kimkat0224k O’r Pyllau Glo. Y Darian. 1905.

10-02-2019
 
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ●
kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat0224k Y tudalen hwn

 

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..
 
 
 
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
O’r Pyllau Glo.
(Y Darian. 1905).
(Cynhwysa ddarnau o dafodiaith Morgannwg a Gwent,
neu’r ‘Wenhwyseg’).



 

 


(delwedd 7282)

.....

 

 

None
(delwedd 5537)

Tarian y Gweithiwr

2 Tachwedd 1905

O'r Pyllau Glo.

(Copyright.)

Hwyrach nad oes un maes yn mhlith amrywiol feusydd llenyddiaeth Cymru lle ceir cymaint o ffrwyth ysmaldod a digrifwch a thirogaeth pyllau glo Morganwg, nac un dosbarth o bobl a mwy o amrywiaeth hynodion ynddo a'r glowyr duon, - y dosbarth y soniodd yr hen wreigen hono o'r wlad mor ddoniol am dano y tro cyntaf y gwelodd dorf o honynt yn dod adref ar brydnawngwaith - 'Wel, wel,' meddai hi, ‘mor debyg i ddynion yw nhw.' Ie, a dynion rhagorol yw tyrfa o honynt yn ddiamheu.

Soniodd fy nhad lawer am gymeriadau hynod gyfarfyddodd yn y pwll glo. Arferai eu darlunio a’u portreadu gyda’r fath hwyl a chywreinwydd nes peri i mi awyddu ganwaith i fyn'd gydag ef i'r gwaith, cyn gadael tymhor yr ysgol dyddiol. Meddyliwn y buasai gveled y lle a'r cymeriadau y soniai mor ddifyr am danynt yn gymaint o fwynhad i mi a darllen rhamant neu Fabinogi Gymreig. Felly, bryd bynag y clywn ef yn son am rywrai o'r pwll glo, cadwynid fy sylw ganddo ar unwaith. Galwedigaeth arferol fy nhad oedd tori glo, oud cyn fy mod i o fewn oedran i gofio llawer am hyny yr oedd afiechyd wedi ei orfodi i adael y gwaith hwn.

Adeg y streic fawr a'r 'lock out' y dechreuodd golli ei iechyd. Yn ngwyneb yr amgylchiadau adfydus ar lowyr y Deheu yr amsar hwnw, llwyddodd efe, fel ychydig ereill, i gael peth gwaith mewn level oedd yn enwocach am ei diffyg awyr na dim arall. Parodd hyn i ddiffyg anadl ei feddianu yntau, ac agor y drws i'r darfodedigaeth, yr hwn ddolur yn mhen blynyddau aeth ag ef i ffordd yr holl ddaear. Wedi adeg y streic, ac i'w iechyd ddiflanu cafodd le i fod yn 'flueman' mewn pwll hen ffasiwn. Yr oedd hyn, wrth gwrs, cyn bod y ffan wedi dod i ymarferiad cyffredinol yn y glofeydd. Pan wrth y gwaith hwn clywais son ganddo am Dafydd y Pwyswr, Dic yr Itshwr, Twm Tot, ac ereill. Bu rhaid iddo addaw myn'd a mi i wel'd y pwll ar foreu Sadwrn. Aethum, a gwelais bethau anhygoel a synfawr i mi y boreu Sadwrn hwnw. Ofnwn fyned yn rhy agos at dan ffliw. Tybiwn fod ynddo debygrwydd ofnadwy i'r hyn a ddesgrifiai hen weinidog ein hardal fel tan uffern. Ni fynwn fyn'd yn agos ato, rhag i mi gael fy ysu, a gobeithio n ai [sic; = nad] felly y parhaf i deimlo mewn perthynas a'r lle poenus arall. Yr oedd fy rhad hefyd yn gorfod gosod ei gadach gwddf ar ei wyneb wrth nesu ato, a meddyliwr. - Beth am y llu fydd yn gorfod gwynebu y tan nad yw byth yn diffodd? Hwyrach fod pobl yn nesu at hwLw [sic; = hwnw] yn rhy ddifraw o lawer, ac heb gadach, ond cadach hunan-gyfiawnder am eu heneidiau. Y mae sawr y tan hwn ar ddillad, a'i liw ar wynebau llawer yn ein dyddiau ni, ond cadach gwael fydd hunan-gyfiawnder i guddo ragddo.

 

 

None
(delwedd 5538)

Nodwedd amlycaf Dafydd y pwyswr oedd ei fodd [sic: = fod] yn fardd go fedrus. Pwysai gerbydaid o lo yn dda, a phwysai y sawl a'i llanwai lawn cystal a hyny yn nghlorian ei awen lithrig, a chafwyd aml i lowr yn rhwym yn hualau penill ar y glorian hono er difyrwch ei gydweithwyr. At Dafydd yr elai cymydogion yn amser adfyd a thristwch i ofyn a thalu am benillion coffa, ar ol eu hamwyliaid; ac hwyrach nad oes fardd yn Nghymru gyfansoddodd fwy nag ef yn y cyfeiriad yma. Efe oedd Jeremiah yr ardalodd, ac nis gwn na chasglodd ddigon o ddagrau ‘made to order' i lanw gwely y mor marw. Er hyn, cofier, dafnau digon byw a chywir oedd yn dyfod o gynyrch awen Dafydd.

Ar y pwnc hwn nis gellir anghofio yr ystori am Dewi Havesp: - Yr oedd Dewi, fel y gwyddis, yn fardd gwych, ac wrth ei alwedigaeih yn deiliwr. Rhywbryd yn ystod ei oes, gweithiai yn nghwmni dau neu dri ereill ar lofft ystafell. Un dydd, clywid curo trwm ar y drws, yr hyn a ddigwyddai yn dra mynych, ac aeth Dewi i edrych pwy oedd yno, dipyn yn anfoddog o herwydd cael ei aflonyddu o hyd. Dychwelodd, a gofynodd un o’i gydweithwyr, ‘Wel, Dewi, pwy cedd yna?’ ‘O!’ atebai yntau, ‘hwn a hwn oedd yna yn estyn coron i mi er gosod rhyw gythraul yn y nefoedd eto!’ Ond ni ddaethum ar draws un enghraifft o'r fath yn ngweithiau Dafydd y Pwyswr.

Ato ef, hefyd, yr elai pobl anllythrenog ei ardal i ysgrifeni llythyrau, &c., a chofus genyf am un llythyr a ysgrifenodd, fu yn destyn digrifwch gan lawer yn yr ardal. Aeth Daniel Byrolwg ato i ofyn am gael llythyr wedi ei ysgrifenu at ei wraig, yr hon oedd oddicartref. Meddai Daniel, 'Wi’n moyn i chi sgryfenu llythyr at Mari ngwraig yn nwr y mor, a wi'n moyn i chi roi popath weta i lawr fel bydda i'n gweyd.



LLAW FER.

(I'w barhau).


...

 

 


None
(delwedd 5534)



Tarian y Gweithiwr

8 Tachwedd 1905

O'r Pyllau Glo.

[Parhad.]

(Copyright.)

‘Ol reit,’ atebodd Dafydd, ac aeth i barotoi papyr ag inc.

Yn y cyfamser, daeth gwraig y ty o rhywle, ac fel gwragedd yn gyffredin, dechreuodd holi a hela Daniel, a dweyd llawer iawn mwy nag oedd yn dderbyniol ganddo yn enwedig ar amser ysgrifenu llythyr. Tra y siaradai y wraig a Daniel fel hyn a'u gilydd, sylwid i fod Dafydd yn brysur wrth y papyr a'r inc, ac meddai Daniel yn sydyn –

'Oti chi'n barod i ddychra, Dafydd?'

‘Otw i, ac wedi dychra hefyd,' atebodd yntau.

‘Wedi dychra! - y dyn!  -'

'Mae'n ol reit, Darnel,' meddai Dafydd, gan guddio y papyr, ‘own i ddim ond wedi rhoi nodiad rhagarweiniol i lawr, ewch chi mlaen 'nawr.”

‘O, da iawn,' meddai Daniel, gan ddechreu hysbysu beth oedd i fod yn y llythyr a siarad drwyddi draw gyda'r wraig.

Yn mhen tipyn yr oedd y llythyr wedi ei orphen, a Dafydd yn ei ddarllen er syndod a mawr gythrwfl i Daniel druan. Yn canlyn wele gopi o hono: -

133, Tai Isaf,

Cwm Teg,

Gorph. 20, 18—

Anwyl Wraig, - Ia, gwydda bach net i nhw - i ni wedi lwco yn lled dda bob tro gyta'r gwydda - na, o ni ddim cystal dwylo

 

 

None

(delwedd 5535)

gyta'r moch – na, dyw'r plant hefyd ddim yn dda iawn gen i - ia, i chi'n eitha reit, Martha, creduried costus iddi cwnu i nhw, a does dim proffit yn y diwadd - di nhw ddim ond fei clwb arian - talu miwn a'u cal rhw mas, - Ia wir, i chi'n gweyd calon y gwir Martha.


‘Oti chi'n barod i ddychra, Dafydd?'


'Wedi dychra! - y dyn! -'


‘O, da iawn. 'Nawr i chi'n gwpod ffordd ma doti y pethach lawr yn well na fi. Fe fydd yn well i fi beidio gweyd fod y plant wedi cal anwd trwm nes daw hi nol, a bod y grotan sy gen i wedi colli hanar sofrin nos Satwrn ar y ffordd i'r pentra; ond tyna, gwetwch wrthi y'n bod ni yn iach i gyd 'ma, ac yn falch iawn ei bod hi yn enjoyo'i hunan, - eitha gwir, Martha, ma lot o drwpwl i fi fod hepthi, a'r plant 'ma mor aflonydd, waeth y gwr drwg i hunan yw'r un fach leia ma, wn i ddim i bwy'n byd ma perthyn, na i! – ’


‘O, ia, gwetwch wrthi nag os dim eisha iddi wylltu i ddod nol, bo fi yn manejo'r ty yn ol reit, a'r plant jn ogystal. Fe allwch chi weyd popath felna. Do, fe fu amsar lled ddrwg yco bora dydd Gwenar. Fe a'th yr hen grotan yco mas, a'r drws ffrynt ar acor, ac fe aeth ffowls ag wch facu y drws nesa miwn i'r ty, ac fe nethon alanastra ar y lle 'co! Fe dipson y ford a'r llestri frecwast i'r llawr, a rodd y grotan wedi bod yn golchi y dwrnod cyn 'ny, ac wedi doti yr hors a'r dillad wrth y tan yn y bora i sychu, ac onibai i'r cymdocion i sylwi miwn pryd fe fysa yr holl dy wedi mynd yn wenfflam; fe losgwd y dillad a'r hors yn ulw. Fe fydd yn fendith fawr i fi weld Mari'n doc rol, ond wff gwrs os dim iws i fi i i ha!la i moyn hi nol i chi'n gweld,




 

 


None
(delwedd 5536)

- Otyn – a gwydda ty ycha hefyd - os ta fi ddim arall i weyd wrthi Dafydd. Gobeitho'ch bod chi wedi gallar ca'l rhyw sens o wrth beth w i am weyd wrthi, ynghanol y nglepar i a'ch gwraig chi. Dyma'r enfylop a'r stamp.

Gyda chofion gwresog iawn oddiwrth eich anwy1 briod, DANIEL BYROLWG.'

Gellir dweyd am Daniel pan ddarllenwyd y llythyr ‘a gwedd ei wyrebpryd ef a newidiodd, a’i liniau oeddynt yn curo’n nghyd.'

Ond dysgodd y wers bwysig o beidio siarad am bawb a phobpeth pan yn disgwyl i rywun arall i wneud synwyr allan o'r hyn a ddywedai. Ni fu Dafydd, er hyn, yn hir cyn ysgrifenu llythyr arall i uniawni'r camwedd, a gnaeth i Daniel efelychu gwen haul Ebrill ar ol cawod o wlaw sydyn a bygythiol.

Y peth hynod yn hanes Dic yr Itshwr oedd ei fod yn Sais oedd wedi dysgu peth Cymraeg, a rhwng arfer y ddwy iaith trwy eu gilydd yr oedd bron mynd i wneud iaith newydd ‘home made’ at ei wasanaeth ei hun. Siaradai rhywbeth yn debyg i hyn – Shwt ma chi eddy? Ma chi’n weddol dda? Da iawn, ma ni hefyd. Mae'n tywydd splendid nawr - ticyn bach o g'res tw mytsh. Mae'n ala pen yn dost ‘giddy’ reit, a gwallt dyn yn llosgi jyst i gyd.

Fel yna y cabldorddai o awr i awr nes byddai yn anmhosibl bron i beidio chwerthin.

Yn mhrydnawn ei oes cafodd Dic ofal gweithio’r 'inclain' oedd yn cario y glo oddiwrth y pwll i lawr at y reilffordd.

Digwyddai goruchwyliwr cyffredinol y gweithfeydd fod yn ddyn tebyg i Dic o ran ei ddull ymadrodd.

Un dydd, ymwelodd y goruchwyliwr a'r pwll lle y gweithiai Dic; aeth ato, gan ei gyfarch fel hyn –

‘Shwt ma chi eddy?’

‘Shwt ma chi eddy, syr?' meddai Dic yn ol.

Trodd y goruchwyliwr yn sydyn, gan ddywedyd – ‘Ma chi'n gwpod ta pw ma chi'n wilia?'

‘Otyn, ma ni'n gwpod, syr, ma ta'r genral manejer ma ni'n wylia,' atebai Dic.

‘Nawr, ma chi'n mocan ni, i chi ddim?' crochlefai y swyddog.

'Nag i ni!' atebai Dic yn ostyngedig, 'ma ni ddim yn mocan chi, syr, all ni ddim help ma ni wylia shwt a chi, at ol, syr.'

Ond 'doedd dim ffordd perswadio y goruchwyliwr, a buasai Dic druan wedi colli ei waith yn hollol ddiseremoni, onibae i'r is-oruchwyliwr gyfryngu ar ei ran ac esbonio pethau.

LLAW FER.

(I'w barhau).


....

------------------------------------------------------------------------------
Sumbolau: Æːæːā ē ī ō ū W̄ w̄ ȳ/ ˡ ɑ æ æːɛ ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː æː eː iː oː uː / ɥ / ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /
ә ʌ
ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ [ә gæ:r]
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_137_o-r-pyllau-glo_0224k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 14-07-2017
Adolygiad diweddaraf: 14-07-2017
Delweddau:
Ffynhonnell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
---------------------------------------
---------------------------------------

Freefind.

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE

Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?

 

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait


Web Analytics Made Easy -
StatCounter

Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres Estadístiques / View Our Stats