1970k Gwefan Cymru-Catalonia. Safai yr hen
Wenallt mewn pantle, rhwng y fan y saif y Wenallt presenol a’r llwyn o goed a
elwir Nyrs F’achddeiliog, yn ymyl hen orsaf ffordd haiarn y Bala.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_071_adgofion_andronicus_01_1970k.htm
0001
Y Tudalen Blaen Google: kimkat0001
..........2657k Y Porth Cymraeg
Google: kimkat2657k
....................0009k Y Barthlen Google: kimkat0009k
..............................0960k Y
Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) Google:
kimkat096k
..........................................y
tudalen hwn
|
|
Gwefan Cymru-Catalonia
|
(delwedd
6516) Y llyfr ymwelwyr: 0860k,
Google kimkat0860k |
Tudalennau i’w teipio
eto: 26-200
_______________________________________________________________
(x1) ADGOFION ANDRONICUS

O gur ei gystuddiau gerwin - ei hun,
.......Yng nghanol y ddryghin, —
...O’i serch, Andronicus in
...Ogrynai’r sypiau grawnwin.
Yn merw’r dyfroedd Mara, - o’i waeledd
.......Huliai’r wledd felusa —
...Yma er dysg, Gymry da,
...Mynwch
gael profi’r Mana.
Llangollen........................
HWFA MON (Archdderwydd)
CAERNARFON
ARGRAPHWYD GAN Y WELSH NATIONAL PRESS COMPANY (LTD)
SWYDDFA’R “GENEDL”
1894
______________________________
(x2) GWAG
______________________________
(delwedd 2001) (tudalen 3)
(x3) ANERCHIADAU
Cei fwynhad o’r Cofion hyn, — ddarllenydd,
.....Er lloned amheuthyn —
...Hawdd i serch o’r cystudd syn,
...Diarbed, yw eu derbyn.
Diliau ynt, a gaed hyd làn — rhawd einioes
.......Gwr
doniol, pereiddgan, —
...Barotodd
y brawd diddan
...Yn rhodd ferth o’i orwedd-fan.
......................................ALAFON.
Gyda’i Adgofion doniol — ein
lloni
.......Wna’r llenor cystuddiol;
...Ac am y wledd ryfeddol
...Dylen’ ni dalu yn ol.
......................................EIFIONYDD
“Yn y Trên” y’th welais gynt
Yn myn’d a do’d ar ddifyr hynt,
Ac am greu hwyl a gwasgar gwên
Pwy mor fedrus a “Gŵr y Trên?’’
Gwelais di wed’yn, am flwyddi maith,
Yn methu teithio, ond llawn o
waith.
A Chymru deimlodd swyn Adgofion
Y “Cymro Gwyn,” rhwng bryniau Arfon
A chlywais rai yn dadleu’n dỳn, —
Pa
un debycaf i haul ar fryn,
Ai
“Gŵr y Trên?” ynte’r “Cymro Gwyn.”
Ond yr un wyt ti, er newid enw,
Ac yn dy arddull glir, dryloew,
Naturioldeb wêl ei delw!
Ni ddaeth culni a derbyn wyneb
Enoed i lwydo dy fraethineb,
“Edward Jones y Wenallt” rodia
Fraich-yn-mraich â’r “Wesle Ola’!”
Dyddanydd fuost i’n cenedl ni,
Daw cenedl yn awr i’th ddyddanu di.
......................................ANTHROPOS.
______________________________
(x4) GWAG
______________________________
(x5) AT Y DARLLENYDD
Ar daer anogaeth llawer o’m hen gyfeillion yn mhob cwr o’r wlad, yr
ydwyf yn anturio cynyg i’m cydwladwyr y gyfrol fechan hon, sef casgliad o rai
o’m ysgrifau a ymddangosasant, o dro i dro, y blynyddau diweddaf, yn rhai o
Gylchgronau a Newyddiaduron fy ngwlad.
Nid oes neb yn fwy ymwybodol na mi fy hunan o lawer o wallau a diffygion
sydd yn britho y llyfr, ond teimlaf yn berffaith sicr y maddeui i mi, hynaws
ddarllenydd, pan ddarlleni “Dipyn o fy Hanes,” ac y dealli o dan ba
amgylchiadau yr ysgrifenwyd bob gair.
Y mae genyf i ddiolch i Olygwyr y Cylchgronau a’r Newyddiaduron, yn mha
rai yr ymddanghosodd fy Adgofion, am eu tiriondeb yn rhoddi hawl i mi eu
cyhoeddi yn fy llyfr.
Nid ymhelaethaf, oblegid fel rheol, y rhan fwyaf diflas a difudd mewn
cyfrol ydyw’r “Rhagymadrodd,” fel y canodd Mynyddog ar ddechreu ei Drydedd
Cynyg:
“Ni roddaf Ragymadrodd,
.....’Dyw hyny ond lol dilês:
Cymerwch chwi fy llyfr,
.....Cymeraf finau’r prês.”
.......................Yn gywir,
...................................ANDRONICUS.
Caernarfon, Nadolig, 1894
______________________________
(delwedd 2003) (tudalen 6)
(x6)
CYNWYSIAD
x3 Anerchiadau
x5 At y
Darllenydd
x6 Cynwysiad
x9 Tipyn o Fy
Hanes Y cwmwl cyntaf — Beirniadaeth
Dr Lewis Edwards ar Feddargraph — Cwmwl dudew — Troi allan i’r byd - Manceinion
— Dechreu teithio —Y gwyntoedd a ddaethant - A gaf fi fendio eto.
x23 Edward
Jones o’r Wenallt (gyda darlun) Yr
Hen Wenallt — Edward Jones — Yn y Stondin —Fel Ffarier - Fel Blaenor — Ei
Sasiwn olaf.
x36 Ned
Ffowc y Blaenor Codi blaenoriaid —
Ethol pedwar — Gartref — Sara — Dechreu gweithio — Mari Dafydd.
x46 Adgofion
am y Bala (gyda darluniau) Rhagymadrodd
— Hen Gapel y Bala - Maer y Bala — Y Prif Adeiladau - Yr Ysgolion - Y Colegau —
Y Sasiwn — Diwygiad Crefyddol 1858 — Y Seiat. Robert Saunderson — Masnach y
Bala. Y Ffeiriau - Y Seiat Bach - Ioan Dyfrdwy — Hen gymeriadau — Canu’n iach.
x88 Oriau
gyda John Bright
x95 Y
Ddyfrdwy Sanctaidd (gyda darluniau) Llandderfel
— Y Pale — Edward Jones, bardd y brenin - Hen Eglwys Derfel Gadarn — Llandrillo
- Cader Bronwen
x106 Corwen,
Tref Glyndwr Rhug - Y Ffordd Ucha’ —
Cefnddwysarn - Club House Marged
Jones
______________________________
(delwedd 2004) (tudalen 7)
(x7)
x115 Cynlas
(gyda darlun) Hanes yr hen deulu
x119 Eglwys
Llywarch Hen Troedigaeth dau
bechadur
x123 Y
Wesle Ola’
x127 Robat
y Go’, neu Heulwen a Chymylau Heulwen — Cymylau
x141 **’Steddfod
Fawr Llangollen Cychwyn — Cyrhaedd
Llangollen — Pwy welais, pwy glywais - Cadeirio’r Bardd — Y Rhiangerdd — Seiat
y Beirdd — Troi adre’
x149 Hen
Sasiwn Plant
x153 Ponc
Pant y Ceubren, neu Helyntion Chwarelwr Y
Royal Charter — Y Bwthyn Gwyn —
Cornel y Lon — Dialedd Morgan Jenkins — O flaen y **’stusiaid — Myn’d i
Awstralia - Yr hen deulu gartref — Ar ol saith mlynedd — Myn’d i gyfarfod Benja
- Llythyr o Melbourne — Ail ddechreu byw — Yn y Bwthyn Gwyn eto — Diweddglo
x165 Hen
Goleg y Bala Y Cosyn a’r Ginger Wine — Siomedigaeth
x169 Ymweliad
Ned Ffowc a Llundan
x181 Michael
Jones y Cyntaf
x183 Michael
Jones yr Ail
x185 Ioan
Pedr Ei Ordeiniad - Simon Jones -
Tomos Cadwaladr —Yn Nhir “Nod” — Twymo’r Capel - Rhoddi Deheulaw Cymdeithas
x196 Evan
Peters Ei febyd - Dan y cholera —
**’D’od adref —Priodi — Peter Jones ac Etholiad 1859 - Gwyl arbenig — Nod clust
— Fy oen llyweth
______________________________
(x8) GWAG
______________________________
(delwedd 2005) (tudalen 9)
(x9) ADGOFION ANDRONICUS.
TIPYN O FY HANES.
Nid ydwyf ar un cyfrif yn bwriadu ysgrifenu Hunan-gofiant, nid oes dim yn fy
mywyd a fyddai o ddyddordeb yn y byd i neb o’m darllenwyr ei wybod. Ond enwaf
rhyw ychydig o land marks, sydd yn fy
hanes i fel yn hanes pob dyn cyffredin arall. Ni fyddai chwaith o un dyddordeb
i neb wybod y dydd a’r awr, y mis a’r flwyddyn, y cyrhaeddais y byd pechadurus
hwn. Digon yw dweyd fod llawenydd mawr pan wnaeth y mab cyntafanedig ei
ymddanghosiad ar lwyfan byd o amser. Tra yr oedd eraill yn llawenhau ar yr
amgylchiad, wylo wnai y baban. Gobeithiaf pan yn ymado a’r fuchedd hon y bydd y
llawenhau o’m hochr i, beth bynag am y wylo o’r ochr arall. Caiff y darllenydd
wybod cyn myn’d yn mhell lawn pa le y ganwyd fi, oblegid mewn llyfr o Adgofion
y peth mwyaf naturiol ydyw i ysgrifenydd son am fangre ei febyd.
Y CWMWL CYNTAF.
Y cwmwl cyntaf a ddaeth uwch fy mhen yn nyddiau fy mebyd oedd colli brawd
bychan pan oeddwn tua chwech oed. Aeth y bychan yn llaw ei dad rhyw foreu i dy
ei nain, ac ni ddychwelodd byth mwyach i gydchwareu a mi, oblegid bu farw yn
ddisyfyd o’r clefyd coch. Nid anghofiaf byth y loes a gefais pan glywais fod
Llewelyn bach wedi myned i’r Nefoedd, yr”Ephraim” bach yr oeddwn i wedi helpu
i’w ddysgu gerdded. Ni buaswn yn son o gwbl am yr amgylchiad hwn oni bai fod un
peth lled bwysig i Ymneillduwyr wedi cymeryd
______________________________
(delwedd 2006) (tudalen 10)
(x10) lle ddydd ei gladdedigaeth yn mynwent Llangower, ar lan Llyn Tegid. Yn y
flwyddyn 1848 yr oedd hyn, ac ni raid i mi ddweyd nad oedd Deddf Gladdu Osborne
Morgan wedi ei phasio, ac felly nid oedd rhyddid i weinidog Ymneillduol gymeryd
rhan yn y gwasanaeth. Fodd bynag, er na chai Dr.Lewis Edwards halogi awyrgylch
mynwent Llangower a’i lais, yr oedd y Duweinydd enwog yn ddigon gwrol, ac yn
Ymneillduwr digon pybyr, i ufuddhau i gais taer fy nhad a darllen rhan o’r
Beibl, a gweddio oddiallan i’r “tir cysegredig a sanctaidd.” Yr oedd yr hen
Reithor Jones yn hen ŵr caredig a rhyddfrydig ei feddwl, ond yr oedd yntau
“dan awdurdod,” ac yr oedd yn rhaid iddo ufuddhau i’r cyfreithiau Eglwysig, neu
yr ydwyf yn sicr na fuasai gan yr hen foneddwr ddim gwrthwynebiad o gwbl i
Lewis Edwards, Athraw y Coleg Methodus, i gael darllen y gwasanaeth, ac i
bregethu hefyd o ran hyny. Pe buasai hyny wedi cymeryd lle buasai muriau hen
Eglwys Llangower y pryd hyny wedi cael haner awr o Dduwinyddiaeth na chafodd
“gynt na chwedyn;” pob parch i’r gwŷr da a fu neu y sydd yn llanw y
pwlpud.
Ar ol marwolaeth Llewelyn, cynygiodd fy nhad wobr i aelodau Cymdeithas
Lenyddol y Bala o “gadach poced “ Indian Silk am y beddargraph goreu i’r bychan
oedd yn gorwedd is yr hen “ywen ddu ganghenog” yn mynwent Llangower. Y mae yna
ddynion yn y Bala heddyw yn cofio yn dda yr hen Gymdeithas Lenyddol a gynhelid
yn llofft yr hen Goleg, yr hen Gymdeithas Lenyddol a ddechreuwyd o dan y pren
gwyrddlas yn nghae y Rhiwlas, ac wedi hyny mewn cut mochyn ac ystabl, fel y bu
rhyw ysgrifenydd yn ceisio rhoi yr hanes dro yn ol yn Cymru Owen M. Edwards. Wel, fe gynhaliwyd cyfarfod arbenig noson
gwobr y “cadach poced.” Yr oedd ugain o feirdd y Bala wedi gyru eu
cyfansoddiadau i’r gystadleuaeth (ugain sylwch, a’r dyn fu yn ysgrifenu hanes y
Gymdeithas Lenyddol yn Cymru wedi
dweyd nad oedd yno ddim ond un neu ddau o feirdd yn y Bala, ffei o hono). Do,
fe ymgeisiodd ugain
______________________________
(delwedd 2007) (tudalen 11)
(x11) o blant y Bala am y “cadach poced sidan.” Dr. Lewis Edwards oedd y
beirniad, ac yn y fan hon rhoddaf ei feirniadaeth. Yr wyf yn ei chodi o’i
lawysgrif ei hunan; mae’r tipyn papyr yn gysegredig yn ein teulu, a dyma eiriau
fy hen fam anwyl wrth ei anfon i mi y dydd o’r blaen: - “Cofia gymeryd gofal o
hono fo, **’machgen i. Yr ydwyf wedi ei gadw yn ofalus er’s chwe biynedd a
deugain.”
“BEIRNIADAETH Y
PENILLION A’R ENGLYNION.”
“Heblaw prydferthwch iaith a meddylrych, dylai penill neu englyn coffadwriaethol
gynwys cymaint ar a ellir o gyfeiriad at amgylchiadau neillduol yn hanes y
gwrthrych. Ac y mae yn ymddangos hefyd y dylai arwain meddwl y darllenydd at
athrawiaeth yr Adgyfodiad, neu o leiaf at hanfodiad yr enaid mewn byd arall.
Nid yw cyfeiriadau o’r fath yma yn ddigon ynddynt eu hunain; ond os bydd pob
teilyngdod arall yn gyfartal y maent yn fwy na digon i droi y fantol. “Ar
farwolaeth Llewellyn Jones, derbyniwyd Penillion gan Sala, Dafydd, Gwerfil las,
Priddellwr, Multum in parvo, Aderyn y corph, Ehedwr, a Llywarch yr ail; ac
englynion gan Cyfaill, Galarwr, Crwydryn, Guto Gof, Lwyd, Galarwr, Llywarch,
Cymro Cochddu, Dafydd, Diawen, Beuno, Anwgan, a Cyffredin Dirodres. Yn y
dosbarth mvchaf gellir rhestru Multum in Parvo, Aderyn y Corph, Ehedwr,
Galarwr, Llywarch, Diawen, Cyffredin Dirodres, a Llywarch yr ail.
“Y mae englyn Cymro Cochddu yn gyfansoddiad campus; ond nid yw yn cyfeirio at
hyder y Cristion. Nid oes ynddo un syniad “nas gallasai ddyfod oddiwrth un o’r
hen feirdd Paganaidd. Englyn da yw eiddo Dafydd o ran meddylrych, ond y mae pob
llinell yn llawn o feiau yn erbyn rheolau cynghanedd. Y tri goreu o’r cwbl ydyw
Llywarch, Cyffredin Dirodres, a Llywarch yr ail, ac y mae yn ymddangos i mi mai
y goreu o’r tri ydyw Llywarch yr ail. Y mae ei benill yn ddadganiad syml o’r
amgylchiad ac o’r teimladau a gynyrchid ganddo yn meddwl y tad a’r fam alarus.
Yn ei grybwylliad am y fam y mae yn symud y tu hwynt [sic
= hwnt] i bob un o’r lleill. Y mae y symudiad disymwth hefyd yn niwedd y
drydedd llinell o’r penill yn dra phrydferth. Ond dylasai fod llinell fer rhwng
y gair ‘sydyn’ a’r geiriau ‘tawn a son’ i arwyddo cyfnewidiad mater fel y
canlyn, —
‘O dy ei dad cychwynai i’r Gilrhos yn dra lion; Cusanai **’i fam gan feddwl dod
eto’n ol at hon; Ond gerwin oedd ei golli mor sydyn — tawn a son; Uwch poen
mae’r bach penfelyn yn awr yn mynwes lon.’ “Os nad wyf yn camsynied, hwn sydd
yn haeddu y wobr.
..........................................L. EDWARDS.”
______________________________
(x12) Nid Eisteddfod Gadeiriol, ac nid Beirdd yn ol Defawd a Braint Beirdd Ynys
Prydain oeddynt yn Llofft yr Hen Goleg y noson hono. Nid Pryddest ar Owain
Glyndwr nac Awdl “Prydferthwch,” neu “Diniweidrwydd” oedd y testyn; na, dim ond
plentyn bychan, pedair oed, mab i siopwr bychan yn nhref y Bala. Nid Cadair,
Coron, na Thlws oedd y wobr; na, dim ond “cadach ppoced sidan,” ac Edward Jones
Tailor & Draper, deputy
superintendent David Evans. yn Ysgol Sul y plant gafodd y wobr. Wn i ddim yn lle y mae y “cadach poced sidan,” ond gwn yn lle y mae awdwr y
penill. Y mae yn nghanol y Nefoedd er’s llawer dydd, ac y mae wedi gwel’d cyn
hyn y “bach penfelyn,” ac y mae wedi gwel’d ei dad, yr hwn hefyd sydd “uwchlaw
poen” er’s dros ddeugain mlynedd. Ond dyma beth
oeddwn i yn myn’d i dreio ddweyd. Y mae Beirniadaeth Dr. Lewis Edwards, yr hon
sydd yn awr ger fy mron, wedi ei hysgrifenu er’s dros 48 o flynyddoedd, ac er
mai at Gyfarfod Llenyddol llofft y Coleg yr oedd, lle nad oedd Caledfryn, Eben
Fardd na Nicander yn tynu am y dorch, y mae wedi ei hysgrifenu yn drefnus a
gofalus, pob sill a nodyn yn ei le. Mae’n batrwm i laweroedd yr oes hon. Y mae
rhai awduron ac ysgrifenwyr yn tybied mai arddanghosiad o ddysgeidiaeth a gallu
ydyw ysgrifenu yn flêr, ac mai doethineb ydyw rhoddi mawr drafferth i wŷr
y wasg. Nid dyna oedd syniad y Doethawr mawr o’r Bala. Y mae genyf fi lythyr a
gefais oddiwrtho mewn atebiad i un o’m heiddo fi, yn y flwyddyn 1865.. Dyma fel
y dechreua:—
“Daeth yr eiddoch heb ddyddiad i law.”
Yr oeddwn wedi anghono rhoddi y date,
ond nid anghofiais byth wed’yn. Cafodd y wers y fath effaith arnaf fi fel y
buasai yn llawer gwell genyf adael fy enw allan o lythyr na’r date. Arwyddair
Dr. Lewis Edwards fyddai “Os ydyw rhywbeth yn werth ei wneyd o gwbl y mae yn
werth ei wneyd yn iawn.”
______________________________
(x13) CWMWL DUDEW.
Y brofedigaeth fawr nesaf oedd marwolaeth fy nhad, pan oeddwn yn brin
ddeg oed, a’r hynaf o bedwar o fechgyn, gydag un chwaer ychydig hyn na mi. Newidiwyd
ein holl ragolygon, a bu raid tori y cylch teuluaidd pan oedd rhai o honom yn;
lled ieuanc, ond gofalodd Tad yr Amddifaid a Barnwr y Weddw am danom yn lled
rhyfedd. Ni fuaswn yn son am yr amgylchiad hwn eto, ond fod un digwyddiad wedi
cymeryd lle yn y gladdedigaeth sydd yn newydd i’r rhai ieuengaf o’m darllenwyr.
Yr oedd gryn dwrw wedi codi y pryd hyny yn mhlith Ymneillduwyr yn erbyn yr hen
arferiad Pabaidd o “offrwm” mewn cynhebryngau, a’m tad a gafodd y fraint o’i
gladdu gyntaf gyda chladdedigaeth cyhoeddus yn hen Eglwys Llangower heb i’r
arferiad o offrwrn gymeryd lle.
TROI ALLAN I’R BYD.
Cyfnod pwysig ydyw hwn yn hanes pob bachgen,— gadael yr aelwyd gynes a
throi allan i’r byd oer, oer, fel yr ia. Ond yr oeddwn yn llawn gobaith y cawn
nerth yn ol y dydd, oblegid onid oedd y Doctoriaid Lewis Edwards a John Parry,
a Griffith Jones, y blaenor, wedi rhoddi cynghorion da i mi yn y Seiat y noson
cynt, ac onid oedd fy hen athraw Robert Jones, y gof, wedi gweddio yn daer
droswyf wrth ddiweddu y Seiat? Onid oedd hefyd un o’r myfyrwyr oedd yn lletya
yn nhy fy main wedi gweddio droswyf ar y ddyledswydd deuluaidd y boreu y
cychwynwn, a’m mam, fy chwaer, a’m brodyr bach, wedi addaw cofio am danaf bob
nos a boreu? Oeddwn, yr oeddwn yn teimlo mor ddewr “a chawr i redeg gyrfa.” Ond
nid oes dim yn y ffaith fy mod yn cychwyn oddicartref yn werth sylw, mae
miloedd o fechgyn Meirion wedi gwneyd yr un peth, ac ni buaswn yn dy flino,
ddarllenydd tirion, trwy gofnodi y ffaith, ond am ddau beth, sef fy mod yn
cychwyn oddicartref ar y 2gain o fis Hydref, 1859, sef y diwrnod yr aeth y Royal
______________________________
(x14) Charter i lawr ar un o
draethellau Môn. Diwrnod dychrynllyd ydoedd hwn i fachgen gychwyn ar daith o
chwe’ milldir ar hugain ar ben y goach fawr. Yr oeddwn yn cychwyn hefyd o
gynhesrwydd y Diwvgiad Mawr oedd wedi dyfod fel ton dros ardaloedd Cymru.
Teimlwn yn ddigalon ar y daith. Nid ydwyf fardd, ac ni fuom erioed, neu buasai
genyf destyn ardderchog pan oeddwn yn teithio trwy Ddyffryn prydferth Llangollen
y diwrnod mawr hwnw. Yr oedd y gwlaw yn disgyn yn un cenllif, a’r rhuthr-wynt
yn ysgytian yr hen goed ar ochr y rfordd fel yr oedd cawodydd o ddail Hydref yn
disgyn ar benau y teithwyr. Ond ni theimlwn yr ystorom; oddi fewn, ac nid oddi
faes, yr oedd y storm fwyaf gyda mi. Fe faddeua y darllenydd i mi am roddi y
penill cyntaf a gyfansoddais erioed, a hwnw wedi ei nyddu ar ben y goach fawr y
diwrnod bythgofiadwy hwnw:—
“Cyn i mi lanchio’m llestr
.......I ddyfnder mor y byd,
Lle
mae peryglon filoedd,
.......A
chroesau’n d’od o hyd ;
Da
i mi fyddai cofio,
.......Mai’m tad sydd wrth y llyw —
Efe yn ngwyneb **’stormydd
.......A all fy nghadw’n fyw.”
Rhaid i mi beidio ymdroi neu buaswn yn dweyd tipyn o hanes y tair
blynedd dedwydd a dreuliais yn Nghaerlleon. Cefais un o’r meistradoedd goreu a
charedicaf a gafodd bachgen erioed, sef y diweddar Mr. William Evans,
Dilledydd, mab yn nghyfraith Gwilym Hiraethog, a llawer tro y cefais yr
anrhydedd o gyd-eistedd wrth yr un bwrdd a’r bardd anfarwol. Hefyd, delai y
ffraeth Huw Puw Mostyn i dŷ fy meistr, a hefyd “Y Gohebydd.”
MANCEINION.
Yn y flwyddyn 1863 symudais fy mhabell i’r ddinas enwog hon, a buom yn
dal cysylltiad â hi am dros ddwy flynedd ar hugain, yn ystod pa amser y daethum
______________________________
(x15) yn gydnabyddus â nifer fawr o Gymry gwladgarol. Yr oeddwn yn aelod o
Gymdeithas y “Cymreigyddion,” yr hon a gynhelid yn Alton House. Pperthyna i’r
gymdeithas hon Ceiriog, Creuddynfab, Derfel, Idris Vychan, a gwladgarwyr
eraill, ac y mae yn rhaid i mi ddweyd fod yn perthyn iddi Ddicshondafyddion, na
chyfarfyddais rai tebyg iddynt erioed. Siaradent bob amser yn Saesoneg, a
byddai araeth Gymraeg gan un o’r Cymreigwyr yn ddiflas ganddynt. Ond mae yn dda
genyf fod pethau wedi newid yn Manceinion erbyn hyn; mae’r Cymry yn dyfod allan
fel un gwr gyda’i Chymdeithas “Cymru Fydd” i “Godi’r Hen Wlad yn ei hol.”
Amseroedd terfysglyd oedd yn Manceinion yn y Sixties yn y byd politicaidd. Rhyddfrydiaeth oedd yn teyrnasu y
pryd hyny yn mhrif ddinas y Cotwm. Nid oedd y Conservative Workingman wedi ei eni i’r byd y dyddiau hyny.
Cynhaliai y Rhyddfrydwyr eu cyfarfodydd yn neuadd fawr y Free Trade Hall, ac yn
yr ysgwar hanesyddol a elwir “Stephenson Square.” Ond am y Ceidwadwyr, rhyw hole and corner meetings fyddai y rhai
mwyaf a allent ymffrostio ynddynt. Ond erbyn hyn y mae Toriaeth wedi dyfod yn
allu mawr yn mhrif ddinas Masnach Rydd. Yn awr cynhelir cyfarfodydd anferth gan
y Toriaid yn y Free Trade Hall, a llenwir yr esgynlawr, ar ba un y clywyd
lleisiau Cobden, Bright, Villiers, a Wilson, gan brif wieidyddwyr Toriaidd ein
teyrnas. Buom yn bresenol mewn llawer o gyfarfodydd bythgofiadwy yn y Free
Trade Hall, nid y lleiaf ohonynt oedd pan ddaeth Mr. Gladstone i’r ddinas ar ol
cael ei droi o Rydychain, ac y llefarodd y geiriau hanesyddol “I appear before you unmuzzled.” Nid
cyfarfod i’w anghofio chwaith oedd y cyfarfod cyntaf y daeth Mr. Bright iddo yn
Manceinion ar ol cael ei daflu allan o gynrychiolaeth y ddinas ugain mlynedd
cyn hyny (gwel “Oriau gyda John Bright.”)
Yn y flwyddyn 1867 torodd allan y cynhwrf Ffenaidd, a bu gryn derfysg yn
Manceinion, pryd y lladdwyd
______________________________
(x16) y Cwnstabl Brett tra yn myn’d a charcharor Ffenaidd i Garchardy Belle
Vue. Dygwyd y llofruddion i’r ddalfa, ac o flaen y Frawdlys. Buom yn gwrando ar
yr hyawdl Ernest Jones yn dadleu drostynt, ond er cymaint ei hyawdledd
collfarnwyd tri o’r llofruddion. Nid ydwyf mewn un modd yn ymffrostio yn y
ffaith, ond gwelais y tri llofrudd yn caeil eu hyrddio i’r byd arall oddiar y
crogbren. Aethym i edrych ar yr olygfa ddychrynllyd fel gohebydd i un o
newyddiaduron Caernarfon. Yr oedd yn olygfa nad anghofiaf byth. Y weithred oreu
a wnaeth Llywodraeth Prydain erioed oedd gwneyd i ffwrdd â dienyddiadau cyhoeddus,
a’r weithred nesaf ddylai fod diddymu y gosp o ddienyddio.
Yr oedd
blwyddyn 1868 yn llawn berw yn Manceinion fel yn mhob man arall trwy’r deyrnas.
Yr oedd yr etholfraint dair onglog wedi cael ei gwneyd yn gyfraith y tir, a
dinas y Cotwm fel Lerpwl, Leeds, Birmingham, a rhai dinasoedd eraill, wedi cael
tri aelod, ond nis gellid pleidleisio ond dros ddau, felly aeth Tori i fewn ar
ben y rhestr y tro cyntaf er 1832. Taflwyd Ernest Jones allan, ac etholwyd Birley, Bazley, a Bright (the three B’s, fel y gelwid hwy gan bobl
y ddinas). Ond rhaid i mi adael Manceinion yn y fan hon, gan fod fy meistr, Mr.
Robert Roberts (brawd i’r meddyg enwog Syr William Roberts), yr hwn a adwaenir
yn awr wrth yr enw Robert Roberts, Ysw., U.H., Crug, ger Caernarfon, wedi cael
allan rywfodd fy mod yn ddigon o ddyn neu “bechadur” i wneyd Trafeiliwr, a
gyrodd fi i Ddeheudir Cymru.
DECHREU TEITHIO.
Teithiais drwy bron bob cwmwd yn Nghymru, “O ben Caergybi i ben Caerdydd.” Y
dref gyntaf i mi weithio yn y Deheudir oedd Casnewydd. Cyrhaeddais yno yn hwyr
rhyw noson. Y boreu dranoeth, pan yr oeddwn yn dechreu ar fy moreufwyd,
daethpwyd a’r Western Mail ar y
bwrdd; agorais ef, a’r peth cyntaf a
______________________________
(x17) welwn oedd rhestr o’r rhai oeddynt wedi eu hethol y diwrnod cynt, ac yn
eu plith Love Jones-Parry, dros Sir Gaernarfon, gyda mwyafrif o
Yn ystod deunaw mlynedd o deithio, y rhan fwyaf yn Ngogledd Cymru, gwneuthum
laweroedd o gyfeillion, ac y mae y cyfeillgarwch yn parhau hyd y dydd heddyw,
fel y gwelir yn neillduol yn rhestr y tanysgrifwyr at y gyfrol fechan hon.
Gofod a balla i mi adrodd llawer digwyddiad dyddorol a gymerodd le yn ystod y
deunaw mlynedd o fywyd teithydd masnachol. Yn y flwyddyn 1871 y digwyddodd yr
amgylchiad mwyaf dyddorol a phwysig yn y cyfnod hwn, ac yn fy mywyd hefyd o ran
hyny, oblegid mi a briodais wraig, un o ferched goreu Ynys Mon, yr hon sydd
er’s yn agos i bedair blynedd ar hugain wedi bod i mi yn gydmar ffyddlawn, ac
fel angyles yn gweini arnaf gyda phob sirioldeb ac amynedd, yn ystod fy mlin
a’m maith gystudd, ac wedi helpu llawer arnaf i gasglu fy ADGOFION at eu
gilydd. Bendith y nefoedd fyddo ar ei phen.
Y GWYNTOEDD A DDAETHANT.
Pan ar ben dwy flynedd a deugain oed, “Y llifddyfroedd a ddaethant, a’r gwyntoedd
a chwythasant” ar y babell bridd hon, “a’i chwymp a fu fawr.” Yn y flwyddyn
1884 ymaflodd hen elyn y corph dynol, a’r “swmbwl yn y cnawd,” y crydcymalau,
yn fy aelodau. Ymdrechais ymdrech dêg i ymladd â’r gelyn, ond efe a orfu.
Gweinyddwyd arnaf gan rai o feddygon goreu Cymru a Lloegr, ond y gelyn a fu
drech na hwynt, ac yr ydwyf er’s deng mlynedd yn rhwym mewn cadwynau.
______________________________
(x18) Nid boddlawn gan y poenydiwr
fy mhoenydio a gwiail ac ysgorpionau, rhaid iddo roddi fy nhraed yn y cyffion
a’m carcharu. Ond er mai carcharor ydwyf, yr wyf yn “garcharor gobeithiol.”
Oblegid credu yr ydwyf y daw ymwared pan ddel yr amser cyfaddas, a hyny yr ochr
yma i’r bedd. Yr ydwyf wedi cael nerth trwy’r holl flynyddoedd i fod yn llawen
a siriol yn fy holl brofedigaethau, ac yr oedd i bob cwmwl a fu yn hofran uwch
fy mhen “silver lining,” ac erfyniaf am nerth i ddweyd hyd ddiwedd fy ngyrfa,
“Dy ewyllys Di a wneler.”
Dyna, yn fyr ac yn fler, ddarllenydd
hynaws, “Dipyn o fy Hanes,” ac yr ydwyf yn sicr y bydd i ti, o dan yr
amgylchiadau, faddeu i mi am lawer o.ffaeleddau sydd wedi ymlusgo i’r gyfrol
fechan a gynygiaf i’th sylw.
A GAF FI FENDIO ETO?
Tra yn aros yn yr Hydropathic, yn Llandudno, am
rai wythnosau yn ngwanwyn 1885, gyrais y penillion a ganlyn at fy hen gyfaill
hoff, y diweddar Mr. J. D. Bryan, Caernarfon, yr hwn a fu farw yn Cairo, ac y
mae ei gorph yn gorwedd yn dawel yn ngwlad y Pharoaid. Gyrodd yntau y llinellau
i’r Genedl Gymreig :—
...............A gaf fi fendio eto?
......................A fyddaf megys cynt,
...............Yn sionc fy nhroed, yn iach fy
ngwedd,
......................Wrth fyned ar
fy hynt?
...............A gaf fi fendio eto
......................O’r blinder
poenus hwn,
...............Sy’n gwneyd fy
nghalon egwan
......................Bron llethu dan y pwn?
...............A gaf fi byth ymwared
......................A’r crydcymalau blin
...............Sy’n gwneyd fy nghorphyn druan
......................Yn brophwyd i bob bin?
...............A gaf fi fendio eto,
......................I fyned yma a
thraw,
...............Heb ofni gwynt y
dwyrain,
......................Nac eira, rhew, na gwlaw?
______________________________
(x19)
...............A gaf fi daflu ymaith
......................Y ddwyffon hyn
cyn hir?
...............Fe fyddai hyny’n gysur,
......................O byddai,
byddai’n wir;
...............A gaf fi fendio eto
......................I chwareu
gyda’m plant,
...............I ddysgu Johnny
gerdded,
......................A’i helpu dros
y pant?
...............A ddaw y dydd caf rodio
......................Yn nghwmni f’anwyl Ann?
...............A ddaw y fath hapusrwydd
......................Byth eto i fy
rhan?
...............A gaf fi fendio eto,
......................I fyn’d i dy
fy Nuw,—
...............I glywed yr Efengyl,
......................A gwirioneddau
gwiw?
...............A ddaw y dydd caf
arwain
......................Fy mhlant i dŷ
fy Nhad,
...............A’u rhoddi ar y
llwybr
......................I fyn’d i’r
hyfryd wlad?
...............O! Arglwydd, ti a
wyddost
......................Yr holl
ddirgelion mawr,
...............Ti wyddost a gaf eto
......................Byth iechyd ar
y llawr ;
...............Tydi yw’r Meddyg mwya’,
......................Ac yn dy law
mae’r hawl,
...............Beth bynag fydd fy
nhynged,
......................Mi roddaf iti fawl.
................................”YN Y TREN.”
Cyflwynedig i Mr. J. W. Jones (Andronicus) yn ei
gystudd, mewn atebiad i’w linellau, “A gaf fi fendio eto,” yn y Gcnedl Gymreig.
...........Cei, cei, cei “fendio eto,”
...................A byddi “megis cynt”
...........”Yn sionc dy droed, yn iach dy wedd,”
...................”Yn myned ar dy hynt;”
______________________________
(x20)
...........Cei, cei, cei “‘fendio
eto,”
...................A byddi yn llawn gwên,
...........A’th “galon egwan” megys cynt,
...................Yn llawen ‘‘Yn y Trên.’’
...........Cei, cei, ti gei ymwared
...................”O’r crydcymalau blin,”
...........A bydd dy “gorph prophwydol” gwan
...................Yn canu’n iach i’r hin;
...........Paid ofni na chei “fendio”
...................Cyn iti fyn’d yn hen,
...........Cawn dy gyfarfod cyn bo hir
...................Fel prophwyd “Yn y Trên.”
...........Cei, cei, cei “daflu ymaith”
...................”Y ddwyffon” cyn bo hir,
...........A byddi’n iach a heinyf fel
...................Tywysog yn y tir;
...........Ti fyddi eto’n chwareu
....................A “Johnny” yn llawn gwên,
...........A Chymru’n darllen hanes taith
....................Y gwr sydd “Yn y Trên.”
...........Daw, daw, daw r dydd cei “rodio “
...................”Yn nghwmni’th anwyl Ann,”
...........Yn llawn hapusrwydd fel o’r blaen,
...................Yn holliach yn y man;
...........Cei “wrando yr Efengyl,”
...................A’i “thrugareddau hen,”
...........A chodi’th lais yn erbyn trais,
...................Fel arfer, “Yn y Trên.”
............Cyn hir ti fyddi’n
“arwain “
...................”Dy blant i cy-dy Dad,”
...........”A’u rhoddi ar,y llwybr “ iawn
...................”I fyn’d i’r hyfryd wlad;’’
...........Mae Duw a’i nodded drosot,
...................Er iddo guddio’i wên,
...........Daw’th ddymuniadau oll i ben —
....................Cei “foli” “Yn y Trên.”
Everton
..................................................S. DARON JONES
(delwedd 2016) (tudalen 20)
______________________________
(x21)
......................OS NA CHEI FENDIO ETO.
Ar ol darllen llinellau Andronicus yn y Genecdl yr wythnos ddiweddaf, ar y
testyn “A gaf fi fendio eto,” fel hyn yr ysgrifena Mr. W. O. Roberts (Madryn),
The Groves, Caerlleon.
...........Os na chei yma, gyfaill,
...................Yr adeg fel y bu,
...........Os na chei di ymadael
...................A’r crydcymalau du;
...........Os na chei wel’d, a theimlo,
...................A llwyr fwynhau iachad,
...........Er hyny cei ymddiried
...................Dy enaid i dy Dad.
...........Os na chei rodio’n heinyf
...................Ar lanau’r Fenai fwyn,
...........A theithio oddiamgylch ogylch
...................Drwy Gymru yn ddigŵyn;
...........Os na chei ysgrifenu
...................Y llithoedd gwresog byw,
...........Mae eto ar dy gyfer
...................Drysorau gras ein Duw.
...........Os na chei eto ddarbod
...................Am dy anwyliaid llon,
...........A bod yn amddiffynydd
...................I’r fun roes iti fron;
...........Os na chei borthi bychain
...................Diaddysg Arfon dre’,
...........Gofala’r Nef am gigfran
...................I’w porthi yn dy le.
............ Os na chei eto fendio
...................A rhodio is y rhod,
...........Mor iachus, sionc, a heinyf,
...................Fel buost ti erioed;
...........Cei foli’r Iôr mewn blinder
...................A llawnder mawr o nerth;
...........Fe gan y fron dan gystudd,
...................Fel eos yn y berth.
______________________________
(x22)
.............Os cei di eto fendio
.....................A rhodio i Seion lân,
.............Gan lawen foli’r Iesu
.....................Mewn geiriau pert a chan;
.............Fydd hyn ond dros fyr amser,
.....................**’Dyw einioes dyn ond brau,
.............Ein dyddiau cysgod ydynt,
.....................Cawn fyned adre’n glau.
.............Ond p’am na chei di fendio,
.....................A ph’am dioddefi’n awr,
.............A thithau’n gyfaill ffyddlon
.....................I’r Iesu’r meddyg mawr ?
.............Y dall, y mud, a’r byddar,
.....................A’r doff iachaodd Ef;
.............O Iesu, iacha Ioan,
.....................A gwrando ar ei lef!
...............................................................................MADRYN
...............Beth bynag fydd fy nhynged,
......................Mi roddaf iti fawl.
................Os cei di eto fendio
........................A rhodio i Seion lân,
................Gan lawen foli’r Iesu
........................Mewn geiriau pert a chan;
................Fydd hyn ond dros fyr amser,
........................**’Dyw einioes dyn ond brau,
................Ein dyddiau cysgod ydynt,
........................Cawn fyned adre’n glau.
................Ond p’am na chei di fendio,
........................A ph’am dioddefi’n awr,
................A thithau’n gyfaill ffyddlon
........................I’r Iesu’r meddyg mawr ?
................Y dall, y mud, a’r byddar,
........................A’r doff iachaodd Ef;
.................O Iesu, iacha Ioan,
........................A gwrando ar ei lef!
...............................................................................MADRYN

(delwedd 2018) (tudalen 22)
______________________________
(x23) EDWARD JONES O’R WENALLT.
Nid bardd, nid llenor, ac nid
cerddor oedd Edward Jones o’r Wenallt. Na, dim ond ffermwr bychan ar stad Syr
Watcyn; “bwtsiar” bychan yn gwerthu cig bob dydd Sadwrn mewn “stondin” wrth dŷ
tafarn yr Onen, yn Stryt Fawr y Bala. Ond er

mai ffermwr bychan oedd, ac y byddai yn gwisgo ffedog las ac yn “sefyll y
stondin “ ar stryd y Bala, ni phasiodd Dr. Lewis Edwards na Dr. John Parry
erioed mo “stondin” Edward Jones heb droi i ysgwyd llaw. Ni phasiodd chwaith yr
hen Fichael Jones na’i
______________________________
(x24) fab mo’r “stondin” heb nodio pen yn siriol. Chymerasai dim un o fyfyrwyr
y Bala, o David Charles Davies, y cyntaf ar restr y Coleg y dydd yr agorwyd ef
yn 1837, hyd un o’r bechgyn oedd yn un o’r ddau goleg pan fu Edward Jones farw
yn 1880, — ni chyrnerasai yr un o honynt lawer am basio y “bwtsiar bach” heb
nodio pen, a chael sgwrs efo fo. Pam, a oedd ein gwron yn rhyw dduweinydd mawr,
neu beth? Nag oedd, ond yr oedd yn ddyn duwiol, yn hen wr siriol, ac wedi
rhoddi help i lawer o fechgyn y coleg pan yn dechreu pregethu, gyda’i wyneb
siriol a’i eiriau caredig. Os bydd i un o’m darllenwyr ddigwydd teithio o’r
Bala i Ddolgellau gyda’r tren, a chyfarfod ag un o hen fyfyrwyr y Bala, boed
pwy fyddo, golygydd y Traethodydd, y Drysorfa, a Chymru, os mynwch, gofyned, — “Fedrwch chwi ddangos y Wenallt i mi?
Oeddych chwi yn adnabod Edward Jones? “Dyma fydd yr ateb, — “Dacw y Wenallt ar
ben y bryn acw; adnabod Edward Jones, oeddwn debyg. Cefais lawer sgwrs efo fo
yn y tŷ acw yr ydych yn edrych arno, pan yn myn’d ac yn dyfod i gapel Cefn
Dwygraig.”
I. YR HEN WENALLT.
Safai yr hen Wenallt mewn pantle,
rhwng y fan y saif y Wenallt presenol a’r llwyn o goed a elwir Nyrs
F’achddeiliog, yn ymyl hen orsaf ffordd haiarn y Bala. Yr oedd ei safle yn
nodweddiadol o arferiad yr hen bobl pan yn adeiladu eu tai. Yr oeddynt yn
meddwl mwy am gysur a chynhesrwydd nag am olygfeydd. Ysbotyn felly ydyw y Pant
Teg, lle safai yr hen Wenallt. Lle felly fyddai y Tylwyth Teg yn ei hoffi, a
llawer oedd yr ystraeon am fel y byddai y bodau hyny yn chwareu eu pranciau yn
Mhant Teg y Wenallt. Darfu i’r diweddar Edward Evans, y Bala, lawer tro pan
oeddwn yn hogyn bychan, ddangos i mi ryw gylch ar y ddaear; dyna ddwedai ef
oedd y lle y byddai y Tylwyth Teg yn dawnsio. Wel, ryw brydnawn Sabboth yn y
flwyddyn 1820, yr oedd teulu y Wenallt wedi myn’d i’r ysgol a gynhelid yn y
Cornelau, ffermdy yn Nghefn Dwygraig, —
______________________________
(x25). yr oedd hyny cyn son am gapel y Glyn, Cefn Dwygraig, na Llwyneinion, —
pan ddaeth y teulu yn ol o’r Ysgol Sul, gan feddwl cael cwpanaid o de yn yr hen
gartref clyd, yr oedd yr hen gartref wedi llosgi i’r llawr, ac ni achubwyd dim
o’r dinystr ond daubeth, medd yr hanes, sef cloc gwyneb pres, a hen Feibl Peter
Williams, yr hyn oedd yn wyrth yn sicr. Mae llawer o hen fyfyrwyr y Bala yn
cofio hen gloc gwyneb pres y Wenallt, fyddai fel holl glociau y wlad, “awr cyn
ei amser.”
Pan ddeuai myfyriwr newydd i’r Bala,
a chychwyn i Gefn Dwygraig tua haner awr wedi wyth, i fod yno erbyn naw, —
gwaith haner awr ydoedd y daith, —byddai wedi dychryn pan welai yr amser ar yr
hen gloc, ond dywedai Sarah Jones yn siriol, — “O mae’r hen gloc awr yn ffast.”
Am Feibl Peter Williams, cafodd llawer myfyriwr ddarllen penod ynddo, wrth gadw
dyledswydd yn y Wenallt. Fel y dywedais o’r blaen, ar ben y bryn y mae y
Wenallt newydd, a gwelir o ddrws y tŷ olygfa. ardderchog. Teulu y Wenallt
pan aeth ar dân oedd Evan a’i wraig Mari Jones. Yr oedd iddynt wyth o blant.
Aeth y ddau fab hynaf Evan a Morris i’r Amerig pan yn ieuainc iawn. Bu rhai o’r
plant drosodd yn y wlad hon flynyddoedd yn ol. Dringodd rhai o honynt i
sefyllfaoedd uchel mewn cymdeithas, a buont yn anrhydedd i wlad eu tadau. Os
wyf yn cofio yn iawn bu un o honynt mewn sefyllfa bwysig yn un o Brifysgolion
gwlad yr Amerig. Aeth Peter Jones i gartrefu i’r Merddyn Mared, ac wedi hyny
i’r Rhyd Wen, llie y mae yn awr ei fab Morris Peters, — brawd iddo ef oedd Evan
Peters, yr arch-holwr plant, a Mr. Edward Peters, tad Dr. Peters, Bala. Yr oedd
Peter Jones yn un o ferthyron brwydr fawr etholiadol Wynn o Beniarth a Dafydd
Williams. Cartrefodd John yn y Gilrhos; bu farw yn lled ieuanc, ond bu fyw ei
wraig Mari am lawer o flynyddoedd, a bydd genyf gryn lawer i ddweyd am yr hen
chwaer cyn y diwedd. Edward, y mab ieuengaf, ydyw arwr fy ysgrif. Bu hefyd i’r
hen deulu dair merch, — sef Jane, Anne, ac Elizabeth, hon
______________________________
______________________________
______________________________
______________________________
______________________________
______________________________
______________________________
______________________________
______________________________
______________________________
______________________________
______________________________
______________________________
______________________________
______________________________
_______________________________________
(delwedd 2037) (tudalen 41)
_______________________________________
(delwedd 2038) (tudalen 42)
_______________________________________
(delwedd 2039) (tudalen 43)
_______________________________________
(delwedd 2040) (tudalen 44)
_______________________________________
(delwedd 2041) (tudalen 45)
_______________________________________
(delwedd 2042) (tudalen 46)
_______________________________________
(delwedd 2043) (tudalen 46)
_______________________________________
(delwedd 2044) (tudalen 48)
_______________________________________
(delwedd 2045) (tudalen 49)
_______________________________________
(delwedd 2046) (tudalen 50)
_______________________________________
(delwedd 2047) (tudalen 51)
_______________________________________
(delwedd 2048) (tudalen 52)
_______________________________________
(delwedd 2049) (tudalen 53)
_______________________________________
(delwedd 2050) (tudalen 54)
_______________________________________
(delwedd 2051) (tudalen 55)
_______________________________________
(delwedd 2052) (tudalen 56)
_______________________________________
(delwedd 2053) (tudalen 57)
_______________________________________
(delwedd 2054) (tudalen 58)
_______________________________________
(delwedd 2055) (tudalen 59)
_______________________________________
(delwedd 2056) (tudalen 60)
_______________________________________
(delwedd 2057) (tudalen 61)
_______________________________________
(delwedd 2058) (tudalen 62)
_______________________________________
(delwedd 2059) (tudalen 63)
_______________________________________
(delwedd 2060) (tudalen 64)
_______________________________________
(delwedd 2061) (tudalen 65)
_______________________________________
(delwedd 2062) (tudalen 66)
_______________________________________
(delwedd 2063) (tudalen 67)
_______________________________________
(delwedd 2064) (tudalen 68)
_______________________________________
(delwedd 2065) (tudalen 69)
_______________________________________
(delwedd 2066) (tudalen 70)
_______________________________________
(delwedd 2067) (tudalen 71)
_______________________________________
(delwedd 2068) (tudalen 72)
_______________________________________
(delwedd 2069) (tudalen 73)
_______________________________________
(delwedd 2070) (tudalen 74)
_______________________________________
(delwedd 2071) (tudalen 75)
_______________________________________
(delwedd 2072) (tudalen 76)
_______________________________________
(delwedd 2073) (tudalen 77)
_______________________________________
(delwedd 2074) (tudalen 78)
_______________________________________
(delwedd 2075) (tudalen 79)
_______________________________________
(delwedd 2076) (tudalen 80)
_______________________________________
(delwedd 2077) (tudalen 81)
_______________________________________
(delwedd 2078) (tudalen 82)
_______________________________________
(delwedd 2079) (tudalen 83)
_______________________________________
(delwedd 2080) (tudalen 84)
_______________________________________
(delwedd 2081) (tudalen 85)
_______________________________________
(delwedd 2082) (tudalen 86)
_______________________________________
(delwedd 2083) (tudalen 87)
_______________________________________
(delwedd 2084) (tudalen 88)
_______________________________________
(delwedd 2085) (tudalen 89)
_______________________________________
(delwedd 2086) (tudalen 90)
_______________________________________
(delwedd 2087) (tudalen 91)
_______________________________________
(delwedd 2088) (tudalen 92)
_______________________________________
(delwedd 2089) (tudalen 93)
_______________________________________
(delwedd 2090) (tudalen 94)
_______________________________________
(delwedd 2091) (tudalen 95)
_______________________________________
(delwedd 2092) (tudalen 96)
_______________________________________
(delwedd 2093) (tudalen 97)
_______________________________________
(delwedd 2094) (tudalen 98)
_______________________________________
(delwedd 2095) (tudalen 99)
_______________________________________
(delwedd 2096) (tudalen 100)
_______________________________________
(delwedd 2097) (tudalen 101)
_______________________________________
(delwedd 2098) (tudalen 102)
_______________________________________
(delwedd 2099) (tudalen 103)
_______________________________________
(delwedd 2100) (tudalen 104)
_______________________________________
(delwedd 2101) (tudalen 105)
_______________________________________
(delwedd 2102) (tudalen 106)
_______________________________________
(delwedd 2103) (tudalen 107)
_______________________________________
(delwedd 2104) (tudalen 108)
_______________________________________
(delwedd 2105) (tudalen 109)
_______________________________________
(delwedd 2106) (tudalen 110)
_______________________________________
(delwedd 2107) (tudalen 111)
_______________________________________
(delwedd 2108) (tudalen 112)
_______________________________________
(delwedd 2109) (tudalen 113)
_______________________________________
(delwedd 2110) (tudalen 114)
_______________________________________
(delwedd 2111) (tudalen 115)
_______________________________________
(delwedd 2112) (tudalen 116)
_______________________________________
(delwedd 2113) (tudalen 117)
_______________________________________
(delwedd 2114) (tudalen 118)
_______________________________________
(delwedd 2115) (tudalen 119)
_______________________________________
(delwedd 2116) (tudalen 120)
_______________________________________
(delwedd 2117) (tudalen 121)
_______________________________________
(delwedd 2118) (tudalen 122)
_______________________________________
(delwedd 2119) (tudalen 123)
_______________________________________
(delwedd 2120) (tudalen 124)
_______________________________________
(delwedd 2121) (tudalen 125)
_______________________________________
(delwedd 2122) (tudalen 126)
_______________________________________
(delwedd 2123) (tudalen 127)
_______________________________________
(delwedd 2124) (tudalen 128)
_______________________________________
(delwedd 2125) (tudalen 129)
_______________________________________
(delwedd 2126) (tudalen 130)
_______________________________________
(delwedd 2127) (tudalen 131)
_______________________________________
(delwedd 2128) (tudalen 132)
_______________________________________
(delwedd 2129) (tudalen 133)
_______________________________________
(delwedd 2130) (tudalen 134)
_______________________________________
(delwedd 2131) (tudalen 135)
_______________________________________
(delwedd 2132) (tudalen 136)
_______________________________________
(delwedd 2133) (tudalen 137)
_______________________________________
(delwedd 2134) (tudalen 138)
_______________________________________
(delwedd 2135) (tudalen 139)
_______________________________________
(delwedd 2136) (tudalen 140)
_______________________________________
(delwedd 2137) (tudalen 141)
_______________________________________
(delwedd 2138) (tudalen 142)
_______________________________________
(delwedd 2139) (tudalen 143)
_______________________________________
(delwedd 2140) (tudalen 144)
_______________________________________
(delwedd 2141) (tudalen 145)
_______________________________________
(delwedd 2142) (tudalen 146)
_______________________________________
(delwedd 2143) (tudalen 147)
_______________________________________
(delwedd 2144) (tudalen 148)
_______________________________________
(delwedd 2145) (tudalen 149)
_______________________________________
(delwedd 2146) (tudalen 150)
_______________________________________
(delwedd 2147) (tudalen 151)
_______________________________________
(delwedd 2148) (tudalen 152)
_______________________________________
(delwedd 2149) (tudalen 153)
_______________________________________
(delwedd 2150) (tudalen 154)
_______________________________________
(delwedd 2151) (tudalen 155)
_______________________________________
(delwedd 2152) (tudalen 156)
_______________________________________
(delwedd 2153) (tudalen 157)
_______________________________________
(delwedd 2154) (tudalen 158)
_______________________________________
(delwedd 2155) (tudalen 159)
_______________________________________
(delwedd 2156) (tudalen 160)
_______________________________________
(delwedd 2157) (tudalen 161)
_______________________________________
(delwedd 2158) (tudalen 162)
_______________________________________
(delwedd 2159) (tudalen 163)
_______________________________________
(delwedd 2160) (tudalen 164)
_______________________________________
(delwedd 2161) (tudalen 165)
_______________________________________
(delwedd 2162) (tudalen 166)
_______________________________________
(delwedd 2163) (tudalen 167)
_______________________________________
(delwedd 2164) (tudalen 168)
_______________________________________
(delwedd 2165) (tudalen 169)
_______________________________________
(delwedd 2166) (tudalen 170)
_______________________________________
(delwedd 2167) (tudalen 171)
_______________________________________
(delwedd 2168) (tudalen 172)
_______________________________________
(delwedd 2169) (tudalen 173)
_______________________________________
(delwedd 2170) (tudalen 174)
_______________________________________
(delwedd 2171) (tudalen 175)
_______________________________________
(delwedd 2172) (tudalen 176)
_______________________________________
(delwedd 2173) (tudalen 177)
_______________________________________
(delwedd 2174) (tudalen 178)
_______________________________________
(delwedd 2175) (tudalen 179)
_______________________________________
(delwedd 2176) (tudalen 180)
_______________________________________
(delwedd 2177) (tudalen 181)
_______________________________________
(delwedd 2178) (tudalen 182)
_______________________________________
(delwedd 2179) (tudalen 183)
_______________________________________
(delwedd 2180) (tudalen 184)
_______________________________________
(delwedd 2181) (tudalen 185)
_______________________________________
(delwedd 2182) (tudalen 186)
_______________________________________
(delwedd 2183) (tudalen 187)
_______________________________________
(delwedd 2184) (tudalen 188)
_______________________________________
(delwedd 2185) (tudalen 189)
_______________________________________
(delwedd 2186) (tudalen 190)
_______________________________________
(delwedd 2187) (tudalen 191)
_______________________________________
(delwedd 2188) (tudalen 192)
_______________________________________
(delwedd 2189) (tudalen 193)
_______________________________________
(delwedd 2190) (tudalen 194)
_______________________________________
(delwedd 2191) (tudalen 195)
_______________________________________
(delwedd 2192) (tudalen 196)
_______________________________________
(delwedd 2193) (tudalen 197)
_______________________________________
(delwedd 2194) (tudalen 198)
_______________________________________
(delwedd 2195) (tudalen 199)
_______________________________________
(delwedd 2196) (tudalen 200)
_______________________________________
(delwedd 2197) (tudalen 201)
_______________________________________
(delwedd 2198) (tudalen 202)
_______________________________________
(delwedd 2199) (tudalen 203)
_______________________________________
(delwedd 2200) (tudalen 204)
_______________________________________
(delwedd 2201) (tudalen 205)
_______________________________________
(delwedd 2202) (tudalen 206)
_______________________________________
(delwedd 2203) (tudalen 207)
_______________________________________
(delwedd 2204) (tudalen 208)
_______________________________________
(delwedd 2205) (tudalen 209)
_______________________________________
(delwedd 2206) (tudalen 210)
_______________________________________
(delwedd 2207) (tudalen 211)
_______________________________________
(delwedd 2208) (tudalen 212)
_______________________________________
(delwedd 2209) (tudalen 213)
_______________________________________
(delwedd 2210) (tudalen 214)
_______________________________________
(delwedd 2211) (tudalen 215)
_______________________________________
(delwedd 2212) (tudalen 216)
_______________________________________
Adolygiadau
diweddaraf: 2004-04-29
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n
ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weə(r) äm ai? Yüu äa(r) vízïting ə peij fröm dhə
“CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (=
Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu
les estadístiques / View My Stats