kimkat0219k Profiad Par Ifanc. Papur Pawb. 1899. Ond rwy'n gweyd wrthat ti mai rhai od ymbeidus yw'r rhai hyn...

03-12-2021

● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ●
kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat0219k Y tudalen hwn

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..


Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

Profiad Par Ifanc.
(Papur Pawb 1899).

 


(delwedd 7282)

 

...

Yng Nghymraeg y de-ddwyrain y mae’r testun, lle ffinia a Chymraeg y de-orllewin, tua Llandeilo. Y Gymraeg de-ddwyreiniol a siaredir yn fwy tua’r de a'r dwyrain yw’r Wenhwyseg.

El text es en el dialecte del sud-est de Gal·les, on limita amb el gal·lès del sud-oest, cap a Llandeilo. (El gwentià és el gal·lès que es parla més al sud i a l'est).

The text is in south-eastern Welsh where it borders south-western Welsh, towards Llandeilo. Gwentian is south-eastern Welsh spoken more to the south and east.

Map

Description automatically generated

(delwedd J6241)

In this map of the Welsh dialects, Llandeilo is in the zone where south-eastern features and south-western features merge. The extent of the Welsh language on the map shows the situation in the mid-1900s – the light grey area shows where the Welsh language had been replaced in its entirety by English since around 1800 (eastern parts of Montgomeryshire, Radnorshire, Breconshire and Monmouthshire).

Map

Description automatically generated

(delwedd J6240)

John Rhys in 1907 gave rough boundaries (right) for the two northern and two southern dialects. The map on the left is based on this. Here Llandeilo is within the Dimetian dialect area (Y Ddyfedeg).

In Rhys’s time the Anglised zones shown above were probably residually Welsh-speaking. He takes his demarcation lines to the border with England.

Map

Description automatically generated

(delwedd J6239a)

Here in these pages we assume for convenience sake that the Gwentian dialect coincides with the medieval regions making up the kingdoms of Gwent and Morgannwg, which were the basis later, on the annexation of Wales to England, for the counties of Monmouthshire (3,4,5), Glamorgan (6,7,8), and part of Herefordshire in England (1,2). It indicates Gwentian at its greatest extent, befoe the loss of the eastern areas to English from around 1800 onwards.

Though the region of Gw^yr (9) also became part of the county of Glomorgan, it was historically part of the south-western kingdom of Deheubarth.

I. - GOLCHI LETTUCE - TATO DRWY'R PIL - ORDRO CIG I GINIO
10 Mehefin 1899
(4011a b c d e f)


II. - SOCIETY FOR PREVENTION OF CRUELTY TO HUSBANDS. - CAWL SGWARNOG.
17 Mehefin 1899
(4225 4226 4227 4228 4229 42309)


III. - EXAMINATION I FERCHED IFENC. - AELODAU SENEDDOL YN FEIRNIAID. - SHWD I FERWI WYAU.
24 Mehefin 1899
(4231 4232 4233 4234 4235)


IV. - DYSGU NOFIAD. - ENILL BRECWAST. - BEUDY FFASIWN NEWYDD.
1 Gorffennaf 1899
(4236 4237 4238 4239)


V. - CARTRE'R FUWCH FENYW.
8 Gorffennaf 1899
(J6222a b)


VI. - Y PRACTICAL A'R THEORETICAL FARMER. - CLEFYDAU ANIFEILIAID, A SHWD I'W GWELLA NHW.
22 Gorffennaf 1899
(J6223a b c d)


VIII.
- CADAIR A THETH BUWCH FFASIWN NEWYDD.
29 Gorffennaf 1899
(J6224a b c d e)


IX. - I BETH MAE CYNFFON BUWCH DA? SYSTEM Y CYMYDOG DRWS NESA'.
5 Awst 1899
(J6225a b c d)


X. - ARGRAPHIADAU CYNTA'. - PROFI'R INVENTIONS NEWYDD. - TRECH NATUR NA DYSG.

12 Awst 1899
(J6226a b c d)


XI.
- GOOD-BYE I'R FUWCH! - BOUDY A BILLIARDS.
19 Awst 1899
(J6227a b c d)


XII.
ANLWC Y PLENTYN CYNTA. - DYSGU COMMON SENSE I RIENI.
26 Awst 1899
(J6228a b c )


XIII. - CREULONDEB AT BLENTYN, ATHRONIAEH Y PHYSIC. - LLAETH UN FUWCH.
2 Medi 1899
(J6229a b c)


XIV. - Y CEFFYL NEWYDD. - TEILIWR CEFFYLAU. - FFORDD NEWYDD I WISHGO CEFFYL.
9 Medi 1899
(J6239a b c)


XV. - CEFFYL CALL A MISHTIR DWL. - RHOI LESSON I'R CRWT.
16 Medi 1899
(J6231a b c)


XV. - AI TEBYG I DDYN FYDD EI LWDWN?
23 Medi 1899
(J6232a b c)


XVI.
- PUZZLE NEWYDD. - TRAWS-FUDIAD ENEIDIAU.
30 Medi 1899
(J6233a b c)


XVII. - UN DYN CALL A PHAC O FFYLIAID.
7 Hydref 1899
(J6234a b c)


XVIII. - DOU DDYN CALL A CHEFFYL. - POB HEN HWEDDEL DDIM YN WIR.
14 Hydref 1899
(J6235a b c)


XIX (OLAF). - DIWEDD CLEVELAND.
21 Hydref 1899
(J6236a b c)


 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd G4011a) (10 Mehefin 1899)

Papur Pawb. 10 Mehefin 1899

Profiad Par Ifanc

PROFIAD PAR IFANC

Sef Gofidiau'r Byd Presennol.

[Cofnodwyd Gan y Cymydog Drws Nesa.]

PROFIAD I. - GOLCHI LETTUCE - TATO DRWY'R PIL - ORDRO CIG I GINIO.

Fuodd gyda chi gymydog drws nesa eriod? Tebyg gen i taw to fe. Ond pun a fuodd gyda chi neu bido, fe fuodd gen i, a, hyny fwy nag unwaith. Ac wrth gwrs, i bob cymydog drws nesa fuodd gen i, fi oedd cymydog drws nesa hwnw. Dyna beth od, ond taw e?

Ond byd y pethau od yw hwn, ac o bobpeth od weles i yn y mywyd eriod, y peth oda o bobpeth oedd y cymdogion drws nesa diwetha fuws gen i. Welsoch chi shwd gambotsh ariod yn eich bywyd!

Pan ddethon nhw gynta i fyw drws nesa i ni fe gymeres i eu mesur nhw'n go agos.

"Liza," myntwn i wrth y wraig.

"Nan," mynte Liza.

"Liza," myntwn i. "Wyddot ti beth?"

"Fe wn llawer peth, pun a wn i hwna neu bido," mynte hithau.

"Gad dy lap, a grondo," myntwn i. "Rhyw greduried rhyfedd yw pobol drws nesa."

"Rhai od yw pobol drws nesa pawb bob amser gwlei," mynte Liza.

"Ie, ie, mae hyny'n brion yn i le. Ond rwy'n gweyd wrthat ti mai rhai od ymbeidus yw'r rhai hyn."

"Beth gest ti i feddwl hyny, Wil?"

"Nid meddwl netho i, ond gwbod. Gei di wel'd yto mod i'n right, ac mai rhai od yw pobol drws nesa."

Ac fe gas wel'd hefyd, a fe geso innau wel d, a chi gewch chithau wel'd os darllenwch chi dipyn bach.

Par ifanc newydd briodi oen nhw, druain bach, heb fod yn cadw ty ariod o'r blaen, ac yn gwbod fawr ddim, neu lai na hyny, am ofidiau'r byd presennol. Roedd y wraig ifanc wedi cael ysgol anghyffredin, yn gallu hware'r piano'n rhwyddach na all Dafi'r Gof hoelo scitshe. Ac am neyd cwafers a gweill pren ynte, rhyw bethau, chi wyddoch, i ddodi ar gefnau stolau yn y parlwr, a shwd bethach a hyny, dirdishefo ni fe gnese nhw fel ci yn trotian er na weles i ddim ci yn gneyd antimacassars chwaith, pun ai wrth drotian neu wrth sefyll.


 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd G4011b) (10 Mehefin 1899)

 

Roedd hi wedi cael ysgol gwyr mawr, chi wyddoch, wath rodd hi'n dod o deulu go genteel dybygswn i, a digon o fodd gyda nhw allswn i feddwl. Ond os cas hi ysgol boarding school merched, chas hi ddim ysgol cadw ty na chwrdd a gofidiau'r byd ariod, druan ohoni! Tae hi'n fapa shawl, fyse hi ddim yn gwbod llawer llai am fyw nag a wyddai hi pan ddaeth hi i fyw drws nesa i ni. Ond chymersai hi ddim o'r byd am adael i neb feddwl nag oedd hi'n gwbod y cwbwl hefyd.

Wydda chi shwd dethon ni i wbod. Mae morwn drws nesa, Sarah, a Jane, y morwn ni, yn bartners anghyffredin – weithiau. Wel ta beth, dyma'r stori fel ceso i hi o ben Jane y morwn ni, hithau wedi ei chael hi ffresh y pryd hyny gan Sarah, morwn drws nesa.

Y diwarnod cynta, wedi iddyn nhw ddod i fyw i'r drws nesa oedd hi. Dyma my lady, gwraig drws nesa, yn dod nol o'r dre, ai basged bach ar ei braich, wedi bod yn negeseua esgus. Ac yn y fasged roedd tipyn o lettuce a radish, a phethau felny. Rhai embed yw'r Saeson, medden nhw, am fwyd glas. Ond ta beth, i fi gael gweyd wrtho chi, dyma'r wraig ifanc a’r fasged i'r gegin, ac yn ei dodi hi ar y ford.

"Sarah," mynte hi, ond taw yn Saesneg oedd hi'n gweyd, waeth Seisnes rhonc oedd hi.
"Sarah," mynte hi. "Golchwch y lettuce ar radish yna erbyn te.


 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd G4011c) (10 Mehefin 1899)

 

"Olreit, mym," mynte Sarah.

"Ie, mindwch chi ei golchi nhw'n lan, Sarah," mynte'i meistres wrth fyn'd mas drwy'r drws.

"Does dim byd yn gasach gen i na chael pethau ar y ford heb fod yn eitha glan."

"Olreit, mym," mynte Sarah wed'yn. "Fe ofala i, mym."

"Cym'rwch ddwr twym, cofiwch, Sarah. Chewch chi ddim graen ar bethau, chi wyddoch, heb uso dwr twym."

"Olreit, mym," mynte Sarah, er na chlyws hi ariod o'r blaen chwaith am neb yn uso dwr twym at olchi lettuce a radish.

"Oh ie, Sarah," mynte i mishtres wed'yn, gan droi nol. "I fi gael gweyd wrtho chi. Uswch ddigon o sebon, da merch i."

Wel, fe fuodd Sarah jest a byrsto. Rwy'n shwr byswn i!

Meddylwch o brysur calon am y fenyw ddwl yn myn'd i uso sebon at olchi defnydd bwyd! Dyn helpo pwy bynag fyse'n gorffod byta'r lettuce hyny os gnath Sarah beth oedd ei meistres wedi gweyd wrthi! Mae llawer i wraig i withwr bach yn Nghymru yma yn ddigon pell ar ol falle mewn llawer peth, yn enwedig am daclu dipyn bach o fwyd yn rhadus ac yn ei flas, ond fe fentra i na fyse neb ohonyn nhw byth yn meddwl am uso sebon a dwr twym at olchi lettuce!

Chi allwch wel'd nawr pa'm rwy i'n gweyd mai hanes Profiad Par Ifanc gyda gofidiau'r byd presennol sy gen i i adrodd wrthoch chi. Neu os nag y chi'n deall rhaid i fi weyd stori gwesyn wrthoch chi.

Cyn i Gwesyn fyn'd bant i'r Merica, roedd e'n myn'd amboutu'r wlad i ddarlithio, a'i destyn e oedd Caru, Priodi, a Byw. Rwy'n cofio'n nobl am dano fe yn darlithio ar y testyn hyny, ac wrth gwrs adrodd lot o hen storians [sic; = storháus, recte storiáes] caru. A dyma un ohonyn nhw.

Roedd hen chan yn shir Aberteifi, yn gryn dipyn bach o gybydd yn ei ffordd e, wedi cwmpo mewn cariad a merch i ffarm fach yn yr ardal hyny. Ond doedd dim shwd beth a'i gael e i'r rhyd nac i'r bont. Fe dreiws yr hen lances yn mhob ffordd ar wyneb daear i'w dynu e i'r point, welwch chi, ond 'doedd dim a fynse fe a phriodi. Roedd e'n lico cael noswaith o garu yn nobl, ond keep off oedd hi os byse son am fyn'd i'r eglwys neu i office y registrar yn Llambed, neu rywbeth felny. Ond doedd dim o'r lodes yn lico hyny, a hware teg iddi, all merch ddim ffwrdo gwel'd ei hamser goreu yn myn'd hibo heb wneyd ei dyfodol yn siwr. Wel, un noswaith, roe nhw'n ishtech dou fach ar ben y star, a'r hen bobol, wrth gwrs, yn y gwely yn y parlwr bach, a dyma'r ferch yn tynu sharad am briodi.


 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd G4011d) (10 Mehefin 1899)

 

"Oh," mynte fe, "peth mowr yw gwynebu gofidiau'r byd presennol."

"Beth y chi'n feddwl wrth hyny?" mynte hithau.

"Oh," mynte fe, "meddyliwch am yr holl gost sy'n myn'd i gadw ty. Dyna'r sebon, a'r blue, a'r starch – “

Ond cyn gallse fe fyn'd yn mhellach dyma hi'n rhoi gwth iddo nes oedd e lawr bendramwnwgl dwmbwr-dambar o dop y star i'r gwaelod!

Wel, fe ddihunws yr hen wr ei thad, a dyma fe'n gwaeddi,

"Betty! Beth sy na, los!”

"Oh," mynte hithau'n dawel fach, "does dim niwed yn y byd, towlu gofidiau'r byd presennol lawr i'r star nes i."

"Gofidiau'r byd presennol?" mynte'i thad. "Beth wyt ti'n feddwl, los?"

"Oh, sebon, blue, a starch Tomos Tyhen sy'n ei flino fe," mynte hithe, a dyma Twm yn ei choeso hi maes am ei fywyd.

Wel, nid yn yr un shwt yn gwmws roedd gofidiau'r byd presennol yn becso pobol drws nesa ag oe nhw'n blino Tomos Tyhen, ond gofidiau


 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd G4011e) (10 Mehefin 1899)

 

oedd pethau amgylchiadol bywyd i'r par ifanc run shwt. Ofni'r gost oedd Twm druan; ffeilu gwbod shwd i neud a'r arian oedd genty nhw oedd pobol drws nesa.

Hware teg i'r gwr ifanc, roedd e'n cyd-ddwyn a'r wraig ifanc i'r tipyn. Doedd e nemor byth yn achwyn, er na wyddai hi ddim mwy na mwlsyn shwd oedd cadw ty. Nid ei bai hi, poor thing, oedd hyny chwaith, ond bai y rhai cododd hi.

Ond roedd bai arni hithau hefyd. Fynse hi ddim am y byd i neb feddwl llai nag oedd hi'n gwbod y cwbwl – a rhagor hefyd.

Ar ryw sharad rhwng mishtres a hi rhyw ddiwarnod, fe wedws Mary mod i'n lico tato trwy'r pil. Nawr mae Mary, fel gwyddoch chi, yn eitha Seisnes, wedi cael tipyn o ysgol yn Lloegr, ac yn gwbod y gair right i uso yn Saesneg am bobpeth. A mae'n debyg mai "boil in their jackets" yw "berwi trwy'r pil" yn Saesneg. Felny dyma Mary'n gweyd,

"My husband likes his potatoes boiled in their jackets. He says they are ever so much nicer."

"So they are, of course," mynte'r wraig ifanc, felse hi'n gwbod y cwbwl, welwch chi.

Wel, fe fuodd y fenyw fach yn fishe ymbeidus am rai diwrnoda'u wedi hyny, gyda'i nedwydd a'i defyn, a chalico newydd o'r shop, a wyddai Sarah ddim ar wyneb daear beth oedd hi'n neyd. Ond rhyw foreu dyma hi i'r gegin, ac yn gweyd wrth Sarah,

"Sarah," mynte hi, "rw i am gael tato drwy’r pil i gino heddy. Mae eich mishtir yn ffond iawn ohonyn nhw felny."

"Olreit, mym," mynte Sarah.

Ry chi'n deall, wrth gwrs, mai "in their jackets" wedws y wraig ifanc ac nid "drwy'r pil."

"A Sarah," mynte'i mishtres wrth fyn’d mas, gan estyn pecyn bach iddi mewn papur, "dyma'r jackets."

A beth y chi'n feddwl oedd y fenyw fach wedi bod yn neyd ar hyd yr amser? Gneyd lot o hen jacedi bach fel jacedi dol, i ddodi am bob taten!

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd G4011f) (10 Mehefin 1899)

 

Ie, tawn ni'n marw.

Wn i yn y byd shwd gnath Sarah, pun a rows hi'r jacedi am y tato neu bido, rhyngty hi a'i busnes am hyny.
Y ngwaith i yw adrodd y stori fel digwyddws pethau.

Wn i ddim pun ai'r jacedi anghytunws a stymog y gwr ifanc, neu beth, ond ta pun fe wedws wrth y wraig y prydnawn hyny licse fe gael tipyn bach o newid ar ei gino weithiau.

"Rwy'n lico cig gwedder yn burion ambell dro," mynte fe. "Ond fe licswn dipyn bach o newid weithiau."

"O'r goreu, nghariad i," mynte hithau, "beth licsech chi? Tipyn bach o gig eidon?"

"Dyna chi!" mynte fe. "The very thing! Mae gen i housekeeper bach first-class!”

A dyma fe'n rhoi cusan iddi, nes ei gneyd hi mor falch a phaen.

Wel, i chi gael deall, leg o mutton oedd hi wedi ordro bob dydd hyd hyny. Ond dyma hi tranoeth i shop y bwtsher, a hwnw'n bowo, waeth roedd hi'n gwsmer splendid, welwch chi.

"A leg of mutton to-day, mym?" mynte fe. "Beautiful mutton. Real Welsh, mym."

"No," mynte hi. "Rwy'n credu myna i rhywbeth arall heddy. Shwd gig eidion sy gyda chi?"

"Splendid, ma'am, welsoch chi ddim o'i well e erioed. Un ginog ar ddeg y pound, mym."

Roedd y blagard yn codi dwy ginog y pound fwy na ddylse fe, am nag oedd hi, poor thing, ddim yn deall.

"That will do then," mynte hi. "Send me in to-day a nice leg of beef!"

A bant a hi wedi ordro legen gyfan o gig eidion erbyn cino!

(I’w barhau.)


 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J4225) (17 Mehefin 1899)

Papur Pawb. 17 Mehefin 1899.

PROFIAD PAR IFANC

Sef Gofidiau'r Byd Presennol.

[Cofnodwyd Gan y Cymydog Drws Nesa.]

PROFIAD II. - SOCIETY FOR PREVENTION OF CRUELTY TO HUSBANDS. - CAWL SGWARNOG.

’Roedd tipyn bach o "gome up," welwch chi, yn dynon drws nesa' pan ddetho nhw gynta i fyw i Laurel Villa - a mae yto o ran hyny, yn enwedig i rai sy' ddim yn eu nhabod nhw. Ond dynon bach ffein ymbeidus ceson ni nhw wedi i ni ddod i nhabod nhw unwaith. Ry' chi'n gwel'd, mae nhw'n dod o ddynon go uchel fel mae gwaetha'r modd iddyn' nhw, druain bach, a'r wraig ifanc, poor thing, ddim wedi arfer cael gneyd dim byd a'i deg ewin eriod.

A nawr, gwedwch chi, pwy synwyr yw codi merched fel'ny, a'u dodi nhw i gadw ty? Mae’n waeth o'r ddou na hala shopwr i gadw ftarm, neu withwr odd'ar ochor yr hewl i gadw shop milliner yn Llynden! Fe ddyl'se fod cosp ar rieni sy'n codi merched heb wbod dim byd amboutu cadw ty. Fe ddyl'se'r Parlament gymeryd y mater mewn llaw. Mae gyda ni Society for Prevention of Cruelty to Animals, ac un arall i ofalu am y plant. Ac os ceir ffarmwr yn gwitho ceffyl fydd a thipyn bach o gig noeth o dan y cyfrw, neu lle bo'r harness yn rhwto yndo fe fe fydd yn "come to book" arno te yn go handi. Ac os bydd dynon yn esgeuluso’r plant, a pido'u cadw nhw'n Ian, a rhoi tamed o rywbeth rhesymol iddyn nhw fyta, fe; gaiff y dynon hyny lodging yn y jail. Nawr, dw i n gweyd dim gair o'm mhen yn erbyn pethau fel ny, welwch chi, ddim gair! Pethau nobl y nhw, os dim dowt, waeth mae gofyn i ddyn ddrychred ar ol ei anifel fel ar ol 'i blentyn, ac ar ol ei blentyn fel ar ol ei anifel. Nid achwyn am y rheiny w i.


 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd J4226) (17 Mehefin 1899)



Ond dyma beth sy' gen i i weyd. Pa'm ry’ ni'n cyfyngu'n gofal i'r anifeiled ar plant? Dyna'r peth ag e, yw hwna! Pam na bai ni yn dryched ar ol y gwyr priod ifenc, poor things?

Pa'm na fyse rhyw un yn starto Society or Prevention of Cruelty to Husbands: Fe joinswn i yn un ta beth - nid cofiwch am fod Mary yn greulon ata i, dim shwd beth; mae Mary’n gystal menyw fach a garnodd ddaear erioed. Ond meddylwch o brysur calon am yr holl greulondeb sy'n cael ei gyflawni bob blwyddyn, a bob dydd o’r flwyddyn o ran hyny wrth adel i fachgen ifanc bach nice gwmpo i ddwylo merch na wyr hi ddim mwy am gadw ty nag a wyr hi am hedfan, na dim cyment o ran hyny, wath mae gyda hi ddigon o feathers gall’se hi hedfan, ond dim mwy o noshwn am gadw ty na thaclu pryd o fwyd na sy' gyda'r gwcw am hware piano!

A nawr, rwy i'n gweyd mai Cruelty to Husbands yw peth fel 'ny, a dyl'se'r Parlament gym’ryd y mater mewn llaw. Ddyl'se dim un merch gael priodi nes byse hi wedi enill certificate ei bod hi'n gallu golchi a swmddo, glychu tos a chrasu bara, cyneu tan a golchi llestri, - a glanhau lettuce heb uso dwr twym na sebon atyn nhw! Dyna chi beth w i yn ei gredu, a dos dim ods gen i pwy fo'n ei wbod e’ hefyd, dyna chi!

Ond ta p'un, i fi gael gweyd wrtha chi am y par ifanc drws nesa', a shwd daeth Mary ni gynta i nabyddiaeth a nhw.

Roe nhw - Mr Clifford Cleveland Mrs Maud Cleveland yw eu henwau nhw - wedi bod yn byw drws nesa am rai wthnosau cyn i ni sharad dim un gair a nhw. Nid am nag o'en ni n ddigon parod i dori sharad os licsen nhw, nac am wn [i] nag oen nhwnte'n ddigon parod i dori sharad hefyd os licsen ni; ond rywffordd neu giddyl,


 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd J4227) (17 Mehefin 1899)



'doedd neb ohonon ni wedi gneyd, - a phob un yn meddwl mai ar y llall 'roedd y bai. Ond ta beth, dyna shwd y buodd hi.

Wel, 'roedd y wraig ifanc yn arfer myn'd bob boreu gyda'i gwr i lawr hyd at gat y ffrynt pan byse fe'n myn'd at ei fusnes yn y boreu amboutu deg o'r gloch, neu rywbeth fel 'ny, a dyna lle bysen nhw yn caru spel fach fan 'ny cyn iddo fe fyn'd. Fe gweles nhw a'n llyged y'n hunan lawer gwaith, a fe glwes Mary'n gweyd eu bod nhw'n gneyd fel 'ny bob boreu yn gyson.

Gweyd hyn w i, cofiwch chi, i chi gael gwel'd mai par bach cytunus cariadus anghyffredin oe'n nhw, a nid gweyd er mwyn hala clecs. Does dim byd yn waeth gen i na dynon sy'n edrych ar ol busnes pawb ond eu hunain.

Ond ta p'un, 'roedd Mary ni ma's yn yr ardd, yn y ffrynt rhyw foreu yn mhen ychydig fynydau wedi i Mr Cleveland fyn'd at ei fusnes, a dyma hi'n clywed fel'se rhyw un yn llefain.

Wel, dyma hi'n grondo, wrth gwrs, a fe ddeallws yn union mai rhywle tua'r ty nesa 'roedd y llefain. Fe ath at y railings rhwng y ddwy ardd ffrynt, ac fe edrychws, ond welws hi ddim byd ar y cynta. Ond yn mhen spel fach, fe welws fod ffenest parlwr y ffrynt drws nesa yn gil agored, ac yn ishte gan bwyso ei phen ar y ford, ac yn llefain jest tori ei chalon, 'roedd y wraig ifanc drws nesa, Mrs Cleveland.

I chi gael deall, nawr, mae ffenest parlwr y ffrynt y ddou dy yn agor lawr i'r llawr, jest fel drws glass yn gwmws, a ry' ni'n gallu myn'd mewn a maes ffor'ny i'r ardd neu'r lawn.

Wel, pan welws Mary ni'r fenyw fach yn llefain fel 'ny jest tori ei chalon, fuodd hi fawr o dro cyn myn'd ati. Whiw a hi maes trwy gat y ffrynt ni, a whiw a hi miwn trwy gat y ffrynt, nhw, ac heb aros i ystyried beth oedd hi'n neyd dyma hi mewn drwy ffenest, parlwr drws nesa, ac yn penlino ar bwys ochor y fenyw fach, ac yn tynu ei phen hi ar ei hysgwydd hi, ac yn sisial yn ei chlust hi.


 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J4228) (17 Mehefin 1899)



"Dere di, merch fach i! Paid ti a becso fel 'na, nghalon i! Os rhywbeth alla i neyd i ti?"

Fel bydd menywod a'u giddyl, chi wyddoch!

"Oh, Mrs Roberts fach! Rwy'n falch eich gwel'd chi!" mynte'r fenyw fach, ond mae yn Saesneg, wrth gwrs, 'roedd y p'le i gyd: gan na wyddai Mrs Cleveland ddim Cymra'g, welwch chi.

Fe sylws mishtres mewn mynyd fod y fenyw fach yn gwbod ei henw hi, er na fuodd dim gair o sharad rhyngty nhw a'u giddyl eriod cyn hyny. A fe ddeallws, wrth gwrs, ar unwaith fod y fenyw fach wedi bod yn holi Sara'r forwm am dano ni, a hono, mynta chi, wedi gweyd wrthi pwy o'en ni, a phobpeth fel 'ny.

Ond ta beth, dyna shwd dechreuws y sharad.

"Oh, Mrs Roberts fach! rwy'n falch eich gwel'd chi!" mynte hi, a dyma hi'n towlu ei breichiau am wddwg Mary, welwch chi, ac yn llefain y dwr yn hiledd!”

"Dewch chi, merch i! Gwedwch wrtha i beth sy'n eich blino chi," mynte mishtres, fel'se hi'n sharad a phlentyn bach, yn gwmws.

"Oh, Mrs Roberts anwl! All Mr Roberts neyd rhywbeth i fi?"

"Fe gaiff drio ta beth," mynte mishtres.

"All e'n helpu i i ddala sgwarnog?" mynte hi, gan blethu ei dwylo fel'se hi'n gofyn am bardwn am ei bywyd.

Fe gredws mishtres fod y fenyw fach wedi colli arni ei hunan, a dyma hi'n dechreu meddwl shwd gell'sid fyn’d a, hi i Gaerfyrddin, lle mae'r sylum, chi wyddoch.

"Dewch chi, merch fach i," mynte hi, gan dreio'i pherswado hi, er mwyn ei chael hi'n dawel am dipyn bach. "Ga i hala William i moyn Mr Cleveland?"

"Oh! for heaven's sake, no! Don't! Na. Pidwch, er mwyn daioni, pidwch!" mynte hi, gan ddechreu llefain o'r newydd.

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd J4229) (17 Mehefin 1899)



Wel, wyddai Mary ddim ar wyneb y ddaear beth i neyd, a 'roedd hi'n hanner dyfaru ei bod hi wedi myn'd miwn o gwbwl, waeth peth embed welwch chi yw bod y'ch hunan gyda rhyw un a cholled arnyn nhw.

Ond ta p'un, fe lwyddws i dawelu tipyn ar y fenyw fach bob yn dipyn, a mhen spel fach, dyma hono'n gweyd ei stori.

"Ry' chi'n gwel'd," mynte hi. “Mae Clifford yn meddwl nag oes: dim fath fenyw a fi yn y byd.”

"Does e' ddim chwaith," mynte mishtres, - gan weyd yndi ei hunan; "a diolch i'r Mowredd am hyny."

"Well rw i wedi bod yn trio ngoreu i gael y bwyd goreu all'swn i gael iddo. Ond fe flinws ar leg of mutton, a fe dreies leg of beef - ond rywffordd neu giddyl, 'doedd dim o hwnw fel licswn i ei wel'd e' wedi iddo ddod i'r ford."

('Roedd y bwtshwr, hware teg iddo fe, yn lle hala quarter ol eidon, na hyd yn nod rounding cyfan, wedi hala pishyn bach nice o gig eidon at rosto - tae hi'r, ffoles fach, yn gwbod y ffordd i'w drin e' ar ol ei gael e'.)

"Ie," mynte mishtres.

"Wel, fe etho i prydnawn ddoe i’r shop, a fe brynes cookery book, i fi gael gwel'd yn gwmws shwd oedd gneyd."

"Hm," mynte mishtres.

"A boreu heddy fe ofynes i Clifford beth licse fe gael i gino heddy."

"Ie.”

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J4230) (17 Mehefin 1899)



"A fe wedws - fe wedws,” a dyma'r dagrau’n dechreu dod wed'yn.

"Ie, gwedwch chi, merch i," mynte Mary yn dyner, er mwyn rhoi calon iddi.

"Fe wedws licse fe gael 'stewed hare’, cawl sgwarnog, chi wyddoch."

"Ie," mynte Mary. "Peth digon rhwydd ei wneyd yw hyny. Fe ddangosa i’r ffordd i chi, os licwch chi.”

“Oh, Mrs Roberts bach! Nid dyna'r drafferth. Ond shwd galla i ddala'r sgwarnog, dyna'r cwestiwn!" a dyma hi'n llefain o’r newydd.

"Los fach ddwl," mynte mishtres, "Beth sy' arnat ti! Dala'r sgwarnog wir! Ond does digon i gael yn y shop yn y dref?”

"Oes, oes rwy'n gwbod hyny. Ond naiff hyny ddim mo'r tro. Dishgwylwch yma, dyma beth mae'r cookery book yn ei weyd.”

A dyma hi'n troi dail yr hen lyfr nes dod at y fan oedd yn gweyd yn nghylch stewed hare.

"Dyma fe," mynte hi. "Dyma mae e'n ei weyd.”

"First catch your hare." (Yn nghyntaf oil, daliwch eich sgwarnog!)

"A dyna chi!" mynte hi, "a shwd galla i ddala sgwarog Oh, Mrs Roberts, gaiff Mr Roberts yn helpu i?”

WeL, fe hwarddws mishtres maes dros y lle. All'se hi yn ei byw beido, mynte hi. ’Roedd y fenyw fach ddwl wedi meddwl fod yn rhaid iddi hi ei hunan ddala'r sgwarnog cyn byse'r cawl sgwarnog yn iawn yn ol y risait yn y llyfr!

Wel, fe perswadws Mary hi, ac yn mhen hanner awr, dyna lle 'roedd y ddwy yn myn’d lawr i'r dre' i ddala sgwarnog o'r shop, yn lle ar y caeau, a fe ddangosws Mary'r ffordd iddi neyd y cawl sgwarnog, a fe fentra i weyd fod Mr Cleveland wedi cael cinio mwy blasus y diwarnod hyny nag a 'ga's e' er's tro!

(I'w barhau.)

 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd J4231) (24 Mehefin 1899)

Papur Pawb. 24 Mehefin 1899.

PROFIAD PAR IFANC

Sef Gofidiau'r Byd Presennol.

[Cofnodwyd Gan y Cymydog Drws Nesa.]

PROFIAD III. - EXAMINATION I FERCHED IFENC. - AELODAU SENEDDOL YN FEIRNIAID. - SHWD I FERWI WYAU.

Fe ddaeth Mari ni a gwraig ty nesa'n bartners anghyffredin ar ol i Mari ddangos i Mrs Cleveland shwd oedd gwneud cawl sgwarnog heb iddi hi ei hunan ddala'r sgwarnog yn nghynta. Ond dyn anwyl! 'Roedd yn annodd gyda'r fenyw fach ar y cynta i gydnabod nag oedd hi'n gwbod y cwbwl a mwy hefyd. A doedd dim o mishtres, welwch chi, yn lico fforso ei hunan ar y fen yw fach, na gweyd llawer o ddim wrthi yn lle ei digio hi, welwch chi. Ond roedd e'n ofid calon gyda hi, serch hyny, nid yn unig i wel'd y fenyw fach yn dishtriwia gwerth arian o bethau o ishe gwbod y ffordd i huso nhw, ond ei bod hi hefyd yn dishtriwa cysur y teulu, y gwr a hithau heblaw rhoi achos i'r forwm i sharad.

Fe ddysgws bob yn dipyn, mae'n eitha gwir, ond fe gymrws amser ymbeidus cyn iddi ddod yn ffit i fod a gofal ty arni, - ac am wn i na fyse hi cynddrwg heddy ag eriod onibai fod Mari hi wedi cymryd ati, ac wedi gneud beth ddylse ei mam fod wedi, wneud a hi o’r dechreu, sef ei dysgu hi i neud rhywbeth a'i deg ewin heblaw rhyw hen facrami a fal lal felny. Hen beth digon gwael mewn cylla dyn ag ishe bwyd yw tipyn o macrami, a dyw antimacassar fawr werth i fagu plant arno fe. Ac eto i gyd dyna jest y cwbwl wyddai'r fenyw fach shwd i neud - er, hware teg iddi, fe nesai hi rheiny'n brion. Ond beth oedd hi well o hyny pan oedd pethau pwysicach o lawer na wyddai hi ddim ar wyneb daear am denyn nhw?


 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd J4232) (24 Mehefin 1899)



Rwy'n gweyd yto, a waeth gen i pwy fo'n ei wbod e, mae'n gwilydd, ar odi, fod merched yn cael eu hala i briodi, ac esgus cadw ty, heb wbod mwy na gwdihw yn nghylch gofidiau'r byd presennol na dyledswyddau gwraig a mam plant. Pwy synwyr, nawr, oedd hala Mrs Cleveland fel ny i reoli yn Laurel Villa, na wyddai hi ddim mwy na chos cabetshen am gadw ty! Mae peth fel ny'n gwilydd, ar odi, a rwy'n synu fod dou ddyn call fel Abel Thomas a Lloyd Morgan, un yn witman, a'r llall yn hen fachgen gweddw, wedi bod cyd yn y Parlament a heb neud dim byd i wella peth fel hyn. Fe allse dyn feddwl mae'r peth cynta' ddylse aelod Seneddol neud fyse gneud cyfraith nag oedd neb i gael priodi heb baso examination mewn cadw ty.

Falle'ch bod chi'n gofyn pwy fyse’n cadw’r examination? Wel, mae hwna'n gwestiwn prion, ond pidiwch chi a meddwl ych bod chi wedi nala i nawr drwy ei ofyn e chwaith.
Rw i'n rhy wide awake i hyny. Dw i ddim wedi bod yn briod a Mari ni yr holl flynyddau hyn heb ddysgu mindo'n hits, credwch chi fi.

Wel, nawr te, am inspectors, neu examiners, beth pe byse ni'n gweyd yn shir Gaerfyrddin nawr, am neud Abel Thomas a Lloyd Morgan, y ddou aelod Seneddol, ei hunain yn arholwyr. Mae Abel, fel gwddoch chi, yn gwbod beth yw ty a theulu, ac fe ddylse Lloyd Morgan fod yn gwbod erbyn hyn hefyd, rhog cwiddyl iddo. Ac am y dull o gario'r examination yn mlaen, beth fyse i bob merch ifanc oedd yn moyn priodi fyn'd i gadw ty am wthnos neu bythewnos i'r member of Parliament? Os nag yw Lloyd Morgan yn briod, fe allse farnu shwd oedd y lodes yn gneud ei gwaith yn y ty, pun a oedd y bwyd yn cael ei bartoi fel dylse fe neu bido, pun a oedd y dillad gwelyau'n galed, pun

 

 

None
(delwedd J4233) (24 Mehefin 1899)



a oedd bytynau ar ei grys e, a phethau fel ny, ta beth. A dyn a wyr, falle byse'i broflad e o ambell i ferch yn ddigon o swmbwl iddo ynte i neud ei ddyledswydd yn y byd yma hefyd.

Ond nid hyny oedd gen i mewn llaw, chwaith, ond profiad y par ifanc sy'n byw drws nesa, sef Mr a Mrs Cleveland, a nawr, i fi gael gweyd gair bach yto am denyn nhw, waeth dyw hi ddim yn amser lecshwn nawr ini fyn'd i bwyso Abel Thomas a Lloyd Morgan.

Wel, ta, rwy'n diolch i'r mowredd na ddath dim o Mrs Cleveland i'n rhan i, ta beth! Dw i ddim yn gweyd nag oes beiau yn Mari ni, weithiau, weles i ddim menyw heb ryw fai eriod; heb ei fai heb ei eni, medde'r hen hweddel ontefe. Ond ta beth yw bai Mari dyw ffaelu taclu pryd o fwyd yn ei flas ddim yn un o henyn nhw, a dyw dishtriwa bwyd a defnydd bwyd ddim yn un o henyn nhw. Fe wyr Mari shwd mae cadw ty, a shwd mae gneud y goreu o bob gwerth cinog yndo fe, hware teg iddi. Ond shwd mae Mr Cleveland wedi gallu byw gyda'i wraig fach drws nesa am gymaint o amser heb dori'r llechi, wn i ddim!

Fe aeth mishtres miwn yno mewn diwarnod neu ddou ar ol dala'r sgwarnog, er mwyn cael tori ple a'i chymdoges, a chael gwel'd os gallse hi agor llygid y fenyw fach yn mhellach ar rywbeth. Ar ol spel o sharad am y peth hyn a'r peth arall, dyma wraig drws nesa' yn gweyd yn syden: -

"Oh, gwedwch wrtha i, Mrs Roberts, shwd mae berwi wyau? Rwy'n ffeilu'n lan a berwi nhw wrth fodd Clifford."

"Shwd mae e yn ei lico nhw?" mynte mishtres, "yn galed neu ynte'n soft?"

"Oh, yn soft mae e'n eu lico nhw, ond rwy'n ffaelu'n deg a'u cael nhw'n soft. Rwy'n meddwl weithiau mai natur y calch all fod yn y dw'r ffor' hyn, gan taw o'r Mynydd Du mae'r dw'r yn dod, a chi wyddoch fod tuedd mewn dwr calch i galedi."

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J4234) (24 Mehefin 1899)



Ry chi'n gwel'd roedd y fenyw fach wedi cael pwer o ysgol, ac yn gwbod peth ymbeidus yn nghylch geography, a geology, a geo pobpeth ond geo cadw ty. Roedd ar mishtres ofan treio ei hateb hi ar y cynta' rhag ofan iddi hwerthin maes, mydde hi, waeth roedd hi jest a byrsto gan hwerthin, wrth glywed y fenyw fach yn gweyd mai dw'r calch oedd yn gneud yr wyau yn galed.

Wrth wel'd mishtres yn gweyd dim, dyma’r fenyw fach yn magu calon ac yn myn'd mlaen.

"Bryd arall, rwy'n meddwl weithiau, fod eich wyau chi yn Nghymru yma'n wahanol i'n rhai ni yn Lloeger, a rw i wedi bod yn meddwl er's tro i ofyn i chi, Mrs Roberts, shwd i chi'n berwi wyau ffordd hyn?"

"Oh, run peth a rhywle arall am wn i," mynte mishtres.

"Odych chi'n dodi halen a finegar yn y dw'r i'w berwi nhw?’

"Na fydda i," mynte mishtres.

"Wel, rw i wedi treio nhw bob ffordd jest iawn, ond yr un peth yn gwmws mae nhw wed'yn," mynte'r fenyw fach. "Rw i jest a danto, a gweyd y gwir. Wysh a nese chi gymwynas fach a fi, Mrs Roberts?"

“Gna i, merch fach i, yn union os galla i,” mynte mishtres.

"Wel wir, te, berwch cwpwl o wyau i fi erbyn te i Clifford fory, fel galla i wel'd am shwrne, a falle galla inau neud wedyn."

"Gna i, os licwch chi, mewn myned," mynte Mari. "Fe gna i e heddy, os liciwch chi."

"Oh fe licswn tae digon o amser," mynte hithau. "Ond ry chi'n gwel'd fe fydd Clifford gartre mewn llai nag awr, a rwy'n ofni felny na fysen nhw ddim yn ffit."

"Ddim yn ffit mewn awr?" mynte mishtres mewn syndod.

 

 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd J4235) (24 Mehefin 1899)

 

"Na fyddan wir!" mynte'r fenyw fach yn siriws ei gwala. "Fe berwes i nhw'n hunan ddoe am dros awr a hanner, a fe'i treies nhw a'r fforc ddwsen o weithiau, rwy'n shiwr o hyny - ond roe nhw'n teimlo mor galed yn mhen awr a hanner ag oe nhw pan ddodes i nhw miwn gynta!"

A fe ddrychws mor druenus yn llygid Mari fel i hono jest a myn'd i lefen gyda hi yn lle hwerthin.

Wel, ta pun, fe ddangosws Mari iddi shwd i ferwi wyau, er nag oedd dim awr o amser cyn te. A roedd yn ddigon o sight i chi wel'd y fenyw fach byth wed'yn yn berwi wyau. Fe dynse'i watch maes, - watch aur splendid, a fe ddodse hono ar y ford, gan farco i'r dim pryd byse hi'n dodi'r wyau yn y sospan. A dyna lle byse hi wed'yn, a'i llwy yn ei llaw, a'i llygid ar y watch nes dese'r pedair myned i ben, a wed'yn dyma hi'n neido a chodi'r wyau o'r sospan a meddwl, poor thing, ei bod hi'n gneud rhyw wyrth anghyffredin ei bod hi'n gallu berwi wy yn soft yn lle yn galed! (l’w barhau.)

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J4236) (1 Gorffennaf 1899)



Papur Pawb. 1 Gorffennaf 1899.

PROFIAD PAR IFANC Sef Gofidiau'r Byd Presennol. [Cofnodwyd Gan y Cymydog Drws Nesa.]

PROFIAD IV. - DYSGU NOFIAD. - ENILL BRECWAST. - BEUDY FFASIWN NEWYDD.

Falle na chredech chi ddim, ond mae e'n eitha gwir beth w i'n weyd wrtha chi am y par ifanc yma. Dw i ddim yn beio cyment arno chi am bido credu - os y chi mor ddwl a gneud hyny - wath prin y credswn i'n hunan onibai mod i wedi gweld a chlywed Mr a Mrs Cleveland a'n llygid a'n nghlustau'n hunan. Mae'n syn meddwl, a gweyd y gwir, fod dou shwd fapa i gael yn y byd yma. Ond os nag w i'n camsyned, mae llawer dou run shwt a nhw, neu'n go debyg iddyn nhw, i'w cael, mor debyg, yn wir, fel y gallech chi weyd mai "dou frawd yw'r ddou freuddwyd."

Ond, nawr, rhag i chi feddwl fod hiten gen i at y menwod, ac mai arni hi, y wraig ifanc, poor thing, roedd y bai i gyd, gedewch i fi weyd wrtho chi rhywbeth am dano yntau, Clifford, os galwodd ei wraig e.

Roedd yntau, welwch chi, fel hithau, wedi cael codiad da ymbeidus, wedi cael pwer o ysgol a phwer o foethau, a phwer o dolach - ond yn gwbod dim mwy am ofidiau'r byd presennol cyn priodi nag a wyr gwdihw am y Crystal Palace. Dyna shwd bartoians gas e, welwch chi, at fyn'd i gwrdd ac ymladd a'r byd, cadw'r gwynt rhag hwthu arno, cael gweishon a morwnion i neud pobpeth drosto, ac am un i ddodi'r bwyd yn ei ben e - a weithiau roedd e felse hi'n ormod o job iddo fe i fyta'r bwyd ar ol ei gael e yn i ben. Does gen i ddim amynedd gyda pheth felna.


 

 

None
(delwedd J4237) (1 Gorffennaf 1899)



Rw i'n gweyd riod dylse pob un gael ei ddysgu o'r gadair i ymdopi drosto'i hunan.

Mae nhw'n gweyd wrtha i fod rhai pobol baganaidd sy'n byw ar lan y mor yn cymryd babis bach newydd eni jest, yn mhell cyn bo nhw'n gallu cerdded, ta beth, a'u towlu nhw i'r mor i gael betlo a'r tonau goreu gallan nhw. Mae'r fam yn eu bugeilia nhw, wrth gwrs, fel na cha nhw ddim boddi, a mae'r hen wrdrwgiaid bach yn dysgu nofiad fel hwyaid cyn bo nhw'n gallu cerdded.
A meddylwch chi gyment o beth yw hyny iddyn nhw nawr.

A fe glywais i weyd am rhyw genedl o bobol oedd yn uso bwa saeth, eu bod nhw er mwyn dysgu'r cryts i saethu'n gwmws, yn dodi brecwast pob crwt allse ddala bwa, ar ben polyn, a allse fe ddim cyrhaedd hwnw, a'r unig ffordd allse fe gael ei frecwast fyse trwy ei saethu e i lawr a'r bwa saeth. Falle'ch bod chi'n meddwl fod hyny'n gyfraith go galed a'r cryts, ond pan feddyloch chi doedd e ddim. Yn wir, y caredigrwydd goreu ellsid byth neud a nhw oedd e, wath, ry chi'n gweld, roedd e'n eu dysgu nhw shwd i gael eu bywoliaeth ar ol llaw, pan taw ar y bwa saeth roe nhw i ymddibynu am frecwast a chino, a the a swper, ie, a dillad a phob peth.

Rw i wedi meddwl lawer gwaith byse hi n dda i neud rhyw gyfreth tebyg i'r ddwy yna gyda chryts y dyddiau hyn.
Nid yn gwmws falle, eu towlu nhw'n fabis bach i ganol y dwr, a nid dodi eu brecwast nhw ar ben polyn i'w saethu cyn cesen nhw i fyta fe. Ond yr un egwyddor, chi wyddoch, eu dysgu nhw o'r gadair i enill eu bywoliaeth, neu o leia i neud rhywbeth ddese yn help iddyn nhw shag at hyny. Rhy fach o hyny lawer iawn sydd yn ein dyddiau ni, nes bo llawer bachgen ifanc yn mynd i dreio cadw gwraig cyn bo fe'n gwbod y ffordd i gadw ei hunan.

 

 

None
(delwedd J4238) (1 Gorffennaf 1899)



Nid, mindwch chi, na allse Mr Cleveland gadw'i hunan a'i wraig yn nobl yn ei fusnes ei hunan. Roedd e'n eitha mishter ar ei alwedigaeth, hware teg iddo fe, a rw i'n parchu dyn fo'n fishtir ar ei waith, ta ble bydd e, pun ai rhwng dou corn yr ayad, neu lapston ar ei arffed, neu'n sefyll uwch ben yr eingon, neu tu ol i'r cownter, neu'n cownto arian yn y bank, neu'n tori cerig ar ochor y ffordd. Bod yn fishtir ar ei waith gan nad beth y bo fe, dyna sy ishe, welwch chi. A fel rw i'n gweyd wrtha chi, roedd Mr Cleveland yn eitha mishtir ar ei fusnes ei hunan.

Ond druan ag e! Unwaith esech chi ag e tu fas iddi fusnes ei hunan, roedd e fel bapa yn gwmws. Chi allsech ei dwyllo fe dan ei drwyn. A dyna'r cebyst, welwch chi, roedd e fel hithau'n ormod o ddyn i ofyn i neb. Fynse fe ddim i neb feddwl nag oedd e'n gwbod y cwbwl.

I fi gael gweyd wrtha chi nawr. Fe ddaeth now arno fe i gadw buwch, a chan nag oedd dim boudy wrth Laurel Villa, fe ath yn nghyd a bildo un yn ngodreu'r ardd. Wel, yn lle gweyd wrth y meiswn a'r saer mai ishe boudy oedd arno fe, dyma fe yn nghyd a thynu plans mas iddyn nhw fildo'r lle. A roedd y plans mor grand, welwch chi, fel na feddylws y nghalon i erioed mai dim ond boudy i fuwch oedd gydag e mewn golwg - a feddylws y crefftwyr ddim chwaeth. Fe dreison yn mhob ffordd gwydden nhw am dano fe i dynu orwtho fe beth oedd y lle dda. Ond wedse fe ddim.

Roedd yno wad o bortsh mawr o flaen y drws, a ffenestri mawr yn agor fel ffenest drawing-


 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd J4239) (1 Gorffennaf 1899)

 

room, a phanels coed tu fewn felse chi'n mynd i dy plas gwr bynheddig. Ac ar y llawr roedd gydag e ryw fath o garped tew o wellt wedi ei blethu yn gywrain anghyffredin, felse chi'n meddwl nawr am Indian matting yn hwech neu saith trwch nawr.

Yn y pendraw roedd yno ffram gwely mawr, gyda'r mwya weles i eriod, a phystwn hwnw wedi eu carvo felse chi'n meddwl am bystion star pwlpud ty cwrdd mawr. Ac ar hwnw roedd yno fattras gwellt splendid, cymaint a'r ddou wely mwya weles i eriod yn y mywyd.

Ac ar draed y gwely dyna lle roedd cwilt a blancedi mawr trwmon.

Ar ryw sharad rhynto fe a finnau fe wedes i ei fod e'n gneud building pert ymbeidus yn ngodreu'r ardd.

"Odw," mynte fe. "Rwy'n credu gneith e'r tro. Dewch i weld e."

A bant a ni'n dou i weld y lle, heb fod gen i y drychfeddwl lleia ar wyneb y ddaear beth oedd y lle dda. A dyna shwd ceso i weld y lle.

Ond fe weda i ragor wrtho chi am dano fe y tro nesa. (I'w barhau.)

 

 

A black and white photo of a document

Description automatically generated with low confidence
(delwedd J6222a) (8 Gorffennaf 1899)

Papur Pawb. 8 Gorffennaf 1899.

PROFIAD PAR IFANC

Sef Gofidiau'r Byd Presennol.

[Cofnodwyd Gan y Cymydog Drws Nesa.]

PENNOD V. - CARTRE'R FUWCH FENYW.

Wel, fel own i'n gweyd wrtho chi wyddwn i ddim byd beth oedd gan Mr Cleveland ar waith yn yr ardd. Down i eriod wedi gofyn iddo fe, er fod digon o hwant wedi bod arna i lawer gwaith, a gweyd y gwir, wath rown i'n ffeilu a deall beth yn enw'r gwr drwg allse fod gydag e ar waith, welwch chi.

Ond wedi iddo fe geisho gen i felny i fyn'd gydag e i wel'd y lle, fe feddyles, welwch chi, fod gen i eitha shawns o'r diwedd i ddod o hyd i'r holl ddirgelwch. Ond feddylws y nghalon i ddim gallse neb byth fod mor ddwl ag oedd y gwr drws nesa' wedi bod gyda'r fusnes yma.

A fel rown i'n gweyd, fe aeth a fi miwn trwy'r ardd i wel'd y lle, a roedd golwg beautiful arno a gweyd y gwir, building hanswm anghyffredin oedd e. ’Roedd portsh agored mawr llydan o flaen y ty, a bargoedydd mawr llydain i'r to round about, a gwelydd y ty wedi cael eu gweithio'n gywrain mewn bricks o bob lliw -
welsoch chi, rwy'n siwr o hyny, ddim lle pertach eriod.

Cofiwch, wyddwn i ddim pryd hyny at beth oedd y lle dda, a dyma fi'n gweyd:-

"Wel yn y ngwir i'r dyn mae gyda chi le pert afnadw yma."

"Ody chi'n ei lico fe?" mynte fe.

"Does dim ishe i neb i bido'i lico fe, gwlei,” myntwn inau. "Hidswn i ddim llawer byw yma'n hunan."

"Jocan y chi, nawr," mynte fe, gan wenu, ond rown i'n gwel'd pe eitha da ei fod e wrth fodd ei galon mod i'n rhico tipyn ar y lle hefyd.

"Wel nage, o brysur," myntwn mau. “Dw i ddim yn jocan. Weles i ddim pertach lle bach ariod am wn i."

"Mae'n dda, gen i'ch bod chi'n ei gymeradwyo fe,” mynte fe. "Mae gen i ymddiried mawr yn eich barn chi am bethau sy'n perthyn i'r wlad, welwch chi. Ond rown i'n meddwl ei bod yn bwysig iawn i gael lle tlws o gwmpas. Chi wyddoch gymaint yw dylanwad amgylchoedd, influences of environment, chi wyddoch. A rown i'n teimlo fod hyny yn bwysig iawn."

"Ody mae e, ry chi'n eitha right,” myntwn inau - er na wyddwn i ddim ar wyneb y ddaear beth oedd e'n feddwl wrth "influences of environment" nes ar ol i fi fyn'd nol sha'r ty a gofyn i Mari, a hwilo yn y dictionary. A chan na wyddwn i ddim beth oedd e, y peth calla allswn i neud, am wn i, oedd cytuno ag e yn lle'i fod e'n ffindo mas na wyddwn i ddim yn nghylch y peth oe ni'n sharad am boutu e.

Rw i wedi cael hyny yn beth useful afnadw droion. A rhag eich bod chi'n meddwl mai fi yw 'r unig ddyn call sy wedi ffindo hyny mas drychwch chi yn eich Beibil, a chi gewch fod Solomon yn gweyd yr un peth "Y ffol," mynte Solomon, "Y ffol tra y tawo a gyfrifir yn ddoeth." A felny tewi wnes inau mewn ffordd, welwch chi, drwy gytuno a gwr ty nesa yn nghylch "influences of environment.

Ond i fi gael myn'd mlaen a'r stori.

Cyn myn'd mewn i'r lle, fe ethon ein dou round about iddo fe o'r tu fas, i gael eitha golwg arno; a dyna lle 'roedd eitha gravel walk round am boutu, a stripyn llydan o dywarch glas beautiful rhwng hwnw wedi hyny ar building.

"Ry chi wedi gofalu am ddigon o gysgod, ta beth," myntwn i gan bointo a'r ffon at y portsh mawr a'r bargoedydd llydain.

"Odw," mynte fe, "cysgod rhag yr houl a’r glaw. Rw i wedi treio goreu gallswn i i ofalu


 

 

A black and white photo of a document

Description automatically generated with low confidence
(delwedd J6222b) (8 Gorffennaf 1899)



am bobpeth fel ny. Does dim byd yn waeth, medde nhw, na bod yn gorffod aros yn yr houl heb ddim cysgod, neu bod a'r cefnau yn wlyb."

"Nag oes, ry chi'n eitha right," myntwn i. "Peth embed yw bod yn yr houl weithiau pan bydd hi'n boeth iawn. Mae llawer yn cael sunstroke wrth beido gofalu am beth ar eu penau."

"O rwy i wedi gofalu am hyny, fel cewch chi wel'd, pan ewn ni mewn," mynte fe.

A gwir y wedws e, fel cewch chithau wel'd maes law fach.

Rown i'n ffaelu deall hefyd pwy ishe son oedd arno fe am gael cefen gwlyb fan ny ar bwys y ty, wath neno rheswm fe allse dyn rhedeg i'r ty mewn wincad tae hi'n dod yn gawod arno fe yn yr ardd - ag ese neb mas i'r ardd i enjoyo'i hunan ar y gwlaw.

Wedi gwel'd y cwbwl oedd i wel'd o'r tu fas, fe ethon miwn i gael golwg ar y lle yr ochr tu fiwn. Felny miwn a ni'n dod drwy'r portsh mawr w i wedi son am dano, ac ar hyd y stripyn matting gwellt tew hyny, ac i mewn i'r room.

Room mawr splendid oedd e, y gwelydd yn waith panels splendid i gyd, a ffenestri mawr yn yr ochrau, a top rheiny yn agor wrth gordynon o'r tu fiwn, ac yn nghanol y to ar y top wad o bishyn mawr arall o do glass, a chordynon wed'yn wrth hwnw iddi agor e.

"Mae e'n lle goleu beautiful," myntwn i, wath fe welswn ei fod e'n dishgwl i fi weyd rhywbeth, welwch chi.

"Ody, ond dyw e'?" mynte fe. "Mae yr awdurdodau ucha' yn gweyd nawr fod digon o oleu a digon o awyr ffresh yn ddou o angenrheidiau penaf iechyd. A nawr, rw i wedi treio gofalu am ddigon o bob un o'r ddou."

A dyma fe'n dangos i fi rhyw gynllun rhyfedd oedd gydag e' at gael ventilation i'r lle, fel byse yno ddigon o awyr ffresh pryd y mynse fe dim ond twtsh rhyw handle fach.

"A ry chi'n gwel'd," mynte fe, "dyma'r beauty ohono fe.
Fe allwch gael digon o ventilation heb gael dim drafft o gwbwl. Dishgwylwch yma nawr."

A dyma fe'n troi'r handle, a fe glywn rhyw wish-wish-wish yn y wal round amboutu; a dyma fe wed'yn yn towlu dyrned bach o bapur wedi ei dori'n fan man lan, a rheiny'n codi a whiw a nhw ma's trwy'r twll yn nghanol y to fry, a dim tipyn o ddrafft i'w deimlo o gwbwl. 'Roedd e'n syndod a gweyd y gwir.

All'swn i ddim llai na theimlo'i bod hi'n biti ymbeidus na all'sen ni gael rhywbeth fel'ny i'r ty cwrdd. Mae mor glos yno pan fydd y ty cwrdd yn llawn, a'r lampau wedi eu cyneu, fel mae dyn yn cael gwaith cael ei anal. Ac os agorwch chi'r drysau a'r ffenestri, wed'yn, fe fydd yno ddigon o wynt i nithio gwenith, a dyna lle bydd pawb yn trwshan fel pe byse nhw mewn preimin trwshan. A fel rwy'n gweyd, all'swn i ddim llai na meddwl ei bod hi'n biti na ellsid gneyd yn y ty cwrdd beth oedd Mr Cleveland wedi ei neyd yn y ty newydd yn yr ardd.

"Shwd y chi'n gneyd yn y nos?" myntwn i.

"Mae ishe goleu yn y nos, ond does e' ?" mynte fe, gan gochi hyd ei ddou clust.

"Wel, oes, wrth gwrs, beth y chi'n feddwl?" myntwn innau'n ffeilu deall fod y dyn yn gofyn cwestiwn mor ddwl.
"Wel, ro'wn innau'n meddwl hyny," mynte fe, "ond do'wn i ddim yn eitha shiwr. Ond rhag ofan byse ishe hyny, rw i wedi trefnu ar gyfer hyny hefyd. Dishgwylwch yma,

A dyma fe'n myn'd i gornel o'r room, yn agor drws bach fan 'ny, ac yn troi tap bach fan 'ny, a whiw! dyma oleu mor ddishglaer a'r houl ganol dydd yn tywynu uwchben.

"Dyn! Mae'n rhy dambed i fi!" myntwn i, wath all'swn i ddim dryched arno fe.

"O, neiff e' ddim gwahaniaeth iddi hi," mynte fe. "Ry chi'n gwel'd nawr fydd ei llygid hi byth yn dryched tuag i'r lan."

"Llyged pwy?" myntwn i.

"Llyged y fuwch," mynte fe.

"Llyged pwy fuwch?" myntwn i wed'yn.

"Ond llyged y fuwch fydd yn y boudy hyn," mynte fe.

"Diwch anwl!" myntwn i. "Beudy! Nid beudy yw hwn! Diwedd anwyl, mae hwn yn edrych yn debycach i barlwr menyw nag i feudy buwch!”

"Ie," mynte fe, "ond ond ry' chi'n gwel'd buwch fenyw yw hi, a mae eishe mwy o foethau ar fenyw nag sydd ar wryw!”

(I’w barhau.)


 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J6223a) (22 Gorffennaf 1899)

 

Papur Pawb. 22 Gorffennaf 1889.

PROFIAD PAR
IFANC

Sef
Gofidiau'r Byd Presennol.

[Cofnodwyd Gan y Cymydog Drws Nesa.]

PROFIAD VI. - Y PRACTICAL A'R THEORETICAL FARMER. - CLEFYDAU ANIFEILIAID, A SHWD I'W GWELLA NHW.

Fel gallwch chi feddwl nawr, fe etho i i stwmp wrth glywed 'y nghymydog yn gweyd mai beudy wedi'r cwbwl oedd y building erand oedd e' wedi godi yn yr ardd.
’Roedd y’n stwmp i gyment fel na all'swn i ddim a gweyd gair am dipyn tawn i'n cael sofren am 'i weyd e’.

Fe feddylws Cleveland, welwch chi, mai wedi llesmeirio gan edmygedd o’wn i. Falle na wyddoch chi ddim beth yw ystyr y gemau yna ond os drychwch cdi yn y dictionary, chi gewch afel yndi nhw. Rw i'n lico iwso ambell i air mawr fel'na fel galwch chi wel'd nawr mai nid rhywbeth rhywbeth w i'n sgrifenu, ac mai nid dyn heb fod yn gwbod beth mae e’n neyd w i.

Gan feddwl fel'ny mai wedi cael ’y nharo’n fud gan fawredd ei gynllun e' o’wn i, dyma wen foddhaus yn lledu dros ei wyneb e o glust i glust, nes i fi hanner meddwl byse dou pen y wen hono yn cwrdd rhwle tua chym’dogaeth ei wegil e’.

“Ody,” mynte fe, fel’se fe am weyd rhywbeth er mwyn i fi gael amser i ddod ato i’n hunan. "Ody," mynte fe, fel'se fe’n y’n aped i, er nag o’wn i ddim wedi gweyd gair wrtho fe. “Ody, mae e'n lle bach digon twt, a gweyd y gwir. Ry' chi'n gwel'd pan fydda i’n myn’d yn nghyda rhwbeth rw i'n lico gneyd eitha job ohono fe, welwch chi. Ys gwedwn ni’r Saeson, "If a thing is worth doing at all, it is worth doing well." Ac ar yr egwyddor yna rw i'n lico gweithredu. A rhyngto chi a finnau, er nag w i am fragio dim, rw i’n cael y’n nhueddi i gredu na welwch chi ddim beudy arall tebyg i hwn ar hast."

"Ry' chi'n eitha right am hyny," myntwn i, gan ddryched amboutu ar yr holl drefniadau costus oedd gydag e’. Do’s dim dowt amboutu hyny.”

“Wel, fe nath hyny iddo gredu'n fwy nag eriod mod i wedi cwmpo mhwn cariad a’r boudy. A ro'wn i hefyd, hware teg, er mai nid fel boudy o’wn i’n 'i lico fe chwaith. Ond wydde fe ddim o hyny pryd hyny, ta beth. Fel'ny dyma fe'n wado mlaen wedyn gan rwto 'i ddwylo fel'se fe'n bles anghyffredin.

"Fe dreuliais i," mynte fe, "rai wythnosau i studio hwn ma's. Nid job bach oedd hyny, credwch chi fi. Ro'wn i am neyd pethau yn y dull goreu, according to the dictates of modern science, a fel'ny fe gym'res i dipyn bach o amser i ystyried yr holl beth, a'r awduron goreu; ac os nag w i'n twyllo'n hunan, fe fydd yn annodd i chi bigo unrhyw fai ar hwn, na nodi dim sy'n eishe ar anifail nag w i wedi darparu ar ei gyfer e'.”

A dyma fe'n dryched arna i wedi ny, a’i ben ar gam, fel gwelsoch chi ambell i dderyn bach weithie yn troi ei ben naill ochor i gael dryched beth y chi'n myn'd i neyd.

"Dewch nawr," mynte fe, "treiwch chi rywbeth nawr i gae gwel'd os w i wedi anghofio neu adael rhywbeth ar ol. Dyma'r beudy cynta gynlluniais i ariod, ond rwy'n meddwl ei fod e'n un go lew ag ystyried."

Wel, nawr, 'roedd hyn, welwch chi’n eitha cwpa shalenj, a danco fe benderfynes innau roi lesson fach iddo fe byse fe'n debyg o gofio dro am dani hefyd, credwch chi fi.

Ond wyddwn i ddim yn iawn shwd na b'le i

 

 



Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J6223b) (22 Gorffennaf 1899)




ddechreu chwaith. Nid am nag oedd yno ddigon o ddewish, ond fod yno gyment o bethau mor afnadw o ddwl fel mai'r anhawsder mwya' oedd gwbod b'le i daro gynta.

Ond fe feddyles os oedd e' wedi bod yn drefnus yn ei gynllun, gall'swn innau fod yn drefnus hefyd yn ’y nghynllun innau o'i aped e, a fel'ny dyma fi'n penderfynu dechreu tu fa's, a dod miwn gam bwyll fach.

Fel'ny, ar ol carthu ngwddwg i fi gael eitha hware teg, dyma fi'n deehreu arni.

"Mae gyda chi walks bach neis ymbeidus amboutu'r lle," myntwn i.

"Os shiwr," mynte fe. 'Roedd hyny'n boint gen i, welwch chi."

"Ond," myntwn i, "prin mai gravel fel hyn yn siwto traed buwch. Ry' chi'n gwel'd, mae buwch yn fforchogi ewin, ac wrth fod y droed yn agor wrth gerdded, fe fyse'r gravel, all'swn i feddwl, yn go debyg o fyn'd mewn rhwng y ddou ewin, a gneyd dolur i'r creadur, a falle gneyd clwy', a llygru yno."

Ro'wn i'n meddwl ’y mod i'n rhoi hwampen fach gas mewn ffordd fach neis iddo fe, welwch chi; wath do'wn i ddim am ddolurio'i deimladau fe fwy nag oedd raid, welwch chi.

Ond dyn a'ch helpo chi! ’Roedd ei aped gydag e'n barod, ac aped na fyswn i byth yn meddwl am dano, am wn i.

Dyma fe'n gwenu wed'yn yn fwy ples o’r ddou na'r tro cynta'.

"Da iawn," mynte fe. "Rw i'n gwel'd eich bod chithau wedi studio'r cwestiwn fel finnau. Ro'wn innau wedi gwel'd y point yna, ac mae'n dda gen i eich bod chithau wedi ei godi e' nawr, fel galla i ddangos i chi shwd w i wedi cwrdd a'r anhawsder. Aroswch fynyd."

A dyma fe'n tynu allweddi ma's o'i boced, ac yn myn'd at gwpbwrdd glass bach yn y cornel fan'ny, ac yn dadgloi'r drws, gan dynu rhywbeth ma's o'r cwpbwrdd, a'i estyn i fi.

"Dyna," mynte fe. "Beth wedwch chi am hwna?"

Wel, fe ddryches ac fe ddryches ar y peth oedd e' wedi estyn i fi, ond allwn i yn ’y myw neyd na phen na, chynffon ohono.

'Roedd e' fel'se chi'n meddwl am hosan ac esgid yn un, ond mai hosan ishel ac esgid at droed twp oedd e'. ’Roedd revings yn nhop yr hosan, a lastic drwy rheiny, fel gall'sech chi ei mestyn e' ma's faint fyn'sech chi jest iawn. 'Roedd e' wedi cael ei neyd o ryw fath o ledr soft, ryw wash neu chamois leather, am wn i. Ond 'roedd y gwaelod o leder caletach, fel lleder tapiau yn gwmws. Fe ddryches tufiwn, a jaist rodd yr ochor tufewn ar y gwaelod wedi cael ei lanw a rhywbeth soft fel'se chi'n meddwl am lint neu gotton wool, neu rywbeth fel'ny nawr. Ond doedd dim o hwnw yn y golwg chwaith, ond 'roedd e' wedi cael ei gyfro a ryw stwff soft, ysytwyth, ond cryf a gwyddyn hefyd.

"Dyna chi," mynte fe wed'yn, gan ddryched yn fuddugoliaethus arna i, "beth wedwch chi am hwna?"

Doedd gyda fi ddim byd i weyd, a dim byd i neud chwaeth ond crafu mhen.

"Wel wn i ddim yn y ngwir i beth i weyd," myntwn i. "Ry chi'n gweld weles i ddim un run peth ag e yn y mywyd."

Dyma fe'n hwerthin mas.

"Mae'n dda gen i feddwl hyny," mynte fe. "A mae'n dda gen i'ch bod chi'n gweld a chyfaddef hyny. Dw i ddim yn lico bostio, fel gwedes i o'r blaen ond rwy'n credu mod i wedi talu mwy o sylw i'r peth hyny na nemor i neb sy'n fyw."

Gan na tebes i ddim gair, dyma fe mlaen wedyn.

"Rw i wedi credu er's llawer dydd," mynte fe'n mhellaeh, "nag os dim cyment o sylw yn cael ei dalu i anghenion cyffrcdin anifeiled,


 

 

A black and white photo of a document

Description automatically generated with low confidence
(delwedd J6223c) (22 Gorffennaf 1899)


ac mae dysgeidiaeth gwyddonwyr iechydol, scientific sanitarian or sanitary scientists, pena'r oes yn dangos mod i'n right, welwch chi."

Roedd e'n iwso geiriau Seisnig mawr a dysgedig ofnadw weithiau, a chryn dipyn o job yw i fi allu rhoi yr ystyr mewn Cwmrag plaen i chi, ond fe na i ngoreu, a phan bydda i'n meddwl y gall fod rhyw ddowt pun a odw i wedi rhoi'r Cwmrag yn iawn ai pido, fe dreia i gofio roi ei eiriau fe'i hunan yn Saesneg fel gwedws e nhw, a felny fydd dim camsyned i fod.

Ond dyw hyn ddim ond gair bach wrth baso. I gael mynd mlaen a'r stori. Gan na wyddwn i ddim beth i weyd fe dewes a son, a wedes i ddim. Ond fe wedws c ddigon trosw i, druan ag e.

"Nawr," mynte fe. "Beth yw'r clefyd sy wedi gneud mwya, o niwed i'r ffarmwr, hyny yw, clefyd yn mhlith y gwartheg!"

Wel, doedd dim ishe i fi studio llawer iawn cyn aped hyny. Dw i ddim wedi byw yn y wlad eriod a bod yn cadw ffarrm y'n hunan heb wbod rhywbeth am bethau felny, a dyma fi’n aped, straight off.

"Mae sawl un," myntwn i. "Dou neu dri, neu falle bedwar, o glefydau sy'n gneud hafoc i'r ffarmwr anifeiled."

"Eitha da," mynte fe. "Beth y nhw?"

"Wel," myntwn i, gan gosi nghern er mwyn cael bod yn shiwr o'r tir own i'n shengid. "Wel, dyna glefyd y traed a'r genau i ddechreu."

"Ie," mynte fe, gan rwto'i ddwylo wedyn. "Quite right. Foot and mouth disease i ddechreu. A beth wedyn?"

"Wel," myntwn i wedyn, gan gosi'r gern arall, er mwyn cael cydbwyso'r synhwyrau. "Dyna glefyd y gwt."

"Dyna chi," mynte fe, gan rwto'i ddwylo fwy nag erioed. "Dyna theory and practice yn cydweld eto. Ry chi'n ffermwr ymarferol, a practical farmer, a finnau'n theoretical farmer heb gadw anifail erioed yn y mywyd, a dyna ni'n cytuno i'r dim!"

Down i ddim yn lico hyny'n rhyw dda iawn chwaeth, y nghlymu i fyny gydag e, felswn i'n debyg o fildo boudy tebyg i hwnw!

Ond cyn i fi gael amser i weyd dim, dyma fe'n mlaen wedyn.

"Ie, clefyd y gwt. Eitha right yto. Nawr, beth arall?"

"Wel," myntwn i, gan grafu mhen nawr, gan mod i wedi crafu'r ddwy gern ishws. "Wel," myntwn i. "Dyna'r clefyd du."

"Quite so!” mynte fe. "Dyna ni'n cytuno yto i'r dim! Rw i'n fwy balch na alla i byth a gweyd i gael gweld fel hyn fod practical farmer fel chi yn cymeradwyo'r hyn w i wedi neud."

Rown i'n teimlo wedyn fod hyn yn myn'd dipyn bach rhy bell, ac eto, rywffordd neu giddyl doedd yno ddim lle gen i na lle i fi grosbledo ag e yn y fan ny, wath roedd y peth own i wedi weyd a'r peth oedd e'n weyd ei fod e wedi neud, yn cydfyn'd i'r tipyn.

"Ie," mynte fe. "Y clefyd du. Eitha right. Nawr beth arall."

Wel, wyddwn i ddim ble oedd cosi nesa, waeth dyna fi wedi crafu nghernau a nghopa; a fel ny dyma fi'n plyco'r whiskers ar y ngen. Ond allswn i ddim meddwl ar y pryd am ddim arall.

"Wn i ddim am ddim arall, am wn i," myntwn. "Hyny yw ddim byd pwysig iawn i'w gymharu a rheina."

Dyma fe'n dryched yn dosturiol arna i.

"Rwy'n synu'ch clywed chi'n gweyd shwd beth a hyna," mynte fe. "Dyn call fel chi! Rown i'n meddwl byse chi, falle, fel practical farmer, yn gwbod mwy na rhyw mere theorist fel fi am bethau fel hyn." A dyma fe'n aros felse fe'n dishgwl i fi weyd


 

 

 Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J6223d) (22
Gorffennaf 1899)


 

rhywbeth. Ond doedd gen i ddim byd i weyd, a felny wedes i ddim ohano fe.

Pan welws e mod i wedi dod i ben draw'r llinyn, dyma fe'n gweyd:

"Mae yna un arall ta beth y dylsech chi ar bob cyfrif ei gownto mewn yn mhlith gelynion pena'r ffarmwr anifeilied."

"Beth yw hyny?" myntwn i.

"Decline," mynte fe. "Consumption.Tuberculosis. Dyna'r peth sy'n lladd gwartheg, a thrwy ladd gwartheg yn lladd dynon hefyd sy'n yfed llath gwartheg. Dyma un o broblems mwyaf dyrys gwyddoniaeth ddiweddar. Mae meddyliau mwyaf galluog yr oes wedi talu sylw manwl i'r cwestiwn yma. Mae gwyddoniaeth yn gallu profi nawr tuhwnt i bob amheuaeth yn ei gylch e fod rhan fawr iawn o'r achosion o decline yn y deyrnas yma, hyny yw, yn mhlith bodau dynol, i'w briodoli i'r ffaith eu bod nhw'n yfed hadau consumption yn llaeth y fuwch!”

A dyma fe'n sefyll o'n mlaen i fel un ag awdurdod i sharad.

"Ond," medde fe, "fe gewn sharad mwy am hwna eto. Y cwestiwn nawr yw gwbod shwd mae cwrdd a'r afiechydon hyn."

"Ie," myntwn i. "Dyna'r point."

"Wel," mynte fe. "Rw i wedi gueud hyny, ac wedi llwyddo i gwrdd a phob un ohonyn nhw. A nawr fe ddangosa i chi."

A dyma fe'n dechreu arni, gan weyd y pethau rhyfedda fu eriod. Ond fe fyse'n biti dechreu arnyn nhw fan hyn ar ddiwedd pennod, felny fe gadawn nhw hyd y bennod nesa, a rwy'n shiwr y gwedwch chithau gyda fi, na chlywsoch chi ddim shwd beth a'ch clustiau erioed!

(I’w barhau)


 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated
(delwedd J6224a) (29 G
orffennaf 1899)


Papur Pawb. 29 Gorffennaf 1899.

PROFIAD PAR IFANC

Sef
Gofidiau'r Byd Presennol.

[Cofnodwyd Gan y Cymydog Drws Nesa.]

PROFIAD VIII.
- CADAIR A THETH BUWCH FFASIWN NEWYDD.

Wel nawr pan wedws Mr Cleveland wrtha i ei fod e wedi ffindo'r ffordd i wella clefydau gwaetha anifeiled, wyddwn i ddim yn iawn beth i weyd. Ry chi'n gwe'd, rown i wedi dod i feddwl mai hanner ffwl oedd e, hyd nes i fi gael y ple hyny gydag e yn nghylch yr anifeiled. Ond roedd e’n ddigon amlwg fod y dyn yn gwbod rhywbeth am anifeiled, - gryn dipyn fwy nag a feddyles i, ta beth, eriod.

Felny, pan wedws e fod gydag ei giwr i glefyd y traed a'r genau, a'r pethau ereill hyny, fe gredes mod i'n mynd i glywed rhywbeth newydd – a felny rown i hefyd fel cewch chithau weld mewn mynyd.

Rown i bron tueddu i feddwl falle gan fod Mr Cleveland yn gyment o ysgolhaig - a mae e'n hyny fel gall unrhyw un weld - falle byse fe'n mynd i ysgrifenu llyfr newydd ar ffarieraeth. A chan fod peth delight gen i mewn ffarieraeth, rown i'n meddwl byswn i'n cael goleuni newydd gan y cymydog drws nesa ar bethau y gwyddwn i ishws rhywbeth yn eu cylch nhw – a fe geso hefyd.

"Wel, nawr te," mynte fe, gan gitsho wedyn yn y peth dynws e mas o'r cwpbwrd, a'r peth o ddiffyg gwell enw arno rw i ishws wedi ei alw yn short o esgid a hosan yn joint, "wel nawr te," mynte fe, "i gael dod a'r peth i boint."

"Ie," myntwn i, yn awchus. "Ry chi'n gwbod mai drwg yn fforchogaid yr ewin yw un o arwyddion clefyd y traed a'r genau?"

"Ie," myntwn i wedyn, "mae hyny'n ddigon plaen i undyn, wath mae'r anifeiled druen yn mynd yn gloff right, a ffeilu symud, a dyna pam mae e'n cael ei alw'n glefyd y traed a'r genau."

"Dyna chi," mynte fe, "yn union. Nawr fel y sylsoch chi gyneu, mae bod rhywbeth yn mynd mewn rhwng y gwinedd yn fforchogiad yr ewin, rhyw gravel neu geryg man neu rywbeth fel ny, yn tueddi i greu anghysur ac enyniad, irritation, yn y rhanau hyny, ac mae hyn'n bound o fod yn ddrwg i'r creadur."

"Ody, wrth gwrs," myntwn innau. "O'r goreu, ta, beth yw'r peth goreu i "neud ?"

Fe gymes funud fach i ystyried, waeth nese hi ddim mo'r tro i fi neud ffwl o hanw i'n hunan wrth ateb dyn call a sglaig mawr yn fyrbwyll, welwch chi.

"Wel, am wn i nad y peth goreu yw treio rhwystro dim byd all neud drwg i fynd mewn i'r fforchogiad."

"Dyna fe'n gwmws," mynte fe. "Mae'n dda gen i'n bod ni'n cydweld."

"Ond beth am y gravel walks yma?" myntwn i.

"Arhoswch chi funud," mynte fe. “Fe ddowa i at yna nawr. Y peth cynta, fel y gwedsoch chi, yw hadel dim drwg i gynhyrfu y lle tyner i fynd mewn rhwng y gwinedd. A dyna beth mae hwn dda!"

A dyma fe'n dala'r hen Wellington boot ffashwn newydd i'r lan o flaen y'n llyged i.

Fe edryches, a fe dryches, ond down i ddim tipyn callach wedyn.

"Dw i ddim yn deall," myntwn i, o'r diwedd.

"Wel," mynte fe, "pan ddaw'r fuwch at ben y llwybyr gravel yma, fe fydd y gwas

 

 

 

A close-up of a document

Description automatically generated with medium confidence
(delwedd J6224b) (29 Gorffennaf 1899)




sy'n gofalu am d'ani yn gwisgo'r botasau hyn am ei thraed hi. Mae gen i bedward o honyn nhw, un i bob troed, a ry chi'n gweld fod y top yn revo wrth india rubber. Felny fe agorithd yn ddigon llydan i'r fuwch saco'i throed mewn, a wedyn fe geuith yn ddigon tyn i ddala am y droed.

Fe ddryches, ond1 wedes i ddim.

"A nawr," mynte fe. "Nid dyna'r cwbwl. Mae gwaelod isha'r botasau yma fel gwelwch chi, yn galed. Ond tufewn mae nhw yn ddigon sofft ac esmwyth, fel i bido dolurio traed y fuwch, welwch chi. Fel ny, fe all gerdded dros y gravel heb gael dim drwg na dolur o un math yn y byd."

A dyma fe'n dryched arna i wedyn felse fe'n dishgwl i fi weyd rhywbeth.

Ond wedes i ddim.

"Beth y chi'n feddwl am dano?" mynte fe, o'r diwedd.

Fe ystyries am fynud cyn aped.

"Ody'r fuwch i gadw'i esgidiau ar ei thraed yn y ty?" myntwn i.

"Fyse'ch mishtres yn gadel i chi gadw'ch sgidiau brwnton ar eich traed yn y parlwr goreu?" mynte fe.

"Fe fyse'n amser go ddiogel arna i tawn i'n gneud!” myntwn innau.

"O'r goreu te," mynte fe. "Fel ny, pan ddaw'r fuwch i'r portsh fan hyn, fe gaiff y gwas dynu ei sgidiau hi bant. A wedyn, fel gwelwch chi, mae gen i fath o garped ar y llawr yn ddigon sofft iddi thraed hi heb ddim sgitshe."

"Hym!” myntwn innau.

"Fe fues yn meddwl unwaith," mynte fe, "i neud set o slippers bach ysgon iddi wishgo yn y ty, ond fe feddyles byswn i'n treio shwd byse'r sgitshe yn gwitho gynta."

"Hym!” myntwn innau wedyn.

Ac ar ol ystyried am fynud, dyma fi'n gofyn cwestiwn arall iddo.

"Ond beth am draed y fuwch cyn gwishgo'r sgitshe? Fe fyddan yn frwnt ymbeidus o'r pridd a chwbwl."

"Ha!” mynte fe. "Ry chwithau'n ddyn call, rwy'n gweld. Ond rw i wedi meddwl am y pethau hyn i gyd, a wedi studio nhw'n fanwl. Dewch gyda fi i chi gael gweld!”

A dyma fe'n mynd a fi i lawr i odreu pella’r ardd, lle roedd y walks gravel yn dechreu. A dyna lle roedd short o badell fawr o geryg, marble, rwy'n credu, a dwr yndo fe.

"Nawr," mynte fe, "dyma bath y fuwch. Pan fydd hi'n dod sha'r ty, fe geiff ei hala i'r bath, a dyma frwshes i'r gwas gael golchi ei thraed hi yn lan cyn gwishgo'r sgitshe. A wedyn, wrth gwrs, lan a hi sha'r ty. Ry chi'n gweld, nawr, mae yna ddou beth yn cael ei enill felny. Dyna chi'n symud unrhyw achos niweidiol all fod rhwng gwinedd troed y fuwch, a dyna. chi'n cadw ei thraed hi'n lan erbyn yr aiff hi i mewn i'r ty, fel na bydd hi ddim yn trochi'r llawr.

Erbyn hyn rown i wedi mynd i amheu os oedd y cymdog drws nesa mor gall ag own i wedi meddwl ar y dechreu; ond wedes i ddim pryd hyny.

"A nawr," mynte fe, gan gredu ei fod e wedi'n argyhoeddi i ar y pwynt cynta, "a nawr," mynte fe, "gan ein bod ni wedi setlo'r rhan yna o'r mater, y cwestiwn nesa yw shwd mae rhagflaenu drwg i'r genau."

"Hym” myntwn i, o ishe rhywbeth gwell i weyd. "Wrth gwrs, ry ni wrth ofalu am y traed yn mynd yn mhell i achub y blaen ar y drafferth yn y genau hefyd, wath fel gwddoch chi er fod y traed a'r genau yn mhell orwth eu gilydd, mae yna gysylltiad agos rhyngty nhw."


 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd J6224c) (29 G
orffennaf 1899)




"Os e?" myntwn i, er mwyn gweyd rhywbeth.

"O"f anwyl, os," mynte fe. "Dishgwylwch chi ar ddyn nawr, a traed a'r pen yw'r ddou fan bella orwth eu giddyl, ond gwelwch mor agos mae nhw at eu giddyl wedyn mewn cysylltiad,"

"Shwd hyny?" myntwn i.

"Wel," mynte fe. "Meddylwch eich bod chi a'ch traed yn y dwr, beth fydd y canlyniad?"

"Gwynegon," myntwn i'n gwmws, gan gofio mod i wedi cael y gwynegon ar ol golchi defaid y spring cyn hyny.

"Ie, ie," mynte fe, "ond ddaw ddim mo'r gwynegon am dipyn bach. Beth sy'n dod yn gwmws ar ol glychu neu oeri'r traed?"

"Wn i ddim," myntwn i. "Beth hefyd?"

Nawr i chi gael deall roe ni wedi bod yn sefyll o hyd ar bwys bath y fuwch, welwch chi, a fe ddigwyddws fod llynwen fach o ddwr wedi aros yn gwmws yn y man lle'r own i'n sefyll, a'n sgidiau inau'n digwydd bod yn rhai bach go deneu fe ddampes y nhraed heb yn wbod i fi, a'r clyw cynta geso i am hyny oedd trwsian.

"Atishw!” myntwn i. "Atishw! Atishw!”

"Dyna chi!" mynte Cleveland. "Dyna'ch trwyn chi'n gwbod yn well na chi nawr!”

"Beth y chi'n feddwl?" myntwn i, gan symud o'r llynwen dwr i le sych ar y llwybr.

"Wel," mynte fe, "dyna'ch trwyn chi'n gweyd beth yw'r canlyniad o lychu'r traed! Ody chi'n gwel'd? Y traed un pen i'r corph yn glychu a myn'd yn oer, a'r trwyn, y pen arall i'r corph yn teimlo gynta, ac yn trwsian i weyd wrtho chi


 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J6224d) (29 G
orffennaf 1899)


am fyn'd a'ch traed o'r dwr!”

A wir, erbyn styried, mae rhywbeth yn hyny hefyd - er na wedes i ddim wrtho fe, ond fe dynes y'n hancitcher mas o mhoced, a fe hwthes y nhrwyn gyment a allswn i.

Dyma fe mlaen wedyn.

"Nawr," mynte fe, "fel mae'ch trwyn chi yn teimlo o achos bod eich traed chi'n oeri, felny'n gwmws mae geneu'r fuwch yn myn'd yn dost pan fydd y clefyd yn ei thraed hithau. Chi wyddoch fod rhai dynon yn cael gwddwg tost pan bo nhw'n glychu eu traed."

"Ie," myntwn i, wath rown i'n cofio nobl am mishtres dim ond iddi lychu ei thraed fe gese wddog tost yn union.

"Wel, dyna fe," mynte fe. "A dyna shwd mae'r fuwch. Os bydd y clefyd yn y traed, fe eiff i'r genau hefyd, ac un ffordd i stopo fe i fyn'd i'r genau yw i stopo fe i fyn'd i'r traed, ry chi'n gwel'd?"

’Roedd eitha reswm yn y peth, hware teg iddo fe.

"Ond nawr," mynte fe wedyn. "Un ffordd o gael y clefyd yw drwy'r traed - a ry chi'n gwel'd shwd w i'n stopo hyny. Ond ffordd arall i gael y clefyd yw trwy'r genau, a nawr mae ishe stopo hwnw hefyd."

"Trwy'r genau?" myntwn i. "Beth y chi'n feddwl?"

"Wel," mynte fe. "Chi wyddoch fod doctoriaid y dyddiau hyn yn gweyd fod pob clefyd bron yn cael ei fagu orwth hadau, the germs of disease, chi wyddoch, bacteria mae rhai yn eu galw nhw."

Fe wyddwn rywbeth am hyny, a fe gymres arno i mod i'n gwbod mwy, er mwyn cael ei dynu e'n mlaen, chi wyddoch.

"Wel nawr te," mynte fe. "Mae nhw'n gweyd fod buwch yn cael y clefyd trwy yfed dwr lle bydd da, a'r clefyd wedi bod yn sefyll yndo fe, neu'n yfed yndo fe. O ganlyniad rhaid stopo buwch iach i yfed dwr felny."

"Eitha right," myntwn i. "Mae hyna'n synwyr prion."

"Ond," mynte fe. "Shwd galla i hadel y muwch i i yfed dwr afiach? Dyma'r nant lle


 

 

A close-up of a document

Description automatically generated with medium confidence
(delwedd J6224e) (29 G
orffennaf 1899)




rw i'n cael y dwr yn rhydeg trwy diroedd dwsin neu ragor o ffermydd. Shwd gwn i nag os buwch a'r clefyd arni wedi bod yn sefyll neu'n yfed yn y nant?"

"Ie'n wir," myntwn inau.

"Wel nawr alla i ddim puro dwr y nant i gyd."

"Na," myntwn i. "Tipyn bach o job fyse hyny hefyd."

“Ond," mynte fe, "fe alla i ofalu na chaiff y muwch i ddim yfed dim heb gael ei buro'n gynta."

"Shwd hyny'r dyn?" myntwn i.

"Wel fe weda wrtha chi. Dowch lan yto sha ty'r fuwch a fe ddangosa i chi."

Wel lan a ni, ac ar y ffordd dyma fe'n gweyd mai'r ffordd saffa bob amser oedd cisho bod mor debyg i natur ag oedd yn bosib.
Natur y llo, mynte fe, oedd sugno teth y fuwch.

"A nawr," mynte fe, gan dynu rhywbeth arall mas o'r hen gwpbwrdd, "dyma fi wedi mynu peth mor debyg a galla i feddwl am dano i deth a chadair y fuwch." A dyna lle'r oedd gydag e gwdyn india rubber, a phib india rubber o hano fe, fel teth a chadair buwch yn gwmws.

"Nawr," mynte fe. "Yn y cwdyn yma mae gen i chemicals sy'n lladd pob bacteria niweidiol. Fe fydd y dwr i'r fuwch yn dod mewn pib o'r nant i mewn i'r cwdyn, a hithau yn ei yfed neu ei sugno fe yn hytrach, drwy'r deth yma, a fel'ny dyna fi yn rhagflaenu dou ddrwg; dyna fi’n stopo muwch i i yfed dwr afiach, a dyna fi'n gofalu na chaiff y muwch i neud y dwr yn afiach i wartheg erill yn is lawr."

"Ond ody chi'n meddwl y gallwch chi ddysgu buwch yn ei maint i sugno o'r newydd?" myntwn i.

"Nature, my dear sir! Revert to nature mynte fe. "Natur, y machgen i! Myn'd nol at natur! Dyna'r cwbwl! A fe fyse'n dda pe bysid yn myn'd nol at natur!"

"Ody chi'n sugno'r botel?" myntwn i'n ddiniwed fach fel na.

Fe drychodd arna i fel pe byse fe mewn doubt pun a own i'n siriws ai peidio a wedyn, mynte fe: -

"Oh, mae dyn, welwch chi'n fod deallus, a wedi cael ei fwriadu i fyn'd yn mlaen o hyd mewn gwybodaeth."

"A dyw'r fuwch ddim?" myntwn i.

"Wel, nag yw, wrth gwrs mynte fe.

"Wel, fe allswn i feddwl ynte," myntwn i, "mai anhawdda i gyd fydd hi i'r fuwch fyn'd tuag yn ol at y sugno ar ol iddi ddysgu unwaith i yfed fel rhyw greadur arall."

"Camsyned i gyd!” mynte fe. "Camsyned i gyd. A fe ddangosa i chi. Glywsoch chi ddim son am wartheg yn sugno'u giddyl?"

Wel mae'n rhaid i fi gydnabod iddo roi wad i fi fan'ny a gweyd y gwir. Rown i'n cofio mod i'r flwyddyn cyn hyny wedi bod gyda'r crydd yn gneud strap lleder a hoelon a'u penau maes drwyddi i ddodi am drwyn fuwch oedd wedi dysgu'r gamp o sugno'r gwartheg erill, - a roedd Cleveland wedi gwel'd y muwch i a'r ornament hyny am ei thrwyn. A dyn a wyr, falle fod hyny wedi bod yn help i Cleveland i feddwl am neud esgus cadair a theth i'w fuwch yntau yfed dwr. Ond trwy'r cwbwl allswn i yn y myw gredu y suguse'r fuwch y dwr drwy'r deth os gallse hi ei gael e ffordd arall.

(I'w barhau.)


 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated
(delwedd J6225a) (5 Awst 1899)

Papur Pawb. 5 Awst 1899.

PROFIAD PAR IFANC

Sef Gofidiau'r Byd Presennol.

[Cofnodwyd Gan y Cymydog Drws Nesa.]

PROFIAD IX. - I BETH MAE CYNFFON BUWCH DA? SYSTEM Y CYMYDOG DRWS NESA'.

’Roedd 'y nghymydog, welwch chi, mor shiwr o'i boint fel mai annodd ymbeidus oedd i fi ddangos b'le 'roedd e'n camsyned. Wrth gwrs, fe wyddwn yn eitha da ei fod e'n camsyned, a byse 'run peth iddo dreio hedfan a cheisho cael gan y fuwch i wishgo 'sgidiau, a sugno'r botel fel babi. Ond all'swn i ddim profi hyny iddo fe heb iddo fe gael y profiad ei hunan.

"Wel," myntwn i, gan baso hibo i fusnes clefyd y traed a'r genau, "shwd y chi'n myn'd i neyd a chlefyd y gwt?"

"Ah!” mynte fe, gyda gwen o glust i glust, ac yn dryched mor falch a'r paun, "gadewch i fi ddangos i chi."

A dyma fe'n myn'd i'r cwpbwrdd wed'yn, ac yn tynu rholyn o bapur ma's, fel'se fe'n blan ty, neu rhywbeth felny, nawr.

"Ry' chi'n gwbod, wrth gwrs," mynte fe, "am glefyd y gwt mai short o ddolur yw e' o dan y gynffon, a dyna, pa'm mae dynon yn ei alw fe'n glefyd y gwt."

Fe ddryches arno fe, ond wedes i ddim byd.

"Wel, nawr, 'te," mynte fe; "meddyliwch am beth arall. Meddylwch am blentyn bach wedi cael y frech. Beth mae'r fam yn dreio neyd y peth cynta i gyd i'r fraich pan fydd hi'n llidio, a'r grachan arni?"

"Cadw'r fraich rhag bo dim yn rhwto yndi, wrth gwrs," myntwn innau.

"Dyna chi i'r dim," mynte fe. "Ry chi'r un farn a fi'n union. A dyna beth w innau'n myn'd i neyd gyda chlefyd y gwt, cadw'r gwt rhag rhwto yn y dolur. A nawr, dishgwylwch yma."

A dyma fe'n agor y peth o'wn i'n feddwl oedd yn blan ty, a'i ddangos e' i fi.

Ond nid plan ty oedd e', und llun buwch, a'i chynffon wedi ei godi yn y gwrthwyneb, a'i neyd yn rhyw fath o hanner cylch dros ei chefen hi, a blaen y gynffon wedi ei glymu wrth ddwy goeden yn sound wrth gyrnau'r fuwch!

"Beth yn enw'r gallu da yw hyn sy' gyda chi?" myntwn i.

"Chredwch chi byth mor falch w i o hwna!” mynte fe. "Fe fues i'n pyslan yn hir cyn ffindo hwna ma's. Ry' chi'n gwel'd mai'r amcan yw cadw'r gynffon rhag rhwto i neyd y clwyf yn waeth. Fe fues i'n meddwl unwaith am ddodi astell ar hyd gefen y fuwch, ac yn mestyn ma's rhyw drodfedd a hanner dros ei chrwper hi, a chlymu'r gynffon wrth hono i'w chadw hi i'r lan. Ond fe feddyles wed'yn byse'r astell, yn drwm, a falle yn gneyd clwyf ar gefen y fuwch, a wed'yn fe feddyles am y plan hyn. Ry' chi'n gwel'd, dyna'r gynffon lan o'r ffordd; dim posib i ddim sefyll o dan y gynffon, a dim posib i'r gynffon rwto yn y clwyf; a chyda hyny, dim trafferth a dim pwysau i'r fuwch i gario. Rwy i'n credu na fyse dim posib gneyd dim byd yn well na hwna."

A 'roedd e'n dryched mor bles fel mai prin gall'swn i gael ar 'y nghalon i dreio 'i berswado fe ei fod e'n gneyd camsyned ymbeidus. Ond ta beth, fe ofynes un cwestiwn iddo fe.

"Beth mae cynffon buwch dda?" myntwn i.

Fe ddrychws arna, i yn hurt.

"Beth mae cynffon buwch dda?" mynte fe,

"Ie," myntwn i, gan saco'n nwylaw i mhocedi, "beth mae cynffon buwch dda?"

"Wel, yn 'y ngwir i," mynte fe, gan hwerthin. "Dyna gwestiwn od!"


 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J6225b) (5 Awst 1899)



"Ie, ie," myntwn i; "chi allwch chi hwerthin, was i, ond gwedwch chi wrtha i nawr beth mae cynffon buwch dda?"

"Ro'wn i'n meddwl fod pawb yn gwbod hyny," mynte fe.

"Eitha da," myntwn i. "Os yw pawb yn ei wbod, ry' chithau yn ei wbod e', a nawr, gwedwch chi wrtha i, os gwelwch yn dda, beth mae cynffon buwch dda?"

"Wel, i neyd swp, wrth gwrs!” mynte fe.

"Nan?" myntwn i, waeth do'wn i ddim wedi catsho'n gwmws beth y wedws e'.

"Ond taw, i neyd swp," mynte fe, "ox-tail soup, chi wyddoch Ro'wn i'n meddwl fod pob un dwl yn gwbod hyny!”

Wel, gwedwch chi nawr o brysur beth neswn i a dyn felny?

Ond do'wn i ddim am ei adel e' yn ei dywyllwch barnol, a dyma fi'n gweyd wrtho fe:

"Dyna use y gynffon i'r dyn ar ol lladd y fuwch; ond i beth mae'r gynffon dda i'r fuwch ei hunan tra bydd hi'n fyw?"

Fe ddrychws arna i wed'yn.

"Wel, yn wir!" mynte fe; “feddyles i ddim am hyny," mynte fe.

"Naddo, mynta," myntwn i, "nag am lawer peth arall chwaith. Ond fe allai i weyd wrtho chi, a fe all pob un arall sy' a llygid yn ei ben, weyd wrtho chi hefyd. Amcan cynffon i'r fuwch fel i'r ceffyl yw i gadw'r cler a'r gwybed bant."

"Nan?" mynte fe.

"Dishgwylwch chi ar fuwch neu geffyl yn cael eu poeni gan y cler," myntwn i, "fel mae nhw'n wado’r cler bant, a'u cynffonau yn myn'd fel whip o'r un ochor i'r llall."

"Ie, ontefe!" mynte fe.

"Nawr," myntwn i, "os clymwch chi gynffon y fuwch round dros ei chefen hi yn sound wrth ei chyrnau hi, shwd gall hi hala'r cler off?"

"Ie, ontefe?" mynte fe wed'yn. "Arhoswch fynyd i fi gael ystyried."

A dyma fe'n pleto ’i aeliau, ac yn cnoi ei winedd, ac yn crafu tu cefen i'w glust, fel'se fe'n stydio'n galed ymbeidus.

Yn mhen spel, dyma fe'n codi ei ben, ac yn dryched yn bles anghyffredin.

"Rw i yn ei gwel'd hi!" mynte fe. "Rwy'n cydnabod yn ddigon rhwydd nag o'wn i ddim wedi ystyried dim tipyn am y peth yna, welwch chi. Ond rwy'n gwel'd fod eitha synwyr yn y peth ry' chi'n weyd."

"Chi ellyngwch gwt y fuwch yn rhydd, ynte?" myntwn i.

“O'r anwyl, na wnai!" mynte fe. "Ry chi'n gwel'd, helpu natur yw'n amcan i, a nawr rwy'n credu mod i'n gwel'd y ffordd i gadw'r cler rhag poeni'r fuwch heb iddi hi orffod uso 'i chynffon o gwbl."

"Wel, shwd?" myntwn i.

"Wel," mynte fe. "Chi wyddoch fid genty nhw yn y gwledydd poethion lle mae'r mosquitoes yn pigo'n ymbeidus, sort o gurtains fuslin mae nhw'n alw yn mosquito curtains i ddodi amboutu'r gwely yn y nos i gadw'r mosquitoes ma's."

 "Ie?" myntwn i.

"Wel, meddwl o'wn i am gael mosquito curtains i'r fuwch," mynte fe.

"Ie, ond fe fydd ishe cadw'r cler off ar hyd y dydd fel ar hyd y nos," myntwn i.

"Bydd, bydd! wrth gwrs! rwy'n deall hyny!” mynte fe. "A beth w i'n feddwl yw ffito rhyw sort o ffram ysgon ar gefen y fuwch. a dodi'r mosquito curtains dros hwnw. Fe all y fuwch bori felny heb gael ei phoeni o gwbwl gan y cler."

"Dyn helpo dy fuwch fach di!" myntwn i wtho i'n hunan, "rhwng y ’sgidiau, a'r ffram curtains, a, chlymu dy gynffon di, a chwbwl!" Ond wedes i ddim yn uchel.

"Wel, 'te," mynte fe wed'yn. "Dyna ni


 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated
(delwedd J6225c) (5 Awst 1899)



wedi setlo yna. Rhaid i fi fesur buwch a gwel'd sawl llath o gurtains fydd ishe, a wed'yn fe geiff mishtres ei dori a'i wnio fe at shap, a fe fydd pobpeth yn all right. A nawr, beth sy' gyda chi i weyd am y plan gyda'u giddyl?"

"Wel," myntwn i, ddim yn lico gweyd dim byd yn gas chwaith, ond am agor ei lygid e' gam bwyll fach nawr. "Gwel'd y lle'n rhy dda i anifel w i."

"Dyna lle ry' chi'n gneyd camsyned," mynte fe. "Po oreu edrychwch chi ar ol cysur yr anifel, goreu i gyd y talith ei ffordd i chi. Dishgwylwch chi ar gwestiwn y cler a'r curtains yna, a rwy'n falch ymbeidus i chi am ddangos y peth i fi; chi wyddoch pan fo gwartheg yn cael eu blino gan y cler, ac yn rhydeg i'r cysgod ar dywydd poeth, nag os dim agos cyment o laeth gyda nhw. Wel, ’te, dyna'r egwyddor sy' gen i yn rhydeg drwy'r holl system i gyd. Rw i'n dryched ar ol cysur y fuwch, a wed'yn fe ddrychith y fuwch ei hunan ar ol y llaeth!”

"Ond," myntwn i wed'yn, "mae'r lle yma yn rhy dda i fuwch i fyw yndo fe. Mae e'n well na nemor i barlwr yn y cwmpasodd yma, ond sha Tregib neu Dinefor, neu rhywle felny. Fe fydd yn drueni ymbeidus i'r carped hyn gael ei swardo."

"Ei swardo?" mynte fe. "Gan beth?"

"Wel, gan dail y fuwch," myntwn i.

"Oh, ie, fe anghofies ddangos i chi," mynte fe. "Dewch yma!"

A dyma fe'n agor drws bach naill ochor fan ’ny.

"Nawr," mynte fe, "dyma'r closet."

"Y closet?" myntwn i.

"Ie," mynte fe, "y closet i'r fuwch. Dw i ddim yn bwriadu iddi hi gael teilo yn y rwm arall yna. Fel ry' chi'n gweyd, fe fyse'n spwylo'r lle a'r carped a chwbwl. A felny, dyma fi wedi gneyd closet fan hyn at hyny."

"Closet i'r fuwch?" myntwn i mewn syndod.

"Ie," mynte fe; "pa'm lai? Mae closet gyda chi yn y ty i'r teulu, a pha'm na cheiff y fuwch gloset yn ei beudy hithau?"

"Ond," myntwn i, "ody chi'n meddwl y gallwch chi ddysgu'r fuwch i fyn'd i'r closet i deilo pan fydd ishe arni?"

"Pa'm lai?" mynte fe. "Ry' chi'n dysgu'r ci a'r gath i fyn'd ma's yn lle trochi'r ty. A pha'm na allwch chi ddysgu buwch yr un shwt? Na, credwch chi fi. Dyw ffermwyr y wlad yma ddim yn talu hanner digon o sylw i gysur a glanweithdra yn nglyn a'u hanifeilied. Chi gewch chi wel'd gymaint gwell llaeth fydd gan 'y muwch i na chan wartheg erill! Rw i'n myn'd i greu revolution yn y ffordd o ymddwyn at anifeiled direswm, ac os nag w i'n camsyned fe fydd son am y'n system i drwy'r holl deyrnas."

A ma's a ni o'r beudy, - Cleveland, a'i ben yn yr awyr a'i ddychymyg yn y cymylau, a finnau'n ysgwyd ’y mhen mewn tipyn o ddowt p'un a ddyl'swn i hala at y relieving officer i fyn'd ag e' i Gaerfyrddin ai pido.

(I'w barhau.)


 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated
(delwedd J6226a) (12 Awst 1899)

Papur Pawb. 12 Awst 1889.

PROFIAD PAR
IFANC

Sef
Gofidiau'r Byd Presennol.

[Cofnodwyd Gan y Cymydog Drws Nesa.]

PROFIAD
X. - ARGRAPHIADAU CYNTA'. - PROFI'R INVENTIONS NEWYDD. - TRECH NATUR NA DYSG.

Onibai mod i wedi clywed Cleveland a'n nghlustiau y'n hunan yn gweyd y pethau hyn, ac onibai mod i wedi gwel'd a'n llygid y'n hunan y pethau oedd e' wedi invento at wneyd y fuwch yn hapus, yn ol ei farn e', fyswn i byth yn credu. Felny, fydda i'n synu dim byd, welwch chi, os na fyddwch chithau'n credu, er taw fi sy'n gweyd y stori. Ond eich lwc-owt chi yw hyny. Gweyd y stori fel y digwyddws hi yw'n musnes i; rhyngto chi a chredu neu bido jest fel y mynoch chi.

Ond ta beth. Dyma. fi'n wado mla'n a'r hanes i gael dybenu ag e'.

Fe a'th Cleveland i'r ffair i Landilo i brynu buwch, ac er mwyn dangos ei fod e'n gallach nag oedd e', ac yn gwbod mwy nag a wyr e', beth na'th y ffwlcyn ond myn'd i edrych danedd y fuwch felse hi geffyl, er mwyn cael gwel'd ei hoedran hi.

Wel, wrth gwrs, fe welws y gwerthwr mai iolyn oedd y prynwr, a dyma fe'n gollwng arni am rinweddau'r fuwch, a'i phedigree hi, fel'se hi'n darw first prize yn yr agricultural show. Wel, chi allwch farnu beth fu'r diwedd i beth felny, mynta. Fe brynws Cleveland y fuwch pedigree yma am ei gwerth hi ddwywaith.

Ro'wn i'n digwydd bod ar y drws pan ddaeth cowman drws nesa’ a'r fuwch sha thre'. ’Roedd Cleveland, welwch chi, yn gorffod cael cowman iddi fuwch fach e', felse fe'n ffarmo Glan'rafon. Tae gydag e' ugan buwch o wartheg, fyse fe byth yn gneyd mwy o gynnal amboutu nhw nag a na'th e' am yr un hyny, druan ag e’.

Wel, fel ro'wn i'n gweyd, ro'wn i'n sefyll ar y drws pan dda'th y cowman a'r fuwch sha’r ty. Ar ei ol e', ’roedd Cleveland, a fe gwelwn e'n rhydeg mewn trwy gat y ffrynt, a fel bollt mown ag e' i'r ty, a'r fynyd nesa' dyma'r wraig ac yntau ma's wed'yn a hi, a rhyw barsel bach yn ei llaw hi.

"Dewch!" mynte fe wrtha i. "Dewch!"

"I b'le?" myntwn innau.

"I wel’d mishtres yn taclu'r fuwch” mynte fe.

"Wel," myntwn i yndw i'n hunan, "pwy lol sy' gydag e' nawr, wish?"

Ond fe darewais y'n hat ar 'y mhen, a ma's a fi ar ei hol nhw.

’Roedd y cowman yn myn'd i hala'r fuwch sha'r boudy, onibai iddi fishtir ’i hadel e'.

"Na! na!" mynte fe. "Rhaid gofalu am yr argraphiadau cyntaf, - the first impressions. Rhaid i'r fuwch gael ar ddeall y tro cynta' daw hi mewn i'r boudy fod ei boudy hi yn wahanol i bob boudy welws hi ariod o'r blaen, a rhaid iddi ddeall hefyd ei bod hithau nawr yn ods i ddim fuodd hithau o'r blaen. Cerwch a hi lawr i gael ei golchi."

Fe wincws y cowman arna i, gan weyd:

"All right, syr!"

A dyma fe'n hala'r hen fuwch lawr sha'r pwllyn dwr w i wedi weyd wrtha chi am dano fe.

"Beth sy' gyda chi fan 'na, Mrs Cleveland?" myntwn i.

"Oh, cwpwl o ribanau i'r fuwch mynte, hi.

"Rhubanau i'r fuwch?" myntwn i mewn syndod. "Ie," mynte Cleveland. "Mae meistres yn cydwel'd a fi yn hollol am bwysigrwydd argraphiadau eynta’, the importance of first

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J6226a) (12 Awst 1899)



impressions. A mae hi am daclu'r fuwch cyn eiff hi i'r boudy am y tro cynta.

"Oh!" myntwn i. "Rwy'n gwel'd."

Er nag o'wn i dd'im yn gwel'd chwaith mwy na phost llidiart!

"Ie," mynte hithau. "Ry' chi'n gwel'd, Mr Harris, mai buwch fenyw yw hi, a mae menywod fel gwyddoch chi yn lico cael tipyn o feathers a rhibanau. Do'wn i ddim yn lico rhoi plyf iddi ar ei chyrnau, er fod gen i ddou ostrich feather beautiful nese'r tro yn gampus hefyd."

"Pa'm nag oe chi'n lico rhoi feathers?" myntwn i.

"Ofan oedd arna i," mynte hi, "byse hi'n magu delight mewn plyf, a falle digon hawdd yn myn'd i rydeg cyn bo hir ar ol yr adarn bach ar hyd y caeau er mwyn cael eu plyf nhw!"

Trwy lwc, fe ddaeth y cowman ar hyn just mewn pryd i nghadw i rhag bursto ma's.

"Mishtir," mynte fe, "beth ga i neyd nawr?"

"Oh, golchwch y fuwch, fachgen. Golchwch y fuwch gael ei gwishgo ddi wed'yn. Chi gewch y sponge a'r brwshes yn y cwpbwrdd yn y boudy. Fe finda i at y fuwch tra bo chi'n rhydeg i mhoyn nhw."

Gyda fod Tom yn troi ei gefen, dyma Mrs Cleveland yn gweyd: "Oh, Claud! B'le mae'ch hancitsher poced chi?"

"I beth?" mynte fe.

"I sychu trwyn y fuwch," mynte hi. "Dishgwylwch shwd mae ei thrwyn hi'n rhedeg, poor thing!"

Ac, wrth gwrs, fel gwyddoch chi, 'roedd ei thrwyn hi yn rhydeg, fel trwyn pob buwch arall.

Ond pan dynws Cleveland hancitsher shidan coch ma's o'i boced, ac yr a'th e' i drio sychu trwyn y fuwch, dyma hono'n rhoi cornad tuag-ato fe nes i'r hancitsher gitsho am ei chorn hi, a'i tharfu hi, a bant a hi a'i chynffon ar ei chefen, lan sha'r ty. A fel digwyddws hi, 'roedd Twm, y cowman, yn dod ma's o'r beudy a'r spwnj a'r glenyn gydag e' at olchi'r fuwch pan rowndws y fuwch y tro, a chyn iddo gael amser i neidio o'i ffordd hi dyma hi am ei draws e', a lawr ag e' dwmbwr-dambar, a phan godws e', 'roedd e'n rhegu fel sailor - er ei fod e'n aelod yn y ty cwrdd.


 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J6226a) (12 Awst 1899)




Wel, bant a'r hen fuwch whiw trwy'r gat ac i ganol yr hewl, a fuodd dim shwd gynnal ariod a'i chael hi nol wed'yn i'r pwllyn.

Ond fe'i cawd hi o'r diwedd, a fe ddechreuwyd ar y gwaith o'i glanhau hi. Doedd dim o Cleveland, hware teg iddo fe, wedi meddwl gneyd dim byd mwy na golchi ei choesau a'i thraed hi i gael gwishgo'r 'sgidiau newydd iddi.
Ond nese hyny ddim tro i'r wraig.

"Claud bach!” mynte hi. "Dishgwylwch ar ei hochor hi, yn hen faw a thail i gyd! A meddylwch am dani'n myn'd i'r gwely yn y ddrych yna! A dishgwylwch ar ei chynffon hi! Alla i byth a chribo gwallt ei chwt hi heb ei gael yn lanach na hyna!”

A dyma Twm ati i gael ei golchi hi fel oedd ei fishtres am iddo, er y gorffu i ni gael y forwm a dou neu dri o ddynon i'n helpu ni i chadw hi yn y pwllyn tra ’roedd Twm yn ei golchi hi.

Wel, wedi cael ei hochrau a'i chwt hi'n weddol syber, dyma nhw nghyd a'i thraed hi. Ond os drwg cynt, gwaeth wed'yn.

’Roedd yn rhaid codi pob troed, wrth gwrs, i golchi nhw, ond doedd' dim shwd beth a pherswado'r hen fuwch, welwch chi, i godi ei thraed yn right.

"Danco!" mynte Twm, yn hwys diferu fan 'ny, yn nghanol y dwr. "Rhaid cael Sam, y gof at hyn, gwlei. Mae e'n gyfarwydd a gneyd i geffylau godi eu traed i gael eu pedoli."

Ond fyn'se ’i fishtir ddim hala i moyn y gof, o leia pryd hyny.

"Allwn i byth hala i moyn y gof bob tro bo ni'n myn'd i olchi ei thraed hi a gwishgo ei sgitshe hi," mynte fe. "Treiwch eto, Twm."

"Dowch chi i'n helpu i, ynte, mishtir!" mynte Twm. "Safwch wrth ei phen hi."

A dyma Cleveland, y ffwlcyn, mewn i'r dwr, a sefyll wrth ben y fuwch, tra Twm yn bwlffagan tu ol iddi i lanhau rhwng gwinedd ti throed ol hi.

Ond, dyma'r hen fuwch yn rhoi sponc nes tynu Twm ar ei wyneb i'r dwr, a bwrw ei fishtir ar ei gefen i'r pwllyn, a'r lleill o hano ni howl-bi-tag yn ei hadel hithau i ddianc o'r pwllyn!

(I’w barhau)


 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated

(delwedd J6277a) (19 Awst 1899)



Papur Pawb. 22 Gorffennaf 1889.

PROFIAD PAR
IFANC

Sef
Gofidiau'r Byd Presennol.

[Cofnodwyd Gan y Cymydog Drws Nesa.]

PROFIAD XI.
- GOOD-BYE I'R FUWCH! - BOUDY A BILLIARDS.

Wel welsoch chi ddim shwd amser ariod ag y buodd hi'n pyrnawn hyny am boutu'r pwllyn dwr. 'Roedd son am y peth wedi tynu'r holl gymydogaeth yn nghyd, a dyna lle 'roedd y boys oddar ben y clawdd yn gwaeddi ar Twm y Cowman nes hala hwnw mas o'i go.

"Pwy sebon sy genty, Twm?" mynte un.

"Os sent yndo fachgen?" mynte'r llall.

"Mindwch sychu'r fuwch yn sych rhag ofon iddi gal anwyd!" mynte'r trydydd.

"Gofalwch na neiff y sebon ddim niwed iddi chomplecshon hi!" mynte un arall, a dyma hi'n hwerthin mawr drwy'r trwch.

Ond hware teg i Cleveland, fe ddalws e ati fel y boy.

"Allwch chi ddim dishgwl i ddynon fel hyn sy ddim wedi gwel'd dim byd yn ods ariod, i allu deall ac amgyffred syniadau newydd fel rhain ar unwaith. Rhaid i ni gyd-ddwyn a nhw hyd nes y bo'n nhw wedi gwel'd y peth mewn gweithrediad," mynte fe.

Wel fe geson wel'd y peth mewn gweithrediad yn ods i beth oedd e wedi feddwl, druan ag e!

O'r diwedd fe gawd carnau'r fuwch yn ddigon glan i blesio Cleveland, a'r peth nesa', wrth gwrs, oedd gwishgo ei 'sgidiau hi.

"Pwy size mae hi'n gymryd mewn sgitshe, Twm?" mynte un o'r boys o ben y clawdd fan draw".

"Gobeithio mai nid sgitshe leison sy gyda chi!" mynte un arall. "Mae rheiny wedi myn'd mas o'r ffashiwn yn awr!"

"Ie sgitshe bytymau, neu lastic sides ddylse chi gael ar bob cyfrif!" mynte'r trydydd - a felny mlaen o'r naill i'r llall digon i neud ceffyl i hwerthin.

Ond ta beth, trwy gael help hanner dwsen o'r boys oedd yn dangos leia ond yn enjoyo fwya, fe lwyddwyd i wishgo'r sgitshe am draed yr hen fuwch, a'i chael hi'n barod, debygsen ni, i hala hi sha'r boudy.

Ond dyma Mrs Cleveland yn gweyd: -

"Oh, Claud! Arhoswch i gael y rhibanau!”

Ond yr oedd Cleveland jest cael digon erbyn hyn ar sport y bobol amboutu, a dyma fe'n gweyd yn go, gwta wrthi: -

"Chi gewch wishgo rheina iddi yn y boudy."

A bant a ni yn brosession mawr sha'r boudy, a'r fuwch yn cered yn fwy clemog nag arfer o achos y sgitshe ar ei thraed hi.

Ond o'r diwedd fe gyrhaeddwyd y boudy, a thu fewn i'r portsh 'roedd yno gynnal arall - i dynu'r sgitshe off yn awr. Ond fe lwyddwyd i neud hyny hefyd, a mewn a'r fuwch sha'r boudy yn falch, debygse hi, i gael gwared o'i thrafferthion.

"Diolch i chi, gyfeillion am eich help," mynte Cleveland, gan droi at y boys oedd wedi bod yn ein helpu ni. "Ni ymdopwn ni nawr, gwlei. Dyma hanner coron i chi fyn'd i yfed iechyd da i'r fuwch. Prydnawn da."

A dyma'r hen foys off, er byse'n well o lawer genty nhw gael aros i wel'd y diwedd.

Ond druan o'r hen fuwch! 'Roedd digon rhyngty hi a gwel'd y diwedd ar ei thrafferthion! Fe'i cawd hi mewn i'r boudy yn go rwydd fach ar ol tynu ei sgitshe hi. Ond 'doedd hyny ddim ond dechreu'r sport.


 

 

A close-up of a document

Description automatically generated with medium confidence 

(delwedd J6277b) (19 Awst 1899)




Dyma Mrs Cleveland nawr yn saco'i phig mewn.

“Oh! Claud!” mynte hi. "Fe fydd yn bert pan fyddwn ni wedi ei gwishgo hi! Ody chi'n shiwr fod y rhibanau yn matsho lliw ei gwallt hi?"

Meddylwch am y fenyw yn galw blew buwch yn wallt! Wel, ta pun, y gynnal nesa oedd golchi cynffon yr hen fuwch i Mrs Cleveland gael ei chribo. Adewse hi ddim i neb neud hyny end ei hunan.

"Menywod," mynte'r gwr, "yw'r rhai sy'n deall trafod gwallt."

A wir wn i ddim yn iawn pun ai hyny neu beth, ond fe fu'r hen fuwch mor llonydd a fyse'n bosib tra roedd Mrs Cleveland wrthi yn "cribo ei gwallt" ys dywed hithau - hyny yw, welwch chi, yn cribo blaen y gynffon.

Wedi cael pobpeth i'r tipyn, ac iddi hithau blethu blaen y gynffon yn ddwy bleth fach dwt, a chlymu pishyn o rhuban ar bob pleth.

"Dyna," mynte" hi. "Dyna hi'n barod i chi, Claud, yn awr."

"Nawr, Twm," mynte fe wrth y cowman. "Rw i am gwnu'r ddwy ddolen rhuban yma un dros bob corn iddi."

"Hym!” mynte Twm, gan gosi ei gern.

"Wel, nawr, te, dere, da, machgen i, yn lle'n bod ni'n colli rhagor o amser."

Wn i ddim p'un ai syndod yr hen fuwch, neu beth, oedd y rheswm, ond fe adawodd iddyn nhw godi ei chynffon hi i'r lan, a chyn iddi wbod yn iawn beth oedd yn bod, ’roedd blaen y gynffon yn sound wrth ei chyrnau hi.

Ond fe welwn wrth lygad yr hen fuwch ei bod hi'n dechreu gwylltu.

"Mrs Cleveland," myntwn i, "fe fydd yn well i chi fyn'd ma's nawr am dipyn bach."

Doedd dim o'r hen fuwch wedi cael ei chlymu na dim byd, welwch chi, a ro'wn i'n hanner dishgwl ei gwel'd hi'n chwareu'r andros a'r lle yn go glou fach.

Er na ddeallws Mrs Cleveland ddim beth oedd gen i, fe goelws, a fe aeth maes.

"Gwell i chi adael iddi nawr am dipyn bach," myntwn i wrth Cleveland. "Mae hi wedi cael pwer o'i phoeni. Gadewch iddi gael tipyn bach o orphwys wrthi ei hunan iddi gael tawelu dipyn bach."

"All right," mynte fe. "Ond gadewch i fi wel'd shwd mae hi'n edrych o'r ffrynt."

A mlaen a fi at ei phen hi, i gael golwg arni. Ond ’roedd amynedd yr hen fuwch wedi dibenu'n lan erbyn hyn. Wn i ddim p'un a ddishgynws cleren lwyd o dan ei chynffon hi, a hithau'n ffeilu ei hysgwd hi bant am fod ei chynffon hi'n sound, neu beth. Ond dyma hi'n rhoi sponc, ac am draws Cleveland, nes towlu hwnw druan yn bendramwnwgl dan ei thraed hi, a dyma hi off fel creadur gwyllt round amboutu'r boudy.

[Pe byse cur]tains muslin ar y ffenest, felse'r boudy yn dy byw yn gwmws, ac wrth fod yr hen fuwch yn galapo, fe gitshws blaen ei chorn hi yn y curtains, a lawr daeth y cwbwl am ei chefen hi, yn gurtains, a window pole, a brackets, a phobpeth, nes ei tharfu hi'n waeth nag ariod.

A gyda hyny, dyma hi'n dechreu sciffto, a dim rhyfedd yn y byd, pan ystyriff dyn beth oedd hi wedi myn'd trwyddo'r prydnawn hyny, a chyn pen dwy fynyd nabyddsech chi ddim mo'r lle.

Ac i neyd y drwg yn wa'th, 'roedd dou neu dri o'r boys wedi dod nol o'r ty tafarn i gael gwel'd shwd oedd y fuwch yn enjoyo yn y parlwr goreu, ys gwedson nhw am foudy Cleveland.

Ond os do fe, fe geson eu talu yn eu dwrn am hyny. Wa'th gyda'u bod nhw'n agor y


 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J6277c) (19 Awst 1899)




drws, fe welws yr hen fuwch le o ymwared, a ma's a hi fel bollt, ac am eu raws nhw, a dyna'r olwg gynta' geso i arnyn' nhw oedd gwel'd y tri boy, yn mhob shap yn y byd, ar lawr y portsh, a'r olwg ddiwetha geso i ar yr hen fuwch yn galapo am ei bywyd lawr ar hyd y gravel walk heb aros i wishgo ei sgitshe na dim byd!

Wel, does dim ishe i fi weyd wrthoch chi i Cleveland werthu'r fuwch y nosweth hyny am lai na hanner beth dalws e' am dani. A nawr, mae e' wedi ffito'r boudy i fyny yn smoking-room splendid, a bord billiard a bagatel yn mhob pen iddi, a ry' ni'n hala llawer i getyn bach digon difyrus fan 'ny.

Felny, dos dim drwg yn ddrwg i gyd. Os ffeilws e' neyd boudy, fe na’th rywbeth gwell o lawer ohono fe.

(I’w barhau.)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J6228a) (26 Awst 1899)




Papur Pawb. 26 Awst 1889.

PROFIAD PAR
IFANC

Sef
Gofidiau'r Byd Presennol.

[Cofnodwyd Gan y Cymydog Drws Nesa.]

PROF
IAD XII. ANLWC Y PLENTYN CYNTA. - DYSGU COMMON SENSE I RIENI.

Feallse dyn feddwl byse pobol drws nesa wedi cael digon ar wartheg tra bysen nhw byw ar ol y profiad geson nhw gyda'r hen fuwch, ond nid fe
lly buodd hi. Er na threison nhw ddim myn'd i gadw gwartheg eu hunain wed'yn, fe nethon gamsyned arall jest cynddrwg' a hyny.

I chi gael deall nawr fe aned plentyn bach i deulu drws nesa. ’Does dim byd yn rhyfedd yn hyny pan ystyriwch chi, wath mae'r un peth wedi digwydd droion mewn teuluoedd erill w i'n nabod, a mynta i fod e wedi digwydd mewn teuluoedd ry chithe'n nabod hefyd. Ond gan ta pun am hyny, dyna shwd y buodd hi yno ta beth, - fel rwy'n gweyd fe aned plentyn yno, clobyn o fachgen yn iawn, hware teg iddyn nhw, plentyn braf o blentyn plant, os gwedws y dyn.

Hwn oedd y plentyn cynta iddyn nhw. Dos dim byd yn rhyfedd yn hyny chwaith. Rhaid i ryw un fod yn blentyn cynta yn mhob teulu lle bo plant o gwbwl.

Ar ryw ystyriaeth, falle, cryn dipyn o beth yw bod yn blentyn, cynta. Dyna Earl Cawdor nawr, hwnw oedd yn Viscount Emlyn llynedd, chi wyddoch, fyse fel ddim yn Earl Cawdor o gwbwl nawr oni byse mai fe oedd y plentyn cynta. A dyna i fab ynte, sy'n Viscount Emlyn nawr, fyse yntau ddim yn Viscount Emlyn oni byse mai fe oedd plentyn cynta'i dad a'i fam yntau. A dyna i chi Twm Tycerig; chi wyddoch, nag os dim llawer yn ei ben e, poor fellow, ond serch hyny mae gydag e fwy yn ei boced na sy gan Dafi, ei frawd, sy'n gallach bedair gwaith ar ddeg nag e. Ac o achos pam? Dim ond am taw fe oedd y plentyn cynta, y mab hena, a felny fe gas y benshar ar ol yr hen wr ei dad.

Oh, os! Mae pwer mewn bod yn blentyn cynta'weithiau.

Ond nid bob amser chwaith! Oh! na! Credwch chi fi. Nid bob amser.

Ac os dy chi'n dowto'n ngair i dishgwylwch chi ar hanes y boy bach drws nesa. Fe oedd y plentyn cynta ond fe fyse'n well o’i hanner iddo fod yn gyw melyn ola'r hatch neu'r gordedwin y lot i gyd na bod yr hyn oedd e.

Pam? medde chi. Wel fe weda chi fraint. Am fod ei dad a'i fam e'r peth oe nhw - yn credu eu bod nhw'n gwbod pobpeth, a nhwnte'n gwbod dim wedi'r cwbwl!

’Roedd Mrs Cleveland yn credu nag oedd dim fath ddyn a "Claude" os dywed hithau, i'w gael yn y byd. A hware teg iddi dos dim llawer chwaeth, diolch i'r Mowredd! Rhyw fyd rhyfedd fyse hwn tae pawb yndo fe'n debyg i wr drws nesa!

Ond gan ei bod hi'n credu nag oedd neb yn debyg iddo fe yn y byd, ’roedd hi'n credu fod pobpeth wedse fe yn Ysgrythyr, a pobpeth nese fe yn right. Yn ei barn hi ’roedd amen doethineb Claude mewn rhywbeth yn debyg i'r pechod anfaddeuol -
a phechodd hi ddim yn y peth hyny eriod - o leia, ddim yn yr amser w i'n son am dano.

A hware teg i Cleveland. Fe dreiws yntau ei oreu i ddod fyny a'i dishgwyliadau hi. ’Roedd hi'n credu ei fod e yn mron bod yn hollwybodol, neu o leia, mor agos at hyny ag y gallse dyn fod. Ac er mwyn peidio ei shomi hi, ’roedd yntau yn treio ei oreu i


 

 

A close up of a document

Description automatically generated with medium confidence

(delwedd J6228b) (26 Awst 1899)




gasglu pob gwybodaeth oedd yn bosibl ar unrhyw bync fyse'n digwydd bod yn llanw eu sylw nhw ar y pryd. Dyna shwd y buodd hi gyda'r hen fuwch, chi wyddoch.
’Roedd e wedi darllen cymaint am wartheg, ac am iechyd, a phethau felny, nes oedd e wedi balu yn lan. A dyna shwd gnath e gyment o gamsyniadau.

Nid, cofiwch chi, mod i am weyd nag yw darllen a stydio yn brion yn eu lle. Fyse'r byd yma ddim mor gall ag yw e nawr onibai fod rhywrai o'n blaen ni wedi syrthio lawer, ac wedi ysgrifenu ffrwyth eu hastudio, a rhywrai erill ar eu hol nhw wedi darllen a stydio y peth stydiodd; ac a ysgrifenodd y lleill. Oh na! dw i ddim yn dibrisio dim ar ddarllen a stydio yn eu lle priodol. Ond b'le mae eu lle nhw, dyna'r cwestiwn! A rw i'n gweyd wrtho chi fod pum' mynyd o synwyr cyffredin weithiau yn werth mwy na blwyddyn o ddarllen a stydio, os na fydd synwyr cyffredin yn cydfyn'd a'r darllen.

Wel, heblaw'r holl wybodolrwydd, ’roedd gwraig drws nesa yn credu fod ei gwr yn anffaeledig - neu mor agos at hyny ag y gall neb ond y Pab ei hunan fod! A hware teg i Cleveland, ’roedd e'n cisho byw yn deilwng o ffydd ei wraig yndo fe, a phan fyse fe'n gweyd rhywbeth, ’roedd e yn ei weyd e gydag arddeliad ac awdurdod, a felse dim posib iddo fe gamsyned. A dyna shwd y buodd hi, fel y gwyddoch chi, yn hanes yr hen fuwch, druan.

Tae'r drwg wedi dibenu gyda'r hen fuwch fyse dim rhyw lawer iawn o ods. Fuodd neb lawer iawn gwaeth ohono
ond poced Cleveland. Ond y drwg ag e oedd fod yr un egwyddor ag oedd wrth wraidd y drwg amboutu'r hen fuwch wedi dod i weithrediad yn nglyn a'r plentyn cynta, druan bach.

Fe ddarllenws ei dad fwy am boutu plant nag a ddlarllenws e hyd yn nod am boutu anifeiled. ’Roedd e'n darllen, darllen, hwyr a bore a chanol dydd, Sul a gwyl a gwaith, tra buodd y fenyw fach, yn ei gofal, a wedi geni'r plentyn. A druan ag e! Fe allse'r hen Nansi'r Felin weyd mwy wrtho fe mewn cwarter awr am y ffordd i drin a bwydo plentyn nag a allws e ddysgu mewn blwyddyn o ddarllen.

Ond meddylwch chi o brysur calon nawr am fywyd plentyn bach o dan oruchwyliaeth dyn fel Cleveland oedd yn darllen pobpeth oedd e'n lyncu, na'i dreulo fe chwaeth. Barnwch chi beth oedd bywyd plentyn bach oedd yn cael dim byd gwell yn y byd yma na bod yn destyn experiments y tad o dan y fath amgylchiadau a hyny!

Diwedd anwyl! Son am greulondeb y vivisectionists, ac am ddioddefiadau'r creaduriaid direswm sy'n cael eu tori yn fyw gan ddoctoriaid a phrentisiaid doctoriaid er mwyn dod i wybodaeth am rai o ddirgelion corph a chlefydau a gwenwyn a meddyginiaethau a phethau felny. Dyw dioddiefaint felly ddim yn y byd at ddioddefiadau plentyn cynta' o dan law tad a mam sy'n gwbod dim mwy am drin plentyn nag a wyddan nhw'r ffordd i hedfan!

Rwy'n credu mod i wedi son o'r blaen am start of "Cymdeithas i Attal Creulondeb at Wyr Priod Ifenc." Wrth ail feddwl, mae cyment o ishe "Cymdeithas i Attal Creulondeb" at y Plentyn Cynta'.”

Wn i ddim yn iawn shwd mae myn'd amboutu hyny chwaith. Prin falle gall'e ni neyd fel yr Irishman hyny oedd am gael lessons mewn canu gyda Dr Parry.

"Faint i chi'n godi am lessons canu, Dr Parry?" mynte'r Irishman. "Lessons, nawr, ai nysgith i i ganu yn debyg i Ben Davies."

"Hweigen am y lesson gynta', a hanner coron am bob un wed'yn," mynte'r doctor.

“Wel, fe dclechreua i gyda'r ail ynte," mynte'r Irishman,


 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J6228c) (26 Awst 1899)




Wn i ddim p'un a lwyddws yr Irishman i gael yr ail lesson o flaen y gynta' neu bido, ond job go annodd fyse trefnu i'r ail blentyn yn mhob teulu i gael ei eni o flaen y cynta' o hyn i ma's.

A falle, hefyd, wedi ail feddwl, gall y gymdeithas gynta', cymdeithas i ddysgu merched ifenc shwd i gadw ty a shwd i dendo gwr, falle y gall hyny helpu i neyd yr ail, sef shwd i edrych ar ol y plant, yn llai angenrheidiol. Ond ta beth, ta shwd yn y byd y gwneir y peth, mae yn eitha. amlwg fod eishe ei neyd e'n enbeidus!

All neb byth ddirnad faint mae'r plentyn cynta' yn mhob teulu yn gorffod ddioddef wrth ddysgu ei dad a'i fam shwd i ofalu am yr ail blentyn - a'r rest ohonyn nhw.
Rhaid i fi gydnabod, ta beth, nag w i ddim yn ddigon o ysgolhaig i weitho'r swm ma's yn iawn. Wn i ddim p'un a allwch chi nen bido. Os gallwch chi, ry' chi'n fwy o ysgolhaig na fi, dyna i gyd sy' gen i i weyd wrtho chi.

’Roedd trueni ar 'y nghalon i, ac ar galon mishtres hefyd, wrth feddwl am y plentyn bach drws nesa', a'r peth oedd yn rhaid iddo fe, druan bach, fyn'd trwyddo fe wrth ddysgu common sense i’w dad a’i fam.

Pob bwyd ddarllense Cleveland am dano fe, pob physic i blant wel'se fe mewn advertisements, pob rhyw fath o daclins at use plentyn y dese fe am ei draws ’roedd yn rhaid iddo fe ei gael e' i'r plentyn bach. Felny, cyn bod y plentyn bach yn dri mish oed, 'roedd gyda Cleveland ddigon o stwff o bob math i starto shop grocer, a shop druggist, a shop baby's general provider!

Fyse o ddim dyben i fi weyd wrtho chi am y cwbwl yr aeth y plentyn bach drwyddo fe, druan bach, cyn i'w dad ddysgu sense, ond fe weda i chi am un amgylchiad fel engraipht. Chai i ddim amser i weyd yn y bennod yma, ond mi gweda fe yn y nesa'.

(I’w barhau.)

 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated

(delwedd J6229a) (2 Medi 1899)




Papur Pawb. 2 Medi 1889.

PROFIAD PAR
IFANC

Sef
Gofidiau'r Byd Presennol.

[Cofnodwyd Gan y Cymydog Drws Nesa.]

PROFIAD
XIII. - CREULONDEB AT BLENTYN, ATHRONIAEH Y PHYSIC. - LLAETH UN FUWCH.

Wel, fel rown i'n gweyd wrtho chi ar ddiweddi y bennod o'r blaen, rw i nawr am roi un engraipht i chi o lawer o greulondeb Cleveland at ei blentyn.

A cofiwch chi nid creulondeb dyn ciaidd oedd e. O, nage
! Ta faint o olwg sy gyda chi ar eich plentyn, fe fentra, i weyd na all fod dim mwy gyda chi nag oedd gan Clevland ar ei blentyn yntau.

A wir, pan ystyrion ni, mae creulondeb cariad yn amal iawn yn fwy ac yn waeth na chreulondeb pobol real galed.

Ond peidiwch chi
a nghamsynied i, chwaith. Fe all fod mwy o gariad gwirioneddol mewn creulondeb neu galedwch ymddangosiadol nag a fyse mewn tynerwch. Meddyliwch chi nawr am blentyn drwg. Chi welwch ambell i fam neu dad yn tolach plentyn felny pan dylse nhw roi eitha hwipsi iddo fe.

"Oh," wediff y fain, os gwedwch chi air wrthi am hyny. "Alla i byth eael ar y nghalon i wado John bach. Mae gen i ormod o olwg o'r hanner arno fe, yr un bach anwyl shwd ag yw e!"

Ond druan ohoni, nid gormod o olwg ond rhy fach o olwg sy genty hi arno fe wedi'r ewbw!l Pe byse gyda hi ddigon o olwg arno fe, fe nese hi yr hyn fyse oreu ar ei les e, ac nid yr hyn fyse'n ymddangos yn oreu ar yr olwg gynta.

Yr un peth yn gymws gyda physic, neu foddion doctor. Fe adewiff ambell i dad neu fam i'r plentyn bach odde am oriau neu ddiwarnodau yn lle rhoi physic iddo fe, pan fyse'r physic yn rhoi esmwythder iddo fe mewn ychydig iawn o amser.

"Mae'r hen physic yna mor gas!” mynte'r fam. "Alla i byth yn y myw a chael ar y nghalon i neud i Mari fach ei gymryd e!”

Nid cariad gwirioneddol yw peth felna o gwbl. Fe fyse'r gwir gariad yn foddlon nid yn unig dioddef ei hunan, ond gwel'd y plentyn yn dioddef hefyd - os byse'r dioddef hyny er lles iddo fe yn y pen draw.

Nawr, hware teg i Cleveland a'i wraig, nid y creulondeb sy'n codi oddiar wendid cariad, ond y creulondeb sy'n codi oddiar nerth cariad, oedd eu creulondeb nhw at yr un bach. Pan oedd yr un bach yn dioddef dan eu dwylo nhw dos dim dowt gen i nag oe nhw'ch dou yn diodde mwy na'r plentyn wrth wel'd y plentyn yn diodde. Ond gan eu bod nhw'n credu mai er lles y plentyn roedd y cwbwl roe nhw yn trafferthu eu hunain, - a gwaeth na hyny yn gallu dioddef gwel'd y plentyn yn dioddef, a roedd hyny yn llawer mwy o job.

A nawr at hyn own i'n hala - fod ishe cymysgu commonsense gyda gwybodaeth a chyda chariad hefyd lle bo plant yn y cwestiwn. Fe fyse'n well gyda Cleveland ei hunan, a'i wraig hefyd o ran hyny, saco'i fys ei hunan yn y tan na gwneyd cam a'r plentyn.

Ond sacson nhw ddim mo'u bysedd yn y tan, er iddyn nhw neud cam ofnadw a'r plentyn - a hyny i gyda am nag oedd dim synwyr cyffredin, commonsense, gyda nhw i gymysg am ben eu cariad a'u gwybodaeth.

Fe welson ni sawl engraipht o hyny o bryd i giddyl, ond dw i ddim am son nawr am ddim ond un ohonyn nhw. A dyma fe.


 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J6229b) (2 Medi 1899)




Roedd y plentyn bach drws nesa yn dod yn mlaen yn gampus i'r byd, yn dod yn mlaen fel cyw'r rwydd os gwedso nhw, am spel ddiogcl.

Roedd Cleveland yn credu mai o achos ei ddull e o fagu'r plentyn roedd hyn.

"There's nothing like system, you know," mynte fe. "Dos yna ddim byd at reol a threfn wrth fagu plentyn fel pobpeth arall."

“Cadw buwch, er engraipht," myntwn i yn sly fach.

"Oh, dewch! Pidwch towlu hono i ngwyneb i byth a hefyd!" mynte fe. "Roedd y system fan ny yn eitha right ond bod rhywbeth y mater ar y fuwch."

"Ry chi'n gweyd y gwir," myntwn i.

Fe ddrychws arna i, felse fe mewn dowt, pun a own i'n siriws ai pido, a finnau'n dryched mor sobor a'r judge.

"Wel?" mynte fe. "Shwd?"

"Oedd," myntwn i. "Roedd rhywbeth y mater ar y fuwch, a dyna pam na allsech chi gael gyda hi i olchi ei thraed, a gwishgo sgitshe, a uso'r boudy fel drawing-room."

"Wel, beth oedd hyny?" mynte fe.

"Oh, dim ond taw buwch a nid dyn oedd hi!" myntwn i.

Doedd dim, welwch chi, a'i tynse fe o'i ben e, nag oedd e'n right wedi'r cwbwl yn nghylch yr hen fuwch - a'r un egwyddor yn gwmws oedd gydag e yn nghylch y plentyn, a chredse fe ddim llai nad effaith ei "system," os gwedws e, oedd fod y plentyn bach yn dod mlaen mor anghyffredin.

Ond tae e'n gwbod y cwbwl nid o achos ond ar waetha'r system roedd yr un bach yn dod yn mlaen y mishoedd cynta. Roedd y plentyn drwy naturiaeth yn un bach cryf anghyffredin, yn ddigon cryf i wrthsefyll effaith niweidiol y system am spel ddyogel.

Ond bob yn dipyn fe aeth y plentyn i waethygu, a hyny gyment nes y mynodd y fam, er cymaint ei ffydd yn ei gwr, alw'r doctor mewn. Trwy lwc roedd y peth wedws y doctor yn cydfyn'd i'r tipyn a rhywbeth oedd Cleveland wedi wel'd mewn rhyw hen lyfr neu giddyl, a felny fe dreiws e ei oreu i gario mas beth oedd y doctor yn weyd.

"The milk of one cow," mynte'r doctor. "Rhaid i chi fwydo'r plentyn ar laeth un fuwch."

Wrth gwrs, beth oedd y doctor yn feddwl oedd mai llaeth yr un fuwch ddyl'se'r plentyn gael o hyd, yn lle newid y llaeth o’r naill ddydd i'r llall.

Ond ta p'un. Rhyw ddiwrnod, fe drows meistres a finnau i mewn i'r drws nesa. ’Doedd gyda ni ddim neges neillduol yn y byd; ond fel bydd cymydogion yn lico rhoi tro am eu gilydd weithe.

A dyna lle ’roedd Cleveland a'i wraig yn y dining-room yn hawddgar anghyffredin,

"Shwd mae'r babi?" mynte mishtres.

"Oh, rwy'n credu ei fod e'n well," mynte Mrs Cleveland.

"Chi wyddoch, gariad, ei fod e' lawer yn well!" mynte Cleveland. "Doctor a thipyn o synwyr yn ei ben e' yw’r doctor' yn a."

"Beth mae e'n weyd am yr un bach,?" mynte mishtres wed'yn.

"Oh," mynte Cleveland, "gweyd am i ni roi llath un fuwch iddo fe."

"Eitha right," myntwn i. "Rw i'n gwbod am blant bach wedi eu gwella wrth gael eu cadw ar laeth un fuwch. Dyna blentyn bach diwetha'ch chwaer," myntwn i, gan droi at mishtres.

"Ie," mynte hithau. "Dos dim dowt nag yw e'n beth da."

"There you are, love!” mynte Cleveland, gan droi at ei wraig. "Chred'se chi ddim mohono i. Falle credwch chi nawr!"

 "Oh, Claude! Chi wyddoch mod i'n eich


 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J6229c) (2 Medi 1899)




credu chi! Ond ro’wn i'n meddlwl ei fod e'n ormod i un bach fel baby."

"Yn ormod?" mynte mishtres. "Beth yn ormod?"

“Llaeth un fuwch," mynte Mrs Cleveland.

Ond cyn i ni sylweddoli beth oedd gyda hi, dyma Cleveland yn canu'r gloch, a'r fynyd nesa' dyma'r nurse a'r plentyn bach yn ei chol yn dod mewn.

Mor gynted ag y gwelws yr un bach ei dad, dyma fe'n llefain. "Dewch ag yma," mynte mishtres wrth y forwm.

A fe'i cymws e' ar ei har
ffed, a dyma hi'n dechreu hware ag e', a'r un bach yn dod yn ffrinds a hi mewn mynyd.

A dyma mishtres, fel bydd menywod, chi wyddoch, yn dryched dan ei ddillad e'.

"Mrs Cleveland," mynte hi; "beth sydd ar ei fola bach e'? Mae e'n llawn ymbeidus."

"Ro'wn innau'n gweyd hyny, ond 'roedd Claude yn meddwl fod pobpeth yn all right."

"Dewch a'r plentyn i fi," mynte fe. "Mae'n bryd iddo gael ei fwyd."

"Dos dim ishe bwyd arno fe, a'i gylla bach e' a'i fola fe mor llawn a hyn," mynte mishtres.
"Tipyn bach o fagnesia, neu ddiferyn bach o castor oil, nesa les iddo fe."

"Ond ddaw e' byth yn round1 a hi os na chaiff e' fe yn ei bryd," mynte Cleveland.

"Dod round a pheth?" mynte mishtres.

"A llaeth yr un fuwch," mynte fe, gan dynu rhywbeth fel pwmp bach, a phib india rubber wrtho fe ma's o'r cwpbwrdd.

"Beth y chi'n feddwl?" mynte mishtres.

"Ond yw e' i gym'ryd llath un fuwch bob dydd, a dyw e' ddim wedi uso'r godro boreu heddy' i gyd eto," mynte'r ffwlcyn.

A ’roedd y ddou, os gwelwch yn dda, yn meddwl fod yn rhaid i'r un bach i uso llaeth un fuwch i gyd! A roe nhw wedi bod yn stwffo, ac yn stwffo'r un bach druan ag e', nes prin gall'se fe gyffro. A ’roedd Cleveland wedi gneyd rhyw fath o invention i bwmpo'r llaeth i gylla'r babi pan byse fe'n pallu cym'ryd dim rhagor.

Tae chi'n clywed mishtres yn eu trin nhw pan ddeallws hi! Ond fe safiws yr un bach, a fe rows stop ar y creulondeb cariad hyny, ta beth.

(I'w barhau.)

 

 

A close-up of a document

Description automatically generated with medium confidence

(delwedd J6239a) (
9 Medi 1899)


 

Papur Pawb. 9 Medi 1889.

PROFIAD PAR
IFANC

Sef
Gofidiau'r Byd Presennol.

[Cofnodwyd Gan y Cymydog Drws Nesa.]

PROFIAD XIV. - Y CEFFYL NEWYDD. - TEILIWR CEFFYLAU. - FFORDD NEWYDD I WISHGO CEFFYL.

Ry chi'n gwel'd nawr, rwy'n siwr o hyny, mai nid menyw gyffredin, oedd gwraig ty nesa, ac mai dyn go anghyffredin oedd gwr ty nesa. Ond dy chi ddim wedi clywed y cwbwl, na wedi sylweddoli gallu eithriadol y dyn ei hunan i neud camsyniadau dwl wrth dreio bod yn gall.
Ond, o ran hyny, wrth dreio bod yn gall mae dyn yn myn'd yn ffol, y rhan amla. Felny roedd hi, ta beth, gyda gwr ty nesa, a'r drwg ohono fe oedd nag oedd dim posib ei argyhoeddi e mai ffwlcyn oedd e; fe fynse fe gredu o hyd nag oedd neb mor gall ag ei yn y byd.

Fel rw i wedi gweyd wrtho chi o'r blaen mae'n anodd i chi gredu nawr y fath ddwli gredse fe ac y nelse fe wrth dreio gneud ei hunan, debygse fe, yn gallach na phawb. I fi gael gweyd wrtho chi nawr am dro neu ddou ddigwyddws yn ei hanes e. Roedd hyn, cofiwch, ar ol helynt yr hen fuwch, ac ar ol ei gynyg e i neud i'r babi yfed llaeth un fuwch i gyd bob dydd.

Am spel ar ol busnes yr hen fuwch doedd dim a fynse fe a phethau yn perthyn i gadw anifeiled. Roedd gweyd y gair "buwch," yn ei glyw e, jest fel gwaeddi "llygoden" yn nghanol trwp o fenywod - fe fysen off am y cynta. A felny roedd hi gydag e. Os byse fe mewn cwmpni, ac yn moyn cael ei wared e, doedd dim ishe i chi neud dim ond tynu rhyw son am fuwch i mewn i'r sharad - fe fyse hyny yn ddigon a mwy na digon, a welsech chi ddim ond ei gwt e mewn wincad!

Wn i ddim ai shom o achos iddo ffaelu dysgu r fuwch i fyw fel dyn, a shom am ei fod e wedi cael ei neud i ddryched mor fach yn ngolwg ei wraig yn nglyn a llaeth un fuwch i'r babi, neu beth, ond fe aeth yn gynolig i wala, a mor ishel, weithe, nes gallse chi bron meddwl bod rhyw shinc arno. Roedd ei i wel'd yn gwaethygu o'r naill ddydd i'r llall.

Allswn i ddim, a'i wel'd e, felny yn gwaethygu yn ei olwg o hyd ac, o hyd, heb roi gair bach o gynghor wrtho fe, a felny fe etho yn nghyd ai hi.

"Dishgwlwch yma," myntwn i wrtho, "dyw e ddim use yn y byd i chi fyn'd mlaen fel hyn."

"Wel," mynte fe, "beth sy'n bod?"

"Chi sy ddim yn iach," myntwn i.

Dyma, fe'n fflamo mewn muned.

"Oh," mynte fe, "rwy i'n all right, diolch i chi. Ac heblaw hyny wyddwn i ddim eich bod chi yn ddoctor."

Dyna shwd y gwedws e'n gwmws.

Wel, wrth ei glyweid e mor ddigonol, fe benderfynes roi slap fach nice iddo.

"Wel," myntwn i, fel pe bawn i'n ail feddwl y peth, "wn i ddim ar ol ystyriaeth na edrychse hi'n well."

"Na edrychse pwy yn well?"

"Na edrychse Mrs Cleveland yn well."

"Beth y chi'n feddwl?"

"Meddwl beth w i yn weyd, yr edrychse hi'n well fel gwitw na fel gwraig."

Fe ddrychws arna i felse fe'n moyn y'n llyncu i. Ond fe gwlodd mewn muned, a dyma fe'n gofyn,

"Wel, beth y chi'n weyd fyse oreu i fi?"

"Wel," myntwn i, "beth gynghorswn i chi i neud fyse brychgan am gwpwl o oriau bob dydd."

"Does gen i ddim ceffyl," mynte fe.


 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated

(delwedd J6239b) (
9 Medi 1899)




"Mae digon o geffylau i gael," myntwn innau. "A rw i'n credu nag os dim byd yn well at eich dolur chi na dipyn o exercise felny."

Edrych yn amheus nath e am dipyn, a wedyn fe glenshes i'r peth drwy weyd: -

"Ac heblaw hyny fe allsech fyn'd a.'r wraig a'r plentyn mas ambell waith, fe fyse'n iechyd calon iddyn nhw'ch dou."

"Ody chi'n meddwl hyny?"

"Rwy'n gwbod hyny," myntwn, innau.

"Wel, o’r goreu,” mynte fe. "Fe fyna i geffyl, doed a ddelo."

A dyma fe'n codi felse fe'n myn'd i edrych am geffyl y funed hyny.

Ond dyma fe'n troi nol wed'yn oddar bwys y drws, ac yn gweyd: -

"Rwy'n sposo bydd rhaid cael ceffyl mawr iawn?"

"Oh na, fe wnaiff cobyn bach y tro yn nobl," myntwn i.

"Ond fydd dim digon o le," mynte fe.

"Digon o le yn mhle'r dyn?"

"Ar ei gefen e," mynte fe.

"Digon o le ar ei gefen e, i beth?" myntwn innau wed'yn.

"Ond digon o le i fi, a Mrs Cleveland, a'r babi, i ishte gyda'n giddyl ar ei gefen e'!” mynte fe.

Roedd y bal yn meddwl i'r tri frochgan yr hen geffyl i gyd gyda'u giddyl!

Shwd dales i heb hwerthyn mas, mae'n anhawdd gwbod. Ond fe netho. Fe wedes wrtho fe byse un ohonyn nhw ar y tro yn ddigon, and os licsen nhw fyn'd gyda'u giddyl byse gofyn iddol gael dogcar bach, a mae hyny fyse ore iddyn nhw.

Wel, hware teg iddo fe, fe wrandaws arna i y tro hyny, a boreu ail tranoeth dyma fe yn y ngwahodd i i fyn'd i wel'd y ceffyl newydd oedd e wedi brynu.

A wir, roedd e wedi bod yn lwcus i wala, wedi cwrdd ag un o'r pethau mwya anghyffredin yn y byd hyn, ta beth, dyn gonest, yn gwerthu ceffyl!

Cobyn bach cryf, esmwyth, "quiet to ride or drive," ys dywed yn acshwners, a chyda'r cwbwl wedi ei gael e am y talse fe.

Fe wedes innau wrtho yn meddwl ei fod e wedi cad eitha bargen, a fe wedes wrtho fe b'le byse oreu iddo fe fyn'd i ddryched am ddogcar bach, a harness, a phobpeth i gael cwpla'r fusnes.

Fe fuodd hwant arna i i weyd wrtho fe dan yr un am hwilo am ryw grwtyn bach o osler, wath fe wyddwn, debygswn i, gnese fe botsh ohoni tae e'n cymryd at wisgho'r ceffyl ei hunan.

"Ry chi'n gwbod y ffordd i wishgo fe, wrth gwrs?" myntwn i, er mwyn cael swmpo.

"Gwishgo pwy?" mynte, fe.

"Gwishgo'r ceffyl," mwntwn innau.

Fe ddrychws arna i felse fe'n dowto pun ai cellwair own i. Ry chi'n gwel'd roedd yr hen chap yn cofio am yr hen fuwch, a'i sgitshe a'i sanau, ac yn hanner ofni mai treio gneud ffwl ohono fe own i. Ond mae'n debyg iddo gael ei argyhoeddi wrth y ngolwg i mod i'n ddigon onest yn y peth own i wedi weyd.

"Wel," mynte fe, "al gweyd y gwir wrtha chi dw i ddim yn gwbod yn iawn pwy ddillad sy ishe arno fe, na ble ma e cael teiliwr i gneud nhw."

O'r sobor anwyl! Meddylwch am ddyn yn son am deilwr ceffylau Wyddwn i ddim pun ai hwerthin am ei ben e, neu cymeryd tosturi arno fe neswn i. Ond fe netho'n meddwl fyny, er mwyn ei wraig fach e, i roi llaw o help iddo yn y mater hyn, ta beth.

Felny fe gynnyges fyn'd gydag e i brynu ffrwyn a chyfrw, a gan ei fod e wedi son am "ddillad" i'r ceffyl, fe biges horse cloth hefyd, er mwyn iddo feddwl fod rhywbeth yn y syniad o ddillad wedi'r cwbwl,

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J6239c) (
9 Medi 1899)




Pan ddaeth y pethau gatre o dy'r sadler dyna lle bu cynnal amboutu gwishgo'r ceffyl. Roedd e'n rhy uchel i gydnabod na wydde fe ddim shwd oedd gneud, - ac ar yr un pryd a gormod o ofan arno fe i ddynon gal sport am ei ben e, tae e'n gneud rhyw ffrwst embed o gamsyned.

Felny, boreu tranoeth dyma fe'n galw arna i mewn i'r stabal, dan esgus gwel'd shwd oedd y ceffyl yn dryched wedi ei wishgo.

Pan etho i mewn, roedd golwg rhyfedd ar y ceffyl druan!

Roedd bit y ffrwyn o dan en y ceffyl bach yn lle yn ei ben e, a'r olwg fwya ofnadw arno fe welsoch chi a'ch llyged eriod!

Ond am y cyfrw! Y Mowredd anwl!

I chi gael deall, rown i wedi mynu martingale rhag ofan byse'r ceffyl dipyn bach yn wyllt, a Cleveland ddim yn gyfarwydd a brochgan.

Wel, roedd y bal wedi dodi'r cyfrw'r part ol yn mlaen; wedi tynu'r martingale dros ben ol y ceffyl, rhwng ei ddwy goes ol e, a dodi ei ben e yn sound wrth un o'r stirrups; roedd e wedi tynu'r crwper yn mlaen at ben y ceffyl, a'i ddodi e yn sound wrth dop y ffrwyn rhwng dou clust y ceffyl!

"Wel, odw i wedi gneud yn right?" mynte fe, gan wenu mor ddiniwed a phlentyn bach arna i.

"Ry chi wedi gneud cynnyg go lew o gynnyg cynta," myntwn i. "Ond falle byse fe'n well fel hyn."

A dymai fi'n cymhwyso'r pethau oedd e wedi eu dodi o hwith. A hware teg, fe gymrws i lesn yn ddigon tawel; a fe ddysgws y ffordd hefyd i wishgo'r ceffyl yn right cyn i fi fadel ag e.

(I’w barhau.)


 

 

A picture containing text, newspaper

Description automatically generated

(delwedd J6231a) (
16 Medi 1899)


 

Papur Pawb. 16 Medi 1889.

PROFIAD PAR
IFANC

Sef
Gofidiau'r Byd Presennol.

[Cofnodwyd Gan y Cymydog Drws Nesa.]

PROFIAD XV. - CEFFYL CALL A MISHTIR DWL. - RHOI LESSON I'R CRWT.

Wel, fe gym'rws Cleveland rhyw ddelight anghyffredin yn y ceffyl, a phob pyrnawn ar ol dibenu a'i fusnes, dyna lle byse fe, welwch chi, gyda'r hen geffyl, naill ai yn y stabal neu ynte yn myn'd ar ei gefen e' am ride fach, neu yn myn'd ma's am ddrive gyda'r wraig a'r babi. Roedd y babi erbyn hyn yn dod yn mlaen fel cyw'r wydd, os gwed'son nhw, a 'roedd mishtres yn cym'ryd y credit, i gyd iddi ei hunan am hyny, o achos, fel gwyddoch chi, iddi hi eu hadel nhw i ladd yr un bach drwy stwffo gomrodd arno wrth gisho cael gydag e', poor thing, gym'ryd llaeth un fuwch i gyd bob d'ydd.

Wrth gwrs, ddaeth y cymydog drws nesa' ddim yn eitha mishtir ar ei grefft o drin y ceffyl am spel fach. All'sech chi ddim dishgwl i ddyn nag oedd yn gwbod y gwahaniaeth rhwng martingale a chrwper, nac yn gwybod pwy ben i'r cyfrw ddyl'se fod yn mlaen a ph'un yn ol, i fishtroli pob gwybodaeth am geffyl ar unwaith. Ond fel rwy'n gweyd wrtho chi, fe ddysgws, os mai gam bwyll fach ’roedd e'n dysgu, eto i gyd ’roedd e' yn dysgu, a dyna'r peth mawr wedi'r cwbwl.

Trwy lwc, a fyswn i ddim maes o'n lle tawn i'n gweyd trwy drugaredd, ’roedd y ceffyl gas e' yn un od o rwydd i drafod.
All'se fe byth a bod wedi cwrdd ag un gwell at ei bwrpas e', all'swn i feddwl. Tae'r hen geffyl yn gwbod hanes a ffaeledde ei fishtir newydd, all'se fe byth a bod wedi ymddwyn yn fwy tebyg i Gristion tuagato.

’Roedd yn ddigon o sight i wel'd Cleveland a'r hen geffyl ambell waith. Chi all'sech dyngu fod y cel bach yn gwbod ac yn deall y cwbwl.’Roedd y ceffyl dipyn bach fwy cyfarwydd a'r hewl ac a shwd i neyd ar yr hewl nag oedd ei fishtir, a chi all'sech weld a hanner llygad tae chi'n sylwi os mai Cleveland oedd yn esgus rheoli mai'r hen geffyl oedd yn gwbod beth ddyl'sid neyd - ac yn ei neyd e' tae beth nel'se ’i fishtir. Braidd na all'swn i gym'ryd y'n llw weithe, pan byswn ni'n cwrdd a nhw'ch dou ma's gyda'u giddyl, a Cleveland falle'n plyco'r reins llaw dde pan ddyl'se fe blyco'r llaw hwith, a'r hen geffyl yn myn'd yn gros cwmws i'r ffordd oedd y reins yn cael eu plyco, braidd na all'swn i gym'ryd y'n llw mod i wedi gwel'd yr hen geffyl yn winco arna i ac fel'se fe'n pointo a'i glust at ’i fishtir, gystal a gweyd: -

"Dyco fe wrthi yto! Ond rw i'n deall yn nobl!”

A lwcus i fod e', neu dyn a wyr pwy ffrwt fyse Cleveland druan wedi neyd.

Wrth gwrs, ddaeth dim o Cleveland, fel gwedes i, i wbod y ewbwl am y ceffyl a'r harness ar unwaith - er fod yr hen geffyl, hware teg iddo fe, yn gneyd pob peth all'se fe i helpu ei fishtir. 'Roedd yn ddigon o sight i chi wel'd y ddou pan fyse Cleveland yn gwishgo'r ceffyl. ’Roedd y cel bach welsoch chi yn cadw ei lygad ar ei fishtir bob cynnyg, ac yn gofalu na chese fe ddim gneyd camsyned os gall'se fe help ta beth. Fe godse 'i gwt i'r lan i chi pan fyse i'n bryd i ddodi'r crwper, gystal a gweyd wrth Cleveland

"Y crwper nawr, was i!"

A fe blygse ’i ben i gael dodi'r glustog, a fe godse ’i ben wedin i gael y bit a'r ffrwyn yn right, fel mai amhosib jest iawn fyse i neb neyd camsyned wrth ei wishgo fe!



 

 

A close-up of a document

Description automatically generated with medium confidence

(delwedd J6231b) (
16 Medi 1899)




Fe alla weyd wrtho chi am un tro weles i a'n llygid y'n hunan. ’Roedd Cleveland yn gwishgo'r ceffyl i ddodi yn y car, a wedi towlu'r harness ar ei gefen e', dyma fe'n myn'd i ddodi'r kit a'r ffrwyn cyn dodi'r glustog. Nawr, fe gwddoch chi, allwch chi byth a dodi'r glustog ar ol dodi'r bit a'r ffrwyn, ond er mod i'n gwbod hyny, wedes i ddim gair o mhen er mwyn cael gwel'd shwd ymdopse Cleveland.

Pan hercodd Cleveland y bit, a'r ffrwyn, a myn'd at ben y ceffyl, dyma'r hen gel yn ysgwyd ei ben felse fe'n gweyd

"Nage'r, ffwlcyn! Nid hwna!”

Ond ddeallws Cleveland ddim, a dyma fe'n citsho yn mhen y ceffyl. Ond ’roedd yr hen gel yn ffit i gwrdd ag e', a lawr ag e' a'i ben rhwng ei ddwy gos flaen fel na all'se fe byth ddodi'r bit rhwng ei ddannedd e'.

"Beth sy' arnat ti'r, ceffyl dwl?"

"Mae'r ceffyl yn gallach na’i fishtir," myntwn i yndw i'n hunan, er na wedes i ddim yn uchel chwaith, ond dalai i watsho i gael gwel'd beth ddese ohoni.

Wel, pan wedws Cleveland hyny, dyma’r hen geffyl yn codi ei ben, ac yn dryched mewn syndod ar ei fishtir. Ry chi'n gwel'd, ’roedd y ceffyl yr un farn a finnau'n gwmws am Cleveland, ond yn unig na all'se fe ddim a gweyd beth oedd e'n feddwl am dano. O leia, all'se fe ddim a gweyd mewn geiriau - er iddo weyd yn ddigon plaen mewn ffordd arall hefyd.

Ond ta beth, dyma Cleveland yn gneyd cynnyg arni wed'yn, fel o’r blaen. Ond fyn'se'r hen geffyl ddim. Fe godws ei ben lan tua'r ceiling fel na, all'se Cleveland ddim yn ei fyw gael gafel yndo i roi'r bit rhwng ei ddannedd.

"Hawyr bach!" mynte Cleveland. "Beth sydd arnat ti'r, ceffyl?"

Fe ddrychws y ceffyl arno am dipyn, a wed'yn dyma fe'n troi, ac yn myn'd ei hunan at y man lle ’roedd y glustog yn hongian ar y wal, ac yn dodi ei ben ar bwys hono, gan weyd mor blaen yn ei ffordd fud e' ag y gall’sech chi neu finnau weyd a'n tafod:

"Y glustog sy' i fod gynta', os gwelwch yn dda!”

"Wel, i jaist ariod!" myntwn i, gan daro'n llaw ar ’y nghlun. "Dyna'r ceffyl calla weles i ariod yn ’y mywyd!”

Fe gochws Cleveland iddi ddou clust pan welws e' hyny, a rwy'n credu iddo ddeall rhywbeth hefyd; ond ta p'un am hyny, hwerthin nath e', a gweyd:

"Mae'r ceffyl yn gwbod yn well na fi beth sy' i wishgo, debygswn i."

"Fawr job iddo," myntwn innau.

Wel, pan dynws Cleveland y glustog odd'ar y wal, dyma'r hen geftyl yn eitha ples, ac yn gadel iddo ’i dodi hi dros ei ben e', ac wed'yn yn ddigon esmwyth iddo ddodi'r bit a'r ffrwyn a chwbwl. Fe fyse'n annodd gyda chi gredu heb i chi gael gwel'd eich hunan fel ceso i.

Ond dyw e' ddim use credu’r cwbwl am Cleveland chwaith. Fe glywes i'r crwt sy' gydag e' yn dryched ar ol y ceffyl yn gweyd y pethau rhyfedda glywsoch chi ariod, pethau na alla i byth a'u credu nhw ta beth. Fe 'i clywes e'n gweyd fod ei fishtir unwaith yn meddwl myn'd ma's i frochgan, a'i fod e' wedi gwishgo'r cyfrw'r part ol yn mlaen. Sylws y ceffyl ddim ar y pryd gan nag oedd dim crwper gydag e' wrth y cyfrw y rhyny. Felny, fe adaws iddo ddodi'r gengel a phobpeth yn all right. Ond ryw ffordd, fe dda’th y ceffyl i specto nag oedd pobpeth ddim yn right, a fe drous ei ben yn ol, a fe welws fod y cyfrw y part ol yn mlaen.

Nawr, fe wyddai’r hen gel byse dim diwedd at spri y boys pe gwelse nhw Cleveland yn myn'd ma's ar gefen ceffyl a'r cyfrw o hwith, a fe benderfynws roi stop ar ei spri nhw cyn dechreu.


 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J6231c) (
16 Medi 1899)




Wn i ddim a fyse Cleveland yn ddigon call i wbod p'un oedd y part blaen i'r cyfrw, ac yn ddigon dwl i ishte ar y cyfrw a'i wyneb at y part blaen right i'r cyfrw, a thrwy hyny at gwt y cyfrw, ai peido.
Ond fel digwyddws hi, cha's e' ddim cynnyg ar neyd hyny.

'Roedd y crwt, mynte fe, yn dryched ar 'i fishtir yn gwishgo'r ceffyl o hwith, a jest a bresto gan hwerthin, ond heb weyd dim gair er mwyn cael mwy o sport.

Wel, fe ddrychws y ceffyl gynta i gyd ar ei fishtir, a wed’yn ar y crwt, felse fe am wel'd p'un oedd ddwla o'r ddou. Fe wyddai, wrth gwrs, fod y crwt yn gwbod shwd ddyl'se'r cyfrwy fod, ta beth am ei fishtir.

Pan dreiws Cleveland fyn'd ar gefen y ceffyl, ody chi'n meddwl cese fe?

Dim danger!

’Roedd y ceffyl yn baco nol round orwth ’i fishtir, a hwnw ag un droed yn y warthol ac yn herc, herc, hercan, a'r llall wrth ddilyn y ceffyl round about i'r clos.

“Danco di'r ceffyl, sa’n llonydd!” mynte Cleveland, gan dynu ei droed o'r warthol o'r diwedd. "John! dere i ddala pen y ceffyl tra bo i'n myn'd ar ei gefen e'! Fe ddysga i e’ i hware tricsis fel hyn, rwy'n siwr o hyny!”

A phan ddaeth y crwt i gitsho yn y ffrwyn, beth y chi'n feddwl nath y ceffyl?

Fe gitshws yn ei golar e' a'i ddannedd, heb neyd dim niwed iddo. chwaith, a fe sgydws e'n biwr; ace yna, dyma fe'n ei dowlu e' naill ochor i ganol y bwdlac!

Wedyn, dyma fe i'r lan at ei fishtir,ac yn troi ei ben. a rhwto'i drwyn yn y eyfrw, a dyna pryd gwelws Cleveland ei gamsyned, ac y deallws e' fod y cyfrw o !

Ond cofiwch chi, weles i ddim o hyn y’n hunan, ond mai stori'r crwt yw hi.

(I'w barhau.)

 

 


Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J6232a) (
23 Medi 1899)

Papur Pawb. 23 Medi 1889.

PROFIAD PAR
IFANC

Sef
Gofidiau'r Byd Presennol.

[Cofnodwyd Gan y Cymydog Drws Nesa.]

PROFIAD
XV. - AI TEBYG I DDYN FYDD EI LWDWN?

Wel, alle pethau fel ny ddim para'n hir heb fod son am y peth yn myn'd drwy'r ardal, nes o'r diwedd fe ath dynon i gymryd cyment o sylw o Cleveland a'i geffyl a se fe Lord Dinefor neu Earl Cawdor yn brochgan neu ddreifo drwy'r lle.

A roedd Cleyland yn cymryd hyn i gyd felse fe'n ei haeddu e
 - a mwy hefyd. Weles i neb yn y mywyd eriod allse ffeindo use i fwy o sebon meddal nag e. Roedd gofyn ei gadw fe'n woblin o'i drad i'w glyste o hyd o hyd.

Nawr yn yr amser hyn fe ddigwyddws dou dro bach w i'n bound o weyd am danyn nhw wrtha chi. A roedd a fyno Cleveland a'r ceffyl a phob un o'r ddou.

I chi gael deall nawr, roedd Cleveland yr adeg yma wedi cymryd i lyncu fyny'n llwyr gan ddou beth - ei geffyl a'i lyfrau.

Nawr pan byse Cleveland yn stydio'n galed roedd e'n colli ei gof a'i feddwl am jest bob peth arall. Onibai fod ei wraig yn dryched ar ei ol e brydiau bwyd dw i ddim yn meddwl y byse fe'n cymryd i fwyd fel dyn arall. Ond roedd Mrs Cleveland erbyn hyn yn dechreu dysgu tipyn bach am boutu cadw ty. Allse hi ddim llai o ran hyny a mishtres yn byw yn ei hymyl hi ac yn myn'd mewn i gweld hi mor amal.

Ond ta beth fe ddowa i nol at hyny, falle, eto, ond son w i nawr am Cleveland a’r ceffyl.

Wel, te i fi gael gweyd y stori wrtha chi, dyma shwd y buodd hi arno fe y tro cynta w i'n son am dano.

Roedd e wedi mynd rhyw byrnawn ar gefn y ceffyl i weld ffrynd iddo fe oedd yn byw ryw ddwy neu dair milldir o'r dre. Fe ddishgynws wrth gat y clos, a fe dowlws y ffrwyn dros ben post y llidiart i chi, i gael cadw'r cel bach rhag mynd ar disberod, i chi. Nawr roedd y llidiart yn un go ishel, a fyse'i fawr o job i'r hen geffyl bach, tae e'n lico, i slipo’r ffrwyn oddam ben y post a bant ag e.

Wel, fel digwyddws hi, fe welws un o'r gwasanathynon wrth fynd hibo shwd oedd y ceffyl wedi cael ei ddodi'n sound, a beth naeth e, ond tynu'r ffrwyn bant, a'i saco hi mewn o dan reilen ucha'r llidiart, a wedyn ei dodi am ben y post. Fel ny, fel gwyddoch chi, pwy fwya fyse'r ceffyl yn dynu sounda i gyd fyse'r ffrwyn yn mynd am y post.

Pan ddaeth Cleveland mas o'r ty, fe gitshws yn y ffrwyn oddam ben y post, ond fe welws mewn winced nag oedd hi ddim fel roedd e wedi ei gadel hi, ond ei bod hi wedi mynd o dan reilen ucha'r llidiart. Dyma fe'n sefyll spel ac yn stydio'r peth mas. Roedd e wedi bod yn darllen storiaus am detectives yn Lloegr, a shwd oedd rheiny yn gneud mas shwd oedd rhyw ddrwg wedi cael ei gyflawni. A nawr dyma fynte, os gwelwch yn dda, yn mynd i fod yn ddetective i gal mas shwd oedd y ceffyl wedi hala'r ffrwyn o dan reilen y llidiart pan oedd i fishtir wedi ei adel e a'r ffrwyn dros ben y reilen.

Wel, fe ddaeth pobol y ty mas i gal dryched arno' fe, a Cleveland yn go falch i allu dangos tipyn bach ar ei ddysg.

"Nawr, Mr Jones," mynte fe wrth wr y ty. "Dyma i chi beth od."

"Beth sy'n bod?" mynte hwnw.


 

 



A picture containing text, newspaper

Description automatically generated

(delwedd J6232b) (
23 Medi 1899)

 

"Wel, fe adewes i'r ceffyl fan hyn a'r ffrwyn dros ben reilen ucha'r llidiart, ac am ben y post. Wel, fel y gwelwch chi, mae hi yto am ben y post, ond mae hi hefyd yn dod nol i'r ochor hyn o dan y reilen. Nawr, shwd mae esbonio peth felna?"

"Ry chi, Mr Cleveland, yn ddyn call, ac yn darllen pwer, a allwch chi ddim dishgwl i hen glwmpyn o ffaymwr fel fi i lwyddo ble ry chi'n ffeilu."

"O, dw i ddim yn gweyd y mod i wedi ffeilu, welwch chi," mynte fe, "ond rown i'n lico roi'r cynyg cynta i chi."

"Rwy'n od o ddiolchgar i chi," mynte Mr Jones, "ond beth y ni well o gael dyn call yn y gymdogaeth os na roiff e dipyn bach o oleuni ar ein tywyllwch ni nawr ag yn y man?"

"Eitha gwir," mynte Cleveland, gan lyncn'r cwbwl i chi. "Nawr," mynte fe. "Mae'n amlwg yn y lle cynta fod y ceffyl adewes i yr ochor tu fas i'r llidiart, wedi bod yr ochor tu fiwn."

"Shwd y chi'n gneud hyny maes?" mynte Jones.

"Allwch chi dim gweld shwd?" mynte Cleveland, gan ddryched am boutu ar bawb.

Ond alse neb weyd shwd, a, dyma Jones yn gweyd wrtho fe nag oe nhw ddim yn ddigon call i wbod.

"Wel," mynte Cleveland, "mae yma ddou brawf diamheuol fod y ceffyl wedi bod yr ochr draw i'r bwlch."

"Ie," mynte Jones. "Beth y nhw?"

"Wel, dyma ol ei draed e'r ochor draw i'r bwlch i ddechreu," mynte Cleveland.

A shiwr ei wala roedd e hefyd. Fe gawd mas wedi hyny fod y bachgen ddodws y ffrwyn y ffordd reit drwy'r bwlch, wedi mynd a'r ceffyl yr ochor tu fewn tra byse fe'n gneud rhywbeth, a roedd hol carnau'r ceffyl yn y mwd yr ochor draw i'r bwlch.

"Nawr," mynte Cleveland, "mae hwna'n ddigon plaen, ond yw e?"

"Ody, debygswn i wir," mynte Jones, gan ddechreu meddwl fod rhywbeth yn mhen Cleveland, wedi'r cwbwl.

“A nawr, am yr ail brawf," mynte Cleveland. “Rhaid peido trysto bob amser i ol traed, waeth fe allse'r lle yma fod yn gerigog a dim ol traed i weld."

"Ie," mynte mab Jones, "neu fe allse fod fel Twm Shon Catti a'r tarw."

"Shwd oedd hyny?" mynte Cleveland.

"O, roedd wajer gan Twm byse fe'n gallu dwgyd tarw o'r boudy ar yr eira, a na allse neb neud mas ble roedd e wedi mynd."

"Fe neswn i, gwlei." mynte Cleveland.

"Ie, ond doe chi ddim yno, welwch chi," mynte Jones.

"Ie, wel shwd gnath e?" mynte Cleveland.

"Wel, beth nath Twm ond mydl a dou bar o hen sgidiau gwrywod dan ei gesel, a chered drwy ganol yr eira sha'r boudy, a wedi mynd miwn dyma fe'n dodi'r sgidiau, y part ol yn mlaen, am draed yr hen darw, a'i arwain e mas o'r sgubor, a nol ag e drwy'r eira, a'r tarw gydag e. Boreu tranoeth pan ath perchlen y tarw mas i'r clos fe weldws ol tri phar sgidiau yn do sha'r boudy, a dim ond un par yn mynd yn ol, a fe gredws yn y fan fod rhaid fod dou ddyn yn cwato yn y boudy yn rhywle. A dyma fe'n galw ar y bechgyn i ddod i hwilo, ond yn lle ffindo dou ddyn fe geson fod y tarw yn ishe, a dim byd i ddangos shwd oedd e wedi mynd mwy na se fe wedi hedfan. A felny fe enillws Twm ei wajer."

"Mae hona'n hen stori," mynte ei dad. "Dewch i ni gael clywed shwd mae Mr Cleveland yn esbosio'r ffrwyn."

"Wel," mynte Cleveland, "yr ail brawf fod y ceffyl wedi bod yr ochor draw yw fod y

 

 



Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J6232c) (
23 Medi 1899)

.

ffrwyn yn dod nol o'r ochor draw at ben y ceffyl yr ochor hyn."

"Wel i jaist ariod!" mynte mab Jones, gan daro ei forddwd a'i law nes oedd y cwbwl yn swno i gyd.

Ond fe ddrychws i dad arno fe rhag ofan iddo 'i brathu hi.

“A nawr," mynte Cleveland, "yr ail boint yw hwn. "Mae'r ceffyl ar ol bod yr ochor draw wedi dod yn ol i’r ochor hyn."

"Mae hyny'n ddigon plaen," mynte Jones. "Ond shwd aeth e, dyna'r pwnc!”

Fe ddrychws Cleveland yn dosturiol ar ei anwybodaeth e.

"Dere yma, was i," mynte fe wrth grwt bach oedd fan ny.

Dyna’r crwt ato fc.

"Os gyda chi damed bach o linyn?" mynte fe wrth Jones.

Fe gawspwyd tamed o linyn, a dyma Cleveland yn clymu un pen iddo yn sound wrth fotwm cot y crwt, a'r pen arall am bost y llidiart.

"Nawr, was i," mynte fe. "Dros ben y bwlch a ti."

Fe groesws y crwt y llidiart mewn wincad.

"Nawr," mynte Cleveland. "Dere nol drwy'r bwt mawr yna o dan y reilsen ucha."

A felly g'nath y crwt.

"Dyna chi!" mynte Cleveland, gan ddryched yn orfoleddus amboutu. "Dyna'r llinyn yn gwmws fel roedd y ffrwyn -
a dyna shwd gnath y ceffyl, y ceffyl calla yn y shir."

"Tcbyg i ddyn fydd ei lwdwn," mynte Jones, gan winco ar y lleill, "a thebyg i ddyn fydd ei geffyl, mae'n debyg."

A bant a Cleveland yn nghanol hwre fawr.

(I’w barhau)

 

 


A black and white photo of a document

Description automatically generated with low confidence

(delwedd J6233a) (30
Medi 1899)

Papur Pawb. 30 Medi 1889.

PROFIAD PAR
IFANC

Sef
Gofidiau'r Byd Presennol.

[Cofnodwyd Gan y Cymydog Drws Nesa.]

PROFIAD XVI.
- PUZZLE NEWYDD. - TRAWS-FUDIAD ENEIDIAU.

Wel mawr fu'r son a'r sia
rad drwy'r ardal i gyd am esboniad Cleveland am shwd oedd y ffrwyn wedi troi miwn o dan reilsen ucha'r llidiart. Dyna oedd y sharad rhwng pob dou ar yr hewl, a dyna oedd gan bawb yn y committees bob nos yn efel y gof a shop y crydd. Fel gwyddoch chi dyna'r ddou le pwysica yn y wlad. Ry chi sy'n darllen y papyre yn gwbod, wrth gwrs, am rywbeth mae nhw'n alw yn "standing committees of the House of Commons," ryw fath o bwyllgorau debygswn i sy'n bod mewn grym ac awdurdod o hyd ac o hyd. Wel, rhyw fath o standing committeer wlad yw'r efel a shop y erydda does dim nosweth byth yn pasio nag yw'r committees hyny yn cwrdd, ac yn setlo holl faterion y byd a'r Bettws.

A fel rw i'n gweyd wrtha chi, busnes Cleveland a'r ceffyl a'r ffrwyn a'r llidiart oedd busnes y committees hyn am spel ar ol y digwyddiad wrth dy Mr Jones.

We
l yn un o'r committees hyn, fe benderfynws y boys mynse nhw roi prawf pellach ar ddoethineb Mr Cleveland, a fe feddyliodd mai yn nglyn a'r ceffyl byse oreu iddyn nhw ei neud e, wath fel y gwddoch chi roedd Cleveland wedi ei lyncu fyny gan y ceffyl y dyddiau hyny.

Llawer fu o ddyfalu a dyfeisio er mwyn dod o hyd i'r ffordd oreu i neud eitha prawf arno. Roedd y boys yn ddigon call i wel'd, welwch chi, na chese nhw ddim ail gynnyg arno fe, wath mai sheio nesa
fe ar ol y prawf mawr cynta. Felny nid peth i'w benderfynu am hast oedd e.

Ar ol llawer o sharad a phwyso ac edrych ar y mater yn ol ac yn mlaen. a round am boutu iddo
, fe settlwd shwd oedd gneud -
ae os do fe
! Fuodd dim shwd gynhal am wn i ariod!

Roedd y
boys yn teimlo, gan fod Cleveland wedi cael prawf ar y ceffyl wrth ei frachgan e, dylse fe gael prawf arno yn y shaffts y tro nesa. A dyna beth oedd yn gneud y mater yn fwy anodd, wath ambell waith mewn cydmariaeth oedd Cleveland yn myn'd mas am ddrive.

Ond fel roedd y lwc, fe ddaeth y boys i wbod ei fod e'n myn'd unwaith yr wthnos am ddrive yn y dogcar heibio i le bach ar ochr yr hewl, a'i fod e'n gadel y ceffyl a'r car wedi ei glymu fan ny wrth y bwlch. Doedd dim eishe mwy na hyny ar y boys. Roedd y cwbwl wed'yn yn right i wala genty nhw.

Felny fe fugeilwd Cleveland yn myn'd sha'r lle yma. A fel roedd e'n arfer fe adaws y ceffyl a'r car wrth y bwlch ar ochor yr hewl, gan ddim ond dodi'r reins dros ben post y llidiart - ond gofalu ar yr un pryd i ddodi nhw mewn gynta o dan y reilsen ucha.

Ry chi'n gwel'd roedd e'n shiwr o fod yn credu fod y ceffyl yn gwbod yn well nag e shwd i ddodi'r ffrwyn yn sound, a mae dyna pam roedd e wedi gneud fel gnaeth e, debygse fe, wrth dy Jones y tro o'r blaen. Felny byth wedyn fe gofiws Cleveland am y lesn hyny.

Wel, ta, beth, fe ddodws e'r ceffyl yn sound, a miwn ag e sha’r ty, gan adel y ceffyl a'r car fan ny.

Ond mor gynted ag yr aeth e mewn i'r ty, dyma hanner dwsen o foys, oedd wedi bod yn bugeila yr ochor draw i'r berth, yn neido mas i'r hewl.

Roe nhw wedi plano pobpeth yn barod shwd oe nhw i neud.


 

 



A close-up of a document

Description automatically generated with medium confidence
(delwedd J6233b) (30
Medi 1899)



I ddechreu dyma ddou o henyn nhw mewn ar ol Cleveland i dy Davies y Llwyn, er mwyn cadw hwnw mewn ple, rhag ofan iddo fe ddod mas a'u dala nhw ar waith amboutu'r ceffyl a'r car.

Wedi i'r ddou fyn'd mewn a cheuad y drws, dyma'r lleill at eu gwaith nwnte gyda'r ceffyl a'r car.

Y peth cynta oedd tynu'r ceffyl mas o’r shaffts.

Wedi gneud hyny fe agorwd y gat, ac fe awd a'r ceffyl tu fewn.

Yna fe gauwyd y gat, a fe facwd y ceffyl yn ol at y gat.

Wedyn dyma nhw yn cydio yn y car, ac yn saco shaffts y car rhwng dwy reilsen ganol y llidiart.

Yna dyma nhw'n dodi'r ceffyl yn y shaffts fel ny, ae yn harneso'r cwbwl yn ol fel roedd e o’r blaen.

Ac yn ola i gyd dyma nhw'n towlu blaen y reins am ben y post o'r tu fewn i'r gat, ond heb eu dodi nhw rhwng reils y llidiart.

Fel ny, fel gallwch chi ddeall, roedd pobpeth yn gwmws fel gadaws Cleveland nhw gyda dim ond dou wahaniaeth.

Yn lle bod y ceffyl a'r car y tu fas i'r gat, yr oedd y car nawr tu fas, a'r ceffyl tu fewn, a'r llidiart, wrth gwrs, rhyngty nhw.

A'r gwahaniaeth arall oedd fod y reins wedi myn'd i'r tu fewn i'r llidiart yn lle myn'd o dan y reilsen ucha.

Wedi dodi pobpeth yn right i'r tipyn dyma'r boys yn hwiban, er mwyn rhoi gwbod i bobol y ty fod pobpeth yn barod, a wed'yn off a nhw rhai yr ochor hyn a'r lleill yr ochor draw am ryw ganllath ar hyd yr hewl, ond yn cadw yn ngolwg y ty o hyd.

Ry chi'n gwel'd doe nhw ddim am i Cleveland eu gwel'd nhw pan ddese fe mas, rhag iddo specto dim byd. Ond doe nhw ddim am golli dim mo’r sport chwaith, a felny am fod o fewn cyrhaedd clyw a golwg pan ddese fe at y ceffyl a’r car.

Wel fe nath y boys yn y ty ryw esgus i bawb gael myn'd mas pan glywson nhw'r wth eu partners, a dyma nhw, Cleveland, a Davies, y Llwyn, a'i wraig, a'u ddou fab, a'r ddou foy oedd wedi myn'd mewn atyn nhw, i gyd yn dod i step y drws.

"Hawyr bach!” mynte Davies, gan ddryched at gat yr hewl. "Beth yw'r ceffyl yco?"

"Ond y ngheffyl i yw e," mynte Cleveland. "Y ceffyl calla yn y shir."

"Ond beth mae e'n neud fanco," mynte Davies wed'yn.

"Ond fi gadaws e," mynte Cleveland wed'yn, heb sylwi fod y car un ochor i'r gat a'r ceffyl yr ochor arall.

"Chi tynsoch e mas o'r car ynte," mynte Davies.

"Naddo i," mynte Cleveland. "Netho i ddim ond dodi'r reins am y post."

"Wel, weles i ddim peth mor od ariod," mynte, Davies. "Fe allswn i dyngu fod y ceffyl yr ochor tu fewn a'r car yr ochor tu fas i'r gat."

"Dos dim shwd beth!” mynte Cleveland, a dyma fe off fel bollt at y gat, a'r lleill yn dilyn gam bwyll fach.

Erbyn dod at y gat, dyna beth welson nhw fel rwy'n gweyd wrtha chi, oedd y ceffyl yn y shaffts yn gwmws fel arfer, ond fod y car un ochor i'r gat a'r ceffyl yr ochor arall.

A dyna llee rcedd Cleveland a'i ben ar gam yn examino'r ceffyl, a'r car, a'r gat, felse fe'n dishgwl cael esboniad gan rheini shwd oedd y peth wedi digwydd.

Erbyn hyn dyma'r boys erill yn dechreu dod hibo, felse nhw ar ryw neges i fyn'd hibo i'r Llwyn, rhai o'r ochor hyn a rhai o'r ochor arall,


 

 


Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J6233c) (30
Medi 1899)



ac yn digwydd wrth shawns wel'd y ceffyl a'r car a'r dynion fan ny.

"Hawyr bach!” mynte pob un pan ddese fe atyn nhw. "Beth sy'n bod fan hyn?"

A Cleveland yn dryched mor ddoeth a doctor of divinity, ond ddim yn gweyd dim gair am spel.

Ond o'r diwedd wrth wel'd pawb yn dryched arno fe, felse nhw'n dishgwl rhwbeth orwtho fe, dyma fe'n gweyd: -

"Ry chi wedi clywed am Edison?"

"Y lighthouse mawr?" mynte un o'r boys yn ddifeddwl.

"Nage," mynte Cleveland, "Eddystone yw'r lighthouse. Edison wedes i."

"Oh, y dyfeisydd Americanaidd. Hwnw nath y telephone gynta," mynta un o'r boys erill.

"Ie," mynte Cleveland.
"

Wel, beth am dano fe?" mynte un o fechgyn y Llwyn. "Odi chi am hala i moyn e fel gallse fe esbonio shwd daeth y ceffyl drwy'r bwlch?"

Fe ddrychws Cleveland yn dosturiol arno fe.

"Nage!" mynte fe. "Ond rwy wedi dod i'r penderfyniad fod rhyw Edison os llawer dydd wedi marw, ac mai hwnw sy yma, nawr ar ffurf ceffyl."

Fe ddrychws pawb arno fe mewn syndod, a'r hen geffyl mwy na neb.

"Ry chi'n gwybod," mynte Cleveland wed'yn. "Mae rhai cenedloedd yn credu mewn trawssymudiad eneidiau, transmigration of souls. Hyny yw, nag yw'r enaid byth yn marw, ond pan fydd y corph bydd e'n byw yndo fe' yn marw fod yr enaid yn myn'd i ryw gorph arall, corph dyn neu gorph anifail, jest yn ol fel bydd e'n haeddu. Nawr os dim doubt gen i nad rhyw ddyfeisydd mawr fel Edison sy'n byw nawr yn nghorph y ceffyl yma, a'i fod e, tawn i yn ei ddeall e, yn cynnyg ffortiwn fawr i fi."

"Yn cynnyg ffortiwn i chi? Beth y chi'n feddwl?" mynte pawb.

"Wel fel hyn. Ry chi wedi gwel'd y puzzles yna sy genty nhw ar werth yn y ffeiriau. Shwd mai tynu dwy ring orwth eu gilydd, neu ddatod c'lwm cariad, neu beth fel ny."

Dyma bawb yn nodo.

"Wel, os dim doubt nad puzzle fel ny yw hwn, The Patent Horse, Gate, and Car Puzzle. Tawn i'n gallu ei neud e mas, a deall shwd daeth y ceffyl a'r shaffts drwy reils y llidiart, a shwd byse'n cael nhw nol, neu gael y car ar eu hol nhw, fe allswn neud puzzle wed'yn i'w werthu yn y ffeiriau fyse'n werth degau o filoedd o bunnau'r flwyddyn i fi. Ond shwd mae ei neud e, dyna'r peth!”

"Wel, Mr Cleveland," mynte Davies. "Mae'n ddrwg gen i orffod gweyd wrtho chi, ond alla i ddim godde i chi a' ch ceffyl a'ch car a'ch puzzle i geued yr hewl fel hyn. Dos dim lle i neb ddod at y ty."

"Ond trueni," mynte un o'r boys, "i Mr Cleveland beido cael shawns i weithio'r problem mas. Allwch chi ddim gadel iddo gymryd mentyg y llidiart am nosweth?"

"Oh, ie wir! Gnewch Davies, gnewch!” mynte pawb.

A fel ny buodd hi. Yn lle tynu'r ceffyl o'r shaffts - feddylws Cleveland ddim am hyny - fe godwd y llidiart oddar ei hinges, gan ei adel e'n hongan wrth shaffts y car; wed'yn fe facwd y ceffyl, a'r llidiart, a'r car, yn ol i ganol yr hewl i gael lle clir shag adre.

Fe aeth Cleveland i'r car, a dyma broseshon mawr yn myn'd ar hyd yr hewl, a thrwy'r dre. Cleveland mor falch a Jew ar ei focs, y boys jest bresto gan hwerthin a'r hen geffyl ai ben sha’r ddaear felse cwilydd arno ddryched yn ngwyneb neb.

(I’w barhau).


 

 


Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J6234a) (
7 Hydref 1899)

Papur Pawb. 7 Hydref 1899.

Sef Gofidiau'r Byd Presennol. [Cofnodwyd Gan y Cymydog Drws Nesa.]

PROFIAD XVII. - UN DYN CALL A PHAC O FFYLIAID.

Fel y gwedes i wrtha chi roedd yr hen ceffyl yn myn'd shag adre'r nosweth hyny a'i ben sha'r ddaear, yn gwmws felse fe a chwilydd arno wrth feddwl am y peth.

A dos dim rhyfedd!

Meddylwch am y ffwlcyn Cleveland, na fyse fe'n meddwl am dynu'r ceffyl o'r shaffts yn y fan'ny, a chael y car yn rhydd orwth y gat! Ond yn lle hyny, dyne beth nath e, fel own i'n gweyd wrtho chi, oedd tynu'r gat oddar ei hinges, a gadel iddi hongan ar y shaffts wrth grwper yr hen geffyl o flaen y driver.

Wrth gwrs, roedd pobpeth yn nobl pan oe nhw'ni myn'd lan dipyn bach o dyle, wath rodcL y ga.t, wrth gwrs, yn gwasgu nol yn erbyn y splashboard. A roedd hi'n go lew fach pan oem nhw ar dir gweddol o wastad. Ond pan ddechreuson nhw fyn'd lawr i'r rlww at y dre
chi wyddoch am dani
wrth gwrs, roeddl yr hen lidiart yn slipo mlaen, ac yn slipo'n mlaen o hyd ar grwper y ceffyl, ac onibai bod mwy O synwyr yn yr hen geffyl nag oedd yn ei fishtir fe fyse wedi cico'r cwbwl yn rhacs.

Erbyn hyn, wrth gwrs, roedd crowd mawr o bolbiol wedi dod yn nghyd i weled y show, jest, felse elephants Barnum a Bailey yn myn'd drwy'r lle.

A dim rhyfedd. Chi allwch wel'd elephants yn ddigon amal neno'r rheswm,, ond unwaith mewn oes y gwelwch chi sight fel hon; ceffyl adogear gentiel, a gwrbonheddig gentiel fel Cleveland yn dreifo, a llidiart clos yn hongan line
di-lonc ar fon y shaffts

Doedd e'n rhyfedd yn y byd fodl y crowd mawr wedi crynhoi. Pan welson nhw'r llidiart yn myn'd lwmp, lwwp, yn erbyn y ceffyl, dyma rhai o'r boys yn citsho yn y llidiart i'w ddala hi nol. Roedd hyny'n eitha right, ond fe aeth yn hware rhynty nhw a'r llidiart, ac yn hware go arw, a fel mae'r hen hweddel yn gweyd bod hware'n troi'n hwefw, fel'ny cas un o'r boys, ta beth, wel'd, wiath dyma'r hen geffyl wedi blino ar eU nonsens nhw yn hercyd cic naill ochor at un o'r rhai gwaetha ohonyn nhw, nes nag oedd dim hwant ar hwnw i hware wed'yn ar hast!

Pwy ryfedd fod yr hen geffyl, druan ag e, yn teimlo cwilydd ar ei galon am fod ei fishtir yn dangos ei hunan y fath ffwl, ac yn gwneyd ffwl o hano fynte hefyd fan'ny lle gwelse pawb?

Wel, ta beth, ptit dideiqpwycl at y ty, dyna lle roedd cynhal afnadw arall. Poiedd y llidiart oedd yn hongan ar fon shaffts y car yn fwy o hyd nag oedd lled bwlch y clos, a dyma hi'n full stop 11 arnyn nhw.

Fe fynse rhai o'r rhai calla ohonyn nhw berswado Cleveland i dynu'r ceffyl o'r shaffts fan'ny, ond dyma'r lleill yn gwrthwynebu, ac yn gweyd, "Naige nage Gadewch i Mr Cleveland gael ei ffo-rdd! Fe fentrwn ni ddaw e, mas ohoni yn right ei wala

A fe lyncws ynta.u druan ag e y cwbwl i gyd fel efengyl!

"Aroswch, fechgyn," mynte fe, a dyma fe lawr o'r car, a miwn i'r ty, gan ddod nol mewn mynyd a mesur fel mesur teiliwr gydag e, ond ei fod e gryn dipyn yn fwy o hyd.

We1 dyma fe'n mesur y llidiart, a'r shaffts, a. lled y bwlch, a phoibpeth, ac yn d'odii'r cwbwl l,awr ar damaid o bapur.

Wed'yn dyma fe nol i'r ty, a mas ag e wedyn

 

 

 


A close-up of a document

Description automatically generated with medium confidence

(delwedd J6234b) (
7 Hydref 1899)



a ruler a sheet o bapur gwyn arall gydag e, a dyma fe'n tynu lines ar y papur, gan fesur pob un yn ofalus wrth y tape.

"Mae'n all right, boys!" mynte fe. "Fe aiff mewn yn right ei wala!"

Dyma rhai o'r boys yn dechreu hwerthin, gan feddwl gwelsen nhw'r car yn cael ei dynu off orwth y shaffts, wrth fod y llidiart yn citsho yn y ddou bost.

Ond fe wyddwn i well. Gan ta faint o ffwl fyse Cleveland ar gefen ceffyl, neu tu ol i geffyl, o'i gymharua ni'r ffermwrs, fe wyddwn i'n eitha da ei fod e'n fishtir arno ni i gyd unwaith cese fe bensil a phapur yn ei law.

Ry chi'n gwel'd dos dim un ffwl yn ffwl i gyd, a ta faint o ffwl oedd Cleveland, nid ffwl oedd e pan ddechreuse fe gownto.

A fel rwy'n gweyd wrtho chi cownto buodd e am spel, hyd nes iddo foddloni ei hunan fod pobpeth yn all right.
A fe wyddwn, debygswn i, byse fe'n shiwr o gael y trecha ar y boys. Fel'ny dyma fi'n tori mas, ac yn gweyd: -

"Aroswch Cleveland!"

Dyma fe'n dryched arna i, a'r boys i gyd yn gneyd yr un peth.

"Nawr, boys," myntwn i. "Ry chi'n credu’ch bod chi'n rhai call anghyffredin debycse chi."

"Eitha right," mynte un ohonyn nhw.

"O'r goreu, ynte," myntwn i. "Pun o hono chi all hala'r ceffyl a'r car mewn drwy'r bwlch yna i'r clos fel mae nhw?"

"Heb dynu'r llidiart bant o dan y shaffts?" mynte un ohonyn nhw.

"Heb dynu'r pystion o'r ddaear?" mynte un arall.

"Ie," myntwn i. "Heb dynu'r llidiart oddar y shaffts na'r pystion o'u lle."

"Naiff neb e," mynte un.

"Ddim yn dragywydd!” mynte un arall. "Rwyt ti, Jimmy Tycoch, yn fachgen smart ymbeidus," myntwn i. "Rwyt ti'n meddwl mai ti yw'r driver goreu yn y part hyn o'r wlad."

"Dangoswch chi fy ngwell i, Mr Roberts," mynte fe.

"Dyco fe myntwn i, gan bointo'm bys at Cleveland.

Ar hyn dyma bawb yn hwerthin fel ffyliaid.

"Eitha da!" myntwn i. "Wel, fe roia i brawf arno chi nawr. Fe ro i sofren iti, Jimmy, neu i undyn arall yma ond Mr Cleveland, os gallwch chi neud beth wedes i."

Wel, nawr, dyw sofrens ddim i'w cael yn tyfu ar ochor y cloddiau bob dydd, o leia dy nhw ddim yn y part hyn o'r wlad ta beth y nhw yn rhywle arall.

Felny dyma Jimmy yn cymeryd amser i ystyried, a dyma fe'n towlu llygad ar y llidiart, ac yn towlu llygad ar y bwlch.

"Ga i fenthyg eich tape chi, Mr Cleveland?" mynte fe.

"Cewch, cewch," mynte hwnw, gan ei estyn e iddo.

Ond fe wyddwn i'n bran mai nid a'r tape yn ei law roedd man cryfa, Jimmy, Tycoch, ta beth allse fe neud a'r reins yn ei law. Felny rown i'n ddigon esmwyth y meddwl.

Wel, fe fesurodd Jimmy a fe gas fod y llidiart eitha troedfedd a hanner yn hwy na lled y bwlch.

"Na! Neiff e byth o hono!" mynte fe. "Dos dim dyn ar wyneb daear all ei neud e!”

"Beth fentri di?" myntwn i, wath rown i am roi lesn fach iddo fe a'r lleill oedd wedi gneud cymint o ffwl o Cleveland.

"Fentra mhen!" mynte fe.

"Twt! Mae hwnw'n wag a gwerth dim," myntwn i. "Fentri di hweugen?"

"Gna!" mynte fe, wedi ei


 

 


Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J6234c) (
7 Hydref 1899)



gynhyrfu wrth glywed y boys yn hwerthin am ben y'n joc fach i amboutu bod ei ben e'n wag.

"Eitha da!" myntwn i. "I lawr a'r arian!”

Wedi dodi'r arian lawr o'r ddwy ochor, dyma fi'n gweyd wed'yn.

"Os yma ryw un arall licith enill hanner sofren? Fe fentra i hweugen arall, a phwy bynag fynoch chi, a sawl fynoch, a faint fynoch chi, y gneiff Cleveland e, a hyny heb ddod lawr oddiar y set."

Wel, os dy chi yn y fan yna, fe geso ugain ohonyn nhw i fentro hweuganau, - rhai yn clwbo dou neu dri neu bedwar gyda'u giddyl i gael gneyd y hweugen fyny, wath roedd pawb ohenyn nhw'n credu os na allse Jimmy Tycoch ddreifo drwy'r bwlch na nese Cleveland ddim ohono fe yn dragywydd.

Ond rown i'n credu y gnesefe ar ol iddo fe gownto a mesur ar y papur. Ond chi gewch wbod yr wthnos nesa shwd y buodd hi.

(I'w barhau.)

 

 


A picture containing text, newspaper

Description automatically generated
(delwedd J6235a) (14
Hydref 1899)

Papur Pawb. 14 Hydref 1899.

Sef Gofidiau'r Byd Presennol. [Cofnodwyd Gan y Cymydog Drws Nesa.]

PROFIAD XVIII. - DOU DDYN CALL A CHEFFYL. - HEN HWEDDEL DDIM YN WIR.

Wrth gwrs, wyddwn i yn y byd shwd oedd Cleveland yn mynd i neyd y job. Ond fe wyddwn ddou beth pwysicach na hyny.

Y peth cynta wyddwn i oedd, fel y gwedes i, ta faint o ffwl oedd Cleveland mewn pethau ereill, nag oedd e' ddim yn ffwl pan gese fe bapur a phensil a ffigyrs o'i flaen. Welas i ddim neb ariod all'se neyd gwell na chwicach gwaith gyda, rheiny nag a all'se fe. A fe wyddwn, debygswn i, ei fod e'n shiwr o fod yn all right ar ol iddo fe witho'r ffigyrs ma's mewn du a gwyn ar y papur.

Ond dyna lle 'roedd y boys erill i gyd yn ei cholli hi. Roe nhw'n barnu Cleveland, welwch chi, wrth ei nonsens e' gyda'r hen fuwch, a chyda'r ceffyl, a chyda'r llidiart, heb ystyried gall'se fe fod yn ddigon call mewn pethau erill.

Nawr, dos dim rhaid fod pob hen hweddel yn wir am ei bod hi'n hen hweddel. ’Doedd dim o’r hen bobol slawer dydd slawer dydd yn gwbod y cwbwl chwaith. Fe all'sech feddwl wrth glywed ambell i un yn sharad fod pob doethineb ar wyneb daear yn mhenau'r hen bobol slawer dydd. Ond dyw gweyd peth felny ddim ond nonsens. Tae dynon ddim ond ystyried am funed, fe welsen na all'se hyny byth a bod. A fe weda chi pa'm.

Os dodd yr hen bobol slawer dydd slawer dydd mor gall a mae rhai dynon yn gweyd eu bod nhw, shwd na fysen nhw wedi mynu cael pethau'n wahanol? Shwd na fysen nhw wedi mynid y train yn lle'r hen wagens oedd gyda nhw'n myn'd i Lunden a manau ereill? A shwd na fynsen nhw'r teligraff a'r teliffon, a phethau felny yn nghynt?

Na! na! Credwch chi fi, ’doedd ddim mo'r hen bobol slawer dydd yn gwbod y cwbwl chwaith, - ne nid yn ein dyddiau ni byse'r holl ddarganfyddiadau hyn wedi cael eu gwneyd.

A doe nhw ddim chwaith yn anffaeledig yn eu syniadau am ddynon erill. Tae chi ddim ond gwrando ar ambell un, fe fyse'n ddigon i neyd i chi gredu fod pawb o'r hen bobol slawer dydd fel y Pab ei hunan, yn anffaeledig.
Yn ’y marn i, mae un Pab arr y tro yn llawn ddigon heb gael dwsen neu ragor yn mhob plwyf!

A nawr, dyna'r hen hweddel o'wn i'n hala ati sy'n profi'n ddigon plaen nag oe nhw ddim nag yn hollwybodol nac yn anffaeledig.

"Ffol mewn un peth, ffol yn mhobpeth."

Dyna beth oedd yr hen bobol yn ei weyd, ac yn ei gredu, -
ond roe nhw'n camsyned.

Fe weles i lawer dyn oedd yn ddigon o ffwlcyn mewn llawer o bethau, ond dewch chi i ben ffair neu farchnad gydag e', a fe'ch pryn'se a fe'ch gwerth'se chi dan eich trwyn ddwsen o weithe'r un diwarnod

A fe weles i ambell i ferch all'sech feddwl nag oedd dim byd yn ei phen hi, - ond fe all'se droi'r dyn calla weles i ’rioed round i'w bys bach pryd y myn'se hi.

Na! na! Camsyned oe nhw wrth weyd "Ffol yn un peth, ffol yn mhobpeth."

A 'roedd Cleveland yn ddigon i brofi hyny - a fe brofws hyny hware teg iddo fe y diwarnod hyny. Fe wyddwn i yn eitha da, nag oedd e' ddim yn ffwl yn mhobpeth. Ond wydden nhw ddim mo hyny, - a felny, ro'wn i'n teimlo'n go shiwr o'n hweugeinau, er, fel y gwedes i ishws, na wyddwn i ddim yn y byd mawr shwd oedd


 

 


Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J6235b) (14
Hydref 1899)



e'n myn'd i hala llidiart deuddeg troedfedd mewn trwy fwlch deg troedfedd.

Wel, y peth arall oedd yn gneyd i fi deimlo'n go shiwr o mhoint oedd, mai yr hen geffyloedd yn y shaffts.

Fe wyddwn fod gan yr hen geffyl olwg afnadw ar ei fishtir er cyment o ffwl oedd e'.

A dyna chi brawf arall fod yr hen bobol slawer dydd yn ei cholli hi weithe. A fe weda chi pa'm.

"Tebyg i ddyn fydd ei lwdwn," mydde'r hen hweddel, ontawe?

Wel, fuodd dim dwlach dyn na Cleveland, am wn i, ar wyneb daear ariod - a fuodd dim callach ceffyl na cheffyl Cleveland rhwng shaffts neu dan gyfrw ariod, fel rw i wedi dangos i chi ishws. Tae yr hen Barnum wedi cael gafel yn ngheffyl Cleveland, fe fyse son am dano fe - y ceffyl rwy'n feddwl, nid Cleveland,
drwy'r byd i gyd. A dyna chi ddangos mai nid tebyg i ddyn fydd ei lwdwn bob amser.

Wel, ta beth, i fi gael wado mla'n a'r hanes, fe wyddwn i fod yr hen geffyl yn gallach na'i fishtir, ac wrth ystyried hyny, ac ystyried, hefyd, fod Cleveland yn eitha fishtir ar ei fater, os gell'sid ei witho fe mewn ffigyrs, ro’wn i'n teimlo'n hunan mor esmwyth am yr ugain hweugain hyny a phe byse nhw yn ’y mhoced i ishws.

Wel, os dy chi yn y fan yna, fe all'swn gym'ryd y'n llw i'r hen geffyl winco arna i pan fentres i'r hweugen gynta' a Jimmy Tycoch; ac os gall'se ceffyl hwerthin, fe fyse wedi hwerthin dros yr holl le pan geso i ugain i fentro pob o hweugain.

Welsoch chi ’rioed gyment o altrath mewn golwg anifel ag oedd yn hwn rhwng pan oedd e'n dod lawr drwy'r crowd a'r hen lidiart linc-lonc wrth ei gwt e', a nawr pan oedd Cleveland yn myn'd i hala fe a llidiart deuddeg troedfedd tu ol iddo fe drwy fwlch deg troedfedd.

All'sech chi ddim meddwl mae'r un ceffyl oedd e'. ’Roedd e' wedi bod a'i ben sha'r llawr fel'se arno fe g'wilydd dryched yn ngwyneb neb, ond nawr dyma fe a'i ben i'r lan, a'i gluste i'r lan, ac yn dryched fel ebol teirblwydd.

Wel, pan weles i ’rhen geffyl yn dryched felny, ro'wn i'n shiwrach nag ariod, welwch chi, mod i'n all right am gael y'n arian yn ol, a thipyn bach go lew gyda nhw.

"Nawr, boys, hewl!" myntwn i, wedi gwel'd nag oedd neb arall a hweugen i fentro, a bod Cleveland a'r ceffyl yn barod.

"Ga i dynu gat y clos bant, Cleveland?" myntwn i.

"Na!" mynte Jimmy Tycoch. "Dos dim lle i neyd hyny! Mae'r cwbwl i fod fel y mae e'!”

"Gad dy lap, y ffwl" myntwn i. "Mae'r pystion i fod fel mae nhw, ond fe alla i dynu'r gat bant, os lica i."

T'ra bues i'n dadle a Jimmy, ’roedd Cleveland yn dryched wed'yn ar ei bapur.

"Mae'n all right, Mr Roberts," mynte fe.

"Gadewch y gat yn llonydd, ond agorwch hi led y pen, dyna i gyd."


 

 


Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J6235c) (14
Hydref 1899)



Felny, fe agorwd y gat led y pen.

Wed'yn, dyma Cleveland yn baco'r ceffyl a'r car yn ol, a'r hen geffyl yn ufuddhau, fe'se fe'r deall yn gwmws.

Wel, wedi baco nol gwpwl o latheidi, dyma Cleveland yn gweyd:

“Gee up-"

Ond yn lle hala’n gwmws at ganol y bwlch, dyma fe'n cyfeirio'r ceffyl a'r car ar letgros nes cael un pen i'r llidiart oedd yn hongan ar y shaffts mewn hibo i'r post derbyn.

"Wo!" mynte fe.

Ond ’doedd dim ishe gweyd, ’roedd yr hen geffyl yn deall yn nobl.

Dyma'r ceffyl yn symud gambwyll fach, nes cael wheel y car yr ochor hyny, jest ar bwys post gat y clos, a’r pen hyny i’r llidiart erbyn hyn yr ochor tufewn, ac yn ymestyn rhyw ddwy drodfedd dda heibo i'r post.

"All right! Come up!" mynte Cleveland, pan welws e' fod y pen arall i'r llidiart yn glir o bost arall y gat.

A dyma'r hen gel yn pranco fel ebol, a mewn ag e' fel bollt i ganol y clos heb i'r llidiart gyment a thwtshed un or ddou bost!

Ond ’roedd yn ormod o shom i'r boys i glapo neu waeddi hwre, fel bysen nhw'n gneyd onibai fod yr ugain hanner-sofren yn gwasgu ar eu calon nnw. Ond fe netho i fyny am eu dishtawrwydd nhw, fel gallwch chi wbod.

"Well done Cleveland,” myntwn i. "A well done yr hen geffyl!" a dyma fi yn ei gamol e', a'r hen geffyl yn rhwto ’i drwyn yn yn ysgwdd i yn gwmws fel'se fe'n deall - a ’roedd e' hefyd, os dim dowt!

"Nawr, Cleveland!" myntwn i. "Lawr a chi, a dewch i ni gael tynu'r ceffyl o'r shaffts, a rhoi eitha ffid o gyrch iddo fe!" A dyma fi'n dechreu tynu'r ceffyl yn rhydd. Ond dyma Cleveland yn neido o'r car i'n stopo i.

"Pidwch!" mynte fe.

"Be' sy' ar y dyn?" myntwn i.

"Wel," mynte fe. "Fe gaiff y ceffyl ffid o gyrch. Ond thyna i ddim mohano fe o'r shaffts. Fe a'th drwy'r barau rywffordd o'r blaen, a mae e'n ddigon call i ddod ma's yto. Gadewch iddo hyd y boreu, a fe fentra, i bydd e'n rhydd o'r shaffts!”

A gwir y wedws e'!

Fe ballws y ceffyl a thwtsh y ffid gyrch, - ond fe dorws ei galon wrth wel'd ei fishtir mor ddwl.

Pan godws Cleveland boreu tranoeth, gan ddishgwl gwel'd y ceffyl yn rhydd, ’roedd y ceffyl, druan, wedi marw o gywilydd yn y shaffts, a'r hen lidiart ar fon y shaffts yn ei ddala fe i'r lan wedi iddo drigo!

(I'w barhau.)

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J6236a) (21 Hydref 1899)

Papur Pawb. 21 Hydref 1899.

PROFIAD PAR IFANC Sef Gofidiau'r Byd Presennol. [Cofnodwyd Gan y Cymydog Drws Nesa.]

PROFIAD OLAF. - DIWEDD CLEVELAND

Wel, myn'd o ddrwg i wath nath teulu drws nesaf ar ol yr anhap i'r ceffyl. Dos dim un dowt yn y byd nad tori ei galon nath y ceffyl bach, druan ag e A ’doedd. dim llawer i weyd wrtho fe chwaith, hware teg iddo! Meddyliwch am deimladau ceffyl respectabl wedi cael ei neyd yn destyn sport yr holl ardal fel ca's e', poor thing! Tawn i'n geffyl y'n hunan, fyswn i ddim gwell nag ynte, am wn i; chodswn i byth mo mhen, rwy'n siwr o hyny!

Wn i ddim a allwch chi esbonio ne bido, ond alla i ddim ta beth, shwd ’roedd hi'n digwydd fod dynon mor gall a phobol drws nesa' yn gallu gneyd y fath lol. Wath, cofiwch chi, nid rhyw rhai hanner call a dwl oe nhw. Oh, nage! Pidwch chi a chamsyned! ’Roedd Mrs Cleveland yn fenyw fach mor gall a welsoch chi ariod yn mhobpeth ond cadw ty; mewn pethau yn perthyn i'r ty, ’roedd hi'n fapa perffaith, dos yna ddim un gair arall am dani. Ac am Cleveland ei hunan, yn ei fusnes ei hunan ’doedd dim o'i drech e' i ga'l yn yr holl gwmpasodd. Fe fentrwn i e' o flaen neb, ond iddo gael papur a phensil, neu ben ag inc. Weles i ddim shwd law ar ffigiwrs ariod yn ’y mywyd! Unrhyw beth mewn ffordd o gownto, dewch ati oedd hi gydag e', weles i neb all'se ’i dwtshid e' o gwbwl fan ’ny.

Ond pan ddese chi wed'yn at bethau cyffredin bywyd, ’roedd hi ar ben arno fe. Wydde fe ddim mwy na phlentyn newydd eni
os gwydde fe gyment.

Chi wyddoch fod yna adnod yn y Beibl yn son am rywbeth sy'n llai na dim, a mae nhw'n gweyd wrtha i fod yr ysgolion sy'n dysgu Algebra a rhyw fflwcs felny, eu bod nhw nawr yn dysgu'r ffordd i neyd sums a ffigyrs sy'n llai na dim, ac yn eu galw nhw yn "x meinus," a "negative quantity," a rhyw enwau dierth fclna. Wrth gwrs, wn i ddim byd am bethau felny, ond fe all’swn i feddwl mai "x meinus" fyse'r ffigwr right i ddangos synwyr cyffredin Cleveland mewn pethau tu fa's iddi fusnes e' ’i hunan. O leia', llai na dim weles i o'r synwyr hyny gydag e' ariod.

Ac fel ro'wn i'n gweyd wrtho chi, fe a'th o ddrwg i wath, ar ol i'r hen geffyl drigo. Fel gwyddoch chi, tra buodd y ceffyl byw, ’roedd synwyr y ceffyl yn cadw dwli'r mishtir rhag dod yn rhy blaen i'r golwg. Fe fuodd synwyr y ceffyl yn drech na dwli'r mishtir fwy nag unwaith, ond yn mater y llidiart, fe a'th Cleveland rhagddo, a, fe ddishtriws y cawl i gyd, a fe dorws yr hen geffyl ’i galon, ac fe drigws, a dyna ddiwedd arno!

Nawr, dw i ddim yn gwbod, f'allech bod chi, beth oedd yn peri fod dyn dysgedig fel Cleveland yn myn'd mor ddwl pan byse fe'n myn'd tu fa's iddi fusnes ei hunan. Rw i wedi bod yn meddwl f'alle mai o achos ei fod e' wedi cael ei gyfyngu yn ormodol at ryw un peth, a dim wedi cael ei arfer i ddryched ar ddim byd tu fa's i hyny.

Fel hyn, nawr. Mae nhw'n gweyd wrtha i fod yn yr India sort o grefyddwyr sy'n credu eu bod nnw'n gwasanaethu Duw wrth gym'ryd llw i neillduo rhyw un aelod o'r corph oddiwrth bobpeth daearol. Mae un ohonyn' nhw, gwedwch, yn, dala ei law uwch ei ben, ac yn cadw'r fraich yn y shap hyny ddydd a nos heb ci chyffro hi, nes bo'I fraich o'r diwedd yn tyfu yn y shap hyny, a nag yw hi ddim


 

A close-up of a document

Description automatically generated with medium confidence
(delwedd J6236b) (21 Hydref 1899)



ffit at ddim byd arall. Nawr, tae chi'n yn ’y nodi i neu chi i ddala'n braich felny, all'sen ni ddim ei dala, am awr, chwaethach blwyddyn. Ond wed'yn, tae chi'n dodi'r dyn hyny i neyd rhyw waith cyffredin a'r fraich hyny, all’se fe ddim, dim mwy na phlentyn newydd eni. Ac am wn i, dyna'r ffordd debyca i esbonio pa'm 'roedd Cleveland mor gall gyda ffigyrs, a mor ddwl gyda phobpeth arall. ’Roedd ’i fenydd e' wedi cael ei dodi i witho wrth ddim ond un peth, nes nag oedd e' ddim yn ffit i witho at ddim byd arall o gwbl.

Ond ta beth, fel ro'wn i'n gweyd wrtho chi, fe a'th o ddrwg i wa'th ar ol claddu'r ceffyl. ’Roedd e'n gneyd ei waith pan wrth ei waith gystal ag ariod. Ond tu fa's i hyny - wfft iddo.

’Roedd hi'n ddigon o farn i chi gwrdd ag e' ar yr hewl, hyny yw, os byse chi yn gadel iddo dori p'le a chi, fe'ch cad'se chi yno am awr yn hwalu'r dwli mwya' fu ariod - ac eto, all'sech chi yn eich byw a dodi'ch bys ar un point yn y peth oedd e'n weyd, a dangos fod hwnw yn rong. Fe fyse'n citsho yndo chi wrth fwtwn eich cot, ac yn declaro'r peth mwya' rhyfedd a welsoch chi eriod! A phan byse fe wrthi, ’roedd e'n anghofio pobpeth arall amboutu iddo fe.

Rwy'n cofio nobl un dydd marchnad yn Llandilo iddo fe gitsho felny yn bwtwn 'y nghot i, a finnau a thipyn o hast arna i, a ddim yn lico gneyd iddo ellwng ’i afael. Wel, beth nes i wrth wel'd ei fod e' wedi colli pob gwybodaeth am bobpeth ond y p'le oedd gydag e', ond fe dynes y nghyllell ma's o mhoeed, a fe dores 'y bwtwn bant, gan ei adel yn ei law e', a bant a fi, gan feddwl, wrth gwrs, y gwel'se fe yn y funed ’y mod i wedi myn'd. Ond ta beth, ro'wn i'n dod nol hibo i'r fan ’ny mhen amboutu awr neu rhywbeth felny, ac os dy chi yn y fan yna, dyna lle ’roedd Cleveland a'r bwtwn rhwng ei fys a'i fawd, ac yn dala i ddeclaro yn gwmws fel ’roedd e' pan gadawes i e'! Wydde fe ddim tipyn llai nag o'wn i fan ’ny gydag e’ ar hyd yr amser!

’Run fath oedd e' gyda phawb. Pan byse fe ma's am wac gyda’i wraig, 'doedd e'n sylwi ar ddim yn y byd.

Fe hwariws hithau un tric bach anghyffredin ag e' unwaith, gan obeithio byse hi'n gallu ei dori e' o'r hen arferiad anghofus.

Roe nhw ma's am wac y'ch dou un prydnawn, - hi yn cydio yn ei fraich e', wrth gwrs, ac ynte yn declaro, fel arfer holl ddoethineb Solomon wrthi. ’Roedd hi, hware teg iddi, wedi gneyd eitha batl i drio para i gredu yndo fe o hyd, ond ’roedd yn ddigon o farn arni, poor thing, i orffod gwrando o hyd yn ddiddiwedd ar ei areithiau fe ar bob testyn dan haul. Wath ry' chi'n gwel'd, 'roedd e'n dala i gredu o hyd ei fod e'n gallach na phawb, ac nag oedd dim un pwnc ar wyneb daear na all'se fe rhoi mwy o oleuni arno fe na neb arall. A dyna beth oedd wedi ei ddishtriwo fe eriod. ’Doedd dim use i neb gynnyg ei argyhoeddi e', na phledo ag e', ’roeddi e'n gwbod yn well na phawb ar bob testyn a phwnc ar wyneb daear.

A meddyliwch chi nawr am fywyd y fenyw fach yn gorffod byw gyda'r fath ddyn, a hyny ddydd a nos o ddechreu'r flwyddyn i'w diwedd hi! Ond hware teg iddi, fe nath hi ei rhan gydag e' i'r diwedd. Os ’doedd hi wedi dod i amheu ai fe oedd y dyn calla yn y byd ai pido, ’doedd dim ohoni wedi dangos llai iddo fe nag i neb arall nag oedd hi yn credu hyny o hyd.

Ond fel ro'wn i'n gweyd wrtho chi ran y tric hwariws hi ag e'. Dyma shwd ’roedd hi. Roe nhw ma's gyda’u giddyl un prydinawn am wac, a hi yn citsho yn ei fraich e'. Pan oe nhw yn dod nol, ac o fewn gwaith rhyw bum' mynyd i'r ty, beth nath hi ond tynu eillaw o'i fraich e', a slipo'n ddishtaw bach ar hyd llwybr oedd yn arwain at gefen y ty, a bant a hi nes cyrhaedd


 

 

A close-up of a document

Description automatically generated with medium confidence
(delwedd J6236c) (21 Hydref 1899)



y ty o'i flaen e’.
A ma's a hi wed'yn at gat y ffrynt i'w gwrdd e. A gyda'i bod hi yno, dyna lle clywse hi'r p'le mawr, a Cleveland yn gweyd yn fan ac yn amal.

Fe gredws hi ar y cynta' fod rhyw gwmpni gydag e'. Ond pan ddaeth e' i'r golwg, fe welws nag oedd yno neb ond fe a'i hunan! 'Roedd ei fraich hwith e' ar gam fel'se hi'n citsho yndy o hyd, ac ynte'n sharad yn gwmws fel’se hi gydag e'.

’Roedd y gat yn nghau, a hithau'r ochor tufewn, ac ynte'r ochor tu fa's.

Gyda'i fod e'n rhoi ei law ar y gat i'w hagor hi, dyma'r wraig yn gweyd wrtho fe:

"Claude! B'le buoch chi?"

Dyma fe'n sefyll, ac yn dryched yn hurt right. Yn dryched arni hi yr ochor tu fewn, ac arno'i hunan yr ochor tu fa's, ac ar y gat yn nghau rhyngty nhw - ac yn ffeilu a deall shwd wr drwg oedd hi wedi gallu myn'd tu-fewn i'r gat tra ’roedd ynte tu fa's.

Fe halws e' drwy'r nos y nosweth hyny yn treio esbonio iddo'i hunan shwd gall'se'r wraig fod wedi myn'd yr ochor tufewn i'r gat, a hithau'n nghau!

Pan wedws i'r stori wrtha i tranoeth, fe ddetho i i'r penderfyniaid fod rhaid fod ryw shink arno' fe, ond do'wn i ddim yn lico gweyd hyny wrthi hi chwaith, er i fi dreio hinto o bell hefyd.

Tranoeth, neu ail tranoeth i hyny, fe ddigwyddws peth gwaeth fyth. ’Roedd morwm newydd wedi dod atyn' nhw y bore hyny, ac heb wel'd ei mishtir, ac ynte heb ei gwel'd hithau.

Wel, pan dda'th e' gatre' yn y prydnawn, a chanu'r gloch, y forwn newydd dda'th i'r drws. Pan welws Cleveland hi yn sefyll yn y passage, yn lle symud iddo fe gatel myn'd mewn, fe gredws ei fod e' wedi camsyned y ty, gan fod ei gwyneb hi yn ddierth iddo fe.

"Esgusodwch fi," mynte fe. "Ai dyma lle mae Mr Cleveland yn byw?"

"Ie, shiwr," mynte hithau, ond ddim yn symud wed'yn.

"Ody - ody Mr Cleveland mewn?” mynte fe wed'yn,

"Nag yw," mynte hithau.

"Oh! well," mynte fe, "fe alwa i rywbryd eto.”

A bant ag e’, a fe fuws yn cered yr hewl am oriau hyd nes i'r wraig fyn'd i dryched am dano, a gneyd iddo fyn'd sha’r ty gyda hi.

Fe welws hithau, erbyn hyn, fod rhywbeth yn bound o fod ma's o le, a fe fynws ddoctor i wel'd e'.

A'r diwedd fu iddo gael ei hala i'r asylum i Gaerfyrddin, poor fellow, a dyna lle mae e’, myddan nhw, a phapur a phensil o foreu tan nos yn treio gwitho ma's shwd gall'se ceffyl a shaftts car fyn'd trwy farau llidiart, a shwd gall’se menyw pan yn citsho yn mraich ei gwr fyn’d tufewn i gat oedd ar gau, tra, ’roedd yntau yn aros y tu fa's!

Mae’r wraig yn awr, wrth orfod byw arni ei hunan, wedi dod yn gystal menyw fach, i gadw ty a all'sech chi byth ddymuno. Ond trueni ymbeidus na fyse hi wedi cael ei dysgu hyny pan, yn groten,
 - fe fyse'n llawer gwell iddi na llawer o'r hen fflwcs ddysgwyd iddi yn yr ysgol.

Ac am dano ynte, druan ag e'!

Mindwch chithau na chym'rwch chi ch llyncu i fyny gan ryw un peth nes anghofio pobpeth arall.

[Y DIWEDD.]


 

 

 



------------------------------------------------------------------------------

Sumbolau: ā ǣ ē ī ō ū / ˡ ɑ æ ɛ ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː æː eː iː oː uː / ɥ / ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / ә ʌ ŵ ŷ ẃ

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_133_profiad-par-ifanc_0219k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 02-07-2017
Adolygiad diweddaraf : 02-07-2017
Delweddau:

Ffynhonnell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
. Papurau Newydd Arlein.
---------------------------------------
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu wsitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are wsiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Wellz-Katəlóuniə) Wébsait


Adran y Wenhwyseg / Secció del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
Edrychiadau ar y tudalennau / Vistes de les pàgines / Page Views
Web Analytics Made Easy -
StatCounter
Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres Estadístiques / View Our Stats
…..