kimkat2087k Hanes Cymry America. Hanes Cymry America; A’u Sefydliadau, Eu Heglwysi, A’u Gweinidogion, Eu Cerddorion, Eu Beirdd, A’u Llenorion; Yn Nghyda Thiroedd Rhad Y Llywodraeth A’r Reilffyrdd; Gyda Phob Cyfarwyddiadau Rheidiol I Ymfudwyr I Sicrhau Cartrefi Rhad A Dedwyddol. Gan Y Parch. R. D. Thomas, (Iorthryn Gwynedd.) 1872. (= Robert David Thomas, Ganwyd Llan-rŵst, Sir Gaernarfon, 17 Medi 1817; Bu Farw Knoxville, Tennessee, Unol Daleithiau América, 25 Tachwedd 1888.)

11-10-2018

● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ●
kimkat0960k Mynegai i’r holl destunau yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_llyfrgell/testunau_i_gyd_cyfeirddalen_2598k.htm
● ● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ●
● kimkat2083k Hanes Cymry America. Iorthryn Gwynedd. 1872: Y Gyfeirddalen www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_239_hanes-cymry-america_iorthryn-gwynedd_1872_y-gyfeirddalen_2083k.htm
● ● ● ● ●
kimkat2087k Y tudalen hwn

 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
 (delwedd 0003)
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
El Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
HANES CYMRY AMERICA. LLYFR 2. RHAN 1.


(delwedd E1413)

Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:

http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/

a-7000_kimkat1356k
Beth sy’n newydd yn y wefan hon?

7015_map_cymru_a_chatalonia_trefi_caernarfon
 (delwedd 7015)


.... 

 https://translate.google.com/

(Cymraeg, català, English, euskara, Gàidhlig, Gaeilge, Frysk, Deutsch, Nederlands, français, galego, etc)

.....

DOSRAN B – Y GORLLEWIN PELL (1/2)
kimkat2087k
tudalennau 1-83

(delwedd E1416)

DOSRAN B. - Y GORLLEWIN PELL.
PEN. I. Talaethau Indiana a Michigan ...5
PEN. II. Y Sefydliadau a’r Eglwysi Cymreig yn Nhalaeth Illinois ...11
PEN. III. Talaeth Wisconsin - Y Sefydliadau a’r Eglwysi Cymreig ...19
PEN. IV. Minnesota - Y Sefydliadau a’r Eglwysi Cymreig ...44
PEN. V. Iowa - Y Sefydliadau a’r Eglwysi Cymreig ...55

.....

 

 


(delwedd E1039) (tudalen 1)

(x195) (tudalen 1)

 

HANES CYMRY AMERICA YN Y GORLLEWIN PELL

 

YN NHALAETHAU

 

INDIANA, MICHIGAN, ILLINOIS, WISCONSIN, MINNESOTA, IOWA, MISSOURI, KANSAS, NEBRASKA

CALIFORNIA, OREGON, A'R TIRIOG-

AETHAU, &C.

 


GAN Y PARCH. R. D. THOMAS,
(IORTHRYN GWYNEDD.)

“Y tir yr aethom drosto i’w chwilio, sydd dir da odiaeth.” - NUM. xiv. 7, 8

 

“Tra mor, tra Brython.”

“Oes y byd i’r iaith Gymraeg.”

 

UTICA, N.Y.
T. J. GRIFFITHS, ARGRAFFYDD, EXCHANGE BUILDINGS.
1872.

 

 


(delwedd E1040) (tudalen 2)

(x196) (tudalen 2)

 

 

BARDDONIAETH.

 

Ar lanau'r afonydd ymdreiglant

Dros fil o filldirau i'r mor;

Hyd lethrau 'r mynyddau ymgodant

Hyd uchel gymylau yr Ior;

Mae gwledydd eangfaith a ffrwythlon,

Doldiroedd meillionog yr haf,

Lle gallai pob Cymro dewrgalon,

Gael cartref dedwyddol a braf.

 

Gweirdiroedd cynyrchiol, a thonog,

Tra eang, brydferthant bob Ile,

O'r llynoedd hyd lanau'r Tawelog,

O'r gogledd hyd eithaf y de;

Lle crwydrant ychydig o Indiaid,

Ac ychain, anwaraidd, yn awr,

Estynir bendithion gwareiddiad

Yn fuan i filoedd y llawr.

 

Mynyddau o aur ac o arian,

O haiarn, o blwm, ac o bres;

A dyfroedd rhedegog a phurlan,

Coedwigoedd cysgodfawr rhag gwres,

Wahoddant y byd i'w meddianu,

Dan nodded Gweriniaeth ein gwlad;

Mewn rhyddid, heb neb i'w gormesu,

Mewn cartref goludog, a rhad.

 

 


(delwedd E1041) (tudalen 3)

(x197) (tudalen 3)

CYNNWYSIAD. - DOSRAN B.

PENNOD I.
TALAETHAU INDIANA A MICHIGAN.

Y Trefedigaethau Prydeinig a’r Talaethau Cyntaf ar Lanau y Werydd yn y Dwyrain. Helaethiad Terfynau Tiroedd y Llywodraeth ar ol Sefydlu yr Heddwch yn 1814. Yr Indiaid yn Preswylio y Talaethau Dwyreiniol yn 1800, ac wedi hyny. Talaeth Ohio oedd y “Gorllewin Pell” y pryd hyny. Pa beth a olygir wrth yr ymadrodd yn awr? Y gwledydd tu draw i’r Mississippi, &c. Nodiadau ar Dalaeth INDIANA – Ei Therfynau; ei Thiroedd; ei Dinasoedd; ei Reilffyrdd; ei Hafonydd; ei Mwnau, &c. Cymry Rolling Mill a Gweithiau Glo Knightsville, Clay Co. Nodiadau ar Dalaeth MICHIGAN - Ei Thiroedd; ei Choedydd, ei Llynoedd; ei Mwnau, &c. Dinas Detroit, a’r Cymry sydd yn byw yno T.d. 5 - 10

PENNOD II.
TALAETH ILLINOIS.

Darluniad o’i Gwastadeddau a’i Phorfeydd eang; ei Thiroedd Ffrwythlon; ei Hafonydd; ei Reilffyrdd; a’i Masnach. 1. Chicago. 2. Bridgeport. 3. Big Roclc. 4. Coal Valley. . 5. Braceville, &c T.d. 11-18

PENNOD III.
TALAETH WISCONSIN.

Dechreuad, a Chynydd Dirfawr ei Phohlogaeth; ei Diwylliad; ei Dinasoedd; ei Reilffyrdd; ei Masnach; ei Dylanwad; ei Choedydd Gwerthfawr; a’i Gweirdiroedd Ffrwythlon. Miliynau o Diroedd Rhagorol a Rhadlawn i’w cael ynddi eto. Y Sefydliadau Cymreig: - 1. Racine, a’r Wlad o amgylch iddi. 2. Milwaukee, a’r Rolling Mill gerllaw yno. 3. Waukesha a Jefferson Counties. 4. Madison a Sun Prairie. 5. Arena. 6. Spring Green. 7. Dodgeville. 8. Y Coed. 9. Ridgeway. 10. Blue Mounds. 11. Picatonica, Mineral Point, Mifflin, Linden, &c. 12. Watertown. 13. Emmett. 14. Ixonia. 15. Oshkosh. 16. Rosendale. 17. Neenah. 18. Berlin. 19. Y Sefydliadau Cryfion yn Columbia Co.: New Cambria, Columbus, Portage City. 20. Bangor, Fish Creek, LaCrosse, a Glendale. T.d. 19-43

PENNOD IV.
TALAETH MINNESOTA.

Un o’r Talaethau mwyaf Gogleddol yn yr Undeb ydyw; ond y mae ei Hinsawdd yn nodedig iachus, a’i Thiroedd yn dra Ffrwythlon. Miliynau o Diroedd Rhad y Llywodraeth i’w cael ynddi . Ei Llynoedd, ei Hafonydd, ei Reilffyrdd, ei Dinasoedd, &c. Y Sefydliadau Cymreig yn Siroedd Blue Earth, a Le Sueur. South Bend, Judson, Butternut Valley, Mankato, St. Paul, &c. Eu Heglwysi a’u Gweinidogion, eu Beirdd, a’u Llenorion. Ymosodiad yr Indiaid. Ei Diogelwch presenol T.d. 44-54

PENNOD V.
TALAETH IOWA

Darluniad o’r Dalaeth ardderchog, a’i Thiroedd Rhad a Ffrwythlon, Y Sefydliadau Cymreig: - 1. Old Man’s Creek. 2. Williamsburgh.. 3. Welsh Prairie. 4. Marengo. 5. Long Creek. 6. Flint Creek. 7. Oskaloosa. 8. Oskaloosa Junction. 9. Given. 10. Monroe. 11. Burlington. 12. Davenport. 13. Dubuque. 14. Lime Spring. 15. Clay Co. 16. Red Oak. T.d. 55-83



 

 


(delwedd E1042) (tudalen 4)

(x198) (tudalen 4)

PENNOD VI
TALAETH MISSOURI.

Ei Thiroedd Rhad a Ffrwythlon; ei Hinsawdd &c Y Sefydliadau Cymreig:: - 1. St. Louis.. 2. New Cambria. 3. Bevier, a’i Gweithiau Glo. 4. Callao. 5. Macon City. 6. Brookfleld. 7. Chillicothe. 8. Utica. 9. Dawn, Livingston Co. Rhestr o’r Sefydlwyr Cymreig T.d. 84-108

PENNOD VII.
TALAETH KANSAS.

Hanes Dyoddefiadau ac Ymdrechion ei Dinasyddion Teyrngarol dros ei chael yn Dalaeth Rydd. Enillasant eu Rhyddid trwy waed a than! Cynydd dirfawr ei Phoblogiad. Arwynebedd a Ffrwythlondeb ei Thiroedd. Ei Hafonydd, a’i Choedydd. Ei Mwnau. Ei Ffynonau. Ei Hinsawdd a’i Thymhorau. Indiaid Kansas. Manteision Addysg a Chrefydd. Y Sefydliadau Cymreig: - 1. Emporia. 2. Arvonia. 8. Reading. 4. Burlingame. 5. Carbondale. 6. Topeka. 7. Lawrence. 8. Leavenworth. 9. Atchison. 10. Manhattan. 11. Bala, yn Powys, Riley Co. Darluniad o’r lle; a Manteision ac Anfanteision y Sefydliad. Tiroedd y Llywodraeth a’r Reilffyrdd. 18. Bangor, Coffey Co., a Sefydliad Cymreig y Neosho, mewn lle Manteisiol, ac yn debyg o Gynyddu yn gyflym. T.d. 109-134

PENNOD VIII.
TALAETH NEBRASKA.

Talaeth Iachus a Ffrwythlon ydyw; ac y mae ynddi Filiynau o Diroedd Rhad a Chynyrchiol gan y Llywodraeth a’r Reilffyrdd, oddeutu glanau afonydd y Platte, a’r Big a’r Little Blues, a’r Republican, &c Yr Union Pacific R.R. Omaha. Lincoln. Nebraska City. Brownville. Ychydig o Gymry wedi sefydlu ar Lanau y Missouri. Tiroedd Ardderchog yn ei rhandir Ddwyreiniol a Deheuol. Argoelion y bydd yno lawer o Sefydliadau Cymreig yn fuan. T.d. 135-142

PENNOD IX.
TALAETH CALIFORNIA.

Gwlad yr Aur! Darganfyddiad yr Aur yno yn y fl. 1848 Gwahanol Genedloedd y Ddaiar yn Orchwantus am dano. Cyfyngderau yr Ymfudwyr cyntaf. Annuwioldeb y wlad y pryd hyny. Llwyddodd rhai; ond cafodd miloedd Siomiant dirfawr. Cynydd ei Phoblogaeth. Rhestr o’r Siroedd a’u Poblogaeth yn 1870. Yr Union Paciflc Railroad. Y Tawelfor. Y Mynyddau Uchel; y Mwngloddian; yr Afonydd; y Dyffrynoedd; y Coedydd Mawrion; yr Awelon o’r Mor a’r Mynydd. Yr Hinsawdd, y Tymhorau, a’r Ffrwythau. . Y Dinasoedd: San Francisco, Sacramento, &c. Y Sefydliadau, a’r Eglwysi Cymreig yn Siroedd Sierra, Nevada, Yaba, &c. Rhestr o Gymry California. T.d. 143-156

PENNOD X.
OREGON A’R TIRIOGAETHAU.

Oregon: Darluniad o’r Wlad; ei Hafonydd: ei Dyffrynoedd; a’i Mynyddau, &c. Washington. Nevada. Y Tiriogaethau Ereill: Indian, New Mexico, Arizona, Utah, Colorado, Wyoming, Montana, DakQota, Idaho, Alaaka. Golygfa Fawreddog ar y Mynyddau Creigiog! T.d. 166-168

PENNOD XI.
CANADA. - PATAGONIA.

Y Trefedigaethau Prydeinig, Canada, &c. Eu Helaethder, eu Hafonydd, a’u Llynoedd, eu Tiroedd, eu Dinasoedd, &c. Patagonia: Darluniad o Sefyllfa y wlad. Cwmni y Wladfa Gymreig. Afon a Dyffryn y Camwy. Teilwng o Gefnogaeth. Arwyddion Llwyddiant T.d. 169-171



 

 


(delwedd E1043) (tudalen 5)

(x199) (tudalen 5) Y GORLLEWIN PELL.

PENNOD I.


TALAETHAU INDIANA A MICHIGAN.

Y Trefedigaethau Prydeinig a’r Talaethau Cyntaf ar Lanau y Werydd yn y Dwyrain. Helaethiad Terfynau Tiroedd y Llywodraeth ar ol Sefydlu yr Heddwch yn 1814. Yr Indiaid yn Preswylio y Talaethau Dwyreiniol yn 1800, ac wedi hyny. Talaeth Ohio oedd y “Gorllewin Pell” y pryd hyny. Pa beth a olygir wrth yr ymadrodd yn awr? Y gwledydd tu draw i’r Mississippi, &c. Nodiadau ar Dalaeth INDIANA – Ei Therfynau; ei Thiroedd; ei Dinasoedd; ei Reilffyrdd; ei Hafonydd; ei Mwnau, &c. Cymry Rolling Mill a Gweithiau Glo Knightsville, Clay Co. Nodiadau ar Dalaeth MICHIGAN - Ei Thiroedd; ei Choedydd, ei Llynoedd; ei Mwnau, &c. Dinas Detroit, a’r Cymry sydd yn byw yno T.d. 5 - 10

Pan diriodd y Tadau Pererinol ar y Cyfandir mawr hwn yn y fl. 1620, yr oedd yn cael ei boblogi gan wahanol lwythau o Indiaid anwaraidd, a’r rhai hyny, gan mwyaf, yn cyfaneddu ar lanau y Werydd, ac oddeutu yr afonydd mawrion sydd yn ymdywallt iddynt. Yn y lleoedd hyny y sefydlwyd y Trefedigaethau Prydeinig, y rhai a lwyddasant, er gwaethaf yr Indiaid, a chenhedloedd ereill, am dros gant a haner o flyneddau; ac yr oedd y tair-ar-ddeg o’r Talaethau a gyhoeddasant eu Hannibyniaeth, Gorphenaf 4, 1776, ac a ffurfiasant y Llywodraeth Werinol hon, oll yn y Dwyrain, ac yn gorwedd ar lanau y Werydd; ac nid oedd eu poblogaeth ond bychan, na’u tiroedd diwylliedig yn llawer, na’u masnach yn ehelaeth, ac nid oedd ganddynt un reilffordd o fewn yr holl wlad. Wedi y blyneddau 1788 a 1800, ac yn enwedig wedi sefydlu yr Heddwch yn 1814, y dechreuasant brynu a meddianu tiroedd, a helaethu eu terfynau i’r Gorllewin, y Gogledd, a’r De; ac wedi hyny y dechreuodd gwahanol genhedloedd y byd ymfudo yma wrth y miloedd. Bu Talaeth Ohio o’r fl. 1802, pan y derbyniwyd hi i’r Undeb, am lawer o flyneddau wedi hyny yn cael ei hystyried yn mhell bell yn y Gorllewin ac yr oedd ymfudo o New York a Philadelphia



 

 


(delwedd E1044) (tudalen 6)

(x200) (tudalen 6) Y GORLLEWIN PELL.

i’r Welsh Hills, a Paddy’s Run, yn Ohio, y pryd hyny, yn daith hirfaith a pheryglus; am fod y ffyrdd yn anhygyrch, a llawer o Indiaid yn y Dalaeth. Nid oedd son am Illinois, Wisconsin, Iowa, a Minnesota, &c., y pryd hyny. Byddai yn fwy priodol yn awr i Ohio gael ei rhestru gyda y Talaethau Canolbarthol. Bydd Talaethau Indiana, Michigan, Illinois, a Wisconsin, dichon, wedi eu cyflawn boblogi, a’u diwyllio, cyn pen ugain mlynedd eto; ond am fod ynddynt yn awr filoedd o erwau o diroedd rhagorol am brisiau isel, lle y gallai ymfudwyr Cymreig gael cartrefi dedwyddol iddynt eu hunain a’u plant, tybiais yn rheidiol roddi ychydig o’u hanes yn y Dosran hwn o’r llyfr. Yn fwy priodol yn awr y cymhwysir yr ymadrodd, “Y Gorllewin Pell” at y Talaethau a’r Tiriogaethau sydd yn gorwedd tu draw i afon y Mississippi - o lanau gorllewinol hono dros y Mynyddau Creigiog, hyd lanau y Tawelfor, yn California ac Oregon. Yn y rhai hyny yn sicr (ac yn y Talaethau Deheuol) y bydd miloedd o Gymry wedi sefydlu, ac yn byw yn gysurus yn y dyfodol mawr; am hyny rhoddais eu hanes yn helaethach na hanes y Talaethau Dwyreiniol, lle nas gall yr amaethwr yn awr gael tiroedd rhad y Llywodraeth, nac am brisiau isel gan neb arall. (Gwel Dosran A, sef “Hanes Cymry America,” yn y “Dwyrain a’r De.”)

TALAETH INDIANA.

Terfynir y Dalaeth hon gan Ohio o du y dwyrain; gan Illinois o du y gorllewin; gan Dalaeth a Llyn Michigan o du y gogledd; a chan afon Ohio a Thalaeth Kentucky o du y de. Cynnwysa 33,809 o filldirau petryal; ac yn y fl. 1870, yr oedd ei phoblogaeth yn 1,673,040. Dechreuwyd ei phoblogi gan y Ffrancod,



 

 


(delwedd E1045) (tudalen 7)

(x201) (tudalen 7) TALAETH INDIANA.

oddeutu Vincennes, yn y fl. 1690, a derbyniwyd hi i’r Undeb Rhagfyr 11, 1816. Mae ynddi 92 o siroedd, a’r rhan fwyaf o honynt yn cynnwys o 15 i 25 mil o boblogaeth; a’r rhai mwyaf poblog yw Allen, Wayne, Vigo, Tippecanoe, Vanderburg, &c. Ei phrif ddinasoedd ydynt Indianapolis, Evansville, Fort Wayne, Logansport, Lafayette, Terre Haute, New Albany, &c. Mae ei harwyneb yn lled wastad a choediog, fel Ohio; ond y mae ynddi ychydig o fryniau isel, a llawer o ddyffrynoedd ffrwythlon, gyda glanau ei phrif afonydd, sef y Wabash a’r White River, a’u gwahanol gangenau; ac y mae ynddi lawer o weirgloddiau eang a ffrwythlon - cynyrchant bob math o ydau a ffrwythau; ac y mae yno le da i fagu defaid ac anifeiliaid, moch, &c. Yn ei rhandir deheuol ffrwytha y gwinwydd yn rhagorol. Ei phrif orchwylion yw amaethyddiaeth, a’r llaw-weithfeydd; ac y mae ynddi lawer o fwnau haiarn a glo. Mae llawer o reilffyrdd rhagorol yn awr yn myned trwyddi o’r dwyrain i’r gorllewin, ac o’r gogledd i’r de, ac yn dra chyfleus i’w masnach a’i chelfyddydau. Mae yr afon Ohio yn golchi ei siroedd deheuol am dros ddau gant o filldiroedd. Ei siroedd mwyaf anmhoblog yn awr yw Benton, Blackford, Crawford, Jasper, Newton, Ohio, Pulaski, Scott, Union, a Starke, - a gorwedda y rhai hyny yn ei chornel ogleddol a gorllewinol, ac yn ei rhandir ddeheuol. Credwyf fod ei thiroedd goreu wedi eu prynu, a’u sefydlu; er hyny gallai ymfudwyr Cymreig cyfoethog brynu tyddynau da am brisiau rhesymol; a chael llawer o fwnau glo a haiarn danynt hefyd. Mae hinsawdd a thymhorau y Dalaeth hon yn debyg i eiddo Talaeth Ohio. Mae ynddi gyflawnder o goedydd, a dyfroedd iachusol.

Diau fod llawer o Gymry yn wasgaredig mewn gwahanol fanau ynddi , ac yn llwyddianus yn y byd. Ond



 

 


(delwedd E1046) (tudalen 8)

(x202) (tudalen 8) Y GORLLEWIN PELL.

nid wyf yn deall fod ynddi sefydliadau nac eglwysi, na gweinidogion Cymreig. Mewn lluthyr a dderbyniais oddiwrth Edwin A. Rosser, Ysw., dyddiedig Knightsville, Clay Co., Indiana, Ebrill 10, 1871, dywed: “Y mae genym yma un rolling mill, pump o furnaces, a phymtheg o fanciau glo, a llawer iawn o Gymry.” Ni chefais hanes helaethach am y lle. Saif Clay Co. yn rhandir gorllewinol y Dalaeth, tua 50 milldir o Indianapolis, a 12 milldir o Terre Haute. Gellir myned yno gyda’r reilffordd o Cincinnati trwy Indianapolis, a disgyn yn Station Brazil, New Harmony, neu rywle arall mwyaf cyfleus i gyrhaedd Knightsville. Dymunwyf eu llwyddiant. Gobeithio fod y Cymry yno yn bobl sobr, a chrefyddol - yn darllen, yn credu, ac yn bucheddu yn unol â Gair yr Arglwydd. (Address Edwin A. Eosser, Esq., Box 33, P.O., Knightsville, Clay Co., Indiana.)

TALAETH MICHIGAN.

Dechreuwyd poblogi tiroedd y Dalaeth hon gan y Ffrancod, oddeutu Detroit, yn y fl. 1670, a derbyniwyd hi i’r Undeb, Ionawr 26, 1837. Cynnwysa 56,450 o filldiroedd petryal; ac yn 1870 yr oedd ei phoblogaeth yn 1,184,296. Mae ynddi yn awr 72 o siroedd; a llawer o honynt yn cynnwys o 20 1 30 mil o drigolion - y rhai mwyaf poblog ydynt Wayne, Washtenaw, Oakland, Lenawee, Kent, Jackson, Calhoun, St. Clair, Saginaw, Van Buren, Berrien, Genesee, Monroe, St. Joseph, Kalamazoo, Ottawa, &c., ac y mae y siroedd yna oll yn rhandir deheuol y Dalaeth, oddeutu y reilffyrdd sydd yn rhedeg o Detroit a Monroe, i Chicago, ac i Grand Haven (tudalen n Ottawa Co.) yn ei rhandir orllewinol, ar lan Llyn Michigan, gyferbyn a Milwaukee, yn Wisconsin. (Mae y llyn yn y fan hono yn agos i gan’ milldir o led,



 

 


(delwedd E1047) (tudalen 9)

(x203) (tudalen 9) TALAETH MICHIGAN.

a chroesir ef yn wastadol gan agerfadau, a llongau hwyliog, mawrion. Ond mae yn y Dalaeth hon 24 o siroedd nad oes ynddynt eto ond o un fil i saith mil o drigolion; a thua 12 o siroedd heb ond o un cant i wyth gant o breswylwyr; ac y mae y rhai hyny yn gorwedd yn ei chanoldir, ac yn rhai o’i pharthau mwyaf gogleddol. Terfynir y Dalaeth o du y de gan Dalaethau Ohio ac Indiana; ac oddieithr hyny, ac ychydig o ogledd-dir Wisconsin sydd yn ei chyflwynio, amgylchir hi gan ddyfroedd y llunoedd mawrion, sef Erie, Huron, Michigan, a’r Superior. Mae ynddi amrai o borthladdoedd da; ac amrai o afonydd bychain yn codi yn ei chanoldir, ac yn rhedeg drwyddi, mewn gwahanol gyfeiriadau, gan ymarllwys i’r llynoedd mewn amrywiol fanau. Rhenir y Dalaeth yn ddwy ran gan ddyfroedd y llynoedd, ac nid yw y Mackinaw Strait ond prin ddwy filldir o led, yr hwn hefyd sydd yn uno dyfroedd Huron a Michigan. Mae y culdir gogleddol o Dalaeth Michigan, sydd yn terfynu ar ran o Wisconsin, ac yn gorwedd ar lanau y Superior, yn lle bryniog a chreigiog, ac yn orlawn o fwnau copr a haiarn, y rhai goreu yn y byd; - clywais fod rhai mwnwyr Cymreig yn gweithio yno. Gwlad oer ofnadwy ydyw yn y gauaf; bydd ynddi lawer o rew ac eira; ac y mae ei gauaf yn hir iawn. Er hyny y mae llawer o bobl yn byw yn iachus a chysurus ynddi , a rhai yn ymgyfoethogi yn fuan. Cludir miloedd o dunelli o fwn haiarn a chopr o’r parth yma bob blwyddyn i Ohio, a Pennsylyania. Ond nid yw y gauaf mor hir, na’r hinsawdd mor erwinol yn y rhandir arall o’r Dalaeth, oddieithr yn ei ran ogleddol; - mae ei hinsawdd yn ei ran ddeheuol yn debyg i eiddo Ohio ac Indiana. Ar y cyfan, mewn cymhariaeth i hinsawdd a thymhorau Missouri a Kansas, a Tennessee, mae gauaf Michigan yn hir iawn, a’i



 

 


(delwedd E1048) (tudalen 10)

(x204) (tudalen 10) Y GORLLEWIN PELL.

hinsawdd yn oer iawn. Gwlad ragorol am goedydd mawrion a gwerthfawr, ac am wenith, a gwair, a ffrwythau ydyw, yn ei pharthau deheuol. Mae helaethrwydd o bysgod i’w cael yn ei marchnadoedd, gan eu bod mor gyfleus i’r llunoedd. Gellir cael tiroedd da am brisiau isel, mewn manau yma eto.

DETROIT, Wayne Co., yw y brif ddinas yn Nhalaeth Michigan. Saif ar lan afon Detroit, yr hon a una ddyfroedd llynoedd St. Clair, a’r Huron, â’r Erie; ac a derfyna rhwng Michigan a’r Canada. Dinas ardderchog ydyw. Mae ynddi lawer o adeiladau drudfawr, ac o fasnachdai ehelaeth a bywiog. Mae y Grand Trunk R.R. a’r New York Central R.R.. yn myned trwyddi i Chicago a Milwaukee. Clywais fod amrai o deuluoedd Cymreig cyfoethog a pharchus yn byw yn y ddinas hon; ac eu bod yn cael pregethu Cymraeg yn achlysurol yno. Credwyf fod gweddw a phlant y diweddar Gymro parchus, sef Henry Arnolds, Ysw., gynt o New York - a gwraig a mab y diweddar Ed. Edwards, Ysw., gynt o Machynlleth, Maldwyn, G.C. - yn byw yno eto yn ddedwydd a chysurus. Gellir cael pob hysbysrwydd am diroedd y Llywodraeth yn y Dalaeth drwy holi yn Swyddfa y Llywodraeth, yn ninas Detroit.



 

 


(delwedd E1049) (tudalen 11)

(x205) (tudalen 11)

PENNOD II.
TALAETH ILLINOIS.

Darluniad o’i Gwastadeddau a’i Phorfeydd eang; ei Thiroedd Ffrwythlon; ei Hafonydd; ei Reilffyrdd; a’i Masnach. 1. Chicago. 2. Bridgeport. 3. Big Roclc. 4. Coal Valley. . 5. Braceville, &c T.d. 11-18

Un o’r Talaethau gorllewinol mwyaf yw hon; mae dros dri chant o filldirau o hyd, wrth ddau cant o filldirau o led mewn manau. Terfynir hi o du y gogledd gan Wisconsin; o du y dwyrain gan Lyn Michigan a Thalaeth Indiana; o du y de gan ran o afon Ohio; ac o du y gorllewin gan afon y Mississippi, yr hon sydd fordwyol rhwng Talaeth Illinois, a Thalaethau Missouri ac Iowa, am yn agos i bedwar cant o filldirau, o Dunleith, gyferbyn a Dubuque, heibio i Davenport, a Rock Island, a Burlington, a Keokuk, a Quincy, ac Alton, a St. Louis, hyd Cairo, lle mae yr Ohio yn ymdywallt i’r Mississippi. Talaeth amaethyddol ardderchog ydyw; ac y mae mwn glo yn cael ei weithio mewn rhai o’i siroedd. Dechreuwyd ei sefydlu gan y Ffrancod . yn y fl. 1720. Derbyniwyd hi i’r Undeb, Rhagfyr 3, 1818. Mae ynddi yn awr dros gant o siroedd; a’i phoblogaeth yn 1870 oedd 2,529,410 - dros ddwy filiwn a haner. Treblodd yn yspaid yr ugain mlynedd diweddaf! Ei phrif ddinasoedd a’i threfydd mwyaf poblog ydynt Chicago, Peoria, Quincy, Springfield, Decatur, Alton, Carthage, Bloomington, Galena, East St. Louis, Cairo. Gwlad nodedig wastad ydyw; y mae ei doldiroedd (prairies) yn eangfaith, ac mewn rhai manau yn gorsiog, ac am hyny yn afiachus; ond wedi eu sychu a’u diwyllio, a phlanu coed arnynt gwnant y tyddynau mwyaf ffrwythlon a phrydferth Mae miloedd o dyddynau felly yn awr yn y Dalaeth - rhai bychain, a rhai mawrion, ac ambell un dros fil o erwau o dir! Lle ardderchog ydyw i fagu anifeiliaid;



 

 


(delwedd E1050) (tudalen 12)

(x206) (tudalen 12) Y GORLLEWIN PELL.

mae miloedd o geffylau, a gwartheg, ac eidionau, &c., yn cael eu hanfon i’r marchnadoedd oddiyno bob blwyddyn; ac y mae yno yn awr lawer o dyddynwyr cyfoethog. Codir mwy o Indrawn a gwenith yn hon nag mewn un Dalaeth arall yn yr Undeb. Dywedir fod ynddi fwnau haiam, glo, a phlwm, mewn helaethrwydd. Gwlad dda am ffrwythau yw, hefyd - gellir codi tobacco yn ei siroedd deheuol. Mae ynddi rai afonydd cryfion - yr Illinois, y Green River, y Sangamon, y Little Wabash, y Kaskaskia, &c., - a cheir coedydd ar eu glanau, ac mewn manau ar y bryniau isel sydd yn y Dalaeth. Nid oes ynddi yn awr ond ychydig o diroedd rhad y Llywodraeth; a’r unig swyddfa dirol sydd yn Springfield, Sangamon Co. Ond y mae llawer o diroedd rhagorol heb eu gwerthu eto gan y Railroad Companies, y rhai a gawsant filiynau o diroedd y Dalaeth er gwneyd eu reilffyrdd ar hyd, ac ar led y wlad, yn mhob cyfeiriad, er cyfleustra i deithwyr a masnachwyr Gall y rhai a fyddo yn awyddus am brynu tiroedd yn y Dalaeth hon, ymofyn â Land Commissioners y gwahanol reilffyrdd, yn y Swyddfäau yn Chicago, Springfield, Rock Island, &c. Yn Illinois y mae Chicago, un o brif ddinasoedd y gorllewin, yr hon sydd yn cynnwys yn agos i dri chan mil o boblogaeth, (298,983). Nid oedd ei phreswylwyr yn 1850 ond prin ddeng-mil-ar-hugain, (29,963.) Y fath gynydd dirfawr a fu arni yn yspaid yr ugain mlynedd diweddaf! Saif ar lan Llyn Michigan, yn sir Cook, ac y mae wedi ymledu am filldirau; a cheir ynddi heolydd llydain, adeiladau mawrion, ystordai cyfoethog, eglwysi lawer, palasdai addurnol, llaw-weithfeydd llwyddianus, a’r fasnach fwyaf bywiog yn mhob math o nwyddau, ac yn enwedig mewn gwenith, ac anifeiliaid, &c. Canolbwynt masnach rhwng dinas New York a’r holl Dalaethau gorllewinol



 

 


(delwedd E1051) (tudalen 13)

(x207) (tudalen 13)

TALAETH ILLINOIS.

ydyw. Cludir pob math o nwyddau iddi, ac allan o honi, gan dros dair-ar-ddeg o reilffyrdd; a chan lawer longau hwyliog ac agerlongau ar Lyn Michigan. Y mae yn sicr o gynyddu eto yn fwyfwy. Y rhai a brynasant lots yno, ac a adeiladasant dai arnynt, tuag ugain mlynedd yn ol, ydynt bobl gyfoethog yno yn awr. Y mae Springfield, hefyd, yn Sangamon Co., yn dref enwog. Yno y bu yr Arlywydd Lincoln fyw yn hir; a cherllaw yno, yn Oak Ridge Cemetery, y mae ei Fedd, a chôfadail ardderchog a drudfawr wedi ei chodi arno. (Gwel Benillion tlysion a buddugol Ieuan Ddu ar “Fedd Lincoln.’’)

Syndod yw i mi na buasai mwy o dyddynwyr Cymreig wedi sefydlu yn y Dalaeth ffrwythlon hon. Hyd yma nid oes ond ychydig o sefydliadau Cymreig o’i mewn; ond credwyf y byddant yn fwy lluosog yno yn mhen deng mlynedd eto. Sefydlodd y Cymry yn y manau canlynol.

1. Chicago, Cook Co. - Nid oedd y ddinas hon 35 ml. yn ol ond pentref bychan; ac nid oedd ynddi 20 ml. yn ol ond oddeutu deng-mil-ar-hugain o drigolion. Dichon fod rhai Cymry wedi sefydlu ynddi cyn hyny. Yn haf y flwyddyn 1857 - 14 ml yn ol - y bum yno gyntaf; yr oedd yno y pryd hyny yn agos i gan’ mil o drigolion, a llawer o Gymry parchus; ond yr oedd ei heolydd yn isel a lleidiog, a llawer o’r stores, a’r trigfanau, yn fychain a diaddurn. Yr oedd gan y T.C. eglwys a chapel bychan yno y pryd hyny. O’r amser hyny hyd heddyw, bu dirfawr gynydd ar y ddinas yn mhob ystyr. Tebygol yw fod y boblogaeth Gymreig yno yn awr, (1871) dros 700, ac y mae yn eu plith lawer o bobl dda, gweithgar, a chrefyddol. Yma y mae yr argraffydd enwog Robt. E. Meredith, (gynt o Rome, Oneida Co., N.Y.,) a’i deulu yn byw.

Eglwys y TREFNYDDION CALFINAIDD yn Chicago. - Buont yn addoli yn yr hen addoldy bychan am lawer o flyneddau; ond gwerthasant hwnw, a phrynasant gapel gwell a helaethach, ac



 

 


(delwedd E1052) (tudalen 14)

(x208) (tudalen 14) Y GORLLEWIN PELL.

mewn lle mwy cyfleus. Gostiodd lawer o filoedd o ddoleri iddynt Adgyweiriwyd ef. Mae digon o le ynddo i bedwar neu bum’ cant o wrandawyr. Aelodau, 136; ar brawf a phlant, 41; Ysgol Sabbothol, 120; cynulleidfa dda; diaconiaid, 3. Bu y Parch. Moses Williams, 206 West Lake St., Chicago, yn weinidog ffyddlon iddynt am flyneddau, ac y mae eto yn ddefnyddiol yn yr eglwys. Dechreuodd y Parch. David Williams, gynt o Lanidloes, G.C, weinidogaethu yno yn Hydref, 1864, a rhoddodd ofal yr eglwys i fyny Rhagfyr, 31, 1869. Yn niwedd y flwyddyn 1870, yr oedd efe a’i deulu parchus yn byw yn No. 249 West Lake St., ac yr oedd y pryd hyny yn 70 mlwydd oed, ac yn ddyn cryf ac iachus.

Nid wyf yn gwybod fod un eglwys Gymreig arall o fewn dinas Chicago; ond credwyf fod yno lawer o aelodau a gwrandawyr perthynol i’r Annibynwyr, ac enwadau ereill, a bod rhai ohonynt yn cyd-addoli yn nghapel y T.C. a bod croesaw i’w gweinidogion i bregethu yno.

2. Bridgeport Union Rolling Mill, Chicago, Illinois. - Saif y pentref hwn tua 5 milldir i’r de o’r Court House yn ngnanol dinas Chicago; ac y mae yn awr o fewn terfynau y ddinas hon; a gellir myned yno gyda y street cars ar Archer & Reuben Avenues. Codwyd y Rolling Mill yn 1863. Mae yn 200 troedfedd o hyd wrth 180 o led. Meddianir hi yn awr gan Joint Stock Company. Bum yno yn Medi, 1870. Thomas Robinson, Ysw., oedd y Boss - Sais o genedl, ond cyfaill ffyddlon i’r Cymry. Yr oedd 300 yn gweithio yn y felin; ac oddeutu 50 o honynt yn Gymry. Ugain o deuluoedd Cymreig; neu oddeutu 120 o Gymry yn byw yn y lle. - Gweithio rails yr oeddynt yn y felin. Yr oedd adeilad mawr arall yn cael ei godi yno, er cael lle cyfleus i Steel Works.

Yr Eglwys Gymreig UNOL yno. - Ffurfiwyd hi gan y Parch. David Williams, (T.C.), Chwefror 10, 1867, gyda 14 o aelodau o wahanol enwadau. Efe oedd eu gweinidog cyntaf, a daliodd i ddyfod yno i bregethu hyd Tachwedd 2, 1870. Cynorthwyid hwynt hefyd gan y Parch. Moses Williams; a bu Mr. James Thomas, (T.C.), o Stellapolis, Iowa, yn pregethu llawer iddynt. Aelodau, 23, heb gynnwys y plant; Ysgol Sabbothol, 80; a’r gynulleidfa o 50 i 60. Swyddogion - John L. Jones, Ysgrifenydd; John Davies, Trysorydd; David H. Jones, Diacon; Thomas Rees, Arolygwr yr Ysgol. Adeiladwyd y capel, 28 tr. wrth 24 tr., yn 1867. Traul, $1,500. Dyled, $200. Saif ar heol Reuben. Capel coed, da, ydyw. Trustees - Thomas Robinson, Ysw., David H. Jones, a Thomas Rees.

Yno y gwelais y bardd Mr. John E. Jones (Ioan ab Ioan).



 

 


(delwedd E1053) (tudalen 15)

(x209) (tudalen 15)
TALAETH ILLINOIS
Y mae melin arall, sef “The Bar and Plate Mill,” eiddo Messrs. Shepherd a Co., gerllaw y Rolling Mill; ond nid oedd Cymry yn gweithio yn hono.

3. Sefydliad Cymreig BIG ROCK, Kane Co, Illinois. - Gorwedda Kane Co., tua 30 milldir i’r gorllewin o Chicago; a’r ffordd nesaf a rhwyddaf i fyned i sefydliad y Cymry yno, yw myned gyda y train ar y “Chicago, Burlington, & Quincy Railroad,” o ddinas Chicago i dref Aurora, (30 milldir,) yr hon yw prif dref marchnad y Cymry; ac y mae ffordd dda i fyned oddiyno gyda cherbyd a cheffylau, neu gyda y Branch R.R. tua 12 milldir.                                 

Township
yw Big Rock, yn 6 milldir o hyd wrth 6 led. Yr oedd digon o dir rhad y Llywodraeth i’w gael yno yn 1840. Tir lled wastad yw yr oll o hono; ond ceir ynddo rai codiadau bychain; ac y mae arno lawer o goedydd da ar lanau yr afonydd bychain sy’n rhedeg drwyddo, ac mewn manau ereill. Ceir ynddo hefyd lawer o ddoldiroedd (prairies). Tir da ydyw oll, (black loam soil). Codir llawer o wenith, ac Indrawn, ceirch, timothy, &c., ynddo . Lle da i fagu gwartheg a moch, &c. Gwenith, 15 bwsiel yr erw; corn, o 40 i 50 bwsiel yr erw. Y mae yno lawer o berllanau a gerddi da; ychydig o goed peaches. Fences da yn tyfu o hadau yr Osage Orange; ond fences byrddau a arferir amlaf yno.

Y sefydlwyr cyntaf oeddynt Edward Welding, Morris Price, (Llanidloes), a John Pierce, (Dinbych). - Daethant yno yn 1840, ac y maent yno eto, yn bobl barchus a chyfoethog. Yn fuan wedi hyny daeth Richard Roberts, (o Sir Fon), a Daniel Evans, (Neuaddlwyd), a Richard Morris, (Mon), a David Evans, (Neuaddlwyd), ac ereill, yno. Ond pan ddaeth Evan Ingram, o Langyniw, Maldwyn, yno, yn 1852, yr oedd pris y tiroedd wedi eu diwyllio o $20 i $25 yr erw; a’r prairies o $4 i $5 yr erw. Y mae ganddo ef dyddyn rhagorol yno yn awr; ac y mae yn byw yn dra chysurus arno. Nid ellir prynu tyddynau diwylliedig yno heddyw heb dalu o $40 i $60 yr erw am danynt. Y mae yno yn awr sefydliad cryf o Gymry crefyddol a chyfoethog. Y mae yno 73 o deuluoedd, ac oddeutu



 

 


(delwedd E1054) (tudalen 16)

(x210) (tudalen 16) Y GORLLEWIN PELL.

365 o wyr, gwragedd, a phlant, gweision a morwynion. Y mae rhai o honynt wedi priodi a chenhedloedd ereill, a thuag ugain o deuluoedd nad ydynt yn arfer siarad ein hiaith, nac yn dilyn moddion gras yn y capelau Cymreig; ond y mae ganddynt fawr barch i’w cenedl. Hyd y gauaf yn gyffredin yw pum’ mis - eira yn disgyn yn niwedd Rhagfyr yn un droedfedd o drwch; rhewi yn galed, a bydd y ddaiar yn gloedig o ddechreu Rhagfyr i ddechreu Mawrth.

Ardal amaethyddol hollol yw Big Rock; nid oes yno un math o bentref; ond y mae yno lawer o dyddynau ffrwythlon, ac o dai coed rhagorol arnynt. Ceir Post Office yno.

Mae capel ac eglwys Saesnig gan y Bedyddwyr yn y plwyf, a’r Parch. John Jones, un o sir Fflint, G.C., yn weinidog iddynt.

Y ddwy Eglwys ANNIBYNOL Cymreig, - Dechreuwyd pregethu Cymraeg yn yr ardal er ys llawer o flyneddau, gan y Parch. George Lewis, ac eraill. Sefydlwyd yr eglwys gyntaf yn nhy John Pierce, Ysw., yn Hydref, 1352, pan urddwyd y Parch. John Daniels yn weinidog iddynt. Adeiladwyd y capel cyntaf yn haf y flwyddyn 1853; capel coed, 26 wrth 32 tr. Traul, $500. Dim dyled. Aelodau yr hen gapel yn bresenol, 30; Ysgol Sabbothol, 30; cynulleidfa, 95. Bu y brodyr canlynol yn gweinidogaethu yno: - -John Daniels, Rees M. Evans, Jenkin Jenkins, John Parry, John L. Richards, Benjamin Jones, Richard Williams, Henry Davies.

Yn 1860, yn amser y Parch. R. M. Evans, ymranodd yr eglwys, a darfu i un ran o honi godi capel newydd o’r enw “Peniel,” o fewn dwy filldir i’r hen gapel. Capel da, o goed, ydyw, 26 wrth 36 troedfedd. Traul, $700. Dim dyled. Aelodau, 30; Ysgol Sabbothol, 40; cynulleidfa, 90. Perthyna i hon hefyd lawer o dyddynwyr cyfoethog a pharchus. (Bu y ddwy eglwys ar wahan am saith mlynedd; ond gwnaed undeb rhyngddynt yn amser y Parch. Benjamin Jones, Llanidloes gynt - bu farw yn Iowa.) Y maent yn cydweithredu yn siriol er ys blyneddau. Y gweinidogion a fu yn gwasanaethu yr eglwys hon, mewn undeb a’r eglwys arall, oedd Benjamin Jones, Richard Williams, (tudalen r hwn sydd yn byw ar ei dyddyn yn yr ardal eto,) a’r Parch. Henry Davies, gynt o Nefyn, Arfon, yr hwn a fu yno o Ionawr, 1869, hyd ddechreu y fl. 1871. Yn Tachwedd, 1 870, gwelais y Cymry parchus canlynol yn iach a chysurus, yn Big Rock: - John Pierce, James Evans, Evan Ingram, Benjamin Davies, Thomas Jones, Thomas James, Evan Morgan, David J. Evans, Peter Evans, David Thomas, John Jones, John James, Richard L. Hughes, ac ereill.



 

 


(delwedd E1055) (tudalen 17)

(x211) (tudalen 17)

TALAETH ILLINOIS

4. COAL VALLEY, Rock Island Co., Illinois. - Tref fawr ydyw Rock Island, ar lan afon y Mississippi, gyferbyn a Davenport, yn Iowa. Y mae yno rai teuluoedd Cymreig yn byw; ond dim un eglwys na chapel Cymreig. Gellir myned o Chicago yno gyda y “Chicago, Rock Island & Pacific R.R.” - pellder 182 o filldirau, a chymeryd y train ar reilffordd arall oddiyno i Coal Valley, yr hwn sydd bentref bychan tua 12 milldir oddiyno, yn cael ei amgylchu gan dyddynau a gweithfeydd glo. Mae ynddo post office ac amrai o stores, a llawer o dai bychain. Gorwedda mewn pantle bychan, crwn, a’r bryniau isel o’i amgylch; a’r reilffordd yn myned trwyddo o Rock Island i Peoria, &c. Meistri P. L. ac R. E. Cable (Americaniaid) yw y prif land-owners a’r operators. Y mae gwahanol genhedloedd yn byw yno, Saeson, Scotiaid, Gwyddelod, Ellmyniaid, Ffrancod, Cymry, &c. Y Saeson sydd yn y mwyafrif.

Y sefydlwyr Cymreig cyntaf oeddynt Thomas Jones, (boss ar y gwaith glo,) Wm. Phillips, Wm. Thomas, Isaac Lewis, John Hughes, a’r Parch. John T. Williams, (T.C.,) yn awr o New Cambria, Mo., yn nechreu 1858. Wedi hyny daeth L. B. Thomas, Thomas Phillips, a Benjamin Thomas, ac ereill yno. Nid oedd yno y pryd hyny ond pedwar o dai, ac un store. Cynyddodd poblogaeth y lle. Dechreuwyd cynal moddion crefyddol ar hyd y tai. Bu Jones, Phillips, a Thomas yn feddianwyr ar weithiau glo yno, ac y maent yn awr yn ddynion cyfoethog; a’r ddau olaf yn cadw un o’r stores mwyaf sydd yn y lle. Yr oedd yno yn niwedd y fl. 1870 dros 250 o boblogaeth Gymreig, er fod amrai wedi ymadael oddiyno i Missouri, Kansas, &c.

Yr Eglwys ANNIBYNOL. Gymreig. - Ffurfiwyd yr eglwys yn 1858. Adeiladwyd y capel yn 1862, 86 wrth 24 tr. Traul, $800. Dim dyled. Capel da o goed ar ochr y bryn. Arliwiwyd ef yn hardd yn ddiweddar. Aelodau, 25; Ysgol Sabbothol, 60; cynulleidfa, 100. Swyddogion - Thomas Isaac Davies, William A. Williams; John M. Bowen, Ysg.; David Jenkins, Trysorydd. Bu y gweinidogion canlynol yn llafurus yno: - John L. Richards, Cadwaladr D. Jones, ac Owen Owens.

Eglwys y BEDYDDWYR Cymreig. - Sefydlwyd yr eglwys yno yn 1866. Adeiladwd y capel (30 wrth 24 tr.) yn 1867. Traul, $800, Y Parch, Thomas M. Mathews, (tudalen n awr o Ridgeway,



 

 


(delwedd E1056) (tudalen 18)

(x212) (tudalen 18) Y GORLLEWIN PELL.

Wis.), oedd eu gweinidog cyntaf; ac ni bu ganddynt neb ar ei ol ef. Aelodau, 12; Ysgol Sabbothol 30; cynulleidfa fechan. Diacon, David Powell.

Yr oedd y mwnwyr yn cael $1.08 y dunell am dori y glo, a gallent dori o ddwy i ddwy a haner bob dydd.

5. BRACEVILLE, Grundy Co., Illinois. – Gorwedda y sefydliad hwn oddeutu 70 milldir i’r de-orllewin o Chicago; a gellir myned o’r ddinas hono yno gyda y trains ar y “Chicago, Alton, & St. Louis R.R:, - pellder i orsaf Gardner, 66 milldir; a thua tair milldir oddiyno i’r sefydliad. Dechreuwyd y lle yn 1856. Ar y doldiroedd (prairies) gwastad y mae. Gweithiau glo yn unig sydd yno, yn agos i’r reilffordd a nodwyd. Ceir yno bum’ mis o auaf, a saith mis o haf. Hinsawdd gymhedrol. Yr oedd yno yn 1871 40 o deuluoedd Cymreig - oll oddeutu 200. Ychydig o genhedloedd ereill sydd yn y lle. Angen am fwy o foesoldeb. Amrai o grefyddwyr diwyd a ffyddlon yno.

Yr Eglwys
ANNIBYNOL yno. - Dechreuwyd yr achos yno yn 1864. Nid llawer o gynydd a fu arno. Codwyd capel newydd yno o’r enw “Ebenezer.” Traul, $1,000. Dyled, $300. Aelodau, 18; Ysgol Sabbothol, 50; cynulleidfa, 60. Diaconiaid - Thomas Treasure a John Pierce; Ysgrifenydd, John S. Williams; Gweinidog, y Parch. Wm. D. Williams, gynt o Pontypool, Sir Fynwy, D.C. Urddwyd ef yno, Chwefror 27, 1871. Rhoddodd ofal yr eglwys i fyny yn Mehefin, 1871, ac ymadawodd i Robertsville, Columbiana Co., Ohio.

Deallwyf fod eglwys fechan gan y Bedyddwyr Cymreig hefyd yno; ond ni chefais ddim o fanylion ei hanes.

6. Sefydliadau Cymreig ereill yn Nhalaeth Illinois. - Clywais fod amrai o fân-sefydliadau eraill yn y Dalaeth hon, - yn Keeversville, Paradise, Chenoa, Gardner, a Streaton, (nid yn mhell iawn o Braceville,) ond ni chefais eu hanes. Gwn fod fy hen gyfaill Mr. Rowland Jones, gynt o’r Neuadd Ffarm, Manavon, G.C., yn byw ar ei dyddyn ei hunan yn Chenoa, yn agos i Bloomington, McLean Co., Illinois; ac yr oedd y Parch. David L. Davies, gynt o Oskaloosa, Iowa, mewn swyddfa barchus yn Murphyshoro, Jackson Co., Ill.; a chlywais fod gweithfeydd glo yno hefyd, ac amrai o Gymry yn gweithio ynddynt. . Dichon fod hefyd lawer o Gymry yn byw yn East St. Louis.



 

 


(delwedd E1057) (tudalen 19)

(x213) (tudalen 19)

PENNOD III.

TALAETH WISCONSIN.

Talaeth fawr, gyfoethog, ac enwog yw hon; cynnwysa yn agos i 60 o siroedd; mae yn oludog o diroedd amaethyddol da, o goedwigoedd eangfaith a gwerthfawr, ac o fwnau plwm a haiarn rhagorol. Terfynir hi o du y de gan dalaeth Illinois; o du y dwyrain gan Lake Michigan; o du y gogledd gan dalaeth Michigan a Lake Superior; ac o du y gorllewin gan afon y Mississippi, a thalaethau Iowa a Minnesota. Y mae ynddi amrai o lynoedd mawrion, a bychain, a rhai o honynt yn fordwyol; ac o afonydd dyfnion, cyfleus i nofio llongau a choedydd arnynt, megys y Wisconsin, y Chippewa, y Fox, y Rock, y Menomonee, y Wolf, y St. Croix, y Black, &c. Ymdywallta llawer o honynt i’r Mississippi, rhai i Lyn Michigan, un i Green Bay, a rhai i Lake Superior. Nid oes ynddi fynyddau mawrion; ond ceir ynddi, mewn manau, rai bryniau uchel, megys y Blue Mounds, y Platte Mounds, &c.; ac y mae y llethrau oddeutu rhai o’i hafonydd yn codi yn uchel; ond y rhan fwyaf o honynt yn goediog. Gyda’r eithriadau a nodwyd, gwastadedd eangfaith, ond weithiau yn doredig a thonog, gan goedydd a phrairies, yw holl arwynebedd y dalaeth. Mae ei dyfroedd yn loewon ac iachus; ond ei hinsawdd yn lled oer yn y gauaf, ac yn lled wresog yr haf. Dechreuwyd ei phoblogi gan bobl wynion - y Ffrancod - yn gyntaf oddeutu y Green Bay; a derbyniwyd hi i’r Undeb Mai 29, 1848. Nid oedd ei phoblogaeth yn 1850 ond 305,391; ond yn 1860 yr oedd yn 775,881; ac yn 1870 yr oedd yn 1,055,167. Cynyddodd yn agos i saith gan’ mil a haner yn yspaid yr ugain




 

 


(delwedd E1058) (tudalen 20)

(x214) (tudalen 20) Y GORLLEWIN PELL.

mlynedd diweddaf! Ei siroedd mwyaf poblog a orweddant ar Lyn Michigan. Ei phrif ddinasoedd a’i threfydd ydynt Milwaukee (poblogaeth 71,499 yn 1870), Fond du Lac, Oshkosh, Madison, Racine, Janesville, Watertown, Portage City, La Crosse, Beloit, Prairie du Chien, &c. Madison yw prif ddinas swyddogol y dalaeth, a Milwaukee yw prif dref ei marchnadoedd - mae hon yn gyfleus i’r llongau o’r Llyn Michigan, ac i’r reilffyrdd bob cyfeiriad o’r wlad. Ei phrif reilffyrdd ydynt: 1. The Milwaukee & St. Paul Railway, gyda’r hon y gellir myned o Milwaukee trwy Madison ac Arena, a Spring Green, a Prairie du Chien (tudalen n Wisconsin); a McGregory, a Lime Spring (tudalen n Iowa), ac Austin ac Owatonna i St. Paul, yn Minnesota, (408 m.); neu gyda changenau ereill i Waukesha a Monroe; neu trwy Horicon i Berlin ac Oshkosh, a Winneeonne, a Cambria, a Portage City; neu trwy Watertown, a Columbus, a Portage City, a Tomah, a Bangor, i La Crosse, ar lan y Mississippi; ac y maent yn awr yn ei hestyn yn mlaen o Tomah, trwy siroedd Monroe, a Jackson, ac Eau Claire, a Dunn, a St. Croix, i Hudson, ar lan afon St. Croix, gyferbyn ac yn agos i St. Paul, yn Minnesota. Hon yn sicr yw y brif reilffordd yn Wisconsin, a’r fwyaf cyfleus i ymfudwyr i fyned i ogledd-ddwyrain Iowa, ac i Minnesota; ac yn fuan bydd yn cysylltu a’r Northern Pacific R.R. 2. The Chicago and North-Western Railway, yr hon sydd yn myned o Chicago trwy Havard Junction, a Janesville, a Milton Junction, a Watertown, a Minnesota Junction, a Fond du Lac, ac Oshkosh, a Neenah, i Green Bay, yn y gogledd (242m.) Hon hefyd sydd yn rhedeg o Chicago trwy Racine i Milwaukee (85 m.); a gellir myned gyda hon hefyd i Fulton, Dubuque, Cedar Rapids, Council Bluffs, ac Omaha (491 m.) 3. The Western Union Railway, yn




 

 


(delwedd E1059) (tudalen 21)

(x215) (tudalen 21) TALAETH WISCONSIN.

hon sydd yn rhedeg o Racine a Milwaukee, trwy Elkhorn, a Clinton, a Beloit, a Freeport, a Savanna, i Rock Island, yn Illinois (197 m). Er fod yn y dalaeth hon dros bedair miliwn (4,000,000) o erwau o dir dan driniaeth, bernir fod ynddi eto 30 o filiynau o erwau heb eu diwyllio! Y siroedd mwyaf anmhoblog ac anniwylliedig ydynt Ashland, Bayfield, Barren, Burnett, Douglas, Chippewa, Marathon, Oconto, Clark, Wood, Shawano, &c.; ac wrth sylwi ar y map, gwelir fod y siroedd hyn oll yn y rhandir gogleddol o’r dalaeth, ac yn cynnwys yn agos i haner ei harwynebedd. Coedwigoedd mawrion a thewion sydd arnynt, y rhai sydd dra gwerthfawr; ond nid yw y tiroedd sydd danynt, mewn llawer o fanau, mor gymhwys at amaethyddiaeth a thiroedd breision y prairies a’r mân-goedydd sydd yn rhai siroedd y rhandir deheuol o’r dalaeth; er hyny gellir gwneyd tyddynau rhagorol mewn llawer o honynt. Ceir ynddynt lawer iawn o diroedd y Llywodraeth, yn gartrefi rhad, neu am $1.25 yr erw; thros un filiwn a haner o diroedd perthynol i lywodraeth y Dalaeth, a gellir ei brynu am o $1 i $2 yr erw, a than hyny mewn manau. Mewn perthynas i diroedd y Dalaeth, gellir cael pob gwybodaeth reidiol am danynt gan yr Anrhydeddus Llewelyn Breese, Cofiadur y Dalaeth (Secretary of the State), yn ei swyddfa yn Madison, Dane Co., Wis. (Gwel y llyfr a gyhoeddwyd yno yn Mai, 1870, o’r enw “ Ystadegau o Adnoddau, Cynyrchion, a Phoblogaeth Talaeth Wisconsin, gan ‘Fwrdd yr Ymfudwyr,’” Gellir cael rhai o honynt yn rhad ond anfon at Mr. Breese am danynt.)

Dechreuodd y Cymry ymsefydlu yn Wisconsin er ys dros 29 ml. yn ol, tua’r fl. 1842, cyn i’r dalaeth gael ei derbyn i’r Undeb, ac yn mhell cyn i reilfifyrdd gael eu gwneuthur yno. Daeth llawer o honynt o Arfon,




 

 


(delwedd E1060) (tudalen 22)

(x216) (tudalen 22) Y GORLLEWIN PELL.

Meirion, Mon, a Maldwyn, G.C. Sefydlasant gyntaf yn siroedd Racine, Waukesha, Jefferson, Dodge, Columbia, Sauk, ac Iowa; a gwelsant lawer o anfanteision, a dyoddefodd rhai o honynt lawer o gyfyngderau; ond erbyn heddyw, trwy ddiwydrwydd, a llafur, a bendith yr Arglwydd, y mae llawer o honynt yn bobl gyfoethog, a’r oll o honynt mewn cartrefi cysurus, yn eiddo iddynt eu hunain, a’u plant wedi cael addysg dda, a rhai o honynt yn llenwi swyddi pwysig yn Llywodraeth y dalaeth. Y mae Llywodraeth y dalaeth yn uchel iawn ei chymeriad am ei theyrngarwch, a’i chynildeb, a’i sêl dros ryddid gwladol a chrefyddol pob dyn ac egwyddorion y Gwerinwyr, ac am ei darpariadau haelionus a phrydlon, er cefnogi yr Ysgolion Dyddiol, a’r Athrofäau, a’r Asylums, a’r Gwyddorau a’r Celfyddyddau, a hyrwyddo masnach a llaw-weithfeydd y dalaeth; rhoddant hefyd bob cefnogaeth i ymfudwyr. Mae y dalaeth hefyd yn enwog am ei Heglwysi Efengylaidd, er fod ynddi lawer o Babyddion Gwyddelig ac Ellmynaidd. Mae Prif-athrofa (university) y dalaeth yn Madison, yn yr hon yr addysgir 300 o fyfyrwyr, gan oddeutu deuddeg o athrawon dysgedig. Yn Beloit, Rock Co., y mae gan yr Annibynwyr Saesnig Athrofa ardderchog, lle y cafodd amrai o blant y Cymry addysg dda. Ceir yn y dalaeth hon yn awr bob manteision a chyfleusderau crefyddol, addysgiadol, a masnachol; ac y mae ynddi eto ddigon o le i filoedd o ymfudwyr i gael cartrefi rhad, a bywioliaethau cysurus. Gall yr ysgolor, a’r masnachwr, a’r crefftwr, a’r tyddynwr, yr llafurwr, a’r mwnwr,a’r morwr, a llawforwynion, gael lleoedd da ynddi.

Ond yn awr, arweiniaf y darllenydd i gael golwg ar y gwahanol Sefydliadau Cymreig yn Wisconsin; nid




 

 


(delwedd E1061) (tudalen 23)

(x217) (tudalen 23) TALAETH WISCONSIN.
o’r hynaf i’r ieuangaf, ond fel y deuant ar ein ffordd yn fwyaf trefnus:

1. RACINE, Racine Co., Wis. - Saif y dref hardd a chynyddol hon ar wastadedd uchel a ffrwythlon, ar lan gorllewinol Llyn Michigan, tua 62 m. i’r gogledd o Chicago, a 23 m. i’r de o Milwaukee. Nid oedd ond lle bychan a gwael yn 1842, pan ddaeth y Parch. Wm. T. Mathews (A.), yno gyntaf; dywed ef fel hyn: “Yn ngwanwyn y fl. 1842, daethum i Racine, Wis., lle yr oedd amrai o Gymry ar y pryd wedi ymsefydlu, a’r Trefnyddion Calfinaidd a’r Annibynwyr yn cadw cyfarfodydd undebol, heb neb yn pregethu iddynt. Parhaodd yr undeb yma hyd ddyfodiad y Parch. Richard Davies (T.C.), yn y flwyddyn 1843, pryd y corfforwyd eglwys Gymreig y T.C. ac yn fuan wedi hyny sefydlwyd yr Eglwys Annibynol Gymreig yno.” Yn y fl. 1850, yr oedd yn bentref lled fawr; ac yn 1857 yr oedd yn dref boblog, a llawer o drigfanau ac o eglwysi, a masnachdai ynddi, a’i masnach mewn lumber, a’i llaw-weithfeydd yn dechreu blodeuo, a’i melinau blawd yn dechreu tynu sylw, y rhai ydynt eto yn fywyd a nerth iddi. Ond erbyn y fl. 1870, yr oedd ei phoblogaeth dros ddeng mil, a’i masnach yn fwy bywiog nag erioed. Hi yw prif dref y sir; ynddi y mae y Court House. Ceir ynddi lawer o heolydd llydain, o gapelau ac ysgoldai rhagorol, o stores mawrion, ac o weithdai cerbydau, &c. Mae ynddi yn awr lawer iawn o wahanol genedloedd yn byw, ac yn masnachu - Americaniaid, Ellmyniaid, Gwyddelod, &c.; ac y mae yno lawer iawn, dichon dros ddwy fil, (2,000) o Gymry parchus a chrefyddol, o fewn terfynau y ddinas, ac amrai o honynt yn fasnachwyr cyfoethog, yn forwyr llwyddianus, ac yn grefftwyr medrus; ac y mae rhai o honynt yn byw mewn digonedd yn eu palasdai. Mae yno rai llenorion a cherddorion athrylithgar a dysgedig.

Eglwys y
TREFNYDDION CALFINAIDD yn Racine. - Ymddengys fod yr eglwys hon wedi cael ei sefydlu yn y fl. 1843. “Wedi hyny llwyddodd yn raddol. Codasant gapel yno, ac ail adeiladwyd ef er ys llawer o flyneddau. Saif mewn lle cyfleus yn y ddinas, ac y mae yn gapel da a thra helaeth. Bu amrai o weinidogion parchus a doniol yn gweinidogaethu yno; a’u gweinidog presenol



 

 


(delwedd E1062) (tudalen 24)

(x218) (tudalen 24) Y GORLLEWIN PELL.

yw y Parch. William Hughes, yr hwn sydd yn enwog fel bugail ffyddlon, ac fel pregethwr efengylaidd. Y mae yno yn awr eglwys luosog, weithgar, unol, a haelionus, a llawer o Gymry cyfoethocaf a pharchus y dref yn swyddogion ac yn aelodau ynddi . Diaconiaid, 6; aelodau, 194; ar brawf a phlant, 180; Ysgol Sabbothol, 242; cynulleidfa, tua 500; casgliadau at y weinidogaeth, $880.41; casgliadau ereill, $1,454.80.

Eglwys y T. C yn Skunk Grove.
- Saif y capel hwn yn y wlad, tua phedair milldir i’r gorllewin o Racine. Y mae yno eglwys fechan, ffyddlon, dan ofal gweinidog parchus eglwys y T.C. yn Racine. Aelodau, 27; plant, &c., l6, Ysgol Sabbothol, 50; cynulleidfa, tua 80. Casgliadau, $185.87.

Eglwys y
r ANNIBYNWYR yn Racine. - Sefydlwyd hon yn 1848, a chynyddodd yn raddol. Codasant gapel coed bychan yno er yn yn agos i ugain mlynedd. Bu y gweinidogion canlynol yn llafurio yno, sef y Parchedigion Evan J. Evans, John Parry, Evan Griffiths, Cadwaladr D. Jones, ac eraill. Dechreuodd y Parch. William Watkins weinidogaethu yno yn 1868, ac y mae yno eto yn barchus a defnyddiol. Yn 1870 codasant gapel mawr a hardd o briddfeini, yn agos i’r hen gapel, ond mewn heol arall fwy cyfleus. Mae yn 60 tr. o hyd wrth 40 tr. o led - wedi ei wneyd yn chwaethus oddifewn ac oddiallan, a basement rhagorol dano. Traul, $8,000 am y lot a’r adeilad. Agorwyd ef yn niwedd y fl. 1870. Cyfranodd yr eglwys a’r gynulleidfa yn haelionus iawn er talu ei draul. Yn haf y fl. 1871, gorfu i’r gweinidog parchus Mr. Watkins roddi ei weinidogaeth sefydlog yno i fyny, o herwydd gwaeledd ei iechyd.

Eglwys
ANNIBYNOL Pike Grove. - Saif yr adeilad hwn mewn ardal amaethyddol brydferth a ffrwythlon, tua thair milldir i’r gogledd o dref Racine. Un o’r sefydlwyr cyntaf yno oedd y diweddar Griffith Richards, Ysw.; ac y mae ei blant a’i wyrion yn byw yn gysurus yno eto. Y mae yno gapel coed da; ac eglwys gref a ffyddlon ynddo. Mae yno lawer o Gymry parchus o Faldwyn a Meirion.

2. MILWAUKEE, Milwaukee Co., Wis. - Hon yw prif ddinas fasnachol talaeth Wisconsin. Nid oedd ei phoblogaeth yn 1850 ond ychydig dros ugain mil; ond yn 1870 yr oedd yn 71,499! Saif ar lan Llyn Michigan, tua 23 m. i’r gogledd o Racine. Y mae llawer o’i phreswylfeydd a i heglwysi ar lethrau bryniau iachus; a’r rhan fwyaf o’i masnachdai mawrion, a’i phrif heolydd llydain, a’i llaw-weithfeydd, ar wastadedd, a fu unwaith yn gorsiog, ond sydd yn cael ei sychu yn gyflym, fel y mae y ddinas yn cynyddu. Y mae ynddi lawer o adeiladau drudfawr, cyffelyb i’r rhai a welir yn New



 

 


(delwedd E1063) (tudalen 25)

(x219) (tudalen 25) TALAETH WISCONSIN.

York, a Chicago; ac y mae ei masnach mewn gwenith, a blawd, ac anifeiliaid, a lumber, yn fawr iawn; ac y mae yno lawer o ddarllawdai, a llaw-weithfeydd o bob math, a rhai furnesi blast, a rolling mills. Rhed afon fechan drwy ei chanol, a dygir llongau ac agerddlongau i mewn ac allan o r llyn, arni, yn llwythog o wahanol nwyddau, ac weithiau o ymfudwyr, a theithwyrr. Lle da ydyw i grefftwyr, a llafurwyr, a morwynion; ac y mae ynddi bob manteision crefyddol ac addysgladol. Ceir ynddi , yn agos i’r Union Depot, un o’r elevators gwenith mwyaf yn yr holl wlad, a Chymro parchus yn brif arolygwr arno. Mae digon o gyfleusderau teithiol, ar diroedd a dyfroedd, i’w cael ynddi; gyda phob hwylusdod i newid arian a phapyrau yn ei hariandai cyfoethog ac ymddiriedol. Ond dylai ymfudwyr fod yn ofalus rhag cael eu twyllo gan ddynion anonest yno, fel mewn dinasoedd mawrion ereill.

Poblogir Milwaukee gan wahanol genedloedd, Ellmyniaid, Gwyddelod, ac Americaniaid, gan mwyaf; a bernir fod dros un fil o Gymry yn byw yno yn awr, ond bod llawer o honynt yn fwy tueddol i siarad Saesonaeg na’r Omeraeg. Y mae yno rai Cymry cyfoethog iawn. Bu y “Lake Brewery” yn meddiant Mr. Owens, ond y mae yn awr yn eiddo Powell a Pritchard. Un o sir Fon yw Richard Owens, Ysw., a rhai o’r Towyn, Meirionydd, G.C., yw Mr. Jones a’i feibion, a fu yn cadw yr “Atlantic Hotel” yma. Dechreuodd y Cymry bregethu a chadw addoliad Cymreig yma yn unol, er ys flawer o flyneddau.

Eglwys y T.C. ar Michigan St
. - Capel coed bychan ydyw, nid llawer mwy na chapel yr Annibynwyr yno. Mae ynddo eglwys weithgar a haelionus. Swyddogion, 4; aelodau, 80; plant, &c., 26; Ysgol Sabbothol, 110; cynulleidfa, 200; casgliadau blyneddol, 1820. Bu amrai weinidogion ffyddlon yma, sef y Parch. David Williams a Mr. Humphrey Howells, ac ereill.

Eglwys yr
ANNIBYNWYR ar Jefferson St. - Sefydlwyd hon yno er ys llawer o flyneddau. Bu yno amrai yn gweinidogaethu, sef y Parchedigion Griffith Griffiths, Griffith Jones, a Griffith Evans; a’u gweinidog presenol yw ein cyfaill ieuanc talentog, y Parch. John Cadwaladr, gynt o Ffestiniog, G.C. Codasant gapel coed hardd a cyfleeus yno, ac y mae ynddo eglwys fechan ffyddlon. Aelodau 50: Ysgol Sabbothol, 40; cynulleidfa, 150. Diaconiaid -



 

 


(delwedd E1064) (tudalen 26)

(x220) (tudalen 26) Y GORLLEWIN PELL.

Robert M. Roberts, 366 Milwaukee Street, a Wm. Davies. Bu Mr, Roberts farw yn sydyn yno yn haf 1871, a chafodd ei deulu a’r eglwys golled fawr ar ei ol.

Mae cangen o’r eglwys Annibynol uchod yn ymgynull mewn ysgoldy yn agos i’r “Bay View Rolling Mill,” yr hon a saif ar lan y llyn, tua 3 m. i’r de o ganol y ddinas. Y mae yno amrai o deuluoedd Cymreig, a’r Parch. John Cadwaladr yn pregethu iddynt bob Sabboth.

3. Y Sefydliadau Cymreig yn siroedd Waukesha a Jefferson, Wis. - Gorweddant y siroedd hyn i’r gorllewin o Milwaukee; ac nid oes ond tua 21 m. o’r ddinas i dref fechan hardd Waukesha; ac y mae y St. Paul R.R. yn myned trwyddi i Prairie du Chlen. Nid oes ond ychydig o Gymry yn byw yn nhref Waukesha; ond mae eu tyddynau yn dechreu tua thair neu bedair milldir i’r gogledd oddiyno, ac yn ymdaenu am filldiroedd oddiyno, dichon 20 m. o hyd wrth 10 m. o led, i’r gogledd a’r gorllewin, yn siroedd Waukesha a Jefferson; a dichon fod yn y ddwy sir yn awr dros dair mil o boblogaeth Gymreig.

Mr. John Hughes, ger Aberystwyth, sir Aberteifi, D.C., oedd y Cymro cyntaf a sefydlodd yn Genesee Township, sir Waukesha, 5 m. o Delafield, a 5 m. o dref Waukesha, yn 1840. Tir y Llywodraeth oedd oll y . pryd hyny, a gellid ei brynu am bum’ swllt (neu tua 60 cents) yr erw. Gwlad goediog oedd y pryd hyny bron yr holl ffordd o ddinas Milwaukee yno (tua 30 milldir) - ychydig o’r tiroedd oedd wedi eu harloesi; a byddid yn cymeryd o bedwar i bum’ niwrnod i fyned a dychwelyd gyda llwyth o wenith i Milwaukee. “Yr oedd y ceffylau a’r cerbydau weithiau yn myned yn sound yn y coed tewion a’r llaid, ac yn aml rhaid oedd cael ychain i’w tynu allan; ac ar ol yr holl drafferth ni cheid ond o 40 i 50 cents y bushel am y gwenith.” Gel wid Waukesha y pryd hyny yn Prairieville. Wedi hyny daeth y personau canlynol yno - Richard Jones, John Jones, William Evans, John Evans, Morgan Jones, R Mason, a David Jarmon, o sir Aberteifi, yn 1843; Thomas Evans a John Evans yn 1845; David Jones a David Griffiths, sir Aberteifi, yn 1846; Thomas Williams, o Ochryfoel, Llanlligan, a Samuel Breese, Bwlchcaehaidd, ger y Drefnewydd, Maldwyn, G.C., a John Williams, o



 

 


(delwedd E1065) (tudalen 27)

(x221) (tudalen 27) TALAETH WISCONSIN.

Llwyn y mwn, sir Aberteifi, a’i dad (14 yn y teulu), a Wm. Williams, saddler, ac ereill, yn 1847. Yn ysbaid yr ugain mlynedd diweddaf y bu yr ymfudiad mwyaf atynt, ac i’r ardaloedd cyfagos o’u deutu. Y mae yno yn awr saith neu wyth o wahanol sefydliadau Cymreig, ac eglwysi a chapelau Cymreig yn mhob un o honynt. Mae y sefydlwyr wedi gorchfygu eu hanhawsderau, ac yn awr yn mwynhau cyfoeth a chysuron eu llafur caled; ac yn eu plith y mae llawer o’r bobl mwyaf crefyddol a chenedlgarol. Y mae yno diroedd da a ffrwythlon.

Eglwyi y TREFNYDDION CALFINAIDD yno. - Mae yr enwad crefyddol parchus hwn yn dra lluosog a defnyddiol yn yr ardaloedd. Hwynt-hwy a bregethasant yr efengyl gyntaf yno yn yr iaith Gymraeg. O’r flwyddyn 1840 hyd 1870, sefydlasant lawer o eglwysi, a chodasant lawer o gapelau da yno; ac mae rhai o honynt wedi eu hail-adeiladu yn helaethach. Dyma enwau eu capelau, a’r blyneddau y codwyd hwynt: -

1. Jerusalem, yn 1844.
2. Salem, yn 1803.
3. Bethania, yn 1853.
4. Soar, yn 1855.
5.. Bethesda, yn 1858.
6. Bethel, yn 1861.
7. Seion, yn 1867.
8. Waterville.
9. Bark River.

Yn yr holl eglwysi hyn mae fel y canlyn: - Diaconiaid, 16; aelodau, 283; plant a rhai ar brawf, 196; Ysgol Sabbothol, 507; gwrandawyr, 1,200; casgliadau blyneddol, yn y flwyddyn 1870, at y Weinidogaeth, $1,110.93; at y Gymdeithas Genhadol, $24.72; at wahanol achosion, $796.83. Cyfanswm, $1,932.48. Mae ganddynt hefyd amrai o weinidogion a phregethwyi talentog a ffyddlon yn llafurio yn eu plith. Gweinidogion - Owen Hughes, Waterville; John Williams, Salem; Daniel Jenkins, Waukesha; Hugh Roberts, Soar. Pregethwyr - Robert Williams ac Edward Jones, Waukesha. Bu y Parch. William T. Williams, (Meirion,) a’r Parch. Daniel Davies, (Maldwyn,) yn ddefnyddiol iawn yn yr ardaloedd; ond y maent yn awr yn y nef. “Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig.”

Eglwysi yr ANNIBYNWYR yn Waukesha Co., Wis. - Yr hynafgwr enwog, y Parch. Richard Morris, gynt o Sir Benfro, D.C., a fu yn dra defnyddiol am flyneddau gyda’r Annibynwyr yma. Y mae yn byw yno eto. Haeddai barch ac anrhydedd fel gweinidog da i Iesu Grist. Cyd-weithredodd Mr. Thomas Williams, o Ochryfoel, ac ereill, yn ffyddlon gydag ef. Yn y flwyddyn 1846 y codasant gapel log o’r enw y Tabernacl, ar ochr y ffordd, oddeutu pedair milldir o dref Waukesha; ac y mae yno gapel newydd hardd er ys llawer o flyneddau. Ar ol Mr. Morris, bu y gweinidogion canlynol yn llafurio yno, sef G. Griffiths, R. Evans, J. V. Jones. Diaconiaid, 2; aelodau, 35; Ysgol Sabbothol, 40; cynulleidfa, 100. Perthyna iddi lawer o bobl dda a ffyddlon. Mehefin 13, 1871, urddwyd Mr. Timothy Jones o Nebo, Gallia Co., Ohio, yn weinidog yno.



 

 


(delwedd E1066) (tudalen 28)

(x222) (tudalen 28) Y GORLLEWIN PELL.

Sefydlodd yr Annibynwyr hefyd eglwys, a chodasant gapel o’r enw Libanus, yn Bark River, Ottawa township, yn y fl. 1854. Y mae yno eglwys fechan ffyddlon. Yno y mae y pregethwr ffyddlon, a’r tyddynwr cyfoethog, y Parch. Samuel Howell, yn byw. Bu ef a’i deulu yn ddefnyddiol iawn gyda’r achos yno; ac y maent felly eto.

4. MADISON, Dane Co., Wis. - Hon yw prif dref swyddogol y dalaeth; saif ar ucheldir, rhwng dau lyn bychain, yn nghanol y sir, ac y mae yn un o’r trefydd harddaf a mwyaf iachus yn yr holl wlad. Yno y mae prif adeiladau swyddogol y dalaeth, yn y rhai y cyferfydd aelodau anrhydeddus dau dy y Senedd i ffurfio cyfreithiau y dalaeth. Yno hefyd y mae yr University a’r Lunatic Asylum, a llawer o adeiladau drudfawr ereill. Bydd yno bob haf ganoedd o ymwelwyr am iechyd a phleser. Nid oes yn y dref ond ychydig o Gymry yn byw, heblaw y rhai sydd mewn swyddi parchus dan y Llywodraeth yno, sef yr Anrhydeddus Llewelyn Breese, Ysgrifenydd y Dalaeth; John T. Jones, Ysw., ac ereill.

SUN PRAIRIE, Dane Co., Wis. - Gorwedda y lle hwn tua saith neu wyth milldir i’r gogledd o dref Madison; ac yn ddiweddar dechreuodd y Cymry sefydlu yno ar diroedd da, wedi prynu ereill allan. Gall ereill gael yr un fantais yno eto. Y mae gan y Trefnyddion Calfinaidd eglwys fechan yno.

Dichon fod yn Madison a Sun Prairie oddeutu cant o Gymry.

5. ARENA, Iowa Co., Wis. - Saif y pentref bychan hwn ar wastadedd eang, 125 milldir i’r gorllewin o Milwaukee, a 29 m. o Madison, a 71 m. i’r dwyrain o Prairie du Chien. Mae y reilffordd yn myned trwyddo o’r naill ddinas i’r llall. Nid yw ond ychydig filldiroedd o’r afon Wisconsin. Tir lled dywodlyd sydd o’i amgylch; ond y mae amrai o dyddynwyr Cymreig, ac ereill, yn trigianu yno, a rhai Cymry parchus yn fasnachwyr yn y pentref, sef Morris & Jones, ac ereill.

Yno yr oedd y Parch. David M. Jones (A.,) gynt o Lanelli, Sir Gaerfyrddin, D.C., yn byw yn y flwyddyn 1870, yr hwn a ymfudodd i America yn Mai, 1831. Bu yn genhadwr ffyddlon dros Iesu



 

 


(delwedd E1067) (tudalen 29)

(x223) (tudalen 29) TALAETH WISCONSIN.

Grist yn Wisconsin am yn agos i 28 mlynedd; a sefydlodd lawer o eglwysi Cymreig a Saesnig mewn gwananol fanau yno. Pregetha eto i’r Americaniaid yn Mill Creek a Lumberville, yn Dodge Valley, 10 milldir i’r gorllewin o Arena. Yno hefyd y mae y pregethwr (B) a’r bardd enwog, Mr. Evan M. Evans, (Morddal) yn byw. Mae yn joiner ac yn photographer medrus; ac yn pregethu i’r Bedyddwyr Cymreig yno. Gall fod poblogaeth Gymreig Arena yn agos i 60. Nid wyf yn deall fod gan yr Annibynwyr na’r T.C. eglwysi Cymreig yno; ond pregethant yno yn achlysurol, a chânt groesawiad mawr gan y Cymry cenedlgarol sydd yno yn byw. Mae stage yn rhedeg o Arena bob dydd i Dodgeville - pellder 25 milldir. Mae Cymry Ridgeway a’r Blue Mounds, a’r Coed, yn masnachu llawer yn Arena.

6. SPRING GREEN, Sauk Co., Wis. - Pentref bychan hardd ar yr un gwast adedd eang yw hwn eto, tua saith milldir i’r gorllewin o Arena. Ceir ynddo amrai o stores, Post Office, ystordai gwennith, eglwysi Saesnig, ac un Academy dda. Poblogir y lle gan Americaniaid, Ellmyniaid, Gwyddelod, &c., ac y mae amrai o Gymry parchus yn byw ac yn masnachu yn y lle, a llawer iawn o dyddynwyr Cymreig yn byw yn gysurus ar eu tyddynau gerllaw yno, a llawer o honynt yn bobl grefyddol. Tir graianog a gwan sydd oddeutu yno hefyd; ond ceir yno beth tir da (black loam) mewn manau. Nis gellir prynu tyddynau diwylliedig yno yn awr o dan 130 yr erw; gwerthwyd rhai am $55 yr erw. Mae cymeriad uchel i’r lle am foesau, addysg, a chrefydd. Dechreuodd y Cymry sefydlu yn y lle tua 25 ml. yn ol. Mr. Evan Jones oedd un o’r sefydlwyr cyntaf. Cynyddodd, ac y mae y boblogaeth Gymreig yno yn awr tua 225.

Yr Eglwys ANNIBYNOL yn Spring Green. Dechreuwyd yr achos Cymreig yno yn 1849. Sefydlwyd yr eglwys Annibynol yno yn Chwefror, 1850, gan y Parch. William Parry, genedigol o Sir Fon, yn cynnwys 18 o aelodau, a dau ddiacon, sef Daniel Williamo a Thomas Williams. Addolent o dy i dy hyd y flwyddyn 1855, pan adeiladwyd y capel. (Capel coed bychan, 40 wrth 30 tr. ydyw, yn sefyll mewn coedwig hardd, tua milldir i’r gorllewin o’r pentref.) Traul, $600. Dim dyled. Rhifedi aelodau yr eglwys ynuiwedd y fl 1870 oedd 55; Ysgol Sabbothol, 45; cynulleidfa, o 100 i 150. (Mae amrai o’r Cymry a’u plant wedi ymuno a’r Saeson.) Mae yno eglwys dda a i:weithgar. Casgliadau blyneddol, $400. Bu y gweinidôgion canlynol yn llafurio yno, sef William Parry, John Davies, Jonathan Jones; a’u gweinidog presenol yw y Parch. John Price Jones, gynt o gapel y Graig, Rymney, D.C., Mae y Parch, John Davies, gynt o Lanbrynmair, G.C., a’i deulu,



 

 


(delwedd E1068) (tudalen 30)

(x224) (tudalen 30) Y GORLLEWIN PELL.

yn byw ar eu tyddyn, gerllaw yno; bu ef yn weinidog defnyddiol yno am flyneddau; ac y mae eto yn Gristion ffyddlon, yn bregethwy da, ac yn feddyg medrus yno. Cyd-addola amrai o’r T.C. a’r Annibynwyr yno. Y mae Thomas D. Jones, John J. Jones, Evan P. Morgan, Joseph D. Jones, ac ereill, yn Gymry parchus a ffyddlon yn yr ardal eto. 7. DODGEVLLE, Iowa Co., Wis. - Hon yw prif dref Sir Iowa. Saif tua 20 neu 25 milldir i’r De-orllewin o Arena, mewn ardal fryniog, iachus a hyfryd. Tref fechan wledig ydyw. Ynddi y mae y Court House, a swyddfäau y llywodraeth sirol; ac y mae y Cymro cenedlgarol, Samuel W. Rees, Ysw., gynt o Lanbrynmair, G.C., yn gyfreithiwr enwog a chyfoethog yno. Cymro dysgedig arall yno yw John T. Jones, Ysw.; ac y mae Richard E. Evans, Ysw., yn wr cyfrifol yno. Ceir yno amrai o gapelau, stores, ac ysgoldai. Mae amrai o weithfeydd plwm oddeutu yno, lle mae llawer yn gweithio. Dechreuodd y Cymry sefydlu yn y lle er ys dros 25 ml. yn ol. Mac llawer o honynt yn awr yn ddynion cyfoethog, yn byw yn eu tai ac ar eu tyddynau eu hunain; a rhai yn arolygwyr ac yn feddianwyr ar y gweithiau plwm. Gall fod yn Dodgeville a’r.cymydydogaethau cyfagos yn awr yn agos i 800 o Gymry yn byw.

Mae gan y TREFNYDDION CALFINAIDD eglwys dda yn y dref. Diaconiaid, 8; aelodau, 65; plant, &c., 53; Ysg. Sab., 58. Casgliadau, $403. Gweinidog, Parcb. David Lewis. Yn nechreu y fl. 1871 symudodd Mr. Lewis i South Bend, Minnesota, a bu farw yno. Yr oedd yn fugail gofalus, ac yn bregethwr doniol a ffraeth. Mae ganddynt hefyd eglwysi bychain oddeutu yno.

Mae gan y BEDYDDWYR Cymreig hefyd gapel da, ac eglwys ffyddlon yn Dodgeville; ac un arall yn nghapel Salem, (tudalen Coed,) dan ofal y Parch. Thomas Holland, yr hwn sydd weinidog enwog. Mae y Parch. Owen Williams (B.) yn byw ar ei dyddyn ei hun yn Garrison Grove, tua 4 mllldir o Dodgeville; a’r Parch. Meredydd Evans, (B.,) sef y bardd medrus “Gog Glan Ohio,” yn dyddynwr cyfoethog, o fewn yr un pellder i’r dref. Nid oes gan yr un o’r ddau yn awr eglwysi neillduol o dan eu gofal, ond pregethant yn aml. Yn Dodgeville, y mae Mr. Robert C. Owen, (Trebor Fardd,) yn byw. (B.)

Mae gan yr ANNIBYNWYR hefyd gapel ac eglwys yn y dref, ac amrai o ddynion da yn aelodau ffyddlon ynddi; sef Mr. John P. Davies, ac ereill. Aelodau, tua 30; Ysg. Sab. a chynulleidfa fechan.
 

 

 


(delwedd E1069) (tudalen 31)

(x225) (tudalen 31) TALAETH WISCONSIN.
 
Bu y gweinidogion canlynol yn llafario yno am flyneddau, sef y Parchn. David M. Jones, Evan Owens, a John B. Davies. Rhoddodd Mr. Davies ofal yr eglwys i fyny yn niwedd y fl. 1870, ond y mae eto yn byw ar ei dyddyn gerllaw yno. Mae eglwysi y Coed, a Chaergybi, mewn cysylltiad a’r eglwys Annibynol yn y dref.

8. ARDAL Y COED. - Saif yr ardal hon oddeutu y ffordd sydd yn myned o Arena i Dodgeville, ac o fewn 7 milldir i’r llr olaf. Lled goediog a bryniog ydwy; ac amrai o Gymry wedi diwylho eu tiroedd yn dda, ac yn byw yn gysurus arnynt, yn nghanol coedwigoedd. Ni welir na thref na phentref yn agos yno; ond y mae yno yn awr lawer o dai da, ac ambell i ddoldir hirgul rhwng y bryniau. Mae gan yr Annibynwyr gapel da, ac eglwys ffyddlon a bywiog, yn cynnwys 60 o aelodau, ac ysgol a chynulleidfa dda yn yr ardal hon. Mae yno ganu rhagorol, dan arwemiad y cerddor medrus, a’r dadganwr enwog, Mr. Thomas N. Williams, yr hwn sydd dyddynwr parchus yn yr ardal. Yma y mae Henry D. Griffiths, a Wm. B. Lewis, ac ereill, yn byw. Mae gan y Bedyddwyr hefyd gapel da, ac eglwys ffyddlon yn ardal y Coed. Dichon fod yn y gymydogaeth hon tua 200 o Gymry. Mae ychydig o dir da, a llawer o dir sal, yn y wlad fryniog a choediog hon.

9. RIDGEWAY, Iowa Co., Wis. - Saif yr ardal hon tua saith neu wyth milldir i’r dwyrain-ogledd o Dodgeville. Gwlad amaethyddol hollol ydyw; mae rhan o honi yn goediog, a’r rhan arall yn adoldiroedd (prairies.) Dechreuodd y Cymry sefydlu yno er ys llawer o flyneddau; a dichon fod yno yn awr dros 300 o boblogaeth Gymreig; a cheir yn eu plith lawer o dyddynwyr cyfoethog. Enw Post Office yr holl ardal hon yw Jennieton P.O., Iowa Co., Wis.

Mae gan yr ANNIBYNWYR gapel mawr ac eglwys gref yno, lle mae y pregethwr enwog a’r gweinidog ffyddlon, y Parch Evan Owens, (gynt o Morben, plwyf Machynlleth, G.C.,) yn gweinidogaethu er dechreu Ebrill, 1868. Mae yn byw ar ei dyddyn ehelaeth islaw yno, ar y ffordd i Arena. Ceir yn ei eglwys lawer o bobl ffyddlon, sef Evan D. Evans, Daniel Thomas, David Rees, Thomas Williams, David C. Morris, &c. Bu y Parch. David Lewis, ac ereill, yn gweinidogaethu yno. Yno y bu ef farw.

Eglwys y BEDYDDWYR yn Ridgeway. - Bethania yw enw eu capel hwy yno - 30 wrth 24 tr. Traul, $600. Dim dyled arno yn awr.






 

 

 


(delwedd E1070) (tudalen 32)

(x226) (tudalen 32) Y GORLLEWIN PELL.

Aelodau, 44; Ysg, Sab. 40; cynulleidfa, 80. Diacon, David D. Jones, tyddynwr. Gweinidog, Parch. Thomas M. Mathews, gynt o Mynydd Islwyn, D.C. Derbyniwyd ef yn aelod o’r eglwys Annibynol yno gan y Parch. Moses Ellis. Bedyddiwyd ef trwy drochiad yn Coal Valley, Illinois. Daeth i Ridgeway yn Chwefror, 1869.

10. BLUE MOUNDS, Iowa Co., Wis. – Un o’r bryniau uwchaf yn Wisconsin yw y Blue Mounds - 1,729 o droedfeddi uwchlaw arwynebedd y môr - gwelir ef o bellderau. Coediog yw. Ond mae tyddynau ffrwythlon oddeutu ei odrau, a llawer o’r llethrau wedi eu diwyllio, a pheth tir wedi ei aredig ar ei gopa. Mae llawer o Gymry parchus yn byw ar eu tyddynau yn y coedwigoedd ar ei odrau, ac ar y prairies yn agos ato. Mae gan yr Annibynwyr gapel ac eglwys yn y lle hwn, dan ofal y Parch. Evan Owens; ac mae gan y Trefnyddion Calfinaidd ddau gapel a dwy eglwys yno. Yno y mae eu pregethwr ffyddlon, Mr. Edward L. Jones, yn byw. Saif yr ardal hon tua phedair milldir i’r dwyrain o Ridgeway. Dichon fod ei phoblogaeth Gymreig dros 300.

11. MINERAL POINT. - Picatonica., Mifflin, Linden, &c. - Ni chefais gyfleusdra i dalu ymweliad personol a’r lleoedd hyn; ond deallwyf eu bod yn gorwedd tua saith neu wyth milldir tua’r de, a thua’r de-orllewin o Dodgeville, a bod ynddynt lawer o diroedd da, a gweithiau plwm, a rhai ffwrneisiau i doddi mwn plwm, &c. Mae reilffordd yn rhedeg o Mineral Point drwy sir Lafayette, Wis., ac yn cysylltu â’r Illinois Central R.R., ac â’r Chicago & North Western R. R., yn Warren, yn nghwr uchaf talaeth Illinois; a gellir myned oddiyno i Dunleith a Dubuque, ac i Chicago, St. Louis, Cairo, &c. Mae gan y Trefnyddion Calfinaidd eglwysi cryfion yn Picatonica, &c., lle mae y Parchedigion John Davies a Griffith Jones yn gweinidogaethu yn llwyddianus. Mae eglwys ffyddlon hefyd gan y Bedyddwyr yn Picatonica, lle mae y brodyr ffyddlon Hugh Hughes a John Evans yn gweinidogaethu. Ac yn ddiweddar, sefydlodd yr Annibynwyr eglwys fechan fywiog yno. Gall fod y boblogaeth Gymreig yn yr holl leoedd uchod oddeutu 900.





 

 


(delwedd E1071) (tudalen 33)

(x227) (tudalen 33) TALAETH WISCONSIN.
 

12. WATERTOWN, Jefferson Co., Wis. - Tref boblog a bywiog yw hon. Saif oddeutu y Rock River, yn mhen gogleddol y sir, bron ar derfyn deheuol Dodge Co., tua 43 m. i’r gorllewin o Milwaukee. Mae y Milwaukee & St. Paul R.R. yn myned trwyddi i Madison, a Columbus, a Portage City, a La Crosse, a’r Chicago & North Western R.R. yn croesi trwyddi o Chicago i Minnesota Junction, Oshkosh, a Green Bay. Oddeutu 24 ml. yn ol, nid oedd ynddi ond dwsin o dai, tair store, ac un dafarn; ond yn awr cynnwysa dros 12 mil o drigolion, Ellmyniaid gan mwyaf; a cheir ynddi lawer o adeiladau rhagorol, a masnach fywiog. Mae llawer iawn yn gweithio yn y foundries a’r machine shops perthynol i’r railroads yno; ac ereill yn y melinau blawd, a’r factories gwlan a brethynau sydd yno. Ond nid llawer o Gymry sydd yn byw yno. Dichon fod yn y dref o 300 i 400, ac y mae rhai o honynt yn fasnachwyr ac yn grefftwyr cyfrifol.

Eglwys y T.C. yno. - Dechreuasant bregethu yno er ys llawer amser; a chodasant gapel da yno, ar Washington St. Mae yno eglwys fechan ymdrechgar. Aelodau, 15; plant, &c., 11; Ysg. Sab., 26. Casgliadau, $100. Diacon, Mr. John Jones.

Yr Eglwys ANNIBYNOL yn Watertown. - Sefydlwyd hi yn 1866, gan y Parchn. Griffith Evans, Griffith Jones, a William Watkins. Prynwyd y capel bychan, hardd, 40 wrth 30 tr., ar Third St., gan y Bedyddwyr Saesnig, am $900. Talwyd y rhan fwyaf. Y diacon cyntaf oedd Mr. John Evans, yr hwn a symudodd i Kansas. Ond y diacon yn niwedd 1870 oedd yr henafgwr parchus, Wm. Roberts, Ysw., gynt o eglwys Annibynol Llanegryn, Meirion, G.C. Ymfadodd i America yn y fl. 1828. Bu yn Emmett. Mae yn byw yn Watertown er y fl. 1867. Aelodau, 16; Ysg. Sab., 28; cynulleidfa, 50. Gweinidog, Parch. Cadwaladr D. Jones. Bu y Parch. Griffith Evans yn gweinidogaethu yma. Yr oedd yn byw yno yn 1870.

13. EMMETT, ger Watertown, Jefferson Co., Wis. - Saif township Emmett tua phedair milldir i’r gogledd-orllewin o Watertown. Gwlad amaethyddol dda iawn ydyw i godi gwenith Indrawn, a ffrwythau, &c. Ceir yno gyflawnder o bob math o goedydd rhagorol. Gwlad led wastad ydyw; ond y mae digon o godiadau yn y tir er cael rhediad da i’r dwfr o bob lle. (Dichon mai yn Dodge Co. y mae plwyf Emmett, oblegid y mae tref Watertown bron ar derfyn y ddwy sir, Dodge a Jefferson .)





 

 


(delwedd E1072) (tudalen 34)

(x228) (tudalen 34) Y GORLLEWIN PELL.



Gellid cael digon o dir y Llywodraeth yno tua 23 ml. yn ol am $1.25 yr erw; ond y mae y tyddynau diwylliedig yn awr yn gwerthu am o $60 i $70 yr erw. Ceir yno gyfleustra masnachol da.

Y sefydlwyr Cymreig cyntaf oeddynt Vincent Roberts, o Oneida Co., N.Y.; John Pugh a John Jones, o Lanwrin, Maldwyn; a Hugh Edwards a John Lewis, o blwyf Llanfihangel y Penant, Meirion, G.C. Prynasant diroedd y Llywodaaeth yno yn 1847. Sefydlodd llawer yno ar ol hyny ar wahanol amserau. Cymry yn awr, 100.

Yr Eglwys ANNIBYNOL yno. - Sefydlwyd yr eglwys yno yn niwedd y fl. 1847, gan y Parch. David Jones, Ridgeway, a’r Parch. Richard Morris. Yr oedd Mr. Morris yn byw y pryd hyny yn Delafield, 18 milldir o Watertown. Teithiodd oddiyno i Emmett, am lawer o flyneddau, a bu yn fugail gofalus i’r eglwys. Pregethai mewn tai ac ysgoldai. Codwyd y capel presenol yn niwedd 1861, 30 wrth 26 tr. Traul, $600. Llwyr dalasant ei ddyled en hunain. Arliwiwyd ef yn hardd, yn 1869. Bu yr eglwys, flyneddau yn ol, yn lluosocach - ymadawodd llawer o’r ardal i Sun Prairie, ac i Minnesota. Aelodau, 15; Ysg. Sab., 15; cynulleidfa 50. Diaconiaid - John Lewis, Lewis Lewis, Daniel Edwards. Post office, Watertown, Dodge Co., Wis. Gweinidog, Parch. Cadr. D. Jones. Bu y Parchedigion John Parry, Griffith Samuel, Richard Williams, a David S. Davies, a Griffith Evans yn gweinidogaethu yno.

14. IXONIA, Jefferson Co., Wis. - Gorwedda y township hwn tua 7 milldir i’r de-ddwyrain o Watertown. Mae ffordd dda yn arwain yno; ac y mae y Milwaukee & St. Paul R.R. yn myned trwy y lle, a depot yn y lle, yn cael ei gadw gan y Cymro parchus, Mr. H. Humphreys. Ardal amaethyddol ragorol am ei chynyrchion a’i ffrwythau, fel Emmett, yw hon hefyd. Dechreuodd y Cymry ei phoblogi yn 1846, pan y prynasant diroedd rhad y Llywodraeth. Dyma enwau y sefydlwyr cyntaf: Hugh Parry, John Parry, Griffith Humphrey, Humphrey Humphreys, John Griffiths, Robert Pritchard, Griffith E. Humphreys, Richard Humphreys, Owen Humphreys, Owen E. Humphreys, Robert Griffith (Llyfrwerthwr), o sir Gaernarfon, G.C.; Richd. Jones, Meirionydd; Evan Owen, Thos. Lewis, Edward.Lewis, Maldwyn, G.C.; Evan Davies, Rees Beynon, Evan T Evans, o sir Aberteifi, D.C.; Simon Jones a Richard





 

 


(delwedd E1073) (tudalen 35)

(x229) (tudalen 35) TALAETH WISCONSIN.

 

Griffiths, Steuben, N.Y. Yn niwedd 1870, yr oedd amrai o honynt wedi eu claddu yn mynwentau Ixonia. Dichon fod yn agos i 400 o Gymry yn yr ardal hon yn awr, ac y mae llawer o honynt yn bobl gyfoethog a chrefyddol. Buont yn addoli yn unol yma am flyneddau.

Eglwys y TREFNYDDION CALFINAIDD yno. - Sefydlwyd yr eglwys hon tua’r fl. 1801. Codwyd yr hen gapel yn 1802, 18 wrth 22 tr., a’r ail gapel a godwyd yn 1866, ar dir Evan T. Evans, Ysw., 30 wrth 36 tr. Trail, $1,500. Dim dyled. Swyddogion - Edward Lewis a John Roberts. Aelodau, 29; plant, 25; Ysg. Sab., 40. - Casgliadau, $172. Pregethir iddynt gan wahanol bregethwyr.

Eglwys yr ANNIBYNWYR yno. - Sefydlwyd yr eglwys hon mewn ysgoldy yno, yn 1853, gyda 12 o aelodau, ac un diacon, sef Mr. Evan Owen. Y gweinidog cyntaf yno oedd y Parch. Griffith Samuel. Bu yno am o 3 i 4 blynedd. Wedi hyny bu y brodyr Richard Williams, David S. Davies, a Griffith Evans, (mab Plas Ceidio, Lleyn, Arfon, G.C.,) yn gweinidogaethu yno. Eu gweinidog presenol yw, y Parch. C. D. Jones, Aelodau, 20; Ysg. Sab., 25; cynulleidfa, 70. Adeiladwyd y capel yn 1864, ar dir Mr. Evan Owens, yn agos i’r Depot, 26 wrth 20 tr. $400. Dim dyled.

15. OSHKOSH, Winnebago Co., Wis. - Gorwedda y dref gynyddol hon ar ochr orllewinol Llyn Winnebago. Gwastad a choediog yw y tiroedd am fildiroedd; ond y mae yn dir tra ffrwythlon wedi ei ddiwyllio. Awelon oerion a chwythant dros y llun yn nhymor y gauaf; ac mae yr Wolf River, yr hon a gyfyd yn sir Oconto, yn y gogledd oer, ac a ddylifa trwy goedwigoedd siroedd ereill hefyd am ugeiniau o filldiroedd, yn rhedeg heibio, neu drwy dref Oshkosh, ac yn ymdywallt i’r Winnebago Lake. Mae yr afon hon yn nodedig gyfleus i nofio agerddfadau, a choedydd; ac oblegid hyny mae llawer iawn o felinau llifio, a lumber yards wedi eu codi ar ei glanau yn Oshkosh, a hyny sydd yn rhoddi bywiogrwydd yn holl fasnach y lle. Yn 1870, yr oedd un o’r melinau llifio, a’r lumber yards mwyaf yn y lle yn meddiant ein cenedlgarwyr gwresog, Richard T. Morgan, Ysw., a’i dad a’i frawd. Mae yno lawer o fasnachwyr Cymreig dylanwadol - Richard E. Bennett, J. D. Swancott, Richard E. Jones, Thos. C. Williams, Henry M. Jones, John A. Jones, Richard Jones, Mr. Lloyd, David Kirkham; ac o dyddynwyr llwyddianus, Richard




 

 


(delwedd E1074) (tudalen 36)

(x230) (tudalen 36) Y GORLLEWIN PELL.
 Jones, John Morgan, Evan Owens, David Williams, &c. Dechreuodd y Cymry bregethu yno er ys dros ugain mlynedd. Cymry, 600.

Eglwys y T. G. yno. - Mae yno gapel da, ac eglwys fechan lewyrchus. Diaconiaid, 2; aelodau, 68; plant, 43; Ysg. Sab., 108. Casgliadau, $527. Dan ofal y Parch. Thomas Foulkes. Pregethwr, Mr. John K. Roberts.

Eglwys yr ANNIBYNWYR yno. - Sefydlwyd yr eglwys yno er ys dros 18 mlynedd, a chodwyd capel da yno yn fuan ar ol hyny; ac y mae yno yn awr eglwys fechan fywiog, dan ofal y gweinidog duwiol a ffyddlon, y Parch. John T, Lewis, gynt o Rhesycae, Sir Callestr.

16. ROSENDALE. - Ardal goediog ac amaethyddol ydyw. Dechreuwyd ei phoblogi gan y Cymry er ys dros ugain mlynedd. Gorwedda tua saith neu wyth milldir i’r de-orllewin o dref Oshkosh; ac y mae tref Ripon tua deuddeg milldir i’r gorllewin o’r ardal. Mae ein cenedl wedi meddianu milldirau lawer o’r wlad ffrwythlon hon; ac y mae gan y T.C. ddau gapel da, a dwy eglwys ffyddlon ynddi, dan ofal y Parch. Thomas Foulkes, ac ereill. Ac y mae gan y tyddyddwyr Cymreig un eglwys yno, dan ofal y Parch. Wm. Jones; a’r Wesleyaid un, dan ofal y Parch. John Jones; a’r Annibynwyr un, dan ofal y Parch. John T. Lewis. Bu amrai o weinidogion ffyddlon yn llafurio gyda’r Annibynwyr yn Oshkosh a Rosendale - sef John D. Davies, Griffith Griffiths, Humphrey Parry, a dichon ereill. Yn mynwent capel yr Annibynwyr yn Rosendale y claddwyd y bardd enwog a chadeiriol, Rhisiart Ddu o Wynedd. Mae yn wir deilwng i gael cofgolofn hardd ar ei fedd. Dichon fod yn yr ardaloedd hyn dros 800 o Gymry yn byw.


17. NEENAH, Winnebago Co., Wis. - Pedair neu bump o filldiroedd i’r gogledd, ar y Chicago & North Western R.R. o Oshkosh, y mae tref Neenah yn sefyll. Ma« yno ychydig o Gymry llwyddianus; ac y mae gan y T C, a r Bedyddwyr, a’r Annibynwyr, eglwysi bychain wedi eu ffurfio yno. Gall fod yno 200 o Gymry.






 


 

 


(delwedd E1075) (tudalen 37)

(x231) (tudalen 37) TALAETH WISCONSIN.
 
18. BERLIN, Marquette Co, Wis. - Saif y dref hon tu ag 20 milldir i’r gorllewin o Oshkosh, a thua 10 milldir i’r gogledd o dref Ripon. Lle nodedig fu, ac ydyw eto, am ei melinau llifo, &c. O’i deutu, a thu draw iddi i’r gogledd oer, y mae miloedd o filldirau petryal o’r coedydd mwyaf gwerthfawr, a miloedd o bobl yn gweithio ynddynt, ac yn enill eu bywioliaeth yn gysurus. Mae eu gauaf yno yn hir ac yn oer iawn. Mae gan y T.C. a’r B., a’r Annibynwyr, gapelau ac eglwysi Cymreig bychain yno hefyd. Parch. J. W. Jones yw gweinidog y Bedyddwyr yno; a’r Parch. Hugh Davies (yn awr o Middle Granville, N.Y.), a fu yn ddefnyddiol iawn yno gyda y Trefnyddion Calfinaidd. Poblogaeth Gymreig, 300.

Tebygol yw fod llawer o Gymry, a chenedloedd ereill, yn awr yn byw yn nghoedwigoedd siroedd Waushara, Adams, Portage, &c., a bod ganddynt sefydliadau bychain ynddynt, na chefais hysbysrwydd am danynt. Dymunwyf eu llwyddiant. Yn mhen ugain mlynedd eto, bydd miloedd mwy o Gymry gweithgar a chrefyddol yn poblogi gwahanol siroedd gogleddol Wisconsin.

19. COLUMBIA Co., Wisconsin. - Mae mwy na haner tiroedd y sir hon gyda y goreu yn y dalaeth, a’r gweddill yn ganolig - llawer o hono yn goediog, a llawer yn ddoldiroedd (prairies) ffrwythlon. Nid oedd ei phoblogaeth yn 1850 ond 9,565; ond yn 1870 yr oedd wedi cynyddu i 28,813. Dechreuodd Cymry parchus a chrefyddol Dolyddelan, a manau ereill yn Arfon, G.C., sefydlu ar y Welsh Prairies, ac yn ardal Cambria, er ys dros 25 ml. yn ol, ar diroedd nodedig iachus a ffrwythlon, wedi eu trefnu gan natur yn ddoldiroedd meillionog, ac yn goedwigoedd bychain (groves) prydferth. Yr oedd digonedd o diroedd rhad y Llywodraeth i’w cael yno y pryd hyny; ond nid oes ond ychydig o honynt i’w cael yn yr holl sir yn awr. Gwnaeth y Cymry ddewisiad da yma, a byddai yn dda i ymfudwyr newyddion Gymru eu hefelychu. Rhaid cael tiroedd da, a gwlad iachus, cyn y gellir disgwyl llwyddiant ar un sefydliad. Oddeutu 20 ml. yn ol, nid oedd Cymry wedi sefydlu yn un man arall yn Columbia Co., Wis., ond








 

 


(delwedd E1076) (tudalen 38)

(x232) (tudalen 38) Y GORLLEWIN PELL.

yn unig yn y lleoedd uchod. Welsh Prairie, a Cambria, oedd yn tynu sylw neillduol y byd Cymreig y pryd hyny, ac wedi hyny am rai blyneddau. Daethant yn sefydliadau cryfion ac enwog yn fuan. Yn haf y fl. 1857, bum yno mewn Cymanfa perthynol i’r Annibynwyr. Yr oedd Cambria yn bentref bychan hardd y pryd hyny, wedi ei adeiladu ar, ac oddeutu bryn bychan coediog, a’r reilffordd yn rhedeg heibio iddo, o Milwaukee drwy Beaver Dam, a Fox Lake, i Portage City. Yr oedd gan yr Annibynwyr a’r Wesleyaid gapelau ac eglwysi bychain yn y lle; ac yr oedd y Trefnyddion Calfinaidd yn adeiladu eu capel newydd mawr ar y bryn yn y pentref - yn hwnw y cynaliwyd ein Cymanfa, ac yr oedd yno dyrfa fawr o Gymry parchus. Yr oedd argoelion y pryd hyny y buasai Cambria yn dyfod yn dref boblog a llwyddianus; ond, er fy syndod, pan ymwelais â’r lle yn Medi, 1870, nid oedd wedi cynyddu ond ychydig iawn. Nis gwn beth fu yr achos neillduol o hyny; ond ymddengys i mi mai diffyg amlwg y Cymy yma, ac mewn lleoedd ereill, yw esgeuluso talu sylw priodol i’r rheidrwydd am godi trefydd, a sefydlu masnach ynddynt, er llwyddiant eu sefydliadau. Y pryd hyny nid oedd Randolph mewn bodolaeth; ond yn awr y mae yn dref fechan hardd ar y prairies, o fewn chwe’ milldir Tr dwyrain o Cambria. Y mae yno lawer o Gymry yn byw, ac yn yr ardaloedd amaethyddol oddeutu yno am filldiroedd.

Yn 1857, bum yn pregethu yn nghapel yr Annibynwyr, ac yn nghapelau y T.C. ar y Welsh Prairies, - safant fewn tair neu bedair milldir i’r de, a’r gorllewin, o bentref Cambria. Yr oedd ein hen gyfeillion anwyl, John Jones a’i deulu, gynt o’r Allt, ger Dinas Mowddwy, G.C.; a David Owen a’i deulu, gynt o Goetmor, Dolyddelan, Arfon, yn byw yno y pryd hyny ar eu tyddynau rhagorol, ac yn ffyddlon gydag achos y Gwaredwr. Ond y maent wedi marw yn yr Arglwydd er ys blyneddau, a’u plant yn etifeddu eu tyddynau ehelaeth a ffrwythlon. Gwelais hefyd dyddyn rhagorol o’r enw “Snowdon”, sef cartrefle dedwydd y Parch. William Jones, gydag amrai dyddynau ffrwythlon ereill ar y Welsh Prairies. Yr oedd gan y Trefnyddion Calfinaidd



 

 


(delwedd E1077) (tudalen 39)

(x233) (tudalen 39) TALAETH WISCONSIN.

lawer o eglwysi a chapelau yn y cymydogaethau hyny, o amgylch Cambria, y pryd hyny; ond erbyn heddyw y maent yn llawer lluosocach, ac wedi ymdaenu drwy yr holl sir, ac yn rhai o’r siroedd cyfagos. Wedi cwbl orphen y reilffordd o Watertown, trwy Columbus, sef prif dref sir Columbia, cynyddodd Columbus yn ddirfawr; ac y mae gan y T.C. eglwys gref ynddi, ac amrai eglwysi cryfion yn y wlad o’i deutu. Credwyf fod ganddynt yn awr yn Columbia Co., ac yn y siroedd nesaf ati, yn agos i 20 o eglwysi; 40 o ddiaconiaid; 1,000 aelodau; 800 o rai ar brawf, a phlant; 1,300 yn yr Ysgolion Sabbothol; a 3,000 o wrandawyr. Yn y fl. 1870, cyfranasant at y weinidogaeth yn agos i $3,800; at yr achos cenadol, $450; at wahanol achosion, $5,000. Ardderchog! Ond rywfodd ni chyfranasant ddim y fl. hono at y Beibl Gymdeithas. Nis gwyddom yr achos hyny. Ac y mae gan yr enwad crefyddol parchus hwn lawer iawn o weinidogion a phregethwyr efengylaidd, doniol, a dylanwadol, yn y sir hon, a’r cymydogaethau cyfagos iddi; sef William Jones, Rees Evans, T. Roberts, J. J. Roberts, Thomas Hughes, E. Griffiths, William M. Jones, Morris Jones, William Roberts, ac amrai ereill. Mae eu clod yn yr holl eglwysi, a’u gwobr yn nghadw gyda’u Duw. Yn mysg y deugain diacon sydd yn eu heglwysi, y mae amrai o henafgwyr yn llawn o’r Ysbryd Glan, ffydd, a doethineb, yn golofnau cryfion yn eu heglwysi. Ac yn eu heglwysi y mae amrai lenorion, beirdd, a cherddorion enwog. Dymunwyf eu parhaol lwyddiant. Dichon fod poblogaeth Gymreig Columbia Co. a’r ardaloedd cyfagos iddi yn agos i 5,000.

Eglwys y WESLEYAID Cymreig yn Cambria, Columbia Co., Wis. - Sefydlasant eglwys, a chodasant gapel da yno er ys blyneddau. Ni bu erioed, ac nid ydyw eto yn eglwys gref. Gall fod ynddi yn awr tua 40 o aelodau; ceir yn eu plith amrai o bobl dda a ffyddlon. Y Parch H. H. Jones oedd eu gweinidog yn l870.

Eglwysi yr ANNIBYNWYR yn Columbia Co., Wis. - Sefydlasant eglwys, a chodasant gapel bychan ar y Welsh Prairies, er ys dros ugain mlynedd yn ol, lle bu y Parch. Jenkin Jenkins, ac wedi hyny y Parch. John Parry, ac ereill, yn gweinidogaethu. Yu 1870 yr oedd yr eglwys hono, a’r capel hwnw, wedi






 



 

 


(delwedd E1078) (tudalen 40)

(x234) (tudalen 40) Y GORLLEWIN PELL.

cael eu symud yn mhellach i’r de; ac y mae yno eto eglwys fechan ffyddlon. Dechreuwyd eglwys, a chodwyd capel cyntaf yr Annibynwyr yn mhentref Cambria yn amser y Parch. John Parry; wedi hyny codasant gapel newydd da ar y bryn, mewn lle mwy cyfleus yn y pentref; ac y mae yno eglwys fechan egwyddorol a ffyddlon. Yno y mae Mr. Roger Rogers, gynt o Penllys, Maldwyn, G.C., yn ddiacon ffyddlon er ys blyneddau; gyda llawer ereill o Annibynwyr selog a gweithgar, sef Mr. Richards, Edward Williams, Evan Davies, John Edwards, Evan Hughes, Robt. W. Roberts, Griffith S. Jones, ac ereill. Bu y Parch. Griffith Jones, gynt o Lanberis, Arfon, G.C., yn gweinidogaethu yno am flyneddau; a safodd yn wrol dros dwyfoldeb yr Ysgrythyrau Santaidd, ac egwyddorion sylfaenol Cristionogaeth. Yn 1870 yr oedd yn byw gyda’i deulu lluosog ar ei dyddyn ffrwythlon o fewn dwy filldir i’r pentref. Bu y Parch. David Jones, gynt o Hermon, Sir Gaerfyrddin, D.C., yn gweinidogaethu yno am oddeutu blwyddyn. Symudodd oddiyno yn Medi, 1870, i Gomer, Ohio. Y mae gan yr Annibynwyr eglwys fechan arall wedi ei sefydlu er ys rhai blyneddau, yn rhywle rhwng Welsh Prairie a Randolph. Yr oedd y tair eglwys mewn undeb a’u gilydd yn amser G. Jones a D. Jones. Nis gwn pwy sydd yn gweinidogaethu yno yn awr. Mae y T.C. a’r Annibynwyr yn unol iawn a’u gilydd yn y cymydogaethau hyn, fel y mae yn ddyledswydd arnynt, ac yn anrhydedd iddynt.

Yn ardal Cambria y bu Mr. Richard Jones, brawd y Parch. John Jones, o Danycastell, Dolyddelan, G.C., a’i briod Mrs. Jones, merch yr henafgwr duwiol Evan Owen (T.C.,) Llanrwst, G.C., yn byw; ac y mae llawer o’u plant a’u perthynasau yno eto yn eu holoesi. Yno hefyd y mae y meddygwr enwog Dr. John Williams, gynt o ardal Trefriw, Arfon, G.C., a’i chwaer; a’i frodyr yn byw. Bu John ab Jones, ac ereill, yn fasnachwyr cyfrifol yn Cambria; ac y mae yno amrai o lenorion, beirdd, a cherddorion enwog, megys y llenor dysgedig, y Dr. Williams; y bardd medrus, Mr. Richard Jones, o’r Hendre; a’r cerddor campus, Elias B. Williams, Ysw., ac ereill. Cynaliwyd yno amrai o Eisteddfodau enwog.
20. PORTAGE CITY, Columbia Co., Wis. - Saif y dref fywiog hon tua 18 milldir i’r gorllewin o bentref Cambria; 48 m. o Watertown; 28 m. o Columbus. Mae yno ychydig o Gymry cyfrifol; ac y mae gan y T.C. eglwys fechan yno er ys blyneddau. Yno y mae dwy






 

 


(delwedd E1079) (tudalen 41)

(x235) (tudalen 41) TALAETH WISCONSIN.

gangen reilfffordd y Milwaukee & St. Paul, o Watertown, a Horicon, yn uno; ac y mae 62 milldir oddiyno i Tomah, a 104 milldir i ddinas La Crosse ar lan y Mississippi.

21. BANGOR, La Crosse Co., Wis. Saif yr ardal amaethyddol hon, a’r pentref bychan, hwn, ar wastadedd eang, rhwng bryniau isel, coediog (a nodedig ffrwythlon wedi eu diwyillio), 89 m. o Portage City, a 27 milldir o Tomah, a 15 milldir o La Crosse. Mae y reilffordd yn myned trwyddo o Milwaukee i La Crosse. Ynddo y mae un heol fechan, ac amrai o stores, yn cael eu cadw gan Gymry parchus; post office, a brewery; un felin flawd, gan Baxter & Co.; shop saer, gan Mr. David E. Davies; shop gôf, gan Mr. John Prythroe; shop teiliwr, gan Mr. Lewis Williams; a shop grydd, gan Mr. Humphrey Pugh. Mae David D. Jones, Ysw., a David Samuel, ac R D. Edwards, a D. Jones, a Robert Bryan, a John G. Jenkins a John Wheldon, Ysw., yn ddynion parchus a chyfrifol yma, gyda lluoedd ereill. Sefydlwyr Cymreig cyntaf y lle oeddynt, Evan Jones, o Canada West; D. J, Williams, D. J. James, a Wm. Jones, ardal Delafield; a John Wheldon, o Steuben, N.Y.; tyddynwyr oll. Daethant yno yn 1853. Daeth amrai ereill yno yn 1854. Yr oedd llawer o dir y Llywodraeth i’w gael yno y pryd hyny, a thir ail-law o $2.50 i $30. Tir tywodlyd, a’r black loam, sydd ar y gwastadedd. Rhed y La Crosse River yn agos i’r pentref, yr ochr ogleddol, a’r Dutch Creek drwy y pentref. Tiroedd y bluffs yn goediog, ac yn dda i godi gwenith ar eu llethrau a’u godrau. Prisiau yn awr o $20 i $50 yr erw. Dim tiroedd y Llywodraeth i’w cael yno yn awr.

Mae gan y Trefnyddion Calfinaidd eglwys gref a chapel da yn mhentref Bangor. Diaconiaid, 3; aelodau, 59; plant, &c., 44; Ysg. Sab., 55. Casgliadau, $470. Mae ganddynt ddwy arall - un yn Blaendyffryn, a’r llall yn. Cataract, a’r Parch. Thomas J. Rice, a Mr. David Hughes, a Mr. D. F. Jones, yn gweinidogaethu iddynt.

Eglwys yr ANNIBYNWYR yn Bangor, La Crosse Co., Wis. - Sefydlwyd yr eglwys hon yn niwedd y fl. 1855, gyda 18 o aelodau. Diaconiaid cyntaf, Thomas H. Eynon a John Wheldon. Y Parch. Mr. Avery, o Sparta, a weinyddodd ar yr achlysur, mewn




 

 


(delwedd E1080) (tudalen 42)

(x236) (tudalen 42) Y GORLLEWIN PELL

ysgoldy yn y lle. Adeiladwyd y capel yn y fl. 1858, 28 tr. wrth 36 tr. Traul, $800. Dim dyled. Aelodau yn bresenol, 45; Y.S., 35; cynulleidfa, 50 i 60. Bu y gweinidogion canlynol yn llafurio yno, sef Samuel Jones, John Davies, a Humphrey Parry. Yr oedd Mr. Parry, (gynt o Dolgellau,) yn byw yno, ac yn gweinidogaethu i’r eglwys yn niwedd y fl. 1870. Bu yno am 5 ml. cyn hyny yn gysurus a llwyddianus. Poblogaeth Gymreig y pentref a’r ardal, 400.

22. FISH CREEK, ger Bangor, La Crosse Co., Wis. - Saif yr ardal hyfryd a ffrwythlon hon oddeutu 3 milldir i’r de-ddwyrain o bentref Bangor. Fel hyn yr ysgrifenodd Mr. Evan Jenkins am dani: - “Rhyw ddarnau o wastadeddau ffrwythlawn, yn cael eu hamgylchu gan fryniau coediog yw Fish Creek. Mae y mynyddau o’i hamgylch yn dragywydd, a’u copäau cysgodfawr yn herio yr ystormydd o bob cyfeiriad. Y ddaiar yma sydd ddwfn a. brâs a graianog, a chynyrcha bob grawn a berthyn i’w gwregys tymherus yn doreithiog. Llinellir y gwastadedd yn mhob cyfeiriad gan ffrydiau grisialaidd o ddyfroedd iachus. Mae pawb o’r sefydlwyr cyntaf yma wedi cael manteision i godi eu hunain uwchlaw angen, ac yn byw yn eu palasau gwychion, a’u hysguboriau yn llawnion o bob lluniaeth. Eu Post Office sydd yn Bangor, 4 milldir i’r gorllewin. Ffurfiwyd eglwys y Trefnyddion Calfinaidd yn Gorphenaf, 1855. Rhif yr eglwys y pryd hwnw oedd 14, - yn awr 54 (gyda y rhai sydd ar brawf, a’r plant.) Ysgol Sabbothol, 30; casgliadau, $124.70. Diacon - John R Jones. Ffurfiwyd yr eglwys Gynnulleidfaol Hydref 16, 1859, gan y Parch. John Davies, Spring Green, a William W. Jones, Sacsville. Dewiswyd Thomas H. Eynon a David W. Jones yn ddiaconiaid. Aelodau, 20. Y Parch. John Davies a ddechreuodd weinidogaethu yma Mawrth 4, 1860. Rhif yr aelodau yn awr (Rhag. 23, 1870) yw 24. Diaconiaid - Thomas H. Eynon ac Evan Ll. Evans. Heb weinidog yn bresenol. Nid oes yma na llenorion, na beirdd, na cherddorion, ond pawb braidd yn gydradd. Poblogaeth Gymreig yr ardal, 225. Mae y dyfroedd a’r awelon yn iachus. Dim tir y Llywodraeth yma yn awr. Y mae yn anhawdd i dyddynwyr gael lle gwell na Fish Creek.”



 

 


(delwedd E1081) (tudalen 43)

(x237) (tudalen 43) TALAETH WISCONSIN,

23. LA CROSSE, La Crosse Co., Wis. - Saif y dref hon ar lan afon y Mississippi, ar derfyn gorllewinol talaeth Wisconsin, 195 milldir o Milwaukee, a 15 milldir o dref Bangor. Tref gynyddol yn ei phoblogaeth, a bywiog yn ei masnach, ydyw, Mae yn gyfleus i’r reilffordd i’r wlad, ac i’r agerddfadau ar yr afon. Mae yno amrai Gymry parchus yn byw er ys blyneddau; ac y mae gan y T.C. eglwys a chapel yno, a’r Parch. D. R Williams yn gweinidogaethu iddynt. Gellir myned oddiyno gyda’r agerddfadau ar y Mississippi i Winona, neu i St. Paul, yn Minnesota, ac o Winona i Owatonna a St. Peter, a Mankato; neu gyda y reilffordd yr ochr draw i’r afon i Austin Junction, Minnesota. Dichon fod yn La Crosse tua 150 Gymry.

24. GLENDALE, Monroe Co., Wis. - Ardal amaethyddol dda yw hon, a gellir cael tiroedd am brisiau isel ynddi. Sefydlodd y Parch. William W. Jones, gynt o Lanerfil, Maldwyn, G.C., a’i deulu yno yn 1868, a phregetha i amrai o eglwysi Saesonig. Mae amrai o Gymry wedi sefydlu yno, a diau y bydd mwy eto. Nid yw yn mhell o Station Tomah, ar y reilffordd o Portage City i La Crosse.



 

 


(delwedd E1082) (tudalen 44)

(x238) (tudalen 44)

PENNOD IV.

TALAETH MINNESOTA.

Un o’r Talaethau mwyaf Gogleddol yn yr Undeb ydyw; ond y mae ei Hinsawdd yn nodedig iachus, a’i Thiroedd yn dra Ffrwythlon. Miliynau o Diroedd Rhad y Llywodraeth i’w cael ynddi . Ei Llynoedd, ei Hafonydd, ei Reilffyrdd, ei Dinasoedd, &c. Y Sefydliadau Cymreig yn Siroedd Blue Earth, a Le Sueur. South Bend, Judson, Butternut Valley, Mankato, St. Paul, &c. Eu Heglwysi a’u Gweinidogion, eu Beirdd, a’u Llenorion. Ymosodiad yr Indiaid. Ei Diogelwch presenol T.d. 44-54

Un o’r talaethau mwyaf gogleddol yn yr Undeb yw hon. Terfynir hi o du y gogledd gan y Tiriogaethau Prydeinig; o du y dwyrain gan Lake Superior, afon Mississipi, a rhan o Wisconsin; o du y de gan dalaeth Iowa; ac o du y gorllewin gan dalaeth Dakota. Dechreuwyd ei phoblogi gan ymfudwyr o New England, oddeutu y lle y mae dinas St. Paul yn sefyll yn awr. Derbyniwyd hi i’r Undeb Mawrth 3, 1849. Yr oedd ei phoblogaeth yn 1850 yn 6,077; yn 1860 yn 172,023; ac yn 1870 yn 424,543. Mae ynddi yn awr 83 o siroedd; a’r rhai canlynol sydd fwyaf poblogaidd, sef Ramsey (tudalen n yr hon y mae dinas St. Paul), a Hennepin, a Carver, a Scott, a Dakota, a Washington, yn agos yno; a Goodhue, a Wabasha, a Winona, a Houston, ar lanau y Mississippi; a Fillmore, a Freeborn, a Mower, a Faribault, ar derfynau Iowa, a Nicollet, a La Sueur, ger St Peters; a Rice, a Steele (lle saif Owatonna), a Blue Earth; lle mae Mankato, a South Bend. Mae yr holl siroedd yna yn gorwedd gyda’u gilydd ar gorneildde-ddwyreiniol y dalaeth; ac nid ydynt oll yn nghyd ond prin un ran o wyth o holl diroedd siroedd ereill y dalaeth, y rhai sydd yn gorwedd tu draw iddynt i’r gogledd ac i’r gorllewin, yn y rhai nid oes eto ond ychydig ugeiniau neu ganoedd o drigolion. Mae cyflawnder o diroedd rhad y Llywodraeth i’w cael eto yn y dalaeth ragorol hon; a gellir cael digon o diroedd da a ffrwythlon am brisiau rhesymol gan berchenogion y gwahanol reilffyrdd yno. Mae cyflawnder o goedwigoedd, a doldiroedd (prairies), ac afonydd, a llynoedd, a llawer o



 

 


(delwedd E1083) (tudalen 45)

(x239) (tudalen 45) TALAETH MINNESOTA.

fryniau isel, a dyffrynoedd, a gwastad-diroedd, a digonedd o geryg, a llechi, a mwnau, i’w cael yn Minnesota. Mae argoelion y daw yn un o’r talaethau mwyaf cyfoethog yn yr Undeb cyn pen ugain mlynedd eto. Mae ynddi amrai o reilffyrdd rhagorol, a chyfleus i deithwyr a masnachwyr yn awr; sef,

1. Y Milwaukee & St. Paul R.R., yr hon sydd yn rhedeg o Milwaukee i Prairie du Chien (tudalen n Wisconsin), ac o McGregory trwy Lime Spring (tudalen n Iowa), a thrwy Austin ac Owatonna i St. Paul (tudalen n Minnesota.)

2. Y Winona & St. Peter R.R., yr hon sydd yn rhedeg o Winona trwy Rochester, ac Owatonna, a Janesville, i St. Peters, a Mankato; ac yn fuan a weithir yn mlaen gyda glan afon Minnesota tua Dakota.

3. Y St. Paul & Sioux City R.R., yr hon sydd yn awr yn rhedeg o St. Paul tua’r de-orllewin, heibio i Mendota Junction, a Le Sueur, a St. Peter, a Mankato, a South Bend, i Lake Crystal, i Madella (tudalen n Watonwau Co.,) ger sefydliadau y Cymry
yn Blue Earth Co.; ac yn fuan a weithir oddiyno i Sioux City, yn ngogledd-orllewin talaeth Iowa, nid yn mhell o Council Bluffs, ac Omaha.

4. Maent yn prysur weithio reilffordd arall o Mankato i Cedar Falls, a Cedar Rapids, Oskaloosa, a Burlington, a manau ereill yn Iowa.

5. Mae reilffordd arall, sef y Southern Minnesota R.R, yn cael ei gwneyd o’r Grand Crossing, gyferbyn a La Crosse, Wis., trwy Lanesboro, i Austin Junction, ac i Rochester, &c.

6. Ond y “Northern Pacific Railroad,” yr hon sydd yn awr yn cael ei gweithio yn brysur o Dunleith, wrth ben gorllewinol Lake Superior, ac o St. Paul a Minneapolis, ar y Mississippi, i ganoldir Minnesota, ac oddiyno trwy ganol talaethau Dakota a Montana i Portland, yn Oregon, ac i’r Puget Sounds, yn Washington, ar lan y Môr Tawelog, a rydd fywyd newydd i amaethyddiaeth, masnach, a



 

 


(delwedd E1084) (tudalen 46)

(x240) (tudalen 46) Y GORLLEWIN PELL

chelfyddydau Minnesota. Mae gan feddianwyr y reilffordd hon dros haner can’ miliwn (50,000,000) o erwau o dir rhagorol, yn cynnwys coedwigoedd, doldiroedd, a mwnau, ar werth yn awr am brisiau isel iawn. Ysgrifenydd y cwmni yw Samuel Wilkeson, Ysw., 120 Broadway, New York. Mae eu bonds gwerthfawr, y rhai a dalant $7.30 y cant o log blyneddol mewn aur, yn awr ar werth hefyd gan Jay Cooke & Co., Bankers, Philadelphia. Ceir pob hysbysrwydd am diroedd y Llywodraeth a’r dalaeth yn y llyfrau bychain a gyhoeddwyd gan D.C. Evans, Ysw., Minneinnenopa Falls, South Bend; a chan John T. Williams, Ysw., a Mr. Ellis Ellis (Glan Dyfi), Mankato, Blue Earth Co., Minnesota.

BLUE EARTH CO.

Mae y Cymry, gan mwyaf, wedi sefydlu yn siroedd Blue Earth a Le Sueur, oddeutu dinasoedd Mankato a St. Peter; ac yn wasgaredig mewn manau ereill. Dewisasant diroedd rhagorol am gynyrchu pob math o ydau, yn enwedig gwenith. Enwau y sefydlwyr cyntaf yn 1855 yw David C. Evans, South Bend; Humphrey Jones, Judson; William Jenkins, William C. Williams, a David Williams a’i deulu, a ddaeth yno o swydd Bradford, Pa.; a William R. Price, Ysw., gof, o Lanrwst, G.C., ac ereill. Daeth llawer o Gymry parchus yno wedi hyny o flwyddyn i flwyddyn; ac y maent yn awr wedi meddianu y rhanau goreu o blwyfau South Bend, Judson, Butternut Valley, a Cambria, yn Blue Earth Co.; a bernir fod y boblogaeth Gymreig yno yn awr dros 1,500. Tref hardd, fywiog, a chynyddol, ar lan afon Minnesota, rhwng y bryniau coediog a phrydferth, yw Mankato. Mae yno amrai o Gymry yn fasnachwyr llwyddianus, sef John T. Williams, Isaac Cheshire, Richard T. Thomas, ac ereill. Yno y mae yr adeiladydd cywrain Griffith Williams, Ysw., gynt o Trenton, N.Y., yn byw. Mae gan y T.C. gapel Cymreig



 

 


(delwedd E1085) (tudalen 47)

(x241) (tudalen 47) TALAETH MINNESOTA.

bychan yno. Credwyf y daw Mankato yn lle mawr, cyfoethog, a dylanwadol.

Nid yw South Bend ond pentref bychan, tua thair milldir i’r de o Mankato. Saif ar ddau fryn hyfryd, yn agos i droad (bend) yr afon Minnesota. Mae yno rai masnachwyr Cymreig cyfoethog, sef William W. Davies, Ysw., gynt o’r Rhiwlas, Maldwyn, G.C.; William R Price, ac ereill; ac y mae llawer o dyddynwyr Cymreig llwyddianus yn byw oddeutu yno. Gerllaw yno y mae cartrefi D.C. Evans, Thos. M. Pugh, Edward Thomas, Robt. E. Williams, James P. Thomas, &c. Mae gan yr Annibynwyr a’r Presbyteriaid Cymreig gapeli bychain yn South Bend; ac y mae gan y T.C: gapel o’r enw Sion, o fewn tair milldir i’r de oddiyno. Gerllaw yno y mae y Parch. Robert D. Price (W.,) a’i deulu, gynt o Bont-y-gath, Maenan, Llanrwst, yn byw; mae ganddo dyddyn da; gweithia ei gelfyddyd (gof), a phregetha yn achlysurol yn y gwahanol gapelau yn Gymraeg a Saesonaeg.

Saif sefydliad Judson tua deng milldir i’r gorllewin South Bend, yn un o’r ardaloedd amaethyddol mwyaf dymunol a ffrwythlawn a welais erioed - ar y prairie, y ac yn y mân-goedwigoedd sydd ar ochr ddeheuol afon Minnesota. Yno y mae capel newydd mawr wedi ei adeiladu gan y Trefnyddion Calfinaidd. Gwlad newydd yw, a llawer o’r tiroedd heb eu diwyllio eto. Mae y Parchn. Richard W. Jones (T.C.,) gynt o Floyd, N.Y., a William Roberts (T.C.,) gynt o Sir Fon, G.C., ac ereill, wedi adeiladu tai da yno, rhai â choed, ac ereill â phriddfeini. Yn yr ardal hon hefyd y mae y Parch. Philip Peregrine (A.,) yn byw. Yno y mae Jerusalem a Moriah y Trefnyddion Calfinaidd, ac y mae ynddynt gynulleidfaoedd cryfion; ac y maent yn pregethu mewn ysgoldy yno hefyd. Plwyf eang yw Judson.

Saith neu wyth milldir yn mhellach i’r gorllewin o gapel Jerusalem y saif capel y T.C. o’r enw Horeb, mewn ardal goediog a ffrwythlon, ac yn agos i’r prairies. Mae llawer o Gymry parchus yn byw oddeutu y capel hwnw. Tua milldir tu draw iddo, i’r gorllewin, y mae ty a thyddyn gwerthfawr y Parch. Jenkin Jenkins (A.,) un o’r gweinidogion mwyaf doniol a ffraeth



 

 


(delwedd E1086) (tudalen 48)

(x242) (tudalen 48) Y GORLLEWIN PELL

yn yr holl wlad. Da oedd genyf ei weled ef a’i deulu mor gysurus. Mae un o’i ferched yn athrawes ddysgedig yn Mankato.

Oddeutu pedair milldir o gapel Horeb, drwy y coedydd, a thros y prairies, tua’r de, y saif capel newydd Bethel (T.C.,) ac y mae yno eglwys fywiog, a llawer o Gymry ymdrechgar yn byw.

Rhwng Horeb a Bethel yr oedd tyddyn y Parch. Joseph Rees (Presbyteriad.) Daeth ef a’i deulu yno o Pittston Ferry, Luzerne Co., Pa., tua’r fl. 1862.

Fel hyn yr ysgrifena y Parch. Jenkin Jenkins am diroedd sefydliadau Cymreig y Blue Earth Co.: - “Enw y sefydliad yw Blue Earth County; cynnwysa y rhan fwyaf o blwyfau South Bend, Judson, Butternut Valley, a Cambria. Gorwedda yr ochr ddeheuol i afon Minnesota, tua chan’ milldir i’r de-orllewin o St. Paul; a thua dau gan’ milldir i’r gogledd-orllewin o La Crosse, Wis. Ardal amaethyddol yw - pridd rhydd, tywyllgoch, o ddwy i dair troedfedd o ddyfnder; ond y rhan fwyaf yn ddolair (prairie), heb goed na cheryg; eto ceir yma lawer o goed yn agos i’r afonydd a’r ffrydiau dyfroedd; a maengloddiau mewn rhai manau er cael ceryg. Mae yma lawer o geryg calch; a digonedd o ddwfr braidd yn mhob man, o natur galed. Pris y tir sydd wedi ei sefydlu, a thai gweddol dda arno, ac wedi ei amgau, ac yn gyfleus i’r farchnad a’r railroads, sydd o $15 i $25 yr erw. Ond tua 60 milldir yn mhellach i’r gorllewin, gellir prynu tiroedd da am o $10 yr erw i lawr hyd diroedd y Llywodraeth, am $1.25 yr erw; a gellir cael 160 o erwau am ddim dan yr “Homestead Act,”ond talu $15 i’r Land Offlce am ei fesur, ac wedi byw arno a’i lafurio am bum mlynedd, ceir deed arno gan y Llywodraeth. Gellir cael tir felly am ganoedd o filldiroedd oddiyma i’r gorllewin; ac y mae yn gystal tir ag sydd yn bod yn un lle arall o’r byd, ond ei f od yn ei gyflwr natur; nid oes ynddo un bont i groesi afon; efail gof, melin, nac ysgol; ac ni bydd hyd nes y gwneir hwynt. Mae o’n hamgylch sefydliadau o Germans, Norwegians, Yankees, Swedes, ac ambell i Wyddel. Mae hon yn wlad hynod am iachusrwydd - y gauaf yn lled oer am fisoedd Rhagfyr, Ionawr, Chwefror, a rhan o fis Mawrth; - y gwanwyn a’r fall yn hyfryd dros ben, - a’r haf ar y twymaf. Wrth gyferbynu y gwahanol dymhorau a’u gilydd, mae yn rhagori ar bob un o’r talaethau ereill yr ochr ddwyreiniol i’r Mynyddoedd Creigiog; am ei chynyrch, hi yw yr oreu am wenith. Mae ynddi ddarpariadau di-ail at ysgolion dyddiol.”

Eglwysi y
TREFNYDDION CALFINAIDD yn Blue Earth Co. - 1. Mankato. - Mae ganddynt yno gapel bychan da, ac eglwys ffyddlon. Aelodau, 32; casgliadau, $144. Gweinidog, Parch. Wm. Roberts. 2. Sion, South Bend. - Mae yma gapel ac eglwys



 

 


(delwedd E1087) (tudalen 49)

(x243) (tudalen 49) TALAETH MINNESOTA.

weithgar. Aelodau, 42; ar brawf a phlant, 40; Ysg. Sab., 60; casgliadau, $186. Diaconiaid, E. H. Evans, Evan Evans, R. Hughes. Pregethwyr, Mr. Joseph Hughes a Mr. Edward Thomas, South Bend; efe yw Ysgrifenydd y Gymanfa.

3. Jerusalem, Judson. - Mae yma gapel mawr, ac eglwys gref; aelodau, 60; casgliadau, $100. Gweinidogion, Richard W. Jones, Wm. M. Jones. Diaconiaid, Jabes Lloyd a John Evans. -

4. Moriah,, Judson. Mae yno gapel ac eglwys fechan, dan ofal y Parch. Wm. M. Jones.

5. Bethel, Judson. - Mae yno gapel newydd; aelodau, 34; plant, &c., 28; Ysg. Sab., 42; casgliadau, $74.58. Diaconiaid, Thomas Richards, John Jones, a W. Jenkins. Pregethwr, John Roberts. Pregetha y T.C. hefyd mewn un neu ddau o ysgoldai.

6. Horeb, Butternut Valley. - Mae yno gapel ac eglwys; aelodau, 45; Ysg. Sab., 84; casgliadau, $125. Gweinidog, Parch. David M. Jones. Diaconiaid, John Watters, Thomas Jones, Richard Roberts, David S. Davies, Owen Morris.

Eglwys yr ANNIBYNWYR yn Blue Earth Co. - 1. South Bend, - Sefydlwyd yr eglwys hon gan y Parch. Jenkin Jenkins, Rhagfyr 11, 1859, yr hwn a fu yn gweinidogaethu iddi hyd Awst, 1869. Aelodau, 14. Diaconiaid, Thomas Evans a William W. Davies, ac wedi hyny Griffith Roberts. Addolent mewn ty log bychan. Yn Awst, 1860, adeiladwyd y capel, 20 tr. wrth 30 tr. Traul, $700. Llwyr orphenwyd ef yn 1861, a thalwyd ei ddyled. Cafodd yr eglwys a’r gynulleidfa hon lawer o hyfrydwch ac adeiladaeth wrth wrando ar yr hen weinidog parchus Jenkin Jenkins, yn pregethu ac yn esponio yr Ysgrythyrau yn ei ddull ffraeth a threiddgar ei hunan. Bu y Wesleyaid Cymreig yn cyd-addoli a’r eglwys hon am lawer o flyneddau (tudalen n amser Mr. nkins), a’r Parch. Robert D. Price yn gweinidogaethu iddynt. Dechreuodd y Parch. Griffith Samuel weinidogaethu yma yn Mawrth, 1870, a gwnaeth lawer o ddaioni yn y gymydogaeth. Rhifedi yr aelodau yn 1871, oedd 24; Ysg. Sab., 40; cynulleidfa, 60. Diaconiaid, Thomas Evans a Griffith Roberts. Ysgrifenydd, Wm. W. Davies. Mae y brawd Wm. R. Price, Ysw., yn aelod defnyddiol yn yr eglwys hon; ac y mae yma ganu cynulleidfaol da iawn, dan arweiniad Wm. W. Davies, Ysw. Er nad yw yn eglwys luosog, mae yn un weithgar a heddychol. 2. Yr Eglwysi Annibynol dan ofal y Parch. Philip Peregrine. - Mae yr eglwysi bychain hyn yn ymgynull mewn tai ac ysgoldai, yn ardaloedd Judson, Butternut Valley, &c., ac y mae amrai o aelodau cyfrifol yn perthyn iddynt. Nid oedd ganddynt yr un capel wedi ei adeiladu yn niwedd y fl. 1870 Mae y brawd Mr. Peregrine yn weinidog da i Iesu Grist, yn Gristion enwog, ac yn gallu pregethu yr efengyl yn rhwydd yn Gymraeg a Saesonaeg.

Eglwys yr HENADURIAETHWYR Cymreig yn Blue Earth Co. - Mae un yn South Bend - (bu dan ofal y Parch. David Lewis am ychydig amser yn 1871; bu ef farw yno) - ac un arall yn Butternut



 

 


(delwedd E1088) (tudalen 50)

(x244) (tudalen 50) Y GORLLEWIN PELL

Valley, dan ofal y Parch. Joseph Rees. Eglwysi bychain ydynt. Perthynent unwaith i’r T.C. Mae ychydig o Wesleyaid a Bedyddwyr Cymreig yn yr ardaloedd hjmy; ond ni ddarfu iddynt ffurfio eglwysi, na chodi capelau yma. Bydd y gweinidog ieuanc ffyddlon y Parch. Robert D. Price, (W.,) a’r hen weinidog synwyrgall, y Parch. William Williams, Judson, P. O., (B.,) yn pregethu yn aml iddynt.

LE SUEUR CO.

Fel y canlyn yr ysgrifenodd y Parch. Richd. Hughes (T.C.,) am y sefydliad Cymreig hwn: - “Yn y fl. 1853 y daeth y Cymry gyntaf i ymsefydlu yn y swydd nchod, mewn lle a alwyd wedi hyny yn drefgordd Saron (Sharon township); erbyn heddyw y maent wedi ymledu i blwyfau Cleveland, Kasota, ac Ottowa. Mae rhan o’r sefydliad mewn tir coediog iawn, am hyny gelwir ef “Y Coed Mawr;” ac y mae y rhan arall o hono mewn prairies o’r fath oreu. Nid oes gwell tir yn y dalaeth am gynyrchu gwenith, haidd, ceirch, Indrawn, corsenau siwgr (sorghum), gwair, &c. Ei bris yw o $10 i $25 yr erw, yn ol ei natur a’i ddiwylliant. Saif o fewn ychydig filldiroedd i dair tref farchnadol, sef Le Sueur, St. Peters, ac Ottowa. Yn yr olaf, sef Ottowa y mae y post office fwyaf cyfleus i’r Cymry. Y pellderau o’r sefydliad hwn i ddinas St. Paul, i’r gogledd, yw 70 milldir; ac i dref Mankato, i r de-orllewm, tuag 20 milldir; acy mae reilffordd yn rhedeg o’r naill i’r llall. Gall teithwyr gael hyd i’r sefydliad trwy ddisgyn yn Le Sueur, neu Ottowa.

“Rhifedi presenol y Cymry yn y sefydliad sydd tua 143, ac y maent gan mwyaf oll yn enwog am eu moesoldeb a’u crefydd. Ond y mae cenhedloedd ereill yn ddibris iawn o r Sabboth, yn enwedig yr Ellmyniaid a’r Gwyddelod; eto, teg yw dyweyd fod eithriadau anrhydeddus yn eu plith hwythau. Hyd cyffredin y gauaf yw o bedwar i bum’ mis. Dechreua yn Tachwedd, a diwedda yn niwedd Mawrth. Ceir yma auaf oer, ond sych ac iachus; gwanwyn hyfryd; haf cynes, a hydref o’r fath oreu.

“ Nid oes ond dau gapel Cymreig yn y sefydliad, sef Saron ac Elim, a pherthyna y ddau i’r Trefnyddion



 

 


(delwedd E1089) (tudalen 51)

(x245) (tudalen 51) TALAETH MINNESOTA.

Calfinaidd. Mae y Parch. Richard G. Jones yn cynal moddion crefyddol yn ei dy ei hun, mewn cysylltiad a’r Presbyteriaid, a nifer o aelodau o dan ei ofal.

“SARON yw y capel Cymreig cyntaf yn y lle, a’r cyntaf oll a adeiladwyd gan y Cyfundeb yn Minnesota. Dechreuwyd cynal moddion crefyddol yn haf y fl. 1856 mewn shop saer, tua dwy filldir i’r gorllewin o Saron; symudwyd oddiyno i dy brawd o’r enw William . E. Jones, ac oddiyno drachefn i dy brawd o’r enw David Evans, yn ymyl Saron. Ymddengys i Gyfarfod Chwarterol gael ei gynal yn y ty olaf, sef yr ail gyfarfod o’r fath a gynaliwyd yn y dalaeth gan y Trefnyddion Calfinaidd. Tua dechreu y fl. 1857, daeth y capel yn barod i fyned iddo. Rhif yr aelodau y pryd hyny oedd 24. Ymadawodd cangen o eglwys Saron i ddechreu yr achos a gynelir yn Elim, tua 3 milldir i’r gorllewin o Saron. Rhif y cymunwyr yn Saron yn awr yw 17; Ysg. Sab., 32; gwrandawyr, 32. Diacon, David Jones.

“ELIM. - Adeiladwyd y capel yn nechreu y fl. 1861. Cymunwyr, 39; Ysg. Sab., 80; gwrandawyr, 74. Diaconiaid - Evan Griffiths, ac Edward Evans. Cesglir yn y ddwy eglwys dros $400 yn flyneddol. Er mis Mai, 1870, maent dan ofal gweinidogaethol y Parch. Richard Hughes.”

NODIAD. - Mae eglwysi Foreston (Iowa), Yorktown, a Proscairon, a’u gweinidogion yn perthyn i Gyfundeb y Trefnyddion Calfinaidd yn Minnesota; ond rhoddaf gyrif o honynt yn Hanes y Sefydliadau Cymreig yn nhalaeth Iowa.

Bu y Cymro talentog, a’r gweinidog efengylaidd, y Parch. J. M. Pryse, yn gweinidogaethu i’r Presbyteriaid Cymreig yn eu hadadoldy yn South Bend, ac mewn neuadd gyfleus perthynol i’r diweddar Lewis J. Lewis, Ysw., (gynt o Remsen, Oneida Co., N.Y.,) yn nhref Mankato. Yn 1868 a 1869, yr oedd yn dra phoblogaidd yno; pregethai yn Gymraeg ac yn Saesonaeg; a bu yn dadleu yn gyhoeddus am amrai nosweithiau âg un o gewri anffyddiog yr Universalists, a gorchfygodd ef yn llwyr. Ysgrifenodd lawer i’r Drych, a’r Cenhadwr, yn erbyn golygiadau anffyddiog rhai Cymry, a thros Burdeb a Dwyfoldeb yr Ysgrythyrau. (Gwel



 

 


(delwedd E1090) (tudalen 52)

(x246) (tudalen 52) Y GORLLEWIN PELL

Cenhadwr, Gor., 1868, t. d. 212.) Yn 1870, yr oedd Mr. Pryse wedi ymadael oddiyno, ac yn gweinidogaethu gyda’r Americaniaid mewn rhyw dref yn agos i St. Paul. Dywedir ei fod ef yn bwriadu cyhoeddi llyfr Cymraeg ar y testyn pwysig, “Profion o Ddwyfoldeb yr Ysgrithyrau.” Y mae efe yn un o’r rhai cymhwysaf at y fath orchwyl, a gobeithio y caiff gefnogaeth brydlon a theilwng. Dywedir hefyd fod y Parch. Jenkin Jenkins (Siencyn Ddwywaith) yn bwriadu cyhoeddi llyfr Cymraeg, yn cynwys ei hanes ei hunan, a’i bregethau, &c. Bydd y fath lyfr, gan y fath awdwr synwyrgall a ffaeth, yn dderbyniol iawn gan ei genedl. Dau ddyn nodedig yw Pryse a Jenkins.

Ond cafodd Cymry Minnesota yr anrhydedd o fwynhau cymdeithas a gweinidogaeth y bardd ieuanc cadeiriol R. Foulkes Edwards, Ysw., (Rhisiart Ddu o Wynedd,) ac o ddangos caredigrwydd mawr iddo yn ei afiechyd. Yr oedd yn wr ieuanc anwyl a gwir grefyddol, - yn fyfyriwr dysgedig, yn bregethwr da, ac yn fardd gwir awenyddol. Yn haf y fl. 1867 y tiriodd yn America; cartrefodd gyda’i rieni yn East Rosendale, ger Oshkosh, Fond du Lac Co., Wis. Talodd ymweliad a’r Cymry yn Minnesota yn haf y fl. 1868; cafodd garedigrwydd mawr ganddynt oll yn eu tai ac yn eu capelau; a gwnaethant anrheg o dros $150 iddo; ac wedi iddo dreulio agos i flwyddyn yn eu plith, penderfynodd yr eglwysi ei neillduo i gyflawn waith y weinidogaeth, fel, pan fyddai yn alluog i bregethu, y gallai weinyddu yr ordinhadau hefyd, yn mhlith y gwahanol enwadau. Mai 16, 1869, urddwyd ef mewn cyfarfod tra lluosog,yn addoldy yr Annibynwyr yn South Bend. Ar yr achlysur gweinyddodd y brodyr canlynol: - Parchn. Jenkin Jenkins, (A.,) K. W. Jones, (T.C.,) Robt. D. Price, (W.,) William Williams, (B.,) J. M. Pryse, (Pres.) Cyfarfod unol a thra effeithiol oedd. Wedi hyny, yn ei wendid mawr, ymdrechai bregethu yn y gwahanol gapelau; myfyriai ac ysgrifenai yn galed, ddydd a nos; ymgysegrai i’r weinidogaeth efengylaidd; teimlai yn ddwys dros eneidiau; a bwriadai gasglu a chyhoeddi llyfr yn cynnwys pigion o Weithiau Barddonol beirdd Cymru ac America, &c. Ond yr oedd ei gorff yn rhy



 

 


(delwedd E1091) (tudalen 53)

(x247) (tudalen 53) TALAETH MINNESOTA.

wan i ddal pwysau y fath galedwaith eneidiol; gorfu iddo ddychwelyd at ei berthynasau i Rosendale, Wis., lle yr ysgrifenodd ei lythyrau campus ar Hanes Minnesota; ac wedi hyny y bu farw prydnawn dydd Mawrth, yr 8fed o fis Mawrth, 1870, yn nhy ei rieni; a’r dydd Iau canlynol claddwyd ef yn anrhydeddus, yn ngwydd tyrfa fawr, yn mynwent capel yr Annibynwyr, o’r enw Soar, Yr oedd y brodyr canlynol yn gweinyddu yn e; gladdedigaeth: - Parch. H. Powell, (gweinidog gyda’r Annibynwyr Saesnig yn Rosendale,) Mr. J. F. Roberts, Penuel; Parch. J. Williams, (T.C); Parch. J. Jones, (W.); a’r Parch. Thomas Foulkes, (T.C.) Ar ddiwrnod ei gladdedigaeth, “Penderfynwyd, Ein bod, fel ardal Gymreig, yn dymuno datgan ein teimlad i’r Pwyllgor yn Utica, am y priodoldeb o droi tysteb fwriadedig Risiart Ddu, i godi COFGOLOFN ar ei fedd, er anrhydedd i’w enw, ac i fod yn goffadwriaeth i’r oesau a ddel, fod un wroniaid y genedl ar faes llenyddiaeth a chrefydd wedi ei roddi i orwedd mewn gwlad estronol.” Dymunwyd hefyd ar ei frawd, Mr. John Edwards, gymeryd mewn llaw i gasglu holl weithiau y bardd, a’u dwyn allan yn un gyfrol hardd. (Gwel y “ Cenhadwr,” Ebrill, 1870, t. d. 118.) Yr oedd Risiart Ddu yn 34 ml. oed, pan fu farw. Gwelais ei fedd yn mynwent Soar, Rosendale, yn niwedd Medi, 1870. Claddwyd ef yn nghanol y fynwent, ar fryn hyfryd, yn ymyl bedd ei chwaer, Miss Mary L. Edwards. Bu hi farw Medi 21, 1856, yn 25 ml. oed. Mae yn deilwng o gofgolofn o fynor ar ei fedd. Bydd fyw byth yn ei Weithiau Barddonol. Mae ei ganiadau, ac yn enwedig ei awdl orchestol ar “Ioan yn Ynys Patmos,” wedi anfarwoli ei enw.

Yn mhlith Cymry Minnesota y mae amrai o gerddorion rhagorol, megys W. W. Davies, South Bend, a Mr. E. Pritchard, Judson; Mr. H. Jones, Capel Sion; a Mr. Richard J. Thomas, a Mr. John A. Jones, Mankato; - a beirdd, megys Ellis E. Ellis, Ysw. (Glan Dyfi), Edward Thomas, Ysw. (Iorwerth), South Bend; a Mr. Robert Hughes, Capel Sion; a’r Parch. J. Jenkins; - a gwleidyddwyr, megys yr Anrhydeddus D.C. Evans, John T. Williams, y Sirydd Bowen; Dr. Williams, ac ereill. Ni chlywais fod un Eisteddfod wedi cael ei



 

 


(delwedd E1092) (tudalen 54)

(x248) (tudalen 54) Y GORLLEWIN PELL

chynal ganddynt yno eto; ond soniant am gael un yn fuan.

Yn haf y fl. 1862 ymosododd yr Indiaid ar y preswylwyr heddychol yn Minnesota, a lladdasant lawer o wyr, gwragedd, a phlant, a rhai Cymry. Yn ddisymwth tarawyd yr holl sefydliadau Cymreig â braw ac â dychryn - gwelwyd canoedd yn gadael eu cartrefi, ac yn ffoi ar ffrwst tua Mankato. Amddiffynasant eu hunain yno - daliwyd blaenoriaid yr Indiaid, a chrogwyd oddeutu deugain o honynt ar yr un crogbren, trwy orchymyn yr Arlywydd Lincoln, a’r Llywodraeth yn Washington, ar lan afon Minnesota, yn nhref Mankato. Mae yn y sefydliadau Cymreig rai gweddwon ac amddifaid, gwyr a thadau y rhai a lofruddiwyd y pryd hyny gan yr Indiaid anwaraidd. Ond nid oes berygl mwyach oddiwrth yr Indiaid yn Minnesota, am eu bod wedi eu gyru bedwar cant o filldiroedd i’r gorllewin oddiyno, a milwyr y Llywodraeth yn eu gwilio yno.



 

 


(delwedd E1093) (tudalen 55)

(x249) (tudalen 55)

PENNOD V.
TALAETH IOWA.

Darluniad o’r Dalaeth ardderchog, a’i Thiroedd Rhad a Ffrwythlon, Y Sefydliadau Cymreig: - 1. Old Man’s Creek. 2. Williamsburgh.. 3. Welsh Prairie. 4. Marengo. 5. Long Creek. 6. Flint Creek. 7. Oskaloosa. 8. Oskaloosa Junction. 9. Given. 10. Monroe. 11. Burlington. 12. Davenport. 13. Dubuque. 14. Lime Spring. 15. Clay Co. 16. Red Oak. T.d. 55-83

Talaeth ardderchog yw hon o ran ei thiroedd, ei mwnau, ei hafonydd, ei hinsawdd, ei choedydd, ei reilffyrdd, ei llywodraeth, ei hysgolion, ei moesoldeb, a’i chrefydd. Dywedir mai ystyr yr enw Iowa yw, “y tir prydferth,” (the beautiful land,) a roddwyd arno gan yr Indiaid pan welsant ef gyntaf wrth deithio tua’r gorllefwin. Poblogwyd y tir gan lwythau o Indiaid Iowas, a Sioux. Bu yn meddiant Ffrainc, ac wedi hyny, Spaen. Ffrancwr o’r enw Julian Dubuque a brynodd dir gyntaf yno gan yr Indiaid, Medi 22, 1788, yn y fan lle mae tref Dubuque yn sefyll yn awr. Yn 1803 trosglwyddwyd y tir gan Ffrainc i’r Unol Dalaethau. Yn 1832 gosododd y Llywodraeth filwyr yn “Fort Des Moines.” Wedi hyny ymfudodd llawer o dalaethau New England iddi, a dechreuasant sefydlu tua’r manau y mae Burlington a Keokuk yn sefyll yn awr. Parhaodd yn diriogaeth am lawer o flynyddoedd. Derbyniwyd hi fel talaeth i’r Undeb, Mawrth 3, 1845. Nid oedd ei phoblogaeth yn 1838 ond 22,859. Cynyddodd yn gyflym. Yn 1870, yr oedd yn 1,181,359. Mae yn y dalaeth yn awr oddeutu cant o siroedd, a llawer o honynt yn cynnwys o ddeg mil i ddeg-mil-ar-hugain o drigolion, a rhai fwy na hyny. Siroedd Scott, (lle mae dinas Davenport,) a Dubuque, a Lee, a Clinton, a Linn, a Des Moines, a Marion, a Mahaska, a Clayton, a Polk, a Wapello, a Muscatine, &c., yw y rhai mwyaf poblogaidd; ac y mae ynddi lawer o siroedd ereill, nad oes ynddynt eto ond ychydig o ganoedd neu filoedd o breswylwyr, megys Lyon, Ida, O’Brien, Sioux, Audubon,



 

 


(delwedd E1094) (tudalen 56)

(x250) (tudalen 56) Y GORLLEWIN PELL

Buena Vista, Calhoun, Carroll, Cherokee, Clay, Dickinson, Emmett, Hancock, Palo Alto, Plymouth, Pocahontas, Sac, Shelby, Tama, Warren, Worth, Wright Wrth edrych ar y map, gwelir fod y rhan fwyaf o’r siroedd anmhoglogaidd yn gorwedd yn ei gogledd-orllewin, ar derfynau talaethau Minnesota a Nebraska; a gwir yw fod y tiroedd yn y rhandir hwnw yn fwy gwael a thoredig, a digoed, nag mewn siroedd ereill o’r dalaeth; ond gall miloedd o dyddynwyr, a llafurwyr, a chrefftwyr, a mwnwyr, trwy lafur a diwydrwydd, gael cartrefi rhad a dedwydd ynddynt; ac mewn llawer o siroedd ereill yn nghanoldir a deheudir y dalaeth.

Mae talaeth Iowa yn 300 milldir o hyd, o’r dwyrain i’r gorllewin, neu o lanau y Mississippi, ger dinas Davenport, hyd Council Bluffs, ar lan y Missouri; a thros 200 milldir o led o derfyn deheuol Minnesota hyd derfyn gogleddol talaeth Missouri. Cynnwysa 55,045 o filldiroedd petryal, a 35,228,800 o erwau o arwynebedd Mae bron gymaint a Lloegr, ac yn fwy ddwywaith na Scotland. Nid oes yn un man o honi fynyddau mawrion uchel; ond ceir ynddi lawer o fân fryniau, fel tonau y mor, yn ffurfio ei doldiroedd (prairies) eangfaith; a llawer o fryniau creigiog a serth, a digon o goedydd, oddeutu glanau ei hafonydd. Nid oes ynddi ond ychydig diroedd corsiog; ond mae yn codi yn raddol o lanau y Mississippi a’r Missouri, tua chanoldir y dalaeth, ac mewn manau yno mae ei derchafedd dros 900 troedfedd uwchlaw afon y Mississippi, ac felly yn peri digon o ddisgyniad i’w hafonydd mewnol, sef y Des Moines, Skunk, Iowa, Wapsipinicon, Maquoketa, a’r Red Cedar, y rhai a redant o’r gogledd-orllewin, ac a ymdywalltant i’r Mississippi mewn gwahanol fanau; ac y mae amrai o fân aberoedd yn ymdywallt i’r prif afonydd mewnol. Mae y Des Moines River yn codi yn



 

 


(delwedd E1095) (tudalen 57)

(x251) (tudalen 57) TALAETH IOWA.

Minnesota, ac yn dylifo trwy dalaeth Iowa am dros 300 filldiroedd.

Yr afonydd canlynol a redant drwy’r dalaeth o’r gogledd-ddwyrain i’r de-orllewin: - Big Sioux, Floyd, Little Sioux, Boyer, Nishnabotna, ac a ymdywalltant i’r Missouri. Dyfrheir y rhandir deheuol o’r dalaeth gan yr afonydd canlynol (tudalen rhai, a godant ynddo , ac a redant i dalaeth Missouri), sef, y Chariton, Grand, Platte, Nodaways.. Mae llawer o lynoedd tryloywon yn ngogledd-dir y dalaeth - rhai o honynt dros ddeng milldir o hyd wrth ddwy o led. Mae naw rhan o ddeg dalaeth Iowa yn dir porfa (prairies); ac yn gyffredin ceir coedydd oddeutu glanau yr afonydd, ac weithiau yn llwyni (groves) o goed ar y doldiroedd. Ceir llawer mwy goedydd yn y dwyreinbarth nag yn y gorllewinbarth. Mae ynddi bob amrywiaeth o goedydd - “ White, black, and burr oak, black walnut, butternut, hickory, hard and soft maple, cherry, red and white elm, ash, linn, hackberry, birch, honey locust, cottonwood, sycamore, red cedar, pine.” Gellir eu codi a’u hadblanu ar y prairies; ac y mae y cottonwood, a’r maple, a’r walnut yn tyfu yn fuan.

Mae y dalaeth yn gyfoethog o fwnau gwerthfawr. Ceir glo da, a’r gwythienau o dair i saith droedfedd o drwch, yn awr, mewn deg-ar-hugain o’r siroedd; a’r rhan fwyaf o’r rhai hyny oddeutu y Des Moines River, ac afonydd ereill. Glo rhwym (bituminous) ydyw; nid ydyw yn ddwfn, a gellir ei weithio heb draul fawr. Codwyd dros chwe’ miliwn o fwsieli o hono yn y fl. 1868. Yn ei siroedd gogleddol ceir digonedd o fawndir, er cael digon o dânborth mewn manau nad oes coedydd na glo. Ceir llawer o’r mwn plwm a haiarn ger Dubuque, a manau ereill gyda glanau y Mississippi. Ceir ceryg calch yn y rhan fwyaf o’r siroedd, a digon o



 

 


(delwedd E1096) (tudalen 58)

(x252) (tudalen 58) Y GORLLEWIN PELL

geryg adeiladu mewn llawer o honynt. Y mae y tir, hyd yn nod ar y prairies uwchaf, yn dir da a chynyrchiol, ac yn y dyffrynoedd yn dra ffrwythlon, cyfaddas i godi pob math o ydau. Gellir cael dyfroedd iachus yn mhob lle trwy gloddio pydewau o 30 i 40 troedfedd o ddyfnder. Grwlad dda ydyw hefyd am wair, a phorfa, a ffrwythau. Mewn manau ceir ynddi berllanau a gerddi rhagorol. Mae yn enwog am ei darpariadau at addysg, Ceir ynddi unversity, colegau, a thros chwe’ mil o ysgoldai, gyda yn agos i ddeuddeng mil o athrawon ac athrawesau; a cheir ynddi hefyd sefydliadau gwerthfawr i’r gorphwyllion, a’r cleifion, a’r deillion, a’r mud a’r byddar, a’r amddifaid.

Mae ei reilffyrdd yn awr yn lluosog a chyfleus, a llawer o honynt yn cysylltu â’r prif reilffyrdd sydd yn rhedeg ar draws talaeth Illinois i Chicago; a phedair neu bump o honynt yn rhedeg o lanau y Mississippi ar draws Iowa, hyd lanau y Missouri, ac yn cysylltu â’r Pacific Railway yn Omaha; ac ereill yn rhedeg o’r de i’r gogledd, ac yn fuan a gysylltant â’r prif reilffyrdd yn Minnesota, ac yn Missouri, Kansas, a Nebraska (Gwel Hanes y Eeilffyrdd.) Gellir cael tiroedd rhagorol gan gwmpeini y reilffyrdd am o $5 i $15 yr erw, ac amser maith i dalu am danynt. Mae ganddynt ganoedd o filoedd o erwau o dir da ar werth eto, ond y mae yn cael ei brynu yn brysur. Ni cheir tiroedd rhad y Llywodraeth yn awr ond yn unig yn ei gogledd-orllewin; dichon fod yno eto yn agos i chwarter miliwn (250,000) erwau o diroedd felly; mae y rhan fwyaf o honynt yn siroedd Osceola, Lyon, Sioux, a Plymouth; ac yn fuan bydd y St. Paul & Sioux Railway yn rhedeg trwyddynt. Nis gall speculators brynu y tiroedd hyn; gwerthir hwynt yn unig i’r rhai a sefydlant arnynt. Yn awr yw yr adeg i ymfudwyr Cymreig i sefydlu ar



 

 


(delwedd E1097) (tudalen 59)

(x253) (tudalen 59) TALAETH IOWA.

diroedd rhad yn nhalaeth Iowa; credwyf na bydd dim tiroedd felly i’w cael ynddi yn mhen pump neu ddeng mlynedd eto. Cynghorwyf fy nghenedl i sefydlu ar diroedd rhad y reilffyrdd yn nghanoldir, ac yn enwedig yn ne-orllewin y dalaeth. (See ”Iowa; The Home for Immigrants; being a Treatise on the Resources of Iowa. Published by order of the Board of Immigration. A. R, Fullon, Esq., Secretary, Des Moines Iowa.) Rhoddaf yn awr ychydig o hanes y sefydliadau Cymreig yn nhalaeth Iowa: -

1. OLD MAN’S CREEK, Johnson Co., Iowa. - Saif yr ardal amaethyddol hon tua phedair neu bum’ milldir i’r de-orllewin o Iowa City, lle mae eu prif farchnad a’u llythyrdy. Tref hardd, gynyddol, ar lan afon Iowa, gerllaw coedwig, yn nghanol gwlad amaethyddol ffrwythlon, yw Iowa City. Ugain mlynedd yn ol, nid oedd ond lle bychan - ynddi y bu eisteddle llywodraeth y dalaeth am flyneddau, hyd nes y symudwyd hi i ddinas Desmoines; ond y mae University y dalaeth ynddi eto, a llawer o adeiladau a masnachdai gwerthfawr. Mae yno rai masnachwyr Cymreig, megys Mr. Charles Lewis, a’i frawd George Lewis, gynt o Remsen, N.Y.; Mr. D. Griffiths, gynt o ddinas New York, ac ereill. Yno hefyd y mae y Parch. Evan Griffiths yn byw. Mae y “Chicago, Rock Island & Pacific Railroad” yn rhedeg drwy y ddinas hon; a dyma y lle nesaf ar y railroad hono i sefydliad y Cymry yn Old Man’s Creek. Mae amrai o.felinau blawd oddeutu Iowa City.

Dechreuodd y Cymry boblogi y lle tua’r flwyddyn 1840. Y sefydlwyr cyntaf oeddynt Edward Williams ac Oliver Thomas, gynt o Sir Drefaldwyn, G.C. Yn mhen blwyddyn neu ddwy ar ol hyny daeth Joseph Hughes, Glyn Ceiriog, Dinbych, G.C., a Thos. Jones, D.C., a Henry Clement, yno i fyw. Wedi hyny Peter Hughes, mab Joseph Hughes, a William Evans. Daeth yr hen frawd anwyl Mr. Richard Tudor, a’i deulu, gynt o Penegoes, Maldwyn, G.C., yno oddeutu y fl. 1843. Wedi hyny daeth David H. Jones, o Lanbrynmair; David Davies, ac ereill, yno. Daethant oll yno o Ebensburgh,


 

 


(delwedd E1098) (tudalen 60)

(x254) (tudalen 60) Y GORLLEWIN PELL.

Pa., trwy Pittsburgh, ar hyd afon Ohio, heibio i Cairo, ac ar y Mississippi, heibio i St. Louis, a thiriodd rhai o honynt yn Keokuk, ereill yn Bloomington (Muscatine yn awr) - a theithiasant gyda’u hanifeiliaid ar draws y wlad i’w sefydliad newydd; a chodasant dai logs yn ymyl y llwyni coed, ac yn agos at eu gilydd, o fewn milldir i afon fechan yr Old Man’s Creek, ar ei hochr ogleddol. Oddeutu yr afon hon yr oedd miloedd o erwau o dir rhagorol y Llywodraeth i’w cael am $1.25 yr erw, a digon o goed, a helaethrwydd o rolling praires i’w cael yno. Gwnaethant ddewisiad doeth; tiroedd nodedig o ffrwythlon ac iachus ydynt. Ond buont yn llafurio yno am lawer o flyneddau dan lawer anfanteision gwladol a chrefyddol. Pan ddaethant yno gyntaf, yr oedd ychydig o deuluoedd o genhedloedd ereill yn byw yn yr ardal, Saeson, a Scotiaid, sef James Seahorn, Ellison Davies, a’i frodyr a’i chwiorydd, ac ereill; ac nid oedd yn Iowa City ond tair store, ac ychydig o dai, na phont i groesi yr afon Iowa, dim ond ferry hoat; a gwerthent eu heiddo yno am y prisiau isel canlynol: - Corn, am 10 cent y bwsiel; gwenith, am o 18 i 23 cents y bwsiel; pork, am $1.50 y can’ pwys; ymenyn, am o 6 i 7 cents y pwys! Ac anaml y caent arian am danynt - dim ond newidwriaeth. Nid oedd y reilffyrdd yn rhedeg y pryd hyny ar draws Illinois, nac ar draws Iowa; ac yr oedd dros haner can’ milldir o’r sefydliad, ar draws y tir, i Davenport, a Muscatine, ar lan afon Mississippi. Ond wedi gorpheniad reilffyrdd Illinois, o Chicago i Rock Island; ac wedi agor y Chicago, Rock Island & Pacific R. R. i Iowa City, tua’r fl. 1855, a’i gorphen wedi hyny ar draws y dalaeth i dref Council Bluffs, ar lan afon Missouri, dechreuodd ymfudwyr sefydlu wrth y miloedd yn Iowa, a rhoddwyd adfywiad i’w hamaethyddiaeth, ei chelfyddydau, a’i masnach. Yr oedd yr hen sefydlwyr wedi dewis y gwastad-dir, a’r bryniau isel coediog, gan wrthod y rhan fwyaf o’r prairies di-goed, a chan gredu nad oeddynt yn ffrwythlon; ond o’r flwyddyn 1865 hyd yn awr, y mae lluoedd o ymfudwyr Cymreig, gan mwyaf o Ebensburgh, Pa., wedi prynu y rolling prairies hyny, ac wedi sefydlu arnynt, ac yn cael flfrwythau toreithiog o



 

 


(delwedd E1099) (tudalen 61)

(x255) (tudalen 61) TALAETH IOWA.

wenith, &c, allan o honynt. Nid oes ond ycliydig o diroedd felly i’w cael yno yn awr, ac nis gellir eu prynu dan $10 neu $15 yr erw; ac ni cheir tyddynau diwylliedig yn y sefydliad yn awr heb dalu am danynt o 120 i $50 yr erw.

Mae sefydliad Cymreig Old Man’s Creek yn awr wedi ymledu am filldiroedd o bob tu afon fechan yr Hen Ddyn; ac y mae yno lawer o bobl gyfoethog iawn, a llawer o dai drudfawr, a thyddynau mawrion, yn awr; dichon mai meibion y diweddar Richard Tudor, Ysw., sef Edward Tudor, Ysw., a Hugh Tudor, Ysw.; a David David H. Jones, Ysw., gynt o Lanbrynmair; ac Oliver Thomas, Ysw., ac ereill, yw y rhai cyfoethocaf yno; ond y maent oll mewn amgylchiadau da a chysurus. Mae y penau teuluoedd canlynol yn byw yn Sharon Township, yr ochr ddeheuol i’r Creek, sef, Daniel Prichard, John Baxter, David E. Jones, Peter Hughes, Parch. C. D. Jones, Parch. Evan Roberts (W.,) David Williams, John E. Roberts, John Roberts, David O. Jones, David Hughes, William Edwards, Robert Thomas, David H. Jones, David T. Davies, William J. Davies, Daniel Watts, Widow Williams, Thomas D. Davies. A’r rhai canlynol yn byw yn Union Township, yr ochr ogleddol i’r afon: - John Pryce, Thomas Thomas, John Breese, David Thomas, Robert Thomas, Humphrey Griffiths, D. R. Lewis, Robert E. Davies, William Morris, Robert Davies, David Roberts, John Davies, Thos. E. Davies, John Rees, Rowland Rees, William Morris, Thomas Humphreys, William J. Rowlands, Richard Williams, Richard Hughes, David D. Jones, David A. Jones, John E. Hughes, David Goodwin, Edward Tudor, Hugh Tudor, David E. Price, David H. Price, Daniel John, Edward Edwards, Oliver Thomas, Widow Edwards, Henry Edwards, Thomas Jones, a William T. Roberts. A’r rhai canlynol yn Iowa City Township: - Parch. Morris M. Jones, Samuel Jones, David M. Jones, Morris Pate, a George Lewis. Yn nechreu Tachwedd, 1870, yr oedd oddeutu triugain o deuluoedd, a thri chant o wyr, gwragedd, plant, gweision, a morwynion, yn y sefydliad Cymreig yno, Mae yn lluosogi yn gyflym.



 

 


(delwedd E1100) (tudalen 62)

(x256) (tudalen 62) Y GORLLEWIN PELL.

Yr Eglwys ANNIBYNOL Gymreig yn Old Man’s Creek. - Yr oedd y rhan fwyaf o’r hen sefydlwyr yn bobl grefyddol, ac yn Annibynwyr egwyddorol. Cynaliasant gyfarfodydd gweddio, ac Ysgol Sabbothol mewn anedd-dai am lawer o flyneddau, cyn bod dim pregethu yno. Sefydlwyd yr eglwys Annibynol yno Chwefror 20, 1846, gan y Parch. David Knowles (A.,) gynt o Faldwyn, G. C, gydd 15 o aelodau. Llafuriodd ef yno am dair blynedd mewn cysylltiad ag eglwys Annibynol Long Creek. Yn 1849, daeth y Parch. George Lewis, o Putnam, Ohio, yno, a bu yn gweinidogaethu yno am yn agos i chwe’ blynedd. O ddeutu y fl. 1855, daeth y Parch. Morris M. Jones (A.,) o Radnor, Ohio, yno, a bu yn gweinidogaethu yno am rai blyneddau; ac y mae yn byw ar ei dyddyn ffrwythlon yno eto, gyda’i deulu parchus. Ar ei ol ef y daeth y Parch. Evan Griffiths, gynt o Lanegryn, Meirion, G. C, yno, a bu yn gweinidogaethu yn llwyddianus yno am bum’ mlynedd. Wedi hyny bu y Parch. Cadr. D. Jones yn weinidog poblogaidd yno am bedair blynedd, a rhoddodd ofal yr eglwys i fyny yn nechreu y flwyddyn 1870. Adeiladwyd y capel cyntaf yno ar fryn amlwg, ger y coedwigoedd, o fewn milldir i’r afon, yr ochr ogleddol, ger tyddyn Hugh Tudor, Ysw., yn y fl. 1855.

O’r flwyddyn 1859 hyd y fl. 1869, bu llawer o gynydd ar y sefydliad, ac ar yr eglwys hefyd; ac yn y fl. 1870 adeiladasant addoldy newydd hardd, a llawer mwy na’r cyntaf, yn yr un man, a thalasant ei ddyled. Y mae yn addurn i’r sefydliad, ac yn anrhydedd i’r eglwys a’r gynulleidfa. Mae ynddo yn awr Ì40 o aelodau; ysgol Sabbothol luosog, a chynulleidfa gref. Credwyf mai Oliver Thomas, Edward Tudor, David H. Jones, ac ereill, yw y diaconiaid. Mae ynddi lawer o ddynion doeth, duwiol, a flyddlon, a llawer o bobl ieuainc gweithgar a thalentog. Mae angen yno am weinidog galluog i siarad, ysgrifenu, a phregethu yn rhwydd a chywir yn Gymraeg a Saesonaeg. Gobeithio y cant weinidog cymhwys felly yn fuan, ac y cynaliant ef yn anrhydeddus; gallent yn hawdd wneyd $1,000 iddo yn flyneddol. Mae amrai o aelodau perthynol i’r T. C, a’r B., a’r W., yn cyd-addoli a’r Annibynwyr yno; ond nid oes yr un o’r enwadau crefyddol hyny wedi ffurfio eglwys yno eto; dichon y gwna y T. C. hyny yn fuan. Mae y brawd anwyl a ffyddlon, y Parch. Evan Roberts (W.,) yn byw yn yr ardal, ac yn aelod ffyddlon, ac yn bregethwr cymeradwy yn yr eglwys hon. Credwyf mai Edward Tudor. Ysw., yw Ysgrifenydd yr eglwys. Cyfeirier llythyrau iddo fel hyn: - Ed. Tudor, Esq., Farmer, Old Man’s Creek, Iowa City P. O., Johnson Co., Iowa.

2. WILLIAMSBURGH, Stellapolis P. O., near Marengo, Iowa Co., Iowa. - Saif y sefydliad amaethyddol Cymreig hwn oddeutu 26 milldir i’r gorllewin o Old Man’s Creek, a thua 10 milldir i’r de-ddwyrain o Marengo, sef prif dref sir Iowa, yr hon a saif ar y reilffordd, tua 84



 

 


(delwedd E1101) (tudalen 63)

(x257) (tudalen 63) TALAETH lOWA.

milldir o Davenport, a 30 milldir o Iowa City. Mae yno wlad dda odiaeth am filldiroedd o amgylch pentref bychan Williamsburgh, yr hwn a saif ar fryn isel, bron ar lan yr Old Man’s Creek, yr hon nid yw ond aber fechan yno; ac y mae ei tharddiad ychydig o filldiroedd i’r gogledd-orllewin oddiyno. Mae oddeutu y lle hwn filoedd erwau o dir da eto, yn nwylaw y speculators, y gellir eu prynu am o $5 i $12 yr erw, gydag arian parod. Ond y mae y rhan fwyaf o’r tiroedd coediog wedi eu cymeryd. Tebygol yw y bydd canoedd o deuluoedd Cymreig yn sefydlu oddeutu yno yn yspaid y deng mlynedd nesaf. Mae yno yn sicr wlad fawr iachus a ffrwythlon; a phan y ceir reilffordd yn rhedeg o’r de i’r gogledd, drwy Williamsburgh, daw y pentref hwnw yn dref fasnachol a phwysig, a dyblir gwerth y tiroedd. Yn awr yw yr adeg i ymfudo a sefydlu yno. Tir rhagorol am gynyrchu gwair, gwenith, Indrawn, &c., sydd yno. Mae y llwyni coed, a’r rolling prairies yn ei gwneyd yn wlad nodedig o brydferth; ac wedi planu ychwaneg o goedydd ynddi, a’i diwyllio, bydd yn llawer prydferthach eto.

Y sefydlwyr Cymreig cyntaf yn y lle oeddynt: Evan D. Evans a’i briod, o Carno, Llanbrynmair; Richard Pugh, Lanbrynmair, a’i briod, o Carno; William Evans, Felin y Forge, Meifod, a’i briod, o Pontrobert, Maldwyn, G. C. Ymfudasant o Gymru yn 1840 a 1841, a buont am beth amser yn Cincinnati, Ohio; ac yn Hydref 1844 ymfudasant oddiyno i Iowa, a sefydlasant yn agos i’w gilydd, o dan y llwyni coed ( groves) ger “Beddau yr Indiaid,” o fewn tua milldir a haner i’r man lle saif pentref Williamsburgh yn awr. Codasant dai logiau yrio, a buont byw ynddynt am lawer o flyneddau, a gwelsant lawer o galedfyd yno. Wedi hyny codasant dai da ar ochr y ffordd sydd yn arwain i bentref Williamsburgh. Bu Richard Pugh farw yn 1850, a Mr. Williams, (ail wr i Mrs. Pugh,) Gorphenaf 9, 1860; a Wm. Evans, yn Mawrth 1, 1870; ond yr oedd Evan D. Evans, a’r gweddwon Mrs. Wm. Evans, a Mrs. Richard Williams, (gynt Mrs. Pugh,) yn fyw, yn iach, a chysurus, ar eu tyddynau braf, yn Tachwedd, 1870. Pan ddaethant yno gyntaf, yr oeddynt yn bobl wir grefyddol



 

 


(delwedd E1102) (tudalen 64)

(x258) (tudalen 64) Y GORLLEWIN PELL.

gyda’r Annibynwyr; bu rhai o honynt feirw mewn tangnefedd; ac y mae y rhieni sydd yn fyw, gyda’u plant, eto yn aelodau ffyddlon o’r Eglwys Annibynol yn y lle. Yn 1846, daeth David a Jane Evans, o Carno, yno, (rhieni y ddau Evans, a Mrs. Pugh, wedi hyny Mrs. Williams); daethant yno yn y gwanwyn, a buont feirw yn y fall, yr un diwrnod, o fewn haner awr i’w gilydd; a chladdwyd hwynt ar dir Evan D. Evans, ger y coed. Yr oedd ef yn 60 ml. oed, a hithau yn 63 ml. Yn 1849, daeth John Watkins, o Carno, G. C, yno; brawd-yn-nghyfraith yw ef i Evan D. Evans; ac y mae yn byw gerllaw iddo yno eto. Yn Hydref y flwyddyn 1854, daeth Lewis Ẅilliams, mab hynaf yr hen frawd ffyddlon Henry Williams, o Rome, N.Y., gynt o ardal Machynlleth, G. C, i fyw yno; a bron yr un amser y daeth y meddyg William Rowlands yno - symudodd ef i Oskaloosa, ac wedi hyny aeth i Bartholomew, Drew Co., Arkansas. Daeth Hugh Evans, a’i briod, gynt o Penegoes, G. C, yno yn 1855; a John Hughes, (mab y Parch. Hugh Hughes, ( A.,) o Palmyra, Ohio, gynt o Penllys, Maldwyn, G. C.), a’i deulu, a ddaeth yno yn Hydref, 1856. Efe yw postmaster y lle yn awr. Dyma y sefydlwyr cyntaf. Ar eu dyfodiad cyntaf yno, nid oedd na ffyrdd na phontydd wedi eu gwneyd yno; teithient ar draws y prairies am o 25 i 30 milldir, heibio i Old Man’s Creek, i farchnata yn Iowa City, ac yn Muscatine, ar lan j Mississippi. Cymerai iddynt wyth diwrnod weithiau i fyned a dychwelyd! Yr oedd y tiroedd i’w cael am $1.25 yr erw; ond yr oedd prisiau pobpeth a werthent yn isel iawn.

Yn niwedd y fl. 1870, yr oedd yn y sefydliad Cymreig hwn oddeutu 70 o deuluoedd Cymreig; yn cynnwys tua 350 o Gymry oll. Rhoddaf yma restr o’u henwau, o ba le, a’r amser y aethant yno: -

ENWAU. / O BA LE O GYMRU? &C. / PA BRYD?

Evan D.Evans / Carno, Maldwyn, G.C. / 1844
Mrs. E. Williams / Carno, Maldwyn, G.C. / 1844
Mrs. William Evans / Carno, Maldwyn, G.C. / 1844
John Watkins / Carno, Maldwyn, G.C. / 1849
Lewis H. Williams / Machynlleth, Maldwyn / 1854
John D.Evans / Machynlleth, Maldwyn / 1855
Hugh C. Evans / Maldwyn, G.C / 1855


 

 


(delwedd E1103) (tudalen 65)

(x259) (tudalen 65) TALAETH IOWA

ENWAU. / O BA LE O GYMRU? &C. / PA BRYD?

John Hughes / Maldwyn, G.C. / 1855
Rowland Davies / Meirion, G.C. / 1856
John W. Jones / Meirion, G.C. / 1856
Lewis Jones / Maldwyn, G.C. / 1856
Thomas Ellis / Maldwyn, G.C. / 1856
Benjamin Harris / Mynwy, D.C. / 1857
Edward Edwards / Mynwy, D.C. / 1857
William R. Jones, / Sir Gaer, D.C. / 1858
William Jones / Sir Gaer, D.C. / 1858
David Jenkins / Aberdar, G.C. / 1858
Parch. Evan J. Evans / Llanegryn, Meirion / 1858
William E. Evans, / Sir Fflint, G.C. / 1859
John L. Hughes / Mon, G.C. / 1860
Robert L. Hughes / Mon, G.C. / 1860
Mrs. William D. Jones / Mon, G.C. / 1860
John J. Jones / Ffestiniog, Meirion / 1862
Thomas Evans / Merthyr, D.C. / 1863
Thomas Perkins / Llangyfelach, Morganwg / 1863
Roger Jones / Ruthin, G.C. / 1863
David T. Jones / Dowlais, D.C. / 1864
Richard Richards / Merthyr, D.C. / 1864
Thomas Rogers / Sir Gaer, D.C. / 1864
John Jones / Brycheiniog, D.C. / 1864
Thomas A. Jones / Maldwyn, G.C. / 1864
John J. Jones / Brycheiniog, D.C. / 1864
David J. Jones / Brycheiniog, D.C. / 1864
John Davies / Penfro, D.C. / 1864
Mrs. Henry Davies / Sir Gaer, D.C. / 1865
Robert W. Roberts / Ffestiniog, G.C. / 1866
Thomas Hughes / Treffynon, Fflint / 1865
Thomas M. Davies / Sir Gaer, D.C. / 1865
Morgan Thomas / Sir Gaer, D.C. / 1867
Lewis D. Jones / Sir Gaer, D.C. / 1867
William M. Davies / Maldwyn, G.C. / 1867
Nicholas Lewis / Pontypridd, Morganwg / 1868
David R. Evans / Aberdar, D.C. / 1868
John James / Morganwg, D.C. / 1868
Thomas J. Jones / Brycheiniog, D.C. / 1868
Job S. Williams / Aberteifi, D.C. / 1868
Robert Powell / Arfon, G.C. / 1868
Edward H. Jones / Oneida Co., N.Y. / 1868
Edward Roberts / Meirion, G.C. / 1868
John Roberts / Meirion, G.C. / 1868
Edward Blythyn / Fflint, G.C. / 1868
James Thomas / Mynwy, D.C. / 1868
Richard Thomas / Llanidloes, G.C. / 1868
Mr. Richard J. Jones (T.C.,) / Meirion,G.C. / 1868
Owen R. Jones / Steuben, N.Y. / 1868
David Roberts / Ffestiniog, Meirion / 1869


 

 


(delwedd E1104) (tudalen 66)

(x260) (tudalen 66) Y GORLLEWIN PELL

ENWAU. / O BA LE O GYMRU? &C. / PA BRYD?

William Williams / Ffestiniog, Meirion / 1869
Richard Gittins / Llanfihangel, Maldwyn / 1869
Parch. David Price (A.). / Dinbych, G.C. / 1869
John O. Hughes / Mon, G.C. / 1869
Thomas J. Davies / Morganwg, D.C. / 1869
David Morgan / Aberdar, D.C. / 1869
Robert Thomas / Aberdar, D.C. / 1869
Robert C. Jones / Arfon, G.C. / 1869
Henry Jones / Arfon, G.C. / 1870
Moses Edwards / Dinbych, G.C. / 1870
Richard W. Thomas / Oneida Co., N.Y. / 1870
David H. Jones / Maldwyn, G.C. / 1870
John D. Evans Dinbych, G.C. / 1870

Yr Eglwys ANNIBYNOL Gymreig yn Williamsburgh, Iowa. - Yr oedd y sefydlwyr cyntaf yn bobl grefyddol gyda’r Annibynwyr. Cadwasant gyfarfodydd gweddio ac Ysgol Sabbothol o dy i dy am flyneddau. Buont dros bedair blynedd yno cyn cael pregethwr. Y Parch. David Knowles, o Long Creek, a bregethodd gyntaf yn y lle. Wedi hyny daeth y Parch. George Lewis, gweinidog eglwys Old Man’s Creek, i bregethu iddynt bob tair wythnos. Hydref 18, 1856, daeth y Parch. Jonathan Thomas, o Ohio, ar ymweliad yno. Efe a sefydlodd yr eglwys Annibynol yno, yn nhy William Evans. (Gwel yr hanes yn y Cenhadwr am Ionawr, 1857.) Bu y Parch. Evan J. Evans yn gweinidogaethu yn ffyddlon yno o Hydref, 1858, hyd Mai, 1859; ac y mae efe a’i deulu lluosog yn byw yn gysurus iawn yno eto. Yn haf y fl. 1869 y dechreuodd y Parch. David Price (Dewi Dinorwig) weinidogaethu yno; ac y mae efe yno eto yn barchus a defnyddiol. Yn amser y Parch. Evan J. Evans y codwyd y capel, ac y talwyd ei ddyled. Capel bychan, hardd, a chyfleus ydyw. Saif yn nghanol y pentref . Mae ynddo eglwys gref, Ysgol Sabbothol dda, a chynulleidfa luosog. Diaconiaid, John Hughes, Lewis H. Williams, ac ereill. Mae yr eglwys a’r gynulleidfa yn wasgaredig. Nid oes ond ychydig o boblogaeth yn y pentref. Ynddo y mae public schoolroom da; a dwy egíwys Saesonaeg, sef yr Annibynwyr a’r Wesleyaid; dwy store, post office; ac yno y mae William Evans, gof; a John Hughes. plasterer; a William M. Davies, crydd; a Roger Jones, Joiner yn byw. Nid oedd yno un teillwr, na meddyg, yn niwedd 1870.

Eglwys y TREFNYDDION CALFINAIDD yn Williamsburgh, Iowa. - Dechreuwyd cynal cyfarfodydd gweddio gan nifer fechan o honynt yn nhy Mr. Roger Jones, yn niwedd Chwefror, 1868, pan y sefydlodd pregethwr perthynol i’r enwad, o’r enw Richard J. Jones, yn eu plith. Pregethwyd yn achlysurol yn nhy Roger Jones, ac wedi hyny yn yr ysgoldy. Corfforwyd yr eglwys gan y Parch. E. Salisbury a Mr. Richard J. Jones; ac yn



 

 


(delwedd E1105) (tudalen 67)

(x261) (tudalen 67) TALAETH IOWA

ngwanwyn y fl. 1869, derbyniwyd yr eglwys i undeb a Chymanfa Wisconsin; a ffurfiwyd yr eglwys hon a’r eglwysi yn Welsh Prairie, a Long Creek, yn ddosbarth ar eu penau eu hunain, perthynol i’r Gymanfa hono.

Tua’r un amser, daeth pregethwr arall, sef Mr. James Thomas, i fyw i’r ardal; ac o hyny hyd yn awr, pregethant yno yn gyson bob Sabboth; a gweinyddir yr ordinhadau gan y Parch. Ebenezer Salisbury. Ysg. Sab., 30; aelodau, 31; cynulleidfa fechan. Nid ydynt wedi dewis eu swyddogion eto; llenwir eu lle gan y ddau bregethwr. John O. Hughes, gynt o Remsen, N.Y., yw y Trysorydd; a Roger Jones, gynt o Racine, Wis., yw yr Ysgrifenydd. Maent wedi adeiladu capel bychan da, 30 wrth 80 tr., yn y pentref, gwerth $1,200.

3. Ardal WELSH PRAIRIE, Homestead P.O., . Iowa Co., Iowa. - Saif yr ardal amaethyddol hon ar y rolling prairies ffrwythlon, tua 6 milldir i’r de o Homestead Station; 8 m. i’r dwyrain o Williamsburgh; a 17 m. i’r gorllewin o Iowa City. Gellir prynu tiroedd da o ddeutu yno eto, gan y speculators, trwy alw yn mhrif swyddfa y sir yn Marengo, am o $7 i $12 yr erw. Y mae miloedd o erwau o diroedd gwerthfawr felly heb eu diwyllio eto, oddiyno i Windham, ac i Oxford Station. Dyma restr o’i sefydlwyr, a’r amser y daethant yno:

ENWAU. / O BA LE O GYMRU? &C. / PA BRYD?

Howell Rees / Dolgellau, Meirion, G.C. / 1860
Evan Pugh / Aberllyfeni, Meirion, G.C. / 1860
Owen Edwards / Mon, G.C. / 1861
Edward Pugh / Aberllyfeni, Meirion / 1863
John Jones / Dyffryn, Meirion / 1863
John Roherts / Mon, G.C. / 1863
Arthur Williams / Aberllyfeni, Meirion / 1863
Evan Lewis / Maldwyn / 1865
Ishmael Parry / Mon / 1865
Evan Jones / Big Rock, Illinois / 1865
John Edwards / Aberteifi, D.C. / 1866
Thomas Evans / Dinbych, G.C. / 1866
Mrs. Edwards / Dinbych, G.C. / 1867
Robert Owen / Mon, G.C. / 1867
Parch. E. Salishury / Oneida Co., N.Y. / 1867
Samuel Jones / Oneida Co., N.Y. / 1867
Richard Jones / Cemaes, Maldwyn / 1867
Griffith Rees / Dolgellau, Meirion / 1867
Mrs. Owen / Mon, G.C. / 1868
Parch. Robt. Evans, (A.) / Dinbych, G.C. / 1869
Robert Jones / Dyffryn, Meirion / 1868
William Edwards / Mon, G.C. / 1869



 

 


(delwedd E1106) (tudalen 68)

(x262) (tudalen 68) Y GORLLEWIN PELL

Yn niwedd y fl. 1870 yr oedd yno 22 o deuluoedd - poblogaeth Gymreig, 110. Yn eu plith yr oedd amrai o fechgyn ieuainc yn gwasanaethu y tyddynwyr. Bu Mr. Griffith Rees, yn Ddruggist yn Cincinnati, Ohio.

Eglwys y T.C. yn Welsh Prairie, Iowa.
- Dechreuwyrd pregethu yno gan yr Annibynwyr a’r T.C. yn 1866, mewn gwahanol drigfanau ac ysgoldai. Ffurfiwyd eglwys y T.C. yno yn 1807. Yn haf y fl. 1868 codwyd capel bychan o goed, 22 wrth 32 tr. ar dyddyn Mr. Owen Edwards, yr hwn a roddodd y tir am ddim. Mae ynddo eglwys fechan ffyddlon yn awr; aelodau, 20; Ysg. Sab., 80; cynulleidfa, 80. Dan ofal y Parch. Ebenezer Salisbury, yr hwn sydd yn byw ar ei dyddyn, tua milldir i’r gorllewin o’r capel. Mae ychydig o Annibynẃyr parchus yn cyd-addoli a hwy.

4. MARENGO, Iowa Co., Iowa. - Tref fechan gynyddol yw hon. Saif ar wastadedd ffrwythlon, rhwng y coedydd a’r prairies, yn agos i’r afon Iowa, 10 neu 12 milldir i’r gogledd-orllewin o Williamsburgh; 30 milldir i’r gorllewin o Iowa City; a 90 milldir i’r dwyrain o Des Moines. Marengo yw y lle nesaf i Williamsburgh, ar y Chicago, Rock Island & Pacific E. E. Pan sefydlodd y Cymry gyntaf yn Williamsburgh, yr oedd Court House, ac ychydig o dai a stores yn Marengo. Hon yw prif dref sir Iowa, ac y mae ynddi lawer o dai a stores; a rhai Cymry parchus yn byw, ac yn masnachu. Ond nid oes ynddi eto eglwys na chapel Cymreig. Gallai y Cymry gael llawer o diroedd coediog, ac o ddoldiroedd da, am filldiroedd oddeutu yno, am brisiau lled isel, gan y speculators. Credwyf y bydd ugeiniau o dyddynwyr Cymreig wedi sefydlu ar y tiroedd hyny cyn hir. Gall fod yn Marengo o 25 i 30 o Gymry.

5. LONG CREEK, Louisa Co., Iowa. - Gorwedda Louisa Co. ar lan y Mississippi, yn rhandir de-ddwyrain talaeth Iowa; ac y mae ynddi lawer o diroedd gwastad a dyfrllyd, yn nghyda llawer o dir toredig coediog, a doldiroedd (prairies), Ynddi y mae y ddwy afon, Iowa River, a Cedar River, yn ymuno, ac wedi hyny yn ymdywallt i’r Mississippi. Mae y sefydliad Cymreig, yn agos i dref fechan Columbus, bron ar ganol y sir; ac y mae digon o gyfleusderau i fyned iddo yn awr gyda’r reilffordd o Davenport, a Wilton, a West Liberty, a Muscatine, a Burlington. Saif oddeutu yr aber fechan



 

 


(delwedd E1107) (tudalen 69)

(x263) (tudalen 69) TALAETH IOWA

a elwir Long Creek. Tir lled doredig a choediog sydd yn y sefydliad; ond y mae yn dir da a ffrwythlon. Wrth fyned yno gofalwch am ddisgyn yn Columbus Junction, ac nid yn Long Creek Station.

Dechreuodd y Cymry sefydlu yno yn haf y fl. 1843. Y sefydlwyr cyntaf oeddynt William Lewis, ac Evan Thomas, o sir Aberteifi; John Griffiths, o Penal, Meirion; William Tudor, a David Tudor, o Darowen, Maldwyn. Prynasant diroedd rhad y Llywodraeth yn agos at eu gilydd, o bobtu i’r Aber Hir. Daeth Arthur Griffiths, (brawd J. G., o Penal,) yno yn Hydref 1842; ac yn ngwanwyn y fl. 1843, daeth David ac Elizabeth Griffiths, ei dad a i fam, a hogyn o’r enw John A. Rees, yno. Yn 1845 daeth y Parch. David Knowles, a’i briod, yno. Yn 1846 daeth William Arthur, o Penal, Meirion; a Thomas Evans, a’i wraig, o Darowen, Maldwyn, gydd mam ei wraig, sef Mrs. Ann Tudor, yno. Wedi hyny, John Morgan a’i deulu, o Penal, Meirion; a Wm. Jones, o Waunfawr, Arfon, a ddaethant yno yn 1847. Dyna yr hen sefydlwyr; gwelsant lawer o gyfyngderau yno tua 30 ml. yn ol; bu rhai o honynt feirw yno; ond y mae amrai o honynt eto yn fyw, ac yn dra chysurus eu hamgylchiadau; ac yn bobl dda a chrefyddol.

Mae yno yn awr sefydliad da o dyddynwyr cyfoethog; oddeutu 60 o deuluoedd, a 300 o boblogaeth Gymreig. Dyma restr o’u henwau, &c.:

ENWAU. / O BA LE O GYMRU? &C. / PA BRYD?

John Griffiths / Penal, Meirion, G.C. / 1843
Arthur Griffiths / Penal, Meirion, G.C. / 1843
Mrs. Mary Tudor / Penal, Meirion, G.C. / 1843
John A. Rees / Penal, Meirion, G.C. / 1843
Hugh Arthur / Penal, Meirion, G.C. / 1844
Evan Morgan / Meirion, G.C. / 1845
John Morgan / Meirion, G.C. / 1845
William Jones / Arfon, G.C. / 1844
John S. Davies / Meirion, G.C. / 1853
Evan E. Davies / Meirion, G.C. / 1850
Evan H. Davies / Meirion, G.C. / 1852
Hugh E. Davies / Meirion, G.C. / 1850
Evan Davies / Maldwyn / 1852
Edward E. Davies / Meirion / 1852
William Anwyl / Maldwyn / 1853



 

 

 


(delwedd E1108) (tudalen 70)

(x264) (tudalen 70) Y GORLLEWIN PELL

ENWAU. O BA LE O GYMRY? &C. PA BRYD?

Mrs. Evan Anwyl / Maldwyn / 1853
Thomas Anwyl / Maldwyn / 1853
Evan Evans / Maldwyn / 1853
John L. Thomas / Sir Gaer, D.C. / 1854
Benjamin Morgan / Brycheiniog, D.C. / 1854
David N. Jones / Sir Gaer, D.C. / 1855
Robert T. Jones / Meirion, G.C. / 1855
Mrs. Elizabeth Jones / Meirion, G.C. / 1855
Parch. Thomas W. Evans / Aberteifi, D.C. / 1856
David H. Gnffiths / Ganwyd yno yn / 1846
Hugh Jones / Arfon, G.C. / 1856
John A. Owen / Maldwyn, G.C. / 1857
Hugh O. Jones / Maldwyn, G.C. / 1857
Jenkin D. Jenkins / Aberteifi, D.C. / 1857
Lewis Jones / Maldwyn, D.C. / 1857
Hugh M. Jones / Maldwyn, D.C. / 1857
Thomas E. Jones / Maldwyn, D.C. / 1858
David J. Evans / Maldwyn, D.C. / 1858
John Jacobs / Aberteifi, D.C. / 1858
John R. Owen / Meirion, G.C. / 1860
William V. Davies / Maldwyn, G.C. / 1861
John H. Davies / Maldwyn, G.C. / 1861
Vaughan Davies / Meirion, G.C. / 1862
John Richards / Maldwyn, G.C. / 1863
Edward J. Davies / Meirion, G.C. / 1864
Robert Evans / Meirion, G.C. / 1865
Edward Williams / Meirion, G.C. / 1866
Elias Roberts / Arfon, G.C. / 1867
Humphrey Jones / Meirion, G.C. / -
Richard Richards / Meirion, G.C. / -
John Jones / Aberteifi, D.C. / 1867
Jenkin Davies / Aberteifi, D.C. / 1867
David Davies / Aberteifi, D.C. / 1867
Thomas R. Jones / Aberteifi, D.C. / 1867
Lot Hughes / Arfon, G.C. / 1867
Richard Thomas / Arfon, G.C. / 1868
Parch. Owen Owens / Arfon, G.C. / 1868
Richard J. Williams / Arfon, G.C. / 1868
Richard Edwards / Maldwyn, G.C. / 1869
David Edwards / Maldwyn, G.C. / 1869
John J. Williams / Arfon / -
Mrs. Elizabeth Norton / Meirion / -
Edward E. Jones / Maldwyn / 1869
Richard Williams / Arfon / 1869
Parch. G. Roberts (T. C). / Penmachno, Arfon / 1870

Mae tua 11 o’r teuluoedd Cymreig yn byw yr ochr ogleddol i aber fechan Long Creek; dros 40 o deuluoedd



 

 


(delwedd E1109) (tudalen 71)

(x265) (tudalen 71) TALAETH IOWA

Cymreig yn byw yr ochr ddeheuol iddi, ac amrai deuluoedd yn Washington Co.

Yr Eglwys
ANNIBYNOL yn Long Creek, Iowa. - Ffurfiwyd yr eglwys yn Hydref y fl. 1845, gan y Parch. David Knowles. Adeiladwyd y capel cyntaf yno yn 1846, a’r addoldy presenol yn 1864, - 34 wrth 26 tr. Traul, $1,000. Dim dyled. Lot fawr, a mynwent ehelaeth gerllaw y capel yn y coed. Diaconiaid - George Lewis, David N. Jones, John L. Thomas. Aelodau, 80; Ysg. Sab., 60; cynulleidfa, 150. Bu y brodyr parchus D. Knowles a Thomas W,. Evans yn gweinidogaethu yn llwyddianus yno am flyneddau. Eu gweinidog presenol yw y Parch. Owen Owens, gynt o Bryn-menyn, Morganwg, D.C.

Eglwys y TREFNYDDION CALFINAIDD yn Long Creek, Iowa, - Ffurfiwyd yr eglwys hon yno yn y fl. 1861. Adeiladwyd y capel bychan hardd yno yn 1862. Traul, $400. Dim dyled. Aelodau, 50; Ysg. Sab., 40; cynulleidfa, 70. Swyddogion - Arthur Griffiths, Evan Davies, William Jones, Columbus City P. O., Louisa Co., Iowa.

6. FLINT CREEK, Des Moines Co., Iowa, (Pleasant Grove P.O.) - Saif y sefydliad Cymreig bychan hwn tua 25 milldir i’r de o sefydliad Long Creek. Gellir myned o Columbus Junction, neu o Burlington yno yn awr gyda y “Burlington, Cedar Rapids, and Minnesota R.R,” trwy ddisgyn yn Kossuth Depot. Pedair milldir sydd oddiyno at y capel. Nid yn Sperry Depot, a’r Morning Sun Station, lle mae Hugh Edwards, Ysw., a’i deulu yn byw, gynt o Geryg-y-Druidion, Sir Ddinbych, G.C. Mae efe a’i deulu yn aelodau yn yr eglwys Annibynol yn Flint Creek. Gwlad ardderchog a ffrwythlon sydd oddiyno am filldiroedd hyd Flint Creek; ac oddiyno trwy Pleasant Grove, ar draws y wlad hyd New London, neu Danville, ar y “Burlington & Missouri R.R.”

Y sefydlwyr cyntaf yn Long [sic] Creek oeddynt John Jones a’i wraig, o Sir Fon, G.C., aelodau crefyddol gyda y T.C. Daethant yno yn ngwanwyn y fl. 1842. Buont feirw tua’r fl. 1855, a chladdwyd hwynt yn y fynwent wrth y capel. Mae eu meibion, Edward Jones a John J. Jones, a’u teuluoedd, yn dyddynwyr parchus yn yr ardal eto. Wedi hyny daeth Jonah Morris, o Sir Gaer, D.C., yno gyda’i wraig a’i blant yn 1843. Claddwyd Mr. Morris yn [sic] Long Creek, a symudodd ei weddw



 

 


(delwedd E1110) (tudalen 72)

(x266) (tudalen 72) Y GORLLEWIN PELL

i Newark, Ohio. Daeth James Thomas, o Sir Gaer, D.C., yno yn 1843. Claddwyd ef yn mynwent y capel Mai, 1868. Mae ei weddw a’i fab yn byw yn yr ardal eto. Daeth John Jacobs, Sir Gaer, D.C., yno yn 1843. Bu ef yn California. Joshua Jones a’i wraig a ddaeth yno o New York yn 1845. Claddwyd ef wrth gapel y Bedyddwyr Saesonig yno tua’r fl. 1856. Mae ei weddw yn byw yn yr ardal eto. Yr un fl., 1845, daeth Benjamin Jones a’i wraig yno o Lundain, Lloegr. Pobl grefyddol oeddynt gyda y T.C. Claddwyd ef mewn mynwent yn agos i Pleasant Grove yn y fl. 1846. Ei weddw ef yw Mrs. Jacobs; ei fab ef yw Benjamin Jones, a’i ferch ef yw gwraig Thomas Thomas (B.,) sydd yn byw yno eto. Thomas Evans, o Sir Aberteifi, a’i wraig a’i blant, a ddaethant yno yn 1845. Pobl grefyddol gyda yr Annibynwyr oeddynt. Bu ef a’i wraig a dwy o’i ferched farw o’r cholera, a chladdwyd hwynt yn mynwent y capel. Mae Mr. Henry Evans, eu mab, yn byw yn yr ardal eto. Eu merched hwy yw Mrs. Gowdy, o Flint Creek, a Mrs. Gartley yn Burlington. Daeth Robert Jones a’i wraig a’u plant, o Sir Fon, yno yn 1845. Yr oedd ef y pryd hyny yn aelod gyda’r Eglwyswyr, a’i wraig gyda’r Bedyddwyr. Yr oedd y ddau yn fyw yno yn niwedd y fl. 1870. Claddwyd dau o’u plant yn mynwent y capel; ond y mae y rhai canlynol yn fyw ac yn gysurus: - John E. Jones (A.,) David E. Jones (B.,) Isaac N. Jones (A.,) Sarah, gwraig y Parch. Thomas W. Evans, William W. Jones, Clay City, Clay Co., Illinois. Daeth Erasmus Evans a’i wraig, a’i feibion a’i ferched yno yn 1845, o rywle yn agos i dref Caernarfon, G.C. Prynasant 40 erw o dir tua milldir i’r gorllewin o’r capel. Dychwelasant i’r gweithiau glo, i’r dwyrain o St. Louis, Missouri. Pobl anghrefyddol oeddynt. Dichon eu bod wedi eu claddu. Os oes rhai o’u perthynasau yn fyw, dymunwyf eu hysbysu fod y tir heb ei gau i mewn eto, ac y gallant ei adfeddianu trwy dalu yr holl drethi.

Tua’r fl. 1850, ymfudodd amrai oddiyno i California, ac ni ddaeth llawer o honynt byth yn ol. Ymadawodd Thomas Lewis, John Davies, a David Williams, i leoedd ereill; ac ymadawodd Thomas Lewis (B.,) a’i



 

 


(delwedd E1111) (tudalen 73)

(x267) (tudalen 73) TALAETH IOWA

deulu, gynt o Sir Benfro, D.C., i Dawn, Missouri, yn 1848. Lleihawyd y boblogaeth Gymreig.

Prynodd llawer o’r sefydlwyr cyntaf Land Warrants am $30 i $150, a sefydlasant ar diroedd da o goed a doldiroedd (prairies.) Mae aber fechan y Flint Creek yn rhedeg drwy yr ardal, ac oddeutu hono mae digon o goed ac o geryg. Mae rhai tai da wedi eu hadeiladu yn yr ardal gan y Cymry; ac y mae rhai o honynt yn bobl gyfoethog, a haelionus at bob achos da. Dyma restr o enwau y preswylwyr Cymreig yn Tachwedd, 1870: -

ENWAU. O BA LE O GYMRU? &C. PA BRYD?

Robert Jones / Mon, G.C. / 1843
John R. Jones / Mon, G.C. / 1843
David R. Jones / Mon, G.C. / 1843
Mrs. Joshua Jones / New York, N.Y. / 1843
Isaac N. Jones / Ganwyd yno yn / 1844
Mrs. Ann Thomas / Sir Gaer, D.C. / 1845
Henry Evans / Aberteifi, D.C. / 1845
Benjamin Jones / Llundain / 1845
Mrs. Jacobs / Llundain / 1845
Thomas Jones / Iowa / 1847
Edward P. Hughes / Liverpool / 1850
William E. Jones / Fflint, G.C. / 1853
Edward Jones / Mon, G.C. / 1855
John J. Jones / Mon, G.C. / 1846
William W. Williams / Mon, G.C. / 1853
William Lloyd / Ohio / 1858
William James / Sir Gaer, D.C. / 1858
William W.Jones / Arfon, G.C. / 1858
Thomas H. Evans / Ohio / 1865
William L. Roberts / Meirion / 1868
Hugh Jones / Mon / 1867
Richard Jones / Mon / 1868
William D. Roberts / Meirion / 1869

Mae yn yr ardal tua 24 o deuluoedd, a thua 120 o boblogaeth Gymreig. Yn eu plith mae amrai o bobl ieuainc yn gwasanaethu.

Ffurfiwyd yr Eglwys Gristionogol Undebol (The Christian Society) yn nhy Jonah Morris, gan y Parch. David Knowles (A.,) yn Mehefin, 1848, gydag ychydig o aelodau. Adeiladwyd y capel cyntaf yno gan yr hen Gristion ffyddlon John Jones (T.C.,) bron oll ar ei draul ei hunan. Gwnaed y capel newydd hardd presenol yn 1868. Traul, $11,100. Talwyd yr oll gan yr ardalwyr. Da iawn. Aelodau, 40; Ysg. Sab., 50; cynulleidfa, 80. Diaconiaid - Thomas Edwards, Richard Jones, trysorydd; a Benjamin Jones, Ysgrifenydd, Bu y gweinidogion canlynol



 

 


(delwedd E1112) (tudalen 74)

(x268) (tudalen 74) Y GORLLEWIN PELL

yn llafurio yno: - Parchn. David Knowles, George Lewis, John Pryce Jones, John Price, Thomas W. Evans (14 o flyneddau); Evan Griffiths, am ychydig amser. Eu gweinidog presenol yw y Parch. Robert Evans, gynt o Waukesha Co., Wis.

7. OSKALOOSA, Mahasha Co, Iowa. - Hon yw prif dref y sir, ac y mae yn dref boblog; a cheir ynddi lawer adeiladau da, ac o fasnachdai mawrion; deg o eglwysi Saesnig, gan wahanol enwadau, ac un college; dwy factory wlan, dwy felin flawd, dwy foundries and machine shops, un bank, post office, &c. Ynddi y mae Joseph Jones (gof),gynt o Dowyn, Meirionydd, G.C., yn byw. Bu yn dra llwyddianus yno. Efe yw meddianydd y prif carriage shop sydd yno. Bu ef yn Milwaukee, Wis. Mae yn Oskaloosa er y fl. 1855. Mae ganddo wraig, a thri neu bedwar o blant. Mae yr Iowa Central R.R. wedi ei gweithio oddiyno i Albia, a gorphenir hi cyn hir oddiyno ar draws Missouri i St. Louis; ac o Oskaloosa heibio i Grinnell, a thrwy Cedar Falls i St. Paul, Minnesota. Gwna les dirfawr. Gerllaw tref Oscaloosa y mae teulu parchus y Dr. Wm. Rowlands, gynt Williamsburgh, Iowa, yn byw.

8. OSKALOOSA JUNCTION, Beacon P.O., Mahaska Co., Iowa. - Hen enw y lle hwn oedd Enterprise. Saif yn y Des Moines Valley, o fewn 2J milldir i dref Oskaloosa. Mae dwy reilffordd yn rhedeg heibio iddo, sef yr Iowa Central R. R, a’r Des Moines Valley R.R. Gellir myned yno gyda y reilfforddo Ottumwa (25 milldir), neu o Des Moines City (61 milldir.) Nid oes llawer o ffordd ar draws y wlad o Williamsburgh, Iowa Co., yno. Mae tiroedd amaethyddol, a gwythienau glo rhagorol, oddeutu y lle hwn am filldiroedd, a gellir eu prynu am brisiau rhesymol. Gwlad doredig a choediog yw.

Daeth John S. Morgan a Watkin Williams, o Sir Aberteifi, D.C., o sefydliad Cymreig Monroe Co. i weithio yn y gwaith glo yno yn 1856. Americaniaid a agorasant y gweithiau glo yno; gwythienau o 5 tr. i 7 tr. o drwch. Ond ni symudodd y personau uchod a’u teuluoedd i fyw yno hyd y fl. 1865. Cyn, ac ar ol hyny, daeth llawer o fwnwyr i weithio, ac i setydlu yno. Enillant



 

 


(delwedd E1113) (tudalen 75)

(x269) (tudalen 75) TALAETH IOWA

$2 i $2.50 y dydd. Mae John G. Jones, Ysw., yn cadw store fawr yno er y fl. 1857, ac yn hono y mae y post office. Mae yno amrai o Gymry parchus a chyfoethog yn byw ar eu tyddynau, ac yn arolygwyr ar y gweithiau glo, a rhai o honynt yn meddianu rhan ehelaeth ynddynt, megys Watkin Price, Ysw., a’i frodyr, Joshua Price, John Price, Jenkin Price, a Watkin Price, gynt o Hirwaun, Glynedd, ac Aberdar, Morganwg, D.C. feu farw y Parch. Peter Lloyd (B.,) yno Medi, 1868, a chladdwyd ef yn Forest Cemetery, yn 67 ml. oed. Mae ei weddw, Mrs. Lloyd, a’i phlant, yn byw ar eu tyddyn gerllaw yno eto. Yr oedd David S. Davies, Pont-y-pridd, D.C., yn foss ar un o’r gweithiau glo yno yn 1870. Yr un amser yr oedd David Evans, o Pomeroy, Ohio; Thomas Parry, Morgan Howells, a William Bowen, o Sir Fynwy, D.C.; a Daniel Jones, Isaac Jones, Henry Jones, Wm. Phillips, Morgan Phillips, Wm. Davies, Moses Thomas, o Aberdar; a John Williams, a John T. Williams, o Brynmenyn, D.C.; ac Ebenezer Jones, Joseph Sanders, a Shadrach Morgan, Ferthyr Tydfil; a Thomas T. Davies, Evan Evans, Christmas Evans, Tredegar; Lewis Lewis, Mountain Ash, D.C.; Daniel W.Davies (boss),o Lanelli, Sir Gaer; Owen Thomas a John Thomas, o Sir Aberteifi; a William Lewis, o Hirwaun, ac ereill, yn byw yno. Oddeutu 43 o deuluoedd, a 215 o boblogaeth Gymreig.

Yr Eglwys
ANNIBYNOL Gymreig yno. - Dechreuwyd pregethu yno yn nhy Mr. John G. Jones, ac mewn tai ereill, er y fl. 1860. a Mr. John M. Williams (A.,) yn awr o Crab Creek, Ohio, yn pregethu ar hyd y tai yno cyn ffurfio yr eglwys; wedi hyny y Parch. Tudor Jones. Ffurfiwyd yr eglwys yn Mai, 1864. Daeth Mr. David L. Davies, gynt o Hyde Park, Pa., yno yn ngwanwyn 1865, ac urddwyrd ef yn weinidog ar yr eglwys, Hydref 15, 1865. Bu ef yn gweinidogaethu yno am ddwy flynedd; pregethai yn Gymraeg a Saesonaeg; ac ymadawodd i Murphysboro, Illinois. Ar ei ol ef , yn Mai, 1869, cymerodd y Parch. David Lewis, o Illinois, ofal yr eglwys; a therfynodd ei weinidogaeth yno yn Mai, 1870. Eu gweinidog presenol yw y Parch. David Thomas, gynt o Lanfair Caereinion, Maldwyn, G.C. Adeiladwyd eu capel newydd hardd, 30 wrth 86 tr., yn haf y fl. 1870; traul, $1,600. Talant yr holl ddyled yn fuan, os nad ydynt wedi gwneyd cyn hyn. Aelodau, 42; Ysg. Sab., 50; cynulleidfa, 100. Diaconiaid, John S, Morgan; Isaac Jones, Ysgrifenydd.



 

 


(delwedd E1114) (tudalen 76)

(x270) (tudalen 76) Y GORLLEWIN PELL

9. GIVEN, Given P.O., Mahaska Co., Iowa. - Saif y lle yma tua 4 milldir i’r de o Oskaloosa Junction, ar y Des Moines Valley, R.R. Lle newydd ydyw yn nghanol coedwig. Gweithiau glo sydd yno hefyd. Mae yr Iowa Central R.R. yn croesi y reilffordd arall yno. Mae y gwaith glo tua chwarter milldir o’r crossing, Ffurfiwyd eglwys Annibynol yno yn 1867, gan y Parch. David L. Davies. Ond eu gweinidog presenol yw y Parch. David Lewis (Dewi Mynwy), gynt o Dredegar. Mae ganddo wraig a phump o blant. Pregetha mewn ysgoldy yno, ac yno yr oedd yn byw yn niwedd y fl. 1870. Diacon, Mr. Watkin Williams, gynt o Sir Aberteifi, D.C. Aelodau, 16; Ysg. Sab., 25; cynulleidfa, 30. Yn Tachwedd, 1870, yr oedd y penau-teuluoedd canlynol yn byw yno: - Ébenezer Williams a John Davies, o Ogledd Cymru; Watkin Williams, Aberteifi; David Morris, Rymney; Joseph Shelton, Nantyglo; William Jenkins, Morganwg; a David Evans, Cwmtwrch, Mynwy. Aed y fechan yn fil, a’r wael yn genedl gref. Cymry oll, 50.

10. MONROE, Georgetown P.O., Monroe Co., Iowa. - Gorwedda sir Monroe ychydig i’r de-orllewin o Mahaska Co. Nid oes ond tua 25 milldir o Oskaloosa, ac o Ottumwa, ar y reilffyrdd i Albia, prif dref y sir, lle mae pedwar neu bump o deuluoedd Cymreig yn byw; sef, John A. Edwards, miller; Stephan Lloyd, plasterer; Moses Edwards, miller; Morgan Edwards, miller; ac y mae Morris Baines, gynt o Lanerfil, Maldwyn, G.C., yn byw o fewn dwy filldir yno. Ond mae y sefydliad Cymreig tua thair milldir i’r gogledd o Tyrone Station, yr hwn sydd tuag wyth milldir i’r gorlîewin o Albia, ar y “Burlington & Missouri R.R. ” Gwell yw disgyn yn Tyrone, a holi am Benjamin F. Jones, a Samuel Williams, y rhai sydd yn byw ar eu tyddynau o fewn dwy filldir i’r gogledd oddiyno. Pentref bychan yw Tyrone, ac nid oes Cymry yn byw yno; yn Albia y mae y Cymry yn masnachu fwyaf.

Sefydlwyr Cymreig cyntaf Monroe Co. oeddynt, Benjamin F. Jones, o Landysil, Sir Aberteifi, D.C., (ewythr i’r Dr. Pan Jones, frawd ei dad); Lewis Jones a David



 

 


(delwedd E1115) (tudalen 77)

(x271) (tudalen 77) TALAETH IOWA

Jones, o’r Gogledd; a Thomas Evans a William Griffiths, Sir Gaerfyrddin, D.C.; a David Thomas, o Pittsburgh, Pa.; daethant yno bron yr un amser - tua’r fl. 1854. Daeth Owen Thomas, o Langranog, a Watkin Williams, Sir Aberteifi, yno yn 1856; a John Williams, pregethwr gyda’r Annibynwyr, o Sir Gaer; a Wm. Phillips, o Ddeheudir Cymru, yn 1857; a Stephan. Lloyd, plasterer, o Sir Benfro, yn 1858, (claddwyd ef yno.) Daeth Morris Baines, o Lanerfil, G.C., a David James (hen lanc), o Sir Benfro, yr hwn sydd yn awr yn New Cambria Mo., yno yr un flwyddyn. Yn 1859 y daeth y personau canlynol yno: Thomas John, o Sir Gaer; Thos. Davies, ac Isaac Davies, ei frawd, a Wm. Davies, eu tad; a Richard Jones, Meirion, G.C. Prynasant diroedd y Llywodraeth am $1.25 yr erw, a thiroedd y speculators am o $5 i $8 yr erw. Tir da am borfa, ac at godi gwenith ac Indrawn, a digon o goed mewn manau cyfagos. Gwerthir y tyddynau diwylliedig yno yn awr am o $25 i $10 yr erw. Mae yno wlad dda ac iachus; ond blinder mwyaf y Cymry crefyddol sydd yn byw yno ydyw, fod gormod o lawer o Wyddelod Pabyddol yn eu hamgylchu; hyny a achosodd i lawer o honynt werthu eu tyddynau, ac ymfudo oddiyno i leoedd ereill mwy Cymreig a chrefyddol. Mae tua phymtheg o deuluoedd Cymreig yn byw yno eto, sef, 1. Thomas Beynon. 2. Thomas Watkins. 3. Thos. Evans. 4 Samuel Williams. 5. William Griffiths. 6. Benjamin F. Jones. 7. William Lewis. 8. Thomas Stephens. 9. Isaac Davies. 10. Thos. Davies, 11. William Davies. 12. Thomas Morgan. 13. William Williams. 14. Richard Jones. Dichon fod yno ac yn Albia tua chant (100) o boblogaeth Gymreig.

Yr Eglwys
ANNIBYNOL yn Monroe County, Iowa. - Ffurfiwyd yr eglwys yno yn haf y fl. 1856. Cyn hyny, pregethid Cymraeg a Saesonaeg mewn ysgoldai yno gan y Parch. John L. Richards. Bu ef yno am dri mis. Adeiladwyd y capel yn 1859 - 25 wrth 30 tr. - coed; traul, $750; dim dyled. Bu y bobl yn ffyddlon i weithio ac i gyfranu at y capel newydd, a chawsant lawer o fendithion ysbrydol ynddo . Bu y brodyr canlynol yn gweinidogaethu yno: - Thomas Mathews, Tudor Jones, David Knowles, a David Thomas. Nid wyf yn gwybod fod ganddynt weinidog yn awr. Diaconiaid - Richard Jones, a Thomas Evans. Aelodau, 20; Ysg. Sab., 25; cynulleidfa, 50,



 

 


(delwedd E1116) (tudalen 78)

(x272) (tudalen 78) Y GORLLEWIN PELL

11. BURLINTON, Des Moines Co., Iowa. - Tref boblog a hardd yw hon, ar lan afon fawr y Mississippi, lle mae pont ardderchog a chadarn yn ei chroesi, ac yn cysylltu Iowa âg Illinois, dros yr hon y mae cerbydau y ddwy reillfordd nodedig, sef y “Chicago, Burlington & Quincy R.R. ,” a’r “Burlington & Missouri R.R.” yn cludo teithwyr a nwyddau yn oestadol. Dyma lle mae prif swyddfa dirol y “Burlington & Missouri R.R.;” ac y maent wedi gwneyd darpariadau rhagorol at letya a diogelu ymfudwyr a fyddo yn bwriadu prynu a sefydlu ar eu tiroedd gwerthfawr yn Iowa a Nebraska. Diau fod yno rai Cymry yn byw ac yn masnachu; ond nid oes yno eglwys na chapel Cymreig.

12. Davenport, Scott Co., Iowa. - Dinas brydferth yw hon, yn cynnwys dros ugain mil (20,045), o wahanol genhedloedd, yn 1870. Saif ar lan orllewinol y Mississippi, gyferbyn a thref fywiog Rock Island, yn Illinois. mae ferry boats yn croesi o’r naill i’r llall yn wastadol; ac y mae pont fawr gadarn wedi ei gwneuthur dros yr afon, dros yr hon y mae cerbydau y “Chicago, Rock Island & Pacific Railroad” yn croesi o’r naill dalaeth i’r llall, sef Illinois ac Iowa. Lle iachus a bywiog ydyw. Mae ei heolydd a’i phalasdai yn codi i’r bluffs, ac yn edrych yn hardd yn y llwyni coed ar y bryniau. Mae yn Davenport rai Cymry parchus a chyfoethog yn byw er ys blyneddau, sef John L. Davies, Ysw., (Ex-Mayor) y ddinas. Lumber merchant yw ef; mae ei office ar corner of Replier & 4th streets. Yno hefyd y mae Mr. David M. Williams, carpenter, yn byw. Brawd yw ef i’r Dr. Williams, yn awr o Wilkesbarre, Pa. Ond nid oes yno nac yn Rock Island eglwys na chapel Cymreig.

13. DUBUQUE, Dubuque Co., Iowa. - Yr oedd yn y dref hon dros ddeunaw mil o bobl yn 1870. Saif ar lan y Mississippi, gyferbyn a Duleith yn Illinois; ac y mae y Chicago & Illinois Central R.R. yn rhedeg drwyddi i Fort Dodge, &c. Gellir myned iddi hefyd gyda yr agerddfadau o wahanol fanau ar yr afon. Mae llawer o weithiau plwm gerllaw y dref. Yno y mae y Parch. Tudor Jones a’i deulu, gynt o Utica, N.Y., yn byw;



 

 


(delwedd E1117) (tudalen 79)

(x273) (tudalen 79) TALAETH IOWA

a dichon fod yno amrai o Gymry ereill wedi sefydlu; ond ni chlywais fod yno eglwys na chapel Cymreig.

14. LIME SPRING, Howard Co., Iowa. - Dyma lle mae sefydliad Cymreig newydd a chynyddol. Terfyna sir Howard ar gyffiniau deheuol Minnesota; ac y mae Cymry y sefydliad hwn yn wasgaredig oddeutu terfynau y ddwy dalaeth, sef Iowa a Minnesota. Yr oedd amrai o Hollanders a Norwegians wedi sefydlu oddeutu yr Upper Iowa River, yn sir Howard, yn Iowa, ac yn sir Fillmore, yn Minnesota, er ys llawer o flyneddau; ond trigent mewn tai gwaelion, ac nid oeddynt wedi diwyllio llawer ar y tiroedd, ac yr oedd amrai o honynt yn hoff iawn o ddiodydd meddwol. Mae llawer o honynt yn bobl dda a chrefyddol gyda y Lutheriaid. Dechreuodd y Cymry sefydlu yno yn y fl. 1859. R. Jones a T. Evans, a’u teuluoedd, oedd y sefydlwyr Cymreig cyntaf yno. Yn 1860, daeth llanc o’r enw K. Thomas, a J. Williams, a J. Jones, a’u teuluoedd, i fyw yno; ac yn 1861, daeth D. Davies, a W. Davies, a’u teuluoedd yno. Ymfudodd yr oll yno o wahanol fanau yn Wisconsin. Bu y Parch. John D. Williams (T. C.,).o Proscairon, Wis., yn ymweled a’r ardal yn Mehefin, 1862, a phregethodd yn nhy John Jones. Dyma y bregeth Gymraeg gyntaf a draddodwyd erioed yn yr ardal am ddim a wyddom yn wahanol. Prynodd Mr. Williams dir yno y pryd hyny; ond yn Hydref, 1867, y prynodd y tyddyn, ac y symudodd ef a’i deulu o Wisconsin iddo i fyw. Saif ar derfyn y ddwy dalaeth, ac y mae wedi adeiladu ty da ger y goedwig yno. Yn yr adeg hono, prynodd y Parch. Daniel T. Rowlands (T. C.,) dyddyn yno, a symudodd ef a’i deulu yn y gwanwyn canlynol dalaeth New York yno i fyw. Ganwyd ef yn Bethesda, Arfon, G, C. Yn y fl. 1868, daeth y Parch. Owen H. Morris a’i deulu o Blue Mounds, Wis., i fyw i’r ardal. Ganwyd ef yn Ffestiniog, Meirion, G.C. Yn y fl. 1869, daeth y Parch. John J. Evans a’i deulu o Welsh Prairie, Wis., yno i breswylio. Genedigol o Landdeiniolen, Arfon, G.C., yw efe. Mae y pedwar gweinidog parchus a enwyd yn byw ar eu tyddynau yno, ac yn cyd-ymdrechu er llwyddiant efengyl Crist yn yr ardaloedd



 

 


(delwedd E1118) (tudalen 80)

(x274) (tudalen 80) Y GORLLEWIN PELL

Bernir fod y boblogaeth Gymreig yno yn awr yn 500.

Eglwysi y
TREFNYDDION CALFINAIDD. - Sefydlasant dair o eglwysi, a chadwant Ysgolion Sabbothol, a phregethant mewn gwahanol ysgoldai cyfleus yn y gwahanol ardaloedd.: - 1. Foreston. - Aelodau, 99. Diaconiaid - H. Edwards, O. Williams, W. T. Lewis, a H. G. Jones. 2. Proscairon - Aelodau, 22. Diaconiaid - D. Davies ac R. Hughes. 3. Yorktown. - Aelodau, 44. Diaconiaid - W. Williams ac O. Humphreys. Pan oeddwn yno yn niwedd y fl. 1870, nid oeddynt wedi dechreu adeiladu yr un capel, ond addolent mewn gwahanol ysgoldai yno . Barnwyf fod hyny yn llwybr doeth, am fod yn anhawdd iddynt y pryd hyny wybod pa fanau a fyddai fwyaf cyfleus iddynt i godi addoldai i’r boblogaeth ddyfodol .

FORESTOWN oedd yr enw cyntaf a roddwyd ar y sefydliad Cymreig hwn. Pentref bychan oedd hwnw ar ochr orllewinol yr Upper Iowa River; a chodwyd melin flawd gyferbyn ag ef yr ochr arall i’r afon, a thri Cymro parchus ydynt ei meddianwyr, sef y Parch. John D. Williams, John ab Jones, Ysw., o Cambria, Wisconsin, a Mr. David Thomas, gynt o Cwmydail, ger Llanfair-caereinion, Maldwyn, G.C. Oddeutu y fl. 1867 yr agorwyd y reilffordd o McGregory i St. Paul; wedi hyny y dechreuwyd adeiladu tref newydd Lime Spring, yn yr hon y mae rhai masnachwyr a chrefftwyr Cymreig yn byw, ac y mae Cymry yr holl ardaloedd yn masnachu. Yno y mae y Station nesaf at y Cymry; ond nid oes yno eto nac eglwys na chapel Cymreig. Saif y dref fechan newydd hon ar yr reilffordd, o fewn tua milldir i’r gorllewin o hen bentref Lime Spring, a thua thair milldir i hen bentref Forestown. Symudwyd llawer o dai o’r hen bentref i’r dref newydd.

Yr
ANNIBYNWYR yn y sefydliad hwn. Mae amrai o deuluoedd cyfoethog a chrefyddol perthynol i’r Annibynwyr yn yr ardaloedd hyn; sef William Evans, a’i briod a’i deulu, gynt o Dyddyn y Plas, Soar, Machynlleth, Maldwyn, G.C.; John Howells, mab y Parch. Samuel Howells, (A.) Bark River, Wis.; David G. Thomas, miller; ac amryw o deuluoedd ereill sydd yn byw ar eu tyddynau i’r de o Forestown; ac y mae amrai ereill yn byw oddeutu Florence yn Minnesota, tua thair milldir i’r gogledd o Forestown.

Yn Gor. 1803, y Parch. John A. Jones, gynt o Glanrheidiol, ger Aberystwyth, D.C, a diweddar o Berlin, Wis., a dalodd



 

 


(delwedd E1119) (tudalen 81)

(x275) (tudalen 81) TALAETH IOWA

ymweliad a’r sefydlîad; pregethodd yn y boreu i’r Saeson yn Forestown, ac yn y prydnawn i’r Cymry yn Minnesota. Yn Meh. 1864, symudodd ef a’i deulu o Wis. i’r ardal hon i fyw, ac i gymeryd gofal gweinidogaethol yr eglwys Saesonig Bresbyteraidd, yn Forestown. Pregethodd yn y prydnawn i’r Cymry yn Minnesota, dan goeden, wrth dy John R. Williams; cwrdd anwyl a nefolaidd ydoedd hwnw. Saith o deuluoedd Cymreig oedd yno - sef y Parch. David Davies a’i deulu, gynt cenhadwr gyda’r Omaha Indiaid, yn Nebraska; diacon W. P. Davies, a’i deulu; John J. Jones, a’i deulu; John R. Williams, a’i deulu; Owen Jones a’i deulu; Richard W. Jones, a’i deulu; a’r Parch. J. A. Jones, a’i deulu. Yr oedd rhai o honynt yn Annibynwyr. Yn mis Tachwedd, 1864, daeth yr eglwys Seisnig Bresbyteraidd yn Forestown yn eglwys Annibynol, ac urddwyd y Parch. John A. Jones yn weinidog arni, Rhagfyr 14, y fl. hono. Pregethodd i’r Cymry a’r Saeson am dair blynedd, hyd ddiwedd 1867, pan y rhoddodd ofal yr eglwys Annibynol Gymreig yn Minnesota i fyny, ac y sefydlodd eglwys Gynulleidiaol Saesonig yn Florence, Cresco P.O., Howard Co., Iowa, gyda saith o aelodau; ond y mae ynddi yn awr 50 o aelodau, a chapel a chlochdy gwerth $4,000. Bu, ac y mae Mr. Jones yn gysurus a llwyddianus iawn yno. Mae amrai o Gymry parchus yn aelodau yn yr eglwys hono; ac yr oedd tebygolrwydd y Buasai eglwys Annibynol yn cael ei sefydlu, a chapel yn cael ei godi, i’r deau rhwng Forestown a Lime Spring; gwell fuasai iddynt gael capel da yn Lime Spring ar unwaith, canys yno, ac oddeutu yno, y sefydla llawer o Gymry yn y dyfodol. Mae y brawd Jones yn pregethu yn aml i’r Cymry, ac yn gymeradwy iawn ganddynt fel Cristion da, a gweinidog ffyddlon; ac y mae efe yn gerddor da hefyd.

A ganlyn yw tystiolaeth y Parch. John D. Williams, (T.C.) am y tiroedd yn sefydliad Lime Spring: - “Mae y tiroedd yn dda a gwastad yn mhob man, hyd nes y deuir yn agos i’r afonydd; dim llawer o brinder coed, a gellir cael glô yn rhâd os bydd angen am dano; y dwfr yn dda iawn, ond braidd yn brin mewn rhai manau, ond cyflawnder o hono mewn manau ereill. Mae’n debyg ei bod yn wlad mor iachus ag un yn y byd; a gellir prynu y tir yn rhad, sef o $10 i $35 yr erw, yn ol gwerth y llafur a gymerwyd gydag ef.”

Mae digon o water power yn yr Upper Iowa River, a choed gwerthfawr oddeutu ei glanau, ac mewn manau ereill; a llawer o rolling prairies tra ffrwythlon oddeutu yno am filldiroedd; a sonir am gael reilffordd arall o Davenport, Iowa, heibio i Greuger, &c., i St. Paul, Minnesota. Bydd hono hefyd yn fanteisiol i r sefydliadau



 

 


(delwedd E1120) (tudalen 82)

(x276) (tudalen 82) Y GORLLEWIN PELL

Cymreig yma. Mae tebygrwydd y bydd ugeiniau, os nad canoedd, o deuluoedd Cymreig yn ymfudo i fyw yno yn y dyfodol. Gallant gael cartrefi da iddynt hwy a’u plant yn Howard Co., ac yn y siroedd ereill oddeutu iddi. Mae y gauaf yn lled hir ac oer yno, am fod y sefydlydliad yn ngogledd-dir Iowa.

15. PETERSON, Clay County, Iowa. - Gorwedda y sir hon rhwng siroedd O’Brien a Palo Alto, yn ngogledd-orllewin talaeth Iowa, tu draw i’r Des Moines River, ac mae y Little Sioux River yn rhedeg o Minnesota drwyddi, heibio i Spencer, un o’i threfydd. Sefydlodd rhai Cymry yno yn niwedd y fl. 1864, ac ymfudodd llawer o Gymry o Wisconsin a Lime Spring, a manau ereill, yno ar ol hyny, ac y maent yn parhau i ymfudo yno. Gellir cael tiroedd rhad y Llywodraeth yno; ond tir lled doredig a digoed ydyw, er hyny y mae llawer o hono yn dir da a ffrwythlon. Diau y bydd y reilffordd o St. Paul, trwy Mankato, Minnesota, wedi ei chwbl orphen i Sioux City, Iowa, yn fuan; a bydd hono yn dyfod trwy Clay County, neu yn agos iddi. Gorphenir reilffoirdd arall o Dubuque, trwy Cedar Rapids a Fort Dodge, i Sioux City, hefyd cyn hir; a bydd hono hefyd yn dyfod yn agos iddi. Mae gan y Bedyddwyr Cymreig achos crefyddol bychan yn y lle hwn, a golwg obeithiol arno. Mae Thomas Evans, a T. Bevan, ac R. Roberts, ac ereill, yn byw yno. Nid yw yn mhell o Sioux Rapids.

16. RED OAK, Montgomery Co., Iowa. - Gorwedda y sir hon yn nghornel de-orllewin y dalaeth; y mae y “Burlington & Missouri R.R.,” yn rhedeg drwyddi, heibio i Glenwood yn Mills Co., a thros afon Missouri, i Lincoln, prif ddinas talaeth Nebraska. Pan fum yno yn Awst 1869, nid oedd Red Oak ond pentref bychan, yn cael ei amgylchu gan y tiroedd mwyaf hyfryd a ffrwythlon; gwair-diroedd bryniog a gwastad, a pheth coed gyda’r afonydd. Clywais fod rhai Cymry o Old Man’s Creek, a manau ereill yn Iowa, wedi sefydlu gerllaw yno yn ddiweddar; a bod y Parch. Cadwaladr D. Jones yn meddwl sefydlu yno. Mae yn y sir hon, ac yn siroedd Mills, Adams, Cass, Fremont, Page, Taylor



 

 


(delwedd E1121) (tudalen 83)

(x277) (tudalen 83) TALAETH IOWA

cyfagos iddi, filoedd o erwau o dir da a ffrwythlon gan gwmpeini y reilffordd a enwyd uchod, a chan y speculators, a gellir ei brynu am o $5 i $15 yr erw. Coed, $25 yr erw. Mae Cymro ieuanc, sef Wm. T. Davies, Ysw., yn gyfreithiwr enwog yn Glenwood, Mills Co., Iowa.



 

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā
Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə /
ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý /
ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_239_hanes-cymry-america_iorthryn-gwynedd_1872_3_B1_2087k.htm

---------------------------------------
Creuwyd / Created / Creada: 08-10-2018
Adolygiadau diweddaraf / Latest updates / Darreres actualitzacions:
11-10-2018, 09-10-2018
Delweddau / Imatges / Images:
Ffynhonnell / Font / Source: Llyfrau Google; llyfr electroanidd rhad ac am ddim

Freefind.
Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait


http://c10.statcounter.com/counter.php?sc_project=1095411&java=0&security=043b27d8&invisible=0
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats