Ianto’r Shortar – cyfres o hanesion yn nhafodiaith Bro Morgannwg a ymddangosodd ym Mhapur Pawb yn y flwyddyn 1897.
20-06-2019,
02-02-2026
 
● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ●
kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ● kimkat0079k Y tudalen hwn

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..
 
 
 
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
IANTO’R SHORTAR (1897)
Awdur: Cynwal (D. Cynwal Davies)
Tafodiaith Bro Morgannwg
 

 


(delwedd 5977)

 
 ....

(delwedd L1884).
.....
 
Ianto’r Shortar
 
Pennod I Golygfa Mewn Ffair (20 Mawrth 1897)
Pennod II Yn Tinman’s, Glyndwynant (27 Mawrth 1897)
Pennod III Camgymeriad (3 Ebrill 1897)

Pennod IV Siomedigaeth (10 Ebrill 1897)
Pennod V Ianto Ar Goll (17 Ebrill 1897)
Pennod VI
Clefyd Y Galon Ar Mac Cinli. (24 Ebrill 1897)
Pennod VII Gwneud Y Goreu O’r Gwaethaf (1 Mai 1897)
Pennod VIII Amgylchiad Annisgwyliadwy (8 Mai 1897)

Pennod IX Pethau Bachgenaidd (15 Mai 1987)
Pennod X Camgymeriadau Digrif (22 Mai 1897)
Pennod XI Dechreu Chwalu’r Nyth (29 Mai 1897)
Pennod XII Damwain (5 Mehefin 1897)
Pennod XIII Yn Ol Yn Y Fro (12 Mehefin 1897)
 
------------------------------------------------------------------------------------------------
+Pennod I Golygfa Mewn Ffair (20 Mawrth 1897)

 

 

None
(delwedd 4347)
(20 Mawrth 1897) (rhan I)

IANTO'R SHORTAR

[Gian Fachgian o Fro Morgianwg.]

YSGRIF I. - GOLYGFA MEWN FFAIR.

Efan Hwals yw enw'r dyn yn reit. Dyna beth yw a lawr ar lifir Offis y gwaith lle ma fa'n gwitho, a llyfir y ‘shop lle ma fain prynu i fwyd a phetha, a llyfir "Hen gownt' y "Tinmans" lle ma fa’n arfar ifad ticyn.

Ma rhai yn gialw "Ianto 'Lam Hwal" arno, achos ta William Hwals odd enw i dad, ond dyna beth ma pawb yn i alw fa’n i gefan yw "Ianto'r Shortar” - dyna fel ma pawb yn i napod a - achos “shortar" yn Gwaith Tin Glyndwynant yw a wth i drad.

Ma’r dyn nawr ymlan mewn ticyn biach o oitran, a ma gita'r dyn hed wraig a phlant, ag ma'r plant hed yn gwitho yn y gwaith tin. Ma Wil, y biachgian hena, yn "Rowlerman," a Meri ym acor plets (plates), a Ianto biach yn simi'r "Col rowls”.


 

 

None
(delwedd 4348)
(20 Mawrth 1897) (rhan I)

Pan detho i fyw gynta i Glyndwynant, boiti betar blynadd yn ol, "Biheindar" odd Wil, a gita'r "Blaci picil" oedd Meri. Dodd Ianto biach ddim weti dechra gwitho dim radag hyny.

Pan bo crotyn biach yn dechra gwitho yn y gwaith Tin, peth cynta ma fa’n gial neud yw simi'r col rowls, a ma fa wetin yn cial i symud ymlan o hyd fel ba lle yn dwad, a falla cyn bo fa'n ddeg ar ucan od, gita ticyn o scwt, y bydd a weti wpo i hunan mlan yn shortear i enill 7s 6c ne whigan dydd.

Run peth wetin yw hi gyta'r merchad yn gwmws.

Ma nwnta'n cial 'u wpo mlan hed o ticyn i dicyn i acor plets, ag i enill douswllt, ne hannar coron y dydd wth hyny.

Ma rhai yn gallid scwto'u hunen mlan yn well na'u gilydd lwar, ag ma nhw’n gwed fod Ianto'r Shorter, trw 'i glecs a'i gelwdd, weti scwto 'i blant a'i hunan ymlan yn dda diginig, a hyny hed hibo a thros ben llwar ddylsa fod o'u blan nhw.

 

 

None
(delwedd 4349)
(20 Mawrth 1897) (rhan I)

Ma rhai'n gwed hed bod Ianto'n bribo'r Giaffar trw dalu am lot o wishci iddo fa ag ala amball i scwarnog iddo fa; ond wi ddim yn cretu hyny, achas ma Ianto yn ormod am y wishci hyny i hunan. Am y scwarnocod 'ny yto welws mo'u milgi nhw ond un scwarnog yriod, ag wth drio'i dala fe rytws i farwolath. Wara teg i Ianto’r Shortar hed.

Na, na, welws Mac Cinli (dyna enw'r milgi) ond un scwarnog yriod, withach dala rhai.
Nit dala scwarnocod odd i waith a, i waith a odd ciatw ciatha off orwth y ty, ac yr oedd y ci yn dallt i waith hed yn dda diginig. Gewch chi'r hanas yto am Mac-Cinli a'r swarnog.

Nawr wi'n myn'd i wed ticyn o'n hanas yn hunan wthoch chi lle bo chi'n meddwl bod dim cewc ddrwg gin i at Ianto'r Shortar a'i dylu.

Bachgian i ffarmwr yn mro Morganwig otw i. Boiti bum' mlynadd yn ol i ath yn nhad tua ffair Penybont i gytuno a morwn, a'r noswath hyny fe ddath yn ol a'r forwn gita fa. Mwn cwpwl o fishodd wetiny, fe fu row fudur achos boi fi a'r forwn yn ciaru ticyn.

Ma’r ffarmwrs yn gros, budur iddi plant i neud dim tocs a’r gwishon a'r morwnon, achos ma'n nhw'n styriad bod hyny, yn ‘u isheilhau i'r gwarth a'r cwilydd mwya.

Diwadd y row fu, beth bena, i nhiad ddarllen y Riot Act i ni'n dou; ta tro cynta

 

 

None
(delwedd 4350)
(20 Mawrth 1897) (rhan I)

Gwelsa ne glywsa fa yn bod ni'n ciaru wet'ny y basa fa yn waco Nel off mwn mynad ag yn gneud i wllys i ngendar, ag am i Nel byrtoi i matal ar ben y tymor.

Ciaru nethon ni o hyd, beth bena, bob cyfla gesa ni, achos alsan ni ddim pido; ond oun ni'n gwpod ag yn dallt net beth odd on blan ni.
O! diar mi, dyn, peth rhyfedd yw ciaru.

Fu [sic; = fi] ddath pen y tymor i Nel fatal o'r diwadd, ag fu ddath pen tymor i fina fatal gita hi hed. Roun ni weti trefnu i ni rytag off cyn dydd i brioti wth lisens mwn offis cifreithiwr yn Penybont bora dydd y ffair.

Fel rodd Nel a fina yn waco trw'r ffair fraich ym mraich fel pob gwr a gwraig newydd brioti, arall, pwy ddesa i gwrdd a ni dwp ar y scwar no, ond y nhiad.

Dwad i bipan obeutu am danon ni odd a hed, os dim dowt, ond pan gwlws a ni yn dwad mor llawan fraich yn fraich i gwrdd a fa, fu [sic; = fi] gellws i sensis mwn hannar mynad,

 

 

None
(delwedd 4351)
(20 Mawrth 1897) (rhan I)

a dyma fa yn bwrw i het i'r llawr, ag yn gialw ni yn bopath ag yn gwed wth yr Arglwdd am i daro fa’n farw, yn tynu wallt off yn scinga, ag yn nido o un man i'r nall fel gwelas i Mac Cinli Ianto’r Shortar yn nido wet'ny ar plets harn pouthon sy yn llawr y gwaith Tin, i chi'n gwpod.

O! diar mi shwt glema odd arno, ma'n rhifadd gen i na fasa nhw'n citsho yndo a mynd a fa mwn i'r mados no, ond busa ta dydd ffair odd hi, tebig ta fel'ny busa hi hed.

Nawr dodd gian i ddim i neud ond shiffto'n hunan a Nel i rhwla o'i olwg a ond nit gwaith biach odd hyny shwt, achos rodd no gianodd o ddynon a mynwod weti closo'n rown i ni er mwyn cial gweld y panorama'n myn'd mlan.

O'r diwadd, weti wpo a chatsho ticyn fi lwyddas i gial yn hunan a Nel i dafarn no, ond rodd Nel weti gwyni fel y galchan ag yn ochnido ac yn crynu fel dalan ar y coud. Gwir wi'n wed, roun ni'n fwy tebig i rai'n

 

 

None
(delwedd 4352)
(20 Mawrth 1897) (rhan I)

Dwad o angladd nag i rai newydd brioti. Dodd gita ni ddim i neud nwr ond gneud y gora o'r gwitha. Rodd gen i gwpwl o bunodd, ag rodd i chyflog gita Nel, bid siwr, ond beth odd hyny ar gifar byw? Pharsa rhyny ddim o hyd, ag felly ni solfson atal y lle oltwgeddar a myn'd i rwla lle busa gweithia a lle galswn ina gial rwpath i neud i gial enill buoliath i ni.

I dori stori hir yn fyr, yr oun ni mwn tri diwarnod air ol y ffair yn y "Tinman's” yn Glyndwynant, yn whilia gwraig y ty am boiti gial pobo damad o gino i ni’n dou.

A dyna lle gwelas i Ianto'r Shortar gynta riod. Rodd a a phump ne wech erith o budlars gwaith Tin no, ar y spri, a jwg gita nhw no, ag roun nhw'n ifad i chalon hi, a phun etho i miwn ati'n nhw, fi gnycson i fi ddwad i ifad ar shar a nhw, a Ianto’r Shortar hed odd fwya am i fi ddwad.

(I’w barhau.)


+Pennod II Yn Tinman’s, Glyndwynant (27 Mawrth 1897)

 

 

None
(delwedd 4354) (27 Mawrth 1897) (rhan II)

PAPUR PAWB. Mawrth 27, 1897.

IANTO’R SHORTAR

[Gian Fachgian o Fro Morganwg.]

YSGRIF II. - YN TINMAN’S, GLYNDWYNANT.

Os otich chi’n cofio, gita hanas Nel a fi yn y Tinman’s ’roun ni’r wthnos ’wetha.

Dim ond am un waith ma hanas am Nel yn y Tinman’s trw wpod i fi; dim ond am y tro wi’n ’weyd wthoch chi ’nawr, ond i fuas i no un waith wetny yn mofyn gwerth swllt o frandi i Misis Hwals, rhw dro pun odd hi yn y ffitshis.

Rodd Misis Hwals yn cial y ffitshis yn fudur o amal, ond i gewn whilia am boiti hyny yto. Pun c’nycws Ianto’r Shortar i fi gial ifad ar shar a nhw (fa a’i gwmpni), “Na, dim thengciw,” eba fa, “wi weti roi ngiair iddi hi (a fi bwyntas at Nel) nag os dim ifad cwrw na licar byth i fodi yn yn hanas i; ond, ba fi wetyn ’ny gian yn bod ni weti dwad miwn i’ch cwmpni chi, i dala i am y jwg nesa ddaw miwn.”

“Hiar! Hiar! ba nhw gyd gita’u gilydd no.

“Ia, wir, wel den, bachgian diarth, ma’n dda gian y ’nghialon i’ ch clowad chi’n gweyd, ag wi’n gobitho ta felna parwch chi hed. I fusa’n well i fi na chianodd o buna tyswn weti gallid bod run peth a chi, ta beth,” ’ba Ianto’r Shortar.

“Busa, busa, os dim dowt,” ’ba’r rhai erith.

“O, diar, busa,” ’ba Ianto, “ond gian mod i mor ewn a gofyn, o bwy bart i chi’n dwad, bachgian diarth?”

“O fro Morganwg,” ’ba fina, a dyma, fi’n

 

 

None
(delwedd 4355) (27 Mawrth 1897) (rhan II)

atrodd yn hanas wthyn nhw fel wi weti i scyrfenu a i “Papur Pawb.”

Weti fi gwpla gwed yn hanas i gyd, dyma Ianto yn gwed wth i gwmpni: “Dina, boys, dina beth yr [sic; = yw] acto itha prinsibl at ferch ne wraig; ma fa weti gnithir lot o abarth; oti wir, boys; ag ni ddylan whilia’r giaffar, boys, am boiti roi gwaith labro iddo. Ma fa’n fachgian o brinsibl da, boys, a styriad ta mab ffarmwr yw a. Hen rai budur yw’r ffarmwrs, i chi’n gwpod, am giatw popath iddi nhw’u hunen; di’n nhw ddim bolon i’n cwn ni cimisgu dim a’u cwn nhw, withach hyny.”

“Itha reit,” eba’r cwmpni.

“Fina [sic; = fi na] i whilia sha’r giaffar, nawr jest biach, biachgian diarth,” eba fa, gian droi ata i; “ma’r giaffar yn lico dyn o brinsibl; ag ar ol i fi wed ych hanas chi wtho fa, os os jobyn gita fa i gial, i chi siwr o’i gial a; ag os ciswch jobyn gita fa, was, ma ty secur allwch chi gial drws nesa i fi.”

“Dos gian i ond llwar o ddiolch i chi,” ’bwn i, “ag fel gwetas i wthoch chi gina, i licwn i gial y jobyn labro wetsoch chi, lle bod ni’n cerad racor. Cnocwch y jwg ’na miwn.”

“Ia, wir, bachgian,” ’ba fa, “a gobitho wi ciewch fywyd a iechyd i fyw’n gysurus gita’ch gwraig fiach. Ma gwraig fiach lan gita chi, wir. Welas i ddim gwraig mor laned ys lawar dydd, ond - y - ”

“Pidwch whilia,” eba un, o nhw’n gialw Wil Sherwr arno. “Ma Misis Hwals yn un o’r minwod glana yn Glyndwynant.”

“O!” ’ba Ianto, “diw hi ddim at beth odd hi cyn iddi golli’i hiechyd; ma hi’n hala llwar pryrnawn nawr y blynidda dwetha ma yn y gwely, ag ma’r ffitchis mor geind iddi, os dim iws i fi weyd dim giair uchal wthti

 

 

None
(delwedd 4356) (27 Mawrth 1897) (rhan II)

ne ma hi’n ’u cial nhw’n y finad. Diolch i chwi, bachgian diairth, am y jwg ’na. Hai, boys! dyma’r giaffar yn dwad yma!”

Mewn llai na minad, rodd y giaffar gita ni yn y rhwm. Dyn mawr tew fel tafarnwr, a lot fawr o fistash cryf fel gwrych mochyn, o dan drwyn mawr cam coch wishci, odd y giaffar. Rodd dicon hawdd i chi napod wthti olwg a ta giaffar odd a heb i neb wed dim wthtoch chi. Rodd shwd olwg herllug arno!

Os gwelwch chi ddyn a golwg herllug budur arno, allwch chi fentro bod hwnnw’n giaffar yn rhwla, wath dina shwd ddynon y’n nhw. Ma dicon o herllugrwdd yn rhai ohonyn nhw i hala cwilydd ar gwn potchars.

Weti llygatu am boiti’r rhwm, dyma fa’n gialw am lasid o wishci, ag yn troi i ddishgwil ar Nel nes iddi fyn’d yn nyrfas reit, ag i gymryd ticyn o shem.

“Ifwch chi dot o’r jwg ma, Mir Savage,” ebe Ianto wthto.

“Na, dim, diolch,” ’ba fa, “Beth out ti Ianto’n pido bod lawr ’na gina fiach i giatw part dy wraig?”

“Pam odd ’na ’te?” ’ba Ianto.

“Isha? odd isha; ma hi a Gweni Blac Picil weti bod yn wado a thynu gwalltia, a chrafu ’u gilydd fel ciatha ’na. On i’n clwad yn y Tinhouse gina bod Nani chi weti cial saith blac ei yn y batl.” Gita bo fa’n gwed felna dyma fe’n wingco’n slei fiach ar Wil Sherwr.

“Wel, ar m’enad i,” eba Ianto, “os oti Nani ni weti giatal i Gweni Blac Picil roi saith blac ei iddi, i giniff un arath gita fina yto, ciaiff ar m’enad i. Gita bo fa’n gwed felna rodd a’n bwrw’r ford a[’i] ddwrn stodd y jwg yn tampo arni, a dyma nhwnta i gyd yn werthin am i ben a.

“Na, Ianto, ’ba’r giaffar, “gwed hyna on i gial dy byrfoco di. Nani sy weti cario’r batl, ag hi sy weti cario’r batl, ag hi sy weti rhoi’r blac eis yna i Gweni.”

“On i’n meddwl,” eba Ianto, dan werthin, “nag odd Gweni ddim ffit i shalco Nani mwn

 

 

None
(delwedd 4357) (27 Mawrth 1897) (rhan II)

batl; ond wfft, shwd beth, hi fydd yn y ffitshis heno yto, trw’r nos.” Eba fa, wrth wraig y ty, “Dotwch werth swllt o frandi mwn potal fiach i fi misis, ys gwelwch chi’n dda.”

Wetin, dyma fa’n troi’n sytan reit at y giaffar, ag yn gofyn iddo: “Oti chi’n gwpod am boiti beth ffriso nhw?”

“Wel, dyna am beth clwas i,” odd yr atab, “odd am boiti Mac Cinli. Fi rytws Mac Cinli ar ol ciath Gweni i’r ardd, a phan odd y giath yn dringad y pren ’fala oddiar i ffordd a, i gias Mac afal yn i chwt hi ag i torws a off yn tsher wtht y bon.”

“I greta i yna, eba Ianto, “wath un budur am giatha yw a, a ma shwd ‘hold ons’ gita fa hed, ma’ nhw fel danadd llew.” Pun odd a’n gwed felna fi ddigwyddws ddishgwl ata i a dyma fa yn cofio am ’i bromish.

“Mr Savage,” ba fa, “ma gita ni ’ma fachgian diarth o’r fro na;” a dyma fa’n mynd drost yn hanas i wthto.

“Wel,” ’ba’r giaffar, “wi’n cretu gialla i shiffto gwaith labro iddo,” dan giatw i olwg ar Nel.

(I’w barhau.)


+Pennod III Camgymeriad (3 Ebrill 1897)

 

 

None
(delwedd 4358) (3 Ebrill 1897) (rhan III)

IANTO’R SHORTAR

[Gian Fachgian o Fro Morganwg.]

YSGRIF III. CAMGYMERIAD:

Fel o’n i’n gwed wthtoch chi’n y dechra, nit achos bod un cewc ddrwg gian i ato, wi’n scyrfenu hanas Ianto’r Shorter.

Scyrfeni i hanas a otw i, er mwyn addysc ag adiladath i’r bobl ifanc sy’n cwnu.

Bachgian piwr digynig gwelas i fa, ag fel ych chi’n gwpod, trwyddo fa ceso i waith yn Glyndwynant; a fa hed wetws ble gialswn i gial ty ’no.

Pan gwetws y giaffar yn y Tinman’s, ych chi’n cofio, busa fa’n shiffto gwaith labro i fi yn y gwaith tin, i ddiolchas i iddo am ’ny, ag i wetas buswn i’n dechra dy’ Llun (dydd Iau odd hi’r diwarnod hyn), ag na alswn i ddim dechra yn gynt achos bod isha doti ty fyny a phetha arna i’n gynta.

“Ol reit,” ba fa, “dewch i’r gwaith dy’ Llun, ’ta.” Wi’n cretu ta tyna achos beth odd a mor short odd achos na busa Nel yn diolch iddo hed gita fi, a fynta falla weti cymryd treni am dani hi’n fwy na fi.

Beth bena, yn y Tinman’s cysgson ni’r noswath hyny. Dranoth, ni rentson y ty secur odd drws nesa Ianto’r Shortar, ag ni brynson gelfi a phopath odd isha arnon ni at yn iws yndo, ag ni dotson a fyny gora

 

 

None
(delwedd 4359) (3 Ebrill 1897) (rhan III)

galsan ni.

Bora dy’ Llun, ro’n i’n dechra labro yn y gwaith tin am dri a grot y dydd, ag i withas i dair blynadd no, a thri a grot y dydd o’n i’n gial no yr amsar dwetha; ond o’n i ddim yn un o’r pudlars. Labrar o’n i ’no. Tuswn i weti dechra yn y gwaith tin i simi’r col rowls am ddeg cinog, lle swllt y dydd, i fasa gian i shawns i wpo’n hunan mlan i enill racor lwar; ond alsa Nel a fi ddim byw ar hyny am flynydda falla; wet’ny rodd yn well i fi fod fel o’n i.

Rodd Nel a fi’n gallid byw’n net ar yr hir o’n i’n enill wtht labro, a throi amball swllt hibo hed; dodd dim cwmint o isha petha glyb i ngiatw i yn iradd, ag odd isha i giatw’r pudlars yn iradd; do’n i ddim weti bod gwmint o flaen tan, falla, a nhw.

 

 

None
(delwedd 4360) (3 Ebrill 1897) (rhan III)

Rodd tylu’r Shortars drws nesa, ych chi’n gwpod, ond Meri a Ianto biach a’r hen William Hwals (tad rhen Ianto), ro’n nhw’n gorffid cial lot o betha glyb iddi ciatw nhw’n iradd; a felny do’n nhw’n giallid troi dim hibo. Rodd William Hwals, tad Ianto, yn hen wr ffiletig wtht i ffon, ag yn aros gita Ianto, achos rodd a weti colli ’i dre.

Rodd yr hen wr yn cial gwaith sefyll ar ’i drad gian mor wan odd a; rodd a mor wan gialsach chi fwrw’i menydd a jest o welltan; ond rodd a’n ciatw i gerad ticyn o boiti hed o hyd am fishodd weti fi ddwad i fyw ’no.

O’n i’n gwpod net na pharsa fa ddim yn hir iawn yn y clema hyny, ond o’n i ddim yn meddwl busa fa farw shwt, fel gnath a.

O’n i weti clwad yn y Fro nag odd un pudlar byth yn marw, tai troi yn glers ag yn gacwns ag yn frain o’n nhw, a ta nhw yw’r brain i ni’n weld yn hetfan o’m boiti dai gwyr mawr yn gwlad ni; ond wi’n gwpod gwell na pheth felna nawr.

Beth bena am hyny, i ath yr hen William o dicyn i dicyn, fel odd t’wydd yn oiri, i giatw’r gwely, ag rodd hyny yn rhoi ticyn o ofid i Ianto’i fab.

Peth arath odd yn i ofitio fa, odd fod Mac-

 

 

None
(delwedd 4361) (3 Ebrill 1897) (rhan III)

Cinli yn myn’d mas i’r rhewl i utan o hyd, ag rodd a witha yn troi i ben at y ty i utan hed.

Un noswath, dyma Ianto yn dwad miwn i’n ty ni, ag yn gwed wthto i, weti pleto ticyn am y t’wydd a phetha, “Wi mwn ticyn o ofid am boiti rhen ddyn y nhiad, bachgian, wi’n ofni i fod ar ben ’na.”

“Wel, oti ma’ch tad yn wan ’na,” ba fi. “Beth ma’r doctor yn wed am dano fa?”

“Os mo ni weti gialw’r doctor miwn yto, ond i ni weti solfo iddi ialw fa miwn foru,” eba Ianto.

Weti ni whilia cwmint a hyna am yr hen ddyn, ni ethon i whilia am boiti’r gwaith tin, a phetha erith.

Dranoth, dyma’r doctor yn cial i alw miwn ato. Weti’r doctor idd examino fa, dyma fa’n gwed, “Os dim un dolur arno, dim ond gwendid henant, ag os fawr iddi neyd i hyny, ond i roia i botal fiach iddo i sharpo ticyn arno, os licwch chi.”

“Gora, wir,” eba Misis Hwals (rodd Ianto’n y gwaith), “giaiff Ianto ddwad, heno iddi moyn hi, ser.”

 

 

None
(delwedd 4362) (3 Ebrill 1897) (rhan III)

Am boiti saith ar gloch y noswath hyny, dyma Ianto’n myn’d sha’r syrjari a photal gianto, ac ag wtht roi’r moddion iddo, dymar doctor yn gwed wthto, “Rhowch lon’d lwy giawl o hwn bob petar awr iddo, a chofiwch i ysgwd a’n dda, cyn i roi a iddo.”

“Ol reit, ser,” ’ba Ianto, ag off a fa.

Wel, ddath Ianto ddim nol yn gwmws o’r syrjari i drows peth cynta i’r Prins, ag oddno wetin i’r Lion, ag odd a bown o droi i’r Tinman’s wetin cyn dwad sha thre; a dyna lle bu a stoi stop tap; achos i gwrddws a’r giaffar a chwmpni erith no.
Pan dath a sha thre, rodd a weti ifad ticyn ag wtht i wel’d a felny, i ath Misis Hwals yn bowdwr gwyllt i gyd, ag i wetws i fod a’n od o ddigownbt o’i diad a phetha.

Dodd a ddim yn ddigownt hed o’i diad ne fasa fa ddim yn myn’d sha’r syrjari o gwbwl.

Rodd yr hen wr yn cyscu’n dawal pun dath Ianto sha thre; ond wtht i glwad a, a Misis Hwals yn ffrio, i ddihunws, ag wtht i wel’d a weti dihuno, rodd yn rhaid i Ianto gial rhoi moddion iddo.

 

 

None
(delwedd 4363) (3 Ebrill 1897) (rhan III)

“Nawr, nani”, ’ba fa. “arllws di lon’d llwy giawl o’r moddion na i gwpan i ti gial i roid a i nhiad ar ol i fi i ysgwd yn dda, fel odd y doctor yn gwed wthto i am ’neyd.”

Dyma fa’n citcho yn i diad ag yn i ysgwd a stodd i anal a mas o’i gorff, ag ddath hi byth yn ol, achos ysgwtws a i farwolath; ond baswd popath yn dawal, ag i gladdwd yr hen wr yn deidi yn mynwant y plwyf gita ’i wraig.

Misteco nath Ianto am boiti ffordd odd y doctor yn gweyd; gwed wthto am ysgwd y moddion ag nit ysgwd i diad nath y doctor.

Wtht ddwad nol o’r angladd, i ifws lymid biach ar y ffordd, a’r noswath ’ny wetin yn y ty rodd a’n llefan yn fudur ar ol i diad ag yn doti’r bai ar MacCinli am boiti iddo, ag yn gwed busa fa’n i seuthu fa’n gwmws.

(I’w barhau.)


+Pennod IV Siomedigaeth (10 Ebrill 1897)

 

 



None
(delwedd 4382) (10 Ebrill 1897) (rhan IV)

IANTO’R SHORTAR
[Gian Fachgian o Fro Morganwg.]
YSGRIF IV. - SIOMEDIGAETH.

Suthwd dim o’r milgi wetin, achos i sefws Bili ’n gros (Bili Hwals ma pawb yn gialw bachgian hena Ianto), ag i wetws Bili wtht i diad, os todd a’n mynd i suthu MacCinli, celsa fa suthu fynta hed; ag ta fa’i hunan odd pia MacCinli, fa odd weti gial a yn welpyn am whigan gita Shoni’r Cwn.

Ianto biach setlws dyngad MacCinli, “Nhiad,” eba Ianto biach wtht i diad, dan lefan, “ma dicon o hirath arna i nawr ar ol nhadcu, ond os otych chi’n mynd i ladd MacCinli yto, i dora i nghialon.”

Rodd cwmint o olwg gita’r hen Ianto ar Ianto biach, achos bod a’r un enw a fa’i hunan, a ta fa odd y ciw melyn ola a phob peth, fel ma alsa fa ddim godda gweld Ianto biach yn llefan byth am ddim byd.

Felny pun clwys a Ianto biach yn gwed dan lefan y busa fa’n tori ’i gialon ar ol MacCinli, dyma fa’n crafu ’i gern, ag etrych yn ofitus am dicyn.

“Na,” eba fa mwn cetyn biach, “na machgian i, paid ti tori dy gialon, er dy fwyn di, i giaiff MacCinli fyw yto; ond wi ddim yn lico i dricsis e; ond i giaiff fyw er dy fwyn di, ac nit er mwyn neb arath.”

Felna cias y milgi i arbad rhag marwolath am acto’r cyhirath o flan marwolath yr hen Wiliam Hwals. Dodd dim bai ar MacCinli, os dyw a’n dwad i wpod petha felna cyn bo’ nhw’n dicwdd, i le fa odd rhoid gwpod

 

 

None
(delwedd 4383)
(10 Ebrill 1897) (rhan IV)


’ny galswn i feddwl.

Ar ol y ticyn helynt yna, i basws mishodd na ddigwyddws dim byd neilduol i Ianto na neb o’i deulu. Rodd Misis Hwals, ma’n w’r, yn cial ambell i ffit pun busa hi’n ffili cial i ffordd ’i hunan gita phetha; ond dodd neb yn gnithur llwar o notis o hyny, achos llymid biach o frandi odd yn ’i gwella o hyny.

Peth arath odd yn blino Misis Hwals yn fudur odd gwendid, ag rodd hi’n gorffid mynd i’r gwely lwar pyrnawn o’i achos a hed.

Dyna ddolur nag os gita doctoriad yn gwlad ni ddim byd i nithur a fa. Peth gora odd Misis Hwals yn gial ato odd cwmryd cwpwl o bupurmint drops a mynd i’r gwely i gysgu cwpwl o oria.
Rodd hyny yn ’i gwella hi witha am wthnos ne naw dwarnod. “Wi’n cofio un tro shwt i ffilws y pupuimint drops a gneud dim d’ioni iddi. Wi’n cofio hyny nawr fel ddo, ag ar ddydd Iau digwyddws hyny hed, ta fatar am hyny.

Ro’dd “pay” gita ni yn y gwaith tin nos Sadwn, cyn’ny; a bora dy’ Merchar ar ol y “pay,” i etho i a Nel sha Llanelli i gladdu perthynas i Nel (un odd yno yw hi). Pun dethon ni ’nol nos Iau, rodd hi’n “how and cry” fawr trw’r lle fod Misis Hwals weti llyncu gwenwn; a’u bod nhw weti hala moyn y doctor ’no, ei bod hi weti marw cyslad, ond bod yr anal yto heb i giatal hi.

Fi gyrhyddws Nel a fi ’no o flan y doctor; ac yno rodd hi ar asgwrn i chefen yn y gwely a’i llycid ar spred i gyd. Rodd ’i gena hi yn wablyn fel bocs wablyn y barbwr, ac i alswn i feddwl i bod hi’n gwed rhwpeth am boiti’r cloc. Rodd hi’n ffrenshan rhwpeth hed.

Gita’n bod ni’n ’no jest, dyma’r doctor yn dod ’no hed, a dyma fa’n bwrw mlan ati i gial i examino hi; ond gita bo’ fa’n ’i gwel’d hi, i ddalltws a i dolur hi.

 

 

None
(delwedd 4384) (10 Ebrill 1897) (rhan IV)

“Ho, ho,” eba fa, “dewch a chwpanad o ddwr cliar a llon’d llwy giawl o halan ne fwstart yma’n y finad.”

I amcan a odd rhoid momant iddi i gial y gwenwn nol, ag weti ’ddo roid y dwr a’r halan ’ny iddi hi cias a hed. ’

“Dyna,” ba’r doctor, weti iddi gial a nol, “wi’n cretu mod i weti safio ’i bywyd hi tro hyn, ta beth, dos gita fi ddim racor i neud iddi, a dos dim isha dim ond gorphws arni nawr.”

“Beth odd y matar arni, doctor?” eba Ianto’r Shortar.

“O! na hidiwlch,” eba dootor, “i fydd yn ol reit yto mwn dwarnod ne ddoi, ran hyny, nos da.”

Rodd Misis Hwals weti gwella’n biwr digynig erbyn nos Satwn, achos i glywas yn y gwaith dy’ Llun i bod i nos Satwn yn y Tinman’s yn speecho ar shiapsa Ianto o fyw.

Rodd hi’n gneud hyny bob cyfla gelsa hi; ac rodd Ianto yn ordro glasiad o’r peth ifsa hi’n wastod iddi, gita ’i bod hi’n dechra ’i gwed, er mwyn cial llonydd gita hi, ac ar ol i’r glasiad ddwad miwn, rodd hitha’n wastod yn ’i giatal hi.

Bora dy Sul, boiti naw o’r gloch, pun on i a Nel yn byta’n brecwast, ni glwen Ianto’r Shortar yn cwnu lais; ac yn gofyn i rwun: “Ble ma’n whigan i? Gwed, ble ma’n whigan i, gwed, ble ma’n whigan i, ne ar m’enad i, ’ma ti’n i chial hi; gwed! gwed! gwed! gwe--d! a chita’r giar yna, dyma ni’n clywad – crash – clinges – crash – clinges -

 

 

None
(delwedd 4385) (10 Ebrill 1897) (rhan IV)

Dwmp – dalo, udiad MacCinli, a screch Meri yn rhoid – “Jwp O! mam anwl!”

“Am neno’r andros, be, sy na?” ebwn i.

Cyn i Nel gial gwed dim, dyma Ianto biach yn atab dan lefan yn y drws: - “Mam sy mwn ffit, O! dewch, waff, waff!”

Y peth cynta welas i, weti myn’d i’r drws, odd gweld MacCinli yn yr ardd gita three down and carry one yn gneud lot o fiwsig fel ’sa fa’n cystadlu am wobor.

Pan etho i miwn i’r ty, rodd Misis Hwals yn y giatar gefan wtht y tan yn rhincian ’i danadd yn dicon i hala ofon ar y gwr drwg i hunan; Meri a Ianto biach yn llefan deuawd am fywyd; Bili yn rhecu i diad, a hwnw wetin yn whilmantan yn y cwbwrt cornal am frandi.

Peth nesa welas i odd gwel’d yr American cloc odd’no yn fflintars ar hyd y llawr, glass, coud, pina, whils, cogs, &c., yn shang-di-fang trw ’i gilydd i gyd, ond dodd dim amsar i nithur llawar o notis o nhw, achos rodd isha cial Misis Hwals o’r ffit.

Weti whilmantan lot, dyma Ianto yn cial giafal yn y botal frandi, ond potal wag odd hi!
“Ar fencos i,” eba Ianto, “dos ’ma ddim i gial pun bo fwya o’i isha fa.” “Da machgian i,” eba fa wthto i, “rhytwch i’r Tinman’s i moyn gwerth swllt ar yn enw i; a dewch nol mwn boiti shiffad, i gofia i am danoch yto.”

“Dos dim isha chi gofio dim am dano i,” ebwn i, “win falch i gial gneud rhwpath am beth i chi weti neud i fi’n barod,” ac off a fi nerth ’y nhraed.

(I’w barhau.)


+Pennod V Ianto ar goll (17 Ebrill 1897)

 

 

A close up of a newspaper

Description automatically generated
(delwedd 4386) (17 Ebrill 1897) (rhan V)

IANTO’R SHORTAR

[Gian Fachgian o Fro Morganwg.]

YSGRIF V. IANTO AR GOLL.

Os otych chi’n cofio, hanas y munan yn mynd sha’r Tinman’s i mofyn brandi i Misis Hwals odd gian i’n cwpla’r wthnos wetha. Fuas i byth yn y Tinman’s wetin, ond nit achos na cheso i ddim brandi ’no. O! na, i geso i’r brandi reit i wala ’no, a hyny y mhen boiti shiffad.

Fuas i ddim pum mynad i gyd cyn mod i tool yn ty Ianto; ac mwn llai na, mynad arath, rodd hanar y brandi weti mynd lawr trw wddwg Misis Hwals; ag mwn llai na mynad wetin, rodd Misis Hwals yn acor i llycid, ag yn dishgwl yn od arno ni, fel sa hi ddim weti’n gweld ni ’riod o’r bla’n.

Rodd popath yn ol reit ’no mwn rhw ddeng mynad. Rodd Misis Hwals weti dwad o’r ffit yn ol reit, ag yn rhoid pryd o “bwdin fflama” i Ianto am frwa’r cloc; a Ianto’n godda gianti fel clwtin llestri rhog ofon, ’ba fa wthto i weti’n, y basa hi’n cial ffit arath.

Weti gwel’d petha’n dwad felna, i ath Nel a fi nol i’r ty gian atal rhynti’n nhw a’u busnas. Weti mynd nol i’r ty,

“Sam,” eba Nel wthto i’n ddistaw fiach, “dyna waith geso i, i bito wherthin pun dest ti nol a’r brandi.”

“Achos y ngweld i weti slafo, iefa?”

“O! naco wir nit hyny, gweld Misis

 

 

None
(delwedd 4387) (17 Ebrill 1897) (rhan V)

Hwals yn acor un llycad i gial gweld os ta ti odd yn dwad, netho i, ag fuas i jest bosto gian wherthin, dyna ti.”

“Dyna,” ’ba fi, “dyna’r tro dwetha i fi rytag i moyn brandi iddi ’ta.”

“Os dim isha ti rytag,” eba hitha, “ond giad iddi, dyna ffor’ ma hi yn ’i drafod a, wyt ti’n gwpod shwd un natur wyllt yw a. I fusa weti lladd hi ganwaith, tysa isha, i lladd hi rhacor nag unwaith, tysa hi yn tafoti a fa pun bo fa yn ’i banga fel ma hi yn gneud brytia erith.”

Dyna sponiad Nel ar ffitsis Misis Hwals.

Nos Lun weti fi ddwad o’r gwaith, ni geson sponiad Ianto ar drosadd y cloc. Ath Ianto ddim sha’r gwaith dy’ Llun, i startws o’r ty fel arfar, ond i’r Tinman’s ath a; a dyna lle buws a trw’r dydd gola, spo Misis Hwals yn dwad iddi moyn a’r noswath ’ny. Weti dwad sha thre, rodd yn raid iddo gial dwad i’n ty ni, i gial diolch i fi am rytag dy’ Sul i moyn y brandi.

“Samwal,” eba fa, “rych chi’n gwpod, i fuas i dicyn biach o’n lle ddo; a weta chi nawr achos beth hed. Ron i a Wil Sherwr a doi ’ne dri arath weti setlo yn bod ni yn mynd yn boniffeid trafilars sha Pentracwrw dy’ Sul ar ol y pay dwetha; ond fel ych chi’n gwpod, i ath yn ’law, ag etho ni ddim achos y g’law; a. ddo’, o’n ni’n setlo mynd wetin. Wel, ron i weti ciatw whigan o’r pay ar Nani ar gownt mynd, wlw chi; ond trw nag etho ni ddim pyrtyny i giatwas y whigan i gial mynd wetin ddo ag i cwatas hi yn y cloc. Bora ddo, i etho i nawr i ddishgwl am y whigan, wlw chi, ond dodd gian i whigan yn y byd ’no. Rodd Nani ne Wil weti mynd a hi, a pun gwelas i hyny, i gollas yn sensis, ag fi gitchas yn y pocar ag fi scwaras i waith yr hen gloc, ych chi’n gwpod, acha dwy whad stodd a trw i gilydd fel crecyn cocs, ag yn y mhang, i ellyngas y pocar wetin at MacCinli hed.
Ddylswn

 

 

None
(delwedd 4388) (17 Ebrill 1897) (rhan V)

i ddim gneud hyny; wlw chi, achos ma fa i rytjag am wajar o dair punt yr ochor a Topar Dic y Washman, dy’ Satwn nesa, ych chi gwpod? O! nag ych chi? Otin, otin; ma nhw i rytag ar Waunlwn am y cynta bump o naw; ac ma MacCinli siwr o ffisto Topar hed gewch chi weld yto. Os dim ots i fod a’n gloff nawr, i fydd Mac yn reit i wala, dy’ Satwn, achos i fyna i beth foru welliff ’i gos a’n ol reit - potelad o St. Jacob’s Oil, ych chi’n gwpod? Ia, itha reit, un da yw a; fi welas i Wil ’ma weti cial cic yn ’i benlin, rw dro wrth ymladd; rodd a mor gloff dronoth ag ma’ MacCinli nawr; and rodd a’n gallid cico ffwtbol mwn doi ddwarnod weti dechra rhwto’r oil yna yndi. Ond giarw shwd beth, i fi ellwng y pocar o gwbwl. Y ngweld i weti cial yn nhwlu mas on shianel netho i. Nani, wi’n cretu a’th a’r whigan o’r cloc. Wi ddim yn cretu ta’r cloc, na MacCinli ath a hi, er i fi, yn y mhang, ddial arnyn nhw.”

“Mae Misis Hwals rhy gialad i chi, nwrth Ifan,” eba Nel.

“Nwrth Ifan,” odd Nel yn ’i alw fa’n wastod.

“Do, fi’n ffistws i tro yna wir,” eba fynta, “ond os bydda i yn cwato arian yto rhwpryd, i cwata i nhw mwn lle na ffindiff hi nhw byth. Fi cwata i nhw yn y Beibl,” eba fa’n y nghlust i yn ddistaw fiach.

“Ple gwetsoch chi?” eba Nel, “O! ’dos mana i’n gwed ynt wtht bobun,” ’ba fa, gian wingco arna i.

 

 

None
(delwedd 4389) (17 Ebrill 1897) (rhan V)

Dyw Nani ddim rhy gialad i fi, fel yeh i’n gweyd,” eba fa, wtht Nel, rol ticyn o ddishtawrwdd, “niag yw, niag yw; dim lico gneud dim iddi, achos bod hi mor afiach otw i, a dyna shwt ma hi mor hir i thafod hed; ond pun bo fi’n mynd i’r panga gwyllt, ma Nani yn cial yn ofon i, a dyna beth sy yn i hala hi i’r ffitsis ma hi’n gial, wlw chi. O! ia, ia, dyna’r achos, wath fusa dim trist i fi na laddswn i ’ddi, tysa hi’n iach fel gwelas i ’ddi; lond nawr, alia i ddim meddwl gneud dim iddi, pun bo hi mwn ffit; ond fi naf fi dric a hi yto, i gofiff am dano. Fusa’n well iddi atal yn whigan i’n llonydd.”

Fi basws yr wthnos hono yto heb ddim byd arath nellduol, hyd nes dath dy’ Satwn – dy’ Satwn pay’r Gwaith Tin; a’r dy’ Satwn hyny odd macCinli a Topar i rytag ar Waunlwm am y gora am dair punt yr ochor.

Pun dath doi o’r gloch pyrnawn dy’ Satwn, dyma Ianto’r Shortar yn starto o’r ty yn i ddillad glian, sha’r pay offis; a Misis Hwals yn gwiddi ar i ol a: - “Cofia di, Ianto, ddwad nol yn gynar heno o’r pay, i fi gial mynd sha’r shop.”

Mwn boiti hanar awr ar i ol a, dyma Bili a MacCinli yn ’i starto ’i hed; a Misis Hwals yn glwiddi ar i ol ynta hed, am gofio run peth, achos rodd hi’n gneud hyny’n wastod bob nos Satwn pay.

Rodd Meri yn arfar dwad a’i phay nol yn gynar bob tro, ond dodd Ianto a Bili ddim yn dwad a fa, spo hi rhwpryd o’r nos witha.

Y nos Satwn hyn, i ddath Meri a fa fel arfar, ond ddath Bili a dim, ond i hunan a MacCinli, sha thre, a hyny boiti hanar nos; ond welws neb o Ianto yn Glyndwynant hyd dy’ Mercher ar ol ’ny.
Cewch yr hanas wthnos nesa. (I’w barhau.)

.....
+Pennod VI (24 Ebrill 1897)

 

 

None
(delwedd 4393) (24 Ebrill 1897) (rhan VI)

Papur Pawb, Ebrill 24, 1897

IANTO’R SHORTAR

[Gian Fachgian o Fro Morganwg.]

YSGRIF VI. CLEFYD Y GALON AR MAC CINLI.

I welws Misis Hwals amsar budur yn y pythownos ar ol y pay, pan collws Mac Cinli’r wajar yn y cwrsin matsh cwningod ar Waun Lwm; a phun ath Ianto ar goll, ych chi’n gwpod. I welws lot o gialeti, achos dim ond arian Meri odd gita hi i gial bwyd a phetha iddi nhw.

Rodd Misis Hwals yn arfar bragio wastod pun busa hi’n prynu rhwpath newydd, ta o arian Meri odd hi’n i brynu fa; ag yn fynych iawn, arian Meri odd yn prynu popath gianti. Ond y pythownos hyn, i welws hi lot o isha arian Ianto a Bili; ag ma hi weti cial clwad hyny gianwaith hed.

Ond beth wi’n foddran. Rwi’n anghofio beth odd i fod gian i mwn llaw. Hanas y cwrsin matsh, ag hanas ffor ceso nhw afal yn Ianto ddylswn i wed gynta. Fe ffilws Misis Hwals weld Ianto’n dwad sha thre boiti whech o’r gloch fel arfar. (Rodd Ianto yn arfar dwad wastod o’r pay boiti whech ond pun basa fa’n ffili, ag yn rhoid cwmint odd a’n lico o arian shop i Misis Hwals, a wetin, rodd a’n mynd nol i’r Tinman’s i hala spoi’n stop tap.)
Hi ath i ddishgwl am dano

 

 

None
 (delwedd 4394) (24 Ebrill 1897) (rhan VI)

sha’r Tinman’s, i gial rhoid pryd o dafod iddo, a chial glasiad biach’i hunan yn y fargian falla; ond dodd Ianto ddiim yno, nag ddim weti bod’no chwaith. Weti ddi ffili gial a yn y Tinman’s, i feddylws ta yn y Lion odd a, and erbyn spio, dodd neb weti weld a yno chwaith.

Felna buws hi’n cerad wetin o dafarn i’r nall am filltir yn rownd abowt, stodd hi weti blino, a jest a thori chialon wtht’i gweld hi’n gorffid dwad sha thre heb gial giafal yndo.

Rodd Ianto weti mynd na wydda neb ddim i b’le; tysa’r ddiar weti lyngcu fa, fusa fa ddim weti myn’d fwy dishtaw nag ath a.

Rodd Misis Hwafe weti cyradd y ty dicyn biach o flan Bili; ag erbyn i Bili ddwad, rodd hi weti llefan i llycid ma’s jest; ond dyma Bili’n dwad boiti hannar nos yn eitha llawn, a Mac Cinli gita fa’n itha sopor.

Cita bod Bili yn y drws, dyma fa’n gwiddi’n uchal (ma’r gwithiwrs tin y’n gwiddi’n uchal wtht whilia’n wastod, achos bod nhw’n gorffid arfar gneud hyny wtht whilia’u gilydd yn swn rowls y gwaith tin. Allech feddwl wtht’u clwad nhw’n whilia’u gilydd, ta lot o ddynon ddim yn clwad y’n nhw).

“Mam, tyma, fi weti dwad, ond os gita fi ddim pay i chi, fe gollws Mac Cinli’r wajar, mam, do mam. Do, mam, ond ar f’einioes i, mam, chaiff dim o Topar Dic y washman ffisto Mac Cinli, mam, i ddota i ucan punt lawr o ochor Mac, i rytag a Topar yto, mam.”

“B’le wyt ti’n’u cial nhw, Wil?” eba hi’n itha sosi.

“O! fe ffinda i ddicon o arian, mam,” eba Bili.

“Wel, ffinda arian i fi gial bwyd i chi pythownos nesa,” eba hitha yn sosi, yto.

“B’le ma arian Meri,’da chi, mam? O arian Meri ych chi’n prynu popath sy’n dwad i’r ty hyn,” eba Bili’n byrfoclyd.

“Paid a blagardo dy whar, William, wyt ti yn ben dy whar yn rownd abowt.
Ma dy dad a titha jest tori nghialon i. O! diar

 

 

None
(delwedd 4395) (24 Ebrill 1897) (rhan VI)

anwl, b’le mae fa heno, os gwyr rhwun?” eba Misis Hwals yn dorcalonus.

“Pam ta,”’ba Bili, “nit yn y gwely ma nhiad, ta?”

Yr unig atab gias a gian Misis Hwals odd ysgytwad pen; a’i gwynab o’r golwg yn i ffetog.
Wtht weld hyny, fi soprws Bili lot, ag mwn ticyn biach, i ath i’r gwely mor dawal a’r on biach.

Ath dim o Misis Hwals i’r gwely o gwbwl y noswath hyny gian feddwl delsa Ianto falla sha thre cyn y bora o rwle, ond ddath a ddim fel rch chi’n gwpod.

Bora dy’ Sul, rodd Bili ar i drad yn fora; ag ar i drafal hed i whilo am i diad; ag ar i drafal buws a ran hyny trw’r dydd, ond gorffid iddo fynta hed ddwad nol hebddo ag heb glwad dim am boiti ’ddo chwaith.

I ath Bili a Meri dy’ Llun i’r gwaith fel arfar, gian drysto delsa’u tiad ohono’i hunan sha thre nos Lun, ond gian na ddath a ddim nos Lun wetin, ron nhw’n nawr yn cretu bod rhwpath weti dwad iddo, ac ron nhw mwn gofid budur ’no gyd.

Rodd trueni ar y nghialon i iddi gweld nhw ond wetin,’don i ddim am hwpo mhen rhynti nhw, rhag ofon ta fi gelsa’r gwitha yn y diwadd.

Beth bena, i fentras fyn’d miwn ati nhw i drio cysuro ticyn biach arnyn nhw’no nos Lun; ag i wetas wthtyn’nhw, mod i’n cretu bod Ianto yn fyw ac yn iach rhwle; a delsa fa nol pun darfyddsa’r arian a; ag mod i cretu, ta nithur tric a nhw odd a, am fynd a’r whigian o’r cloc; ag fi wellws hyny lot dda digynig arnyn nhw hed.

Pyrnawn dy’ Mawrth, dyma fachgian y sgadan yn dwad hibo, gian widdi, “Ffresh herin, ol aleif o.” Gian fod Misis Hwals yn ddelar trwm mwn sgodan, i ath ma’s i gwrdda fa, gial prynu peth. Pan gwelws basgiau y sgadan hi,

“Holo, Misis Hwals fiach,” ba fa, “shwd i chi slawar dydd? Hawyr anwl!” eba fa wetin, “be sy matar arnoch chi, Misis Hwals, ych chi ddim fel arfar heddi?”

“Ma Efan,” eba hitha, “ar goll ddor nos



 

None
(delwedd 4396) (24 Ebrill 1897) (rhan VI)

Satwn,” gian gwnu ffetog i sychu’r dwr o’i llycid.

“Ha! ha! Ha! pidiwch a becso dim, Misis Hwals fiach,” eba fa, “ma Mr Hwals yn fyw ag yn iach i wala, gwelas i fa ddo yn y Blue Bell, Castallnedd, yn cianu i chalon hi; ag rodd o wtht i fodd tip-top.”

Newydd da odd y whilia yna i Misis Hwals a’r plant hed, ran hyny; achos ro’n nhw’n falch i glwad i fod a’n fyw rhwle.

Bora dy’ Mercher, dyma Misis Hwals yn’i starto hi sha Chastallnedd, i ddishgwl am dano; ag yn y pyrnawn rhwpryd, dyma hi’n cial giafol yn Ianto ar hewl Llangiatwg, yn dechra’i ffordd sha thre, weti hala i arian bob clincian; ag am boiti’ddo, rodd ciant ne ddou o blant yn i gipan a i gianu iddi nhw, a fynta’n pallid.

Pan gwelws Ianto Misis Hwals, dyma fa’n gweiddi,

“Nani fiach! des di i nghwrdda i? O nghrotan anwl i, wi’n dwad sha thre gita ti nawr. Wi weti hala’r arian bob clingcian, ond paid a hito, i ddaw arian yto.”

“Ianto blach!” eba hitha’u gintachlyd, “beth wyt ti’n myn’d off i hala’r arian fel hyn a dim bwyd yn ty?”

“Ond be sa tin y nghlwad i cianu ta?” ba Ianto.



 

None
(delwedd 4397) (24 Ebrill 1897) (rhan VI)

“Ia,” ba hi, “ond allwn ni ddim byw Ianto ar gianu.”

“Ia, ond wi’n gwed wthto ti, ro’n nhw’n dwad i nghlwad o filltirodd,” eba fa.

“Ond beth i ni well o hyny ar ol i ti hala’r arian, Ianto?”

“Pwy foddrach am arian o hyd wyt ti; ond wi’n gwed wthto ti, ro’n nhw’n dwad i nghlwad i cianu fel angladda, pwy foddrach wyt ti w?”

“Ches ti ddim o’r arian nillws Mac Cinli dy’ Satwrn gian Will?”

“Dim ond un o whech cwningan ddalws a,” eba hi.

“Ho! Ia, dodd dim dishgwl iddo enill. Ma clefyd y gialon ar Mac Cinli, ond chretiff mo Wil’ny wtht bo fi’n gwed wthto,” eba Ianto.

(I’w barhau.)


.....
+Pennod VII (1 Mai 1897)

 

 

None
(delwedd B3674) (1 Mai 1897) (rhan VII)

IANTO'R SHORTAR

[Gian Fachgian o Fro Morgianwg.]


YSGRIF VII. - GWNEUD Y GOREU O’R GWAETHAF.

Ar hewl Llangiatwg giadawson ni Ianto a Misis Hwals tro d'wetha, ych chi'n cofio.

Misis Hwals yn grwmlan bod Ianto weti hala’r pay, a Ianto yn myn'd i nwyda achos na busa hi'n dallt pwy mor enwog odd a weti dwad fel ciantwr, a lot o blant am boiti nhw yn cretu ta baletwr a'i wraig o'n nhw.

Pun gwelws Misis Hwals Iantlo’n mynd mas o'i gof fe'i jacws hi; wetws hi ddim rhacor wthto am boiti'r pay, achos dodd hwnw ddim rhw le cyfleus digynig iddi gwmpo mewn ffit, tysa Ianto'n mynd iddi hen banga gwyllt 'no.

Weti Misis Hwals iddi jaco hi, i ath popath yn ddishtaw 'no; ag yn y dishtawrwydd hyny, dyma un o'r plant odd am boiti nhw'n gwed wtht Ianto:

"Rhowch getyn biach o gianu nawr ta?"

"Ar m 'enad i! dal un o nhw i fi, Nani, i fi gial i ladd a, i gial fita fa nawr," ba Ianto, gian hwpo'i law'r un pryd i bocad 'i drwsis i mofyn y gyllath guad odd gita fa yn bita'i gino yn y gwaith, er mwyn hala ofon arnyn nhw.

I ddalltws y plant yn net hed ta hercyd i gyllath odd a, achos ron nhw weti cilo’n ddicon pell cyn iddi ddwad i'r golwg.

Weti gwel'd niag odd Ianto yn rhytag dim ar 'u hol nhw, fi sefws y plant i gial rhoi teitl a chyngor iddo, sef, “O! 'rhen gianibal, os os isha bita rhwpath arno chi, bitwch ych hen wyneb ych hunan, dyna weti bopi'n goch neis ma fa (?)" &c., &c.

Rodd Ianto, cyn iddo i gial y jobyn shorto, weti bod am flynudda, yn rowlerman, a dyna achos beth odd 'i wynab a'n goch. Ma rowlermen, ych chi'n gwpod, yn gorffid bod mwn mwmint o wres, ag yn gorffid ifad shwd lot o betha i giatw'u hunen yn iradd.

Ma tuadd yn y petha ma'n nhw’n ifad iddi gneyd nhw'n goch; ag unwaith delo rhwun yn goch wrth ifad, dyw a ddim yn lico colli'r lliw hyny webi 'ny.

"Dyna ti nawr weti gneyd hi'n galch," eba Misis Hwals wtht Iainto. "Pwy 'merlid a'i plant wyt ti ? Dera sha thre, ne rhwle i ni gial mynd o'u swn nhw. O! diar anwl, giarw shwd beth i ti weyd dim wthtyn nhw. O! clyw nhw, ma'n nhw'n ddicon i fyddaru menydd dyn."

"Paid a boddrach," eba Ianto wthti, "dera mlan ta, a phaid a nithur notis o nhw, a chweti'ny i dantan nhw'n dilyn ni mwn ticyn biach."

Rodd Ianito'n misteco'n fudur wtht wed hyny shwt, achos fi ddilynws y plant nhw am boiti filltir ne racor yn un cor mawr; ag fusan yn ’u dilyn nhw'n mhellach hed, oni busa nhw wel’d polisman yn dwad i gwrdd a nhw.

Rodd yn dda digynig gita Ianto a Misis Hwals i weld a'n dwad iddi nhw gial llonydd. Fuson nhw ddim mor falchad i weld bobi riod a'r tro hyny. Nhw'u hunen odd yn gwed wthto i wetin.

Beth bena, fi gyrhuddson nol i'r Tinman's y noswith hyny dicyn cyn stop tap; ag rodd pawb yn falch digynig iddi gweld nhw 'no hed, ond yr hen dafarnwr a'i wraig.

Rodd Ianto, ych chi'n gwpcd, weti cilo off nos Satwn cyn 'ny heb dalu'r hen gownt.

Dim ond hen gownt un pythownos odd a shwt.

"Hannar cianswllt odd a, dodd hyny ddim llwar, bod isha i'r hen flothach stopo’r tap," eba Ianto.

Ond llwar ne bido, stopo'r tap netho nhw arno, ag fi fusa'n cial myn'd mas hed heb gial un dyferyn 'no ond busa Wil Sherwr atab am gwpwl o beints iddo ar i enw 'i hunan.

Pan clyws Ianto biach bod i diad weti dwad nol i'r Tinman's, rodd a'n hopo gian falchtar; ag rodd raid iddo gial myn'd i'r Tinman's iddi wel'd a; dodd dim iws i Bili a Meri i drio 'i stopid a; a thrw bod Ianto biach yn cial mynd ’no, rodd raid i Mac Cinli gial mynd 'no hed; achos rodd raid i Mac i gial mynd i bobman lle busa Ianto biach yn cial myn'd.

Pun ath Ianto biach miwn i'r Tinman's, rodd yr hen Ianto yn ffrio'i chialon hi a'r tafarnwr am boiti hen gownt, a fel’ny rodd a dicyn yn fishi; a thrw hyny welws a ddim o Ianto biach a Mac Cinli stodd un o nhw a'i fraich am i wddwg a, a'r nal1 a'i ddwy trod flan ar i frest a.

O! dyna falch wi'ch gwel'd chi weti dwad nol, nhiad biach; o'n i dest tori 'nghialon ar ych hol chi, nhiad," eba Ianto biach, a dyma Mac Cinli'n trio gwed rhwpath wthto hed, ond trw niag odd a ddim yn gallid giro yn blain, nath yr hen Ianto ddim notis ohono fa, ond doti'i law ar 'i ben a, a gwed wtht Ianto biach,

"Cera ona'r ffwl biach, myn'd i gial ticyn a spri o'n i; do'n i ddim yn meddwl ych giatal chi, ishta mana. Lei down, Mac Cinli."

Weti ddo wedi felnai wthtyn nhw'ch dou, fi dendws a i ffrio mlan, a'r tafarnwr am boiti'r hen gownt; a'r diwadd fu i'r tafarnwr iddi dwlu a mas o'r ty a rhoid stric ordos i bito gialw 'no weti'ny.

Rodd cwilydd budur ar Misis Hwals 'u bod nhw weti cial 'u twlu mas o’r Tinman's; ond "jobyn da digynig" odd hyny, eba Ianto, achos rodd a weti enill trw hyny hannar cianswllt y diwarnod hyny.

"Ia," eba hi, "ro ti'n gwed bod ti weti enill racor pun twlws Mac y Lion di mas slwar dydd, ond welas i mo nhw byth."

“Ia," eba Ianto, "enill trwy arbad o'n i. Ma’r hen Wheddal yn gwed bod y ginog arbetiff dyn yn well na dwy a enilliff dyn." Felna rodd Ianto'n cysuro Misis Hwals yn y ty'r noswith 'ny.

Bora dronoth, rodd Ianto'n myn'd sha'r gwaith fel arfar ag amsar brecwast rodd Ianto biach yn cial mynd fel arfar a brecwasfc iddo a a Bili a Meri (dyna odd i waith a prytyny, odd ciario bwyd a diod i'r gwaith), ond dodd dim scatan, blotars, na diod gita fa, iddi nhw'r diwarnod hyny.

Rodd Misis Hwals yn hala pobo scadenyn ne flotar iddyn nhw'ch tri gita'u bara menyn i frecwast yn wasted, a phobo beint o gwrw i Ianto a Bili.

Weti’ny i gino, rodd hi'n hala pobo fasned o giawl, a phobo blatad o datws a chig iddyn nhw, a phobo gwart o gwrw i Bili a'i diad.

Y diwarnod hyn, fi ddechriws Misis Hwals newid y drefan ar betha.

Bara menyn a the halws hi iddyn nhw i frecwast, a bara menyn a the a phobo flotar halws hi iddyn nhw i gino.

Cialad odd hi fel’ny, ond dodd dim iws grwmlan yn erbyn y drefan, achos arnyn nhw 'u hunen odd y bai am boiti'r drefan newydd, ond treni bod Meri’n cial 'i gwasgu o'u achos nhw'ch dou.

Rou'n nhw'ch dou y'n twlu'r bai i gyd am boiti 'ny ar Mac Cinli; achos iddo, eba nhw, ddal i Topar Dic y washman iddi ffisto fa am y tairpunt 'ny; ond gwed rwpath o’n nhw "for shem."

Dodd dim i neyd nawr ond 'i bwnglan hi mlan gora galsan nhw. Cwnu sub i gial bwyd, a thrio byw heb ifad ond dwr a the a chiawl hyd nes celsa nhw bay wetin.
(I'w barhau.)



.....

+Pennod VIII (8 Mai 1897)

 

 

None

(delwedd B3675) (8 Mai 1897) (rhan VIII)

Papur Pawb, Mai 8, 1897.
IANTO'R SHORTAR
[Gian Fachgian o Fro Morgianwg.]
YSGRIF VIII. - AMGYLCHIAD ANNISGWYLIADWY.

Hir iawn o'dd aros i'r pay rowndo, i Bili a'i diad, heb ddim diod, a nhwnta weti arfar 'i gial a gita phob pryd o fwyd, a phob tro busa 'i want a arnyn nhw.

Do'dd dim gita nhw i neyd nawr ond trio paso'r amsar mor dawel a galsan nhw dan bromisho iddyn 'u hunen dicyn o "go on" rol nos y pay.
Ro’dd y gwaith tin yn giatal boiti whech, ond do’dd dim o’r sychad yn 'u giatal nhw am whech; o'r amsar giatal hyd amser gwely o'dd ’u sychad nhw witha. Bili o'dd yn 'i shiffto hi ora. Ro'dd Bili yn cwnu amball i hobl fiach weti giatal, a felny'n llwyddo'n dda digynnig i gial amball i beint.

Fi gwrddws ag hobl, un noswith, i einill cwart yn y Ffarmars', wtht nithur lloriad o bela; ag un arath mwn noswith ne ddwy weti'ny, yn Shop Lewis, i enill whech wtht fyn'd a sach o gian i rwun drost Lewis.

Do'dd Ianto'r Shortar ddim yn myn'd ma's o'r ty felny ar ol giatal; ar ol byta ticyn o fwyd ac ymolch, ro’dd a'n fynych yn cysgu wtht y tan yn 'i giatar gefan; ond pun na busa fa'n cysgu, ro'dd a'n dwad i'n ty ni at Nel a fi i gial whiff fiach, a chial ticyn o ble am boiti'r peth hyn a'r peth arath.

Y petha mwya nellduol fel testyna whilia gianto, o'dd am boiti'r bwsis o'dd a weti neyd, Mac Cinli a'r giarffar; do'dd! dim diwadd ar 'i whilia fa am boiti'r petha yna, yn enwetig am boiti'r bwsis a Mac Cinli. Ro'dd a'n gwed lot am boiti’r giaffar, ond do'dd a ddim cwmint drost y gicaffar ag o'dd rhai yn aretu fod a, achos un noswith, fi dynws Nel 'i farn a ma's am boiti ’ddo.

"Ma Mr Safedj 'na yn gorffid 'i thynu'n itha tyn gita chi 'na; ma gofal mawr arno, a rhwng popath, ma fa'n gorffid slafo'n itha cialad," ’ba Nel wtht Ianto, ar ddiwadd ple o'dd gita fi a fynta am y gwaith.

"Os," ba Ianto, "os ma ticyn o ofal arno ond dim mwy na sy' ar lwar o gwn defid yn y wlad 'ma rhw fath o gi yw a, ag ma fa'n llwar mwy ciadd na llwar ci wi’n napod. Dyna Mac Cinli ni, ma mwy o ddyn yn Mac na sy' mwn dieg o'i short a; gwir wi'n wed, fi fusa cwilydd ar MacCinli i flagardo dynon 'fel ma fa'n 'u blagardo nhw. Ma Mac Cinli yn wr bonheddig neis yn ochor Mr Safedj, ag ma fa'n giallach ta ddwsin o witha. Ci o ddyn yw a, gwaith ci sy' gita fa, ag ma fa'n 'i neyd a hed yn itha ciadd."

Ro'dd Nel weti neyd llycad cam arna i i bito gwed dim, achos ro'dd hi weti clwad ta hen glepgi o'dd Ianto ag ro'dd hi’n cretu ta trio yn nhynu i i wed rhwpath o'dd a, iddo fa i' gial clec i fyn'd i'r giaffar dronoth.

"Wel," 'ba fi, "dos gita fi ddim i wed yn fiach am boiti 'ddo, achos fi gwelas i a'n itha piwr i fi, a dyw a ddim weti gwed dim wthto i riod ond popath yn itha decha."

"O ia," ba lanto, "ma fa'n itha piwr i rai, ych chi'n gwpod; ma fa’n itha piwr i fi munan, ond ma fa'n gwpod niag os dim iws iddo fod yn ots, wath ta fa'n ond y mlagardo i fel ma fa’n blagardo rhai, i fwrwn i 'i henad a ma's, a dyna ma fa'n wpod hed. Ma fa’n fachgian piwr digynnig os giall dyn giatw giap a'n gwmws; a dyna ffor wi’n neyd, yw i giamol a wtht bobun, a ma fynta'n dwad i wpod 'ny, a ma fa fel pob ffwl, yn lico cial i giamol. Ma shwd lot o glepgwn gita fa, dyn! Os dim iws I chi wed dim giair wtht neb, achos ma fa’n dwad i wpod popath a wetwch chi yn y fynad."

"Dos dim peryg ciaiff a glwad dim a wetsoch chi yma,” ebwn i.

"o! na, na," eba fa, "ne fuswn i ddim yn gwed.”

Fu geson ni bwar o gownts felna y noswithi hyny 'buws Ianto yn y'n ty ni’n cial whiff, ond wi ddim yn myn'd i wed popath wetws a, a fuswn i ddim yn gwed yna hed, o'm busa mod i am ddaingosi niag o'dd Ianto'r Shortar ddim cyndrwg dyn ag o'dd llwar yn gwed 'i fod a.

Ro'n ni'n falch digynig iddi wel’d a'n dwad i gial amball i whiff. Ro'dd Nel yn wherthin dim ond i wel'd a, heb iddo wed dim achos ro'dd a'n 'i hala hi i gofio am y Pwnsh and Judy welson ni yn ffair Penybont y bora priotson ni.

Do'dd a ddim yn arfar dwad i'n ty ni, ych chi'n gwpod, rhw unwaith buws a cyn y pythownos hyn. Dim lle i gial diod o'dd gita fa, ne fusa fa ddim yn dwad nawr hed; wath weti iddo gial pay, ni gollson ni 'i gwmpni fa wetin, achos fi a'th i'r Tinman's nos Satwn pay i gial pyrfoco'r tafarnwr a chial peint yn y fargian.

Yn lle myn'd ma's o'i gof wtht i wel'd a, fel o'dd Ianto’n meddwl busa fa'n gneyd, i ddath y tafarnwr ato'n hawgar i ofyn shw't o'dd a, ag i wed fod yn ddrwg budur gita fa fod a weti myn'd i shwd natur wyllt y noswith hyny, ag am iddo baso hibo iddo fa; ag os na alsa fa dalu'r hen gownt y noswith hyny, celsa fa ’i amsar 'i hunan iddi dalu fa.

Wi'n cretu bod yr hen gownt hyny heb 'i dalu yto, ta beth am ddou hen gownt arath weti hyny. i

Rwy bownd o gial gwed giair wthto chi nawr am boiti Meri. 'Scenas fiach net o'dd Meri, a ta pwy cias hi'n wraig, os cias rhwun hi, fi gias wraig fiach net.

Do’dd Meri ddim yn un lan iawn; ro'dd hi rhy dena a rhy fain i golwg i fod yn un lan. Peth arath, ro'dd 'i danadd hi'n ddu, achos gwitho wtht y blac picil ag ro'dd 'i hiechyd hi ddim yn gryf hed. Dyna ffor' cias hi fyn'd i acor plets mor gyntad. Ro'dd hi'n ferch dda digynnig iddi mam, achos ro'dd hi'n holpu 'i mam, o pan. delsa hi o'r gwaith hyd nes busa hi'n myn'd i'r gwely, mor dawal a'r on.

Beth beno fusa Misis Hwals yn neyd iddi, ne wed wthti, do'dd Meri byth yn grwmlan; ro'dd hi mor wirion a dafad, ond ro'dd dicon o sens yndi, achos ro'dd hi'n giallach na nhw i gyd fel tylu 'no.

Dim ond un tro clyws Nel ni Meri'n grwmlan yriod, a pyrnawn dy Satwn y pay a'th 'i thiad i'r Tinman's ar gownt pyrfoco'r tafarnwr o'dd hyny hed.

Fi a'th Misis Hwals off am dro biach dechra'r wthnos i rwle, ag fi dda'th nol yn y pyrnawn yn itha tost, ag mor goch a chrib y cilog drost 'i gwynab i gyd, ag o'dd hi ddim yn dda y diwarnod ar ol 'ny weti 'ny.

Pyrnawn dy Satwn y pay nawr, ro'dd angladd plentyn biach 'no, a 'ba Meri wtht 'i mam:

“Wi'n myn'd sha’r angladd 'na, mam, y pyrnawn ma."

"Ho," ’ba Misis Hwals, fel sa hi weti cial rhw ofon dychrynllyd. "Ho! wyt ti'n myn’d sha"r angladd, wyt ti?"

"Otw, wi'n meddwl 'ny," ’ba Meri.

"Fi ddala i niag a'i di ddim, ne fi dy hollta i di'n ddwy sceran odd’wtht ’i gilydd, rhen witch fiach," ’ba 'i mam wthti.
(I’w barhau.)


.....
+Pennod IX Pethau Bachgenaidd (15 Mai 1987)

 

 

None
(delwedd 4374) (15 Mai 1897)
(rhan IX)

IANTO'R SHORTAR
 
[Gian Fachgian o Fro Morgianwg.]
 
YSGRIF IX.- PETHAU BACHGENAIDD
 
Rodd Misis Hwals weti gwylltu'n fudur am i Meri ’weyd i bod hi'n mynd sha'r angladd y pyrnawn ’ny; ond achos beth, wydda neb ond ’i hunan prytyny. Redd Nel ni yno pun gwetws Meri i bod hi'n mynd sha'r angladd; ag fi ath jest yn hurt wtht weld Misis Hwals ym cial cwmint o ddychryn ag yn mynd i shwd nwyda.
 
“Misis Hwals fiach,” ’ba Nel, “pwy ddrwg yw bod Meri'n mynd i'r angladd?”
 
“Pwy ddrwg yn siwr?” eba hi. “Ia, ond pwy dda, ysgwn i! Mynd i hofran dy ben yn y gwynt, fel rhw hen afar, ar ol Dai'r Nelar, a ngiaital i, nos Satwn fel hyn, yn nghianol y gwaith iafa? Fi dy spario di!”
 
“Dos dim isha i fi ddilyn Dai'r Nelar, mam,” ’ba Meri, “fi ddela Dai'r Nelar yma yn ddicon mynych iawn i'n lwo iddo ddwad.”
 
“Paid di tafoti a fi, lyco, ne fi dora i gos y brwsh ’na ar dy gefan di, weld di!” eba hi'n ffyrnig.
 
Rodd ticyn biach o gewc gita Nel ni ar Meri, ag fi wydda'n net fod Meri'n gwed itha gwir am boiti Dai'r Nelar achos rodd a jest a dwlu am dani, ond dodd dim whant prioti ar Meri.
 
 

 

 

None
(delwedd 4375) (15 Mai 1897)
(rhan IX)

“Misis Hwals,” eba Nel, “trw bod whant ar Meri i fynd sha'r angladd biach ’na, gadwwh iddi fynd, fi witha i gita chi'n ’i lle hi ys delo hi nol.”
 
“Chiaiff hi ddim mynd, dyna fi weti gwed,” eba hi'n ffyrnig reit, a'i llycid hi'n fflashes o dan.
 
“Ho, ho,” eba Nel, a ma's a hi oddno weti pwtu. Rhai budur i bwtu yw'r mynwod ma. Ma Nel yn pwtu wthto i, am dd'warnod cyfan wrtha, withach hyny. Beth bena, whiliwn hi ddim giair a Miss Hwals wetin am ddyrnota, nes i Misis Hwals i nithur apologi iddi, a sponio ffor odd petha'n sefyll.
 
Mwn dou ne dri d'warnod, dyma Misis Hwals yn dwad i'n ty ni at Nel i fecan ’i ffardwn hi.
 
“Elan,” eba hi, “'r ych chi weti pwtu'n fudur wthto i am bido giatal Meri fynd i'r angladd ar ych caish chi, dy Satwn.”
 
“Wel,” eba Nel, “fe licswn i weld Meri yn cial myn'd, trw bod cwmint o whant mynd arni.”
 

 

 

None
(delwedd 4376) (15 Mai 1897)
(rhan IX)

“Elan fiach,” ’ba hi'n dorcalonus, “fi fusa Meri'n cial mynd tysa popath ’ma fel arfar, ond on nhw ddim; beth dal whalu? Cheso i ddim dima orwth William a'i diad y pay o'r blan, ych chi'n gwpod; a dim ond arian Meri odd gian i wetin i gial bwyd a phetha; ac rodd isha cinog arna i dechra'r wthnos ’na i gial rhwpath biach at yn iws; a beth netho i, ond bwrw a jacad sealskin Meri i shop y Thri Bols; a rodd ’i jacad hi yno, gwir i chi.”
 
“Ron i'n meddwl bod rhwpath od arnoch chi,” ’ba Nel.
 
“Wel, dyna odd a,” eba hitha.
 
Ar ol yr helynt yna, fi gerws popath i gwrs arferol gita thylu'r drws nesa ’ma am lot fawr o fishodd, niag wi ddim yn cofio faint.
 
Yr unig beth odd yn ’u blino nhw nawr odd bod Ianto biach yn moyn cial mynd i simi'r col row’s yn lle ciario bwyd i'r gwaith

 

 

None
(delwedd 4377) (15 Mai 1897)
(rhan IX)

iddi diad a Bili a'i whar. Rodd Misis Hwals yn gingli o'i chof, bod Ianto biach yn moyn mynd i’r gwaith; achos, fi fusa raid iddi gial morwn yn ’i le fa, ne giatw Meri yn y ty; ag rodd Meri ’n gwed, na ’rosa hi ddim yn ty, bod well ’da hi fod yn y gwaith lwar na bod yn ty.
 
Rodd Ianto biach wetin yn gwed mynsa fa fynd i witho, niag odd dim ots gita fa beth ’nelsa nhw; bod crots biach lwar yn llai na fa'n cial mynd i witho, ag ron nhw hefyd.
 
Pan odd petha yn rhytag i bwynt batl jest felna, a Ianto biach yn argoli ciario’r dydd arnyn nhw, fi ddath begar, odd y plant yn gialw “Mwtshi-Mwtshi” arno, hibo un dwarnod, a chonsartina gita fa; ag fi ffansiws Ianto biach y consartina; wetin, dodd dim byw na bywyd iddo heb gial y consartina hyny, ne un newydd.
 
Un budur am ffansio petha odd a; ond dodd a ddim weti ffansio petha i whalu miwsig fel hyn yriod o'r blan; rhw betha fel whip, cyllath bocad, ne fwrthwl, odd a'n ffansio o'r blan yn wastod.
 
Nawr dyna lle’r odd a yn poini ’i fam bob dydd am boiti gial consartina, a i fod a bown o fyn’d i withio i gial enill arian i brynu'r consartina.
 
“Ianto biach,” ’ba ’i diad wthto un noswith, “wi'n clwad fod ti a whant cial consartina; wel, ond i ti bido moyn myn'd i'r gwaith yto, fi ddwa i a chosartina i ti; ag
 

 

 

None
(delwedd 4378) (15 Mai 1897)
(rhan IX)

fi ddwa i a phistol, a phowdwr, a shots, a chaps, i ti gial suthu atarn biach; ond cofia, os dim o ti i gial seithu ciatha a dynon o hono fa, wel'd di.”
 
Rodd Ianto biach yn hobo o lawenydd pun clyws a i fod a i gial consartina, a phistol yn y fargian; ag fi bromishws yn rhwydd, na fusa fa ddim yn ’u poini nhw am boiti gial myn'd i withio wetin.
 
Rodd Ianto biach i gial y petha yna ar ol y pay cynta gelsa nhw wet'in, ag fi cias nhw hed.
 
Weti ’ddo ’u cial nhw, dyna lle'r odd a yn practiso ’i hunan arnyn bob cetyn odd gita fa; ond wi’n cretu ’i fod a weti dwad yn fwy o law ar seuthu o'r pistol, niag odd a ar whalu miwsig o'r consartina; ond wi’n dallt dim am boiti fiwsig.
 
Mwn cwpwl o ddyrnota ar ol i Ianto biach gial y taclins yna, ron i weti dwad o'r gwaith, ag yn bita bwyd wtht y ford; nawr, fi glywswn rhw ddyn yn dwad yn wyllt reit at ddrws y ty nesa, ag yn gofyn, fel dyn ag attal gwed arno, dan grynu gyd, “Oti Ifan, ych mab, yn ty?”
 

 

 

None
(delwedd 4379) (15 Mai 1897)
(rhan IX)

“Niag yw ddim, be sy'n bod?” ’ba Misis Hwals.
 
“Oti ’i diad ’ma ’ta?” eba fa, yn lle atab y peth ofynws hi.
 
“Niag yw wir,” eba hi, “gwetwch wthto i, beth sy'n bod?”
 
“Ma dicon,” eba fa, “ma’r crotyn Ifan ’na sy da chi weti lladd mochyn i fi.”
 
“Lladd miochyni i chi, os dim shwd beth, dyn?”
 
“Oes, oes, ma’r mochyn weti cael i seuthu'n gelan gianto, a dwi ddim yn myn'd i lolan racor a chi, gryndwch, os na newch chi gollad y mochyn ’na fyny i fi cyn deg o’r gloich heno, fi ddota i'r matar yn llaw y polis.”
 
Gita bo fa'n cwpla gwed, rodd a'n troi off a golwg gias fudur arno,

 

 

None
(delwedd 4380) (15 Mai 1897)
(rhan IX)

Moc y Lion, odd y dyn. Rodd Ianto'r Shortar ar y pryd yn y Tinman’s, ond fuws a fawr amsar ’no, achos, fi ath Misis Hwals iddi moyn a, i gial myn’d i'r Lioin i setlo a Moc oboiti'r mochyn. Rodd Moc shwt hen gnaf; wetin, dodd dim iws oidi. I fod yn fyr, fi setlws Ianto a Moc am y mochyn wtht dalu dwy bunt; dodd y mochyn ddim yn un mawr iawn.
 
“Samwal,” ’ba Ianto wthto i, weti ’ddo ddwad nol o’r Lion, “Wi’n gwed y gwir wthto chi, mae'n well gian i, na phum’ punt i fod a weti lladd y mochyn ’na heddi, na bod neb yn gweyd i fod a weti ffili; ond rodd a rhy ddrwg. Ma Ianto biach yn becso'n fudur boiti'r mochyn, wi'n gwpod; ag mae fa heb dwad sha thre yto; lle bo fa’n gnithir racor o ddrwg, wi'n cretu ta ’i adael a ddwad i'r gwaith bydda ora, Samwal?”
 
“Wel, dyna marn ina,” eba fi.
 
(I'w barhau.)
 


+Pennod X Camgymeriadau Digrif (22 Mai 1897)

 

 

None
(delwedd 4340) (22 Mai 1897) (rhan X)

Papur Pawb, Mai 22, 1897.
 
IANTO’R SHORTAR
[Gian Fachgian o Fro Morgianwg.]
 
X. - CAMGYMERIADAU DIGRIF.
 
R’odd yn hen bryd i Ianto biach i ddechra gwitho; fi ddylsa fod weti cial dechra ys blwyddyn ne racor, ag fi fusa hed onibai bod ’i isha fa ar Misis Hwals i giario bwyd i’r gwaith a phetha.
 
Nawr ro’dd Ianto biach weti dwad yn grotyn cryf – yn grotyn cryf drwg hed - ag ro’dd rhw gomplaints neu gilydd yn dwad iddi fam am boiti ddo bob dydd, jest.
 
Ro’dd petha’n gyfleus net iddo gial gwaith nawr, achos ro’dd "Dan Biach Simi Hunan" yn cial ’i symud mla’n i "dendo" ’rwthnos ar ol ’ny.
 
"Dan Biach Simi Hunan” o’dd crots y col rowls yn gialw’r crotyn biach hyny, achos ’i fod a’n simi cwmint jest ar ’i ddillad i ’hunan ag o’dd a’n simi ar y col rowls; and do’dd dim isha nhw neyd hyny, wath on nhw gyd no yn simi hunen am y gora.
 
Tysa Dan ddim yn simi hunan, fi fusa crots y col rowls bown o gial doti rhw lysenw arno, achos ro’dd rhw lysenwa arnyn nhw gyd ’no, ag wtht y rhiny on nhw’n napod ’u gilydd ’no.
 

 

 

None
(delwedd 4341) (22 Mai 1897) (rhan X)


Beth bena, ro’dd Ianto’r Shortar weti gnithur i feddwl fynydd i ofyn i’r giaffar am le Dan i Ianto biach, a mynu morwn fiach a Misis Hwals yn ’i le fa; ond dyna’r point nawr, y noswith hyny, ble ro’dd Ianto biach?
 
Ro’dd hi weti myn’d yn nos ys tair awr, a Ianto biach heb ddwad sha thre yto.
 
Ro’dd Mac Cinli weti dwad ys dwy awr, ond b’le ro’dd Ianto? Dyna gwestiwn. Fi wydda Mac Cinli falla b’le ro’dd a, ond do’dd mo Mac Cinli yn gallid siarad weti’n alsa fa ddim gwed. Pan dath Ianto’r Shortar nol o’r Lion weti ’ddo setlo am ’boiti’r mochyn, ro’dd Misis Hwals a Meri weti myn’d i whilio am Ianto biach, ac ro’dd Bili heb ddwad sha thre o giaru; fel’ny, do’dd neb yn ty, a thrw niag o’dd neb yn ty, fi ddath Ianto miawn i gial whiff fiach yn ty ni, hyd nes delsa un o nhw sha thre.
 
Fi fuws Misiis Hwals a Meri off dicyn cyn dwad nol, ond fi ddethon nhw sha thre lot o fla’n Bili weti’n; ro’dd hi’n hwyr budur ar Bili’n dwad.

 

 

None
(delwedd 4342) (22 Mai 1897) (rhan X)

Pun o’dd Ianto a fi yn whilia beth o’dd ora i neyd a Ianto biach, dyma Misis Hwals a Meri yn dwad nol i’r ty, a dyma hi yn ishta lawr dab yn ’i chiatar, ac yn cwato ’i gwynab yn ’i ffetog, ac yn ’i hacor hi fel bytheuad.
 
Wtht glwad Misis Hwals fel’ny, fi gretson ni bod rhwbeth dychrynllid weti dicwdd i Ianto biach, a miwn etho ni’n tri ati, Ianto, a finna, a Nel, gial clwad beth o’dd weti dicwdd.
 
"Misis Hwals fiach,” eba Nel, "be’ sy weti dicwdd?”
 
"O! machgian anwl i sy’ weti myn’d na wn i ar ben bywyd b’le ma fa heno,” eba hi, dan lefan ac och’nido’n dorcalonus iawn.
 
"O! diar mi," eba hi weti’n, cyn i neb arath gial gwed dim. "O! machgian anwl i, fi fusa’n well gita fi iddo ladd holl foch y gre’dicath na chilio off orwtht y ty fel hyn. O! machgian biach i.”
 
"Misis Hwals fiach,” eba Nel, "pidwch becso felna, ne fi dorwch y’ch cialon; ma Ifan siwr o fod yn reit i wala rhwle - yn nes,
 

 

 

None
(delwedd 4343) (22 Mai 1897) (rhan X)

falla, niag y’ch chi’n meddwl ’i fod a; whilwch y ty, falla ta cwato’n ty ma fa, a chitha[’]n whilo pobman arath am dano."
 
Fi rows Nel wtht wed felna rhw fywyd a gobath newydd yn Misis Hwals, a dyma hi’n tampo fel dima, ac yn citsho yn y gianwll odd ar y ford, ac off a hi lan drost y star i’r llofft mor smartiad a tysa hi ddim ond tair ar ddeg od.
 
Mwn ticyn biach weti ’ddi gyradd y llofft, fi clywswn hi’n gwed yn uchal fel sa hi weti cial rhw ofon budur:
 
"Y mawradd anwl! yn y gwely wyt ti’r bwbach? Ma whant arna i dy ladd di nawr, a os?”
 
"Syn di, Nani, na thwtsho ti a’r crotyn, ne gai di wel’d ffor’ bydd hi," eba’r hen Ianto ’ddar y llawr wthti hi, a eba fa wetin wtht Ianto bach, "Dera lawr, Ianto biach, i fi gial clwad ’ta ti ffor’ buws hi am boiti’r mochyn a phetha."
 
"Wyt ti, Ianto, yn distrwa’r crotyn ’ma, a wyt? Ta pwy ddrwg yn y byd ’nelo fa, rwyt ti’n cwnu lewish a’n wastod, a wyt?" eba Mislis Hwals.
 
"Dera lawr a’r gola ’na," eba fynta, ar y

 

 

None
(delwedd 4344) (22 Mai 1897) (rhan X)

llawr, "a chiad dy glepar, a dera oddar ffordd y crotyn, nei di? Nawr, fi glywswn Misis Hwals yn dechra ’i ffordd lawr, a phun odd hi jest cyradd y llawr, fi glywswn Ianto biach hed yn dechra’r ffordd sha’r llawr ar ’i hol hi.
 
Tysa chi ddim ond gwel’d clema Ianto, gian mor falch o’dd a i wel’d Ianto biach, chi wharddsach; fi wherthas i ta beth, ac fi’n halws i hed, i gofio am yr hen wheddal sy’n gwed: "Gwyn y gwel pob bran ei chyw," achos ro’dd gwynab a dilo Ianto biach mor dduad a tysa nhw weti cial ’u pinto o flacyn ’sgidia, gian y baw o’dd arnyn nhw.
 
Beth bena, rown ni gyd yn falch digynnig iddi wel’d a’n fyw ac yn iach; ond do’dd Misis Hwals ddim yn dangos llwar, achos ro’dd hi fel y dyn ’ny fu’n hongad drost ochor y graig, ro’dd hi’n tyfaru ’i bod hi weti ciatw cwmint o drwst boiti ’ddo.
 
Falla na chlwsoch chi mo’r stori.
 
Wel, ro’dd dyn unwath ar noswith dywyll gias, yn dwad sha thre drost y mynydd, ac achos’ ’i bod hi mor dywyll, fi a’th i ben

 

 

None
(delwedd 4345) (22 Mai 1897) (rhan X)

craig, ac fi slipws lawr drosti; ond fi gias afal mwn hen wriddyn cyn bo fa’n cyradd y gwilod, a dyna lle bu fa yn hongad fan ’ny am amseroedd wtht ’i frichia.
 
Alsa fa ddim dringad nol, a tysa fa’n gellwn ’i hunan lawr, ro’dd a’r [sic; = a’n] cretu celsa fa ddiwadd; achos ro’dd a’n cretu bod rhw gwn dychrynllid o dano, ac ro’dd a’n cretu hed ’i fod a’n clwad yr afon o’dd ar ’i wilod a boiti gianllath o dano.
 
Fi weddiws yn gynta am achubiaeth, ac y busa fa’n troi yn ddyn da; y busa fa’n giatal y baco a’r cwrw, ac yn myn’d at grefydd a phetha; ond do’dd neb yn dwad. Ro’dd a nawr yn myn’d yn wanach, wanach, o hyd, ac yn clwad ’i hunan jest colli iafal [sic; = ’i iafal] yn y gwriddyn; a dyma fa’n gweddio dros ’i wraig a’i blant biach, ac felly yn y blaen.
 
Eba fa, ar ddiwadd ’i weddi, "Alla i ddim dala racor, dyma fi’n dwad."
 
Gita hyny, ro’dd a’n colli ’i iafal ar y gwriddyn, ac yn dishgyn ar y gwastod net o’dd boiti whech modfedd o dano.
 
"Jawst yriod," ’ba fa weti dishgyn, "tyswn i ’mond gwpod, fuswn i ddim yn ciatw cwmint o gynhalath."

 

 

None
(delwedd 4346) (22 Mai 1897) (rhan X)

Rhw dimlad felna jest, alswn i feddwl, o’dd yn Misis Hwals hed.
 
Beth bena am hyny, weti cial myn’d i ochor ’i diad, fi rows Ianto biach sponiad i ni ar y cwbwl boiti’r mochyn, ac am boiti ffor’ a’th a i’r gwely, heb iddi nhw wel’d, a phobpath; ond rhaid giatal y sponiada hyny hyd yr wythnos nesa’.
 
(I’w barhau.)


+Pennod XI Dechreu Chwalu’r Nyth (29 Mai 1897)

 

 

None
(delwedd 4307) (29 Mai 1897) (rhan XI)

IANTO'R SHORTAR
[Gian Fachgian o Fro Morgianwg.] XI. DECHREU CHWALU’R NYTH.
 
Af fi ddim i wed wthtoch chi am boiti’r holi a'r crosholi fuws ar Ianto biach boiti'r mochyn - dim ond gwed ’sponiad Ianto biach yn short ’naf fi; achos ma stori'r mochyn yn myn’d dicyn biach yn hir, y’ch chi'n gwpod.

 

 

None
(delwedd 4308) (29 Mai 1897) (rhan XI)

Beth bena, ro’dd y ’sponiad rhwpath fel hyn: Weti i Ianto biach ddwad nol o’r gwaith tin, rol bod a chino iddyn nhw, fe ddath Shoni biach Wil Sherwr iddi moyn a gial myn’d ar hyd y lle i seuthu adarn biach; ac ar hyd y lle i seuthu adarn biach etho'n nhw’ch dou.
 
Ro’dd yr adarn biach yn gwpod ta dwad ar ’u cownt nhw own nhw; felny, ar ol cerad a cherad am oria, cheson nhw ddim cynnyg ar seuthu dim at ddim, ond at un goch giam fiach; do’dd hono ddim yn gwpod dim am boiti nhw, ond fi ffilws Ianto a seuthu hono hed.
 
Weti Ianto biach ffili seuthu’r goch giam, dyma Shoni’n dechra shimplo’r pystol, trw wed niag o’dd a ddim gwerth; nia laddsa fa ddim cleran withach ’deryn, a lot o rhw flagardath felny. Ro’dd Ianto’n cynnyg dala wager a fa, lladdsa fa fuwch ne geffyl; a felna o’n nhw’n tafoti a’u gilydd wtht gerad sha thre, nes to’n nhw o fla’n y Lion.

 

 

None
(delwedd 4309) (29 Mai 1897) (rhan XI)

Fan ’ny, fi welws Shoni fochyn y Lion yn acor bedd iddo i hunan yn y doman.
 
“Ianto,” eba Shoni, “wyt ti’n gwed y lladda dy bystol di fuwch ne geffyl, ond fi ddala i a ti ginog a dwrnad o farbls nawr nia ladda fa ddim mochyn.”
 
“Fi dala i y consartina a ti,” ebe Ianto, “lladdiff a.”
 
“Nawr, ta, giad i ni wel’d, nawr, ta,” ’ba Shoni.
 
Mwn mynad arath ne lai, ro’dd y mochyn yn cwmpo yn farw clotshan iddi fedd weti cial i seuthu’n gwmws yn ’i lycad whith.
 
Gita bod y mochyn yn cwmpo, fi glwsan laish menw yn gwiddi: “Beth wyt ti’n neyd, y scowndral biach; am beth owt ti’n lladd y mochyn, Ianto?” &c.
 
Gwraig y Lion o’dd y fenw. Ro’dd hi’n gwel’d y cwbwl, ond wydda hi ddim beth o’dd gita nhw mwn llaw, stodd y peth weti dicwdd.

 

 

None
(delwedd 4310) (29 Mai 1897)
(rhan XI)

’Don nhw ddim weti gwel’d hi cyn iddi widdi felna, ond nhw gwelson hi nawr; ond ethon nhw ddim i ddala pen stori a hi, achos fi rhytson nerth ’u trad i gwato i’r coud o’dd jest ar bwys ’no; a dyna lle buo nhw’ch tri yn gwato fan ’ny ys to hi’n nos pitsh.
 
Ro’dd Mac Cinli, y’ch chi’n gwpod, gita nhw o’r dechra. Weti ’ddi fyn’d yn nos felny, fi ddechreuson ’u ffordd sha thre; ond ro’dd gormod o ofon cial ’i whado gian ’i fam ar Ianto i fyn’d i’r ty; i’r ardd i gwato yn y coud gwsberis a’th a, ond fi a’th Mac Cinli a Shoni sha’r ty’n streit.
 
Ro’dd Ianto biach yn gwel’d ’i fam a Meri yn myn’d i whilo am dano, ac weti iddi nhw fyn’d, y slipws a i’r ty ac i’r gwely heb wmolch nia byta bwyd nia dim.
 
Weti Ianto biach fyn’d drost ’i stori, dyma’r hen Ianto yn gofyn iddo:
 
“Ceso ti’r ginog a’r marbls gian Shoni?”
 
“Do,” ’ba fynta.
 
“O! dera di, ’ta,” eba’i diad, dan winco arna i, “dyw’r gollad ddim yn gollad i gyt,

 

 

None
(delwedd 4311) (29 Mai 1897)
(rhan XI)

yto ’ta? Os gialla i gial gwaith i ti fori, gai di dechra gwitho dy’ Llun nesa’i ti gial talu am y mochyn yto. Wi weti setlo a Mac y Lion felna hono, wyt ti’n folon?”
 
“Otw i,” ’ba fa, a’r dwr yn tascu o’i lycid a, gian mor falch o’dd a i glwad. Ro’dd i diad yn rhoi dwy newydd dda iddo gita’u gilydd wtht wed felna.
 
Fi gias Ianto waith i Ianto biach fel ro’dd a’n meddwl; ac fi gias Ianto biach ddechra gwitho’r dy’ Llun cynta’r ol ’ny; ac weti’n, ’nath a ddim llwar o ofid i neb gita’r pystol a’r consartina.
 
Ro’dd Bill Hwals nawr yn dechra myn’d

 

 

None
(delwedd 4312) (29 Mai 1897)
(rhan XI)

yn fachgian drwg, ac o ddrwg i wath ro’dd a’n myn’d o hyd.
 
Weti ’ddo ddechra ciaru, ro’dd a’n gias budur iddyn’ nhw yn ty, ac ro’dd a’n colli llwar tyrn ar ’i waith i herlid cwrw a potchan giam a phetha. Ro’dd a weti cial tair symans am botshan, ond do’dd a ddim weti dala dim giam; ac achos hyny a phetha, ro’dd i diad a fynta yn ffrio yn ty yn rown abowt fel ci a mochyn.
 
Ond ta beth yn byd ’nelsa Bili, do’dd dim bai ar Bili gian ’i fam. Bili o’dd ffafrat ’i fam, a Ianto biach o’dd ffafrat i diad; ond dyn helpo Meri, pwr dab, do’dd neb yn ffafro llwar ar Meri. Ro’dd Ianto biach yn bwcwth prynu lot o betha iddi pun delsa fa’n rhowlar-man i enill saith a whech y dydd fel ro’dd Bili’n gneyd.
 
Do’dd dim gwerth o giam am boiti Glyndwynant; ro’dd y pydlars a’u cwn a’u dryllia ar ’u gol nhw ddydd a nos; ond ro’dd Bili bown o gial myn’d i whilo o hyd, er i’r jestysed wed wthto’r tro dwetha buws a o’u blan

 

 

None
(delwedd 4313) (29 Mai 1897)
(rhan XI)

nhw ta carchar o’dd yn ’i haros a pun delsa fa ’no weti’n.
 
Un bora, fi ballws Bili a chwnu i fyn’d sha’r gwaith; rodd ’i ben a rhy dost iddo witho, ’ba fa; ond fi gwnws heb fod yn hir i gial myn’d i whilo am sgwarnog; ro’dd a, ma’n depig, weti setlo y noswith cyn ’ny a Dic y Washman a Shoni'r Cwn ffor’ o’dd hi fod.
 
Ro’dd ’i ben a’n iach net ’i fyn’d i gwrdd a Dic a Shoni boiti ddeg o’r gloch i’r Tinman’s, ac i fyn’d gita nhw a’r cwn weti’n i whilo am sgwarnog i dir Gelligron. Weti nhw whilo lot dyma nhw o’r diwadd yn cwnu sgwarnog, o’dd weti dwad ’no o rhwle arath, dyma hi’n hylyw fawr gita nhw stodd y lle’n eco.
 
“Hylyw! Mac Cinli; O! iafal a!” ‘ba Bili, fel dyn yn crio acshwn jest.

 

 

None
(delwedd 4314) (29 Mai 1897)
(rhan XI)

“O! Topar biach a fa! O! nghi biach i; O! rhen gianon a fa,” eba Dic. [“]Hylyw, ngiast fiach i; O! ngh’loman i a hi!” eba Shoni.
 
Erbyn hyn, ro’dd y sgwarnog ar gianol y ca, a’r cwn yn closo am boiti ’ddi.
 
“Dyna hona’n reit, ta beth, ’ba Shoni; achos ro’dd a’n proffesu ’i fod a’i hunan yn dallt lot am boiti hela. Reit o gial ’i dala o’dd a’n feddwl o’dd y sgwarnog.”
 
Pun o’dd y sgwarog yn gwel’d y cwn yn closo am boiti ’ddi felny, dyma hi'n rhoid naid lan boiti betar llath i'r air, ac wtht ’i gwel’d hi weti myn’d i golli felny, heb wpod iddyn nhw mor sytan, fi gretws Topar ta Flei, giast Shoni, o’dd weti llyncu ’ddi, ac fi gretws Flei ta Topar o’dd weti llyncu ’ddi, a dyma’n nhw myn’d i wmladd a’u gilydd yn ffyrnig.
 
Fi farcws Mac Cinli’r sgwarnog yn dishgyn,

 

 

None
(delwedd 4315) (29 Mai 1897)
(rhan XI)

ac yn gwrsi yr a’th hi rhynti nhw hyd y berth. Fan ’ny, fi nidws y sgwarnog i ben clawdd, ac off a hi’n gros trw'n berth; a dyma Mac Cinli’n myn’d i roid naid drost ben y berth ar ’i gol hi; ond rhwffordd, fi slipws ’i ddwy trod ol a, ne rhwpath. Yn lle rhoid naid drost ben y berth, fel ro’dd a’n feddwl, rhoid naid nath a, stodd a’n dishgyn a’i ben yn erbyn poplan o’dd yn y clawdd ac weti’n, dyma fa’n dishgyn yn fon [sic; = ym môn] y clawdd fel cwtad o hoilon yn farw clotshan. Nawr, ro’dd y sgwarnog weti dianc, a Mac Cinli weti marw!
 
Erbyn hyn, ro’dd Topar a Flei weti dwad i ddallt ffor’ o’dd petha’n iawn, ac yn dishgwl mor wirion a dwy ddafad ar gorph Mac Cinli, gita. Bili, Dic, a Shoni. Pun o’n nhw yn pendrwmu fan ’ny, uwchben corph Mac Cinli, ro’dd y dyn o’dd bia'r tir yn doti’u henwa nhw lawr mwn llyfyr rochor arath i'r berth; ac weti ’ddo fa gwpla, dyma fa'n gwed wthtyn nhw:
 
“Wel, Wiliam Hwals, a Richad Lwys, a John Jones, gewch chi glwad am hyn yto.
Dydd da chi heddi.”

(I'w barhau.)

 
+Pennod XII Damwain (5 Mehefin 1897)

 

 

.. None 
(delwedd 4333) (5 Mehefin 1897)

 
Papur Pawb, Mehefin 5, 1897.
 
IANTO’R SHORTAR [Gian Fachgian o Fro Morgianwg.]
 
YSGRIF XIII. – DAMWAIN.
 
Dodd y boys ddim weti gweld y dyn a gwbwl nes iddo wed wthtyn nhw ffor odd hi i fod; ond pun gwetws a hyny wthtyn nhw; ethon nhw ddim i ddatla na becan ’i bardwn a na dim byd; ond off a nhiw gymint alsa’u trad nhw, gian atal MacCinli yn y man’ny; a man’ny ma fa yto trw wpod i fi.
 
Ron i y dwarnod hyny yn dicwdd bod yn whilbero bocisis tin o’r tinhows i’r van. Dyna odd y ngwaith i’r dwarnod hyny trw’r dydd. Pun on i yn y pyrnawn yn llanw whilberad o din yn y tinhows, dyma Ianto biach yn dwad miwn at i diad dan lefan sto ’i wynab a’n strabwd i gyd.
 
“Be’ sy’n bod, Ianto biach? Weti bod yn wmladd a cholli’r batl, iefa?” ’ba ’i diad wthto.
 
“Niaca ddim, MacCinli sy weti cial ’i ddiwadd heddi ar Gelligron gian Bili,” eba Ianto biach, dan snwffan mwy niag odd a cyn hyny.

 

None 
(delwedd 4336) (5 Mehefin 1897) (rhan XII)

“Ma’r andras yn y bachgian yna wi weti facu, oti ar menad i,” eba Ianto’r Shortar wthto i, ac eba fa wetin wtht Ianto biach, “Ffor buws hi, Ianto biach, wyt ti’n gwpod?”
 
“Taro ’i menydd yn erbyn poplan yn y clawdd nath a, wtht drio nido ar ol scarnog,” odd yr atab.
 
“Celwdd i gyd, celwdd i gyd; marw o glefyd y gialon nath MacCinli; ag on i weti gwed dicon wtht Wil ta felna busa hi rhw getyn; ond chretsa fa ddim; ond fi gretiff yr hen hurtyn nawr falla. Pun a gretiff a ne bido, ma fa’n siwr o gnoc gian i, mor gynad ai giaf fi afal yndo; oti ar menad i.”
 
“Pait ti a llefan, y machgian i,” eba fa wtht Ianto biach, “fi fyna; i filgi i ti yto yn le MacCinli. Pait ti llefan.”
 
Fel wi weli gwed o’r blan, dodd Ianto Shortar ddim yn un cias trwyddo i gyd; dim ond pun busa fa yn ’i banga rodd a’n beryclus; a dodd ’neb yn gwpod hyny hed yn well na Bili Hwals, ’i fab.
 
Felny, ath dim a Bili sha thre’r noswith hyny rhag ofon ta cnoc gelsa fa; fi gysgws y noswith hyny gita Shoni’r Cwn; rodd Shoni a fynta’n lot o bartnars yriod.
 
Erbyn nos dronoth, rodd Misis Hwals weti gwitho’r bont i Bili gial ddwad sha thre mwn heddwch; ag fi ddath hed, ag fi

 

 

None 
(delwedd 4338) (5 Mehefin 1897) (rhan XII)

basws popath gita dim ond ticyn biach o row yno.
 
Er i betha basio felny’n itha cheap, rodd yn ddicon hawdd i chi napod, tysa chi’n ’i weld a wetin trw’r wthnos, niag odd Bili ddim hanar wtht ’i fodd.
 
Ron i’n gwpod bod rhw ofid arno, ond wyddwn i ddim, am boiti beth odd y gofid pryd hyny; ond fi geson ni sponiad ar i ofid a dechra’r wthnos ar ol’ny; achos fi ddath y bobi a symans iddo am botchan ar dir Gelligron yn ddiweddar buws MacCinli farw.
 
Chias dim o Ianto’r Shortar wpod dim am boiti’r symans y noswith hyny lle busa fa’n mynd iddi hen banga at Bili.
 
Rodd Bill weti gwed wtht i fam i fod a’n yn ’i herfyn hi ddwad; ac weti gwed hed niag odd a ddim yn mynd i gwmryd carchar
 

 

 

None 
(delwedd 4337) (5 Mehefin 1897)
(rhan XII)

fel gwetws y jestis wthto pun buws a o’i flan a wetha. Beth be’na, dranoth i’r dwarnod dath y symans ’no fi halws Misis Hwals trw’r dydd yn y gwely; ag rodd hi’n llefan trw’r dydd hed; a chelsa neb glwad gianti beth odd arni.
 
I gial bod yn fyr, dyna beth odd yn ’i becsio hi: rodd Bili, Dic y Washman, a Shoni’r Cwn, weti cilo sha ’Merica y bora ’ny.
 
Weti cilo cyn bo dynon yn cwnu’n y bora ’ny oun nhw; ag rodd Misis Hwals am ’u giatal nhw i fyn’d yn ddicon pell cyn bod neb yn gwypod ’u bod nhw weti myn’d o gwbwl; fel na alsa neb fyn’d ar ’u gol nhw iddi stopid rnhw.
 
Dyna achos beth odd hi’n pallid gwed beth odd arni. Rodd hirath cialon arni ar ol Bili. Fi fusa’n well ’ta’ hi wel’d pob un trw’r ty yn myn’d sha ’Merica na gwel’d Bili’n myn’d ’no; ond dodd dim i neud, Bili odd yn gorffid myn’d.
 
Mwn boiti bump wthnos fi ddath llythyr orwtht Bili iddi i wed ’i fod a weti cyradd yn saff; ag fi wellws Misis Hwals lot ar ol hyny.
 

 

 

None 
(delwedd 4334) (5 Mehefin 1897)
(rhan XII)

Fi basws lot o fishodd nawr yto na ddigwyddws dim byd nellduol iddyn nhw; ond ’u bod nhw’n cial amball i lythyr orwtht Bili, yn gwed ’i fod a’n cial lot o arian yn ’Merica am ddyscu’r ffordd i’r Iancis i nithur tin; ag yn cynyg talu ’u pass nhw iddyn nhw gial dwad ato fa.
 
Rodd Misis Hwals yn fudur isha myn’d ato; ond “giad a man ’na, wst ti ble’n y byd bydd Wil erbyn bod ni yno,” odd i diad yn wed wthti.
 
“Ia,” eba hi, “giad a man ’na wyt ti’n wed yn wastod am William; ond tysa Ianto ’no ’n ’i le fa, fi fusa isha arnat ti fyn’d ’no eto”.
 
“Wel cera di ato d’hunan trw bod cwmint o whant arna ti,” eba fa.
 
“O af, af, gai di wel’d yto,” ’ba hi.
 
“O! ia, ia,” eba fynta, “cera di, cera di, os myn di.”
 
Felna oun nhw ’nawr jest yn rown; ag ar ol rhw hen whilia hing-hang felna, rodd Misis Hwals yn llefan, ag yn pwtu, falla, am wthnos o’r bron wtht Ianto.
 
Dodd petha fel hyn ddim i bara’n hir; rodd yn rhaid i Misis Hwals ne Ianto Shortar i gario’r dydd ne fatal a’u gilydd am byth; a matal a’u gilydd nethon nhw, ond mewn ffordd od ryfeddol.
 
Un pyrnawn yn y gwaith tin pun oun ni

 

 

None 
(delwedd 4335) (5 Mehefin 1897)
(rhan XII)

jest giatal no, rodd Ianto’r Shortar weti giatal; a dyma fa’n bwrw mas o’r tinhows at y melina, gial whilia rhwpath a Wil Sherwr.
 
Wtht ochor y melina, rodd Wil yn shero, fan’ny odd ’i sher a, yn cial ’i gwitho wtht strapan. Wel, pun oun nhw yn whilia a’u gilydd (am boiti fyn’d i’r Tinman’s ar o1 i Wil attal, wi’n specto), dyma’r strapau [sic; = strapan] yn tori, a dyma un o’r pena yn bwrw Ianto ar ’i dalcan spo fa’n dishigyn i’r llawr mor farw a hol; whimlws a ddim modfadd o’r man’ny. Fi rhytws rhwun i moyn y doctor, ag fi ddath hed mwn boiti dic; ond i neud dim ond gwed i fod a weti marw.
 
Nawr fi gishws y giaffar gian i fynd a’r newydd i Misis Hwals a’i dori a iddi mor dirion a gialswn i. Fi fusa’n well ’ta fi i rwun arath i fyn’d; ond trw bod y giaffar

 

 

None 
 
(delwedd 4339) (5 Mehefin 1897)
(rhan XII)

weti gwed wthto i, dodd gian i ddim i neud ond myn’d.
 
Pun etho i miwn i dy Misis Hwals, rodd hi yn hifad ciawl; fi nabyddws pun gwelws hi fi yn dwad miwn ’no bod rhwpath weti dicwdd.
 
“Be sy weti dicwddd yn y gwaith, Samwal,” eba hi, [“]oti Ianto biach weti gwanu i law i’r rhowl, ne beth?”
 
“Na nit hyny sy, pidwch cwmryd ofon, ma Efan Hwals weti cial ticyn o drwg.”
 
“Ianto weti cael drwg! Wtht beth neno dyn cias Ianto ddrwg?”
 
“Wtht strapau [sic; = strapan] y sher,” eba fi, “hono dorws.”
 
“Wel am neno dyn beth odd a’n moyn man’ny? Gwetwch oti a weti cial llwar?”
 
“Oti wir,” ’ba fi, “ma fa weti cial lot, ma fa weti cial - y gwir am dano, ma fa weti m- arw!”
 
“Rhoswch chi,” eba hi, “i fi gial cwpla hifad y ciawl ma, gewch chi glwad llisha spo’r ddiar yn crynu.”
 
(I’w barhau.)

 
 
+Pennod XIII Yn Ol Yn Y Fro (12 Mehefin 1897)

 

 

None
(delwedd 4366) (12 Mehefin 1897) (rhan XIII)


Papur Pawb, Mehefin 12, 1897.
IANTO’R SHORTAR

[Gian Fachgian o Fro Morgianwg.]

YSGRIF XIII. - YN OL YN Y FRO.

Af fi ddim i fod yn byrticilar i scyrfenu am boiti bopath ddigwyddws; ag am boitu bob whilia fuws amsar cias Ianto’r Shortar ’i ddiwadd. Dicon yw gwed i Misis Hwals gial dicon o amsar i gwpla hifad ’i chiawl cyn i’r pydlars gario Ianto sha thre, ag iddi nithur ’i gora i ddangos ’i gofid a’i gialar fod y peth weti dicwdd.

Rodd pobun yn timlo’n flin budur fod yr anhap weti dicwdd; achos, hen fachgian itha piwr odd Ianto’r Shortar; er ’i fod a dicyn biach yn rhyff witha; ond rodd pawb yn paso hibo i betha felny nawr.

Trw ta cial ’i ddiwadd nath a, rodd yn rhaid cial cwest arno; ag fi ddath crownar ’no o rhwle iddi giatw fa, yn y Tinmans; ag rodd gwr y Tinman’s a Moc, o’r Lion, yn ddou o’r jiwris.

Rodd duddag o jiwris no gyd. Roun nhw’n dduddag o ddynion ciall digynig hed; achos, tafarnwrs a shopwrs, tilwriad a

 

 

None
(delwedd 4367) (12 Mehefin 1897) (rhan XIII)

chryddion oun nhw gyd.

Beth bena, fi bason ar y cwest ta “Damwan” odd yr achos i Ianto’r Shortar gial ’i ddiwadd. Dodd dim o hanar pobol Glyndwynant yn cretu hyny, ishwt.

“Dyma odd ’i blaned a,” eba nhw, felny odd raid i betha fod, a felny odd raid iddo fynta fyn’d o’r byd ’ma. Roun nhw’n cretu bod ’i amsar a weti ’i gownto lan, a ta dyna gyd odd gita fa fyw; ag roun nhw’n anfolon budr i’r jiwris baso ar y cwest ta damwan odd hi.

Dodd dim iws ciatw dim trwst shwt, achos rodd y crownar o ochor y jiwris; ag rodd y crownar yn dallt y gyfrath i’r sixteen, eba nhw.

Rodd y gwaith tin a’r [sic; = ar] stop dwarnod yr angladd. Rodd y giaffar weti stopi’r gwaith i gial dangos ticyn o barch i Ianto achos roun nhw’ch deu weti bod yn hifad gita’n gilydd gianwaith.

Trw fod y gwaith ar stop a phopath, fi gias Ianto’r Shortar angladd fawr digynig; rodd yndi lond yr Eclws, ag rodd lot wetin ar y fynwant; allwch chi wpod ’i bod hi’n angladd gryf.

Yn fynwant yr Eclws wtht ochor ’i diad

 

 

None
(delwedd 4368) (12 Mehefin 1897) (rhan XIII)

a’i fam claddson nhw fa; ag rodd y ’ff’ir’ad yn gwed petha neis digynig wtht i gladdu fa hed.

Dyna fi weti scyrfenu’r ticyn hanas sy gita fi iddi ddwed am Ianto’r Shortar, heb i fi fynd i scyrfenu petha wi weti glwad o ben i ben am boiti ’ddo fa; ond ’naf fi ddim o hyny; achos wi ddim yn gwpod pun ne wir ne gelwdd fyddwn i’n scyrfenu.

Beth bena, pun odd Nel a fi jest cyradd y ty rol bod yn yr angladd; ni welsan rhw fenw ar gefan ceffyl yn dwad i gwrdd a ni; ag rodd rhw grotyn biach gita hi yn arwan pen y ceffyl.

Ron i’n gwpod mod i napod y fenw, ta pwy odd hi. Ron i’n napod wtht i shap hi mod i weti gweld hi yn rhwle a nes nes ato ni odd hi’n dwad o hyd.

“Pwy yw hongco, Nel,” eba fi, “wi’n ’i napod hi’n net ta, pwy yw hi?”

“Wn i ddim pwy yw hi,” eba Nel, “ma hi’n dishgwl yn itha tepig i dy fam o bell.”

“Ia, dyna pwy yw hi hed, a Shoni biach, Wil Sherwr, “gy gita hi.
Ia, wir, dyco hi’n

 

 

None
(delwedd 4369) (12 Mehefin 1897) (rhan XIII)

sefyll o flan yn ty ni! Be’ sy’n bod, wys?”

“O!” eba Nel, “wi ddim yn cretu bod dim mas o le, ne fusa hi ddim yn dwad yma o gwbwl.”

Pun ethon ni mlan jest ar ’i phwys hi: “O! mlant biach anwl i,” eba hi, “shwd ych chi? Wi weti dwad i gial ych gweld chi, shwd ych chi?”

“Wel, da digynig, mam,” eba fi, “dish- gynwch a dewch i’r ty, shwd ma nhiad yco; byw ne farw yw a?”

“O!” eba hi, “ma dy diad yn fyw i wala, machgian i, trw drugaradd.”

Erbyn bod hi’n gwed felna, rodd y mam weti dishgyn, a Nel yn citcho yn ’i braich hi, ag yn mynd a hi miwn i’r ty gianti; ag fi gymras ina’r ceffyl off sha stapal y Lion - dodd dim stapal wtht y Tinman’s i gial.

Weti setlo am le’r ceffyl ’no ys busa ’i isha fa wetin, fi eitho i nol sha’r ty; a dyna lle’r odd Nel a mam yn hifad te ’i chalon hi; ag yn ’i gwed hi fel sa nhw mwn cwrdd politics.

I fod yn fyr, necas y mam odd dwad i moyn i a Nel nol i’r Fro atyn nhw i fyw ar y ffarm.

 

 

None
(delwedd 4370) (12 Mehefin 1897) (rhan XIII)

Rodd y nhiad weti colli ’i iechyd achos ffili cysgu a becso am boiti fi; ag rodd a weti madda’r cwbwl i fi a Nel am byth.

Pun ath a nol sha thre o ffair Penybont y dwarnod hyny priotson ni, ych chi’n cofio: fi ’nath ’i wllys yn gwmws i nghendar; wetin fi ath i fecsio am ’ny, a wetin i ffilli cysgu’r nos.

Wtht i weld a felny, fi cynghorws mam a fynd i flongo i’r cwrdd ag un noswith fi ath sha seiat cwrdd y Methadis i moyn lle no; ag fi lwws ynta’r cwbwl wthtyn nhw no, beth odd yn ’i flino, a ffor odd a weti pechu gyd.

Weti cial clywad hyny, fi cynghorson nhwnta fa i newid i wllys, a madda i fi a Nel; bod ni weti mynd nol y drefan fawr; ag am iddo hala’n moyn ni nol, ag wetin celsa fa ddwad i flongo iddi cwrdd nhw.

Dyna odd necas y mam nawr, odd, dwad i fecan arnom ni ddwad nol i fyw i’r Fro er mwyn i nhiad gial gwella a chial lle i fynd i flongo at y Methadis i Moriah.

 

 

None
(delwedd 4371) (12 Mehefin 1897) (rhan XIII)

Ron i’n giatal ar Nel i wed ffor odd ora ni neud, ag rodd hitha’n giatal hyny arna i; ond bora dronoth, dyma Nel yn gwed wthto i: “Fydda well i ni fynd nol i’r Fro falla, Samwal; achos, ta dy diad yn ffili gwella ni fyddan yn becso yto fel ma fa nawr, yn bod ni weti pallid mynd no.”

“Wel, yn gora ni awn ’ta,” eba fi, a felny setson ni; ag mwin llai niag wthnos weti’ny, roun ni weti gwerthu yn celfi, ag weti symud yn hunen nol i’r Fro.

Rodd yr hen ddyn yn falch digynig i’n gweld ni’n dwad ag fi wellws wetin bob dydd, ag fi ath i flongo i Moriah ag, fi nethon nina yn gora ar y ffarm.

Un dwarnod, pun on i yn Penybont ar necas, pwy welswn i’n dwad trw’r dre i gwrdd a fi, ond Wil Sherwr; pun gwelws a fi, dyma fa’n gwiddu: “Holo ’rhen gerdyn, shwd ych chi slwar dydd w?”

“Da digynig,” eba fi, gian roid yn llaw iddo, “shwd ych chi, a shwd ma hi’n mynd mlan sha Glyndwynant yco?”

“Wel wi’n biwr, thengciw,” odd yr atab, “ond dyw hi ddim yn dda nawr yn Glyndwynant: ma’r gwaith tin weti stopi.”

“Cerwch ona,” eba fi.

 

 

None
(delwedd 4372) (12 Mehefin 1897) (rhan XIII)

“Oti, wir,” eba fa, “ma tariff MacCinli weti distrwa trad y gwitha tin, ma’r gwitha tin yn stopid o’r bron, dyn.”

Wtht i glwad a’n gwed am MacCinli, fi gofias am dylu Ianto’r Shortar; a ’ba fi wthto: “Ma clwad son am MacCinli yn yn hala i gofio am Ianto’r Shortar. Shwd ma Misis Hwals yco nawr, fi gias gollad budur.”

“Do,” eba fa, “ond don i’n meddwl dim am yr hen filgi hyny nawr wtht -.”

“Na, na,” eba fi, “wi’n gwpod, ond shwd ma Misis Hwals yco?”

“Diar anwl, dyn, fuws hi ddim tri mish yco ar ych hol chi; fi halws Bili ’i moyn hi a Meri a Ianto biach sha ’Merica, ag yno ethon nhw, pac and bagedj.”

“Ia,” eba fi, “gwetwch yto, odd y ffitsis yn blino llwar arni’r amsar wetha?”

“Nia,” eba fa, dan wherthin, “rodd y ffitsis weti giatal hi; ne rodd hi weti giatal y ffitsis, falia.

Weti whilia ticyn felna am boiti’r peth hyn a’r peth arath; ag am boiti hwn a’r nall, ni ffarwelson a’n gilydd, fel wi’n mynd i neud nawr a chi, darllenwrs “Papur Pawb.”

CYNWAL.


 

4347_170414_ianto-r-shortar_RHAN-1_papur-pawb_20-03-1897_01.png
4348_170414_ianto-r-shortar_RHAN-1_papur-pawb_20-03-1897_02.png
4349_170414_ianto-r-shortar_RHAN-1_papur-pawb_20-03-1897_03.png
4350_170414_ianto-r-shortar_RHAN-1_papur-pawb_20-03-1897_04.png
4351_170414_ianto-r-shortar_RHAN-1_papur-pawb_20-03-1897_05.png
4352_170414_ianto-r-shortar_RHAN-1_papur-pawb_20-03-1897_06.png
 
4354_170415_ianto-r-shortar_II_23-03-1897_papur-pawb_1.png
4355_170415_ianto-r-shortar_II_23-03-1897_papur-pawb_2.png
4356_170415_ianto-r-shortar_II_23-03-1897_papur-pawb_3.png
4357_170415_ianto-r-shortar_II_23-03-1897_papur-pawb_4.png
4358_170416_ianto_III_papur-pawb_03-04-1897_1.png
4359_170416_ianto_III_papur-pawb_03-04-1897_2.png
4360_170416_ianto_III_papur-pawb_03-04-1897_3.png
4361_170416_ianto_III_papur-pawb_03-04-1897_4.png
4362_170416_ianto_III_papur-pawb_03-04-1897_5.png
4363_170416_ianto_III_papur-pawb_03-04-1897_6.png
4382_170419_ianto-r-shortar_IV_papur-pawb_10-04-1897_01.png
4383_170419_ianto-r-shortar_IV_papur-pawb_10-04-1897_02.png
4384_170419_ianto-r-shortar_IV_papur-pawb_10-04-1897_03.png
4385_170419_ianto-r-shortar_IV_papur-pawb_10-04-1897_04.png
4386_170410_ianto-r-shortar_V_papur-pawb_17-04-1897-01.png
4387_170410_ianto-r-shortar_V_papur-pawb_17-04-1897-02.png
4388_170410_ianto-r-shortar_V_papur-pawb_17-04-1897-03.png
4389_170410_ianto-r-shortar_V_papur-pawb_17-04-1897-04.png
 
4393_ianto-r-shortar_VI_papur-pawb_24-04-1897-01.png
4394_ianto-r-shortar_VI_papur-pawb_24-04-1897-02.png
4395_ianto-r-shortar_VI_papur-pawb_24-04-1897-03.png
4396_ianto-r-shortar_VI_papur-pawb_24-04-1897-04.png
4397_ianto-r-shortar_VI_papur-pawb_24-04-1897-05.png
B3674_ianto-r-shortar_VII_papur-pawb_01-05-1897_180107
B3674_ianto-r-shortar_VIII_papur-pawb_01-05-1897_180107

4374_170418_ianto-r-shortar_IX_papur-pawb_15-05-1897_1.png
4375_170418_ianto-r-shortar_IX_papur-pawb_15-05-1897_2.png
4376_170418_ianto-r-shortar_IX_papur-pawb_15-05-1897_3.png
4377_170418_ianto-r-shortar_IX_papur-pawb_15-05-1897_4.png
4378_170418_ianto-r-shortar_IX_papur-pawb_15-05-1897_5.png
4379_170418_ianto-r-shortar_IX_papur-pawb_15-05-1897_6.png
4380_170418_ianto-r-shortar_IX_papur-pawb_15-05-1897_7.png

4340_ianto-r-shortar_papur-pawb_X_22-05-1897_1.PNG
4341_ianto-r-shortar_papur-pawb_X_22-05-1897_2.PNG
4342_ianto-r-shortar_papur-pawb_X_22-05-1897_3.PNG
4343_ianto-r-shortar_papur-pawb_X_22-05-1897_4.PNG
4344_ianto-r-shortar_papur-pawb_X_22-05-1897_5.PNG
4345_ianto-r-shortar_papur-pawb_X_22-05-1897_6.PNG
4346_ianto-r-shortar_papur-pawb_X_22-05-1897_7.PNG

4307_170408_papur-pawb_29-05-1897_XI_ianto-r-shortar1.PNG
4308_170408_papur-pawb_29-05-1897_XI_ianto-r-shortar2.PNG
4309_170408_papur-pawb_29-05-1897_XI_ianto-r-shortar3.PNG
4310_170408_papur-pawb_29-05-1897_XI_ianto-r-shortar4.PNG
4311_170408_papur-pawb_29-05-1897_XI_ianto-r-shortar5.PNG
4312_170408_papur-pawb_29-05-1897_XI_ianto-r-shortar6.PNG
4313_170408_papur-pawb_29-05-1897_XI_ianto-r-shortar7.PNG
4314_170408_papur-pawb_29-05-1897_XI_ianto-r-shortar8.PNG
4315_170408_papur-pawb_29-05-1897_XI_ianto-r-shortar9.PNG
 
4333_170413_ianto-r-shortar_papur-pawb_XII_05-06-1897_1.PNG
4334_170413_ianto-r-shortar_papur-pawb_XII_05-06-1897_5.PNG
4335_170413_ianto-r-shortar_papur-pawb_XII_05-06-1897_6.PNG
4336_170413_ianto-r-shortar_papur-pawb_XII_05-06-1897_2.PNG
4337_170413_ianto-r-shortar_papur-pawb_XII_05-06-1897_4.PNG
4338_170413_ianto-r-shortar_papur-pawb_XII_05-06-1897_3.PNG
4339_170413_ianto-r-shortar_papur-pawb_XII_05-06-1897_7.PNG

4366_ianto-r-shortar_papur-pawb_XIII_12-06-1897-1.png
4367_ianto-r-shortar_papur-pawb_XIII_12-06-1897-2.png
4368_ianto-r-shortar_papur-pawb_XIII_12-06-1897-3.png
4369_ianto-r-shortar_papur-pawb_XIII_12-06-1897-4.png
4370_ianto-r-shortar_papur-pawb_XIII_12-06-1897-5.png
4371_ianto-r-shortar_papur-pawb_XIII_12-06-1897-6.png
4372_ianto-r-shortar_papur-pawb_XIII_12-06-1897-7.png

 ....

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
ā
Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ /
ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
wikipedia, scriptsource. org
.....
Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:
www. kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_105_ianto-r-shortar-1897_01_0079k.htm

---------------------------------------
Ffynhonnell / Font / Source: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Papurau Newydd Arlein.
Creuwyd / Creada / Created: 11-04-2017
Adolygiadau diweddaraf /
Darreres actualitzacions / Latest updates: 02-02-2026, 07-01-2018, 11-04-2017
Delweddau / Imatges / Images:

Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait



Sumbolau:
ā ǣ ē ī ō ū / ˡ ɑ æ ɛ ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː æː eː iː oː uː / ɥ / ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / ә ʌ ŵ ŷ ẃ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www. kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_105_ianto-r-shortar-1897_01_0079k.htm
 
 
---------------------------------------
Creuwyd: 11-04-2017
Adolygiad diweddaraf : 18-04-2017 11-04-2017
Delweddau:
---------------------------------------
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait