kimkat3537k Ymgom William a Dafydd. Y Tyst Cymreig. 2 Hydref 1868. Tafodiaith Morgannwg.

27-01-2021

kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
kimkat3537k Y tudalen hwn

0003g_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
.(delwedd 0003g)
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 
Ymgom William a Dafydd
Y Tyst Cymreig
2 Hydref 1868

(Tafodiaith Morgannwg) (“Y Wenhwyseg”)
 

 

 

6540_map_cymru_a_chatalonia_llanystumdwy
(delwedd 6540)

 ....

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J4212)

Y Tyst Cymreig. 02 Hydref 1868.

YMGOM WILLIAM A DAFYDD.

William a Dafydd yn siarad a'u gilydd am gyfarfodydd cynhyrfus yr wythnos ddiweddaf. William wedi myned i dy Dafydd y drws nesaf i gael whiff, a siarad am helynt y frwydr fawr etholiadol.

DAFYDD: Wel, William, shwd i chi eno. Dewch y mlan i'r cornal ma. Cwn, Mari fach, gad i William ishta fana.

WILLIAM: Hi ni wedi cal wthnos bôth gydar lecshwn ma rwthnos yn. Buoch chi yn un o'r cwrddi?

DAFYDD: Do fi fuo yn y Temperance All nos Lun, yn nghwrdd gwir Mr Bruce. Buo chi, William?

WILLIAM: Naddo, wir; ror arno i isha mind i dy'r cridd i gwirom esgid waith; ond fi fuo yn nghwrdd Mr Fothergill yn Dowlas nos Fercher. Fi glywas shew o son yn y gwaith am y cwrdd nos Lun.

DAFYDD: Wel, fi glywas hina son anghomon am gwrdd Dowlas. Fi weta hi shwd gwrdd odd nos Lun, a chi wetwch chitha shwd gwrdd odd nos Fercher, ac wetyn mi gewn wpod y cwbl.

WILLIAM: O'r gora; gewch chi ddechra, Dafydd, achos taw nos Lun odd y cwrdd cynta, a chwetyn fi weta ina am nos Fercher.

DAFYDD Wel, o ni wedi clywad shew o son am y cwrdd odd i fod nos Lun dros Mr Bruce, ac rodd whant arno hi i fod yndo. Wel, bothdu anar hawr wedi saith fi etho, ond erbyn mod i wrth yr All yr oedd y lle jest yn llawn. Fi sbectas fod rwpath i fod y noswaith ono ta beth. O ni yn ishta mlan jest wrth y platffor, a medda un odd yn ishta wrth 'mochor i — Dishgwilwch ar y crots a'r dynon ifanc yco yn llanw y galari, a gwelwch y. dyn yco sydd o'u blan nhw; hwnco yw i gaffar nhw yn Pentra-back [sic; = bach], ac ma nhw wedi gorffod dod yma eno i neid mwstwr i drio stopo y cwrdd, achos ta enw Mr Bruce yw o. Wel, ta beth, dyma y cwrdd yn dechra. Mr Stephens, y druggistar, yn y gatar, ac yn wir fe wetws pwpwl [sic; = gwpwl] o eire yn net anghomon, yn hol y meddwl i, a dyma fa yn galw ar Mr Tomos, gwnitog y Saison. Bron y gair cynta wetws a dyma nhw yn dechra gweuddi, Ie, ie, nace, nace, a chico a chlapo. Weitha, 'rodd an cal tipyn o lonidd, ond wedin dyma y mwstwr mawr. Pan odd an gweud enw Mr Richard, wrthi 'rodd pawb yn gweuddi wre ond pan y bysa fan yn gweud enw Mr Bruce, dyna rai yn gweuddi wre, erill yn gweuddi, Mas ag e, mas ag e. Yn diwadd fe ishteddws Mr Tomos lawr, a'r dynon yn gweuddi, yn hissan, ac yn cico trad; welso chi shwd beth 'riod. Or pawb yn gweld yn haws taw y crots yn y galari a gwithwrs Mr Fothergill odd yn gwneid y mwstwr, ac fe wetodd y cydeirydd wrthi nhw bod nhw yn chwara game y gallsa doi i chwara hi Wel, wetyn dyma

 

 

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd J4213)

Mr JAMES, y cyfreithwr, ar i drad. Chi wyddoch taw dyn Bruce trwyddo yw James. Os dodd hi yn ddrwg gita Mr Tomos, rodd i yn saith gwath gita Mr James. Wedi iddo weud cwpwl o eire yn awr ac yn y man, gorffod iddo ynte gwpla. Ond chliwso chi shwd beth bron 'riod ag ambell stroke or an rhoi.

Ar hol yny fe ddarllenws y cydeirydd lithyr oddiwrth Mr Howalls, Hynysgoi, yn gweud na allsa fe fod yno fel odda wedi haddo. Ar ol hyny fe ddath Mr

GEORGE MORGAN, stone-cutter, a dyna sport geso ni gita fe. Rodd a fel mwntibank ar y platffor, ac yn diwadd fe retws o un pen i'r platffor, ac fe gwmpws ar ei gefan yn fflat, a'i drad o dan y ford, a gweuddi, ‘Dyna fi miwn yn gynta, myn d---.' Trio dangos Mr Bruce a Mr Fothergill yn retag ras i'r Parlament ora wrth yny. Yr nesaf oedd

Mr SAMUEL JONES, o'r Cefan. Odd yn ddrwg geni weld Mr Jones yn cal i wrthnebi, wath dyn bach neis a thawal angyffretin yw Mr Jones: ond fe fu yn ddicon call i bido bod yn ir.

Yn awr dyma un o wyr Fothergill yn mynd i'r platffor; ond achos i fod a wedi trio stopo y sharadwrs o'r blan, chas ynta ddim sharad yn awr, a lawr cas a find. Wel, ta beth, yn diwadd fe ddotws y cydeirydd y penderfyniad i'r cwrdd, ac fe gunws lot angyffretin i dwylo, ac fe gunws lot efyd yn herbyn; yny yw, ichin gweld, lot o ddynon Fothergill. A thyna fel y cwplws y cwrdd od-da welas i riod.

WILLIAM: Wel, beth odd dynon Fothergill yn moin yn ngwrdd Bruce?

DAFYDD Oh, i chin gweld, i gal sturbo ac i drio stopo y penderfyniad i basso, achos ma nhw yn hawr yn gweld ta rwng Bruce a Fothergill y ma y frwydir.

 

 

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd J4214)

WILLIAM: Dyna fi nawr yn cal sponiad ar y cwrdd nos Fercher yn Dowlas.

DAFYDD: Wel, ia. Nawr, William, dewch i ni gal tipin o anes hwnw; chi allwch chi hadrodd anes yn well na fi, ond fi wetas i gora gallswn i.

WILLIAM: Hwn ni ddim, Dafydd, am yny efyd, ond fi weta ina gora galla i.

DAFYDD: Betti, ro weld y box bacco na i fi; fi gymra i whiff nawr tra bo William yn gweid y stori.

WILLIAM: Wel, fi etho lan i Dowlas, i chin gweld, bothtu saith o'r gloch. Dodd y cwrdd ddim i ddechra nes dodd hi wyth. Wrth find i'r lan drw'r hewl fawr, own ni'n gweld peth anghomon o ddynon diarth yn cered ar yd yr hewl. Mi ofynas i Dai Wil Shon Tomos — 'Beth yw'r oll ddynon ma, Dai ?' 'Widdoch chi ddim,' medda fa. 'Na hwn i,' meddwn ina. 'Oh, fi weta i chi,' medda fa. 'Ma cwrdd lecshwn gynta Fothergill yn School-room eno, ac ma fa wedi dod a bothtu wech cant o'i withwrs a'i gaffars gita fa, a ma fa wedi gageo specsal tain i find a gwir Byrnant ta thre eno ar hol y cwrdd. Wel, fi etho at y School-room. Odd y lle bron wedi llanw, ond fi sewetas i miwn i'r pen pella, i gael lle cyfleis i glywad. Bothtu cwarter wedi wyth dyma Mr Fothergill ar y stage, a aner cant ne drigen o'i bleidwyrs gyta ge, a reini gid o Byrdar a Merthyr, wath ma nhw yn gweid nag os dim CATH yn voto gita ge yn Dowlas. Ond ta beth, i gal dod at y pwnc, on te, Dafydd.

DAFYDD Ia, ia, William; cerwch chi mlan (pwff, pwff.) Dere a llymad o ddwr ma, Mari fach (pwff' pwff.)

WILLIAM: Wel, dyma Mr Overton yn cymryd y gatar. Fe wetws gwpwl o eire i acor y cwrdd, ond rodd yn awdd gweld bod row i fod cyn diwadd. Fe alws ar

Mr FOTHERGILL. Dyma fa ar i drad ac yn dechra seboni gwyr Dowlas, ond dim go. Achos i bod hi mor dwym, medda fe, fe dynws i got lawr, ac yn llewish i gris y bu o wetin yn siarad. Yn wir, fe gas lonydd yn lled dda efyd. Tipyn bach weithe o hissan, &c. Fe gwplws ta beth. Dyma y cydeirydd yn galw.

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J4215)

Mr W. GOULD. Pan ath Gould i'r lan, dyma hi off, gweuddi, sgrechan, whislo, ochain, a wchan fel hwch a haid o foch bach - clapo, cico, &c. Chliwso chi  shwd beth riod. Mr Gould, hun o brif ddynon y Chartis yn Merthyr, yn cuni ddwylo isha iddi nhw stopo. Na, dim; mlan a nhw, nes o'r diwadd i Mr Gould orffod ishta lawr eb weud un gair. Wedi iddo fe ffeili gal siarad, dyma

Mr C. GRIFFITH, gwnitog y Bedyddwyr yn Mer- thyr, ar i drad. Fe gunws fel tasa fa emprwr; daeth yn mlan at y ford mor stiff a phocar, ac fel sa fa yn gweud, ‘Nawr, fechgyn, y fi iwch dyn chi.' Ond fe gamsynws. Os odd hi yn ddrwg o'r blaen, rodd hi yn gant gwath nawr, sa le. Oh, ni chlywas i shwd fwstwr a row riod. Dyma y parchedig yn cymeryd glased o ddwr oddar y ford, ac yn i yfad o, gan feddwl y basa yny yn diffodd y tan mawr. Ond, dim yn llwyddo. Gorffod iddo ynte ishta lawr, a chas a weud dim gair.

DAFYDD: Bravo, bechgyn Dowlas (pwff, pwff.) Dynai thalu hi iddi nhw am nos Lun.

WILLIAM Wel, ia. Stopweh, Dafydd, dw i ddim wedi cwpla yto; mar gora nol.

DAFYDD Began pardwn, William; allswn i ddim pido, wir. Bechgyn ffamws yw bechgyn Dowlais na efyd. Cerwch mlan, William (pwff, pwff.)

WILLIAM; Wel, nhw welson nawr nad odd dim hiws yn byd i drio passo penderfyniad, na chisho gan neb i sharad dros Fothergill, a thyma Mr Fothergill a'i ddynon mas o'r room yn nganol y mwstwr rhyfedda a'r spree fwya welso chi riod. Wel, ta peth. Wedi i wyr Dowlas gal y room iddi nhw inan, dodwd cydeirydd arall, wath odd yr en hun wedi mind. A dyma gwrdd ffamws wetyn. Y bechgyn yn sharad fel dynon efyd dros i hegwyddorion, ac yn diwadd dyma benderfyniad yn cal ei gynig a'i basso, taw Mr Richard a Bruce odd i dynon nhw i find i'r Parlament. Cariwyd y penderfyniad eb un llaw yn i erbyn a. Dyma wre dair gwaith i Richard a Bruce; a dyna ddiwadd y cwrdd doniol yn Dowlas.

DAFYDD: Wel, wir, ma petha fel hyn rhi ddrwg efyd. Pam na naiff Mr Fothergill stopoi ddynon i ddod gyta ge fel hyn i bob man, a'i stopo nhw i sturbo cwrdda dynon erill; wath fe all fentro fod o yn gwneid mwy o ddrwg iddoi inan nac o les.

WILLIAM: Gadewch iddi nhw, Dafydd, i ymladd a'i giddyl — Bruce a Fothergill — ma Mr Richard yn saff gita ni. Ag own ni yn licoi clywad nhw yn curo dwylo yn Dowlas pan y basai henw a yn cael i ddweud.

DAFYDD: O nhw run fath nos Lun yn y Temperance All. Ond dodd y crots ar y galari ddim yn gwpod i gwers yn dda, wath o nhw yn dechra catw mwstwr witha pan y bysa henw Mr Richard yn cal i weud; a sa chi ddim ond yn clywad i lidar nhw yn cymeni pryd hyny; ac yn gweud, ‘Stopwch, stopwch, enw Mr Richard yw hwna.'

WILLIAM: Wel, wir, raid i fi find i'r ty efyd. Noswaith dda chi gyd. Noswaith dda chi, William dewch miwn riw noswath yto. O'r gora.

 

 

 

Cyfeiriad y tudalen hwn: www. []kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_312_ymgom-william-a-dafydd_1868_3537k.htm
Creuwyd:
27-01-2021
Adolygiadau Diweddaraf: 27-01-2021

_______________________________________________________________
DIWEDD
_______________________________________________________________

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc?
Esteu visitant una pàgina of the Web "CYMRU-CATALONIA" (= Galles-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia)
Website
Weə-r äm ai? Yüü ää-r víziting ə peij fröm dhə "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait (Rii-spélt Íngglish)
 

Llyfrau ac Erthyglau yn y Wefan Hon / Llibres i articles en aquest web
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats