kimkat3791k Clywedion Aberdar. Hen Bacman. Tarian y Gweithiwr.

05-05-2023





 .....

Gweler hefyd / Vegeu també / See also:

.....

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..
 
 
 
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
Aberdar. Clywedion.
Hen Bacman.

(Tarian y Gweithiwr)
 


 

 

Map

Description automatically generated
(delwedd 7282)


Shape, circle

Description automatically generated https://translate.google.com/

(Cymraeg, català, English, euskara, Gàidhlig, Gaeilge, Frysk, Deutsch, Nederlands, français, galego, etc)

...
llythrennau duon = testun wedi ei gywiro

llythrennau gwyrddion = testun heb ei gywiro

 

 

1899

5 Hydref 1899.

2 Tachwedd 1899

7 Rhagfyr 1899

14 Rhagfyr 1899

 

…..

1900

19 Gorffennaf 1900  

20 Medi 1900

…..

1901

10 Ionawr 1901

7 Chwefror 1901 

28 Chwefror 1901 

 

-----------------

1899

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd J7534) (5 Hydref 1899)

Tarian y Gweithiwr. 5 Hydref 1899.

 

CLYWEDION — ABERDAR.

Clywed fod llawer yn holi os yw yr Hen Bacman yn fyw. Ydyw, a dyma fe eto yn cyfarch ei ddarllenwyr a'i gwsmeriaid hefyd o ran hyny.

Clywed pawb yn fy llongyfarch ar fy nychweliad o ddwfr y mor, ac fy mod yn edrych yn well. Wel, heb ddweyd gair o  anwiredd, cefais ddigon o ddwfr y cymylau wedi dychwelyd, a gwaeth fyth, yn fy absenoldeb, rhiedodd dau o fy nghwsmeriaid ymaith heb dalu eu ‘dues.'

Clywed newydd dda am waith Abernant, a gobeithio fod y newydd yn wir. Trueni fyddai gweled canoedd o ddynion yn gwynebu y gauaf mewn segurdod.

Clywed fod llawer yn bwriadu ymuno a chlwb y rhacs tua'r Nadolig os bydd i Abernant gadw yn mlaen. Byddaf finau yn lwcus i gael orders, yn ol pob count.

Clywed fod gwyr Cwmbacb yn gweithio yn galed i gael heol o'u dinas hwy i bentref bach Aberaman, a minau gyda hwy. Y mae'n hen bryd i'r lle gael gorsaf hefyd. Y mae'n syndod meddwl fod rhyw getyn o le fel Abernant yn eu maeddu yn y peth hwn.

Clywed llawer o bethau ffol yn mhob cyfeiriad, heb fod yn werth eu cyhoeddi, ond adroddaf un o honynt er hyny, sef ei bod yn warthus i feddwl fod gwraig (a ystyrir yn respectable) yn cerdded allan ar hyd yr heolydd gyda un o filwyr y Cwrt Bach, tra byddo ei gwr yn gweithio.

Clywed fod gobaith am heddwch yn awr rhwng y ddau weinidog fuont yn dadleu yn y parc. Da iawn.

Clywed fod yn well o lawer i bacman ieuanc o'r dref briodi na phoeni y merched ar hyd y tai. Byddai, yn wir, pe bai ond er mwyn cadw urddas y Brigade i fyny.

Wel, dim rhagor y tro hwn, ond ‘look out' yr wythnos nesaf.

YR HEN BACMAN.

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J7620) (2 Tachwedd 1899)

Tarian y Gweithiwr. 02 Tachwedd1899.

ABERDAR — CLYWEDION.



Clywed oddiwrth gydbacman fod y boneddwr o Benyfai wedi iawn ddeongli pethau. Methodd y pacman a'i fesur y tro hwn.

Clywed fod busnes y motor cars bron gyrru’r bendro ar rai o bobl y lle. Paham y rhaid i Aberdar fod rhyw 20 mlynedd ar ol pob tref arall ?

Clywed mai argument tlawd yw eiddo un o fanagers y cwm yn erbyn y motor cars, sef y byddant yn beryglus i hen bobl! Wel, yn enw pob pacman, pa gerbyd sydd ddyogel, ynte?

Clywed pe bai rhai pobl yn cael cerbydau i'w cludo hyd yn nod i'r nefoedd, y caent ryw fai drachefn arnynt.

Clywed ei bod yn drueni ysbeilio bywioliaeth na bara chaws neb, ond pe deuai y motor cars i'r dref, ai nid yw mwyafrif gyrwyr y brakes yn alluog i weithio fel pob dyn arall ?

Clywed llawer yn dweyd y bydd y motor cars yn tori i lawr. Dyna hi eto, fel arfer. Yn enw'r anwyl, onid yw'r brakes hefyd yn tori i lawr weithiau? 0 leiaf y mae y ceffylau yn tori i lawr, a threngodd un pwy ddydd ar haner y ffordd i orsaf Abernant, gan achosi i'r hen bacman golli'r tren.

Clywed os metha y cwmni ddwyn motor cars i'r dref, y bwriadant gychwyn Penny Busses, y rhai yn ddiddadl a fyddant yn welliant mawr ar y brakes presenol.

Clywed mai motto gyrwyr y brakes ddylasai fod, ‘Live and let live.'

Clywed llawer o siarad am y rhyfel a'r Boers, ac y mae gwahanol farnau ar y pwnc hwn fel llawer pwnc arall. Un peth sydd sicr, nid oes angen myned i Dde Affrig er cwrdd a ‘bores.' Dewch am eu traws ddigon o honynt yn Aberdar.

Clywed fod y ddwy ferch aeth i Lunden gyda'r excursion wedi cael siomiant sur, ond arnynt hwy yr oedd y bai. Paham y gosodasant nod mor uchel o'u blaen? Yr oedd yn dda ganddynt ddychwelyd i'w hen gartref, Sweet 'Berdar, wedi'r cyfan.

Clywed fod gobaith yr adgychwynir hen lofa No. 9 eto, ac y cawn weled yr Hen Goedwr (o fendigedig goffadwriaeth) mor ddiwyd ag erioed.

Clywed fod dinas Tresalem yn diwygio, felly mor fuan ag yr ysgafnheir tipyn ar fy mhac, bydd i mi groesi r suspension, ac yn ddiau os dychwelaf yn ddianaf, bydd genyf doraeth o newyddion ‘from over the border.'

YR HEN BACMAN.

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J7691) (7 Rhagfyr 1899)

Tarian y Gweithiwr. 7 Rhagfyr 1899.

 

ABERDAR - CLYWEDION.

Clywed llawer yn holi, Beth ddaeth o'r Hen Bacman? Wei, dyma fe i'r ffrynt unwaith eto.

Clywed nad yw'r Motor Cars wedi gwneud ychydig neu ddim niwed i wyr y Brakes, fel y mawr ofnai y Sosialiaid.

Clywed fod Rhyddfrydwyr y dref wedi myned yn hynod ddifywyd, ac mai y Sosialiaid yn unig fedrant eu cadw yn effro.

Clywed fod pethau yn gwella tuag Abernant mewn ystyr fasnachol, ond nad yw sefyllfa foesol dosbarthiadau neillduol o'r trigolion yn diwygio dim.

Clywed llawer am ruthrgyrch fawr y Bazaar yr wythnos ddiweddaf. Dywedwyd wrthyf fod yna ymladdfa ffyrnig am y to a'r bara brith, ac y gorfuwyd cael heddgeidwad i reoli'r bobl wrth y drws.

Clywed fod gwrthddrych y Bazaar yn haeddu cydymdeimlad, ac wedi cael cefnogaeth dda ond na ddylid annghofio am ereill ydynt hefyd yn teilyngu yr un ystyriaeth.

Clywed achwyniadau cyffredinol am fod y Motors mor hwyr yn troi allan yn ddyddiol. Wel, chwi Frakesmen, cymerwch yr hynt, a byddwch yn effro.

Clywed fod yr hen Kruger yn bwriadu cynyg ar y solo bass yn yr Eisteddfod a gynelir yn y Farchnadle ar Boxing Day. Os na fydd hyny yn atdyniad, mae yn anhawdd gwybod beth arall  allasai fod.

Clywed llawer am y Nadolig, ac fod y rhagolygon am dipyn o fwyniant a seibiant eleni yn anrhaethol uwch nag oeddynt y llyedd. Bydd hyny yn gysur I luaws o deuluoedd y dosbarth gweithgar drwy y gymydogaeth.

Clywed fod amryw o Gymry o'r dref a'r cylch allan ar faes y rhyfel yn Affrica, ac fod mwy nag un ohonynt wedi myned yn aberth i gynddaredd y Boers.

YR HEN BACMAN.

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd J7670) (14 Rhagfyr 1899)

Tarian y Gweithiwr. 14 Rhagfyr 1899.

ABERDAR-CLYWEDION.

Clywed fod heiynt y Bwllfa wedi achosi cryn siarad yn y cwm, gan fod dyfarniad y llys yn erbyn y gweithwyr. Nid oes terfyn i annealldwriaetbau glofaol.

Clywed fod Aberdar yn colli tir mewn ffordd o ddarparu adloniant meddyliol i'r ymwelwyr ac ereill ar adeg gwyliau y Nadolig. Gwir fod Eisteddfod i fod yma Boxing Day, ond nid yw eisteddfod yn ateb chwaeth pawb.

Clywed rhai yn dweyd fod ymgais yn cael ei gwneud i ail adgyfodi yr Empire, tra y dywed ereill mai gobaith gwan sydd am hyny. Pwy sydd iawn?

Clywed fod pobl dda Aberaman yn dechreu ymysgwyd o'r Ilwch, ac yn son yn awr am sicrhau neuadd newydd at wasanaeth y lle cynyddol hwnw.

Clywed fod gormod o gefnogaeth yn cael ei roi i'r arwerthwyr teithiol ddeuant heibio o bryd i bryd, yn enwed y rhai Iuddewig, sy'n fynych yn hudo pobl i roi fwy na gwerth dwbl a threbl y nwydd ffugiol gynygir iddynt. Bobl anwyl, cefnogweh eich cyd-drefwyr ydynt yn fasnachwyr teilwng, yn hytrach na thramorwyr diegwyddor.

Clywed fod ein dau aelod seneddol wedi myned yn ddison iawn am danynt - un yn byw o fewn 30 milldir yn cadw draw heb geisio ein hanerch ar bynciau llosgawl y dydd, na rhoi un cyfrif o'i hun i'r etholwyr, tra r llall yn hela yn China!  Onid yw sefyllfa y blaid Ryddfrydol yn y dref yn resynus o ddigrif?

Clywed fod Ilawer iawn o dlodi yn bodoli mewn rhai ranau o'r dref, er bywioced yr amseroedd, a gwaith stiff iawn, iawn ydyw casglu arian i'r

HEN BACMAN.

 

 

 

1900

 

 

 

A black and white text

Description automatically generated with low confidence

(delwedd J7769) (19 Gorffennaf 1900)

19-07-1900

Tarian y Gweithiwr. 19 Gorffennaf 1900.

ABERDAR-CLYWEDION.

 

Cjywed fod lluaws o wyr a gwragedd y gymydogaeth ar ymweliad a glan y mor, er nad yw yr hin wedi bod yn hollol ffafriol  iddynt yn ddiweddar.

 

Clywed mai araf iawn y mae y cynghor yn trefnu i ddod a'r baddonau a'r ymdrochle  cyhoeddus i ben.

Clywed fod. wmbredd o'r dref wedi myned i Benarth dydd Sadwrn, ac fod y merched wedi troi allan mewn style.

Clywed fod rhai ag oedd wedi gwneud eu  meddyliau i fyny i fyned i'r Paris Exhibition wedi newid eu barn eto, gan fwriadu yn awr i roi tro am y ffynonau, ac arelll i fanau  iachus y mor yn Sir Aberteifi.

Clywed fod llu a'u bwriad i fyned i ffair fawr Awat Caerfyrddin, a chan fod yr Hen Bacman yn argoeli bod yno hefyd, byddwch ar eich gwyliadwriaeth, oblegyd deuaf a'ch hanes i gyd yn ol.

 

Clywed fod rhai o ferched Foundry Town wedi ceisio yn galed am gael caniatad i fyned i'r chwareudy nos Sadwrn, ar eu ffordd yn ol o Benarth, ond fod eu gwylwyr wedi eu llwyr atal.

Clywed fod y cata beirdd yn Aberdar wedi digio yn dost wrth bwyllgor Eisteddfod Merthyr am beidio eu gwahodd i'r turn-out dydd Iau nesaf.

 

YR HEN BACMAN.  

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd B1210) (20 Medi 1900)

Tarian y Gweithiwr. 20 Medi 1900.

ABERDAR - CLYWEDION.


Clywed lluaws yn holi, Pwy yw yr Hen Bacman? ac wrth fyned ar fy rounds yr wyf yn gorfod ateb, er lles fy hun, mai nid Y FI yw e!


Clywed ereill yn dweyd mai hen ffwl yw yr hen bacman, ond gobeithiaf fy mod yn gallach na'r Johnny Fortnight yna sydd yn llyncu pryd helaeth o ymborth pobl dlawd Abernant pan fetha gael ei gyfran!

Clywed fod gwyr Tresalem wedi digio wrthyf am i mi eu galw yn genedl o bysgotwyr. Wel, yn enw pob khaki, pa ddrwg oedd tynu r casgliad hwnw pan maent yn byw mor agos at y samwns ?

Clywed mwstwr ofnadwy yn ffair Castellnedd, ac yr oedd yno snecyn o bacman yn treio swagro fel swell, ac er iddo geisio cuddio ei identity mewn siwt o ddillad flashy, adnabyddes ef wrth 'i drwyn.

Clywed fod breced o wyr Cwmaman yn gorfod cerdded milldiroedd wrth ddychwelyd o'r ffair, ac fod Cwmnedd yn adsain gan eu---! Wel dyna, gwell yw peidio dweyd y cwbl.

Clywed fod Sosialiaid yr ochr ucha' mewn penbleth dirdynol am nas gallant gael eu ffordd yn newisiad ymgeisydd cymhwys i Ward y Gadlys. Nid oes daioni mewn haerllugrwydd, yn enwedig o'r rhyw Sosialaidd.

Clywed fod Mr Bwmbast wedi cynyg ei hun yn ymgeisydd trwy gyfrwng papyr lleol, ond hawyr bach, 'does yna ddim parch pacman iddo o Gwmnantyrbwch i Gwmaman.

Clywed pawb yn canmol y tywydd, ond yn condemnio y DARIAN am fod rhanau o honi weithiau yn annarllenadwy. Cofied gwyr Llwydcoed a'r crydd mai bai Mishdir y Darian yw hyny, ac nid eiddo yr hen bacman.

Clywed fod un o drigolion Maesydre yn ymffrostio ei fod yn deall pwnc y rhyfel gystal ag un gwr yn y lle. Nid yw wedi cwrdd a gaffer y khaki hat, 'rwy'n sicr.

Clywed fod un bardd, pedwar cantwr, dau fwtchwr, ac un pacman o Foundry Town yn myned i Eisteddfod L'erpwl.

Clywed fod colier a labrwr o'r Gadlys yn bwriadu priodi Dydd Nadolig. Rhoddwch order, boys, i'r

HEN BACMAN.

 

 

 

 

……

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J7771) (10 Ionawr 1901)

Tarian y Gweithiwr. 10 Ionawr 1901.

 

BERDAR—CLYWEDION.

Clywed fod bardd o Heolyfelin yn AIL OREU ar y gadair yn Mhontycymmer y Nadolig.

Clywed fod hwter y Gadlys wedi gwella cymaint, nes, ar wawriad y ganrif, iddo roi un blast fawr o roesawiad iddi oedd i'w glywed o ben ucha i ben isa'r cwm.

Clywed fod ‘canu waits’ yn mynd mas o ffasiwn yn rhwydd, ac nid rhyfedd, canys y mae yr arferiad bellach yn cael ei ystyried yn ‘respectable form of begging.'

Clywed fod lluaws wedi addaw ‘troi’ er gwell ar ddechreu'r ganrif, ac os catwiff un bachan o Dresalem i fod yn dotal am dri mis, mae Mary Jane yn addo mynd gyta fa draw i Ferthyr - at Allor Hymen!

Clywed fod shew o garu a sportan ar heol Cwmbach ar nos Suliau, a'r tro olaf y daethum heibio, gwelais bacman bach o Gymro yn breichio dwy lodes landeg, ac yn sgothi pob math o storiau wrthynt. Os cymer match Ie, dyna lle bydd dress ar gost price!

 

Clywed fod mwstwr bidir sha cae Maes y Dre ar ddechra'r ganrif, a chywilydd ydoedd meddwl fod crugyn o screchgwn yn canu comic songs, &c., gerllaw ty lle y gorweddai corff marw. 

Clywed fod eisteddfod lewyrchus yn Siloa noson ola'r ganrif, a'r unig achwyniad oedd fod y gwobrwyon yn liliputaidd

Clywed fod rhai o efrydwyr y dref yn achwyn nad oes un iaith o gwbl i w chlywed yn y pentref. Nac ydoes, wrth gwrs, rhaid myned i Gwmbach neu Dresalem i glywed ieithoedd a  ——!

Clywed fod mwy o ymwelwyr a Merthyr o'r cwm hwn yn ystod y gwyliau nag a fu yno ar adeg gyffelyb erioed o'r blaen. Y mae hyny yn profi fod attractions yr ochr draw i'r mynydd, pe na bai dim arall yno.

Clywed fod ymgais egniol yn cael ei gwneud gan luaws, heblaw y Cynghorwr John Howell, i sicrhau heol o Gwmbach i Aberaman, ac mai ystyfnigrwydd asynol ar ran neb fyddai gwrthwynebu y fath fudiad bendithiol i drigolion dwy ochr y cwm.

Clywed fod snob o bacman o —— wedi dweyd wrth un arall yn yr orsaf nad yw efe yn bwriadu cario pac a phastwn bachog ddim yn hwy, am nad yw ‘edrych yn deidy,' ac mai bag neu bortmanteau fydd yn eu defnyddio o hyn i mas. Peidied neb a chamsynied hwnw am yr

HEN BACMAN.

 

 

 

 A close-up of a text

Description automatically generated with low confidence

(delwedd J7772) (7 Chwefror 1901)

07-02-1901

Tarian y Gweithiwr. 7 Chwefror 1901. 

ABERDAR — CLYWEDION.

Clywed fod marwolaeth a chladdedigaeth y Frenines yn destyn siarad yr holl drigolion, fel yn mhob ran arall o'r wlad.

Clywed fod y gwasanaeth coffadwriaethol a gynelid yn y gwahanol leoedd o addoliad wedi cael dylanwad er lles ar luaws o bobl, ac fod y trigolion wedi talu teyrnged  uchel o barch i goffadwriaeth y Frenines.

Clywed fod defosiwn pobl y rhan uchaf o'r cwm tuhwnt i'r lleill ac i ddydd Sadwrn fod yn debycach i'r Sul nag y bu erioed yn hanes y lle.

Clywed fod trachwant y tafarnwyr, er hyny, am wneud busnes mor ffyrnig ag erioed, ac er gwaethaf Proclamasiwn y Brenin i suspendo'r trade am y dydd, mynasant agor eu temlau yn y boreu a'r hwyr, gan gau am ychydig oriau yn y prydnawn.

Clywed fod llawer yn bexo nad oedd excursion yn myned i Lunden i weld angladd y Frenines, yn enwedig rhai o'r Gadlys.

Clywed fod rhai o r pacmen hefyd wedi tori deddf y Brenin dydd Sadwrn, ond pa ryfedd? —casglu yw ac a fu eu hanes hwy yn awr ac yn dragywydd.

Clywed fod llawer iawn o siarad am y ddarllenfa rydd, a dim ond siarad sydd pa bryd y gweithredir sydd bwnc arall. Syndod yr addewidion gwerthfawr geir adeg etholiad, ond wedi eu hethoi, ceir fod haner ein cynghorwyr ‘wedi eu cael yn brin.'

Clywed fod diwedd yr wythnos wedi troi yn lletwith iawn i rai — fod ereill mewn penbleth pa ddiwrnod allai y Sul fod, yn herwydd y Proclamasiwn

Clywed fod Ap Cardie yn lied wael ei iechyd, ac yn gyfyngedig i'w dy, ond medr ddefnyddio ei ysgrif-bin serch hyny. Hyderwn y ca adferiad buan, pe ond er mwyn cyfiawnu ei ddyledswyddau.

Clywed gwyr y wasg ar eu huchelfanau, ac yn llawn bywyd yn y dref, ac fod eu gwaith ar gynydd gwyllt, gan nad faint y parhao.

Clywed fod gwyr Tresalem yn dechreu ymysgwyd o'r llwch, ac yn penderfynu gwneud y Ile yn atdyniadol yr haf nesaf.

Clywed fod y gwaith tin wedi stopo.

YR HEN BACMAN.

 

 

 

 

A picture containing text, black and white, font, paper

Description automatically generated

(delwedd J7770) (28 Ionawr 1901)

28-02-1901

 

Tarian y Gweithiwr. 28 Chwefror 1901.

 

ABERDAR — CLYWEDION.

 

Glywed fod y dosbarth gweithgar yn fyw i angenion y dref y dyddiau hyn.

Clywed fod y Sosialiaid hefyd yn effro iawn, ond y drwg yw fod yr ychydig nifer sydd yma mor wyntog ac hunanol, yr hyn sydd mor annaturiol i rai yn honi fod lles y lluaws ganddynt mewn golwg.   

Clywed fod ymgeiswyr llafur i ymladd ar rai o'r Wards yn y frwydr agosol, a chan mai gweithwyr yw cyfangorff y boblogaeth, dylent gael cynrychiolaeth deg.

Clywed fod gormod o'r dylanwad gafferyddol yn cael ei arfer adeg lecsiwn, ac nad yw'r gweithwyr yn meiddio amlygu digon o annibyniaeth meddwl. Mae y deyrnas gafferyddol yn ymledu, gan nad beth a fynegir i'r gwrthwyneb.

Clywed fod y wledd fawr wedi troi yn Ilwyddiant mor bell ag yr oedd y danteithion yn myned, ond fod y gwlybwr a'r areithiau yn sal tuhwnt.

Clywed fod yno gyn-bacman yn i spowto hi yn iawn, ond nad oedd posib deall yr oll a lefarai— ei fod dipyn yn rhy fluent!

Clywed fod cryn edrych yn mlaen at Fancwet Mr Keir Hardie, yr aelod ieuengaf dros y fwrdeisdref. Darogenir y bydd yno gryn frwdfrydedd.

Clywed fod rhai wedi parotoi eu hareithiau eisoes, ac y bydd eu hyawdledd yn gwefreiddio'r dyrfa. Da iawn, os gwir.

Clywed fod y merched yn achwyn nad ydynt yn cael yr un manteision gwleidyddol a'r bechgyn, ac fod dwy ferch o'r Gadlys yn benderfynol o wthio eu hunain i Fancwet Keir Hardie.

Clywed fod Iluaws wedi eu gwahodd yno, ac yn eu plith ceir yr HEN BACKMAN.

 

 

 

 

 

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ
/ ē Ē /
ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː  B5237ː B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː
  deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː , ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG:
ɛ̄ ǣ æ

ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
 ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
 ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ ɔʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː
A̋ a̋

U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ U+2020 †
« »

 
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org

httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ

 
Hwngarwmlawtː A̋ a̋
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
 …..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́

Ə́ ə́

Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute

…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/
sion_prys_352_hen-bacman_tarian-y-gweithiwr_3791k.htm

---------------------------------------
Creuwyd: 08-03-2023
Adolygiad diweddaraf : 08-03-2023
Delweddau:

Ffynhonell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Arlein.
---------------------------------------

Freefind.
---
Archwiliwch y wefan hon
Cerqueu aquest web
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
Estructura del web

SITE STRUCTURE
---
Beth sydd yn newydd?
Què hi ha de nou?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait


Adran y Wenhwyseg / Secció del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
Edrychiadau ar y tudalennau / Vistes de les pàgines / Page Views
Web Analytics Made Easy -
StatCounter
Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres Estadístiques / View Our Stats