kimkat3609k Llythyrau Wil Cwmbychan. Rhondda Leader 1911-1912. Ma’ rhyw ysfa wedi dod droso i yn ddiweddar am ga’l ’scrifenu i bapyr newydd.

08-01-2026, 03-12-2021

● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ●
kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat0219k Y tudalen hwn

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..


Gwefan Cymru-Catalonia
El lloc web de Catalunya i Gal·les

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

Llythyrau Wil Cwmbychan.
(Rhondda Leader 1911).

 

Map

Description automatically generated
(delwedd 7282)

 

Yn nhafodiaith ardal y Rhondda y mae “Llythyrau Wil Cwmbychan” – mae sôn yn y testunau am Donypandy (gweler y map isod). Yn y Rhondda y mae Tonypandy neur’ “Pandy”, a saif o fewn tiriogaeth y Wenhwyseg. “Wil Cwmbychan” yw “wil o bentre Cwmbychan”, sef pentref Cwmafan yng Nglyn Nedd, ger Port Talbot ac Abertawe.
...

Map

Description automatically generated

(delwedd J6243)

 

28 Hydref 1911

04 Tachwedd 1911

11 Tachwedd 1911

25 Tachwedd 1911

02 Rhagfyr 1911

09 Rhagfyr 1911

30 Rhagfyr 1911

06 Ionawr 1912

27 Ionawr 1912

 

(delwedd J6213)

 

 

None

(delwedd D7603) (28 Hydref 1911)

Rhondda Leader 28 Hydref 1911

 

Llythyrau Wil Cwmbychan.

 

At y Golycydd.

 

Syr, - Ma’ rhyw ysfa wedi dod droso i yn ddiweddar am ga’l ’scrifenu i bapyr newydd. Wn i ddim beth yn y byd mawr yw a, ond galla’ i ’we’d hyn, i fod a wedi mhoeni i ys lawar dydd. Ma’ fa’n wath na diffyg traul, a wi’n teimlo os na rho i fent iddo, byddai siwr o explodo. Mae a’n ’mhoeni i’n od yn y nos; wi’n colli oria’ o gyscu o’i achos a, a ma’ Moli weitha yn neido lan yn frawychus reit wrth yn ’glywed i’n ochan.

 

“Be’ sy’ arnat ti, Wil bach?” gofyna. "Ga i mo’yn doctor atat ti?”

 

Fe’i clywas hi’n gwed wrth wraig drws nesa’ ddo. “Dear, dear, Mrs. Webster, I’m sure I don’t know what is the matter with William, my husband. I be afraid he’s in the middle of decline." “Dear me," eba honno’n ol, “he looks very well, too. Have you asked the doctor to come an’ see him?" "No," ateba Moli, "but I think I will."

 

Druan o Moli, o’dd hi ddim yn gwpod yn ’ghlefyd i, a ma’ hi’n ffaelu a deall beth sydd matar arno i. "Ma rhwpeth od arnat ti, Wil," eba hi bore heddi amser brecwast, “ ’rwyt ti’n ochn’ido ishta tarw yn y nos, a ’dyw a’n effecto dim ar dy ’stymog di. Wyt ti’n byta mor hearty ag erio’d. Os rhwpath yn dy flino di?”

 

“Os, Moli,” eba fi, “ma’ ’na ryw lwmpyn lawr ma yn y mrest i, a ma fa’n ’y mlino i’n enbyd."

 

“Diffyg traul, Wil bach,” eba hi, "treia Quinine Bitters ato fa, os shifftiff rhwpath a fe shifftiff wnw fa. Fuws Bet yn ’waer yn godda’n enbyd odd’wrtho am flynydda, a mi wariws, do, scorodd o buna ato, ond fasa ’run man iddi towlu nhw i’r afon. Da’th Doctor Jones i’r ty^ rhw ddiwrnod, a dyma fa’n gofyn i Bet, beth odd matar arni. “Wyt ti’n dishgwl fel cilog twrci,’ eba fa, “a dyw’r lliw coch ’na ddim yn liw iachus, ’byca i. Wyt ti’n godda oddwrth diffyg traul, ferch?” ‘Otw, syr,’ eba Bet, ‘ma fa’n ’y mhoeni i’n enbyd, syr.’ ‘Oh,’ eba’r hen ddoctor, ‘cymar botelad o Quinine Bitters; wnaiff a fwy o les i ti na dim sy’ gen i yn y surgery.’ A mi wna’th, a buws hi ddim yr un fenyw byth wetyn. Treia di fa, Wil, ma’ fa’n siwr o ’neyd lles i ti."

 

“Thankiw i ti am dy gounsel," eba fi, “ond nid diffyg traul sy’ arno i, a do’s dim un sort o Quinine Bitters shifftiff hwn i fi. A gwed y gwir wrtho ti, Moli, do’s dim doctor all wella hwn. Wel di, ma’ fa tu hwnt i’w gallu nhw er mor glefar i nhw.”

 

“Wil bach," eba Moli a golwg frawychus arni, “ma’n rhaid dy fod ti’n dost iawn; tyn dy ddillad a chera i’r gwely nawr ar dy gyfer. Mynai i wel’d Dr. Jones nawr, gwel’d beth wetiff e am danat ti”: a off a hi i ercyd ’i bonnat a chape.

 

“Aros dicyn bach," eba fi, “glywast ti ’riod am y clefyd ’scrifenu?”

 

“Clefyd ’scrifenu?” eba hi yn syn reit, “naddo i’r dyn; glywas am y clefyd melyn, clefyd y galon, a chlefytach fel ’na. Shwt glefyd yw y clefyd ’na, Wil?”

 

“Wel, ma’ fa’n anodd i fi esponio fa, ti’n gwel’d. Ma fa’ ishta ryw lwmpyn mawr ar y mrest i, a ma fa mor ddrwg fel wi’n ca’l gwaith ca’l yn anal. Ma fa’n wath y nos na’r dydd, wn i ddim pam, a’r hyn sy’n od o bwthti fa yw nag yw a’n effecto dim ar y myta i. Peth od arall a bwthti fa yw ’i fod a yn ’ala i smoco rhyw lot digynyg. Welast ti ddim dyn tost yn gallu smoco llawar ariod, do fa? ond am hwn, mwya’ i gyd fydd a arnat ti mwya’ o faco sy’ isha ar y gwalch.”

 

"Wel, am clywch y dyn, rhw glefyd od digynyg yw hwna. Os llawar yn marw o hono fa, Wil?”

 

"Na, chlywas i ddim fod neb wedi marw o hono fa. Ond ma’r patient yn myn’d yn dost digynyg ar brydia."

 

“Os dim moddion ar ’i gyfar a, Wil?"

 

“Wel, os ma moddion i’w ga’l, ond taw papyr i’w a.”

 

“Papyr, Wil, papyr? Chlywas i ddim shwt beth a ’nghlustia ariod. Papyr yn gwella clefyd!”

 

“Ma’ na lawar o betha wyt ti ddim wedi clywad, Moli. Dim ond papyr sy’n gwella hwn, a digon o bapyr. Mwya’ o bapyr gai di, gora’ i gyd. Glywast ti am y bardd mawr ’ny, Shakespeare? Wel, fe gath ’e trwch ofnadw o’r clefyd ’ma, a mi usws rhw dorath o bapyr. Dyna Gwilym Hiraethog wetyn; ’ro’dd Gwilym yn bregethwr mawr, bardd mawr, a ’scrifenwr mawr. Odd isha llond cart o bapyr arno fe."

 

"Y dyn, chlywas i ariod shwt nonsense. Llond cart o bapyr i wella tipyn o bo’n yn y frest! Wyt ti’n dechra dyli, Wil? Sat ti’n gwe’d fod mwstard arno fa, mi’th gredwn di.”

 

“Wel, ma am’all un o nhw’n rhoi tipyn o fwstard arno ’ed, a ma fa’n llosgi fel y cythrwm. Ond nid mwstard melyn yw a, Moli, mwstard du."

 

"Mwstard du, y dyn; pwy glywodd son am fwstard du? O’n nin’n [sic; = ni’n] gwed fod ti’n dechra dyli, Wil. Llond cart o bapyr, a mwstard du! Ma’n rhaid i fi ol doctor, nid at dy frest di ’nawr, ond at dy ben di."

 

 

“Aros ’to dicyn bach, Moli. ’Rhyn o’n ni’n feddwl yw hyn. Rhw ysfa am ’scrifenu yw’r po’n ’na, a’r peth gora i’r patient yw dicon o bapyr gwyn i ’scrifenu arno. Wrth cwrs, ar ol ’scrifenu arno, rhaid ’i anfon a i’r papyr newydd a’i brinto fa. Pan ddaw a mas miwn print ma’r clefyd yn gwella."

 

"Ond beth am y mwstard, Wil?”

 

“Wel, wylia yn ffigyrol o’n ni, ti’n gwel’d. Gwed ti ’mod i’n ’scrifenu rhwpath saucy am ddyn, ma’ fa’n llosgi ticyn ar y dyn o’n ni’n ’scrifenu am dano. Dyna’r mwstard yw hwna. Ma’ pob dyn mawr wedi ca’l y po’n ma’n i frest, rhw pryd, a dim ond papyr a phrint all i wella fa."

 

“Wel," eba Moli a’i llygad yn fflachio, “wi’n gwpod o’r gora beth yw’r lwmpyn ’na. Gwynt yw a i gyd, ’ngwas i, a myna ticyn o bills i warad a. Wnaiff mwy o ddaioni i ti lawar na phrint."

 

WIL.

 

 

 

 

 

None

(delwedd D7607) (04 Tachwedd 1911)

 

Rhondda Leader. 4 Tachwedd 1911

 

Llythyrau Wil Cwmbychan.

 

At y Golycydd.

 

Diolch i chi, syr, am g’oeddi y llythyr d’wetha alas i chi. ’Ro’dd a’n etrach yn biwr miwn print, a phan gwelws Mali fa bu hi jest a cha’l fit.

 

"Y llepryn," eba hi, "os genti ddim dicon o waith heb ’scrifenu rhw hen sothach fel ’na? Ma’ arna’ i gwiddyl meddwl fod ti’n wr i fi. Y clefyd ’scrifenu’n wir! Fysa’n well i ti lawar dori ticyn o go’d i fi erbyn bora fory, ’n lle gneyd ffwl o d’hunan fel ’na. Wn i ddim beth wetiff ’newyrth William pan glywiff a mod i wedi prioti un dicon dwl i ’scrifenu am ’i wraig miwn papyr newydd. A beth gymrws afal arnat ti i ’ngalw i’n ‘Moli’? Mali w’ i, cofia di, a Mali fydda i er gwitha’r clefyd ’scrifenu na.

 

"Meli fach," eba fi pan ges i le i roi gair miwn ar ’i edge, “cymar bwyll. Nid ’y mai i odd a fod d’enw di wedi ’i droi yn Moli yn papar. ’Scrifenas i a’n ddicon plaen, ond ma’ bechgyn y printars ’na, wel’ di, yn ca’l ’i blino’n arw gan rhwpath ma’ nhw yn ’i alw yn ‘Printar’s Devil.’ W i ddim yn gwpod p’un a oti nhw yn ca’l ’i blino gan rhacor o gythreuliaid na dynon cyffretin, ond dyna weta nhw i gyd, os bydd bai yn rhwla, “Oh, that’s the ‘printar’s devil.’”

 

"Paid a wlia am ‘brintar’s devil’ ”, eba Mali. “Ma’ mwy o gythral, mi wna’n llw, yn yr un ’scrifenws y lol na’r printar ddotws a yn y papar. Wi’n ’napod rai o’r bechgyn ’na sy n gwitho gyta Evans a Short, a wi’n gwpod taw bechgyn nêt i nhw. Dyl’sa fod cwiddyl ar dy galon di wed shwt betha am ddynon respectabl."

 

“Wyt ti ddim yn gwpod beth wi’n feddwl," eba fi. “O’n i’n gwed dim yn erbyn caractor y printars, cofia. Ma’ nhw i gyd, mor bellad ag wi’n ’napod nhw, yn fechgyn decha iawn. Ma’r boss, wel di, ’n flaenor gyta’r Baptis yn Jerusalem, a ma’n rhaid i fod a’n fachan weddol upreit, ne fusa wedl ca’1 y kick-out o’ na slawar dydd. Ma’ bucal Jerusalem, wi’n clwyad, yn fachan od o strêt, ac os yw popath ma’ nhw’n wêd yn wir am dano fa, ma’ fa’n batrwn i hanar pregthwrs y Rhondda. Na, o’n ni’n gwêd dim byd yn erbyn caritor y printars, ond gwêd o’n i fod ’na rhwpath - beth alla ’i alw fa? - institution, greta’ i - yn myn’d wrth yr enw ‘printar’s devil,’ ac ar ’i ’sgwydda fe rhaid i ti rhoi y bai fod d’enw di wedi newid o Mali i ‘Moli.’ "

 

"Wel," eba Mali, “mi glywas ’rhen Shon Glangors yn son cetyn am roi chwara teg i’r cythral, ond wyt ti’n addo ticyn bach at ’i gyfrifoldeb a, greta i. Chreta i yn y myw fod ’na un cythral mwy yn shop y printars na sy’ yn shop Jones y blaenor. Ond, gad y cythral ’na yn y man ’na, ’rhyn wi’n wed oti fod a’n gwiddyl digynyg fod ti’n ’scrifenu shwd lol a ’na i r ‘Leader.’ O’n ni’n arfadd meddwl yn uwch am y golycydd, a wi’n synu i fod a wedi condescendo i brinto shwd stwff. Ma’n rhaid fod isha news yn ddigynyg arno cyn busa fa yn gatal shwd fol-lal ddod allan yn i bapar."

 

“Dyna lle ’rwyt ti’n camsynad," eba fi. “Wyt ti’n mesur pawb wrth dy lathan dy hunan. Ma’ llawer o dy sort ti i ga’l ar hyd a lled y Cwm ’ma, a gall’sa dyn diarth gretu fod holl ddoethineb yr oesa wedi ’i grynhoi yn ych pena chi. Sa ti’n gwpod y cyfan, ma’ ’na lawar o ddynon, a rhai lled brominent ’ed, wedi clappo ’nghefan i am y llythyr ’na. Dyna ’rhen Ddavies, yr Hengwrt, i ddechra, a ma’n rhaid i ti addaf fod e’n gwpod pwy ochor i’r bara ma’r menyn, achos o’dd i’ dad a’n catw ysgol cyn i ti na fi wel’d gola dydd ariod. Wel, fe dda’th yr hen Ddavies ata i y dydd o’r bla’n, ac eba fe, 'William, ma’n rhaid i fi’ch congratulato chi ar yr ysgrif ddyddorol ymddangosws yn y papar y dydd o r bla’n. Chi’n gwpod ffordd i ’scrifenu’n ddios. ’Ro’dd y situation yn humorous dros ben, a’ch ffordd chi o’i drin a yn ddicon i ala dyn pren i werthin."

 

“Thankiw, syr,’ eba fi, ’na’r tro cynta’ i fi ariod rhoi pen wrth bapar.’

 

“ ‘Mwy o credit, i chi. William bach. Ma’n evident fod gyta chi a true sense of humour, a gnewch ych gora i ddevelopo fa; ma’ fa’n rare treasure dyddia hyn, cretwch chi fi.’

 

“Druan o Davies," eba Mali, “o’n ni’n arfadd cretu fod ticyn o sens yn ’i glopa fa, ond wi’n gwel’d taw’r un clai common yw e a ni. ‘Sense of humour,’ ’n wir! Pan o’n i’n grotan ‘ffwlbri’ fydda nhad a mam yn galw shwt lol a hyna. Ond ma’r o’s yma dicyn yn fwy polite nag o’dd ’rhen bobol slawar dydd. Caib fydda nhw’n galw caib, ond erbyn hyn rhaid rhoi ticyn o bolish ar bopath rhag ofan offendo rhw grachach o fobol. Sa ’rhen Ddavies yn gwêd ’i feddwl, fe wetsa wrthot ti fel dyn taw ffolineb o’r sort dwla o’dd dy lythyr di, a taw ffwl tost o’t ti am ’i ’scrifenu a. ‘Sense of humour yn rare treasure,’ wir! Wn i am rwpath sy’n fwy rare o dicyn. Sens yw hwnw ’ed, ond taw common sens yw a, a fasa’n fendith fawr i ti a’r giwad sy’n ciso dy wthi di’r lan i ga’l ticyn bach o bono."

 

“Wel, ma’n rhaid i fi wêd dy fod yn encouragin’ iawn i ddyn acha dechra ’i yrfa lenyddol, Mali. Ond, fel ’na ma’ i wedi bod, ac fel ’na bydd hi ’ed, ’bysa i, hyd ddiwedd amser. Ma’ gan bob dyn mawr ’i ‘swmbwl yn y cnawd,’ ishta gwetws yr Apostol. Fe gas Dickens, medda’r experts, wraig ddicon anghariadus, a dicon helbulus o’dd ’i fywad a. Dyna Carlyle a Ruskin, wetyn, ’ro’dd yr harn wedi llosgi’n ’i c’lonna nhw o achos ’i gwracadd. A fel ’na wi’n gwel’d hi ’n mhob cylch."

 

“William, dyna ddicion ar ych ensyniadau chi." (Pan fydd mwnci Mali lan, “William" a “chi" mae ’nghalw i bob amsar). “Phriotas i ddim o chi i ga’l yn insulto fel hyn. Rw’ i wedi bod yn wraig dda i chi ’rhyd y blynydda, ac o’dd popath yn myn'd yn weddol hyd nes i chi ga’l y clefyd ’scrifenu ’na. Os nag wi’n ych suito chi’n awr, mi ä i ’nol at ’y mham hyd nes y b’och wedi gwella o’r clefyd. Ruskin a Carlyle, yn wir! Alla i enwi rai myn’wod sy lawar rhy dda i’w gwyr, ond wi’n gobitho ’mod i wedi codi yn rhy uchel i rhoi brath yn nghalon y dyn sy’n dad i ’mhlant i. Os nag ôs geni lawar o sense of humour, falla fod geni ddicon o gommon sense i wpod pryd ma’ tewi ar bwnc fel yna."

 

Ac off a hi at ’i mam ar ’i chyfar.

 

WIL.

 

 

 

 

 

None

(delwedd D7605) (11 Tachwedd 1911)

Rhondda Leader. 11 Tachwedd 1911

 

 

Llythyrau Wil Cwmbychan.

 

At y Golycydd.

 

On i’n dicwdd bod miwn cwrdd Proffesor Levi rw bythewnos nol yn Tonypandy, a ma’n rhaid i fi wed fod y bachan bach wedi ’i gneyd hi’n biwr digynyg ’ed. Bachan a future iddo fa yw Levi ys dywad y Sais, a dyw a ddim yn secrat yn y byd ’i fod a a’i lycid ar Shir y Cardis fel membar o’ Parliament. Wi’n ’napod ’i dad ys blynyddau; hen wr piwr digynyg yw ynta ’ed, a stim dowt i fod a wedi gneyd gwasana’th mawr i Gymru a’i phlant wrth olycu y "Drysorfa Fach" mor ragorol am shwt lot o flynydda. Pan o’n ni’n grwtyn, dim ond dou bapyr o’dd yn arfadd dod i’n ty ni - y “Drysorfa Fach” a “Banar” Gee. O’dd nhad yn arfadd gwed taw i ni’r plant o’dd a’n prynu’r “Drysorfa," ond chelsa neb olwg arni nes ’ro’dd e’ wedi myn’d trwyddi o glawr i glawr, advertisements a chwbl. Am y "Fanar," ’ro’dd hi’n hanar-cysegredig. Fe gym’ra nhad i lw ar air ’rhen Domos Gee; ’ro’dd a’n cretu nag o’dd dim shwd ddyn yn y wlad ag e’ - a wara teg iddo, ’ro’dd a ddim ’mhell o’i le ’ed.

 

Ond am Levi o’n ni’n w’lia. Chip o’r hen bloc yw e’, a ma fa’n siwr o neyd marc, cretwch chi fi. O’dd ’i ara’th a ar ’rhyn ’ro’dd y Llywotrath bresenol wedi ’neyd yn werth myn’d spel o ffordd i’w chlywad. Dangosws yn ddicon plaen taw y Liberals sy’n myn’d i wella cymdeithas, a’i bod nhw ishos yn gwitho tra’r oedd y Soshaliad yn gwiddi. Ac os o’s rhwrai yn gallu gwiddi, y Soshaliad yw rh’iny. Ma’ nhw’n byw ar widdi, ac os na fydd ’na ddim i widdi o bothti, wel, fe wna’n rhwpath. ’Rhyn wi’n ffaelu deall yw hyn: ma’r Soshaliad yn gwed taw ’i petha nhw ma’r Librals yn paso yn y Senadd, ac eto i gyd, nhw yw ’rhai sy’n screchan mwya’ am droi’r Llywotrath ’ma dros y drws. Ma’n rhaid i fi wed nag wi’n deall argument fel ’na. Os taw mesura Soshalaidd ma’r Llywotrath ’ma ’n paso, pwy isha troi nhw mas sydd? Dyna’r very thing, greta i, ddyla’i pleso nhw. Ond y gwir am dani, Mishtir Golycydd, oti fod y Librals yn tori’r tir o dan trad y boys hyn, a dyna sy’n gneyd nhw mor gas, ma’ nhw wedi dod i gretu taw gyda nhw ma’ monopoly diwyciad cymdeithas, ac os bydd rhwun yn eisho gneyd ticyn yn y cyfeiriad ’ma ’blaw nhw look out yw hi. Dyna Keir Hardie i chi. Dyn gas y cic out gan ’i genedl ’i hunan, ac o’s dim son i fod a wedi cwni’i fys bach i helpu un dosbarth o withwrs, fe yw’r dyn sy’n mynd ar hyd a lled y wlad ’ma i feirniatu popath ma’r Llywotrath ’ma ’n gisho ’neyd. Ma fa fel nobyn ymofyniad ar lwybr diwyciad, ac os gweliff a rhw fesur yn dod o’r workshop Rhyddfrydig, ma’ fa ar flaena’n dra’d ar unwaith yn gofyn yn scornllyd, “Pwy hawl o’dd gen’ ti, y labwst, i ddod ffordd ’ma cyn i fi roi caniatad i ti?” Sa Hardie a’r giwad sy gyta fa ’n ca’l ’u ffordd, ddelsa dim un math o wellianta i’r withwr hyd nes y bydda nhw yn y Cabinet. Ma ’ma dicyn o wa’niath rhwng Soshalath a social reform, a fe aiff yr express Rhyddfrydig yn ’i bla’n, cyfartha cwn Hardie faint a fyna nhw.

 

Wel, i newid ymatrodd dicyn, ys dywad Jones y pregethwr, beth i chi’n feddwl, dyn, o’r glanastra ma’r Italiaid yn gneyd yn Tripoli ? Wi wedi darllan y papyra dyddiol ’ma ’n fanwl, a ma’ rhaid i fi wed fod y’ngwa’d i’n berwi wrth ’i ddarllan nhw. Meddylwch ’i bod nhw yn bwtchera’r dynon duon ’na wrth y milodd heb un sort o escus. Nid rhyfal wi’n galw peth fel ’na, a wi’n synu fod y gwletydd erill ’ma ’n gatal i’r macaroni pabyddol gario ’mla’n fel ma fa. Son am Grist’nogath! ’Do’s dim mwy o Grist’nogath miwn peth fel ’na nag sy miwn cwt ci Twm Deio. Stim dowt gen i fod ’r Italians wedi meddwl bod gyta nhw soft job ar ’i dwylo, ond ma’ nhw wedi cym’ryd mwy o gnoad na allan nhw ’i lyncu, a ma nhw’n dechra ffindio ’ny mas ’nawr. Ma hi just myn’d ’n drad moch arni nhw cyn ’i bod nhw wedi lando bron, a’r nefodd sy’n gwpod shwt drefan fydd arni nhw pan a’n nhw mas i’r wlad ticyn bach. Wi’n ofni bydd rhaid i nhw ’i roi lan yn bad job. Netho nhw fawr o beth a hi yn Abyssynia slawar dydd, a stim gopath y gna nhw iotyn yn well yn Tripoli. Well i’r Italian fyn’d ’nol i werthu ice-cream o lawar, ond wi wedi rybuddio Jane Ann nag yw hi ddim i brynu werth dima gyta’r creduriaid digydwpod rhacor. - Ych ufudd was, WIL.

 

O.Y. - Da’th Mali ’n ol dranno’th wedi ’ngatal i - ffraews a’i mham, a ma hi’n awr ’n foddlon, eba hi, i roi lan ar clefyd ’scrifeni.

 

 

 

 

None

(delwedd D7599) (25 Tachwedd 1911)

25 Tachwedd 1911

 

Llythyrau Wil Cwmbychan.

 

At y Golycydd.

 

Ma’n depyg bod amserodd anbydus o’n blan. ’Mhob twll a chornal dim ond son am strike glywa i, a ma Mali just myn’d yn hippish wrth feddwl fel ma’ prish petha’n cwni. ’Rhen Sochaliaid ’na sy’n ’i ’neyd a i gyd," eba hi, "a wi’n stwmp fod Jane ’y ’wa’r wedi prioti un o nhw, a ma ’i chlywad hi’n speecho fel y bydd petha o dan Llywotrath Sochaladd yn y ngyru i’n dost reit."

 

“Paid a becso Mali fach,” eba finna’n ol, “stim o petha mor withad a ’na ’ed, ac am y Llywotrath Sochaladd, stim isha i ti boeni dy ben ’nghylch ’wna.”

 

Ond, yn y ngwir i, golwg dicyn yn dywyll wela i ar betha. Un peth yw wlia am strike, peth arall yw dod trwyddi yn weddol ddecha. Wi ddim wedi anghofio strike y Cambrian eto, a os arna i ddim rhyw hirath mawr am un arall. Stim dowt fod petha yn ddicon drwg; wn i am lawar yn gwitho’n ’run heading a ti nag os gyta nhw ddim llawar yn spâr ’rol talu’n crots, a os bydd llwyth o lo ar y papyr bach, wel, ma’r ticyn sy gyta nhw i fynd sha thre yn fach digynyg.

 

Wi’n cofio nhad ’slawar dydd yn dod sha thre a thri swllt yn ’i bocad wedi gwitho’n galad trw’r bythewnos; ro’dd ’i grwtyn a wedi myn’d a’r rest. ’Ron ni’n wech o deulu, a beth o’dd triswllt i brynu ticyn o fara a lluniath ar ’n cyfar ni, ’blaw son am dalu wech swllt ’r wthnos o rent! Wi’n gallu gwe1’d mam nawr yn ishta yn y cornal a’r triswllt yn un llaw, ac yn plethu ’i ffetog a’r llaw arall wrth drio cysitro ffordd o’dd hi’n mynd i ga’l dou pen y llinyn at ’i giddyl. Do, welas mwy; gwelas y dagra’n dod yn ffrwd o’i llycid, a ro’n ina’n sefyll ac yn etrach arni, a ffili deall am beth o’dd hi’n llefan. ’Ro’dd tri swllt y pryd ’ny yn ffortshwn bach i fi, ac ’ro’dd gwel’d mam yn llefan a ffortshwn yn ’i llaw yn beth tu hwnt i’m meddwl fach i ’i amgyffrad. Ond, dewch chi, ddeso i i wpod yn well, a ma’ dagra mam pryd ’ny wedi llosgi’n eirias ar ’y nghalon i byth wed’yn.

 

Ia, son o’n ni am y strike, a i hyny daw hi os na ddangosif y mishtri a’r gwithwrs dicyn bach mwy o ysbryd plycu. O’n in darllen llythyr Mabon yn y papar pwy ddydd, a o’ni’n cretu fod ’rhen fellow yn i gwed hi’n od o sensible ’ed. ’Ro’dd a’n dangos fel o’dd dynon, gwracadd, a phlant yn gorfod godda ar amsar strikes, a o’dd a’n gwed peth arall ’ed i ni’r gwithwrs ddim yn ’i gofio bob amsar – ma’ ’na ddynon bach yn godda trw’r strikes nag os gyta nhw ddim llais na shar yn ’n cwerylon ni. Peth dicon haws yw rytag lawr y shopwrs ’ma, a’u galw yn llatron, rack-rentars a phetha fel ’na; ond ’wara teg i’r gwr bonheddig ’ed, ma’n dda i ni lawar tro fod am’all i shopwr a dicon o galon gyta fa i bido cau shop pan o ni mâs ar strike. Ma’ ’na rhai common yn ’i plith nhw, stim dwywaith, ond stim o’i’n deg i libello class achos un neu ddou.

 

Ia, dyna o’dd Mabon yn ’i wed, fod amsar plycu wedi dod, a os o’s arbad strike i fod, wel, plycu bydd rhaid. Wi’n ddicon hen ’nawr i wpod fod isha dou i ’neyd cweryl bob amsar, a wi wedi dyscu peth arall ’ed, fod isha dou i ’neyd heddwch. Stim dishgwl settlo i fod os na fydd y ddwy ochor yn fo’lon rhoi ffordd ticyn bach. (A o’s dim isha i fi wed rhwng cromfacha fel hyn taw’r mishtri ddylsa roi fwya’ o ffordd). Ma’ gento ni i gwithwrs gase rhy dda i ni ’i spwylo fa wrth fehafio fel lot o blant, a ma dyletsw’dd ar y mishtri i’n trin ni fel boda resymol, a nid fel lot o automatic machines. In short, ys dywad Dai Sais, cwestiwn rheswm yw hwn, a stim ond rheswm a synwr cyffretin a ddaw a chyfiawndar i’r ddwy ochor. O’s geni ddim r’w dwmpyn o ffydd yn y boys ’ma sy’n gwiddi am ’r whole hog bob amsar. Fel gwetws rh’wun dydd o’r bla’n, “As a battlecry it is splendid, as a business proposition it is absurd." Na, ma’r ddwy ochor yn gorfod ’lowo ticyn miwn bargan, a wi’n cretu, os dangosif y mishtri a’r gwithwrs dicyn o ymdrach i ddod i gwrdd â’u giddyl, y cawn ni enjoyo cino’r ’Dolig leni fel arfadd. Ys dywad Jones y pregethwr ar ddiwadd ’i brecath, “Hyn fyddo’u ran.” – Ych ufydd was,

 

WIL.

 

 

None

(delwedd D7602) (02 Rhagfyr 1911)

Rhondda Leader. 2 Rhagfyr 1911.

 

Llythyrau Wil Cwmbychan

 

At y Golycydd.

 

Ma’ hi wedi bod yn helynt budr yn yr eclws wi’n belongad iddi. Stim bucal wedi bod gyta ni ys blynydda, a o’dd rhai o’n pobol ifinc ni’n cretu ’i bod hi’n bryd i ni symud ymla’n gyta’r amserodd. “Beth yw gwerth eclws heb fucal?” eba Dai Shirgar. “Stim mwy o yni yn perthyn iddi nac sy miwn hoelan i gwni ’ddiar y llawr. Camsynad mawr, greta i, yw bod eclws fel Moriah, a chymint o fobol ifinc yn belongad iddi, heb ddyn cymhw’s idd ’u arwa’n ar hyd y porfeydd gwelltog. ’R yn ni ishta corff heb un pen iddo fa. Bobol fach, ma’n bryd i ni ddihuno o’n cyscadrwdd, ne fe gollwn y dô ifinc sy’n cwni mor wired a taw Dafydd Jones yw f’enw i."

 

’Rodd Dai yn gwed calon y gwir, greta i, a o’dd llawar yn cretu ’run fath a fa, ond ’i bod nhw’n of an gwed ’u meddylia. Y secrat am deni yw hyn. Ma gyta ni rhai hen fossils o fla’noria’d a rywshap neu giddyl stim shwd beth a’u cyffro nhw o’r manna lle ma’ nhw. Wi’n gwed dim yn ’i erbyn nhw fel dynon, cofiwch chwi: wi’n cretu ’u bod nhw, a’u cym’ryd nhw through an’ through, yn ddynon decha iawn i gyd, ond ’run pryd, wi’n cretu ’u bod nhw yn gneyd cam mawr a’r eclws yn ’u anwyboda’th. Wi wedi clywad fod dou neu dri o nhw ddim yn mo’yn bucal o gwbl yn cretu, stim dowt, y busa hyny yn lleihau dicyn ar ’u awdurdod nhw. Ta beth, p’un ai gwir ne celwydd yw hwna - a bydda i ddim yn lico slandro dynon gonast un amsar - ma’ hyn yn wir, beth bynag, fod y majority o’r eclws yn dechra d’od i deimlo nag yw petha fel dyl’sa nhw tod. A fe dda’th petha i’r pen ’rwthnos ’wetha. Galwd cwrdd y brotyr ar ol odfa’r bora, a Wm. Williams – ’run sy’n ca’l ’i suspecto nag yw ddim yn ffafrio bucal – fe o’dd yn y gatar.

 

Wel, fe dda’th y cwestiwn mawr ymla’n, a o’dd hi’n ddicon hawdd gwel’d fod rhai o’r bla’noria’d yn ddicon anghyfforddus ’ed. ’Ro’n nhw’n ishta fel pe busa nhw ar lwyn o ddrain, a phan busa rhw’un yn carthu ’i wddwg, ne’n peswch yn weddol uchal, o’ch chi’n ’i gwel’d nhw’n nido fel sa nhw wedi ca’l start anbydus.

 

Fel gwetas i o’r bla’n, Wm. Williams o’dd yn y gatar, a dyma fa’n gosod y matar ger bron y cwrdd. Wedi "golchi ’i ddwylo" - dylswn fod wedi gwed taw draper yw Wm. Williams, a ma "golchi ’i ddwylo" yn naturiol i ddraper - dyma fel y gwetws a - verbatim et litteratim report! Stim isha fi’ch hysbysu chi, frotyr, beth yw amcan y cwrdd ’ma. ’Rych chi’n gwpod i gyd, ’ddiar pan ymadaws Mr. Davies, ein diweddar winidog, y’n bod ni wedi ymlwybro ’mla’n heb gymhorth bucal. Ma’ rhai blynydda bellach wedi paso er pan ymadaws Mr. Davies a ni, ond trwy diriondeb y Brenin Mawr, ’ryn ni wedi llwyddo i gatw’r achos yn fyw, gatw a yn weddol anrhydeddus ’ed. Collad fawr, stim dowt, yw colli bucal da a ffyddlon, ond, er taw fi sy’n ’i wed a, dyw’r gollad yn ’n hachos ni ddim cymint a fasa fa, falla, miwn llawar man. ’Ryn ni, ariod, wedi ca’l y gair ’n bod ni’n eclws heddychol. ac yn eclws withgar, ac er ’n fod ni wedi ca’l ein difeddianu o wasana’th bucal, ’ryn ni wedi para ’mla’n ar y llinellau hyn, a’r tebygolrwydd yw y galla ni fyn’d ymla’n am flynydda yto. Ond, ma’n depyg fod ’ma rhai yn teimlo fod isha ticyn o newidiath. Wi’n clywad fod y bobol ifinc ’ma yn dychra achwyn fod isha bucal arnom, ac os na wnawn gydsynid a’u dymuniad, y bydda nhw’n mwrw ’u coelbrena gyta rhai o’r capelydd erill yn ’r ardal ’ma. Fe glywas ddô fod rhai o nhw’n ca’l ’i trwblu gan amheuon, a ’do’dd neb yn y set fawr, medda nhw, all’sa rhoi ticyn o oleuni i nhw. Wel, frotyr, ’rw’ i wedi bod yn athraw yn yr Ysgol Sul am ddeugan mlynedd, a wi’n cretu y galla ’i wed mod i wedi bod o wasana’th i ddega o fechgyn ifinc yn y cyfeiriad hwn, a falla gallwn fod o ryw help bach i’r byddigion hyn ’ed, pe basa nhw yn gwed hanar gair wrtho i. Ond ma’n depyg taw symud ymla’n ma’r o’s, a rhaid paso’r set fawr, y dyddia rhain, i’r pwlpit, os bydd ’na rhyw gwestiyna athrawiaethol dyrus yn cwni. Otw i ddim am wed dim yn gas yn erbyn y bobol ifinc; ma’ rhaid i ni wrthy’ nhw, stim dowt, a ma’ rhaid i ni sy’n myn’d ’mla’n miwn ticyn o oedran gofio taw nhw fydd yn cynal yr achos ma’s o law, a doethineb ar ’n rhan ni fydda rhoi cyfleustra i nhw wed ’u barn ar y cwestiwn sy o fla’n y cwrdd. Wi’n awr yn rhoi y cwrdd yn agored i bawb wed ’i feddwl ar y mater hwn.”

 

Cyn bod y cadirydd wedi ca’l amsar i ishta, dyma hanar-dwsin yn cwni ar ’u tra’d ’run pryd, a phob un yn gwrthod roi ffordd i’r llall. I lan a’r cadirydd ar ’i dra’d yto, gan anog y brodyr i gofio taw nid meetin’ clwb o’dd a, ac i ymddwyn yn deilwng o’r ty^. O’r diwadd ma’r majority yn isthadd [sic; ishtadd]  lawr ac yn gatal i Dafydd Edmwnt ga’l hewl rydd. Siaratws Dafydd yn gall dros ben ar yr angen o fucal, a dilynwd a gan Job Matthews, bachan a gwallt coch, a thempar yn gochach na ’ny. Gwetws Job rhai petha hallt am y set fawr, ond galwd a i order, am taw dewish bucal o’dd matar y cwrdd, nid bychanu y "big guns." Fel fflachiad o ddryll dyma’r hen Domos Thomas y Felin lan ar ’i dra’d, a fe’i gwetws hi yn ffyrnig digynyg am y bobol ifinc sy am rytag y shows i gyd," ys dywad a. O’dd hi’n ddicon plaem nag o’dd Tomos ddim yn myn’d i blycu i’r storm, a fe dalws ’i dir fel derwen. “ ’Rych chi’n son am ych pobol ifinc," eba fa, "welas i lawar o ddaioni ar law ’n pobol ifinc ni ariod, a sa’r lot yn cwni ’u llythyra, wi ddim yn cretu y cawsa ni dwmpyn o gollad."

 

’Ro’dd y gath ma’s o’r cwtyn, a fire an’ tongs y buws hi wetyn am sha hanar awr. Welas i ddim shwd rally slawar dydd: wlia am gwrdd clwb! All’sa hwnw ddim dal canw’ll ’n ymyl cwrdd brotir Moriah.

 

O’r diwadd fe ga’th Wm. Williams rhw cymint o gontrol ar y cwrdd, a wedi i bob un wed ’i getyn, ro’wd y matar i vote. Cariws y “for” o ddicon, a phendrafynwyd dd’od a’r cwestiwn o fla’n ’r eclws noswath ’ny.

 

Cewch hanas y cwrdd ’ny tro nesa. - Ych ufudd was, WIL.

 

 

 

None

(delwedd D7606) (09 Rhagfyr 1911)

 

Rhondda Leader. 9 Rhagfyr 1911.

 

Llythyrau Wil Cwmbychan.

 

At y Golycydd.

 

‘Ddiar pan scrifenas i’r llythyr diwetha wi wedi bod mwn dwr po’th. Clywws rai o’r bla’noriaid ’mod i wedi scrifenu ticyn o hanas cwrdd y brotyr i’r papar ’rwthnos wetha, a d’ethpwd a’r peth o’u bla’n nhw bora Sul. Ma’n depig fod dou ne dri o henyn nhw yn i gwêd hi’n hallt digynyg am ych ufudd was, a fe glywas fod Wm. Williams yn ddicon cas i nghroci i heb unrhyw sort o drial. O’n ni wedi bod yn cwrdd y bora, ac o’n ni’n myn’d i ishta lawr i ga’l ticyn o gino gita Mali a Jane Ann pan da’th cnoc dicyn yn sharp ar ddrws y ffrynt.

 

“Pos’man!" eba Jane Ann.

 

“Pwy pos’man wyt ti’n wlia, ferch, amsar cino dydd Sul? Dyn y lla’th greta i," eba Mali, a off a hi a’r jwg i’r drws.

 

“Shwd i’ch chi bora ’ma?” eba’r llais wrth y drws. "Oti William gartra?”

 

"O! chi sy’ ’na," eba Mali, gan stwffo’r jwg dan ’i ffetog. “Dewch miwn, ma William yn y gecin ganol ’n myn d i ga’1 tamad i fita."

 

Buo i just a chwmpo’r gyllath a’r fforc i’r llawr! Pwy o’dd a ond Wm. Williams. "Cera o dan dra’d," eba fi, yn rhoi cic i’r gath gath fel sort o escus i ga’1 roi vent i nheimlata. “Dewch ’mla’n man hyn, Wm. Williams, i’r gatar fawr. Ma’ hi dicyn yn o’r heddy’?” eba fi i ddechra’r sgwrs.

 

“Oti, ma’ hi dicyn yn o’r wir,” eba’r hen fellow ’n swrth reit; "ond fe ddeso i o le weddol twym."

 

“O," eba fi - o’n i’n diall beth o’dd ’rhen chap yn drifo ato, ond fe gymra’n llw mod i’n etrach mor ddiniwad a babi - “i chi wedi ca’l cino, fe wela, a stim yn well i dwmo dyn ar dywydd o’r na phryd da o gino. Clywas nadcu yn gwêd scorodd o witha taw’r peth gora i ddyn a ticyn o anw’d arno i’w pitcho miwn i fita gymint a gall a."

 

“Dyn call o’dd ’rhen Domos Jones," eba William, "a ma’n depig i fod a’n diall y clefytach ’ma gystal a neb. Ond a gwêd y gwir i ti, nawr detho i o’r capal.”

 

"O," eba fi, i ch’n ’weddar heddy’; mae’n rhaid fod gita chi fusnes dicyn yn bwysig o fla’n y cwrdd?”

 

“Pwysig iawn," eba ’rhen foy, gan gwnnu’i lycid lan i’r ciling.

 

“ ’Falla’n wir," eba finau; o’n ni’n gwpod ’i fod a’n d’od nes i dre.

 

“Y gwir am deni," eba fa, “chi, Wm. Jones, o’dd matar y cwrdd bora heddy’.”

 

“Falla’n wir," eba fina ’to, “ma’n dicyn o gredit i fachan fel fi ga’l bod yn destyn cwrdd bla’noriaid witha. Fel glywas fod cwrdd y brotyr wedi pendrafynu roi cwestiwn y bucal o fla’n ’r eclws, ond stim o chi’n meddwl roi galwad i fi, oti chi, Wm. Williams?”

 

“Wil!” eba Mali, "pai­d a wlia mor yscon am betha crefydd. Nid matar o sport i’w dewish gwinitog ar eclws fel Moriah, cofia di. Ma’ isha do’thinab a phwyll wrth waith fel ’na."

 

“O’s, man depig,” eba fi, “ma’n heclws ni wedi arfadd dicon o bwyll ar y cwestiwn hyn; ma’ nhw wedi bod ’n pwyllo am dros saith mlynedd, a i fi wlia’n Scrythyrol, saith mlynadd o newyn y’n nhw wedi bod ’ed. Ma’n enid i just a starvo ar y petha wi’n ga’l yn y cyrdda wthnosol, a onibae am am’all i brecath ar y Sul wi’n cretu y byswn i wedi llwcu slawar blwyddyn. Ac am y do’thinab ’na ot ti’n gwêd am dano, ’r unig ddo’thinab wi wedi gwel’d yn Moriah yw’r do’thinab sy gan y bla’noriaid i gatw’r awdurdod yn i llaw ’u hunen."

 

"Ma’n depic ych bod chi, Wm. Jones, ’run fath a llawar erill yn ’r eclws, yn cretu fod ’r amsar wedi dod i ni ga’l gwinitog," eba ’rhen William.

 

“Wi ’n i gretu a ys blynydda," eba fi, “a sa chi’r bla’noriaid ’na sy’n ishta mor sanctidd ych gwynepa yn y’set fawr yn cisho meddwl dicyn bach am les yr eclws, bysach chitha yn i gretu a ’ed."

 

“Wel, ar y cwestiwn ’na wi wedi d’od i wlia a chi," eba Wm. Williams, ’n golchi ’i ddwylo.

 

"Falla," eba fi; "nawr just gwetsoch chi taw fi o’dd matar cwrdd y bla’noriaid bora heddy’, a dyma chi’n awr yn gwêd ych bod chi wedi d’od i wlia sha fi ar gwestiwn y bucal. Ma’n rhaid i fi gretu fel ’na ych bod chi yn meddwl roi galwad i fi."

 

“Pidwch cellwar, y dyn," eba’r hen fellow yn wyllt. “ ’Rhyn o’n ni’n feddwl pan wetas i taw chi o’dd matar y cwrdd bora heddy’ o’dd bod ych gwaith chi’n scrifenu hanas cwrdd y brotyr i’r papar newydd wedi bod dan ’styria’th y bla’noriaid, a ma nhw wedi gofyn i fi wlia a chi ’nghylch y peth."

 

"O," eba fina, "dyna chi’n d’od nes i dre dicyn ’nawr. ’Nawr. gwetwch wrtho i beth yw barn y bla’noriaid. Otw i’n myn’d i ga’l y chuck-out, ne otich chi’n meddwl rhoi i dan ddiscyblath?

 

“Wel," eba fa, yn etrach i’r tân, “ma hwna yn gorffws lawar arnoch chi. Ma’n rhaid i fi wêd wrtho chi’n blaem nag i ni’r bla’noriaid ddim yn cym’radwyo scrifenu hanas cwrdda’r eclws i’r papyra, a ma’ rhaid i chitha addo na ’newch chi ddim racor o hono fa. ’Dyn ni ddim yn gwpod ’n iawn ffordd i withretu ’n ych achos chi pan dynwd y rheola ma’s o’dd yn tada ni ddim yn meddwl am reportars, a ’do’s dim darpariath ar gyfar ’i achos nhw. ’Nawr, wi am wêd hyn wrthoch chi os ’newch chi addo pido scrifenu racor, ’newn i fadda i chi, ond os ’newch chi, bydd rhaid i ni fyn’d a’ch achos chi i’r Cwrdd Cwartar. Chi gewch o hyn i’r Sul nesa’ i ’styriad y matar."

 

Dyna ddiwadd ’i brecath a: fe gymrws ’i lid a ma’s a fe, dan slamo’r drws. Anghofiws wêd “Bora da" wrth ’matal.

 

“Na ti wedi gneyd hi o’r diwadd," eba Mali; “o’n ni’n gwpod shwt bysa hi gyta’r hen glefid scrifenu ’na.”

 

“Paid a becso, Mali fach,” eba fi; "wi’n hito dim blewyn am denyn nhw. Cera nhw a’r peth i’r Cwrdd Cwartar os lica nhw; all hwnw ddim rhoi jail i fi ta beth ddaw o hono fa. Cwn dicyn o’r tatws ’na i fi."

 

O’n ni wedi addo rhoi ticyn o hanas y cwrdd eclws i chi ’rwthnos hyn, ond o’dd rhaid i fi wêd am visit yr Escob. - Ych ufudd was. WIL.

 

 

 

 

None

(delwedd D7601) (30 Rhagfyr 1911)

Rhondda Leader. 30 Rhagfyr 1911.

 

Llythyrau Wil Cwmbychan.

 

At y Golycydd.

 

Oti chi ddim yn meddwl, syr, fod hi’n bryd i ni ddoti stop ar y fuss ’ma amsar ’Dolig? O’n ni’n arfadd cretu fod y byd yn dychra d’od yn gallach, ond ma’ rhaid i fi wêd fod y greto ’na wedi ca’l ’i shiglo yn enbyd y bythewnos wetha ’ma. Stim i glywad yn y stryt wi’n byw ynddi ond swn myn’wod yn clocsan hi sha’r bakhws a llon’d ’u bricha nhw o dishena. Gwynt tishan sy ’mhobman; ar y llofft, ar y llawr, mas ar ’r hewl; wi wedi bod yn byw am fythewnos cyfan mwn atmosphere o dishan, a wi just yn cretu ’mod i ar y ffordd i droi yn dorth o dishan gurrans ’m hunan. O’n ni’n wlia a’r wraig sy’n catw’r bakhws pw’ ddwarnod ’ma, a o’dd hi’n gwêd wrtho i fod amall i deulu yn hala cymint a phymtheg torth o dishan i bopi, a ma’ gita’r teuluodd tlota o’dd y dishan fwya’ rich. ’Rarswd fawr, meddylwch am ’na. Pymtheg torth o dishan Ma’n rhaid fod gita’r dynon bach ’na stymoca ishta lletar. Fusa un torth o dishan ’Dolig yn y mowlo i mas right-away. Pymtheg torth o dishan heb gownto’r twrcis? y pwdins, a rhyw lot o gonsarn erill. Otw i’n wir yn cretu ’i bod hi’n bryd i ni alw stop ar shwd fratadd. Gwyl fawr y bola yw’r ’Dolig ’nawr’ a’r twrci yw’r aberth ar yr allor. Ma’r bwtchwr ’n fwy ’i barch ’r atag hyn o’r flwyddyn na’r person, a ma’r geni ’n Methlehem yn ca’l ’i anghofio ’n swn claddu’r cino ’Dolig.

 

O ia, busnes od o bwysig yw par’toi ar gyfar yr wyl fawr. Pidwch wlia am ddim os na fydd yn bearo ar gysegredicrwdd hon. Beth yw Bil yn y Senadd i’w gydmaru a cha’l y suet mwn pryd! Pwy ots faint yw’r trethi os bydd y sultanas yn ddima’r pound ’n chepach yn shop Pegler na ’n shop y Co-operative! Consols yn cwmpo, wetsoch chi? Beth yw ’ny’r dyn geso ni’n twrci swllt yn chepach na’r dynon drws nesa’. Ma’ pelan fawr y greadicath yn toddi ’n ddim ’n ymyl pledran o lard. Na, pidwch wlia am ddim ar y ddaear na than y ddaear, mwn politics na chrefydd, ma busnes ffest y ’Dolig yn llawar rhy ddifrifol i bethach fel ’na ga’l sylw’r dyddia hyn!

 

I chi ’n gas y dyn, meddwch. Nagw i’n wir; ond alla i lai na thimlo mor wamal yw dynon wedi’r cwbl. Dyna Mali ’r wraig. Wetwn i ddim gair yn ’i herbyn am lawar; ma’ hi gystal gwraig a allsa dyn ga’l mwn dwarnod o gerddad, on’ ma’ hi ’run fath a’r rest yn y peth hwn. A i fi wed y gwir, ma’ byw gita hi wedi bod yn brofedicath i fi ’r bythewnos wetha ’ma. Wi ddim wedi gallu cyscu’r nos fel dylswn ni; pan fydda i’n dychra cau’n llycid, fi jwmpiff Mali lan ar i ishtadd, yn wyllt reit wrth feddwl am y pwdin ar y tan. "O William," eba hi, “oti chi’n meddwl fod y sospan ’na’n berwi’n sych?” Mwn cwartar awr bydd ar i ishtadd ’to. “Dyna hen shimpil ath John ych brawd na fusa fa’n hala twrci i ni leni fel arfadd." Allsa petha ddim myn’d ’mla’n fel ’un [sic; ’yn < hyn], a fe wetas wrthi dwarnod ne ddou cyn Dolig, "Dishgwl ’ma, Mali, stim isha i ti ’neyd y fuss fawr ’na o’m rhan i wi ddim yn meddwl bita dim o’th dwrci na dy bwdin di."

 

“Dyn dishefo i’n brudd," eba hi, “wyt ti’n dychra scawni yn d’ben William? Taw a dy lol; os na fiti di ’rhyn rho i ti, chai di ddim arall."

 

"O aros di," eba fi, “gewn ni wel’d."

 

"Be’ sy’ matar arnat ti, William?” eba hi. “Wyt ti’n arfadd bita’n hearty reit o nghino i bob Dydd ’Dolig, a pam wyt ti’n gwêd na fiti di ddim leni?”

 

“Wi ddim yn ’i moyn a," eba fi.

 

Ar ol ’n holl drwbwl i i gyd," eba hi, "dyna’r diolch wi’n gal gen ti am aros lawr spoi hanar nos i lanha’r currans a’r resins, a wilo pob shop yn y Pandy am nutmeg."

 

“Wel, ofynws neb i ti," eba fi.

 

“Na, on’ sa ni heb ’neyd ’ny fusa dicon o fwstwr ’da ti, a busa dicon o hen gloch gen ti." A dyma hi’n dechra ’i gollwng hi.

 

Os ôs rhwpath yn gasach na’i giddyl gen i, gwel’d menyw ’n llefan yw ’ny. Allswn i ddim o’i ddal a, a eba fi, “Wel, Mali fach, drea i fita tamad o dy bwdin di, on’ chymra i ddim o’r twrci."

 

"Ffordd ’ny?" eba hi, ’n tynu ’i llaw dros ’i llycid. "Wyt ti’n ots nag arfadd. Ot ti’n arfadd gwêd fod ti’n lico cig twrci achos fod llai o frasdar ynddo na chig gwydd."

 

“Wel, ia," eba fi, "ma’ wna’n reit ’i wala; ond fusa’n well gen i ga’l ticyn o borc. Stim o twrci yn cytuno a fi ’nawr.”

 

“Porc!" medda hi; "fuws dim porc o fiwn i’n ty^ ni acha Dydd ’Dolig ariod."

 

"Paid hito," eba fi, "ti gai di’r twrci, a dera ticyn o borc i fi." Fel ’na buws hi. A’th Mali mas nos Satwrn a phrynws pishyn bach o borc i fi.

 

Bora ’Dolig, wedi i fi dd’od sha thre o’r cwrdd, da’th Mali fiwn i’r parlwr ato i. "Tasta hwn," eba hi, "wyt ti’n clywad rhw flas od ar y porc ’ma?” Tastas y tamad cig. "Nag wi," eba fi, "cig splendad yw a." Mwn rhw gwartar awr dyma ni’n ishtadd lawr i ga’l cino. O’dd y cino’n myn’d yn first class, ond o’n ni’n ffili deall beth o’dd y winco ar Jane Ann a’i mham. Wedi i ni fita’r pwdin, gofynws Mali:

 

“Beth o’t ti’n feddwl am y cino, Wil?”

 

"Cino splendid o’dd a," eba fi.

 

“Licas ti’r porc?” eba hi.

 

“Fitas i ddim gwell tamad bach o gig ariod," eba fi.

 

“Ha, ha," eba hi, “o’n ni’n gwpod y licsat ti’n nghino i: wi wedi catw’r porc spoi fory, a o’n ni’n falch dy glywad di’n gwêd i ti enjoyo’r twrci."

 

Oti, syr, wi’n cretu ’i bod hi’n bryd i roi stop ar y fuss a’r ffesto ’ma amsar ’Dolig. - Ych ufudd was, Wil.

 

 

None

(delwedd D7600) (06 Ionawr 1912)

Rhondda Leader

 

6 Ionawr 1912

 

 

Llythyrau Wil Cwmbychan.

 

At y Golycydd.

 

Blwyddyn Newydd Dda i chi, syr; sgwlwch yn dda ga i g’lenig? Ia, dyma flwyddyn arall wedi myn’d ’to at yr hen gownt. Dear me! fel ma’ amsar yn myn’d h’ibo. ’Dyw hi ddim on’ ishta ddo ’ddiar pan o’n ni’n cro’sawu’r flwyddyn newydd wetha, a dyma hi’n awr wedi’n gatal. Faint o betha sy’ wedi dicwdd ’ddiar hyny? I ni wedi cael y Coroniad, streic y relwes, yr Urdd-wisgiad, riots, a phetha mawr erill, rhai o henyn nhw nag o’n ni’n breuddwyto dim am i gwel’d nhw. Faint o’n hen gyfeillion sy’ wedi ’matal a’r fuchadd hon? Faint sy’ wedi troi ’u cefna arnom ni am wletydd erill? Faint sy’ wedi prioti, a faint sy’ wedi ’u geni? Rhw whirligig ryfedd yw amsar wedi’r cyfan, a ma’ fa yn ’n lando ni witha mwn lleodd od. Ia, dyma ni ar ddechra blwyddyn newydd ’to, a’r cwestiwn i ni ’nawr yw pwy bendrafyniata i ni meddwl nuthur y tro ’ma, a faint o henyn nhw oti ni’n meddwl ’u catw? Ryw idea od yw gnuthur pendrafyniad ar ddechra blwyddyn, serch hyny. Ma’ fa’n rhyw sort o addefiad nag i ni ddim wedi gnuthur ’rhyn ddylsa ni ar hyd y flwyddyn sy’ wedi paso. Fydda i’n dishgwl ar flwyddyn ishta rhyw summary bach o fywyd dyn yn y byd ’ma. Chi’n gwpod pan fydd dyn yn tynu tua cwt ’i fywyd, un o’r petha mwya’ am’al sy’n d’od dros ’i wefusa fa oti ryw frawddeg fel hyn: "O na chelswn ni ail-ddechra ’mywyd unwaith ’to!” Wel, just fel ’na ma’ hi ar ddiwadd blwyddyn. Wrth ddishgwl ’nol ar y dalenna i ni wedi ’u troi drosodd am byth, ryw feddwl fel hyn sy’n cym’ryd meddiant o hono ni: “Na biti na allsan ni rhwbbo’r stain ’na off o’r ddalan wen ’na, a rhoi rhwpath yn well yn ’i le." Ond chewn ni byth ’neyd ’na. Pwy sy’n gwed - ’rhen Omar Khayyam, greta i -

 

“The moving finger having writ, moves on,

Nor all thy piety nor wit, nor all thy tears

Can erase one word of it."

 

Wi ddim siwr ’mod i wedi dyfynu’n reit, ond rhwpath fel ’na ma’ fa’n wed, a ma’ byd o wir ynddo ed. Ia, amsar i gym’ryd stoc yw hi ar ddiwadd blwyddyn, a pan b’o ni’n myn’d o bothti hi, rhyfadd mor fach yw’n stoc ni wedi’r cwbl. Ne’r hyn ddylswn wêd oti, mor lleiad yw’r stoc o betha da sy gita ni. Ma gita ni lot o bethach fusa’n well i ni fod hepddyn’ nhw o lawar; rhyw lot o’r us a ’chytig iawn o’r gwenith. Wel, beth i ni’n myn’d i ’nuthur yn y flwyddyn newydd? Fyddwn ni ryw dicyn nes ’mla’n ar ’i diwadd hi nag o’n ni ar ’i dechra hi? Ma’ amsar y pendrafyniata wedi d’od. Pwy bendrafyniad newydd i chi wedi ’i ’nuthur? Peth dicon hawdd yw gnuthur pendrafyniad, ond peth arall yw ’i gatw a. Wi’n cofio dechra’r flwyddyn wetha, gnetho i bendrafyniad i bido smoco dim owns o facco byth on’ ny’. Gatwas i’r pendrafyniad? Do. Am dri dwarnod solit o’dd bacco, pib, a matches yn ’y mocad i. Pan b’o i’n gnuthur pendrafyniad i bido smoco, wi’n gofalu fod dicon o’r "twls" bob amsar yn ’y mocad i. Ma’n hawsach i gatw o lawar pan i chi’n gwpod fod gita chi’r wherewithal, ys dywad Dai Sais, i dori a pryd mynoch chi. Wel, fel ’ny ’r o’dd hi ddechra’r flwyddyn ddiwetha pan netho i’n meddwl lan i bido smoco raoor. Fel gwetas i, ’r o’dd y bacco a’r matches yn ’y mocad i, a o’dd popath yn myn’d ’mla’n yn ddecha digynyg. O’dd dim mwy o isha mwcyn arna i nag o’dd ar yr hen gath sy’ gita Motryb Jane. A gwêd y gwir i chi, o’n ni’n dechra safio arian, a o’dd Mali’n gwêd ’mod i’n dishgwl lawar yn well ’ddiar pan o’n ni wedi towlu’r bacco lan. Ond druan o hono i, ’mhen rhyw dri ne’ bedwar dwarnod mi etho i i dy ffrynd i fi i wel’d oil paintin’ o’i dad. Pan etho’i ’no’r o’dd Twm Berdar a Dai Shirgar ’no o mla’n i, a o nhw’n tynu arni fel par o steam ingins. ’R o’dd y ty yn llawn mwg, a allsa ni ddim gwel’d gwymeta’n giddyl just.

 

“Cymar gatar," eba Jacy ’y martnar wrtho i, "a dera ’mla’n man hyn." “Le ma’r paintin’?” eba fi. “Aros dicyn bach," eba Jack, “ti gai di wel’d a heb fod ’n hir."

 

Ishteddas lawr, on’ os o’dd na bitchwr, o’n ni’n ffili’n deg a’i wel’d a; fusa ’n llawr mor rhwydded i drio gwel’d yr haul yn Llundan pan ma’r fog lawr.

 

"Beth wyt ti’n dishgwl ar y wal ’na mor seriws?" gofynai Jack.

 

“Wel, wi isha gwel’d pictshwr dy dad," eba fi.

 

A dyma’r tri yn dychra werthin fel lot o ffwliaid.

 

"Be’ sy’ matar? eba fi.

 

“Wel, ti’n gwel’d," eba Jack, “ti yw’r pictshwr. O’n ni wedi clywad d’ fod ti wedi towlu’r bacco lan, a o’n ni am wel’d shwt busa ti’n enjoyo gwel’d erill yn smoco. A ma’n rhaid i fi wêd i ti ’nuthur pictshwr nêt ed wrth dy stumia di. ’Nawr, dyma bib a bacco i ti, light up, ’ngwas i."

 

A “light up” buws hi ed. Netho ’run pendrafyniad i bido smoco wetyn. - Ych ufydd was, WIL.

 

 

 

None

(delwedd D7604) (26 Ionawr 1912)

 

   

Rhondda Leader

27 Ionawr 1912

Llythyrau Wil Cwmbychan.

At y Golycydd.

O chi ddim yn napod Tomos Shams, o chi, syr? Bachan budyr o’dd Tomos. Thomas James o’dd ’i enw fa, on’ o’dd neb yn ’i napod wrth ’r enw ’na. Tomos Shams o’dd ’r enw glywas i arno’n grwtyn, a’r un enw fuws arno tra fuws a byw. Dyn o Gwm-Nedd ’odd Tomos, on’ fe dda’th i’r Cwm ’ma yn grwtyn gita’i dad a’i fam, a ’ma ’nath a ’i nyth byth ’ddiar ’ny. Pan o’dd Tomos yn fachan ifanc o’dd a’n arfadd myn’d at y Bedyddwrs, on’ wedi iddo brioti ath gita’r wraig at y Methodus. O’dd gwraig Tomos yn Fethodis o’r Methodus; o’dd hi’n gwpod ins an’ outs ’rhen Gorph i gyd: ’ro’dd ’Fforddwr Charles a’r Cyffes Ffydd ar bena’i bysadd hi, a o’dd hi’n arfadd gwed taw’r dyn mwya’ fuws ar y ddaear ’ma ar ol Paul o’dd Charles o’r Bala. "Ware teg iddi, menyw lan gita’i gwaith o’dd hi, a o’dd hi’n fenyw ola iawn ’ed. Allsa atrodd faint fynsach chi o adnota; ’ro’dd hi fel sa chi yn y Cwrdd Eclws witha pan fusa hi’n wlia a chi, a fe glywas wêd ’i bod hi witha yn dychra’r otfa yn y Ty Cwrdd Methodus pan fusa’r brotyr dicyn bach yn shy.

Wel, fel o’n ni’n gwêd, wedi i Tomos brioti, gadaws y Baptis, a fe ath at y Methodus. On’ er cystlad menyw o’dd ’i wraig a, ffilws hi’n lan a’i ga’l a i joino gita’r achos. Gita’r “gwrandawrs” o’dd Tomos o’r dechra i’r diwadd, a stim dowt fod hyny wedi becso ticyn ar ’i wraig a ’ed. Clywas hi’n becan arno lawar pryd i fwrw ’i goelbren stywad* hi on’ para’n stiff o’dd Tomos. Fuws y gwinitog ar ’i ol a, do, ddwseni o witha, on’ sefyll fel adamant o’dd ’rhen bechadur. Cer di mla’n," eba Tomos wrth ’i wraig ar ol un o’r bouts ’ma, fe wna i o’r gora."

*[NODYN: ys dywed]

“On’ ma’ arno i ofan, Tomos, ma’ dyn ar goll fyddi di’n y diwadd," eba hi. "Paid a becso," eba fe, “fydda i’n reit i wala. Ma’r Brenin Mawr yn gofalu am gywion yr estrys."

“Oti siwr," eba hitha, “ma mal ’na’n itha gwir, on’ cofia, mwya’ i gyd fydd dy gyfrifoldeb di yn gwrthod y Bywyd pan ma’ hi’n ddydd gras ac yn dymhor iachawdwriaeth."

O’dd Tomos yn gallu ’neyd dim pan fusa Jane ’i wraig yn towlu adnota fel hyn ar ’i draws a, a ’ro’dd hitha yn ddicon call i bido gwasgu gormod arno pan welsa hi ’i fod a ar lawr. Fel ’na buws petha, a fe ath yr hen fellow i’r bedd yn “wrandawr” a dim on’ ’ny. On’ fe gladdwyd ’i wath a lawer tro. Os nag o’dd a’n aelod, ’ro’edd a mwn llawar o betha yn batrwn i aelota tai cwrdda ’i ddilyn a.

Dou wendid mawr o’dd yn perthyn i Tomos. ’Ro’dd a’n gollwng am’all i lw bach yn slip, a ’ro’dd a’n od o ffond o fowls. Rai blynydda cyn iddo farw buws cwmni’r gwaith yn ddicon piwr i roi "lamp fach" iddo, a o’dd ynta, wrth gwrs, yn meddwl ticyn am yr anrhydedd. ’Ro’dd Mr. Davies, manager y gwaith, yn ddyn strict iawn; o’dd a’n ddiacon gita’r Dissenters, a os o’dd rhwpath yn gas ganddo, clywad dyn yn rheci o’dd ’ny. ’Ro’dd e’ a Tomos un dwarnod yn myn’d trwy ryw hen waith, a rhywfodd neu giddyl bwrws Tomos ’i ben ’n erbyn carrag.

“---- mawr," eba Tomos "beth ---- o’dd ’wna?”

"Beth wetsoch chi, Tomos? eba Mr. Davies.

"O ’rhen garrag ’na!" eba Tomos; “welwch chi’r claish ’ma ar y nalcan i!”

“Wi’n gwel’d y clais," eba Mr. Davi es; “ond pwy isha colli’ch tempar a chablu fel netho chi?”

“Netho i ddim cablu," eba Tomos.

“Ond clywas i chi’r dyn," eba Mr. Davies.

“D---- ariod!" eba Tomos, “netho’i fa heb yn wpod i fi ta."

Dyna chi ’to," eba Mr. Davies; "da chi, cishwch atal hen arferion cas fel ’na."

Gwendid mwya’ Tomos o’dd ’i fowls a. Welas i ariod mo honyn’ nhw, on’ clywas Dai Berdar yn gwed fod gita fa gollection - gair Dai yw hwna - da digynnyg.

“Ma atar pert gita fa," eba Dai wrtho i ryw ddwarnod. “Ma’ pob sort o fowls gita fa. Ma’ gita fa’r bantams bach lleia welas i ariod a’n llycid, a ma’ ’na bob short o Plymouth Rocks gita fa."

O’dd pob un yn district Tomos yn gwpod am ’i wendid a; os busa isha cogyn, ne bar o rails y ffordd siwra o’u ca’l nhw fusa braggo’r fowls. ’Ro’dd ’rhen Wm. Roberts yn arfadd gwêd fod ’na lawar yn byw ar fowls Tomos ’blaw Tomos a’i wraig. A o’dd a’n gwed calon y gwir. Wi’n cofio un dwarnod pan o’n ni’n gwitho gita Dai Cwmnedd, o’dd isha cogyn yn dost arno ni.

"Beth ’newn ni fachan?" eba fi. “Wyt ti’n cretu y gnaiff ’rhen Tomos ala cogyn i ni?”

"Wi ddim yn gwpod," ebai Dai, "on’ fe treia i fa."

Ryw awr ne ddwy wetyn, pwy ddath lan trwy’r fäs ond Tomos.

“Holo, Tomos," eba Dai, "i chi’n dishgwl yn serchus digynnyg. Oti chi wedi enill prize arath gita’r cilog na?”

"Wel, nagw bachan. Ma’ fa’n bwrw ’i blu, a stim iws i fi ala fa i’r shews nawr, ti’n gwel’d," eba’r hen fellow yn ddiniwad reit.

“Wel, gwetwch chi be’ chi’n dewish, cilog pert yw a,” eba Dai. “Wi wedi gwel’d llawar o gilocod, on’ welas i ddim gwell hwna’n unman. Halwch a i’r Crystal Palace, Tomos, ma’ fa’n siwr o scupo’r lot o’i fla’n."

"Wyt ty’n cretu ’ny, Dai?" eba Tomos.

"Cretu ’ny!" eba Dai; "wi’n gwpod ’ny! Dyn! welas i’r shew wetha yn Llundan, a cretwch chi a ne bido, fe allsach cilog chi wado’r lot yn single-handed. Busa am’all i hen fancier wedi ’neyd ’i ffortiwn o’r cilog ’na, Tomos, cretwch chi fi."

“Gewn wel’d ar ol iddo facu ’i blu beth ’naiff a," eba Tomos, a dyma fa’n troi i ga’l myn’d.

“O, Tomos," ebai Dai ishta sa fa dim ond newydd feddwl am y peth, stim shawns am gogyn bach? Dishgwlwch ar y top ’ma. ’Newn ni ddim man hyn heb gogyn; treiwch ga’l un i ni, ’newch chi?"

“Cewch, cewch," eba ’rhen Domos, “fe weta wrth Jack y llifiwr am ala drained o go’d cogs i chi."

"Dyna ti," eba Dai wrtho i wedi i Tomos droi ’i gefan; "welas ti fel gwithws y cilog bach ’na hi? Wi’n gwed wrtho ti nag os dim cilog yn y wlad yn depig i gilog Tomos Shams."

Poor fellow! Os nag os ’na gilocod yn y nefodd, fe spwyliff lot o enjoymant Tomos.

 

 

 

 

------------------------------------------------------------------------------

Sumbolau: ā ǣ ē ī ō ū / ˡ ɑ æ ɛ ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː æː eː iː oː uː / ɥ / ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / ә ʌ ŵ ŷ ẃ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_227_llythyrau-wil-cwmbychan_1911_3609k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 02-07-2017
Adolygiad diweddaraf: 02-07-2017
Delweddau:

Ffynhonnell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Papurau Newydd Arlein.
---------------------------------------
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu wsitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are wsiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Wellz-Katəlóuniə) Wébsait


Adran y Wenhwyseg / Secció del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
Edrychiadau ar y tudalennau / Vistes de les pàgines / Page Views
Web Analytics Made Easy -
StatCounter
Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres Estadístiques / View Our Stats
…..