kimkat0359k Clywedion Dyffryn Dâr. Aberdare Leader. 1915. Ysgrifau yn nhafodiaith y de-ddwyrain – y Wenhwyseg.

03-02-2023 





    .....

Gweler hefyd / Vegeu també / See also:

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..
 
 
 
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
Clywedion Dyffryn Dâr. 1915.
(Aberdare Leader).



 


 


(delwedd 7282)

 

 

02 Ionawr 1915
09 Ionawr 1915
23 Ionawr 1915
30 Ionawr 1915
....
06 Chwefror 1915
13 Chwefror 1915
27 Chwefror 1915

.....
20 Mawrth 1915
.....
17 Ebrill 1915
24 Ebrill 1915
.....
08 Mai 1915
15 Mai 1915
22 Mai 1915
.....
26 Mehefin 1915
…..
17 Gorffennaf 1915
.....
14 Awst 1915
28 Awst 1915

.....
04 Medi 1915
11 Medi 1915
25 Medi 1915
…..
09 Hydref 1915
23 Hydref 1915
30 Hydref 1915
…..
13 Tachwedd 1915
27 Tachwedd 1915
…..
18 Rhagfyr 1915
25 Rhagfyr 1915

  https://translate.google.com/

(Cymraeg, català, English, euskara, Gàidhlig, Gaeilge, Frysk, Deutsch, Nederlands, français, galego, etc)

...
llythrennau duon = testun wedi ei gywiro
llythrennau gwyrddion = testun heb ei gywiro

 

 


Scatter chart, qr code

Description automatically generated
(delwedd B2189) (2 Ionawr 1915)

Aberdare Leader. 2 Ionawr 1915.
Clywedion Dyffryn Dar.

Fod sopyn yn cretu y bysa'r Allies a'r Germans yn cymryd ticyn o spel amsar Yndolig i gwcan ticyn o dwrci, ffowlyn neu wheead, ond yn ol yr hanas scant amsar odd genti nhw i gwean blotar, a gatal y pwdin mas o'r minyw!
--

Fod John Von Sherman wedi trio ed i dowli Xmas presant lawr sha marka’r Thames yn Llyndan, ond yr odd yr airmans a facws Shon Tarw ar ddihun y tro hyn, ta beth ma'r Soshals a'r little  Englanders yn scothi obothti Scarbro' a Yarmouth.
--

Fod pawb nu falch na ddath rhai o'r Zempalions yn acos i docks Cwmbach, neu dyna rycshons fysa! Son am y "moch yn tatws!" Fe gelsan rwpath gwath na thast pysgot gyta'r gwydda (chwedl  Penderyn), a rwpath i lyncu fysa'n wath na German laccar.
--

Fod llond cart o dwrcis, gwydda, etc., wedi dod miwn i un merchant yn y pentra, ond gorffod i'r pwr dab, cyn cal clirans ar y diwadd, i werthu pagad am gwpwl o ginoca y pownd, a bod rhai o'r rhai a specws wedi cal bargan ed.
--

Fod rijment o’r Terriers wedi dod sha thre am gwpwl o ddiwrnota, a rhai o henyn nhw yn dishgwl yn smart iawn, erill  dicyn yn gam, ond odd dim un yn yn ishal yspryd, a phob un yn gwed ta fire away fydd hi nes bydd pob Sherman wedi wthu i hunan mas o wynt a ffaelu talu yr hen gownt!
--

Fod petha rhyfadd wedi dicwdd yn ystod y gwyla, a un dyn wedi colli’i ffordd ar hewl Abernant drwy droi miwn i Fethergill’s Park yn lle Miners' Mansions, ond sdim ots i neb - ath a ddim yno fel poacher na spy, ond i gal ticyn o spel nes bo'r wawr yn tori, a clycha St. Elvan yn i ddihuno fa!
--

Fod un o'r Snecs ed wedi cal  narrow escape — fuws yr wydd bron cal i trampo lawr gen y crowd, ac oni bai i'r driver odd ar y tram i stopid am foment, bysa'r wydd fel ffroesan. Gobitho fod y ffeed  wedi bod yn all right, a dim "blas" cas arni.
--

Fod sopyn o goliars yn achwyn ar yr amsar slack, a bod nhw'n synu na fysa mwy o alw am lo i'r llonga sy'n ymladd mas ar y mor; ond fod pawb yn gwed fod amsar gwell i ddod, a gora pwy gynted ed, oblegid ma prish bwyd, te a chwrw wedi cwni i'r fath radda achos y rhyfal, fel mae wedi mynd rhy dite i fyw ar lai na
£3 yr wthnos, a dyna beth yw wages pob union packman i fod o'r 1st of January nesa, provided all the old count will come in!
--

Fod pawb yn camol y Welsh Brigade o Benderyn i Braman, a'r Bantams od sydd wedi troi mas mor gref yn Nhresamwn, Penywaun, Rhicos, Llwydcoed, Cwmdar, a Chwmbach, heb son am Llyndan Fach, headquarters all information and evolution!
--

Fod sopyn yn gwed y daw y rhyfal i ben yn 1915, fel y dath Waterloo i ben yn 1813, a hyny yn fuddugoliaethus i Brydain Fawr, Ffrainc, Belgium a Rwssia, ond gyda chost annhraethol fyw ymhob ystyr. Beth by nag, gobitho y cewn ni weld diwadd buan ar rule y Kaiser a'i griw, ac y daw y  flwyddyn yn un heddychol cyn diweddu er lles pawb a'r PACKMAN NEWYDD.

 

 

None
(delwedd B0356) (9 Ionawr 1915)

Aberdare Leader. 9 Ionawr 1915.
Clywedion Dyffryn Dar.
-

Fod y flwyddyn newydd wedi dod miwn ishta ariar - llawn mwd, rhyfal, mwstwr, afiechyd, A'R hen gownt!
-

Fod sopyn yn cretu fod y penderfyniata newydd sy'n cal i gnithir ar ddechra blwyddyn mor biwr a’r halan, ond cyn fod y mish bach wedi tampo i fodolath bydd y lot i gyd wedi tampo 'nol i fod cyndrwg a'r Huns neu Sherman-Hwngarians, neu rwpath tebig, beth i chi’n galw nhw.
-

Fod y Snecs weti bod yn dawal iawn dros y Gwyla, a llai o gasgis bach wedi trafaelu, medda nhw, nag odd yn amsar Lewis y Crydd, Ned Shon Sana, Bili Ben Trip, Sam Snaps, Siorsyn Cwrls, Twmi Tydraw, Dai Llawith, a Bili'r Star, ond yr odd yr haul yn shino'n lled gryf amsar y Calan - sha marca'r deuddag. No fatalities mentioned, but some minor accidents; not "miners'” accidents. - Reuter, via Cwmbach Canal (passed by Censor).
-

Fod y Band wedi whara yn fendigedig, ag ystyriad fod prinder German Bands ar hyn o bryd; ond fel gwetws hen garitor o'r Gatlys, “yr odd un pwr dab yn wthu yn depig iawn fel startws Band Ysguborwen slawar dydd — just a hwthu dyn oddar off i drad! fel wthws a D.A. ar y diwadd!" Ond nonsans yw gwed ta'r Band wthws D.A. off, achos fe startws y band!
-

Fod politics wedi mynd yn dawal iawn, a llai o son am gig moch Penderyn nag ariod! A sdim rhyfadd ed, achos ma pawb yn cal ffite wth etrach ar y  prish, ac y mae hyd y nod Gaffer y Khaki Hat yn prynu Wiltshire — wedi cal llond i fola or foreign brand!
-

Fod y New Year's Honours wedi bod yn slow iawn yn dod miwn, a  Maer Tresamwn a’i bont fawr mas yn y cold a Twm Bola wedi colli Knighthood, a Firewood fydd e' yn ddicon buan, sdim dowt, achos ma gormod o sâm arno,  "mydda nhw!"
-

Fod erill yn cretu y bysa'r Hen Backman yn cal degree ed, a Syr Packman Newydd yn cal liftad mas o'r hen gownt; ond dyn help — ma'r Privy Council wedi cymryd dalan mas o brogram yr hen Shermans digwilydd, ac am snyban pawb, a rhoi fever yn lle favour i Gymry sy wedi nasholoneiso'u hunen am byth yn erbyn gormes a'r hen gownt!
-

Fod amser gwell i ddod, a bod mwy o galenig wedi cal i roi leni nag ariod, a sdim rhyfedd ed — odd mwy o isha fa, er fod amball un wedi gorffod rhytag yn sly i dy ei ewyrth a'i shaen aur — ond nhw odd pua nhw, a wetin odd gen neb, Satan na Sherman, le i achwn, na John Von Mon Evolution, 3 Freethought Mansions, Llyndan Fach.
-

Fod sopyn o'r sowdjwrs wedi dychwelyd, a bod rhai ar ol yn cal farewell look falla ar Sweet 'Berdar, ond ma pawb yn dymuno y ca nhw farewell look ar y Kaiser, a rhwpath arall ed;  ond dyna, ta beth, yw dymuniad PACKMAN NEWYDD.

 

 


.....

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J7571a) (23 Ionawr 1915)

Aberdare Leader. 23 Ionawr 1915.

Clywedion Dyffryn Dar.

Fod y Byd a'r Bettws wedi acor i llyced i weld fod shwd gonshans gyta'r Mashistrates Brigade i nithir private meetin i stopo heefad yn Sweet Berdar a o 10 o'r gloch y nos hyd 7 y bora.

Fod miloedd o’r Snecs yn cretu y bysa’n  well pe bysa nhw wedi clirio'u selars I hunen gynta cyn shoto cerig o'r glass house, a rhoi shawns I’r Grocers' Brigade i werthu wishgi yn lle Welsh Ham.

Fod rhai yn meddwl ta’r clyba gaiff hi weitha, serch fod y Librals yn dotal ar y Sul, a gwynepa hir genti nhw wrth ddarllan y Divorse Carckasis ar y Dydd Sanctadd a wilo am stops a diveedhends, a wetin ishta a gwep whech trodfadd yn y set fawr!

Fod pawb yn gwed fod isha wara teg mwn bysnas, ond pwy fysnas i neb yw a i drio cnoco dyn lawr pan bydd sychad arno? Os bydd sychad ar Lord Skitsha Melyn, ma fa'n gwed, “Hanjelina, hand me the jug," er bod hi'n gwartar wedi deg; ond pan bydd Shoni GIo Afan yn gweiddi, "Mari, dera ddrink, er mwyn Cesar," fe gaiff apad, “Ca dy fox, y wepla bonafidee cwrw coch. shagawyti, ne fe alwa'r plisman!"

Fod sopyn yn cretu ta nid y rhyfal yw’r gwr drwg, ond y dynon drwg sy’n y rhyfal, a mas o ge ed. fel gwetws lolo Morganwg yn blaem ed, sef, "Kill a Welshman if you dare, I'll always find 'Fresh' in Berdare, A casgan fach so  good and pure, is always welcome I am su[r]e; but if the Kaiser said it's TEN, always shout, 'Mae Cymru’n BEN!”

Fod erill yn cretu ta dim ond sham yee-total yw'r Mashinistrates, achos


 

 


Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J7571b) (23 Ionawr 1915)

ma shars gyta rhai o henyn nhw yn y  strongs, etc., a’r weaks' water, etc.. a r dry shinsheer. a'r white bottle with a white lappel who walked from the year  of the tair caib -1777 - pan startws yr Hen Gownt, O! fendigedift goffadwriath, h.y., cyn i bydlers Bernant droi’n glêr!

Fod application wedi ca! i nithir i atal General Dwr y Mor, 2 Brigade Terrace, Gadlys, Aberdare; Lifftenant Von Tip Shindries, 8 Achapryndawn Satwrn Villas, Pentresamwn, a Cyrprel Dram Wag, 1 Casgan Vach Manshons, Hewl y.Gwynt, Cwmdar, i fynd vel depewtashon velvet at Lord Kitchener, er cal lwans i gwni bantamalion o'r Snecs i gwpla’r rhyfal cyn bydd yr hen gownt yn ddue. All applicants to send their names in at once to ensure everlasting success  to: — Syr Packman Newydd, Mild Ale Mansion. 1 Kitchener Road, Via Llunden Fach, Aberdare, England.

Fod Sherman y Committee, gan fod a wedi tori i fys, i gal compensation a chab i fynd i'r bank; ond cyn fod a'n mynd, fod dou witness i showo nag os dim fforin blyd yndo, a gweld na shafws a ddim o'i hunan gyta Sherman Raze oddar cas a i eni, a bod a i sefyll rownd cyn stop-tap tro nesa!

Fod pawb wedi cal ffit, yn enwetig y  ratepayers bach innosent, i weld offisars coleri stick-up — rai o heni nhw — yn cal cwnad o £25 y year at yr hundreds ma nhw wedi cal o'r blan, a'r pwr dabs y  collars, y scubwrs, y packmen, a'r sandwishers yn gorffod talu extra am sepon, extra am de, extra am ryfal, extra am ddwr y mor, extra am rent, extra am faccwn i fwnccwn, a gwath na'r cwbwl,  suffro y snubs mwya am gal dicyn o hen gownt sy just a lladd y PACKMAN NEWYDD.

 

 


Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B2207a) (30 Ionawr 1915)


Aberdare Leader.
30 Ionawr 1915
Clywedion Dyffryn Dar.

Fod isha dynon, dynon, a dynon o hyd, mydda Kitchenar; a isha arian, arian, ac arian o hyd, mydda'r Snecyn, achos, mydda'r ola, “Sdim dynon heb arian, a os na alla'r Llywodrath roi gwell trowsis i sowjdwrs Masydre ddath nol o'r ffrynt, bydd y Germans ar y blan yn y trenchis, a becso mawr ar ol Mocyn Huws!"

Fod erill yn cintach ac yn wthu isha na bysa waitin room yn Cwmbach Stesion, a bod sopyn o bwr dabs yn gorffod ishta ar y railins, a gatal y packages a'r portmantos i hongad wrth y lampost! Odd son slawar dydd ta relwe slow am reforms odd yr hen Daff; ond Duw dishefoni, ma'r "G.W.R." yn waeth na'r Hen Wr, a'i ddacki ed!

Fod un mistake bach câs, mydda nhw, yn y "Clywedion" dwetha, ond sdim gwella ar d---l y wasg - mae yndi o hyd fel tacla'r hen gownt, a yndi bydd a ed nes bo'r Editor wedi tyfu'n ddicon o ddyn iddi riwlo fa. "Printers' devils, beware! or else there'll be a scare."

Fod prishodd popath wedi cwni cymint fel nag os dim dicon o arian i gal i dalu am denyn nhw - a shecks, shecks, shecks du a choch sy'n cal'u trafod bron ymhob man ond districts yr hen gownt, a ma rheiny nawr yn dwindlo lawr just i zero, a below freezing point, os na fydd influence dychrynllyd a charitor diamheuath gen y poor applicant, a'r peth gora i nithir, medda nhw, yw cymysgu cymint byth a allwch chi gyta'r managers, editors, overmen, firemen, foremen, moneymen, a phob Men erill ond y WOMEN!

Fod y dyn werthws dou fascedat o gokes i'r fenyw fach yn y Gatlys yn haeddu cal i grocki! A dyna gonshans, chargo grot yr un am denyn nhw pan elsan nhw'ch dou miwn yn deidy i'r ddwy bocad wasgod lleia 'nawd gan y sweaters ariod! Sdim rhyfadd fod y Gyfarmant yn galw committee at y cost of living yr wthnos hyn, a ma isha i Faer Tresamwn, a'i Ddewpity o'r Gadlys, i alw Cokes Committee ed!

Fod y Censor sy'n cal cig mochyn via Penderyn yn gwed fod talant y Packman Newydd yn gwaethycu, a bod gormod o'r "Mild" yn rhytag lawr sha'r Nile! ond sdim son faint gerws Syr Johnny Walker o Bernant i'r Feeder Fach, na faint gas a mas o'r streshar inventws a i gwrcld a Capon Jenkins! Old birds live long, but "clers" live longer, for its a long way from the German Eagle to the Gooseberry Bush, and much further to Cydweli!


 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B2207a) (30 Ionawr 1915)



Fod y Cownsil yn wasto arian bidir wrth roi gola ar y top a neb yn rido! "Wel," mydda Sam Cols, A.C., "when I learnt Solffa, I knewed nothin about Hold Noshashun, but if there is a HUN about it I'm in for the b—, let him be in Heligoland or Cwmdare! Watch a Welshman if you dare. We were Ffresh before the Burton, you're time's up if not a Briton! And if that's a great mistake, let 'em ride in Shoni's Brake; ride a mare or horse in town, fight the FOE, and OWN your OWN!!!

Fod y Senedd mor llawn o Soshals pwy noswath, fel gorffod i'r Packman Newydd sefyll i sythu yn y Lobby heb un vote nag un cydymdeimlad iddo, achos fod a ar y look-out am dicyn o hen achos fod a ar y look-out am dicyn o hen gownt, a gwath na'r cwbwl, dyma getin o Haristockrasi yn cwni ac yn gwed — No Class — a fina, wara teg, wedi passo'r Classes i gyd! Ond dyna, ffaelas baso’n  ffireman, paso'n hitshar, na chario oil i rytag y trams; ond to [= ta] beth, er mod i wedi acor list i gwni rigmant Haristocrat w i ed (full blud) o Benybont i Braman — yn ol hanas - and shure shot till the death. No Germans need apply.

Fod bwyd wedi cwni, soldjws wedi cwni, Pont Tresamwn wedi cwni, Leader wedi cwni, Ffresh wedi cwni, trwyna wedi mestyn, a chaws Caerffili'n brin, ond diolch i'r nefoedd, ma talant yn 'Bernant, a'r Hen Gownt eto heb ladd y
PACKMAN NEWYDD.

N.B.—Next Week (Wthnos Nesa), er mwyn i'r Bantamalions ddiall — o Benderyn i Braman -pryd ma'r Brigad i gwni — Full List of Promoshinums with or without Old Count, to appear in parade. No hotels allowed, but no money barred. Ful llist shure appeerin. No degs with cords allowd but marrid men preffard! - O.H.M.S. (Signed) P.N.

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J7569a) (6 Chwefror 1915)

Aberdare Leader. 6 Chwefror 1915
Clywedion Dyffryn Dar.

Fod rhyfeddota pena'r byd ar ddod i'r golwg, a dynon a mynywod. odd yn gas genti nhw weld 'u giddyl ar hewl Bernant a hewl Cwmbach, yn awr just dod fel y ci a'r mochyn - nace, nace, mistake — fel yr oen a'r llew.

Fod list yr honars wedi cyradd y local Hedcwartars, a fel hyn ma nhw'n dishgwl ar ol cal i stico ar y plancedi a'r wala lle nag os tai byw na shiccins:
WAR AND FIGHTING HONORS.
(By Special Command from the Front.)
1. — Lifftenant Von Shindris, V.C. on top of his brest, and the real Welsh Goose (guaranteed) every Xmas Eve from Pendarren (?) for the term of his hexistmg life. The title to fall and die with him. Secret (he nearly killed the Kaiser.) — Private.
2. - Capten John Mons Jones (Ap Ypres), 3 Waterloo Mansions, for bravery in Caemarydwn years ago, and subsecently in Dixland, for not losing his leg nor betraying his trench nor his wine-tray to the Shermhun, 2 acres of Patagonian land (freehold) and 9 galwn due for life of best ale in ty, garanteed by Zamzivnski Zamivels, and triwly delivard regilarly and yearly on the 1st day of Janivary, as aforesaid.
3. - Private Siams a la Trwmpyn, Second Maesydre Bantamaliwns (3rd Brigade), for resciwing 2 men of the Cwmdar Bantalimon from destruction, and describing the Germans in such a detestable and despicable manner that he himself was even singled out for slaughter by a whole army of 30,000 Billion Germans, and who is not ded yet - he to receive Aberdare Public Park for life and his hares after the U.D. Council have finished using it. If something befalls him, the Workhouse is at his command in the meantime.
4. - Cyrpral Twm Taran, for keepin up the Pembrokeshire Pigs, and saying he do know that Snecs "can't spake or writin" Welsh, and for wishin the Kaiser dead and also standin drinks rownd (without owld cownt) to the Welsh Corpse Committee, 2 Mansions for life in Tresamwn (not lodge houses), 1 patch of land, and 315,105,200 half-pints, and bye law, if he do not accomplish that, as aforesaid, his ancestors, heirs, and belongings to have the remaining fflagons. - R.I.P.

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J7569b) (6 Chwefror 1915)



Fod list arath wedi dod i'r Local War Offis, ond fod a mor llawn o enwa a Soshals a Librals a Tories, fod yr awrthowritis yn ffaelu gweld pwy isha taclu enwa'r Soshals ar y ffrynt pan ma cymint o'r Stocrasi wedi cwmpo wrth ddala'r cleddy! A mydda rhyw getin o gaffer o'r Cwm: "The political hatchet is buried for all the war time." "Yes," mydda'r hen wr odd ar i bwysa, but your tyrantical, bownsical, aflanastical, brwmstanical, and Germanical old hatchet is beginning to get blunt, and it's a long way to Timperhary to sharp it! And there are other axes to grind."

Fod rhai yn achwn yn fidir bod mynywod bach a mama'n gorffod talu'r pacages yn y post ofiis, a un hen wraig, pwr thing, yn gwed, "This is my last shillin in the world, and I am sending my dear boy a shirt and a cake." A phan glywws rhywun odd yn yr offis hyny oddiwrth yr hen wraig wrinclog, druan, fe wetws: “All men at the front should be treated as MEN soldiers - not as poachers or paupers."

Fod sopyn yn gwed y cwpliff y rhyfal cyn startiff Pwll y Gadlys neu'r pylla, o ran hyny. y Pasc nesa; ond fel gwetws yr Hen Backman, "Ma pethach yn dishgwl yn lled dywyll, fel yr hen gownt." Sdim dowt fod isha iddo fe ddod mas o'i hen blisgyn, a chwni rijmant. a phractiso ar dips Llwydcoed, gan fod General Glo Man, gynt o'r Mount, a Maer Tresamwn (yr hwn sydd newydd symud i'r Tudor Mansions) yn gwed fod openin nate i'r Zampallinions yn Llwydcoed i bracteiso, ond 'does neb mor benderfynol as mor ffyrnig, ac yn barod a'i holl nerth i ymladd rheiny, croded pawb  neu beidio, na'r PACKMAN NEWYDD.
 N.B. — Wthnos Nesa, diwadd List yr Honars a hanas y Beirdds. — P.N.

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J7570a) (6 Chwefror 1915)

Aberdare Leader. 13 Chwefror 1915
Clywedion Dyffryn Dar.

Fod diwadd y List of Honars yn cwpla fel hyn: —
No. 2,4567,8910, 1st Batt. Royal Welsh, viz., Private John Salamanca Jones, to be rised up to a full lifftenancy, but not to go home so often without leave (via Swansea). — By Order, C.C.

No. 1, 2nd Batt. Cwmbach Welsh, 4 viz., Private Shinkin Bwlet, for scaring Zampallins and closing canal to all sambarines, to have a patch of Merthyr Mountain, 100 yards square, a freehold house, and shooting and fishing rights within the Snec's Dominions. - By Order, C.C.

No. O½, 100th Bantam Welsh, viz., Private Milltir Milgwn Heliwr, for racing into the firing line and saving six wounded comrades, to receive the V.C. and the warmest thanks of a grateful nation, and to be carried showldher high from Llyndan Fach to Llyndan Fawr. — By Order, Commander-in-Chief.

Fod pawb yn cretu nag os dim hanar y sowdjwrs sy wedi dangos dewrder di-ail ar y maes wedi cael beth desarva nhw, a ta ffafrites hwnt ac yma yn unig sy wedi cal super-hamitation a homoneritees, etz., etz., ac fely y ny blan.

Fod isha Inspector newydd yn nhre’r  Snecs, a llyced yn i ben a ed! a beth I  chi'n feddwl, Mr. Gol., shwd fath neu ddiscription o Inspector ma sopin yn moyn? Wel, "Inspector of Loafers," nid tortha cofiwch; ond wy yn suggesto "Inspector of Sponjars!" Beth wetiff y Grand Committee am hyn, mae'n anodd gwpod, ond dicon tepig y bydda nhw'n layo rhwpath heblaw papyr a cigars ar y ford!

Fod y local Von Tairpris wedi methu cal ond unpris, a jobin da ed, achos pe bysa fe mond cal i ffordd, bysa rhaid i bawb whilo am dy i fyw yn y lleuad os na nela nhw byrnu gento fe wedi cal bentig stabal gan ei lordship.

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J7570b) (6 Chwefror 1915)



Fod prish monshonstramwns bwyd a pethach i heefad mas o bob conshans, nes ma sopin wedi mynd i gretu ta dim ond y money-lenders, y pom-shop, a'r mortarmariam sy'n mynd i achub y Snecs rhag comito seesawside yn y Cwrt Bach, os na a nhw'n Bantamaliwns i gyd cyn Gwyl Dewi.

Fod isha croci'r mountebanks, fat public feeders, sofrin-grinders, poor people's food risers, a'r rack-renters; a ma Special Committee, dan presidensy General Fairplay, i gwrdd am 3 o'r gloch y bora yn y Farchnad, yr wthnos nesa, i basso verdict sawl un sydd i gal public execution yn Victoria Square, cyn bo'r collars yn mynd i'r gwaith, a swn yr hwtar 6 yn cyhoeddi fod y death sentans is passed!

Fod gwath cwestiwn na'r cwbwl heb gal i setlo gen yr Amazons, a hwnw odd ffordd odd y Washer Mawr yn mynd i acto, ond gan fod shwd gwmanfa o wyped yn hongad ar y tops, son am rhyfal ar y slants, a phydlers 'Bernant i gyd wedi trico, a baro'r dyn gollws i watsh hour — nid our (English) (Web- ster Dictshonerry) ar hewl Bernant, Mashar a Washar sy'n mynd i enill y dydd, ond fe fydd yn deit dishefoni rhwng y DDOU DDYN MAWR a'r un dyn bach! Good old Jack! Hope you'll win another watch! P.S. — You've already won a good old wench!

Fod pob dyn call yn gofalu pido cal hen gownt, ond beth am y dyn wetws ta nonsans odd dechra nos Lun, a fynta heb ddima yn i bocad? Degrees are not decreed! but owld cownt goes on for ever, why? Because there is an attempt on the life of the PACKMAN NEWYDD.

 

 

A screenshot of a computer

Description automatically generated with low confidence
(delwedd J7605) (27 Chwefror 1915)

Aberdare Leader. 27 Chwefror 1915.
Clywedion Dyffryn Dar.

Fod pethach yn etrach yn go dywyll arno ni nawr, mydda nhw, achos fod Wilhelm Von Geesar (Ap Mwstash) wedi hala notice i'r Snakes i wed nag os dim racor o German Sausage na black na blomm bwdin i ddod miwn i stesions y pentra ar ol yr 18th of February!

Fod sopin yn gofyn beth yw'r rheswm  fod dynon a mynywod yn supporto fforinars pan alla nhw gal yr un stwff gen y natives. Wel, wara teg ed, ma rhai fforinars (nid Germans) yn gwerthu'n chepach beth dychrynllyd, mydda nhw, na rhai o'r money-mongers gas 'u geni ar y patches. A os yw'r Snecyn yn moin lesyn mewn cheapness, sdim isha iddo fa gerad 5 milltir o'r Shop Glocs!

Fod pob shopwr yn trio excuso'i hunan trwy wed fod y mershant wedi cwni'r prish achos y war; ond mae sopyn o gelwdd yn cal i wed gen rai o'r rhai mwya digonshans, achos os yw prish yr ham wedi cwni, a'r bara, etc., ma'r blackin 'run peth, mydda nhw, a'r halen ed, am wn i.

Fod sopin ed yn cwni'u trwyna ar y marshareen a'r fforin meat; ond dyna yw arfer y dukes, y lords a'r ladies a gwyr y skitsha melyn a'r rhai gas 'u cwni ar lath enwyn yn lle 'i roi a i'r mochyn. Fel gwetws y Duke of Abercorn, “High life below stairs never brings the poor good hares, but he who starts to run away may come to be an heir some day."

Fod y Soshals a gwyr "stop-the-war" wedi climbo lawr dicyn bach, ac os gallwn ni gretu Bili Shon Bwmp, cyn-orator yr Highellpee, bydd y cranks i gyd wedi cal 'u convarto i goman sens cyn diwadd y rhyval, a gwyr Shir Bembro, Abernant, Ca Davies, y Gatlys ac hyd y nod Masydre anwar, wedi dod i ddial giddyl, ac i fehavio'n deidi "heb neb yn tynu'n groes."

Fod bywyd newydd neu "lês" newydd i gal i roi i 'Bernant, trwy fod y P.D.'s wedi pyrnu, mydda nhw, y pylla, a sdim dowt y bydda nhw'n bildo Sineema sha marka'r Half-way, fel bydd dynon, mynywod, a phlant yn cal ticyn o flas y Fethergill Days, pan odd glo am ddim ar y tips, a loshyn hir yn ddima'r llath!

Fod y Riportar yn gwed ta yn 'Bernant y bydd y Revival nesa', ond revival mwn beth? Ma fa'n rhy giwt i wed hyny, achos dicon tepig ta isha advertiso ticyn ar yr hen le sy arno fa - lle sy nawr a dou hextreems yn byw yndo fa: Snobvilladom Mansions yn cynwys yr haristocrasi, a'r Dramlo Cwrt yn cynwys y coliararsi!

Fod mwy o frawdoliath i gal i notiso nawr mwn cwmni ymhob man oddar startws y rhyfal, ond mwn amball i fan lle ma bombastyn sy wedi gwishgo shute milisha falla ddwywaith yn byw — math o Von Timprish sy'n gwpod mwy am ffagots a green peas nag yw a am Sambourines a Zempallins!

Fod lot yn protesto o hyd yn erbyn prish uchal bwyd a'r "comparity small wages”  (chwedl -) sy'n riwlo yn y gymdocath; ond ta faint brotesta nhw am brish uchal pysgod, ham, a chwrw, para i gwni wna nhw o hyd os na stepiff y Cownsil neu'r Gyfarmant miwn yn deidy, a thrio stopo'r hen gownt, fel y ceisia y PACKMAN NEWYDD.

 

 

.....

 

 


None
(delwedd B2186) (
20 Mawrth 1915)

Aberdare Leader. 20 Mawrth 1915.
Clywedion Dyffryn Dar.
--

Fod llawer yn cretu mod i wedi cal promoshun y bythewnos dwetha ma, achos odd dim line gen i yn y "Leader," ond yr unig bromoshun ges i odd cal promish yr hen gownt, a ffeili gal a yn y diwadd.
--

Fod smiles bidir ar wynepa pawb ar ddiwadd yr wthnos wrth weld yr houl yn troi mas mor grand, a dydd Sul ta — welsoch chi, syr, ddim shwd beth ys cetin - rhai o'r young bluds, a rhai o'r hen rai ed yn gwishgo heta gwellt, scitsha melyn, etc., ond chydig o'r Cymry sy'n gwishgo bell-bottoms nawr, ond amball i Shoni Hoi sy'n bartnars a'r Summersetts!
--

Fod rhaid i bawb i wed i getin am y rhyfal — am y soldiers' lowance, Mrs. Soldiers' lowance, and so forth, a myna sopin wed fod gwracadd a phlant y soldiers getin well off na phan odd y soldiers yn nhre yn gwitho. Sdim dowt fod a'n wir mwn llawer case, achos mae rhai o'r gwracadd yn fwy o swells nac ariod, ac yn gallu patroneizo'r Jwg and Bottle Manshion yn deidi ed! Ond pwy ots i neb yw hyny, os yw'r Llywodraeth yn talu'n deidi iddi nhw ed? Os gall Hempee gal i
£400 pam na allif y British Soldier gal £200 a'i wraig a blant a £100 rhynti nhw? Dyna gant punt y flwyddyn o saving —argiwmant camp yn erbyn y parish pumpers a hacters y gwynepa hir setfawryddol sy'n advocato dwr glan a dim delighted whishci!
--

Fod canodd o fechgyn apal i wmladd yn cerad obothtir'r hewlydd o Gwmsmintan i Gwmaman, mydda nhw, a ta Cwmbach sy ar dop y list am rif y dewrion sy wedi pitsho yn y rifle, i fatlo dros i gwlad, yn ol number y population; ond fod un military repartor am wed ta'r Gatlys bia'r honour. Pwy sy'n reit ? Beth am Ga Masydre ac Abernant? heb son dim am Dresamwn a Llundan Fach. Ond well catw mas o ddwylo'r Freethinkers, neu bydd racor o fidnite boms rhwng y Graig a'r Mardy!
--

Fod rhyw sparcin o'r topna yn gwed nag os dim enad yn y Packman Newydd — nagos da fa ddim testyn teidi, bywiog, a chommandin i dynu sylw, edmycadd, a diolchgarwch y reading population - y cantorions, y beirdd, y traethodwrs, y speekwrs, yr oraclwrs, na'r yfwrs. Wel, fe ddylsa fe fod yn yr Orsadd pwy noswath, fel gallsa'r ffon a'r tongs shawns i ffysto knowledge iddi ben a, a'i urddo fa falla dicyn bach yn uwch na ma nhw'n gnithir yn ngwlad y moch, a rhoi heefad iddo yn y fargen!
--

Fod un o'r riportars wedi hala post-card wedi addresso fel hyn ataf fi: - Packman Newydd, 2 Brethyn Terrace, yn cynwys cownt lled fyr am rhyw gwrdd urddo grand fuws gan feirdd Ynys Prydain, Mon a Manaw, a Masydre ed, am a wn i, ac yn diweddu ar waelod y garden mae y penill canlynol, sydd, er fod collad odl neu sens yndo fa, yn ddicon i nithir i'r sparcin a nodwyd i weld fod petha pwysig yn mynd mlan yn nhre'r Snecs, a lot o nhw heb gal gola dydd byth ond gyda lwans yr editor, dyma'r penill fel sgrifenwd a: - 
“Cwrdd yr urddo ydoedd yno,
Cwrdd yn llawn o Gymry cryno,
Heb un yno'n anghytuno,
Nac yn ysgafn neu yn siglo,
Ond y tongs a'r ffon;

'Pwy yw hwna?' meddai Jacki,
‘Oti a'n wron i'w fawrygu?'
‘Oti'n wir,' medd Ned Alltplaca —
‘Hwna yw y great Cawr Mona - 
Ishta lawr a cha dy fox!”

Fod depiwtashun o'n Ward i wedi gofyn i fi sefyll am y Cownsil yn y lecshwn sy just a dod, a wy wedi rhoi consent iddi nhw i glasgu votes drosto i, ac y dwa i mas yn fy nghylars reit, a dyma fy address : —
To All Ratepayers Big and Small, Honest and Dishonest.
Sirs, — In begin' for your kindness, I cum out as a hout and hout man. I give Old Cownt to you for over 20 yeers and carry my pack on my own showlders. My password for all is, Freedom for All, and Love your kneighbor as good to be yourself. Havin' trusted you — cownt in and cownt out — don't forget to plwmp for the –
PACKMAN NEWYDD.
P.S. — Bizzness as husual.


…..

 

 


None
(delwedd B3023) (
17 Ebrill 1915)

Aberdare Leader. 17 Ebrill 1915.
Clywedion Dyffryn Dar.

Fod amsar rhyfadd wedi bod yn ddiweddar mwn rhanau o'r dyffryn  -- cyffroata, accidents, promoshuns a disproboshuns, etc., a rhwng y rhyfal, prish uchal baccwn, a'r early stop-tap, fe gretws rhai o wood-bees y Gatlys fod y Milliniwm wedi dod, ond nag odda ddim wedi starto o'r set fawr!
...

Fod y gwyla wedi passo'n lled deidy, ag eithrad y ticyn glaw ddath lawr Llun y Pasc i ddampo track y Rasis, ac ysbryd y cariaton odd wedi fforco mas i gal blow out hwnt ac yma yn y Mount, Hirwaun, Penderyn. Cwmsmintan, Dymfreeze Parc, Cwmbach a North Avenue, etc., heb son dim am y Shews a'r City of Merthyr — Gretna Green y Shoni Hois i brioti slawar dydd, a nawr am wn i ed!
...

Fod shwd waith trwm gen y Committee sy'n delo mwn Deeplomans and Tytles, and Orders of the Tongs, etc., fel o nhw'n gorffod pwstpono o hyd yr hyrddiad oblecid y demand am gwnaton a'r general advances yn mhob dosbarth o ddysceidiath, fel na fydd dynon clefar yn fuan iawn yn cal 'u napod wth 'u henwa reit, ond yn ol 'u teitls
: - Eos Pilsan, Eryr Powndfforch, Ap Sleever, Dewi Dafad, Clerwyson, Mosifab, Epenaptus, Cwdynfab, Fflagonfab, Prysurwyson, Amalwyson, Cadeirfardd, Cadachyn, a Thawelfab, etc.. etc., etc.
...

Fod dynon yn dod, serch hyny, i weld 'u gilydd, a diall 'u giddyl ed, yn well nag own nhw yn amsar Lewsyn y Crydd, o foxhat goffadwriath, a Isaac Thomas, yr undertaker a'r bocser mwya yn y South Wales yn i amsar, o ymbrella fawr goffadwriath, achos odd Isaac wastod yn gwishgo ffamilee ymbrela, odd yn mystyn dros y pavin a'r gwtar; ond sa fe yn fyw 'nawr, celsa wpod fod dyn gwyn o'r diwadd wedi bocso'r hen Jack Jonsin mas o wynt.
...

Fod sopyn o sharad am waith rhywun yn yr I.L.P. Conffrans yn Norwich yn gweiddi mas, “We must defend the German people," a bod a wedi cal clap dwylo dychrynllyd yr Highelpeers erill odd weti stwffo i hunen i’r meetin. Ia, defendo mwrdrars. Kaiser and Co., Baby Killers, Women Destroyers, Church and Chapel Destroyers, etc., a wetin taclu yr Highelpees yn fosses arno ni gyd, cwni rent, a mynid iddi nhw 'u hunen
£800 yr un, a taclu'r Kaiser yn Glark of the Works yn St. Stephan, a phagad o Huns i witho glo i'r German Sambourines. Ma'n llawn bryd i'r Gyfarmant insiwro neu hintarno yr Highelpeers!
...

Fod rhai yn lamento dros y pwr dab gas shwd shock pwy ddydd trwy gwmpo dros wal uchal y Cownsil, achos i fachan cryfach na fa o'r part isha na rhoi scwt cas iddo fa. Wel, “all is fair in love and war," onte fa? Ond dos na ddim dyn na dewin yn gwpod beth sy'n "fair" yn yr Highelpees!
...

Fod y clwbwrs yn hwrnu sopyn achos y stop-block, ond ma erill yn gwed servo nhw reit, er fod rhai yn cretu yr atnod, “You can't make a man sober by Act of Parliament." Erill yn gwed y bydd yn ffortiwn i'r Fflagoniters, y Grocers, y Cwrw Bach, etc.. a'r Wireless Telegraphy!
...

Fod sopyn o'r coliars yn gwed nag odd dim isha colli mwy nag un turn achos y rhyfal, a phrish uchal y licyrs a'r double-dagger, etc., ond bydd rhai yn siwr o golli mwy, a mynd i hen gownt tragwyddol sy'n felldith i'r PACKMAN NEWYDD.

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J7606a) (24 Ebrill 1915)

Aberdare Leader. 24 Ebrill 1915
Clywedion Dyffryn Dar.

Fod y Byd a'r Bettws wedi cal ffit o chwerthin ofnadw wrth glywad fod un o arweinwrs yr Highelpeas wedi matal a'r blaid neu'r gang achos i bod hi'n "rotten." Fel gwetws Shakspere anwl ganodd o flynydda yn ol—"There is something rotten in bad eggs and bad lodgers."



Fod y ladies sy'n enjoyo y soldiwrs lowans yn gallu reido'r  trams mwn style bidir, a rhai ohonyn nhw yn gwishgo ostrich feathers ed, heb son am put up in the hotel, and please stop at Esmwyth Manshons. Fel gwetws Ap Smala:—

 

“Mae'r bewties bach o Maesydre,

A rhai o'r pentre ed,

Yn llyncu dainties gwell na the

Cyn matal o'r Bwlshead."

Fod gwyr smala iawn ed yn perthyn i'r Local Parlamant, ac un cetin o fembar yn trio scothi yno pwy noswath fod y Germans yn mynd i enill. Sdim dowt ta un o freed yr Highelpeas yw a, a ma'r Sarjent-at-Arms yn bycwth citsho yn i scrwff a cyn bod y Parlamant nesa wedi cwpla.

Fod son o Gwmsmintan i Gwmbach, ac o Gwmdar i Gwmpennar, y dylsa'r coliars gal 'u reits yn amsar rhyfal, a'u bo nhw'n gweiddi mas am 20 per cent. O fonus rhyfal (nid magnabonas), a fe ddylsan i gal e ed; ond pwy sens, mydda ahw, yw streico just nawr pan ma'r Zampalins yn hedfan obothti, prish bacwn yn uchal, German Jews wedi cwni'r cwrw, Irish wedi lando yn Mhenderyn, gwyr y wynwns wedi mynd nol i gyd, a'r rent just a dyblu, a'r Hen Gownt yn bygwth doti ni yn y jail?


 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J7606b) (24 Ebrill 1915)


Fod mwy o son nawr am garu ein giddyl nag odd yn amsar Cain, ond ma rhyw scadenyn sych o'r pwlpit wedi gwed fod yn well gento fa'r Germans na'r tafarnwr! “Dyn” yn mentro gwed yna o fewn 100 milltir i Scwar y Boot — ynghanol civilization teidy yr ugeinfed ganrif! Dylsa fod cwiddyl ar i groena.

 

Yn amsar ein teidiau yr odd y pregethwr bach yn cal dobin i helpu a drwy'i brecath ar ol cerad falla filltirodd, ond ma Dr. Snubb, D.D., Ll.D., heddy yn rhy bwdwr i gerad, achos ma gormod o dduwinyddiath yn pwyso ar i ben a, rhy fach o ras yn i galon a, a gormod o fotanic yn i fola!

Fod y listin sarjents yn gwed fod sopyn dychrynllyd o eligibles a bechgyn smart yn y dyffryn heb joino'r ranks, ac yn cerad obothti, rhai'n caru, sharad a chlepran am bob dwli ond i duty, a gofnws y sarjent i fi roi shars iddi nhw ddihuno, a dyma fel w i am wed wrthi nhw: -

Wake up, wake up, ye laggards

Stand forth in bright array,

Your motto should be "Forwards!"

At home you should not stay

Be true to King and Country,

To justice and what's fair,

And then you'll earn your bounty

And praise in Aberdare.

Fod y ffair a'i holl helbul wedi passo unwaith etto, a llai o fwncwns nag arfer yn scwto a screchan a saethu scent, etc., ond 'rodd rhaid i sopyn o'r hen blyds i fynd i reido gyta'r young uns, fel esgus wrth gwrs. Gwelwd gwracadd a merched ifenc ed yn slasho obothti yn fidir achos bo nhw wedi cwni'r gwynt yn rhwla i byrnu gwlanen, a slashis o ferched odd rhai ohenyn nhw ed.

Fod sopyn yn gwed fod y rhyfal yn towli blast dros y cwbwl, ac na fydd enjoyment na blas i fynd i ddwr y mor leni, ond gyta'r sawl sy'n ddigonshans i atal y gath ar ol i starvo, gatal mish o rent, y milkman heb i dalu, a thwysged o hen gownt i'r PACKMAN NEWYDD.

 

 



.....

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd 7544a) (
8 Mai 1915)

Aberdare Leader. 8 Mai 1915.

Clywedion Dyffryn Dar.

Fod hi just a dod yn gonscripshan arno ni, a drws nesa iddo ed; a'r un man iddi ddod felni, achos fydd dim whishgi na chwrw werth i eefad yn fuan, a gan y bydd hi yn stop-tap am 6 yn gwick iawn, run man i ni gyd listo a chal dicyn o win a ffresh air yn Ffrainc.

Fod sopyn o wleua a rhytag lawr ar Lloyd George, mishtir pocad y wlad a'r gyfarmant, o ran hyny, achos i fod a'n moin i'r gwithwrs i fod yn good templars yn lle bad tipplars. Wel, ma rhaid cal mwnishans, sowdjwrs, ac arian, ond treni mawr cwni prish peint y gwithwr, a gwyr yr asthma sy'n ffindo dropin o whishgi mor helpful iddi nhw amsar diffyg anal.

Fod erill yn gwed ta moderation yw'r boy sy'n talu, a gwn i am un moderator yn gwed sticyn nol fod whech pint y nos ar ol hwsi ddim yn omrod iddo fe, ac y dylsa pob gwithwr ond yr hen gowntwrs i gal e ed. Fel gwetws Dr. Abercrombie, "Every belly is not the same size." (Page 44", vol. ii., Doctor's Remedies.)

Fod rhyw bolitishan a thrwyn main gento yn gwed y dylsa earthquake arath gymryd lle i ddoti Itali mas o existence am i bod i shwd goward yn ishta yn dawal ar y glwyd i weld y German bulls yn lladd yr innocents. Ticyn bach o wir manna ed, ond rhy extreme i'r 20th century. Fel gwetws y Duke of Wellington wrth y Guards yn Waterloo, "Up Guards, and at them!" a dyna lle buws lladd a gweiddi. Odd lladd moch yn slatterhows y farchnad slawar dydd, pan odd y dorf ffeili clywad Band Shew Greaduriaid Wombwell, mas o heny altwgether, a dylsa General Garibaldi wed yr un peth a'r Duke wth Itali.

Fod y local parlament yn mynd mlan yn llawn bywyd i gyd, a rhwng y smokars sy genti nhw yn y sitting room, y shigars a'r sigarets, y shampane a'r sidir — a'r short, wth gwrs — ma nhw wedi bod yn gwledda'n fidir yn ddiweddar, cyn bod y Budget yn tori'u trwyna, a mae wedi dechra dod i hyny ishws, achos ma'r Chairman yn gorffod gweiddi “Stop Cleppar” pan fydd clock mawr St. Elfan yn taro deg.


 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd 7544b) (
8 Mai 1915)



Fod sawl par bach teidy yn dod o'r Marriage Offis pwy noswath, ac yn werthin fel pe bysa'r honeymoon wedi dechra. Wel, pob lwc iddi nhw, ond ma nhw'n mentro i glwb y rhacs mwn amsar dansherus ofnadw, heb son am brish uchal — ia, dwpwl y bwyd — (Penderyn and Ireland left out). Ond fel gwetws Scatanwyson:
“He to-day who wins a bride,
May find one more the other side,"
ta beth ma fa'n feddwl; ond ma license i'r bardd, a eefwch ed!

Fod y tywydd fine yn cwni calon pawb er gwaetha'r rhyfal a'r “Blwmin Budgat," ys gwetws Dai Shon Bach o Bantycilog, a sopin yn troi mas mwn style, cylars a stroke ed, yn enwetig yn y Pare, a twang mawr genti nhw yn ddicon i hala ofan ar y Shoni Hoys a'r Crachins sy'n mentro lan yno. Fel gwetws Shawspere, “He who loves me loves my dog."

Fod shew o bethach iddi clywad o ben i waelod y dyffryn, ond sdim amsar na bias gento i atrodd racor nawr, achos wy'n ishal iawn trwy fod yr hen Gapten Death wedi rhoddi wad ofnatsan ar gefn y PACKMAN NEWYDD.
[P.S. - Bisness as usual. Old Cownt not ded.]

 

 

None
(delwedd 5559)  (
15 Mai 1915)

Aberdare Leader. 15 Mai 1915.

Clywedion Dyffryn Dar.

Fod y Byd a'r Bettws wedi dihuno o'r diwadd i weld poison yn y German Sawsages a gwped yn y Lagger Beer. "Long Live Cwrw Fresh!" mydda Wil Partin Dwpwl, a 'Hwre!’ odd apad yr holl Local Parlament, o'r trwyn pwt i'r trwyn main! Fel gwetws Lord Darby, “If the wind blows fair, no rain in Aberdare; but if it blows well, the Kaiser'll reach h--l!!!” (Ysbryd yr hen Renter, er fod a wedi cico'r bwcad). N.B. - D.A. alive, and expectations for more bonus from Asquith.
-

Fod y Shareman (nid shareman y Bwllfa) wedi gnithir speesh an- farwol, gan wed os odd aten gan un o engyl y nefodd, y dylsai ddod lawr, heb ringad y bell, i gymryd favourite y Scadenyn Botanicyddol i ogoniant cyn fod y Bantams yn demskin arno am i Luwsitaneiddiwch Luwsiffernol! Buws ticyn bach o uproar wetin, ond achupwyd Shir Bembro - a'i champagne. Fel gwetws Hywel Dda: “Lle bidir yw uffarn, ond ma fa rhy hore [sic; = hoer / oer / ôr] i German, achos ma fa'n gallu cyni shigars yn y mor i losgi a mwrdro a tagu a boddi gwracadd a phlant."
-

Fod y Snakes o Gwmbach Docks i Bownd Fflash wedi gweiddi mas yn unllef - "heb un yn tynu'n gro's” - ia, o bob cwr o'r Dyffryn:
“To Arms, boys bach; To Arms i gyd!
Rhow'ch arwydd plaem, fel gwel y byd,
Ein bod ni 'nawr, nid cewri bach,
Ond, fel Cawr Mona, am ladd pob crach!"
(Telegram from the front - Passed by Censor.) Copyright in America and Maesydre.
-

Fod shew o sharad gan bawb am raso'n raslawn ar hewl bywyd, ac fod merchants glo, merchants bwyd, a merchants arian ed, yn rasso'n anrasslon a digonshans (yn enwetig y middlemens) i wascu a reido ar

 

 

None
(delwedd 5560) (
15 Mai 1915)

gefan y gwithwr, a'i daclu a mwn box am byth; ond fel gwetws Nickinackifab, -
“Os dyn YW dyn, rhow'n iddo glod
Tra yma'n treulio is y rhod;
Ond os oes ynddo German blud,
We ought to sink him in the mud!
Fel Snakes fe garwn pob dyn glân
O Heolyfelin i Gwmshan,
Ond fel y dywed PAWB yn awr –
Lle'r diawl, y Kaiser, yw dan glawr!"
(Via Llunden Fach, per Ap Freethought. - P.C.B.C. - Past Censor by Consent.)
-

Fod sopyn yn treio gwed bo ni drws nesa i gonscripshwn, ond nethon gamsynad, achos fe ddath nes at grippo awr oddiar rhyddid y levenoclockars, a gatal y sychedicions i dacu ar y Scwar yn lle yn y trenshes - y lle gora i rai ohenyn nhw ed, am i bod nhw'n smeltan ar ol other people's property. Fel gwetws y bardd o'r North:
“’Rwy'n caru merch o Fannau Môn,
Who's true in heart and every bone
While Snecyn's girl forsook me straight,
So back I'll go to Menai Strait!"
(Passed by Censor via Rhymnnii.) (Press Association - North Circuit.) - G.W.R.
-

Fod gobaith, mydda nhw, am extenshon i'r tram lines, a mwy wetin, wrth gwrs, i'r little bewties sy'n lico reido i gal bargains tufas i'r home manshons, lle bo'r neighbors yn gwpod beth odd prish yr highffalutin goods sy'n smelan yn well yn y pentra na'r slums, ac yn shop General Skinnem, lle pyrnws perchenoges un o'r dresses gwynon ticyn o'r latest (money down), gwetws wrth y dark trwyngoch odd yn addo lan y ffigwrs i addresso'r parsel whech fel hyn: 2 Ffaraway Soldier Avenue, Wheel-barrow Square, Midnight Mannerstown, near Tresamwn (the right side up with care). Delivrwd y parsal yn saff, ond ma ar y lady hen gownt tragwyddol i'r

PACKMAN NEWYDD.

.....

 

 

None
(delwedd B2187) 
(22 Mai 1915)

Aberdare Leader. 22 Mai 1915.

Clywedion Dyffryn Dar.

Fod Will Partin Dwpwl yn gofyn i Dai St. Clears beth odd y llythrena pres odd ar ascwydd y sowldjwrs odd yn sefyll ar y scwar, sef S.W.B., a'r apad smart gas a odd, Soldiers Wantin Beer!


Fod sopyn yn gwed o hyd fod hi'n too bad fod isha cocso a chocso i gal recrewts i'r Army, a milodd o youngsters yn cerad obothti'r hewlydd sy'n ffit i listo, ond sy well genti nhw scwto a lercan a screchan, a smoco sigarets a llanw'r pavin a starran ar bawb sy'n passo, yn hytrach na neido i'r trench a gweiddi wrth y German, “Stand back, Laggar, or I'll give you a daggar!” Wetin falla celsan ni ddwy filltir arath o lwc, a llai o hen gownt rhyfal.


Fod fevar y war bonas a'r cwnad wages wedi cwni i'r 100 degrees, ond druan a fi, ma degrees yr hen gownt (a mae'n Ilawn bryd i fi achwn ed) wedi shinko 1,000,000 below Zero, neu Nero, neu rwpath, beth ma nhw'n alw fa - pawb yn cal cwnad and y fi - a ma'n rhaid i'r byd a'r Bettws gal gwpod beth odd yn mil i i'r teulu a'r ty yr wthnos ddwetha, a dyma fe:-

P. Newydd's Family Bill.
Expenditure.  
£. s. d.
Wife (and her expenses) 5 0 0
3 childrens for Sinema and Loshin, Trams, etc. 0 1 6
Son, new watch, ginger beer, and instalment on bike 1 15 4½ 
Eldest daughter getting married (dowry, etc.) 50 0 0
Lent to her husband (a soldier) to show big 5 0 0
Coal, rent, sugar, milk, 2 fflagons, 2 candles, bananas and seeds for garden 3 10 11¾
Total House
£ 65 7 10½ 

Incwm.
£. s. d.
Clasgin Hen Gount in –
Braman 0 0 6
Cwmbach 0 0 0
Capcoch 0 0 3
Cwmaman 0 1 0
Abernant 0 0 9
Tresamwn 0 0 2¼
Heolyfelin 0 0 3½
Cwmdare 0 2 0
Aberdare 1 0 0
Grand Total
£1 4 11¾
 

Fod sopyn moin gwpod o hyd mwn pwy ddistricts odd yr hen gownt yn ishta dryma, a fe ddangosiff balance sheet y Packman Newydd nawr yn ddicon plaem i'r Byd a'r Bettws (a Germany ed) shwd ma'r gwynt yn wthu, a falla bydd a'n lesyn i'r Johnny

Fortnights sy'n meddwl tori trenshes newydd yn Nyffryn Dar, neu sha marca trigfana'r Snecs, ta beth, rhag ofan ca nhw 'u moci mas!

Fod rhai o'r Snecs (rhag cwilydd i rai o nhw ed) i lawr ar poor Lloyd George fel sa fa wedi committo murdar, ond ma pob dyn call, p'un a os mwstash neu wallt ar i ben a ne bido, yn gwpod net ta dynon digonshans sy'n rhytag talant i lawr. Ond ta beth, yn Room 3 y Paralamant pwy noswath fe gwrddws committee o feirdd diwallt, a rhai o henyn nhw'n ddiddanadd ed, a rhynti nhw, wth help dyn y portmantw, fe setlon i hala y pennill high-ffawliwtyn hwn i fi, ac i fi iddi hala fa at Mishtir y New Poetry Machine sy'n Offis y 'Leader.'

(Os na ddaw a mas, syr, please send it back to appear in the Zeitun- gablozabint-death-blackbreadin- ger,” Berlin, near Rwssia.)

“Have you heard of Lloyd George's Grand Ale –
Half of Sate and the other of Mild,
That's to be in the Publics for sale,
Which will make the consumers wild?
It's a blend of the Kaiser's old Chef,
And breweddyd in Potsdam with ease
But keep open your eyes, don't be deaf,
Drink Fresh, frodyr bach, if you please!”
Moral – “I gythral a'r Laggar.”

Fod pawb yn meddwl am gal ticyn bach o outin y Llungwyn hyn os bydd shawns, i dreio anghofio'r rhyfal a'r hen gownt, ond ma’r olaf yn wath na fuws a ariod, ac yn y diwadd yn shiwr o ladd y
PACKMAN NEWYDD.

Last Note. -

Fod isha shafo'r printer alws “gwped” ar “wyped, a “Renter” am “Reuter” yn fy speesh dwetha i. Last warnin. – P. N.




 

 


.....

 

 


None
(delwedd 5546) (26 Mehefin 1915)
 

Aberdare Leader. 26 Mehefin 1915.
Clywedion Dyffryn Dar.

Fod sopyn yn cretu fod y Packman Newydd wedi cwmpo yn trenshes yr Hen Gownt, ond ma nhw'n camstako'n ddychrynllyd, achos ma tri achos gento i ddod mlan yn y cwrt bach nesa, a un o heny nhw (censored) am shawl goch sha marca Cwmbach!
-

Fod sharad bidir ed am y wasters sy'n wacco bythti'r dyffryn, ac yn "shirko" (ta beth yw hyny) rhag sefyll i shawns yn erbyn y German sawsage a'r German gasbags, German snipes (nid tripes), a'r German bands odd yn arfar wthu gwynt a glaw o ochor Cwmdar, a Braman weitha. Fel gwetws yr anfarwol Clerwyson: -

“Fight fair, fight full,
Be a real John Bull!
If you cannot fight at all,
Then you must be very small;
But if you can, then well you might
Put the Germans all to flight."

“Gettin rid of German gas
Helps us to be what we was;
Killing Huns is mighty task,
So don't drink too much from cask!”
 
"Pawb sy'n heefad, pawb sy ddim,
Dylan fod yn drue i'r dim,
Rheini sy yn pallu mynd
Cerad i gythral a nhw!"
(Clerwyson a'i gant - Passed by Shiswrn - 1915.)
-

 

 

None
(delwedd 5547) (26 Mehefin 1915)

 

Fod Sarjant John Cwtyn wedi cal ordar or War Offis i roi riport packmen y Districk am y Slackers, Slowers, Wfftichi's, Beccanwrs (nid Buckaneers), Backanwrs, a'r Slowhanders sy'n y dyffryn heb joino'r colors, a dyma'r list ath lan at Kitchener: —

War List.
Slackers / Cwrw Campacity /  T.T.'s
Cwmbach 4¼ / 500 / 1½
Braman 1,000 / 2,000 / 2½
Bernant 5 / 16½ / 3
Snaketown 2,000 / 10,000 / 35
Tresamwn 25 / 125 / 2
Heolyfelin 60 / 400¾ / 15
Cwmdar 8 / 75 / 100
Llwydcoed 1¼ / 18¼ / 18 
(Signed) JOHN CWTYN, S.G.W.A.B.
-

Fod llawer iawn o sharad am y dyn gollws i ffon yn y parc, a sa fa'n gall bysa fa ddim yn trio cusanu merch ifanc odd yn werthin ac yn winco ar Twm Tirydail odd a'i gamera dan y goedan. Fel gwetws Longfellow : —

“Love, aye love, causes many a strife,
But what is worser than an old man with white hair trying to get a wife!” Copyright. —(Edition I., Vol. 2.)
 

None
(delwedd 5548) (26 Mehefin 1915)



Fod rhyw fachan o Shir Bembro, ar ol darllan y War List ar Hewl y Gatlys, yn gofyn yn ddiniwad right i un o scolars Ysgol Comin beth odd significashwns neu cwalamificaswns y llythrenu mawr (S.G.W.A.B.) odd ar ol enw Sarjant Shoni Cwtyn. “Bachan," mydda'r gwalch, “sa ti mond dishgwl yn y Dickshonaree, ma fa i weld yn bleim, indeed, "Soldjwrs Gone War Ala Bant.'
-

Fod scandal y Snecyn driws brioti dwywaith wedi sinco dicyn, ond ma teimlad y ferch gas i thwyllo heb sinco, a thafota'r gwracadd cyd a thrwnc yr eliffant am shoto'r twyllwr i ganol llond ca o Jack Johnsons, lIe nag os smel na dram na drink, na gopath cal un gyta wink, ond pawb yn ymladd nerth i ddwrn, nes llosgi'r Jermhans yn y ffwrn!
-

Fod gwyr dwr y mor, y lords, dukes and ladies, o Lunden Fach i Bont Tresamwn, yn gwed nag os dim blow out i fod leni, ond os galla nhw gal dicon o hen gownt i gwni'r gwynt, dicon o ffrils a ffrals, scitsha melyn, shitan a shams, siwts a gwascoti gwynon, fe fynan i cal nhw, war or no war, ar gefan llytan y
PACKMAN NEWYDD.
[N.B. - Cownts closed. Latest List and War News in next edition. — P.N.]

 

 

A picture containing text, receipt

Description automatically generated
(delwedd B2248a) (
17 Gorffennaf 1915)

Aberdare Leader. 17 Gorffennaf 1915.
 Clywedion Dyffryn Dar.

Fod y bardd o Seymour Street gynt (nid Ab Hevin) yn myfyrio'n ddwys un noson, a dyma fel yr ymfflamychodd ar Y MEDDWL DYNOL.

"Pe bawn mor fawr a chyrhaedd awyr,
Neu ddal y mor a'm llaw fy hun,
Fe gawn fy mesur wrth fy meddwl,
A'r meddwl ydyw maint y dyn."

Nid drwg o jobin fysa i Gommittee Room 3 i urddo'r bardd am bedair llinell mor dda.

Fod rhyw ddyn a chwilsyn yn i glust yn rhytag  fel dyn gwyllt i'r Cwrt Bach, ac yn gweiddi nerth i geg, cyn bod y bwm odd wth y drws yn cal i anal, "Pwt John Ffrwdamws Notpay, 3 Ballhead Terrace, in cwrt of symans redimans- mwni for 6s. 9d., and quick for it too," ac yr odd i fwstash a fel gwrych mochyn, a'i lyced yn bwljan mas fel "Gas y Keisar.” - Reuter, via Cilog Sant Elvan. Passed, but in memory and keeping. [= ar gof a chadw]

Fod llawar yn cretu nag os dim hawl gyta Jew i fyta cig moch, na dyn tew i nithir sport o ddyn tena, ond pan bydd Welsh Jews yn byw ar bwys i giddyl, ma un yn jelws o'rllall, pun a fydd a'n dena neu yn dew, yn apal neu yn dlawd, or as good as they make 'em in Sheffield, when sovereigns are not in the field. Fel gwetws Mr. Sarsapillamws:

"If you deal, deal honest
In the country which is free-est —
Deal with men who 'are' real men,
And then the Bwm will ceiad i ben."

Fod Cawr Mona wedi anfarwoli 'i hunan heb fynd i'r orsadd na'r Steddfod Genhedlaethol trwy gyfansoddi y penill canlynol, a'i ddarllan a ed yn y presentashwn yn nghlywadicath yr adnabyddus Ap Amal, Snuffwyson, Csidyrfab, Corcinwr, Weflebin, Dawdawfat, Stuartin, Ap Snifflyn, Packinfab, Ap Heefad, a John North (nid y bocswr). –

"To wife you have a husband you will be,
We'll call you William Mawr, not Kaiser or Bawbee;
But to a man, now, William, I say this,
Stand by your wife, and then she will you kiss.
'I fod neu ddim i fod' all Welshmen shout,
And what can prating fools fall out about?
So now in handing you a presentation fair,
Be a true Snake—don't run down Sweet 'Berdare;
And when you die we'll wish you best of all –
That in a cask of cwrw ffresh you didn't fall!"




 

 


Text, letter

Description automatically generated
(delwedd B2248b) (
17 Gorffennaf 1915)



Fod Ap Smartyn a'i drowsys plethog yn ffeilu diall commissiwns yr Undab, a mydda fa yn ddicon sheeki yn No. 3 Room y Parlamant Newy: — "What for you think man's wife to be? If she walk down behind me, wasn't I leadin? Free country we are, and we gotten to find we not fall into trenshes, trowsis or no trowsis, skitsha melyn, mild, nor hen gownt!" a dyma Ap Amal yn rhoi yr arwdd mwya smala i'r crowd fel cas pawb ffit o werthin, ond yr Hen Backman odd yn cymryd snisyn yn y cornal i drio stydo pwy ffordd odd gornestu a Mynydd yr Hen Gownt! — Special (via back of White Elephant), unknown to Keisar.

Fod sopyn yn cretu y daw conscripshan yn mlan mwn byr amsar, achos ma Register newydd i ddod mas i bob crwtyn, dyn, a menyw i ddoti lawr beth yw i hoetran nhw, p'un a os danadd ne wallt genti nhw, faint o amwnishwns allan nhw nithir, a beth ma nhw'n fyta, a falla beth ma'n nhw'n heefad ed. Ond dyna, weti'r cwbwl, ma'r pantry yn handy o hyd, a sdim lowans i'r plisman fynd miwn mani i weld faint o ddiod fain heefws Mari Cwmgors na Leiza Caedraw, etc.

Fod rhai o'r tenants sy'n byw sha marca Masydre yn achwyn yn fidir ar waith y Cownsil yn pallu altro'r drains, a gatal y dwr i lifo miwn i'r celeri fel fflud fawr Noah, a erill yn gwed ta achwyn ma'r gwithwrs nag i nhw ddim wedi cal dicon o gwnad. Wel, ma yr officials yn cal cwnad tragwyddol bob dwy flynadd, tra ma'r pwr dabs sy mas ymhob tywydd yn gorffod bod yn satisfied ar yr Irishman's promoshun — 2½d. yn y bunt, a'r gaffer yn enjoyo'i £250, £300, .£500. £800, a £22,000 a year am roi dicon o cheek i ddynon tlawd!

Fod sopyn yn gwed nag i nhw ddim yn mynd i’r wlad na dwr y mor leni, ond ma na gwpwl o lords and dukes yn meddwl hala cwpwl o sofrins sha Byrtywa a'r Mwmbwls os na fydd y Parlamant (ac yn enwetig Room 3) yn ishta yn rhy hir, ac yn blocko'r ffordd. Gan fod dicon o waith gen i i glascu'r hen gownt, mae'n dishgwl yn dywyll iawn a diopath ed ar y
PACKMAN NEWYDD.

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J7556a) (
14 Awst 1915)

Aberdare Leader. 14 Awst 1915.

Clywedion Dyffryn Dar.

Fod yr holidays wedi passo yn rhyfadd o leeb, a rhai yn gwed fod hi wedi bod yn leeb tufiwn ed, a sdim rhyfadd, achos dyma fel y canodd Bancwetfab ar ol slipo ar y steps: -

“Dyma le cythreulig, cythrwm,
Lle ma dynon fel mwn codwm;
Cerad lan a cherad lawr,
A sinko i sal orthrwm!"

Fod un arath o whelith y gwallt hir wedi bod yn galivantan obothti'r sands yn Nhresamwn, ond yn ddicon disamwn yn dod sha thre sha marc stop newydd y Parlament, yn canu fel hyn: —

"I drink a peint when I feel feint,
And sometimes drink too many,
But when I'm sick and want a peint
My trowsis pockets' empty;
But now, beware, you Snakes of Dare,
You slackers bold and cheeky,
Old Count still lives just off the square
And gives good peints quite tidy!"

Fod erill yn gwed y bydd stop hen gownt yn Snakeland ar fyrder, 'run peth a fydd hi yn Nghaerdydd, Casnewydd a'r Barri, a ta'r peth gora all y Snakes nithir cyn y drasticashun fydd wheelo'r forenaff's a'r fflagons ar ffrwst i'r selars a'r pantries cyn bod shells Lloyd George wedi wthi'r tafarna bach neis i gyd yn ffradachmins, er mwyn i'r Rechabiniaid i gwni dandelion tents o Gwmbach i Ricos!

Fod rhyw hen gatach yn gwed nag os dim sens mwn dyn yn gwishgo mwstash cruman a phen plastar fel y Ceisar, ond y peth gweitha all dyn wishgo, yn ol cownt leefir y Packman Newydd, yw dyn (neu rwpath tepig iddo) yn gwishgo llond cart neu gwtyn o hen gownt i fynd i ddwr y mor, a chloi'r drws ffrynt a'r back yn erbyn y rent collector, y milkman, a'r bwm, heb son am y death-club-man a'r Smelgwns! Wara teg ed, ma rheina i gyd yn handy weitha, ta faint o waeddi “y ni, y ni, a'r ni” tragwyddol sydd yn Nghomittee Room 3 y Parlament Newydd!




 

 


None
(delwedd J7556b) (
14 Awst 1915)



Fod sopyn o sharad obothti'r dyffryn am y Registar Newydd sy ar gal i ddraffto mas, a bod ofan bidir ar rai o'r ffeinthearted pwy ffordd tacla nhw lawr 'u cwamalificashon ar y papyr, ond fel hyn y bydda i yn i seino fa:
Register for War.
Under Compulsion of His Majesty's Government.
Name—John Packman Jones. Age, 37. Born — Cwtycenin, Parish of Shir Bembro. No. of children, 5. Wife, yes. Occupashon, Clasgin Hen Gownt. Nationality, yes, full of Welsh. Ability, yes to knock door 105 times before answer, stood 85 black eyes, walked 45 miles in 1 day and 1 night, drink 4 pints and 1 meal bara chaws a winwns. Character, yes, never been in jail. Other remarks,—yes, great-grandfather killed in Batl of Waterloo, grandfather saved a horse from drownin, father killed a snake, and mother saved her life by running away from a bull.

Are you ready to fight? — Well, yes, sir, if you please in the next war. Initials — J.P.J.
“God Save the King."

Fod rhai yn gwed i bod hi'n hawdd i ddod mas o'r ffeitin sponsibility mond cwni'r oetran, doti sopyn o blant miwn, a gwed fod un goes yn fyrrach na'r llall, a rhai o'r bysedd ar goll, etc., etc., etc., dim ond bod yn giwt yn y fysnas, a taclu lawr, for home defence, with poker and tongs," etc., ond ma'r specimen uchod yn ddicon plaem i'r voters i gyd.

Fod sopyn yn cretu y daw y rhyfal i ben yn gynt sa pob un yn neid ddyledswydd, a phido brago y gnelsa fe'r peth hyn a'r peth arath, ac yn nthir dim yn y diwadd, nac hyd y nod roi dima yn y war ffund, ond yn ishta lawr i recommendo ac i adveiso erill beth i nithir, yn bildo hen gownt pianos, dillad, jewelry, celfi, shina a shams ar gefan llytan y — PACKMAN NEWYDD.

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd 5757a) (
28 Awst 1915)

Aberdare Leader. 28 Awst 1915

Clywedion Duffryn Dar.

Fod y Byd a'r Bettws yn gwpod o'r diwadd o'r diwadd nad yn Germani y ganwd llewod, nac yn Abernant y magwd llycod, ond fel gwetws Cawr Mona: —
“Dyn fo a'i drowsis yn lled dyn,
Fe fyniff gwrw lle y myn,
Ond dyn all roi y packman lawr,
Ei le nid edwyn ar y llawr!
Chorus Dewch 'ma mwy amal, etc."

Fod cawr arall mewn llawn maint wedi cyradd y Parlamant yn lled ddi-seremoni, a mydda fa:  Fe daetho lan o Gardydd gyta'r Ecsbress heb un stop ac heb ddangos y dicat, ond pan arrivas i yn Mhonty-typridd dyma hen fachan a throwsis rib yn gwaeddi mas, “Show ticat!" Beth nath y cawr ar unwaith odd ond cwni i ymbrela, a gwed wrtho yn lled smart ed, “I come from Harriplane, to inspect T.V.R. dividings and multiplyins, and if you can't find first-class you will be out-class!” "Oh!” mydda'r rhibyn, “pass on, but don't come here tw amal!" Shwd beth yw bod yn riportar, onte fa, heb ofni Sherman na Shwrnaman, boed gyta fa drowsis rib neu flancad packman.

Fod Room No. 3 mor orlawn o'r Hempees fel odd gorffod i'r Speekar pwy noswath waeddoi mas, “Hold on! we wants half meshurs! Stand back! Don't be pressipation, we will win the war! Don't waste sofrins, because 8 million Russianers are comin out with full murdar in their hans to stand for what never you nor I everd seen. There is 22 million japs behind em! Merica is comin, Llundain Fach is comin! Abernant is comin, and myn j—1, every membar of No. 3 is comin. Come mwy amal! God Save the King." Dath y riportar mas wetin, achos odd y wire, y pocer, a'r tongs yn waitin — pethach yn rhy aml!!!

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd 5757b) (
28 Awst 1915)



Fod rhyw fembar yn holi “Ble odd y Baltic?" “Wel," mydda well-inffirmed membar, achos odd a'n fembar ed, “Taro un odd hwna, bachan, ar Glock y Shermans, achos erbyn bydd a wedi taro DOU, byddwn wedi cal dicon o gawl cenin a nerth calibaraidd a Chawrmonaidd i ladd a difodi pob skinflint o'r Hunanwysion a gododd Pharo mwn ca ariod!" “Beth wetyn?" mydda rhyw getin o aelod cheeky o Benwain. “Oh, dear! you dirty dog," mydda Risiart y 3rd o Benybont, “if you want honer, have it, but if you want plessur, come to Sands Byrtawa, where the sun is shinin gold and the landladies shovelin in!” Ond fel gwetws Ap Amal, “Wara teg, ma Risiart y 3rd wedi catw peth o'r gold o'r sands!" a mor gynted a dath y gair mas o'i wefus a ma drinks round i'r Parlamant basws y mesur i gal streit register, er gwaetha lwc tlawd y tri cetin bashelors odd yn ishta a gwefla sych wrth ochor their majesties married, but barred men!" Fel gwetws yr Hen Backman -

“I love the company, I stick to men —
Men without fear, men who say when,
We can with all our might say, 'Then
Shall we with all our strength, like men,
Proclaim, ‘Mae Cymru byth yn ben."

Cwplwd y chorus, “Dewch ma fwy aml," drwy i'r Speaker waeddi gyta'i drwyn coch, "Time's Up!" a hyny cyn fod yr Hen Gownt yn dod miwn i bocad gwag y —  PACKMAN NEWYDD.
Passed by Censor via Cwmbach Road.

 

 

.....

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd 5758a) (
4 Medi 1915)

Aberdare Leader.
4 Medi 1915.
Clywedion Duffryn Dar.

Fod achos y fasnach lo a'r crefftwrs a'r gaffars a'r middlemans mor bwysig, fel braidd nag yw a yn towli'r rhyfal i'r shade, a dynon dwl yn gweiddi streic, streic, streic o hyd ond purion peth, mydda nhw, fydda rhoi eitha strocad ar ben y rhai sy'n sgothan felly, neu i pacco nhw mas yn y trenshes i sefyll cnocs Von Clock, os yw hwnw yn fyw.

Fod whech turn am bump yn swno'n grand digynig, ond 4 turn am 10 w i yn gal yn amal, a llawar tro dim ond 1 am 12, ond y ni, ni, ni pia hi o hyd, a rhaid wetin, wth gwrs, i'r "gods" fod yn dawal, a chlappo ar ddiwadd yr arath, a chauad 'u box!

Fod Shakespear wedi gwed canodd o flynydda'n ol, “Put money in thy purse," a ma sopin dychrynllyd wedi nithir a ed, o amsar John Gambo Jones, 1012, i amsar Lord Gold Jones, 1915. Wrth etrach yn y Dichsonary of Wages ac yn acos i fil o flynydda, ceir yno y cownt hyn :—
Wages Bill.
Date. Name and occupation.
1012 - J. Gambo Jones, halier, 1s. 3d. per week.
1112 — John Cwnad, helper, 2s. 6d. per week.
1212 - John Uwch Jones, gaffar, 5s. per week. Stim cownt wetin spo'i
1815—John Mason Jones, £1 1s. per week.
1915 - Lord Gold Jones, manager, £1,000 per week.

Fod hi'n deg, mydda nhw, yn ol y Sliding Scale yna, i bob coliar teidi gal himinam o 6/8 y dydd, achos ma pob cetin o gyfrithwr yn sharjo 6/8 am wed pwy ffordd ma'r gwynt yn hwthi, a hynny heb fentro'i fywyd na throchi i wymad glan. Fel gwetws Columbuswyson:

“Po fwya o arian fydd dynion yn moin,
Mwya i gyd fyddant yn gweiddi am goin;
Ond os gofnwch chi iddynt i helpu pwr dab,
Edrychant yn snoblyd - yn wath na Macnab!"




 

 


Text, letter

Description automatically generated
(delwedd 5758b) (
4 Medi 1915)



Fod y Snecs, mydda nhw, wedi listo yn dda digynig, ond fod sopin o slackars ar ol eto; ond wait a bit, bydd y Scrutinamiters yn pico'r mwnishan men mas o'r Register Mawr un o'r dwarnota nesa, a dyna lle bydd crocodil tears amsar bydd y speshals yn rytag hibo Cwmbach Docks a'n un hanwl i yndo. Wel, fydd dim shwd beth a winwnsin i gal am fish, nes bydd y speshal dwetha wedi myn'd, achos ma'r gwyr wynwns i gyd yn ymladd er mwyn cal racor, wara teg.

Fod sopin dychrynllyd yn gwed nag i ni ddim yn gwpod dim beth sy'n mynd mlan yn y ffrynt; a ta sopin o gelwdd sy'n dod mas yn y papyra. Ond ma un peth yn sicir, fel gwetws John Smart, "i ni'n gwpod net beth sy'n mynd mlan yn y back, a sopin o bethach cwilyddus ed, sefa ddim ond dynon yn cusanu gwracadd soldjwrs sy bant." Wel, felna mae spo. Fel gwetws Napoleon: —

 

 


Text, letter

Description automatically generated
(delwedd 5758c) (
4 Medi 1915)


When soldiers fight by day and night

For freedom and their country,
Their fair ones revel in the sight
Of dandies bold and cheeky;
But when the war will end some day,
And Tommy comes home winking,
What ho! there'll be a mighty play - 
'Twill last some time, I'm thinking!

Fod rhai o'r lords a'r dukes wedi dod 'nol o ddwr y mor heb enjoyo cystal ag arfar, a sdim rhyfadd ed - odd dim cymint o gregyn heddwch obothti leni, a llai o wascoti gwynon a scitsha melyn, ond dicon o wefla mawr a wep gen rai cyd a thrwyn Shon Gorff. Fel gwetws Copernicus: —

“When the wind blows fair in Sweet 'Berdare,
You'll get sweet maids in plenty,
But when it blows from old Cwmdare
'Tis better to stick to Sketty!"

Fod amsar gwell i ddod, mydda Maer Tresamwn, ond mae a'n hir iawn yn dod, er y brags mawr sydd am y bont, y beach, a'r summer walks obothti'r sandfields. Ar ol i'r Maer gal freedom y city, falla bydd shawns i fi gal yn nghwni yn "halderman," mas o drybini yr hen gownt, ac i gal rhyw short o enw gwell a mwy genteel na'r PACKMAN NEWYDD.

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd 7568a) (
11 Medi 1915)

Aberdare Leader.
11 Medi 1915.
Clywedion Dyffryn Dar.

Fod hewlydd cae Maesydre wedi cal 'u gwishgo yn bert ofnadw dydd Llun, ar ddychweliad un o ddewrion y gad o'r ffrynt, a fe gas right royal welcwm ed, ond y trueni odd fod rhai o'r fflags odd yn hongad mas o'r fath nas galla neb weyd pwy nashwn odd hi'n represento - felsa nhw wedi bod yn Twrciland neu rhyw land arath odd yn ddiarth i'r Snecs.

Fod torad bidir ar y merched, o'r part ucha yn y Parc  ar y Sul, a chwpwl o'r Shonies yn trio gnithir sport o'u dresses ond no go oedd hi, achos ma'r merched, wara teg iddi nhw ed, up-to-date mwn dresses a manners, peth na ellir gwed am y Shoni Hoys rheglyd a brwnt geir yn scwinto obothti'r ardal yn amal.

Fod sopyn yn gwed nag yw'r stori ddath mas fod y wlad yn fwy sobor oddar start y rhyfel nag y buodd hi ariod, yn nonsans—fod bechgyn sydd just a enill dwpwl beth ow'n nhw'n arfer, yn awr yn colli yn fynych i gal extra spree, ac nad yw hynny yn arwdd o sobriety. Fel gwetws Dal Spanner Fawr. “Ma gento ni 'nawr ddicon i neyd i dynu'r blacklegs miwn i'r Ffederashun, talu'r war prices, 1/4 am faccwn, 2g. yr un am wyau, a chwnad rent, etc., heb son am yr hen gownt sy'n ddue i'r packman; a gadewn rhwng gwyr Pentyrch a Phengam i fatlo mlan fel y dewishan nhw." Ar ol yr arath swishws rhywun y gair mai un o freed Penderyn, ac nid o Gardiland, yw'r Spanner Fawr.

Fod swagro digynig gyta'r dresses gwynon ar ddiwadd yr wthnos, a wfft shwd draffarth odd gen rai o heni nhw wth fynd lan i steps y dwbwl deckar, fel sa Lady Tytop neu Lady Tresamwn wedi troi mas i byrnu cabitshan neu goes mochyn, a'i hala nhw sha thre gyta'r motor.

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd 7568b) (
11 Medi 1915)



Fod achwyn bidir ar y shecks brwnt ma'r ladies yn gal i dalu'r shop a'r bwtshwr, etc., a bod cwiddyl ar rai iddi cario nhw, achos i bod nhw mor ddued a'r black, a dim ond y ffigwr iddi welad. Wel, du neu wyn, bysa milodd o fenywod bach teidi yn falch i gal cwpwl o henyn nhw, hyd yn nod sa nhw'n rhacs ed, achos ma'r Bank of England yn safe, os nad yw Clwb Dwr y Mor!

Fod partoians mawr ed, wrth son yn awr am deni nhw, am starto Royal  Saving Club yn y Rumanwhisky Arms Hotel, i ddechra nos twco fala. Chairman, J. Myfi'n Witness, M.E.; vice do., A. Esteem Dwy, Y.H.; treasurer, John Pocedwyson Jones', A.C.; trustees, D. Not Affraid, Noah Get Moore, Wm. Cabynllecerad, ac Abram Talcanderin. Secretary, Iestyn ap Ffwlscap, 4 Aberbratish Row, Ffoundry Town, to whom all applications for membership must be addressed. No swearing allowed. No fforinars need apply.

Fod y Germans caretig ac anwl wedi gnithir cynig arath i sinko a boddi'r passengers a'r crew diniwad; ac wrth glywad hyna, mydda un, “Ffordd gebyst gall dynon sharad neu feddwl am streico pan ma'n gwlad ni mwn perygl?" Ia, dyna fe pob un a'i farn; ond dyna'r gweitha wetin, ma shwd wmbredd o ddynon a dim barn genti nhw ond barn y gaffar, sefiff hwnw ddim o flan canwll ddima!

Fod y mynywod yn gwaeddi am Gonscripshan dros y lle i gyd, a dyna shap fydd arno ni fydd ar ol wetin. Mynywod yn blismen, yn undertakers, yn lamplighters, yn fwtshwrs, yn town-criers (dyn helpo ni), yn fwms (dyn helpo ni), yn rate collectors, tafarnwrs (ma rhai o nhw 'nawr ed, y rhai anwl!), ac yn backmen!! O'r arswyd anwl, dyna ddiwadd truenus i'r PACKMAN NEWYDD.

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd 7547b) (
25 Medi 1915)

Aberdare Leader. 25 Medi 1915.

Clywedion Dyffryn Dar.

Fod galwad mawr am withwrs o bob math yn y dyffryn, ond fod rhai yn gallu byw heb witho, a pha fodd nid oes neb ond y detectives a'r spies yn gwpod. Falla ta membars y Secret Service i nhw mwn disgize o ran dim a wyr y Snecs bach innosent!

Fod siarad a dadla dychrynllyd o hyd miwn a mas o'r Parlamant o gylch pwy sydd wedi lladd fwya o Shermans — y Rwssians, Ffrench, neu'r British? Ond dyna ddwl ma dynon — i nhw ddim yn cownto fod y Belgians wedi lladd  mwy nag i ni'n feddwl, a rhoi check ed ar y raswrs ceffyla tin a phren odd yn rhytag trwy'u gwlad nhw, er mwyn i'r British a'r Ffrensh gal anal i roi naid i'r ffrynt, a ma nhw wedi dala'r ffrynt ed, achos mae'n llawn bryd i'r Keisar dynu'i fflag “Fi a Dllw" i lawr nawr, gan iddo ffaelu cal brecwast yn Paris, a chig moch Penderyn yn Llunden, a bod y son mas ed ta black bread ma boys Berlin yn byta, a falla fod hyny yn arwydd ta yn y Black Hole fydd 'u diwadd nhw!

Fod y Byd a'r Bettws wedi acor i llyced i weld o'r diwadd fod Soshals yn fwy call nag oedda nhw'n arfar bod, ac er syndod i wyr Pentyrch a Llunden Fach, ma rhai o heni nhw'n advocato Conscripshan! Ond dyna'r secret mas, mydda nhw, sef os bydd Conscripshan bydd mwy o le i ddwcid yr ochr hyn a'r ochor arath i'r clawdd — i nhw ddim yn gwed dwcid beth, cofiwch chi, syr (Mr. Gol., neu stim ots-beth yw'ch enw chi, mond bod yn iach ar y war side a'r bonas ed), ond twcid fydd hi, ac os twcid, twcid yn onast, wth gwrs, yn lle doti dwr yn y llath ar y sly am 3 o'r gloch y bora!

Fod rhai o'r sowldjwrs odd yma ar leeff y diwarnod o'r blan yn gwed taw Conscripshan ddaw hi cyn dydd Calan, er bo shew yn gwed fel arath ond yn ol y mwyafrif, mydda Dr. Knowall, yr aiff hi yn y Senedd, er y gall y Cabinet, yn ol barn Ap Llyffan, basso military act mwn bythti shiffad (os ych chi'n diall beth ma hyny yn golygu) — 24 hours sposo. Ta betn, conscripsnan neu ddim conscripshan, ma'r voluntary wedi acto'n ardderchog - yn well na'r expectations.

Fod sharad mawr gan bawb eto obothi'r Zeppelins sydd wedi bod yn trafaelu dros y mor i diriocath Lloegr, a lladd menywod bach a phlant a rhai dynon ed. "O, gwaith Sweet William yw hwna," mydda lanto Tydraw, "er mwyn dangos y galla hala ofan arno ni; ond dyna'r diawst o ge, pam na aliff Sweet William i Navy mas o'r Canel i hala ofan ar y British Monsters sy'n swiman yn y mor? Na, ma'n well genti nhw sefyll tu ol i'r poison gas, a wthu hwnw mas o'r tecil tins sy'n cal i gnithir yn ngwaith Krupp."


           

 

 

Text

Description automatically generated
(delwedd J7547b) (
25 Medi 1915)



Fod sopyn yn gwed fod isha i ni i gyd i dynu lots pwy sy fynd mas, ond neb sy a fwy na 12 o blant, £100 o hen gownt; 12 mish o lath; 6 mish o rent, blwyddyn i'r death club man, a dan 5 trodfadd o uchder, os nag y myniff a joino'r Bantams er cal gwarad o dafod y wraig a gwitho turn extra i gal bonet newydd iddi.

Fod y coliars wedi cal cwnad arath o 3/9 y bunt, mydda'r papyr, a bydd dicon gen y "ni" i frago am dano am un dydd a blwyddyn. Wel, wara teg ed, ma nhw wedi cario'r dydd, a ma nhw'n haeddu wages da ond pwy gythrwn o gyfiawnder sydd mewn gnithir millionaires o un dosbarth o weithwyr, a gatal erill i suffro'r high prices ar wages bach? Pwy atebiff? Un gopath mawr sy gen i yn awr yw y caf fwy na 6c. o hen gownt o hyn i mas, a falla wetin y bydd shawns gwneud millionaire o'r PACKMAN NEWYDD.

 

 

None
(delwedd B2193) (
09 Hydref 1915.)

Aberdare Leader.
09 Hydref 1915.

Clywedlon Dyffryn Dar.

Fod Ripotar yr Aminishons yn gwed fod 900,000,000,000,000 o shells wedi cal i nithir ym Mhrydain oddar pan darws Von Klock un o'r gloch y bora, ond fod isha 'nawr, mydda Lloyd George, 2,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000 cyn fod y cloc yn taro dou, achos dyna'r amsar y bydd holl hooters y Dyffryn yn hwthu sand y mor i froena’r Germans nes bo nhw'n ffaelu gweld y gwaniath rhwng German Silver a phishyn tair o bocad John Bull!


Fod yr hen ddywetiad fod isha 9 dyn i nithir teilwr yn hen stori lled dda, ond ma 67,000,000 (miliwns, cof- iwch) o Germans wedi nithir Kaiser, mydda John Tradfflat Samboreen, a throwsis teidi iddo wishgo ar hen gownt, ond fel ma gwaetha'r modd, yn yr un trowsis mae a o hyd, yn rhytag rhwng yr East a'r West yn gwishgo medals ar ei frest; ond fel y gwetws Shon Seidyr:

“At last the Kaiser's met the men,
Who will not let him rest ‘is nen,'
Until gwlad Germany is beat
And the Emperor in jail."

P.S.—Odd ffeilu ffindo odl i gwpla.


Fod wraig John Deccon Jones yn ffaelu diall na bysa Ffederation y Pregethwrs yn talu am 'u lodgin nhw tra bo'r parlament a'r cyrdda mawr yn ishta, ac yn gwpod fel ma prish yr ham wedi cwni i 2/6 a pound. A dyna Ile bydd y doctor divinity a'r B.A. a'r B.Z. yn ishta yn y parlwr cysegredi yn i slippars, Ile na fentrws un lodger na phackman yn i fywyd, yn enwetig rhai a thrad mawr fel Soshal!


Fod rhai yn gwed 'u bod hi'n well, fel ma'r Scrythyr yn gwed, i roi nac i dderbyn ; ond myn hosan i, derbyn ma'r pregethwrs ed o amsar Adda hyd 'nawr; yn enwetig wythnos 'y sassiwn, y gynadledd, y gymanfa, cwrdd cwartar, a phob cetyn o gwrdd sy a isha pregethwr yndo fa, fel sa nhw'n seintiau, neu fel y Pab. O, na, nid fel pab ed, achos ma hwnw wedi cal i biclo yn y Vatican, a dim shawns gento i fynd i'r jug and bottle, os nag os gento wine-cellar, a fe gynta fod. Wel, pob Iwc i'r Bed-yddrwrs i nithir Iles ymhlith y Snecs!


Fod yn whith gan lawer glywad am farwolaeth Keir Hardie. y dyn wishgws i gap pan ath a miwn i'r Senedd y tro cyntaf. Dyn od iawn odd y dyn, a hynododd ei hun ed, a pha un a fydd yr I.L.P., y parti startws a, fyw yn hir, amsar a wed. Heddwch iddi Iwch a nawr ar ol y fatl dwetha.

"Keir Hardie's gone at last to rest;
And let us hope he's with the blest.”


Fod y Shermans yn i chal i right and left gyta venjans, a jobin da ed, er mwyn cwpla'r rhyfel, fel y gall mwy o hen gownt ddod miwn i boceti'r
PACKMAN NEWYDD.

 

 

None
(delwedd 8163) (23 Hydref 1915)


Aberdare Leader.
09 Hydref 1915.
Clywedion Dyffryn Dar.

Fod shew o foddar trw'r dyffryn ynghylch pwy gaiff i ddewish i lanw lle Keir Hardie yn y Parlamant mowr, a rhwng argiwments y Soshals neu'r Highelpees, y Librals a'r Tories, heb sou am yr Hindependants, etc., gallsech feddwl fod ffair Llangyfelach wedi atgyfoti, a phawb a'i wynt yn ei ddwrn i weld y Showman!

Fod sopyn yn gwed nag os dim isha mynd mas o'r district neu'r sir i bico membar, neu gandidate, ddylswn wed, er fod rhai o'r mwncwns wedi bod yn hela mor bell a Scotland. Gwetws un bachan teidi o goliar o Gwmdar y gnelsa Stanton gystal M.P. a phaged o nhw, ond dyw e ddim yn uchal ar steps yr Highelpees nawr achos i fod a'n Britisher, ac wedi matal a'r cranks a'r Pro-Germans.

Fod erill yn gwed yr ymladda'r Librals a'r Tories, a dyna lle bydd hi wetin - four-corner-fight - a dyna bicil fydd hi os enilliff y Tori, a'r rest i gyd wedi cal 'i swampo, a John Catchvote Jones yn y gwtar! Wel, rhwng gwyr Pentyrch a Phenywaun a'u gilydd: y ceffil a enilliff fydd yr un blaena, sa fa mond trwch blan trwyn, ond a os isha lecshwn? Ma rhai yn gwed y dylsa'r Librals a'r Tories gymryd spel yn y constanstensy spo'r rhyfal wedi cwpla, a gatal i'r real Labar Parti gal walk over fach deidi, gan fod y workin men yn y majority. Shwd waith?

Fod lle twym dychrynllyd yn Room No. 3 ar droion i'r pwr bachelors sy'n treio dala'u pena lan yngwyneb y cymbwlets sy'n cal i gellwn ati nhw. Gallsa un feddwl, wrth sharad rhai o'r “NI” tragwyddol, ta yn y manger fel ci bach wedi cal i chaino lan, y dylsa'r pwr bachelor fod, a byw ar esgyrn sychion a leavings y gwyr priod mawr a chestog sy'n sharad am listo a chwni plant i listo, a nithir dim'u hunen ond sgothi, brawddecan, ffrotho a ffyrnico, nes bo'r gwelydd a'r to, debycsa amball un, just a chwmpo yn dwmbal dambal ar y ticanters!

Fod mwy o frawdgarwch, er hynny, wedi cal i gyffroi yn mhlith y Snecs, er dechreuad y rhyfel ofnadwy presennol, nag erioed - mawr a bach, cyfoethog a thlawd, gaffers a gweithwrs, grocers a thinkers, packmen a phublicanod - ie, un ac oll yn gytun yn shiglo llaw (a gatal y cranks mas, to be shure) ac yn gwaeddi nerth y cega, "To arms!" A diolch, ma'r mwnishuns yn dylifo gyta'r boys i'r ffrynt ed, fel nag os isha i neb i ddemshcin yn ddigonshans ar y gwirionadd a'r bachelors bach sy'n helpu i gatw'r nation yn fyw drwy helpu'r gwracadd i dalu'r rhent a rhoi skitsha i'r plant pan mae'u gwyr nhw i gyd yn stocko'u harian yn nghlwb dwr y mor!

Fod sopyn yn gwed fod deffroad yn cymrvd lle o blaid y Gwmrag, ac fod rhieni 'nawr yn mynd o ddifri i ddyscu a sharad yr hen iaith anwl, ar yr aelwyd ac mewn cymdeithas, yn fwy nag ariod, a mae'n llawn bryd ed. Arno ni ma'r bai - y rhai mwn oetran, er nag w i ddim ond 38, a llond ty o blant, a rhoias i na'r wraig ddim lodgins i Ddic-Shon-Dafydd na Somerset ariod, er fod rhai o'r moch from little England beyond Wales wedi treio cal entrans lawar tro, ond no good - dim yn tycio dim shwd gabbage vn tyfu! Fel gwetws yr anfarwol Iolo Morganwg: - 
Touch a Welshman, if you dare,
Ancient Britons as we are;
We were men of great renown
Ere a Saxon wore a crown.

Fod sopyn o scandals wedi cropo lan o dop i waelod y dyffryn yn ddiweddar - shameful digynyg ed, ac os na altriff y giwaid pechadurus mwn bythti shiffad, byd hanas dychrynllyd i ddod mas yn yr "Aberdare Leader," gwath na un edition o'r Shibwns and Lettis, gan y
PACKMAN NEWYDD.

 

 

None
(delwedd 5773) (30 Hydref 1915)
 

Aberdare Leader
30 Hydref 1915
Clywedion Dyffryn Dar
———

Fod hi wedi dod yn shibwns ar y slackers o'r diwadd, achos fod Lord Darby wedi gwed "Come on" wth bob enad o dan 65, a bod sopyn wedi rytag off o Benwaun, Penderyn, Cwmdar a Chwmnantyrhwch, er mwyn lando  yn Irishland fel agents dros Welsh Cig Moch, achos nag os dim gorfotath i listo yn ngwlad Patrick.
-

Fod siarad bidir anghyffretin pwy sy fod yn fembar dros Ferthyr ac Aberdar yn y Parlamant Mowr, ond fod y rhan fwya yn gwed y gneiff Stanton  gystal aelod a phaced o gwacs, a gwell ed. Wel, ma hyd y nod gwyr Shir Bembro yn lico fa, os nag yw gwyr Cwmdar yn gallu cytuno a'r Bristols, etc., a phawb yn gwed ymhob rester y casglas i'r hen gownt fel hyn:—
“Stanton is our man to-day,
He's the man who wants fair-play;
Germans may come and Germans may go,
But Britons go on for ever."


Fod meetin mowr wedi bod yn ninas Tresamwn i electo'r Mayor erbyn y 9th of November yn y  Guildhall, Ochor-yr-Afon Parade, W.C. Fel hyn odd  y votin:
Votes:
John Samwn Jones, A.B.S 9¾.
Wm. Wascotwen Williams, X.Y.Z 8¼ 
Jaboc Highelpee McHugh, A.S. 1
J. Samwn Jones declared carried, and all Associated Beer Shifters to be in procession at 3 prompt, via Suspension Bridge, en route to Guildhall Banquet.
-

Fod debate fowr ofnatsan yn y Guildhall pwy noswath rhwng yr haldermen a'r aelota common p'un a allsa dyngarwr fod yn wladgarwr, neu wladgarwr fod yn wladgarwr heb fod yn ddyngarwr? A fe dowlwd snap cas i Shon Llycad y Ginog gan getin o halderman heu halierman, neu beth bynag ma nhw'n i alw a, sef na allsa neb odd wedi meddwl ar arian a thirodd, a thalu 2/6 yn y bynt, fod yn wladgarwr, dyngarwr, sowdjwr na sant, ac na allsa fa un teyrnas tuhwnt i'r coffin, os na bysa fa'n sefyll rownd!


Fod sopin yn gwed y dylsa cyfrath y treto ddod i rym yn ninas y Snecs, fel mae wedi dod mewn fforce yn Llyndan, Cardydd, Caedraw, Ca Davis, Penwaun, a Phenderyn, etc., er mwyn lles y good shorts ac afles y boleiau mowr sy mor amal ar daith, ac yn lwco i gwrdd a miliwnaires just ymhob street, hewl a gooley, ac yn bowo, salambo ac yn blinco mor serchus a theilwr ar ddydd Llun wedi talu’r hen gownt ar nos Satwrn!


Fod y pregethwrs nhwnta ed yn fishi dychrynllyd yn casglu recriwts ar hyd y dyffryn ys cetin, a bod lot yn gwed i bod nhw yn teimlo pinsh y rhyfal, a sdim rhyfadd fod rhywun yn gofyn yn y seiat pwy noswath os odd y pregethwrs a'r ffeiraton yn cal war bonas? Apedas ina os nag o nhw'n cal mwy na'r Packman Newydd, Duw a'u helpo nhw a Dafy Dafi!


Fod sopin o achwn gen y coliars achos stop trucks a stop gwaith. a bod un would-be odd yn gwpod y secrat, mydda fe, yn gwed ta scheme odd hi gen y mishtri i roi shawns i fechgyn a dynon i Iisto! Wfft i shwd nonsanse digrefydd. Y mishtir yn risko'i ddividend er mwyn y Llywodrath! Dos dim shwd gabbage o'r sort yn tyfu'r ochor hyn i Glawdd Offa, nac ochor arath ed, hyd yn nod sa radium neu lectric lamps wth y miliwn yn cal i rhanu mas I r nashwn i wilo am deni!


Fod isha saethu y middlemans sy'n gnithir ffortsiwn mas o'r glo, ac yn gorfoti witw fach dlawd i dalu 2s. am gant o lo pan odd isha skitsha yn dost am i  thrad i a bonat newydd ar i phen i, a mish o rent yn ddue ami, a shwd beth a hwna mwn Christian Country! Dyna odd i achwyniad tost hi, a gofnws i fi ala'r hanas i chi, syr, fel falla bydd rhai o aldarmens y Guildhall yn acor 'u calona ac yn acor list iddi — list arian gyta enw'r maer ar y top am £5, neu ala bar o skitsha neu dynall o lo iddi, nawr fod y tywydd yn dechra oeri, a phrish y bwyd a phopath wedi cwni.
(All contributions thankfully received. Address, Witw No. 1, Box 10, Leader Office, Aberdare. Cheques to be crossed "Tresamwn Royal Bank," No connection with the Coppernative.)
-

Fod pawb yn gobitho na ddaw Conscripshun i fodolath, ac y daw’r Japs mas drosto ni, yr Iancis, y Chinese, y Askimows, y Northmen a’r Cardies altwgeddar i feiddu y Germans, yr Awstrians a r Bulgars cyn Yndolig. So be it. Bysa hyna yn pleso'r
PACKMAN NEWYDD.
 

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J7560a) (13 Tachwedd 1915)

Aberdare Leader. 13 Tachwedd 1915.
Clywedion Dyffryn Dar.

Fod nyth y cacwn wedi towli y Miners' Agent off y rails -- wel, nid cacwn, ond Pro-Germans ddylent gal i tacu bob un gen six-foot sausage, a'u hongad wetin am un dydd a blwyddyn o ben Suspension Bridge Tresamwn.

Fod shew yn shiglo achos derbyn notis welcwm Lord Derby i fynd dan y colors ond stim isha iddi nhw, achos single men sy isha gynta - toffs cinog a dima a skitsha melyn o Gwmbach i Hewlyfelyn — rhai sy'n lercan a brygawthan o Benwaun i Aberaman, heb nithir dim ond whilo wedjan.

Fod y Bishop newydd i gal i urddo yn y Guildhall ar y 19th, y Maer yn y gatar, ac Ap Seidyr, Ap Wamal, Cestwyson, Rhawfab, Dishgwlwyson, Northinfab, Clwbfardd, a Gentlemenfab wedi addo i'w escorto yn i robes. Fel hyn y canodd Ap Sebon iddo ar un amgylchiad: —
"The Bishop a merry Bishop will be,
For he sang so glorious—it's his way, you see;
But when his voice thunder'd one night with full glee,
He frightened the bards and all the 'Ni! ni!'

Fod atar bidir yn dod lawr o'r top amball dro—ma nhw'n gwpod size dyn, size gwthien lo, size packman, size Soshal, a size peint ed, ond dim o gwbwl am size 'u hunen, ac mae speshal meetin o ddelicates, ambassdors, a represantives yr holl stituwants i gwrdd noswath yr 18th i setlo pwy short o fombardment sy fod ar y Royal Ffroth Brigade.

Fod y recriwtins wedi bod yn gryf iawn yr wthnos ddwetha - dou deilwr, 1 tincer, 6 counter-jumper, 1 prainter, 3 paintars, 35 o goliars, un lampman, 6 cetyn gaffars, 2 blisman, 2 fwtshwr, 1 packman, 4 hossler, 3 Chardi a 2 Northman wedi jooio'r 5th Welsh, a phaged o fantams rhy amal i'w henwi. For further particulars, apply to Ap Amal, Royal Recruiting Office, 2 Kitchener Terrace, Foundry Town.

 

 

A picture containing text, newspaper, receipt

Description automatically generated
(delwedd J7560b) (13 Tachwedd 1915)


Fod sopyn yn gwed y bydd amsar drwg yto ar ol y rhyfal, ond mae'n amsar "nate" nawr ta bath, mydda nhw, yn enwetig os yw tickat pay Shoni Slatin, 2 Cwmrhiwtyn Terrace, yn right, yr hwn odd fel hyn: —
Sunlight Colliery Co.
Date, Oct. 31, 1915.
Coal Worked. £  s. d.
Monday (1 dram, 21bs), etc. 0 3 11
Tuesday (2 drams, 41bs.) 0 6 12
Wednesday (4 drams, 5lbs.) 1 14 14
Thursday (5 drams, 1 lb.) 2 4 13
Friday (4 drams, 51bs.) 1 14 14
Saturday (3 drams, ½lbs.) 1 6 18½ 
£7 13 10½

Deduct: -
Doctor 0 0 1
Federation and War 0 0 3
Train 0 0 8
Hospital. 0 0 1
Drinks 0 1 6
Powder and Soap 0 2 6
Expenses £0 5 1
Total Wages £7 8 9½ 
Signed, Twm Cetin Gaffer.

Fod notises arath iddi gweld ed hwnt ac yma obothti'r shopa, yn gwed fel hyn (nid fel Lord Darby): “Join our Xmas Club for Gooses, Ganders, Whiningans, Whyards, Plum Plwdins, Twrcins, Welsh Hams (not from Ireland via Penderyn), guaranteed without smell pysgod. Join now to avoid the crush. Choose what you like, eat what you like, and pay what you like." A fel gwetws John Skin-the-Goat Philpot, fe gelsa un lond bola am whech wth joino clwb mor genuine—pay and eat what you like.

Fod sopyn yn etrach mlan am amsar gwell, shwgir chepach, gwell cownsil, llai o glepar, mwy o ffordd i gerad ar y pavin, hotels teidy i ladies ishta lawr gyta back entrance, extension nos Satwrn, cwmpad yn mhrish y ffreid fish a gin, train and tram fare to all war ladies, etc., etc., etc., and too further to mention. Bysa'r reforms hyna yn gwitho'n nate os relsa nhw a rhacor o hen gownt miwn i walet wag y PACKMAN NEWYDD.

 

 

 A screenshot of a computer

Description automatically generated with low confidence

(delwedd 7561) (27 Tachwedd 1915)

Aberdare Leader. 27 Tachwedd 1915.
Clywedion Dyffryn Dar.

Fod yr amsar wedi dod i'r Voters i gyd i ddoti X ar y papyr, sef ar gyfar yr enw gora, dydd Iau. Un membar aiff miwn, a wetin, gall neb daclu cross i'r ddou; a gora pwy gynted y bydd i bob copa walltog foto'n deidy dros Stanton cyn wyth o'r gloch, neu bydd rycshons wath na Kilkenny.

Fod atar clefar iawn yn perthyn i'r Highelpees, a bo nhw'n haeru mai nhw yw political leaders y nation-ie, i ledo'r gweithwrs i fuddugoliath ymhob ystyr —mwn gwaith, capal a chartref, ac hyd yn nod i ddangos y ffordd i Kitchener i foxo, a Asquith i scrifenu, a Lloyd George i wara marbles yn lle gnithir mwnishons i ladd mwrdrars.

 

“Dynion da a dynion drwg

Sy'n ymladd nawr yn y mwg;

Ond pan ddaw y dewrddyn mas

Cilio wna'r corachod mas!"

Fod isha gwa'd newydd ar y platfform, a llai o'r “Ni sydd reit," "Grondwch ar Noni," "Nyni sy wedi acor llyced y gwithwrs," etc., etc., a gwath na'r cwbwl, yn gweiddi, “Sa pob dyn yn gall fel NI bysa dim rhyfel, a'r Highelpees yw saviwrs y byd!" Wei, ma nhw'n ffeili savio lawer o'u parti rhag joino a'r Librals, clwb dwr y mor, a chlwb y rhacs, ta beth.

Fod pob dyn call o Bernant i Bersheba yn gwed ta showder to the wheel yw'n gwaith ni gyd fel nashwn nawr, ac nid taclu sprag yn wheel fawr Chariot Civilization fel ma rhai yn treio nithir, er stopo fa i gyradd pen fuddugoliaethus ei daith ofnadw.

Fod Spiritualist o'r pentra wedi cal wireless i wed shwd bydd y result, a dyma fe: —

 

Votes.

Real Labour Membar. 1,500,000

Highelpea 2,150

Majority. 1,497,850

(Signed) Gaffer y Votes.

Fod pawb yn ofni clywad cnoc y Recriwtin yn dod at y drws, yn enwetig y youngsters, young married men, y ladidaws, a'r mashers. Wel, sdim byd genti nhw i wed ond rhoi apad plaem, fel, gwetwch, "Not very well to-day, sir,” "My wife got the'measles, sir," “I am gaffar pwll glo, sir," “Clear out or I'll catch in the poker!" neu ryw apad bach teidi felna, a bydd y Recriwtin Offisar yn falch i skedadlan.

Fod Maer Tresamwn lan iddi glysta mwn gwaith lesciwn, a'r Guildhall yn llawn literature, pop, a wynwns, i helpu rhai i lefan pan bydd angladd yr Highelpea yn passo. Os enilliff Stanton y tro hwn, bydd y boddhad mwya gas y maer er's slawer dydd, ac yn enwetig i'r PACKMAN NEWYDD.

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J7563a) (18 Rhagfyr 1915)

Aberdare Leader. 18 Rhagfyr 1915

Clywedion Dyffryn Dar.

Fod y byd a'r Bettws, Patagonia a Phrwsia, yn cretu mwn heddwch amsar y gwyla, ond ma rhai o'r Snecs yn gwed na fydd dim heddwch byth yto, achos fod yr Highelpees wedi tyngu yr ymladda'n nhw hyd anga achos y cam a'r fflorad shocin geso nhw'r lecshwn dwetha, pan setlws y coliars i roi Stanton ar ben y poll.

Fod Sgweier Wirepuller Smut, I.L.P., yn gwed ar g'oedd ta cal i ledo i'r slaughter gas y votars i gyd fel defad ne foch, a nag os dim inch o ddaioni mwn Libral, Tori, Swell, na Thincer, ac mai'r dynion calla yn y byd, a'r rhai sydd wedi dod a'r reforms mwya i'r dosbarth gweithgar yw yr anwyl Highelpees sy'n hwsi ddydd a nos, er mwyn lles y werin, “a nhw'u hunen," wth gwrs. Fel canws Wil Ci Du: —

 

“All is fair in love and war,

And sometimes in the 'lection,

But Highelpees indeed were sore When Stanton wallop'd Winston!"

Fod pawb yn satisfied nawr ar betha fel passodd nhw, ond y cranks sy rhy dda i'r byd hyn, a thrueni mawr na fysa nhw yn joino'r Salvation, neu yn cal i hala gyta'r Highelpee Special Express yn straight i'r nefoedd, a chal bopo edishon o'u papyr, 'The Red Rag,' i ddarllan ar y ffordd, lle bo nhw'n etrach mas trw'r ffenast ar broperty dynon erill.

Fod partoians am Yndolig iddi weld o Gwmbach i Gwmdar, ac o Benderyn i Benrhiwceibar, ond y peth sy'n bexo pawb yw y prishodd shocin ar lo, bwyd, bacco a blawd, shwgir a shibwns, cigars a scatan, ham a wyau, whishgi, a chasgeni bach. Dath Mari a bil yr wthnos i Wil sha marca stop-tap nos Satwrn, a dyma fe: —

 

 

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J7563b) (18 Rhagfyr 1915)

 

Goods and Sundries.

Debtor to John Dear Jones, General Dealer and Provider.

£ s. d.

Ham and eggs 1 10 1½  

Tobacco, soap and sugar. 0 18 2½ 

Bread, butter and things 0 19 11½

Bottle of whiskey and tea 0 15 4

Sundries 2 0 0

Total £6 3 5½

 

A phan welws Wil y bil, fe ofnws beth odd y "shindries" na, a'r apad gas a odd ta pethach mân o nhw too numerous to mention. "Wel," mydda Wil, “fe gei di a fina fyw ar gig bant a marsharine a diod Adda'r wthnos nesa, achos y rhyfal." Odd hwna'n apad smart, ed, i strafangans y gwracedd.

Fod popath yn cal i nithir nawr “achos y rhyfal," and beth ma sopyn yn ffeili diall yw shwd ma'r upper class yn cal shwd enjoyment, ordro pethach fel arfar, y motor yn dod a nhw i'r drws, a'r carrier yn bowo'n ishal i'r snobs, a just a chusanu'r pavin mwn gwaseiddiwch. "Wel," mydda'r dyn o'r Pentrip, “achos ta NI sy'n cynal nhw - ni y gwithwrs, ni y labrars, ni y coedwrs, y shaclars a'r riders ni y firemen a'r foremen, bankers a hostlers, coliars a choblars - ia, y NI, a ddim yn cal hanar i pay nhw!" (Cheers dychrynllyd yn y Guildhall, sposo, yn ol cownt y cetin riportar.

Fod son am re-union arath mwn golwg ymhlith y stiwdants, y beirdd, y caeta [?] beirdds, cantwrs a chetin cantwrs, etc., a bod y Bishop, gyta chonsent y Lord Mayor, yn hala invitations mas fel y gwynt. Gobeitho y daw un yn saff hibo'r Zeps i ddwylo'r PACKMAN NEWYDD.

 

 

A picture containing qr code

Description automatically generated
(delwedd J7562) (25 Rhagfyr 1915)

Aberdare Leader. 25 Rhagfyr 1915.

Clywedion Dyffryn Dar.

Fod lliaws yn gwed fod gormod o ffuss gyta'r mynywod obothti'r shopa, a'r merched ed, i byrnu ar gownt Yndolig, pan ma milodd o bwr dabs yn y ffrynt ac yn y trenshis heb fod yn acos i un shop ond shop bowdwr Ion Von Magnel a'r vons bach sy'n helpu a i gatw amsar yr hen Von Klock.

Fod llawar yn gwed ed y dylsa ni estydio economi 'nawr fod y rhytal yn costi shwd lot, ond beth ma'r Cownsil yn hito am hynny? Cwni wages ma nhw o hyd, ac ar ol cwni wages, cwni pensioners i enjoyo'u bywyd am byth yn Mharc Dumffrees, y Graig, a Pharc Mawr yr Aristocrats, yr ochor draw i'r cloc!

Fod economi yn beth piwr digynyg i individul iddi stydio fa, ond pan ma n dod yn buplic cwestion, dyw a o ddim pwys, yn ol cownt y gwypodions, achos ma dicon o goin gen y ratepayers tra pariff unrhyw barc, a ma son y bydda nhw'n berchan ar Barc Fethergill heb fod yn hir, heb son am yr Hospital a phylla a gwitha Abernant.

Fod sopyn yn gofyn os yw a'n wir fod stop-tap i fod ar yr Yndolig a'r Boxin, ond dath cownt mas yn y "Daly Spalpeen" i wed fod perchenocion y seleri bach neis odd yn Jaypees wedi trio'r dodge, ond fflatws y jobin, achos, fel gwetws Twmi Shirgaer, “Odda ddim yn promonobublico," ta beth yw hyny, os nad "free house."

Fod wleia mawr am y gwyla, ac y mae'n anodd gwpod pun ai y rhyfal ne'r gwyla sy fwya amal ar wefusa'r werin, tra na fydda'n nhw'n heefad neu fyta, wrth gwrs, achos ma rhaid i'r Snecs fyw gystal a'r Germans yn Berlin, a ma nhw'n well 'off, mydda nhw, achos “black bread” yw hi mas yco, mydda Twmi'r Crydd, Dai Post, a Jack Teiliwr, achos ma nhw'n darllan y leadin papers of the day.

Fod erill yn gwed y bydd cystal blow out yn y Guildhall eleni a fuws ariod, ac yn well na phan gafws Twm Dinefor i nithir yn faer, a chender Dic Turpin yn High Cwnstabl, amsar odd Mari Lwyd Lywan yn clasgu at y cwrw bach, a'r chorus dwetha yn cal i ganu, “We won't go home till brecwast!"

Fod pethach yn etrach yn "go likely,” ys dywed Twm Tebot, sha'r pentra, oni bai am rai o'r lords, dukes, a'r ladies sy'n swagran hibo ar y pavin a'r hewl, gan feddwl ta nhw bia r cwbwl achos i bo nhw'n ratepayers yn Respectable Mansions, Golden Terrace, Sober Villas, a Champayne Avenue, lle ma'r casgis bach a'r cobered fflagons yn cael i delivro by airship at 12 midnight, pan bydd y Shoni Hoys i gyd a Maer Tresamwn yn snoran!

Fod pawb yn gofnid iddi gily, “Ble ma dy Hamlet di?" ys gwetws Wil yr Atroddwr, a mawr y banter sy rhwng gwyr y top a natives Cwmbach a Chwmdar am gonshripshan, compulshon, scame Lord Derby a scame y slackers, nes ma dyn yn falch i scwto nes ymlan yn y crowd i weld both yw prish y twrcis, y Welsh hams o Benderyn, a'r latest from Irishland, etc., ac i ddymuno "Yndolig Lawen i'r Snecs a'r Sowdjwrs," cyn marca'r stop, yr un fath a'r PACKMAN NEWYDD.

 

 


.....
------------------------------------------------------------------------------
Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ
/ ē Ē /
ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː  B5237ː B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː
  deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː , ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG:
ɛ̄ ǣ æ

ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
 ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
 ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ ɔʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː
A̋ a̋

U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ

gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith
δ δ £ gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ U+2020 †
« »

 DAGGER
wikipedia, scriptsource. org

httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ

 
Hwngarwmlawtː A̋ a̋
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
 …..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́

Ə́ ə́

Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute

…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_111_clywedion-dyffryn-dar_1915_0359k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 18-04-2017
Adolygiad diweddaraf : 27-12-2017
Delweddau:
Ffynhonell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Arlein.
---------------------------------------

Freefind.
---
Archwiliwch y wefan hon
Cerqueu aquest web
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
Estructura del web

SITE STRUCTURE
---
Beth sydd yn newydd?
Què hi ha de nou?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait


Adran y Wenhwyseg / Secció del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
Edrychiadau ar y tudalennau / Vistes de les pàgines / Page Views
Web Analytics Made Easy -
StatCounter
Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres Estadístiques / View Our Stats