kimkat0086k 23-04-2017 Dŵr y Mr hanes yn nhafodiaith Cwm Rhondda o Bapur Pawb 27 Ionawr 1900.

● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ●
kimkat0960k Mynegai ir testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat0083k Y tudalen hwn

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..







Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Galles


Cywaith Sin Prys - Testunau Cymraeg ar y We

DŴR Y MR
(1900) (Papur Pawb)





(delwedd 7282)

Maer stori i weld ar wefan Newyddiaduron Cymru Arlein. Yn y pen-draw gobeithiwn dacluso tipyn ar y testun ai gywiro.

 

http://newspapers.library.wales/view/3592254/3592260/20/King%20of%20Siam%20north%20wales

Papur Pawb 27 Ionawr 1900

DWR Y MOR

DWR Y MOR fHF"! AWR y shiarad sydd yn y Rhondda yn Hawaii ystod y gaua am ddwr y mor a'r IB&Ji ffynhona. Gyta fod Nadolig wedi paso dyma chi' yn clywad y dynon ifingc yn holi gilydd gan weud "Ma dicon o amser yto, wrth gwrs.. Ble i chi yn meddwl myn'd i ddwr y mor Awst nesa?" "Wel, wir, otw i ddim wedi meddwl yn bendant am un lle yto, clii'n gweFd. Fella yr a i i Lanfair new. Llanwrtyd leni. Wy i wedi bod yn myn'd am flynydda 'nawr i Lanstephan (rhyngoch chi a fina mae o wedi neud i feddwl Ian i fyn'd i Lanstephan leni yto). Dyma'r shiarad glywch chi yn fynych iawn hyd yn od yn y gaua. Cewch glywad y bobol ifingc yn cyfeirio yn hapus iawn at yr amser da geson nhw mish Awst diwetlia yn ddwr y mor ne yn y ffynhona. Rodd Twm Roberts a John James wedi bod yn myn'd i Lanstephan am ddeg mlynedd. Ac fe ddath idd i pena nhw i drio lle arall am unwaith. "Wel," medda John James wrth Twm Roberts un diwrnod, "beth ta ti yn ala bothti i gal chytig o guide-books i gal gwei'd os na allwn ni newid y program leni. Ma Llanstephan yn le o'r gora, ond wir, wy i yn teimlo y licswn i- ys gwestws Mabon unwaith miwn mitin o hallers��ma'n dda cal tipyn bach o change." "Itha reit yn wir, John," medda Twm, "ma'n dda neilltuol gyta fi dy foct ti wedi suggesto shwd beth. Ble alia i ala?" "Fe fu Dai Picrel yn yr Isle of Man yr haf diwetha a chas e ddim shwd le yn i fywyd ariod. "Wel, fe ala i'r Isle of Man i ofyn am y particulars os yt ti yn dewish." "Ie, al; ac ar ol i ti gael apad yn ol rho wpod." Fe alws Twm lythyr off yn gofyn am y particulars. Fe fu mewn tipyn o hobble shwd odd sgrifenu llythyr Sisnag; hefyd, odd o ddim yn gwpod at bwy i sgrifenu. Fe glyws Dai Picrel yn gweud rhwbeth am Douglas ac fe addressus lythyr i'r Maer 'no, ys gwelwch chi'n dda. Rhvrpath fel hyn odd. a'n darllin :�� No. 7, Piano Row, Cwmsgrechycoed, Near Gwdihw. Dear Mair, David Picrel wass tel my butty John James that you got a very large watrin place about the Isle of Man. John and me wass spoking last time about coming over to see you (you are cousins to the Welsh I spose). Wel, you need be no shame of John and me for we two been brought up in Sunday School, good scolars and teetotall also. Pleas send back all particulars. With best respecs to youiself and Mrs, Yours for ever, T. Roberts. Fe gas y Maer y llythyr ma'n depyg achos dyma'r apad alws o 'nol:- Douglas, I.O.M. Dear Sir, Sorry that I did not have the pleasure of knowing your friend Mr David Picrel when he was here. I do not keep lodgers myself, but if you come without having previously engaged rooms I shall be pleased to give you any information that I can. The prison is always open and the bathing machines in a case of emergency. Belleve me, Yours sincerely, Mayor. Pan ddath y postman a'r llythyr yr odd Twm yn ddicwdd bod yn y ty. Fe rytws nerth i drad a'i wynt yn i law at John. "Clyw bachan," medda fa, "ma'r Mair wedi ala llythyr i fi. Darllin a, 'nei di? Ma rhyw iaith ddwfwn iawn gytag e. Allu di neud mas beth ma e'n weud, John?" "Wel, ar fecos i, ma hyn yn grand dy fod ti wedi cal apad o'wrth y Mair. Os ewn ni 'no 'nawr fe ewn idd i wel'd a�� ond gnewn ni, Twm." "Wrth gwrs, os yw e yn gweud wrtho ni am alw yn y llythyr fel ag wyt wedi gneud mas i fod a." "Beth ma fo'n weud am prison a bathing machines a case o ���� beth yw'r gair 'na ban. Dw i ddim yn lico'r suggestions na o gwbl." "0 dyw'r dyn yn meddwl dim mas o Ie, ti'n gweld. Felsa fa'n gweud nawr; os na fydd lle i chi yn unman arall fe gewch le yn y carchar, ne yn y machines ar lan y mor am noswith ne ddwy nes bod lle yn dod. Beth ti'n feddwl ? Yn y bathine machines y cyscws Dai Picrel y noswith gynta. Pan ddinws a yn y bora rodd y tide yn dod miwn ac wedi llanw lan o dan y set. Jobyn dda iddo fa dduno pan nath a, achos dodd dyn y machines ddim yn gwpod i fod a 'no." "Gad Dai yn y man 'na nawr. Oti ni yn mynd i Douglas ne nagin ni ? Dyna'r cwestiwn o flan y cwrdd, Mr Cadeirydd." "Wy i yn cynyg bod ni'n mynd yn dou i'r Isle of Man." "Settled ta. Oti ni yn myn'd i holi rhacor am lodging?" "Na, gad a yn y man na.. Fe awn i Hotel ar y ffrynt 'no. Odd Dai yn gweud fod 'no le splendid��tri a wech y dydd. Cofia, Twm, dos dim swpar yn yr Isle o' Man." "Dy nhw ddim yn blongo��dy nhw ddim yn gendars i'r Cymry fel 'na ta. Ma'r hen Gyiriry wedi arfadd bod yn fond o swpar." "la, cofia di ma'r cino yn ddiweddar 'no- bothti saith o'r gloch." "Yn y bora?" "Paid a bod shwd sledg." "Beth oin ni'n gwpod ban. Ma shwd gwstwm od gyta nhw os nag os swpar yn bod 'na." "Os dyn ni yn myn'd 'no ewn ni ddim yn shabby, rhaid i ni gal bothti ddeg punt yr un. Dera 'nol a'r newid fel odd mam yn arfar gweud yn wastod." Doi nhw ddim wedi meddwl am fod yn dost ar y mor. Yn nghenol y mynydda oin nhw yn meddwl dim byd am y mor ond ar y ngair i, pan etho nhw miwn i'r llong yn Liverpool, dyma Twm Roberts yn dechra teimlo hunan yn dost. Odd a wedi clywad cymint gan y rhai odd ar y deck am ddynon yn dost, fe gas i daro'n sytyn iawn. Fe ath yn dost cyn i'r llong atal y landing stage. Fe fu yn reit wetin. Pan odd pawb yn dost ym mhob man rodd e yn gallu etrych arni nhw a phaso ambell i air gyta'r criw. Yn y llythyr cynta anfonws Twm yn ol at i "wedjan" o'r Isle o' Man odd a'n gweud :�� "Anwl Gwen, Oin i fel brithyll ar y llong pan odd pawb arath yn gorfadd ar y llawr mor wyn ar shale. Rodd John ar y llawr fel ftiat-fish. 0 rodd a'n dost. Pan yn starto mas o Liverpool-- 0 rown i yn dost y pryd 'ny��dyma fa yn dod ato i a phishyn o orange yn un Haw a phishyn o lemwn yn y law arath, ac medda fa, "Tria rhai hyn, Twm, ma'n nhw'n splendod medda'r hen ddyn 'na i gatw'r stwmog yn reit." Twtshas i ddim a nhw, ond rodd Jack yn pitsho miwn i fyta oranges a lemwns. Jawst i, dyma fenta yn myn'd yn dost. A beth ti'n feddwl gas a 'nol. Tria weud wir- "marmalade." Fe gyrhaeddws y llong Douglas erbyn hanar awr wedi pump. Rodd golwg "shwd ych chi heddy" ar rai o'r dynon a'r menwod odd ar y llong. Oin nhw'n etrych fel sa nhw wedi bod yn cysgu ar y cols. 0, ie, fe anghofias weud hefyd fod Twm a Jack yn gwpod enw'r hotel lle oin nhw yn myn'd i aros trwy Dai Picrel. Ar y landing stage dyma rhyw slebyn o fachan a rhipan coch am i het a yn citsho yn portmanteau Twm ac yn i dowlu a acha truck bach. "Hold on, fi bia hwna," medda fo. Fe 'drychws y chap arno fa yn stwmp. "That iss my bag." Ar hyn dyma Jack yn gweud i fod a wedi dod i gario'r luggage i'r hotel. "Shwd beth yw bod yn gaffer am shwrna," medda Twm. Wedi iddi nhw gyrhadd yr hotel, dyma bortar yn gweud, "This way gentlemen." Lan a nhw dros dair star fawr. "This is your bedroom," medda fa a lawr ag e. Rodd isha bwyd. yn dost arni nhw'ch dou yn awr achos oin nhw yn itha, gwag. "Grynda," medda Twm, "fel wy yn rybwlian, wy'n swno fel hen waith--otw wir. Shwd yt ti yn teimlo, Jack?" "0 ma hyn yn galad feddylas i eriod taw dyma fel ma nhw yn treto dynon miwn hotels. Dim rhacor i fi ar ol heno, ta beth," medda John James. Rodd y parti yn aros i Twm a Jack ddod lawr o'r llofft ond dim son am dehi nhw'n dod fe rytws y portar lan at i drws nhw. Rat-tat-tat ar y drws. "Come in," medda llaish o rliywle. Dyma'r portar miwn, a ble chi'n meddwl odd y ddou dderyn��yn y gwely. "Don't you want any dinner?" "I should think we do," medda Jack. "Why did you go to bed, then?" "Because you said-'this is your bedroom.' Fuo nhw ddim shiffad cyn tampo mas o'u hamock a gwishgo a myn'd lawr i gal cino. Fe gatws y portar y secrat am ddiwrnod ne ddou, ond fe stipws mas gytag e un noswith, a mawr y sport fu 'no achos fod y ddou Gymro wedi gneud shwd fistake. Y diwrnod cynta dodd dim taw ar Twm isha myn'd mas miwn bad bach i bysgota. Dodd Jack ddim mor awchus am fyn'd, ond i bleso Twm fe ath gytag e. Fe geson fad bach net i fyn'd, a dicon o facha a chordyn. Wedi bod yn dotir line lawr am gwpwl o witha fe sylws Jack 'le fod lot yn sefyll ar y lan ac yn i lachan i mas wrth etrych ar Twm. Rodd a'n tawlir bachin heb ddim arno fa. "Bachan, bachan, oin i ddim yn cretu dy fod ti mor dwp. B'le ma'r mwydyn?" Wel dyna hi yn galch. Beth ta ni yn rhoi cigarette arno fa." "0 yt ti'n myn'd yn ffast. Fe fyddi yn Ben-bont cyn fod yn hir." "Dera i ni gal rhwyfo nol i ofyn i'r chepyn' na am faits." Fe gas dipyn o gron macrel. Mas a nhw yto. Fe ddalws Twm dri macrelyn bach ond fe gollws rhai o'r macrels mwya yn y mor��y mwya, sy'n myn'd yn ol o hyd��medda fa yn i lythyr gartra. Gan nad odd dim isha arni nhw fiindo bwyd lle on nhw'n aros fe gorws Twm standing fach yn ochr y pier i werthu'r macrels. Rodd a yn meddwl cal cinog yr un am deni nhw achos u bod yn itha fresh yn un peth ac achos maw e odd wedi dala nhw yn lle arath. Fe werthws y tri am ginog yn y diwadd i ryw foy bach yn gwerthu papyra, ac fe rous y ginog wetin i Punch and Judy. Wetsa neb ta dou goller odd Twm a J ackyn yr Isle o' Man a pwy isha odd i neb wpod 'ny hefyd. Wedi aros 'no am bythewnos a chmeryd trips bothti bob man dodd dim yn spar gyta nh", wrth fyn'd ta thre. "Jobyn da, Jack, fod y return gyta ni, lle fusa'n ddecha arno ni." "'=

------------------------------------------------------------------------------

Sumbolau: ā ǣ ē ī ō ū / ˡ ɑ ɛ ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː ː eː iː oː uː / ɥ / ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / ә ʌ ŵ ŷ ẃ ŵŷ ẃỳ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẁ ẃ ẅ Ẁ


---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_108_dwr-y-mor_1900_0086k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 18-04-2017
Adolygiad diweddaraf : 18-04-2017
Delweddau:
---------------------------------------
Bler wyf i? Yr ych chin ymwld ag un o dudalennaur Wefan CYMRU-CATALONIA
On sc? Esteu wsitant una pgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Galles-Catalunya)
Where am I? You are wsiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r m ai? Yu a-r vziting ə peij frm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəluniə) Wbsait