1814k Gwefan Cymru-Catalonia. Pw! pa ham yr wyf yn tybygu o gwbl y bydd ar y Cymry eisiau Ymreolaeth ar ol colli eu hiaith? Oni bydden y pryd hwnnw yn ormod o Saeson i ddymuno nac i haeddu hynny?

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_068_seisnigo_enwau_cymraeg_1897_1814k.htm

0001z Y Tudalen Blaen kimkat0001

..........1863c Y Porth Cymraeg kimkat1863k

....................0009k Yr Arweinddalen kimkat0009k

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) kimkat0960k

........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr
kimkat0860k

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
Dyma ran o’n Hadran Cywaith Siôn Prys’ -

sef Cywaith  Dodi Testunau Cymraeg ar y We

 

 

SEISNIGO ENWAU CYMREIG

EMRYS AP IWAN

Y Geninen (Ionawr 1897) Cyfrol 15, Rhif 1

 

Adolygiadau diweddaraf:
2004-04-29, 2012-09-01

 

Nodyn: Emrys ap Iwan [Robert Ambrose Jones], (1848-1906).  Ganwyd yn Abergele (sir Conwy bellach, ond yr adeg hynny yn Sir Ddinbych). Beirniad llenyddol, llenor - ei gwleidyddiaeth a chrefydd oedd ei brif bynciau. Cenedlatholwr o Gymro. Fe’i hordeinwyd yn weinidog yn yr Eglwys Fethodistaidd Calfinaidd yn 1883. Bu’n weinidog ar gapeli yn ardal Rhuthun nes ei farw.

..............

 
Y GENINEN:
Cylchgrawn Cenedlaethol

RHIF 1.
IONAWR, 1897
CYF. XV.

SEISNIGO ENWAU CYMREIG.


1. ENWAU LLEOEDD.

(Rhag trafferthu fy hun na’r cyssodwyr i ddodi tolnod (’) i ddangos pa bryd y bydd llythyren derfyn yn fud, ceisied y darllenydd ei hun o hyn allan gyfarsangu f a symlhau au, wrth y rheol hon: - Pan y bydd af, ef, &c., ac au neu iau, yn derfyniadau diaccen, megis yn pentref, cyfrif, gorau, gwyliau, na seinier yr f a’r u (yn au), oddi eithr o flaen gair a ddechreuo â llafarog. Eithr y mae yn ’ofynnol seinio’r f bersonol, yn y fath ’eiriau a caraf, attaf, hyd yn oed o flaen cydsain. Ym mhob lle, fe ddylid seinio’r f yn yscafnach na’r r Seisnig; sef yn debyccach i’r w Ellmynnig yn “Worms,” neu’r b ’Spaenig yn “Habanna.”)

_____________

Mi a wneuthum y rhestr o enwau sydd yn canlyn er mwyn dangos fel y mae Saeson anwybodus a Chymry anffyddlon yn ceisio anwladoli Cymru a’i gwneyd yn rhandir Sesnig, trwy Seisnigo a Seisnigeiddio enwau ei threfi, ei llannau, ei phlasau, ei chestyll, ei mynyddoedd, ei dyffrynnodd, a’i hafonydd; ac hefyd er mwyn cynnhyrfu ffyddloniaid y tir i ddyfeisio rhyw ffordd i attal y fath hyfdra. Y mae hyn yn beth na ’oddefid mono gan un genedl a chanddi rywfaint o barch iddi ei hun. Er fod agos bawb o’r Saeson mor analluog i iawn seinio ac i iawn lythrennu enwau tramor ag ydyn i iawn seinio ac i iawn lythrennu enwau Cymréig: etto, ni chlywis i ddim un Ffrangc yn galw Boulogne yn Bwlóng; dim un Belgiad yn galw Brüssel yn Bryssels; dim un Batafiad yn galw Utrecht yn Iwtrect, na dim un Allman yn galw Kreuznach yn Criwsnac, o barch i’r Saeson uniaith sydd yn teithio ac yn trigo ar y Cyfandir. Ni ’welis chwaith neb ar y Gyfandir yn ymostwng i ’scrifennu enwau eu trefi yn y dulliau rhyfedd ac ofnadwy y bydd yr enwau hynny yn ymddangos yn gyffredin mewn newyddiaduron Seisnig. Os dywed rhywun fod yn ’weddus i ni, sydd yn genedl ddarostyngedig, ymddwyn yn ffolach na phobl sydd yn mwynhau breintiau cenedl rydd, yna y mae hwnnw yn arfer dadl ag sydd yn dangos fod yr hir gaethiwed y bu’r Cymry ynddo, wedi llygru ei natur ef ei hun. Os darfu i’r Cymry, er eu gwaethaf, golli eu hannibyniaeth, nid yw hynny yn un rheswm pa ham y dylen o’u gwirfodd golli eu hunan-barch hefyd. Pe trosglwyddid y nawfed ran o falchder y Saeson i’r Cymry, fe fydde’r Cymry yn barchusach pobl o lawer; ac yn sicr fe fydde’r Saeson hwythau yn hawddgarach o dippyn. Pe colle y rhai hyn hyd yn oed hanner eu balchder, y mae yn anodd gennyf feddwl y bydden wedyn yn ddigon ymostyng-gar i Gymreigio en henwau eu hunain, enwau eu gorsafodd, eu trefi, eu hewlydd, a’u tai, o barch i lygaid, a genau, a chlustiau, y Cymry. Ac na’m cyhudder o fod yn rhy Seisgar wrth ddywedyd y dyle pob peth a fydde yn anweddus i Saeson cymmedrol fod yn anweddus i ninnau. Os gwrthun o beth a fyddo iddyn hwy ddyscu pob peth yn eu hyscolion oddi eithr iaith a hanes eu gwlad eu hunain, y mae hynny yn ’wrthun i ninnau. Os ffiaidd o beth a fydde ganddyn hwy dywyllu hen hanes eu gwlad trwy estroneiddio enwau’r lleodd sydd ynddi, fe ddyle fod yn ffiaidd gennym ninnau wneyd hynny. Os cywilyddus o beth a fydde iddyn hwy ’wadu eu hiaith yn y ffyrdd hyn ac mewn ffyrdd eryll, mwy cywilyddus fyth ydyw i ni ’wneyd hynny; canys yn ein gofal ni, bellach, y mae yr unig blentyn iach o holl blant y famiaith Geltaidd, a fu iaith enwog gynt. Y mae’r Gernyweg wedi marw; y Lydaweg a’r Albaneg yn dihoeni o eisiau amgeledd; a’r Wyddeleg yn marw o achos na ddechreuwyd ei hamgoleddu yn ddigon buan: ac nid oes ofal ar lawer am gadw’r Gymráeg chwaith yn fyw. “Joseph nid yw fyw, a Simeon yntau nid yw fyw; a BENJAMIN a ddygech ymaith!”

_____________

Y mae’r iaith a ddaeth i’n rhan yn ymgorffoliad o yspryd lliaws o genedlaethau; er hynny, ’fe ellid, pe mynnid, ei lladd mewn un genhedlaeth. Ond tybed a oes gennym hawl i attal oddi wrth y genhedlaeth a ddaw y trysor teuluol a draddodwyd ini gan y cenedlaethau o’n blaen? Mi a glywis feibion i rai o’n gweinidogion a’n blaenoriaid parchusaf yn melldithio’u tadau, o achos na fynnnodd y rhain ddyscu Cymráeg iddyn yn eu mebyd. Yr un ffunud, pe cyttune’r genhedlaeth hon i ddigenedligo’r Cymry trwy ’adael i’r Gymráeg farw, y mae yn ddiáu y cae’r genhedlaeth nesaf achos i’w melldithio hithau. Ei marw o gyfundeb neu gymdeithas, fu ’ellir eu bywhau hwy drachefn; ond pan drengo iaith, ni ellir byth ei hadfywhau hi. Am hynny, ymrói i gadw’r Gymráeg yn fyw ydyw’r ddyled bennaf sydd ar y Cymry yn yr oes hon. Y mae hyn yn beth pwysicach o lawer na chadw yn fyw hyd y fory ryw sect fach a ’anwyd ddoe. Ie, hyn, yn ’wladol a chrefyddol yw’r peth pwysiccaf o bob peth ar hyn o bryd. Y mae Cymry gwych a gwir yscolheigaidd wedi darfod er pan ddirywiodd iaith y Cymry; ac fe ’ellid yn hawdd hebgor y genhedlaeth hon o Gymry, oni bai fod ei heisiau i gadw yn fyw un o ieithodd hynaf a gorau’r byd. Pe peidio fy nghydwladwyr a chyflawni prif amcan eu bodolaeth, ni bydde ’waeth gennyf fi mo’r llawer pe doe’r môr drostyn, a’u boddi bob un, a minnau gyd â hwynt. 
_____________

Mewn gwirionedd, dau beth rhagorol sy gennym ni bellach ar ein helw: sef, ein gwlad a’n hiaith. Ni feiddiwn ymffrostio ein bod mor ddeallus, mor ’wybodus, mor foesol, na hyd yn oed mor grefyddol, a llawer cenedl arall, ond yn sicr, ni a ’allwn ymffrostio fod gennym un o’r gwledydd teccaf, ac un o’r ieithoedd cywreiniaf yn Europ. Nid yw’r Gymraeg, yn ’wir, agos mor dlos a’r Yspaeneg, nac mor gymmwys a honno i fod yn iaith gyffredinol; am fod yr Yspaeneg yr hawsaf i’w dyscu o bob iaith Europaidd, tra y mae’r Gymraeg agos mor anodd i’w dyscu ag yw’r Ellmynnáeg. Ond y mae anhawsder y Gymráeg yn dyfod yn bennaf o’r unig beth hwnnw ag y mae-hi yn rhagori ynddo ar bob iaith ddiweddar arall: sef, ei manylder athronyddol. Y mae fod iaith cenedl yn anodd yn hytrach yn fantais nag yn anfantais yn y dyddiau hyn; canys y cenhedlodd y mae iddyn iaith anodd, megis y Rhusiaid, yr Ellmyn, a’r Cymry, sydd yn teimlo lleiaf o anhawsder i ddyscu ieithodd eryll. Y mae yn ’wir fod y Saesneg yn un o’r ieithodd anhawddaf i’w llafaru yn ddilediaith â’r tafod, ac i’w deall yn rhwydd â’r glust; ond ym mhob peth oddi eithr ei sain y mae hi yn iaith hawdd, o’i chymmharu âg ieithodd y cenhedlodd a enwyd. Y mae hynodrwydd y seiniau yn y Saesneg yn peri fod yn anodd iawn i Saeson lafaru ieithodd cenhedlodd eryll, ac yn anodd iawn i genhedlodd eryll lafaru’r Saesneg yn ddilediaith.

_____________

I glustiau tramorwyr, y mae’r Gymráeg yn bereiddiach na’r Saesneg; ac i glustiau y rhai mwyaf diwylliedig o’r Saeson hefyd, y mae-hi yn llawn pereiddiach na’r Ellmynnáeg: ond fe daera Saeson uniaith ei bod yn iaith farbaraidd, ac annheilwng o greaduriaid rhesymmol. Fe ’ellid meddwl fod lliaws o Gymry yn rhoi mwy o goel ar y Saeson cyffredin hyn nag ar Saeson anghyffredin; ac mai o blegid hynny y maen mor chwannog i ’alw Iago yn Dzaycob, Ieuan neu Siôn yn Dzon, Siân yn Dzayne, Plas Tirion yn Tirion Hole (Hall), Hewl y Bont yn Brids Street, Pen y Bont yn Penny Bont, ac Ergin yn Urtsienfield. Cyn hir, hwy a fynnan, ond odid, seinio a llythrennu Bangor yn Benguh, Penmaen Mawr yn Penmunmoah, Llanfair Fechan yn Lanverveckn, neu yn Lanverfetshun, (neu ynte gyfieithu yr enw yn St. Little Mary’s), Pwll y Crochan yn Pulley Crotshun, Pennal yn Pen Awl neu yn Pen Ole, a Machynllaith yn Machine-to- Let. Er na fedr hanner y Cymry ddim iawn seinio’r j a’r ch Seisnig, a’r cyfuniadau Seisnig chst, g[e]st, ths, a ct; etto hwy a dybian fod yr enwau a ’alwan hwy yn Tsurts Street, Sou’ Street, a Fair Prospec’, yn barchusach eu golwg a’u sŵn na’r enwau Cymreig Hewl yr Eglwys, Hewl y De, a Bottegwel.

_____________

Gymry, os mynnwch beidio a bod yn blentynneiddiach nag un genedl arall, galwch chwi enw pob lle yNghymru wrth ei enw Cymreig, a gadewch i’r Saeson ei seinio fel y gallon, neu ei gyfieithu fel y mynnon. Nid yw eu bod hwy yn analluog i seinio yr ll Gymréig yn eich cyfiawnhau chwi am ei throi yn l neu yn thl; ac nid yw eu bod hwy yn eu hanwybodaeth yn galw Castell [Dinas] Brân yn Crow Castle, a’r Eifl yn Rivals, ddim yn eich cyfiawnhau chwi am eu galw felly, yn erbyn eich gwybodaeth. Fe ’allwch chwi seinio Yr Eifl cystal a phe baech yn Ffrangcod: ac fe ’wyddoch chwi yn dda ddigon nad yw The Rivals ddim mwy o gyfieithiad o ’R Eifl nag yw twins o’r gair “gefail.” Chwi a wyddoch hefyd nad oes a ’wnelo Peel Street (’Stryd y Pil), Abergele, ddim mwy a Syr Robert Peel, nac un Peel arall, nag sydd a ’wnelo’r ffyliaid a ’osododd i fyny yr enw newydd â dysceidiaeth. Pa ham, gan hynny, yr ydych yn cynnorthwyo Saeson a Chymry anwybodus i ddyrysu ac i gamarwain hanesyddion a hynafiaethwyr yr oes nesaf? Yr ydych wrth ddiléu iaith Cymru yn y y ffordd hon yn diléu ei hanes hefyd.

_____________

Dealler nid wyf fi yn beio dim ar y Saeson am eu bod yn eu plith eu hunain yn dewis galw Abertawe yn Swansea, yr Abermo yn Barmouth, a ’R Wyddfa yn Snowdon, mwy nag yr wyf yn beio ar y Cymry am eu bod hwythau yn eu plith eu hunain yn galw London yn Llundain, a York yn Gaer Efrog. Yn ’wir, y mae gan bob cenedl ei henwau ei hun ar leodd hynod mewn gwledydd eryll; ac am hynny y mae’r Ellmyn yn galw Roma yn Rom, y Ffangcod a’r Saeson yn ei galw yn Rome, a’r Cymry yn ei galw yn Rhufain. Yr un ffunud, y mae’r Ellmyn a’r Cymry yn galw afon neillduol yn Rhein, y Ffrangcod yn ei galw yn Rhin, a’r Saeson yn ei galw yn Rhine. Beio yr wyf fi ar y Cymry am ’oddef i’r Saeson ddisodli yr enwau Cymreig yn ein gwlad ni ein hunain; yr hyn sy mor afresymmol a phe goddefe’r Saeson i’r Cymry ddiléu yr enwau Canterbury a Winchester o ’orsafodd a llythyrféydd y lleodd hynny, a gosod yn eu lle yr enwau Caer Gaint a Chaer Wynt. Mewn rhai gwledydd lle yr ydys yn llefaru dwy iaith; megis Belg, yr Yswisdir, Bohemia, a Hongria, yr ydys mewn llawer tref yn gosod i fyny yn y gorsafodd a’r llythyrdai enw’r dref mewn dwy iaith. Pe fyddwn innau yn ddigon boddlon i ’osod yr enw Seisnig o dan yr enw Cymréig yn nhrefi Cymru, pe boddlone’r Saeson i ’osod yr enw Cymréig o dan yr enw Seisnig yn nhrefi Lloegr. Heb iddyn hwy ’wneuthur i ni fel y mynnen i ninnau ’wneuthur iddyn hwythau, hwy a roen ar ddeall fod ganddyn hwy fwy o hawl i ymawdurdodi yNghymru nag sy gennym ni i ymawdurdodi yn Lloegr; yr hyn beth ni ’all Cymro mo’i gydnabod heb ddarostwng ei hun. Os na theimla’r genedl Gymréig ei bod yn gydradd, o ran breintiau, a’r genedl ’orau yn y byd, ni fag-hi byth wŷr grymmus ac anrhydeddus. Ofer hagen yw dywedyd y bydd y Cymry yn gydradd mewn breintiau â’r Saeson hyd oni ’wneler ei hiaith mor angenrheidiol yNghymru ag yw’r Saesneg yn Lloegr; canys eu hiaith yw amod pennaf eu cenedligaeth (nationality). Nid gwiw i’r Cymry ymgyfaddasgar a ’elwir yn Opportunists geisio cyssuro’u hunain a chysyuro eryll, trwy haeru y gall y Cymry barhau yn genedl er colli ei hiaith. Hwyrach y gallen wneyd hynny, pe buasen yn bobl lïosog, gyd â môr gweddol lydan o’n hamgylch; ond gan mai ychydig ydyn, ac heb ddwfr llettach na’r Hafren rhyngddyn a Lloegr, y mae yn annichon iddyn hwy barhau yn genedl briod ar ol colli eu priod iaith. Heb honno, cyffelyb a fydde’u tynged i dynged eu brodyr Brythonig yNgogledd Lloegr a Chernyw. Ac os dibris gan rywun weled iaith a chenedl yn diflannu oddi ar wyneb y ddaear, ys truan o ddŷn yw hwnnw. Yn ddiáu, y mae hwnnw yn pechu yn erbyn un o reddfau dyfnaf a iachaf ei natur; canys y mae mor annaturiol i ddŷn fod yn ddiofal am anfarwoldeb ei genedl ag am anfarwoldeb ei enaid ei hun. Penderfynwn fyw, ac yna byw a fyddwn. Ceisiwn fod yn fawr yn yr amser a fydd yn unig er mwyn bod yn ’weddol fawr yn yr amser a sydd. Gwir yw’r geiriau a ddywedodd Paul am genhedlodd fel am bersonau:

“I’r rhai trwy barhau yn gwneuthur da, a geisiant ogoniant ac anrhydedd ac anllygredigaeth; bywyd tragwyddol.”

Y mae etifeddiaeth y dyfodol yn eiddo i’r cenhedlodd sydd yn gobeithio ac yn anturio.

_____________

Y mae llawer yn y blynyddodd hyn yn gofyn am Ymreolaeth i Gymru; a da y maen yn gwneuthur, meddaf fi. Ond am ba reswm, attolwg, y gall y Cymry mwy na’r Cernywiaid ofyn am Ymreolaeth, oddi eithr am y rheswm eu bod yn genedl wahanol? a pha fodd y gallan argyhoeddi’r Saeson eu bod yn genedl, os na ’allan brofi eu bod yn llefaru iaith wahanol? Pan oeddwn yn dadlau, ryw ddwy flynedd yn ol, y dylem, cyn gofyn yn ffurfiol am Ymreolaeth, ddewis prif-ddinas i Gymru, yr oedd rhywrai yn gofyn: “Pa raid sydd ini wrth brif ddinas? ni a ’allwn gael pob peth sydd arnom ei eisiau heb honno”; ond pan ’ofynnodd Mr. Herbert Lewis yn y Senedd, beth amser ar ol hynny, am Gywreinfa i Gymru, fe attebodd yr Yscrifennydd Cartrefol trwy ofyn: “Pa le y mae’ch prif ddinas?” Yn awr, tybier fod y Gymráeg yn marw, a bod Mr. Lewis, neu rywun arall, yn gofyn i’r Senedd ganiattáu i’r Cymry lywodraethu eu hunain, a ddywed rhywun diragfarn fy mod yn cambroffwydo, neu yn camddyfalu, wrth ddywedyd mai hyn a fydde swm dadl Yscrifennydd y dydd: “ Os yw’r Cymry yn genedl, pa le y mae eu hiaith?” Yn ’wir, onid y gofyniad: “Pa le y mae’ch iaith?” yw’r gofyniad y mae’r Gwyddelod yn teimlo mwyaf o anhawsder i’w atteb yr awr hon? Ai Tybier a ddywedis-i wrth gychwyn fy nadl? Pw! pa ham yr wyf yn tybygu o gwbl y bydd ar y Cymry eisiau Ymreolaeth ar ol colli eu hiaith? Oni bydden y pryd hwnnw yn ’ormod o Saeson i ddymuno nac i haeddu hynny?

_____________

Hyd yn oed yr awr hon, gwan yw’r awydd am Senedd Genhedlig yn y parthau lle y mae’r Gymráeg yn ’wan. Yno, nid yw’r Cymry yn ymegnío nemmor i borthi eu cenedlgarwch âg Ymreolaeth nac â dim arall; a hynny am nad oes ynddyn hwy fawr o genedlgarwch i’w borthi. Y mae hwn yn darfod lle y mae’r iaith yn darfod; a’r trigolion yn myned i edrych ar y Cymry Cymréig yn bobl ’wahanol, y rhai a ’alwan hwy yn Welshers. Ac nid eu hysbryd Cymréig yn unig y mae’r Cymry yn ei golli wrth golli eu prïod iaith; y maen hefyd yn colli eu dealltwriaeth, eu moesoldeb, a’u crefydd hefyd, yn enwedig yn ei ffurf Brotestanaidd. Wrth ddywedyd hyn, nid wyf fi yn awgrymmu fod y Saeson yn fwy anneallus, yn fwy anfoesol, ac yn fwy anghrefyddol na’r Cymry Cymréig; canys y mae hynny yn beth anhawddach i’w brofi. Dywedyd yn unig yr wyf fi fod Cymry Seisnigedig yn ’waelach pobl ym mhob peth nag yw gwir Gymry a gwir Saeson. Amlwg yw fod natur yn cospi’r bobl sydd yn anffyddlon i’w hiaith a’u cenedl; trwy eu gwneyd yn anffyddlon i bob peth sy deg a da. Os cymmer y Pabyddion gyngor gennyf fi, hwy a beidien â threulio’u nerth i geisio proselytio’r Cymry Cymréig; am fod y rhain, gan’ mwyaf, er yn caru eu tadau yn fawr, yn bobl rhy bybyr i ymchwelyd at ofergoelion eu tadau. Os mynnan lwyddo yn favr ac yn ebrwydd, ymosodan ar y Cymry Seisnigedig; canys fe fydd y rhain cyn barotted i ’wadu eu crefydd ag y buon i ’wadu eu hiaith. Wrth newid eu hiaith, hwy a ’wnaethan eu hunain yn ddieithr i hanes eu cenedl a hanes eu cyfundeb, ac a ymryddhasan oddi wrth ddylanwadau cryfion yr oes o’r blaen. Os myn y Pabyddion gael cymmorth yr Ymneillduwyr, yscrifennan i’r newyddiaduron a’r grealon lythyrau dienw i annog y rheini i brysuro i amlhau Achosion Seisnig yNghymru, canys fe fydd yn annichon gwneyd Cymru yn Gymru Gatholig heb ei gwneyd yn gyntaf yn Gymru Seisnig. Yr wyf fi byth er pan dyfodd barf ar fy ngwyneb yn taeru fod hoedl Ymneillduaeth, a Phrotestaniaeth resymmol, ynglŷn wrth hoedl y Gymráeg; ac y mae llawer yn fy nghyhuddo o fod yn anffyddlon i’m cyfundeb fy hun o achos fy mod yn gwneyd hynny. Yr un ffunud, y mae’r proffwydi sydd yn rhoi mwy o amser i ystadegu nag i ddarllen hanes cenhedlodd, a hanes codiad a chwymp crefyddau, yn haeru nad yw hoedl crefydd, na hyd yn oed ryw ffurf neillduol ar grefydd, ddim yn dibynnu dim ar hoedl iaith. O! ’r fath anffawd yw fod arweinwyr crefyddol yn fwy o fasnachwyr nag o astudwyr. Y mae’r Pabyddion, chwarau teg iddyn, yn bobl gall, ac yn ddigon ymostyng-gar i wrando weithiau ar lais y bobl; am hynny, mi ’wn na ’wawdian hwy monof, os dywedaf wrthyn fod yn rhaid iddyn gynnorthwyo Eglwyswyr ac Ymneillduwyr i Seisnigeiddio Cymru cyn y gallan ’obeithio ei gwneyd yn Gatholig o ben bwy gilydd. Yr wyf hefyd yn eu rhybuddio y darfydde byth am eu gobaith pe digwydde i’r Ymneillduwyr fyned yn ddigon doeth i droi eu holl Achosion Seisnig yn yscolion i ddyscu Cymráeg. Ond y mae arnaf ofn na ’wnan mo hynny; ac am hynny y bydd raid i bawb sydd yn caru eu hiaith yn fwy na’u sect ymgasclu ynghyd ac ymffurfio yn un cyfundeb Cymreig, er mwyn peri i’r ddau beth mwyaf dwyfol a chyssegredig sy gennym, sef o’n hiaith a’n crefydd, fod yn gynnaliaeth i’w gilydd.

_____________

Mi a fernis fod yn ddoethach imi ar hyn o bryd gyffrói gwladgarwch a hunan-barch y Cymry â sylwadau cyffredinol o’r fath yma, na brysio i gynnyg cynllun bach a sych o’m heiddo fy hun i seithugio ymgais Saeson a Dic-Sion-Dafyddion i ddiléu’r Gymráeg o’n gorsafodd a’n llythyrdai. Yr wyf, gan hynny, yn annog eryll, mewn gwahanol barthau o Gymru, i arfer eu dyfeisgarwch eu hunain: canys nid y cynllun gorau yn y parth hwn a fydde’r cynllun gorau ym mhob parth. Mewn gwirionedd, pe bae ym mhob ardal Gymro mor ’wladgarol a phenderfynol a’r Barnwr Gwilym Williams, ni fydde raid wrth gynllun o gwbl; canys pan ddarfu i awdurdodau neu weision y ffordd haearn ’osod i fyny yr enw Pontyclown yngorsaf Pont-y-clun, fe ’wrthdystiodd y Barnwr yn erbyn y fath wrthuni, ac a fynnodd adferu yr hên enw Cymréig. Diolch iddo am ddangos nad yw uchel swydd ddim wedi darostwng ei yspryd Cymreig.

_____________

Yr wyf yn gobeithio y dyry rhestr sydd yn canlyn dippyn o gymmorth i’r Cymry sydd yn arfer enwau Seisnig a Seisnigaidd, yn unig o eisiau gwybod yr enwau Cymréig. Er mwyn llythrennu’r enwau hyn mor gywir ag y gallwn, mi a fwris ’olwg ar yr holl enwau lleodd a geir yn y Brutiau, Bonedd y Saint, Plwyfau Cymru, gweithodd hên feirdd hanesyddol o fath Lewis Glyn Cothi, llyfrau Dr. Rhys, a gwahanol erthyglau yn Y Cymmrodor. Yr wyf hefyd yn ddyledus am gryn nifer o enwau i gyfaill sydd yn teithio llawer yn Neheubarth Cymru; ond gan na ’ellid gael hyd iddyn oll mewn hên lyfrau, mi a ’adewis rai o honyn allan, ac a ddodis holnod ar ol y rhan fwyaf o’r lleill. Fe ddichon y dylaswn ddodi holnod ar ol ychwaneg, ac na ddyliswn ymddiried i’m cyfaill am ddim, hob bennod ac adnod i’w gadarnhau. Ychydig iawn o gymmorth a gefis yNghymru Owen Jones; am ei fod ef yn gyffredin yn rhoddi yr enwau yn Saesneg, neu yn eu dull Seisnigaidd; a phan y bydd-o yn rhoi yr enw Cymréig, ei lythrennu y bydd-o yn gyffredin yn ol ei syniad ef ei hun am fonedd ac ystyr yr enw, ac nid yn ol un awdurdod. Rhag bod yn euog o rwymo barn ac o gyfyngu ar ryddid rhai eryll, fe welir fy mod i yn rhoi agos bob enw mewn dwy ffurf, sef ei ffurf ddiweddar a chyffredin, a’i ffurf hynach a mwy llenyddol. Gan fod enwau yn eu ffurf ddiweddar yn ymddangos yn hirion, ac yn temtio llawer i’w camaccennu, y mae yn well gennyf fy hun arfer y ffurf hynaf, gan yscrifennu yn hytrach Pen y Bont, neu Pen-y-Bont, na Penybont.

_____________

I ’wneyd rhestr berffaith fe ddyle fod gan ddyn gynnorthwywyr cymmwys mewn gwahanol barthau o’r wlad, neu ynte fod ganddo fo ei hun ddigon o amser i deithio, i ymholi â’r hen drigolion, ac i chwilio hên achau teuluol a rhestrau plwyfol. Fe ’alle’r cyfryw un wneuthur llyfr y bydde yn ’wiw i bob yscrifennydd Cymréig ei gadw wrth ei benelin. I aros i hwnnw ymddangos, da a fydde i amryw ddanfon i’r GENINEN restrau perffeithiach, os gallan, na’m rhestr i.

 


.........................A
Aberbeeg yn lle Aberbíg, neu Aber Big.
Abercarne — Abercárn, neu Aber Carn.
Abercrave — Abercráf, neu Aber Craf.
Barbarously written Abercrave,” ebe Egerton Phillimore yn Y Cymmrodor.
Aberdare — Aberdár, neu Aber Dâr.
Aberdare Junction — Abercynnon, neu Aber Cynnon, neu ynte Cydfa Aber Dâr.
Abwrdovey — Aberdyfi, neu Aber Dyfi.
Aberdylais — Aberdulas, ynte Aberdwylais? canys fe sonia Lewys Glyn Cothi am
..... “Ystwyll, Calan, ar lan Lais,
....... Nadolig ar lan Dwylais.”
Abergavenny — Y Fenni, neu Aber Gyfenni.
Abergwilly — Abergwili, neu Aber Gwili.
Aberkenfig — Abercynffig, neu Aber Cynffig.
Aberllynfy — Aberllyfni, neu Aber Llyfni.
Abermule — Aber Miwl. Felly ym Mrut y Tywysogion.
Aberwheeler — Aberchwiler, neu Aber Chwiler.
Above Sawddy — Sawdde (neu Sawddai) Uchaf.
.... “Nes myned Sawddai neu Fenni’n fedd.” – L.G.C. {= Lewys Glyn Cothi}
Acrefair — Acer (neu Acr) Fair.
Amblestone — Trefamlod, neu [Tref] Amlod.
Ambroath — Amroth, ynte Amarth?
Arustley — Arwystli.

.........................B
Bangor-on-the-Dee — Bangor is Coed
Bankyfelin — Bangc y Felin.
Barry Island — Ynys Terthi.
Barmouth — Yr Abermo, neu Aber Maw.
Basingwerk — Dinas Basing.
Bassaleg — Maesaleg?
(Bath — Caer Faddon).
Battle — y Bettel.
Beaumaris — Porth Wygyr.
Beaufort — Cendl.
Beeston — Y Felallt.
Begelly — Bugeli.
Berriew — Aberriw (ym Mrut y Tywysogion), neu Aber Rhiw.
Berwic — Y Ferwig.
Bettws Leiki — Bettws Leucu, (sef Lucy).
Bonvilston — Tresimwn, neu Tre Simwn.
Boughrood — Bochrwyd.
Bishopston — Llandeilo Ferwallt (yNgwyr).
Bishopston — Llanngadwaladr (ym Mynwy).
Beguildy — Bugeildy.
Blaina — Blaenau Gwent.
Blackmill — Melin Ifan Ddu.
Blackwood — Coed Duon.
Blethfa — Bleddfa, ynte Bleddfach?
Bridgend — Pen y Bont, [ar Ogwy].
Brynhyfrid — Bryn Hyfryd, (Aber Tawe).
Brecon — Aberhonddu, neu Aber Honddu.
Briton Ferry — Rhyd y Brython.
Brynford — Brynffordd
Breiddyn Hill — Craig Freiddin.
Bristol — Caerodor, neu Caer Odor.
Bristol Channel — Mor Hafren.
Builth — Buallt, neu Buellt.
Builth (town) — Llanfair ym Muallt.
Bull Bay — Porth Llechog.
Burry (river) — Y Feri?
Buttington — Tàl y Bont.

.........................C
Caerleon — Caerllion, neu Caerllion ar Wysc.
Caerphilly — Caerphili, neu Caer Ffili.
Cadoxton — Llangattwg, neu Llan Gattwg.
Calcot — Caelcoed.
Caldey Island — Ynys Pŷr.
(Cambridge — Caer Grawnt)
Camrose — Camros.
(Canterbury — Caer Gaint).
Cardigan — Aberteifi, neu Aber Teifi.
Cardiganshire — Sir Aber Teifi, neu Ceredigion.
Carnarvon — Caernarfon, neu Caer yn Arfon.
Carmarthen — Caerfyrddin, neu Caer Fyrddin.
Cardiff — Caerdydd, Caer Dydd, neu Caer Dyf.
Carew — Y Caerau, ynte Caer Yw?
(Carlisle — Caer Liwelydd).
Castleton — Cas Bach, neu Trecastell.
Castle Martin — Castell Marthin.
Cefn Mabley — Cefn Mablu.
Cerrig y Druidion — Cerrig (neu Cerryg) y Drudion.
Chepstow — Cas Gwent.
Chirk — Y Wäun, neu Y Waen.
Clydey — Y Clydau.
Clyne — Y Glyn.
Clynderwen — Glyn Derwen.
Clydach Vale. — Dyffryn Clydach
Colwyn Bay — Colwyn Newydd
Colwinstone — Tre Golwyn.
Coedkernew — Coed Cernyw.
Coity — Y Coetty.
Coychurch — Llangrallo, neu Llan Grallo
Coed Llay — Coed v Llai.
Coleshill — Cwnsallt
Coed Glassen — Coed Gleision
Cowbridge — Y Bont Faen.
Conway — Conwy.
Conwil — Cynwyl.
Crumlin — Crymlyn. Cremlin, ym Mrut y Tywysogion
Cray — Crai.
Crickhowell — Crughywel, neu Crug Hywel.
Croyddyn — Creuddyn.
Crosswood — Trawsgoed.
Crow Castle — Castell [Dinas] Brân.
Churchstoke — Yr Ystog ynte Yr Ystóg?
Cwmdare — Cwm Dâr.
Cwmburla — Cwmbwrla.
Cwm Yoy — Cwm Iou (sef Iau).
Cwm Taff — Cwm Taf.

.........................D
Dee — Y Ddyfrdwyt(f).
Defynock — Dyfynog.
Deganway — Degannwy, neu Dygannwy = Decantorum arx.
Denbigh — Dinbych.
Devils Bridge — Pont ar Fynach, neu Pont y Gŵr Drwg.
Dewis Land — Tir Dewi.
Dolgelley — Dolgèllau. — Dolgèlle yngenau’r brodorion.
Dovey — Dyfi.
(Dublin — Dulyn = y llyn du).
Duffryn — Y Dyffryn.
Dyliffe — Dylife.
Dynevor — Dinefwr.
Dulas Bay — Traeth Dulas.
Dylas — Dulas.

.........................E
Ebbw Vale — Glyn (neu Dyffryn) Ebwy.
Edwinsford — Rhydodyn, neu Rhyd Odwyn.
(Edinburgh — Din Eiddin, neu Caer Eyddyn. (“Dinas Etwin yn y Gogledd”).
Efilwen — Efail Wen.
Ely — Tre Lai.
Englefield — Tegeingl.
English Channel — Môr Udd. :
Erbistock — Yr Ystog, neu Yr Ystóg, ynte Yr Ystóc?
Estimaner — Ystumanner.
Ewenny — Y Wenni.
Ewloe — Coed Eulo.
(Exeter — Caer Wysg, neu Caer Wysc).

.........................F
Ferryside — Llan y Fferi.
Festiniog — Ffestiniog.
Fishguard — Aber Gwaen, ynte Aber Gwain?
Flemington — Treffleming, neu Tre Ffleming
Ffleur-de-lis— Trelyn?
Flint — Fflint.
Forest of Dean — Y Ddena.
Forest Fach — Y Fforest Fach.
Frongoch — Y Fron Goch.

.........................G
Garndiffaith — Y Garn Ddiffaith.
Garth — Y Garth.
Garw Valley — Cwm Garw.
Garthbibio — Garthbeibio, neu Garth Beibio.
Gelli — Y Gelli.
Gelligaer — Y Gelli Gaer.
Glandovey — Glandyfi, neu Glan Dyfi.
Glan Conway — Llan St. Ffraid [Glan Conwy]
Glasynfryn — Glasinfryn.
Glascomb — Glasgwm.
Glasbury — Clas ar Wy.
(Glastonbury — Ynys Afallach, neu Glasennig).
(Gloucester — Caerloew, neu Caer Loew.)
Glyn-neath — Glyn Nedd.
Goetre -Y Goettre(f).
Golden Grove — Y Gelli Aur.
Golden Vale — Y Dyffryn Aur. — “A ffrwyn i weilch Dyffryn Aur.” L. G. C. {= Lewis Glyn Cothi}
Gorseinon — Cors Einion. — Gweler Myr. Arch., 693
Gower — Browyr.
Great Ormes Head — Pen y Ggoarth.
Green Castle — Castell Moel.
Greenfield — Maes Glas.
Groes — Y Groes.
Groesffordd — Y Groesffordd.
Guilsfield — Cegidfa?
Gwernaffield — Gwern y Mynydd.

.........................H
Halkin — Helygen.
Hatteral Hills — Mynyddoedd Euas.
Haverfordwest — Hwlffordd.
Hawarden — Penarlág, neu Pen ar Lag.
Hay — Y Gelli..
Hereford — Henffordd. .
Hells Mouth — Porth Neigwl..
Hirwain — Hirwaen, neu yn hytrach Hirwaun. — Fe geir y ddwy ffurf yn y Brutiau.
Holyhead — Caergybi, neu Caer Gybi.
Holywell — Treffynnon, neu Tref Ffynnon.
Holy Mountain — Y Sgyryd (neu Yr Yscyryd) Fawr.
Hope — Estyn.
Hope Mountain – Mynydd yr Hob.

.........................I
Iliston — Llanelltyd, neu Llan Elltud.
Iscir — Yscir, neu Yscyr.
Isle of Wight — (Ynys Wyth).

.........................K
Kemeys — Cemmais..
Kenfig Hill — Mynydd Cynffig.
Kerry — Ceri.
Kidwelly — Cydweli.
Kilybibil — Cil y Bebyll. — Felly un y Myr. Arch.: “Cil Bebyll yngwaith Cothi.”
Kinmel — Cinmael.
Knighton — Tref y Clawdd.
Knucklas – Cnwc-glas, neu Cnwclas.

.........................L
Laleston — Trelalys, neu Trelales.
Lampeter — Llanbedr [Pont Stephan].
Landore — Glan Dŵr.
Landawke — Llan Dawg, neu Llan Ddawg.
Lanedarne — Llanedeyrn, neu Llan Edyrn.
(Lancaster — Caer Werydd).
Langwm — Llangwm {ger Hwlffordd).
Lanmaes — Llanfaes neu Llan Faes.
Lanmace — Llanfaes neu Llan Faes.
Landinore — Glan y Môr.
Landibook — Llwyn y Bwch.
Lantarnam — Nant Teyrnon.
Lantwit Major — Llanilltud (neu Llan Illtud Fawr).
Lantwit Vairdre — Llanilltud Faerdre(f).
Lantwit Juxta Neath — Llanilltud Isaf.
Lavernock — Llywernog.
Laugharne — Llacharn.
Loughor — Llwchwr, neu Gas Llychwr.
Lisvane — Llysfaen, (ger Caer Dydd).
Lysfaen — Llysfaen.
Leeswood — Coed y Llai. — Coed Llai yngenau’r werin.
(Leicester — Caer Lŷr, neu Caer Leirion).
Leintwardine — Llinwent.
Leckwith — Llanfihangel Legwydd.
Ludchurch —Yr Eglwys Lwyd.
Lunnon — Llwyn On.

.........................LL
Llanaelhairn — Llanaelhaearn.
Llanarthney — Llanarthne, neu Llan Arthnau.
Llanbadoc — LIanfadog, neu Llan Fadog.
Llandaff — Llandaf, neu Llan Daf.
Llandawke — Llan Dawg, neu Llan Ddawg.
Llandeglay — Llandegla neu Llan Degla, (yn Sir Faeshyfed)
LIandewy — Llanddewi, nan Llan Ddewi.
Llandilo — Llandeilo, neu Llan Deilo [Fawr].
Llandilo Vane — Llandeilo’r Fan, neu Ll. D.r Faen.
Llantillio Crossenny — Llandeilo (neu Ll. D.) Croes-Senni. Ll. D. Croes Ynyr, yn y Myvyrian.
Llandefalley — Llandyfalle, neu Llan Dyfallau.
Llandegfeth — Llandegfedd, nen Llan Degfedd.
Llandough — Llandoche, ne Llan Doche.
Llandow — Llandẃ, neu Llan Dwf.
Llandowror — Llanddowror.
Llandefailog — Llandyfaelog (nen Ll. D.), ger Aber Honddu.
Llandefeilog — Llandyfaelog (neu Ll. D.), ger Cydweli.
Llandyssil — Llandyssul, neu Llan Dyssul.
Llandovery — Llanymddyfri, neu Llan ym Ddyfri.
Llandulas — Llanddulas.
Llanelly — Llanelli, neu Llan Elli.
Llanelieu — Llanellyw, ynte Llanelwy?
Llanellen — Llanelen, neu Llan Elen.
Llanedy — Llanedi, neu Llan Edi.
Llanfair Kilgeddin — Llanfair Cil Gydyn.
Llanfihangel Gobion — Llanfihangel y Gofion.
Llanfyllyn — Llanfyllin, neu Llan Fyllin.
Llanfoist — Llan Fwyst.
Llanganhafal — Llangynhafal, neu Llan Gynhafal.
Llangendeirne — Llangyndeyrn, neu Llan Gyndeyrn.
Llaagennith — Llangennydd, neu Llan Gennydd..
Llangerniew — Llangernyw, neu Llan Gernyw.
Llanginning — Llangynnin, neu Llan Gynnin.
Llangyniew — Llangynyw, neu Llan Gynyw.
Llangibby — Llangybi, neu Llan Gybi.
Llangonoyd — Llangynwyd, neu Llan Gynwyd.
Llangorse — Llangors, neu Llan Gors.
Llangrwyney — Llangrwyna, neu Llan Grwynau.
Llangunnider — Llangynydr, neu Llan Gynydr.
Llangynider — Llangynydr, neu Llan Gynydr.
Llangoedmore — Llangoedmor, neu Llan Goedmor.
Llangadock — Llangadog, neu Llan Gadog.
Llangattock — Llangattwg, neu Llan Gattwg.
Llangattock Vibon Avel — Llangattwg Feibion Avel (= Abel). - Llangattwg Meib Ionavel, yn y Myvyrian.
Llangenny — Llangenau, neu Llan Genau.
Llangunnor — Llangwnnur, neu Llan Gwnnur.
Llanguicke — Llangïwg, neu Llan Gïwg.
Llangunnock — Llangynog, neu Llan Gynnog.
Llanharry — Llanharri, neu Llan Harri.
Llanhithel — Llanhiddel, neu Llan Hiddel.
Llanhowell — Llanhywel, nen Llan Hywel.
Llanishen — Llanisan, neu Llan Isan.
Llanillterne — Llanelldeyrn, neu Llan Elldyrn.
Llanlleonvel — Llanllawenfel, neu Llan Llawenfel.
Llansaintfread — Llansanffraid, neu Llan St. Fffraid.
Llansoy — Llan Soe
Llanspythid — Llanyspydded, neu Llan Yspyddaid.
Llanyspyddid — Llanyspydded, neu Llan Yspyddaid.
Llanstadwell — Llanystudwal.
Llanybyther — Llanybydder.
Llanthewi — Llanddewi, nen Llan Ddewi [Rhydderch].
Llanover — Llanofor, neu Llan Ofor.
Llanthetty — Llanddetty, neu Llan Ddetty.
Llanthew — Llanddew, neu Llan Ddewi.
Llantrithyd — Llantreuddyd, neu Llan Treuddyd.
Llantrissant — Llantrisant, neu Llan Trisant.
Llantrissent — Llan [y] Trisaint, (ym Mynwy).
Llanvapley — Llanfablu, nen Llan Fablu.
Llanwonno — Llanwynno, neu Llan Wynno.
Llysworney — Llys y Fronnydd, ynte Llys Ronnydd.

.........................M
Machen — Mechain.
Maindee — Maendy.
Manordilo — Maenor Deilo.
Manorbier — Maenor Bŷr, neu Maenor Pŷr.
Mancott — Mancoed.
Mardy — Maerdy.
Martletwy — Marthau Tywi.
Manselton — Pentref Estyll.
Maescar — Maes y Gaer.
Mathern — Matharn.
Menai Bridge — Porthaethwy, neu Porth Aethwy.
Meliden — Gallt Melydr.
Milford Haven — Aber Dau Gleddyf.
Minera — Mwn-glawdd.
Minwear — Mynwer.
Miskin — Meisgyn, neu Meiscin.
Michaelston-le-pit — Llanfihangel [yn y Gwaelod],
Mold — Yr (neu Y) Wyddgrug.
Monaughty — Mynachdy?
Monmouth — Tre Fynwy.
Monmouthshire — Mynwy, neu Sir Fynwy.
Montgomery — Trefaldwyn, neu Tref Faldwyn.
Monkton — Tref Fynach.
Mothvey — Myddfai.
Moughtre — Mochdre, (ger y Dre Newydd).
Moylegrove — Trewyddel, neu Tref y Gwyddel.
Morriston — Treforis, neu Tref Forus.
Mumbles — Pen y Fantach.
Mydrim — Meidrym.
Mynfford — Minffordd. — Minffor yngenau’r werin.

.........................N
Nangle — Nan Gel, yn y Myvyrian.
Nanney — Nannau.
Narberth — Arberth.
Neath — Castell Nedd.
Nerquis — Y Nercwys.
Nevern — Nanhyfer.
Nevin — Nefyn.
New Quay — Cei Newydd.
Newcastle Emlyn — Castell Newydd [yn] Emlyn.

— Os mynnir danfon llythyrau i’r lle hwn rhaid eu cyfeirio o hyn allan i gantref Emlyn,

ac nid i’r dref ei hun. Felly y rhyngodd bodd i’r awdurdodau goruchel.
Newchurch — Y Llan Newydd.
Newport (Sir Fynwy) — Cas Newydd.
Newport (Sir Benfro) — Trefdraeth.
Newtown — Y Drenewydd, neu y Dref Newydd.
North Stack — Yr Ynys Arw.
Northop — Llaneurgain, neu Llan Eurgain.
Noyadd — Y Neuadd, (ym Mhenfro).

.........................O
Ogmore — Ogwr.
Ogmore Vale — Glyn Ogwr, neu Cwm Ogwr.
Old Colwyn — Colwyn, nen Yr Hên Golwyn.
Oswestry — Croesyswallt, neu Croes Oswallt.
Overton — Wrtyn [Fadog].
Oystermouth — Caer Gwyrosydd, ynte Caer Tawy?

.........................P
Panteg — Pant Teg.
Panteague — Pant Teg.
Patricks Causeway — Sarn Badrig.
Penalth — Penallt.
Penboyr — Ben Beyr.
Pembridge — Penbrys.
Penkridge — Pencrug, neu Pen Crug.
Penrith — Penrydd.
Penrieth — Penrydd.
Penreith — Penrydd.
Peel — Y Pil. (yr i yn hir.)
Pyle — Y Pil. (yr i yn hir.).
Pendoylan — Pendeulwyn, neu Pen Deulwyn
Penmaen Pool — Llyn Penmaen.
Pennel — Pennal, (yn Sir Benfro).
Pendine — Pendyn.
Penhow — Pen Hw.
Penllin — Penllyn.
Pembrey — Penbre.
Penfford — Penffordd. neu Pen y Ffordd.
Penllergare — Penlle’r Gaer.
Penrice — Pen Rhys.
Penrose — Pen Rhos.
Penrhoslligwy — Pen Rhos Llugwy.
Penrillan — Pen Rhuddlan.
Pembroke — Penfro.
Pellith — Pwll Llaith?
Port Dinorwic — Y Felin Heli.
Ponkey — Y Pongciau. — Pongcia a Pongcie, ar lafar.
Ponthir — Y Bont Hir.
Pontskewit — Pont Ysgewydd, neu Pont Yscewydd.
Pontvane — Y Bont Fan.
Pontardulais — Pont ar Ddulas.
Porkington — Brogyntyn, neu Bro Gyntyn.
Porteynon — Porth Einion.
Portnant — Porth y Nant.
Pontrhythallt — Pontrhuddallt; neu Pont Rhuddallt.
Pontypool — Pont y Pwl.
Portmadoc — Porth Madog.
Presteign — Llanandras, neu Llan Andras.
Prestatyn — Prestattyn, neu Prystattyn.
Puffin Island — Ynys Seiriol.
Puucheston — Casmael, neu Cas Mael.

.........................Q
Quakers Yard — Mynwent [neu Llan} y Crynwyr.
Quellyn Lake — Llyn Cwèllyn

.........................R
Radyr — Yr Adyr. — Efalle fod un Radyr yn llygriad o Rhaeadr.
Raglan — Rhaglan.
Rayader — Rhaeadr Gwy.
Rhayader — Rhaeadr Gwy.
Radnor — Maesyfed, neu Maes Hyfed. — Maes Hyfeidd, yn y Myvyrian.
Rhos Ferig — Rhos Feurig.
Rhossilly — Rhos Sili.
Roos — Y Rhos.
Roes — Y Rhos.
Rossett — Y Rhosedd: ffurf arall a hynach ar Rhosydd.
Roath — Y Rhath.
Rhewl — Yr Hewl.
Redwharf Bay — Y Traeth Coch.
Ruabon — Rhiwabon; gynt Rhiw Fabon.
Ruthin — Rhuthyn, neu Rhuthun.
Rythin — Rhuthyn, neu Rhuthun.
Rhydlan — Rhuddlan. Rhùlan yngenau’r werin.
Rhyl — Y Rhỳl.

.........................S
St. Asaph — Llanelwy, nen Llan Elwy.
St. Bride — Llansanffraid; neu Llan St. Ffraid.
St. Clears — St. Clêr, neu San Clêr.
St. Davids — Tyddewi, neu Tŷ Ddewi.
St. Davids Head — Pentir Mynyw.
St. Dogmell — Llandudoch, neu Llan Dudoch.
St. Mellons — Llaneurwg, neu Llan Eurwg.
St. Marys Well — Ffynnon Fair.
St. Pierre — Pŷr.
St. Winifreds Well — Ffynnon Gwenfrewi.
St. Petrox — Llanbedrog, neu Llan Bedrog.
Sennybridge — Pont Senni.
Severn — Yr Hafren.
Shrewsbury — Yr Amwythig, neu yn hytrach Pengwern..
Shropshire — Yr Amwythig, neu Sir Amwythig.
Skenfrith — Ysgynfraith.
Skewen — Sciwen.
Snowdon — Y Wyddfa.
Solva — Solfach.
South Stack Island -Ynys Lawd.
St. George — Llan San Siôr.
Swansea — Abertawe, neu Aber Tawe: gynt Aber Tawy.

.........................T
Taff — Taf.
Taffs Well — Ffynnon Taf.
Tanat — Tanad.
Tenby — Dinbych [y Pysgod].
Teivy — Teifi.
Tintern Parva — Dindeyrn Isaf.
Towy — Tywi.
Towyn — Tywyn.
Trecastle — Trecastell, neu Tre Castell.
Treforest. Trefforest, neu Tre Fforest
Treffgarne — Tref [y?] Garn.
Tregare — Tre’r Gaer.
Treorky — Treorci.
Tretower — Tre Tŵr.
Trothy — Troddi.
Tryddyn — Y Treuddyn,

.........................U
Usk — Bryn Buga.
Usk (river) — Y Wysc.
Urchenfield — Ergin.

.........................V
Valle Crncis — Glyn y Groes.
Velfrey — Y Felfre.
Vochriw — Y Fochriw.
Vaynol — Y Faenol.
Vaynor — Y Faenor.
Voryd — Y Forryd.

.........................W
Walls End — Pen Gwawl.
Welshpool — Y Trallwng.
Wentloog — Gwenllwg, neu yn hytrach Gwynllwg. — Gweler Y Cymmrodor, cyf. vii.
Weobly — Gweble.
Weprey — Y Wepra.
Wenvoe — Y Wenfo.
Whitechurch — Yr Eglwys Wen.
Whitford — Rhydwen, ynte Chwithffordd?
Whitland Abbey — Ty Gwyn ar Daf.
Whitney — Gwynfryn.
Wick — Y Wig.
Wire (river) —Y Wyre.
(Winchester — Caer Wynt).
Wiston Caatle — Castell Gwys.
(Worcester — Caerangon, neu Caer Wrangon).
Wye — Yr Wy.

.........................Y
Yale — Ial.
Ynishir — Ynys Hir.
(York — Caerefrog, neu Caer Efrog).
Yrfon — Irfon.

 

 



DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN

1796k kimkat1796k
Yr iaith Gymraeg
·····
2210k kimkat2210k
Mynegai yn nhrefn y wyddor i’r hyn a geir yn y gwefan; o’r tudalen hwn gellir hefyd
chwilio’r gwefan hwn â’r archwiliwr mewnol
·····

0052c kimkat0052c
Testunau Cymraeg â throsiad Catalaneg yn y gwefan hwn
(Textos en gal·lès amb traducció catalana en aquesta web)
·····
1051e kimkat1051k
Testunau Cymraeg â throsiad Saesneg yn y gwefan hwn
(Texts in Welsh with an English translation in this website)
 

 

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ 

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA
 
  

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats