18-04-2017 Ymgom William a Dafydd – sgwrs yn nhafodiaith Gwent ym y Tyst Cymreig 2 Hydref 1868
 
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ●
kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat0083k Y tudalen hwn

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..
 
 
 
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
YMGOM WILLIAM A DAFYDD.
 
(Y Tyst Cymreig, 1868)


 

 


(delwedd 7282)

 

Mae’r stori i weld ar wefan Newyddiaduron Cymru Arlein.  Yn y pen-draw gobeithiwn dacluso tipyn ar y testun a’i gywiro.

 

http://newspapers.library.wales/view/3674236/3674238/6/

WILLIAM%20MCCOY

YMGOM WILLIAM A DAFYDD.

 

William a Dafydd yn siarad a'u gilydd am gyfarfodydd cynhyrfus yr wythnos ddiweddaf. William wedi myned i dy Dafydd y drws nesaf i gael whiff, a siarad am helynt y frwydr fawr etholiadol.

DAFYDD: Wel, William, shwd i chi eno. Dewch y mlan i'r cornal ma. Own, Mari fach, gad i William ishta fana.

WILLIAM: Hi ni wedi cal wthnos both gydar lecshwn ma rwthnos yn. Buoch chi yn un o'r cwrddi ?

DAFYDD: Do fi fuo yn y Temperance All nos Lun, yn nghwrdd gwir Mr Bruce. Buo chi, William ?

WILLIAM: Naddo, wir; ror arno i isha mind i dy'r cridd i gwirom esgid waith; ond fi fuo yn nghwrdd Mr Fothergill yn Dowlas nos Fercher.
Fi glywas shew o son yn y gwaith am y cwrdd nos Lun.

DAFYDD: Wel, fi glywas hina son anghomon am gwrdd Dowlas. Fi weta hi shwd gwrdd odd nos Lun, a chi wetwch chitha shwd gwrdd odd nos Fercher, ac wetyn mi gewn wpod y cwbl.

WILLIAM: O'r gora gewch chi ddechra, Dafydd, achos taw nos Lun odd y cwrdd cynta, a chwetyn fi weta ina am nos Fercher.

DAFYDD Wel, o ni wedi clywad shew o son am y cwrdd odd i fod nos Lun dros Mr Bruce, ac rodd whant arno hi i fod yndo. Wel, bothdu anar hawr wedi saith fi etho, ond erbyn mod i wrth yr All yr oedd y lie jest yn llawn. Fi sbectas fod rwpath i fod y noswaith ono ta beth. 0 ni yn ishta mlan jest wrth y platffor, a medda un odd yn ishta wrth 'mochor iâ
��Dishgwilwch ar y crots a'r dynon ifanc yco yn llanw y galari, a gwelwch y. dyn yco sydd o'u blan nhw hwnco yw i gaffar nhw yn Pentra- back, ac ma nhw wedi gorffod dod yma eno i neid mwstwr i drio stopo y cwrdd, achos ta enw Mr Bruce yw o. Wel, ta beth, dyma y cwrdd yn dechra. Mr Stephens, y druggistar, yn y gatar, ac yn wir fe wetws pwpwl o eire yn net anghomon, yn hoi y meddwl i, a dyma fa yn galw ar Mr Tomos, gwnitog y Saison. Bron y gair cynta wetws a dyma nhw yn dechra gweuddi, Ie, ie, nace, nace, a chico a chlapo. Weitha, 'rodd an cal tipyn o lon- idd, ond wedin dyma y mwstwr mawr. Pan odd an gweud enw Mr Richard, wrthi 'rodd pawb yn gweuddi wre ond pan y bysa fan yn gweud enw Mr Bruce, dyna rai yn gweuddi wre, erill yn gweu- ddi, Mas ag e, mas ag e. Yn diwadd fe ishteddws Mr Tomos lawr, a'r dynon yn gweuddi, yn hissan, ac yn cico trad; welso chi shwd beth 'riod. Or pawb yn gweld yn haws taw y crots yn y galari a gwithwrs Mr Fothergill odd yn gwneid y mwstwr, ac fe wetodd y cydeirydd wrthi nhw bod nhw yn chwara game y gallsa doi i chwara hi Wel, wetyn dyma Mr JAMES, y cyfreithwr, ar i drad. Chi wyddoch taw dyn Bruce trwyddo yw James. Os dodd hi yn ddrwg gita Mr Tomos, rodd i yn saith gwath gita Mr James. Wedi iddo weud cwpwl o eire yn awr ac yn y man, gorffod iddo ynte gwpla. Ond chliwso chi shwd beth bron 'riod ag ambell stroke or an rhoi. Ar hoi yny fe ddarllenws y cydeirydd lithyr oddi-, wrth Mr Howalls, Hynysgoi, yn gweud na allsa fe fod yno fel odda wedi haddo. Ar ol hyny fe ddath Mr GEORGE MORGAN, stone-cutter, a dyna sport geso ni gita fe. Rodd a fel mwntibank ar y plat- ffor, ac yn diwadd fe retws o un pen i'r platffor, ac fe gwmpws ar ei gefan yn fflat, a'i drad o dan y ford, a gweuddi, Dyna fi miwn yn gynta, myn d- Trio dangos Mr Bruce a Mr Fothergill yn retag ras i'r Parlament ora wrth yny. Yr nesaf oedd Mr SAMUEL JONES, o'r Cefan. Odd yn ddrwg geni weld Mr Jones yn cal i wrthnebi, wath dyn bach neis a thawal angyffretin yw Mr Jones ond fe fu yn ddicon call i bido bod yn ir. Yn awr dyma un o wyr Fothergill yn mynd i'r platffor; ond achos i fod a wedi trio stopo y sharad- wrs o'r blan, chas ynta ddim sharad yn awr, a lawr cas a find. Wel, ta beth, yn diwadd fe ddotws y cydeirydd y penderfyniad i'r cwrdd, ac fe gunws lot angyffretin i dwylo, ac fe gunws, lot efyd yn herbyn; yny yw, ichin gweld, lot o ddynon Fother- gill. A thyna fel y cwplws y cwrdd od-da welas i riod.

WILLIAM: Wel, beth odd dynon Fothergill yn moin yn ngwrdd Bruce ?

DAFYDD Oh, i chin gweld, i gal sturbo ac i drio stopo y penderfyniad i basso, achos ma nhw yn hawr yn gweld ta rwng Bruce a Fothergill y ma y frwydir.

WILLIAM Dyna fi nawr yn cal sponiad ar y cwrdd nos Fercher yn Dowlas.

DAFYDD: Wel, ia. Nawr, William, dewch i ni gal tipin o anes hwnw; chi allwch ohi hadrodd anes yn well na fi, ond fi wetas i gora gallswn i.

WILLIAM: Hwn ni ddim, Dafydd, am yny efyd, ond fi weta ina gora galla i.

DAFYDD: Betti, ro weld y box bacco na i fi; fi gymra i whiff nawr tra bo William yn gweid y stori.

WILLIAM: Wel, fi etho lan i Dowlas, i chin gweld, bothtu saith o'r gloch. Dodd y cwrdd ddim i ddechra nes dodd hi wyth. Wrth find i'r lan drw'r hewl fawr, own ni'n gweld peth anghomon o ddy- non diarth yn cered ar yd yr hewl. Mi ofynas i Dai Wil Shon Tomosâ
��' Beth yw'r oil ddynon ma, Dai ?' 'Widdoch chi ddim,' medda fa. 'Na hwn i,' meddwn ina. 'Oh, fi weta i chi,' medda fa. 'Ma cwrdd lecshwn gynta Fothergill yn School- room eno, ac ma fa wedi dod a bothtu wech cant o'i withwrs a'i gaffars gita fa, a ma fa wedi gageo spcsal tain i find a gwir Bymant ta thre eno arhol y cwrdd. Wel, fi etho at y School-room. Odd y lie bron wedi llanw, ond fi sewetas i miwn i'r pen pella, i gael Ile cyfleis i glywad. Bothtu cwarter wedi wyth dyma Mr Fothergill ar y stage, a aner cant ne drigen o'i bleidwyrs gyta ge, a reini gid o Byrdar a Merthyr, wath ma nhw yn gweid nag os dim OATH yn voto gita ge yn Dowlas. Ond ta beth, i gal dod at y pwnc, on te, Dafydd.

DAFYDD la,, ia, William; cerwch chi mlan (pwff, pwff.) Dere a llymad o ddwr ma, Mari fach (pwff' pwff.)

WILLIAM: Wel, dyma Mr Overton yncymrydy gatar. Fe wetws gwpwl o eire i acor y cwrdd, ond rodd yn awdd gweld bod row i fod cyn diwadd. Fe alws ar Mr FOTHERGILL. Dyma fa ar i drad ac yn dechra seboni gwyr Dowlas, ond dim flo. Achos i bod hi mor dwym, medda fe, fe dynws i got lawr, ac yn lIe wish i gris y bu o wetin yn siarad. Yn wir, fe gas lonydd yn lied dda efyd. Tipyn bach weithe o hissan, &c. Fe gwplws ta beth. Dyma y cydeirydd yn galw. Mr W. GOULD. Pan ath Gould i'r lan, dyma hi off, gweuddi, sgrechari, whislo, ochain, a wchan fel hwch a haid o foch bach-elapo, cico, &c. Chliwso chi shwd beth riod. Mr Gould, hun o brif ddynon y Chartis yn Merthyr, yn cuni ddwylo isha iddi nhw stopo. Na, dim; mlan a. nhw, nes o'r diwadd i Mr Gould orffod ishta lawr eb weud un gair. Wedi iddo fe ffeili gal siarad, dyma Mr C. GRIFFITH, gwnitog y Bedyddwyr yn Mer- thyr, ar i drad. Fe gunws feltasafaemprwr; daeth yn mlan at y ford mor stiff a phocar, ac fel sa fa yn gweud, Nawr, fechgyn, y fi iwch dyn chi.' Ond fe gamsynws. Os odd hi yn ddrwg o'r blaen, rodd hi yn gant gwath nawr, sa le. Oh, ni chlywas i shwd fwstwr a row riod. Dyma y parchedig yn cymeryd glased o ddwr oddar y ford, ac yn i yfad o, gan feddwl y basa yny yn diffodd y tan mawr. Ond, dim yn llwyddo. Gorffod iddo ynte ishta lawr, a chas a weud dim gair.

DAFYDD: Bravo, bechgyn Dowlas (pwff, pwff.) Dynai thalu hi iddi nhw am nos Lun.

WILLIAM Wel, ia. Stopweh, Dafydd, dw i ddim wedi cwpla yto mar gora nol.

DAFYDD Began pardwn, William; allswn i ddim pido, wir. Bechgyn ffamws yw bechgyn Dowlais na efyd. Cerwch mlan, William (pwff, pwff.)

WILLIAM Wel, nhw welson nawr nad odd dim hiws yn byd i drio passo penderfyniad, na chisho gan neb i sharad dros Fothergill, a thyma Mr Fothergill a'i ddynon mas o'r room yn nganol y mwstwr rhyfedda a'r spree fwya welso chi riod. Wel, ta peth. Wedi i wyr Dowlas gal y room iddi nhw inan, dodwd cydeirydd arall, wath odd yr en hun wedi mind. A dyma gwrdd ffamws wetyn. Y bechgyn yn sharad fel dynon efyd dros i hegwydd- orion, ac yn diwadd dyma benderfyniad yn cal ei gynig a'i basso, taw Mr Richard a Bruce odd i dynon nhw i find i'r Parlament. Cariwyd y pen- derfyniad eb un llaw yn i erbyn a. Dyma wre dair gwaith i Richard a Bruce; a dyna ddiwaddy cwrdd doniol yn Dowlas.

DAFYDD: Wel, wir, ma petha fel hyn rhi ddrwg efyd. Pam na naiff Mr Fothergill stopoi ddynon i ddod gyta ge fel hyn i bob man, a'i stopo nhw i sturbo ewrdda dynon erill; wath fe all fentro fod o yn gwneid mwy o ddrwg iddoi inan nac o les.

WILLIAM Gadewch iddi nhw, Dafydd, i ymladd a'i giddylâ
��Bruce a Fothergill�ma Mr Richard yn saff gita ni. Ag own ni yn licoi clywad nhw yn euro dwylo yn Dowlas pan y basai henw a yn cael i ddweud.

DAFYDD O nhw run fath nos Lun yn y Temperance All. Ond dodd y crots ar v galari ddim yn gwpod i gwers yn dda, wath o nhw yn dechra catw mwstwr witha pan y bysa henw Mr Richard yn cal i weud; a sa chi ddim ond yn clywad i lidar nhw yn cymeni pryd hyny; ac yn gweud, I Stopwch, stop- weh, enw Mr Richard yw hwna.'

WILLIAM Wel, wir, raid i fi find i'r ty efyd. Noswaith dda chi gyd. Noswaith dda chi, William dewch miwn riw noswath yto.
O'r gora.

 

------------------------------------------------------------------------------

Sumbolau: ā ǣ ē ī ō ū / ˡ ɑ æ ɛ ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː æː eː iː oː uː / ɥ / ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / ә ʌ ŵ ŷ ẃ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_109_ymgom-william-a-dafydd_1868_0087k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 18-04-2017
Adolygiad diweddaraf : 18-04-2017
Delweddau: 170419_Y-TYST-CYMREIG_02-10-1868_YMGOM-WILLIAM-A-DAFYDD
---------------------------------------
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu wsitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are wsiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait