kimkat0220k Cerddi Cwm Dâr. Papur Pawb. 1899.

12-06-2017
 
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ●
kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat0220k Y tudalen hwn

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..
 
 
 
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
Cerddi Cwm Dâr
(Papur Pawb. 1899.)


 

 


(delwedd 7282)

 

...

 

 

None

 

(delwedd 5694)

Papur Pawb
5 Mai  1899.
Cyf. 7. Rhif 327.

CERDDI CWMDAR

I: - PROFIAD GWRAIG.
Wirione' i, John, mae dy arfer
Bron, bron, myn'd yn ormod i mi;
Pe gwyddwn, ni chym'rwn ddim llawer
Am roddi fy hunan i ti.
Pa beth wyt ti am yn y parlwr?
A'th 'sgidiau yn wlyb - dear me,
'Does neb yn y byd mewn fath gyflwr
O ofid a thrafferth a fi.

Y ddoe trwy y dydd bu'm yn 'sgrwbio,
A threfnu o foreu hyd hwyr,
A thyma ti heddyw'n en 'dwyno
O bwrpas i'm poeni, dyn wyr;
Wirione' mae dyn wedi myned
Yn bla anioddefol i wraig,
Mae'n ddolur i'm llygaid dy weled,
Mae'n rhaid fod dy galon fel craig.

Wyr dyn yn y byd beth yw gofid,
O na, ond my lord yw bid siwr;
Eistedda'n y cornel mewn hawddfyd,
Ni chyrcha gwpanaid o ddw'r;
Pan fyddwyf ar ganol fy ngwnio,
Mae'n rhaid taflu'r nodwydd naill du,
A gosod pob peth yn ei ddwylo,
Onte fe fydd tiwn yn y ty.

Y fi rhaid gofalu am bobpeth,
Mae 'meddwl a'm breichiau o hyd
Yn gorfod ffwdanu am rhywbeth,
I iro ei echel bob pryd.
Neu fe fydd yn rhygnu a grwgnach
Fel corgi, tra bydd yn y ty;
Ond dyna, pa ddyben i'm foddrach,
Yn para'r un peth mae - "John ni."

Os na ddaw llinynau'r treuliadau
I gwrdd yn y penau nos "pai,"
Y fi sy'n gwastraffu'r trysorau (?)- 
Ac arno i gyd y mae'r bai.
Mae ef wedi gwneyd ei ddyledswydd,
Ond iddo gael dyweyd hyny 'i hun,
A bygwth bob Sadwrn mae f'arglwvdd
Aiff 'nol at ei fam boreu Llun.

Fe garwn pe byddai mor galled
Ac aros fan hono yn nghlwm,
Cyn imi erioed idd ei weled,
A'm harwain i drafferth mor drwm;
Does ganddo ddim byd idd ei wneuthur
Ond enill a bwyta ei bryd,
Y fi sy' raid llethu fy natur
I gwrdd a'r trafferthion i gyd.

Pwy byth fynai wr, pe yn gwybod
Yr hanner am danynt ? - Ond ha!
Mae'n well i mi beidio trin gormod,
Rhaid addef fod ynddynt "beth da;”
Mae dyn yn ei le'n weddol deidy,
Rhyw frith i ni yma i gyd,
Ei gadw dan law rhaid er hyny,
Yw 'mhrofiad bach i yn y byd.
BACHAN SY'N GWEITHO'R NOS.
 

 

 

None

(delwedd 5693)

 
Papur Pawb
13 Mai  1899.
Cyf. 7. Rhif 328.


CERDDI CWMDAR

 

II. -  ¥ GLEPWRAIG.

 

Y Glepwraig, sut mae yr hen chwaer?

Rwyf am anfarwoli ei bri;

Bydd rhaid i fi ymgais yn daer,

I ddilyn ei chamrau gwyllt hi;

Nid gwiw i mi ddechreu ymdroi,

Ond iraf gymalau fy nghan,

A blychaid o jelly traed lloi,

A'u rhwbio yn dda wrth y tan.

 

Fe'i ganwyd ar foreu dydd Llun,

Tae hyny o bwys genych chwi,

Ac nis gall neb byw ond ei hun

Fyth ddathlu ei chlod fel myfi;

Mae'n gwybod holl helynt y wlad,

A mwy na'r holl helynt yn wir;

Mae 'i thafod fel eang ystad,

Yn cuddio milldiroedd o dir.

 

Pan nad oedd "gwefrebydd" mewn bod,

Cyn dwyn y "pellseinydd" i'n byd,

Bu'r "Glepwraig" yn arllwys ei chod,

A phery i arllwys o hyd??

Ac er ei bod bellach yn hen,

Mae'i geiriau mor fuan a'r mellt;

Gwna i'r stori o'r bwlch uwch ei gen

I fyn'd megis tan trwy y gwellt.

 

Mae newyddiaduron pob iaith,

Gohebwyr, yn hil ar ol hil,

Yn ymgais i gipio ei gwaith,

Ond nis gallant gyrhaedd ei 'sgil;

Mae'r "olaf argraphiad" ar ol,

Swynhudol, newyddion gwyllt hon;

Mae cynnyg ei chanlyn yn ffol, Os ydy y'n marchogaeth ei ffon.

 

Dim ond i chwi grybwyll blaen gair

0 ddechreu "pen stori" wrth hon,

Fe esyd yr ardal yn bair,

Cyn trowch chwi o'i gwyddfod hi bron;

Ran hyny, does eisieu dyweyd dim,

Gall esgor ar 'straeon ei hun,

Mae’i thafod a'i chrebwyll mor chwim

A winciad rhwng mebyn a mun.

 

Un cyflym yw'r milgi meingefn,

Mesura ef filldir yn chwap,

Gall gynnyg a chynnyg drachefn,

Cyn byth daw mor gyflym a'i chlap.

Dywedir "mor gyflym a'r gwynt"

Am lawer o bethau'n y byd,

Aiff chwedlau y "Glepwraig" yn nghynt

Na dwsin o wyntoedd yn nghyd!

 

Pa ddyben ymholi fel hyn

Am wrthddrych mor fuan a hi?

Fe fyddai'n rhedegfa lled dyn

Rhwng meddwl a hon, dybiwn i.

Ond nid ei chyflymder yw'r holl

Anrhydedd a berthyn i hon;

Mae'n hael, - nid yw'n codi un doll,

Ond traetha yn rhad ac yn llon.

 

Er iddi faldorddi'n ddidaw,

Trwy gydol ei hoes hyd ei bedd,

Nid byth yr estyna ei llaw

Am geiniog, i dori ein hedd;

Mae'r blas y mae'n gael gyda'r gwaith

Yn ddigon o dal i'r un hoff;

Siarada lawn cymaint a saith

Offeiriad heb un gair yn gloff.

 

Mawr cymaint a roddir o fri

I Gladstine [sic] o hyd ac o hyd;

Pe cawsai hon fyn'd yn M.P.,

Siaradai'r hen Hercwlff yn fud!

Fe ddaliwn "lwy bres," neu lwy bren,

Pe byddai'n yn Dori mewn barn,

Cai Salsbri fyn'd draed dros ei ben

I bydew dinodeb yn sarn.

 

Estynai'n Brenhines ei llaw,

A'r "seliau" i hon yn ddiwad;

Gwnai'r hoff "Feistres Clepwraig" ddidaw

Yn Brif-Weinidoges ein gwlad;

A hi ddylai fod, 'nenw dyn,  -

Y gwragedd sy'n hawlio cael dyweyd, - 

A gyru'r Seneddwyr bob un

I edrych am rhywbeth i'w wneyd.

 

Rwy'n cynnyg mai felly mae'i fod,

A safaf fy nhir megis mwnc

Cyn hir, mae etholiad yn dod,

Beth yw eich barn chwi ar y pwnc?

Mi dyngaf, - os ydych yn gall, -

Y gwelwch deilyngdod y wrach;

Pwy'n debyg i ganfod pob gwall?

Pwy'n debyg i "bigo hen grach?"

 

Mae'n berffaith, p'le bynag y b'o,

I greu cynhyrfiadau a stwr,

Gyr fam at ei merched o'i cho',

A'r wraig i 'sgrafellu ei gwr.

Mae crochlif hyawdledd ei dawn,

Yn disgyn dros asgwrn ei gen,

Yn rhaiadr o foreu hyd nawn, -

Trueni (?) ei myned yn hen.

 

Cha'r "Glepwraig" gan neb fawr o barch,

Ond mynaf i'r chwaer chwareu teg,

Ac nis gall ond cauad ei harch

Fyth Iwyddo i gauad ei cheg:

A phan y daw angau i'w chwrdd,

I'w dwyn ar ei ysgwydd, fel pwn,

Caiff farwnad, ar fesur "Corn Hwrdd," - 

Fe ganwch chi'r corawd, mi wn.
 


 

 

 

 

None

(delwedd 5692)

 
Papur Pawb
Mai 20 1899.
Cyf. 7. Rhif 329.
CERDDI CWMDAR

IlI - " SHONI HOI" 'N MYN'D I GAER-DYDD.

 

Aeth bachan bach o'r Rhondda

Un bora gyta'r train,

Mewn shiwt o ddillad gola,

A phrydferth watch a chain;

'Roedd wedi gwitho'n galad

Bythewnos cyn "nos pai,"

A wedi talu'i ddylad –

Ta beth, wn i ddim llai.

 

Daeth miwn i steshon Pentra,

A chwnu ticed wnaeth;

Fel byddwch chi a finna

Pan bo ni'n myn'd ar daith;

Fe all'sach wel'd mwn wincad,

Ei fasharyddol dwtsh,

Fe dynws mas o'i bocad

Bib mersham fawr a phwtsh.

 

Tra'n cym'ryd stoc ohono,

Fe wetas wrth fy hun,

Ta beth yw'r diffyg arno,

Mae'n debyg iawn i ddyn;

Deallwch, odd y bachan

Ddim wedi gweid dim byd,

A chofiwch sha fi 'munan,

O'n inna'n wilia'i gyd.

 

Daeth miwn i'r un compartment

A fi i fyn'd i'r daith;

Os odd a'n brin o dalent,

Nid oedd yn brin o iaith –

Nid iaith, ond rhyw hen gibredje,

Mwy lletwith na "thrad clwb,"

Fel stiwdent o brif goledje

Gehenaidd Belzabwb.

 

Yn ishta'r ochor arall

'Roedd lady ifanc, Ion,

Yn swn ei faldordd anghall

Llewygodd ger fy mron.

Ac hyd y daith yn gyfan,

Tra'n agor byddai 'i geg,

Ni ddeuai un gair allan

Ond bob yn ail a rheg.

 

Ei brogram ef oedd myned

Am ddwrnod i Gardydd;

Ma'n deg i withwr calad

Ga'l amball awr yn rhydd.

A wir, pob parch i'r bachan,

O galon weta i;

Ond hyn sy'n spoilo'r cyfan,

Fe startodd ar y "spri."

 

Odd gwyr Cardydd yn gwpod

O b'le odd e yn dod,

A phan odd e "mwn diod"

O nhwnta'n troi y rhod;

Fe wyddent hwy 'rol bwso

Y mynai Shoni nap

Mor glyfar o nhw'n rowndo

I'w ddala yn y trap.

 

O hwp i hwp, 'mhen tipyn,

Fe gauodd shytars Shon;

Ac ebai rhw hen 'sgregyn –

"Now, boys, let him alone."

A chysgu wnaeth y bachan,

Ond effro 'roedd y "boys,"

Di nhw ddim byth yn hepian

Yn nghwmni'r "Shoni Hois."

 

Nid hir bu un ohonynt

Cyn slipo'r chain a'r watch;

Ma' cymwysdera ynddynt

I wneuthur cwic dispatsh;

A chyn pen fawr eiliadau,

Pob un odd wedi myn'd,

Heb weid un gair o'u genau

Cyn matal wrth eu ffrynd.

 

Ac wedi cysgu nepyn,

Cyn hir y landlord ddaeth,

Ac meddai, "Nawr, fy nghrotyn,

Dos, cychwyn ar dy daith;"

Ac ar y ffordd i'r orsaf,

Wrth fyn'd i ddala'r train,

Y daeth i wybod gyntaf

Am slip y watch a'r chain.

 

“Os dim i neid," medd Shoni,

A'i ben yn drwm yn awr;

“Maent wedi myn'd, a chwtni

Rhaid bod yn folon 'nawr."

A chwiliodd yn mhob poced - 

Pocedi chwith a de,

Am goin i gwnu ticed

I fyn'd yn ol sha thre.

 

“Wel, dyma hi yn dechra!"

'Roedd wedi 'i flingo'n llwyr;

Lled gryf oedd rhegi'r bora,

Ond cryfach rhegi'r hwyr;

'Doedd dim i'w wneyd ond trampo

I Rhondda Fawr bob cam,

Cyn iddo gyrhaedd yno

Fe roddodd lawer  - .

 

Ond bachan piwr yw Shoni,

O natur barod, ffri;

A bachan naiff ddaioni,

Os gall, i chi ne, fi;

Ma' llawer iawn o feio

Gan bawb ar "Shoni Hoi,"

Ma gwir egwyddor ynddo

Pan at ddaioni'n troi.


 



 

 

None

 

(delwedd 5695)


Papur Pawb
Mai 27. 1899.
Cyf. 7. Rhif 330.

CERDDI CWMDAR

 

IV. – “GORMOD 0 BWDIN A DAGA GI."

 

"Gormod o bwdin a daga gi,"

Sydd hen ddiareb, fel gwyddoch chwi;

Ac er ei bod yn hen mewn oed,

Mae'i chynnwys yn gystal a bu erioed;

Ac ond i ni, ei deongli yn iawn,

Ceir ynddi wirionedd, a sylwedd llawn

Mae gormod o bobpeth yn ddrwg, ddyliwn i, - 

Gormod o bwdin a daga gi."

 

A glywsoch chwi ddyn yn gweid 'stori rhyw bryd,

Yn cyrhaedd yn agos i filldir o hyd?

Dywedai'r un peth yn ol, ac yn mlaen,

Nes oedd yr hen 'stori yn hir, ac yn fain, -

Fel can'llath o linyn o geg yr hen frawd,

A’r cwmni o'i amgylch yn gwenu mewn gwawd;

Wel, dyna un engraipht o'n nhestyn i,

“Gormod o bwdin a daga gi."

 

Rhyw ddeufis yn ol, i ddarlith mi es,

Gan feddwl cael yno lawn dal am fy mhres;

Bu r llywydd yn brolio am dri chwarter awr,

Ac yna’r darlithiwr gyfododd fel cawr;

A “Multum in parvo," oedd testyn y brawd,

Ond “Parvum in Multo," yn doraeth a gawd,

Bu’m bron myn'd yn wallgo', - 'r un fath fyddech chwi,

“Gormod o bwdin a daga gi."

 

Maent yn dyweyd fod y beirdd yn gwmniwyr da iawn,

A digrif eu clywed yn tywallt eu dawn;

Ond Ow! mae eithriadau tra phoenus i'w cael,

Mae hyd yn nod beirdd, yn benigamp o wael!

Yn adrodd rhigymau didalent, a sych,

Cyhyd a Chwm Rhondda, - mor foel a Phen-pych,

Ar ddiwedd pob pennill bydd, - Welwch chwi fi?”

"Gormod o bwdin a daga gi."

 

’Rwy’n ofni dyweyd dim am gerddorion fy ngwlad,

Maent hwy wedi hawlio pob 'Steddfod yn ‘stad;

Nid gwiw son am farddas, am araeth, na llith,

Neu ynte a'r cyfan ar unwaith go chwith.

O’r dechreu i'r diwedd, y canu sy'n cael

Grandawiad, a sylw, bydded wych, - bydded wael;

Y Testyn sy'n d'wedyd, ac nid myfi -

“Gormod o bwdin a daga gi,"

 

Mae'r byd wedi myn'd, dybiwn i, 'n rhyfeddJ iawn,

Mae pob un a'i ffordd, a phob ffordd yn llawn, - 

Yn llawn o fympwyon - a mympwy pob un,

Yn berffaith ddiguro, beth bynag fo'u llun;

Gwleidyddiaeth medd un, ydyw pwnc pob dyn call,

Pel droed fydd y cyfan ar ’fenydd y llall,

A'r trydydd am aur, sy'n drag'wyddol ei gri,

"Gormod o bwdin a daga gi."

 

Mae'n chwithig i glywed pregethwr yn dyweyd,

Gwnewch chwi fel rwy'n d'wedyd, ac nid fel rwy'n gwneyd; A chwith gweled meddyg yn gwella, pob un,

Ond methu rhoi unrhyw wellhad iddo'i hun;

Wel, rhaid yw i minnau i ddirwyn i ben,

Mae synwyr cyffredin yn galw'r "amen,"

Onte fe ddaw'r testyn i'n ngwyneb i - 

"Gormod o bwdin a daga gi.”

 

....

 

------------------------------------------------------------------------------

Sumbolau: ā ǣ ē ī ō ū / ˡ ɑ æ ɛ ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː æː eː iː oː uː / ɥ / ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / ә ʌ ŵ ŷ ẃ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_134_cerddi-cwm-dar_0220k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 11-06-2017
Adolygiad diweddaraf : 11-06-2017
Delweddau: 

Ffynhonnell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
---------------------------------------
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu wsitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are wsiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait