1333k Gwefan Cymru-Catalonia. Hamlet, Tywysog Denmarc. Cyfieithiad Buddugol Yn Eisteddfod Llandudno, 1864.  Gan “William Stratford,” Sef, Mr. D. Griffiths. Yr Eisteddfod 1865, Rhif 6 Cyfrol II, Tudalennau 97-192

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_055_hamlet_1865_1333k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Barthlen
 
..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
Dyma ran o Adran 11 yn y wefan hon, sef

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

Hamlet, Tywysog Denmarc

CYFIEITHIAD BUDDUGOL YN EISTEDDFOD LLANDUDNO, 1864
GAN “WILLIAM
STRATFORD,” SEF, MR. D. GRIFFITHS.
Yr Eisteddfod 1865, Rhif 6 Cyfrol II, tudalennau 97-192


 

(delwedd 6668)

 

 

(Rŷn ni wedi cadw at yr orgraff wreiddiol - ar wahân i ambell gambrintiad amlwg. Dynodir y tudalennau felly (x20), (x21), ayyb, Mae  **’ i’w gweld yn y fersiwn hon - mae’n haws i’w teipio felly. Byddwn yn ei gywiro unwaith y bydd y cwbl wedi ei deipio gennym)

 

AR Y GWEILL GENNYM

tudalennau 105-110 wedi eu gwneud

tudalennau 111+ i’w gwneud



                                            
(x105)
CHWARYDDIAETH 1.
ACT I

GOLYGFA I.-Elisnore. Esgynlawr o flaen y Castell.
SCENE I. Elsinore. A platform before the castle.

FRANCISCO ar ei wyliadwriaeth. BERNARDO yn dyfod ato.

FRANCISCO at his post. Enter to him BERNARDO 

BERNARDO
Pwy sydd yna?
Who’s there?

FRANCISCO
Nage, ateb fi;
Saf, a dangosa di dy hun yn llawn.

Nay, answer me: stand, and unfold yourself.

BERNARDO
Byw fyddo’r brenin!
Long live the king!

FRANCISCO
Ai Bernardo?

Bernardo?

BERNARDO
Ië.

He.

FRANCISCO
Chwi ddeuwch yn ofalus at eich hawr.

You come most carefully upon your hour.

BERNARDO
Mae wedi taro haner nos yn nawr,
A thi, Francisco, ‘n awr i’th wely dos.

‘Tis now struck twelve; get thee to bed, Francisco.

FRANCISCO
Am y gollyngdod hwn rho’f ddiolch mawr,
Mae’n erwin oer, a minau’n galon glaf.

For this relief much thanks: **‘tis bitter cold,
And I am sick at heart.


BERNARDO
Gawd gwyliadwriaeth dawel genych chwi?
Have you had quiet guard?

FRANCISCO
Do, nid ysgogodd un llygoden fach.
Not a mouse stirring.

BERNARDO
Wel, noswaith dda; os gwnewch gyfarfod â
Horatio a Marcellus, y rhai ynt
Fy nghymdaith-wylwyr, erchw
ch arnynt frys.
Well, good night.
If you do meet Horatio and Marcellus,
The rivals of my watch, bid them make haste.


FRANCISCO
R wy’n tybied clywaf hwynt.
- Gwnewch sefyll, ho!
Pwy yna sydd?

I think I hear them. Stand, ho! Who’s there?

HORATIO a MARCELLUS yn dyfod.
Enter HORATIO and MARCELLUS

HORATIO
Cyfeillion i’r tir hwn.
Friends to this ground.

MARCELLUS
A gweision ufudd i y Daniad y’m.
And liegemen to the Dane.

FRANCISCO
Nos dda i chwi.
Give you good night.

MARCELLUS
O, ffarwel, filwyr gonest.

Pwy yw yr un
a ddarfu dy ryddáu?
O, farewell, honest soldier:
Who hath relieved you?


FRANCISCO
Bernardo yw yr un a leinw’m lle.
Nos dda i chwi.

Bernardo has my place.
Give you good night.


FRANCISCO yn ymadael.
Exit

MARCELLUS
Holo! Bernardo!
Holla! Bernardo!

BERNARDO
D’wed.

Beth, ai Horatio yw?

Say,
What, is Horatio there?


HORATIO
O hono ddarn.

A piece of him.

BERNARDO
Henffych, Horatio; croesaw, Marcellus dda.
Welcome, Horatio: welcome, good Marcellus.

MARCELLUS
A ymddangosodd heno eto’r peth?
What, has this thing appear’d again to-night?

BERNARDO
Ni welais ddim.
I have seen nothing.

MARCELLUS
Horatio dd’wed mai ein dychymyg yw;
Ac ni cha’r gred afaelyd ynddo ef
Yn nghylch yr olwg erchyll hon, a ga’dd
Ei gweled ddwywaith bellach genym ni;
(x106)  Am hyny mi erfyniais arno Gydwylied trwy fynudau’r noson hon; Fel, os daw y drychhiolaeth eto, y gwna
Ein llygaid goelio, a siarad gydag ef.
Horatio says ‘tis but our fantasy,
And will not let belief take hold of him
Touching this dreaded sight, twice seen of us:
Therefore I have entreated him along
With us to watch the minutes of this night;
That if again this apparition come,
He may approve our eyes and speak to it.


HORATIO
Ust! ust! Nid ymddangosa.
Tush, tush, ’twill not appear.

BERNARDO
Eisteddwch beth;
A phrofwn unwaith eto, ein clustiau sydd
Mor gryf yn erbyn yr ystori hon,
A welsom y ddwy noswaith hyn ill dau.
Sit down awhile;
And let us once again assail your ears,
That are so fortified against our story
What we have two nights seen.


HORATIO
Wel, eistedd wnawn i lawr, a chlywn pa beth
Sydd gan Bernardo i’w ddyweyd am hyn.
Well, sit we down,
And let us hear Bernardo speak of this.


BERNARDO
Neithiwyr olaf oll, pan yn y nen
Gorphenai’r seren acw - yr hon sydd
Yn orllewinol oddiwrth y pegwn - ei
Chwrs, i oleuo y rhan acw o’r nef
Lle llosga ‘n awr, Marcellus a myfi,
Y gloch yn taro un, -
Last night of all,
When yond same star that’s westward from the pole
Had made his course to illume that part of heaven
Where now it burns, Marcellus and myself,
The bell then beating one, -


MARCELLUS
Ust! taw yn awr; gwel p’le mae eto’n d’od.
Peace, break thee off; look, where it comes again!  

Yr YSBRYD yn dyfod.
Enter Ghost

BERNARDO
Yn yr un wedd a’r brenin sydd yn farw.
In the same figure, like the king that’s dead.

MARCELLUS
Tydi wyt ysgolaig, Horatio,
Ymddyddan gydag ef.
Thou art a scholar; speak to it, Horatio.

BERNARDO
Ai onid yw
Yn debyg i y brenin? sylwa’n dda,
Horatio arno ef.
Looks it not like the king? mark it, Horatio.

HORATIO
Yn debyg iawn: -
Fy llenwi mae â braw a syndod erch.
Most like: it harrows me with fear and wonder.

BERNARDO
Dymunai i ni siarad gydag ef.
It would be spoke to.

MARCELLUS
Ymddyddan, da Horatio.
Question it, Horatio.

HORATIO
Beth ydwyt ti
Ormesa ar yr amser hwn o’r nos
Ac hefyd wisga’r deg ryfelgar ffurf
A wisgid gan Fawrhydi Denmarc gynt?
Trwy nef tyngedaf di, ymddyddan gwna.
What art thou that usurp’st this time of night,
Together with that fair and warlike form
In which the majesty of buried
Denmark
Did sometimes march? by heaven I charge thee, speak!


MARCELLUS
Mae wedi ’i ddigio.

It is offended.

BERNARDO
Gwel, mae’n cilio i ffordd.

See, it stalks away!

HORATIO
Arosa, siarad: siarad, ’r wyf yn awr
Yn dy dyngedu eto i siarad, gwna.
Stay! speak, speak! I charge thee, speak!

[Yr YSBRYD yn ymadael.]
Exit Ghost

MARCELLUS
Mae wedi myn’d, ac
nis gwna ateb ddim.
‘Tis gone, and will not answer.

BERNARDO
Pa fodd yn awr, Horatio ? Diau’r y’ch
Yn crynu, ac yn welw iawn: ai nid
Yw hyn yn rhywbeth mwy na gwag ddychymyg;
Beth am dano yw dy dyb?
How now, Horatio! you tremble and look pale:
Is not this something more than fantasy?
What think you on’t?


HORATIO
Ger bron fy Nuw,
nis gallwn gredu hyn,
Cyn i mi dderbyn y dystiolaeth wir,
Deimladwy, gan fy llygaid i fy hun.
Before my God, I might not this believe
Without the sensible and true avouch
Of mine own eyes.

MARCELLUS
Onid yw yn debyg i y brenin?

Is it not like the king?

HORATIO Y mae gan
Debyced ag wyt ti, i ti dy hun;
Y cyfryw oedd yr arfau wisgai pan
Ymladdai â’r ymgeisiol
Norway gynt;
’R un fath y gwgai, pan mewn rhysedd dig
Ac ymladd dewr, y darfu daraw y
Carllusgaidd Polack [Pwyliad: hen enw ar drigolion
Poland] ar y rhew ys talm.
Mae’n rhyfedd.
As thou art to thyself:
Such was the very armour he had on
When he the ambitious Norway combated;
So frown’d he once, when, in an angry parle,
He smote the sledded Polacks on the ice.
Tis strange.


MARCELLUS
(x107) Felly, llawn ddwy waith o’r blaen,
A thua yr awr ordrymaidd hon, aeth â
Milwraidd rodiad, heibio’n gwylfa ni. 
Thus twice before, and jump at this dead hour,
With martial stalk hath he gone by our watch.


HORATIO
Pa fodd i feddwl am y peth,
nis gwn;
Ond fel tuedda’m barn fy hun, mae hyn
Yn rhagargoeli rhyw drychineb mawr. 
In what particular thought to work I know not;
But in the gross and scope of my opinion,
This bodes some strange eruption to our state.


MARCELLUS
Mae’n debyg iawn, eisteddwn yma i lawr,
Myneget i ni gan ryw un a ŵyr,
Paham mae’r wyliadwriaeth ddyfal hon,
Yn cael ei chadw yn nosol yn ein tir;
A pha’am y llunir bod ryw ddydd, y fath
Gyflegrau pres, a marchnadyddiaeth o
Dramoraidd offerynau rhyfel; pa’m
Good now, sit down, and tell me, he that knows,
Why this same strict and most observant watch
So nightly toils the subject of the land,
And why such daily cast of brazen cannon,
And foreign mart for implements of war;

Mae’r cyfryw ddirgymhelliad tuag at
Gael seiri llongau, llafur mawr y rhai,
Ni âd o ddyddiau wythnos un dydd Sul;
Why such impress of shipwrights, whose sore task
Does not divide the Sunday from the week;

Pa beth all fod yn darllaw, pan y mae’r
Fath chwyslyd frys, fel ag i beri fod
Y nos yn gydlafurwr gyda’r dydd;
Pwy all dd’weud imi?
What might be toward, that this sweaty haste
Doth make the night joint-labourer with the day:
Who is’t that can inform me?


HORATIO
Hyn a allaf fi;
O leiaf, felly dywed siffrwd. Ein
Diwedda frenin, delw’r hwn a ddaeth
O fewn y fynud hon i’n gwydd, oedd, fel
Y gwyddoch, wedi ei symbylu gan
Y balch Fortinbras, o dir Norwy draw -
Yr hwn i frwydr roddes iddo her;
That can I;
At least, the whisper goes so. Our last king,
Whose image even but now appear’d to us,
Was, as you know, by Fortinbras of Norway,
Thereto prick’d on by a most emulate pride,
Dared to the combat; in which our valiant Hamlet

Pan ddarfu Hamlet ddewr (canys felly gwneir,
Yr ochr hon i’n byd, ei gyfrif ef,)
Ladd Fortinbras, a hwnw, hefyd, trwy
Seiliedig amod, cadarnäol gan
Ddeddf a herodaeth, a fforffediodd gyd -
A’i fywyd, ei holl diroedd y rhai oedd
Yn do’d yn feddiant i’r gorchfygwr dewr:
For so this side of our known world esteem’d him -
Did slay this Fortinbras; who by a seal’d compact,
Well ratified by law and heraldry,
Did forfeit, with his life, all those his lands
Which he stood seized of, to the conqueror:

Ar gyfer hyn, gosodwyd haner llawn
Gan ein mwyn frenin; yr hwn haner äi
I etifeddiaeth Fortinbras, pe buasai ef
Orchfygwr; fel wrth yr un amod a
Chytundeb i ei chadarnâu, y daeth
Ei gyfran ef, i ddwylaw Hamlet; ac
Yn awr, wych syr, mae yn ymddangos fod
Yr ieuanc Fortinbras, yr hwn y sydd
Against the which, a moiety competent
Was gaged by our king; which had return’d
To the inheritance of Fortinbras,
Had he been vanquisher; as, by the same covenant,
And carriage of the article design’d,
His fell to Hamlet. Now, sir, young Fortinbras,

O ddwerder heb ei brofi, yn llawn o dân
O fewn cyffiniau Norwy, yma a thraw,
Of unimproved mettle hot and full,
Hath in the skirts of Norway here and there


Yn codi rhestrau o wrolion heb
Berch’nogi tir, am fwyd a diod, i
Ryw ymgyrch benderfynol: yr hon sydd
(Fel yr ymddengys i ein teyrnas ni,)
Shark’d up a list of lawless resolutes,
For food and diet, to some enterprise
That hath a stomach in’t; which is no other -
As it doth well appear unto our state -

I ddimond adfeddianu, â llaw gref,

A rhyw orfodaeth anorchfygol fawr
Y tiroedd hyny gollwyd gan ei dad:
A hyn, fel yr wyf fi yn tybied, yw
But to recover of us, by strong hand
And terms compulsatory, those foresaid lands
So by his father lost: and this, I take it,

 

Y prif resymau dros y cwbl oll,
O’r darpariadau ni; a’r achos o
Ein dyfal wyliadwriaeth; a phrif bwnc
Y dirfawr frys, a’r cynwrf sy’n y tir. -
Is the main motive of our preparations,
The source of this our watch and the chief head
Of this post-haste and romage in the land.


BERNARDO
’R wy’n tybied nas gall fod ddim arall, ond
Os felly, fe arwydda’n dda, fod y
Drychiolaeth tra-arwyddol hwn yn d’od
Yn arfog trwy ein gwylfa; ac mae mor
(x108) Dra thebyg i’r hen frenin oedd, ac sydd,
Ei hunan yn brif bwnc ein meddwl ni.
I think it be no other but e’en so:
Well may it sort that this portentous figure
Comes armed through our watch; so like the king
That was and is the question of these wars.


HORATIO
Brycheuyn yw, i gyffro ein meddwl ni.
Yn nghyflwr uchaf, mwyaf palmaidd yr
Hen Rufain, rywfaint cyn y cwympodd y
Galluog Julius yr oedd beddau oll
Yn prysur ymwagau, a’r meirw geid
Yn ysgrech ac oernadu’n erch, o fewn
Heolydd Rhufain, mewn amdoau oll,
A mote it is to trouble the mind’s eye.
In the most high and palmy state of
Rome,
A little ere the mightiest Julius fell,
The graves stood tenantless and the sheeted dead
Did squeak and gibber in the Roman streets:

Fel rhagarwyddion o’r hyn oedd i dd’od.
Pan yr oedd ser gyda llosgyrnau tân,
A gwlith o waed, yn duo gwedd yr haul;                       
A’r seren laith [= y lloer], ar bwys yr hon y saif
Holl ymherodraeth Neifion ar ei hynt,
Yn glaf fel pe buasai’n ddiwedd byd.
As stars with trains of fire and dews of blood,
Disasters in the sun; and the moist star
Upon whose influence Neptune’s empire stands
Was sick almost to doomsday with eclipse:

Ac felly tebyg ragarwyddion o
Erch ddygwyddiadau, fel blaenredwyr yn
Rhagflaenu tynged, ac yn hyfion dd’od
Fel dechreu’r ffawd ofnadwy sydd i fod,
And even the like precurse of fierce events,
As harbingers preceding still the fates
And prologue to the omen coming on,

A ydyw’r nef a’r ddaear yn cyd-ddweud
Wrth yr hinsoddau, an cydwladwyr ni. -
Have heaven and earth together demonstrated
Unto our climatures and countrymen. -

Yr
YSBRYD yn ail-ymddangos.

Re-enter Ghost

Yn araf; gwelwch! eto mae yn d’od!
Af draws ei lwybr, pe dinystriai fi. -
Saf, ti ddrychiolaeth! os oes genyt lais,
But soft, behold! lo, where it comes again!
I’ll cross it, though it
blast me. Stay, illusion!
If thou hast any sound, or use of voice,

Neu lafar oll, ymddyddan â myfi:
Os oes rhyw beth fo da, ag eisieu ei wneud
Rydd it esmwythder, ac i minau hedd,
Ymddyddan â mi:
Speak to me:
If there be any good thing to be done,
That may to thee do ease and grace to me,
Speak to me:

Os wyt yn gwybod tynged fawr dy wlad,
Yr hyn, trw ei ragwybod, elli ei
Ragatal, O! ymddyddan di â mi.
If thou art privy to thy country’s fate,

Which, happily, foreknowing may avoid, O, speak!

Neu, os wyt wedi claddu yn dy oes
Ryw drysor yspeiliedig o fewn croth
Y ddaear, am yr hyn y d’wedant hwy
Y crwydrwch chwi ysbrydion wedi tranc,
Or if thou hast uphoarded in thy life
Extorted treasure in the womb of earth,
For which, they say, you spirits oft walk in death,


Y ceiliog yn canu.
Cock crows

Mynega yn ei gylch: - gwna aros a
Siarada. - Atal ef, Marcellus.
Speak of it: stay, and speak! Stop it, Marcellus.

MARCELLUS
A gaf ei daro gyda’r miniog arf?
Shall I strike at it with my partisan?

HORATIO
Gwna, os na erys.
Do, if it will not stand.

BERNARDO
Mae yma!
Tis here!

HORATIO
Mae yma!
’Tis here!

MARCELLUS
Mae wedi myn’d!
’Tis gone!

Yr YSBRYD yn ymadael.
Exit Ghost

Ni wnaethom gam, tra’r ymddangosai ef
A golwg mor fawreddig, i gynig dim
O wrthwynebiad iddo , can’s mae,
Fel awyr, yn annhreiddiol, tra y mae’n
Dyrnodion ni fel gwatwar gwag.
We do it wrong, being so majestical,
To offer it the show of violence;
For it is, as the air, invulnerable,
And our vain blows malicious mockery.


BERNARDO
Pan ganai’r ceiliog, ar lefaru ’r oedd.
It was about to speak, when the cock crew.

HORATIO
Ac yna hedodd, fel rhyw euog beth
Ar wys ddychrynllyd.  Mi a glywais fod
And then it started like a guilty thing
Upon a fearful summons. I have heard,

Y ceiliog, yr hwn sydd yn udgorn gwawr
A’i uchel wddf a’i gân hirseiniog yn
Deffroi duw’r dydd, ac ar ei rybudd ef,
The cock, that is the trumpet to the morn,
Doth with his lofty and shrill-sounding throat
Awake the god of day; and, at his warning,

Pa un ai yn y môr neu ynte’r tin,
Neu’r ddaear, neu yr awyr, cyfyd pob
(x109) Rhyw ysbryd crwydrol a didrefn i fyn’d
I’w le ei hun: ac o wirionedd hyn
Mae’r gwrthddrych yma wedi rhoddi prawf.
Whether in sea or fire, in earth or air,
The extravagant and erring spirit hies
To his confine: and of the truth herein
This present object made probation.


MARCELLUS
Diflanodd pan y canai’r ceiliog cu.
Fe ddywed rhai, pan ddaw yr adeg wiw
Y cedwir cof, am eni’n Ceidwad ni,
Y cana’r wawr-aderyn hwn drwy’r nos:
Some say that ever ‘gainst that season comes
Wherein our Saviour’s birth is celebrated,
The bird of dawning singeth all night long:

Ac yna, meddant hwy, ni faidd un math
O ysbryd grwydro; a’r pryd hwn mae’r nos
Yn iachus; yna nid effeithia o’r
Planedau un, ni fedd y tylwyth teg,
Nac an ddewines allu mwy i drin
Swynyddiaeth, gan mor hynod sanctaidd a
Grasusol ydyw pobpeth ar y pryd.
It faded on the crowing of the cock.
And then, they say, no spirit dares stir abroad;
The nights are wholesome; then no planets strike,
No fairy takes, nor witch hath power to charm,
So hallow’d and so gracious is the time.


HORATIO
Mi glywais felly; coeliaf ef mewn rhan.
Ond gwel, mae’r bore yn ei ruddgoch wisg
Yn rhodio dros y gwlith sydd ar y bryn
I’r dwyrain draw: ein gwylfa torwn; ac,
Yn ol fy nghyngor i, mynegwn beth
A welsom ni y nos nodedig hon
I Hamlet ieuanc; canys mentrwn roi
Fy mywyd, y gwna’r ysbryd hwn ag sydd
Fud wrthym ni, lefaru wrtho ef:
So have I heard and do in part believe it.
But, look, the morn, in russet mantle clad,
Walks o’er the dew of yon high eastward hill:
Break we our watch up; and by my advice,
Let us impart what we have seen to-night
Unto young Hamlet; for, upon my life,
This spirit, dumb to us, will speak to him.

A ydych chwi’n cydsynio i mi dd’weud
Y cyfan wrtho, fel peth iawn i’n swydd,
Ac angenrheidiol gan ein cariad ni?
Do you consent we shall acquaint him with it,
As needful in our loves, fitting our duty?


MARCELLUS
Atolwg, gwnawn; a minau heddyw wn
Pa le cawn afael
arno yno yn gyfleus.
Let’s do’t, I pray; and I this morning know
Where we shall find him most conveniently.


[Oll yn ymadael]
Exeunt
                                                                          .

Y BRENIN, Y FRENINES, HAMLET, POLONIUS, LAERTES, VOLTIMAND,
CORNELIUS, Arglwyddi, a Gweinyddion, yn dyfod i fewn.
Enter KING CLAUDIUS, QUEEN GERTRUDE, HAMLET, POLONIUS, LAERTES, VOLTIMAND, CORNELIUS, Lords, and Attendants 

BRENIN / KING CLAUDIUS
Er dylai eto farw Hamlet ein
Hanwylaf frawd, fod yn ei cof yn ir,
A bod yn weddus iawn i ninau ddwyn.
Ein tristwch ni a thristwch mawr ein gwlad
Yn gydgasgledig mewn un ael o wae;
Though yet of Hamlet our dear brother’s death
The memory be green, and that it us befitted
To bear our hearts in grief and our whole kingdom
To be contracted in one brow of woe,

Er hyn i gyd, â natar brwydrodd pwyll,
Fel y gwnawn ddoeth dristâu am dano ef,
Yn nghyd a chofio am ein lles ein hun.
Am hyny gynt ein chwaer, yn awr ein hoff
Frenines, a chydgyfranogydd o’r
Filwraidd a rhyfelgar deyrnas hon,
Yet so far hath discretion fought with nature
That we with wisest sorrow think on him,
Together with remembrance of ourselves.
Therefore our sometime sister, now our queen,
The imperial jointress to this warlike state,


A gymerasom, megys gyda rhyw Lawenydd tra hanerog, gydag un
Chwerthinus lygad, ac un llygad gwlyb
A llon ddigrifwch yn yr arwyl, ac
A galar-gân yn y briodas, gan
Gydbwyso’u mwyniant gyda’r alaeth oll, -
Have we, as ’twere with a defeated joy, -
With un auspicious and a dropping eye,
With mirth in funeral and with dirge in marriage,
In equal scale weighing delight and dole, -

Yn wraig; ac yn hyn oll ni wnaethom ni
Yn groes i’ch mawr ddoethineb, yr hwn aeth
Yn rhwydd o blaid y pethau hynod hyn,
Ac am hynyna oll, ein diolch mawr.
Yn awr y canlyn, fel y gŵyr pob un,
Fod Fortinbras ieuengaidd gyda rhyw
Taken to wife: nor have we herein barr’d
Your better wisdoms, which have freely gone
With this affair along. For all, our thanks.
Now follows, that you know, young Fortinbras,

Syniadau gwagsaw am ein breiniol werth;
(x110) Neu ynte yn tybied fod ein teyrnas ni,
Bron ag ymddatod, neu mewn cywair drwg,
O ahcos marw ein hanwylaf frawd, -
Holding a weak supposal of our worth,
Or thinking by our late dear brother’s death
Our state to be disjoint and out of frame,

A chan freuddwydio am y fantais fêdd,
Ni pheidiodd a llythyrau ein blino ni,
Gan erfyn arnom roi i fyny yr
Holl diroedd hyny gollwyd gan ei dad,
Trwy bob rhwym cyfraith i law’n dewraf frawd;
Hynyna am dano ef. Am danom ni,
Ac am ein cyfarfyddiad y pryd hwn,
Hyn ydyw’r pwnc: ysgrifenasom ni
Yn awr, at Norway, ewythr Fortinbras, -
Colleagued with the dream of his advantage,
He hath not fail’d to pester us with message,
Importing the surrender of those lands
Lost by his father, with all bonds of law,
To our most valiant brother. So much for him.
Now for ourself and for this time of meeting:

Thus much the business is: we have here writ
To Norway, uncle of young Fortinbras, -

’R hwn trwy anallu a gorweiddiog ’stâd,,
Nis clyw ond prin beth yw bwriadau ’i nai, -
Fel gallom rwystro ei rodiad pellach ef;
Yn gymaint a bod yr holl drethi, a’r
Who, impotent and bed-rid, scarcely hears
Of this his nephew’s purpose, - to suppress
His further gait herein; in that the levies,

 
Holl restrau, a’r llawn gyfraniadau’n cael
Eu codi oll oddiar ei ddeiliaid ef: -
Ac yma gyrwn chwi, Cornelius dda,
A chwithau, Voltimand, i gludo ein
Hanerchiad hwn at Norway hen, heb ro’i
The lists and full proportions, are all made
Out of his subject: and we here dispatch
You, good Cornelius, and you, Voltimand,
For bearers of this greeting to old Norway;

I chwi bersonol genad i wneud dim
Negesaeth gyda’r brenin, pellach nag
A ganiateir gan yr erthyglau hyn:
Rhwydd hynt i chwi; a’ch brys ganmolo eich
Ffyddlondeb i’ch dyledswydd, yn y tro. 
Giving to you no further personal power
To business with the king, more than the scope
Of these delated articles allow.
Farewell, and let your haste commend your duty.

 
CORNELIUS, VOLTIMAND               
Yn hyn, fel pobpeth, ein dyledswydd wnawn.

In that and all things will we show our duty.

BRENIN / KING CLAUDIUS
Ni anmeuwn ddim; o galon rho’wn ffarwel.

We doubt it nothing: heartily farewell.

[VOLTIMAND a CORNELIUS yn ymadael.]
Exeunt VOLTIMAND and CORNELIUS

Yn awr, Laertes, beth yw’ch newydd chwi?
Soniasoch am ddymuniad; pa beth yw
Laertes? Ni chei ymresymu gyda pen
Y Daniad byth, ac wdd’yn golli ‘th lais:
Pa beth, Laertes, a ddymunet gael
Nas gwnawn ei gynyg, cyn it’ ofyn dim?
And now, Laertes, what’s the news with you?
You told us of some suit; what is’t, Laertes?
You cannot speak of reason to the Dane,
And loose your voice: what wouldst thou beg, Laertes,
That shall not be my offer, not thy asking?

Nid yw perthynas calon gyda ‘r pen,
Na’r llaw ‘n fwy ufudd i y safn,
Nag ydyw gorsedd Denmarc i dy dad.
Pa beth, Laertes, fynit ti ei gael?
The head is not more native to the heart,
The hand more instrumental to the mouth,
Than is the throne of
Denmark to thy father.
What wouldst thou have, Laertes?


LAERTES
Fy arglwydd mawr, eich cenad ffafriol chwi,
I ddychwel eto yn fy ol i Ffrainc;
O’r hon i Denmarc daethum i o’m bodd
I roi gwarogaeth i’ch coroniad chwi;
Ond wedi ei roi, rhaid i mi addef fod
Fy meddwl a’m dymuniad eto’n troi
I Ffrainc, ac eu cyflwyno wnaf yn awr
I’ch cenad graslawn a’ch maddeuant chwi.  
My dread lord,
Your leave and favour to return to France;
From whence though willingly I came to Denmark,
To show my duty in your coronation,
Yet now, I must confess, that duty done,
My thoughts and wishes bend again toward France
And bow them to your gracious leave and pardon.


BRENIN / KING CLAUDIUS
Ond a oes genych ganialtâd eich tad?
Beth dd’wed Polonius?
Have you your father’s leave? What says Polonius?

POLONIUS / LORD POLONIUS
Oes, fy arglwydd; gwnaeth
Ddirwasgu cenad o fy ngenau i
Trwy grefu caled; ac, o’r diwedd, rho’is
Ar ei ewyllys ef, fy sêl fy hun;
Anfoddog fu’r cydsyniad, ond yn awr,
Atolwg wyf, rho’wch genad iddo i fynd.
He hath, my lord, wrung from me my slow leave
By laboursome petition, and at last
Upon his will I seal’d my hard consent:
I do beseech you, give him leave to go.


BRENIN / KING CLAUDIUS
Laertes, dewis d’awr; dy amser da
A’th gyfleusderau goreu: wrth dy fryd
Yn awr, fy nghefnder Hamlet, -
Take thy fair hour, Laertes; time be thine,
And thy best graces spend it at thy will!
But now, my cousin Hamlet, and my son, -


HAMLET
[Wrtho ei hun.]
(x111) Ychydig mwy na châr, a llai na mab.
[Aside]
A little more than kin, and less than kind.

[Ystyr y llinell Seisonig, “A little more than kin, and less than kind,” dybygid, yw ei fod beth yn fwy na châr, neu gefnder, ar gyfrif priodas ei fam; ond yr oedd beth yn llai na mab, am nad oedd y berthynas wedi ei sylfaenu ar natur. Dewiswyd y gair mab yn y cyfieithiad am ei fod newydd gael ei awgrymu gan y brenin. - Cyf.]

KING CLAUDIUS
Paham y mae’r - cymylau eto yn
Ymhongian drosot ti?
How is it that the clouds still hang on you?

HAMLET
Nid felly mae,
Arglwydd, ond wyf ormod yn yr haul.
Not so, my lord; I am too much i’ the sun.

[Yr oedd Hamlet o dueddfryd pur neillduedig, a thybia rhai ei fod yn cyfeirio yma at y chwithdod a deimlai, wrth gael ei gadw oddiwrth ei astudiaethau, i chwareu y prif ŵr llys yn y deyrnas. Yr oedd mewn gormod o lawenydd a gormod o rysedd. - Cyf.]

 

(GWEDDILL Y GWAITH I’W ORFFEN)

 



 

 

Adolygiadau diweddaraf:  15 10 2002

Enw’r parth: kimkat (kimrío + katalúnaj lándoj)


·····
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA




 

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats