kimkat0210k Llith Wil Tilwr o Glytach. Y Darian.

19-06-2017
 
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ●
kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat0204k Y tudalen hwn

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..
 
 
 
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
Llith Wil Tilwr o Glytach.
(Y Darian).


 

 


(delwedd 7282)

 

...

 

 

 

None

(delwedd 5616)

 

20 Ebrill 1916. Y Darian.

 

Llith Wil Tilwr o Glytach.

Bore dydd Gwener fe alws Motrib Nansen o Drebannos ta fi yn y Mrivat House, Llwyn y Delyn, Fardre Road, Clytach, yn holu am got y Parchedig Methusalah Jones. W i am i'r cwstwmers i gofio o hyn i mas taw nid y fi bia y shop, a nid fi iw y maniger ed, ond Llewelyn faclog y bardd, ac iddo fe ma'r oll orders a'r correspondence yn syposo i find, sef i Pemgwern Road, Telephone No. iw No. 2 X 48 eleventy eleven. Ma groeso i Motrib Nansen ne Newirth Dafydd i alw ta ni yn y ty, ond w i am iddi nhw i gofio nag os dim tafod i fod. Hen fenyw nice iawn iw Motrib Nansen, a chymrid hi trwyddi draw, w i'n cal lawer clec fach ta i, a  falla tawn i'n gweid taw hi yw y “General Reporter,” falle na swn i ddim o'n lle. Wel, beth bynnag hi alws ta fi'n y ty, a odd i'n gweid fod bysnes y llath yn twimo yn Nghanolbarth Cwmtawe, a bod hi'n onfi ta llath wedi i ferwi se'n i'n gal heb fod yn hir. Odd i'n gweid fod yn well ta hi a Dafydd gal quart y dydd o lath, a'i fod e'n chepach ed na chwart o ddwr oddar y sog, ac yn well ed, ond iddi nhw gal y llath reit. Odd i'n gweid fod Dafydd nhw yn barod i glapo cefen Myfyr Egel am i englin i'r gwerthwr llath, ond nag odd e ddim wedi gweid pob peth, a wara teg i'r Myfyr, all a ddim rhoi hanes y gwerthwr llath a'i dricsis i gid mwn un englin, a fe nath englin i unan, a fe alws e lawr i fi i ofin barn Llewelin faclog arno, a pan ddangosis i e, oin i'n gweld cron y Llew yn cyrnoi at i giddil, a'i wimed e'n dio ag yn gwynnu am yn ail, a oin i'n ffili diall beth odd y mater, odde'n ddicon i ala dyn i greti fod blac and weit yn yr englin, a bod rini yn shino ar i wimad e am yn ail fel ni; ond lled depig taw'n gros iddi farn e odd a. Mae tipyn o'r ffermwr yn y Llew, came mawr wrth y llath, crwmp gweddol, ac yn bacli ac yn catw i drwyn ymhell o'i flan e'i hunan wrth fynd trw'r twydd.

 

Wel, er mwyn darllenwrs y “Darian,” mi roia i'r englin lawr fan hyn, falle fod e dipyn yn spitelid ed:

 

“Llaeth glas a chân i'r rhan rydd - dod a iwd

Oer iw hin 'trashwerthydd,'

Am wn i main i ’menydd

Pawb, yw dwr a iwd pob dydd.”

 

Wel, ymhen cetin bach, dyma'r hen Nansen yn tynnu papur arath mas o'i best, ac yn gweid, “Dishgwilwch, Wil- liam, dyma englin arath nath Dafydd i'r Ffermwr,” a dw i ddim wedi dangos hwn i'r Llew, wath, “one dose at a time” sy'n ateb iddo fe, ’run peth a fine; a nawr odd yr hen Nansen yn dachre llanw o wynt achos bod Dafydd yn gneud englinion, ac ar y ffordd i ddod yn fardd o fri pan odd a a'i drad ar ymil y dwr. Gan fod yr hen Nansen wedi roid e i fi, mi roi a ine fe miwn fan hyn, a fe ga'r Llew i blingo fe pan ga fe amser a hwyl.

 

“Segurwyr sy a'u gwarau - yn egwan

Gan ddiogi eu dyddiau;

Adre a hwynt am dro i hau

Ac aredig i'w rheidiau.”

 

A i chi'n gweld mae Dafydd yn gweyd yr un peth a ma'r landlord a'r militari authorities yn weid, am iddi nhw witho a drin y tir, ac nid ishta mwn tafarna a chatw crots ifanc di gefan i labro am brish Chinaman. A rodd Dafydd wedi gneud englin arath ed. Odd e am i wipo nhw nes bo'r giwed yn acor i lliced yn reit, ac i witho a dod yn depig i ddynon.

 

 

 

....

 

------------------------------------------------------------------------------

Sumbolau: ā ǣ ē ī ō ū / ˡ ɑ ć ɛ ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː ćː eː iː oː uː / ɥ / đ ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / ә ʌ ŵ ŷ ẃ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_130_llith-wil-tilwr-o-glytach_0210k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 11-06-2017
Adolygiad diweddaraf : 11-06-2017
Delweddau: 
---------------------------------------
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu wsitant una pŕgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are wsiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait