10-07-2017
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ●
● ● kimkat0221k Y tudalen hwn
|
Gwefan
Cymru-Catalonia (Cynhwysa ddarnau o dafodiaith Morgannwg a
Gwent, |
|
...
|
|
(delwedd 5759) |
Y Darian. 19 Mai
1916. Catiau
Cwta Catwg. "Cas
yw'r gwirionedd: yn y lle na charer," medd yr hen ddiareb, ac anawdd ydyw
anghofio camweddau'r gorffennol, er mor faddeugar y dichon i ddyn fod. Yn
canlyn wele bennill a gyfansoddodd rhyw brydydd yn Sir Aberteifi yn agos i
hanner can' mlynedd yn ol pan oedd rhai o'r bobl yno am eu bod yn digwydd bod yn
Rhyddfrydwyr cydwybodol yn cael eu troi allan o'u tai a'u tiroedd gan y
perchnogion Ceidwadol dialgar, a phan y cauwyd i fyny mewn un plwyf hyd yn
oed y capel Anghydffurfiol: "Shon
bach o Benrhiw Road, Weles i shwd beth erio'd! Cnwd o
borfa'n tyfu'n las Ar y
ffordd i Foddion Gras!” -- Ymddengys
fod “whisky” a "brandy” yn cael eu hyfed yn dra helaeth mewn rhai
parthau o Gymru flynyddau lawer yn ol - mwy felly, efallai, nag yn y dyddiau
hyn, oherwydd fod y Llywodraeth yn ddiweddar, o achos y Kaiser a'i ryfel
melldithiol - ond "bendithiol," fe ddichon, yn yr ystyr yma - wedi
gorfod dodi trethi drom ar y gwirodydd hynny. Fel hyny ceryddodd yr hen
fardd, Llwydfryn Hwfa, Gogledd Cymru, un o'i gymdogion oedd yn hynod am ei
syched a'i ymroddiad i'r gwlybyrod tanllyd a enwyd: - "Fe
losgaist dy fol a whisgi - cysgaist Uwch
cascen o frandi! Ddiwrnod
tost ddaw arnat ti - Hêl esgyrn i'w
hail-losgi!" -– Gwir y
dywedodd rhywun - "Pe byddai i'r holl 'starch' sydd yn wynebau rhai pobl
gael ei gymeryd oddi yno a'i roddi yn ein crysau y byddai llai o gwyno am yr
olchwraig." Un o'r bobl hynny oedd y "gwrthwynebwr cydwybodol” a
glywais yn crochlefain rai dyddiau yn ol yng nghlyw ei gymdogion. "Yr
wyf, wrth lwc, yn ddeiliad rhydd o wlad rydd, ac yn sefyll fel dyn ar graig ddiysgog
rhyddid i bob barn a chydwybod dda.” "Nac wyt, yn wir, fy machgen mawr
i," atebai ei grydd, yr hwn oedd yn ei wisg nlwrol a newydd ddychwelyd
gartref o Ffrainc yn glwyfedig, "Yr wyt yn sefyll ar wadnau esgidiau na
thalaist ti na neb o'th dylwyth erio'd am danynt!" Bore drannoeth yr
oedd y crydd mor lwcus a derbyn 10s. 11d. mewn "postal order” am yr
esgidiau, ac yr oedd y swm yn llesol iawn iddo ef a'i deulu ar y pryd. -- Gan
gofio'r hen ddiareb yn ddibaid, sef "A fynno glod bid farw," byddai
ambell fardd neu lenor doeth yn yr oesoedd gynt yn hytrach na gadael ei
gymeriad yn hollol yng ngofal ei berthnasau neu ei gyfeillion yn gofalu mewn
pryd ddarparu y beddargraff a chwenychai. Dywedir fod y diweddar Mr. Jonathan
Reynolds (Nathan Dyfed), Merthyr Tydfil, yn un o'r i doethion barddol hynny,
a'r beddargraff a wnaeth iddo'i hun yn 1848, flynyddau lawer cyn iddo fynd
o'r byd yma, oedd hwn: - "Sut
am a fu? Ust! dyma fedd - Nathan. Nwythus
fardd, o duedd Go dda,
go ddrwg, gwawd, gwg, gwagedd, Fu'i
reolwr hyd farw, a'i wledd." A
gerfiwyd y geiriau ar ei garreg fedd nid wyf yn digwydd gwybod. |
|
|
(delwedd 5760) |
A ydyw yn
wir fod y llinellau a gofnodir isod wedi cael eu gweled yng nghladdfa'r
Methodistiaid ym Myddfai, Sir Gaerfyrddin, flynyddau yn ol? Os ydyw, gallwn fod
yn sicr na chyfansoddwyd hwynt erioed gan Sarah ei hunan, pwy bynnag oedd hi,
a pha mor enwog bynnag oedd hi fel cantores. Dyma'r llinellau fel y clywais
eu hadrodd, os ydyw fy nghof yn dal yn gywir: - "Cyrhaeddodd
Sarah fyd Y
gwaredigion, A chanu mae
o hyd I Frenin
Seion; A medra'r
gân mor glir Nes tybia
rhai, yn wir, Ei bod hi
yno'n hir O flaen
angelion!" -- Mawr y
wybodaeth ydym yn [g]allu gasglu o hen ganeuon am helyntion y byd a'i bobl yn
y gwahanol gyfnodau y denwyd y prydydd parod i'w darlunio hwynt mor syml i
oesoedd lawer ar ol hynny! Er engraifft dengys yr hen bennill Canlynol y
clywid ei ganu yn fynych yn ardaloedd gwledig Cymru yn yr hen amserau fod
galwad fawr am ferched bochgoch a gweithgar ein gwlad yn Llundain i chwynu gerddi'r "gw^yr
mawr" yno, am fod y bobl hynny eu hunain yn rhy anneallus, yn rhy
ddiwyd, neu yn rhy ddiog i gyflawnu gorchwyl mor syml: - |
|
|
(delwedd 5761) |
"Mi
âf i Lundain G'lanmai, Os byddaf
byw ac iach, Ni safa'i
ddim yng Nghymru I dorri
'nghalon fach; Mae arian
braf yn Llundain, A swper
gyda'r nos, A mynd
i'r gwely'n gynnar Gan
godi'n fore'n glos.” -- Dywedir a
fynner am feiau neu ddiffygion deiliaid amrywiol yr Unol Dalaethau, y mae eu
crefyddwyr yn sefyll mor uchel ag eiddo unrhyw genedl arall ar wyneb y
ddaear, os nad yn uwch, ynghyd a'u gwybodaeth eang am leoliad, daearyddiaeth,
a hanesiaeth swynol Tir Sanctaidd Palestina, neu wlad Canaan, sydd yn awr, yn
anffodus, yn dioddef oddiwrth anrhaith ac erchyllterau rhyfel melldithiol y
Kaiser a'i gw^n annwn! Y mae o leiaf ddau reswm da yn cael eu rhoddi am eangder
neu ragoriaeth gwybodaeth ein perthnasau o'r ochr draw i'r Werydd yn y
cyfeiriad yna. Y cyntaf ydyw fod lluaws o eglwysi'r Talaethau yn caniatau i'w
gweinidogion dalu ymweliad a Phalestina, ac yn dra haelionus yn dwyn yr holl
draul. Yr ail reswm ydyw am fod y gweinidogion hynny ar ol dychwelyd gartref
yn llwythog o fanylion ychwanegol a gasglwyd yn bersonol ganddynt yng Ngwlad
yr Addewid, yn arfer dysgu o'u pulpudau ddaearyddiaeth Feiblaidd i'w
cynulleidfaoedd, ac egluro hynny drwy gymorth darlunlenni nes argraffu y wers
yn fwy dwys ar feddyliau'r gwrandawyr. Pa bryd y ceir gweled eglwysi Cymru
a'u gweinidogion yn gwneud cymaint o ddaioni a hynny i'w cynulleidfaoedd hwy?
-- Po
gofynnid i rywun heddyw at bwy y cyfeiriai "enaid proffwydol" un
o'n cyn-feirdd mor hyll yn yr englyn canlynol, yr wyf yn sicr yr atebai'n
gywir ac yn ddibetrus mai at Satan, neu y Kaiser, fel y gelwir ef yn fwyaf
cyffredin yn awr: - "Cawrywiad
ddofn a ofnwn, - daw ellyll A dwylla
fil-miliwn; Wele
freiniawl faer annwn - Du fwli
hyf dieifl yw hwn!” Ond i
chwi ddodi'r darlun erchyll yna i hongian ar fur eich ystafell wely,
gyfferbyn â'ch wyneb, chwi fyddwch yn sicr o fynd i orffwys yn y nos, a chodi
bob bore cyn toriad y wawr heb ofyn am oleu canwyll, nag olew, na nwy, na
thrydaniaeth, a byddai'r fath gynhildeb yn help mawr ar hyn o bryd i symud y
Satan, fel y mae yn y cnawd, oddiar
wyneb y blaned hon am byth! -- Eto, pe
bae mab lladronllyd y Kaiser, sef y Tywysog Coronog, yr hwn sydd wrth ei fodd
pan y gwel efe yn y tai neu'r eglwysi glociau, llestri arian, a'u cyffelyb,
gwerth eu meddiannau, yn medru darllen Cymraeg, a phe chwenychai gad y Beibl
yn yr iaith honno, naill ai fel anrheg neu fel yspail, pa un o'r gwahanol
argraffiadau, hen neu, ddiweddar, a fyddai'n debig o ddygymod a'i
"gydwybod" bach ef? I ateb y cwestiwn fy hunan, anturiaf ddweyd mai
yr argraffiad cyntaf a gyhoeddwyd yn y flwyddyn 1546, oblegid yn hwnnw yn
hollol ddifwriad, yn ddiameu, gadawyd allan o'r Deg Gorchymyn yr wythfed, sef
"Na ladratta!" Os oes copi o'r Beibl hwnnw yn meddiant rhyw
sefydliad neu berson yng Nghymru, gobeithio y cedwir llygaid craffus a
gwyliadwrus arno yn ddibaid, yn ogystal ag ar y "Tywysog Coronog,"
os digwydd i'r arch-leidr ddyfod yn agos atom i "wydd-gamu” am ychwaneg
o yspail! -- Y mae'r
englyn canlynol a gyfansoddodd Twm o’r Nant i ryw greadur hynod o hagr a
phechadurus a welodd ef cyn llosgi "coke" yn debig i ryw raddau i'r
yspeilgi uchod gyda'r eithriad o'r enw a'r gwaith, a'r ffaith waradwyddus fod
y "Tywysog Coronog" eisoes yn “eiddo y diafol" (ei dad) er pan
y ganwyd ef: - "Tân
uffern wyt yn ei hoffi - yn sicr, Mae'r
'sharcoal’ yn poethi; Oni
newidi di, Nedi, Eiddo y
d---l fyddi di!" |
....
------------------------------------------------------------------------------
Sumbolau: Æːæːā ē ī ō ū W̄ w̄
ȳ/ ˡ ɑ æ æːɛ ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ
iˑ oˑ uˑ ɑː æː eː iː oː uː / ɥ / ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ
əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ
ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ [ә
gæ:r]
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_135_catoiau-cwta-catwg_0221k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 10-07-2017
Adolygiad diweddaraf: 10-07-2017
Delweddau:
Ffynhonnell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
---------------------------------------
Freefind: |
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (=
Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA
(= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait