1449k Gwefan Cymru-Catalonia. Maer Ysgol Sabbothol wedi cael daear gyfoethog yn Nyffryn Tywi, ac o fod yn hedyn bychan, y mae erbyn heddyw wedi tyfu yn bren mawr...

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_062_yn_nyffryn_tywi_1894_1449k.htm

Yr Hafan

..........1863k Y Fynedfa yn Gymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Cywaith Sin Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai

........................................y tudalen hwn


..






Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
les i Catalunya

Cywaith Sin Prys (Casgliad o Destunau yn Gymraeg)
El projecte Sin Prys (Collecci de textos en galls)



YN NYFFRYN TYWI SEF BRASLUNIAU O FYWYD GWLEDIG.
D. RHAGFYR JONES
Or cylchgrawn Cyfaill yr Aelwyd ar Frythones, 1894



Diweddariad diwethaf
18 01 2003

 

Ein sylwadau mewn teip oren.

Nodir rhifaur tudalennau gwreiddiol ou blaen felly : x42

 

translate this page

ADRANNAU:

 

(1)

HEL CLENIG

x42

 

(2)

MEWN WYLNOS

x50

(3)

CARU A PHRIODI

x89

 

(4)

PRIMIN

x149

 

(5)

SADWRN YN Y DRE

x181

 

(6)

SUL CWRDD MAWR

x221

 

(7)

CADWR MIS

x252

 

(8)

YR YSGOL AR GERED

x288

 

(9)

GWEITHIOR CYNHAUA

x331

 

(10)

FFAIR AWST

x384

 

(11)

MEWN OCSIWN

x421

 

(12)

PEN TYMHOR

x461

 

___________________________________________________________________
(x42)
PENOD I. - HEL CLENIG. (tudalennau 42-44)
___________________________________________________________________
Nid y sefydliad lleiaf ei bwys o holl sefydliadau pwysig y wlad y ceir ei henw uchod - ac y maent yn lleng - ydyw yr un sydd yn gwasanaethu yn benawd ir braslun cyntaf hwn. Yr ydym yn defnyddio y gair sefydliad yn fwriadol; oblegid os yw henafiaeth a pharchusrwydd, yn nghyd ai ymweliad cyfnodol, yn enill yr enw, y mae yn eiddo i hwn yn ddi-ffael. Ni ŵyr neb pa mor foreu y dechreuodd pobl hel clenig, mwy nag y gŵyr neb pa mor foreu yn y dydd y cwyd rhai or rhai mwyaf selog i hel clenig eto; ac y mae ei barch yn cynyddu bob blwyddyn, os cymerwn nifer ei bleidwyr, ar awch a pha un yr ymdaflant iw wasanaeth, yn engraff. Felly, pwy a warafun iddo enw a lle yn mysg sefydliadau traddodiadol y wlad?

Parotoir ar ei gyfer am ddyddiau lawer cyn ei ddyfodiad. Dyma sydd yn gwneyd i fyny weledigaethau dydd a breuddwydion nos y plant, o bymtheg oed a than hyny; a dyma yw testyn ymgom hen wyr a hen wragedd y pentai ar pentrefydd, ar ben pob aelwyd, o godiad haul hyd ei fachludiad. Cyhoeddir ympryd mewn llawer ystumog, a cheir esboniad ymarferol y tuhwnt i ddadl yn fuan ar yr hen air, mai hirbryd a wna fawrbryd. Ysgubir dimeiau a cheiniogau o bop siop drwyr wlad, yn gyfnewid am arian gleishon; a gwagheir y masnachdai ou melusion i gyd, y rhai a osodir mewn manau cyfleus yn y gwahanol anedd-dai: lle yr edrychant fel adnoddau milwrol parod i waith gogyfer r ymgyrch fawr fore dydd Calan. Yn y prif ffermdai nid oes ond pics iw gweled, iw clywed, iw teimlo, iw harogli, iw harchwaethu; a bu agos i mi ddweyd, iw gwisgo, am dridiau, o leiaf, cyn ir dydd hwnw wawrio. Teisenod crynion, teneuon, o faintioli cymedrol, ac wedi eu gwneyd or peilliaid gwynaf, yw y rhai hyn. Nid pics cyffredin mo honynt; y mae cymaint o wahaniaeth rhwng pics dydd Calan a phics bob dydd ag sydd rhwng bara gwyn a bara shipris, neu rhwng gwenith a rhyg. Y ffermwraig ei
hunan biaur hawl ar fraint ou cymysgu, au tylino, au crasu; ni ymddiriedir y gwaith hwn i ddwylaw neb ond ei dwylaw hylaw hwylus hi. Dyma fara gosod y sefydliad, a bara dangos yr amaeth-dai. Mae cymeriad y ffermdy ai breswylwyr yn hongian i fesur mwy nag a feddyliech ar gymeriad y pics. Maer pics, fel arian y Llywodraeth, yn myned i gyrau pellaf y plwyf, a phlwyfi cylchynol; au maint, au gwynder, au breuder sydd yn penderfynur ddedfryd yn y gystadleuaeth. Gwasgerir cannoedd a miloedd o honynt yn ystod y dydd. Sicrhant ugeiniau o brydiau bwyd i dylodion y gymydogaeth; a gosodir sail i ddiffyg treuliad, ac anhwylderau ereill, mewn llawer cyfansoddiad, drwyddynt, am y flwyddyn ddyfodol.

Gallem feddwl nad oeddem, y Noswyl Galan gyntaf i mi yn Nyffryn Tywi, wedi ymneillduo rhwng y blancedi er ys rhagor na chwarter awr, ac mai prin yr oeddem wedi cael prawf ou cynhesrwydd mewn cyferbyniad i oernir wlad a orweddai y tu allan iddynt, gan osod ein hunain mor gysurus ag y medrem hyd y bore, - (x43)
pan y torwyd ar ein cynlluniau an hunan-ddigonolrwydd gan floedd groch a sydyn trwy dwll y clo nes tarfur llygod or bron - Nghlenig i! Blwydd Newydd Dda! Da machgen i, meddem, cychwyniad rhagorol - ac i lawr dros yr erchwyn a ni. Wedi galw am oleu, fel ceidwad carchar Philippi, a bwrw ein hunain i mewn i br o hosanau a phr o lodrau, aethom i lawr y grisiau, a llwyddasom i foddloni haner dwsin o gryts bochgoch a mwfflog, y rhai a safent yn haner cylch o flaen y drws, au dwylaw yn dyn yn eu pocedi, a phob o geinog. Nid hir y buom cyn cyrhaedd yr hen ardal drachefn; ac wedi cau i fyny bob twll a rhigol y gallasai Jac y Rhew wnu ei fys i mewn, neu Forus y Gwynt anadlu drwyddo, parotoisom ein hunain i fwynhau egwyl o awr neu ddwy yn ddiddiolch (debygem) i neb. Ni wadwn nad oeddem wedi taro cyweirnod cryf mewn chwyrniad digamsyniol, ac nid aem i ameu pe dywedid wrthym ddarfod i ni roi llythyrau gollyngdod i ddwy neu dair o chwyrniadau rheolaidd aelodau ffyddlawn yn eglwys Cwsg; ond gwyddom ein bod yn ymwybodol o fodolaeth sylweddol cyfres hir o floeddiadau, or un natur ar grochfloedd gyntaf, yn mhell cyn i ni wneyd ein meddwl i fyny iw hateb. Yr oedd y genad obry, fodd bynag, yn rhy ddifrifol o daer, ai ergydion ai ebychiadau yn cynyddu ar gyfartaledd rhy ddigalon o gyflym, fel nad oedd wiw ceisio chwareu rhan y neidr fyddar yn hwy, gydar gobaith o lwyddo. A ffwrdd ni drwy yr un seremoni ag or blaen, mor Gristionogol
ein hysbryd an tymer ag y dysgwylid i greadur syrthiedig o dan amgylchiadau mor brofedigaethus fod.

Yr oedd rhyw benderfyniad dystaw, di-droi-yn-ol, yn yr oll or parotoadau dilynol a wnaem i dreisio teyrnas Hud, ag oedd yn argoeli brad i unrhyw un a geisiai ein troi oddiar lwybr ein dyledswydd. Cauid i fyny yr holl byrth, yn enwedig porth y glust, yn y modd sicraf. Yn hytrach na bod y pen ar y gobenydd, yn ol braint a defawd
pob dyn synwyrol, rhoed y gobenydd ar y pen, er dirfawr berygl ir anadl, a chryn anhwylusdod ir trwyn. Bellach, llongyfarchem ein hunain ar y fuddugoliaeth a enillasom, a winciem yn ddireidus ar ryw ysbryd anweledig a greai ein dychymyg on blaen. Ond och! cyrifasom yr wyau cyn eu deor. Tra yr oeddem yn newid ychydig ar safler trwyn, ac yn ceisio gwella rhywfaint ar ei gyflwr gwasgedig, dygwyddodd i borthor y glust golli ei wyliadwriaeth; ar canlyniad fu, ir swn creulonaf weithio ei ffordd i mewn nad oes dim, gwnaem lw, yn mysg llwythau anwaraidd yr Indiaid Cochion, yn debyg iddo. Ofer oedd gwingo yn erbyn y symbylau mwy. Rhyddhawyd y pen or caethiwed, a gosodwyd y glust orthrymedig mewn sefyllfa i ymwrando. O Fiwsig! gymaint galanas a wneir yn dy enw! Pe byddai holl ddallhuanod y gelltydd wedi crynhoi at eu gilydd i berfformio Cantawd Pandemonium, a sgrech-y-coed yn eu harwain, ni phetrusem ranur wobr rhyngddynt ar waits a nyddent ac a ymnyddent fel ysbrydion anian yn nghanol y llwydrew o dan ffenestr ein hystafell wely. Son am German Band! Chwi gymerasech y rhai hyny am y Grenadiers yn eu hymyl. Ar ol gwrando arnynt yn rhygnun ddincodaidd, fel pe meddyliech am gant o lifdduriau mewn llawn waith, hyd nes iddi fyned yn anmhosiblrwydd perffaith o du cnawd ac ysbryd i wrando yn mhellach, neidiasom dros yr erchwyn am y drydedd waith y bore hwnw, ac ni buom fawr amser cyn gwthio ein calenig ar y waits, mor aiddgar ag y gwthiai yr Aifftiaid eu tlysau ar Israel gynt, a chydar un amcanion, ac hefyd yr un canlyniadau. Teimlem ein hunain yn deilwng o le yn rhestr ardderchog lu y merthyri wrth droi yn ol i orphwysfar saint y tro hwnw! Ond i ba beth yn [sic] awn i wneyd arddangosiad on cwynion? Onid dyma ran ein phol bob bore dydd Calan fel y daw bore dydd Calan heibio? Os codasom deirgwaith y noson hono, codasom ugain o weithiau; a phe dechreuem sefyll ar ein (x44) hannibyniaeth, a dewis cynhesrwydd y gwely o flaen oernir llofft ar grisiau, buan y caem arwyddion croew fod cwstwm ac arfer yn teyrnasu yn Nyffryn Tywi, braich gref ac llaw estynedig, yn dryllio pob anwybyddiad gwialen haiarn, ac yn malurior gwrthwynebiadau oll fel llestri pridd.

Fel maer dydd yn cynyddu maer ymwelwyr yn lluosogi. Nid oes dim ond Nghlenig i! a Blwyddyn Newydd Dda iw glywed o bob cyfeiriad. Gofelir am y blaenaf cyn dymunor olaf gan y rhan fwyaf, yr hyn a brawf fod cryn doraeth o
hunan yn llechu yn y natur ddynol hyd yn nod yn ei chyfarchiadau goreu. Dyma hwy yn dyfod yn dyrfaoedd, yn wyr, gwragedd, a phlant! Cewch ddynion ich cyfarch heddyw na welsoch mo honynt erioed or blaen, a dyna efallai sydd yn cyfrif am eu sirioldeb diball au heofndra digymar - y maent am ir unig ymrwbiad sydd wedi bod, ac hwyrach i fod byth, rhyddynt a chwi ar yrfa dragwyddol bodolaeth, i fod yn ymrwbiad siriol or ddeutu, beth bynag arall ellir ddweyd am dano. Welwch chwir hen wraig deneulwyd, feindrwyn, sionc ei throed a chwim ei llygad, sydd yn dyfod ich cyfarfod a basged drwmlwythog yn un llaw, ac ar llaw arall yn cydion dyn am geg cwdyn sydd yn hongian dros ei hysgwydd, mor dolciog ei wedd a drwg ei gyflwr a phe buasai wedi bod yn y rhyfeloedd? Dyna un o brif noddwyr sefydliad y Calan. Mae yn nes i bedwar ugain oed nag ydyw i driugain a deg, ac eto dywedir na chollodd ddiwrnod o galenig erioed. Codan foreuach nar wawr, teithia filldiroedd lawer dros dir anhygyrch a diffaith, a chyrhaedda ei chaban cyn nos wedi cael ysglyfaeth lawer. Adwaenir hi fel y fwyaf egr o holl addolwyr y Baal hwn; ac eto, y mae yn amlwg yn nghyfarfodydd yr eglwys yr ymaeloda ynddi (mewn enw) drwy ei habsenoldeb or naill Galan ir llall! Mae canolfur y gwahaniaeth rhwng pobl y capel a phobl yr eglwys yn cael ei dynu i lawr i raddau pell yn y peth hwn, oblegid y maer naill ar lleill yn gwneyd mor hyf ar yr offeiriad ar pregethwr au gilydd, au croesaw au derbyniadau yr un cymaint. Ceir y rhai nad oes eisieu dim arnynt yn ymlusgon drachwantus i blith y tlawd ar rheidus; ac ereill yn aros gartref am fod balchder yn yr un ystabl a thlodi - dau farch nad oes byth gyd-dynu yn eu hanes.

Nid yr un galenig a wnar tro i bob un. Gwell gan rai arian, gwell gan ereill luniaeth ar y pryd; dewisar dosbarth lluosocaf bicen neu ddwy, tra na rydd dosbarth cryf arall ddim diolch am lai na haner peint o dablen, neu lond pen o chwisci heb fawr dwfr ynddo. A chyda llaw, maer cyfeillion olaf hyn yn dyfod i dipyn o dristswch cyn diwedd y daith. Maer aml ddognau o chwisci a lyncant ar gylla gwag o fan i fan, yn gymysgedig a diferyn o dablen os na bydd y brawd cryfach gartref, yn trechu eu natur luddedig, ac yn eu glanio yn ystlysaur ffos, neu yn peri iddynt gyflawni rhyw chwithigrwydd neu gilydd ag y bydd pen a chalon yn gofidio oi herwydd dranoeth. Ac yr ydym wedi sylwi - gwnaed y darllenydd a fyno or ffaith - fod y merched ar gwragedd, yn enwedig y dosbarth hynaf, yn barotach i farnu yn fwy golud y llymeitiau hyn, nac unrhyw drysor arall a gynygir iddynt yn galenig, heb eithrior pics!

Ond dyweder a fyner, wedi hilor wyneb i gyd, a nithior us or bron, mae yna swm pur fawr o garedigrwydd a chydymdeimlad, a chymwynasgarwch, a thrugaredd yn aros, i wynebu ar flwyddyn o angen, a thlodi, a newyn, a noethni, a chyni o bob math. Diolch i Dduw, yr hwn yn gyntaf a roes ei Fab yn galenig ir byd trwy ddwylaw angelion, nad ydyw pechod wedi ein llwyr ysbeilio or trysorau gwerthfawr hyn, nac ychwaith or gallu iw rhoi ar lg yn mane Duw at wasanaeth dyn.
___________________________________________________________________

(x50) PENOD II. - MEWN WYLNOS. (tudalennau 50-52)
___________________________________________________________________

Bydd cwrdd wylnos yn Cwmceir nos yfory, arhybudd yr angladd am ddeuddeg or gloch dranoeth.

Dyma un o gyhoeddiadaur Sabboth mewn tri o gapeli Ymneillduol ac un eglwys blwyfol yn Nyffryn Tywi rywbryd y llynedd; a gallasem osod bys ar lawer oeddynt yn glustiau i gyd ir cyhoeddiad, ac yn llygaid i gyd ir cyhoeddwr wrth ei gyhoeddi, tra yr oeddynt mor fyddar a phost i gwrdd gweddir eglwys nos Fawrth ar gyfeillach nos Iau, ac mor ddall ar wahadden ir cyhoeddwr wrth eu cyhoeddi. Ymgomiwn ychydig am wylnosau yn gyffredin cyn cychwyn ir wylnos arbenig hon yn Cwmceir.

Ai tybed fod eisiau egluro gair ir darllenydd? Os mai yn Neheubarth Cymru y triga - pa un bynag ai y rhan amaethyddol ai y rhan weithfaol - y mae yn ddiangenrhaid; ond os mai un o breswylwyr y Gogledd yw, ir hwn nid ywr gair yn cyfleu un syniad rhesymol oddiar safbwynt Protestaniaeth, rhaid ei oleuo i fewn trwy chwanegu, mai cyfarfod gweddi ydyw, a gynelir mewn ty anedd lle y gorwedda corff marw, y noson cyn y claddedigaeth. O ba le, ac oddiwrth ba beth y deilliodd y gair wylnos sydd gwestiwn a egyr y drws i lawer o dybiau, rhesymol ac afresymol. Creda y rhan luosocaf oi wrthodwyr mai un o weddillion y Babaeth ydyw - disgynydd uniongyrchol or hen arferion fu mewn bri gynt yn Nghymru yn nyddiau ei thywyllwch mawr, ac sydd mewn bri eto yn y gwledydd lle maer Babaeth yn teyrnasu, pan y llosgid canwyllau yn ystafell y marw, ac y gwylid y corff gan y teulu ar gwahoddedigion drwyr nos, a phob nos hyd yr adeg y gosodid ef i orwedd dan dyweirch y fynwent. Perthynas agos ir Irish wake, medd y dosbarth anghredadyn hwn gwyl drwyr nos, lle y ceid canu, a dawnsio, a chystadlu mewn adrodd chwedlau celwyddog, ac yfed, a meddwi, ac ymladd, a phob maswedd a baldordd. Os gwir hyn, y mae genym le i fod yn ddiolchgar dros ben am y cyfnewidiad sydd wedi peri i gampaur ysbryd drwg roi lle i ganu mawl a gweddi! Dywed ereill ydynt yn fwy cymedrol, tra y daliant mai gweddillyn Pabyddol ydyw, nad yw yn golygu mwy na llai na gwylio ar hyd y nos, oddiar hen syniad ofergoelus fod y diafol hefyd yn gwylior marw, ac y cipiai y corph ymaith yn ebrwydd oni bai fod yna wyliadwriaeth fanol yn cael ei chadw drosto. Ond dadleuir gan y mwyaf selog o gefnogwyr y cwrdd wylnos mai wylor nos ywr gwreiddair ar ystyr: pobl grefyddol yn ymgyfarfod, trwy gydsyniad a chyd-ddealldwriaeth, i ddatgan eu cydymdeimlad r teulu trallodus, i wylo ar rhai sydd yn wylo, ac i gyd-gerdded a hwy at Orsedd yr Un a wybu am lefain cryf a dagrau ei hunan, i ymofyn y balm ar triagl. Ni pherthyn i ni geisio penderfynu pwy sydd iawn a phwy sydd heb fod, neu beth sydd gam a pheth sydd gymwys: pan y cytunir i anghytuno, poed rhwng gwyr Pen-tyrch au gilydd.

Mae hen frodorion Dyffryn Tywi - pobl y traddodiadau ar ofergoelion - yn eithafol o selog dros y wylnos, fel pob sefydliad arall sydd ai wreiddyn (fel y tybiant) yn y cynoesoedd, ac wedi cyd-dyfu a hwy drwy holl ddyddiau blynyddoedd eu heinioes, yn enwedig os bydd yn apelio at eu natur grefyddol, neu yr hyn a gymerant hwy (x61) weithiau yn lle hyny. Or ffermdy uchaf a phwysicaf i lawr at y tŷ bach lleiaf na fedr ymffrostio ond mewn un ystafell gyffredin, ystyrir y wylnos mor hanfodol ragflaenydd ir angladd ag ydoedd Ioan Fedyddiwr ir Gwaredwr; ac y maer syniad o wneyd hebddi, pan bo taro, mor chwithig ac anghrefyddol yn eu golwg fel nas coleddant ef am foment. Byddai esgeuluso cadw wylnos yn drosedd na byddai aberth wedi ei adael drosto; ai hanwybyddu yn gosod y teulu hwnw y tuallan i ffiniau brawdgarwch a chymydogaeth dda - cyfrifid ef megys yr ethnig ar publican. Ni chlywsom fod neb wedi eu tori or seiat o herwydd y peth, nai fod wedi bod yn fater cwrdd eglwys ychwaith; ond y mae ambell i arferiad a gymerir yn ganiataol yn unig a mwy o nerth a dylanwad yn perthyn iddi nac ambell i un arall y deddfir yn ei chylch. Felly yr arferiad hon. Pe baech yn dyfod yma fel gwr dyeithr, a setio i lawr ymysg y dyffrynwyr, ac i angeu wneyd yn eofn ar eich teulu, a chwithau, oddiar gyhoeddiad, neu fympwy, neu ddiofalwch Galio-debyg, i wrthod cadw wylnos dan gronglwyd eich eich pebyll yn ol arferiad y wlad, buan y caech deimlo mai syniad y wlad yn bur gyffredinol am danoch fyddai - Does dim llawer o barch i grefydd gan Hwn-a-hwn! Ac ni phetrusai aml i hen chwaer a adwaenom gyhoeddi ei barn yn fwy pendant a phwysleisiol, a dywedyd eich bod yn ddyn perffaith. annuwiol. Ond maen ddrwg genym orfod dweyd mai nid yr agwedd grefyddol ir wylnos sydd wrth wraidd y zel mawr a ddangosir gan nifer or bobl a ddesgrifir uchod - hyny yw, nid ydynt yn dyfod ir wylnos i weddio a a chanu ac addoli gymaint a rhywbeth arall, fel y cewch weled cyn diwedd y benod. Ac nid ydym yn ofni unrhyw gyhuddiad o ragfarn neu anwybodaeth a ddygir yn ein herbyn wrth ddweyd hyny.

Maen bryd i ni bellach fyned i Cwmceir. Ar y ffordd tuag yno, gadewch i mi eich hysbysu am y lle ai amgylchiadau. Ffermdy helaeth or hen ffasiwn yw Cwmceir, yn dal aceri lawer o dir, yn cadw o ddeugain i haner cant o dda o bob enw a phob gradd, a chystal nifer o geffylau ag a welwch unrhyw ddydd or nwyddyn, ac yn cyflogi haner dwsin o wasanaethyddion, heb son am weithwyr wrth y diwrnod. Ond er y tiroedd, ar da, ar ceffylau, ar hwsmoniaeth i gyd, daeth angeu i fewn ir tŷ rywsut, amneidiodd ar y penteulu iw ddilyn, ac yntau a gododd ac a aeth. Yr oedd yn gymeriad adnabyddus trwyr holl wlad, yn ddiacon yn yr eglwys y perthynai iddi, yn gentleman farmer yn nghyfrif ei gydnabod, yn aelod or Farmers Club, a chylch ei berthynasai [sic] yn ymestyn dros y plwyf, a thros y sir. Mewn gair, yr oedd pobpeth yn dweyd y caffai gwr Cwmceir gwrdd wylnos anghydmarol, ac angladd na welwyd ei gyffelyb yn nghof neb oedd yn fyw. Dewch i mewn ir neuadd. Yno maer Beibl Mawr ar Llyfr Emynau wedi cael eu gosod ar ford orchuddiedig ar llian claerwynaf, yn barod erbyn y delor gweinidog ar gynulleidfa. Ystafell barchus ywr neuadd, a geir bron yn. ddieithriad mewn unrhyw ffermdy o ymhoniad yn Nyffryn Tywi; ac
nis gwyddom am ei chymhares mewn tŷ cyffredin. Nid yw yn golygur parlwr, ac nid yw yn gyfystyr gwbl r gegin oreu, ond saif rywle rhwng y ddwy. Dyga pob celfigyn, bach a mawr, dystiolaeth ddifrychau ir glanhau creulon sydd wedi bod arnynt y dyddiau or blaen; a phe caech ganiatad i fyned dros y ty, gwynebid chwi gan lu o dystiolaethau ereill ir un perwyl. Eisteddar galarwyr - y weddw ai phlant - yn ymyl y tn, a ffryndiau dewisol o bob tu iddynt; a sibryda rhywun yn ein clustiau eu bod yna er ys dros awr o amser. Druain o honynt! tynir cwysau dyfnion dros eu teimladau cyn diwedd y cwrdd. Dechreuar gynulleidfa ddyfod i mewn o un i un, a bob yn dipyn o ddau i ddau, ac yna yn finteioedd bychain, nes llenwir neuadd bob congl o honi, a chymer pob un ei le mor weddus, a threfnus, a defosiynol (x52) a phe dilynai reddf neu rhaglen. Erbyn hyn, maer gweinidog yn agor y gwasanaeth trwy roddi emyn iw ganu, priodol ir amgylchiad. Yr unig wahaniaeth sydd rhwng y cyfarfod hwn a chwrdd gweddi cyffredin yw, fod y lle amlycaf yn cael ei roddi yn y canu, ar benod, ar gweddiau i weinidogaeth angeu yn gyffredinol, ac iw chymwysiad at deulu a phenteulu Cwmceir yn neillduol. Tra y cenir ac yr ymdrechir Duw mewn gweddi, teimlwn ein bod yn sangu ar dir cysegredig, ac nad yw santaidd santeiddiolaf y Shecina ddim yn mhell; a phe yr elai pob un iw dy ei hun yn ddiymdroi ar ddiwedd yr oedfa, atebai ei dyben uwchaf, a gellid yn ddibetrus restrur cwrdd wylnos yn mysg cyfarfodydd crefyddol mwyaf ysbrydol a bendegedig saint Duw ar y ddaear.

Ond i lawer maer gwin goreu ar ol, a chyfranogir o hono gan bawb yn ddiwahaniaeth. Mewn ystafell arall gerllaw mae gweddillion marwol gwr Cwmceir, druan, yn gorwedd in state, wedi eu gwisgo mewn gwyn, au haddurno blodau. Maent wedi eu cludo i fewn ir arch i gyd; erys yr arch ar fwrdd cyfyng, a saif y bwrdd ar ganol llawr yr ystafell. Beth yw hwn sydd yn pwyso ar y mur yn y fan yma? O, dynar clawr - cauad yr arch, sydd yn dangos y plate gorwych, yr hwn a ddywed Alpha ac Omegar marw mewn dwy linell. Wrth ben yr arch, fel pe bai gynrychiolydd angeu, saif y fydwraig, yr hon sydd wedi helpu llawer i ddod ir byd, ac wedi helpu llawer i fynd o hono. Ei swyddogaeth hi yma yw dangos y marw ir byw: a gwna hyny gydag urddas anneffiniadwy. Goleuir yr ystafell gan nifer o ganwyllau talion, preiffion, a gorchuddir y muriau ar celfi i gyd a huganau gwynion fel yr eira, Ust! maer cwrdd drosodd, a dyna symudiad dystaw ac unol i gyfeiriad ystafell y marw. O un i un y deuant, yn single file, ar swn yn union fel pe byddai pob un wedi tynu ei esgidiau oddiam ei draed, ac yn cerdded yn ei hosanau. Amgylchant y bwrdd ar ba un y mae yr arch, taflant gipdrem ar y gwyneb oer, claiog, wrth fynd heibio, a dychwelant ar hyd ffordd arall. Wrth fyned gartref y noson hono, ceir sylwadau beirniadol gan y merched ar gwragedd ac ambell ddyn benywaidd, ar yr arddangosfa - canmolir a chondemnir, yn ol fel y byddor duedd naturiol, a chodir dincod ar ddanedd yr absenolion pan adroddir yr hanes iddynt wedi cyrhaedd y tŷ. Bydd son am wylnos gwr Cwmceir wedi i ddegau o wylnosau ereill a ddaw ar ei hoi ddisgyn i ebargofiant.

___________________________________________________________________

(x89) PENOD III. - CARU A PHRIODI. (tudalennau 89-92)
___________________________________________________________________

Nid ydym yn gwyhod a oes gwahaniaeth rhwng bechgyn a merched yr oes hon a bechgyn a merched yr oes or blaen yn Nyffryn Tywi yn dwyn yn mlaen y fusnes garu. Tueddir ni i gredu mai megys yr oedd yn y dechreu y mae yr awr hon gyda golwg ar y caru; ond y mae yna gryn gyfnewidiad wedi cymeryd lle yn musnes y priodi. Dywed rhai fod mwy o garu, neu, beth bynag, fwy o ddilysrwydd yn y caru cyn priodi nac wedi hyny. Poed fo, ond yn y dosbarthiad cyffredin a chydnabyddedig, dawr caru o flaen y priodi; a chymaint o hono a fydd yn weddill, ac a ddaw wedyn, cleddir ef yn y priodi, ac ni chlywir son am dano wrth yr hen enw byth mwy. Dilynwn y drefn arferol yn y benod, a chyn mynd ir capel, neur eglwys, neur offis yn Llandilo, awn i garu ychydig gydar bechgyn ar merched yn ol y ffasiwn.

Mae dau neu dri o weision ffermydd cyfagos iw gilydd wedi dod ir penderfyniad, ar ol ymgynghoriad pwysig, i fynd i gnoco i Llanlai y noson ar noson. Mae un o honynt yn ymofyn siarad merch y tŷ, ac y maer ddau arall, am eu bod yn adnabod y morwynion, yn myned i gadw cwmni iddo. Y noson y maent wedi ei phenodi ar gyfer yr anturiaeth ydyw noson y cwrdd gweddi, a thrwy fod y tri yn arfer myned ir un cwrdd, daw i daro yn d o gyfleus iddynt gychwyn gydau gilydd, heb fod neb yn drwgdybio dim ou hanes, nac yn breuddwydio fod yn eu bryd i ystormio castell Llanlai, llwgr-wobrwyor gwylwyr, ac enill rhai or gwarchodlu, y noson hono. Felly, gan ymddangos yn bur ddifater, a threio bod mor waglyd ag oedd modd - mewn trefn i daflur gweilch ffroendeneu ereill, a aroglent helfa fel hon yn reddfol, oddiar y scent - cychwynasant ar ddiwedd y cwrdd i gyfeiriad eu cartrefi eu hunain; ac wedi cyrhaedd i fan neillduol, troisant yn sydyn megys yn eu gwrthol, a dacw hwy u gwynebau ar faes y frwydr, a chalon pob un yn curo fel calon aderyn bach. Bechgyn diguro yw bechgyn ffermydd i son am garu pan bor lodes yn mhell, a siarad am gnoco pan na bor ffenestr yn y golwg! Mae cryn ffordd i Llanlai, a digon o amser cyn deg or gloch. Cracir cellweirebau ar hyd y ffordd fel cracio cnau, a damsengir perthi wrth y dwsinau, nes peri i lawer ffarmwr gael sicrwydd cyn brecwast dranoeth na pherthynai or nawfed ch ir gwr boneddig amyneddgar o Us. Or diwedd, dacwr tŷ, a dyma hwy yn y cls. Gan y tywyllwch ar dystawrwydd, chwi allech feddwl fod yr adeilad ei
hunan wedi mynd i gysgu. Mae ei ffenestr, fel llygaid, wedi eu cau au gorchuddio bob un, ac nid oes dim iw glywed i ddynodi fod bywyd yn y lle. Ond nid ddoe y ganwyd y bechgyn hyn, ac nid dymar tro cyntaf iddynt fyned allan i gnoco. Wedi sicrhau safleoedd y gwahanol gysgwyr yn y ty, yn ol yr hyn a wyddent, ac yn ol yr hyn a dybient, aeth un i chwilio am ysgol (yr hon sydd yn debyg o fod wrth law ar gls ffarm), aeth yr ail i grafu am dipyn o raian, neu gerig man, y rhai nad ydynt mor gyfleus ar ysgol bob amser; ac arosodd y trydydd dan bentis y tŷ gwair i wylio yn erbyn ymyrwyr oddiallan, yn ogystal a symudiadau annisgwyliadwy oddifewn. Caed yr ysgol yn ddidrafferth, a dodwyd un pen iddi i orphwys ar y palmant odditanodd, ar (x90) pen arall ar ddarn o wl y tŷ, yn union dan y ffenestr sydd uwchben drws y gegin fach; a mawr ywr llawenydd i hyny o anturiaeth droi allan mor ffodus. Gest ti rafel, Dai? gofynir ir anturiaethwr aeth i chwilota am raian; ac wedi i hwnw ddyfod a phrawf gweledig cadarnhaol o lwyddiant ei ymchwil, gelwir ar y gwyliedydd i ddyfod allan oi wl o dan bentis y tŷ gwair, mewn trefn iddynt ddechreur gweithrediadau yn nghyd ac ar unwaith. Yn awr, teifl Dai ryw binsiad clochydd o raian yn erbyn y ffenestr, a gwrandewir fel am fynyd. Os na thycia hyny i beri ir golomen drydar a dangos ei hun, ychwanegir pinshed arall. Ond fel rheol maer ymosodiad cyntaf yn ddigon; oblegid gwyr y bechgyn i ble i fyned i gnoco, ac y maer merched ar y watch am danynt. Mentrem unpeth yn y byd fod Sal a Dinah y tu ol i lenni ffenestr lloft y gegin fach yn gwylio John dan bentis y tŷ gwair mor effro ac aiddgar ag oedd John ei hunain yn gwylior tŷ ai amgylchoedd. Ond os ywr merched yn meddu ar ddogn o gyfrwysder, arosant nes y bydd y bechgyn wedi lluchior grafel i gyd cyn y rhoddant un arwydd ou presenoldeb; a chyn y car carwyr dderbyniad i mewn, ceir weithiau yr ymgom ddoniolaf rhwng y parton - y crotesi yn anfaddeuol o brofoclyd tra yn cadwr cryts mewn ansicrwydd o barthed iw tynged, yn enwedig os bydd y tywydd yn oer, a hwythau wedi chwysu wrth gerdded tuag yno; ar cryts drachefn yn dwyn allan eu holl addnoddau i berswadio y teg ranod iw gollwng i mewn. Ond wedi gwastraffu digon o dalentau i wneyd County Council cymedrol, a dyhysbyddur holl adnoddau, un or merched i hysbysu merch y tŷ fod gwas Llwynmawr yn ymofyn ei gweled wrth ddrws y ffrynt, tra yr esgyna Dai ai gyfaill ar hyd ffyn yr ysgol, ac y diflanar naill ar ol y llall i ganol y tywyllwch dudew sydd yn gorwedd yr ochr tufewnol ir agorfa, fel pe bai anghenfil wedi agor ei safn au llyncu. Cauir y ffenestr yn ddystaw bach, tynir y llenni i lawr yn raddol, ac nid oes dim yn aros in hadgofio or olygfa ond - yr ysgol.

Mae ambell i ddygwyddiad trwstan dros ben yn cymeryd lle weithiau mewn cysylltiad r gwibdeithiau nosawl carwriaethol hyn. Erbyn y dawr carwr yn ol at y ffenestr am bedwar neu bump or gloch y boreu, gan feddwl dychwelyd ar hyd yr un ffordd ag y aethai, er ei syndod ai fraw, gwel fod yr ysgol wedi mynd, ai lle nid edwyn ddim o honi mwy! Golyga hyny iddo (os na fentra ei wddf ai esgyrn drwy hongian gerfydd ei ddwylaw, ai siawnsio hi oddiyno ir gwaelod) y gorchwyl diflas o dynu ymaith ei ddwy esgid (efallai am yr ail waith y noson hono), a chroesi cyfandiroedd peryglus dan arweiniad Sal cyn y ca afael ar y fynedfa allan. Ac nid yw yn syn iawn na ddawr gwr symudodd yr ysgol ar ei wr cyn iddo gael amser i roi ei draed yn ol yn yr esgidiau, ac y daw yn fater o iechyd iddo gymeryd y goes (os na lwydda i gymeryd yr esgidiau) gynted y gallo. Neu, hwyrach mai i garwr anffodus arall y mae i ddiolch am y tro; yr hwn, ar ol dod yno yn ddiweddarach gan feddwl cael noson gyda un or merched, a gweld fod y castell wedi ei gymeryd gan ei well, a ymddal ar ei gydymgeisydd llwyddianus trwy daflu yr ysgol i lawr; ac ymguddia yntau yn amyneddgar i wylio a mwynhau y canlyniadau. Ond odid, os bydd y ffenestr yn ddigon agos ir ddaear i warantu y tebygolrwydd ir nosgarwr ollwng ei hun i lawr, na rydd y gwr siomedig badellaid (ac os oes ganddo gydymaith, gasgenaid) o ddwfr yn union odditani; a phan ddawr truan ir lle, a gweled sefyllfa pethau, yn hytrach na chael ei wadnau mewn gwrthdarawiad terra firma pan ymedy r ffenestr, yn ol ei ddysgwyliad, ca ei hunan dros ei benliniau neu hyd ei ganol mewn dwfr oer, a dyna lle y bydd yn bustachu, fel cath ar foddi, ac yn torir ffigyrau rhyfeddaf cyn y llwydda i ymryddhau or gasgen ai chynwysiad. A phrin yr ychwanegir at ei gysur gan y grechwen a (x91) ddaw or tywyllwch gerllaw, ar chwerthiniadau iachus a dorant y naill ar ol y llall ar ddystawrwydd y boreu.

Maen ddrwg genym orfod dweyd fod y cyfathrach rhwng meibion a merched Dyffryn Tywi, fel rhai ardaloedd ereill, yn llawer rhy agos i fod yn ddiberygl, ar cyfleusderau a roddir iddynt i fyned at eu gilydd yn llawer rhy aml a hawdd i beri iddynt osod gwir werth ar eu cymeriadau moesol. Pan gofiom fod carur nos a charu yn y gwely yn parhau mewn bri nid bychan, ac mai egwan ywr lleisiau a gyfodant iw condemnio, nid yw ryfedd yn y byd fod rhan luosog o ferched ieuainc y wlad yn cael eu hunain yn mherthynas mam cyn cyrhaedd perthynas gwraig. Peth arall: er y dywedir mai cywilydd pobloedd yw eu pechod, ychydig, os dim cywilydd a gysylltir , ac a deimlir am, y pechod hwn gan y pechaduriaid eu hunain nau cymydogion yn gyffredinol. Go brin yr ystyrir ef yn bechod, heb son am gywilydd. Mae rhyw syniad llac am foesoldeb mewn rhyw arweddau neillduol yn parhau i fodoli yn y lle. Os oedd bod yn anmhlantadwy yn waradwydd i wraig yn
Israel gynt, bron nad yw meddu arwyddion ir gwrthwyneb yn nghyfrif y rhai hyn yn gymeradwyaeth mawr, e, mewn un nad yw eto wedi ei hieuo yn ol deddf gwlad. Yn wir, pan ddawr son fod hon-a-hon fel-hyn-ac-fel-hyn, y cwestiwn cyntaf a ofynir yn y cyffredin yw: Oes yna briodas i fod? Os mai nacaol fydd yr atebiad, tosturir wrth y ferch, druan, nid am ei bod yn y cyflwr annymunol y mae ynddo, ond am nad oes hanes am briodi yn y fusnes. Ond os mai fel arall y bydd, chlywir am na thosturi, na chondemniad, na chydymdeimlad, na dim or fath beth, ond pasir y cwbl heibio fel matter of course, oblegid y maer priodi sydd i ganlyn yn cuddio lluaws o bechodau or natur yna. Ond gan mai nid beirniadaeth, eithr desgrifiadaeth yw baich yr ysgrifau hyn i fod, rhaid ymatal.

Nid oes eisieu myned at Gwesyni wybod mai y rheol yw priodi ar ol caru. Fel y crybwyllwyd eisoes, mae gwahaniaeth mawr rhwng priodasau Dyffryn Tywi ar amgylchoedd yn y dyddiau diweddaf hyn, ar peth fuont ddeugain a haner can mlynedd yn ol. Maer teithiau wedi gorphen eu taith, ar neithiorau o ddiffyg ymgeledd wedi darfod am danynt. Ni chlywir swn camrau meirch yn carlamu am y cyntaf tuar Eglwys, nac ychwaith am y cyntaf yn ol, fel y bu. Mae llythyr priodas wedi mynd yn beth mor farw a Llythyr Cymanfa, ac y mae llawer iawn or hen rialtwch gynt yn nglyn phriodi wedi diflanu mor llwyr a phe na buasai erioed wedi bod. Ond y maer hen ffasiwn o briodi mewn cymaint bri yn awr ag ydoedd yn nyddiau ein tadau an mamau, au tadau au mamau hwythau; ac nid oes odid i wythnos (nac odid i ddiwrnod ar ambell gyfnod or flwyddyn) nad yw priodi a rhoi i briodas yn ffeithiau sylweddol a dyddorol dros ben.

Nid ir un man yr pob pr i briodi. Fe rhai, ydynt mewn nifer yn debyg i ffigys y proffwyd rhyw ddau neu dri yn mlaen y brig - ir capel i dderbyn y seremoni. Ond y maent fel ymweliadau angelion, ac yn beth newydd dan haul bob tro, i weld pr ieuanc yn chwilio am y capel i briodi! Ca eu gweinidog y fraint o fedyddio eu plant, au claddu, ar drudgery proffidiol o wneyd eu hewyllys weithiau, yn nghyd au claddu hwythau, bid siwr.
Ond y maer gweinidog ar capel allan o honi rywle pan yr yn bwnc o briodi. Cof gan lawer y cyffro fu ymysg Ymneillduwyr dros gael eu capeli yn rhydd i weinyddu priodasau ynddynt; tro trwy Ddyffryn Tywi a agorai lygaid yr ymwelydd ir ffaith mai llythyren farw yw y ddeddfwriaeth hono yma to all intents and purposes. Bu cyffro tebyg yn ddiweddarach dros gael y mynwentydd. plwyfol yn agored i weinidogion Ymneillduol i weinyddu gwasanaeth angladdol uwchben beddau eu haelodau; trem dros Ddyffryn Tywi a argyhoeddai nawddogwyr y Burials Bill fod y 48 hours (x92) notice hefyd wedi myned oddiyma i ryw Dead Letter Office neu gilydd, i bob pwrpas ymarferol. Oni fydd ein gwaith yn gwrthod y tafelli yn rheswm dros oedir dorth i ni? A ereill i Eglwys y Plwyf i briodi; ond Eglwyswyr selog yw y rhai hyn oll, gydar eithriad o ambell i br Ymneillduol hefyd. Ond ir offis - swyddfar cofrestrydd - y mae dylifiad pobloedd! Paham? Am yr eir yn llawer dirgelach, yr hyn sydd yn bwnc mawr gan rai. Rhowch faint fynoch o gyhoeddusrwydd ir claddu, ond rhaid priodi heb yn wybod i neb. Am yr eir drwyr seremoni beth yn rhatach hefyd yno, yr hyn sydd yn ystyriaeth bwysig gydag ereill. Sut bynag am hawliaur cofrestrydd ei hun. does yno yr un pregethwr i lygad trachwantus yn tynu coron neu chweugain o waelod eich llogell. Hefyd, am yr eir drwyr gwaith yn gyflymach yn yr offis or haner, a despatch syn mynd hi y diwrnod hwnw. Does yno ddim seremoni grefyddol, a rhyw drimmins felly, fel sydd yn y capel - dim ond torir enw - cris cross () - talur ffi - a dynar cwbl drosodd. Yr ydym yn llwyr argyhoeddedig mai un, neu ragor, neur oll or rhesymau uchod sydd wrth wraidd y duedd gref a dyn y nifer luosocaf o bobl ieuainc Dyffryn Tywi i ryw offis neu gilydd o Landdyfri i Gaerfyrddin, iw priodi. Ac wedi treulio haner diwrnod yn Abertawe, neu ryw Lan neu Aber arall, try Sal a Dai eu hwynebau yn ol, a dechreuant feddwl am fyw.
___________________________________________________________________

(x149) PENOD IV. PRIMIN (tudalennau 149-152)
___________________________________________________________________

Saif y gair uchod primin - yn ei berthynas ni yn debyg fel y safai Melchisedec gynt yn ei berthynas ai offeiriadaeth Heb dad, heb fam, heb achau. Nid heb lawer o drafferth, a chymaint a hyny o siomedigaeth, y daethom ir penderfyniad iw ychwanegu at y nifer lluosog o blant ymddifaid, yn mysg geiriau - y rhai nad oes genym gyfrif yn y byd iw roi sut na pha bryd y gwnaethant eu hymddangosiad gyntaf yn y cysylltiadau lle ceir hwy. Ond dyna lle y maent, mor gartrefol ar dafod y werin a phe buasai eu hanes iw ddarllen yn wyneb haul, llygad goleuni, au cofiant can rhated ag efengyl. A chan fod y gair anhymig hwn wedi herio ein holl lafur i ddyfod o hyd iw achyddiaeth, a mynu bod mor fud ar bwnc ei deulu ag ambell hen ferch adwaenom ar bwnc ei hoedran, nid oes genym ond ei drosglwyddo i ofal y darllenydd yn noeth ac amddifad fel y mae - os na chymer Nawdd-dy y Notes and Queries ef i mewn, gan ei osod yn ymgeisydd am henafiaid teilwng a bona fide. Wrth ei ynganu, gofaler am wneyd yr i gyntaf yn Saesnes, ar i olaf yn Gymraes, rywbeth yn debyg i hyn - preimin. Maen wir fod sawl cynyg pell ac agos wedi cael ei wneyd iw esbonio, ond nid oes yr un o honynt yn cymeradwyo ei hunan in boddlonrwydd, nar oll o honynt gydai gilydd, pe gwneid un esboniad gwych or cwbl. Ni fyddai ond chwysfa diangenrhaid i fyned ar eu holau yn mhell iawn; mae ambell un yn d o gywrain, yn rhy gywrain i fod yn naturiol; ac ambell un arall yn rhemp o chwerthinllyd, nes ein gorfodi i gredu fod yna ryw gam-chware wedi bod yn rhywle. Cysyllta rhai y gair rhyw fath o gwrw - Prime Ale - yr hwn (ebe efe) a arferid ei yfed ar y cae pan ddygid y gweithreidiadau yn mlaen, sef dracht yn awr ac eilwaith, ar gynllun ffair ocsiwn. Ond byddai yn llawn can hawsed genym lyncu y Prime Ale ei hunan a llyncur esboniad yma - a hwyrach yn haws, gyda phob dyledus barch i Syr Wilfrid Lawson. Tybia ereill mai ansoddair ydoedd i gychwyn, a ddefnyddid gan y gwyddfodolion i ddynodi rhagoroldeb y gweithrediadau, eu bod or dosbarth cyntaf, or radd flaenaf, hyny yw, prime; ac ir ansoddair bach dyfu, a chwyddo, a dyfod o dipyn i beth yn enw mawr ar y miri poblogaidd sydd yn dwyn y teitl primin yn Nyffryn Tywi. Mae hwn yn fwy synwyrol nar llall; ond y maer daith yn ormod or ansoddair ir enw, ac y maer dybiaeth fod rhyw air cyffredin felly, a ddefnyddid mewn modd cyffredin, yn myned mor anghyffredin nes llyncur consarn i gyd iddo ei hun, yn dybiaeth rhy anghyffredin iw chredu. Am hyny, ni ai gadawn i dynged ffydd heb weithredoedd. Y cynyg goreu o ddigon yw yr un a ddywed mai cyfeiriad sydd yn y gair at ddechreuad gwaith y tymor - mai yn y primin y maer cyweirnod yn cael ei daro, neu y cychwyniad yn cael ei roi i weithrediadaur gwanwyn - ac mai yn y gair prime (cyntaf) y ceir y drychfeddwl. Dynar syniad y byddai y gogwyddiad cryfaf ynom tuag ato pe na cheid ei well; ac eto nid ydym yn teimlo yn gartrefol yn ei gwmni yntau chwaith.

Wedir siarad i gyd, beth, ynte, yw primin ? Wel, mewn Cymraeg gln, gloew, dyna yw - ymdrechfa aredig. Ond am bob un a gewch i ddweyd ymdrechfa aredig yn Nyffryn Tywi, chwi gewch gant (heb ddweyd anwiredd) i (x150)
ddweyd primin. Beth bynag am y gair, nid yw ymdrechfeydd aredig yn gyfyngedig ir Dyffryn. Y maent iw cael bron yn mhob ardal amaethyddol. Darllenwn am danynt yn y newyddiaduron, a chlywn eu hanes gan ddyeithriaid a dyfodiaid yma o wahanol gyraur Dywysogaeth. Mae yn dygwydd yn aml y ceir lluaws o honynt yr un tymor yn yr un plwy. Anturiar ffarmwr i gyhoeddi ac i gynal primin ar ei gyfrifoldeb ei hun, ac ar ran oi dir ei hun, bid siwr; a chyda chydweithrediad arianol a gweithiol cymydogion ac ereill, daw trwyddi yn burion, a thryr anturiaeth yn fantais (ar y pryd), efallai, i boced y ffarmwr - ond nid yn fantais iw boced nai dir yn y pen draw. Lle mae ymdrechfa flynyddol wedi ei sefydlu yn y plwy, ni chymeradwyir, ac ni chynorthwyir yn sylweddol y mn ymdrechfeydd hyn, am eu bod yn milwrio yn erbyn llwyddiant y fwyaf, ac yn tueddu iw gwanychu yn ei hanfod, sef y tanysgrifiadau. O ganlyniad, ymdrechir i wneyd i ffwrdd ar sprats bob blwyddyn, fel y gallor morfil-brimin mawr gael digon o le i chware, a magu brasder at wasanaeth y dynion sydd yn byw ar ei gefn llydan.

Bernir yn gyffredin mai ar ffermdir Llwyngwyn y cymerodd y primin cyntaf le yn ardal Dyffryn Tywi, a hyny o gwmpas haner can mlynedd yn ol. Gyda llaw, gelwid ef y pryd hwnw, ac am flynyddoedd wedi hyny, yn brimin moelyd. Awgryma hyn y tebygolrwydd ir gair sydd uwchben ein hysgrif fod o ddefnyddiad eangach a mwy cyffredinol rywbryd nag ydyw yn awr, a bod amryw briminod, megys priminod saethu, &c., heblaw priminod moelyd (neu aredig}, mewn bri yn y Mynyddoedd gynt. Teimlwn fod y termau hyn i raddau yn anystwyth a chlogyrnog iw hysgrifenu au darllen, ond nid oes genym ddewisiad amgen na thraethu am danynt yn mhriod-ddull y wlad ai brodorion. Bob yn dipyn, syrthiodd y gair moelyd yn y cysylltiad hwn allan o arferiad; ac er y parheir iw ddefnyddio am aredig syml a chyffredin, y mae wedi derbyn llythyr ysgar oddiwrth ei hen gydmar er ys dros ugain mlynedd - a phan y sonir am ymdrechfa aredig yn awr, nid fel primin moelyd y gwneir hyny, eithr primin, pure and simple. Yn yr ymdrechfeydd cyntefig ddeugain a haner can mlynedd yn ol, erydr coed oedd yn y ffasiwn; hyny yw, yr oedd eu defnydd i gyd, oddigerth y swch ar cwlltwr, o bren. Tyfasai y pren, or hwn y gwnaethid yr aradr, mewn daear Gymreig, ac oblegid hyny gelwid y math yma o aradr yn Welshen.

.....Arnod gref, dwy heiddel rymus,
.....Brn, a chwr, a chleddau graenus,

a gyfansoddai saernaeth y Welshen. Dyma hen oruchwyliaeth yr erydr. Gofynodd rhywun mewn hen gyhoeddiad pwy oedd y gwneuthurwr erydr cyntaf, ac atebwyd ef yn bur ddiapl gan henafieithydd o awdurdod, mai

.....Noah oedd tad yr holl aradrau,
....A Thubal Cain yr holl gwlltwrau:

ac yn mhellach, fod y Welshen or un blan yn gymwys r aradr y cawsai (neu y teilyngai) Noah gael patent arni! Nid oes dim or math hyn ar gael erbyn heddyw; ac er mor dda fuasai genym ddod o hyd i engraff or hen ddull o dynu cwysi, rhaid boddloni ar ond yr hanes am danynt. Ac am y ceffylau hefyd y dywedir:

.....Offer brwyn oedd gan ein tadau,
.....Rheffyn gwellt oedd eu mwncau;
...Hait a hŵe oent hwyn waeddi,
.....Nid Come here a Gee Doxy.

Dilynwyd y Welshen gan Scotchen, yr hon, ni dybiwn, ddygwyd drosodd o Ysgotland, ar hon, hefyd, oedd gryn welliant ar ei chwaer oedranus. Yr oedd mwy o tonic (haiarn) yn nghyfansoddiad Scotchen nar llall, yr hyn ai gwna yn gryfach a mwy parhaol.
Ond y mae Scotchen hithau wedi myned i ffordd yr holl erydr hyny bellach, ac amryw oruchwyliaethau wedi di a mynd ar ei hol. Pe y dygwyddai i hen bobl dda y dyddiau a fu gerdded i (x151) faes primin, yn Nyffryn Tywi heddyw, byddai llawn can hawsed iddynt gredu taw ar faes rhyfel y safent ag mewn ymdrechfa aredig. Ac ni synem, wrth gymharu gwelliantau y Mynyddoedd diweddaf phosibliadau y deng mlynedd nesaf, na welir, cyn y daw y tymhor hwnw i ben, aredig llethr, gwastad, a gwndwn wrth nerth ager.

Gair neu ddau am y primin blynyddol. Cynelir hwn, fel cymanfa neu eisteddfod genedlaethol, yn y man y ca wahoddiad iddo. Anfynych y bydd yn yr un man - ar yr un fferm a feddyliwn - ddwy flynedd yn olynol. Eistedda pwyllgor a fyddo yn cynrychioli gwahanol ranaur plwy ar ei achos, yr hwn a wneir i fyny o gadeirydd, ysgrifenydd, trysorydd, a stiwardiaid - a dynion bach cyffredin yn cyfansoddi y rhelyw. Cyfarfyddant i drin ac i drafod yr holl amgylchiadau mewn tafarn; ac er mwyn bod yn hollol ddibartiol yn mhob peth, nawddogant holl dafarnaur plwy yn eu tro. Y pwyllgor sydd yn dewis beirniaid, yn cyfartalur dosbarthadau, ac yn penderfynur gwobrau. Mae ir primin hwn ei danysgrifwyr blynyddol, y rhai a rifir o blith gwyr y cwn hela, yn benaf; ond yn ychwanegol at hyny, rhoddir llyfr i bob aelod or pwyllgor, a chyfeillion ereill sydd yn ddigon teyrngarol ir sefydliad i aberthu llawer er ei fwyn, gydar amcan o geisio help gan hwn ar llall i gadwr primin i fynd. Cyhyd ag y bydd y llyfrau casglu allan, y maent dan eich trwyn yn barhaus. Mae bron yn berygl bywyd i chwi fyned or ty; ac am fyned i dre farchnad, chwi allwch gyfrif eich hunan wedi eich geni dan blaned lwcus iawn os cewch fod genych ddigon yn weddill i dalu am ler ceffyl (heb son am yr osier) cyn dychwelyd. Mae llawer o blwyfi yn cydgyfarfod yn y dre farchnad, a phob wy ai brimin, a phob primin ai lyfr casglu. Nid oes eisieu goleuor darllenydd - pe mai mewn pwll glo y treulia ei getyn - yn y ffaith mai yr un tymor ar y flwyddyn yr aredir y ddaear, ac, o ganlyniad, fod priminod (x151) yr holl wlad o fewn cwmpas ychydig wythnosau iw gilydd, Dychymygir bellach yn rhwydd y fath nuisance yw llyfrau casglu y sefydliadau hyn, yn enwedig pan y dywedwn eto na chewch gerdded odid i gam ar draws nac ar hyd yr heol, beth bynag fyddoch busnes, heb i ryw law annhrugarog ymaflyd yn ngholer eich cot, a llaw arall (ei chwaer, yn ddiameu) ddal tamaid o lyfr cownt o fewn agosrwydd annymunol ich gwyneb, oedd a mwy o ol bodiau ar ei ddail nag o l arian yn ei golofnau. Parotoir ar gyfer yr ymdrechfa am ddyddiau lawer, ac y mae yr entries ar bapyr yn lluosocach dipyn nar entries ar y cae. Bydd bechgyn a gweision ffermydd wrthi fore a hwyr fel am fywyd yn cymhwyso eu hunain au ceffylau ar gyfer dydd y frwydr. Benthycir erydr, benthycir ceffylau, a benthycir dynion. Beirniedir y beirniaid cyn eu dyfodiad - mynir gwybod eu hanes au holl gymhwysderau, a rhoddir pwys mawr ar gael datguddiad ou chwaeth au harddull eu hunain. Or diwedd, gwawriar dydd, a daeth yr awr. Maer cae yn fyw i gyd gan ddynion ac anifeiliaid. Dymar beirniaid ag y mae llygaid y cystadleuwyr arnynt mor sefydlog ag y bydd eu llygaid hwythau ar y cystadleuwyr maes o law; a does dim byd yn arswydlawn iawn yn eu hymddangosiad. Dymar ymgeiswyr - pigion aradwyr y wlad am bymtheg milldir o amgylchedd. A dymau ceffylau, au cefnau uchel a llydain, au mwng llaes wedi ei gribo yn ofalus, au crwyn yn dysgleirio yn mhelydraur haul, au morddwydydd preiffion, au pedion rhawnog, au cynffonau plethedig wedi eu haddurno chnotiau o ribanau aml-liwiog. Dymar erydr - grwyrion yr hen Welshen ar Scotchen - yn edrych mor ln a gloew a phe na baent wedi eu pwrpasu ond i fod yn ornaments ar y cae. Yn y fan acw y gwerthir bwyd a diod am brisiau rhesymol, ac y mae mwy o fynd ar y ddiod nag sydd ar y bwyd. Hwnt ac yma ar hyd y cae, gwelir hen wragedd (gan mwyaf) wedi cario eu holl stoc o (x152) losin, a chacs, a chnau, a ginger pop, ir primin, ac yn gwneyd cystal masnach a neb yn y lle. Wedir gwahanol ymdrechfeydd, cyhoeddir enwaur buddugwyr cyn gadael y cae; yna, symudar pwyllgor au ffryndiau eu pebyll i barlwr y Brown Cow gerllaw, lle yr yfant iechyd da ir primin ai holl gysylltiadau, o hynyn mlaen i stop tap.

___________________________________________________________________

(x181) PENOD V. - SADWRN YN Y DRE. (tudalennau 181-184)
___________________________________________________________________

Mae yn aros yn Nyffryn Tywi dair o drefi a gyfrifir yn bwysicach nau gilydd, Llandyfri yn y pen gogleddol, Llandilo yn y canol, a Chaerfyrddin yn y pen deheuol; y tair hyn; ar fwyaf, yn nghyd ar bwysicaf or rhai hyn yw Caerfyrddin. Fel pob tref arall sydd yn dibynu am ei bywioliaeth ar y cylch amaethyddol y mae yn ganolbwynt iddo, y maer trefi hyn yn ddiarhebol am eu cysgadrwydd poenus au tawelwch unffurfiol dros y rhan fwyaf o ddyddiaur wythnos, o wythnosau y misoedd, ac o fisoedd y flwyddyn. Y maent ar yr amserau hyn fel pe baent o dan lywodraeth ysbryd y gwastad-dir au cylchyna, a chyfranogant yn helaeth o nodwedd flat y wlad oddiamgylch - nodwedd a gyll y swyn a berthyn iddi yn y wlad, mor gynted ag yr i ganol ceryg a phriddfeini y dref. Ewch i Gaerfyrddin ar ddiwrnod cyffredin or wythnos am y waith gyntaf erioed yn eich bywyd, ac fen synir yn fawr os na fyddwch, cyn dychwelyd y noson hono, yn barotach iw galw wrth yr enw Necropolis-dinas y meirwon - nag wrth un enw arall. O ben uchaf Heol Prior i ben isaf Heol Awst, bron na fedrwch rifo y personau a gyfarfyddwch, ar benau eich bysedd. Nid oes dim iw weled ond tai - tai, tai, yn fasnachdai a thafarndai, gan mwyaf; na dim iw glywed ond cyfarthiad breuddwydil ambell i Rip Van Winkle o gi, sydd byth a hefyd yn cysgu ar draws rhiniog siop ei feistr, pasiwch pryd y mynoch; a murmur undonog plant yr ysgol sydd yn y drill draw. Chwi gewch gerdded bron drwyr dydd heb glywed neb yn gofyn eich hynt, na gweled neb i ofyn eu hynt, nes peri i chwi deimlo fel Alexander Selkirk: - nad oes neb byw i amheu eich hawl i fod yn frenin - neu faer - yr anghyfaneddle i gyd. Ar hyn sydd yn wirionedd am y naill sydd wirionedd am y lleill. Y maent fel tair chwaer oedranus yn cysgu yn yr un gwely - a gwely braf yw Dyffryn Tywi - am bump o ddiwrnodau allan o saith; a gwaith ofer yw i chwi geisio eu dihuno, oblegid fel rhai gwragedd parchus adwaenom ydynt yn yr arferiad o ymneillduo ar ol y ginio Sabbothol, felly hwythau, hwy fynant gael eu nap i ben, a deued hi fel ag y dl.

Ond y maer hen chwiorydd yn gofalu dihunon brydlon ar foreu dydd Sadwrn, neu foreu dydd ffair, ac ni ddaw cwsg yn agos iw llygaid, na hn o fewn can milldir iw hamrantau drwy gydol y dydd hwnw. Ac yn awr, gadewch i ni dreulio rhan o ddydd Sadwrn yn mhrif dref y Dyffryn, a cheisio desgrifio yr hyn a welwn ac a glywn goreu byth y medrwn; efallai y cawn gyfle eto cyn diwedd y flwyddyn iw gweled yn ei holl ogoniant ar un or ffeiriau.

Mae Sadwrn y dre yn dechreu yn gynar prydnawn dydd Gwener yn y wlad. Dynar pryd y dechreuir y parotoadau, ac y dygir hwy i derfyniad, o ran hyny, fel na byddo dim yn eisieu boreu dranoeth ond codi a gwisgo, brecwasta a chyfrwyo, a gwneyd pethau angenrheidiol a chyffredin ereill, y rhai a wneir bob boreu. Prydnawn dydd Gwener y lleddir y dofednod, yn hen ac yn ieuainc, ac y plyfir ac yr ysgiwerir hwy yn barod ir daith or hon ni ddychwelant y dydd dilynol; y rhifir yr wyau ac y pwysir yr ymenyn; ac os bydd mynd ar y fasnach foch, gwneir llety symudol i oddeutu dwsin o (x182) byrcs, yn gymwys i dderbyn y boneddigion ar funud o rybudd gogyfer an trosglwyddiad i fachau rhyw fochwr neu gilydd dranoeth. Glanheir y ceir o bob llwchyn ha neu laid gaua (fel y bo), sydd wedi glynu wrthynt ar ol taith y Sadwrn blaenorol, neur Sul ir cwrdd, neu ryw hynt o helynt arall - a rhwbir yr offer nes bor rhwbiwr yn gallu gweld ei wyneb llon yn adlewyrchu ynddynt. Ni char ceffylau ddal ati yn hwyr nos Wener, ond cant noswylio yn gynar, a digon o amser i orphwys a magu ysbryd erbyn taith y bore - ac y maer gweilch yn gwybod hynyn burion bellach; os ydych yn ameu, treiwch eu cadw ou gwl y noson hono yn hwy nag arfer. Os mai un or ceirt, neur gambo, sydd yn mynd i lawr, caiff fyned mor syber a pharchus ag y maen bosibl i greaduriaid afrosgo a lledchwith or fath fod; a chwilir am y gwellt glanaf, pereiddiaf ei sawr, iw osod yn ngwaelod y fen, fel na fydd raid ir ffermwraig ei hunan, pa mor binco bynag y dichon fod ar achlysuron cyhoeddus or natur yma, ofni eistedd na gorwedd arno mwy na phed eisteddai ar ei hesmwythfainc oreu yn ei pharlwr clyd, neu y gorweddasai ar ei gwely o fanblu yn ei hystafell wely ei hun. Ofer yw i chwi gyhoeddi oedfa, neu gyfarfod o unrhyw fath, ar nos Wener, os am gynulleidfa galonogol - nid aem ry bell pe dywedem y byddai yn haws i chwi gael dynion at eu gilydd i ffurfio cyfarfod ar nos Sadwrn nac ar nos Wener; yn sicr, byddech yn debycach o gael llawer mwy o fywyd ynddo, os byddai rhai o honynt wedi bod yn y dre y prydnawn hwnw. Anaml y dewisir y nos hon gan y bechgyn fynd i garu, er maint eu sel yn y cyfeiriad hwn; oblegid nid yw caru drwy oriau mn y bore - heb son am y cerdded - yn cytuno r dyledswyddau y rhaid eu cyflawni gyda thoriad y wawr.

Bellach, maen bryd i ni ei gwadnu tuar dref. Os mai gyda thren y bore y dewiswn deithio, ceir hwnw yn llawn o farchnadwyr a marchnad-wragedd, au basgedi o bob maintioli a llun - mor llawn fel mai mater o dreisior deyrnas ydyw i greaduriaid bach cyffredin fel ni gael lle ymysg y dyrfa amrywiog. Tra yn son am fasgedi, y mae un rywogaeth o honynt, yn ol pob hanes, wedi eu creu o bwrpas i fod yn ddrain yn ystlysau dyn (yn llythyrenol), ac yn swmbwl iw amynedd. Basged fawr, ysgwar yn mron, ydyw, heb ddim dyfnder ynddi, ond a wna i fyny am y diffyg hwnw gyda llg mewn lld or fath fwyaf digalon. Ei gwasanaeth penaf ydyw cario ymenyn ir farced. Lle bydd degau o honynt ar y platform yn dysgwyl y trn i mewn, a chwithau mewn brys i gael congl gysurus i chwi eich
hunan, dyna lle bydd brwydr! - ond brwdrwch chwi a gwingwch faint a fynoch, chwi ddewch i deimlo yn fuan mai eich nerth fydd bod yn llonydd. Pan y cewch eich hunan wedi eich gwasgu yn dyn rhwng cylch o fasgedi heb yn wybod i chwi, nes y byddoch yn dwyn rhyw debygrwydd ir Light Brigade yn y charge bythgofiadwy hwnw - ac eithrior basfedi yn ller cyflegrau - ac mai po daeraf y boch ceisiadau i ymryddhau or caethiwed, lleiaf i gyd yr eich gobaith y llwyddwch i wneyd hyny, yr ydym yn bur sicr y cyd-dystiolaethwch ni fod y sefyllfa yn un brofedigaethus ir eithaf. A phan y gorfodir chwi i fyned ir cerbyd yn eu cwmni, ac y tynga un o honynt y myn wybod rhif eich asenau cyn cyrhaedd Caerfyrddin; pan y daw yn fater o reidrwydd arnoch i eistedd yn dawel am ugain munud o dan y prociadau gogleisiol a phoenus hyn i gyd, heb son am bwysau basged arall ai chynwysiad a rydd ei hunan yn ddigenad ar eich dwylin or ochr gyferbyniol - anturiem unpeth yn y byd eich bod yn barod er ys meityn i ychwanegur poenydwyr hyn at nifer gelynion eich heddwch ach tymer dda. Ond os mai ar hyd y ffordd yr ewch, cewch gwmni ceir gwychion au meirch porthianus; hen geir, a hen geffylau yn eu tynu, ar ceffylau ymron ac ymddadgysylltu fel y ceir; ceir marchnad, yn edrych mor drwm a phwysig a phe (x183) cynwysent dynged holl brisiau a nwyddaur sir; ambell i gart a donci yn mynd mor ysgafndroed ac annibynol nes codi eiddigedd ar ddosbarth y ceir trymion, a chodir chwip ar y ceffyl, druan; ceirts boddog a thrystiog, yn mynd mor dawel a phe na byddai ond dydd Sadwrn mwy byth i fod; pedrolfenni hirion yn mynd dan yr enw paganaidd gambos, ar ddau farch sydd yn eu tynu bob amser yn trotian, oddigerth i fynyr tyle; llu o wyr meirch, ac nid ychydig o wyr traed - ar oll yn cyfeirio tuar hen dref gysglyd, swrth, a welsom y dydd or blaen.

Ond hawyr! ai tybed mai yr un ydyw? Yn yr orsaf y mae cerbydres ar ol cerbydres yn arllwys eu cynwysiad o wyr a gweision, merched a gwragedd (ys dywed pobl Morganwg), ar basgedi anocheladwy, ar twbiau adnabyddus; nes bod y lle cyfyng yn un gymysgfa fyw or Babel creulonaf a chwdyn y saint ar scale anghymedrol. Or naill ben ir llall i Hewl Prior y mae catrawd i gludau o bob lliw, llun, a lle, wedi eu gosod yn rheng hir, fel be byddent yn aros y gorchymyn i wneyd galanastra o honi ar yr adeiladau yr ochr draw. Cewch olygfa debyg yn Heol Awst, ar mn heolydd ymganghenol. Os am gael gwybod ple maer meirch, ewch ir ystablau sydd ar eu cyfer; ac os am gael gwybod ple maer nifer luosog oi perchenogion, ewch iw hystablau hwythau, sydd yn perthyn ir un sefydliad y dafarn. Mae dirwestwyr Caerfyrddin ar amgylchoedd yn crynhoi at eu gilydd yn awr ac yn y man i chwythu bygythiau a chelanedd yn erbyn ffermwyr a phobl y wlad yn gyffredin, am eu bod, pan ddeuant ir dref, yn gwneyd y tafarndai yn lleoedd i ystablu eu hanifeiliaid, ac yn fanau cyfarfod i drafod eu busneson eu hunain ynddynt. Codent hwy dai cyhoeddus ereill iddynt yn gyntaf, au cyfleustra cystal ag eiddor tai presenol, ac os na thynir nifer y tafarndai i lawr ar ol dwy flynedd o brawf, cwynent wedyn. Maer hen dre yn fywyd i gyd. Pwy ddiwrnod yr oeddym yn synu o ble yr oedd yr holl fasnachwyr yma yn mynd i gael digon o cement bywyd i gadw corff ac enaid wrth eu gilydd; heddyw, maer ofnau ar pryderon oll wedi diflanu - ar syndod yn awr yw, sut y maent yn llwyddo i fedru cadw digon o stoc i gyfarfod ar diluw pobl sydd yn myned i mewn ac allan trwy gydol y dydd. Rhyfedd fel y mae pobl y wlad yn cyfnewid pan y deuant i awyrgylch y dre ddydd marchnad; oblegid gartre, pob un ar ei oreu i feindio busnes ei gymydog yw trefn y dydd, ond yma heddyw, mae pob un ar ei oreu yn meindio ei fusnes ei hun. Cewch ddigon o gyfreithwyr yn mhrif dref Dyffryn Tywi, yn edrych yn dordyn a graenus, ar gwladwyr, gan mwyaf, sydd yn eu porthi. Mae at-dyniad anghyffredin i rai on cymydogion yn llys yr ynadon, neu lys y cwrt bach; a gwyr y lluaws ble i gael gafael arnynt unrhyw awr or dydd, cyhyd ag y bydd y cwrt yn eistedd. Adwaenom un sydd yn y dre bob dydd Sadwrn fel y cloc, heb unrhyw neges yn y byd ganddo ond sefyll i wylio gweithrediadaur ynadon yn y Town Hall; ac er na wyr air o Saesneg, nac ond y Cymraeg mwyaf ymarferol, dynai nefoedd ar y ddaear yw treulior oriau yn y diffeithle hwn, yn gwbl anghofus o fodolaeth pobpeth arall. Gofynwyd iddo rywdro pa bleser a gafiai yn y lle annyddan, ac yntau mor anwybodus oi iaith ai arferion, a dyna oedd ei ateb -

Mae nhwn dishgwl mor ffyrnig ar i gilydd, welwch chi!

Rhyfedd cyn lleied syn llanw dedwyddwch ambell i ddyn ar y ddaear. Clywsom am un arall oedd mor hoff o ddod ir dre fel nad elai Sadwrn heibio heb ei fod yn ei hanrhydeddu i phresenoldeb; ac ar ol cerdded saith milldir i gyrhaedd yno, prynair Faner, a cherddai saith milldir yn ol! Ceir maelfar llyfrwerthwr yn llawn hyd yr ymylon heddyw - gwyr yr eisteddfodau yn chwilio am eu darnau cystadleuol, bechgyn yrYsgol Sul yn speculatio ar yr esboniad goreu, a phobl y Sunday made easy yn prynur papyrau lleol iw bwyta au treulio dranoeth. A welwch chwi y dyn acw yn sefyll wrth y drws fan draw, ac yn edrych dros yr ysgwydd (x184) yma a thros yr ysgwydd arall bob yn ail, fel y llofrudd gynt yn Israel yn ofni i ddialydd y gwaed ei ddal cyn i borth y ddinas noddfa gael ei agoryd iddo? Drws tŷ un o feddygon y dre yw y drws y mae yn sefyll wrtho, ac y mae arno ofn yn ei galon iw ddoctor ei hun yn y wlad ddod i wybod ei fod wedi bod yn ymgynghori doctor y dre, ac yntau yn derbyn ei foddion o hyd. Pob lwc iddo, druan! Os mai am iechyd y mae, pa wahaniaeth iddo ef na neb arall pa un ai trwy ddoctor y wlad ai trwy ddoctor y dre, ai yn annibynol ar y ddau, y daw?

Gresyn fod Syr John Heidden yn chwareu rhan mor bwysig ar ddydd Sadwrn yn nhrefi Dyffryn Tywi!

Craffwch ar y dyn trwsiadus yma sydd yn dyfod ich cyfarfod - dillad da am dano, ond yn berffaith hen faril - ei lygaid fel llygaid pysgodyn, ac yn cerdded mor hercog a phe byddai newydd lanio o Batagonia.
Ah! y maer hen genaw wedi ein hadnabod.

Shwd-ch-hedd-syr? Nabod-i? Clwes-ch-pgthu-yn --. Do - myn --. Nabod-i? Pgthwr-da-fleinig-dychi. Ael-od-yn -- dw i. Pob-parch-syr!

Mae cymaint oi hanes, ag a fedrodd y dyn ddweyd, yn wirionedd, ac fel maer gwaethar modd, y mae iddo frodyr lawer yn y dref ar ddyddiau Sadyrnau. Hwyrach y bydd hwnw yn gwrando arnoch yn pregethu bore fory, ai lygaid mor loew ag ydyw heddyw o bwl; a does dim llawer o drust na fydd yna elfenau cysegredig yn pasio och llaw chwi iw law yntau, ac oi law yntau i ddwylaw ereill, cyn y terfynor oedfa.

Rhwng dau a thri or gloch y prydnawn, bydd y boblogaeth yn dechreu teneuo. O hynyn mlaen hyd bump maer llanw yn myned yn ol yn gyflym. Ar anifeiliaid adref fel dynion, ond a llawer or dynion adref fel anifeiliaid. Gwelwn rai a ddaethant ir dref yn y bore mor araf a Moses, yn dychwelyd yn mrig yr hwyr mor ynfyd a Jehu. Erbyn saith, maer benod olaf yn yr Exodus hwn wedi ei dirwyn i fyny.

A phe deuech yma foreu dydd Llun, caech eich hen ffrynd Rip Van Winkle yn yr un man yn union ag y gwelsoch ef ddiweddaf, ar draws rhiniog siop ei feistr. A dyna i gyd.



___________________________________________________________________

(x221)
PENOD VI. - SUL CWRDD MAWR. (tudalennau 221-224)
___________________________________________________________________

Ir meddwl llonydd, breuddwydiol, y mae y wlad yn nghanol haf, pan wedi ymwisgo yn ngwisgoedd ei gogoniant, yn fwy o Baradwys na dim a welodd De Quincey erioed yn myd yr opiwm, yr ysbaid fwyaf hudoliaethus a aeth dros ei ben. Sylwar darllenydd ein bod yn cysylltur fraint hon a dosbarth neillduol o feddyliau - y meddwl myfyrgar ac ystyriol: am nas gwaeth gan y dosbarth cyferbyniol - y meddwl gwamal ac arwynebol - pa un ai y dref ai y wlad fyddo ei amgylchoedd. Tebyg ywr meddwl gwamal i ddyn ar gefn olwynfarch (bicycle), yn teithio deng milldir yr awr, ac er pasio trwy ganol y golygfeydd rhamantusaf yn ogystal ar mwyaf diramant, y mae yn gwbl ddall iddynt oll - yr un dynged a gar naill ar llall ar ei law, ar un ffunud yw byd Duw a byd dyn iddo ef. Ond y maer meddwl myfyrgar fel gwr boneddig yn ei gerbyd, ai ewyllys ei hun yn trin yr awenau, yn gallu mynd fel y myno ac aros pryd y myno; ac fel gwr boneddig o chwaeth bur a choeth, ca fod yna fwy o gyfatebiaeth rhwng y wlad ai golygfeydd ai ansawdd ei hun - yma y teimla yn gartrefol; a dyma lle mae ei fwyd ai ddiod. Os goddefir i ni newid y gymhariaeth, nid annhebyg ir pili pala ydywr naill, ai sylw yn cael ei ranun gyfartal rhwng yr holl wrthddrychau a ddeuant o fewn cylch ei ehediadau, aigusanaun gyffredin iddynt i gyd; ond tebycach ir wenynen feriniadol ywr llall, ai sylwn ddewisolach, ai chusanaun brinach, na orphwys oddigerth ar y blodau cyfoethocaf, ac na foddlonir ar lai nar gwir yn nheyrnas y persawrau. Ir cyfryw feddwl llonydd a breuddwydgar, sydd a dogn o lefain crefyddol yn rhedeg drwyddo, y maer dydd Sabboth yn y wlad, yn anad un o ddiwrnodaur wythnos, yn enwedig y tymor hwn or flwyddyn, yn gyfystyr ag un o ddarnau goreur nefoedd.
.
Nid ydym yn credu fod yn bosibl cael golygfa fwy swynol ar y ddaear nar hon a fwynhawyd genym y Sabboth sydd newydd basio pan yr ydym yn ysgrifenu y llinellau hyn. Er ein bod yn ddigon cynefin ar wlad yn ei holl amrywiaeth er ys blynyddau bellach, yr oedd yna ryw newydd-deb y diwrnod y cyfeiriwn ato ar bob peth, ag oedd yn gwneyd yr hen wlad yn newydd bob modfedd o honi. A dyna hanfod ei rhagoriaeth ar y dref. Tra y cewch y dref yn y cyfanswm o honi, er byw ynddi am ugain mlynedd neu ragor, yn cyflwyno ich llygaid yr un ymddangosiad drwy ystod yr amser yn ddidor, chwi gewch y wlad yn myned trwy drawsffurfiadau dirif a gogoneddus mewn ysbaid blwyddyn, o waith Duw a dyn, y fath ag ach teifl i ystad o foddusder annesgrifiadwy, ac ach gwna yn fardd o dan eich dwylaw. Maer Sabboth yn Juwbili cyffredinol trwyr wlad, ir tir, yr anifeiliaid, ar dynion - oddieithr yr hyn sydd hanfodol angenrheidiol iw gyflawnu. Ni chlywir swn morthwylion, fel yn y trefi, i dori ar yr ysbryd addolgar; na bloedd gynffonfain y llaeth-werthwr i daflu surni i lyn y myfyrdod crefyddol; ac ni cheir ysgrechfeydd annaearol peiriaint o unrhyw natur, fel yn y gweithie, i darfur meddwl ystyriol oddiar bethau sydd uchod, ai fesmerio i aros ar bethau sydd ar y ddaear. Dylanwadir arnom gan y tawelwch lleddfol a deyrnasa on cwmpas; yr asur laswen uwch ein pen a
(x222) sieryd wrthym am asur lasach sydd uwch; y porfeydd breision yr ymlwybrwn trwy eu canol; y meusydd llawnion sydd yn cyflym addfedu ir bladur ar cryman; y perthi plethog ar cloddiau blodeuog a geisiant ein dal yn garcharorion mewn cadwyni or peraroglau moethusaf; y da a edrychant arnom au llygaid difynegiant dros lwynir gwrychoedd o bob tu; yr adar ach dilynant dan ganu o frigyn i frigyn, ac ach hebryngant nes y byddwch yn ddigon pell o gymydogaeth eu rhai bach; yr awel fwyn a sibrwd ddirgelion y bore dan chwerthin yn nghlustiaur dail; ar afon a furmur ei Hen Ganfed mor gerddorol ag erioed yn y pant odditanoch - fel, erbyn y cyrhaeddwn yr addoldy diaddurn y bwriadwn gyfarfod Duw ynddo, y byddwn wedi cael ein gweithio ar y ffordd ir cywair y medr Ysbryd Duw chwareu arno.

Os oes un Sabbcth yn gysegredicach nau gilydd yn marn a chyfri pobl Dyffryn Tywi - os oes un yn dyrchu ei ben, fel rhyw Saul fab Cis o Sabboth, yn uwch nar Sabbothau cyffredin o gwmpas - ac os oes un y gwneir mwy o ymdrech i fod yn bresenol yn nghyfarfodydd y saint arno nar llall, y Sabboth sydd yn myned dan yr enw Sul Cwrdd Mawr yw hwnw. Syrthiasom mewn cariad r enw y tro cyntaf y clywsom ef, ac nid yw wedi colli ei swyn i ni eto ar ol ymgydnabyddiaeth blynyddau. Onid oes yna urddas yn perthyn iddo sydd yn gosod mawredd
arno? Yn ei bresenoldeb gwelwa yr enwau ystrydebol Sul Cymundeb a Sul pen mis, megys y gwelwar lloer; ar sr yn mhresenoldeb yr haul, hyd nes na byddo dim o honynt. Onid oes yna ryw briodoldeb tarawiadol yn yr enw yn ei berthynas r gwaith tarawiadol a ddygir yn mlaen arno? Dydd gwledd dinasyddion Sion, diwrnod cofio pen Calfaria, pan y darllenir ewyllys y Brawd Hynaf, ac yr ad-dyngwn ein llw ffyddlondeb mewn gwaed! O ie, Sul Cwrdd Mawr mewn gwirionedd! Ceisiwn ddesgrifio ei brif olygfeydd, os medrwn.

Oni fydd rheidrwydd anocheladwy yn galw, anaml y ceir tŷ heb fod yn wag yn mhlith tai crefyddol y wlad y diwrnod hwn, yn enwedig y bore. Mae yn bwnc dealledig yn y teulu or parlwr ir gegin nad oes neb i aros gartref heddyw, ac y maer parotoadau ar gyfer y symudiad mawr cyffredinol wedi dechreu yn blygeiniol iawn. Gadewir rhwng Rhagluniaeth ar anifeiliaid; ac nid ydym yn cofio am un engraff o esgeulusdra oi thu, nac o golled i neb oi phlant am ymddiried eu meddianau iw gofal tra y byddent yn gwasanaethu ei Duw hi au Duw hwythau fore Sul Cwrdd Mawr. Daw llawer or dwyrain ar gorllewin, or gogledd ar de - pobl ydynt yn rhy bell i ddyfod i
Jerusalem bob Sabboth; ac a eisteddant gydar ffyddloniaid agos - y tlodion sydd gyda ni bob amser - o amgylch bwrdd y cymundeb heddyw. Maent yn duor ffyrdd wrth ddod, ac yn duor ffyrdd wrth ddychwelyd. Mewn cerbydau y deuant ir wyl, o dair a phedair milldir o ffordd - yn henafgwyr a henafwragedd, y rhai a edrychant yn mlaen at y dydd heddyw fel at ddydd o adgyfodiad iw bywyd ysbrydol, sydd wedi bod dan bridd a llaid y byd, i fesur mwy neu, lai, am agos i fis o amser. Dyma fechgyn a merched ieuainc, sydd yn gwasanaethu mewn ffermydd anghysbell, ac wedi bod wrthi yn cerdded yn galed am yr awr ddiweddaf i gyrhaedd yr oedfa ddeg mewn pryd; anghofiant eu llafur au lludded i gyd, er cerdded yn ol drachefn, yn y mwynhad o fod yn bresenol yn y cwrdd mawr. Maer addoldy yn llawn o gynulleidfa sydd yn dwyn arwyddion o ragbarotoad allanol a mewnol ir gwasanaeth. Y tlawd ar cyfoethog a gyd-gyfarfyddant; a phe baech yn ddigon daearol fel ag i fyned i elfenur addolwyr, chwi gaech gyferbyniadau a chyfumad rhyfeddach na hyny. Dechreuir y gwasanaeth yn brydlawn am ddeg or gloch: mor hyf - rydyw cwrdd mawr ar fore Sabboth - mae arogl fresh air ar y gweithrediadau oll. Clywch y canu! Pan symudasom or gweithie i Ddyftryn Tywi, buom am (x223) amser yn methun ln a dygymod a chanur wlad - disgynai ar ein clustiau mor drwsgl a dieneiniad. Bellach, yr ydym wedi darganfod fod llawn cymaint o galon pobl y wlad yn eu canu a phobl y gweithfeydd; ac os nad oes llawer o ddeall yn dyfod ir golwg yn y rhan hon oi gwasanaeth crefyddol, mae cryn swm o ysbryd sydd yn gwneyd iawn am y cwbl. Sylwch ar ddefosiwn y gynulleidfa. Maen wir y gallasai rhai wylio ar eu troed yn well wrth ddfod i mewn, ond rhaid i ni gofio mai nid gwŷr y kid boots ar mincing gait ywr dynion syn gweithio ar y tir drwyr flwyddyn. Pe dedfrydid ambell un sydd yn eu condemnio i wythnos o lafur caled rhwng dau gorn yr aradr ar lethr twmpathog, buan y diflanair ysgafnder ou traed, ac y deuent i fedru cydymdeimlo thrwm-gerddediad ein hamaethwyr au gwasanaeth-ddynion. Ond wedi iddynt gymeryd eu lle, yn ofer y clustfeinir am y clebran poenus sydd iw glywed ar hyd yr oedfa mewn cynulleidfaoedd a broffesant fod yn safonau ymhob ymarweddiad, ac yn ofer y chwilir am y gwamalrwydd ddiesgus a wthia ei hunan ar eich sylw ynghynulliadau lluosog y trefi. Nid oes yma ond yr astudrwydd mwyaf dyfal, y difrifwch mwyaf dilys, ar gwrandawiad mwyaf deallgar. Pob parch i ardaloedd ereill au rhagoriaethau, ond os am y peth prin hwnw y dyha ein pregethwyr am danon fynych - gwrandawiad intelligent i weinidogaeth yr efengyl, Dyffryn Tywi am dani! Cyn diwedd yr oedfa, amgylchynir bord yr Arglwydd gan gwmwl o dystion ir carun gyntaf o dur Nefoedd; ac os ywr dagrau, ar ocheneidiau, ar prydferthwch santeiddrwydd sydd yn nodweddu yr addolwyr ar addoliad yn brawf y gellir dibynu arno, mae yma garun ol hefyd o dur ddaear mewn llawer calon. Maen hawdd gweled wrth wynebaur bobl mai nid ffug a ffurf, ac nid gwyl ddiystyr ganddynt ywr wyl a geir ar fore Sul Cwrdd Mawr. Ac onid ywr llwyredd a pha un yr ymdaflant ir gwasanaeth yn heintus? Diau genym ei fod; oblegid yr ydym ein hunain wedi bod yn ymwybodol droion o rwyddineb ymadrodd a brwdfrydedd ysbryd o flaen Bwrdd y Cymundeb, sydd yn ddirgelwch i ni ar wahan ir hyn yr ydym yn son am dano, - a dylanwad yr Ysbryd Mawr, bid siwr, - ar hyn nad ydym yn euog o hono ar achlysuron cyffredin. Maer ordinhad gysegredig hon bob mis yn rhoddi ffrwyth addfed yn Nyffryn Tywi, a phell bor dydd y cyll y gafael genuine sydd ganddi ar y bobl, ac y darostyngir hi i lefel llawer o gyfarfodydd diystyr a difywyd ein heglwysi.

Y peth penaf ach tarawai yn mywyd ac arferion crefyddol pobl y Dyffryn fyddai yr elfen gref o Buritaniaeth sydd yn rhedeg drwyddynt. Chwi gewch gryn lawer oi nerth ai gwendid yma. Ac ni ddawr nerth ar gwendid Puritanaidd yna ir golwg yn amlycach mewn cysylltiad dim nag y daw mewn cysylltiad r Sabboth. Ond gan fod y mater hwn yn un a hawlia benod iddo ei hun, rhaid ceisio gorchfygur demtasiwn o ymhelaethu
arno yn awr. Ac felly dybenwn y benod yma yn bwt fel hyn.

___________________________________________________________________

(x257) PENOD VII. - CADWR MIS. (tudalennau 257-261)
___________________________________________________________________

Nid yw y trefniant sydd yn myned dan yr enw uchod yn gyfyngedig i Ddyffryn Tywi, ond ceir ef mewn llawn waith dros y rhan fwyaf o siroedd Cymru - weithiau yn y trefi, ond fynychaf yn y wlad. Y mae iddo ei fanteision ai anfanteision, a chryn lawer iw ddweyd drosto ac yn ei erbyn; eto i gyd, beth bynag am y trefn, yr ydym or farn ei fod yn drefniant godidog, yn wir, y trefniant goreu, ar gyfer y wlad lle bo gweinidogaeth sefydlog. Mae aelodau yr eglwysi gwledig mor wasgarog eu preswylfeydd, fel nad oes gan eu gweinidog y siawns leiaf i ddod i gyffyrddiad agos hwy, yn eu teuluoedd au hamgylchiadau cartrefol cyffredin, ond trwy. gyfrwng cadwr mis. Gwir y cyfarfyddant au gilydd yn y cwrdd ar y Sabboth, ond yno, y maent, er yn agos, eton mhell oddiwrth eu gilydd; ac o ran dim cyfathrach bersonol sydd rhyngddynt y pryd hwnw, y maent mor ddyeithr y naill ir llall a phe trigent yn y pegynau. Eithr y maer trefniant yr ydym yn son am dano yn rhoddi cyfleusdra ardderchog ir gweinidog, nid yn unig i ddyfod i adnabod y teulu yr erys ynddo ar y pryd, ond hefyd i ymweled ag amryw fythynod sydd yn llechu o dan gysgod ceidwad y mis, a thrwy hyny (os nad ydym yn newid y ffugr yn rhy fynych) ladd cryn nifer o adar, a allasent ei boeni, ag un gareg. Maer fantais hon, yr ydym yn addef, yn cael ei chyfrif o fwy gwerth yn nwylaw rhai gweinidogion nau gilydd. Ir gweinidog a fedr fod ar grwydr fel trempyn or dosbarth uchaf, o dŷ i dŷ, a hyny o fore gwyn tan nos, ac o godiad haul ddydd Llun hyd ei fachludiad y Sadwrn - yr hwn a ŵyr sut i gyfnewid decs r ffermwraig yn y neuadd yn well nag y gŵyr y sut i gyfnewid meddyliau a syniadau ag awdwyr ei fyfrgell - yr hwn sydd yn fwy hyddysg yn nghynwysiad y pantri ar llaethdy a berthyn i dai ei aelodau nag ydyw yn nghynwys yr ychydig lyfrau sydd ganddo yn myned dan yr enw study - ar hwn a wna ei hun yn bob peth i bawb heb fod ganddor gobaith gwanaf ei fod ar y ffordd i enill neb, ond a ddaw i orfod teimlo ei fod wedi colli llawer o drysorau wrth golli ei amser mor ddibarch i hwnyna, meddaf, nid yw cadwr mis yn golygu dim uwch na chiniaw gyfoethocach nag arfer, a the ar llawforwynion yn lluosocach nar cyffredin. Ond gan nad ydym yn perthyn ir dosbarth yna, maer cynllun misol hwn yn amheuthyn mawr i ni, yn fantais anmhrisiadwy, ac yn un o anhebgorion pwysicaf ein bywyd gweinidogaethol. Ceir dau, tri, neu bedwar Sul (fel y dygwyddo) yn y mis i ymgydnabyddu r teulu y byddwch yn aros ynddo, yn ei amgylchiadau, yn ei arferion, yn nylanwad crefydd arno or parlwr goreu ir gegin fach, yn ei angenion moesol ac ysbrydol; ac i osod yr argraff ddymunol ar feddwl y teulu ei fod yn lletya ei gynghorwr ysbrydol mewn gwirionedd, ac nid tincer tafod-lithrig, gwag ei ben a gwacach ei galon, unig drwydded yr hwn i ddyfod i mewn ir urddgylch yw neisied wen a dillad duon. Allan o ddefnyddiaur mis yn y teulu hwn ar teulu arall y car gweinidog ffyddlawn ei bregethau goreu - y pregethau sydd yn cydio, y pregethau sydd yn taro, y pregethau sydd yn ffitio i drwch y blewyn amgylchiadaur bobl y llafuria yn eu mysg, yn eu holl amrywiaeth au neillduolion. A dynar (x258) pregethau sydd yn talu; dynar weinidogaeth sydd sydd yn profi ei hawl i fodoli. Dyweder a fyner am gadwr mis, oddiar brofiad y dygwn y dystiolaeth hon am dano, ei fod y pregethwr cynorthwyol mwyaf cynorthwyol y mae yn bosibl ir weinidogaeth gartrefol wledig byth ei gael.

Ac nid y gweinidog ei hunan sydd yn meddu dyddordeb yn y mis, ond y mae ei Sabbothau yn red letter days yn hanes y teulu, ac edrychir yn mlaen atynt gan bob aelod o hono, fychan a mawr, gydar boddhad mwyaf digymysg. Os bydd yr eglwys yn lluosog ei haelodau ai theuluoedd, a nifer y rhai a fedrant gadwr mis yn fawr, ond odid nad unwaith bob blwyddyn a haner neu ddwy flynedd y ceir yr ymweliadau hyn, a gwerthfawrogir hwy o bob ochr yn llythyrenol fel ymwel-iadau angelion. Parotoir ar ei gyfer cyn ir mis blaenorol redeg trwy haner ei gwrs. Bydd goruchwyliaeth y glanhau, yn ei holl ysgubo ai sguro, yn cael ei charion mlaen gydar llymder ar manylwch mwyaf eithafol yn ystod y tymhor hwn - nid am nad yw ffermdai Dyffryn Tywi yn ddigon glan yn gyffredin i unrhyw ymgnawdoliad o fursendod i fedru bwyta ar y llawrbarth, heb lan na newyddiadur na dim or cyfryw rhwng y bwyd ag ef, cystal a phe byddai yn yr ystafell oreu yn y tŷ, ac ar y ford wychaf ynddi. Ond ar adegau tebyg ir rhai y cyfeiriwn atynt, glanheir y gln, rhwbir yr un celfigyn drosodd a throsodd drachefn nes y bydd ei wyneb yn dysgleirio fel gwyneb yr afon dan belydraur haul, ac yn chware fel y ts ar ganolddydd haf, ac y mae llunio bai lle na bydd, ac erlid ar ol ysbrydion o lwch a brychau a baw, yn rhan bwysig o ragbarotoadaur mis. Gofelir am flasusfwyd or fath a gerir ar y bwrdd i gwrdd ar gethwr, bydded ef y gweinidog, neu damaid o bregethwr cynorthwyol, neu eginyn pregethwr or Coleg neu yr Ysgol Barotoawl - ni wneir gwahaniaeth, car naill ar llall ar trydydd yr un bwyd, ar un gwely, .ar un croesaw. Eiddigeddir g eiddigedd mawr dros ler mis, a bydd yn siomedigaeth dost os na thryr pregethwr i fyny at ei gyhoeddiad. Y mae tori cyhoeddiad y mis yn llawn cymaint trosedd a thori cyhoeddiad y tŷ cwrdd. Ystyrir y pregethwr am y diwrnod hwnw yn frenin yr holl sefydliad, a phob peth wrth ei lywodraeth; oblegid efe yw y gwr y mae pawb, or penteulu i lawr hyd at y forwyn fach, yn dewis ei anrhydeddu.

Mewn rhai manau or Dyffryn, y mae yn arferiad i wr y tŷ fon cadwr mis fyned a dau neu dri ereill gydag ef o gwrdd y bore, i giniaw, iw helpu i gadw cwmpeini ir pregethwr. Y rheol yw mai y rhai pellaf eu ffordd gartref ywr gwahoddedigion breintiedig hyn, ac y maent mor falch oi gwahoddiad ag ywr gweinidog ar teulu ou dyfodiad. Elfen brydferth yw hon yn lletygarwch pobl y wlad yr ysgrifenwn ei hanes. Fel,y dawr gweinidog i adnabod pobl ei ofal, ond odid na fydd ganddo ei ddewisolion cyn hir; a bob yn dipyn, daw yn ddeddf ddystaw, gydnabyddedig, fod ganddo lais yn newisiad y personau sydd i ffurfior cwmni am y dydd. Pe gwyddem y caniateid hyny gan y darllenydd, rhoddem fraslun o un neu ddau or cymeriadau y mae yn hyfrydwch genym roi ein pleidiais yn eu ffafr, i ddyfod gyda ni i lanwr cylch lle cedwir y mis yn un o eglwysir wlad yma. Cymerwn yn ganiataol fod cydsyniad y darllenydd wedi ei enill, ac os ydym yn methu, tyned y golygwyr eu hysgrifell dros y darn hwn on hysgrif.

Gan na charwn fyned yn rhy bersonol, ffugenwn y blaenaf yn Ifan Fowc, or Breindir. Mae Ifan yn garictor mor wreiddiol yn ei ffordd a neb yn y tir. Mae pobpeth a berthyn iddo yn meddu ar ryw hynodrwydd dihafal. Per elech ir cwrdd a fynychir ganddo, sicrhaem unpeth yn y byd mai efe fyddai un or gwrthddrychau cyntaf i fynu eich sylw. Clobyn o ddyn mawr corffol, esgyrnog, cyhyrog, brest-lydan - pen o faintioli a ffurf nas ceir yn gyffredin, (x259) ychydig o wallt teneu, mewn rhyfel parhaus r grib, yn tyfu bob ochr iddo, ai goryn mor foel a llithrig a choryn pen Crug Melyn yr haf diweddaf - gwyneb yn llawn mynegiant, ar ddau lygad mwyaf byw a welsoch erioed yn llechu odditan aeliau ydynt berthynasau agos ir gwallt - traed a heriant unrhyw grydd iw gwneyd yn garcharorion anobeithiol mewn pr o esgidiau - a chyfandir o gorff rhwng y ddau eithaf hwynt yna a barai i chwi fyned ar eich llw fod yno syrffed o glai lle crewyd Ifan Ffowc. Y mae rhyw sydynrwydd bywiog yn ei holl symudiadau. Pan y siarada, y mae ynar fath gleciadau yn ei ynganiad nes gwneyd i chwi feddwl am ambell i ail was ffarm yn myned ir calch ar lasiad y dydd, dan glecian ei chwip nes tarfur cwningod ou gwl. Y mae yn gnwr tybaco medrus, a pha un bynag ai canu, ai gweddio, ai dweyd ei brofiad y bydd Ifan yn y cwrdd, chwystrella ar ganol y cwbl, pan fydd angen, yn union yn ei gyfer, a cheidw lygaid ei gymydogion yn effro i wylio cyfeiriadau ei saethau cyhyd ag y bydd wrthi. Pan elwid
arno i weddio, cwympa yn sydyn ar ei ddwy benlin, a deil ei gorff ai ben mor syth nes or braidd yr ofnwch iddo syrthion ol ar ei gefn. Pan y gelwir arno i ofyn bendith ar bryd o fwyd, saif ar ei draed yn uniawn ac mor anmhlygedig ar Wyddfa, a gwna hyny mor ddirybudd nes gwneyd i chwi haner godi eich hunan gydag ef. Y mae ganddo gof aruthrol; a phan y tyn allan or ystordy hwnw bethau newydd a hen, chwi allech chwilio am flwyddyn cyn y llwyddech i gael ei drech fel cwmniwr. Perchenoga gyfoeth o ystoriau, ac edrydd hwynt mor ddoniol o ddesgrifiadol fel ag ich cadw mewn pangfeydd o chwerthin or boreu hyd yr hwyr. Bu am beth amser flynyddau yn ol yn cyrchu i gapel y Bedyddwyr, am nad oedd addoldy Annibynol yn agos iw breswylfod. Clywsom ef yn adrodd droion am ymdrechion y brodyr selog hyny iw ddarbwyllo i gymeryd ei drochi, ar modd y ffustodd efe hwynt yn y pen draw. Yr oedd ef ai frawd (yr hwn oedd Fedyddiwr), a gweinidog y capel crybwylliedig yn cydgerdded ar hyd prif-ffordd a redai yn gyfochrog am encyd ar afon Tywi. Pwnc y bedydd oedd sylwedd yr ymddyddan cydrhyngddynt, ac meddair gweinidog wrth Ifan,

Twt, wath i chi roi fyny heb ragor o bl, rydan nin benderfynol och cal chi dros eich pen cyn y cwplwn ni a chi.

Erbyn hyn, yr oeddynt wedi dyfod at ffordd gart oedd yn arwain i lawr at yr afon, a phwll go ddwfn gerllaw. Safodd Ifan gydar sydynrwydd arferol

Or gore, ebai, dyma bwll Llwyndu yn y fan, trochwch fin awr, rwyn ildo!

Tybiai ei frawd ar gweinidog mai cellwair oedd, ond yr oedd Ifan mor ddifrifol a mynach. Wrth ei weled felly, trodd y cynghorwr yn ei dresi, ac meddai

Dyw hi ddim yn saff ich trochi chi nawr yn y fan yma, does gydach chi ddim dillad i newid, a chi gaech anwyd a allai droi yn ange i chi.

Howld, ebai Ifan, os ych chin cysylltu perygl ag un o ordinhadau yr Efengyl fel yna, dych chi riod wedi deall hi.

Ni raid dweyd i Ifan Ffowc gael llonydd ar bwnc bedydd or dydd hwnw allan, er ir gweinidog ac yntau barhau yn ffrindiau calon, cystal os nad gwell nag y buont erioed. Gwel y darllenydd bellach fod yr hen frawd or Breindir mor debyg a neb o gael pleidiais ei weinidog drosto iw helpu i fwyta cinior mis.

Ffafryn arall yn y cylch cyfrin hwn ydyw Gwr Caeresgob. Dynar teitl yr adwaenir ef wrtho fynychaf, ac nid ydym yn sicr iawn a wneid ef allan ar y foment wrth un enw arall, nac ychwaith a ddeallai ef ei
hunan ar darawiad pwy fuasech yn ei feddwl pe cyfarchech ef wrth ei enw priodol. Dyn o doriad hollol wahanol i Ifan Ffowc o ran teithi meddyliol yw gwr Caeresgob; y mae nes perthynas cydrhwng pebyll y ddau au gilydd. Cydnerth o gorff, a sgwarog oi goryn iw sawdl, gwyneb llyfndew, ai fynegiant yn sarug pan fyddor prif linellau yn gorphwyso, ond yn ddymunol dros ben pan yr aflonyddir ar eu tawelwch gan ambell i rg o gerub ar lun stori fachog neu sylw gogleisiol (x260) wrth basio, - ei ddwylaw (ond ar amserau neillduol) bob amser yn dyn yn ngwaelod pocedi ei lodrau, ei wddf yn torchin dew, ac yn goch mewn canlyniad, ei draed yn blanedig yn y ddaear bob cam a rydd, a phob ysgogiad ac ystum oi eiddo yn adsain penderfyniad Galileo

Dwedwch chi fynochi, troi mae hi!

Perthyn i lwyth Issachar, yn ddiddadl, y mae gwr Caeresgob, oblegid nis gwyddom am neb a mwy or asyn asgyrnog yn ei natur ag efe; nac, or ochr arall, neb parotach i ddwyn ei ysgwydd dan deyrnged gyda chyn lleied o ddadwrdd a dwndwr. Mae yn llawn o wrthebiadau, a gellwch fentro, beth bynag fo ar droed yn y cwrdd eglwys, neu ar law yn yr Ysgol Sul, neu ar y gweill yn nglyn r Gymanfa Ganu, y bydd efe, fel ambell i gynrychiolydd llafur yn y Senedd, yn eich erbyn ar bob cwestiwn; ac fe ddadleua mor bengam a llyswenog, ac eton llawn o natur dda, nes yr ydych yn cael eich hunain yn llawer parotach i ddigio wrthych eich hunain am fod eich gwrychyn yn codi, nac i ddigio wrth yr hen frawd am chware ei dactics mor brofoclyd. Ond yr hyn sydd yn rhagori ynddo yw, ei barodrwydd i wneyd ei oreu ac i gydweithio dros yr hyn y sieryd mor ffyrnig yn ei erbyn, fel pe na byddai dim or fath siarad wedi bod. Maen rhaid iddo gael ei bl; ac maen werth iddo gael ei bl, oblegid fe rydd lawer mwy yn ol i chwi nag a fyn iddo ei hun. Credan gryf mewn seryddiaeth, ac yn gryfach mewn ser-ddewiniaeth (astrology); ac y mae ei gred yn ddiderfyn yn ei allu ei hun i ddehongli cenadwrir planedau, a datguddio cyfrinach y cariadon sydd fry yn tramwyo dros y Llwybr Llaethog. Ond yn nghanol y cwbl, ei ystyfnigrwydd, ei hunaniaeth, ai hynodion i gyd, mae gwaelod ardderchog gan wr Caeresgob, ai deyrngarwch ir weinidogaeth fel yr aur, wedi clirio tipyn or rwbel oddiarno. Yn enghraifft oi wreiddioldeb digymar, adroddwn un stori am dano cyn rhoi llaw ffarwel iddo. Aeth yn bl (fel arfer) rhyngddo a haner dwsin or dynion oedd wedi crynhoi ir llofft fach cyn yr oedfa chwech nos Sabboth, a thestyn y pl oedd y cof. Dywedai Ifan Ffowc fod y cof, fel pobpeth arall, yn cryfhau wrth ei ddefnyddio, a dygodd fraich y gof, ar hen dermau yna yn un rhes, i ategu ei osodiad. Daliodd gwr Caeresgob ar y frawddeg ysgubol pobpeth arall - a ddywedasai Ifan, a dyma ef ar ei wr fel barcut.

Na, ebai, dydi pobpeth ddim yn cryfhau wrth ei iwso chwaith.

Odi, medde Ifan, mor sydyn a bwled.

Nag ydi, ebe Caeresgob, gan roi awgrym iw ben, mor hamddenol a phe buasai yn ei wely.

Cochodd Ifan, oblegid nid oedd byth yn hoffi cael ei drechu, a dyna fwled arall oddiwrtho

Odi! Fodd bynag, yn yr un pwll tro y difyrai ei wrthwynebydd ei hunan o hyd; ac wrth weld hyny, gofynodd Ifan iddo a welai efe yn dda ddweyd beth oedd yn gwanhau wrth ei iwso.

Spring watch! oedd yr atebiad ar ei ben, mor ddigwmpas a phe yn dywedyd pris treisied ar ben ffair. Yr oedd golwg gas ar wyneb Ifan Ffowc, a phan y chwarddodd y cwmni wrth atebiad annysgwyliadwy Caeresgob, tybiasom mai gwell oedd troi yr ymddyddan i gyfeiriad arall. Lle bynag y byddai mis Capel-y-Bryn, ni byddai yn gyflawn, gan nad pwy a bregethai, heb y naill neur llall, neu bobun or ddau, y buwyd ychydig yn eu cwmni yn awr, i wneyd i fynyr gymdeithas.

Na wawried y bore pan fyddo cadwr mis wedi cael ei roi i gadw ei
hunan yn Nyffryn Tywi. Nis gwyddom am drefniant gwell i feithrin dyddordeb teuluoedd eglwysig au gweniidog yn eu gilydd, na dim sydd yn cyfleu i ni yn well y syniad o letygarwch Cristionogol, a chadwr mis. Na ddeued y lletya by proxy yn agos ir wlad, ai sawyr afiach o aur ac arian a chopr; ond arosed system y misoedd yn fyw ac yn iach hyd genhedlaeth a chenhedlaeth, a ffrwythed eto mewn heddwch a chymydogaeth dda rhwng pobl dda au gilydd ddyddiaur ddaear. Gwyddom (x261) nad ydym yn modern iawn yn ein golygiadau ar letya pregethwyr wrth ddadleu dros gadwr mis; ond modern neu beidio, rywsut yr ydym mor benstiff a gwr Caeresgob ar y pen hwn, ac yn eitha parod i dynu cot a thorchi llewys drosto. Beied a feio, a choded y sawl a fyno ei drwyn, dynar gwir. Ar l gwir yn erbyn y byd.

___________________________________________________________________

(x288)
PENOD VIII. -YR YSGOL AR GERED. (tudalennau 288-291)
___________________________________________________________________

Ar ddiwedd yr Ysgol - Ysgol Mahanaim - prydnawn Sul, tery yr Arolygwr ei ddwrn yn swyddogol yn erbyn y bwrdd, a chyda llais sydd yn cario argyhoeddiad i bob mynwes fod yn a doraeth o awdurdod yn gorwedd y tucefn iddo, hawlia ddystawrwydd cyffredinol ac uniongyrchol. Dengys y dwrn ar llais fod rhyw genadwri bwysicach nag a gynwysir yn gyffredin mewn cyhoeddi rhif yr ysgol iw mynegu heddyw, a theyrnasa tawelwch yn mhob dosbarth - or rhai bychain, sydd newydd fod yn sprotian pocedi eu hathraw tra yr ymddifyrai yn mreichiau cwsg, hyd at ddosbarth y set iawr, sydd yn araf roddi ei arfau i gadw ar ol bod wrthi yn croesi cleddyfau drwyr prydnawn. Ac wele swm a sylwedd araeth yr Arolygwr:

Frodyr a Chwiorydd, -- Maen hysbys i chi gyd fod yr Ysgol wedi bod yn y seithfed benod o Fatthew ers rhai wsnothe bellach, a bod yma dipyn o barotoians gydar canu hefyd, heb fod un nod neillduol mewn golwg. Ac yn awr, yr w i yn dymuno galw sylwr Ysgol at hynyma - a ydyr benod ar canu i fynd yn void, ai ynte a ydyr Ysgol yn mynd ar gered eleni fel arfer? Pwy wed?

Nid oes prinder siarad a chlebran wedi bod trwyr dosbarthiadau am yr awr ddiweddaf; yn wir, ai bod yn myned yn godi llaw ar y mater, fe allesid hebgor dwy ran o dair o hono, a gadael swm cysurus yn weddill. Ond pan y rhoddir gwahoddiad taer ir gwahanol ddoniau i wneyd eu hunain yn hyglyw ar bwnc o ddyddordeb, y mae fel pe bai barn Zacharias wedi disgyn arnynt i gyd. Edrychar naill ar y llall mor ddyeithr iw gilydd a phe heb weled eu gilydd erioed cyn y prydnawn hwnw: ac am lawn driugain eiliad wedi ir Arolygwr eistedd i lawr, chwi allech glywed pin bach yn cwympo, heb wybod y gwahaniaeth braidd rhyngddo a throsol.

Dewch, frodyr, dewch, dwedwch yn rhydd, a pheidiwch a dishgwl wrth ch gilydd.

Wel, ebe un - a dyna lygaid pawb
arno yr w in cynyg fod yr Ysgol i fynd ar gered.

Tybiem, fel ymwelydd am y diwrnod; yn y lle, fod y cynygydd yn wr craffus iawn, ac yn gweled yn mhellach nai benryn i gryn bellder, a bod ei gynygiad yn arddangosiad o feddwl clir, yn medru deall anghenion presenol yr Ysgol, au gosod allan mewn geiriau byr, dewisol, ac ir pwrpas. Yr oedd yn amlwg iawn i mi, ac i bawb, wedi clywed y cynygiad, ei fod yn cynwys prif angen yr Ysgol yn wir, sef; mynd ar gered; oblegid, yn bendifaddeu, os bu rhywbeth ar stop rywbryd, yr oedd yr Ysgol hono felly am y darn olaf oi hoedl y diwrnod crybwylliedig. Cafwyd eilydd heb golli dim amser, a phasiwyd yn ddiseremoni.

Frodyr a chwiorydd, eber Arolygwr drachefn, mor ddeddfol ag un barnwr ar ei fainc, y cwestiwn nesa iw benderfynu ydi hwn I ble maer Ysgol yn mynd ar gered?

Oni bai am y ffaith mai dan
aden y Permissive Bill (mewn ffordd) yr oeddem yn bresenol, buasem yn awgrymu y priodoldeb iddi gymeryd walk o ddeng milldir, a dweyd y lleiaf, cyn oedfar nos. Ond achubwyd ein blaen gyda llg gan athraw ar ddosbarth o ferched, yr hwn a siaradai ac a weithredai, fel (x289) rheol, o dan gyfarwyddyd ei ddysgyblion:

Yr ydym fel Ysgol yn nyled amryw Ysgolion bellach, ac y maen llawn bryd i ni dalun gofynion.
Byddai yn briodol iawn i ni, ar ol cychwyn, eu cymeryd o un i un or bron. A chan nad oes rhyw lawer o wahaniaeth yn mhle y dechreuwn, yr w i yn cynyg ir Ysgol fynd i Thyatira yn gyntaf oll.

Wel, wel, meddem, dyna fynd ar:gerdded with a vengeance! I Thyatira! hawyr bach! Paham nad aent i Terra del-Fuega ar unwaith? Neu hwyrach mai yn nyled Ysgolion Sabbothol saith eglwys Asia y maent, ac mai yn Laodicea y dybenant. A phwy son am fynd ar gerdded i Thyatira maer dyn? buasai yn nes iw le pe dywedasai am ir Ysgol fynd ar redeg, er mai braidd yn wan a fuasai hyny hefyd. Maen fwy na thebyg fod ein gwyneb wedi cymeryd ffurf rhyfeddnod amlwg ir rhai a eisteddent yn nesaf atom, oblegyd trodd un brawd atom a sisialodd wrthym dan ei anadl

Un o Ysgolion Sul gweinidogaeth Mr. Apolos, Bethabara, yw Thyatira.

O! meddem; a thywynodd goleuni arnom.

Heb fyned i fanylu, penderfynwyd yn mhellach fod yr Ysgol i fyned ar gered i Thyatira y Sabbath canlynol, gan fod y benod yn barod, a rhag i barotoians y canu fyned yn ofer.

Yn y fan yma cymerwn ein hanadl. Maer Ysgol Sabbothol wedi cael daear gyfoethog yn Nyffryn Tywi, ac o fod yn hedyn bychan, y mae erbyn heddyw wedi tyfu yn bren mawr. Yn wir, yn nesaf at Siroedd y Gogledd, Caerfyrddin a Cheredigion pia hi o ddigon am eu Hysgolion Sabbothol. Maen rhaid i ni roir llawryf yn hyn i Fon, Arfon, a Meiron, oblegid ynddynt hwy, yn ddiameu, y ceir y sefydliad rhagorol hwn yn ei ogoniant penaf. Mae dylanwad yr hen Domos Dafis, apostol yr Ysgol Sul, yn aros yn y Gogledd hyd y dydd heddyw; a chyhyd ag yr erys Ysgol yn allu cryf er. daioni yn y wlad, cyhyd a hyny y cofir am enw yr hen wron uchod, ac y parheir i gysylltu ei ymdrechion clodfawr ai hanes, ac ai llwyddiant. Gwir iddo fod yn ymweled ag amryw o Siroedd y De ar ran yr achos oedd mor agos at ei galon, ac iddo wneyd daioni mawr trwy ddwyn i mewn gynlluniau a pheirianau i hyrwyddo gwaith yr Ysgol - y rhai y deuwn ar eu traws yn awr ac eilwaith, er boddhad a difyrwch nid bychan i ni; eto, maen amlwg na chymerodd y Deheuwyr at ei gyfundrefn ai welliantau mor garedig a phobl y North, a thrwy hyny eu bod ar eu colled, ar lleill ar eu henill erbyn heddyw. Fodd bynag, y mae Siroedd Myrddin a Theifi yn dilyn yn dyn wrth sodlaur siroedd uchaf, ac nid yw Penfro, y rhan drwyadl Gymreig o honi, yn mhell ar ol. Fel yr awgrymwyd, gellir senglu Dyffryn Tywi drachefn o ganol Sir Gaerfyrddin fel stronghold yr Ysgol Sabbothol. Er fod achos i ofni nad yw yn cael cystal chware teg ar lawr plant ag a gaffai ar lawr tadau, maer Ysgolion yn gryfion yn mhob ystyr. Yr ydym yn siarad am danynt yn awr yn y cyfanswm o honynt, gan eu bod iw cael, fel y pysgod yn rhwyd y ddameg, yn wael, yn dda, ac yn well - yn gryfion mewn rhif, yn gryfion mewn cynyrchiolaeth, yn gryfion mewn gwybodaeth, ac yn gryfion mewn gallu i gyfranu ac i dderbyn addysg Feiblaidd. Cynelir cyfarfodydd neillduol bob hyn-a-hyn i gadwr gwaith ar dyddordeb i fyny. Ceir y Cyfarfodydd Chwarterol, ar Cymanfaoedd Biynyddol, ar Ymweliadau achlysurol yn dilyn eu gilydd yn ddidor; fel, rhwng y parotoians i gyd (ys dywedai yr Arolygwr), nid yw yr Ysgol yn cael fawr amser i fod yn segur a diffrwyth or naill ben ir flwyddyn ir pen arall iddi. Cyfnodau pwysig yn ei hanes yw cyfnodaur Cymanfaoedd, pan y bydd pedair, pump, chwech, a saith o Ysgolion yn cyfarfod au gilydd, i ganu, adrodd, ac esbonio Gair Duw. Ac nid yw yr Ymweliadau Achlysurol yn ol mewn dim pwysigrwydd iddynt, yn enwedig yn eu perthynas ar Ysgol sydd yn ymweled, ar Ysgol yr ymwelir hi.

A phan y mae un Ysgol yn talu ymweliad (x290) ag Ysgol arall yn y gymydogaeth, dywedir ei bod yn myned ar gerdded. Nid am fod y dywediad yn llythyrenol gywir, gan y ceir amryw yn myned mewn cerbydau, ereill ar geffylau, ereill ar draed. Dibyna hyny i fesur ar hyd y daith; os mai br fydd, gwnar traed y tro, ond os rhifa ei phedair ai phum milldir, darostyngir y ceir ar ceffylau ir gwasanaeth. Pan y sonir am ddyled y naill Ysgol ir llall, golygir mai iw rhan hi y mae gwneyd yr ymweliad nesaf yn syrthio, yn ol deddf neu ddefod ar yn ail; ac ystyrir y dyledion hyn yn Nyffryn Tywi yn bethau ag y mae anrhydedd yn gysylltiedig au talu yn llawn cymaint ag unrhyw ddyledion masnachol. Gelwir y gwaith a wneir gan yr Ysgol ar ddiwrnod fel hyn, neu gan yr Ysgolion yn y Gymanfa, yn lafur. Ystyriwn ei fod yn ddesgrif-air priodol iawn mewn gwlad amaethyddol, i osod allan y cynhauaf llafur ar medi sydd yn dilyn yr aredig, ar hau, ar llyfhu a fu yr wythnosau ar misoedd a basiodd. Gwneir y llafur i fyny yn gyffredin o donau, a phwnc y plant yn gyntaf, a thonau a phenod yr Ysgol Fawr wedi hyny. Pan yr y naill Ysgol i Ysgol arall, disgwylir i weinidog, neu supply yr olaf, gymeryd at yr holi, ac, yn gyffredin, rhoddir hysbysrwydd iddo yn ymlaen llaw. Mae fod y gweinidog yn medru holi Ysgol yn gryn bwnc yn Nyfiryn Tywi ar amgylchoedd, ac yn ychwanegu amryw gufyddau at ei faintioli yn nghyfrif pobl y wlad. Mae yn digwydd yn aml fod pregethwr da yn gwneyd holwr sal truenus, ac weithiau fod pregethwr tila yn meddu ar y ddawn o holi, sydd yn ei wneyd yn boblogaidd iw ryfeddu. Ac or ddau, credwn y dewisid yr olaf o flaen y cyntaf gyda mwyafrif parchus. Yr oedd y diweddar Dafis o Bantteg yn un or rhai enwocaf fel holwr Ysgol - nid am ei fod yn bregethwr gwael, oblegid yr oedd ef yn un or ychydig a gyfunai ynddo ei
hunan brif anhebgorion dyn crefyddol cyhoeddus. Mae adgofion am dano fel ysbrydion yn aros yn y wlad o hyd. Pan yr holai ei Ysgol ei hun ar brydnawn Sabbath, elai drwy gwrs o wersi byrion mewn darlleniadaeth i gychwyn; ac os na ddarllenid adnod wrth ei fodd, caffai pob un gynyg arni, a darllenai yntau hi ar ol y cwbl. Holai yn fywiog, awgrymiadol, ac adeiladol; ac un oi gas bethau oedd gweled esboniad yn y llaw, neu glywed esboniad yn cael ei grybwyll, neu sawru esboniad ar yr atebiad, pan fyddai wrth y gwaith. Aeth yn ddadl boeth rhwng dau o dduwinyddion Pantteg pan oedd Dafis yn holi, a chymerodd yntau blaid un yn erbyn y llall. Collodd hwnw ei dymer pan welodd ei fod yn collir dydd - oblegid yr oedd barn Dafis i fod yn derfyn ar bob ymryson - ac meddai,

Wel, fel yr w in deud y dywed Adam Clarke, bid fyno.

Ie, ie, eber hen wr, dyn call oedd Adam Clarke, yn ddiame, ond - nid na gnth en gall!

A fuost, ddarllenydd, yn nghwmpeini yr Ysgol ar gered rywbryd? Naddo. Beth pe baem yn myned gydar Ysgol y buom yn un oi hymgyngoriadau ar ddechreu yr ysgrif? Caem felly engraff or cwbl, oblegid wrth weled a chlywed un, yr ydym yn gweled ac yn clywed yr oll. Oddeutu haner awr wedi deuddeg prydnawn y Sabboth y cytunwyd
arno, yr oedd yr Ysgol yn Mahanaim yn barod i gychwyn am Thyatira. Yr oedd adgof am Ysgol Thyatira yn Mahanaim, ei bod yn gryf a lluosog, fod iddi durn-out ardderchog, ai bod wedi myned drwy ei gwaith yn rhagorol. Enynai hyny ei zel ai huchelgais hithau am ragori yn y pethau uchod, os yn bosibl yn y byd; o leiaf, am beidio a bod yn ol mewn dim. Gan fod tua thair milldir a haner o ffordd i Thyatira, yr oedd yn rhaid cael ceir, er mwyn y plant lleiaf, meddid; ond yr oedd y plant mwyaf yn y fargen hefyd. Crynhowyd cynifer o geir ag oedd yn ddichonadwy o fewn cylch rhesymol; a rhwng y gwŷr meirch ar gwŷr traed, yr ydym yn ffurfio gorymdaith deilwng. Mae yn brydnawn hafaidd, ac ar y ffordd wrth fyned yn mlaen, tarewir dwy neu dair or tonau a fwriedir eu canu yn Thyatira. (x29l) Calonogir ni gan longyfarchiadaur gwragedd ar plant, a safant ger drysaur tai to gwellt, wrth basio; ac ymunir yn y gan gan y fronfraith ai chymydogion, y rhai an hebryngant mewn sain cn a moliant. Par yr awel deneufwyn i goed y maes guro dwylaw, ac o enau plant bychain y dyrcha molawdau ar edyn y dydd. Mewn amser cyfaddas cyrhaeddir y fangre ddysgwyliedig, a chawn fod yno dyrfa fawr yn ein haros, ac yn barod i gadw gwyl gyda ni. Awn i mewn ar ein hunion ir addoldy. Trefnir yr Ysgol i fod ar y galeri, ar gwrandawyr odditanom. Hawliar parotoadau rhagarweiniol fwy o swn nag sydd yn weddus, a rhagor o amser nag sydd yn angenrheidiol. Or diwedd, y mae pawb yn eu lleoedd, ac yn barod i waith. Dacw Mr. Apolos, gweinidog y lle, yn y pwlpud. Dyn bach fine yw efe, ac nid yw yn ei natur i wneyd cam g unrhyw Ysgol yn ei mater. Maer addoldy yn orlawn, oblegid y mae yn arferiad i ymgynull o bell ac agos i gwrdd r Ysgol fo ar gered. Dechreuir trwy ganu ton gyffredinol. Yna, rhoddir rhaglen yn llaw y gweinidog gan un o swyddogion Mahanaim, a geilw yntau ar ddeiliad or Ysgol i adrodd penod. Merch fechan ydyw, ac nid oes ganddi ond ei llais i brofi ei bod yn bresenol. Mae ganddi swm digonol o hwnw, ac edrydd y bymthegfed benod a deugain yn Esaiah yn deilwng o Herry Irving. Offrymar gweinidog weddi, a chenir amrai donau gan y plant, o dan arweiniad gwr ieuanc sydd yn llawn or peth eilw ein hen ffrind Ifan Ffowc yn gonjees. Wedi hyny, holir y plant oddiar Ddameg y Mab Afradlon gan Mr. Apolos. Un holwr plant adwaenem erioed, a hwnw oedd yr hen Robert Dafydd, Llanelltyd: yr oedd yn ddiguro. Ond perthyn i ddosbarth yr Ie ar Nage, y Do ar Naddo, ar Gwedwch gydach gilydd, mhlant i, oedd gweinidog Bethabara, heb ddim o bupur a halen Robert Dafydd or dechreu ir diwedd. Yr unig tut a wnaeth oedd dweyd fod edifeirwch y Mab Afradlon yn perthyn yn nes iw stumog nai galon!

Yn dilyn y plant dawr bobl mewn oed. Cenir dwy neu dair o anthemau gan y cr, ac y mae beirniaid cerddorol Thyatira au penau ar gam, au llygaid yn nghau bob un. Bob yn dipyn dawr benod - y seithfed yn Efengyl Matthew. Chwenycha Mr. Apolos chware ar y lan gydar cregin, ond tynir ef ir dyfnder dros ei ben ai glustiau cyn pen fawr amser gan dduwinyddion Ysgol Mahanaim. Ceidw ei hunanfeddiant yn rhagorol, fodd bynag; a rhwng pobpeth, caed haner awr o holi ac ateb mor fywiog a dim allesid ddysgwyl. Rywsut neu gilydd, daethpwyd ar draws ffydd yn yr ymgodymu, a gofynai yr holwr:

Beth ywr gwahaniaeth rhwng ffydd a chredu?

Yr oedd yno ddyn bach main o gorff, ffraeth ei dafod, a chawliog ei feddwl, yn perthyn ir Ysgol, yr hwn a amcanai at fod yn gyntaf bob amser i ateb unrhyw gwestiwn y tybiai ef y gallai ei gyrhaedd. Ac mor gynted ag y diferodd y cwestiwn uchod yn hamddenol dros wefusau Mr. Apolos, dyma Twmir Hafod ar ei draed fel ergyd o wn:

Yr un faint o wahaniaeth ag sydd rhwng caib a cheibo! a chwarddodd pawb yn galonog.

Cymhellwn esboniad Twmi i sylw Geiriadurwyr a Geiriaduron y dyfodol.

Daeth yr holi ar ateb, ar canu, ar cwbl i ben erbyn pedwar or gloch. Diolchwyd i Ysgol Mahanaim am y discharge, ac addawodd Mr. Apolos, dros Ysgol Thyatira, osod dyled arall arnin fuan. Wedi bwyta bwyd, a rhwymor ceffylau wrth y ceir, yn ol a ni i gyfeiriad cartre, yn llawen ein hysbryd ac yn foddus ein tymer. Ac os wyt ti a ninau, ddarllenydd, or un farn, dychwelwn in cartrefle mewn perffaith gydymdeimlad ar syniad iach ar arferiad ragorol sydd yn myned dan yr enw Yr Ysgol ar gered.


___________________________________________________________________

(x331)
PENOD IX. - GWEITHIOR CYNHAUA. (tudalennau 331-335)
___________________________________________________________________

Prin y mae eisieu i ni ddywedyd mewn trefn i ychwanegu at wybodaeth gyffredinol y darllenydd fod dau brif gynhauaf yn bod yn y wlad - y cynhauaf gwair ar cynhauaf llafur; nac ychwaith i ddywedyd fod y naill yn dilyn y llall yn y drefn y gosodir hwy i lawr yma - y gwair yn gyntaf, ar llafur wedyn. Dyna y rheol. Ond y mae wedi dygwydd ragor nag unwaith iddynt groesi terfynau eu gilydd a threspasu ar diriogiaethau eu gilydd, fel na wyddid yn iawn pa bryd y dybenai un ac y dechreuair llall. Wrth gwrs, y tywydd sydd yn penderfynu pethau fel hyn; ac fel athraw mewn Coleg, y mae weithiau yn ceisio pwnio rhywbeth tebyg i Hebraeg i benau ei ddysgyblion, a gwneyd iddynt ddarllen ei dext-book o chwith. Bu felly y llynedd. Daeth y cynhauaf gwair i ganol y llall mor ddigywilydd a phe na buasai dim allan or cyffredin yn cymeryd lle; a blinodd y llafur ar y gwair, ac aeth i mewn iw etifeddiaeth yntau. Eleni eto, cyfeiriar argoelion at yr eithriadol yn hytrach nar rheol gyffredin; ac os na rd y naill i mewn i bremises y llall, fel y llynedd, y tebygolrwydd yw y bydd Jacob y llafur yn ymaflyd yn sawdl ei frawd Esau y gwair, ac ar ei war cyn iddo gael amser i gymeryd ei anadl. Nid oes neb braidd yn byw yn fwy uniongyrchol at drugaredd Rhagluniaeth nar ffermwr, na neb yn cael cyn lleied o gredit am hyny ag efe. Mae rhywbeth gan y masnachwr ar crefftwr iw wneyd byth a hefyd yn holl gylch eu gwasanaeth er enill eu bara au henllyn; ond am y ffermwr, wedi iddo gyweirio ei wely ir hedyn yn y ddaear, a gosod yr hedyn yn ei wely, a throir dillad priddlyd arno a throsto drachefn, nid oes ganddo ddim iw wneyd iddo mwy ond ei adael yno yn ei wely pridd mewn gwir ddyogel obaith y bydd i rew ac eirar gauaf. a chafodydd haul a gwlawr gwanwyn roddi iddo adgyfodiad perffaith yn nghyfeiriad Alban Hefin. Na thybier am foment ein bod yn maentumio mai dyna i gyd yw gwaith y ffermwr; ac na thyned neb y casgliad oddiwrth yr hyn a ddywedwyd mai plethu dwylaw yw ei ran or hau ir medi. Clywir y gair yn cael ei ddywedyd yn fynych y ffordd hon, nad oes diwedd ar waith y ffermwr, a gwir yw y gair; ond eto, y mae mor wir a hyny fod ei brif ddibyniaeth yn gorwedd yn farw yn y ddaear, ac nad oes ganddo ef ddim i gyfryngu rhyngddo ar bywyd hwnw ac ai fywyd ei hun ond Rhagluniaeth noeth, heb drimmins o fath yn y byd oi chwmpas. Beth dl son am ei dda ai ddefaid, ei foch ai geffylau? Mae un haf drwg, ac un cynhauaf gwan, yn peri iw prisiau gwympo yn union yn y ffair ar farchnad. A beth feddylir am bump neu chwech o flwyddi cyffelyb or bron, fel y bu y blynyddoedd a basiodd, pan y caech gystal buwch ag a ddymunech byth am bump a chwe punoedd, a dim yn codi ond pris y gwair, na dim yn cadwi lefel ond y rhent? Y gwirionedd am dani yw, nid yw cymdeithas, fel y cynrychiolir hi gan drefwyr a dinaswyr, wedi deall y ffermwr eto, nac wedi cael allan y fath ddolen bwysig yn nghadwen llwyddiant a dyogelwch y wladwriaeth ydyw amaethyddiaeth. Mae lle i ofni, os bydd y pum mlynedd nesaf yn hanes y dosbarth dyoddefgar a chamliwiedig hwn yn debyg ir pum mlynedd a basiodd, y gwesgir ni oll rhwng (x332) bys a bawd amgylchiadau i orfod cydnabod fod y gwr sydd rhwng dau gorn yr aradr yn debycach ir Atlas hwnw sydd (mewn hen chwedloniaeth) yn dal y byd ar ei ysgwyddau na neb arall y gwyddom am dano. Gwelsom Almanac y dydd or blaen, ac
arno bump o ddarluniau. Brenines Prydain Fawr oedd yn y canol, ac odditani yr oedd yn ysgrifenedig, I govern all. Milwr oedd y llall yn ei lifrai, ac meddai, I fight for all. Offeiriad oedd y trydydd, yn ei lifrai yntau, yr hwn a ddywedai, I pray for all. Nid ydym yn cofior fynyd yma beth oedd y pedwerydd darlun, ond hen ffarmwr o gymydogaeth y Mynydd Du - gallem feddwl wrth ei ymddangosiad - oedd y pumed, yr hwn a ddywedai, gan daro ei law ar ei frest, I PAY FOR .ALL! Bydd ffermwyr y mil blynyddoedd yn sicr o anfarwoli coffadwriaeth yr athrylith mewn cnawd a dynodd y darlun uchod, a llawer gyda hwy yn gorfod plygu ir gwirionedd a ddysga.

Yr ydym yn bryderus er ys meityn rhag ir darllenydd feddwl ein bod yn dal brief dros y ffermwr, i ddadleu ei hawliau a chyfiawnhau ei gwynion yn yr ysgrif hon, a thrw [sic] hyny anwybyddur testyn. Ymgysured, fodd bynag, yn y ffaith y bydd i ni ddychwetyd on crwydriadau heb funud yn rhagor o ymdroi, ac y disgynwn (chwedl Wil Brydydd y Coed) ar ein testyn bellach yn ddiaros. Soniasom eisoes mewn ysgrifau blaenorol am rai or cyfnewidiadau sydd yn y byd amaethyddol, megis yn y dull o aredig, neu foelyd, ac yn y gwahanol offer i ddwyn yn mlaen y gwaith. Mae cryn gyfnewidiad hefyd yn y dull o gynhauafu gwair a llafur, oi ladd ai dori hyd at y cywain ir ysguboriau. Wrth basio, paham y dywedir lladd gwair a thori llafur? Hyd yn ddiweddar, ac, mewn rhai manau, eto, pladuriau a chrymanau oeddynt yn arfau i ladd a thori; erbyn hyn, gwneir y gwaith wrth beiriant. Ceir y peirianau wedi diorseddu yr hen ddull braidd yn mhobpeth. I ladd ac i dori, i rwymo a chodi, i nithio a dyrnu, gwnant eu gwaith mor ddi-rwysg a chyflym, nes gwneyd i chwi deimlo ar y pryd mai afreidiau bellach ywr ddwylaw, gydau bysedd au bodiau, ac y gellid gwneyd y tro amser cynhauaf yn llawn cystal hebddynt. Mae adgof anhyfryd genym am y ffust ddyrnu, ac nid y creadur anhymig on cof cyhyd ag y bydd y pen hwn yn sefyll rhwng yr ysgwyddau. Arferem, yn nyddiau ein hieuenctyd, fyned i ffermdy cyfagos ir dref lle yr oeddem yn byw bob hyn-a-hyn, i ymofyn llaeth ac ymenyn; ac yn ol y cywreinrwydd naturiol sydd mewn dyn, hyd yn nod yn ystadau cyntaf ei ddadblygiad, cymerwn fwy nam rhan o amser i fynd a dod i wylio gweithrediadaur dynion ar y tir ac yn y tai. Un or pethau an gogleisiai yn benaf ydoedd y dyrnu ffust, yn ol yr hen ddull. Safem oriau bwygilydd, yn gwbl anghofus on neges, ar ysgol, ar cwbl, wrth ddrws yr ysgubor, yn sylwi ar blethiadaur ffust uwchben pan godid hwy i fyny, ac yn mwyhau eu miwsig wrth amser ac acen pan ddeuent i wrthdarawiad drachefn ar llawr-dyrnu. Cododd chwant arnom yn sydyn i dreion llaw. Nid oedd yno y pryd hwnw ond llanc o was heb fod hynach na ninau, a phan fynegasom iddo uchelgais ein henaid, cymhellodd ni i mewn. Yr oedd y ffusten arall yn gorwedd yn segur gerllaw. Ymaflasom ynddi, a chan gwbl gredu ein bod yn feistr ar y gwaith, codasom hi, a cheisiasom roi tro iddi o gwmpas ein pen. Buasai yn well i ni beidio. Yn lle myned o gwmpas y pen, aeth yn syth yn erbyn y pen - gwelsom fwy o sr, er ei bod yn ganol ddydd goleu, nag y mae yn debyg i ni weled cynt na chwedyn - ac aethom adref y prydnawn hwnw yn sobrach a doethach dyn, ac yn gyfoethocach o un wy iar o dan ein gwallt yn rhywle. Yn nglyn medi gwenith yn Nyffryn Tywi ers llawer dydd, yr oedd yr hyn a elwid dwrn-fedi a sad-dremo. Maer cyntaf yn esbonio ei
hunan. Ymafaelid mewn cynifer or tywysenau ag a amgylchid gan y llaw aswy, nes y byddai pen y fawd a phen y bys mwyaf (x333) yn cydgyfarfod, yna torid y tusw r cryman a fyddai yn y llaw arall. Tybiem y byddai medi cae o faintioli mwy na chyffredin yn y dull hwnw yn golygu arafwch a chaledi mawr; ond pan y cofiom fod cymaint deirgwaith o weithwyr iw cael ddeugain mlynedd yn ol a than hyny ag sydd iw cael yn awr, rhaid cydnabod yr eid drwyr gwaith yn d o rwydd a buan; heb son fod y dwrn-fedi yn waith cryno, llwyr, a gln y tuhwnt i ddim a welir yn y dyddiau hyn. Maer gair arall sad-dremo - yn anhawddach i ddod o hyd iw wreiddyn. Ond wedi chwalu rhyw gymaint o gwmpas ei fn, tybiwn fod a fynor sawdl ag ef, ac mai fel hyn yi hesbonir: Pan yn medi yn ol y dull crybwylledig, yr oedd y troed aswy yn mlaen, ar troed de yn ol. Yn awr, wrth roi yswingiad ir gryman am y dyrnaid tywys, yr oedd yn rhaid bod yn ofalus na byddai iddi gymeryd y sawdl aswy yn y fargen; ac yr oedd dwyn y gryman nes y byddai ei threm at y sawdl yn rhwydd a naturiol bob tro yn cael ei ystyried yn dipyn o gampwaith. Felly, yr oedd sad-dremio, neu sawdl-dremio, yn rhan hanfodol or dwrn-fedi. Ni chaniata gofod i ni fyned ar ol yr hedfed, un arall o neillduolion y cae medi, er cymaint ein hawydd am hyny.

Mae cyfnewidiadau y blynyddoedd diweddaf, er eu bod, yn ddiau, yn welliantau wrth edrych arnynt llygad oer rheswm, wedi dihatru bywyd a gwaith yn y wlad o lawer iawn or rhamantusrwydd a berthynai iddynt gynt. Nid yw Dyffryn Tywi wedi dianc yr anocheladwy hwn. Nid oes dadl nad oes gan yr agerbeiriant ai gludfenni gyfrifoldeb aruthrol yn y peth hwn; ac y maer dull trefol o fwyta a gwisgo, ar dull peirianol o weithio, wedi ysbeilio yr ardaloedd amaethyddol o luaws ou hynodion, au darostwng i lefel unffurfiol pobman. Pe baech yn meddwl am fwydydd a diodydd amser cynhauaf, er engraft, fech tarewir gan y gwahaniaeth yn union. Yn yr hen amser - dwysged o flynyddoedd wedi i Bess orphen teyrnasu - nid oedd son am de yn y tir, na choffi, na chwrw, o fewn terfynaur maes lle yr oeddid yn gweithio y tymor hwn ar y flwyddyn. Ond beth feddyliai menywod llafurdai a phentrefi Dyffryn Tywi ar cyffiniau heddyw, pe dedfrydid hwy i wneyd diwrnod o waith ar y cae gwair neur cae llafur heb de? A pha ryw fath leferydd y dybiech chwi, a ollyngid dros wefusaur gwrywod, pe gorfodid hwy i ysgwaru, neu bitchio ar ben y tŷ gwair, neu rwymo, ar cyffelyb, heb wlychu eu pig yn awr ac eilwaith yn nghynwysiad y jar cwrw? Byddai y drychfeddwl noeth yn ddigon iw gyru i ffitiau yn y fan. Rhaid ir ffermwr fod yn gryn arwr i fentro ar ddiod fain a llaeth enwyn yn ller gwlybyrpedd a enwyd; ac er fod ambell un yn anturio - gwneir cuchiau wrth son am ei enw: priodolir ei waith yn alltudio yr ysbrydion drwg oi gae, ac yn bwrw allan gythreuliaid oi gynhauaf, ir ysbryd drwg ei hunan, fel y gwneid ar Iesu: gerfydd eu clustiau y ca efe weithwyr iw gynorthwyo - ac nid yw chwarter mor boblogaidd gydar gweision ar llafurwyr yn y gymydogaeth ai gymydog sydd yn byw yn y fferm agosaf ato, yr hwn y mae ei dir ar adeg cynhauaf yn llifeirio or stwff y gelwir cwrw arno. Sut yr oedd ers llawer dydd? Cyfrifid sucan blawd ceirch ac enwyn wythnos oed - enwyn a ddechreuai fagu barf - y bwyd goreu i unrhyw ddyn i ladd diwrnod o wair; ac un or pethau a gredid yn ddiameu gan gewrir dyddiau hyny oedd nad oedd ei fath i roddi nerth yn y gewynau, ac i osod atalnod ar ol blinder pob dydd yn ei ddydd. Gydar eithriad or te ar cwrw, ceir purion ymborth yn amaethdai Dyffryn Tywi eto - cig moch a chig eidion fel y myner a faint a fyner; cawl dibendraw, a phob math o lysiau ynddo, yn gloron ac yn foron, yn fresych ac yn faip, yn banas ac yn genin - Ah! ie, dewch ar cenin yn dew, a goreu oll po leiaf fydd eu berw, nes y byddant yn clecian dan eich danedd. Maer ochr nesaf ir croen or mochgig - y donen - yn sicr o fod yn llawn mor gymeradwy wrth y ford ag (x334) un rhan arall o hono; ac oni bae am yr awydd anniwalladwy sydd ar y merched ir t, ar dynion ir cwrw, ni buasair plant fawr nes yn ol nar tadau.

Ambell i flwyddyn, dygwydda fod pawb yn brysur yr un pryd, a dyna lle bydd rhedeg am ddynion, am fod dynion yn llawer prinach yn y wlad yn awr na chynt. Ond odid na fydd haner dwsin neu ragor yn mhen un, ac os na fydd gan rhyw le fwy o hawl ar ei wasanaeth nar lleill, efallai mair bwyd a dryr fantol. Y mae yn hen gyfarwydd chynwys byrddaur ffermdai ar adeg cynhauaf am filldiroedd o gwmpas, a gŵyr beth iw ddysgwyl yn mhob un o honynt; a chan fod ganddo yntau ei ddewisiad, fel rhyw anifail arall, y tebygolrwydd yw yr efe ir fan y gwasanaethir ffyddlonaf iw dduw - oblegid un or Cretiaid ydyw, a duwr Cretiaid a fyn ei addoli. Clywsom am un hen law oedd wedi byw ar yr hwyaf yn y byd, pan yr apelid am ei wasanaeth am y diwrnod, a ai at ei bladur mor ddefosiynol ag yr ai at ei bader, ac a gymerai
arno ymgynghori a hono drwy rwbior gareg hogi drosti. Os dywedair bladur

Cig eidion a chabbage - cig eidion a chabbage,

rhoddai ei air i wr Caeresgob y deuai yno yn ddiffael; ond os mai

Bacon and beans - bacon and beans

fyddair dehongliad a roddid ar leferydd y bladur, ir Breindir yr elai, a doedd dim troi i fod
arno. Chwi ryfeddech y trachwant sydd ar ambell i ddyn a gyfrifir yn barchus am lond pen o ddiod ar y cae. Does dim disychedu arno, ac yn y gongi lle maer jar y cewch ef bob pum mynyd, ai drwyn yn byw yn y cwpan. Nid oes neb yn cofio iddo dalu am wydriad erioed iddo ei hunan, heb son am arall; ond os bydd rhyw ffermwr yn fwy haelionus ar ei gwrw nar cyffredin, neu os bydd ocsiwn wlypach nai gilydd heb fod yn mhell, yno y cewch y dyn trachwantus cyn wired ach geni. Adwaenom ef yn dda. Mae yn hen grefyddwr, ond mor drachwantus am ei dablen ar sotyn mwyaf trwythedig ynddi; a dynar gwybedyn marw sydd yn andwyo ei enaint ef, druan. Penderfynwyd gwneyd cais iw wella ryw ddiwrnod cynhauaf, trwy beri iddo syrffedu ar y drwyth oedd mor ddinystriol iw gorff ai gymeriad. Smyglwyd haner potelaid o frandi i haner galwyn o gwrw, a gosodwyd y llestr mewn safle fanteisiol i Abram gael gafael ami. Pan oedd pawb ar eu goreu yn gweithio, dyma Abram yn sythu ei gefn, yn sychur chwys, ac yn llithro mor ladradaidd a dim welsoch erioed gydag ochr y berth i gyfeiriad y galwyni. Y llestr a reibiwyd oedd y gyntaf iw lygad ddisgyn arni, a dynar trwyn i mewn ar ei union. Y troion or blaen, yr oedd yn rhaid galw ar Abram i adael y jar a dychwelyd at ei waith; ond doedd dim galw i waith i fod nawr. Gwyliair bechgyn ef dan eu haeliau, a gwelent fod y llestr yn myned i fynyn raddol - o lwnc i lwnc, ac o ddracht i ddracht, yn uwch, uwch, uchach yr l, heb aros i gymeryd ei anadl, nes or diwedd y saif fel corn simnai ar ei wyneb, ar dyferyn olaf oi chynwysiad wedi myned i lawr ar hyd ffordd yr holl ddyferynau blaenorol. Hwnw oedd y gwelltyn olaf ar gefn y camel sychedig (maddeued y darllenydd i ni am newid y ffugr mor sydyn), a syrthiodd Abram ar llestr ir ddaear bron yr un pryd. Bu agos iddo a myned yn aberth iw drachwant, cadwodd ei wely am fis, a chadwodd ei hunan o fewn terfynau gweddusder am flwyddyn. Ond megys y dychwel y ci at ei chwydfa, ar hwch, wedi ei golchi, iw hymdreiglfa yn y dom, felly y dychwelodd yntau at ei ffyrdd trachwantus, nes y mae heddyw yn gymaint o dablen-addolwr ag a fu yr awr oreu arno.

Cynelid rholti nid bychan ar ddiwedd y cynhauaf yn y dyddiau gynt, na cheir son am dano yn yr oes ryddieithol a matter-of-fact hon. Fel y dywedai y diweddar Danymarian o fythwyrdd goffadwriaeth wrth ganu yr hen Foriah Am y cyntaf ir pen, mhobol i - felly yr oedd y pryd hwnw am y cyntaf ir pen. Yr (x335) oedd son mawr drwyr wlad i gyd am y sawl ddybenai ei gynhauaf gyntaf, a chedwid ei enw yn fyw am flwyddyn, o leiaf. Tybiwch fod deg neu bymtheg o ddynion ar y llethr yr ochr hyn, ar cwbl yn gwaeddin unsain -

...................Yn fore mi godes i,
...................Yn hwyr mi dilynes hi,
...................Or diwedd mi ces hi.

Atebid hwy gan gynifer a hyny drachefn ar y llethr yr ochr arall, y rhai a berthynent i fferm arall

Beth a gest ti?

A dyna floedd fel taran Pen medi!

Bloedd goruchafiaeth ydoedd, wedi dod gyntaf ir pen. Hen arferiad ysmala eilwaith oedd carior gaseg fedi - neu ysgub olaf y cynhauaf - i faes ac at dŷr ffermwr-gymydog agosaf, ai gadael yno. Os llwyddech i wneyd hyny cyn ir ffermwr neu un oi gwmni gael gafael arnoch, yr oedd yn arwydd buddugoliaeth och tu chwi oedd yn dyfod yn rhy agos adref i foddlonich cymydog. Ond yr oedd mor debyg a dim o fod ar wyliaduriaeth am danoch, ac os na lwyddech i ddianc ich tiriogaeth eich hun ar ol gollwng y gaseg fedi och llaw, caech eich dwyn i gydnabyddiaeth gwaelod y pound gerllaw, yn annibynol hollol ar eich cydsyniad eich hunain. .Mae gweddillion or hen gwstwm yna yn aros hyd y dydd hwn. Gwneir ymdrech i fyned ar gaseg i r tŷ - nid tŷr cymydog - heb yn wybod ir merched fydd yno, ai chrogi wrth nenbren y gegin. Ond maer merched, - dan fantell diniweidrwydd, yn llygaid i gyd, ac wedi darparun helaeth ar gyfer unrhyw dŷ-doriad posibl a thebygol felly; a phan y gadewir ir sawl fydd r gaseg dan ei gt ddyfod o fewn agosrwydd dymunol, tywelltir arno swm o ddwfr mor ddirybudd nes ei fod mor wlyb a physgodyn, mor hurt a phe bair bendro arno, ac mor fach yn ei olwg ei hun ar cwmni a phe byddai wedi cael ei ddal gan dad y ferch a garai wrth ffenestr ei hystafell ganol nos. Gwell genym beidio son am yr hyn a fforffetiai ir merched oblegyd ei drwstaneiddiwch, rhag i ledneisrwydd rhyw hen lanc gael ergyd or parlys.

___________________________________________________________________

(x384)
PENOD X. - FFAIR AWST. (tudalennau 384-388)
___________________________________________________________________

Nid cynt yr ysgrifenasom benawd ein hysgrif, nag y cyfododd mintai o ysbrydion hen adgofion am ffeiriau yn fyw on blaen, nes duo awyrgylch ein meddwl - yr hon nad yw glir iawn ar y goreu - a pheri i ni osod ein hysgrifbin on llaw am enyd, ac aros i rywbeth neu rywun caletach nag ysbryd ddyfod heibio. Oblegyd nid am ffeiriau chwarter canrif yn ol yr ydym yn myned i son, ond am ffeiriau eleni; ac nid un o ffeiriaur Gogledd chwaith ydywr testyn i fod ysbrydion y rhai sydd newydd fod yn ein poeni, ac sydd eto yn llercian yn y maesdrefi - ond un o ffeiriau mawr poblog a phoblogaidd Caerfyrddin, tref y marchnadoedd ar ffeiriau, y prynu ai gwerthu, y jockeys ar porthmyn, y da, ar ceffylau, ar moch. Ac eto, nid anhyfryd yw genym fod fachigyn yn yn nghwmni ysbryd ambell i hen ffairyn y Gogledd a arferai fod yn ddarn pwysig on bywyd yn nyddiau mebyd ac ieuenctyd. Eisteddwn i lawr gyferbyn n gilydd, yr ysbryd a ninau, ac fel hen gyn-bartneriaid heb weled ein gilydd er ys haner oes, awn dros yr hen hanesion - am y modd y mitchem or (x385) ysgol ar ddiwrnod ffair; y crwydrem i fyny ac i lawr drwyr dydd, heibior stondinau, yn y gobaith o weled