kimkat0222k Llith Dafydd Gwr Nansen. Y Darian. “Clyw, y llymgu baclog," ebai, “pwy ddwedodd wrthot ti dy fod yn gallu llywio bad ar y cynel?”
12-06-2017
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ●
● ● kimkat0222k Y tudalen hwn
...
|
|
(delwedd 5589) |
Llith
Dafydd Gwr Nansen. 11 ? (Parhad.) (Parhad.) Mr. Golygydd,- Ni chafwyd fa,wr
trafferth i gael y meistr a'r bardd allan, oherwydd dech reuodd y telynor
ganu Ymdaith Gwyr Harlech" mewn double quick time, fel yr oedd yn
byfrydwch sylwi ar eu symudiadau yn y dwr dan ysbryd- iaeth cerddoriaeth
swynol y delyn, ae fel y sylwyd ni fuont fawr amser cyn cyrraedd y lan, a bu
y bardd am rai eil- iadau yn eadw y step yn ol ac ymlaen, a chredaf na fuasai
wedi sefyll eto oni- bai i Nansen mewn llais double bass waeddu Holt."
Mae rhyw ysbryd milwrol rhyfedd wedi cydio yn y bardd er pan ddechreuwyd
brwydr fythgonad- wy y llaeth a'r wyau, ac y mae wedi cael nn stripe a llun y
goron ami er dangos ei fod yn un ag awdurdod gan- ddo ar faterion milwrol. Os
enilla efe ragor o stripes, a thepig y gwna, bydd raid iddo gael rhagor o
freichiau neu estyn y rhai sydd ganddo yu barod, oherwydd mae y stripen sydd
ganddo yu a.wr bron a chuddio un fraich. Ond g'yda. fod y meistr yn gosod ei
draed ar "terra Brma," ys dywed yn- tau, i ffwrdd ag ef fel dyn
ynfyd at y gwr oedd wrth y llyw, ac yn dechreu dweyd y drefn yn o arw wrtho, “Clyw,
y llymgu baclog," ebai, “pwy ddwedodd wrthot ti dy fod yn gallu llywdo
bad ar y cynel? Gollwng yr helm a dere i-iias; chyrhaeddwn ni ben y daith
fyth fel hyn dere mas, dyma'r ail waith i'r bad fynd yn sound 'da ti; dere
mas, neu di, dere mas." "Na, un," medd- ai'r Llew dipyn yn
spetilyd, "rw i yn deall navigation gystal a ti un awr o'r dydd." N
êwigation! navigation:" ebe'r mstr ar dop ei lais, "dishgwl yma,
'does dim mwy o navigation yn dy ben di nag odd yn mhen hen asen Stroud gynt.
Dere mas, dere mas." Fel y gwelwch un penderfynol iawn yw y meistr, ac
yr oedd y Llew mor 'styfnig a'r asyn a soniwyd am dano, ond yr oedd Dafydd y
Crydd fel arfer a'i lygad ar ol pobi, ac yn gweled perigl o dywallt gwaed,
oherwydd yr oedd allwedd y lock yn Ilaw y meistr, a chnepyn o lo yn llaw y
Llew, a golwg fygythiol ar y ddau. Ond cyfryngodd y Crydd mewn pryd, a
chafwyd gan y Llew roddi y llyw o'i law, gan fod cymaint o anawsterau
mordwyol o'n blaenau; hynny yw, mud banks, a sal- mon tin banks, etc., pethau
sydd yn gyffredin iawn yn y rhan yma. o'r cynel. Er cael trefn gosodwyd y
llyw yn Haw Nansen, ac ni chafwyd trafferth mwy- ach; ond cyn cychwyn galwyd
sylw y cwmni at Wil Tilwr, y Meistr, a'r Bardd, a, edryehent yn eu dillad
gwlyb- ion fel pe baent wedi bod dros eu pen- nau yn sample llaeth
Portardawe. Cynhygiodd y Telynor, gan nad oedd fawr pwysau cornorol yn
perthyn iddynt, eu bod yn cael eu hongian wrth raff y bad hyd nes byddent
wedi sychu. N a," ebe Llewelyn Faclog, peidiwch gwneud hynny, rhag ofn i
drigolipn Ystalyfera gredu ein bod wedi dal rhai o'r Irish Rebels, a'n bod
wedi eu hongian a dyfod i'w dangos ar hyd y wlad, er fy mod yn credu yn
gydwybod- ol fod llawer o waed ac ysbryd y Gwyddel yn Wil Tilwr, a'i fod yn
haeddu cael ei hongian, ond gan fod cymaint o alw am bob peth sydd ar. lun
dyn yn bresennol, yr wyf yn gorfod bod yn dawel rhag ofn ei golli. Barnai un
o toys Llwynbedw mat y peth doeth- af fyddai cael y Telynor i chwarae Har-
lech eto mewn double demi semi quavers, a gosod y tri i gadw" y step am
dri chwarter awr, yr hyn a,'u gwnelent nid yn unig yn sych tuallan ond y tu-
fewn hefyd. Ond ar hyn dyma'r Ap, y Telorydd, a'r Barbwr yn dod i'r golwg, ac
yn trefnu i roddi benthyg pobo suit sych i'r tri physgodyn. Felly gWllawd
trefniadau er ail gyehwyn. Gosodwyd y ceKylau ar y llwybr iawn, a'i cyfeiriad
at Bortliywawr; a chafodd yr Ap, Telorydd, y Barbwr, a. minnau y fraint o
ymuno a chylch cyfrin Dafydd y Crydd & Co. ar ganol y bad, a chefais
arddeall fod yr oil o'r cwmni yn cyfeirio at Borthywawr. Felly gosodais fy
hun yn gartrefol, am nad oedd angen ofni gan fod y llyw yn llaw Nansen, a, Meistr
y Cynel yn cadw llygad ar Llewelyn Faclog a Wil Tilwr, ac wedi eistedd yn y
cylch deallais mai yr hyn oedd dan sylw ganddynt oedd darlun tlws mewn oil
painting amrywiiwiog o Drantp en- wog y Darian. (I barhau.) |
|
|
(delwedd 5589) |
-
|
|
|
(delwedd 5589) |
-
|
....
------------------------------------------------------------------------------
Sumbolau: Æːæːā
ē ī ō ū W̄ w̄ ȳ/ ˡ ɑ æ æːɛ
ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː
æː eː iː oː uː / ɥ
/ ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ
ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ
əʊ /
ә ʌ ẃ
ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ
ỳ Ỳ [ә
gæ:r]
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_136_llith-dafydd-gwr-nansen_0222k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 10-07-2017
Adolygiad diweddaraf: 10-07-2017
Delweddau:
Ffynhonnell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
---------------------------------------
Freefind: |
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (=
Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait