kimkat2079k Cymysgu
yr Iaith Gymraeg. Seren Gomer. 1846. Fy nghwyn ydyw y dinystr
sydd ar yr Iaith Gymraeg, a hyny gan ei chenedl ei hun!
03-04-2018
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r holl destunau yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_llyfrgell/testunau_i_gyd_cyfeirddalen_2598k.htm
● ● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
●
● ● ● ● kimkat k Y tudalen hwn
|
|
|
Gwefan Cymru-Catalonia
|
|
...
www.translate.google.com (Cymraeg, català, English, euskara, Gàidhlig, Gaeilge, Frysk, Deutsch,
Nederlands, français, galego, etc)
.....
|
|
|
|
(delwedd
B1006) |
Seren
Gomer. 1846. CYMYSGU’R
IAITH GYMRAEG. Mr. GOMER,—
Mae yn drwm genyf eich anerch â’r sylwadau canlynol, am eu bod mewn rhan yn dynoethi
fy nghenedl, y Cymry; ond nid hawdd ceryddu yn gyfreithlon heb ddywedyd y gwir
am ba beth; ac yr ydwyf yn hyderu y derbynir hwy hwy mewn brawdgarwch, a bydded
iddynt fod er lles, yn nghyd a llawer cynghor ydym yn ei gael. Fy nghwyn ydyw
y dinystr sydd ar yr Iaith Gymraeg, a hyny gan ei chenedl ei hun! Syniais
lawer, na buasai synwyr cyffredin Cymro yn dangos iddo amgenach na chymysgu
ei iaith â Saesneg, a'u cymysgu yn fath sothach, nad yw yn iaith yn y byd! yr
hyn sydd bechod mawr yn ddiau; ond ni wêl dyn mo'i bechod hyd oni argyhoedder
ef i’r llwch: felly bydded i ninau gael ein hargyhoeddi trwy eich gohebwyr
deallus, am ddystrywio ein hiaith werthfawr. Ni byddai waeth, pe byddai i bob
Cymro ddysgu 2, 3, ïe 10 o ieithoedd, ond iddynt eu cadw ar eu penau eu hunain,
heb eu cymysgu, yr hyn sydd yn anghyfreithlon. Nid oes ynof ddim llid na chynfigen
i'r un Sais, na’r iaith Saesnaeg, ond yn hytrach parch, hyd y mae parch yn ddyledus;
ac y mae yn ddigon difyr genyf siarad Saesneg pan y byddo angen, neu ysgrifenu,
pan y byddo eisieu hyny at Sais. Ond, ysywaeth, mae llawer Cymro (pe byddai teilwng
o'r enw) yn ysgrifenu rhyw beth a eilw ef yn Saeneg, at ei gyfaill Cymreig,
yr hyn, ped ystyriai yn ddifrifol, sydd warth iddo; ac hefyd, wrth siarad neu
ymddiddan, mae Ilawer o Gymru yn chwannog i gyfarch eu gilydd yn yr iaith Saesnaeg,
yr hyn sydd ddirmyg arnynt eu hunain, ar eu cenedl, ac ar eu gwlad, a’u hiaith;
er fe allai na buont yn Lloegr ond ychydig erioed! Meddyliaf y gallaf ddywedyd,
dros fy mrodyr sydd yn caru ein hiaith, eu gwlad, a’u cenedl, pa un bynag ai boneddig
ai gwreng, y byddai yn well ganddynt i’r cyfryw fyned i Loegr, neu i wlad
dramor, a pheidio dywedyd gair o Gymraeg byth. Pe byddech yn dyfod i G…..n am
ddiwrnod, gallech weld y trigolion yn cyfarfod eu gilydd yn yr heolydd, ac
wrth ymgyfarch, gallech eu clywed yn dywedyd “How di (…..)” neu “How âr iw!!”
a phe byddai (…..) i ddilyn cychwyniad eu hymadrodd, neu megys yn fudion i
fethu ateb y gwr! Ac yr ydwyf yn ofni bod llawer tref yn y Dywysogaeth yn y cyffelyb
fodd. Ond rhag ofn i chwi feddwl yn waeth am danom nag ydym, nid pawb yno sydd
felly; ond y beilchion neu yr anystyriol hyny, ysywaeth sydd rhy liosog. Amryw flyneddau
yn ol, yr oeddwn yn lled gydnabyddus mewn tref enwog yn y Dywysogaeth; ond dygwyddodd
imi fod yno yn ddiweddar, ond nid yr un un enwau sydd ar amryw fànau yn y
dref! Un màn oedd a’i enw “Maes Glâs,” ond yn awr gelwir ef “y Grîn!” man
arall “Clwt Mawn” ond yn awr “Tyrff Sgwér!” ac |
|
|
|
|
(delwedd
B1007) |
Seren Gomer. 1846. hefyd yr heo!ydd, ac amryw fànau wedi eu
traws-enwi yn y fath fodd cywilyddus! Yr wyf yn gobeithio mai rhyw grwydriaid
o Saeson, ac nad y Cymry, sydd yn euog o'r fath drosedd: ac na ddilynant y
fath gynlluniau drwg, na’u dysgu i’w plant. Cefais fy ngwahodd i giniawa i dŷ
cyfrifol yn ddiweddar; ac yn wir yr oedd yno arlwy da a gweddus iawn, ond yr
oedd yr iaith a’r enwau oedd ganddynt ar y bwydydd, y llestri, a’r arfau, wedi
eu traws-enwi yn y fath fodd fel y bu agos i mi a sòri ar fy mwyd. Yn nechreu
y ciniaw, gofynodd y gwr a dòrai y bwyd i mi, “A fynwch imi helpu â thipyn o
fêl?" Dywedais na fynwn, diolch, ond ychydig gig a ddewiswn; ond, erbyn
edrych, bwriad y gwr mwyn oedd rhoddi darn o gig llo i mi; ac felly yr oedd y
cyffelyb enwau trwsgl ac anweddus ar bob peth o'r bron; ac yr wyf yn ofni bod
miloedd o dai yn Nghymru yn yr un modd. Yr ydwyf yn gobeithio y bydd i bob
Cymro gonest ymdrechu hyd eithaf ei allu i ddiwygio ei iaith yn ddidderbyn
wyneb, yn mhob cymdeithas y byddo; a dangos cynllun gweddus yn mhob màn lle byddo,
fel na byddo gan y Sais le i waeddi “Gafr” ar ein hol mwyach; ac yr wyf yn gobeithio,
trwy ymdrech pob gwir Gymro, y byddwn yn fuan oll fel defaid. Y pethau canlynol, (yr wyf a meddwI), yw yr
achos mwyaf o lygriad yr iaith Gyrnraeg: - 1/ Balchder ac ynfydrwydd y Cymro (yr hyn
sydd fel asgwrn cefn i'r lleill oll). 2/ Y Saeson sydd yn ymrithio ar draws ein
gwledydd; a ninnau yn cymeryd ein denu i eu dilyn, ond yn drwsgl erchyll. 3/ Y Cymry sydd yn myned i Lundain, Lerpwl,
Manchester, Mwythig, Caerodor, &c. ac yn dychwelyd yn falchaidd, mewn
gwisg Sais, ac yn rhidyllio y fath gymysgfa, rhwng dwy iaith, yn mhlith eu teuluoedd
a'u ceraint, a'r wlad oddiamgylch, yn ddigon a chwysu y Cymro uniaith sydd yn
meddu ei synwyr cyffredin. Gallaswn enwi amryw achosion ereill; megys,
masnachwyr, morwyr, &c. sydd yn rhoddi enwau Saesnig bron ar bob peth
sydd ganddynt. Ac oni buasai yr arfau canlynol, yr ydwyf
yn ofni na byddai sôn am danom yn mhen ychydig amser. Ond yr ydwyf yn
benderfynol sicr na wnaiff y sothach blaeuorol ond adfeilio, yr hyn,
gobeithio, a fydd yn dra phrysur, os caiff balchder ffol y Cymry ei ddarostwng,
a'n tafodau i adrodd geiriau gweddus. Yr arfau canlynol sydd, gyda golwg
siriol, am ymlid i lwch anghof bob gelyn i'r iaith Gymraeg. Boed llwydd iddynt!
1/ Y Bibl Santaidd, yn Gymraeg glân, yr hwn
sydd (yr ydys yn gobeithio) agos yn mhob tŷ yn Nghymru; a lle nad yw, bydded
iddynt ymorol am dano; y mae yn hawdd ei gael am bris isel; ie, fe allai am
ddim, ond trwy ostyngedig ymdrech. Na boed neb hebddo, bydded i'r Arglwydd ei
fendithio er lles i'r enaid. 2/ Pregethiad yr efengyl sydd trwy y |
|
|
|
|
(delwedd
B1008) |
Seren Gomer. 1846. Dywysogaeth fel llais y durtur yn ein gwlad,
yr hon sydd yn cael ei phregethu mewn purdeb iaith, oddieithr un sydd yn arfer
rhai geiriau hanner Seisnig, neu gymysglyd; ond yr ydym yn gobeithio y
diwygiai y rhai hyny ar frys. 3. Yr Ysgol Sabbathol, yr hon sydd gynllun
cywir i ëangu yr iaith Gymraeg: yn enwedig un enw cyfrifol, nad ydynt yn
cynnwys i'r iaith Saesneg gael ei dysgu yn mhlith y Cymry ar y Sabbath. Yr ydwyf
yn hysbys o un dosbarth, o ddeutu siath mi!ldir petryal, a yn cynnwys o 2500
i 3000 yn y dosbatth o bersonau yn yr Ysgo}, ac nid ydynt yn cynnwys llyfr Saesneg
i ddysgu neb ar y Sabbath, ond y gair yn iaith ein gwlad, a byddai yn fuddiol
i bawb eu dilyn yn hyn o orchwyl, yr hyn y’m yn hyderu a fydd er bendith. 4. Y Geiriaduron enwog sydd yn ein plith, y
rhai nad oedd gan ein hen dadau mo’r fantais hon, ond i ychyd;g' raddau; ac
na bydded i neb o honom adael iddynt orwedd yn ein haneddau heb eu defnyddio;
sef, Charles, Walters, Richards. Jones, Owen, &c. &c. Llafur y gwyr enwog
uchod, yn nghyd ag amryw ereill, yn sicr a ddylem ymarferyd â hwy yn fynych,
a'u dysgu i'n plant. Dymunol fyddai i holl ddarlenwyr y SEREN
chwilio am rifyn Ionawr diweddaf, a darllen ysgrif gynnwysfawr Mr. Llewelyn, yr
hon sydd yn rhoddi darluniad ardderchog o'r iaith Gymraeg, a'i rhagoroldeb ar
y Saesneg; darllened hi i glywedigaeth cynifer o'i gydwladwyr ag a allo; a
gobeithio y bydd y canlyniad i roddi argraff weledig arnom oll. Oni byddai
bod yr iaith Gymraeg ag eithaf gwreiddyn iddi, buasai wedi ei chladdu yn
llwch anghof er ys talm: ac am fod y gwreiddyn yn dda, hi a flagura, ac a
ddyscleiria fel yr haul, a chawn weled pob clytiaith a chymysgfa yn ffoi fel
cysgod yr hwyr, ac o fesur ychydig yn nos arnynt. A phwy a ẁ yr na bydd dda ganddynt gael
braich o gymhorth genym cyn bo hir; ac, yn wir, byddai yn well genyf hyny,
nag i ni fyned atynt hwy i fenthyca y fath sothach, heb genad (ïe, heb ei eisieu
hefyd), ond yn hytrach edliwied am beth na thâl mo'i ddangos. – O, ynfydrwydd!
os gwnawn y fath ffolineb! Bydded i'r Arglwydd ein gwared rhag pob gau dyb, a
geiriau cyfeiliornus! Pe byddem ni yn seinio ein llythyrenau yn
eu Ile, a'u hiawn dreiglo yn eiriau, a'u harferyd, (yn Ile cymysgedd), ni byddai
ragoriaeth rhwng siarad pobl Gwynedd a phobl y Deheubnrth; ond, ysywaeth, mae
llawer o ragoriaeth rhyngddynt; fel y dywed y Gwyneddiaid am lawer o drigolion
y Deau, na fedrant eu deall! a'r achos o hyn ydyw bod y ddwy blaid yu
cyfeiliorni wrth seinio y geiriau. Wrth ddiweddu, frodyr anwyl, bydded ini
oll, fel cenedl, ymdrechu cadw ac ymarfer yr iaith a roes yr Arglwydd i ni, yn
bènaf peth yn ein mynwes; ac, ar yr un pryd, gallwn ddysgu ieithoedd ereill,
ond na bydded i ni fod yn euog o'u cymysgu. Diwygiad yn cymeryd lle trwy Gymru
oll, ïe, ac ymwthio i (…..) hefyd, yn lle eu bod hwy (…..) atom ni , yr iaith
Gymraeg (…..) ac a fyddai yn llawenyddd (sic) (…..) Gymro, ac, yn eu mysg,
eich (…..) da, Carwn ein iaith o'n cyrau, - Ei uche!fawr droelJau: laith Gomer, gwiw-ber i’w g(…..) Gwrol yw yn ei geiriau. Dinaswyr Cymru, dyneswch – (…..) Hi etto, prysurwch I ddwyn hòn yn llon o’r llw(…..) ?(llwch) O fwriad - cŷd arferwch. |
Sumbolau:
a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRON: ā Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIG: Ā̀ ā̀
, Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́
ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIG: Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀
ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀
ȳ̀
MACRON ISOD: A̱ a̱ , E̱ e̱ ,
I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREF: ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ /
ŭ Ŭ / B5236:
B5237: ![]()
BREF GWRTHDRO ISOD: i̯, u̯
CROMFACHAU: ⟨ ⟩ deiamwnt
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: /
ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ
əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
Hungarumlaut: A̋ a̋
U+1EA0 Ạ
U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ
U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị
U+1ECB ị
U+1ECC Ọ
U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ
U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ
U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ
U+1EF5 ỵ
g
yn
aith
δ δ
wikipedia, scriptsource. org
wikipedia, scriptsource. org
https://en.wiktionary.org/wiki/ǣ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_236_seren-gomer_cymysgu-r-iaith-gymraeg_2079k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 08-11-2017
Ffynhonell:
Adolygiad diweddaraf:
03-10-2018
Delweddau:
|
Freefind: |
Ble'r
wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (=
Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (=
Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait