n ddiammheu y gofelir, hyd y gellir, wrth ddewis y deg hyn, fod unrhyw ddosbarth, neu fuddiannau, neu ranbarth, a adawyd allan trwy siawns y tugel, yn cael eu cynnrychioli yn briodol. Gweddus yw cofnodi yn y fan yma fod y boneddwyr canlynol wedi eu hethol ar y cynghor ar y cyntaf; ond fod rheolau cyfyng y Swyddfa Addysg yn Llundain yn eu rhwystro i gymmeryd eu seddau fel cynghorwyr etholedig: —

EDWARDS, Mr. W., M.A., Arolygydd Ysgolion ei Mawrhydi, Merthyr
DAVIES, Mr. D. ISAAC, B SC., Is-arolygydd Ysgolion, Caerdydd.
JONES, Mr. GOMER, B.A., Arolygydd Cynnorthwyol, Merthyr.
REES, Mr. JOHN, Arolygydd Cynnorthwyol, Merthyr.



 

 

A picture containing text, newspaper, screenshot

Description automatically generated (tudalen 81) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6721)

81
Y mae gwrthodiad y Cynghor Addysg i'r boneddwyr uchod eistedd fel cynghorwyr etholedig y gymdeithas, er yn rhesymol o safle swyddogol, yn golled fawr i Gymru ar yr adeg bresennol. Er hyny, y mae yn galondid i wybod fod y boneddwyr uchod, ynghyd âg eraill o swyddogion blaenaf y Cynghor Addysg yn Nghymru — megys, Mr. WILLIAM WILLIAMS, M.A., Prif Arolygwr Ysgolion ei Mawrhydi yn Nghymru; Mr. EDWARD ROBERTS, M. A., Arolygwr Cynnorthwyol, Caernarfon, ac eraill — yn parhau yn aelodau selog a ffyddlawn o'r gymdeithas, yn awyddus i'w gweled yn llwyddo, ac yn barod i wneyd yr hyn sydd yn eu gallu i hyrwyddo ei lledaeniad.

Bellach, gellir ystyried fod 'CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG' wedi ei ffurfio — wedi ei dwyn i fodolaeth gan anghenion yr oeswedi ei sefydlu gan rai sydd wedi treulio eu hoes mewn gwahanol gyssylltiadau addysgol yn Nghymru, ac wedi ei sylfaenu yn gadarn ar wladgarwch a serchiadau y genedl Gymreig.

Y mae hi yn appelio am gefnogaeth a chymmhorth at y bobl sydd yn llefain EIN GWLAD, EIN HIAITH, EIN CENEDL;' ac yn hawlio cydweithrediad egnïol pawb sydd yn caru 'CYMRO, CYMRU, A CHYMRAEG.' Y mae hi hefyd yn gwahodd cydymdeimlad sylweddol pob un sydd yn awyddus am wneyd chwareu teg â'r oes sydd yn codi
- pob un sydd yn dymuno dyrchafiad y Cymro mewn dysg a llwyddiant bydol. Ac y mae hi yn cynnyg cyfrwng addas yn, a thrwy yr hwn y gellir uno yn un cyfangorph mawr holl lwythi gwasgaredig cenedl y Cymry yn mhedwar ban y byd - yn amcanu at roddi effaith i lais cenedl unedig yn llefaru gydag awdurdod angen, dymuniad, a phenderfyniad.

Ond a wneir yr appeliad a'r gwahoddiad hwn yn ofer, tybed, gan oerfelgarwch, difaterwch, eiddigedd, neu ymraniadau cenedlaethol?

Y mae y Sais wedi arfer gwawdio ein cenedl, gan ddyweyd nad ydyw yn bossibl i'r Cymry fod yn unol, yn benderfynol, nac yn ddyfal-barhaol mewn dim. A gaiff yr oes hon brofi fod hyn yn wirionedd, ynte yn anwiredd? Bydded i'n hymddygiad fel cenedl yn yr argyfwng presennol roddi attebiad iddo fydd yn anrhydeddus i ni, ac yn fanteisiol i'r oes sydd yn codi, a'r oesoedd dyfodol.

Os ydyw appêl y Gwyddelod am gymmhorth sylweddol a chydweithrediad egnïol eu cydgenedl yn mhob man at gyrhaedd amcanion daionus, weithiau drwy foddion anghyfreithlawn, wedi cael ei atteb yn y fath fodd nes gwneyd cyrhaeddiad yr amcanion hyny yn sicrwydd yn y dyfodol buan, ai tybed y caiff appêl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg at Gymry yr holl fyd, pan yn ceisio cyrhaedd amcan teilwng o arucheledd anrhydedd ein cenedl, a thrwy foddion cyfreithlawn ac anrhydeddus, droi yn fethiant?

 

 

Text

Description automatically generated (tudalen 82) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6722)

82
Cofier mai nid yr ysgrifenydd, na'r gymdeithas y mae efe yn ei chynnrychioli, sydd yn appelio am gymmhorth a chefnogaeth; ond fod holl draddodiadau a gobeithion ein cenedl yn gwneyd hyny
- fod ysbrydion 'Cymru Fu,' anghenion 'Cymru Sydd,' a dyrchafiad Cymru Ddaw,' oll yn cyduno i wneyd hyny, gan erfyn yn y modd taeraf am i bawb gynnorthwyo yn mhob modd fydd yn ddichonadwy i gefnogi CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG.

Nid ydyw y pwyllgor yn ammheus am y canlyniad. Y mae eu ffydd yn ddiysgog y bydd attebiad eu cydgenedl yn gefnogol i'r amcanion goruchel sydd ganddi. Ac yn y gobaith cryf a'r ffydd ddiysgog yma y gorphwysaf ar ran y gymdeithas,

Yr eiddoch yn bur,

Ionawr 23ain, 1886.
BERIAH GWYNFE E
VANS,

 Ysgrifenydd y Gymdeithas.

Cyfeirier pob gohebiaeth fel hyn

BERIAH GWYNFE EVANS,
Swyddfa Cymdeithas yr Iaith Gymraeg,
Llangadog, R. S. O.,
South Wales.

DINBYCH, ARGRAPHWYD GAN T. GEE A'I FAB.

 
 


 

 

A picture containing text, newspaper, receipt

Description automatically generated (tudalen 83) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6723)

WELSH LITERATURE

STANDARD WORKS PRINTED AND PUBLISHED BY T. GEE & SON, DENBIGH,  AND TO BE HAD OF ALL BOOKSELLERS.

 

Should any difficulty be found, they will he sent free per  post to any part of Europe, the United States, or Canada, on receipt of Cash.

 

£ S. D

 

The Encyclopaedia Cambrensis. The most important   Work; published in the Welsh Language. Edited by the Rev. John Parry, D. D., of Bala. With An Appendix, edited by the Rev. John  Ogwen Jones, B. A., Rhyl. See next page. In 10 Volumes, boards.... £7 10s. 0d. Half bound in Persian morocco, £8 8s. 0d.; ful bound do., £9 9s. 0d.; ditto, extra, £10 10s. 0d.; ditto, Gilt edges, 15s. extra in each binding.

The Myyyrian Archaiology of Wales. By William Ow
en  Puhe, D.C.L., F.A.S. (Idrison); Edward Williams (lolo Morganwg); and Edward Jones (Myfyr). To which have been added Additionai Notes upon the 'Gododin;' and an English Transiation of the Laws of Howel the Good; with a Glossary of the Terms used therein. Also, an Explanatory Chapter on Ancient British Music, by John Thomas (Pencerdd Gwalia). In boards... £2 0s. 0d.

 

The first edition was published
in three volumes, price £3 10s. 0d. — but was for many ycars so scarce that £20 was readily paid for a copy.

An English and Welsh Dictionary, adapted to the present state ot
science and Literature; in which the English Words are deduced from their originals, and explained by their synonyms in the Welsh Language. By the Rev. D. Silvan Evans. 2 vols. in boards... £2 0s. 0d.

 

Half calf, £2 5s, 0d.;
full calf, £2 7s. 6d,

An English and Welsh Dictionary: wherein not only the Words, but also the Idioms and
Phrasology of the English Language are carefully translated into Welsh, by proper and equivalent Words and Pnrases: with a Dissertation on the Welsh Language, and remarks on its Poetry, &c. By the Rev. J. Walters. 3rd edit.Im 2 vols, boards £1 10s. 0d.

A Welsh and English Dictionary: The National Dictionary of the Welsh Language, with English and Welsh Equivalents. By W. Owen Pughe, D.C.L., F.A.S. Third edition, enla
rged by R. J. Pryse. With an Engraving of Dr. Pughe. 2 vols., bds. £1 10s. 0d. Half calf, £1 15s. 0d.; full calf, £1 17s. 6d,

An English and Welsh Prono
uncing Dictionary. The
Pronunciation is in Welsh Letters, &c., &
c. By R. J. Pryse. In boards £0 7s. 0d.

 Half bound, 8s. 6d.; bound, 9s. 6d. A SMALLER EDITlON — 4s. bds.

The English-Welsh Handbook
, and Vocabulary. By Rev. T. Ll. PHILLIPS, B.A. Price, in boards... £0 1s. 6d

Denbigh, and Denbigh Castle. Descríptive Hístoríes of the Castle, Borough, and Liberties, &c. By Rev. J. Williams. Boards £
0 5s. 0d. A SMALLER EDITION. Price... £0 0s. 6d.

Popery and Protestanism brought to the test of God's Holy Word — for the use of Schools and Familíes. By the late Rev. T. Phillips, D.D., Agent to the Bible Society... £0 0s. 2d. A WELSH Edition also. Price... £0 0s. 2d.  

Melodies for the Sanctuary and Family. — 450 Ancient
a
nd Modern Psalm and Hymn Tunes, &c., with English & Welah words. £0 4s. 0d.  
A SOL-FAH Edition also, price in boards
... £0 3s. 0d.  

This Collection contains a large number of old Welsh Tunes.

A f
ull Catalogue will he sent on application.

 

 

A picture containing text, newspaper, screenshot, receipt

Description automatically generated (tudalen 84) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6724)

82
GWEITHIAU
Y DIWEDDAR BARCHEDIG WILLIAM REES, D.D., CAER.

Caniadau Hiraethog: yn cynnwys holl Gyfansoddiadau P. s. c. Barddonol Gwilym Hiraethog; sef, y Parch. W. REES, D.D., Liverpool. Mewn byrddau..
.

 £0 4s. 0d.  

CYNNWYSIAD.
Iob Pryddest  -  Awdl, mewn chwech o ranau.  -  Awdl ar Heddwch.  -  Cywydd ar Frwydr Trafalgar, a marwolaeth y Penllyngesydd, Arglwydd Nelson, &c.  -  Englynion Marwnadol. - Beddargryph. -  Marwnadau. - Caneuon. Emynau a Chyfieithiadau; a Thraethawd ar Feirdd a Barddoniaeth Gymreig.

 

Emmanuel; neu, Ganolbwngc Gweithredoedd a Llywodraeth Duw. Gan GWILYM HIRAETHOG. Mewn byrddau, Cyf. I., pris 4s.; a Chyf. II., pris 5s. ... £0 9s. 0d.  

CYFROL I. Caniad 1. Y Duwdod: - Holldduwiaeth, Amldduwiaeth. 2. Y Frwydr Fawr: - Annuwiaeth. 3. Y Cread: - Cyntefigaeth y ddaear, &c. 4. Y Cyfnodau. 5. Y Carcharorion. 6. Cyfrinach y Goedwig. 7. Yr Ardd. 8. Y Prawf. 9. Breuddwyd Efa.
10. Cain ac Abel.

CYFROL II. - Caniad 1. Gweledigaeth y Ddaear. 2. Gweledigaeth y Nef. - Ymdaith drwy y wybrenau. 3. Gweledigaeth y Breuddwyd.
4. Gweledigaeth Beula (un o heuliau y nef). - Rhan i.
5. Gweledigaeth rhwng cromfachau). 6. Gweledigaeth Beula. -  Rhan ii. 7. Gweledigaeth Tirza (haul arall). 8. Gweledigaeth Tirza. - Rhan ii. 9, 10, 11, a 12. Gweledigaeth Tirza. -  Rhan iii., iv., a v.

 

Dymunem, yn y modd cywiraf, alw sylw yn adnewyddol, at yr Arwrgerdd hon. Y mae yn llawn o bob rhagoriaethau perthynol i'r cyfryw gyfansoddiad. Yr hyn a honwn yw, ei bod yn gydgyfarfyddiad ardderchog o holl gynneddfau barddonlaeth aruchel. Cawn ynddi y mawreddog a'r llednais, y difrifol a'r chwareus, y tawel a'r cynnhyrfus, y cyfarwydd a'r dyeithr, y prydferth a'r ofnadwy.... Y mae y gwaith hwn yn eithaf llafur oes gyffredin. - 'Y Beirniad.'

Twr Dafydd. Gan y Parchedig WILLIAM REES, D.D. Cynnwysa Arweiniad i mewn i Lyfr y Salmau; ac arall
-eiriad Barddonol newydd o'r Salmau, wedi eu gosod yn gyfochrog â'r rhai gwreiddiol, ynghyd â Nodiadau ar bob Salm. Mewn byrddau

£0 4s. 0d.  

Yr ydym yn croesawu yn galonog y gwaith hwn, ac yn diolch i'w awdwr hybarch am ei roddi i'w genedi. Ceir testyn y Salmau yma wedi ei argraphu yn gywir a destlus, a hyny mewn cyfrol fechan, hylaw, a phrydferth - ac yn gyfochrog ceir yr arall
-eiriad, yr hwn yn fynych sydd yn hynod o hapus, a phob amser yn dda a darllenadwy, ac yn gynnorthwy rhagorol i ymdeimlo yn adnewyddol ag ieuengrwydd bythol y Salmau: ac y mae y Nodiadau a chwanegir, nid yn unig yn ymarferol ac eglurhaol,' ond hefyd, nid yn anfynych, yn ddadblygiad helaethach ar farddoniaeth y Salmau eu hunain.' - 'Y Traethodydd.'

Aelwyd F
Ewythr Robert: neu Hanes Caban F' Ewythr Tomos: - mewn ffurf o ymddiddan rhwng F Ewythr Robert a Modryb Elin o Hafod y Ceiliogwydd, a'r gwas, a'r forwyn, a James Harris, o Bryn derwen, &c. Gyda Darluniau. Gan y Parch. W. REES, D.D. Bddau. £0 3s. 6d.  


Y mae neillduolrwydd yn perthyn i 'Aelwyd F
Ewythr Robert' sydd yn ei wneyd yn werth ei ddarllen hyd yn oed gan y rhai sydd wedi darllen 'Uncle Tom,' pa un bynag ai yn Saesneg ai mewn cyfieithiad. - Y Traethodydd.'

Y mae y dull hwn o ddwyn y llyfr allan yn ddengar neillduol, ac yn fwy manteisiol i osod allan feddwl y gwreiddiol yn eglur a dealladwy. - 'Y Dysgedydd.'

Yr oedd yn hanfodol cael athrylith y Parch. W. REES, a dawn yr 'Hen Ffarmwr,' wedi cydgyfarfod, i wneyd cyfiawnder âg ‘Uncle Tom.' - 'Y Cronicl.'

Traethawd ar Grefydd Naturiol a Dadguddiedig. Gan y Parch. W. REES. Cynnwysa brofion o ddwyfoldeb y Beibl, a'r grefydd Gristionogol - hanes gau grefyddau y byd - pa mor bell y llwyddodd y doethion Cenhedlig i ddwyn trefn ar y byd -  - golygiadau Socrates, Plato, Aristotle, Anaxagoras - egwyddorion Hobbes, Rousseau, Paine, Bolingbroke, Volney, &c., ynghyd a sylwadau cyffredinol arnynt - addefiadau gelynion y Beibl o ragoroldeb ei egwyddorion - dylanwad ymarferol Cristionogaeth ac Anffyddiaeth ar wledydd a phersonau - esamplau o droedigaeth anffyddiaid - marwolaethau truenus amryw anffyddiaid, a marwolaethau dedwydd amryw Gristionogion - agwedd grefyddol y byd, a'i brif grefyddau, ynghyd â sylwadau arnynt - cyfarwyddiadau i ddarllen a deall yr Ysgrythyrau - hanes y Beibl, &c., &c. Mewn byrddau
... £0 3s. 6d.  

T. GEE A'I FAB, CYHOEDDWYR, DINBYCH.

 

 

A picture containing text, newspaper, receipt

Description automatically generated (tudalen 85) (Yr Iaith Gymraeg. Tair Miliwn o Gymry mewn Can Mlynedd. 1886.) (delwedd J6725)

84

The Encyclopædia Cambrensis.

Y GWYDDONIADUR CYMREIG:
NEU, GYLCH
GWYBODAETH GYFFREDINOL.
-----
Y MAE
Y GWAITH MAWR CENEDLAETHOL HWN YN CYNNWYS

Corph cyflawn o Wybodaeth Ysgrythyrol a Duwinyddol; Dosbarthiad Beirniadol o Eiriau y Beibl yn ol eu gwahanol ystyron; Daearyddiaeth Ysgrythyrol; yr Anifeiliaid, Ehediaid, Pysg, Llysiau, &c., a enwir yn y Beibl; Hynafiaethau; Arferion a Defodau Dwyreiniol; Hanes Eglwysig; Hanes Enwadau a Chymdeithasau Crefyddol; Golwg gryno a chynnwysfawr ar agwedd Cristionogaeth trwy y Byd; Bywgraffyddiaeth Grefyddol; Crefyddau y Byd - eu hanes, eu daliadau, a phrif wrthddrychau eu haddoliad; a Ilawer o Wybodaeth Gyffredinol sydd yn terfynu ar y materion hyn.

 Y mae yr erthyglau wedi eu parotoi gan

YSGRIFENWYR ENWOCAF Y GENEDL.

DAN OLYGIAD

Y PARCH. JOHN PARRY, D.D., BALA.

Gydag ATTODIAD, yn cynnwys amryw Erthyglau nas gallesid eu cyhoeddi ar y pryd yn eu lleoedd priodol, dan olygiad

Y PARCH. J. OGWEN JONES, B.A., RHYL.

Y RHAGYMADRODD, GYDA HANES BYWYD DR. PARRY,
A SYLWADAU AR EI YSGRIFENIADAU,

GAN Y PARCH. OWEN THOMAS, D.D., LIVERPOOL.


Y mae y Gwaith hwn yn ddeg o Gyfrolau wythplyg mawr, ac yn cynnwys HANES TEYRNASOEDD Y BYD ar ddechreu y flw. 1879. Darluniau rhagorol o Dr. Parry, a Mr. Gee.

Pedwar cant a deg o Ddarluniau i egluro yr Erthyglau.

 A deg ar hugain o Fapiau rhagorol,

Yn mha rai y mae y Darganfyddiadau diweddaf a wnaed gan Dr. LIVINGSTONE a Mr. STANLEY, a theithwyr enwog eraill, wedi eu nodi.

Nid ydyw y Gwaith hwn i'w gael mewn rhanau yn awr; ond fel y canlyn:
- I'r neb sydd eisieu Cyfrolau i orphen eu copiau, gellir eu cael fel y canlyn: - Mewn byrddau am 14s. y gyfrol - ond y ddiweddaf yn 1p. 2s. 0c. Yn hanner rhwym, y mae y cyfrolau yn 15s, 6c. yr un - y ddiweddaf yn 1p. 4s. 0c. Mewn rhwymiad cyflawn, y mae y cyfrolau yn 17s. 6c. yr un - y ddiweddaf yn 1p. 5s. 0c.

 

COPIAU CYFLAWN O'R GWAITH. - Yn y copiau cyflawn a wneir i fyny yn awr y mae y Mapiau, &c., yn cael eu trefnu yn wahanol i'r uchod; a'u prisiau fel y canlyn: - Mewn llian, pris 7p. 10s. Oc.; yn hanner rhwym mewn Persian Morocco, 8p. 8s. 0c.; mewn rhwymiad llawn, 9p. 9s. 0c.; rhwymiad llawn extra, 10p. 10s. 0c. Ond os bydd yr ymylau wedi eu goreuro (gilt edges), bydd y pris 15s. yn rhagor.

CYHOEDDWYD GAN T. GEE A'I FAB, DINBYCH.

Anfonant Restr gyflawn o'u Llyfrau i'r neb a ysgrifenant am dani.
  

 

 

 

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ / ē Ē /
ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː  B5237ː B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː
  deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː , ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG:
ɛ̄ ǣ æ

ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː
A̋ a̋

U+1EA0 Ạ   U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ   U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị   U+1ECB ị
U+1ECC Ọ   U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ   U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ   U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ   U+1EF5 ỵ
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith
δ δ £ gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ U+2020 †

« »

 

 

DAGGER
wikipedia, scriptsource. org

httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ

  

Hwngarwmlawtː A̋ a̋
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
…..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́

Ə́ ə́

Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute

…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ


Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:

www. []kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_304_yr-iaith-gymraeg-1785-1885-1985_dan-isaac-davies_1886_3772k.htm

---------------------------------------

Creuwyd / Created / Creada: 31-12-2022

Adolygiadau diweddaraf / Latest updates / Darreres actualitzacions: 31-12-2022

Delweddau / Imatges / Images:

---------------------------------------

Freefind.

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE

Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?

 

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait

 

hit counter script o ymwelwyr i’r Adran Testunau ers 1 Medi 2005
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats