|

(delwedd 5625) (23
Mawrth 1899)
|
Tarian y Gweithiwr. 23 Mawrth 1899.
O'r Gadair Wellt
Geiriau Lleol
Ofer edrych mewn geiriadur am ystyron lluaws o eiriau lleol. Mae yn wir fod y
rhan fwyaf o honynt yn cael eu croniclo yn drefnus rhwng ei gloriau, ond mae
yr ystyron a roir iddynt ar lafar gwlad mewn gwahanol leoedd yn wahanol i'r
hyn a osodir ar eu cyfer yn y geiriadur. Yn y sylwadau canlynol, bydd i mi
gadw yn nghanolbarth Morganwg, er y dichon y gellid cymhwyso yr un ystyron
i'r geiriau lleol a nodir, mewn rhanau o siroedd ereill. Fe sylwa y
darllenydd fod rhai ohonynt yn ymddangos fel geiriau wedi eu benthyca o'r
Saesneg; ond y maent wedi gwreiddio ar dafodau pobl canol Morganwg, fel nad
gwiw eu cyfrif mwyach yn ddim amgen na geiriau perthynol i Genedl y Cymry.
Awn yn mlaen yn ol llythyrenau y Wyddor, er mwyn trefn.
Dyna y gair 'Aethus.' Ystyr eithriadol hwn yw - llymdost, dolorus, poenus.
Ond nid dyna yr ystyr a roir iddo genymni yng nghanolbarth Morganwg. Dywedwn
ni - Mae yn ddrwg aethus, Mae yn dda aethus, Mae yn oer aethus,
ac Mae yn dwym aethus. Dywedai un o'n prif feirdd pan yn canu ar
briodas cyfaill iddo, -
'Rwyf finau yn dechreu dod,
Yn aethus am enethod.'
'Beili' sydd air wedi ei gyplysu yn anwahanadwy a swyddog perthynol
i'r Llys Sirol. Ond geilw amaethwyr a phreswylwyr anedd dai gwledig y lle
agored o flaen y ty yn Beili. Ceir ef hefyd mewn enwau lleoedd, megis y Beili
Glas yn rhandir y Rhigos.
'Brig' sydd air cynefin i bawb, ond defnyddir ef yn aml heblaw mewn
cysylltiad a choedydd. Onid yndym yn dywedyd - Yn mrig yr hwyr, Yn mrig y
nos, &c.
'Cas.' Yr ydym yn defnyddio y gair yn aml o'i ystyr wreiddiol. Yn ol y
geiriadur, mae yn perthyn yn agos i lid a malais, ond ystyr arall a roir iddo
genym ni fynychaf. Dyn cas ddywedwn am ddyn salw, ci cas a fyddo yn rhy barod
i wneud defnydd o'i ddanedd. Ci cas y galwai pobl canolbarth Morganwg y
creadur hwnw y canodd Tudno amdano, -
Goludog yn ein gwlad gu - feddai gynt
Ufudd gi i chwyrnu
Chwerwyn blach, yn ddychryn bu
I drueiniaid ar rynu.
Cyfarthodd, brathodd mewn bri - tros ei feistr
Oes faith; yna wedi
Iddo fyned, nadd-feini
Yn ei barc sy'n coffa'r ci.
Ys! trenga y meistr anghall - yn wrthddrych
Oes o warthrudd diball!
Ac yna, fel gwyddfa, gall
Bydd cerig bedd ci arall.
Onid ydym hefyd yn clywed yn aml am hen ffordd gas, ac mor aml a hyny ei bod
yn bwrw glaw yn gas.
'Cripan' sydd air haner Saesneg meddai rhai - o'r gair creeping.
Boed a fyno am hyny, mae pob plentyn Cymreig wedi cynefion ag ef cyn eu bod
yn bum' mlwydd oed. Ac onid oes genym ddiareb fel hyn:
-'Rhaid yw cripian cyn cerdded.'
'Carn' - Carnedd ddywedir yn y golgedd - Carnedd Llywelyn. Yr ydym ni
yn defnyddio y gair i ddynodi pethau ereill - carn bilwg, carn ceffyl,
&c. Golyga 'to the hilt' y Sais 'hyd y carn' y Cymro. Dyna sut yr aeth hi
yn gymysgfa ar y cyfieithydd yn 'Y Sesiwn yn Nghymru.'
|
|

(delwedd 5626) (23
Mawrth 1899)
|
Yr ydych yn cofio Glanygors, -
'Gallwch alw carn lleidr
Yn hilt of a thief.'
Yr ydym yn dweyd carn cyllell, carn myniawd, &c., ond coes morthwyl.
'Leg of a hammer,' yn ol cyfiethydd bol y clawdd.
'Cetyn.' Nid ydym yn meddwl am ysmygu wrth ddefnyddio y gair hwn, er
i'r fardd ganu :-
Mygyn o'r cetyn cwta
Wna o un oes ddwyoes dda.
Defnyddiwn ef fel yn gyfystyr a llawer - mae yn getyn gwell; mae yn mhellach
o getyn; nid yw John wedi bod yma er's cetyn; mae yn byw getyn o ffordd
oddiyma; yr oedd cetyn rhyngddo ag enill y gadair, &c.
'Delwi.' Nid oes un cysylltiad rhwng hwn a'r gair delw, yn ol yr
arferir ef genym ni. Defnyddir ef megys yn gyfystyr a phendrymu - mope y
Sais. Ceir rhai yn ddigon annynol i ddweyd fod y bardd yn delwi pan yn cau ei
lygaid i chwilio am feddylddrychau.
'Dyfal.' Ystyr eiriadurol hwn yw diwyd - parhaus. Ond yr ydym ni wedi
cynefino a'r gair mewn ystyr arall. Gofynwn yn aml, Pa le buot ti mor ddyfal?
pan fyddo rhywun wedi bod yn lled hir ae neges. Un dyfal tost yw Sion y Crydd
pan yn dyfod a'r esgidiau yn mhen mis wedi yr amser addawedig.
'Dan ei oleu' sydd fynegiad adnabyddus genym am berson trancedig - o
adeg ei farw hyd ei gladdedigaeth. Diau fod y mynegiad hwn wedi aros oddiar y
cyfnod pabyddol - pan yr arferid cadw gloeu yn ystafell y marw. Bu hyny yn
arferiad lled gyffredinol yn fy nghof i, a diau nad ydyw wedi llwyr ddarfod
yn mhlith pobl heb fodyn talu gwrogaeth i'r hen frawd o Rufain.
Mewn cysylltiad a hwn daw y gair 'Gwilad' - gwylio, dan sylw. 'Gwilad'
y gelwir y gwasanaeth o wylio y claf yn ystod y nos. 'Gwilad daera' sydd beth
adnabyddus yn mhlith helwyr llwynogol Cwm Rhondda - Cyneu tanau, a chadw twrw
i gadw y llwynogod o'u ffauau - eu lleodd dyogel yn mhlith y creigiau.
'Grabin.' Talfyriad yw hwn o ysgrabin. Mae cathod yn ysgrabin;
ond cybyddion sydd yn grabin yr 'hen fyd' - fel y dywedir - atynt eu hunain.
'Gwirion.' Defnyddir hwn genym yn lle y gair diniwed. Dyn gwirion ddywedwn
am un na wna ddrwg i neb. Yn y Gogleddd golygas un heb fod yn ei synwyrau.
'Hŷff' sydd air amserol yn mis Mawrth fel rheol. Golyga
lwchfeydd o eira - wedi ei chwythu oddiar y twyni i’r cysgod. Hyffo y gelwir
yr ystorm - y gwynt yn gyru yr eira yn gawodydd dallol.
'Hercyd' a ddefnyddiwn fynychaf yn lle y gair estyn neu gyrchu. Cera i
hercyd y DARIAN i mi. Mae yn hercyd y 'llusg' yn rhy bell yn yr englyn; 'O
New York yn ei hercyd' - Pedrog yn enill cadair Llanelli pan oedd yn glanio
yn Efrog Newydd.
'Llychedan' y geilw gwyr Morganwg y fellten. Mae yn llychid
odnadwy, meddir, pan y byddo yn melltenu.
'Llechwan' y gelwir careg gymharol drwchus, ac yn meddu cryn hyd a
lled - digoni guddio llawr ystafell, neu ddarn o gae. Llechwan hefyd y gelwir
y teclyn haiarn a osodir ar y tân i grasu teisen. Yr oedd mewn bri
mawr er's llawer dydd i wneud bara gwenith, haidd a cheirch. Ar hwn y crasir
'bara llechwan' a 'bara prwmlyd,' os ydych yn gwybos rhywbeth am danynt,
Ychydig sydd yn defnyddio y 'llechwan' i grasu dim yn ardaloedd y
gweithfeydd.
'Lluo' yw gair Morganwg am llyfu. Dywedir yn aml fod y gwartheg yn
lluo y preseb, pan y byddont wedi cael gwledd flasus.
'Post.' Mae y gair hwn yr un fath yn y ddwy iaith. Nis gwn a oes enw
arall yn
|
|

(delwedd 5627) (23
Mawrth 1899)
|
rhywle arno neu beidio. Yr ydym yn hongian clwyd ar bost, ac yn cylymu
eidion wrth bost. Post ydyw, os bydd yn haiarn, a phost hefyd pan ydyw yn
gareg neu bren. Ni ddywedwn am ambell ddyn - ei fod yn sefyll fel post - heb
ddweyd dim wrth neb.
'Plico.' O pluck y Sais, feallai. Ond yr ydym yn
defnyddio y gair am amryw o oruchwyliaethau - plico am bluo - plico gwyddau;
plico blew cernau - plant a men {sic} - sydd yn gwneud hyny.
'Pica' sydd gyfystyr a blaenllym - blaen pica i'r big ar
gyllell. Weithiau defnyddir y gair mewn ystyr ddiarebol - trwyn pica, tafod
pica - am dafod tipyn yn bigog.
'Peltan' sydd air gyffredin genym am ergyd o ddwrn neu gareg - ar
flaen trwyn neu ar gorphwys bwystfil.
'Pentys' yw yr enw am dipyn o
dô uwchben drws ty neu ysgubor - i gadw y diferion i ffwrdd. Nid oedd 'shutes'
wedi eu dyfeisio yn oes y pentys.
'Scwd.' Dyna ein gair ni am raiadr. Nid oedd hen frodorion
Morganwg yn gwybod beth oedd rhaiadr cyn darllen englynion Dewi Wyn o Eifion.
'Sopyn' ddywedwn ni am lawer o rywbeth - nid yw wahaniaeth yn y byd
beth. Sopyn o arian, sopyn o lo, a sopyn o felldith.
'Taren' yw ein gair ni am graig y Gogledd - tarenydd am
greigiau.
'Trysa' y gelwir taranau - lluosog; trwst, tarann - unigol.
'Taplan' sydd lechwen heb ddyfod i'w chyflawn faintioli -
cyfystyr a slab y Sais.
'Tyla' y gelwir tir serth - ochr mynydd, neu lwybr tua chodiad tir.
Ceir y gair yn enwau amaethdai yn mhob ardal yn Morganwg - Tyla Robert yn
Aberdar, Tyla Fforest, a Tyla Du yn y Rhondda, &c.
'Twmpyn' yw ein gair am twmpath - twmpyn o bridd y wadd, twmpyn
morgrug, &c. Dyna i chwi ychydig o eiriau lleol i gnoi cil arnynt hyd nes
cawn roi tro dros y maes hwn ryw dro eto.
Yr eiddoch,
Wmffra Huws.
|
|

(delwedd 5628) (13
Ebrill 1899)
|
(Yr ŷm wedi rhoi’r rhestr o eiriau yn nhrefn y wyddor. Yn y testun
gwreiddiol, y mae rhai o’r geiriau allan o’u lle)
Tarian y Gweithiwr. 13 Ebrill 1899.
Llwydmor ar Eiriau Lleol.
Yr wyf wedi derbyn y nodyn canlynol canlynol
[sic] oddiwrth fy nghyfaill Llwydmor Jones. Gogleddwr yw efe, a sylwa ar un
o'm llithiau blaenorol o safbwynt Gogleddwr. Dyma fel y dywed –
‘Anwyl Wmffra Huws, - Mae darllen eich
llythyr ar yr uchod yn NHARIAN heddyw yn codi rhyw ysfa ynwyf i roddi math o
atodiad arno. Nid wyf am i chwi gymeryd y mater o gwbl fel adolygiad ar yr
eiddoch chwi, ond fel ychydig ebychiadau a dramwyent fy meddwl wrth ddarllen
eich llythyr difyr. Mae ysgrifenu llenyddiaeth dipyn allan o fy llinell
arferol, ond maddeuweh yr ymgais hwn i geisio gwneud ychydig nodion brysiog
fel y deuant i'r wyneb.
‘Aethus.' Yn y Gogledd, yrtyrir [sic;
= ystyrir] hwn yn ddiwedd geiriau, megys buddugoliaethus, odiaethus, &c.
Ond y gair a ddefnyddir amlaf i gario yr un syniad ydyw ‘ofnadwy,'
‘dychrynllyd,' ‘gynddeiriog,' neu ‘dd-ledig,' [= ddiawledig] megys y mae yn
ddrwg ofnadwy, mae yn dda gynddeiriog,
mae yn dwym dd—ledig.
‘Beili.' Llygriad yn ddiddadl o'r
gair bailiff, ac yn y cysylltiad hwn yn unig. yn cael ei ddefnyddio yn nglyn
a swyddog neillduol.
'Brig.' Nid yn unig brig yr hwyr a
brig y nos, ond hefyd brig y don a brig y to.
‘Câs.’ Yn y Gogledd, yn aml yn meddwl
creulawn, anngharedig. Ond hefyd cas ffidil, cas spectol, cas llythyr, fel
llygriad o case.
‘Cripan.' Gogledd, cripian, o cripio
- to creep. Nid yw y gair hwn yn
cael yn y Deheudir, yr ystyr a roddir iddo yn y Gogledd. Pan fo dwy ddynes yn
ymladd, mai y naill yn cripio gwynt y llall, hyny yw, mae'n debyg ei bod yn
gadael i'w hewinedd dramwy i wneud olion gwaedlyd ar eu hol ar ei gwyneb fel cae
wedi ei aredig.
‘Carn.' Yn y Gogledd, carn twca, carn
cyllell, carn ceffyl, a carnedd, hefyd Carneddi, lle mae y Parch J. T. Job yn
gweinidogaethu, o dan gysgodau Carnedd Dafydd, a Charnedd Llewelyn.
'Cetyn.' Trais ar reswm ydyw defnyddio hwn i ddim ond tipyn - diminutive.
Cetyn o bibell, ddylid dweyd, ond gadawir 'o bibell' allan, o herwydd nas
gall 'cetyn' feddwl dim ond peth bychan i dynu mwg o hono. O lestr fel hyn -
Ieuan o Fon a wna fwg
Nes hollol fygu Sallwg
'Dewli'. Yr wyf yn ystyried fod cysylltiad agos rhwng y gair hwn a
delw - o herwydd fod y person a ddesgrifiwch fel 'yn cau ei lygaid i chwilio
am feddylddrychau,' yn sicr o edrych fel delw.
'Dyfal.' I'r cyfystyr a'r gair Saesoneg tardy.
'Dan ei oleu.' Hefyd, mae'r arferiad Pabyddol, yr hwn sydd, trwy
drugaredd, yn diflanu o'r tir, o gadw gwylnos yn nhy y trancedig y noson cyn
y cynhebrwng yn perthyn i'r un peth.
'Grabin.' Llygriad o scraping.
'Gwirion,' &c.
'Hŷff.' Ystad o natur ddrwg y gwynt pan mae yn huff.
'Hercyd.' Nid yw hwn yn gyffredin yn y Gogledd.
'Llychedan.' Flash -
fflachio, o'r gair yna mae yn dod, buaswn yn meddwl.
'Llechwan.' O llechen, slate, dim cystylltiad {sic} a llechu,
ond pan y mae yn feddfaen.
'Lluo.' Nid yw hwn yn arferedig o'r Deheudir.
'Post.' Hefyd Post Office.
'Plico.' Gogledd, plicio. Yno yn meddwl peeling, plicio
afal, plicio nionyn. Ni ddywedir yno byth plicio gwydd, ond plicio wy.
'Pica' O pike a spike.
'Peltan.' O pelt, pelting.
'Pentys.' Defnyddir hefyd am y lle y dodir y ceffylau i'w pedoli o dan
yr un to ag efail y gof.
'Scwd.' Scout a send. {??}
'Sopyn.' Ffurf arall, ond gwrthgyferbyniol a cetyn. Yn ddiddadl, peth
wedi ei drwytho, neu ei lenwi, peth wedi cael ei wneud yn sop.
'Taren' a 'Trysa.' Fel y clip ar yr haul - anweledig yn y
Gogledd.
'Taplan.' Eto dyeithr.
'Twmpyn.' Small tump, felly, tumulus, tumuli, yr enwau
unigol a lluosog a roddir i'r mounds Rhufeinig.
Gall eich rhestr fod yn addysgiadol a buddiol i efrydwyr geiriau fel hyn, ac
hwyrach nad anfuddiol fydd trem felhyn ar y gwahaniaeth a wneir yn nhwahanol
ranau o'r Dywysogaeth o'r geiriau. Mae yn sicr fod amryw o eiriau yn y
Gogledd na chlywir mo honynt yn y de, a llawer hefyd yn y De sydd yn
anadnabyddus yn y Gogledd.'
Diolch i Llwydmor am ei nodiadau. Dichon y gwna nodion cyffelyb pan ddeuaf
allan a rhestr arall.
Yr eiddoch,
Wmffra Huws.
|
|

(delwedd 5629) (4 Mai 1899)
|
Tarian y Gweithiwr. 4 Mai 1899. - Sylwadau W. Morgan
GEIRIAU LLEOL
MR: GOL., - Gwn y canitewch gongl fechan i mi daflu hatling i drysorfa y
'geiriau lleol.' Darllenais gynyrchion Wmffra Huws gyda dyddordeb mawr. Yn y
DARIAN ddiweddaf, y mae Llwydmor yn dwyn allan feddwl dieithr ac estronol i'r
gair 'Beili.' Yr wyf wedi ymgyfarwyddo a'r gair yna er's dros ddeugain
mlynedd, ac eglurhad Wmffra yn sicr sydd (i'm tyb i) gywiraf a naturiolaf.
Yr wyf am gdarnhau y cyfryw dyb gyfrwng penill o farddoniaeth. Dyma fe: -
'Y gwr o Gelliwrgan, os byddi byw ac iach,
Dos fora y dydd byra i ddrws y 'Beili' bach,
Os clir y bydd yr wybr heb gwmwl yn un man
Rhwng dau gwar Coedca'r Gelli daw'r heulwen pur i'r lan.'
Gan i mi fod yn gwasanaethu yn Gelliwrgan pan yn fachgenyn ddeunaw oed -
deugain mlynedd yn ol - yr wyf yn medru dwyn tystiolaeth i'r ffaith
achlysurodd cyfansoddiad y penill. Gadawer i mi fynegi gair am y partion - y
cyfansoddwr 'ar hwn y canwyd iddo. Yr awdwr oedd Siencyn o dafarn Eglwys
Wyno, a'r llall oedd Siencyn Gelliwrgan. Yr oedd yr olaf yn hoffi myned i
gymdeithas lon y teiliwr i 'dafarn yr eglwys,' ac ar un o'r adegau hyny y
cyfansoddwyd y penill.
Yr oedd drws hen amaethdy Gelliwrgan yn agor i ddarn o dondir ysgwar,
a mur isel o'i amgylch cyfaddas i'r merched osod ystyciau, &c., i sychu
yn ngwres haul y bore. Dyna'r ysmotyn y cyfeirir ato yn y penill, a gellir
gwireddu ffaith fawr y penill ar unrhyw adeg y 'dydd byra' o'r flwyddyn
oddigerth fod llaw reidrwydd wedi symud y 'Beili bach'.
Felly, y mae eglurhad Llwydmor mai y swyddog 'Bum Beili' (Bailiff) roddodd
fod i'r enw yn ddamcaniaeth annhebyg, a dweyd y lleiaf.
Y mae ei eglurhad o'r gair Pentys yn llai athronyddol fyth. Pwy welodd bentys
'dan yr un to ag efail y gof.' Ai nid ychwanegiad at yr adeilad ydoedd. a'i
do droedfedd yn is na tho yr efail? Sut y gallasai peth felly fod dan yr un to?
Heblaw hyny, onid oes canoedd o anedd-dai yn y wlad, a phentys bychan o flaen
y drws, ac ond ychydig uwch na'r drws - prin troedfedd, a sut mae darpariaeth
felly dan yr 'un to'? Y mae i'r enw ystyr yn ôl Gweirydd ab Rhys.
Drwy eich caniatad, syr, taflaf ddau air i'r drysorfa ddyddorol hon. Y
blaenaf yw, Ffacsa. 'Mam, mam,' meddai'r ferch, 'ma nhw yn dod oo'r
cwrdd yn ffacsa.' Beth gebyst, wys, yw gwreiddyn hwn?
Eto, 'Hendid.' Meddai y gwr o'r Monachdy, un diwrnod, wrth Evan o'r
Felin, 'Pryd y byddi yn barod i fi ddod i grasu?' 'Wel, fe fydd hendid y
gwr o'r Duallt yn fit {sic} i ddod oddiar yr odyn y fory, a gellwch ddod a'ch
'hendid' dranoeth.'
Cofion fyrdd,
Workington
W. MORGAN (Adi)
|