kimkat0364k Clywedion Dyffryn Dâr. Aberdare Leader. 1914. Ysgrifau yn nhafodiaith y de-ddwyrain – y Wenhwyseg.

17-01-2023





  .....

Gweler hefyd / Vegeu també / See also:

 

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..
 
 
 
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
Clywedion Dyffryn Dâr. 1914.
(Aberdare Leader).



 


 


(delwedd 7282)

 .....

Map

Description automatically generated
(delwedd J7541)

…..


09 Mai 1914
23 Mai 1914
…..
15 Awst 1914
22 Awst 1914
29 Awst 1914

.....
19 Medi 1914
…..
03 Hydref 1914
17 Hydref 1914
31 Hydref 1914
…..

12 Rhagfyr 1914

 

 

None

(delwedd B2265a) (9 Mai 1914)

Aberdare Leader. 9 Mai 1914.

Clywedion Dyffryn Dar.



Fod pawb o'r diwadd wedi cretu fod y Packman Newydd wedi marw neu wedi listo gyta'r sowdjwrs yn Mexico, ond fel gwelwch chi, syr, rwy'n fyw eto, er gwaetha'r hen gownt.

Fod yr Hen Backman yn gwed ta wedi blino sgrifenu own i, ac of an cario racor o glecs, rhag ofan dela dim o'r dues miwn, a wetin fe fysa'n bert — dim ond y ty mawr o'm mlan i a'r teulu sha marca Merthyr.

Fod sopyn o bethach wedi dicwdd yn Sweet 'Berdar oddar sgrifanas i o'r blan, ac i wed y gwir, fe gas y mhac i eitha lychad y mish dwetha, gan nithir peth niwad i'r contents, a gorffod iddi nhw fynd am half-price, ond sdim cwarter rheiny wedi dod miwn yto.

Fod y mish hwn wedi dod miwn mor grand, fel ma'r lords, ladies and dukes wedi troi mas leni yto yn 'u togs gora (gora) a mwya ffashynabl, a bod y turn-out dy' Sul yn y Park a'r Bowlivards de Gatlys yn tori'r shine ar Paris a Fishguard.

Fod stumog ofnadw wedi cwni ar wyr Bernant — rhaid i'r gwracedd just i gyd nawr, os bydd isha bloter ffresh, i lectriffyo hi sha'r pentra, a bod a'n talu yn well na chal bloter drwg gen yr hwcstars i boisono'r family. Mae'r hen ddiarab yn eitha gwir — "Ma jant fach sha'r pentra'n well na golchi'r gecin."

Fod y son mas ed y bydd dwbwl-deckars yn rhytag heb fod yn hir, a dyna lle bydd i off wetin — y swells yn u cylars smart a'u shitan a'u scitsha melyn, etc., a'r joints, y phesants, y cwningod, y samwns, bloters a'r mackrals yn hongad ar ochor y carenge, tra bydda nhw yn sharad am ddwr y mor a hanas y "jug and bottle."

Fod sopyn yn gwed nag odd y ffair ddim up-to-date leni, ond fod cymint o ffyliaid ag eriod yno — rhai ifenc gan mwyaf wrth gwrs. Odd dim o'r hen gwality yno, na dim sport iachus, os nag odd tascu dwr a pwncho'u gilydd

 

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd B2265b) (9 Mai 1914)

 

yn sport, a'r mowredd anwl, odd y scwto a'r screchan yn fwy shameful na shoking!

Fod gwyr y gwlaneni wedi gnithir yn lled dda ed, ond fod llai o arian obothti achos iddi nhw gal 'u hala ar yr holidays. Ond Duw dishefoni, odd y gwracedd odd yn cario'r coeleti o stwff crysa, etc., trw'r hewlydd am ddangos fod genti nhw ddicon o arian, ta beth, a nag odd dim smel o hen gownt ar ’u dillad nhw

Fod style bidir ar drip y ladies dd'ont lan o’r part isha, a'u bod am gompeto a "hobs" y pentra a'r part ucha. Beth yw “hobs," nis gwn i; ond y description odd Miss Fashion de Dumfries yn rhoi odd, "The ladies who wear tight skirts to give their shapely limbs the gazing admiration of the gaping fools."

Fod rhai o wracedd teidy y pentra yn gwishgo y "trowsis tew" ed, achos dyna beth ma Mari Penpound yn i alw a; a wath na'r cwbwl, gwracedd rhai o'r leedin men in society - uchal mwn dysg, ond ishal mwn gwisg, onte fa? "Mens and wmans may cum and go, but ffashuns go on for evar."

Fod y shew bicshwrs yn gyrchfan poblogadd o hyd, o'r gwaelod i'r top, a mawr a bychan yn patroneiso'r performances ond nawr gyta dynesiad y tywydd twym fydd dim lawer o want ar bawb i stwffo 'u hunen miwn iddi nhw, achos bydd yr open air yn ffreshach, rhagorach, moddion iddi cyrff a'u heneidiau na miloedd o latheidi o'r "films" gora'n y byd.

Fod son am gal miwsic da gen y bands yn y Park leni, a gobitho y bydd. fel caiff pawb enjoyment heblaw y

PACKMAN NEWYDD.

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J7599a) (23 Mai 1914)

Aberdare Leader. 23 Mai 1914.

 

Clywedion Dyffryn Dar.

 



Fod isha poleecies mwn mwy nag un Sharing Cross yn y pentra, sef gweilod Commercial Street, lie ma traffic ar- swydus, mydda nhw, dy Sul, gwyl a gwaith.

Fod riportar yn cerad pwy noswath yn gros or Bwt i'r Sgwar a bwndal mawr o lifyr yn i ddwylo, ac onibae i Shoni Hoy clefar yn i ddillad gwaith i ddihuno fa trwy dowli i fox bwyd at i lyfyr a, a gwaeddi "Hoy! lwk howt, man!” bysa'r motor rytws hibo fel Flyin’ Scoshman wedi cwpla'i riports e am dicyn, os nad am byth. Gold medal arath i Shoni.

Fod meeting y Presentashun wedi troi mas yn bewtiful, ac wrth roi y poker and tongs, y silver-mounted pipe, y ffender a'r picshwrs, y llyfra a'r llestri te arian, a'r tecil a'r tepot, fe gwnws y shareman lan, gan hando drwodd y presents i gyd i'r bridegroom yn y speesh hyn: —

 

“With mountain of feelings, respect, joy and gratitudeness, I rises, on this ospishus ocashun, on behalf of the Aberdar Ffaggots and Fruits Society, Ltd., to give you from their harts and pockets of kindness, these very small tokens of rispect to you, as one of our dearly beloved membars of long standin, in membrance of your first weddin to your wife – blessed be her name, and long wish for life for you two." (Tremendous and deafening cheers, mingled with shouts of “Cwm rag! Cwmrag!”) Wrth gwrs, gan fod y riportar yn gorffod dala'r tren i roi'r riport yn y papyr, fe ddath mas o'r meeting cyn y diwadd, ond dim heb gal llwnc teidy o "short"! Gan bwy?

Fod meetin' arath wedi tori lan yn lled stwrllyd pwy noswath isha na bysa’r shareman, y vice-shareman, neu'r sub-vice-shareman yn gallu gwed pryd bildwd St. Mary's Church, ond fe ddath landlord y Red Beer Hotel i'r resciw, a fe gas ddau englyn teidy am hyny, ond fod un a twll yn i dalcan a, a dyn acor y botal nillws, ond odd dim drinks rownd, achos odd isha dala'r tren deg, y plant yn y gwely, a'r wraig yn y shew bicshwrs.


 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J7599b) (23 Mai 1914)

 

 

Fod isha Inspectar of Respectors i watshan heol Bernant ed ar nosweithi caru — ma nhw'n gwpod pwy nosweithi -- i washgar y gwracadd oddiwrth y gwyr ne gweishion, a bod hi'n shame ed fod dynon diarth yn cerad gyta gwracadd smart. “Dylsa dynon ifenc wishgo rings i ddangos bod nhw heb briodi, a mynywod priod earings i ddangos bo nhw wedi prioti," mydda dacon o Bernant, a jawst ariod, ma rhwpath vn hyny ed, sef a ddim ond good-for-trade for rings and ear-rings. Ond falla bod a'n agent i Sneekum and Smellum yn i spare time, a dyna'r secret mas - sdim isha Inspector of Respectors!

Fod sopyn yn gwed nag os dim bywyd yn pregethwrs 'Berdar heddyw, ond byw i ffindo beia o hyd yw i holl waith nhw. A beth sa dim beia i gal? Wel, bysa dim gwaith iddi nhw, na dim studies iddi studio nhw, a bysa rhaid iddi nhw joino'r Ffederashun, a fforco mas i'r preis drawins yn lle hala'r cwbwl ar siance of divinity.

Fod sopyn wedi synu ed i weld y gaua yn dod mor gwic ar ol yr haf bach geso ni, ond fod gobath am haf mawr i ddod, gan fod proffesswr y tywydd wedi gwed i bod i fod yn flwyddyn sych! Pwy brish mish Mawrth? Dyna gownt! Sdim un blwyddyn sych wedi bod yn y jug and bottle oddar amsar Adda, nac oddar amsar Dic Penderyn! Os a, ta? Ma'r hen sayin' yn eitha gwir, "Ar ol  heefad sychad sydd, os na fyddwch hi'n dotal, 'run peth a'r ffeirad!"  

Fod sopyn yn y cwrt bach dwetha yn i fy mycwth i, ond dim gwell, achos ma rhaid stabo'r hen gownt yn i fola, a gora pwy gyntad ed, achos os na gasgliff packman fwy na whech yn mhob ty, yn enwetig yn y Moch yn Tatws City, starvation fydd yn 'u gwynepu nhw ishta ma fa ar hyn o bryd i'r — PACKMAN NEWYDD.

N.B. — More to follow.

 

 

 

.....

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J7535a) (15 Awst 1914)

Aberdare Leader. 15 Awst 1914.

Clywedion Dyffryn Dar.

Fod lle ofnadw wedi bod yn y Farch
nad pwy noswath yn anti-war meetin Keir Hardee, a fe gwplws y meetin yn lled short, ond nid cyn i un o'r Soshals just a chal i ladd trwy ddemskin ar yr Union Jack! Pwy ryfadd?

Fod War Fund wedi cal i hacor yn y
pentra dan arweiniad yr High Constable, a dyna’r list: -

£ s. c.

Lord Bute 2,000 0 0

Maer Tresamwn 1,000 0 0

Lord Maesydre 50 0 0

Shah of Persia 30 0 0

Yr Hen Backman 50 0 0

Packman Newydd 0 2 6

Rhys Rhacs, J.P. 0 0 1

Fod pawb yn g
wed ta scandal pechadurus yw chargo mor ofnadw o uchel am dicyn o fwyd, a bod y Llywodrath yn mynd i gospi y shopwrs sy'n taclu sand yn y shwgir, a chwni crogbris ar y bara chaws - the poor man's friends.

Fod rha
i o'r shopwrs bach yn wath na’r shopwrs mawr. Yn Heolyfelin, Abernant, Ffoundry Town, Braman, Cwmbach, Trip y Gadlys, Tresamwn, y mae popath - hyd yn nod blotar yn ddima yn fwy nag yw a yn y pentra. Too bad. "Gyfarment Order: -All complaints to be made to the Fish and Food Inspector. 2 Jeremiah Mansions. Aberdare."

 

Fod y local suffringetts yn behavio nawr, a wara teg ed, ma rhai o nhw'n folon joino'r Red Cross Society. "Treni mawr," mydda Wil Sais, "na allsa'r French ddim cal rigment o Snffringetts, a phe galla nhw, bysa'r Germans wedi concro cyn amsar brecwast." Ma sopyn yn hyna, ed, ac nid sawdust i gyd sydd yn mhen yr hen Wil.

Fod y war scare
mor ofnatsan, fel ma Gyfarmant Notis ar y prif hewlydd fel hyn: "No courtin after 10 p.m. War Danger. (Signed), War Secretary." Jawst ariod, bydd rhaid cal license i garu nawr ta. Dyna gownt sy'n wath na'r hen gownt!

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J7535b) (15 Awst 1914)


Fod dicon o fwyd, ta
beth, yn y cwm, a dicon o fegetabls, tatws, erfin, cabbage, wynwns, ffowls, atar, ffagots and peas i bara am whech mish, ac yn mhell cyn hyny, mydda'r local war correspondent, (yr hwn sydd wedi bod yn y Melisha am 6 mish) bydd y Germans wedi cal ’u hanilato! Wrth gwrs, ma geira mawr gen y war correspondents, rhag ofan bydd yr enemy yn gallu darllan 'u llythyra nhw!

Fod gwyr y railways wedi stopo'r cheap trains i gyd 'nawr, a bod rhaid talu'r full fare i bobman. Ma hwnw'n ergyd cas i'r gwithwrs tlawd a'u teuluoedd, ond i'r lords a'r dukes a'u scitsha
melyn, dyw a ddim byd - galla nhw fentro i ddwr y mor a'r wlad ta faint o German Wars sydd yn wara. a ordro dicon o gambos i gwrdd a nhw yn y stesions, a heefad peint o ffresh yn yr Holiday Hotel cyn starto. - Special Telegram (Reuter).

Fod pawb ond ffyliaid a ffan
aticiaid yn wladgarol rhyfeddol yn yr argyfwng difrifol ydym ynddo, a chwarae teg i'r Snecs, nid ydynt yn ail i neb yn y Deyrnas Gyfunol am eu ffyddlondeb a'u teyrngarwch. "Long live the Snakes. - Down with the Germans!" and "High Prices in Food."

Fod ofan yr airships ar lot o wracedd ardal Patagonia, y Cwm, a'r Comin ac y bydd i'r Germans ddod lawr r
hyw noswath a ddwcid y cabbage a'r kidna banes i gyd, heb son am y magna bonas! Wel, ma gofyn i'r night policemen i gal telescopes a pea-shooters haiarn, ond os a?

Fod pawb yn gobitho am y gora, yn sticko dros y
fflag, yn caru'u gwlad, ac yn ffyddIon yn awr perygl; a deled a ddelo, os oes rhywun yn credu mewn buddugoliaeth Prydain, Ffrainc a Rwssia. hwnw yw y

PACKMAN NEWYDD.

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J7536a) (22 Awst 1914)

Aberdare Leader. 22 Awst 1914.

Clywedion Dyffryn Dar.

 

 

 

 

 


Fod sopyn yn cretu ta commito suiside wnaiff y Kaiser os na lwciff a i gal lodgings gyta'r Hen Backman
- mas o'r ffeirin line. Pwr dab! mae'n galed arno.

Fod prish y bara wedi cwmpo eto, er gwaethed y money
-mongers a'r want-to-get-rich-quick men sy gento ni yn y dyffryn. Ond wara teg, ed, ychydig iawn i nhw mwn nifer, a jobin da.

Fod brwdfrydadd dychrynllyd yn meetin y farchnad dros y War Fund nos Wener, ac os oes rhyw dref yn y wlad yn loyal,
Sweet Berdar yw hono. Tw bad, shwt, odd gwaith d—1 y wasg yn gatal un item pwysig ar y list mas yn y "Leader" dwetha. Yr enw odd i fod miwn ar y diwadd odd fel hyn:

s. d.  

Lord John Labar, Esq., M.P. 0 0½

Fod y war fever wedi citsho gafal hyd yn nod ar y crots ar yr hewlydd, a gel
lir gweld nhw'n drillo o dop i waelod y pentra. Fel gwetws General Picton, Look out for squalls," a dicon tepig y bydd squalls ed pan bydd y British Barber yn shavo mwstash y Kaiser off a Rhys y Ragman yn dala'i ben a!

Fod sopyn yn gwed nag os dim news yn y papyra 'nawr am Tariff Reform na Home Rule, na Soshalism, na Labar Party, ond war, war, war, a "down with the high-priced food-mongers and the mad dog of Europe
!"

Fod stock yn iawn o fwyd gen y Snecs o Ystradfellta i Abercynon, ond fod y fish supply dicyn yn wan achos fod y war-ships yn llanw'r mor, a dim l
le i'r scatan, y samwns, a'r whales i symud. Pam na ddotan nhw un o'r war-ships i byscota?

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J7536b) (22 Awst 1914)

 

 

 


Fod sopyn dychrynllyd o sowdjwrs o Aberdar wedi joino'r ranks o bob math
- i fynd i ddrws y ffrynt, a ddrws y back ed, achos ma'r spies, medda nhw, yn cwato ymhob man, a ma rhaid watshan y back kitshin!

Fod rhai yn gwed y cwpliff y rhyfel mwn amser byr, ac erill yn gwed y pariff a am flwyddyn ond ta faint bariff a, ma John Bull a John French wedi penderfynu yr ymladda nhw hyd angau i gal gwarad ar y tyrant, a ma Dick Belgium a John Snisyn Samovotikisci yn gwed ni ed. Shwd waith? Four to one, onte fe, a falla 6 to 2 fydd ar y diwedd.

Fod isha i bawb fod yn "gool," a phido brago a gwaeddi gormod ar y start, achos nid batl of Waterlw yw i fod y tro hyn, ond falla gwath na dwsen o'r rhai hyny, a wetin ma gofyn i ni bido rytag yn ddwl o'n blan fel ma Wil Wyllt yn nithir.

Fod rhai o'r pylla yn gwitho'n grand ddydd a nos er mwyn i'r llonga rhyfal gal dicon o'r smokless
, a dim ond i'r Snecs i acton deidy at y coliars, bydd y rhyfal ar ben lawar yn gynt, a dicon o gockles Kidwelly i gal i gatw starvashun yn ddicon pell o stesions y Taff a'r Western, a phawb yn canu "We won't go home till mornin’!”

Fod pawb yn gwed ta nid joke yw ymladd a Germani ac Awstria
- dwy wlad fawr mwy na'r cyffretin; ond fod gwell posishun gyta'r Allies, dim ond iddi nhw gatw'u llyced yn agorad, a chatw'r powdwr yn sych.

Fod sopyn o'r Snecs wedi mentro i ddwr y mor a'r wlad ddechra'r wthnos, wedi c
lwad am y reverses ar y Cyfandir ond fel ma gwitha'r modd gadawodd rhai oheni nhw sopyn o hen gownt odd yn ddue i'r

PACKMAN NEWYDD.

 

 

Scatter chart

Description automatically generated

(delwedd J7537a) (29 Awst 1914)

Clywedion Dyffryn Dar.

29 Awst 1914.

Fod y digwyddiad arswydus gymrws le yn Nghwmdar wedi shocko pob enad
o’r trigolion, a diolch, mydda pawb, ta nid Cymro odd a!

Fod petha yn mynd mlan yn lled dda, er gwaethed y rhyfel a'r peth ma nhw'n galw "marytorarium" arno fa, sef
nodyn a stamp rhyfal y Kaiser arno i ddangos nag os dim rhaid i chi dalu'r hen gownt nes bo'r Kaiser wedi cal i ladd, a dyna falch ma'r milodd hen gowntwrs yn y dyffryn, achos fe gymriff spel cyn hyny.

Fod sopyn, er hyny, yn camsynad size y nodyn,
achos dim ond swms yn uwch, na £5 sydd i gal 'u cownto fel Marytorariums, a dyna fel bydda i y. gallu citsho gafal mwn paged yn lawn o'r small fry, er y bydd i'r gwyr a'r gwracedd sy'n gwishgo scitsha melyn, gwascoti gwynon, shidan a box hats tu-fas i'r balloon am dicyn os na ddaw yr hen HellzebbeIlin am 'u traws nhw, a phided nhw a beio'r Packman Newydd am hyny, na'r Hen Backman chwaith, achos ma nhw wedi cal dicon o rybudd!

Fod y sentries yn cal amsar net yn gardo
r pontydd, y breweries, y castles, y banks, a'r Irish Factories yn Mhenderyn, a bod Syndeecat wedi hala at King George i weyd y bydd dicon o gig moch i'r Army tra pariff y rhyfel, dim ond i'r Navy atal y llonga a'r gwydda i baso'r Irish Sea hyd January 1st, 1915.

Fod pawb yn ffaelu wleia
pum' mynad heb son am y rhyfal, rhyfal, rhyfal, a rhyfal byth a hefyd, nes bo dyn yn teimlo licksa fa gal whiff a diferyn bach o short i anghofio'r cwbl; ond os aiff a miwn i'r jug and bottle, mae'n rhyfel many wetin, a rhyfal tafod heb i depig, a falla sentry tufas!

 

Fod sopyn yn gwed ta un dyn sy wedi achosi’r rhyfal ia, un yn unig sef y War God, fel ma rhai yn i alwr a, Kaiser mydda erill, mad dog of Europe mydda erill, a Gorsadd Penywaun wedi i daclu a yn Ap Mwstash.

Fod erill yn gwed os ta un dyn sy wedi cwni rhyfal, nid "un" gwlad sy mynd i setlo cownts ag e, nac un army na navy ychwaith, a gora pwy gynted fydd iddo weld hyny ed, achos ma'r arth tucefn i'r
llew y tro hyn, a'r gwyr wynwns just i gyd yn y ffrynt. Son am drad moch a thrad whyad, fydd dim trad gytar Germnas, mydda nhw, cyn hir, a jobyn da ed, er mwyn y'n trad y'n hunen!

Fod y consart wedi troi mas yn llwyddiant o blaid Fund y Prince
o’ Wales, a bod General Stanton wedi cwni'r fflag, yn lle demskin arni. "Hear, hear," mydda Dai Shacklar, fe dy geir di pan na cheir Hardie!" Not confformashun yet. - Press Bora Ddo.

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J7537b) (29 Awst 1914)

 


Fod y dyn odd yn gwerthu "ffowls, moch, camelod, cockles, atar, a chilococod
(wrth gwrs, ma ticyn o atal arno) o'r Shir sy nesa at y'n Shir ni, yn gwed ta'r part gwaetha o'i Shir e' yw Shir Penderyn - i fod a'n gwerthu'n shepach na nhw, a erbyn dod lawr i Farchnad Sweet Berdar odd ffowlyn swllt yn costi 1/6; whyad yr un prish, 2/6; donkey, 7/6 - equal to £1; cockles, punt y groes; camel, ceffyl newydd a thrad mawr i groesi r desart o Stori Arms i Charleroi, talu'r hen gownt i'r Kaiser, a chroesi nol i'r Lamb, y prish ishal o W00,000,000,000,000£0!

Fod Sweet. Berdar yn dod yn fwy enwog nag ariod am sweet ladies, achos fe wetws hen fachan o Gwmgors ddath
lan ma pwy ddwarnod mwn cot a throwsis corderoi, shaen aur made in Germany, a Oxfords (real brown paper) — nid M.A. (monkey adrift o Berlin fe wetws, ie, fe wetws nag os dim merched glana yn y byd na Sweeties Dyffryn Dar, a dyna beth odd barn yr hen sowdjwr ed odd wedi hala'i holidays yn Byrtywa - eitha hen drwmpyn - pan wishws a "good-night" and hope the tref will make you Mayor. Pwy brish Tresamwn a Ffoundry Town, heb son am Llunden Fach a Piccadilly!

Fod achwyniata bidyr am ddwcid o'r gerddi y ny dyffryn, a ta sa Marchant a
r y Bench, wara teg iddo ed, fe fysa yn hala pob scelffyn sa'n twcid cabitshan ceninau, neu erfinau, neu etc., etc., neu seeds i gwni cadna banes yn y gaua, a seeds o fushrooms i gwni ar ddydd Yndolig, -fe gelsa, O! fe gelsa, whech mish without the option of a fine.

Fod pawb am gael cyfiawnder, heddwch, a chymdeithas dda, ond ni ddaw hyn byth i hen yn Nyffryn Dar hyd nes y daw yr o
ll o'r Hen Gownt i fewn i goffrau y

PACKMAN NEWYDD.

 

 

....

 

 

A picture containing text, big cat, leopard

Description automatically generated

(delwedd B2188) (19 Medi 1914)

Aberdare Leader. 19 Medi 1914.

Clywedion Dyffryn Dar.



Fod rhyw storihaus rhyfadd yn mynd obothti'r pentre, a bod pob un sy a trwyn fflat gento yn cal i ackuwso o fod yn German
! Wel, sdim dowt fod llawar o filodd o Germans wedi colli'u trwyna oddar amsar batl Leech yn Belgium, neu'u bod nhw wedi cal'u fflato, achos ma son 'nawr bo nhw'n cilo 'nol, a throi cymint o drwyna a sy gento nhw; sha marka Berlin yn erbyn y Rooshans.

Fod bachan bach o Gaedraw wedi clwad debate ofn
adw pwy noswath ddim can' milltir o'r Mardy House, near Llunden Fach, a odd dim posib i'r reportar gysgu achos odd i ffenast a ar acor, a'i shorthand book a ar y pillo, a gola leuad grand iddi speinglass weld pwy nhw.

Fod J.E. yn i gwed hi fel y mail, ac yn trio cwni Proff. Foote mor uchal a'r Kaiser a'i dduwinyddiaeth fwstasheiddiol, ond fe
fflorwd a yn jibbidares gan W.W., champion y Tri Yn Un," a Supreme bwlat! Yr unig ddyn call odd D.E. yr adviser odd yn trio arwan y brigade sha thre cyn y bora, a 12 inches all hour oddi, a own nhw ddim callach na Phroffeswr Foote yn y diwadd, os os "foot" gen hwnw i sefyll!—(Allowed to appear by the Censor, but left for believing.)

Fod petha yn mynd mlan yn l
led deidy yn Aberdar oddar ddechra y rhyfal, ond fod prish yr ham yn warthus o uchal, a glo dynon clawd wedi cwni 2g. yr hundred. Ond wara teg ma perchen y Samshavisky Hotel wedi taclu Notis ar y ffrynt fel hyn: All Beers Drawn through Taps (not made in Germany) since War Began. No rising in Fresh. Old Counters pardoned for going to the ffrynt. Those owin over £1 0s. 0d. to be arrested and dealt with accordin to law in war times!" Bydd ticyn o waith gyta Kitchener i ddelo a'r customers hyn, a dicon o waith i'r Special ar y Taff ed!

Fod cetin o Soshal yn gwed yn y Red Flagon sa nhw ddim ond cretu yn Ceir Hardy, bysa ddim rhyfal, ond cwnad i'r coliars, a German Warships yn Canel Cwmbach, a'r moch yn tatws yn cilo Ian i'r pees shop, l
le ma'r sign yn gwed fel hyn: "All change here, for the Trap is in sight: beware of snakes!!! Wel, dyna gownt! falla wetin fod a'n well na'r Hen Gownt!

Fod pawb yn gwed nad yw'r Snecs ddim wedi troi lan fel dylsa nhw ond t
a chytig o wyr fflagog ac uchal a fflaminashws sy weti troi mas - catach, mydda rhai. Ond sa'r rhai 'na wetws shwd aflanwaith yn cael sefyll 'u desarts o flaen mwstash y Ceizar dylan nhw gal sefill, achos ma fa'n llawn helectrisity, llawn yproscisi, Ilawn deadisi (marwolaetheisi), ffraudouleisidi a shamouleidisi, fel ma'r "Byd" yn unol am gal gwarad o'r hellomontrositiee!!!

Fod bachan bach o Gwmdu yn gwed i fod a wedi cal i eni yn Llwydcod, ond i fod a newydd ddod 'nol ynon ddweddar, a mydda fa wrth Shoni Shindris, "Why for not you goin to the whar? and you be likely to be a soldier—big legs, fat body, good nose, and talcan mawr?" Jawst, paid a boddran," mydda Shoni "aftar I go to 'Berdar to list, the lister or doctar, what you call him, sed I had Napoleon veins, fflat ffeet, 2 tooths, sqwint, yeer shorter than nor other, Wellington nose, and 26 inches of breath to fight, when 24 hours was the longest of the tests to be in accordin to military law passed in time of danger or military or Hardiepean War!” - Not verified, but heerdiefied. - (Press by Motor-and-Dust.)

Fod Britannia, yn ol "John Bull," wedi towli aelod Seneddol ifanca Merthyr ac Aberdar i'r German Oshan achos i fod a wedi advocato streic yn y pylla glo pan odd isha cwni stame yn y Navy i gookan y German Sausage, made by the Kaiser. Ma gwyr y
wynwns yn gwed ta "sage and onions” fydd ar y bwrdd yr wthnos nesa, a'r Britishers i gyd yn mynd miwn am biff stake, cawl eenin, Irish Stew, Scotch Porish, heb anghofio, wrth gwrs, Bacwn Penderyn!

Fod y Fire Brigade wedi cael i alw mas yn sytan nos Lun, a phawb yn Ngha Masydre yn cretu fod y Germans wedi arrivo; ond erbyn dishgwl mas, dim ond mwg o'r bedroom odd no wet
in. Fel gwetws Iolo Morganwg, "Better to have a tekilter than a syspan with a ole in it."

Fod y papyr a
rian ar 10s. notes yn fflyan obothti fel cocs Cydweli, a dicon o henyn nhw i gal ed, ond dyna'r cythral og e, ma'r Hen Gownt yn fywach nag ariod, a'r ten shilling notes yn fflyan ac yn rhytag i boceti pob rhacsach ond poceti y

PACKMAN NEWYDD.

 

 

 

 

....

 

 

A screenshot of a computer

Description automatically generated with low confidence

(delwedd J7540)(3 Hydref 1914)

3 Hydref 1914

Clywedion Dyffryn Dar.



Fod y byd a'r Bettws yn cretu
fod I y Snecs sy weti listo gystal sowdjwrs a welws y byd ariod, ac nac os dim ofan hyd yn nod tarw arni nhw, a sa'i gyrn a cuwch a stacks y Gadlys, a'i ruad a'n wath na hwtar!

Fod prish y bacwn weti cwmps yto i 1
c. y pownd mwn slishes mwn un shop yn y pentra, ond fod y shopa erill yn chargo o hyd 1s. 2c., a phawb yn gofyn ble ma conshans y cythrauliaid Schermanaidd ? Duw helpo ni os collwn ni y supply o'r l Irish Sea via Penderyn," nwdda Twm Restar Fawr, "achos ma'r naw ships yn y North, y Bowltic, a'r I Avalantic." Eitha reit ed. Fel gwetws Rhys Tywyll: Lwk at home furst and fforinar aftar."

Fod rhai o'r Aristocrins a rhyw gatach or subwrba
ns yn ffond iawn o reido ar dop y cars drw'r pentra i ddangos i ffrills a'u ffrals, a os bydd het fawr gyta Lady Coesfain neu shaen hoyr gyta Lord Penwain, rhaid, oh rhaid, wrth gwrs, reido ar y top, sa'r hen gownt sy arni nhw cuwch a mynydd y Graig, a'r gath yn starfo yn y ty.

Fod turn-out y Dirwestwrs yn dena iawn dydd Llun, a'r rhan fwya o he
ni nhw yn fynywod a phlant. Wel, mae'n amsar sobor iawn, mae'n wir; ond fe welliff rum hot anwd yn gynt na thê a theishan.

Fod sopyn yn achwyn ar y shopa
papyra sy'n acor ar y Sul i werthu y latest war news, ond pwy brish dacon mawr yn ishta yn y set fawr bob Sul yn acor i shop i werthu loshin? Yn y South-West ma'r shop, a'r Spies wedi'i thaclu ar y Black List.

Fod tacla bidir sha marca'r South yn
cretu ta nhw sy'n diall pob modfadd o ddiwinyddath ellir i mesur o Lundan Fach i Ga Masydre, ond fe roiws Anti-Stablisher fflorad i fwnshin o heni nhw yn y Red Shindries Hotel pwy noswath. Ond wara teg ed, heefson i gyd ar y diwadd iechyd da i'r Halleys yn y War.

Fod dadla mawr pun ag yw y
Rooshuns yn ymladd yr ochr hyn gyta'r French a'r English, ac os yw yr Indians wedi cyraedd, a'r Canadians a'r Shirgars a'r Pembrokes a'r Northmen, fel daw'r rhyfal i ben cyn Yndolig, fel bydd prish yr ham a'r gwydda'n chepach, etc., etc. ond Duw dishefoni, ta ffordd bydd hi, ma llinella Ap Trowsis yn dala'n wir o hyd:

Hen Gownt sy'n uchal ei ben o hyd,

Fydd hwn ddim farw cyn diwadd y byd,"

er fod prish y cwrw ffresh heb gwni.

Fod llawer yn clascu'n dda at y gweddwon a'r plant ddyoddefant achos y rhyfal, a llawar yn rhoi yn deidi ati nhw ed, ond faint ma'r gaffars, y dukes, y lords, y pregethwrs, y shiwrin agents, a'r plismen a'r packmen yn rhoi
? heb son am yr editors, y barbwrs, a'r shopwrs. Wei, ma isha investigashun, achos mae llai o hen gownt yn dod miwn yn awr nac ariod i boceti'r

PACKMAN NEWYDD.

 

 

None

(delwedd B2461) (17 Hydref 1914)

17 Hydref 1914

Clywedion Dyffryn Dar.



Fod dadl fawr ddiwinyddol Cae Davies wedi troi mas o'r diwadd yn Foot Race, a Proff. Foote wedi cal i atal yn y gwtar!



Fod J.E. wedi chalengo D.E. a W.W. i rytag ras ar gwrs Llunden Fach, o'r Derw Freiniol i'r Lleuad Coch, am gwpwl o beintiau.



Fod y trigolion yn cretu fod y Germans wedi arrivo, gan swn y ras a'r crio, a bod Von Klock yn catw swn ofnadw gyta'i fata mawr dwy drodfadd, ond Guto Nyth Fran enillws, a gorffod i J.E. dalu am y peintiau neu listo gyta'r Milisha!



Fod levy o ¾d. ar bob packman o Benderyn i Benrhiwceibr er mwyn cwni £1,000,000 arath at y War Fund, ac i gal i galw yn Royal Packmen's Fund. No Tinkers need apply. God Save the King.



Fod yr ham wedi cwmpo yto i 9c. y pownd, a 80,000 Germans wedi cal eu lladd, a bod yr Eisteddfod Genedhiethol weti cal i stopo achos y rhyfal!



Fod y Packmen's Brigade wedi cal i galw mas - 40 strong, ond 'rodd 8 yn isha o achos yr hen gownt - own nhw heb gwpla'u rownds sha marca Cwmdar, Cwmbach, Aberaman, a Ffoundry Town. Disgwylir y bydd y full strength mas sha Dydd Calan, os na fydd y rhyfal wedi cwpla.



Fod ambassador o Gwmnedd wedi trio joino, ond yr oedd a wedi colli'i wallt - disqualified - achos fod want arno gilo'n wastod o flan y gelyn, a dim modd cal gafal yndo achos fod a mor soft a slip!



Fod rhai o wyr Shon Gorff wedi cal i dala yn y dancing class, ac un o'r merched glana yn y pentra gyta un o henyn nhw, a phwy grime odd hyny?

Y peth nesa fydd i Shon Gorff nithir fydd rhoi passes i rai ifenc i garu, a dim ond rhai a phasses genti nhw fydd vn gallu mynd trwy Lover's lane a Penywain Terrace, etc. Ond rodd Twm Tredegar yn gwed i fod a wedi gweld dicon o fenywod a merched teidi yn mynd i'r Jug and Bottle heb un passes o gwbl!



Fod prioti just a mynd mas o ffashwn, hen gownt ar gynydd, a'r bechgyn call yn mynd i'r ffrynt i gyd fe. [sic] dynon i drio plamo'r hen Geizer a'i Von Klock.



Fod gormod o loaffars obothti'r pentra, a bod isha'u packo nhw mas i'r ffrynt o'r golwg. Ond diolch, nid "Snecs" i nhw i gyd - ma rheiny'n rhy drue - ond rhyw hen gatach sy'n gallu byw heb witho, ac wedi emigrato i Sweet Berdar i gal shar o'r petha neis sy gento ni, a'r hen gownt!



Fod lot a ofan yr airships arni nhw, ond stim isha iddi nhw ofni, achos ma gaffar nos yn watchan ar ben mynydd Merthyr bob nos; un ar ben mynydd y Graig; un ar ben clochdy St. Elfan; un ar ben stac y Gatlys, ac un ar ben y Barrel Brewery! Fel gwetws Syr Wil Ffresh, "All is fair with Beer, Snakes and War."



Fod snobyn o Soshal yn gwed nag os neb ond Soshals yn gallu smelo'r gwynt - fod y War Office yn cysgu, fod Syr Edward Grey yn pallu gwed y gwir, a bod y Germans vn emll y dydd. Sa mond Kitchener yn gallu citsho yn scrwff y skilffyn Soshalyddol yna am fynad, bysa fynta'n cysgu mwn amsar byr ed - yn mhle, wrth gwrs, ma pawb yn gesso!



Fod scolars y rhyfal iddi cal yn mhob street, pob taproom, bar a chounter, a rhai yn gwpod beth yw hyd y Kiel Canals a dyfnder Canal Cwmbach, hyd tra'd y Cossacks, size trwyn Germa, lled a lliw mwstash y Ceisar, hyd y long toms, a faint o ffordd sy o'r Irish Sea i Barracks Penderyn. Fel gwetws Lord Palmerston, "A leetle knowledge is a big thing, but not dancherus if you pay up your old cownt!"



Fod llawer yn gofyn os yw'r Packman Newydd yn "liable" i fynd i'r ffrynt. Wei, dyma'r apad - "Oti, 35 years of age w i, 4 children and won wife. If I get £1 a day, 5s. a day for each child, and 10s. ditto for wife, I am willin to march right up to the front! What more do you want from the PACKMAN NEWYDD ?

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J7573a) (31 Hydref 1914)  

 

Aberdare Leader. 31 Hydref 1914.

Clywedion Dyffryn Dar.

Fod Ap Von Klock yn gwed y rhoiff a "Soshal" i'r Packman Newydd pan ddaliff a fa. Wel, wy'n gobitho na cha'i'n wath na Kerr Hardy. Ma "John Bull" yn bycwth doti hwnw a'i bartnar yn y jail!

Fod y Committee wedi setlo i ddod a dwrnad o Felgians teidy i 'Berdar, a taw'r Packmen's Brigade sydd iddi escorto nhw o Stesion y Taff i'r Great Hotel, lle nag os ond y gora o bopeth, and no ffresh! Dyna onhar arath i rigmant yr hen gownt!

Fod Lord Tresamwn wedi hala at Lord Kitchener i wed fel hyn mwn telegram: —

"Packs ready for the fray: bridge nearly ready; operations proceeding. British for ever. God Save the King."

Fod apad Lord Kitlener fel hyn: -  

“Thanks. Send Packs and Baggage on at once. War on; no delay. Will see French as to what part of Germany they shall seize. O.H.M.S. Kitchener."

Fod pawb yn gwed fod mwy o showlders smart wedi mynd mas o Aberdar nag un aber arath, a barro Abertywa, with gwrs, i faes y rhyfal — a ma nhw wedi twcid sopyn o showldwrs y Snecs i lawr i'r part isha - a wath na'r cwbwl, wedi lladd un o nhw, ed!

Fod dicon o fechgyn smart ar ol yto, sa nhw ond dangos plwck, i lanw rigment arath coesa hir a brestis scwar genti nhw, a dim un o nhw a thrwyn na mwstash cyd a German, ond fod un o henyn nhw a thrad mawr gento, achos fe ffaelws gal par o skitsha dicon o size i ffito fa yn Shop Ffito Pawb nos Satwrn!

Fod pawb yn synu na bysa rigment o deilwrs a choblers wedi cal i chwni yn y dyffryn. Ond dyna, fel gwetws yr hen bydlar o Bernant, "Scen hanar y teilwrs ddim coesa, a'r cobleriaid naill ai yn rhy fyr neu rhy dena. Ond os daw constripashun," medda fe, "Duw helpo nhw!”

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J7573b) (31 Hydref 1914)  

 

Fod erill yn gwed y dylsa'r tafarnwrs gwni rigmant o'r ragamwffins sy'n lercan obothti o fora dydd Llun hyd nos Satwrn, a chlwmu bwnchis o henyn nhw i hala by rail i Aldershot, fel gallan nhw witho'r nos i watshan yr Hepellepbins a'r Airships tra bydd y sowjwrs yn cal nap. Wel, ma gwath peth na hyna yn cal i nithir gen y Germans, pe bysa fa ond twcid Belgium!

Fod pethach yn mynd mlan yn lled dda trw'r dyffryn, a'r merched a'r menywod yn cal amsar net yn ystod y tywydd ffein geso ni trw'r wthno's ddwetha, nes bo'r hen gownt wedi wyddo Ian at y shains aur odd ar i gwddwca nhw, ac fod y Marytorariam yn mynd i bara nes bo'r Keizar yn cliro'r cwbI!

Fod y cownsil o'r diwadd wedi dechra’i shapo hi i nithir yr hewlydd yn deidy, a bod y gwithwrs caled sydd yn gardo'r steam-roller yn hwsu fel moch, a bod swllt o gwnad yn y gwynt! Eitha reit ed, achos dos dim un gaffer yn hwsu, a ma pob un o'r rheiny yn cal dros £500 a year and £100 a year pension after "ffeilu gwitho!"

Fod son yn y gwynt ed fod mwstwr i fod yn fuan gen y coliars obothti'r coesa duon (blacklegs) a'r boys sy'n gwrthod talu lan i'r Ffederashon. Wel, gobitho na fydd streic cyn diwadd y rhyfal, ta beth, ac y bydd i bob un ddangos i hunan yn i driw colours, a phido acto yn draitor mwn amsar dancherus fel mae yn awr. Ma'r Brigade yn cal gwaith bidir i gasglu'r hen gownt ar hyn o bryd, ond os daw hi'n streic cyn Yndolig, mae'n ddicon posib daw diwadd ar hanas a bywyd y PACKMAN NEWYDD.

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J7538a) (12 Rhagfyr 1914)

Aberdare Leader. 12 Rhagfyr 1914.

Clywedion Dyffryn Dar.

Fod llawer yn cretu fod
y Packman Newydd wedi cal i alw mas i'r ffrynt, ond fel gwelwch, Mr. Gol., yn y Resarves w i o hyd, achos dyw'r Brigade ddim wedi dod lan i'r standard.

Fod pawb o'r heefwrs wedi cal "smack ofnadw ar gwnad y cwrw," a lot wedi penderfynu llyncu
llai a byta mwy, a wetin, fel gwetws Dr. Columbus Jones, bydd ddim cymint o sychad, a bydd llai o dyrns gwaith yn cal 'u colli.

Fod y Soshals yn gwed nag yw Lloyd George ddim wedi tax
o’r upper ten a'r haristocrats, ond dyna nonsans ma'r tacla tafodlyd hyn yn wleua! A nhw sy'n gweiddi "Stop the war, and give votes to the Suffringettes!" a "Now is the time to strike," etc., ond diolch i Dduw fod cwpwl o Soshals call yn y camp, neu fe fysa hi'n dlawd - bysa'r blwmin lot wedi cal ’u hwthu i Chinkorandihwmdihai!

Fod e
rill yn gwed fod y tax ar gwrw yn eitha teg. ta "laxanibury" yw a, fel gwetws Dai Peggy, a dyla pob laxanibury, neu beth bynag yw a, gal i daxo i gal arian i dalu am sowdjwrs, powdwr, etc., ac i gatw gwracad a phlant y pwr dabs tra bydda nhw lan iddi penlinia mewn dwr yn y trenches.

Fod rhai am daxo bachelors, catha, ac ymbrelos. Paham na daxa nhw cheap jacks, clomenod, neu gler
? Dicon haws son am daxo, ond pam na daxa nhw'r petha reit - fel instans. injins relwe, bikes, ffried fish, sals a sena a skitsha melyn, a gatal y bacwn mas o'r mess altogether, achos ma gwyr Penderyn wedi hongad hwnw am byth!

Fod y rhyfal yn becso amball un yn fwy na'n giddyl, ond fod erill yn i chymryd hi'n ddicon jicose, ac yn smoco ac yn Ilymeitan felsa dim anghyffretin yn cymryd lle, gan waeddi ar yr youngsters i listo, listo, a nhwnta'n gnithir dim ond ishta i lawr i foddran a scothach i ddim diben, nes bo'u parta ol yn gwitho allan o'u llodrau, a'r hen gownt wedi cwni cuwch a stack y GatIys!

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J7538b) (12 Rhagfyr 1914)

 


Fod pawb sy’n gallu yn hala ticyn mas at 'u perthnasa a'u ffryndia yn y ffrynt, a bod isha hala at once nawr os byddan nhw'n dishgwl iddi cal nhw erbyn Yndolig. le, sopyn yn rhoi at y ffunds ed a Gwmdar i Gwmbach, a'r Red Cross yn clasgu yn dda. Gall neb rhoi i bawb, ond ma rhoi i'r rhai sy’n haeddu yn waith real setfawryddol a Christnogol.

Fod sopyn yn cretu yn bod ni yn gnithir gormod o'r Belgiun Refugees, a lot o'n pobol ni ein hunen yn godda isha, ffaelu talu'r rhent, a dim skitsha ar drad y plant, etc., etc. Ond dyna, ma llawar i wed bob ochor. Ma'r Belgians diniwad yn haeddu, a ma'n pobol dlawd ni'n haeddu, a dyla ni bido overlooko ein cymdocon tlawd yn hunen wth estyn llaw i rai tudraw i'r mor.

Fod pleto bidr am y
ddima, am y ginog; ac am y fflagon nos Satwrn yn Blue Herring Hotel, nes ath y land lord a want arno i foin i revolvar o'r llofft, er iddo wed wth yr Hen Backman nag odd dim powdwr na shot yndo fa, ond er mwyn tawelu'r Arabiaid a'r Cossacks! Odd un o wyr yr Artimellery yn go ffyrnig, ac oni bai fod a'n cal ticyn o hen gownt bysa wedi cwni ddwrn, a gweiddi I d---l a'r Bwdjat a'r cwrw ffresh!” Cwplws y cwbwl yn deidi, mydda nhw. ond ath un sha thre sha marca Braman wedi cal dosad piwr ar i proboscolynonosis. Diolch bo'n ni'n byw mwn gwlad ddi-Germanaidd, ta beth, a nag vw Syr John Heiddyn ddim yn riwlo'r Cymry fel nath Kaiserdom Belgium.

Fod pawb yn gwed fod gento ni gyd uphill work, a dicon i neyd am un mish a blwyddyn cyn dewn ni i'n l
le, ond I beth am y milodd a'r filodd o'r milwrs dewrion i ni wedi colli? Ma"r peth yn ddicon i'n dychrynu, ond dyw a ed? Beth bynag, "To arms! To arms!" yw llef parhaol y PACKMAN NEWYDD.

 

 

 

 

 

------------------------------------------------------------------------------

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ
/ ē Ē /
ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː  B5237ː B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː
  deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː , ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG:
ɛ̄ ǣ æ

ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
 ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
 ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ ɔʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː
A̋ a̋

U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ

gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ U+2020 †
« »

 
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org

httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ

 
Hwngarwmlawtː A̋ a̋
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
 …..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́

Ə́ ə́

Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute

…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_111_clywedion-dyffryn-dar_1914_0364k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 18-04-2017
Adolygiad diweddaraf : 27-12-2017
Delweddau:

Ffynhonell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Arlein.
---------------------------------------

Freefind.
---
Archwiliwch y wefan hon
Cerqueu aquest web
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
Estructura del web

SITE STRUCTURE
---
Beth sydd yn newydd?
Què hi ha de nou?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait


Adran y Wenhwyseg / Secció del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
Edrychiadau ar y tudalennau / Vistes de les pàgines / Page Views
Web Analytics Made Easy -
StatCounter
Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres Estadístiques / View Our Stats