1456k Gwefan Cymru-Catalonia. Bugeilgerdd. Gwilym Penant. 1863. Roedd ganddi wyneb hawddgar, Yn grwn fel afal pr, Ai gwallt yn ddu sidanog, Ai llygaid megis sr; Dau rosyn ymrysonent Heb baid am harddui boch; Un fynai wneyd yn glaerwyn, Y llall ai lliwiain goch.

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_056_bugeilgerdd_gwilym_penant_1863_1456k.htm

0001 Y Tudalen Blaen Google: kimkat0001

..........2657k Y Porth Cymraeg Google: kimkat2657k

....................0009k Y Barthlen Google: kimkat0009k

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Sin Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) Google: kimkat096k

 

..........................................y tudalen hwn


..






Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Galles i Catalunya

Cywaith Sin Prys (Casgliad o Destunau yn Gymraeg)
El projecte Sin Prys (Collecci de textos en galls)



BUGEILGERDD
GAN MR. WILLIAM POWELL (GWILYM PENANT)
Buddugol yn Eisteddfod Abertawy, 1863

O gylchgrawn Yr Eisteddfod, Ionawr 1865,
tudalennau 354-372

Adolygiad diweddaraf: 08 11 2002


(delwedd 7387)

Y llyfr ymwelwyr: 0860k, Google kimkat0860k

 


Nodyn: (x354) ayyb = rhif y tudalen yn y testun gwreiddiol


(x354)

BUGEILGERDD.
GAN MR. WILLIAM POWELL (GWILYM PENANT).

Buddugol yn Eisteddfod Abertawy, 1863.

Amaethwr y Tyddyn a hoffodd ryw fachgen
A gwnaeth ef yn fugail ei ddefaid ei hun;
A DAFYDD ddechreuodd fod ynon ei elfen,
Nes adwaen y defaid yn fuan bob un;
Efe a aeth rhagddo yn gyflym mewn cynydd,
Ar fod yn fugeiliwr y rhoddodd ei fryd:
A deuodd yn fuan yn ddigon cyfarwydd
A lleoedd cynefin y defaid i gyd.

Fe ddysgodd chwibanu a chanun soniarus,
Ei lais a adwaenid pan fyddain mhell draw;
Y cŵn a arferent a rhedeg yn fedrus,
Feu gyrai i bobman throad ei law.
Yr ydoedd yn llenwi holl swyddau bugeiliaeth
Nes oedd ei gymdogion yn credu or braidd
Nad ydoedd un amcan yn nhrefn ei fodolaeth
At unrhyw waith arall ond canlyn y praidd.

Y Bugail a brofwyd ar ddiwrnod y cneifio,
Trwy roddi dwy ddafad or gorlan dan gudd;
Ond canfu eu colli or cannoedd oedd yno -
Edrychain siomedig ai wyneb yn braidd
Gofynodd ei Feistr, fel dyn yn llawn teimlad,
Beth wnaeth i ti DAFYDD i edrych mor drwm?
Medd yntau, Rwyn methu a gweled dwy ddafad,
Mi gwelais hwyr bore ar ochr y Cwm.

A mam yr oen corniog yw un syn absenol,
Bydd hi yn wastadol yn cadw ei lle.
Y llall ydywr hesbin wyllt farus ryfeddol,
Mae nodyn du bychan ar fn ei chlust dde.
Yn ebrwydd gollyngwyd y ddwy hyn ou cuddfan,
Er gwneuthur y Bugail ai galon yn iach;
A daliwyd yr hesbin wyllt farus yn fuan,
Fel gallai pawb weled y nodyn du bach.

Gwir graffder y Bugall ai ofal manylaf
Heb iddo ef wybod, a brofwyd y pryd;
Cyflawnodd orchestwaith ir graddau perffeithiaf,
Er gwaethaf y dichell ai rwystrau ynghyd:
Euillodd ymddiried am sefyll y profiad,
Cadd oenig yn anrheg fel tysteb or tro;
Ei graffder digymhar oedd testyn y siarad,
A phawb yn dywedyd, Mor graff ydyw o.

(x355)
Tueddiad y defaid adwaenai, an llwybrau:
Roedd rhai yn bur wylltion, y lleill yn fwy df;
A goleu ei lygaid y tynai eu lluniau
Yn fedrus, a chywir, ar leni ei gf;
Da gwyddai nad ydoedd y marcio yn ddigon,
I atal y lladron i ddwyn llawer un;
Newidiant hwy nodau y praidd yn hawdd ddigon,
Ond nid all y lladron ddim newid y llun.

Yr oedd yn ddefnyddiol i bawb oi gymdogion,
Trwy wneyd cymwynasau yn rhwyddlon a hael;
Pob dafad ddyeithriol a gadwai yn ffyddlon,
Fel gallai ei pherchen wrth geisio, ei chael;
Nid ydoedd yn blino ar fodd y bugeiliai
Ar oerder y mynydd, ar niwl oer y glyn;
Yn nghadair boddlonrwydd yn dawel eisteddai,
A mynych y canai yn debyg i hyn: -

Mor ddifyr caf gerdded hyd lwybrau y defaid,
I gopa y mynydd y bore fon glir;
Hardd oriel naturiol, fanteisiol im llygaid,
I weled milldiroedd o fr ac o dir;
Mynyddoedd a bryniau, clogwyni a chreigiau,
Rhaiadrau a nentydd, afonydd a choed;
Ar praidd yn cydbori ar hyd y llechweddau,
Ywr olwg brydferthaf a welais erioed.

Mor deg ywr gymdogaeth ddillynaidd, ramantus,
Crynhad amrywiaeth y crad ywn nghyd;
Maer banawg fynyddau fel cd wyliadwrus
Ir neint fur dyffrynoedd sydd rhyngddynt yn glyd.
Heirdd goffrau ywr bryniau o bob math o fŵnau,
Rhai sydd yn troi olwyn fasnachol y byd;
Maer derw praff, cryfion, i wneuthur y llongau,
Ers oesau yn barod iw torin ein tud.

Pa beth yw harddwch Llundain,
Syn wlad yn llawn o dai,
I harddwch cartrer defaid,
R liwn baentir bob mis Mai?
Pwy all ddynwared natur
Ai chymysgedig liw,
Ar flodau grug y mynydd
Rhai geir y gwanwyn gwiw?

Dyn wnaeth y dref ar palas,
Duw wnaeth y ddl ar bryn;
Gwybedyn ŵyr trwy brofiad
Wahaniaeth y rhai hyn.
Peth marw yw llun blodyn,
Neu lun yr afal crwn:
Gofynai y wenynen,
Pa le mae bywyd hwn?

Mor hardd yw yr afr wen ai myn yn ei chanlyn,
Ar oril y dalgraig, yn pori heb boen ,
Ei nodded ywr creigiau ller erys drwyr flwyddyn,
Gadawar tir isel ir ddafad ar oen;
Caf weled y cudyll, y barcut, ar gigfran,
Yn gwneuthur eu nythof ar ddanedd craig hell,
Ac yntau y llwynog, lladradaidd ei anian,
Yn carior da pluog i guddfan ei gell.

(x356)
Gwrthrychau fy ngofal ywr wŷn (sic) au mamogiaid,
Hesbiniaid, a hyrddod, a hwythau y myllt;
Os nt ar ddisberod i rywle yn wydriaid,
Neu leoedd anghysbell yr anial mawr gwyllt;
Pan welaf eu colli, cychwynaf heb oedi,
Ac er fy nifyru daw Sinco y ci
Iw ceision ol adref - ac am eu drygioni
Mi wnaf eu carcharu am ddeuddydd neu dri.

Mawr yw fy hyfrydwch wrth ganlyn y defaid,
Hyd lethrau y mynydd r wyn byw yn ddi baid;
Fel brenin urddasol yn gwylio ei ddeiliaid,
Eu casglu au gwasgar bron fel byddo rhaid;
Trwy dywydd dryghinog, oer wynt, a hin wlawog,
Ac eira trwm lluwchiog, heb ochel yr un,
Yr f i fageilio fy mhraidd yn galonog;
Yr wyf yn eu caru hwy fel fi fy hun.

Arweiniaf hwyn union i borir dyffrynoedd,
Pan elo y mynydd yn llwm ac yn llwyd;
Fe dora fy nghalon faint bynag fon gwleddoedd,
Ou clywed hwyn brefu mewn angen am fwyd:
Ar ol y trwn auaf, yn nechreu y gwanwyn,
Ail gasglaf hwyn dyner or dyffryn ar ddol -
Iw gorlan iw marcio, ac yna eu cychwyn
Tu uchar llidiardau ir mynydd yn ol.

Mor brydferth ywr mynydd o dan ei wisg newydd,
Ei rug yn flodeuog, ai flewyn yn las;
Brefiadau y llydnod i mi sydd yn arwydd,
Eu bod hwy yn caru eu hymborth ai flas:
Yn fuan gorweddant yn nghanol eu lluniaeth,
Gan edrych yn foddlon, yn araf cnoi cil,
Fel pe baent yn gwenu wrth weld eu bwydd helaeth;
Maent ran eu rhifedi, yn agos i fil.

Ar fore barugog mi ges oenig fechan,
Yn gorwedd bron marw yn unig heb fam,
Yr hon a gyfodais im mynwes yn fuan,
A cheisiais ei mamog i achub ei cham:
Canfyddais y ddafad, gwrthodai ei hoenig,
Rhaid oedd ei chymeryd hi adref or ffridd;
Ymdrechais gynhesur creadur rhynedig -
A gwneuthur mam iddi, o hen debot pridd.

Mor geimion ywm llwybrau, hyd leoedd caregog,
Af weithiau ir ceunant yn isel i lawr,
Pryd arall y dringaf y clogwyn serth, cribog,
Wyf weithiau yn uchel ar gopar graig fawr;
Ac weithiaun gauedig yn nghanol niwl tywyll.
Bron methu adnabod y lle ar un llaw;
Yn ofni rhag ymyl y dibyn dwfn erchyll,
Gan orfod dyoddef holl driniaeth y gwlaw.

Bydd mellt yn gwau heibio, ar daran yn rhuo,
Ar creigiaun adseinio y twrw mawr trwm,
Ar gwlaw yn ymdywallt, a minau o dano
Heb loches agosach na Fotty y Cwm;
Beth bynag for tywyddr wyn ddigon baddol
I aros yn fugail tra byddaf fi byw :
Mae mywyd a ngorchwyl ir byd yn ddyeithrol,
Nid llawer syn gwybod trwy brofiad beth yw.

(x357)
Aur, arian, a pherlau, ac etifeddiaethau,
Anrhydedd, ac enwau, mewn graddau o fri,
Syn chwyddo calonau gwŷr mawrion filiynau, -
Nid hyn sydd yn chwyddo fy nghalon fach i;
Yn swyddi bugeiliaeth r wyf fi yn ymffrostio -
Y defaid am swynodd i fod yn eu mysg;
Caf eithaf bywoliaeth am imi eu gwylio,
Au gwlan yn bur ddefnydd i wneuthur fy ngwisg.

A dyna yw caniad y Bugail gofalus,
Wrth gadw y defaid y darfu ei gwneyd;
Ac fel yr ydoedd yn ddigon gwybodus
I brofi ei behtau cyn iddo eu dweyd:
Y bachgen a dyfodd, a daeth yn llanc heini,
I feddwl (fel ereill) am garu rhyw ferch;
Dechreuodd yn uchel, heb ofn cael ei siomi,
Ar Gwen, merch ei feistr, y rhoddodd ei serch.

Gwen ydoedd unig blentyn
A gadd ei rhiaint clyd;
Canolbwynt serch hi ydoedd,
Au cysur yn y byd:
Yr ydoedd yn eu golwg
Yn bobpeth, ni chai gam,
Dim rhyfedd, canys oeddynt
Yn anwyl dad a mam.

Roedd ganddi wyneb hawddgar,
Yn grwn fel afal pr,
Ai gwallt yn ddu sidanog,
Ai llygaid megis sr;
Dau rosyn ymrysonent
Heb baid am harddui boch;
Un fynai wneyd yn glaerwyn,
Y llall ai lliwiain goch.

R oedd ganddi wefus denau,
A danedd gwynion mn,
Ai llais fel sain perdoneg,
Ai gwddf fel eira gln;
Gwrthrychau dymunoldeb
Oedd ynddin cwrdd ynghyd,
Nes swyno llanciaur ardal,
I graffu arni i gyd.

Cyfrifid hi yn synhwyrol,
Ai thymer yn ddi fai,
Gwir garu Duw, a pharchu
Ei chymydogion wnai;
Er byw ym myd y balchder,
Ei feithrin ni wnai hi,
Cans yn ei gostyngeiddrwydd
R oedd Gwen yn cael ei bri.

Rhy anhawdd ydoedd peidio
A charur fwyndeg fn -
Dim ond ei gweled unwaith
A swynai galon dyn;
Yr ydoedd ymofyniad
Iw glywed yma a thraw, -
Pa lanc a fydd mor ddedwydd
A gallu cael ei llaw?

(x358)
Prif destyn ymddyddanion
Gwyr ieuainc yn ddiball,
Oedd Gwen, - ac O! fel byddent
Yn ofnir naill y llall;
Dros ganllaw pont ei gynllun,
Wrth geisio enill Gwen,
I afon cariad syrthiodd
Aml lencyn dros ei ben.

Roedd Gwen, yn medrusrwydd y Bugail,
O hyd yn cael gwledd o fwynhad, -
Yn llawen ei chalon wrth glywed
Ei ganmol bob dydd gan ei thad;
Daeth hedyn serch bywiog iw chalon,
Cryfodd, ymledodd ei wraidd;
A phwy oedd y tyner flaguryn,
Ond DAFYDD hof Fugail ei phraidd.

Sisialai fel hyn wrthii
hunan,
Maen resyn fod DAFYDD yn dlawd;
Er hyny maen dda ei gymeriad,
Pwy feiddiai gan hyny wneyd gwawd?
Pe bawn i yn gofyn ei feddwl,
Efallai y safai n l,
Ac felly gwnawn boeni fy
hunan,
Gwnai yntau fy nghyfrif yn ffol.

Adwaenodd hawddgarwch yn NAFYDD,
Nis gallai weld undyn mor hardd;
Hi wyddai ei fod yn dalentog -
Yn hynod obeithiol fel bardd:
Gofynain aml iddo am benill,
Roedd yntau yn barod i wneyd;
Er methun ln wybod i bwrpas
Pa beth gai ef wrthi hi ddweyd.

Pan ydoedd ef bron ag ymddrysu
Mewn cariad tuag at yr hoff fn;
Bron tori ei galon wrth ofni
Nad ydoedd yn ddigon o ddyn;
Dyfeisiai beth allai ef wneuthur,
Heb ofyn mewn geiriau i hon;
Mae bardd yn wirionach wrth garu
Na neb yn y crad or bron.

Casglu blodau heirdd, au dwyn
Ir feinir fwyn wnai DAFYDD;
Eu rhwymo ynghyd brwynen ls,
Gwneyd cwlwm fel gwas celfydd
Fel y gwelo hi drwy ffaith
Ar unwaith ei gywreinrwydd.

Tynghedur dyrnaid blodau wnai,
I fod yn llatai swynol,
I ddweyd wrth Gwen u gorwych liw
Ei fod yn bywn obeithiol;
Cael thoi ei
hunan iddin bur
A fyddain wir dderbyniol.

(x359)
Wrth roi y blodaun llaw y ferch,
Gwrid serch gyfodai iw gwyneb;
Nos dawch, medd DAFYDD, wrth eu rhoi,
Ac ynan troi heb ateb;
Yn lle dweyd gair wrth y ffin wyl
Am nodau ei hanwyldeb.

Dywedair ferch, Y mae on swil,
A chynil am ymddiddan;
Paham na byddain ddigon hyf
I geisio genyf gusan?
Yn wir mi roddwn ddau am un
Ar fin y dyn yn fuan.

R oedd wedi meddianu prif orsedd ei galon,
Ai gwn ai rhinweddau hi ddygodd ei fryd,
Ac ar ei gorseddfainc y gwisgodd ei choron,
Nes ydoedd fel duwies yn gariad i gyd;
R oedd hithaur un cyflwr yn gymhwys DAFYDD,
Y naill oedd heb wybod teimladau y llall, -
Y ddau or un feddwl am garu ei gilydd,
Ond pob un yn cadw ei feddwl yn gall.

Yr oeddynt bob amser yn hoffus gyfeillion,
Ond wele daeth eisiau cymdeithas oedd ns;
Nid oes dim cyffelyb i burdeb dwy galon,
Yn toddi iw gilydd yngrym yr un gwres:
A chariad y ddeuddyn oedd bur fel aur melyn,
Ac fel y ffynonau un dyfroedd yn ln;
Y ngwres ei serchiadau y canodd y llencyn
Pan ydoedd en glwyfus, a hon yw ei gn: -

O! mor anoddefus yw bod yn serchglwyfus, -
Oferedd yw feinioes os na chaf fy mn;
Yr hon am clafychodd eill eto yn fedrus
Fy ngwneuthur yn holliach i chariad ei hun;
Wrth weld y mynyddoedd yn uchel eu penau,
Fel per ymrysonent roi cusan ir nen,
Fy serch a ofyna, paham na chawn inan
Mewn nef o ddedwyddwch roi cusan im Gwen.

Maer ffrydiau grisialaidd yn rhedeg iw gilydd
I wneuthur un afon gan gadw ystwr;
Paham y terfysgant wrth redeg trwyr nentydd?
O herwydd fod rhwystrau i rediad eu dwr.
Paham yr wyf finau yn gwneyd y fath derfysg,
Gan chwyddom hochenaid a gostwng fy mhen?
O herwydd fod rhwystrau am gwendid yn gymysg
Yn atal im allu cael gafael ar Gwen.

Bydd pawb yn groesawgar yn derbyn y gwanwyn,
Gan ganmol ei ddyddiau, eu bod yn rhai braf;
Pryd hyny bydd anian mor brydferih yn cychwyn
Ai phen yn llawn blodau i dderbyn yr haf.
Fe ddaw y cynhauaf, a chesglir y cnydau,
Derbynir o ffrwythau pob maes a phob pren
Derbynir digonedd o ymborth rhag eisiau, -
Gwyn fyd na chawn inau dderbyniad gan Gwen,
(x360)

Mor hyfryd yw clywed yr adar yn canu,
Ar doriad y wawrddydd yn nghanol y llwyn;
Mor hyfryd yw clywed y defaid yn brefu,
Yn ngwyneb peryglon i wahodd eu hwyn.
Hyfrydwch dau gariad yw cael ymgyfarfod
I garu eu gilydd, a siarad heb sen;
Hyfrydwch gen inau a fyddai cael gwbyod
Am foddlon digonol i enill fy Ngwen.

Mae pobpeth trwyr crad mewn undeb u gilydd,
Mor ufudd yn gwneuthur ewyllys yr Ir;
Maer afon ddolenog, y llyn yn y mynydd,
Ar oll or mn ffrydiau, mewn undeb r mr;
Maer belen ddaiarol, ynghyd r planedau,
Mewn undeb r huan, canolbwynt y nen;
Mewn undeb y cadwant eu trefn au troadau,
Ow! ow! na fawn inau mewn undeb Gwen.
Y pysgod tryfrithion, amlryw anifeiliaid,
Ar adar amrywliw, syn harddwch ir byd;
Ond nid ynt hwy haner can hardded ar merched,
A Gwen ydywr harddaf or merched i gyd.
Ai harddwch fem swynodd, pe gwyddai hi nheimlad
Fe allai y rhoddai gyfodiad im pen.
O! tyred wynt tyner, bydd imi yn genad,
Dos, sa fy helynt yn nghlustiau fy Ngwen.

Fel yna y canodd yn brofedigaethus,
Ai serch yn seliedig ar wrthrych ei gn;
R oedd DAFYDD yn myned yn fwyfwy awyddus
I enill Gwen anwyl iw feddiant yn ln;
Deallodd fod amryw o lanciaur gymdogaeth
Mewn awydd fel yntau i gael y ferch hardd;
Am hyny edrychodd am gyfle ar unwaith
Iw gweled, a gofyn y pwnc heb wahardd.

Y ffordd a gymerodd oedd braidd yn ddichellgar,
Er hyny nid ydoedd yr amcan yn wael;
Gollyngodd y ganiad ar laswellt y ddaiar,
Ger llidiard y fuches, i Gwen fwyn ei chael.
Y ferch a ddaeth yno i odron ddi-niwaid,
Cyfododd y ganiad a wnaed er ei mwyn;
Ac wedi mynd drosti, gollyngodd ochenaid!
A DAFYDD yn clywed tu arall ir llwyn.

Boddlonwyd ei chalon wrth ddarlien y ganiad,
Trwy weled ei henw mor uchel ei fri;
Ond buan y cofiodd, er chwerwi ei phrofiad
Fod llawer o ferched r un enw a hi.
Ac O! fel y cafodd anhawsder i odro,
Y gn a chwareuai ar danau ei serch
Anghofiai braidd bobpeth wrth geisio difeisio,
Nid pwy oedd yr awdwr, ond pwy oedd y ferch.

Medd Gwen, Dylai ofyn fel dyn, a mi wnawn
Fel merch, roi yr ateb, a hwnwn un iawn,
Fel gallom ein deuoedd gyd-daflu ein pwn,
A charu ein gilydd, yn lle cario hwn. -

(x361)
Addfeded ei gariad fel afal yn awr,
Yr hwn heb ei dynu, a syrthia i lawr;
Pe gallwn roi geiriau yn ngenau y gwynt,
Gorchmynwn, Fanwylyd addfeda yn gynt.


Mae genau doethineb a rheswm yn fyd,
Fy serch a fyn siarad n awr drostynt i gyd:
Ti anwyl ehedydd, syn canu uwch ben,
Dos, gofyn ir Bugail, Ai yw ei Wen?

Fy nghalon sydd ganddo, gwnaf farw heb hon,
R wyf megis gwag lestr yn nhymestl y dn;
Fem curir yn ddrylliau yn erbyn rhyw fanc,
Am hunig gwch bywyd yw mynwes y llanc.

Dan dderwen fawr gauadfrig,
Fel yna canodd hi,
Ar risgl y pren canfyddai
Y deg lythyren D;
Ei hyspryd a wefreiddiwyd,
R oedd rhywbeth ynddin dweyd,
Yn nhrefniad y llythyren,
Llaw pwy fu yn ei gwneyd.

Gwnaeth hithau G yn ymyl
Y D, O! do gwnaeth fwy;
Hi dorodd lun hardd galon
Yn ddwfn o gylch y ddwy.
Gadawaf i fyfyrdod
Wneyd darlun pur o Gwen,
Pan ydoedd hin gwneyd darlun
O gariad ar y pren.

Y Bugail wrth fynd heibio
A ganfu waith y ferch,
Rhyw iasau byw ddaeth trosto,
A balm i i glwy ei serch;
O! fel yr ocheneidiai
Pan yn deonglir peth,
Ei ffon ir llawr ollyngodd,
Wrth roi ei ddwylawn mhleth.

R oedd Gwen yn gweld y Bugail
Drwy ffenestr cefn y tŷ,
Yn sefyll yn synedig
O flaen y dderwen hŷ;
R oedd gweld y ffon yn syrthio,
Ac yntaun aros cyd,
Iw golwg yn genhadau
Yn datgan gwyn eu byd.

Aeth allan i gyfarfod
Y llanc ir drws yn awr,
Gofynodd pam y safai
Ef wrth y goeden fawr?
Ac weler ddau anwylaf
Or diwedd wedi dod,
I ddwedyd gair iw gilydd,
A chyrchant at y nd.

(x362)
Maent wedi cyfarfod ac anerch eu gilydd,
Mewn agwedd gariadus yn ysgwyd dwy law.
Medd DAFYDD, Pan oeddwn yn myned ir mynydd
Mi gollais ryw bapur, yr ydwyf mewn braw.
Ar hyn y fun lanwaith a wridodd mewn meityn,
Ei llygaid yn lloni, ei dagrau bron dod,
Er rhoddi arwyddion digonol ir llencyn
Fod iddo gryn obaith i gyraedd ei nd.

Y llanc a roes gusan ir ferch yn wirfoddol,
A chusan bendithiol fu hwnw ir ddau;
Yr oedd yn rhinweddol, fel ml yn flasusol,
Yn ernes o chwaneg iw cael heb nacu;
Y gusan fur allwedd ddattododd y cloiau,
Oedd ar eu serchiadau yn rhwystrau mor fawr,
I adwaen eu gilydd, o ran eu meddyliau;
Ond dorau eu cariad agorwyd yn awr.

Medd Gwen, gan wasgun dyn ei law,
Rwyn myned heno ir Tŷ draw,
Dowch.chwithau im cwrdd wrth ddod yn 1
Aroswch fi yn mlaen y ddl.
Gwnaf, meddair llanc: fy mwyniant i
Yw bod yn agos atoch chwi,
Cael gwneuthur rhywbeth ich boddu
A wna im calon lawenhau.

Cyflawni gorchymyn y Nef
Wnaeth DAFYDD yn union ai fun,
Wrth eilio rhaff cariad yn gref
I rwymou dwy galon yn un;
Ni thybiant eu gilydd yn gau,
Eu cariad wnai guddio pob gwall;
Yr ydoedd ymddiried y ddau
Au gwynfyd y naill y llall.

Rhy anhawdd yw gweled y gwlith
Yn disgyn ar ruddiau y rhs;
Yr hwn na adnabu un rhith,
Er cerdded ei lwybrau y ns;
Ae felly gwlith cariad yn gudd,
Yn nghanol nos ofnau y ddau,
Ddisgynodd, ac wele daeth dydd
I DAFYDD a GWEN ei fwynu.

A ddarfu yr holl rwystrau
Ir ddau ddyn hyn yn awr?
Na! na! maer nef yn duo,
Hwy gant ystorm go fawr,
Wrth dychwel adrer noswaith
Yn dirion or Tŷ Draw,
Aeth tad y ferch iw chyfwrdd,
Fei canfu er ei fraw.

Ymguddiodd yn lladradaidd,
Ou golwg dan y banc,
A chlywodd addewidion
Ei ferch mewn llŵ ir llanc;
(x363) On blaen y rhedodd adref,
Unionir ffordd a wnaeth,
Ai briod ganfun ebrwydd
Fod yn ei galon saeth.

Ar hyn r oedd Gwen yn dyfod
Ir tŷar ysgafn droed,
A milwaith yn llawenach
Nas gwelwyd hi erioed;
Ond O! yn ei gorfoledd,
Ei thad a wisgodd ŵg;
Dechreuodd holi ei hunan
Beth allai fod y drwg?

Ei thad ddywedodd wrthi
Yn dyner ac yn llym,
Addawodd a bygythiodd,
Ond pobpeth yn ddi rym;
Dywedodd Rhaid ir Bugail
Yfory fynd i ffwrdd
A chymer dithau ofal
Nad ei di byth iw gwrdd.

Medd Gwen, Fy Nhad, os ych yn caruch merch,
Er mwyn pob peth, na roddwch ddagr im serch;
Paham, fy nhad, y mynwch ddangos gwawd
Ir llanc am ddim, ond am ei fod yn dlawd?
Dewiswn ef o flaen twysogion byd,
Mae cariad pur yn well na golud drud;
Pe gyrech fi i gwr y byd yn mhell
Yn alltud i ryw dywell diaeargell,
Wnai hyny ddim ond ychwanegu nghlwy
A pheri imi garur mab yn fwy;
Gwell genyf roi fy mywyd wrth y stanc,
Na galwm gair yn ol oddiwrth y llanc,
Ei garur wyf, ac yntau yr un modd
Am cara i, - mewn cariad Duw am clodd.

Aeth geiriaui hamddiffyniad
Iw fynwes megis cledd,
Ei galon oedd yn gwaedu
Deallid wrth ei wedd:
Fe droes ei fugail ymaith
Ai fygwth yn ddi foes,
Os deiain agos yno,
Cai garchar am ei oes.

Go galed i mi ydyw mynd,
Medd DAFYDD, a GWEN yn ei glyw,
Ond cofiwch y byddaf yn ffrynd,
I Gwen yn mhob man tra bwyf byw;
Pwy wyr na ddychwelaf rhyw bryd
Yn berchen ar gyfoeth go fawr;
Mae llawer tro hynod ar fyd,
Fy nhlodi ywm rhwystr yn awr.

Atebair tad, Ti gei fy merch
Pan fyddi yn gyfoethog;
Ae aeth ei air fel cledd drwy serch
Y llanc iw galon ddrylliog.


(x364) Gofynodd am gael caniatd
I siarad un gair gydai fun;
Gall ddweyd yn wir fwyn wrth ei thad,
Fod hyny yn deg i bob un;
Ond ef a omeddodd ei gais,
Yn bendant er lleied un oedd;
Ai ferch pan y clywodd ei lais
Wrth syrthio i lewyg, rhoes floedd.

Dadebrodd, Fy Nhad, meddair fun,
Mae cariad yn gryfach na chledd;
Os rhwystrwch fy ffarwel r dyn,
Nid ellwch fy rhwystro im bedd;
Ei geiriau orchfygodd ei thad
Aeth ffynon ei deimlad mor llawn,
Nis mynai ef wneuthur un brad
Iw blentyn a garain hoff iawn.

Y llanc ar fun, ffarweliodd yn bur glaf;
Medd ef, Fy Ngwen cewch wybod i bler af;
Eich caru wnaf, lle bynag byddaf byw,
Mae cariad pur r un peth a gallu Duw,
Os caf byth lwydd, fy llwydd fydd eiddo chwi
Run modd, medd Gwen, R wyf inaun eiddo i ti.

Maer llanc yn mynd, yn bruddaidd drwy y ddl
Gan deimlo fod ei galon ef ar l;
Er hynyn ddewr i fyned yn ddi gl,
I ffwrdd yn syth, a deued fel y dl,
Meddyliodd nad allasai wneyd yn well,
Na myned ymaith i dramorwlad bell.

Yr haul fachludodd, daeth yn nos,
Cyfododd hithau y lloer dlos;
Goleuor ffordd mae hi ir gwlith
I fynd i garur blodau brith;
A phan ddisgynent ar y ddl
Arosant nes dawr haul iw nol;
Yr oedd hin noswaith brafia rioed,
Y gwynt yn so dail y coed;
Ac yntaur ceunant yn ei nwyd
Yn canu bs ir eos lwyd;
Rhwng brigaur coed dros lethr y bryri
Y lloer oedd yn cusanur llyn;
Ac wrth ei gweled sr y nen
I gyd yn chwerthin am ei phen:
Pryd hyn yr oedd y bugail mad,
Yn cefnu ar ei Eden wlad
Yn gyflym, gyflym, yn y trn,
Nes cyraedd i Lynlleifiad hen,
Cadd yno long, aeth ar ei bwrdd,
Ddarllenydd, gwel en mynd i ffwrdd.

Yr agerlong brydferth gychwynodd
Iw mordaith ar doriad y wawr
Yr awel ar llanw yn ffafriol
Iw chario yn mlaen ir mr mawr;
Cydgan.y morwyr yn ddifyr,
Wrth godi yr hwyliau ir gwynt:
Ond DAFYDD, O! DAFYDD, oedd drymaidd
Ai galon yn curon gynt, gynt.

(x365)

Fel aradr yn nwylaw yr hwsmon
Y llestr agorai ei chŵys,
A rhanu y gwenyg yn ddwy-dorch
Gan faint ei chyflymder ai phwys.
Erlidiodd yr haul pob gwyll ymaith,
Y ddaear ar mr oedd yn glir,
Ar bugail a gafodd y tremiad
Diweddaf ar drumau y tir.

Eisteddodd yn nhrymder ei ysbryd;
Fel brwynen y plygodd ei ben;
Anghofiodd am enyd pler ydoedd,
Yn nghanol myfyrdod am Gwen;
Lliniarodd wrth wneyd penderfyniad
Ymdrechu (pob gwastraff sydd ffol)
Am enill, ac yna dychwelyd
Dan nodded ei Luniwr yn ol.

Hardd ddarlun ei gariad oedd ganddo,
Prif eilun ei lygaid oedd hwn;
Cusanai en fyrych, gan geisio
Gwneyd rhywbeth i leddfu ei bwn;
Mae cysgod yn profi fod gwrthrych,
Yn absen y gwrthrych ei hun;
Roedd DAFYDD o wyllys ei galon
Yn gallu mynwesu y llun.

Cadd snoden i enwn wnedig
Rhwng dail ei wych Feibl wrth droi,
Ac arno ddiweddnod melynddu,
Sef, deigryn yr un wnaeth ei roi;
Nis gwyddai efe ei fod yno,
Ond gwybu mewn eiliad lla pwy
Fun gwneyd y llythrenau siadanaidd;
Rhai wnaethant ei hiraeth yn fwy.

Wrth ddarllen ei Feibl bryd arall
Iw gysur ar gefn y mor hallt,
Beth ganfu - nes neidiodd ei galon -
Ond cydyn plethedig oi gwallt;
Yr hwn a eneiniodd ai dagrau,
Ai roi o fewn amlen ei llun;
Mor falch yr ymdeimlai fod ganddo
Un sylwedd o honi ei hun.

Nol bod ar y cefnfor am ddeufis
(A chymaint a hynyn rhy hir),
Dywedodd rhyw forwr calonog
Yr ydym yn ngolwg y tir;
Y bugail daclusodd ei eiddo,
Yn barod i fyned ir lan,
Gan deimlo yn hynod bryderus
Heb wybod beth fyddai ei ran.

Pan gafodd waith, peth cyntaf wnaeth,
Oedd anfon at ei gariad;
I ddweyd y modd o draeth i draeth
Y cafodd ei fordwyad;
Cadd yntau gan ei feinir fd,
Atebiad call a phrydlon;
Yr hwn oedd mewn estronol wlad
Yn olew byw iw galon.

(x366) Anfonodd yntau yr ail waith,
Rhyw air wrth fodd ei gariad;
Ac yn ei lythyr dros fr llaith,
Derbyniodd hyn oi ganiad.

Gorchfygaf y rhwystrau syn uwch na mynyddau,
Er fod amgylchiadau yn faglau i mi;
Ond pwy sydd yn gwybod na welaf y diwrnod,
Y rhoddir mewn amod Gwen imi?

Gan gyfoeth mae aden gall hedeg ir wybren,
A gadael ei berchen fel deilen wael lom:
Ond cariad sydd berffaith byth, byth ni chwymp ymaith,
R hwn unwaith a wnaeth ei waith ynom.

Hoff anadl fy enaid wyt ti fy ochenaid,
Ds, chwyth yn fendigaid oi llygaid bob llwch;
Fel gwnelon ddiwyrni fy mhurdeb tuag ati
Fy mywyd rown drostin ddi dristwch.

Spiendrych yw gobaith caf hwn yn gydymaith
Ei lygaid sydd lanwaith i edrych yn mlaen,
Gall weld yn bresenol, ir amser dyfodol
Rhyw withred benodol iw hadwaen.

Bugeilior oedd y llanc pryd hyn
Ar dir estronol draw,
Dwy flynedd faith bu gydar gwaith
Mewn hiraeth mawr a braw.

Brefiadaur praidd, ar ychain oedd
Fel clychau yn y gwynt,
Yn cofio iddo yn barhaus,
Am ei fugeiliaeth gynt.

I lleddfu {sic dim treiglad meddal} ffrwd ei feddwl trist,
Ir aur gloddfeydd yr aeth;
Gan anfon gair ei fod yn mynd
Iw Wen, a chanu wnaeth.

Gwir gariad sydd fel yr haul mawr
Ai holl oleuni ynddoi hunan;
Ond aml bydd cymyl du eu gwawr
Yn orchudd dros ei wyneb purlan;
Er hyn yn bur, mae en parhau
Nis gall un cwmwl ei wanhau.

Ni ddiystyra dlodi dyn,
Ac nid ywn bleidgar ir cyfoethog,
Mae pob amgylchiad ynddii hun,
Fel gwynt y nef yn gyfnewidiog;
Ond cariad pur fel haul mae o,
Yn caru i wrthrych fel y bo.

Fel hyn mae Gwen yn Wen i m i,
Gwir gariad dysglaer yn ei burdeb,
Y sydd ar sedd ei chalon hi
Yn adlewyrchun ngwen ei gwyneb:
Maer haul, y lloer, a ser y nen,
Ynmryson gwneuthur llun fy Ngwen.

(x367)
R wyn gweld fy Ngwen yn nglesnir dail,
Ac yn y blodau mn tryfithion;
Dydd a nos sydd bob yn ail
Am ei chwymni yn ymryson;
Or bell rianod, Gwen ael fain,
Ywr bura i mi, ar hardda or rhain.

Ef weithiodd am flynyddoedd yn
Y gloddfan ddigon gwael;
Yn gorfod profi gwir ffaith,
Haws dewis aur nai gael.

Er ymdrech, ymdrech ceisio aur,
Anffodus braidd y bu;
Maen methu gweithio, dyna loes,
Fe gadd y dwymyn ddu.

Bun wael, mor wael nes credodd ef
Gwnai farw ar y pryd;
Gan ddwyeyd, Ni chaf ond bedd er dod
Yn bell ay draws y byd.

Ond yn y ddunos torodd gwawr,
Haul gobaith ddaeth uwch ben;
Fe deimlain well, gan lawenhau,
Fod gobaith gweled Gwen.

Anfonodd lythyr at y ferch,
Yr hwn wnaeth iddi wrido;
Wrth ddarllen. am y dwymyn erch,
Ond hedd, wnair gair, Rwyn mendio.

Anfonai hithau yn ddi wd
Atebiad i bob llythyr;
Er nad oedd ganddi fawr iw ddweyd,
Hi geisiai wneyd rhyw gysur.

Y llanc or diwedd gadd wellu,
Ail weithiodd ai holl nerth;
Daeth dydd ei ffawd, cadd gloddfa aur!
Un oedd o ddirfawr werth!

Caiff iaith myfyrdod ddweyd yn awr
Am ei deimladau byw;
Y nef syn gwybod beth fur gair
Ddywedodd wrth ei Dduw.

Ei Wen ganfyddai yr yr aur
Ar hyn foddlonaii thad;
Gwnaeth benderfyniad yn y fan,
I ddychwel iw hen wlad

Saith mlynedd galed wnaeth eu hol
Ar ei wynebpryd hardd;
Gorchuddiaii farf ei wyneb llwyd
Fel chwyn yn cuddio gardd.

Wrth weld ei wyneb yn y dryeb,
Or braiddr adwaenaii hun:
Fe fynai gwag amheuaeth ddweyd
Nad oedd ef yr un un.

(x368)
Nol sicrhau ei eiddo oll
Iw cael i Brydain gref,
I Sydney y daeth, lle cafodd long
Iw gario tua thref.

Mewn llestr hardd yn nofior dŵr,
Mi welam harwr eilwaith,
Yn hwylio at ei feinir ef,
Iw artref ar ei fordaith.

Wrth adolygur hyn a wnaeth
Er pan ddaeth ef o Gymru,
Ar holl anturiaeth wrth ei fodd,
Yn fwyn dechreuodd ganu: -

O Gymru anwylwlad, fy nghartref hoff gwiw,
Ith fynwes dof eilwaith, dan nodded fy Nuw;
Paradwys y ddaear im golwg wyt ti,
Fy nghalon sydd ynot gan fEfa fwyn i.

Rhagorais ar filoedd mewn llwyddiant im lles,
Im Duw rhof ogoniant am bobpeth a ges;
Daw tymhor cyflawniad dymuniad i ben,
Pan gaf yn neddf cariad gu udiad am Gwen.

Maer ager ar awel yn awr yn gytun,
Yn cymhorth eu gilydd im dwyn at fy mun;
Mi gedwais fy ngobaith, trydd hwn yn fwynd,
Yn mynwes fanwylyd rhwng bryniaur hen wlad.

Am iddi fy ngharu pan oeddwn mor llwm,
Yn gwylio ei defaid hyd ochran y cwm
Mi ranaf fy nghyfoeth am Gwen yn ddilwyn.
Yr hwn a enillais i gyd er ei mwyn.

Yn Lerpwl y glaniodd yn nechreu mis Hydref,
Heb undyn yn disgwyl am dano i ddod;
Dyeithrodd ei hunan, nid aeth yn syth adref,
Gael gwybod sutr ydoedd y pethau yn bod.
Cyraeddodd ir gwesty yn mhentref y Dyffryn,
Lle canfu hysbysiad ar bapyr ger llaw,
Sef, rhybydd ariwerthiant holl eiddo y Tyddyn,
Yr hwn fyddai dranoeth i ddechreu am naw.

A holair tafarnwr yn syn am yr helynt;
Yr hwn a ddywedodd, Mynd yn ol yn y byd
Y maent ers blynyddoedd, maen ddrwg gan bawb drostynt
Yn methu cael deupen y llinyn ynghyd;
Mae hithaur ffarm hefyd iw gwerthu ar fyrder;
Gall rhywun gael bargain, nid yw yn lle drud.
Medd DAFYDD (yn ddistaw), Mi ddaethum mewn amser
Gwnaf ar fy ngwir hefyd, mi pryna nhw i gyd.

Rhoes y tafarnwr iddor hint,
Am Gwen yn carur Biigail gynt,
Yr hwn a yrwyd gydar gwynt,
Am nad oedd yn gyfoethog.

Mae nhw yn dweyd i fod y fun
O hyd yn meddwl am y dyn;
Mae wedi gwrthod llawer un
O ddynion puar gyfoethog.

(x369)
Ni buasai ar y teulu ball,
Pe buasai Gwen yn gwneyd mor gall,
A rhoi ei llaw i hwn nenr llall,
I fod yn wraig gyfoethog.

R oedd geiriaur gŵr fel diliau ml,
Yn mynd heb gl i galon
Y llanc wrth wrandaw ar y pryd
Mor hyfryd am ei Wenfron.

Daeth boreun dranoeth, aeth ir ffair,
Heb ddwedyd gair oi hanes;
Mewn ofn na safain well nar mwg
Yngolwg ei angyles.

Unionir ffordd wnaeth draws y ddol,
Aeth at y freiniol dderwen,
I weled llun eu calon hwy
O gylch y ddwy lythyren.

Ond er ei loes, fei siomwyd e,
Dirisglwyd lle yr oeddynt
Gan dad y ferch, yr hon mor wych,
Fain mynych edrych arnynt.

Pan gyntaf gwelodd ei Wen lon,
Bu bron anghofioi gynllun,
Wrth haner gofyn iddi hi,
A ydych chwin fy adwyn?

Ond fei gadawoddyn y fan
Bron syrthio ganei aeimlad;
eb gael un gair, ond Boreu da,
Gan ei gywiraf gariad.

Canfyddaii thad ai mam yn brudd
Poreuddydd yr arwerthiant,
Yn gyfyng arnynt dan y rhod,
Heb wybod ple gwynebant.

Ond y tywyllwch ai hamddd
Ir llanc oedd yn oleuni:
R hwn oedd ai galon yn rhy hael
Iw gadael i galedi.

Mae dynion yr ardal yn casglu yn llu
Cyn dechreur arwerthiant ir buarth;
Maer daoedd a phobpeth o amgylch y tŷ,
A ffigiwr yn enw pob dosbarth.

Dyn dyeithr ddaeth atynt yn union ir maes,
Un nad oedd neb ynon ei nabod;
Ei wyneb yn farfog, ai farf yn dra llaes,
Ai wisgiad i raddau oedd hynod.

Fe ddaeth yr arwerthydd ir gadlas mewn pryd,
Ai swyddog ai lyfr yn ei ganlyn;
Y teisi gwair werthodd, a phob cyrnen ŷd,
Feu prynwyd oll gan y dyeithrddyn.

(x370)
Dowch,ebair arwerthydd, cynnygied rhyw ffrynd,
Rhaid gwerthur holl gelfi amaethol,
Ir uchaf ei geiniog, y maent yn mynd mynd:
Feu trawodd ir prynwr blaenorol.

Yr holl anifeiliaid a brynodd i gyd: -
Pan ydoedd wrth gorlan y defaid,
Wrth gofior hen amser, fe gafodd gryn fyd
I guddior deigr ffrydiai oi lygaid.

Drwgdybiwyd i raddau,r arwerthydd roes hynt
Gwell sicrur taliad yn fuan;
All right, meddai yntau, gan roddi can punt
Yn wystl am y gweddill or arian.

Y gŵr gydai forthwyl gychwynai yn hy
I werthur heirdd ddodrefn henafol,
Pryd r ydoedd mam dyner ai merch yn y tŷ,
Au dagraun afonydd llifeiriol.

Yn gyntaf fe werthwyd ymenyn ar caws,
In harwr y cawsant eu taro
Yr hwn ydoedd agos a thori ar ei draws
Wrth weld y ferch lanwaith yn wylo

Y cwpwrdd mawr derw, y dresser ar clock,
Y byrddau ar hen gadair freichiau
A ddaeth ir dyeithrddyn, trwy gnoc, ar ol cnoc,
Ar cyfan oedd yno o welyau.

Y cryd ar cadeiriau, a chistiau y blawd,
A brynodd ynghyd ar droell nyddu;
Ymhell bor dyn barfog, medd Gwen gyda gwawd,
Beth gwelsai hii galon en gwaedu?

Fy nhad, meddain drymaidd, ai grudd hardd yn wleb,
Rwyn ofnir dyn yna syn prynu;
O bawb on cymdogion, ai tybeddoes neb,
Bryn rywbeth er mwyn yr hen deulu?

Medd yntau, Rwyn methu a deall fy han
Fod hwn yn cael prynu y cyfan;
Nac ofnwn, fy ngeneth, maen edrych fel dyn
A chanddo ddigonedd o arian.

Maer llyfrau yn myned, yn mynd, mynd yn awr
Am unwaith am ddwywaith au taro;
Loes fawr ydoedd gweled yr hen Feibl mawr,
Yn myned ir estron oedd yno.

Mae pobpeth nawr trosodd, maer bobl yn syn,
(Wrth fethu a deall y prynydd)
Gan ddweyd wrth eu gilydd, Peth hynod yw hyn,
Cawn weled beth wna yn mhen deuddydd.

At feistr y tir aeth ef yn hy
Mewn pryd i brynur tyddyn;
Fe roes i lawr ragdaliad hael
Iw gael yn nechreur flwyddyn.

Oddiynon ol at dad ei fun
I ofyn cais bendigaid,
A wna ef aros yno dro
I wylior anifeiliaid.

(x371)
Rhowch waith ir gweision yn ddi feth,
Rwyn gweld pob peth mewn anhrefn:
Gwnant hwythaur merched yn y ty
Ofalu am y dodrefn.

Ac os ngorchymyn i a wnewch
Chwychwi gewch eitha taliad;
Gwnan wir, medd yntau, anwyl Syr,
Rwyn falch iawn or cynygiad.

Gofalu am bobpeth wnaf yn iawn
Fel pe bawn yn eu perchen;
Ar nefoedd ach bendithio chwi
Am gofio dyn mewn angen.

Fe deimlodd ein barwr pryd hyny,
Nad allai ef wneuthur dim mwy,
Heb iddo ddatguddio ei hunan,
Nid allai ddyeithro yn hwy.

Yn Ngwesty y Pentref gorchmynodd
Am swper ir teulun gytun
I fod ar yr adeg benodol
A byddai ef yno ei hun.

Gwahoddodd y teulu - a daethant
Yn llawen o amgylch y bwrdd
A llygaid y Nefoedd yn craffu,
Beth fyddai diweddad y cwrdd -
Y Llanc oedd yn gwisgo bryd swper,
O bwrpas ei wasgod hardd fraith,
Yr hon gadd ef gan ei anwylyd,
Yn anrheg wrth gychwyn iw daith.

Gwen gafodd gipolwg ar hono
Pan roddes ei law arni hi,
Fe waeddodd y feinir O! Dafydd!
O! Dafydd; fy Nafydd wyt ti!
O! Dafydd, O! dywed, O! Dafydd,
Ai ti ydywm Dafydd, beth wnaf?
R wyn nychu maenghalon yn ddarnau,
O! Mam a Nhad anwyl. R wyn glaf.

Hi syrthiodd i freichiaui hanwylyd
Pryd hyny ei rhiaint roes floedd,
Wrth weled ei ddagrau yn dystion
Yn profi mor uniawn pwy oedd!
Edrychent yn syn ar eu gilydd,
Eu pedwar heb allu dweyd dim!
Ond siarad yn iaith eu dystawrwydd
Pan nad oedd iw geiriau un grym.

Carasant eu gilydd mewn purdeb digonol
. Ar ol y ddu hirnos - dydd hyfryd a ddaeth,
I rwymo ir ddau gariad a chadwen urddasol
Mewn undeb au gilydd er gwell ac er gwaeth.
Trwy rym penderfyniad gorchfygu wnaeth Dafydd
Maen awr yn cartrefu yn Nhyddyn y Nant,
Daeth ef ai hoff briod drwy gariad a chynydd
Yn dad a mam tyner i lawer o blant.


(x372)
Iselu gwr y Wyddfa syth,
Bydd yn gae gwenith gwastad,
A theflir Cadair Idris gref
I ymyl tref Llynlleiflad,
Ac a Plynlimon gydar lli
Cyn gellir tori cariad.

Maen haws gwneyd rhaff o dywod mr
A rhwymor gwynt yn union -
A llawer haws yw cynen tn
O ddyfroedd gln yr afon,
A haws troi ffrwd yn ol ir cwm
Na thori cwlwm calon.

 

(Diwedd)





Adolygiad diweddaraf 2009-12-02, 08 11 2002

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ ə

Fformat 100 chwith, 200 de


Bler wyf i? Yr ych chin ymwld ag un o dudalennaur Gwefan CYMRU-CATALONIA
On sc? Esteu visitant una pgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Galles-Catalunya)
Weə(r) m ai? Yu a(r) vzting ə peij frm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəluniə) Wb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadstiques / View My Stats