kimkat2088k Hanes Cymry America. Hanes Cymry America; A’u Sefydliadau, Eu Heglwysi, A’u Gweinidogion, Eu Cerddorion, Eu Beirdd, A’u Llenorion; Yn Nghyda Thiroedd Rhad Y Llywodraeth A’r Reilffyrdd; Gyda Phob Cyfarwyddiadau Rheidiol I Ymfudwyr I Sicrhau Cartrefi Rhad A Dedwyddol. Gan Y Parch. R. D. Thomas, (Iorthryn Gwynedd.) 1872. (= Robert David Thomas, Ganwyd Llan-rŵst, Sir Gaernarfon, 17 Medi 1817; Bu Farw Knoxville, Tennessee, Unol Daleithiau América, 25 Tachwedd 1888.)

09-10-2018

● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ●
kimkat0960k Mynegai i’r holl destunau yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_llyfrgell/testunau_i_gyd_cyfeirddalen_2598k.htm
● ● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ●
● kimkat2083k Hanes Cymry America. Iorthryn Gwynedd. 1872: Y Gyfeirddalen www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_239_hanes-cymry-america_iorthryn-gwynedd_1872_y-gyfeirddalen_2083k.htm
● ● ● ● ●
kimkat2088k Y tudalen hwn

 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
 (delwedd 0003)
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
El Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
HANES CYMRY AMERICA. LLYFR 2. RHAN 2.


(delwedd E1413)

Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:

http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/

a-7000_kimkat1356k
Beth sy’n newydd yn y wefan hon?

7015_map_cymru_a_chatalonia_trefi_caernarfon
 (delwedd 7015)


....

  https://translate.google.com/ (Cymraeg, català, English, euskara, Gàidhlig, Gaeilge, Frysk, Deutsch, Nederlands, français, galego, etc)

...
llythrennau duon = testun wedi ei gywiro

llythrennau gwyrddion = testun heb ei gywiro

....

DOSRAN B – Y GORLLEWIN PELL (2/2)
tudalennau 84-171

(delwedd E1417)

PEN. VI. Missouri - Y Sefydliadau a’r Eglwysi Cymreig ...84
PEN. VII. Kansas - Y Sefydliadau Cymreig, Tiroedd, &c. ...109
PEN. VIII. Nebraska - Ei Thiroedd, &c. Cymry Nebraska,...135
PEN. IX. California - Darluniad o’r Wlad. Cymry, &c. ...143
PEN. X. Oregon a’r Tiriogaethau - Eu Hanes, &c. ...156
PEN. XI. Canada - Patagonia - Eu Hanes. Cymry ...169

.....

 

 


(delwedd E1122) (tudalen 084)

(x278) (tudalen 084)

PENNOD VI.

TALAETH MISSOURI.

Ei Thiroedd Rhad a Ffrwythlon; ei Hinsawdd &c Y Sefydliadan Cymreig:: - 1. St. Louis.. 2. New Cambria. 3. Bevier, a’i Gweithiau Glo. 4. Callao. 5. Macon City. 6. Brookfleld. 7. Chillicothe. 8. Utica. 9. Dawn, Livingston Co. Rhestr o’r Sefydlwyr Cymreig T.d. 84-108

Mae y dalaeth hon tua 300 milldir o hyd wrth 250 o led, mewn manau. Terfynir hi o du y gogledd gan dalaeth Iowa; o du y de gan Arkansas; o du y dwyrain gan afon Mississippi, a thalaeth Illinois; ac o du y gorllewin gan dalaeth Kansas, a rhanau o Nebraska, a’r Indian Territory. Mae ynddi gant a phymtheg o siroedd; ac yn y fl. 1870 yr oedd poblogaeth y dalaeth dros un miliwn a chwe’ chan’ mil (1,691,693.) Yn 1860, cyn y rhyfel, yr oedd ynddi dros gan’ mil (114,931) o slaves; ond rhyddhawyd hwynt oll. Ataliodd caethwasiaeth lawer iawn ar ei llwyddiant mewn crefydd, addysg, a masnach; ond y mae yn awr yn cynyddu yn ddirfawr. Dechreuwyd ei phoblogi gan y Ffrancod oddeutu St. Louis yn y fl. 1764, a derbyniwyd hi i’r Undeb Awst 10, 1821. Bu yn dalaeth gaeth am dros ddeugain o flyneddau, a gwnaeth y caethfeistri oedd ynddi eu goreu yn erbyn diddymiad caethwasiaeth. Ymladdwyd llawer o frwydrau gwaedlyd yn y dalaeth hon; ond llwyr orchfygodd carwyr rhyddid, ac y mae awenau llywodraeth y dalaeth yn eu llaw hwy yn awr, a bydd eu llwyddiant yn y dyfodol yn sicr a dirfawr.

Prif ddinasoedd Missouri ydynt St. Louis, St. Joseph, Kansas City, Hannibal, Macon City, &c. Rhenir y dalaeth bron yn ddwy ran cyfartal gan afon Missouri, yr hon a ddylifa o’r gogledd heibio i St. Joseph hyd Kansas City, yn rhandir gorllewinol y dalaeth, ac oddi yno a ddylifa trwy ganol y dalaeth, mewn cyfeiriad dwyreiniol, ac a ymdywallt i’r Mississippi ychydig



 

 


(delwedd E1123) (tudalen 085)

(x279) (tudalen 085) TALAETH MISSOURI.

uwchlaw dinas St. Louis. Mae y ddwy afon fawr, sef y Mississippi a’r Missouri, yn nodedig fanteisiol i drafnidaeth a masnach y dalaeth; ac y mae amrai o reilffyrdd rhagorol yn awr yn rhedeg o ddinas St. Louis drwy y dalaeth i’r gogledd, a’r de, a’r gorllewin, sef, 1. The North Missouri R.R, yr hon sydd yn rhedeg o ogleddbarth St. Louis, drwy ran helaeth o’r dalaeth, heibio i Macon City (169 m.,) ac oddiyno i Ottumwa, yn Iowa (107 m.) 2. The Pacific Railroad of Missouri, yr hon a red o ganol dinas St. Louis gyda glanau deheuol afon Missouri hyd Jefferson City, ac oddiyno i Kansas City (282 milldir.) 3. The St. Louis & Iron Mountain Railroad, yr hon a red mewn cyfeiriad deheuol, trwy Mineral Point, Bismark, a Marble Hill, i Belmont (196 milldir.) 4. Mae cangen arall o’r Pacific R.R. yn rhedeg o St Louis trwy y Pacific City, a Rolla, a Lebanon, a Marshfièld, a Springfield, i Pierce City, bron ar gyffiniau yr Indian Territory (201 milldir.) Mae y tiroedd mewn manau yn rhandir deheuol a dwyreinioi y dalaeth yn wastadedd lled ddyfrllyd, ac yn fryniau anffrwythlon. Yn y de-orllewin y mae y tiroedd yn fwy coediog a thoredig, ond gellir gwneyd tyddynau ffrwythlon o honynt. Ond yn y gogledd a’r gogledd-orllewin, gellir cael miloedd o erwau o diroedd rhagorol am brisiau isel iawn gan y speculators, a chan gwmpeini y reilffyrdd, a chan lywodraeth y dalaeth, a a chan y llywodraeth gyffredinol. Mae yn y rhandir mawr hwn amrywiol diroedd rhagorol - bryniau isel coediog, gweirgloddiau eang, ffrwythlon, a gwastadeddau rhagorol oddeutu yr afonydd. Mae llawer iawn mwy goedydd, a llai o lawer o ddoldiroedd (prairies) yn Missouri nag sydd yn Kansas a Nebraska, ac y mae ei hinsawdd a’i dyfroedd mor iachus. Mae yn gyfoethog hefyd o fwnau glo, a haiarn, a phlwm, &c. Gwlad



 

 


(delwedd E1124) (tudalen 086)

(x280) (tudalen 086) Y GORLLEWIN PELL

ragorol ydyw am fagu anifeiliaid, gwartheg, eidionau, meirch, mulod, moch, &c.; a gellir codi gwenith, haidd, ceirch, ac Indrawn rhagorol ynddi. Mae yn wlad dda hefyd at gynyrchu pob math o ffrwythau. Nid yw ei gauaf yn hir, nac yn oer iawn; ac nid yw gwres ei haf a’i chynhauaf yn annyoddefol; yn yr amser poethaf o’r flwyddyn, ceir yno hefyd awelon adfywiol, fel ag a geir yn Kansas. Sicr yw fod talaeth Missouri, yn enwedig ei rhandiroedd gogleddol a gorllewinol, yn lle da i dyddynwyr a llafurwyr, a mwnwyr, a chrefftwyr, i gael cartrefi rhad, a dedwydd, a bywioliaeth gysurus; a chredwyf y bydd miloedd o Gymry yn ymfudo iddi, ac yn sefydlu ynddi eto. Mae ei chyfleusderau a’i manteision teithiol, masnachol, addysgol, a chrefyddol, yn awr yn dra lluosog, ac yn cynyddu yn gyflym.

Yr oedd ychydig o Gymry yn wasgaredig ynddi yn agos i ugain mlynedd yn ol. Yr oedd rhai yn St. Louis a St. Joseph mor foreu a hyny, ac ereill ar eu tyddynau, mewn gwahanol siroedd. Ond nid oedd ganddynt un sefydliad, nac eglwysi, na chapel Cymreig yn y dalaeth am lawer o flyneddau wedi hyny, hyd nes y dechreuwyd yr “Hannibal & St. Joseph R.R.” yn ngogledd Missouri, yn 1857. Oddeutu y reilffordd hono y mae eu prif sefydliadau yn awr.

1. St. Louis, St Louis Co., Missouri. - Saif ar lan y Mississippi, tua chant a haner o filldiroedd i’r gogledd o Cairo, a thua yr un nifer o filldiroedd i’r de o Keokuk; 340 milldir i’r gorllewin o Cincinnati, Ohio; a 280 o Chicago, Illinois.- Yn 1870, yr oedd ei phoblogaeth dros dri chan’ mil (310,864.) Cynyddodd dros gan’ mil yn y deng mlynedd diweddaf! Ac nid oes ond tair dinas arall yn yr Unol Dalaethau yn fwy ei phoblogaeth na hi yn awr, sef Brooklyn, Philadelphia, a New York. Hi yw prif ddinas y Gorllewin. Saif ar ganol yr Unol Dalaethau; a dywed rhai fod tebygrwydd



 

 


(delwedd E1125) (tudalen 087)

(x281) (tudalen 087) TALAETH MISSOURI.

mai yno y bydd prif eisteddle y Llywodraeth Gyffredinol yn y dyfodol mawr! Gorwedda ar le lled wastad a dyfrllyd, ac nid ystyrid hi yn lle dymunol ac iachus i breswylio ynddi; ond y mae ynddi yn awr lawer o heolydd llydain, wedi eu sychu yn dda, a llawer o bob math o adeiladau ardderchog; amrai o squares mawrion, a pharciau heirdd; llawer o’r adeiladau mwyaf ardderchog a drudfawr, a phob math o fasnachdai a llawweithfeydd; rhai factories cotton, &c.; llawer iawn o eglwysi, ysgoldai, clafdai, &c. Nid yw yn ol i Chicago, Philadelphia, ac hyd yn nod i New York, am ei sefydliadau addysgol a chrefyddol; a bydd ynddi , neu yn agos ati, yn fuan, lawer o’r blast furnaces, ac o’r rolling mills, canys y mae yn y dalaeth.gyflawnder o’r glo ac o’r haiarn goreu. ºYr Eglwys GYMREIG yn St. Louis, Mo. - Dichon fod yn y ddinas hon yn awr o dri i bum’ cant o hil Gomer; mae rhai o honynt yno er ys llawer o flyneddau, ac ereill yn ddiweddarach; clywais fod rhai o honynt yn grefftwyr, ac yn fasnachwyr cyfoethog a chyfrifol; diau fod llawer o honynt wedi ymuno a’r eglwysi Saesonig, a bod ereill yn selog dros eu hiaith, a’r achos Cymreig. Sefydlwyd eglwys Gymreig unol yno er ys llawer o nyneddau; ac addolant mewn ystafell barchus yno. Bu y Parch. Morgan A. Ellis, (T.C.) yn gweinidogaethu iddynt. Ond eu gweinidog presenol yw y brawd ffyddlon, a’r gweinidog enwog, y Parch. Humphrey Humphreys, (W.) gynt o Dolgellau, Meirionydd, G.C. Clywais mai eglwys a chynulleidfa fechan sydd yno, ac eu bod yn bobl ffyddlon a haelionus. Bu, ac y mae, y Cymro cenedlgarol, John Meredith Davies, Ysw., ac amrai ereill, yn selog ac ymdrechgar. dros lwyddiant yr eglwys Gymreig yno. Dywedir fod rhai Cymry yn byw, ac yn gweithio, yn East St. Louis, Illinois, yr ochr ddwyreiniol i afon Mississippi; ac yn y glof eydd oddeutu St. Louis.

2. NEW CAMBRIA, Macon Co., Missouri. - Saif y sefydliad Cymreig hwn yn ngogledd-barth Missouri, ar yr “Hannibal & St. Joseph R.R.,” 86 milldir i’r gorllewin o Hannibal a Quincy, ar lan afon y Mississippi, a 120 milldir i’r dwyrain o St. Joseph, ar lan y Missouri. Gelwid y lle gynt yn Stockton. Ymfudodd Evan W. Roberts, Ysw., a’i deulu, a’i hybarch dad, William Roberts, (gynt o Clwt y Bont, Llanddeiniolen, Arfon, G.C.,) Columbus, Wis., i fyw ar eu tyddyn yn yr ardal



 

 


(delwedd E1126) (tudalen 088)

(x282) (tudalen 088) Y GORLLEWIN PELL

yn 1858. Efelly yr oeddynt yno chwe’ blynedd cyn dechreuad y sefydliad dan ei enw newydd, sef ‘New Cambria, gan y Cymry anturiaethus a chenedlgarol, J» Mather Jones, Ysw., a Wm. B. Jones, Ysw., (Ap P. A. Môn). Bwriad cyntaf y ddau Jones oedd dechreu y sefydliad yn Breckenridge, neu Hamilton, tua 15 milldir i’r gorllewin o orsaf Utica, (tu draw i’r Dawn,) am fod yno diroedd rhagorol. Ond obiegid fod Evan W. Roberts yn byw o fewn tair milldir i’r gogledd o Stockton, ac yn ymdrechu cael Cymry i ymfudo a sefydlu yno, penderfynasant gydymdrechu er cael sefydliad Cymreig yn New Cambria. Ysgrifenodd Wm. E. Jones lythyr at Evan W. Roberts, yn hysbysu hyny, Mawrth 28, 1864. Ac o hyny allan cyhoeddwyd llawer iawn am y sefydliad newydd yn y “Cenhadwr,” a’r “Drych,” a thynodd sylw mawr; a dechreuodd ein cenedl ymfudo a sefydlu yno. O’i ddechreuad yn Mawrth, 1864, hyd amser sefydliad Arvonia, yn Kansas, yn nechreu y fl. 1869, canmolid ef fel y prif sefydliad Cymreig yn America; ond wedi hyny anaml y clywid gair o son am dano yn gyhoeddus; clywid rhai yn rhoddi anair iddo, gan ddywedyd, mai hen fryniau coediog, diffrwyth, ac anhygyrch, oedd ei diroedd, ac nad oedd braidd neb o’r Cymry yn gallu byw yn gysurus yno. Ond cefais gyfleustra i’w weled a’i archwilio, o Rhag. 1 hyd 7, 1870, a dyma fy marn ddiduedd ani dano: - 1. Nid yw yn sicr yn cyfateb yn gyflawn i’r ganmoliaeth a roddwyd iddo gan rai. 2. Y mae, yn mhob ystyr, yn llawer iawn gwell na’r cam-ddarluniad drygol a roddodd ereill iddo. 3. Y mae ynddo hefyd lawer o dyddynwyr, a masnachwyr, a chrefftwyr, wedi llwyddo mewn cyfoeth a dylanwad; yn byw yn gysurus; ac yn gefnogwyr ffyddlon a gwresog i foesoldeb, addysg, rhyddid, llenoriaeth Gymreig, a chrefydd bur yr Ysgrythyrau. 4. Ac y mae yno lawer o diroedd da eto, yn yr amgylchoedd, a ellid eu prynu am brisiau rhesymol, o $10 i $15 yr erw, gan y R.R. Co., a’r hen sefydlwyr. Nid oes un mynydd uchel na chreigiog yn agos at New Cambria, ond gwlad eangfaith ydyw o wellt-diroedd bryniog a dyffryniog, (rolling prairies,) a choedydd bychain (groves) yn tyfu ar rai o honynt, hawdd i’w harloesi a’u diwyllio, er



 

 


(delwedd E1127) (tudalen 089)

(x283) (tudalen 089) TALAETH MISSOURI.

cynyrchu gwair a phorfa rhagorol, ac Indrawn, gwenith, &c. A gellir gwneyd gerddi a pherllanau ffrwythlon arnynt.

Tua thair milldir i’r dwyrain o bentref New Cambria y mae y Charlton River, afon gref, ond nid morlwyol, yr hon a ddylifa o’r gogledd i’r de, trwy ganol Macon Co.; ac oddeutu ei glanau, am filldiroedd, y mae cyflawnder o goedydd mawrion gwerthfawr, ac o wastad-diroedd dyfrllyd, yn y rhai y tyf y gwair yn naturiol a thoreithiog bob blwyddyn. Mewn rhai manau, y mae y gwastadedd yn ddwy filldir o led, wrth bump neu chwe’ milldlr o hyd; ac wedi ei sychu, credwyf y byddai mor ffrwythlon a Dyffryn Clwyd yn Ngogledd Cymru. Mae rhai wedi sefydlu arno eisoes. Gellir ei brynu am o $2.50 i $5 yr erw. Yn mhen ugain mlynedd eto bydd llawer o dyddynau goludog a phrydferth arno. Mae tiroedd rhai o’r Cymry yn sefydliad New Cambria yn ymestyn iddo eisoes. Gellir gweled palasdy hardd y Parch. Griffith Griffiths, (A.) ar un o’r bryniau, ar ei ochr orllewinol, o filldiroedd o bellder ar y reilffordd, wrth ddyfod gyda y train o Bevier i New Cambria; ac y mae ganddo ef lawer o’r tiroedd goreu. Mae tyddynau William D. Roberts, Ysw., (Judge Roderts,) gynt o Dref-helygen, ger Caerwys, Sir Fflint, G.C., a Mr. Hugh H. Hughes, (Bardd Maldwyn,) gynt o Langadfan, Maldwyn, G.C., ac ereill, ar y second bottom, bron ar ymyl y gwastadedd mawr.

Gwnaeth J. Mather Jones, a Wm. B. Jones, ymdrech mawr er dechreu a chynyddu y sefydliad; a gwnaeth y sefydlwyr cyntaf, sef Evan W. Roberts, William. D. Roberts, Owen W. Jones, a’r Parchn. George M. Jones, (A.,) a Moses Williams, (T.C.,) ac ereill, eu goreu er llwyddiant ac anrhydedd Cymry y sefydliad: a chawsant, yn mhen blwyddyn neu ddwy, lawer ereill i gydweithredu â hwy.

Nid oedd pentref New Cambria ond lle bychan yn niwedd 1870; cynnwysai ddwy neu dair o heolydd, ar yr ochr ogleddol i’r reilffordd, a degau o dai coed - dwy neu dair o hotels; un ysgoldy, un capel bychan gan y Gwyddelod Pabyddol, ac un capel coed bychan gan yr Annibynwyr Cymreig; a dichon saith neu wyth o



 

 


(delwedd E1128) (tudalen 090)

(x284) (tudalen 090) Y GORLLEWIN PELL

stores; a chedwid tair o’r prif rai gan Gymry parchus, sef Owen W. Jones, a’i frawd, gynt o Holland Patent, Oneida Co., N.Y., a Thomas H. Hughes, a’i frawd, John H. Hughes, gynt o Blossburgh, Tioga Co., Pa., a’r Parch. John T. Williams, a’i fab. (drugs,) gynt o Lansantffraid, Brycheiniog, D.C. Cymry sydd yn y mwyafrif yno o lawer, ac y mae amrai o honynt yn grefftwyr medrus. Mae ychydig o dai, a melin flawd, a’r depot, yr ochr ddeheuol i’r reilffordd. Saif y pentref ar fryn bychan, ger llwyn o goed, (grove,) ac y mae yno gryn lawer o fasnachu eisoes, am mai yno yw y lle nesaf ar y reilffordd i’r tyddynwyr am dros saith neu wyth milldir o ffordd o amgylch iddo; a dywedir fod gwythienau bychain o’r glo goreu yn agos yno; gall ddyfod yn dref boblog yn y dyfodol. Mae aber fechan yn rhedeg yr ochr orllewinol i’r pentref, o’r enw Puzzle Creek.

Tybiais mai un sefydliad mawr oedd New Cambria; ond rhenir ef i chwech o fân sefydliadau; sef, 1. Yr ochr ogleddol i’r dref. 2. Yr ochr ddeheuol iddi. 3. Ardal Palmyra, o fewn dwy filldir iddi. 4. Ardal y Dyffryn, o fewn 3 milldir iddi. 5. Brush Creek, o fewn 5 milldir iddi. 6. Ac ardal Glasstown, o fewn 10 milldir iddi; oll o du y gogledd i’r dref Cymer y sefydliad, oll gyda’i gilydd, arwynebedd o dir dros 15 milldir o hyd wrth bedair neu bump o led. Dyma restr o nifer eu penau teuluoedd, a chyfanrif eu poblogaeth: -

[SEFYDLIAD] / TEULUOEDD. / YR OLL.

1. Yr ochr ogleddol i’r dref / 14 / 70
2. Yr ochr ddeheuol, a’r wlad 32 / 160
3. Ardal Palmyra / 21 / 105
4. Ardal y Dyffryn / 22 / 110
5. Brush Creek / 38 / 140
6. Glasstown / 16 / 80
Cyfanrif, T[euluoedd].133 / P[oblogaeth]. 665

Y rhestr ganlynol a noda enwau y penau teuluoedd; o ba le y daethant o Gymru; a pha flwyddyn y daethant i’r sefyliad,



 

 


(delwedd E1129) (tudalen 091)

(x285) (tudalen 091) TALAETH MISSOURI.

1. Y DREF. - Yr ochr Ogleddol i’r Reilffordd.

ENWAU. / O BA LE O GYMRU? &C. / PA BRYD?

1. Owen W. Jones Holland Patent, N.Y. / 1864
2. Moses Morgan / Morganwg / 1864
3. Stephen T. Jones / Kendle / 1865
4. Thomas Jones / Mon / 1865
5. Thomas J. John / Sir Gaerfyrddin / 1865
6. Parch. J. T. Williams / Brycheiniog / 1866
7. John O. Jones / Holland Patent, N.Y. / 1866
8. Mrs. J. Williams / Sir Gaerfyrddin / 1866
9. Morgan D. Jones / Aberteifi / 1867
10. Daniel J. Evans / Arfon / 1867
11. David Morris / Morganwg / 1867
12. Thomas Evans / Penfro / 1867
13. John H. Hughes / Mon / 1868
14. William A. Davies / Morganwg / 1869
15. John W. Jones / Brycheiniog / 1869

II. Y DREF A’R WLAD. - Yr ochr Ddeheuol0.

ENWAU. / O BA LE O GYMRU? &C. / PA BRYD?

1. William H. Jones / Mon / 1864
2. J. R. Hutton / Rymney / 1865
3. David Giles / Caerfyrddin / 1866
4. Richard Williams / Morganwg / 1866
5. Watkin C. Jones / Talaeth N.Y. / 1866
6. Hugh Lloyd / Arfon / 1867
7. John Evans / Pennsylvania / 1867
8. Thomas Hughes / Pennsylvania / 1867
9. John J. Roberts / Brithdir, Meirion / 1868
10. Benjamin Price / Brycheiniog / 1868
11. Robert Powell / Dolgellau / 1868
12. Thomas Johns / Morganwg / 1868
13. John B. Richards / Sir Gaer / 1867
14. Hugh Thomas / Mon / 1868
15 Thomas Jenkins / Brycheiniog / 1868
16. William Havert / Rymney, D.C. / 1868
17. Thomas Price / Troedrhiwdalar, D.C. / 1869
18. John T. Davies / Aberaman, D.C. / 1869
19. William Lloyd / Arfon / 1869
20. Rees J. Davies / Brycheiniog / 1869
21. Evan Jones / Maldwyn / 1869
22. Henry Rogers / Mynwy / 1869
23. Robert Jones / Dinbych / 1869
24. John W. Roberts / Meirion / 1869
25. John Thomas / Morganwg / 1869
26. David Jones / Talaeth N.Y. / 1869
27. Wm. J.Williams / Mynwy / 1869



 

 


(delwedd E1130) (tudalen 092)

(x286) (tudalen 092) Y GORLLEWIN PELL

ENWAU. / O BA LE O GYMRU? &C. / PA BRYD?

28. Evan Rosser / Morganwg / 1869
29. David John / Morganwg / 1869
30. Wm. H. Williams / Brycheiniog / 1870
31. John Howells / Morganwg / 1870
32. Hector Evans / Sir Gaerfyrddin / 1870

III. ARDAL PALMYRA.

ENWAU. / O BA LE O GYMRU? &C. / PA BRYD?

1. Parch. Moses Williams / Sir Ddinbych / 1864
2. Wm. H. Hughes / Maldwyn / 1864
3. David H. Davies / Morganwg / 1864
4. Morgan Harris / Sir Gaer / 1864
5. JohnGriffiths / Sir Gaer / 1864
6. Mrs. John J. Jones / Meirion / 1865
7. Evan J. Jones / Meirion / 1865
8. Richard J. Jones / Arfon / 1865
9. Thomas J. Davies / Aberteifi / 1865
10. John Morris / Maldwyn / 1865
11. James J. Jones / Caerfyrddin / 1865
12. Enoch G. James / Aberteifi / 1865
13. Thomas Parry / Morganwg / 1866
14. Richard Thomas / Morganwg / 1866
15. William Lewis / Morganwg / 1866
16. John D. Evans / Brycheiniog / 1866
17. David D. Jones / Brycheiniog / 1867
18. John G. Jones / Meirion / 1867
19. David Jones / Mon / 1868
20. Jonah Richards / Aberteifi / 1867
21. Thomas Evans / Brycheiniog / 1870
22. David E. Jones / Aberteifi / 1870
23. David Herbert / Aberteifi / 1870

IV. / ARDAL BUSH CREEK.

ENWAU. / O BA LE O GYMRU? &C. / PA BRYD?

1. Samuel Samuel / Aberteifi / 1864
2. Thomas J. Morgan / Brycheiniog / 1864
3. Robert Jones / Brycheiniog / 1864
4. Wm. Griffiths / Morganwg / 1864
5. John Rees / Sir Gaer / 1864
6. Evan Bevan / Brycheiniog / 1865
7. Benjamin Jones / Sir Gaer / 1865
8. John D. Richards / Aberteifi / 1866
9. Simon Davies / Aberteifi / 1866
10. John Griffiths / Sir Gaer / 1866
11.. John G. Davies / Brycheiniog / 1866



 

 


(delwedd E1131) (tudalen 093)

(x287) (tudalen 093) TALAETH MISSOURI.

ENWAU. / O BA LE O GYMRU? &C. / PA BRYD?

12. Evan Davies / Aberteifi / 1866
13. Thomas Watkins / Sir Gaer / 1866
14. David Davies / Sir Gaer / 1867
15. David D.Davies / Sir Gaer / 1867
16. Rees Davies / Sir Gaer / 1867
17. David Morgans / Aberteifi / 1867
18. Mrs.Ann Evans / Aberteifi / 1867
19. Thomas Mathews / Morganwg / 1868
20. Daniel Hughes / Morganwg / 1868
21. Thomas Thomas / Sir Gaer / 1868
22. John Williams / Mon / 1868
23. Isaac James / Sir Gaer / 1869
24. David Edwards / Morganwg / 1869
25. James Williams / Sir Gaer / 1869
26. Thomas Rowlands / Mon / 1869
27. Joshua Morgans / Sir Gaer / 1870
28. John S. Davies / Aberteifi / 1870

V. ARDAL Y DYFFRYN.

ENWAU. / O BA LE O GYMRU? &C. / PA BRYD?

1. Evan W. Roberts / Arfon / 1858
2. Barnwr W. D. Roberts / Arfon / 1864
3. Richard Richards / Hirwaun / 1864
4. David James / Penfro / 1864
5. Wm. D. Williams / Merthyr / 1865
6. John W. Davies / Caerfyrddin / 1865
7. William Jones / Dinbych / 1865
8. Wm. T. Jones / Brycheiniog / 1865
9. James J. Hughes / Aberteifi / 1866
10. Thomas Watkins / Morganwg / 1866
11. Daniel C. Jones / Dinbych / 1866
12. Morris O. Jones / Ffestiniog / 1866
13. John M. Thomas / Merthyr / 1866
14 John Rees / Morganwg / 1866
15. Hugh W. Hughes / Arfon / 1867
16. Thomas W. Jones / Sir Gaer / 1867
17. Daniel Owen / Penfro / 1867
18. Hugh H. Hughes / Maldwyn / 1868
19. William Griffiths / Ffestiniog / 1868
30. Henry Owen / Arfon / 1868
21. Parch. G. Griffiths / Ffestiniog / 1868
22. Thomas Jones / Arfon / 1869
28. Rowland R. Williams / Mon / 1870



 

 


(delwedd E1132) (tudalen 094)

(x288) (tudalen 094) Y GORLLEWIN PELL

VI. ARDAL GLASSTOWN..

ENWAU. / O BA LE O GYMRU? &C. / PA BRYD?

1. John Glass / Merthyr / 1865
2. Rees Jones / Morganwg / 1865
3. David Williams / Dowlais / 1865
4. David Edwards / Aberteifi / 1865
5. William Thomas / Gogledd / 1865
6. Robert Jones / Meirion / 1865
7. Thomas Roberts / Mon / 1866
8. Mrs. Nathaniel Evans / Aberteifi / 1866
9. William Williams / Aberteifi / 1866
10. Evan Griffiths / Aberteifi / 1866
11. Edward Jones / Llangollen / 1866
12. George Bruntnel / Pontypool / 1866
13. David Morgan / Dowlais / 1868
14. John Jones / Aberteifi / 1868
15. Mrs. O. Owens / Mon / 1868
16. Edward Edwards / Aberteifi / 1868
17. Evan T. Jones / Meirion / 1867

Eglwysi y TREFNYDDION CALFINAIDD yn New Cambria, Missouri. - Mae ganddynt dair o eglwysi bychain yn y sefydliad; addolant mewn ysgoldai - nid oes ganddynt yr un capel yno eto. 1. Eglwys y dref. Ffurfiwyd hi yn y fl. 1866. Mae eglwys, ysgol Sabbothol, a chynulleidfa ysgoldy Palmyra, yn gynwysedig yn eglwys, Ysg. Sab. a chynulleidfa y dref Aelodau, 52; Ysg. Sab., 45; cynuileidfa, 70; diacon, Mr. Richard Jones; dan ofal y Parch. John T. Williams. 2. Eglwys Brush Creek. Ffurfiwyd yr eglwys hon Hydref 11, 1868. Aelodau, 28; Ysg. Sab., 35; cynulleidfa, 40; diacon, Mr. John Richards, P.O., New Cambria, Macon Co., Mo. 3. Eglwys Glasstown. Ffurfiwyd yr eglwys yno yn y fl. 1865. Aelodau, 21; Ysg. Sab., 30; cynulleidfa, 50. Swyddogion - George Bruntnel, Rees Jones, Thomas Roberts, P.O., New Cambria. Y mae yr eglwysi yn Brush Creek a Glasstown dan ofal y Parch. Moses Williams, yr hwn sydd yn byw, gyda’i deulu parchus, ar ei dyddyn yn ardal Palmyra.

“Mae yr eglwysi yn Missouri wedi ymffurfio yn Gyfarfod Dosparth, ac wedi ymuno â’r Presbyteriaid, o ganlyniad gelwir ef ‘The Welsh Synod’” Gwel Dyddiadur y T.C. am 1871, t. d. 65.



 

 


(delwedd E1133) (tudalen 095)

(x289) (tudalen 095) TALAETH MISSOURI.

Eglwys Gymreig y BEDYDDWYR yn New Cambria, Mo. Ffurfiwyd hi Awst 9, 1868, Pregethwyd ar yr achlysur gan dri o weinidogion Saesnig, a chan y Parch. John T. Williams, (T.C.) Addolant yn ysgoldy y dref. Aelodau, 23. Ni chefais rifedi eu cynulleidfa, na’u hysgol Sabbothol. Nid oedd ganddynt weinidog sefydlog yn 1870. Diaconiaid, Daniel Owen, a Benjamin Price, New Cambria, P.O., Macon Co., Mo.

Eglwys yr ANNIBYNWYR Cymreig yn New Cambria, Mo. - Dechreuwyd achos yr Annibynwyr yn yr ardal, trwy gynal cyfarfodydd gweddio yn nhy Judge Roberts, yn Big Rock, Mehefin 12, 1864. Y Parch. George M. Jones, a bregethodd yno gyntaf, ar y testyn, Neh. 7, 4. Dechreuwyd cadw ysgol Sabbothol yno Medi 26, 1864. Ffurfiwyd yr eglwys yn fuan wedi hyny yn yr hotel yn y dref. Codwyd y capel yno yn haf 1866. Ei faintioli yw 32 tr. wrth 30 tr. Traul $1,200. Ychydig o ddyled yn aros arno yn 1870. Diaconiaid presenol, - Stephen T. Jones, Robert Powell, Thomas Jenkins, a J. Jones. Aelodau, 50; Ysg. Sab., 30; cynulleidfa 75. Bu y brodyr canlynol yn gweinidogaethu yno, sef y Parchn. George M. Jones, (2 fl.,) Thomas Pugh, (1 fl.,) a’i Parch. Griffith Griffiths, hyd Mai 1870. Mae efe yn byw eto ar ei dyddyn rhagorol, rhwng y dref ac ysgoldy ardal y Dyffryn, lle mae ganddo eglwys Annibynol arall dan ei ofal. Saif yr ysgoldy newydd hwn yn agos i dy hardd Evan W. Roberts, Ysw. Dechreuwyd cynal moddion o dy i dy yn yr ardal hono yn y fl. 1866, a’r ysgol Sabbothol yn 1867. Ffurfiwyd yr eglwys yno gan y Parch. Thomas Pugh, Medi 1, 1867. Dechreuodd y Parch. G. Griffiths weinidogaethu yno yn Mai 1868. Aelodau, 41; Ysg. Sab., 50; cynulleidfa 50. Diaconiaid, Evan W. Roberts, John W. Davies, a Wilham Griffiths, (brawd y Parch. Grffith Griffiths.) Nid yw yr Annibynwyr yn pregethu yn sefydlog yn ardaloedd Palmyra, Brush Creek, a Glasstown; ond pregethant yn achlysurol yn ardal y De, lle mae amrai o Gymry wedi sefydlu. Bydd yma faes mawr a phwysig i weinidog cymhwys, effro, a llafurus, yn y dyfodol. (Gwel “Cenhadwr” Medi, 1864, t d. 283.)



 

 


(delwedd E1134) (tudalen 096)

(x290) (tudalen 096) Y GORLLEWIN PELL

Mae amrai o feirdd, cerddorion, a llenorion Cymreig yn byw yn ardaloedd New Cambria: sef y Parch. Griffith Griffiths, Hugh H. Hughes, (Bardd Maldwyn,) Robert Powell, (Robin Glan Wnion,) George Bruntnel, (cerddor,) - a chyhaliasant amrai o Eisteddfodau llewyrchus yno, mewn undeb â Chymry y sefydliadau Cymreig ereill yn y dalaeth.

3. BEVIER, Macon Co., Mo. - Pentref bychan yw y lle hwn, ar ochr ogleddol y reilffordd, tuag 11 milldir i’r dwyrain o New Cambria, a 5 milldir i’r gorllewin o Macon City, Mo. Caeth-feistr o’r enw Bevier a werthodd ei dyddyn (300 erw) i Duff & Co., contractors ar y reilffordd, tua’r fl. 1856, a gwerthasant hwythau y tir i gwmpeini y reilffordd; am hyny y galwyd y lle yn Bevier. Yr oedd llawer o slaveholders a chaethion negroaidd yn y wlad y pryd hyny, yn codi tobacco, Indrawn, &c. Ond nid oeddynt yn gwybod fod y fath gyfoeth o’r glo i’w gael dan yr holl dir. Yr oedd Macon City yn cael ei dechreu y flwyddyn hono; ac yn 1857 gwnaed depot yn Bevier. Nid oedd New Cambria yn bodoli y pryd hyny.

Hopkin Evans, Ysw., gynt o Abertawe, Sir Forganwg, D.C., oedd y Cymro cyntaf a ddaeth yno i agor gwaith glô No. 5, (Hazleton Farm Colliery,) Mawrth 5, 1861. Yr oedd efe a’i deulu yn byw y pryd hyny yn Carbon, tair milldir i’r dwyram o Macon City; a symudasant oddiyno i breswylio yn Bevier yn Medi 1864. Yr oedd David Rees, mwnwr, gynt o Penymain, Mynwy, D.C., wedi adeiladu ty yno, ac yn byw ynddo ddwy flynedd o flaen Hopkin Evans. Daeth Mr. David Richards, (T.C.,) gynt o Rumney, D.C., i fyw yno yn 1864. Dyma restr o’r penau teuluoedd oedd yno yn Rhagffyr 10, 1870: -

ENWAU. / O BA LE O GYMRU? &C. / PA BRYD?

1. Hopkin Evans / Abertawe, D.C. / 1861
2. Evan Owens / Mynwy / 1863
3. William Jones / Cwmnedd / 1863
4. James Davies / Aberdar / 1863
5. Ebenezer Williams / Dowlais .1864
6. David Richards Rymney / 1864
7. John Richards / Dowlais / 1864



 

 


(delwedd E1135) (tudalen 097)

(x291) (tudalen 097) TALAETH MISSOURI.

ENWAU. / O BA LE O GYMRU? &C. / PA BRYD?

8. Thomas Williams / Morganwg / 1864
9. Daniel.Rowlands / Tredegar / 1865
10. Zebina Jones / Pendaran / 1865
11. David Humphreys / Abertawe / 1865
12. John Phillips / Aberdar / 1865
13. Thomas Jenkins / Merthyr / 1865
14 David Morgans / Morganwg / 1865
15. Thomas D. Evans / Morganwg / 1865
16. David W. Roberts / Cefn-coed-cymer / 1865
17. Wm. H. Pearce / Treffynon / 1865
18. Robert Edwards / Dinbych / 1865
19. Robert Jones / Mon / 1864
20. John J. Jones / Caerfyrddin / 1865
21. David Fulton / Merthyr / 1864
22. Parch. G. M. Jones / Dowlais / 1865
23. David Jones / NewYork / 1866
24. Edward Roberts. / Maldwyn / 1866
25. John Powell / Pontypridd / 1866
26. Richard Griffiths / Llanbrynmair / 1866
27. John J. Lewis / Llanbrynmair / 1866
28. Mrs. Rachel Morgan / Pomeroy, Ohio / 1866
29. Richard Meredith / - / 1866
30; Ephraim Rowlands / Dowlais / 1867
31. Thomas L. Jones / Sir Gaer / 1867
32. John R. Hughes / Tredegar / 1867
33. Edward Llewelyn / Aberdar / 1867
34. John H. Jones / Clydach, D.C. / 1867
35. Richard Jones / Ohio / 1868
36. Charles A. Jones / Pontypool / 1868
37. William Lewis / Pendaran / 1868
38. Thomas Thomas / Merthyr / 1868
39. Parch. John T. Evans / Merthyr / 1868
40. Jane Elias / Maldwyn ia68
41. John Hughes / Tredegar / 1868
42. Wm. L. Williams / Aberdar / 1868
43. John A. Williams / Merthyr / 1868
44. Roger Evans / Dowlais / 1869
45. David Griffiths / Merthyr / 1869
46. John Evans / Tredegar / 1869
47. Wm. B. Jones / Sir Gaer / 1869
48. Evan Davies / Cornwall, / Lloegr / 1869
49. David Watkins / Aberdar / 1869
50. Richard Jones / Morganwg / 1869
51. Daniel Llewelyn / Morganwg / 1869
52. John Thomas / Blaenau, Mynwy / 1869
53. Parch. Rees M. Evans / Morganwg / 1869
54. John Richards / Aberdar / 1869
55. Richard T. Davies / Aberdar / 1869
56. Thomas Thomas / Dowlais.. / 1869



 

 


(delwedd E1136) (tudalen 098)

(x292) (tudalen 098) Y GORLLEWIN PELL

ENWAU. / O BA LE O GYMRU? &C. / PA BRYD?

57. Lewis Williams / Morganwg / 1869
58. Thomas Michael / Mon, G.C. / 1869
59. Abraham Jones / Mynwy / 1869
60. Evan Jenkins / Morganwg / 1869
61. Thomas Francis / Aberavon / 1869
62. David B. Davies / Aberdar / 1869
63. Edward Davies / Abertawe / 1869
64. David Williams / Dowlais / 1869
65. George Harris / Morganwg / 1869
66. Thomas Thomas / Dowlais / 1869
67. Wm. S. Thomas / Aberdar / 1869
68. John Evans / Dowlais / 1869
69. David D. Davies / Hirwaun / 1869
70. John J. Davies / Aberaman / 1869
71. Rees D. Davies / Hirwaun / 1869
72. John Davies / Dowlais / 1869
73. Evan Maddy / Dowlais / 1869
74. David Hughes / Abertawe / 1869
75. Thomas M. Jones / Hirwaun / 1869
76. Thomas Griffiths / MountainAsh / 1869
77. Lewis Edwards / Morganwg / 1869
78. William Price. / Mountain Ash / 1869
79. John R. Jones / Kendle / 1869
80. Wm. Roberts / Mountain Ash / 1869
81. David J. Jones / Sir Gaer / 1869
82. John A. Williams / Blaenau / 1869
83. Benjamin Davies / Ohio / 1869
84. James Michael / Mon / 1870
85. John Evans / Merthyr / 1870
86. John D. Thomas / Aberdar / 1870
87. David Davies / Dowlais / 1870
88. Griffith Watts / Penfro / 1870
89. Wm. R. Williams / Aberdar / 1870
90. David Thomas / Dowlais / 1870
91. David Andrew / Merthyr / 1870
92. William Rosser / Mynwy / 1870
93. Stephen John / Aberdar / 1870
94. John Watkins / - / 1870
95. Richard D. Davies / Abertawe / 1870
96. David Jones / - / 1870
97 David J. Roberts / Aberdar / 1870
98. Levi James / Aberdar / 1870
99. William Lewis / Tredegar / 1870
100. John Griffiths / Mountain Ash / 1870
101. John P. Thomas / Mountain Ash / 1870
102. Morgan Jones / Mynwy / 1870
103. William Lloyd / Morganwg / 1870
104. John Eynon / Mynwy / 1870
105. John Evans / Merthyr / 1870

xxx



 

 


(delwedd E1137) (tudalen 099)

(x293) (tudalen 099) TALAETH MISSOURI.

Nifer y penau teuluoedd oedd 105. Cyfanrif y boblogaeth, 525; yn cynwys yr ychydig deuluoedd sydd yn byw yn Macon City, ac yn ardal Callao, gerllaw yno.

Nid oedd ond ychydig o dai da yn mhentref Bevier, na braidd ddim gwelliantau wedi eu gwneyd ar ei heolydd; tai coed bychain ac isel oeddynt. Yr un modd }yr oedd y stores oedd yno; yr oll wedi eu gwneyd yn y ffordd rwyddaf a rhataf, gydag ychydig o eithriadau.

Mae yno ddwy eglwys Saesonig - un Gynulleidfaol, a’r llall yn Wesleyaidd; dau ysgoldy bychain. Un store fawr gan gwmni y gweithfeydd glô, lle mae y post office; dwy hotel, un saloon, un drug store, tri meddyg, dau deiliwr, pedwar gôf, un barfwr, dau gigydd, dau grydd, ac amrai o stores ereill; a rhai o honynt yn cael eu cadw gan Gymry parchus, sef John Hughes, a’i fab, John K. Hughes, Thomas Thomas, ac ereill. Enwogodd Daniel Rowlands ei hun fel masnachydd, ac y mae yn awr yn byw ar ei eiddo. Mae y ddau gapel Cymreig yn sefyll mewn lleoedd cyfleus yn nghanol y pentref. Y gweithfeydd glo yw bywyd a nerth y lle hwn, ac y mae gwlad dyddynol eang o’i amgylch, a rhai Cymry wedi prynu tyddynau da, yn byw arnynt, ac yn gweithio y gauaf yn y glofeydd. Mae rhai honynt wedi bod yn llwyddianus iawn, ac yn awr yn bobl gyfoethog; sef Hopkin Evans, John Richards, John J. Jones, David Humphreys, Daniel Rowlands, Robert Edwards, &c. Mae Hopkin Evans, Ysw., yn byw mewn palasdy da yn y lle; efe yw arolygwr y gweithiau glô, ac y mae ganddo ranau ehelaeth ynddynt. Mae ef a’i deulu yn aelodau ffyddlon yn yr eglwys Annibynol Gymreig yno, ac yn ymdrechgar dros bob achos da.

Y mae yn agos yno chwech o fanciau glo - pump shaft, ac un slope - oll mewn gweithrediad. Perthynant i ddau gwmni. Trwch y gwythieni glô yw pedair troedfedd mewn cyfartaledd; dyfnder o 70 i 120 troedfedd. Gweithir y glô am 10 cent y bushel, a gall mwnwr enill o $45 i $50 y mis yno.

Mae digon o goedydd a gwair-dir i’w cael am filldiroedd o amgylch Bevier, ac mae cyflawnder o’r glô dan y tir am ddwy neu dair milldir o led ger Bevier, ac yn



 

 


(delwedd E1138) (tudalen 100)

(x294) (tudalen 100) Y GORLLEWIN PELL

rhedeg am filldiroedd i’r gogledd a’r de. Dyna yw barn y rhai deallus. Ond nid yw arwyneb y tiroedd yn dda iawn at amaethyddiaeth, am ei fod yn hawdd i’w olchi ymaith gan wlawogydd trymion, ac am fod clai trwchus o fewn deuddeg modfedd i’r arwyneb; ac am fod yr hinsawdd yn gyfnewidiol iawn yno. Yn y gauaf ceir ychydig ddyddiau o eira a rhew caled, ond toddant yn fuan, ac weithiau ceir sychder mawr yn yr haf, am hyny y mae cynyrch y gwenith gauaf a gwanwyn yn lled ansicr. Ond y mae yn lled dda am haidd, Indrawn, tatws, &c., ac am ffrwythau y coedydd. Mae diffyg dyfroedd ffynonau yno hefyd - dibynant lawer ar ddwfr gwlaw, yr hwn a gadwant ac a burant yn eu dyfr-gistiau (cisterns) mawrion. Mae hyny yn arferiad cyffredin yn Missouri, ac yn y talaethau gorllewiuol. Gall tyddynwyr gael tiroedd amaethyddol llawer gwell mewn lleoedd ereill; ond nis gall mwnwyr gael ond ychydig o leoedd mor fanteisiol i gael tyddyn a gwaith glô hefyd. Mae pris y tiroedd oddeutu Bevier, lle mae glô danynt, yn uchel iawn; ond gellir cael cyflawnder o diroedd a thyddynau o fewn rhai milldirau iddo, i’r gogledd a’r de gan y speculators a’r hen sefydlwyr, am o $10 i $20 yr erw, neu lai na hyny.

Clywais fod cynulleidfa fechan o’r Mormoniaid yn Bevier, a bod rhai Cymry wedi ymuno a hwynt; ond nid oes ganddynt gapel yno.

Eglwys yr ANNIBYNWYR Cymreig yn Bevier, Mo. - Y Parch. George M. Jones a draddododd y bregeth gyntaf yn y lle, yn nhy David Rees, oddiar 1 Tim. 2. 10, Mehefin 20, 1864. Sefydlwyd “Eglwys Undebol Gymreig Bevier,” gan yr un gweinidog, yn anedd John W. Davies, ger Shaft No. 2, Medi 25, 1864. Yr oedd yr Annibynwyr, a’r T.C. a’r Bedyddwyr, yn cyd-addoli. Yn mhen pedwar mis wedi hyny, cydunwyd i newid yr enw, er mwyn cael cynorthwy i godi capel gan yr Undeb Cynulleidfaol Saesnig. Caed $500 ganddynt. O hyny allan galwyd hi yn Eglwys Cynulleidfaol Gymreig Bevier. Codwyd yr addoldy, 32 wrth 28 tr. Traul, $1,500. Agorwyd yr addoldy Mai, 1866. Bu y Parch. George M. Jones yn gweinidogaethu iddynt hyd Hydref, 1869, pan y rhoddodd ofal yr eglwys i fyny yn heddychol. Yn niwedd y fl. 1868, ymadawodd y T.C. oddiwrthynt mewn tangnefedd, a ffurfiasant eglwys eu hunain; a thua diwedd y fl. 1869, ymadawodd y Bedyddwyr oddiwrthynt, a sefydlasant eglwys eu hunain yno. Ond yn 1868 a 1869, daeth



 

 


(delwedd E1139) (tudalen 101)

(x295) (tudalen 101) TALAETH MISSOURI.

llawer o Gymry i sefydlu yno. Cynyddodd yr eglwys. Yn niwedd y fl. 1870, yr oedd ei chyfrif fel y canlyn: - Aelodau, 76; Ysg. Sab., 78; cynulleidfa, 150. Casgliadau blyneddol, $747.83. Ac nid oedd dim dyled ar y capel, er eu bod wedi prynu lot arall, ac arliwio yr addoldy yn hardd. Eglwys oleuedig, heddychol, haelionus, a gweithgar yw hon. Diaconiaid - David Humphreys a Thomas D. Evans. Trysorydd, Daniel Rowlands; Ysgrifenydd, John H. Jones. Blaenor y canu, John J. Jones. Trustees, Hopkin Evans, Daniel Rowlands a David Humpheys. Cymerodd y Parch. Griffith Jones, gynt o Cambria, Wis., eu gofal gweinidogaethol yn nechreu y fl. 1861, ac y mae yn gysurus a defnyddiol yno eto. Mae yr hen weinidog, y Parch. George M. Jones, a’r Parch. Rees M. Evans, gynt o Carmel, Bro Morganwg, D.C., yn byw eto yn yr ardal, ac yn ffyddlon gyda’r achos yno. Yn yr ardal hono y mae rhieni y myfyriwr ieuanc gobeithiol, Mr. Richard R. Davies, Marietta College, Ohio, yn byw, gynt o Rumney, D.C.

Eglwys y TREFNYDDION CALFINAIDD (neu y Presbyteriaid,) yn Bevier, Mo. - Yn niwedd y fl. 1868, penderfynodd y cyfeillion hyn ymadael o eglwys yr Annibynwyr. Y Sabboth cyntaf yn y fl. 1869, cychwynasant achos eu hunain yn yr Hall; a’r trydydd Sabboth, ffurfiwyd yr eglwys yno gan y Parchn. Moses Williams a John T. Williams, New Cambria; a dewiswyd Mr. John T. Evans yn bregethwr, a David Richards yn ddiacon, a Daniel Samuel yn Ysgrif enydd, a Jonathan Davies yn Drysorydd, a Thomas J. Davies yn arweinydd y canu. Yn Hydref y fl. 1869, adeiladwyd y capel, 34 wrth 20 tr. Traul, uwchlaw $1,000. Caf wyd y lot yn rhad gan C. O. Godf rey, Ysw. Yn Ebrill, 1870, ymunasant a’r Presbyteriaid, a derbyniwyd holl eglwysi y T.C. yn Missouri i Undeb Henaduriaeth Palmyra. Gelwif hi yn awr “Eglwys Henaduriaethol Gymreig Bevier;” ac y maent yn cael cynorthwy haelionus gan yr Henaduriaeth hono i dalu dyled eu capel, ac i gynal eu gwemidog. Mai 15, 1870, rhoddodd yr eglwys alwad i’r Parch. John T. Evans i gymeryd eu gofal gweinidogaethol; ac yn ol ei ddymuniad ei hun, urddwyd ef yn haf y fl. 1871. Dyma eu cyfrif yn niwedd y fl. 1870: - Aelodau, 29; plant, 25; Ysg. Sab., 72; cynulleidfa, 130. Mae 16 o deuluoedd yn dal cysylltiad a’r achos. “Duw a roddes y cynydd.” 1. Cor. iii. 6.

Eglwys y BEDYDDWYR Cymreig yn Bevier, Mo. - Buont yn cydaddoli a’r Annibynwr; ond ffurfasant eglwys eu hunain yno tua diwedd y fl. 1869. Bu Mr. John Jenkins, yr hwn sydd yn byw yn yr ardal, yn pregethn iddynt; ac yr oedd golwg obeithiol arni unwaith; ond oblegid ymadawiadau cyfeillion ffyddlon i leoedd ereill, &c., nid yw mor llewyrchus yn awr. Nid oes ganddynt gapel, na gweinidog sefydlog, ac nid yw eu nifer ond ychydig.



 

 


(delwedd E1140) (tudalen 102)

(x296) (tudalen 102) Y GORLLEWIN PELL

Mae rhai beirdd, cerddorion, a llenorion Cymreig yn Bevier: Bardd, John Jenkins (B.) Cerddorion, David J. Jones, Callao; Parch. John T. Evans, David W. Roberts, a John J. Jones. Cynaliwyd yno rai Eisteddfodau, neu Gyfarfodydd Llenyddol

4. CALLAO, Macon Co., Mo. - Saif y pentref hwn o bobtu y reilffordd, tua.4 milldir i’r gorllewin o Bevier. Mae yno rai masnachdai, a chapelau; ac ychydig i’r deddwyrain oddiyno y mae y Parch. George M. Jones, a chwech neu saith o deuluoedd Cymreig ereill, yn byw ar eu tyddynau bychain. Pregethir yno yn achlysurol; a dichon y bydd yno sefydliad cryf o dyddynwyr a mwnwyr yn y dyfodol. 5. MACON CITY, Macon Co., Mo. - Nid oedd mewn bodolaeth yn y fl. 1860. Bloomington, yr hon a saif ychydig o filldiroedd i’r gogledd-orllewin oddiyno, oedd prif dref y sir am flyneddau; ond wedi gwneyd yr “Hannibal & St. Joseph R.R.” drwy y lle, cynyddodd Macon City yn gyflym, a symudwyd swyddfäau y llywodraeth sirol o Bloomington yno. Tref hardd a chynyddol yw Macon City. Saif mewn lle hyfryd ac iachus, ac y mae y “North Missouri R.R” yn awr yn rhedeg drwyddi o St. Louis i Ottumwa, yn nhalaeth Iowa. Mae ynddi lawer o gapelau, a masnachdai, a thai rhagorol. Yno y mae prif farchnad Cymry Bevier. Dichon fod yno bump neu chwech o deuluoedd Cymreig. W. W. Watkins, Ysw., gynt o swydd Oneida, N.Y., yw perchenog un o’r prif westfai sydd yno, sef y “North Missouri Hotel.” Saif yn agos i junction y ddwy reilffordd, gerllaw y depot. Mae yno le da a chysurus i ymfudwyr, am bris rhesymol.

Mae reilffordd arall yn cael ei gweithio yn awr o Macon City heibio i Bloomington, a Glasstown, drwy wahanol siroedd gogleddol a gorllewinol Missouri, heibio i Red Oak i Council Bluffs, yn nhalaeth Iowa. Egyr hon fanteision lawer i’r ymfudwyr.

6. BROOKFIELD, Linn Co., Mo. - Tref hardd gynyddol, yn sefyll ar wastadedd eang, tua deunaw milldir i’r gorllewin o New Cambria, yw hon. Ynddi hi y mae machine shops y reilffordd, a llawer yn gweithio



 

 


(delwedd E1141) (tudalen 103)

(x297) (tudalen 103) TALAETH MISSOURI.

ynddynt. Dywedir fod tiroedd amaethyddol da, am brisiau isel, o amgylch iddi, a bod amrai o Gymry wedi sefydlu arnynt. Pregethir yr efengyl iddynt yn achlysurol gan y gwahanol enwadau; ond nid oedd ganddynt eglwys na chapel yn niwedd 1870. 7. CHILLICOTHE, Livingston Co., Mo. - Saif y dref boblog hon ar y reilffordd, tua 26 milldir i’r gorllewin o Brookfield, a thua 10 milldir i’r gogledd-ddwyrain o sefydliad Cymreig y Dawn, yn yr un sir. Hi yw prif dref Livingston Co. Mae ynddi ychydig o Gymry yn byw, ac yn masnachu. Ond nid oes ganddynt gapel nac eglwys Gymreig yno. Saif ar wastadedd ehelaeth a ffrwythlon, o fewn ychydig filldirau i’r Grand River; ac amgylchir hi gan ugeiniau o dyddynau diwylliedig. Hon yw prif farchnad Cymry Dawn.

8. UTICA, Livingston Co., Mo. - Pentref bychan yw hwn mewn coedwig, yr ochr orllewinol i’r Grand River, ar y reilffordd, tua 5 milldir i’r gorllewin o Chillicothe, a 5 milldir i’r gogledd o sefydliad Cymreig y Dawn. Dyma yr orsaf nesaf, ar yr Hannibal & St. Joseph R.R., i’r sefydliad hwnw. Mae yno ddau neu dri o deuluoedd Cymreig yn byw. Darganfyddwyd gwythien drwchus o’r glo goreu yno yn ddiweddar.

9. DAWN, Livingston Co., Mo, - Pentref bychan gwledig yw y Dawn, yn sefyll ar ochr ddeheuol aber fechan o’r enw Afon Fas, (Shoal Creek,) bron ar derfyn gorllewinol y plwyf o’r un enw, sef Township 56, Range 24, yn rhandir de-orllewin sir Livingston. Rhwng pentref Utica, ar y reilffordd, a phentref y Dawn, y mae tua 5 milldir o ffordd, trwy diroedd lled dda, ond bod llawer o hono, yr ochr ogleddol i Shoal Creek, yn wastad, a pheth yn ddyfrllyd, eisiau ei sychu. Ond y mae holl diroedd sefydliad Cymreig y Dawn ar uwch lle, a pheth honynt yn codi yn fryniau lled uchel; ond y mae yn dir da iawn at gynyrchu pob math o ydau a ffrwyrthau. Mae yno amrai o aberoedd bychain yn rhedeg drwy y sefydliad heblaw Shoal Creek, sef Nant Loew, (Clear Creek,) Nant y Coed, (Brush Creek) a Nant y Glo, (Coal Creek) a digonedd o goed o’u deutu,



 

 


(delwedd E1142) (tudalen 104)

(x298) (tudalen 104) Y GORLLEWIN PELL

ac mewn manau ereill cyfagos. Gellir hefyd cael dyfroedd da yn y ffynonau, neu y pydewau, yno. Ceir llawer o geryg da ar y bryniau, ac mewn rhai o’r bluffs gyda’r afonydd. Gan gwmpeini y reilffordd, ac ereill, y mae y rhan fwyaf o’r tiroedd yn awr; ac nis gellir eu prynu heb dalu cryn bris, sef o $30 i $35, am dyddynau wedi eu diwyllio; ac o $15 i $20 yr erw am wairdir (prairies), Chwe’ blynedd yn ol yr oeddynt yn gallu eu prynu am lai na haner y prisiau a nodwyd; a gellir cael tiroedd da iawn am brisiau felly eto, o fewn 10 neu 15 milldir i’r Dawn, yn y siroedd cyfagos, sef Cadwell, Ray, a Carrol. Gallai tyddynwyr Cymreig cyfoethog gael cartrefi dedwydd iddynt eu hunain, a’u plant, o fewn sefydliad y Dawn, trwy brynu yr hen sefydlwyr Saesnig allan. Sonir am gael reilffordd newydd arall i redeg heibio i Utica, a’r Dawn, sef yr “Ottumwa, Chillicothe, a’r South-western Railroad,” o’r gogledd-ddwyrain i’r de-orllewin. Gwnai hono les mawr i’r sefydliad. Cynghorwyf Gymry parchus y lle, nid yn unig i amaethu eu tiroedd yn dda, ond hefyd i gefnogi masnachwyr Cymreig i adeiladu tai a stores yn mhentref y Dawn, yn agos atynt; fel trwy hyny y gallont ychwanegu cyfleusderau, manteision, ac anrhydedd eu sefydliad. Mae township Dawn yn chwe’ milldir o hyd wrth chwe’ milldir o led; yn cynnwys 36 o filldiroedd petryal, neu sections; pob section yn cynnwys 640 erwau o dir; yn cael eu rhanu yn chwarter sections, yn cynnwys 160 o erwau bob un; a’r holl blwyf yn cynnwys 23,040 o erwau. Mae dros un ran o dair o hono wedi ei feddianu eisoes gan y Cymry, ac y mae yno le i dros gant o deuluoedd Cymreig eto. Credwyf y bydd yn un o’r sefydliadau Cymreig mwyaf poblogaidd a llwyddianus yn Missouri yn fuan, ac y bydd amrai o sefydliadau Cymreig yn cael eu codi yn y siroedd ereill cyfagos yno.

Thomas Lewis, Ysw., a’i feibion, Joseph A. Lewis, a David W. Lewis, gynt o Tremarchog, Sir Benfro, D.C., oedd y sefydlwyr Cymreig cyntaf yno. Daethant yno o Flint Creek, Iowa, yn Tachwedd, 1865. Cawsant gyfleusderau rhagorol y flwyddyn flaenorol i archwilio tiroedd Missouri; a dewisasant sefydlu yn y Dawn.



 

 


(delwedd E1143) (tudalen 105)

(x299) (tudalen 105) TALAETH MISSOURI.

Profodd cynydd buan, a llwyddiant mawr y sefydliad, eu bod wedi gwneyd dewisiad doeth. Neillduwyd Joseph A. Lewis, yn oruchwyliwr i werthu tiroedd y Railroad Co., ac y mae yn parhau yn ei swydd eto. Gall y rhai fyddo yn awyddus am brynu tiroedd yno, ysgrifenu ato ef, a chânt bob hyfforddiad ganddo. Pan ddaethant yno gyntaf, yr oedd amrai o’r Missouriaid yn byw mewn tai logs bychain, gwaelion, heb ffenestri arnynt; ac yn codi tobacco, &c., ac nid oedd ganddynt eglwys na chapel yn yr holl ardal.

Yn niwedd y flwyddyn 1870, yr oedd yno oddeutu 85 deuluoedd Cymreig; yn cynwys poblogaeth o 425 oll. Diau fod yno lawer yn ychwaneg cyn hyn.

ENWAU. / O BA LE O GYMRU? &C. / PA BRYD?

1. Thomas Lewis / Penfro / 1865
2. Joseph A. Lewis / Penfro / 1865
3. David W. Lewis / Penfro / 1865
4. Thomas J. Owens / Meirion / 1866
5. John W. Thomas / Sir Gaer / 1866
6. Robert Roberts / Maldwyn / 1866
7. James Evans; / Aberteifi / 1866
8. Lewis D. Jones / Aberteifi / 1867
9. John H. Williams / Blossburgh, Pa / 1867
10. Parch. James Rees (B.) / Sir Gaer / 1867
11. John Williams / Morganwg / 1867
12. John H. Jones / Dinbych / 1867
13. Parch.Thos. Pugh / Morganwg / 1867
14. Samuel J. Davies / Sir Gaer / 1867
15. Thomas E. Thomas / Mon / 1867
16. John J. Davies / St. Clair, Pa. / 1867
17. John H. Davies / Brycheiniog / 1867
18. Thomas Morgan / Maldwyn / 1867
19. Hugh ap Jones / Ceryg-y-Druidion / 1867
20. David Owen / Meirion / 1867
21. Robert Thomas / Arfon / 1867
22. Edward Hughes / Maldwyn / 1867
23. David ap Davies / Meirion. / 1867
24. David J. Davies / Aberteifi / 1867
25. Mrs. E. Jones / Brycheiniog / 1867
26. Joshua Williams / Brycheiniog / 1867
27. David R. Williams / Brycheiniog / 1867
28. Thomas Lewis / Sir Gaer / 1867
29. Mrs. Dl. Williams / Sir Gaer / 1867
30. David Lewis / Sir Gaer / 1867
31 James Kinley / Pittsburgh, Pa / 1867



 

 


(delwedd E1144) (tudalen 106)

(x300) (tudalen 106) Y GORLLEWIN PELL

ENWAU. / O BA LE O GYMRU? &C. / PA BRYD?

32. Wm. M. J ones / Mon / 1867
33. Edward Francis / Meirion / 1868
34. Richard / Morgan / Aberteifi / 1868
35. Evan P. Davies / Sir Gaer / 1868
36. John H. Price / Morganwg / 1868
37. Edward J. Jenkins / Morganwg / 1868
38. Watkin Jones / Aberteifi / 1868
39. William R. Jones / Dinbych / 1868
40. David Morgan (B.) / Maldwyn / 1868
41. William James / Sir Gaer / 1868
42. Daniel E. Davies / Morganwg / 1868
43. Thomas Jenkins / Pennsylvania / 1868
44. Edward O. James / Sir Gaer / 1868
45. William Griffiths / Morganwg / 1868
46. Thomas D. Jones / Sir Gaer / 1868
47. Ellis Roberts / Meirion / 1868
48. John Thomas / Morganwg / 1868
49. William Pugh / Maldwyn / 1868
50. Robert Peters / Maldwyn / 1868
51. Ephraim Jones / Morganwg / 1868
52. Simon Jones / Pennsylvania / 1868
53. Hugh Hughes / Maldwyn / 1868
54. Mrs. T. Davies / Morganwg / 1868
55. George T. Jones / Sir Gaer / 1868
56. John J. Evans / Aberteifi / 1868
57. William R. Jones / Mon / 1868
58. John P. Davies / Sir Gaer / 1868
59. William Hughes / Sir Gaer / 1868
60. Thomas J. Jones / Penfro / 1868
61. David O. Hughes / Dinbych / 1868
62. John S. Thomas. / Caerfyrddin. / 1868
63. Parch. Thos. W. Davies / Morganwg / 1869
64. Hugh Tudor / Louisa Co., Iowa / 1869
65. Robert Jones / Meirion / 1869
66. Edward James / Sir Gaer / 1869
67. David J. Thomas / Dinbych / 1869
68. Richard Edwards / Dinbych / 1869
69. William Jones / Pennsylvania / 1869
70. Llewelyn Llewelyn / Morganwg / 1869
71. Thomas L. Jones / Sir Gaer / 1869
72. Evan D. Hughes / Sir Gaer / 1869
73. Robert Williams / Dinbych / 1869
74 William J. Jones / Mon / 1870
75. Thomas Powell / Brycheiniog / 1870
76. Samuel Jones / Dinbych / 1870
77. Edwin Evans / Pennsylvania / 1870
78. Evan M. Evans / Maldwyn / 1870
79. Stephan Thomas / Sir Gaer / 1870
80. Edward Jones / Pennsylania / 1870



 

 


(delwedd E1145) (tudalen 107)

(x301) (tudalen 107) TALAETH MISSOURI.

ENWAU. / O BA LE O GYMRU? &C. / PA BRYD?

81 John O. Roberts / Mon / 1870
82. G. R. Griffiths / Mon / 1870
83. David Hughes / Dinbych / 1870

Eglwys yr ANNIBYNWYR yn y Dawn, Livingston Co., Mo. - Pregethwyd yn yr ardal gyntaf gan y Parch. Thomas Pugh, yn Hydref, 1867, a ffurfiwyd yr eglwys yn Chwefror, 1868. EgIwys Unol o wahanol enwadau oedd y pryd hyny, yn cynnwys 30 aelodau. Diaconiaid, David D. Evans a Joshua Wllliams. Cadwent eu moddion cyhoeddus mewn tai ac ysgoldai. Bu y Parch. Thomas Pugh yn gweinidogaethu iddynt o Ebrill, 1868, hyd Mawrth, 1869. Mae ei deulu yn byw ar ei dyddyn eto, gerllaw pentref Dawn. Dechreuodd y Parch. Thomas W. Davies weinidogaethu iddynt yn Medi, 1869, ac y mae yn barchus a defnyddiol yno eto. Preswylia yn ei dy newydd, ar ei dyddyn, yn agos i’r ysgoldy a’r capel. Adeiladwyd capel newydd da, 34 wrth 24 tr. yno yn haf y fl. 1870. Aelodau, 81; Ysg. Sab., 35; cynulleidfa, 120. Diaconiaid, Lewis D. Jones a Joshua Williams; David Williams, Ysgrifenydd; David D. Owen, Trysorydd. (Mab y diacon duwiol David Owen, Ysw., o Newark, Ohio, gynt o Bethel, ger y Bala, Meirionydd, G.C., yw efe.) Saif y capel newydd yn nes i ganol y plwyf na’r Dawn, yn agos i dyddyn rhagorol Lewis D. Jones, Ysw. Perthyna i’r eglwys Gynulleidfaol hon lawer o bobl ffyddlon ac ymdrechgar dros achos y Gwaredwr, a phob achos da arall; ac y mae ganddynt yn awr weinidog doeth, dysgedig, talentog, a gweithgar.

Eglwys y
T.C. neu y PRESBYTERIAID Cymreig yn y Dawn, Mo. Yr oedd amrai o aelodau perthynol i’r Trefnyddion Calfinaidd o’r dechreuad yn cyd-addoli a’r Annibynwyr yn yr ardal; ac felly yr oeddynt yn niwedd Tachwedd, 1870, pan y cefais y fraint o bregethu a darlithio yn yr ysgoldy, ac yn nghapel newydd yr Annibynwyr. Ond clywais wedi hyny eu bod wedi sefydlu eglwys eu hunain yn yr ardal. Ni cheiais gyfrif o’u rhifedi, ac nis gwn pwy sydd yn pregethu iddynt. Dymunwyf eu llwyddiant. Mae yno faes eang a phwysig, a digon o le i’r gwahanol enwadau i wneyd eu goreu er lles eneidiau, a gogoniant y Gwaredwr.

Eglwys y
BEDYDDWYR Cymreig yn y Dawn, Mo. - Thomas Lewis, Ysw., a’i feibion, a’u teuluoedd, oedd y sefydlwyr Cyrmreig cyntaf yn niwedd 1865. Diau eu bod wedi cadw moddion crefyddol yn eu tai. Dywedir mai Mr. Hugh O. Rowlands, Wisconsin, a bregethodd gyntaf gyda y Bedyddwyr yn y Dawn. Daeth y Parch. James Rees i weinidogaethu yno yn niwedd y fl. 1867. Ffurfiwyd yr eglwys yn Awst, 1868, ac y maent yn addoli mewn ysgoldy yn mhentref Dawn. Aelodau, 40; Ysg. Sab., 20; cynulleidfa, 50. Mae yr aelodau a’r gwrandawyr yn dra gwasgaredig yn yr ardal. Bwriadant adeiladu capel newydd



 

 


(delwedd E1146) (tudalen 108)

(x302) (tudalen 108) Y GORLLEWIN PELL

Diaconiaid, Thomas Lewis a Thomas J. Jones. Pregethwr, Mr. David Morgan, mab John a Mary Morgan, o blwyf Llangadfan, Sir Drefaldwyn, G.C. Ganwyd ef yn y fl. 1842. Ymunodd a chrefydd yn 18 ml. oed. Bedyddiwyd ef gan y Parch. John Robinson, Llansilin, yn Mhontllogell, Maldwyn. Dechreuodd bregethu pan yn 29 ml. oed.

Mae yn ardal Dawn, rai beirdd a llenorion medrus; sef y Parch. Thomas W. Davies, (Llansamlet); Hugh ap Jones, awdwr y Traithawd eampus ar “Amaethyddiaeth Tiroedd y Gorllewin” ac Ynad cyfrifol yn y plwyf, David Morgan; David O. Hughes, o Carrol Co., Mo., gynt o Llanelidan, Sir Ddinbych, G.C.



 

 


(delwedd E1147) (tudalen 109)

(x303) (tudalen 109)

PENNOD VII..

TALAETH KANSAS.

Hanes Dyoddefiadau ac Ymdrechion ei Dinasyddion Teyrngarol dros ei chael yn Dalaeth Rydd. Enillasant eu Rhyddid trwy waed a than! Cynydd dirfawr ei Phoblogiad. Arwynebedd a Ffrwythlondeb ei Thiroedd. Ei Hafonydd, a’i Choedydd. Ei Mwnau. Ei Ffynonau. Ei Hinsawdd a’i Thymhorau. Indiaid Kansas. Manteision Addysg a Chrefydd. Y Sefydliadan Cymreig: - 1. Emporia. 2. Arvonia. 8. Reading. 4. Burlingame. 5. Carbondale. 6. Topeka. 7. Lawrence. 8. Leavenworth. 9. Atchison. 10. Manhattan. 11. Bala, yn Powys, Riley Co. Darluniad o’r lle; a Manteision ac Anfanteision y Sefydliad. Tiroedd y Llywodraeth a’r Reilffyrdd. 18. Bangor, Coffey Co., a Sefydliad Cymreig y Neosho, mewn lle Manteisiol, ac yn debyg o Gynyddu yn gyflym. T.d. 109-134

O Kansas flodeuog! Ymdrechodd Caethwasiaeth
Feddianu dy diroedd, a’th fathru dan draed;
Milainwyr Missouri, a’u llidiog elyniaeth,
Fu’n euog o dywallt afonydd o waed
Dy feibion rhyddgarol. Goddeithient ddinasoedd,
Dan erwin lywodraeth Buchanan a’i lu;
Trwy dwyll, ac afariaeth, a gwaedlyd ryfeloedd,
Hwy fynent gadwyno, a phoeni’r dyn du; -
Helaethu terfynau eu trais i’r Gorllewin;
Cefnogi gormesiaeth caethfeistri y De,
Oedd dyben cuddiedig eu hymgyrch blin gerwin,
Dan rith o wladgarwch. Melldithio pob lle!
Ond engyl gwarcheidiol y nefoedd fynasant
Ddyrysu eu cynghor. Mae Kansas yn rhydd!
Er gwaetha’r camwri. Mor ddirfawr ei llwyddiant;
Trwy’r oesau dyfodol yn enwog y bydd.

Mae yr arwyddair sydd ar sêl llywodraeth dalaethol Kansas yn hynod ystyrfawr: “Per aspera ad astra,” h. y., “Trwy ymdrechion geirwon y cyrhaeddasom y sêr.” Mae hanes y dalaeth yn profi hyn. Yn ol y ddeddfa wnaed yn y fl. 1821, ac a elwid “The Missouri Compromise Bill” yr oedd caethwasiaeth (slavery) yn cael ei wahardd dros byth o fewn y diriogaeth oedd yn gorwedd i’r gogledd o ledred 36° 30°. Yr oedd Kansas a Nebraska yn gorwedd yn ogleddol felly. Ond diddymwyd y cytundeb hwnw gan y Senedd Ddemocrataidd lygredig, a chefnogwyd caethwasiaeth yn Washington; yr hyn a ystyrid yn gamwri mawr gan garwyr rhyddid. Creodd hyny deimlad angerddol a gwrthwynebiad cyffredinol. Er mwyn heddychu yr anfoddlonrwydd mawr hwnw, cododd y Democratiaid i fyny yr athrawiaeth o Popular Sovereignty; sef hawl sefydlwyr pob tiriogaeth i benderfynu eu ffurf-lyrwodraeth



 

 


(delwedd E1148) (tudalen 110)

(x304) (tudalen 110) Y GORLLEWIN PELL

(constitution) eu hunain - gyda chaethwasiaeth, neu heb gaethwasiaeth. Am dros bum’ mlynedd - o Mai, 1854, hyd Hydref, 1859, bu ymdrechion geirwon rhwng carwyr rhyddid a chefnogwyr caethiwed yn nhiriogaeth Kansas, er ei ffurfio yn dalaeth rydd, neu yn dalaeth gaeth. Yn 1854, dechreuodd ymfudiad ddylifo iddi o’r talaethau rhyddion, a chynorthwywyd hwynt gan lywodraethau talaethau Massachusetts a Connecticut, ac ereill; a bu rhyddgarwyr Platt Co., yn Missouri, hefyd yn gefnogwyr iddynt. Cyffröodd hyny y slaveholders yn rhandir ddwyreiniol Missouri, a phenderfynasant dros helaethu caethwasiaeth i diriogaeth Kansas; gwnaethant eu goreu i atal a dyrysu yr etholiadau; anfonasant filoedd o’r Missouriaid creulon (border ruffians) oedd yn byw ar y cyffiniau i mewn i Kansas, i bleidleiso, (pan nad oedd gan neb ond y sefydlwyr hawl i wneyd hyny,) a thrwy dwyll a dichellion, arfau, dinystr, a gwaed, a thân, traws-gipiasant y llywodraeth, rai gweithiau, i’w dwylaw eu hunain; a chefnogwyd hwynt gan yr Arlywydd Buchanan, a’i Senedd lygredig; a chan rai o filwyr y Llywodraeth! Mae enwau y dinasoedd canlynol yn Kansas, sef, Lawrence, Pawnee, Topeka, Ossawatamie, Leavenworth, Tecumseh, Wyandotte, a Lecompton, yn amlwg iawn yn hanesion y blynyddoedd blinion hyny. Ond goruchel-reolodd y nef, a buddugoliaethodd rhyddid. Yn Wyandotte, Gorphenaf 27, 1859, gwnaed ffurf-lywodraeth newydd, yn gwahardd caethwasiaeth yn y dalaeth, a chadarnhawyd ef Hydref 4, 1859, trwy fwyafrif o bedair mil. Wedi hyny darfu y brwydro, y llosgi, a’r lladd; sicrhawyd iawnderau y bobl; ymfudodd miloedd i Kansas, a chynyddodd yn gyflym; a llwyddodd yn ddirfawr yn ei hamaethyddiaeth, ei chelfyddydau, ei masnach, ei haddysg, a’i chrefydd.



 

 


(delwedd E1149) (tudalen 111)

(x305) (tudalen 111) TALAETH KANSAS.

Yr oedd rhai Cymry parchus a rhyddgarol, sef Mr. John Everett, mab hynaf y Parch. Robert Everett, D.D., Steuben, Oneida Co., N.Y., ac ereill, wedi sefydlu mewn gwahanol fanau yn y dalaeth, cyn dechreu yr adfyd blin; buont yn dystion o’r galanastra a’r difrodiad, a safasant yn wrol dros ryddid y bobl. Mae llawer o honynt yn byw yno eto, yn bobl gyfoethog a chyfrifol.

Yn y fl. 1860, yr oedd tua deugain o siroedd yn Kansas wedi cael eu sefydlu, yn cynnwys dros gan’ mil o boblogaeth (107,206). Ond erbyn y flwyddyn 1870, yr oedd yna 86 o siroedd, yn cynnwys dros dri chan’ mil a haner (373,388) o boblogaeth! Y siroedd mwyaf poblog yn awr ydynt y rhai canlynol: - Leavenworth, Douglas, Atchison, Bourbon, Cherokee, Doniphan, Franklin, Jefferson, Johnson, Linn, Labette, Crawford, Miami, Lyon, Neosho, Shawnee, Wyandotte, Osage, &c. A’r rhai lleiaf eu poblogaeth yn awr ydynt: - Chase, Clay, Cloud, Cowley, Ellis, Ellsworth, Howard, Greenwood, Jewell, Lincoln, Marion, McPherson, Mitchell, Morris, Ness, Osborne, Pawnee, Republic, Rice, Eush, Smith, Trego, Wallace, &c. Gorwedda y siroedd mwyaf poblog yn y rhandir dwyreiniol, ar lan y Missouri, ac ar gyffiniau y dalaeth hono; ac oddeutu yr Union Pacific Railroad, &c. Ac y mae y siroedd lleiaf eu poblogaeth yn gorwedd i’r gorllewin, a’r gogledd, a’r de, o Junction City. Nid oes yr un o’i siroedd eto wedi derbyn haner y boblogaeth a allant gynnwys; mae lle eto i filoedd ar filoedd yn y siroedd dwyreiniol; ac y mae mwy na haner y dalaeth fawr hon, yn ei rhandir gorllewinol, heb braidd ddim poblogaeth. Archwiliwyd a mesurwyd llawer o’r tiroedd hyny, yn ddiwecldar, gan swyddogipn yr Llywodraeth, ac y maent yn



 

 


(delwedd E1150) (tudalen 112)

(x306) (tudalen 112) Y GORLLEWIN PELL

awr yn y farchnad. Mae llawer o diroedd amaethyddol a mwnol rhagorol yn y rhandir mawr hwnw, ond nid oes ynddo cystal hinsawdd, a dyfroedd, a chyfleusderau masnachol; ac y mae yn fwy agored i sychder na’r parthau dwyreiniol. Yr wyf yn cynghori fy nghenedl i wneyd brys i ymfudo i Kansas, er sicrhau iddynt eu hunain y lleoedd goreu yn ei chanoldir, ac yn ei pharthau gogleddol a deheuol; sef y siroedd sydd yn cyffinio ar dalaeth Nebraska, yn ei gogledd-dir; a’r siroedd sydd yn ei chanoldir, sef Clay, Riley, Davies, Morris, Lyon, Chase, Marion, Coffee, Osage, &c.; a’r siroedd sydd yn ei deheudir, sef Greenwood, Butler, Sedgwick, Woodson, Cowley, &c.

Gorwedda y dalaeth ardderchog hon bron ar ganol tiroedd eang yr Unol Dalaethau, yr hyn a’i gwna yn ganolbwynt reilffyrdd a masnach rhwng y Werydd a’r Tawelfor, a rhwng y siroedd deheuol a gogleddol. Mae un o’r prif reilffyrdd yn rhedeg drwyddi eisoes, sef yr “Union Pacific Railroad,” ac y mae gan gwmpeini y reilffordd hono dros ddwy filiwn o erwau o diroedd da oddeutu eu reilffordd, am y prisiau isel o $2 hyd $8 yr erw, gyda blyneddau o amser i dalu am danynt. Hon yw y brif reilffordd sydd yn rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin ar draws y dalaeth o Kansas City, Mo., heibio i Lawrence, Topeka, Manhattan, Junction City, Salina. Ellsworth, &c., hyd gyffiniau talaeth Colorado. Ac y mae amrai o reilffyrdd ereill wedi cael eu gwneyd, ac yn cael eu gwneyd, yn mhob cyfeiriad, er cyfleusdra i amaethwyr, masnachwyr, a theithwyr. Reilffordd arall bwysig yw y “Missouri, Kansas and Texas Railroad,” yr hon sydd yn rhedeg o’r Junction City trwy Emporia, Ottumwa, Burlington, Humboldt, &c., drwy Ddyffryn mawr a ffrwythlon y Neosho, am dros 150 o filldiroedd, hyd derfyn deheuol y dalaeth. Mae gan gwmpeini y



 

 


(delwedd E1151) (tudalen 113)

(x307) (tudalen 113) TALAETH KANSAS.

reilffordd hon un filiwn o’r tiroedd goreu ar werth, am $3 i $7 yr erw, gydag amser maith i dalu am danynt; ac y mae 70,000 o honynt yn awr dan ofal C. B. Batcheller, Ysw., a’r Cymro cenedlgarol Wm. B. Jones, Ysw. (Ap P.A. Mon,) Land Agents, Emporia, Lyon Co., Kansas. Tiroedd rhagorol ydynt, yn sicr, a chredwyf y bydd miloedd o Gymry wedi sefydlu arnynt yn fuan. Mae llawer o diroedd da hefyd, am brisiau rhesymol, i’w cael gan gwmpeini y reilffordd sy’n rhedeg o Atchison, trwy ogleddbarth Kansas.

Mae Kansas yn dalaeth eang - 400 milldir o hyd, o’r dwyrain i’r gorllewin, neu o derfynau Missouri hyd Colorado; ac yn 200 milldir o led, o derfynau Nebraska, yn y gogledd, hyd yr Indian Territory yn y de. Cynnwysa bedwar ugain mil (80,000) o filldiroedd petryal, a thros haner can’ miliwn (51,200,000) o erwau o dir, digon i wneyd dros dri chan’ mil (320,000) o dyddynau, 160 o erwau i bob un; a digon i gynal dros ddwy filiwn o drigolion yn gysurus, a chyfoethog; ac wedi ei ddiwyllio yn dda, gallai godi digon o ymborth i ddiwallu dwy filiwn arall; a hydd angen am hyny pan boblogir, a phan ddadguddir holl adnoddion gwerthfawr y talaethau a’r tiriogaethau sydd yn gyfagos iddi yn y Mynyddoedd Creigiog. Anfonant hwy iddi hi eu glo, a’u plwm, a’u copr, a’u haiarn, a’u pres, a’u harian, a’u haur; ac enfyn hithau iddynt hwythau ei hanifeiliaid, a’i gwenith, a’i haidd, a’i cheirch, a’i chorn, a’i ffrwythau, &c. Daw un o drefydd Kansas cyn pen 30 mlynedd eto yn ail i Chicago ac i St. Louis. Pa le bydd hono? Nis gallwn ateb yn awr. Amser a ddengys. Tebygol yw y bydd yn rhywle rhwng y ddwy brif afon, sef y Kansas a’r Arkansas.

Darllenais lawer o lyfrau a phapyrau yn cynnwys hanes talaeth Kansas; a bum yn archwilio rhanau



 

 


(delwedd E1152) (tudalen 114)

(x308) (tudalen 114) Y GORLLEWIN PELL

neillduol o’i thiroedd yn Awst a Medi, 1869. Gallwn ysgrifenu cyfrol fawr o’i hanes, ond ni oddefa terfynau y gwaith hwn i mi wneyd hyny. Rhoddaf yma grynodeb byr, cynwysfawr, er lles fy nghenedl: -

1. Arwyneb y wlad, a ffrwythlonedd ei thiroedd. - Gellir ystyried talaeth Kansas fel gwastadedd eangfaith. Nid oes ynddi fynyddau uchel, coediog, na chreigiog; ond y mae yn frithedig o fryniau isel, digoed, a ffrwythlon (rolling prairies) drwyddi oll, ond yn fwy toredig ac anffrwythlon mewn manau. Mae genau afon Kansas, lle yr ymdywallta i afon Missouri, ger dinas Wyandotte, yn y dwyrain, 850 o droedfeddi uwchlaw arwyneb y môr. O derfyn y dalaeth yn agos yno, hyd gyffiniau Colorado yn y gorllewin, y mae dros 400 o filldiroedd. Dywedir fod y tir yn codi dwy droedfedd y filldir am y can’ milldir cyntaf; chwe’ troedfedd y filldir am y ddau gant nesaf, a saith droedfedd y filldir am y pedwerydd gan’ milldir - yn gwneyd y codiad graddol o derfyn dwyreiniol y dalaeth i’w therfyn gorllewinol yn 2,100 o droedfeddi, a 2,950 o droedfeddi uwchlaw arwyneb y môr. Gellwch weled y bryniau digoed isel (the divides) yn rhedeg o’r gogledd i’r de am filldiroedd, mewn manau, ac yn esgyn yn raddol y naill uwch y llall, a gwastadeddau eangfaith, ffrwythlon, ond tonog, am ddegau o filldiroedd rhyngddynt. Gellwch esgyn yn ddiboen i’w penau ar draed neu gyda cherbyd; ond wedi myned yno, anhawdd fyddai genych gredu mai bryniau ydynt, am eich bod, wrth edrych yn mlaen i’r gorllewm, yn gweled gwlad eangfaith wastad; ond oddiar gopâau y bryniau isel hyny, wrth edrych tua’r dwyrain a’r de, gwelir yn mhell i’r gorwel draw wlad fawr yn disgyn yn raddol, ac yn cael ei phrydferthu gan ddoldiroedd blodeuog, a choedydd amryfal gyda glanau yr afonydd. Gydag yspienddrych gallech weled rhai tyddynau diwylliedig yma ac acw, ac weithiau drefydd a phentrefydd bychain, a deadelloedd o anifeiliaid, a defaid, yn porfäu ar y gweirdiroedd. Ond teimlech eich hunan mewn unigedd, gan ryfeddu fod y fath eangder o wlad ffrwythlon mor amddifad o breswylwyr, pan mae miloedd yn dioddef eisiau mewn



 

 


(delwedd E1153) (tudalen 115)

(x309) (tudalen 115) TALAETH KANSAS.

lleoedd poblog mewn gwledydd ereill. Ond bydd y golygfeydd yn wahanol yn Kansas cyn pen deng mlynedd eto. Wedi diwyllio y tiroedd, codi tai a threfydd, planu a thyfu coedwigoedd, perllanau a gerddi, a gweithio ffyrdd, a reilffyrdd, &c., bydd Kansas fel paradwys ar y ddaiar. Gellir diwyllio ei holl diroedd, oddieithr ychydig o’r bluffs caregog gyda glanau rhai o’i hafonydd, a rhai bryniau toredig. Tir bras a ffrwythlon yw y rhan fwyaf o’i thiroedd. Mae y bottom lands, sef y tir nesaf i’r afonydd, yn nodedig dda at godi Indrawn a gwair; y second bottoms, sef y tir nesaf at y cyntaf, yn nghyd a’r rhan fwyaf o’r bryniau tonog isel, yn rhagorol at godi gwenith, a phob math o rawn arall; a’r bluffs a’r divides yn lleoedd rhagorol at borfäu anifeiliaid a defaid, ac at blanu coedydd, a chodi pob math o ffrwythau. Tyf corsenau yr Indrawn yno yn 12 a 15 troedfedd o uchder; ac weithiau cynyrcha o 50 i 100 bwsiel yr erw; y cyfartaledd yw 48 bwsiel yr erw; ac felly rhagora yn mhell ar bob talaeth yn yr Undeb am gynyrchu Indian corn, yr hwn yw un o’r grawn mwyaf rheidiol ac enillfawr i dyddynwyr yn America. Cyfartaledd y gwenith a godir yno yw 18 bwsiel yr erw; ond yn aml codir ar diroedd wedi eu diwyllio yn dda o 30 i 50 bwsiel yr erw, ac weithiau fwy na hyny. Mae yn wlad dda hefyd am gynyrchu haidd, rhyg, ceirch, pytatws, a phob math o ffrwythau gerddi. Codir ynddi hefyd gorsenau siwgr a thriagl (sorghum,) a hops, a hemp, a tobacco. Gwelais ynddi hefyd lawer o berllanau gan yr hen sefydlwyr, a’u coedydd yn orlwythog afalau, ac eirin (peaches,) a grawnwin. Mae gwenith gauaf a gwanwyn yn cynyrchu yn dda yno; a thyf digonedd o wair yn naturiol yno, heb lafur na thraul, bob blwyddyn; ac yn gyffredin mae yn cnydio o ddwy i dair tunell yr erw. Yn mhob man yn Kansas mae digon o rediad i’r dyfroedd, ac nid oes yno gorsydd lleidiog ac afiachus. Ond dylid cofio fod llawer o dir gwael a diffrwyth, sef yr hard pan, mewn manau yn y dalaeth.

2. Ei hafonydd a’i choedydd. - Mae afon fordwyol Missouri yn golchi llawer o’i glanau dwyreiniol am dros gant a haner o filldiroedd, ac yn gyfleus i fasnach



 

 


(delwedd E1154) (tudalen 116)

(x310) (tudalen 116) Y GORLLEWIN PELL

siroedd Doniphan, Atchison, Leavenworth, a Wyandotte. Ond ei phrif afon mewnol yw y Kansas River, yr hon a ddylifa drwy ei chanol o gyffiniau talaeth Colorado yn y gorllewin, hyd Wyandotte yn y dwyrain. Mae yn afon lydan, gref, ond nid yn fordwyol, hyd Solomon City, am 171 o filldirau. Oddiyno hyd Colorado, gelwir hi yn Smoky Hill Fork, am dros 200 o filldiroedd. Gyda’i glanau y mae y doldiroedd mwyaf ffrwythlon, weithiau yn lledu oddiwrthi am o un i dair milldir hyd y bluffs bryniog a charegog; ac mewn manau o’i deutu ceir llawer o goedwigoedd rhagorol. Mae afonydd cryfion ereill yn rhedeg iddi o’r gogledd-orllewin, sef y Solomon, y Saline, y Republican, a’r Big Blue, a’u cangenau, y rhai sydd yn dyfrhau ac yn prydferthu, gyda’u bryniau, a’u coedydd, a’u doldiroedd, y rhandir eang hwnw o’r dalaeth. Afon fawr arall sydd yn rhedeg o Colorado trwy dde-orllewin y dalaeth, ac yn ymdywallt i’r Indian Territory, yw yr Arkansas; gyda’i lluosog gangenau, dyfrhâ y rhanbarth eang hwnw. Afonydd gwerthfawr ereill yw y Neosho a’r Cottonwood, y rhai a ddyfrhant ac a prydferthant holl ddyffryn ffrwythlon y Neosho, ac a ddylifant drwy siroedd de-ddwyrain y dalaeth. Afon arall werthfawr yw y Marais Des Cygnes (a’i changenau, Salt Creek, &c.,) yr hon a gyfyd yn Lyon Co., ac a ddylifa ar draws Osage Co., o’r gorllewin i’r dwyrain, heibio i Arvonia, ac a ffurfia yr Osage River, yr hon a red drwy siroedd Franklin, Miami, a Linn, i dalaeth Missouri. Mae ugeiniau o aberoedd bychain yn rhedeg o bob cyfeiriad i’r afonydd a nodwyd, a’r oll wedi eu bwriadu gan y Crewr anfeidrol a daionus, er diwallu angen dyn ac anifail. Mae y rhan fwyaf o’r afonydd yn rhedeg yn araf, a’u dyfroedd yn llwydion neu yn ddulas: ond ereill yn loywon, ac yn rhedeg yn gyflym. Ceir pysg amryfal mewn rhai o honynt. Ychydig o lynoedd, bychain na mawrion, sydd yn y dalaeth; yn hyn y mae yn wahanol i Wisconsin, Minnesota, ac Iowa.

Ni welais yn un man yn Kansas goedwigoedd eangfaith, fel sydd yn Ohio ao Indiana, na llwyni o goed (groves) ar eu penau eu hunain, fel sydd yn Iowa, a Minnesota, a Missouri. Gyda glanau afonydd Kansas



 

 


(delwedd E1155) (tudalen 117)

(x311) (tudalen 117) TALAETH KANSAS.

y mae ei choedydd, ac mewn manau ceir llawer o erwau honynt yn nghyd; ond mewn manau ereill, ychydig iawn goed a welir. Y mae chwe’ math o dderw yn tyfu yno. 1. Black Jack Oak. 2. White Oak. 3. Red Oak 4. Burr Oak. 5. Black Oak. 6. Water Oak. Dau fath o Lwyfen. 1. White Elm. 2. Red or Slippery Elm. Dau fath o goed Cnau Ffreinig. 1. Black Walnut. 2. White Walnut. Mae llawer o’r coedydd canlynol yno hefyd: - Cottonwood, Box Elder, Hackberry, Honey Locust, Willow, Hickory, Sycamore, White Ash, Sugar Maple, Red Mulberry, Linden, Crab Apple, Wild Cherry, Osage Orange. Gyda glanau y prif afonydd a nodwyd mae digon o goedydd gwerthfawr; ond nid yw hyny ond ychydig iawn er cyflenwi angenion yr holl dyddynwyr. a sefydlant ar y prairies eanfffaith, digoed, sydd oddeutu yr afonydd am ddegau filldiroedd. Dywedir fod coedwigoedd yn tyfu yn naturiol mewn manau yn y dalaeth, ar ol darfod yr arferiad Indiaidd o roddi y prairies ar dân. Dichon mai gwir yw hyny - ni welais goedydd yn tyfu felly yno. Ond credwyf y gellir planu pob math o goedydd yno, ac y tyfant yn fuan; a chefnogir hyny gan y llywodraeth dalaethol. Ffaith yw, fod yr Osage Orange yn tyfu yn fuan yno, ac yn gwneyd cloddiau (fences), rhagorol. Gellir cael digon o lumber at adeiladu tai, &c., gyda’r afonydd a’r reilffyrdd yno, am brisiau lled resymol; a barn y rhai mwyaf deallus yw, y gall tyddynwr wneyd cartref cysurus yn gynt, ac enill llawer mwy arian, trwy gael tir da digoed, hawdd i’w lafurio, a thalu am lumber at adeiladu, a chau ei dyddyn i mewn, na phe buasai yn gorfod tori, a llusgo, a llifio y coed, a llafurio yn galed am flyneddau er glanhau ei dir. Credwyf fod hyny yn wir - mae yn haws planu a thyfu coed, nac arloesi, a symud, a llosgi coed, a diwyllio.eu tiroedd. Gall tyddynwr gweithgar a doeth, gyda dwy neu dair mil o ddoleri, wneyd cartref cysurus iddo ei hun a’i deulu, cyn pen tair blynedd, yn Kansas, os bydd yn ddyn iach a sobr.

3. Ei Mwnau. - Bernir fod llawer o fwn glo yn rhandir dwyreiniol a deheuol y dalaeth; ac y mae llawer o



 

 


(delwedd E1156) (tudalen 118)

(x312) (tudalen 118) Y GORLLEWIN PELL

hono yn cael ei weithio eisoes ger Leavenworth, Lawrence, Topeka, Carbondale, Burlingame, &c., ac y mae llawer o hono yn ddiameu dan diroedd siroedd Osage, Coffee, Woodson, Greenwood, Allen, a Bourbon, &c. Trwch y gwythienau, yn gyffredin, sydd o un i bum’ troedfedd. Nid oes ond ychydig o hono wedi ei ddadblygu eto. Bydd yn dra gwerthfawr yn y dyfodol, mewn talaeth mor eang a digoed. Mae llawer o diroedd amaethyddol da i’w cael ar wyneb y mwngloddiau glo yn y dalaeth hon, yr hyn sydd yn eithriad i’r rheol gyffredin; ond sydd yn fanteisiol iawn i’r mwnwyr Cymreig i gael tyddynau da, a chyflawnder o lo danynt. Byddai yn ddoeth i ganoedd o fwnwyr Cymreig Pennsylyania, oblegid hyny, ymfudo i Kansas. Er hyny, nid wyf yn credu y bydd mwngloddiau glo y dalaeth hon byth yn haeddu eu cymharu â mwngloddiau glo Missouri, Iowa, Ohio, Maryland, Virginia, a Pennsylvania. Gwlad amaethyddol yw, ac a fydd, Kansas; bydd ei mwnau glo yn fanteisiol i’w phreswylwyr, a’i masnach mewnol; ond nid yw yn debygol y byddant yn ddigon ehelaeth i’w gwerthu allan o’r dalaeth. Mae yn y dalaeth hefyd gyflawnder o halen, oddeutu glanau afonydd Saline a Solomon, a’r Republican, a’r Neosho; ac y maent eisoes yn ei weithio yn llwyddianus. Ac y mae mwn plwm yn Linn Co. Barna rhai fod digon o fwn haiarn hefyd i’w,gael yn y dalaeth; ond nid wyf yn deall fod dim o hono wedi cael ei weithio eto. A dywedir hefyd fod coal oil i’w gael yn rhanbarth dwyreiniol a deheuol y dalaeth. Y mae cyflawnder o geryg calch, a cheryg nâdd, a meini mynor (marble) i’w cael yn y dalaeth, ac y maent yn dra manteisiol at wrteithio y tir, a chodi adeiladau heirdd.

4. Ei Ffynonau. - Wrth deithio ar hyd a lled y prairies digoed am filldirau, gall yr ymfudwr newydd ddyheu am ddyfroedd gloywon i dori ei syched; ond nid yw hyny yn profi nad oes digon o ddyfroedd oerion iachus i’w cael yn Kansas. Mae y wlad yn newydd eto, ac y mae rheidrwydd am i law dyn, trwy gelfyddyd, i gloddio ffynonau, neu bydewau, yn ymyl pob ty, a thyddyn, ar y gweirdiroedd eang fyddont yn ymestyn



 

 


(delwedd E1157) (tudalen 119)

(x313) (tudalen 119) TALAETH KANSAS.

yn mhell oddiwrth y bluffs a’r afonydd. Gellir cael dyfroedd iachus, braidd yn mhob man, drwy gloddio i’r dyfnder o ugain i driugain troedfedd. Mae dyfroedd y rhan fwyaf o’r afonydd a’r aberoedd yn iachus i’w yfed; ac o’r bluffs, neu y bryniau caregog gerllaw iddynt, mewn manau, rhed allan y ffynonau mwyaf gloywon ac iachus. Ond cofier fod llawer gwell ffynonau i’w cael yn Nghymru, ac yn y talaethau dwyreiniol, nag a geir yn gyffredin yn Kansas. Y gwir yw, fod y dyfroedd mewn llawer o fanau yno, fel yn Ohio, a Missouri, yn llwydion ac yn anmhur. Caiff pob un brawf buan o hyny, wedi iddo sefydlu yno; oddieithr iddo ddigwydd cael ffynon risialaidd yn tarddu o un o’r bluffs yno. Gellir gweled llawer o bydewau dyfroedd yn cael eu gweithio yno, ar y reilffyrdd, a’r tyddynau, trwy ddefnyddio troell-wynt fechan i godi y dyfroedd. Arbeda hyny lawer o lafur caled i ddynion.

5. Ei Hinsawdd, a’i Thymhorau. - Mae hinsawdd (climate) rhandir ddwyreiniol talaeth Kansas, yn debyg i hinsoddau talaethau Missouri, Ohio, Virginia, a Maryland; ac yn llawer mwy tymherus na hinsoddau oerion a rhewllyd New York, Michigan, Wisconsin, a Minnesota. Nid yw y gauaf yma ond prin dri mis, sef Rhagfyr, Ionawr, a Chwefror; ac yn aml cedwir yr anifeiliaid allan y rhan fwyaf o’r tymhor byr hwnw. Ni cheir ond ychydig o rew ac eira ynddo , a thodda yn fuan. Ni cheir ond ychydig o wlaw yno yn misoedd y gauaf; ond bydd y tywydd yn cyfnewid yn sydyn. Gellir dechreu llafurio y ddaiar yn nechreu mis Mawrth, a bydd y coedydd yn dechreu blodeuo yn niwedd Ebrill; holl anian yn gwenu yn Mai a Mehefin, a’r ydau wedi addfedu i’r cryman yn Gorphenaf ac Awst; a’r Indrawn yn ei ogoniant mwyaf yn Medi; a misoedd Hydref a Tachwedd mor hyfryd ac adfywiol a hinon yr haf mwyaf hyfryd yn Ngwalia. Mae y gwres yn misoedd Gorphenaf ac Awst yn debyg i boethder y misoedd hyny yn Missouri ac Ohio, ond nid mor annyoddefol a pheryglus, am fod awelon hyfryd ac adfywiol yn chwythu yno yn yr amser poethaf, a’i bod yn oeri mwy y nos, fel y gall dyn huno yn dawel yn ei wely



 

 


(delwedd E1158) (tudalen 120)

(x314) (tudalen 120) Y GORLLEWIN PELL

Am nad oes ynddi isel-diroedd dyfrllyd, na chorsydd lleidiog, a’i bod yn codi cymaint uwchlaw arwyneb y môr, a bod digon o rediad i’w dyfroedd o’r gorllewin i’r dwyrain, ac o’r gogledd i’r de; ac am fod ei hawyr yn glir, a chan lleied o goedwigoedd ynddi; rhaid ei bod yn wlad iachus a dymunol, haf a gauaf hefyd.

Mae ei rhandir gorllewinol yn fwy gwastad a digoed, ac yn fwy agored i sychder na’i pharthau dwyreiniol. Bu sychder mawr (drouth) trwy yr holl dalaeth yn y fl. 1860; ond eithriad oedd i’r ugain mlynedd cyn hyny, yn ol tystiolaeth yr Indiaid; ac i’r deng mlynedd ar ol hyny, yn ol tystiolaeth ei phreswylwyr mwyaf craffus a geirwir. Ffaith yw fod llai o wlaw yn disgyn ar dalaeth Kansas yn misoedd y gauaf (tudalen r hyn sydd fanteisiol i’w hamaethwyr, )a bod cymaint, ac weithiau fwy o wlaw yn disgyn arni yn misoedd Ebrill, Mai, a Mehefin (tudalen r amser mwyaf rheidiol,) nag a ddisgyna ar dalaethau Missouri, Illinois, Ohio, ac ereill. Ond cofier nad yw Kansas heb ei hanfanteision. Mae yn mhell iawn o farchnadoedd prif ddinasoedd y dwyrain; mae yn agored i ruthrwyntoedd ofnadwy o’r Mynyddoedd Creigiog; ac nid yw yn hollol rydd oddiwrth y cryd a’r mwyth, mewn manau, ac oddiwrth afiechyd, mwy na’r talaethau ereill. Yn mhob gwlad ar ein daiar ni y mae angau. Ceir eisoes yn Kansas lawer o fynwentau oerion, a beddau distaw. Daeth llawer o Gymru yno, nid i fyw, ond i farw.

6. Indiaid Kansas. - Mae ychydig o Indiaid gwareiddiedig yn Osage Co., a manau ereill eto, ond y maent yn bobl dawel a heddychol, yn byw ar eu tyddynau bychain eu hunain, yn cael cynorthwy gan y Llywodraeth, yn hela eu helwriaeth, yn pysgota yn yr afonydd, ac yn magu ac yn gwerthu eu hanifeiliaid. Llywodraethir hwynt gan eu Chiefs, a dysgir yr efengyl iddynt gan genhadon Iesu. Mae yr offeiriaid Pabyddol hefyd wedi gwneyd llawer o ymdrechion i’w dysgu i ddeall a chredu eu Pabyddiaeth. Sonia y Llywodraeth am eu symud yn mhellach i’r gorllewin, neu i’r de. Ar gyffiniau deheuol Kansas y mae tiriogaeth mawr y Cherokee Indians; pobl wareiddiedig ydynt hwythau.



 

 


(delwedd E1159) (tudalen 121)

(x315) (tudalen 121) TALAETH KANSAS.

Islaw iddynt hwy y mae talaeth Texas, a gyrir miloedd o wartheg a cheffylau i’r wlad fawr fras hono, drwy diriogaeth yr Indiaid, bob blwyddyn, i’w gwerthu i breswylwyr Kansas. Nid yw yr Indiaid hyn yn beryglus. Ond y mae gwahanol lwythau o Indiaid anwaraidd a pheryglus eto yn ngorllewin Kansas, oddeutu tarddiadau yr afonydd Solomon a’r Republican, a manau ereill oddeutu y Kansas a’r Arkansas, yn y rhandir gorllewinol. Ond cedwir hwynt o fewn eu terfynau gan filwyr ein Llywodraeth; a thebygol yw y symudir hwythau yn fuan yn mhellach i’r Mynyddau Creigiog. Llwythau gwylltion y Cheyennes a r Arrapahoo yw y rhai mwyaf peryglus.

7. Manteision Addysg a Chrefydd. - Pan ffurfiwyd y dalaeth gyntaf, rhoddodd y Llywodraeth gyffredinol lawer iawn o diroedd at sefydlu a chadw ysgolion dyddiol yn mhob plwyf (township.) Cynorthwyir hwynt hefyd trwy drethu eiddo y dinaswyr. Yn 1869, yr oedd dros ddeuddeg cant o athrawon cymhwys yn addysgu y plant yn yr ysgolion hyny. Heblaw yr ysgolion dyddiol, mae University y dalaeth yn ymyl dinas Lawrence; yr Ysgol Amaethyddol ar fryn hyfryd, o fewn milldir i dref Manhattan; yr Ysgol Normalaidd yn Emporia; Coleg Washburne, ac Athrofa y Merched, yn Topeka; Parker University yn Baldwin City; yr Highland University yn Highland, Doniphan Co.; Lane University yn Lecompton, Douglas Co.; ac amrai o ysgolion rhagorol yn siroedd Franklin, Coffee, a Marshall.

Mae eglwysi a chapelau gan y gwahanol enwadau efengylaidd yn mhob dinas, a thref, a phentref, drwy y dalaeth. Yn 1869 yr oedd gan y Cynulleidfawyr Saesnig yn Kansas y rhifedi canlynol: - Eglwysi, 49; gweinidogion, 51; aelodau, 1,337; plant yr Ysg. Sab., 1,604; casgliadau at wahanol achosion, $33,178.

8. Y Sefydliadau Gymreig yn Kansas. - Telais ymweliad ag amrai o honynt yn Awst a Medi, 1869; ond y maent wedi cynyddu llawer er hyny. Caraswn ysgrifenu eu hanes yn fanylach; ond nis gallaf gyhoeddi



 

 


(delwedd E1160) (tudalen 122)

(x316) (tudalen 122) Y GORLLEWIN PELL

rhestr o’r penau teuluoedd, am na welodd neb yn dda anfon rhestr felly i mi.

(1.) EMPORIA, Lyon Co. - Sefydlodd amrai o Gymry crefyddol ac anturiaethus yn y dref hon er ys 8 neu 10 mlynedd yn ol. Dechreuwyd y dref cyn y rhyfel cartrefol diweddaf. Ataliwyd ei chynydd yn amser y gwrthryfel; ond wedi hyny dechreuodd gynyddu a llwyddo, nes y mae yn awr yn ddinas boblog, fasnachol, a llwyddianus. Hi yw prif ddinas sir Lyon. Saif ar le hyfryd, rhwng afonydd y Neosho a’r Cottonwood. Mae ynddi heolydd llydain, amrai a stores mawrion, llawer o dai da, amrai o gapelau rhagorol, a masnach fywiog; ac y mae dwy reilffordd yn myned trwyddi eisoes, o Junction City, ac o Topeta, heibio i Burlingame, a Reading, yn agos i Arvonia. Mae yn Emporia amrai o’n cydgenedl yn grefftwyr ac yn fasnachwyr cyfoethog, a rhai o honynt mewn swyddi cyfrifol, megys y Dr. Morris, Jones, Thomas, &c. Yno hefyd y mae swyddfa Wm. B. Jones, Ysw. Bydd y dref gynyddol hon yn fuan yn ail i ddinas Lawrence. Mae llawer o dyddynwyr Cymreig yn byw yn agos ati.

Eglwys yr ANNIBYNWYR yn Emporia. - Bu y Parch. George Lewis, a’r Parch. Mr. Jones yn llafurio llawer gyda’r Annibynwyr yn y lle hwn. Sefydlwyd eglwys yno er’s dros saith mlynedd, ac adeiladwyd capel da yno yn 1868. Dechreuodd y Parch. Henry Rees, gynt o Ystradgynlais, D.C., weinidogaethu yno yn haf y fl. 1869, ac yr oedd yno eglwys, a chynulleidfa, ac Ysgol Sabbothol dda a bywiog y pryd hyny, a diau eu bod yn llawer mwy llewyrchus a lluosog yn awr. Yno yr oedd Mr. Rees a’i deulu yn byw.

Clywais fod Mr. Rees, wedi hyny, wedi sefydlu eglwys Annibynol yn y sef ydliad Cymreig sydd dros afon y Cottonwood, o fewn pedair milldir i’r de o Emporia. Yr oedd yno lawer o Gymry wedi sefydlu ar eu tyddynau ffrwythlon er ys blyneddau.

Eglwys y TREFNYDDION CALFINAIDD yn Emporia, &c. - Yr oedd llawer o aelodau perthynol i’r T.C. wedi sefydlu yn y dref, ac ar y Cottonwood, yn y Neosho Valley, er ys blyneddau. Yn niwedd y fl. 1869, sefydlodd y Parch. John Jones, gynt o Middle Granville, N.Y., yn eu plith, a ffurfiodd ddwy eglwys yno - un yn y dref , a’r llall yn y wlad, a chlywais ei fod yn dra llwyddianus. (Gwel ei lythyrau yn y “Drych,” am Awst, 1871,)



 

 


(delwedd E1161) (tudalen 123)

(x317) (tudalen 123) TALAETH KANSAS.

(2.) ARVONIA, Osage Co., Kansas. - John Mather Jones, Ysw., a’i gwmpeini a gawsant yr anrhydedd o gychwyn y sefydliad Cymreig newydd hwn yn nechreu y fl. 1869. Dichon eu bod wedi gwneyd y dewisiad o’r lle goreu a allasent gael ar y pryd. Mae ganddynt yn sicr lawer o filoedd o erwau o dir rhagorol a ffrwythlon oddeutu glanau afon gref a gloyw y Marias Des Cygnes; ac y mae tref Arvonia yn sefyll ar le iachus a phrydferth, tua 18 milldir i’r de o Burlingame, ond yn rhy agos i gornel de-orllewin sir Osage. Pe buasai wedi ei sefydlu yn nes i ganol y sir, ar y Salt Creek, neu y Marais Des Cygnes, buasai gwell gobaith iddi ddyfod yn brif dref y sir (County Seat,) yn lle Burlingame, yr hon â saif yn rhy uchel i’r gogledd; a buasai felly yn bellach oddiwrth Emporia. Ni ddaeth yr “Atchison, Topeka e Santa Fe R.R.” heibio i Arvonia, fel yr oeddynt yn disgwyl, ond rhedodd tua phedair milldir oddiwrthi, trwy Reading, i Emporia; ond credir y gweithir reilffordd arall yn fuan o ddinas Lawrence, drwy y “Diminished Reserve,” heibio i dref newydd hardd Arvonia i Emporia. Gwna hono les dirfawr i’r dref, ac i’r holl sefydliad.

Yn mhen llai na chwe’ mis ar ol dechreuad yr sefydliad, yr oedd Temporary Hotel fawr, a thua dwsin o dai, wedi eu hadeiladu yn Arvonia, a thros ddeugain o bersonau cyfrifol wedi prynu tiroedd yn y sefydliad! Dyna brawf fod ar ein cenedl eisiau arweinydd doeth, dysgedig, cyfoethog, ac anturiaethus; bod ganddynt ymddiried yn John Mather Jones, Ysw., a bod yr ardal yn lle da a dymunol i fyw. Yn eu mysg yr oedd llawer o ddynion crefyddol, sobr, a gweithgar; ac o’r cychwyniad hyd yn awr, buont ffyddlon a selog dros achos y Gwaredwr, a llenyddiaeth Gymreig. Nid all dim atal llwyddiant dynion felly. Cefais yr fraint o gyhoeddi y Gwaredwr a rhinwedd ei waed iddynt yn y dining room fawr yn yr Hotel, yn Awst, 1869. Archwiliais eu tiroedd gyda Thomas Jones, Ysw., Mahanoy City, Pa.; a Mr. Evans, y County Surveyor; a’r Barnydd John Rees, gynt o ddinas New York; a dyma fy marn ddiduedd am danynt: - Mae holl sir Osage yn gorwedd yn y man mwyaf dymunol yn nwyreinbarth



 

 


(delwedd E1162) (tudalen 124)

(x318) (tudalen 124) Y GORLLEWIN PELL

Kansas, yn cael ei hamgylcliu eisoes gan drefydd poblog, ac felly yn gyfleus i’r reilffyrdd, ac i’r prif farchnadoedd; ac y mae ynddi filoedd o erwau o dir amaethyddol gwerthfawr, a llawer o fwn glo, a dichon o fwn haiarn hefyd. Mae llawer o diroedd sefydliad Cymreig Arvonia mor ddymunol a chynyrchiol a’r tir goreu a geir o fewn y sir. Mae rhanau ereill o hono yn dir gwaelach, a pheth o hono yn dir lled ddiffrwyth. Gyd a’i gilydd, y mae yn gyfangorff o dir (rolling prairies) dymunol a da, ac yn cael ei ddyfrhau gan ddwy afon werthfawr, sef y Salt Creek, a’r Marais Des Cygnes a’i changenau; ac oddeutu yr afonydd hyny y mae llawer o goedydd rhagorol, ond nid chwarter digon at angen yr holl sefydliad. Credwyf hefyd fod llawer o fwn glo yn gorwedd dan barthau dwyreiniol a deheuol y sefydliad, ac y gallai mwnwyr Cymreig medrus, cyfoethog, ac anturiaethus, ei weithio allan yn llwyddianus.

Mae digon o diroedd da gan y cwmpeini, ( J. Mather Jones, Whitaker, & Co.,) yn sir Osage eto, i wneyd dau neu dri o sefydliadau cyfagos, ac i godi dwy neu dair o drefydd bychain eto - un yn agos i Salt Creek, ar ganol y sir, a’r llall yn agos i’r lle y mae y Parch. T. G. Jones, (Tafalaw,) a’i deulu, wedi sefydlu, o fewn chwech neu saith milldir i’r de-ddwyrain o dref Arvonia; ac yr wyf yn credu y bydd canoedd o Gymry wedi sefydlu cyn hir oddeutu glanau y Marais Des Cygnes, neu yn Osage River, yn y “Diminished Reserve,” wedi i’r Indiaid gael eu symud oddiyno. Mae yno dros haner can’ mil (50,000) o erwau o dir rhagorol o fewn sir Osage, a lleoedd cyfleus i adeiladu trefydd ar lanau yr afonydd. Clywais fod tref Arvonia wedi cynyddu yn ddirfawr yn yspaid y ddwy flynedd ddiweddaf, a bod ynddi yn awr lawer o drigfanau, a stores, &c., gwerthfawr, a’u bod yn bwriadu adeiladu athrofa yn agos iddi. Gerllaw iddi y mae palasdy hardd Owen Jones, Ysw., gynt o ddinas New York. amgylch iddi y mae ugeiniau o dyddynwyr Cymreig wedi sefydlu, ac yn debyg o fod yn llwyddianus iawn. Dyna fy marn ddiduedd am sefydliad Arvonia. Ar yr un pryd, credwyf fod cystal, a gwell, tiroedd i’w cael mewn llawer o siroedd ereill yn Kansas.



 

 


(delwedd E1163) (tudalen 125)

(x319) (tudalen 125) TALAETH KANSAS.

Yr Eglwysi CYMREIG yn Arvonia. - Pan oeddwn yno yn Awst, 1869, ar ddechreuad y sefydliad, nid oedd y boblogaeth ond bechan; yr oedd llawer wedi prynu tir yno, ond heb symud eu teuluoedd yno i fyw. Yr oedd yno y pryd hyny eglwys Undebol wedi ei ffurfio, a’r Parch. William Thomas, gynt o Cattaraugus, N.Y., yn gweinidogaethu iddynt. Yr oeddyno ddyn ieuanc (Americanwr dysgedig,) yn pregethu i’r Saeson. Cynalient eu cyfarfodydd yn ystafell fwyaf yr Hotel. Sonient am godi capel mawr, hardd yn y dref, i bregethu Cymraeg a Saesonaeg ynddo - gwerth dros $6,000. Ni chlywais fod yr addoldy hwnw wedi ei orphen eto. Ymddengys fod y gwalianol enwadau crefyddol Cymreig yno, sef yr Annibynwyr a’r T.C., wedi ymneillduo oddiwrth yr eglwys Unol, a ffurfio eglwysi eu hunain yn nechreu y fl. 1870. Bu y Parch. Wm. Thomas yn weinidog da a ffyddlon i’r eglwys Annibynol yno hyd haf y flwyddyn 1871. Mae yn byw yn Arvonia eto, ac y mae ganddo dyddyn rhagorol yn agos yno. Cyhoeddwyd yn y “Drych,” Awst 3, 1871, fod ar yr eglwys Annibynol yno eisiau gweinidog cymhwys i gymeryd gofal y tair eglwys Gynulleidfaol, sef Arvonia, Reading, a’r Creek, dan nawdd y Genhadaeth Gartrefol. Arwyddwyd yr ysgrif gan y Cymro twymgalon, Nicholas Ddu. Ysgrifenydd yr eglwys yw Daniel W. Williams, Ysw., Arvonia, Osage Co., Kansas. Y mae yno yn sicr “faes eang a gobeithiol iawn i ddyn llafurus a gweithgar.” Dymunwyf iddynt gael yr iawn ddyn. Clywais fod Tavalaw yn parhau i bregethu i’r eglwys Undebol yno. Nis gwn pwy oedd yn gweinidogaethu i’r T.C. yno.

Mae amrai o feirdd a llenorion enwog yn byw yn Arvonia, sef y Parch. T. G. Jones (Tavalaw), D. Lloyd Davies (Dewi Glan Peryddon,) Mr. John Thomas (Llanfyllin,) J. Mather Jones, Ysw., a Mr. J. W. Rice (Iago Ddu,) yr hwn a enillodd wobr a chadair yr Eisteddfod a gynaliwyd yno Gor. 4, 1871.

(3.) READING, Lyon Co., Kansas. - Sefydliad Cymreig newydd yw hwn, ar yr “Atchison, Topeka & Santa Fe R.R.” rhwng Arvonia ac Emporia, yn Lyon Co. Yr oedd y reilffordd heb ei gorphen yno yn Awst, 1869, ac nid oedd Reading y pryd hyny mewn bodolaeth. Wedi hyny y dechreuwyd y sefydliad a’r dref. Gellir myned yno o Topeka, trwy Burlingame, gyda y cars ar y reilffordd, ac oddiyno i Emporia. Mae hyny yn gyfleus a manteisiol i’r sefydlwyr. Dyma y station nesaf i Arvonia hefyd yn awr; ac y mae cerbyd yn rhedeg rhwng y ddau le bob dydd, er cyfleusdra i fasnach a theithwyr. Da genyf ddeall fod yno lawer o Gymry anturiaethus, a chrefyddol, a bod yno eglwys Annibynol Gymreig obeithiol, Gwyddom fod gan John McManus,



 

 


(delwedd E1164) (tudalen 126)

(x320) (tudalen 126) Y GORLLEWIN PELL

Manus, Ysw., Reading, Pa., filoedd lawer o erwau o diroedd gwerthfawr oddeutu yno, ac y gellir eu prynu am brisiau rhesymol. Mae cystal tir yn Lyon Co. ag a geir yn y siroedd cyfagos iddi; a gallai miloedd o Gymry gael cartrefi dedwydd ynddi , ond iddynt brysuro i fyned yno i brynu y tir. Gwel ysgrifau Nicholas Ddu yn y “Drych,” a’r “Faner,” ac ysgrif David J. Thomas yn y “Faner,” Gor. 5, 1871, t. d. 3.

(4.) BURLINGAME, Osage Co. - Hon yw prif dref y sir yn awr. Saif yn ei chwr gogleddol. Nid oedd ond lle bychan yn Awst, 1869; ond cynyddodd lawer ar ol i’r reilffordd gael ei gorphen drwyddi o Topeka i Emporia. Mae ychydig o Gymry yn byw ynddi , ac o’i deutu. Gerllaw iddi mae gwythienau da o lo yn cael eu gweithio yn llwyddianus.

(5.) CARBONDALE, Shawnee Co., Kansas. - Gorwedda y lle hwn oddeutu y reilffordd rhwng Burlingame a Topeka - dichon 15 milldir i’r de o’r lle olaf. Mae tiroedd da oddeutu yno. Ond ar y gweithiau glo yr ymddibyna y Cymry fwyaf. Dichon fod yno eglwysi wedi eu ffurfio, a chapelau wedi eu codi cyn hyn; ond ni chefais eu hanes.

(6.) TOPEKA, Shawnee Co., Kansas. - Hon yw prif ddinas y dalaeth; yma y mae Senedd-dai, a phrif swyddfäau y llywodraeth dalaethol. Mae ynddi lawer o adeiladau rhagorol o briddfeini a cheryg nâdd; llawer o stores, a land offices, a hotels mawrion; ysgoldai, athrofäau, eglwysi, a masnach fywiog. Saif ar lethr bryn isel yr ochr ddeheuol i afon Kansas, ac i’r “Union Pacific R.R.” Mae y depot yr ochr ogleddol i’r afon; a thebygol yw y bydd tref fawr yn cael ei chodi yr ochr hono hefyd. Yn Topeka y geilir cael pob hysbysrwydd am diroedd y dalaeth; ond rhaid gofalu am fyned i’r iawn swyddfäau, ac at y swyddogion awdurdodedig. Lle iachus a dymunol i fyw yw y ddinas hon, ac y mae yn cynyddu yn gyflym. Tebygol yw y symudir y Senedd-dai a swyddfäau llywodraeth y dalaeth yn y dyfodol i rywle mwy canolbarthol. Mae yma rai Cymry yn byw, ond nid oes ganddynt eglwys na chapel Cymreig



 

 


(delwedd E1165) (tudalen 127)

(x321) (tudalen 127) TALAETH KANSAS.

yno eto; dichon y bydd ganddynt. Mae llawer o fwn glo da oddeutu y ddinas hon.

(7.) LAWRENCE, Douglas Co., Kansas. - Saif y ddinas nodedig hon hefyd ar fryn hyfryd yr ochr ddeheuol i afon Kansas, a’r “Union Pacific R.R.,” yn debyg i Topeka; ac y mae ynddi adeiladau heirdd, poblogaeth luosog, a masnach fywiog. Cyfodwyd pont gadarn i groesi yr afon o’r depot i’r dref. Mae yn hon hefyd lawer o fasnachdai mawrion, ac o swyddfäau tirol, &c. Yma y cyhoeddir y “Kansas Real Estate Advocate,” dan olygiaeth y Cymro dysgedig E. E. Lewis, Ysw., yn yr hwn y ceir pob hysbysrwydd am diroedd y dalaeth. Bu yn y ddinas hon cyn ei llosgi â thân gan y gwrthryfelwyr o Missouri yn Mai, 1856, amrai o Gymry yn byw; a phregethwyd yr efengyl iddynt gan y diweddar Barch. George Lewis. Ond nid oes gan y Cymry yno yn awr nac eglwys na chapel Cymreig, ac nid yw eu rhifedi yno ond ychydig. Mae tiroedd ffrwythlon i’w cael yn sir Douglas. Gorwedda Lawrence 38 milldir i’r gorllewin o’r state line, ger Kansas City, Mo.

(8.) LEAVENWORTH, Leavenworth Co., Kansas. - Dyma y ddinas fwyaf poblog yn awr yn Kansas. Saif ar godiad tir, ar lan afon Missouri, tua 31 milldir i’r gogledd-ddwyrain o Lawrence, ar y “Branch Railroad.” Ei phoblogaeth yn 1870 oedd 17,849. Tref hardd a bywiog ydyw. Gerllaw iddi y mae Fort Leavenworth, ac y mae gweithiau glo o’i deutu, yn y rhai y mae amrai Gymry yn gweithio. Symudodd llawer yno o Bevier, Mo., yn 1870, perthynol i’r Bedyddwyr, gan mwyaf; a dichon fod ganddynt yn awr eglwys a chapel yno. Yno y mae y Cymro cenedlgarol a haelfrydig, D. J. Williams, Ysw., yn byw. Mae yr afon a’r reilffyrdd yn fanteisiol i’r ddinas hon.

(9.) ATCHISON, Atchison Co., Kansas. – Saif y ddinas hon yn uwch i’r gogledd na Leavenworth, ar lan y Missouri, a gellir yn awr fyned o’r naill i’r llall gyda y reilffordd. Gellir myned iddi hefyd gyda’r reilffordd, mewn ychydig amser, o St. Joseph, Missouri. Mae reilffordd bwysig arall, sef y “Central Branch of the Union



 

 


(delwedd E1166) (tudalen 128)

(x322) (tudalen 128) Y GORLLEWIN PELL

Pacific R.R.,” yn rhedeg allan o honi i’r gorllewin trwy siroedd ffrwythlon Brown, Nemaha, am dros 100 milldir, hyd Waterville, yn Marshall Co., ar y Little Blue River, (tuag ugain milldir i’r gogledd o sefydliad Cymreig y Bala, yn Powys, yn Riley Co.;) a bwriedir i’r reilffordd hon gael ei gweithio yn mlaen gyda glan y Little Blue, trwy siroedd Jones, a Jefferson (lle bu Cymry Mahanoy City, Pa., yn bwriadu cael sefydliad Cymreig,) a manau ereill, yn nhalaeth ffrwythlon Nebraska, er uno a’r Union Pacific R. R., ger Fort Kearney. Mae gan gwmpeini y reilffordd hon filoedd o erwau o diroedd rhagorol ar werth; ac mae eu prif swyddfa yn ninas Atchison. Credwyf fod y tiroedd hyn yn Kansas yn rhai iachus a chynyrchiol.

(10.) MANHATTAN, Riley Co., Kansas. - Hon yw prif dref sir Riley. Tref fechan, hardd, wasgaredig ar lawer o dir gwastad, ydyw. Saif ar gornel de-ddwyrain y sir, yn agos i’r fan yr ymdywallta y Big Blue River i afon Kansas; ac y mae y Kansas Pacific K. R yn rhedeg drwyddi. Ei phellder o Topeka i’r gorllewin yw 51 milldir; ac o Junction City i’r dwyrain yw 20 milldir. Mae ynddi lawer o adeiladau bychain o goed, o geryg, ac o briddfeini, ac amrai o gapelau gan y Saeson. Treuliasom un Sabboth dedwydd yno yn Awst, 1869. Yno y mae swyddfa ac argraffdy Meistri Adams ac Elliot, y rhai a weithredant fel yr Oruchwylwyr dros y “National Land Co.” Cefais hwynt yn bobl eirwir a chymwynasgar, a rhoddasant i ni bob hysbysrwydd rheidiol am diroedd y sir a’r dalaeth. Ni ddeallasom fod un Cymro na Chymraes yn byw yn nhref Manhattan, nac yn holl sir Riley y pryd hyny. Am ddim a wyddom yn wahanol, Thomas Jones, Ysw., Pa., a finau, oedd y rhai cyntaf a siaradasant, ac a ganasant Gymraeg yn Manhattan, ac ar y tiroedd a feddienir yn awr gan sefydlwyr Cymreig Powys, yn Riley Co. Gall Manhattan ddyfod yn dref boblogaidd a bywiog ei masnach. Ond ymddengys i ni y dylai y County Seat fod yn nes i ganol y sir.

(11.) Y BALA, yn Powys, Riley Co., Kansas. - Y Parch. R. Gwesyn Jones, a’i gyfeillion, a gawsant yr



 

 


(delwedd E1167) (tudalen 129)

(x323) (tudalen 129) TALAETH KANSAS

anrhydedd o ddechreu y sefydliad Cymreig hwn, yn ngwanwyn y fl. 1870. Nis gwyddom paham y galwasant y lle “Y Bala yn Powys.” Oni fuasai, Y Bala yn Meirion yn fwy priodol? Ond nid yw hyny yn bwysig. Dichon eu bod am uno Maldwyn a Meirion yn Kansas. Yr wyf yn gwir ddymuno eu llwyddiant. Ond beth am y sefydliad? Nid oedd mewn bodolaeth pan archwiliais yr ardal, yn Awst, 1869. Nid oes ond prin ddeunaw mis er pan ddechreuwyd ef; darllenais a chlywais ei fod wedi cynyddu yn gyflym, a bod golwg obeithiol arno yn awr. Buasai yn dda genyf pe buasai genyf amser a gallu i dalu ymweliad â’r lle y flwyddyn hon - ond nis gallaf. Cynygiodd y “National Land Co,” (prif werthwyr tiroedd Cwmpeini y Kansas Pacific R K.,) i ni, am bris rhesymol iawn, yr holl diroedd oedd yn eu meddiant, sef 6,560 o erwau, yn Township 8, Range 5, E. of 6th P.M., yn Riley Co., Kansas; a digon o amser i dalu am danynt. Ac yr oedd 16,480 erwau o dir y Llywodraeth i’w cael am $2.50 yr erw, neu am ddim dan yr “Homestead Acts,” o fewn yr un Township. Yr oedd hyny yn dra manteisiol i wneyd sefydliad Cymreig. Awst 21, 1869, aethum mewn cerbyd gyda Mr. Elliot, o Manhattan, heibio i’r Coleg Amaethyddol, gydag ochrau y bluffs, ar hyd y gwastadedd cul, ffrwythlon, hyd darddiad y Wild Cat Creek, yn Section 27, Township 8, Range 5, yn agos i 20 milldir o ffordd o dref Manhattan; ac oddeutu yr un pellder o Fort Riley, yr hon a safai oddiyno i’r de-orllewin, o fewn 4 milldir i’r Junction City. Archwiliasom lawer o’r tiroedd, ac ni welsom ni na choedydd nac afonydd o fewn y Township hwnw; ond hysbyswyd ni fod aberoedd bychain, sef y Walnut Creek, yn codi yn Section 11, ac yn rhedeg trwy Section 1, yn ei gornel ogledd-ddwyreiniol; ac un fechan arall, sef y Fancy Creek, yn codi yn Section 8, ac yn rhedeg trwy Section 5, yn ei gornel gogledd-orllewinol. Yr oedd yno yn sicr diroedd da iawn, cyfaddas i gynyrchu pob math o ydau a ffrwythau; ac yr oeddynt yn llawer mwy gwastad.na rhai manau yn Osage Co., er hyny yr oedd arnynt rai codiadau a llethrau; a digon o rediad i’r dyfroedd. Yr oedd yr holl diroedd, y pryd hyny, heb eu prynu



 

 


(delwedd E1168) (tudalen 130)

(x324) (tudalen 130) Y GORLLEWIN PELL

na’u poblogi, yn cael eu gorlwytho gan wair (prairies) naturiol, heb neb i’w bladurio, a’i gasglu yn nghyd, nac un anifeil i’w fwyta. Yn y township hwnw, neu yn gyfagos ato, y mae sefydliad Cymreig Powys; ac y mae ar diroedd da a ffrwythlon, lle gall 144 o deuluoedd Cymreig gael 160 o erwau o dir bob un; a gall gynnwys dros wyth gant o boblogaeth; ac y mae digon o diroedd da ereill i’w cael o’i ddeutu. Prif anfanteision presenol y lle hwn yw, ei fod dros ugain milldir oddiwrth bob reilffordd, a threfydd masnachol; nad oes braidd ddim coedydd naturiol yn tyfu ynddo; nac un afon nac aber o bwys yn rhedeg trwyddo; ond gellir cael ffynonau da ynddo trwy gloddio pydewau; a gellir tyfu pob math o goedydd yno. Buasai tref y Bala yn Powys yn llawer mwy dymunol a manteisiol i’r sefydlwyr Cymreig, pe buasai wedi ei chodi yn nes i ganol y sir; a buasai gwell gobaith iddi felly ddyfod yn brif dref (County Seat) Riley. Neu, pe buasai wedi ei chodi yn nes i afonydd y Big Blue, neu y Republican, buasai ei sefyllfa yn well, a’i manteision yn llawer mwy. Er hyn oll, credwyf fod cwmpeini “Cymdeithas Dirol ac Ymfudol Gymreig America,” wedi gwneyd dewisiad da, a dichon y goreu a allasent ar y pryd; ac y bydd y Bala, a Powys, yn lleoedd cyfoethog ac enwog yn y dyfodol; yn enwedig os daw yno lawer eto o ddynion arianog ac anturiaethus, i helaethu y dref, ac i ddwyn yn mlaen fasnach fywiog o’i mewn. Tebygol yw y codir tref fawr yn nes i ganol sir Riley, ar ochr orllewinol y Big Blue, o fewn Township 8, Range 6, ac y symudir y County Seat yno o Manhattan, ac y bydd reilffordd newydd yn cael ei gwneyd o Leavenworth heibio i hono, a’r Bala, gan groesi y Republican i’r gorllewin; neu y bydd y reilffordd sydd yn awr yn rhedeg o Atchison hyd Waterville, yn Marshall Co., yn cael ei gweithio yn mlaen gyda glanau y Big Blue i lawr i Mahattan, neu ar draws sir Riley, heibio i dref y Bala yn Powys i’r Junction City, neu yn mlaen i’r gorllewin. Sonir am hyny yn awr, a thebygol yw y cymer le yn weithredol cyn hir. Dyblai hyny werth tiroedd Powys ar unwaith.

Ond gwrandewch beth a ddywed y sefydlwyr am



 

 


(delwedd E1169) (tudalen 131)

(x325) (tudalen 131) TALAETH KANSAS

Powys. Yn y “Faner,” Gor. 19, 1871, dywed Mr. R. Davies, fel hyn - “Y mae yn hysbys bellach, i’r Cymry yn gyffredinol, mai tonog yw prairie Kansas, er y gellir cael canoedd o erwau mor wastad a bwrdd, heb yr un gareg, fel un o ddolydd harddaf Lloegr, ac eto yr amaethwr heb gyffwrdd âg ef. A phan y mae tir felly i’w gael weithiau am ddim, ac am o $5 i $8 yr erw, onid yw yn resyn fod y Cymry yn aros mewn gweithfeydd myglyd, a threfi afiach? Y mae arwynebedd y wlad yn edrych yn ardderchog - gwair mawr gwyrddlas yn ysgwyd yn yr awelon, a blodau amryliw fyrdd yn ei addurnaw, a gyroedd anifeiliaid y sefydlwyr yn ymgrwydro yma a thraw, nes y mae yr olygfa yn ddigoni swyno unrhyw ddyn; ond eto nis gall dyn fyw ar olygfeydd prydferth - mae yn rhaid iddo lafurio am ei gynhahaeth; ac nid yw y Powysiaid yn ol am hyny, o herwydd y mae yma rai wedi cymeryd tir y Llywodraeth, ac wedi gwneyd mwy o welliantau arno nag sydd gan rai hen sefydlwyr sydd yma er ys blyneddau. Mae gan bob sefydlwr ryw gymaint o wenith a chorn; rhai bump, rhai ddeg, a rhai bymtheg erw yn tyfu yn rhagorol, a phob arwyddion y bydd yma gnydau toreithiog. Twrw mawr a fu yma ar gychwyniad y sefydliad, fod yma brinder dwfr er cloddio am dano. Ond y mae heddyw ddigonedd o ddwfr iachus braidd wrth bob ty. Gellir cael dwfr da yma trwy gloddio 40 troedfedd ar gyfartaledd.

Dyma enwau y personau sydd wedi cloddio ffynonau, (tudalen n ol y rhifnodau o droedfeddi ar ol eu henwau,) a chanddynt gyflawnder o ddwfr - Reynolds a Daniels, (8); W. H. Jones, neu W. Sir Fôn, (13); E. W. Lewis, (26); J. G. Hughes, (14); Mrs. A. Hughes, (60); W. O. Williams, (48); G. Gray, (30); J. J. Evans, (30); W. Evans, (12); O. Thomas, (spring); J. W. Davies, (18); W. J. Roberts, (20); S. Ashman, (50); J. Randall, (140); J. L. Jones, (spring); Williams a Jones, (27); y Cwmni Tirol, (27); J. H. Jenkins, (65); Coal Company, (18); T. Morgans, (14).”

Dywed Mr. Davies, fod son mawr yno am gael reilffordd o Leavenworth, Waterville, a Junction City, drwy y lle. Dywed un arall o’r hen sefydlwyr, yn y



 

 


(delwedd E1170) (tudalen 132)

(x326) (tudalen 132) Y GORLLEWIN PELL

“Faner,” Gor. 5, 1871, fel hyn - “Adeg helbulus, ar y goreu, oedd yr un a aeth heibio i bawb oedd yma y flwyddyn ddiweddaf, oblegid, nad oedd yma ond lle newydd, heb ddim gan neb i’w ddysgwyl ond yr hyn oedd yn eu meddiant pan yn dyfod i’r lle. Ar yr un pryd, gallaf dystio fod hwn yn rhagori ar unrhyw sefydliad Cymreig arall yn y talaethau, trwy ein bod yn cael ein tir am ddim, ac felly ein bod yn cael yr arian a fuasai raid i ni eu talu am dir mewn unrhyw sefydliad arall, at gynal ein hunain a byw; a thrwy ei bod wedi digwydd troi allan yn flwyddyn sych iawn y llynedd, yr oedd yn dda i ni mai yma yr oeddym. Cawsom fyw yn dda ar ffrwyth yr arian y mae speculators sefydliadau ereill yn eu cymeryd oddiar cin cyd-genedl, sef y taliad cyntaf am y tir. Erbyn hyn mae ein meusydd mawrion yn orlwythog gan gnydau toreithiog; nid yn unig y mae ein gwenith yn ffrwytho yn hyfryd, ond y ceirch a’r Indrawn hefyd - gellir disgwyl 50 i 75 o fwsieli yr erw o’r olaf. Mae yma beth mewn hen dir, a pheth mewn tir wedi ei dori eleni, ond ni ddylai neb ddisgwyl y cnwd mwyaf ar y dywarchen, (sod corn,) ond y mae rhagolygon y bydd y cynyrch o hwn tua 50 bwsiel yr erw. O barth y dyfodol, yr ydym yn chwerthin arno, ac yn barod i’w groesawu. Mae genym bob peth angenrheidiol gogyfer a’r flwyddyn hon, heb fyned o’r sefydliad i’w ymofyn, a gallwn werthu oddiyma lawer o gynhaliaeth bywyd, oni fydd galwad am dano yma. Gwna hyny ni, a’r rhai newyddion a ddeuant yma eto, yn llawer mwy cysurus, na phe byddai raid i ni fyned 25 o filldiroedd i ymofyn pob peth tuag at ein diwallu, a thalu yn mron ddwbl bris am dano, fel yr oeddym yn gorfod gwneyd y flwyddyn a basiodd. Y mae pethau wedi cyfnewid erbyn heddyw, gan fod genym store yn y sefydliad, yn gwerthu pob nwyddau angenrheidiol; a bydd yr hen sefydlwyr wrth gefn y rhai newyddion i’w cyflenwi â hâd i’r tir, ac â gwenith neu flawd at eu galwad. Y sefydlwyr cyntaf a gafodd y fantais i gael tir rhad, gan fod hwnw bron wedi ei gymeryd i gyd yma yn bresenol. Mantais sefydlwyr yr ail flwyddyn ydyw, fod pob peth arall yn rhatach iddynt hwy nag y cafodd



 

 


(delwedd E1171) (tudalen 133)

(x327) (tudalen 133) TALAETH KANSAS

y sefydlwyr cyntaf hwynt. Mae genym yn awr store, shop gof, &c., yn nhref y Bala, yn lle gorfod myned mor belled a Manhattan i wneyd pob gorchwyl. Yr oedd yr hen sefydlwyr yn gorfod talu $4 yr erw am aredig eu tir; ond ceir hyny yn awr am $3.50, a $3. Tair gwedd oedd grym y sefyedliad y llynedd, ond y mae gan y Cymry eleni o 15 i 20 o weddoedd da, ac y maent yn cynyddu o hyd; a sefydlwyr newyddion yn parhau i ddyfod yma, nes ydym yn rhifo yn awr o 300 i 400, er nad yw y sefydliad ond ychydig dros flwydd oed. Nid yw ein tref yn cynyddu mor gyflym a llawer o drefydd mewn sefydliadau newyddion, o herwydd ein bod yn gweled yn oreu yru yn mlaen ar ein tyddynod yn gyntaf, ac yna adeiladu y dref. Credwyf mai hon yw y ffordd oreu o lawer, ac nid gwneyd tref yn gyntaf, ac ar ol rhoddi ein harian i wneyd ty da yn y dref, bod heb ddim i yru yn mlaen ar y fferm. . Nid oes genym eto yn y Bala ond chwech o anedd-dai, a store, a swyddfa, a gefail gôf, wedi eu gorphen; ond y mae yma ddau neu dri yn ychwaneg wedi eu dechreu; a neuadd y dref, yr hon fydd at wasanaeth cyhoeddus ac addoliadau crefyddol, trwy nad oes genym un addoldy yma eto, er nad yw yn debyg y byddwn yn hir heb yr un. Eglwys gymysg ydym eto, eithr y mae genym weinidog yma, sef y Parch. Henry Davies, (A.) gynt o Big Rock, Illinois. Bu y Parch. K. Gwesyn Jones, Utica, a’r Parch. H. E. Thomas, Pittsburgh, yma yr wythnos o’r blaen, a chawsom gymanfa dda iawn yma y Sabboth gyda hwynt; cawsom bregethau rhagorol, ac yr oedd y ddau wedi myned i sefyll ar eu huchelfanau, nes oedd yma “Sasiwn y Bala“ mewn gwirionedd. Nos Iau canlynol cadwyd cyfarfod, ac ysgrifenwyd tystiolaeth y sefydlwyr am y sefydliad; a bwriadant eu cyhoeddi mewn llyfryn i’w dosparthu.”

Dyna dystiolaeth dau o’r sefydlwyr am Powys a’r Bala, yn Kansas. Rhoddasant ddarluniad cywir o’r sefydliad o’i ddechreuad hyd yn awr; ond cyn pen dwy flynedd eto, bydd wedi cynyddu a llwyddo yn ddirfawr; a bydd yr holl diroedd, cyfagos i’r Bala, wedi eu prynu a’u sefydlu, Credwyf y gellir gwneyd llawer o sefydliadau Cymreig da yn siroedd Riley, a Clay, Pottawattamie,



 

 


(delwedd E1172) (tudalen 134)

(x328) (tudalen 134) Y GORLLEWIN PELL

Marshall, Washingtou, Republic, a Shirley, &c., oddeutu Powys, yn Kansas. Mae sefydliad Cymreig Powys, tua 70 milldir yn uwch i’r gogledd nag Emporia ac Arvonia; ond gellir myned i’r naill a’r llall, gyda’r reilffyrdd trwy Junction City, neu Topeka a Manhattan. Swyddogion y Gymdeithas Dirol ac Ymfudol hon ydynt y boneddigion cyfrifol canlynol - Llywydd, Parch. Rhys Gwesyn Jones, Utica; Is-lywydd, Parch. John Moses, Newark, Ohio; Trysorydd, Parch. D. T. Davies, Utica, N.Y.; Ysgrifenydd, Parch. Isaac Thomas, Utica; Goruchwyliwr, J. H. Jenkins, Powys, Manhattan, Riley Co., Kansas. Gellir cael shares gan y. Cwmpeini, $100 yr un, gan y personau uchod, neu y Parch. H. E. Thomas, Pittsburgh, Pa., neu Mr. J. W. Howells, Scranton, Pa. Y mae prif Swyddfa y Gymdeithas yn 104 Genesee Street, Utica, Oneida Co., N.Y.

(12.) BANGOR, Coffey Co. - Saif y dref newydd hon tua 10 milldir i’r de-orllewin o ddinas Burlington, yn yr un sir, mewn gwlad iachus a ffrwythlon; nid yn mhell o derfynau siroedd Greenwood a Woodson, lle gellir cael y tiroedd goreu o fewn y dalaeth, gan Wm. P. Jones, Ysw., ac ereill, am o $3 i $7 yr erw. Mae amrai o fân aberoedd yn rhedeg heibio i Bangor, ac ychydig o goedydd yn tyfu ar eu glanau; ac yn fuan bydd reilffordd yn rhedeg o Kansas City, Ottumwa, Burlington, trwy Bangor, i Eureka, ac oddiyno i Santa Fe. Bydd llawer o drefedigaethau newyddion yn codi yn nyffryn mawr a ffrwythlon y Neosho; a bwriedir gwneyd Bangor yn un o’r rhai blaenaf yn eu plith. Mae amrai o Gymry parchus wedi sefydlu yno eisoes. Y cam cyntaf fydd y cam goreu i brynu tiroedd oddeutu yno.



 

 


(delwedd E1173) (tudalen 135)

(x329) (tudalen 135)

PENNOD VIII.

TALAETH NEBRASKA.

Talaeth Iachus a Ffrwythlon ydyw; ac y mae ynddi Filiynan o Diroedd Rhad a Chynyrchiol gan y Llywodraeth a’r Reilffyrdd, oddeutu glanau afonydd y Platte, a’r Big a’r Little Blues, a’r Republican, &c Yr Union Pacific R.R. Omaha. Lincoln. Nebraska City. Brownville. Ychydig o Gymry wedi sefydlu ar Lanau y Missouri. Tiroedd Ardderchog yn ei rhandir Ddwyreiniol a Deheuol. Argoelion y bydd yno lawer o Sefydliadau Cymreig yn fuan. T.d. 135-142

Mae Nebraska yn 432 o filldiroedd o hyd o’r dwyrain i’r gorllewin, ac yn 200 o filldiroedd o’r gogledd i’r de, yn cynnwys tua 71,000 o filldiroedd petryal, a 45,620,000 o erwau. Terfynir hi gan afon Missouri, ac Iowa du y dwyrain; gan Dakota o du y gogledd, gan Wyoming a Colorado o du y gorllewin, a chan Kansas o du y de; ac y mae y rhan fwyaf o’i thiroedd yn ffrwythlon, a’u harwyneb yn debyg iawn i arwyneb tiroedd Kansas; gweirdiroedd gwastad, a bryniog, a digoed (rolling prairies) ydynt; ond y mae yn uwch na’r dalaeth hono oddiar arwyneb y môr, ac y mae ynddi lai o afonydd mewnol cryfion, ac o ganlyniad lai o goedydd gwerthfawr, ac o waelodion ffrwythlon. Gwir yw, golchir ei holl gyffiniau dwyreiniol, a rhan o’i gogleddbarth, am yn agos i 250 o filldiroedd, gan afon fawr y Missouri, a bod llawer o wastad-diroedd eang, a digon goedydd yn yr holl siroedd ar lanau hono, yn enwedig yn yr holl siroedd o Omaha hyd Kansas yn y de. Rhenir y dalaeth bron yn ddwy ran gyfartal, de a gogledd, gan afon fawr arall, sef y Platte River, yr hon a gyfyd, un rhan yn Wyoming, a’r rhan arall yn Colorado, yn y Mynyddoedd Creigiog, ac a ymuna yn un afon gref, tua 300 o filldiroedd o Omaha, yn ngorllewindir Nebraska, ac oddiyno a ddylifa heibio i Fort Kearney a’r Grand Island, ac a ymdywallta i’r Missouri wrth Plattsmouth, rai milldiroedd i’r de o Omaha. Er fod yr afon hon tua milldir o led am ganoedd o filldiroedd, nid yw ond ychydig o droedfeddi o ddyfnder. Rhed yn chwyrn, ac y mae llawer o quick-sand ynddi, yn ei



 

 


(delwedd E1174) (tudalen 136)

(x330) (tudalen 136) Y GORLLEWIN PELL

gwneyd yn beryglus i’w chroesi. Ystyr yr enw Nebraska yw “Dwfr Bâs,” am hyny enwyd y dalaeth yn ol ystyr enw yr afon Platte. Mae llawer waelodion eangfaith, ac o goedwigoedd, gyda glanau gogleddol yr afon hon; ac y mae y tir hwnw yn dra ffrwythlon hyd nes yr eir yn mhell i’r gorllewin. Afonydd mewnol ereill Nebraska yw y rhai canlynol, sef y Loup Fork a’i thair cangen, yr hon a ddyfrha ganoldir y dalaeth yr ochr ogleddol i’r Platte, ac a ymdywallt iddi tua chan’ milldir o’i genau; a’r Niobrara, yr hon a gyfyd yn Wyoming, ac a ddylifa trwy randir gorllewinol a gogleddol Nebraska, ac a ymdywallt i’r Missouri; a’r Elkorn, yr hon a gyfyd yn nghanol y dalaeth, ac a ymarllwys i’r Missouri tuag ugain milldir yn uwch na’i genau, o du y gogledd. Mae llawer o goed a cheryg o ddeutu glanau yr afon werthfawr hon, ac y mae llawer o diroedd da yn yr holl siroedd sydd rhyngddi a’r Missouri River. Dyna y prif afonydd sydd yr ochr ogleddol i’r afon Platte yn y dalaeth.

Yr ochr ddeheuol i’r afon Platte y mae yr afonydd mewnol canlynol, sef y Little a’r Great Nemaha, a’u cangenau, y rhai a ddyfrhant y siroedd mwyaf ffrwythlon a phoblog yn rhandir dwyreiniol a deheuol y dalaeth, ac a ymdywalltant i’r Missouri; a’r Big Blue, a’r Little Blue, a’u cangenau, y rhai a ddyfrhant ganoldir deheuol Nebraska; yn nghyd a’r Republican a’i lluosog gangenau, yr hon a ddyfrha dde-orllewin y dalaeth; ac y mae y tair afon olaf a nodwyd yn rhedeg i mewn i ogleddbarth talaeth Kansas. Gydd glanau yr holl afonydd hyn y mae llawer o waelodion ffrwythlon, a pheth coedydd. Gerllaw iddynt y mae bluffs caregog, a thu ol iddynt y mae miloedd o erwau o’r gweirdiroedd tonog (rolling prairies) mwyaf ffrwythlon a dymunol. Gydd glanau afon Missouri, ac am oddeutu



 

 


(delwedd E1175) (tudalen 137)

(x331) (tudalen 137) TALAETH NEBRASKA

can’ milldir i’r gorllewin oddiwrthi, y mae mwyaf o goedydd, a phoblogaeth yn awr; ac y mae miliynau o erwau o diroedd gwerthfawr heb eu mesur eto gan y Llywodraeth yn nghanoldir a gorllewindir Nebraska, oddeutu y Little Blue, a’r Republican; ond cyn pen deng mlynedd eto, byddant wedi eu sefydlu a’u diwyllio gan boblogaeth gref, a llawer o reilffyrdd yn rhedeg trwyddynt, a dinasoedd a threfydd wedi eu cyfodi arnynt. Mewn rhai manau oddeutu yr afonydd y mae y tir yn doredig a bryniog, yn lleoedd da am godi ffrwythau, a magu defaid ac anifeiliaid. Cael peth tir felly, gyda doldiroedd y gwastadedd, a wnai dyddyn rhagorol. Mae y golygfeydd a geir oddiar benau y bryniau hyn yn nodedig brydferth a swynol.

Yn rhandir dwyreiniol a deheuol Nebraska, am gan’ milldir i’r gorllewin o afon Missouri, ceir y prairies mwyaf dymunol a ffrwythlon, a hawdd i’w llafurio; cyfodant yn raddol tua’r gorllewin a’r gogledd, a gellir cael canoedd o erwau o dir yno heb un bryn a dwfrffos i atal yr aradr a’r cerbydau rheidiol i’w llafurio. Ond cofier fod prinder coedydd yn fwy yn ngorllewindir Nebraska, yr ochr ogleddol a dwyreiniol i’r Platte Riyer, a bod y lleoedd hyny (fel gorllewindir Kansas), yn fwy agored i sychder ac i ystormydd, ac nad yw yn agos mor ffrwythlon a dwyreindir y dalaeth.

Yn ngogledd-orllewin Nebraska, uwchlaw Fort Laramie, y mae dyffryn diffaeth 30 milldir o led wrth 80 milldir hyd, a elwir gan y Ffrancod, “Mauvaises Terres” (Bad Lands.) Tiroedd drwg, oblegid eu bod yn cael eu ffurfio o dywod a chlai-bridd caled. Torwyd hwynt yn ffosydd ac yn nentydd gan aberoedd a gwlaw, ac achosion awyrawl ereill, nes y ffurfiasant yn bigyrnau, yn golfäau, ac yn golofnau neillduedig, a thyrau,



 

 


(delwedd E1176) (tudalen 138)

(x332) (tudalen 138) Y GORLLEWIN PELL

gan edrych o bell, fel dinas ddirfawr yn ei dadfeilion! Mae ffordd Fort Laramie yn rhedeg drwy y tiroedd anffrwythlon hyn. Gorwedda y dyffryn erchyll hwn o gant i ddau gant o droedfeddi yn is na’r gweirdir eang a gwastad sydd yn agos ato. Ceir llawer o diroedd gwaelion heblaw y dyffryn hwnw yn ngogledd-orllewin y dalaeth.

Gellir cael ffynonau a dwfr da yn y rhan fwyaf o siroedd presenol y dalaeth trwy gloddio pydewau o 12 i 26 troedfedd. Ceir gwythienau da o lo yn siroedd Richardson, Pawnee, Johnson, Nemaha, Otoe, Cass, Jones, Dixon, a Grant, &c.; a mawn mewn rhai manau; ac y mae digonedd o geryg calch rhagorol at adeiladu mewn llawer o’r bryniau gyda glanau yr afonydd. Darganfyddwyd mwn haiarn yn sir Gage, a halen yn sir Lancaster. Ceir yr un rhywogaethau o goedydd yn Nebraska ag a geir yn Kansas; a gellir tyfu pob math goedydd yno hefyd. Mae ei hinsawdd a’i thymhorau yn debyg hefyd. Gorwedda yn yr un lledred a Pennsylvania, Ohio, Illinois, ac Iowa. Y mae y gwyntoedd yn y gauaf a’r gwanwyn yn erwin a chryfion; ond nid yw y gauaf yn hir, na’r haf yn angerddol boeth. Gwlad iachus ydyw haf a gauaf hefyd. Yn 1860, nid oedd ei phoblogaeth ond 28,841; ond erbyn 1870, yr oedd wedi cynyddu i 116,888!

Prif ddinasoedd Nebraska ydynt Lincoln (the State Capital), Omaha, Plattsmouth, Nebraska City, Brownville, Beatries, &c.; ac y mae ugeiniau o drefydd yn cael eu codi yn y gwahanol siroedd mwyaf poblog, yn enwedig oddeutu yr Union Pacific R.R. , am dros 150 i 200 filldiroedd o ddinas boblog a bywiog Omaha i’r gorllewin. Bydd y “Burlington & Missouri R R,” yr hon sydd wedi ei gorphen ar draws deheudir Iowa, yn croesi afon Missouri ger Plattsmouth, ac yn



 

 


(delwedd E1177) (tudalen 139)

(x333) (tudalen 139) TALAETH NEBRASKA

cael ei gweithio heibio i Lincoln, ac yn mlaen drwy y wlad, gan uno a’r Union Pacific R R. ger Fort Kearney; a bydd llawer o reilffyrdd yn sicr o gael eu gwneyd o Kansas a Minnesota i redeg i bob cyfeiriad i Nebraska. Diau y gorphenir y “Central Branch of the Union Pacific R.R.,” yr hon sydd yn awr yn rhedeg o Atchison, Kansas, hyd Waterville, Marshall Co., ac y bydd yn rhedeg cyn hir gyda y Little Blue, neu y Republican, drwy Nebraslca, hyd Fort Kearney, neu yn agos iddi. Sonir hefyd am wneyd reilffyrdd o Brownville a Nebraska City i Lincoln, ac oddiyno trwy ddeheudir Nebraska, a gogledd-dir Kansas, gyda y Big Blue i Fort Riley. Bydd hono yn fanteisiol i’r sefydliad Cymreig yn Powys, Kansas. Yr wyf yn credu fod tiroedd dymunol a ffrwythlon yn rhandir dwyreiniol a deheuol Nebraska, a bod yno filoedd o erwau o.diroedd rhad y Llywodraeth, a chan gwmpeini y gwahanol reilffyrdd; ac y byddai yn dda i filoedd o Gymry sefydlu yno yn fuan. Mae swyddfa y Llywodraeth gyffredinol yn nhref Beatries, sir Gage, a rhai ereill yn Lincoln, Dakota, a West Point. Ceir pob hysbysrwydd am y tiroedd trwy alw ynddynt, neu ysgrifenu at y Cofrestrwyr.

Mae darpariadau ehelaeth wedi cael eu gwneyd gan y Llywodraeth gyffredinol, a chan lywodraeth y dalaeth, at godi a chynal ysgolion dyddiol yn mhob plwyf (township) yn Nebraska. Rhoddwyd sections 16 a 36, yn cynnwys milldir petryal, neu 23,040 o erwau bob un, gwerth $7 yr erw, at y fath ysgolion gwerthfawr yn mhob plwyf. Yn 1867, penderfynwyd symud eisteddle y llywodraeth dalaethol o Omaha i Lincoln, yn Lancaster Co. Gorwedda y ddinas newydd hono mewn lle hyfryd, a chynydda yn gyflym. Adeiladwyd yno Senedd-dai, a swyddfäau rhagorol, gyda llawer o drigfanau



 

 


(delwedd E1178) (tudalen 140)

(x334) (tudalen 140) Y GORLLEWIN PELL

ac eglwysi, ac athrofäau. Mae athrofäau hefyd yn Nebraska City, Fremont, a Pawnee City. Dinas boblog ac ardderchog yw Omaha.

Mae amrai o Indiaid gwareiddiedig yn aros eto mewn manau yn Nebraska; ond tebygol yw y symudir hwynt oll cyn hir oddiyno yn mhellach i’r gorllewin. Mae dros ddwy fil a haner (2,750) o’r Pawnees yn aros ar eu sefydliad yr ochr ogleddol i afon Platte, tua chan’ milldir i’r gorllewin o Omaha. Mae tua chwe’ chant (600) o’r Omahas yn cartrefu ar eu tiroedd ar lan afon Missouri, tua haner can’ milldir i’r gogledd o Omaha; ac y mae yn agos i ddwy fil (1,800) o’r Winnebegoes yn preswylio gerllaw iddynt ar lan y Missouri. Mae dros bedwar cant (465) o’r Otoes yn byw ar eu tir prydferth a ffrwythlon, yn neheudir y dalaeth, sef rhwng Gage Co., yn Nebraska, a Marshall Co., yn Kansas. Mae yr holl Indiaid yn haner gwareiddiedig, yn diwyllio peth ar eu tiroedd, yn byw mewn tai gwaelion; weithiau yn myned allan yn lluoedd tua’r gorllewin i hela, ac i bysgota, ac yn dychwelyd i lafurio eu tiroedd a chasglu eu ffrwythau. Maent oll yn cael cynorthwy gan y LÍywodraeth, ac yn deyrngarwyr, ac yn gyfeillgar a’r dynion gwynion; ond yn elynion llidiog i lwythau y Sioux, a’r Cheyenne, a’r Arrapahoe.

Y ffyrdd rhwyddaf a rhataf i fyned o’r dwyrain i Nebraska, yw myned o New York, neu Philadelphia, i Chicago, ac oddiyno i Omaha; neu trwy Quincy, ac oddiyno gyda yr “Hannibal & St. Joseph R.R.” i St. Joseph, ac oddiyno i Brownville, Nebraska; neu trwy Burlington, Iowa, ac oddiyno gyda y “Burlington & Missouri R.R.” i Plattsmouth, Lincoln, neu Nebraska City.

CYMRY NEBRASKA. - Buom yn archwilio ychydig o diroedd dymunol a ffrwythlon rhanbarth dwyreiniol



 

 


(delwedd E1179) (tudalen 141)

(x335) (tudalen 141) TALAETH NEBRASKA

deheuol Nebraska, yn nechreu Awst, 1869, a chawsom berffaith foddlonrwydd y pryd hyny fod yn y parthau hyny, sef oddeutu Brownville, Nebraska City, Lincoln, a Beatries, yn siroedd Cass, Lancaster, Otoe, Nemaha, Johnson, Pawnee, Richardson, a Gage, wledydd ardderchog a ffrwythlon; a chawsom brofion diymwad fod tiroedd amaethyddol o’r fath oreu i’w cael gan y Llywodraeth oddeutu glanau y Big Blue River, yn siroedd Seward, Saline, a Grage; ac oddeutu y Little Blue River, yn siroedd Jones a Jefferson, &c. Tref fechan gynyddol, yn codi i’r bryniau, ar lan afon Missouri, yw Brownville, gyferbyn a depot Phelps, ar y “Kansas City, St. Joseph & Council Bluffs R.R.,” yr ochr ddwyreiniol i’r Missouri. Yr oedd Mr. William D. Price, gof (gynt o Newton, Iowa), a’i deulu yn byw yno y pryd hyny. Clywsom fod sefydliad bychan Cymreig yn agos i Aspinwall yn Nemaha Co., tuag wyth milldir i’r de o Brownville, a bod eglwys Gymreig wedi ei sefydlu yno er ys rhai blyneddau gan y Bedyddwyr, a bod y Parch. Evan Thomas, gynt o Ohio, wedi bod yn pregethu iddynt. Yr oedd Mr. Thomas Higgins, a Mr. Lloyd, ac ereill, yn byw yn yr ardal hono. Addolent mewn ysgoldy. Y mae sefydliad Cymreig bychan arall yn agos i Salem, a Fall City, Richardson Co.; a chlywais fod gan yr Annibynwyr eglwys fechan yno, a bod Mr. Wm. D. Price, Brownville, wedi symud yno i fyw ar ei dyddyn. Dichon fod yn y parthau hyn rai sefydliadau Cymreig bychain ereill wedi cael eu dechreu yn y ddwy flynedd ddiweddaf; a diau fod amrai o Gymry yn wasgaredig yn y gwahanol ddinasoedd a’r siroedd. Mae y Parch. David Knowles (A.,) gynt o Long Creek, Iowa, yn genhadwr gyda y Saeson yn Greenwood, Cass Co., Nebraska; ac y mae y Parch. Thomas Pugh, gynt o Aberdar, D.C., wedi hyny o Ironton, Ohio, yn genhadwr, ac yn gweinidogaethu i dair eglwysi Saesnig bychain, yn agos i Fremont, ar yr Union Pacific R.R, 47 milldir o Omaha; Rev. Thomas Pugh, Fremont P.O., Dodge Co., Nebraska. Y mae efe yn byw mewn lle a elwir Jalapa, tua 9 milldir i’r gorllewin o Fremont. Clywais hefyd fod rhai Mormoniaid Cymreig wedi ymfudo o Brookfield, Ohio,



 

 


(delwedd E1180) (tudalen 142)

(x336) (tudalen 142) Y GORLLEWIN PELL

a sefydlu yn rhywle yn Nebraska. Gall fod tua, dau gant o Gymry yn wasgaredig yn y dalaeth; ond tebygol yw y bydd yno sefydliadau Gymreig cryfion cyn pen deng mlynedd eto. Mae yn wlad mor iachus a ffrwytlon, a dymunol i fyw, ag ydyw Iowa, Missouri, a Kansas - yn enwedig yn ei siroedd dwyreiniol a deheuol (south-east of Nebraska.)



 

 


(delwedd E1181) (tudalen 143)

(x337) (tudalen 143)
PENNOD IX.

TALAETH CALIFORNIA.
Dechreuwyd poblogi gwlad fawr California gan y Spaeniaid, tua San Diego, yn y fl. 1769. Bu am yn agos i 80 mlynedd wedi hyny heb dynu sylw neillduol y byd, ac heb gynyddu ond ychydig yn ei phoblogaeth. Yr oedd gan “y Duw a wnaeth y byd” ei “amseroedd rhag-osodedig,” a’i foddion neillduol i’w chodi i sylw, ac i ddenu y miloedd, o wahanol barthau y ddaiar, yno i’w phreswylio, ac i ddadblygu ei thrysorau gwerthfawr. Actau 17. 24 - 27. Yn mis Chwefror, 1848, darganfyddwyd aur yn un o’i hafonydd gogleddol, ar lan y Môr Tawelog; ac mewn lleoedd ereill yn y mynyddau. Codwyd gwerth $10,000,000 (deng miliwn) o hono y flwyddyn hono. Nid oedd California y pryd hyny ond gwlad ddieithr, wyllt, ac anial; ac yr oedd yn mhell o wledydd Ewrop, ac o’r talaethau dwyreiniol; a llawer o anfanteison i fyned iddi ar fôr a thir. Ond y cyhoeddiad am ddarganfyddiad yr aur yno, dan reolaeth yr Anfeidrol Ddoeth, a roddodd y fath hyrddiad i ymfudiad yno, nes oedd miloedd o wahanol genhedloedd, o wahanol barthau y byd, yn orwylltion am fyned yno, trwy rwystrau a pheryglon, i gyfoethogi eu hunain mewn byr amser! Aeth miloedd yno mewn llongau heibio i’r Cape Horn; a miloedd dros guldir y Panama; a miloedd dros y Mynyddau Creigiog. Bu llawer o honynt feirw ar y ffyrdd, wrth fyned a dychwelyd; dyoddefodd ereill gyfyngderau mawrion yn y gweithfeydd, yn y blynyddoedd cyntaf; yspeiliwyd



 

 


(delwedd E1182) (tudalen 144)

(x338) (tudalen 144) Y GORLLEWIN PELL

llawer; lladdwyd amrai gan yr Indiaid, ac ereill; dychwelodd rhai adref yn llwyddianus a chyfoethog; ond cafodd y mwyafrif siomedigaethau chwerwon, a buont feirw yno mewn caledi, yn mhell oddiwrth eu cyfeillion a’u perthynasau. Yn nghanol y fath orchwant am aur, ac yn mhlith y fath gymysgedd o wahanol ieithoedd a chymeriadau, mewn gwlad mor newydd, ac anniwylliedig, heb genhadon hedd, nac eglwysi na chapelau, rhaid fod yno le ofnadwy o annuwiol a pheryglus. Gwlad heb ei Sabbothau oedd y pryd hyny. Bu myned yno, nid yn unig yn niweidiol i iechyd, ac amgylchiadau, ond i deimlad a chymeriad crefyddol miloedd. Collasant bethau oedd yn werthfawrocach nag aur coeth lawer. Oerodd a chaledodd miloedd yn California. Ni wrandawsant ar gynghor Paul, ond cawsant brofiad chwerw o wirionedd ei eiriau, yn 1 Tim. 6. 8 - 10. Yr oedd llawer o eithriadau anrhydeddus; ond eithriadau oeddynt. Gorphwylldra (mania) melyn-aur ofnadwy oedd hwnw. Ond goruchel-reolodd Duw ei ddrygau, er ateb ei ddybenion mawrion ei hunan, yn mhoblogiad, diwylliad, ac efengyleiddiad talaeth fawr California. Yn 1850, yr oedd ei phoblogaeth yn 92,597; yn 1860, yr oedd yn 379,994; ond yn 1870, yr oedd yn 549,808. Y fath gynydd dirfawr a fu ar y boblogaeth yno mewn ychydig dros ugain mlynedd! O’r fl. 1848 hyd 1870, bernir fod yn agos i 1,000,000,000,000, (one billion,) deg can’ mil o fyrddiynau, o aur, wedi cael ei godi yn nhalaeth California, a’r tiriogaethau cyfagos iddi, a’i anfon i ffordd i hyrwyddo masnach, a chyfoethogi y byd. Mae afonydd a mynyddau y dalaeth eto yn gyfoethog o fwnau aur, arian, quick silver, copper, glo, &c.

Derbyniwyd y dalaeth hon i’r Undeb Medi 9, 1850,



 

 


(delwedd E1183) (tudalen 145)

(x339) (tudalen 145)
PENNOD IX.

TALAETH CALIFORNIA

ac y mae ynddi yn awr dros haner cant o siroedd Dyma restr o honynt, gyda’u poblogaeth yn 1870: -

Alpine 685
Amador 9,582
Alameda 24,237
Butte 11,403
Calaveras 8,895
Colusa 6,165
Contra Costa 8.461
Del Norte 2,022
El Dorado 10,309
Presno 4,605
Humboldt 2,694
Inyo 1,956
Kern 2,925
Klamath 1,674
Lake 2,969
Lassen 1,537
Los Angelos 15,309
Marin 6,903
Mariposa 4,592
Marced 2,807
Mendocino 7,530
Mono 430
Monterey 9,881
Napa 5,521
Nevada 19,136
Placer 11,357
Plumas 4,490
Sacramento 26,831
San Bernardino 3,988
San Diego 4,798
San Francisco 149,482
San Joaquin 21,050
San Luis Obispo 4,772
San Mater 6,635
Santa Barbara 7,784
Santa Clara 26,240
Santa Cruz 4,944
Shasta 4,173
Sierra 5,939
Siskiyou 6,859
Solano 16,871
Sonoma 19,821
Stanislaus 6,499
Sutter 5,030
Tehama 3,387
Trinity 3,213
Tulare 4,521
Tuolumne 8,150
Yolo 9,899
Yuba 10,851

Amlwg yw mai y siroedd nesaf at ei phrif ddinasoedd, sef San Franciseo, a Sacramento, &c., ydynt y rhai mwyaf poblog. Yn Mehefin, 1869, gorphenwyd yr “Union Pacific RR.,” yr hon a red o Omaha yn Nebraska, dros y Mynyddoedd Creigiog, drwy Wyoming, heibio i’r Salt Lake yn Utah, ac i lawr drwy dalaeth Nevada, heibio i Sacramento, i San Francisco, yn California, am yn agos i ddwy fil (1,914) o filldiroedd! Mae New York a Philadelphia, trwy Chicago ac Omaha, ac Ogden, i San Francisco, dros dair mil a thri chant (3,320) o filldiroedd; a gellir yn awr fyned gyd a’r reilffyrdd o lanau y Werydd i lanau y Tawelfor mewn tuag wythnos o amser. Effeithia hyn yn llesol i holl dalaethau yr Undeb; rhwyddha fasnach yr holl



 

 


(delwedd E1184) (tudalen 146)

(x340) (tudalen 146) Y GORLLEWIN PELL

fyd, a gwna San Francisco yn brif ddinas masnach a thrafnidaeth yr Unol Dalaethau, ar lan y Môr Tawelog; estyn ei dwylaw masnachol i’r holl ddaiar, a chyflenwa angenion trigolion y cyfandiroedd; ac ynysoedd y moroedd.

Mae talaeth California yn cael ei therfynu gan Nevada ac Arizona o du y dwyrain; gan California Isaf o du y de, gan Oregon o du y gogledd, a chan y Môr Tawelog o du y gorllewin. Mae yn 750 o filldiroedd o hyd wrth 230 o led. Mae ynddi lawer iawn o fryniau a mynyddau uchel, ac o afonydd llydain, sef y Sacramento, a’r San Joaquin, a’u lluosog gangenau, gyda llawer o afonydd ac aberoedd ereill yn y gogledd a’r de. Golchir ei therfyn gorllewinol am 750 o filldiroedd, San Diego, yn y de, hyd Crescent City, yn y gogledd; ac y mae ganddi amrai o gilforau (bays) rhagorol, yn enwedig Bay San Francisco, yr hwn sydd yn un o’r angorleoedd prydferthaf a diogelaf o fewn y byd. Gall y llongau mwyaf fyned i mewn iddo yn rhwydd drwy y “Golden Gate,’’ a gall gynnwys canoedd o honynt, a bydd eu hwylbrenau ynddo yn aml yn edrych fel coedwig ardderchog, ac weithiau wedi eu haddurno yn odidog â banerau, a’r ddinas fawr gyfoethog - San Francisco - yn sefyll ar guldir prydferth rhyngddo a’r môr mawr llydan.

Mae poblogaeth bresenol California yn agos i bum’ can’ mil a haner; ond y mae ynddi ddigon o diroedd ffrwythlon, ac adnoddion gwerthfawr, i gynmwys a diwallu dros dair miliwn o drigolion, a llawer mwy na hyny. Mae ynddi 60,000 o Chineaid; 7,000 o Indiaid; 5,000 o Negroaid duon; 200,000 o’r talaethau dwyreiniol a gorllewinol; 100,000 o’r talaethau deheuol; 80,000 o Ellmyniaid, Swediaid, Daniaid, a Rwssiaid; 60,000 Wyddelod; 20,000 o Saeson, Scotiaid, a Chymry,



 

 


(delwedd E1185) (tudalen 147)

(x341) (tudalen 147) TALAETH CALIFORNIA

ac 20,000 o Ffrancod, Italiaid, Spaeniaid, &c. Nifer yr holl bleidleiswyr (voters) yn y dalaeth yw 130,000. Gall fod oddentu dwy fil (2,000) o Gymry yn wasgaredig yn y dalaeth.

Mae y miloedd uchod wedi dringo i fyny i lethrau ei mynyddau, a dwyn allan o honynt eu cyfoeth dirfawr; ac ereill wedi sefydlu ar ei dyffrynoedd ffrwythlon, a glanau ei hafonydd; wedi anfon am eu gwragedd a’u plant, ac wedi adeiladu trefydd a dinasoedd, eglwysi ac ysgoldai, reilffyrdd, &c., a diwyllio y doldiroedd, nes y mae California yn awr yn un o’r gwledydd mwyaf dymunol i fyw ynddi . Ond bydd ei llwyddiant a’i mawredd yn llawer mwy yn y dyfodol. Mae ei harwyneb yn 188,881 o filldiroedd petryal, neu 120,947,840 o erwau; a gelUr defnyddio 89,000,000 o hono at amaethyddiaeth. Mae 40,000,000 o hono yn gymwys i’r aradr, er cynyrchu pob math o ydau yn doreithiog, a’r gweddill at fagu defaid ac anifeiliaid, a phob math o ffrwythau; ac y mae ynddi 40,000,000 o erwau o diroedd yn cyjnnwys cyflawnder o fwnau gwerthfawr. O’r deugain miliwn erwau o’r tir aradol goreu, mae 14 miliwn o hono ar lanau afonydd y Sacramento a’r San Joaquin; 16 miliwn yn y dyffrynoedd ar lanau y Tawelfor, a’r gweddill yn y rhanbarth a elwir “The Colorado Desert,” yn nghornel ddeheuol-ddwyreiniol y dalaeth, ac oddeutu glanau afon Klamath, yn ei gogledd-dir. Mae tua 30 milliwn o erwau wedi eu mesur gan y Llywodraeth, a gweddill o dros 90 miliwn heb eu mesur.

Mae tiroedd y dalaeth yn nodedig dda at gynyrchu gwenith, haidd, ceirch, pytatws, hop, tobacco, gwair, sorghum, ac mewn manau Indrawn cotton, a’r sugar-cane; ac y mae yn rhagorol dda at gynyrchu pob math o goedydd, a ffrwythau, a llysiau. Tyfant yn gynt, ffrwythant yn gynarach, a mwy sefydlog, ac yn llawer



 

 


(delwedd E1186) (tudalen 148)

(x342) (tudalen 148) Y GORLLEWIN PELL

mwy eu maintioli nag yn y talaethau dwyreiniol. Gwlad ardderchog ydyw am afalau, pears, peaches, plums, cherries, grapes, strawberries, lemons, oranges, &c.

Mae yn wlad ragorol hefyd at fagu anifeiliaid a defaid; gallant borfâu ar lethrau ei bryniau a’i mynyddau drwy holl fisoedd y gauaf, am fod yr hinsawdd mor dymherus. Cedwir miloedd o honynt gan rai tyddynwyr yno, a daeth rhai o honynt yn gyfoethog iawn drwy hyny.

Mae digon o goedydd, o’r rhywogaethau goreu, yn y dalaeth - spruce, pine, red-wood, nut-pine, oak, sugar-pine - tyfant ar lethrau ei mynyddau, ac yn ei gogledddir, gan mwyaf. Mae prinder coedydd yn nyffrynoedd y Sacramento a’r San Joaquin. Ni cheir y red-wood ond yn California ac Oregon; coed tra gwerthfawr ydynt - ceir coedwigoedd tewion o honynt yn tyfu yn llathraidd i’r uchder o 300 troedfedd, a’u tryfesur o 18 i 19 troedfedd! Maent yn goedydd parhaol, ysgafn, meddal, hawdd i’w hollti, o liw coch-ddu cryf. Mae y sugar-pine, a’r Douglas spruce, neu y red firs, bron mor werthfawr, ac yn tyfu i gymaint o uchder a maintioli a’r red-wood. Ond y goeden fwyaf nodedig yn California, a’r fwyaf yn y byd, yw y sequoia gigantia, (the mammoth tree,) yr hon a dyfa yn syth a llathraidd i’r uchder o 400 troedfedd, gyda thryfesur o 30 i 40 troedfedd! Mae llawer o honynt ar lethrau y Sierra Nevada, yn siroedd Calaveras, Mariposa, Tuolumne, a Tulare.

Hinsawdd California. - Gan fod y dalaeth mor hir, o’r gogledd i’r de; ac mor fynyddog a dyffrynog, rhaid fod ei hinsawdd yn amrywiog iawn. Pan fydd yr ardymyr (temperature) o 90º i 100º, ar ganol-ddydd haf,



 

 


(delwedd E1187) (tudalen 149)

(x343) (tudalen 149) TALAETH CALIFORNIA

yn Sacramento, prif ddinas y dalaeth, gellir gweled yr eira yn claer-lywyrchu ar fynyddau y Sierras, nid yn mhell oddiyno! A gellir myned mewn ychydig oriau, gyda’r agerddfadau a’r reilffyrdd, o le poeth i le oer iawn. Yn nghanoldir y dalaeth, rhwng y mynyddau sydd nesaf i lan y môr, a mynyddau uchel y Sierra Nevada, y mae yr hinsawdd yn fwyaf tymherus a sefydlog. Mae awelon oerion a tharthlyd yn chwythu o’r môr i’r tir, Ebrill hyd Hydref; ac nid yw yr ardymyr gyda glanau y Tawelfor, drwy holl fisoedd y flwyddyn, ond o 52º i 54º. Ond mae hinsawdd y tiroedd mewnol, haf a gauaf hefyd, yn lled sych a phoeth, ïe, hyd yn nod ar lethrau y mynyddoedd, pan fydd eira yn weledig ar eu copäu yn Mehefin. Yn y dyffrynoedd rhwng y môr a’r mynyddau y mae yr hinsawdd yn nodedig hyfryd, a dyma y lleoedd mwyaf ffrwy thlon; er y bydd yn boeth iawn ynddynt yn misoedd yr haf, ceir awelon hyfryd o’r môr a’r mynydd, nos a dydd yn wastad, yr hyn a effeithia iechyd ac adfywiad. Ni cheir llawer o wlaw yno drwy’r flwyddyn, ond y mae yn gwlitho yn fendithiol. Ceir y gwlaw cyntaf yno yn Tachwedd neu Rhagfyr; lleiha yn Ionawr, a bydd y llysiau yn tyfu yn raddol, gydag ychydig o lwydrew; bydd Chwefror fel gwanwyn, gydag ychydig o wlaw; bydd Mawrth ac Ebrill yn hyfryd, gyda chawodau, ac ambell i ddiwrnod gwresog; yn Mai dechreua yr awelon oerion chwythu o’r môr; ceir tywydd dymunol yn Mehefin, Gorphenaf, Awst, Medi, a Hydref. Mae y gauaf yn debyg i’r gwanwyn yno - mae yr holl wlad yn werddlas yno ar ddydd Nadolig ac yn flodeuog yn Chwefror a Mawrth. Aradir a hauir y tir yn misoedd y gauaf a’r gwanwyn. Nid yw sychder yr haf yn atal ffrwythlawnder; a bydd y cynhauaf toreithiog wedi ei gasglu yn nghyd, heb ond ychydig o drafferth, erbyn diwedd



 

 


(delwedd E1188) (tudalen 150)

(x344) (tudalen 150) Y GORLLEWIN PELL

Gorphenaf ac Awst; ac wedi ei ddyrnu a’i sachu ar y caeau, yn barod i’r felin a’r farchnad, erbyn Medi y Hydref. Er mor iachus, ar y cyfan, yw hinsawdd California, y mae llawer yn aml yn dyoddef clefydau peryglus yn ei dyffrynoedd mewnol. Mae yr afonydd mawrion yn gorlifo y gwastadeddau; ac weithiau bydd sychder mawr yn effeithio yn ddrygol ar borthiant dyn ac anifail. Mae y dyfroedd hefyd yn afiachus yn llawer o’r mwngloddiau, nes achosi y cryd a chlefydau ereill. Gall ymfudwyr gael eto filoedd ar filoedd o erwau o dir da gan y Llywodraeth, am $1.25 yr erw; a chan yr hen sefydlwyr am o $1 i $5 yr erw; a chan gwmpeini y reilffyrdd am o $2.50 i $10 yr erw. Y mae yno yn awr farchnad dda i bob cynyrch amaethyddol; a chyflogau da i weision a morwynion; ac yn enwedig i fwnwyr da, a chrefftwyr medrus.

CYMRY CALIFORNIA. - O’r flwyddyn 1848 hyd yn awr, diau fod miloedd o Gymry, o wahanol fanau, wedi ymfudo i’r dalaeth hon, i’r dyben i chwilio am aur, a chyfoethogi eu hunain. .Ar y cyntaf, aeth y rhan fwyaf yno heb eu gwragedd a’u plant; buont yno am flyneddau yn gweithio yn galed, ac yn dyoddef caledi; a dychwelodd llawer o honynt i’r talaethau dwyreiniol a gorllewinol, ac i Gymru; rhai wedi gwneyd yn dda, ond ereill yn hollol aflwyddianus. Aeth llawer yno eilwaith; ac anfonodd ereill am eu teuluoedd, a sefydlasant yno. O flwyddyn i flwyddyn, wedi hyny, aeth llawer o’n cydgenedl i California, a sefydlasant oddeutu y mwngloddiau aur; ac yn y dinasoedd; a rhai ar eu tyddynau. Codasant ychydig o gapelau bychain mewn manau yno; a bu rhai pregethwyr Cymreig yn llafurio yn eu mysg am flyneddau: - sef y Parch. David J. Lewis, (T.C.,) gynt o Dodgeville, Wis.; a’r Parch. William O. Williams, (W.,) William o Fon; aeth ef o Carbondale, Pa., i California, yn 1849; sefydlodd ar y Tuolumne (gold mines); aeth oddiyno i Smith Bar, ar y Feather River; bu wedi hyny yn cadw store gyda



 

 


(delwedd E1189) (tudalen 151)

(x345) (tudalen 151) TALAETH CALIFORNIA

William ap Rees, am 4 blynedd, yn San Francisco; wedi hyny, yn 1856, ymadawodd i Camptonville, Yuba Co., lle yr oedd cryn lawer o Gymry wedi sefydlu, a chapel Cymreig wedi ei godi. Dechreuodd bregethu yno yn 1858, ac urddwyd ef gan y Presbyteriaid yn genhadwr i’r Cymry oedd yn byw yn Camptonville, San Juan, Brandy City, Port Wine, a Monte Cristo. Yr oedd capel bychan yn Brandy City, ac un arall yn San Francisco, y pryd hyny; pregethai yntau yn achlysurol ynddynt oll. Mai 18, 1869, dychwelodd gyda y train cyntaf a ddaeth o San Francisco, ar yr “Union Pacific R.R.,” dros y Mynyddoedd Creigiog, i Omaha; a sefydlodd yn Utica, Oneida Co., N.Y., lle mae yn awr. Dymunais arno ysgrifenu erthygl ar Hanes Cymry California i mi i’w chyhoeddi; ond nid allai gael cyfleusdra i wneyd hyny. (Gwel ei hanes yn helaethach.)

SAN FRANCISCO. - Ymddengys fod cryn lawer o Gymry wedi sefydlu yn y ddinas enwog hon, yn gynar, a’u bod wedi codi addoldy bychan yno yn 1861, a bod y Parch. D. J. Lewis, a William o Fôn, ac ereill, wedi bod yn pregethu iddynt. Nid wyf yn gwybod pa agwedd sydd ar yr eglwys yno yn awr. Clywais fod y Cymry canlynol mewn swyddi parchus yno: - Samuel Williams, Ysw., gynt o Utica, N.Y., (Editor); Thomas Price, (Professor of Chemistry); Robert T. Roberts, Ysw., (Mint); Nathaniel L. Jehu, Ysw., (Policeman); William A. Jones, Ysw., (Custom-house); a bod y Parch. John J. Powell, (gynt o Carbondale, Pa.,) yn weinidog ar eglwys Gynulleidfaol Saesnig, yn Rio Vista, Callfornia; a’r Parch. J. Pryse, yn Nortonville, gyda y Cynulleidfawyr Saesnig. Cyhoeddodd y Parch. John J. Powell bregeth dda yn Saesonaeg, yn Rio Vista, Tachwedd 13, 1870, ar y testyn 1 Sam. 26.21. - ”The Foolish Choice

Cefais yr hanesion a’r cyfrifon canlynol gan y Cymro cenedlgarol a pharchus, Evan R. Rowlands, Ysw., Port Wine, Sierra Co., California. Ganwyd ef yn y Borth, Amlwch, Mon, G.C., Mawrth, 1841. Cafodd ei fedyddio, trwy daenelliad, gan yr hybarch William Jones, (A.) Enwau ei rieni oedd Richard Rowlands, a Catherine



 

 


(delwedd E1190) (tudalen 152)

(x346) (tudalen 152) Y GORLLEWIN PELL

Parry. Yr oedd ei fam yn wraig nodedig grefyddol gyda’r Annibynwyr yn Amlwch. Cafodd addysg yn yr ysgolion dyddiol; ond dysgodd fwy trwy ei ddiwydrwydd personol. Ymfudodd o Gymru i California yn Mawrth, 1864. Ni fu erioed yn aelod crefyddol; ond y mae yn wrandawr cyson, yn hoff o’r Ysgol Sabbothol; yn elyn i’r diodydd meddwol; yn caru “Cymru, Cymro, a Chymraeg;” ac yn uchel ei gymeniad fel dyn sobr, gonest, gweithgar, a chyfeillgar. Credwyf ei fod yn awr yn byw yn Snowdon Hill, Camptonville, P.O., Yuba Co., California. Dyma y cyfrifon a gasglodd ef o Gymry y dalaeth: -

SIERRA CO., CALIFORNIA.
1. Whisky Diggings. - Gwyr, 5; gwragedd, 4; plant, 11; dynion ieuainc, 11; oll, 31.
2. Port Wine. - Gwyr, 23; gwragedd, 23; plant, 51; dynion ieuainc, 16; oll, 112.
3. Holland Flat. - Gwyr, 6; gwragedd, 7; plant, 20; gwyr heb briodi, 10; oll, 43
4. Scales Diggings. - Gwyr, 2; gwragedd, 2;plant, 5; gwyr heb briodi, 4; oll, 13.

NEVADA CO., CALIFORNIA.
5. North San Juan / 6. Sebastapol. - Gwyr, 21; gwragedd, 18; plant, 50; oll, 89.
7. Empire Flat. - Gwyr, 5; gwragedd, 4; plant, 10; gwyr dibriod, 2; oll, 21.
8. Burchville. - Gwyr, 12; gwragedd, 12; plant, 31; pobl ieuainc, 4; oll, 59.

YUBA CO., CALIFORNIA.
9. Camptonville. - Gwyr, 5; gwragedd, 7; plant, 18; gwyr ieuainc, 4; oll, 34.

Sierra Co., 199;
Nevada Co., 169;
Yuba Co., 34.
Cyfanrif, 402.

Mwngloddiau aur sydd yn yr holl f anau uchod. Mae un eglwys Gymreig yn North San Juan, ac un arall yn Camptonville, ond heb yr un pregethwr. Mae yn ddrwg genyf nad allaswn roddi ychwaneg o hanes Cymry California i chwi, a bod y rhanbarth hwn o’r dalaeth mor amddifad o weinidogion, beirdd, a llenorion. Mae Snowdon Hill, Yuba Co., lle yr wyf yn awr, yn lle anghysbell iawn. Nid oes yma ond tri o honom yn archwilio am aur, ac yr ydym 10 milldir oddiwrth Camptonville P.O.



 

 


(delwedd E1191) (tudalen 153)

(x347) (tudalen 153) TALAETH CALIFORNIA

Wele isod restr arall o enwau Cymreig a anfonodd Mr. Rowlands i mi, y rhai sydd yn byw yn y siroedd a nodwyd uchod yn California, ac a gefnogasant
gyhoeddiad y llyfr hwn. Nodir y lle a’r amser y
daethant o Gymru, a’r manau y buont yn America cyn
ymfudo i California: -

1. Owen O. Jones - Garn, Arfon, 1851; Slatington, Pa.; i California, 1854. Oed, 60.
2. David Harris - Abertawe, 1848; Philadelphia, Pa. Oed, 48.
3. Thomas E. Hughes - Abertawe, 1853; Beaver Meadows, Pa. Oed, 41.
4. John A. Davies - Trelech, 1840; Licking Co., Ohio. Oed, 38.
Mrs. H. M. Davies - Llangeler, Sir Gaer, 1855; Ohio. Oed, 35. Plant, 3.
5. Wm. S. Evans - Rhos, Dinbych, G.C., 1846; Brynmawr, Old Mines, 1851. Oed, 43.
Mrs. Ann Davies - Brynmawr, D.C., 1851; Old Mines, Pa. Oed, 42. Plant, 2.
6. John S. Lloyd - Merthyr, 1848; Old Mines, Pa. Oed, 28.
Mrs. C. Lloyd - Merthyr, 1850; Old Mines, Pa. Oed, 38. Plant, 3.
7. John Watkins - Dowlais, 1852; Old Mines, Pa. Oed, 40
Mrs. L. Watkins - Tredegar, 1850; Tamaqua, Pa. Oed, 40. Un plentyn.
8. Thos. W. Edwards - Llanvabon, D.C., 1850; Old Mines,Pa.
9. Edw. Bowen - Blaenau Gwent, 1848; Danville, Pa. Oed, 51.
Mrs. Jane Bowen - Merthyr, 1840; Minersville, Pa. Oed, 40. Plant, 6.
10. Watkin Williams - Aberdar, 1852; Pittsburgh, Pa.; Mason City, W. V. Oed, 43.
Mrs. Jane Williams - Aberdar, 1854; Pittsburgh, Pa.; Mason City, W. V. Oed, 39. Plant, 3.
11. Rees James - Castellnedd, 1854; Baltimore, Maryland.
Mrs. M. A. James - Canton, Baltimore. Plant, 1.
12. David Charles - Llanelli, Sir Gaer, 1848; Baltimore. Oed 33.
Mrs. Mary Charles - Merthyr, 1856; Baltimore. Oed, 38. Plant, 4.
13. Thomas James - Caerfyrddin; dinas New York.
Mrs. Ann James - Llanelli, Sir Gaer, 1855; Baltimore. Plant, 3.
14 William James - Castellnedd, 1853; Baltimore.
Mrs. Anne James - Llanelli, Sir Gaer, 1858; Baltimore. Plant, 3.
15. Evan J. Jones - Pontypool, 1845; Minersville, Pa. Oed, 41.
Mrs. Jane Jones - Penybontarogwy, 1854; Old Mines, Pa, Oed, 40. Plant, 3.
16. Owen H. Owens - Nantllef, Arfon, 1860; Vermont.
17. Lewis Daniels - Port Wine, Sierra Co., California.



 

 


(delwedd E1192) (tudalen 154)

(x348) (tudalen 154) Y GORLLEWIN PELL

AURGLODDIAU CALIFORNIA.

Yn y Drych am Awst 24, 1871, t.d. 266, mae gohebydd dan y ffugenw “Ynysog” yn rhoddi byr ddarluniad o’r aurgloddiau yn Sierra Co., California.. Noda y
rhai canlynol: -

1. Grass Flats, ger Port Wine. Dechreuodd y “Pioneer Co.” weithio yno yn 1858. Mae’r tunnel sydd ganddynt yno wedi costio iddynt dros $60,000, ac nid wyf yn meddwl eu bod wedi cael un fil allan o hono.

2. Manzineta Claim, - Mae’r claim hwn wedi ei atal er ys rhai blyneddau, ar ol gwario tua $20,000. Meddienir y tir gan gwmni newydd o Port Wine.

3. Gardner’s Point - y Rifle Tunnel, - Dim gwaith ynddo er ys dwy flynedd. Ni welwyd dim ond craig o’r fath galetaf ynddo hyd yma. Mae son am ei ail gychwyn.
Costiodd dros $10,000.

4. Y Comat Claim. - Dyma lle cafodd llawer o Gymry “losgi eu bysedd” yn dost.
Tarawyd tir anghyffredin o gyfoethog ynddo unwaith, a bu hyny yn achos i lawer brynu ynddo am bris mawr. Gwerthwyd ef allan yn fuan. Ni chaed hyd iddo drachefn. Siomwyd lluoedd.

5. Y Bell Claim yn Greenwood. - Talu yn wael iawn a wnaeth y “Bell” er ys
blyneddau; ond mae Evan J. Jones yn lled hyderus y bydd iddo daraw y lead eto cyn hir. Credwyf ei fod yn feddianol ar tua phedair milldir o dir, yn awr fel arferol, heb ddim perygl myned i gyfraith a neb am dano.

6. Y Caledonia Claim yn Cedar Grove. - Cyflog lled fach mae’r claim yma wedi ei dahi y blynyddoedd diweddaf. Clywais ei fod yn talu cyflog da yn awr.

7. St. Louis. - Marwaidd iawn ydyw hi yma - dim ond ychydig claims yn gweithio, a’r mwyafrif o’r dynion hyn yn Chineaid.

8. Pine Grove. - Nid oes dim neillduol yn myned yn mlaen yma. Mae y French Claim
ar sefyll, wedi methu taraw dim. Dyma Savings Bank y Cymry. Credwyf fod y cwmni a’r gweithwyr wedi colli tua $40,000 yn y claim hwn, heb un gobaith i’w
cael yn ol.

9. Howland Flat. - Bu y lle hwn yn un da iawn i weithwyr hir amser yn ol; ond “naw wfft” iddo yn awr. Mae’r cyflog wedi ei dynu i lawr i $2.50 y dydd. Yn yr Union Claim, lle byddai o 80 i 150 o ddynion gwynion yn gweithio, nid oes ond ychydig o honynt



 

 


(delwedd E1193) (tudalen 155)

(x349) (tudalen 155) TALAETH CALIFORNIA

yn gweithio yno yn awr. Y mae’r epil atgas ac anonost, y Chineaid, yn cael eu hurio yno yn bresenol. Credwyf mai hwynt-hwy fydd mwyafrif mwnwyr California cyn hir. Dodir dynion gwynion i’w dysgu i weithio yn mhob brest. Mae arogl cas arnynt, a’u hanonestrwydd yn ddiarebol.

10. Yr Hawkeye Company. - Nid wyf yn gwybod am un cwmni yn ein swydd
a gafodd cystal tir a’r rhai hyn, a chan lleied o elw oddiwrtho. Clywais fod arnynt chwant ei roddi i fyny.

11. Y Monumental Claim. - Braidd yn methu cael dau pen y llinyn at eu gilydd y maent yno, serch nad yw y cyflog ond $3 y dydd.

12. Cold Cannon. - Mae y claims wedi eu gadael yn llwyr yno.

13. Whisky Diggings. Dyma un o’r camps goreu yn ein swydd; y claims yn talu yn dda, a’r cyflog wedi bod yn $3.50 y dydd hyd o fewn ychydig wythnosau yn ol. $3 ydyw cyflog cyffredin ein sir yn awr.

14. Poor Man’s Creek, (Plumas Company), - Mae rhai o hil Gomer yn parhau i
grafu yn y lle anial hwn. Fel yr oedd Evan Jones (brawd Tom Jones, o Port Wine), yn crafu yno un diwrnod, daeth ar draws lwmp o aur - gwerth, dichon, $400. Diwrnod neu ddau cyn hyny, yr oedd Rees Jones, cydymaith Evan Jones, wedi ei adael, gan ei
thaflu i fyny yn bad luck. Dyna fel mae llwydd ac aflwydd i’w gael yn California.

15. Y Downeville Buts. - Lled farwaidd fu hi yno drwy y gauaf. Mae’r melinau quartz yn rhedeg yn lled gyson yn awr. Cyflog cyffredin y mwnwyr sydd o $40 i $50 y mis, a bwyd.



 

 


(delwedd E1194) (tudalen 156)

(x350) (tudalen 156)

PENNOD X.

OREGON, A’R TIRIOGAETHAU.

Mae talaeth Oregon yn 350 milldir o hyd, o’r dwyrain i’r gorllewin; ac yn 275 milldir o led, o r gogledd i’r de; yn cynnwys 96,250 milldir petryal, neu 61,600,000 erwau o dir; ac felly yn gymaint a thalaethau mawrion New York a Pennsylvania yn nghyd. Terfynir hi o du y dwyrain gan diriogaeth Idaho; o du y gogledd gan diriogaeth Washington ac afon Columbia; o du y de gan dalaethau Nevada a Chalifornia; ac o du y gorllewin gan y Môr Tawelog. Dechreuwyd ei phoblogi gan ymfudwyr o dalaethau Lloegr Newydd, yn y fl. 1811, a derbyniwyd hi i’r Undeb Awst 14, 1848, dwy flynedd o flaen talaeth California; ond ni bu cynydd ei phoblogaeth mor ddirfawr a chyflym. Cynnwysa yn awr 22 o siroedd; a chyfanrif eu poblogaeth yn 1870 oedd 90,878. Wedi ei diwyllio yn dda, gallai gynnwys a diwallu dros saith miliwn o drigolion. Dichon mai y rhesymau cryfaf dros ddiffyg cynyddiad cyflym ei phoblogaeth, yn yr ugain mlynedd diweddaf, yw y rhai canlynol: -

1. Ei sefyllfa bellenig oddiwrth y talaethau dwyreiniol, ar gornel gogledd-orllewin tiroedd y Llywodraeth; a’r ffyrdd anhygyrch oedd i fyned iddi.

2. Y dybiaeth gyffredin, nad oedd yn cael ei phoblogi ond gan Indiaid anwaraidd, a chenhedloedd ereill gorwylltion am gyfoeth.

3. Gwaith y Llywodraeth, ar y cyntaf, yn rhoddi gormod o diroedd rhad i’r rhai a ymfudent iddi, sef milldir petryal i bob teulu o ddau, a 320 o erwau i bob person unigol; meddianwyd llawer iawn o’i thiroedd felly; cadwyd hwynt yn hir heb eu chwarter ddiwyllio, a gofynwyd prisiau uchel am danynt.

4. Am na ddarganfyddwyd aur, ond ychydig yn ei pharthau deheuol, am rai blyneddau wedi iddo gael ei ddarganfod yn California..

5. Am na archwiliwyd, ac na fesurwyd, ond rhan fechan o honi, sef ei pharthau
arforawl, gan y Llywodraeth; ac na chyhoeddwyd digon



 

 


(delwedd E1195) (tudalen 157)

(x351) (tudalen 157) OREGON, A’R TIRIOGAETHAU.

hanes ei thiroedd amaethyddol a mwnawl gwerthfewr hyd yn ddiweddar.

Adgofiwyf fod y Parch. Michael Jones, M. A., o’r Bala, G.C., yn aros yn Cincinnati, Ohio, oddeutu y fl. 1850, a’i fod ef ac ereill,.y pryd hyny, yn anog y Cymry i ymdrechu gwneyd GWLADYCHFA Gymreig yn Oregon.. Ensyniad da a phrydlon ydoedd. Pe buasai miloedd o Gymry, arianog, doeth, a chrefyddol, wedi ymaflyd o ddifrif yn y meddylddrych y pryd hyny, ac wedi ymroddi i’w weithio allan, buasai genym yn sici heddyw sefydliad Cymreig ardderchog a llwyddianus, mewn gwlad nodedig iachus a ffrwythlon, dan lywodraeth y weriniaeth gref a rhyddgarol hon.

Ond beth yw y gwirionedd am dalaeth Oregon? Ni bum yno erioed, ond darllenais adroddiadau credadwy swyddogion cyfrifol y Llywodraeth, a llyfrau ereill, ac yr wyf yn credu y gall y darllenydd ymddibynu ar y nodiadau canlynol fel ffeithiau anwadadwy: - 1. Rhenir y dalaeth yn ddwy ran naturiol gan y rhês o fynyddau a elwir y Cascades, y rhai a redant ar ei thraws, o’r de i’r gogledd, o fewn tua 110 o filltirau i lan y Tawelfor. Mae bryniau uchel hefyd yn rhedeg o’r de i’r gogledd, yn agos at lan y môr. Rhwng y bryniau arforawl hyn a mynyddau y Cascades, y mae gwlad fawr a dyffrynoedd ffrwythlawn, ac amrai o afonydd yn dylifo trwyddynt, sef y Wallamette, yr hon a gyfyd yn Pleasant Hill, ar y Cascades, ac a rêd heibio i ddinas Eugene, gan droi yno tua’r gogledd, a dylifo trwy ddyffryn mawr a thoreithiog y Wallamette am yn agos i 150 o filldirau, gan ymdywallt i afon fawr Columbia, tua 90 milldir o’r môr. Oddeutu yr afon Wallamette y mae tiroedd rhagorol a ffrwythlon, ac amrai drefydd wedi eu hadeiladu, sef Portland, yn Multnomah Co., yr hon yw prif dref fasnachol y dalaeth; a Salem, yn Marion Co., yr hon yw prif ddinas llywodraeth y dalaeth, ac yn yr hon y mae Prif Ysgol ( University) y dalaeth; a Corvallis, yn Benton Co., lle mae llawer o ysgolion rhagorol gan yr enwadau crefyddol; ac Albany, yn Linn Co.; ac Oregon City, yn Clackamas Co., lle mae yr U.S. Land Office; ac Eugene, yn Lane Co., lle mae swyddfa yr U.S. Surveyor General. Gall llongau ac



 

 


(delwedd E1196) (tudalen 158)

(x352) (tudalen 158) Y GORLLEWIN PELL

agerddlongau ddyfod o’r môr i mewn i borthladd Portland, bob amser o’r flwyddyn, ac y mae yr afon Wallamette yn fordwyol o Portland hyd Eugene City. Yn y rhandir mawr gorllewinol hwn hefyd y mae amrai o afonydd a dyffrynoedd ereill, sef yr Umpqua a’r Rogue Rivers, y rhai a redant o’r Cascades, gan ymdywallt i’r Tawelfor. Oddeutu yr afonydd hyny hefyd y mae tiroedd amaethyddol rhagorol, a phorfäau da ar lethrau eu bryniau, yn enwedig yn siroedd Douglas, Jackson, a Curry. Mae y rhan arall o’r dalaeth, yn gorwedd yr ochr ddwyreiniol i fynyddoedd y Cascades, ac yn gymaint ddwywaith o arwynebedd o dir a’r rhan orllewinol; cyfyd y tir yn llawer uwch, ac y mae yn cynnwys llawer mwy o weirdir digoed, gyda llawer o fân ddyffrynoedd oddeutu glanau ei amrywiol afonydd, sef y Falls River, y John Days River, a’u gwahanol gangenau, y rhai a ddylifant o’r de i’r gogledd, ac a ymdywalltant i’r Columbia River. Mae gwlad eang a bryniog, ac amrai lynoedd ynddi , yn gorwedd rhwng y Cascades a’r Blue Mountains, y rhai a redant ar draws y dalaeth, o’r de i’r gogledd; a thu draw i’r mynyddau gleision hyny, hyd y Snake River, ar derfyn dwyreiniol y dalaeth, y mae llawer o diroedd yn Baker Co., lle mae tref Auburn, ac yn Union Co., lle mae tref fechan Le Grand. Mae hinsawdd y rhandir dwyreiniol o’r dalaeth yn fwy sych, ac yn llai agored i’r awelon oerion a chwythant o’r Tawelfor, na’r rhandir gorllewinol; mae yn lle cystal am godi gwenith, ac yn well at godi Indrawn, na’r rhandir arforawl, ac mewn manau, at godi anifeiliaid a defaid; ond y mae ynddo lawer o fanau diffrwyth a charegog.

2. Afonydd - Y brif afon yw Columbia, yr hon sydd yn codi yn Montana, a British Columbia, ac yn rhedeg o’r gogledd-ddwyrain, ar draws tiriogaeth Washington, ac yn ymuno â dyfroedd afonydd y Snake River, yn nyffryn nodedig y Walla Walla, yn nhiriogaeth Washington, gan ymdywallt yn mlaen i’r de i dalaeth Oregon, a throi yn sydyn yno gan redeg tua’r gorllewin, rhwng Oregon a Washington, am yn agos i dri chant o filldirau, gan vmdywallt i’r Tawelfor, tua 10 milldir tu isaf i ddinas Astoria, yn Clatsop Co. Sefydlodd John Jacob Astor, Ysw., o



 

 


(delwedd E1197) (tudalen 159)

(x353) (tudalen 159) OREGON, A’R TIRIOGAETHAU.

New York, swyddfa yno i fasnachu mewn furs, Ebrill 12,1811. Columbia yw yr afon fwyaf ar dueddau y Tawelfor; am dros ugain milldir o’i genau i fyny, y mae yn ymledu o dair i saith milldir o led; a gall llongau mawrion fyned arni hyd y Cascade Mountams, am 140 o filldirau; lle yr atelir hwynt gan chwyrnddyfroedd (rapids) am 5 milldir; tu draw i’r Cascades mordwyir hi am 45 milldir, hyd at y Dalles; atelir hi yno hefyd gan chwyrn-ffrydiau hyd Cebillo; oddiyno i Umatilla y mae 85 milldir, a gellir myned arni yr holl ffordd gydag agerddfadau; ac oddiyno i Wallula, a White Bluffs; efelly y mae yn fordwyol, gyda’r eithriadau o’r amrywiol chwyrn-ffrydiau sydd ynddi, am yn agos i chwe’ chant o filldirau. Mae gan yr “Oregon Steam Nayigation Company” lawer o agerddfadau yn rhedeg arni er ys blyneddau; a reilffyrdd yn hyrwyddo cludiad, lle mae y chwyrn-ffrydiau yn anfordwyol. Mae afon Snake, neu Lewis, yn fordwyol am dros ddau cant o filldiroedd o’i genau i Idaho, o fewn dau gan’ milldir i ddinas Salt Lake. Enwais yr afonydd ereill sydd ynddi o’r blaen. Mae ynddi rai llynoedd grisialaidd; ac y mae yn ei hafonydd a’i llynoedd helaethrwydd o’r gleisiaid (salmon) goreu, gydag amrywiol bysgod gwerthfawr ereill, sef y cod, oyster, &c., a gwneir masnach ehelaeth ac enillfawr o honynt gan y trigolion.

3. Coedydd. - Mae llawer o goedydd gwerthfawr yn Oregon, yn enwedig yn ei rhandir orllewinol, gyda glanau ei hafonydd ac ar ei bryniau, sef “red, white and yellow fir, spruce, hemlock, cedar, ash, maple, alder, pine and larch.” Ychydig o dderw gwerthfawr a geir yn y dalaeth, ond dim hickory. Masnachant yn ehelaeth mewn lumber, Gwlad dda yw hefyd am bob math o ffrwythau coedydd a gerddi; tyfant yn fuan, ffrwythant yn doreithiog, ac nid ydynt mor agored i afiechyd a gwywdra ag mewn manau ereill. Ond nid yw y “peaches, apricots and grapes,” a phob ffrwythau ereill sydd yn gofyn hinsawdd sych a phoeth, yn gwneyd cystal yn ngogledd Oregon ag yn California, a manau ereill

4. Mwnau. - Mae llawer o fwngloddiau aur yn ei pharthau deheuol, sef y siroedd sydd yn cyffinio ar California.; ac yn y Blue Mountains, a siroedd Baker,



 

 


(delwedd E1198) (tudalen 160)

(x354) (tudalen 160) Y GORLLEWIN PELL

a Grant, yn ei rhandir dwyreiniol. Gweithiwyd llawer o honynt yn llwyddianus, a bernir fod gwerth un filiwn o ddoleri wedi ei anfon allan o honynt bob blwyddyn am y deng mlynedd diweddaf. Codir glo da yn agos i Coos Bay, Port Oxford, Yaquina, a manau ereill ar yr arfordir. Ceir cyflawnder o fwn haiarn hefyd wrth Oswego, chwe’ milldir uwchlaw Portland, ar fryniau yr afon Wallamette.

5. Tiroedd rhad y Llywodraeth. - Bu y Llywodraeth am flyneddau, hyd y fl. 1854, yn rhoddi milldir petryal i bob dyn a theulu ganddo, a 320 o erwau i bob person unigol, am ddim ond cyfaneddu arno a’i ddiwyllio; ond diddymwyd y ddeddf hono, ac y mae talaeth Oregon er y fl. 1854 dan yr un cyfreithiau tirol a’r talaethau ereill - “The Preemption and the Homestead Laws.” Yn rhandir gorllewinol y dalaeth, mae y rhan fwyaf o’r gweirgloddiau digoed yn y dyffrynoedd ffrwythlon wedi eu cymeryd; ond gellir prynu llawer o’r rhai hyny am o $5 i $10 yr erw. Ond mae helaethrwydd o diroedd rhad y Llywodraeth y gellir eu meddianu am ddim, neu am $1.25 a $2.50 yr erw, i’w cael ar benau ac ochrau y bryniau, ac mewn manau ar lanau y Tawelfor; ac yn. ei rhandir mawr canol a dwyreiniol, gellir cael miliynau o erwau o diroedd rhad y Llywodraeth; ond nid yw eto mor gyfleus i fasnach a manteision addysg a chrefydd.

6. Hinsawdd. - Mae hinsawdd Oregon, ar y cyfan, yn debyg i eiddo California, ond fod mwy o wlaw a lleithder yn ei rhandir gorllewinol, ac o sychder yn ei thueddau dwyreiniol, ac o oerder yn ei pharthau gogleddol. Ychydig o eira sydd yn disgyn arni, ac yn aros yn hir ynddi, oddieithr ar ei mynyddau uwchaf. Mewn manau ynddi gellir cadw yr anifeiliaid allan trwy y gauaf, oddieithr am fis neu ddau.

7. Manteision Addysg a Chrefydd. - Yn yr holl ddinasoedd a’r trefydd poblog sydd ynddi, ceir helaethrwydd o fanteision crefyddol ac addysgiadol yn yr iaith Saesonaeg; ond nid wyf yn gwybod fod un eglwys Gymreig wedi ei sefydlu eto yn un man yn y dalaeth, er fod amrai o Gymry yn wasgaredig drwy y wlad er ys blyneddau. Credwyf y bydd yno sefydliadau Cymreig cryfion cyn hir. Gwlad dda odiaeth ydyw.

8. Y ffordd i fyned yno. - Gynt, arferent



 

 


(delwedd E1199) (tudalen 161)

(x355) (tudalen 161) OREGON, A’R TIRIOGAETHAU.

fyned o New York mewn hwyl-longau, ac agerddlongau, heibio Cape Horn i San Francisco, California, ac oddiyno i Astoria, a Portland, Oregon. Cymerai y ffordd hono lawer o fisoedd o amser, ac yr oedd y draul yn fawr iawn. Ond yn awr, gellir myned o New York i San Francisco, gyda y Pacific Railroad, mewn tua saith niwrnod, am $140 yn first class cars, neu am $110 yn second class cars, heb gynnwys ymborth; a gelhr myned mewn agerddlong o San Francisco i Portland, Oregon (640 milldir) mewn tua phedwar diwrnod; cabin, $36; steerage, $30.50. Ond pan orphenir y “Northern Pacific R.R.” yr hon sydd yn awr yn cael ei gweithio yn gyflym o St. Paul, a Duluth, yn nhalaeth Minnesota, trwy Dakota, Montana, Idaho, hyd Portland, yn Oregon, a’r Puget Sound, yn nhiriogaeth Washington, (pellder o Lake Superior hyd y Puget Sound, 2,000 o filldirau); gellir myned yno mewn llai amser, ac ar lai o draul. Bydd y reilffordd hono yn rhedeg drwy diroedd amaethyddol gwerthfawr, a thrwy wledydd cyfoethog o fwngloddiau aur, ac arian, a glo, a haiarn, a phlwm, a chopr; yn rhoddi cyfleusdra i’r ymfudwyr i feddianu eangder o wlad, bron diderfyn, ac yn gwneyd tiroedd, a choedydd, a mwnau Oregon, a Washington, yn llawer iawn mwy gwerthfawr.

TIRIOGAETH WASHINGTON.

Rhan o Oregon oedd Washington gynt, a gwahanwyd hwynt drwy ddeddf y Llywodraeth, Mawrth 2, 1853, a darparwyd i’r bobl lywodraeth diriogaethol. Terfynir hi gan y “British Columbia” o du y gogledd, gan Idaho o du y dwyrain, gan Oregon o du y de, a chan y Tawelfor o du y gorllewin. Mae yn 345 milldir o hyd o’r dwyrain i’r gorllewin, ac yn 230 milldir o’r de i’r gogledd. Cynnwysa oddeutu 70,000 o filldirau petryal, neu 44,800,000 o erwau o dir, a 40,000 o boblogaeth. Mae mynyddau y Cascades yn rhedeg ar ei thraws o’r de i’r gogledd, ac yn ei rhanu yn ddwy ran, sef y rhandir gorllewinol neu arforawl, a’r rhandir dwyreiniol, yn debyg i raniadau naturiol Oregon; ac y mae ei thiroedd, a’i gweirdiroedd, a’i



 

 


(delwedd E1200) (tudalen 162)

(x356) (tudalen 162) Y GORLLEWIN PELL

choedydd, a’i dyffrynoedd, a’i hinsawdd yn gyffelyb hefyd, ond bod mwy o oerder ac o eira yn ei pharthau gogleddol. Cynyrcha bob math o ffrwythau yn debyg i dalaeth Oregon; ond nid yw y naill na’r llall yn lle da i gynyrchu Indrawn, peaches, &c. Nid yw ei gauaf yn hir, nac yn oer iawn, ond yn ei pharthau mwyaf gogleddol. Mae ei hawyr a’i dyfroedd yn iachus, a cheir ynddi gyflawnder o’r coedydd goreu, a llawer o ddyffrynoedd ffrwythlon, a mwngloddiau aur, ac arian, a glo, a haiarn, &c., ac y mae ynddi filiynau o erwau o diroedd rhad y Llywodraeth. Ei phrif ddinas yw Olympia, yn mhen deheuol y Puget Sound, lle mae eisteddle y llywodraeth diriogaethol, a swyddfa dirol y Llywodraeth gyffredinol. Ei phrif afon yw y Columbia, yr hon a ddylifa drwy ei rhandir dwyreiniol, ac ar hyd rhan fawr o’i therfyn deheuol, mae y Puget Sound, neu y culfor mewnol Juan de Fuca, yn dra manteisiol i’w morwriaeth a’i masnach. Mae ei fynedfa iddi o’r Tawelfor yn ei gogledd-orllewin yn derfyn rhyngddi ag ynys fawr Vancouver. Mae, mewn manau, o ddwy i ddeng milldir o led, ac yn gant a thriugain (160) o filldirau o hyd, yn rhedeg am lawer o filldirau o’r môr i’r dwyrain, ac oddiyno am filldirau mewn cyfeiriad deheuol hyd ddinas Olympia, ac mewn cyfeiriad gogleddol, gan ymuno â Morgainc Georgia. Perthyna iddo lawer o ffrydleoedd, cilfachau, ac angorfäau, a phorthladdoedd ardderchog, a mân-ynysoedd; ac nid yw ei ddyfnder yn un man yn llai nag wyth gwrhyd (fathoms); ac o’i ddeutu y mae llawer wedi sefydlu ar diroedd tra ffrwythlon. Nid oes un dalaeth na thiriogaeth o fewn yr Undeb mor fanteisiol a thiriogaeth Washington am gyflawnder o ddyfroedd mewnol mordwyol. Mae y sefydlwyr yn dwyn yn mlaen fasnach fywiog mewn pysgod, a lumber yn y diriogaeth. Yn sir Walla Walla, yr hon a orwedd yn ei de-ddwyrain, y mae llawer iawn o ddyffrynoedd tra ffrwythlon, ac yn y manau hyny y mae mwyaf o drigolion yn awr. Wedi ei phoblogi a’i diwyllio, yn mhen ugain mlynedd eto, bydd yn wlad ardderchog, hyfryd, a llwyddianus.



 

 


(delwedd E1201) (tudalen 163)

(x357) (tudalen 163) OREGON, A’R TIRIOGAETHAU.

TALAETH NEVADA.

Gorwedda y dalaeth hon tu draw i’r Mynyddau Creigiog, rhwng Utah a Chalifornia, ac y mae mynyddau y Sierra Nevada yn derfyn gorllewinol iddi, ac mae y Pacific Railroad yn rhedeg trwyddi. Gwlad fynyddog, foel, a diffrwyth ydyw y rhan fwyaf o honi; saif tua 4,000 o droedfeddi uwchlaw arwyneb y môr; ond y mae yn gyfoethog o fwngloddiau arian. Mae ynddi amrai ddinasoedd, sef Virginia, Carson, Austin, &c., ac yr oedd ei phoblogaeth yn 1870 yn 42,491. Cynnwysa dros 81,000 o filldirau petryal.

Y TIRIOGAETHAU EREILL.

Mae unarddeg o diriogaethau mawrion yn perthyn i’r weriniaeth enwog hon. Desgrifiais un o honynt eisoes, sef Washington. Ni oddef terfynau y llyfr hwn i mi ond gwneyd byr nodion ar y tiriogaethau ereill

1. Indian. - Saif yr “Indian Territory” rhwng Kansas a Texas. Mae dros 300 milldir o hyd wrth 200 milldir o led. Dyfrheir y tiroedd ffrwythlawn gan yr Arkansas, a’r Canadian, a’r Wachita; a phoblogir hwynt gan wahanol lwythau o Indiaid, sef y Cherokees, y Seminoles, Choctaw, &c.

2. New Mexico. - Gorwedda y diriogaeth hon i’r gorllewin o Texas, ac i’r de o Colorado. Mae yn 300 milldir o hyd wrth 300 milldir o led, ac y mae y Mynyddau Creigiog yn ei chroesi o’r gogledd i’r de, ac yn ei rhanu yn ddwy ran. Gwlad fynyddig ydyw, ac nid oes ynddi ond ychydig o diroedd amaethyddol da; ond gellid eu gwneyd yn gynyrchiol trwy eu dyfrhau. Ei phrif ddinas yw Santa Fe; a’i phrif afon yw y Rio Grande; ac y mae ynddi lawer o fwngloddiau aur ac arian gwerthfawr. Bydd y “Southern Pacific Railroad” yn rhedeg trwyddi hi ac Arizona o St. Louis i California yn fuan.

3. Arizona, - Gorwedda y diriogaeth hon rhwng New Mexico a deheudir California, ac yn ddeheuol i Utah a Nevada. Dechreuwyd ei phoblogi gan genadon Pabyddol er ys dros ddau gant o flyneddau yn ol, a gwelir olion eu pentrefydd a’u heglwysi mewn manau yno eto. Llofruddiodd



 

 


(delwedd E1202) (tudalen 164)

(x358) (tudalen 164) Y GORLLEWIN PELL

yr Indiaid hwynt. Tiroedd uchel amynyddig sydd yn hon hefyd; lle da i fagu anifeiliaid; a gellir llafurio llawer o’i dyffrynoedd, a’u gwneyd yn gynyrchiol trwy eu dyfrhau. Mae ynddi ychydig o goedydd gyda glanau ei hafonydd, sef y Colorado, a’r Rio Gila, a’u cangenau; ac y mae cedrwydd a phinwydd ar rai o’i mynyddau. Ei phrif ddinas yw Arizona, ar lan y Colorado. Mae ynddi gyflawnder o fwngloddiau aur ac arian.

4 Utah. - Saif y diriogaeth hon i’r gogledd o Arizona, rhwng Nevada a’r Mynyddau Creigiog. Dechreuwyd ei phoblogi gan Brigham Young, a thros ddau gant o Formoniaid, yn nyffryn y Salt Lake, yn 1846. Gorfodwyd hwynt i ffoi o Nauvoo yn Illinois yn y gwanwyn blaenorol. Mae eu barnau a’u harferion yn ddirmyg ar Gristionogaeth a dynoliaeth; a buont yn rhwystr i gynydd y diriogaeth. Mae y Llyn Halen (fel y gelwir ef, am ei fod yn hallt fel dwfr y môr,) yn 120 milldir hyd wrth 40 milldir o led; ac y mae y Salt Lake City wedi ei hadeiladu ar ei derfyn deheuol, lle y mae Teml fawr “Saint y Dyddiau Diweddaf “ wedi ei hadeiladu, a miloedd o Ẁrmoniaid yn byw. Mae y Pacific Railroad yn myned heibio i derfyn gogleddol y llyn, gan gyfeirio yn mlaen trwy Nevada i California Mae amrai o fynyddau uchel, a llawer o ddyffrynoedd a gwastad-diroedd lled anffrwythlon ynddi , os na ddyfrheir hwynt. Ond y mae ynddi lawer o fwnau gwerthfawr, sef aur, arian, copr, plwm, glo, haiarn. Nid oes ond ychydig o goedydd ynddi . Yn Salt Lake City y mae swyddfäau y llywodraeth diriogaethol, a swyddfa dirol y Llywodraeth gyffredinol.

5. Colorado, - Saif y diriogaeth hon i’r gorllewin o Kansas, ac i’r de o Utah. Adnabyddid hi gynt wrth yr enw, “The Pike’s Peak Country.’ Darganfyddwyd aur ynddi yn 1858 a 1859. Ymfudodd miloedd yno i chwilio am aur. Mae dros 350 o hyd wrth 250 o filldiroedd o led. Cynnwysa lawer o fynyddau uchel, megys y Pike’s Peak, ac amrai ereill, y rhai a unant a’u gilydd yn rhes o fynyddau ar draws y diriogaeth o’r gogledd i’r de. Mae yr afonydd canlynol yn codi ynddi , sef y Colorado, yr Arkansas,a’r Platte; a chyda eu glanau y mae rhai dyffrynoedd ffrwythlon. Ond gwlad sych ydyw ar y cyfan, ac yn



 

 


(delwedd E1203) (tudalen 165)

(x359) (tudalen 165) OREGON, A’R TIRIOGAETHAU.

gofyn dyfrâd (irrigation,) Denver yw ei phrif ddinas; a bydd y Kansas Pacific R R. yn cyrhaedd yno yn fuan, a changen arall yn myned oddiyno i uno a’r Pacific R R yn Cheyenne City, yn Wyoming, 516 milldir o Omaha, yn Nebraska.

6. Wyoming. - Saif y diriogaeth hon y nesaf at Colorado, o du y gogledd. Cheyenne City, ar y Pacific R.R., yw ei phrif ddinas; ac nid oes ond tua chan’ milldir oddiyno i Denver City, Colorado. Gwastadedd mawr tonog ydyw, yn cael ei dori gan resi o fynyddau uchel; ac y mae ynddi lawer o diroedd ffrwythlon, ac ychydig o goedydd, a mwnau glo, a haiarn, &c.

7. Montana. - Saif y diriogaeth hon i’r gogledd o Wyoming, ac y mae yn 400 milldir o hyd wrth 400 milldir o led. Ynddi y mae tarddle afon fawr y Missouri, yr hon a archwiliwyd gyntaf hyd yno gan y Cadben M. Lewis yn 1804, hyd 1806. Cynnwysa dros 150,000 o filldirau petryal; a gellir diwyllio mwy nag un ran o dair o honynt. Mae ynddi lawer o ddyffrynoedd prydferth wedi eu diwyllio eisoes; ac y mae ynddi y porfäau mwyaf gwerthfawr at fagu anifeiliaid, a bernir nad oes eu gwell o fewn y byd. Mae ynddi lawer o fwngloddiau aur, ac arian, a haiarn, a glo, yn cael eu gweithio yn llwyddianus. Ei phrif afonydd ydynt yr Yellow Stone, a’r Missouri, y rhai a ddylifant drwyddi o’r gorllewin i’r dwyrain; ac y mae agerddfadau yn myned o St. Louis i Fort Benton, yn ei rhandir ogleddol-orllewinol. Virginia City yw ei phrif ddinas. Yn fuan, bydd y “Northern Pacific R.R.” yn rhedeg drwyddi o’r dwyrain i’r gorllewin. Gwlad iachus a ffrwythlon ydyw.

8. Dakota. - Saif y diriogaeth hon rhwng Minnesota a Montana, i’r gogledd o Nebraska, ac y mae yn 400 milldir o hyd wrth 350 o led. Dechreuwyd ei phoblogi gan bobl wynion yn 1859, yn siroedd Union, Clay, ac Yankton. Mae yn cynnwys miliynau o erwau o’r tiroedd goreu - gwastadeddau eangfaith, dyffrynoedd ffrwythlon, gweirdiroedd tonog, a rhai mynyddau yn ei rhandir gorllewinol, Mae ei dyfroedd yn iachus, a’i hawelon yn adfywiol, ac y mae afon fordwyol y Missouri yn rhedeg ar ei thraws o’i chornel dde-ddwyrain hyd ei chornel orllewin-ogledd, am dros fil o filldiroedd, ac yn fanteisiol i’w masnach; ac



 

 


(delwedd E1204) (tudalen 166)

(x360) (tudalen 166) Y GORLLEWIN PELL

yn fuan bydd y “Northern Pacific R.R.” yn rhedeg drwyddi o’r dwyrain i’r gorllewin. Mae ynddi gyflawnder o fwnau glo a haiarn, a llawer o goedydd. Yankton yw ei phrif ddinas.

9. Idaho. Gorwedda y diriogaeth hon i’r gogledd o Utah, rhwng Oregon a’r Mynyddau Creigiog. Mae yn daironglog - ei lled mwyaf yn 300 milldir o’r gorllewin i’r dwyrain ar derfyn Utah, a’i hyd dros 450 o filldirau o’r de i’r gogledd, ar derfynau Oregon a Washington, hyd y “British Columbia,” lle nad yw ei lled ond 50 milldir. Cynnwysa 58,196,480 o erwau o dir, a phoblogaeth o 23,000. Gellir diwyllio llawer o’i thiroedd; ond y mae llawer o hono yn dir diffrwyth. Mae ynddi lawer o fynyddau a bryniau. Ceir digon o binwydd a ffawydd ar ei bryniau; ond y mae prinder coedydd yn ei dyffrynoedd; ac y mae cyflawnder o aur ac arian o’i mewn. Mae ei hinsawdd yn oer, ond yn sych ac iachus. Ei hafonydd ydynt y Snake, Clark’s Fork, Green, a Bear. Ei phrif ddinas yw Boise, lle mae swyddfäau ei llywodraeth.

10. Alaska. - Perthynai y diriogaeth fawr ogleddol hon i Lywodraeth Rwssia hyd y fl. 1867, pan y prynwyd hi gan Lywodraeth yr Unol Dalaethau Amerigol. Mae yn 750 milldir hyd wrth 750 milldir o led mewn manau, ac yn cynnwys 562,500 o filldirau petryal, a thros dri chan’ miliwn (360,000,000) o erwau o dir, heb son am y gorynysoedd a’r mân-ynysoedd dirif bron sydd yn perthyn iddi, ac yn rhedeg oddiwrthi am ganoedd o filldirau i’r môr, ac yn agos i arfordir y “British America.” Gwahenir hi oddiwrth Asia gan Gulfor Behring, yr hwn nid yw ond tua 36 milldir o led yn ei fan culaf, ond yn 400 milldir o hyd. Terfynir hi o du y gogledd gan y Môr Rhewllyd, o du y gorllewin gan y Tawelfor, o du y dwyrain gan ran o’r Arctic Ocean ac America Brydeinig, ac o du y de gan y Tawelfor. Nid yw ei hynysoedd mwyaf deheuol ond tua 450 milldir i’r gogledd o diriogaeth Washington, a Vancouver Island. Mae ynddi rai mynyddau uchel, ac amrai o afonydd, sef y Kwichpak a’r Youkon, a llawer iawn o goedydd gwerthfawr, ac ychydig o fwnau aur, arian, plwm, copr, a glô; ond ni ddadblygwyd ond ychydig o honynt eto. Gwlad oer ac afiach ydyw haf a gauaf. Gordôir hi gan



 

 


(delwedd E1205) (tudalen 167)

(x361) (tudalen 167) OREGON, A’R TIRIOGAETHAU.

darth a nifwl, ac nid oes ond ychydig o ddiwrnodau clir i’w cael ynddi trwy’r flwyddyn. Mae ei gauaf yn dechreu yn niwedd Medi, ac yn parhau hyd ddiwedd Ebrill. Gwlad anffrwythlon yw hefyd; ni thyf gwenith nac Indrawn, na ffrwythau coed na gerddi ynddi . Codwyd peth haidd a cheirch, a rhai ffrwythau gerddi, mewn manau ynddi . Ei choedydd, a’i physgod, a’i furs, yw y pethau mwyaf gwerthfawr a masnachol sydd ynddi ar hyn o bryd. Dichon, yn mhen blyneddau lawer eto, y bydd y diriogaeth fawr hon o werth annrhaethol i’n Llywodraeth, mewn ystyr wleidyddol a masnachol, ac y bydd reilffyrdd yn rhedeg trwyddi, ac agerddlongau yn croesi Culfor Behring, ac yn ei chysylltu â’r rhan arall o’r ddaiar, sef Asia, Ewrop, ac Affrica.

NODIAD. - Mae y rhan fwyaf o diriogaethau y Weriniaeth fawr hon, ar, ac oddeutu y Mynyddoedd Creigiog; amgylchant hwynt yn mhob cyfeiriad. Safant ar lawer uwch tir na’r talaethau dwyreiniol a deheuol; maent yn llawer mwy bryniog a chreigiog; ac y mae rhai o’u mynyddau yn dyrchafu eu penau yn uchel iawn, ac yn orlawn o fwnau gwerthfawr. Nid yw y Wyddfa yn Arfon, G.C., ond 3,571 o droedfeddi uwchlaw arwyneb y mor; ond y mae Pike’s Peak yn Colorado yn 14,500 troedfedd uwchlaw y mor. Wrth deithio tuag atynt, ar y Pacific Railroad, o’r dwyrain neu o’r gorllewin, ceir golygfa f awreddog ac aruthrol arnynt! Dyrchafant eu penau hyd y cymylau; yn glawdd hir du o’r gogledd i’r de; a gorchuddir copäau rhai o honynt ag eira oesol. Ond wrth eu godre y mae gwastadeddau a dyffrynoedd ffrwythlawn, a rhai trefydd poblog. Rhed y gerbydres, ar y reilffyrdd, yn dra chyfiym, o’r gwastadedd, i lethrau eu bryniau, gan gylchdroi a dyrchafu yn uwch uwch, (a dyfnderau danynt, a chreigiau affwys uwch eu penau,) nes dyfod trwy eu bylchau culion ac arswydol, ac wedi hyny disgyn yn raddol i’r gwastadedd yr ochr arall. Cymerir tua phedwar diwrnod i fyned felly o Omaha yn Nebraska i San Francisco yn California.

Mae y tiriogaethau hyn, gyda’u gilydd, yn cynnwys yn agos i haner holl diroedd yr Unol Dalaethau; yn wledydd tra eang bob un o honynt; a gellir diwyllio llawer o honynt, a’u gwneyd yn ddoldiroedd ffrwythlon, a defnyddio llethrau eu bryniau at fagu anifeiliaid, a defaid; a bydd eu mwngloddiau aur, arian, copr, plwm, haiarn, &c., yn ddigon i ddiwallu angen yr holl wlad am oesau a chenedlaethau. Y peth sydd yn awr yn atal fwyaf ar eu poblogiad, yw ymosodiadau gwaedlyd y gwahanol lwythau o Indiaid anwareiddiedig sydd yn eu cyfaneddu.



 

 


(delwedd E1206) (tudalen 168)

(x362) (tudalen 168) Y GORLLEWIN PELL

Mae gan y Llywodraeth amddiffynfeydd (forts) a milwyr lawer
yn mhob tiriogaeth, er amddiffyn eu dinasyddion; er hyny
gwneir rhuthriadau sydyn arnynt weithiau gan yr Indiaid.
Amser dedwydd fydd hwnw, pan fydd holl Indiaid melyn-goch
America
wedi eu gwareiddio, a’u dysgu i lafurio y ddaiar, ac i
fyw yn heddychol gyda’u gilydd, ac ereill, yn eu sefydliadau;
ac oll yn Gristionogion Biblaidd yn dilyn y Gwaredwr Prysured. Amen.



 

 


(delwedd E1207) (tudalen 169)

(x363) (tudalen 169)

PENNOD XI.

CANADA. - PATAGONIA.

CANADA. - Un o’r tiriogaethau mwyaf, perthynol i Lywodraeth Lloegr, yw Canada, Cynnwysa America Brydeinig fwy o arwynebedd o diroedd na’r Unol Dalaethau; ond eu bod oll yn fwy gogleddol. Terfynir hi o du y dwyrain gan y Werydd; o du y de gan yr Unol Dalaethau; o du y gorllewin gan y Tawelfor; ac o du y gogledd gan y Baffin’s Bay a’r Arctic Ocean; ac y mae yr Hudson’s Bay yn fôr mawr yn ei chanoldir. Mae Canada briodol tua 1,600 milldir o hyd, wrth o 300 i 400 o filldirau o led; yn cyrhaedd o lanau afon St. Lawrence, a llyn Ontario, at yr Hudson Bay; ac o Labrador hyd lyn Superior. Nid yw ei phoblogaeth ond tua phum’ miliwn (5,000,000). Mae ynddi filiynau o erwau o diroedd da eto, y gellir eu prynu gan y Llywodraeth am o 1 swllt i 7 swllt yr erw; ac y mae llawer o’i thyddynwyr yn bobl gyfoethog. Poblogir hi gan mwyaf gan y Saeson, y Scotiaid, y Gwyddelod, a’r Ffrancod. Ei phrif ddinasoedd yw Quebec, Montreal, Kingston, a Toronto, ar lanau gogleddol y St. Lawrence. Diau fod llawer o Gymry yn wasgaredig ynddi , ac mewn undeb crefyddol a’r Saeson; ond nid wyf yn gwybod am un eglwys na chapel Cymreig yn un man ynddi. Mae ei gauaf yn hir ac yn oer, er hyny y mae ei phreswylwyr yn bobl iachus a dedwydd. Ceir ynddi lawer o fanteision crefyddol ac addysgiadol. Ond nid yw yn wlad mor fanteisiol a rhydd i’r dosparth gweithgar ag yw yr Unol Dalaethau. Poblogir ei thiroedd eang, i’r gogledd, hyd lanau y Môr Rhewllyd, ac i’r gorllewin hyd lanau y Tawelfor, gan wahanol lwythau o Indiaid anwareiddiedig. Pa olwg fydd ar y wlad eang hon yn mhen dau can’ mlynedd eto?

PATAGONIA. - Mae Patagonia yn wlad fawr eang; yn agos i fil o filldirau o hyd wrth bedwar cant o filldirau o led - yn rhedeg o’r Negro River hyd Cape

 


 

 


(delwedd E1208) (tudalen 170)

 ,
 (x364) (tudalen 170)

Y GORLLEWIN PELL

 

Horn, ac o lanau y Werydd hyd lanau y Tawelfor; ac y mae rhes o fynyddau yr Andes yn ei chroesi; a chyfyd ei thiroedd yn raddol o lanau y moroedd hyd y mynyddau uchel hyn; a dylifant ei hafonydd o'r bryniau i lawr i'w dyffrynoedd, ac ar hyd ei gwastod- diroedd, gan ymdywallt i'r Werydd. Gorwedda rhwng Iledred deheuol 400 a 500; tua 2,760 o filldirau o Linell y Cyhydedd, (Equator,) ar derfyn deheuol pellaf Cyfandir America; tua 5,520 o filldirau o borthladd New York, a thua 3,000 0 filldirau i'r pegwn deheuol. Mae ar yr un Iledred a New Zealand, ac yn nes i'r pegwn deheuol nac Ynys fawr Australia; ac y mae ei hinsawdd mor boeth a hinsoddau Ffrainc a Spaen yn Ewrop, ond yn cael ei dymheru yn fwy gan yr awelon oerion ac adfywiol o'r môr a'r mynydd, Perthyna i Lywodraeth yr "Argentine Confederation," neu Weriniaeth Buenos Ayres; yr hon er ys blyneddau a wnaeth gytundeb manteisiol â  "Chwmni Ymfudol a Masnachol y Wladfa Gymreig," er ei phoblogi. Corphorwyd y Cwmni anrhydeddus a chenedlgarol hwn yn ol cyfreithiau Lloegr; ac y maent wedi  gweithio yn egniol a llwyddionus, trwy rwystrau lawer, hyd yma. Maent yn awr yn gwmni cryf a chyfrifol, yn meddu cyfalaf o £50,000, yn rhanedig i 50,000 o ranau (shares) yr un; a llawer o filoedd o honynt wedi eu cymeryd eisoes yn Lloegr, Cymru, ac America. Penderfynasant sefydlu ar ddyffryn afon y Camwy, (Chupat Rwer,) yr ochr ddwyreiniol i fryniau yr Andes, nid yn mhell o lanau y Werydd. Mae yr afon hono yn fordwyol i longau bychin; ac y mae y dyffryn hwnw yn un da i godi gwenith, ac i fugu anifeiliaid; ac y mae eangder mawr o wlad ragorol am ganoedd o filldiroedd o'i deutu. Ychydig a archwiliwyd o honi eto. Dywed rhai hanesion mai "gwlad oer, sych, a diffrwyth, yn cael ei phoblogi gan ychydig o Indiaid nodedig am eu taldra" ydyw. Ond y mae tystiolaethau y sefydlwyr Cymreig, a fuont yn byw yno am y chwe' blynedd diweddbf, yn profi yn wahanol. Dywedant hwy fod ei hinsawdd yn dymherus, ei dyffrynoedd yn rhagorol am gynyrchu gwenith, a'i bryniau am fagu anifelliaid. Nid rhyfedd eu bod wedi dyoddef cyfyngderau yno y blyneddau cyn-

 

 


(delwedd E1209) (tudalen 171)

 

(x365) (tudalen 171)

CANADA.—PATAGONIA

 

Taf.  Camddarluniwyd llawer ar y wlad, er ceisio digaloni Y Cwmni. Gwnaeth y Parch, Michael Jones, y Bala, G. C, a lluoedd ereill yn Nghymru, eu goreu dros lwyddiant y Wladfa; ac y mae y Parch. D. S. Davies, Youngstown, Ohio, a'r Pwyllgor yn Hyde Park, Pa., ac ereill yn America, yn awr yn gwneyd eu goreu drosti. Mae yn deilwng o gefnogaeth yr holl genedl. Swyddogion presenol y WIadfa ydynt Cadvan

Hughes, Llywydd; David Williams, Barnwr; Edwin Roberts, Arolygwr y Cyfrifon; Lewis Jones, Cadeirydd y Cynghor; Richard Berwyn Jones, Ysgrifenydd y Cynghor; Cofiadur Cyffredinol — Dr. Lloyd Jones,

Ruthin, G. C.

 

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā
Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə /
ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý /
ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_239_hanes-cymry-america_iorthryn-gwynedd_1872_4_B2_2088k.htm

---------------------------------------
Creuwyd / Created / Creada: 05-10-2018
Adolygiadau diweddaraf / Latest updates / Darreres actualitzacions: 05-10-2018
Delweddau / Imatges / Images:
Ffynhonnell / Font / Source: Llyfrau Google; llyfr electroanidd rhad ac am ddim

Freefind.
Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait


http://c10.statcounter.com/counter.php?sc_project=1095411&java=0&security=043b27d8&invisible=0
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats