2764k Y Ffraethebwr yn cynnwys Casgliad o Ffraeth-ddywediadau, Byr-Chwedleuon,
&c.. Blwyddyn 1908..
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_088_y_ffraethebwr_2764k.htm
0001 Yr Hafan Google: kimkat0001
..........1863k Y Fynedfa yn Gymraeg Google: kimkat1863k
....................0009k Y Barthlen Google: kimkat0009k
..............................0960k
Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai Google: kimkat0960k
........................................y tudalen hwn
|
Gwefan
Cymru-Catalonia |
|
(xclawr)
Y Ffraethebwr
Sef FFRAETH-DDYWEDIADAU, BYR-CHWEDLAU, &c.
Caerfyrddin
Cyhoeddwyd gan W. M. Evans a’i Fab, Swyddfa “Seren Cymru.”
Pris Chwe Cheiniog
(x01)
Y FFRAETHEBWR: Yn Cynnwys Casgliad o Ffraeth-Ddywediadau, Byr-Chwedleuon,
&c
Caerfyrddin: W. M. Evans a’i Fab, Swyddfa “Seren Cymru.”
1908.
(x02)
(x03)
Y Ffraethebwr.
Y Corff a’r Meddwl ar wahân.
Adroddir am Sir Isaac Newton, ei fod unwaith yn brysur yn ymdrechu solvo
rhyw broblem ddyrus — mor brysur yn wir — nes i’r alwad at ei
foreufwyd fyned heibio yn ddisylw ganddo. Galwyd ef drachefn a thrachefn, ond
ni syflai ef o’i ystafell. Yn ofni rhag i’w hir ympryd effeithio ar ei iechyd,
aeth y forwyn ag ŵy i’w ystafell, gyda’r bwriad o’i ferwi iddo. Ond Newton,
yn ewyllysio cael llonyddwch, a ddywedodd y berwai ef yr ŵy. Gadawodd y
forwyn y saucepan a’r dwfr yn yr ystafell, a chyfarwyddodd ei meistr i ferwi’r
ŵy am dair mynyd. Yn mhen ychydig, aeth y forwyn i’r ystafell drachefn,
rhag ofn ei fod wedi anghofio, a dyna lle yr oedd ei meistr, mewn dwfn fyfyrdod,
a’r ŵy yn ei ddwrn, a’r watch yn berwi yn y saucepan.
------------------------------------
Diffyg sylw
Yr ydym wedi gweled ceffylau gannoedd
o weithiau ac etto nid ydym wedi sylwi ar ba ochr iddynt y mae fwyaf o flew. Ar
yr ochr allanol, bid siwr.
------------------------------------
Dywedir i’r ddau hen Bregethwr, Christmas Evans a John Herring, gyfarfod â’u
gilydd rywdro yn yr Haf, ar ben rhyw fynydd. “Wel, dyma beth rhyfedd, Nadolig
yn nghanol yr Haf,” ebe Herring. “Rhyfeddach o lawer yw gweled Penogyn ar ben mynydd,”
ebe Christmas arab; ac felly yr oedd, mewn gwirionedd, yn gymaint ag fod
Nadolig Awstralia yn anterth yr Haf.
(x04)
Deugain Mil o Ddoleri.
Yn un o ddinasoedd mawrion yr Unol Dalaethau, digwyddodd i hen ŵr
oedranus iawn fod ar un ochr i’r heol, ac yr oedd am fyned yn groes i’r ochr
arall ond nis gallai gan gymaint y fasnach oedd yn myned yn mlaen ar hyd yr
heol. Gwelodd rhyw ŵr ieuanc benbleth yr hen ŵr, ac aeth yn mlaen
ato. Wedi deall yr hyn oedd arno ei eisiau, cludodd ef yn groes, a gosododd ef
yn ddiogel ar yr ochr arall o’r heol. Bu yr hen ŵr farw heb fod yn hir ar
ol hyny, a gadawodd ddeugain mil o ddoleri i’r gŵr ieuanc caredig hwn. Dywedir
fod yr hen bobl wedi cael amser lled fywiog yn y ddinas hono am amser maith ar
ol hyny, oblegid clywodd pobl ieuainc y lle am y tro uchod, a gwnaethant yn
bwynt i edrych allan am hen bobl. Pan welai gŵr ieuanc hen ŵr ar yr
heol, elai ato, a chludai ef yn groes i’r ochr arall, pa un bynag a fyddai ef
am fyned ai peidio. A chyn gynted ag y gosodid ef ar lawr, gwelid ef gan rhyw ŵr
ieuanc arall, yr hwn a’i cludai yn ol i’r ochr arall, ac felly yn y blaen. Wrth
gwrs, y deugain mil doler uchod oedd yr achos o’r mwstwr.
------------------------------------
Gofynai Dr. Arthur Jones, o Fangor, i gyfaill rywdro, “Yn mha le y mae y
Gymmanfa i fod nesaf, deudwch?” “Yn Lleyn, Mr. Jones.” “Da iawn; y mae hi yn
ddigon dilun er’s talm.”
------------------------------------
Gamgymeriad. — Adroddir chwedl am Syr Robert Vaughan o Nannau, yr hwn oedd yn
dra hoff o chwedleua â phawb ar y ffordd, ei fod un diwrnod yn chwilio am
ddafad aethai ar grwydr. Cyfarfyddodd hogyn a gyfrifid braidd yn ddiffygiol yn
ei gasometer, i’r hwn y gofynodd, “A welaist ti yr un ddafad, fy machgen
i, a V ar ei chefn hi?” “Dyn anwyl,” ebe y bachgen, “na welais i yn siwr yr un ddafad
yn ddigon cryf i’ch cario chwi, Syr.”
------------------------------------
(x05)
Pabydd. — Yn mha le yr oedd
crefydd cyn Luther?
Protestant. — A ddarfu i chwi oichi eich gwyneb heddyw?
Pabydd. — Do,
Protestant. — Yn mha le yr oedd eich gwyneb cyn i chwi ei olchi?
------------------------------------
Gwyrth Rifyddol.
Gallwch beri cryn ddifyrwch i gwmpeini trwy ddywedyd y medrwch fynegi faint
fydd cyfanswm pum rhestr o rifnodau, a hyny ar unwaith ar ol i chwi weled
y rhestr gyntaf. Dyma’r ffordd i wneyd hyny:— Meddyliwch fod cyfaill yn dangos
y rhestr ganlynol o rifnodau, 768258. Yn awr, ceir allan yr hyn fydd y cyfanswm
(total) trwy ychwanegu “
763258
.......
.......
.......
.......
-------
2985478 Y Cyfanswm,
-------
Ceisiwch gan eich cyfaill i beidio defnyddio y rhifnod “
763258
187834
923276
875348
235762
------
2985478 = Y Cyfanswm fel y nodasoch i’ch cyfaill yn mlaen llaw.
Dyma ddau engraifft arall
rhag ofn fod rhywbeth yn dywyll yn yr uchod.
Rhestr eich cyfaill ...... ............................................................2674.....368943
Rhestr eich cyfaill ................................... ...............................2345.....468748
Eich rhestr chwi . ....................................................................8765.....642362
Rhestr eich cyfaill. .................................................................
4463.....541896
Eich rhestr chwi ................................. ....................................6647.....569214
Y Cyfanswm fel y nodwyd yn mlaenllaw: ...........................24894....2591163
------------------------------------
Y Ddwy Wraig.
Dywedir i ddyn, ychydig dros ganol oed, a’i wallt yn dechreu britho, briodi
dwy wraig, — un yn ieuanc yn nghanol ei phrydferthwch, a’r llall yn hen a’r
pren almon yn blodeuo. Yn lled fuan ar ol hyn, gwelwyd y gŵr yn myned
oddiamgylch yn hollol foel. Fel hyn y bu. Yr oedd y wraig ieuanc, bob
tro y celai gyfleu yn pigo allan y gwallt gwyn oddiar ei ben, er mwyn ei
gadw yn ieuengaidd yr olwg, fel hi ei hunan. Yr un modd, yr henaf, bob
tro y celai gyfleu, a bigai allan y gwallt du, er mwyn ei wneyd yn henaidd yr
olwg, fel hi ei hunan.
------------------------------------
(x07)
Aeth Jonathan Hughes o Llangollen, i ffair Porthaethwy, a chlywai fod y Bardd
Coch yno gyda gỳr o wartheg, a mawr oedd ei awydd am ei weled, a chan na
adwaenai ef mo hono, âi oddiamgylch y ffair o’r naill ỳr at y llall, a
holai geidwad pob un o honynt, fel pe buasai yn borthmon, am bris y gwartheg,
ac wrth ymadaw, dywedai, —
....................................Ebrwydd y cân y Bardd Coch;
ac wedi myned drwy’r ffair at y g gỳr olaf heb gael ateb, treiai hi yno,
gan ddyweyd yr un peth, sef,—
....................................Ebrwydd y cân y Bardd Coch,
pan yr atebwyd ef yn eithaf
annysgwyliadwy, ond yn hynod o dderbyniol, fel hyn, —
....................................Sad a gweddus, sut y gwyddoch?
Ni raid d’weyd mai y Bardd Coch oedd yr atebwr.
------------------------------------
Areithydd unwaith a siaradai o blaid gwraig. “Gwraig anwyl a duwiol,” meddai,
gan derfynu fel y canlyn:— “O! fy ngwrandawyr anwyl, coeliwch fi, ‘does dim yn curo
gwraig dda.” “Begio’ch pardwn, Syr,” atebai un o’r gwrandawyr, “mae gwr drwg
yn gwneyd”
------------------------------------
“Yr ydwyt yn myned yn deneu iawn, fy machgen,” meddai mam dyner wrth ei mab un
diwrnod. “ Ydwyf fy mam,” oedd yr atebiad, “ac yr ydwyf yn dysgwyl y gellwch
weied fy asen cyn bo hir.” Yr oedd y gwalch ar fyned i briodi.
------------------------------------
Aeth gwr o Dderwen i’r cynhauaf i Sir Amwythig rywdro, lle y byddai amryw
fedelwyr o bentref Helygen yn arfer gweithio. Wrth weled y dyn braidd yn anfedrus
gyda’i gryman, gofynodd y ffermwr iddo, “O b’le y dywedasoch eich bod yn d’od?”
“O Dderwen, Syr,” ebe yntau. “O Dderwen, aïe? yn wir, mi welais eich trech wedi
dyfod o Helygen cyn hyn.”
(x08)
Mr. Pugh o Fostyn, a Mr.
Price o Ddinbych, a newidiasant bwlpudau ryw Sabbath, a phan gyfarfyddasant
foreu dydd Llun ar fynydd Helygen wrth ddychwelyd adref, agorodd Mr. Pugh dân
ar Mr. Price yn uniongyrchol, yn ol ei arfer. “Wel, Price, sut a fu arnoch yn
Mostyn acw, a ddaeth rhywun i’ch gwrando?” Mr. Price, yntau yn llawn o
ddireidi, a atebodd, “Nid oeddych wedi fy nghyhoeddi I i bregethu, Mr. Pugh; yr
oedd pawb yn meddwl mai chwi oedd i fod yno, ac felly yr oedd y Capel yn haner
gwag.” Gwelodd Mr. Pugh yr ergyd, wrth gwrs, a phenderfynodd dalu yn ol gyda
llôg. “Sut fu hi arnoch chwi yn Ninbych acw, Mr. Pugh?” “Sut y bu hi? Ni welsoch
chwi erioed y fath sut.” “Beth oedd,” gofynai Mr. Price drachefn, “a oedd yno
lawer o bobl?” “Llawer! llawer! miloedd allan! miloedd allan!” ebe’r arabyd
bywiog, a theimlai Mr Price ei fod wedi ei drechu ar ei dir ei hun.
------------------------------------
“Wrth drafaelio o Rhyl, cyfarfu Mr. B-- â Chlwydfardd, (yr hwn fel y gwyddis
sydd bell-hanger wrth ei gelfyddyd) . Ebe Mr. B-- “Y mae rhywbeth ynot
Clwydfardd yn tebygu i Calcraft.” “Aïe,” ebe Clwydfardd. “Oes; C ydyw y
lythyren gyntaf yn enw Calcraft, ac C ydyw y lythyren gyntaf yn dy enw di.
Crogi yw gwaith Calcraft, a chrogi yw dy waith dithau.” “Digon tebyg,” ebe
Clwydfardd, “ond bod hyn o wahaniaeth — crogi bywiolion i dewi y bydd Calcraft,
a chrogi marwolion i ganu byddaf finau.”
------------------------------------
“Yn yr oes o’r blaen pan nad oedd na meirch tanllyd na rheilffyrdd mewn bod, na
nemawr o gyfleusderau i deithio fel sydd yn bresenol, cychwynai yr hen fardd
John Thomas o Bentrefoelas, ar ei draed am Lynlleifìad, a chyrhaeddai Heol Mostyn
erbyn machludiad haul; cafodd lety mewn tafarn yno, ac ar ol myned i’r gwely,
ni chafodd fawr o lonydd i orphwys ar ol eî daith luddiedig — ymosodai y bugs
(x09) arno, gan ei bigo yn erchyll, a’i
yspeilio o’i waed yn ddidrugaredd; ond ni wyddai yr hen Fardd mai bugs oeddynt,
tybiai mai rhyw rywogaeth o chwaen creulawn oeddynt; ac yn nghanol ei ofidiau
tost, llefai allan, Mwrdwr! nes oedd y tŷ yn diaspedain. “Holo,” ebai gwr
y tŷ, “beth yw’r mater?” pan yr atebai y Bardd merthyredig —
..........”Achwyn ‘rwyf ar chwaen yn uchel — yn Mostyn
...............Dan ‘mestyn fy hegel;
.. .........Cosi sy’ dan bob cesel,
, ..........Ffowla o hyd, ond ffaelio hel.”
------------------------------------
Dywedir fod y diweddar John Jones, Edeyrn, yn myned trwy bentref Llanystumdwy
un bore, ac iddo droi i dafarndŷ i gael gwydraid o gwrw, yr hwn nid oedd o’r
fath oreu. Wrth ddychwelyd yn yr hwyr, trodd i’r un tŷ, a galwodd am
wydraid arall, pryd yr hysbyswyd ef gan y wraig fod y cwrw wedi darfod! “Nid
wyf yn rhyfeddu dim,” ebe John, “oblegyd yr oedd yn wan iawn pan oeddwn
yn pasio heibio y bore.”
------------------------------------
Twm o’r Nant oedd yn ymrafaelio un tro gyda Siamas o Wynedd, yr hwn oedd yn
enedigol o Glocaenog, gerllaw Rhuthyn. Edliwiai Twm iddo ei fod yn perthyn i’r
hen Simon yr hangmon, o Glocaenog, i’r hyn yr atebodd Siamas —
...................”Nid ydyw Simon’r hangmon
......................Mewn moddion, ddim i mi;
...................Ond gresyn garw iddo farw
......................Cyn tagu d’wddw di!”
------------------------------------
Yr oedd dau Wyddel rywbryd yn yr un carchar — un am ddwyn oriawr, a’r llall am
ddwyn buwch. Yr olaf a alwai ar y blaenaf un diwrnod, “Pa faint yw o’r gloch ar
dy oriawr, Pat?” I’r hyn yr atebodd y blaenaf, “Nid oes genyf foddion i wybod i
sicrwydd heddyw, ond gallwn feddwl ei bod yn agos i amser godro!”
(x10)
Dywedwyd wrth un ffraeth unwaith fod cyfaill iddo wedi myned i briodi. “Da iawn
genyf glywed,” oedd yr ateb. Wedi sefyll mewn myfyrdod am beth amser, dywedodd
drachefn, “Wn i ddim paham y rhaid i mi lawenhau ychwaith yn mhriodas fy
nghyfaill, ni wnaeth efe erioed ddim drwg i mi.”
------------------------------------
Tro digrif.
Rhoddodd dyn ieuanc hysbysiad mewn
newyddiadur fod eisieu gwraig arno. Cafodd dri-ugain a dau o atebion — oll oddiwrth
wŷr, yn cynnyg eu gwragedd hwynt iddo.
------------------------------------
Bachgen llawen a eisteddai unwaith ar giniaw yn nesaf at foneddwr oedd wedi
helpu ei hun â darn anarferol o fawr o fara; rywbryd yn ystod y giniaw, efe a
ymaflodd yn y bara, pryd y gwaeddodd y boneddwr, “Aroswch Syr, fy mara i yw
hwnyna.” “O, felly yn wir,” meddai y cellweiriwr, “meddyliais. mai y dorth ydoedd.”
------------------------------------
Blacking esgidiau.
Cymmysger y pedwar peth hyn nes
gwneyd math o paste o honynt. 12 wns o ivory black, 1 wns o’r olive
oil goreu, ½ pwys o treacle, i wns o gum arabic maluriedig.
Ychwaneger yn raddol, ddau gwart o vinegar at y paste uchod.
Cymmysger yr oli yn dda. Yna cymmerer 1½ wns o sulphuric acid, ac ychwaneger ef
yn raddol, gan ei gymmysgu fel y gwnawd a’r vinegar. Bydd genych yn awr
y Blacking goreu at wasanaeth eich hun a’ch cym’dogion, os mynant beth. Cadwer
ef mewn llestr a chlawr arno fel na bo baw yn myned iddo.
------------------------------------
“Rhedai bachgen ymaith nerth ei draed mewn dychryn, wedi taflu careg trwy
ffenestr cymydog a’r cymydog ar ei ol. O’r diwedd daliodd y dyn ef, ac â gafael
yn ngholer y llanc dychrynedig, dywedai, (x11) “Oni
wyddost ti dy fod wedi tori fy ffenestr yn ddrylliau, was?” Atebodd y bachgen
ef, bron colli e anadl, “Gwn Syr, ac yr oeddwn yn rhedeg ar fy ngoreu i geisio
arian i dalu i chwi am dani.”
------------------------------------
Mantais Penfoelni. — “Yr
ydych y bachgen mwyaf hurt ydwyf yn adnabod,” ebai ewythr penfoel, mewn tymher
groes, wrth ei nai. “Wel,” ebe’r bachgen, gan daflu trem ar ben moel ei ewythr,
“nis gellwch ddysgwyl i mi ddeall pethau mor gyflym â chwi, oblegyd nid oes
arnoch chwi y drafferth o’u cael trwy eich gwallt.”
------------------------------------
“Gofynodd Ysgotiad i Wyddel
paham yr oeddent yn bathu ffyrlingau yn Lloegr; ac ateb parod y Gwyddel oedd, “I
roddi cyfleusdra i Ysgotiaid i gyfranu at sefydliadau daionus.”
------------------------------------
Ffordd ragorol i bigo cynnen.
Cludwch ysgol weddol o hir ar eich ysgwydd ar hyd heol lle bo llawer o
bobl, ac edrychwch yn ol yn awr ac eilwaith i weled pwy sydd yn gwneyd ystumiau
tu ol i’ch cefn.
------------------------------------
Yr Unfed-ar-ddeg Gorchymyn.
Gofaled pob un am ei orchwyl ei hun, a gadawed orchwylion pobl ereill yn
llonydd.
------------------------------------
Nid ffordd yna. — “Cadben, pa bryd ydych yn cychwyn?” gofynai teithiwr
diamynedd ar fwrdd agerlong oedd yn aros i’r niwl glirio. “Mor gynted clirio y
niwl,” meddai y cadben. “Wel, mae yn serlo ‘nawr uwchben,” atebai y dyn. “Ydy’,
ydy’,” ebai y Cadben, “ond nid ffordd yna yr ydym yn myned.”
------------------------------------
Curo doctor. — “Yr oedd gwraig tafarn unwaith wedi codi yn mhen ei gwr, ac mewn
cythrwfl, wedi crafu ei wyneb nes oedd ei waed yn rhedeg, gyrwyd am y Dr. i
heddychu rhyngddynt. “ A oes dim (x12) cywilydd
arnoch, madam,” ebai’r Doctor, “i drin eich gwr fel hyn — y gwr yr hwn yw pen y
wraig?” “Wel Doctor,” ebai’r wraig, “a oes dim hawl gan wraig i grafu ei phen
ei hun?”
------------------------------------
“Yn mha le y mae dedwyddwch
bob amser i’w gael? Yn y Geiriadur.”
------------------------------------
Paham y mae yr adar yn y Gwanwyn yn debyg i’r Banciau? Am eu bod yn rhoddi
allan nodau addawol (promissory notes) .
------------------------------------
Pan yr oedd Gwallter Mechain
yn ddyn ieuanc, arferai fyned i dafarn y Lion, ac yr oedd yno gadair yr hon
oedd wedi ei neillduo iddo. Un noson daeth Twm y Gro i’r tŷ, ac eisteddodd
yn y gadair, ond yr oedd yn rhaid iddo godi o honi, neu wneyd Englyn i Isaac
Cydwybod, yr hwn oedd grydd o ran celfyddyd, pan y daeth Walter i mewn. Dyna
Twm ar ei draed wedi gwneud y ddwy linell ganlynol:—
........................”Isaac ddinac sydd ddyn — naturiol,
..............................Yn tori’r croen gwydyn.”
“ Gorphen dio Walter,” ebe Twm. “Nid oes gorphen heb ddechreu,” ebe Walter: “ond
gad ei ail-glywed.” Adroddodd Twm hwynt wed’yn, ac yn y fan dyma Gwallter a’r
ddwy linell a ganlyn:—
........................ “I wsia gydwybod ci dobyn,
... ...........................Dod ledr o dan lodrau’r dyn.”
Gan fod gorphen, yr oedd yn rhaid bod dechreu, felly honodd Twm y gadair.”
------------------------------------
Christmas Evans a’i Gaseg Wen. — Pan oedd y diweddar Christmas Evans yn
gweinidogaethu yn Môn, galwyd am dano i bregethu mewn cyfarfod mawr yn Sir
Gaernarfon. Daeth, a phregethodd amryw weithiau. Wedi i’r cyfarfod ddarfod, a
phan oedd yr hen bererin yn hwylio ei hun tua chartref, daeth un o’r diaconiaid
ato, a dywedodd wrtho ei fod ef a’r (x13) eglwys
yn bur ddiolchgar iddo am ddyfod yno, ac am ei bregethau gwlithog; “ Ond,”
meddai, “yr ydym yn hynod o d’lawd fel nas gallwn fforddio rhoddi dim ond diolch
ì chwi am ddyfod — cewch eich talu eto yn adgyfodiad y rhai cyfiawn.” “Hy, hy,
hy, — caf, caf, caf,” ebai yr hen ffraethebydd yn ddigon pesychlyd, “ond y mae
traul wedi myned ar yr hen gaseg wèn — tâl am y feed, a thâl am y gates,
ac y mae wedi trafaelio yn galed i’m cario yma atoch chwi. Ni ddywedaswn ddim
yn erbyn tâl yn adgyfodiad y rhai cyfiawn, ond fydd yr hen gaseg wèn ddim efo
fi yn y farn i gael share o’r taliad, gan hyny dylai hi gael ei thalu yn
awr, a minau aros hyd yr amser hwnw.” Hollol gyfiawn, onide?
------------------------------------
Yfed Dwfr trwy’r Bwrdd.
Gosoder gwydraid o ddwfr ar fwrdd, ac
yna rhodder het un o’ch cyfeillion arno. Dywedwch yn awr y medrwch yfed y
gwydraid dwfr heb i chwi symud yr het.
Fel hyn. Ewch o dan y bwrdd a gosodwch eich genau o dan y man lle y mae’r
gwydraid dwfr, a gwnewch sŵn a’ch hanadl fel be baech yn yfed rhywbeth.
Yna deuwch allan oddi tan y bwrdd a dywedwch, “Dyna,” fel pe baech wedi cwblhau
y gwaith. Ar hyn bydd un o’ch cyfeillion, yn cael ei gymhell i hyny gan
gywreinrwydd, yn sicr o symud yr het er mwyn gweled os yw y dwfr wedi myned. Yn
awr gafaelwch yn y gwydryn ac yfwch y dwfr, a byddwch wedi cyflawni yr hyn a
ddywedasoch, sef yfed y dwfr heb i chwi symud yr het.
------------------------------------
Boneddwr, mewn ciniaw gyhoeddus, a ofynodd i un a eisteddai yn ei ymyl, “A
fyddwch chwi mor garedig ag estyn y mwstard i mi?” “Syr,” oedd yr ateb, “yr
ydych wedi camgymeryd trwy feddwl mai y gwaetiwr ydwyf.” “Na,” meddai y llall, “camgymerais
trwy feddwl mai gwr boneddig oeddych.”
(x14)
“Fel yr oedd y Parch. J. Williams, Llecheiddior, yn marchogaeth yn Sabbath tua
Chapel yn nghymydogaeth y Garn, i bregethu, gwelai fachgen o ddullweddiad lled
henaidd yn myned o’i flaen hyd y ffordd. Wedi ei oddíweddu, efe a ofynodd iddo,
“I ba le yr wyt ti yn myned, machgen i?” “I’r Capel,” oedd yr ateb. “Pwy sydd
yn pregethu yn y Capel heddyw?” “John Williams, Llecheiddior,” ebai y bachgen. “Sut
bregethwr ydi o?” “Symol,” meddai y bachgen. “A fyddi di yn gweddïo weithiau
dros y pregethwyr, fy machgen i?” “Dim ond tros ddau.” “Pwy ydi’r ddau hyny
machgen i?” “T--s W--s, Rh--n, a John Williams, Llecheiddior,” meddai y
bachgen. “I ba beth y byddi di yn gweddïo dros y rhei’ny, mwy nâ rhywrai
ereill, machgen i?” “Fyddai i yn gweddïo am gymhorth i T--s W--s, gael rhywbeth
i dd’eyd, ac am gymhorth i John Williams, beidio d’eyd gormod.”
------------------------------------
Wy mewn potel.
Gosoder ŵy ffres mewn chwart o vinegar
cryf am bedair awr ar hugain, ac aiff y plisgyn mor feddal fel y gallwch wthío’r
ŵy mewn i botel. Yna llanwer y botel o ddwfr croeyw, a newidier ef ddwy
neu dair gwaith y dydd, a bydd i’r ŵy fyned yn galed drachefn. Ond defnyddio
potel o wydr goleu, a genau tua modfedd o dryfesur {diameter) . Gallwch
bery cryn syndod i’ch cyfeillion trwy ddangos y cyfryw botel iddynt, a’r ŵy
ynddi.
------------------------------------
Gair Mwys. — Yr oedd y gynulleidfa yn S-- wedi deall na fyddai y casglydd yn
rhoddi dim yn y casgliad ei hunan, ac awgrymodd rhywun hyny wrtho. “O,” meddai
yntau, “nid yw yr hyn yr wyf fi yn ei ro’i yn ddim i neb.”
------------------------------------
“Cyfarfu T. â Clwydfardd yn ngorsaf y rheilffordd. Ebai T., “Pwy a gaf fi i
gario fy mhortmanteau i fyny (x15) i’r
dref?” “Mi cariaf fi ef,” ebai Clwydfardd. “Na,” meddai T., “nid wyf am wneyd porter
o honoch Clwydfardd.” “Gwell genyf o lawer,” atebai y bardd, “i ti wneyd porter
o honof nâ bîr, oherwydd pe byddem yn fîr, llyncit fi yn y fan.” Yr
oedd T. yn dra hoff o’i wydraid cwrw.
------------------------------------
Dywedodd un o gyfeillion Mr. Evans, Llwynffortun, wrtho rywdro, “Mr. Evans, yr
ydych gwedi cludo eich hunan yn go lew.” “Y mae yn oer, my dear Sir,”
ebe yntau; “ac heb law hyny, y mae dillad y plant bob yr un am danaf fi a’r
wraig.” Ni bu ìddo blant.
------------------------------------
Tair graig rhyfedd.— “Gwr da, hynod am ei arabedd, a briododd dair gwraig — y
cyntaf am ei chyfoeth, yr ail am ei phrydferthwch personol, a’r drydedd a
briododd yn ei hen ddyddiau er mwyn ei chael i ofalu am dano a’i gysuro, ond
troes allan yn un hynod o ddrwg, ac yn achos o ofid mawr iddo. “Wel,” meddai un
diwrnod wrth gyfaill, “yr wyf yn fy amser wedi priodi tair o wragedd — y
byd, y cnawd, a’r diafol.”
------------------------------------
Ffolineb yn cael ei geryddu. — “Yr oedd y diweddar Barch. Dr.-- un tro yn
rhodio yn ymyl y môr, pan y daeth dau ddyn ieuanc dibris ato a gofyn- asant
iddo a allai eu hysbysu pa liw oedd gwallt y cythraul? Ar ol edrych ar y ddau
ysgogyn yn graffus am foment, dywedodd, “Yn sicr dyma beth rhyfedd, dau ddyn
wedi bod yn gwasanaethu meistr holl ddyddiau eu bywyd, ac heb wybod lliw ei
wallt.”
------------------------------------
Nwy.
I wneuthur nwy (coal gas) ar raddfa fechan, cymmerer pibell, a
gosoder ychydig fân ddarnau o lô yn y man lle yr arferir gosod y tybaco. Ar ben
y mân ddarnau hyn o iô, gosoder darn o glai llaith nes cauad (x16) i’r lan enau y bibell yn holiol. Wedi i’r
clai sychu, gosoder pen y bibell yn y tân, i losgi, gan adael y coes i sefyll
allan yn glîr o’r tân. Yn fuan gwelir mwg yn dyfod allan trwy goes y bibell.
Dyna’r nwy — yr un peth a’r nwy sydd yn goleuo ein trefydd ar hyd y nos.
Gosoder y mŵg yma ar dân a bydd iddo losgi yn glir am beth amser.
------------------------------------
Rheswm Cadarn. —
Rhys. “Paham yr ydych yn gwisgo yr hen het salw yna?”
Owain. “Am fod fy ngwraig yn dweyd na ddaw gyda mi nes y ceisiaf het
newydd.”
------------------------------------
Ymerawdwr, pan ei cyfarchwyd ef un diwrnod gan gardotyn,