2476k Gwefan Cymru-Catalonia. Detholion o “Y Cyfaill o’r Hen Wlad yn America” 1840

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_081_cyfaill_or_hen_wlad_tachwedd_1840_2476k.htm


0001z Yr Hafan / Home Page

..........
1864k Y Fynedfa yn Gymraeg

.....................
0009k Y Gwegynllun

...............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

...............................................2477k Y Gyfeirddalen i'r Cyfaill o'r Hen Wlad yn America


...............................................................y dudalen hon

 

baneri
..

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal·les i Catalunya


Cywaith Siôn Prys Aberhonddu (Casgliad Arlein o destunau Cymraeg)
“Llond y We o Lên y Brython”



Detholion o “Y Cyfaill o’r Hen Wlad yn America”
Medi 1840
 

 

map o gymru a'r gwledydd catalaneg (map_cymru_pc_drenewydd_050112)

Adolygiadau diweddaraf:
2006-05-18

 
 

 

 

 

--------------------------------------------------------------------------------------

 

Y Cyfaill, Cyfrol 3, Rhif 35, Tachwedd 1840, tudalen 331

(x4) YR INDIAID CYMREIG

 

BARCH OLYGYDD, - Gwelais ar glawr y Cyfaill, am fis Mai diweddaf, ymofyniad am ychydig o hanes llwyth o Indiaid a elwir Nabihoes. Ychydig o hanes a allaf fi ei roddi am danynt yn bresennol. Yr ydwyf wedi bod yn ymddyddan a llawer o’r rhai ag sydd wedi eu gweled yn Santa Fe; ond y mae yn debygol nad y rhai hyn yw yr Indiaid Cymreig.

 

Bum yn ymddyddan ag un yn ddiweddar, yr hwn a fu yn teithio drwy yr ardaloedd lle y mae y Welsh Indians yn cyfaneddu. Darfu iddo addaw anfon ychydig o’u hanes, ond yr wyf heb ei dderbyn eto. Dywedodd wrthyf eu bod yn trigfanu rhwng dau a thri chant o filltiroedd o Santa Fe i’r gorllewin, a’u bod yn byw mewn tyau cerrig, ac yn codi amryw ffrwythau, a chanddynt anifeiliaid lawer.

 

Y mae yn debyg fod ymddadlau yn eu cylch. Tòrir y ddal yn fuan. Y rhesymau a allaf fi eu rhoddi i brofi hyny ydyw mudoliaeth y trigolion i gyfaneddu y wlad lle y mae ein cenedl yn byw. Pan y byddo gwlad newydd i’w meddiannu, y mae llawer o siarad am dani.

 

Pan oeddych chwi a minau yn yr Hen Wlad, a chlywed siarad am America, yr oeddem yn meddwl, dim ond cael mediannu y wlad, y buasai agos yn nefoedd y ddaear.

 

Felly y mae gyda llawer am Califfornia a Thiriogaeth Oregon. Y mae yn debygol oddiwrth hanes y wlad hono, ei bod yn rhagori ar unrhyw barth o’r Unol Daleithiau, o ran ei thymhorau, cyfoethogrwydd y ddaear, &c., fel y gwelais yn yr iaith arall, ‘It is the garden spot of the earth: it is the Paradise of North America.’

 

Eto llawer o siarad ac ysgrifenu sydd wedi bod yn nghylch yr Indiaid Cymreig, heb wneyd dim. Dau beth ydyw siarad a gwneyd. Siarad ydyw bwriadau – gwneyd ydyw cyflawni. Eto, i’r dyben o wneyd, byddai yn dda i’r Cymry gymeryd hyn at eu hystyriaethau, sef dyfod i wybodaeth gyflawn o’r Madogiaid.

 

Gwrionedd yw – anfonwyd Cymry o Steuben bymtheg neu un-ar-bymtheg mlynedd yn ol: Daethant i St. Louis, ac yno troisant yn eu holau. Pe buasai y gwyr hyny yn dyfod i fyny afon Missouri i dref Independence, ac oddiyno i Santa Fe, ac oddiyno i California, i blith amryw lwythau Indiaidd sydd yn cyfaneddu yno: a dyfod newyddion oddiyno, yn cadarnhaol (sic – didreiglad) neu yn nacaol, buasai hyny yn tòri y ddadl.

 

Oddeutu tair blynedd yn ol yr oedd yma yn agos i gant o deuluoedd wedi ymgyfammodi a’u gilydd i fyned i ymsefydlu yn rhyw ran o Califfornia Newydd; ond tòrodd gwrthryfel yn adaloedd