kimkat0361k Clywedion Dyffryn Dâr. Aberdare Leader. 1917.

09-01-2023 





    .....

Gweler hefyd / Vegeu també / See also:

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..
 
 
 
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
Clywedion Dyffryn Dâr. 1917.
(Aberdare Leader).




 

 


(delwedd 7282)

 

J7585_191007_16-06-1917_aberdare-leader_clywedion
.....
03 Tachwedd 1917
.....
22 Rhagfyr 1917

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd 6192a)(03 Tachwedd 1917)

Aberdare Leader
3 Tachwedd 1917

CLYWEDION DYFFRYN DAR.

Fod y Profiteers wedi doti notis mas fel hyn: —"Missing, Man (?) called Packman Newydd (his real name is John Jones); age about 34; black spot on nose; flat feet; nose tainted red through imbibing cwrw fresh; speaks English with Cardi accent; last seen in Penderyn on or about the 10th of October.
£100 reward offered for his carcase, body, or soul. — Signed, Moneybags, Chief Profiteer, 1 Golden Mansions, Radium Square, Aberdare."

Fod Mari Heoldena yn gwed fod y te wedi mynd lan dwpwl, menyn just trwbwl, llath trwbwl, jam petar dwpwl, ham a wyau petar dwpwl, a phob asgwrn o beth, hyd yn nod os nad os handle gyta fa, cuwch a stack gwaith bricks y Gatlys! Dim ond un peth sy'n chep. mydda hi, a hyny yw - "cheek”  y Proffiteers anwl, sy'n gwynepu rhyfal ac anga gyta gwen! Stim rhyfadd fod Twm Shirgar mwn shwd hwyl yn y Labar Parlamant pwy noswath, ac yn canu yn y Lobby (tufas i Room No. 3), "O na bawn ni'n filiynare, uwch pob dyn yn Aberdare!" Fel gwetws Cromwell, “Yn y bardd y mae barddoniath, nid yn i frawd, i gendar, na'i bartnar."

Fod bill Shani Pentrip yn shop y grosar yn wilfull - fel hyn. –

£. s. d.
War Tea, 21bs 0 10 0
Bar of Soap 0 2 6
Peppar 0 1 0
Mwstard 0 0 8
Tartwrs 0 5 0
Bread (brown) 0 7 6
Cig Moch 0 4 6
Jam & Milade 0 2 6
Butter & Lard 1 1 0
Shwgar & Sand 0 2 6 Specials,
emcetra 0 10 6

£18 19 11¾

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd 6192b)(03 Tachwedd 1917)


Wedi iddi gal recaite, fe ath Shani lawr gyta'r tram i byrnu fflagon i gladdu'i gofitia, a fe ath y grosar just rhy dew  i werthin. Fel gwetws Mabonwyson, "Money makes the mare to go, whether you are high or low!"

Fod y Comintroller yn rhy wan i nithir i jobin, a bod isha gwad cryfach nag o acha Yscuborwen i gwrdd a'r bleiddiaid proffidamyddol sy'n sailo mwn airships arian ac aur.

Fod erill yn gwed pe bysa i sowdjwr ddod sha thre o Flanders ne Flambooshka i drio byw ar i Army Pay heddy, bysa fa'n inmate o'r Royal Mansion in Merthyr at the ratepayers' expense cyn pen mish!

Fod pawb yn dishgwl lan at y ser a'r nefoedd am oleuni ac arweiniad; ond dyna'r demskin oge, ma'r crabbinwrs cribddeilog yn citsho yn 'u poceti nhw, ac yn arllws 'u pwrsa nhw'n llwyr a digonshans, fel gwetws Cymbwlet,

"All Profiteers should be at rest
Among the angels and the blest."
Chorus - Amen.

Fod petha pwysig digynig wedi cymryd lie yn y dyffryn yr wthnos ddiwethaf - wrestling matches, cwrdda mawr, cwrw bach (a bach digynig ed), mass meetins, speeches mawr, war speeches, testimonial meetins, and last but not lost jug & bottle meetins, combined with mothers' meetins, a rhwng yr holl feetins bydd yn dight ofnadw ar list hen gownt y

PACKMAN NEWYDD.


 

xxxxx

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd 5648a) (22 Rhagfyr 1917)

Aberdare Leader. 22 Rhagfyr 1917.

 

CLYWEDION DYFFRYN DAR.

Fod processions yn dechra dod yn order of the day unwaith etto, a phlisman i weld bo pawb yn cerad yn gwmws ne starfo!

--

Fod y latest procession wedi starto sha Shop y Marsharine, syn tasto'n well na menyn, mydda nhw; ond y gwir yw fod y prish yn fwy tastus, sa nhw'n gwed y gwir!

--

Fod scandal Y Proffiteers cyndrwg ag ariod, a dynon bach diniwad yn gorffod suffro o achos y giwaid digonshans [sic; = ddigonshans] a digrefydd ed, er bo nhw yn proffesu hwnw a gwymad hirach na Shon Gorff!

--

Fod prosecutions bidir i fod yn y Cwrt nesa, a dyna wymad fydd gen rhai o'r proffitmongers pan fydd y Justice of the Peace yn cyhoeddi y sentans o £1,000 fine or 50 years in XXXX Division!

--

Fod pawb yn gobitho na ddaw dim Procession Bloatters cyn Yndolig, neu y mowredd a'n helpo ni am y gwyla, achos ma wya nawr yn 2s. 6d. yr un, a phint o ffresh yn wyth cinog, a photal o frandi gora gymint a enilliff under manager mwn 6 turn, heb son am gig moch, ham, a chaws tidy heb liw y calch coch made on Welsh Farms!

--

Fod y Snecs yn dechra dihuno at 'u gwaith o'r diwadd, ac yn mynd i hala moyn Lord Rhondda i visito rhai o shopau y proffitmongers mwn disguise, a dyna lle byddan nhw yn cael eu dala yn wholesale, a chal u transporto i wIad y Conshees i bori ar wellt a'r fat bacon di-ffit ma nhw n ffaelu ei werthu am 2s. 11d.

--

 

 

 

A black and white document

Description automatically generated with medium confidence

(delwedd 5648b) (22 Rhagfyr 1917)

 

 

 

Fod sopyn yn cretu y bydd dicon o gig ffowls a gwydda yn y farchnad yr Yndolig hyn; ond O! Mari Morris fach, pwy fydd yn gallu ffordo talu am deni nhw?

--

Fod rhai yn gwed fod dicon o arian yn y Prince o Wales Fund i roi twrci, fflagon a shiggar i bob Snecyn tidy in the Parish of Aberdare, provided he or she is of good character and never been in jail or Cwrt Bach!

--

Fod y "waits" wedi dechra ed, ond O! shwd waits, crugyn o grots yn sgrechan "Timpanery," ne rwpath tepig, a "God save the King" i gwpla’r chorus! a siwr ddicon y byddan nhw yn filiynares yn ol cownt yr arian sy'n fflyan obothti y dyddiau hyn — o'r Tank i'r Jug and Bottle, etc., etc.

--

Fod y rhyfal yn llyncu pob testyn arath heddy, ac hyd yn nod y cariaton yn gofyn iddi giddyl, "What is the latest from Cambrai ?" (nid Camb[ria?] cofier), a "How's your mother off for shwggar?" a "Did Mary get the change right after paying the 2s. 6d. for kippers?"

--

Fod yr hen gownt yn slow ofnatsan yn dod miwn. Achos prish byw a heefad, mydda nhw; achos y rhyfal, medd erill. Ia wir, achos y rhyfal- dyna'r esgus gora o'r lot. Ond ta beth am y rhyfal a'r hen gownt, pob lwc i'r sholdeers, a'u teuluoedd bach a mawr i gyd. A Nadolig Lawen i bob copa walltog sy a owns o gonshans yw dymuniad calon y PACKMAN NEWYDD.

 

 

.....

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ
/ ē Ē /
ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː  B5237ː B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː
  deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː , ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG:
ɛ̄ ǣ æ

ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
 ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
 ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ ɔʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː
A̋ a̋

U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ U+2020 †
« »

 
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org

httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ

 
Hwngarwmlawtː A̋ a̋
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
 …..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́

Ə́ ə́

Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute

…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_111_clywedion-dyffryn-dar_1917_0361k.htm

---------------------------------------
Creuwyd: 18-04-2017
Adolygiad diweddaraf : 27-12-2017
Delweddau:

Ffynhonell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Arlein.
---------------------------------------

Freefind.
---
Archwiliwch y wefan hon
Cerqueu aquest web
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
Estructura del web

SITE STRUCTURE
---
Beth sydd yn newydd?
Què hi ha de nou?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait


Adran y Wenhwyseg / Secció del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
Edrychiadau ar y tudalennau / Vistes de les pàgines / Page Views
Web Analytics Made Easy -
StatCounter
Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres Estadístiques / View Our Stats