kimkat0360k Clywedion Dyffryn Dâr. Aberdare Leader. 1916. Ysgrifau yn nhafodiaith y de-ddwyrain – y Wenhwyseg.

02-03-2023
 
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ● kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● ● kimkat0199k Y Gyfeirddalen i Glywedion Dyffryn Dâr www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_111_clywedion-dyffryn-dar_0199k.htm
● ● ● ● kimkat0360k Y tudalen hwn

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..
 
 
 
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
Clywedion Dyffryn Dâr. 1916.
(Aberdare Leader).

 


 

 


(delwedd 7282)

 

.....
19 Chwefror 1916
.....

25 Mawrth 1916
.....
27-05
.....
01 Gorffennaf 1916
15 Gorffennaf 1916
.....

26 Awst 1916
.....
16 Medi 1916

 

 

A screenshot of a cell phone

Description automatically generated

(delwedd G3660) (19 Chwefror 1916)

Aberdare Leader. 19 Chwefror 1916.

 

Clywedion Dyffryn Dar.

 

Fod sopyn yn gwed ar hyd y pentra fod mwy o ladies yn shopan nawr nag ariod, a thicyn o style £5 yr wthnos yn rhai o nhw ed, a wastod yn cario ymbrel neu barisol s'ai  mor sych a'r desart, ond nag i ni ddim yn diall y nacks! Dyna gownt, onte fa? Mynywod yn jelws o ladies! Fel petasa isha passo act o barliment i stopo nhw i wishgo -  nace, cario parisol neu ymbrela. Wel, bysa nithir yr ola yn well na ercyd potal gwart ar ol cario pwn i'r pawn!

 

Fod yn haws ddicon i hignaramws i ddemskin ar gorn ysgolheigyn balchderus o genius, fel nath un pwy noswath yn y Corn Exchange, pan wetws a wrth un o freed y college y dylsa ni ymladd makers a ridwrs y Zamppallins yn yr un ffordd a nhwnta - lladd nondi-combatants (fel gwetws a, ta beth yw rheiny), babies, gwracadd a merched, yn lle ymladd "dynon," ymhlith yr Huns. “O na,” mydda Syr Llifir Swllt, "gadewch i ni ymladd a nhw fel Cristionogion, i ddangos gwers i'r byd, ac i ymladd yn deg”" Wel, wetin, fe ath yn Storm Tiberias, a odd rhai yn gwaeddi "O, catw ni!" a gorffod i'r riportar gilo i ddala'r last post o ganol y ffroth a'r ffrwgwd!

 

Fod y dyn gollws i ymbrel wth ddod mas o'r ddarlith yn wath off na'r dyn gollws i gap yn shop y barbwr, achos odd gwaniath o 5s. 6d. yn mhrish y ddou, a fel gwetws un non-Christian, fod hyny yn profi  fod gwath caritors yn entro drws y capal na entrans y barbwr. Oes, a dylai pob copa walltog sy'n gallu gweld ymhellach na'i drwyn wpod hyny ed. Rhaid talu bob tro yn shop y barbwr, achos di nhw ddim yn perthyn (y barbwrs) i'r Packmen's Brigade Federation, ond ma llawar yn mynd a dod i'r capal heb dalu, mydda'r riportar. (Passed by Censor).

 

Fod yr armlets iddi gweld nawr yn britho'r cwm fel gwyped, a phob un yn gofyn i'r llall, "Ble ma dy armlet di?" hyd y nod sa dim ond un goes gyta'r pwr dab, neu un fraich, trwyn fflat, dim danadd, gwallt eiraog, crwmpyn, coesa main, un llycad, trad clwt, gwddwg byr, dim bola, a lan i wddwg mwn hen gownt ar i ffordd i'r resarved seats yn y Goldidrome!

 

Fod pawb, fel arfar, yn rhytag y tywydd a'r Kaisar i lawr, yn enwetig oddar ma'r dwetha wedi gwella o'r canser, a rhai yn ffeili cysgu'r nos yn ofni'r Zepps! Wara teg, ed, ma Shon Tarw yn dechra dihuno, a fe ddaw prish yr ham lawr yto, er gweitha Penderyn a Chicago; fod amser gwell i ddod; gwell tywydd; heddwch a llond cart o hen gownt gen y PACKMAN NEWYDD.

11.30 p.m.

 

(O-Y.— Clywad fod y Kaisar wedi cal anwd newydd, a phrish yr ham wedi cwmpo. — P.N.)

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd 5698a) (25 Mawrth 1916)

Aberdare Leader. 23 Mai 1916.

CLYWEDION DYFFRYN DAR.

Fod hi'n rhyfal mwn popath 'nawr — rhwng pregethwrs a thafarnwrs, rhwng masnachwrs a shopwrs (ma cetin o waniath rhwng y ddou, cofiwch), rhwng armletwrs a'r slackwrs, peirianwrs a'r pinafores, tipplwrs a thee- totlwrs, travelling drapers a phackmen a chlapgwns a chelwyddgwns! a rhwng popath, fel gwetws Mr. Baxter y ffeirad 40 mlynedd vn ol, ma'r arwyddion yn blaen ddicon fod y "millenium ar ddod."

 

Fod pethach od iawn wedi dicwdd ed yr wthnos ddwetha, sef un o'r dukes yn gorffod cal cab i fynd iddi balas, serch fod y car yn paso yno; witw-bewitsh wedi prioti a soldjwr cyn mynd mas i'r ffrynt (ar y sly yn Offis Merthyr); ac un o lords y skitsha melyn gamboaidd (nid Cardi) wedi treto y parliamentary trbinamal gyta sigars a ——! Fel gwetws General Joffree — "You never knew your lack, Monsieur."

 

Fod pawb yn achwyn ar y prishodd yn fwy nag ariod, a swn achwyn sydd byth a hefyd ymhlith y boys bach priod sy'n gorffod cal i galw lan cyn fod y bwndel mawr o'r single men and bachelors yn gwynepu'r tape, neu yn gorffod neud hyny yn ol siars neu addewid Asquith, a gair teidy Derby (nid y races) a bod gormod o sport gen yr examiners yn y trebinamals. Pe bysa rhai o ddoctoriaid y trebinamals yn gorffod gwynepu'r scent Shermanaidd nid ffarce fyddai'r examination na'r interrigation, etc., etc. (Examined, etc., passed by Censor, 10 p.m.)

 

Fod un packman wedi scapo achos i fod a'n   41¾ l-5th o flynydda, and thri odd days out beyond the limit, a bod Ffortywyson wedi gwed wrtho fa y bydd a miwn reit i wala cyn y diwadd — y bydd v maxihun lan i 45, os nad 50, 60, a 70, os aiff y Keisar i Paris, a'r dukes a'r lords i gyd i Abergwaun a Chwmfelinfach.

 

Fod mwstwr dychrvnllyd wedi bod yn y local a'r chief parlamant ynghylch y Zampalins, a mae'n llawn bryd ed nithir rhwpath, neu fydd dim shawns i gysgu'r nos na chlwad yr hwtar whech yn mynd, i gal arrivo

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd 5698b) (25 Mawrth 1916)

 

 

mwn pryd wrth y talcan, yr aing, a'r offis (y lamp-offis, wrth gwrs, achos dyw offis y cyfrithwrs a'r bancwrs ddim yn acor spo'i 10 neu 11 eg, — wel, sha marca smel cino ta beth).

 

Fod erill yn achwyn fod cloc mawr St. Elfan yn pallu taro ys cetin, a rhai yn gwed fod i dafod a wedi rhewi, erill yn gwed ta by order of the Anti-Zampalin Committee y mae a'n dawal, a gola cloc D.A. yn cal i dowli mas am yr un argiwment. Nonsans bidir, mydda un dyn call, yw hyn, achos fe gelsa'r local authorities warnin mwn pryd sa rhwpath yn mynd yn wrong yn yr awyr — y lleuad neu'r ser neu'r haul yn cal diffyg, ys gwetson nhw; neu sa nhw mond dishgwl miwn i Almanec Moor neu y Milodd, a pheth od na bysa rhai o'r Labars a'r I.L.P.'s ar y Cownsil wedi passo resolution economaidd i daclu un ar y ffile fel refarense yn lle cwni wages y gaffars, a nhwnta'n gwpod fel ma'r ratepayers heddy yn gorffod talu cymint am 10, gas, cig moch bant Penderyn, ac hyd yn nod ddima yr un am genin Patagonia (local, nid bant). Ys gwetws Julius Cesar, "Hael Hywel ar bwrs y good shorts."

 

Fod hi'n amsar bidir ed nawr ar faes y rhyfal, ac os caiff y Germans gnocad nol yn lle mynd i Paris, fe gwmpiff y rates, daw prish yr ham yn chepach (ma’r wya wedi cwmpo acos cwnad whisgi), fe fydd demonstration a'r band, a'r hen gownt yn llifo i fewn fel y mail i boceti'r PACKMAN NEWYDD.

 

 

 

 

27 Mai 1915

lywedion Dyffryn Dar. Fod yn amhosib i neb gerad yn gros i'r hewl, pavin na sg'war heb glwad rwpath ne giddyl am y rhyfal ofnadw a dych- rynllyd-hyd yn nod os ewch i gornal y pare ne barlwr y Good Patriot i enjoyo whiff a glased—fe gwniff y cwestiwn gen rai fel ysbryd y fall o hyd, "Beth i chi n feddwl am y rhyfel?" etc., etc. Fod y Liccar Comtrole wedi gneud hi gyta venjans o'r diwadd—bron tacu hanar y coliars a phob short o withwrs, mvdda nhw. Dim tretin, dim hen gownt (dyna'r filan mwya!), dim fflagans heb gorcin, dim heefad rhy fach na gormod, dim heefweh cyn brecwast, a dim llawar cyn swpar ed! Ma sobri by act of Parlamant wedi dod yn letter of the law er mawr lawenydd i'r Pumpi- tarians, y totals, y burdocks, a'r sarspar- ilians! Pwy ryfadd bod y Cristin- delphians yn gwed fod y milliennium ar wawrio a'r I.L.P.'s yn proffwydo y citshiff y Parlamant yn y tafarna, yr hotels, a'r briwaries, er mwyn taclu'r proffit yn mhoceti'r gwithwrs i nithir l fvny am yr oria byr a'r hen gownt? Fod erill yn gwed y dyla aelota'r Eiccar Comtrole Bord gal saith mlynadd am 'u hacshwn dienad, ne sefyll pyst am 8 awr yn y ffas twyma sy yn mhwll Shepard, ac ishta wetin am wyth awr arath yn y gob i oeri i hunen, neu daccu eyn open tap! Wth gwrs, ma dicon o glywedion yn yr awyr, ond yehydig o henyn nhw sy'n dod yn wir, ag eithno pob count ond yr hen gownt. Fod sopyn yn ffaelu diall y New Daily Saving Act (nid act i safio'r hen gownt ne act Maritoriam), ond yr act i droi'r cloc 'nol awr o fish Mai i ddiwadd mish Medi, ne mwn geir&'r awdwr, Mr. Willett ("Sunshine Producer ma rhai yn i alw a) Daylight Saving Bill; a bod hi'n ddoniol digynyg i glywad rhai sy'n i diall hi yn ecspleino Nor ma'i fod, a'r rheiny sy'n ffeilu diall. "Ffwl dwl," mydda Ap Lleuad, "yw'r dyn sy'n treio troi cloc Duw yn ol. *Os gwetws a fod 12 o'r gloch yn ddeuddag, deuddag fydd hi, a beth ma rhyw gatach o ddynoliath yn mynd i altro gwaith Rhagluniath?" Fel gwetws yr Hen Do-be-Shure, "You can't put sens in nonsens; the clock will go if you put it before the hwtar or not; jnens will have suppar the same time, and stoptappers won't go home till mornin Fod rhyw lord o Gwmsmintan yn gwed os dota 'nhw'r cloc yn ol awr, a dyn yn dicwdd marw, bydd farw awr cyn i amsar. "Gad dy lap," mydda Eryr Powndfflash, "fe fydd wedi mynd i'r nefoedd awr yn gynt, a dyla pob aelod a gefnoews v Daily Sunshine gal pensiwn am fywyd." Er yr holl drafotath, ma llawer yn ffaelu gweld trw'r daylight scheme. Fod llawar o'r would-bees yn gwed ed nag yw dynon heddy ddim yn ddynon—fod mynywod yn gallu llanw'u lie nhw yn well na nhw 'u hunen-fod un she-doctor yn Aberdar yn diall mwy na'r holl man-doctors yn y cwm. "Ffordd i ti'n gwed hyna ?" gofnws Shoni Goes Bren i un o'r dowtwrs. "Wei," mydda fa, "fe ddyscws Efa yn Ngardd Eden mwy o wypodath ac o brofiad na un dyn odd yn y byd yn i -h amsar, a ma'x: wypodath genti o hyd, sa hi ddim ond gwpod faint o docins sydd yn i drowsis a pan fydd my lord yn Dreamland!" Fod amsar gwell i ddod ar ol i brish yr ham ddod lawr (ma'r wya wedi dechra), llai o glapgwns a spies yn y farchnad ar nos Satwrn, gwell respect i fenywod ar y cars, yn enwetig i'r rhai sydd ddim yn witw-bi-witshis, ac wedi gatal y wedding ring ar y mantel-piece, y drws back heb i gloi, ac. yn talu'r rhent yn regilar heb insulto'r packman. Wth gwrs, ma amball i censor yn y car yn hirach i dafod nag un cownsilor tena, ond ma civility gento i roi set i lady os nag yw i ddignity a mor fawr a ffashiynabl i dalu'r hen gownt. Notice by Licear Comptrol Committee: -"No winks, drinks, or drives by daylight; lights out at nine; but at moonshine make meri-y.By Order. Fod Compulshashon i ddod yn i rym o'r diwadd, Darby or no Darby, ac amball i Joan o Gwmbach i Gwmdar yn gwed ta melltith y Keisar yw'r felltith fwyaf; ond ta beth yw barn deidy dar- llenwrs y "Leader" am y gost o fyw heddy, yr hen gownt yw'r peth mwya felltigedig sy'n gorphwys ar vsgwydda'r PACKMAN NEWYDD.

 

 

 

A picture containing text, newspaper, receipt

Description automatically generated

(delwedd J7548a)  (1 Gorffennaf 1916)

Aberdare Leader. 1 Gorffennaf 1916.

Clywedion Dyffryn Dar.

Fod y pethau rhyfeddaf yn cael eu dweyd heddy — fod y coliars yn enill arian i'r fath raddau nag os dim isha gwitho pump turn am whech, ond whech turn am ddeg! Wel, os yw hwna a sent ticyn o wirionadd sha marca'i gwt a, mae'n bryd i Lyndan Fach, Cwmbach, a rhai o'r Snecs ed i etrach which way the wind is blowin!

Fod un o'r Trembinambals wedi rhoi 2 fish o hecshibishwn i ledar miwsic, a rhoi 6 mish i drwmbwtin odd yn wthu spo'i wymad a'i drwyn yn goch. "Wel, bachan, bachan," mydda Wil Byrdwn, "y dyn sy'n whwthi fwya ddylsa gal fwya spel — nid y dyn sy'n wavvo'i freicha bythti'r awyr a gweld notes fel ser yn y ffurfafan!" Fel gwetws Die Penderyn — 

 

"Good miwsic sharms old pigs sometimes,

But never sharms Bowldini;

Because he's got the gripes, by grimes,

By studdin Stabbattinni!"


Fod scaldamanas iddi clwad o ben hewl Bernant i'r Bwllfa a Braman i Benderyn - ancals pert y merched a'u ffroca byr yn "fath sy'n bod na fu ariod, yn troedion syth ac a la mode"; hosana ed yn llawn o dylla, skitsha melyn pwt Brynbicca, a iaith pob un yn swil a smala, yn depig iawn fel gwetws Dina: -

 

"Os oes rhyw lodes dda o’r Mount

Neu lan sha marca Hirwen,

Sy'n rhydd o raffa cas'r Hen Gownt –

Mae'n siwr o fod yn globen!"

Fod pawb yn achwyn ar y tywydd, felsa dim shwd dywydd wedi bod ariod, pan ma dicon o le i achwyn ar y rhyfal a phrish baccwn, heb son am y "theatrin tax," fel gwetws Twm Trad-batta pan gollws a'i bass wth ddod lawr dros y stairs haiarn yn i hast o flan y stop, a lando'n shwr ddicon o flan y Gyfarmant Offis yn lle'r Hotel Cenin i ofyn am ddobin fu'n hir chwedl wetin. Ond dyna, wth riporto, fe fydd dicon o gymshan gyta'r hen gowntars i wed ta'r Royal Daylight sy wedi effecto'r P.N., ac nid y ddiod glir, y moddion pur sydd fel y dwr o hyd yn ffrydio yn ein tir; ond fod yr oriau'n ddicon byr, a Shoni'n slow i weld y ffordd i fynd i'r gwely, er fod tafod i wraig yn hir!

 

 




 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J7548b)  (1 Gorffennaf 1916)

Fod y ladies i gal i pleso o'r diwadd, yn ol pob cownt, a bod institushwn i gal i gwni iddi nhw ar Victoria Square, a chompartment decs (international), a settis cwshin iddi nhw ishta i drafod busnas y byd a'r Bettws, a setlo prish yr ham a'r rhyfal, ac y bydd i dre'r Snecs anfarwoli i hunan unwaith am byth drwy nithir cyfiawnder a'r Suffringettes a'r marionettes!

Fod niwsans y motors yn cal i deimlo gyta venjans ar hewl Hirwaun, a'r ladies a'r bonddicions odd wedi troi mas yn i colors gora a thrwch o ddwst am deni nhw wrth ddod sha thre; fod y perthi yn blastar gwyn, a'r arogl wetin wth gwt y fflyin conveniences yn atgas ac yn atgofio pawb am gasses uffernol y Germans yn Ypres, Neuve Chappelle, Mons, Loos, a Verdun, heb son dim am smel y ffried fish shops yn y pentra a'r suburbs! 'Dyw'r desgrifiad hwna ddim yn cymoti a'r enw Sweet 'Berdar a Queen of the Hills, mydda'r riportar, a ma fa'n lled acos i'r gwirionadd mana ed.

Fod sopyn yn cretu y daw y rhyfal i ben yn gynt na ma rhai critics wedi gwed, yn enwetig nawr fod y steam roller mawr o Rwssia wedi dechra trafaelu sha marca Berlin, a llwythi dychrynllyd o fwlets, shells a phowdwr yn y waggons sy wth i gwt a. Three cheers for Samiwinski, Belgiannini, Italini, Ffrancod oll, a John Bulldini, er gweitha'r stop a phrish y wisci.

Fod pawb ond yr hen grocs, perchenocion coesa pren, un llycad, coesau ceimion a thrad fflat, rhai heb freicha, a phen fel bat, yn awr yn sowdjwrs dan yr Act, ac un o'r dyddia nesa ma fe fydd rasso milgwnaidd a tharanfolltaidd i Berlin, a'r byd gwareiddiedig yn synu gweld right and might yn enill buddugoliaeth, a Hoch y Keisar yn darfod yn i dwlc. Son am snortan Engins Crawsha Beili ac Expresses Bernant gynt, dyw a ddim yndi — fe fydd yn ofnatsan, a phawb mor llawen a heiny, fel na fydd son byth mwyach am hen gownt na'r

PACKMAN NEWYDD.

 

 

A picture containing text, newspaper, receipt

Description automatically generated

(delwedd B2512a) (15 Gorffennaf 1916)

 

Aberdare Leader. 15 Gorffennaf 1916.

 

Clywedion Dyffryn Dar.

Fod Whishgerswyson wedi ymadael o Faesygwaed am ddwr y mor, a whilberad o bapyr wast yn y guard's van i gyfansoddi barddoniath yn mhlith y cocks & mussles.

 

Fod yr Esgob or diwadd wedi cal yr upper hand ar y Ni-mi's tragwyddol, a bod yn dda digynig gen y frawdoliath fod yr esgobaeth wedi cal i symud i sefydlu heddweh ymhlith y gwiberod a'r cler.

 

Fod rhyw glepar dibendraw gen wyr dwr y mor, a mowr y ffwdan, snortan, a screchan odd gen y pilcwns pan gwnws yr Home Secretary lan, ar ol sychu i wishgars a'i fwstash, i ddarllan mas list y tocins odd i gal eu rhanu rhynti nhw nos Iou, cyn gellwn y bleiddiaid yn rhydd i fynd lle mynsa nhw ond i'r trenshes. Fel hyn odd y certified and correct list: —

Seaside Club Money Distribution. £ s. d.

Lord Scitsha Melyn 50 0 0

Duke de Cwmdara 49 0 0

Mayor of Tresamwn 48 0 0

Lord Bishop of Coppara 47 0 0

Ap Sidearra, A.C 46 0 0

Purdebwyson, Senior 45 0 0

Syr H. Phillippi (Cantab.) 44 0 0

Coor de Corona 43 0 0

Presido Bernanto 42 0 0

Gaffarro de Glomano 41 0 0

Old Packman (P.P.G.) 40 0 0

New Packman (P. Newydd) 0 0 l½  

 

Fod blow-out i fod ed gen y Royal Motor Tourists, ac y bydd i'r holl draffic gal i ddala lan o'r Gatlys i Hereford, trwy Royal Letters Patent, ar ddydd yr esgression, fel na fydd yn saff ond i filgwns i droi mas i weld gola dydd ar yr adeg dychrynllyd, ac y bydd y blwm in lot wedi cal i insiwro yn y death club cyn starto!

 

Fod pawb yn awr yn gwed na fydd dim air raids mwyach ar ddyffryn Dar, a bod airship fawr wedi hofran uwchben ardal y Snecs dy Llun, ac wedi partoi popath ar gyfar ymweliad y Samppellins—hyny yw, os dangosan nhw'u trwyna sha marca Queen of the Hills; wetin fe ellwn gysgu'n dawal hyd yr wtar whech, ond y rhai sy'n dewish stopo lan i glwad y Nightingale a'r Eos Cathalini!

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2512b) (15 Gorffennaf 1916)

 

Fod halibalw ofnadw yn shop Mr. Dust Shoogar, Cwrtybelo Stores, pan alws Mrs. Gwagbwrs miwn i ordro'r weekly goods, a gweld yr amount elephantaidd odd genti i dalu. "Aftar you did swallow your own common vittles, you sure not to be chargin what you betake that," mydda hi, yn ol y riportar, gan ddoti swllt a thair a dima ar y cowntar, citsho yn i pharsal, a rhytag mas i ddala'r car odd yn passo'i manshon hi yn Gaffar's Terrace. N.B.—Old count stopped.

 

Fod debate y Privy Council wedi cwmpo yn fflat ofnatsan, trwy anwybot-ath. medd rhai; trwy stubbordiness, medd erill, ond y gwir yw, yn ol y Bishop, trwy eiddicadd a jelosi monstronsaidd at y right honourable — hyny odd wth gwt y glepar neur fysnas ryfadd, a mawr shwd helynt sy am bethach dibwys 'nawr fod rhyfal mwya'r byd yn shiglo'r ddaear.

 

Fod boys y trenshis yn gwitho'n noble nawr, a phawb mor llon wrth weld yr Hun a'r Von Clocks a'r Herr Bugs yn i rhal i gyta venjans gyta'r gas, y baginets, y mortars, y long toms, machine guns, a shells atar yr awyr, nes bo'r byd a'r Bettws, ac hyd yn nod llawenydd yn Llyndan Fach (a Llyndan Fawr especially) wrth glwad am y Grand Offensive, a bod rhai yn ffeili cyscu am nosweithi wedi clwad yr hanas bendigedig. Fire away, boys! Let um have it right and left, medd y Snecs, nes bo "planca uffern yn shiglo" (chwedl Brwmstanfardd).

 

Fod y rhai sy'n gallu ffordo 'nawr a'u meddylia ar ddwr y mor, ond y lliaws mawr yn meddwl am yr anwyliaid sy'n ymladd yn erbyn tyrants yr oes, ac yn gwneud 'u gora i hala mas iddi nhw y delicacies bach alla nhw ffordo. a gatal dwr y mor i'r dukes a'r lords a'r haristocratses, sy'n gallu cal popeth yn flasus, a chloi'r drws yn erbyn y

PACKMAN NEWYDD.

 

 

 

A close up of a newspaper

Description automatically generated

(delwedd G3661)(26 Awst 1916)

Aberdare Leader. 26 Awst 1916.

 

Clywedion Dyffryn Dar.

Fod petha rhyfedd iawn yn dicwdd bob dydd yn y cwm: dynion yn colli'r last tram oherwydd extra dram, yn colli'r ffordd sha thre' achos y lights out, a'r dwrnod nesa yn cal another on bout!

 

Fod bygythion dirifedi yn cal eu gneud ar aelota'r Trembinambal, a ma rhai yn gwed nag yw hi ddim yn saff iawn ar i bywyta nhw; ond beth am y cut-throats masnachol, oti nhw yn mynd i'r nefoedd ar ol gwascu'r tlawd i'r worcws a'r bedd?

 

Fod Twm Tresamwn yn gwed, yn ol i size, fod bloter mor bryd a samwn, a phwy gonshans o ddyn all chargo felna? A mydda Twm, “Bysa comparro bloter â samwn yn gwmws yr un peth  a chomparro 'jack' o bregethwr a'r Archbishop, ta beth yw hwnw."

 

Fod son o'r diwadd fod y Suffringets yn mynd i gal vote, a dyna lle bydd hi off wetin—mob ohenyn nhw'n i shapo hi sha'r booth, ac yn wthu a scwtan a thynu gwallt a boneti'u giddyl nes bydd atar a gwyr bach y mwstash, toppees a whisgars yn gorffod symud hwnt i nithir ffordd i'r peisha a'r fflownders a'r trimmins erith ma nhw mor ffond o wishgo, a'r diwadd fydd iddi nhw gal Act of Total Prohibishun, fydd yn wath fyth na oria byr a stop fflaggans am 8, a dyna'r gag am byth ar ena’r coliar bach sychetig sy'n hawilio’i iawn fel gwrbyneddig.

 

Fod Fflangganfab yn gwed tysa'r Llywodrath yn citsho yn y tafarna a'r hotels y bysa pure beer yn ordar of the day, cwrw ffresh and fair-play, a dim dregs yn yr heefad ar ol i bwr dab sychetig roi ucan llwncdestyn i Gymro, Cymru, a Chymraeg, a chwmpad prish i'r ham a'r wya, a'r Bill of Sale included! Wth gwrs, nid pawb sy'n gallu gweld y drifft - amcan Fflaggan - fab yw canvasso i gal yr offishaldom of beer-tester accordin to Act of Parlament, a resino o gommittee'r Cop, lle nad oes dim i gal ond pop!

 

 

 

A close up of a newspaper

Description automatically generated

(delwedd G3662)(26 Awst 1916)

Fod Swedenfardd wedi enill prize yn y flowar show, a mawr shwd ffuss odd gento i ddangos hyd i gadna beens i'r cwmpni odd wedi gweld crop gwell nag odd gento fe yn tyfu ar y tips, ac un o ddirectors Patagonia hyd yn nod yn gwed fod e wedi tyfu rhai cyd a llysywan n! Fe ddylsa'r criw sy'n braggo cymint gal i alltudio i ryw blaned arath i blanto cenin a dyfent size derwa Glynnedd!

 

Fod y rhyfal yn dop subject o hyd, a bechgyn bach fine a dewr wedi cwmpo odd yn adnabyddus a pharchus yn y dyffryn - rhai o henyn nhw wedi disgleirio ed fel milwrs, ac enill distinction a honors. Dodd dim yspryd obinjectors yn 'u henad nhw, na want non-combatiment service, etc., a dod 'nol i wed sawl bwndal o'r Huns o nhw wedi saethu pan oeddan nhw, mwn gwirionadd. yn ishta yn y tent yn sorto bwlats, ac yn scubo'r drain o ffordd y gwageni bwyd, etc., etc.

 

Fod Stanton, M.P., wedi gnithir gwaith teidi pan ofnws a beth odd y rheswm, yn y Parlamant, fod scelffyn o German yn gallu cwni i bac yn Llundan a mynd lawr i South Wiles i glasgu arian coliars a ebilo nol wetin a llond pocad! Fe ddylsa fe (yr Hun, yr "hunan" brwmstanaidd) gal dwy owns o powdard glo man cyn cyradd marca headin Twm Swil, a fe nela Twm jobin net sha ochor y gob fysa'n well na sent Kielobant (canal dose) o fendigedig goffadwriaeth yn nhalcan Cwmbach, lle'r odd y moch slawar dydd yn trwyno'r tatws! Fel gwetws yr anfarwol Cromwell

 

“There are men on the river,

There are men on the sea,

But Britons shall never

Give in to Von Spree!"

 

Fod achwn bidir ar acshwns y Cownsil yn chargo 2g. am drip cinog o Braman i'r Scwar i'r gwithwrs (workmen, wrth gwrs), ac ar ddwrnod y Flower Show gorffod i bwr dabs gerad ne dalu 2g. ar ol chwys y dydd, pan ma regilation wedi cal i nithir i rytag y cars yn regilar (workmen's car), a phwy felldith o beth yw chargo wetin lc. am sefyll? Dim set i ishta lawr. Pam na rytan nhw ddou gar, neu dwbwl deccar? Oti'r gwithwr yn mynd i gal i snubbo gen lot o would-bees clebranog na hwsws ariod? Son am iawn i showdwr yn y trenshes — eitha right — ma isha fa'n dost, ac i'r gwithwr caled gartra ed!

 

Fod amser gwell i ddod i'n gwlad ni a'r Allies dewr, prishodd i gwmpo, sowdjwrs i gal penshwn, ham and eggs bob dydd yn y trenshes, i ‘extension of limitations’, menywod i bregethu a gwitho (rhai o henyn nhw fel navvies), doti fox o fatches am ginog, premium o £10 a year i bob gwithwr a 4 o blant a rhacor; dim hen gownt, a dyna'r gwelltyn dwetha i ladd y

PACKMAN NEWYDD.

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd 5708a) (16 Medi 1916)

 

Aberdare Leader. 16 Medi 1916.

 

Clywedion Dyffryn Dar.

Fod y Byd a'r Bettws wedi cal i gyffro yn ofnatsan, y dydd o'r blan, trwy fod y Packmans' Defence Act wedi dod i rym yn sytan, o'r diwadd, er gwaetha'r bombardments o ochr Lady de Ffroth, Duke de Trombodyn, a'r Suffringettes!

Fod Stanton, M.P., wedi gnithir jobin teidy i dreio stopo ryw Germanyn i ddwcci glo'r Cymry, ond fe nath y Packman Newydd (ddim o'i drwmpet i hunan, cofiwch, Mr. Gol.) lawn cystal job i gliro caritor Lady Honorable o'r un celwdd ffiaidd a digonshans, & gafws i ledaenu gen ffrompenas odd yn ffeili dod mas o'r stinking trench heb drochi i silk dress i hunan yn ofnatsan! Mums the word!

Fod dynon sy'n byw mwn ty glass yn ffond o dowli ceryg, mydda Twm Trwbadwr; ond yn ol evidens Ap Zeppelini, fe gwmpws y bom o'r diwadd ar y ty glass; a'r celwyddgwns, celwyddesi, a'r clapesi sy nawr ar y down grade, sy'n ofni'r bom dychrynllyd ac arswydus ddaw am i traws nhw yn yr High Court of Packmans' Defence, sy'n acor sha marca mish nesa!

Fod diwadd y celwddgwns a'r celwyddesi (laddws y gath, o fendigetig goffadwriath) i gal yr un tyngad vengansllyd a gafws y Sampallin ger Llyndan, er bo nhw'n byw yn nes i Llyndan Fach na Llyndan Fawr, a dyna lle bydd rycshons pan bydd y gelyn wedi cal i goncro gen Rule Britannia ac nid Rule Celwydda!!!

Fod Home Rule yn beth ardderchog i bob copa walltog, hyd y nod os nag yw a wedi talu am y sand ar y stepyn drws, ond fel gwetws Maer Tresamwn yn i speech oddiar y Manshon House:

When women scream and shout like thunder,

Men gaze and ask, "Whom are we under?"

“Oh," quoth the scribe, 'tis only bluster –

A LADY'S found at last her master!"

Fod sharad bidir ed am ryw sparcyn o bainter odd yn ffaeli cwni i ben cuwch na'r gwtar, ac mwn danjar o farw'n y worcws achos i fod a'n byw ar shwgir brown; ond "Duw dishefon ni," ys gwetson nhw yn y wlad, ma'r shwgir brown, diolch i'r mowredd a'r paint, wedi troi yn WYN, a charitor yr hen bainter wedi cal i achub, a dim hanas am un o'i bidigree, o amsar Adda Jones i Sior V., wedi cal lodgins na thrico yn y gorcws!

 

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd 5708b) (16 Medi 1916)

 


Fod hi'n ddansherus i obinjector i ddangos i drwyn mwn car, cart mwlsyn, tren, ne wagen yn awr, achos fe gas bwnshyn tew ohenyn nhw i dala'n deidi pwy ddwarnod, a mowr shwd ffwdan sy heddy i waniaethu rhwng ffrynd a ffraud i'r wlad, i gymdeithas, ac yn enwetig i gonshans, beth ma rhai heb i gal ariod, a felna'n dod i gymtw a'r awdurdoda sy'n gorffod i uwso fa er lles y lluaws, sy'n lico ticyn bach o halan witha, er pryted yw'r shwgir!

Fod hi'n llawn bryd i'r cownsil i fwstro ticyn a bysnas y ladies' verandum ma nhw wedi setlo i gwni ar y Scwar, ne fydd meetin wath na Kilkenny Cats yn shiwr o fombardo'r ffowntan, nes bydd hi'n fflachtar tragwyddol a therfynol ar yr Highelpees, y Soshals, a'r Women's Rights Brigades sy'n gwishgo dungarees o Benderyn i Benrhiwceibyr! Wake up!

Fod sopyn o wleua am y merched a'r gwracadd sy'n gwisgo llodra. a nicciboccars yn y caea tra bo'u brotyr a'u gwyr yn rhyfela, a phwy ond rhyw hen wejan casa [?caea] a fentra'i wed fod hyn yn smala? Fel gwetws Pledrenfardd:

 

“Ma'r ladies bach anwl

Yn smart ac yn swil,

Yn gwitho fel mwrthwl

Right down and up hill;

Ond skirts y menywod

Rhyw ddydd losga'n fflam,

A diwadd yr atnod

Fydd wetyn—Salaam!

 

Byrdwn:

 

Tresamwn yn swil,

Tresamwn yn swil,

Os collwn ein ladies,

Y byd aiff down hill!"



Fod prishodd ofnatsan ac elephantaidd bwyd a scitsha, glo a cucumbers, ham a shwgir, cwrw a bacco, a'r short hours, stop hen gownt, no treatin, a'r 8 o'clock alarum yn mynd i ladd trade y wlad, os na altriff Rwmania y Rhyfel, ac y tyna Trombodyn ei fygythiad yn oJ o fombardo y

PACKMAN NEWYDD.

 

 

 

 

----------------------------------------------------------------------------

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā
Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý /
ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /
£

ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ

gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_111_clywedion-dyffryn-dar_1916_0360k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 18-04-2017
Adolygiad diweddaraf : 27-12-2017
Delweddau:

Ffynhonell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Arlein.
---------------------------------------
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu wsitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are wsiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait