http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_077_william_tomos_benja_2218k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Sin Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................y tudalen hwn / aquesta pgina


..







0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Galles

Cywaith Sin Prys - Testunau Cymraeg ar y We

William Tomos Benja.
Cymeriad Hynod a Adwaenwn.
J. James, Tylorstown.
1911.




Ein nodiadau ninnau mewn llythyrennau oren.
Enwau lleoedd yn y testun: Ty^-cam (Tycam), Aber-lan (Aberlan), Garreg-lwyd (Garreglwyd), Maes-teg (Maesteg), Capel Gwyn, Bryn Seion, Glan-rhyd (Glanrhyd), Tonyrefail, Llan-twd (Llantood)

Tudalennau gwreiddiol y llyfr wedi eu dynodi felly:
(x3), (x22), (x40) ayyb

benja - clawr y llyfr
William Tomos Benja
Cymeriad Hynod a Adwaenawn
Gan J. James, Tylorstown.
Pris, Chwe Cheiniog.
W. T. Maddock ai Gyf., Argraffwyr,
Ferndale, 1911.
________________________________________

Benja - tudalen deitl

(enwr cyn-berchennog: Emyr Lloyd Davies, Tan-y-bryn (Tanybryn), Llannefydd)


William Tomos Benja
Cymeriad Hynod a Adwaenawn
Gan J. James, Tylorstown.
Pris, Chwe Cheiniog.
W. T. Maddock ai Gyf., Argraffwyr,
Ferndale, 1911.
_____________________________________________

(x3) RHAGARWEINIAD.

Er na cheir cynifer a dau o bersonau ar wyneb y ddaear yn hollol yr un fath, mewn na chorph na meddwl, eto y mae dynion, er yn amrywio fel hyn, yn meddu llawer iawn o debygolrwydd. Hynod mor debyg ydym in gilydd. Yr ydym yn meddwl, yn teimlo, yn siarad, ac yn ymddwyn, er nad yn hollol yr un modd, eto, yn hynod o debyg in gilydd. Canfyddir digon o amrywiaeth yn ein plith, maen wir, ond canfyddir, hefyd, gryn lawer o debygolrwydd. Gellir bod am gryn amser, weithiau, yn nghanol torf o bobl, ie, yn nghanol llifeiriant o bobl, ac ymddiddan a dal cymdeithas ag amryw ohonynt, heb i neb ohonynt i hoelio ein sylw, na chynhyrfu ein cywreinrwydd, gan mor debyg ydyw pawb iw gilydd. Ond, wrth symud o fn i fn, a chymdeithasu llawer, cyfarfyddir yn awr ac eilwaith ag ambell un heb fod yn debyg i neb, na neb yn debyg iddo yntau. Un yn sefyll yn hollol ar ei ben ei hun. Rhyw wreiddioldeb ac anghynredinedd yn perthyn iddo, nes gwneud i bawb oi gwmpas i dalu sylw arbenig iddo. Pryd bynag y cyfarfyddir ag un or desgrifiad uchod, gellir yn briodol iawn ei alw yn gymeriad hynod.

(x4) Gwelsom ambell un cyn yma yn treio gwneud ei
hunan yn hynod. Annaturiol ac atgas ir eithaf yw peth felly, ac nid yw pob un or cyfryw ond testyn gwawd. Ond y mae yr hwn sydd yn naturiol hynod - yn hynod heb yn wybod iddo ei hun, neu yn hynod am nas gall beidio a bod felly - yn gymeriad swynol a phrydferth dros ben. Ac yn awr, ein hamcan yn cyhoeddi hyn o lyfr yw rhoddi ger bron y cyhoedd engraifft nodedig or fath gymeriad.

Nid ydym wedi ymgymeryd a rhoddi hanes manwl oi fywyd; ond ein hamcan ydyw rhoddi engreifftiau o hono yn ei wahanol gysylltiadau - fel dyn, fel amaethwr, fel penteulu, fel crefyddwr, ac fel diacon. Credwn y caiff y darllenydd yn yr engreifftiau hyn, olwg weddol gyflawn
arno; gan hyderu y ca, hefyd, lawer o fwynhad, ynghyd a rhyw gymaint o fudd ac adeiladaeth. J. JAMES.


(x5) EI ENW.

Rhaid olrhain yr enw triphlyg, wrth ba un yr adwaenid ein gwron, yn ol iw dadcu. Enw priodol ei dadcu ydoedd Benjamin Williams; ond nid wrth yr enw hwnw yr adnabyddid ei gan drigolion yr ardal. Cysylltent hwy y ffermdy lle y preswyliai, a dwy ran o dair oi enw cyntaf, a galwent ef yn Benja Tycam. Enw cyntaf ei fab, sef tad ein gwron, ydoedd Tomos, a gelwid ef yn Tomos Benja Tycam. Yn yr un ffermdy y ganwyd ac y magwyd ei wyr yntau, ac yno y treuliodd ei oes. Ond, gan ei fod ef yn gwisgo enwau ei dad ai dadcu, gyda ei enw ei hun, yr oedd digon o arbenigrwydd yn yr enw triphlyg hwn, fel nad oedd angen cysylitu Tycam ag ef fel y gwnaed ag enwau ei dadcu ai dad. Felly, adnabyddid ein gwron gan bawb or ardalwyr, yn hen ac yn ieuanc, yn mhell ac yn agos, wrth yr enw triphlyg - WILLIAM TOMOS BENJA.


(x6) EI HYNODRWYDD.

Pe gofynid i ni yn mha beth y deuai ei hynodrwydd ir golwg amlycaf, anhawdd fyddai ateb, oblegyd yr oedd yn hynod i gyd, ac yn mhob peth - yn ei edrychiad, ei gerddediad, ei wisg, ei ymadroddion, ac yr oedd hyd yn nod ei lais yn hynod. Yr oedd ei arabedd ai ffraethineb braidd yn ddiderfyn, ai atebion parod, ffraeth, a phwrpasol i bawb, yn ddiguro. Yr oedd yn rhagori yn hyn ar neb a adnabuasom erioed. Yr oedd, hefyd, yn orlawn o ddireidi diniwed, a gwnaeth lawer o driciau ysmala rhai, er dirfawr les iddynt, fel y cawn weled. Ni byddai na gwisg, na gradd, na sefyllfa neb yn effeithio dim
arno. Yr oedd yn ddiduedd, ac yn ddidderbyn wyneb yn ei ymdrafodaeth phob dyn.

Yr oedd yn hynod o ddirodres a di-seremoni gyda phob peth, a chas oedd ganddo bob ffwdan a thrafferth di-alw am danynt Meddai ar (x7) annibyniaeth meddwl a barn, yn nghyd a digon o wroldeb i weithredu yn unol hyny.

Ni phetrusai dori ar draws llawer o hen arferion a ystyriai yn ddiangenrhaid a disynwyr. Yr oedd tua hanner cant oed y cof cyntaf sydd genym am dano, ac, oblegyd ei fod yn dweyd, ac yn gweud, pob peth mor ryfedd, byddem yn tori i siarad ag ef bob cyfle a gawsem, a chawsom lawer o ddifyrwch diniwed yn ei gymdeithas, a gwell na hyny, cawsom lawer o ls i feddwl ac yspryd. Er ei fod yn ganol oed, fel y crybwyllwyd, pan yr adnabuasom ef gyntaf, eto, trwy ymholi, cawsom ychydig oi hanes pad oedd yn llanc ieuanc.

Felly, ni arhoswn am ychydig, cyn myned yn mhellach, yn nghwmpeini - WILLIAM Y LLANC.

(x8)
WILLIAM Y LLANC

Yn awr, William, ebe i dad wrtho rhyw ddiwrnod, r wyt ti wedi bod yn dilyn yr ysgol yn ddigon hir, bellach, a dwyt tin dysgu dim yno. Dichon fod ei dad yn lled agos iw le, oblegyd ni wyddai plant yr oes hono ddim am fanteision addysg y dyddiau presenol.

Y qualified man i fod yn ysgolfeistr y pryd hwnw oedd rhyw hen filwr, wedi colli aelod; neu, ynte, ryw un wedi ei eni diffyg ar un oi aelodau, ac na fedrai ei rieni wneud dim arall o hono. Ac nid oedd y qualified men hyn yn ofalus iawn am ddim ond am gyflawm gorchymyn Solomon ir llythyren at bob dysgybl, sef Cur ef gwialen. Cafodd William ran pur dda or oruchwyliaeth hono. Wedi bod yn droseddwr gwaeth nag arfer ryw dro, cydiodd yr hen ysgolfeistr yn ei goler, a chan ei ysgwyd dipyn arw, dywedodd, Edrych yma, fachgen, r wyn credun wir fod y cythraul ei
hunan (x9) wedi cydio ynot. Mae en cydio ynof y funed yma, syr, ebe William.
_______

Wel, does dim myned ir ysgol i fod mwyach, rhaid i ti ddechreu meddwl am -wneud rhywbeth, ebe ei dad wrtho ryw fore. Ar gorchwyl cyntaf y cafodd William orchymyn iw gyflawni oedd olwyno pentwr o gerryg allan or cae i yrnyl y ffordd, fel ag i fod yn gyfleus ir ffordd-gyweiriwr pan ddeuai at ei waith. Ond cafodd y berfa olwyn (wheelbarrow) lonydd gan y llanc llygadog, oblegyd dyfeisiodd ffordd esmwythach o lawer, a mwy difyrus. Gosododd targed ar y clawdd yr ochr arall ir ffordd a gofalodd ei osod yn y fath fodd fel y buasai pob carreg gawsai ei thaflu ato yn sicr o ddisgyn i ymyl y ffordd, pun a fuasai yn taro y nod ai peidio. Yna dechreuodd daflu carreg ar ol carreg ato; ac yn union deg dyma blant y gymydogaeth, o un i un wrth fyned tuar ysgol, yn uno yn y (x10) gwaith, ac yn fuan yr oedd yno ryw ddau ddwsin ohonynt yn taflu ei chalon, ac wedi anghono fod ysgol mewn bodolaeth, nes yn fuan iawn yr oedd pob carreg ohonynt yn gorwedd yn daclus wrth yrnyl y ffordd. Fel yna cyflawnodd y bachgen ei ddiwrnod gwaith mewn ychydig oriau, gan deimlo yn flin na fuasai yno ychwaneg o waith taflu, gan gymmaint y difyrwch a gafodd.
_______

Pan aeth William ir ty rhyw ddiwrnod at ei ginio, gwelodd ar y bwrdd ddanteithfwyd or fath a garai, sef llonaid dysgl fawr o gloron newyddol (new potatoes). Wedi bod yn ymborthi yn lled hir ar yr hen, a rheiny yn y diwedd wedi myned yn lled gryf eu blas, yr oedd y newydd yn ammeuthyn or fath oreu ir bachgen. Gydai fod wedi eistedd wrth y bwrdd, dyma ei law at un ohonynt, ac or golwg a hi, croen a chwbl. Aros, aros, ebe i dad wrtho, aros i ni gael gofyn bendith. S dim (x11) ishe wir, nhad bach, ebe yntau, ma rhain yn ddigon da heb ofyn bendith arny nhw. Ac erbyn hyny yr oedd y llall or golwg. Rhaid cofio mai yn ei gyflwr natur roedd y bachgen hyd yn hyn. Wedi ei gyfnewidiad, bu yntau yn llawn mor ofalus am, a selog dros, y dyledswyddau crefyddol yn y teulu ag oedd ei dad.
_______

Yr ochr arall ir Cwm, ond yngolwg cartref William, preswyliai dau fachgen talgryf; prif ddifyrwch pa rai oedd herw-hela (poaching), ac, oblegyd hyny, cawsant yr enw milgwn gan rywrai direidus yn yr ardal; ond gwae y neb au galwai felly ynglyw eu mham, yr hon oedd yn ddynes gref, a ffyrnig ei thymer. Rhyw ddiwrnod, pan oedd William allan ar ymyl y ffordd, daeth heliwr (sportsman) heibio mewn ymchwil am filgi ieuanc. Wrth weled y llanc yn y fan hono yn ddidaro ac hamddenol, meddyliodd y gallasai fod o gynorthwy (x12) iddo. Wedi ychydig o gyfarchiadau, gofynodd a wyddai efe am ryw ffermwr yn yr ardal ag oedd yn magu milgi, ei fod yn foddlon rhoddi unrhyw arian am dano. Saethodd i gof y llanc mewn eiliad am y ddau fachgen a nodwyd, a, chyda gwn ddireidus, cyfeiriodd sylw y boneddwr at y tŷ oedd yr ochr arall ir cwm, gan ei hysbysu fod dau filgi braf yn cael eu mhagu yno, ai fod yn credu y buasai eu perchen yn foddlon ymadael ag un ohonynt gyda phleser. Cyfeiriodd yr heliwr ei gamrau tuag yno, gan feddwl yn sicr ei fod ar gael ei ddymuniad. Canlynai y llanc direidus yntau o hirbell, er gweled a chlywed y drafodaeth. Gwelai y boneddwr yn cyfarch mam y bechgyn, yr hon oedd yn ddiwyd yn ysgubo o flaen drws ei thy. Wedi ychydig o siarad, yn sydyn iawn beth welai y llanc ond yr ysgubell a phenglog yr heliwr druan yn gymydogion rhy agos iddi fod yn ddymunol iawn
arno, a rhedodd or golwg gynted ag y gallai, rhag y digwyddai peth tebyg iddo yntau oddiar law y boneddwr.

(x13) Cymaint a hyna am William y llanc. Yn fuan wedi hyn bu farw ei dad, a hyny yn dra sydyn. Difrifolodd hyn gryn lawer ar ei feddwl, ac nid hir y bu cyn iddo ymuno chrefydd, a bu fyw yn deilwng oi broffes, gan droi ei dalent ai athrylith i ddefnyddioldeb gydar achos goreu.

Yn nesaf ni a gawn olwg
arno yn ymofyn am gydmar bywyd.

(x14)
YMOFYN AM GYDMAR BYWYD

Yr oedd ei ddull yn myned o gwmpas y gorchwyl hwn, fel pob peth arall, i olwg y mwyafrif yn ddull go ryfedd, maen ddiau; ac eto, efallai, ei fod y dull goreu o ddigon.

Y blynyddau cyntaf ar ol claddu ei dad, gorphwysai gofal y fferm yn llwyr ar ei fam, ac yntau yn gwneud ei oreu iw chynorthwyo. Ond nid hir y bu William cyn gallu cymeryd yr arweinyddiaeth iw law ei hun. Ymddiriedodd ei fam y cwbl i law ei mhab, ac ymddiriedai yntau y cwbl iw Feistr Dwyfol; ar canlyniad oedd, nid oedd tyddynwr mor llwyddiannus William Tomos Benja yn yr holl wlad. Ond daeth y dyddiau blin, yn y rhai nid oes dim dyddanwch ynddynt, ar warthaf ei fam, a meddyliodd yntau mai doeth fuasai iddo yd awr i gael rhyw un i fod yn ymgeledd gymhwys iddo ei hun, ac i fod yn gysur a chynorthwy iw fam oedranus yn hwyrddydd ei hoes.

(x15) Dyn llygad yn ei ben, fel y dywedir, ydoedd ein gwron, ac un fedrai ddarllen y natur ddynol yn lled gywir. Am rai misoedd bu ei gynheddfau cryfion ar lawn waith, ac, or diwedd, penderfynodd pwy oedd i gael y cynyg cyntaf, beth bynag.

Mewn ffermdy bychan yn y gymydogaeth, or enw Aberlan, preswyliai teulu hynod o barchus, ac un ferch or enw Nancy, yr hon oedd yn awr yn agos a bod yn ddeugain oed, ychydig yn ieuengach na William. Yr oedd y teulu hwn yn perthyn ir eglwys lle yr oedd ein gwron erbyn hyn yn ddiacon. Cydrhwng hyny, ar ymdrafodaeth sydd rhwng amaethwyr au gilydd yn yr un gymydogaeth, yr oedd wedi cael pob mantais i adnabod
Nancy, a hithau, or tu arall, iw adnabod yntau.

Rhyw foreu, yn union ar ol gorphen yr addoliad teuluaidd, yr hwn a gedwid yn gyson ganddo, dacw William ai ffon yn ei law yn cychwyn iw daith (x16) garwriaethol gyntaf. Wedi cyrhaedd y lle, a churo ar y drws, yn ffortunus iawn pwy ddaeth i ateb ond y foneddiges etholedig. Croesawodd ef i mewn yn serchus, heb ddychmygu fod ganddo neges mor bwysig. Na, na, meddai yntau, ddo i ddim i mewn,
Nancy, rhaid i mi gael dweyd fy neges yn y fan hyn. Cawsom hyn o gyfrinach o enau y wraig dda ei hun ryw dro. Gofynodd i mi yn sydyn, meddai, heb unrhyw yswildod, nar cyfnewidiad lleiaf yn ei wynebpryd, Beth feddyliech chi am ddod yn feistres i Tycam ?

Pe buasai hi yn ateb yn nacaol, gwyddom or goreu na chawsai hi mor ail gynyg, ond troisai ei gefn arni am byth. Ni roddodd iddo atebiad cadarnhaol ychwaith, ond gofynodd ir ymgeisydd difrifol a gawsai hi wythnos o amser i ystyried, ac felly y bu.

Yn mhen yr wythnos, dacw ein gwron yn drachefn, a mawr oedd y croesaw a gafodd y tro hwn, a deallodd ar unwaith fod y gwynt yn chwythu (x17) oi du; ac felly yr oedd, oblegyd cafodd atebiad cadarnhaol, ac aeth y tro hwn y dyn dedwyddaf yn yr holl wlad.

Yn fuan iawn wele ferch Aberlan yn feistres Tycam, yn ofalus am gysur ei phriod, ac yn gweini yn dyner ar ei mham-yn-nghyfraith yn ei henaint ai llesgedd.

Gan ir hen wraig a nodir uchod i huno yn yr angau yn fuan wedi hyn, daw yn naturiol i ni yma i roddi ir darllenydd olwg ar

(x18)
Ei Annibyniaeth ai Wroldeb

yn nglyn defodau y claddu. Gofynodd ryw un iddo oedd ar ymweliad ag ef, wedi clywed am yr amgylchiad, paham na byddai yn tynu y lleni (blinds) dros y ffenestri. Gofynai yntau am ei reswm dros eu tynu, ar ateb oedd mai hyny oedd yr arferiad.
Wel, ebe yntau, rhaid fod rhyw un wedi cychwyn - wedi gwneud am y tro cyntaf, ac felly am bob peth sydd wedi dod i arferiad. Ac yn awr dyma finau, dwedwch, yn peidio au tynu am y tro cyntaf, ac, ond i bawb trwy y wlad i ddilyn fy esiampl, yna, yn mhen ugain mlynedd, bydd peidio tynu y blinds dros y ffenestri pan fydd corph marw yn y ty wedi dod yn arferiad, ac yn ol fy marn i, yn llawer doethach arferiad nar arferiad presenol. Na, ffrynd bach, mae y tŷ yn ddigon trymaidd heddyw i mi wedi colli fy anwyl fam, heb dynu y blinds dros y ffenestri iw wneud yn fwy trymaidd.

(x19) Diwrnod yr angladd cludwyd y corph or ty ir fynwent heb na chanu, na darllen, na gweddio yn gyhoeddus, ar unig un siaradodd ar lan y bedd oedd William ei hun.

Wedi gosod y corph yn y bedd, ac aros am ychydig eiliadau mewn distawrwydd pruddglwyfus, edrychodd trwy ei ddagrau ar y dorf, a diolchodd iddynt am eu caredigrwydd yn cyflawni fel hyn y gymwynas olaf iw anwyl fam.

Nid oedd bugail ar yr eglwys y perthynai efe iddi, ond galwyd gweinidog or ardal ir angladd, ac er nad oedd i wneud dim yn gyhoeddus, eto gorfodwyd ef i dderbyn tl anrhydeddus o law ein gwron; yn un peth am ei fod wedi dod o gryn bellder, sef rhyw bum milldir ar draed; a pheth arall, wedi iddo ddod a chael ar ddeall nad oedd i wneud dim, iddo fodloni yn dawel, gan gario allan ewyllys yr hwn ai gwahaddodd ir llythyren.

(x20) Y Sul canlynol yr oedd yn ei le arferol yn y capel; gwrandawai yn astud ar y bregeth, a chydganai r gynulleidfa, megys y gwnai efe cyn hyny; ond er hyn i gyd, gwelsom lawer deigryn yn disgyn dros ei ruddiau, yr hyn a brofai nad oedd ei alar yn ddim llai am ei fod yn uno yn yr addoliad. Pe buasai rhywun arall yn yr ardal yn ymddwyn fel hyn, cynyrchai lawer o siarad, a beirniadu, a beio, ond nid felly gyda golwg
arno ef.

Cymeriad rhyfedd oedd William Tomos Benja a phethau rhyfedd ddisgwyliai pawb oddiwrtho. Diameu genym, hefyd, fod llawer yn edmygu ei wroldeb yn tori ar draws hen arfenon ag yr oedd pawb yn meddwl cymmaint ohonynt; ac, efallai llawer cydwybod yn tystio wrth adolygu yr angladd hynod hwnw, mai efe, wedir cyfan, oedd yn iawn.

Bellach, beth am dano gydai alwedigaeth

(x21)
FEL AMAETHWR.

Yr oedd yn dra gofalus i gyflawni pob gwaith perthynol ir fferm yn ei bryd, ac yr oedd yn weithiwr dyfal a chyson. Ond eto, os byddai eisiau hl neu hebrwng pregethwr, neu ryw wasanaeth arall angenrheidiol ar yr achos, byddai y ceffyl ar gig bob amser yn barod, hyd yn nod pe byddai yn nghanol prysurdeb y cynhauaf gwair, neu y cynhauaf Medi. Dywedai yn aml, Rhaid gofalu am yr achos, beth bynag ddaw ohonom.

Soniasom or blaen ei fod yn ymddiriedwr mawr yn ei Dad Nefol, ac felly yr ydoedd. Cyflawnai bob amser yr hyn a gredai oedd yn iawn, pe byddai ar ei golled wrth wneud, gan adael y canlyniadau i Dduw.

(x22) Prynodd fuwch mewn ffair unwaith, gan gredu gair y gwerthwr ei bod yn ddifai, ac yn werth yr arian a ofynai am dani. A phan yr oedd y wraig yn grwgnach am ei fod wedi rhoddi gormod am dani, dyna oedd ei ateb, Fe ddwedodd y gwr da,
Nancy fach, ei bod yn werth yr arian, a chan mai yn ei ofal ef yr oedd hi wedi bod, efe oedd yn gwybod oreu am dani. Wel, ebe hithau drachefn, ddylasech chi ddim credu dyn dieithr ar ei air. Dyna fel yr ydw i wedi arfer gwneud, Nancy fach, ebe yntau, a fum i ddim ar ngholled eto; ac os dywedodd y gwr da gelwydd wrthyf, ei golled ef fydd y golled fwyaf,

Yr unig fforddi farnu pun ai gwr da neu gwr drwg ydoedd y gwerthwr hwn, yw ymofyn sut y trodd y fuwch allan yn ei chartref newydd. Wel, ynte, heb ymhelaethu, digon yw hysbysu fod William yn y ffair drachefn yn mhen y mis gydar amcan oi gwerthu, a hyny am y rheswm nad oedd yr un clawdd yn y gymydogaeth na fedrai hi fynd drosto.

(x23) Byddai rhai ffermwyr yn llyfytheirio rhai fel hyn, ac eraill yn gosod pwysau wrth eu gyddfau; ond ysytyriai Wiliam hyn yn dipyn o greulondeb chreadur mud. Yr oedd am wneud cynyg teg iw gwerthu yn gyntaf, ac os methai, ni byddai dim iw wneud wedi hyny ond troi at y llyfytheirio. Ond mawr y drafferth a gafodd iw gwerthu, oblegyd rhaid oedd iddo gael dweyd ei bai wrth bob cynygiwr. Byddai pob prynwr a ddelai heibio yn gofyn wrth fargeinio, os oedd rhyw fai arni; atebai yntau, Oes, oes, ffrynd bach, mae hi fel llawer o bobl yn yr hen fyd yma, yn credu fod gwell byd ar eu cymdogion nac sydd arnynt hwy. Daeth un prynwr heibio, yr hwn, wedi gofyn ei phris, a sylwi ei bod yn greadur groenus, a estynodd allan ei law dan waeddi, trawch hi bant. Arhoswch fynud, ffrynd bach, ebe yntau, cofiwch, d oes yr un clawdd yn y wlad na fedr hi fyned drosto. O, dyna hi ar ben, ebe hwnw, a ffwrdd ag ef.

Cawsom yr ymdrafodaeth yn fanwl fel hyn o (x24) enau ei was, yr hwn oedd gydag ef yn y ffair, ac felly yn dyst or cwbl. Gwelodd y gwas yn awr nad oedd fawr obaith y llwyddent iw gwerthu tra yr oedd ei feistr yn mynu gwneud yn hysbys i bawb beth oedd y bai oedd arni, ac anturiodd roddi cynghor iddo. Ond dangosodd ei feistr iddo yn dra buan mai
arno ef yr oedd angen cynghor. Gonestrwydd, machgen i, meddai, gonestrwydd y pia hi o ddigon. Ac yn y blaen ag ef dan bregethu wrth y gwas ar y gras hwnw, nes y daeth prynwr arall heibio, a beth oedd hwnw ond porthmon (cattle dealer); a doedd myned dros y cloddiau yn un bai yn y byd arni gan y porthman, oblegyd ni byddai efe fawr o dro cyn ei gwaredu i ryw un arall. Felly cafodd yr hen gymeriad gonest waredigaeth gyflawn or diwedd, ac aeth tuag adref gyda chalon iach a chydwybod dawel.

Cymaint a hyna am dano fel Amaethwr. Yn awr, ni a roddwn ychydig engreiphtiau o hono yn cyflawni dyledswyddau ei swydd fel Diacon.


(x25)
FEL DIACON.

Gan nad oedd yno fugail, fel y nodasom eisoes, ac i fod cynifer o gymhwysderau wedi cydgwrdd ynddo yntau, naturiol iawn ydoedd ir eglwys ei ddewis yn arweinydd.
Ac felly y bu. Syrthiodd yr awenau iw law yn hynod esmwyth, a boddhaol i bawb. Yr ydym yn cofio yn dda mor onest a didderbyn wyneb y cyflawnai bob peth. Gwnai pob peth yn yr eglwys, yr un fath a thu allan ir eglwys, yn ei ffordd ei hun, a hono yn ffordd tra hynod, ond braidd bob amser yn effeithiol er cyrhaedd y diben mewn golwg.

Cawsai y rhai fu yn trefnu y Cyfarfod Gweddi oi flaen gryn drafferth gydar gwaith, a theimlent ei fod yn orchwyl go anymunol. Yr hyn ai gwnelai felly ydoedd anystwythder ac anufudd-dod y rhai a enwid i gymeryd rhan gyhoeddus. Ond pan (x26) ymaflodd ein gwron yn y gorchwyl, rhoddodd efe derfyn bythol ar yr anufudd-dod. Ac fel hyn y bu: - Dechreuodd y cyfarfod ei
hunan; yna galwodd ar frawd arall, John Ifan, ddoi di air i weddi, John? Dere. Ddim heno, ebe John. Wel, heno ydw i am i ti ddod, ebe yntau, oblegyd wyddys ddim ble byddi di na finau erbyn wythnos i heno. Ond gwrthod wnaeth John. A dyma un arall yn cael alw, Billy Dafi, ddoi di? Na, rhyw un arall, os gwelwch chi n dda, meddai hwnw. Or goreu, ebe yntau, a dymar rhyw un arall yn cael ei enwi. Dafydd Rhys, wyt tin barod i ddod? Ond gyda fod y gair oi enau, dyma hwnw yn ymgladdu or golwg i waelod y st. Wel, yn awr, ebe William, y peth goreu alla i wneud yw mynd air bach i weddi eto, a dyma fe yn hwylio ati; ond gyda hyn, dyma John Ifan yn gwaeddi oi set, Rhoswch, William, rhoswch, dyma fi yn dod. A dod a wnaeth, a gweddiodd yn afaelgar a gwresog. Gydai fod yn gorphen, dyma Billy Dafin dod, ac ar ei ol yntau, Dafydd Rhys.

(x27) Gweddiodd y tri gydag eneiniad, a chlywid y gair y maddeu yn y gweddiau yn amlach nar un gair arall.
Or noson hono allan, ni chafodd y trefnwr ond yr hwylusdod mwyaf. Nid yn unig byddai pawb yn ufuddhau pan elwid arnynt, ond deuai ambell un yb awr ac eilwaith heb ei alw.

Rhoddwn engraipht o hono fel arweinydd y Seiat, trwy roddi hanes y Seiat ag sydd wedi aros lwyraf ar y cof.

Pan ddaeth yn amser dechreu, galwodd ar un ag oedd yn arfer bod dipyn yn hir-wyntog ar ei liniau, fel y canlyn Tomos Tomos, meddai, dere mlan i ddarllen Salm fach, ac yna paid a mynd or afon hyd derfynau eithaf y ddaear wrth weddio, ond dwed dy neges wrth dy Dad, a dibena. Yna gwrandawai ar y plant yn adrodd adnodau, gan eu cynghori fel hyn: - Glynwch wrth ddysgu (x28) adnodau. Pan yn fachgen cefais ffon yn anrheg, a chariwn hi genyf i bob ffair, a marchnad, ac ocshiwn; nid am fod ei hangen arnaf, ond er tori tipyn o style,welwch chi. Wel, maer ffon gen i o hyd, dyma hi; ond r wy yn ei chario hi yn awr am ei bod yn help i mi.
Mae ei heisiau arnaf yn awr i bwyso arni. Dyna help fuodd hi i mi i ddod ir Seiat heno. Felly am yr adnodau yma. Dysgwch gymaint fedrwch chi o adnodau ar eich cof, taech chi ddim ond gwneud er mwyn rhagori ar ei eich gilydd; oblegyd bydd yr hyn a ddysgwch chi pan yn blant yn siwr o aros ar eich cof. Yna, os cewch chi fyw i weld fy oedran i, dyna falch byddwch chi o honynt.Pan y byddwch chi yn pwyso arnynt, ac yn derbyn cynaliaeth mewn canlyniad, dyna pryd y teimlwch chi werth yf hen adnodau anwyl yma.

Y gwaith nesaf oedd adferu un ag oedd wedi (x29) cael ei adferu droion or blaen. Wel, Jaci bach, eber hen arweinydd, r wyt ti am droi dy wyneb yn ol ato ni eto? Ydw, ydw, ebe Jaci, dymar lle goreu. Wel, fe ddylet ti fod yn gwybod, ebe yntau, ble maer lle goreu, pun ai yn yr eglws, neu mas or eglws; waith r wyt ti wedi treio pob un or ddau lawer gwaith. Wel, ti gei dy dderbyn yn ol y tro hwn eto; a gd i hwn i fod y tro olaf, Jaci. Paid a mynd eto i hen gomin y cythraul, waith ma dy olwg di heno yn dweyd fod e mor llwm rhos henfeddau.

Digwyddai fod yn bresenol y noson hono un or enw Niclas, un o grefyddwyr y fits and starts. Dilyn pob cyfarfod heb golli yr un am rhyw ddaufis, ac yna cadw draw, efallai am dri. Ac meddai yr hen frawd wrth hwnw, Mae n dda gen i dy weld di, Niclas, gyda ni yma heno. Garet ti ddweyd bach? Wel na,does gen i ddim neillduol (x30) ar fy meddwl, ebe Niclas, ond mi alla ddweyd fod yn dda gen i mod i yma heno, a mod in cael llawer o bleser yn y moddion.

Wel, Niclas bach, eber hen arweinydd, mae dy weld di yma heno yn peri i mi feddwl am greadur bach sydd yn talu ymweliad ni yn y ty yco weithiau, a dyna lle y bydd e am wythnosau yn canu ei chalon hi wrth gefn y tan yn y gegin yco, ond yn sydyn iawn dyna ni yn ei golli, a dim oi swn e iw glywed am wythnosau. Ond ryw noson pan yn eistedd ar yr aelwyd yco, Nancy yn gwau, a finau yn darllen, a phob peth mor ddistaw ar bedd, os dych chi yn y fan, beth glywsem y tori ar y tawelwch ond yr hen greadur bach, yn ei thiwnio hi mor fyw ag eriod. Wyt ti ddim yn meddwl, Niclas, dy fod ti, a rhyw gwpwl eraill nad ydynt yma heno, yn rhy debyg iddo? Edrych yma, Niclas, os wyt ti am ini gredu yr hyn ddwedaist ti heno, sef dy fod yn cael pleser yn (x31) y moddion, rhaid i ni dy weld ti ynddynt yn amlach.

Yna, mae en taro ei lygad ar hen wraig, yr hon oedd yn hynod o ffyddlon, ond dipyn yn dafodrydd, ac oblegyd hyny yn tynu ei hun i helbul rhai gweithiau.

Wel, Nani fach, ebe wrthi, beth sydd ar dy feddwl di, heno?

Rhwng Piahiroth a Baalzephon, ehe Nani, dan siglo, -

....................Tra bwy byw mi gofiar lle,
.........................Mewn cyfyngder eithaf caled,
....................Gwaeddodd fenaid tuar ne.

Aros fynud, Nani, ebe yntau, mae gryn amser oddiar hyny, ni allwn feddwl.

Oes, oes, ebe hithau, ond r wyn cofior fel tai ddo.

(x32)Efallai hyny, ebe yntau, ond mi glywais i dy fod wedi bod mewn cyfyngder lled galed yr wythnos ddiweddaf, oblegyd ryw stori wael fuost ti yn daenu ar led am wr y Pls. Arna i ofn y bydd yn rhaid iti fynd rhwng Piahiroth a Baalzephon cyn y daw graen arnat ti, Nani.

Wedi edrych ar y clock oedd y tu cefn iddo, galwodd ar ddyn ieuanc, yr hwn oedd ar brawf yn yr eglwys fel ymgeisydd am y weinidogaeth, Joseph, meddai, mae gyda ni yn mron chwarter awr eto, cyn ei bod yn amser terfynu; beth tan ni yn cael pregeth fach yn awr. A dyma Joseph ati hi, gan orphen yn brydlon. Wedi iddo eistedd, gosodai William ei law ar ei ysgwydd, a dywedai, Yn wir, dyna ddarn bach tidy anghyffredm. Nid brethyn shop oedd e Joseph, ie fe? Plygai y bachgen ei ben, pun ai oblegyd ei fod yn euog, neu ynte oblegyd nad oedd wedi deall yr hyn a feddyliai yr hen frawd llygadgraff. Os ca brethyn shop gawod o law, meddai drachefi mae en tynu (x33) ato, a daw y linings ir golwg. Cofia di, Joseph, mai brethyn gwlad, o waith gartre, syn gwisgo oreu.

Yr oedd arweinydd y gn yn digwydd bod yn bresenol y noson hono hefyd. Pechod parod hwnw ydoedd crwydro tipyn yn awr ac eilwaith ar y Sul. Os buasai Cwrdd Pregethu, neu Gymanfa Ganu, yn rhyw le yn yr ardal, byddai ef yn dra thebyg o fod yno, gan adael iddynt ymdaro goreu fedrent gydar canu gartref. Cafodd hwnw, druan, gerydd llym gan yr hen frawd, yn y penill a roddodd allan iw ganu ar y diwedd - penill yn gorphen gydar geiriau hyny: -

.........................Nad fi grwydro,
...................Draw nac yma o fy lle.

Dyna fe,
Beni bach, ebe fe, mesur wyth saith pedwar, a repitia dipyn ar y ddwy lein ddiwethaf, sef,

.........................Nad fi grwydro,
...................Draw nac yma o fy lle.

(x34) Felly terfynodd Seiat, neu Gyfeillach Grefyddol, ddylasai fod mewn gwirionedd yn foddion gras i bawb oedd yn bresenol.
_______

Rhoddwn yma engraipht neu ddwy ohono fel Cyhoeddwr. Cyflawnai y gorchwyl hwn, fel pob peth arall, yn ei ddull hynod ei hun. Wedi adnewydd tipyn ar y capel, penderfynwyd cynnal Cwrdd Agoriadol, a chael dau bregethwr i wasanaethu ar yr achlysur.

Penodwyd ar yr adeg, a llwyddasant i gael dau weinidog tra rhagorol iw gwasanaethu, ar ddau wedi cael y radd o B A., peth go anghyffredin yr adeg hyny. Y Sul blaenorol, cyhoeddodd yr hen frawd y cyfarfod pwysig hwn fel y canlyn: - Cymer agoriad y capel yma le, cofiwch, dydd Mercher nesaf, diwrnod ar ol ffair
Lawrence, a diwrnod ar ol ocshwn y Pls. Pregethir am ddeg dau, a saith, gan y Parchedigion D.J_______, Bia C_______, a J.M_______, Bia, T_______.

(x35) Yr oedd ryw son wedi myned ar led am un or aelodau, yr hwn a gadwai dipyn o fasnach, ei fod yn anghofio (?) yn lled aml i groesi allan hen ddyled ag oedd wedi ei thalu, a gwnelai i rai oi gwsmeriaid dalu ddwy waith am yr un nwyddau, os na fyddent wedi bod yn ddigon gofalus am y receipts.

Myddyliodd y gwr hwn y cawsai dipyn o ddifyrwch ar gost ein gwron, gydai ddull cyflym a Chymreig o gyhoeddi teitlau y brodyr da, ac meddai wrtho, Fydd dim raid i ni dalu y pregethwyr fydd yma dydd Mercher.

Sut hyny? gofynai yntau.

Ond wedsoch chi fod un yn bia C_______, ar llall yn bia T_______, ebe fe, ac os ydynt yn berchen ar ddwy dref, nid oes angen arian arnynt does bosib.

Gwelodd yr hen frawd fod gan y siopwr ryw beth i chwareu
arno; ond gyda chyflymdrar (x36) fellten cofiodd rywbeth arall, ac atebodd, gyda gwn gellweirus, Ddalia i bydd yn rhaid eu talu, au talu am goods ag y maent wedi cael eu talu am danynt lawer gwaith or blaen, hefyd, Dafi bach. A dyna derfyn ar y difyrwch, oblegy calon Dafydd ai tarawodd ef.

Nodasom mai pethau go anghyffredin a phrin oedd y teitlau yr adeg hyny. Drysai ambel un ohonynt rai or hen gyhoeddwyr. Clywsom am gyhoeddiad un ag oedd wedi cael y radd o Ph.D., wedi dod i law hen gyhoeddwr yn nghanol y wlad. Gwyddai or goreu beth oedd D.D. yn ei arwyddo; ond beth yn y byd oedd diben y ddwy lythyren hyn oeddynt ar ol enw y gwr parched! Ac wedi bod wrthi yn ddyfal ar hyd yr oedfa, yn astudio uwch ben y broblem, or diwedd goleuodd arno (?); ac ar y diwedd cyhoeddodd yn hyglyw braf -

Bydd Parch. _______ yn pregethu yma nos Iau, am saith, a bydd un or enw Phillip Dafis yn (x37) pregethu gydag e. Bu y Doctor galluog yn ffyddlon iw gyhoeddiad, ond wfft i Phillip Dafis.

Ond rhaid i ni beidio crwydro. Byddai William rai prydiau yn cyhoeddi pwy fyddai yno yn pregethu am ddau neu dri Sabboth yn mlaen. Byddai yn gwneud hyny pan y digwyddai dau neu dri o rai go sl fod yno yn olynol.

Bydd Mr. _______ yma y Sul nesa, a Mr. _______ y Sul wedi hyny. Ond y Sul ar ol hyny, sef tair wythnos i heddy, bydd y Parch. J. R., Capel Adda, yma.

Yr oedd gan J. R. y fath gyfiawnder o ddoniau, fel y gwnai iawn digonol bob tro y deuai dros lawer or rhai diddawn ddeuent yno.

Yr oedd yno aelod or enw Jonah, yr hwn oedd yn hoff iawn o ganlyn ar ol pregethwyr dieithr, fyddent yn dod trwy y wlad, eu canlyn o gapel i gapel, a hyny am gryn bellder weithiau.

(x38) Rhyw Sabboth cyhoeddai William ddau wr dieithr or Gogledd i fod yno nos dranoeth, sef nos Lun. Cafodd yr hen frawd gyfle arnynt dipyn cyn amser yr oedfa, a mynodd wybod ble oeddynt i fod bob am yr wythnos.

Ar ddiwedd yr oedfa nos Lun cyhoeddodd Bydd y ddau wr dierth yn pregethu nos yfory yn Capel Gwyn, a nos Fercher yn Bryn Seion, a nos Iau yn Glanrhyd, a nos Wener - ond dyna, meddai, gan droi at Jonah, ti fyddi di wedi blino erbyn hyny, Jonah, mi gynta. Welodd neb o Jonah yn dilyn llawer ar bregethwr dieithr ar ol hyny.

Rhoddai yr eglwys gryn dipyn o ryddid iddi gyda dewis pregethwyr. Gan mai efe oedd ceidwad y dyddiadur, ymddiriedent gryn lawer iw ddoethineb gyda golwg ar roddi cyhoeddiadau i frodyr.

Ond ni chyflawnai y gorchwyl hwn bob amser i foddlonrwydd y frawdoliaeth. Rhoddai gyhoeddiad yn lled aml i un ag oedd yn hynod o anghymeradwy (x39) gan yr eglwys, ar gyfrif ei amddifadrwydd or doniau a garent hwy. Brawd a adwaenid yn yr ardal wrth yr enw Dafis, Garreglwyd. Beiddiodd rhai or brodyr ddweyd wrtho, nad oedd i roddi cyhoeddiad i Dafis drachefn, ac addawodd yntau i beidio.

Ond yr anhawsder oedd, beth i wneud ar Sul ag oedd wedi ei addaw iddo, ai enw ar y dyddiadur ar ei gyfer fel sicrwydd ac ernes ohono. Yr oedd yn ormod o foneddwr i ysgrifenu ato iw atal; a gwyddai nad gwiw iddo ei gyhoeddi yno drachefn. Ond nid brawd i gymeryd ei orchfygu gan anhawsderau ydoedd William.

Yn y cyfamser, daeth i wybod rhywfodd neu gilydd, fod Dafis, Garreglwyd, flynyddau yn flaenorol, wedi bod am ryw gymaint o amser yn
America. Gwelodd yr hen frawd mewn mynud sut oedd dyfod allan or dryswch.

Y Sul blaenorol, cyhoeddodd yn uchel a mawreddog, I nin disgwyl i bregethu yma y Sul (x40) nesaf, Mr. Davies, gynt or
America. A thra yr oedd y gynulleidfa yn canu ar y diwedd, llithrodd yr hen gyhoeddwr allan, ac aeth tuag adref. Ei amcan yn gwneud hyny oedd arbed yr holi diderfyn fuasai arno, megys Sut y llwyddodd i gael cyhoeddiad gan y brawd diethr, a pha bryd y daeth ir wlad hon; ac a oedd yn angenrheidiol i gael gwell lle nar lle yr arferai y pregethwyr aros, i Mr. Davies or America.

Beth bynag, y Sabbath a ddaeth; ar gwr dieithr a ddaeth hefyd. Ond rhyfedd y siomedigaeth. Dyna ller oedd llaesu gwefl, a thynu gwyneb. Faint bynag o awydd oedd arnynt i ddyfod ir capel i weled a chlywed y gwr dieithr, llawer mwy awyddus y disgwylient am yr Amen o enau y pregethwr; a phan y daeth, diangodd ochenaid o arml i galon, fel rhai wedi cael gwaredigaeth lwyr.

Yn awr, y peth nesaf, wrth gwrs, oedd galw yr hen gyhoeddwr i gyfrif, a dyna a wnawd. Ond, ar ol iddo egluro pethau, yn nglyn ag ymweliad (x41) y brawd o America, yn nghyd ar Sul oedd mewn addewid, maddeuwyd iddo gan y frawdoliaeth yn rhwydd a llawen.

Fel yna, trwy fod y tu hwnt o gall a chyfrwys, cadwodd ei addewid ir pregethwr, a sicrhaodd gynulleidfa luosog iddo yn y fargen, a gwnaeth y ddau heb dynu gŵg y frawdoliaeth.

(x42)
DIREIDI ETO.

Yn herwydd ei fod mor onest a didderbynwyneb yn ei ymdriniaeth ai gyd-ddynion, tynai ddigofaint ambell un weithiau, a gwnaeth rhai gynyg i ymddial
arno; ond efe bob amser fyddain gorchfygu, a hyny mewn ffordd hynod o esmwyth, gan dalu y dialydd yn ol fynychaf yn ei goin ei hun. Rhoddwn un engraipht.

Tynodd ddigofaint gwraig yn yr ardal, yn herwydd ei lymder tuag at ryw bechod parod oedd yn perthyn iddi, a phenderfynodd i beidio siarad ag ef. Druan o honi, nid oedd wedi llwyr adnabod ei chwsmer.

Pan oedd William allan ar ymyl y ffordd ryw foreu, pwy ddigwyddodd fyned heibio, ond y wraig a nodwyd.

Boreu da, Matti fach, ebe fe.

Ond dyna Matti heibio, ac yn ei blaen a hi heb agor ei genau, na chymaint a throi i edrych
arno.

(x43) Yn awr, gan mai ei waith allan ar ymyl y ffordd ydoedd trwsio clawdd perthynol ir fferm, yr oedd yno am ryw haner diwrnod a mwy; ac elai llawer heibio yn ystod yr amser, a phawb yn awyddus am gael ymgom gyda William. Gofalai yntau ofyn i bob un cyn y byddai yn ymadael, os ydoedd wedi clywed y newydd am Matti, Tyllwyd.

Na, wrth cwrs, doedd neb wedi clywed.

Pa newydd? Beth sydd? Hawyr bach! Wedi darfod?

Na, na, meddai yntau, chlywais i mo hyny, ond doedd yr un gair oi genau hi bore heddy.

Cyn yr hwyr yr oedd degau or cymydogion wedi bod yn ymweled a Tyllwyd, oblegyd yr oedd y son am glefyd sydyn Matti wedi cerdded trwy yr holl ardal erbyn hyny, a synai pawb ei gweled o gwmpas y tŷ gydai gorchwylion.

(x44) Wrth gwrs, cafodd y ddynes druan wybod gan y cyntaf fu yno mai William Tomos Benja oedd wrth wraidd y stori. A dyna oedd yn ddrwg, fod cymaint o wir ynddi, a rhwng pob peth, teimlai gymaint o gywilydd a chwithdod, nes bron iddi fyned yn glaf mewn difri. Gwelodd Matti mai y cam cyntaf oedd y cam goreu iddi i fyned i siarad William; oblegyd William Tomos Benja oedd efe, a neb yn gwybod beth wnelai nesaf. Ac felly y bu, brysiodd y wraig i Tycam, gan erfyn yn ostyngedig am faddeuant, ac na fuasai hi byth mor ffol, ond hyny.

Or goreu, Matti fach, ebe yntau, cofia na wnei di ddim, rhag ir hwn a roddodd leferydd i ddyn ei gymeryd yn ol oddiwrthyt am iti ei gamddefnyddio.

Felly, aeth Matti tuag adref y noson hono wedi cael gwers nad anghofiodd weddill ei hoes.

Gwely darllenydd erbyn hyn, mai nid cymeriad hynod yn unig oedd ein gwron, ond, hefyd, ei fod yn GYMERIAD DA YN OGYSTAL A HYNOD.

(x45)
CYMERIAD DA YN OGYSTAL A HYNOD.

Gallasai fod yn gymeriad hynod, a bod yn gymeriad drwg. Nid oedd heb ei feiau, wrth gwrs, oblegyd, fel y dywedodd yr anfarwol Hughes, Maesteg, Ar ol y cwymp y ganwyd ef. Rhaid fod ganddo ei feiau, ond hyn a ddywedwn, anhawdd fyddai i neb i gael gafael arnynt; ond am ei rinweddau, yr oedd y rhai hyny yn amlwg i bawb.

Ie, ddarllenydd, cymeriad rhagorol ydoedd. Cymeriad pur, gonest, didwyll, diduedd, a diragrith. Yr ydym wedi bod yn son am dano yn cynghori un, ac yn ceryddur llall, a phawb yn gorfod teimlo fod un cymhwys wrth y gwaith - un na allasai neb ddweyd wrtho, Y meddyg, iach dy hun.

(x46) Peth dieffaith iawn yw clywed cymeriad amheus yn cynghori, ac yn enwedig os bydd yn euog or un bai ag y cynghora arall i ymgadw oddiwrtho.

Clywsom am fachgen o forwr unwaith, yn dychwelyd adref i dalu ymweliad ai fam; ac wrth fyned ar hyd yr heol, a phecyn bychan o hen ddillad o dan ei fraich, pwy ddaeth iw gyfarfod ond swyddog y doll. Gofynodd gydag awdurdod, beth oedd ganddo yn y pecyn.

Atebodd y bachgen nad oedd ganddo ddim ond ychydig o hen ddillad.

Rhaid i mi gael ei agor, eber swyddog.

Or goreu, eber morwr.

Wedi iddo weled nad oedd ynddo un math o nwyfredyddiaeth (smuggling), rhoddodd ef yn ei ol, ond heb ei glymu.

Rhaid i mi ei gael yn ol fel y rhoddais ef, eber morwr; ac yr oedd tipyn o awdurdod yn ei lais yntau erbyn hyn.

(x47) Gan na wnai y swyddog un sylw o hono, rhoddodd y bachgen gernod iddo, nes y syrthiodd ei gapan ar yr heol, a beth ddaeth allan or capan, ond smuggling.

Felly, pwy bynag a gymer
arno geryddu neu gynghori arall, gofaled na bo smuggling yn ei gap; oblegyd, os bydd, y tebycaf o bawb i ddyfod o hyd iddo fydd y gwr a geryddir.

Yn awr,pa mor llym bynag y ceryddai William, a chan nad pa mor ymchwilgar am feiau y byddai yr hwn a geryddid ganddo,
nis gallasai edliw dim iddo, canys yr oedd yn ddiargyhoedd yn mhob ymarweddiad.

(x48)
BRIWFWYD GWEDDILL.

Yr oeddem wedi meddwl tynu yr hanes i derfyn yn y fan hyn, ond, wrth i ni adolygu pethau, cofiasom am ychydig o ddigwyddiadau na ddaethant in cof yn flaenorol, ac fel na choller dim, wele hwynt yma.

(x49)
FFRAETHINEB
NANCY

Clywsom fod
Nancy, pan yn go ieuanc, wedi penderfynu cael pregethwr yn wr, ac os na lwyddai, y buasai yn aros heb yr un; ac iddi, oblegyd hyny, i wrthod llawer o gynygion da.

Pan adgofiodd ryw un iddi hi am ei phenderfyniad, ar ol iddi briodi y diacon, atebodd fel canlyn, -

Gan mod i wedi bod mor hir cyn cael cynyg ar bregethwr, doech chi ddim yn meddwl mod i yn mynd i wrthod pan ces i gynyg ar ei fishtir e.

(x50)
WILLIAM FEL BEIRNIAD.

Yr oedd yn feirniad craffus neillduol. Daliai ar bob peth a deliai yn hollol deg gyda phob peth.

Adroddai ryw frawd ddarn o bregeth glywodd ar y Sabboth, yn y Gyfeillach ryw dro, a chanmolai ryw idea wyllt ddwedodd y pregethwr, yr hon oedd yn debyg i hyn: Cyn y collir y credadyn, fe rydd y Creawdwr yr Hen ddaear yma, yn nghyd ar holl fydoedd eraill, i gyd ar auction.

Mi sylwais inau ar y dywediad, hefyd, ebe William; a dyna saethodd i meddwl i mewn mynud, ebai, pwy fuasai yn eu prynu nhw.

Gofynasom iddo ar ol bod mewn Cwrdd Pregethu ryw dro gydag enwad arall yn ei gwmni, beth oedd ei farn am y ddau pregethwr.

(x51) Blodau i gyd oedd gan y cynta, fachgen, meddai,. dim ond blodau, heb na dail na phorfa, na dim arall. Pregeth bert oedd hi or dechreu ir diwedd.

Roedd blodau gydar llall hefyd, meddem wrtho.

Oedd oedd, meddai yntau, ond sylwest ti y gwahaniaeth oedd rhyngddo ar llall; roedd en towlir cwbwl i ni bendramwnwgl, y dail ar blodau, ar borfa, ar pridd, a gadel i ni i bigor blodau o ganol yr anibendod gore
galle ni.

Rhoddai ddesgrifiad o bregethwr ag oedd yn cael ei ystyried yn lled alluog, fel y canlyn: - Pregethwr sff iawn yw e, meddai, a mishtir ar i waith. Mae i
arad e mewn digon o dir o hyd, ai gwys e bob amser yn union a dwfwn (eglureb ffermwr, wrth gwrs).

Dywedai am un arall - Tyt, tyt, ffagal cropyn eithyn yw e; gyd ch bod chin dechreu teimlo gwres, dyna fen darfod..

(x52)
YMBORTH A LLAIS.

Yr oedd genych bregeth ardderchog, meddai ryw dro wrth bregethwr ieuanc ar ddiwedd oedfa. Eich llais chi sy ar ol. Rhaid i chi newid eich bwyd, machgen i.

Dyna lais oedd gan John Herring, a chan Dafi Griffith, Llantood, a chan William Evans, Tonyrefail. Ond beth oedd eu hymborth ? Bara barlys, a iwd ceirch, a digon o llaeth enwyn. Ond am danoch chir boys ifenc ma syn codin awr, t a choffi yw hi yn round about gyda chi, a phan ewch chi i dreio gwaeddi, ry chwi fel gwenyn mewn stn. Newidiwch chich bwyd, r ych chi n ifanc eto, a mi ddiffeia i y dewch i waeddi cystal a hwythau. Mae goods ardderchog gyda chi, a mi ddylen gael eu gwaeddi trwyr wlad yma nes bydder creigiau yn eco.

(x53)
EI GYFRWYSDRA.

Byddai yn arfer tipyn o gyfrwysdra diniwed yn awr ac eilwaith, fel y byddai galw. Pan glywai ambell un yn siarad dipyn yn fawreddog ac ymffrostgar, nid hir y byddai William cyn mynu gwybod beth oedd maint ei wybodaeth, yn enwedig os mai pregethwr a fyddai; ac ir amcan hwn arferai ei gyfrwysdra.

Adroddai pregethwr hanesyn wrtho ryw dro, am weithred lled ganmoladwy o eiddo rhyw wraig.

Wel, wel, meddai yntau, roedd hono cystal gwraig Manoah, syr. Beth oedd enw hono, hefyd? Beth syn atal i mi gofio?

Rwyf finau yn ffaelun ln a chofio, hefyd, eber pregethwr, ac y mae ar flaen fy nhafod i hefyd, meddai.

(x54) Wel, yn wir, ebe William, dyw e ddim ar fn y nhafod i, chwaithach ar ei flan e. Ac edrychai ar y pregethwr a gwn ddireidus yn chwareu ar ei wyneb.

Maen dra thebyg ir pregethwr hwnw, ar ol iddo gyrhaedd adref, fyned ati i chwilio yn ei feibl am enw gwraig Manoah, a chael allan er ei syndod nad oedd wedi ei groniclo yno o gwbl. A chofier nad yw yr engraipht uchod ond un o lawer o rhai cyffelyb a allasem nodi.

Pwy a wyr na fa tipyn o gyfrwysdra diniwed fel hyn oi eiddo, yn fendith i ambell un, trwy ei symbylu i fwy o ddiwydrwydd er eangu ei wybodaeth ysgrythyrol.

(x55)
DIWEDDGLO.

Diau y gwel y darllenydd, erbyn hyn, fod yr hen gymeriad hynod sydd wedi bod ger ei fron yn hyn o hanes, yn ddigon o athrylith i allu bod yn fyd-enwog mewn rhyw gylch neu gilydd. Ond gan na ddaeth i gyffyrddiad a neb, pan oedd yn ieuanc, ag oedd yn ddigon llygadgraff i ganfod fod ganddo gynheddfau cryfach nar cyffredin, neb iw osod ar ben y ffordd i gael uwch a rhagorach addysg, nar hyn oedd y pryd hwnw yn yr ardal wledig lle y magwyd ef, na neb i gynyrchu yn ei yspryd uchelgais i ymgyrhaedd at ryw nod arbenig, nac i ragori mewn unrhyw gylch cyhoeddus, o ganlyniad, treuliodd ei fywyd i raddau pell mewn dinodedd; ond gwasanaethodd ei genhedlaeth yn ei ddydd, gyda diwydrwydd a ffyddlondeb mawr yn y cylch ag oedd yn troi, ac yn ol y manteision oedd ganddo, ar dydd diweddaf yn unig a ddatguddia y daioni a gyflawnodd.

Yn awr, gan ei fod bron yn hollol anadnabyddus y tu allan ir gymydogaeth lle y preswyliai, teimlo yr oeddem mai trueni fuasai gadael ir fath gymeriad hynod, ar fath athrylith fawr, ynghyd ai gynghorion buddiol, ai ddywediadau ffraethbert, i aros yn gladdedig o olwg y cyhoedd.

(x56) Hyny, yn benaf, ynghyd a pharch dwfn iw goffadwriaeth, barodd i ni fel hyn gosod ger bron y cyhoedd gymaint ag a fedrem gofio oi hanes, gan hyderu yn fawr nad ofer fydd ein llafur, ond y bydd i bawb ai ddarlleno, nid yn unig i gael llawer o fwynhad, ond hefyd i gael rhyw gymaint o fudd ac adeiladaeth.

Ac yn awr, wrth gau i fyny hyn o hanes, dymunem argraphu ar feddwl pob darllenydd ieuanc y pwys o fod yn ddefnyddiol. Y bywyd sydd a gwerth ynddo yw bywyd o wasanaeth. Am hyny, fy nghyfaill ieuanc, os na elli fod yn hynod, ac yn athrylithgar, fel yr hen gymeriad sydd wedi bod dan sylw, ti elli fod yn gymeriad or fath ddefnyddioldeb a gwasanaeth, ag y teimla yr achos goreu yn y gymydogaeth lle y preswyli, yn nghyd ar ardal yn gyffredinol, golled nid bychan ar dy ol.

Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig; ond enw y drygionus a bydra.

DIWEDD.

Adolygiadau diweddaraf: 2003-01-14

Sumbolau arbennig: ŵ ŷ
Fformat 100 chwith, 200 de

Bler wyf i? Yr ych chin ymwld ag un o dudalennaur Gwefan CYMRU-CATALONIA
On sc? Esteu visitant una pgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Galles-Catalunya)
We(r) m ai? Yu a(r) vzting peij frm dh CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katluni) Wb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadstiques / View My Stats