2671k Saif y Winllan yng nghwmwd Geneu’r Glyn, rhwng y Geulan a’r Leri, a thua hanner y ffordd rhwng Cors Fochno a Phumlumon, ac yn sir Aberteifi.

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_069_hela_hen_eiriau_1898_2671k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Y Gyfeirdalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

Hela Hen Eiriau

SPINTHER.

Seren Gomer 1898, tudalennau 237-245
 

 

 

(delw 6676)

Adolygiadau diweddaraf:
2001-10-10, 2004-05-08

 

Rŷn ni wedi cadw at yr orgraff wreiddiol. Rhoir x o flaen rhif pob tudalen yn y testun gwreiddiol (x238) ayyb

····· 

 

 

 

(x237)

 

Hela Hen Eiriau

GAN SPINTHER.

Seren Gomer 1898, tudalennau 238-245

 

Af am dro, yn fy adgofion, i hen amaethdŷ a elwir y Winllan, lle y treuliais ddwy flynedd o foreu fy oes yn was bach neu hogyn cadw. Saif y Winllan yng nghwmwd Geneu’r Glyn, rhwng y Geulan a’r Leri, a thua hanner y ffordd rhwng Cors Fochno a Phumlumon, ac yn sir Aberteifi. Gwlad fynyddig a bugeiliol yw hon; a thua hanner can mlynedd yn ol yr oedd mor Gymreig, h.y. mor amddifad o Saesneg ag unrhyw barth o Gymru.

 

(x238) A oes rhai o'ch gohebwyr a ymunant â mi chwilio allan yr hen eiriau a arferai y Cymry gynt am yr amrywiol bethau a berthynant i ddyn, ei dŷ, a'i dyddyn? Afraid dweyd mai geiriau estronol a arferir am lawer o'r pethau hyn yn awr braidd ymhob parth o'r wlad; ond tybir mai nid am nad oes geiriau Cymraeg y gwneir hynny, eithr o ddiffyg eu gwybod. Y mae yng Ngeiriadur Cynddelw tua deugain mil o eiriau arweiniol; ond nid yw eu traian yn cael eu harfer, na’u hystyr yn adnabyddus, tra mae toraeth anferth o eiriau estronol ar flaen tafod pawb. Noda Stephens, o Ferthyr, fod yn y Gymraeg naw o wahanol eiriau am frwydr, as efe a gasgla o weithiau yr hen feirdd bedwar ugain a phymtheg o eiriau cyfansawdd wedi tyfu allan o un o'r naw hynny, sef aer, megys aerawd, aerawg, aereswr, &c. Ond nid oes Gymro heddyw a fedr ddefnyddio ond pur ychydig o’r pedwar ugain a phymtheg hynny mewn unrhyw frawddegau trefnus. Prawf hyn ddau beth: cyfoeth y Gymraeg, ac anfedrusrwydd Cymry yr oes hon i drin eu hiaith eu hunain.

Diau fod gan yr hen Gymry, fel pobl ereill, eu henwau arbennig arnynt eu hunain, eu hafonydd, a'u mynydoedd, ynghyda holl bethau cyffredin bywyd, megys bwyd, dillad, tai, llestri, celfi, offer, arfau, &c.; ac fod yr enwau hynny yn Gymraeg. Pan mae cenedl yn derbyn rhywbeth oddiwrth genedl arall, y mae yn gyffredin yn derbyn ei enw gydag ef; ac yna yn ailfoldio ac ystwytho yr enw hwnnw i ateb ei chynhaniad greddfol ei hun.

Anfantais i ni yw mai yn y Lladin, a chan estroniaid, yr ysgrifennwyd braidd bopeth am y Cymry a'u gwlad yn yr hen amseroedd. Beth oedd yr enwau brodorol ar yr amrywiol lwythau a boblogent y wlad a elwir yn awr Cymru, pan gyfyd i olwg hanesiaeth, nid oes wybodaeth. Enwau y byd dysgedig arnynt oedd Silures, Dimetiae, Cangiani, &c. Enwau eu prif afonydd oedd Sabrina, Seteia, Deva, Toisobius, Stucia, Tucrobus, Ostia, Isca, a Ratostadivbius. Enwau y byd dysgedig oedd y rhai yna, ac mewn llyfrau yn unig y ceir hwynt; enwau ereill a arferid gan y brodorion y pryd hwnnw, ac mae'r enwau hynny yn aros hyd heddyw. Ond y mae dosbarth o enwau ar bethau cyffredin bywyd wedi gweithio (x239) eu ffordd i dafodiaith Cymru yn yr amseroedd diweddaf hÿn, y rhai ydynt yn gweithio allan yr hen enwau Gymraeg gyda chyflymder brawychus. Gallai Cymro ieuanc, wrth gweled mai enw estronol a arferir braidd ar popeth yn y tŷ ac allan, redeg i’r casgliad nad oedd ei hynafaiaid ond anwariaid gwylltion, ac mai oddiwrth estroniaid y derbyniwyd pob cynhyrchion gwareiddiad, a'u henwau gyda hwynt.

Carwn pe bai rhyw dri neu bedwar o gyfeillion, sydd yn awr o flaen fy llygad, yn dyfod gyda mi am bleserdaith hynafiaethol trwÿ rai o barthau mwyaf Cymraeg Cymru, i hela hen eiriau llafar gwlad. Diau y caem lawer o ddifyrwch buddiol, a gallem, trwy ganiatad y Golygydd, gynnal ymgom ddiddan mewn rhyw adran o’r SEREN GOMER am rai misoedd, yr hyn, feallai, a barai agoriad llygaid i lawer. Dyma fi yn cychwyn, gan ddisgwyl ereill i ddilyn.

Af am dro, yn fy adgofion, i hn amaethdŷ a elwir y Winllan, lle y treuliais ddwy flynedd o foreu fy oes yn was bach neu hogyn cadw. Saif y Winllan yng nghwmwd Geneu’r Glyn, rhwng y Geulan a’r Leri, a thua hanner y ffordd rhwng Cors Fochno a Phumlumon, ac yn sir Aberteifi. Gwlad fynyddig a bugeiliol yw hon; a thua hanner can mlynedd yn ol yr oedd mor Gymreig, h.y. mor amddifad o Saesneg ag unrhyw barth o Gymru. Yr oedd y Winllan yn godro tuag ugain o wartheg, a rhyw gant a hanner o ddefaid; yn cadw dwy wêdd, tri gwas, a dwy forwyn; yn llosgi mawn; yn codi oddiar y tir bob defnyddiau ymborth a dillad, ac yn trefnu pob rhyw luniaeth yn yr hen ddull; yn talu’r cyflogau a'r rhent âg arian yr enllyn, y defaid pedeiriau, a’r gwlan; ac enw y preswÿlÿdd oedd Sion Ifan, a’i wraig oedd Pali – hen gwpwl diwyd a diniwed, anwybodus ac hygoelus, fel pawb o'u cyfoedion; wedi magu pump o blant, ac wedi dysgu byw yn galed a thrin y byd, heb ofalu braidd am ddim ond am gau pob llidiart ar eu hol - dyna'u gair bob amser; coffa da am danynt.

Mae llu o adgofion am y Winllan, a’r parthau cyffiniol, ar ol gorwedd yng nghwsg yn fy nghof am fwy na deugain mlynedd, yn ymwthio i fyny yn awr yn bur fywiog. Yr oedd y Winllan yn meddu amryw o dai – y tŷ byw, a’r tai allan. Yr enw ar le fel hwn yn yr hen amser oedd tref, a chant o'r fath oedd yn gwneyd y gantref. Yr oedd “bileiniaid” y brenin i wneyd iddo ymhob cartref; neuadd, ystafell, bwytŷ, ystabal, cynordŷ (tŷ’r cwn), ysgubor, odyn, trefyn bychan (geudy), a cherner (lle i roi'r gern i lawr, lle i gysgu). Ond ffarm yw enw lle fel hwn yng Ngheredion, a fferm yn y Gogledd, lle y dywed y Seison “Ferm Farm”. Dichon mai o’r (x240) Lladin firmus, y daw fferm neu ffarm, a'i fod yn golgu lle cadarn (firm), wedi ei gau â muriau ynte le wedi ei ddiogelu i'w breswlyddydd trwy amod neu weithred. Tyddyn yw y gair am ffarm yng Nghyfreithiau Hywel Dda. Tŷ a thyddyn. Gair llyfrawl afrosgo yw amaethdy. Math arall o dŷ yng Ngheredigion yw lluest - bwth bugeiliol. Y tŷ, mewn modd arbennig, yw preswyl y teulu. Gelwir tŷ uwchraddol, neuadd (beth yw gwehelyth neuadd?) a'r fath uchaf yw plas neu palas, o Paletium, un o saith fryn Rhufain, preswyl Augustus. Diogelir y tŷ yn gyffredin gan amddiffynfa driphlyg - clawdd bychan o amgylch y drws, clawdd mwy o amgylch y tai allan perthynol iddo, a chlawdd bwy {sic} o amgylch y cae lle saif y cwbl. Mae amryw enwau ar yr amddiffynfeydd hyn, a thri o honynt o leiaf wedi dod o'r LIadin – clawdd (claudo), mûr (murus), a gwàl (vallum). Gelwir y lle cauedig cyntaf cae, lle wedi ei gau, neu gloddio o’i amgylch. Oddiyma y daw caer, caeth a cafn hefyd feallai. O gerryg y gwneir y mûr a’r wàl, ond o bridd a thywyrch y gwneir y clawdd, clais. Clywais wr o Forgannwg wrth bregethu yn y Gogledd, yn dweyd, “Codi dyn o'r clais;” ond ni oedd neb yn ei ddeall. O’r pridd a’r tywyrch a godir o’r ddwy ffos y gwneir y clawdd, ac yn y clawdd y tyf drain, yr hyn yw shuttin Ceredigion, perth Morgannwg, a gwrych y Gogledd. A oes enwau ereill arni? Gelwir yr ail le cauedig, buarth a buches, lle’r buchod neu’r gwartheg, ac weithiau ffald, ac yard hefyd. A gelwir y trydydd lawnt, beili, clos, cwrt; a hewl yn y Gogledd. Ymddengys fod llawnt, llan, lôn, a land, o'r un welygordd.

Ar y fynedfa i'r cae ac i'r buarth hefyd y mae llidiart yr hwn hynt a droai ar ei gorddyn wrth aerwy bren neu wden, ond a grogir yn awr yn gyffredin wrth fachau haiarn. Math arall o gauad yw clwyd, ac o'r un welygordd a clawdd. Curir pennau dau bost y glwyd i'r ddaear. A chlwydi y gwneir corlan y defaid, ac y rhennir cae i amcanion amaethyddol. Ar y fynedfa i'r lawnt y mae drws neu lidiart bychan a elwir cyn ddor, cyn ddrws, eat (gate) catch eat, ac weithiau wicet. Pa enwau ereill sydd arno? Drwy'r llawnt yr eir at y drws neu’r ddôr. Gwneir gwahaniaeth rhwng drws a dôr yn Genesis xix. 6, lle y dywedir i Lot fyned allan i'r drws, a chau y ddôr ar ei ol. Ymddengys mai agorfa yn y mûr er myned i mewn ac allan yw drws neu ddor. Gelwir yr agorfa i ddinas neu gastell porth, Llad. porta, a'r cauad ar y porth yw cwlis, Llad. caalare – “porth cwlis.” Byddai y cwlis, neu fel y gelwid ef porth, yn codi a gostwng wrth bwysau, ac nid yn agor fel drws ar ei gorddyn. Yng ngoleu hyn y gellir deall, “O byrth! dyrchefwch eich pennau,” Ond y drws (x241) porth y ty. Mae'r drws yn gweithio mewn ystram, yr hon a ffurfir gan y trothwy, y ddau ystlysbost, a'r gwarddrws. Neu yn iaith y Beibl, y rhiniog, y gorsinau, a chapan y drws. Yr oedd i'r drws gynt ddau gorddyn, un yn cael ei forteisio i'r trothwy, a'r llall i'r gwarddrws; ac ar yr ystlys arall yr oedd cliced bren, a thwll bŷs o dani i'w chodi a'i gostwng oddiallan; a diogelid y drws dros y nos trwy ei brenio, h.y., gwthid cŷn, gaing, neu letem bren (nad wyf yn cofio yr enw, os nad gwrthoel), ar wàr y gliced, neu dodid pren praffus ar draws y drws gyda'i bennau yn ddiogel yn y ddau ystlysbost. Dyna oedd prenio'r drws. Sonir yn y Cyfreithiau am glo haiarn. Pris clo haiarn, ceiniog; clo pren, dimai. Parthid y ty gan bared i gegin a siamber. Cegin, Llad. coquina - ystafell goginio, lle i ddarparu i'r geg. Oddiyma y tardd cogydd (cook), a côg (cuckoo). Siamber, Llad. camara - lle pen-geuad, cromen. Yr enw parchusaf yw ystafell, Llad. stabulum. O'r un gair y daw ystabal, ystafell y march. Yng Ngheredigion, ystafell y gelwir gwaddol gwraig, yr hyn mewn llyfrau a elwir argyfreu, agweddi, cynysgaeth, cowyll, &c.

Y gwahanfur rhwng y gegin a'r siamber yw’r pared, Llad. parietes. Mûr o bolion a gwiail ydyw pared, wedi ei blastero â morter blew, a'i olchi â dwfr calch. “Bared wedi ei wyngalchu,” y galwai Paul y rhagrithiwr Ananias. Enw arall ar y pared yw palis, Llad. palus, , ac oddiyna y daw palisade.

Gollyngir goleuni i'r ty drwy ffenestr, Llad. fenestra. Nid yw window y Seison yn golygu ond llygad gwynt. Cloer, sef twll yn y mûr, cul oddiallan a llydan oddimewn, oedd y ffenestr yn yr hen dai, fel yn yr hen gestyll, a chauid genau y gloer gyda rhwydwaith dellt a elwir cledrwy. Mae’r gloer i’w gweled eto mewn llawer beudy ac ysgubor yng Ngheredigion; ond lownsed, neu ryw air tebyg, y gelwir hi yno.

Enw llawr y gegin yw aelwyd; y barth {sic} ym Morgannwg. Aelwyd yw lle'r tân, ond ni wn ei ystyr, os nad yw yn tarddu o'r ffaith y byddai y garreg aelwyd yn codi yn uwch na'r llawr, er i'r gwynt dreiddio rhwng y marwor. Tu cefn i'r garreg aelwyd, yr oedd carreg arall ar ei chyllell a elwid pentan. Uwch y tân, ac ynglŷn a mûr y talcen, yr oedd y fantell simnai, yr hon sydd yn cymeryd y mŵg a'i ollwng i'r corn. Dyfais gymharol ddiweddar yn y wlad hon yw simnai; Ffr. cheminee, Llad. caminus. Mae'r Geiriadurwyr wedi ceisio bathu geiriau mwy Cymraeg, megys ffumer, sawell, &c., (x242) ond nid yw y bobl yn eu cymeryd. Mewn hen dai, yr oedd y corn simnai a'r fantell yn ddigon agored fel y gwelid y sêr o'r aelwyd, ond nid mantais i gyd oedd hynny, oblegyd byddai y gwlaw a'r cenllysg yn dyfod trwodd weithiau, ac yn diffodd y tân.

Yn y simnai, uwch y tân, yr oedd y pren du, ac wden am dano, wrth yr hon y crogai y linc, ac wrth y linc y bachau i ddal y crochan. Y taclau tân oedd yr efail, y malcyn, y rhaw ludw, a'r fegin. Mae y Geiriadurwyr, o ddiffyg gwybod am y malcyn, wedi ceisio llunio gair Cymraeg am poker, a'i alw yn “pwtiedydd,” “tanffon,” &c. Darn o bren oedd y malcyn, â'r hwn y cynhyrfid y tân yn y ffwrn neu'r pobty, a'r hwn hefyd a gyneuai beth ei hun wrth wneyd ei waith. Twymbren y gelwir ef yn y Gogledd. Y mae “cyn ddued a'r malcyn,” yn hen air. Mae megin hefyd yn hen air rhagorol.

Mae o anadl mwy ynof
Nag ynghau meginau gof.
DAFYDD AP GWILYM

Dodrefn gegin oedd bwrdd, dresel, ystolion, meinciau, setl, a chadeir; llawn mor syml a’r ystafell fechan honna wnaeth y Sunamees i Eliseus, yn y mûr, lle yr oedd gwely, a bwrdd, ac ystôl, a chanwyllbren. Nid yw bwrdd, yr hwn yn Ngwent a elwir bord, ond dodrefnyn diweddar yn y wlad hon. Ni cheir ef yng Nghyfreithiau Hywel Dda; ond enwir tawlfwrdd yno yn fynych. Nid yw “Bord Gron” Arthur yn hynach na'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Dodrefnyn dôd, a diweddar hefyd, yw y dresel, Ffr. dressoir. Math o gwpwrdd, gyda chefn uchel a selfoedd i ddal llestri, yw y dresel. Dyma bedwar math o ddodrefn i eistedd arnynt: - ystôl, mainc, setl, a chadeir. Bwrdd bychan crwn a moel, gyda thair troed iddo, yw ystôl. Deillia Webster y gair o'r Germanaeg stellen.Ei ffurf yng Nghyfreithiau Hywel Dda yw estaul. Arfer y Gymraeg wrth fabwysiadu gair sydd yn dechreu gydag s. ac yn cael ei dilyn gan gydsain, yw rhoi e neu y o flaen yr s – estaul, ystôl. Gair Celtaidd yw mainc, fel banc, ac yn golygu lle uchel, llwyfan. Binse yw el ffurf Wyddelig, ac o hwnnw y cafodd y Saeson eu bench. Eisteddle foel a hir yw mainc, ar yr hon y gall amryw gydeistedd. Ar y fainc yr eistedd y barnwr; ac ar yr orseddfainc yr eistedd y brenin. Ymddengys mai sedd yw sylfon y gair eistedd; ac oddiyma y tardd seat a setl. Rhyfedd fel y myn pobl y capeli, trwy Dde a Gogledd, lynu wrth y gair setl, gan gyhoeddi “amser talu arian y seti” bob tri mis. Mainc, gyda chefn uchel, a'r gwaelod yn gist neu gwpwrdd, yw y setl. Gelwir hi ar amrywiol enwau, yn ol y defnydd a wneir o honi, megys perging, spens, lowns, screen, &c.

Y brif sedd yw y gadeir, yr hon a fedda bedair troed, cefn a breichiau. Dywedir mai o cathedra y Lladinwyr y deilliodd cadeir y (x243) Cymry, ond tueddir fi i ameu hynny, ac mai y sylfon yw câd, cadw, cadarn. Sedd swyddol, yn hytrach na theuluaidd, yw cadeir. Nid ymddengys yn y Cyfreithiau ymhlith y dodrefn, ond sonir yno am “Ymryson Cadeir,” a “dodi y gobenydd o danaw yn y gadeir;” a “ phedwar cadeiriawl ar ddeg y sydd yn y llys,” &c. Yng Ngheredigion cadeir y gelwir cryd magu, a phwrs y fuwch hefyd; ac y mae yno “wenith cadeiriog,” a “chnau cadeiriog.” Pa ystyr a roddir i'r gair mewn parthau ereill?

Yr oedd pedwar pryd bwyd yn y Winllan; brecwast, ciniaw, bwyd ambor, a swper. Meal yw gair y Seison am fwyd, yr hyn a arwydda mai blawd oedd prif elfen eu lluniaeth. Nid yw pryd bwyd yn golygu ond amser bwyd. Pa enwau Cymreig a arferir ar y prydiau uchod mewn parthau ereill? Bastarddair yw brecwast o breakfast. O caena y Lladinwyr y daw ciniaw. Cwynos a geir yn y Cyfreithiau, ac ancwyn oedd y mesur: “Ancwyn a gaiff nid amgen saig.” Ond beth yw ystyr bwyd ambor? Gwaith peryglus yw dyfalu ystyr geiriau. Ond gellir nodi mai o lestr hir, dwyglust, a elwid amphora, y byddai y Rhufeiniaid yn tywallt diod i gwpanau wrth y bwrdd. Yng Ngheredigion, ambor y gelwid y tray a ddodid ar y bwrdd o dan y llestri tê prydnawn. Ai oddiyma y tarddodd yr enw bwyd ambor? Yr enw am fwyd ambor yn y Gogledd yw crynsfwyd, cynwysfwyd, a tamaid. Ymddengys mai o'r Ffrancaeg super y daw soup a swper, ac mai ei ystyr yw sipfwyd, llymeitfwyd. Yr oedd cwynos yr hen Gymry yn cael ei arfer yn ddiwahaniaeth am y ciniaw a'r swper fel eu gilydd.

Dyddorol yw cofio enwau y llestri bwyd. Y llestri coginio oedd y crochan, y sospan, y badell ffrio, a'r gradell. Yr oedd amryw fathau o grochanau – y crochan mawr, callor, pair – y crochan gwaelodwastad hefyd a elwid ffwrn, yn yr hon y pobid y dorth wen, ac y crasid yr asen frâu ar ol ladd mochyn. Dodid y ffwrn ar drybedd, cant haiarn gyda thair troed iddi, yng nghanol y tân, gan ei chladdu mewn marwor; a gwnelai ei gwaith yn rhagorol. Y llestri bwyta oedd y picyn - math o stwc neu sten o goed masarn, gyda dau gylch gloyw am dano, a chordyn i ymaflyd ynddo, a'r llwy-bren at fwyta potes (cawl), uwd, llymru, maidd, mwdran, ynghyda phob gwlybwr o'r fath; a thrensiwr pren hefyd at fwyta cig a thatw. Ymddengys mai Cymro yw y picyn, ond mai o'r Ffrancaeg, tranchoir, y daeth y trensiwr. Gair arall yn yr iaith honno am yr un peth yw tailoir, ac o ffurf arall ar hwnnw - tailleur, y daeth teiliwr. O bren masarn gwyn a glân y gwnelid y y trensiwr, fel na byddai dim o'i flas ar bwyd; ond mae Sion Tudur, wrth ofyn am lwyth o yslatus o Chwarel y Caehir (Bethesda) yn 1570, (x244)er dangos rhagoriaeth yr yslatus hynny, yn son am “drensiwrau cerig:” -

I'w siambrau ais am y brig,.
Siwr y cair trensiwrau cerig.

Yr oedd ar y dresel yn y Winllan resi o blats pewter, a disglau pewter a phridd, a llwyau pewter hefyd; ond llestri coed fyddai yn wastad ar y bwrdd mawr.

Y llestri llaeth, hyd wyf yn cofio, oedd y sten i odro, yr hidl i hidlo'r llaeth i'r badell, y scimyn (skimmer) i godi'r hufen i'r gunog, y fuddai i gorddi, y noe i gyweirio'r 'menyn, y twba i falu'r sopen, a'r caulsyllt i dderbyn y cosyn a'i dalaith am dano i'w ddal o dan y press (caws-wasg). Yr oedd amryw fathau o laeth - llefrith, hufen, llaeth scim, llaeth enwyn, llaeth syml, llaeth maidd, a llaeth glas. Yr oedd amryw o gig hefyd, a'r cwbl yn hallt: cig moch, cig eidion, cig manllwyn, cig gogor, a choch yr wden. .

Mae yn bryd bellach meddwl am y gwely. Celfyn cymharol ddiweddar ymhlith y Cymry a’r Saeson hefyd yw y pren gwely. Nid oes son am dano yng Nghyfreithiau Hywel Dda. Yn ol disgrifiad Giraldus o Gymru yn 1188, yr oedd y tân ar ganol y llawr, a phan ddelai’r nos, taenid trwch o frwyn neu wellt ar y llawr o amgylch y tân, a gwrthban garw a elwid brycan (rug) dros y cwbl; ac ar hwnnw, a'u traed at y tân, gorweddai y teulu, bawb yn eu dillad, blith draphlith a’u gilydd, i gysgu. A rhywbeth tebyg oedd y gwely ym mhlith y Saeson hefyd? Oddiyma y tardd y gair gwelygordd - cylch gwely – i osod allan deulu neu dylwyth. Ond erbyn canol y ganrif hon yr oedd gwareiddiad a moethau wedi darparu pren gwely, yr hwn, gyda'i ben a'i draed cauedig, a'i erchwynion uchel, a ymddangosai fel coffor neu gist, ac yn llawn o wellt neu beiswyn, a hwnnw weithiau mewn ticyn, ond y rhan fynychaf yn rhydd. Edrychai tri neu bedwar o blant mewn gwely yr un ffunud a pherchyll mewn gwellt. Gwelliant mawr yn y pren gwely oedd dyfeisio'r ffordd i ddodi cortyn ynddo, yr hwn a weithid drwy'r coed yn groes ungroes. Ar y cortyn, dodid pleiden wellt, gwaith cartref pur gelfydd, ac ar y bleiden drwch o wlân neu bluf mewn ticyn golygus. O dan y pen dodid gobennydd a chlustog. Sylwer fel mae gobennydd a chlustog yn cyfateb i’r enw cerner, lle i ddodi'r gern i lawr, am ystafell wely. Y gweddill o'r dillad gwely a elwid gwrthbanau, blancedi, Ffr. blanchet, a'r brycan neu brychan (rug, quilt). Yr oedd cryn bellder rhwng y gwely goreu gaid yng nghantref Penwedig {sic}hanner can mlynedd yn ol, a'r brass bedstead, gyda'i spring mattress, hair mattress, ei eider down, a'i lenni teg, a geir yn y wlad honno erbyn heddyw. Pethau fel hyn yw'r cerryg millltir sydd yn nodi cynnydd yr oes.

(x245)Ar ol i ddyn godi o'i wely, rhaid iddo wisgo am dano. Ond pa Gymro a fedr wisgo am dano yn Gymraeg heddyw? Rhaid iddo gael ei grys o'r Ffrancaeg creseau, ei sanau o'r Lladin hosa, ei drawers a’i drousers, ei wasgod a'i got, ei het a'i esgidiau o iaith plant Alis, fel nad oes ganddo yr un pilyn Cymraeg namyn ei addurn gwddf, ac mae y Ceredigion yn mynnu anurddo hwnnw â'r enw macyn (napcyn), a’r Gwyneddwyr â'r enw cadach. Mae gair y Gwentwyson, neisied, yn enw rhywogaethol, a llawer mwy lledneis. Dyma bòs niewn cenedloneg, ieitheg, ac hanesiaeth Sut yr aeth pob pilyn sydd gan y Cymro am ei gefn, o'i gorryn i'w sawdl, i wisgo enwau estronol?

Beth pe bae ni eto yn gwisgo am y ceffyl, i gael amcan faint o’i daclau ef sydd yn meddu enwau Cymraeg? Cymerwn y ceffyl marchogaeth. Mae ef yn hynach na’r ceffyl gwedd. Ei harnais ef yw y cyfrwy a’r ffrwyn. Mae yn debyg fod cyfrwy yn air Cymraeg, ac y mae iddo ei genglau. - Llad. cingula, cruper - Gael. crup, a gwrtholion. Dichon fod ffrwyn wedi dyfod o'r Lladin, froenum; mae iddi ei genfa, ei thalaeth, a'i hawen, y rhai ydynt Gymraeg. I'r ceffyl pwn - pynfarch, yn lle cyfrwy, mae panel. A ydyw panel yn air Cymraeg? Beth arall y gelwir ef? I’r ceffyl gwêdd, yn lle panel y mae ystrodur, a thros y strodur, er dal i fyny freichiau’r gert (cart, trol), y mae cadwen a elwir yn Ngheredigion backchain. Y gweddill o'r harnais yw y breechband; y goler (collar), a'r homs. Gwelir mai enwau pur Seisnigaidd sydd ar holl gêr y ceffyl gwaith. Yn y Gogledd mae'r enwau yn fwy Cymreig. Yn lle backchain ceir “carwden,” yn lle breechband y “dindres,” neu'r “fondres;” yn lle'r goler, y “mwnci;” ac yn lle'r homs, y “mwnci pren.” Llygriad o'r gair Ysgotaidd haims, hammys neu hems yw yr “homs” a dichon mai ei wreiddyn yw y gair Cymraeg cam, yr hwn a olygir ei ffurf. Rhyfedd fel mae enwau pethau fel hyn wedi cael eu trosi; ond y mae i'r enwau eu hanes. Pe ysgrifennwyd. hanes yr homs, buasai yn bennod ryfedd yn hanes Cymru. Pwy ai hysgrifenna? Dichon mai ychydig sydd yn gwybod mai wrth gynffon y ceffyl y byddid yn cysylltu yr aradr yn yr Iwerddon; hyd oni osodwyd yr arferiad i lawr yno trwy nerth cyfraith yn yr ail ganrif ar bymtheg!

Onid yw yn ffaith hynod mai Sais yw pob ceffyl yng Nghymru? Ceir clywed gwesion ffermydd, na wyddant frawddeg o Saesneg, yn siarad â'r ceffylau: Gee-up, way, heit, commother, gently, &c. Beth sydd yn cyfrif am hyn? Ond dyma fi yn tynnu'r gwys hon i'r dalar, gan fod yn sicr, os bydd i amryw ddilyn y ceir grawn cynhyrchiol mewn lle nad oedd neb yn meddwl.





Sumbolau arbennig: ŷ ŵ 

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA
 
  

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats