kimkat0299k Pentan Shon Iefan. 1896. Tarian y Gweithiwr. Ysgrifa yn y Wehnhwyseg, sef tafodiath de-ddwyrain Cymru.

17-08-2017
 
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ●
kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat0299k Y tudalen hwn

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..
 
 
 
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
Pentan Shon Iefan.
(Tarian y Gweithiwr. 1896)

(Yn nhafodiaith Morgannwg a Gwent,
neu’r ‘Wenhwyseg’).



 

 


(delwedd 7282)

 

10 Medi 1896

15 Hydref 1896

 

....

 

 

 

(delwedd 5939)

Tarian y Gweithiwr. 10 Medi 1896.

 

PENTAN SHON IEFAN.

 

MISTR GOLYCIDD, - Rw i wedi bod yn meddwl shaw yn ddweddar am hela pishin bach i'ch papar chi, ond dw i fawr o sgolaig - cheso i fawr o fontesh eriod i ddyscu, ne wi'n meddwl y galswn i yn nêt; ond ma llawar o'r dynon sy'n prynu'ch papar chi fel fina, wedi cial 'i macu yn Shir Forgianwg ag w i yn siwr y dialla nhw fi yn biwr. Holo! beth odd hwna nawr? -  

 

“Ag w i yn siwr

Y dialla nhw fi yn biwr."

 

Ma felsa tinc yr hen Dwm Hywal Ll’welyn yn y ddwy line yna,  dyn. Fe odd y'n bardd ni yn y cwm hyn yn yr hen amsar. Ond yn wir, heb yn wpod i fi y dath y ddwy line yna; pidwch a chretu mod i yn fardd.

 

Ma peth ofnadw o'r TARIAN yn dod i'n cwm ni, a fi weta i yn blaim yn ych gwynab chi - dos fawr o ddim iddi gial yndi bothti Cwm Rhondda, a dw i ddim yn diall pam, achos fe wyddoch chi gystal a neb na dos dim cwm yn y byd - wn i ddim am y North Pole, ma Nansen (own i'n meddwl ta  meniyw odd hwn, cyn i Shon Iefan weid ta gwr-ne-was odd a) wedi bod yn trio mynd yno, ond fe ffaelws; ond wi'n siwr nag os dim cwm yn y ‘byd' mor enwog a'n cwm ni.

 

Os ych chi'n moyn pwlla glo, dewch i'n cwm ni. Os ych chi'n moyn gweld llond lle o ddynon o bob sort, dewch i'n cwm ni. Os ych chi'n moyn gweld Rhyfrydwrs reit, dewch i'n cwm ni - waniff dim un Tori ei drwyn i miwn yma. Chi wyddoch ta yma ma'r ciantwrs gora yn y byd; boys y cwm hyn faeddws y byd yn Chicago a'n boys ni nillws yn Llanelli: a nhw fuws yn cianu i'r Prins yn Abarystwth, heb walu dim am Windsor Castle, a llefydd felni.

 

Yma lle ma Mabon yn byw, a ma ganto dy ffamws nawr hefyd; a falla dych chi ddim yn gwpod ta bachgan wedi ei gwnu yma yw ‘Wmffra Huws.' Ag er ta un o wyr Berdar yw Caradog, yma odd e'n byw pan faeddws i gor a'r byd i gyd yn y Kristal Palas. Ych chi'n gweld nawr ma nid rhwpath yw'r cwm hyn, ond cwm gwerth galw cwm arno: ag yn y diwadd, mawr cy-liad [= cythreuliad] ych chi'n weid am dano yn ych papar.

 

Wn i ddim beth ddela o hanom ni on'ba Eos Hafod - bachgan ffamws; dyn yw e.

 

Yr w i wedi setlo a chwpwl o fechcyn y lle ma i hela amball i bishin bach i'ch papar chi; nid news am y cwm, ond yn hanas ni'n hunen.

 

Ma twshgid o honom ni yn cwrdd a'n giddil mwn efil gof yma. Shon Iefan bia'r efil, a ma'r hen ddyn yn doti blocs bach ar y pentan i ni gial ishta bothti'r tan, a chretwch chi byth shwd le ffamws ywa, dyn: ma ticyn o bopith yn cial i walu yno, a ma fa'n drueni asswidis na fasa chi'n hela riportar yma weitha. Rych chi'n hela riportars i'r concarts a'r tepartis ma bothti'r wlad i weid yr hanas, a dos neb yn i darllan nhw ond y merched sy'n tendo a'r bechgyn sy'n cianu ag yn atrodd.

 

Ma whant arno i os lawar dydd i hela, ond ma'r bechcyn ma wedi becan arno i o’r diwedd i riporto cwrdd y pentan yn awr ac yn y man.

 

Ma yma dicynach o betha yn cial i trafod o dro i dro, ag os ych chi'n folon, fe gewch chi amball i bishin o'r hanas. Gwetwch yn y TARIAN nesa, os ych chi. Rhowch damad bach wrth gwt hwn i wed os caiff hwn ddod mas. Dw i ddim yn addo bob wthnos, achos fel y gwetas i ishws, chesoi fawr o fontish eriod i fod yn sgolaig -ma gen i whar yn sgleigas biwr digynig. Ond fi na i ngora.

 

Hanar gair eto cyn cwpla. Os bechcyn piwr gyta chi yn yr Offis? Oti nhw'n rhai ‘quick' i ddiall gwaith llaw? Dyw pawb ddim ya gallu diall gwaith llaw  gystal a'u giddil. Wi'n gwpod am fachgan yma yn gallu darllin print fel ffeirad, ond run man iddo drio edfan a darllin gwaith llaw, achos y fi sy'n darllin pob llythyr sy'n dod iddo orwth i frawd sy'n Affrica, ag orwth i ferch iefanc a, sy'n byw ar Gefan Cripwr. Dotwch air bothti'r peth hyn hefyd wrth y cwt.

 

Wel, wi'n meddwl na wetai ddim rhacor heddi, nes bo i'n gweld beth wetwch chi, Mistr Golycidd, bothti'r peth.

 

Chewch chi mo'n enw i - dim ond RIPORTAR Y PENTAN.

 

[Bydd yn bleser genym gael hanes Cwrdd y Pentan o dro i dro, mor amled ag y gall y Riportar ddanfon, a gofod yn caniatau. Mae croesaw bob amser i Gwm Rhondda yn ngholofnau y DARIAN Parthed y "gwaith llaw," pobpeth yn iawn. Ar waith llaw yr ydym ni yn byw. Ac y mae yn y Swyddfa Gymry glân o Forganwg, - GOL.]

  

 

...

 

 

 

None

(delwedd 5942A)

-           

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

15 Hydref 1896

Tarian y Gweithiar

 

PENTAN SHON IEFAN.

ARMENIA AR Y PENTAN.

 

(Parhad o’r rhifyn diweddaf.)

 

‘Meddwlwch, fechcyn, am dano yn rhoi orders iddi filwyr i neud beth fynsa nhw a'r dynon hyn a'u gwracedd! Dyna lle 'ro'n nhw'n myn'd o dy i dy – yn tori clusta a thrwyna a thafota dynon off; gystal a lladd dyn ddwsan o witha, sa hyny'n bosib! Fe ddotsan garn o ddynon rhwng rhestri o goed, ag yna yn arllws casgened o oil ar y cwbwl, ag yn rhoi tân yndi nhw nes bo cols y coed ag escyrn y dynon yn un cymysgfa fawr fel toman luti.

 

‘Ma'n depyg hefyd 'u bod nhw'n claddu rhai dynon hyd 'u gyddyca, ag yn giatal i'r bleidded ddod a byta'u pena nhw off yn glir gyta'r llawr!'

 

‘Wel hawyr bach!’ eba'r bechcyn, ‘os dim shwd beth a rhoi stop ar nyn [sic; = hyn]?

 

‘Stop!’ ba'r hen batriarch, ‘ma'n gwy[dd]il i ni fel gwlad na fysa ni wedi mynd yno os cetyn â Fleet Lloegar gyta ni.'

 

'Fe fysa'n ffitach fod Lloegar wrth i gwaith yn helpu'r Armeniaid. Ma nhw wedi promish hyny os blynydda 'nol, a fe ddyla gwlad, fel dyn, gatw'i gair.’

 

‘Ond dyna fe, fechcyn bach, beth dal i glepran fel hyn. Beth sy gyta Lloegar i wed wrth Twrci, pan bo hi hunan yn Affrica yn lladd natives y wlad hyny, dim ond am 'u bod nhw am giatw'u gwlad Doed milwyr Lloegar sha thre, a golched y wlad i dwylo, i gial dilo glan i drafod y Twrc.

 

‘Gyred hi y Twrc i ebargofiant, i dippo fe i'r môr fal oen nhw'n gwneud a'r Armeniaid ma. Ma'n llawn bryd i gial i wared e. Dyw e ddim ond boddar i bawb o hyd. A rhannad y gwledydd y wlad rhyngti nhw a'n gilydd. Wn i ddim beith wnaiff Salsbri nawr, wedi gweled teimlad y wlad, ag ar ol speech Gladstone. Ma'n bryd iddo acor i lycid, a'i galon, a'i ben i wed rhwpath wrtho ni, ne fe aiff y byd i ddowto fod ganto fe dicyn o olwg ar y Sultan cythreulig. Dw i ddim yn cretu fod dim partnars yna, cofiwch chi; on ma isha iddo ddangos i fod e'n iach ar y pwnc. A fe licswn i glywad beth fu rhyngto fe a'r Czar bw ddwarnod ma.'

 

‘Off ag e', weta i ta beth,' ba Shon. ‘Ia, off ag e oddar y ddaear; ma'r byd yn drewi gen i waith a, ag ma Armenia yn debycach i Slaughter House na dim arall, os lawar dydd. A 'swn i yn cial ym mhlan, fe wetswn i wth Ewrop, ‘Al1 hands upon deck,' ag os na folona nhw, fi droiswn at Loegar, ‘Cera, fel Elias, wrth dy hunan i gatw whara teg i'r dynon clawd hyn.'

 

Dyna chi ‘speech,’ Mistr Golycidd! Nid yn amal y clywch chi shwd beth a hona. Odd y bechgyn i gyd wedi mynd mor ansemwth [sic; = anesmwth] ar y Pentan a thysa nhw yn ishta acha tân! A ba Rhywyn y Gwaudd, -

‘Fechcyn, wi'n folon mynd mas fory nesa i saethu'r filan, os daw rhwyn gyta fi.'

 

Ag wedi i bob un weid i feddwl, dyma Shemsin yn dirwn penill bach mas:

 

'Rwy'n cynyg os ca'i eilydd,

Fod Ewrop, rhag ei ch'wilydd

Yn popi'r Twrci yn y fan,

A'i ranu rhwng 'u gilydd.

 

Am dano fo, rhen Sultan –

Wel, rhowch e'n saff mwn ffetan,

I'w dawli'n garn, y llipryn llwm,

I'r llyn o dân a brwmstan!

 

(Loud Cheers.)

 

Yr odd pawb yn cydwel’d a ‘bardd breiniol y Pentan.'

 

Fe geso i ‘strict ordors’ i hela hanas cwrdd y Pentan ar Armenia i miwn i'r TARIAN, a dyma fe. Fe fydda'n gwiddil i'r byd i bido gwpod am araeth Shon Iefan. Wi'n siwr y bydd llawer yn lico cial ‘llun’ Shon Iefan nawr at ol y pishyn hyn. Wel, fe ddaw mor gynted ag y ca'i gyfla. Ych chi'n gweld yn bod ni ar y Pentan yn mynd mlan gyta'r os, ac yn cial clywad am brif bynca'r dydd. Fe gawn weld beth naiff Lloegar nawr ar ol speech Shon Iefan a phenillion Shemsin. Fe fydd yn od gen i os na ddaw rwpath o henyn nhw.

 

 

 

 

 

 

 

 

None

(delwedd 5942B)

 

 

 

Fe ddwa’r wthnos nesa yto, os byw ag iach, a fe gewch hanas y trip i Liverpool rhyw dro heb fod yn hir. Ond d'os dim amsar heddy. Cretwch chi fi, d’os dim un calon yn twymo mwy at yr Armeriaid na chalon RIPORTAR Y PENTAN.

 

-

 

MISTR GOLYCIDD, - Wel yn eno dyn, ffor bu arnoch chi? Beth gesoch chi i atal shwd bishin mawr – a hwnw’r pishin gora o ddicon o’r Riport heb i brinto?

Ych chi wedi i gneud hi’n o’r diwadd!

 

Wi’n ych gweld chi witha pan bo chi'n ffaelu cwpla pishin yn yr un wthnos, yn doti ‘I'w barhau’ wth i gwt a: on dos yma ddim son am ddim shwd beth wrth gwt hwn. Ond ys dywed Shemsin pan welws e fa, -

 

‘Ma’n cwpla mor bwt

A chi heb un cwt!'

 

Fe fu lle bidir yma pan welsen nhw'r TARIAN dwetha. Do nhw ddim folon at all na fysa diwadd speech Shon Iefan, a dou benill Shemsin Twrbil i miwn; ag oen nhw'n barod i fwrw y bai arno i, ta fi odd yn rhy ddioclyd i scyrfenu'r cwbwl; a wi'n gobeitho y gwetwch chi beth odd yn bod, achos y fi sy'n dal y bai a’r tafod i gyd.

 

Mawr y gesso fa ma beth odd y rheswm; roedd Jack Price am dawli nag odd dim dicon o lythrena yn yr offis gyta chi iddi gwpla fa; a Rhysyn Gwaudd yn gweid ych bod chi wedi gorffod mynd i ryw anglodd ne rwpath, a'i atal ar i hanar – achos nag odd dim o’m enw i wtho fel arfadd; ond dyna ddywad Shon Iefan - "ma nhw siwr o fod wedi colli’r ddalan ddwetha helast ti miwn, wel di." 'Nawr, p’un sy'n iawn o rhain?

 

Gobeitho byddwch chi'n beccan pardwn y Pentan fel bo petha'n ishta'n biwr yto; ag i giatw mhen ina’n rhydd. Wei, cwmint a hyma 'nawr ar y pen hyn - ys dywad y pregethwr.

 

Ma'n anodd gwpod am beth ma gwed wtho chi'r wythnos hyn; achos ma cwmint o bynca wedi bod dan sylw'r “Pentan."

 

Ma clepar digynyg sha pen-ycha'r cwm ma bothti dewish doctor - ma gyta fi air bothti hyny iddi wed - ond gan fod y matar wedi cial i dawli gan y colliars [sic] fe'i tawlwn nina fa am dicyn bach.

 

Wetyn ma lle bidir ma ar hyn o bryd bothti lecshwn y Shool [sic; = School] Board. Pidwch a rhyfeddu os clywch chi fod mwstwr hefyd cyn y diwadd. Dyw Shon Iefan ddim wedi gwed’i feddwl yn blaim iawn yto; ond ma fe wedi tawli hint neu ddou y'n bod ni'n mynd i gial batl ofnadw ma cyn cwpla. Wedi i ni gial “speech” Grand Old Man yr Efil fi cewch chitha hi: os ych chi yn promisho i doti ddi miwn i gyd ar unwaith.

 

Fe weta chi, beth sydd wedi bod yn bwnc clepar ofnadw ar y Pentan ddwetha i gyd - y son sy wedi dod bothti Lord Rosebery. Fe helws lythyr at Shon Iefan i wed na alsa fa ddim ledo'r parti ddim racor, tra bo dynon fel Shon Iefan yn meddwl yn ots iddo fe bothti Twrci.

 

Elsoch chi'r TARIAN yr wthnos ddwetha iddo fa? Ffor ddath e i wpod am farn Shon Iefan? Ond i gwpla'r cyfan fe ddath rhyw fachan shag yma ddo, i wilia sha Shon Iefan a'i holi bothti hyn a nall: a fe dynws rhyw giardan fach mas o'i bocad, a ma'n depig fod hono’n gwed ta Riportar rhyw bapyr Sasnag odd y dyn. Own i yno ar y pryd – a fi wetas i wtho yn blaim ta fi odd Ripertar pobpeth odd Shon Iefan yn i wed: ond werthin nath e felswn i yn ddim wrth i ochor e!

 

Bora ma fe ddath papur gyta'r ail bost i Shon a fe ddangosws yr hen ddyn y papur i fi; a dyma beth sy yndo mwn llythrena mawr – a dyma beth sy yndo mwn llythrena mawr -

 

LORD ROSEBERY'S RESIGNATION.

Interview with Shon Iefan, Esq.

 

Pan welas i hwn, wyddwn i ar y weddal beth wetswn i! Dim ond ddo odd y bachan yma: a dyma'r glepar fu rhyngto a Shon i gyd ar y papur cyn pen cwpwl o oriau, ys dywad dyn. Ma nhw lawar yn fwy cwic na chi.

 

W i wedi bod yn trio cyfieithu peth o'r interview i Gwmrag: a fe gewch dicyn bach o honi i ddoti yn y TARIAN. Ma fe'n dechra –

 

“Ar ol i mi gyraedd yr Efail lle gweithia yr hen wron Shon Iefan, mi a euthnm i fewn, a gofynais i fachgen oedd yn digwydd pedoli ceffyl ar y pryd, os oedd Mr Iefan ger llaw - atebodd yntau ei fod, a dangosodd i mi ddrws yn myned o'r lle pedoli i'r Efail: ac yno wrth ei eingion a'i lewys wedi eu torchi nes datguddio breichiau cyhyrog, a morthwyl yn ei law, pwysai ar yr eingion, gydag un droed i fyny ar y pren sy'n sail i'r eingion: ymddangosai yn batriarchaidd: gwallt hirlaes yn gorweddd yn fodrwyog ar ei war, barf hir yn cuddio ei frest, dau lygad byw treiddgar - eithaf enghraifft o Of Cymreig: yn wir, yr oedd arno olwg ramantus.

 

“Euthum ato, ac wedi ysgwyd llaw a dangos iddo fy ngherdyn, gofynais iddo a gawn ymddiddan ag ag [sic] ef am ychydig ar y cyfwng gwleidyddol presenol - fod y wlad yn edrych am ei farn?"

 

Atebodd yntau – “Ar bob cyfrif."

 

“Diolch yn fawr, Mr Iefan," ebe finau.

 

Gofynais - "Beth yw eich barn am ymddiswyddiad Rosebery?

 

“Dim ond beth oeddwn yn ddysgwyl” ebe yntau.

 

“Ar ba dir" - gofynais drachefn. "Wel,” ebe fe – “ar lawer tir. Yn un peth nid yw Harcourt ac yntau yn cyd-dynu fel y dylent. Peth arall, mae mwyafrif y blaid Rhyddfrydol yn erbyn arweinydd o Dy'r Arglwyddi, oc [sic; = ac] yn ddios Harcourt yw dyn y bobl. Nis gall Rosebery lai na gweled hyn, ac y mae yn edrych am gyfle i ymddiswyddo er's llawar dydd – ac o'r diwedd dyma gyfle wedi dod."

 

“Pam yr ydych yn meddwl ei fod yn gwneud cyfle o'r adeg bresenol - nid ydych yn gwybod ei farn - nid yw wedi traethu eto?” gofynais wedyn.

 

“Eithaf gwir," oedd yr ateb, “ond gwyddoch fod gan y Rothschilds arian mawr ar fenthyg yn Twrci - ac y mae Rosebery yn perthyn i'r Iuddewon goludog hyn - dyna ddigon: tynwch y casgliad bellach."

 

“Beth, feddyliech chwi, fydd effaith yr ymddiswyddiad ar y blaid Rhyddfrydol?”

 

“O!” ebe fe, “ei chadarnhau, daw'r pleidiau at eu gilydd. Mae Rosebery yn ddyn egwyddorol yn ddiau. ac yn foneddwr galluog, ond y mae ei hoffder mewn rhedegfeydd ceffylau, yn ei wanhau yn marn y wlad. Dyma chwi yn awr, ar bwnc Armenia, ble mae wedi bod cyhyd? Mae pawb o bwys ond efe, wedi dweyd eu barn yn ddiduedd. Ond gwelaf wrth y papurau ei fod ef wedi cael digon o amser i osod ei enw i lawr am tua 80 o redegfeydd ceffylau am y tymor sy'n dod. Nis gall dyn fel hyn fod yn allu moesol cryf mewn unrhyw blaid wleidyddol. A rhaid i olynydd Gladstone fod yn gryf yn y pwynt hyn. Mae'n ormod o'r dydd bellach i arweinydd Rhyddfrydol allu gwneud gwaith gwirioneddol tra mae yn cymeryd llaw mewn difyrion mor niweidiol i foesau a nerth cenedl ag yw “Gambling y Race Course.”

 

Dyna gwmint a gewch chi heddy. Fi geso i help i gyfieithu hwn gan fachan bach sy'n byw drws nesa – ac yn gwpod shaw o Gwmrag.

 

Dyna farn Shon Iefan bothti Rosebery yn lled blaim on-te-fa?

 

Wel, rhag ofan i'r pishin hyn fod yn rhy hir dyma fi yn gatal y pen ar y ford. Ma bechgyn y Pentan yn hela'n cofio [sic; = cofion] at fechgyn yr offis fil o witha.

 

Yr eiddoch a'i drad yn dwym a'i galon yn gynes.

 

RIPORTAR Y PENTAN.

October 9th.

 

 

....

 

------------------------------------------------------------------------------

Sumbolau: Æːæːā ē ī ō ū W̄ w̄ ȳ/ ˡ ɑ æ æːɛ ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː æː eː iː oː uː / ɥ / ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /

ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ [ә gæ:r]
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_145_pentan-shon-iefan_0299k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 17-08-2017
Adolygiad diweddaraf: 17-08-2017
Delweddau:
Ffynhonnell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
---------------------------------------

Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait