kimkat2669k Cadair ap Mwydyn. 1900. Cera oddna, Ap Mwydyn. Pwy farddoni alli di neyd? / kimkat2669k
 

● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org

● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
● ● ●
kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
● ● ● ●  kimkat0960k Cadair ap Mwydynh – Y Gyfeirddalen 
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_082_ap_mwydyn_1900_y-gyfeirddalen_3591k.htm

● ● ● ● ●  kimkat2669kY tudalen hwn

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
(delwedd 0003)


Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal·les i Catalunya


Cywaith Siôn Prys (Casgliad o Destunau yn Gymraeg)
 

Cadair ap Mwydyn
Hen Fyfyriwr

Geninen. 1900. Tudalennau 60-63
(
Testun yn iaith y de-ddwyrain)

6519_map_cymru_a_chatalonia_harlech_070324
(delwedd 6519)

 

 

 

 

 

Lle bu byrfoddau enwau yn y testun, yr ym

wedi rhoi’r enwau yn llawn:

N.F. > NED FFAGWR,

AP M. > AP MWYDYN,

H.G.D. > HARRI GNEYD DIM,

W.P. > WIL PREGETHWR,

D.G.G. > DAI GWITHO’N GYNNAR

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

 

(delwedd 4513b) (tudalen 60)



CADAIR AP MWYDYN

Golygfa - YSTAFELL DAU GYD-FYFYRIWR

NED FFAGWR: (yn dysgu Groeg) Twpto, twpteis, twptei; twpteton, twpt—

AP MWYDYN: (yn cyfansoddi ar gyfer Eisteddfod Bwch-y-cyrn): Twptithe hefyd, Ffagwr.
Pwy sy'n mynd i farddoni, a tithe a dy "dwpto," byth a hefyd, fel dyn yn swddanu? (= swrddanu, syfrdanu: drysu, mwydro) I ti bron mynd mor dwp a “twpto."

NED FFAGWR: Cera oddna, Ap Mwydyn. Pwy farddoni alli di neyd? I ti'n cynnyg ac yn cynnyg am ryw hen "gader a thwll" fach, os blwyddyn; ond wela' i ddim argol daw hi byth. Pryd ma dy dro di, bachan? Ond dyna, di ti ddim yn dod yn ddigon agos i weyd dy fod ti'n ail ore; ac iti'n gwbod fod pob un o'r chwech cynte yn cleimo cymint â hynny. Jaca'i làn, jaca'i làn. Fe dâl y ffordd yn well o lwer i ti i stico at beth mor sych a "twpto" nâ mynd i gystadlu gyda Gwilym Meudwy, a beirdd o safon!

AP MWYDYN: Mae o'r gore i ti, Ffagwr, weyd tho i am bido barddoni. I ti wedi treio dy ore - shwd ore ag ôdd e: — ac, yn wir, rôdd yn flin gen i dy weld ti’n cownto dy fysedd i gâl dy fesur wyth a saith a gròt yn iawn, ac yn poeni am orie i wilo am eire fel “cawl” a “mawl”, a "phanasen" ac “asen” i odli. Mi glywes rywun yn gweyd wrth stiwdent unwaith i fod e wedi spwylo colier da wrth fynd yn bregethwr; a fe fydde'n well i tithe, Ned Ffagwr, bido gneyd bardd gwâl o Ffagwr mor ardderchog. Ond rwy i wedi sylwi ar y rheiny sy wedi ffili gneyd beirdd, ac wedi credu'u bod nhw'n dipyn o scolers, 'u bod nhw'n cisho perswado'u hunen a phawb erill ma rhyw hâff-cracs anwybodus yw'r beirdd i gyd.

NED FFAGWR: Dwy i ddim yn meddwl, ta beth, ma rhai anwybodus yw’r beirdd. Wy i 'n gweld ffugenwe cyd â mraich i gyd â nhw, a phishis o Latin, a Greek, a German uwchben 'u pryddeste nhw. Ma'n rhaid ’u bod nhw'n wybodus, achos 'dôs dim geiriaduron i weyd popeth i gâl.

AP MWYDYN: A pheth arall i ti: os na fydd y'n beirdd ni wedi câl llawer o ddiwylliant, ma nhw'n mynnu gweld tipyn o’r byd i neyd fyny am hynny,

NED FFAGWR: Eitha gwir, Ap: eitha gwir. A ma gyda ni hanes'u tithienhw, sy wedi dod yn llyfre safonol.

AP MWYDYN.: Os, ôs. A ma beirdd yn gallu gweld pethe na wêl pobol erill.

NED FFAGWR: Eitha gwir. Ond Ap, os iti'n mynd i gwpla'r pishin yna sy gent ti nawr, a'i neyd e gyd dy hunan, iti'n ffwl, a gweyd stori blaen tho ti. Nid felna ma cystadlu'r dyddie hyn. Gofyn i Watcyn Wyn am dy helpu di iddi gwpla fe, a gofyn i ryw frawd yn yr un winidogeth iddi ysgrifennu fe mas iti. Dyna fel ma nhw'n ennill cadire a chorone, y dyddie hyn, medde nhw.

AP MWYDYN: Fe gewn weld, Ned, os joint companies yw hi; ond de fe: a pheth da yw rhoi "help llaw" i frawd, onte? A ma'r apostol yn gweyd tho ni am ddwyn beichie'n gilydd, os wy'n cofio adnod y gyfillach yn iawn.

 

 

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

 

 

(delwedd 4513c) (tudalen 60)


NED FFAGWR: Odi, odi: ma e'n gweyd rhywbeth felna yn yr hen gyfieithad, a wy inne yn i gefnogi fe.

AP MWYDYN: Wel, os wyt ti'n i gefnogi fe, wy’n shiwr fod Paul yn falch — yn enwedig heddy, pan ma nhw’n gweyd nag odd a ddim mor shiwr o'i fater, wedi'r cyfan. Ond gad i ni fyad ati ddi eto Nawr, os ôs rhaid i ti weyd y "twpto" na, gwêd e'n ddishtaw. Mi â inne ’mlân mor ddishtaw a galla'i â'r gân o glod ma, hefyd. (Yn ddistaw): Ble 'rown i, hefyd, O ie —

... "Dyn uwchnaturiol, gwyrth i'r oesoedd oedd,
.....Dyn llawn o'r nef "...


NED FFAGWR: Etwpsa, Etwpsas, Etwpse. Ma'n rhaid i fi'u dysgu nhw i gyd, er y mod i'n gwbod na ddwa'i ddim yn gamster arnyn nhw byth, a finne nawr yn — wel, dros bump-ar-hugen. Pam na fydde'n haddysg ni ar linelle gwell? Am yr help roith y tipyn Greek nâf fi i fi, mi allai heddy gâl y cwbl, a mwy o lawer, wedi 'i weyd mewn llyfre Sisneg gan specialists. Ond yw peth fel hyn yn ofnadw?

AP MWYDYN: (yn ail-adrodd, gan fethu gorphen y llinell):

.... “Dyn llawn o'r nef, o’r nef"...

Gad dy stwr, bachan; gad i fi gâl gweld os galla'i gwpla'r lein ’ma—

....
“Dyn llawn o'r nef"...

NED FFAGWR: Bachan, bachan, dyna gòp i gwpla honna! Alle ti ddim i gweyd hi fel hyn?

..."Dyn llawn o'r nef, ac uffern, yn eu tro."

Etwptomen, etwptou, etwpte.

[Curo wrth y ffenestr.

Pwy sy na nawr, fachan? Wy'n ffili’n deg a diall fel ma'n ffenest ni'n dala. Ma'n câl i thapo a'i thapo, o wech o'r gloch soi’n ddiddeg, bob nos yn regilar! Cer i'r drws, Ap.

[Wedi iddo fynd]

Harri Gneyd Dim sy ’na nawr, wy'n shiwr. Pam na rosiff e gatre i neyd dim, yn lle dod ar hyd dai bechgyn erill, iddi helpu nhwate i neyd dim. Ond dyna — ini gyd am argyhoeddi rhywrai ma’n ffordd ni o fyw sy ore.

[Harri yn dod i fewn.

Wel, Harri, shwd ma'r gwaith yn dod yn mlân, fachan? Weles i di 'riôd yn cwyno. I ti'n well na'r rhan fwya ohonnon ni fanna. Ma'n rhaid dy fod ti’n gallu gwitho'n gloi anghyffredin. Shwd i ti'n gneyd, Harri?

HARRI GNEYD DIM: Dim o dy snaps di, Ffagwr. Dyna lle i ti â dy Greek, a dy Greek yn ddigon i droi ar stymog dyn, byth a hefyd.

NED FFAGWR: Pam na rosi di gartre, ynte, bachan? ne fynd i le sy'n taro dy stymog di'n well?

HARRI GNEYD DIM: 'Wel, mi weda’i tho ti, Ffagwr: ma gen i genhadaeth bwysig yn y lle ma. Wy i'n teimlo ma 'gwaith i yn y lle ma yw cadw bechgyn o dy short

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

 

(delwedd 4514b) (tudalen 61)

 

 

 
 

 
di rhag cyflawni hunan-laddiad. A dyna lle wy i’n mynd bob nos yn rownd i'r bechgyn wy'n weld welwa yn yr ysgol yn y dydd; — ag wyt ti ddim yn credu fod gen i waith pwysig? Ap, ma llwer o sôn y dyddie hyn am ddynon â neges gyda nhw, ag wy i'n credu fod dynon call y'n dyddie ni wedi ffindio neges i lwer dyn ar ol iddo fe farw; ag wrth gwrs, am bethe fel hyn ma'r dynon mwya'n câl ’u talu. Wel, w i'n teimlo cyn i fi farw fod neges gen i; ag os byddi di am neyd papyr i Gymmrodorion Llunden arna' i, dyna'r penawd i ti: "Neges Dyn Segur." Ond dyma rywrai'n dod i boeni'r Ffagwr eto.
 
[Wil Pregethwr a Dai Gwitho'n Gynnar yn dod i fewn
 
AP MWYDYN: Wel, boys, ddethoch chi o'r gymanfa'? Shwd gymanfa gesoch chi?
 
WIL PREGETHWR: Ardderchog, bachan.
 
DAI GWITHO’N GYNNAR: Strokes ofnadwy, boys. Ma Wil ma yn i chapso ’i y nawr. Stim shwd beth i neb sefyll làn ar i ol e. Fe nath iddi nhw i gydsefyll ar ’u trâd, y ddo — do obrysur [sic; o brysur = yn wir].
 
NED FFAGWR: [O'r neilldu]: Pan rois e'r emyn mas, sposo.
 
DAI GWITHO’N GYNNAR: Fe bregethodd am dri chwarter awr solid.
 
AP MWYDYN: Do fe, Wil? Os do fe, rôdd ishe clymu dy ben di’n dost. Pwy reswm 'sy miwn peth felna? A phwy waretêg ôdd i'r bachan ôdd ar dy ol di? A pheth arall, os credi di fi, ’dyw pobol ddim yn moin mwy nâ haner awr o bregeth man pella gan stiwdent.
 
DAI GWITHO’N GYNNAR: Sêt ti'n clywed pregeth Wil, nid dyna beth wedet ti, wy'n shiwr. Wil, gwêd gwpwl o dy strokes tho fe.
 
AP MWYDYN: Well iti bido, Wil, ne fe gai di clywed nhw am y mish nesa yn eco yn yr ysgol bob dydd. I ti ddim yn cofio am y ferch ifanc wedi dod i'r cyfeillach “achos fod Mary wedi dod," — fel ôdd y stori yn tyfu o ddydd i ddydd, nes iddi ddod yn “fechgyn ifenc ar y galeri, pam i chwi wedi dôd ’ma heno — achos fod Mari yma?” Well i ti bido, Wil; stim sy’n well ne'n wâth nâ strokes i neyd sport ohonynw.
 
WIL PREGETHWR: Weda’i ddim ohonni nhw, te. Ond nid y pregethu ôdd y peth, y ddô, boys.
Y sport geson ni yn y lle ôn ni’n aros ôdd y peth. Provoco'n gilydd, a thynnu’n pregethe'n gate, lle clywe'r hen ddyn a'r hen fenyw; a gweyd hen scetshis doniol am hen bregethwyr, heb ddim ond lliw’r gwir arny nhw. Dôdd yr hen ddynon ddim wedi meddwl yriod fod stiwdents mor ddoniol.

AP MWYDYN: Dyna hi! ôn i'n meddwl ma pethe felna fydde gyda chi i adrodd, y sèt. Ma'r chwara ŷch ch'n [sic; = chi’n] neyd â phregethe'ch gilydd yn gneyd mwy o ddrwg i chi nag ych chi'n feddwl. A ma'r sport i ni'n neyd yn y trêns wrth roi hanes y Sul, lle clywo pob short o ddynon, ac wrth dynnu pregethwyr da i lawr, yn gwneyd mwy o ddrwg o lwer nag itha fŵs yn y Cross Inn, alla ’i weyd tho chi. Boys, ma'n rhaid i ni fod yn fwy gofalus.

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd 4514c) (tudalen 61)


DAI GWITHO’N GYNNAR: O! ’r sant ag e! Beth yw cymint ag i ti wedi glywed? Beth se ti gyda ni'n cysgu? Weda ’i ddim o'r cwbl tho ti, rhag ofon i fi shoco bachan bach mor sanctaidd. Ond mi weda 'i tho ti na cheson ni ddim cymint o rali yriôd o'r blân. Ac ar y bore, dyma'r hen fenyw yn dod làn i gnoco, a dyma Wil yn nido lawr, fel ôdd e, i'r drws; a dyma'r hen fenyw yn câl ofon, ac yn nido 'n ol, ac i lawr dros y stire; a se hi ddim ond câl ei lladd, fe fydde'n ddigon am i bywyd hi.
A wedi i ni ymolch, dyma ni 'n gadel y dwr yn y basin, ac yn dodi 'r jwg yn i genol e! Fe fydd yna le gyda'r hen fenyw pan wel hi bopeth netho’n [sic; = nethon] ni!

AP MWYDYN: Wel, boys, boys! Fanna i chi to? I chi ddim yn dyall y'ch dyledswydde i gymdeithas yn well nâ yna yto? Dyna drueni na fydde'n [sic; = fydden] ni'n câl dysgu’r pethe bach mwya pwysig i ni ar y start. Pan weles i napcins, y tro cynta, ôn i ddim yn gwbod yn y byd beth ôn nhw. On i 'n meddwl ma dols ôn nhw. A dyna debyg i ddynon wedi câl 'u codi dan stwc yw'r rhan fwya ohonon ni pan y'n [sic; = yn] ni 'n mynd ar hyd dai dynon. Fe fydde cwpwl o lesyns ar y ffordd i fita bwyd, neu ar y ffordd i fihavio mewn tai dierth, yn llwer mwy o werth i ni nâ chant o lesyns miwn Greek.

WIL PREGETHWR: Gwell i ti; Ap, starto class i ni, te.

AP MWYDYN: Cymer di 'e fel mynni di, gei di weld faint o wir sy ynddo fe, mas law.

NED FFAGWR: Gwedwch chi beth fynnoch chi, boys, ma ’n rhaid i fi [sic; = fynd] mynd mlân a'n gwaith.

DAI GWITHO’N GYNNAR: Cera ona, Ffagwr: paid a bod yn gymint o hen gonin. Paid a lladd dy hunan cyn pryd.
Dewch, boys, beth se 'n ni 'n câl cân. "Ni bydd Euclid" ynte.

[Dai Gwitho’n Gynnar yn canu, a’r lleill yn uno, âg withrio Ned Ffagwr, yr hwn a gamdrinir gan y lleill pan yn ceisio gweithio.

“Ni bydd Euclid yn y nefoedd,
Ni bydd Groeg yn Nhy ein Tad;
Ni ddaw Lladin nac Aigebra
Byth o fewn i'r Ganan wlad.
O! na wawriai, &c.,
Bore llosgi'r rhain i gyd."

NED FFAGWR: Wyt ti wedi gneyd dy waith erbyn fory, Dai?

DAI GWITHO’N GYNNAR: O, odw i! Mi gnês i e, bore heddy, ar ol dod 'n ol, i gâl e o'r ffordd.

NED FFAGWR: O, wy' i 'n gweld! Gwitho 'n gyanar wyt ti o hyd. Fe fues yn yr ysgol y bore ma. Wy yn mynd, bob bore dydd Llun, achos wy i ’n meddwl ma miwn ysgrifennu Gymrâg wy 'i fwya ar ol; a wy i bron credu, wrth gâl pip dros rai o’ch papyre chithe, ma dyna sy fwya ar ol gan bedwar o bob pump o chithe hefyd.

DAI GWITHO’N GYNNAR: Pam na wedet ti bump o bob pedwar, gan dy fod ti mor wybodus yn y'n [sic; = yn] cylch ni?

NED FFAGWR: Wel, mi weda tho ti, ôn i bron gweyd pump o bob pump: achos wy i 'n gwbod nag ôs dim naw o bob deg o'n pregethwyr ni, ar ol bod trwy 'r coleg, yn

 



Text, letter

Description automatically generated

 

(delwedd 4515b) (tudalen 62)




 
gallu ala gair i'r Wasg yn Gymrâg, a ma nhw'n dysgu lot o rywbeth yn y coleg hefyd, medde'n [sic; = medden] nhw!

D.G.G: Pwy ots am allu scrifenu Cymrâg, os galli di i chanu ddi? I ti'n gwbod fod deg gair o Latin yn ffortiwn i ddoctor, a mae'n llawer mwy o arwydd dy fod ti'n scoler dy fod ti'n gallu dodi ambell i air o Greek miwn yn dy bregeth na dy fod ti'n gallu dodi Cymrâg pert at i gilydd.

NED FFAGWR: Wel, dyna ddigon ar beth felna nawr. I ti, Dai, wedi gneyd dy waith ; a dyma ti'n dod yma i'n storo i pan wy i'n câl siawns i ddechre ryw dipyn. Bachan, ble ma dy gydwybod di? A tithe, Wil, cer gatre i neyd dy waith cyn tri o'r gloch y bore, yn lle dodi adrodd dy drics ar hyd y lle, fel hyn. A pheth arall, pwy sy'n mynd i witho ma ar ol i chi fod yn llanw'r rw^m â mwg dybaco, fel hyn? Wy am ddodi notis làn yma: "No smoking allowed. Fifteen minutes here for good-for-nothings." Ma'n bryd i ni ddiwygio os i ni am neyd rhywbeth, boys.

HARRI GNEYD DIM: Ap, odi hwn fel hyn yn fynych? Cofia di, Ffagwr, ma peth ofnadwy yw bod yn Greek-mad. A ma'n rhaid i ti gofio hefyd mai nid ar ddysgu Greek y bydd byw stiwdent: ma’n rhaid i ti ddysgu byw dyda dynon. Ap, ’rhen Fardd, shwd ma'r awen?

AP MWYDYN: Wedi rhewi, fachan.

HARRI GNEYD DIM: On i’n meddwl dy fod ti’n mynd i gâl cader am gân o glod i ryw hen lidir neu gilydd, ddiwedd y flwyddyn ma.

AP MWYDYN: Wy i wedi danto ta. Dwy  ddim yr un enwad â'r beirniad.

HARRI GNEYD DIM: Twt, myn "help llaw" rhywun.

AP MWYDYN: Ie, se'n i'n câl "help llaw" rhywun ma'i dro fe bron dod, fe fydde shiawns 'da fi. Heb hynny, ma arna'i ofon bydd gen i fwy o "wallgofrwydd" nâ barddoniaeth.

HARRI GNEYD DIM: Ma llaw arall, yn wir, yn dofi syniadau gwylltion. Tria, a thria gâl bardd cryf âg ysgrifen dda gyda fe. Falle galle ti gâl i help e hefyd i berffeithio tipyn.

AP MWYDYN: Na, wy i'n credu ’rarhosa i nes bydda'i mas o'r coleg. Falle, ar ol i fi gâ1 y'n [sic; = yn] ordeinio ca'i ddod i faes cymanfa i bregethu gyda'r beirniad.

HARRI GNEYD DIM: Twt, paid aros heb gader gymint a hynny. Os 'da ti ddim cyfell yn mynd i faes cymanfa ’nawr, neu gyfell i'r cyfell, ne rywbeth. I ti ddim gwell o fynd i Steddfod heb wbod pwy sy'n cal y gader fish ymlân o lia.

AP MWYDYN: Na, dwy i ddim ond stiwdent bach, a dos da fi ddim cyfell pwysig i gâl yto. A pheth arall, dwy i ddim yn gwbod i sicrwydd beth i weyd am yr hen scoler sy gen i yn yr eisteddfod yma.

WIL PREGETHWR: O, mi ro i boints i ti, Ap. Clywest ti ddim o'r stori am Charles, Penallte?

 

AP MWYDYN: Naddo i'n wir. Beth oedd am dano fe, bachan?

WIL PREGETHWR: Wel, 'rôdd steddfod gyda'r Methodistiaid ym rhywle yn Shir Fynwe,

 

 

Text, letter

Description automatically generated

 

(delwedd 4515c) (tudalen 62)

 


a dyma'r pwyllgor yn mynd at hen scweiar ôdd yn y cylch (nid cylch yr Orsedd, wrth gwrs — ond yn y gymdogeth), ac yn gofyn os dele fe i lywyddu'r steddfod. A dyma Charles, Penallte, yn gweyd dele fe: "a mi roi ddwy gini o wobor i chi," medde fe, "os ca i ddewis testyn, amodau, a beirniad." Hynny fu. Y testyn ddewisodd e ôdd, "Charles, Penallte: Cân o Glod;" yr amodau odd "nag ôdd dim da na dim drwg yn càl 'u gweyd am dano fe;" a'r beirniad, "Islwyn." A dyma'r steddfod yn dod, ac Islwyn yn dod mlân i ddarllen ’i feirniadaeth. "Ma wyth wedi eu derbyn," medde fe; "ond y mae saith wedi methu cydymffurfio â'r amodau, ac oherwydd hynny allan o'r gystadleuaeth. Un sydd wedi dàl at yr amodau, ac y mae hwn yn llwyr deilyngu'r wobr." A dyma alw am y buddugwr; ac wedi iddo ddod i'r staj, fe welwyd taw hen grydd y pentre ôdd y bardd buddugol! Rôdd pawb wedi synnu, a dyma alw am y gân.  “Alreit," medde ’rhen grydd; "ac os ych chi am, mi cana hi i chi nawr. Ar fesur 'Harlech' ma hi." A dyma fe'n ’i chanu ddi bant.

DAI GWITHO’N GYNNAR: Mas a hi te, Wil, fel 'r hen grydd. Ry'n ni gyd yn gwbod dy fod ti’n lico clywed dy laish.

WIL PREGETHWR: Na, 'n wir; wy i, 'r un peth a’r cantwyr mawr i gyd, âg anwyd arna' i.

DAI GWITHO’N GYNNAR: Twt, y baw ! Starta di ddi, a mi joinwn ni yn y diwn, ta beth. Wy i'n gwbod tiwn "Harlech" pan o'n i'n ware whistl din.

WIL PREGETHWR: Mi tria hi ddi, te, a fe allwch chithe joinio yn y gire gyda'r diwn, achos dim ond doi air sydd'u dysgu.
Ond cofiwch chi bido troi i ganu "Ar hyd y nos." Dyma ma pawb sy'n canu heb nôts yn neyd, medde Dr. Jones.

HARRI GNEYD DIM: O 'rhen Jones! Fe fues i'n meddwl dechre dysgu canu gydag e. A dyma fi'n mynd ato fe i ofyn am i derms e. "Gini'r cwarter cynta; haner gini'r ail gwarter."
"O," meddwn i, "ddechreua i'r ail gwarter;" a ddechreuais i byth. Ond dere, Wil, i ni gâl cân y crydd ar fesur "Harlech."

WIL PREGETHWR: [Yn canu'r ddau air drosodd hyd derfyn y dôn, a'r lleill yn uno]:

“Charles Penallte, Charles Penallte,
Charles Penallte, Charles Penallte, &c."

Os i tithe, Ap, am ennill ar y gân o glod yna, gna dithe rywbeth tebyg.

AP MWYDYN: Ma arna i ofon mai dim ond Islwyn fydde'n debyg o roi'r wobor am gân fel honna. Os na ganmoli di’r cythriled gwitha mas, y dyddie hyn, i ti ddim gwell o gynnyg. A ma cymint o ochor, bachan. Rôdd hyd yn oed Herber yn gweyd i fod e'n hoff o "ddangos ’i ochor;" “ac ochor dda sy gen i hefyd," medde fe, gan roi i ddwy law arni.

DAI GWITHO’N GYNNAR: Twt, boys, wela i ddim argôl caiff Ap gader eisteddfod am dipyn bach. Nes penelin na garddwrn, a phwy sens sy miwn rhoi bara'r plant i'r cwn. Yn wir i chi, wy i'n credu y gallwn ni, sy'n nabod Ap ore, roi mwy anrhydedd arno fe yma

 

 

Text, letter

Description automatically generated

 

(delwedd 4516b) (tudalen 63)

 

 

wrth roi cader iddo fe nag a all parsel o anwybodusion partiol fel sydd yn yr eisteddfodau ma. Darllen y feirniadaeth, Myrddin.

H.G.D. Wel, rhag i mi eich blino â meithder, oblegid y mae cystadleuaethau pwysig a dyddorol y cerddorion yn galw am gael dod ymlaen, ni wnaf ond darllen yr ychydig frawddegau diweddol yn y feirniadaeth. Caiff y beirdd sydd wedi bod yn hir ymdrafferthu i gael eu cyfansoddiadau yn deilwng o'r gystadleuaeth bwysig hon gyfle eto i ddarllen y feirniadaeth gyfiawn yng nghyfansoddiadau'r Eisteddfod, y rhai yn sicr a gyhoeddir cyn y cyll y pwyllgor hawl arnynt,—o leiaf, cyhoeddir dwsin uwchlaw y nifer gofynnol i’r tanysgrifwyr gael copi! O'r tri-ar-hugain, y tri sy'n rhagori ar y testyn clodwiw hwn ydynt "Gelwch fi Mara," “Con Dolore," a "Dan yr Helyg.” Mae y cyfansoddiadau hyn, fel y sylwyd eisoes [wrth gwrs, mae hynny yn y rhan flaenaf o'r feirrniadaeth] yn adlewyrchu clod bythol ar y pwyllgor [foneddigion, cofiwch am danaf y flwyddyn nesaf eto] ac ar yr ymgeiswyr. Yn wir, gwobrwywyd eu salach, lawer tro, yn yr Eisteddfod Genedlaethol [ta ddim ond pryd cês i'r gader']. Mae y dorch yn dyn rhwng “Con Dolore" a "Dan yr Helyg,'' ond oherwydd rhesyrnau neillduol, rhaid i'r wobr a'r gadair fynd, y tro hwn, i “Gelwch fi Mara,'' ar air cyfeillgarwch a chydwybod India rubber.

WIL PREGETHWR: (yn gwaeddi): A yw "Gelwch fi Mara" yn bresennol? Os yw, safed ar i’ drâd, a daw dau brif-fardd i'w hercyd i’r llwyfan.

[Ap Mwydyn, wedi dianc yn ddistaw o'r llwyfan, yn sefyll i fyny yn y dorf.

LLAIS O’R DORF: Ishte lawr, ishte lawr! Beth ma'r hen ioncyn coch bach yna yn sefyll làn? Ishte lawr, bachan bach, i mi gâl gweld pwy yw e.

WIL PREGETHWR:  O, dacw fe! Ned Myrddin a Dewi Llwchwr i'w hercyd i'r llwyfan,

[Harri Gneyd Dim, a Dai Gwitho’n Gynnar, yn mynd i gyrchu'r bardd.

Yn awr, yn absenoldeb y band i ganu “See, the Conquering Hero Comes'' ni gawn uno i ganu yr hen alaw genedlgarol, "Y Sospan Fach; " Yr ydych i gyd yn cofio'r
geiriau.

 

 

 

Text, letter

Description automatically generated

 

(delwedd 4516c) (tudalen 63)


Byddwch cystal ag uno yn y cydgan.

LLINOS NANT MELIN:

m, l, l, t, d, l, t
Y cyn - taf dydd o'r gwyl - ie

t, d, d, r, r, m
Fy nghar - iad roes i mi

Cyd.

m, m, m, r, d, t
Y par - ot a'r pren pêr.

W. P.: Yn awr, fe geir anerchiad gan y beirdd. Wy i, fel —— , er mwyn bod yn deilwng o'r amgylchiad, wedi cael prifardd i neyd englyn i mi: —

Dyma'r bardd hardd ei awen — a godwyd
I gader Ceridwen;
O, mae e'n berchen aden — eill hedeg
I ben stac gwaith Pantyffynnon a ’n ol,
miwn eiliad a hanner.

[Myrddin yn nesa.

HARRI GNEYD DIM: Dyma'r bardd am ganu clod,
Dyma'r sebonwr gore'r iôd;
Dim ond coron rows e i'r beirniad,
A dyma'r cewri dan ’i drôd.

[Meudwy Pont y Bettws.

NED FFAGWR: Hwre, clywch, clywch!
Dyma gawr fel ceiliog gwair
Yn codi i ben cadair,
A dim yn uwch.

[Dewi Llwchwr yn ola.

DAI GWITHO’N GYNNAR:
Dyma brif fardd yr oesoedd—a godir
I gadair y nefoedd;
Fe gurodd hwn rai cannoedd—a ma lot
o honynw yn treio
Canu iddo fe'n awr ar y staj âg asgwrn
yn ’u gwddwg nhw.

DIWEDD:—"Hen Wlad fy Nhadau."

HEN FYFYRIWR

 

 

 

Y testun gwreiddiol ar ffurf delweddau: kimkat2670k  www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_082_ap_mwydyn_1900_2670k.htm

 

Y llyfr ymwelwyr: kimkat0860k

www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_llyfr_ymwelwyr_tudalen_trosglwyddo_0860k.htm

 

 _______________________________________________________
 

fel ma-nw’n weud ar y cwta (??rails??) cân)

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_082_ap_mwydyn_1900_2669k.htm


Adolygiad diweddaraf 22-03-2017 18.00 /  2009-12-02, 2006-11-17

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ ə

Fformat 100 chwith, 200 de


Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) äm ai? Yüu äa(r) vízïting ə peij fröm dhə “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA
 

hit counter script
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats


DIWEDD