1482k Gwefan Cymru-Catalonia. Atgofion Hen Lowr. Gan Hen Bartnar Dai. 1934. Wel, ’nawr ta, gad weld, ’rwy’n bedwar ucain, jest a bod, a ma’ hynny’n mynd a ni’n ôl i’r flwyddyn 1854, pan ceso i ’y ngeni.

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_057_atgofion_hen_lowr_1934_1482k.htm

0001 Y Tudalen Blaen Google: kimkat0001

..........2657k Y Porth Cymraeg Google: kimkat2657k

....................0009k Y Barthlen Google: kimkat0009k

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) Google: kimkat096k

..........................................y tudalen hwn


..






Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal·les i Catalunya

 Cywaith Siôn Prys (Casgliad o Destunau yn Gymraeg)
 El projecte Siôn Prys (Col·lecció de textos en gal·lès)

Atgofion Hen Lowr.
Gan Hen Bartnar Dai

Buddugol yn Eisteddfod Castell Nedd 1934

Adolygiad diweddaraf: 2009-12-02, 2010-10-09


(delwedd 6519)

Y llyfr ymwelwyr: 0860k, Google kimkat0860k

 

 

·····

Atgofion Hen Lowr – Straeon ac Ysgrifau – Buddugol yn Eisteddfod Castell Nedd 1934

John Davies (Pen Dâr)

 

Atgofion Hen Lowr.

Gan HEN BARTNAR DAI.

 

O ie; ac yr wyt am gael tipyn o’m hatgofion i, wyt ti, idd ’u hala nhw i Gastell Nedd? Wel, yr w i yn ddicon bolon, ac os o’s awr fach gyta ti i spario, fe awn ati ’nawr ar unwaith.

 

Ishda di lawr yn y gornal fan’a, a fi stedda inna yn y fan hyn, wrth ochor y tân, ac fe allwn dynnu pwff bach ’nawr ac yn y man, wrth fyn’d ymla’n. Ond ble i ddechra, os gwn i? Atgofion, hynny yw, ’rwy’n sposo, cofio, a atrodd petha yn fy hanes fel hen lowr.

 

Wel, ’nawr ta, gad weld, ’rwy’n bedwar ucain, jest a bod, a ma’ hynny’n mynd a ni’n ôl i’r flwyddyn 1854, pan ceso i ’y ngeni. A fi alla weud, ’y mod i’n gallu cofio’n ôl am rai petha, oddiar pan o’n i ond bothti betar neu bum mlwydd o’d.

 

Daw hynny â ni i’r blynydde 1858 a ’59, a ma rhai o’r petha ddigwyddodd y pryd hynny yn fyw iawn ar ’y nghof i ’nawr.

 

Colier o’dd ’y nhad, ti’n gweld, a ’rwy’n cofio mor dda fel yr o’n i, yn hwyr y dydd, yn watsan yr amsar, pan o’dd nhad yn dod o’r gwaith, a finna yn rhytag i gwrdd â fa, ac yn meddwl ’y mhunan yn slebin mawr o ddyn wrth ga’l cario’i focs, a’i jac a, i’r tŷ, a dyna lle bysa nhw, nhad a mam, yn ca’l sbort yn iawn wrth weld yr hen grotyn yn i’ swanco hi ar hyd y ty.

 

Tua’r amsar hynny, he’d, bachan, ’rwy’n cofio mam yn llefan a’r dŵr yn rhytag lawr dros ei gwynab hi; ’rodd nhad wedi dod tua thre yn ’i ddillad gwaith, a’i wynab yn lân, a’r bocs, a’r jac yn llawn. Fe glywas mam yn gofyn iddo beth oedd y mater ’i bod hi’n stop mor amal o hyd? A fe wetws ’nhad rwpath am ‘streic,’ ‘tarw,’ ‘scotch,’ a ‘glo-môr,’ a phethach. Wrth gwrs, d’on i yn gwpod dim beth o’dd ystyr petha y pryd hynny; ond fe ddetho i wpod yn dda ar ôl hynny.

 

’Rwy’n cofio’r dynon, dou ne dri o nhw, yn dod yn ôl ac ymla’n i’n tŷ ni, i wilia gyta nhad, ac yn sôn fod rigment o sowldiwrs wedi dod o Ferthyr, ne Dowlais, a’u bod nhw wedi ca’l lle i aros yn ysgoldy newydd Cwmbach, fel y bysa nhw’n barod i daro ar y coliars odd ar streic, os bydda nhw yn catw’r mwstwr lleia.

 

’Rw i wedi dod i wpod ar‘ hynny, taw Streic ’58 a ’59 oedd y streic honno. Fe barhaodd honno am bothti dou fis, yng nghenol y gaea, he’d li. A beth odd yn wath na’r cwbl odd, fod y gwithwrs, pwr ffelos, wedi gorffod mynd yn ôl i’r gwaith ar dri swllt y bunt o gwmpad. A fe ffaelodd nhad, a thri ne bedwar o’i bartnars a, i ga’l gwaith yn ôl o gwbwl, a gorffod iddi nhw symud o’r lle, a dyna ffor’ y detho ni i’r lan y ffordd hyn i fyw, a dyma lle’r w i byth.

 

Pan o’n i bothti saith mlwydd o’d, fe geso fynd dipyn bach i’r ysgol. Rodd yr ysgol hynny yn ca’l i chatw gyta hen fenyw, a honno’n iwso snuff, he’d li.

 

A fe gynta dy fod ti wedi darllan am ysgol hen Robin y sowldiwr yn hanas Rhys Lewis? Wel, rhwbath yn debyg odd ysgol Shani Wat gyta ni. Slat wech chinog i neud syms, llifyr “Mayor” i ddysgu spelin, a darllan Sisnag o’r Beibl. Diaich i, bachan, ro’n ni’n gallu mynd ymlan fel y gwynt, ac yn raso trw’r llyfra am y cynta. O ysgol fudir odd ysgol Shani Wat.

 

Ond fe ddath yr amsar i fi i ddechra gwitho, ac O! dyna’r amsar y gwelas i mam mewn trwpwl. Y fi yn becan am gal mynd i witho gy’ta ’nhad, er mwyn cal arian y pai, i roi i mam, a galls’wn i ddim a godde i weld mam yn colli dagra pan fysa nhad yn dod sha thre ar ddydd Satwn y pai, heb hannar dicon o arian i dalu’r siop.

 

Wel, ’rodd ’nhad yn folon i fi i gal trio, ond r’odd mam yn ofni y byswn i yn cal ’y niwadd o dan y ddaear. Ond, yn goliar bach yr etho i o’r diwadd, a fe geso waith gyta Twmi Shams, o’r Comin, yng ngwythian y petar. Dyma fi’n ’nawr yn ddyn, bachan. Wrth gwrs, ’rodd yn rhaid cal trowsis dyc, strapan i ddala’r trowsis am y nghenol i, scitsa gwaith cryf, a phedola ar ’u bla’n nhw, a lamp newydd.

 

Y pryd hynny, bachan, yr oedd y lampe glasis, y “Clanny,” newydd ddod i gal ’u iwso yn y pylla oedd wedi cal ’u shinco dipyn yn ddwfwn, ac yn rhoi sopyn o gas mas. Wel, y balchdar fu yndo i am sbel o amsar odd i gatw’r lamp yn lân; yr ow’n i yn rhwto, a rhwto, y tu fas i’r cas, nes bod y cwbwl yn shino fel glas. O, y machan i, ’rodd pobun yn gorffod talu am ‘i lamp ’i hunan y pryd hynny.

 

Wel, nawr ta, gad weld, ma’n drueni i fi i bido gwed gair neu ddou am Twmi Siams, yr hen fistir y buo i yn gwitho gyda fa gynta.

 

Dyn o’r Wlad odd Siams, ond wedi dod i’r lan i’r gweithe i gal ennill sopyn o arian. ’Rodd e’n ddyn sobor, ac yn weddol o dduwiol, ond yn lico cal peint bach ’nawr ac yn y man, ac yn smocwr dipyn yn drwm. Yr odd e, hefyd, dipyn yn hir ’i ben, ac yn gwpod lot o hanes y Beibl. A fe fuo i yn lwcus iawn ’y mod i wedi cal mynd ato i witho. ’Rodd a’n itha piwr, ac yn ofalus iawn amdano i. Chelswn i ddim mynd i le dancherus o gwbwl os gallsa Twmi help o ’ny. A dyna beth odd yn dda yndo, bachan, ’rodd a yn gwed ’i hanas wrtho i. ac yn ’y nysgu i miwn llawar o bethach. Fe fysa yn ’y’n holi i ar hanes y cwrdd dydd Sul, am y pregethwr, yr Ysgol Sul a’r Ysgol Gân, &c. Fi alla i fentro gwed, ’y mod i wedi dysgu llawar cyhyd ag y buo i yn gwitho gyta Twmi Siams, ac y mae’n felys cofio yr amsar hynny yn awr.

 

Wel, wyt ti’n gweld, ’ro’n i’n tyfu o hyd, a’r pryd hynny ’roedd merched yn cal gwitho ar ben y pylla, yn y gweitha tân, ac yn halio glo tai ar hyd y lle. A jaich ariod i, bachan, ’roedd rhai ohonyn’ nhw yn bert iawn he’d li. A falla ’i bod i cystal i fi wed a ’nawr, do’s dim isha i fi fod a chwilydd, fi fuo i yn caru gyta’r ferch fach lana’ welast ti ariod. ’Rodd hi’n helpu gyda’r drams ar ben y pwll, ac yn tawlu glo mân at y tana wrth y boileri; ond ’rodd hi’n ferch fach bert.

 

Yr amsar hynny, yr odd hi bothti pymthag, neu un ar byrnthag o’d, a finna, ti’n gweld, yn ddwy-ar-bymthag. O, annwl, annwl, ’row’n i’n ’i charu hi’n dwym! Ond bachan, y trueni odd, fod bechgyn ryff a digaritor yn amal iawn yn cymryd ewndra ar y merched hyn yn ’u dillad gwaith, ac yn ymddwyn yn gwrs a thramgwyddus tuag atynt.

 

Un tro, bachan, fe a’th Ianto’r Defil i drio’i law ar y wadgen fach hynny odd gyta fi, ac fe wetodd rwpath yn insyltin wrthi; hi wetws hitha wrtho i, ac os wyt ti’n y fan ’na, dyma hi yn fatl ryngtom ni’n dou. ’Down i ddim wedi arfadd ymladd, ond jaich ariodi, ’rown i mor ffond o’r hen ferch fach, ac yn meddwl cymint amdani, fe elwn drw’r tân drosti, Wel, y diwadd odd, fi roias gystal plastrad i Ianto a gas a’riod. Fe gas y ferch fach lonydd ar ôl hynny.

 

Ond yn y diwadd, nid y hi ddath yn wraig i fi. Wel dyna, a’i ddim ar ôl atgofion y caru fuo i yn ’i neud; atgofion yr hen goliar sydd i fod, ac nid atgofion y carwr.

 

Yn y blynydda cynta, bachan, ceffyla, a haliars, a dryswrs oedd yn dod a’r glo’n ôl i waelod y pyllau. ’Rodd hynny cyn bod y rhaffa ‘Main’ a ‘Tail’ yn dod i iws. ’Rodd hi’n blesar pryd hynny i witho o dan y ddaear. Yr hewlydd yn cal ’u gweithio ar y lefel, fel gallsa’r ceffyla dynnu dwy ne dair ne ragor o ddrams o un partin dwpwl i’r llall. A dyna lle bysa ni, bachan, tri ne bedwar o geffyla, gyda tair ne betar dram ar ôl pob un, yn mynd yn hwylus, a’r haliars yn canu, y machan i, fel yr eos; bothti hannar dwsan o siwrnion cyn cinio, a rhwpath yr un peth o amser cinio hyd amsar gatal. Felni y bu hi am flynydda, hyd nes i’r injins, a’r rhaffa, a phethach ddod i iws o dan y ddaear. ’Dw i ddim yn cretu bod llawer o ganu ym mynd ymlan yn y pylla glo yn awr, yn ôl y swn ’rwy’n ’i glywad,

 

Ond dyna, y ma popath yn newid, ta p’un a er gwell, ne wath, d’wn i ddim. Bachan w, y ’slawar dydd, yr o’n ni’n mynd a phipa a thybaco i’r gwaith, a rhyddid i ni gal dod yn ôl i’r twll cloi i gal whiff fach genol dydd. a dyna lle’r odd smoco, a siarad, a dadlu yn mynd ymlan. Wedi mynd yn ôl i’r ffas glo, dyna’r lle ’roedd gwitho, bachan, llathed o gwt, tunelli o lo, twll gwilod, ne dwll top, a phob un yn gwitho fel y mail.

 

Wel, ’rwyt ti’n gwpod shwd ma hi’n awr. ’Roedd y gaffars y ’slawar dydd yn ddynon weddol o grefyddol, ac yn gyffredin iawn, local preacher, diacon, ne flaenor capel odd yn cal ’i ddoti’n faniger, overman, neu fireman, yn amal. Yr odd y dwediad yn cal ’i glywad yn amal: “Os wyt ti’n dod i’n capel ni ti gei waith yn ein pwll ni.” A ma’n rhaid i fi weud, ’rodd yna frawdgarwch yn bodoli y pryd hynny rhwng y perchennog a’r gwithwr.

 

Fe fysa’r mistir yn dod i ben y pwll ac yn napod i withwrs, yn cyfarch hwn fel hyn, a’r llall fel arall. A phan fydda rhyw jobin spesial i gal ’i neud, a isha sopyn o ddynon decha idd ’i neyd a, fe fydda mistir yn addo ecstra pai, a chwpwl o bunnodd i gal cwrw-lwans. Dyna’r ffordd odd hi y ’slawar dydd, y machan i.

 

Wel, nawr ta, yto, gad inni ddod yn ôl i’r 70’s. Y mae dros drician mlynedd nawr oddi ar Streic Fawr ’71. Aberdar ac Aberpennar odd fwya yn y boddar o hyd. A fe ath petha’n gas iawn yr amser hynny rhwng y meistri a’r gwithwrs.

 

Wedi i’r gwithwrs drwy y Cwm, o’r top i’r gwaelod, sefyll mas ar y streic am gwpwl o wthnosa, fe halws y mistri i’r lan i Loegr, i Staffordshire, i wahodd collars i ddod oddi yno i’r Mount, a ’Berdar i witho, gan ddwed y celsa nhw waith llawn am wages o bedwar-a-wech a choron y dydd, a lodgins cwmffwrddus hyd nes y bysa ’nhw’n cal tai ’u hunen.

 

Bachan, bachan, fe ddethon, bothti bedwar ucian ne gant o nhw, a phan ddetho’n nhw, dyna le fu yn y Mownt. Fe ddath y menywod a’r merched i’r stesion i gwrdd a’r tren, a phob un â chitl tun, ne ffrimpan gyta hi, i roi welcom i’r turncoats.

 

Wrth gwrs, yr oedd yr awdurdoda, fel arfer, wedi paratoi dicon o bolismyn i gardo’r goliars newydd. Ond fe ddigwyddws peth od ac anarferol iawn ym mhylla’r Mownt y bore ar ôl i’r turncoats ddod. Fe ballodd y firemen â mynd i lawr gyda’r dynon dierth, a fe sefon ar y streic, rhyw wyth ne naw o nhw. Fe geson ’u tynnu o fla’n y cwrt yn Aberdar, a fe geson ’u cosbi.

 

Wedi rhyw dair wthnos ne fis o ymladd fel hyn, rhwng y mistri, a’r gwithwrs, fe setlwyd y fusnes, a fe roddwyd send off iawn i’r turncoats eto, gyta’r gwragedd, a’r merched, yn canu’r kettle tins a’r ffrimpans. Fe gosbwyd tua hannar dwsan o’r gwracedd yn Aberdar am gymryd rhan yn y drafodath hyn, a ma’ enwau’r menywod a’r dynon hynny ar ga’l o hyd, os bydd isha.

 

Wel, wyt ti’n barod am whiff fach ’nawr? Cynn di dy bib, a fi a i ymlan a’r stori dipyn bach yto. Ie, gwed am y streic yr o’n i, on ta fe? Streic arall lled gas wy’n ’i chofio odd streic ’75.

 

Dodd dim llawar o undab yn bodoli’r pryd hynny, ti’n gweld. ’Rodd y coliars yn cal ’u rhannu gyta ni yma yn Sowth Wales fel rheol, yn ddwy ran, coliars y gwitha tân, a choliars y glo môr.

 

Ac yr odd yn anodd iawn idd ’i cal nhw i ddiall ’i gilydd; jealousy, eiddigedd, ti’n gweld, a ofan fod un set yn cal mwy o wagis na’r rhai erill. A phan bysa’r coliars yng ngwithe’r glo môr yn streico am gwnnad, dyna lle bysa gwyr y gwithe tân yn pitcho mewn fel nigars i droi gymint o lo mas ag a allsa nhw; “good for trade,” ’menta nhw.

 

A dyna’r ffordd odd hi gyta’r ochor arall, he’d ’li. Ac yn ’75, fel ’rwy’n gwed, fe fu bothti tri mis o streic. Yr oedd mistri y ddwy ochor wedi dod i ddiall ’i gilydd yn weddol iawn erbyn hyn, a’r fatl rhwng mistir a gwithwr yn dod yn fwy wherw a ffyrnig nag o’r blan.

 

’Rodd Mabon ’lawr sha ’B’rafon, a’r West ’na; Isaac Ifans yn ochr Castall Nedd, a Dai o’r Nant a Phylip Jones, gyta ninna i’r lan y ffordd hyn, yn dechra dod i’r ffrynt fel ledars.

 

A’r amsar hynny fe ddath Haliday a Macdonald - nid hwn sy yn Llundan ‘nawr, cofia - lawr i’r parta ’ma, i drio’n helpu ni yn y streics a phethach; ond Saeson o’n nhw, a dath ddim llawar o siap ar betha; mynd yn ôl ar gwmpad odd hi o hyd, a fe fu petha’n dlawd iawn am flynydda wedi hyn, y gwitha tân yn stopo ym mhobman, bron, a’r gwithwrs yn gorffod mynd i rwla i ddisgwl am waith, off i’r ’Merica, ac i bobman lle celsa nhw waith. Fe allswn i ddwud sopyn wrthot ti am yr Haliday ’ma, fel y bu a yn Aberdar, Merthyr a’r Rhondda yn cynnal mitins, a phethach, ac yn sefyll lecsiwn yn erbyn Fothergill a Henry Richard, i gal mynd i’r Parlament.

 

Ond fel y digwyddws hi, a’th a ddim i miwn, ond cofia di, fe gas dros betar mil o fôts, a fe ddangosws hynny fod y gwithwrs wedi dechra acor ’u llycid i’r beneffit o gal dynon o’u plith ’u hunen i fynd i’r Parlament drostyn nhw.

 

Weta i ddim rhacor ar y pen ’a, ond fi â ’mlân i wed dicyn yn fwy am streic ne ddwy arall. Fe geson streic ffyrnig, ond cymharol fyr, yn 1893. Ma honno yn cal ’i galw yn “streic yr Haliers.” Fe ath honno fel tan drwy Sir Fynwa, y Rhondda, Aberdar, ac i lawr i’r West, a bechgyn pert, fel ti’n gwpod, odd yr hen haliers y ’slawar dydd.

 

Ond ta beth i, fe ddath yr hen Garreg Siglo sy ar y twmp ar bwys Pont-y-pridd yn bopilar iawn, o achos fod rhai o’r mitins mwya yn y streic hynny wedi cal ’u cynnal wrth y Garreg Siglo.

 

A fe ddath ’na fachan ifanc o ’Berdar i drwpwl mawr y pryd hynny, he’d li. ’Rodd a’n un o growd fawr yn marcho trwy ’Braman i lawr i’r Mownt. Fe berswatws y sargiant polis nhw yno i fynd yn ôl o’r Mownt, ac fe ethon. Ond i’r lan ar bwys gwaith ’Braman, fe danws rhywun ergyd o bistol, a dyma hi yn alibalw gwyllt, ac fe ffindwd mâs taw gi’ta’r boi ifanc hwn odd y pistol. Wedi trial ne ddou, fe gas fynd i’r jâil am wech mis. Fe ddath y boi’n enwog wedi ’ny fel membar o’r Parlament am sbel, ond o achos iddo dro ’i gôt, fel gollws ’i set, a ma fa ar y comin byth oddi ar ’ny, a dw i ddim wedi clwad dim amdano ers blynydda.

 

Streic arall, a’r un fwya yn hanas y byd, i’r lan i’r amsar hynny, odd streic y ’98. ’Rodd yr hen generals i gyd yn cymryd rhan yn honno - Mabon, Dai o’r Nant, Daronwy Isaac, John Williams, Tom Richards, Alfred Onions, Will Brace, a’r blwmin lot i gyd.

 

Fe ddechreuws y ledars ffraeo a’i gilydd; yr hen Fabon yn dala’n ôl, a’r ceffyla ifanc yn moin mynd ymlân, a’r dynon call ymhlith y gwithwrs yn gwed nag odd hi ddim yn ddecha iawn, i newid ceffyla yng nghenol yr afon.

 

Trodd rhai o’r iyngstars yn mo’yn doti John Williams yn geffyl blaen yn lle Mabon. Ac i gwpla’r cwbwl, pan odd yr hen streic ar ’i chenol, fe gas Dai o’r Nant, pwr ffelo, ddou fis o jâil am ’i fod a, menta nhw, wedi ledo streicars Pwll y No. 9, Abernant, i ala ofan ar rai turncoats odd wedi aros i witho wedi i’r mwyafrif i ddod mas ar streic.

 

Yr oedd yr hen Ddai, ’ti’n gweld, yn cal ’i styriad yn fwy gonast na’u hannar nhw, a chyda bu e miwn o dan glo yn y jâil fe setlwyd y streic, ar ôl bod yn agos iawn i whech mis yn ymladd. Bothti dwy flynedd y bu’r hen fetran yn fyw wedi bod yn y jâil, a fe fu farw betar-blynadd-ar-ddeg-ar-ucain yn ôl.

 

Wedi’r streic hynny, fe ddath y Ffederasion i fodolath gyta ni yn Sowth Wales a Sir Fynwa. ’Rodd Will Brace a chwpwl o’r rebels o Sir Fynwa wedi bod yn cecran ynghylch Ffederasion coliars Lloegr dwy ne dair blynadd cyn y streic fawr, ac yn gwed yn gryf y dyla ni yng Nghymru joino gyda’r Saeson, a chal un undab mawr solid, fel y bysan ni i gyd - y Scotch, y Saeson, a ninna’r Cymry, pan odd streic ne fatl yn rhwla, yn gallu dod mas gyta’n gilydd yr un pryd, yn lle’n bod ni, rai yn gwitho a llanw glo pan fysa’r rhai erill ar y streic. Bachan, bachan, fe âth mor gas rhwng Mabon a Brace fel ag idd ’u achos nhw i fynd i’r seisis, a fe ’nillodd yr hen Fabon y dydd, a fe gas ffyrlin o iawn am damagis yn erbyn Brace.

 

Ond whara teg iddi nhw, fe ddethon yn bartnars piwr wedi ’ny, a fe ymladdon lawer i fatl galad gyda’i gilydd ar ôl hynny yn ochr y gwithwrs. Ac wrth gwrs, ’rwyt ti’n gwpod bod yr hen Fabon wedi mynd sha thre y ’slawar dydd, a ma Brace, ’rwy’n clywad, yn ’i lorchan hi yn rhwla wrth yr afonydd dyfro’dd, wedi cwpla gwitho, ac yn aros am yr alwad iddo fynta i gal mynd sha thre.

 

Cofia di, bechgyn cryf odd y bois hynny i gyd, ond ma nhw’n awr wedi mynd a’u cownt i miwn i gyd, ond yr hen bartnar Will Brace, a’r tro diwetha y gwelas i a, ’todd ’i fowstas a mor ddu ac mor hirad ag ariod.

 

’Dos dim isha i fi ’weud dim wrthot ti am streics mawr 1921 a 1926; ’rwy’t ti’n gwpod dicon am y rheini dy hunan.

 

Beth taw’n i yn gwed wrthot ti am rai o’r tanata a’r explosions ’rwy’n gofio? Bachan w, pan o’n i’n grotyn bach, bach, ‘rodd tanata yn dicwdd yn rhywla ne gilydd bron bob wthnos, a chwpwl o’r gwithwrs, pwr dabs, yn cal ’u diwadd bob tro.

 

’Dodd dim llawar o son am Fines Act y pryd hynny; y mistri a’r gwithwrs yn neud jyst fel y mynsan nhw; mynd a gola no’th miwn i’r gwaith, iwso powdr rhydd, gyda scwibs, a saffti a phethach. ’Rodd lowans i’r fireman, shwd fireman ag odd a, i frwso’r gas off gyta’i got, ne bisin o fratis yn y bora, cyn bysa’r coliar yn starto, a weti ’ny ’rodd y coliar i frwso’i le ’i hunan drw’r dydd ar ôl hynny.

 

Fe gas ugeinia fynd i dragwyddoldeb gyda’r tanata ’ma, ond y rhai mawr cynta rw i yn ’u cofio o’dd rhai Bla’nllecha.

 

Fe ddigwyddws yr un cynta yn 1867, a’r ail ddwy flynadd ar ôl hynny, yn 1869. Fe gas 178 o bŵr ffelos ’u lladd yn y cynta, a 58 yn yr ail danad.

 

O, bachan, bachan, fi etho i draw i Blanllecha y dy’ Sul ar ôl y tanad cynta, a dyna le i ti. Yr odd yno filodd o ddynon wedi dod yno i gal gweld petha, a’r tafarna - dim ond dou ne dri odd ’no - yn llawn choc, a rhai wedi hannar meddwi ac yn ffraeo am racor o gwrw.

 

Wel, yn y ngwir i, ’rodd hi’n fwy tebyg i ffair na dim arall, a hynny ar ddydd Sul, ac ar amgylchiad mor ofnadw.

 

Fi glywas ’nhad yn gwed am danad mawr cynta Llety Shencyn, a ddigwyddws yn 1849, ar fora dydd Llun; fod dynon wedi dod yno o bobman erbyn canol dydd, a bod llawar wedi dod yno’n feddw. A dim ond un plisman odd yn y lle i gatw’r crowd yn ôl o’r pwll. Wel, os wyt ti’n y fan ‘na, fe ath bothti hannar dwsan o’r rhai meddw, ynghyd a’r plismon, druan, ac fe’i trafotson a yn arw iawn. Trwy drugaredd, fe ddath yno ddou blismon arall o’r diwedd, a fe roison stop ar y ffwlied meddw. Fe gas 58 ’u diwadd yn y tanad hynny, ac yr odd tri ne bedwar crotyn bach o dan 11 o’d, ymhlith y rhai meirw.

 

Ma llawar o sôn, bachan, fod dynon yn gweld drychiolath” o dan y ddaear, ond yn wir it ti, welas i ddim ariod fel’ny, a finna wedi bod yn gwitho miwn am fwy na thrician mlynadd.

 

Fi weta wrthot ti yr ofan mwya’ geso i ariod un bora: ’ron i’n dicwdd acto fel fireman un tro, ac, wrth gwrs, yn mynd yn rownd i’r gwaith cyn fod y coliars yn dechra yn y bora.

 

Ond ta beth i, y bora hyn, wrth fynd i’r pen bla’n bothti filltir o’r pwll wrth ym hunan bach, heb un dyn byw yn acos, fi welwn rwpath fel bulls’ eye, bachan, yn shino o’m mla’n i.

 

Fe glywas, fel ta dŵr o’r yn rhytag lawr drws y nghefan i, a fi stopas yn sytan fel post. Beth allsa fa fod? Ond cyn i fi allu gwed gair, dyma’r bull’s eye yn dod shag ato i, ac yn neido hibo fel llychetan. A beth ti’n feddwl odd ‘na? Dim ond yr hen gwrcath o’r stapal wedi bod ar dramp ’i hunan ar ol y llycod yn y pen bla’n. A fe odd ’no, yn tynnu ar ’i ffordd ’nol i’r stapal.

 

’Dw i ddim am weud sopyn o hen lol wrthot ti am y petha rwy’n gofio, ond ’rwy’n gwpod y lici di glywad dipyn bach am y cwrdda gweddio on ni yn arfadd gal y ’slawar dydd ar waelod y pwll ar fora dydd Llun. Bachan w, dyna gwrdda da, a dyna weddio!

 

A’r pregethwrs - ’ron nhw yn dod lawr ar yn ail a’i gilydd, ac yn rhoi precath ne anerchiad byr; ac yn amal iawn fe fysa rhai o’r bosus yn cymryd rhan, oblecid ’rodd cwpl lled dda o nhw yn ddiaconiaid ac yn pregethu ’nawr ac yn y man ar ddydd Sul. A whara teg iddi nhw, he’d, yr amsar hynny ’rodd y rhan fwya o’r bosus yn trafod dynon fel dynon, ac nid yn ’u drifio nhw fel cwn, a’u tyngu a’u rhegi nhw i’r cymyla.

 

Ond gad i fi i scwaro top ne ben y stori ‘nawr, fel ’ron i yn arfadd scwaro top y drams glo yn barod iddi nhw i fynd mas, y ’slawar dydd.

 

Fe allswn dy gatw di yma am oria hir, yto, p’tawn i yn gwed y cwbwl w i yn ’i gofio. Ond fi gwpla nawr gyta gwed am dri ne bedwar o fechgyn gas ’u diwedd ar y mhwys i, ac y ma’r dicwyddiata hynny wedi aros yn ddwfwn ac yn fyw iawn ar ’y nghof i.

 

’Rwy’n cofio Morris, ’y mhartnar i, yn cal ’i ddiwedd trwy gwmpo o dan dra’d y ceffyl “Roman,” a’r ddwy dram lawn odd yn dod ar ’i ôl a. Dryswr bach, douddeg o’d odd Morris, a fi. glywas i fa’n gweiddi o ben y twyn: “Oti’r hewl yn glir?”

 

Ond cyn fod neb yn gallu atab, ’rodd yr hen geffyl wedi dechra rhytag i lawr dros y ryn, a fe ffaelws Morris bach a chatw yn ddicon cwic o’i flan a, a fe ath yr hen geffyl a’r ddwy dram dros ’i gorff bach a. A dyna hi’n stop, wrth gwrs, a’i gorff a yn cal i gario ’nol sha thre, mwn bothti awr wedi iddo fatal a’r tŷ yn y bora.

 

Tro arall budir iawn yn y nghof i odd am fachan o’r enw Frank. ’R’on i yn dipyn o fireman regilar yr amsar y digwyddws hyn. ’Rodd twll gwaelod wedi fflato, ti’n gweld, ac wrth gwrs, dodd neb i fynd yn agos i’r man hynny am betar awr ar ucian. Ond ta beth i, fe ath dou ne dri diwrnod hibo, ac fe alws y manager ddou fachan diarth miwn i witho yn y talcen lle ’rodd y twll wedi fflato.

 

A fel digwyddws hi, fe ath Frank, odd yn gwitho yn y talcan nesa lawr, at y ddou fachan newydd, a ma’n depyg iawn iddo’u helpu nhw, drwy ddala’r tarad i dyllu yn y twll odd wedi fflato.

 

’Rodd a yn ishta ar y gwaelod, a’r tarad yn ’i ddwylo yn cal ’i droi, ac yn ddisymwth fe ath yr ergyd off, a fe wthwd Frank yn yfflon yn erbyn y top, ac fe safiws y ddou fachan diarth.

 

Dyna galad y bu hi arno i am amsar hir i fynd rownd wrth ym hunan hibo’r talcen hyn i ecsamino’r lle bob bora. A’r ail fora ar ôl i’r peth ddicwdd, beth ti’n feddwl ffindas i? Un o fysydd y pŵr ffelo gas ’i ddiwadd.

 

Un digwyddiad arall, a fi gwpla i weti’ny. Tri parti yn gwitho mewn tair hewl nesa at ’i gilydd. Tylla i saethu’r gwaelod gyda’r tri yn barod ar ddiwadd y dydd, pob un wedi cal rhyddid i dano’i dwll ’i hunan. Y tri yn rhytag yn ôl i’r un man i fod yn ddiogel. Dau o’r tri yn mynd tua thre a’r llall, yn ei awydd a’i bryder, yn mynd yn ôl i’r ffas, i gael gweld os odd yr ergyd wedi gwneud ei waith yn dda. Ond y mae’n debyg ei fod e wedi camsyniad y sŵn, ac iddo fynd yn ôl a chyrraedd y ffas pan aeth yr ergyd off, a chafodd rym yr ergyd i gyd i’w wynab a’i gorff, ac fe’i lladdwyd yn y fan. Ni wyddai neb am y trychineb hyd nes i fechgyn y sifft nesa’ fynd miwn, a dyna lle y cawson nhw’r corff wedi’i friwa yn ofnatw wrth gwt y ddram lawn.

 

O, annwl, annwl, petha ofnatw yw’r lladdiata ’ma, sy’n dicwdd o dan y ddaear.

 

’Nawr ta, machan i, os wyt ti wedi doti’r cwbwl lawr ar y note-book ’na sy gyta ti, ’rwy i’n cretu y gallu di fod yn folon. Ac os byddi di yn mofyn rhacor o details rhywdro eto, ti elli ’u cal nhw pryd y mynnot ti! ’Nawr ta, ’rwy’n cretu ’i bod hi’n deg i finna i gal whiff fach arall ’nawr, a ni smocwn gyda’n gilydd.

 

Dera ’mlan.

 

 

DIWEDD

 
Adolygiad diweddaraf 2009-12-02, 08 11 2002

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ ə

Fformat 100 chwith, 200 de


Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) äm ai? Yüu äa(r) vízïting ə peij fröm dhə “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA
 
 

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats