kimkat2086k Hanes Cymry America. Hanes Cymry America; A’u Sefydliadau, Eu Heglwysi, A’u Gweinidogion, Eu Cerddorion, Eu Beirdd, A’u Llenorion; Yn Nghyda Thiroedd Rhad Y Llywodraeth A’r Reilffyrdd; Gyda Phob Cyfarwyddiadau Rheidiol I Ymfudwyr I Sicrhau Cartrefi Rhad A Dedwyddol. Gan Y Parch. R. D. Thomas, (Iorthryn Gwynedd.) 1872. (= Robert David Thomas, Ganwyd Llan-rŵst, Sir Gaernarfon, 17 Medi 1817; Bu Farw Knoxville, Tennessee, Unol Daleithiau América, 25 Tachwedd 1888.)

09-10-2018

● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ●
kimkat0960k Mynegai i’r holl destunau yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_llyfrgell/testunau_i_gyd_cyfeirddalen_2598k.htm
● ● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ●
● kimkat2083k Hanes Cymry America. Iorthryn Gwynedd. 1872: Y Gyfeirddalen www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_239_hanes-cymry-america_iorthryn-gwynedd_1872_y-gyfeirddalen_2083k.htm
● ● ● ● ●
kimkat2086k Y tudalen hwn

 

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
(delwedd 0003)





Gwefan Cymru-Catalonia
El Web de Gal
·les i Catalunya
The Wales-Catalonia Website

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

HANES CYMRY AMERICA. LLYFR 1. RHAN 2.


(delwedd E1413)

Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:

http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/

a-7000_kimkat1356k
Beth sy’n newydd yn y wefan hon?

7015_map_cymru_a_chatalonia_trefi_caernarfon
(delwedd 7015)


.... 

 https://translate.google.com/ (Cymraeg, català, English, euskara, Gàidhlig, Gaeilge, Frysk, Deutsch, Nederlands, français, galego, etc)

.....

DOSRAN A – Y DWYRAIN A’R DE (2/2)
tudalennau 111-179

(delwedd E1415)

PEN. V. Y Sefydliadau a’r Eglwysi Cymreig yn Nhalaeth Ohio ...111
PEN. VI. Y Sefydliadau a’r Eglwysi Cymreig yn Vermont, &c. ...148
PEN. VII. Talaethau Ereill - New Jersey, Maryland, Virginia, Tennessee, Massachusetts, Maine, &c. ...169

.....

 

 


(delwedd E0969) (tudalen 111)


(x125) (tudalen 111)


PENNOD V.

TALAETH OHIO.

Talaeth amaethyddol ragorol yw Ohio, dros ddau gant filldiroedd o hyd wrth ddau gant o led. Cyffinir hi o du y gogiedd gan dalaeth a Llyn Michigan; o du y dwyrain gan Pennsylvania; o du y de gan afon Ohio, a West Virginia, a Kentucky; ac o du y gorllewin gan dalaeth Indiana. Pau y sefydlwyd hi yn dalaeth yn 1788, yr oedd braidd oll yn orlawn o wahanol fathau o goedydd mawrion a gwerthfawr, a llawer o Indiaid gwylltion yn ei phoblogi; ond erbyn heddyw y mae y rhan fwyaf o’i thiroedd wedi eu diwyllio, ac yn cynyrchu ffrythau toreithiog; a dinasoedd mawrion, megys Columbus, Cleveland, Cincinnati, Dayton, Newark, a lluoedd o drefydd ereill, wedi eu hadeiladu o’i mewn, yn cael eu poblogi gan wahanol genhedloedd, ac yn dwyn yn mlaen fasnach fywiog; ac y mae llawer iawn o’r reilffyrdd goreu yn.ei chroesi yn mhob cyfeiriad. Nid wyf yn deall fod ynddi yn awr ddim o diroedd iselbris na rhad y Llywodraeth; ond gellir prynu tiroedd coediog eto mewn manau ynddi am bris rhesymol iawn, yn enwedig yn y siroedd gogleddol o Vanwert ac Allen Co’s. Oddeutu y trefydd mawrion y mae yn anhawdd cael tiroedd da, heb dalu o $50 i $100 yr erw am danynt; ac y mae llawer o honynt wedi eu gwerthu yn llawer uwch na hyny. Dichon y gellid prynu llawer o dyddynau diwylliedig yn nghanol y wlad am $30 yr erw. Y mae yn awr yn rhy ddiweddar i neb geisio gwneyd sefydliad Cymreig newydd, lluosog, yn un man yn Ohio. Gwlad lled wastad ydyw drwyddi.


 

 


(delwedd E0970) (tudalen 112)


(x126) (tudalen 112) HANES CYMRY AMERICA.

Nid oes ynddi fynyddau na bryniau uchel yn un man, fel y sydd yn nhalaethau Efrog Newydd a Phennsylvania; ond y mae ynddi lawer iawn o fryniau bychain coediog, a thiroedd toredig, a gellir diwyllio y rhan fwyaf o honynt trwy lafur caled; ac y mae llawer o weithfeydd glo bychain (bituminous coal) yn y “Western Reserve” (oddeutu Youngstown, Hubbard, Brookfield, &c.), ac oddeutu glanau yr afon Ohio. Nid yw y gwythienau glo yn y dalaeth hon ond rhai bychain, o ddwy droedfedd i saith o drwch; ac y maent yn “rhedeg allan” neu yn llwyr ddarfod, wedi eu gweithio am ddeg neu bymtheg mlynedd, mwy neu lai. Y mae y mwnwyr yn gorfod gweithio yn galed am oriau meithion ynddynt, cyn y gallant enill $2.50, neu $3 y dydd. Mae llawer o.weithfeydd halen hefyd ar lanau yr Ohio, oddeutu Pomeroy, Minersville, Syracuse, &c. Ac y mae ychydig o felinau haiarn, a ffwrneisi blast, wedi eu codi yn ddiweddar yn Cleveland, Newburgh, Youngstown, Niles, Bedford, Alliance, Irondale, Steubenville, Portland, Portsmouth, &c., ond lled ansefydlog ydynt. Rhed amrai o afonydd bychain drwy y dalaeth; ond nid yw dyfroedd ei hafonydd na’i ffynonau (pydewau) mor loywon ac iachus â dyfroedd N.Y. a Pa.; ac y mae ei hinsawdd ychydig yn boethach yr haf, ond yn fwy tymherus y gauaf. Bu, ac y mae llawer o’r afiechyd blin a elwir y cryd a’r mwyth (fever and ague) yn Ohio. Oddeutu yr afonydd, ac yn y tiroedd gwlybion y ceir ef amlaf a thrymaf, ac y mae yn effeithio yn niweidiol ar rai ar hyd eu hoes. Nis gellir ysgoi yr afiechyd hwn braidd yn un man yn sefydliadau newyddion y gorllewin. Y mae talaeth Ohio yn enwog am ei sefydliadau crefyddol ac addysgiadol, ac y mae ynddi lawer sefydliadau Cymreig.


 

 


(delwedd E0971) (tudalen 113)


(x127) (tudalen 113) TALAETH OHIO.

1. PADDY’S RUN, Butler Co. - Dyma y sefydliad Cymreig cyntaf yn Ohio. Y sefydlwyr cyntaf oedd Ezeciel Hughes, Edward Bebb, David Francis, Morgan Gwilym, a William Gwilym, John Vaughan, a Morris Jones, oddeutu y fl. 1796, a 1798. Daeth y ddau gyntaf o Lanbrynmair, y tri chanol o Sir Forganwg, a’r ddan olaf o Garno, Maldwyn; ac y mae llawer o’u hiliogaeth eto yn byw yn Paddy^s Run, a’r cymydogaethau. Nid oedd ond ychydig o dai bychain yn Cincinnati pan oeddynt hwy yn myned drwy y lle y pryd hyny, ac yr oedd siroedd Hamilton a Butler wedi eu gorchuddio â choedydd mawrion. Sefydlasant ar lanau afonydd y Dry Fork a’r Miami, yn mhell oddiwrth eu gilydd; ond cyfarfyddent mewn tai i gydaddoli. Sefydlwyd yr eglwys Gynulleidfaol (Saesnig) ar y Dry Fork yn 1803. Yr oedd y Cymry uchod yn aelodau o honi. Parch. Mr. Brown, Sais o Loegr, oedd eu gweinidog. Dim pregethu Cymraeg yno y pryd hyny. Daeth y Parch. Rees Lloyd (A.), o Ebensburgh, Pa., i Paddy’s Run, yn y fl. 1817, a dechreuodd bregethu Cymraeg yn y tai. Cododd Mr. Lloyd gapel log bychan ar ben bryn, rhwng y Dry Fork a’r White Water, er mwyn bod yn gyfleus i’r Cymry y ddwy ochr i’r bryn - ond ni bu hyny yn foddhaol gan y bobl; darfu yr achos yno; ac yn y fynwent yno y claddwyd Lloyd, a’i briod, a’i blant. Daeth y Parch. Thomas Thomas, o Lundain, yno, yn 1821. Dechreuodd bregethu yn ngweithdy (wagon-shop) Mr. David Jones, (gynt o Ty-isaf, Pennant, Llanbrynmair,) yn mhentref bychan Paddy’s Run (neu New London). Yn y fl. 1818, daeth llawer o Gymry parchus, gyda David Jones, i r lle hwn, sef, William Bebb (Carno), John C. Jones, (Cyfie, Carno), Richard Jones, Coedcae, Llanbrynmair, Evan Morris (Carno), ac ereill. Adeiladwyd yr hen gapel bricks yno yn 1823, (ac y mae yn sefyll yno eto). Pregethai Thomas yn Saesonaeg, a Lloyd yn Gymraeg, ynddo . Bu T. Thomas yn gweinidogaethu yno am oddeutu saith mlynedd. Wedi hyny cododd eglwys Bresbyteraidd Saesnig yn mhentref Venus, gerllaw yno; lle y bu farw, ac y claddwyd ef, yn 1831. Wedi ymadawiad Thomas, bu y Parch. Thomas G. Roberts, (mab y Judge


 

 


(delwedd E0972) (tudalen 114)


(x128) (tudalen 114) HANES CYMRY AMERICA.

Roberts, o Ebensburgh, Pa.,) yn weinidog yn Paddy’s Run hyd 1831. Neillduwyd David Jones, a David Francis, yn ddiaconiaid yn yr eglwys yno yn 1829, ac yn 1832, daeth y Parch. Evan Roberts yno, o Steuben, N.Y. Bu yno am flwyddyn, ac aeth yn ol i Steuben. Wedi i’r Parch. B. W. Chidlaw gael addysg athrofaol yn Oxford College, gerllaw yno, a’i urddo gan y Presbytery, priododd ferch Ezeciel Hughes, a bu yn gweinidogaethu yn dra llwyddianus yno hyd 1844. Ysgrifenodd Hanes y Sefydliadau Cymreig yn America, a thalodd ymwehad a Chymry yn 1840, a daeth a llawer o Gymry gydag ef yn ol. Bu y Parch. Joseph H. Jones yn gweinidogaethu yno o’r fl. 1845 hyd 1855. Ar ei ol ef bu y Parch. James Price yno am 7 mlynedd; a’r Parch. John Morgan Thomas, am 2 flynedd, ar ei ol yntau. Bu y Parch. Hugh Price yno o’r fl. 1866 hyd Ebrill, 1870. Adeiladasant gapel newydd mawr a hardd yno yn 1855, gwerth $5,000. Dim dyled arno yn awr. Saif yn nghanol y pentref, ar wastadedd prydferth, yn cael ei amgylchu gan fryniau bychain coediog, a thyddynau ffrwythlon. Y mae yno eglwys a chynulleidfa gref a chyfoethog; ond Saesonaeg, gan mwyaf, a bregethir yno yn awr. Nid oes yno ond ychydig o’r hen bobl dduwiol yn byw; ac nid yw eu plant yn deall, nac yn mawrhau, yr iaith Gymraeg. Ond y maent yn bobl ddysgedig, crefyddol, a charedig. Costiodd cloch y capel dros $500. Gwnant $1,000 o gyflog i’w gweinidog. Diaconiaid presenol - David Jones, Robert Rees, Thomas F. Jones, Abner Francis. Ysgrifenydd - Griffith Morris. Trysorydd - Evan Evans. Y mae dwy fynwent yn yr ardal; un yn ymyl yr hen gapel yn y pentref, a’r llall oddeutu milldir i’r gorllewin oddiyno, ar fryn bychan; lle mae lluoedd o’r hen Gymry parchus yn huno. Bu William Jones, (gwëydd,) a’i briod, (o Lanbrynmair,) a Hugh Williams, gôf, (o Sir Fon,) a’i briod, yn ffyddlon iawn gyda’r achos Cymraeg yn y lle hwn. Codwyd dau bregethwr ieuanc yn yr eglwys hon, sef, Mark Williams, (mab Mr. H. Williams, y gôf,) yr hwn a anfonwyd yn genhadwr i China yn 1866; ac Abner F. Jones, (mab i Francis Jones,) yr hwn a fu yn weinidog ar ddwy eglwys ger Columbus, Ohio, ac a


 

 


(delwedd E0973) (tudalen 115)


(x129) (tudalen 115) TALAETH OHIO.

fu farw yn y rhyfel cartrefol, yn 1864. Gall fod y boblogaeth Gymreig yn Paddy’s Run, a’i hamgylchoedd, yn rhifo dros 800.

2. CINCINNATI, Hamillon Co. - Saif y ddinas ardderchog a phoblog hon, ar lan yr afon Ohio, yn ngwaelod sir Hamilton, o fewn oddeutu 25 milldir i Paddy’s Run. Cynyddodd yn ddirfawr yn yspaid yr 20 mlynedd diweddaf; ac y mae ynddi yn awr lawer o adeilaoau, a heolydd, a stores, mor ardderchog ag a welir yn ninas New York, ac y mae ei masnach yn fywiog. Yr oedd llawer o Gymry parchus wedi sefydlu yno er ys dros 35 mlynedd yn ol; crefftwyr, llafurwyr, a masnachwyr, gan mwyaf. Yr oedd rhai o honynt yn gyfoethog iawn y pryd hyny. Sefydlodd y Trefnyddion Calfinaidd, a’r Annibynwyr, eglwysi Cymreig yno oddeutu y pryd hyny; cynyddasant dan weinidogaeth amrai o weinidogion parchus, ac y maent yn eglwysi cryfion a lluosog eto. Bu y Parch. Howell Powell (yn awr o New York) yn weinidog nodedig ddefnyddiol gyda y T.C. yma, am lawer o flyneddau, ac y mae yn yr eglwys hono lawer o Gymry parchus, cyfoethog,.a haelionus; a’r Parch. Owen Evans yw eu bugail presenol. Yn yr eglwys Annibynol yno y bu amrai o weinidogion ffyddlon, sef, Jones, Edwards, Davies, a Griffiths; ac y mae ganddynt yn awr un o’r gweinidogion mwyaf cymeradwy yn America, sef y Parch. R E. Williams. Meibion y diweddar weinidog enwog, sef y Parch. S. Griffiths, Horeb, D.C:, ac ereill, a fuont yn dra ffyddlon yn yr eglwys hon, fel diaconiaid, ac aelodau; sef William, a Samuel, a John, a James Griffiths. Bu William Griffiths, Ysw., farw er ys rhai blyneddau yn ol; ond y mae Mrs. Griffiths, ei weddw, a’i phlant; a John Griffiths, Ysw., a James Griffiths, Ysw., a’u teuluoedd, yn aelodau parchus a defnyddiol yno eto; ac yn bobl gyfoethog, a thra haelionus at yr achos. Y mae gan Richard Griffiths, Ysw., (gynt o Lanbrynmair,) un o’r stores mwyaf yno, ac y mae efe, a’i briod hawddgar, (un o ferched Gwilym Williams, Allen Co.,) yn rhai nodedig ffyddlon gyda’r achos yno.

Y mae capel bychan, a phregethu Cymraeg, gan y


 

 


(delwedd E0974) (tudalen 116)


(x130) (tudalen 116) HANES CYMRY AMERICA.

Cymry, yn Covington, Kentucky, dros afon Ohio, gyferbyn a Cincinnati; ac y mae yno ychydig o Gymry parchus yn byw, megys Mr. Edwards, Mr. Bathgate, ac ereill. Gall fod yn Cincinnati, a’i hamgylchoedd, yn agos i ddwy fil o boblogaeth Gymreig. Y mae llawer o weithfeydd boilers, a stoves, a cherbydau, a llongau, yn, ac oddeutu, y ddinas hon, a galwad ynddynt am lawer o weithwyr; ac y mae ynddi hefyd leoedd da a pharchus i ferched ieuainc i wasanaethu. Bu, ac y mae, Cincinnati, yn enwog am ei masnach mewn pork; lleddir miloedd o foch yno bob blwyddyn, ac anfonir eu cig, wedi ei halltu, mewn barilau, ar y reilffyrdd, a’r afon Ohio, i wahanol barthau y wlad, a’r byd. Un o brif ddinasoedd y gorllewin ydyw; y mae yn ail i St. Louis a Chicago. Yn 1870 yr oedd ei phoblogaeth yn 216,239.

3. COLUMBUS, Franklin Co. - Saif y ddinas hon yn nghanoldir y dalaeth, ar lan yr afon Scioto, oddeutu 105 m. o Cincinnati, 135 o Cleveland, 30 o Newark, a 200 o filldirau o Pittsburgh, Pa.; ac amgylchir hi gan wlad. amaethyddol dra ffrwythlon. Ynddi y mae Senedd-dy a phrif garchar (penitentiary) y dalaeth; ac amrai o eglwysi, ysgoldai, ac adeiladau drudfawr ereill. Poblogir hi yn awr gan filoedd o wahanol genhedloedd. Dechreuodd rhai Cymry sefydlu yno er ys dros 25 ml. yn ol; ac y mae gan yr Annibynwyr, a’r T.C. eglwysi a chapelau yno er ys llawer o amser. Y maent yn eglwysi bychain gweithgar a ffyddlon. Bu amrai o weinidogion yn eu gwasanaethu. Y Parch. David Harries (T.C.), a’r Parch. John Jones (A.), sydd yn gweinidogaethu yno yn awr; ac y mae yno rai pregethwyr ereill ffyddlon. Gall fod poblogaeth Gymreig y ddinas hon, a’i hamgylchoedd, dros 800, ac yn eu plith y mae amrai o ddynion crefyddol iawn; megys yr hen ddiacon D. Davies (A.). Job Mills, John Davies, Watkin Price, ac ereill; a rhai wedi cyrhaedd cyfoeth a dylanwad, megys D. Price, Ysw., Thomas Evans, ac ereill, o Sir Drefaldwyn, G.C. Oddeutu 10 milldir oddiyno y saif Reynoldsburgh, a Black Lick Station, lle y sefydlodd y diweddar Morris Evans, Ysw., gynt o’r Graig,


 

 


(delwedd E0975) (tudalen 117)


(x131) (tudalen 117) TALAETH OHIO.

Penarth, Maldwyn, G.C., ac y mae amrai o’i blant yn byw yn gysurus yn yr ardal hono eto. Yno hefyd y mae y brawd anwyl Thomas Baxter, (gynt o Bonfedw, Penarth, Maldwyn), a’i deulu, yn byw yn ddedwydd ar eu tyddyn.

4. BROWN TOWNSHIP, Franklin Co. - Saif yr ardal amaethyddol hon oddeutu 12 milldir i’r gorllewin o Columbus. Dechreuodd y Cymry ei sefydlu oddeutu 20 mlynedd yn ol; ac y mae gan yr Annibynwyr eglwys a chapel bychan yno. Francis Jones, Ysw., (gynt Carno, Maldwyn, G.C.,) a’i deulu parchus a lluosog; a Mr. Lloyd, ac ereill, ydynt gefnogwyr penaf yr achos Cymreig yno. Pregethir iddynt yn awr ffan y Parch. J. Jones (gynt Penllys). Gall fod yma oddeutu 200 o boblogaeth Gymreig. Gwlad goediog, wastad, ydyw; a’r tiroedd yn uchel-bris.

5. NEWARK, Licking Co. - Tref boblog a hardd yw hon, ar wastadedd ffrwythlon, oddeutu 30 milldir i’r dwyrain o Columbus; ac y mae ynddi er ys blyneddau ddwy eglwys Gymreig, a dau gapel hardd, un gan y T.C, a’r llall gan yr Annibynwyr, a llawer o Gymry parchus yn swyddogion ac yn aelodau ynddynt. Eu gweinidogion presenol yw y Parchn. Edward T. Evans, John Moses, a Thomas Roberts (T.C.), a’r Parch. S. Jones (A.) Yno y mae amrai o Gymry yn fasnachwyr ac yn grefftwyr llwyddianus; ac yno y bu Davies, ac Evans, a Jenkins, a Price, yn weinidogion ffyddlon. Yno hefyd y bu farw ac y claddwyd y rarch. D. Jenkins (gynt o Lanidloes, G.C.) Y mae yr hen frawd David Owen, Ysw., gynt o Bethel, gerllaw y Bala, yn ddiacon ffyddlon yn yr eglwys Annibynol; ac y mae y diaconiaid ereill, Jones, a Hughes, a Watkins, yn cydweithredu yn egniol. Rhoddodd y Parch. S. Jones ofal yr eglwys Annibynol i fyny yn 1871. Poblogaeth Gymreig, dichon, oddeutu 1,000.

6. GRANVILLE, Licking Co. - Gorwedda y dref fechan hon rhwng y bryniau coediog, oddeutu wyth milldir i’r gorllewin o Newark. Ceir ynddi athrofa ragorol, ac eglwysi blodeuog gan y Bedyddwyr a’r Presbyteriaid


 

 


(delwedd E0976) (tudalen 118)


(x132) (tudalen 118) HANES CYMRY AMERICA.

Saesnig. Sefydlodd yr Annibynwyr a’r T.C. eglwysi Cymreig yno er ys dros 25 mlynedd yn ol, ac y mae ganddynt ddau gapel da yno yn awr. Nid yw yr eglwysi yno yn grryfion, ond y mae ynddynt ychydig o aelodan cyfoethog, ffyddlon, a haelionus. Y gweinidogion sefydlog sydd yn llafurio yn yr eglwysi Cymreig yno yn awr yw y Parch. William Parry (T.C.), a’r Parch. John E. Jones (A). Tyddynwyr, gan mwyaf, yw aelodau y ddwy eglwys, ac y mae amrai o honynt yn byw ar eu tyddynau mawrion eu hunain, oddeutu yno, megys y diaconiaid Wm. Jones, ac ereill. Nis gellir cael tiroedd am brisiau isel yn un man oddeutu Granville a Newark: yn awr. Yma y claddwyd y gweinidog ffyddlon, y Parch. John Powell; a cherllaw yno, yn ardal Harrison, y bu farw yr hen weinidog parchus, John Williams.

7. Y WELSH HILLS, Licking Co. - Daeth y Cymry o Philadelphia, a manau ereill, i sefydlu ar y bryniau isel, coediog yma, mor foreu a’r blyneddau 1801 a 1805. Theophilus Rees (B.), o Sir Gaerfyrddin, D.C., oedd y sefydlwr cyntaf. Daeth llawer yno ar ei ol ef, ac a sefydlasant yn agos ato, oddeutu milldir a haner i’r gogledd o’r lle y saif tref Granville arno yn awr, yr hon nid oedd mewn bodolaeth y pryd hyny. Sefydlwyd eglwys gan y Bedyddwyr Cymreig yno yn 1808, a chodasant gapel log yno yn 1809, gerllaw yr hwn y mae mynwent, a elwir “The Welsh Hills Cemetery.” Adeiladwyd yno gapel newydd llawer gwell yn 1836, ac y mae yn sefyll eto; ond nid oes ynddo bregethu Cymraeg ond yn achlyusrol; eglwys Saesnig ydyw yn awr.

Sefydlodd y T.C. Cymreig eglwys yn “Sharon Valley,” oddeutu tair milldir o Newark, ar y Welsh Hills, yn Hydref, 1835, a chodasant gapel da yno yn 1836, lle y bu amrai o weinidogion egniol yn llafurio, yn enwedig y Parch. William Parry, o Granville. Y Parch. Edward Jones, o Cincinnati, a ddechreuodd bregethu yno. Y mae yno eglwys dda eto, a llawer o Gymry rhagorol, yn parchu eu hiaith a’u cenedl. Y mae rhai Annibynwyr yn cyd-addoli a’r T.C. yno; ond nid oes ganddynt eglwys na chapel ar y Welsh Hills; aelodant eu hunain


 

 


(delwedd E0977) (tudalen 119)


(x133) (tudalen 119) TALAETH OHIO.

yn eglwysi Annibynol Newark a Granville. Mor hoff yw y Cymry o sefydlu ar y bryniau! Gallasent, y pryd hyny, gael tiroedd mwy ffrwythlon y gwastadedd oddeutu Newark. Dichon fod poblogaeth Cymreig y Welsh Hills yn awr oddeutu 200.

Yn ddiweddar, cododd y Parch. John Moses, a’i frawd, ac ereill, waith haiarn yn agos i dref Newark; ac y mae ganddynt weithfeydd glo hefyd rai milldirau i’r dwyrain oddiyno. Y mae tair reilffordd yn dyfod i Newark - un o Pittsburgh, drwy Steubenville; a’r llall o Cleveland a Pittsburgh, drwy Crestline a Mansfield; a’r llall o Marietta a Wheeling, drwy Zanesville.

8. DELAWARE, Delaware Co. - Tref fechan hardd yw hon, oddeutu 25 milldir i’r gogledd o Columbus, ar y reilffordd sydd yn myned oddiyno trwy Crestline i Cleveland. Yma y mae athrofa dda, a ffynonau iachusol yn agos iddi. Yr oedd yma eglwys gan yr Annibynwyr Cymreig er ys 20 ml. yn ol, ac y mae gadddynt yno yn awr gapel bychan hardd, a’r brawd ffyddlon, y Parch. John H. Jones, yn gweinidogaethu yno. Perthyna i’r eglwys hono rai Cymry cyfoethog a ffyddlon. Dichon fod y boblogaeth Gymreig yn Delaware dros 150, ac y mae amrai o honynt yn dyddynwyr, ac yn fasnachwyr, a chrefftwyr parchus.

9. RADNOR, Delaware Co. - Saif y pentref bychan hwn oddeutu 10 milldir i’r gogledd o dref Delaware, ac amgylchir ef gan lawer o dyddynau ffrwythlon. Sefydlodd y Cymry yn y coedwigoedd yma er ys yn agos i 30 mlynedd yn ol, ac y mae llawer o honynt yn awr yn bobl gyfoethog. Yn y pentref y mae John Powell, Ysw., yn cadw store, gyda’i hen dad crefyddol a ffyddlon. Sefydlodd y T.C. a’r Annibynwyr eglwysi Cymreig yma, ac y maent yn llwyddianus. Y Parch. Rees Powell (A.), oedd y gweinidog cyntaf yma, a bu yn ddefnyddiol yno am flyneddau lawer. Llafuriodd y Parch. James Davies (A.), gynt o Lanfair Caereinion, G.C., yn galed yma am flyneddau. Yn ei amser ef bu adfywiad mawr ar yr eglwys, ac y codwyd y capel rhagorol gyda gan yr Annibynwyr yn y lle. Rhoddodd ei weinidogaeth sefydlog yno i fyny er ys dros ddwy flynedd


 

 


(delwedd E0978) (tudalen 120)


(x134) (tudalen 120) HANES CYMRY AMERICA.

ond y mae ef a’i briod hoff yn byw yno eto, mewn cottage hardd, ac yn gysurus iawn eu hamgylchiadau. Yn haf y fl. 1870 y dechreuodd y Parch. Thomas Jenkins (A.), gynt o Johnstown, Pa., weinidogaethu yno. Y mae y tiroedd yn uchelbris yno er ys blyneddau. Poblogaeth Gymreig, 600. Yn yr ardal hon y bu Mr. Owen Thomas, gynt o Penarth, Maldwyn, G.C., pregethwr gyda’r Annibynwyr, fyw a marw.

10. TROEDRHIWDALAR, Delaware Co. - Ardal amaethyddol hollol yw hon, a saif rhwng Radnor a Delawarc. Pobl o Troedrhiwdalar, Sir Frycheiniog, D.C., a’i sefydlasant gyntaf, oddeutu y flwyddyn 1847, sef teuluoedd Davies, a Bowen, ac ereill. Bum yn pregethu iddynt oddeutu ugain mlynedd yn ol, mewn capel log bychan, yn nghanol y coedydd mawrion; ac yr oedd teimlad ac awelon nefol eglwysi yr hen batriarch enwog, y Parch. David Williams, o Lanwrtyd, D.C., yn fyw ac yn gryf yno. Yn awr, y mae llawer o’r coedydd wedi eu tori, a’r tir wedi ei ddiwyllio, a thyddynau ffrwythlon, a thai rhagorol, a chapel newydd da, yn yr ardal, a’r Parch. Rees Powell yn weinidog ffyddlon iddynt. (Mab y diweddar weinidog duwiol, y Parch. Rees Powell, o Cross Inn, D.C., yw efe). Daeth i’r ardaloedd hyn yn fuan ar ol y sefydlwyr cyntaf, a bu yn pregethu am lawer o flyneddau yn Radnor, a Delaware, a Troedrhiwdalar, a Columbus; ac y mae eto yn byw gyda’i briod a’i blant, ar ei dyddyn braf rhwng Radnor a Delaware. Gweinidog da, gonest, a ffyddlon ydyw. Cymry, 200.

11. GOMER, Allen Co. - Oddeutu 40 mlynedd yn ol, nid oedd yr ardal hon ond coedwigoedd eangfaith, ar wastadedd mawr, yn cael ei boblogi gan yr Indiaid, (The Shawnees Indian Reserve). Yr oedd y “State Lands” yn Putnam Co. ‘ww cael y pryd hyny am $1.25 yr erw. Y sefydlwyr Cymreig cyntaf oeddynt Thomas Watkins, James Nicholäs, a David Roberts, yn niwedd y flwyddyn 1833. Daethant yno gyda’u gilydd mewn wageni o Paddy’s Run, a sefydlasant yn ymyl eu gilydd, yn agos i’r lle mae pentref bychan Gomer yn sefyll yn awr. Codasant dai logs, a gwelsant lawer o galedfyd


 

 


(delwedd E0979) (tudalen 121)


(x135) (tudalen 121) TALAETH OHIO.

ynddynt. Nid oedd Delphos, na’r canal, na’r reilffordd, mewn bodolaeth y pryd hyny, ac nid oedd ond ychydig o dai bychain yn Lima. Yn mhen tair blynedd ar ol hyny, daeth Jo0hn Watkins, ac Evan Jones, a John R Jones, Paddy’s Run, yno; ac wedi hyny Joseph Griffiths, Thomas G. Jones, John D. Jones, a David Evans, Rowland Jones, David Morgans, a John Stephen. Yn 1835 y dechreuwyd addoli yn gyhoeddus yno, yn nhy D. Morgans; wedi hyny yn nhai Thomas Watkins a Rowland Jones. Y diweddar John Thomas. o Lima, gynt o Lanidloes, a bregethoddgyntaf iddynt. Y diaconiaid cyntaf oeddynt Joseph Griffiths, a J. Stephen. Adeiladwyd y capel logiau yn 1839, a’r capel bricks presenol yn 1854. Pobl dda a chrefyddol o hen eglwys Llanbrynmair, a Charno, a Llanfair, G.C., yw y rhan fwyaf o’r trigolion. Yn y flwyddyn 1848, daeth llawer o Faldwyn yno gyda Mr. William Jones, Tawelfan, a Mr. Richard Breese, o’r Coed; ac wedi hyny llwyddodd y sefydliad a’r eglwys yn ddirfawr, nes y mae yn awr yn un o’r prif sefydliadau Cymreig amaethyddol yn America. Bu yma lawer o weinidogion ffyddlon, sef y Parchn. D. W. Jones, James Davies, John Parry (yr hwn a fu farw ac a gladdwyd yno), a John M. Thomas; ac yn 1870 cymerodd y Parch. David Jones ei gofal gweinidogaethol, yr hwn sydd fugail gofalus, a phregethwr rhagorol.

Yn y fl. 1862, adeiladwyd capel ehelaeth yn ardal Leatherwood, rhwng Gomer a Delphos, lle mae Thos. G. Jones a Samuel Roberts yn ddiaconiaid ffyddlon. Mr. Josiah Jones, gynt o Braichodnant, Llanbrynmair; a Gwilym Williams, a William W. Williams, ac ereill, yw diaconiaid ffyddlon yr eglwys yn Gomer. Gwlad dda am gynyrchu Indian corn a gwenith ydyw hon. Y mae y rhan fwyaf o’i thrigolion eisoes yn bobl gysurus eu hamgylchiadau, ac y mae amrai o honynt yn gyfoethog. Ond wedi sychu ei thiroedd, a gwellhau ei ffyrdd, bydd yn wlad llawer mwy iachus a dymunol i fyw ynddi . Er fod yno ddau gapel, a dwy gynulleidfa, nid oes yno ond un eglwys gref a gweithgar. Yn y pentref y mae y store a’r Post Office, ac efail gôf, a’r capel, a phalasdy yr hen bererin duwiol


 

 


(delwedd E0980) (tudalen 122)


(x136) (tudalen 122) HANES CYMRY AMERICA.

William Jones, Tawelfan; a swyddfa y Dr. Richard Jones, a’r Dr. Davies, ac amrai o drigfanau ereill. Nid oes ond ychydig o Gymry yn byw yn Delphos; ond y mae William W. Williams, Ysw., yn cadw store fawr yn Lima. Delphos neu Lima yr eir rwyddaf gyda cherbydau i Gomer. Saif rhwng y ddau, tua 7 milldir bob un, neu ychwaneg o Lima. (Gwel hanes y sefydliad gan Josiah Jones yn y Cenhadwr am Ebrill, 1867.) Siaredir yr iaith Gymraeg yn gloyw yn yr holl sefydliad hyd yma; ac mae ei ysgolion Sabbothol yn lluosog a llafurus. Poblogaeth Gymreig, oddeutu 1,200.

12. PUTNAM CO., Ohio. - Yn mhellach i’r gogledd-ddwyrain na Gomer, y mae sefydliad Cymreig cynyddol arall, o’r enw Sugar Creek, yn Putnam Co.; lle y mae capel ac eglwys weithgar gan y Trefnyddion Calfinaidd; a lle y mae y Parch. Hugh Pugh, yn gweinidogaethu yn llwyddianus; a llawer o Gymry ymdrechgar a chrefyddol yn byw. Gall fod yno oddeutu 400 o boblogaeth Gymreig. Gwlad debyg i Gomer ydyw, o ran ei harwyneb a natur ei thiroedd. Gall y sefydliad hwn hefyd ddyfod yn un lluosog a chyfoethog cyn hir. Gellir myned yno gyda y reilffordd o Lima.

13. VANWERT CO., Ohio. - Oddeutu 8 milldir i’r gorllewin o Delphos, yr ochr ddeheuol i’r Fort Wayne R.R., y gorwedda y sefydliad mawr amaethyddol hwn. Lle coediog, gwastad, a gwlyb, ydyw; ond pan sychir y tir, ac y diwyllir ef yn dda, bydd yn ardal ffrwythlon ac iachus. Ceir yno bob math o goedydd gwerthfawr. Dechreuwyd y sefydliad gan y diweddar William Bebb, Ysw., Rhiwgriafol, Darowen, Maldwyn, G.C., yn 1848. Daeth ereill gydag ef yno, sef Thomas Morris, o Dolgweddol (ger Stay Little), a Richard Jervis, Lanbrynmair. Wedi hyny, Edward Jones, Carno, a Robert Richards, ac Abraham Jones, Darowen, a David Owen, Penegoes. Bu Mr. Evan Jones, Cwmpenllydan, Llanbrynmair, yr hwn a briododd Miss Jones, un o ferched y Parch. M. Jones, o’r Bala, yn byw ar y Long Prairie, tua Vanwert, am ddeng mlynedd cyn hyny; wedi hyny symudodd i’r Big Out, ar lan y Canal (lle y bu farw ac


 

 


(delwedd E0981) (tudalen 123)


(x137) (tudalen 123) TALAETH OHIO.

y claddwyd Mr. Rees Griffiths, yn Rhagfyr, 1853). Y Parch. Howell Powell, Cincinnati, a sefydlodd yr eglwys yn 1849. Codwyd y capel frame cyntaf yn 1852. Cynyddodd y sefydliad, a’r eglwys hefyd. Bu y Parch. Hugh Pugh yn gweinidogaethu yno o 1854 hyd 1868. Codwyd y capel sydd yno yn awr yn 1866, ac y mae yn un mawr, cyfleus, a hardd; 41 tr. wrth 61 tr. Traul $4,000. Dim dyled. Y mae ynddo eglwys a chynulleidfa gref, a boneddigaidd, a thra ffyddlon; a’r Parch. John P. Morgan sydd yn gweinidogaethu yno er y fl. 1865 hyd yn awr. Gweinidog da a ffyddlon ydyw. Swyddogion yr eglwys ydynt, Jeremiah Parry, Thomas Alban, David W. Evans, Morgan Morgan, a David M. Jones. Codwyd capel arall o’r enw Sion, yn 1862; saif hwn oddeutu 4 milldir oddiwrth y capel mawr; ac y mae ynddo eglwys fechan unol o Annibynwyr a T.C. a’r un gweinidog, sef J. P. Morgan, yn pregethu iddynt. Diacomaid - Abraham Jones, o Drefeglwys, a John Breese, o Gwmcalch, Llanbrynmair. Ysgrifenydd - Hugh P. Jones, Angleize [sic = Auglaize] P.O. Y mae Mr. Edward Roberts, pregethwr ( W.), o’r Brynmoel, ger y Commins Coch, Cemaes, a’i deulu, yn byw gerllaw y Capel hwn. Yma hefydy mae John J. Jervis, o Penal, Meirion, yn byw. Y mae y ddau gapel yn York Township. Poblogaeth Gymreig y ddwy ardal sydd oddeutu 800. Marchnadant yn Delphos a Van Wert. Gellir myned yno o’r naill a’r llall, ar draed neu mewn cerbyd - oddeutu yr un bellder - 8 milldir. Gellir prynu tiroedd coediog am bris cymhedrol oddeutu Van Wert eto. Rhoddaf eto ddarluniad o’r sefydliadau yn y “Western Reserve,” yn Ohio.

14. PALMYRA, Portage Co. - Ardal fawr amaethyddol, yn gorwedd yn ngogledd-ddwyrain y dalaeth. Y mae y tir yn well i goad gwair a magu anifeiliaid, nag i godi Indrawn a gwenith; tir trwm a chleiog ydyw. Sefydlodd y Cymry yno oddeutu 40 ml. yn ol; y mae Mr. Rees Morgan yn fyw yno eto, yn 95 mlwydd oed; daeth yno o Landybie, Sir Gaer, D.C, yn 1833. Bu yn ddiacon gyda’r Undodiaid (neu yr Armin Baptists) yn Nghymru; a bu plaid gref o honynt yn Palmyra.


 

 


(delwedd E0982) (tudalen 124)


(x138) (tudalen 124) HANES CYMRY AMERICA.

Adeiladwyd capel yr Annibynwyr yn mhentref bychan Palmyra yn 1834, ac y mae yno eglwys dda eto; a’r Parch. John J. Jenkins yn gweinidogaethu iddynt, yn barchus a llwyddianus. Diacon - David W. Jones, gynt o Lanfair Caereinion, yr hwn a ddaeth yno yn 1831, ac sydd yn awr dros 68 mlwydd oed. Yn y fynwent gerllaw y capel, y mae beddau yr hen weinidogion canlynol - Howell E. Powell (T.C.), a fu farw Ebrill 12, 1850, yn 92 ml. oed; Hugh J. Hughes (A.), gynt Penllys, Maldwyn; bu farw Medi 16, 1844, yn 48 ml. oed; Benjamin Lewis, o Glynnedd, D.C., bu farw Ebrill 25, 1859, yn 58 ml. oed. Cododd y Bedyddwyr gapel yn y pentref, ond anaml y pregethant ynddo yn awr. Y mae gan y T.C. eglwys fechan a chapel yno; oddeutu 50 o aelodau, a 150 o wrandawyr; ond heb weinidog sefydlog yno.

Yn 1844 adeiladodd y Bedyddwyr Neillduol gapel ceryg da, rhwng Palmyra a Parisville; a bu yno eglwys flodeuog: oddeutu 20 mlynedd yn ol, yn amser y Parch. Rees Davies, ac ereill; ond anaml y pregethir ynddo yn awr, am fod yr aelodau wedi symud i Parisville, ac eglwys wedi ei sefydlu yno, Yn y fynwent hono y gorwedd cyrff y gweinidogion a’r pregethwyr canlynol - Rees Davies, E. K. Roberts, D. Morris, ac O. Owens. Poblogaeth Gymreig oddeutu 300 yno yn awr.

15. PARISVILLE, Fortage Co. - Township arall yn cyffinio ar Palmyra, o du y gogledd, yw y lle hwn. Sefydlodd rhai Cymry yma yn 1831, sef David Johns, Ysw., Job Morgan, a John Morgan, Ysw., ac ereill.. Adeiladwyd capel yr Annibynwyr ar ochr yr hen canal er ys dros 20 ml. yn ol. Cangen o eglwys Palmyra oedd gynt. Bu y Parch. David Davies (Dewi Emlyn) yn weinidog yno am 15 ml. Ymadawodd i Talmadge. Saif ei dy yno eto, lle y cyfansoddodd lawer o ddarnau gorchestol mewn rhyddiaith a barddoniaeth. Yn 1870 adeiladasant gapel newydd yr ochr arall i’r canal, yn nes i’r Centre, lle mae y pentref, a’r Post Office. Y Parch. William T. Hughes yw eu gweinidog presenol; ac y mae ei frawd, Mr. Hughes, yn pregethu yn yr ardal hefyd. Y mae gan y Bedyddwyr Cymreig hefyd


 

 


(delwedd E0983) (tudalen 125)


(x139) (tudalen 125) TALAETH OHIO.

eglwys ffyddlon, a chapel da, yn Centre Paris; lle y bu y Parch. David C. Thomas yn gweinidogaethu. Ymadawodd i Newburgh, Ohio.

Bernir fod y tir yma yn well i gynyrchu corn a gwenith nag yn Palmyra. Nis gellir prynu tyddynau yn y ddwy ardal yma yn awr heb dalu am danynt o 130 i $50 yr erw. Darganfyddodd rhai Cymry wythien 3 troedfedd o drwch o’r, block coal yn agos i Palmyra yn 1865, ac y maent yn ei weithio yn llwyddianus eto. Pologaeth Gymreig yn awr yn Paris yw oddeutu 400. Ymfadodd llawer o Palmyra i’r gorllewin. Y ffyrdd nesaf a rhwyddaf i fyned i Palmyra a Paris yw cymeryd cerbyd o Kavana, neu Windham Stations ar y reilffyrddd cyfagos yno.

16. TALMADGE, Summit Co. - Saif y lle hwn oddeutu 25 milldir i’r gorllewin o Palmyra, ac mae yr Atlantic and Great Western R.R. yn rhedeg drwy yr ardal i Akron, &c. Dechreuodd y Cymry sefydlu yno, yn y glofeydd, yn 1841, a ffurfiwyd yr eglwys Annibynol mewn ysgoldy yno yr un flwyddyn, gan Edwards, o Pittsburgh, ac Evans, o Youngstown. Adeiladwyd y capel yn 1850. Bu Thomas Evans a Benjamin Lewis yn gweinidogaethu yno. Eu gweinidog diweddar oedd y Parch. David Davies (Dewi Emlyn). Symudodd oddi yno i Brookfield, Ohio, yn nechreu 1871. Diaconiaid - William Thomas, crydd, o Soar, Merthyr, D.C.; a John Paul, tyddynwr, o Lanfair Caereinion, Maldwyn, G.C. Y mae y glofeydd bron a darfod yno; ond y mae llawer Gymry parchus eto yn byw yn gysurus ar eu tyddynau eu hunain. Bu yno eglwys Fedyddiedig; ond darfyddodd, oblegid symudiadau ei haelodau. Poblogaeth Gymreig y lle dros 200. Gellir myned yno o depot Hudson, trwy y lle a elwir Cuyahoga Falls, yr hwn sydd fewn 1½ milldir i’r capel Cymreig yn Talmadge. Yn Akron, o fewn 4 milldir yno, y mae eu prif farchnad. O Talmadge yr anfonwyd y glo cyntaf i Cleveland.

SPRINGFIELD, Summit Co. - Saif y sefydliad Cymreig hwn oddeutu 4 milldir o Akron, a 6 neu 7 m.


 

 


(delwedd E0984) (tudalen 126)


(x140) (tudalen 126) HANES CYMRY AMERICA.

o Talmadge, i’r gorllewin. Ardal amaethyddol hyfryd ydyw, ac y mae amrai o weithfeydd glo wedi cael eu dechreu yno er ys blyneddau. Corffolwyd yr eglwys Annibynol yno Awst 18, 1867, ac y maent yn llwyddianus, yn eu capel newydd. Buont am flyneddau dan weinidogaeth synwyrlawn, a bugeiliaeth ofalus y gweinidog ffyddlon, a’r bardd medrus, y Parch. Davia Davies (Dewi Emlyn). Y mae yn yr eglwys lawer o bobl dda a ffyddlon. Y Post Office agosaf i’r lle ydyw Middlebury.

18. BREWSTER, Summit Co. - Cyffinia y township hwn â Springfield, bob ochr i’r ffordd sydd yn arwain iddynt o Akron; ac y mae tai y pentref yn ymyl eu gilydd. Cododd y Bedyddwyr Cymreig gapel da yn y lle hwn er ys blyneddau, a sefydlwyd y brawd ffyddlon, y Parch. A. S. Phillips, yn weinidog arnynt Rhagfyr 4, 1867, lle y mae eto yn ddefnyddiol a pharchus. Bedyddiwyd ef gan y Parch. Thomas Bevan, Nantyglo, D.C., Gorphenaf, 1853. Gall fod poblogaeth Gymreig Springfield a Brewster dros 300.

19. ALLIANCE, Stark Co. - Yn y fl. 1851, nid oedd yma ond ychydig o drigfanau; ond yn awr y mae yno dref hardd, a thros 5,000 o boblogaeth o wahanol genhedloedd ynddi; ac y mae dwy reilffordd, sef y “Cleveland and Pittshurgh R.R..,” a’r “Pittsburgh, Fort Wayne and Chicago R.R.” yn rhedeg drwyddi; ac y mae ynddi lawer o stores mawrion, ac athrofa, a llawer o eglwysi Saesnig, a rolling mill fawr, ac ychydig o weithfeydd glo o’i deutu, a llawer o Gymry yn gweithio ynddynt. Y mae y “Mount Union College” o fewn milldir i’r dref. Adeiladodd y T.C. gapel yno yn 1867, ac y mae ynddo eto eglwys fechan ffyddlon, a’r Parch. Thomas E. Jones, gynt o Rome, N.Y., yn gweinidogaethu iddynt.

Ffurfiodd yr Annibynwy eu heglwys, ac adeiladasant eu capel yno yn 1868, ac y mae ynddo eglwys fechan weithgar. Bu y Parch. Llewelyn R. Powell, gynt o Ebensburgh, Pa., yn ymdrechgar a llwyddianus yno; ond rhoddodd yr eglys i fyny yn haf 1870. Y mae ef a’i deulu parchus yn byw yno eto. Chwaer Hugh


 

 


(delwedd E0985) (tudalen 127)


(x141) (tudalen 127) TALAETH OHIO.
Owen, Ysw., o Lundain, yw Mrs. Powell. Diaconiaid - yr hen Gristion duwiol, Mr. Thomas Hughes, tailor, gnt o Dalybont, Sir Aberteifi; a’r brawd anwyl, John Thomas,Ysw., gynt o Bontypool, D.C. Yn haf y flddyn 1870, yr oedd y llenor a’r bardd medrus, Mr. David M. Evans (Dewi Glan Morlais) a’i deulu yn byw yno. Genedigol o Melin-y-cwrt, Glynnedd, Morganwg, D.C., yw Mr. Evans. Derbyniwyd ef yn aelod crefyddol o’r eglwys Annibynol yn Bethania, Dowlais, D.C., yn y flwyddyn 1843. Ymfudodd i America yn fuan wedi hyny. Twymwr yn y rolling mill ydyw. Cyfansoddodd lawer o ddarnau rhyddiaethol a barddonol campus. Y mae Thomas Eynon, Ysw., a Daniel Davies, Ysw., gynt o Hyde Park, yn byw yn y lle yma. Poblogaeth Gymreig, oddeutu 400.

20. IRONDALE, Jefferson Co. - Y Cymro anturiaethus a chyfoethog, David Morgan, Ysw., gynt o Pittston, Pa., gyda Mr. Hunter, a ddechreuodd y sefydliad hwn yn 1867. Gweithfeydd haiarn a glo sydd yno. Adeiladwyd yno lawer iawn o dai rhagorol, ac ysgoldy cyfleus, lle y cynhelir moddion crefyddol, ac ysgol Sabbothol, yn Saesonaeg a Chymraeg. Bernir fod yno dros 260 o boblogaeth Gymreig; ac y mae ganddynt eglwys Gymreig unol, a llawer o bobl dda yn perthyn iddi. Y mae Mr. Morgan ei hunan yn byw yno, ac yn ddyn da a haelionus; ac yno y mae y Parch. John P. Thomas, gynt o Mineral Ridge, yn byw, ac y mae yn barchus a defnyddiol. Y mae argoelion y daw y lle hwn yn mlaen yn llwyddianus. Saif yn agos i hen bentref Hammondsville, o fewn ychydig filldirau i afon Ohio, 56 milldir o Pittsburgh, 38 milldir o Alliance, a 90 milldir o Cleveland; ac y mae y “Pittsburgh and Cleveland R.R.” yn rhedeg trwyddo. Amgylchir ef gan fryniau coediog uchel. Rhwng yno ac Alliance y saif Salineville, ar y reilffordd; ac y mae yno weithiau glo, ac amrai o Gymry yn byw. Mr. Roberts yw y boss.

21. CLEVELAND, Ohio. - Un o brif ddinasoedd talaeth Ohio yw hon. Adeiladwyd hi ar ochr ddeheuol Llyn Erie, yn dra manteisiol i ddwyn yn mlaen bob math o fasnach. Oddeutu ugain mlynedd yn ol, pan


 

 


(delwedd E0986) (tudalen 128)


(x142) (tudalen 128) HANES CYMRY AMERICA.

fum ynddi gyntaf, cyn gwneyd y reilffyrdd, nid oedd ond lle bychan mewn cymhanaeth i’r hyn ydyw heddyw, mewn poblogaeth, cyfoeth, a dylanwad. Ceir ynddi lawer o felinau haiarn, a gwaith oil, a llawer o factories a phob math o law-weithfeydd, a phoblogir hi gan genhedloedd o bob parth o’r byd. Ymae ynddi lawer o adeiladau, ac eglwysi costfawr; a dywedir fod un heol ynddi, sef Euclid street, yn 5 milldir o hyd, heb un masnachdy arni, dim ond y trigfanau mwyaf harddwych. Dichon fod ynddi yn agos i 400 o boblogaeth Gymreig. Sefydlwyd ynddi yn ddiweddar ddwy eglwys Gymreig, sef yr un Undebol, yn Lake Shore, ar heol St. Clairs - (nid oes yn hono ond ychydig aelodau, ac nid oes ganddynt yn awr weinidog sefydlog); a’r llall yn Bethel Hall, yn ngwaelod Superior street, Eglwys Gynulleidfaol yw hono; cafodd ei sefydlu yn 1870, a’r Parch. John M. Evans yw eu gweinidog. Y mae golwg obeithiol ar yr achos yno. Yn Cleveland y mae y bardd a’r cenedlgarwr synwyrgall Mr. Richard P. Davies (Llawddog), gynt “Glan Nefern,” genedigol o Sir Benfro. Daeth yma er ys dwy flynedd yn ol, o Mountain Ash.

22. NEWBURGH, Cuyahoga Co. - Saif y dref gynyddol hon ar lan yr afon fechan a elwir Cuyahoga, ar wastadedd toreithiog, oddeutu saith milldir i’r de o Cleveland; ac y mae dwy reilffordd yn rhedeg drwyddi; un o Pittsburgh, a’r llall o Youngstown, i Cleveland. Nid yw ei heolydd yn drefnus iawn; ond y mae ynddi lawer o adeiladau a stores rhagorol, sef eiddo M. M. Jones, Ysw., ac ereill. Bernir fod ynddi chwe’ mil o boblogaeth, wahanol genhedloedd; a phoblogaeth Gymreig oddeutu 600. Ar y rolling mills, neu y gweithfeydd haiarn, sydd yno, y dibyna y trigolion fwyaf am eu cynhaliaeth. Dau Gymro parchus, o Ddeheudir Cymru, sef David Jones, Ysw., a John Jones, Ysw., a gychwynasant y brif rolling mill yno, a than eu rheolaeth hwy y dygwyd hi yn mlaen am flyneddau. Dynion da, crefyddol, a haelionus, oeddynt; a daethant i fwynhau cyfoeth ac anrhydedd. Codasant balasdai gorwychion yn y dref. Ond bu D. Jones farw yn sydyn


 

 


(delwedd E0987) (tudalen 129)


(x143) (tudalen 129) TALAETH OHIO.

pan ar ymweliad yn Nghymru, yn 1870. Ond y mae ei weddw ef, a J. Jones, a’i deulu, yn byw yno eto.

Sefydlwyd tair o eglwysi Cymreig yno er ys blyneddau; un gan y Bedyddwyr, a’r llall gan y T.C. a’r llall gan yr Annibynwyr; ac y mae ynddynt lawer o aelodau gweithgar, a gwrandawyr ffyddlon. Dylent gael capelau gwell. Lled weiniaid oedd y ddau enwad cyntaf yno yn 1870, ond yr oedd yr eglwys olaf yn gi’ef a llewyrchus, dan weinidogaeth y Parch. John E. Jones; yr hwn a symudodd oddiyno i Granville. Eu gweinidog presenol yw y Parch. William Lewis, gynt o Cattaraugus, N.Y.; a’r Parch. Ebenezer Evans, sydd yn gofalu am eglwys y T.C; a’r Parch. D. C. Thomas, am eglwys y Bedyddwyr, yno. Y mae yma un Cymro yn feddyg medrus. Yma y mae y llenor a’r bardd, David F. Lewis, Ysw., yn byw; gydag amrai ereill sydd yn gefnogwyr gwresog i lenyddiaeth Gymreig.

23. BEDFORD, Cuyahoga Co. - Saif ar y “Pittshurgh & Cleveland R.R.,” 5 milldir o Newburgh, a 12 m. o Cleveland, a 44 m. o Alliance. Tref fechan dlos, yn cynnwys dwy fil o drigolion, yn nghanol gwlad amaethyddol, nodedig brydferth, iachus, a ffrwythlon, ydyw. Dechreuwyd hi yn 1848. Yn 1866, adeiladodd cwmpeini gweithiau glo a haiarn Leetonia, felin haiarn lawr, yn cynnwys puddling, bar mill, a guide mill, yn y lle hwn; dan arolygiaeth y Cymro dysgedig a chenedlgarol James Beynon, Ysw. Yn Ion., 1870, sefydlodd y Bedyddwyr Neillduol eglwys Gymreig yn y dref hon; addolant yn awr mewn ysgoldy, a bwriadant godi capel da yno yn fuan. Y mae aelodau perthynol i’r T. C, a’r A. yn cydaddoji â hwynt; ac er nad ydynt dros rydd-gymundeb, eto penderfynasant roddi un Sabboth bob mis i’r taenellwyr, i gael y gweinidog a fynant i bregethu ac i “dori bara” iddynt. Diaconiaid - James Beynon, a John Gough. Gweinidog - y Parch. W. L. Evans, gynt o Lanllugan, Maldwyn, G.C., a Chaerphili, Morganwg, D.C. Ymfudodd i America yn Rhagfyr, 1869. Gwnant $1,000 o gyflog blynyddol iddo. Pregethwr dysgedig a thalentog ydyw. Clywais


 

 


(delwedd E0988) (tudalen 130)


(x144) (tudalen 130) HANES CYMRY AMERICA.

fod y Parch. Mr. Griffiths (B.) wedi symud o Newburgh i Bedford yn 1870.

24. MINERAL RIDGE, Trumbull Co. - Saif y pentref bychan hwn mewn gwlad goediog a thyddynol, oddeutu 3 milldir o dref Niles. Y mae y trigfanau yn wasgaredig; ond ceir yno ychydig o dai da, a dwy neu dair stores. Gweithiau glo a haiarn sydd yma; dwy furnace blast, a phump o lofeydd bychain - gwythienau o 2½ i 5 tr. o drwch. Dechreuwyd eu gweithio er ys 25 ml. yn ol. Y mae yma rai Cymry yn contractors, sef John Morris, David Harris, David John, &c.; a rhai yn fosses, sef John Williams, John Jones, ac ereill. Y mae eglwysi Cymreig gan y Bedyddwyr a’r Annibynwyr yn y lle yma; a bu ynddynt amrai o weinidogion ffyddlon, sef y Parch. D. Evans (B.), a’r Parch. D. Thomas (A.), ac ereill. Yno hefyd y mae y brawd ffyddlon, y Parch. Thomas Evans (A,), gynt o Bethesda, Merthyr, D.C., yn byw yn gysurus ar ei dyddyn ei hunan; ond y mae yn wael ei iechyd. Y mae gan y T.C. eglwys fechan yn Weathersfield, gerllaw yno, a Mr. John Mathews yn pregethu iddynt. Dichon fod poblogaeth Gymreig y lle hwn oddeutu 500. Y Parch. T. Edwards (A.), a’r Parch. Ll. Rees (B.), yw gweinidogion presenol yr eglwysi Cymreig yno.

25. NILES, Trumbull Co. - Saif y dref hon oddeutu yr afon Mahoning mewn gwastadedd ffrwythlon; ac y mae y “Cleveland & Youngstown R.R.” yn rhedeg trwyddi. Nid yw yn mhell o Leavittsburgh Junction, Poblogir hi gan wahanol genhedloedd; a bernir fod ynddi 300 o boblogaeth Gymreig; a’r rhan fwyaf o honynt yn cael eu cynhaliaeth trwy weithio yn y rolling mills, a’r nail factory, sydd yn y lle. Addola y Bedyddwyr mewn ysgoldy yno, ac y maent dan ofal gweinidog eglwys Mineral Ridge. Sefydlwyd yr eglwys Gynulleidfaol Gymreig yno yn 1855, ac y mae ganddynt gapel bychan yno yn awr; a’r T.C. yn cydaddoli â hwynt ynddo . Dan ofal eglwys a gweinidog (A.) Mineral Ridge y maent hwythau. Diacon - Mr. Walter Williams. Y mae yma lawer o Gymry parchus a charedig.

 

 


(delwedd E0989) (tudalen 131)


(x145) (tudalen 131) TALAETH OHIO.

26. YOUNGSTOWN, Mahoning Co. - Ugain mlynedd yn ol, nid oedd y dref hon ond lle bychan; ac nid oedd ond ychydig o Gymry yn byw yno y pryd hyny; ond preswylient oddeutu y gweithfeydd glo ar y Brier Hill, ac yn Crab Creek; ac yn y manau hyny yr oedd eu capelau. Cynyddodd Youngstown yn ddirfawr ar ol hyny; ac y mae yn awr yn un o’r trefydd harddaf ar y “Westem Reserve,” ac yn cynnwys dros ddeuddeg mil o drigolion; a thros 800 o boblogaeth Gymreig; ac y mae gan yr Annibynwyr, a’r Bedyddwyr, a’r Trefnyddion Calfinaidd, gapelau da, ac eglwysi llewyrchus yn y lle yn awr; ac y mae ynddynt lawer o swyddogion ae aelodau ffyddlon. Y Parch. John S. Davies (mab y diweddar Barch. J. Davies, Mynydd-bach, D.C.) oedd gweinidog doniol a llafurus yr eglwys Annibynol; ond yn haf y fl. 1871, rhoddodd ofal yr eglwys i fyny; ac y mae Mr. Ebenezer M. Lewis (mab yr hen weinidog duwiol, y Parch. Morgan Lewis, gynt o Glynnedd, D. C.) yn byw yno, ac yn bregethwr cymeradwy. Y Parch. David Probert oedd gweinidog y Bedyddwyr yno yn 1870. Ymadawodd i Sharon, Pa. Llafuriodd yn galed a llwyddianus yno am dros 20 mlynedd. Ac yr oedd y Parch. Isaac Blackwell (T.C.) yn ddefnyddiol yno yn 1870. Symudodd oddiyno i Coalport, yn nosbarth Jackson Co., Ohio. Gorwedda y dref gynyddol hon ar wastadedd bychan, ar lan yr afon Mahoning, rhwng y bryniau coediog, prydferth; ac y mae ynddi yn awr heolydd llydain, a masnachdai mawrion, a phalasdai heirdd, a llawer o rolling mills a blast furnaces. Ar y brif heol, sef Federal St., y mae amrai Gymry parchus yn cadw stores mawrion, sef Davies a Hughes, Williams, Thomas, &c. Cynhaliwyd yma amrai o eisteddfodau llewyrchus; ac y mae yma rai llenorion da, a chefnogwyr gwresog i lenyddiaeth ein cenedl; yn eu plith y mae Thomas B. Jones, Ysw., ac Anthony A. Williams, Ysw., (mab y diweddar weinidog enwog y Parch. Ambrose Williams,) ac ereill. Gellir myned yno gyda’r reilffyrdd o Pittsburgh, Cleveland, Erie, &c.

27. CRAB CREEK, Mahoning Co. - Lle bychan gwledig yw y pentref hwn, tua dwy fiildir i’r gogledd o Youngstown;


 

 


(delwedd E0990) (tudalen 132)


(x146) (tudalen 132) HANES CYMRY AMERICA.

ac o’i ddeutu y mae amrai o dyddynau bychain ar y bryniau, a dau neu dri o weithiau (banks) glo bychain. Y diweddar Thomas Morgan, Ysw., (boss) oedd un o’r sefydlwyr Cymreig cyntaf. Dechreuodd y Parch. Thomas Evans (A.) bregethu yno er ys yn agos i 20 mlynedd ol; a ffurfiwyd eglwys Annibynol yno yn fuan wedi hyny, mewn cysylltiad âg eglwys Brier Hill. Addolant mewn hen ysgoldy bychan yno, yr hwn a helaethwyd; ac y mae yno yn awr eglwys ffyddlon, yn rhifo dros 80 o aelodau, dan ofal y gweinidog ffyddlon y Parch. John Edwards, genedigol o Rhydybont, Sir Aberteifi; wedi hyny o Penycae, D.C. Ymfudodd i America yn 1850, a bu yn gweinidogaethu yn Mount Savage, Maryland, ac yn Ashland, Pa., ac yn Johnstown, Pa. Y mae yn yr ardal hon yn awr dros 250 o boblogaeth Gymreig. Y mae reilffordd yn rhedeg drwy y lle o Youngstown, heibio Hubbard a Brookfield, i Sharon, Pa.

28. CHURCH HILL; Trumhull Co. - Gorwedda y sefydliad newydd hwn rhwng Crab Creek a Girard, oddeutu 4 milldir i’r gogledd. Gweithiau glo, a thyddynau bychain prydferth, sydd yno hefyd. Gall fod yno dros 300 o boblogaeth Gymreig. Yr eglwys Annibynol yno a sefydlwyd gan y Parch. J. Edwards, yn Mehefin, 1869; ac y mae yn llwyddianus dan ei ofal ef eto, mewn cysylltiad ag eglwys Crab Creek. Ac y mae cangen o eglwys y T.C. yn Weatherville, yn cydaddoli â hwynt yna, Dichon fod yno eglwys Fedyddiedig hefyd.

29. HUBBARD, Trumbull Co. - Gwlad amaethyddol, goediog a gwleb, oedd hon er ys blyneddau. Oddeutu y fl. 1866 y darganfyddwyd y mwn glo yno. Er y pryd hyny y mae llawer adeiladu wedi bod yno; ac y mae yno yn awr bentref gwasgaredig, a dichon yn agos i bedair mil o wahanol genhedloedd yn byw yno; a’r boblogaeth Gymreig oddeutu 900. Ynddo y mae amrai o gapelau Saesnig, a dau gapel Cymreig. Rhentu eu capel y mae y Bedyddwyr; ac y mae ganddynt eglwys weithgar ynddo . Aelodau, 80; Ysg. Sab., 80; cynulleidfa, 250. Nis gwn pwy yw eu gwemidog presenol.


 

 


(delwedd E0991) (tudalen 133)


(x147) (tudalen 133) TALAETH OHIO.

Costiodd capel mawr a hardd yr Annibynwyr, yr hwn a adeiladwyd yn 1867, dros $3,000. Llwyr dalwyd ei ddyled. Y mae ynddo eglwys ffyddlon. Aelodau, 80; Ysg. Sab., 100; cynulleidfa, 300. Y llenor enwog, a’r brawd ffyddlon, y Parch. David Evans (Trelech), a fu yn weinidog ffyddlon yno am flyneddau; ond ymadawodd i Plymouth, Pa., yn Medi, 1871. Saif Hubbard rhwng Youngstown a Sharon, Pa., a gellir myned yno o un o’r ddau, gyda’r reilffordd, mewn oddeutu ugain mynyd. Y mae Rees Charles, Ysw., ac ereill o’r Cymry, yn berchenogion gweithiau glo yno. Gwythienau bychain o’r block coal sydd yno. Pa hyd y parhant?

30. COALBURGH, Trumbull Co. - Nid oes mwy na thair milldir o Hubbard, tua’r gogledd-orllewin, i’r pentref bychan gwledig hwn; ac y mae natur y tir, ac arwyneb y wlad, yn gyffelyb yn y ddau sefydliad. Gwlad amaethyddol yw. Dechreuwyd gweithio glo yno yn 1863, gan Brown & Co., Youngstown, Ohio; ac y mae yno yn awr dri gwaith glo, a llawer o Gymry, ac ereill, yn gweithio ynddynt. John Mathews, Ysw., (W.) gynt o Dredegar, D.C., yw y boss neu arolygydd y gweithiau hyn; ac y mae yn byw gyda’i deulu ar dyddyn bychan yn y lle; ac yn ddyn da a chymwynasgar. Y mae yno gapel gan y Wesleyaid Saesnig; a chapel da arall gan y Bedyddwyr Cymreig, ac eglwys ffyddlon, dan ofial y Parch.” Edward Jenkins. Yn haf 1871, ymadawodd Mr. Jenkins i Olyphant, Luzerne Co., Pa. Sefydlodd yr Annibynwyr eglwys yno; cynhaliant eu cyfarfodydd mewn ysgoldy; a bu llwyddiant mawr ar yr eglwys yn amser gweinidogaeth fer, ond effeithiol, y Parch. Robert Pierce, gynt o Lanasa, ger Newmarket, Fflint, G.C., ac wedi hyny o Hanley, Lloegr. (Priododd ferch Mr. John Jones, Ffynon Groyw, ger Mostyn.) Gwelais ef yn wael iawn, ar ei wely, yn niwedd mis Mawrth, 1870, a bu farw yn fuan wedi hyny; a chladdwyd ef yno yn anrhydeddus gan ei eglwys ffyddlon a galarus. Boed y nef yn nawdd i’w weddw ieuanc, ac i’w ferch fechan yn yr Hen Wlad. Ar ol marwolaeth Mr. Pierce, daeth y Parch. Mr. Harrison,


 

 


(delwedd E0992) (tudalen 134)


(x148) (tudalen 134) HANES CYMRY AMERICA.

o Jeansville, Pa., i weinidogaethu yno. Ymadawodd yn fuan oddiyno. Dynion da, ffyddlon, yn yr eglwys yw James Davies, John J. Jones, Mr. Richards, a Benjamin Jones, ac ereill. . Poblogaeth Gymreig 300.

31. BROOKDALE, Trumbull Co. - Hen ardal amaethyddol yw y lle hwn hefyd. Enw ar y township yw Brookfield, yr hwn sydd 5 milldir petryal, a’r pentref a’r Post Office ar ei ganol. Dyna drefn ffurfiad cyntaf pob township ar y “Western Reserve.” Agorwyd y gweithiau glo yno yn 1862, ac y mae yno yn awr bedwar neu bump o lofeydd llwyddianus, a dichon yn agos i dri chant o fwnwyr, a llafurwyr, a chrefftwyr, Cymreig, heblaw ychydig o genhedloedd ereill, yn gweithio ynddynt. Cymry parchus yw y bosses sydd yn eu harolygu, sef James B. Jones, Ysw., John Jones, Ysw., (ei frawd), Thomas Blunt, Ysw., a John Moses, Ysw. Anfonant oddeutu 800 o dunelli bob dydd o’r pedwar gwaith yma i’r farchnad Y mae y rhan fwyaf o dai bychain y mwnwyr Cymreig wedi eu hadeiladu ar fryn coediog ac iachus, o fewn milldir i Centre Brookfield, ac o fewn milldir a haner i’r State Line Depot, yn y gwastadedd, ar y reilffordd sydd yn myned o Sharon i Youngstown. Ar y bryn hwnw yr adeiladasant ysgoldy ehelaeth, cyfleus i gadw ysgol ddyddiol a Sabbothol, ac i bregethu yr efengyl. Sefydlwyd eglwys Gynulleidfaol (neu unol) yno er ys blyneddau; ac ar ol yr adfywiad fu yno yn nechreu y fl. 1870, yr oedd yn rhifo dros 150 o aelodau; a’r Ysg. Sab., yn 200; a’r gynulleidfa dros 350. Y mae y gwahanol enwadau yn cydaddoli yno. Bu y Parch. R. R. Lewis (Callestr), yn pregethu yno o Mai hyd Rhagfyr, 1870, yn gymeradwy a llwyddianus. Yn ei amser ef codasant addoldy rhagorol yno. Rhaid fod yno eglwys a chynulleidfa gref yn awr, digon galluog i gynal gweinidogaeth sefydlog yn anrhydeddus. Diaconiaid - James B. Jones, John Jenkins, David P. Lewis, a Thomas E. Jones. Y mae Thomas E. Thomas yn aelod ffyddlon yno; ac y mae yno amrai o gerddorion, a llenorion, rhagorol. Yno y mae John D. Jones (Durtur Mon), a’r pregethwr ffyddlon John W. Williams (W.), gynt o Ffynon


 

 


(delwedd E0993) (tudalen 135)


(x149) (tudalen 135) TALAETH OHIO.

Groyw, plwyf Llanasa, Sir Fflint, G.C. Yr oedd yno gapel bychan gan y Mormoniaid Cymreig; ond ymfudasant i Nebraska yn nechreu 1870. Bernir fod yn Brookfield yn awr oddeutu 900 o boblogaeth Gymreig. Eu gweinidog presenol yw Dewi Emlyn.

32. SHARON, Mercer Co., Pa. - Tref fechan hardd, ar lan y Shenango River, mewn gwastadedd cul, ffrwythlon, rhwng y bryniau prydferth, o fewn dwy filldir i Brookfield, yw Sharon, ond yn nhalaeth Pennsylvania. Y mae talaethau Ohio a Pa. yn cyffinio â’u gilydd yn agos yno. Hen le ydyw Sharon; a dechreuodd y Cymry sefydlu yno yn 1851. John Schourfield, Ysw., (gynt St. Clairs, Sir Gaerfyrddin, D.C.,) oedd un o’r sefydlwyr Cymreig cyntaf. Daeth ef, ac ereill, o Pittsburgh, yno i weithio yn y rolling mill. Sefydlwyd eglwys Annibynol, a chodwyd capel bychan ar dir Mr. Schourfield, yn 1853. Ni bu yno eglwys na chynulleidfa gref erioed; ac wedi i’r felin haiarn sefyll, ymadawodd y rhan fwyaf o’r Cymry, a bu yr achos bron a diffoddi am flyneddau. Ond yn nechreu 1870, bu adfywiad ar y gweithfeydd, ac ar yr eglwys Gymreig yno; ac y maent yn debyg o barhau i lwyddo. Adeiledir yno amrai o felinau haiarn newyddion; ac un arall yn Wheatland, o fewn dwy filldir yno, lle mae llawer o Gymry yn gweithio. Y mae yno furnace blast hefyd. Aeth llawer o Gymry crefyddol o Lochiel, ger Harrisburgh, a Reading, Pa., yno yn ddiweddar; sef John Evans (T.C.), William Phillips (A.), ac ereill. Y mae Mr. Schourfield yn wr cyfoethog, ac yn ddiacon ffyddlon a haelionus, yn yr eglwys Annibynol yn Sharon. Y mae gan y Bedyddwyr Cymreig hefyd eglwys fechan ffyddlon yno, a’r Parch. David Probert yn gweinidogaethu iddynt. Dichon fod poblogaeth Gymreig Sharon a Wheatland yn awr oddeutu 300. Gellir myned yno gyda y reilffyrdd o New York, trwy Salamanca, neu Erie, neu Pittsburgh.

Rhaid i mi yn awr arwain y darllenydd i gael golwg ar y sefydliadau Cymreig lluosog sydd yn nhalaeth Ohio, ar lanau yr afon Ohio. Nid yw yr afonydd ereill


 

 


(delwedd E0994) (tudalen 136)


(x150) (tudalen 136) HANES CYMRY AMERICA.

sydd yn rhedeg trwy ganol y dalaeth ond bychain mewn cymhariaeth i’r afon fawr, lydan, hon. Ymdywalltiad y ddwy afon, y Monongahela a’r Alleghany i’w gilydd yn ymyl Pittsburgh, Pa., sydd yn gwneyd dechreuad yr afon Ohio; ac y mae yn rhedeg yn araf oddiyno rhwng talaethau West Virginia a Kentucky â thalaethau Ohio, Indiana, ac Illinois, am 948 o filldirau, ac yn ymarllwys i’r Mississippi yn ymyl Cairo! Nid yw y pellder mewn llinell unionsyth, ar draws y tir, yn agos gymaint, am fod yr afon yn dolenu ac yn cylchdroi cymaint, ar hyd ei gorweddfa, rhwng y bryniau coediog, ac weithiau drwy y dyffrynoedd ffrwythlon, ar bob llaw. Nid oes ond ychydig dros 300 milldir o Pittsburgh, trwy Steubenville a Columbus, i Cincinnati, gyda y reilffordd; ond y mae yn agos i 450 o filldirau o Pittsburgh yno gyda’r afon. Cyn gwneyd y reilffyrdd yn y dalaeth, yr oedd yr afon hon yn dra gwerthfawr a chyfleus i hyrwyddo masnach rhwng dinasoedd mawrion y talaethau dwyreiniol â phrif ddinasoedd y gorllewin, sef Cincinnati, St. Louis, a New Orleans yn y De; ac y mae yn parhau felly eto i raddau ehelaeth. Y peth gwaethaf sydd yn perthyn iddi yw ei bod yn rhewi yn galed drosti am rai misoedd yn y gauaf, a’i dyfroedd yn myned yn isel, mewn manau, am rai misoedd yn yr haf, a bod hyny yn atal trafnidaeth arni. Ond rhyfeddech pe gwelech yr holl agerddfadau mawrion a bychain fydd yn dyrwygo ei dyfroedd, ddydd a nos, yn ol ac yn mlaen, yn llwythog o nwyddau a theithwyr am fisoedd bob blwyddyn. Ceir yn ei phrif agerddfadan bob darpariaeth reidiol at fwydo, lletya, a chysuro teithwyr, am brisiau rhesymol; ac y mae yn hyfryd teithio ynddynt yn misoedd yr haf, pan fyddo y coedwigoedd ar y bryniau yn gwisgo eu mantelli gwyrddion, a’r doldiroedd yn doreithiog o ffrwythau, a’r gerddi yn llawnion


 

 


(delwedd E0995) (tudalen 137)


(x151) (tudalen 137) TALAETH OHIO
flodau perarogl, ac anian yn gweni arnoch yn ei gogoniant mwyaf. Ond weithiau mae teithwyr ar yr afon hon yn cyfarfod â damweiniau peryglus, mewn nifwl tew, trwy ruthriad darnau mawrion o rew, a thrwy ymddrylliad sydyn y berwadyron (boilers). Nis gellwch yn awr gael unrhyw reilffordd i’ch cludo i bob sefydliad Cymreig ar lan yr afon Ohio. Gellir myned gyda’r reilffordd o Pittsburgh i Belle Air, gyda glan yr afon, am yn agos i gant o filldiroedd, (ac oddiyno, dichon, yn fuan, i Marietta). Ond y mae oddeutu 200 o filldirau ar yr afon o Pittsburgh i Pomeroy, yn Meigs Co., Ohio; a myned yno gyda’r agerddfad goreu yw y ffordd rwyddaf a rhataf.

33. POMEROY, Meigs Co. - Adeiladwyd y dref hon ar lan yr Ohio, yn ymyl y clogwyni daneddog, a’r bryniau uchel, coediog, sydd tu cefn iddi, ac yn ei chyfyngu i aros wrth, ac ymestyn gyda glan yr afon. Nid oes ond un bwlch i fyned allan o honi i’r wlad fawr y sydd tu ol iddi. Hi yw prif dref Meigs Co., ac ynddi y mae y Court House. Nid oes ynddi ond un heol fawr gyda glan yr afon, ac un arall fer yn nghyfeiriad y llys gwladol. Ceir ynddi ddwy neu dair o hotels rhagorol, ac amrai o fasnachdai da; ac y mae masnach fy wiog o’r wlad, ac o’r afon, ac o’r holl weithfeydd cyfagos ynddi. Y mae y Dr. J. H. Jones, gynt o Bontypool, D.C., yn cadw drug store, ac yn feddyg medrus yno. Yr Anrhydeddus V. B. Horton sydd yn byw yn ei balasdy hardd yn y dref hon, ac efe yw meddianydd y prif lofeydd oddeutu yno. Poblogir y lle gan yr Ellmyniaid yn benaf; ond y mae yno lawer o Americaniaid, a rhai Gwyddelod; ac y mae yn dref foesol a chrefyddol. Dechreuodd y Cymry sefydlu yma, yn y gweithlau glo, er ys oddeutu 30 mlynedd yn ol. Bu y gwahanol enwadau yn cyd-addoli mewn tai am flyneddau, a phregethid iddynt yn achlysurol gan wahanol bregethwyr,

Adeiladodd y T.C. gapel yma yn 1844, yn yr hwn y gweinidogaethai y Parch. James T. Williams am lawer o flyneddau.


 

 


(delwedd E0996) (tudalen 138)


(x152) (tudalen 138) HANES CYMRY AMERICA.

Cynyddodd yr eglwys, a helaethwyd y capel, ac y mae ynddo eglwys barchus a ffyddlon eto, dan ofal y Parch. Isaac Blackwell, a’r pregethwr ffyddlon, Mr. Eleazer Evans (Coalport). Yn 1847, adeiladodd yr Annibynwyr gapel da ar ben y bryn yn Coalport (yn gyfleus i Gymry y lle, o bob ochr, hyd Pomeroy a Middleport), lle y bu y Parch. John H. Jones yn gweinidogaethu am flyneddau yn llwyddianus; wedi hyny y Parch. John Lloyd, ac ereill. Eu gweinidog presenol yw y Parch. J. P. Williams, gynt o Maentwrog, G.C. Dymunwyf fil o fendithion iddo, a mawr lwyddiant, ar ol ei brofedigaeth chwerw, trwy golli ei briod anwyl mor sydyn. Yn 1848, adeiladodd y Bedyddwyr addoldy da yma, yn yr hwn y gweinidogaethai Peter Lloyd, ac ereill. Y mae ynddo eto eglwys gref a gweithgar, dan ofal y Parch. Samuel Thomas.

Yn yr ardal hon y mae y llenor a’r bardd medrus, y Parch. Wm. Lawrence (B.), a’r pregethwyr Charles Owen (A.), a George Henshaw (W.); a’r beirdd a’r llenorion David T. Edwards, Thomas Francis, David A. Davies, Evan Lewis, Mrs. Mary Phillips, a Mrs. Hannah Thomas, ac ereill, yn byw; a chynhaliasant amrai o eisteddfodau yno. Yn hanes yr eglwys Annibynol yn Coalport (Pomeroy), y mae y weddw dduwiol a ffyddlon, Mrs. Michael, a’i holl feibion, yn deilwng o sylw parchus, am eu mawr ofal am achos y Gwaredwr. Un o Sir Fon ydyw y chwaer anwyl hon, ac y mae wedi claddu ei phriod er ys blyneddau. Y mae ganddi fab a merch yn byw yn Bevier, Macon Co., Missouri.

34. MINERSVLLE, Meigs Co. - Dylwn yma hysbysu y darllenydd fod afon Ohio yn cylchdroi, fel pedol ceffyl, gyda y bryniau yn ochr Ohio, oddeutu Macon City, yr hon sydd dref fechan gyferbyn a Pomeroy, ar wastadedd ffrwythlon yn West Virginia, a bod trigfanau wedi eu hadeiladu, a llawer o weithiau glo a halen, am oddeutu saith milldir o ffordd o Middleport, gyferbyn a Cliffton, heibio i Coalport, a Pomeroy, a Minersville, hyd Syracuse, gyferbyn a Hartford. Pan ddeuir mewn agerddfad ar yr afon yn y nos heibio Syracuse i Pomeroy, ceir golygfa ardderchog ar y lampau a’r tai goleuedig am filldirau gyda glan yr afon. Un lle mawr hirgylchol yw yr holl leoedd, dan wahanol enwau. Ychydig o ffordd sydd heb drigfanau a gweithfeydd


 

 


(delwedd E0997) (tudalen 139)


(x153) (tudalen 139) TALAETH OHIO

rhwng y naill le a’r llall. Ar y ddwy ochr i’r afon y mae 23 o weithiau glo, a 24 o weithiau halen. Torir rhai o’r ffynonau halen i’r dyfnder o dros ddeuddeg cant droedfeddi! a chodir o rai o honynt o 12 i 15 galwyn o ddwfr halen bob mynyd! Saif Minersville rhwng Pomeroy a Syracuse. Y mae yno weithiau glo a halen, ac amrai o drigfanau a stores, a Post Office. Yno y mae y Parch. John Lloyd a’i fab yn cadw store.

Sefydlodd yr Annibynwyr eglwys, a chodasant gapel da yno yn amser y Parch. John H. Jones - addoldy hardd a chyfleus ydyw; agorwyd ef yn niwedd 1853; llwyr dalwyd y ddyled. Wedi hyny bu y Parch. John Lloyd yn gweinidogaethu yno yn llwyddianus am flyneddau, nes cyfododd anghydfod niweidiol i lwyddiant yr eglwys, pan y rhoddodd hwynt i fyny yn heddychol. Y mae yn yr eglwys lawer o bobl dda a ffyddlon. Mr. D. R. Lewis yw yr ysgrifenydd; a’r Parch. J. P. Williams, (gynt o Maentwrog, G.C.), sydd yn awr yn gweinidogaethu yno hefyd.

Yn Carr’s Run, ger Minersville, y mae eglwys fechan, a chapel newydd hardd gan y Bedyddwyr Cymreig.

Rhwng Minersville a Syracuse y mae eglwys a chapel gan y Trefnyddion Calfinaidd, ac amrai o Annibynwyr wedi ymuno a hwynt. Dyma lle mae gwaith glo mawr gan y Cymro cenedlgarol, Ebenezer Willianis, Ysw., yr hwn sydd yn ddyn haelionus, a noddwr i bob achos da.

35. SYRACUSE, Meigs Co. - Saif y pentref hwn ar wastadedd bychan ffrwythlon, ar lan yr Ohio, yr hon a ddolena heibio iddo, yn nes i fryniau talaeth West Virginia. Y mae yma weithiau glo a halen, ac athrofa newydd ar fryn hyfryd gerllaw. Sefydlwyd yma eglwys Annibynol yn 1858, ac adeiladasant gapel da yno yr un flwyddyn, lle yr urddwyd y Parch. William Edwards, ac y bu yn gweinidogaethu am flyneddau. Y mae efe a’i deulu yn byw eto ar dyddyn gerllaw i’r lle. Y Parch. John Lloyd, o Minersville, yw eu gweinidog yn awr, ac y mae yn gymeradwy a defnyddiol yn eu plith. Yn yr eglwys hon y mae amrai o bobl dduwiol a ffyddlon; ac yn eu plith y mae Thomas Mainwaring, Ysw., gcynt o Lanelli, Sir Gaer, D.C. Y mae efe hefyd yn arolygydd y gweithiau glo a halen yno. Bernir fod yn y lle hwn oddeutu 240 o boblogaeth Gymreig, ac yn eu plith y mae llawer o Formoniaid. Y mae amrai o Gymry yn byw hefyd yn Mason City,


 

 


(delwedd E0998) (tudalen 140)


(x154) (tudalen 140) HANES CYMRY AMERICA.
ac yn Hartford, ac yn Cliffton, yr ochr arall i’r afon yn West Virginia; a phregethir yr efengyl iddynt yno yn achlysurol gan y gwahanol enwadau crefyddol.

Dichon fod poblogaeth Gymreig yr holl leoedd a nodwyd, o bobtu i’r afon dros 1,500. Yn haf y fl. 1870, bum yn pregethu yn Nghymanfa yr Annibynwyr yno, ac yr oedd y cynulleidfaoedd yn lluosog iawn, a chawsom gyfarfodydd bendithiol. Y pryd hyny yr oedd y pregethwyr ffyddlon canlynol yn byw yn yr ardaloedd; Wm. Rees (T.C.), SamueÌ Evans (T.C.), Thomas Williams (B.), a John Jones (B).

36. IRONTON, Lawrence Co. - Rhaid myned mewn agerddfad ar afon Ohio, heibio Gallipolis, am yn agos i 80 milldir, cyn y gellir cyrhaedd tref Ironton, yr hon a adeiladwyd ar wastadedd prydferth, ar lan yr afon, ac sydd yn ymestyn am dros ddwy filldir o hyd, ac yn ymledu hyd y bryniau tu cefn iddi. Ceir ynddi lawer o heolydd lludain, ac adeiladau da (coed, bricks, a cheryg), ac o fasnachdai rhagorol. Ynddi y mae Llys Gwladol (Court House) Lawrence Co., ac ysgoldai, a halls, a llawer o eglwysi Saesnig mawrion, a dau ariandy cenedlaethol, a newyddiaduron.

Y mae amrai o Gymry parchus yn cadw stores yno, yn enwedig James T. .Davies, Ysw. (gynt o blwyf Caio, Sir Gaer, D.C.), yr hwn a ddaeth i Ironton yn 1854, ac a adeiladodd ddwy store fawr, a hall ehelaeth uwch ben iddynt, ar gornel Lawrence St. a Second St., sef y lle mwyaf cyhoeddus a manteisiol yn y dref; ac y mae yn awr yn un o’r dynion cyfoethocaf a mwyaf dylanwadol yn y lle, yn byw mewn palasdy hardd, ac yn aelod defnyddiol gyda’r Annibynwyr. Ei au wraig ef yw Mrs. Jenkins, gweddw y diweddar Barch. D. Jenkins, o Newark - gynt Miss Evans, o Tynllwyn, Bryncrug, Towyn, Meirionydd, G.C. - un o’r gwragedd mwyaf rhinweddol. Ac y mae yr hawddgar Thomas John, Ysw., gynt o Broad Top, Pa., yn byw yn East Ironton, ac yn fasnachwr ehelaeth a llwyddianus. Mae yno amrai ereill o fasnachwyr Cymreig llwyddianus.

Ond y gweithfeydd haiarn - y blast furnace, y rolling mills, y nail mill, y founderies, a’r hoe factory, a’r Peregrine


 

 


(delwedd E0999) (tudalen 141)


(x155) (tudalen 141) TALAETH OHIO
Coal Works, yw prif gynhaliaeth bywyd a nerth masnach y lle.

Yn y flwyddyn 1854, yn amser y Parch. Thomas Pugh, yr adeiladodd yr Annibynwyr gapel bricks mawr yno - gwerth $4,000. Bu T. Pugh, D. Jenkins, Thos. W. Davies, a D. S. Davies, yn gweinidogaethu yno. Y mae yno eglwys fechan weithgar eto; a’u bugail presenol yw y brawd llafurus, y Parch. John Morgan Thomas, gynt o Glynnedd, D.C. Y mae ei enwogrwydd ef fel pregethwr, cerddor, a llenor,.yn hysbys i’r holl genedl. Diaconiaid - J. L. Abrams, a David Jones. Ysgrifenydd - John J. Davies. Ar ol ei ddyfodiad i Ironton, yn Tachwedd, 1868, bu Mr. Thomas yn ymdrechgar iawn i sefydlu eglwys Gynulleidfaol Saesonig, ac i godi capel da, gwerth $3,000, yn East Ironton, a gwelodd lwyddiant mawr yno. Bu gan y Wesleyaid Cymreig achos crefyddol blodeuog unwaith yma, lle y bu diweddar Barch. John Ellis, Callestr, ac ereill, yn gweinidogaethu; ond yn awr y mae yr eglwys wedi darfod, a’r capel wedi ei droi yn anedd-dai. Adeiladodd y T.C. eu capel cyntaf yn 1855, a’r ail gapel ar 4th St., yn 1861. Traul, $2,000. Dim dyled arno. Capel da a chyfleus ydyw. Bu y Parch. David Harries yn gweinidogaethu yn llwyddianus yno am flyneddau. Symudodd i Columbus. Deallwyf fod y pregethwr ffyddlon, Mr. William Rees, yn byw yno yn awr, ac yn ddefnyddiol yn eu plith. Blaenor - Thomas D. Evans, Ysw. Ysgrifenydd - John E. Jones, Ysw. Y mae yn yr eglwys hon lawer o bobl dda ac ymdrechgar.

Yn mhlith Cymry Ironton y mae amrai o gerddorion da, sef John Lewis, William Todd, ac ereill. Gwnaed un reilffordd fer (13 m. o hyd) i fyned allan o’r dref trwy y tunnel i’r gweithiau glo, a thebygol yw yr estynir hi yn mlaen hyd at y reilffordd arall sydd yn awr yn rhedeg o Portsmouth i Portland, Jackson, Co. Byddai hyny yn gyfleustra mawr i fasnach y lle. Y mae amrai o fwnwyr Cymreig yn byw wrth y tunnel (6 milldir Ironton), a phregethir iddynt yn achlysurol gan y gwahanol enwadau. Y mae dros saith mil o wahanol genhedloedd yn byw yn Ironton. Poblogaeth Gymreig oddeutu 500.

37. - PORTSMOUTH, Scioto Co. - Prif ddinas Scioto Co. yw Portsmouth. Saif ar wastadedd bychan, ar lan yr Ohio, yn ngwaelod y Scioto Valley. Y mae yn hynach, ac yn fwy poblog na thref Ironton; ac y mae ei chyfleusderau masnachol yn fwy, oblegid fod reilffordd yn rhedeg allan o honi drwy y wlad, heibio i Portland


 

 


(delwedd E1000) (tudalen 142)


(x156) (tudalen 142) HANES CYMRY AMERICA.
(neu Oak Hill), ac yn cysylltu â*r “Marietta & Cincinnati R.R” yn Hamden station. Nid oes ond oddeutu 25 milldir ar yr afon o Ironton i Portsmouth. Bernir fod poblogaeth y ddinas hon dros ugain mil, o wahanol genhedloedd, a bod ynddi yn awr dros 300 o boblogaeth Gymreig; ac y mae llawer o honynt yn gweithio yn y rolling mills, &c. Y mae y Cymro cenedlgarol, William Harris, Ysw., yn arolygu y “Gelert Rolling Mill” ac y mae Lewis Morgan, Ysw., gynt o Dalybont, Sir Aberteifi, D.C., yn fasnachwr cyfoethog yno. Sefydlodd y Cymry yn y lle er ys llawer o flyneddau, a bu gweinidogion y gwahanol enwadau yn pregethu yma. Sefydlwyd yr eglwys Gymreig unol yma er ys oddeutu 18 mlynedd yn ol. Mewn ty anedd, wedi ei droi yn gapel, y buont yn addoli am flyneddau. Ond yn 1869 adeiladasant gapel bricks, 36 tr. wrth 60 tr., ar 3rd St., yn agos i Chilicothe St. - gwerth $5,600; ac nid oes arno yn awr ond ychydig o ddyled. Y capel harddaf a mwyaf cyfleus o holl gapeli y Cymry yn Ohio ydyw. Perchenogir ef gan y Trefnyddion Calfinaidd; ond y mae yr eglwys a’r gynulleidfa sydd yn addoli ynddo yn gynnwysedig o Annibynwyr, T.C. a Bedyddwyr, a Ŵesleyaid; ac addolant yn unol. Er fod Cymry y ddinas yn uchel eu cymeriad am foesoldeb, a sobrwydd, a chrefydd, nid yw yr eglwys na’r gynulleidfa Gymreig yn gryfion. Dichon fod llawer o’r Cymry yno, fel mewn manau ereill, wedi ymuno â’r eglwysi Saesnig. Swyddogion. - Lodwick Edwards yw y diacon, ac Evan Williams yw y Trysorydd, a William L. Jones yw yr Ysgrifenydd. Aelodau, 50; Ysg. Sab., 80; cynulleidfa, 150. Nid wyf yn gwybod fod ganddynt weinidog sefydlog yno yn awr; ond credwyf y dylent gael bugail da, a phregethwr talentog, ac y gallent ei gynal yn anrhydeddus. Y mae Mr. David A. Davies, gynt o Dowlais, D.C., yn bregethwr, ac yn llenor defnyddiol yno; ac y mae John H. Davies, Ysw., gynt o Landilo-fawr, Sir Gaer, D.C., yn aelod parchus o’r eglwys. Annibynwyr ydynt hwy.

Yn Portsmouth y mae yr hen weinidog llafurus, tad y T.C. yn Ohio, sef y Parch. Edward Jones, gynt o Cincinnati, yn byw er ys blyneddau. Ganed ei ar dyddyn o’r enw Llain, ger Aberystwyth,


 

 


(delwedd E1001) (tudalen 143)


(x157) (tudalen 143) TALAETH OHIO

Sir Aberteifi, D.C., Hydref 24, 1793, ac y mae yn awr yn 78 mlwydd oed. Dysgodd deilwriaeth. Derbyniwyd ef yn aelod yn eglwys y T.C. yn Crughowel, D.C., pan yn 18 ml. oed. Dechreuodd bregethu yn 1818. Bu yn Athrofa y Dr. Phillips, yn y Neuaddlwyd. Bu yn ysgolfeistr ar Hirwaun, Morganwg, D.C. Oddiyno yr ymfudodd i America yn y fl. 1831. Dechreuodd weinidogaethu yn Cincinnati yn Chwefror, 1832. Corfforodd eglwys o ddeuddeg o bersonau, o wahanol enwadau, Mehefin 11, 1832. Urddwyd ef yn 1833. Llafuriodd yn yr eglwys hono hyd 1850. Corfforodd y Wesleyaid eglwys yno yn 1838, a’r Annibynwyr yn 1840, a’r Bedyddwyr yn 1847. yn y blyneddau hyny teithiodd a phregethodd Mr. Jones lawer yn nhalaeth Ohio, gan ymweled a’r sefydliadau bychain Cymreig Cincinnati hyd Pittsburgh, a sefydlodd dros wyth o eglwysi y T.C. Yn y fl. 1836, cyfansoddodd lyfryn o’r enw “Teithiwr Americanaidd,” a gwerthodd filoedd o hono pan ar ymweliad a Chymru. Wedi rhoddi yr eglwys i fyny yn Cincinnati, yn 1850, arosodd yno wedi hyny am flyneddau fel pregethwr cynorthwyol, a theithiodd lawer i ddysgu pobl i ysgrrifenu “Llaw Fer;” ac yn y fl. 1860 cyhoeddodd lyfr gwerthlawr er rhoddi hyfforddiant eglur ar y gelfyddyd hono. Erbyn y fl. 1866, yr oedd galwad am y pedwerydd argraffiad o hono. Cafodd raddeg (diploma) gan Prof . B. Pitman, oblegid ei wybodaeth yn y “Llaw Fer.”

38. Y Sefydliadau a’r Eglwysi Cymreig yn Siroedd JACKSON A GALLIA, Ohio. - Clywais lawer o son er ys blyneddau am y sefydliadau Cymreig nodedig hyn, ac am eu gweinidogion parchus, ac am eu haelioni at y Beibl Gymdeithas. Hiraethais am gael cyfleusdra i’w gweled. Cefais hyny yn nechreu Mai, 1870; ac wedi treulio amrai o ddyddiau yno, a phregethu a darlithio yn y gwahanol gapelau, ac ymddiddan â’r gweinidogion, a’r swyddogion mwyaf cyfarwydd yn yr eglwysi a’r ardaloedd, ac wedi hyny darllen eu llythyrau, ac ystyried eu cyfrifon - yr wyf yn awr yn meddu ychydig mwy o fantais i ysgrifenu eu hanes. Caraswn gael mwy o’r manylion. Ond ymdrechaf roddi darluniad teg a diduedd o’r ardaloedd a’r eglwysi, yn ol y wybodaeth a gefais am danynt. Ymddengys fod ychydig o Gymry wedi dechreu sefydlu yma oddeutu 35 ml. yn ol, a bod eglwys y Trefnyddion Calfinaidd wedi ei chorffori yn ardal Moriah yn fuan wedi hyny, ac mai y gweinidog enwog a ffyddlon, y Parch. Robert Williams, yw tad, neu sylfaenydd y rhan fwyaf o eglwysi lluosog a gweithgar yr enwad crefyddol dylanwadol hwnw yn yr holl ardaloedd


 

 


(delwedd E1002) (tudalen 144)


(x158) (tudalen 144) HANES CYMRY AMERICA.

poblog hyn. Y mae efe eto yn byw yn yr ardal, ac yn parhau yn ei nerth corfforol a meddyliol, ac yn un o’r pregethwyr mwyaf synwyrgall a dylanwadol yn Ohio. Cynyddodd y Trefnyddion Calfinaidd yn ddirfawr, ac y mae ganddynt yn awr ddeg o gapelau ac eglwysi llewyrchus yn siroedd Jackson a Gallia, sef Moriah, Oak Hill, Centreville, Horeb, Bethel, Sardis, Salem, Bethesda, Bethania, a Soar; 27 o ddiaconiaid; 750 aelodau; 690 o blant, ac aelodau ar brawf; 1,300 yn yr Ysgol Sabbothol; a dichon yn agos i 3,000 o wrandawyr; a chasglant yn flyneddol dros $2,000 at y weinidogaeth; $1,200 at y Beibl Gymdeithas; $100 at yr Achos Cenhadol, a thros $2,200 at wahanol achosion. Ardderchog! Duw a’i bendithio, ac a’u lluosogo eto yn fwy-fwy, tra haul yn tywynu ar eu bryniau. Ac y mae ganddynt ddau weinidog arall talentog a pharchus, sef y Parch. John W. Evans, Oak Hill; a’r Parch. Evan S. Jones, Centreville; a thri o bregethwyr rhagorol, sef David J. Jenkins, Horeb; J. Rhydderch, Bethania; a J. M. Jones, Bethesda. Y mae rhai o’u capelau yn fawrion, a rhai yn fychain. Bydd angen am rai newyddion a helaethach cyn hir. Yn amser eu Cymanfaoedd, y rhai a gynhelir yn yr awyr agored, yn y coedydd cysgodfrig, y gwelir tyrfaoedd mawrion, yn debyg i gyfarfodydd poblogaidd Cymru; a bydd y dylanwad dwyfol mor amlwg weithiau.

Yn mhlith blaenoriaid y T.C. yn yr ardaloedd hyn, y mae amrai o’r dynion duwiolaf a challaf; ac un o honynt yw Thomas L. Hughes, Ysw., Portland, yr hwn sydd newydd gael yr anrhydedd o gael ei ethol i Dy Cynrychiolwyr y Dalaeth dros sir Jackson. Y mae efe yn llenor medrus, ac yn Gristion defnyddiol iawn.

Daeth y Parch. John A. Davies (gynt o Lanfair Caereinion, Maldwyn, G.C.), i fyw i ardal Oak Hill yn Awst, 1841; ac yn mis Hydref, 1841, corfforwyd eglwysi Annibynol Oak Hill a Ty’nrhos; ac ymddengys mai y gweinidog talentog a llafurus hwn yw “planwr” a “dyfrhawr” y rhan fwyaf o’r eglwysi Cynulleidfaol yn siroedd Jackson a Gallia. Gweithiodd yn egniol, trwy lawer o anhawsderau, er llwyddiant achos Iesu, yn yr ardaloedd hyn, ac mewn manau ereill, ond yn enwedig


 

 


(delwedd E1003) (tudalen 145)


(x159) (tudalen 145) TALAETH OHIO

yn Oak Hill a Ty’nrhos. Efe a sefydlodd eglwysi Carmel, a Centreville, a Siloam; ac y mae eto yn byw yn gysurus gyda’i deulu, ae yn gweinidogaethu yn llwyddianus yn Siloam (ac mewn eglwys Gynulleidfaol Saesnig gerllaw yno, yn ardal Patriot, Gallia Co., lle mae yr enwog John L. Jones, Ysw., yn byw). Y mae Mr. Davies yn un o’r pregethwyr goreu sydd gan yr Annibynwyr yn Ohio. Erbyn heddyw y mae gan yr enwad parchus hwn saith o eglwysi llewyrchus yn yr ardaloedd, sef yn Portland (Oak Hill gynt), Berea, Centreville, Carmel, Ty’nrhos, Nebo, a Siloam; a dichon fod ynddynt oll oddeutu 14 o ddiaconiaid; 300 o aelodau; 500 yn yr ysgolion Sabbothol; ac yn agos i 1,000 o wrandawyr; a’]u bod yn casglu yn flyneddol at y weinidogaeth sefydlog dros $2,000; ac at y Beibl Gymdeithas, a’r achos Cenhadol, ac achosion ereill, yn agos i $500.

Bu amrai o weinidogion ereill yn gweinidogaethu yn yr eglwysi yma; ond yn bresenol y mae y gweinidogion parchus ac enwog canlynol yn ddefnyddiol ynddynt, sef y Parch. J. Davies yn Ty’nrhos, a Nebo; a’r Parch. Mr. Jones yn Centreville a Carmel. (Cyfeirier llythyrau atynt i Thurman P.O., Gallia Co., Ohio). Ac y mae y Parch. David M. Evans yn byw yn ardal Portland (neu Oak Hill), Jackson Co., ac yn bugeilio yr eglwys Annibynol fechan, ffyddlon yn Berea, 5 milldir i’r de oddiyno, ac yn pregethu yn achlysurol yn eglwys Portland. Yn Portland hefyd y mae y pregethwr a’r awdwr poblogaidd, y Parch. Evan Evans, gynt o Nanty-glo, D.C, yn byw er ys misoedd, ac y mae yn gymeradwy iawn gan eglwysi y T.C. a’r Annibynwyr yn yr ardaloedd. Y mae yr eglwys Annibynol wedi cau drws hen gapel Oak Hill, ac wedi adeiladu capel mawr bricks yn Portland, yn 34 tr. wrth 60 tr. Traul, $4,000. Ychydig o ddyled arosol. Y mae yn anrhydedd i’r eglwys, ac yn addurn i’r lle. Clywais fod y T.C. am ddilyn eu hesiampl, drwy adeiladu capel mawr yn Portland.

Ar fryn bychan yr adeiladwyd hen bentref bychan, gwael, Oak Hill, ac yno y mae hen gapelau a mynwentau y T.C. a’r Annibynwyr. Ond daeth y reilffordd o Portsmouth i Hamden drwy y wlad yn agos yno; ac oddeutu y reilffordd hono y mae tref newydd hardd


 

 


(delwedd E1004) (tudalen 146)


(x160) (tudalen 146) HANES CYMRY AMERICA.

Portland wedi ei hadeiladu; ac y mae y masnachdai, gan mwyaf, yn cael eu cadw gan Gymry parchus a chyfoethog, sef John J. Jones, Ysw., W. W. Morgan, Ysw., Dr. Griffiths, Jones, ac ereill.

Oddeutu dwy filldir i’r gorllewin y mae y “Jefferson Furnace,” yr hon a berchenogir ac a reolir gan Gymry cyfoethog y lle, sef John D. Davies, Ysw.; yr Anrhydeddus Thomas L. Hughes, William M. Jones, Ysw.; a Thos. T. Jones, Ysw., ac ereill. Mae amrai o weithfeydd ereill, haiarn a glo, yn siroedd Jackson a Gallia; ac oblegid hyny mae llawer o’r Cymry wedi dyfod yn gyfoethog yno.

Gorwedda Centreville mewn gwastadedd bychan, ffrwythlon, rhwng y bryniau, tuag wyth neu ddeg milldir o Portland, ar ffordd y stage i Gallipolis. Pentref bychan ydyw; ond y mae ynddo amrai o Gymry, yn fasnachwyr ac yn grefftwyr cyfrifol.

Mewn ardaloedd gwledig ac amaethyddol y mae yr holl gapelau ereill, oddieithr Portland a Centreville; ac ymddengys fod cenedl y Cymry wedi meddianu a phoblogi y rhan ddeheuol o sir Jackson, a chanoldir sir Gallia, am oddeutu ugain milldir o hyd, wrth ddeng milldir o led; a bod y boblogaeth Cymreig yno yn awr dros chwe’ mil (6,000). Barna yr Anrhyd. Thomas L. Hughes, “nad oes ynddynt yn agos y nifer o Gymry a dylid fod,’’ ac “nad oes llawer dros bedair mil (4,000) yn y sefydliad oll.” Ond wrtih i mi sylwi ar gyfanrif deiliaid Ysgolion Sabbothol y Trefnyddion Calfinaidd, &c., tybiais fod 6,000 yn nes i gyfrifiaeth gywir.

Mae gan y Bedyddwyr Cymreig eglwysi a chapelau bychain yn Portland, Centreville, a Carmel; ond ni chefais fanylion eu hanes. Mae y Parch. Mr. Lloyd yn weinidog defnyddiol yn Centreville.

Arwynebedd y wlad sydd fryniog a choediog; y pridd yn gleiog a melyngoch; y ffyrdd yn anwastad; er hyny ceir yno llawer o dyddynau prydferth a ffrwythlon, ac ambell i ddoldir feillionog ar lanau yr afonydd. Mae y Cymry yn awr yn byw yn gysurus a dedwydd yno, ac yn meddu cyflawnder o fanteision gwladol a chrefyddol. Gwlad y Beiblau, a’r pregethau, a’r Ysgolion Sabbothol, ydyw, fel Cymru orfreintiog.


 

 


(delwedd E1005) (tudalen 147)


(x161) (tudalen 147) TALAETH OHIO

39. ROBERTSVILLE, ger Salineville, P.O., Columbiana Co., Ohio. - Saif Robertsville yn Fox township, Carrol Co. Nid yw ond tua 3 milldir oddiwrth y reilffordd, nac ym mhell o Salineville, ac Irondale, ar y reilffordd sydd yn myned o Pittsburgh i Cleveland. Gorwedda yn nghanol gwlad brydferth, goediog, fryniog, a ffrwythlon. Treigla yr Yellow Creek drwyr yr ardal, gan ddylifo yn mlaen ac ymarllwys i’r Ohio. Mae yma amrai dyddynau da, yn y dyffrynoedd, i’w cael am tua $50 yr erw. Ond y gweithfeydd glo yw prif fywyd y lle yn awr. Mae yno ddwy wythien yn cael eu gweithio yn llwyddianus; un yn 3 tr. o drwch, a’r llall yn 6 tr. Mae yno amrai o wythienau ereill; a llawer o fwn haiarn; ond nid ydynt wedi dechreu eu gweithio eto.

ESAY ROBERTS, Ysw., a sefydlodd y lle yn y fl. 1863, ac efe yw perchenog y tiroedd, a’r holl dai a adeiladwyd yn y pentref. Mae efe hefyd yn un o Gwmpeini y “Salineville R.R. Co.,” yr hon sydd yn rhedeg o Salineville at y gweithiau glo yn Robertsville. Ganwyd ef yn mhlwyf Llanhidel, Sir Fynwy, D.C., Gorpheuaf, 1817. Mab ydyw i Joseph ac Ann Roberts o’r lle hwnw. Enw ei wraig yw Sarah. Cawsant bymtheg o blant; ac y mae deg o honynt yn fyw eto. Glowr oedd wrth ei gelfyddyd. Ni chafodd fanteison addysg ond yn yr Ysgol Sabbothol. Ymdrechodd i gyrhaedd gwybodaeth. Mae yn ysgolar da yn awr. Derbyniwyd ef yn aelod yn eglwys Annibynol Penymain, D.C., yn 1840, ac y mae yn Gristion ffyddlon eto. Ysgrifenodd lawer i’r cyhoeddiadau Cymreig flyneddau yn ol. Trwy ei ddiwydrwydd a’i onestrwydd cyrhaeddodd gyfoeth ac anrhydedd. Mae mewn swyddi o ymddiried; ac y mae ganddo y drydedd ran yn y “ Cleveland Iron & Nail Co.”

Mae yma eglwys Gymreig Undebol. Sefydlwyd hi Ebrill, 1871, gyda naw o aelodau; ond rhifa yn awr 21, ac y mae golwg obeithiol arni. Soniant am godi capel yno yn fuan - 32 wrth 28 tr. - gwerth $1,200. Diaconiaid - Richard W. Davies, a Gomer E. Lewis. Mae yno Ysgol Sabbothol weithgar, yn rhifo 48. Y Parch. William D. Williams (A.), gynt o Braceville, Illinois, sydd yn pregethu iddynt yn bresenol.


 

 


(delwedd E1006) (tudalen 148)


(x162) (tudalen 148)

PENNOD VI.

TALAETH VERMONT.
O fryniau gwyrddion heirdd! Delweddwch chwi
Hen fryniau cedyrn, cribog, Gwalia lan;
Lle bu yr Awen bur mewn uchel fri,
Yn swyno myrdd a nefawl odlau ’i chan:
Ymdeimlo ’r wyf fel cynt o fewn fy ngwlad,
Pan yfwn ei hawelon iachus hi;
A’m meddwl prudd yn cael rhyw lawn iachad:
Ai Arfon fawr symudwyd dros y lli’?

Un o dalaethau New England yw hon. Dechreuwyd ei phoblogi gan y Ffrancod, a galwasant y wlad yn Vermont am fod rhês o fynyddau uchel, coediog, a gwyrddleision, yn rhedeg ar ei thraws o’r de tua’r gogledd, am filldirau lawer; ac y mae golwg fawreddog arnynt yn y gauaf, a’r hâf hefyd. Yn y fl. 1725, dechreuodd amrai o hen sefydlwyr crefyddol talaeth Massachusetts ymfudo iddi, a sefydlu ynddi; a derbyniwyd hi i’r undeb Mawrth 4, 1791. Wedi hyony cynyddodd yn gyflym. Y mae ynddi yn awr bedair-ar-ddeg o siroedd; a llawer o ddinasoedd a threfydd, sef Montpelier, Burlington, Middlebury, Rutland, Bennington, St. Albans, ac ereill; ac yr oedd ei phoblogaeth yn 1870, yn 330,404. Un o’r talaethau mwyaf teyrngarol o fewn yr Undeb ydyw; y mae y rhan fwyaf o’i thrigolion yn ymdrechgar a selog dros ryddid, sobrwydd, addysg, a chrefydd.

Terfynir hi o du y dwyrain gan y Connecticut River, a thalaeth New Hampshire; o du y de gan dalaeth Massachusetts; o du y gogledd gan Canada; ac o du y gorllewin gan Lake Champlain, a rhanau o dalaeth


 

 


(delwedd E1007) (tudalen 149)


(x163) (tudalen 149) TALAETH VERMONT.

New York. Y mae ynddi lawer o ddyffrynoedd prydferth, a doldiroedd ffrwythlon, ac afonydd rhedegog, a llynoedd gloywon, a ffynonau grisialaidd. Y mae ei gauaf yn hir, a’i hinsawdd yn oer y tymhor hwnw, ac yn lled wresog yn yr haf. Prif waith ei thyddynwyr yw magu anifeiliaid; ceffylau, gwartheg, eidionau, a defaid, a gwneyd ymenyn a chaws. Y mae ynddi amrai law-weithfeydd, &c. Credwyf fod ynddi gyflawnder o fwnau gwerthfawr heb eu darganfod eto. Nid oes un rhan o honi yn terfynu ar fôr y Werydd; ond bu ac y mae Llyn Champlain, ar ei hochr orllewinol, yn fanteisiol iawn i’w masnach; nid yw ond cul iawn mewn rhai manau, ond y mae yn agos i gan’ milldir o hyd; ac y mae agerdd-longau yn rhedeg arno, yn nhymhor yr haf, o yn agos i Whitehall a Fairhaven, hyd at y Grand Isle, a Rouse’s Point, lle mae y Sorrel River yn dechreu, ac yn rhedeg oddiyno trwy randir deheuol y Canada, ac yn ymdywallt i afon fawr St. Lawrence, rhwng Montreal a Quebec. Oddiar y llun ceir golygfeydd ardderchog ar y Bryniau Gwyrddion yn Vermont, ar un llaw, ac ar y mynyddau uchel yn nhalaeth New York ar y llaw arall. Y mae llawer o reilffyrdd hefyd wedi eu gwneyd yn awr trwy y dalaeth, yn gyfleus i fasnachwyr a theithwyr; gellir myned o Boston i Rutland, neu o New York i Troy, neu o Utica i Schennectady, ac o un o’r tri lle a nodwyd i Middle Granville, N.Y., a Fairhaven, Vt., mewn ychydig oriau, ac am bris rhesymol.

1. FAIRHAVEN, Rutland Co., Vt - Y chwarelau llechi (slates) cyntaf a agorwyd yn yr ardal oedd, un gan Mr. Allen, yn agos i Fairhaven, a’r llall gan Mr. Whitlock, yn agos i Hydeville. Buont yn eu gweithio am rai blyneddau trwy wasanaeth Gwyddelod. Cafodd Mr. Whitlock ddynion cyfoethog o New York i’w gyfnerthu;


 

 


(delwedd E1008) (tudalen 150)


(x164) (tudalen 150) HANES CYMRY AMERICA.

wedi hyny cyflogodd y Cymro parchus, sef William R Williams, Ysw., i arolygu ei chwarel. Hydref 10, 1849, daeth ef yno gyda dyn ieuanc o’r enw Edward Morris; ac yn mis Rhagfyr canlynol daeth ei wraig, Mrs. W. R. Williams, yno, yr hon sydd ferch i’r lien weinidog enwog y Parch. Edward Rees, (T.C.) Dyna y ddau Gymro, a’r Gymraes, a sefydlodd gyntaf yn y lle. Buont yno am rai blyneddau, hyd nes y symudasant i Middle Granville, yn niwedd y fl; 1852. O hyny hyd yn awr agorwyd a gweithiwyd llawer iawn o chwarelau llechi oddeutu Fairhaven; ac arolygir a meddianir rhai o honynt gan Gymry parchus a chyfoethog, sef Williams, Hughes, Roberts, ac ereill. Pentref dymunol a bywiog yw Fairhaven; ac y mae ynddo lawer o drigfanau, a stores, ac eglwysi Saesnig rhagorol; ariandy, llythyrdy, gwestdy, a llaw-weithfeydd, &c. Creigiog a bryniog yw yr araal. Chwarelau llechau, a melinau llifio, a thori llechfeini a marble, ydynt fywyd masnachol y lle. Mae o fewn 8 milldir i Whitehall, porthladd deheuol Llyn Champlain; o fewn 40 milldir i Saratoga Springs; a thua 80 milldir, bron yn union i’r gogledd, o Albany, N.Y. Ac y mae y Rensselaer & Saratoga R.R. yn rhedeg trwyddo, heibio Hydeville, a Castleton Junction, i Rutland. (Ac o’r Junction i Middle Granville, Salem, a Troy.) Mae tua 500 o Gymry yn byw yn Fairhaven a’r dylchoedd; a mwy na hyny o Wyddelod, a rhai Ffrancod. Efallai fod y tramorwyr, oll yn nghyd, yn lluosocach nag Americaniaid yr ardal. Mae Fairhaven yn enwog am ei beirdd a’i llenorion - John Edno Roberts, Richard Ifor Parry, Robert E. Williams, William Jones; a’r cerddorion John J. Parry, a Richard O. Pritchard.

Dechreuwyd cynal moddion crefyddol gau y Cymry yn Fairhaven yn y flwyddyn 1851. Y Parch. Thomas E. Jones (T.C.), Rome, N.Y., a bregethodd gyntaf iddynt; ac wedi hyny y Parch. Evan Griffiths, o Utica, N.Y., y pryd hwnw. Yn y fl. 1853 y dechreuwyd cynal moddion crefyddol yn rheolaidd yn ysgoldy y pentref; a r Parch. Griffith Jones (gynt o Lanberis, Arfon), oedd y gweinidog cyntaf a sefydlodd yma. Bu yn ffyddlon a llwyddianus yno am flyneddau. Yr oedd y Cymry o wahanol enwadau yn cyd-addoli pan adeiladwyd y capel yn 1857 - gwerth tua $3,500. Capel bricks, mawr, a chyleus


 

 


(delwedd E1009) (tudalen 151)


(x165) (tudalen 151)

TALAETH VERMONT.



ydyw, Ond ymadawodd y T.C. yn niwedd y flwyddyn 1859, a sefydlasant eglwys eu hunain; ac yn niwedd y fl. 1860 hwy a adeiladasant gapel tebyg i’r hwn a adeiladodd y Cymry gyntaf yn y lle, yn agos iddo, ac o’r un werth.

Arosodd yr Annibynwyr a’r Wesleyaid i gyd-addoli wedi hyny yn y capel cyntaf, a ffurfiasant eu hunain yn eglwys dan yr enw, “Cymdeithas y Protestaniaid Cymreig.” Cymerodd y llenor medrus a’r gweinidog enwog, y Parch. R. L. Herbert (W.), eu gofal yn Ionawr 30, 1860; ac o’r pryd hyny hyd yn awr, bu ei gymeriad yn ddifrycheulyd. Pregethodd i’r Cymry a’r Saeson bob Sabboth; tynodd ei ysgrifau a’i bregethau sylw mawr; ac y mae yn parhau eto yn ei barch a’i boblogrwydd yn ngolwg llawer; ond collfarnir ei bregethau a’i ysgrifäu fel rhai an-ysgrythyrol, gan amrai o’r gweinidogion mwyaf parchus ac efengylaidd; ond y mae ei eglwys yn ei garu ac yn ei gefnogi. Y mae ef a hwythau yn gyfrifol i Ben Mawr yr Eglwys, sef Crist. “Edryched pob un pa wedd y mae yn goruwch-adeiladu. Canys sylfaen arall nis gall neb ei osod, heblaw yr un a osodwyd, yr hwn yw Iesu Grist. Gwaith pob dyn a wneir yn amlwg, canys y dydd a’i dengys, oblegid trwy dan y datguddir ef; a’r tan a brawf waith pawb, pa fath ydyw.” - 1 Cor. 3. 10 - 17. Mae yr addoldy hardd yn ddiddyled. Aelodau, 85; Ysg. Sab., 100; y gynulleidfa yn gyffredin tua 150; y casgliadau blyneddol at bob achos, tua $900. Diaconiaid - Benjamin Williams, William Owen, John Edno .Roberts, a David C. Roberts.

Y mae amrai o aelodau yr eglwys hon yn byw yn ardaloedd Hydeville a Blissville, sef R. Hughes, Robert Jones, a Thomas, a Price, a’u teuluoedd; ond nid oes gaaddynt nac eglwys na chapel yno.

Eglwysi y TREFNYDDION CALFINAIDD yn Fairhaven, Vt. - Yn niwedd y flwyddyn 1859 y ffurfiwyd yr eglwys hon, mewn ysgoldy, lle y buont yn addoli am rai misoedd. Adeiladwyd y capel hardd bricks ar Main St. yn 1860. Traul tua $3,500. Erys ychydig o ddyled, dichon $300, arno eto. Aelodau, 80; Ysg. Sab., 110; cynulleidfa, 120. Diaconiaid, 4. Casgliadau y flwyddyn 1870 yn $534. Bu y Parch. Mr. Brown ac ereill yn llafurio yma; ond eu gweinidog presenol yw y Parch. Robert Vaughan Griffiths, gynt o Athrofa y Bala; ac y mae Mr. E. D. Humphreys yn ddefnyddiol yno fel pregethwr, a store-keeper.

2. BLISSVILLE, ger Hydeville, Rutland Co., Vt. - Enw cyntaf y lle hwn oedd Goldsmith. Saif yn ymyl y chwarelau llechau yno, ac o fewn milldir i Hydeville, (lle mae eu Post Office), a dwy filldir i’r dwyrain o bentref Fairhaven. Nid yw ond lle bychan eto; ond y mae llawer iawn o Gymry, ac o genhedloedd ereill, yn hyw oddeutu yno; ac y mae yn debyg o gynyddu yn


 

 


(delwedd E1010) (tudalen 152)


(x166) (tudalen 152) HANES CYMRY AMERICA.

gyflym, os parha y chwarelau yn llwyddianus. Cymry parchus yw meddianwyrr ac arolygwyr llawer o honynt, sef Evan D. Jones, William E. Williams, David W. Roberts, Griffith E. Jones, Hugh G. Hughes, a Thos. P. Thomas, Richard W. Rowlands, ac ereill. Y mae amrai o berthynasau cyfoethog y diweddar Mr. Bliss (tad-yn-nghyfraith Wm. E. Williams), yn byw eto yn y lle, ar eu tyddynau; ac y mae Mr. Price (butcher) wedi prynu tyddyn hyfryd, a’r palasdy mwyaf yn y lle, ac yn gwerthu lotiau i adeiladu arnynt. Yr oedd y tai yn rhy agos i’r chwarelau yn Goldsmith, ac y maent eto. Yn yr ardal hon y mae y cerddor medrus, John Owen. Ysw. (Glanmarchlyn); a’r bardd cadeiriol, Rowland Walters, Ysw. (Ionoron Glan Dwyryd), yn byw. Fel hyn y dywed yr olaf am Fairhaven, Castleton, a Poultney, Vt.:

“Mae Cymry yn yr ardaloedd hyn er ys mwy nag ugain mlynedd, a’r Cymry hyny, gan mwyaf, o swyddi Arfon a Meirion. Nid ydynt yn hoffi yr olygfa a geir yma, ar y cyntaf, am nad yw y bryniau wedi tyfu yn fynyddoedd, na’r ceryg yn greigiau. Nid yw yr awyr uwch ben, na’r ffyrdd dan draed, yn eu taro ychwaith. Mae yr awyr yn oer y gauaf, ac yn boeth yr haf; ac y mae y ffyrdd yn cyfnewid fel bo’r tywydd. Pa fodd bynag, wedi trigo yma ychydig o flynyddoedd, yr ydym yn dygymod a’r lle yn well. Pan ddilledir y bryniau a choedwigoedd, y coedwigoedd a dail, a’r caeau agored rhyngddynt a blodau, mae yr olygfa braidd yn farddonol. Y chwarelydd llechi sydd wedi denu y Cymry i’r cymydogaethau hyn, ac y maent yn rhanog mewn pymtheg neu ugain o wahanol gwmniau. Mae yn ofynol myned i dipyn o gost i godi derricks, a phethau ereill, cyn y gellir agor chwarel yma; ac y mae Hugh G. Hughes, a Thomas Thomas, wedi codi engine, ac y mae y gost, rhwng pob peth, sydd ar eu dwy chwarel hwy yn un-fil-ar-ddeg o ddoleri. Mae gan Griffith R. Jones engine hefyd, a gallwn i dybio fod ei gost yntau yn nghyfeiriad pedair mil o ddoleri. Mae y costau yna i’w hystyried fel costau arfau.”

Dyma Hanes dymunol, - a hwnw
Yn wirionedd hollol;
Gwir i gyd a geir o gol
Y Llenor gorllewinol.

Hydeville, Vt.,
Meh. 5, 1871.

Rowland Walters,
(Ionoron Glan Dioyryd).

Eglwys y T.C. yn Blissville, Vt. - Dechreuodd y T.C. breg ethu yn yr ardal hon (Goldsmith) yn y fl. 1859, a chodasant


 

 


(delwedd E1011) (tudalen 153)


(x167) (tudalen 153) TALAETH VERMONT.

gapel bychan ar y bryn, gerllaw y chwarelau yno, lle buont yn addoli am flyneddau. Llwyddasant. Yn 1869 codasant gapel newydd hardd yn y gwastadedd, yn nes i Hydeville. Traul, $4,000. Dyled drom yn aros arno yn Mai, 1871. Y mae yn addurn i’r gymydogaeth, ac y mae ynddo eglwys ffyddlon. Aelodau, 50; Ysg. Sab., 70; cynulleidfa, 80. Diaconiaid, 3. Gweinidog - Parch. R V. Griffiths. Casgliadau y fl. 1870 yn $556.

3. MIDDLE GRANVLLE Washington Co., N.Y. - Gwelwch fy mod yn ysgrifenu hanes y lle hwn fel pe byddai yn Vermont, am ei fod yn ei hymyl, ac yn fwy cyfleus i fod mewn cysylltiad a hi yn ei masnach a’i chrefydd, a’i holl achosion Cymreig, nac ag un lle Cymreig arall yn nhalaeth New York. Y ffordd nesaf a rhwyddaf i fyned yno yw myned gyda y train ar y reilffordd sydd yn arwain yno o Troy.

Y mae lle cyfagos yno o’r enw Granville; ond cofiwch mai yn Middle Granville y mae y sefydliad a’r capelau Cymreig. Saif mewn iseldir hyfryd, oddeutu glanau afon fechan, ac y mae yn lle cynyddol. Gwelir llawer o dai rhagorol wedi eu hadeiladu ar y bryniau diwylliedig, a llawer o dyddynau ffrwythlon gerllaw iddo; a’r chwarelau llechau yn rhes, yn ymyl eu gilydd bron, ar lethrau y bryniau, ac uwch y ffordd sydd yn arwain oddiyno trwy Jamesville i Poultney, a Fairhaven. Y mae yn lle dymunol ac iachus i fyw; ond yn bur oer y gauaf, ac yn lled boeth yr haf.

Ymddengys mai William E. Williams, Ysw., a’i briod, oedd y Cymry cyntaf a sefydlodd yma hefyd. Yn Tachwedd, 1852, cymerodd lease ar ddarn o dir yn agos i’r pentref gan George Porter, Ysw., ac ar y tir hwnw yr agorodd chwarel. Dyna y gyntaf a agorwyd ac a weithiwyd yn Middie Granville. Yn nechreu y flwyddyn 1853, daeth ei frawd, Mr. John R. Williams, a’i deulu, yno i fyw, ac i weithio, gydag amrai ereill, o Fairhaven; fe Rowland Williams, John Davies, &c., a’u teuluoedd. Y Cymro cyntaf a gladdwyd yn y lle oedd Jeremiah R. Williams, mab i Rowland Williams. Y mae Wm. E. Williams, Ysw., yn awr yn gyfoethog, yn byw ar ei dyddyn mawr ei hunan, yn agos i Poultney, ar yr hwn y mae amrai o chwarelau.

Y mae Benjamin Williams, Ysw. (Ben o Arfon)


 

 


(delwedd E1012) (tudalen 154)


(x168) (tudalen 154) HANES CYMRY AMERICA.

mab yr hyglod “ Gwilym Bethesda,” yn yr ardal er ys deunaw mlynedd (1853), ac wedi bod yn un o’r Cymry mwyaf llwyddianus gyda y chwarelau. Y mae yn awr yn byw yn ei balasdy yn mhentref Middle Granville, ac yn un o brif feddianwyr y chwarel sydd yn cael ei gweithio dan reolaeth y “National Slate Co.” gerllaw yno.

Yr oedd Mr. David Jones a’i frawd (meibion y Parch. Morris Jones (T.C. o Arfon), yn rhai o’r anturiaethwyr Cymreig cyntaf mewn chwarelau yn y lle; ond buont yn aflwyddianus.

Ond credwyf mai ein cydwladwyr enwog Eleazer Jones, Ysw., a’i frawd, Wm. E. Jones, Ysw., a wnaethant fwyaf o ymdrechion, trwy rwystrau lawer, i gadw rhai o r hen chwarelau yn meddiant y Cymry, ac i’w gweithio yn llwyddianus, er lles ein cenedl. Prynasant ddau dyddyn, ac amrai chwarelau, yn 1856, ac y mae ganddynt yno yn awr bedair o chwarelau yn cael eu gweithio yn llwyddianus, yn agos i’r pentref. Yn 1858 adeiladasant felin fawr ar lan yr afon, rhwng y chwarelau a’r railroad depot, i’r dyben i lifio ac arliwio ceryg eu chwarelau, yn debyg i’r marble mwyaf prydferth, a’u ffurfio er gwneyd mantels, tables, window caps, patent ridges, cisterns, baths, coffins, tablets, &c. Ffurfiwyd y cwmni presenol yn 1865 - “The Penrhyn Slate Co.” Perchenogion - Firm Williams & Guion, Eleazer Jones, a’i frawd. Mr. E. Jones yw manager y cwmni; arolygwr y chwarelau yw Mr. W. E. Jones, a manager y felin, a’r prif arliwydd, yw Mr. Hugh Williams. Y mae llawer o Gymry yn gweithio yn y chwarelau, ac yn y felin.

Agorwyd chwarel yr Albany Slate Co., gerllaw y pentref, er ys tua 7 mlynedd yn ol (1864), a gweithir hi ar leashold [sic] gan y chwarelwyr parchus, John D. Jones, John T. Hughes, Rees W. Owens, a Hugh R Jones.

Y mae llawer o chwarelau ereill yn y gymydogaeth, yn cael eu meddianu a’u gweithio gan Gymry a chenhedloedd ereill. Y mae lliwiau y llechi yn amrywiol; glas, gwyrdd, dugoch, ac amryliw; yn debyg fel y maent yn Fairhaven, Blissville, Jamesville, Poultney,


 

 


(delwedd E1013) (tudalen 155)


(x169) (tudalen 155) TALAETH VERMONT.

a manau ereill yn Vermont. Bernir eu bod yn geryg rhagorol; ac y maent yn edrych yn hynod o hardd wedi eu tôi yn amryliw.

Mae amrai o feirdd a llenorion yn Middle Granville; sef John D. Jones, Benjamin Williams, Robert W. Jones, John Gyffin Jones, John Owen (Orwig Wyllt), ac ereill; ac y mae ganddynt eu cyfarfodydd llenyddol a dirwestol, ac weithiau eu heisteddfodau, yn y lle. Mae y Dr. John A. Jenkins, (mab y Parch. Thomas Jenlans, Utica,) a’r Dr. Ioan Pritchard, (mab yr hen bregethwr enwog John Pritchard (A.), o Lanberis, Arfon, G.C.,) yn feddygon medrus yn y lle.

Eglwys y TREFNYDDION CALFINAIDD yn Middle Granville, N. Y. - Bu y Cymry yn cyd-addoli yno am flyneddau. Dechreuwyd eglwys y T.C. yno yn 1859. Prynwyd y capel tua’r un amser gan y Presbyteriaid Saesnig, am $400. Wedi ei adgyweirio, yn nghyd a’r ty perthynol i’r eglwys, mae yr eiddo yn awr yn werth $6,000. Aelodau, 120; Ysg. Sab., 140; cynulleidfa, 160; casgliadau, $838.11. Gweinidog- - Parch. Hugh Davies. Diaconiaid - John H. Humphreys, Griffith Jones, Hugh D. Foulkes, David Williams, a William Evans.

Eglwys yr ANNIBYNWYR yn Middle Granville, N.Y. - Buont yn cyd-addoli a’r T.C. hyd y flwyddyn 1859, a ffurfiasant yr eglwys, a chodasant y capel yno, 24 wrth 36 tr., yn fuan ar ol hyny. Yr oedd Ioan Pritchard, a Pierce Davies, gynt o Lanberis, Arfon, a’u teuluoedd, ac ereill, yno yn dechreu yr achos. Traul y capel, $2,000. Helaethwyd ef yn niwedd y fl. 1869. Traul, $900. Mae yn drefnus a chyfleus yn awr, ac eglwys dda a gweithgar ynddo . Aelodau, 60; Ysg. Sab., 100; cynulleidfa oddeutu 150. Diaconiaid - Ioan Pritchard, John Thomas, John D. Jones, a John Gyffin Jones. Y Parch. Samuel Jones, gynt o Bethesda, Arfon, yw eu gweinidog presenol. Bu y Parch. Llewelyn Howell, o Utica, N.Y., yn gweinidogaethu yno. Gwel ei gofiant; a’r Cenhadwr, Ionawr. 1865, t. d. 31. Bernir fod poblogaeth Gymreig Middle Granville, tua 600.

JAMESVILLE. - Saif y lle hwn ar wastadedd cul, prydferth, rhwng y bryniau, tua thair milldir o Middle Granville, a dwy milldir o Poultney, a naw o Fairhaven. Derbyniodd yr enw oddiwrth deulu parchus a ddaeth yno o Lanberis, Arfon, sef Mrs. James, a’i merch, a phump o’i meibion, sef John, Owen, William, James, ac Evan. Cynyddodd y lle yn gyflym ar ol i’r reilffordd gael ei hagor trwyddo; y mae yno yn awr lawer


 

 


(delwedd E1014) (tudalen 156)


(x170) (tudalen 156) HANES CYMRY AMERICA.



o dai a thrigolion, a llawer o chwarelau llechau, o’r defnydd a’r lliw goreu, yn cael eu meddianu a’u gweithio gan Gymry parchus, a chenhedloedd ereill Yn Mai, 1871, ymwelais â’r rhan fwyaf o honynt; sef

1. The Olive Branch Co. - Eiddo John W. Thomas, R. R. Roberts, Richard W. Davies, a William R Thomas.

2. The Cambrian Slate Co. - Eiddo William Nathanael, William Griffith, Robert Thomas, ac E.E. Napp.

3. The Mottled Green Slate Quarry. - Eiddo John Davies, Robert C. Jones, Lewis Roberts, ac Owen T. Jones.

4. Chwarel Evan J. Williams (Poultney), Robert Rees, a William O. Lloyd.

5. The Welsh Company (shares of $100). - William G. Pritchard, a’i ddau frawd, Griffith G., ac Owen G., Robert G. Powell, Evan E. Jones, Rowland W. Phillips, John D. Thomas, Richard Richards.

6. Green Mountain Slate and Tile Co.

7. Gibson Slate Quarry. - Eiddo Wm. R Williams.

8. New York and Baltimore Co. - John H. Hughes, Joseph W. Williams, William Henry Owen.

9. Forest Hill Co. - Ei meddianwyr yw Griffith E. Lloyd, Ysw., (gynt o’r
Waenfawr, Arfon,) Robert E. Jones, John D. Jones.

10. The Old Franklin Quarry. - J. H. Brush, David E. Jones, &c.

11. Williams, Humphreys, and Co. - Chwarel ragorol, eiddo David T. Wiliiams, John Humphreys, William T. Williams, Thomas T. Williams, a Richard J. Williams. Y mae amrai o chwarelau ereill oddeutu y lle. Gerllaw rhai o’r chwarelau cedwir boarding houses rhagorol.

Eglwys yr ANNIBYNWYR yn Jamesville. - Yr oedd rhai o aelodau yr eglwys Annibynol yn Middle Granville yn byw yn ardal Jamesville er ys blyneddau. Y Parch. Samuel Jones a ddechreuodd bregethu yno mewn ysgoldai, ac o dy i dy, yn niwedd
y flwyddyn 1864. Cynghorodd hwynt i ddechreu cadw Ysgol Sabbothol yno; ac yn mhen naw mis wedi hyny, yn 1865, ffurfiwyd eglwys Gynulleidfaol yn yr ardal, gan Mr. Jones, yn cael ei gynorthwyo gan Mr. Pierce Davies, un o ddiaconiaid yr eglwys Annibynol yn Middle Granville; a’r aelodau cyntaf oeddynt D. T. Williams (Hampton); W. T. Williams (Hampton); W. James, G. Griffiths, R. Hughes, a W. Roberts, ac o gylch yr un nifer o chwiorydd. Neillduwyd Mr. Griffith Griffiths yn ddiacon. Yn union wedi hyny penderfynasant godi capel da yn gyfleus i’r holl ardal; codasant ef yn agos i’r brif-ffordd. Capel coed trefnus a hardd ydyw, 26 wrth 86 tr. Traul, $2,000.


 

 


(delwedd E1015) (tudalen 157)


(x171) (tudalen 157) TALAETH VERMONT.

Agorwyd ef y Sabboth cyntaf yn Ionawr, 1866, ac nid oedd ond ychydig o’r ddyled yn aros y pryd hyny. Y mae yno yn awr eglwys fechan unol a gweithgar. Aelodau, 25; Ysg. Sab., 50; cynulleidfa, 100. Diaconiaid - William Nathanael, a Griffith Griffiths (mab i’r diweddar Mr. Griffiths, Tyddyn Siarlas, Llanberis, G.C.). Poblogaeth Gymreig Jamesville, &c., 200.

5. POULTNEY, Rutland Co. Vt. - Pentref lled fawr a gwasgaredig yw hwn; ac y mae ynddo lawer o adeiladau da a threfnus, ac amryw o stores, a rhai eglwysi Saesnig, ac un athrofa. Mae y reilffordd yn rhedeg trwyddo. Nid yw ond oddeutu dwy filldir o Jamesville, a phump o Middle Granville, ar y ffordd i Castleton, a Fairhaven. (Gerllaw iddo y mae pentref bychan Hampton.) Nid oes ynddo eto ond ychydig o Gymry yn byw; ond y mae yn gyfleus i weithwyr rhai o’r chwarelau cyfagos. Mae Mr. Joseph Roberts (T.C.), gynt o Penmachno, G.C., yn byw yno yn awr. Tachwedd 26, 1870, cafodd y pregethwr ieuanc, duwiol, a gobeithiol hwn, ei dderbyn yn aelod o “Gyfarfod Dosparth Dwyreiniol Efrog Newydd,” a’i bennodi yn genhadwr i bregethu i’r Cymry yn ardaloedd Poultney, Farnumsville, a Salem. Saif Farnumsville rhwng Poultney a Castleton. Y mae yno amrai o chwarelau, a llawer o Gymry. Pregetha yno mewn ysgoldy, a thai; ac yn Poultney mewn hall.

6. SALEM, Washington Co., N.Y. - Saif y pentref hwn tua 25 milldir i’r de o Middle Granville, ar y reilffordd i Troy. Agorwyd amrai chwarelau o fewn tair milldir yno, ac y mae amrai o Gymry yn gweithio yno er ys blyneddau. Cododd y Trefnyddion Calfinaidd gapel bychan yn yr ardal, ac y mae yno yn awr eglwys ffyddlon. Aelodau 18; Ysg. Sab. 30; cynulleidfa 35. Lle cynyddol ydyw. Poblogaeth Gymreig 50.

NODIAD. - Amlwg yw fod y boblogaeth Gymreig wedi cynyddu llawer yn Vermont yn yspaid yr ugain mlynedd diweddaf. Y mae yn awr (Mai, 1871), yn Fairhaven a Blissville, &c., 500; yn Middle Granville, 600; yn Jamesville, Poultney, &c., 200; ac yn Salem, 50. Cyfanrif, 1,350. Ond gallasai fod yn llawer mwy oni buasai y pethau canlynol: - 1. Bychandra y chwarelau, a diffyg lle cyfleus i ddynion i weithio ynddynt.


 

 


(delwedd E1016) (tudalen 158)


(x172) (tudalen 158) HANES CYMRY AMERICA.



Nid ydynt ond tyllau bychain mewn cymhariaeth i chwarelau
mawrion Cymru.

2. Diffyg digon o arian gan y Cymry i’w hagor a’u gweithio.

3. Y meistri a’r gweithwyr yn aml yn methu cytuno am gyflog rhesymol.

4. Rhai o’r chwarelau yn rhedeg allan yn fuan.

5. Masnach y llechau yn aml yn farw iawn. Ond credwyf mai masnach yn sicr o lwyddo yn ddirfawr ydyw yn America, a bod cyflawnder o adnoddau yn mynyddau a bryniau talaethau Vermont, New York, Pennsylvania, Virginia, &c., i wneyd digon o’r llechau mwyaf gwerthfawr, i ddiwallu angen yr holl wlad am oesau dyfodol; ac yr wyf yn
llawenychu wrth ddeall fod llawer o’r chwarelwyr Cymreig yn awr yn ddynion cyfoethog a deallus, ac yn alluog i agor, a gweithio chwarelau llechi yn y modd mwyaf llwyddianus. Cawsant addysg dda, a manteision gwerthfawr yn America.

Sylw. - Y mae canu cynulleidfaol rhagorol yn nghapel Jamesville, dan arweiniad y cerddor medrus, Mr. David T. Williams, (Hampton). Yn yr ardal hon y mae y bardd a’r
cerddor enwog, Mr. William Griffiths (Gwilym Galedffrwd); a’r bardd ieuanc, Mr. Joseph W. Williams (Eryr Arfon), yn byw. Clywais hefyd fod Mrs. Jones (Eos Granville), gwraig Mr. Griffith R. Jones, yn byw yn Poultney.


 

 


(delwedd E1017) (tudalen 159)


(x173) (tudalen 159)

PENNOD VII.

TALAETHAU NEW JERSEY, MARYLAND, MAINE, &c.

TALAETH NEW JERSEY. Mae talaeth New Jersey tua 250 o filldirau o hyd wrth o 50 i 75 milldir o led, a chynnwysa 21 o siroedd poblogaidd. Terfynir hi o du y gogledd gan dalaeth New York; o du y gorllewin gan dalaeth Pennsylyania; o du y de gan y Delaware Bay, ac o du y dwyrain gan Fôr y Werydd (o Cape May hyd Sandy Hook), a chan y New York Bay, a’r afon Hudson. Dechreuwyd ei phoblogi gan yr Ellmyniaid a’r Daniaid, yn sir Bergen, gyferbyn a dinas Efrog Newydd, mor foreu a’r fl. 1624, yn mhen pedair blynedd ar ol i’r Tadau Pererinol dirio ar Graig Plymouth. Yr oedd cyn hyny, ac wedi hyny am ugeiniau o flyneddau, yn cael ei phoblogi gan wahanol lwythau o Indiaid crwydredig. Derbyniwyd hi i’r Undeb Rhagfyr 18, 1787. Credwyf fod llawer o’r Crynwyr Cymreig, ac ereill, wedi sefydlu yn ei pharthau deheuol a gorllewinol, ar lanau y Delaware, mor foreu ag amser sefydliad Pennsylvania gan William Penn, yn y fl. 1682, ac wedi hyny, yn Salem, a Siloh, a Welshville, &c. Ond ni chlywir gair o Gymraeg yn cael ei siarad yn y parthau hyny yn awr. Yr oedd poblogaeth y dalaeth hon yn 1870 dros naw cant o filoedd (905,616). Cynyddodd bron gymaint arall yn yspaid yr ugain mlynedd cyn hyny. Yn ei rhandir gogleddol mae yn fynyddig, heu fryniog, ac yn fwy cyfaddas i fagu anifeiliaid; yn ei chanoldir mae yn rhithdonog a ffrwythlon; ond yn ei deheubarth yn


 

 


(delwedd E1018) (tudalen 160)


(x174) (tudalen 160) HANES CYMRY AMERICA.

wastad, graianog, a diffrwyth. Cynyrcha bob math o ydau a ffrwythau; a cheir ynddi lawer o fwnau gwerthfawr, haiarn, zinc, llechi, &c. Mae o’i mewn lawer o afonydd bychain gwerthfawr, yn rhedeg drwy ei gwahanol siroedd, ac yn ymdywallt i’r Hudson, a’r Delaware, a Môr y Werydd. Ei phrif drefydd ydynt, Newark, Jersey City, Elizabeth, Trenton, Camden, Paterson, New Brunswick, a Phillipsburgh, &c. Nis gellir cael tiroedd iselbris y Llywodraeth ynddi yn awr; ond gellir cael tiroedd wedi eu diwyllio, neu diroedd coediog a bryniog, mewn llawer o fanau ynddi, am brisiau rhesymol iawn. Mae ei chyfleusderau teithiol a masnachol yn awr yn dra ehelaeth.

1. JERSEY CITY, Bergen Co., N.J. - Saif y ddinas boblog (81,744) hon ar wastadedd corsiog, ar ochr gorllewinol afon Hudson, gyferbyn a rhan isaf dinas Sew York; ac y mae y ferry boats mawrion yn cludo teithwyr o’r naill i’r llall yn ddibaid. Ugain mlynedd yn ol nid oedd ynddi saith mil o breswylwyr; ond yn 1870 yr oedd ynddi dros bedwar ugain mil! Gwneuthuriad a dyfodiad y gwahanol reilffyrdd mawrion iddi, o Philadelphia, ac Easton, a Scranton, ac Erie, &c., a fu yn un achos amlwg o’i chynydd dirfawr; ac y mae gwneuthuriad y Central New Jersey R.R. o Elizabeth Town, dros y culdir a elwir Bergen Hill, wedi gwneyd yr holl dir hwnw yn boblog a gwerthfawr. Dichon fod yn agos i bum’ cant (500) o boblogaeth Gymreig yn awr yn Jersey City a’i chyffiniau; ond nid wyf yn deall fod yno un eglwys na chapel Cymreig! Mae rhai o honynt yn aelodau ac yn wrandawyr yn y capelau Cymreig yn ninas New York, a’r rhan fwyaf o honynt wedi ymuno a’r eglwysi Saesnig. Mae rhai o honynt yn grefftwyr ac yn fasnachwyr cyfrifol yn y ddinas. Gerllaw yno, ar y Bergen Hill, yn ngolwg y New York Bay, y mae dwy neu dair o fynwentau, lle y claddwyd llawer o Gymry o ddinas New York.

2. HOBOKEN, Bergen Co, N, J. - Tref newydd yw hon, ar lethrau y bryniau coediog prydferth, ar lan afon


 

 


(delwedd E1019) (tudalen 161)


(x175) (tudalen 161) TALAETH NEW JERSEY.

Hudson, tua milldir a haner i’r gogledd o Ddinas Jersey. Cynyddodd yn gyflym yn yspaid y pymtheg mlynedd diweddaf. Mae ynddi yn awr lawer o heolydd, a masnachdai bywiog, a phalasdai heirdd, ac eglwysi efengylaidd. Mae yma hefyd ychydig o Gymry yn byw. Yma y mae y Cymro talentog, sef y Parch. Alfred Harris, yn gweinidogaethu gyda y Bedyddwyrr Saesnig. Mae yma le dymunol ac lachus i fyw. Dichon cyn pen ugain mlynedd eto y bydd porthladd a docks ardderchog, wedi eu gwneyd a cheryg nâdd, yn cyrhaedd o Ddinas Jersey i Hoboken! Gelhd ei wneyd trwy draul fawr. Byddai hyny yn sicr o wneyd Jersey City a Hoboken yn un ddinas fawr, boblog a chyfoethog, galluog i gystadlu mewn masnach a thrafnidaeth â dinas New York; a byddai yn elw ac yn anrhydedd i dalaeth a llywodraeth New Jersey. Gellir myned o New York i Hoboken gyda y ferry boats bob awr o’r dydd.

3. ENGLEWOOD, Bergen Co., N.J. - Saif y pentref newydd prydferth hwn tua 12 milldir i’r gogledd o Ddinas Jersey, ar y “Northern Railway of New Jersey and Piermont Branch Erie Railway.” Lle iachus a dymunol i fyw ydyw. Sefydlodd yr adeiladydd (architect) medrus, John Edwin Jones, Ysw., gynt o Utica, N.Y., yno er ys llawer o flyneddau; ac yn ol ei gynlluniau ef yr adeiladwyd y rhan fwyaf o ‘r tai a’r palasdai sydd yno. Dygodd Mr. Jones ei fab i fyny yn feddyg enwog. Yno y mae Mr. Edward Roberts, ac ereill, yn byw. Ië, yno y bu ein hen gyfaill, Mr. Henry Lewis (Ap Llewelyn), gynt o Utica, N.Y., yn gweithio adeiladau ardderchog (fel mason), ac yno y bu farw, yn Mai, 1871; a chladdwyd ef gyda pherthynasau ei wraig (merch John L. Lewis, Ysw.), yn mynwent capel Salem, Marcy, N.Y. Nid oes pregethu Cymraeg yn Englewood.

4. NEWARK, Essex Co., N.J. - Yr oedd poblogaeth y ddinas hon yn 1870 dros gan’ mil (105,078). Dyblodd hithau ei phoblogaeth yn yspaid yr ugain mlynedd diweddaf. Lle enwog ydyw am ei masnach a’i llaw-weithfeydd, &c. Dichon fod yma lawer o Gymry yn byw; ond nid


 

 


(delwedd E1020) (tudalen 162)


(x176) (tudalen 162) HANES CYMRY AMERICA.



oes yno ychwaith eglwys na chapel Cymreig. Yno y mae David Owens, Ysw., druggist, .gynt o Drefaldwyn, G.C., a mab i’r diweddar Thomas Owen, Ysw., o’r Neuadd Ffarm, ger Llanfair Caereinion, G.C., yn byw. Mae Mr. Owen yn un o’r prif ddynion yn swyddfa Meistri Schefflin & Co.(druggists) yn ninas New York er ys yn agos i ugain mlynedd.

5. ELIZABETH TOWN, Union Co., N.J. - Hen dref adnabyddus i’r Cymry ydyw hon; bu llawer o honynt yn preswylio ynddi flyneddau lawer yn ol, pan oedd yn lle bychan a dinod. Claddwyd rhai Cymry yn ei mynwentydd. Nid oes yn y lle yn awr ond ychydig o’n cenedl yn byw; ac nid oes yno nac eglwys na chapel Cymreig. Saif y dref tua saith milldir i’r gorllewin o ddinas New York, ac y mae dwy brif reilffordd y dalaeth yn croesi eu gilydd ynddi . fewn un filldir i’r dwyrain oddiyno y mae Elizabeth Port, sydd mor enwog fel prif borthladd glo Pennsylyania. Yno y mae ein cydwladwr enwog, y Parch. William C. Roberts, D.D., gynt Aberystwyth, D.C., yn gweinidogaethu gyda y Presbyteriaid Saesnig er ys blyneddau. Ei phoblogaeth, 20,838.

6. CAMDEN, Camden Co., N. J. Saif y dref hon yr ochr ddwyreiniol i’r afon Delaware, gyferbyn a dinas Philadelphia. Yr oedd ei phoblogaeth yn 1870 dros ugain mil (20,045). Nis gwn pa nifer o Gymry sydd yn byw yno; nid oes yno nac eglwys na chapel Cymreig. Yno y bu y Cymro enwog, y Parch. Phihp Davies (B.), yn gweinidogaethu gyda y Bedyddwyr Saesnig, am flyneddau; ond ymadawodd oddiyno i New York yn 1870, lle mae eto yn enwog a llwyddianus.

7. SLATEFORD, Warren Co. N.J. - Saif y lle hwn ar lan y Delaware, yn agos i’r Water Gap, tua 85 milldir o New York, 26 m. o Hampton Junction, a 62 m. o Scranton, Pa. Yn y fl. 1854, neu cyn hyny, agorodd un Mr. Owen chwarel llechau yno; a bu ef yn ei gweithio yn llwyddianus hyd ei farwolaeth yno; wedi hyny dygwyd y chwarel yn mlaen dan ofal ei weddw, Mrs. Owen, hyd ei marwolaeth hithau. .Credwyf fod


 

 


(delwedd E1021) (tudalen 163)


(x177) (tudalen 163) TALAETH NEW JERSEY.

yno yn awr amrai o chwarelau rhagorol o bob tu yr afon Delaware, yn meddiant Cymry parchus, a bod yno lawer o Gymry yn eu gweithio. Bu yno bregethu Cjmraeg mewn ysgoldai, a dichon fod yno eto; ond nid wyf yn deall fod yno eglwys na chapel Cymreig. Gallai Cymry anturiaethus gael hyd i chwarelau llechau rhagorol yn y cymydogaethau hyn.

8. DOVER, Morris Co., N. J. - Tref fechan, rhwng bryniau coediog, yn rhandir gorllewinol Morris Co., yw Dover; 43 m. o New York, a 42 m. o Phillipsburgh, N. J., ac Easton, Pa., ac y mae y “Morris & Essex Railroad” yn rhedeg trwyddi. Oddeutu y fl. 1830, sefydlodd un William Griffiths, painter, brodor o rywle o Ogledd Cymry, yn yr ardal; rhaid ei fod yn deall rhywbeth am fwn haiarn, oblegid prynodd yr holl eiddo sydd yn cael ei alw yn awr yn “Irondale Mines,” agorodd y gwaith, a gwerthai y mwn i’r forges cylchynol. Gwerthodd y tir a’r gwaith, ac ymadawodd i ryw dalaeth arall. Gresyn iddo wneyd felly; oblegid yn ddiweddar gwerthwyd y lle i Mr. Popenhusten am $250,000. Prynodd y boneddwr anturiaethus, David Thomas, Ysw., Catasauqua, Pa., i’w gwmni, yr eiddo ar Mine Hill, tua dwy filldir i’r gogledd-orllewin o Dover; a chymerasant lease am 10 mlynedd ar y Byram Mine. Bu Llewelyn Morgan, a Thomas Richards, a Richard Richards, yn arolygu eu buddion hwy. Bu farw Richard Richards, a chladdwyd ef yn hen fynwent Sucasuna Plains. Mae ei weddw yn fyw eto yn Catasauqua. Yr oedd yn frawd i’r diweddar Mr. David J. Richards, o St. Clairs. Yn ei amser ef y daeth Mr. Rees Davies, a’i blant, Morgan, a David, a Susannah, i’r Mine Hill. Yn Hydref, 1856, daeth Mr. David Jenkins, brodor o yn agos i Nelson, Sir Forganwg, D.C., i lenwi lle un Mr. Randolph; ac efe yw prif arolygydd y “Lehigh Crane Iron Co.,” Catasauqua, Pa., hyd heddyw. Ychydig yw nifer y teuluoedd Cymreig ar y Maine Hill [sic]. Yn Hydref, 1856, prynodd Thomas Iron Co., Catasauqua, Pa., y gweithfeydd a adnabyddir wrth yr enw Richards Mines, . Saif y lle hwn, a elwir yn awr Thomastown, tua dwy filldir a haner i’r gogledd-ddwyrain


 

 


(delwedd E1022) (tudalen 164)


(x178) (tudalen 164) HANES CYMRY AMERICA.



o Dover; ac yma y mae y mwyafrif o’r Cymry yn byw, ar addoldy Cymreig hardd wedi ei adeiladu. Yma hefyd y mae y boneddwr parchus, Richard J. Jenkins, Ysw, a’i deulu, yn preswylio, mewn ty eang a chysurus; ac y mae yno “gartref dedwydd” bob amser, i weision ffyddlon Iesu, o wahanol enwadau crefyddol. Brodor yw ef o Dowlais, D.C. Ganwyd ef yn 1818. Priododd â Miss Ann Jones, merch William ac Ann Jones, Cefncoedcymer, D.C., yn 1840. Ymfudodd i America yn 1842. Bu yn aelod ac yn ddiacon yn eglwys y T.C. yn Pottsville, Pa., am flyneddau; ac am ychydig amser yn Hockendauqua. Bu yn Inspector of Ores yno. Daeth ef i ardal Dover gyda Richaird Richards; ac yn Hydref, 1856, etholwyd ef yn brif oruchwyliwr y Thomas Iron Co., yn nhalaeth Jersey; a llanwodd ei swydd yn anrhydeddus hyd y dydd heddyw, er elw i’w feistriaid, a lles i’r gweithwyr. Mae efe hefyd yn ddiacon doeth, haelionus, a ffyddlon, yn yr eglwys Gymreig yn Thomnastown, ger Dover.

Yr Eglwys BRESBYTERAIDD CYMREIG yn Thomastown, ger Dover, N. J. - Bu y Cymry am flyneddau yn yr ardaloedd hyn heb glywed pregethu yr efengyl yn yr iaith Gymraeg. Ionawr 1, 1857, daeth y Parch. John R. Jenkins o St. Clairs, Pa., yno, a phregethodd y tro cyntaf yn nhy Mr. David Jenkins, Mine Hill. Cawsant odfa hwyliog - torodd gwawr nefol arnynt - a mynai yr hen frawd Rees Davies folianu yr Arglwydd yn gyhoeddus. Nid oedd wedi clywed pregethu Cyrmaeg er ys wyth mlynedd cyn hyny. Yn Mai, 1857, corfforwyd eglwys Annibynol yno gan y Parch. R R. Williams, Minersville. Wedi hyny cynhaliwyd y cyfarfodydd bob yn ail Sabboth yn Mine Hill, a Mount Pleasant; ar ol hyny yn y Weigh Scale House, a elwir yn awr Port Oram, lle mwy canolog. Ymadawodd y gweinidog, Mr. J. R. Jenkins, i Canal Dover, Ohio, i arolygu gweithiau mwn Thomas & Co. Bu yno wyth mis. Yn y cyfamser, darfu yr eglwys Gymreig yn Dover, ac ymunasant a’r Presbyteriaid Saesnig. Dychwelodd Mr. Jenkins, a rhoddodd ei hunan dan nawdd y Rockaway Presbytery, ac ail ddechreuodd bregethu i’r Cymry yn Port Oram. Yn haf y fl. 1863, adeiladwyd y capel Cymreig yn Thomastown - 40.wrth 82 tr. Traul, $1,200. Ar ddiwrnod ei agoriad yn Hydref y flwyddyn hono, pregethodd y Parch. Wm. Roberts, D.D., New York, a’r Parch. E. B. Evans, Hyde Park, Pa. Yn Hydref, 1869, penderfynodd yr eglwys, trwy gynghor yr eglwys Saesnig yn Dover, a chaniatad y Presbytery, i fod yn eglwys ar wahan, ac i gael ei galw yn “Welsh Presbyterian Church of Thomastown.”


 

 


(delwedd E1023) (tudalen 165)


(x179) (tudalen 165) TALAETH MARYLAND.

Tach. 2, 1869, neillduwyd y Parch. John R. Jenkins i gyflawn waith y weinidogaeth efengylaidd yno, gan gynghor o neillduad y Presbytery, ac y mae yno eto yn weinidog ffyddlon a llwyddianus. Pregetha i’r Cymry ac i’r Saeson yn ei addoldy newydd hardd; ac y mae yn pregethu Saesonaeg hefyd i’r Americaniaid yn eglwys hynafol y Berkshire Valley, tua dwy filldir o Thomastown, a phedair milldir o Dover. Mae aelodau y Trefnyddion Calfinaidd, a’r Annibynwyr, a’r Bedyddwyr, yn cyd-addoli yn dra unol yn yr addoldy Cymreig - cydweithredant yn egniol, dan yr enw anwylaf, sef Cristionogion. Gwelodd y brawd Jenkins lawr lwyddiant ar ei lafur; ac y mae yn byw gyda’i deulu parchus, mewn ty cyfleus yn yr ardal. Y mae efe yn weinidog gofalus i’r eglwysi, ac yn arolygwr yn o’r gweithiau hefyd; ac y mae yn barchus iawn gan y Cymry a’r Americaniaid. Mae ganddo eglwys weithgar, ysgol Sabbothol fywiog, a chynulleidfa barchus a haelionus. Yn Chwefror, 1870, yr oedd yn y gwahanol weithfeydd ger Dover 24 o deuluoedd Cymreig, yn cynnwys tua 117 oll.

TALAETH MARYLAND.

Talaeth hir, a chul iawn mewn manau, ydyw hon, yn cynnwys 22 o siroedd, ac yn agos i wyth gan’ mil o drigolion (790,095) yn 1870. Terfynir hi gan dalaeth Pennsylvania o du y gogledd; gan dalaeth Delaware a Môr y Werydd o du y dwyrain; gan y Potomac River, a Virginia, a West Virginia, o du y gorllewin a’r de. Mae ei harwynebedd yn fryniog a mynyddig yn ei rhandir gorllewinol, ond yn wastad yn ei rhandiroedd dwyreiniol a deheuol. Mae ynddi lawer o fwnau glo a haiarn, &c. Ceir ynddi lawer o dir tywodlyd a gwael; ond y mae ynddi hefyd lawer o dir da at gynyrchu pob math o ydau, gwenith, Indrawn, &c., a phob math o ffrwythau. Am fod y rhan fwyaf o’i thiroedd goreu, a’i threfydd mwyaf, yn gorwedd o bobtu i’r Chesapeake Bay, y maent yn gyfleus i fasnach a thrafnidaeth. Ei phrif ddinasoedd ydynt Baltimore, Annapolis, Havre de Grace, &c. Yn 1860 yr oedd 83,912 bobl dduon ryddion, a 87,189 o gaethion (slaves) ynddi. Ond yn amser y gwrthryfel diweddaf ffôdd


 

 


(delwedd E1024) (tudalen 166)


(x180) (tudalen 166) HANES CYMRY AMERICA.



llawer o honynt, a chyn ei ddiwedd rhyddhawyd hwynt oll. Er nad oes yn y dalaeth hon diroedd rhad y Llywodraeth, credwyf fod ynddi lawer o diroedd amaethyddol, a mwnawl da a ellir eu prynu am brisiau lled isel, ond gwneyd ymchwiliad am danynt.

1. BALTIMORE, Baltimore Co., Maryland. - Yn 1870 yr oedd poblogaeth y ddinas hon yn 267,354 - tua haner poblogaeth Philadelphia, ac un ran o dair o boblogaeth New York. Gorwedda ar lethrau bryniau bychain, ac ar wastad-tir, ar lan y Patapsco River, yr hon a’i cysyllta â’r Chesapeake Bay. Rhed amrai o reilffyrdd iddi, a thrwyddi, o Philadelphia, a Wilmington, a Harrisburgh, i Washington, Harper’s Ferry, &c. Mae ynddi lawer o adeiladau drudfawr, o heolydd llydain, ac o weithfeydd bywiog. Bu llawer o’i thrigolion unwaith yn orlidiog yn erbyn rhyddhad y caethion, a thywalltwyd gwaed milwyr dewrion a theyrngarol y Llywodraeth ar un o’i heolydd hi! Ond y mae heddwch a diwydrwydd yn ffynu yno er ys blyneddau. Yr oedd ychydig o Gymry yn byw yno pan oedd yn dalaeth gaeth, a daeth rhai o honynt yn gyfoethog yno. Yr oedd Mr. David Roberts, carpenter, yn byw yn No. 47 Eager St, yn agos i’r Northern RR Depot. Ond tua dwy filldir i’r gogledd-ddwyrain o ganol y ddinas, wrth y “Canton Copper Works” y mae y mwyafrif o’r Cymiy yn byw, ac yno y mae yr addoldy Cymreig. Sefydlasant yno er ys llawer o flyneddau, a bu rhai o honynt yn meddu rhan ehelaeth yn y Copper Works; ac y mae rhai o honynt. eto yn oruchwylwyr cyfrifol yn y gwaith, megys John Jenkins, Ysw., ac ereill. Yno y bu y Parch. Mr. Davies, y llenor coethedig, fyw a marw, ac y mae ei weddw gyfoethog, a’i chwaer, yn byw yno eto. Yno hefyd y bu y Parch. Ebenezer T. Jones (T.C.) yn gweinidogaethu am flyneddau. Mae yno gapel mawr, eglwys unol gref, a chynulleidfa luosog. Yn nechreu y flwyddyn 1870 yr oedd Mr. George Harris (yr hwn a fu yn ngwlad yr aur), ar ymweliad â pherthynasau ei wraig, yr hon a fu farw yno.

Bu y pregethwr ieuanc duwiol a llafurus, Mr. Thomas Richards (A.), gynt o Penvylla, ger Abertawe, D.C., yn ffyddlon


 

 


(delwedd E1025) (tudalen 167)


(x181) (tudalen 167) TALAETH MARYLAND.

iawn gyda’r achos crefyddol yn Canton, Baltimore, o’r fl. 1868 hyd yn awr. Mewn llythyr a ysgrifenodd ataf Awst 8, 1871, dywed, “mai ardal weithfaol yw Canton, yn cynnwys melin haiarn, gwaith copper, pedair o blast furnaces, pump o coal oil factories, foundry, chemical works, yn nghyd ag amrai o frick yards. Dechreuwyd y sefydliad yn 1845. Daeth David W. Davies, Ysw., yma i arolygu y gwaith copper, ac anfonodd am Gymry profiadol fel toddwyr copper o Lanelli ac Abertawe, D.C. Bu y gwaith yn llwyddianus hyd 1850 ar y Locust Point, pan yr ymrafaeliodd y cwmpeini, ac y dechreuwyd y gwaith ar Canton. Yr oedd John Williams, Ysw., yma y pryd hyny, yr hwn wed’yn a gyrhaeddodd enwogrwydd fel toddwr mwnau arian yn Nevada, ac Utah. Llwyddodd gwaith copper Canton dan arolygiaeth D. W. Davies hyd ei farwolaeth, Ion. 13, 1854. Dewiswyd ei frawd yn olynydd iddo, sef Daniel Davies, gynt o Llwyn Adam, ger Pont-ar-ddulas, Morganwg, D.C. Dyn da a chrefyddol ydoedd. Parhaodd i weinyddu ei swydd hyd 1864. Dilynwyd ef yn ei swydd gan ei fab, Thomas Davies, Ysw.; a dilynwyd yntau gan Thomas Rees, a John T. Rees. Ail gychwynodd gwaith Locust Point, a bu Mathew Leyshon, a David Leyshon yn ei arolygu. Chwythwyd ef allan, a safodd yn 1867; a safodd gwaith Canton yn hollol Gorphenaf, 1870, ac nid oes tebygolrwydd y cychwyna byth eto. Mae ychydig o Gymry yn gweithio yn y felin haiarn eto.” Mae llawer o’r Cymry wedi ymadael.

Yr Eglwys Gymreig Unol yn Canton. - Ffurfiwyd hi mewn ysgoldy yno yn 1852. Dechreuodd y Parch. Benjamin Davies bregethu yno, a bu yn dra llwyddianus i uno yr holl Gymry crefyddol a’u gilydd. Agorasant eu capel newydd hardd yno Ionawr, 1867; y mae yn 84 wrth 48 tr. Traul, $3,500. Talasant yr oll gartref, oddieithr yr ychydig a gafodd y brawd David James yn Columbia, Pa. Adgyweiriwyd ei do yn 1869. Talwyd y draul hono hefyd. Aelodau, 46; Ysg. Sab., 70; cynulleidfa, 120; casgliadau y fl. 1870, $1,067. Diaconiaid - Henry Charles, George Williams, David Hopkins, a John Jenkins.

2. ALLEGHANY CO., Maryland. - Hon yw y sir fwyaf gorllewinol a mynyddig yn y dalaeth, ac y mae ynddi lawer o weithfeydd glo. Cof genyf glywed am Gymry, ac eglwys Gymreig, yn Mount Savage er ys dros ugain mlynedd yn ol. Bu yno lawer o Gymry unwaith, ac amrai o weinidogion Cymreig yn llafurio, megys Edwards, a Richards, ao ereill. Nid wyf yn gwybod pa agwedd sydd ar y gweithfeydd, a’r eglwys, neu yr eglwsi Cymreig yno yn awr. Mae llawer o Gymry, ac eglwys flodeuog yn Frostburgh, yn yr un sir, a Chymro ieuanc dysgedig a thalentog,


 

 


(delwedd E1026) (tudalen 168)


(x182) (tudalen 168) HANES CYMRY AMERICA.



y Parch. Griffith H. Humphreys, yn gweinidogaethu iddynt. Mab ydyw ef i Humphrey Humphreys. Ysw., Ixonia, Wis. Gellir myned o Baltimore gyda y reilffordd trwy Harpers Ferry i Frostburgh; ond y ffordd nesaf a rhwyddaf yw myned gyda y reilffordd o Harrisburgh, neu o Pittsburgh yno. Y mae gan y Bedyddwyr Cymreig un neu ddwy o eglwysi yn y sir hon, sef yn Mount Savage a Frostburgh. Ni chefais fanylion eu hanes.

DISTRICT OF COLUMBIA. Nid yw “Rhandir Columbia” ond prin ddeng milidir o hyd wrth bum’ milldir o led; gorwedda ar ochr orllewinol talaeth Maryland, ar lan dwyreiniol afon y Potomac, ac oddeutu 120 milldir o’i genau, neu ei hymdywalltiad i’r Chesapeake Bay. Ond y mae yn lle enwog, am mai ynddo y mae dinas Washington, ac am mai ynddi hithau y mae eisteddle Llywodraeth yr Unol Dalaethau, er y fl. 1800. (Bu y Rhandir hwn unwaith yn ddeng milldir petryal, pan drosglwyddwyd ef gyntaf (yn y fl. 1790) i’r Llywodraeth, gan dalaethau Virginia a Maryland; cynnwysai y pryd hyny ddinasoedd Washington, Alexandria, a Georgetown; ond yn 1846 trosglwyddwyd y rhan orllewinol o hono yn ol i Virginia.) Saif dinas Washington ar gornel o dir rhwng afon y Potomac ag aber fechan a elwir “The Eastern Branch,” ac yn y fl. 1870 yr oedd ei phoblogaeth yn 109,204 (yn cynnwys llawer lawn o bobl dduon rhyddion). Mae ynddi lawer o heolydd llydain, yn rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin, megys y Massachusetts, a’r Virginia, a’r Pennsylvania Avenues, (yr hon yw ei phrif heol) ac y mae heolydd ereill yn eu croesi o’r gogledd i’r gorllewin, megys y Delaware, y Maryland, y Georgia, y New Jersey, y New York, y Vermont, a’r


 

 


(delwedd E1027) (tudalen 169)


(x183) (tudalen 169) DISTRICT OF COLUMBIA.

New Hampshire, Avenues. Saif y Senedd-dy (Capitol) ar godiad tir, bron yn nghanol y ddinas; ac y mae yn un o’r adeiladau mwyaf ardderchog a welais erioed; a dywedir nad oes ei ragorach o fewn y byd; costiodd dros ddwy filiwn o ddoleri ($2,000,000). Mae Ty y Seneddwyr, a Thy y Cynnrychiolwyr, a’r llyfrgelloedd, a’r swyddfäau, a’r ystafelloedd, sydd ynddo, yn brawf gywreinrwydd a chwaeth celfyddydol. Saif ar lawer iawn o dir, ac y mae rhodfeydd a choedydd o’i amgylch. Oddiar y man uchaf arno ceir golwg ogoneddus ar yr holl ddinas, a’i phrif adeiladau, sef y Ty Gwyn, cartrefle yr Arlywydd; a’r Park mawr tu isaf iddo; a Lafayette Square; a’r National Observatory; a’r U. S. Treasury; a’r Metropolis Bank; a’r Willard Hotel; a’r National Theatre; a’r General P.O; a’r Patent Office; a’r Washington Monument; a’r Smithsonian Institute; a’r Columbia Armory; a’r Gas Works; a’r U.S. Arsenal; a’r U.S. Navy, &c. Ac ar amser clir gellir gweled y Long Bridge yn croesi y Potomac, ac yn mhell draw hyd yr Arlington Heights, ac i lawr hyd Alexandria, yn Virginia. Ardderchog olygfeydd! Yn y ddinas odidog hon y bu Washington, a’r holl Arlywyddion ereill, hyd Lincoln a Grant, yn eistedd yn y Gadair Arlywyddol; ac yma y cyfarfu prif ddynion y talaethau i drefnu mesurau, ac i ffurfio cyfreithiau, llesol neu ddrygol, i’r holl wlad. Sonia rhai yn awr am symud eisteddle Llywodraeth y Weriniaeth fawr, nerthol hon, i ryw ddinas fwy canolog a chyfleus i holl seneddwyr a chynnrychiolwyr holl dalaethau yr Undeb, megys St. Louis, yn Missouri, neu ryw fan canolog arall! Dichon y cymer hyny le ryw bryd yn y dyfodol mawr. Ond nid yw y bobl na’r Llywodraeth yn addfed iddo yn awr; ac y mae llawer o rwystrau ar ei ffordd, ac o resymau yn ei erbyn. Pa fodd bynag


 

 


(delwedd E1028) (tudalen 170)


(x184) (tudalen 170) HANES CYMRY AMERICA.



am hyny, bydd Washington, fel dinas, yn enwog byth. Ynddi hi yr ysgrifenodd ac y cyhoeddodd Lincoln y Declaration byth-gofiadwy dros ddiddymiad caethwasiaeth yn holl dalaethau yr Undeb; ac mewn canlyniad rhyddhawyd dros bedair miliwn o gaethion, y gorchfygwyd gwrthryfel mawr y De, ac y dyrchafwyd y Llywodraeth eang hon i anrhydedd yn ngolwg y nef a’r ddaiar!

Bu, ac y mae, amrai o Gymry parchus yn llenwi swyddi anrhydeddus, perthymol i’r Llywodraeth, yn Washington; ac y mae yno ychydig o fasnachwyr Cymreig yn byw. Yn ymyl y Willard Hotel, ar y Pennsylyania Avenue, y mae Hotel fawr arall o’r enw yr “Owen House” yr hon a feddianwyd gan henafgwr cyfoethog o’r enw Mr. Owen; ac y mae ei fab, y Col. S. W. Owen, yn ei chadw yn awr. Dan hono y mae store ddillad ehelaeth gan y merchant tailor cyfoethog, Hugh Pugh, Ysw.; ac y mae ei briod ef, Mrs. Pugh, yn chwaer i Mrs. Davies, priod y Parch. John Davies, o Lanfair Caereinion, Maldwyn. Bu yr Ex-Governor Wm. Bebb, o Ohio, a Mr. J. Roberts, a Pittston, ac ereill, mewn swyddi anrhydeddus yno; ac y mae S. J. Davies, Ysw., o Ohio, yn ysgrifenydd yn y Pension Office, a Mr. Roberts, mab hynaf y Dr. Wm. Roberts, gynt o New York, yn Librarian dan y Llywodraeth, yno eto. Dichon fod yno lawer o Gtymry parchus ereill.

TALAETH VIRGINIA.

Mae hon yn un o’r talaethau hynaf yn yr Undeb. Hi a roddodd gefnogaeth gyntaf i gaethiwed y Negroaid, yn 1620; a hi a deimlodd y dyrnod drymaf o’i blegid yn y rhyfel cartrefol diweddaf. Ymladdwyd y


 

 


(delwedd E1029) (tudalen 171)


(x185) (tudalen 171) TALAETH VIRGINIA.

brwydrau mwyaf gwaedlyd ynddi, hyd nes y cymerwyd Richmond, ac y darostyngwyd Lee. Ond y mae heddwch wedi ei adferu iddi; a chredir fod ei phreswylwyr yn awr yn edifeiriol ac yn deyrngarol; ac y byddant yn ddedwydd a llwyddianus yn y dyfodol. Yr oedd ynddi dros bedwar can’ mil a haner (472,852) o slaves yn 1860. Ac yn 1870, yr oedd ei phoblogaeth yn un filiwn, a thros ddau gan’ mil (1,226,566). Y mae yn cynyddu yn gyflym ar ol darfod y gwrthryfel. Nid oes ynddi diroedd rhad y Llywodraeth; ond y mae ynddi filiynau o erwau o diroedd amaethyddol a mwnol, a ellir eu prynu am o $1 i $5 a $10 yr erw; a gellir prynu tyddynau diwylliedig mewn lleoedd iachus, cyfleus, a ffrwythlon, am o $20 i $30 yr erw. Mae ei hinsawdd yn hyfryd haf a gauaf; ei dyfroedd rhedegog a gloywon yn iachus; a’i chyfleusderau masnachol yn dra lluosog; yn llawer mwy felly nag yn y talaethau gorllewinol, am ei bod mor agos i farchnadoedd Washington, Baltimore, Philadelphia, a New York. Ac y mae ynddi gyflawnder o bob math o goedydd gwerthfawr, ac o fwnau, glo, haiarn, plwm, copper, &c. Ei phrif ddinas yw Richmond, ar lan y James River; yno y mae swyddfdau ei Llywodraeth. Yn 1870, yr oedd ei phoblogaeth dros haner can’ mil (51,038); ac y mae ynddi drefydd poblog ereill, megys Winchester, Alexandria, Norfolk, Petersburgh, Lynchburgh, &c. Mae yr Hampton Roads, a Fort Monroe, wrth enau y James River, yn lleoedd pwysig ynddi . Clywais fod rhai Cymry yn byw yn Richmond; a bod rhai chwarelwyr Cymreig wedi dechreu agor a gweithio chwarelau llechi rhagorol yn agos yno, ac mewn manau ereill yn y dalaeth. Credwyf y gallai amaethwyr, a llafurwyr, a chrefftwyr, a chwarelwyr, a mwnwyr, Cymreig, gael


 

 


(delwedd E1030) (tudalen 172)


(x186) (tudalen 172) HANES CYMRY AMERICA..



cartrefi rhad a dedwydd yn nhalaeth Virginia; ac y bydd miloedd o honynt yn ymfudo yno yn y deg-ar-hugain mlynedd nesaf.

WEST VIRGINIA.

Wedi dechreuad y gwrthryfel, yn y fl. 1862, y derbyniwyd y dalaeth newydd hon i’r Undeb. Safodd hi yn ffyddlon i’r Undeb pan oedd holl dalaethau ereill y De mewn gwrthryfel! Y rhandir mwyaf gorllewinol a gogleddol o hen dalaeth fawr Virginia ydyw. Gwlad led fryniog a mynyddig ydyw; ond mae ynddi rai dyffrynoedd ffrwythlon, a cheir ynddi ddigonedd o goedydd, a mwnau haiarn a glo, &c. Ei phrif afon mewnol y w y Great Kanawha; a golchir ei therfynau gorllewinol a gogleddol, am ugeiniau o filldirau, gan yr Ohio, yr hon a rydd gyfleusderau neillduol i’w masnach. Ac y mae y Baltimore & Ohio R.R yn rhedeg heibio Harper’s Ferry, a Grafton, dros ei rhandir gogleddol, i Wheeling, ac Elizabethtown, a Parkersburgh, ar lan yr Ohio. Dywedir fod amrai o Gymry yn byw yn Wheel ing. Mae llawer o Gymry hefyd yn y melinau haiam yn Cliffton, gyferbyn a Pomeroy, o dan arolygiaeth Roger Rees, Ysw. Yn 1860 yr oedd deunaw mil o slaves ynddi . Yn 1870 ei phoblogaeth oedd 441,129.

TALAETH TENNESSEE.

Gorwedda hon rhwng talaethau Kentucky ac Alabama; a therfynir hi o du y dwyrain gan North.Carollna a Virginia, ac o du y gorllewin gan afon y Mississippi. Rhenir hi gan y Cumberland Mountains, a’r Tennessee River, i “Eastern, Middle, and Western Tennessee.” Gwlad fynyddig, ond rhagorol am borfeydd yw Tennessee ddwyreiniol; Tennessee ganol sydd led fryniog,


 

 


(delwedd E1031) (tudalen 173)


(x187) (tudalen 173) TALAETH TENNESSEE.

ond mae Tennessee orllewinol naill ai yn wastad neu yn frith-donog. Gellir codi gwenith ac Indrawn da mewn llawer o fanau ynddi; ond y mae yn well at godi a magu anifeiliaid, a gwneyd ymenyn a chaws. Mae ynddi ddigonedd o fwnau, glo, haiarn, &c. Mae ei hinsawdd yn dymherus, a’i dyfroedd yn iachus.

Gwnaeth ein hen gyfeillion hoffus, y Parch. Samuel Roberts (S.R.), a’i frawd, Mr. Richard Roberts, ac ereill, ddewisiad da o diroedd gwerthfawr, mewn hinsawdd dymherus ac iachus - ond ar adeg anfanteisiol, ar ddechreuad y gwrthryfel, a chyn diddymiad caethwasiaeth. Cawsant hefyd siomedigaeth gyda golwg ar y title deeds, ar lawer o’u tiroedd yn siroedd Scott a Montgomery, yn East Tennessee. (Dylai ymfudwyr fod yn ofalus iawn am gael title da i’r tiroedd a brynant, yn mhob talaeth, yn enwedig yn y talaethau deheuol). Dyoddefodd S.R, a’i frawd a’i briod hoff, a’i ferch dirion, lawer iawn yn Tennessee; a dylasent gael mwy gydymdeimlad a chefnogaeth, yn lle gwawd ac erledigaeth. Wedi eu holl drafferth, a’u prudd-der, a’u dyoddefiadau, a’u colledion, drwg genyf eu bod wedi gorfod gadael Brynffynon yn Scott Co., a dychwelyd i Gymru yn haf y flwyddyn 1870. Dymunwyf eu cysuron a’u llwyddiant yno; a chredwyf y bydd eu tiroedd yn Tennessee eto yn fawr elw i’w perthynasau. Gwlad fryniog ac iachus, fel bryniau Meirion, ond ei bod yn goediog, ac yn llawer mwy ffrwythlon, yw gwlad y Cumberland Mountains yn Tennessee. Yn 1860 yr oedd 275,719 o slaves ynddi . Ei phoblogaeth yn 1870 oedd 1,258,399.

Y Sefydliad Cymreig yn KNOXVILLE, Knox Co., Tennessee. - Mae hwn wedi tynu cryn lawer o sylw eisoes, ac yn sicr o gael mwy o sylw ein cenedl eto. Mae Knoxville yn hen dref, wedi ei hadeiladu ar amrai o


 

 


(delwedd E1032) (tudalen 174)


(x188) (tudalen 174) HANES CYMRY AMERICA.



fryniau bychain. Dyoddefodd lawer yn amser y gwrthryfel diweddaf. Yr oedd ychydig o Gymry yn byw yn agos yno, yn London, cyn hyny, sef Mr. John Jones, arolygydd y felin farau. Gorfu iddo ef a’i gyfeillion ffoi, am eu bod yn Union men, a gadael y felin i’r rebels. Ond wedi i filwyr yr Undeb gymeryd meddiant o’r dalaeth, cymerodd un Captain Chamberlain, ac ereill, at y felin farau yn Lonudon, a symudasant hi i Knoxville. Ond ni wyddent pa fodd i weithio haiarn. Yr oedd Mr. John Jones y pryd hyny yn Chattanooga, ac efe a ysgrifenodd at Joseph Richards, Ysw., arolygydd gweithiau haiarn Lochiel, ger Harrisburgh, Pa., i’w anog i gymeryd rhan neillduol yn y gwaith yn Knoxville, Tennessee. Y llythyr hwnw a dueddodd Mr. Richards gyntaf i ymgymeryd a’r gwaith. Talodd ymweliad dioed a’r lle, ac wedi hyny penderfynodd ymfudo a sefydlu yno.

Yn gynar yn y flwyddyn 1867 y daeth Joseph Richards, David Richards, Daniel Thomas, J. Jones, a Daniel Jones, i fyw i Knoxville. Dyma y fintai gyntaf a symudodd o Pennsylvania yno. Yn fuan wedi hyny aeth eu gwragedd, ac amrai ereill yno atynt; ac erbyn dechreu y flwyddyn 1868, yr oeddynt yn 104 o rifedi (yn wyr, gwragedd, a phlant) yn Knoxville a’r cylchoedd; a gweithient yn y felin haiarn, y machine shop, a’r foundry, a’r gwaith glo, yn Coal Creek, yr hwn sydd tua 30 milldir i’r gogledd-orllewin oddiyno. Joseph Richards, Ysw., yw prif arolygwr y felin; Thomas D. Lewis yw arolygwr y machine shop a’r foundry; a Daniel Thomas yw arolygwr y gwaith glo. Ffurfiasant yn gwmni, dan yr enw “Chamberlain, Richards, & Co.,” ac y mae ganddynt Ugain Mil o shares i’w gwerthu eto, i bwy bynag a ddewiso gael rhan yn eu gweithfeydd a’u buddion. Yn union ar ol eu mynediad yno, unasant a’r Presbyteriaid Saesnig; ond cynaliasant gyfarfodydd gweddio ac ysgol Sabbothol yn iaith eu mamau, a darfu i’w hymdrechion a’u sêl grefyddol effeithio bywiogrwydd a llwyddiant yn yr eglwys Saesnig. Cynhaliant hefyd eu cyfarfodydd llenyddol yno. Mae yn eu plith areithwyr, a beirdd, a cherddorion, a llenorion campus. Mae J. Richards a D. Richards yn


 

 


(delwedd E1033) (tudalen 175)


(x189) (tudalen 175) TALAETH TENNESSEE.

areithwyr bywiog; mae Wm. J. Richards, a John Richards, a Wm. Lewis, a John Jones, yn gerddorion, ac yn ddadganwyr rhagorol; ac y mae Thomas Davies, Dafydd W. Lewis, ac ereill, yn feirdd, ac yn llenorion medrus. Yno hefyd y mae y gerddores enwog, Mrs. Lewis, sef chwaer “Pencerdd America,” yn byw.

Chwefror 13, 1870, penderfynodd 24 o honynt godi eu llythyrau o’r eglwys Saesnig, a ffurfiasant eu hunain yn “Eglwys Annibynol Cymreig,” trwy gyfamod nodedig (gwel Cenhadwr, Ionawr, 1871, t. d. 24), a rhoddasant alwad unfrydol i’r Parch. Thomas Thomas (W.), gynt Penycae, D.C., i gymeryd eu gofal gweinidogaethol. Mae efe a’i deulu yn byw yno yn awr. Codasant gapel da yno, 40 tr. wrth 30 tr., gwerth tua $3,000, wedi ei ddodrefnu. Casglasant dros $2,000 yn eu plith eu hunain. Mae yno yn awr eglwys weithgar, yn rhifo 62 o aelodau; Ysgol Sabbothol luosog, a chynilleidfa o 80 i 100. Diaconiaid - Thomas Davies, a John Jones, dau o hen ddiaconiaid eglwys Sharon, Penycae, Sir Fynwy, D.C. Ysgrifenydd - Evan Evans. Trysorydd - Wm. Richards. Mae eglwys Gymreig hefyd wedi ei ffurfio yn Coal Creek, lle mae llawer o bobl ffyddlon.

Mae mwnau glo a haiarn mewn cyflawnder o am gylch y ddinas; a gellir prynu tyddynau ffrwythlon oddeutu yno am o $10 i $25 yr erw. Mae yn wlad iachus haf a gauaf hefyd; ac y mae ei chyfleusderau masnachol yn cynyddu. Mae amrai o reilffyrdd yn myned iddi a thrwyddi eisoes. (See Map of The All Rail Great Southern Mail Route). Mae o New York, trwy Philadelphia a Baltimore, i Washington 226 milldir; Washington i Lynchburgh, 178; ac o Lynchburgh i Knoxville, 334; cyfanrif, 74a Ac y mae o Knoxville i Chattanooga, 112; ac o Chattanooga i Memphis, ar lan y Mississippi, 309; ac o Chattanooga i Nashville, 151. Soniodd S. R. ac ysgrifenodd lawer ana gael reilffordd o Cincinnati, Ohio, ar draws talaeth Kentucky, trwy y Cumberland Gap, i Knoxville, ac oddiyno i lanau y Werydd. Maent yn gweithio yn brysur ar hono yn awr! Gwelir yn amlwg mai y tri brawd anturiaethus, a’r


 

 


(delwedd E1034) (tudalen 176)


(x190) (tudalen 176) HANES CYMRY AMERICA.



Cymry cenedlgarol, Joseph Richards, Dafydd Richards, a William Richards, oedd y boneddigion a ddechreuasant y sefydliad Cymreig yn Knoxville; a hwynt-hwy, gydag amrai o Gymry haelionus a chrefyddol ereill, a ffurfiasant yr eglwys Gymreig yno, ac a wnaethant ymdrech i godi addoldy hardd yno, ac i dalu am dano. Buont yn noddwyr i’n cenedl ni yn Danville, yn Blossburgh, yn Duncanville, yn Columbia, ac yn Lochiel, Harrisburgh, Pa., ac y maent yn parhau i gefnogi pob achos da yn Tennessee. Maent yn deilwng o barch ac anrhydedd. Dynion da a haelionus ydynt, a gwir ddefnyddiol yn y byd ac yn yr eglwys; ond y maent yn rhy symudol. Mae Joseph Richards, Ysw., ac amrai ereill, wedi symud eisoes o Knoxville i Chattanooga; a rhai wedi myned oddiyno i Alabama. Credwyf y bydd sefydliadau ac eglwysi Cymreig cryfion mewn llawer o fanau yn nhalaeth Tennessee cyn hir.

TALAETH MASSACHUSETTS.

Yn y dalaeth hynafol ac enwog hon y tiriodd y Tadau Pererinol, Tachwedd 12, 1620! Ac yn hony mae dinas hodedig Boston, poblogaeth yr hon yn 1870 oedd yn 250,526. Er nad yw y ddinas na’r dalaeth ond bychain mewn cymhariaeth i ddinasoedd a thalaethau ereill, er hyny mae dylanwad eu trafnidaeth, a’u celfyddydau, a’u gwyddorau, a’u gwleidyddiaeth, a’u crefydd, yn ddirfawr ar yr holl wlad a’r byd. Diau fod canoedd o Gymry parchus a chyfoethog yn byw yn Boston, ond eu bod yn wasgaredig yn ei gwahanol heolydd, ac yn anghyfleus i ymuno mewn lle canolog i gynal moddion crefyddol yn yr iaith Gymreig; a dichon fod lluoedd o honynt wedi anghofio y modd i’w pharablu yn groywber; ac ereill yn hollol ddiawydd am ei chlywed. Na byddai Cymry cyfoethog America yn fwy selog dros siarad, darllen, a phregethu yr efengyl, yn hen iaith odidog eu tadau! Diau y gallai


 

 


(delwedd E1035) (tudalen 177)


(x191) (tudalen 177) TALAETH MAINE.



gweinidog Cymreig ieuanc, talentog, a chwbl-ymroddol i enill eneidiau i’r Gwaredwr, gasglu a chadw cynulleidfa fechan, weithgar, o Gymry haelionus, yn ninas Boston; a diau y rhoddid cefnogaeth iddo. Bu y Parch. R. L. Herbert, o Vermont, yn Boston, yn nechreu y fl. 1871, a dywedai ei fod wedi cael llawer o Gymry parchus i’w wrando yn pregethu Cymraeg yno. Cynghorwyf y cyflyw wrandawyr i ffurfio a chynal eglwys Gymreig efengylaidd yno. Mae Thomas & Griffiths, (wholesale & retail dealers in all kinds of American roofing slates) yn bobl barchus a chyfrifol yno. Gellir cael hyd iddynt ar Wales’ Wharf, 272 Federal.St., neu yn No. 15 Columbia St., Boston. Cymro cenedlgarol arall yw Mr. Robert S. Jones, book-binder, gyda Cooper, Lewis, & Co., State St.

QUINCY, ger Boston. - Saif y lle hwn rhwng Boston a Newport; 8 milldir o Boston, ac un filldir o lan y môr. Ymofyner yn Boston am yr “Old Colony R.R. Depot;” ac yno am docyn i Quincy, (25 cents). Mae yno amrai o chwarelau llechau, a llawer o Gymry yn byw er ys blyneddau. Dymunant gael clywed mwy o bregethu Cymraeg yno. Pobl garedig a haelionus ydynt. Mae Mr. John Thomas, a Mr. William Davies, ac ereill, yn ddynion cyfrifol yn eu mysg.

TALAETH MAINE.

Hon yw y dalaeth fwyaf gogleddol o’r “New England States” terfynir hi o du y dwyrain gan New Brunswick; o du y gorllewin gan dalaeth New Hampshire; o du y gogledd gan Canada East; ac o du y de, a’r de-ddwyrain, gan Fôr y Werydd; nid yw yn mhell o Nova Scotia, Cape Breton, a New Foundland, ac afon St. Lawrence. Mae y môr yn golchi ei therfynau am 230 o filldirau; ac y mae ynddi lawer o borthladdoedd


 

 


(delwedd E1036) (tudalen 178)


(x192) (tudalen 178) HANES CYMRY AMERICA.

rhagorol. Mae ei daiar yn well at godi gwair a phorfa, nag at gynyrchu ydau; tir gwael, yn gyffredin, sydd yn ei deheudir; ond y mae yn dra ffrwythlon rhwng yr afonydd Kennebec a Penobscot. Ei gogledddir a orchuddir â choedwigoedd mawrion, a rhagorol at bob math o lumber, Codir ynddi beth gwenith, a haidd, a cheirch, a llin, &c. Ond prif orchwylion ei pheswylwyr yw amaethyddiaeth, tori a llifio coedydd, gweithio y celfyddydau, pysgota, a morwriaeth. Mae ynddi lawer o fwnau, ceryg calch, llechau, haiarn, &c. Cynnwysa 16 o siroedd, a phoblogaeth o 626,463. Ei phrif drefydd ydynt Portland, Augusta, Belfast, Bangor, Auburn, Yarmouth, Oldtown, &c.

PORTLAND, Maine. - Adeiladwyd y dref hon yn Cumberland Co., ar lan y môr; ac y mae ganddi y porthladd goreu; cynnwysai yn 1870 boblogaeth o 31,414; ac y mae y Grand Trunk Railway yn rhedeg allan o honi i Montreal, ac oddiyno i Toronto, Detroit, a Chicago.

“Oddeutu milltir i’r gorllewin o’r dref, ar dafod gwastad o dir yn estyn allan i’r for-gilfach (bay), ar ochr Cape Elizabeth, y saif y felin haiarn, lle y gwneir rails i’r reilffyrdd. Yn y felin hon y mae cryn nifer o Gymry yn gweithio; ac ar lanerch hyfryd gerllaw iddi y maent yn byw, mewn tai destlus a chyfleus a godwyd iddynt gan berchenogion y gwaith. Mae yn lle dymunol a phrydferth iawn yn misoedd yr haf. Mae y tai oll yn debyg i’w gilydd, ac wedi eu gosod yn drefnus; ac y mae yno heolydd wedi eu gosod allan, a digon o le i adeiladu tref fechan, hardd, yn y lle. Perthyna y felin i gwmni cryf, ac y maent yn cael digon o waith, yr hyn sydd yn sicrhau gwaith cyson i’r dynion. “Mae y Cymry yma yn ymddangos yn gysurus a chalonog iawn; enillasant iddynt eu hunain gymeriad da yn ngolwg y trigolion, ac y mae gan berchenogion y gwaith olwg fawr arnynt fel gweithwyr, fel dynion, ac fel crefyddwyr. Maent felly yn enill cyflogau da, ac yn sicr o waith tra y bydd gwaith i’w gael. Mae y


 

 


(delwedd E1037) (tudalen 179)


(x193) (tudalen 179) TALAETH MAINE.

cwmni wedi adeiladu hall ragorol iddynt, 60 tr. wrth 36 tr., ac y mae wedi ei gorphen yn addurnol, ac ynddi y mae llyfrgell dda, &c., yn agored bob dydd ond y Sabboth. Nid oes yr un saloon na thafarn o fewn y lle. Maent yn cynali eu holl foddion crefyddol yn yr hall. Mae 50 o aelodau yn yr eglwys, a thros 100 yn yr Ysgol Sabbothol, a chynulleidfa dda. Ychydig o bregethu Cymraeg a gawsant. Mae arnynt eisiau dyn galluog i bregethu Cymraeg a Saesonaeg. Caent gynorthwy i ddyn felly, oblegid maent mewn undeb a’r Conference Seisnig. Gobeithio y gofala y Bugail mawr am danynt, ac yr enfyn rywun yn ol ei feddwl ei hun atynt cyn hir.

“Mae Mr. John Thomas, arolygwr y gwaith, yn ddyn serchus, caruaidd, a chymwynasgar. Mae yn gymeradwy a pharchus iawn gan berchenogion y felin, ac y mae holl gyfrifoldeb y gwaith, braidd, yn cael ei ymddiried iddo. Da oedd genym ei weled yn blaenori gyda chrefydd, yn y cyfeillachau a’r cyfarfodydd gweddio, yn gystal a chyda’r gwaith; yn y capel ar y Sabboth, yn gystal ag yn y felin ar hyd yr wythnos; a da oedd genym weled fod pawb yn ei anwylu a’i barchu yn y naill le yn gystal a’r llall. Tra y parhant yn un a chytun, fel yr ymddangosant yn awr, byddant o lawer les a chysur i’w gilydd.” - D. (Gwel Cenhadwr, Chwefror, 1870). Clywais fod un Mr. Davies yn pregethu iddynt er ys misoedd.

BROWNSVILLE, Piscataquis Co., Maine. - Mae amrai o Gymry parchus wedi sefydlu yn y lle hwn er ys blyneddau, ac yn gweithio yn y chwarelau llechi. Cadwant foddion gras yn gyson yn yr iaith Gymraeg, a phregethir iddynt yn Gymraeg a Saesonaeg gan wahanol weinidogion yn achlysurol. Mae y gauaf yn hir ac yn oer iawn yno. Dymunwyf iddynt fawr lwyddiant.

 

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā
Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə /
ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý /
ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_239_hanes-cymry-america_iorthryn-gwynedd_1872_2_A2_2086k.htm

---------------------------------------
Creuwyd / Created / Creada: 08-10-2018
Adolygiadau diweddaraf / Latest updates / Darreres actualitzacions: 09-10-2018, 05-10-2018
Delweddau / Imatges / Images:
Ffynhonnell / Font / Source: Llyfrau Google; llyfr electroanidd rhad ac am ddim

Freefind.
Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait


http://c10.statcounter.com/counter.php?sc_project=1095411&java=0&security=043b27d8&invisible=0
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats