http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_063_chwedlau_aesop_glan_alun_02_2393k
0001z Yr
Hafan / Home Page
..........1864k
Y Fynedfa yn Gymraeg
.....................0009k Y Barthlen
...............................0960k Y
Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)
............................................1729k Y
Gyfeirddalen i’r llyfr hwn (Chwedlau Aesop, Glan Alun)
...........................................................y tudalen hwn
|
|
Gwefan Cymru-Catalonia |
|
....
AR Y GWEILL GENNYM
1729k
Y Gyfeirddalen i’r llyfr hwn (Chwedlau Aesop, Glan Alun)
Mae’r
sylwadau sydd wedi eu hychwanegu gennym mewn llythrennau oren.
Our comments are added in orange type
________________________
Ar ffurf delwau y mae’r llyfr hwn. Mae’r tudalennau isod mewn lliw coch i’w
gweld hefyd ar ffurf teip HTML
000 / 001 / 003 /
004 / 005 / 007 / 008 / 009 / 010 / 011 / 012 / 013 / 014 / 015 / 016 / 017 / 018 / 019 / 020 / 021 /
022 / 023 / 024 / 025 / 026 / 027 / 028 / 029 / 030 / 031 / 032 / 033 / 034 /
035 / 036 / 037 / 038 / 039 / 040 / 041 / 042 / 043 / 044 / 045 / 046 / 047 /
048 / 049 / 050 / 051 / 052 / 053 / 054 / 055 / 056 / 057 / 058 / 059 / 060 /
061 / 062 / 063 / 064 / 065 / 066 / 067 / 068 / 069 / 070 / 071 / 072 / 073 /
074 / 075 / 076 / 077 / 078 / 079 / 080 / 081 / 082 / 083 / 084 / 085 / 086 /
087 / 088 / 089 / 090 / 091 / 092 / 093 / 094 / 095 / 096 / 097 / 098 / 099 /
100 / 101 / 102 / 103 / 104 / 105 / 106 / 107 / 108 / 109 / 110 / 111 / 112 /
113 / 114 / 115 / 116 / 117 / 118 / 119 / 120 / 121 / 122 / 123 / 124 / 125 /
126 / 127 / 128 / 129 / 130 / 131 / 132 / 133 / 134 / 135 / 136 / 137 / 138 /
139 / 140 / 141 / 142 / 143 / 144
TUDALENNAU
AR GOLL: 17, 18, 31, 32
________________________

(delw
1006) (clawr
blaen)
(Clawr Blaen) Chwedlau neu Ddammegion Aesop
________________________

(delw 1126) (tudalen
1) [121]
AIL GYFRES O CHWEDLAU NEU DDAMMEGION
AESOP,
GYDA PHIGION O DDAMMEGlON DIWEDDARACH KRIOLF, LA FONTAINE, &c.;
WEDI EU CYFIEITHU O’R ARGRAFFIADAU GOREU YN YR IAITH SEISONEG,
A’U CAFADDASU I’R GYMRAEG.
WREXHAM.
ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD GAN HUGHES AND SON
_________________________
(delw 1127) (tudalen
2) [122]
tudalen weili
_________________________

(delw 1128) (tudalen
3) [123]
CYNNWYSIAD.
AT Y DARLLENYDD.
Chwedlau: —
1. Y Tri Masnachwr.
2. Y Frân a’r Alarch.
3. Y Bachgen a’r Ffrwythau.
4. Yr Hen Wraig a’i Morwynion.
5. Y Ffrwd.
6. Y Llwynog a’r Gwyneb gosod.
7. Y Dyn Ieuangc a’r Wenol.
8. Y Blaidd mewn croen Dafad.
9. Y Golomen sychedig.
10. Y Gŵr Moel.
11. Llongddrylliad Simonides.
12. Y Ci a’r Ysgyfarnog.
13. Y Wenol a’r Adar ereill.
14. Y Gwyddau.
15. Mawrth a’r Cerfluniwr.
16. Y Blaidd a’r Llew.
17. Yr Heliwr a’r Coettiwr.
18. Y Gwr Cenfigenllyd a’r Trachwantwr.
19. Y Blaidd a’r March.
20. Yr Asyn mewn Swydd.
21. Yr Epa a’r LIwynog.
22. Yr Asyn yn cario Halen.
23. Yr Ast a’r Hwch.
24. Yr Heffer a’r Ych.
25. Y Bechgyn a’r Llyffaint.
26. Y Pysgod mawr a’r rhai bychain.
27. Y Paun a’r Bioden.
28. Y Llwynog a’r Chwiban.
29. Y March a’r Llew.
30. Yr Afr a’r Bugail.
31. Y Gôf a’i Gi.
32. Y Dyn Ieuangc a’r Gath.
33. Y Gwrych a’r Winllan.
34. Cysgod yr Asyn.
35. Yr Asyn yn nghroen Y LLEW.
36. Y Seryddwr.
37. Y Mochyn a’r Defaid.
38. Y Ceiliog a’r Llwynog.
39. Y Bugail a’r Môr.
40. Y Cŵn a’r Crwyn.
41. Y Briodas Angeuol
42. Y Blaidd a’r Afr.
43. Y Gwlaw a’r Tir.
44. Y Carw wrth y Llyn.
45. Yr Amaethwr a’i Geffyl.
46. Y Tarw a’r Afr.
47. Y Llwynog yn y Ffynon.
48. Y Ddau Gi.
49. Yr Asyn yn bwyta’r Ysgall.
50. Y Ddafad a’r Carw.
51. Y Ddafad, y Ci, a’r Blaidd.
52. Yr Afanc a’i Erlidwyr.
53. Y Wiwer a’r Llew.
54. Y Bachgen a’r Ci.
55. Y Bachgen yn Ymdrochi.
56. Y Morgrugyn YmFFROSTgar.
57. Y Ci a’r Ddafad.
58. Y Wiwer ffwdanus.
59. Y Tarw a’r Llo.
60. Y Draenog a’r Nadroedd.
61. Y Ceiliog Twrci a’i blant.
62. Y Gigfran a’r Ci.
63. Cymeryd yr Udganwr yn Garcharor.
64. Y Tad a’i ddwy Ferch.
65. Y Ci a’r Hwrdd.
66. Yr Arth a’r Cychod Gwenyn.
67. Yr Afonydd a’r Mor.
68. Y Crocodile a’r Ci.
69. Y Dail a’r Gwreiddiau.
70. Y Diamwnt a’r Gareg.
71. Pen yr Epa.
72. Y Paun a’r Crychydd.
73. Y Myn a’r Blaidd.
74. Y Llyffant.
75. Y LLYFFANT yn Grachfeddyg.
76. Y Cŵd.
77. Y Dyn Du.
78. Y March a’r Asyn..
79. Y Gareg a’r Gwlaw.
80. Y Fronwen a’r Dyn.
81. Yr Epa a’r Llwynog.
82. Y Gwladwr a r Môr.
83. Y Golomen.
84. Yr Asyn mewn croen Llew.
85. Y Quartette.
86. Y Llwynog a’r Frân.
87. Y Bachgen a’r Ych.
88. Y Ceffyl a’r Aderyn Tô.
89. Y Pysgodyn-hedegog a’r Dolffyn.
90. Yr Amaethwr a’r Fuwch.
91. Y Blaidd a’r Bugeiliaid.
92. Y Morgrugyn a’r Golomen.
93. Y Bachgen a’r Afr.
94. Y Teithwyr ar fin y Môr.
95. Y Baedd Gwyllt a’r Llwynog.
96. Yr Ewythr a’i Nai.
97. Yr Eryr, y Frân, a’r Crwban.
98. Y Barcud a’r Ffermwr.
99. Yr Ewig a’r Llwynogod.
100. Y Bychod Geifr a’r Geifr.
101. Yr Hen Lew.
102. Yr Asyn, y Ceiliog, a’r Llew.
103. Aesop a’r Gŵr Sarhaus.
104. Y Ceiling Rhedyn a’r Ddallhuan.
105. Y Llygoden a’r Fronwen.
106. Y Ffermwr a’i Gŵn.
107. Y Gwenyn a’r Gwenyn Segur
108. Yr Asyn a’r Eos.
109. Yr Epa a’r Drychau.
110. Y Brawd a’r Chwaer.
111. Y Ffermwr a’r Llew.
112. Yr Asyn a’r Gwybedyn.
113. Y Llewpard a’r Bugeiliaid.
114. Y Cawrfil a’r Corgi.
116. Y Teithwyr a’r Corgwn.
116. Caesar a’i Was.
117. Yr Ymsuddwyr.
118. Yr Eryr, y Gath, a’r Baedd.
119. Yr Epa a’r Pysgotwyr.
120. Socrates a’i Dŷ.
121. Yr Iâr a’r Wenol.
122. Yr Yspeiliedig a’i Gyfeillion.
123. Yr Asyn a’r Baedd.
124. Y Llewpard a’r Llwynog.
126. Y Ci a’r Ceffyl.
126. Aesop yn Chwareu.
127. Yr Ast a’i Chŵn.
128. Y Ddau Gi.
129. Y Blaidd, y Llwynog, a’r Epa.
130. Yr Amaethwr Cybyddlyd.
131. Yr Hwch.
132. Y Gŵr a’i Ddwy Wraig.
133. Yr Asynod a’r Lladron.
134. Y Barcutan Papyr a’r Adar.
_________________________

(delw 1129) (tudalen
4) [124]
135. Aderyn y Tô a’r YSGYFARNOG.
136. Y Gwladwr a’i Hugan.
137. Yr Atheistiaid.
138. Y Llyffantod a’r Haul.
139. Y Coed a’r Duwiau.
140. Yr Asyn a’i Berchenogion.
141. Y Gŵr Cyfoethog Tlawd.
142. Juno a’r Paun.
143. Y Cardotyn a’i Gŵd.
144. Y Siwg bridd a’r Llestr coed.
145. Y Llwynog a’r Llygoden.
146. Y Cawrfil mewn Swydd.
147. Y Fronwen a’r Llygod.
148. Y Tri Brawd.
149. Y Crib a’r Plentyn.
150. Y Ceffyl a’r Asyn Llwythog.
151. Y
Bleiddiaid a’r Belaid.
152. Y Defaid a’r Oen.
153. Yr Asyn a Jupiter.
154. Yr Arth a’r Gwenyn.
155. Y Cadben a’r MorWYR.
156. Y Fronfraith a’r Iâr.
157. Y Meddwon.
158. Y Teithwyr a’r Ysbeiliwr.
159. Yr Heliwr a’r Golomen.
160. Y Llafurwyr a’r Afon.
161. Y Llwynog a’r Ddraig.
162. Y Gath a’r Llwynog.
163. Y Teithwyr.
164. Y Cybydd a’i Drysor.
165. Y Gŵr Moel a’r Gwibedyn.
166. Y Morgrugyn a’r Gwibedyn.
167. Y Bugail a’i Gi.
168. Y Gwyddau a’r Garanod.
169. Yr Hydd a’r Winwydden.
170. Y Neidr a’r Gôg.
171. Y Neidr a’r Enllibiwr.
172. Yr Ehedydd a’i Fab.
173. Y Ddallhuanod a’r Haul.
174. Addysg y Llew Ieuangc.
175. Y Teithwyr a’u Cysgod.
176. Y Magnelau a’r Hwyliau.
177. Y Llwynog fel Adeiladydd.
178. Y Cybydd a’r Tylwyth Teg.
179. Y Melinydd a’r Agen yn y Ffos.
180. Y Ddafad a’r BARNWR.
181. Y Mochyn a’r Palas.
182 Y Lleidr a’r Dillad.
183. Y Llew a’r Llwynog.
184. Y Melinydd, ei Fab, a’u Hasyn.
185. Y Llew, yr Arth, a’r Llwynog
_________________________

(delw 1130) (tudalen
5) [125]
AT Y DARLLENYDD.
Parhad o Chwedlau neu Ddammegion Aesop a gynwysir gan mwyaf yn y llyfr hwn. Yn
y Casgliad Cyntaf dodwyd saith ugain o Chwedlau y Doethwr o flaen y darllenydd
Cymreig. Y mae y gwerthiad fu ar y llyfr hwnw yn myned yn mhell i brofi fod
“Gwyr y Bryniau” yn gwerthfawrogi, ac yn cael blas ar y math yma o lenyddiaeth.
.Yn y llyfr hwn fe geir wyth ugain a phump o Ddammegion; oddeutu cant o honynt
yn eiddo yr hen Aesop; ychydig dros ddeugain wedi eu. dethol o waith Kriolf, y
Chwedleuwr Rwssiaidd talentog; a’r gweddill o blith cynyrchion La Fontaine, y
Ffrangcwr enwog.
Yr ydym yn credu fod y “tri wyr” hyn, yn y tudalenau canlynol, yn dysgu llawer
gwers bwysig, a hyny mewn dull difyrus a didramgwydd. Hyderwn y bydd y.
darllenydd — “Arglwydd y greadigaeth” — yn ddigon gostyngedig i wrando ar y
creaduriaid direswm yn siarad doethineb ac yn rhoddi cynghorion buddiol, ac nad
wrthodant “berl” er ei gael “o enau llyffant.”
Y CASGLYDD.
_________________________

(delw 1132) (tudalen
7) [127]
AIL GYFRES O CHWEDLAU NEU DDAMMEGION AESOP,
GYDA PHIGION O DDAMMEGION DIWEDDARACH KRIOLF, LA FONTAINE, &c. &c.,
&c.
_________________________

(delw 1133) (tudalen
8) [128]
CHWEDLAU AESOP, &c.
CHWEDL 1 - Y TRI MASNACHWR.
Yr oedd dinas yn ofni cael gwarchae arni, a chynhaliwyd cynghorfa i ystyried y
ffordd oreu i ddiogelu ei hamddiffynfeydd. Rhoddodd Saer Maen ei farn, nad oedd
dim defnyddiau cygystal a phriddfeini i’r diben. Cynygiai Saer Coed y byddai
coed yn llawer gwell. Ar hyn cododd Lledrwr i fyny, ac a ddywedodd, “Syrs, wedi
i chwi ddweyd gymaint oll ag a ellir ei ddweyd, nid oes dim yn y byd yn debyg i
Ledr.”
Pawb drosto ei hun, yw natur dyn.
_________________________

(delw 1134) (tudalen
9) [129]
CHWEDL 2 - Y FRÂN A’R ALARCH.
Brân a genfigenai wrth Alarch, oblegyd fod ei phlu mor wyn; a chan feddwl fod
ei harddwch i’w briodoli i’r dwfr yr oedd hi yn byw ynddo, efe a adawodd yr
allorau lle yr arferai gael ei luniaeth, ac a gymerodd at y llynoedd a’r
afonydd. Yno fe ymchwyddodd ac a ymolchodd ac a lanhaodd ei wisg, ond yr oll yn
ofer, canys parhaodd ei blu mor ddu ag erioed, ac efe ei hun yn fuan a drengodd
o eisiau ei ymborth arferol.
Ni wna newid ymborth na lle ddim newid natur. Yr hyn sydd fywyd i un sydd
farwolaeth i’r llall.
CHWEDL 3 - Y
BACHGEN A’R FFRWYTHAU.
Rhoddodd Bachgen ei law mewn llestr yn yr hwn yr oedd llawer o
Ffigys a Chnau wedi en cadw; fe afaelodd mewn cymaint fyth ag a allai ei ddwrn
ei gynwys, ond pan geisiai ei dynu allan, yr oedd culni gwddf y llestr yn ei
rwystro. Yn anfoddlon i golli dim o honynt, ond yn analluog i dynu ei law o’r
llestr, fe dorodd allan i wylo, ac i gwyno yn chwerw am ei anffawd. Rhyw wr
gonest yn sefyll gerllaw, a roddodd iddo y cynghor call hwn, ‘‘Cydiwch yn yr
haner fy machgen, a chwi a Iwyddwch yn hawdd.”
Ceisio gormod a cholli’r cyfan. “Coflaid
fechan a’i gwasgu yn dyn.”
_________________________

(delw 1135) (tudalen
10) [130]
CHWEDL 4 - YR HEN
WRAIG A’I MORWYNION.
Yr
oedd gan Hen Wraig unwaith niter o Forwynion, y rhai a alwai at eu gwaith bob
dydd ar ganiad y Ceiliog. Darfu i’r merched, y rhai oeddynt yn teimlo ei bod yn
galed arnynt i gael eu deffroi o’u cwsg melus mor foreu, uno a’u gilydd a lladd
y Ceiliog; gan feddwl, pan y byddai y rhybuddiwr wedi ei symud o’r ffordd, y
byddai iddynt gael mwynhau eu gwelyau cynes ychydig yn hwy. Yr Hen Wraig, yn
teimlo o herwydd colli ei Cheiliog, ac wedi cael allan, trwy ryw foddion neu
gilydd, yr holl gydfwriad, a benderfynodd fod i fyny â hwy; ac o’r adeg hono
allan gorfododd hwy i godi yn gyson am haner nôs.
Gochelwch syrthio o ddrwg i waeth; gwell
y drwg a wyddis na’r drwg na wyddis.
_________________________

(delw 1136) (tudalen
11)
CHWEDL 5 - Y FFRWD.
Darfu i Fugail arllwys ei gwyn wrth Ffrwd yn erbyn yr Afon am gario ymaith yr
Oen goreu yn ei ddiadell. Y mae y Ffrwd yn cydymdeimlo ag ef yn y dull tyneraf,
a dwrdiai yr Afon yn yr iaith gryfaf. Pe buasai hi yn Afon, meddai, ni buasai
yn cyfranu ond bendithiau i’r maesydd o’i chwmpas. Byddai ei holl gwrs yn un o
fendith a chymwynasgarwch. Felly y dywedodd y Ffrwd; ac felly y meddyliai. Ond
pa beth a gymerodd le? O fewn yr wythnos torodd cwmwl uwchben un o’r bryniau
cyfagos, ac y mae y Ffrwd ar unwaith yn chwyddo i faintioli afon fawr. Ond, Ah!
pa beth sydd wedi dyfod o ddiniweidrwydd ac yspryd heddychol y Ffrwd? Berwa,
trystia, chwyrna, a Iluchia ei dyfroedd yn donau ewynog yn mhob cyfeiriad.
Dadwreiddia hen dderw cedyrn; gellir clywed eu swn yn syrthio o bell ffordd.
Ie, y mae y Bugail, a’r hwn y cydymdeimlai ychydig ddyddiau yn ol, ac o herwydd
yr hwn y dwrdiai yr Afon gyda’r fath hyawdledd, yn cael ei foddi ganddi gyda’i
holl ddiadell, ac ysguba ei dŷ a’i blant ymaith yn llwyr.
Gynifer o Ffrydiau a geir yn llifo yn
araf ac esmwyth, gan ganu yn hyfryd wrth dreiglo dros eu gwelyau caregog — yn
unig am fod ychydig ddwfr ynddynt.
CHWEDL 6 - Y
LLWYNOG A’R GWYNEB GOSOD.
Yr oedd Llwynog.wedi tori i mewn i dŷ Chwareuwr, ac wrth droi
ei holl eiddo drosodd, fe ddaeth o hyd i Wyneb gosod (mask) tra phrydferth. “Gwyneb a phen gwych yn wir,” ebai efe, “ond
y fath resyn nad oes dim ymenydd iddo.”
Digon gwael ydyw gwyneb teg ac ychydig
synwyr tu cefn iddo.
_________________________

(delw 1137) (tudalen
12)
CHWEDL 7 - Y DYN IEUANGC A’R WENOL.
Afradlon ieuangc, ag ydoedd wedi gwastraffu ei holl dda, a gerddai
yn bruddglwyfus yn agos i ffrwd o ddwfr. Mis lonawr ydoedd, un o’r dyddiau clir
hafaidd a wenant arnom weithiau hyd yn nod yn y tymor gauafol hwnw; ac i’w
gwneyd yn fwy tebyg i’r haf, yr oedd Gwenol, a wnaeth ei hymddangosiad yn rhy
fuan, yn ysgubo dros wyneb y ffrwd. Y Dyn ieuangc difeddwl yn gweled hyny, heb
ychwaneg o ystyriaeth, a benderfynodd fod yr haf wedi dyfod, ac na byddai arno
ond ychydig os dim achos am ei wisg uchaf; felly aeth ac a’i gwerthodd, a
gwariodd yr arian yn mhlith ei gymdeithion annuwiol. Ar ol i’r arian yma ddarfod,
aeth am rodfa arall i ymyl yr un ffrwd. Ond trwy fod y tywydd wedi newid, a dyfod
yn oer a rhewllyd, yr oedd agwedd pethau wedi newid yn fawr o’r hyn ydoedd o’r
blaen; yr oedd y ffrwd yrwan wedi rhewi drosti, a’r Wenol dlawd yn gorwedd yn
farw yn ei hymyl. Darfu i’r olygfa ddwyn y Dyn Ieuangc ato ei hun; ac yn teimlo
ei gyflwr gresynus, beiodd ei hun fel yr achos o’i holl drueni.
_________________________

(delw 1138) (tudalen
13) [133]
"Y fath adyn
ffol ydwyf," ebai wrtho ei hun, "am fod mor ddwl a chredu y gallasai
un Wenol wneyd haf."
Mewn tywydd teg byddwch barod erbyn
tywydd garw. Na fyddwch byw yn hollol yn y presenol heb feddwl dim am y dyfodol.
CHWEDL 8 - Y BLAIDD
MEWN CROEN DAFAD.
Blaidd a wisgodd am
dano Groen Safad, ac wedi cael dyfodiad i mewn i blith y praidd trwy hyny, fe
ddifethodd lawer o honynt. O'r diwedd y bugail a'i canfu, ac wedi taflu cortyn
am ei wddf, fe'i rhwymodd i fynu. wrth bren oedd gerllaw. Rhyw fugeiliaid ereill
yn paaio y ffordd hono, ac yn sylwi
Ni wna cochl sanctaidd ond chwanegu
ysgelerder y twyllwr. Fe syrth y twyllwr i'r fagl o'r
diwedd er maint ei ragrith.
CHWEDL 9 - Y GOLOMEN SYCHEDIG.
Colomen yr hon oed'd yn
sychedig iawn, yn gweled llun gwydraid o ddwfr wedi ei baentio ar arwyddfwrdd,
a dybiodd mai dwfr gwirioneddol ydoedd; felly gan ehedeg ato a'i holl nerth, hi
a darawodd yn erbyn y bwrdd, a chan dori ei hesgyll, hi a syrthiodd i'r llawr,
lle y daliwyd hi yn ebrwydd gan rywun yn pasio heibio.
Aeth llawer i brofedigaeth trwy gamgymeryd
y cysgod an y sylwedd. Mae gormod ffrwst
yn beryglus.
_________________________

(delw 1139) (tudalen
14) [134]
CHWEDL 10 - Y GŴR MOEL.
CHWEDL 11 - LLONGDDRYLLIAD SIMONIDES.
CHWEDL 12 - Y CI A’R YSGYFARNOG.
_________________________

(delw 1140) (tudalen
15)
_________________________

(delw
1141) (tudalen 16)
_________________________
(delw
1080) (tudalen 114c)
CHWEDL 13 - Y WENOL A’R ADAR EREILL.
CHWEDL 14 - Y GWYDDAU.
CHWEDL 15. MAWRTH A’R CERFLUNIWR.
TUDALEN 17
AR GOLL
_________________________
(delw
1080) (tudalen 114c)
TUDALEN 18 AR GOLL
_________________________

(delw
1143) (tudalen 19)
CHWEDL 16 - Y
BLAIDD A’R LLEW.
CHWEDL 17 - YR HELIWR A’R COETTIWR.
_________________________

(delw
1145) (tudalen 20)
CHWEDL 18 - Y
GWR CENFIGENLLYD A’R TRACHWANTWR.
CHWEDL 19 - Y BLAIDD A’R MARCH.
_________________________

(delw
1146) (tudalen 21)
CHWEDL 20 - YR ASYN
MEWN SWYDD.
_________________________

(delw
1147) (tudalen 22)
CHWEDL 21 - YR
EPA A’R LIWYNOG.
_________________________

(delw
1148) (tudalen 23)
CHWEDL 22 - YR
ASYN YN CARIO HALEN.
CHWEDL 23 - YR AST A’R HWCH.
_________________________

(delw
1149) (tudalen 24)
CHWEDL 24 - YR
HEFFER A’R YCH.
CHWEDL 25 - Y BECHGYN A’R LLYFFAINT.
_________________________

(delw
1150) (tudalen 25)
CHWEDL 26 - Y
PYSGOD MAWR A’R RHAI BYCHAIN.
CHWEDL 27 - Y PAUN A’R BIODEN.
_________________________

(delw
1151) (tudalen 26)
CHWEDL 28 - Y
LLWYNOG A’R CHWIBAN.
_________________________

(delw
1152) (tudalen 27)
CHWEDL 29 - Y
MARCH A’R LLEW.
_________________________

(delw
1153) (tudalen 28)
CHWEDL 30 - YR
AFR A’R BUGAIL.
_________________________

(delw
1154) (tudalen 29)
CHWEDL 31 - Y
GÔF A’I GI.
CHWEDL 32 - Y DYN IEUANGC A’R GATH.
_________________________

(delw
1155) (tudalen 30)
CHWEDL 33 - Y
GWRYCH A’R WINLLAN.
_________________________
(delw
1080) (tudalen 114c)
CHWEDL 34. CYSGOD YR ASYN.
TUDALEN 31 AR GOLL
_________________________
(delw
1080) (tudalen 114c)
CHWEDL 35 - YR ASYN YN NGHROEN Y LLEW.
TUDALEN 32 AR GOLL
_________________________

(delw
1156) (tudalen 33)
CHWEDL 36 - Y
SERYDDWR.
CHWEDL 37 - Y MOCHYN A’R DEFAID.
_________________________

(delw
1157) (tudalen 34)
CHWEDL 38 - Y
CEILIOG A’R LLWYNOG.
Llwynog, yn myned heibio i ffermdy un boreu yn yr haf, a ddaliwyd mewn magl, a
osodwyd i’r pwrpas hwnw. Canfyddodd y Ceiliog pa beth a ddigwyddodd; ac heb
deimlo llawer o duedd i fyned yn rhy agos i’r fath elyn peryglus, a nesaodd ato
yn ochelgar, ac a edrychodd arno, ond nid heb deimlo peth arswyd a chyffro
meddwl. Nid cynt y gwelodd Madyn ef, nag y cyfarchodd ef yn ei ddull mwyaf
cyfrwys a llwynogaidd. “Fy anwyl gefnder,” meddai, “yr ydych yn gweled y fath
ddamwain anffortunus sydd wedi fy ngoddiweddyd i yma, a hyny i gyd o’ch achos
chwi: oblegid, fel yr oeddwn yn ymwthio trwy y gwrych draw, ar fy ffordd
gartref, clywais eich llais, a phenderfynais droi i ofyn i chwi pa fodd yr
oeddych, cyn myned yn mhellach: ond ar y ffordd, cyfarfyddais a’r ddamwain yma;
ac felly rhaid i mi yn ostyngedig ofyn i chwi am gyllell i dori y llinyn yma;
neu, o’r hyn lleiaf, y bydd i chwi gelu fy anffawd hyd nes y caf amser i gnoi y
llinyn a’m danedd.” Y Ceiliog, yn gweled sut y safai pethau, ni ddywedodd ddim
mewn atebiad, ond hedodd ymaith cygynted ag y gallai, a rhoddodd yr holl hanes
o flaen y ffermwr;
_________________________

(delw
1158) (tudalen 35)
yr hwn, gan gymeryd arf i’w ganlyn, a ddaeth ac a laddodd y Llwynog cyn iddo
gael amser i ddiangc.
Gwnewch wahaniaeth wrth estyn eich cymwynasau.
Y ffol a estyn gymwynas i bawb a’i
gofyno, ond y call a ofala ar fod y gwrthddrych yn deilwng.
CHWEDL 39 - Y
BUGAIL A’R MÔR.
Bugail a arweiniodd ei braidd i bori ar fin y traeth, ac wrth weled
y Môr yn gorwedd mewn llonyddwch esmwyth a thawel, efe a feddianwyd a dymuniad
cryf i hwylio drosto. Felly
fe werthodd ei holl Ddefaid ac a brynodd Iwyth o Balmffrwyth, ac a lanwodd
lestri, ac a aeth ymaith. Nid oedd wedi morio yn mhell pan y cyfododd tymhestl;
aeth ei long yn ddrylliau, collwyd ei Balmffrwyth a’r cwbl, ac ni chafodd efe
ond diangfa fawr am ei fywyd. Ychydig amser wedi’n, yr oedd y Môr eto yn dawel,
a daeth un o’i gyfeillion i fynu ato a dechreuodd ganmol ei dawelwch prydferth.
“A!” meddai, “gwyliwch fy anwyl gyfaill, rhag y gwyneb tawel yna; nid ydyw ond
edrych am eich Palmffrwyth.”
Os oes dau wyneb yn bosibl, ni ddylid ymddiried dim nes gweled y ddau. Ni
ddylid ymddiried llawer i’r cyfnewidiol.
CHWEDL 40 - Y CŴN A’R CRWYN.
Rhyw Gŵn newynog, yn gweled nifer o Grwyn îr, y
rhai yr oedd Crwynwr wedi eu gadael yn ngwaelod rhyw ffrwd, a hwythau yn
analluog i’w cyrhaedd, a benderfynasant i yfed yr afon i fynu i gael at yr
ysglyfaeth. Felly hwy a
aethant ati o ddifrif, ond hwy oll a ymholltasant cyn erioed ddod yn agos at y
crwyn.
Y rhai a ymdrechant i gyrhaedd yr hyn
sydd anmhosibl iddynt, a thrwy foddion croes i reswm, ydynt dueddol i andwyo eu
hunain yn yr ymdrech.
_________________________

(delw
1159) (tudalen 36)
CHWEDL 41 - Y BRIODAS ANGEUOL.
Llew, wedi derbyn cymwynas gan Lygoden, ac yn penderfynu ad-dalu ei
charedigrwydd os gallai, a ddymunodd ar ei gymwynaswr i nodi ei thelerau ei
hun, gan ei sicrhau y caffai ei dymuniad hyd eithaf ei allu. Y Llygoden, wedi
ei thanio gan y cynyg haelfrydig, ni wnaeth ystyried yn gymaint pa beth fuasai
yn briodol iddi ofyn, ond pa beth oedd yn ngallu y Tywysog i'w roddi iddi; ac
felly yn rhyfygus a ofynodd am y Llewes ieuangc yn wraig iddi. Cydsyniodd y
Llew; ond pan yr oedd ar fedr rhoddi y Dywysoges ieuangc yn ei meddiant, darfu
iddi hi, yn ei diofalwch yn cerdded, ddodi ei phawen ar ei phriod anffortunus,
a gwasgodd hi i farwolaeth.
Pwngc pwysig bywyd yw dewis gwraig; ar y
dewisiad y dibyna cysur neu anghysur yr oes.
_________________________

(delw
1160) (tudalen 37)
CHWEDL 42 - Y BLAIDD A’R AFR.
CHWEDL 43 - Y GWLAW A’R TIR.
_________________________

(delw
1161) (tudalen 38)
CHWEDL 44 - Y CARW WRTH Y LLYN.
_________________________

(delw
1162) (tudalen 39)
CHWEDL 45 - YR AMAETHWR A’I GEFFYL.
CHWEDL 46 - Y TARW A’R AFR.
_________________________

(delw
1163) (tudalen 40)
CHWEDL 47 - Y LLWYNOG YN Y FFYNON.
_________________________

(delw
1164) (tudalen 41)
CHWEDL 48 - Y DDAU GI.
Un diwrnod y mae Carlo yr hen gi gwylio gweithgar a ffyddlon yn
gweled ei hen gydymaith, y moethus a’r chwareus Tango, yn gorwedd ar glustog
esmwyth wrth ffenestr. Bron a chael ei orchfygu gan deimlad, cyfarcha ei hen
gydymaith, “Pa fodd y mae pethau, Tango, ar ol i’r meistr eich cymeryd i’w
balas? Yr ydych yn
cofio, yn ddiameu, ein bod yn aml bron a chael ein newynu i farwolaeth. Pa beth
ydych yn wneyd yn awr?” “Byddai yn anheg pe bawn yn cwyno ar fy sefyllfa,”
atebai Tango, “y mae fy meistr yn bobpeth ag y dymunwn iddo fod. Yr wyf yn byw
yn ddedwydd a moethus. Yr wyf yn bwyta fy mwyd o lestri arian, a phan yn
flinedig y mae genyf Ie esmwyth i gysgu
Y mae y diwerth a’r diog yn aml yn cael
mwy o barch na’r gweithiwr ffyddlon.
_________________________

(delw
1165) (tudalen 42)
CHWEDL 49 - YR ASYN YN BWYTA’R YSGALL.
_________________________

(delw
1166) (tudalen 43)
CHWEDL 50 - Y DDAFAD A’R CARW.
CHWEDL 51 - Y DDAFAD, Y CI, A’R BLAIDD.
_________________________

(delw
1167) (tudalen 44)
CHWEDL 52 - YR AFANC A’I ERLIDWYR.
_________________________

(delw
1168) (tudalen 45)
CHWEDL 53 - Y WIWER A’R LLEW.
CHWEDL 54 - Y BACHGEN A’R CI.
_________________________

(delw
1169) (tudalen 46)
CHWEDL 55 - Y BACHGEN YN YMDROCHI.
_________________________

(delw
1170) (tudalen 47)
CHWEDL 56 - Y MORGRUGYN YMFFROSTGAR.
_________________________

(delw
1171) (tudalen 48)
CHWEDL 57 - Y CI
A’R DDAFAD.
Darfu i Gi roddi cyfraith ar Ddafad am ddyled, a phenodwyd y Barcud
a’r Llwynog i fod yn farnwyr. Darfu iddynt hwy, heb siarad llawer ar y mater,
na sylwi fawr ar wendid y dystiolaeth, roddi dedfryd o blaid y Ci; yr hwn yn
uniongyrchol a rwygodd y Ddafad druan, ac a ranodd yr ysgerbwd gyda’r barnwyr
anghyfiawn.
Dylai barnwyr fod yn ddiduedd.
_________________________

(delw
1172) (tudalen 49)
CHWEDL 58 - Y WIWER FFWDANUS.
CHWEDL 59 - Y TARW A’R LLO.
_________________________

(delw
1173) (tudalen 50)
CHWEDL 60 - Y DRAENOG A’R NADROEDD.
_________________________

(delw
1174) (tudalen 51)
CHWEDL 61 - Y CEILIOG
TWRCI A’I BLANT.
CHWEDL 62 - Y GIGFRAN A’R CI,
_________________________

(delw
1174) (tudalen 52)
CHWEDL 63 - CYMERYD YR UDGANWR YN GARCHAROR.
_________________________

(delw
1175) (tudalen 53)
CHWEDL 64 - Y TAD A’I DDWY FERCH.
CHWEDL 65 - Y CI A’R HWRDD.
CHWEDL 66 - YR ARTH A’R CYCHOD GWENYN,
CHWEDL 67 - YR AFONYDD A’R MOR.
CHWEDL 68 - Y CROCODILE A’R CI.
_________________________

(delw
1176) (tudalen 54)
_________________________

(delw
1178) (tudalen 55)
_________________________

(delw
1179) (tudalen 56)
CHWEDL 69 - Y DAIL A’R GWREIDDIAU.
_________________________

(delw
1180) (tudalen 57)
CHWEDL 70 - Y DIAMWNT A’R GAREG.
CHWEDL 71 - PEN YR EPA.
_________________________

(delw
1181) (tudalen 58)
CHWEDL 72 - Y PAUN A’R CRYCHYDD.
_________________________

(delw
1182) (tudalen 59)
CHWEDL 73 - Y MYN A’R BLAIDD.
CHWEDL 74 - Y LLYFFANT.
_________________________

(delw
1183) (tudalen 60)
CHWEDL 75 - Y LLYFFANT YN GRACHFEDDYG.
_________________________

(delw
1184) (tudalen 61)
CHWEDL 76 - Y CŴD.
Yr oedd Cŵd yn cael ei adael yn ddisylw mewn congi,
a'r unig ddefnydd wnelid o hono oedd gan y gwas i sychu ei draed arno. Ond un
diwrnod cafodd ei hun wedi ei lanw a darnau aur, a chyfnewidiwyd ei sefyllfa yn
hollol ar unwaith. Telid y sylw manylaf iddo. Cyn hir ymfalchiodd y Cŵd yn fawr. Daeth yn dra siaradus ac yn
hoff o weled beiau, a rhoddai ei farn gydag awdurdod ar bob peth, gan ddweyd,
"Ni ddylid gwneyd hyn fel yma," neu, "Dyn ynfyd yw
hwn-a-hwn," neu, "Y mae y peth a'r peth yn sicr o droi allan yn
ddrwg." Gwrandawai pawb arno gyda'r astudrwydd mwyaf, er ei fod yn siarad
dylni perffaith. Yn anffortunus, y mae y nifer luosocaf o ddynion yn ystyried
pobpeth a ddywedir gan gydaid o arian yn bwysig. Parhaodd y Cŵd am hir amser i gael ei foli, ei
barchu, a'i ganmol. Ond ar ol i'r dernyn olaf o aur gael ei gymeryd o hono,
taflwyd ef ymaith, ac ni chlywodd neb byth son am dano mwy.
Molir aml i un yn unig am fod ganddo
arian.
CHWEDL 77 - Y DYN DU.
Rhyw ŵr wedi prynu Gaethwas du, gan feddwl mai
yr achos o liw ei groen oedd diofalwch ei feistr blaenorol, cyn gynted ag y
dygwyd ef gartref, a'i rhoddodd mewn twb o ddwfr poeth, ac a gymerodd sebon, a
brwsiau, a thywod, ac aeth ef a'i weision ati i'w ysgwrio yn wyn yn ol. Hwy a'i
golchasant ac a'i rhwbiasant am oriau lawer, ond yr oll yn ofer; arosodd ei
groen gan ddued ag erioed; a bu y truan yn bur agos i farw gan anwyd oblegid y
driniaeth a gafodd.
_________________________

(delw
1185) (tudalen 62)
CHWEDL 78 - Y MARCH A’R ASYN.
_________________________

(delw
1186) (tudalen 63)
CHWEDL 79 - Y GAREG A’R GWLAW.
CHWEDL 80 - Y FRONWEN A’R DYN.
_________________________

(delw
1187) (tudalen 64)
CHWEDL 81 - YR EPA A’R LLWYNOG.
_________________________

(delw
1188) (tudalen 65)
CHWEDL 82 - Y GWLADWR A R MÔR.
CHWEDL 83 - Y GOLOMEN.
_________________________

(delw
1189) (tudalen 66)
CHWEDL 84 - YR
ASYN MEWN CROEN LLEW.
Asyn wedi ymwisgo mewn croen Llew, a aeth oddiamgylch, gan ddychrynu
yr holl greaduriaid gwirion a gyfarfyddai, a chan weled Llwynog, fe geisiodd ei
ddychrynu. yntau hefyd. Ond
y Llwynog, wedi clywed ei lais, a ddywedodd, "Wel, yn wir! Buaswn inau
wedi dychrynu. hefyd, oni buasai i mi dy glywed yn brefu."
Gall dyn trwy gymeryd
_________________________

(delw
1190) (tudalen 67)
_________________________

(delw
1191) (tudalen 68)
CHWEDL 85 - Y QUARTETTE.
CHWEDL 86 - Y LLWYNOG A’R FRÂN.
CHWEDL 87 - Y BACHGEN A’R YCH.
CHWEDL 88 - Y CEFFYL A’R ADERYN TÔ.
CHWEDL 89 - Y PYSGODYN-HEDEGOG A’R DOLFFYN.
_________________________

(delw
1192) (tudalen 69)
_________________________

(delw
1193) (tudalen 70)
_________________________

(delw
1194) (tudalen 71)
CHWEDL 90 - YR AMAETHWR A’R FUWCH.
Darfu i Amaethwr bychan
brynu Buwch a llestr godro yn y ffair, ac yr ydoedd yn myned gartref yn
hamddenol ar hyd llwybr unig a arweiniai trwy y goedwig, pan y syrthiodd yn
ddisymwth i ddwylaw lleidr. Cymerodd y lleidr oddiarno bobpeth a feddai.
"Cymerwch drugaredd! " gwaeddai yr Amaethwr, "Yr wyf wedi fy
llwyr ddifetha: yr ydych wedi fy ngwneyd yn gardotyn! yr wyf wedi gweithio yn
galed am flwyddyn i allu prynu y Fuwch fechan hon." " O'r
goreu," atebai y lleidr, wedi ei gyffwrdd gan dosturi; "ni bydd
genych achos i gwyno o'm plegid i. Hwdiwch; ni bydd arnaf eisiau godro eich
Buwch, felly dyma i chwi eich llestr godro yn ol."
Y mae trugaredd yr annuwiol yn greulon.
CHWEDL 91 - Y BLAIDD A’R BUGEILIAID.
Blaidd yn digwydd edrych i mewn i gaban, a gweled cwmni o Fugeiliaid yn gwledda
yn gysurus ar gig dafad, a ddywedodd, "Wel! y fath helynt fawr y buasai y
dynion hyn yn ei godi pe gwelent fi yn mwynhau y fath swper."
Y mae dynion yn rhy dueddol i
gondemnio mewn ereill yr hyn y maent yn euog o'i wneyd eu hunain.
_________________________

(delw
1195) (tudalen 72)
CHWEDL 92 - Y MORGRUGYN A’R GOLOMEN.
CHWEDL 93 - Y BACHGEN A’R AFR.
CHWEDL 94 - Y TEITHWYR AR FIN Y MÔR.
CHWEDL 95 - Y BAEDD GWYLLT A’R LLWYNOG.
CHWEDL 96 - YR EWYTHR A’I NAI.
CHWEDL 97 - YR ERYR, Y FRÂN, A’R CRWBAN.
CHWEDL 98 - Y BARCUD A’R FFERMWR.
CHWEDL 99 - YR EWIG A’R LLWYNOGOD.
_________________________

(delw
1196) (tudalen 73)
_________________________

(delw
1197) (tudalen 74)
_________________________

(delw
1198) (tudalen 75)
_________________________

(delw
1199) (tudalen 76)
_________________________

(delw
1200) (tudalen 77)
_________________________

(delw
1201) (tudalen 78)
_________________________

(delw
1202) (tudalen 79)
CHWEDL 100 - Y
BYCHOD GEIFR A’R GEIFR.
CHWEDL 101 - YR HEN LEW.
CHWEDL 102 - YR ASYN, Y CEILIOG, A’R LLEW.
CHWEDL 103 - AESOP A’R GŴR SARHAUS.
CHWEDL 104 - Y CEILING RHEDYN A’R DDALLHUAN.
_________________________

(delw
1203) (tudalen 80)
_________________________

(delw
1204) (tudalen 81)
_________________________

(delw
1205) (tudalen 82)
CHWEDL 105 - Y
LLYGODEN A’R FRONWEN.
CHWEDL 106 - Y FFERMWR A’I GŴN.
CHWEDL 107 - Y GWENYN A’R GWENYN SEGUR
CHWEDL 108 - YR ASYN A’R EOS.
CHWEDL 109 - YR EPA A’R DRYCHAU.
CHWEDL 110 - Y BRAWD A’R CHWAER.
_________________________

(delw
1206) (tudalen 83)
_________________________

(delw
1207) (tudalen 84)
_________________________

(delw
1208) (tudalen 85)
CHWEDL 111 - Y
FFERMWR A’R LLEW.
Aeth Llew unwaith i mewn i fuarth fferm, a’r Ffermwr yn dymuno ei
ddàl ef, a gauodd y llidiart. Pan ddeallodd y Llew nad allai ddim myned allan,
fe ddechreuodd ar unwaith ymosod ar y defaid, ac ar ol hynny fe ddifaodd yr
ychain. Ar hyny y Ffermwr, yn dechreu dychrynu drosto ei hun, a agorodd y
llidiart, ac aeth y Llew ymaith cyn gyflymed ag y gallai. Gwraig y Ffermwr, yr
hon a welsai y cwbl, pan welodd ei gŵr mewn tristwch mawr oblegid
colli ei dda, a ddywedodd, - “Chwi a gawsoch yr hyn a haeddech; canys pa beth a
allai eich gwneyd mor ynfyd ag i ddymuno dàl creadur, yr hwn pe gwelsech ef o
bell, y dymunech ef yn mhellach fyth.”
Mae ambell i leidr y byddai yn well ei ddychrynu ymaith na’i ddàl.
CHWEDL 112 - YR
ASYN A’R GWYBEDYN.
Yr oedd Gwybedyn yn eistedd ar un o lorpiau cerbyd, a dechreuodd
geryddu yr Asyn a’i tynai, “Mor araf yr wyt yn myned yn mlaen? onid elli fyned
yn gyflymach? gofala rhag i mi dy golynu yn dy ochr gyda’m cleddyf.” “Nid yw dy
eiriau di,” ebai yr Asyn, “yn werth fy sylw; ond yr wyf yn ofni yr hwn sydd yn
eistedd yn y cerbyd, yn fy arwain gyda’r awenau, ac yn dàl y chwip flaenfain yn
ei law. Yn ol ei ewyllys ef yr wyf i gerdded neu i redeg. Felly taw di a’th
siarad gwael.”
Poenus clywed dynion bychain yn
ymffrostio pethau mawrion.
_________________________

(delw
1209) (tudalen 86)
CHWEDL 113 - Y
LLEWPARD A’R BUGEILIAID.
Yn ddamweiniol syrthiodd Llewpard i ffynon ddofn. Gwelwyd ef gan y
Bugeiliaid, a Iluchiodd rhai geryg ato, ereill ffyn; ond darfu i ereill deimlo
tosturi tuag ato, a thaflu bara iddo. Trwy fod y nos yn dynesu, maent yn myned
gartref yn hyderus y byddai iddynt ei gael boreu dranoeth wedi marw. Ond y
Llewpard, wedi iddo adfeddianu ei nerth ar ol bwyta y bara, a roddodd naid o’r
ffynon, a rheda yn gyflym tua’i ffau. Yn mhen ychydig ddyddiau y mae yn myned
allan, gan ladd y defaid a’r bugeiliaid hefyd, a distrywia bob peth yn ei
gynddaredd. Y mae y trigolion, gan faint eu dychryn, yn boddloni colli eu
defaid, ni cheisiant ond eu bywydau en hunain yn unig. Y mae y Llewpard yn
ateb, “ Yr wyf yn cofio am y rhai hyny a daflasant geryg ataf, a’r rhai a
roddasant fwyd i mi; na fydded i’m cymwynaswyr ofal, ni chospaf ond y rhai a
fwriadasant ddrwg i mi.”
Gwneyd cymwynas yw y ffordd i gael un.
_________________________

(delw
1210) (tudalen 87)
CHWEDL 114 - Y CAWRFIL A’R CORGI.
CHWEDL 116 - Y TEITHWYR A’R CORGWN.
_________________________

(delw
1211) (tudalen 88)
CHWEDL 116 - CAESAR A’I WAS.
_________________________

(delw
1212) (tudalen 89)
CHWEDL 117 - YR YMSUDDWYR.
_________________________

(delw
1213) (tudalen 90)
CHWEDL 118 - YR ERYR, Y GATH, A’R BAEDD.
_________________________

(delw
1214) (tudalen 91)
CHWEDL 119 - YR EPA A’R PYSGOTWYR.
CHWEDL 120 - SOCRATES A’I DŶ.
_________________________

(delw
1215) (tudalen 92)
CHWEDL 121 - YR
IÂR A’R WENOL.
_________________________

(delw
1216) (tudalen 93)
CHWEDL 122 - YR YSPEILIEDIG A’I GYFEILLION.
_________________________

(delw
1217) (tudalen 94)
CHWEDL 123 - YR ASYN A’R BAEDD.
CHWEDL 124 - Y LLEWPARD A’R LLWYNOG.
_________________________

(delw
1218) (tudalen 95)
atebai y Llwynog, “ Y mae meddwl galluog yn well na chorph tlws.”
Y meddwl yw safon y dyn.
CHWEDL 126 -
Y CI A’R CEFFYL.
Un diwrnod yr oedd Ci a cheffyl rhyw Amaethwr yn dadleu eu gwahanol
ragoriaethau. “Fel yr wyt yn siarad yn wir, Mr. Ceffyi! Ni byddai yn ddrwg
genyf pe baent yn dy droi di allan o’r buarth yma. Tynu yr aradr a llusgo y
drol yn wasanaeth anrhydeddus, ai e! Nid wyf erioed wedi clywed dim i’w gydmaru
a’th haerllugrwydd. Pa fodd y meiddi gydmaru dy hun a mi? Nid wyf fi yn
gorphwys ddydd na nos. Yn y dydd yr wyf yn gwylied y gwartheg yn y weirglodd;
yn y nos yr wyf yn gwylio y tŷ.”
“Eithaf gwir,” atebai y
Ceffyl; “y mae yr hyn a ddywedi yn hollol wir. Ond cofia hyn, fy Nghyfaill, oni
bai fy aredig i, ni byddai genyt ddim i’w wylio.”
Pob un yn bwysig yn ei le ei hun.
CHWEDL 126 -
AESOP YN CHWAREU.
Fel yr oedd Aesop un diwrnod yn chwareu a nifer o blant, daeth un o’r
Atheniaid heibio, a phan y’i gwelodd, a chwarddodd am ei ben, gan dybied ei fod
wedi colli ei synwyr. Wrth weled hyny, cymerodd Aesop ei fwa a phlygodd ef
gymaint ag a allai, a daliodd ef yn ngwyneb y dyn. Methai a deall beth a olygai
Aesop wrth hyny; safodd yn synedig am beth amser gan geisio dyfalu, ond yn gwbl
ofer; o’r diwedd dywedodd Aesop, “Bydd i’r bwa dori os delir ef yn rhy dyn; ond
os llaciwch ef, bydd yn ddefnyddiol i chwi pan fo arnoch angen am dano.”
Gweithio o hyd heb ddim chwareu a wna
Jack yn fachgen dwl.
_________________________

(delw
1219) (tudalen 96)
CHWEDL 127 - YR AST A’I CHŴN.
CHWEDL 128 - Y DDAU GI.
_________________________

(delw
1220) (tudalen 97)
_________________________

(delw
1221) (tudalen 98)
CHWEDL 129 - Y BLAIDD, Y LLWYNOG, A’R EPA.
_________________________

(delw
1222) (tudalen 99)
CHWEDL 130 - YR AMAETHWR CYBYDDLYD.
CHWEDL 131 - YR HWCH.
_________________________

(delw
1223) (tudalen 100)
CHWEDL 132 - Y GŴR A’I DDWY WRAIG.
_________________________

(delw
1224) (tudalen 101)
CHWEDL 133 - YR ASYNOD A’R LLADRON.
CHWEDL 134 - Y BARCUTAN PAPYR A’R ADAR.
_________________________

(delw
1225) (tudalen 102)
CHWEDL 135 -
ADERYN Y TÔ A’R YSGYFARNOG.
Aderyn y Tô a edliwiai i Ysgyfarnog a ddaliwyd gan Eryr, am fod mor ffol a
chymeryd ei dàl a gwneyd y fath leisiau anfwyn, “Beth am y cyflymder yr
ymffrosti ynddo?” ebai. “Sut y bu dy gerddediad mor arafaidd?” Tra yr oedd yn
siarad, y mae Barcud yn disgyn arno, ac yn ei ddàl yn ddiarwybod, ac yn ei ladd
er gwaethaf ei ysgrechfeydd. Yr Ysgyfarnog, er ei bod yn haner marw, a
ddywedodd mewn ffordd o gysur wrth farw, “Yr wyt ti, ag oeddit ychydig funudau
yn ol yn ddiogel, ac yn gwneyd gwawd o’r trychineb a’m goddiweddodd, wedi cael
dy ddal dy hunan gan anffawd gyflelyb.”
Na fydded i chwi sarhau personau mewn
blinfyd.
_________________________

(delw
1226) (tudalen 103)
CHWEDL 136 - Y GWLADWR A’I HUGAN.
CHWEDL 137 - YR ATHEISTIAID.
_________________________

(delw
1227) (tudalen 104)
CHWEDL 138 - Y LLYFFANTOD A’R HAUL.
_________________________

(delw
1228) (tudalen 105)
CHWEDL 139 - Y COED A’R DUWIAU.
CHWEDL 140 - YR ASYN A’I BERCHENOGION.
_________________________

(delw
1229) (tudalen 106)
CHWEDL 141 - Y GŴR CYFOETHOG TLAWD.
_________________________

(delw
1230) (tudalen 107)
Dyma ddigon i brynu tŷ,
cerbydau a meirch. Ond os gallaf gael digon i brynu etifeddiaeth, onid ffolineb
fyddai i mi daflu ymaith y cyfleusdra? Wrth gwrs, cadwaf y Pwrs. Bydd i mi
ymprydio un diwrnod yn ychwaneg. Bydd genyf ddigon o amser i fwynhau fy
A gaffo arian ni ddigonir àg arian.
CHWEDL 142 - JUNO A’R PAUN.
Daeth Paun at Juno i gwyno am nad ydoedd wedi rhoddi iddo lais yr Eos; a
dywedai ei fod yn cael ei edmygu gan yr
holl adar, ond yn cael ei ddiystyru cygynted ag y rhoddai allan ei lais. Yna
dywedodd y dduwies, mewn trefn i geisio ei foddloni, "Yr wyt yn rhagori
arnynt mewn prydferthwch, ac mewn maintioli, y mae dy wddf yn hardd, a phlyf dy
gynffon yn ogoneddus." Dywedodd y Paun, "Paham y'm gwisgir yn y plyf
hardd hyn os ydwyf i gael fy narostwng yn fy llais?" Ateba Juno, "Y
mae rhanau wedi eu rhoddi i chwi yr adar trwy ewyllys y duwiau: i chwi
brydferthwch, i'r eryr nerth, i'r eos cân, ac y mae pob un yn foddlon ar yr hyn
sydd ganddo."
Byddwch foddlon ar yr hyn sydd genych, ac na chwenychwch yr hyn a
berthyn i ereill.
_________________________

(delw
1231) (tudalen 108)
CHWEDL 143 - Y CARDOTYN A’I GŴD.
Y mae Ffawd yn diwmod yn clywed Cardotyn yn siarad wrtho ei hun. Y mae yn
gwawdio ffolineb y rhai nad ydynt byth yn foddlon ar yr hyn sydd ganddynt, y
rhai nad ydynt byth yn gweled eu digon, ac yn y diwedd a andwyant en hunain
wrth geisio ychwaneg. Yn nghanol ei fyfyrdod y mae yn cael ei aflonyddu gan y
dduwies Ffawd, yr hon a'i hysbysa ei bod er's amser wedi meddwl ei gynorthwyo,
ac y byddai iddi ollwng i'w Gŵd
y darnau aur oedd ganddi yn ei meddiant ar y pryd. Ond ni wna hyny ond ar
delerau neillduol, sef, "Fod yr oll a ddaliai y Cŵd i fod yn aur; ond fod y cwbl a syrthiai
i'r llawr i gael ei droi yn llwch." Ac y mae yn ei rybuddia fod ei Gŵd yn hen a braenllyd, a byddai yn well
iddo beidio rhoddi gormod o bwysau arno. Y mae y Cardotyn yn methu anadlu bron gan lawenydd. Prin y mae yn teimlo
y llawr o dan ei draed. Agora ei Gŵd,
ac y mae y dduwies gyda llaw agored yn gollwng
_________________________

(delw
1232) (tudalen 109)
cawod o ddarnau aur iddo. Mae y Cŵd yn fuan yn myned braidd yn drwm. "A yw hynyna yn ddigon?" "Nag
ydyw yn hollol." "Onid yw y Cŵd yn cracio?" "Dim
perygl." "Ystyria yr wyt mor gyfoethog a Croesus." "Ychydig
bach eto — un dymaid yn ychwaneg." "Dyna y mae yn llawn! Cymer
ofal y mae y Cŵd ar
rwygo." "Dim ond ychydig bach
eto." Ond ar hyny y mae y Gŵd
yn ymagor, a syrthia y trysor i'r llawr a throa yn llwch, a diflana Ffawd. Nid oedd gan y Cardotyn ond ei Gŵd gwag, ac aeth ymaith mor dlawd ag
erioed.
A gaffo arian ni ddigonir ag
arian. A grafango am ormod, a golla yr hyn fo ganddo.
CHWEDL 144 - Y SIWG BRIDD A’R LLESTR COED. Siwg bridd hardd yn
sefyll yn fawreddog ar y bwrdd, a edrychai gyda dirmyg ar y Llestr coed a
ddefnyddid i olchi y llawr, a dywedodd, " Yr wyf lawer yn brydferthach na
thydi yr hen Lestr coed hyll. Dos allan trwy y drws yna, neu mi a ddeuaf i law
ac a'th fwriaf i'r ffordd." "Aros funud,'' ebai'r Llestr coed,
"paid ag ymffrostio gormod. Cofia fod Llestri pridd yn hawdd iawn eu
tori." Chwarddai y Siwg hardd yn braf am ben rhybudd y Llestr coed, a sythai
yn fwy nag erioed, ond och! rhyw ddiwrnod torwyd y Siwg falch, a thaflwyd hi
allan i'r domen, ond parhaodd y Llestr pridd i wneyd gwasanaeth am flynyddoedd
wedi hyny.
Defnyddioldeb yn para yn hwy na phrydferthwch.
_________________________

(delw
1233) (tudalen 110)
CHWEDL 145 - Y LLWYNOG A’R LLYGODEN.
CHWEDL 146 - Y
CAWRFIL MEWN SWYDD.
_________________________

(delw
1234) (tudalen 111)
CHWEDL 147 - Y FRONWEN A’R LLYGOD.
_________________________

(delw
1235) (tudalen 112)
CHWEDL 148 - Y
TRI BRAWD.
_________________________

(delw
1236) (tudalen 113)
oedd yn llwyddianus iawn gyda’r gorchwyl hwnw. Nid wyf yn gwybod a oedd ganddo
dalent naturiol at hyny ai peidio; pa un bynag am hyny nid oedd yn awr byth yn
methu ei nod, diolch i’w Ffawd dda. O’r diwedd darfu i’r ymwelydd, a arosodd
cyhyd gyda’r brodyr, eu gadael. Yr oedd dau o’r brodyr wedi enill yn fawr ar ei
hymweliad. Yr oedd un o honynt yn gyfoethog, a’r llall mewn swydd uchel. Ond bu gorfod i’r trydydd, a
dreuliodd ei holl amser i ddal pryfaid, fyned oddiamgylch i gardota ei fara.
Y neb na chymer fantais ar gyfleustra a
raid ddioddef tlodi.
CHWEDL 149 - Y CRIB A’R PLENTYN.
Rhoddodd boneddiges Grib
prydferth i’w mhab, yr hwn a’i boddhaodd mor fawr fel nad ollyngai ef byth o’i
ddwylaw. Pa un bynag ai yn chwareu ai ynte yn dysgu ei wers yr oedd yn parhaus
wthio y Crib trwy ei wallt melyn modrwyog. “Y fath Grib ydoedd! Nid oedd byth
yn cydio yn y gwallt, nac yn tynu dim o hono ymaith, ond bob amser yn myned
trwyddo yn esmwyth a diboen. “ Ond un diwrnod dododd y Crib yn rhywle o’i law, a methodd gael gafael
ynddo pan aeth i chwilio am dano. Aeth y bachgen i redeg a chwareu nes yr oedd
ei gwallt yn ddyryswch i gyd. Nid cynt y cyffyrddwyd ef gan y forwyn nag y
dechreuodd gwyno a gwaeddi, ‘‘Pa Ie y mae fy Nghrib i?” Cafwyd ef o’r diwedd;
ond pan y ceisiodd y bachgen ei wthio trwy ei wallt ni symudai yn mlaen nac yn
ol. Y bachgen, yn teimlo ei wallt yn cael ei dynu o’r gwraidd, a dorodd allan i
wylo a gwaeddi, “Y fath Grib drwg wyt ti!” Ond y mae y gnb yn ateb, “Fy
nghyfaill, yr wyf yr hyn oeddwn bob amser; y mae y bai yn eich gwallt chwi, yr
hwn sydd wedi dyrysu.” Ar hyny y mae y plentyn yn myned i dymer ddrwg, ac yn
taflu y Crib i’r afon.
Cyhyd ag y byddo y gydwybod yn ddirwystr,
y mae gwirionedd yn foddhaol i’r dyn, ystyir ef fel rhywbeth cysegredig,
gwrandewir arno ac ufuddheir iddo; ond y foment y dechreua weithredu yn groes
i’w gydwybod, edrychir ar y gwirionedd fel gelyn.
_________________________

(delw
1237) (tudalen 114)
CHWEDL 150 - Y CEFFYL A’R ASYN LLWYTHOG.
_________________________

(delw
1238) (tudalen 115)
CHWEDL 151 - Y BLEIDDIAID A’R BELAID.
CHWEDL 152 - Y DEFAID A’R OEN.
_________________________

(delw
1239) (tudalen 116)
CHWEDL 153 - YR ASYN A JUPITER.
_________________________

(delw
1240) (tudalen 117)
CHWEDL 154 - YR ARTH A’R GWENYN.
Cyfarfyddodd y bwystfilod
mewn pwyllgor un gwanwyn i ddewis Arolygydd ar y Cychod Gwenyn. Y .mae yno
lawer o ymgeiswyr am y swydd, ond yr Arth, trwy fod ganddi ddylanwad mawr, a
ddewisir i'w llanw, er fod pawb yn ddigon hysbys ei bod yn dra hoff o fêl. Yn
mhen ychydig amser y mae swn mawr yn codi. Darganfyddir fod yr Arth yn arfer
cario i'w ffau yr holl fêl y gall ddodi ei phawenau arno. Ar hyny, gwneir
ymchwiliad manwl i'r achos, ac o'r diwedd y mae y Ilys yn dedfrydu yr Arth i
gael ei diswyddo, a'l hanfon i dreulio y gauaf yn ei ffau. Chwiliasant, profasant, arwyddasant,
a chondemniasant, ond ni ddarfu iddynt adfer y Mêl. Am yr Arth nid ydoedd hi yn
gofalu dim. Ffarweliodd a'r byd, ac ymneillduodd i'w ffau gynes. Yno y sugna ei
phawen felus, ac arosa hyd nes y ca adeg i fyned allan i chwilio am Iwc newydd.
Waeth gan swyddog anonest gael ei droi o’i swydd na pheidio, os caiff fyned
gartref i fwynhau y Mêl a gasglodd.
CHWEDL 155 - Y CADBEN A’R MORWYR.
Llong ar y môr a oddiweddwyd gan ystorm ofnadwy; lluchid hi fel pluen gan y
tonau cynhyrfus, ac ofnai yr holl ddwylaw mai yn y gwaelod y byddent mewn
ychydig amser. Yr oedd eu calonau yn curo, a'r dagrau yn llifo dros eu
gruddiau. Gellid darllen anobaith yn mhob gwyneb. Yn sydyn, pa fodd bynag,
gostegodd y gwynt a llonyddodd y tonau, a dechreuodd y morwyr fyned o eithafion
tristwch i eithafion llawenydd. Dawnsient, bloeddent, crechwenent gan faint eu
balchder. Galwodd y Cadben hwy ato, a dywedodd, " Gweddus yw i'ch
llawenydd fod yn gynil, a'ch tristwch yn gymedrol, oblegid y mae llawenydd a
thristwch yn gymysgedig â'n holl fywyd."
Mewn llwyddiant ofnwch y gwaethaf, mewn trallod gobeithiwch y goreu.
_________________________

(delw
1241) (tudalen 118)
CHWEDL 156 - Y FRONFRAITH A’R IÂR.
CHWEDL 157 - Y MEDDWON.
_________________________

(delw
1242) (tudalen 119)
CHWEDL 158 - Y TEITHWYR A’R YSBEILIWR.
_________________________

(delw
1243) (tudalen 120)
CHWEDL 159 - YR HELIWR A’R GOLOMEN -
CHWEDL 160 - Y LLAFURWYR A’R AFON.
_________________________

(delw
1244) (tudalen 121)
CHWEDL 161 - Y LLWYNOG A’R DDRAIG.
_________________________

(delw
1245) (tudalen 122)
CHWEDL 162 - Y GATH A’R LLWYNOG.
CHWEDL 163 - Y TEITHWYR.
_________________________

(delw
1246) (tudalen 123)
_________________________

(delw
1247) (tudalen 124)
CHWEDL 164 - Y CYBYDD A’I DRYSOR.
_________________________

(delw
1248) (tudalen 125)
CHWEDL 165 - Y GŴR MOEL A’R GWIBEDYN.
CHWEDL 166 - Y MORGRUGYN A’R GWIBEDYN.
_________________________

(delw
1249) (tudalen 126)
CHWEDL 167 - Y BUGAIL A’I GI.
_________________________

(delw
1250) (tudalen 127)
CHWEDL 168 - Y GWYDDAU A’R GARANOD.
CHWEDL 169 - YR HYDD A’R WINWYDDEN.
_________________________

(delw
1251) (tudalen 128)
CHWEDL 170 - Y NEIDR A’R GÔG.
_________________________

(delw
1252) (tudalen 129)
CHWEDL 171 - Y NEIDR A’R ENLLIBIWR.
_________________________

(delw
1253) (tudalen 130)
CHWEDL 172 - YR EHEDYDD A’I FAB.
_________________________

(delw
1254) (tudalen 131)
CHWEDL 173 - Y DDALLHUANOD A’R HAUL.
_________________________

(delw
1255) (tudalen 132)
CHWEDL 174 - ADDYSG Y LLEW IEUANGC.
_________________________

(delw
1256) (tudalen 133)
_________________________

(delw
1257) (tudalen 134)
CHWEDL 175 - Y
TEITHWYR A’U CYSGOD.
Yr oedd dau gymydog un noswaith oleu leuad yn dychwelyd o’r farchnad
yn lled hwyr — a dywedir en bod wedi yfed ar y mwyaf o ffrwyth Syr John Heidden.
Pa fodd bynag am hyny, dychrynwyd hwy yn fawr wrth weled dau ddyn o’u blaenau:
dechreuasant gilio yn ol yn wisg en cefnau mewn braw, ac er eu dychryn erlidid
hwy gan y gwyr. Dechreuasant waeddi yn uchel, a chlywwyd hwy gan ddyn a
ddigwyddai gerdded y ffordd hono, yr hwn pan gyrhaeddodd atynt, a gweled sut yr
oedd pethau yn sefyll, a ddywedodd, “Y ffyliaid gwmon, aroswch!” Gwnaethant
hyny, a safodd eu herlidwyr tybiedig. “Ewch rhagoch,” ebai eu cymwynaswr
eilwaith, dan wenu. Gwnaethant hyny, ac er syndod gwelsant eu. herlidwyr yn
diangc o’n blaenau, ac yn fuan, wedi sobri tipyn wrth redeg, deallasaat nad
oedd yr achos o’u holl ofn yn ddim amgen na’r cysgod hwy eu hunain.
Llawer gelyn yn erlyn yn ffyrnig tra y
cilir o’r ffordd, ond yn diangc yn ebrwydd y troir arno
_________________________

(delw
1258) (tudalen 135)
CHWEDL 176 - Y MAGNELAU A’R HWYLIAU.
_________________________

(delw
1259) (tudalen 136)
CHWEDL 177 - Y LLWYNOG FEL ADEILADYDD.
_________________________

(delw
1260) (tudalen 137)
CHWEDL 178 - Y CYBYDD A’R TYLWYTH TEG.
CHWEDL 179 - Y MELINYDD A’R AGEN YN Y FFOS.
_________________________

(delw
1261) (tudalen 138)
CHWEDL 180 - Y DDAFAD A’R BARNWR.
Darfu i ŵr o
gymeriad amheus gyhuddo Dafad o ladrata ei ieir. Dygwyd yr achos o flaen
Llwynog, yr hwn a alwodd ar yr Achwynydd i osod i lawr ei achos. "Ar y
diwrnod a'r diwrnod," ebai yr achwynydd, "collais ddwy o'm Ieir yn
bur foreu. Ni ellais weled dim
o honynt ond ychydig esgyrn a phlyf. Ac nid oedd yr un creadur yn y
buarth y noson hono ond y Ddafad." Ar y llaw arall tystia y Ddafad ei bod
wedi cysgu trwy y nos, a geilw ei holl gymydogion i ddwyn tystiolaeth nad
amheuwyd hi erioed o ladrata a gweithredu yn anghyfiawn; ac heblaw hyny na
ddarfu iddi erioed brofi tamaid o gig yn ei bywyd. Ar ol clywed y ddwy ochr, y
mae y Llwynog yn cyhoeddi y ddedfryd ganlynol: — "Ni ddylid byth coelio
tystiolaethau Defaid, gan eu bod yn dueddol iawn o gelu eu gwir amcanion. Ymddengys,
ar ol ymchwilio i'r mater, fod yr Ieir ar y
_________________________

(delw
1262) (tudalen 139)
CHWEDL 181 - Y MOCHYN A’R PALAS.
_________________________

(delw
1263) (tudalen 140)
_________________________

(delw
1264) (tudalen 141)
CHWEDL
182 - Y LLEIDR A’R DILLAD.
CHWEDL 183 - Y LLEW A’R LLWYNOG.
CHWEDL 184 - Y MELINYDD, EI FAB, A’U HASYN.
CHWEDL 185 - Y LLEW, YR ARTH, A’R LLWYNOG
_________________________

(delw
1265) (tudalen 142)
_________________________

(delw
1266) (tudalen 143)
_________________________

(delw 1267) (tudalen 144)
_________________________

(delw 1268a) (tudalen 146) [248]
Sumbolau
arbennig: ŷ ŵ
Adolygiadau diweddaraf: Dÿdd
Mawrth 2005-11-20, 2006-11-03
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n
ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal”les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (=
Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View
My Stats